en
stringlengths
38
41.9k
cy
stringlengths
50
42.1k
url
stringlengths
31
150
There are less than 6 months to go before the first Welsh taxes in almost 800 years – land transaction tax and landfill disposals tax – are introduced in Wales. Both taxes will be collected by the WRA when they are introduced on 1 April 2018\.  The first meeting of the WRA’s board today in Treforest, is a significant milestone in the establishment of the new organisation, which is the first non\-ministerial department to be created in Wales. The board discussions will concentrate on the legal establishment of the WRA and its governance arrangements. Over the coming months the focus will shift to the development of the WRA’s functions and its relationship with its customers, in particular the development of the Taxpayer’s Charter.  Finance Secretary Mark Drakeford announced the appointment of 5 non\-executive board members and the WRA’s chief executive Dyfed Alsop, last month.   Kathryn Bishop, chair of the Welsh Revenue Authority, said:  > “Taxpayers will want guidance as the new Welsh taxes are introduced and reassurance that the collection process is efficient and secure. The organisation is already working hard on this, bringing in expertise from elsewhere in Wales and in the UK.” Commenting on what customers can expect from the WRA, Mr Alsop said: > “I want to build an organisation that is confident in delivery and inspires confidence from the people who will use it. The WRA will work in partnership with taxpayers and tax professionals, supporting them in paying tax. > > > “On a practical level, we’re creating a new digital organisation without a paper based history. We don’t have legacy IT systems or contracts and we also don’t have an existing cultural reputation. I’d hope this means we can shape the new organisation to respond to meet the needs of the people of Wales.” Over the course of the next 6 months, future customers of the WRA should continue to direct any queries about taxes to HMRC – this includes stamp duty land tax and landfill tax.  All updates about land transaction tax and landfill disposals tax, which will replace stamp duty land tax and landfill tax from April 2018, including guidance for the new taxes, will be published on the new WRA website. Customer registration to the tax system will be available from early 2018\. It will deliver Welsh Ministers’ tax policy and follow the strategic direction set by them but will be operationally independent. For further information about the implementation of the WRA, contact WRAimplementation@gov.wales.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn cymryd cam mawr yn nes at gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru, wrth i’w fwrdd gyfarfod am y tro cyntaf. Mae llai na chwe mis i fynd nes bydd y trethi cyntaf mewn bron 800 o flynyddoedd yn cael eu cyflwyno yng Nghymru, sef treth trafodiadau tir a threth gwarediadau tirlenwi. Bydd ACC yn casglu’r ddwy dreth hyn pan fyddant yn cael eu cyflwyno ar 1 Ebrill 2018\. Mae cyfarfod cyntaf bwrdd ACC sy’n cael ei gynnal yn Nhrefforest heddiw yn garreg filltir bwysig i’r gwaith o greu'r sefydliad newydd, sef yr adran Anweinidogol gyntaf i gael ei chreu yng Nghymru erioed. Bydd trafodaethau’r bwrdd yn canolbwyntio ar sefydlu ACC a’i drefniadau llywodraethu o safbwynt cyfreithiol. Dros y misoedd nesaf, byddant yn canolbwyntio ar ddatblygu swyddogaethau ACC a’i berthynas â’i gwsmeriaid, yn enwedig datblygu Siarter y Trethdalwr. Cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford fod pum aelod bwrdd anweithredol wedi’u penodi ynghyd â phrif weithredwr ACC, sef Dyfed Alsop, fis diwethaf. Dywedodd Kathryn Bishop, cadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru: > “Bydd trethdalwyr am gael canllawiau wrth i’r trethi newydd gael eu cyflwyno yng Nghymru a sicrwydd y bydd y broses o’u casglu yn effeithlon ac yn ddiogel. Mae’r sefydliad eisoes yn gweithio’n galed ar hyn, gan ddod ag arbenigedd o fannau eraill yng Nghymru ac yn y DU.” Gan roi sylwadau ar yr hyn y gall cwsmeriaid ei ddisgwyl gan ACC, dywedodd Mr Alsop: > “Rydw i am greu sefydliad sy’n darparu’n hyderus ac yn ennyn ffydd y bobl fydd yn ei ddefnyddio. Bydd ACC yn gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr a gweithwyr treth proffesiynol, i’w helpu i dalu'r trethi. > > > “Yn ymarferol, rydyn ni’n creu sefydliad digidol newydd heb hanes ar bapur.  Does gennym ni ddim contractau na systemau TG etifeddol ac nid oes gennym ni eto enw da yn ddiwylliannol. Gobeithio bod hyn yn golygu y gallwn ni lywio'r sefydliad newydd i ymateb i anghenion pobl Cymru.” Dros y chwe mis nesaf, dylai darpar gwsmeriaid ACC barhau i gyfeirio unrhyw ymholiadau am drethi i Gyllid a Thollau EM \- mae hyn yn cynnwys treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi.   Bydd yr holl wybodaeth ddiweddaraf am y dreth trafodiadau tir a’r dreth gwarediadau tirlenwi, a fydd yn disodli treth dir y dreth stamp a’r dreth dirlenwi o fis Ebrill 2018 ymlaen, yn ogystal â chanllawiau ar y trethi newydd, yn cael eu cyhoeddi ar wefan newydd ACC. Bydd cwsmeriaid yn gallu cofrestru â’r system dreth ddechrau 2018\. Bydd y sefydliad yn cyflwyno polisi treth Gweinidogion Cymru ac yn dilyn y cyfeiriad strategol a bennwyd ganddynt ond bydd yn weithredol annibynnol. I gael rhagor o wybodaeth am weithredu’r ACC, cysylltwch â WRAimplementation@llyw.cymru.
https://www.gov.wales/first-meeting-welsh-revenue-authority-board-takes-place
The Commission on Justice in Wales will today (Friday 27th April) visit the University of South Wales in Treforest to meet lawyers, police and probation officers and legal students as part of its work gathering evidence on what is working well in the justice system and what needs improving to provide better outcomes for the public. Amongst the issues for discussion are access to legal services, diversity in the profession, ideas for reducing crime and the rehabilitation of offenders. The Welsh Government set up the Commission on Justice in Wales in 2017 to review the operation of the legal and justice system in Wales and set a long term vision for the future.  The work of the Commission, chaired by the former Lord Chief Justice of England and Wales, Lord Thomas of Cwmgiedd and comprising prominent members of the justice and legal community in Wales is well underway.  Since February the Commission has held events in Bangor, Wrexham and Aberystwyth, to hear the views of people working in, and affected by, the justice and legal system including prisoners and staff at Berwyn prison near Wrexham. Next month, the Commission will travel to Scotland to consider the experiences of our Scottish counterparts. The Commission is seeking written evidence until early June before it moves onto oral evidence. The Commission for Wales wants to hear the opinions from as wide a range of people as possible about how the justice system can be improved. The former Lord Chief Justice of England and Wales, Lord Thomas of  Cwmgiedd said: “We are engaging widely with people and organisations across Wales to ensure that our findings and recommendations about the future of the justice and legal system are sound and enduring.  We need to find ways to build on the existing good collaborative working between governments, the police, the prison and probation service, lawyers and the courts to reduce crime, promote rehabilitation and tackle the very serious problems facing people in rural and post\-industrial areas accessing legal advice in their communities.  Our visit to the Rhondda Cynon Taf area on Friday will be another important step in this process.”
Heddiw (dydd Gwener 27 Ebrill), bydd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn ymweld â Phrifysgol De Cymru yn Nhrefforest i gyfarfod â chyfreithwyr, yr heddlu, swyddogion prawf a myfyrwyr y gyfraith fel rhan o'i waith yn casglu tystiolaeth ar yr hyn sy'n gweithio'n dda yn y system gyfiawnder a'r hyn sydd angen ei wella er mwyn darparu gwell canlyniadau ar gyfer y cyhoedd. Ymhlith y materion i'w trafod, mae mynediad at wasanaethau cyfreithiol, amrywiaeth yn y proffesiwn, syniadau ar gyfer lleihau troseddau ac adsefydlu troseddwyr. Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2017 gan Lywodraeth Cymru i adolygu sut y mae ein system gyfreithiol a chyfiawnder yn gweithio a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol. Dan gadeiryddiaeth cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd, a chan gynnwys aelodau blaenllaw o'r gymuned gyfiawnder a chyfreithiol yng Nghymru, mae gwaith y Comisiwn wedi hen ddechrau. Ers mis Chwefror, mae'r Comisiwn wedi cynnal digwyddiadau ym Mangor, Wrecsam ac Aberystwyth er mwyn clywed barn y bobl sy'n gweithio yn y system gyfiawnder a chyfreithiol, ac sy’n cael eu heffeithio ganddi, gan gynnwys carcharorion a staff carchar y Berwyn ger Wrecsam. Mis nesaf, bydd cynrychiolaeth o'r Comisiwn yn teithio i'r Alban i ystyried profiadau ein cymheiriaid yno. Mae'r Comisiwn yn ceisio tystiolaeth ysgrifenedig tan ddechrau mis Mehefin cyn symud ymlaen at dystiolaeth lafar. Mae’r Comiswn eisiau clywed barn gan amrywiaeth mor eang â phosibl o bobl ynglŷn â sut y gellir gwella'r system gyfiawnder. Dywedodd cyn Arglwydd Brif Ustus Cymru a Lloegr, yr Arglwydd Thomas o Gwmgiedd: “Rydyn ni'n trafod yn eang â phobl a sefydliadau ledled Cymru i sicrhau bod ein canfyddiadau a'n hargymhellion am ddyfodol y system gyfreithiol a chyfiawnder yn gadarn. Mae angen inni ddod o hyd i ffyrdd o adeiladu ar y cydweithio da sy'n digwydd ar hyn o bryd rhwng llywodraethau, yr heddlu, y gwasanaeth carchardai a'r gwasanaeth prawf, cyfreithwyr a'r llysoedd i leihau troseddau, hyrwyddo adsefydlu ac ymdrin â phroblemau difrifol iawn sy'n wynebu pobl mewn ardaloedd gwledig ac ôl\-ddiwydiannol wrth geisio cael gafael ar gyngor cyfreithiol yn eu cymunedau. Bydd ein hymweliad ag ardal Rhondda Cynon Taf ddydd Gwener yn gam pwysig arall yn y broses hon.”
https://www.gov.wales/commission-justice-wales-visits-treforest-latest-leg-its-fact-finding-tour
The Welsh Revenue Authority (WRA) has been established to collect and manage Land Transaction Tax \- replacing Stamp Duty Land Tax \- and Landfill Disposals Tax in Wales from April 2018\. The taxes will be the first to be introduced in Wales for around 800 years.  To reflect this major milestone for Wales, the WRA has designed a draft charter that is different to traditional charters. Based on research and feedback already carried out, the draft charter uses an innovative diagram, designed to be easily understood at a glance.  Setting out its values, the charter will eventually be the blueprint for the way the WRA will work with its customers, the Welsh public and partners to deliver a fair tax system for Wales.   At this stage, nothing is set in stone and your opinion is vital. The charter will be developed to reflect feedback provided through the consultation. Please take this opportunity to tell us what you think. The draft charter has been published on the Welsh Government website along with a response form. Alternatively, contact the WRA directly at haveyoursay@wra.gov.wales. The consultation closes on Tuesday, 13 February.
Mae Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) wedi cael ei sefydlu i gasglu a rheoli Treth Trafodiadau Tir \- gan ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp \- a’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ymlaen. Y trethi hyn fydd y rhai cyntaf i gael eu cyflwyno yng Nghymru ers tua 800 o flynyddoedd. Er mwyn adlewyrchu’r garreg filltir bwysig hon i Gymru, mae ACC wedi llunio siarter ddrafft sy'n wahanol i siartrau traddodiadol. Ar sail y gwaith ymchwil a’r adborth sydd eisoes wedi'u cyflawni, mae’r siarter ddrafft yn defnyddio diagram arloesol, sydd wedi'i ddylunio i fod yn hawdd ei ddeall ar yr olwg gyntaf. Gan nodi ei werthoedd, y siarter fydd y glasbrint yn y pen draw ar gyfer sut bydd ACC yn gweithio gyda'i gwsmeriaid, ei bartneriaid a’r cyhoedd yng Nghymru i gyflwyno system dreth deg i Gymru. Does dim byd yn derfynol eto ac mae eich barn chi'n hollbwysig. Bydd y siarter yn cael ei datblygu i adlewyrchu’r adborth a gaiff ei ddarparu drwy’r ymgynghoriad. Manteisiwch ar y cyfle hwn i roi eich barn. Mae’r siarter ddrafft wedi cael ei chyhoeddi ar dudalennau ymgynghoriadau gwefan Llywodraeth Cymru ynghyd â ffurflen ymateb. Neu, cysylltwch ag ACC yn uniongyrchol yn dweudeichdweud@acc.llyw.cymru. Bydd yr ymgynghoriad hwn yn cau ddydd Mawrth, 13 Chwefror.
https://www.gov.wales/have-your-say-welsh-revenue-authoritys-future
YouTube videos cannot be displayed ---------------------------------- JavaScript is not running in your browser so you cannot view this video. Enable JavaScript or try a different browser. View Our Charter The WRA received more than 120 responses to its charter consultation including from organisations, such as FSB Wales, Low Income Tax Reform Group and Institute for Chartered Accounts in England and Wales. Ben Cottam, FSB Wales head of external affairs, said: > “FSB Wales welcomes the publication of Our Charter ahead of the Welsh Revenue Authority beginning to collect taxes on 1 April. The approach to being supportive, as well as shared values and standards will be welcome news to the smaller firms who are transitioning to devolved Welsh taxes. This will be key to how the WRA operates in a manner that is approachable and helps firms to comply with their tax obligations.” Finance Secretary Mark Drakeford, said:  > “The introduction of these 2 new taxes represents a significant milestone for Wales. Welsh taxpayers will want guidance and reassurance about how their taxes will be collected. > > > “The WRA’s charter sets out the joint responsibilities between the WRA, customers and the Welsh public for delivering a fair tax system in Wales.” Dyfed Alsop, chief executive of the WRA, said: > “We are aware of the important responsibilities and opportunities we hold as a new tax authority for Wales. We wanted Our Charter to start to reflect how we want to have shared responsibilities, values and behaviours, as we work with everyone to help deliver a fair tax system for Wales. > > > “We have worked with taxpayers, representative bodies, partner organisations to help them through the transition to the new tax system. It’s vital this work continues and that everyone’s encouraged to have their say on this new charter which will support everyone.” The WRA are going to continue engaging as they embed Our Charter; sign up and have your say.
Ni all fideos YouTube gael eu dangos ------------------------------------ Nid yw JavaScript yn rhedeg yn eich porwr felly ni allwch wylio’r fideo yma. Dylech alluogi JavaScript neu ddefnyddio porwr gwahanol. Gweler Ein Siarter Cafodd Awdurdod Cyllid Cymru fwy na 120 o ymatebion i'w siarter drafft, gan gynnwys gan sefydliadau fel Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru, sy'n cynrychioli 10,000 o fusnesau bach yng Nghymru. Dywedodd Ben Cottam, pennaeth materion allanol Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru: > “Mae Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn croesawu cyhoeddi Ein Siarter cyn i Awdurdod Cyllid Cymru ddechrau casglu trethi ar 1 Ebrill. Bydd yr ymagwedd gefnogol, yn ogystal â rhannu gwerthoedd a safonau, yn cael ei groesawu gan gwmnïau llai sy'n trosglwyddo i drethi datganoledig Cymru. Bydd hyn yn allweddol o ran y ffordd mae Awdurdod Cyllid Cymru yn bwriadu gweithredu mewn ffordd hygyrch a helpu cwmnïau i gydymffurfio â'u rhwymedigaethau treth.” Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid: > “Mae cyflwyno'r ddwy dreth newydd hyn yn garreg filltir arwyddocaol i Gymru. Bydd trethdalwyr Cymru eisiau arweiniad a sicrwydd ynghylch sut caiff eu trethi eu casglu. > > > “Mae siarter Awdurdod Cyllid Cymru yn datgan cyfrifoldebau ar y cyd rhwng yr Awdurdod, cwsmeriaid a’r cyhoedd yng Nghymru ar gyfer creu system dreth deg yng Nghymru.” Dywedodd Dyfed Alsop, prif weithredwr Awdurdod Cyllid Cymru: > “Rydym yn ymwybodol o'r cyfrifoldebau a'r cyfleoedd pwysig sydd gennym fel awdurdod treth newydd i Gymru. Roeddem eisiau i ddogfen Ein Siarter ddechrau adlewyrchu sut rydym eisiau rhannu cyfrifoldebau, gwerthoedd ac ymddygiadau, wrth i ni weithio gyda phawb i helpu i gyflwyno system dreth deg i Gymru. > > > “Rydym wedi gweithio gyda threthdalwyr, cyrff cynrychioliadol a sefydliadau partner i'w helpu drwy'r broses o drosglwyddo i'r system dreth newydd. Mae'n hanfodol bod y gwaith hwn yn parhau a bod pawb yn cael eu hannog i ddweud eu dweud am y siarter newydd hon, a fydd yn cefnogi pawb.” Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i ymgysylltu wrth iddynt ymgorffori Ein Siarter; cofrestrwch os ydych eisiau rhoi eich barn.
https://www.gov.wales/welsh-revenue-authority-launches-our-charter
The Parliamentary Review into Health and Social Care in Wales has been gathering evidence from stakeholders and the public about how services should look in Wales. Their interim report was published in July. As the Review begins forming its final conclusions, they want to hear your thoughts about some of the areas the recommendations might cover, such as models of care; digital and technological developments; the vision for health and care services and the areas that you would like to see addressed in the final report. We’ve put together 6 questions to structure the chat: 1. Our interim report was published in July setting out the case for change. The proposed vision is to deliver ‘seamless local health and social care services that are focused on outcomes that matter to the individual’ – do you agree with this vision? 2. The Quadruple Aim (improving population health and wellbeing, improving patient experience and outcomes, restraining costs, and improving the working life of staff) could act as a clear purpose to deliver that vision– does this help in terms of clarity of purpose? 3. What are the essential design features to enable successful delivery of ‘seamless’ and preventative health and social care services? 4. What needs to change in existing services to enable them to be built around an individual and his/ her family’s needs rather than institutions? 5. What are the essential digital or technological developments that would help to free up professional time for face to face care? 6. What are the top 3 things you would like to see addressed in our final report? ### **Twitterchat basics:** #### What is a Twitter chat? A Twitter chat is where a group of Twitter users meet at a pre\-determined time to discuss a certain topic, using a designated hashtag (in this case \#yourfuturehealthandcare) for each tweet contributed. Dr Ruth Hussey (@husseyruth) will pose questions to prompt responses from participants and encourage interaction among the group. The chat will last an hour. #### How to participate * Join Twitter (if you haven’t already) * Join the chat by searching for the hashtag \#yourfuturehealthandcare * Join the conversation when you feel ready – feel free to introduce yourself * Remember to use the hashtag each time you tweet * Ruth will pose the questions marking Q1 for question 1, Q2 for question 2 and so forth. Please begin your response tweets with A1 for an answer to question 1, A2 for an answer to question 2 and so forth, to let us know which questions you are answering
Mae'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru wedi bod yn casglu tystiolaeth gan randdeiliaid a'r cyhoedd ynghylch sut y dylai gwasanaethau Cymru edrych yn y dyfodol. Cyhoeddwyd adroddiad interim ym mis Gorffennaf. Wrth i'r Adolygiad ddechrau ffurfio casgliadau terfynol, mae am glywed eich sylwadau ynghylch rhai o'r meysydd allai fod dan sylw yn yr argymhellion, fel modelau gofal; datblygiadau digidol a thechnolegol; y weledigaeth ar gyfer gwasanaethau iechyd a gofal a'r meysydd yr hoffech chi eu gweld yn cael sylw yn yr adroddiad terfynol. Rydym wedi llunio 6 o gwestiynau i arwain y drafodaeth: 1. Cyhoeddwyd ein hadroddiad interim ym mis Gorffennaf gan amlinellu’r achos dros newid. Y weledigaeth sy'n cael ei chynnig yw darparu gwasanaethau 'iechyd a gofal cymdeithasol di\-dor, sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau sydd o bwys i’r unigolyn' \- ydych chi'n cytuno â'r weledigaeth hon? 2. Gallai'r nod pedair elfen (gwella iechyd a llesiant poblogaethau, gwella profiad a chanlyniadau i’r claf, cyfyngu ar gostau a gwella bywyd gwaith y staff) gynnig pwrpas clir i gyflawni'r weledigaeth honno \- a fyddai hyn yn ddefnyddiol i egluro'r hyn sydd angen ei wneud? 3. Pa nodweddion sy’n angenrheidiol i allu darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol 'di\-dor' ac ataliol yn llwyddiannus? 4. Beth sydd angen ei newid yn y gwasanaethau presennol er mwyn eu hadeiladu o amgylch anghenion unigolyn / y teulu, yn hytrach na sefydliadau? 5. Pa ddatblygiadau digidol a thechnolegol hanfodol fyddai’n helpu i ryddhau amser proffesiynol ar gyfer gofal wyneb wrth wyneb? 6. Beth yw'r 3 prif beth yr hoffech eu gweld yn cael sylw yn ein hadroddiad terfynol? ### Hanfodion sgwrs ar Twitter: #### Beth yw sgwrs ar Twitter? Sgwrs ar Twitter yw pan fo grŵp o ddefnyddwyr yn cwrdd ar adeg benodol i drafod testun penodol, gan ddefnyddio hashnod (yn yr achos hwn, \#dyfodoliechydagofal) ar bob neges. Bydd Dr Ruth Hussey (@husseyruth) yn gosod cwestiynau (wedi'u labelu â'r rhif priodol) i ddenu ymateb gan y cyfranogwyr a'u hannog i drafod â'i gilydd. Bydd y sgwrs yn para am awr. #### Sut i gymryd rhan * Ymunwch â Twitter (os nad ydych wedi gwneud hynny eisoes) * Edrychwch am y sgwrs drwy chwilio am yr hashnod \#dyfodoliechydagofal * Ymunwch â'r sgwrs pan fyddwch yn barod i wneud hynny \- mae croeso i chi gyflwyno'ch hun * Cofiwch ddefnyddio'r hashnod bob tro y byddwch yn trydar * Bydd Ruth yn gosod y cwestiynau gan eu labelu \- C1, C2, C3 ac ati. Felly wrth ymateb nodwch A1 i ateb cwestiwn 1, A2 i ateb cwestiwn 2 ac yn y blaen, er mwyn i ni wybod pa gwestiwn sydd dan sylw.
https://www.gov.wales/twitterchat-future-health-and-social-care-services-wales
The Commission is meeting Scottish Justice experts ranging from the Cabinet Secretary for Justice, Michael Matheson, to Senior Judiciary, leaders in Police Scotland and the Scottish Prison Service, as well as groups promoting women’s justice,and leading solicitors and academics.  The Commission is keen to learn from Scotland’s distinct approach to Justice, its emphasis on community and health solutions to crime, and its vision for the future. Speaking today, Lord Thomas said, “There is much to learn from the integrated vision for justice and fairness in Scotland. Wales and Scotland share a focus on safer communities and the well\-being of people and future generations.”. The Welsh Government set up the Commission on Justice in Wales in 2017 to review the operation of the legal and justice system in Wales, and set a long term vision for the future.  Since February the Commission has begun to hold events in and across Wales to hear the views of people working in, and affected by, the justice and legal system including prisoners and staff at HMP Berwyn, the second largest prison in Europe. The Commission is seeking written evidence until early June before it moves onto oral evidence.
Mae'r Comisiwn yn cyfarfod arbenigwyr ar gyfiawnder yr Alban, yn amrywio o Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder, Michael Matheson, i'r Uwch Farnwriaeth, arweinwyr Heddlu'r Alban a Gwasanaeth Carchardai yr Alban, yn ogystal â grwpiau sy'n hyrwyddo cyfiawnder i fenywod a chyfreithwyr ac academyddion blaengar. Mae'r Comisiwn yn awyddus i ddysgu o ymagwedd benodol yr Alban at Gyfiawnder, ei phwyslais ar gymuned ac iechyd i fynd i’r afael â throseddu, a'i gweledigaeth at y dyfodol. Wrth siarad heddiw, dywedodd yr Arglwydd Thomas: "Gallwn ddysgu cryn dipyn o weledigaeth integredig yr Alban am gyfiawnder a thegwch. Mae Cymru a'r Alban fel ei gilydd yn canolbwyntio ar gymunedau mwy diogel a llesiant pobl a chenedlaethau'r dyfodol." Sefydlwyd y Comisiwn ar Gyfiawnder yng Nghymru yn 2017 gan Lywodraeth Cymru i adolygu sut y mae ein system gyfreithiol a chyfiawnder yn gweithio a gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer y dyfodol.  Ers mis Chwefror, mae'r Comisiwn wedi dechrau cynnal digwyddiadau ar draws Cymru er mwyn clywed barn y bobl sy'n gweithio yn y system gyfiawnder a chyfreithiol, ac sy’n cael eu heffeithio ganddi, gan gynnwys carcharorion a staff carchar y Berwyn, sef y carchar mwyaf ond un yn Ewrop. Mae'r Comisiwn yn ceisio tystiolaeth ysgrifenedig tan ddechrau mis Mehefin cyn symud ymlaen at dystiolaeth lafar.
https://www.gov.wales/wales-learning-scotland-commission-justice-wales-visits-edinburgh
Following the formal establishment of the WRA in October 2017, this corporate plan brings to life the 8 joint values set out in Our Charter. Our Charter has led to the development of Our Approach \- a new way of doing tax in Wales. The approach involves the WRA working in partnership with taxpayers, representatives and the public to deliver a fair tax system in Wales. WRA Chief Executive Dyfed Alsop, explained: > “We want to continue to work closely with representatives and taxpayers to provide a service that’s tailored to their needs. We recognise that working together effectively is the best way to ensure that the right amount of tax is paid at the right time. > > > “Our Charter and Our Approach provide an excellent basis for how we can work well together. We appreciate the feedback we’ve had in developing this work to date and want to continue to work in an open and engaging way to ensure that Our Approach delivers on its promise to be a way of doing tax that works for Wales.” The WRA welcomes feedback on Our Approach and its first corporate plan: haveyoursay@wra.gov.wales ### Our Approach – A Welsh way of doing tax Our Approach is described using 3 Welsh terms. For a full explanation of this approach, please read our corporate plan: * Cydweithio (keed\-way\-thee\-o) – this means ‘to work together’ and carries a sense of working towards a common goal. * Cardarnhau (kad\-arn\-high) – this suggests a solid, robust quality that can be relied on. This is about providing certainty, being accurate and reinforcing trust. * Cywiro (kuh\-wir\-o) \- this literally means ‘returning to the truth’ and is about the way we work with you to resolve errors or concerns.
Yn sgil sefydlu’r Awdurdod Cyllid yn ffurfiol fis Hydref diwethaf (2017\), mae’r cynllun corfforaethol hwn yn rhoi ar waith yr wyth o werthoedd ar y cyd a nodwyd yn Ein Siarter, a gyhoeddwyd gan yr Awdurdod Cyllid ym mis Mawrth (2018\). Mae Ein Siarter wedi arwain at ddatblygu Ein Dull \- ffordd newydd o drethu yng Nghymru. Mae’r dull yn golygu bod yr Awdurdod Cyllid yn gweithio mewn partneriaeth â threthdalwyr, cynrychiolwyr a’r cyhoedd i ddarparu system drethi deg yng Nghymru. Esboniodd Dyfed Alsop, Prif Weithredwr yr Awdurdod: > “Rydyn ni am barhau i weithio’n agos gyda chynrychiolwyr a threthdalwyr i ddarparu gwasanaeth sydd wedi’i deilwra i’w hanghenion. Rydyn ni’n sylweddoli mai gweithio gyda’n gilydd yn effeithiol yw’r ffordd orau o sicrhau bod y swm cywir o dreth yn cael ei dalu ar yr adeg iawn.  > >   > > “Mae Ein Siarter ac Ein Dull yn darparu sylfaen ardderchog ar gyfer sut gallwn ni weithio’n dda gyda’n gilydd. Rydyn ni’n gwerthfawrogi’r adborth rydyn ni wedi’i gael wrth ddatblygu'r gwaith hwn hyd yma ac rydyn ni’n awyddus i barhau i weithio mewn modd agored ac ymgysylltiol i sicrhau bod Ein Dull yn gwireddu ei addewid i fod yn ffordd o drethu sy’n gweithio i Gymru”. Mae’r Awdurdod Cyllid yn croesawu adborth ar Ein Dull a’i gynllun corfforaethol cyntaf: dweudeichdweud@wra.gov.wales ### Ein Dull \- Ffordd o drethu yng Nghymru Caiff Ein Dull ei ddisgrifio gan ddefnyddio tri therm Cymraeg. I gael esboniad llawn o’r dull hwn, darllenwch ein cynllun corfforaethol: * Cydweithio – ystyr hyn yw ‘gweithio gyda’n gilydd’ ac mae’n golygu gweithio tuag at nod gyffredin. * Cadarnhau  – mae hyn yn awgrymu nodwedd gadarn a chryf y gellir dibynnu arni. Mae’n golygu darparu sicrwydd, bod yn gywir ac atgyfnerthu ymddiriedaeth. * Cywiro \- ystyr hyn yn llythrennol yw ‘dychwelyd at y gwir’ ac mae’n ymwneud â sut rydyn ni’n gweithio gyda chi i ddatrys gwallau neu bryderon.
https://www.gov.wales/welsh-revenue-authority-unveils-its-first-corporate-plan
On the 1 April 2018, the Welsh Revenue Authority (WRA) officially opened for business: collecting and managing the first Welsh devolved taxes in over 800 years. It’s been a challenging and exciting 6 month of operations, and I’m so proud of what we have been able to achieve, with thanks to the ongoing support of numerous partners who have backed this journey so far. In a short space of time, we have: * implemented a bilingual, digital tax service * recruited over 65 full\-time members of staff across 16 professions * collaborated with many partners to design, refine and implement our processes, systems and guidance * continued to engage with a wide range of key stakeholders to help people to pay the right amount of tax at the right time. We could not have reached this point without the continued support of taxpayer representatives, partner organisations, such as Natural Resources Wales, other stakeholders, including HMRC, and of course colleagues in Welsh Government. Their advice has been invaluable in starting to make a reality of delivering a fair tax system for Wales. This partnership\-led approach to tax administration is central to everything we do and hope to achieve at the WRA. ‘Our Approach’, which explains our way of operating, uses 3 Welsh terms ‘Cydweithio’, ‘Cardarnhau’, ‘Cywiro’ to explain how we will work collaboratively to ensure taxes are collected efficiently and effectively. ‘Our Approach’ was inspired by ‘Our Charter’, which consists of 8 shared beliefs, values and responsibilities, and the result of close work with a wide range of partners before we started operating in April. Both are explained in more detail in our first\-year Corporate Plan. I would like to encourage feedback on our approach to tax. We want to engage, listen, learn and adapt. Moving forward, I recognise that we need to continue to build upon this momentum, and I will provide more information in future newsletters as to how we will achieve this. For now, I would like to take this opportunity to thank everyone who has been involved in supporting the development of the WRA. I look forward to continuing to serve as Chief Executive on this extraordinary journey.
Ar 1 Ebrill 2018, agorodd Awdurdod Cyllid Cymru yn swyddogol ar gyfer busnes: gan gasglu a rheoli’r trethi datganoledig cyntaf yng Nghymru ers dros 800 mlynedd. Mae’r chwe mis cyntaf o weithredu wedi bod yn heriol ac yn gyffrous, ac rwyf mor falch o’r hyn rydym ni wedi gallu ei gyflawni, diolch i gefnogaeth gyson y partneriaid lu sydd wedi bod yn gefn i ni ar y daith hon hyd yma. Mewn cyfnod byr iawn, rydym ni wedi: * rhoi gwasanaeth trethi digidol, dwyieithog ar waith * wedi recriwtio dros 65 o aelodau staff llawn amser ar draws 16 proffesiwn * wedi cydweithio â nifer o bartneriaid i gynllunio, mireinio a gweithredu ein prosesau, systemau a chanllawiau * wedi parhau i ymwneud ag amrywiaeth eang o randdeiliaid allweddol i helpu pobl i dalu'r swm cywir o dreth ar yr adeg gywir. Ni fyddem wedi llwyddo i gyrraedd y cam yma heb gefnogaeth gyson cynrychiolwyr trethdalwyr, sefydliadau partner, fel Cyfoeth Naturiol Cymru, rhanddeiliaid eraill, gan gynnwys CThEM, ac wrth gwrs cydweithwyr yn Llywodraeth Cymru. Mae eu cyngor wedi bod yn amhrisiadwy wrth i ni gychwyn gwireddu’r dasg o weithredu system drethi deg ar gyfer Cymru. Mae'r dull hwn o weithio mewn partneriaeth i weinyddu trethi yn ganolog i bopeth a wnawn ac i’r hyn rydym ni’n gobeithio ei gyflawni yn Awdurdod Cyllid Cymru. Mae ‘Ein Dull o Weithredu’, sy’n esbonio ein ffordd o weithio, yn defnyddio tri gair Cymraeg  ‘Cydweithio’, ‘Cadarnhau’, a ‘Cywiro’ i esbonio sut byddwn ni’n gweithio ar y cyd i sicrhau bod trethi’n cael eu casglu’n effeithlon ac yn effeithiol. Cafodd ‘Ein Dull o Weithredu’ ei ysbrydoli gan ‘Ein Siarter’, sy’n cynnwys wyth o gredoau, gwerthoedd a chyfrifoldebau a rennir, a chanlyniad gwaith agos gydag amrywiaeth eang o bartneriaid cyn i ni ddechrau gweithredu ym mis Ebrill. Mae mwy o esboniad am y rhain yn y Cynllun Corfforaethol ar gyfer ein blwyddyn gyntaf. Byddwn yn hoffi cael adborth am ein dull o weithredu gyda threthi. Rydym ni’n awyddus i ymgysylltu, gwrando, dysgu ac addasu. Wrth symud yn ein blaenau, rwy’n sylweddoli bod angen i ni barhau i adeiladu ar y momentwm hwn, a byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth mewn cylchlythyrau yn y dyfodol am sut byddwn yn cyflawni hyn. Am y tro, hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i bawb sydd wedi helpu i ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i wasanaethu fel Prif Weithredwr ar y daith anhygoel hon.
https://www.gov.wales/6-months-raising-revenue-wales
### 2024 July 2024 edition March 2024 edition ### 2023 November 2023 edition July 2023 edition April 2023 edition January 2023 edition ### 2022 September 2022 edition June 2022 edition March 2022 edition ### 2021 December 2021 edition September 2021 edition March 2021 edition COVID\-19 special edition 10: January 2021 ### 2020 Special focus: workforce development edition: October 2020 COVID\-19 special edition 9: 20 August 2020 COVID\-19 special edition: July 2020: special guest edition by Ethnic Minorities and Youth Support Team (EYST) Wales COVID\-19 special edition 8: 16 July 2020 COVID\-19 special edition 7: 19 June 2020 COVID\-19 special edition 5: 28 May 2020 COVID\-19 special edition 4: 7 May 2020 COVID\-19 special edition 3: 23 April 2020 COVID\-19 special edition 2: 9 April 2020 COVID\-19 special edition 1: 27 March 2020: Message from Keith Towler ### 2019 Issue 4: winter Issue 3: summer ### 2018 Issue 2: winter Issue 1: autumn
### 2024 Rhifyn Gorffennaf 2024 Rhifyn Mawrth 2024 ### 2023 Rhifyn Tachwedd 2023 Rhifyn Gorffennaf 2023 Rhifyn Ebrill 2023 Rhifyn Ionawr 2023 ### 2022 Rhifyn Medi 2022 Rhifyn Mehefin 2022 Rhifyn Mawrth 2022 ### 2021 Rhifyn Rhagfyr 2021 Rhifyn Medi 2021 Rhifyn Mawrth 2021 COVID\-19 rhifyn arbennig 10: Ionawr 2021 ### 2020 Ffocws arbennig: rhifyn datblygu'r gweithlu: Hydref 2020 COVID\-19 rhifyn arbennig 9: 20 Awst 2020 COVID\-19 rhifyn arbennig: Gorffennaf 2020: rifyn gwestai arbennig gan EYST Cymru (Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid Cymru) COVID\-19 rhifyn arbennig 8: 16 Gorffennaf 2020 COVID\-19 rhifyn arbennig 7: 19 Mehefin 2020 COVID\-19 rhifyn arbennig 5: 28 Mai 2020 COVID\-19 rhifyn arbennig 4: 7 Mai 2020 COVID\-19 rhifyn arbennig 3: 23 Ebrill 2020 COVID\-19 rhifyn arbennig 2: 9 Ebrill 2020 COVID\-19 rhifyn arbennig 1: 27 Mawrth 2020: Neges gan Keith Towler ### 2019 Rhifyn 4: gaeaf Rhifyn 3: hâf ### 2018 Rhifyn 2: gaeaf Rhifyn 1: hydref
https://www.gov.wales/youth-work-newsletters
The awards acknowledge the best youth workers and youth work projects in Wales. Winners in each of the 9 categories will be revealed at the awards ceremony in Cardiff on 29 June 2018\.  Engagement with Formal Education, Employment and Training --------------------------------------------------------- * Early Intervention and Prevention: Cardiff Youth Service * Multiple Support in Education (MouSE): Media Academy Cardiff Promoting Health, Well\-being \& Active Lifestyles -------------------------------------------------- * M Girls @ Treharris Boys \& Girls Club: Merthyr Tydfil County Borough Council * Mental Health First Aid Toolkit: Safer Merthyr Tydfil * Mind matters: Volunteering matters * Positive Futures: Blaenau Gwent County Borough Council Youth Service Promoting Young People’s Rights ------------------------------- * Cardiff Young Commissioners: Families 1st Project – City of Cardiff Council * Neath Port Talbot Youth Council: Neath Port Talbot County Borough Council Promoting Equality and Diversity -------------------------------- * The Basement LGBTQ\+: Caerphilly County Borough Council * Clwb Ieuenctid Derwen: Gwynedd Youth Services * Inclusion Programme: Torfaen Youth Service Promoting Heritage \& Cultures in Wales and Beyond -------------------------------------------------- * Our Founders and the First World War: Boys and Girls Clubs of Wales * Patagonia: Urdd Gobaith Cymru * Dolgarrog Dam Disaster: Conwy County Borough Council Promoting the Arts, Media and Digital Skills -------------------------------------------- * Finalists to be confirmed Outstanding Volunteer in a Youth Work setting --------------------------------------------- * Tony Humphries: YMCA Swansea * Jo Nuttall: Fun Friday Youth Club \- Boys and Girls Clubs of Wales Outstanding Youth Worker ------------------------ * Bethan Bartlett, Youth and Community Officer:Youth Cymru * Amy Bolderson, Youth Engagement Officer: Rhondda Cynon Taf County Borough Council * Louise Coombs: Cardiff Council Youth Service Making a Difference ------------------- * Tim Ramsey: Pembrokeshire Youth Services * Rachel Wright: Caerphilly County Borough Council
Mae'r gwobrau hyn yn cydnabod y gweithwyr ieuenctid gorau a'r prosiectau gwaith ieuenctid gorau yng Nghymru. Caiff yr enillwyr ym mhob un o'r 9 categori eu datgelu yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd ar 29 Mehefin 2018\. Ymgysylltu ag addysg ffurfiol, hyfforddiant a chyflogaeth --------------------------------------------------------- * Early Intervention and Prevention: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd * Multiple Support in Education (MouSE): Media Academy Cardiff Hyrwyddo iechyd, lles a ffordd o fyw egnïol ------------------------------------------- * M Girls @ Clwb Bechgyn a Merched Treharris: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful * Mental Health First Aid Toolkit: Merthyr Tudful Mwy Diogel * Mind matters: Volunteering matters * Positive Futures: Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Hyrwyddo hawliau pobl ifanc --------------------------- * Cardiff Young Commissioners: Prosiect Teuluoedd yn Gyntaf \- Cyngor Dinas Caerdydd * Cyngor Ieuenctid Castell\-nedd Port Talbot: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell\-nedd Port Talbot Hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth ----------------------------------- * The Basement LGBTQ\+: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili * Clwb Ieuenctid Derwen: Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd * Inclusion Programme: Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen Hyrwyddo treftadaeth a diwylliannau yng Nghymru a thu hwnt ---------------------------------------------------------- * Our Founders and the First World War: Clybiau Bechgyn a Merched Cymru * Patagonia: Urdd Gobaith Cymru * Dolgarrog Dam Disaster: Cyngor  Bwrdeistref Sirol Conwy Hyrwyddo’r celfyddydau, sgiliau’n ymwneud â’r cyfryngau a sgiliau digidol ------------------------------------------------------------------------- * Teilyngwyr i’w cadarnhau Gwirfoddolwr eithriadol mewn lleoliad gwaith ieuenctid ------------------------------------------------------ * Tony Humphries: YMCA Abertawe * Jo Nuttall: Fun Friday Youth Club \- Clybiau Bechgyn a Merched Cymru Gweithiwr ieuenctid eithriadol ------------------------------ * Bethan Bartlett, Swyddog Ieuenctid a Chymunedol: Youth Cymru * Amy Bolderson, Swyddog Ymgysylltu ag Ieuenctid: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf * Louise Coombs: Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Caerdydd Gwneud gwahaniaeth ------------------ * Tim Ramsey: Gwasanaethau Ieuenctid Sir Benfro * Rachel Wright: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
https://www.gov.wales/youth-work-excellence-awards-2018-finalists
It is unacceptable that some women and girls in Wales cannot afford to buy essential feminine hygiene products when they need them. I am committed to doing everything I can to tackle this inequality. As part of the of the gender and equality rapid review which the First Minister has asked me to lead, he has asked us to work with local government to create a national, sustainable response to period poverty. This announcement is the first step towards achieving that goal. Yesterday, I wrote to local authorities offering them a package of funding to help deliver the change that is needed. Local authorities will receive £440,000 over the next two years to tackle period poverty in their communities where levels of deprivation are highest by providing feminine hygiene products to those women and girls most in need. Additionally £700,000 of capital funding will be available to improve facilities and equipment in schools, ensuring that all girls and young women can access good sanitary facilities when they need them. Local authorities are best placed to know where to target effective action for tackling period poverty in their communities, which is why we are asking them to use their knowledge to identify and help those who need it the most. My officials will be contacting all local authorities with details of the funding available to them in the coming days and we will continue to work closely with them and third sector organisations to evaluate the situation and ensure resources are being allocated to their maximum effect. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Mae'n annerbyniol na all rhai menywod a merched yng Nghymru fforddio prynu cynhyrchion hylendid benywaidd hanfodol pan fydd eu hangen arnynt. Rwyf wedi ymrwymo i wneud popeth y gallaf i fynd i'r afael â'r anghydraddoldeb hwn. Fel rhan o’r adolygiad cyflym ar ryw a chydraddoldeb y mae’r Prif Weinidog wedi gofyn i mi ei arwain, gofynnwyd i ni weithio gyda llywodraeth leol i greu ymateb cenedlaethol, cynaliadwy i dlodi misglwyf. Y datganiad hwn yw’r cam cyntaf tuag at gyflawni’r nod. Ddoe, fe ysgrifennais at yr awdurdodau lleol yn cynnig pecyn cyllid i helpu i gyflwyno’r dull gweithredu newydd sydd ei angen. Bydd yr awdurdodau lleol yn derbyn £440,000 dros y ddwy flynedd nesaf i fynd i’r afael â thlodi misglwyf mewn cymunedau sydd â’r lefelau amddifadedd uchaf, trwy ddarparu cynhyrchion hylendid benywaidd i’r menywod a’r merched sydd eu hangen fwyaf. Hefyd, bydd £700,000 o gyllid cyfalaf ar gael i wella cyfleusterau a chyfarpar mewn ysgolion, gan sicrhau bod merched a menywod ifanc yn gallu defnyddio cyfleusterau ystafell ymolchi da yn ôl yr angen. Awdurdodau lleol sydd yn y sefyllfa orau i wybod ble i dargedu camau gweithredu effeithiol er mwyn mynd i’r afael â thlodi misglwyf yn eu cymunedau, a dyna pam rydym yn gofyn iddynt ddefnyddio eu gwybodaeth i helpu’r rhai sydd angen cymorth. Bydd fy swyddogion yn cysylltu â phob un o’r awdurdodau lleol dros y dyddiau nesaf i’w hysbysu am y cyllid sydd ar gael iddynt, a byddwn ni’n parhau i weithio’n agos gyda nhw a gyda sefydliadau’r trydydd sector i werthuso’r sefyllfa a sicrhau bod adnoddau’n cael eu dyrannu yn effeithiol. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-ps1millon-tackle-period-poverty-and-dignity
Winners in each of the nine categories were revealed at the awards ceremony in Cardiff on 29 June 2018\.  Engagement with Formal Education, Employment and Training --------------------------------------------------------- ### Winner * Early Intervention and Prevention: Cardiff Youth Service ### Runner\-up * Multiple Support in Education (MouSE): Media Academy Cardiff Promoting Health, Well\-being \& Active Lifestyles -------------------------------------------------- ### Winner * Mind Matters: National Health Service ### Runners\-up * M Girls @ Treharris Boys \& Girls Club: Merthyr Tydfil County Borough Council * Mental Health First Aid Toolkit: Safer Merthyr Tydfil * Positive Futures: Blaenau Gwent County Borough Council Youth Service Promoting Young People’s Rights ------------------------------- ### Winner * Neath Port Talbot Youth Council: Neath Port Talbot County Borough Council ### Runner\-up * Cardiff Young Commissioners: Families 1st Project – City of Cardiff Council Promoting Equality and Diversity -------------------------------- ### Winner * Clwb Ieuenctid Derwen: Gwynedd Youth Services ### Runners\-up * The Basement LGBTQ\+: Caerphilly County Borough Council * Inclusion Programme: Torfaen Youth Service Promoting Heritage \& Cultures in Wales and Beyond -------------------------------------------------- ### Winner * Patagonia: Urdd Gobaith Cymru ### Runners\-up * Our Founders and the First World War: Boys and Girls Clubs of Wales * Dolgarrog Dam Disaster: Conwy County Borough Council Promoting the Arts, Media and Digital Skills -------------------------------------------- ### Winner * Media Academy Cardiff: Labels Outstanding Volunteer in a Youth Work setting --------------------------------------------- ### Winner * Tony Humphries: YMCA Swansea ### Runner\-up * Jo Nuttall: Fun Friday Youth Club \- Boys and Girls Clubs of Wales Outstanding Youth Worker ------------------------ ### Winner * Louise Coombs: Cardiff Council Youth Service ### Runners\-up * Bethan Bartlett, Youth and Community Officer:Youth Cymru * Amy Bolderson, Youth Engagement Officer: Rhondda Cynon Taf County Borough Council Making a Difference ------------------- ### Winner * Rachel Wright: Caerphilly County Borough Council ### Runner\-up * Tim Ramsey: Pembrokeshire Youth Services
Ar 29 Mehefin 2018, yn y seremoni wobrwyo yng Nghaerdydd, datgelwyd enillwyr pob un o'r naw categori. Ymgysylltu ag addysg ffurfiol, hyfforddiant a chyflogaeth --------------------------------------------------------- ### Enillydd * Ymyrryd ac Atal yn Gynnar: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ### Yn ail * Multiple Support in Education (MouSE): Media Academy Caerdydd Hyrwyddo iechyd, lles a ffordd o fyw egnïol ------------------------------------------- ### Enillydd * Mind Matters: Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol ### Eraill a ddaeth i'r brig * M Girls @ Clwb Bechgyn a Merched Treharris: Cyngor Bwrdeistref Sirol Merthyr Tudful * Pecyn Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl: Merthyr Tudful Mwy Diogel * Positive Futures: Gwasanaeth Ieuenctid Cyngor Bwrdeistref Sirol Blaenau Gwent Hyrwyddo hawliau pobl ifanc --------------------------- ### Enillydd * Cyngor Ieuenctid Castell\-nedd Port Talbot: Cyngor Bwrdeistref Sirol Castell\-nedd Port Talbot ### Yn ail * Cardiff Young Commissioners: Prosiect Teuluoedd yn Gyntaf \- Cyngor Dinas Caerdydd Sicrhau cydraddoldeb ac amrywiaeth ---------------------------------- ### Enillydd * Clwb Ieuenctid Derwen: Gwasanaethau Ieuenctid Gwynedd ### Eraill a ddaeth i'r brig * The Basement LGBTQ\+: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili * Rhaglen Gynnwys: Gwasanaeth Ieuenctid Torfaen Hyrwyddo treftadaeth a diwylliannau yng Nghymru a thu hwnt ---------------------------------------------------------- ### Enillydd * Patagonia: Urdd Gobaith Cymru ### Eraill a ddaeth i'r brig * Ein Sylfaenwyr a'r Rhyfel Byd Cyntaf Clybiau Bechgyn a Merched Cymru * Trychineb Argae Dolgarrog: Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy Hyrwyddo’r celfyddydau, sgiliau’n ymwneud â’r cyfryngau a sgiliau digidol ------------------------------------------------------------------------- ### Enillydd * Media Academy Caerdydd: Labels Gwirfoddolwr eithriadol mewn lleoliad gwaith ieuenctid ------------------------------------------------------ ### Enillydd * Tony Humphries: YMCA Abertawe ### Yn ail * Jo Nuttall: Clwb Ieuenctid Fun Friday \- Clybiau Bechgyn a Merched Cymru Gweithiwr Ieuenctid Eithriadol ------------------------------ ### Enillydd * Louise Coombs: Gwasanaeth Ieuenctid Caerdydd ### Eraill a ddaeth i'r brig * Bethan Bartlett, Swyddog Ieuenctid a Chymunedol: Youth Cymru * Amy Bolderson, Swyddog Ymgysylltu ag Ieuenctid: Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf Gwneud Gwahaniaeth ------------------ ### Enillydd * Rachel Wright: Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili ### Yn ail * Tim Ramsey: Gwasanaethau Ieuenctid Sir Benfro
https://www.gov.wales/youth-work-excellence-awards-2018-winners
Since the terrible events at Grenfell Tower last year, we have worked closely with local authorities, building owners, managers, both the private and third sectors, and others to gather a full and accurate picture of high\-rise residential buildings in Wales, and to ensure that owners and agents are aware of Government safety guidance and are taking necessary action.   Newport City Homes acted quickly to safeguard residents, putting in place a number of fire safety measures, including fitting sprinklers. Now it is our turn to support them. That is why I have today agreed £3 million capital funding to enable Newport City Homes to replace cladding on three tower blocks in the city. The three residential high\-rise buildings are the only ones in the Welsh social housing sector confirmed as having Aluminium Composite Material (ACM) systems corresponding with those which failed large\-scale combustibility tests. This investment will enable Newport City Homes to continue their commitment to resident safety, without compromising their vital plans to build more social housing in the city.
Ers y drychineb yn Nhŵr Grenfell y llynedd, rydyn ni wedi gweithio'n agos ag awdurdodau lleol, perchnogion adeiladau, rheolwyr, y sector preifat a'r trydydd sector ac eraill i greu darlun cyflawn a manwl o'r sefyllfa ynghylch yr adeiladau preswyl uchel sydd yng Nghymru, a hefyd i sicrhau bod perchnogion ac asiantiaid yn ymwybodol o ganllawiau'r Llywodraeth ar ddiogelwch a'u bod yn cymryd y camau angenrheidiol.   Fe wnaeth Cartrefi Dinas Casnewydd ymateb yn sydyn i ddiogelu preswylwyr drwy roi nifer o fesurau diogelwch tân yn eu lle gan gynnwys system chwistrellu. Ein tro ni yw hi nawr i'w cefnogi nhw.  Dyna pam yr wyf wedi cytuno heddiw y bydd cyllid cyfalaf gwerth £3 miliwn ar gael i alluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i osod cladin newydd ar dri bloc uchel yn y ddinas.   Y tri adeilad preswyl uchel yw'r unig rai yn y sector tai cymdeithasol yng Nghymru sydd wedi'u cadarnhau'n adeiladau sydd â systemau Deunydd Cyfansawdd Alwminiwm (ACM) sy'n cyfateb i'r hyn sydd wedi methu profion hylosgedd ar raddfa fawr. Bydd y buddsoddiad hwn yn galluogi Cartrefi Dinas Casnewydd i barhau â'u hymrwymiad i ddiogelwch preswylwyr heb gyfaddawdu ar eu cynlluniau hollbwysig i adeiladu mwy o dai cymdeithasol yn y ddinas.
https://www.gov.wales/written-statement-ps3-million-investment-replace-grenfell-style-cladding-housing-association-tower
The Commission began its work in December 2017 and in February 2018 issued a call for evidence. The Commission has received over 130 written submissions which are published on its website. Many of the submissions make recommendations about how the justice and legal systems in Wales could be made better and more accessible.  The Commission is now keen to hear from more people about how the following are working in Wales and how they could be improved: * Criminal justice, including policing, probation and prisons * Civil justice, family justice and tribunals * Access to legal advice for all in our society, regardless of background or wealth Let us know your views, ideas and suggestions by completing our short online questionnaire. * Privacy notice
Dechreuodd y Comisiwn ei waith ym mis Rhagfyr 2017 ac ym mis Chwefror 2018 cyhoeddodd gais am dystiolaeth. Mae'r Comisiwn wedi cael mwy na 130 o gyflwyniadau ysgrifenedig, sydd wedi'u cyhoeddi ar ei wefan. Mae llawer o'r cyflwyniadau yn cynnig argymhellion am y ffordd y gellid gwella'r systemau cyfiawnder a chyfreithiol yng Nghymru a'u gwneud yn fwy hygyrch. Mae'r Comisiwn bellach yn awyddus i glywed gan fwy o bobl am y ffyrdd mae'r canlynol yn gweithio yng Nghymru a sut y gellid eu gwella: * Cyfiawnder troseddol, gan gynnwys plismona, prawf a charchardai * Cyfiawnder sifil, cyfiawnder teuluol a thribiwnlysoedd * Mynediad at gyngor cyfreithiol i bawb yn ein cymdeithas, waeth beth yw eu cefndir na'u cyfoeth Rhannwch eich safbwyntiau, syniadau ac awgrymiadau â ni drwy gwblhau ein holiadur byr ar\-lein. * Privacy notice
https://www.gov.wales/commission-justice-wales-seeks-further-views
We will soon have a range of vacancies available at various levels with a starting salary of £29,100\. We need people from all backgrounds and with different experiences to help us deliver our Government's priorities, including a successful transition for Wales as part of the UK's exit from the EU.   We're especially looking for people with skills and expertise in the following areas: * Policy development and delivery * Digital * Legal * Project management * Data analysis * Economy * Environmental * Operational delivery * Research * Communications If you are interested in finding out more about working for us, book a place at one of our jobs fairs or register your details and we’ll notify you as opportunities become available. | Location | Address | Date and Time | | | --- | --- | --- | --- | | **Cardiff** | Welsh Government, Cathays Park, Cardiff, CF10 3NQ | 3 October \- 10\.00am | Fully booked | | | | 3 October \- 12\.30pm | Fully booked | | | | 3 October \- 3\.30pm | Fully booked | | **Llandudno Junction** | Welsh Government, Sarn Mynach, Llandudno Junction, Conwy, LL31 9RZ | 4 October \- 10\.00am | Fully booked | | | | 4 October \- 12\.30pm | Fully booked | | | | 4 October \- 3\.30pm | Fully booked | | **Aberystwyth** | Welsh Government, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR | 9 October \- 10\.00am | Fully booked | | | | 9 October \- 12\.30pm | Fully booked | | | | 9 October \- 3\.30pm | Fully booked | | **Merthyr Tydfil** | Welsh Government, Rhydycar Business Park, Merthyr Tydfil, CF48 1UZ | 11 October \- 10\.00am | Fully booked | | | | 11 October \- 12\.30pm | Fully booked | | | | 11 October \- 3\.30pm | Fully booked | Any information provided during the recruitment process will be processed in accordance with the Welsh Government privacy notice.
Bydd amrywiaeth o swyddi ar gael ar wahanol lefelau gyda chyflog cychwynnol o £29,100\. Rydym ni angen pobl o bob cefndir â gwahanol brofiadau i’n helpu i sicrhau bod ein blaenoriaethau fel Llywodraeth yn llwyddo a’n bod yn pontio'n rhwydd a llwyddiannus wrth i’r DU adael yr UE.  Rydym yn chwilio’n arbennig am bobl gyda sgiliau ac arbenigeddau yn y meysydd canlynol: * Datblygu a chyflawni polisi * Digidol * Cyfreithiol * Rheoli prosiect * Dadansoddi data * Economi * Amgylcheddol * Cyflawni gweithredol * Ymchwil * Cyfathrebu Os oes gennych ddiddordeb mewn darganfod mwy am weithio i ni, archebwch le ar un o'n ffeiriau swyddi neu cofrestrwch eich manylion a byddwn yn rhoi gwybod ichi fel y daw cyfleoedd ar gael. | Lleoliad | Cyfeiriad | Dyddiad ac amser | | | --- | --- | --- | --- | | **Caerdydd** | Llywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ | 3 Hydref \- 10\.00yb | Llawn | | | | 3 Hydref \- 12\.30yp | Llawn | | | | 3 Hydref \- 3\.30yp | Llawn | | **Cyffordd Llandudno** | Llywodraeth Cymru, Sarn Mynach, Cyffordd Llandudno, Conwy, LL31 9RZ | 4 Hydref \- 10\.00yb | Llawn | | | | 4 Hydref \- 12\.30yp | Llawn | | | | 4 Hydref \- 3\.30yp | Llawn | | **Aberystwyth** | Llywodraeth Cymru, Rhodfa Padarn, Llanbadarn Fawr, Aberystwyth, Ceredigion, SY23 3UR | 9 Hydref \- 10\.00yb | Llawn | | | | 9 Hydref \- 12\.30yp | Llawn | | | | 9 Hydref \- 3\.30yp | Llawn | | **Merthyr Tudful** | Llywodraeth Cymru, Parc Busnes Rhydycar, Merthyr Tudful, CF48 1UZ | 11 Hydref \- 10\.00yb | Llawn | | | | 11 Hydref \- 12\.30yp | Llawn | | | | 11 Hydref \- 3\.30pm | Llawn | Bydd unrhyw wybodaeth a ddarperir yn ystod y broses recriwtio yn cael ei phrosesu yn unol â'i hysbysiad preifatrwydd Llywodraeth Cymru. 
https://www.gov.wales/welsh-government-jobs-fairs-october-2018
In April, the Welsh Government introduced a new, permanent small business rates relief scheme, providing certainty and security for small businesses in Wales. At the time, we said we would continue to develop the scheme to ensure it meets Wales’ needs and targets support in line with our wider priorities. The small business rates relief scheme will be further enhanced to provide 100% relief to all registered childcare providers in Wales. This will help the sector in delivering our childcare offer of 30 hours of early education and childcare, helping working parents of three to four\-year\-olds access employment opportunities; support economic wellbeing and long term growth.   This higher level of relief will start on 1 April 2019\. It will be in place for three years to 31 March 2022, during which time it will be evaluated to assess its effect. This announcement supports our commitment to prioritise investment in the childcare sector, as set out in our 10\-year Childcare, Play and Early Years workforce plan and the Economic Action Plan. It supports our bespoke approach to helping the sector build capacity and capability; creating jobs, additional childcare places and longer\-term growth across the sector.         The scheme will provide an estimated £7\.5m of additional support to childcare providers over the period. In line with our tax principles and policy aims, this enhancement of the small business rates relief scheme targets support towards those businesses where it will have the greatest impact, supporting jobs and growth and delivering broader benefits for our local communities.   Over the longer term, our aim is to take a progressive, fair and transparent approach towards local taxation in Wales, which provides essential funding for vital local services.  Delivering a responsive and evolving rates relief scheme for small businesses is a key step in achieving this.  
Ym mis Ebrill, cyflwynodd Llywodraeth Cymru gynllun rhyddhad ardrethi newydd, parhaol ar gyfer busnesau bach, gan roi sicrwydd i fusnesau bach yng Nghymru. Ar y pryd, dywedom y byddem yn parhau i ddatblygu'r cynllun er mwyn sicrhau ei fod yn bodloni anghenion Cymru, ac yn targedu cymorth yn unol â'n blaenoriaethau ehangach. Bydd y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach yn cael ei ehangu ymhellach i ddarparu 100% rhyddhad i bob darparwr gofal plant cofrestredig yng Nghymru. Bydd hyn yn helpu'r sector i gyflawni ein cynnig gofal plant i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant er mwyn galluogi rhieni plant tair i bedair oed i fanteisio ar gyfleoedd gwaith; a hybu llesiant economaidd a thwf tymor hir. Bydd y lefel uwch o ryddhad ardrethi yn dechrau ar 1 Ebrill 2019\. Bydd yn weithredol am dair blynedd hyd at 31 Mawrth 2022, ac yn ystod y cyfnod hwnnw bydd yn cael ei werthuso er mwyn asesu ei effaith. Mae’r cyhoeddiad yn rhan o'n hymrwymiad i flaenoriaethu buddsoddiad yn y sector gofal plant fel y nodir yn ein cynllun deg mlynedd ar gyfer y gweithlu Gofal Plant, Chwarae a'r Blynyddoedd Cynnar a'n Cynllun Gweithredu ar yr Economi. Bydd yn gydnaws â'r dull gweithredu pwrpasol yr ydym yn ei ddefnyddio i helpu'r sector i gynyddu ei gapasiti a'i allu; creu swyddi, lleoedd gofal plant ychwanegol, a thwf tymor hir ar draws y sector.         Amcangyfrifir y bydd y cynllun yn darparu cymorth ychwanegol gwerth £7\.5m i ddarparwyr gofal plant yn ystod y cyfnod hwn. Yn unol â'n hegwyddorion treth, drwy ehangu’r cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach byddwn yn targedu'r cymorth yn fwy effeithiol tuag at y busnesau hynny lle y bydd yn cael yr effaith fwyaf, gan helpu i gynnal swyddi, hybu twf, a darparu manteision cyffredinol ar gyfer ein cymunedau lleol.   Yn y tymor hir, rydym yn bwriadu defnyddio dull gweithredu blaengar, teg, a thryloyw wrth weithredu system trethi lleol yng Nghymru, system sy'n darparu cyllid angenrheidiol ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol. Mae gweithredu cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach sy'n ymatebol ac sy'n datblygu'n gyson yn gam allweddol tuag gyflawni'r nod hwn.  
https://www.gov.wales/written-statement-100-rates-relief-registered-childcare-providers-wales
Following Business Questions on 30 January I am providing this statement in relation to the closure of the armed forces veteran residential treatment facility at Audley Court and information on the alternative provision available in Wales.   Audley Court Centre in Newport, Shropshire, is run by the charity Combat Stress. The Charity has decided it will no longer provide its specialist residential intensive treatment programme to veterans suffering mental illness, including post\-traumatic stress disorder (PTSD), from the Centre, which in 2016 provided support to eight veterans from Wales. Instead Audley Court will act as a hub for co\-ordinating a number of non\-residential programmes and outpatient services. This is a decision Combat Stress has made based on its new five year strategy to transform its services, developed in consultation with employees and veterans. Combat Stress will continue to provide specialist residential programmes in Ayrshire and Surrey. The Welsh Government previously provided Combat Stress with £42,000 grant funding between 2012\-2015\. The Charity has chosen not to submit any subsequent applications for further funding. The Welsh Government has not been party to the Audley Court decision which is an internal matter for the Charity. The Welsh Government has previously considered the potential for a dedicated Welsh veterans’ residential facility and in 2013 we commissioned an independent report into the case for such a facility. The findings, which were supported by a range of organisations working with veterans, concluded that the necessary demand and need to sustain such a facility could not be made out and that community based services were more appropriate. This supports NICE guidelines which are clear that the evidence base suggests that trauma focused psychological therapy for PTSD should be provided in the community, close to the individual’s home. While the vast majority of mental health problems can be assessed, treated and managed within general secondary mental health services, Veterans’ NHS Wales (VNHSW) provides additional support and care specifically for veterans, delivered by the NHS with Welsh Government funding of £685,000 annually, including an additional £100,000 investment announced in November 2017\. This was the first national evidence based service for veterans in the UK. Each health board has appointed experienced mental health clinicians with an interest in, or experience of, military health problems, as Veterans Therapists who offer a range of NICE approved evidence based psychological therapies for a range of mental health problems. The service has also established an integrated care pathway, joining up statutory and non\-statutory sectors, including Combat Stress, and acting as a single point of referral. This enables VNHSW to signpost veterans and their families to other support they may require, such as peer support, mentoring and substance misuse services. Since its launch in April 2010 to January 2018 VNHSW has supported over 3000 veterans. We all owe our veterans a debt of gratitude and a duty of care, particularly when they develop health problems as a result of their military service. That is why Taking Wales Forward, our five\-year strategic plan setting out what we want to deliver over the course of 2016 to 2021, includes a specific commitment to meet the healthcare needs of our veterans. Furthermore, meeting the mental health needs of all our citizens is a priority area in the national strategy \- Prosperity for All.    
Yn dilyn y Cwestiynau Busnes ar 30 Ionawr, rwy'n rhoi'r datganiad hwn mewn perthynas â chau'r cyfleuster triniaeth preswyl ar gyfer cyn\-filwyr y lluoedd arfog yn Audley Court yn ogystal â rhoi gwybodaeth am y ddarpariaeth amgen sydd ar gael yng Nghymru. Yr elusen Combat Stress sy'n rhedeg Canolfan Audley Court yn Newport, Swydd Amwythig. Mae'r elusen wedi penderfynu na fydd bellach yn darparu ei rhaglen driniaeth ddwys breswyl arbenigol i gyn\-filwyr sy'n dioddef o salwch meddwl, gan gynnwys anhwylder straen wedi trawma, o Ganolfan Audley Court lle cafodd wyth o gyn\-filwyr o Gymru gymorth yn 2016\. Yn hytrach, bydd Audley Court yn ganolfan ar gyfer cydlynu nifer o raglenni amhreswyl a gwasanaethau i gleifion allanol. Mae'r elusen Combat Stress wedi dod i'r penderfyniad hwn yn seiliedig ar ei strategaeth bum mlynedd newydd i drawsnewid ei gwasanaethau, a ddatblygwyd mewn ymgynghoriad â chyflogeion a chyn\-filwyr. Bydd Combat Stress yn parhau i ddarparu rhaglenni preswyl arbenigol yn Ayrshire a Surrey. Rhwng 2012 a 2015, rhoddodd Llywodraeth Cymru grant o £42,000 i Combat Stress. Mae’r elusen wedi penderfynu peidio â chyflwyno unrhyw geisiadau dilynol am gyllid ychwanegol. Nid oedd gan Lywodraeth Cymru unrhyw ran yn y penderfyniad ynghylch Audley Court gan mai penderfyniad mewnol i'r elusen ydoedd. Yn y gorffennol, mae Llywodraeth Cymru wedi ystyried y posibilrwydd o sefydlu cyfleuster preswyl i gyn\-filwyr yng Nghymru, ac yn 2013 comisiynwyd adroddiad annibynnol gennym i'r achos dros gyfleuster o'r fath. Daethpwyd i'r casgliad nad oedd modd dweud bod y galw a’r angen anghenrheidiol yn bodoli i gynnal cyfleuster o’r fath. Cefnogwyd y canfyddiadau hyn gan ystod o sefydliadau sy'n gweithio gyda chyn\-filwyr. Mae hyn yn ategu canllawiau’r Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) sy'n nodi'n glir bod y dystiolaeth yn awgrymu y dylid darparu therapi seicolegol sy’n canolbwyntio ar drawma ar gyfer anhwylder straen wedi trawma yn y gymuned, yn agos at gartref yr unigolyn. Er bod modd asesu, trin a rheoli cyfran helaeth o broblemau iechyd drwy wasanaethau iechyd meddwl eilaidd cyffredinol, mae GIG Cymru i Gyn\-filwyr yn darparu cymorth ychwanegol i ofalu'n benodol amdanynt. Y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) sy’n gwneud hyn gyda chyllid blynyddol o  £685,000 gan Lywodraeth Cymru, sy’n cynnwys buddsoddiad o £100,000 yn ychwanegol yn dilyn y cyhoeddiad ym mis Tachwedd 2017\. Dyma'r gwasanaeth cenedlaethol seiliedig ar dystiolaeth cyntaf i gyn\-filwyr yn y DU. Mae pob bwrdd iechyd wedi penodi clinigwyr iechyd meddwl profiadol sydd â diddordeb mewn problemau iechyd y lluoedd arfog, neu sydd â phrofiad yn y maes, i weithio fel therapyddion sy'n cynnig ystod o therapïau seicolegol seiliedig ar dystiolaeth sydd wedi’u cymeradwyo gan NICE ar gyfer amrywiaeth o broblemau iechyd meddwl. Mae'r gwasanaeth hefyd wedi sefydlu llwybr gofal integredig, sy'n dwyn ynghyd y sectorau statudol ac anstatudol, gan gynnwys Combat Stress, ac sy'n un pwynt cyfeirio unigol iddynt. Mae hyn yn galluogi GIG Cymru i Gyn\-filwyr gyfeirio cyn\-filwyr a'u teuluoedd at gymorth arall sydd ei angen arnynt, gan gynnwys cymorth i gymheiriaid, mentora a gwasanaethau camddefnyddio sylweddau. Yn y cyfnod ers ei lansio ym mis Ebrill 2010 hyd at fis Ionawr 2018, mae'r gwasanaeth hwn wedi cefnogi dros 3000 o gyn\-filwyr. Mae ein dyled ni'n fawr i'n cyn\-filwyr ac mae dyletswydd arnom i ofalu amdanynt, yn enwedig pan fyddant yn datblygu problemau iechyd o ganlyniad i'w cyfnod yn y lluoedd arfog. Dyna pam mae Symud Cymru Ymlaen, ein cynllun strategol pum mlynedd sy'n amlinellu'r hyn rydym am ei gyflawni rhwng 2016 a 2021, yn cynnwys ymrwymiad penodol i ddiwallu anghenion gofal iechyd ein cyn\-filwyr. Yn ogystal â hynny, mae diwallu anghenion iechyd meddwl ein holl ddinasyddion yn faes â blaenoriaeth yn y strategaeth genedlaethol Ffyniant i Bawb.
https://www.gov.wales/written-statement-provision-veterans-mental-health-wales
High quality new homes in the right locations are essential in Wales to meet the growing need for housing. The national strategy, Prosperity for All, strengthens the role of the planning system by recognising planning decisions as critical in delivering the central goal of prosperity for all. The planning system therefore plays an important role in delivering the objectives of the national strategy – this includes ensuring development plans are delivery focused in future. On the 10 May 2018 I announced my intention to undertake a wide\-ranging review into the delivery of housing through the planning system. This was in response to the current housing land supply position and directly related to the under delivery of Local Development Plan (LDP) housing requirements. As an initial part of the wide\-ranging review, I am undertaking a ‘Call for Evidence’ to explore ways the planning system can assist in increasing the delivery of new homes in sustainable locations. The ‘Call for Evidence’ starts today, 18 July 2018, and will run for a 12 week period.   The ‘Call for Evidence’ provides stakeholders with the opportunity to put forward views and proposals, supported by evidence, to address housing land supply and delivery issues. However, I believe the following overarching principles apply and should be addressed through the evidence submitted: • Planning decisions must be based on an up\-to\-date development plan – the plan\-led approach to development management; • Housing requirements should be based on evidence and all sites identified to meet the requirement must demonstrate they are deliverable; • Monitoring arrangements and any associated actions must reinforce the plan\-led approach to development management. As a result of the current housing land supply position across Wales some Local Planning Authorities (LPAs) are receiving ‘speculative’ applications for housing on sites not allocated for development in LDPs. This is generating uncertainty for communities and is to the detriment of the plan\-led system. Therefore, in support of the review and to alleviate some of the immediate pressure on LPAs, I have decided to dis\-apply paragraph 6\.2 of Technical Advice Note (TAN) 1: Joint Housing Land Availability Studies. This removes the paragraph which refers to attaching “considerable” weight to the lack of a 5\-year housing land supply as a material consideration in determining planning applications for housing. As a result of the dis\-application of paragraph 6\.2 of TAN 1, it will be a matter for decision makers to determine the weight to be attributed to the need to increase housing land supply where an LPA has a shortfall in its housing land. The dis\-application of paragraph 6\.2 of TAN 1 takes effect from 18 July 2018\. The planning applications affected will include all those which have been made but not determined by the relevant authority. The dis\-application will not apply to planning applications where it has been resolved to approve subject to the signing of a section 106 agreement. I would encourage anyone with an interest in increasing housing delivery to meet the needs of communities across Wales to respond to the ‘Call for Evidence’.
Er mwyn bodloni’r angen cynyddol am dai yng Nghymru, mae’n hanfodol adeiladu tai newydd o ansawdd uchel yn y mannau cywir. Mae’r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, yn cryfhau rôl y system gynllunio drwy gydnabod bod penderfyniadau cynllunio o bwys mawr wrth gyflawni prif nod y strategaeth. Felly, mae gan y system gynllunio rôl bwysig i’w chwarae wrth gyflawni amcanion y strategaeth genedlaethol, gan gynnwys sicrhau y bydd cynlluniau datblygu’n canolbwyntio ar gyflawni yn y dyfodol. Ar 10 Mai 2018, cyhoeddais fy mod yn bwriadu cynnal adolygiad eang ei gwmpas o gyflenwi tai drwy’r system gynllunio. Roedd hyn mewn ymateb i’r sefyllfa bresennol o safbwynt y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai, ac yn ymwneud yn uniongyrchol â thangyflawni o ran diwallu’r angen am dai a nodir mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Fel rhan gychwynnol o’r adolygiad eang ei gwmpas, rwyf yn cyflwyno ‘Cais am Dystiolaeth’ i ystyried sut y gall y system gynllunio helpu i ddarparu mwy o dai newydd mewn lleoliadau cynaliadwy. Mae’r ‘Cais am Dystiolaeth’ yn dechrau heddiw, sef 18 Gorffennaf 2018, a bydd yn para am gyfnod o 12 wythnos.   Mae’r ‘Cais am Dystiolaeth’ yn rhoi cyfle i randdeiliaid gyflwyno safbwyntiau a chynigion,  sy'n seiliedig ar dystiolaeth, er mwyn mynd i’r afael â materion sy’n ymwneud â’r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai a materion eraill o ran cyflawni. Fodd bynnag, rwyf yn credu bod y egwyddorion cyffredinol a ganlyn yn berthnasol, a dylid mynd i’r afael â hwy ar sail y dystiolaeth a gyflwynir: • Mae’n rhaid gwneud penderfyniadau cynllunio yn unol â chynllun datblygu cyfredol – sef y dull rheoli datblygu ar sail cynllun; • Mae’n rhaid pennu’r angen am dai yn unol â’r dystiolaeth, ac mae’n rhaid dangos bod modd darparu’r tai ar yr holl safleoedd a nodir; • Mae’n rhaid i drefniadau monitro a’r camau gweithredu cysylltiedig gryfhau’r dull rheoli datblygu ar sail cynllun. Oherwydd y sefyllfa bresennol o safbwynt y cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai ar draws Cymru, mae rhai Awdurdodau Cynllunio Lleol yn cael ceisiadau ‘tybiannol’ i adeiladu tai ar safleoedd nad ydynt wedi’u dyrannu ar gyfer datblygiad mewn Cynlluniau Datblygu Lleol. Mae hyn yn creu ansicrwydd mewn cymunedau ac yn cael effaith andwyol ar y system ar sail cynlluniau. Felly, er mwyn cefnogi’r adolygiad ac i liniaru peth o’r pwysau y mae Awdurdodau Cynllunio Lleol yn ei wynebu ar hyn o bryd, rwyf wedi penderfynu datgymhwyso paragraff 6\.2 o Nodyn Cyngor Technegol 1 (TAN 1\): Cyd\-astudiaethau Argaeledd Tir ar gyfer Tai. Mae hyn yn dileu’r paragraff sy’n cyfeirio at roi pwysoliad “sylweddol” i’r diffyg cyflenwad pum mlynedd o dir ar gyfer tai fel ystyriaeth o bwys wrth benderfynu ar geisiadau cynllunio ar gyfer tai. O ganlyniad i ddatgymhwyso paragraff 6\.2 o TAN 1, mater i’r rheini sy’n gwneud penderfyniadau fydd penderfynu ar faint o ystyriaeth y dylid ei rhoi i'r angen i gynyddu’r cyflenwad o dir ar gyfer tai pan nad oes gan Awdurdod Cynllunio Lleol ddigon o dir ar gyfer tai. Mae datgymhwyso paragraff 6\.2 o TAN 1 yn cael effaith o 18 Gorffennaf 2018 ymlaen. Bydd hyn yn effeithio ar bob cais cynllunio sydd wedi’i gyflwyno ond nad yw’r awdurdod perthnasol wedi penderfynu arno. Ni fydd y datgymhwyso yn berthnasol i geisiadau cynllunio pan fo penderfyniad wedi’i wneud i gymeradwyo’r cais yn amodol ar lofnodi cytundeb adran 106\. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb mewn cynyddu’r cyflenwad o dai er mwyn diwallu anghenion cymunedau ledled Cymru i ymateb i’r ‘Cais am Dystiolaeth’.
https://www.gov.wales/written-statement-call-evidence-regarding-delivery-housing-through-planning-system
During the early formation of the WRA, we knew that we wanted to take a different approach to the management and collection of the two new devolved Welsh taxes. This meant working differently; adopting a partnership\-led approach to supporting taxpayers and their representatives to help them pay the right amount of tax first time. To start to realise this approach, we needed to create a strong Data Analysis team who understood and embraced the ethos of the organisation and its vision. We wanted to use the data collected to support and develop our day\-to\-day operations but, we also wanted to publish trusted data and analyses which told an accurate, bespoke story for Wales. To support the delivery of this new approach, we needed to create a small team of data specialists with the technical expertise to interrogate, handle and quality assure information which underpinned the WRA tax management and finance systems. I came on board as lead officer in October 2017 and set about developing a new data function which supported the WRA organisational strategy in a new and exciting first\-of\-its\-kind cloud\-only environment. Today, the Data team comprises of myself, the Data \& IT manager, an Information manager and three analysts who all share experience in coding and use of new technologies such as business intelligence software. The work of the Data team is structured around supporting the day\-to\-day operations including monitoring compliance, identifying tax risks as well as automation of key tasks, including those associated with data publication. Other responsibilities include records management, GDPR compliance, management of relationship between the WRA and the Information Commissioner’s Office as well as key aspects of data security. Our use of data is aligned to and supports the partnership\-led approach which underpins the work of the WRA as a whole: for instance, we employ an ‘open’ approach to the availability of our data which can be used to help forecast by all interested and relevant parties. In addition, we publish monthly data followed by a more in\-depth quarterly data and analyses report. This hopefully provides a degree of certainty around our ability to maintain publicly available information. As with all other business areas within the WRA, we are still evolving and learning. As we develop our capabilities, skills and gather greater insight from the data, we will be developing more informed analysis to support the work of the WRA as well as provide high quality, expert advice to Welsh Ministers on tax devolution, administration and new tax consideration. To find out more about the work of the Data Analysis team contact data@wra.gov.wales or, to read our latest reports visit the statistics area.
Pan oedd Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu, roeddem yn gwybod ein bod am reoli a chasglu’r ddwy dreth newydd sydd wedi’u datganoli i Gymru, mewn ffordd wahanol.  Roedd hyn yn golygu gweithio’n wahanol; cefnogi trethdalwyr a’u cynrychiolwyr mewn partneriaeth i’w helpu i dalu am y swm cywir o dreth y tro cyntaf. Er mwyn dechrau gweithio fel hyn, roedd angen i ni greu tîm Dadansoddi Data cadarn a oedd yn deall ac yn croesawu ethos y sefydliad a’i weledigaeth. Roeddem yn awyddus i ddefnyddio’r data a gasglwyd i gefnogi a datblygu ein gweithrediadau o ddydd i ddydd ond, roeddem am gyhoeddi data a dadansoddiadau dibynadwy hefyd a oedd yn creu darlun cywir a phwrpasol ar gyfer Cymru. I gefnogi’r dull newydd hwn o weithredu, roedd angen i ni greu tîm bach o arbenigwyr data oedd yn meddu ar yr arbenigedd technegol i gwestiynu, trafod a sicrhau ansawdd gwybodaeth a oedd yn ategu systemau cyllid a rheoli trethi Awdurdod Cyllid Cymru. Ymunais fel prif swyddog ym mis Hydref 2017 gan fynd ati i ddatblygu swyddogaeth data newydd a oedd yn cefnogi strategaeth sefydliadol Awdurdod Cyllid Cymru mewn amgylchedd cwmwl\-yn\-unig newydd a chyffrous \- y cyntaf o’i fath. Heddiw, mae’r tîm Data yn cynnwys fi, y rheolwr Data a TG, rheolwr Gwybodaeth a thri dadansoddwr sydd oll yn rhannu profiad o godio a defnyddio technolegau newydd fel meddalwedd cudd\-wybodaeth fusnes. Mae gwaith y tîm Data wedi’i strwythuro o amgylch cefnogi’r gweithrediadau o ddydd i ddydd yn cynnwys monitro cydymffurfiaeth, canfod risgiau o ran trethi, yn ogystal ag awtomeiddio tasgau allweddol, yn cynnwys y rhai sy’n gysylltiedig â chyhoeddi data. Ymhlith y cyfrifoldebau eraill mae rheoli cofnodion, cydymffurfio â GDPR, rheoli’r berthynas rhwng Awdurdod Cyllid Cymru a Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth yn ogystal ag agweddau allweddol ar ddiogelwch data. Rydym yn defnyddio data mewn modd sy’n cefnogi ac yn cyd\-fynd â’r dull o weithio mewn partneriaeth sy’n sail i waith Awdurdod Cyllid Cymru cyfan: er enghraifft, mae gennym ni ymagwedd ‘agored’ at argaeledd ein data y gall pawb sydd â diddordeb a phartïon perthnasol ei ddefnyddio i helpu i ragfynegi. Yn ogystal â hyn, rydym yn cyhoeddi data misol ynghyd ag adroddiad manylach bob chwarter ar ddata a dadansoddiadau. Mae hyn, gobeithio, yn rhoi rhywfaint o sicrwydd ynghylch ein gallu i gynnal a chadw gwybodaeth gyhoeddus.  Fel gyda phob maes busnes arall sy’n rhan o Awdurdod Cyllid Cymru, rydym yn dal i esblygu a dysgu. Wrth i ni ddatblygu ein galluogrwydd, ein sgiliau a chael dealltwriaeth well o’r data, byddwn yn datblygu dadansoddiadau mwy trylwyr i gefnogi gwaith yr awdurdod yn ogystal â rhoi cyngor arbenigol o safon i Weinidogion Cymru ar ddatganoli a gweinyddu trethi a’r gydnabyddiaeth newydd o ran treth. I gael rhagor o wybodaeth am waith y tîm Dadansoddi Data cysylltwch â data@acc.llyw.cymru neu i ddarllen ein hadroddiadau diweddaraf ewch i’r adran ystadegau.
https://www.gov.wales/developing-first-welsh-data-devolved-welsh-taxes
Following feedback from our customers we have made a number of changes to our online services terms and conditions. These changes will come into effect from 15 October 2018\. You can find the current terms and conditions here. You will find the updated terms and conditions on this page from 15 October 2018 and you should review these before using the online service. In summary the changes we have made are: * under section 5\.3 removal of “you acknowledge and agree that you shall be ultimately responsible for the content and administration of any submissions submitted on your behalf.” * a change to section 8 to reflect that this section will now only apply to the information provided by agents during the registration process and not to the information supplied during the completion of returns. Following a review we feel that the declaration at the end of the online return provides sufficient assurance of the information provided through the return. * a change to section 14\.1 to reflect the introduction of General Data Protection Regulation (GDPR) legislation.
Yn dilyn adborth gan ein cwsmeriaid, rydyn ni wedi gwneud nifer o newidiadau i delerau ac amodau ein gwasanaethau ar\-lein. Bydd y newidiadau hyn yn dod i rym ar 15 Hydref 2018\. Mae’r telerau ac amodau presennol i’w gweld yma. Bydd y telerau ac amodau wedi’u diweddaru i’w gweld ar y dudalen yma o 15 Hydref 2018 ymlaen a dylech adolygu’r rhain cyn defnyddio’r gwasanaeth ar\-lein. I grynhoi, dyma'r newidiadau rydyn ni wedi’u gwneud: * o dan adran 5\.3 tynnu “rydych yn cydnabod ac yn cytuno mai chi fydd yn gyfrifol yn y pen draw am gynnwys a gweinyddu unrhyw gyflwyniadau a gyflwynir ar eich rhan.” * newid i adran 8 i adlewyrchu mai dim ond i’r wybodaeth a ddarperir gan asiantau yn ystod y broses gofrestru fydd yr adran hon yn berthnasol nawr, ac nid i’r wybodaeth sy’n cael ei chyflwyno wrth lenwi ffurflenni. Ar ôl cynnal adolygiad rydym yn teimlo bod y datganiad ar ddiwedd y ffurflen ar\-lein yn darparu digon o sicrwydd ynghylch yr wybodaeth sydd wedi’i darparu drwy’r ffurflen. * newid i adran 14\.1 i adlewyrchu cyflwyno deddfwriaeth y Rheoliad Diogelu Data Cyffredinol.
https://www.gov.wales/welsh-revenue-authority-online-services-terms-and-conditions-are-changing
The Law Society began its work on Welsh taxes even before Wales had the power to raise new taxes. In the usual way, we scrutinised the legislation for replacing stamp duty land tax and establishing the new tax authority for Wales, the Welsh Revenue Authority (WRA). Formed by Welsh Government, the WRA is the first body of its kind in Wales.  It was obvious from the earliest stages of its inception that there was an opportunity to work in a new way. Approaching the first new devolved Welsh taxes in eight centuries, the Law Society supported Welsh Government and the WRA to take a twenty\-first century approach to engagement: working together to develop new tax policies and services. During the development of the WRA, the Law Society worked closely with a core team of Welsh Government and WRA staff, who were open and receptive to the views of solicitors with experience of the old taxes and who were keen to improve the system for the new ones. Our members also generously contributed through joining user groups to offer their views and opinions during the development phase of the digital tax system. This meant that the WRA was able to test and refine its services before launch on 1 April. Ahead of the launch, we promoted the WRA’s engagement events which reached close to 1,000 people from across England and Wales. A joint workshop gave Kathryn Bishop, Chair of the WRA Board and WRA staff the opportunity to interact with many solicitors who are now regular customers. By April 2018, the WRA recorded over 1,200 registrations. This partnership approach saw a seamless introduction of the Land Transaction Tax and I believe this innovative way of working is a blueprint for the future. The Law Society is the independent professional body for solicitors. We represent and support solicitors so they in turn are best prepared to help their clients. For further information, visit lawsociety.org.uk.
Dechreuodd Cymdeithas y Cyfreithwyr weithio ar drethi Cymru cyn i Gymru hyd yn oed gael y pŵer i godi trethi newydd. Yn y ffordd arferol, aethom ati i graffu’r ddeddfwriaeth ar gyfer disodli treth dir y dreth stamp a sefydlu awdurdod trethi newydd ar gyfer Cymru, sef Awdurdod Cyllid Cymru. Cafodd Awdurdod Cyllid Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, a dyma'r corff cyntaf o’i fath yng Nghymru. Roedd yn amlwg o’r camau cyntaf un bod cyfle yma i weithio mewn ffordd newydd. Gyda threthi newydd datganoledig i Gymru ar y gweill am y tro cyntaf mewn wyth canrif, rhoddodd Cymdeithas y Cyfreithwyr gefnogaeth i Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru i ddefnyddio dulliau'r unfed ganrif ar hugain i fynd ati; gan gydweithio i ddatblygu gwasanaethau a pholisïau trethu newydd. Wrth ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru, gweithiodd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn agos â thîm craidd staff Llywodraeth Cymru a Awdurdod Cyllid Cymru, a oedd yn agored ac yn fodlon clywed barn cyfreithwyr gyda phrofiad o’r hen system drethi ac a oedd yn awyddus i wella’r system ar gyfer y trethi newydd. Hefyd, cyfrannodd ein haelodau yn helaeth drwy ymuno â grwpiau defnyddwyr i gynnig eu barn a’u safbwyntiau yn ystod camau datblygu’r system dreth ddigidol. Roedd hyn yn golygu bod Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu profi a mireinio ei wasanaethau cyn lansio ar 1 Ebrill. Cyn y lansio, aethom ati i hyrwyddo digwyddiadau ymgysylltu Awdurdod Cyllid Cymru, a daeth bron i 1,000 o bobl o bob cwr o Gymru a Lloegr iddynt. Mewn gweithdy ar y cyd, cafodd Kathryn Bishop, Cadeirydd Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru a staff gyfle i ryngweithio â nifer o gyfreithwyr sy’n gwsmeriaid rheolaidd erbyn hyn. Erbyn mis Ebrill 2018, roedd yr Awdurdod Cyllid Cymru wedi cofnodi dros 1,200 o gofrestriadau. Wrth weithio mewn partneriaeth, cyflwynwyd y Dreth Trafodiadau Tir yn y ffordd fwy hwylus bosib, ac rwy’n credu bod y ffordd arloesol hon o weithio yn lasbrint ar gyfer y dyfodol. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn gorff proffesiynol annibynnol ar gyfer cyfreithwyr. Rydym yn cynrychioli ac yn cefnogi cyfreithwyr fel eu bod, yn eu tro, wedi'u paratoi yn y ffordd orau i helpu eu cleientiaid. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i lawsociety.org.uk.
https://www.gov.wales/guest-comment-new-property-tax-wales
On 24 April 2018, Dafydd Elis\-Thomas, Minister for Culture, Tourism and Sport made an oral statement in the Siambr on: Accessible Monuments for All (external link).
Ar 24 Ebrill 2018, gwnaeth y Dafydd Elis\-Thomas, Gweinidog Diwylliant, Twristiaeth a Chwaraeon ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Henebion Hygyrch i Bawb (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-accessible-monuments-all
I am committed to ensuring that all children in Wales are able to access education services which allow them to fulfil their potential. Education otherwise than at school (EOTAS) provision plays a crucial role in educating vulnerable learners and can be provided through a number of different options; Pupil Referral Units (PRUs) in particular remain a necessary alternative to mainstream schooling. In December 2017, I published the EOTAS Framework for Action, our long term plan to improve outcomes and raise standards in EOTAS provision. One of the key actions identified in the EOTAS Framework for Action was the strengthening of advice and guidance for PRU management committee members. For this reason, I am publishing the Handbook for Management Committees of Pupil Referral Units. The Handbook builds on the existing statutory guidance which accompanies The Education Regulations 2014 to provide practical advice which will assist management committee members supporting and challenging their PRU. https://beta.gov.wales/handbook\-management\-committees\-pupil\-referral\-units  
Rwy'n gwbl benderfynol o sicrhau bod pob  plentyn yng Nghymru yn cael mynediad at wasanaethau addysg sy'n caniatáu iddynt wireddu eu potensial. Mae darpariaeth addysg heblaw yn yr ysgol (EOTAS) yn chwarae rhan hollbwysig o ran addysgu dysgwyr agored i niwed ac mae nifer o wahanol opsiynau ar gael i'w darparu; mae Unedau Cyfeirio Disgyblion yn benodol yn dal i fod yn ddewis arall angenrheidiol yn lle ysgolion prif ffrwd. Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddais y Fframwaith ar gyfer Gweithredu Addysg Heblaw yn yr Ysgol, sef ein cynllun tymor hir ar gyfer gwella deilliannau a chodi safonau o ran y ddarpariaeth EOTAS. Un o'r prif gamau a nodwyd yn y Fframwaith ar gyfer Gweithredu Addysg Heblaw yn yr Ysgol oedd cryfhau cyngor a chanllawiau ar gyfer aelodau pwyllgorau rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion. I'r perwyl hwn, rwy'n cyhoeddi Llawlyfr ar gyfer Pwyllgorau Rheoli Unedau Cyfeirio Disgyblion. Mae'r Llawlyfr yn ychwanegu at y canllawiau statudol sydd eisoes yn bodoli ar gyfer Rheoliadau Addysg 2014\. Maent yn rhoi cyngor ymarferol a fydd o help i aelodau pwyllgorau rheoli wrth iddynt gefnogi a herio eu Huned Cyfeirio Disgyblion. https://beta.llyw.cymru/llawlyfr\-ar\-gyfer\-pwyllgorau\-rheoli\-unedau\-cyfeirio\-disgyblion
https://www.gov.wales/written-statement-handbook-management-committees-pupil-referral-units
On 27 February 2018, the Cabinet Secretary for Economy and Transport made an Oral Statement in the Siambr on: Active Travel Integrated Network Maps (external link).
Ar 27 Chwefror 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Mapiau Rhwydwaith Integredig Teithio Llesol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-active-travel-integrated-network-maps
Last month, following extensive analysis of evidence, including advice from the UK Committee on Climate Change, I issued a statement to Assembly Members on our proposed emission reduction targets for 2020, 2030 and 2040 and the levels of carbon budgets for 2016\-2020 and 2021\-2025\. I will ask the Assembly to approve these proposals within Regulations to be laid before the Assembly towards the end of this year. Our focus must now move to accelerating the delivery of actions to decarbonise our economy. Therefore, today I have launched our consultation *‘Achieving our low Carbon Pathway to 2030*’. The consultation presents a series of Ideas for Action for reducing our emissions and maximising the opportunities from the transition to a low carbon economy. The ideas are spread across all areas of society including, agriculture, land use \& forestry, buildings, industry, power, public sector, transport and waste.  They reflect our initial thinking about some of the key areas that will help us reach our 2030 target. This is far enough away for changes to have an effect but not so far away we cannot anticipate both technological and societal change. The opportunity for Wales to transition to a low carbon economy is significant. The scale of international political support and the transformational impact of investment to date will reshape the global economy over the years to come. The commitments made in the Paris Agreement will result in an international shift to cleaner, low carbon technologies in power, transport, heating and cooling, industrial processes and agriculture.  We are already seeing growth in industries such as electric vehicle and battery manufacturing, manufacturing of low\-carbon energy technologies, the construction of low energy buildings and heating and cooling systems, alongside the development of new materials, new insurance and financial products. Wales needs to be positioned to maximise these opportunities. Prosperity for All: the national strategy sets out the aims of this government. Prosperity is not only material wealth. It is about every one of us having a good quality of life and living in strong, safe communities.  The transition to a low carbon economy therefore also has wider benefits of enhanced places to live and work, with clean air and water which will improve health and wellbeing of current and future generations. However, Wales faces some significant challenges to transition. A large proportion of energy produced in Wales is generated from fossil fuels and we have a high share of UK industry and manufacturing in our economy. We have more homes off grid and more proportion with solid walls which makes them more costly to insulate.  In terms of transport, switching to active travel is often more difficult in rural Wales and we have a higher proportion of people over 65 than the UK as a whole making the switch less likely. Our agriculture sector consists of thousands of often small farms providing a challenge in measuring and accounting for small changes in sustainable practices and emission reductions. The consultation aims to involve organisations and individuals to help shape and inform our low carbon pathway to 2030\. We all have a role to play in ensuring we get the Wales we want.  We know the transition to a low\-carbon economy will require us to do things differently and innovatively, and will affect everyone in Wales.  The initial Ideas for Action have been developed collaboratively across Government taking into account the recommendations from the UK Committee on Climate Change and wider evidence.  We have also involved key stakeholders through a series of meetings and events earlier this year, specifically on power, innovation and behaviour change.  We have not yet assessed their possible economic cost, emissions reduction potential or wider impacts but will undertake this work if and when we consider them for inclusion as firm policies in our Low Carbon Delivery Plan scheduled for publication in March 2019 and future plans through the 2020s. I welcome yours and your constituents’ views on the *Ideas for Action*. https://beta.gov.wales/low\-carbon\-pathway\-wales
Fis diwethaf, ar ôl dadansoddi'r dystiolaeth yn fanwl, gan gynnwys cyngor Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd, cyhoeddais ddatganiad i Aelodau'r Cynulliad am ein targedau allyriadau arfaethedig ar gyfer 2020, 2030 a 2040 a'n cyllidebau carbon ar gyfer 2016\-2020 a 2021\-2025\. Byddaf yn gofyn i'r Cynulliad gymeradwyo'r cynigion hyn mewn Rheoliadau fydd yn cael eu rhoi ger bron y Cynulliad tuag at ddiwedd eleni.  Rhaid rhoi'n sylw yn awr ar brysuro'r hyn sydd ei angen i ddatgarboneiddio'n heconomi. Heddiw felly, rwy' am lansio'r ymgynghoriad 'Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030'.    Mae'r Ymgynghoriad yn cynnig cyfres o Syniadau Gweithredu ar gyfer lleihau allyriadau ac i wneud y gorau o'r cyfleoedd a ddaw wrth newid i economi rhad\-ar\-garbon. Mae gan y syniadau hyn gysylltiad â phob rhan o gymdeithas gan gynnwys amaethyddiaeth, defnydd tir a choedwigaeth, adeiladau, diwydiant, pŵer, y sector cyhoeddus, trafnidiaeth a gwastraff.  Maen nhw'n adlewyrchu'n meddyliau cychwynnol o ran rhai o'r prif feysydd fydd yn ein helpu i gyrraedd ein targed ar gyfer 2030\. Mae 2030 yn ddigon pell i'r dyfodol fel bod amser i'r newidiadau daro'u nod ond yn rhy bell inni allu rhagweld newid mewn technoleg a chymdeithas.  Dyma gyfle arwyddocaol i economi Cymru droi'n economi carbon isel. Bydd maint y gefnogaeth wleidyddol ryngwladol ac effaith drawsnewidiol y buddsoddi a fu hyd heddiw yn gweddnewid economi'r byd dros y blynyddoedd i ddod. Bydd yr ymrwymiadau a wnaed yng Nghytundeb Paris yn arwain at newid i ddefnyddio technolegau carbon isel glanach ym meysydd pŵer, trafnidiaeth, gwresogi ac oeri, prosesau diwydiannol ac amaethyddiaeth trwy'r byd.  Rydym eisoes yn gweld twf mewn diwydiannau fel cynhyrchu cerbydau trydan a batrïau, cynhyrchu technolegau ynni carbon isel, codi adeiladau rhad\-ar\-ynni a systemau gwresogi ac oeri, ynghyd â datblygu deunyddiau newydd ac yswiriant a chynnyrch ariannol newydd. Rhaid i Gymru allu gwneud y gorau o'r cyfleoedd hyn. Mae'r strategaeth genedlaethol, Ffyniant i Bawb, yn gosod allan amcanion y Llywodraeth hon. Nid golud materol yn unig yw ffyniant. Mae'n golygu hefyd ansawdd bywyd da a chymunedau cryf a diogel. Mae newid i economi carbon isel felly yn dod â manteision ehangach yn ei sgil, fel lleoedd gwell i fyw a gweithio ynddyn nhw, a dŵr ac aer glân i wella iechyd a lles cenedlaethau heddiw ac yfory.  Ond mae nifer o rwystrau i’r newid. Daw cyfran fawr o'r ynni a gynhyrchir yng Nghymru o danwydd ffosil ac mae'n heconomi yn dibynnu ar gyfran uchel o weithgynhyrchu a diwydiant y DU. Mae gennym fwy o gartrefi oddi ar y grid a chyfran uwch â waliau solid sy'n ei gwneud hi'n ddrutach eu hinswleiddio. O ran trafnidiaeth, mae troi at deithio llesol yn anoddach yng nghefn gwlad Cymru ac mae gennym gyfran uwch o bobl dros 65 oed na'r DU, sy'n golygu y byddwn yn llai tebygol o newid. Mae miloedd o ffermydd yn ein sector amaethyddol, llawer ohonyn nhw'n rhai bach.  Mae hynny'n ei gwneud yn anodd mesur a chloriannu'r newidiadau bach sydd eu hangen o blaid arferion cynaliadwy a lleihau allyriadau.  Rydyn ni'n gobeithio y bydd cyrff ac unigolion yn cyfrannu at yr ymgynghoriad i'n helpu i lunio a llywio'r llwybr carbon isel tuag at 2030\. Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae i gael y Gymru a garem. Rydyn ni'n gwybod, er mwyn newid i economi carbon isel, y bydd yn rhaid inni wneud pethau'n wahanol ac mewn ffordd arloesol ac y bydd hynny'n effeithio ar bawb yng Nghymru.  Mae'r Syniadau Gweithredu wedi'u datblygu ar y cyd ar draws y Llywodraeth gan ystyried argymhellion Pwyllgor y DU ar y Newid yn yr Hinsawdd a thystiolaeth ehangach. Cawsom help ein prif randdeiliaid yn hyn o beth hefyd, diolch i gyfres o gyfarfodydd a digwyddiadau a gynhaliwyd yn gynharach yn y flwyddyn, yn benodol i drafod pŵer, arloesi a newid ymddygiad. Nid ydym eto wedi asesu costau economaidd y Syniadau Gweithredu, eu potensial i leihau allyriadau na'u heffeithiau ehangach, ond gwnawn hynny os a phan y byddwn yn eu hystyried ar gyfer eu cynnwys fel polisïau cadarn yn ein Cynllun Cyflawni Carbon Isel y disgwylir ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2019 a chynlluniau pellach gydol y 2020au.  Rwy'n croesawu'ch barn chi a barn eich etholwyr am y Syniadau Gweithredu. https://beta.llyw.cymru/llwybr\-carbon\-isel\-i\-gymru
https://www.gov.wales/written-statement-achieving-our-low-carbon-pathway-2030
I’m pleased to announce a series of initiatives, some already under way and others about to begin, to make Welsh law more accessible. The first of these is legislation, part of which will set the framework for the work we are doing, and will continue to do, to make Welsh law more accessible.   I am looking forward to introducing a Bill later this year which will set Wales on a new journey to developing comprehensive and well\-organised codes of law – the first part of the United Kingdom to take this step. The purpose of the Legislation (Wales) Bill is to make Welsh law more accessible, clear and straightforward to use. The Bill will propose that for each Assembly term the Welsh Ministers and the Counsel General must develop a programme of activity designed to improve the accessibility of Welsh law. The specific content of each programme will be a matter for the Welsh Ministers and the Counsel General of the time, but each programme must make provision to consolidate and codify Welsh law, maintain codified law and to facilitate use of the Welsh language in the law and in public administration more generally. I wish to alert Members also to the fact that accompanying the Bill will be a draft taxonomy setting out the subject matter by reference to which Codes of Welsh law could be organised. Although we will be significantly constrained in what we do by the devolution settlement, we have been taking inspiration from other jurisdictions which organise their law in this way. I look forward to Members considering our plans once they are published. The work we are doing is being done with users of legislation in mind, so we must be sure that users of legislation can see the benefit in what we propose. Also contained in the Bill will be provisions on the interpretation of Welsh law, another initiative that would put Wales on the same legal footing as Scotland and Northern Ireland who already have such legislation. These provisions, though technical and often detailed, are important because they set out how legislation works. These rules sit in the background ready to be applied whenever there are problems. They are set out once so they don’t have to be repeated every time we legislate. In addition to the Bill, Members will wish to know that we are working on other projects which will eventually form part of the programme of work required by the Bill. The main focus here is to better publish and promulgate Welsh law. Despite our only comparatively brief existence as a legislature and government, the National Assembly has passed 59 Measures or Acts since 2007 and the Welsh Ministers have made around 6,000 statutory instruments since 1999\. We are working with The National Archives, whose role it is to publish Welsh laws, to develop a clearer and more accessible system of categorisation of law ahead of its future consolidation. This will enable us to arrange this legislation in accordance with its content rather than when it was made – which is a very unhelpful way of doing things. We intend, therefore, to publish our legislation differently, in ways that make it easier to find and, fundamentally, to be aware of its existence. Statutory Instruments are so numerous and made so frequently that it is very difficult to stay current. And the link between these instruments and the Act they are made under is also unclear. Organising this legislation by subject matter, even if it has not yet been re\-made in a consolidated form, will be a significant breakthrough – especially where instruments implement European law. We are also talking to The National Archives about taking a more prominent role in the way Welsh laws are published. This is the responsibility of the Queen’s Printer and fulfilled in practice by the National Archives’ legislation team. They have been making good progress recently in their aim of publishing the statute book in up to date form, which involves incorporating amendments made by subsequent legislation to existing legislation. This progress has, however, been limited mainly to primary legislation and disappointingly, only to the English language text of Welsh (primary) legislation. We are in the process of agreeing new arrangements under which the task of updating Welsh legislation – in both English and Welsh – will be taken on by the Welsh Government. Our first priority once we take over this role will be to deal with the discrepancy that currently exists between the English language and Welsh language texts of the published law. But we don’t intend to stop there – my aim is to ensure that all Welsh legislation on the statute book is published in up to date form.       Next year I intend also to re\-launch the Cyfraith Cymru / Law Wales website. This site already serves a useful purpose but it remains a work in progress and its content is limited. I recognise that what we have on the site at present falls short of people’s expectations, not least my own. But I have also been clear, as have my predecessors in this office, that this is not something government can or should do alone. We recognise our responsibility to do more to make Welsh law more accessible, and indeed we are going as far as to propose imposing a statutory duty on ourselves in this respect. But there is a responsibility also on wider civic society to contribute. It is something that must be developed in collaboration and I call upon the Welsh legal community to play its part, together with the Welsh Government, in making this the best resource it can be. The process of making laws in Wales, for Wales, won’t stop, and the divergence between the laws of Wales and the laws of England won’t stop. This work must be done, therefore, to contribute towards the legal and constitutional infrastructure that we now require in Wales and to make the laws of Wales as accessible as possible to the people of Wales.    
Rwy'n falch iawn o gyhoeddi cyfres o fentrau, rhai eisoes ar droed ac eraill ar fin cychwyn, i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Y gyntaf ohonynt yw deddfwriaeth a fydd yn cynnwys gosod fframwaith ar gyfer ein gwaith, nawr ac yn y dyfodol, i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Rwy'n edrych ymlaen at gael cyflwyno Bil yn ddiweddarach eleni a fydd yn gosod Cymru ar drywydd newydd i ddatblygu codau cyfraith cynhwysfawr a threfnus \- y rhan gyntaf o'r Deyrnas Unedig i gymryd y cam hwn. Pwrpas Bil Deddfwriaeth (Cymru) yw gwneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, clir a syml i’w defnyddio. Bydd y Bil yn cynnig, ar gyfer pob tymor Cynulliad, bod rhaid i Weinidogion Cymru a’r Cwnsler Cyffredinol ddatblygu rhaglen o weithgarwch wedi'i chynllunio i wella hygyrchedd cyfraith Cymru. Mater i Weinidogion Cymru a'r Cwnsler Cyffredinol ar y pryd fydd union gynnwys y rhaglen. Fodd bynnag, bydd rhaid i bob rhaglen wneud darpariaeth i gydgrynhoi a chodeiddio cyfraith Cymru, cynnal cyfraith sydd wedi'i chodeiddio a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg yn y gyfraith ac mewn gweinyddiaeth gyhoeddus yn gyffredinol. Rydw i hefyd am hysbysu’r Aelodau y bydd tacsonomeg ddrafft yn cyd\-fynd â’r Bil, yn nodi’r pynciau y gellid trefnu Codau Cyfraith Cymru yn unol â hwy. Er bod y setliad datganoli yn cyfyngu'n sylweddol ar yr hyn y gallwn ei wneud, rydym wedi cael ein hysbrydoli gan awdurdodaethau eraill sy'n trefnu eu cyfraith yn y modd hwn. Rwy'n edrych ymlaen at weld yr Aelodau yn ystyried ein cynlluniau pan fyddant wedi cael eu cyhoeddi. Mae’r gwaith rydym ni’n ei wneud er budd defnyddwyr deddfwriaeth yn y pen draw, felly mae'n rhaid i ni sicrhau bod modd i’r defnyddwyr hynny weld y manteision yn ein cynigion. Hefyd yn y Bil bydd darpariaethau ar ddehongli cyfraith Cymru, menter arall a fyddai'n gosod yr un sylfaen gyfreithiol i Gymru â'r Alban a Gogledd Iwerddon, sydd eisoes â deddfwriaeth o'r fath. Mae'r darpariaethau hyn, er yn dechnegol ac yn aml yn fanwl, yn bwysig tu hwnt gan eu bod yn pennu sut mae'r ddeddfwriaeth yn gweithio. Mae'r rheolau hyn yn aros yn y cefndir, yn barod i gael eu defnyddio pan fydd unrhyw broblemau. Caiff y rhain eu pennu un waith, fel nad oes angen eu hailadrodd bob tro y byddwn yn deddfu. Yn ogystal â'r Bil, bydd yr Aelodau am wybod ein bod yn gweithio ar brosiectau eraill a fydd yn y pen draw yn ffurfio rhan o'r rhaglen waith sy'n ofynnol gan y Bil. Rydym yn canolbwyntio'n bennaf yma ar gyhoeddi a hyrwyddo cyfraith Cymru yn well. Er ei bod yn ddyddiau cymharol gynnar o hyd yn ein hanes fel deddfwrfa a llywodraeth, mae'r Cynulliad Cenedlaethol wedi pasio 59 o Fesurau neu Ddeddfau ers 2007 ac mae Gweinidogion Cymru wedi gwneud tua 6,000 o offerynnau statudol ers 1999\. Rydym yn gweithio gyda'r Archifau Gwladol, sy’n gyfrifol am gyhoeddi cyfreithiau Cymru, i ddatblygu system fwy clir a hygyrch o gategoreiddio cyfraith cyn ei chydgrynhoi yn y dyfodol. Bydd hyn yn ein galluogi i drefnu'r ddeddfwriaeth hon yn unol â'r cynnwys yn hytrach na phryd y cafodd ei gwneud \- sy'n ffordd anghyfleus o weithio. Rydym yn bwriadu, felly, cyhoeddi ein deddfwriaeth mewn ffordd wahanol, a fydd yn ei gwneud yn haws dod o hyd iddi ac, yn y bôn, yn tynnu sylw at ei bodolaeth. Mae Offerynnau Statudol mor niferus ac yn cael eu gwneud mor aml nes ei bod yn anodd iawn cadw'n gyfoes. Nid oes cysylltiad clir rhwng yr offerynnau hyn a'r Deddfau sy'n arwain atynt. Bydd trefnu'r ddeddfwriaeth hon yn ôl pwnc, hyd yn oed os nad yw wedi’i hail\-wneud eto ar ffurf wedi’i chydgrynhoi, yn gam sylweddol ymlaen – yn arbennig pan fo'r offerynnau'n gweithredu cyfraith Ewropeaidd,. Rydym hefyd yn trafod â'r Archifau Gwladol ynghylch cymryd rôl amlycach yn y ffordd y mae cyfreithiau Cymru yn cael eu cyhoeddi. Cyfrifoldeb Argraffydd y Frenhines yw hyn, a thîm deddfwriaeth yr Archifau Gwladol sy'n cyflawni’r gwaith yn ymarferol. Gwnaed gwaith da ganddynt yn ddiweddar fel rhan o’u nod i gyhoeddi’r llyfr statud ar ei ffurf fwyaf cyfoes, sy’n gofyn am ymgorffori diwygiadau a wnaed gan ddeddfwriaeth ddilynol i ddeddfwriaeth sydd eisoes yn bodoli. Fodd bynnag, mae'r cynnydd hwn wedi'i gyfyngu’n bennaf i ddeddfwriaeth sylfaenol, a thestun Saesneg deddfwriaeth (sylfaenol) Cymru yn unig yn anffodus. Rydym ynghanol y broses o gytuno ar drefniadau newydd lle bydd y dasg o ddiweddaru deddfwriaeth Cymru \- yn Gymraeg ac yn Saesneg \- yn cael ei hysgwyddo gan Lywodraeth Cymru. Ein prif flaenoriaeth pan fyddwn yn gwneud hyn fydd mynd i'r afael â'r anghysonder sy'n bodoli ar hyn o bryd rhwng testun Cymraeg a Saesneg y gyfraith sy'n cael ei chyhoeddi. Ond fe fyddwn ni’n mynd ymhellach na hynny \- fy nod yw sicrhau bod holl ddeddfwriaeth Cymru ar y llyfr statud yn cael ei chyhoeddi ar ei ffurf fwyaf diweddar. Y flwyddyn nesaf rwyf hefyd yn bwriadu ail\-lansio gwefan Cyfraith Cymru. Mae'r wefan hon eisoes yn ddefnyddiol, ond mae'r gwaith arni yn parhau a'r cynnwys yn gyfyngedig. Rwy'n cydnabod nad yw'r hyn sydd ar y safle ar hyn o bryd yn bodloni disgwyliadau pobl, gan gynnwys fy nisgwyliadau i fy hun. Ond rydw i hefyd wedi dweud yn glir, fel fy rhagflaenwyr yn y swydd hon, nad yw hyn yn rhywbeth y gall nac y dylai’r llywodraeth ei wneud wrth ei hun. Rydym yn cydnabod bod cyfrifoldeb arnom i wneud mwy i sicrhau bod cyfraith Cymru yn fwy hygyrch, ac rydym yn mynd mor bell â chynnig gosod dyletswydd statudol arnom ein hunain mewn perthynas â hynny. Ond mae cyfrifoldeb hefyd ar y gymdeithas ddinesig ehangach i gyfrannu. Dyma rywbeth y mae'n rhaid ei ddatblygu ar y cyd, ac rwy'n galw ar gymuned gyfreithiol Cymru i chwarae ei rhan, gyda Llywodraeth Cymru, i wneud yr adnodd hwn gystal â phosib. Ni fydd y broses o wneud cyfreithiau yng Nghymru, i Gymru, yn dod i ben, ac ni fydd y gwahaniaeth rhwng cyfraith Cymru a chyfraith Lloegr yn dod i ben. Rhaid gwneud y gwaith hwn, felly, i gyfrannu tuag at y seilwaith cyfreithiol a chyfansoddiadol sydd ei angen arnom nawr yng Nghymru ac i wneud cyfreithiau Cymru mor hygyrch â phosib i bobl Cymru.  
https://www.gov.wales/written-statement-accessibility-welsh-law
This Government is committed to delivering a fully inclusive education system, where children and young people are inspired, motivated and supported to reach their potential. Additional Learning Needs (ALN) transformation is a key aspect of our overall programme of education reform, as set out in ‘Education in Wales: Our National Mission’. On 12 December 2017 the Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill was unanimously passed by the National Assembly for Wales and went on to become an Act after gaining Royal Assent on 24 January 2018\.  This is a key milestone on this journey of transformation but now the real challenge of implementation begins. I have given careful consideration to how best we support delivery partners to not only implement the new ALN system but also bring about the cultural change needed to fulfil the duties set out in the Act. Today I am announcing details of five ALN transformation leads following an open, competitive recruitment process.  Four of the transformation leads will operate regionally, on the education consortia footprint, and one of the leads will work as a further education transformation lead on a national basis.  The details are as follows: • Margaret Davies, formerly an Estyn inspector will be working in the North Wales region; • Huw Davies another former Estyn inspector will be working in the West Wales region; • Liz Jones, a former Principal Educational Psychologist from Blaenau Gwent, will remain working in Central South; • Tracey Pead; will stay in South East Wales after formerly heading up Pupil Support for Torfaen County Borough Council; and • Chris Denham will take on the role as the further education transformation lead having worked for Coleg Gwent leading on ALN. These posts will play a critical role in our overall implementation strategy by ensuring services are supported and prepared to deliver the new ALN system. They will provide support and challenge to local authorities, schools, early years settings and further education institutions, they will also play a coordinating role in the roll\-out of implementation training on the Act, awareness\-raising and facilitating improvements in multi\-agency working. I expect to see the transformation leads sharing that knowledge and working together as a team to ensure that services are equipped and ready to deliver the new system when the time comes. It’s vital that we get this right, so that learners can access the benefits of the new system as seamlessly as possible. Each of the regional transformation leads have been tasked with developing an implementation plan for their region, and the further education transformation lead will develop an implementation plan for the further education sector.  These plans will set out the agreed actions required to ensure the necessary practices and processes are in place prior to roll\-out of the Act. They will be developed in collaboration with the key statutory bodies in the region who have duties under the Act. It will be based on an analysis of the evidence of their level of readiness for implementation of key aspects of the new system, to be developed through readiness self\-assessments and discussions facilitated by the transformation leads. The work of the transformation leads will be supported by ALN Transformation Grants, which will be allocated to each of the regional transformation leads on a formula basis; this will allow each of the regions to target the money as identified in their regional implementation plan. To ensure that services and practitioners have clarity about how we expect them to move from one statutory system to another, we will be publishing a detailed implementation guide this summer to explain the timescales for the roll\-out of individual development plans (IDPs) to each cohort of learners in the phased approach. That said, until the Act comes into force, local authorities must ensure that they continue to comply with the duties placed upon them by the Education Act 1996 and the SEN Code of Practice for Wales.        
Wedi dweud hynny, hyd nes y daw’r Ddeddf i rym, mae’n rhaid i awdurdodau lleol sicrhau eu bod yn parhau i gydymffurfio â’u dyletswyddau yn unol â Deddf Addysg 1996 a Chod Ymarfer AAA Cymru. I sicrhau bod gwasanaethau ac ymarferwyr yn glir ynghylch sut rydym yn disgwyl iddynt symud o un system statudol i un arall, byddwn yn cyhoeddi canllawiau manwl ar weithredu yn ystod yr haf i egluro’r amserlenni ar gyfer cyflwyno cynlluniau datblygu unigol i bob carfan o ddysgwyr yn raddol. Bydd gwaith arweinwyr trawsnewid yn cael ei gefnogi gan Grantiau Trawsnewid ADY. Bydd y grant yn cael ei rannu a’i ddyrannu i bob un o’r arweinwyr trawsnewid rhanbarthol yn seiliedig ar fformiwla; bydd hyn yn galluogi i bob rhanbarth dargedu’r arian fel y nodir yn eu cynllun gweithredu rhanbarthol. Bydd y cynlluniau yn cael eu datblygu ar y cyd â chyrff statudol allweddol yn y rhanbarth sydd â dyletswyddau o dan y Ddeddf. Bydd hyn yn seiliedig ar ddadansoddi tystiolaeth yn dangos pa mor barod ydynt i roi elfennau allweddol y system newydd ar waith, i’w datblygu drwy hunanasesiadau o barodrwydd a thrafodaethau wedi’u hwyluso gan arweinwyr trawsnewid. Mae gan bob un o’r arweinwyr trawsnewid rhanbarthol y dasg o ddatblygu cynllun gweithredu ar gyfer eu rhanbarth, a bydd yr arweinydd trawsnewid addysg bellach yn datblygu cynllun gweithredu ar gyfer y sector addysg bellach. Bydd y cynlluniau hyn yn nodi’r camau y cytunwyd arnynt sy’n ofynnol i sicrhau bod yr ymarferion a’r prosesau angenrheidiol ar waith cyn cyflwyno’r Ddeddf yn raddol. Rwy’n disgwyl gweld yr arweinyddion trawsnewid yn rhannu’r wybodaeth honno ac yn cydweithio i sicrhau bod gwasanaethau yn barod i roi’r system newydd ar waith pan ddaw’r amser. Mae’n hollbwysig ein bod yn gwneud pethau’n iawn er mwyn i ddysgwyr allu manteisio ar y system newydd mewn modd mor ddi\-dor â phosibl. Byddant yn darparu cymorth ac yn herio awdurdodau lleol, ysgolion, lleoliadau blynyddoedd cynnar a sefydliadau addysg bellach a byddant hefyd yn cydgysylltu’r gwaith o roi hyfforddiant ar y Ddeddf ar waith yn raddol, codi ymwybyddiaeth a hwyluso gwelliannau mewn gwaith amlasiantaethol. Bydd gan y swyddi hyn rôl hollbwysig yn ein strategaeth weithredu gyffredinol drwy sicrhau bod gwasanaethau’n cael eu cefnogi ac yn barod i ddarparu’r system ADY newydd. • Bydd Chris Denham yn ymgymryd â rôl arweinydd trawsnewid Addysg Bellach ar ôl gweithio i Goleg Gwent yn y maes Anghenion Dysgu Ychwanegol. • Bydd Tracey Pead yn aros yn y De\-ddwyrain ar ôl arwain y tîm Cymorth Disgyblion yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Torfaen; a • Bydd Liz Jones, cyn Brif Seicolegydd Addysg o Flaenau Gwent yn parhau i weithio yn rhanbarth Canolbarth y De; • Bydd cyn arolygydd Estyn arall, Huw Davies yn gweithio yn rhanbarth y Gorllewin; • Bydd Margaret Davies, cyn arolygydd Estyn, yn gweithio yn rhanbarth y Gogledd; Heddiw, rwy’n cyhoeddi penodiad pum arweinydd trawsnewid ADY yn dilyn proses recriwtio agored a chystadleuol. Bydd pedwar arweinydd trawsnewid yn gweithio’n rhanbarthol, ar sail y consortia addysg rhanbarthol, a bydd un yn gweithio fel arweinydd trawsnewid ym maes addysg bellach. Dyma’r manylion: Rwyf wedi ystyried yn ofalus y ffordd orau o gefnogi partneriaid darparu i roi’r system ADY newydd ar waith a hefyd sicrhau newid diwylliannol i gyflawni’r dyletswyddau a nodir yn y Ddeddf. Mae trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol yn elfen allweddol o’n rhaglen gyffredinol i ddiwygio addysg, fel y nodir yn ‘Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl’. Ar 12 Rhagfyr 2017, pasiwyd Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol a’r Tribiwnlys Addysg (Cymru) yn unfrydol gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru ac aeth ymlaen i ddod yn Ddeddf ar ôl derbyn Cydsyniad Brenhinol ar 24 Ionawr 2018\. Mae hon yn garreg filltir allweddol ar y daith i drawsnewid ond mae’r her go iawn o drawsnewid yn dechrau’n awr. Mae’r Llywodraeth hon yn ymrwymedig i ddarparu system addysg gwbl gynhwysol, lle mae plant a phobl ifanc yn cael eu hysbrydoli, eu cymell a’u cefnogi i wireddu eu potensial.
https://www.gov.wales/written-statement-additional-learning-needs-transformation-leads
On 23 October 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: A Healthier Wales: Update on the Transformation Fund (external link).
Ar 23 Hydref 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Cymru Iachach: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-healthier-wales-update-transformation-fund
Today we are publishing details of the contribution oral health and dental services will make in achieving the vision of a whole system change, focused on health and wellbeing and a preventive approach to care that is set out in ‘A Healthier Wales’ https://gov.wales/topics/health/professionals/dental/?lang\=en.  The path we are taking for dentistry builds on the principles of prudent healthcare and the commitments made in Welsh Government’s national strategy, Prosperity for All, to ensure the services we provide support people in Wales to live healthy, prosperous lives. The oral health and dental services response to A Healthier Wales emerges from Together for Health: A National Oral Health Plan for Wales 2013\-18\. This has made good progress over the last 5 years in improving and maintaining the oral health and wellbeing of people in Wales, but challenges remain and we have more to do. Good oral health is an important part of wellbeing. In children, it contributes to physical, educational and social development. In adults, good oral health means people take less time off work due to toothache and they experience a better quality of life as they can eat and speak without discomfort or embarrassment. Due to the impact of the Designed to Smile programme the oral health of young children in Wales is improving across all social groups. Children attending schools in the most deprived areas are seeing the greatest improvements in oral health. We want to continue to develop oral health and dental services which promote the prevention of dental disease, for both individual and collective wellbeing, and are ready to meet the needs now and in the future. This is essential to bring about a healthier and more equal Wales. The oral health and dental services response to A Healthier Wales is set out under the principle that patients and the public are at the heart of everything we do. The services are also set out under three themes, namely: a step up in prevention; dental services fit for future generations; and developing dental teams and networks. These themes are relevant to everyone who works in dentistry, regardless of the role they play or the setting they work in. This response is also for Health Board executives, Primary Care and dental contracting teams, dental clinical leads, specialists, academics, generalists, dental care professionals \- and also for dental practice, hospital, community services and programmes. We have set out five key priorities for 2018\-21 and beyond for transforming dentistry: * timely access to prevention focussed NHS dental care; * sustained and whole system change underpinned by contract reform; * teams that are trained, supported and delivering value\-based quality care; * oral health intelligence and evidence driving improvement; and * improved population health and wellbeing. These are ambitious priorities, which reflect a shift in policy direction, supporting delivery and reform of the dental contract via system change. We need change to achieve these priorities and progressing contract reform is a vital element of that change. All seven health boards are participating as part of the dental contract reform programme and 22 dental practices (some 5% of the all\-Wales total) are collecting and using clinical oral ‘need and risk’ assessment to plan care, give personalised preventive advice and agree appropriate recall intervals with patients to meet individual needs. I want to see the dental reform programme expand at pace and expect health boards to have a minimum of 10% of dental practices in their area taking part from October 2018\. I will provide further information on the development and progress of the dental reform programme later on in the year.                        
Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r manylion ynghylch sut y bydd gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg yn cyfrannu at y gwaith o wireddu ein gweledigaeth o sicrhau newid ar draws y system gyfan, er mwyn canolbwyntio ar iechyd a llesiant, ac atal afiechyd fel rhan hanfodol o'n ffordd o ddarparu gofal, fel y nodir yn ‘Cymru Iachach’ https://gov.wales/topics/health/professionals/dental/?skip\=1\&lang\=cy Mae'r trywydd yr ydym yn ei ddilyn ym maes deintyddiaeth yn seiliedig ar egwyddorion gofal iechyd darbodus a'r ymrwymiadau a wnaed yn strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru, Ffyniant i Bawb, i sicrhau bod y gwasanaethau yr ydym yn eu darparu yn helpu pobl Cymru i fyw eu bywydau mewn modd iach a ffyniannus. Mae ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg i Cymru Iachach yn dod o Law yn Llaw at Iechyd: Cynllun Cenedlaethol Cymru ar gyfer Iechyd y Geg 2013\-18\. Mae'r cynllun hwn wedi llwyddo’n sylweddol yn ystod y 5 mlynedd ddiwethaf i wella a chynnal iechyd y geg a llesiant pobl yng Nghymru, ond serch hynny, mae'r heriau'n parhau ac mae rhagor i'w wneud. Mae iechyd y geg da yn rhan bwysig o lesiant pobl. Yn achos plant, mae'n cyfrannu at ddatblygiad corfforol, addysgol, a chymdeithasol. Yn achos oedolion, mae iechyd y geg da yn golygu bod pobl yn cymryd llai o amser i ffwrdd o'u gwaith oherwydd y ddannodd, a bod ansawdd eu bywyd yn well gan eu bod yn gallu bwyta a siarad heb fod hynny'n achosi poen nac embaras. O ganlyniad i'r rhaglen Cynllun Gwên, mae iechyd y geg ymysg plant ifanc yng Nghymru yn gwella ar draws yr holl grwpiau cymdeithasol. Plant sy'n mynychu ysgolion yn yr ardaloedd lle mae'r amddifadedd gwaethaf sy'n gweld y gwelliannau mwyaf o ran iechyd y geg.   Rydym yn awyddus i barhau i ddatblygu gwasanaethau iechyd y geg a gwasanaethau deintyddol, er mwyn llesiant yr unigolyn a llesiant pawb, a fydd yn gallu bodloni anghenion heddiw ac yn y dyfodol. Mae hyn yn hanfodol ar gyfer sicrhau Cymru iachach a mwy cyfartal. Mae ymateb y gwasanaethau deintyddol ac iechyd y geg i Cymru Iachach yn seiliedig ar yr egwyddor bod cleifion a'r cyhoedd yn ganolog i bopeth yr ydym yn ei wneud. Mae'r gwasanaethau'n cael eu nodi o dan dair thema, sef: camu i lefel arall ym maes atal; gwasanaethau deintyddol sy'n addas ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol; a datblygu timau a rhwydweithiau deintyddol. Mae'r themâu hyn yn berthnasol i bawb sy'n gweithio ym maes deintyddiaeth, waeth beth yw eu rôl neu'r math o leoliad y maent yn gweithio ynddo. Mae'r ymateb hefyd yn berthnasol i weithredwyr Byrddau Iechyd, timau contractio Gofal Sylfaenol a gwasanaethau deintyddol, arweinwyr clinigol ym maes deintyddiaeth, arbenigwyr, academyddion, ymarferwyr cyffredinol, gweithwyr proffesiynol ym maes gofal deintyddol \- a hefyd i bractisau deintyddol, ysbytai, a gwasanaethau a rhaglenni cymunedol.     Rydym wedi nodi pum blaenoriaeth allweddol ar gyfer 2018\-21 ac ar ôl hynny, o ran trawsnewid deintyddiaeth: * mynediad amserol at ofal deintyddol ataliol y GIG; * newid y system gyfan a chynnal y newidiadau hynny, yn seiliedig ar ddiwygio contractau; * timau sydd wedi eu hyfforddi a'u cynorthwyo i ddarparu gofal safonol sy'n seiliedig ar werth. * gwella'r system yn seiliedig ar wybodaeth a thystiolaeth am iechyd y geg; a * gwella iechyd a llesiant y boblogaeth. Dyma flaenoriaethau uchelgeisiol sy'n adlewyrchu newidiadau mewn cyfeiriad polisi, ac sy'n cynorthwyo'r gwaith o ddarparu gwasanaethau a diwygio contractau deintyddol drwy newid y system. Bydd angen newid os ydym am gyflawni'r blaenoriaethau hyn, ac mae bwrw ymlaen â'r gwaith o ddiwygio contractau yn rhan hanfodol o'r newid hwnnw. Mae pob un o'r saith bwrdd iechyd yn cymryd rhan yn y rhaglen diwygio contractau deintyddol, ac mae 22 o bractisau deintyddol (rhyw 5% o'r cyfanswm ar draws Cymru gyfan) yn casglu ac yn defnyddio asesiadau o anghenion a risg clinigol mewn perthynas ag iechyd y geg er mwyn iddynt allu cynllunio gofal, darparu cyngor ataliol sydd wedi ei deilwra ar gyfer yr unigolyn, a chytuno ar y cyfnodau rhwng apwyntiadau rheolaidd a fyddai fwyaf addas i fodloni anghenion yr unigolyn.  Rwy'n awyddus i weld y rhaglen ar gyfer diwygio gwasanaethau deintyddol yn camu yn ei blaen, a disgwylir i'r byrddau iechyd sicrhau bod o leiaf 10% o bractisau deintyddol yn eu hardaloedd yn cymryd rhan ynddi o fis Hydref 2018 ymlaen. Byddaf yn rhoi rhagor o wybodaeth am hynt y rhaglen diwygio gwasanaethau deintyddol yn nes ymlaen yn y flwyddyn.
https://www.gov.wales/written-statement-healthier-wales-oral-health-and-dental-services-response
I am writing to inform Members of my decision on the proposed A487 Caernarfon and Bontnewydd Bypass Scheme. Following full consideration of the Inspector’s report, I am pleased to announce my decision that this Scheme, which is included in our National Transport Plan 2015, can proceed.   I fully agree with the Inspector’s conclusion that there’s a compelling case for the Scheme to be implemented in order to remove through traffic from LLanwnda, Dinas, Bontnewydd and Caernarfon to improve safety within the town and significantly improve conditions for long distance traffic on the strategic road network of North Wales. The new bypass will reduce traffic volumes through Bontnewydd by 72% and through Caernarfon by 33%. This will lead to reduced severance of communities and facilities, improved safety, air quality and quality of life in the settlements along this route. The removal of through traffic will also provide opportunities to encourage active travel within and around Caernarfon and Bontnewydd by linking with the surrounding communities. The Scheme will be 9\.7km in length and will comprise a 2\+1 single carriageway design that will provide good opportunities for safe overtaking.  This route will be made up of three sections separated by new roundabouts at Meifod and Cibyn. The bypass will provide improved links between west Wales to the A55, Ireland, the rest of Great Britain and Europe leading to better access to jobs and services.  Improved access to Cibyn Industrial Estate along with tourist destinations including Caernarfon, the Llŷn Peninsula and Snowdonia will open up the area to development opportunities which will benefit the area’s economic prosperity.   The construction phase of the bypass will result in significant benefits to local labour, through  employment and training opportunities, which will provide both short and longer term local social and economic benefits. The use of local suppliers will also directly benefit the local economy.  I am satisfied that all the issues raised have been carefully considered through the statutory process and the Scheme will provide substantial public benefit without having disproportionate adverse impacts. The next steps would see a Design and Construct contract awarded with detailed scheme design commencing in June. Construction could then start in November 2018, and be completed by spring 2021\.    
Rwy’n ysgrifennu i roi gwybod i’r Aelodau am fy mhenderfyniad ynghylch Cynllun Ffordd Osgoi Caernarfon a’r Bontnewydd yr A487\. Ar ôl ystyried adroddiad yr Arolygydd yn llawn, mae’n bleser gennyf gyhoeddi fy mhenderfyniad i fwrw ymlaen â’r Cynllun hwn, sy’n rhan o’n Cynllun Trafnidiaeth Cenedlaethol 2015\. Rwy’n cytuno’n llwyr â chanlyniad yr Arolygydd bod achos cryf o blaid rhoi’r Cynllun ar waith er mwyn denu traffig trwodd o Lanwnda, Dinas, y Bontnewydd a Chaernarfon, gwneud y dre’n fwy diogel a gwella’n sylweddol yr amodau ar gyfer traffig o bell ar rwydwaith ffyrdd strategol y Gogledd. Bydd y ffordd osgoi newydd yn arwain at ostyngiad o 72% yn nifer y cerbydau sy’n teithio drwy’r Bontnewydd a gostyngiad o 33% drwy Gaernarfon. Canlyniad hyn fydd llai o hollti cymunedau a chyfleusterau, a gwell diogelwch, ansawdd aer ac ansawdd bywyd yn yr aneddiadau ar hyd y ffordd hon. Bydd cael gwared ar draffig trwodd yn gyfle hefyd i annog teithio llesol o fewn ac o gwmpas Caernarfon a’r Bontnewydd drwy eu cysylltu â’r cymunedau cyfagos.   Hyd y ffordd osgoi fydd 9\.7km a bydd yn gerbytffordd sengl 2\+1 sy’n rhoi cyfleoedd da i oddiweddyd yn ddiogel. Bydd tair rhan i’r ffordd, gyda chylchfannau newydd ym Meifod a Chibyn. Bydd y ffordd osgoi yn gwella’r cysylltiadau rhwng y Gorllewin â’r A55, Iwerddon a gweddill Prydain Fawr ac Ewrop, gan wella’r cyfleoedd am swyddi a gwasanaethau. Bydd gwella mynediad i Ystad Ddiwydiannol Cibyn yn ogystal â chyrchfannau twristiaeth, gan gynnwys Caernarfon, Penrhyn Llŷn ac Eryri, yn golygu y bydd mwy o gyfleoedd i ddatblygu’r ardal a helpu’r economi leol i ehangu.   Bydd y gweithlu lleol yn elwa’n sylweddol yn ystod cyfnod adeiladu’r ffordd osgoi oherwydd y cyfleoedd am waith a hyfforddiant a fydd yn dod â manteision cymdeithasol ac economaidd yn y tymor byr a’r tymor hir. Bydd defnyddio cyflenwyr lleol hefyd yn rhoi hwb i’r economi leol. Rwy’n fodlon bod yr holl faterion a godwyd wedi’u hystyried yn fanwl yn ystod y broses statudol ac y bydd y Cynllun yn dod â manteision sylweddol i’r cyhoedd heb achosi niweidiau anghymesur. Y cam nesaf fydd dyfarnu contract i ddylunio ac adeiladau’r ffordd osgoi, gyda’r gwaith manwl i ddylunio’r cynllun yn dechrau ym mis Mehefin. Gallai’r gwaith adeiladu ddechrau wedyn ym mis Tachwedd a dod i ben yng ngwanwyn 2021\.
https://www.gov.wales/written-statement-a487-caernarfon-and-bontnewydd-bypass
On 16 October 2018, Huw Irranca\-Davies, Minister for Children and Social Care made an oral statement in the Siambr on: Adoption Week (external link).  
Ar 16 Hydref 2018, gwnaeth y Huw Irranca\-Davies, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Wythnos Mabwysiadu (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-adoption-week
Today I am publishing A Healthier Wales: our plan for health and social care. This meets the commitment in ‘Prosperity for All’ to respond to the Parliamentary Review of Health and Social Care with a long term plan.   The Plan sets out a long term future vision of a ‘whole system approach to health and social care’, which is focused on health and wellbeing, and on preventing illness.  The Plan sets out a number of purposeful actions to take us toward that vision, and describes how we will move at pace to ensure our services are fit for the future. I will make an oral statement about the Plan in the Senedd on Tuesday 12 June.
Heddiw rwy'n cyhoeddi Cymru Iachach: ein cynllun iechyd a gofal cymdeithasol. Mae hyn yn bodloni'r ymrwymiad yn 'Ffyniant i Bawb' i ymateb i'r Adolygiad Seneddol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol â chynllun hirdymor.   Mae'r Cynllun yn gosod gweledigaeth hirdymor ar gyfer 'system gyfan iechyd a gofal cymdeithasol' yn y dyfodol, gan ganolbwyntio ar iechyd a llesiant ac atal salwch.  Mae'r Cynllun yn gosod nifer o gamau gweithredu i'n harwain tuag at y weledigaeth honno, ac yn disgrifio sut y byddwn yn symud ar fyrder i sicrhau bod ein gwasanaethau yn barod at y dyfodol. Byddaf yn gwneud datganiad llafar am y Cynllun yn y Senedd ddydd Mawrth 12 Mehefin.
https://www.gov.wales/written-statement-healthier-wales-our-plan-health-and-social-care
I am writing to update Members on progress with the A465 Heads of the Valleys Dualling Project. As set out in my Written Statement of 27 November 2017, section 2, from Gilwern to Brynmawr, is a very challenging project. The site topography, traffic management requirements and complex ground conditions has meant that the project has been far more difficult to deliver than originally envisaged. As a result, I requested a comprehensive commercial project review be carried out, the conclusions of which were outlined in my Written Statement of 27 November 2017\. In light of this, my officials are assisting the Wales Audit Office who are carrying out a review of the procurement and delivery processes used on the project to date. This review is ongoing and will be reported in due course. We will not compromise on the quality of the project we committed to at the Public Inquiry in spring 2014 and Transport officials continue to actively manage the project to ensure the work is being delivered in the most efficient way to meet programme and cost requirements. They are also working with the contractor, Costain, using mechanisms in the contract to resolve the issues that are in dispute between the parties. This dispute is ongoing and it is not be appropriate to say any more about these issues at this time. Nevertheless, work is continuing at pace and the project is now about two\-thirds complete. It is delivering a range of community benefits around local employment, education and training. The Valleys Taskforce is exploring how we can maximise these benefits when the project is completed at the end of this next year,  to help deliver the vision set out in ‘Our Valleys, Our Future’.  A seminar was held with stakeholders from across the Valleys in March and the outcomes are currently being collated. A plan for action will be discussed with stakeholders during a follow up event in the autumn. Everyone involved in the project continues to be very grateful to those living and working in the area for their patience whilst the works are carried out.               
Rwyf yn ysgrifennu at yr Aelodau er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am hynt y gwaith ar Brosiect Deuoli'r A465 Blaenau'r Cymoedd. Fel y nodwyd yn y Datganiad Ysgrifenedig a wnaed gennyf ar 27 Tachwedd 2017, mae rhan 2, o Gilwern i Fryn\-mawr, yn brosiect hynod anodd. Mae topograffi’r safle, y gofynion rheoli traffig a’r amgylchiadau cymhleth ar y tir wedi golygu bod y prosiect yn llawer anos ei gyflawni nag a ragwelwyd yn wreiddiol. O'r herwydd, gofynnais am adolygiad masnachol cynhwysfawr o'r prosiect, ac amlinellwyd canlyniadau'r adolygiad hwnnw yn y Datganiad Ysgrifenedig a wnaed gennyf ar 27 Tachwedd 2017\.   Yng ngoleuni hyn, mae fy swyddogion yn cynorthwyo Swyddfa Archwilio Cymru, sydd wrthi'n cynnal adolygiad o'r prosesau caffael a chyflawni a ddefnyddiwyd ar y prosiect hyd yma. Mae'r adolygiad hwnnw wrthi'n cael ei gynnal ar hyn o bryd a bydd adroddiad ar gael yn y man. Ni fyddwn yn cyfaddawdu ar ansawdd y prosiect y gwnaethom ymrwymo i'w gyflawni yn ystod yr Ymchwiliad Cyhoeddus yng ngwanwyn 2014, ac mae swyddogion yn yr adran Drafnidiaeth yn parhau wrthi'n rheoli'r prosiect er mwyn sicrhau bod y gwaith yn cael ei wneud yn y ffordd fwyaf effeithlon i fodloni gofynion y rhaglen a hefyd y gofynion o ran cost. Maent hefyd yn gweithio gyda'r contractwr, Costain, gan ddefnyddio darpariaethau yn y contract i ddatrys y materion y mae'r ddau barti'n anghytuno yn eu cylch. Mae'r anghydfod yn parhau ac nid yw'n briodol dweud dim mwy am y materion hynny ar hyn o bryd. Wedi dweud hynny, mae'r gwaith yn parhau i fynd rhagddo'n  gyflym ac mae rhyw dwy ran o dair o'r prosiect wedi'u cwblhau bellach. Mae'n dod ag amryfal fanteision i'r gymuned o ran cyflogaeth, addysg a hyfforddiant yn lleol. Mae Tasglu'r Cymoedd yn ystyried sut y gallwn elwa i'r eithaf ar y manteision hynny pan fydd y prosiect wedi'i gwblhau ddiwedd y flwyddyn nesaf hon, er mwyn helpu i wireddu'r weledigaeth a amlinellir yn 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol'. Cynhaliwyd seminar ym mis Mawrth gyda rhanddeiliaid o bob rhan o'r Cymoedd ac mae'r canlyniadau'n cael eu crynhoi ar hyn o bryd. Bydd cynllun gweithredu yn cael ei drafod gyda rhanddeiliaid mewn digwyddiad arall yn yr hydref. Mae pawb sy'n gysylltiedig â'r prosiect yn parhau i fod yn hynod ddiolchgar i'r rheini sy'n byw ac yn gweithio yn yr ardal am eu hamynedd wrth i'r gwaith fynd rhagddo.
https://www.gov.wales/written-statement-a465-heads-valleys-dualling-project
On 16 October 2018, Julie James, Leader of the House and Chief Whip made an oral statement in the Siambr on: Action on Disability: The Right to Independent Living (external link).
Ar 16 Hydref 2018, gwnaeth y Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Gweithredu ar Anabledd: Yr Hawl i Fyw’n Annibynnol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-action-disability-right-independent-living
I am responding today to the 31st Report of the NHS Pay Review Body (NHSPRB) which was laid before Parliament on Wednesday 27 June. I am grateful to the Chair and members of the NHSPRB for their report and I welcome their endorsement of the Agenda for Change multi\-year pay and contract reform deal (2018/2019 to 2020/2021\) which has already been accepted by trade unions in England. I value the dedication of the NHS Wales workforce and have put considerable pressure on the UK government to lift the public sector pay cap to ensure that NHS staff can be properly rewarded for the work they do. I am pleased to announce today that I have been able to endorse proposals negotiated in partnership between employers and health trade unions for a 3 pay agreement for NHS staff in Wales employed under the Agenda for Change terms and conditions. The negotiated agreement means that for the 3 year pay agreement NHS staff in Wales will get the same rate of pay as their colleagues in England. This draft agreement does not cover employed doctors and dentists who are subject to a separate independent pay review process nor those in executive and senior posts. The draft agreement targets recruitment, retention and ensures the NHS can continue to recruit the skilled compassionate workforce it needs by: * Offering NHS staff in Wales the same enhanced rates of pay as those in the NHS in England. * Going beyond our commitment to the Living Wage Foundation recommendations with a new rate of £17,460 introduced from 1 April 2018 as the minimum basic pay rate in the NHS and the lowest starting NHS salary increases to £18,005 in 20/21\. * Investing in higher starting salaries for staff in every pay band by reforming the pay system to remove overlapping pay points. * Guaranteeing fair basic pay awards for the next 3 years to the staff who are at the top of pay bands, * Faster progression pay for the next 3 years to those staff who are not yet on the top of their pay band. * Alongside these improvements, in Wales, I will continue to consider the annual recommendations of the Living Wage Foundation to ensure that the pay offer to NHS Wales staff remains fair in future years. Trade unions and employers have agreed reforms to pay progression to support all staff to demonstrate the knowledge and skills to make the greatest possible contribution to patient care. * Appraisal and personal development will be at the heart of pay progression with a new ‘made in Wales’ pay progression policy to support staff and managers through the process. * Staff will be supported to develop their skills and competencies as they progress through the pay scales. * The system will be underpinned by a commitment from employers to fully utilise an effective appraisal process. The draft agreement also reinforces our commitment across the NHS in Wales to the health and wellbeing of the whole workforce. It commits the members of the Wales Partnership Forum to joint practical action at national and local level to support individuals to remain well, to act proactively to avoid absence and enable those who are absent to return to work as quickly as possible. We recognise this is best for individual members of the workforce and for the services they deliver for the people of Wales. For Wales, the WPF have agreed that practical joint action on health and wellbeing will include: * A new Attendance Management Policy and associated procedures and training packages * Consideration of Rapid Access and early referral for treatment for staff * A renewed emphasis on wellbeing in the workplace building on the existing NHS Wales Health and Wellbeing toolkits * Aligning approaches to flexible working, re\-deployment and other workplace policies to ensure that they support the aims of supporting staff in work. * The development of a NHS Wales Menopause Policy * A commitment from all partners to prioritise active attendance management at local level and to remove any barriers to the process through partnership working at local and national level as required. In Wales, the WPF specific commitments to improve the health and wellbeing of NHS staff so as to improve levels of attendance and a preventative approach to sickness absence has enabled NHS staff in Wales to continue to benefit from unsocial hours payments during sickness absence. Additionally, trade unions and employers will also work together to support individuals in our workforce if they face a diagnosis of a terminal illness, and will adopt the TUC “Dying to Work” campaign.   I have been clear that UK Treasury funding must flow to Wales to ensure that pay awards can be afforded without undermining services to patients. The Barnett share alone, however, does not cover the full cost of this agreement. I have decided to invest additional funding to enable this deal to be implemented, in recognition both of the different workforce profile in Wales and the willingness of both unions and employers to work in partnership to deliver practical change to support the health and wellbeing of the workforce. Overall, this pay deal is fair to staff and taxpayers. It will help to improve productivity through stronger evidence based appraisal systems and through that, better staff engagement which we know can help improve outcomes for patients. If the offer is agreed, work will continue at pace to ensure staff see the benefits in their pay packets before Christmas. The relevant trades unions will now start the process of consulting their members about the proposed agreement. I will provide a further update once this process is complete.
Rwyf yn ymateb heddiw i’r 31ain Adroddiad gan Gorff Adolygu Cyflogau’r GIG a osodwyd gerbron Senedd y DU ddydd Mercher 27 Mehefin. Rwyf yn ddiolchgar i’r Cadeirydd ac aelodau o’r Corff Adolygu am eu hadroddiad, ac yn croesawu’r ffaith eu bod wedi cymeradwyo’r cytundeb o ran cyflogau a diwygio’r contract dros sawl blwyddyn (2018/2019 i 2020/2021\) o dan Agenda ar gyfer Newid, sydd eisoes wedi cael ei dderbyn gan yr undebau llafur yn Lloegr. Rwyf yn gwerthfawrogi ymroddiad gweithlu GIG Cymru, ac rwyf wedi rhoi cryn dipyn o bwysau ar Lywodraeth y DU i ddiddymu’r cap ar gyflogau yn y sector cyhoeddus, er mwyn sicrhau bod staff y GIG yn cael eu talu’n briodol am y gwaith y maent yn ei wneud. Mae’n bleser gennyf gyhoeddi heddiw fy mod wedi cymeradwyo cynigion sydd wedi cael eu negodi mewn partneriaeth rhwng y cyflogwyr a’r undebau llafur ym maes iechyd, i greu cytundeb cyflog am dair blynedd ar gyfer staff GIG Cymru sydd wedi eu cyflogi o dan delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid. Mae’r cytundeb sydd wedi ei negodi yn golygu y bydd staff GIG Cymru yn cael yr un cyfraddau tâl â’u cydweithwyr yn Lloegr dros gyfnod y cytundeb cyflog tair blynedd. Nid yw’r cytundeb drafft hwn yn cynnwys meddygon a deintyddion a gyflogir, sy’n destun proses adolygu cyflogau annibynnol ar wahân, na’r rheini sydd mewn swyddi gweithredol a swyddi uwch. Mae’r cytundeb drafft yn targedu recriwtio a chadw staff, ac yn sicrhau y gall y GIG barhau i recriwtio’r gweithlu medrus a thosturiol y mae ei angen drwy: * Gynnig yr un cyfraddau tâl uwch i staff y GIG yng Nghymru â’u cydweithwyr yn y GIG yn Lloegr. * Mynd y tu hwnt i’n hymrwymiad i argymhellion y Living Wage Foundation gan gyflwyno cyfradd newydd o £17,460 o 1 Ebrill 2018 ymlaen fel yr isafswm cyfradd dâl sylfaenol yn y GIG a chynyddu’r cyflog cychwynnol isaf yn y GIG i £18,005 yn 2020/21\. * Buddsoddi mewn cyflogau cychwynnol uwch ar gyfer staff ym mhob band cyflog drwy ddiwygio’r system dâl i ddileu pwyntiau cyflog sy’n gorgyffwrdd. * Gwarantu dyfarniadau teg o ran cyflogau sylfaenol am y tair blynedd nesaf ar gyfer staff sydd ar frig eu bandiau cyflog. * Datblygiad cyflog cyflymach am y tair blynedd nesaf ar gyfer y staff hynny nad ydynt eto ar frig eu bandiau cyflog. * Ochr yn ochr â’r gwelliannau hyn yng Nghymru, byddaf yn parhau i ystyried argymhellion blynyddol y Living Wage Foundation er mwyn sicrhau bod y cynnig i staff GIG Cymru o ran cyflogau yn parhau i fod yn deg yn y blynyddoedd i ddod. Mae’r undebau llafur a’r cyflogwyr wedi cytuno ar ddiwygiadau i’r drefn datblygiad cyflog er mwyn helpu pob aelod staff i arddangos yr wybodaeth a’r sgiliau fydd yn eu galluogi i wneud y cyfraniad gorau posibl i ofal cleifion.* Bydd y cytundeb yn rhoi’r broses arfarnu a datblygiad personol wrth galon datblygiad cyflog, a chyflwynir polisi datblygiad cyflog newydd ‘wedi ei wneud yng Nghymru’ a fydd yn cefnogi staff a rheolwyr drwy’r broses. * Bydd staff yn cael cymorth i ddatblygu eu sgiliau a’u cymwyseddau wrth iddynt wneud cynnydd drwy’r graddfeydd cyflog. * Bydd y system wedi’i seilio ar ymrwymiad gan gyflogwyr i ddefnyddio proses arfarnu effeithiol i’w photensial llawn. Mae’r cytundeb drafft hefyd yn cadarnhau ein hymrwymiad ar draws y GIG yng Nghymru i ofalu am iechyd a llesiant y gweithlu cyfan. Mae’n rhoi ymrwymiad ar aelodau Fforwm Partneriaeth Cymru i weithredu’n ymarferol yn genedlaethol ac yn lleol i helpu unigolion i gadw’n iach, i fynd ati’n rhagweithiol i osgoi absenoldeb ac i alluogi’r rhai sy’n absennol i ddychwelyd i’r gwaith cyn gynted â phosibl. Rydym yn gweld mai dyma yw’r peth gorau i aelodau unigol o’r gweithlu ac i’r gwasanaethau y maent yn eu darparu i bobl Cymru.Ar gyfer Cymru, mae’r Fforwm Partneriaeth wedi cytuno y bydd y gweithredu ymarferol ar y cyd ar iechyd a llesiant yn cynnwys: * Polisi Rheoli Presenoldeb newydd, ynghyd â gweithdrefnau a phecynnau hyfforddi cysylltiedig. * Ystyried Mynediad Cyflym ac atgyfeirio cynnar am driniaeth ar gyfer staff. * Pwyslais o’r newydd ar lesiant yn y gweithle, gan adeiladu ar becyn adnoddau Iechyd a Llesiant presennol GIG Cymru. * Cysoni’r dulliau gweithredu o ran gweithio’n hyblyg, adleoli a pholisïau eraill yn y gweithle i sicrhau eu bod yn hybu’r amcanion o gefnogi’r staff yn y gwaith. * Datblygu Polisi Menopos ar gyfer GIG Cymru * Ymrwymiad gan yr holl bartneriaid i roi blaenoriaeth i fynd ati i reoli presenoldeb ar lefel leol ac i ddileu unrhyw rwystrau i’r broses, drwy weithio mewn partneriaeth yn lleol ac yn genedlaethol yn ôl y gofyn. Yng Nghymru, mae ymrwymiad penodol y Fforwm Partneriaeth i wella iechyd a llesiant staff GIG Cymru er mwyn gwella lefelau presenoldeb, ynghyd â mabwysiadu dull ataliol o ran absenoldeb oherwydd salwch, wedi galluogi staff y GIG yng Nghymru i barhau i elwa ar daliadau oriau anghymdeithasol yn ystod cyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch. Yn ogystal, bydd yr undebau llafur a’r cyflogwyr yn gweithio gyda’i gilydd i gefnogi unigolion yn y gweithlu os byddant yn wynebu diagnosis o salwch angheuol, a byddant yn mabwysiadu ymgyrch “Dying to Work” y TUC.Rwyf wedi datgan yn glir bod rhaid i gyllid o Drysorlys y DU ddod i Gymru er mwyn sicrhau y gallwn fforddio talu’r dyfarniadau cyflog heb danseilio gwasanaethau ar gyfer cleifion. Fodd bynnag, nid yw’r gyfran a ddaw yn sgil Barnett yn ddigon i dalu am gost lawn y cytundeb hwn. Rwyf wedi penderfynu buddsoddi cyllid ychwanegol er mwyn sicrhau y bydd y cytundeb hwn yn cael ei roi ar waith, gan gydnabod proffil gwahanol y gweithlu yng Nghymru, yn ogystal â pharodrwydd yr undebau a’r cyflogwyr i weithio mewn partneriaeth er mwyn cyflawni newidiadau ymarferol a fydd yn gwella iechyd a llesiant y gweithlu. Yn gyffredinol, mae’r cytundeb hwn o ran cyflogau yn deg i staff ac i drethdalwyr. Bydd yn helpu i wella cynhyrchiant drwy ddefnyddio systemau arfarnu perfformiad cryfach sy’n seiliedig ar dystiolaeth. Yn sgil hynny, bydd lefelau ymgysylltu â staff yn gwella ac rydym yn gwybod y gall hyn wella canlyniadau i gleifion. Os bydd cytundeb ar y cynnig, bydd y gwaith yn parhau heb oedi er mwyn sicrhau bod staff yn gweld y buddion yn eu pecynnau cyflog cyn y Nadolig. Bydd yr undebau llafur perthnasol yn mynd ati yn awr i gychwyn y broses o ymgynghori â’u haelodau am y cytundeb arfaethedig. Byddaf yn rhoi gwybodaeth bellach ichi ar ôl i’r broses honno ddod i ben.
https://www.gov.wales/written-statement-agenda-change-pay-award-and-nhs-pay-review-bodys-31st-report
The Welsh Government recognises the need for legislation that builds a future trade policy for the UK if we are to leave the EU. We agree that the provisions in the Trade Bill designed to maintain continuity in trading relationships, and ensure continued access to government procurement markets are necessary to provide clarity and certainty for businesses and consumers going forward. In an approach analogous to the approach taken in the EU (Withdrawal) Bill, the Trade Bill places restrictions on the executive competence it gives to Scottish and Welsh Ministers, while placing no similar restrictions on the executive competence given to UK Ministers; and it gives UK Ministers concurrent powers in devolved areas which are exercisable without any requirement for Scottish or Welsh Ministers’ consent. This is unacceptable. Moreover, in our view the Trade Remedies Authority, as an independent body, should have input from the devolved nations as well as the Secretary of State.   Hence the Scottish and Welsh Governments cannot recommend that our respective legislatures give their legislative consent to the Bill as it is currently drafted. In an effort to make the Bill acceptable in its approach to devolution, we have developed joint amendments with the Scottish Government, which we hope will be tabled in the House of Commons. These are attached along with the explanatory notes.  As we stated in the Trade Bill Legislative Consent Memorandum that was laid on 7 December our view is that the question of whether legislative consent should be given should be considered in the light of the UK Government’s response to these amendments. ### Documents * #### Trade Bill Amendments Explanatory Notes, file type: pdf, file size: 52 KB 52 KB * #### Trade Bill Amendments, file type: pdf, file size: 56 KB 56 KB
Mae Llywodraeth Cymru'n cydnabod bod angen deddfwriaeth ar gyfer datblygu polisi masnach y DU ar ôl iddi adael yr UE. Rydyn ni'n cytuno bod angen y darpariaethau yn y Bil Masnach sy'n cynnal ein cysylltiadau masnachol presennol ac yn sicrhau mynediad at farchnadoedd caffael llywodraethau, hynny er mwyn rhoi eglurder a sicrwydd i fusnesau a defnyddwyr. Fel Bil yr UE (Ymadael), yn y Bil Masnach cyfyngir ar y cymhwysedd gweithredol a roddir i Weinidogion Cymru a'r Alban, ond ni osodir yr un cyfyngiadau ar y cymhwysedd gweithredol a roddir i Weinidogion yr DU.  Hefyd, mae'n rhoi pwerau cydamserol i Weinidogion y DU yn y gwledydd datganoledig a chânt eu harfer heb ofyn caniatâd Gweinidogion Cymru a'r Alban. Nid yw hyn yn dderbyniol. Hefyd, yn ein barn ni, dylai'r Awdurdod Rhwymedïau Masnach, fel corff annibynnol, gael clywed mewnbwn y gwledydd datganoledig yn ogystal â'r Ysgrifennydd Gwladol. O'r herwydd, ni all Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban argymell bod eu deddfwriaethau yn rhoi eu caniatâd deddfwriaethol i'r Bil fel ag y mae. Mewn ymdrech i wneud y Bil yn dderbyniol o safbwynt datganoli, rydym ar y cyd â Llywodraeth yr Alban wedi datblygu diwygiadau y gobeithiwn eu gweld yn cael eu cyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin. Fe'u hatodir, ynghyd â nodiadau esboniadol. Fel y gwnaethom ei ddatgan ym Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol y Bil Masnach a osodwyd ar 7 Rhagfyr, yn ein barn ni, dylid ystyried y cwestiwn a ddylid rhoi caniatâd deddfwriaethol neu beidio yng ngoleuni ymateb Llywodraeth y DU i'r diwygiadau hyn. ### Dogfennau * #### Saeneg yn Unig, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 219 beit 219 beit * #### Saesneg yn Unig, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 225 beit 225 beit
https://www.gov.wales/written-statement-amendments-uks-trade-bill-proposed-scottish-and-welsh-governments
On 1 May 2018, the Cabinet Secretary for Finance announced £60 million to support active travel schemes as part of The Wales Infrastructure Investment Plan Mid\-Point Review 2018\. Available over the next three years, this funding will create new active travel routes across Wales, connecting people’s homes to schools, jobs and their local community with the aim of encouraging more people to walk or cycle.   Today I am allocating the first £10\.36 million to local authorities across Wales for schemes to promote active travel. All local authorities were invited to submit applications: one strategic scheme and one local scheme or package of local schemes per local authority. A total of 35 applications were received, including 16 applications for strategic schemes, and 19 applications for local schemes. The Active Travel Fund will allow 11 strategic schemes and 13 local schemes across 18 local authorities to be designed or delivered this financial year. A full list of successful schemes by local authority will be published on the Welsh Government website. *This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.*      
Ar 1 Mai 2018, cyhoeddodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid y byddai £60 miliwn yn cael ei neilltuo i gynnal cynlluniau teithio llesol fel rhan o adolygiad canol cyfnod Cynllun Buddsoddi mewn Seilwaith Cymru 2018\. Bydd yr arian hwn ar gael dros y tair blynedd nesaf i greu llwybrau teithio llesol newydd ledled Cymru, gan gysylltu cartrefi ag ysgolion, swyddi a’r gymuned leol er mwyn annog mwy o bobl i gerdded neu feicio. Heddiw, rwy’n dyrannu £10\.36 miliwn i awdurdodau lleol ar draws Cymru ar gyfer cynlluniau i hyrwyddo teithio llesol. Gwahoddwyd yr holl awdurdodau lleol i gyflwyno un cynllun strategol ac un cynllun lleol neu gyfres o gynlluniau lleol. Daeth 35 o geisiadau i law, gan gynnwys 16 o geisiadau i gynnal cynlluniau strategol, ac 19 o geisiadau i gynnal cynlluniau lleol. Bydd Cronfa Teithio Llesol yn ariannu 11 o gynlluniau strategol ac 13 o gynlluniau lleol ar draws 18 o awdurdodau lleol, i’w dylunio neu’u rhoi ar waith yn y flwyddyn ariannol hon. Caiff rhestr lawn y cynlluniau llwyddiannus, yn ôl awdurdod lleol, ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-active-travel-fund-allocations-local-authorities-2018-19
On the 9 October 2018 I provided an Oral Statement to Assembly Members on the concerns relating to current maternity care provision in Cwm Taf University Health Board.   I committed then to update members on progress, which I will provide within this Written Statement. As a parent myself, I understand the concern and anxiety that this will have caused parents who are currently using, and those who have previously used these services. I am absolutely committed to ensuring a full investigation of the causes that led to this situation and the potential improvements that are needed. I also appreciate that this is a very difficult time for staff and I would like to commend them for their hard work, especially in the support they are providing to families at this time and the flexibility they are exhibiting in ensuring appropriate staffing levels across the service. In order to ensure a full, transparent investigation into these adverse outcomes, I committed to commission an external review of maternity services in Cwm Taf to be undertaken by the Royal College of Obstetricians and Gynaecologists and the Royal College of Midwives.  This review will commence in the next few weeks and the findings will be published in the spring of 2019\.  The purpose of the review is to provide assurance to Cwm Taf University Health Board and Welsh Government that the maternity service provides safe and effective care for mothers and babies. Building on the review work the health board has already undertaken the review team has been asked specifically to provide advice on further actions needed to ensure high quality, safe care is provided to mothers and babies and improve systems of governance and assurance in line with national standards and best practice.   The review will include assessment of the performance and structure of the maternity service in line with national standards and appropriate benchmarks to identify key areas for improvement.  It will also involve reviewing the changes to systems and processes already brought in by the health board to ensure the timely identification, reporting, investigation and learning from serious incidents, and advise on actions to further improve fitness for purpose. It will also advise on any requirements for extension of the retrospective case reviews (prior to January 2016\). A review of the actions contained within the health board’s local Maternity Services Improvement Plan will be undertaken, and advice is sought on any additional requirements to strengthen or accelerate delivery as appropriate.  The review also provides an opportunity to identify key opportunities for further improvement in clinical systems and practice to improve quality and outcomes, and will look at any practical or cultural barriers within the service, or the wider organisation, that might inhibit progress. Looking to the future, the review will consider those actions required to strengthen current service delivery as well as the opportunities for further improvement once consultant\-led obstetric services are consolidated on one site from March 2019\. Welsh Government officials have been working closely with health board leads to ensure that the terms of reference for the review build on the work already undertaken locally and ensure sustainable quality service provision both currently and within the future model for Cwm Taf. A key focus of the work to date has been on ensuring safe staffing levels and strong clinical leadership. The health board has been working tirelessly over the last few weeks to ensure appropriate staffing levels, including: one band 7 patient experience midwife and 6\.56 wte (whole time equivalent) band 5 midwives started employment in October; 2\.26 wte band 6 midwives who will be starting December/January; and a further 5\.8 wte band 6 midwives who are currently progressing through pre\-employment checks and will be starting as soon as these checks are complete. They are continuing to advertise for midwives and obstetricians.  Bank and agency staff have also been used as a short term measure to improve staffing levels.  At a leadership level we have ensured that additional senior midwifery and medical management support is in place to provide oversight and advice. Experienced midwifery support continues to be provided by neighboring health boards, including a head of midwifery providing additional support and a governance midwife. Welsh Government officials continue to work closely with the health board and weekly monitoring meetings are in place to provide assurance of safe services and progress with review process.  The health board has developed a Maternity Improvement Board with key stakeholders to monitor progress in action plan implementation and is also working closely with the Welsh Government Delivery Unit to review governance processes and ensure full investigation of incidents and transfer of learning. To ensure compliance with the need for robust reporting mechanisms for adverse events across NHS Wales, the Chief Nursing Officer wrote to each health board Chief Executive requesting assurance on reporting mechanisms and governance processes.  All health boards have provided these assurances, and Heads of Midwifery have committed to review current reporting measures to ensure consistent and comparable reporting measures. Women using maternity services rightly expect to receive good quality, safe care. Childbirth can be stressful, but also an experience that brings great joy. The welfare of mothers and their babies must be our main and immediate concern. I have been given assurance that clear actions are in place to ensure that women receiving care within Cwm Taf maternity services can expect safe and compassionate care. The review will provide additional assurance and learning to further improve services, and I commit to update members when the report is published in the next year.
Ar 9 Hydref 2018, rhoddais Ddatganiad Llafar i Aelodau'r Cynulliad ynghylch y pryderon sydd wedi codi am y ddarpariaeth bresennol o ofal mamolaeth ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf. Gwnes ymrwymiad bryd hynny i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y cynnydd a gafwyd, a byddaf yn darparu'r wybodaeth honno yn y Datganiad Ysgrifenedig hwn. Fel rhiant fy hunan, rwy'n deall y pryder a'r straen y bydd y mater hwn wedi eu hachosi i rieni sy'n defnyddio'r gwasanaethau hyn ar hyn o bryd, neu sydd wedi eu defnyddio yn y gorffennol. Rwyf wedi ymrwymo'n llwyr i gynnal ymchwiliad llawn i'r hyn sydd wedi arwain at y sefyllfa hon, ac i'r gwelliannau y bydd eu hangen i’w hunioni. Rwyf hefyd yn ymwybodol bod hwn yn gyfnod anodd iawn i'r staff, a hoffwn eu canmol am eu gwaith caled, yn enwedig y cymorth y maent yn ei roi i deuluoedd ar hyn o bryd, a'u hyblygrwydd o ran sicrhau bod lefelau staffio'n briodol ar draws y gwasanaeth. Er mwyn cynnal ymchwiliad llawn a thryloyw i'r canlyniadau niweidiol hyn, ymrwymais i gomisiynu adolygiad allanol gan Goleg Brenhinol yr Obstetryddion a'r Gynaecolegwyr a Choleg Brenhinol y Bydwragedd o wasanaethau mamolaeth Bwrdd Cwm Taf. Bydd yr adolygiad yn dechrau yn ystod yr wythnosau nesaf, ac fe gyhoeddir ei gasgliadau yn y gwanwyn 2019\. Diben yr adolygiad yw rhoi sicrwydd i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf a Llywodraeth Cymru fod y gwasanaethau mamolaeth yn darparu gofal diogel ac effeithiol i famau a babanod. Gan adeiladu ar y gwaith adolygu y mae'r bwrdd iechyd wedi ei wneud eisoes, gofynnwyd yn benodol i'r tîm adolygu ddarparu cyngor ar y camau pellach y byddai angen eu cymryd i sicrhau bod gofal diogel o ansawdd uchel yn cael ei roi i famau a babanod, ac i wella'r systemau llywodraethu a sicrwydd yn unol â safonau cenedlaethol a'r arferion gorau.   Bydd yr adolygiad yn cynnwys asesu perfformiad a strwythur y gwasanaethau mamolaeth yn erbyn safonau cenedlaethol a’r meincnodau priodol er mwyn nodi'r meysydd allweddol lle mae angen gwella. Bydd hefyd yn cynnwys adolygu'r newidiadau y mae'r Bwrdd Iechyd eisoes wedi eu cyflwyno i systemau a phrosesau er mwyn sicrhau bod nodi, adrodd, ymchwilio a dysgu yn digwydd yn amserol mewn perthynas â digwyddiadau difrifol, gan roi cyngor ar y camau i'w cymryd i sicrhau bod systemau a phrosesau'n fwy addas i'w diben. Bydd hefyd yn rhoi cyngor ar unrhyw ofynion ar gyfer ymestyn yr adolygiadau ôl\-weithredol o achosion (cyn mis Ionawr 2016\). Caiff y camau sy'n rhan o Gynllun Gwella Gwasanaethau Mamolaeth lleol y bwrdd iechyd eu hadolygu, a cheisir cyngor ar unrhyw ofynion ychwanegol a fyddai'n cryfhau neu'n cyflymu'r gwaith o gyflawni amcanion fel y bo'n briodol. Mae'r adolygiad yn gyfle i nodi'r prif gyfleoedd ar gyfer gwella systemau clinigol ac arferion gyda'r nod o wella ansawdd a chanlyniadau, a bydd yn edrych ar unrhyw rwystrau ymarferol neu ddiwylliannol, o fewn y gwasanaeth neu'r sefydliad ehangach, a allai arafu'r broses wella hon. Wrth edrych i'r dyfodol, bydd yr adolygiad yn ystyried y camau y bydd angen eu cymryd i gryfhau'r ddarpariaeth bresennol o wasanaethau, yn ogystal â'r cyfleoedd i wella ymhellach unwaith y mae gwasanaethau obstetreg sy'n cael eu harwain gan ymgynghorwyr yn cael eu cyfuno ar un safle o fis Mawrth 2019\. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi bod yn cydweithio'n agos ag arweinwyr yn y bwrdd iechyd i sicrhau bod cylch gorchwyl yr adolygiad yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi ei gyflawni'n lleol, er mwyn sicrhau bod gwasanaeth cynaliadwy o safon yn cael eu darparu heddiw ac fel rhan o fodel Cwm Taf ar gyfer y dyfodol. Un o'r pethau y bu'r gwaith yn canolbwyntio arno hyn yma yw sicrhau bod lefelau staffio'n ddiogel a bod arweinyddiaeth glinigol gref ar waith. Mae'r bwrdd iechyd wedi bod yn gweithio'n ddiflino dros yr wythnosau diwethaf i sicrhau bod y lefelau staffio'n briodol, gan gynnwys y canlynol: mae un fydwraig band 7, a fydd â chyfrifoldebau ym maes profiad y claf, a 6\.56 wte (cyfateb i amser llawn) o fydwragedd band 5, wedi dechrau yn eu swyddi ym mis Hydref;  bydd 2\.26 wte o fydwragedd band 6 yn dechrau ym mis Rhagfyr neu fis Ionawr; a bydd 5\.8 wte arall o  fydwragedd band 6 sy’n mynd drwy’r broses wiriadau ar hyn o bryd, yn dechrau yn eu swyddi unwaith y bydd y gwiriadau wedi eu cwblhau. Mae'r bwrdd yn parhau i hysbysebu ar gyfer bydwragedd ac obstetryddion ac mae staff cronfa ac asiantaeth hefyd wedi bod yn cael eu defnyddio yn y tymor byr i wella lefelau staffio. Ar lefel arweinyddiaeth, rydym wedi sicrhau bod cymorth yn cael ei roi gan uwch fydwragedd ychwanegol a bod mwy o gymorth rheoli meddygol ar gael i ddarparu goruchwyliaeth a chyngor. Mae cymorth bydwragedd profiadol yn parhau i gael ei ddarparu gan fyrddau iechyd cyfagos, gan gynnwys gan bennaeth bydwreigiaeth a chan fydwraig sy'n ymgymryd â chyfrifoldebau llywodraethu.   Mae swyddogion Llywodraeth Cymru yn parhau i weithio'n agos â'r bwrdd iechyd, a chynhelir cyfarfodydd monitro bob wythnos i ddarparu sicrwydd bod gwasanaethau'n ddiogel a bod y broses adolygu yn mynd rhagddi'n foddhaol. Mae'r bwrdd iechyd wedi creu Bwrdd Gwella Gwasanaethau Mamolaeth ar y cyd â rhanddeiliaid i fonitro hynt gweithredu'r cynllun; ac mae hefyd yn gweithio'n agos ag Uned Gyflawni Llywodraeth Cymru i adolygu prosesau llywodraethu a sicrhau bod ymchwiliad llawn o ddigwyddiadau'n cael ei gynnal a bod yr hyn a ddysgir yn cael ei drosglwyddo. Er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â'r angen i weithredu prosesau cadarn ar draws GIG Cymru ar gyfer adrodd mewn perthynas â digwyddiadau lle mae rhywbeth wedi mynd o'i le, ysgrifennodd y Prif Swyddog Nyrsio at Brif Weithredwr pob bwrdd iechyd i ofyn am sicrwydd ynghylch y trefniadau adrodd a'r prosesau llywodraethu sydd ar waith. Mae'r holl fyrddau iechyd wedi darparu'r sicrwydd y gofynnwyd amdano, ac mae Penaethiaid Bydwreigiaeth wedi ymrwymo i adolygu'r mesurau adrodd a ddefnyddir ar hyn o bryd er mwyn sicrhau bod y mesurau hynny'n gyson.   Mae gan fenywod sy'n defnyddio gwasanaethau mamolaeth yr hawl i ddisgwyl y byddant yn cael gofal diogel o ansawdd uchel. Gall geni plentyn achosi pryder, ond mae hefyd yn brofiad sy'n gallu dod â llawenydd mawr. Mae’n hollbwysig ein bod ni’n canolbwyntio'n uniongyrchol ar les y mamau a'u babanod. Rwyf wedi cael sicrwydd bod camau clir yn cael eu cymryd i sicrhau bod menywod sy'n cael gofal yng ngwasanaethau mamolaeth Cwm Taf yn gallu disgwyl y bydd y gofal hwnnw’n cael ei ddarparu mewn modd diogel ac ystyriol. Bydd yr adolygiad yn darparu sicrwydd a gwersi ychwanegol ar gyfer gwella gwasanaethau ymhellach, ac rwy'n ymrwymo i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ar ôl i'r adroddiad gael ei gyhoeddi'r flwyddyn nesaf.
https://www.gov.wales/written-statement-update-maternity-service-provision-cwm-taf-university-health-board
On 8 May 2018, the Cabinet Secretary for Economy and Transport made an Oral Statement in the Siambr on: Ambitions for Great Western and North Wales Mainlines (external link).
Ar 8 Mai 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Thrafnidiaeth Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Uchelgeisiau ar gyfer Prif Linellau Rheilffordd Great Western a Gogledd Cymru (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-ambitions-great-western-and-north-wales-mainlines
The Welsh Government has a longstanding commitment to increasing the supply of affordable homes, and this commitment is central to Prosperity for All.   We have a target of building 20,000 new affordable homes over the course of this Assembly, but I want to lay the ground work for the prospect of setting even more stretching targets in the future, in response to a range of housing needs.  I also want Welsh Government to continue to create a climate which drives innovation and improvements in terms of design, quality and energy efficiency.   To support this, I am commissioning a review of affordable housing supply. To ensure that the review is fair, transparent and robust, I will establish an independent panel to oversee this work. The panel working under an independent Chair, will examine the approach we are currently taking, and recommend changes as it sees fit. I have asked Lynn Pamment to chair this group, and I am pleased she has accepted. Lynn is a Cardiff office senior partner at PwC, and has experience of working with housing associations and others in the affordable housing sector, as well as a broader wealth of knowledge on the public sector more generally. The review will need to balance the growing need for affordable homes against a backdrop of continuing pressures on the public expenditure available to support house building. My intention is to establish the review on a task and finish basis, and I expect a report and recommendations from the panel by the end of April 2019\. In scrutinising the existing arrangements for delivering affordable housing, the group will be expected to:   * examine the scope for increasing matching sources of finance and the implications of that for grant intervention rates * Examine how partnership working is currently governed between local authorities and housing associations, and recommend how relationships can be maximised to deliver on housing supply ambitions * evaluate the impact of moving to deliver zero carbon homes by 2020 including the role of off\-site manufacture and modern methods of construction * provide advice on whether there should be changes to the standards governing the design and quality of affordable housing * make recommendations on how a sustainable rent policy can help determine long term affordability for tenants and the viability of existing and new housing developments. * advise on how the development capacity in Large Stock Voluntary Transfer (LSVT) housing associations and stock\-holding local authorities can be maximised especially after 2020 when all existing stock meets the Wales Housing Quality Standard. I will provide a further statement on the membership of the panel in the near future.          
Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirdymor i gynyddu’r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac mae’r ymrwymiad hwn yn ganolog i waith Ffyniant i Bawb. Mae gennym darged i godi 20,000 o dai newydd fforddiadwy dros gyfnod y Cynulliad hwn ond rwy eisiau gosod y sylfaen ar gyfer y posibilrwydd o bennu targedau sy’n fwy ymestynnol byth yn y dyfodol, mewn ymateb i ystod o anghenion gwahanol o ran tai. Rwy hefyd eisiau gweld Llywodraeth Cymru yn parhau i greu hinsawdd sy’n ein hysgogi i fod yn arloesol ac i wneud gwelliannau o ran dyluniad ac ansawdd y tai yn ogystal â bod yn effeithlon o ran ynni. I gefnogi’r gwaith uchod, rwy’n comisiynu adolygiad o’r cyflenwad tai fforddiadawy. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn deg, yn dryloyw ac yn gadarn, byddaf yn sefydlu panel annibynnol er mwyn cadw llygad ar y gwaith hwn. Bydd y panel, o dan arweiniad Cadeirydd annibynnol, yn edrych ar ein dull presennol o weithredu a chynnig argymhellion yn ôl yr angen. Rwy wedi gofyn i Lynn Pamment i gadeirio’r grŵp ac rwy’n falch iawn ei bod hi wedi derbyn y cynnig Mae Lynn yn brif bartner yn swyddfa PwC yng Nghaerdydd ac mae ganddi brofiad helaeth o weithio gyda chymdeithasau tai ac eraill yn y sector tai fforddiadwy, ac mae ganddi wybodaeth eang iawn am y sector cyhoeddus yn gyffredinol. Bydd angen i’r adolygiad sicrhau bod cydbwysedd rhwng y galw cynyddol am dai fforddiadwy a’r pwysau parhaus sydd ar yr arian cyhoeddus sydd ar gael i’w wario ar adeiladu tai. Fy mwriad yw cynnal adolygiad fydd yn gweithredu ar sail gorchwyl a gorffen, ac rwy’n disgwyl adroddiad ac argymhelliad gan y panel cyn diwedd Ebrill 2019\. Wrth graffu ar y trefniadau presennol ar gyfer darparu tai fforddiadwy, disgwylir i’r grŵp: * edrych ar y posibilrwydd o gynyddu nifer y ffynonellau arian cyfatebol a goblygiadau hynny ar gyfraddau ymyrraeth grant * edrych ar sut y caiff gwaith partneriaeth ei reoli ar hyn o bryd rhwng awdurdodau lleol a chymdeithasau tai ac argymell ffyrdd o wneud y mwyaf o waith o’r fath er mwyn darparu tai yn unol â’r nod o ran cyflenwi tai * gwerthuso effaith trosglwyddo i ddarparu cartrefi di\-garbon erbyn 2020 gan gynnwys rôl gweithgynhyrchu ar safle arall yn y broses a dulliau modern o adeiladu tai * rhoi cyngor o ran a ddylid newid y safonau sy’n rheoli dyluniad ac ansawdd tai fforddiadwy * cynnig argymhellion ynghylch sut y gall polisi rhenti cynaliadwy helpu i benderfynu a fydd tenantiaid yn gallu fforddio’r rhent yn yr hirdymor a pha mor ymarferol yw’r datblygiadau tai sydd ar gael ar hyn o bryd a’r datblygiadau tai newydd. * cynghori ynghylch sut i wneud y mwyaf o’r gallu i ddatblygu mewn cymdeithasau tai ac awdurdodau lleol sy’n dal stoc dai o ran Trosglwyddo Gwirfoddol ar Raddfa Fawr yn enwedig ar ôl 2020 pan fydd yr holl stoc bresennol yn bodloni Safon Ansawdd Tai Cymru. Byddaf yn rhoi gwybodaeth am aelodaeth y panel mewn datganiad pellach maes o law.
https://www.gov.wales/written-statement-affordable-housing-supply-review
I am publishing today an update on the reforms the Welsh Government is undertaking to the local tax and wider local government finance framework to ensure it responds to the future needs of local government in challenging times.  While each of the changes is being consulted upon in detail, I welcome all comments and contributions to the thinking on this important matter at any time. https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/publications/finance\-reform/?lang\=en
Cyhoeddaf heddiw ddiweddariad ar y diwygiadau y mae Llywodraeth Cymru yn cynnal i’r fframwaith dreth leol a chyllid ehangach ar gyfer Llywodraeth Leol i sicrhau ei bod yn ymateb i anghenion dyfodol Llywodraeth Leol mewn cyfnod heriol. Mae pob un o'r newidiadau yn cael eu ymgynghori arnynt yn fanwl, ond croesawaf sylwadau a chyfraniadau at y meddwl ar y mater pwysig hwn ar unrhyw adeg. https://gov.wales/topics/localgovernment/finandfunding/publications/finance\-reform/?skip\=1\&lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-update-reforming-local-taxes-and-wider-local-government-finance-framework-wales
  Animal welfare is a priority for the Welsh Government and the Wales Animal Health and Welfare Framework Group with one of our strategic outcomes being “animals in Wales have a good quality of life”. On 12 December 2017, I issued a Written Statement on the Welsh Government agreeing to the UK Parliament legislating by Act for England and Wales to increase the maximum sentence for animal cruelty offences from six months to five years. Those who commit the worst acts of animal cruelty should face tough punishments and maintaining a comparative sentencing regime across England and Wales is important to ensure clarity for enforcement agencies, the Courts and the public. On the same day, the UK Government launched a Consultation on the draft Animal Welfare (Sentencing and Recognition of Sentience) Bill. In addition to the sentencing element, the draft Bill sets out the Government “must have regard to the welfare needs of animals as sentient beings in formulating and implementing government policy”. This element of the draft Bill currently applies to Ministers of the Crown only and not to policies which have been devolved, such as animal welfare. Our position on sentience is clear. We fully agree animals are sentient beings and I have written to the Secretary of State for Environment, Food \& Rural Affairs, agreeing to the inclusion of Wales in this sensitive element of the Bill. It is my intention to bring forward a Legislative Consent Motion in the National Assembly to allow this obligation to extend to Welsh Government Ministers as well as to Ministers of the Crown, when the Bill is introduced in Parliament. Officials from Wales, working closely with colleagues in England, will ensure animal sentience is recognised appropriately for devolved matters in this important Bill. The consultation closes on 31 January 2018 and I would encourage individuals and organisations interested in animal welfare to respond. The Consultation on the draft Animal Welfare (Sentencing and Recognition of Sentience) Bill can be found at: https://www.gov.uk/government/publications/draft\-animal\-welfare\-sentencing\-and\-recognition\-of\-sentience\-bill\-2017      
Mae lles anifeiliaid yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru a Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid. Un o amcanion strategol y fframwaith yw bod gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da. Ar 12 Rhagfyr 2017 cyhoeddais Ddatganiad Ysgrifenedig fod Llywodraeth Cymru wedi cytuno â  Llywodraeth y DU y dylai ddeddfu ar gyfer Cymru a Lloegr i gynyddu’r ddedfryd lymaf am greulondeb i anifeiliaid o chwe mis i bum mlynedd. Dylai’r rheini sy’n euog o achosi’r creulondeb mwyaf i anifeiliaid ddioddef cosbau llym, ac mae’n bwysig cadw trefn ddedfrydu gyson ar draws Cymru a Lloegr gan sicrhau eglurder i’r asiantaethau gorfodi, y Llysoedd a’r cyhoedd. Ar yr un diwrnod lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad ar Fil drafft Deddf Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Ymdeimlad). Yn ogystal â’i helfen ddedfrydu, mae’r Bil drafft yn nodi bod yn rhaid i’r Llywodraeth ystyried anghenion lles anifeiliaid fel bodau ymdeimladol wrth lunio’i pholisïau a’u rhoi ar waith. Ar hyn o bryd, mae’r e hon o’r Bil drafft yn gymwys i Weinidogion y Goron yn unig ond nid i bolisïau datganoledig megis lles anifeiliaid. Mae’n safbwynt ni ynghylch ymdeimlad yn glir. Rydym yn cytuno’n llwyr mai bodau ymdeimladol yw anifeiliaid, ac rwyf wedi ysgrifennu at yr Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, i gytuno ar gynnwys Cymru yn elfen hon y Bil, sy’n elfen sensitif. Rwy’n bwriadu rhoi Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol ger bron y Cynulliad  a fydd yn rhoi’r ddyletswydd hon ar Weinidogion Cymru ynghyd â Gweinidogion y Goron pan gaiff y Bil ei gyflwyno yn y Senedd. Bydd swyddogion o Gymru a Lloegr, gan gydweithio â swyddogion yn Lloegr, yn sicrhau bod ymdeimlad anifeiliaid yn cael ei gydnabod yn briodol mewn perthynas â materion datganoledig yn y Bil pwysig hwn. Bydd yr ymgynghoriad yn dod i ben ar 31 Ionawr 2018 a hoffwn annog unigolion a chyrff sydd â diddordeb mewn lles anifeiliaid i ymateb. Cewch weld yr ymgynghoriad ar Fil drafft Lles Anifeiliaid (Dedfrydu a Chydnabod Ymdeimlad) yma: https://www.gov.uk/government/publications/draft\-animal\-welfare\-sentencing\-and\-recognition\-of\-sentience\-bill\-2017
https://www.gov.wales/written-statement-animal-sentience
In December 2017, I issued a statement outlining my intention to introduce a whole Wales approach to tackling nitrate pollution. This year, we have seen an increase in the number and scale of agricultural pollution incidents, damaging both the environment and the reputation of the agriculture industry. Equally damaging, in the context of Brexit, is the impact such incidents have on the work underway on Sustainable Brand Values for Welsh Products. As winter approaches, I am receiving reports of further incidents and of slurry spreading being carried out in unsuitable weather conditions. Not all slurry spreading is bad, but it must be done legally to avoid such destructive consequences.   Poor practice is leaving stretches of our rivers devoid of fish. Our rural communities, which depend on tourism, angling and food industries, must be protected. We must also protect the 80,000 people in Wales who rely on private water supplies. I have considered the need to balance regulatory measures, voluntary initiatives and investment to address agricultural pollution. I have listened to the views of stakeholders and considered the reports produced by the Wales Land Management Forum sub\-group, the Wales Environment Link and World Wildlife Foundation, The Rivers Trust and The Angling Trusts. I have also taken account of responses to the consultations on NVZs, the storage of slurry and silage and the sustainable management of natural resources in Wales. Of particular note is how well key stakeholders have come together in the Wales Land Management Forum sub group. The group is doing valuable work and I see an ongoing role for it in helping to take forward the action I am announcing. In the longer\-term, we will develop a regulatory baseline, informed by responses to the Brexit and Our Land Consultation. More immediately, in the spring of next year, I will introduce regulations to tackle agricultural pollution. These will apply across the whole of Wales to protect water quality from excessive nutrients. The regulations will come into force in January 2020, with transitional periods for some elements to allow farmers time to adapt and ensure compliance. The regulations will include the following measures: • Nutrient management planning; • Sustainable fertiliser applications linked to the requirement of the crop; • Protection of water from pollution related to when,  where and how fertilisers are spread; and • Manure storage standards. The regulations will replicate good practice measures which many farmers across Wales are already implementing routinely and for whom very little will change as a result of my statement.   Good practice must quickly become the norm across the agriculture industry as a whole. Support and advice to help achieve this is available through Farming Connect and our Sustainable Production Grant (SPG). I have already made £6 million available through the SPG which is targeted at supporting agricultural pollution prevention and nutrient management. This investment is critical. The new regulations will enable firm, consistent and effective enforcement to be taken as industry and government work side\-by\-side to address the significant problems we are facing. They will help drive improvements, avoiding potential  barriers to the trade of agricultural produce with the European Union after the UK leaves the EU and at the same time help us to meet our national and international obligations on water quality.
 Ym mis Rhagfyr 2017, cyhoeddais ddatganiad fy mod o blaid mynd i'r afael â llygredd nitradau ar lefel Cymru gyfan. Eleni, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer a graddfeydd yr achosion o lygredd amaethyddol, gan niweidio'r amgylchedd ac enw da'r diwydiant.  Yr un mor niweidiol, yng nghyd\-destun Brexit, yw’r effaith a gaiff digwyddiadau o’r fath ar y gwaith sydd ar y gweill ar roi Gwerthoedd Brand Cynaliadwy i Gynnyrch o Gymru.   A'r gaeaf bellach ar ein gwarthaf, rwyf eisoes yn derbyn adroddiadau o ragor o achosion o wasgaru slyri mewn tywydd anaddas.   Nid yw pob achos o wasgaru slyri yn beth drwg, ond mae’n rhaid ei wneud yn gyfreithiol i osgoi canlyniadau o’r fath.     Mae’r arfer gwael hwn yn golygu bod rhannau o’n hafonydd yn gwbl ddi\-bysgod.  Mae’n rhaid diogelu ein cymunedau gwledig, sy'n ddibynnol ar dwristiaeth, pysgota a diwydiannau bwyd.  Mae’n rhaid inni hefyd warchod yr 80,000 o bobl yng Nghymru sy'n dibynnu ar gyflenwadau dŵr preifat.   Rwyf wedi ystyried yr angen i sicrhau'r cydbwysedd cywir o reoliadau, cymhellion gwirfoddol a buddsoddiad i ddatrys llygredd amaethyddol. Rwyf wedi gwrando ar farn rhanddeiliaid ac wedi ystyried yr adroddiadau a gynhyrchwyd gan is\-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru, Cyswllt Amgylchedd Cymru a Chronfa Natur y Byd, Ymddiriedolaeth yr Afonydd a'r Ymddiriedolaethau Genweirio. Rwyf wedi ystyried hefyd yr ymatebion i'r ymgynghoriadau ar Barthau Perygl Nitradau, storio slyri a silwair a rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy yng Nghymru. O bwys arbennig yw pa mor dda y mae’r rhanddeiliaid wedi dod ynghyd yn is\-grŵp Fforwm Rheoli Tir Cymru.  Mae’r grŵp yn gwneud gwaith gwerthfawr ac rwy’n gweld swyddogaeth barhaus iddo i gynorthwyo yn y gwaith o roi’r camau yr wyf yn eu cyhoeddi ar waith. Yn yr hirdymor, byddwn yn datblygu ein rheoliadau sylfaenol, gyda'r ymatebion i'r ymgynghoriad ar Brexit a'n Tir yn eu llywio.  Yn y tymor byr, yn ystod gwanwyn y flwyddyn nesaf, byddaf yn cyflwyno rheoliadau i fynd i’r afael â llygredd amaethyddol.  Bydd hynny'n effeithio ar Gymru gyfan i ddiogelu ansawdd dŵr rhag gormodedd o faethynnau. Daw'r rheoliadau i rym ym mis Ionawr 2020, gyda cyfnod pontio ar gyfer rhai elfennau i roi amser i  ffermwyr i addasu a sicrhau eu bod yn cydymffurfio. Bydd y rheoliadau'n cynnwys y mesurau canlynol: * Cynlluniau rheoli maethynnau; * Gwrteithio cynaliadwy sy'n gysylltiedig â gofynion y cnwd; * Diogelu dŵr rhag llygredd sy'n gysylltiedig â phryd, ble a sut y caiff gwrtaith ei wasgaru; a * Safonau storio tail. Bydd y rheoliadau'n atgynhyrchu'r arferion da y mae’r mwyafrif o ffermwyr ledled y wlad eisoes yn eu dilyn wrth eu gwaith bob dydd – ac ychydig o newid fydd iddynt hwy o ganlyniad i’m datganiad.   Mae’n rhaid i arfer da ddod yn ddigwyddiad rheolaidd ar fyrder ar draws y diwydiant amaethyddol yn gyffredinol.  Mae cymorth a chyngor i helpu i gyflawni hyn ar gael drwy Cyswllt Ffermio a’n Grant Cynhyrchu Cynaliadwy.  Rwyf eisoes wedi sicrhau bod £6 miliwn ar gael drwy’r Grant Cynhyrchu Cynaliadwy sy’n ceisio cefnogi y broses o atal llygredd amaethyddol a rheoli maethynnau.  Mae’r buddsoddiad hwn yn hollbwysig.   Bydd y rheoliadau newydd yn sicrhau y bydd modd gorfodi hyn mewn dull gadarn, cyson ac effeithiol wrth i’r diwydiant a llywodraeth weithio ochr yn ocrh i fynd i’r afael â’r problemau sylweddol yr ydym yn eu hwynebu.  Byddant yn helpu i greu gwelliannau, gan osgoi rhwystrau posibl i fasnachu cynnyrch amaethyddol gyda’r Undeb Ewropeaidd wedi i’r DU ymadael â’r UE ac ar yr un pryd bod o gymorth inni gyflawni ein rhwymedigaethau cenedlaethol a rhyngwladol ar ansawdd dŵr.  
https://www.gov.wales/written-statement-agricultural-pollution-and-regulatory-reform
On 24 April 2018, Hannah Blythyn, Minister for the Environment made an oral statement in the Siambr on: Air Quality (external link).
Ar 24 Ebrill 2018, gwnaeth y Hannah Blythyn, Gweinidog yr Amgylchedd Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Ansawdd Aer (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-air-quality
Further to my Written Statement on 05 July I am pleased to announce the Agenda for Change multi\-year pay and contract reform deal (2018/2019 to 2020/2021\) has been unanimously agreed by trade unions in Wales. NHS staff do a fantastic job in delivering world\-class care. Even with increasing pressures on the NHS due to, amongst other things, an ageing population and changing public expectations, they work incredibly hard, always putting patients first and keeping them safe whilst providing the high quality care we all expect. The new deal will see NHS staff in Wales on Agenda for Change terms and conditions benefit over three years and help deliver better value for money, with some of the most important changes to working practices in a decade. The deal includes a range of pay and non\-pay proposals that will benefit staff and patients. Most NHS staff below the top of their pay band will benefit from pay increases through the re\-structuring of the pay bands – higher starting pay, removal of overlapping pay points and shorter pay scales. The deal also guarantees fair basic pay awards for the next three years to staff who are at the top of pay bands – a cumulative 6\.5% over three years. The agreement will put learning and development right at the heart of local annual appraisals, helping to improve the experience for staff, ensuring they demonstrate the required standards for their role before moving to the next pay point. We know that getting appraisals right helps improve staff engagement and through that better outcomes for patients. In Wales, specific commitments by the Welsh Partnership Forum to improve the health and wellbeing of NHS staff so as to improve levels of attendance and a preventative approach to sickness absence has enabled NHS staff in Wales to continue to benefit from unsocial hours payments during sickness absence.  Additionally, trade unions and employers will also work together to support individuals in our workforce if they face a diagnosis of a terminal illness, and will adopt the TUC “Dying to Work” campaign In my previous statement I said that the Barnett share alone does not cover the full cost of this agreement so I have decided to invest additional funding to enable this deal to be implemented, in recognition both of the different workforce profile in Wales and the significant reform to the framework. It is right that pay flexibility should be in return for reforms that improve recruitment, retention and boost productivity. Overall, this pay deal is fair to staff and taxpayers. It will help to improve productivity through stronger evidence based appraisal systems and through that, better staff engagement which we know can help improve outcomes for patients. Work will now continue at pace to ensure staff see the benefits in their pay packets before Christmas.                
Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 05 Gorffennaf 2018, rwy'n falch o gyhoeddi bod y cytundeb cyflogau a diwygio'r contract dros sawl blwyddyn (2018/2019 \- 2020/2021\) o dan Agenda ar gyfer Newid wedi'i gytuno yn unfrydol gan undebau llafur Cymru. Mae staff y GIG yn gwneud gwaith ardderchog yn darparu gofal o'r ansawdd flaenaf. Hyd yn oed gyda'r pwysau cynyddol ar y GIG yn sgil, ymysg pethau eraill, poblogaeth sy'n heneiddio a newidiadau o ran disgwyliadau'r cyhoedd, maent yn gweithio'n eithriadol o galed, gan roi cleifion yn gyntaf a'u cadw'n ddiogel wrth ddarparu'r gofal o ansawdd uchel rydyn ni i gyd yn ei ddisgwyl. Bydd y cytundeb newydd yn arwain at weld staff y GIG yng Nghymru sy'n rhan o delerau ac amodau Agenda ar gyfer Newid yn elwa dros dair blynedd, ac yn sicrhau gwell gwerth am arian gyda rhai o'r newidiadau pwysicaf i arferion gweithio mewn degawd. Mae'r cytundeb yn cynnwys amrywiol gynigion yn ymwneud â chyflog a materion eraill a fydd er lles staff a chleifion. Bydd y rhan fwyaf o staff y GIG nad ydynt ar frig eu band cyflog yn elwa ar godiadau cyflog yn sgil ailstrwythuro'r bandiau \- cyflog cychwynnol uwch, dileu pwyntiau cyflog sy'n gorgyffwrdd a graddfeydd cyflog byrrach. Mae'r cytundeb hefyd yn gwarantu dyfarniadau cyflog sylfaenol teg am y tair blynedd nesaf i staff sydd ar frig eu bandiau cyflog \- 6\.5% cronnus dros dair blynedd. Bydd y cytundeb yn gosod dysgu a datblygu wrth galon arfarniadau blynyddol lleol, gan helpu i wella'r profiad i'r staff a sicrhau eu bod yn arddangos y safonau gofynnol ar gyfer eu rôl cyn symud ymlaen i'r pwynt cyflog nesaf. Rydym yn gwybod bod arfarniadau cywir yn helpu i wella ymgysylltiad â staff, a thrwy hynny sicrhau gwell canlyniadau i gleifion. Yng Nghymru, mae ymrwymiadau penodol gan Fforwm Partneriaeth Cymru i wella iechyd a llesiant staff y GIG er mwyn gwella lefelau presenoldeb, ac atal absenoldeb salwch, wedi galluogi staff y GIG i barhau i fanteisio ar daliadau oriau anghymdeithasol yn ystod cyfnodau o absenoldeb oherwydd salwch. Ar ben hynny, bydd undebau llafur a chyflogwyr hefyd yn cydweithio i helpu unigolion yn ein gweithlu os byddant yn wynebu diagnosis o salwch angheuol, gan fabwysiadu ymgyrch “Dying to Work” y TUC. Yn fy natganiad blaenorol, dywedais nad yw cyfran Barnett yn ddigon i dalu am gost lawn y cytundeb hwn, felly rwyf wedi penderfynu buddsoddi cyllid ychwanegol er mwyn sicrhau y bydd y cytundeb hwn yn cael ei roi ar waith, gan gydnabod proffil gwahanol y gweithlu yng Nghymru a'r diwygiadau sylweddol i'r fframwaith. Mae'n iawn rhoi hyblygrwydd o ran cyflog yn gyfnewid am ddiwygiadau sy'n gwella elfennau fel recriwtio, cadw staff a hybu cynhyrchiant. Yn gyffredinol, mae'r cytundeb cyflog hwn yn deg i staff a threthdalwyr. Bydd yn helpu i wella cynhyrchiant drwy systemau arfarnu cryfach, wedi'u seilio ar dystiolaeth, a thrwy hynny, gwell ymgysylltiad â staff y gwyddom sy'n sicrhau gwell canlyniadau i gleifion. Bydd gwaith yn mynd rhagddo ar unwaith er mwyn sicrhau bod staff yn gweld y buddion yn eu pecynnau cyflog cyn y Nadolig.    
https://www.gov.wales/written-statement-agenda-change-pay-award-and-nhs-pay-review-bodys-31st-report-0
There have been 3 separate findings in England of Highly Pathogenic Avian Influenza (HPAI) H5N6 in wild birds in, Dorset, Warwickshire and Hertfordshire this month. A veterinary risk assessment for England and Wales states in light of the 3 recent findings in wild birds, the risk level for disease being found in wild birds has increased from medium to high. The risk associated with direct and indirect transmission to poultry has also increased from low to medium. The risk to poultry, however, is dependent on the level of biosecurity at individual sites. Effective biosecurity measures play a vital part in helping to reduce this risk level. As a precautionary measure, in response to the increased risk level and to mitigate the risk of infection to poultry and other captive birds by wild birds, I am declaring an all Wales Avian Influenza Prevention Zone, under Article 6 of the Avian Influenza and Influenza of Avian Origin in Mammals (Wales) (No. 2\) Order 2006\. The Prevention Zone will apply from 00:01 on 25 January 2018\. The Prevention Zone will require all keepers of poultry and other captive birds, irrespective of how they are kept, to take appropriate and practicable steps, including: * ensure the areas where birds are kept are unattractive to wild birds, for example by netting ponds, and by removing wild bird food sources * feed and water your birds in enclosed areas to discourage wild birds * minimise movement of people in and out of bird enclosures * clean and disinfect footwear and keep areas where birds live clean and tidy * reduce any existing contamination by cleansing and disinfecting concrete areas, and fencing off wet or boggy areas Keepers with more than 500 birds will also be required to take extra biosecurity measures, including restricting access to non\-essential people, changing clothing and footwear before entering bird enclosures and cleaning and disinfecting vehicles. Whilst we have had no findings of Avian Influenza in Wales in 2018, I consider this current Prevention Zone and the requirement for enhanced biosecurity to be proportionate to the risk level faced in Wales. It is essential we take steps to protect our poultry industry, international trade and the wider economy in Wales. All keepers of poultry and other captive birds will need to comply with the requirements of the Avian Influenza Prevention Zone. Keepers must remain vigilant for signs of disease. Avian influenza is a notifiable disease and any suspicion should be reported immediately to the Animal and Plant Health Agency (APHA). I continue to strongly encourage all poultry keepers, even those with fewer than 50 birds, to provide their details to the Poultry Register. This will ensure they can be contacted immediately, via email or text update, in an avian disease outbreak, enabling them to protect their flock at the earliest opportunity. Information on the requirements of the Avian Influenza Prevention Zone, guidance and latest developements are all available on the Welsh Government website.
Cafodd achosion o Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N6 eu canfod y mis hwn mewn adar gwyllt mewn tair ardal wahanol yn Lloegr − yn Dorset, yn Swydd Warwick a Swydd Hertford. Yn ôl asesiad risg milfeddygol ar gyfer Cymru a Lloegr, mae'r ffaith bod achosion wedi dod i'r amlwg mewn adar gwyllt mewn tair ardal wahanol yn golygu bod lefel y risg o ganfod y clefyd mewn adar gwyllt wedi codi o ganolig i uchel. Mae'r risg y  bydd yn cael ei drosglwyddo'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol i ddofednod wedi codi hefyd, o isel i ganolig. Fodd bynnag, mae'r risg i ddofednod yn dibynnu ar lefel y mesurau bioddiogelwch ar safleoedd unigol. Mae mesurau bioddiogelwch yn hanfodol er mwyn  helpu i leihau lefel y risg.   O gofio bod lefel y risg yn uwch, ac er mwyn lleihau'r risg y bydd dofednod ac adar caeth eraill yn cael eu heintio gan adar gwyllt rwyf am fod yn wyliadwrus ymlaen llaw a chyflwyno Parth Atal Ffliw Adar o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) 2006\.  Bydd y Parth Atal yn dod i rym o 00:01 ar 25 Ionawr 2018 ymlaen. Bydd y Parth Atal yn golygu y bydd gofyn i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill, ni waeth sut y maent yn cael eu cadw, gymryd camau priodol ac ymarferol, gan gynnwys: * Sicrhau nad yw'r ardaloedd lle mae'r adar yn cael eu cadw yn ddeniadol i adar gwyllt, er enghraifft, drwy osod netin dros byllau dŵr, a thrwy gael gwared ar ffynonellau bwyd a allai ddenu adar gwyllt: * Bwydo a dyfrio'ch adar mewn ardal gaeedig er mwyn peidio â denu adar gwyllt; * Sicrhau bod cyn lleied o fynd a dod â phosibl o fannau caeedig lle cedwir adar; * Glanhau a diheintio esgidiau a chadw mannau lle mae adar yn byw yn lân ac yn daclus; * Os yw'r haint wedi cyrraedd eisoes, ei leihau drwy lanhau a diheintio ardaloedd concrit, a thrwy godi ffensys o amgylch ardaloedd gwlyb neu gorsiog. Os yw pobl yn cadw mwy na 500 o adar, bydd gofyn iddyn nhw gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol hefyd, gan gynnwys cyfyngu ar fynediad i bobl nad yw’n hanfodol eu bod yn dod i gysylltiad â’r adar, newid dillad neu esgidiau cyn mynd i mewn i fannau caeedig lle cedwir adar, a glanhau a diheintio cerbydau. Er nad ydym wedi canfod unrhyw achosion o Ffliw Adar yn 2018, rwyf o'r farn bod y Parth Atal presennol hwn a'r gofyniad i gymryd camau bioddiogelwch ychwanegol yn ffordd gymesur o ymateb i lefel y risg yng Nghymru. Mae'n hanfodol ein bod yn gweithredu i ddiogelu'n diwydiant dofednod a’n masnach ryngwladol, a hefyd yr economi ehangach yng Nghymru.   Bydd angen i bawb sy'n cadw dofednod ac adar caeth eraill gydymffurfio â gofynion y Parth Atal Ffliw Adar.  Rhaid i geidwad barhau i gadw llygad am arwyddion o'r clefyd. Mae Ffliw Adar yn glefyd hysbysadwy, a dylai pobl roi gwybod i’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar unwaith os oes ganddyn nhw unrhyw amheuon. Rwy’n parhau i annog pawb sy'n cadw dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestr Dofednod. Bydd hynny'n fodd i sicrhau y gellir cysylltu â nhw ar unwaith, drwy'r e\-bost neu neges destun, os ceir achosion o ffliw ada, gan olygu y byddan nhw'n gallu diogelu eu haid cyn gynted â phosibl. Mae gwybodaeth am ofynion y Parth Atal Ffliw Adar, canllawiau a gwybodaeth am y datblygiadau diweddaraf i'w gweld ar wefan Llywodraeth Cymru.  
https://www.gov.wales/written-statement-all-wales-avian-influenza-prevention-zone
I am pleased to announce the appointment of Dr Chris Jones as the Chair of Health Education and Improvement Wales. Dr Jones is a long\-time supporter of the NHS who has championed integration across services and sectors. He has been a strong advocate of the multidisciplinary approach to health care delivery. I have asked Dr Jones in this key role to take the opportunity that HEIW presents to support bold and radical improvement across our workforce and our care services and support delivery of the Welsh Government’s long\-term plan for the future of health and social care in Wales, A Healthier Wales. HEIW will be a new statutory health body when it comes into operation in October this year. Its role will be to plan for and develop the health workforce of the future, alongside working with health boards to improve outcomes for patients. Dr Jones will lead a Board of six independent members, announced via a Ministerial Statement in January this year, and five executive members which will be announced shortly.
Mae’n bleser gennyf gyhoeddi penodiad Dr Chris Jones yn Gadeirydd Addysg a Gwella Iechyd Cymru (AaGIC). Mae Dr Jones wedi cefnogi’r GIG ers amser maith, gan hyrwyddo integreiddio ar draws gwasanaethau a sectorau. Mae wedi bod yn eiriolwr cryf o blaid y dull amlddisgyblaethol o ddarparu gofal iechyd. Rwyf wedi gofyn i Dr Jones fanteisio ar y cyfle yn y rôl allweddol hon gydag AaGIC i gefnogi proses wella ar draws ein gweithlu a’n gwasanaethau gofal a fydd yn ddewr ac yn radical. Bydd hyn yn helpu i gyflawni cynllun hirdymor Llywodraeth Cymru ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, sef Cymru Iachach. Bydd AaGIC yn gorff iechyd statudol newydd pan gaiff ei roi ar waith ym mis Hydref eleni. Ei rôl fydd cynllunio a datblygu’r gweithlu iechyd ar gyfer y dyfodol, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â’r byrddau iechyd i wella canlyniadau i gleifion. Bydd Dr Jones yn arwain Bwrdd sy’n cynnwys chwe aelod annibynnol, a gafodd eu cyhoeddi mewn Datganiad gan y Gweinidog ym mis Ionawr eleni, a phum aelod gweithredol a fydd yn cael eu cyhoeddi’n fuan.
https://www.gov.wales/written-statement-appointment-chair-health-education-and-improvement-wales
On 2 October 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: An Update on Pre\-exposure Prophylaxis—Our Approach in Wales (external link).
Ar 2 Hydref 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Y wybodaeth ddiweddaraf am broffylacsis cyn\-gysylltiad—Ein dull o weithio yng Nghymru (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-update-pre-exposure-prophylaxis-our-approach-wales
I am pleased to announce the appointment of the new National Advisors for Violence Against Women, Gender\-based Violence, Domestic Abuse and Sexual Violence.  Yasmin Khan and Nazir Afzal will take up the post on a job\-share basis on 22nd January and will replace Rhian Bowen\-Davies who ably exercised this role until she stepped down in the autumn. Between them the appointees have a tremendous range of experience, knowledge and skills to bring to the role.  Yasmin Khan is the director of the Halo Project, a charity which helps people who have suffered forced marriage and honour\-based violence.  Halo was named small charity of the Year in the 2017 North East Charities Awards.  She has worked with women and communities in addressing inequalities in the field of employment, education and training.  Her work has led to the development of the first Forced Marriage/Honour Based Violence case scrutiny group in the UK Nazir Afzal has a distinguished career in the Crown Prosecution service and more recently as Chief Executive of the Association of Police and Crime Commissioners.  He has prosecuted some of the most high profile cases in the country and was England and Wales’s policy lead for child abuse, hate crime including disability, violence against women and honour\-based violence. Yasmin and Nazir will advise the Welsh Government on how most effectively to implement the Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (Wales) Act 2015\. They will also work with victims and survivors and with other partners to shape and inform improvements in the way services are planned, commissioned and delivered. This appointment has been keenly anticipated by the sector and I look forward to working with the new National Advisors.    
Mae'n bleser gen i gyhoeddi penodiad dau Gynghorydd Cenedlaethol newydd ar Drais yn erbyn Menywod, Trais ar sail Rhywedd, Cam\-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd Yasmin Khan a Nazir Afzal yn dechrau ar eu gwaith ar 22 Ionawr, gan rannu'r swydd a ysgwyddwyd mor fedrus gan Rhian Bowen\-Davies nes iddi gamu o'r neilltu yn yr hydref. Rhyngddynt, gall y ddau a benodwyd gynnig ystod eang iawn o brofiad, gwybodaeth a sgiliau i'r swydd. Yasmin Khan yw cyfarwyddwr yr Halo Project, elusen sy'n helpu pobl sydd wedi dioddef priodas dan orfod a thrais ar sail anrhydedd. Enillodd y prosiect wobr elusen fach y flwyddyn 2017 yng Ngwobrau Elusennau Gogledd\-ddwyrain Lloegr. Mae Yasmin wedi bod yn gweithio gyda menywod a chymunedau i roi sylw i anghydraddoldebau ym maes cyflogaeth, addysg a hyfforddiant. Arweiniodd ei gwaith at ddatblygu'r grŵp craffu cyntaf ar achosion o briodas dan orfod/trais ar sail anrhydedd yn y DU. Mae Nazir Afzal wedi cael gyrfa nodedig gyda Gwasanaeth Erlyn y Goron ac yn fwy diweddar fel Prif Weithredwr Cymdeithas y Comisiynwyr Heddlu a Throseddu. Mae wedi erlyn rhai o'r achosion uchaf eu proffil yn y wlad, a bu'n arwain polisi Cymru a Lloegr ar gam\-drin plant, troseddau casineb gan gynnwys ar sail anabledd, trais yn erbyn menywod a thrais ar sail anrhydedd. Bydd Yasmin a Nazir yn cynghori Llywodraeth Cymru ar y ffordd fwyaf effeithiol o weithredu'r Ddeddf Trais yn erbyn Menywod, Cam\-drin Domestig a Thrais Rhywiol (Cymru) 2015\. Byddant hefyd yn gweithio gyda dioddefwyr a goroeswyr a phartneriaid eraill i wella'r ffordd o gynllunio, comisiynu, a darparu gwasanaethau. Mae'r sector wedi bod yn aros yn eiddgar am y penodiad hwn, ac rwy'n edrych ymlaen at gael gweithio gyda'r ddau Gynghorydd Cenedlaethol newydd.
https://www.gov.wales/written-statement-appointment-national-advisors-violence-against-women-gender-based-violence
Members will recall my announcement on 17 April of my instruction to officials to begin work to amend the legal framework to allow the treatment of the termination of pregnancy (TOP) to be carried out at home. I am pleased to inform you that the approval, allowing the second dose of medicine for TOP to be carried out at home, has been issued to health boards today. The written notification can be found here: https://gov.wales/legislation/subordinate/nonsi/nhswales/2018/2018direct56/?lang\=en The change in practice will improve the quality of medical TOP provision women receive as they will only be required to attend a clinic once and can self\-administer the second medication in their own home. It will also reduce the burden currently placed on clinical resources, increase the availability of appointments for women who want to access TOP services and enable a greater number of women to access TOP provision at an earlier point in their pregnancy.
Bydd yr aelodau'n cofio fy nghyhoeddiad ar 17 Ebrill a oedd yn rhoi cyfarwyddyd i ddechrau ar y gwaith o ddiwygio'r fframwaith cyfreithiol i ganiatáu i feddyginiaeth ar gyfer terfynu beichiogrwydd gael ei chymryd yn y cartref. Rwy'n falch o allu dweud bod y gymeradwyaeth, sy'n caniatáu i'r ail ddos o feddyginiaeth ar gyfer terfynu beichiogrwydd gael ei chymryd yn y cartref, wedi ei rhoi i fyrddau iechyd heddiw. Mae'r hysbysiad ysgrifenedig ar gael yma: https://gov.wales/legislation/subordinate/nonsi/nhswales/2018/2018direct56/?skip\=1\&lang\=cy Bydd y newid mewn arferion yn gwella ansawdd y ddarpariaeth terfynu beichiogrwydd i fenywod, gan mai dim ond unwaith y bydd angen i fenyw fynd i'r clinig, ac wedyn bydd yn cael cymryd ail ddos y feddyginiaeth yn ei chartref ei hunan. Bydd y drefn hon hefyd yn lleihau'r baich presennol ar adnoddau clinigol, gan ryddhau mwy o apwyntiadau i fenywod eraill sydd am ddefnyddio gwasanaethau terfynu beichiogrwydd, gan sicrhau eu bod yn cael mynediad at wasanaethau terfynu beichiogrwydd yn gynharach yng nghyfnod eu beichiogrwydd.
https://www.gov.wales/written-statement-approval-misoprostol-be-take-home-medical-termination-pregnancy
The safeguarding of the health and welfare of farmed animals kept in Wales throughout their lives, up to and including the point of slaughter, is a high priority for me.  Today, I am pleased to announce I will be launching, before the summer recess, a £1\.1million Food Business Investment scheme package of grant aid specifically for the small and medium size slaughterhouses in Wales.  This support will enable these businesses to invest in improvements to ensure their resilience and their ability to continue to provide slaughtering facilities which are often in remote areas.  Small slaughterhouses support both short and local supply chains and provide processing facilities for small scale livestock producers,  reducing the distance travelled from farm to slaughterhouse.  The slaughterhouse can be the first and last destination for animals leaving the farm and it is important this transfer is as stress free as possible. Grant aid will cover both capital investment and the provision of advice on animal welfare, business improvement and technical matters.  Welfare friendly infrastructure and facilities will be supported and also the installation and upgrading of CCTV monitoring systems.  I want to assist Food Business Operators to put systems in place, while legislating for CCTV in slaughterhouses is taking place in England.  I want Wales’ slaughterhouses to be fully prepared  as I continue to explore opportunities to legislate in the longer term. Officials worked closely with a slaughter industry task and finish group which provided a report of recommendations to me last year on ways to improve animal welfare at slaughter.  The Wales Animal Health and Welfare Framework Group supported the recommendations, which have also proved useful in identifying other links in the supply chain such as transport which may require further actions to safeguard animal welfare.   The details of the grant scheme will be worked up in consultation with the task and finish group to ensure the package of support is bespoke to the sector’s needs.  Small slaughterhouses have survived well in Wales despite many challenges which has seen a steady decline in the numbers elsewhere in Britain.  I want to assist their sustainability in Wales and to maintain high standards of animal welfare that will be beyond reproach. I expect the scheme to launch before the summer recess and officials, together with industry representatives, will be working out the details in the meantime.  
Mae diogelu iechyd a lles anifeiliaid fferm sy'n aros yng Nghymru gydol eu bywydau, hyd at a chan gynnwys y man lladd, yn flaenoriaeth uchel imi.  Heddiw, rwy'n falch o gyhoeddi y byddaf yn lansio cymorth grant ar gyfer Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd gwerth £1\.1 miliwn cyn toriad yr haf, yn benodol ar gyfer lladd\-dai bychain a chanolig yng Nghymru.  Bydd y cymorth hwn yn galluogi'r busnesau hyn i fuddsoddi mewn gwelliannau i sicrhau y byddant yn gallu gwrthsefyll unrhyw newidiadau ac yn gallu parhau i ddarparu cyfleusterau lladd sydd yn aml mewn ardaloedd diarffordd.  Mae lladd\-dai bychain yn cefnogi cadwyni cyflenwi byr a lleol ac yn darparu cyfleusterau prosesu ar gyfer cynhyrchwyr da byw bychain, gan olygu bod llai o ffordd i deithio o'r fferm i'r lladd\-dy. Gall y lladd\-dy fod y gyrchfan gyntaf a'r olaf ar gyfer anifeiliaid sy'n gadael y fferm ac mae'n bwysig bod cyn lleied o straen â phosib yn ystod y trosglwyddo hwn. Bydd cymorth grant yn talu am y buddsoddiad cyfalaf ac yn darparu cyngor ar les anifeiliaid, gwella busnes a materion technegol.  Bydd seilwaith a chyfleusterau lles yn cael eu cefnogi a hefyd osod a diweddaru systemau monitro teledu cylch cyfyng.  Rwyf am helpu Cwmnïau Busnesau Bwyd i sefydlu systemau, tra bo Lloegr yn llunio deddfwriaeth ar gyfer systemau teledu cylch cyfyng mewn lladd\-dai ar hyn o bryd.  Rwyf am i ladd\-dai Cymru fod wedi paratoi yn llawn pe byddai’r ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno yng Nghymru.  Rwyf am i ladd\-dai Cymru fod wedi’u paratoi yn llawn wrth imi barhau i edrych ar gyfleoedd i ddeddfu yn yr hirdymor.     Bu swyddogion yn cyd\-weithio'n agos â chylch gorchwyl y diwydiant lladd roddodd adroddiad o argymhellion imi y llynedd ar ffyrdd o wella lles anifeiliaid wrth eu lladd.  Mae Grŵp Fframwaith Iechyd a Lles Anifeiliaid yn cefnogi'r argymhellion, sydd wedi bod yn ddefnyddiol hefyd wrth nodi cysylltiadau eraill yn y gadwyn gyflenwi megis trafnidiaeth, a gallai fod angen rhagor o weithredu yn y maes hwn i ddiogelu lles anifeiliaid.   Bydd manylion y cynllun grant yn cael ei baratoi mewn ymgynghoriad â'r grŵp gorchwyl a gorffen i sicrhau bod y pecyn o gymorth yn bwrpasol ar gyfer anghenion y sector.  Mae lladd\-dai bychain wedi goroesi'n dda yng Nghymru er gwaethaf nifer o heriau sydd eisoes wedi gweld gostyngiad cyson yn y niferoedd mewn ardaloedd eraill ym Mhrydain.  Rwyf am helpu iddynt fod yn gynaliadwy yng Nghymru ac i gadw safonau uchel o ran lles anifeiliaid, fydd o'r safon uchaf. Rwy'n disgwyl i'r cynllun gael ei lansio cyn toriad yr haf, a bydd swyddogion, yn ogystal â chynrychiolwyr y diwydiant, yn trefnu'r manylion yn y cyfamser.
https://www.gov.wales/written-statement-animal-welfare-food-chain
In February 2018, the Secretary of State for Health and Social Care announced an Independent Medicines and Medical Devices Safety Review to be led by Baroness Julia Cumberlege into how patient concerns about three specific areas of women’s health – sodium valproate, primodos and vaginal mesh \- have been responded to and how the way the healthcare system responds to concerns and can be improved.  Following discussions with patients who have experienced complications following surgical mesh procedures Baroness Cumberlege recommended to Ministers in England that there should be a “pause” in the use of surgical mesh for the treatment of stress urinary incontinence (SUI) until the following conditions are met: • Surgeons should only undertake operations for SUI if they are appropriately trained, and only if they undertake operations regularly; • Surgeons report every procedure to a national database; • A register of operations is maintained to ensure every procedure is notified and the woman identified who has undergone the surgery; • Reporting of complications via MHRA is linked to the register; • Identification and accreditation of specialist centres for SUI mesh procedures, for removal procedures and other aspects of care for those adversely affected by surgical mesh; and • NICE guidelines on the use of mesh for SUI are published. Although Baroness Cumberlege’s advice covers England only, I believe that the principle of high vigilance to ensure mesh use is restricted until these conditions are met also applies here in Wales and is consistent with the recommendations made by the review panel which I set up at the end of last year.   It is my expectation that sufficient levels of clinical governance, including consent, audit and research are in place in health boards in Wales to ensure that all women can be confident that all possible safeguards are in place.  The evidence we have already of a significant reduction in the use of vaginal mesh procedures in Wales suggests a “pause” is already largely in place, driven by a change in clinical decision making during recent years. However, it is my expectation that these additional restrictions will be the case until the requirements for increased safeguards can be met.   The chief medical officer for Wales, Dr Frank Atherton, has written to medical directors drawing their attention to Baroness Cumberlege’s advice confirming that it is consistent with the Wales review panel’s recommendations.  My officials will need to work with the relevant UK professional bodies to determine which arrangements must be in place for Medical Directors to sign off suitable service arrangements.    The Women’s Health Implementation Group, chaired by Tracy Myhill, is meeting in August to start to oversee the implementation of the recommendations made by the review panel in Wales and the new arrangements which now need to be put in place. The report of the Welsh Mesh Review Group can be found at: https://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/mesh?lang\=en              
Ym mis Chwefror 2018, cyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol y byddai Adolygiad Annibynnol o Ddiogelwch Meddyginiaethau a Dyfeisiau Meddygol yn cael ei gynnal dan arweiniad y Farwnes Julia Cumberlege. Byddai’n edrych ar y ffordd yr ymatebwyd i bryderon cleifion am dri maes yn ymwneud ag iechyd menywod \- sodium valproate, primodos a rhwyll y wain \- a sut y gellid gwella'r ffordd y mae'r system gofal iechyd yn ymateb i bryderon. Yn dilyn trafodaethau â chleifion sydd wedi profi cymhlethdodau ar ôl cael triniaethau rhwyll lawfeddygol, argymhellodd y Farwnes Cumberlege i Weinidogion yn Lloegr y dylid ymatal am y tro rhag defnyddio rhwyll lawfeddygol wrth drin anymataliaeth wrinol sy’n gysylltiedig â straen, nes bod yr amodau canlynol wedi'u bodloni: • Ni ddylai llawfeddygon gynnal llawdriniaeth ar gyfer anymataliaeth wrinol sy’n gysylltiedig â straen oni bai eu bod wedi cael eu hyfforddi yn briodol, a'u bod yn cynnal llawdriniaethau o'r fath yn rheolaidd • Dylai llawfeddygon gofnodi pob triniaeth ar gronfa ddata genedlaethol • Dylid cynnal cofrestr o driniaethau er mwyn sicrhau bod pob triniaeth yn cael ei nodi a bod modd adnabod y fenyw sydd wedi cael ei thrin • Dylai unrhyw gymhlethdodau sy'n cael eu nodi drwy'r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd gael eu cysylltu â'r gofrestr • Dylid medru adnabod ac achredu canolfannau arbenigol ar gyfer triniaethau anymataliaeth wrinol sy’n defnyddio rhwyll, triniaethau i'w gwaredu ac agweddau eraill o ofal angenrheidiol i'r rhai a effeithiwyd mewn ffordd negyddol • Dylid cyhoeddi canllawiau NICE ar y defnydd o rwyll ar gyfer trin anymataliaeth wrinol sy’n gysylltiedig â straen. Er bod cyngor y Farwnes Cumberlege ar gyfer Lloegr yn unig, rwy'n credu y dylai Cymru hefyd ddilyn yr un egwyddor o fod ar ein gwyliadwriaeth a chyfyngu ar y defnydd o rwyll nes bod yr amodau hyn wedi'u bodloni. Mae hyn yn gyson â'r argymhellion a wnaed gan y panel adolygu a sefydlais ddiwedd y llynedd. Rwy'n disgwyl i fyrddau iechyd fod â lefelau digonol o lywodraethiant clinigol, gan gynnwys trefniadau cydsyniad, archwilio ac ymchwil, er mwyn i holl fenywod Cymru fedru bod yn hyderus bod pob mesur diogelu posib yn ei le. Yn ôl y dystiolaeth sydd gennym ar hyn o bryd, mae gostyngiad sylweddol eisoes yn y defnydd o driniaethau rhwyll y wain yng Nghymru, yn sgil newidiadau mewn penderfyniadau clinigol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Fodd bynnag, rwy'n disgwyl i’r cyfyngiadau ychwanegol hyn fod yn eu lle nes bod modd bodloni'r gofynion ar gyfer mesurau diogelwch cryfach. Mae Prif Swyddog Meddygol Cymru, Dr Frank Atherton wedi ysgrifennu at gyfarwyddwyr meddygol gan dynnu eu sylw at gyngor y Farwnes Cumberlege yn cadarnhau bod hyn yn gyson ag argymhellion y panel adolygu yng Nghymru. Bydd angen i'm swyddogion weithio gyda chyrff proffesiynol perthnasol yn y DU i benderfynu pa drefniadau sydd angen bod yn eu lle cyn bod modd i Gyfarwyddwyr Meddygol gymeradwyo trefniadau gwasanaeth priodol. Bydd y Grŵp Gweithredu ar Iechyd Menywod, dan gadeiryddiaeth Tracy Myhill, yn cyfarfod ym mis Awst i ddechrau goruchwylio'r gwaith o weithredu'r argymhellion a wnaed gan y panel adolygu yng Nghymru a’r trefniadau newydd sydd angen eu gosod. Gellir gweld adroddiad Grŵp Adolygu Cymru yma: https://gov.wales/topics/health/publications/health/reports/mesh/?lang\=cy  
https://www.gov.wales/written-statement-baroness-cumberleges-announcement-use-surgical-mesh
In response to the period of exceptionally hot and dry weather earlier this summer, I brought together a range of stakeholders at the Royal Welsh Agriculture Show to discuss the action Government and the industry might take collectively to mitigate the issues farmers are facing. I have continued my discussions with industry representatives at the agriculture summer shows and conversations are ongoing at officials’ level too. Whilst the weather and immediate forage situation has improved, I remain concerned about the medium and longer term cost and fodder availability implications for farm businesses. In recognition of the current exceptional circumstances, I have taken the decision to make available a loan facility to farm businesses later this year. European regulations set the payment window for BPS from 1 December to 30 June, and based on Wales’ excellent payment performance, I expect approximately 90% of farm businesses in Wales to receive their BPS payments on day one. To ensure parity between claimants, I will also introduce a loan facility for the remaining approximate 10% of farm businesses where the BPS claims are yet to be validated and therefore cannot be paid under European regulations. Farmers will need to apply for a loan payment and Rural Payment Wales (RPW) will provide full details and make available an online application form in the autumn. Subject to the necessary terms and conditions being met, a loan payment of 70% of the individual farm businesses anticipated BPS 2018 claim value will be paid in early December 2018\. Payments to Glastir contract holders will commence in January 2019 as planned. Communicating this decision at this time will provide farm businesses with assurance and the knowledge they need to help manage their immediate cash flow and plan their finances in the longer term, especially through the forthcoming winter. I am conscious the Farming Unions have been calling for Welsh Government to bring forward the BPS 2018 payments. I have decided this would not be particularly helpful as making advance payments in October will not resolve the immediate or longer term implications of the exceptional weather conditions, and it would create an unfortunate disparity between businesses in terms of some receiving BPS payments while others would not. The Farming Unions themselves recognise this position would be unfair and create further problems. Therefore, the introduction of a loan scheme is a better and fairer solution to the difficult circumstances affecting farm businesses this year. In the short term, I am acutely aware of the human impact on farming families. I have therefore asked my officials to work closely with the agricultural charities, to decide how best the Government can support their work. In order to help address immediate financial difficulties, Welsh Government will be making a donation of £500,000 to help provide short\-term support to those families in Wales who are least able to meet living costs. Farmers struggling with cash flow issues should also consider contacting their bank or our own Farming Connect service. Farming Connect can signpost farmers to other organisations for further assistance and has in place a number of support measures to help review businesses and develop their resilience and I would urge farmers to contact Farming Connect to see what’s on offer. I will continue to monitor the position closely and my officials will remain in constant contact with farmers and other stakeholders. This statement is being issued during recess in order to keep Assembly Members and the industry informed. Should Assembly Members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Fel ymateb i'r tywydd twym a sych a gawsom yn gynharach yr haf hwn, cynullais nifer o randdeiliaid yn y Sioe Frenhinol i drafod yr hyn y dylai'r Llywodraeth a'r diwydiant ei wneud gyda'i gilydd i leddfu'r problemau sy'n wynebu ffermwyr o'i herwydd. Mae'r drafodaeth honno â chynrychiolwyr y diwydiant wedi mynd rhagddi yn sioeau amaethyddol yr haf a chafwyd sgwrs hefyd ar lefel swyddogion. Er bod y tywydd a'r sefyllfa o ran porthiant anifeiliaid wedi gwella, rwy'n dal yn bryderus am y goblygiadau o ran costau a faint o borthiant fydd ar gael i fusnesau fferm yn y tymor canolig a hir. Fel cydnabyddiaeth o'r amgylchiadau eithriadol hyn, rwyf wedi penderfynu creu cynllun benthyca i ffermwyr. Yn unol â rheoliadau Ewrop, cyfnod talu'r BPS fydd 1 Rhagfyr i 30 Mehefin, ac o ddilyn patrwm ardderchog y gorffennol yma yng Nghymru, rwy'n disgwyl y bydd 90% o fusnesau fferm Cymru  yn cael eu taliadau BPS ar ddiwrnod un. Er mwyn sicrhau bod pob hawlydd yn cael yr un tegwch, rwyf am gynnig benthyciad i'r 10% o fusnesau fferm nad yw eu hawliadau BPS wedi cael eu dilysu eto ac felly na fydd modd eu talu o dan reoliadau Ewrop. Bydd angen i ffermwyr wneud cais am fenthyciad ar ôl i Taliadau Gwledig Cymru (RPW) gyhoeddi'r manylion llawn a darparu ffurflen gais ar\-lein yn yr hydref. O fodloni'r amodau a'r telerau, caiff y busnes fferm fenthyciad o 70% o werth y BPS 2018 y disgwylir iddo ei hawlio a chaiff ei dalu iddo ddechrau mis Rhagfyr 2018\. Byddwn yn dechrau talu busnesau fferm sydd â chontractau Glastir ym mis Ionawr 2019, yn unol â'r bwriad. Trwy roi gwybod i ffermwyr am y penderfyniad hwn nawr, rhoddir y sicrwydd a'r wybodaeth sydd eu hangen arnyn nhw i allu rheoli'u llif arian a chynllunio'u cyllid yn y tymor hwy, yn enwedig trwy'r gaeaf nesaf. Rwy'n sylweddoli bod Undebau'r Ffermwyr wedi bod yn galw ar Lywodraeth Cymru i dalu taliadau BPS 2018 yn gynt. Yn fy marn i, ni fyddai hynny'n arbennig o ddefnyddiol gan na fydd talu rhagdaliadau ym mis Hydref yn lleddfu effeithiau tymor byr na hir y tywydd eithriadol, a byddai'n creu anghydraddoldeb rhwng busnesau gan y byddai rhai'n derbyn taliad BPS ac eraill ddim. Mae’r  Undebau'r Ffermwyr eu hunain yn cydnabod y byddai'n creu sefyllfa annheg a mwy o broblemau. Felly, byddai cynnig benthyciad yn ateb tecach a gwell i'r amgylchiadau anodd sy'n wynebu busnesau fferm eleni. Yn y tymor byr, rwy’n ymwybodol iawn o’r effaith ar y teuluoedd eu hunain. O’r herwydd, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion gydweithio’n agos â’r elusennau amaethyddol, er mwyn penderfynu sut orau y gall y Llywodraeth roi help llaw iddynt. Er mwyn helpu i fynd i’r afael â’r anawsterau ariannol sy’n wynebu ffermwyr ar hyn o bryd, bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud cyfraniad o £500,000 er mwyn helpu i gynnig cymorth yn y tymor byr i’r teuluoedd hynny yng Nghymru sydd leiaf abl i dalu costau byw.     Dylai ffermwyr sy'n cael trafferthion â'u llif arian gysylltu â'u banc neu ein gwasanaeth Cyswllt Fferm. Gall Cyswllt Fferm gynghori pa gyrff all eu helpu ac mae ganddo nifer o fesurau i helpu busnesau i adolygu a chryfhau'u sefyllfa.  Byddwn yn annog ffermwyr i gysylltu â Cyswllt Busnes i weld beth sydd ganddyn nhw i'w gynnig. Byddaf yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa a bydd fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â ffermwyr a rhanddeiliaid eraill. Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i Aelodau'r Cynulliad a'r diwydiant. Os bydd Aelodau'r Cynulliad am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-basic-payment-scheme-2018-bps
Last week I attended the Global Climate Action Summit in San Francisco with other global leaders from Government, business and civil society from around the World to “Take Ambition to the Next Level”. Wales has a longstanding commitment to taking action on climate change. We were the first Fair Trade nation in the world and most recently, Wales became the first country in the world to legislate for delivering the United Nations’ Sustainable Development Goals (SDGs) with the Well\-being of Future Generations (Wales) Act 2015\. In times of global adversity and change, it is particularly important we continue to work and engage with other partners on one of the biggest challenges we face. At the summit, I attended the Under2 Coalition General Assembly, to which Wales was a founding signatory. Over the last few years the coalition has grown in strength and numbers, with 206 jurisdictions, from 43 countries and collectively represents nearly $30 trillion in GDP, equivalent to nearly 40% of the global economy. Together, the Under2 Coalition are taking over 2,300 climate actions across key sectors such as buildings, energy, transport, land use and more. I was proud to hear at the Assembly, Wales is once again confirmed as a Steering Group Member for Europe and look forward to working with partners over the next few years in taking action on climate change and sharing learning. Wales recognises our global responsibility role. For a country, which was once at the forefront of the industrial revolution with the biggest coal port in the world, we recognise we have to transition to a low carbon clean economy. This is why at the Summit, Wales signed up to the Powering Past Coal Alliance with 9 other members, which now brings the Alliance up to 74 members. The Alliance led by Canada and the UK Government consists of Governments, cities and organisations who are committed to moving the world from burning coal to cleaner power sources. Alongside joining others in the Alliance, we also recognise we can help others to transition. The vision of the UN’s Sustainable Development Goals is that of a shared sustainable developed world, in which no one is left behind. Climate change is not an issue we can solve as individual nations but one of which we need to take collective action. This is why Wales has once again committed to supporting the Climate Group’s Future Fund, recognising our global responsibility and because it is essential to work together on this global challenge.  This fund is aimed at strengthening developing and emerging economies at the state level, enabling them to undertake bold climate leadership, build capacity, and facilitate knowledge\-sharing. I also shared our learning on what we are doing in Wales in areas such as waste, where we have gone from being nearly at the bottom of the EU recycling league in 2000 to now being first in the UK, second in Europe and if Wales was recognised as a nation state, we would be third in the world. I was proud Wales was recognised as a leading region in the area of waste and featured in the Rocky Mountain Institute international carbon free handbook, which looks at no regret actions around decarbonisation.  Although we have made progress in this area, we are not complacent and at the summit, Wales signed up to the C40 Cities’ Advancing Towards Zero Waste Declaration alongside some of the world’s leading cities \& regions. The success of our transition and everyone else’s transition will only come if we share our learning, ideas and actions. Summits like these provides a perfect opportunity to do this and I held a number of bilaterals with other States and Regions such as British Columbia, Baden\-Württemberg, the Basque Country and Quebec as well as sharing what Wales is doing through talks and panel discussions. The wider learning and best practice from the summit, along with responses from our consultation “Achieving our low Carbon Pathway to 2030,” which is open until 4th October, will help to shape our future actions and help us achieve the multiple opportunities a low carbon economy brings.
Yr wythnos ddiwethaf, roeddwn yn yr Uwchgynhadledd Fyd\-eang ar Weithredu ar y Newid yn yr Hinsawdd yn San Fransisco gydag arweinwyr llywodraethau, busnesau a chymdeithasau sifil o bedwar ban byd. Ein nod oedd "Symud y Gwaith Ymlaen i'r Lefel Nesaf". Mae Cymru wedi ymrwymo ers tro i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd. Roedden ni’rgenedl masnach deg gyntaf y byd. Yn fwy diweddar, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y byd i ddeddfu er mwyn cyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig, gan wneud hynny drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015\.  Ar adegau o adfyd a newid ym mhedwar ban byd, mae'n arbennig o bwysig ein bod yn parhau i drafod a gweithio gyda phartneriaid eraill ar un o'r heriau mwyaf sy'n ein hwynebu.   Yn ystod yr uwchgynhadledd, bûm yng Nghynulliad Cyffredinol y Gynghrair o Dan2\. Cymru oedd un o’r gwledydd cyntaf i ymuno â’r Gynghrair pan gafodd ei sefydlu. Mae'r gynghrair wedi tyfu o ran cryfder ac o ran niferoedd dros y blynyddoedd diwethaf. Mae 206 o awdurdodaethau o 43 o wledydd yn aelodau o'r gynghrair erbyn hyn, ac o gyfrif yr holl aelodau gyda'i gilydd, mae ei chynnyrch domestig gros bron yn $30 triliwn, sy'n cyfateb i bron 40% o economi'r byd. Gyda'i gilydd, mae aelodau'r Gynghrair o Dan2 yn cymryd mwy na 2,300 o gamau gweithredu ar y newid yn yr hinsawdd mewn sectorau fel adeiladu, ynni, trafnidiaeth, defnydd tir, a mwy. Roeddwn yn falch o glywed yng Nghynulliad y Gynghrair fod Cymru wedi cael ei chadarnhau unwaith eto yn un o aelodau'r Grŵp Llywio ar gyfer Ewrop. Rwyf yn edrych ymlaen at gydweithio â phartneriaid yn ystod y blynyddoedd nesaf i weithredu ar y newid yn yr hinsawdd ac i rannu'r hyn a ddysgir.     Mae Cymru  yn cydnabod bod gennym gyfrifoldeb byd\-eang. Fel gwlad a fu unwaith yn rheng flaen y chwyldro diwydiannol ac yn gartref i’r porthladd glo mwyaf yn y byd, rydym yn cydnabod bod yn rhaid inni newid i economi sy’n lân ac yn isel o ran carbon. Dyna pam yr aeth Cymru ati yn yr Uwchgynhadledd, ar y cyd â 9 aelod arall, i ymaelodi â'r Powering Past Coal Alliance, sy'n golygu bod gan y Gynghrair bellach 74 o aelodau. Mae aelodau'r Gynghrair, sy'n cael ei harwain gan Ganada a Llywodraeth y DU, yn llywodraethau, dinasoedd a sefydliadau sy'n ymrwymedig i weld y byd yn troi ei gefn ar losgi glo ac yn defnyddio ffynonellau pŵer glanach yn ei le.   Yn ogystal ag ymuno ag eraill yn y Gynghrair, rydym yn cydnabod hefyd y gallwn helpu eraill i newid. Y weledigaeth sy'n sail i Nodau Datblygu Cynaliadwy y Cenhedloedd Unedig yw rhannu byd datblygedig a chynaliadwy, lle nad oes neb yn cael ei adael ar ôl. Nid yw'r newid yn yr hinsawdd yn rhywbeth y gallwn ei newid fel cenhedloedd unigol. Yn hytrach, mae'n fater y mae angen inni gydweithio yn ei gylch. Dyna pam y mae Cymru wedi ymrwymo unwaith eto i gefnogi Cronfa'r Dyfodol a sefydlwyd gan Grŵp yr Hinsawdd, gan gydnabod bod gennym gyfrifoldeb byd\-eang a bod yn rhaid inni gydweithio ar yr her hon sy'n wynebu gwledydd ym mhedwar ban byd. Nod y gronfa yw cryfhau economïau sy'n datblygu ac sy'n dechrau dod i'r amlwg, gan wneud hynny ar lefel y wladwriaeth, a'u galluogi i gynnig arweinyddiaeth gadarn ar y newid yn yr hinsawdd, i feithrin gallu, ac i hwyluso’r gwaith o rannu gwybodaeth. Euthum ati hefyd i rannu'r gwersi a ddysgwyd o'r hyn yr ydym yn ei wneud yng Nghymru mewn meysydd megis gwastraff, lle'r rydym wedi dringo o fod bron ar waelod cynghrair ailgylchu'r UE yn 2000\. Erbyn hyn, ni yw'r orau yn y DU am ailgylchu a’r orau ond un yn Ewrop. Pe bai Cymru yn cael ei chydnabod yn aelod\-wladwriaeth, ni fyddai'r drydedd orau yn y byd. Roeddwn yn falch bod Cymru yn cael ei chydnabod yn un o'r rhanbarthau sydd ar flaen y gad ym maes gwastraff a’i bod wedi cael sylw yn llawlyfr digarbon rhyngwladol Sefydliad y Mynydd Creigiog, sy'n edrych ar ffyrdd o weithredu ar ddatgarboneiddio nad oes iddynt anfanteision. Er ein bod wedi dod yn ein blaen yn dda yn y maes hwn, nid ydym yn gorffwys ar ein rhwyfau ac nid ydym wedi cyrraedd y brig eto. Mae Cymru, ochr yn ochr â rhai o ddinasoedd a rhanbarthau mwyaf blaenllaw'r byd, wedi llofnodi Datganiad Tuag at Ddyfodol Diwastraff Dinasoedd y C40.     Ni fyddwn ni nac unrhyw un arall yn llwyddo i newid oni bai ein bod yn rhannu'r hyn yr ydym yn ei ddysgu, yn rhannu’n syniadau ac yn rhannu'r camau yr ydym wedi'u cymryd. Mae uwchgynadleddau fel hyn yn gyfle perffaith i wneud hynny a chefais nifer o gyfarfodydd dwyochrog gyda gwladwriaethau a rhanbarthau eraill fel Columbia Brydeinig, Baden\-Württemberg, Gwlad y Basg a Quebec. Cefais gyfle hefyd, drwy sgyrsiau a thrafodaethau panel, i rannu gwybodaeth am yr hyn y mae Cymru yn ei wneud. Bydd y gwersi ehangach a ddysgwyd a'r arferion gorau a welwyd yn ystod yr uwchgynhadledd, ynghyd â'r ymatebion i'n hymgynghoriad "Cyflawni ein llwybr carbon isel hyd at 2030", a fydd yn agored tan 4 Hydref, yn helpu i lywio'r hyn y byddwn yn ei wneud yn y dyfodol ac yn ein helpu i greu'r amryfal gyfleoedd sy'n gysylltiedig ag economi carbon isel.
https://www.gov.wales/written-statement-attendance-global-climate-action-summit
Following the resignation of the Chair of Natural Resources Wales (NRW), I have appointed Sir David Henshaw as the Interim Chair for a period of twelve months, commencing on 1 November 2018\. Sir David Henshaw is a past Chief Executive of Liverpool City Council and has held Chair roles in the NHS, including the North West Strategic Health Authority and Alder Hey Foundation Trust Children’s Hospital, leading the Board in the building of the new hospital.  He has also been brought into support a number of challenged NHS Hospital Trusts as an interim Chair. In early 2019, I will commence the recruitment process for a new Chair.  I am currently in the process of recruiting five new Board Members, who I also expect to commence in post on 1 November 2018\. The Interim Chair and new Board Members will join the five current members of the Board being re\-appointed during November.  His immediate priorities, together with the Chief Executive and the rest of the Board, will include supporting the organisation as it works to build more effective structures and way of working, improving governance and building stronger relationships with stakeholders.
Yn dilyn ymddiswyddiad Cadeirydd Cyfoeth Naturiol Cymru , rwyf wedi penodi Syr David Henshaw yn Gadeirydd Dros Dro am gyfnod o ddeuddeg mis. Bydd yn dechrau yn ei swydd ar 1 Tachwedd 2018\. Arferai Syr David Henshaw fod yn Brif Weithredwr Cyngor Dinas Lerpwl ac mae wedi cyflawni sawl rôl fel Cadeirydd yn y GIG, megis yn Awdurdod Iechyd Strategol Gogledd\-orllewin Lloegr ac Ysbyty Plant Ymddiriedolaeth Sylfaen Alder Hey lle arweiniodd y Bwrdd yn y broses o adeiladu'r ysbyty newydd. Gofynnwyd hefyd am ei gymorth fel Cadeirydd Dros Dro i helpu sawl Ymddiriedolaeth Ysbytai'r GIG a oedd yn wynebu heriau. Ar ddechrau 2019, byddaf yn dechrau'r broses recriwtio i benodi Cadeirydd newydd. Rwyf wrthi ar hyn o bryd yn penodi pum aelod newydd i'r Bwrdd ac rwy'n disgwyl iddynt ddechrau yn eu swyddi ar 1 Tachwedd 2018 hefyd. Bydd y Cadeirydd Dros Dro ac Aelodau newydd o'r Bwrdd yn ymuno â phum aelod presennol y Bwrdd a fydd yn cael eu hailbenodi ym mis Tachwedd. Bydd ei flaenoriaethau ef, ynghyd â'r Prif Weithredwr a gweddill y Bwrdd, ar y cychwyn yn cynnwys cefnogi'r sefydliad wrth iddo weithio at greu strwythurau a ffordd o weithio mwy effeithiol, gwella dulliau llywodraethu a meithrin cysylltiadau cryfach â rhanddeiliaid.
https://www.gov.wales/written-statement-appointment-interim-chair-board-natural-resources-wales
The Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs Lesley Griffiths has recruited five new members to the Board of Natural Resources Wales. Their posts commence on 1 November 2018\. Catherine Brown and Professor Steve Ormerod have been appointed for four years, together with Julia Cherrett, Dr Rosie Plummer and Professor Peter Rigby who have been appointed for three years. They will join the five current members of the Board and the recently appointed Interim Chair, Sir David Henshaw. The members who are leaving the Board at the end of October are Dr Madeleine Havard, Andy Middleton, Dr Ruth Hall, Nigel Reader and Sir Paul Williams.  They have each completed six years of service on the Board of NRW, including five months in advance of NRW’s launch in April 2013\. The Board now has three people who are able to speak Welsh. In an effort to strengthen these skills on the Board, the Cabinet Secretary has asked the Advisory Assessment Panel to look again at those who applied and are able to converse fluently in Welsh. The intention is to appoint someone before the end of this year, taking the number of Board members to 12, including the Chief Executive. The Cabinet Secretary said: “Natural Resources Wales is responsible for sustainably managing, maintaining and using Wales’ natural resources and I attach great importance to its role and the work of its board. I am pleased to announce the new members to help the organisation in their important work.  In addition, I would like to thank the outgoing Board members for their commitment and support to NRW over the years. Sir David Henshaw: “I am very pleased to have the opportunity to work with these new members. They, together with the existing members, will help me in my role to support this organisation to building more effective structures and ways of working.”  
Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, wedi recriwtio pum aelod newydd i Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd eu swyddi yn dechrau ar 1 Tachwedd 2018\. Mae Catherine Brown a'r Athro Steve Ormerod wedi'u penodi am bedair blynedd, yn ogystal â Julia Cherret, Dr Rosie Plummer a'r Athro Peter Rigby sydd wedi'u penodi am dair blynedd. Byddant yn ymuno â phum aelod presennol y Bwrdd a'r Cadeirydd dros dro, a benodwyd yn ddiweddar, Syr David Henshaw. Yr aelodau sy'n gadael y Bwrdd ar ddiwedd Hydref yw Dr Madeleine Havard, Andy Middleton, Dr Ruth Hall, Nigel Reader a Syr Paul Williams.  Maent bob un ohonynt wedi gwasanaethu am chwe mlynedd ar Fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru, gan gynnwys pum mis cyn lansiad Cyfoeth Naturiol Cymru ym mis Ebrill 2013\. Mae tri person sy'n gallu siarad Cymraeg bellach ar y Bwrdd. Er mwyn cryfhau'r sgiliau hyn ar y Bwrdd, mae Ysgrifennydd y Cabinet wedi gofyn i'r Panel Cynghori ar Asesu i edrych eto ar y rhai hynny wnaeth ymgeisio ac a oedd yn rhugl yn y Gymraeg. Y bwriad yw penodi rhywun cyn diwedd y flwyddyn hon, gan olygu y bydd cyfanswm o 12 aelod ar y Bwrdd, gan gynnwys y Prif Weithredwr. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: "Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gyfrifol am reoli, cynnal a defnyddio adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, ac rwy'n ystyried ei swyddogaeth a gwaith ei Fwrdd yn bwysig iawn. Dwi'n falch o gyhoeddi'r aelodau newydd hyn i helpu'r sefydliad yn eu gwaith pwysig.  Hefyd, hoffwn ddiolch i aelodau'r Bwrdd sy'n gadael am eu hymrwymiad a'u cefnogaeth i Gyfoeth Naturiol Cymru dros y blynyddoedd. Syr David Henshaw: "Dwi'n falch iawn o gael y cyfle i weithio gyda'r aelodau newydd hyn. Byddant hwy, gyda'r aelodau presennol, yn fy helpu yn fy swyddogaeth o gefnogi'r sefydliad hwn i adeiladu strwythurau a dulliau o weithio mwy effeithiol."
https://www.gov.wales/written-statement-appointment-members-board-natural-resources-wales
I can confirm that the process to recruit a permanent Chair to the Transport for Wales (TfW) Company Board has begun. As set out in the Company’s Articles of Association and Management Agreement governing the relationship between the Welsh Government and TfW, the Welsh Ministers reserve the rights to appoint and dismiss directors of the TfW Company Board. Given the high profile and expectations of the role, it is my preference that the recruitment process should follow the Public Appointments Code of Governance. There is an opportunity to maximise on the successful procurement of the Operator \& Delivery Partner for the Wales \& Borders rail services to attract high calibre candidates to the role of permanent Chair. We want a leader of outstanding merit who can oversee the delivery of true transformation across our transport networks, while holding TfW to its principles to exist for people, for places and for Wales. We are therefore looking for individuals with experience of strategic leadership at senior levels of government, academia or business in sectors of economic infrastructure (such as energy, transport, digital communications) or a related field (such as economics, planning, project/infrastructure finance, retail, engineering, technology and innovation). A highly experienced Advisory Panel has been appointed to support the selection process comprising of the following members; Nicola Shaw CBE, Executive Director at National Grid, David Jones OBE, Chief Executive Coleg Cambria \& Deeside Enterprise Zone, Geraint Davies CBE, Non\-Executive Director to Cardiff Airport and Simon Jones, Director of Economic Infrastructure at Welsh Government. The appointment of a permanent Chair to the TfW Company Board will be made when the term of the Interim Chair ends on 07 January 2019\.  I will update Members again when a decision has been made on a successful candidate.        
Gallaf gadarnhau fod y broses i recriwtio Cadeirydd parhaol ar gyfer Bwrdd Cwmni Trafnidiaeth Cymru wedi dechrau. Fel y dywed Erthyglau Cymdeithasu’r Cwmni a’r Cytundeb Rheoli sy’n rheoli’r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Trafnidiaeth Cymru, mae Gweinidogion Cymru’n cadw’r hawl i benodi neu ddiswyddo cyfarwyddwyr Bwrdd Cwmni Trafnidiaeth Cymru. O gofio proffil uchel a disgwyliadau’r rôl, rwy’n teimlo y dylai’r broses recriwtio ddilyn y Cod Llywodraethu Penodiadau Cyhoeddus. Ceir cyfle yn y fan hon i fanteisio ar lwyddiant y broses gaffael a ddefnyddiwyd i benodi Partner Gweithredu a Darparu gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau er mwyn denu ymgeiswyr o’r ansawdd uchaf i ymgeisio am swydd y Cadeirydd Parhaol.  Rydyn ni’n chwilio am arweinydd eithriadol i oruchwylio’r gwaith o drawsnewid ein rhwydweithiau trafnidiaeth ond gan sicrhau bod Trafnidiaeth Cymru’n cadw at ei egwyddorion dros bobl, dros leoedd a thros Gymru. Rydyn ni felly’n chwilio am unigolion sydd â phrofiad o roi arweiniad strategol ar lefel uchaf llywodraeth, academia neu fyd busnes yn sectorau seilwaith economaidd (fel ynni, trafnidiaeth, cyfathrebu digidol) neu faes cysylltiedig (fel economeg, cynllunio, cyllido prosiectau/seilwaith, adwerthu, peirianneg, technoleg neu arloesi). Mae Panel Cynghori hynod brofiadol wedi’i benodi i helpu’r broses ddewis a bydd y canlynol yn aelodau ohono: Nicola Shaw CBE, Cyfarwyddwr Gweithredol yn y Grid Cenedlaethol, David Jones OBE, Prif Weithredwr Coleg Cambria ac Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy, Geraint Davies CBE, Cyfarwyddwr Anweithredol Maes Awyr Caerdydd a Simon Jones, Cyfarwyddwr Seilwaith Economaidd Llywodraeth Cymru. Caiff Cadeirydd parhaol Bwrdd Cwmni Trafnidiaeth Cymru ei benodi pan ddaw tymor y Cadeirydd Interim i ben ar 07 Ionawr 2019\.  Byddaf yn cysylltu eto ag Aelodau pan fydd ymgeisydd llwyddiannus wedi’i ddewis.
https://www.gov.wales/written-statement-appointment-process-recruit-permanent-chair-transport-wales-company-board
I have great pleasure in making this statement on the appointment of our third Commissioner for Older People in Wales. The successful candidate is Heléna Herklots CBE who will begin her role on 20 August. Heléna is currently the Chief Executive of Carers UK, a role that she has held since 2012\. Wales was the first country in the UK to establish a Commissioner for Older People. We attach great importance to the role and invested in it a wide range of powers to help deliver the change older people want to see. The recruitment process to appoint a new Commissioner complies with the Governance Code for Public Appointments which sets out the principles that should underpin all public appointments. As part of this process a cross\-party panel of Assembly Members assessed candidates’ skills and experiences against the requirements of the post. In addition we also involved older people throughout the recruitment process. A panel of representatives from across the sector interviewed and tested the abilities of the shortlisted candidates against the realities of life for all kinds of older people in Wales. Both panels were independently\-chaired and the findings of both informed my own decision. I am very grateful to all participants, including all candidates who made this a competitive exercise, for giving so freely of their time and experience in contributing to the appointment process. I commend Sarah Rochira, for the sterling work she has undertaken as the current Commissioner. She led the way in championing older people and has raised the profile of the work we are doing on older people’s issues in the international community. She will leave a legacy on which our new Commissioner will, I am sure, build. I wish her well in her future career. I congratulate Heléna on her appointment and warmly welcome her to this important role. We must value older people more, and robustly tackle discrimination on the grounds of age. We must challenge unfair and outdated stereotypes, attitudes and practices that adversely affect older people. I am sure that our new Commissioner will define her own role in her own way and I look forward to hearing more about the progress she makes in this unique and challenging role.          
Mae'n bleser mawr gennyf wneud y datganiad hwn ar benodi ein trydydd Comisiynydd Pobl Hŷn yng Nghymru. Yr ymgeisydd llwyddiannus yw Heléna Herklots CBE a fydd yn dechrau yn ei rôl ar 20 Awst. Ar hyn o bryd, mae Heléna yn Brif Weithredwr Carers UK, rôl y mae wedi ei chyflawni ers 2012\. Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i benodi Comisiynydd Pobl Hŷn. Rydym yn ymwybodol o bwysigrwydd y rôl ac rydym wedi rhoi iddi ystod eang o bwerau er mwyn helpu i weithredu'r newidiadau y mae pobl hŷn yn awyddus i'w gweld. Mae'r broses recriwtio ar gyfer penodi Comisiynydd newydd yn cydymffurfio â'r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus sy'n nodi'r egwyddorion a ddylai fod yn sail i bob penodiad cyhoeddus. Fel rhan o'r broses hon, aeth panel trawsbleidiol o Aelodau'r Cynulliad ati i asesu sgiliau a phrofiadau ymgeiswyr yn erbyn gofynion y swydd. Hefyd, rhoddwyd cyfle i bobl hŷn gymryd rhan yn ystod pob cam o'r broses recriwtio. Bu panel o gynrychiolwyr o wahanol rannau o'r sector yn cyfweld yr ymgeiswyr a oedd ar y rhestr fer, gan brofi eu gallu yn erbyn realaeth bywyd i bobl hŷn sydd mewn sefyllfaoedd gwahanol yng Nghymru. Roedd y ddau banel yn gweithredu o dan gadeiryddiaeth annibynnol, a defnyddiais gasgliadau'r ddau wrth ddod i benderfyniad. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses recriwtio, gan roi o'u hamser a'u profiad yn hael, gan gynnwys yr holl ymgeiswyr sydd wedi sicrhau y bu hwn yn ymarfer cystadleuol. Hoffwn ganmol Sarah Rochira ar y gwaith gwych y mae wedi ei gyflawni yn rhinwedd ei swydd fel y Comisiynydd presennol. Mae wedi arwain y ffordd o ran hyrwyddo buddiannau pobl hŷn ac wedi codi proffil y gwaith yr ydym yn ei wneud ar faterion pobl hŷn yn y gymuned ryngwladol. Bydd hi'n gadael etifeddiaeth y bydd ein Comisiynydd newydd yn siŵr o adeiladu arni. Rwy'n dymuno'n dda iddi yn ei gyrfa yn y dyfodol. Hoffwn longyfarch Heléna ar ei phenodiad a'i chroesawu'n gynnes i'r rôl bwysig hon. Mae'n rhaid inni werthfawrogi pobl hŷn yn fwy, gan fynd i'r afael â gwahaniaethu ar sail oedran. Mae'n rhaid inni hefyd herio stereoteipiau, agweddau, ac arferion hen ffasiwn ac annheg sy'n cael effaith wael arnynt. Rwy'n siŵr y bydd ein Comisiynydd newydd yn diffinio ei rôl ei hunan yn ei ffordd ei hunan, ac rwy'n edrych ymlaen at glywed am hynt ei gwaith yn y rôl unigryw a heriol hon.
https://www.gov.wales/written-statement-appointment-commissioner-older-people
In my statement on 11 May I updated Assembly Members of the problem issues affecting the English breast screening programme. Public Health Wales (PHW) had reviewed the Breast Test Wales (BTW) screening programme and found that the Welsh programme did not have the same failings. BTW has taken the opportunity to put further failsafe measures in place to ensure women continue to be invited for screening according to our offer in Wales. PHW will also be reviewing the other cancer screening programmes in line with the review of BTW to ensure their systems are robust. The UK Government issued a further written statement on 4 June which detailed within it the numbers of women resident in Wales who are affected by the problem issues in the English programme. Public Health England (PHE) wrote to 94 Welsh residents who previously lived in England and had their final screen missed when part of the English programme. A further 183 Welsh residents were contacted because they are registered with an English GP and had taken part in the English screening programme.  PHW and PHE have been working closely together to ensure all affected women have been contacted and offered screening or invited to consider self referral. The aim of breast screening is to identify breast cancer early. In Wales in 2016\-17, a total of 1,185 cancers were detected in the 123,000 women who were screened for breast cancer. I would like to reiterate that we have excellent screening programmes in Wales that undoubtedly saves lives. I urge all those eligible to take up the offer of screening when they are invited.              
Yn fy natganiad ar 11 Mai, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y broblem a oedd yn effeithio ar y rhaglen sgrinio’r fron yn Lloegr. Roedd Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi adolygu rhaglen sgrinio Bron Brawf Cymru ac wedi canfod nad  oedd yr un diffygion yn bodoli yn y rhaglen yng Nghymru.  Mae Bron Brawf Cymru wedi manteisio ar y cyfle i osod mesurau pellach yn eu lle i sicrhau bod menywod yn parhau i gael gwahoddiad i gael eu sgrinio yn unol â'n cynnig yng Nghymru. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru hefyd yn adolygu rhaglenni sgrinio canser eraill yn yr un modd â Bron Brawf Cymru er mwyn sicrhau bod eu systemau yn gadarn. Cyhoeddodd Llywodraeth y DU ddatganiad ysgrifenedig arall ar 4 Mehefin a oedd yn manylu ynghylch nifer y menywod sy’n byw yng Nghymru ac sy’n cael eu heffeithio gan y broblem yn rhaglen Lloegr. Ysgrifennodd Public Health England at 94 o drigolion Cymru a oedd yn arfer byw yn Lloegr ac a fethodd eu sgriniad olaf pan oeddent yn rhan o raglen Lloegr. Cysylltwyd â 183 o fenywod eraill yng Nghymru am eu bod wedi cofrestru â meddyg teulu yn Lloegr ac wedi cymryd rhan yn rhaglen sgrinio Lloegr.  Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru a Public Health England wedi bod yn cydweithio'n agos i gysylltu â'r holl fenywod a gafodd eu heffeithio er mwyn cynnig sgrinio neu eu gwahodd i ystyried hunan\-atgyfeirio. Nod sgrinio’r fron yw canfod canser y fron yn gynnar. Yn 2016\-17, canfuwyd cyfanswm o 1,185 achos o ganser yn y 123,000 o fenywod a gafodd eu sgrinio ar gyfer canser y fron. Hoffwn bwysleisio unwaith eto bod gennym raglenni sgrinio ardderchog yng Nghymru, sy’n sicr yn achub bywydau. Rwy'n annog pawb sy'n gymwys i fanteisio ar y cynnig i gael eu sgrinio pan ddaw gwahoddiad.
https://www.gov.wales/written-statement-breast-screening-issue-england-1
  I will continue to work closely with my Cabinet colleagues, health and social care organisations and key stakeholders to secure the best possible deal for the people of Wales.   I urge Members to consider this further detail alongside my statement today.   http://amrcw.org.uk/portfolio/brexit\-and\-the\-implications\-for\-healthcare\-in\-wales\-2/ Members will have today received the Welsh NHS Confederation’s Policy Forum paper, ‘The key issues for health and social care organisations as the UK prepares to leave the European Union’. The Academy of Medical Royal Colleges in Wales has also undertaken work into the risks around Brexit which can be found on their website: • Urgent clarity on arrangements for reciprocal healthcare for EU citizens working or visiting the UK and similarly for UK citizens in Europe; • Continued relations with the Euratom Treaty to ensure patients in Wales get consistent and timely access to radioisotopes for cancer treatments; • Continued close collaboration on disease surveillance, maintaining environmental and health standards and measures to promote public health; • Close collaboration between the UK and the European Medicines Agency to prevent delays to new medicines and medical devices for patients; • Ongoing recognition of professional qualifications to ensure patient safety and enabling our health and social care sectors to fill workforce gaps quickly; • Continued access to key EU  funding programmes and collaboration on  research and innovation; • Assurances that EEA health and social care staff currently working in Wales should be able to stay in the UK with the same rights being extended to UK citizens working in other EEA Countries; • A flexible immigration system that is responsive of health, medical research and social care sectors; With just nine months to go before the UK leaves the EU, any negotiated settlement will be unacceptable to the Welsh Government unless it provides assurances and clarity on the following fundamental risks posed by the Brexit to the future health and wellbeing of the people of Wales: I will be making an oral statement on this matter later today. To complement this I draw Members attention to more detailed analysis of the risks Brexit poses to health and social care services in Wales. We know the main areas of risk are related to workforce, access to and the trade of medicines, vaccine and medical devices, radioisotopes, food safety and consumer protection, infectious disease control and research.                
Byddaf yn parhau i weithio'n agos gyda'm cydweithwyr yn y Cabinet, sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol a rhanddeiliaid allweddol i sicrhau'r fargen orau bosib i bobl Cymru.   Rwy'n annog yr Aelodau i ystyried y manylion pellach hyn wrth ochr fy natganiad heddiw.      http://amrcw.org.uk/portfolio/brexit\-and\-the\-implications\-for\-healthcare\-in\-wales\-2/\#  Bydd yr Aelodau heddiw wedi derbyn papur Fforwm Polisi Conffederasiwn GIG Cymru, ‘The key issues for health and social care organisations as the UK prepares to leave the European Union’. Mae Academi Colegau Meddygol Brenhinol Cymru hefyd wedi edrych ar y peryglon yn sgil Brexit, ac mae'r gwaith i'w weld ar eu gwefan: • Eglurder ar unwaith ynghylch trefniadau gofal iechyd cyfatebol i ddinasyddion yr UE sy'n gweithio neu'n ymweld â'r DU, ac yn yr un modd i ddinasyddion y DU yn Ewrop. • Parhau i ymwneud â Chytuniad Euratom er mwyn sicrhau bod cleifion Cymru'n cael mynediad cyson ac amserol at radioisotopau ar gyfer triniaeth ganser • Parhau i gydweithio'n agos ar fonitro clefydau, cynnal safonau amgylcheddol ac iechyd a mesurau i hyrwyddo iechyd y cyhoedd. • Cydweithrediad agos rhwng Asiantaethau Meddyginiaethau Ewrop a'r DU er mwyn atal unrhyw oedi cyn i gleifion gael mynediad at feddyginiaethau a dyfeisiau meddygol newydd • Parhau i gydnabod cymwysterau proffesiynol er mwyn sicrhau diogelwch cleifion a galluogi ein sectorau iechyd a gofal cymdeithasol i lenwi bylchau yn y gweithlu yn gyflym • Parhau i gael mynediad at raglenni cyllid allweddol yr UE a chydweithio ar ymchwil ac arloesi • Sicrwydd y bydd staff iechyd a gofal cymdeithasol o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd sy'n gweithio yng Nghymru ar hyn o bryd yn cael aros yn y DU, gyda'r un hawliau yn cael eu hymestyn i ddinasyddion y DU sy'n gweithio yng ngwledydd eraill yr Ardal Economaidd Ewropeaidd • System fewnfudo hyblyg sy'n ymateb i'r sectorau iechyd, ymchwil feddygol a gofal cymdeithasol Gyda dim ond naw mis i fynd cyn i'r DU ymadael â'r UE, bydd unrhyw setliad a negodir yn annerbyniol i Lywodraeth Cymru oni bai ei fod yn cynnig sicrwydd ac eglurder ar y materion sylfaenol canlynol lle mae Brexit yn fygythiad i iechyd a llesiant pobl Cymru yn y dyfodol: Byddaf yn gwneud datganiad llafar ar y mater hwn yn hwyrach heddiw. I ategu'r datganiad hwnnw, rwyf am dynnu sylw'r Aelodau at ddadansoddiad manylach o'r peryglon posibl y mae Brexit yn eu cyflwyno i wasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Rydym yn gwybod bod y prif beryglon yn ymwneud â'r gweithlu, masnach a mynediad at feddyginiaethau, brechlynnau a dyfeisiau meddygol, radioisotopau, diogelwch bwyd a diogelu defnyddwyr, rheoli clefydau heintus ac ymchwil.
https://www.gov.wales/written-statement-brexit-risks-future-health-and-social-care-wales
On 6 November 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: Betsi Cadwaladr University Health Board – Special Measures Update (external link).
Ar 6 Tachwedd 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr – y wybodaeth ddiweddaraf am y Mesurau Arbennig (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-betsi-cadwaladr-university-health-board-special-measures-update
Yesterday’s announcement by the Secretary of State for Health and Social Care, Jeremy Hunt MP about the breast screening issues in England is very concerning.   I would like to reassure women in Wales that this issue is predominantly one that affects England. Women aged 50 to 70 who are resident in Wales and registered with a GP are invited for a mammogram every three years. Once women turn 70 they can self\-refer for screening by contacting the screening programme. In light of the issues affecting the English programme, and given that the breast screening programme in Wales is on the same IT platform as England, Public Health Wales is urgently reviewing the Welsh breast screening programme to ensure all eligible women are invited for screening. I will provide a further update when this further work is complete. There are also three potential groups of women affected by the English system who may now be resident in Wales:   * Women registered with English GPs in border areas of Wales and attending English screening services may be affected in the same way as English women. * Some women who should have been invited in their 70th year by England may now be living in Wales and be locally registered. * Women who may have been registered on the system but where subsequent follow up was lost. It is not possible to quantify these groups currently but the total combined affected population for Wales and the other devolved administrations is thought to be very small. Public Health England has set up a free helpline for women who might be affected on: 0800 169 2692\. I expect an update from Public Health Wales shortly and will provide another statement to update Members when that is received.                    
Mae'r datganiad ddoe gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Hunt AS ynghylch y materion sgrinio'r fron yn Lloegr yn destun pryder.   Hoffwn roi sicrwydd i fenywod yng Nghymru mai mater sy'n effeithio ar Loegr yn bennaf yw'r mater hwn. Mae menywod 50 i 70 oed sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferydd Cyffredinol yn cael eu gwahodd am famogram bob tair blynedd. Pan fydd menywod yn cyrraedd 70 gallant hunanatgyfeirio i gael eu sgrinio trwy cysylltu a’r rhaglen sgrinio. Yng ngoleuni'r materion sy'n effeithio ar y rhaglen yn Lloegr, ac o gofio bod y rhaglen sgrinio'r fron yng Nghymru ar yr un platfform TG â Lloegr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n adolygu rhaglen sgrinio'r fron yng Nghymru er mwyn sicrhau bod yr holl fenywod cymwys yn cael eu gwahodd am sgrinio. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach pan fydd y gwaith pellach hwn wedi'i gwblhau. Hefyd mae yna dri grŵp posibl o fenywod y mae system Lloegr yn effeithio arnynt a allai fod yn byw yng Nghymru erbyn hyn: * Gallai menywod sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol yn Lloegr yn ardal y Gororau ac sy'n mynychu gwasanaethau sgrinio yn Lloegr ddioddef yr un effaith â menywod yn Lloegr. * Gallai rhai menywod a ddylai fod wedi cael eu gwahodd yn y flwyddyn y maent yn codi'n 70 oed fod yn byw yng Nghymru erbyn hyn a bod wedi'u cofrestru'n lleol. * Menywod a allai fod wedi'u cofrestru ar y system ond lle collwyd y cyfle i'w dilyn i fyny. Nid oes modd gwybod yn union y nifer sydd yn  y grwpiau hyn ar hyn o bryd ond credir mai cyfran fach iawn yn  unig o boblogaeth Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill sydd wedi dioddef oherwydd hyn. Mae Public Health England wedi sefydlu llinell gymorth am ddim i fenywod y gallai’r mater fod wedi effeithio arnynt ar: 0800 169 2692 Rwyf yn disgwyl y newyddion diweddaraf oddi wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn bo hir a byddaf yn darparu datganiad arall ar gyfer yr Aelodau pan ddaw hwnnw i law.
https://www.gov.wales/written-statement-breast-screening-issue-england
On 5 June 2018, the Minister for Housing and Regeneration made an oral statement in the Siambr on: Changes to the Park Homes Commission Rate (external link).
Ar 5 Mehefin 2018, gwnaeth y Gweinidog Tai ac Adfywio ddatganiad lafar yn y Siambr: Newidiadau i Gyfradd y Comisiwn ar Gartrefi mewn Parciau (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-changes-park-homes-commission-rate
Today, the National Assembly will debate the final Budget 2018\-19, which sets out a series of new revenue allocations for Wales as a result of funding consequentials received from the UK Autumn Budget.   In December, I committed to making an announcement about any early decisions about capital investments flowing from Wales’ UK Budget consequentials, ahead of today’s final Budget debate.   I am therefore announcing capital investment of almost £200m up to 2020\-21, which will support the Welsh Government’s investment priorities. These are: • An extra £75m will be invested over the next three years to accelerate the delivery of the 21st Century Schools and Education programme. • £30m as an immediate capital injection this year into the 21st Century Schools and Education Programme to support our target of a million Welsh speakers by 2050\.  This means an equivalent £30m will be released from the programme in future years to support capital projects dedicated to supporting and growing the use of the Welsh language in education. This is a shared priority with Plaid Cymru. • An additional £70m over the next two years will be allocated to support improvements in the NHS, which will in turn support the delivery of modern, effective and high\-quality patient care. The funding will allow the Cabinet Secretary for Health and Social Services to press ahead with his consideration of a range of clinical priorities, including continued support for the new Velindre Cancer Centre and investment in neonatal services in Carmarthen and Swansea. • £9m of financial transaction funding over the next three years to support the development of health innovation centres based on the Welsh Wound Innovation Centre model. • An additional £14\.6m over the next three years to support local authorities to make improvements to air quality, building on the extra £5\.6m revenue allocated in the final Budget 2018\-19\. I am also discussing proposals for a road refurbishment scheme of up to £30m with the Welsh Local Government Association, which will provide vital investment in our local roads. I am committed to bringing forward a new Wales Infrastructure Investment Plan in the spring. This will reflect the outcome of further discussions with Cabinet colleagues to ensure we maximise the use of additional capital funding available to deliver our investment priorities, which are aligned to Taking Wales Forward and Prosperity for All. Discussions will also continue with Plaid Cymru on areas of shared priorities for capital investment. I will update Assembly Members about further capital allocations in the spring when the Wales Infrastructure Investment Plan is published.
Heddiw, bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod Cyllideb Derfynol 2018\-19, sy'n gosod cyfres o ddyraniadau refeniw newydd i Gymru o ganlyniad i gyllid canlyniadol a dderbyniwyd o Gyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.   Ym mis Rhagfyr, ymrwymais i wneud cyhoeddiad am unrhyw benderfyniadau cynnar ynghylch buddsoddi cyfalaf yn deillio o gyllid canlyniadol Cymru o Gyllideb y DU, cyn y drafodaeth heddiw ar y Gyllideb Derfynol. Felly rwy'n cyhoeddi buddsoddiad cyfalaf o bron i £200m hyd at 2020\-21, a fydd yn cefnogi blaenoriaethau buddsoddi Llywodraeth Cymru fel a ganlyn: • Bydd £75m ychwanegol yn cael ei fuddsoddi dros y tair blynedd nesaf i gyflymu'r gwaith o gyflawni rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. • Bydd £30m o hwb cyfalaf ar unwaith eleni i raglen Addysg ac Ysgolion yr 21ain Ganrif i gefnogi ein targed o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050\. Mae hynny'n golygu y bydd £30m cyfatebol yn cael ei ryddhau o'r rhaglen hon yn y blynyddoedd i ddod i gefnogi prosiectau cyfalaf penodol i gefnogi a hybu'r defnydd o'r Gymraeg mewn addysg. Mae hyn yn flaenoriaeth rydym yn ei rhannu â Phlaid Cymru. • Bydd £70m ychwanegol yn cael ei ddyrannu dros y ddwy flynedd nesaf i gefnogi gwelliannau i'r GIG, a fydd yn eu tro yn helpu i ddarparu gofal modern, effeithiol ac o ansawdd uchel i gleifion. Bydd y cyllid yn caniatáu i Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol fwrw ymlaen i ystyried amrywiol flaenoriaethau clinigol, gan gynnwys parhau i gefnogi Canolfan Ganser Felindre a buddsoddi mewn gwasanaethau newyddenedigol yng Nghaerfyrddin ac yn Abertawe. • £9m o gyllid trafodiadau ariannol dros y tair blynedd nesaf i helpu i ddatblygu canolfannau arloesi iechyd tebyg i'r Ganolfan Arloesi ym maes Gwella Clwyfau. • £14\.6m ychwanegol dros y tair blynedd nesaf i helpu awdurdodau lleol i wella ansawdd aer, gan adeiladu ar y  £5\.6m o refeniw ychwanegol a gafodd ei neilltuo yng Nghyllideb Derfynol 2018\-19\. Rwyf hefyd yn trafod cynigion ar gyfer cynllun ailwampio ffyrdd gwerth hyd at £30m gyda'r Gymdeithas Llywodraeth Leol, a fydd yn darparu buddsoddiad hanfodol yn ein ffyrdd lleol. Rwyf wedi ymrwymo i gyflwyno Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru newydd yn y gwanwyn. Bydd hyn yn adlewyrchu canlyniad trafodaethau pellach gyda chydweithwyr yn y Cabinet i sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyllid cyfalaf ychwanegol i gyflawni ein blaenoriaethau ar gyfer buddsoddi, sy’n cyd\-fynd â Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb. Bydd trafodaethau hefyd yn parhau gyda Phlaid Cymru ar ein blaenoriaethau cyffredin ar gyfer buddsoddi cyfalaf. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ynghylch dyraniadau cyfalaf pellach yn y gwanwyn, pan fydd Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru wedi’i gyhoeddi.
https://www.gov.wales/written-statement-capital-investment
On 23 October 2018, Julie James, Leader of the House and Chief Whip made an oral statement in the Siambr on: Broadband Update (external link).
Ar 23 Hydref 2018, gwnaeth y Julie James, Arweinydd y Tŷ a'r Prif Chwip ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am Fand Eang (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-broadband-update
In my statement on 3 May I informed Assembly Members that in light of the issues affecting the English breast screening programme, and given that the breast screening programme in Wales is on the same IT platform as England, Public Health Wales would be reviewing the Breast Test Wales screening programme as a precaution. The review against the issues as described by England is now complete and I am pleased to inform Members that Public Health Wales has concluded that the system issues affecting England do not apply in Wales.  While the same IT platform is used in Wales it is administered in a different way in Wales and against different age parameters.   I also referred to their being groups of women currently resident in Wales who are potentially affected by the issues relating to the English programme, primarily as a result of having previously accessed England’s programme. Public Health England and NHS Digital are working closely with Public Health Wales to identify this cohort. Those affected by this issue should be contacted by the English screening programme by the end of May. Public Health Wales will work with Public Health England to ensure any necessary catch\-up screening will be offered locally by Breast Test Wales. Women in Wales who are concerned they may have missed an appointment because they previously lived in England are able to call the England helpline on 0800 169 2692\. Having confirmed that our programme is not affected by the issues identified in England, Public Health Wales is now undertaking a further review of their systems and procedures to ensure the appropriate safeguards are in place to call all eligible women in Wales for their final breast screening.   Breast screening reduces the risk of dying from breast cancer. In 2016\-17, a total of 1,185 cancers were detected in the 123,000 women who were screened. Women in Wales aged between 50 and 70 are invited for breast screening every three years and are urged not to ignore their screening invitation. Women who are aged 70 years and older are able to self refer for screening. Public Health Wales runs seven national screening programmes in Wales and I would encourage anyone eligible for these programmes to take up the offer. Further information is available on the Public Health Wales website.    
Yn fy natganiad ar 3 Mai, dywedais wrth Aelodau'r Cynulliad yng ngoleuni'r materion sy'n effeithio ar y rhaglen sgrinio'r fron yn Lloegr, ac o gofio bod y rhaglen yng Nghymru ar yr un platfform TG â Lloegr, y byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru yn adolygu rhaglen sgrinio Bron Brawf Cymru fel cam diogelwch. Mae'r adolygiad o'r materion a ddisgrifiwyd gan Loegr bellach wedi dod i ben ac rwy'n falch o roi gwybod i'r Aelodau bod Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi dod i'r casgliad nad yw'r materion yn ymwneud â'r system yn Lloegr wedi effeithio ar Gymru. Er ein bod yn defnyddio yr un platfform TG â Lloegr, caiff ei weinyddu mewn ffordd wahanol a chan ddefnyddio ffiniau oedran gwahanol. Dywedais hefyd fod grwpiau o fenywod sy’n preswylio yng Nghymru ar hyn o bryd ond y gallai’r materion yn ymwneud â'r rhaglen yn Lloegr  effeithio arnynt, yn bennaf oherwydd eu bod wedi cael eu gwasanaethu gan raglen Lloegr yn y gorffennol. Mae Public Health England ac NHS Digital yn gweithio'n agos gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru er mwyn canfod y menywod yn y cohort hwn. Dylai'r rhaglen sgrinio yn Lloegr gysylltu â'r menywod hynny yr effeithir arnynt cyn diwedd mis Mai. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gweithio gyda Public Health England i sicrhau y bydd unrhyw brofion sgrinio dilynol angenrheidiol yn cael eu cynnig yn lleol gan Bron Brawf Cymru. Gall menywod yng Nghymru sy'n poeni eu bod wedi methu apwyntiad oherwydd eu bod wedi byw yn Lloegr yn y gorffennol ffonio'r llinell gymorth bwrpasol drwy 0800 169 2692\. Er ein bod wedi cadarnhau nad yw'r materion yn Lloegr wedi effeithio ar ein rhaglen ni, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal adolygiad pellach o'i systemau a'i weithdrefnau er mwyn sicrhau bod y camau diogelu priodol ar waith fel bod yr holl fenywod cymwys yng Nghymru yn cael eu galw i gael eu prawf sgrinio arferol olaf. Mae'r profion sgrinio'r fron yn lleihau'r risg o farw o ganser y fron. Yn 2016\-17, cafodd 1,185 o achosion o ganser eu canfod yn y 123,000 o fenywod a gafodd eu sgrinio. Caiff menywod yng Nghymru rhwng 50 a 70 oed eu gwahodd i gael prawf sgrinio bob tair blynedd, ac fe'u hanogir i beidio ag anwybyddu'r gwahoddiad i gael y prawf. Caiff menywod dros 70 oed gyfeirio eu hunain i gael prawf sgrinio. Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal saith o raglenni sgrinio cenedlaethol yng Nghymru, a byddwn yn annog unrhyw un sy'n gymwys i gael prawf drwy'r rhaglenni hyn i achub ar y cyfle. Mae gwybodaeth bellach ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-breast-screening-issue-england-0
On 26 June 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: Brexit – the Risks for the Future of Health and Social Care in Wales (external link).
Ar 26 Mehefin 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Brexit \- Y Risgiau i Ddyfodol Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-brexit-risks-future-health-and-social-care-wales
Today marks the 70th anniversary of the arrival in the UK of the Empire Windrush and her 492 Caribbean passengers. This important cultural landmark in our history is celebrated this afternoon in the Senedd at an event organised by Race Council Cymru and the Black History Month Elders.   We want to embrace this celebration wholeheartedly and recognise its wide historic and present\-day significance. The Windrush landing followed the passing of the British Nationality Act 1948, at a time when Britain was struggling to recover from the devastation of the Second World War. It was recognised then that Britain needed the assets and strengths of Commonwealth citizens to help rebuild our society. The British Nationality Act made a clear invitation for individuals to come to Britain to make a new home. The invitation to Commonwealth citizens in 1948 embodies the Welsh Government’s approach towards migration today. Those on the Windrush were not the first wave of migrants who helped to weave the multi\-cultural fabric of modern Wales, nor the last. Butetown in Cardiff, in particular, is one of the UK’s oldest multi\-cultural areas. Migrants were a major part of Wales developing as an economic powerhouse prior to the First World War. Commonwealth citizens were a crucial part of the Allied war effort during both wars. Migrants have continued to be an integral part of how our nation has developed since the Windrush landed. In 2018, Wales relies heavily on our migrant communities in sectors such as the food and drink industry, manufacturing, tourism, higher education, veterinary health and the NHS. 2018 is also the 70th anniversary of the NHS and it is particularly difficult to imagine the continued success of our health system without the vital support of migrant communities and their descendants. We want the Windrush Generation to know that we value their contributions to Wales over the last 70 years. Not only have they contributed to Wales' economic growth, they have enhanced our cultural and artistic diversity – some of which I hope to see at the celebration event today. The combination of new forms of art and lifestyles, as well as opportunities to mix and mingle with people from other cultures, has had a profound and positive effect on tolerance and community cohesion in Wales. The recent outpouring of support for the Windrush Generation reflects the respect Welsh people hold for those who answered the call all those years ago to make Britain their home. Racism and discrimination still occur within Wales, so we must continue to promote and safeguard our principles of tolerance, inclusivity and equality.   It is impossible to discuss the Windrush without reflecting on the impact of the UK Government’s ‘Hostile Environment’ policies on migrants and BAME communities across Wales. It is outrageous that some of the Windrush generation subsequently lost their jobs or homes, were forced to delay or forego necessary medical treatment or were deported due to the draconian and unjust Hostile Environment. Our discussions with stakeholders have so far only identified a small number of cases but we recognise that others may be fearful of coming forward at this stage. We would encourage those individuals to seek support from regulated advice providers to enable them to seek redress. Although the UK Government has agreed to help those affected, we will continue to press for a speedy and satisfactory resolution. We have asked stakeholders to update us if the system is not working as intended but we have not yet received any comments to that effect. Equally, we will also support other people unfairly affected by these policies, which includes other migrants, refused asylum seekers and British nationals who cannot readily produce a passport.   Today we pay tribute to the contributions made to Wales by the Windrush generation and their descendants, as well as the other migrant communities who came before and after. We thank them for their efforts and sacrifices over the generations. We will continue to welcome and embrace those from other places who seek to improve our communities and we will challenge discrimination faced by these communities wherever we find it.  
Mae heddiw'n nodi 70 mlynedd ers i'r Empire Windrush a'r 492  o deithwyr o'r Caribî a oedd arni gyrraedd y DU. Mae'r achlysur diwylliannol pwysig hwn yn ein hanes yn cael ei ddathlu yn y Senedd brynhawn heddiw mewn digwyddiad a drefnwyd gan Gyngor Hil Cymru a Hynafgwyr Mis Hanes Pobl Dduon.   Rydym yn dymuno croesawu'r dathliad hwn yn dwymgalon ac yn cydnabod yr arwyddocâd eang sydd iddo heddiw ac yn hanesyddol. Roedd glaniad y Windrush yn dilyn pasio Deddf Cenedligrwydd Prydeinig 1948, ar adeg pan oedd Prydain yn parhau i geisio dod dros holl ddinistr yr Ail Ryfel Byd. Ar yr adeg honno, roedd cydnabyddiaeth fod ar Brydain angen asedau a chryfderau dinasyddion y Gymanwlad i helpu i ail\-adeiladu ein cymdeithas. Rhoddodd Deddf Cenedligrwydd Prydeinig wahoddiad clir i unigolion ddod i ymgartrefu ym Mhrydain.. Mae'r gwahoddiad hwnnw i ddinasyddion y Gymanwlad yn 1948 yn dangos agwedd Llywodraeth Cymru tuag at fudo heddiw. Nid y teithwyr ar y Windrush oedd y don gyntaf na'r olaf o fudwyr sydd wedi helpu i greu gwead amlddiwylliannol y Gymru gyfoes. Mae Butetown yng Nghaerdydd, yn enwedig, yn un o'r cymunedau amlddiwylliannol hynaf yn y DU. Chwaraeodd mudwyr ran fawr wrth i Gymru ddatblygu'n rym economaidd cyn y Rhyfel Byd Cyntaf. Roedd dinasyddion y Gymanwlad yn rhan hanfodol o ymdrechion y Cynghreiriaid yn ystod y ddau ryfel.  Mae mudwyr wedi parhau i fod yn rhan annatod o'r ffordd y mae ein cenedl wedi datblygu ers i'r Windrush lanio. Yn 2018, mae Cymru'n dibynnu'n drwm ar ein cymunedau mudol mewn sectorau fel y diwydiant bwyd a diod, gweithgynhyrchu, twristiaeth, addysg uwch, milfeddygaeth a'r GIG. Mae'r GIG yn 70 oed eleni hefyd ac mae'n arbennig o anodd dychmygu y bydd ein system iechyd y n parhau i lwyddo heb gefnogaeth hollbwysig ein cymunedau mudol a'u disgynyddion. Rydym eisiau i Genhedlaeth Windrush wybod ein bod yn gwerthfawrogi eu cyfraniadau i Gymru dros y 70 mlynedd diwethaf. Maent nid yn unig wedi cyfrannu at dwf Cymru'n economaidd, ond hefyd wedi cyfoethogi ein hamrywiaeth diwylliannol a chelfyddydol \- a gobeithiaf weld rhywfaint o hynny yn y digwyddiad dathlu heddiw. Mae'r broses o gyfuno mathau newydd o gelfyddyd a ffyrdd newydd o fyw, yn ogystal â chyfleoedd i gymysgu a chymdeithasu â phobl o ddiwylliannau eraill wedi cael effaith ddofn a chadarnhaol ar oddefgarwch a chydlyniant cymunedol yng Nghymru. Mae'r llif o gefnogaeth i Genhedlaeth Windrush yn ddiweddar yn adlewyrchu'r parch sydd gan y Cymry tuag at y rhai a atebodd y galw'r holl flynyddoedd yn ôl ac a ymgartrefodd ym Mhrydain. Mae hiliaeth a gwahaniaethau yn parhau i ddigwydd yng Nghymru, felly mae rhaid i ni barhau i hyrwyddo ac i ddiogelu ein hegwyddorion o ran goddefgarwch, cynwysoldeb a chydraddoldeb.   Mae'n amhosibl trafod y Windrush heb feddwl am effaith polisïau 'Amgylchedd Gelyniaethus' Llywodraeth y DU ar fudwyr a chymunedau pobl dduon ac Asiaidd a lleiafrifoedd ethnig ledled Cymru. Mae tu hwnt i bopeth fod rhai aelodau o Genhedlaeth Windrush wedi colli eu swyddi neu eu cartrefi yn sgil hynny, eu bod wedi cael eu gorfodi i oedi cyn cael triniaeth feddygol angenrheidiol, neu ei hepgor yn llwyr, neu wedi cael eu hallgludo oherwydd yr Amgylchedd Gelyniaethus llym ac anghyfiawn. Hyd yma, dim ond nifer fechan o achosion a nodwyd yn ein trafodaethau â rhanddeiliaid, ond rydym yn cydnabod efallai bod unigolion eraill yn ofni dod i'r golwg ar hyn o bryd. Rydym yn annog yr unigolion hynny i geisio cael help gan ddarparwyr cyngor wedi'u rheoleiddio er mwyn ceisio cael  unioni'r cam. Er bod Llywodraeth y DU wedi cytuno i helpu'r rhai y cafodd hyn effaith arnynt, byddwn yn parhau i roi pwysau arnynt i ddatrys hyn mewn modd boddhaol ac mewn da bryd.  Rydym wedi gofyn i randdeiliaid roi gwybod i ni os nad yw'r system yn gweithio fel y dylai ond nid ydym wedi cael unrhyw sylwadau i'r perwyl hwnnw hyd yn hyn. Yn yr un modd, byddwn yn cefnogi pobl eraill y mae'r polisïau hyn wedi cael effaith annheg arnynt. Mae hyn yn cynnwys mudwyr eraill, pobl sydd wedi cael gwrthod eu cais am loches, a dinasyddion Prydeinig nad yw'n hawdd iddynt ddangos pasbort.   Heddiw rydym yn talu teyrnged i'r cyfraniad a wnaed i Gymru gan Genhedlaeth Windrush a'u disgynyddion a hefyd gyfraniad y cymunedau mudol eraill a ddaeth yma o'u blaenau neu ar eu holau. Rydym yn diolch iddynt am eu hymdrechion a'r hyn y maent wedi'i aberthu dros y cenedlaethau. Byddwn yn  parhau i groesawu i'n côl y rhai sy’n hanu o fannau eraill sy'n ceisio gwella ein cymunedau, a byddwn yn herio unrhyw wahaniaethu yn erbyn y cymunedau hyn, lle bynnag y'i gwelwn.
https://www.gov.wales/written-statement-celebrating-windrush-generation
I am writing to inform members that on Monday 15 January Welsh Government were informed that Carillion had filed for insolvency, and that the High Court has appointed the Official Receiver as Carillion’s liquidator. Whilst Carillion are a significant provider of outsourced and construction services to the UK Government, I can confirm that they are not a significant provider of services here in Wales. Where contracts with Carillion do exist we will be working with our advisers and the Official Receiver to agree the best way forward so as to minimise the impact of this unfortunate situation. All options to minimise any potential delays to delivery will be explored. We will do all we can to support Carillion workers and supply chains in Wales, including assisting workers find alternative employment and training where necessary through Welsh Government support programmes such as REACT. I can confirm that Carillion feature in one of the bids to run the rail services in Wales and the Borders from October 2018, and to take forward key aspects of the next stage of Metro. The relevant bidding organisation is currently exploring ways in which it can legitimately remain in the process. Transport for Wales and the Welsh Government recognise the investment and commitment made by the relevant bidding organisation in the procurement process so far, and will consider options fairly, whilst complying with procurement law and providing appropriate safeguards for Welsh Government. We are also working closely with Network Rail, who have confirmed that Carillion’s work for Network Rail does not involve the day to day running of the railway. We will also be working with them around any involvement of Carillion within their supply chain. Carillion are currently the Welsh Government’s appointed contractor for the delivery of the design for the A40 Llanddewi Velfrey to Penblewin road scheme. We are therefore exploring all options as to how best to progress to the next stages of the project, so as to minimise any delays. This includes exploring the possibility of directly contracting with Carillion’s supply chain. Carillion are also the Welsh Government’s appointed contractor for the design of improvements to junction 15 and 16 of the A55\. Carillion’s profit warning in July 2017 was released following the receipt and assessment of Carillion’s bid for the project, but prior to the formal award of the contract to Carillion. As soon as Carillion’s profit warning appeared in the press in July 2017, the Welsh Government paused its procurement process so as to allow investigations to be carried out as to Carillion’s financial stability. Carillion formally responded giving assurances as to their stability, and this coupled with the fact that they were only being awarded a contract for design at this stage meant that the Welsh Government, on balance, could not legitimately withhold awarding the contract to Carillion. Not awarding the contract to Carillion would have opened the Welsh Government up to potential challenge under procurement law. As with the A40, we will be exploring all options as to how best to progress to the next stages of the A55 junction 15 and 16 project, so as to minimise any delays. This includes exploring the possibility of directly contracting with Carillion’s supply chain.
Rwy'n ysgrifennu i roi gwybod i aelodau y cafodd Llywodraeth Cymru wybod ddydd Llun 15 Ionawr bod Carillion wedi cofnodi ansolfedd, a bod yr Uchel Lys wedi penodi'r Derbynnydd Swyddogol fel diddymwr Carillion. Mae Carillion yn ddarparwr gwasanaethau allanol ac adeiladu sylweddol i Lywodraeth y DU, ond gallaf gadarnhau nad yw'r un fath yn wir yma yng Nghymru. Lle bo contractau â Carillion ar waith, byddwn yn gweithio gyda'n cynghorwyr a'r Derbynnydd Swyddogol i gytuno ar y ffordd orau ymlaen er mwyn lleihau effaith y sefyllfa anffodus hon. Bydd pob opsiwn i leihau unrhyw oedi posibl yn cael eu hystyried. Byddwn yn gwneud popeth y gallwn i gefnogi gweithwyr Carillion a'r cadwyni cyflenwi yng Nghymru, gan gynnwys cefnogi gweithwyr i ganfod swyddi eraill neu hyfforddiant yn ôl yr angen drwy raglenni cymorth Llywodraeth Cymru, megis REACT. Gallaf gadarnhau bod Carillion yn rhan o un o'r ceisiadau i gynnal gwasanaethau rheilffordd yng Nghymru a'r Gororau o fis Hydref 2018, a datblygu agweddau allweddol cam nesaf y Metro. Mae'r sefydliad ymgeisio dan sylw ar hyn o bryd yn ystyried ffyrdd y gall barhau'n gyfreithlon yn y broses. Mae Trafnidiaeth Cymru a Llywodraeth Cymru yn cydnabod buddsoddiad ac ymrwymiad y sefydliad ymgeisio dan sylw yn y broses gaffael hyd yn hyn, a bydd yn ystyried yr opsiynau'n deg gan gydymffurfio â chyfraith gaffael a darparu camau diogelu priodol i Lywodraeth Cymru. Rydym hefyd yn gweithio'n agos gyda Network Rail, sydd wedi cadarnhau nad yw gwaith Carillion i'r cwmni yn cynnwys y gwaith o gynnal y rheilffordd o ddydd i ddydd. Byddwn hefyd yn gweithio gyda nhw i drin a thrafod unrhyw ran sydd gan Carillion yng nghadwyn gyflenwi'r cwmni. Ar hyn o bryd, Carillion sydd wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru i ddylunio cynllun ffordd yr A40 o Landdewi Felffre i Benblewin. Rydym felly yn ystyried yr holl opsiynau o ran y ffordd orau o symud ymlaen i gamau nesaf y prosiect er mwyn lleihau unrhyw oedi. Mae hyn yn cynnwys ystyried cynnig contract uniongyrchol i gwmnïau o gadwyn gyflenwi Carillion. Carillion hefyd sydd wedi'i benodi gan Lywodraeth Cymru i ddylunio gwelliannau i gyffordd 15 a 16 o'r A55\. Cyhoeddwyd rhybudd elw Carillion ym mis Gorffennaf 2017 ar ôl i gais y cwmni ar gyfer y prosiect ddod i law a'i asesu, ond cyn dyfarnu'r contract yn ffurfiol i'r cwmni. Yn syth wedi i rybudd elw Carillion ymddangos yn y wasg ym mis Gorffennaf 2017, oedodd Llywodraeth Cymru ei phroses gaffael er mwyn cynnal ymchwiliadau i sefydlogrwydd ariannol y cwmni. Ymatebodd Carillion yn ffurfiol gan roi sicrwydd ynghylch ei sefydlogrwydd, ac oherwydd  hyn, ynghyd â'r ffaith mai contract i ddylunio yn unig oedd Llywodraeth Cymru wedi'i ddyfarnu ar y pryd, ni allai'r Llywodraeth dynnu'r contract yn ôl yn gyfreithlon. Byddai peidio â dyfarnu'r contract i Carillion wedi golygu y gallai Llywodraeth Cymru gael ei herio o dan gyfraith gaffael. Yn yr un modd â phrosiect yr A40, byddwn yn ystyried yr holl opsiynau o ran y ffordd orau o symud ymlaen i gamau nesaf prosiect cyffordd 15 a 16 yr A55 er mwyn lleihau unrhyw oedi. Mae hyn yn cynnwys ystyried cynnig contract uniongyrchol i gwmnïau o gadwyn gyflenwi Carillion.
https://www.gov.wales/written-statement-carillion-update
Eating nutritious food is essential for children in their early years. This helps to achieve healthy growth and development, protect teeth from decay and sets the foundations for their future health and wellbeing. Childcare settings provide an ideal opportunity to encourage young children to eat well and learn about food. Today I am launching a 12 week consultation on Food and Nutrition for Child Care Settings standards and best practice guidance. This includes accompanying menus and recipes for settings. The guidance has been developed in close collaboration with representatives from the child care sector and Care Inspectorate Wales. However, we want to test the guidance with the sector, including childcare providers, pre\-school scheme coordinators, dietitians, Inspectors and most importantly with parents to gather feedback. My officials will also be holding three workshops across Wales to ensure active collaboration. This will help to ensure we have developed a practical resource which will increase nutritional standards across Wales in these settings. https://beta.gov.wales/consultations Nutrition guidelines are only one element of this Government’s work to prevent and reduce levels of obesity. Members will be aware of our commitment through the Public Health (Wales) Act 2017, to develop a strategy to this end. A substantial amount of work has already gone into developing data, exploring international evidence and practice, early stakeholder engagement to shape proposals and to develop cross\-government opportunities. I will be launching a consultation later this year which will aim to test a range of ideas and proposals with communities across Wales. The strategy will be a 10 year approach which will aim to harness and embrace the principles of the Well\-being of Future Generations (Wales) Act 2015 to build long\-term sustainable change. There are no quick or single solutions which will drive the changes we want to see. We need a range of actions happening in parallel to halt and ultimately reduce  levels of obesity and increase the proportion of people  who are a healthy weight. However, I will not be awaiting the publication of the strategy before taking action. My officials are working to develop a range of actions which will be developed and delivered in the short term. The development of nutritional guidelines for child care settings is part of this work. I will update members on the launch of the consultation in due course.              
Mae bwyta bwyd maethlon yn hanfodol bwysig i blant yn ystod eu blynyddoedd cynnar. Mae hyn yn eu helpu i dyfu a datblygu mewn ffordd iach, yn amddiffyn dannedd rhag pydru ac yn gosod sylfaen ar gyfer eu hiechyd a'u llesiant yn y dyfodol. Gall lleoliadau gofal plant gynnig cyfle perffaith i annog plant ifanc i fwyta'n iach a dysgu am fwyd. Heddiw rwy'n lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar safonau a chanllawiau arferion gorau Bwyd a Maeth mewn Lleoliadau Gofal Plant. Mae hyn yn cynnwys bwydlenni a rysetiau ar gyfer lleoliadau. Datblygwyd y canllawiau mewn cydweithrediad â chynrychiolwyr o'r sector gofal plant ac Arolygiaeth Gofal Cymru. Fodd bynnag, rydym am brofi'r canllawiau gyda'r sector, gan gynnwys darparwyr gofal plant, cydlynwyr cynlluniau meithrin, deietegwyr, arolygwyr ac yn bwysicaf oll, rhieni, er mwyn casglu adborth. Bydd fy swyddogion hefyd yn cynnal tri gweithdy ar draws Cymru i sicrhau cydweithio ymarferol. Bydd hyn yn helpu i sicrhau ein bod wedi datblygu adnodd ymarferol a fydd yn gwella safonau maeth ledled Cymru yn y lleoliadau hyn. https://beta.llyw.cymru/ymgyngoriadau Mae'r canllawiau maeth yn un elfen o waith y Llywodraeth hon i atal a gostwng lefelau gordewdra. Bydd yr aelodau'n ymwybodol o'n hymrwymiad drwy Ddeddf Iechyd y Cyhoedd (Cymru) 2017 i ddatblygu strategaeth at y diben hwn. Mae cryn dipyn o waith eisoes wedi ei wneud i ddatblygu data, edrych ar dystiolaeth ac arferion rhyngwladol, trafod yn gynnar gyda rhanddeiliaid i lunio argymhellion a datblygu cyfleoedd trawslywodraethol. Byddaf yn lansio ymgynghoriad yn ddiweddarach eleni a fydd yn ceisio profi nifer o syniadau a chynigion gyda chymunedau ar draws Cymru. Bydd y strategaeth yn un 10 mlynedd gyda'r nod o ddefnyddio egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 i adeiladu newid cynaliadwy yn y tymor hir. Nid oes unrhyw atebion cyflym, unigol a fydd yn arwain at y newidiadau yr ydym am eu gweld. Mae angen amrywiol gamau gweithredu, ochr yn ochr â’i gilydd, i atal ac yna gostwng lefelau gordewdra a chynyddu cyfran y bobl sydd o bwysau iach. Fodd bynnag, ni fyddaf yn aros i'r strategaeth gael ei chyhoeddi cyn gweithredu. Mae fy swyddogion yn gweithio ar amrywiol gamau gweithredu a fydd yn cael eu datblygu a'u cyflawni yn y tymor byr. Mae llunio canllawiau maeth ar gyfer lleoliadau gofal plant yn rhan o'r gwaith hwn. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau ynghylch lansio'r ymgynghoriad yn y man.
https://www.gov.wales/written-statement-childcare-settings-food-and-nutrition-guidance-and-healthy-weight-strategy
I am pleased to announce that we have agreed a Concordat between the Welsh Government and the Ministry of Justice setting out the working arrangements between the 2 organisations. The Concordat is not limited to, but seeks to ensure that: * The Ministry of Justice considers the interests and responsibilities of the Welsh Government when designing and implementing UK Justice policy and activities likely to have an impact in Wales * The Welsh Government considers the interests and responsibilities of the Ministry of Justice when exercising devolved functions, and * There is clarity and accountability, enabling productive working relationships and improving outcomes for English and Welsh Justice. The Concordat represents an important step forward for improved working practices, intergovernmental relations, and justice outcomes for both administrations.   It must be noted that it is essential for both governments to observe the spirit and letter of the Concordat particularly in respect of timely consultation on matters affecting each administration. https://gov.wales/about/organisationexplained/intergovernmental/concordindex/ministry\-of\-justice/?lang\=en
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi ein bod wedi cytuno ar Goncordat rhwng Llywodraeth Cymru a'r Weinyddiaeth Gyfiawnder,  yn nodi'r trefniadau gweithio rhwng y ddau sefydliad. Yn bwysig iawn, ond heb fod yn gyfyngedig i’r isod, mae'r Concordat yn ceisio sicrhau bod: * Y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau Llywodraeth Cymru wrth gynllunio a gweithredu polisi Cyfiawnder y DU a gweithgareddau sy'n debygol o gael effaith yng Nghymru * Llywodraeth Cymru yn ystyried buddiannau a chyfrifoldebau'r Weinyddiaeth Gyfiawnder wrth arfer swyddogaethau datganoledig, ac * Eglurder ac atebolrwydd, sy'n galluogi cysylltiadau gwaith cynhyrchiol a gwell canlyniadau ar gyfer cyfiawnder yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Concordat yn gam pwysig ymlaen ar gyfer gwell arferion gweithio, cysylltiadau rhynglywodraethol, a chanlyniadau cyfiawnder i’r ddwy weinyddiaeth.Rhaid nodi ei bod yn hanfodol bod y ddwy lywodraeth yn parchu ysbryd a sylwedd y Concordat, yn enwedig mewn perthynas ag ymgynghori yn amserol ar faterion sy'n effeithio ar y naill weinyddiaeth a’r llall. https://gov.wales/about/organisationexplained/intergovernmental/concordindex/ministry\-of\-justice/?skip\=1\&lang\=cy
https://www.gov.wales/written-statement-concordat-between-ministry-justice-and-welsh-government
New evidence has been published which means fewer women with breast cancer in Wales will need to receive unnecessary chemotherapy At present, women with early stage breast cancer are likely to receive surgery and subsequently be assessed for their risk of their cancer re\-occurring. Women who have a low risk of recurrence are not advised to undergo chemotherapy and those with a high risk are advised to receive chemotherapy. The National Institute for Health and Care Excellence (NICE) recommends that women with an intermediate risk of recurrence, with hormone related disease and where the lymph nodes are not affected, should be offered a genetic test called Oncotype DX. Following this test, roughly 50% of those tested will be scored as low risk and can avoid chemotherapy and roughly 25% will have a high risk and will be advised to have chemotherapy. The remaining 20\-25% will have an intermediate score and until recently it was unclear as to whether or not chemotherapy will affect a patient’s outcome. New evidence published in the United States has demonstrated women who have an intermediate score do not benefit from chemotherapy. This means they can in future safely avoid going through chemotherapy after their surgery. It is estimated up to 100 women a year in Wales will find themselves in this category. As well as the patients benefiting from this new evidence; health services will be able to make better use of finite treatment capacity for women who will most benefit from chemotherapy.
Mae tystiolaeth newydd wedi cael ei chyhoeddi sy'n golygu y bydd llai o fenywod â chanser y fron yng Nghymru yn derbyn triniaeth cemotherapi ddiangen. Ar hyn o bryd, mae menywod sydd â chanser y fron yn y cyfnod cynnar yn debyg o gael llawdriniaeth ac yna eu hasesu i weld faint o berygl sydd i'w canser ddychwelyd. Os yw'r risg o weld y canser yn dychwelyd yn isel, nid ydynt yn cael eu cynghori i gael cemotherapi. Bydd y rhai sy'n wynebu risg uwch, ar y llaw arall, yn cael eu cynghori i gael cemotherapi. Mae'r Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) yn argymell y dylai menywod sydd mewn perygl canolig o weld y clefyd yn dychwelyd, sydd â chlefyd cysylltiedig â hormonau a lle nad oes effaith ar y nodau lymff, gael cynnig prawf genetig o'r enw Oncotype DX. Yn dilyn y prawf hwn, bydd tua 50% o'r rhai sy'n cael eu profi yn cael sgôr risg isel, ac yn medru osgoi cemotherapi. Bydd tua 25% yn risg uchel ac yn cael eu cynghori i gael cemotherapi. Bydd y 20\-25% sydd ar ôl yn cael sgôr risg canolig, a hyd at y ddiweddar nid oedd yn glir a fyddai cemotherapi yn effeithio ar y canlyniadau i'r claf neu beidio. Mae tystiolaeth newydd a gyhoeddwyd yn yr Unol Daleithiau wedi dangos nad yw menywod sy'n cael sgôr risg canolig yn elwa o gael cemotherapi. Golyga hyn y gallant yn y dyfodol osgoi triniaeth cemotherapi ar ôl cael llawdriniaeth. Amcangyfrifir y bydd hyd at 100 o fenywod Cymru yn y categori hwn bob blwyddyn. Yn ogystal â chynnig manteision i'r cleifion, bydd y dystiolaeth hon yn golygu y bydd modd i wasanaethau iechyd wneud gwell defnydd o'r capasiti penodol sydd ganddynt i drin y menywod a fydd yn elwa fwyaf o gael cemotherapi.
https://www.gov.wales/written-statement-chemotherapy-breast-cancer
Part 5 (Intimate Piercing) of the Public Health (Wales) Act 2017 comes into force today. The commencement of these provisions prohibits the intimate piercing of children and young people under the age of 18 in Wales.  It is also now an offence to make arrangements to perform such a procedure on a person under the age of 18 in Wales. There are ten “intimate areas” specified within the Act including the nipples, breast, genitalia, buttocks and tongue, and these apply to all genders. A person under the age of 18 will not be able to give their consent to an intimate piercing, nor will a parent or guardian be able to give consent to an intimate piercing on behalf of a young person.   The aim is to protect children and young people from the potential health harms which can be caused by an intimate piercing, and to avoid circumstances where children and young people are placed in a potentially vulnerable situation.  These provisions seek to reduce the incidence of body piercing\-related complications (including infections and injuries) amongst young people whose bodies are still maturing, and who may be less adept at keeping up with aftercare requirements. Part 5 provides for the following:   * it is an offence for a person in Wales to perform or make arrangements to perform an intimate piercing on a person who is under the age of 18\. This means that making arrangements to carry out the piercing on a particular person without any piercing taking place is sufficient for an offence to be committed. * it is a defence that the practitioner believed the person was aged 18 or over and either they had taken reasonable steps to establish their age or that nobody could reasonably have suspected from the person’s appearance that they were under 18\.  There is also a ‘due diligence’ defence for a person who is accused of an offence by virtue of the actions of another. * it is a defence for the person accused of these offences to demonstrate that they took reasonable precautions and exercised due diligence to avoid committing the offence, for example providing training to their staff or putting systems in place to avoid committing the offence. * local authorities have a duty to undertake enforcement action in relation to the provisions, including bringing forward prosecutions, investigating complaints and taking other steps. * local authorities must consider, at least once every 12 months, the extent to which it is appropriate for them to carry out a programme of enforcement action within their area to prevent the intimate piercing of persons under 18 years, and  local authorities must appoint ‘authorised officers’ for these purposes. * in undertaking a programme of enforcement action, local authorities must consult with the Chief Officer of Police who may assist local authorities with the enforcement of the provisions. * powers of entry are provided to local authority authorised officers and the Police, although access to premises used as a dwelling without consent will require a warrant by a Justice of the Peace. Once the officer or the constable has gained entry, they may undertake an inspection of the premises and obtain copies of, for example, CCTV records or consent documents. * the power of entry is accompanied by an associated offence of obstructing an officer from exercising their powers and safeguards in relation to the use of the powers of entry and inspection by providing a mechanism to appeal against the removal of property, and to apply for compensation in certain circumstances. The full provisions of the Public Health (Wales) Act 2017 can be found here:   http://www.legislation.gov.uk/anaw/2017/2/contents      
Daw Rhan 5 (Rhoi Twll mewn Rhan Bersonol o’r Corff) o Ddeddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 i rym heddiw. Mae cychwyniad y darpariaethau hyn yn gwahardd rhoi twll mewn rhan bersonol o gorff plant a phobl ifanc dan 18 oed yng Nghymru. Hefyd, mae bellach yn drosedd trefnu i gyflawni triniaeth o’r fath ar rywun dan 18 oed yng Nghymru. Mae deg rhan bersonol o’r corff wedi’u nodi yn y Ddeddf gan gynnwys tethi, bronnau, organau cenhedlu, ffolennau a thafod, ac mae hyn yn berthnasol i bob rhyw. Ni fydd person dan 18 oed yn gallu rhoi caniatâd i roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, ac nid yw rhiant neu warcheidwad yn gallu rhoi caniatâd i roi twll mewn rhan bersonol ar ran person ifanc. Y nod yw gwarchod plant a phobl ifanc rhag y niwed posibl i’w hiechyd a all gael ei achosi wrth roi twll mewn rhan bersonol o’r corff, ac osgoi amgylchiadau lle rhoddir plant a phobl ifanc mewn sefyllfa lle gallent fod yn agored i niwed. Nod y darpariaethau hyn yw lleihau’r achosion o gymhlethdodau sy’n gysylltiedig â thyllu rhannau personol o’r corff (gan gynnwys heintiau ac anafiadau) ymhlith pobl ifanc pan fo’u cyrff heb orffen aeddfedu, ac sydd o bosibl yn llai abl i gyflawni’r gofynion ôl\-ofal. Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer y canlynol: * yng Nghymru, mae rhywun sy’n gwneud trefniadau neu sy’n mynd ati i roi twll mewn rhan bersonol o gorff person dan 18 oed yn cyflawni trosedd. Felly mae gwneud trefniadau penodol i gyflawni’r weithred o dyllu person heb fod unrhyw dyllu wedi digwydd yn ddigon i olygu bod trosedd wedi’i chyflawni. * mae’n amddiffyniad os yw’r ymarferydd wedi credu bod y person yn 18 oed neu’n hŷn a’i fod wedi cymryd camau rhesymol i sefydlu faint yw ei oed, neu na allai neb fod wedi amau o olwg y person ei fod o dan 18 oed. Hefyd, mae amddiffyniad ‘diwydrwydd dyladwy’ i berson sydd wedi’i gyhuddo o drosedd yn rhinwedd camau a gymrwyd gan rywun arall. * mae’n amddiffyniad os gall y person a gyhuddwyd o’r troseddau hyn ddangos iddo gymryd pob cam rhesymol a gweithredu diwydrwydd dyladwy i osgoi cyflawni’r drosedd, er enghraifft rhoi hyfforddiant i’w staff neu roi systemau ar waith i osgoi cyflawni’r drosedd. * mae’n ddyletswydd ar awdurdodau lleol i gyflawni camau gorfodi mewn perthynas â’r darpariaethau, gan gynnwys gwneud erlyniadau, ymchwilio i gwynion a chymryd camau eraill. * rhaid i awdurdodau lleol ystyried, o leiaf unwaith bob 12 mis, i ba raddau mae’n briodol iddynt gyflawni rhaglen o gamau gorfodi yn eu hardal i atal tyllu rhannau personol o gorff pobl dan 18 oed, a rhaid i awdurdodau lleol benodi ‘swyddogion awdurdodedig’ i gyflawni’r dibenion hyn. * wrth gyflawni rhaglen o gamau gorfodi, rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori â Phrif Swyddog yr Heddlu a gall yntau gynorthwyo awdurdodau lleol i orfodi’r darpariaethau. * darperir pwerau mynediad i swyddogion awdurdodedig awdurdodau lleol a’r Heddlu, er y bydd angen gwarant gan Ynad Heddwch er mwyn cael mynediad i leoliad sydd hefyd yn dŷ annedd heb gael caniatâd y meddiannydd. Unwaith y bydd y swyddog neu’r aelod o’r heddlu wedi cael mynediad, gall gynnal archwiliad o’r safle a chael copïau o gofnodion megis teledu cylch cyfyng neu ddogfennau caniatâd. * ynghyd â phwerau mynediad mae trosedd gysylltiedig o rwystro swyddog rhag gweithredu ei bwerau a chamau diogelu mewn perthynas â defnyddio pwerau mynediad ac archwilio trwy ddarparu mecanwaith i apelio yn erbyn mynd ag eiddo i ffwrdd, a gwneud cais am iawndal dan rai amgylchiadau. Mae darpariaethau llawn Deddf Iechyd Cyhoeddus (Cymru) 2017 ar gael yma: http://www.legislation.gov.uk/anaw/2017/2/contents/enacted/welsh
https://www.gov.wales/written-statement-coming-force-intimate-piercing-provisions-within-public-health-wales-act-2017
On 19 June 2018, the Cabinet Secretary for Energy, Planning and Rural Affairs made an Oral Statement in the Siambr on: Companion Animal Welfare (external link).
Ar 19 Mehefin 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Lles Anifeiliad Anwes (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-companion-animal-welfare
Today, I am publishing a consultation on providing exemptions from council tax for care leavers. In our programme for government, Taking Wales Forward 2016\-2021, the Welsh Government committed to improving the fairness of council tax. I have considered the various ways in which the council tax system could be changed to ensure we deliver on this commitment for households in Wales. We published an update on our work on 24 October. One strand has been looking at how we can make council tax fairer for vulnerable households. I am keen to ensure the Welsh Government and local authorities are doing everything we can to support care leavers and enable their successful transition into adulthood and independent living. In March 2017, I asked councils to consider using their existing discretionary powers to grant a full dispensation from council tax for all care leavers, regardless of their individual circumstances. In October 2017, Torfaen County Borough Council became the first council in Wales to exempt care leavers from paying council tax. I have been pleased to see the progress made by those councils which have since introduced their own schemes. The case for exempting care leavers from liability for council tax has been widely accepted and an approach based on local authorities’ use of their discretionary powers has been tested. However, the degree of support available to care leavers across Wales is inconsistent and discretionary powers may not provide a long term, reliable statutory basis for the change we wish to see. I therefore believe that legislation is required to rectify these matters. Today marks the start of a 6\-week consultation with, local authorities, voluntary organisations, taxpayers and, of course, care leavers themselves. The consultation seeks views on the adoption and implementation of a consistent approach through the introduction of a statutory exemption. It is an important opportunity to make our council tax system fairer and I am keen to hear everyone’s views and to work with stakeholders to improve our approach. Subject to the outcome of the consultation, I aim to bring forward legislation to exempt care leavers from council tax from 1 April 2019\.
Heddiw rwy'n cyhoeddi ymgynghoriad ar ddarparu eithriadau rhag talu'r dreth gyngor ar gyfer y rhai sy'n gadael gofal. Yn ein rhaglen lywodraethu, Symud Cymru Ymlaen 2016\-2021, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella tegwch y dreth gyngor.  Rwyf wedi ystyried yr amrywiol ffyrdd posibl o newid y system dreth gyngor er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r ymrwymiad hwn i aelwydydd yng Nghymru. Cyhoeddwyd diweddariad ar ein gwaith ar 24 Hydref. Mae un rhan o'r gwaith wedi bod yn edrych ar sut y gallwn wneud y dreth gyngor yn decach i aelwydydd sy'n agored i niwed. Rwy'n awyddus i sicrhau bod Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gwneud pob peth o fewn eu gallu i gefnogi'r rhai sy'n gadael gofal a'u cynorthwyo wrth iddynt dyfu'n oedolion a byw'n annibynnol. Ym mis Mawrth 2017, gofynnais i'r cynghorau ystyried defnyddio'u pwerau disgresiwn i ganiatáu goddefeb llwyr rhag talu’r dreth gyngor i bob un sy'n gadael gofal, beth bynnag y bo'u hamgylchiadau unigol. Ym mis Hydref 2017, Cyngor Bwrdeistref Sirol Tor\-faen oedd y cyngor cyntaf yng Nghymru i eithrio’r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor. Rwy'n falch iawn o weld yr hyn a gyflawnwyd gan y cynghorau hynny sydd bellach wedi cyflwyno eu cynlluniau eu hunain. Fodd bynnag, mae cryn anghysondeb o ran y cymorth sydd ar gael i'r rhai sy'n gadael gofal ledled Cymru ac efallai na fydd pwerau disgresiwn yn darparu sail statudol ddibynadwy yn yr hirdymor ar gyfer y newid yr ydym yn dymuno ei weld. Felly, rwy'n credu bod angen deddfwriaeth i gywiro'r materion hyn. Heddiw yw diwrnod cyntaf yr ymgynghoriad chwe wythnos, lle byddwn yn ymgynghori gydag awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol, trethdalwyr ac wrth gwrs y rhai hynny sy'n gadael gofal. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar fabwysiadu a gweithredu dull cyson o weithredu drwy gyflwyno eithriad statudol. Mae'n gyfle pwysig i sicrhau bod ein system dreth gyngor yn decach, ac rwy'n awyddus i glywed safbwyntiau pawb ac i weithio gyda rhanddeiliaid i wella ein dull o weithredu. Yn ddarostyngedig i ganlyniad yr ymgynghoriad hwn, fy nod yw dwyn deddfwriaeth ymlaen er mwyn eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor o 1 Ebrill 2019 ymlaen.
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-council-tax-exemptions-care-leavers
There is evidence to support a significant link between young people’s experience of school\-mediated employer activities and increased levels of engagement in learning and attainment.  Furthermore, we know that partnership working between schools and a range of community partners, including statutory services, can help raise aspirations, better co\-ordinate efforts to improve outcomes and mitigate the effects of disadvantage. However, we understand that for some schools, the capacity to identify and nurture these partnerships does not exist, or is not applied across a cluster of schools.   I am therefore pleased to announce funding of £315,000 to support the establishment of 9 Community Focussed School Business Manager pilots in 6 local authority areas.  These pilots will be jointly funded in partnership with schools and local authorities, and total investment from Welsh Government and local authorities will be £675,000 over a two year period. The aim of the pilots is to create space for schools to develop new ways of working and, in doing so, increase their capacity to build and strengthen links with a wide range of community partners including: employers; arts, sports and heritage organisations; and health, wellbeing and family support services. Centred around new, Community Focussed School Business Manager roles, these partnerships will work with schools and pupils to contribute to our national mission to raise standards, reduce the attainment gap, and deliver an education system that is a source of national pride and confidence. Contributing directly towards our National Mission and ‘Prosperity for All’ commitments to ensure closer working between schools and their partners, and extending and promoting learners’ wider experiences, approaches outlined in the bids include: • enhanced partnerships with community organisations to enrich and enhance curriculum delivery;  • increased school\-employer engagement, including work focussed experiences;  • broader community engagement to support local authority provision, including family and early years;  • strengthened engagement with health and wellbeing support services, including GPs, local health boards, and mental health charities; and  • increased use of school premises and income generation. This initiative, which complements the 11 School Business Manager pilots I announced in September 2017, brings the total investment in business managers to more than £1\.9m, with more than £950,000 being provided by Welsh Government. I am also pleased to confirm that 7 of the pilots will support the delivery of ‘Our Valleys: Our Future’ by increasing connections between local communities and schools in East, West, and Central Valleys areas. The local authorities running the pilots and receiving funding are: Bridgend; Caerphilly (2 clusters); Monmouthshire; Pembrokeshire; Rhondda Cynon Taff (3 clusters); and Torfaen. Over time, these new ways of working will contribute to our self\-improving education system, by developing learning about the benefits of community focused school partnerships, and by sharing best practice.   This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.            
Mae tystiolaeth bod cysylltiad cryf rhwng profiad pobl ifanc o weithgareddau gyda chyflogwyr a gyfryngir gan ysgolion a lefelau uwch o ran ymgysylltiad ag addysg a chyrhaeddiad. Hefyd, gwyddom fod cydweithio rhwng ysgolion ac ystod o bartneriaid yn y gymuned, gan gynnwys gwasanaethau statudol, yn gallu helpu i godi dyheadau, cydgysylltu'n well yr ymdrechion i wella deilliannau a lliniaru effeithiau anfantais. Fodd bynnag, yn achos rhai ysgolion, deallwn nad yw'r gallu i nodi a datblygu'r partneriaethau hyn yn bodoli neu nid yw'n cael ei ddefnyddio ar draws clwstwr o ysgolion.   Felly, rwy'n falch o gyhoeddi cyllid o fwy na £315,000 ar gyfer prosiectau peilot i dreialu rôl Rheolwyr Busnes Ysgolion Bro mewn 6 o ardaloedd awdurdod lleol. Caiff y prosiectau hyn eu hariannu ar y cyd ag ysgolion ac awdurdodau lleol, a chyfanswm y buddsoddiad gan Lywodraeth Cymru a'r awdurdodau lleol fydd £675,000 dros gyfnod o ddwy flynedd. Nod y cynlluniau hyn fydd creu cyfle i ysgolion ddatblygu ffyrdd newydd o weithio ac, wrth wneud hynny, gynyddu eu capasiti i feithrin a chryfhau cysylltiadau ag ystod eang o bartneriaid yn y gymuned, gan gynnwys: cyflogwyr; sefydliadau celfyddydol, chwaraeon a threftadaeth; gwasanaethau iechyd a lles a gwasanaethau cefnogi teuluoedd. Bydd y partneriaethau hyn, y bydd Rheolwyr Busnes Ysgolion Bro yn ganolog iddynt, yn gweithio gydag ysgolion a disgyblion i gyfrannu at ein cenhadaeth genedlaethol i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a chyflwyno system addysg sy’n destun hyder a balchder cenedlaethol. Gan gyfrannu'n uniongyrchol at ein cenhadaeth genedlaethol a'r ymrwymiadau yn 'Ffyniant i Bawb' i sicrhau cydweithio agosach rhwng ysgolion a'u partneriaid, ac ehangu a hybu profiadau ehangach dysgwyr, mae'r dulliau a amlinellir yn y ceisiadau'n cynnwys: • partneriaethau cryfach â sefydliadau cymunedol i gyfoethogi a gwella'r cwricwlwm;  • mwy o ymgysylltu rhwng ysgolion a chyflogwyr, gan gynnwys profiadau gwaith;  • cydweithio ehangach â'r gymuned i gefnogi darpariaeth yr awdurdod lleol, gan gynnwys teuluoedd a'r blynyddoedd cynnar;  • ymgysylltu cryfach â gwasanaethau iechyd a lles, gan gynnwys meddygon teulu, byrddau iechyd lleol ac elusennau iechyd meddwl;  • mwy o ddefnydd o safleoedd ysgol a chynhyrchu incwm. Mae'r fenter hon yn ategu'r prosiect a gyhoeddais ym mis Medi 2017 i dreialu 11 Rheolwr Busnes ar gyfer Ysgolion, ac yn golygu bod cyfanswm o fwy na £1\.9m wedi'i fuddsoddi mewn rheolwyr busnes, gyda mwy na £950,000 gan Lywodraeth Cymru. Rwyf hefyd yn falch o gadarnhau y bydd 7 o'r cynlluniau peilot yn cefnogi 'Ein Cymoedd, Ein Dyfodol' drwy gynyddu'r cysylltiadau rhwng cymunedau lleol ac ysgolion yn ardaloedd Dwyrain, Gorllewin a Chanol y Cymoedd. Dyma'r awdurdodau lleol sy'n cynnal y prosiectau hyn ac yn cael cyllid: Pen\-y\-bont ar Ogwr (2 glwstwr); Sir Fynwy; Sir Benfro; Rhondda Cynon Taf (3 clwstwr); a Thorfaen. Dros amser, bydd y ffyrdd newydd hyn o weithio yn cyfrannu at ein system addysg sy'n gwella ei hun drwy ddangos manteision partneriaethau ag ysgolion bro a thrwy rannu arfer gorau.   Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau’n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddaf yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-community-focussed-school-business-manager-pilots
Despite the impact of a decade of cuts, the Welsh Government has consistently invested in the education and training of individuals working in and wanting to work within the NHS; and as a government we continue to do so. We have demonstrated this, year after year with the number of training places offered in Wales at its highest since devolution. On 23 April I confirmed  the NHS Wales Bursary Scheme will remain in place for individuals electing to study an eligible health care related programme in Wales commencing in the academic year  2019 / 20\. This means, in Wales the full bursary package will continue to be available for those who commit in advance to work in Wales for up to two years post qualification. It is important to ensure the investment we make in healthcare education and training provides the right type of support to encourage individuals to consider healthcare as a career. To do this, the support arrangements must address the issues students identify as barriers to studying, and we need to listen to what students and employers tell us about the support required. I have been clear that future support arrangements for students studying health care related programmes should be considered alongside the changes made within the wider student support system. It is important we regularly review the funding arrangements to ensure the best value for money for taxpayers in Wales. Today I have launched a 12 week consultation about key aspects of the current support arrangements for health care students. This consultation provides an opportunity to capture comments, observations and ideas from a wide range of individuals and organisations. These views will help inform decisions about the shape of support arrangements for health care students in the future. https://beta.gov.wales/health\-related\-student\-support\-arrangements    
Er gwaethaf effeithiau degawd o doriadau, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi’n gyson mewn addysg a hyfforddiant i unigolion sy’n gweithio, neu sy’n dymuno gweithio, yn y GIG; ac fel llywodraeth byddwn yn parhau i wneud hynny. Rydym wedi dangos ein hymrwymiad flwyddyn ar ôl blwyddyn gyda nifer y lleoedd hyfforddi a gynigir yng Nghymru ar ei uchaf ers datganoli. Ar 23 Ebrill, cyhoeddais y byddai Cynllun Bwrsariaeth GIG Cymru yn parhau ar gyfer unigolion sy'n dechrau astudio ar raglen gofal iechyd gymwys yng Nghymru ym mlwyddyn academaidd 2019/20\. Mae hynny'n golygu y bydd y pecyn bwrsari llawn yn parhau i fod ar gael yng Nghymru i'r rhai sy'n ymrwymo ymlaen llaw i weithio yma am ddwy flynedd ar ôl cymhwyso. Mae'n bwysig sicrhau bod ein buddsoddiad mewn addysg a hyfforddiant gofal iechyd yn darparu'r math o gymorth sy'n annog unigolion i ystyried gofal iechyd fel gyrfa. Er mwyn gwneud hynny, rhaid i'r trefniadau cymorth roi sylw i'r materion hynny y mae'r myfyrwyr yn eu nodi fel rhwystrau sy'n eu hatal rhag astudio, ac mae angen inni wrando ar yr hyn sydd gan fyfyrwyr a chyflogwyr i'w ddweud ynghylch y cymorth y mae ei angen. Rwyf wedi dweud yn glir y dylid ystyried trefniadau cymorth i fyfyrwyr sy'n astudio rhaglenni gofal iechyd yn y dyfodol ochr yn ochr â'r newidiadau sy'n cael eu gwneud i system ehangach cymorth i fyfyrwyr 2018/19\. Mae’n bwysig ein bod yn adolygu’r trefniadau cyllido yn rheolaidd er mwyn sicrhau bod trethdalwyr yng Nghymru yn cael y gwerth gorau am arian. Heddiw rwyf wedi lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar brif agweddau'r trefniadau presennol ar gyfer rhoi cymorth i fyfyrwyr gofal iechyd. Mae'r ymgynghoriad hwn yn gyfle i gasglu sylwadau a syniadau gan amrywiaeth eang o unigolion a sefydliadau. Bydd yr hyn a gesglir yn ein helpu i wneud penderfyniadau cytbwys ynghylch pa fath o drefniadau cymorth y bydd eu hangen ar fyfyrwyr gofal iechyd yn y dyfodol. https://beta.llyw.cymru/trefniadau\-cymorth\-i\-fyfyrwyr\-yn\-gysylltiedig\-ag\-iechyd
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-about-future-arrangements-supporting-health-care-students
Our report on the Community Safety Review was published 12 December 2017\.  We remain committed to leading a programme of work to deliver safer communities and to work in partnership with our devolved and non devolved partners and stakeholders.   I am pleased to announce the Welsh Government has agreed funding to support a coordination role to provide a strategic interface between Welsh Government and Policing and the Welsh Local Government Association.   Our commitment in this area will to help us achieve our ambitions and sustainable vision for safer communities and prosperity for all across Wales. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Cafodd ein hadroddiad ar yr Adolygiad o Ddiogelwch Cymunedol ei gyhoeddi ar 12 Rhagfyr 2017\.  Rydym yn parhau'n ymrwymedig i arwain rhaglen waith ar gyfer gwneud ein cymunedau'n fwy diogel, ac i weithio mewn partneriaeth gyda'n partneriaid a rhanddeiliaid mewn meysydd datganoledig a heb eu datganoli. Mae'n bleser gennyf gyhoeddi bod Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo cyllid i gefnogi rôl cydgysylltu a fydd yn darparu rhyngwyneb strategol rhwng Llywodraeth Cymru a Phlismona a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru.   Bydd ein hymrwymiad yn y maes hwn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ac i wireddu ein gweledigaeth gynaliadwy ar gyfer cymunedau mwy diogel a ffyniant i bawb ledled Cymru. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-community-safety-wales
On 9 January 2018, Huw Irranca\-Davies, Minister for Children and Social Care made an Oral Statement in the Siambr on: Consultation on Legislation to Remove the Defence of Reasonable Punishment (external link).
Ar 9 Ionawr 2018, gwnaeth y Huw Irranca\-Davies, Gweinidog Gofal Cymdeithasol a Phlant Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Ymgynghoriad ar Ddeddfwriaeth i gael Gwared ar yr Amddiffyniad Cosb Resymol (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-consultation-legislation-remove-defence-reasonable-punishment
Today, I am pleased to announce the publication of a consultation on Service Standards for Housing Adaptations. Housing adaptations play a key role in supporting disabled and older people to live more independently in their own home. This important area of work brings many benefits to people, supporting their physical and mental wellbeing, as well as reducing pressure on frontline NHS and social care services. The provision of housing adaptations supports the objectives of our policy agenda laid out in ‘Prosperity for All’ and ‘Healthier Wales,’ by enabling people to maintain their independence and receive services closer to home. There are a large number of organisations that support the delivery of adaptations in Wales and it is important that people receive a consistent level of service, regardless of tenure and where they may live. The new standards will help to address this issue. The aim of the standards is to set out the level of service expected for the delivery and installation of a housing adaptation that service users, regardless of their geographic location and tenure, can expect. The Service Standards should ensure service providers deliver housing adaptations in a more consistent manner and inform service users on the level of service to expect when they seek support for a housing adaptation. I would like to encourage everyone with an interest in this area to make their views known and to provide robust evidence to support their views. The consultation is available at: https://beta.gov.wales/housing\-adaptations\-service\-standards and will close on 19 December 2018\.
Heddiw, rydw i'n falch o gyhoeddi ymgynghoriad ar Safonau Gwasanaeth ar gyfer Addasu Tai. Mae addasu tai yn chwarae rhan hanfodol o ran helpu pobl anabl a hŷn i fyw'n fwy annibynnol yn eu cartrefi eu hunain. Mae'r gwaith pwysig hwn o fudd mawr i bobl gan gefnogi eu llesiant corfforol a meddyliol yn ogystal â lleihau'r pwysau ar wasanaethau rheng flaen y GIG a gofal cymdeithasol. Mae darparu addasiadau i dai yn cefnogi amcanion ein hagenda polisi a nodwyd yn ‘Ffyniant i Bawb’ a ‘Cymru Iachach’, drwy alluogi pobl i barhau i fod yn annibynnol ac i dderbyn gwasanaethau'n nes at eu cartrefi. Mae nifer fawr o sefydliadau sy'n helpu i addasu tai yng Nghymru , ac mae'n bwysig bod safon y gwasanaeth yn gyson, ni waeth lle y mae pobl yn byw na pha fath o ddeiliadaeth sydd ganddynt. Bydd y safonau newydd yn helpu i ddatrys y mater hwn. Nod y safonau yw amlinellu lefel y gwasanaeth y gall defnyddwyr gwasanaethau ei disgwyl o ran cwblhau a gosod addasiadau i’w tai, lle bynnag y bônt yn ddaearyddol a beth bynnag y bo natur eu deiliadaeth,. Dylai Safonau’r Gwasanaethau sicrhau bod darparwyr gwasanaethau yn cwblhau eu gwaith o addasu tai mewn modd sy’n fwy cyson gan ddweud wrth ddefnyddwyr y gwasanaethau pa lefel o wasanaeth y gallant ei disgwyl pan fyddant yn mynd ati i chwilio am gymorth i addasu eu tai. Hoffwn annog pawb sydd â diddordeb yn y maes i fynegi eu barn ac i ddarparu tystiolaeth gadarn i gefnogi eu safbwynt. Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/safonau\-gwasanaeth\-ar\-gyfer\-addasiadau\-i\-dai a bydd yn cau ar 19 Rhagfyr 2018\.
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-housing-adaptations-service-standards
Placemaking helps us create high quality spaces and development in our towns, villages and countryside which satisfy our need for homes, jobs and public services, whilst seeking to maintain and protect our natural environments and promote cultural experiences for all. Edition 10 of Planning Policy Wales (PPW), which is being published for consultation today, seeks to embed placemaking into national planning policy, to help ensure development decisions, both on local planning policies and planning applications, help promote prosperity for all parts of society. PPW has been completely reworked to take account of the Well\-being of Future Generations Act. The 7 well\-being goals and 5 ways of working provide links through the document, both in terms of its structure and content, which is now based around themes which together promote placemaking with a view to achieving sustainable places. The policy content of PPW has also been updated to recognise our planning priorities contained in Taking Wales Forward. These include delivering on housing and our energy commitments and enshrining the agent of change principle in to national planning policy. Consultation on this important national planning policy document will run for more than 12 weeks, concluding on 18th May 2018\. I would encourage anyone with an interest in the natural or built environment to respond and help us to shape this new, innovative approach to national planning policy making in Wales. https://consultations.gov.wales/consultations/planning\-policy\-wales\-edition\-10 
Mae creu lleoedd yn helpu creu lleoliadau a datblygiadau o safon uchel yn ein trefi, ein pentrefi a chefn gwlad, sy'n bodloni ein hangen am gartrefi, swyddi a gwasanaethau cymdeithasol, tra'n ceisio cynnal a gwarchod ein hamgylchedd naturiol a hyrwyddo profiadau diwylliannol i bawb. Mae Argraffiad 10 o Bolisi Cynllunio Cymru, sy'n cael ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad heddiw, yn ceisio sefydlu creu lle o fewn y polisi cynllunio cenedlaethol, i helpu i sicrhau bod penderfyniadau ar ddatblygiadau, polisïau cynllunio lleol a cheisiadau cynllunio yn helpu i hyrwyddo llewyrch i bob rhan o'r gymdeithas. Mae Polisi Cynllunio Cymru wedi ei addasu i ystyried Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol. Mae'r 7 o amcanion llesiant a'r 5 ffordd o weithio yn creu cysylltiadau trwy'r ddogfen, o ran ei strwythur a'i gynnwys, sydd bellach yn seiliedig ar themâu sydd gyda'i gilydd yn hyrwyddo creu lle gyda'r bwriad o greu mannau cynaliadwy.   Mae cynnwys Polisi Cynllunio Cymru o ran polisïau wedi ei ddiweddaru i gydnabod ein blaenoriaethau cynllunio o fewn Symud Cymru Ymlaen. Mae'r rhain yn cynnwys darparu ein hymrwymiadau o ran tai ac ynni a chynnwys yr egwyddor cyfrwng newid o fewn y polisi cynllunio cenedlaethol. Bydd yr ymgynghoriad ar y ddogfen polisi cynllunio cenedlaethol bwysig hon yn rhedeg am dros 12 wythnos, gan ddod i ben ar 18 Mai 2018\. Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb yn yr amgylchedd naturiol ac adeiledig i ymateb a'n helpu i rannu'r dull newydd, arloesol hwn o lunio y polisi cynllunio cenedlaethol yng Nghymru.  https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/polisi\-cynllunio\-cymru\-argraffiad\-10 
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-planning-policy-wales
In Taking Wales Forward, we set out our intention to foster the conditions needed to ensure our businesses and communities thrive.  Local tax revenues form an important element of the funding needed to sustain public services and it is vital that these revenues continue to be collected as effectively and as fairly as possible.   Non\-domestic rates in Wales raise more than £1 billion each year to fund local government and police services.  All the revenue raised through non\-domestic rates is redistributed to help pay for the services – education, social care, waste management, transport, housing, public protection, leisure and environmental amenities and more – on which we all rely.  Without this revenue stream, these services would suffer and it is vital that everyone makes their fair contribution.   As with any tax system, there are those who set out to avoid their non\-domestic rates liability.  The Welsh Government is committed to reducing the opportunities for avoidance behaviour and to helping organisations investigate cases more effectively.  While avoidance may involve only a small minority of ratepayers, when they do not contribute their fair share it is to the detriment of local services, the wider community and other ratepayers.   I am pleased to publish today a consultation on the range of ideas that have been suggested to me which could help to tackle avoidance of non\-domestic rates.   I have considered a wide range of evidence including that collated by recent policy reviews elsewhere in the UK, as well as evidence from Welsh local authorities and other organisations.  The consultation discusses how we can balance the needs of local authorities and businesses but also work closely with other agencies and the UK Government to bring about improvements.   In considering any changes to the current arrangements, we will do so in line with the Welsh Government’s Tax Principles of raising revenue as fairly as possible; clarity, stability and simplicity; collaboration and involvement; and contributing to the Well\-Being of Future Generations Act goal of creating a more equal Wales.   Today marks the start of 12 weeks of consultation with ratepayers, industry representatives, other taxpayers and local authorities.  We are very keen to hear their views and to work with them constructively.  This provides an opportunity to consider how we can make our non\-domestic rates system fairer and more effective.  I look forward to receiving all contributions on this important matter.  To be clear, however: while all the ideas in the consultation document are for debate and discussion, the principle underlying theme is fixed.  It cannot be right that the efforts of the considerable majority, to abide by the rules and pay their dues, are under cut by a minority intent on exploiting or abusing the system. The outcome of this consultation will be clearly focused on making the system more effective, fairer and less vulnerable to misuse.     https://beta.gov.wales/tackling\-avoidance\-non\-domestic\-rates\-wales This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.  
Yn Symud Cymru Ymlaen, cyflwynasom ein bwriad i feithrin yr amodau sydd eu hangen i sicrhau bod ein busnesau a'n cymunedau yn ffynnu. Mae refeniw a godir o drethi lleol yn rhan bwysig o'r cyllid sydd ei angen i gynnal gwasanaethau cyhoeddus ac mae'n hanfodol bod y refeniw hwn yn dal i gael ei gasglu mor effeithiol a theg â phosibl.   Mae ardrethi annomestig yng Nghymru yn codi dros £1 biliwn y flwyddyn i ariannu gwasanaethau llywodraeth leol a'r heddlu. Mae'r holl refeniw a gesglir drwy ardrethi annomestig yn cael ei ail\-ddosbarthu i helpu i dalu am y gwasanaethau – addysg, gofal cymdeithasol, rheoli gwastraff, trafnidiaeth, tai, amddiffyn y cyhoedd, hamdden ac amwynderau amgylcheddol a mwy – yr ydym ni oll yn ddibynnol arnynt. Heb y ffrwd refeniw hon, byddai'r gwasanaethau hyn ar eu colled ac mae'n hanfodol bod pob un yn cyfrannu'n deg.   Fel yn achos unrhyw system drethi, mae rhai yn benderfynol o osgoi'r ardrethi annomestig y maent yn atebol i'w talu. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i dorri ar y cyfle i osgoi talu trethi a helpu sefydliadau i ymchwilio'n fwy effeithiol i achosion.  Efallai mai lleiafswm bach o drethdalwyr annomestig sy'n osgoi talu trethi, ond pan nad ydynt yn cyfrannu'n deg mae gwasanaethau lleol, y gymuned ehangach a threthdalwyr eraill ar eu colled.   Rwy'n falch o gyhoeddi heddiw ymgynghoriad ar gyfres o syniadau a awgrymwyd imi a allai helpu i fynd i'r afael â'r rheini sy'n osgoi talu ardrethi annomestig.   Rwyf wedi ystyried ystod eang o dystiolaeth gan gynnwys y dystiolaeth a gasglwyd yn ddiweddar wrth adolygu polisïau mewn ardaloedd eraill yn y Deyrnas Unedig (DU), yn ogystal â thystiolaeth gan awdurdodau lleol Cymru a sefydliadau eraill. Mae'r ymgynghoriad yn trafod sut y gallwn ni wrthbwyso anghenion awdurdodau lleol a busnesau ond hefyd weithio'n agos gydag asiantaethau eraill a Llywodraeth y DU i wneud gwelliannau.   Wrth ystyried unrhyw newidiadau i'r trefniadau presennol, byddwn yn gwneud hynny yn unol ag Egwyddorion Trethi Llywodraeth Cymru: i godi refeniw mor deg ag sy'n bosibl; i fod yn glir, sefydlog a syml; i'w datblygu drwy gydweithredu ac ymwneud; a chyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru sy'n fwy cyfartal. Mae heddiw'n nodi dechrau cyfnod ymgynghori 12 wythnos o hyd â threthdalwyr annomestig, cynrychiolwyr diwydiant, trethdalwyr eraill ac awdurdodau lleol. Rydym yn awyddus iawn i glywed eu barn ac i weithio'n adeiladol gyda nhw. Mae hwn yn gyfle i ystyried sut y gallwn ni wneud ein system ardrethi annomestig yn fwy teg ac effeithiol.  Edrychaf ymlaen at weld yr holl gyfraniadau ar y mater pwysig hwn. Fodd bynnag, i fod yn glir, er bod yr holl syniadau yn y ddogfen ymgynghori yn faterion i’w trafod, mae'r brif egwyddor sy'n sail iddynt yn sefydlog. Nid yw'n iawn o gwbl fod ymdrechion y mwyafrif llethol, i lynu wrth y rheolau a thalu'r hyn sy'n ddyledus ganddynt, yn cael eu tanseilio gan fwyafrif sy'n benderfynol o gamddefnyddio'r system. Bydd canlyniad yr ymgynghoriad hwn yn canolbwyntio'n bendant ar wneud y system yn fwy effeithiol, yn decach ac yn llai agored i gael ei chamddefnyddio.   https://beta.llyw.cymru/mynd\-ir\-afael\-ag\-achosion\-o\-osgoi\-ardrethi\-annomestig\-yng\-nghymru Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod yr egwyl er mwyn rhoi’r diweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau am i mi wneud datganiad arall neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd ar ôl yr egwyl, rwy’n fwy na pharod i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-consulting-ways-tackle-avoidance-non-domestic-rates-wales
The Welsh Government will take responsibility for teachers’ pay and conditions at the end of this September, with teachers’ pay and conditions being set by the Welsh Government from September 2019\. This is an opportunity to develop a truly national model that enshrines a national approach to supporting and elevating the status of the profession in Wales. In my Written Statement of 14 December 2017 I notified Members of the establishment of an Independent Task and Finish Group, chaired by Professor Mick Waters, to review Teachers’ Pay and Conditions of Service in Wales. Alongside this I informed Members of my intention to hold a public consultation to help inform the development of an appropriate system to determine teachers’ pay and conditions of service in Wales. I can now announce that the consultation on the proposed mechanism for determining teachers’ pay will open today.   
Bydd Llywodraeth Cymru yn cael cyfrifoldeb am gyflog ac amodau athrawon ar ddiwedd mis Medi yma, â chyflog ac amodau athrawon yn cael eu pennu gan Lywodraeth Cymru o fis Medi 2019\. Mae hyn yn gyfle i ddatblygu model cenedlaethol yng ngwir ystyr y gair, sy’n corffori dull cenedlaethol o gefnogi a rhoi hwb i statws y proffesiwn yng Nghymru. Yn fy Datganiad Ysgrifenedig ar 14 Rhagfyr 2017 rhoddais wybod i Aelodau am sefydliad Grŵp Gorchwyl a Gorffen, i’w gadeirio gan yr Athro Mick Waters, i adolygu Cyflog ac Amodau Gwasanaeth Athrawon yng Nghymru. Ochr yn ochr ag hyn, rhoddais wybod i Aelodau o fy mwriad i gynnal ymgynghoriad cyhoeddus i helpu i lywio datblygiad system sy’n briodol i bennu cyflog ac amodau gwasanaeth athrawon yng Nghymru. Nawr, gallaf gyhoeddi y bydd yr ymgynghoriad ar y mecanwaith arfaethedig i bennu cyflog athrawon yn agor heddiw.  
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-proposed-mechanism-determining-teachers-pay-and-conditions-service
  The Welsh Government is committed to protecting children’s rights and will introduce a Bill to remove the defence of reasonable punishment in year three of the legislative programme. Prohibiting the physical punishment of children by their parents, or those acting in loco parentis, is consistent with the Welsh Government’s commitment to the principles of the United Nations Convention of the Rights of the Child. The legislation will be underpinned by a range of support for parents and information about parenting strategies and alternatives to physical punishment to help parents make positive choices. I launched a consultation in January about legislating to remove the defence of reasonable punishment. This closed on 2 April 2018; the responses received from the public and stakeholders will inform the development of the Bill and to address any concerns as the legislation develops. The summary of consultation responses is published today. There were 1,892 responses to the consultation and a further 274 people took part in external engagement events held with representatives of stakeholder organisations, the public and young people, parents and carers. An independent reviewer, Arad, has analysed the responses and drawn out key messages. Slightly more than half of the respondents – 50\.3% – agreed the legislative proposal would help achieve our stated aim of protecting children’s rights; 48\.1% of respondents disagreed. The summary and analysis of the responses to the consultation is published on the Welsh Government website. All the responses received will be considered during the development of the Bill. We will also continue to work with stakeholders as we bring forward legislation. *This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.*    
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i ddiogelu hawliau plant, a bydd yn cyflwyno Bil i ddileu amddiffyniad cosb resymol ym mlwyddyn 3 y rhaglen ddeddfwriaethol. Mae gwahardd cosbi plant yn gorfforol gan rieni, neu'r rheini sy'n gweithredu in loco parentis, yn gyson ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i egwyddorion Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn. Bydd y ddeddfwriaeth hon yn cael ei ategu gan amrywiaeth o gymorth i rieni a gwybodaeth am strategaethau rhianta ac opsiynau eraill yn lle cosbi corfforol i helpu rhieni i wneud dewisiadau cadarnhaol. Lansiais ymgynghoriad ym mis Ionawr ynghylch deddfu i ddileu amddiffyniad cosb resymol. Daeth hwnnw i ben ar 2 Ebrill 2018; bydd yr ymatebion a dderbyniwyd gan y cyhoedd a rhanddeiliaid yn llywio’r gwaith o ddatblygu’r Bil ac yn mynd i'r afael ag unrhyw bryderon wrth i'r ddeddfwriaeth gael ei datblygu. Mae crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yn cael ei gyhoeddi heddiw. Cafwyd 1,892 o ymatebion i'r ymgynghoriad. Ar ben hynny roedd 274 o bobl ychwanegol wedi cymryd rhan mewn digwyddiadau allanol a gynhaliwyd i gael barn cynrychiolwyr o sefydliadau rhanddeiliaid, y cyhoedd, a phobl ifanc, rhieni a gofalwyr. Mae adolygwr annibynnol, Arad, wedi dadansoddi'r ymatebion ac wedi dod â'r prif negeseuon i'r golwg. Roedd ychydig dros hanner nifer yr ymatebwyr – 50\.3% – yn cytuno y byddai'r cynnig deddfwriaethol yn helpu i gyrraedd ein nod penodol o ddiogelu hawliau plant; roedd 48\.1% o’r ymatebwyr yn anghytuno. Mae crynodeb a dadansoddiad o'r ymatebion i'r ymgynghoriad wedi'u cyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.  Caiff yr holl ymatebion a dderbyniwyd eu hystyried yn ystod y gwaith o ddatblygu'r Bil. Byddwn hefyd yn parhau i gydweithio â rhanddeiliaid wrth inni gyflwyno deddfwriaeth. Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn fwy na pharod i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-legislative-proposal-remove-defence-reasonable-punishment
The Wales Act 2017, which received Royal Assent last year, was a step forward in handing further control over the consenting of energy projects and other important regulatory frameworks to Wales, including the future onshore licensing of oil \& gas extraction. In December 2016 I set out my commitment to reduce our reliance on energy generated from fossil fuels. The new petroleum licencing powers provide an opportunity to consider what should be our approach to petroleum extraction in Wales, for now and future generations.   As a new area of responsibility for Welsh Government, we commissioned a review of the evidence in 2017 to inform our future policy towards petroleum extraction. Today I am pleased to launch a consultation seeking views on that evidence and our proposed policy on petroleum extraction including fracking.   https://beta.gov.wales/petroleum\-extraction\-policy\-wales https://beta.llyw.cymru/polisi\-echdynnu\-petrolewm\-yng\-nghymru Within the UK, Wales has a distinctive approach to the management of our natural resources underpinned by legislation. The proposed policy should be considered in the context of our well being goal for a globally responsible Wales, our climate change obligations and long term ambition to remove fossil fuels from our energy mix whilst minimising economic impact and providing clarity for investors.   I welcome your views on whether the proposals in the consultation will help us deliver our long term objectives. The consultation will close on 25th September 2018\.
Roedd Deddf Cymru 2017, dderbyniodd Gydsyniad Brenhinol y llynedd, yn gam ymlaen i roi rhagor o reolaeth dros gydsynio gyda phrosiectau ynni a fframweithiau rheoleiddiol eraill pwysig i Gymru, gan gynnwys trwyddedu ar y tir yn y dyfodol i echdynnu olew a nwy. Ym mis Rhagfyr 2016, cyflwynais fy ymrwymiad i leihau ein dibyniaeth ar ynni sy’n cael ei gynhyrchu o danwyddau ffosil.  Mae'r pwerau newydd ar gyfer trwyddedu petroliwm yn rhoi cyfle inni ystyried sut y dylem echdynnu petroliwm yng Nghymru, nawr ac yn y dyfodol.   Fel maes newydd o gyfrifoldeb i Lywodraeth Cymru, comisiynwyd adolygiad o’r dystiolaeth gennym yn 2017 i lywio ein polisi yn y dyfodol ar gyfer echdynnu petroliwm. Heddiw rwy'n falch o lansio ymgynghoriad i holi barn ar y dystiolaeth honno a'n polisi arfaethedig ar echdynnu petroliwm gan gynnwys ffracio.   https://beta.gov.wales/petroleum\-extraction\-policy\-wales https://beta.llyw.cymru/polisi\-echdynnu\-petrolewm\-yng\-nghymru Yn y DU, mae gan Gymru ddull penodol o reoli ein hadnoddau naturiol, ac mae’r ddeddfwriaeth yn sail i hyn.  Dylid ystyried y polisi arfaethedig yng nghyd\-destun ein nod llesiant i gael Cymru sy'n gyfrifol yn fyd\-eang, ein rhwymedigaethau newid hinsawdd a'n huchelgais hirdymor i ddileu tanwyddau ffosil o'r ynni yr ydym yn ei ddefnyddio tra'n lleihau effaith economaidd negyddol a rhoi eglurder i fuddsoddwyr. Rwy'n croesawu eich barn wrth ystyried a fydd y cynigion yn yr ymgynghoriad yn helpu inni ddarparu ein hamcanion hirdymor. Daw'r cyfnod ymgynghori i ben ar 25 Medi 2018  
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-petroleum-extraction-wales
The Parliamentary Review described the increasing demands and new challenges that face the NHS and social care – greater care needs as we grow older, lifestyle changes, public expectations and new and emerging medical technologies. These challenges have been acutely felt by critical care services in recent years and these have been exacerbated at times, such as during the winter. We have met with a number of critical care consultants and listened to their views. It is clear there is a significant strain within critical care services and this has been increasing in recent years. Despite this those who require critically ill support continue to receive high standards of critical care thanks to the dedication of staff who have been working in a highly pressurised environment As set out in the plan for health and social care – A Healthier Wales, hospital based services such as critical care remain an essential and visible part of our future health and care system. As with other services, we need to speed up changes within critical care and look at the model of provision across Wales, to ensure we have the right services, in the right place for those who are critically ill. Our approach to critical care will build on the work already being taken forward through the implementation of the Delivery Plan for the critically ill, but we now want to take a firmer central hand in directing this work at a national level.  As such, some services will be developed based on a national model designed to ensure that the appropriate skilled workforce is in place across Wales.   This will involve a phased approach to redesigning the way services for people who are critically ill are provided in Wales. We identified the need to support services which are already in place across Wales to ensure we utilise our existing capacity as effectively as possible, develop and expand the skilled workforce, and ensure that investment in additional critical care capacity is targeted to support the development of specialist services. We also intend to ensure an effective system is in place to transfer patients to more specialist care when they need it and return them to the most appropriate local setting for their ongoing care. I am announcing today new recurrent funding of £15 million to support this programme of work.  I have established a Task and Finish Group, chaired by the Deputy Chief Medical Officer, Professor Chris Jones which will include representation from the Welsh Health Specialised Services Committee and the directors of finance and planning from each of the Local Health Boards. The Group will oversee the allocation of funding and be supported by several work streams to develop our national model of care for those who are critically ill. The national model will include the expansion of outreach teams, post anaesthesia care units, establishment of a long term ventilation unit, more transparent performance measures, options for transfer of critically ill patients as well as the development/expansion of skilled workforce and increasing the number of critical care beds. Alongside the national model, we will work with the service to implement appropriate performance measures that will allow us to track the impact of this investment.  Tackling all of these areas is necessary if we are to secure sustainable critical care services for the future.  This is a 3 to 5 year programme of work, but I expect to see early progress in the next few months before the winter.   I will make an oral statement in the autumn providing further detail and setting out the progress made.              
Disgrifiodd yr Adolygiad Seneddol y galwadau cynyddol a'r heriau newydd sy'n wynebu'r GIG a gofal cymdeithasol – mwy o anghenion gofal wrth inni heneiddio, newidiadau i ffyrdd o fyw, disgwyliadau'r cyhoedd a thechnolegau meddygol newydd. Mae'r heriau hyn wedi'u teimlo'n arbennig gan wasanaethau gofal critigol yn y blynyddoedd diwethaf ac maent wedi dwysáu ar adegau, er enghraifft yn ystod y gaeaf. Rydym wedi cyfarfod â nifer o ymgynghorwyr gofal critigol ac wedi gwrando ar eu barn. Mae'n amlwg bod straen sylweddol ar y gwasanaethau gofal critigol a'i fod wedi dwysáu dros y blynyddoedd diwethaf. Er gwaethaf hyn, mae'r rheini sy'n ddifrifol wael ac angen cymorth yn parhau i gael gofal critigol o'r safon uchaf diolch i ymroddiad staff sydd wedi bod yn gweithio dan bwysau mawr.   Fel sy'n cael ei amlinellu yn y cynllun iechyd a gofal cymdeithasol – Cymru Iachach, mae gwasanaethau mewn ysbytai megis gofal critigol yn parhau'n rhan hanfodol a gweledol o'n system iechyd a gofal yn y dyfodol. Fel sy'n wir am wasanaethau eraill, mae angen i ni wneud y newidiadau'n gynt i ofal critigol ac edrych ar y model o ddarpariaeth ledled Cymru i sicrhau bod gennym y gwasanaethau cywir yn y man cywir ar gyfer y rheini sy'n ddifrifol wael. Bydd y ffordd y byddwn yn mynd i'r afael â gofal critigol yn datblygu'r gwaith sydd eisoes yn cael ei wneud drwy weithredu'r Cynllun Cyflawni i'r difrifol wael, ond nawr rydym am fynd ati â gafael ganolog fwy cadarn o ran cyfarwyddo'r gwaith hwn ar lefel genedlaethol. Felly, bydd rhai gwasanaethau'n cael eu datblygu yn seiliedig ar fodel cenedlaethol gyda’r bwriad o sicrhau bod gweithlu medrus priodol yn ei le ledled Cymru. Bydd hyn yn cynnwys mynd ati fesul cam i ailwampio'r ffordd y caiff gwasanaethau i bobl sy'n ddifrifol wael eu darparu yng Nghymru. Fe wnaethom nodi'r angen i gefnogi gwasanaethau sydd eisoes ar waith yng Nghymru i sicrhau ein bod yn defnyddio'r capasiti sydd gennym ar hyn o bryd mor effeithiol â phosibl, yn datblygu ac yn ehangu'r gweithlu medrus ac yn sicrhau ein bod yn targedu'r buddsoddiad mewn capasiti gofal critigol ychwanegol i gefnogi'r gwaith o ddatblygu gwasanaethau arbenigol. Rydym yn bwriadu sicrhau bod system effeithiol ar waith i drosglwyddo cleifion i ofal mwy arbenigol pan mae ei angen arnynt, a’u dychwelyd i'r lleoliad lleol mwyaf priodol i barhau â'u gofal. Heddiw, rwy'n cyhoeddi cyllid rheolaidd o £15 miliwn i gefnogi'r rhaglen waith hon. Rwyf wedi sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen dan gadeiryddiaeth y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol, yr Athro Chris Jones. Bydd yn cynnwys cynrychiolwyr o Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru a chyfarwyddwyr cyllid a chynllunio pob Bwrdd Iechyd Lleol. Bydd y Grŵp yn goruchwylio'r gwaith o ddyrannu'r cyllid gyda chefnogaeth nifer o ffrydiau gwaith i ddatblygu ein model gofal cenedlaethol ar gyfer y rheini sy'n ddifrifol wael. Bydd y model cenedlaethol yn cynnwys ehangu timau allgymorth, unedau gofal ôl anesthesia, sefydlu uned cymorth anadlu hirdymor, mesurau perfformiad mwy tryloyw, opsiynau ar gyfer trosglwyddo cleifion sy'n ddifrifol wael yn ogystal â datblygu/ehangu'r gweithlu medrus a chynyddu nifer y gwelyau gofal critigol. Ochr yn ochr â'r model cenedlaethol, byddwn yn gweithio gyda'r gwasanaeth i weithredu mesurau perfformiad priodol a fydd yn ein galluogi i olrhain effaith y buddsoddiad hwn. Mae'n hanfodol ein bod yn mynd i'r afael â'r holl feysydd hyn os ydym am sicrhau gwasanaethau gofal critigol cynaliadwy i'r dyfodol. Dyma raglen waith 3 i 5 mlynedd, ond rwy’n disgwyl gweld cynnydd dros y misoedd nesaf cyn y gaeaf. Byddaf yn gwneud datganiad llafar yn yr hydref lle byddaf yn rhoi rhagor o fanylion ac yn amlinellu'r cynnydd fydd wedi'i wneud.
https://www.gov.wales/written-statement-critical-care-capacity
  I am always impressed by the enthusiasm and dedication of young people in Welsh agriculture. It is vital we ensure future generations enter the industry bringing new ideas and innovation to the sector. It has been one of my key priorities to support our next generation of farmers and I have spoken to many young people to gain a better understanding of what support they need to enter the industry and develop sustainable, profitable and resilient businesses. We need to be fully prepared for the challenges as we transition from the EU. The impact on our farmers is likely to be greater than for many other sectors. We must do all we can to build resilience within our industry and to ensure we create an environment where business can prosper and individuals within the industry are supported to become the future leaders of the industry.  To enable this, I am launching two initiatives which will give opportunities to young people to develop themselves and their businesses in preparation for a world outside the EU. The Young People into Agriculture scheme will offer financial support to high achieving individuals looking to establish a new business or to develop an existing business. Successful applicants will need to demonstrate they have the attributes to lead dynamic businesses and drive the change required for the future success of our industry. £6m has been made available for this scheme as part of the Budget agreement the Government reached with Plaid Cymru with whom we have worked closely in developing the new scheme. To complement this scheme, I am launching a Young People in Agriculture Forum. The aim of the Forum is to develop a strategic long term relationship between the Welsh Government and young people through a senior industry leadership programme, with a particular focus on agriculture and rural affairs. The Forum will give young people an opportunity to engage directly and confidently with Government as well as industry bodies seeking to ensure strategies and policies support the next generation into agriculture. The Forum will complement a number of existing programmes for young leaders our key industry stakeholders already have in place. My officials are working with industry stakeholders to identify the individuals who will become members of the new Forum and once established, I will be asking them to organise and host an all\-Wales Farming Conference. This will be an opportunity to give a focus on young people and especially the young potential future leaders of the agriculture industry in Wales. Members of the forum will work with Welsh Government to develop appropriate and realistic policies along with deliverable actions for the benefit of agricultural families, businesses and wider rural Wales. These new initiatives will sit alongside the existing wider offer Welsh Government has to support the industry with programmes such as Farming Connect and the Farm Business Grant. Brexit presents many challenges to the agriculture industry in Wales but will also generate opportunities. Farming is similar to any other industry in that success requires a constant flow of new blood, new ideas and new leaders. This new initiative will help develop the industry’s future leaders and ensure that challenges are met and opportunities are grasped.    
Mae’r brwdfrydedd a’r ymroddiad y mae pobl ifanc yn eu dangos tuag at amaethyddiaeth yng Nghymru bob amser yn gwneud cryn argraff arnaf. Mae’n hanfodol bod cenedlaethau’r dyfodol sydd am weithio yn y diwydiant yn cyflwyno syniadau newydd ac arloesol i’r sector. Un o’m blaenoriaethau allweddol oedd cefnogi ein cenhedlaeth nesaf o ffermwyr ac rwyf wedi siarad â llawer o bobl ifanc er mwyn deall yn well y cymorth sydd ei angen arnynt i gychwyn arni yn y diwydiant ac i ddatblygu busnesau cynaliadwy, proffidiol a chydnerth. Mae angen inni fod yn barod i drechu unrhyw heriau wrth inni ymadael â’r UE. Mae ffermwyr yn fwy tebygol o deimlo’r effaith na sawl sector arall ac mae’n rhaid inni wneud popeth o fewn ein gallu i wella cydnerthedd o fewn ein diwydiant. Mae’n rhaid inni hefyd sicrhau ein bod yn creu amgylchedd lle y gall busnesau ffynnu a lle y caiff unigolion sy’n gweithio yn y diwydiant eu cefnogi i ddod yn arweinwyr yn y maes. Rwy’n lansio, felly, ddwy fenter a fydd yn rhoi cyfleoedd i bobl ifanc ddatblygu eu hunain a’u busnesau i baratoi ar gyfer byd y tu allan i’r UE. Bydd y cynllun Ymsefydlu mewn Amaeth i Bobl Ifanc yn rhoi cymorth ariannol i unigolion llwyddiannus sydd am sefydlu busnes neu ddatblygu busnes sydd eisoes yn bod. Bydd angen i ymgeiswyr llwyddiannus ddangos bod ganddynt y rhinweddau i arwain busnesau deinamig ac i sbarduno’r newidiadau sy’n hanfodol i sicrhau bod y diwydiant yn llwyddiannus yn y dyfodol. Mae £6 miliwn wedi’u clustnodi ar gyfer y cynllun hwn fel rhan o gytundeb ar y gyllideb rhwng y Llywodraeth a Plaid Cymru, ac rydym wedi cydweithio’n agos â’r blaid ar ddatblygu’r cynllun newydd. I ategu’r cynllun hwn, rwy’n lansio Fforwm Pobl Ifanc mewn Amaeth. Ei nod yw datblygu perthynas hirdymor strategol rhwng y Llywodraeth a phobl ifanc drwy raglen arweinyddiaeth a fydd yn cynnwys pobl ar lefel uchel yn y diwydiant, gan hoelio sylw ar amaethyddiaeth a materion gwledig. Bydd y Fforwm yn gyfle i bobl ifanc drafod yn uniongyrchol ac yn hyderus gyda’r Llywodraeth yn ogystal â chyrff o fewn y diwydiant sydd am sicrhau bod strategaethau a pholisïau yn helpu’r genhedlaeth nesaf i weithio yn y maes amaethyddol. Bydd y Fforwm yn ategu sawl rhaglen sydd eisoes yn eu lle gan rhanddeiliaid allweddol o fewn y diwydiant ar gyfer arweinwyr ifanc. Mae fy swyddogion yn gweithio gyda rhanddeiliaid yn y diwydiant i nodi’r unigolion a fydd yn aelodau o’r Fforwm newydd ac ar ôl iddo gael ei sefydlu, byddaf yn gofyn iddynt drefnu a chynnal Cynhadledd Ffermio ar gyfer Cymru gyfan. Bydd yn gyfle i ganolbwyntio ar bobl ifanc, yn enwedig ar ddarpar arweinwyr ifanc posibl y diwydiant amaethyddol yng Nghymru. Bydd aelodau’r Fforwm yn gweithio gyda’r Llywodraeth i ddatblygu polisïau priodol a realistig ynghyd â chamau gweithredu cyflawnadwy er lles teuluoedd a busnesau amaethyddol a chefn gwlad Cymru. Bydd y mentrau newydd hyn yn mynd law yn llaw â’r cymorth ehangach y mae’r Llywodraeth yn ei gynnig yn y diwydiant drwy grantiau Cyswllt Ffermio, y Grant Busnes i Ffermydd a rhaglenni eraill. Mae Brexit yn cyflwyno sawl her i’r diwydiant amaethyddol yng Nghymru ond bydd hefyd yn creu cyfleoedd. Mae ffermio yn debyg i unrhyw ddiwydiant arall o ran bod angen ffrwd gyson o bobl, syniadau ac arweinwyr newydd i sicrhau llwyddiant. Bydd y fenter newydd hon yn helpu i ddatblygu darpar arweinwyr y diwydiant ac yn sicrhau ein bod yn goresgyn heriau ac yn manteisio ar gyfleoedd.  
https://www.gov.wales/written-statement-delivery-young-people-agriculture-scheme-and-forum
On 20 March 2018, Jeremy Miles, Counsel General made an Oral Statement in the Siambr on: Consultation on the Draft Legislation (Wales) Bill (external link).
Ar 20 Mawrth 2018, gwnaeth y Jeremy Miles, Cwnsler Cyffredinol Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Cymgynghoriad ar y Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-consultation-draft-legislation-wales-bill
Further to my decision to gradually reduce the maximum commission rate payable on the sale of a park home from 10% to 5% over a 5\-year period, I have, today, launched a formal consultation about how the implementation of that change should be made.   It is important to note that this consultation does not seek to revisit the decision to reduce the commission rate. Rather, views are being sought as to how the decision should be implemented. The questions relate to when to introduce the first reduction, what guidance, if any, is needed to support the change, and how best to communicate that change. The consultation is available at: https://beta.gov.wales/implementing\-changes\-park\-home\-commission\-rate , and will close on 14 December 2018\.
Yn dilyn fy mhenderfyniad i leihau'n raddol uchafswm cyfradd y comisiwn sy'n daladwy wrth werthu cartref mewn parc o 10% i 5% dros gyfnod o 5 mlynedd, rwyf heddiw wedi lansio ymgynghoriad ffurfiol am sut y dylid gweithredu'r newid hwnnw.   Mae'n bwysig nodi nad ailedrych ar y penderfyniad ei hun i leihau cyfradd y comisiwn yw pwrpas yr ymgynghoriad hwn. Yn hytrach, rydym am glywed barn pobl am sut y dylid mynd ati i weithredu'r penderfyniad. Mae'r cwestiynau yn ymwneud â phryd y dylid cyflwyno'r gostyngiad cyntaf; pa ganllawiau, os o gwbl, sydd eu hangen i gefnogi'r newid; a beth yw'r ffordd orau o gyfathrebu ynghylch y newid hwnnw. Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/rhoir\-newid\-i\-gyfradd\-y\-comisiwn\-ar\-gartrefi\-mewn\-parciau\-ar\-waith , a bydd yn cau ar 14 Rhagfyr 2018\.
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-implementation-changes-park-homes-commission-rate
Over the past 5 years we have worked extremely hard to put Wales on the map as a top cruise destination.  In 2013 there were 18 cruise calls with 15,000 cruise passengers  visiting  Wales.  This year alone  with over 100 calls to Welsh ports \- an increase of over 500% since 2013 \- Wales will have welcomed over 51,000 cruise passengers from USA, Canada, France and Germany, to name but a few countries.  It is also a significant upturn on 2017 year’s figures which show a year on year increase of 15%.  Holyhead will welcome 54 of these calls in 2018 \- an increase of 30% from 2017\.  A trend that we hope will continue. We have attracted new lines such as Norwegian Cruise Line, Aida, Regent Seven Seas and Phoenix Reissen and we are doing everything we can to attract further cruise lines.  We are also working hard to retain the existing ones, for example Cruise \& Maritime Voyages cruise line will continue to offer turnaround cruises in 2019 to the Mediterranean, following the second successful year of sailing out of Cardiff port, where 750 passengers boarded and disembarked the Marco Polo cruise vessel. A key part of retaining calls is our work pan Wales to develop and promote new onshore tour itineraries for passengers and showcasing more of Wales’s attractions to cruise lines and ground handlers; for example, for passengers arriving in Cardiff, we have developed a new tour of the Wales Millennium Centre building with the original architect; and for passengers arriving in Fishguard, we have developed a whole afternoon, offering a Hwyl event featuring  entertainment to showcase Welsh heritage \& culture; and in Holyhead we now offer the new Zip World Forest Coaster, over a 1 kilometre alpine toboggan run, as an adventure  tour option. We have also invested in infrastructure, for example in Fishguard port through the Tourism Investment Support Scheme, we have invested in a pontoon allowing larger cruise vessels to call.  As a result, there is already an increase in passenger numbers for 2019 of 30%, including the arrival of the Aidabella cruise ship, with 2500 cruise passengers on board. This will be the largest ship to call in Fishguard so far. The port of Holyhead is also to undergo change, with a new multi\-use berth development under consideration.  In Milford Haven, revised plans for a multi\-million pound marina redevelopment, including new hotels, shops and restaurants, have been approved by Pembrokeshire County Council. Wales as a cruise destination is marketed directly to the cruise lines through business to business calls with key decision makers from each cruise line.  We will continue to further develop our strong working relationships with the cruise lines by attendance at the Cruise Global exhibition and Seatrade Med conference \& exhibition. Over the last 5 years cruise tourism has been a great success story, thanks to the work we have undertaken in partnership with the key stakeholders to improve our Wales cruise product.  Going forward, collaborative working will need to continue if we are to further develop our cruise port infrastructure, so that we can concentrate on continued growth in cruise calls for  Wales. What is clear, is that Wales has something for everyone. Whatever your interests, Wales certainly has it all.  We are looking forward to welcoming more cruise passengers in the years to come and sharing everything that we have to offer.   This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.      
Dros y pum mlynedd ddiwethaf, rydym wedi gweithio'n galed iawn i roi enw da i Gymru fel cyrchfan gwych ar gyfer mordeithiau. Yn 2013, roedd 18 o longau mordeithio gyda 15,000 o deithwyr wedi ymweld â Chymru. Eleni yn unig, mae dros 100 o ymweliadau â phorthladdoedd yng Nghymru wedi'u cynllunio sy'n gynnydd o dros 500% ers 2013\. Golyga hyn y bydd Cymru wedi croesawu dros 51,000 o deithwyr o UDA, Canada, Ffrainc a'r Almaen, ymhlith eraill. Mae hyn hefyd lawer yn fwy na ffigurau 2017 sy'n dangos cynnydd blynyddol o 15%. Bydd Caergybi yn croesawu 54 o’r ymweliadau hyn yn 2018 – cynnydd o 30% ers 2017\. Gobeithio y bydd y duedd hon yn parhau. Rydym wedi denu cwmnïau newydd megis Norwegian Cruise Line, Aida, Regent Seven Seas a Phoenix Reissen ac rydym yn gwneud popeth y medrwn i ddenu rhagor. Rydym hefyd yn gweithio'n galed i gadw'r rhai sydd eisoes yn ymweld â Chymru, er enghraifft, bydd Cruise \& Maritime Voyages yn parhau i gynnig mordeithiau dychwelyd yn 2019 i'r Canoldir yn dilyn ail flwyddyn lwyddiannus o hwylio o borthladd Caerdydd lle y gwnaeth 750 o deithwyr fynd ar y llong fordeithio Marco Polo a dod oddi arni. Rhan allweddol o sicrhau'r ymweliadau hyn yw'r gwaith a wnawn ledled Cymru i ddatblygu a hyrwyddo teithiau newydd ar y tir i deithwyr ac i ddangos mwy o atyniadau Cymru i gwmnïau mordeithio a threfnwyr lleol; er enghraifft, i deithwyr sy'n cyrraedd Caerdydd, rydym wedi datblygu taith newydd i adeilad Canolfan y Mileniwm gyda'r pensaer gwreiddiol; ac i deithwyr sy'n cyrraedd Abergwaun, rydym wedi datblygu prynhawn cyfan o Hwyl sy'n cynnwys adloniant i ddangos treftadaeth a diwylliant Cymru; ac yng Nghaergybi, rydym bellach yn cynnig y Zip World Forest Coaster newydd sydd dros 1 cilometr o lwybr toboganau drwy’r goedwig fel rhan o daith antur. Rydym hefyd wedi buddsoddi mewn seilwaith, er enghraifft, yn Abergwaun drwy'r Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth, rydym wedi buddsoddi mewn pont gychod er mwyn caniatáu i longau mwy o faint ymweld â Chymru. O ganlyniad i hynny, rydym eisoes yn gweld cynnydd o 30% yn nifer y teithwyr ar gyfer 2019, gan gynnwys ymweliad gan y llong fordeithio Aidabella, sy'n cario 2,500 o deithwyr. Hon fydd y llong fwyaf i ymweld â Chymru hyd yma. Mae newid ar waith ym mhorthladd Caergybi hefyd gyda'r posibilrwydd o ddatblygu angorfa newydd ar gyfer mwy nag un defnyddiwr yn cael ei ystyried. Yn Aberdaugleddau, mae cynlluniau diwygiedig ar gyfer ailddatblygu marina gwerth miliynau o bunnoedd, gan gynnwys gwestai, siopau a bwytai newydd wedi'u cymeradwyo gan Gyngor Sir Penfro. Caiff Cymru, fel cyrchfan mordeithio, ei marchnata'n uniongyrchol i'r cwmnïau mordeithio drwy alwadau busnes i fusnes gyda phobl allweddol sy'n gyfrifol am wneud penderfyniadau ym mhob cwmni. Byddwn yn parhau i ddatblygu ein perthnasau gwaith cadarn gyda'r cwmnïau mordeithio yn arddangosfa Cruise Global, a chynhadledd ac arddangosfa Seatrade Med. Dros y pum mlynedd ddiwethaf, mae twristiaeth fordeithio wedi cael cryn dipyn o lwyddiant, diolch i'r gwaith a wnaed mewn partneriaeth â rhanddeiliaid allweddol i wella pecyn mordeithio Cymru. O hyn ymlaen, rhaid inni barhau i gydweithio os rydym am ddatblygu seilwaith ein porthladdoedd ar gyfer mordeithiau er mwyn canolbwyntio ar sicrhau bod mwy o longau mordeithio yn ymweld â Chymru. Yr hyn sy'n eglur yw bod gan Gymru rywbeth at ddant pawb. Pa beth bynnag sy’n ennyn eich diddordeb, mae gan Gymru rywbeth ar eich cyfer chi. Edrychwn ymlaen at groesawu rhagor o deithwyr yn ystod y blynyddoedd nesaf ac at rannu'r hyn sydd gennym i'w gynnig.   Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau. Os bydd yr Aelodau yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn hapus i wneud hynny.
https://www.gov.wales/written-statement-cruise-development-wales
*Taking Oral Health Improvement and Dental Services Forward in Wales* http://gov.wales/topics/health/professionals/dental/publication/information/dental\-health/?lang\=en published by Welsh Government in March 2017, outlines the key priorities for NHS dentistry, with contract reform identified as a priority. The document details reasons for a general dental service reform programme. The current dental contract is focussed on treatment activity and does not incentivise needs led care, prevention or make the best use of the skills of the whole dental team. Learning is being used from previous dental pilots in Wales (2011\-2016\) and the ongoing dental prototype practices to design the new programme.   The programme is: • involving key dental stakeholders in the development of dental contract reform;  • collecting the oral health risks and needs of individual patients and the whole practice population to support dental teams to effectively communicate these to patients, and work with them to co\-produce agreed outcomes; • improving the delivery of evidenced\-based prevention; • supporting implementation of dental recall periods, based on oral health risk and needs assessment; • evaluating the changes in key activities, outcome and quality indicators to inform development of new dental contracts; and  • encouraging increased skill\-mix use. Significant progress is being made to expand and develop the work, exploring options for dental contract reform within current regulations to realise our aim of increasing access and providing prevention based NHS dentistry. Clinicians involved in the contract reform prototypes have adopted a needs led preventive approach to care provision. Access and delivery of care to higher need patients has increased; patients and the health board are happy with the transformation in care. This approach is being expanded and the experience shared with more practices. However, it is necessary that robust outcome measures, to incentivise personalised preventive care and use of the wider team in delivery, are also developed and collected. Understanding patient need and risk and using this information to plan care has been key to these improvements. Communicating clinical findings and oral health risks to patients and taking time to explain what actions they need to take to improve and maintain their oral health has had a significant impact. We have worked with health boards, clinical teams and their representatives to develop a ‘need and risk’ assessment tool. This can be used by dental teams to better communicate with their patients and will enable health boards to measure outcomes.   There has been considerable interest from clinical teams and all seven health boards are participating. From January this year 23 dental practices (Annex 1\) selected from the many that applied are testing the use of the needs and risk assessment tool. This information is being used to plan care, give personalised preventive advice and agree appropriate recall intervals with patients. It is also facilitating improving access and making use of the whole dental practice team. We intend to expand the programme and new ways of working to more teams during 2018 and to scale up improvement throughout Wales.   Prosperity for All: The National Strategy aims to increase access to health services and “take significant steps to shift our approach from treatment to prevention”. There are opportunities within dentistry to make a greater impact on the health and wellbeing of the population, including an emphasis on a child’s early years. In this way, wider ambitions such as increasing access to employment can also be achieved.       ### Documents * #### Dental Contract Reform \- the 23 Prototype Dental Practices in Wales (Jan 2018\), file type: pdf, file size: 98 KB 98 KB
Cafodd Symud Ymlaen i Wella Iechyd y Geg a Gwasanaethau Deintyddol yng Nghymru http://llyw.cymru/topics/health/professionals/dental/publication/information/dental\-health/?skip\=1\&lang\=cy ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2017\. Mae'n rhoi trosolwg o'r prif flaenoriaethau ar gyfer deintyddiaeth y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG), ac mae diwygio contract wedi'i glustnodi fel un o'r blaenoriaethau hynny. Mae'r ddogfen yn cynnwys rhesymau manwl dros gynnal rhaglen diwygio gwasanaeth deintyddol gyffredinol. Mae'r contract deintyddol presennol yn canolbwyntio ar drin cyflyrau ac nid yw'n ysgogi gofal sy'n seiliedig ar anghenion, atal cyflyrau na gwneud y defnydd gorau o sgiliau'r tîm deintyddol cyfan. Mae'r hyn a ddysgwyd yn sgil cynnal cynlluniau peilot deintyddol yng Nghymru yn y gorffennol (2011\-2016\) a'r practisau prototeip deintyddol sy'n parhau yn cael eu defnyddio i gynllunio'r rhaglen newydd. Mae'r rhaglen yn: • cynnwys rhanddeiliaid deintyddol allweddol wrth symud ymlaen i ddiwygio contract deintyddol  • casglu manylion risgiau ac anghenion iechyd y geg cleifion unigol a phoblogaeth y practis cyfan i gefnogi timau deintyddol i gyfathrebu'n effeithiol â'r cleifion hyn, a gweithio gyda hwy i gyd\-lunio canlyniadau y cytunwyd arnynt • gwella'r modd y caiff camau sy’n seiliedig ar dystiolaeth o'r hyn sy'n gweithio i atal cyflyrau eu rhoi ar waith • helpu i weithredu cyfnodau ar gyfer ail\-alw cleifion deintyddol, yn seiliedig ar asesu anghenion a risgiau iechyd y geg • gwerthuso'r newidiadau mewn gweithgareddau allweddol, a dangosyddion canlyniad ac ansawdd er mwyn mynd ati i ddatblygu contractau deintyddol newydd  • annog practisau i ddefnyddio mwy o gymysgedd o sgiliau. Mae cynnydd mawr yn cael ei wneud i ymestyn a datblygu'r gwaith, gan ymchwilio i'r opsiynau ar gyfer diwygio’r contract deintyddol o fewn y rheoliadau presennol i wireddu ein huchelgais o wella mynediad a darparu deintyddiaeth y GIG sy'n seiliedig ar atal cyflyrau. Mae clinigwyr sy'n cymryd rhan yn y prototeipiau diwygio contract wedi mabwysiadu dull atal cyflyrau sy'n seiliedig ar anghenion er mwyn darparu gofal. Mae gan gleifion sydd ag anghenion uwch fwy o fynediad at ofal, ac mae’r ddarpariaeth wedi cynyddu. Mae’r cleifion a'r bwrdd iechyd yn hapus â'r gofal hwn ar ei newydd wedd.  Mae'r dull hwn yn cael ei ymestyn a'r profiad yn cael ei rannu â rhagor o bractisau. Fodd bynnag, mae angen datblygu a chasglu mesurau canlyniad cadarn hefyd, er mwyn ysgogi gofal ataliol wedi'i deilwra i'r unigolyn a defnyddio'r tîm ehangach i ddarparu gofal. Mae deall anghenion a risgiau cleifion a defnyddio'r wybodaeth hon i gynllunio gofal wedi bod yn allweddol i'r gwelliannau hyn. Mae rhannu canfyddiadau clinigol a risgiau iechyd y geg â chleifion a chymryd amser i egluro pa gamau sydd angen iddynt hwythau eu cymryd i wella a chynnal eu hiechyd wedi cael effaith fawr. Rydym wedi gweithio gyda byrddau iechyd, timau clinigol a'u cynrychiolwyr i ddatblygu dull asesu 'angen a risg'. Gall timau deintyddol ddefnyddio hwn i gyfathrebu'n well â'u cleifion a bydd yn galluogi byrddau iechyd i fesur canlyniadau.   Mae timau clinigol wedi mynegi cryn ddiddordeb ac mae pob un o'r saith bwrdd iechyd yn cymryd rhan. O fis Ionawr eleni, bydd 23 o bractisau deintyddol (Atodiad 1\) a gafodd eu dewis o blith y ceisiadau niferus a ddaeth i law yn treialu'r offeryn asesu anghenion a risg. Mae'r wybodaeth hon yn cael ei defnyddio i gynllunio gofal, rhoi cyngor ataliol wedi'i deilwra i’r unigolyn a chytuno ar y bwlch priodol rhwng galw cleifion yn ôl â'r cleifion hynny eu hunain. Mae hefyd yn helpu i wella mynediad a gwneud defnydd o'r tîm deintyddol cyfan. Rydym yn bwriadu ymestyn y rhaglen a dulliau gweithio newydd i ragor o dimau yn ystod 2018 a gwneud gwelliannau ar raddfa fwy ym mhob cwr o Gymru.   Nod Ffyniant i Bawb: Y Strategaeth Genedlaethol yw gwella mynediad at ein gwasanaethau iechyd a “chymryd camau mawr i newid ein ffordd o weithio, gan newid y pwyslais o drin cyflyrau i atal cyflyrau”. Mae cyfleoedd i'w cael mewn deintyddiaeth i gael mwy o effaith ar iechyd a llesiant y boblogaeth, gan gynnwys rhoi pwyslais ar flynyddoedd cynnar plentyn. Fel hyn, gallwn hefyd wireddu uchelgeisiau ehangach fel gwella mynediad at gyfleoedd.   ### Dogfennau * #### Diwygio’r Contract Deintyddol \- y 23 o Bractisau Deintyddol Prototeip yng Nghymru (Ion 2018\), math o ffeil: pdf, maint ffeil: 205 KB 205 KB
https://www.gov.wales/written-statement-dental-contract-reform-and-expanding-new-ways-working-nhs-dental-practices
Earlier this year, the Welsh Government launched a campaign to increase awareness about the Council Tax Reduction Scheme and the other forms of support available to people to help them pay their council tax bills. We are working with local authorities and third sector organisations to ensure households in Wales receive the help they are entitled to. Today, I am launching a consultation about removing the sanction of imprisonment for the non\-payment of council tax. This is the next step in making council tax fairer in Wales. Payment of council tax is vital to maintaining the services on which we all rely every day. But it is also right that those who are less able to contribute are treated fairly and with dignity. I believe we should reconsider the appropriateness of enforcing the non payment of council tax by way of committal to prison. I do not believe the sanction of imprisonment is a proportionate response to a civil debt. The additional costs associated with imprisoning someone for non\-payment of council tax; the failure of imprisonment to address the underlying cause of the debt and the impact on the future and wellbeing of those who are sent to prison and those closest to them can no longer be left unchallenged. There is a growing body of evidence and research from across Wales and the UK, collated by local authorities, debt advice services and other organisations, which questions both the impact and effectiveness of imprisonment for non\-payment of council tax. It is proposed that regulations will be brought forward in early 2019 to remove the sanction of imprisonment in Wales, subject to the outcome of the consultation. Under this proposal, no individual could be imprisoned for council tax debt from that point on. Today marks the start of a 12\-week consultation with taxpayers, local authorities, voluntary organisations and other industry representatives. It is an important opportunity to make our council tax system fairer and I am keen to hear views and work with stakeholders to improve our approach. We will continue to work with local authorities and debt advice agencies to ensure local authorities in Wales adopt best practice to support individuals who are in council tax arrears. The consultation is available at: https: https://beta.gov.wales/removal\-sanction\-imprisonment\-non\-payment\-council\-tax
Yn gynharach eleni, lansiodd Llywodraeth Cymru ymgyrch i gynyddu ymwybyddiaeth ynglŷn a’n Cynllun Gostyngiadau'r Dreth Gyngor a’r mathau eraill o gymorth sydd ar gael i bobl i’w helpu i dalu eu treth gyngor. Rydym yn gweithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i sicrhau bod aelwydydd yng Nghymru yn derbyn yr help mae ganddynt hawl i'w gael. Heddiw, rwyf yn lansio ymgynghoriad ynghylch dileu'r gosb o garchar am beidio â thalu treth gyngor. Dyma'r cam nesaf i wneud y dreth gyngor yn decach yng Nghymru. Mae talu treth gyngor yn hollbwysig i gynnal y gwasanaethau yr ydym ni gyd yn dibynnu arnynt bob dydd. Ond mae hefyd yn iawn fod y rheini sy'n llai galluog i gyfrannu yn cael eu trin yn deg a chydag urddas. Rwy'n credu y dylem ailystyried priodoldeb y camau gorfodi sy’n golygu bod pobl yn cael eu dedfrydu i garchar am beidio â thalu treth gyngor. Dydw i ddim yn credu bod cosb o garchar yn ymateb cymesur i ddyled sifil. Mae’n bryd bellach inni herio’r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â charcharu rhywun am beidio â thalu treth gyngor, methiant carcharu i fynd i'r afael ag achos sylfaenol y ddyled, a'r effaith ar ddyfodol a lles y rhai y rhai sy'n cael eu hanfon i'r carchar a'r rhai agosaf atynt. Mae yna gorff cynyddol o dystiolaeth ac ymchwil ledled Cymru a'r DU a gasglwyd gan awdurdodau lleol, gwasanaethau cynghori ar ddyledion a sefydliadau eraill, sy'n cwestiynu effaith ac effeithiolrwydd anfon rhywun i’r carchar am beidio â thalu treth gyngor. Cynigir y bydd rheoliadau yn cael eu cyflwyno yn gynnar yn 2019 i ddileu’r gosb o garchar yng Nghymru, yn amodol ar ganlyniad yr ymgynghoriad. O dan y cynnig hwn, ni fyddai modd carcharu unrhyw unigolyn am ddyled treth gyngor o'r adeg honno ymlaen. Heddiw, nodir dechrau ymgynghoriad 12 wythnos gyda threthdalwyr, awdurdodau lleol, sefydliadau gwirfoddol a chynrychiolwyr eraill o'r diwydiant. Mae'n gyfle pwysig i wneud ein system treth gyngor yn decach ac rwy’n awyddus i glywed barn a gweithio gyda rhanddeiliaid i wella ein hymagwedd. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol ac asiantaethau cynghori ar ddyledion i sicrhau bod awdurdodau lleol yng Nghymru yn mabwysiadu’r arferion gorau i gefnogi unigolion sydd mewn ôl\-ddyledion treth gyngor. Mae'r ymgynghoriad ar gael yn: https://beta.llyw.cymru/dileur\-gosb\-o\-garchar\-am\-beidio\-thalu\-treth\-gyngor
https://www.gov.wales/written-statement-consultation-remove-sanction-imprisonment-non-payment-council-tax
The Dementia Action Plan 2018\-2022 has been published today. Our vision is for Wales to be a dementia friendly nation that recognises the rights of people with dementia to feel valued and to live as independently as possible in their communities.   This is an innovative action plan to progress commitments relating to dementia in Taking Wales Forward and Prosperity for All setting out the range of stakeholders who can support this agenda and the actions required to make a real change.  We have developed this plan with those who know most about what needs to be done to improve truly person\-centred dementia services – those with lived experience of dementia, their families and carers and service providers. In addition, the independent Parliamentary Review of Health and Social Care in Wales, challenges us to move to a seamless system within health and social care and to demonstrate we are doing things differently.  I want the delivery of this plan to be an active demonstration that we can achieve the vision of the Parliamentary Review, providing services that focus on the needs of the individual and ensuring individuals with dementia are central to planning of services. To deliver the actions within this plan, I am providing an additional £10m a year from 2018\-19 onward to support the step change that is needed in this area.  This investment supplements the existing funding across Wales and will bring the actions set out within the plan to life. A main theme within the plan is to enable people living with dementia to maintain their independence and remain at home where possible, avoiding unnecessary admissions to hospital or residential care and delays when someone is due to be discharged from care.  We will therefore be using the Integrated Care Fund (ICF) mechanism to distribute a significant proportion of this additional funding.  I expect this to contribute to developing the ‘team around the individual’ approach.  This well established fund is already being used to support a range of innovative and integrated approaches to delivering care services.  Regional Partnership Boards will continue to engage closely with service users and carers on how this fund should be used.  As part of this I expect boards to consider how both statutory and voluntary services can work together to deliver the vision set out in the plan, encouraging services to become community focused rather than centering on hospital based care. As a starting point Regional Partnership Boards will be expected to take a fundamental look at the existing dementia services and care pathway in each area and develop services in line with the dementia plan which address these gaps.  This should also identify how these services link with those for the elderly population more broadly.  The voluntary sector will play a key role in this and I expect to see active engagement on these decisions with those who will receive these services.   Progress against delivery of the plan will be overseen by a Dementia Delivery Assurance and Implementation Group (DDAIG) and membership of this group will include people living with dementia and their carers and families.  Further details of this group will be shared in due course. The plan will be subject to a review at the three\-year point to ensure the actions remain ambitious and relevant and I will expect an evaluation of the outcomes of the new services developed at a local level.
Mae Cynllun Gweithredu ar gyfer Dementia 2018\-2022 wedi'i gyhoeddi heddiw. Ein gweledigaeth yw i Gymru fod yn wlad sy'n deall dementia ac sy'n cydnabod hawliau pobl â dementia i gael eu gwerthfawrogi ac i fyw mor annibynnol â phosibl yn eu cymunedau.   Dyma gynllun gweithredu arloesol i ddatblygu'r ymrwymiadau sy'n ymwneud â dementia yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb. Mae hefyd yn amlinellu'r ystod o randdeiliaid sy'n gallu cefnogi'r agenda hon a'r camau gweithredu sydd eu hangen i wneud newid mawr. Rydym wedi datblygu'r cynllun hwn ar y cyd â'r rheini sy'n gwybod orau beth sydd angen ei wneud i wella gwasanaethau dementia a sicrhau eu bod yn canolbwyntio o ddifri ar yr unigolyn, sef y rheini sydd â phrofiad o ddementia, eu teuluoedd a'u gofalwyr a darparwyr gwasanaethau. Yn ogystal â hynny, mae'r Adolygiad Seneddol Annibynnol o Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Nghymru yn ein herio i symud tuag at system ddi\-dor o fewn iechyd a gofal cymdeithasol, ac i ddangos ein bod yn gwneud pethau'n wahanol. Rwyf am i'r gwaith o gyflawni'r cynllun hwn ddangos ein bod yn gallu cyflawni gweledigaeth yr Adolygiad Seneddol, gan ddarparu gwasanaethau sy'n canolbwyntio ar anghenion yr unigolyn a sicrhau bod unigolion â dementia yn ganolog i'r gwaith o gynllunio gwasanaethau. Er mwyn cyflawni'r camau gweithredu yn y cynllun hwn, rwy'n darparu £10m y flwyddyn yn ychwanegol o 2018\-19 ymlaen i gefnogi'r newid sylweddol sydd ei angen yn y maes hwn. Mae'r buddsoddiad hwn yn cael ei roi yn ychwanegol at y cyllid presennol yng Nghymru, a bydd yn dod â'r camau gweithredu yn y cynllun yn fyw. Un o'r prif themâu yn y cynllun yw galluogi pobl sy'n byw â dementia i barhau'n annibynnol ac i aros yn eu cartrefi lle bo modd, gan osgoi derbyniadau diangen i'r ysbyty neu i ofal preswyl ac oedi pan fydd yn bryd i rywun adael gofal. Byddwn felly yn defnyddio system y Gronfa Gofal Integredig i ddosbarthu cyfran sylweddol o'r cyllid ychwanegol hwn. Rwy'n disgwyl i hyn gyfrannu at ddatblygu dull y tîm o amgylch yr unigolyn. Mae'r gronfa sefydledig hon eisoes yn cael ei defnyddio i gefnogi ystod o ddulliau arloesol ac integredig tuag at ddarparu gwasanaethau gofal. Bydd Byrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn parhau i ymgysylltu'n agos â defnyddwyr gwasanaethau a gofalwyr ynghylch sut y dylid defnyddio'r gronfa hon. Fel rhan o hyn, rwy'n disgwyl i fyrddau ystyried sut y gall gwasanaethau statudol a gwirfoddol gydweithio i ddarparu'r weledigaeth a amlinellir yn y cynllun, gan annog gwasanaethau i weithredu yn y gymuned yn hytrach na chanoli'r gwasanaethau gofal mewn ysbytai. I ddechrau, bydd disgwyl i Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol edrych ar y gwasanaethau dementia a'r llwybr gofal presennol ym mhob ardal a datblygu gwasanaethau yn unol â'r cynllun dementia sy'n mynd i'r afael â'r bylchau hyn. Dylai hyn hefyd nodi sut y bydd y gwasanaethau hyn yn cysylltu â'r rhai ar gyfer y boblogaeth hŷn yn fwy eang. Bydd y sector gwirfoddol yn chwarae rhan bwysig yn hyn ac rwy'n disgwyl gweld trafodaethau'n cael eu cynnal am y penderfyniadau hyn â'r rheini fydd yn cael y gwasanaethau hyn. Bydd Grŵp Sicrwydd Cyflenwi a Gweithredu ar Ddementia yn mesur cynnydd y cynllun a bydd yr aelodau'n cynnwys pobl sy'n byw â dementia, eu gofalwyr a'u teuluoedd. Bydd rhagor o fanylion am y grŵp hwn yn cael eu rhannu maes o law. Bydd y cynllun yn cael ei adolygu ar ôl tair blynedd i sicrhau bod y camau gweithredu'n parhau'n uchelgeisiol ac yn berthnasol, a byddaf yn disgwyl gwerthusiad o ganlyniadau'r gwasanaethau newydd fydd yn cael eu datblygu ar lefel leol. 
https://www.gov.wales/written-statement-dementia-action-plan-2018-2022
  Today I am pleased to announce a doubling of our efforts and continued momentum in the delivery of the Welsh Government funded Childcare Offer. Our offer commits the Welsh Government to providing 30 hours of government\-funded early education and childcare for working parents of 3 and 4 year olds for 48 weeks of the year. This includes term time and holiday provision. Key to our work in developing and rolling out this offer will be quality of provision and equity of access – both in terms of geographical reach and language. In September 2017 we began a programme of government funded childcare with seven Early Implementer Local Authorities (ELIAs), to help us to begin to understand and ensure that we meet the needs of children, parents and providers when the offer is fully rolled out across Wales from September 2020\.    In April, I announced an expansion within four of the seven EILAs and this has enabled the delivery of the offer across the whole of Anglesey, Gwynedd and Caerphilly, with Rhondda Cynon Taf including additional wards.  I am pleased to confirm the offer has since been rolled out across the whole of Flintshire, and Swansea is continuing with a phased approach until January 2019, when the offer will be available authority wide. Details of exact areas will be available on their Family Information Services webpage. Alongside this, we have been working closely with other local authorities on a rolling programme of delivery for further early implementation.    As a result of this collaborative approach, and in order to allow us to expand and test aspects of the delivery of the offer in new local authorities, I am announcing plans to bring on board an additional seven EILAs from September 2018\.  These are Ceredigion, Wrexham, Conwy, Newport, Cardiff, Neath Port Talbot and Torfaen. This also doubles the total amount of children eligible for the offer.   We anticipate that the offer will be delivered in at least some parts of most local authorities in Wales by September 2019\. I have also agreed to a new delivery model for this next phase of the early implementation.  The new model focuses on maximising partnership working between authorities within an education consortia region and sees new EILAs working with existing EILAs to maximise learning and deliver economies of scale.  Arrangements are currently being finalised between partner authorities and I will provide a further update in the autumn on how these partnerships are progressing.  The following provides further information about the approach being taken in each of the new EILAs:   **Ceredigion** will implement the offer across the whole local authority from September 2018\.  This will test the impact of the offer in a sparsely populated rural authority and arrangements are well advanced for September roll\-out.   In **Wrexham**, the offer will be available in the wards of Llay, Gwersyllt East and South, Gwersyllt North, Gwersyllt west, New Broughton, Coedpoeth, Ponciau, Gresford East and west, Rossett, Marford and Hoseley, Holt, Bronington, Overton and Brymbo.   These wards will help test cross border working and implementation of the offer with a partner authority such as Flintshire and neighbouring English authorities. In **Conwy**, the offer will be available in the wards of Betws\-y\-Coed, Betws yn Rhos, Caerhun, Eglwysbach, Gele, Gogarth, Gower, Crwst, Kinmel Bay, Llanddulas, Llangernyw, Llansannan, Llanfair TH, Pentrefoelas, Mostyn, Towyn, Trefriw, Uwch Conwy, Uwchaled, Pensarn, Pentre Mawr and Tudno.  This will ensure eligible children from lower income households can take advantage of the offer. It will also provide a good geographical coverage of the county to ensure demand and corresponding capacity within the childcare market is tested in both urban and rural areas. In **Newport**, the offer will be available in the following areas from September: Rogerstone, Lliswerry, Maplas, St Julians, Stow Hill, Shaftesbury, Maesglas and Gaer.  These areas offer a mix of employment professions and skills and the employed populations are broadly representative of all Newport residents.  The landscapes include rural, suburban and city centre profiles and the areas chosen will facilitate testing of childcare market capacity, particularly welsh language provision, and will test cross boarder relationships in delivery. Early implementation in **Cardiff** will be focused on the southern arc of the city, including the wards of: Grangetown, Butetown, Riverside, Adamsdown, Cathays, Plasnewydd, Caerau, Splott, Ely and Llanrumney.   Cardiff have prioritised areas where the percentage of dependent children and three and four year olds living in working households claiming working tax credits are highest, targeting families that are in work and potentially eligible but on lower incomes. **Neath Port Talbot** will test the offer on a phased approach with delivery in the following electoral wards from September: Tai\-Bach, Resolven, Baglan, Aberavon, Pontardawe, Blaengwrach, Onllwyn, Bryn\-coch South, Glyncorrwg, Gwaun\-Cae\-Gurwen, Cymer and Lower Brynamman. Neath Port Talbot will ascertain demand for the offer with a cross section of the authority in order to be able to provide support and build capacity for their childcare sector.  The wards chosen include areas of both high and low employment, ensuring potential eligible children from lower income households can access the offer.       **Torfaen** will implement the offer across the whole local authority from September 2018\.   The new EILAs will be open for applications soon to allow for parents to apply and secure funding ahead of children taking up childcare under the offer from September. Each authority will have its own process for doing so and parents will be directed to information on each authority’s web site. As part of the early implementation, we have always been clear about the need to learn and adapt the offer where necessary. One area where concerns have been raised by parents and providers has been in relation to registered childminders being unable to receive funding for the care of a relative under the offer.  Childminders are vital to ensuring there is capacity in the childcare sector to deliver the offer and in providing the wrap\-around care often needed to allow parents to access both their child’s early education entitlement and additional childcare.  As a result of representations from parents, providers, organisations and Assembly Members, we have listened and undertaken a review of the policy around funding childminders to provide care for a relative, drawing on evidence from the sector and weighing up the pros and cons of any change.   On balance, I have decided to change the policy for the Childcare Offer to allow registered childminders to receive funding for the care of a child who is also a relative.  These changes will be made from September 2018 to coincide with the expansion of our offer.  The guidance will set out that childminders must be registered with CIW to be able to access the Offer and that the care cannot be provided in the child’s home.  In the longer term, we will need to amend the Child Minding and Day Care Exceptions (Wales) Order 2010\.  However, there are other parts of the Order which may need consideration and I would prefer that to be done in a coherent way rather than amending the Order on an ad hoc basis. Today’s announcement regarding further expansion from this September demonstrates progress and real momentum around our Childcare Offer.  This early implementation is helping us shape an offer which meets the needs of parents and it is making a real difference in the lives of working parents throughout Wales.    
Heddiw mae’n dda gen i gyhoeddi ein bod yn dyblu ein hymdrechion a’n momentwm parhaus wrth gyflwyno’r Cynnig Gofal Plant a ariennir gan Lywodraeth Cymru. Mae’r cynnig yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i ddarparu 30 awr o addysg gynnar a gofal plant wedi’u hariannu gan Lywodraeth Cymru i rieni sy’n gweithio ac sydd â phlant 3 a 4 oed am 48 wythnos o’r flwyddyn. Mae hyn yn cynnwys darpariaeth yn ystod y tymor a’r gwyliau. Bydd y gwaith o ddatblygu a chyflwyno’r cynnig hwn yn seiliedig ar ddarpariaeth o ansawdd a mynediad cyfartal – o safbwynt cyrhaeddiad daearyddol ac iaith. Ym mis Medi 2017 aethom ati i gyflwyno rhaglen gofal plant wedi’i hariannu gan y llywodraeth gyda saith Awdurdod Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar er mwyn ein helpu i ddechrau deall a sicrhau ein bod yn diwallu anghenion plant, rhieni a darparwyr pan gyflwynir y cynnig yn llawn ledled Cymru ym mis Medi 2020\. Ym mis Ebrill, cyhoeddais fod y rhaglen yn ehangu mewn pedwar o’r saith Awdurdod Lleol sy’n Weithredwyr Cynnar, ac o ganlyniad mae’r cynnig wedi’i gyflwyno ledled Ynys Môn, Gwynedd a Chaerffili, ac mewn wardiau ychwanegol yn Rhondda Cynon Taf. Mae’n dda gen i gadarnhau bod y cynnig wedi’i gyflwyno ledled Sir y Fflint bellach, a bod Abertawe yn parhau i gyflwyno’r cynnig fesul tipyn tan fis Ionawr 2019, pan fydd y cynnig ar gael ledled yr awdurdod. Bydd gwybodaeth am ardaloedd penodol ar gael ar eu tudalennau gwe Gwasanaethau Gwybodaeth i Deuluoedd. Ochr yn ochr â hyn, buom yn gweithio’n agos gydag awdurdodau lleol eraill ar raglen dreigl i weithredu’r cynnig yn ehangach. O ganlyniad i’r dull cydweithio hwn, ac er mwyn ein galluogi i ehangu a phrofi agweddau ar weithredu’r cynnig mewn awdurdodau lleol newydd, rwy’n cyhoeddi cynlluniau i gynnwys saith Gweithredwr Cynnar ychwanegol ym mis Medi 2018\. Yr awdurdodau lleol hyn yw Ceredigion, Wrecsam, Conwy, Casnewydd, Caerdydd, Castell\-nedd Port Talbot a Thorfaen. Hefyd, bydd hyn yn dyblu nifer y plant sy’n gymwys ar gyfer y cynnig. Rydym yn rhagweld y bydd y cynnig ar gael mewn rhai rhannau o leiaf o’r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru erbyn mis Medi 2019\. Hefyd, rwyf wedi cytuno ar fodel gweithredu newydd ar gyfer y cam nesaf o weithredu’r cynnig yn gynnar. Mae’r model newydd yn canolbwyntio ar helpu awdurdodau i weithio mewn partneriaeth mewn rhanbarth consortia addysg, a bydd Gweithredwyr Cynnar newydd yn gweithio gyda’r Gweithredwyr Cynnar presennol i fanteisio ar ddysgu a sicrhau arbedion maint. Mae awdurdodau partner wrthi’n cadarnhau’r trefniadau, a byddaf yn cyflwyno rhagor o wybodaeth yn yr hydref am ddatblygiad y partneriaethau hyn. Dyma ragor o wybodaeth am y dull gweithredu sy’n cael ei fabwysiadu gan bob un o’r Gweithredwyr Cynnar newydd:   Bydd Ceredigion yn gweithredu’r cynnig ledled yr awdurdod lleol cyfan ym mis Medi 2018\. Bydd hyn yn profi effaith y cynnig mewn awdurdod gwledig llai poblog, ac mae’r trefniadau’n mynd yn dda i gyflwyno’r cynnig ym mis Medi.     Yn Wrecsam, bydd y cynnig ar gael yn wardiau Llai, Dwyrain a De Gwersyllt, Gogledd Gwersyllt, Gorllewin Gwersyllt, Brychdyn Newydd, Coedpoeth, Ponciau, Dwyrain a Gorllewin Gresffordd, Yr Orsedd, Merffordd a Hoseley, Holt, Bronington, Owrtyn a Brymbo. Bydd y wardiau hyn yn helpu i brofi prosesau gweithio trawsffiniol a gweithredu’r cynnig gydag awdurdod partner fel Sir y Fflint ac awdurdodau cyfagos yn Lloegr. Yng Nghonwy, bydd y cynnig ar gael yn wardiau Betws\-y\-Coed, Betws yn Rhos, Caerhun, Eglwysbach, Gele, Gogarth, Gower, Crwst, Bae Cinmel, Llanddulas, Llangernyw, Llansannan, Llanfair TH, Pentrefoelas, Mostyn, Tywyn, Trefriw, Uwch Conwy, Uwch Aled, Pen\-sarn, Pentre Mawr a Thudno.  Bydd hyn yn sicrhau bod plant cymwys o aelwydydd incwm is yn gallu manteisio ar y cynnig. Hefyd, bydd yn cynnwys ardal ddaearyddol eang o’r sir er mwyn profi’r galw am ofal plant a’r ddarpariaeth sydd ar gael mewn ardaloedd trefol a gwledig. Yng Nghasnewydd, bydd y cynnig ar gael yn yr ardaloedd canlynol o fis Medi ymlaen: Tŷ Du, Llisweri, Malpas, St Julians, Stow Hill, Shaftesbury, Maesglas a’r Gaer. Mae’r ardaloedd hyn yn amrywiol iawn o safbwynt cyflogaeth a sgiliau, ac mae’r boblogaeth gyflogedig yn tueddu i fod yn gynrychioladol o holl drigolion Casnewydd. Mae’r tirweddau’n cynnwys proffiliau gwledig, maestrefol a chanol dinas, a bydd yr ardaloedd sydd wedi’u dewis yn helpu i brofi capasiti’r farchnad gofal plant, yn enwedig darpariaeth Gymraeg, a chysylltiadau trawsffiniol.   Bydd y broses o weithredu’r cynnig yn gynnar yng Nghaerdydd yn canolbwyntio ar ardaloedd yn ne’r ddinas, gan gynnwys wardiau: Grangetown, Butetown, Glan yr Afon, Adamsdown, Cathays, Plasnewydd, Caerau, y Sblot, Trelái a Llanrhymni. Mae Caerdydd wedi rhoi blaenoriaeth i ardaloedd sydd â’r ganran uchaf o blant dibynnol a phlant tair a phedair oed sy’n byw ar aelwydydd lle mae pobl yn gweithio ac yn hawlio credydau treth gwaith. Y nod yw targedu teuluoedd sy’n gweithio ac a allai fod yn gymwys, ond sydd ar incwm is. Bydd Castell\-nedd Port Talbot yn profi’r cynnig fesul tipyn, gan ddechrau yn y wardiau etholiadol canlynol ym mis Medi: Tai\-bach, Resolfen, Baglan, Aberafan, Pontardawe, Blaengwrach, Onllwyn, De Bryn\-coch, Glyncorrwg, Gwauncaegurwen, Cymer a Brynaman Isaf. Bydd Castell\-nedd Port Talbot yn pwyso a mesur galw am y cynnig gyda chroestoriad o’r awdurdod er mwyn darparu cymorth a datblygu capasiti ar gyfer y sector gofal plant. Mae’r wardiau sydd wedi’u dewis yn cynnwys ardaloedd â lefelau cyflogaeth uchel ac isel, gan sicrhau bod darpar blant cymwys o aelwydydd incwm is yn gallu manteisio ar y cynnig. Bydd Torfaen yn gweithredu’r cynnig ledled yr awdurdod lleol cyfan ym mis Medi 2018\.   Bydd y Gweithredwyr Cynnar newydd yn gwahodd ceisiadau cyn bo hir, gan roi cyfle i rieni wneud cais a sicrhau cyllid cyn i’w plant ddechrau derbyn gofal plant o dan y cynnig ym mis Medi. Bydd gan bob awdurdod ei broses ei hun ar gyfer ceisiadau, a bydd gwybodaeth ar gael i rieni ar wefan pob awdurdod. Fel rhan o weithredu’r cynnig yn gynnar, buom yn glir bob amser am yr angen i ddysgu ac addasu’r cynnig lle bo angen. Un maes sydd wedi peri pryder i rieni a darparwyr yw’r ffaith nad yw gwarchodwyr plant cofrestredig yn gallu derbyn cyllid am ofalu am berthynas o dan y cynnig. Mae gwarchodwyr plant yn gwneud gwaith hanfodol wrth sicrhau bod y sector gofal plant yn gallu gweithredu’r cynnig, ac wrth ddarparu’r gofal cofleidiol sydd ei angen yn aml fel bod rhieni’n gallu manteisio ar hawl eu plentyn i addysg gynnar a gofal plant ychwanegol. Yn dilyn sylwadau gan rieni, darparwyr, sefydliadau ac Aelodau Cynulliad, rydym wedi gwrando a chwblhau adolygiad o’r polisi yn ymwneud ag ariannu gwarchodwyr plant i ddarparu gofal ar gyfer perthynas, gan ystyried tystiolaeth o’r sector ac yn pwyso a mesur manteision ac anfanteision unrhyw newid.     Wedi pwyso a mesur, rwyf wedi penderfynu newid polisi’r Cynnig Gofal Plant er mwyn caniatáu i warchodwyr plant cofrestredig dderbyn cyllid am ofalu am blentyn sy’n perthyn iddynt. Cyflwynir y newidiadau hyn ym mis Medi 2018 i gyd\-fynd â’r broses o ehangu’r cynnig. Bydd y canllawiau’n nodi bod angen i warchodwyr plant gael eu cofrestru gydag Arolygiaeth Gofal Cymru cyn gallu manteisio ar y Cynnig, ac nad oes modd darparu’r gofal yng nghartref y plentyn. Yn fwy hirdymor, bydd angen i ni ddiwygio Gorchymyn Eithriadau Gwarchod Plant a Gofal Dydd (Cymru) 2010\. Fodd bynnag, mae’n bosibl y bydd angen ystyried rhannau eraill o’r Gorchymyn, a byddai’n well gen i sicrhau bod hynny’n digwydd mewn ffordd ystyrlon yn hytrach na diwygio’r Gorchymyn ar sail ad hoc. Mae’r cyhoeddiad heddiw ynglŷn ag ehangu’r Cynnig Gofal Plant ym mis Medi yn amlygu datblygiad a momentwm gwirioneddol. Mae’r broses o weithredu’r cynnig yn gynnar yn ein helpu i sicrhau ei fod yn diwallu anghenion rhieni ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau rhieni sy’n gweithio ledled Cymru.
https://www.gov.wales/written-statement-continued-expansion-government-funded-childcare-offer-september-2018
A sufficient supply of high quality, well\-qualified teachers is required to underpin our national reform journey.  In our plan of action, ‘Education in Wales: Our National Mission 2017\-2021’ a clear commitment is made to attract and retain more high\-quality graduates into teaching.   It is our aim to develop a coherent suite of quality routes into teaching, supporting beginner teachers through initial teacher education (ITE) to achieve Qualified Teacher Status (QTS). We want all routes to have the same vision and understanding of the future teaching workforce for Wales and meet the needs of talented potential teachers, whatever their background and circumstances. We have been working with key stakeholders (such as the Teacher Recruitment and Retention Advisory Board and the Regional Education Consortia) and expert consultants (specifically in ITE and distance and blended learning) to develop and refine our proposals. In addition, the implementation of the generous new student finance package including finance for part\-time study presents a new opportunity for development of a part\-time Post Graduate Certificate of Education (PGCE) to support ITE. We propose a world\-leading development in the field of ITE – a new school\-based, university\-partnered part\-time PGCE, to include a number of employment based places. It is intended that the part\-time PGCE would enable trainees to maintain their current commitments including employment and income whilst studying part\-time to be a teacher. This new provision will also allow for a number of places to be delivered through a highly prestigious employment based route (EBR) allowing trainees to be employed in schools whilst undertaking their part\-time PGCE. We aim to remove barriers of geographical accessibility to postgraduate study. The flexibility of this new part\-time route into teaching will potentially provide opportunities to widen participation for those groups currently underrepresented in Wales’ teaching workforce, and enrich the profession by increasing diversity and allowing those with work\-related experience from other fields and greater life\-experience in general, to enter teaching. Our overall aim of ITE is to encourage an enthusiastic, committed and dedicated teaching profession, representative of the communities which they serve. We want to remove any unnecessary geographical barriers whilst maintaining high quality entry requirements to ensure that those with the expertise and knowledge that we know will enrich our education system are able to enter teaching. This new route must be both flexible and agile, involving effective professional support and development, and meet the same high quality requirements of new accreditation criteria. It should be noted that the successful development of this proposal could lead to resources and online infrastructure that could be utilised beyond ITE, and could ensure that ITE resources and approaches can be used to support career\-long professional learning for teachers. #### Draft timeline: * May – September 2018: Pre\-Market Engagement and working with stakeholders to develop proposals and options for school experience * 5th June: Bidder engagement event at the Wales Millennium Centre, hosted by the Cabinet Secretary for Education with Professor John Furlong * October 2018: Procurement specification published * February 2019: Proposed contract start date * Academic Year 2019/20: Part\-time PGCE and EBR available              
Mae angen cyflenwad digonol o athrawon o ansawdd uchel sydd â chymwysterau da fel sail i'n taith ddiwygio genedlaethol.  Yn ein cynllun gweithredu, 'Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl 2017\-2021', gwneir ymrwymiad clir i ddenu a chadw mwy o raddedigion o ansawdd uchel i'r proffesiwn addysgu.   Ein nod yw datblygu cyfres gydlynol o lwybrau i addysgu, gan gefnogi athrawon newydd drwy addysg gychwynnol i athrawon i ennill Statws Athro Cymwysedig. Rydym eisiau i bob llwybr fod â'r un weledigaeth a dealltwriaeth o'r gweithlu addysgu yng Nghymru yn y dyfodol, a diwallu anghenion darpar athrawon talentog beth bynnag fo'u cefndir a'u hamgylchiadau. Rydym wedi bod yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol (fel Bwrdd Cynghori Recriwtio a Chadw Athrawon a'r Consortia Addysg Rhanbarthol) ac ymgynghorwyr arbenigol (yn y meysydd addysg gychwynnol i athrawon, dysgu o bell a dysgu cyfunol yn benodol) i ddatblygu a mireinio ein cynigion.   Yn ogystal, mae cyflwyno'r pecyn cyllid newydd hael i fyfyrwyr, sy'n cynnwys cyllid ar gyfer astudio'n rhan\-amser, yn gyfle i ddatblygu Tystysgrif Addysg ran\-amser i Raddedigion (TAR) er mwyn cefnogi addysg gychwynnol i athrawon. Rydym yn cynnig datblygiad blaenllaw ym maes addysg gychwynnol i athrawon, sef TAR ran\-amser newydd mewn partneriaeth â phrifysgolion a astudir wrth weithio mewn ysgol, sy'n cynnwys nifer o leoedd sy'n seiliedig ar gyflogaeth. Y bwriad yw y byddai'r TAR ran\-amser yn galluogi'r hyfforddeion i gynnal eu hymrwymiadau presennol, gan gynnwys eu cyflogaeth a'u hincwm, wrth astudio'n rhan\-amser i fod yn athro. Bydd y ddarpariaeth newydd hon hefyd yn fodd i gynnig nifer o leoedd drwy lwybr seiliedig ar gyflogaeth, a fydd yn caniatáu i hyfforddeion gael eu cyflogi mewn ysgolion wrth astudio ar gyfer TAR ran\-amser. Ein nod yw chwalu'r rhwystrau daearyddol sy'n atal pobl rhag ymgymryd ag astudiaethau ôl\-raddedig. Bydd hyblygrwydd y llwybr rhan\-amser newydd hwn i addysgu o bosibl yn darparu cyfleoedd i ehangu cyfranogiad y grwpiau hynny sydd wedi'u tangynrychioli ar hyn o bryd yng ngweithlu addysgu Cymru. Bydd hefyd yn cyfoethogi'r proffesiwn drwy gynyddu amrywiaeth a chaniatáu i'r rheini sydd â phrofiad o feysydd eraill a mwy o brofiadau bywyd yn gyffredinol ddechrau gyrfa mewn addysgu. Ein nod cyffredinol mewn perthynas ag addysg gychwynnol i athrawon yw ysgogi proffesiwn addysgu brwdfrydig ac ymroddedig, sy'n cynrychioli'r cymunedau y mae'n eu gwasanaethu. Rydym eisiau dileu unrhyw rwystrau daearyddol diangen a chynnal y gofynion mynediad o ansawdd uchel, er mwyn sicrhau bod y rheini sydd â'r arbenigedd a'r wybodaeth i gyfoethogi ein system addysg yn gallu ymuno â'r proffesiwn addysgu.  Rhaid i'r llwybr newydd hwn fod yn hyblyg ac ystwyth a darparu cefnogaeth a datblygiad proffesiynol effeithiol, gan ddiwallu gofynion o ansawdd uchel y meini prawf achredu newydd. Dylid nodi y gallai datblygu'r cynnig hwn yn llwyddiannus arwain at greu adnoddau a seilwaith ar\-lein y gellid eu defnyddio y tu hwnt i addysg gychwynnol i athrawon. Gallai hefyd sicrhau bod yr adnoddau a'r dulliau gweithio ar gyfer addysg gychwynnol i athrawon yn gallu cael eu defnyddio i gefnogi dysgu proffesiynol gydol gyrfa i athrawon. #### Amserlen ddrafft: * Mai \- Medi 2018: Ymgysylltu cyn cyflwyno i'r farchnad a gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu cynigion ac opsiynau ar gyfer profiad mewn ysgol * 5ed Mehefin: digwyddiad ymgysylltu cynigydd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru, a gynhelir gan Ysgrifennydd y Cabinet ar gyfer addysg gyda’r Athro John Furlong * Hydref 2018: Cyhoeddi'r fanyleb ar gyfer proses gaffael * Chwefror 2019: Dyddiad dechrau arfaethedig y contract * Blwyddyn academaidd 2019/20: TAR rhan\-amser a llwybr sy'n seiliedig ar gyflogaeth ar gael
https://www.gov.wales/written-statement-development-and-procurement-alternative-routes-teaching
Today I attended the Joint Ministerial Committee (EU Negotiations) where the substantive discussion was the UK Government’s forthcoming White Paper on Brexit. Before and during the discussion I made it clear to the Cabinet Office Minister David Lidington that as the full draft of the White Paper had not been shared with the Welsh Government or the Scottish Government, we had not been given a meaningful opportunity to consider the proposals and provide comment. This goes against previous assurances from the UK Government that the devolved administrations would have a meaningful opportunity in shaping negotiating positions as they are developed. Nevertheless, we continue to take every chance to make the case for a Brexit which protects the interests of Wales. The Welsh Government has been consistent and transparent in communicating to the UK Government our preferred approach to Brexit. More than a week before today’s JMC (EN) I wrote to the Secretary of State for Exiting the EU David Davis (on 26 June) setting out my deep concerns about the state of the negotiations with the EU27 and the uncertainty the UK Government’s approach is creating across key areas of the economy and with regard to the future delivery of public services. In the letter, attached below, I highlighted what we believe should be the key aspects of our future partnership with the EU based on the detailed analysis in our policy documents and how these should be reflected in the UK Government’s White Paper.   The Welsh Government’s evidence based approach set out in our White Paper, Securing Wales' Future and our subsequent policy papers provide a blueprint for the right form of Brexit for Wales and indeed the whole UK. Web links to our documents are provided below. We are entering a critical time and the UK Government’s forthcoming White Paper needs to set a new direction on a number of key issues and do so in a way that is clear to the EU and businesses.   Members can be assured that the Welsh Government will continue to vigorously press the case with the UK Government for a sensible Brexit that does not do needless damage to jobs and our economy. I will provide a further update to the National Assembly on the content of the UK Government’s White Paper and the potential implications for Wales when it is finally published. **Links:** Securing Wales's Future, Brexit and Fair Movement of People , Brexit and Devolution , Regional Investment after Brexit and Trade Policy: the issues for Wales ### Documents * #### Letter to David Davies, file type: pdf, file size: 239 KB 239 KB
Fe fûm i heddiw mewn cyfarfod o Gyd\-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau’r UE), a’r prif bwnc trafod oedd Papur Gwyn arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig ar Brexit. Cyn ac yn ystod y drafodaeth, fe nodais yn glir wrth Weinidog y Cabinet, David Lidington, fod y ffaith nad oedd Llywodraeth Cymru na Llywodraeth yr Alban wedi cael gweld drafft llawn o’r Papur Gwyn yn golygu nad oeddem wedi cael cyfle ystyrlon i ystyried y cynigion a rhoi sylwadau arnynt. Mae hyn yn groes i’r sicrhad blaenorol gan Lywodraeth y DU y byddai’r gweinyddiaethau datganoledig yn cael cyfle ystyrlon i gyfrannu at lunio’r safbwyntiau negodi wrth iddynt gael eu datblygu.  Er hynny, rydym yn parhau i fanteisio ar bob cyfle i ddadlau’r achos dros Brexit sy’n amddiffyn buddiannau Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gyson ac yn dryloyw o ran cyfleu wrth Lywodraeth y DU pa ddull gweithredu yr hoffem ei weld yn cael ei ddefnyddio o ran Brexit. Fwy nag wythnos cyn cyfarfod y Cyd\-bwyllgor heddiw, ysgrifennais at yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â’r UE, David Davis (ar 26 Mehefin) yn nodi fy mhryderon difrifol ynghylch cyflwr y negodiadau â 27 yr UE a’r ansicrwydd y mae dull Llywodraeth y DU o fynd ati yn ei greu mewn meysydd allweddol o’r economi ac o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus yn y dyfodol. Yn y llythyr, a amgaeeir isod, tynnais sylw at yr hyn a ddylai fod, yn ein tyb ni, yn agweddau allweddol ar ein partneriaeth â’r Undeb Ewropeaidd yn y dyfodol, a hynny ar sail y dadansoddiad manwl yn ein dogfennau polisi a’r modd y dylai’r rheini gael eu hadlewyrchu ym Mhapur Gwyn Llywodraeth y DU. Mae dull Llywodraeth Cymru, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, fel y’i nodir yn ein Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru a’n papurau polisi dilynol, yn darparu patrwm ar gyfer y math cywir o Brexit ar gyfer Cymru, ac yn wir ar gyfer y Deyrnas Unedig i gyd. Amgaeir dolenni isod at y dogfennau polisi ar y we.   Mae cyfnod tyngedfennol o’n blaenau ac mae gofyn i Bapur Gwyn Llywodraeth y DU osod cyfeiriad newydd ar nifer o faterion allweddol, a gwneud hynny mewn modd sy’n glir i’r UE ac i fusnesau. Gallaf sicrhau’r aelodau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i bwyso’n galed ar Lywodraeth y DU i sicrhau Brexit synhwyrol nad yw’n gwneud niwed diangen i’n swyddi a’n heconomi. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach i’r Cynulliad Cenedlaethol ynghylch cynnwys Papur Gwyn Llywodraeth y DU, a’i oblygiadau posibl i Gymru, pan fydd yn cael ei gyhoeddi.   **Dolenni:** Diogelu Dyfodol Cymru, Brexit a Thegwch o ran Symudiad Pobl, Brexit a Datganoli , Buddsoddi Rhanbarthol ar ôl Brexit  a Y Polisi Masnach: materion Cymru   ### Dogfennau * #### yn Saesneg yn unig, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 213 beit 213 beit
https://www.gov.wales/written-statement-contribution-uk-governments-white-paper
Last year the Welsh Government and CAF announced the first modern train manufacturing facility to be built in Wales. The factory is nearing completion, and trains for use by the people of Wales will soon start being built there. Earlier this month I announced the details of the new, transformative, low carbon Wales \& Borders rail service. Keolis UK has announced it will move its headquarters from London to a new office in Wales by 2019, and will relocate its global rail division from Paris to Wales by 2020\.  Meanwhile Amey has also confirmed that it is to open a new design hub in Wales where it will offer consultancy services and further jobs will be created when the companies open a shared services and customer contact center providing services to both businesses. These jobs are in addition to the 600 jobs and the 30 apprenticeships a year announced initially. From a standing start a few years ago, Wales is now developing as a home for the UK rail industry.  But there is more we can do.  I want Wales to be recognised across the UK and Europe as a major hub for the rail industry. The Economic Action Plan signalled a new approach to creating opportunities for developing our economy. I’m now signalling the next chapter of implementation of that plan. We have identified an opportunity in response to the clear demands of the major rail companies to establish an integrated ‘Global Centre of Rail Excellence’ in Wales. This would offer a bespoke Innovation accelerator, rolling stock and infrastructure testing, storage, decommissioning, maintenance and servicing asset to the industry and the wider supply\-chain. The strategic outline case I’ve just approved has captured the attention and the imagination of a significant number of rail industry stakeholders including the passenger and freight train manufacturers, rolling stock companies, network and service operators, trade bodies, the UK Rail Research Institute and the wider supply chain. It is also clear from what they’ve been telling us that public sector leadership is required with a strong economic and social sense of purpose to give this strategic infrastructure project the best chance of success. Wales is providing that leadership role. So I’d like to explain what the project is. Why it’s important in its own right and as a catalyst.  How it can be a UK first. What we have done so far and what comes next. The UK rail industry and its supply chain employs 216,000 people \- similar numbers to the telecoms industry. Combined, the industry and supply chain generate in excess of £10bn of GVA every year.  Annual industry revenues are approaching £10bn. Total passenger miles grew by 120% in the 21 years between 1995/6 and2016/17\. Passenger demand is expected to double again over the next 30 years.  Global trends are similar. This has led to unprecedented levels of investment in both infrastructure and rolling stock and this process is ongoing – notwithstanding the decision to cancel main line electrification between Cardiff and Swansea. Considerable investment is also flowing into the expanding UK Rail Research Institute Network centred on Universities including Birmingham, Leeds, Huddersfield and Southampton.   I want Wales to play a more prominent role. Transport for Wales has calculated that there are approximately 6000 workers in rail in Wales. That is a significant number but it’s clear that to approach relative proportionality we need to develop the industry’s presence here in Wales. So as we fight for a fair share of UK strategic investment it’s clear that as a Welsh Government we also have to be bold and proactive. From a wider industry perspective there are major challenges.  The UK’s rail network has an excellent safety record.  But operating costs are high.  Our network is congested.  Innovation, modernisation, the development and integration of new technologies, implementing a vision for digital rail, moving away from diesel to new de\-carbonised battery and hydrogen power sources as well as electrified rolling stock – these are all fundamental priorities both for growing and improving UK networks and services and for leveraging higher manufacturing and export outputs. As our initial work over recent months confirms there is a serious UK problem.  I want Wales to solve it. The main European facilities for testing and validating infrastructure and rolling stock are located in Germany and the Czech Republic. The UK has limited testing infrastructure capacity and no large, electrified test oval – and the UK based manufacturers are going as far as telling us that this is making the UK fundamentally uncompetitive as a manufacturing base. They are required to move trains across an entire continent for essential testing before bringing them back in to the UK for service adding time, inconvenience and cost to everything they do. This is also about having the facilities in place to take innovation beyond the lab and into the stage where prototypes have to be designed, built, modified, tested, validated, accredited and brought into commercial production. This is R\&D at the sharp commercial end, which relies on working in a real, dynamic environment but away from the live passenger network.   The UK also faces a crisis in its capacity to store valuable rolling stock awaiting service introduction, refurbishment or decommissioning. Typically these are assets worth many millions of pounds and they have to be properly and securely maintained when not in service. We have looked at several potential sites across Wales. That process is not by any means closed off. But we have identified a preferred option. This is the site of the mothballed open cast mine in Nant Helen, on the Powys/Neath Port Talbot border and the adjacent and operational coal\-washery site in Onllwyn.  This area at the top of the Dulais Valley has been reliant on the coal industry for generations. That era is drawing to a close. So there is great potential here for investment that could draw on existing as well as new skills, provide a catalyst for our emerging rail industry in Wales, and offer an invaluable partnership and service offer to the UK industry and the supply chain. This is also a project that could make an important contribution to the delivery of the aims of the Valleys Taskforce providing good quality jobs and the skills to do them. This isn’t just about testing and storage though, or the hundred plus people directly employed at the integrated test centre and the hundreds more that will be required to build it. It’s also about developing opportunities for domestic SMEs and the wider supply chain, and creating a magnetic attraction for the rail industry to choose Wales as its base. So, in this spirit, in principle I’ve also signalled my enthusiasm for Welsh Government investment in strengthening the academic and R\&D presence here in Wales. I want to further consider the establishment of a research programme and the creation of a new Chair in Rail Engineering Innovation in partnership with our Welsh Universities and other Universities across the UK.  Wales can become a more dynamic presence in shaping the future of the rail industry at home and abroad. I’m greatly encouraged by the work done to date.  I have therefore instructed officials to move to the next stage of business case development.  This will involve continued and close partnership working.  This is not a project that can proceed without local support, private sector investment and the commitment of manufacturers, rolling stock companies, network operators and a range of other stakeholders to back it now and into the future. We currently estimate that a bespoke facility like this will cost nearly one hundred million pounds to deliver.  Given the need we have identified across the UK and beyond for this facility, we believe that this is a project whose costs can be borne by the private sector.  In the meantime, government’s job is to establish this as an investable project, given the benefits which will flow from the establishment of such a facility in Wales. I’m not in the business of over\-promising and under\-delivering. But I am stating publicly today that if we can consolidate the very considerable levels of enthusiasm communicated to us to date then the Welsh Government will commit its best endeavours to the next stages of this project. Master planning, financial and commercial planning, developing planning applications: these are all significant pieces of work and I will of course update members as to the progress of our Global Centre of Rail Excellence project as appropriate.
Y llynedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru a CAF eu cyfleuster gweithgynhyrchu modern cyntaf ar gyfer trenau yng Nghymru. Mae'r ffatri bron â'i chwblhau, ac mae trenau i'w defnyddio gan bobl Cymru yn dechrau cael eu hadeiladu yno cyn bo hir. Yn gynharach y mis hwn, cyhoeddais fanylion y gwasanaeth rheilffyrdd newydd, trawsnewidiol, carbon isel ar gyfer Cymru a'r Gororau.   Mae Keolis UK wedi cyhoeddi y bydd yn symud ei bencadlys o Lundain i swyddfa newydd yng Nghymru erbyn 2019, a bydd yn adleoli ei is\-adran rheilffyrdd byd\-eang o Baris i Gymru erbyn 2020\.  Yn y cyfamser mae Amey wedi cadarnhau hefyd ei fod i agor canolfan ddylunio newydd yng Nghymru, ble y bydd yn cynnig gwasanaethau ymgynghori ac yn creu rhagor o swyddi pan fydd y cwmnïau yn agor canolfan cydwasanaethau a chyswllt cwsmeriaid i ddarparu gwasanaethau i'r ddau fusnes. Mae'r swyddi hyn yn ychwanegol i'r 600 o swyddi a'r 30 o brentisiaethau y flwyddyn a gyhoeddwyd ar y cychwyn. O ddechrau o'r dechrau ychydig flynyddoedd yn ôl, mae Cymru bellach yn datblygu fel cartref i'r diwydiant rheilffyrdd yn y DU.  Ond megis dechrau yw hyn.  Rwyf am i Gymru gael ei chydnabod ledled y DU ac Ewrop fel canolfan bwysig i'r diwydiant rheilffyrdd. Roedd y Cynllun Gweithredu Economaidd yn arwydd o ddull newydd o greu cyfleoedd i ddatblygu ein heconomi. Rwyf bellach yn dechrau pennod newydd o weithredu'r cynllun hwnnw. Rydym wedi gweld cyfle i ymateb i ofynion amlwg y prif gwmnïau rheilffordd i sefydlu 'Canolfan Fyd\-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd' yng Nghymru. Byddai hyn yn cynnig cyflymu y broses o arloesi mewn dull bwrpasol, yn profi cerbydau a seilwaith, storio, datgomisiynu, cynnal a gwasanaethu asedau'r diwydiant a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Mae'r achos amlinellol strategol yr wyf wedi'i gymeradwyo wedi dal sylw a dychymyg nifer sylweddol o randdeiliaid y diwydiant rheilffyrdd gan gynnwys teithwyr a gweithgynhyrchwyr trenau cludo nwyddau, cwmnïau cerbydau, gweithredwyr y rhwydwaith a'r gwasanaeth, cyrff masnachol, Sefydliad Ymchwil Rheilffyrdd y DU a'r gadwyn gyflenwi ehangach. Mae hefyd yn glir o'r hyn y maent wedi ei ddweud wrthym bod angen arweinyddiaeth o fewn y sector cyhoeddus gyda theimlad cryf o bwrpas yn economaidd ac yn gymdeithasol, i roi'r cyfle gorau i'r prosiect seilwaith strategol hwn lwyddo. Mae Cymru yn darparu'r arweinyddiaeth honno. Felly hoffwn egluro beth yw'r prosiect. Pam y mae'n bwysig o'i ran ei hun ac fel catalydd.  Sut y gall fod y cyntaf yn y DU. Yr hyn yr ydym wedi'i wneud hyd yma, a'r hyn a ddaw nesaf. Mae'r diwydiant rheilffyrdd a'i gadwyn gyflenwi yn cyflogi 216,000 o bobl \- niferoedd tebyg i'r diwydiant telathrebu. Wedi'i cyfuno, mae'r diwydiant a'r gadwyn gyflenwi yn cynhyrchu dros £10 biliwn o werth ychwanegol gros bob blwyddyn.  Mae refeniw blynyddol y diwydiant bron yn £10 biliwn. Datblygodd cyfanswm y milltiroedd gan deithwyr 120% yn y 21 mlynedd rhwng 1995/6 a 2016/17\. Mae disgwyl i'r galw gan deithwyr ddyblu eto dros y 30 mlynedd nesaf.  Mae tueddiadau byd\-eang yn debyg i hyn. Mae hyn wedi arwain at lefelau buddsoddi na welwyd mohonynt o'r blaen o ran seilwaith a cherbydau ac mae'r broses hon yn barhaus \- er gwaethaf y penderfyniad i ganslo y bwriad i drydaneiddio y prif reilffordd rhwng Caerdydd ac Abertawe. Mae buddsoddi sylweddol hefyd yn Rhwydwaith Sefydliad Ymchwil Rheilffyrdd y DU sydd wrthi'n datblygu, ac yn canolbwyntio ar Brifysgolion gan gynnwys Birmingham, Leeds, Huddersfield a Southampton.   Rwyf am i Gymru chwarae rhan mwy amlwg. Mae Trafnidiaeth Cymru wedi cyfrifo bod oddeutu 6000 o weithwyr yn y diwydiant rheilffyrdd yng Nghymru. Mae hwn yn nifer sylweddol ond er mwyn sicrhau cymesuredd mae'n amlwg bod angen inni ddatblygu presenoldeb y diwydiant yma yng Nghymru. Felly wrth inni frwydro am gyfran deg o fuddsoddiad strategol y DU, mae'n amlwg, fel Llywodraeth Cymru, bod yn rhaid i ninnau fod yn ddewr a phroactif. Mae heriau mawr o safbwynt y diwydiant yn ehangach.  Mae gan rwydwaith rheilffyrdd y DU gofnod diogelwch rhagorol.  Ond mae costau gweithredu yn uchel.  Mae ein rhwydwaith yn llawn.  Mae arloesi, moderneiddio, datblygu ac integreiddio technolegau newydd, rhoi gweledigaeth ar waith am reilffordd ddigidol, symud i ffwrdd o diesel i ffynonellau bateri newydd wedi'i ddatgarboneiddio a phŵer hydrogen yn ogystal â cherbydau trydan \- mae'r rhain yn flaenoriaethau sylfaenol ar i ddatblygu a gwella rhwydweithiau a gwasanaethau y DU ac ar gyfer sicrhau allbynnau gweithgynhyrchu ac allforio uwch. Fel y mae ein gwaith dros y misoedd diwethaf yn ei gadarnhau, mae problem ddifrifol yn y DU.  Rwyf am i Gymru ei datrys. Mae'r prif gyfleusterau yn Ewrop i brofi a dilysu seilwaith a cherbydau yn yr Almaen a'r Weriniaeth Tsiec. Nid oes gan y DU lawer o gyfleusterau profi, a dim traciau profi hirgrwn mawr wedi'u trydaneiddio \- ac mae'r gweithgynhyrchwyr ym Mhrydain yn mynd mor bell â dweud wrthym bod hyn yn golygu bod diffyg cystadleuaeth yn y DU fel canolfan weithgynhyrchu. Mae'n rhaid iddynt symud trenau ar draws cyfandir cyfan ar gyfer profi hanfodol cyn dod â hwy yn ôl i'r DU i'w gwasanaethu, gan ychwanegu amser, anghyfleuster a chostau i bopeth y maent yn ei wneud. Mae hyn hefyd yn gysylltiedig â sicrhau cyfleusterau i ddatblygu arloesi y tu hwnt i'r labordy, ac i'r cam ble y mae'n rhaid dylunio, adeiladu, addasu, profi, dilysu ac achredu prototeip a'i gynhyrchu yn fasnachol. Dyma Ymchwil a Datblygu yn y pen masnachol, sy'n dibynnu ar weithio mewn amgylchedd real, ddeinamig, ond ar wahân i'r rhwydwaith o deithwyr byw.   Mae'r DU hefyd yn wynebu argyfwng o ran ei chapasiti i storio cerbydau gwerthfawr sy'n aros i gael eu gwasanaethu, eu hadnewyddu neu eu datgomisiynu. Mae hyn fel arfer yn asedau sy'n werth miliynau o bunnoedd ac mae'n rhaid iddynt gael eu cadw mewn lle diogel pan nad ydynt yn cael eu defnyddio. Rydym wedi edrych ar nifer o safleoedd posibl ledled Cymru. Nid yw'r broses honno wedi dod i ben o bell ffordd. Ond rydym wedi dod o hyd i opsiwn yr ydym yn ei ffafrio. Sef y safle gwaith glo brig nad yw bellach yn cael ei ddefnyddio yn Nant Helen, ar ffin Powys/Castell\-nedd Port Talbot a safle golchfa Onllwyn sy'n dal i weithio.   Mae'r ardal hon ar ben Cwm Dulais wedi bod yn ddibynnol ar y diwydiant glo ers cenedlaethau. Mae'r cyfnod hwnnw bellach yn dod i ben. Felly mae posibiliadau enfawr yma am fuddsoddiad a allai ddefnyddio'r sgiliau presennol yn ogystal â sgiliau newydd, bod yn gatalydd ar gyfer ein diwydiant rheilffyrdd newydd yng Nghymru, a chynnig partneriaeth a gwasanaeth gwerthfawr iawn i'r diwydiant yn y DU a'r gadwyn gyflenwi. Mae hwn hefyd yn brosiect allai wneud cyfraniad pwysig i gyflawni amcanion Tasglu'r Cymoedd gan gynnig swyddi o safon uchel a'r sgiliau i'w gwneud. Nid dim ond profi a storio yw hyn fodd bynnag, na'r cannoedd a mwy o bobl sy'n cael eu cyflogi'n uniongyrchol yn y ganolfan brofi integredig a'r cannoedd mwy fydd yn ei hadeiladu. Mae hefyd yn golygu datblygu cyfleoedd ar gyfer BBaChau domestig a'r gadwyn gyflenwi ehangach, a denu'r diwydiant rheilffyrdd i ddewis Cymru fel canolfan. Felly, i'r perwyl hwn, mewn egwyddor rwyf hefyd wedi dangos fy mrwdfrydedd i fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gryfhau y gwaith academaidd a'r ymchwil a'r datblygu yma yng Nghymru. Rwyf am ystyried ymhellach sefydlu rhaglen ymchwil a chreu Cadeirydd newydd ym maes Arloesi Peirianneg Rheilffyrdd mewn partneriaeth â'n Prifysgolion yng Nghymru a Phrifysgolion eraill ledled y DU.  Gall Gymru ddod yn fwy deinamig wrth lunio dyfodol y diwydiant rheilffyrdd gartref a thramor. Rwyf yn hapus iawn â'r gwaith sydd wedi'i wneud hyd yma.  Rwyf felly wedi gofyn i swyddogion symud ymlaen i gam nesaf datblygu achos busnes.  Bydd hyn yn golygu parhau i weithio a chydweithio yn agos.  Nid yw hwn yn brosiect allai fynd yn ei flaen heb gefnogaeth leol, buddsoddiad y sector preifat ac ymrwymiad y gweithgynhyrchwyr, cwmnïau cerbydau, cwmnïau'r rhwydwaith ac amrywiol randdeiliaid eraill i'w gefnogi nawr ac yn y dyfodol. Rydym ar hyn o bryd yn amcangyfrif y byddai cyfleuster pwrpasol fel hwn yn golygu cost o bron gan miliwn o bunnoedd.  O ystyried yr angen yr ydym wedi'i weld ledled y DU a thu hwnt am gyfleuster o'r math yma, rydym yn credu bod hwn yn brosiect y gallai'r sector preifat dalu amdano.  Yn y cyfamser, gwaith y llywodraeth yw sefydlu prosiect y gellid buddsoddi ynddo, o ystyried y manteision a ddaw o sefydlu cyfleuster o'r fath yng Nghymru. Nid wyf am wneud gormod o addewidion ac yna beidio â chyflawni digon. Ond rwyf yn datgan yn gyhoeddus heddiw, os y gallwn grynhoi y brwdfrydedd sylweddol yr ydym wedi'i weld hyd yma, yna bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ei gallu i ymroi i gamau nesaf y prosiect hwn. Uwchgynllunio, cynllunio ariannol a masnachol, datblygu ceisiadau cynllunio: mae pob un ohonynt yn ddarnau pwysig o waith a byddaf wrth gwrs yn rhoi'r newyddion diweddaraf i'r aelodau o ddatblygiadau prosiect Canolfan Fyd\-eang Rhagoriaeth Rheilffyrdd yng Nghymru fel y bo'n briodol.
https://www.gov.wales/written-statement-creating-global-centre-rail-excellence-wales
Following the difficult weather conditions experienced across Wales since Thursday last week, I want to put on record my sincere thanks to staff across the entire transport sector who have worked tirelessly over the weekend to support the travelling public and to re\-open our public transport and road network. I am always impressed by the diligence and resourcefulness of those on our front lines and these last few days have again demonstrated the professionalism and commitment of those working in Welsh transport. There were a number of locations where unfortunately our network became impassable and roads had to be shut. This is always a last resort, and any decisions to close roads were not taken lightly. Whilst reinstatement and rescue efforts were hampered in some locations by abandoned vehicles, all of our road network was re\-opened by Sunday. Bus services across Wales are now operating normally, with some localised exceptions. Our teams have also been providing support to aid local authorities. To put the scale of our response into perspective, whilst other parts of the UK saw occupants trapped in vehicles for up to 18 hours,  no one was trapped on our network for comparable durations. Although there were a number of minor incidents on our road network, we are not aware of any fatal or serious injury accidents as a result of the extreme weather. Last week I informed members of a number of challenges being faced by the railway in Wales. There were two issues. Firstly the very challenging weather conditions, combing heavy snow and a prolonged period of low temperatures, which caused significant disruption to services from Thursday onwards. Secondly, the issue of damage to the wheels of the trains used to provide long distance services in Wales. The poor weather has also had a major impact on road travel, including bus services across Wales. Since I first became aware of the wheel issue on 28 February I have been receiving frequent updates from Arriva Trains Wales and Network Rail Wales Route. I am grateful to them and to all their dedicated staff who have worked tirelessly in extreme weather conditions to restore services to normal as soon as possible and to keep the public up to date. On 28 February, safety inspections prior to start of service revealed damage to the wheel sets on a number of our longer\-distance trains which run from West Wales to Manchester, Cardiff to Holyhead and Holyhead to Birmingham. The damage seen had not been experienced anywhere on Britain’s railway. As an immediate safety precaution affected vehicles were taken out of service, a joint Silver Command Control was established by ATW and Network Rail, normal services were truncated, and test trains were despatched to check all potential causes of wheel set damage along the routes where damage may have occurred \- principally between Chester, Shrewsbury and Cardiff. These potential locations included points, level crossings, depot facilities and other infrastructure. Welsh Government received half\-hourly updates. I have provided regular social media updates throughout. At the same time, extreme weather forecasts and weather warnings necessitated the withdrawal of most of our South Wales services and those on Conwy Valley, West Wales and elsewhere, initially, on 1 and 2 March, with reduced longer distance services on main lines.  The rail industry provided comprehensive public information on these issues as they arose, on their websites, social media and through frequent press updates. Outside Wales, rail services were also heavily impacted by weather. Following improvements to the weather, extensive track clearance and route proving, there was a gradual improvement of services on 3 and 4 March and the infrastructure believed to have caused the wheel damage was located at Maindee West Junction, near Newport.   Thanks to the efforts of the staff of both ATW and Network Rail, long distance train services are running as normal from 5 March, with just a few trains running in shorter formations than usual as a result of  the wheel damage issue. Local services on the Heart of Wales and Conwy Valley lines were affected on 5 March by the after effects of the weather, so bus replacement services remained in operation on those routes, although the Conwy Valley line is scheduled to return to normal on 6 March. I have today spoken again with Arriva Trains Wales and Network Rail to understand the residual issues, and to pass my thanks on for the hard work of their teams in recovering so swiftly from both of these service affecting issues, and for keeping the public updated. Affected passengers are encouraged to make enquiries with ATW if they believe they should be compensated for disrupted travel. 24 of the 27 class 175 trains have sustained wheel damage, along with the wheels on the carriages of the Gerallt Gymro train and at least 7 of the 24 class 158 trains used for shorter services. Whilst the damage may take several months to completely resolve, I have been assured that there is no safety consequence to continuing to operate the trains in the interim. We may see some short formation trains for a while, but service cancellations are not anticipated, unless other circumstances dictate them. I will continue to keep members updated of further developments.
Yn dilyn y tywydd gwael iawn a gafwyd ledled Cymru ers dydd Iau diwethaf, rwyf am ddiolch i staff ar draws y sector trafnidiaeth cyfan, sydd wedi gweithio'n ddi\-flino drwy'r penwythnos i helpu'r cyhoedd oedd yn teithio ac i ail\-agor ein rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus a'n ffyrdd.  Mae diwydrwydd a gallu y bobl hynny sy'n gweithio i'n gwasanaethau hanfodol bob amser yn creu argraff arnaf, ac mae'r ychydig ddyddiau diwethaf wedi dangos proffesiynoldeb ac ymrwymiad y bobl hyn sy'n gweithio ym maes trafnidiaeth yng Nghymru. Roedd nifer o leoliadau ble y bu'n amhosibl teithio ar y rhwydwaith, yn anffodus, ac roedd yn rhaid i'r ffyrdd gau.  Dyma'r peth olaf y mae rhywun am ei wneud, ac nid oedd unrhyw benderfyniad i gau ffyrdd yn cael ei wneud yn ysgafn.  Er i'n hymdrechion i ail\-agor ffyrdd ac i achub pobl gael eu rhwystro i raddau mewn rhai lleoliadau oherwydd y cerbydau oedd wedi eu gadael ar ffyrdd, roedd pob un o'n rhwydweithiau ffyrdd wedi'u hail\-agor erbyn dydd Sul.  Mae gwasanaethau bysiau ledled Cymru bellach yn ôl fel arfer, gyda rhai eithriadau lleol.  Mae ein timau hefyd wedi rhoi cymorth i awdurdodau lleol. Er mwyn rhoi'r darlun llawn i raddfa ein hymateb, er y bu pobl yn gaeth yn eu cerbydau am hyd at 18 awr mewn rhannau eraill o Brydain, ni chafodd neb eu dal yn gaeth yn eu cerbydau ar ein rhwydwaith ni am gyfnodau sy'n cymharu â'r sefyllfa. Er bod nifer o ddigwyddiadau bychain ar ein rhwydwaith ffyrdd, diolch byth ni fu inni weld unrhyw ddamweiniau angheuol neu ddifrifol o ganlyniad i'r tywydd eithafol. Yr wythnos ddiwethaf dywedais wrth yr aelodau am yr heriau niferus oedd yn cael eu hwynebu gan y rheilffyrdd yng Nghymru. Roedd dau fater dan sylw:  Yn gyntaf, y tywydd heriol iawn, gyda'r cyfuniad o eira trwm a chyfnodau maith o dymheredd isel, oedd yn arwain at darfu sylweddol ar y gwasanaethau o ddydd Iau ymalen.  Yn ail, roedd y broblem o'r difrod i olwynion y trenau oedd yn cael eu defnyddio i ddarparu gwasanaethau dros bellter maith yng Nghymru. Mae'r tywydd gwael wedi cael effaith fawr hefyd ar y ffyrdd, gan gynnwys gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Ers imi ddod yn ymwybodol o broblem yr olwynion ar yr 28ain o Chwefror, rwyf wedi derbyn y newyddion diweddaraf yn rheolaidd gan Drenau Arriva Cymru a Network Rail Cymru. Roeddwn yn ddiolchgar iddynt ac i'w staff sydd wedi gweithio'n ddi\-flino mewn tywydd gwael eithriadol i sicrhau bod y gwasanaethau yn dychwelyd i'w hamserlen arferol cyn gynted â phoisbl, ac i roi'r newyddion diweddaraf i'r cyhoedd. Ar yr 28ain o Chwefror, bu i archwiliadau diogelwch cyn dechrau'r gwasanaeth ddatgelu difrod i'r olwynion ar nifer o'n trenau pellter maith sy'n rhedeg o Orllewin Cymru i Manceinion, o Gaerdydd i Gaergybi ac o Gaergybi i Birmingham.  Nid oedd y difrod i'w weld mewn unrhyw fan arall ar reilffyrdd Prydain. Er diogelwch, cafodd y cerbydau yr effeithiwyd arnynt eu tynnu o'r gwasanaeth ar unwaith, sefydlwyd Trefn Reoli Arian gan Drenau Arriva Cymru a Network Rail, cafodd y gwasanaethau arferol eu cwtogi, a defnyddiwyd trenau profi i weld achos y difrod i'r olwynion ar hyd y rheilffyrdd ble y digwyddodd y difrod o bosibl \- yn bennaf rhwng Caer, yr Amwythig a Chaerdydd.  Roedd y lleoliadau posibl hyn yn cynnwys pwyntiau newid traciau, croesfannau, cyfleusterau depo a seilwaith eraill. Roedd Llywodraeth Cymru yn derbyn y newyddion diweddaraf bob hanner awr. Rwyf wedi rhoi y newyddion diweddaraf ar y cyfryngau cymdeithasol drwy gydol y cyfnod. Ar yr un pryd, roedd y rhagolygon o dywydd eithafol a'r rhybuddion tywydd yn golygu bod yn rhaid dod â rhan fwyaf o'r gwasanaethau yn Ne Cymru i ben, a'r rhai yn Nyffryn Conwy, Gorllewin Cymru ac mewn mannau eraill, i ddechrau, ar y 1af a'r 2il o Fawrth, gyda llai o wasanaethau pellter maith ar y prif reilffyrdd. Cafwyd gwybodaeth gynhwysfawr i'r cyhoedd gan y diwydiant rheilffyrdd ar y materion hyn wrth iddynt godi, ar eu gwefannau, y cyfryngau cymdeithasol a thrwy ddatganiadau rheolaidd yn y wasg. Y tu allan i Gymru, cafodd y tywydd effaith fawr ar y gwasanaethau rheilffordd. Wedi i'r tywydd wella, ac i'r gwaith mawr o glirio'r traciau a phrofi'r rheilffyrdd gael ei gwblhau, cafwyd gwelliant graddol yn y gwasanaethau ar y 3ydd a'r 4ydd o Fawrth, a daethpwyd o hyd i'r seilwaith oedd wedi achosi'r difrod i'r olwyn yng Nghyffordd Gorllewin Maendy, ger Casnewydd.   Diolch i ymdrechion staff Trenau Arriva Cymru a Network Rail, mae trenau pellter maith yn rhedeg fel arfer o'r 5ed o Fawrth, gydag ychydig o drenau yn rhedeg ar deithiau byrrach na'r arfer o ganlyniad i'r difrod i'r olwynion. Cafodd gwasanaethau lleol ar reilffyrdd Calon Cymru a Dyffryn Conwy ei effeithio ar y 5ed o Fawrth oherwydd ôl\-effaith y tywydd mawr, felly parhaodd bysiau i gael eu defnyddio ar hyd y llwybrau hynny, er ddylai rheilffordd Dyffryn Conwy dychwelyd i'w hamserlen arferol ar y 6ed o Fawrth. Rwyf wedi siarad unwaith eto â Threnau Arriva Cymru a Network Rail i ddeall y problemau sy'n weddill, ac i ddiolch iddynt am waith caled eu timau yn adfer y gwasanaethau yr effeithiwyd arnynt mor gyflym, ac am roi'r newyddion diweddaraf i'r cyhoedd. Mae'r teithwyr a gafodd broblemau wrth deithio yn cael ei annog i wneud ymholiadau i Drenau Arriva Cymru os ydynt eisiau wneud cais i hawlio iawndal. Mae 24 o'r 27 o drenau dosbarth 175 wedi gweld difrod i'w holwynion, yn ogystal ag olwynion cerbydau trên Gerallt Gymro ac o leiaf 7 o'r 24 o drenau dosbarth 158 sy'n cael eu defnyddio ar gyfer teithiau byrrach.  Er y gallai'r difrod gymryd sawl mis i'w drwsio, rwyf wedi derbyn sicrwydd nad oes unrhyw broblemau diogelwch o ran parhau i ddefnyddio'r trenau yn y cyfamser.  Mae'n bosibl y byddwn yn gweld rhai trenau byrrach am gyfnod, ond nid ydym yn rhagweld y bydd unrhyw wasanaethau yn cael eu canslo, os nad oes amgylchiadau eraill yn codi. Byddaf yn parhau i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am unrhyw ddatblygiadau pellach.
https://www.gov.wales/written-statement-disruption-public-transport-and-road-networks
On 9 October 2018, the Cabinet Secretary for Health and Social Services made an oral statement in the Siambr on: Cwm Taf Maternity Services (external link).
Ar 9 Hydref 2018, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Gwasanaethau Mamolaeth Cwm Taf (dolen allanol).
https://www.gov.wales/oral-statement-cwm-taf-maternity-services
I am responding today to the 46th Report of the Doctors and Dentists Review Body (DDRB) which was laid before Parliament on 24 July 2018\. I am grateful to the Chair and members of the DDRB for their report and I welcome their robust independent recommendation and observations. I know too that their advice is greatly valued by NHS management, trade unions and staff representatives alike. I am pleased to announce today that I have been able to accept the recommendations of the DDRB in full. This includes: • a 2% base increase for salaried doctors and dentists, salaried General Medical Practitioners (GMPs) and independent contractor GMPs and General Dental Practitioners (GDPs); • an additional 2% for independent contractor GMPs, salaried GMPs and to the GMP trainers’ grant and the GMP appraisers’ rate; • an additional 1\.5% for SAS doctors This pay rise recognises the value and dedication of hardworking doctors and dentists and their key contribution to the NHS whilst targeting pay as recommended by the DDRB, and taking into account affordability and the prioritising of patient care. I am pleased that the BMA Cymru Wales have returned to working in social partnership as part of the Welsh Partnership Forum with the wider health unions, employers and government. We welcome their commitment to continue to work with us in partnership to deliver the ambitions set out in A Healthier Wales, both contributing to the strategic agenda and by addressing challenges of equality, recruitment and retention and productivity within the medical workforce, and delivery of the Primary Care Model for Wales. The UK Treasury has provided no additional funding to help cover the cost of any recommended uplift above 1% and so I have invested additional funding provided by the Cabinet Secretary for Finance to enable this deal to be implemented without undermining delivery of services. This pay deal alongside my announcement last week about Agenda for Change staff is a very positive demonstration of our commitment to the whole of the NHS workforce in Wales. We are keen to maintain positive progress supporting the NHS workforce to boost their health, wellbeing and engagement and so deliver excellent care is a top priority in Wales.              
Rwy’n ymateb heddiw i 46ed adroddiad y Corff Adolygu Meddygon a Deintyddion a osodwyd gerbron Senedd y DU ar 24 Gorffennaf 2018\. Rwy’n ddiolchgar i Gadeirydd ac aelodau’r Corff Adolygu am eu hadroddiad ac yn croesawu eu hargymhellion a’u sylwadau annibynnol cadarn. Rwy’n gwybod hefyd bod eu cyngor yn cael ei werthfawrogi’n fawr gan reolwyr y GIG, undebau llafur a chynrychiolwyr y staff fel ei gilydd. Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw fy mod wedi gallu derbyn argymhellion y Corff Adolygu yn llawn. Mae hyn yn cynnwys: • 2% o gynnydd sylfaenol i feddygon a deintyddion sy’n derbyn cyflog, i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n derbyn cyflog ac i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol ac Ymarferwyr Deintyddol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol; • 2% yn ychwanegol i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n gontractwyr annibynnol, i Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol sy’n derbyn cyflog ac i grant hyfforddwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol a chyfradd arfarnwyr Ymarferwyr Meddygol Cyffredinol; • 1\.5% yn ychwanegol i feddygon arbenigol a chyswllt (SAS). Mae’r codiad cyflog hwn yn cydnabod gwerth ac ymroddiad meddygon a deintyddion sy’n gweithio’n galed a’u cyfraniad allweddol i’r GIG, gan dargedu cyflogau fel yr argymhellwyd gan y Corff Adolygu a chan ystyried fforddiadwyedd a rhoi blaenoriaeth i ofal cleifion. Rwy’n falch fod BMA Cymru Wales wedi dychwelyd i weithio mewn partneriaeth gymdeithasol fel rhan o Fforwm Partneriaeth Cymru gydag undebau llafur y maes iechyd, cyflogwyr a’r llywodraeth. Rydym yn croesawu eu hymrwymiad i barhau i gydweithio mewn partneriaeth gyda ni i gyflawni’r uchelgeisiau a nodwyd yn Cymru Iachach, gan gyfrannu at yr agenda strategol yn ogystal â mynd i’r afael â heriau cydraddoldeb, recriwtio a chadw a chynhyrchiant o fewn y gweithlu iechyd, a rhoi Model Gofal Sylfaenol Cymru ar waith. Nid yw Trysorlys y DU wedi darparu unrhyw gyllid ychwanegol i helpu i dalu am unrhyw godiad a argymhellir uwchlaw 1%, felly rwyf wedi buddsoddi cyllid ychwanegol a ddarparwyd gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid i alluogi i’r cytundeb hwn gael ei weithredu heb danseilio’r gwaith o ddarparu gwasanaethau. Mae’r cytundeb cyflog hwn, law yn llaw â’m cyhoeddiad yr wythnos diwethaf ynghylch staff yr Agenda ar gyfer Newid, yn arwydd cadarnhaol iawn o’n hymrwymiad i holl weithlu’r GIG yng Nghymru. Rydym yn awyddus i gynnal y cynnydd cadarnhaol hwn – mae helpu gweithlu’r GIG i hybu eu hiechyd, eu llesiant a’u hymgysylltiad, gan ddarparu gofal rhagorol felly, yn flaenoriaeth uchel yng Nghymru.
https://www.gov.wales/written-statement-doctors-and-dentists-review-body-ddrb-46th-report