instruction
stringclasses 2
values | input
stringlengths 38
42.1k
| output
stringlengths 38
42.1k
|
---|---|---|
Translate the text from English to Welsh. |
Today we are publishing a Coronavirus Control Plan for Wales. Coronavirus has not gone away and we are likely to see an increase in cases over the autumn and winter as it becomes colder and everyone spends more time indoors.
The Coronavirus Control Plan for Wales sets out how the people of Wales and organisations across Wales will work together to manage the risks of coronavirus as we prepare for the autumn and winter months.
Our approach to controlling coronavirus is based on the principles of caution, proportionality and subsidiarity.
Caution, because prevention is better than cure – preventing the spread of coronavirus should be our overriding priority.
But our actions must also be proportional to what they are seeking to achieve – our interventions should not be more restrictive than is needed to contain the virus. We will endeavour to do the minimum to disrupt people's lives whilst keeping Wales safe.
And, finally, the principle of subsidiarity means that decisions are taken at the most effective level – using local knowledge and expertise to inform local decision making by local elected Leaders and local action.
The plan describes the different stages of the possible spread of coronavirus. It sets out how we will respond in different circumstances. This is a collective effort with everyone having a role to play. From businesses to local government, NHS Wales, Public Health Wales, the Welsh Government and every single one of us playing our part.
The plan focuses on the approach we will take alongside our partners, from prevention through to (if needed) introducing measures at a local, regional or national level.
Absolutely no one wants another lockdown. However, coronavirus has not gone away. If we are to continue to keep Wales safe, we must prevent the virus from spreading.
Each person, businesses and organisation in Wales has a role to play in preventing the spread of coronavirus and to keep Wales safe.
I am making this statement in recess in order to keep members informed. I will be happy to make a further statement after recess if members would find it helpful.
|
Heddiw rydym yn cyhoeddi Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer Cymru. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu ac rydym yn debygol o weld cynnydd mewn achosion dros yr hydref a’r gaeaf wrth iddi oeri ac wrth i bawb dreulio mwy o amser o dan do.
Mae Cynllun Rheoli’r Coronafeirws ar gyfer Cymru yn amlinellu sut y bydd pobl Cymru a sefydliadau ar draws Cymru yn cydweithio i reoli peryglon coronafeirws wrth inni baratoi ar gyfer misoedd yr hydref a’r gaeaf.
Mae ein dull o reoli’r coronafeirws yn seiliedig ar egwyddorion pwyll, cymesuredd a sybsidaredd.
Pwyll, gan fod atal yn well na gwella – atal lledaeniad y coronafeirws ddylai fod y brif flaenoriaeth inni.
Ond rhaid i'n camau gweithredu hefyd fod yn gymesur â'r hyn y maent yn ceisio ei gyflawni – ni ddylai ein hymyriadau fod yn fwy caeth nag sydd ei angen i reoli’r feirws. Byddwn yn diogelu Cymru wrth geisio gwneud cyn lleied â phosibl i amharu ar fywydau pobl.
Ac, yn olaf, mae egwyddor sybsidiaredd yn golygu y caiff penderfyniadau eu gwneud ar y lefel fwyaf effeithiol – gan ddefnyddio gwybodaeth ac arbenigedd lleol i lywio penderfyniadau lleol gan arweinwyr etholedig lleol a chamau gweithredu lleol.
Mae'r cynllun yn disgrifio gwahanol gamau lledaeniad posibl coronafeirws. Mae'n nodi sut y byddwn yn ymateb mewn gwahanol amgylchiadau. Ymdrech ar y cyd yw hon gyda phawb â rôl i'w chwarae. O fusnesau i Lywodraeth Leol, GIG Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llywodraeth Cymru a phob un ohonom yn chwarae ein rhan.
Mae'r cynllun yn canolbwyntio ar y dull y byddwn yn ei ddilyn gyda'n partneriaid, o atal i (os oes angen) gyflwyno mesurau ar lefel leol, rhanbarthol neu genedlaethol.
Does neb eisiau cyfnod clo arall. Ond nid yw’r coronafeirws wedi diflannu. Er mwyn diogelu Cymru, mae’n rhaid inni atal y feirws rhag lledaenu.
Mae gan bob person, pob busnes a phob sefydliad yng Nghymru rôl i’w chwarae i atal lledaeniad coronafeirws a diogelu Cymru.
Rwy’n gwneud y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach ar ôl y toriad os byddai o gymorth i’r aelodau.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Ar 17 Mai 2022, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: y Gronfa Tai â Gofal (dolen allanol).
|
On 17 May 2022, an oral statement was made in the Senedd: The Housing with Care Fund (external link).
|
Translate the text from Welsh to English. |
Ddoe, fe gyhoeddodd Llywodraeth y DU ei phenderfyniad i symud ymlaen i sefydlu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU a pheidio â chymryd camau pellach ar y Dreth Allyriadau Carbon. Dyma gam pwysig ac rwy’n croesawu’r eglurder y bydd hyn yn ei roi i gyfranogwyr y cynllun, ei reoleiddwyr a’i ddilyswyr. Mae hefyd yn golygu y bydd y cynllun yn cael ei lywodraethu fel fframwaith cyffredin ac felly bydd gan Weinidogion Cymru a’r Senedd ran ffurfiol wrth ddarparu’r polisi pwysig hwn.
Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU fydd y farchnad garbon fwyaf uchelgeisiol yn y byd, gyda chap sydd 5% yn is na system yr UE. Fodd bynnag, mae hon yn broses dau gam ac ar ôl derbyn cyngor gan y Pwyllgor Newid Hinsawdd, byddwn yn ymgynghori y flwyddyn nesaf ar gap diwygiedig sy’n cyd\-fynd â’n huchelgeisiau sero net.
Mae’r Gorchymyn Cynllun Masnachu Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr 2020, a ddaeth i rym ar 12 Tachwedd, yn sefydlu'r cynllun masnachu o dan y gyfraith ac fe all rheolyddion a chyfranogwyr y cynllun wneud y trefniadau angenrheidiol yn awr i roi’r cynllun ar waith o 1 Ionawr 2021\. Rwy’n bwriadu gosod deddfwriaeth bellach gerbron y Senedd ar 17 Rhagfyr, o dan y weithdrefn negyddol, i gynnwys darpariaethau yn ymwneud â chofrestru a dyraniad rhydd y lwfansau.
Yn anffodus, mae ansicrwydd o hyd ynghylch rhagolygon cysylltu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU â Chynllun Masnachu Allyriadau’r UE. Rwy’n parhau i bwyso am gytundeb cysylltu fel rhan o gytundeb masnach ehangach gan ei fod yn amlwg er lles gorau pawb. Yn y cyfamser, byddaf yn gweithio gyda’m gweinidogion cyfatebol ar draws y DU i symud ymlaen i weithredu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU fel system annibynnol y gellir ei chysylltu mewn amser.
|
Yesterday, the UK Government published its decision to proceed with establishing a UK Emissions Trading Scheme (UK ETS) and cease progress on the alternative Carbon Emissions Tax. This is an important step and I welcome the clarity it gives to scheme participants, regulators and verifiers. The scheme will be governed as a common framework and, therefore, Welsh Ministers and the Senedd will have a formal role in delivering this important policy.
The UK ETS will be the most environmentally ambitious carbon market in the world, having a cap 5% lower than the EU system. However, this is a two\-step process and having received advice from the Climate Change Committee, we will be consulting next year on a revised cap aligned to our net zero ambitions.
The Greenhouse Gas Emissions Trading Scheme Order 2020, which came into force on 12 November, establishes the trading scheme in law and regulators and scheme participants can now make the necessary arrangements to implement the scheme from 1 January 2021\. I intend to lay further legislation before the Senedd on 17 December, under the negative procedure, to include provisions regarding the registry and free allocation of allowances.
Unfortunately, there remains uncertainty related to the prospects of linking the UK ETS to the EU ETS. I continue to press for a linking agreement as part of a wider trade deal as it is clearly in everyone’s best interests. In the meantime, I will work with my counterparts across the UK to progress with implementing the UK ETS as a standalone system which can be linked in due course.
|
Translate the text from English to Welsh. |
In July, I announced a new £6m Nature Fund to tackle the continued decline in biodiversity across Wales as highlighted by the State of Nature Report.
Today I am laying out the key activities in which I intend to invest the Fund and how I will be taking action to deliver real change for biodiversity and communities across Wales. The principal focus of the Fund will be investment in seven Nature Action Zones where the ideas submitted demonstrated that there was already a wealth of innovative landscape scale actions ready to be delivered.
The State of Nature report should have been a wake up call for all of us from governments to conservation groups, charities, land managers, individuals and industry. It is clear that the approach that we have taken has not addressed the decline in biodiversity and it is also clear that more of the same is unlikely to succeed in the future.
Sustainable Development is key to this Government’s thinking and approach to the management of our natural resources. At the same time I want us to be ambitious in our determination and our vision for the future. The ambition must not simply be about halting the decline, we need a significant shift which recognises the interdependency with social and economic factors. For the long term resilience of our agriculture, upland communities, wider economy and our natural environment we have to aim to improve our natural assets and that includes increasing our biodiversity.
It is evident from the State of Nature report that traditional approaches haven’t worked. That is why, over the last year, we have been working with organisations across Wales to develop our approach to this Fund. At events across Wales, we have engaged people involved in local level activities \- NGOs, land managers, farmers, woodland managers, SMEs and Local Authorities \- to identify how we can increase the scale of action to address the root causes of the decline. Over 460 ideas were submitted from organisations as a result of this process and stakeholders have welcomed this collaborative approach.
The Nature Action Zones will be:
* Brecon Beacons
* Cambrian Mountains
* Conwy Valley
* Pembrokeshire coast
* South Wales Valleys
* Berwyn and Migneint
* Llyn Peninsula
Within these areas I will be funding practical actions on the ground, drawing on the ideas received, which demonstrate innovation, collaboration and good practice. The priorities for investment will be as follows:
**Action to improve river catchments**
Action in river catchments, as demonstrated by the work in the Usk, Wye and Upper Severn, to improve hedgerow and woodland planting, coupled with good livestock and nutrient management to deliver improved water quality and biodiversity, safeguard soil value and reduce flood risk;
**Action on marine ecosystems**
Action to improve fisheries management and marine ecosystems combined with reducing the spread of invasive non\-native species, improving biosecurity, and working with partners, as illustrated by proposals for the Llyn Peninsula will deliver improvements in marine biodiversity and sustain local businesses;
**Action for local environment**
Action to enhance natural green spaces and harness their biodiversity potential, as highlighted by examples in the South Wales Valleys will deliver improved local environmental quality and improve biodiversity and connectivity;
**Action to realise the potential in our upland areas**
Action to realise the potential in our uplands such as that demonstrated in Pumlumon, Berwyn and Migneint taking forward grip\-blocking and improved farm management will improve both water storage and biodiversity while also supporting farm diversification;
**Action to stimulate innovation**
Action to further develop the interest in payment for ecosystem services, as demonstrated by the innovative work in our uplands working with land managers, will increase the potential for alternative incomes and greater diversification.
Over the coming weeks my department will be working with partners who have submitted ideas to refine clear project proposals to be funded over the course of this financial year. We will be open to consider a limited number of proposals outside the identified Nature Action Zones for significantly innovative, collaborative projects that can deliver the priority actions.
In addition to the Nature Action Zones, I am committed to the Welsh Government and wider public sector demonstrating leadership by taking action to increase biodiversity. From road\-side verges to our largest woodlands, we need to exemplify how we are directly investing in a way that will deliver biodiversity and community benefits across the public sector estate. I therefore intend to invest a proportion of the Nature Fund to improve the management of land that currently has low ecological value, for example, by establishing deciduous woodlands and increasing native wild planting.
As a whole, this approach will direct the Nature Fund at tackling the decline in our biodiversity and enable people to take collaborative action which not only improves the environment, but also provides economic and social benefits for all. In this way, the Fund will help provide a model for the integrated approach we want to take in our new Rural Development Programme, and also our wider ambitions for natural resource management.
|
Fis Gorffennaf y llynedd, cyhoeddais y byddwn yn sefydlu Cronfa Natur gwerth £6m i fynd i’r afael â’r dirywiad hir yn ein bioamrywiaeth ledled Cymru, a ddisgrifir yn yr adroddiad Sefyllfa Byd Natur.
Heddiw, byddaf yn nodi’r prif weithgareddau y bwriadaf fuddsoddi ynddynt o’r Gronfa ac yn disgrifio sut y byddaf yn mynd ati i sicrhau newid gwirioneddol ym mioamrywiaeth a chymunedau Cymru gyfan. Prif ddiben y Gronfa fydd buddsoddi mewn saith Ardal Gweithredu Byd Natur, llefydd yn ôl y syniadau a gyflwynwyd bod cyfoeth o gamau gweithredu arloesol ac ar raddfa’r dirwedd gyfan yn barod i’w cyflawni.
Ar ôl darllen yr adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur, dylai fod pob gwawrio ar bob un ohonom – o lywodraethau i grwpiau cadwraeth, elusennau, rheolwyr tir, unigolion a byd diwydiant – nad oedd ein dull gweithredu ni yn ddigonol i atal y dirywiad mewn bioamrywiaeth. Ac roedd yn gwbl amlwg na fyddai’r dull gweithredu hwn yn debygol o wneud unrhyw wahaniaeth yn y dyfodol chwaith.
Mae Datblygu Cynaliadwy’n allweddol i feddylfryd y Llywodraeth hon ac i’r ffordd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol. Ar yr un pryd, rwyf am i ni fod yn uchelgeisiol a phenderfynol yn ein gweledigaeth ar gyfer y dyfodol. Nid atal y dirywiad yn unig yw’r nod \- mae angen newid mawr, pellgyrhaeddol, sy’n cydnabod y ddibyniaeth ar ffactorau cymdeithasol ac economaidd. Os ydym i sicrhau cadernid hirdymor ein hamaethyddiaeth, cymunedau’r ucheldir, ein heconomi ehangach a’r amgylchedd naturiol, bydd rhaid inni geisio gwella ein hasedau naturiol ac mae hynny’n cynnwys cynyddu ein bioamrywiaeth.
Mae’n amlwg o adroddiad Sefyllfa Byd Natur bod ein dulliau traddodiadol ni wedi methu. Dyna pam, dros y flwyddyn ddiwethaf, ein bod wedi cydweithio â sefydliadau ar draws Cymru i ddatblygu ein ffordd o ddefnyddio’r Gronfa. Mewn digwyddiadau ledled Cymru, rydym wedi bod yn trafod gyda phobl sy’n weithgar yn lleol \- Cyrff Anllywodraethol, rheolwyr tir, ffermwyr, rheolwyr coetiroedd, BBaCh ac Awdurdodau Lleol \- i weld sut y gallwn ehangu ein camau gweithredu er mwyn mynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol am y dirywiad. Cyflwynwyd dros 460 o syniadau gan sefydliadau drwy’r broses hon ac roedd y rhanddeiliaid yn croesawu’r dull cydweithredol hwn.
Dyma’r Ardaloedd Gweithredu Byd Natur:
* Bannau Brycheiniog
* Mynyddoedd Cambria
* Dyffryn Conwy
* Arfordir Sir Benfro
* Cymoedd y De
* Y Berwyn a’r Migneint
* Pen Llŷn
O fewn yr ardaloedd hyn, a chan ddefnyddio’r syniadau a ddaeth i law, byddaf yn ariannu gweithgarwch ymarferol ar lawr gwlad \- gwaith sy’n dangos arloesedd, cydweithredu ac arferion da. Y blaenoriaethau buddsoddi fydd y canlynol:
Gweithredu i wella dalgylchoedd afonydd
Gweithredu yn nalgylchoedd ein hafonydd, fel y wnaethpwyd yn Afon Wysg, Afon Gwy ac Afon Hafren Uchaf, i blannu rhagor o wrychoedd a choetiroedd a rheoli da byw a maethynnau yn well er mwyn gwella ansawdd y dŵr a’r fioamrywiaeth, diogelu gwerth y tir a lleihau’r perygl o lifogydd.
Gweithredu ar ecosystemau morol
O wella’r ffordd y rheolir ein pysgodfeydd a’n ecosystemau morol a lleihau ymlediad rhywogaethau estron goresgynnol, gwella biodiogelwch a gweithio gyda phartneriaid fel y gwnaethom ym Mhen Llŷn, byddwn yn gwella bioamrywiaeth y môr ac yn cynnal busnesau lleol;
Gweithredu er lles yr amgylchedd lleol
O wella llecynnau gwyrdd naturiol a harneisio eu potensial ar gyfer bioamrywiaeth, fel y gwnaethpwyd yng Nghymoedd De Cymru, bydd ansawdd yr amgylchedd lleol yn gwella a bioamrywiaeth a chysylltedd yn gwella hefyd;
Gweithredu i wireddu potensial ein hucheldiroedd
O weithredu i wireddu potensial ein hucheldiroedd, fel y gwnaethpwyd ym Mhumlumon, y Berwyn a’r Migneint drwy gau ffosydd a rheoli ffermydd yn well, bydd dulliau storio dŵr a bioamrywiaeth yn gwella a ffermydd yn gallu arallgyfeirio mwy;
Gweithredu i annog arloesi
O weithredu i ennyn mwy o ddiddordeb mewn talu am wasanaethau ecosystem, er enghraifft drwy’r gwaith arloesol gyda rheolwyr tir ar ein hucheldiroedd, cynyddir y potensial i greu ffynonellau incwm eraill a rhagor o arallgyfeirio.
Dros yr wythnosau nesaf bydd fy adran i’n cydweithio gyda’r partneriaid sydd wedi cyflwyno syniadau i ddiffinio cynigion pendant ar gyfer prosiectau i’w cyllido yn ystod y flwyddyn ariannol hon. Byddwn yn agored i ystyried nifer gyfyngedig o gynigion oddi allan i’r Ardaloedd Gweithredu Byd Natur hefyd, os ydynt yn brosiectau arwyddocaol o arloesol a chydweithredol sy’n gallu gyflawni ein blaenoriaethau.
Yn ogystal â’r Ardaloedd Gweithredu Byd Natur, rwy’n benderfynol bod angen i Lywodraeth Cymru a’r sector cyhoeddus ehangach ddangos arweiniad drwy weithredu i gynyddu bioamrywiaeth. O ymylon ein ffyrdd i’n coetiroedd mwyaf, mae angen inni ddangos sut rydym yn buddsoddi’n uniongyrchol fel bod ein bioamrywiaeth a’n cymunedau yn elwa ar draws ystâd y sector cyhoeddus. O ganlyniad rwy’n bwriadu buddsoddi cyfran o’r Gronfa Natur i wella’r modd y rheolir y tir sydd â gwerth ecolegol isel ar hyn o bryd, er enghraifft drwy sefydlu coetiroedd collddail a phlannu mwy o blanhigion gwyllt brodorol.
Yn ei gyfanrwydd, bydd y dull gweithredu hwn yn sicrhau bod y Gronfa Natur yn cael ei defnyddio i geisio atal y dirywiad yn ein bioamrywiaeth ac i alluogi pobl i weithio ar y cyd i wella’r amgylchedd a sicrhau manteision economaidd a chymdeithasol i bawb. Drwy hyn bydd y Gronfa’n fodel ar gyfer y math o gydweithredu integredig y dymunwn ei weld yn ein Rhaglen Datblygu Gwledig ac yn helpu i gyflawni ein huchelgeisiau ehangach ar gyfer rheoli adnoddau naturiol.
|
Translate the text from English to Welsh. |
A Welsh Government publication issued today highlights the increasing development of a distinct Welsh justice policy based on prevention through tackling social challenges and rehabilitation, instead of a more punitive approach.
In ‘Delivering Justice for Wales’, Counsel General, Mick Antoniw, and Minister for Social Justice, Jane Hutt, say that the underlying reasons for pressures on the justice system can only be addressed by taking a preventative, holistic and inclusive approach.
The publication says that devolution of justice to Wales is ‘inevitable’, and sets out the core components of what a devolved justice system would look like. This would include:
* Focusing on prevention and rehabilitation.
* Reducing the size of the prison population by pursuing alternatives to custody where appropriate, such as programmes to address mental health issues and support with treatment for drug and alcohol misuse.
* Taking a rights based approach to law and policy making, and expanding the incorporation of internationally agreed rights’ standards into domestic law.
‘Delivering Justice for Wales’ also states that in overseeing a devolved justice system the Welsh Government would give the highest priority to tackling the national crisis of male violence against women, and the shockingly low levels of convictions for rape and sexual assault. Later today the Welsh Government will publish an updated Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence strategy, outlining what will be done to make Wales the safest place to be a woman.
These components would build substantially on what the Welsh Government is already delivering within the current constitutional constraints. This includes additional crime prevention funding of £22 million annually for 600 PCSOs; the provision of 13 remote court hearing facilities across Wales for victims of violence against women, domestic abuse and sexual violence; a Family Drug and Alcohol Court pilot in Cardiff and the Vale of Glamorgan; and investment in the Single Advice Fund which has helped 81,000 people gain additional income of £32 million and manage debts totalling over £10 million.
Launching the publication today, the Counsel General said:
> “The only sustainable way to improve the justice system is to reduce the number of people coming into contact with it. Our publication sets out the innovative ways in which we are using the powers we have, including early intervention to steer people away from the criminal justice system, and how we would seek to build on that through a fully devolved justice system.
>
>
> “But the policies of successive UK governments since 2010 have firmly pulled the shutters down on access to justice, threatened fundamental rights and protections, and removed vital funding.
>
>
> “We will continue to use the levers at our disposal to pursue a whole\-system, person\-centred approach to justice. And we look forward to justice and policing being devolved to Wales so we can accelerate this work and deliver a better system for citizens, communities and businesses across Wales.”
The Minister for Social Justice added:
> “The clear conclusion of the independent Commission on Justice in 2019 was that policies and decisions about justice need to be determined and delivered in Wales, so they align with the distinct and developing social, health, social justice and education policy and services in Wales and the growing body of Welsh law. By joining up the justice system with the rest of Welsh policy making we can find truly effective ways of reducing crime.
>
>
> “Our work on the Youth Justice and Women’s Justice Blueprints, and violence against women, domestic abuse and sexual violence, show what can be done collaboratively to develop services tailored to the Welsh context.
>
>
> “As it stands, however, the savings we make for courts or prisons – for example through PCSOs being successful in crime prevention – are not being reinvested in Wales. Devolution must happen so all this money can be reinvested in meeting Wales’s urgent needs.”
On future plans for justice reform within the current constraints, ministers confirmed that they will:
* consider the case for a Welsh Human Rights Bill
* work in partnership with the new Law Council of Wales to improve the sustainability of the legal sector in Wales, especially in rural and post\-industrial areas.
* create a unified, single structurally independent system of tribunals in Wales (as recommended by the December 2021 Law Commission report on devolved tribunals)
|
Mae’r ddogfen a gyhoeddir heddiw gan Lywodraeth Cymru yn amlygu sut y mae polisi cyfiawnder penodol i Gymru wedi bod yn datblygu fwyfwy, yn seiliedig ar atal drwy fynd i’r afael â heriau cymdeithasol ac adsefydlu, yn hytrach na dull sy’n canolbwyntio’n fwy ar gosbi.
Yn ‘Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’, dywed y Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, a’r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, Jane Hutt, mai dim ond drwy ddull ataliol, cyfannol a chynhwysol y gellir mynd i’r afael â’r rhesymau sylfaenol dros y pwysau sydd ar y system gyfiawnder.
Mae’r ddogfen yn dweud bod datganoli cyfiawnder i Gymru yn ‘anochel’, ac yn nodi elfennau craidd posibl system gyfiawnder ddatganoledig. Byddai hyn yn cynnwys:
* Canolbwyntio ar atal ac adsefydlu
* Lleihau maint poblogaeth carchardai drwy fynd ar drywydd dewisiadau eraill yn lle carchar pan fo’n briodol, megis rhaglenni i fynd i’r afael â materion iechyd meddwl a chymorth gyda thriniaeth ar gyfer camddefnyddio cyffuriau ac alcohol
* Mabwysiadu dull sy’n seiliedig ar hawliau wrth ddeddfu a llunio polisïau, a mynd ati i ehangu’r gwaith o ymgorffori safonau hawliau y cytunwyd arnynt yn rhyngwladol mewn cyfraith ddomestig
Mae ‘Sicrhau Cyfiawnder i Gymru’ hefyd yn nodi, wrth oruchwylio system gyfiawnder ddatganoledig, y byddai Llywodraeth Cymru yn rhoi’r flaenoriaeth uchaf i fynd i’r afael â’r argyfwng cenedlaethol o drais gan ddynion yn erbyn menywod, a’r lefelau syfrdanol o isel o euogfarnau am dreisio ac ymosodiadau rhywiol. Yn ddiweddarach heddiw, bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi strategaeth Trais yn erbyn Menywod, Cam\-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi’i diweddaru, gan amlinellu beth fydd yn cael ei wneud i sicrhau mai Cymru yw’r lle mwyaf diogel i fod yn fenyw.
Byddai’r elfennau hyn yn adeiladu’n sylweddol ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru eisoes yn ei gyflawni o fewn y cyfyngiadau cyfansoddiadol presennol. Mae hyn yn cynnwys buddsoddi £22 miliwn ychwanegol y flwyddyn i ariannu 600 o Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu i atal troseddu; darparu 13 o gyfleusterau gwrandawiadau llys o bell ledled Cymru ar gyfer dioddefwyr trais yn erbyn menywod, cam\-drin domestig a thrais rhywiol; cynllun peilot Llys Teulu Cyffuriau ac Alcohol yng Nghaerdydd a Bro Morgannwg; a buddsoddi yn y Gronfa Gynghori Sengl sydd wedi helpu 81,000 o bobl i ennill incwm ychwanegol o £32 miliwn ac i reoli dyledion gwerth dros £10 miliwn.
Wrth gyhoeddi’r ddogfen heddiw, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol:
> “Yr unig ffordd gynaliadwy o wella’r system gyfiawnder yw lleihau nifer y bobl sy’n dod i gysylltiad â hi. Mae ein dogfen yn nodi’r ffyrdd arloesol yr ydym yn defnyddio’r pwerau sydd gennym, gan gynnwys ymyrraeth gynnar i arwain pobl oddi wrth y system cyfiawnder troseddol, a sut y byddem yn ceisio adeiladu ar hynny drwy system gyfiawnder gwbl ddatganoledig.
>
>
> “Ond mae polisïau llywodraethau olynol y Deyrnas Unedig ers 2010 wedi cyfyngu’n sylweddol ar fynediad at gyfiawnder, bygwth hawliau ac amddiffyniadau sylfaenol, a thorri’r cyllid hanfodol.
>
>
> “Byddwn yn parhau i ddefnyddio’r ysgogiadau sydd ar gael inni i ddilyn dull system gyfan sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn ar gyfer cyfiawnder. A byddwn yn edrych ymlaen at ddatganoli cyfiawnder a phlismona i Gymru fel y gallwn gyflymu’r gwaith hwn a darparu system well i ddinasyddion, cymunedau a busnesau ledled Cymru.”
Ychwanegodd y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol:
> “Casgliad clir y Comisiwn Cyfiawnder annibynnol yn 2019 oedd bod angen i bolisïau a phenderfyniadau ynghylch cyfiawnder gael eu gwneud, a’u cyflawni, yng Nghymru, fel y gallant gael eu cysoni â’r polisïau a’r gwasanaethau cymdeithasol, iechyd, cyfiawnder cymdeithasol ac addysg sy’n unigryw ac yn datblygu yng Nghymru, a chorff cynyddol cyfraith Cymru. Drwy gysylltu’r system gyfiawnder â gweddill y broses o lunio polisïau yng Nghymru gallwn wir ganfod ffyrdd effeithiol o leihau troseddu.
>
>
> “Mae ein gwaith ar y Glasbrintiau ar gyfer Cyfiawnder Ieuenctid a Throseddau Menywod, a thrais yn erbyn menywod, cam\-drin domestig a thrais rhywiol, yn dangos yr hyn y gellir ei wneud ar y cyd i ddatblygu gwasanaethau wedi’u teilwra yng nghyd\-destun Cymru.
>
>
> “Fel y mae, fodd bynnag, nid yw’r arbedion yr ydym yn eu gwneud ar gyfer llysoedd neu garchardai \- er enghraifft pan fo Swyddogion Cymorth Cymunedol yr Heddlu yn llwyddo i atal troseddu \- yn cael eu hailfuddsoddi yng Nghymru. Rhaid i ddatganoli ddigwydd er mwyn gallu ailfuddsoddi’r holl arian hwn i ddiwallu anghenion brys Cymru.”
O ran cynlluniau i’r dyfodol ar gyfer diwygio cyfiawnder o fewn y cyfyngiadau presennol, cadarnhaodd y Gweinidogion y byddent yn:
* Ystyried yr achos dros Fil Hawliau Dynol i Gymru
* Gweithio mewn partneriaeth â Chyngor Cyfraith Cymru i wella cynaliadwyedd y sector cyfreithiol yng Nghymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac ôl\-ddiwydiannol
* Creu un system unedig sy’n annibynnol yn strwythurol ar gyfer tribiwnlysoedd yng Nghymru (fel yr argymhellwyd gan adroddiad Comisiwn y Gyfraith ym mis Rhagfyr 2021 ar dribiwnlysoedd datganoledig)
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae Parc Busnes Bro Tathan sydd o fewn Maes Awyr Caerdydd ac yn rhan o Ardal Fenter Sain Tathan yn ddatblygiad pwysig ac unigryw mewn ardal hardd, gan rannu'r safle â llain awyr masnachol ac wrth ymyl maes awyr rhyngwladol a phrifddinas y wlad.
Oherwydd treftadaeth ddaearyddol a hanesyddol gref yr ardal, cafodd Parc Busnes Bro Tathan ei enwi ar ôl y sant a sefydlodd eglwys yn yr ardal yn y 14eg ganrif. Mae'n adlewyrchu hefyd ddiwylliant dwyieithog cyfoethog Cymru.
Mae ei straplein Busnes • Awyr • Arloesedd/Business • Air • Innovation yn cyfleu ei botensial anferth a daw'r enw Bro Tathan yn gyfystyr yn y dyfodol â llwyddiant yn y sectorau hynny, gan groesawu busnesau newydd a chwmnïau sy'n enwog trwy'r byd fel ei gilydd.
Mae Parc Busnes Bro Tathan wrth lain awyr ym Mro Morgannwg, gafodd ei drosglwyddo o ddwylo'r llu awyr i reolaeth sifil ar 1 Ebrill 2019, gan wneud y ffordd yn glir i gyfleoedd busnes newydd a chyffrous.
Mae'r cwmni ceir eiconig Aston Martin eisoes â'i ffatri yno fel tenant angori ac mae yna ddigonedd o le ar y safle i ddenu rhagor o fusnesau a sefydliadau. Mae perchennog y tir, Llywodraeth Cymru, a'r asiant eiddo rhyngwladol, Savills, yn uchelgeisiol iawn ar gyfer y safle o ystyried ei faint a pha mor agos y mae i lain awyr a fydd yn ddelfrydol i gwmnïau fydd angen cludiant awyr i farchnadoedd yn y DU a thu hwnt.
Maes Awyr Caerdydd fydd yn rhedeg y llain awyr, ac mae cwmnïau fel eCube Solutions, un arall o denantiaid y safle, eisoes yn cymryd mantais ar yr arwyneb newydd sydd wedi'i osod ar y rhedffordd 1,800m o hyd.
Bydd y lansiad proffil uchel fydd yn cael ei gynnal ar 30 Medi yn hyrwyddo gweledigaeth a photensial Bro Tathan. Caiff datblygwyr tir ac eiddo ac amrywiaeth o sectorau ac arweinwyr busnes eu gwahodd i ddysgu mwy am y safle.
Dywedodd Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth, Ken Skates:
> "Mae gan yr ardal 50 mlynedd o hanes yn y byd awyrofod ac amddiffyn, a sgiliau sydd eisoes wedi denu Aston Martin i Gymru, gan drechu cystadleuaeth 20 o leoliadau eraill ledled y byd.
>
>
> "Bydd y cwmni ceir moethus ac eiconig yn cynhyrchu'r Aston Martin DBX newydd a cherbydau eraill yma, gan greu 750 o swyddi newydd a 1,000 arall yn y gadwyn gyflenwi.
>
>
> "Mae Bro Tathan yn mynd i greu cyffro ledled y byd, ac rwy'n disgwyl ymlaen at groesawu llawer o gwmnïau eraill uchel eu bri wrth i'r safle dyfu.
Dywedodd Cyfarwyddwr Savills, Scott Caldwell:
> "Mae'r cyfuniad unigryw o barc busnes a llain awyr masnachol mewn lleoliad ardderchog wrth faes awyr rhyngwladol a phrifddinas yn atyniad mawr i unrhyw fusnes. Byddwn yn ei hyrwyddo drwy'r byd ac rwy'n gwybod y bydd yn ennyn diddordeb brwd mewnfuddsoddwyr o bedwar ban.
Bydd y lansiad ar 30 Medi yn dadorchuddio brand newydd Bro Tathan gyda chyhoeddiadau cyffrous ynghylch datblygu'r safle yn y dyfodol.
### Dogfennau
* #### Bro Tathan: cynllun safle,
math o ffeil: pdf, maint ffeil: 866 KB
866 KB
|
Bro Tathan Business Park within the Cardiff Airport and the St Athan Enterprise Zone is a significant and unique development located in an attractive setting, with a ready\-to\-use commercial airfield on site, close proximity to an international airport and to the Welsh capital, Cardiff.
With its strong geographical and historical heritage Bro Tathan was named after the Celtic saint who founded a church in the area in the 14 Century. It also embraces Wales’ rich bilingual culture.
Its strapline Business • Air • Innovation/Busnes • Awyr • Arloesedd signifies the vast range of its potential, and Bro Tathan will in the future become synonymous with success in those sectors, hosting ambitious companies from start\-ups to globally recognised brand names.
Bro Tathan is situated in the Vale of Glamorgan, on the airfield which was transferred from military to civilian control on 1 April 2019, clearing the way for new and exciting business opportunities.
Global car icon Aston Martin is already operating there as anchor tenant with significant available space across Bro Tathan to attract further businesses and organisations. The property and land owners Welsh Government and the global property agent Savills have big ambitions for the site given its scale and the proximity to an airfield for companies needing easy access to air freight, UK and international markets.
The airfield will be operated by neighbouring Cardiff Airport, and the resurfaced 1,800m runways have already been put to excellent use by companies such as eCube Solutions, who are already occupying the site.
A high\-profile launch event on 30 September will promote the vision and huge potential of Bro Tathan. Land and property developers and a range of business sectors and leaders will be invited to learn more about the site.
Economy and Transport Minister Ken Skates said:
> “This area has over 50 years’ aerospace and defence heritage, and has access to skills that have already attracted the prestigious Aston Martin to Wales, beating off competition from 20 other worldwide locations.
>
>
> “The iconic luxury car manufacturer will produce the new Aston Martin DBX amongst other vehicles here, with the creation of 750 new jobs and a further 1,000 in the supply chain.
>
>
> “The Bro Tathan development is going to create a buzz across the world, and I look forward to welcoming many more prestigious companies as it grows.
Savills Director Scott Caldwell said:
> “This unique combination of business park facilities and commercial airfield in a terrific location close to an international airport and a capital city makes for a compelling business proposition. We’ll be pushing this globally and we know there will be significant interest from inward investors worldwide.
The event on 30 September will unveil the new Bro Tathan brand with exciting announcements regarding the future development of the site.
### Documents
* #### Bro Tathan: site plan,
file type: pdf, file size: 866 KB
866 KB
|
Translate the text from Welsh to English. |
Dyma’r tro cyntaf i gontractau sector preifat gael eu hysbysebu ar GwerthwchiGymru a bydd yn gyfrwng rhwydd i fusnesau bach a chanolig Cymru fanteisio ar y contractau dirifedi y mae Aston Martin yn eu cynnig mewn cysylltiad â’r gwaith ar eu safle newydd yn Sain Tathan.
Mae Aston Martin eisoes wedi hysbysebu gwerth miliynau o bunnau o gontractau ar GwerthwchiGymru ar gyfer y gwaith ar hen safle’r MoD. Un o’r rhai sydd wedi elwa fwyaf hyd yn hyn yw’r cwmni adeiladu TRJ o Rydaman sydd wedi ennill contract ar gyfer cynnal gwaith cychwynnol yn Sain Tathan ar gyfer Aston Martin.
Gwnaeth y Prif Weinidog ei gyhoeddiad cyn y seremoni swyddogol i nodi cychwyn Rhan II y gwaith ar safle Sain Tathan.
Dywedodd:
> “Mae’n bleser ‘di fi gyhoeddi ein bod bellach wedi agor ein sianel gaffael GwerthwchiGymru i Aston Marton. Dyma newyddion cyffrous i fusnesau Cymru gan taw dyma’r tro cyntaf iddi gael ei defnyddio i ddyfarnu contractau sector preifat.
>
>
>
>
> “Mae hyn yn hwyluso pethau i fusnesau bach a chanolig o Gymru sydd am geisio am y contractau dirifedi y mae Aston Martin yn eu hysbysebu ar gyfer gwaith ar eu safle yn Sain Tathan, ac o gyfuno hynny, er enghraifft, â chyfleuster datblygu cyflenwyr Busnes Cymru, gallai olygu o bosib dros £60m o gontractau i Gymru.
>
>
>
>
> “Mae Aston Martin eisoes yn cael dylanwad da ar yr economi, gyda thros 40 o weithwyr o Gymru’n cael eu cyflogi ar safle Gaydon ac rydyn ni’n gwybod y daw llawer mwy o gyfleoedd gwaith eto cyn 2020\.
>
>
>
>
> “Mae penderfyniad y cwmni i symud i Sain Tathan yn gaffaeliad mawr i Gymru ac rwy’n disgwyl ymlaen at barhau i feithrin ein partneriaeth â’r cwmni er mwyn dod â’r manteision mwyaf posibl i’n heconomi ac i wella’n henw da drwy’r byd.”
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
> “Hoffwn longyfarch y cwmni adeiladu TRJ o Rydaman am fod y cwmni cyntaf o Gymru i ennill contract sy’n gysylltiedig â chynlluniau Aston Martin yng Nghymru.
>
>
>
>
> “Mae llwyddiant y cwmni’n dangos y bydd y manteision economaidd sy’n deillio o benderfyniad Aston Martin i ddod i Gymru yn cael eu teimlo ledled y wlad, ac nid ym Mro Morgannwg yn unig."
Dywedodd y Dr. Andy Palmer, Llywydd a Phennaeth Aston Martin:
> “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael cymryd cam pwysig arall ar ein taith i Sain Tathan, wrth inni ddatblygu hen safle’r MOD yn gyfleuster cynhyrchu newydd.
>
>
>
>
> “Yn sgil cael defnyddio sianel gaffael GwerthwchiGymru, rydym wedi gallu hyrwyddo’r contractau amrywiol i gynulleidfa ehangach yng Nghymru a thu hwnt.”
Meddai Owain Jones, Cyfarwyddwr TRJ:
> “Ro’n i’n falch iawn taw ni oedd y cwmni cyntaf o Gymru i gael ei ddewis gan Aston Martin i weithio ar eu safle yn Sain Tathan ac rŷn ni’n disgwyl mlaen yn ofnadw at ddechrau ar y gwaith
>
>
>
>
> “Mae’n newyddion da iawn bod Aston Martin am weithio gyda chwmnïau bach a chanolig o Gymru ac rwy’n siŵr taw ni yw’r cyntaf o lawer o fusnesau o Gymru fydd yn elwa ar eu penderfyniad i ddod i Sain Tathan.”
Cyhoeddodd Aston Martin llynedd eu bod wedi dewis Sain Tathan o blith 20 o safleoedd posib trwy’r byd ar gyfer eu hail ffatri gynhyrchu, hynny fel rhan o £200M o fuddsoddiad mewn cynnyrch a chyfleusterau newydd.
Disgwylir iddyn nhw gyflogi 750 o weithwyr yn Sain Tathan cyn 2020 gan gynnal gyda llawer o swyddi eraill yn y gadwyn gyflenwi. Amcangyfrifir y daw gwerth hanner biliwn o bunnau o fuddiannau economaidd i Gymru yn ei sgil.
|
It is the first time that private sector contracts have been advertised on Sell2Wales and will ensure Welsh SMEs have easy access to the raft of contracts being awarded by Aston Martin for work linked to the preparation and commencement of production at its new St Athan site.
Aston Martin contracts worth several million pounds have already been advertised on Sell2Wales for Phase I of work on the former MoD site, with Ammanford\-based construction firm, TRJ being one of the main beneficiaries after securing the contract for phase 1 of Aston Martin’s initial work at St Athan.
The First Minister made the announcement ahead of the official ceremony to mark the commencement of Phase II of works on the St Athan site. He said:
> “I am delighted to announce that we have now opened up our Sell2Wales procurement channel to Aston Martin. This is exciting news for Welsh business as it is the first time the channel has been used to award private sector contracts.
>
> “The move means that Welsh SMEs will now have easy access to the range of contracts being advertised by Aston Martin for work on the St Athan site and when combined with for example active supplier development from Business Wales could potentially mean over £60m of contracts coming to Wales.
>
> “Aston Martin is already having a positive influence on the economy of Wales with more than 40 Welsh workers already employed at the Gaydon site and we know that many more job opportunities will follow before 2020\.
>
> “The company’s move to St Athan is a major success story for Wales and I look forward to continuing to build on our working partnership with the company in order to bring maximum benefits to our economy and enhance our worldwide reputation.”
Dr. Andy Palmer, President and CEO of Aston Martin said:
> “We are delighted to have made another significant step forward on our St Athan journey, as we develop the former MOD site to our new manufacturing facility. Being able to use the Sell2Wales procurement channel has enabled us to promote the various contracts we have to a wider audience within Wales and beyond.”
Economy Secretary, Ken Skates said:
> “I would like to congratulate Ammanford\-based construction firm, TRJ on being the first Welsh company to win a contract linked to Aston Martin’s expansion into Wales.
>
> “The company’s success demonstrates that the economic benefits of Aston Martin’s decision to come to Wales will be felt right across Wales and not just in the Vale of Glamorgan."
Owain Jones, Director of TRJ said:
> “We are delighted to be the first Welsh company to be appointed by Aston Martin for work on their St Athan site.
>
> “It is really great news that Aston Martin is actively looking to engage with Welsh SMEs and I am sure we will be the first of many Welsh companies to benefit from their move to St Athan.”
Last year Aston Martin announced it had selected St Athan from 20 potential global locations it had been considering for its second manufacturing facility as part of a £200M investment in new products and facilities.
The St Athan site is expected to employ 750 workers before 2020, with many more jobs in the local supply chain. It is estimated the move will bring economic benefits worth half a billion pounds to Wales.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The starting threshold for land transaction tax will increase from £150,000 to £180,000 for the residential main rates when the tax is devolved in April 2018\.
The increase in the starting threshold will help everyone in Wales who is seeking to buy a home in this part of the market, including first\-time buyers.
The new threshold is £55,000 higher than the starting threshold for stamp duty land tax in England and will reduce the tax burden for around 24,000 homebuyers – including first\-time buyers – in Wales.
Professor Drakeford’s decision to change the starting threshold for land transaction tax follows the UK Government’s introduction of a stamp duty land tax relief for first\-time buyers in the Autumn Budget last month.
The Finance Secretary said he has given careful consideration to the right approach for both the Welsh property market and for Welsh homebuyers. His focus is to help everyone looking to buy a home in this part of the market by increasing the progressivity of the tax overall.
The new land transaction tax rates for residential property mean:
* no one will pay more tax under the changes announced today compared to the land transaction tax rates which were announced at the time of the draft Budget in October
* the average homebuyer in Wales will pay more than £500 less tax than under stamp duty land tax
* around 90% of homebuyers in Wales will either pay the same or less tax than under stamp duty land tax
* around 80% of first\-time buyers in Wales will pay no tax – the same proportion which will benefit from the Chancellor’s first\-time buyer stamp duty land tax relief in England.
Professor Drakeford said:
> “Under the changes to the main rates of land transaction tax, which I am announcing today, around 65% of these house sales will not be liable for tax.
>
> “The changes will benefit more buyers than the Chancellor’s targeted relief for first\-time buyers – more than half of buyers will benefit from a reduction in tax relative to stamp duty land tax.
>
> “This is consistent with my aim to make tax fairer and contribute to a more equal Wales. These improved rates will help meet Wales’ needs and priorities and will make a real difference to people’s lives.”
|
Bydd trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir yn codi o £150,000 i £180,000 ar gyfer y prif gyfraddau preswyl pan gaiff y dreth ei datganoli ym mis Ebrill 2018\.
Bydd y cynnydd yn y trothwy cychwynnol yn helpu pawb yng Nghymru sydd am brynu tŷ yn y rhan hon o’r farchnad, gan gynnwys y rhai sy’n prynu am y tro cyntaf.
Mae’r trothwy newydd £55,000 yn uwch na’r trothwy cychwynnol ar gyfer treth dir y dreth stamp yn Lloegr, a bydd yn lleihau’r baich treth ar tua 24,000 o brynwyr tai – gan gynnwys prynwyr tro cyntaf – yng Nghymru.
Daw pendefyniad yr Athro Drakeford i newid trothwy cychwynnol y dreth trafodiadau tir ar ôl i Lywodraeth y DU gyflwyno rhyddhad ar y dreth stamp i brynwyr tro cyntaf yng Nghyllideb yr Hydref fis diwethaf.
Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid ei fod wedi ystyried yn ofalus cyn penderfynu ar y dull gweithredu gorau ar gyfer marchnad dai Cymru, yn ogystal ag ar gyfer pobl yng Nghymru sy’n prynu tai.
Dyma y mae cyfraddau newydd y dreth trafodiadau tir ar gyfer eiddo preswyl yn ei olygu:
* ni fydd neb yn talu mwy o dreth yn sgil y newidiadau a gyhoeddwyd heddiw nag y byddent o dan y cyfraddau a gyhoeddwyd adeg y Gyllideb ddrafft ym mis Hydref;
* ar gyfartaledd, bydd person sy’n prynu tŷ yng Nghymru yn talu dros £500 yn llai o dreth nag y byddai o dan y dreth stamp;
* bydd oddeutu 90% o brynwyr tai yng Nghymru naill ai’n talu’r un faint o dreth, neu lai o dreth, nag y byddent o dan y dreth stamp;
* ni fydd oddeutu 80% o brynwyr tro cyntaf yng Nghymru yn talu treth o gwbl – yr un gyfran ag a fydd yn elwa ar ryddhad y Canghellor ar y dreth stamp i brynwyr tro cyntaf yn Lloegr.
Dywedodd yr Athro Drakeford:
> “Bydd y newidiadau rwy’n eu cyhoeddi heddiw i brif gyfraddau’r dreth trafodiadau tir yn golygu na fydd gofyn talu treth ar oddeutu 65% o’r gwerthiannau tai hyn.
>
> “Bydd mwy o brynwyr yn elwa ar y newidiadau hyn nag a fydd yn elwa ar y rhyddhad y mae’r Canghellor yn ei dargedu at brynwyr tro cyntaf – bydd mwy na hanner y rhai sy’n prynu tai yn manteisio ar ostyngiad treth o ran y dreth trafodiadau tir.
>
> “Mae hyn yn gyson â’m nod o sicrhau bod trethi’n decach ac yn cyfrannu at greu Cymru fwy cyfartal. Bydd y cyfraddau gwell hyn yn helpu i ddiwallu anghenion a blaenoriaethau Cymru ac yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i fywydau pobl.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Children (Abolition of Defence of Reasonable Punishment) (Wales) Bill will reach another milestone on Tuesday when it will be debated in the Senedd for the first time since its introduction in March.
The purpose of the Bill is to help protect children’s rights; it builds on the Welsh Government’s commitment to children’s rights under the United Nations Convention on the Rights of the Child.
If passed by the National Assembly for Wales and it becomes law, parents and other adults acting in a parental capacity will no longer be able to physically punish children.
The debate is the final part of the stage one process, which has heard evidence from a variety of organisations and representatives including the police, local authorities, children’s services and health services who have all backed the bill.
It has also received support from a number of children’s charities including the NSPCC, Barnardo’s Cymru, Save the Children, Action for Children and Children in Wales. The Children’s Commissioner for Wales has also welcomed its introduction.
The Deputy Minister for Health and Social Services, said:
> There is no reason to ever hit a child, something that has resonated with others when the Bill has been discussed.
>
>
> As part of the discussion people have justified smacking because they were hit as a child. But what may have been deemed as appropriate in the past is no longer acceptable. Our children deserve to be treated with the same respect and dignity as adults. As a government we want to give children in Wales the same level of protection from physical punishment as adults.
>
>
> Now is the time for Wales to join more than 55 other nations across the world who have taken steps to end the physical punishment of children. Now is the time to bring clarity for parents, professionals and children that physically punishing a child is not acceptable in Wales.
|
Bydd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) yn cyrraedd carreg filltir arall ddydd Mawrth, pan fydd yn destun dadl yn y Senedd am y tro cyntaf ers ei gyflwyno ym mis Mawrth.
Diben y Bil yw cynorthwyo i amddiffyn hawliau plant; mae'n adeiladu ar ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hawliau plant o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Os caiff y Bil ei basio gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru gan ddod yn gyfraith, ni fydd rhieni nac oedolion eraill sy'n gweithredu fel rhieni yn cael cosbi plant yn gorfforol mwyach.
Y ddadl hon yw rhan olaf proses cyfnod un. Yn rhan o'r broses honno, clywyd tystiolaeth gan amrywiaeth o sefydliadau a chynrychiolwyr, gan gynnwys yr heddlu, awdurdodau lleol, gwasanaethau plant a gwasanaethau iechyd ac maent i gyd wedi cefnogi'r Bil.
Mae hefyd wedi cael ei gefnogi gan nifer o elusennau plant gan gynnwys y Gymdeithas Genedlaethol er Atal Creulondeb i Blant, Barnardo's Cymru, Achub y Plant, Plant yng Nghymru a Gweithredu dros Blant. Mae Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi croesawu'r Bil.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol:
> Nid oes unrhyw reswm fyth i daro plentyn, ac mae eraill wedi adleisio hynny wrth drafod y Bil.
>
>
> Yn ystod y drafodaeth, mae pobl wedi cyfiawnhau smacio oherwydd iddyn nhw gael eu taro pan oedden nhw'n blentyn. Ond nid yw'r hyn oedd yn cael ei ystyried yn dderbyniol yn y gorffennol yn dderbyniol mwyach. Mae ein plant yn haeddu cael eu trin â'r un parch ac urddas ag oedolion. Rydym ni fel llywodraeth am wneud yn siŵr bod plant yng Nghymru yn cael eu hamddiffyn rhag cosb gorfforol llawn gymaint ag oedolion.
>
>
> Dyma'r adeg i Gymru ymuno â bron i 55 o wledydd eraill ledled y byd sydd wedi cymryd camau i roi terfyn ar gosb gorfforol i blant. Dyma'r adeg i'w gwneud yn gwbl eglur i rieni, i weithwyr proffesiynol ac i blant nad yw cosbi plant yn gorfforol yn dderbyniol yng Nghymru.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae Cyllideb Atodol Gyntaf Llywodraeth Cymru ar gyfer 2020\-21 yn cael ei chyhoeddi heddiw.
Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Derfynol 2020\-21 a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru ym mis Mawrth 2020\.
Mae’n manylu ynghylch nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn ac yn adlewyrchu’r newidiadau i linellau sylfaen a nodwyd ym Mhrif Amcangyfrifon y DU 2020\-21\.
Bydd y Gyllideb Atodol yn destun craffu gan y Pwyllgor Cyllid ar 04 mis Mehefin a bydd yn cael ei thrafod yn y Cyfarfod Llawn ddydd Mercher 24 mis Mehefin.
|
The Welsh Government’s First Supplementary Budget for 2020\-21 is published today.
The main purpose of this Supplementary Budget is to reflect the budgetary changes since the Final Budget 2020\-21 published by the Welsh Government in March 2020\.
It sets out a number of allocations from our reserves and reflects changes to baselines included within the UK Main Estimates 2020\-21\.
The Supplementary Budget will be scrutinised by the Finance Committee on 4 June and will be debated in Plenary on Wednesday 24 June.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Ar 17 Ebrill 2018, gwnaeth y Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Diweddariad a chamau nesaf y Grant Datblygu Disgyblion (dolen allanol).
|
On 17 April 2018, Kirsty Williams, Cabinet Secretary for Education made an oral statement in the Siambr on: Update and next steps for the Pupil Development Grant (external link).
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5\) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i adolygu’r mesurau diogelu rhag y coronafeirws bob tair wythnos. Ers yr adolygiad ffurfiol diwethaf o’r Rheoliadau Coronafeirws, mae’r Cabinet wedi dechrau adolygu’n wythnosol mewn ymateb i’r sefyllfa sy’n newid yn gyflym o ran iechyd y cyhoedd ac ymddangosiad yr amrywiolyn Omicron.
Rydym heddiw wedi cynnal yr adolygiad diweddaraf.
Rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae ton fawr o heintiau o’n blaenau yn sgil yr amrywiolyn Omicron hynod heintus. Gallai’r math hwn o’r coronafeirws heintio niferoedd mawr o bobl yng Nghymru, gan amharu ar fywyd pobl a busnesau. Gallai achosi cynnydd yn nifer y bobl sydd angen gofal ysbyty yn yr wythnosau nesaf.
Bydd Cymru felly yn symud i lefel rhybudd dau am 6am Ddydd San Steffan. Mae’r mesurau newydd hyn ar gyfer digwyddiadau a safleoedd a reoleiddir wedi’u llunio i ymateb i’r amrywiolyn newydd hwn. Byddant yn cynnwys mesurau diogelu newydd ar gyfer busnesau lletygarwch, gan gynnwys tafarnau, sinemâu a theatrau pan fyddant yn ailagor wedi cyfnod yr ŵyl, ac ar gyfer cynulliadau cyhoeddus, gan gynnwys digwyddiadau.
Bydd gemau chwaraeon yn cael eu cynnal y tu ôl i ddrysau caeedig o Ddydd San Steffan ymlaen a bydd rhaid i glybiau nos gau eu drysau.
O 6am Ddydd San Steffan ymlaen, bydd mesurau lefel rhybudd dau yn cael eu cyflwyno, a fydd yn golygu’r canlynol:
* Gofyniad cyffredinol i gadw pellter cymdeithasol o 2m ym mhob lleoliad sydd ar agor i’r cyhoedd ac ym mhob gweithle, pan fo hynny’n rhesymol.
* Bydd y rheol chwech o bobl mewn grym pan fydd pobl yn ymgynnull mewn lleoliadau a reoleiddir, megis lletygarwch, sinemâu a theatrau.
* Bydd angen i bob lleoliad trwyddedig gymryd mesurau ychwanegol i ddiogelu cwsmeriaid a staff, gan gynnwys gwasanaeth gweini wrth y bwrdd a chasglu manylion cyswllt.
* Bydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mewn lleoliadau lletygarwch bob amser heblaw pan fo pobl yn eistedd.
* Ni fydd digwyddiadau mawr yn cael eu caniatáu o dan do nac yn yr awyr agored. Y nifer mwyaf o bobl a fydd yn cael ymgynnull mewn digwyddiad o dan do fydd 30 a 50 yn yr awyr agored.
Bydd yna eithriad ar gyfer chwaraeon tîm, gan ganiatáu hyd at 50 o wylwyr yn yr awyr agored, ar ben y rhai sy’n cymryd rhan. Bydd yna eithriad hefyd ar gyfer digwyddiadau sy’n cynnwys plant a phobl ifanc o dan 18 oed.
Yr wythnos ddiwethaf, gwnaethom gadarnhau mesurau lefel rhybudd dau ar gyfer busnesau manwerthu a gweithleoedd. Bydd y rhain yn dod i rym am 6am Ddydd San Steffan.
Bydd canllawiau cryfach yn cael eu cyhoeddi er mwyn helpu pobl i ddiogelu ei gilydd gartref a phan fyddant yn cwrdd â phobl eraill.
I aros yn ddiogel, rydym yn cynghori pawb i ddilyn y mesurau hyn:
* Cyfyngu ar nifer y bobl sy’n dod i’ch cartref. Os bydd pobl yn ymweld, dylech sicrhau eu bod yn gwneud prawf llif unffordd cyn iddynt ddod draw.
* Mae cwrdd yn yr awyr agored yn well nag o dan do. Os byddwch yn cwrdd o dan do, gadewch ddigon o awyr iach i mewn i ystafelloedd.
* Gadael bwlch rhwng unrhyw ymweliadau.
* Cofio pwysigrwydd cadw pellter cymdeithasol a golchi’ch dwylo.
Bydd trosedd ar wahân am gynulliadau mawr o dros 30 o bobl dan do neu 50 o bobl yn yr awyr agored.
Bydd cymorth ariannol o £120m ar gael i glybiau nos, digwyddiadau, busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth y bydd y newid hwn i lefel rhybudd dau yn effeithio arnynt. Bydd Gweinidog yr Economi yn gwneud cyhoeddiad arall am y cyllid hwn yfory.
Mae Cronfa Diogelu Chwaraeon Gwylwyr gwerth £3m wedi’i chyhoeddi i gefnogi lleoliadau, a bydd Cronfa Sefydlogrwydd Diwylliannol y Gaeaf gwerth £5\.25m ar gael i gefnogi sefydliadau celfyddydol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a sinemâu annibynnol Cymru drwy fisoedd y gaeaf.
Rhoddais ddatganiad llafar i’r Senedd a gafodd ei galw’n ôl brynhawn heddiw.
|
The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5\) (Wales) Regulations 2020 require a review of the coronavirus protections is undertaken every three weeks. Since the last formal review of the coronavirus Regulations, Cabinet has moved to a weekly review in response to the rapidly evolving public health situation and the emergence of the omicron variant.
Today we have completed the latest review.
We are facing a very serious situation in Wales. A large wave of infections caused by the very infectious omicron variant is approaching. This form of coronavirus could infect large numbers of people in Wales, disrupting daily lives and businesses, and could cause an increase in the number of people who need hospital care in the coming weeks.
Wales will therefore move to alert level two from 6am on Boxing Day. These new measures for regulated premises and events have been designed to respond to this new variant. They will include new protections for hospitality businesses, including licensed premises, cinemas and theatres when they re\-open after the festive period, and for public gatherings, including events.
Sporting fixtures will be played behind closed doors from Boxing Day and nightclubs must close.
From 6am Boxing Day, alert level two measures will be introduced, meaning:
* A general requirement of 2m social distancing in all premises open to the public and workplaces, where reasonable.
* The rule of six will apply to gatherings in regulated premises, such as hospitality, cinemas and theatres.
* All licensed premises will need to take additional measures to protect customers and staff, including table service and collecting contact details.
* Face coverings will be required in hospitality settings at all times apart from when seated.
* Large events will not be allowed indoors or outdoors. The maximum number of people who can gather at an indoor event will be 30 and 50 outdoors.
There will be an exception for team sports, up to 50 spectators will be able to gather outdoors, in addition to those taking part. There is also an exception for events involving children and young people under 18\.
Last week, we confirmed alert level two measures for retail and workplaces. These will come into force at 6aam on Boxing Day.
Strengthened and updated guidance will be issued to help keep people safe in their own homes and when meeting others.
To stay safe we strongly advise everyone follows these measures:
* Limit the number of people visiting your home. If people are visiting, make sure they take a lateral flow test before they come.
* Meeting outdoors is better than indoors. If you’re meeting indoors make sure rooms are well ventilated.
* Space out any visits.
* Remember the importance of social distancing and washing your hands.
There will continue to be a separate offence for large gatherings of more than 30 people indoors or 50 people outdoors.
Financial support of £120m will be available for nightclubs, events, retail, hospitality, leisure and tourism businesses affected by the move to alert level two. The Economy Minister will make a further announcement about this funding tomorrow.
A £3m Spectator Sports Fund has been announced to support venues and a £5\.25m Cultural Winter Stability Fund will be available to support Wales’ arts organisations, museums, libraries and independent cinemas through the winter months.
I gave an oral statement to the recalled Senedd this afternoon.
|
Translate the text from English to Welsh. |
I am pleased to report on the recent meeting of the Climate Change Commission for Wales, held on 12 March in Cardiff and chaired by Peter Davies, Climate Change Commissioner for Wales.
I attended the Commission meeting and had the opportunity to update the Commission on a number of issues, including our proposals for the single body to manage Wales’ natural resources. The new single body will bring together the functions of the Countryside Council for Wales, the Environment Agency Wales, and the Forestry Commission Wales. The new body will have a key role in protecting our natural resources and working with businesses in Wales. It will also provide environmental advice and input to our planning processes and to the development of new legislation, helping us to design new regulatory arrangements which simplify regulatory processes and encourage investment, whilst maintaining the environment of Wales.
In addition, I highlighted the First Minister’s statement on energy for Wales on 15 March, setting out the Welsh Government’s aims for energy generation in Wales, the steps we are taking to make this happen, and to ensure that the energy industry and stakeholders are clear on the future for energy in Wales. The statement has been developed taking into account our commitments to a low carbon, sustainable economy.
I confirmed that the Climate Change Risk Assessment (CCRA) was published in January and that I had given a statement to Plenary on this matter. The CCRA includes a specific report for Wales that presents a wide\-reaching assessment of the potential risks arising from climate change for the next eighty years.
We will be using the evidence in the CCRA to increase Wales’ resilience to the changing climate through sectoral adaptation planning. Alongside our CCRA partners, we are working on an economic analysis that will estimate a “price\-tag” of adaptation overall and outline options we have to adapt to the most pressing risks.
On a similar note, I also confirmed that the Welsh Government published guidance documents to support local authorities in the preparation of their Local Flood Risk Management Strategies. Two workshops were also held to assist local authorities in understanding the requirements of their local strategies.
Significant work has also been undertaken in relation to improving reservoir safety in Wales. We are currently consulting on our proposals to commence the provision contained in Schedule 4 of the Flood and Water Management Act, which includes a number of provisions amending the Reservoirs Act 1975\.
A joint industry\-government working group has published a report identifying solutions to enhance public flood safety at caravan and camping sites. We are now considering the recommendations made in this report.
I informed members that we have produced a DVD called “Better Choices – Better Places” to encourage Local Service Boards (LSBs) to take action on carbon reduction and resilience measures. The DVD features Ceredigion, Gwynedd and Powys LSBs, who are all working towards reducing their carbon footprints, and Flintshire LSB, which is taking the lead on improving adaptation and resilience among its partner bodies. The Carbon Trust was our partner in developing the emission reduction case study films.
I also updated the Commission on developments in the Arbed programme. We have now been able to commit an additional £6\.6m as an extension to Arbed Phase 1\. This funding includes the additional £3m which was highlighted last December that came from the £38\.9m consequential funding resulting from the council tax freeze in England.
In addition to this £6\.6m, we have enabled the reinvestment of approximately £3m released from the repayment of funding provided for solar PV projects. We expect this additional funding into Arbed Phase 1 to increase the total number of households improved from 6,000 to 7,500\.
Also, I confirmed that its first ten months, Nest has agreed energy improvement packages for over 3,500 households which were due to be complete by the end of March 2012\. These packages are expected to deliver benefits averaging £470 per annum per household based on current modelling. In addition, to date more than 11,500 customers have received a range of advice including energy efficiency, debt and money management.
Members were pleased to hear that the Sustainable Development Charter network is going from strength to strength with 123 organisations currently signed up. Most recent signatories include BT and Tata Steel, demonstrating a commitment from Welsh businesses to adopting more sustainable practices.
Finally, I provided an update on our climate change and sustainable behaviours research.
We have developed research into an audience segmentation model which has six audience groups who are distinctive in terms of their values and attitudes toward climate change and sustainable development. We tested this model at an event for our Sustainable Futures Practitioners’ Network in December. We are now finalising and testing the model using information gathered during focus groups for the narratives project and scoping work for a future climate change PR campaign.
The Commission discussed the development of the Commission’s position paper on Climate Change and Transport. The paper is the first position statement produced by the Commission, and provides an assessment and recommendations on transport and climate change to inform the work of the Commission and Welsh Government, and advise stakeholders and the public on key issues. In developing the paper, the Commission’s Transport Sub\-Group commissioned research and engaged with stakeholders in order to build on the best available evidence and reflect the expertise and experiences of those involved in decision\-making and delivery in transport and climate change in Wales.
Members also discussed the group’s ongoing forward work programme, and participated in a Wales Green List event.
The Wales Green List brings together individuals from across all sectors and from all walks of life who are taking the lead in tackling the sustainability challenges faced in cities and communities, creating change.
The event was an award ceremony to select projects from across Wales who provide support to individuals and groups to find new and innovative methods to engage people to deliver real sustainable changes in their lives, and inspire others to do the same.
The Commission also received presentations on the Climate Change Risk Assessment (CCRA) and a presentation on the planning review by John Davies who Chair’s the Independent Advisory group tasked with making recommendations to the Welsh Government.
The next meeting of the Climate Change Commission will be held in June 2012\.
|
Rwy’n falch o allu adrodd ar gyfarfod diweddar Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, a gynhaliwyd ar 12 Mawrth yng Nghaerdydd, a’i gadeirio gan Peter Davies, Comisiynydd Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd.
Roeddwn i’n bresennol yng nghyfarfod y Comisiwn a chefais y cyfle i roi’r diweddaraf i’r Comisiwn ar nifer o faterion, gan gynnwys ein cynigion i’r corff unigol reoli adnoddau naturiol Cymru. Bydd y corff unigol newydd yn dwyn ynghyd swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru, a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru. Bydd gan y corff newydd swyddogaeth allweddol yn amddiffyn ein hadnoddau naturiol a chydweithio gyda busnesau yng Nghymru. Bydd hefyd yn darparu cyngor amgylcheddol ac yn cyfrannu at ein prosesau cynllunio ac at ddatblygu deddfwriaeth newydd. Bydd yn ein helpu ni i gynllunio trefniadau rheoleiddio newydd sy’n symleiddio prosesau rheoleiddio ac yn hybu buddsoddiad, gan gynnal amgylchedd Cymru ar yr un pryd.
Yn ychwanegol, pwysleisiais ddatganiad y Prif Weinidog ar ynni i Gymru ar 15 Mawrth, gan ddatgan amcanion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynhyrchu ynni yng Nghymru, y camau yr ydym yn eu cymryd i alluogi hyn i ddigwydd, a sicrhau bod y diwydiant ynni a rhanddeiliaid yn eglur ar ddyfodol ynni yng Nghymru. Mae’r datganiad wedi cael ei ddatblygu gan gymryd i ystyriaeth ein hymrwymiad i economi cynaliadwy, carbon isel.
Rhoddais gadarnhad bod yr Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd (CCRA) wedi cael ei gyhoeddi fis Ionawr ac fy mod wedi rhoi datganiad i’r Cyfarfod Llawn ar y mater hwn. Mae’r CCRA yn cynnwys adroddiad penodol ar gyfer Cymru sy’n cyflwyno asesiad pellgyrhaeddol o’r risgiau posibl sy’n codi o newid hinsawdd ar gyfer yr wyth deg mlynedd nesaf
Byddwn yn defnyddio’r dystiolaeth yn y CCRA i gynyddu gwydnwch Cymru yn wyneb y newid yn yr hinsawdd drwy gynllunio ymaddasu sectorol. Ar y cyd gyda’n partneriaid CCRA, rydym yn gweithio ar ddadansoddiad economaidd fydd yn amcangyfrif “prisio tag” o addasu’n gyffredinol ac yn amlinellu dewisiadau sy’n rhaid i ni eu haddasu ar gyfer y risgiau mwyaf dybryd.
Ar nodyn tebyg rhoddais gadarnhad hefyd bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi dogfennau canllaw i gefnogi awdurdodau lleol wrth iddynt baratoi eu Strategaeth Leol ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd. Cynhaliwyd dau weithdy hefyd i gynorthwyo awdurdodau lleol i ddeall anghenion eu strategaethau lleol.
Mae gwaith arwyddocaol hefyd wedi digwydd mewn perthynas â diogelwch cronfeydd dŵr yng Nghymru. Rydym ar hyn o bryd yn ymgynghori ar ein cynigion i ddechrau’r ddarpariaeth yn atodlen 4 o’r Ddeddf Rheoli Llifogydd a Dŵr, sy’n cynnwys nifer o ddarpariaethau sy’n diwygio Deddf Cronfeydd Dŵr 1975\.
Mae cyd\-weithgor llywodraeth a diwydiant wedi cyhoeddi adroddiad yn nodi atebion i wella diogelwch llifogydd cyhoeddus mewn meysydd carafannau a gwersylla. Rydym nawr yn ystyried yr argymhellion a wnaed yn yr adroddiad hwn.
Fe roddais wybod i aelodau ein bod wedi cynhyrchu DVD o’r enw “Better Choices\-Better Places” er mwyn annog Byrddau Gwasanaethau Lleol (BGLl) i weithredu ar leihau carbon a mesurau gwydnwch. Mae’r DVD yn cynnwys BGLlau Ceredigion, Gwynedd a Phowys, sydd oll yn gweithio tuag at leihau eu holion traed carbon, a BGLl Sir y Fflint sy’n arwain ar wella ymaddasu a gwytnwch ymysg y cyrff sy’n bartneriaid. Yr Ymddiriedolaeth Garbon oedd ein partner wrth ddatblygu'r ffilmiau astudiaeth achos ar leihau allyriadau.
Hefyd rhoddais y diweddaraf i’r Comisiwn ar ddatblygiadau yn y rhaglen Arbed. Rydym nawr wedi gallu ymrwymo £6\.6 miliwn ychwanegol fel estyniad i Gyfnod 1 Arbed. Mae’r cyllid hwn yn cynnwys y £3 miliwn ychwanegol danlinellwyd fis Rhagfyr y llynedd a ddaeth o’r £38\.9 miliwn o gyllid o ganlyniad i rewi treth y cyngor yn Llundain.
Yn ychwanegol at y £6\.6 miliwn hwn, rydym wedi ail\-fuddsoddi tua £3 miliwn a ryddhawyd o’r ad\-daliad o’r cyllid a ddarparwyd ar gyfer prosiectau paneli solar ffotofoltaig. Rydym yn disgwyl i’r cyllid ychwanegol hwn ar gyfer Cyfnod 1 Arbed gynyddu’r cyfanswm o dai sydd wedi eu gwella o 6,000 i 7,500\.
Hefyd, rhoddais gadarnhad bod Nest yn ei ddeg mis cyntaf wedi cytuno ar becynnau gwella ynni ar gyfer dros 3,500 o dai oedd i’w cwblhau erbyn diwedd Mawrth 2012\. Mae disgwyl i’r pecynnau hyn sicrhau buddion o £470 y flwyddyn ar gyfartaledd i bob tŷ yn seiliedig ar waith modelu cyfredol. Yn ychwanegol, mae dros 11,500 o gwsmeriaid wedi derbyn ystod o gyngor gan gynnwys defnyddio ynni'n effeithlon, rheolaeth ariannol a dyled.
Roedd yr aelodau’n falch o glywed bod rhwydwaith Siarter Datblygu Cynaliadwy Cymru yn mynd o nerth i nerth, gyda 123 o sefydliadau wedi ymuno ar hyn o bryd. Ymysg y cwmnïau diweddaraf i ymuno mae BT a Tata Steel, gan ddangos ymrwymiad gan fusnesau Cymreig i fabwysiadu arferion mwy cynaliadwy.
Yn olaf, rhoddais y diweddaraf ar ein hymchwil ar newid hinsawdd ac ymddygiadau cynaliadwy.
Rydym wedi datblygu ymchwil i fodel segmentu cynulleidfaoedd sydd â chwe grŵp cynulleidfa sy’n wahanol o ran eu gwerthoedd ac agweddau tuag at newid hinsawdd ac ymddygiadau cynaliadwy. Profwyd y model hwn mewn digwyddiad Rhwydwaith Ymarferwyr Dyfodol Cynaliadwy fis Rhagfyr. Rydym nawr yn cwblhau ac yn profi’r model gan ddefnyddio gwybodaeth a gasglwyd yn ystod grwpiau ffocws ar gyfer y prosiect naratif ac yn paratoi gwaith ar gyfer ymgyrch cysylltiadau cyhoeddus yn y dyfodol ar newid hinsawdd.
Trafododd y Comisiwn ddatblygiad ei bapur sefyllfa Newid Hinsawdd a Thrafnidiaeth. Y papur hwn yw’r datganiad sefyllfa cyntaf a gynhyrchwyd gan y Comisiwn, gan roi asesiad ac argymhellion ar drafnidiaeth a newid hinsawdd i lywio gwaith y Comisiwn a Llywodraeth Cymru, a chynghori rhanddeiliaid a’r cyhoedd ar faterion allweddol. Wrth ddatblygu’r papur, comisiynodd Is\-Grŵp Trafnidiaeth y Comisiwn ymchwil, gan ymgysylltu â rhanddeiliaid er mwyn adeiladu ar y dystiolaeth orau sydd ar gael ac adlewyrchu’r arbenigedd a phrofiadau’r rheini sydd ynghlwm a gwneud penderfyniadau a darparu ym maes newid hinsawdd a thrafnidiaeth yng Nghymru.
Trafododd yr aelodau hefyd waith y grŵp i’r dyfodol, a chymryd rhan mewn digwyddiad Rhestr Werdd Cymru.
Mae Rhestr Werdd Cymru yn dwyn unigolion ynghyd o bob sector a phob math o gefndir sy’n arwain mewn ymdrin â heriau cynaliadwyedd y mae dinasoedd a chymunedau yn eu hwynebu, gan greu newid.
Seremoni wobrwyo oedd y digwyddiad i ddewis prosiectau ledled Cymru sy’n cefnogi unigolion a grwpiau i ddarganfod dulliau newydd ac arloesol o ymgysylltu â phobl i sicrhau newid cynaliadwy go iawn yn eu bywydau, ac ysbrydoli eraill i wneud yr un peth.
Cafodd y Comisiwn hefyd gyflwyniadau ar yr Asesiad o Risgiau Newid Hinsawdd a chyflwyniad ar yr adolygiad cynllunio gan John Davies sy’n cadeirio’r grŵp Cynghorol Annibynnol sydd â’r dasg o wneud argymhellion i Lywodraeth Cymru.
Cynhelir cyfarfod nesaf y Comisiwn ar y Newid yn yr Hinsawdd fis Mehefin 2012\.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Gwnaeth Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters, a'r Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn ymweld â hen siop y Co\-op yn Nhonypandy i weld sut bydd Cymdeithas Tai Rhondda, sydd wedi derbyn £100,000, yn adfer yr eiddo gwag, gyda'r nod o roi bywyd newydd i'r stryd fawr.
Mae'r hwb ariannol hwn yn dod drwy gyfraniad Tasglu'r Cymoedd at Gronfa Her yr Economi Sylfaenon Llywodraeth Cymru, sydd â'r nod o wella’r ffordd mae’r economi leol yn gweithio er mwyn mynd i’r afael â’r teimlad a gafodd ei adlewyrchu yn refferendwm yr UE fod rhannau o Gymru yn cael eu gadael ar ôl.
Mae’r cyhoeddiad heddiw yn canolbwyntio ar 27 prosiect yn y Cymoedd o 50 prosiect arbrofol sy’n cael eu cyhoeddi dros yr wythnosau nesaf, er mwyn treialu ffyrdd gwahanol o ddatblygu economïau lleol yng Nghymru. Cymru oedd y wlad gyntaf i fabwysiadu dull yr ‘Economi Sylfaenol’, sy’n cael ei ddefnyddio mewn dinasoedd a rhanbarthau o amgylch y byd.
Mae'r Economi Sylfaenol yn cynnwys y nwyddau a'r gwasanaethau pob dydd y mae ar bawb eu hangen ac sy’n cael eu defnyddio ganddyn nhw.
Dywedodd Luke Takuechi, Prif Swyddog Gweithredol Cymdeithas Tai Rhondda:
> "Rydyn ni wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi ein cynnig fel rhan o'r gronfa her i gefnogi'r Economi Sylfaenol.
>
>
> "Rydyn ni'n bwriadu adfer yr ardal hanfodol hon yng nghanol tref Tonypandy, ac mae egwyddorion yr Economi Sylfaenol yn rhan o'n meddwl strategol ar gyfer y prosiect. Rydyn ni wedi buddsoddi yn y safle hwn gan ein bod yn teimlo bod gwir botensial i ddefnyddio sgiliau lleol a syniadau creadigol yn well, i ddatblygu safle bywiog sy'n cael ei ddefnyddio at nifer o ddibenion a fydd yn gwella iechyd, llesiant a ffyniant pobl lleol.
Mae Tasglu'r Cymoedd wedi bod yn gweithio'n agos gyda busnesau, cyflogwyr ac unigolion yn yr ardal i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r mathau o gymorth a chyfleoedd sydd ar gael iddyn nhw i wella eu sefydlogrwydd ariannol.
Oherwydd nifer ac ansawdd y ceisiadau, mae cyllideb Cronfa Her yr Economi Sylfaenol ar gyfer Cymru gyfan wedi treblu bron, i tua £4\.5 miliwn. Mae hyn yn cynnwys cymorth oddi wrth Dasglu'r Cymoedd. Roedd busnesau a mentrau'n gallu gwneud cais am hyd at £100,000 i gyllido prosiectau.
Dyfarnwyd £100,000 i Lunax Digital i ddatblygu ap sy'n galluogi defnyddwyr i gyfnewid amser a sgiliau. Er enghraifft, gallai'r ap gael ei ddefnyddio i ddod â dau fusnes at ei gilydd y mae angen eu gwahanol sgiliau ar ei gilydd, ac yn hytrach na chodi ffi am y gwaith, maen nhw'n cytuno i gyfnewid amser ei gilydd i gyflawni eu nod.
Dywedodd Francesca Irving, Rheolwr Gyfarwyddwr Lunx Digital:
> "Dechreuodd ein hap fel prosiect hamdden, damcaniaethol fel rhan o Hacathon Caerffili ynghynt eleni. Roedden ni wrth ein boddau pan gafodd ein tîm ei ddewis fel enillydd y dydd, ond yn goron ar y cyfan, gofynnwyd inni gyflwyno ein prosiect i Lywodraeth Cymru i'w ystyried ar gyfer cyllid.
>
>
> "Mae cael y golau gwyrdd ar gyfer y prosiect hwn yn fendith wirioneddol, gan fod cefnogi busnesau newydd yn rhywbeth rydyn ni'n frwd iawn drosto fe ac yn cynnwys yn ein busnesau ein hunain ar hyn o bryd, fel y mae cefnogi cymunedau difreintiedig a galluogi pawb i gyflawni eu llawn botensial – waeth beth fo’u hamgylchiadau.
Yn dilyn ei ymweliad â Thonypandy, dywedodd Dirprwy Weinidog yr Economi, Lee Waters:
> "Mae buddsoddi dros £2\.2 miliwn yn y prosiectau hyn yn dangos yn glir ein hymroddiad i gymunedau yn y Cymoedd, ac mae'n ychwanegiad perffaith at ein huchelgais sy'n cael eu hamlinellu yn Ein Cymoedd, Ein Dyfodol.
>
>
> "Mae cefnogi'r Economi Sylfaenol, sydd hefyd yn cynnwys llawer o fusnesau bach a chanolig, yn flaenoriaeth allweddol ar gyfer Llywodraeth Cymru, ac mae'n cyfrif am un swydd o bob pedair yng Nghymoedd y De. Rydyn ni'n gwybod pa mor bwysig yw'r rhan hon o'r economi i fywoliaeth a dyfodol ein trefi a'n pentrefi, a dyma pam rydyn ni wedi treblu’r arian sydd ar gael drwy'r gronfa ar gyfer prosiectau ledled Cymru.
>
>
> "Mae gan y 27 cynllun sydd wedi derbyn cyllid yn y Cymoedd y potensial i wneud gwahaniaeth go iawn i fywydau pobl. O syniadau ar gyfer y diwydiant adeiladu i ddechrau defnyddio adeiladau gwag unwaith eto, fel y gwelwyd yn Nhonypandy; o gefnogi mentrau gofal cymdeithasol i ddatblygu llwybrau cerdded i ddenu pobl i'r ardal – heb os mae Cronfa Her yr Economi Sylfaenol yn gwneud newidiadau er gwell.
>
>
> "Mae'r Gronfa hefyd yn rhan o'n hymateb i fynd i'r afael a'r heriau a'r ansicrwydd sy’n cael eu peri gan Brexit. Rydyn ni yn y llywodraeth wedi ymrwymo i'n pobl, i gefnogi pobl ac adeiladu'r twf economaidd mae pob un ohonon ni am ei weld.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol, Hannah Blythyn:
> "Mae wedi bod yn wych dod i Donypandy heddiw i weld sut mae buddsoddiadau gan Lywodraeth Cymru yn helpu i ddechrau defnyddio adeiladau gwag unwaith eto, er les y bobl leol.
>
>
> "Rydyn ni'n cydnabod yr heriau mae pobl a busnesau lleol yn Nhonypandy yn eu hwynebu, wrth iddyn nhw geisio creu canol tref sy'n lle deniadol a bywiog ar gyfer y bobl sy'n byw a gweithio yno, yn ogystal ag ymwelwyr.
>
>
> "Bydd y cyllid hwn yn helpu i greu cyfleoedd swyddi a chynyddu nifer yr ymwelwyr. Bydd hyn yn gwneud cyfraniad pwysig at yr economi leol.
>
>
> "Rydyn ni wedi ymrwymo i adfer ardaloedd i hyrwyddo twf economaidd sydd o fudd i'n trefi a'n cymunedau. Dw i'n edrych ymlaen at weld y buddsoddiad hwn yn helpu'r ardal i tyfu a ffynnu.
Rhagor o wybodaeth am y prosiectau sy’n derbyn cymorth ariannol ar wefan Busnes Cymru.
|
Deputy Minister for Economy, Lee Waters and Deputy Minister for Housing and Local Government, Hannah Blythyn visited the former Co\-op store in Tonypandy to see how the Rhondda Housing Association scheme which has been awarded £100,000 will see the vacant premises renovated with the aim of revitalising the high street.
The funding boost comes from the Valleys Taskforce’s contribution to the Welsh Government’s Foundational Economy Challenge Fund, which aims to improve the way the local economy works in order to address the feeling reflected in the EU referendum that parts of Wales are being left behind.
Today’s announcement focuses on 27 Valleys based projects out of 50 experimental projects across Wales that are being announced in the coming weeks to trial different approaches to local economic development. Wales is the first country in the world to embrace the ‘Foundational Economy’ approach, which is being taken up by cities and regions across the world.
The Foundational Economy is made up of the everyday goods and services we all use and need.
Luke Takeuchi, CEO of Rhondda Housing Association said:
> “We are delighted that Welsh Government has supported our bid as part of the challenge fund to support the Foundational Economy.
>
>
> “We plan to regenerate this key area of Tonypandy’s town centre and the foundational economy principles form a key part of our strategic thinking for the project. We have invested in this site as we feel there is genuine potential to better utilise local skills and creative ideas to develop a vibrant mixed\-use site that will improve the health, wellbeing and prosperity of local people.
The Valleys Taskforce has been working closely with businesses, employers and individuals in the region to make them aware of the types of support and opportunities available to them to boost their financial sustainability.
As a result of the demand and quality of applications, the Foundational Economy Challenge Fund’s budget for the whole of Wales has been almost trebled to around £4\.5 million, this includes support from the Valleys Taskforce. Businesses and enterprises were able to apply for up to £100,000 of project funding.
Lunax Digital in Caerphilly has also been awarded £100,000 to develop an App which allows users to swap time and skills. The app could be used, for example, to bring together two businesses who need each other’s skills and rather than set a price for the work they agree to swap each other’s time to achieve their aims.
Francesca Irving, Lunax Digital Managing Director said:
> “Our app, Swapp, started off as a hypothetical and recreational project undertaken as part of the Caerphilly Hackathon earlier this year. We were delighted to have been chosen as the winning team for the day, but even more thrilled to have been asked to officially submit our project to Welsh Government to be considered for funding.
>
>
> “Getting the go ahead on this project is a real blessing, as supporting start\-up businesses is something we are hugely passionate about and currently weave into our own businesses, as is supporting deprived communities and enabling everyone to fulfil their potential, no matter the circumstance.
Following the visit to Tonypandy, Deputy Minister for Economy Lee Waters said:
> “Investing more than £2\.2 million in these projects is a clear demonstration of our commitment to Valleys communities and perfectly complements our ambitions as set out in Our Valleys, Our Future.
>
>
> “Supporting the Foundational Economy, which is also made up of many small and medium sized businesses, is a key priority for Welsh Government and accounts for one in every four jobs in the South Wales Valleys. We know how important this part of the economy is to livelihoods and the future of our towns and villages, which is why we have trebled the amount available through the fund for projects across Wales.
>
>
> “The 27 schemes being awarded funding in the Valleys have the potential to make a real difference to people’s lives. From projects aimed at bringing vacant buildings back into use as seen in Tonypandy, to supporting social care initiatives to developing walking routes to attract people to the region – the Foundational Economy Challenge Fund is all about delivering positive changes.
>
>
> “The Fund is also part of our response the dissatisfaction some communities expressed through the referendum and the wider challenges and uncertainty of Brexit. As a government, we are committed to supporting our communities, to safeguarding and creating jobs and to building economic growth that we all want to see.
Deputy Minister for Housing and Local Government, Hannah Blythyn said:
> “It’s been great to visit Tonypandy today to see how Welsh Government investment is helping bring a disused premises back into use for the benefit of local people.
>
>
> “We recognise the challenges facing local people and local businesses in Tonypandy as they work to create a town centre which is an attractive, vibrant place for people to live, work and visit.
>
>
> “This funding will help to create job opportunities and increase footfall which will be important in contributing to the local economy.
>
>
> “We are committed to revitalising areas to promote economic growth that benefits our towns and communities. I look forward to seeing this investment support the area to grow and flourish.
More information about the projects awarded funding can be found on the Business Wales website.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Ar 1 Ebrill 2014, gwnaeth y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Adolygiad Llywodraeth Cymru o ganlyniadau TGAU Saesneg mis Ionawr 2014\.
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol).
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org/ Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
|
On 1 April 2014, the Minister for Education and Skills made an oral Statement in the Siambr on: The Welsh Government's Review into English GCSE January 2014 Results
The Statement can be access on the National Assembly for Wales website (external link).
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org/ Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Dros y 30 mlynedd diwethaf, amcangyfrifir bod dros 370 miliwn o gerbydau wedi teithio dros yr uniadau hyn ers i’r draphont gael eu hagor ym 1991\. Mae'r uniadau ehangu mawr ym mhen dwyreiniol y bont wedi treulio erbyn hyn a rhaid rhoi gosod rhai newydd yn eu lle.
Gan ddechrau ar 15 Ionawr, disgwylir i'r uniadau ddechrau ar eu taith i’r safle adeiladu yn ystod y pythefnos nesaf, a disgwylir i'r gwaith ddechrau ddydd Gwener 29 Ionawr. Er mwyn cadw defnyddwyr y ffordd a'r gweithlu'n ddiogel, mae’n bosibl y bydd y Draphont uwchben cyffordd 19 yn cael ei chau am hyd at bythefnos, gyda thraffig yn cael ei ddargyfeirio drwy'r gylchfan a'r ffyrdd ymuno ac ymadael islaw.
Gwelwyd oedi anochel cyn i’r uniadau gyrraedd porthladd Felixstowe ac ers hynny, cafwyd problemau yn y porthladd ei hun.
Mae’n bosibl y bydd y prosiect yn dal i gyd\-fynd â'r cyfnod presennol o gyfyngiadau symud, lle mae rheoliadau Llywodraeth Cymru yn golygu bod gofyn i bobl aros gartref gymaint â phosibl, gan wneud teithiau hanfodol yn unig.
Mae'r prosiect hwn yn rhan o raglen fwy i adnewyddu uniadau ehangu ar bontydd. Ar ôl i’r cynllun hwn gael ei gwblhau, bydd gwaith yn dechrau ar Draphont Afon Ceiriog ar yr A5 ddydd Llun, 22 Chwefror ac ar Draphont Goat Inn ar yr A55 (Cyffordd 15 i 16\) ddydd Gwener, 5 Mawrth. Fodd bynnag, os bydd rhagor o oedi, mae’n bosibl y bydd y dyddiadau hynny’n newid hefyd.
Ychwanegodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru:
> "Ar ôl i brosiectau ar ein rhwydwaith ffyrdd gael eu hatal dros y Nadolig a'r Flwyddyn Newydd, mae angen inni bellach fwrw ’mlaen â gwaith pwysig i gadw’r A55 yn ddiogel.
>
>
> "Mae'n rhaid inni wneud y gwaith adnewyddu hanfodol hwn ar Bont Glan Conwy ger cyffordd 19 ar yr A55\. Bwriedir i’r gwaith hwnnw bara hyd at bythefnos. Gan fod oedi'n bosibl, byddwn yn eich annog i gynllunio unrhyw deithiau hanfodol yn ofalus ac i droi at wefan Traffig Cymru i gael yr wybodaeth ddiweddaraf.
>
>
> "Mae'r uniadau ehangu mawr ym mhen dwyreiniol y bont wedi cyrraedd diwedd eu hoes a rhaid eu newid ar frys er mwyn cadw modurwyr yn ddiogel ac osgoi'r angen i gau’r bont yn ddisymwth.
>
>
> "Dydyn ni ddim yn cau cerbytffyrdd yn llwyr oni bai bod hynny'n gwbl angenrheidiol, ond y peth pwysicaf yw cadw’r cyhoedd yn ddiogel, ac mae angen gwneud y gwaith hwn er mwyn sicrhau hynny.
>
>
> "Bydd y tîm penodedig yn gweithio mewn sifftiau 24 awr y dydd, a hoffen ni annog modurwyr i fod yn amyneddgar. Gofynnir ichi aros ar yr A55 ac i osgoi ffyrdd lleol er mwyn sicrhau bod traffig yn llifo mor rhwydd â phosibl.
Mae rhagor o wybodaeth am y gwaith arfaethedig i’w gweld ar wefan Traffig Cymru. Mae cyngor ac awgrymiadau ar sut i wneud yn siŵr bod eich car mewn cyflwr iach i’w gweld o dan adran y modurwyr: Amddiffyn eich hun ag eraill rhag y coronafeirws.
Dilynwch Traffig Cymru ar Twitter: @TraffigCymruG @TrafffigCymruD
|
Over the past 30 years, it is estimated that over 370 million vehicles have passed over these bridge joints since the opening of the viaduct in 1991\. The large expansion joints at the eastern end of the bridge are now worn out and must be replaced.
Due to start 15 January the joints are now to make their way towards the construction site in the next two weeks, with work expected to begin on Friday 29 January. To keep road users and the workforce safe, the viaduct above junction 19 could be closed for up to two weeks with traffic being diverted via the roundabout and slip roads below.
The joints needed for the work were unavoidably delayed before arriving at Felixstowe port and have since been affected by ongoing issues in the port.
The project might still coincide with the current period of lockdown, where Welsh Government regulations require people to stay at home as much as possible, only making essential journeys.
This project is part of a larger expansion joint renewal programme. Following the completion of this scheme, work will begin on the A5 River Ceiriog Viaduct on Monday 22 February and on the A55 Goat Inn Viaduct (junction 15 to 16\) on Friday 5 March. However, should there be any further delays, these dates will be subject to change also.
Minister for Economy, Transport and North Wales Ken Skates added:
> “Following the suspension of projects on our road network over Christmas and New Year, we now need to press ahead with important work to maintain the safety of the A55\.
>
>
> “We have to carry out these essential renewals to the Glan Conwy Bridge near junction 19 on the A55\. They are programmed to last up to two weeks. As delays are possible I would urge you to plan any essential journeys carefully and visit the Traffic Wales website for the latest information.
>
>
> “The large expansion joints at the eastern end of the bridge have reached the end of their operational life and must be replaced urgently to ensure motorists’ safety and to avoid the need for an emergency closures.
>
>
> “We don’t carry out planned full closures of carriageways unless absolutely necessary, but the safety of the travelling public is paramount and this work needs to take place to ensure that.
>
>
> “The dedicated team will be working in shifts 24 hours a day, and we urge motorists to bear with us. Please stay on the A55 and avoid local roads to ensure traffic can flow as freely as possible.
More information can be found on the planned works on the Traffic Wales website. There are also hints and tips on car health checks under the motorists section: How to Stay Safe On the Road
Follow Traffic Wales on Twitter: @TrafficWalesN and @TrafficWalesS.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Animal and Environment Antimicrobial Resistance (AMR) Delivery Group for Wales, which held its first meeting yesterday (13 May), will finalise an Implementation Plan to achieve this over the next five years.
It will aim to prevent and control infectious diseases in animals and ensure antibiotics are used responsibly in Wales.
It will also address the spread of antibiotic resistant bacteria in the environment, to and from animals and people, and the food they eat and the spaces they share.
The new Implementation Plan and Group will deliver Wales’ contribution to the UK Five Year National Action Plan, which was published in January 2019\. It will work closely with medical and public health counterparts in Wales to ensure a fully joined\-up, “One Health” approach to addressing the threat of antibiotic resistance.
The Group’s goals over the next five years are to:
* reduce need for use of antibiotics in animals through prevention of infections.
* minimise the development and spread of antibiotic resistance in and the environment
* optimise the sustainable use of antibiotics in animals.
* ensure adequate surveillance capability to provide the information required to control antibiotic resistance
* collaborate with others to deliver effective antibiotics in the future.
It comes as the rise and spread of Antimicrobial Resistance (AMR) poses a serious threat to the ability to control infections in healthcare settings, in the wider community and in animals.
The impacts of leaving AMR unchecked are wide\-ranging and extremely costly, not only in financial terms but also in terms of global, public and animal health, trade, food security, environmental wellbeing and socioeconomic development.
It is hoped that a co\-ordinated approach between government, animal keepers and veterinarians will control the spread of infectious diseases and of the antibiotics that are used to treat them.
The Animal and Environment Antimicrobial Resistance (AMR) Delivery Group will report both to the Wales Animal Health and Welfare Framework Group (WAHWFG) and to the Wales Healthcare\-associated infection / AMR Steering Group, chaired by the Chief Medical Officer for Wales, with the Welsh Chief Veterinary Officer as a member. When completed, it will submit its implementation Plan to the Minister for Environment, Energy and Rural Affairs, Lesley Griffiths, for consideration and adoption.
Members of the group include representatives from the farming industry, veterinary profession and Public Health Wales.
Minister Lesley Griffiths said:
> “I am pleased to set up this Group aimed at tackling the very concerning issue of Antimicrobial Resistance.
>
>
> “It is imperative we all work together to ensure every effort is made to prevent the spread of animal diseases and the most appropriate form of treatment is always used.
>
>
> “The effects of AMR can be hugely disruptive and costly, not just to animal keepers and veterinarians but the wider community too. This is why we need guidance about how best to tackle the issue head on and I look forward to seeing the group’s recommendations.”
Gareth Thomas, who works in the farming industry, said:
> “I believe that we as a country have reached a point where we need to concentrate on reducing antibiotic usage. We as an industry can do our bit to help make antibiotic treatments as effective as possible. This will inevitably help to reduce costs and improve general wellbeing, through targeting the correct medicine's to use, instead of blanket treatment usage and dependence on antibiotics.
|
Cynhaliodd Grŵp Cyflenwi Cymru ar gyfer Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a'r Amgylchedd ei gyfarfod cyntaf ddoe (13 Mai) a bydd yn cwblhau'n derfynol Gynllun Gweithredu ar gyfer cyflawni hyn dros y pum mlynedd nesaf.
Ei nod fydd atal a rheoli clefydau heintus mewn anifeiliaid a sicrhau bod gwrthfiotigau yn cael eu defnyddio'n gyfrifol yng Nghymru.
Bydd hefyd yn mynd i'r afael â bacteria sydd ag ymwrthedd i wrthfiotigau yn yr amgylchedd sy'n lledu rhwng anifeiliaid a phobl, y bwydydd y maent yn eu bwyta a'r mannau y maent yn eu rhannu.
Bydd y Cynllun Gweithredu a'r Grŵp Grŵp newydd yn cyflawni cyfraniad Cymru at Gynllun Gweithredu Cenedlaethol y DU dros Bum Mlynedd, a gyhoeddwyd ym mis Ionawr 2019\.
Bydd y Grŵp yn cydweithio'n agos â gweithwyr yn y maes meddygol ac iechyd y cyhoedd yng Nghymru er mwyn sicrhau dull cwbl unedig a chyson o fynd i'r afael â bygthiad ymwrthedd i gwrthfiotigau.
* Nodau'r Grŵp dros y pum mlynedd nesaf fydd:
* lleihau'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau ar gyfer trin anifeiliaid drwy atal heintiau.
* cyfyngu cymaint â phosibl ar ddatblygiad a lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau yn yr amgylchedd.
* sicrhau defnydd mor gynaliadwy â phosibl o wrthfiotigau mewn anifeiliaid.
* sicrhau goruchwylio digonol er mwyn darparu'r wybodaeth sy'n ofynnol ar gyfer rheoli ymwrthedd i wrthfiotigau
* cydweithio ag eraill er mwyn cyflawni gwrthfiotigau effeithiol yn y dyfodol.
Mae cynnydd ac ymlediad Ymwrthedd i Wrthficrobau yn peri bygythiad difrifol i'n gallu i reoli heintiau o fewn lleoliadau gofal iechyd, o fewn y gymuned ehangach ac mewn anifeiliaid.
Mae effaith methu atal ymwrthedd i wrthficrobau yn helaeth ac yn gostus iawn ar lefel ariannol a hefyd o ran iechyd byd\-eang, iechyd y cyhoedd ac iechyd anifeiliaid, masnach, diogelwch bwyd, llesiant amgylcheddol a datblygiad cymdeithasol\-economaidd.
Gobeithir y bydd dull cydgysylltiedig rhwng y llywodraeth, ceidwaid anifeiliaid a milfeddygon yn rheoli lledaeniad clefydau heintus a hefyd yn rheoli'r defnydd o'r gwrthfiotigau a gaiff eu defnyddio i'w trin.
Bydd y Grŵp Cyflawni Ymwrthedd Gwrthficrobaidd mewn Anifeiliaid a'r Amgylchedd yn adrodd wrth Grŵp Fframwaith Cymru ar Iechyd a Lles Anifeiliaid ac i Grŵp Llywio Ymwrthedd Gwrthficrobaidd / Heintiau sy'n gysylltiedig â Gofal Iechyd Cymru a gaiff ei gadeirio gan Brif Swyddog Meddygol Cymru. Mae Prif Swyddog Milfeddygol Cymru'n aelod o'r Grŵp hwn. Ar ôl gwneud hyn bydd yn cyflwyno ei Gynllun Gweithredu i Lesley Griffiths sef Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, fel y gall ei ystyried a'i fabwysiadu.
Mae aelodau'r grŵp yn cynnwys cynrychiolwyr o'r diwydiant ffermio, y proffesiwn milfeddygaeth ac Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Dywedodd y Gweinidog, Lesley Griffiths:
> "Rwy'n falch iawn i sefydlu'r Grŵp hwn a fydd yn mynd i'r afael â mater ymwrthedd gwrthficrobaidd, sef mater sy'n peri cryn bryder.
>
>
> "Mae'n allweddol ein bod oll yn cydweithio er mwyn gwneud pob ymdrech i atal lledaeniad clefydau anifeiliaid ac i sicrhau bod y driniaeth fwyaf addas yn cael ei defnyddio bob tro.
>
>
> "Gall effeithiau ymwrthedd gwrthficrobaidd fod yn gostus ac yn niweidiol iawn, i geidwaid anifeiliaid a milfeddygon a hefyd i'r gymuned ehangach. Dyma pam y mae arnom angen ganllawiau ar gyfer mynd i'r afael â'r mater. Rwy'n edrych ymlaen at ddarllen argymhellion y grŵp."
Dywedodd Gareth Thomas, sy'n gweithio o fewn y diwydiant ffermio:
> "Credwn fod angen i Gymru bellach ganolbwyntio ar leihau'r defnydd o wrthfiotigau." Gallwn ni, fel diwydiant, gyfrannu at y gwaith o sicrhau bod triniaethau gwrthfiotig mor effeithiol â phosibl. Bydd hyn yn helpu i leihau costau a gwella llesiant cyffredinol, gan sicrhau bod y meddyginiaethau cywir yn cael eu defnyddio bob amser, yn hytrach na bod yr un triniaethau yn cael eu defnyddio ar gyfer trin pob haint. Canlyniad hyn fydd lleihad yn y ddibyniaeth ar wrthfiotigau."
|
Translate the text from Welsh to English. |
Bydd Rebecca Evans, y Gweinidog Tai ac Adfywio, yn cyhoeddi bod gwerth £270,000 o gyllid ar gael pan fydd yn ymweld â Chastell\-nedd i gwrdd â masnachwyr lleol er mwyn dysgu sut y mae eu Hardal Gwella Busnes hwy yn gwneud gwahaniaeth i'r dref.
Mae'r Ardaloedd Gwella Busnes yn ffordd arloesol o dynnu busnesau lleol ynghyd drwy gyfuno eu hadnoddau er mwyn gweithio fel tîm. Unwaith y cytunir ar AGB drwy bleidlais, bydd pob busnes yn cyfrannu'n ariannol drwy ardoll, a gaiff ei ddefnyddio i gyllido'r gweithgareddau y cytunwyd arnynt ac a nodir yn y Cynllun Busnes. Gallai'r gweithgareddau hyn gynnwys marchnata, hyrwyddo a digwyddiadau, parcio ceir, mynd i'r afael ag ymddygiad gwrthgymdeithasol, gwella mynediad i drefi neu waith i wneud yr ardal yn fwy deniadol.
Dywedodd Rebecca Evans:
> "Mae'r momentwm ar gyfer AGB yn cynyddu ar draws y DU ac rydym yn ymwybodol eu bod yn cael cryn effaith mewn trefi ledled Cymru ond mae eu sefydlu yn cymryd amser ac yn gofyn am dipyn o ymdrech a chefnogaeth, felly dyna paham ein bod yn rhoi cyllid Llywodraeth Cymru iddynt er mwyn rhoi hwb i’w helpu o'r cychwyn cyntaf.
>
> "Mae'r Ardal Gwella Busnes, ‘Neath Inspired’, wedi datblygu partneriaethau effeithiol gyda'r dref a'r cyngor sir ar gyfer sawl prosiect, gan gynnwys cefnogi digwyddiadau, darparu basgedi crog a goleuadau Nadolig. Gall aelodau gael hyfforddiant ar y cyfryngau cymdeithasol a marchnata ac mae'r wefan yn hysbysebu rhai gwyliau lleol arbennig."
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
> "Ar y cyd, fydd yr wyth Ardal Gwella Busnes sydd eisoes wedi eu sefydlu ac sydd eisoes wedi cael cymorth gennym, yn creu buddsoddiad preifat gwerth dros £5 miliwn dros y bum mlynedd nesaf i gefnogi gweithgareddau yn eu hardaloedd. Mae'r prosiectau hyn yn cefnogi datblygiad economaidd ac adfywio canol trefi, gan wneud ein strydoedd siopa yn fannau mwy deniadol a bywiog i ymweld â hwy.
>
> "Rydym yn gwybod bod nifer o drefi ledled Cymru yn edrych ar y model cyllid cynaliadwy hwn, ac rwy'n gobeithio gweld rhagor o ardaloedd gwella busnes posibl yn dod i'r amlwg o ganlyniad i'r cyllid. Rydym hefyd yn awyddus i annog Ardaloedd Gwella Busnes mwy penodol, megis Ardaloedd Gwella Busnes Twristiaeth a Diwydiant ochr yn ochr â'r Ardaloedd Gwella Busnes canol tref traddodiadol."
Rheolwr Ardal Gwella Busnes ‘Neath Inspired’ yw Andrew Shufflebottom, ac mae e'n argymell yn gryf i drefi eraill wneud cais am gyllid. Dywedodd:
> "Mae trefi yn elwa o ganlyniad i sefydlu ardaloedd gwella busnes llwyddiannus, ac yn benodol busnesau a manwerthwyr annibynnol, pan gaiff ardoll yr AGB ei ddefnyddio'n effeithiol i gynyddu nifer ymwelwyr â'r AGB."
|
Housing and Regeneration Minister Rebecca Evans will announce the £270,000 funding with a visit to meet local traders in Neath to learn about how their Business Improvement District is making a difference to the town.
Business Improvement Districts are an innovative way of bringing local businesses together by pooling their resources to work as a team. Once the BID is agreed via a ballot, each business contributes financially via a levy, which is then used to fund the agreed activities set out in the Business Plan. These could include marketing, promotion and events, car parking, tackling anti\-social behaviour, improving access to towns, or work to make the area more attractive.
Rebecca Evans said:
> “The momentum for BIDs is growing across the UK and we’re aware of the real impact they create in towns across Wales, but setting them up takes time, effort and support, which is why we provide Welsh Government funding to get them off the ground.
>
> “Neath Inspired, the Business Improvement District, has developed effective partnerships with the town and county council on several projects, including supporting events, providing hanging baskets and Christmas lights. Members can access social media and marketing training, and their website advertises some fantastic local festivals.”
Economy Secretary Ken Skates said:
> “Collectively, the eight established Business Improvement Districts which have already received our support will generate over £5m private investment to support activities in their area over the next five years. These projects are supporting economic development and town centre regeneration, making our high streets more attractive and vibrant places to visit.
>
> “We know that a number of towns across Wales are looking at this sustainable funding model, and I hope we see many more potential BIDs come forward as a result of the funding. We are also keen to encourage themed BIDs such as Tourism and Industrial BIDs alongside traditional town centre BIDs”
Andrew Shufflebotham who is the Neath Inspired BID manager, strongly recommends that other towns consider applying for the new funding. He said:
> “Towns benefit from establishing a successful BID, especially smaller independent retailers and businesses, where the BID levy is used effectively to increase footfall into the BID area.”
|
Translate the text from Welsh to English. |
Heddiw, gosodwyd Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig (Cymru) a Memorandwm Esboniadol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
Cyflwynwyd y Bil mewn ymateb i adolygiad y Swyddfa Ystadegau Gwladol (ONS) o ddosbarthiadau ystadegol Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru, a gyhoeddwyd ym mis Medi 2016\. Fe wnaeth yr ONS nodi dangosyddion o reolaethau llywodraeth ganolog a llywodraeth leol gan arwain iddynt ddod i'r casgliad y dylid ailddosbarthu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig i'r is\-sector Corfforaethau Anariannol Cyhoeddus at ddibenion cyfrifon gwladol ac ystadegau economaidd eraill yr ONS. Mae'r rheolaethau hyn i'w gweld yn bennaf yn Neddf Tai 1996\.
Mae Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn ariannu swm sylweddol o'u gwaith adeiladu drwy fenthyca gan y sector preifat. Maent wedi ymrwymo i adeiladu o leiaf 12,500 o'r 20,000 o dai fforddiadwy newydd sy'n darged gan Lywodraeth Cymru, ond bydd eu gallu i wneud hyn yn dibynnu ar eu gallu i elwa ar fenthyciadau gan y sector preifat i ategu cyllid grant tai cymdeithasol Llywodraeth Cymru a rhaglenni cyllid eraill.
Os bydd Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn parhau i gael eu dosbarthu yn Gorfforaethau Anariannol Cyhoeddus, bydd eu benthyciadau (tua £200 miliwn y flwyddyn ar gyfartaledd ar hyn o bryd) yn cyfrif fel tâl yn erbyn cyllidebau Llywodraeth Cymru ac yn arwain at gynnydd yn swm Benthyciadau Net y Sector Cyhoeddus. Byddai ceisiadau am gyllid ar gyfer tai yn cystadlu yn erbyn blaenoriaethau eraill Llywodraeth Cymru. Heb os, byddai hyn yn golygu nifer sylweddol yn llai o dai fforddiadwy newydd.
Mae'r Bil Rheoleiddio Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig wedi cael ei gyflwyno er mwyn dileu neu ddiwygio'r darpariaethau a nododd yr ONS fel y rhai sy'n dangos rheolaethau'r llywodraeth. Bydd hyn yn galluogi'r ONS i ystyried ailddosbarthu Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yng Nghymru i'r sector Corfforaethau Anariannol Preifat, a thrwy hynny liniaru'r effeithiau a'r pryderon cyllidebol.
Oni bai ein bod yn cymryd camau a fyddai'n galluogi'r ONS i wrthdroi'r ailddosbarthiad er mwyn i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig gael eu dosbarthu fel sefydliadau'r sector preifat unwaith eto, bydd ein cynlluniau i fynd i'r afael â'r prinder tai fforddiadwy yng Nghymru dan fygythiad. Mae'r diwygiadau a gynigir yn y Bil yn hanfodol er mwyn helpu i sicrhau bod cyflenwad parhaus o dai fforddiadwy o safon yng Nghymru.
Mae'r cynigion polisi a fersiwn ddrafft o'r Bil wedi bod yn destun trafodaeth gyda'r ONS. Mae'r ONS yn fodlon, os bydd y Bil ar ei ffurf bresennol yn cael y Cydsyniad Brenhinol, na fyddai’r dylanwad yn ei gyfanrwydd yn gyfystyr â rheolaeth y sector cyhoeddus, ac y byddai'n fodlon adolygu'r dosbarthiad unwaith yn rhagor.
|
The Regulation of Registered Social Landlords (Wales) Bill and Explanatory memorandum have today been laid before the National Assembly for Wales.
The Bill has been brought forward in response to the Office for National Statistics (ONS)
review of the statistical classification of Registered Social Landlords (RSLs) in Wales which was published in September 2016\. The ONS identified indicators of central and local government controls which led them to conclude RSLs should be reclassified to the Public Non–Financial Corporations sub–sector, for the purpose of national accounts and other ONS economic statistics. These controls are principally set out in the Housing Act 1996\.
RSLs fund a significant amount of their building activity by private sector borrowing. They have committed to delivering at least 12,500 of the Welsh Government’s target of 20,000 new affordable homes but, their ability to do this will depend on their ability to use private sector borrowing to augment the Welsh Government’s social housing grant funding and other funding programmes.
If RSLs continue to be classified as Public Non\-financial Corporations, their borrowings (currently, on average, approximately £200 million per year) will score as a charge against Welsh Government budgets and increase Public Sector Net Borrowing. Funding for housing would be competing with other Welsh Government priorities which would undoubtedly mean significantly fewer new affordable homes.
The Regulation of Registered Social Landlords Bill has been introduced in order to remove or amend the provisions identified by ONS as being indicative of government control. This will then enable ONS to consider reclassifying RSLs in Wales to the Private Non\-Financial Corporations sector, thus mitigating the impacts and budgetary concerns.
Unless we take action which would enable ONS to reverse the reclassification and return RSLs to the private sector, our plans to address the shortage of affordable homes in Wales will be severely compromised. The changes proposed in the Bill are essential to help secure the ongoing supply of good quality, affordable homes in Wales.
The Policy proposals and a draft version of the Bill have been discussed with ONS. ONS is content that, if the Bill receives Royal Assent in its current form, the totality of influence would not constitute public sector control and they would be happy to review the classification again.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Daw hyn yn dilyn cynhadledd 'Cymorth i Wcráin' ddoe a ganolbwyntiodd ar sicrhau bod pobl o Wcrain yn cael cefnogaeth dda.
Yn ystod y flwyddyn ddiwethaf mae mwy na 6,500 o bobl sydd â noddwyr yng Nghymru wedi dianc rhag yr ymosodiad gan Rwsia, gan gynnwys mwy na 3,000 drwy lwybr uwch\-noddi Llywodraeth Cymru.
Yr wythnos ddiwethaf fe gadarnhaodd Llywodraeth Cymru sut y bydd buddsoddiad ychwanegol o £40m i gefnogi pobl o Wcráin yn 2023\-24 yn cael ei wario.
Dywedodd Jane Hutt, Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol Llywodraeth Cymru:
> “Mae ein hymrwymiad i fod yn Genedl Noddfa yn gryfach nag erioed. Mae ein llwybr uwch\-noddi wedi cynnig achubiaeth i bron 3,100 o bobl sydd wedi cyrraedd Cymru er mwyn dianc rhag y rhyfel.
>
>
> “Mae'n rhaid i ni helpu pobl sy'n ffoi rhag amgylchiadau enbyd. Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i helpu pobl yn y tymor byr ac yn yr hirdymor.”
Trefnwyd cynhadledd Cymru ‘Cymorth i Wcráin” gan Lywodraeth Cymru mewn partneriaeth â Phlismona Gwrthderfysgaeth a Chylchdaith Cymru a Chaer o’r Bar. Daeth â sefydliadau allweddol at ei gilydd o’r meysydd tai, gofal iechyd, llywodraeth leol, amddiffyn plant rhyngwladol, y sector cyfreithiol a'r sector cyngor nid er elw, a phlismona gwrth derfysgaeth, i sicrhau bod y rhai sy'n cyrraedd Cymru yn cael cefnogaeth dda.
Fe wnaeth y sesiynau ganolbwyntio ar droseddau rhyfel, gwasanaethau cymorth a chyngor i Wcrainiaid sydd wedi ceisio noddfa yng Nghymru, a chynlluniau i gefnogi cyfreithwyr Wcreinaidd.
Mick Antoniw, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad, a roddodd yr anerchiad agoriadol a’r sylwadau i gloi’r gynhadledd. Dywedodd:
> “Wrth i Gymru gamu ymlaen i gefnogi pobl sydd wedi profi trawma annioddefol, mae'n gwbl hanfodol ein bod yn rhannu arbenigedd i helpu'r miloedd o bobl sydd eisoes wedi cael eu croesawu i Gymru.
>
>
> “Fe wnaeth y gynhadledd hefyd ddwyn ynghyd cydweithwyr o’r sector cyfreithiol er mwyn i ni allu deall yn well sut y gallwn ddarparu cefnogaeth a gwybodaeth gyfreithiol i Wcreiniaid yng Nghymru.”
|
It comes following the ‘Support for Ukraine’ conference yesterday which focused on ensuring Ukrainians are well supported.
In the last year more than 6,500 people with sponsors in Wales have escaped the Russian invasion, including more than 3,000 through the Welsh Government’s super sponsor route.
Last week the Welsh Government confirmed how an additional £40 million of investment to support people from Ukraine in 2023 to 2024 will be spent.
Jane Hutt, the Welsh Government’s Minister for Social Justice, said:
> “Our commitment to being a Nation of Sanctuary is stronger than ever. Our super sponsor route has provided a lifeline to almost 3,100 people who have arrived in Wales to escape war.
>
>
> “We have to help people fleeing desperate circumstances. We will continue to do all we can to help people both in the short\-term and in the long\-term.”
The ‘Support for Ukraine’ Wales conference was organised by the Welsh Government in partnership with Counter Terrorism Policing and the Wales and Chester Circuit of the Bar.
It brought key organisations together, from housing, healthcare, local government, international child protection, the legal sector and not for profit advice sector, and counter terrorism policing, to ensure those arriving in Wales are well supported.
Sessions focused on war crimes, support services and advice for Ukrainians who have sought sanctuary in Wales, and schemes to support Ukrainian lawyers.
Mick Antoniw, the Counsel General and Minister for the Constitution, gave the opening address and closing remarks to the conference. He said:
> “As Wales steps up to support people who’ve experienced unspeakable trauma it’s absolutely crucial we share expertise to help the thousands of people who have already been welcomed to Wales.
>
>
> “Crucially the conference also brought together colleagues in the legal sector so we can better understand how we can provide legal support and information to Ukrainians in Wales.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
The local radio station The Wave and Swansea Sound’s \#DontDanceAlone campaign was launched in 2017 to raise awareness of the older generation, shining a light on the devastating effects loneliness has and to encourage and promote intergenerational relationships through dance.
Its 2018 campaign was launched on October 7, leading to the first official \#DontDanceAlone Week from November 12 to November 18\.
During the week, community groups, schools and businesses are being encouraged to host or create their own events, where older members of the community can attend and participate with younger members of the community.
The Minister visited Birchgrove Primary School in the Swansea Valley for a day of World War Two\-themed activities, including a tea dance party with the pupils and grandparents/local older residents of the community.
He then visited St Nicholas on the Hill and St Jude’s Church in Swansea, where he joined a community\-led event where older and younger members of the community came together to dance.
The Welsh Government is currently consulting on its plans to tackle loneliness and social isolation across Wales. Around 17% of people in Wales – 440,000 people \- reported being lonely in 2016\-17\.
The consultation will last for 12 weeks (until 15 January 2019\) and the consultation document is available on the Welsh Government’s website.
Minister for Children, Older People and Social Care, Huw Irranca\-Davies said:
> “There is a growing awareness of the problem of loneliness and unwanted social isolation across Wales and the UK as a whole. We know from research that loneliness can have a serious impact on our health – which could be the equivalent of smoking 15 cigarettes a day. That’s why as a Welsh Government, we’ve said tackling loneliness and unwanted social isolation is a national priority for us.
>
> “So it’s crucial we do what we can to bring communities together. I’m delighted to have been in Swansea today to lend my support to the fantastic \#DontDanceAlone campaign being run by The Wave and Swansea Sound. It’s proving to be a real hit, bringing young and old together to enjoy tea and dance. This is exactly the kind of thing I want to see more of across Wales.
>
> “In Wales, we have a proud tradition of close\-knit communities coming together to provide that strong sense of togetherness. Let’s all do what we can to rekindle that spirit in our communities – in every village, town and city across the country. Together, we must tackle loneliness and isolation.”
|
Cafodd ymgyrch gorsafoedd radio The Wave a Swansea Sound, sef \#DontDanceAlone, ei lansio yn 2017 i godi ymwybyddiaeth o’r genhedlaeth hŷn, a thynnu sylw at yr effaith ddinistriol mae bod yn unig yn ei chael ac annog pobl o bob cenhedlaeth i feithrin perthynas drwy ddawnsio.
Cafodd yr ymgyrch ar gyfer 2018 ei lansio ar 7 Hydref. Arweiniodd hyn at yr Wythnos \#DontDanceAlone swyddogol gyntaf o 12 Tachwedd i 18 Tachwedd.
Yn ystod yr wythnos, mae grwpiau cymunedol, ysgolion a busnesau yn cael eu cymell i gynnal neu greu eu digwyddiadau eu hunain, lle y gall aelodau hŷn y gymuned ddod ynghyd/cymryd rhan gydag aelodau iau’r gymuned.
Aeth y Gweinidog i Ysgol Gynradd Gellifedw yn Abertawe am ddiwrnod o weithgareddau ar thema yr Ail Ryfel Byd. Roedd y rhain yn cynnwys te parti â dawnsio ar gyfer disgyblion a theidiau a neiniau/trigolion hŷn y gymuned.
Ymunodd y Gweinidog wedi hynny â digwyddiad a oedd yn cael ei arwain gan y gymuned yn Eglwys St Nicholas on the Hill a St Jude yn Abertawe, lle daeth aelodau hŷn ac iau y gymuned at ei gilydd i ddawnsio.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymgynghori ar hyn o bryd ar ei chynlluniau i fynd i’r afael ag achosion lle y mae pobl yn teimlo’n unig ac yn ynysig yn gymdeithasol ym mhob cwr o Gymru. Yn 2016\-17, adroddodd tua 17% o bobl Cymru – 440,000 o bobl – eu bod yn teimlo’n unig.
Bydd yr ymgynghoriad yn rhedeg am gyfnod o 12 wythnos (hyd at 15 Ionawr 2019\) ac mae’r ddogfen ymgynghori ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Huw Irranca\-Davies, y Gweinidog dros Blant, Pobl Hŷn a Gofal Cymdeithasol:
> “Mae mwy a mwy o ymwybyddiaeth o’r broblem lle mae unigolion yn cael teimladau annymunol o fod yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol ar draws Cymru a’r DU yn gyffredinol. Rydyn ni’n gwybod o ymchwil y mae teimlo’n unig yn gallu cael effaith ddifrifol ar ein hiechyd – a allai fod cyfystyr â smygu 15 o sigaréts y dydd. Dyna pam rydyn ni, Llywodraeth Cymru, wedi dweud bod mynd i’r afael â theimladau annymunol o fod yn unig ac yn ynysig yn gymdeithasol yn flaenoriaeth genedlaethol inni.
>
> “Felly, mae’n hanfodol ein bod ni’n gwneud yr hyn y gallwn ni i ddod â chymunedau ynghyd. Rydw i wrth fy modd o fod wedi ymweld ag Abertawe heddiw i ddangos fy nghefnogaeth i’r ymgyrch arbennig \#DontDanceAlone sy’n cael ei chynnal gan The Wave a Swansea Sound. Mae’n boblogaidd tu hwnt, ac yn dod â phobl ifanc a hŷn at ei gilydd i fwynhau te parti a dawnsio.”
>
> “Dyma’r union fath o ddigwyddiad rydw i’n gobeithio y gwelwn ni fwy ohono ar draws Cymru. Yng Nghymru, mae gennym draddodiad balch o gymunedau agos yn dod at ei gilydd i gefnogi ei gilydd. Gadewch inni adfywio’r ysbryd hwnnw yn ein cymunedau – ym mhob pentref, tref a dinas ledled y wlad. Gyda’n gilydd, rhaid inni fynd ati i geisio sicrhau na fydd unrhyw un yn teimlo’n unig ac yn ynysig.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
On 01 March 2011 the Deputy Minister for Social Services made an oral Statement in the Siambr on: Social Services.
The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website via the following hyperlink http://www.assemblywales.org/bus\-home/bus\-chamber/bus\-chamber\-third\-assembly\-rop.htm?act\=dis\&id\=211377\&ds\=3/2011\#dat2
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
|
Ar 01 Mawrth gwnaeth Y Dirprwy Weinidog dros Wasanaethau Cymdeithasol Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Wasanaethau Cymdeithasol
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddilyn yr hyperddolen hon
http://www.assemblywales.org/bus\-home/bus\-chamber/bus\-chamber\-third\-assembly\-rop.htm?act\=dis\&id\=211377\&ds\=3/2011\#dat2
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Heddiw mae'r Cyd\-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu, fel rhan o'r adolygiad diwethaf a gynhaliwyd ganddo o'r rhaglen brechu rhag COVID\-19, wedi cyhoeddi datganiad yn argymell dos ychwanegol o frechiad atgyfnerthu'r gwanwyn ar gyfer ein dinasyddion mwyaf agored i niwed.
Prif nod y rhaglen brechu rhag COVID\-19 o hyd yw sicrhau nad yw pobl yn datblygu salwch difrifol (gan arwain at fynd i'r ysbyty a marwolaethau) sy'n codi o COVID\-19\. Mae pobl hŷn, pobl sy'n byw mewn cartrefi gofal i oedolion hŷn a phobl sy'n imiwnoataliedig yn parhau i wynebu'r risg uchaf o ddatblygu salwch difrifol yn sgil COVID\-19\. Mae'r Cyd\-bwyllgor wedi argymell, fel strategaeth ragofalus, y dylai'r bobl ganlynol gael ail ddos o'r brechiad atgyfnerthu:
* **oedolion 75 oed a throsodd;**
* **pobl sy’n byw mewn cartref gofal i oedolion hŷn, ac**
* **unigolion 5 oed a throsodd sy'n imiwnoataliedig (fel y'i diffinnir yn nhabl 3 neu 4 yn y** **Llyfr Gwyrdd****(Saesneg yn Unig))**
Wrth wneud yr argymhelliad hwn, ystyriodd y Cyd\-bwyllgor y data sydd ar gael o'r DU a gweddill y byd sy'n awgrymu bod imiwnedd pobl hŷn yn fwy tebygol o fynd yn wannach o ganlyniad i'r ffaith nad yw eu system imiwnedd yn gallu ymateb yn effeithiol i heintiau nac i frechlynnau i'r un graddau, a'u bod yn fwy tebygol o lawer o gael salwch difrifol os cânt eu heintio. Yn ymarferol, am eu bod wedi cael eu blaenoriaethu ar gyfer brechiadau ar ddechrau rhaglen brechu rhag COVID\-19 yr hydref a ddechreuodd ym mis Medi 2022, mae rhagor o amser wedi mynd heibio ers i bobl hŷn gael eu dos diweddaraf o'r brechlyn.
Mae'r Cyd\-bwyllgor hefyd wedi nodi yn ystod y rhaglen hon, fod modd defnyddio brechlyn COVID\-19 VidPrevtyn Beta a gafodd ei ddatblygu gan Sanofi/GSK a'i gymeradwyo gan yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) ym mis Rhagfyr, ochr yn ochr â'r brechlynnau mRNA diweddaraf a ddatblygwyd gan Pfizer a Moderna. Mewn treialon clinigol, roedd canlyniadau brechlyn Sanofi/GSK yn gymaradwy â chanlyniadau’r brechlynnau mRNA COVID\-19\. Mae'r Cyd\-bwyllgor wedi argymell y brechlyn ar gyfer pobl dros 75 oed, ac mae’n addas i bobl nad ydynt yn gallu goddef brechlynnau mRNA. Nid oes angen sicrhau amodau storio mor llym ar gyfer y brechlyn hwn o'i gymharu â’r brechlynnau mRNA COVID\-19, sy'n golygu bod modd gweithredu mewn ffordd fwy hyblyg wrth ei ddefnyddio. Mae'n bosibl y bydd hyn yn ei gwneud yn haws i bobl gael eu brechu.
Rwyf wedi derbyn y cyngor hwn ac wedi gofyn i fyrddau iechyd gadarnhau'r cynlluniau y maent wedi bod yn eu llunio ers cryn amser. Caiff manylion y rhaglen eu nodi yng Nghylchlythyr Iechyd Cymru a gaiff ei gyhoeddi gan y Prif Swyddog Meddygol.
Ar sail y cyngor a gafwyd gan y Cyd\-bwyllgor, cyhoeddais yn ddiweddar ddiwedd y cynnig cyffredinol o'r brechiad atgyfnerthu gwreiddiol a oedd yn cael ei gynnig i bobl dros 5 oed o hydref 2021 ymlaen. Mae'r cynnig hwn yn dod i ben ar ddiwedd mis Mawrth, felly mae amser o hyd i unrhyw un nad yw wedi manteisio arno eto i gael ei frechu, a byddwn yn annog pobl i wneud hynny.
Fel arfer, rwy'n ddiolchgar iawn i'r GIG ac i bawb sy'n rhan o'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus.
|
The Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI), as part of its latest review of the COVID\-19 vaccination programme, has today published a statement, which recommends an additional spring booster dose for our most vulnerable citizens.
The primary aim of the COVID\-19 vaccination programme continues to be the prevention of severe disease (hospitalisation and mortality) arising from COVID\-19\. Older people, residents in care homes for older adults, and those who are immunosuppressed continue to be at highest risk of severe COVID\-19\. The Committee has recommended, as a precautionary strategy, a second booster dose in the spring for:
* **adults aged 75 years and over;**
* **residents in a care home for older adults, and**
* **individuals aged 5 years and over who are immunosuppressed (as defined in table 3 or 4 in the** **Green Book****)**
In making this recommendation they considered available data from the UK and internationally which suggests that older people are more likely to experience waning of immunity due to a decreased capacity of the immune system to respond effectively to infections or vaccines, and much more likely to experience severe disease if infected. Practically, because they were prioritised for vaccination at the start of the COVID\-19 Autumn booster programme that started in September 2022, older people are also now furthest in time from their last vaccine dose.
The Committee has also advised that the VidPrevtyn Beta COVID\-19 vaccine developed by Sanofi/GSK and approved by the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA) in December, can be deployed alongside the very latest mRNA vaccines by Pfizer and Moderna during this programme. In clinical trials the Sanofi/GSK vaccine had results comparable to the COVID\-19 mRNA vaccines and has been recommended by the JCVI for people over 75\. This vaccine, which is suitable for those intolerant of mRNA vaccines, also has less stringent storage conditions, as compared to the mRNA COVID\-19 vaccines, which will allow for greater operational flexibility in its use and may improve access to vaccination.
I have accepted this advice and have asked health boards to firm up the plans they have been making for some time. The details of the programme will be set out in a Welsh Health Circular issued by the Chief Medical Officer.
On the basis of advice received by the JCVI, I recently announced the end of the universal offer of the original booster that was offered to all those aged over 5 years from autumn 2021\. This offer ends at the end of March, so there is still time for anyone that hasn’t taken it up to come forward for vaccination and I would urge people to do so.
As ever, I am extremely grateful to the NHS and everyone involved in the vaccination programme for their continued hard work.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Daw hyn fel rhan o gynllun ehangach sy’n cael ei gyhoeddi heddiw a fydd yn canolbwyntio ar gynyddu amrywiaeth ymhlith ymgeiswyr i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon.
Canfu Ystadegau Blynyddol y Gweithlu Addysg mai dim ond 1\.3% o athrawon ysgol yng Nghymru a nododd eu bod o gefndir ethnig lleiafrifol, o gymharu â 12% o ddysgwyr.
Bydd y Cynllun yn cynnwys targedu hyrwyddo addysgu fel gyrfa i fwy o bobl o gymunedau ethnig lleiafrifol. Bydd hefyd yn ofynnol i gyrsiau Addysg Gychwynnol i Athrawon weithio tuag at recriwtio canran o fyfyrwyr o gefndiroedd ethnig lleiafrifol.
Am y tro cyntaf, bydd cymhellion ariannol ychwanegol yn cael eu cyflwyno hefyd i ddenu mwy o athrawon dan hyfforddiant o leiafrifoedd ethnig, o 2022 ymlaen. Ar hyn o bryd mae cymhellion yn bodoli ar gyfer pynciau lle mae galw mawr am athrawon, fel Mathemateg a’r gwyddorau, yn ogystal â’r cynllun *Iaith Athrawon Yfory* i ddenu mwy o athrawon cyfrwng Cymraeg.
Mae’r gwaith yn rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i’r argymhellion gan y gweithgor sydd wedi cynghori ar Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm newydd i ysgolion.
Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg:
> Mae'n hanfodol ein bod ni’n cynyddu amrywiaeth ein gweithlu addysgu i gefnogi ein dysgwyr yn well. I wneud hyn, mae'n rhaid i ni ddeall y rhwystrau sy'n atal mwy o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifol rhag mynd i addysgu, a gweithredu i sicrhau bod y rhwystrau hynny'n cael eu dileu.
>
>
> Yn syml, nid yw’n ddigon da bod llai na 2% o athrawon o gefndir ethnig lleiafrifol. Dyma pam rydyn ni'n lansio'r cynllun yma y mae ei wir angen, fel bod gennym ni weithlu sy'n adlewyrchu poblogaeth Cymru yn well.
>
>
> Yn bwysig, dylai cynyddu amrywiaeth mewn ysgolion fod yn berthnasol nid yn unig i ardaloedd lle mae cyfran uwch o bobl o gefndiroedd ethnig lleiafrifoedd, ond ledled Cymru gyfan.
>
>
> Y gwaith hwn yw’r cam cyntaf yn y gwaith pwysig i gynyddu amrywiaeth yn ein gweithlu addysg.
Gwobr Betty Campbell MBE
------------------------
Cyhoeddodd y Gweinidog wobr newydd hefyd yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru eleni. Bydd Gwobr Betty Campbell, am hyrwyddo cyfraniadau a safbwyntiau cymunedau Duon, Asiaidd ac ethnig lleiafrifol, yn cael ei dyfarnu i unigolyn, tîm neu ysgol sydd wedi dangos ymwybyddiaeth ragorol o bwysigrwydd amrywiaeth a chynhwysiant yn yr ystafell ddosbarth.
Mae'r wobr yn anrhydeddu'r ddiweddar Betty Campbell MBE, cyn bennaeth yn Ysgol Gynradd Mount Stuart a'r pennaeth du cyntaf yng Nghymru.
Dywedodd Elaine Clarke, merch Mrs Campbell:
> Mae’r teulu’n hynod falch a breintiedig o gael y categori newydd yma yng Ngwobrau Addysgu Proffesiynol Cymru, wedi’i enwi ar ôl ein mam, a fydd yn cael ei chofio mewn ffordd mor hyfryd ac eiconig.
>
>
> Roedd ein mam yn angerddol iawn am addysg ac arloesi yn y cwricwlwm, a oedd yn sicrhau bod plant yn cael cyfle i fwynhau a chofleidio profiadau cyfoethog, gan adlewyrchu eu hunaniaeth aml\-ethnig a’u hysbrydoli i gyflawni eu breuddwydion. I Betty, roedd yr amhosibl bob amser yn bosibl.
>
>
> Mae’r Wobr yn ffordd hyfryd o hyrwyddo cynhwysiant yr holl grwpiau Duon, Asiaidd a lleiafrifol ac rydym yn siŵr y bydd y rhai fydd yn ei derbyn yn parhau i gael eu hysbrydoli, ac yn ysbrydoli cenedlaethau’r dyfodol, yn ôl troed ein mam.
Dywedodd yr Athro Charlotte Williams OBE, sy'n cadeirio'r gweithgor ar Gymunedau Duon, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol, Cyfraniadau a Chynefin yn y Cwricwlwm i ysgolion:
> Rwy’n falch iawn o weld lansiad y wobr newydd hon. Rwy'n gobeithio y bydd yn ysgogi ysgolion i feddwl am ffyrdd arloesol a dychmygus o gynrychioli'r themâu hyn yn y cwricwlwm newydd.
>
>
> Mae amrywiaeth yn thema ganolog a thrawsbynciol yn y cwricwlwm newydd. Bydd y wobr hon yn annog ysgolion i feddwl yn strategol am sut gallant ymgorffori'r dimensiwn pwysig hwn ym mhopeth maent yn ei wneud.
>
>
> Mae lansiad y wobr hon yn arwydd clir bod Llywodraeth Cymru yn ymateb yn gyflym i argymhellion yr adroddiad Gweinidogol ar amrywiaeth yn y cwricwlwm newydd.
|
This comes as part of a wider plan being published today that will focus on increasing diversity among applicants into Initial Teacher Education courses.
The latest Annual Education Workforce Statistics found that only 1\.3% of school teachers in Wales identified as being from an ethnic minority background, compared to 12% of learners.
The Plan will include targeting promotion of teaching as a career to more people from ethnic minority communities. There will also be a requirement for Initial Teacher Education courses to work towards the recruitment of a percentage of students from ethnic minority backgrounds.
For the first time, additional financial incentives will also be introduced to attract more ethnic minority student teachers, from 2022\. Incentives currently exist for subjects where there is a high demand for teachers, such as Mathematics and sciences, as well as the *Iaith Athrawon Yfory* scheme to attract more Welsh\-medium teachers.
The work is part of the Welsh Government’s response to the recommendations from the working group which has advised on Black, Asian and Minority Ethnic Communities, Contributions and *Cynefin* in the new school Curriculum.
Jeremy Miles, the Minister for Education and Welsh Language, said:
> It is vital that we increase the diversity of our teaching workforce to better support our learners. To do this, we must understand the barriers which are preventing more people from ethnic minority backgrounds from going into teaching, and take action to ensure those barriers are removed.
>
>
> It is simply not good enough that fewer than 2% of teachers are from an ethnic minority background. That is why we are launching this much needed plan, so that we have a workforce that better reflects the population of Wales.
>
>
> Importantly, increasing diversity in schools should not only apply to areas where there is a higher proportion of people from ethnic minority backgrounds, but across the whole of Wales.
>
>
> This work is the first phase in the important work to increase diversity in our education workforce.
The Betty Campbell MBE Award
----------------------------
The Minister also announced a new award in this year’s Professional Teaching Awards Cymru. The Betty Campbell Award, for promoting the contributions and perspectives of Black, Asian and Minority ethnic communities, will be awarded to an individual, team or school that has demonstrated an outstanding awareness of the importance of diversity and inclusion in the classroom.
The award honours the late Betty Campbell MBE, the former head teacher at Mount Stuart Primary School and the first black head teacher in Wales.
Elaine Clarke, Mrs Campbell’s daughter, said:
> The family is extremely proud and privileged to have this new Professional Teaching Awards Cymru category named after our mother, who will be remembered in such a wonderful and iconic way.
>
>
> Our mum was very passionate about education and pioneering a curriculum that ensured children had the opportunity to access and embrace a rich experience, reflecting their multi\-ethnic identities and inspired them to achieve their dreams. To Betty, the impossible was always possible.
>
>
> The Award is a wonderful way to promote inclusion of all Black, Asian and Minority Ethnic groups and we are sure the recipients will continue to be inspire future generations in the footsteps of our mother.
Professor Charlotte Williams OBE, who chairs the working group on Black, Asian and Minority Ethnic Communities, Contributions and Cynefin in the school Curriculum, said:
> I am delighted to see the launch of this new award. I hope it will stimulate schools into thinking of innovative and imaginative ways to represent these themes within the new curriculum.
>
>
> Diversity is a central and cross\-cutting theme of the new curriculum. This award will encourage schools to think strategically about how they can embed this important dimension within all that they do.
>
>
> The launch of this award is a sure sign that the Welsh Government is responding swiftly to the recommendations of the Ministerial report on diversity in the new curriculum.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Following the First Minister’s announcement that Wales will be moving to Alert Level 0 on 28 January, I want to provide an update on operational arrangements in schools.
As a government, we are absolutely clear that, for wellbeing and learning, it is vital that children and young people are in school. I am signalling today that, if the evidence supports it, we will confirm at the next three\-week review point on 10 February that schools should return to making local decisions on mitigations in line with the Local Infection Control Decision Framework by the beginning of the new half term on 28 February. Face coverings will remain in schools for the time being, just as they are required in most public places, at alert level 0\.
In preparation, schools should work with their local authorities and public health advisors to determine the measures they may need to put in place, based on their local circumstances.
A small proportion of schools have made use of the disapplication of the Changing of School Session Times (Wales) Regulations 2009 put in place for the return of learners at the start of this term providing flexibility for schools to temporarily change their school session times. These arrangements have been particularly useful to Special Schools, so will be extended until the half\-term break, after which all schools will be required to revert to their normal timetable.
To manage and improve ventilation in classrooms, CO2 monitors have been provided for every classroom in Wales, and £95m has been provided to support maintenance work such as such as repairing windows or replacing air filters in air handling units where schools face challenges. Advice from our Technical Advisory Group on the importance of ventilation and on the use of air cleaning devices in specific circumstances will be published in the coming days, offering guidance to local authorities on the use of the devices in the small number of cases where they are needed.
Our focus remains to maximise learning and minimise disruption. I wish to reiterate to learners, schools and colleges that exams and assessments this year will go ahead, unless the public health situation makes it impossible for them to physically run – which we do not envisage. The intention to adjust grade boundaries to reflect disruption has already been set out. Adaptations to exam content have been put in place as well as prior notification of areas of examination. , so that assessments are as fair as possible, and which will enable teachers to focus their time on the key areas for learning. Working collaboratively with Qualifications Wales, we are working with colleges to ensure learners undertaking vocational qualifications are also able to access appropriate adaptations this year. I encourage all learners in exam years to talk to their schools and colleges about what additional support and flexibility might be available this year, to help them progress with confidence.
|
Yn dilyn cyhoeddiad y Prif Weinidog y bydd Cymru’n symud i Lefel Rhybudd Sero 28 Ionawr, rwyf am roi’r wybodaeth ddiweddaraf am drefniadau gweithredol mewn ysgolion.
Fel llywodraeth, rydym yn gwbl glir, ar gyfer lles a dysgu, ei bod yn hanfodol bod plant a phobl ifanc yn yr ysgol. Rwy’n nodi heddiw, os yw’r dystiolaeth yn ei gefnogi, y byddwn yn cadarnhau yn yr adolygiad tair wythnos nesaf ar 10 Chwefror y dylai ysgolion ddychwelyd i wneud penderfyniadau lleol ar gamau liniaru yn unol â’r Fframwaith Penderfyniadau Rheoli Heintiau Lleol erbyn dechrau’r hanner tymor newydd ar 28 Chwefror. Bydd gorchuddion wyneb yn parhau mewn lle mewn mewn ysgolion am y tro, yn union fel y mae eu hangen yn y rhan fwyaf o fannau cyhoeddus, ar Lefel Rhybudd Sero.
Wrth baratoi, dylai ysgolion weithio gyda'u hawdurdodau lleol a chynghorwyr iechyd y cyhoedd i benderfynu ar y mesurau y gall fod angen iddynt eu rhoi ar waith, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau lleol.
Mae cyfran fach o ysgolion wedi gwneud defnydd o ddatgymhwyso Rheoliadau Newid Amserau Sesiynau Ysgol (Cymru) 2009 a roddwyd ar waith ar gyfer dychwelyd dysgwyr ar ddechrau’r tymor hwn er mwyn rhoi hyblygrwydd i ysgolion newid eu hamseroedd sesiynau ysgol dros dro. Bydd y trefniadau hyn, sydd wedi bod yn arbennig o ddefnyddiol i Ysgolion Arbennig, yn cael eu hymestyn tan gwyliau yr hanner tymor, ac wedi hynny bydd gofyn i bob ysgol ddychwelyd i'w hamserlen arferol.
Er mwyn rheoli a gwella awyru mewn ystafelloedd dosbarth, mae monitorau CO2 wedi’u darparu ar gyfer pob ystafell ddosbarth yng Nghymru, a £95m wedi’i ddarparu i gefnogi gwaith cynnal a chadw fel atgyweirio ffenestri neu ailosod ffilteri aer mewn unedau trin aer lle mae ysgolion yn wynebu heriau. Bydd cyngor gan ein Grŵp Cynghori Technegol ar bwysigrwydd awyru a defnyddio dyfeisiau glanhau aer o dan amgylchiadau penodol yn cael ei gyhoeddi yn y dyddiau nesaf, gan gynnig arweiniad i awdurdodau lleol ar ddefnyddio’r dyfeisiau yn y nifer fach o achosion lle mae eu hangen.
Ein ffocws o hyd yw cynyddu dysgu i'r eithaf a lleihau ar unrhyw darfu. Rydw i am ailadrodd wrth ddysgwyr, ysgolion a cholegau y bydd arholiadau ac asesiadau eleni yn mynd yn eu blaen, oni bai bod sefyllfa iechyd y cyhoedd yn ei gwneud yn amhosibl iddynt gael eu cynnal \- rhywbeth nad ydym yn ei ragweld. Mae addasiadau i gynnwys arholiadau wedi’u rhoi ar waith i gydnabod yr aflonyddwch a wynebwyd dros y ddwy flynedd ddiwethaf, fel bod asesiadau mor deg â phosibl, ac a fydd yn galluogi athrawon i ganolbwyntio eu hamser ar y meysydd dysgu allweddol. Gan weithio ar y cyd â Cymwysterau Cymru, rydym yn gweithio gyda cholegau i sicrhau bod dysgwyr sy'n dilyn cymwysterau galwedigaethol hefyd yn gallu cael mynediad at addasiadau priodol eleni. Rwy’n annog pob dysgwr ym mlynyddoedd arholiadau i siarad â’u hysgolion a’u colegau am ba gymorth a hyblygrwydd ychwanegol a allai fod ar gael eleni, i’w helpu i symud yn eu blaen yn hyderus.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Bydd Aelodau'n ymwybodol imi lansio ymgynghoriad fis Hydref diwethaf ar gynigion i newid y ddeddfwriaeth ar fridio cŵn yng Nghymru. Denodd yr ymgynghoriad ddiddordeb sylweddol ymhlith ystod eang o grwpiau a derbyniwyd dros 500 o ymatebion. Mae llawer o bobl wedi rhoi ystyriaeth ddifrifol i'r ddeddfwriaeth arfaethedig ac wedi gwneud sylwadau adeiladol, ac yr wyf yn ddiolchgar am eu cyfraniad.
Roedd y Rheoliadau drafft a'r ddogfen ymgynghori eu hunain yn gynnyrch llawer iawn o waith ar draws nifer o grwpiau. Sefydlais grŵp gorchwyl a gorffen ar fridio cŵn gyda chynrychiolwyr o'r proffesiwn milfeddygol, awdurdodau lleol, sefydliadau lles a'r Kennel Club. Eu hargymhellion oedd sail y ddogfen ymgynghori a'r Rheoliadau drafft. Hefyd, ariannodd y cynllun gwella lles anifeiliaid anwes ddau brosiect a nododd fylchau yn y broses ddeddfwriaethol a'r gyfundrefn drwyddedu.
Dyma'r cynigion canolog yn y ddogfen ymgynghori a'r Rheoliadau drafft:
* Newidiadau i'r meini prawf cymhwyso ar gyfer trwyddedu, gan gynnwys nifer y geist sy'n bridio, nifer y torllwythi mewn cyfnod o 12 mis a hysbysebu 10 o gŵn bach neu fwy i'w gwerthu mewn blwyddyn
* Cymhareb staff: cŵn gydag uchafswm cymhareb o 20 ci ar gyfer pob gofalwr llawn amser, a
* Gorfodaeth i osod microsglodion ar bob ci bach cyn ei werthu neu i'w hailgartrefu.
Mae fy swyddogion bellach wedi cwblhau dadansoddiad cychwynnol o'r ymatebion a bydd y rhain yn cael eu rhoi ar wefan Llywodraeth Cynulliad Cymru.
Er i ni dderbyn amrywiaeth eang o ymatebion, cafwyd rhai negeseuon cyffredinol clir:
* Ceir cytundeb cyffredinol bod lles bridio cŵn yn cael blaenoriaeth uchel ac y dylid dod â bridio anghyfrifol mewn "ffermydd cŵn bach" i ben
* Mae lles pob ci bridio (cŵn a geist gre) a'u hepil yn hollbwysig
* Mae pryderon a yw'r ddeddfwriaeth fel y mae wedi'i drafftio ar hyn o bryd wedi'i thargedu'n ddigonol i reoli busnesau bridio cŵn, bod rhai o'r meini prawf ar gyfer cael trwydded yn rhy gul
* Mae cefnogaeth gref i ficrosglodynnu i ddod yn orfodol, ond mae yna faterion y mae angen eu hegluro, megis effaith gosod microsglodion yng Nghymru ar fasnach gyfreithlon i Loegr
O ystyried yr ymatebion a ddaeth i law, rwyf wedi gofyn i'm swyddogion weithio gyda'r sectorau bridio cŵn a lles er mwyn cyflwyno deddfwriaeth ddiwygiedig. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi ymrwymo i wella safonau lles anifeiliaid ac rwy'n gwybod bod cefnogaeth drawsbleidiol i hyn. Fy mlaenoriaeth yw sicrhau ein bod yn cael y ddeddfwriaeth yn iawn. O ystyried yr amserlen sydd ei hangen i wneud hyn, ni fydd yn bosibl cyflwyno'r ddeddfwriaeth ddrafft derfynol yn nhymor y Llywodraeth hon. Yr wyf wedi cyfarwyddo swyddogion i barhau i weithio ar sail gydweithredol i ddatblygu'r Rheoliadau drafft terfynol er mwyn paratoi ar gyfer gweithredu buan gan Lywodraeth newydd os dymunant.
|
Members will be aware that last October I launched a consultation on proposals to change dog breeding legislation in Wales. The consultation sparked considerable interest amongst a wide range of groups and we received over 500 responses. Many people have given serious thought to the proposed legislation and made constructive comments, and I am grateful for their input.
The draft Regulations and consultation document were themselves the product of a considerable amount of work across a number of groups. I established a Task and Finish Group on dog breeding with representatives from the veterinary profession, local authorities, welfare organisations and the Kennel Club. Their recommendations formed the basis of the consultation document and draft Regulations. The Companion Animal Welfare Enhancement Scheme also funded two projects which identified gaps in the legislative process and licensing regime.
The central proposals in the consultation document and draft Regulations were:
* Changes to qualifying criteria for licensing including the number of breeding bitches, number of litters in a 12 month period and the advertising of 10 or more puppies for sale in a year;
* Staff:dog ratio with a suggested maximum ratio of 20 dogs per full time attendant, and
* Mandatory microchipping of all puppies prior to sale or rehoming.
My officials have now completed an initial analysis of the responses and these will be placed on the Welsh Assembly Government website.
Whilst we received a wide range of responses there were some clear overall messages:
* there is general consensus that welfare of dog breeding has a high priority and that irresponsible breeding in so called “puppy farms” should be brought to an end
* the welfare of all breeding dogs (stud dogs and bitches) and their offspring is paramount
* there are concerns over whether the legislation as currently drafted is sufficiently targeted to control dog breeding businesses, that some of the criteria for being licensed was too narrow
* there is strong support for microchipping to become compulsory, but there are issues that need to be clarified such as the impact of compulsory microchipping in Wales on legitimate trade to England.
Given the responses we have received, I have asked my officials to work with the dog breeding and welfare sectors in order to bring forward amended legislation. The Welsh Assembly Government is committed to improving the welfare standards of animals and I know there is cross\-party support for this. My priority is to ensure that we get the legislation right. Given the timescale needed to do this, it will not be possible to bring forward the final draft legislation within this government term. I have instructed officials to continue to work on a co\-operative basis in developing the final draft Regulations in preparation for early action by a new government should they wish.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The First Minister was addressing the Senedd as the government completes its first year, which saw the introduction of four Bills, including the unique Social Partnership \& Public Procurement Bill, which will ensure the fair rights of workers and lead to more socially responsible public procurement.
All five of the Bills to be introduced in the second year of the government’s legislative programme will help address climate change and support the environment.
They are:
* a **Bill on Single Use Plastics** which will ban or restrict the sale of commonly littered items, such as plastic straws and cutlery
* a **Clean Air Bill** to introduce ambitious targets and regulations to reduce emissions and improve air quality
* an **Agriculture Bill** to reform support for Welsh agriculture, focusing on sustainable food production and rewarding farmers who take action to protect the environment
* a **Bill on Infrastructure Consenting** to simplify the process for agreeing major infrastructure projects, providing more certainty for communities and developers
* a **Bill on Coal Tip Safety** to improve the management of disused coal tips, protecting communities living in the shadow of these tips, as the risk of weather\-related damage to them increases
The First Minister said:
> I am proud to introduce this ambitious legislative programme with a clear focus on Wales’ stronger, fairer and greener future.
>
>
> The climate emergency is very much with us. We will introduce five important Bills, which will help to protect our environment, improve the quality of the air we breathe and stop so much plastic polluting our beautiful land and seascape.
The First Minister will also look to the future and signalled the government’s intention to introduce a number of important reform Bills, which will be introduced from the third year of the legislative programme.
These will include:
* A **Senedd Reform Bill** will be introduced early in the third year, taking forward the recommendations of the Special Purpose Committee on Senedd Reform, to create a modern Senedd, with greater capacity to scrutinise the Welsh Government, legislation and represent people throughout Wales.
* A **Bus Bill** will be brought forward to enable all levels of government in Wales to work together to design bus networks that properly serve communities and help people move away from using their cars for every journey.
The government will also introduce a Bill on Local Government Finance in late 2023 to reform the way people in Wales pay council tax.
First Minister added:
> We have a packed legislative agenda ahead of us as we lay the building blocks towards the Wales we want to see.
>
>
> To deliver it we will continue to work across the Chamber to make sure our legislation is the best it can be and improves the lives of all the people of Wales.
|
Roedd y Prif Weinidog yn annerch y Senedd wrth i'r llywodraeth gwblhau ei blwyddyn gyntaf, a welodd gyflwyno pedwar Mesur, gan gynnwys y Mesur Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus unigryw, a fydd yn sicrhau hawliau teg gweithwyr ac yn arwain at gaffael cyhoeddus sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol.
Bydd pob un o’r pum Bil sydd i’w cyflwyno yn ail flwyddyn rhaglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth yn helpu i fynd i’r afael â newid hinsawdd a chefnogi’r amgylchedd.
Dyma’r Biliau:
* **Bil ar Blastigau Untro** a fydd yn gwahardd neu’n cyfyngu ar werthu eitemau sy’n cael eu taflu fel sbwriel yn aml, fel gwellt a chytleri plastig
* **Bil Aer Glân** i gyflwyno targedau a rheoliadau uchelgeisiol i leihau allyriadau a gwella ansawdd aer
* **Bil Amaeth** i ddiwygio cymorth i amaethyddiaeth Cymru, gan ganolbwyntio ar gynhyrchu bwyd cynaliadwy a gwobrwyo ffermwyr sy’n cymryd camau i ddiogelu’r amgylchedd
* **Bil ar Gydsynio Seilwaith** i symleiddio’r broses o gytuno ar brosiectau seilwaith mawr, gan roi mwy o sicrwydd i gymunedau a datblygwyr
* **Bil ar Ddiogelwch Tomenni Glo** i wella’r rheolaeth ar domenni glo nas defnyddir, gan ddiogelu cymunedau sy’n byw yng nghysgod y tomenni hyn, wrth i’r risg o niwed sy’n gysylltiedig â’r tywydd gynyddu iddynt
Dywedodd y Prif Weinidog:
> Rwy’n falch o gyflwyno’r rhaglen ddeddfwriaethol uchelgeisiol hon gyda ffocws clir ar ddyfodol cryfach, tecach a gwyrddach Cymru.
>
>
> Mae’r argyfwng hinsawdd, heb os, gyda ni. Byddwn yn cyflwyno pum Bil pwysig, a fydd yn helpu i ddiogelu ein hamgylchedd, gwella ansawdd yr aer rydym yn ei anadlu ac atal cymaint o blastig rhag llygru ein tiroedd a’n moroedd hardd.
Bydd y Prif Weinidog hefyd yn edrych i’r dyfodol, gan nodi bwriad y Llywodraeth i gyflwyno nifer o Filiau diwygio pwysig, a fydd yn cael eu cyflwyno o drydedd flwyddyn y rhaglen ddeddfwriaethol ymlaen.
Bydd y Biliau hyn yn cynnwys:
* Bydd **Bil Diwygio’r Senedd** yn cael ei gyflwyno’n gynnar yn y drydedd flwyddyn, gan fwrw ymlaen ag argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio’r Senedd, i greu Senedd fodern, gyda mwy o allu i graffu ar Lywodraeth Cymru, deddfwriaeth a chynrychioli pobl ledled Cymru.
* Bydd **Bil Bysiau** yn cael ei gyflwyno i alluogi pob lefel o lywodraeth yng Nghymru i gydweithio i ddylunio rhwydweithiau bysiau sy’n gwasanaethu cymunedau’n briodol ac sy’n helpu pobl i symud oddi wrth ddefnyddio eu ceir ar gyfer pob taith.
Bydd y Llywodraeth hefyd yn cyflwyno Bil ar Gyllid Llywodraeth Leol tua diwedd 2023 i ddiwygio’r ffordd mae pobl yn talu’r dreth gyngor yng Nghymru.
Ychwanegodd y Prif Weinidog:
> Mae gennym agenda ddeddfwriaethol lawn o’n blaenau wrth inni osod y sylfeini tuag at y Gymru yr ydym am ei gweld.
>
>
> Er mwyn cyflawni hyn byddwn yn parhau i weithio ar draws y Siambr i sicrhau bod ein deddfwriaeth y gorau y gall fod a’i bod yn gwella bywydau pobl Cymru gyfan.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The statutory guidance on Elective Home Education, published today, has been developed to support local authorities in effectively discharging their duties in relation to home educated children.
The statutory guidance helps to ensure that all children are supported to access the universal services and benefits normally available to children and young people in mainstream education. It also helps clarify existing requirements in law and the respective responsibilities upon parents and local authorities to ensure consistency of practice for all children irrespective of how they receive their education.
The guidance has been developed following online consultation and engagement with a range of stakeholders, including home educated children and families.
The guidance acknowledges that the approach home educating parents take to ensure their child is receiving a suitable education is likely to be influenced by their own philosophy or views, and notes that progress, over the long term, may take a variety of forms.
The guidance sets out the Welsh Government expectation that in order to determine whether the education provided by a parent is suitable, the local authority should see and communicate with the child. Seeing and communicating with the child not only
provides an opportunity for the local authority to better understand how the child learns and what areas of learning they are interested in, it also provides an opportunity for home educated children to share their views on the education they
are receiving. This is key to upholding the right of all children to participate in decision making that affects their lives.
This statutory guidance is soon to be complemented by a new ‘home educator’s handbook’ with detailed advice and information to support home educating families in making the appropriate decisions for their child.
We are also progressing proposals in relation to establishing a database of children who are not known to a local authority, assisting local authorities in their duties to identify children who may not be receiving a suitable education.
|
Datblygwyd y canllawiau statudol ar Addysg Ddewisol yn y Cartref, a gyhoeddwyd heddiw, i gefnogi awdurdodau lleol i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol mewn perthynas â phlant sy'n cael eu haddysgu gartref.
Mae'r canllawiau statudol yn helpu sicrhau bod pob plentyn yn cael cefnogaeth i gael mynediad at y gwasanaethau cyffredinol a budd\-daliadau sydd fel arfer ar gael i blant a phobl ifanc mewn addysg prif ffrwd. Maent hefyd yn helpu egluro'r gofynion presennol yn ôl y gyfraith a'r cyfrifoldebau ar rieni ac awdurdodau lleol i sicrhau cysondeb ymarferol i bob plentyn, waeth sut maen nhw'n derbyn eu haddysg.
Mae'r canllawiau wedi'u datblygu yn dilyn ymgynghoriad ar\-lein ac ymgysylltu ag amrywiaeth o randdeiliaid, gan gynnwys plant a theuluoedd sy'n cael eu haddysgu gartref.
Mae'r canllawiau'n cydnabod bod y dull o addysgu gartref y mae rhieni'n ei gymryd i sicrhau bod eu plentyn yn cael addysg addas yn debygol o gael ei ddylanwadu gan eu hathroniaeth neu eu safbwyntiau eu hunain, ac yn nodi y gallai cynnydd, dros gyfnod hirdymor, gymryd amrywiaeth o ffurfiau.
Mae'r canllawiau yn nodi disgwyliad Llywodraeth Cymru sef, er mwyn penderfynu a yw'r addysg a ddarperir gan riant yn addas, y dylai'r awdurdod lleol weld a chyfathrebu gyda’r plentyn. Mae gweld a chyfathrebu gyda'r plentyn nid yn unig yn rhoi cyfle i'r awdurdod lleol ddeall yn well sut mae'r plentyn yn dysgu a pha feysydd dysgu y mae ganddynt ddiddordeb ynddynt, mae hefyd yn gyfle i blant sy'n cael eu haddysgu gartref rannu eu barn ar yr addysg y maent yn derbyn. Mae hyn yn allweddol er mwyn cynnal hawl pob plentyn i gymryd rhan yn y broses o wneud penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau.
Cyn bo hir, bydd y canllawiau statudol hyn yn cael ei ategu gan ‘Lawlyfr i Addysgwyr yn y Cartref’ newydd, gyda chyngor a gwybodaeth fanwl i gefnogi teuluoedd sy'n addysgu gartref wrth wneud y penderfyniadau priodol ar gyfer eu plentyn.
Rydym hefyd yn bwrw ymlaen â chynigion yn gysylltiedig â sefydlu cronfa ddata o blant nad oes awdurdod lleol yn ymwybodol ohono, gan gynorthwyo awdurdodau lleol yn eu dyletswyddau i ganfod y plant sydd o bosib ddim yn derbyn addysg addas.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Many of these home\-grown events have had funding support from the Welsh Government through Event Wales.
According to latest figures from 2019, events supported through Event Wales attracted 200,000 visitors to Wales which generated £33\.35 million in direct economic impact/net additional spend into Wales and supported more than 770 jobs in the wider tourism economy
The team behind FOCUS Wales are preparing for their 11th edition of the event between the 5th and 7th of May. The event has grown from strength to strength, and this year 250\+ artists will fill out a variety of spaces and music venues around Wrexham, using 20 stages, and hosting a full schedule of interactive industry sessions, arts events, and film screenings, throughout the festival.
FOCUS Wales Co\-Founder, Neal Thompson is looking forward to this year’s event, and sees how it’s been possible for an event rooted in Wrexham to achieve international recognition, he said:
> “This year’s Focus Wales will be more special than ever, given what we’ve all been through, and also helps build upon the excitement around Wrexham’s bid to become UK City of Culture in 2025\. With Welsh Government support we have been able to not only survive but progress develop and, in May, will deliver our best line up yet.”
Dubbed as the feel good event of the year, The Big Retreat, Pembrokeshire will take place in the tranquillity of the Lawrenny Estate from 3 to 6 June and has been voted one of the 'Top 5 Wellbeing \& Adventure Festivals' by The Guardian. Amber Lort\-Phillips, organiser of The Big Retreat Festival, said:
> “The Big Retreat is set to offer visitors the very best in feelgood experiences in a beautiful setting in June this year. With the help of Welsh Government funding, we will provide three unforgettable days in which to relax, reflect and re\-boot – the perfect way to enjoy wonderful Welsh surroundings ”
With its centenary year coinciding with the year that crowds and competitors return for the first time since the pandemic, the Urdd will be looking forward to welcoming everyone to one of Europe’s largest youth festivals, the National Urdd Eisteddfod, which will be held in Denbighshire during May half\-term of 2022\. Events Wales funding will help support Gŵyl Triban plans, a ‘festival within a festival’, scheduled for the final weekend of the Eisteddfod.
Held successfully in 2021 as part of the series of “pilot events”, as the sector returned to operation, Tafwyl returns to Cardiff Castle this year at full tempo, with a free weekend of festivities to celebrate the Welsh language and culture, including music, discussions, events, market and food.
Economy Minister, Vaughan Gething said:
> “Wales’ home\-grown events enrich the arts and cultural offer in our communities, provide a platform for emerging Welsh talent and often provide the basis for an event that goes onto gain international recognition for Wales. Our widespread support for cultural events, alongside our support of sporting and business events, helps us sustain a balanced portfolio of events across Wales.
>
>
> “We are really looking forward to welcoming visitors back to indoor and outdoor events across Wales and to see them visiting other attractions and regions as part of their stay. We recognise that it has been a hugely difficult period for the events sector and that there are still major challenges to overcome. However, with support such as the Cultural Recovery Fund from the Welsh Government which has provided more than £108 million of financial support to the cultural, creative, events and sport sectors, the sector can hopefully begin to plan ahead with more optimism.”
|
Mae llawer o'r digwyddiadau cartref hyn wedi cael cymorth ariannol gan Lywodraeth Cymru drwy Ddigwyddiadau Cymru.
Yn ôl y ffigurau diweddaraf o 2019, gwnaeth digwyddiadau a gefnogwyd drwy Ddigwyddiadau Cymru ddenu 200,000 o ymwelwyr i Gymru. Cynhyrchodd hyn werth £33\.35 miliwn o effaith economaidd uniongyrchol/gwariant ychwanegol net i Gymru a chefnogodd dros 770 o swyddi drwy’r economi dwristiaeth ehangach.
Mae'r tîm sy’n gyfrifol am FOCUS Cymru yn paratoi ar gyfer eu 11eg rhifyn o'r digwyddiad rhwng y 5 a 7 Mai. Mae'r digwyddiad wedi tyfu o nerth i nerth, ac eleni bydd dros 250 o berfformwyr yn llenwi amrywiaeth o leoedd a lleoliadau cerddoriaeth o amgylch Wrecsam, gan ddefnyddio 20 o lwyfannau, a chyflwyno amserlen lawn o sesiynau diwydiant rhyngweithiol, digwyddiadau celfyddydol, a dangosiadau ffilm, drwy gydol yr ŵyl.
Mae Cyd\-sylfaenydd FOCUS Cymru, Neal Thompson, yn edrych ymlaen at y digwyddiad eleni, ac yn gweld sut y mae'n bosibl i ddigwyddiad sydd wedi'i wreiddio yn Wrecsam gael cydnabyddiaeth ryngwladol. Dywedodd:
> "Bydd Focus Cymru eleni yn fwy arbennig nag erioed, o ystyried yr hyn rydym i gyd wedi bod drwyddo. Mae hefyd yn helpu i ychwanegu at y cyffro ynghylch cais Wrecsam i ddod yn Ddinas Diwylliant y DU yn 2025\. Yn ogystal â goroesi, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, rydym wedi cynyddu a datblygu ac, ym mis Mai, byddwn yn cyflwyno ein rhestr orau o berfformwyr.”
Disgwylir i The Big Retreat, Sir Benfro fod yn un o ddigwyddiadau gorau’r flwyddyn a chaiff ei gynnal yn llonyddwch Ystâd Lawrenni rhwng 3 i 6 Mehefin ac mae wedi cael ei bleidleisio yn un o'r '5 Gŵyl Llesiant ac Antur Gorau’ gan The Guardian. Dywedodd Amber Lort\-Phillips, trefnydd Gŵyl The Big Retreat:
> "Mae The Big Retreat ar fin cynnig y profiadau gorau i ymwelwyr mewn lleoliad hardd ym mis Mehefin eleni. Gyda chymorth drwy gyllid gan Lywodraeth Cymru, byddwn yn darparu tri diwrnod bythgofiadwy i ymlacio, myfyrio ac ail\-ddechrau – y ffordd berffaith o fwynhau amgylchedd Cymreig gwych.”
Gyda'i chanmlwyddiant yn cyd\-daro â'r flwyddyn y bydd torfeydd a chystadleuwyr yn dychwelyd am y tro cyntaf ers y pandemig, bydd yr Urdd yn edrych ymlaen at groesawu pawb i un o wyliau ieuenctid mwyaf Ewrop, sef Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd, a gynhelir yn Sir Ddinbych yn ystod hanner tymor mis Mai 2022\. Bydd cyllid Digwyddiadau Cymru yn helpu i gefnogi cynlluniau Gŵyl Triban, 'gŵyl o fewn gŵyl', a drefnwyd ar gyfer penwythnos olaf yr Eisteddfod.
Ar ôl cael ei gynnal yn llwyddiannus yn 2021 fel rhan o'r gyfres o "ddigwyddiadau peilot", wrth i'r sector ddychwelyd i’r arfer, mae Tafwyl yn dychwelyd i Gastell Caerdydd eleni yn ei hanterth, gyda phenwythnos o wyliau am ddim i ddathlu'r iaith a diwylliant Cymru, gan gynnwys cerddoriaeth, trafodaethau, digwyddiadau, marchnad a bwyd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
> "Mae digwyddiadau cartref Cymru yn cyfoethogi'r cynnwys celfyddydol a diwylliannol sydd ar gael yn ein cymunedau, gan ddarparu llwyfan i dalent o Gymru sy'n dod i'r amlwg. Yn aml, mae’n cynnig y sylfaen i ddigwyddiad fynd ymlaen i ennill cydnabyddiaeth ryngwladol i Gymru. Mae ein cefnogaeth eang ar gyfer digwyddiadau diwylliannol, ochr yn ochr â'n cefnogaeth i ddigwyddiadau chwaraeon a busnes, yn ein helpu i gynnal portffolio cytbwys o ddigwyddiadau ledled Cymru.
>
>
> “Rydym yn edrych ymlaen yn fawr at groesawu ymwelwyr yn ôl i ddigwyddiadau dan do ac awyr agored ledled Cymru a'u gweld yn ymweld ag atyniadau a rhanbarthau eraill fel rhan o'u taith. Rydym yn cydnabod ei bod wedi bod yn gyfnod anodd iawn i'r sector digwyddiadau a bod heriau mawr i'w goresgyn o hyd. Fodd bynnag, gyda chymorth fel y Gronfa Adferiad Diwylliannol gan Lywodraeth Cymru sydd wedi darparu mwy na £108 miliwn o gymorth ariannol i'r sectorau diwylliannol, creadigol, digwyddiadau a chwaraeon, gobeithio y gall y sector ddechrau cynllunio ar gyfer y dyfodol yn fwy cadarnhaol.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Supplementary Budget outlines the way the Final Budget 16\-17, which was agreed by the Assembly on the 8th of March, has been adjusted to reflect the portfolios of the new Cabinet. It also confirms funding commitments by the previous administration, including funding for flood defences, Higher Education Funding Council for Wales and repairs to the Brecon and Monmouthshire canal.
The National Assembly will debate the Supplementary Budget on 12th July.
Mark Drakeford said:
> “As a government, we want to be clear about our funding priorities and decisions. It is also important to get on with the normal business of Government and that is why, in line with established practice, I am today laying a first Supplementary Budget for 2016\-17\.
> “This Supplementary Budget highlights the funding we’ve allocated this financial year to the portfolios of our new Cabinet and also confirms some of the funding decisions taken by the previous administration. “Our budget preparations have now started in earnest for 2017\-18 to take forward the Government’s priorities to build a united, connected and sustainable country.”
|
Mae’r Gyllideb Atodol yn dangos sut mae Cyllideb Derfynol 16\-17, a gytunwyd gan y Cynulliad ar 8 Mawrth, wedi cael ei haddasu i adlewyrchu portffolios y Cabinet newydd. Mae hefyd yn cadarnhau ymrwymiadau cyllido a wnaed gan y weinyddiaeth flaenorol, gan gynnwys cyllid ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd, Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru ac atgyweirio camlas Sir Fynwy a Brycheiniog.
Bydd y Cynulliad Cenedlaethol yn trafod y Gyllideb Atodol ar 12 Gorffennaf.
Dywedodd Mark Drakeford:
> “Fel llywodraeth, rydym am fod yn glir am ein blaenoriaethau a’n penderfyniadau ariannu. Mae hefyd yn bwysig parhau gyda busnes arferol y Llywodraeth. Dyna pam fy mod i heddiw, yn unol â’r drefn arferol, yn gosod Cyllideb Atodol Gyntaf 2016\-17 gerbron y Cynulliad.
>
> “Mae’r Gyllideb Atodol hon yn tynnu sylw at y cyllid sydd wedi’i neilltuo yn ystod y flwyddyn ariannol hon i bortffolios ein Cabinet newydd, ac mae hefyd yn cadarnhau rhai o’r penderfyniadau ariannu a wnaed gan y weinyddiaeth flaenorol.
>
> “Rydyn ni eisoes wedi dechrau o ddifri ar y gwaith o baratoi cyllideb 2017\-18 er mwyn datblygu blaenoriaethau’r Llywodraeth i adeiladu gwlad unedig, gysylltiedig a chynaliadwy.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
The developing package would potentially include increased support for training, programmes to drive up efficiency and environmental improvements, and increased research and development.
Speaking after the meeting Ken Skates said:
> “It is clear Tata Steel UK is facing significant issues , including pensions and energy, which need the help of a number of stakeholders to resolve. We remain fully committed to doing all we can to support steel making in Wales. Our primary concern is for the Tata Steel workforce, and associated communities and for the long\-term and sustainable future of the whole Tata Steel operation in Wales.
>
> “We will continue to do all we can to safeguard the industry and the substantial value it delivers directly and indirectly to the Welsh economy, and we will continue to support any future ownership structure for Tata Steel's activities that offers the best prospects of retaining jobs and sustainable steel production here in in Wales.
>
> “Today’s meeting was part of an ongoing series of constructive discussions that we have held over recent month with Tata Steel We are moving forward with a proposed package of support and remain committed to working closely with Tata Steel and doing all we can to secure the long term future of steel making in Wales.
>
> “As part of these discussions, and as is normal for any investment project, we are also covering conditions the Welsh Government will require”.
Chief Executive Officer of Tata Steel UK Bimlendra Jha said:
> "The Welsh government has maintained its promise to support training, innovation and environment improvement schemes for the Welsh operations t of Tata Steel UK.
>
> “We had a constructive dialogue detailing potential areas of support. Given the challenges facing the steel industry in general our shared focus is on placing Welsh plants on a more competitive and sustainable footing going forwards.”
Following the Cabinet Secretary’s visits to Tata Steel’s sites at Port Talbot, Trostre, Llanwern and Shotton earlier this summer, considerable progress has been made in developing a potential package of support for Tata plants in Wales.
This encompasses a range of projects which will allow the Welsh plants to become more efficient and able to withstand global competition. The support includes a major environmental improvement project for Port Talbot, a potential investment in sustainable premium product capability for Shotton and a potential training support package for employees across all Tata Steel sites in Wales.
A significant increase in research and development investment in new products at Port Talbot is also expected which, if secured, would signal a significant vote of confidence in the future of Welsh steelmaking, and provide the cutting edge innovation so critical to success within the industry.
|
Gallai'r pecyn gynnwys o bosib mwy o gefnogaeth ar gyfer hyfforddiant, rhaglenni i annog effeithlonrwydd a gwelliannau amgylcheddol, a mwy o ymchwil a datblygu.
Ar ôl y cyfarfod, dywedodd Ken Skates:
> "Mae’n amlwg bod Tata Steel yn wynebu problemau mawr, gan gynnwys pensiynau ac ynni, sydd angen cymorth nifer o randdeiliaid i’w datrys. Rydym wedi ymrwymo i wneud popeth y gallwn i gefnogi’r diwydiant dur yng Nghymru. Ein pryder mwyaf yw gweithlu Tata Steel a'r cymunedau cysylltiedig, a dyfodol cynaliadwy a hir dymor holl waith Tata Steel yng Nghymru.
>
> "Byddwn yn parhau i wneud popeth y gallwn i ddiogelu'r diwydiant a'r gwerth sylweddol sy’n dod yn ei sgil yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol i economi Cymru. Byddwn yn parhau i gefnogi unrhyw strwythur perchnogaeth yn y dyfodol ar gyfer gweithgareddau Tata Steel sy'n cynnig y rhagolygon gorau o ran cynnal swyddi a chynhyrchu dur yn gynaliadwy yma yng Nghymru.
>
> "Roedd cyfarfod heddiw yn rhan o gyfres o drafodaethau adeiladol yr ydym wedi eu cynnal gyda Tata Steel yn ystod y mis diwethaf.
>
> "Rydym yn symud ymlaen gyda’r pecyn cymorth rydym yn ei gynnig ac yn parhau i ymrwymo i weithio'n agos â Tata Steel ac i wneud popeth y gallwn i ddiogelu dyfodol hir dymor i’r diwydiant dur yng Nghymru.
>
> "Fel rhan o'r trafodaethau hyn, ac fel sy’n arferol ar gyfer unrhyw brosiect buddsoddi, rydym hefyd yn trafod yr amodau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu mynnu".
Dywedodd Prif Swyddog Gweithredol Tata Steel UK, Bimlendra Jha:
> "Mae Llywodraeth Cymru wedi cadw ei haddewid i gefnogi cynlluniau hyfforddiant, arloesedd ac amgylcheddol ar gyfer gweithrediadau Tata Steel UK yng Nghymru.
>
> "Cawsom sgwrs adeiladol i drafod manylion meysydd posib o gefnogaeth. O ystyried yr heriau sy’n wynebu’r diwydiant dur yn gyffredinol, rydym yn rhannu'r un ffocws sef i roi gweithfeydd Cymru ar lwybr mwy cystadleuol a chynaliadwy ar gyfer y dyfodol.”
Yn dilyn ymweliadau Ysgrifennydd y Cabinet â safleoedd Tata Steel ym Mhort Talbot, Trostre, Llanwern a Shotton yn gynharach yn yr haf, mae cynnydd sylweddol wedi digwydd i ddatblygu pecyn cymorth posib ar gyfer gweithfeydd Tata yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys amrywiaeth o brosiectau a fydd yn caniatáu i weithfeydd Cymru fod yn fwy effeithlon ac i wrthsefyll cystadleuaeth fyd\-eang. Mae'r gefnogaeth yn cynnwys prosiect mawr i wella'r amgylchedd ym Mhort Talbot, buddsoddiad posib mewn cynnyrch premiwm, cynaliadwy yn Shotton a phecyn hyfforddiant posib i weithwyr yn holl safleoedd Tata Steel yng Nghymru.
Disgwylir cynnydd sylweddol yn y buddsoddiad mewn ymchwil a datblygu i gynnyrch newydd ym Mhort Talbot hefyd a fyddai, o’i sicrhau, yn dangos pleidlais bwysig o hyder yn nyfodol y diwydiant dur yng Nghymru, ac yn darparu'r arloesedd sydd mor hanfodol i lwyddiant y diwydiant.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae’n ofyniad statudol o dan Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion 2013 i bob Awdurdod Lleol yng Nghymru gyflwyno Cynllun Strategol y Gymraeg Mewn Addysg (CSGA). Pan ddaeth drafft o gynlluniau 2017\-20 i law y cyn\-Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, penderfynwyd bod angen gwneud rhagor o waith am nad oeddent yn dangos uchelgais ddigonol i gyflawni Strategaeth Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr.
Er mwyn hwyluso’r twf, cyhoeddais grant cyfalaf ychwanegol i’r awdurdodau lleol yn gynharach eleni. Rwyf yn falch iawn o’r safon a’r weledigaeth a welwyd yn y ceisiadau a ddaeth i law, ac ar sail hynny, mae’n bleser gen i gyhoeddi cyfanswm o £46m o wariant cyfalaf i gefnogi twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg. Mae hyn yn cynnwys arian ychwanegol trwy’r Rhaglen Gyfalaf Cynnig Gofal Plant. Drwy gyfuno’r cyllid o dan y Grant Cyfalaf Cyfrwng Cymraeg a Grant Cyfalaf y Cynnig Gofal Plant rydyn ni wedi gallu sicrhau’r manteision mwyaf o’n buddsoddiadau o dan y ddwy raglen er mwyn annog twf a darpariaeth mewn dau faes pwysig. Bydd y buddsoddiad o £46m yn cefnogi 41 prosiect ar draws 16 awdurdod lleol gan greu 2818 o lefydd ysgol a gofal plant ychwanegol ar gyfer dysgwyr cyfrwng Cymraeg. Mae hyn ar ben y £5 miliwn a gyhoeddwyd i Bantycelyn yn gynharach eleni gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, cyfanswm o £51 miliwn i gefnogi addysg Gymraeg.
Cymeradwywyd nifer o’r Cynlluniau Strategol ym mis Mawrth eleni. Mae Gweinidogion Cymru wedi rhoi ystyriaeth fanwl i’r Cynlluniau Strategol diwygiedig sydd yn weddill ac bellach wedi cymeradwyo cynlluniau y Siroedd isod:\-
* Castell\-nedd Port Talbot
* Pen\-y\-bont ar Ogwr
* Merthyr Tudful
* Mynwy
* Torfaen
Mae’r cynnydd a welir ers ailgyflwyno y CSGA diwygiedig yn rhoi sail i fwrw mlaen. Mae’r siroedd hynny sydd wedi’u cymeradwyo i gyd wedi ymrwymo i gefnogi twf mewn addysg cyfrwng Cymraeg yn eu cynlluniau yn unol â Cymraeg 2050\. Er nad ydym wedi cyflawni’r broses gymeradwyo gydag awdurdod lleol Casnewydd, rwyf yn hapus bod y trafodaethau yn mynd i’r perwyl cywir. Hoffwn ddiolch i’r holl awdurdodau lleol am eu cydweithrediad.
Mae’r cynlluniau diwygiedig a’r arian cyfalaf ychwanegol yn rhoi platfform gadarn i symud ymlaen a sicrhau twf mewn addysg Gymraeg yn unol â thargedau strategol y Llywodraeth. Rwyf yn hyderus y bydd y sylfeini a osodir yma yn atgyfnerthu’r sector addysg Gymraeg sydd yn hanfodol i weithredu gweledigaeth Cymraeg 2050\.
|
As part of the School Standards and Organisation (Wales) Act 2013, it is a statutory duty for all Local Authorities in Wales to submit a Welsh in Education Strategic Plan (WESP). Following receipt of the draft plans for 2017\-20, the previous Minister for the Welsh Language and Lifelong Learning decided that further work was required as they lacked the ambition to achieve the Welsh Government’s Welsh Language strategy, Cymraeg 2050: A million Welsh speakers.
To facilitate this growth, I announced an additional capital grant for local authorities earlier this year. I am satisfied with the quality and the vision demonstrated in the bids put forward, and on that basis, I’m pleased to announce a total of £46m capital funds to boost Welsh medium education. This includes funding from the Childcare Offer Capital Grant Programme. By combining the funding from the Welsh Medium Capital and Childcare Offer Capital Grants, we have been able to ensure that the return on our investment from both Grants has been maximised to encourage growth and provision to two important areas. This combined funding commitment of £46m will deliver 41 projects across 16 local authorities and create an additional 2818 school and childcare places for Welsh medium learners. This is in addition to the £5 million for the Pantycelyn development announced by the Cabinet Secretary for Education earlier this year, making a total of £51 million to support Welsh education.
Several strategic plans were approved in March of this year. Welsh Ministers have given careful consideration to the remaining revised strategic plans and as a result have approved the following: \-
* Neath Port Talbot
* Bridgend
* Merthyr Tydfil
* Monmouthshire
* Torfaen
The improvements made to the WESPs since their re\-submission have provided a firmer footing to progress, and the local authorities who have had their plans approved have all demonstrated a commitment to support growth in Welsh\-medium education in line with Cymraeg 2050\. Although the approval process is not yet complete with Newport local authority, I am satisfied that discussions are heading in the right direction. I would like to thank all local authorities for their cooperation.
The plans provide a platform to move forward to ensure the expansion of Welsh\-medium provision so that Government strategic objectives are met. I am confident that the foundations developed here reinforce the Welsh\-medium education sector which is essential in implementing the aims of Cymraeg 2050\.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae'r datganiad hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf ar y camau sy’n cael eu cymryd i leihau marwolaethau yn sgil damweiniau beiciau modur yng Nghymru.
Rwy’n pryderu am y marwolaethau sydd wedi digwydd hyd yma eleni, yn enwedig ymhlith gyrwyr beiciau modur. Yn ystod naw mis cyntaf y flwyddyn hon, collodd 25 o yrwyr beiciau modur eu bywydau ar ffyrdd Cymru: 12 ar y rhwydwaith cefnffyrdd, a 13 ar ffyrdd eraill. Gellid osgoi'r marwolaeth hyn a’u goblygiadau trasig i’r teuluoedd a’r ffrindiau. Hefyd, mae effaith fawr ar eraill sy'n rhan o'r damweiniau a'r rheini sy'n gweithio i'r gwasanaethau brys ac yn ymateb iddynt.
Rydw i wedi trafod y mater hwn gyda phedwar Prif Gwnstabl yr Heddlu yng Nghymru ac rwyf ar ddeall nad oes patrwm penodol i'r digwyddiadau trasig hyn. Fodd bynnag, mae'r heddlu yn parhau i gadw llygad barcud ac yn mynd i weithio gyda'r holl awdurdodau priffyrdd ledled Cymru i graffu ar y data. Drwy hyn, bydd modd gweld sut y gellir targedu'r ymyriadau yn fwy effeithiol.
Cyfarfu Grŵp Strategol Diogelwch ar y Ffyrdd Cymru Gyfan ar 22 Hydref. Ystyriwyd yr wybodaeth ddiweddaraf ar anafiadau y beicwyr modur er mwyn helpu i gynllunio’r gwaith a fydd yn cael ei wneud yn y dyfodol i dargedu ymyriadau.
Mae'n hanfodol bod yr holl bartneriaid yn parhau i gydweithio ac rwy'n hyrwyddo hyn drwy sefydlu Fframwaith Diogelwch y Ffyrdd. Mae'r fframwaith yn cydnabod bod beicwyr modur yn agored i niwed ac mae'n nodi'r camau y mae'r partneriaid a minnau wedi cytuno arnynt. Rydw i'n rhoi cyllid ar gyfer nifer o raglenni sydd â’r nod o hyrwyddo diogelwch gyrwyr beiciau modur, megis BikeSafe and DragonRider, ac rydw i wedi comisiynu gwerthusiad o’r hyfforddiant a roddir i feicwyr modur, i weld os oes ffyrdd y gellid gwella'r rhaglenni hyn a'u gwneud yn fwy effeithiol. Rydw i'n awyddus i edrych i weld os yw'n bosibl gwella'r ffordd o adnabod a thargedu gyrwyr sydd fwyaf tebygol o gael gwrthdrawiadau.
|
This statement provides an update on action being taken to reduce motorcycle fatalities in Wales.
I have been concerned about the fatalities we've seen so far this year, especially among motorcyclists. In the first nine months of this year, 25 motorcyclists have lost their lives on Welsh roads: 12 on the trunk road network, and 13 on other roads. This avoidable loss of life has tragic consequences for the families and friends of those who died. It also has a deep impact on others involved in the collisions and those in the emergency services who respond to them.
I have discussed this issue with the four Police Chief Constables who have advised that there does not appear to be a particular pattern to these tragic incidents. However, the police are continuing to be vigilant and will work with the all highway authorities across Wales to scrutinise the data for indications of where interventions can be more effectively targeted.
The All Wales Strategic Road Safety Group met on 22 October and considered the most up to date information on motorcyclist casualties, to aid the future planning of targeted interventions.
Joint working by all partners continues to be vital and this is something I promote through the implementation of the Road Safety Framework. The Framework recognises the vulnerability of motorcyclists and sets out the actions that partners and I have agreed to take. I provide funding for a number of programmes that aim to promote rider safety, such as BikeSafe and Dragon Rider, and I have commissioned an evaluation of motorcyclist training, to see if there are ways in which these programmes can be strengthened and made more effective. I am keen to explore whether it is possible to better identify and target riders who are most likely to be involved in collisions.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Yn dilyn cyngor Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru ac uwch\-swyddogion yn Llywodraeth Cymru, cadarnheais ar 22 Hydref 2015 y byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn parhau o dan fesurau arbennig am ddwy flynedd.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi'r fframwaith gwella ar gyfer y bwrdd iechyd. Mae'r ddogfen hon yn egluro ein disgwyliadau ar gyfer gwelliannau ym mhob un o'r meysydd a nodwyd o dan fesurau arbennig a'r cerrig milltir ar gyfer cynnydd dros y ddwy flynedd nesaf. Mae hefyd yn nodi'r meini prawf y mae'n rhaid i Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr eu bodloni cyn y gellir ystyried is gyfeirio’r mesurau arbennig yn y dyfodol.
Mae'r broses o ddatblygu'r fframwaith wedi cynnwys adborth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru, y Bwrdd Iechyd a chyngor gan y tîm o gynghorwyr arbennig sydd wedi gweithio gyda'r Bwrdd yn ystod y misoedd cyntaf o fesurau arbennig.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn gwneud cynnydd, er bod angen newid yn sylweddol ac mae'n mynd i gymryd amser i adennill hyder ac ymddiriedaeth y boblogaeth leol a'r staff. Mae'n bwysig, felly, bod y cerrig milltir a osodwyd ar gyfer y Bwrdd Iechyd, y bydd y Bwrdd yn cael ei asesu yn eu herbyn, yn chwarae rhan i feithrin yr ymddiriedaeth honno.
Mae mesurau arbennig yn gysyniad newydd ar gyfer y GIG yng Nghymru, ond mae wedi cael ei ddefnyddio mewn amryw o sefydliadau'r GIG yn Lloegr. Rydym wedi tynnu oddi ar brofiad Lloegr, sydd wedi dangos y gall gymryd nifer o flynyddoedd i drawsnewid sefydliadau yn llwyddiannus.
Mae'r fframwaith gwella yn nodi'r camau gweithredu bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn eu cymryd i ddangos a darparu tystiolaeth ei fod yn gwella ym mhob maes a nodwyd o dan y mesurau arbennig \- arweinyddiaeth a llywodraethu; ymgysylltu â'r cyhoedd a'r staff; iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth; a gofal sylfaenol a gwasanaethau y tu allan i oriau. Bydd cynnydd yn erbyn y fframwaith yn cael ei ystyried yn y cyfarfodydd rhwng y tri chorff, sef swyddogion o Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru, Swyddfa Archwilio Cymru a Llywodraeth Cymru.
Rhaid i'r Bwrdd Iechyd ymateb yn awr a dangos sut mae'n bwriadu bodloni'r disgwyliadau a amlinellir yn y fframwaith gwella. Rhaid gwneud hynny gan fodloni'r amserlenni ar gyfer pob un o'r tri chyfnod \- hyd at chwe mis; saith i 12 mis a 13 i 24 mis. Bydd yn darparu tystiolaeth yn erbyn y chwe mis cyntaf yn mis Mai.
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi penodi Prif Weithredwr newydd, sef Gary Doherty, a fydd yn dechrau ar ei swydd ar 29 Chwefror. Bydd yn darparu arweinyddiaeth hirdymor i gymryd y camau gweithredu angenrheidiol a pharhau â'r broses o ailfeithrin y berthynas â'r staff, y cyhoedd a rhanddeiliaid, ac ennyn eu hyder unwaith yn rhagor.
Bydd Simon Dean yn parhau i weithredu fel y Prif Weithredwr Dros Dro ac fel y Swyddog Atebol hyd nes y bydd Mr. Doherty yn ei swydd. Wedi hynny, bydd Simon Dean yn dychwelyd i'w rôl barhaol fel Dirprwy Brif Weithredwr GIG Cymru. Hoffwn ddiolch i Mr. Dean am ei arweinyddiaeth yn ystod y misoedd cyntaf o dan fesurau arbennig ac am ei waith i sefydlogi Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr. Rwyf am ddiolch hefyd i staff y Bwrdd am barhau i ymateb mor gadarnhaol i drefniadau'r mesurau arbennig.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddarparu adnoddau ychwanegol a chymorth drwy'r tîm gwella ac yn gweithio ochr yn ochr â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr tra bo trefniadau'r mesurau arbennig yn parhau.
|
Following the advice of Healthcare Inspectorate Wales (HIW), the Wales Audit Office (WAO) and senior Welsh Government Officials, I confirmed, on October 22, 2015, that Betsi Cadwaladr University Health Board would remain in special measures for two years.
I am today publishing the improvement framework for the health board, which sets out our expectations for improvement in each of the areas identified under special measures and the milestones for progress over the next two years. It also sets out the criteria Betsi Cadwaladr University Health Board must meet in order for special measures to be considered for de\-escalation in the future.
The process to develop the framework has included feedback from HIW, WAO the health board and advice from the team of independent expert advisors who have worked with the board during the first months of special measures.
Betsi Cadwaladr University Health Board is making progress, although the scale of change is significant and regaining the trust and confidence of the local population and staff will take time. It is therefore important that the milestones set for the health board, against which it will be assessed, contribute to the development of that trust.
Special measures is a new concept for the NHS in Wales, however it has been used in a number of NHS organisations in England. We have drawn on the experience in England, which has shown that it can take a number of years for organisations to be successfully transformed.
The improvement framework identifies actions Betsi Cadwaladr University Health Board will take to demonstrate and evidence progress of improvement in each of the areas identified under special measures – leadership and governance; engagement with the public and staff; mental health; maternity services; and primary care including out\-of\-hours services. Progress against the framework will be considered at the regular tripartite meetings by HIW, WAO and senior Welsh Government officials.
The health board must now respond and demonstrate how it plans to deliver the expectations outlined in the improvement framework, ensuring it achieves the timescales in each of the three phases – up to six months; seven to 12 months and 13 to 24 months. It will provide evidence of progress against the first six months in May.
Betsi Cadwaladr University Health Board has recruited a new chief executive, Gary Doherty, who will take up post on 29 February. He will provide long\-term leadership to take forward the action required and continue the process of rebuilding the relationship with and confidence of staff, public and stakeholders.
Simon Dean will continue to act as the interim chief executive and the accountable officer until Mr Doherty’s arrival. He will then return to his substantive role as deputy chief executive of NHS Wales. I would like to thank Mr Dean for providing leadership during the immediate months of special measures and his work to stabilise Betsi Cadwaladr University Health Board. I also thank the health board’s staff for continuing to respond positively to the special measures arrangements.
The Welsh Government will continue to provide extra resources and support through the improvement team to work alongside Betsi Cadwaladr University Health Board while it remains in special measures.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Porthcawl’s Rest Bay Boardwalk and Pontypridd’s Berw Bridge will both benefit from the investment, announced by Housing and Local Government Minister Julie James and Finance Minister, Rebecca Evans.
Projects being funded include:
* **Rhondda Cynon Taf Council** will receive £4\.4m for work they are doing to tackle damage to highways, bridges, culverts and retaining walls across the authority
* In **Torfaen**, £120,000 to rebuild and repair the river wall washed away at St Albans car park
* **Wrexham** County Borough Council will receive £40,000 for wall, fence and footpath repairs in the Llangollen Rural Community Council area;
* £875,000 for **Newport** County Council to repair flood defence damage in Bassaleg
* In **Neath Port Talbot,** £718,000 for repairs to Blaengwrach River Bridge
* **Bridgend** County Council will receive £50,000 for repairs they have completed to Porthcawl’s Rest Bay boardwalk.
Julie James said:
> “One year on from Storm Dennis, councils are continuing to repair the serious flood damage to roads, bridges, pavements and walls sustained in many parts of Wales.
>
>
> “After our initial emergency response, we have been supporting them to carry out this ongoing repair work, which included work that needed to be done before the start of this winter to prevent further damage. I am pleased to see this funding is making a difference in communities across Wales.”
Rebecca Evans said:
> “Communities in Wales were devastated by the damage caused by last year’s storms, and the Welsh Government is continuing to support local authorities with their ongoing recovery and repair work.”
Lesley Griffiths, Minister for Environment, Energy and Rural Affairs, said:
> “Last year’s floods caused devastation to families, households and businesses across Wales – as such, I am very pleased to see this additional funding announced.
>
>
> “Following the flooding seen last year, we provided more than £5m to allow for immediate repairs to flood defences. This funding will further enhance continued work with our risk management authorities to protect communities from increased risk of flooding."
|
Bydd Llwybr Bordiau Rest Bay ym Mhorthcawl a Phont Berw ym Mhontypridd yn elwa ar y buddsoddiad, a gyhoeddwyd gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James a'r Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans:
Mae’r prosiectau sy’n derbyn cyllid yn cynnwys:
* **Cyngor Rhondda Cynon Taf** a fydd yn derbyn £4\.4 miliwn ar gyfer gwaith maent yn ei wneud i atgyweirio ffyrdd, pontydd, cwlfertau a waliau cynnal ar draws yr awdurdod;
* £120,000 yn **Nhorfaen** i ailadeiladu ac atgyweirio wal yr afon a gafodd hysgubo i ffwrdd ym maes parcio St Alban;
* Bydd **Cyngor Bwrdeistref Sirol Wrecsam** yn derbyn £40,000 i atgyweirio waliau, ffensys a llwybrau troed yn ardal Cyngor Cymuned Gwledig Llangollen;
* £875,000 ar gyfer **Cyngor Sir Casnewydd** i atgyweirio difrod i amddiffynfeydd llifogydd ym Masaleg;
* £718,000 yng **Nghastell\-nedd Port Talbot** ar gyfer atgyweirio Pont Afon Blaengwrach;
* Bydd **Cyngor Sir Pen\-y\-bont ar Ogwr** yn derbyn £50,000 ar gyfer gwaith atgyweirio maent wedi’i gynnal ar Lwybr Bordiau Rest Bay.
Dywedodd Julie James:
> “Flwyddyn ar ôl Storm Dennis, mae cynghorau'n parhau i atgyweirio’r difrod llifogydd difrifol i ffyrdd, pontydd, palmentydd a waliau a welwyd mewn sawl rhan o Gymru.
>
>
> "Ar ôl ein hymateb brys cychwynnol, rydyn ni wedi bod yn eu cefnogi i wneud y gwaith atgyweirio parhaus hwn, a oedd yn cynnwys gwaith yr oedd angen ei wneud cyn dechrau'r gaeaf hwn i atal rhagor o ddifrod. Rwy'n falch o weld bod y cyllid hwn yn gwneud gwahaniaeth mewn cymunedau ledled Cymru."
Dywedodd Rebecca Evans:
> "Roedd y difrod a achoswyd gan stormydd y llynedd yn ergyd drom i gymunedau yng Nghymru, ac mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gefnogi awdurdodau lleol gyda'u gwaith adfer ac atgyweirio parhaus."
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
> "Roedd llifogydd y llynedd yn ddinistriol iawn i deuluoedd, cartrefi a busnesau ledled Cymru – felly, rwy'n falch iawn o weld yr arian ychwanegol hwn yn cael ei gyhoeddi.
>
>
> "Yn dilyn y llifogydd a welwyd y llynedd, gwnaethon ni ddarparu mwy na £5 miliwn i ganiatáu atgyweirio amddiffynfeydd llifogydd yn ddi\-oed. Bydd yr arian hwn yn gwella ymhellach y gwaith parhaus gyda'n hawdurdodau rheoli risg, i ddiogelu cymunedau rhag risg uwch o lifogydd”
|
Translate the text from English to Welsh. |
Joined by Flintshire’s Deputy Leader, Dave Hughes, and local councillors the Cabinet Secretary walked Liverpool Road, one of the main roads that has caused concerns locally, to understand some of the issues raised.
This is the latest in a number of meetings that the Cabinet Secretary is embarking upon as part of a national listening programme on 20mph. The Welsh Government is also working jointly with all 22 local authorities to prepare the ground for changes and revising the guidance on which local roads can be exempted from 20mph.
As part of this process, the Cabinet Secretary is encouraging people from across Wales to contact their local council to let them know which roads should be exempted so that 20mph is better targeted. Information on how people can get involved is now available on the Welsh Government website.
Cabinet Secretary for North Wales and Transport, Ken Skates said:
> I am pleased to be in Buckley today listening to some of the genuine concerns that local residents have raised on 20mph.
>
> “Listening has always been a top priority for me, and I want to put communities at the heart of our thinking as we work with local councils to press ahead with refining the policy so that we get the right speeds on the right roads.
>
> “We all have a role to play in this process and that’s why I am encouraging people to be part of this national conversation and let their local council know which roads they think should be exempt so that we have the right speeds on the right roads.
>
> "The website we are launching today provides all the information you need to get involved.
Flintshire County Council Deputy Leader and Cabinet Member for Streetscene and the Regional Transport Strategy, said:
> I am very grateful for Ken’s visit to Buckley today. This is the first step towards a much\-needed review of the 20mph criteria.
>
> “Flintshire County Council is looking forward to working closely with Welsh Government to ensure a positive outcome for our communities.
|
JGyda Dirprwy Arweinydd Sir y Fflint, Dave Hughes, a'r cynghorwyr lleol, crwydrodd Ysgrifennydd y Cabinet Liverpool Road, un o'r priffyrdd sy'n codi gofidiau yn yr ardal, i ddeall rhai o'r pryderon.
Dyma'r diweddaraf mewn nifer o gyfarfodydd y mae Ysgrifennydd y Cabinet am eu cynnal fel rhan o raglen wrando genedlaethol am yr 20mya. Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio hefyd ar y cyd â phob un o'r 22 awdurdod lleol i fraenaru'r tir ar gyfer newid ac adolygu'r canllawiau ynghylch pa ffyrdd y gellir eu heithrio rhag yr 20mya.
Fel rhan o'r broses hon, mae Ysgrifennydd y Cabinet yn annog pobl o bob cwr o Gymru i gysylltu â'u cyngor lleol i roi gwybod iddynt pa ffyrdd y dylid eu heithrio fel bod 20mya yn cael ei dargedu'n well. Mae gwybodaeth ynghylch sut i gymryd rhan ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru.
Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros Ogledd Cymru a Thrafnidiaeth:
> Mae'n bleser cael bod ym Mwcle heddiw i glywed rhai o'r pryderon didwyll y mae trigolion lleol wedi'u codi am yr 20mya.
>
> "Mae gwrando wedi bod yn flaenoriaeth i mi erioed, ac rwyf am sicrhau bod cymunedau'n ganolbwynt ein meddyliau wrth i ni weithio gyda chynghorau lleol i fireinio'r polisi a phenderfynu ar y cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn.
>
> "Mae gan bob un ohonom ran i'w chwarae yn y broses hon a dyna pam rwy'n annog pobl i fod yn rhan o'r sgwrs genedlaethol hon a rhoi gwybod i'w cyngor lleol pa ffyrdd y maen nhw'n meddwl y dylid eu heithrio i gael y cyflymder iawn ar y ffyrdd iawn. Mae'r wefan rydyn ni'n ei lansio heddiw yn rhoi'r holl wybodaeth sydd ei hangen arnoch i gymryd rhan.
Dywedodd Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a'r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol yng Nghyngor Sir y Fflint:
> Rwy'n ddiolchgar iawn i Ken am ymweld â Bwcle heddiw. Dyma'r cam cyntaf tuag at yr adolygiad sydd fawr ei angen o'r meini prawf 20mya.
>
> "Mae Cyngor Sir y Fflint yn disgwyl ymlaen at weithio'n agos gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau canlyniad cadarnhaol i'n cymunedau.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae Phytophthora pluvialis yn gallu effeithio ar amrywiaeth o rywogaethau coed, gan gynnwys hemlog y gorllewin, ffynidwydd Douglas a sawl rhywogaeth o binwydd.
Yn dilyn canfyddiadau yn Nghoedwig Dyfi ac yng Nghrychan, Llanymddyfri, mae achosion newydd wedi’u cadarnhau yn Nhal\-y\-bont ar Wysg, Mynydd Du a Maesyfed.
Mae’r clefyd bellach wedi effeithio ar saith safle yng Nghymru.
Mae canllaw symptomau wedi’i lunio sy’n darparu rhagor o wybodaeth am Phytophthora pluvialis.
Anogir pobl i roi gwybod os ydyn nhw’n gweld achos o’r clefyd drwy borthol ar\-lein TreeAlert.
Bydd achosion pellach yng Nghymru yn cael eu cofnodi ar\-lein bellach a gellir eu gweld yn: Phytophthora pluvialis.
|
*Phytophthora pluvialis* can affect a variety of tree species, including western hemlock, Douglas fir and several pine species.
Following findings in the Dyfi Forest and in Crychan, Llandovery, new cases have been confirmed in Talybont\-on\-Usk, Mynydd Du and Radnor.
A total of seven sites are now affected in Wales.
A symptom guide has been prepared that provided more information on Phytophthora pluvialis.
People are urged to report sightings via the TreeAlert online portal.
Further cases in Wales will now be logged online and available to view at: Phytophthora pluvialis.
|
Translate the text from English to Welsh. |
On 23 May 2023, an oral statement was made in the Senedd: Update on Bus Services (external link).
|
Ar 23 Mai 2023, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Diweddariad ar Wasanaethau Bysiau (dolen allanol).
|
Translate the text from Welsh to English. |
Ar 26 Tachwedd 2013, gwnaeth y Gweinidog dros Addysg a Sgiliau Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Adolygiad Hill: Darparu Gwasanaethau Addysg yng Nghymru yn y Dyfodol.
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol).
Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org/ Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.
|
On 26 November 2013, the Minister for Education and Skills made an oral Statement in the Siambr on: Hill Review \- Future Delivery of Education Service in Wales.
The Statement can be access on the National Assembly for Wales website (external link).
If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org/ Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Cabinet Secretary explained how planners must play a crucial role in helping the Welsh Government achieve its key targets, including building 20,000 affordable homes, reducing carbon emissions and improving the prosperity of Wales.
During her speech the Cabinet Secretary emphasised the importance of Local and Strategic Development Plans and urged local planning authorities to work together to set out a shared vision across a region to inform and guide important high\-profile regeneration initiatives such as City Deal and the Metro.
The Cabinet Secretary described to planners how, by working together with the Welsh Government, she envisages a system that is visionary, evidence based, connected, efficient, and is valued by communities, businesses, politicians and planners.
Addressing the Royal Town Planning Institute (RTPI) Wales Conference in Cardiff, the Cabinet Secretary responded to ten “asks” the RTPI recently posed the Welsh Government by setting out five “asks” of her own.
Lesley Griffiths assured the audience that the Welsh Government fully values the important role they play in helping make Wales a more sustainable and prosperous country, She said:
> “The planning system has protected our most cherished natural assets and buildings. It has supported the provision of homes and jobs and helped to regenerate our deprived communities and town centres.
>
> “But in many people’s minds, including some planners, senior managers and politicians, planning is only about regulating the activities of others.
>
> “If we want a more sustainable Wales we all need to recognise the value of planning, including the economic value that it creates.
>
> “I have set out my 5 asks of the planning system which I believe we should all sign up to. I look forward to working closely with the RTPI and planners across Wales over the coming years to turn the vision I have described today into reality.”
|
Yng Nghaerdydd, gwnaeth yr Ysgrifennydd annerch Cynhadledd y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru. Bu’n ymateb i’r deg o ofynion wnaeth y Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru roi gerbron Llywodraeth Cymru’n ddiweddar , a hynny drwy osod ei phum gofyniad ei hun.
Gwnaeth yr Ysgrifennydd Cabinet ddweud wrth y cynllunwyr, ei bod yn rhag\-weld y gallant, drwy gydweithio gyda Llywodraeth Cymru, greu system sy’n edrych ymlaen i’r dyfodol, sy’n seiliedig ar dystiolaeth, yn gysylltiedig, yn effeithlon, ac yn cael ei gwerthfawrogi gan gymunedau, busnesau, gwleidyddion a chynllunwyr.
Yn ystod ei haraith, pwysleisiodd yr Ysgrifennydd Cabinet bwysigrwydd Cynlluniau Datblygu Lleol a Strategol a rhoddodd anogaeth i’r awdurdodau cynllunio lleol gydweithio er mwyn llunio gweledigaeth ar y cyd ar draws rhanbarth. Bydd hynny’n fodd i lywio a thywys mentrau adfywio uchel eu proffil megis y Fargen Ddinesig a’r Metro.
Esboniodd yr Ysgrifennydd Cabinet fod yn rhaid i gynllunwyr chwarae rôl hanfodol wrth gynorthwyo Llywodraeth Cymru i gyrraedd ei thargedau allweddol. Mae’r targedau hynny’n cynnwys adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy, gan leihau allyriadau carbon a sicrhau bod Cymru’n fwy llewyrchus.
Gwnaeth Lesley Griffiths sicrhau’r gynulleidfa bod Llywodraeth Cymru’n llwyr werthfawrogi’r rôl bwysig sydd ganddynt hwythau o safbwynt sicrhau bod Cymru’n dod yn wlad fwy cynaliadwy a llewyrchus. Dywedodd:
> “Mae’r system gynllunio wedi diogelu ein hasedau naturiol a’n hadeiladau mwyaf pwysig. Mae wedi darparu cartrefi a swyddi ac mae hynny wedi bod o gymorth i adfywio ein cymunedau a chanol ein trefi.
>
> “Ond ym marn nifer o bobl, gan gynnwys rhai cynllunwyr, uwch\-reolwyr a gwleidyddion, yr unig beth y mae cynllunio’n ei wneud yw rheoleiddio gweithgareddau a wneir gan eraill.
>
> “Os ydym eisiau i Gymru fod yn wlad fwy cynaliadwy mae angen inni i gyd sylweddoli gwerth y system gynllunio, gan gynnwys y gwerth economaidd sy’n dod yn ei sgil.
>
> “Rydw i wedi nodi’r 5 o ofynion sydd gennyf ar gyfer y system gynllunio . Credaf fod angen i bawb ymrwymo iddynt. Edrychaf ymlaen at gydweithio’n agos gyda’r Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol yng Nghymru a chynllunwyr ledled Cymru dros y blynyddoedd nesaf. Drwy hynny bydd modd inni droi’r wireddu’r weledigaeth y soniais amdani heddiw yn realiti.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
Construction of the £139 million scheme, delivered by the Balfour Beatty Jones Bros Joint Venture, began in 2019 with work continuing throughout the COVID\-19 pandemic with safeguards in place to protect the workforce.
One of the largest recent infrastructure projects in North Wales, the 9\.7km bypass runs from the Goat Roundabout on the A499/A487 to the Plas Menai roundabout. 17 major structures were built as part of the scheme and 99% of the excavated materials were recycled and reused on the bypass. The project also includes improved active travel routes for walking and cycling in the area.
The scheme has provided a boost for the local economy with close to £70 million spent with Welsh businesses of which £12 million was spent on small to medium enterprises. £2 million was also spent by the construction workforce in local shops, businesses and services during the construction period.
During the construction stage 93 per cent of the workforce came from the North Wales area, with 31 per cent living within a 10\-mile radius. 36 graduates and apprentices were employed and trained while 15 people received work experience. An average of 160 people worked on the scheme at any one time during construction.
Measures have been put in place to minimise the environmental impact of the scheme to improve and enhance biodiversity in the area, including safe passages for wildlife. 170,000 plants, providing around 14 hectares of new native species, woodlands and scrub, as well as over 20 kilometres of new hedgerows were also planted.
Deputy Minister for Climate Change with a responsibility for Transport Lee Waters said:
> “This projects represents a significant investment in the area by the Welsh Government and it is testimony to the local workforce that it has been completed ahead of time. As well as the road the project has created new links for walking and cycling which will improve the health and the environment of local communities.
Minister for North Wales Lesley Griffiths said:
> “This scheme is one of the largest recent infrastructure programmes in North Wales. It has been delivered ahead of time during an extremely challenging period. I congratulate all those involved for delivering this scheme during the pandemic, while keeping their workforce safe. It is a testament to the skills and commitment we have here in North Wales.
Minister for Economy Vaughan Gething said:
> “The Caernarfon and Bontnewydd bypass has been a boost for the local economy during construction, providing opportunities for apprentices and graduates, while businesses and suppliers also benefited. In the long term the improved connectivity to Cibyn Industrial Estate, and wider afield, will be good for region’s economic growth.
Jon Muff, Project Lead at Balfour Beatty Jones Bros said:
> “We are very grateful to the team for their hard work and dedication throughout the project, bringing together the skills and expertise across our joint venture to connect communities in Caernarfon and Bontnewydd whilst significantly reducing traffic congestion and improving journey times.
>
>
> “We are proud of the legacy we are leaving behind, which includes considerable spend in the local area as well as training and upskilling dozens of people, including graduates and apprentices.
Gwion Lloyd, a 22\-year\-old engineering apprentice from Harlech who has been on site since he started in 2019, said:
> “It has been excellent to learn so much on such a major project for the region, and I couldn’t have asked for a better start to my civil engineering career. It gives me great pride to know that the community, including family and friends, will be able to benefit from the bypass on a regular basis.
|
Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r cynllun gwerth £139 miliwn, a gyflawnwyd gan Gyd\-fenter Balfour Beatty Jones Bros, yn 2019\. Gwnaeth y gwaith barhau drwy gydol pandemig COVID\-19 gyda mesurau ar waith i ddiogelu'r gweithlu.
Dyma un o'r prosiectau seilwaith diweddar mwyaf yng Ngogledd Cymru, ac mae'r ffordd osgoi 9\.7km yn rhedeg o gylchfan y Goat ar yr A499/A487 i gylchfan Plas Menai. Adeiladwyd 17 o strwythurau mawr fel rhan o'r cynllun a chafodd 99% o'r deunyddiau a gloddiwyd eu hailgylchu a'u hailddefnyddio ar y ffordd osgoi. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwell llwybrau teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio yn yr ardal.
Mae'r cynllun wedi rhoi hwb i'r economi leol gyda bron i £70 miliwn yn cael ei wario gyda busnesau yng Nghymru. Gwariwyd £12 miliwn ohono ar fentrau bach a chanolig. Gwariwyd £2 miliwn hefyd gan y gweithlu adeiladu mewn siopau, busnesau a gwasanaethau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu.
Yn ystod y cyfnod adeiladu daeth 93 y cant o'r gweithlu o ardal y Gogledd, gyda 31 y cant yn byw o fewn 10 milltir. Cafodd 36 o raddedigion a phrentisiaid eu cyflogi a’u hyfforddi tra bod 15 o bobl wedi cael profiad gwaith. Ar gyfartaledd, roedd 160 o bobl yn gweithio ar y cynllun ar unrhyw adeg yn ystod y gwaith adeiladu.
Mae mesurau wedi cael eu rhoi ar waith i leihau effaith amgylcheddol y cynllun, i wella bioamrywiaeth yn yr ardal, gan gynnwys lleoedd diogel i fywyd gwyllt. Plannwyd 170,000 o blanhigion, gan ddarparu tua 14 hectar o rywogaethau brodorol newydd, coetiroedd a phrysgwydd, yn ogystal â thros 20 cilometr o wrychoedd newydd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Lee Waters:
> “Mae'r prosiect hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal gan Lywodraeth Cymru ac mae'n dyst i'r gweithlu lleol ei fod wedi'i gwblhau cyn pryd. Yn ogystal â'r ffordd, mae'r prosiect wedi creu cysylltiadau newydd ar gyfer cerdded a beicio a fydd yn gwella iechyd ac amgylchedd cymunedau lleol.
Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru:
> “Y cynllun hwn yw un o'r rhaglenni seilwaith diweddar mwyaf yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei gyflawni cyn pryd yn ystod cyfnod heriol dros ben. Rwy’n llongyfarch pawb a fu'n ymwneud â chyflawni'r cynllun hwn yn ystod y pandemig, gan ddiogelu eu gweithlu. Mae'n dyst i'r sgiliau a'r ymroddiad sydd gennym yma yn y Gogledd.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
> “Mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi bod yn hwb i'r economi leol yn ystod y cyfnod adeiladu, gan ddarparu cyfleoedd i brentisiaid a graddedigion, tra bod busnesau a chyflenwyr hefyd wedi elwa. Yn y tymor hir, bydd y cysylltedd gwell i Ystad Ddiwydiannol Cibyn, ac ymhellach i ffwrdd, yn dda ar gyfer twf economaidd y rhanbarth.
Dywedodd Jon Muff, Arweinydd y Prosiect ar gyfer Balfour Beatty Jones Bros:
> “Rydym yn ddiolchgar iawn i'r tîm am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol y prosiect, gan ddod â'r sgiliau a'r arbenigedd at ei gilydd ar draws ein cyd\-fenter i gysylltu cymunedau yng Nghaernarfon a Bontnewydd, gan leihau tagfeydd traffig yn sylweddol a gwella amseroedd teithio.
>
>
> “Rydym yn falch o'r gwaddol yr ydym yn ei adael ar ôl, sy'n cynnwys gwariant sylweddol yn yr ardal leol yn ogystal â hyfforddi a gwella sgiliau dwsinau o bobl, gan gynnwys graddedigion a phrentisiaid.
Dywedodd Gwion Lloyd, prentis peirianneg 22 oed o Harlech sydd wedi bod ar y safle ers iddo ddechrau yn 2019:
> “Mae wedi bod yn wych dysgu cymaint ar brosiect mor fawr i'r rhanbarth, ac ni allwn fod wedi gofyn am ddechrau gwell i'm gyrfa peirianneg sifil. Mae'n destun balchder mawr i mi o wybod y bydd y gymuned, gan gynnwys teulu a ffrindiau, yn gallu elwa ar y ffordd osgoi yn rheolaidd.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae Diwrnod Menter Gymdeithasol yn gyfle i arddangos menter gymdeithasol ledled y wlad a dangos beth sy'n eu gwneud yn wahanol i fusnesau traddodiadol drwy fynd i'r afael â heriau amrywiol.
Mae CUBE yn cynnal hyfforddiant cefnogi oedolion, grwpiau lles, dosbarthiadau cymunedol i blant a phobl ifanc. Mae'r caffi ar y safle a'r ystafelloedd cyfarfod yn cynnig lleoliadau ar gyfer pob mathau o ddigwyddiadau.
Gweithredir y ganolfan gan y busnes cymdeithasol Heroes Rights CIC. Mae yn fenter gymdeithasol sy'n helpu teuluoedd i ddelio â materion fel trais yn y cartref, cam\-drin sylweddau a iechyd meddwl. Mae ei dîm o gwnselwyr hyfforddedig yn darparu cefnogaeth hanfodol i deuluoedd mewn argyfwng.
Mae cefnogi busnesau cymdeithasol ar draws Cymru i ddatblygu a thyfu yn un o nodau allweddol Llywodraeth Cymru. Cyn hynny, mae'r llywodraeth wedi cyhoeddi cyllid pellach o hyd at £1\.7 miliwn tuag at wasanaeth Busnes Cymdeithasol Cymru o fis Ebrill 2024 i gefnogi'r sector mentrau cymdeithasol yma yng Nghymru. Mae'r gwasanaeth yn cefnogi entrepreneuriaid i gychwyn ar lawr gwlad a sefydlu'r genhedlaeth nesaf o fusnesau cymdeithasol llwyddiannus yng Nghymru.
Wrth ymweld â CUBE, dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
> "Rwy'n falch iawn o ymweld â'r cyfleuster cymunedol gwych a hanfodol hwn yn y Barri fel rhan o Ddiwrnod Menter Gymdeithasol. Mae'r diwrnod hwn yn gyfle i dynnu sylw a dathlu'r effaith gadarnhaol y mae mentrau cymdeithasol fel canolfan CUBE yn y Barri yn ei chael ar gymunedau ledled y wlad.
>
>
> "Mae mentrau cymdeithasol yn rhan allweddol o'r economi sylfaenol ac wedi’u gwreiddio yn eu cymunedau. Mae gan fentrau cydweithredol a chymdeithasol botensial enfawr i fod yn fodel busnes o ddewis ledled Cymru, gan gynnig atebion i heriau cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol.
>
>
> "Hoffwn ddiolch i bob menter gymdeithasol am y cyfraniad hynod werthfawr rydych yn parhau i'w wneud i wella lles cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru."
Wrth groesawu'r Gweinidog Economi i'r Barri, dywedodd Tammi Owen, Prif Weithredwr y CUBE:
> "Mae CUBE yn falch o arddangos i Weinidog yr Economi yr hyn rydyn ni wedi'i gyflawni gyda'r gymuned dros y 2 flynedd ddiwethaf. Mae ein llwyddiant yn dyst i'r hyn sy'n bosib gyda'r gymuned leol gyda chiCUB. Rydym yn falch o The Gallery, ein busnes menter gymdeithasol, sef ein cartref a'n hincwm yn y dyfodol sy'n darparu cyllid i ni ddarparu gwasanaethau a chefnogaeth am ddim i'n cymuned".
|
Social Enterprise Day is an opportunity to showcase social enterprises across the country and show what makes them different from traditional businesses by addressing various challenges.
CUBE hosts adult support coaching, wellbeing groups, community classes for children and young people. The onsite café and meeting rooms provide spaces for all manner of events.
The centre is operated by Heroes Rights Community Interest Company (CIC). They are a social enterprise which helps families deal with issues such as domestic violence, substance abuse and mental health. Its team of trained counsellors provide essential support to families in crisis.
Supporting social businesses across Wales to develop and grow is one of the key goals of the Welsh Government. Previously, the government has announced further funding of up to £1\.7 million towards the Social Business Wales service from April 2024 to support the social enterprise sector here in Wales. The service supports entrepreneurs to get off the ground and establish the next generation of successful social businesses in Wales.
Visiting the CUBE, Economy Minister Vaughan Gething said:
> “I’m delighted to visit this fantastic and vital community facility in Barry as part of Social Enterprise Day. This day is an opportunity to highlight and celebrate the positive impact social enterprises like the CUBE centre in Barry have on communities across the country.
>
>
> “Social enterprises are a key part of the foundational economy and are anchored in their communities. Co\-operatives and social enterprises have huge potential to be the business model of choice across Wales, delivering solutions to social, economic and environmental challenges.
>
>
> “I would like to thank every social enterprise for the hugely valuable contribution you continue to make to improving social and economic wellbeing in Wales.”
Welcoming the Economy Minister to Barry, Tammi Owen, Chief Executive from the CUBE said:
> “CUBE is proud to showcase to the Economy Minister what we’ve achieved with the community over the last 2 years. Our success is a testament to what is possible with the local community on your side. We are proud of The Gallery, our social enterprise business, which is our home and our future income that provides funding for us to provide free services and support to our community”.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Y bwriad oedd cyflwyno gwobrau eleni ym mis Mawrth ond bu’n rhaid gohirio hynny oherwydd pandemig y coronafeirws.
Yn ei neges at holl enillwyr Gwobrau Dewi Sant, dywedodd y Prif Weinidog ei fod yn gobeithio y bydd y “bobl gyffredin arbennig iawn” sydd wedi ennill gwobr yn cael rhyw gysur o’r gydnabyddiaeth.
Categorïau’r gwobrau yw: Dewrder, Dyngarwch, Ysbryd y Gymuned, Person Ifanc, Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg, Busnes, Diwylliant, Chwaraeon a Gwobr Arbennig y Prif Weinidog.
Enillydd y wobr arbennig eleni yw’r cyn\-chwaraewr rygbi rhyngwladol Gareth Thomas a’i ymgyrch yn erbyn y stigma sy’n gysylltiedig â rhywioldeb a HIV.
Dywedodd y Prif Weinidog:
> “Yr hyn sy’ mor gyfareddol am y cyfan yw bod pob un sy wedi’i enwebu yn credu nad ydyn nhw wedi gwneud unrhyw beth i glochdar amdano. Wel, maen nhw. Maen nhw’n bobl gyffredin sy’n gwneud pethau arbennig iawn ac wedi newid bywydau er gwell. Mae’n anrhydedd imi gael eu cydnabod trwy Wobrau Dewi Sant.
>
>
> “Rwyf wedi dewis Gareth Thomas ar gyfer fy Ngwobr Arbennig am ei fod yn gymaint o fodel rôl i bobl o bob oed, yn enwedig i bobl ifanc. Mae e wedi bod yn agored ac yn onest am ei rywioldeb a’i HIV ac mae ei stori wedi ysbrydoli. Bydd ei agwedd yn chwalu rhwystrau a stereoteipiau, yn gwella dealltwriaeth ac yn helpu pobl eraill mewn sefyllfa debyg i beidio byth â theimlo cywilydd pwy ydyn nhw.”
Enillwyr Gwobrau Dewi Sant 2020 yw:
Joel Snarr a Daniel Nicholson – Y Wobr am Ddewrder
Moneypenny – Y Wobr Fusnes
Wasem Said – Gwobr Ysbryd y Gymuned
Russell T Davies – Y Wobr Diwylliant
Rachel Williams – Y Wobr Ddyngarol
Yr Athro David Worsley – Gwobr Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg
Alun Wyn Jones – Y Wobr Chwaraeon
Tyler Ford – Gwobr y Person Ifanc
Gareth Thomas \- Gwobr Arbennig y Prif Weinidog
|
This year’s awards were originally scheduled to be held in March but were postponed because of the coronavirus pandemic.
In a message to all the St David Awards recipients, the First Minister said he hoped the “everyday but extraordinary” winners will find comfort in their recognition.
The award categories are: Bravery, Humanitarian, Community Spirit, Young Person, Innovation, Science and Technology, Business, Culture, Sport and the First Minister’s Special Award.
This year’s special award winner is former international rugby player Gareth Thomas, who now campaigns against stigma around sexuality and HIV.
The First Minister said:
> “What is most captivating is that all of our nominees think their actions are nothing to sing about. Well they are. They are everyday people doing extraordinary things that have helped to change lives for the better. I am honoured to recognise them in our national St David Awards.
>
>
> “I have chosen Gareth Thomas for my Special Award as he is a role model for people of all ages, but particularly young people. He has been open and honest about his sexuality and his HIV status and his story has been inspiring. His approach will help break down barriers and stereotypes, increase understanding and will help others in a similar situation to never be ashamed of who they are.”
The St David Award 2020 winners are:
Joel Snarr and Daniel Nicholson – Bravery award
Moneypenny – Business award
Wasem Said – Community spirit award
Russell T Davies – Culture award
Rachel Williams – Humanitarian award
Professor David Worsley – Innovation, Science and Technology award
Alun Wyn Jones – Sport award
Tyler Ford – Young person award
Gareth Thomas \- First Minister's Special Award
|
Translate the text from Welsh to English. |
Yn ystod blwyddyn ariannol 2023\-24, derbyniodd Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre £7\.35m mewn incwm a gynhyrchwyd o dreial masnachol a gynhaliwyd o dan arweiniad yr ymddiriedolaeth dros y blynyddoedd diwethaf.
Mae’r ymddiriedolaeth wedi gofyn imi gymeradwyo bod yr arian yn cael ei roi i elusen Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre, ac rwyf innau wedi rhoi fy nghymeradwyaeth. O ganlyniad, bydd yr arian a godir o weithgareddau ymchwil yn cefnogi’r ddarpariaeth gwasanaethau canser dros y blynyddoedd sydd i ddod, yn unol ag amcanion yr elusen a’r ymddiriedolaeth.
Mae elusen Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre yn rhoi cymorth i’r ymddiriedolaeth ar gyfer darparu triniaeth, gofal a chymorth sy’n cael eu harwain gan ymchwil, o safon fyd\-eang, i unigolion a theuluoedd sy’n cael eu heffeithio gan ganser. Mae’n hyrwyddo ac yn cefnogi gweithgareddau sy’n cyflawni ansawdd, gofal a rhagoriaeth ym mhob gwasanaeth a ddarperir gan Ymddiriedolaeth GIG Prifysgol Felindre.
|
During the 2023\-24 financial year, Velindre University NHS Trust received £7\.35m in income generated from a commercial trial led by the trust over recent years.
The trust has sought my approval to donate the funds to the Velindre University NHS Trust charity, which I have provided. This will allow the funds raised from research activities to support the provision of cancer services in coming years, in line with both the charity’s and the trust’s objectives.
The Velindre University NHS Trust charity provides support to the trust in its provision of world class research\-led treatment, care and support for individuals and families affected by cancer. It promotes and supports activities which deliver quality, care and excellence in all services provided by Velindre University NHS Trust.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Local Democracy and Boundary Commission for Wales keeps under review the electoral arrangements for the 22 principal councils, including the number of councillors and wards in each council area.
The Commission makes electoral review recommendations to the Welsh Government, which it feels are in the interest of effective and convenient local government.
Announcing the appointment, Julie James said:
> I am pleased to announce the appointment of Debra Williams as Chair of the Local Democracy and Boundary Commission for Wales.
>
>
>
> As Chair, Debra will provide leadership to the Commission at a time when it faces the challenges associated with a significant review programme which will continue during the next two years.
The appointment has been made in accordance with the Governance Code for Public Appointments and will commence on 1 January 2020 for a two year term.
As Chair Debra Williams will be paid a daily fee of £478 per day with a time commitment of between 1 and 3 days per month.
|
Mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn adolygu’r trefniadau etholiadol ar gyfer y 22 o brif gynghorau, gan gynnwys nifer y cynghorwyr a wardiau yn ardal pob cyngor.
Mae’r Comisiwn yn gwneud argymhellion ar sail adolygiadau etholiadol i Lywodraeth Cymru sydd o fudd yn eu barn hwy i sicrhau llywodraeth leol effeithiol a chyfleus.
Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Julie James:
> Rydw i’n falch o gyhoeddi bod Debra Williams wedi ei phenodi yn Gadeirydd Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru.
>
>
> Fel Cadeirydd, bydd Debra yn rhoi arweiniad i’r Comisiwn ar adeg pan fo’n wynebu heriau sy’n gysylltiedig â rhaglen adolygu sylweddol a fydd yn parhau dros y ddwy flynedd nesaf.
Mae’r penodiad wedi cael ei wneud yn unol â’r Cod Llywodraethu ar gyfer Penodiadau Cyhoeddus a bydd yn dechrau ar 1 Ionawr 2020 am dymor o ddwy flynedd.
Bydd Debra Williams yn cael tâl o £478 y diwrnod yn rhinwedd ei rôl fel Cadeirydd a bydd y swydd yn galw am ymrwymiad amser o 1 i 3 diwrnod y mis.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The first collection, which took place today on Global Recycling Day (March 18\), has proved a huge success, with some three tonnes of fishing gear collected for recycling from seven harbours around Wales.
The new scheme will help to bolster Wales’ recycling credentials –Wales has the best household waste recycling record in the UK and the third best in the world.
Recycling bins for used fishing gear have been placed at Swansea, Milford Haven, Fishguard, Cardigan, Conwy, Anglesey and Holyhead harbours. They were filled to the brim with fishing nets, ropes and buoys, which could otherwise have ended up in the sea or in landfill.
They will instead be shredded and turned into pellets, before being re\-used in kayaks, bodyboards or in street furniture.
Minister for Climate Change Julie James said:
> Schemes like this show that through collaboration, innovation and action, we can come up with practical solutions that will ensure we leave our seas in a better state for our future generations.
>
>
> Sadly, reports show that if we carry on as we are, we may have more plastic in our oceans than fish by 2050\.
>
>
> We will not shy away from the challenges ahead. Since devolution, we have worked incredibly hard to turn around our recycling record, from being one of the world’s worst to one of the best.
>
>
> With a Team Wales effort we can create a real circular economy where we recycle and reuse, strengthening our supply chains and protecting the planet. World events show us just how urgent this is.
The Welsh Government is working with Odyssey Innovation Ltd, creators of the Net Regeneration Scheme and collectors of the marine refuse, as well as partners in the fishing industry, Surfers against Sewage and Keep Wales Tidy to create the scheme.
Fishing gear is estimated to make up to 20% of all litter found in our seas. In Wales, fishing lines and ropes were the third most commonly found item in last year’s Great British Beach Clean survey. Fishing gear accounted for 14% of litter found on Wales’ beaches.
Abandoned and littered fishing gear can harm marine life and increase the risk of micro plastics ending up in our food chain.
The UN has predicted the amount of plastic in our oceans will treble in the next 20 years, in large part due to a lack of recycling infrastructure. Offering solutions for end\-of\-life fishing gear will reduce the risk of littering and reduce the potential for damage to the marine environment.
Rob Thompson, managing director at Odyssey Innovation says:
> The Net Regeneration Scheme has only been made possible through collaboration, primarily between the fishing sector and conservation groups, supported by universities and the government.
>
>
> This collaborative project between us, the Welsh Government and fishing communities will showcase best practice in a sector where it is immensely needed and the quality of our seas and the aquatic flora and fauna within it will also benefit tremendously.
Marion Warlow of the Welsh Fisherman’s Association \- Cymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA\-CPC), added:
> We have supported this project from the outset.
>
>
> Together with Odyssey Innovation, port authorities, local authorities and community groups, fishermen and women have engaged with the pilot project team to recycle and regenerate end of life fishing gear and hard plastics.
>
>
> We very much hope that the experience learned during this pilot will ensure a long\-term sustainable expansion of the service to all ports and harbours in Wales significantly reducing our collective reliance on landfill in the future.
This scheme is one of many the Welsh Government is spearheading in its drive to move to a circular economy – where waste is turned into a resource and kept in use for as long as possible.
As well as cutting damaging CO2 emissions that lead to climate change and the pollution of our wildlife habitats, a circular economy model will build resilience in Wales’ supply chains as it cuts the reliance of imports from overseas.
The Welsh Government also has ambitious plans to make Wales a Zero Waste Nation by 2050\.
|
Mae'r casgliad cyntaf, a gynhaliwyd heddiw ar Ddiwrnod Ailgylchu Byd\-eang (18 Mawrth), wedi bod yn llwyddiant ysgubol, a chasglwyd tua thair tunnell o offer pysgota i'w ailgylchu, o saith harbwr ledled Cymru.
Bydd y cynllun newydd yn helpu i gryfhau’r enw da sydd gan Gymru am ailgylchu – Cymru sydd â’r record orau yn y DU am ailgylchu gwastraff o gartrefi, a’r orau ond dau yn y byd.
Mae biniau ailgylchu ar gyfer hen offer pysgota wedi'u gosod yn harbyrau Abertawe, Aberdaugleddau, Abergwaun, Aberteifi, Conwy, Ynys Môn a Chaergybi.
Fe’u llenwyd at yr ymyl â rhwydi pysgota, rhaffau a bwiau, a allai fel arall fod wedi cael eu taflu i’r môr neu eu hanfon i safleoedd tirlenwi.
Yn lle hynny, byddant yn cael eu torri’n fân a'u troi'n belenni, cyn cael eu hailddefnyddio mewn ceufadau, corff\-fyrddau neu ddodrefn stryd.
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Newid Hinsawdd:
> Mae cynlluniau fel hyn yn dangos ein bod, drwy gydweithio, arloesi a gweithredu, yn gallu meddwl am atebion ymarferol a fydd yn sicrhau ein bod yn gadael ein moroedd mewn cyflwr gwell ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.
>
>
> Yn anffodus, os byddwn ni’n parhau i wneud yr hyn rydyn ni’n ei wneud ar hyn o bryd, mae adroddiadau'n dangos ei bod yn bosibl y bydd gennym fwy o blastig na physgod yn ein cefnforoedd erbyn 2050\.
>
>
> Fyddwn ni ddim yn osgoi wynebu'r heriau sydd o'n blaenau. Ers datganoli, rydyn ni wedi gweithio'n eithriadol o galed i newid ein record ar ailgylchu, o fod yn un o'r rhai gwaethaf yn y byd i un o'r goreuon.
>
>
> Drwy ymdrech ar y cyd gan Dîm Cymru, gallwn ni greu economi gylchol go iawn lle byddwn ni’n ailgylchu ac yn ailddefnyddio, gan gryfhau’n cadwyni cyflenwi a diogelu'r blaned. Mae’r hyn sy’n digwydd ar draws y byd yn dangos inni fod brys mawr i wneud hynny.
Mae Llywodraeth Cymru yn gweithio gydag Odyssey Innovation Ltd, a greodd y Cynllun Adfywio Rhwydi ac sy’n casglu sbwriel môr, a hefyd gyda phartneriaid yn y diwydiant pysgota, Surfers against Sewage a Cadwch Gymru'n Daclus, i greu'r cynllun.
Amcangyfrifir bod offer pysgota yn cyfrif am hyd at 20% o'r holl sbwriel a geir yn ein moroedd. Yng Nghymru, llinellau a rhaffau pysgota oedd yn drydydd ar y rhestr o’r eitemau a ganfuwyd amlaf wrth gynnal arolwg Glanhau Traethau Prydain Fawr y llynedd. Roedd offer pysgota yn cyfrif am 14% o'r sbwriel a ganfuwyd ar draethau Cymru.
Gall offer pysgota sydd wedi'i adael a'i daflu niweidio bywyd morol a chynyddu'r risg y bydd micro\-blastigau’n cyrraedd ein cadwyn fwyd.
Mae'r Cenhedloedd Unedig wedi darogan y bydd faint o blastig a geir yn ein cefnforoedd yn treblu yn ystod yr 20 mlynedd nesaf, a hynny, i raddau helaeth, oherwydd diffyg seilwaith ailgylchu. Bydd cynnig atebion ar gyfer offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes yn lleihau'r risg o sbwriel ac yn golygu y bydd llai o bosibilrwydd i amgylchedd y môr gael ei ddifrodi.
Yn ôl Rob Thompson, rheolwr gyfarwyddwr Odyssey Innovation:
> Dim ond drwy gydweithio, yn bennaf rhwng y sector pysgota a grwpiau cadwraeth, gyda chefnogaeth prifysgolion a'r llywodraeth, mae’r Cynllun Adfywio Rhwydi wedi bod yn bosibl.
>
>
> Bydd y prosiect cydweithredol hwn rhyngon ni, Llywodraeth Cymru a chymunedau pysgota yn dangos yr arferion gorau mewn sector lle mae gwir angen gwneud hynny, a bydd ansawdd ein moroedd a'r blodau a’r planhigion sydd ynddyn nhw yn elwa'n aruthrol hefyd.
Ychwanegodd Marion Warlow o Gymdeithas Pysgotwyr Cymru (WFA\-CPC):
> Rydyn ni wedi cefnogi'r prosiect hwn o'r cychwyn cyntaf.
>
>
> Ar y cyd ag Odyssey Innovation, mae awdurdodau’r porthladdoedd, yr awdurdodau lleol a grwpiau cymunedol, a physgotwyr wedi bod yn cydweithio â thîm y prosiect peilot i ailgylchu ac adfywio offer pysgota sydd wedi cyrraedd diwedd ei oes a phlastigau caled.
>
>
> Rydyn ni’n mawr obeithio bydd y profiad a fagwyd yn ystod y cynllun peilot hwn yn sicrhau bod y gwasanaeth yn cael ei ehangu mewn ffordd gynaliadwy yn y tymor hir i bob porthladd a harbwr yng Nghymru, gan leihau'n sylweddol ein dibyniaeth ar dirlenwi yn y dyfodol.
Mae'r cynllun hwn yn un o nifer y mae Llywodraeth Cymru yn ei arwain wrth iddi hyrwyddo’r newid i economi gylchol – lle mae gwastraff yn cael ei droi'n adnodd a'i ddefnyddio cyhyd ag y bo modd.
Yn ogystal â thorri allyriadau CO2 niweidiol sy'n arwain at newid yn yr hinsawdd ac at lygru cynefinoedd bywyd gwyllt, bydd economi gylchol yn cryfhau ac yn atgyfnerthu cadwyni gyflenwi Cymru wrth iddi leihau’i dibyniaeth ar fewnforion o dramor.
Mae gan Lywodraeth Cymru gynlluniau uchelgeisiol hefyd i droi Cymru yn Genedl Ddiwastraff erbyn 2050\.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Lansiodd y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Micro\-Fusnesau a sefydlais ym mis Medi 2011 o dan Gadeiryddiaeth Robert Lloyd\-Griffiths, Cyfarwyddwr Cymru, Sefydliad y Cyfarwyddwyr, eu hadroddiad ar 18 Ionawr 2012\.
Mae’r adroddiad yn nodi pump o brif flaenoriaethau, sef ymwybyddiaeth o wasanaethau cymorth busnes ar gyfer micro\-fusnesau a chael gafael ar y cymorth hwnnw, mynediad at gyllid, mentora a hyfforddiant, caffael yn y sector cyhoeddus a’r baich rheoleiddiol.
Yn y ddadl ar ficro\-fusnesau ar 31 Ionawr, addewais roi gwybodaeth i’r Aelodau ar y cynigion gweithredu. Rwyf bellach wedi ystyried pob un o’r argymhellion sy’n sail i’r blaenoriaethau o fewn fy mhortffolio ac yn hapus i’w derbyn. Mae cynllun gweithredu llawn wedi’i baratoi ac yn cael ei roi ar waith.
Dyma rai o’r camau rwyf am eu cymryd ar unwaith:
• Datblygu, diffinio a phrofi cynigion y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Micro\-Fusnesau ar greu brand cymorth busnes clir;
• Hyrwyddo a chodi ymwybyddiaeth o gymorth busnes i ficro\-fusnesau a’i gwneud yn haws cael gafael arno;
• Rhoi blaenoriaeth i’w gwneud yn haws cael gafael ar gyllid, er enghraifft cronfa twf mentrau bach a chanolig a fydd yn agored i geisiadau erbyn diwedd Mawrth. Mae'r Adran hefyd mewn uwch drafodaethau gyda Cyllid Cymru ar sefydlu cronfa gwerth £6m yn benodol ar gyfer busnesau micro;
• Datblygu gwaith lobïo gan Lywodraeth Cymru ar y baich rheoleiddiol nad yw wedi’i ddatganoli sy’n effeithio ar fusnes Cymru;
• Ymgysylltu â rhanddeiliaid i sicrhau bod yr hyn a gynigir yn ateb y gofynion;
• Ymchwilio i arferion gorau ledled y byd, er enghraifft, model mentora Seland Newydd;
• Comisiynu adolygiad i ystyried lleihau nifer y cynhyrchion a’r darparwyr cymorth busnes a gyllidir gan y sector cyhoeddus.
Yn y tymor byr i’r tymor canolig, caiff y camau canlynol eu gweithredu:
• Sefydlu rhwydwaith o Siopau Un Stop ledled Cymru i roi cymorth uniongyrchol ac anuniongyrchol i fusnesau drwy ehangu ac ailgyfeirio’r Gwasanaeth Canolfannau Rhanbarthol. Caiff hyn ei dreialu o fis Ebrill a chaiff ei gyflwyno’n llawn erbyn Ionawr 2013;
• Ochr yn ochr â’r Siopau Un Stop, ac efallai fel rhan ohonynt:
\- Sefydlu cynllun mentora a hyfforddi i Gymru gyfan;
\- Opsiynau cyllid priodol gan gynnwys cyllid hyd at £20,000;
\- Cymorth i leihau effaith rheoleiddio ar fusnesau, gan gydweithio â’r Swyddfa Gwell Rheoleiddio Leol;
\- Cymorth masnach ac allforio rhyngwladol;
• Cyfathrebu â rhanddeiliaid a dechrau defnyddio’r brand cymorth busnes;
• Lobïo dros newid a chymryd camau pendant i leihau rheoleiddio ee Grŵp Gorchwyl a Gorffen yr Adolygiad o Ardrethi Busnes a Herio Biwrocratiaeth Whitehall;
• Parhau i osod seilwaith band eang y genhedlaeth nesaf ledled Cymru.
O ran caffael yn y sector cyhoeddus, ar 21 Chwefror cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid ac Arweinydd y Tŷ fod adolygiad wedi’i gomisiynu o effaith polisi caffael cyhoeddus ledled Cymru, a byddaf yn darparu’r argymhellion cysylltiedig.
Er mwyn rhoi’r adroddiad hwn ar waith yn llawn, bydd yn hanfodol gweithio ar lefel llywodraeth gyfan. Mae’r adroddiad yn argymell yn gryf y bydd angen gweithio effeithiol a chydgysylltiedig ar draws adrannau a sefydliadau i ddarparu fframwaith cyffredin, i sicrhau sefydlogrwydd a chymorth sy’n canolbwyntio ar ficro\-fusnesau.
Byddaf yn rhoi gwybodaeth reolaidd i Aelodau ar y datblygiadau, a’r hyn sy’n cael ei gyflawni o ran y cynllun gweithredu, a bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda’r rhanddeiliaid ar sut yn union i roi hyn ar waith.
|
The Micro\-Business Task and Finish Group I set up in September 2011, under the Chairmanship of Robert Lloyd\-Griffiths, Director Wales, Institute of Directors, launched their report on the 18 January 2012\.
The report identified five key priorities; awareness and access of business support services for micro\-business, access to finance, mentoring and coaching, public sector procurement and regulatory burden.
In the micro\-business debate on 31 January I made a commitment to update Members with information on the implementation proposals. I have now considered and am happy to accept all of the recommendations underpinning the priorities that fall within my portfolio. A full implementation plan has been drawn up and is being delivered against.
Actions I am taking immediately include the following:
• Develop, define and test proposals from the Micro\-Business Task and Finish Group on creating a clear business support brand;
• Promote and raise awareness of, and access to business support for micro\-businesses;
• Prioritise access to finance, for example the SME growth fund which will be open for applications by the end of March. The Department is also in advanced discussions with Finance Wales on setting up a £6m fund specifically targeted at micro\-businesses;
• Enhance lobbying by the Welsh Government on non devolved regulatory burden that impact on Welsh business;
• Engaging with stakeholders to ensure solutions meet requirements;
• Research global best practice to inform implementation, for example, the New Zealand Mentoring model; and
• Commission a review to consider streamlining the number of publically funded business support products and providers.
In the short to medium term the following actions will be implemented:
• Establishing a network of One Stop Shops across Wales to provide businesses with direct and indirect support by expanding and redirecting the current Regional Centre Service. The approach will be piloted from this April followed by full roll out by January 2013;
• Aligned to and included in the delivery of the One Stop Shop approach, deliver:
\- Establishment of a pan\-Wales mentoring and coaching scheme;
\- Access to appropriate finance options including funding up to £20,000;
\- Support aimed at minimising the impact of regulation on business, developed with engagement from the Welsh Government funded Local Better Regulation Office;
\- Access to provision of international trade and exporting support;
• Communicate with stakeholders and ‘go live’ with the business support brand across the support offer;
• Lobby for change and implement positive action to minimise regulation e.g. Business Rate Review Task and Finish Group and Whitehall Red Tape Challenge; and
• Continue to deliver next generation broadband infrastructure across Wales through the existing project.
In addition, in relation to public sector procurement, on the 21st February the Finance Minister and Leader of the House announced the commissioning of a review into the impact of public procurement policy across Wales and I will provide the related recommendations for consideration.
In order to fully implement this report a whole government approach will be crucial. The report recommends strongly that effective and co\-ordinated cross departmental and organisation work will be needed to deliver an over\-arching framework to ensure stability and focussed support for micro\-businesses.
I will provide Members with updates on progress and delivery against the implementation plan and my officials will be working closely with stakeholders on the specific details of implementation.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Effective and appropriate communication is fundamental to ensuring services are delivered in ways that promote dignity and respect. For Deaf people who use British Sign Language (BSL), appropriate communication support contributes to social inclusion and equal access to services. It can act as a gateway to opportunities which hearing people take for granted such as taking part in parents’ evenings and community events, as well as supporting people to find and retain employment.
This Government formally recognised British Sign Language as a language in its own right in January 2004\. Since then we have supported training to increase the number of qualified interpreters in Wales, and ensured that legislation, policies and programmes across the Welsh Government recognise the importance of accessible communications to everyone. Equality and inclusion are reflected within our guiding principles and, together with sustainability and well\-being, make up the foundations which underpin everything we do.
The introduction of the Equality Act 2010, and the Wales\-specific equality duties in 2011, strengthened the requirement on public authorities to eliminate discrimination and advance equality of opportunity for all. There is a legal duty on those providing a service to the public or exercising a public function to ensure that reasonable adjustments are made to deliver equality of access for disabled people. This duty is anticipatory and requires public bodies to be proactive in making adjustments to ensure access and communication needs are met.
To support this requirement in the health service we introduced the All Wales Standards for Accessible Communication and Information for People with Sensory Loss and the Welsh Ambulance Service Trust Pre\-Hospital Communication Guide. The aim of the All Wales Standards is to set out the standards of service delivery that people with sensory loss should expect to be met when they access healthcare in Wales. They were developed by the NHS Centre for Equality and Human Rights (CEHR) in collaboration with Welsh Government, RNIB, Action on Hearing Loss (AoHL) Cymru and a stakeholder reference group. Included in the Standards is the requirement that every patient or service user who requires communication support should have this need met.
AoHL Cymru and RNIB Cymru have also worked closely with the NHS Centre for Equality and Human Rights to develop training for NHS staff specifically around the needs of people with sensory loss. Treat Me Fairly (TMF) is an e\-Learning package which has been developed and accepted by all LHBs as statutory mandatory training at induction. It is about fair and equal treatment for everyone accessing health care and is very much centred on communication.
The public sector in Wales is continuously developing and adapting to meet the needs of the people and businesses it serves. Digital technologies are forming an increasing part of that delivery. This year, we have invested in a project with Cwm Taf University Health Board to trial an online BSL interpreter service in both primary and secondary care settings. This aims to give Deaf people better access to care and an improved patient experience whilst making better use of interpreters’ time and availability. This project’s alignment with the All Wales Standards, and its partnership with Wales Interpretation and Translations Service means that, if successful, this method can be introduced at pace across other health organisations in Wales.
The Welsh Government is also committed to meeting the educational needs of Deaf learners in order that they may reach their full potential. As part of our Additional Learning Needs (ALN) Transformation Programme, we will shortly be introducing legislation. The Additional Learning Needs and Education Tribunal (Wales) Bill, which the Minister for Lifelong Learning and Welsh Language expects to bring forward before Christmas, will create an improved system for children with ALN. The Bill has fairness and equity at its core and aims to ensure all learners are supported to reach their full potential.
Two recent Welsh Government Acts will contribute to a transformation in public service delivery and help ensure that all people are empowered to retain control of their situation and the outcomes that matter to them. Under the Social Services and Well\-being (Wales) Act 2014, the communication needs of individuals are collected during the assessment process, so that the communication needs of service users can be met effectively. The Well\-being of Future Generations (Wales) Act 2015, places a responsibility on specified public bodies to set and work towards well\-being objectives which contribute towards each of the well\-being goals. One such goal is creating a more equal Wales, with a society that enables people to fulfil their potential no matter what their background or circumstances.
Over the last three years, we have been funding AoHL Cymru, working with RNIB Cymru, to train and support people with sensory loss to share their personal experiences with service providers, particularly in the health, social services and housing sectors. As well as providing the opportunity to tell service providers directly of the barriers they face, the project will capture the service users’ stories and compile a report for wider dissemination. An accessible and bilingual virtual sensory toolkit will be created to help organisations be more responsive to the needs of people with sensory loss, including BSL users.
I hope this statement demonstrates the Welsh Government’s commitment to promoting BSL as one of the communication tools that are necessary to ensure people with sensory loss have full and equal access to services in Wales. We will continue to promote co\-productive and collaborative working between service providers and service users to ensure that services are responsive to the needs of all citizens in Wales.
|
Mae cyfathrebu effeithiol a phriodol yn hanfodol i sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu darparu mewn ffyrdd sy’n meithrin urddas a pharch. I bobl fyddar sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain, mae cael y gefnogaeth briodol wrth gyfathrebu yn golygu eu bod yn teimlo’n fwy o ran o gymdeithas a'u bod yn cael mynediad at wasanaethau yn yr un modd â phawb arall. Gall hyn arwain at gyfleoedd y mae pobl sy'n clywed yn eu cymryd yn ganiataol, fel bod yn rhan o nosweithiau rhieni a digwyddiadau cymunedol, yn ogystal â chefnogi pobl i gael a chadw swyddi.
Ym mis Ionawr 2004, cydnabu'r Llywodraeth hon yn swyddogol fod Iaith Arwyddion Prydain yn iaith ynddi'i hun. Ers hynny, rydym wedi cefnogi hyfforddiant i gynyddu nifer y dehonglwyr cymwys yng Nghymru, ac wedi sicrhau bod deddfwriaeth, polisïau a rhaglenni ar draws Llywodraeth Cymru yn cydnabod pa mor bwysig yw cael gohebiaeth sy’n hygyrch i bawb. Mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn cael eu hadlewyrchu yn ein hegwyddorion arweiniol ac, ynghyd â chynaliadwyedd a lles, maent yn sail i bopeth a wnawn.
Roedd cyflwyno Deddf Cydraddoldeb 2010, a'r dyletswyddau cydraddoldeb penodol i Gymru yn 2011, wedi cryfhau'r gofyniad ar awdurdodau lleol i ddileu gwahaniaethu a hybu cyfleoedd cyfartal i bawb. Mae dyletswydd gyfreithiol ar bawb sy'n darparu gwasanaeth i'r cyhoedd neu sy'n arfer swyddogaethau cyhoeddus i wneud yn siŵr bod addasiadau rhesymol yn cael eu gwneud i sicrhau bod pobl anabl yn cael eu trin yn gyfartal. Mae'r ddyletswydd hon yn gofyn ar i gyrff cyhoeddus fod yn rhagweithiol wrth wneud addasiadau i sicrhau bod anghenion o ran mynediad a chyfathrebu yn cael eu diwallu.
Er mwyn cyflawni hyn yn y gwasanaeth iechyd, cyflwynwyd Safonau Cymru Gyfan ar gyfer Darparu Gwybodaeth Hygyrch i Bobl Nam ar eu Synhwyrau a Chyfathrebu â Hwy a Chanllaw Cyfathrebu Cyn\-ysbyty Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Nod Safonau Cymru Gyfan yw gosod safonau y dylai pobl sydd wedi colli'r defnydd o'u synhwyrau eu disgwyl wrth ddefnyddio gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru. Datblygwyd y safonau gan Ganolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG mewn cydweithrediad â Llywodraeth Cymru, RNIB, Action on Hearing Loss Cymru (AoHL) a grŵp cyfeirio rhanddeiliaid. Yn rhan o'r Safonau mae'r gofyniad y dylai anghenion pob claf neu ddefnyddiwr gwasanaeth sydd angen cymorth wrth gyfathrebu, gael eu diwallu.
Mae AoHL Cymru ac RNIB Cymru hefyd wedi gweithio'n agos gyda Chanolfan Cydraddoldeb a Hawliau Dynol y GIG i ddatblygu hyfforddiant ar gyfer staff y GIG sy'n ymwneud yn benodol ag anghenion pobl sydd â nam ar eu synhwyrau. Mae Fy Nhrin yn Deg yn becyn e\-ddysgu sydd wedi cael ei ddatblygu a'i dderbyn gan bob Bwrdd Iechyd Lleol fel hyfforddiant gorfodol statudol ar y cam ymsefydlu. Mae'n ymwneud â thrin pawb sy’n defnyddio gofal iechyd yn deg ac yn gyfartal, ac mae'n canolbwyntio'n fwy na dim ar gyfathrebu.
Mae'r sector cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i ddatblygu ac addasu er mwyn diwallu anghenion y bobl a'r busnesau y mae'n eu gwasanaethu. Mae technoleg ddigidol yn chwarae rhan gynyddol yn y broses gyflenwi honno. Eleni, rydym wedi buddsoddi mewn prosiect gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf i dreialu gwasanaeth dehongli Iaith Arwyddion Prydain ar\-lein mewn lleoliadau gofal sylfaenol a gofal eilaidd. Y nod yw sicrhau bod pobl fyddar yn cael gwell mynediad at ofal a gwell profiad fel cleifion, wrth wneud defnydd gwell o amser y dehonglwr. Mae'r prosiect hwn yn cyd\-fynd â Safonau Cymru Gyfan, ac mae ei bartneriaeth â Gwasanaeth Dehongli a Chyfieithu Cymru yn golygu y bydd y dull hwn, os y bydd yn llwyddiannus, yn gallu cael ei gyflwyno ar draws sefydliadau iechyd eraill yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymrwymo i ddiwallu anghenion addysgol dysgwyr byddar er mwyn iddynt wireddu eu llawn botensial. Fel rhan o'n Rhaglen Trawsnewid Anghenion Dysgu Ychwanegol, byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth yn fuan. Bydd Bil Drafft Anghenion Dysgu Ychwanegol a'r Tribiwnlys Addysg (Cymru), y mae Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes yn bwriadu ei gyflwyno cyn y Nadolig, yn gwella’r system ar gyfer plant sydd ag Anghenion Dysgu Ychwanegol. Mae tegwch a chydraddoldeb yn ganolog i'r Bil, a'i nod yw sicrhau bod pob dysgwr yn cael cymorth i wireddu eu llawn botensial.
Bydd dwy Ddeddf ddiweddar gan Lywodraeth Cymru yn cyfrannu at drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau cyhoeddus eu darparu ac helpu i sicrhau bod pawb yn gallu rheoli eu sefyllfa eu hunain a'r canlyniadau sy'n bwysig iddynt. O dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, caiff anghenion cyfathrebu unigolion eu casglu yn ystod y broses asesu, fel bod anghenion cyfathrebu defnyddwyr gwasanaeth yn gallu cael eu diwallu mewn modd effeithiol. Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn gosod cyfrifoldeb ar gyrff cyhoeddus penodol i osod amcanion llesiant, a gweithio tuag atynt; amcanion a fydd yn cyfrannu at bob un o'r nodau llesiant. Un o'r nodau hynny yw creu Cymru sy'n fwy cyfartal, gyda chymdeithas sy'n galluogi pobl i wireddu eu potensial waeth beth fo'u cefndir na'u hamgylchiadau.
Dros y tair blynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn ariannu Action on Hearing Loss Cymru, ac wedi bod yn gweithio gydag RNIB Cymru, i hyfforddi a helpu pobl sydd wedi colli defnydd o'u synhwyrau i rannu eu profiadau personol gyda darparwyr gwasanaethau, yn bennaf ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a'r sector tai. Yn ogystal â rhoi cyfle i ddweud wrth ddarparwyr gwasanaethau'n uniongyrchol am y rhwystrau sydd o'u blaen, bydd y prosiect yn casglu straeon y rhai sy'n defnyddio gwasanaethau ac yn llunio adroddiad i'w ddosbarthu ymhellach. Bydd canllawiau hygyrch a dwyieithog yn cael eu creu i helpu mudiadau i ymateb yn well i anghenion pobl sydd wedi colli defnydd o'u synhwyrau, gan gynnwys y rheini sy'n defnyddio Iaith Arwyddion Prydain.
Rwy’n gobeithio bod y datganiad hwn yn dangos ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hybu Iaith Arwyddion Prydain fel un o'r dulliau cyfathrebu sydd eu hangen i sicrhau bod pobl sydd wedi colli defnydd o'u synhwyrau yn defnyddio gwasanaethau mewn modd llawn a chyfartal yng Nghymru. Byddwn yn parhau i annog y rheini sy'n darparu gwasanaethau a'r rheini sy'n eu defnyddio i gydweithio er mwyn sicrhau bod gwasanaethau yn ymateb i anghenion pawb sy'n byw yng Nghymru.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Sefydlwyd y cwmni sy’n gyfrifol am My Salah Mat gan Kamal Ali, tad i ddau o blant. Matiau gweddïo arloesol yw’r matiau hyn a’u bwriad yw helpu plant ac oedolion i ddysgu sut i wneud Salah – y weddi ddyddiol sy'n cael ei harfer gan Fwslimiaid.
Ers iddo gael ei sefydlu bedair blynedd yn ôl, mae'r busnes wedi ennill enw iddo’i hun yn fyd\-eang am ei fatiau cwbl unigryw ac mae wedi datblygu portffolio rhyngwladol helaeth, ac mae ei gynhyrchion yn cael eu gwerthu bellach mewn dros 25 o wledydd ar draws pedwar cyfandir.
Mae'r cwmni wedi gweld gwerthiant yn cynyddu 15% yn y Dwyrain Canol dros y tair blynedd diwethaf ar ôl i'w fat ar gyfer plant fynd yn feirol ar draws y cyfryngau cymdeithasol yn y rhanbarth, gan arwain at gytundebau gyda manwerthwyr rhyngwladol mawr, gan gynnwys Virgin Megastores yn yr UAE a Dabdoob, un o'r manwerthwyr mwyaf i blant yn Kuwait.
Erbyn hyn, mae My Salah Mat yn gobeithio sicrhau cynnydd o 15% yn ei allforion byd\-eang dros y tair blynedd nesaf drwy ehangu ei rwydweithiau dosbarthwyr ar draws y byd a chanolbwyntio ar hybu gwerthiant yn Awstralia ac India – sy'n farchnadoedd targed allweddol i'r cwmni.
Bu Vaughan Gething, Gweinidog Economi Cymru, yn ymweld â chanolfan y cwmni yng Nghasnewydd er mwyn ei longyfarch ar ei lwyddiant.
Dywedodd Kamal Ali, sylfaenydd a dyfeisiwr My Salah Mat:
> "Mae allforio’n rhan sylweddol o'n busnes ac mae wedi chwarae rhan allweddol yn ein twf dros y blynyddoedd diwethaf. Mae'r galw byd\-eang am ein cynhyrchion wedi bod yn enfawr, wrth i rieni Mwslimaidd ledled y byd chwilio am help i ddysgu'r technegau gweddïo cywir i'w plant. Mae hynny’n cynnig llawer o gyfleoedd inni gynyddu’n gwerthiant rhyngwladol.
>
>
> "Mae Awstralia ac India yn farchnadoedd targed allweddol inni wrth i'n presenoldeb rhyngwladol barhau i dyfu. Mae’r boblogaeth Fwslimaidd yn cynyddu yn y ddwy wlad ac mae rhagor o blant ac oedolion am ddysgu'r dechneg weddïo gywir. Ar ôl siarad â chwsmeriaid a manwerthwyr newydd posibl yn y ddwy wlad, rydyn ni’n gwybod bod galw am ein cynhyrchion, felly mae cael troedle yn y farchnad honno yn brif ffocws inni ar hyn o bryd.”
Cafodd y cwmni o Gymru ei sefydlu’n wreiddiol gan Kamal ar ôl iddo sylwi bod ei fab yn cael trafferth gyda'i dechneg weddïo. Gan fod ganddo gefndir ym maes dylunio cynhyrchion, aeth Kamal ati i ddyfeisio ateb – mat gweddïo rhyngweithiol sy’n gweithio drwy gyffwrdd ac sy’n dysgu’r symudiadau gwahanol sy’n rhan o Salah i blant, gan gynnwys lle i roi eu traed, eu pengliniau, eu dwylo a'u pen, yn ogystal â beth i'w ddweud yn ystod y symudiadau gwahanol. Ar ôl dwy flynedd o ddatblygu prototeipiau, lansiodd Kamal ei gynnyrch cyntaf yn 2018, gan gael adolygiadau gwych.
Ar ôl y llwyddiant hwnnw, ysgogwyd My Salah Mat i ddatblygu fersiwn o'r mat ar gyfer oedolion yn fuan wedyn, ar ôl cael miloedd o geisiadau yn sgil cynnydd mawr ym mhoblogrwydd y cynnyrch ar y cyfryngau cymdeithasol.
Ers hynny, mae agenda’r cwmni yn un ryngwladol ac erbyn hyn, mae allforion yn cyfrif am 40% o'i fusnes. Mae gan y cwmni dros 75 o ddosbarthwyr a manwerthwyr ledled y byd, yn ogystal ag is\-gwmni yn yr Almaen, sef My Salah Mat Deutschland, a sefydlwyd er mwyn dal i fyny â’r galw cynyddol am ei gynhyrchion yn y wlad, ar ôl i’r cwmni fod yn Ffair Deganau Ryngwladol Nuremberg – un o arddangosfeydd masnach mwyaf Ewrop ar gyfer teganau.
Mae cymorth a gafodd oddi wrth Lywodraeth Cymru wedi bod yn allweddol i dwf a llwyddiant My Salah Mat. Roedd y cymorth hwnnw’n cynnwys ymchwil i'r farchnad ar dueddiadau defnyddwyr mewn marchnadoedd newydd posibl, helpu'r cwmni i ddeall dewisiadau rhanbarthol amrywiol, a'i annog i addasu'r mat fel ei fod ar gael mewn 20 o ieithoedd. Mae'r cwmni blaengar wedi rhoi strategaeth farchnata eang ar waith hefyd, gan ganolbwyntio ar lwyfannau fel TikTok, lle mae ei fideos yn cael eu gwylio gan filiynau o bobl, ac mae wedi bod yn gweithio gyda dylanwadwyr o bob cwr o'r byd er mwyn creu brand rhyngwladol cryf.
Ychwanegodd Kamal:
> "Mae meithrin gwell dealltwriaeth o sut mae’n marchnadoedd targed yn gweithredu a sut i fynd i mewn iddyn nhw’n effeithiol wedi chwarae rhan fawr yn ein twf allforio. Rydyn ni wedi cymryd rhan mewn teithiau masnach rhithwir sy’n cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru, a hynny yn Qatar, yr Emiradau Arabaidd Unedig a Maleisia, ac mae hynny wedi’n helpu i benderfynu sut orau i gael troedle yn y tiriogaethau hynny.
>
>
> "Mae'r teithiau hynny wedi bod yn fodd hefyd inni atgyfnerthu’n hygrededd ac i feithrin perthynas â darpar gwsmeriaid a chleientiaid, gan ein helpu i gael gwell amcan o’r hyn maen nhw'n chwilio amdano a’n galluogi i greu cyfleoedd busnes newydd."
Mae'r cwmni wedi llofnodi contract breindal gydag un o'r stiwdios cartwnau animeiddiedig mwyaf ym Maleisia, sef Omar a Hana, gan helpu i gynyddu ei bresenoldeb yn Ne\-ddwyrain Asia – marchnad allweddol arall i'r cwmni. Yn rhan o'r cytundeb hwnnw, mae My Salah Mat wedi ffurfio partneriaeth gyda'r cwmni animeiddio ar ddylunio cynhyrchion, lle mae lleisiau cymeriadau o raglen Omar a Hana i’w clywed ar rai o’r cynhyrchion i blant. Mae'r mat wedi ymddangos mewn penodau diweddar hefyd.
Ar ôl llai na phum mlynedd o lwyddiant aruthrol wrth allforio’n rhyngwladol, mae My Salah Mat bellach yn enw brand mewn cartrefi Mwslimaidd ledled y byd oherwydd ei boblogrwydd ac ar ôl ennill lle blaenllaw yn y farchnad. Mae'r cwmni wrthi'n datblygu hyd yn oed yn rhagor o gynhyrchion addysgol ac addasiadau er mwyn iddo fedru parhau i ymateb i’r tueddiadau a’r galw ymhlith defnyddwyr.
Dywedodd Vaughan Gething, Gweinidog yr Economi:
> "Mae neges Llywodraeth Cymru i fusnesau yn un glir – gallwch dyfu yng Nghymru a gwerthu i'r byd. Rydyn ni'n gweithio'n galed i helpu busnesau i wneud hynny.
>
>
> "Mae My Salah Mat yn gynnyrch arloesol gwych ac yn enghraifft berffaith o’r meddwl dyfeisgar sy’n cyflawni ar gyfer cynifer o bobl ar draws y byd.
>
>
> "Rwy'n falch o weld plant Mwslimaidd ym mhedwar ban byd yn mwynhau manteision My Salah Mat, sydd wedi'i ddylunio yng Nghymru. Mae’n rhywbeth sy'n helpu i’w haddysgu ac yn rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu am eu crefydd a sut i weddïo eu Salah.
>
>
> "Dyma'r union fathau o gynhyrchion arloesol sy'n arddangos y gorau o entrepreneuriaeth, busnes a mentergarwch Cymru.
>
>
> "Mae Llywodraeth Cymru yn falch o fod wedi gallu cefnogi'r cwmni, a’i helpu i gael llwyddiant ysgubol, gan wneud hynny drwy’r gefnogaeth gynhwysfawr sydd ar gael i fusnesau drwy Gynllun Gweithredu Allforio Llywodraeth Cymru. Rwy'n dymuno'r gorau i My Salah Mat ar gyfer y dyfodol."
|
Founded by dad of two Kamal Ali, My Salah Mat is the firm behind innovative prayer mats designed to help children and adults learn how to perform Salah – the daily prayer practiced by Muslims.
Since it was set up four years ago, the business has made a global name for its one\-of\-a\-kind mats and has developed an extensive international portfolio, with products now sold in over 25 countries across four continents.
The company has seen sales rise by 15% in the Middle East over the last three years after its children’s mat went viral across social media in the region, leading to it securing deals with major international retailers including Virgin Megastores in the UAE and Dabdoob, one of the largest kids’ retailers in Kuwait.
My Salah Mat is now looking to increase global exports by 15% over the next three years by expanding its distributor networks across the globe and focusing on driving sales in Australia and India – which are key target markets for the company.
Wales’ Economy Minister, Vaughan Gething visited the company’s Newport base to congratulate them on their success.
Kamal Ali, founder and inventor of My Salah Mat, said:
> “Exporting is a significant part of our business and has played a key role in our growth over the last few years. Global demand for our products has been huge, with Muslim parents all over the world looking for help teaching their children the right techniques to pray, which opens up a lot of opportunities for us to increase our international sales.
>
>
> “Australia and India are key target markets for us as our international presence continues to grow with increasing Muslim populations in both countries, alongside more children and adults looking to learn the correct praying technique. Having spoken with potential new customers and retailers in both areas, we know there is demand for our products, so finding routes to entry is a main focus for us right now.”
The Welsh company was originally set up by Kamal after he noticed his son struggling with his praying technique. With a background in product design, Kamal set about creating a solution – a touch activated interactive prayer mat teaching children the different positions in Salah including where to place their feet, knees, hands and head, as well as what to say during different positions. After two years of developing prototypes, Kamal launched his first product in 2018 to rave reviews.
The success prompted My Salah Mat to develop an adult’s version of the mat shortly after, following thousands of requests in light of the product’s spike in popularity on social media.
Since then, the company has operated with an international agenda with exports accounting for 40% of its business. The company has over 75 distributors and retailers worldwide, as well as a subsidiary in Germany, My Salah Mat Deutschland, which was established to keep up with increased demand for its products in the country, following attendance at the Nuremberg International Toy Fair \- one of Europe’s largest toy trade exhibitions.
Key to My Salah Mat’s export growth and success has been support from the Welsh Government, including market research on consumer trends within potential new markets, helping the company to understand varying regional preferences and prompting it to adapt the mat into 20 languages. The forward\-thinking firm has also implemented an extensive marketing strategy, focusing on platforms like TikTok, where its videos generate millions of views and engagement, and working with influencers from all over the world to build a strong international brand.
Kamal added:
> “Having a better understanding of how our target markets operate and how to effectively enter them has played a large role in our export growth. We have attended virtual trade trips funded by the Welsh Government in Qatar, the UAE and Malaysia, which have helped us determine the best routes of entry into these territories.
>
>
> “These trips have also allowed us to reinforce our credibility and build relationships with prospective customers and clients, helping us to get a better idea of what they are looking for while enabling us to establish new business opportunities.”
The firm has signed a royalty contract with one of the largest Malaysian animated cartoon studios, Omar and Hana, which will help grow its presence in Southeast Asia – another key market for the company. As part of the deal, My Salah Mat has partnered with the animation on product design, with select children’s products featuring the voices of characters from the Omar and Hana programme. The mat has also appeared in recent episodes.
With less than five years of booming international export success, My Salah Mat is now a Muslim household brand name around the world because of its popularity and after acquiring substantial market dominance. The company is in the process of developing even more educational products and adaptions to continue to keep up with consumer trends and demand.
Economy Minister, Vaughan Gething said:
> “The Welsh Government’s message to business is clear – grow in Wales and sell to the world. We’re working hard to support businesses to do just that.
>
>
> “My Salah Mat is a wonderful innovation and a perfect example of inventive thinking that can be used to deliver for so many people across the world.
>
>
> “I’m proud to see Muslim children right across the globe enjoying the benefits of the designed\-in\-Wales My Salah Mat, something that helps to teach and gives them an opportunity to learn about their religion and how to pray their Salah.
>
>
> “These are exactly the kinds of innovative products that showcase the very best of Welsh entrepreneurship, business and enterprise.
>
>
> “The Welsh Government is proud to have been able to support the company, helping it achieve great success, as part of the comprehensive support available to businesses through the Welsh Government’s Export Action Plan. I wish My Salah Mat all the very best for the future.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
From Monday 11 September, livestock keepers in Wales will be able to choose between using an approved Quarantine Unit (QU) to manage livestock movements or continuing to adhere to the Six Day Standstill (6DSS) on their whole holding.
The new arrangements simplify the standstill regime and allow greater flexibility for livestock keepers, while maintaining movement control to prevent the spread of disease.
Lesley Griffiths said:
> “We have developed Quarantine Units so livestock keepers have an alternative option to the Six Day Standstill arrangements. From next Monday, each individual livestock keeper will have more flexibility and be able to decide which approach \- QUs or Six Day Standstill \- best meets their requirements. I would advise livestock keepers, who have not yet done so, to familiarise themselves with the Quarantine Units operational rules and requirements.
Christianne Glossop added:
> “QUs were developed at the request of, and in close collaboration with the industry. I am confident the additional flexibility available from Monday addresses issues raised by the industry around the Six Day Standstill whilst protecting against the spread of disease.”
More information on Quarantine Units and detailed guidance on their operational rules and requirements are available on the animal health and welfare pages.
|
O ddydd Llun 11 Medi bydd modd i geidwaid da byw yng Nghymru ddewis rhwng defnyddio Uned Gwarantin gymeradwy ar gyfer rheoli symudiadau da byw neu barhau i gadw at y rheol ar wahardd symud am chwe diwrnod ar eu daliad cyfan. Bydd y trefniadau newydd yn symleiddio'r drefn o ran gwahardd symud ac yn rhoi mwy o hyblygrwydd i geidwaid da byw, wrth gadw rheolaeth ar symudiadau anifeiliaid er mwyn helpu i atal clefydau rhag lledaenu.
Dywedodd Lesley Griffiths:
> "Rydym wedi datblygu Unedau Cwarantin er mwyn cynnig dewis arall i geidwaid da byw. O ddydd Llun nesaf ymlaen bydd gan bob ceidwad da byw unigol fwy o hyblygrwydd a bodd modd dewis pa drefn \- Unedau Cwarantin neu'r Gwaharddiad ar Symud am chwe diwrnod \- sy'n diwallu eu gofynion. Byddwn yn cynghori ceidwaid da byw i ymgyfarwyddo â rheolau gweithredol a gofynion yr Unedau Cwarantin, os nad ydynt eisoes wedi gwneud hynny."
Ychwanegodd Christianne Glossop:
> "Cafodd yr Unedau Cwarantin eu creu ar gais y diwydiant ac ymgynghorwyd â'r diwydiant gydol y broses ddatblygu. Rwy'n hyderus y bydd yr hyblygrwydd ychwanegol a fydd ar gael o ddydd Llun nesa yn helpu i leddfu'r pryderon y mae'r diwydiant wedi'u codi ynghylch y rheol ar wahardd symud am chwe diwrnod ac y bydd yn helpu i sicrhau na fydd clefydau'n lledu."
Mae rhagor o wybodaeth am Unedau Cwarantin a chanllawiau manwl ynghylch eu rheolau gweithredol a'u gofynion ar tudalennau iechyd a lles anifeiliaid.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Minister for Lifelong Learning and Welsh Language Alun Davies outlined how the group will work across Government to meet the valleys’ future needs for education, health and economic development.
It will have representatives from the private and public sector to help the most disadvantaged areas of the valleys, and ensure every individual has the opportunity to fulfil their potential.
Alun Davies, who will chair the taskforce said:
> "The South Wales Valleys have a strong and proud history. But the closure of the ironworks, steelworks and pits has had a long and lasting impact on our valleys communities. We want a new approach to investing in the future of our valleys, which will engage and empower local communities and restore a sense of hope and aspiration.
>
> "Although we have made important progress in Wales to reduce unemployment and the number of people living in workless households, parts of the valleys continue to have high levels of economic inactivity and unemployment. This must change.
>
> "We have already seen significant structural investment in the valleys and the taskforce will build on this foundation, working with people there, local businesses, local government, the third sector and civic organisations to promote the valleys as a region for investment and a place to live."
The taskforce will work closely with both the Cardiff Capital City Region and Swansea Bay City Region programmes and will seek to harness potential of new initiatives such as the Metro and the valleys’ unique and diverse landscape as a tourism destination.
|
Mae Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, wedi amlinellu sut bydd y grŵp yn gweithio ar draws y Llywodraeth i fodloni anghenion y cymoedd yn y dyfodol o ran addysg, iechyd a datblygu economaidd.
Ymhlith aelodau'r grŵp a fydd yn helpu ardaloedd mwyaf difreintiedig y cymoedd fydd unigolion o'r sectorau preifat a chyhoeddus. Y nod fydd sicrhau bod pob unigolyn yn cael cyfle i gyflawni ei botensial.
Dywedodd Alun Davies, a fydd yn cadeirio'r tasglu:
> "Mae hanes cryf a balch gan gymoedd De Cymru. Ond mae cau’r gwaith haearn, y gwaith dur a’r pyllau wedi cael effaith hirdymor ar gymunedau’r cymoedd. Rydyn ni eisiau mynd ati i fuddsoddi mewn ffordd newydd yn nyfodol ein cymoedd, gan ennyn brwdfrydedd a grymuso cymunedau lleol, ac adfer gobaith ac uchelgais.
>
> "Er ein bod ni wedi cymryd camau pwysig yng Nghymru i leihau diweithdra a nifer y bobl sy’n byw mewn aelwydydd di\-waith, mae rhannau o’r cymoedd yn parhau â lefelau uchel o anweithgarwch economaidd a diweithdra. Mae'n rhaid i hyn newid.
>
> "Eisoes rydyn ni wedi gweld cryn fuddsoddi strwythurol yn y cymoedd, a bydd y tasglu yn adeiladu ar y sylfaen hon, gan gydweithio â phobl yr ardal, busnesau lleol, llywodraeth leol, y trydydd sector a sefydliadau dinesig i hyrwyddo’r cymoedd fel ardal i fuddsoddi ynddi a lle i fyw."
Bydd y tasglu yn cydweithio’n agos â rhaglenni Prifddinas\-Ranbarth Caerdydd a Dinas\-Ranbarth Bae Abertawe ac yn ceisio harneisio potensial mentrau newydd fel Metro a thirlun unigryw ac amrywiol y cymoedd i wneud yr ardal yn gyrchfan i dwristiaid.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Today I have published an Update to our National Vaccination Strategy. We published our Strategy on 11 January. Whilst only 6 weeks ago, a huge amount has happened since then. Our programme has gone from strength to strength. More than 900,000 people in Wales – many of whom are amongst the most vulnerable to poor outcomes should they become infected with Coronavirus – have now received their first dose of the lifesaving vaccines. Second doses, which are important for longer term protection, are also beginning to be rolled out, with more than 80,000 people having now received their full course of vaccine.
I am pleased to confirm that we have brought forward two key target dates within our programme. We are now aiming to offer the vaccine to all current priority groups by the middle of April and to the wider adult population by the end of July. I must be very clear though that these aims are heavily based on vaccine supply, which continues to be the limiting factor. It is encouraging that the UK Government has brought forward some of Wales’ supply allocation, but from the information available to us at this point there are concerns with both the type of supply and the timing of its delivery. We have always said that we could go faster were the supply available. I hope that the UK Government is able to stand behind its commitments to enable the speeding up of our programme.
The Update to our Strategy reflects on some of the achievements of our programme to\-date, 12 weeks since we started vaccinating, and sets out more information about our current and forthcoming priorities. It also confirms our intention – in line with the other UK nations – to follow the interim advice on prioritisation for phase 2 of the programme that the Joint Committee on Vaccination and Immunisation has issued today.
Furthermore, the Update provides information on the significant and really encouraging evidence that is beginning to emerge around vaccination. While we must still be careful and cautious, there really does appear to be much cause for hope attached to the success of our vaccination programme.
|
Heddiw, rwyf wedi cyhoeddi Diweddariad i’n Strategaeth Frechu Genedlaethol. Cyhoeddwyd ein Strategaeth ar 11 Ionawr. Er mai dim ond 6 wythnos yn ôl oedd hynny, mae llawer iawn wedi digwydd yn y cyfamser. Mae ein rhaglen wedi mynd o nerth i nerth. Mae dros 900,000 o bobl yng Nghymru – llawer ohonynt ymysg y rhai mwyaf agored i ganlyniadau gwael pe baent yn dal y coronafeirws – bellach wedi cael eu dos cyntaf o’r brechlynnau sy’n achub bywydau. Mae ail ddosau, sy’n bwysig i ddiogelu pobl yn fwy hirdymor, hefyd yn dechrau cael eu darparu. Mae dros 80,000 o bobl nawr wedi cael y ddau ddos o’r brechlyn.
Rwy’n falch o gadarnhau ein bod wedi newid dau ddyddiad targed allweddol yn ein rhaglen er mwyn cyflawni ein targedau yn gynt. Ein nod nawr yw cynnig y brechlyn i bob grŵp blaenoriaeth presennol erbyn canol mis Ebrill ac i’r boblogaeth oedolion ehangach erbyn diwedd mis Gorffennaf. Fodd bynnag, rhaid imi ei gwneud yn glir iawn bod yr amcanion hyn yn dibynnu i raddau helaeth ar gyflenwad y brechlynnau, sy’n parhau i fod y ffactor cyfyngol. Mae’n galonogol bod Llywodraeth y DU wedi trefnu y bydd rhan o ddyraniad cyflenwad Cymru ar gael yn gynt, ond o’r wybodaeth sydd ar gael inni ar hyn o bryd mae yna bryderon ynghylch y math o gyflenwad a’r amseriad o ran ei ddarparu. Rydym bob amser wedi dweud y gallen ni weithredu’n gyflymach pe bai’r cyflenwad ar gael. Rwy’n gobeithio y gall Llywodraeth y DU gadw at ei hymrwymiadau i’n galluogi i gyflymu ein rhaglen.
Mae’r Diweddariad i’n Strategaeth yn ystyried rhai o lwyddiannau ein rhaglen hyd yma, 12 wythnos ers inni ddechrau brechu. Mae hefyd yn nodi rhagor o wybodaeth am ein blaenoriaethau presennol a’n blaenoriaethau i ddod. Yn ogystal, mae’n cadarnhau ein bwriad – yn unol â gwledydd eraill y DU – i ddilyn y cyngor interim y mae’r Cyd\-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu wedi’i roi heddiw ynglŷn â blaenoriaethu yn ystod ail gam y rhaglen.
Mae’r Diweddariad hefyd yn darparu gwybodaeth am y dystiolaeth arwyddocaol a chalonogol iawn sy’n dechrau dod i’r amlwg ynglŷn ag effaith brechu. Er bod rhaid inni barhau i fod yn ofalus ac yn bwyllog, mae’n ymddangos bod lle i fod yn obeithiol yn sgil llwyddiant ein rhaglen frechu.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Y llynedd, cyhoeddais gynlluniau ar gyfer cyflwyno’n raddol Wasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd ar draws Cymru erbyn 2014\. Byddai hyn yn sicrhau bod mynediad teg ac amserol gan rai o’n plant a theuluoedd mwyaf agored i niwed i’r gwasanaeth arloesol hwn.
Felly, rwy’n falch o gyhoeddi inni gyrraedd carreg filltir arwyddocaol arall tuag at ein gweledigaeth o drawsnewid gwasanaethau yng Nghymru a fydd yn cynnal ein pobl a’n cymunedau yn well drwy sefydlu Gwasanaeth Integredig Cymorth i Deuluoedd (IFSS) yn ardal Bae’r Gorllewin, o heddiw ymlaen.
Hoffwn dalu teyrnged i’r holl bartneriaid yn yr ardal IFSS hon (sy’n cynnwys awdurdodau lleol Pen\-y\-bont ar Ogwr, Castell\-nedd Port Talbot ac Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg) am eu harweiniad a’u hymrwymiad wrth weithio gyda’i gilydd i sefydlu tri Thîm Integredig Cymorth i Deuluoedd newydd a fydd yn darparu cymorth dwys i deuluoedd ag anghenion cymhleth. Dyma enghraifft wych arall o weledigaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer integreiddio a chydweithio gwell a fydd yn sicrhau gwasanaethau mwy effeithiol ac effeithlon i bobl Cymru.
Bydd hyn yn dod â’r gwasanaeth i 13 ardal awdurdod lleol ledled Cymru ac yn cwblhau trydydd cam cyflwyno IFSS. Mae ehangu pellach ar y gweill yn nes ymlaen yn y flwyddyn dan Gam 4, gan roi rhagor o dimau ar waith yn y Gogledd ac yng Ngwent. Mae gweithredu IFSS cam wrth gam yn pwysleisio bod Awdurdodau Lleol a Byrddau Iechyd Lleol yn parhau i groesawu IFSS, ac rwy’n falch i weld partneriaethau mor gryf yn cael eu meithrin i gyflwyno’r ffordd newydd hon o weithio ar draws Cymru er mwyn rhoi mwy o gymorth i’n cymunedau.
Pwysleisiodd y Rhaglen Lywodraethu ein hymrwymiad i weithredu IFSS wrth inni fynd ar y daith tuag at fy ngweledigaeth ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy yng Nghymru. Fel rhan o hyn, roeddwn yn falch i osod Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn gynharach yr wythnos hon.
Mae’r Bil yn adlewyrchu gwerthoedd craidd IFSS sy’n cydnabod pobl fel rhan o deuluoedd, gyda’r ffocws ar sicrhau mwy o integreiddio, ennyn mwy o ymddiriedaeth rhwng y rhai sydd angen gofal a chymorth a’r gweithwyr proffesiynol medrus, a chynnig gwasanaethau sydd eu hangen ar bobl – mewn modd sy’n golygu y caiff pobl eu gwerthfawrogi a’u lleisiau eu clywed. Yn wir, mae darparu trefniadau partneriaeth o’r fath ar gyfer y dyfodol yn cael eu hymgorffori ymhellach o fewn y Bil ei hunan.
Mae arwyddion cadarnhaol o hyd bod IFSS yn gwneud gwahaniaeth go iawn i blant a theuluoedd yng Nghymru, lle mae effaith camddefnyddio sylweddau ymysg rhieni’n amlwg. Hoffwn ddiolch i’r holl dimau integredig cymorth i deuluoedd am eu gwaith rhagorol parhaus yn darparu’r gwasanaeth pwysig hwn a hoffwn ddymuno pob llwyddiant i’r tri thîm newydd ym Mae’r Gorllewin. Byddaf yn parhau i roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau wrth i weithredu pellach fynd rhagddo.
|
Last year, I announced plans for the phased roll\-out of Integrated Family Support Services (IFSS) across Wales by 2014, to ensure equitable and timely access to this flagship service for some of our most vulnerable children and families.
I am pleased, therefore, to announce the achievement of another significant milestone towards our vision of transforming services in Wales to better support our people and communities through **the establishment of IFSS in the Western Bay area**, **from today.**
I would like to pay tribute to all the partners in this IFSS area (covering Bridgend, Neath Port Talbot and Swansea local authorities and Abertawe Bro Morgannwg University Health Board) for their leadership and commitment in working together to establish three new Integrated Family Support Teams which will deliver intensive support to families with complex needs. This is another excellent exemplar of the Welsh Government’s vision for better integration and collaboration to deliver more effective and efficient services to the people of Wales.
This brings coverage of the service to 13 local authority areas across Wales and completes the third phase of roll\-out of IFSS. Further expansion is planned for later this year under Phase 4 with the implementation of further teams in North Wales and Gwent. The progressive implementation of IFSS highlights that Local Authorities and Local Health Boards are continuing to embrace IFSS and I am pleased to see the forging of such strong partnerships to successfully introduce this new way of working across Wales to better support our communities.
Our Programme for Government highlighted our commitment to implementing IFSS in our journey towards my vision for a Sustainable Social Services in Wales and, as part of this, I was proud to lay the Social Services and Well\-being (Wales) Bill before the National Assembly for Wales earlier this week.
The Bill reflects the core values of IFSS which recognises people as part of families, with a focus on achieving greater integration, building stronger trust between those in need of care and support and skilled professionals and offering services that people need – in a way in which people are valued and their voice is heard. Indeed, the provision for such partnership arrangements in future is further enshrined within the Bill itself.
There continues to be positive indications that IFSS is making a real difference to children and families in Wales, where the impact of parental substance misuse is being so keenly felt. I would like to thank all of the IFS teams for their continued excellent work in delivering this important service and would like to wish the three new teams in Western Bay every success. I will continue to update Members as further implementation progresses.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The relationship between the Welsh Government and the Third Sector rests upon trust and mutual respect. The Welsh Government is committed to building on this crucial relationship, which has developed over a long period, for the benefit of people and communities in Wales.
The Welsh Government is aware of the UK Government’s intention to introduce new grant conditions which, if implemented, would mean organisations receiving Government grants would be banned from using these funds to lobby Government and Parliament.
The Welsh Government will continue to safeguard the ability of Welsh Third Sector organisations to engage in constructive dialogue to support policy making. We believe the current standard terms and conditions effectively and comprehensively ensure public money is used for approved purposes.
The Welsh Government remains committed to working in partnership with the Third Sector through many channels, including the Third Sector Partnership Council. In doing so, we will follow the principles set out in our Third Sector Scheme and Code of Practice for Funding the Third Sector.
|
Mae'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a'r Trydydd Sector yn dibynnu ar ymddiriedaeth a pharch at ei gilydd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i adeiladu ar y berthynas hanfodol hon, sydd wedi datblygu dros gyfnod hir, er lles pobl a chymunedau yng Nghymru.
Mae Llywodraeth Cymru yn ymwybodol o fwriad Llywodraeth y DU i gyflwyno amodau grant newydd. Pe bai'r grantiau hyn yn cael eu rhoi ar waith, byddai'r sefydliadau sy'n cael grantiau gan y Llywodraeth yn cael eu gwahardd rhag defnyddio'r cyllid hwn i lobïo'r Llywodraeth a'r Senedd.
Bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i ddiogelu gallu sefydliadau'r Trydydd Sector yng Nghymru i gymryd rhan mewn deialog adeiladol trwy gefnogi llunio polisïau. Rydym yn credu bod y termau a'r amodau safonol presennol yn effeithiol ac yn gynhwysfawr o ran sicrhau bod arian cyhoeddus yn cael ei ddefnyddio at ddibenion cymeradwy.
Mae Llywodraeth Cymru dal wedi ymrwymo i weithio mewn partneriaeth â'r Trydydd Sector trwy sawl sianel, yn cynnwys Cyngor Partneriaeth y Trydydd Sector. Trwy wneud hyn, byddwn yn dilyn yr egwyddorion a bennwyd yn ein Cynllun a Chod Ymarfer Trydydd Sector ar gyfer Cyllido'r Trydydd Sector.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Two of the 4 trials will take place in North Wales, with the other 2 in West Wales and in the Valleys Taskforce area. These trials will test different models of demand bus services and where appropriate, build on existing delivery models.
Transport for Wales will assist with the pilots.
The results of the trials will be analysed and will help inform the development of demand responsive travel over the next few years. Depending on their success, a decision will be taken on initiating a permanent arrangement.
The funding is part of the £24 million of Local Transport Fund due to be announced shortly.
Transport Minister Ken Skates said:
> “We’ve got exciting plans for transport over the next decade and beyond. The development of the new £5 billion rail franchise, a major overhaul of the bus network and significant new investment going into Active Travel.
>
>
> “A major part of our plan is to encourage innovation on our transport network and to build it around the needs of the passengers and the communities that use it.
>
>
> “This £1 million of funding will help us test four different models of demand responsive transport on the bus network with a view to taking what works into obtaining a much bigger prize – the development of a truly integrated public transport network that is there when people genuinely need it – for work, for play or to access important services.
>
>
> “It’s an unacceptable fact that in places such as the Mersey Dee Region, 1 in 5 people cannot get to job interviews because of an absence of affordable public transport. 1 in 5 people locked out of work, because they don’t have the luxury of owning a car.
>
>
> “Through the design and testing of the different models we can test key aspects of demand responsive bus travel services including integration of patient and education transport as well as the use of new mobile technology.”
Today’s announcement will see Welsh Government, Transport for Wales, local authorities and operators work together to do the initial design the pilot projects.
The schemes will provide important information and insight for rolling out integrated responsive services to the rest of Wales. Further information on the pilot projects will be made once arrangements have been finalised with local authorities and operators.
Valleys Taskforce Minister Lee Waters said:
> “Bus services are a vital part of life for people in areas like the valleys, helping communities stay connected and providing essential access to jobs, education and services.
>
>
> “Helping test new and innovative solutions to make bus transport more flexible and more responsive will help people in their daily lives and make it easier for them to leave their own vehicle at home.
>
>
> “Through our engagement with people living and working in the Valleys we know that transport and particularly bus transport is the number one issue to be addressed in the Valleys and I will be looking to announce a further pilot in this area.
>
>
> “I’m looking forward to working with local authorities and Transport for Wales to help shape the pilot project in the Valleys Taskforce region.
|
Bydd dau gynllun treialu yn cael eu cynnal yn y Gogledd a bydd dau arall yn y Gorllewin ac yn ardal Tasglu'r Cymoedd. Bydd y cynlluniau treialu hyn yn profi gwahanol fodelau o wasanaethau bws ymatebol a byddant, lle y bo'n briodol, yn adeiladu ar fodelau cyflenwi presennol.
Bydd Trafnidiaeth Cymru yn cynorthwyo â'r cynlluniau treialu.
Caiff canlyniadau'r cynlluniau treialu eu dadansoddi a byddant yn sail i'r gwaith o ddatblygu dulliau teithio sy'n ymateb i'r galw dros y blynyddoedd nesaf. Bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch sefydlu trefniant parhaol, gan ddibynnu ar lwyddiant y cynlluniau treialu.
Mae'r cyllid yn rhan o'r Gronfa Trafnidiaeth Leol gwerth £24 miliwn a fydd yn cael ei chyhoeddi'n fuan.
Dywedodd y Gweinidog Trafnidiaeth Ken Skates:
> "Mae gennym gynlluniau cyffrous ar gyfer trafnidiaeth dros y degawd nesaf a thu hwnt i hynny. Mae'r rhain yn cynnwys datblygu'r fasnachfraint rheilffyrdd newydd sydd werth £5 biliwn, trawsnewid y rhwydwaith bysiau a buddsoddi'n sylweddol mewn Teithio Llesol.
>
>
> "Agwedd bwysig ar ein cynllun yw annog blaengaredd o fewn ein rhwydwaith trafnidiaeth a sicrhau ei fod yn ymateb i anghenion y teithwyr a'r cymunedau sy'n ei ddefnyddio.
>
>
> "Bydd yr £1 miliwn yma'n ein galluogi i brofi pedwar gwahanol fodel o deithiau ymatebol ar y rhwydwaith bysiau. Y nod yn y pen draw yw datblygu rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus gwbl integredig lle y mae gwir alw amdano \- at ddibenion gwaith, hamdden neu er mwyn gallu cael mynediad at wasanaethau pwysig.
>
>
> "Mae'n gwbl annerbyniol na all un o bob pum person mewn mannau fel Rhanbarth Mersi a'r Ddyfrdwy gael cyfweliadau ar gyfer swyddi oherwydd nad oes trafnidiaeth gyhoeddus fforddiadwy ar gael. Nid oes modd i un o bob pum person geisio cael swydd oherwydd nad ydynt yn berchen ar gar.
>
>
> "Trwy gynllunio a phrofi'r gwahanol fodelau gallwn brofi agweddau allweddol ar wasanaethau bws ymatebol, gan gynnwys integreiddio trafnidiaeth ar gyfer dysgwyr gyda thrafnidiaeth ar gyfer cleifion a hefyd ddefnyddio technoleg symudol newydd.
Golyga cyhoeddiad heddiw y bydd Llywodraeth Cymru, Trafnidiaeth Cymru, awdurdodau lleol a gweithredwyr yn cydweithio er mwyn dechrau cynllunio'r prosiectau peilot.
Bydd gwybodaeth bwysig yn deillio o'r cynlluniau a bydd yn ei gwneud hi'n haws i gyflwyno gwasanaethau ymatebol ac integredig ar draws gweddill Cymru. Bydd rhagor o wybodaeth am y prosiectau peilot ar gael cyn gynted ag y caiff y trefniadau eu cadarnhau gyda'r awdurdodau lleol a'r gweithredwyr.
Dywedodd Gweinidog Tasglu'r Cymoedd, Lee Waters:
> "Mae gwasanaethau bws yn gwbl allweddol ar gyfer pobl sy'n byw mewn ardaloedd fel y Cymoedd, gan greu cysylltiadau rhwng cymunedau a sicrhau mynediad hanfodol at swyddi, addysg a gwasanaethau.
>
>
> "Bydd helpu i brofi atebion newydd a blaengar er mwyn sicrhau bod gwasanaethau bws yn fwy hyblyg ac yn fwy ymatebol yn helpu pobl â'u bywydau dyddiol a bydd yn ei gwneud hi'n haws iddynt adael eu cerbydau gartref.
>
>
> “Trwy ymwneud â’r bobl sy’n byw ac yn gweithio yn y Cymoedd rydym yn ymwybodol o’r ffaith mai trafnidiaeth, ac yn arbennig bysiau, yw’r prif fater y mae angen mynd i’r afael ag ef yn y Cymoedd. Fy nod yw cyhoeddi cynllun peilot arall yn yr ardal hon.
>
>
> "Rwy'n edrych ymlaen at gydweithio ag awdurdodau lleol a Trafnidiaeth Cymru er mwyn llywio'r cynllun peilot yn rhanbarth Tasglu'r Cymoedd.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Minister confirmed that Naomi Luhde\-Thompson and Delyth Lloyd have been appointed to the Authority. In their roles, they will help guide the work of the National Park, supporting its leadership, and contributing to the development of plans and priorities for the future.
Both appointments are for four years, until 2026\.
Minister for Climate Change, Julie James, said:
> Both Naomi and Delyth bring a vast experience with them, and I am looking forward to working with them.
>
>
> Our National Park Authorities now play a more important role than ever in addressing issues of national and international importance such as mitigating climate change, decarbonisation, halting biodiversity loss and promoting more sustainable tourism. It is vital that they are well managed organisations, and that we appoint members with a range of skills and expertise to help them realise those ambitions.
Members of the National Park Authorities are paid £4,738 per annum reflecting a time commitment of 44 days per year.
These appointments have been made in accordance with the Governance Code on Public Appointments. Neither appointee has undertaken any political activity in the past five years, nor do they hold any other Ministerial appointments.
|
Cadarnhaodd y Gweinidog fod Naomi Luhde\-Thompson a Delyth Lloyd wedi cael eu penodi i’r Awdurdod.
Fel rhan o’u rôl byddan nhw’n helpu i arwain gwaith y Parc Cenedlaethol, gan gefnogi ei arweinyddiaeth a chyfrannu at y gwaith o ddatblygu cynlluniau a blaenoriaethau ar gyfer y dyfodol.
Mae’r ddau penodiad ar gyfer pedair blynedd, tan 2026\.
Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
> Mae Naomi a Delyth yn dod â thoreth o brofiad, ac rwy’n edrych ymlaen at weithio gyda nhw.
>
>
> Mae’r rôl mae ein Hawdurdodau Parc Cenedlaethol yn ei chwarae bellach yn bwysicach nac erioed wrth fynd i’r afael â materion sydd o bwys cenedlaethol a rhyngwladol, fel lliniaru effeithiau newid hinsawdd, datgarboneiddio, atal colli bioamrywiaeth a hyrwyddo twristiaeth fwy cynaliadwy. Mae’n hanfodol bod y sefydliadau hyn yn cael eu rheoli’n dda, a’n bod yn penodi aelodau a chanddyn nhw amrediad o sgiliau a phrofiad i’w helpu i wireddu’r uchelgeisiau hynny.
Mae Aelodau o’r Awdurdodau Parc Cenedlaethol yn derbyn tâl o £4,738 y flwyddyn, gan adlewyrchu ymrwymiad amser o 44 diwrnod y flwyddyn.
Mae’r penodiadau hyn wedi cael eu gwneud yn unol â Chod Llywodraethiant Penodiadau Cyhoeddus. Nid yw’r un ohonynt wedi ymgymryd ag unrhyw weithgareddau gwleidyddol yn y pum mlynedd diwethaf nac yn dal unrhyw swyddi Gweinidogol eraill.
|
Translate the text from English to Welsh. |
I have today written to all schools in Wales to inform them of the changes we are making to the Pupil Deprivation Grant with effect from April.
Firstly, I am announcing a small, but significant change in the name of the grant. I believe the ‘Pupil Development Grant’ is more appropriate. Not only does this reflect the excellent practice that already exists across Wales, but I also believe this more positive name will better emphasise learner progression alongside reducing the attainment gap.
In Taking Wales Forward 2016 – 2021 we committed to ensuring every child gets the best start in life through an extended PDG. I am delighted that the innovative use of the grant is continuing to have an impact on the attainment on our most disadvantaged learners. I know from my many visits to schools around Wales that they highly value the PDG as a mechanism to ensure that we build greater equity within our education system. This is vital if we are to ensure that each and every learner has the opportunity to achieve their full potential.
To maintain this momentum, I intend to continue to fund schools to support pupils who require additional support via e\-FSM and regional consortia to continue to deliver a regional approach to support looked after children at a rate of £1,150 per eligible learner for 2017\-18\. In addition I also intend to:
* double the Early Years PDG for learners in the Foundation Phase
* extend the PDG to support three year old looked after children at the same rate as all other looked after learners
* extend funding to learners who are in education other than at school (EOTAS), rather than just those who are in pupil referral units
* ensure that the regional education consortia strengthen their management arrangements to support secondary schools in delivering an aspirational target of at least 60% of PDG being invested at Key Stage 3 to address barriers to learning as they are identified.
I have always been very clear about my commitment to supporting disadvantaged learners and believe that only by doing so will we be able to sustainably push up attainment rates across Wales.
The PDG remains crucial in delivering on our shared commitment to reduce inequalities and remove barriers.
I am grateful to the very had work that our head teachers, teachers and our education workforce deliver each and every day in support of our most disadvantaged learners to ensure that we achieve our national mission of education reform.
|
Heddiw, ysgrifennais at bob ysgol yng Nghymru i’w hysbysu am y newidiadau yr ydym yn eu gwneud i'r Grant Datblygu Disgyblion, a fydd yn dod i rym ym mis Ebrill.
Yn gyntaf, cyhoeddaf newid bach, ond newid pwysig yn enw'r grant. Credaf fod 'y Grant Datblygu Disgyblion' yn fwy priodol. Yn ogystal ag adlewyrchu'r arferion arbennig sydd eisoes yn bodoli ledled Cymru, credaf hefyd y bydd yr enw mwy cadarnhaol hwn yn rhoi mwy o bwyslais ar ddilyniant dysgwyr, ochr yn ochr â lleihau'r blwch mewn cyrhaeddiad.
Yn Symud Cymru Ymlaen 2016 – 2021 rydym wedi ymrwymo i sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd drwy Grant Datblygu Disgyblion estynedig. Rwy'n falch bod y grant yn cael ei ddefnyddio mewn ffordd arloesol ac yn parhau i gael effaith ar lefelau cyrhaeddiad ein dysgwyr mwyaf difreintiedig. Ac mae fy ymweliadau lu ag ysgolion ledled Cymru wedi dangos eu bod yn rhoi gwerth mawr ar y Grant fel ffordd o sicrhau bod ein system addysg yn decach. Mae hyn yn hollbwysig os ydym am sicrhau bod pob dysgwr yn cael y cyfle i gyrraedd ei lawn botensial.
Er mwyn cynnal y momentwm hwn, rwy'n bwriadu parhau i ariannu ysgolion i gefnogi disgyblion sydd angen cymorth ychwanegol drwy brydau ysgol am ddim, a chonsortia rhanbarthol i barhau i ddarparu dull rhanbarthol o helpu plant sy'n derbyn gofal ar raddfa o £1,150 fesul dysgwr cymwys ar gyfer 2017\-18\. Yn ogystal â hyn, rwyf hefyd yn bwriadu:
* dyblu Grant Datblygu Disgyblion y Blynyddoedd Cynnar ar gyfer dysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen
* estyn y Grant i helpu plant tair blwydd oed sy'n derbyn gofal ar yr un raddfa â dysgwyr eraill sy'n derbyn gofal
* estyn y cyllid i ddysgwyr sy'n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol, yn hytrach na’r rheini sydd mewn unedau cyfeirio disgyblion yn unig
* sicrhau bod y consortia addysg rhanbarthol yn cryfhau eu trefniadau rheoli i gefnogi ysgolion uwchradd i gyrraedd targed o fuddsoddi o leiaf 60% o'r Grant yng Nghyfnod Allweddol 3 i oresgyn rhwystrau i ddysgu wrth iddynt gael eu nodi.
Rydw i wastad wedi bod yn glir ynghylch fy ymrwymiad i gefnogi dysgwyr difreintiedig, ac rwy'n credu mai dim ond drwy wneud hynny y gallwn godi lefelau cyrhaeddiad mewn ffordd gynaliadwy ar draws Cymru gyfan.
Mae'r Grant Datblygu Disgyblion yn hollbwysig i gyflawni ein hymrwymiad ar y cyd i leihau anghydraddoldebau a dileu rhwystrau.
Rwy'n ddiolchgar i'n penaethiaid, athrawon a'n gweithlu addysg am eu gwaith caled beunyddiol i helpu ein dysgwyr mwyaf difreintiedig, er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni ein nod cenedlaethol o ddiwygio'r system addysg.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Yn dilyn Cydsyniad Brenhinol Bil y Sector Amaethyddol (Cymru) ar 30 Gorffennaf 2014, lansiais ymgynghoriad 12 wythnos ar 7 Awst 2014 i holi barn y cyhoedd yng Nghymru ar gyfansoddiad a swyddogaethau Panel Cyngori ar Amaethyddiaeth Cymru a argymhellwyd o dan y Ddeddf.
Roeddwn yn falch bod canlyniadau’r ymgynghoriad yn dangos cefnogaeth gyffredinol o fewn y diwydiant i’r Panel, ac felly, ar 27 Mawrth 2015, lansiais ail ymgynghoriad mwy manwl. Roedd yr ail ymgynghoriad hwn wedi’i seilio ar bedwar cynnig craidd ynghylch pwy ddylai fod ar y Panel, sut y dylid dewis aelodau rhanddeilaid y Panel, sut y dylid dewis aelodau annibynnol, a phwerau a chylch gwaith y Panel ei hun.
Daeth yr ymgynghoriad i ben ar 19 Mehefin 2015 a chafwyd 24 ymateb gan amrywiol unigolion a sefydliadau a gymerodd y cyfle i ehangu ar eu hymatebion cychwynnol, gan gynnig sylwadau adeiladol ac awgrymiadau arloesol.
Fel y dengys y crynodeb o ymatebion, roedd mwyafrif yr ymatebwyr yn cytuno gyda chynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer y Panel tra hefyd yn cynnig sylwadau ychwanegol. Bydd Llywodraeth Cymru bellach yn ystyried y sylwadau ychwanegol wrth i swyddogion gwblhau darpariaethau’r Gorchymyn Statudol fydd yn sefydlu’r Panel. Bydd modd gweld y crynodeb o ymatebion ar lein.
Bydd gofyn i’r sefydliadau hynny sy’n cael eu dewis i gynnig cynrychiolwyr ddewis ymgeiswyr priodol o’u haelodau eu hunain i eistedd ar y Panel. Bydd y sefydliadau’n cael eu dewis yn unol â’r angen i sicrhau cynrychiolaeth gytbwys o weithwyr a chyflogwyr, rhywbeth y mae pob ymatebydd wedi’i nodi sydd o bwys mawr. Bydd aelodau annibynnol yn cael eu dewis drwy’r Broses Benodiadau Cyhoeddus i sicrhau bod personau amrywiol, sydd â’r cymwysterau a’r profiad priodol yn cael eu penodi i ddarparu mewnbwn arbenigol ac annibynnol i waith y Panel.
O ystyried cylch gwaith eang a phwysig y Panel, a’r amser sydd ei angen ar gyfer Proses Penodiadau Cyhoeddus effeithiol, fy mwriad yw sicrhau bod aelodau’r Panel yn cael eu dewis, a hefyd sefydlu’r fframwaith erbyn mis Chwefror 2016\.
Unwaith y bydd y Panel wedi’i sefydlu, bydd yn chwarae rhan hollbwysig yn gosod fframwaith o gyflogau teg a thelerau ac amodau cyflogaeth eraill i bob gweithiwr amaethyddol yng Nghymru, gan gyfrannu at agenda Trechu Tlodi ehangach y Llywodraeth hon, drwy leihau tlodi gwledig a chefnogi economïau a chymunedau gwledig ledled Cymru. Bydd gan y Panel rôl i’w chwarae hefyd yn hyrwyddo gyrfaoedd a datblygu sgiliau yn y sector, gan helpu nod gyffredinol Llywodraeth Cymru o foderneiddio a sicrhau bod y diwydiant yn fwy proffesiynol, yn unol â’n Fframwaith Strategol ar gyfer amaethyddiaeth.
Hoffwn nodi fy niolchiadau diffuant i bawb a gymerodd yr amser i ystyried ac ymateb i gynigion yr ymgynghoriad, ac rwy’n edrych ymlaen at barhau i gydweithio’n agos â rhanddeiliaid wrth i Lywodraeth Cymru gwblhau’r broses o greu y corff hanesyddol a phwysig hwn.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ymgynnull eto, os bydd angen.
|
Following Royal Assent of the Agricultural Sector (Wales) Bill on 30 July 2014, I launched a 12 week consultation on 7 August 2014 to seek the views of the Welsh public on the constitution and functions of the Agricultural Advisory Panel for Wales proposed under the Act.
I was pleased that the results of the initial consultation indicated broad industry support for the Panel and so, on 27 March 2015, I launched a second, more detailed consultation. This second consultation was structured around four core proposals concerning who should sit on the Panel, how stakeholder Panel members should be chosen, how independent members should be chosen and the powers and remit of the Panel itself.
The consultation closed on 19 June 2015 and 24 responses were received from a variety of individuals and organisations who took the opportunity to elaborate on their initial responses, providing constructive comments and innovative suggestions.
As the summary of responses demonstrates, a majority of respondents agreed with the Welsh Government proposals for the Panel while also providing additional commentary. Welsh Government will now consider this additional commentary as officials finalise the provisions of the Statutory Order which will establish the Panel. The summary of responses can be accessed online.
Those organisations selected to provide representatives will be requested to select appropriate candidates from their own membership to take a seat on the Panel. Organisations will be selected in accordance with the need to maintain balanced representation of employers and employees, which all respondents have stated to be of great importance. Independent members will be selected via the Public Appointment Process to ensure diverse, appropriately qualified and experienced persons are appointed to provide expert and independent input to the work of the Panel.
Given the extensive and important remit of the Panel and the time required for an effective Public Appointment Process, my intention is to have the Panel members selected and the framework in place by February 2016\.
Once in place, the Panel will play a crucial role in setting a framework of fair wages and other terms and conditions of employment for all agricultural workers in Wales, contributing towards this Government’s wider Tackling Poverty agenda by reducing rural poverty and supporting rural economies and communities across Wales. The Panel will also have a role to play in promoting careers and skills development in the sector, assisting the Welsh Government’s overarching objective of modernising and further professionalising the industry in line with our Strategic Framework for agriculture.
I would like to place on record my sincere thanks to all those who took the time to consider and respond to the consultation proposals and I look forward to continuing to work closely with stakeholders as the Welsh Government finalises the process of creating this historic and important new body.
This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The new toolkit proposed in the Bus Services (Wales) Bill includes new powers for councils to franchise bus services on routes and paves the way for local authorities to run their own bus companies.
Speaking ahead of the launch, Economy, Transport and North Wales Minister Ken Skates said deregulation of bus services in the 1980s had been an ‘abject failure’ and said action was needed to put passengers first and improve services.
The new Bill introduced into the Senedd also contains powers for new partnership agreements between operators and councils as well as powers to ensure information over timetables and routes are more freely available for passengers and potential new operators.
Ken Skates, Minister for Economy, Transport and North Wales, said:
> “Bus services are crucial to our lives. Whether it’s supporting people into work; getting individuals to a vital medical appointment or helping us stay in contact with family, friends and loved ones – every single one of us, in some way or another, depends on bus travel.
>
>
> “But it’s clear that deregulation of bus services in the 1980s has been an abject failure. Passenger numbers are falling and it’s clear that the free market model simply does not work. Bus services can’t be sold like washing powder or apples – they are a vital public service that need to be planned in a coordinated and rational way for passengers.
>
>
> “This legislation help us take action to end that free market model. It puts passengers first by giving local authorities the opportunity to better plan and deliver bus services through new franchising powers and by lifting the ban on councils establishing their own bus companies.
>
>
> “15% of households in Wales do not have access to a car and we need to take action to improve the viability and the attractiveness of alternatives to cars such as buses. Improving public transport is also a critical part of our response to the climate emergency and the need for modal shift in our communities.
>
>
> “This legislation isn’t a silver bullet – it has to go hand in hand with our investment in Metro systems and plans to tackle congestion. But it is a vital toolkit that can help us deliver on our ambition for an integrated and seamless public transport system that gets people out of their cars.
The Bus Services (Wales) Bill will be introduced to the Senedd and will provide local authorities with an improved range of planning tools. It will also put new information sharing arrangements in place.
* The Bill will enable partnership schemes to be set up between local authorities and bus companies, allowing them to agree how services can be improved. Local authorities may, for example, introduce measures such as enforcement of bus lanes and facilities such as bus stops, whereas operators may agree to provide services at certain times, frequency, and agree ticket prices
* the Bill provides new powers to Franchise services meaning bus companies could be given the exclusive right to run bus services on agreed routes
* local authorities could also run their own bus service, to deliver or fill in gaps in existing bus provision. They could work with other local authorities to run a bus service across different counties
* there will also be powers to facilitate improved information sharing with passengers, so as to allow up to date information to be available to passengers. This could include information on routes and timetables, information on fares and ticket types, and live information about services
* Finally, the Bill will permit information sharing with local authorities where bus companies are proposing to stop or change a service they run. This could include information about passenger numbers and the money the operators make from the service. Having access to this information could help local authorities arrange replacement services if that were considered necessary.
Combined, these measures will help improve bus services as part of the Welsh Government’s wider reform of integrated public transport.
|
Mae'r pecyn cymorth newydd yn y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn cynnwys pwerau newydd i gynghorau fasnachfreinio gwasanaethau bysiau ar lwybrau ac mae'n llywio'r ffordd i awdurdodau lleol redeg eu cwmnïau bysiau eu hunain.
Wrth siarad cyn y lansiad, dywedodd Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd, Ken Skates, fod dadreoleiddio gwasanaethau bysiau yn yr 1980au wedi bod yn 'fethiant gwael' a dywedwyd bod angen gweithredu i roi teithwyr yn gyntaf ac i wella gwasanaethau.
Mae'r Bil newydd a gyflwynwyd yn y Senedd hefyd yn cynnwys pwerau ar gyfer cytundebau partneriaeth newydd rhwng gweithredwyr a chynghorau yn ogystal â phwerau i sicrhau bod gwybodaeth am amserlenni a llwybrau ar gael yn hawdd i deithwyr a gweithredwyr newydd posibl.
Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a'r Gogledd:
> "Mae gwasanaethau bysiau yn hanfodol i'n bywydau, naill ai drwy helpu pobl i gyrraedd y gwaith ac apwyntiadau meddygol pwysig neu ein helpu i gadw mewn cysylltiad â theulu, ffrindiau a phobl sy'n annwyl inni \- mae pob un ohonom, mewn un ffordd neu'r llall, yn dibynnu ar fysiau.
>
>
> "Ond mae'n glir bod dadreoli gwasanaethau bysiau yn yr 1980au wedi bod yn fethiant gwael. Mae niferoedd y teithwyr yn gostwng ac mae'n glir nad yw'r model marchnad agored yn gweithio. Nid oes modd gwerthu gwasanaethau bysiau fel powdr golchi neu afalau \- maent yn wasanaeth cyhoeddus hanfodol sydd angen eu cynllunio mewn ffordd gydgysylltiedig a rhesymol.
>
>
> “Mae’r ddeddfwriaeth hon yn ein helpu i ddod â’r model marchnad agored i ben. Mae’n rhoi teithwyr yn gyntaf drwy roi cyfle i awdurdodau lleol gynllunio a darparu gwasanaethau bysiau yn well drwy bwerau masnachfreinio newydd a thrwy gael gwared ar y gwaharddiad ar gynghorau rhag sefydlu eu cwmnïau bysiau eu hunain.
>
>
> “Nid oes gan 15% o aelwydydd yng Nghymru'r mynediad i gar ac mae angen inni gymryd camau i wella pa mor hyfyw a deniadol yw defnyddio opsiynau eraill yn hytrach na cheir, megis bysiau. Mae gwella trafnidiaeth gyhoeddus hefyd yn rhan hanfodol o’n hymateb i’r argyfwng hinsawdd a’r angen am newid moddol yn ein cymunedau.
>
>
> “Nid yw’r ddeddfwriaeth hon yn ateb perffaith ar ei phen ei hun \- mae’n rhaid iddi fynd law yn llaw â’n buddsoddiad mewn systemau Metro a chynlluniau i fynd i’r afael â thagfeydd. Ond, mae’n becyn cymorth hanfodol sy’n gallu ein helpu ni i wireddu ein huchelgais ar gyfer trafnidiaeth gyhoeddus integredig a ddidrafferth sy’n sicrhau nad yw pobl yn defnyddio eu ceir.
Bydd y Bil Gwasanaethau Bysiau (Cymru) yn cael ei gyflwyno gerbron y Senedd a bydd yn rhoi gwell amrywiaeth o arfau cynllunio i awdurdodau lleol. Bydd hefyd yn rhoi trefniadau newydd yn eu lle ar gyfer rhannu gwybodaeth.
* bydd y Bil yn galluogi llunio cynlluniau partneriaeth rhwng awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau, gan ganiatáu iddynt gytuno ar sut y mae modd gwella gwasanaethau. Bydd awdurdodau lleol yn gallu, er enghraifft, gyflwyno mesurau megis gorfodi lonydd bysiau a chyfleusterau, megis safleoedd bysiau, a gall gweithredwyr gytuno i ddarparu gwasanaethau ar amserau penodol, a chytuno ar amlder gwasanaethau a phrisiau tocynnau
* mae’r Bil yn darparu pwerau newydd i wasanaethau Masnachfreinio sy’n golygu y gellid rhoi hawl neilltuedig iddynt redeg gwasanaethau bysiau ar lwybrau cytunedig
* gallai awdurdodau lleol hefyd redeg eu gwasanaethau bysiau eu hunain, i ddarparu gwasanaethau sydd eisoes yn bod neu i lenwi bylchau yn y ddarpariaeth honno. Gallent weithio gydag awdurdodau lleol eraill i redeg gwasanaeth bysiau ar draws gwledydd gwahanol
* bydd hefyd bwerau i hwyluso’r gwaith o wella’r ffordd y caiff gwybodaeth ei rhannu gyda theithwyr, fel bod yr wybodaeth ddiweddaraf ar gael i deithwyr. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth ar lwybrau ac amserlenni, gwybodaeth am brisiau tocynnau a mathau o docynnau, a gwybodaeth byw am wasanaethau
* yn olaf, bydd y Bil yn caniatáu i wybodaeth gael ei rhannu gydag awdurdodau lleol pan fo cwmnïau bysiau yn cynnig stopio neu newid gwasanaeth y maent yn ei redeg. Gallai hyn gynnwys gwybodaeth am niferoedd y teithwyr a’r arian y mae gweithredwyr yn ei wneud o’r gwasanaeth. Gallai cael mynediad i’r wybodaeth hon helpu awdurdodau lleol ddisodli gwasanaethau pe bai hynny’n angenrheidiol.
Gyda’i gilydd, bydd y mesurau hyn yn helpu i wella gwasanaethau bysiau fel rhan o raglen ehangach Llywodraeth Cymru i ddiwygio trafnidiaeth gyhoeddus integredig.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Welsh Government is urging teachers, parents and carers to read their Online Safety Action Plan (external link) which provides enhanced support for the online safety of children and young people.
It addresses a wide number of issues, including safeguarding, anti\-bullying and cyber security, and builds on existing tools for teaching online safety such as the Hwb Online Safety Zone (external link) and 360 degree safe Cymru (external link).
Cabinet Secretary for Education, Kirsty Williams, visited Porthcawl Comprehensive School on Wednesday to congratulate them on achieving the 360 degree safe Cymru award, formally launch the plan and listen to students about their online experiences.
She said:
> “Nothing is more important than the safety of our young people – whether that’s physical or online. The internet has completely revolutionised education. Just a few weeks ago I launched Wales’s first ever E\-sgol project which uses video technology, via the tools available through Hwb, to connect different classrooms. This is the future, but with emerging technology like this, the safety of our learners has become increasingly important.
>
> “Our National Mission makes a commitment to provide all learners with high\-level digital skills and we need to make sure these skills are accompanied by the knowledge to use the internet safely. We all have a responsibility to ensure they are safe online and I urge everyone who cares for or teaches children to read this action plan.”
To ensure the real issues individuals face online are addressed, the Welsh Government worked with NSPCC on a ‘pupils’ voice’ exercise which asked young people about their concerns. Other key stakeholders including Barnados, Estyn and the Office of the Children’s Commissioner for Wales have also been engaged in the production of this plan.
Vivienne Laing, the NSPCC’s policy and public affairs manager for Wales, said:
> “Online safety is one of the major 21st century child protection challenges with children often placed at risk of seeing inappropriate content, bullying or even grooming and abuse when using the internet. It is vital that the Welsh Government is at the forefront of efforts to keep young people safe and this plan is a major step forward giving children and parents the knowledge they need.
>
> “We now want to see an online safety advisory group of experts created, which includes young people, to ensure that this plan is implemented effectively and that it stays up to date with changes in technology. And it is crucial that the Welsh and UK Governments work together and with tech companies, law enforcement and charities to make the internet a much safer place for children in Wales.”
Leader of the House with responsibility for digital, Julie James, said:
> “We want to give young people the opportunity to maximise their digital skills, this is vital for them and our economy. I was very pleased to attend the launch of the Institute of Coding Wales a few weeks ago which will help ensure schools have access to world\-class digital skills. But we also have a responsibility to ensure young people are safe when online and I urge people to read the National Online Safety Action Plan.”
|
Mae Llywodraeth Cymru yn annog athrawon, rhieni a gofalwyr i ddarllen ei Chynllun Gweithredu Diogelwch Ar\-lein (dolen allanol) sy'n darparu rhagor o gefnogaeth i ddiogelwch plant a phobl ifanc ar\-lein.
Mae'n ymdrin ag ystod eang o faterion, gan gynnwys diogelu, gwrthfwlio a seiberddiogelwch, ac mae'n ychwanegu at ddulliau presennol o addysgu diogelwch ar\-lein fel Parth Diogelwch Ar\-lein Hwb (dolen allanol) a 360 degree safe Cymru (dolen allanol).
Ddydd Mercher, ymwelodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams, ag Ysgol Gyfun Porthcawl i'w llongyfarch ar gael dyfarniad 360 degree safe Cymru. Roedd yno hefyd i lansio'r cynllun yn swyddogol ac i wrando ar fyfyrwyr yn trafod eu profiadau ar\-lein.
Dywedodd:
> “Does dim byd yn bwysicach na diogelwch ein pobl ifanc \- p’un ai'n gorfforol neu ar\-lein. Mae'r rhyngrwyd wedi gweddnewid addysg yn llwyr. Ychydig wythnosau'n ôl, fe wnes i lansio'r prosiect E\-sgol cyntaf erioed yng Nghymru. Mae'n defnyddio technoleg fideo, drwy'r dulliau gweithredu sydd ar gael ar Hwb, i gysylltu gwahanol ystafelloedd dosbarth. Dyma'r dyfodol, ond wrth i dechnoleg ddatblygu fel hyn, mae diogelwch ein dysgwyr yn gynyddol bwysig.
>
> “Mae Cenhadaeth Ein Cenedl yn ymrwymo i roi sgiliau digidol uwch i bob dysgwr ac mae angen i ni sicrhau bod gwybodaeth ynghylch sut i ddefnyddio'r rhyngrwyd yn ddiogel ynghlwm â'r sgiliau hynny. Mae'n gyfrifoldeb arnon ni i gyd i sicrhau eu bod yn ddiogel ar\-lein a dw i'n annog pawb sy'n gofalu am blant neu'n eu haddysgu i ddarllen y cynllun gweithredu hwn.”
Er mwyn sicrhau bod y problemau go iawn sy'n wynebu unigolion ar\-lein yn cael sylw, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r NSPCC ar brosiect 'llais disgyblion' a holodd bobl ifanc ynghylch eu pryderon. Mae rhanddeiliaid allweddol eraill fel Barnardos, Estyn a Swyddfa Comisiynydd Plant Cymru hefyd wedi bod yn rhan o lunio'r cynllun hwn.
Dywedodd Vivienne Laing, rheolwr polisi a materion cyhoeddus yr NSPCC yng Nghymru:
> “Diogelwch ar\-lein yw un o’r prif heriau wrth geisio diogelu plant yn yr 21ain ganrif. Mae plant yn aml mewn perygl o gael eu bwlio, o fod yn darged i rywun sydd am feithrin perthynas amhriodol, o gael eu cam\-drin, neu o weld cynnwys anaddas ar\-lein. Mae'n hollbwysig bod Llywodraeth Cymru ar flaen y gad yn ymdrechu i gadw pobl ifanc yn ddiogel ac mae'r cynllun hwn yn gam mawr ymlaen drwy rannu'r wybodaeth sydd ei hangen ar blant a rhieni.
>
> “Nawr, rydym eisiau gweld sefydlu grŵp cynghori o arbenigwyr ar ddiogelwch ar\-lein, sy'n cynnwys pobl ifanc, er mwyn sicrhau bod y cynllun hwn yn cael ei roi ar waith yn effeithiol a'i fod yn cael ei ddiweddaru'n rheolaidd wrth i fyd technoleg ddatblygu. Mae hefyd yn hanfodol bod Llywodraethau Cymru a'r DU yn gweithio gyda'i gilydd a chyda chwmnïau technoleg, asiantaethau gorfodi'r gyfraith ac elusennau i wneud y rhyngrwyd yn lle llawer mwy diogel i blant yng Nghymru.”
Dywedodd Arweinydd y Tŷ sydd â chyfrifoldeb dros dechnoleg ddigidol, Julie James:
> “Rydym eisiau rho'r cyfle i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau digidol i'r eithaf. Mae hyn yn hanfodol iddyn nhw ac i'n heconomi. Roeddwn yn falch iawn o fod yn bresennol yn lansiad Sefydliad Codio Cymru ychydig wythnosau'n ôl. Bydd hwn yn helpu i sicrhau bod sgiliau digidol o'r radd flaenaf ar gael i ysgolion. Ond mae gennym gyfrifoldeb hefyd i sicrhau bod pobl ifanc yn ddiogel pan fyddant ar\-lein ac rwy'n annog pobl i ddarllen y Cynllun Gweithredu Diogelwch Ar\-lein Cenedlaethol.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
Following on from last month’s Draft Budget, Education Secretary Kirsty Williams has announced that funding for Pupil Development Grant (PDG) – Access will be doubled from £1\.7m in 2018\-19 to £3\.5 million in 2019\-20\.
The PDG\-Access fund offers parents up to £125 and also covers equipment for activities within the curriculum, such as design and technology.
Parents can also access funding for equipment for out of school hours trips, including outdoor learning.
Looked\-after children and learners eligible for free school meals can receive funding if they are entering reception class in primary school, year 7 in secondary school or aged 4 or 11 in special schools, special needs resource bases or pupil referral units.
The £3\.5m boost for PDG\-Access brings overall funding for the Pupil Development Grant to £97m in 2019\-20\.
Described as “invaluable” by schools, the PDG gives greater support to learners eligible for free school meals (eFSM) and Looked After Children (LAC). It is intended to overcome additional barriers that prevent learners from disadvantaged backgrounds achieving their full potential.
Kirsty Williams said:
> “Breaking the cycle of disadvantage and poverty is critical to the long term well\-being and success of our children and central to our National Mission for Education.
>
> “Figures released this week show that at Key Stage 2 and 3 the attainment gap between pupils from disadvantaged backgrounds and their peers is the narrowest we have seen in 10 years.
>
> “This should be welcomed but we now have to make sure that we keep finding new ways of overcoming barriers to learning.
>
> “That’s why we have doubled financial support to learners in the Foundation Phase and extended the PDG to cover early years learners, those in pupil referral units and learners who are educated other than at school.
>
> “With the additional money we’re investing in PDG\-Access, even more pupils will be able to access opportunities, either in or outside of school. I encourage parents to take full advantage of this and to keep applying to their local council for funding.”
Finding new ways of helping parents with the cost of school uniforms will be one of the issues addressed by a consultation to be published later this month.
|
Yn dilyn y Gyllideb Ddrafft a gyhoeddwyd yr wythnos ddiwethaf, mae’r Ysgrifennydd Addysg Kirsty Williams wedi cyhoeddi y bydd y cyllid ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn cael ei ddyblu o £1\.7 miliwn yn 2018\-19 i £3\.5 miliwn yn 2019\-20\.
Mae cronfa’r Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn cynnig i rieni hyd at £125 a gall gael ei ddefnyddio hefyd i dalu am gyfarpar ar gyfer gweithgareddau o fewn y cwricwlwm, megis dylunio a thechnoleg.
Gall rhieni gael arian hefyd ar gyfer cyfarpar ar gyfer teithiau y tu allan i oriau arferol yr ysgol gan gynnwys gweithgareddau dysgu yn yr awyr agored.
Gall plant sy’n derbyn gofal a dysgwyr sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim dderbyn arian os ydynt yn dechrau mewn dosbarth derbyn mewn ysgol gynradd, os ydynt yn dechrau ym mlwyddyn 7 mewn ysgol uwchradd neu os ydynt yn 4 neu 11 oed mewn ysgolion arbennig, mewn lleoliadau adnoddau anghenion arbennig neu mewn unedau cyfeirio disgyblion.
Mae’r swm ychwanegol o £3\.5 miliwn ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad yn golygu mai cyfanswm y cyllid sydd ar gael ar gyfer y Grant Datblygu Disgyblion am 2019\-20 yw £97 miliwn.
Mae’r Grant Datblygu Disgyblion sydd wedi’i ddisgrifio’n “werthfawr” gan ysgolion, yn rhoi mwy o gymorth i ddisgyblion sy’n gymwys am brydau ysgol am ddim a Phlant sy’n Derbyn Gofal. Ei fwriad yw goresgyn rhwystrau ychwanegol sy’n rhwystro dysgwyr o gefndiroedd dan anfantais rhag cyflawni eu potensial llawn.
Dywedodd Kirsty Williams:
> “Mae torri cylch anfantais a thlodi yn hanfodol i les a llwyddiant hirdymor ein plant ac mae’n ganolog i’n Cenhadaeth Genedlaethol ar gyfer Addysg.
>
> “Yn ôl ffigurau a gyhoeddwyd yr wythnos hon, mae’r bwlch mewn cyrhaeddiad yng Nghyfnod Allweddol 2 a Chyfnod Allweddol 3 rhwng disgyblion o gefndiroedd o dan anfantais a’u cyfoedion gyda’r lleiaf a welwyd yn y deng mlynedd diwethaf.
>
> “Dylai hyn gael ei groesawu ond mae’n rhaid i ni yn awr sicrhau ein bod yn dod o hyd i ffyrdd newydd o oresgyn rhwystrau i ddysgu.
>
> “Dyma pam rydyn ni wedi dyblu’r cymorth ariannol i ddysgwyr yn y Cyfnod Sylfaen ac wedi ymestyn y Grant Datblygu Disgyblion i gynnwys dysgwyr yn y blynyddoedd cynnar, dysgwyr mewn unedau cyfeirio disgyblion a’r dysgwyr sy’n derbyn addysg heblaw yn yr ysgol.
>
> “Gyda’r arian ychwanegol rydyn ni’n ei fuddsoddi yn y Grant Datblygu Disgyblion – Mynediad, bydd hyd yn oed mwy o ddisgyblion yn gallu manteisio ar gyfleoedd, boed yn yr ysgol neu’r tu allan. Rwy’n annog rhieni i fanteisio ar hyn i’r eithaf ac i ddal ati i wneud cais i’w cyngor lleol am arian.”
Bydd dod o hyd i ffyrdd newydd o helpu rhieni â chost gwisg ysgol yn un o’r materion a fydd yn destun ymgynghoriad i’w gyhoeddi yn hwyrach y mis yma.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) (‘y Bil’) wedi’i osod gerbron Senedd Cymru heddiw.
Mae’r Bil yn ceisio diwygio’r ffordd y caiff rhai o wasanaethau gofal iechyd y GIG eu caffael yng Nghymru; gan gyflwyno pwerau deddfwriaethol sylfaenol a galluogi Gweinidogion Cymru i greu cyfundrefn gaffael newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd y GIG.
Mae’r pwerau yn y Bil yn cefnogi nodau ac amcanion ein strategaeth ‘Cymru Iachach’ ac ymrwymiad Llywodraeth Cymru i ddarparu gofal iechyd cynaliadwy ac effeithiol o ansawdd uchel; gan helpu’r GIG yng Nghymru i ddarparu canlyniadau iechyd gwell i ddinasyddion Cymru.
Mae Adran Iechyd a Gofal Cymdeithasol Llywodraeth y DU yn cynnig cyflwyno cyfundrefn newydd ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd y GIG yn Lloegr, sef y Gyfundrefn Dethol Darparwyr (PSR). Ei nod yw gwella canlyniadau i gleifion drwy ddileu biwrocratiaeth ddiangen o’r broses o weithio gyda darparwyr gofal iechyd annibynnol, ac annog cydweithio a phartneriaethau.
Bydd y PSR felly yn rhoi mwy o hyblygrwydd i GIG Lloegr gaffael a threfnu gwasanaethau iechyd annibynnol. O ganlyniad, gallai’r trefniadau newydd hyn effeithio ar allu GIG Cymru i gynnal a sicrhau gwasanaethau iechyd yng Nghymru pan fydd yn gweithio gyda darparwyr annibynnol.
I sicrhau nad yw caffael gwasanaethau iechyd yng Nghymru dan anfantais o ganlyniad i gyflwyno’r PSR yn Lloegr, nod Bil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru), a’r rheoliadau a wneir o dan y Bil yn y dyfodol, fydd darparu dull cefnogi ar gyfer cynnal y ‘tegwch’ presennol o ran caffael ar gyfer gwasanaethau iechyd y GIG rhwng Cymru a Lloegr. Bydd y dull gweithredu hwn yn ceisio lliniaru’r risg o effaith andwyol ar GIG Cymru yn sgil gweithredu cyfundrefn wahanol ar gyfer caffael gwasanaethau iechyd yn Lloegr. Bydd y darpariaethau yn y Bil yn cynnal gallu GIG Cymru i gomisiynu darparwyr gwasanaeth iechyd annibynnol ar sail cydymffurfio a gweithio gyda’i gilydd; gan gefnogi a gwneud y mwyaf o adnoddau ariannol ac adnoddau staff maes o law, i alluogi’r GIG yng Nghymru i ddarparu yn effeithlon ac yn effeithiol.
Bydd y Bil hefyd yn ceisio lliniaru unrhyw ymyrraeth bosibl â’r farchnad drwy sicrhau bod y farchnad gwasanaethau iechyd annibynnol yng Nghymru yn parhau i ddenu mentrau bach a chanolig eu maint, ynghyd â sefydliadau trydydd sector; gan gefnogi Economi Sylfaenol Cymru maes o law.
Mae disgwyl i’r PSR yn Lloegr gychwyn yn ddiweddarach eleni ochr yn ochr â newidiadau ehangach a gyflwynir yn rhan o ddiwygio Bil Caffael Llywodraeth y DU sydd ar hyn o bryd wedi’i raglennu ar gyfer 2024\. Felly, i leihau’r cyfnod lle bydd platfformau caffael gwasanaeth iechyd y GIG yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu yn wahanol i’w gilydd, ceisir cael y Cydsyniad Brenhinol i Fil Caffael y Gwasanaeth Iechyd (Cymru) yr haf hwn, gyda rheoliadau arfaethedig y dyfodol yn dod i rym yn ystod Gwanwyn 2024\.
Byddaf yn gwneud datganiad deddfwriaethol yn y Cyfarfod Llawn yfory ac yn croesawu craffu ar y Bil dros y misoedd nesaf.
|
The Health Service Procurement (Wales) Bill (‘the Bill’) has today been laid before Senedd Cymru.
The Bill seeks to reform the way in which certain NHS health care services are procured in Wales; bringing forward primary legislative powers and enabling Welsh Ministers to create a new procurement regime for NHS health service procurement.
The powers within the Bill support the aims and objectives of our ‘A Healthier Wales’ strategy and Welsh Government’s commitment to provide effective, high quality and sustainable health care; supporting the NHS in Wales to deliver better health outcomes for the citizens of Wales.
The UK Government’s Department of Health and Social Care are proposing to introduce a new regime for the procurement of NHS health services in England known as the Provider Selection Regime (PSR). Its aim is to improve patient outcomes by removing unnecessary bureaucracy from the process of working with independent healthcare providers and encouraging collaboration and partnerships.
The PSR will therefore give NHS England more flexibility to procure and arrange independent health services. As a consequence, these new arrangements may have an impact on NHS Wales’s ability to maintain and secure health services in Wales when working with independent providers.
To ensure that health service procurement in Wales is not disadvantaged as a result of introducing the PSR in England, the Health Service Procurement (Wales) Bill and the future regulations made under the Bill will aim to provide a supportive mechanism to maintain the current procurement ‘level playing field’ for NHS health services between England and Wales. This approach will seek to mitigate the risk of NHS Wales being adversely affected by the operation of a different health service procurement regime in England. The provisions in the Bill will retain the ability for NHS Wales to commission independent health service providers on a co\-compliant and collaborative basis; in turn supporting and optimising financial and staff resources to enable the NHS in Wales to deliver efficiently and effectively.
The Bill will also aim to mitigate any potential market distortion by ensuring that the independent health service marketplace in Wales remains attractive to small and medium sized enterprises and third sector organisations; in turn supporting the Foundational Economy of Wales.
The PSR in England is expected to commence later this year alongside wider changes being brought about as part of the UK Government’s Procurement Bill reforms currently programmed for 2024\. Therefore, to minimise the period of time where NHS health service procurement platforms in England and Wales operate on a different basis, the Health Service Procurement (Wales) Bill will seek to obtain Royal Assent this summer, with proposed future regulations aiming to come into force in Spring 2024\.
I will be making a legislative statement at Plenary tomorrow and welcome scrutiny of the Bill over the coming months.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Rwyf wedi penderfynu dileu’r diogelwch sy’n cael ei roi drwy hysbysiad 'TR111' i’r coridor ar gyfer ffordd liniaru'r M4\.Mae hynny’n golygu nad oes angen i’r awdurdodau lleol ymgynghori â Llywodraeth Cymru ynglŷn â datblygiadau cynllunio arfaethedig yn yr ardal.
Mae hysbysiad TR111 yn diogelu coridor ar gyfer llwybr priffordd newydd arfaethedig. Mae'n golygu ei bod yn ofynnol i awdurdodau lleol roi gwybod i Lywodraeth Cymru am geisiadau cynllunio o fewn 67m i’r naill ochr a'r llall o'r llwybr a ffefrir.
Mae TR111 wedi bod yn ei le i'r de o Gasnewydd ers 1995\. Fe'i cadwyd ar ôl i'r Prif Weinidog benderfynu peidio â bwrw ymlaen â Phrosiect yr M4 ac mae'n cael ei ddileu ar ôl i adroddiad terfynol Comisiwn Trafnidiaeth De\-ddwyrain Cymru gael ei gyhoeddi.
Mae dileu'r diogelwch a roddir o dan yr hysbysiad TR111 hwn yn golygu y gallai rhagor o gyfleoedd godi i barhau â’r gwaith o ddiogelu dyfodol Gwastadeddau Gwent ac mae’n dangos ein bod yn parhau’n ymrwymedig i ddiogelu bioamrywiaeth a lleihau ôl troed carbon ein rhwydwaith trafnidiaeth.
|
I have made the decision to remove the TR111 route corridor protection for the M4 relief road. This relieves local authorities of the need to consult Welsh Government on proposed planning developments in the area.
A TR111 protects a corridor for the route of a proposed new highway. It obliges local authorities to inform the Welsh Government of planning applications within 67m either side of a preferred route.
A TR111 south of Newport has been in place since 1995\. It was retained after the First Minister made the decision not to proceed with the M4 Project and is being removed following the publication of the South East Wales Transport Commission’s final report.
The removal of this TR111 protection potentially provides further opportunities for ongoing work to safeguard the future of the Gwent levels and demonstrates our ongoing commitment to protect biodiversity and reduce the carbon footprint of our transport network.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae hanes hir a disglair i Brifysgol Cymru, ac fel sefydliad mae wedi helpu i greu a diffinio’r Gymru fodern. Graddau Prifysgol Cymru sydd gan nifer o Aelodau’r Cynulliad a miloedd o bobl ym mhob cwr o’r byd ac mae hynny’n destun balchder iddynt.
Yn y blynyddoedd diwethaf, gwaetha’r modd, mae enw da’r Brifysgol a fu unwaith yn uchel ei pharch wedi profi sawl ergyd. Cafodd Prifysgol Cymru ei beirniadu dro ar ôl tro, a hynny dros gyfnod o flynyddoedd bellach, am fethiannau niferus o ran y modd y caiff y sefydliad ei lywodraethu. Mewn datganiadau blaenorol gennyf, dyddiedig 21 Mawrth a 21 Mehefin 2011, rhoddais wybod i’r Aelodau am y pryderon parhaus a difrifol ynghylch trefniadau dilysu allanol y Brifysgol yn ogystal â’i ffordd o reoli ei mentrau cydweithredol. Rydw i wedi galw lawer gwaith ar Gorff Llywodraethu’r Brifysgol i gymryd cyfrifoldeb am y methiannau hyn a chymryd camau ar frys lle bo’n ofynnol.
Yr wythnos diwethaf, gwelsom Brifysgol Cymru yn wynebu beirniadaeth lem unwaith yn rhagor yn sgil honiadau difrifol ynghylch rhai sefydliadau y caiff eu cymwysterau eu dilysu gan y Brifysgol. Bydd y Gweinidog Busnes, Menter, Technoleg a Gwyddoniaeth yn cyhoeddi datganiad arall ynghych cynllun Ysgoloriaethau Arloesi Tywysog Cymru (POWIS) maes o law.
Fel yr atgoffais y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mehefin, dadleuodd Adroddiad diweddar McCormick fod angen dulliau llywodraethu da yn genedlaethol ac yn sefydliadol i sicrhau bod system addysg uwch Cymru yn medru cystadlu â sefydliadau o bob rhan o’r byd, ei bod yn ymdrechu i sicrhau rhagoriaeth a’i bod yn ymateb i anghenion dysgwyr \- anghenion sy’n newid yn gyson. Dywedodd McCormick hyn am Brifysgol Cymru am ei bod yn derbyn cyn lleied o arian cyhoeddus, “… hi yw’r peth tebycaf sydd gan Gymru i sefydliad preifat ym maes addysg uwch. Er hynny, mae’n sefydliad sy’n gwneud defnydd o ased cenedlaethol – brand Cymru gyfan – ac eto nid oes ganddi unrhyw atebolrwydd cenedlaethol”.
Y casgliad y daeth McCormick iddo yn y pen draw yw na allai Prifysgol Cymru barhau ar ei ffurf bresennol ac y dylai naill ai gael ei diwygio’n sylweddol neu gael ei dirwyn i ben.
Yr wythnos diwethaf, dechreuodd yr Is\-Ganghellor newydd yn ei swydd o fewn Prifysgol Cymru a dymunaf bob llwyddiant i’r Athro Medwin Hughes yn ei swyddogaeth newydd.
Mae’r cyhoeddusrwydd andwyol parhaus ynghylch Prifysgol Cymru, fodd bynnag, yn niweidiol nid yn unig i’r sefydliad ond i’r sector addysg uwch yng Nghymru ac i Gymru gyfan.
Yn sgil yr honiadau pellach a wnaed yn y wasg yr wythnos diwethaf, credaf nad oes modd i Brifysgol Cymru barhau o dan ei harweinyddiaeth bresennol. Dylem o leiaf fedru disgwyl i’r rhai sydd mewn swyddi uchel o lywodraethu yn ein sefydliadau addysg uwch oruchwylio’n effeithiol weithrediad eu prifysgolion a chymryd cyfrifoldeb llawn am yr hyn sydd yn eu gofal.
Galwaf felly ar Gadeirydd Cyngor Prifysgol Cymru i ystyried ei sefyllfa er lles y sefydliad ac er lles Cymru. Nid ar chwarae bach rydw i’n dweud hyn, ond ni allwn gael cyfres o achosion o gamreoli yn tanseilio’r sector addysg uwch cyfan yng Nghymru.
|
The University of Wales has a long and illustrious history. As an institution, it has helped to create and define the modern character of Wales. Many Assembly Members and many thousands of people all over the world are proud holders of University of Wales degrees.
In recent years, I regret to say, the reputation of this once great University has suffered a number of setbacks. The University of Wales has been the focus of long\-standing and frequent criticism for repeated failures of institutional governance. My previous statements of 21 March and 21 June 2011 informed Members of continuing and serious concerns about the University’s external validation arrangements and management of its collaborative enterprises. I have made repeated calls on the Governing Body of the University to take responsibility for these failings and to take urgent action where required.
Last week we saw yet more damning criticism levelled at the University of Wales after serious allegations were made about certain institutions whose qualifications were validated by the University. The Minister for Business, Enterprise, Technology and Science will issue a further statement on the POWIS scheme in due course.
As I reminded the National Assembly in June, the recent McCormick Report argued that good governance is needed at national and institutional level to ensure that Wales’ higher education system is globally competitive, strives for excellence and is responsive to the changing needs of learners. McCormick considered that the University of Wales, because it receives so little public funding, “…is the nearest thing Wales has to a private institution in higher education. However, it is an institution that is deploying a national asset – the all\-Wales brand – and yet has no national accountability.”
Ultimately, McCormick concluded that the University of Wales could not continue in its present form and should be either substantially reformed or wound up.
Last week a new Vice Chancellor took up post at the University of Wales and I wish Professor Medwin Hughes every success in his new role.
However, the continuing adverse publicity attached to the University of Wales is damaging not just to the institution but to the Welsh higher education sector and to Wales as a whole.
In view of the further allegations made in the press last week, I believe it is untenable for the University of Wales to continue under its current leadership. The very least we should expect is that those who hold senior positions of governance in our higher education institutions should exercise effective oversight of their university’s operations and take full responsibility for their stewardship.
I therefore call upon the Chair of the Council of the University of Wales to consider his position in the interests of the institution and of Wales. I do not say this lightly, but we cannot have a situation where a catalogue of mismanagement undermines the whole of the higher education sector in Wales.
|
Translate the text from English to Welsh. |
This statement is to update Members on progress with the Welsh Government’s commitment to ensure that Wales fulfils its contribution to an ecologically coherent network of well\-managed Marine Protected Areas (MPAs).
Members will be aware that I have restated my determination to ensure that we put in place a range of policy interventions to ensure that the Welsh seas and the diversity of life they support are healthy and robust to support the demands we put upon them now and in the future. Many people in Wales rely upon and use our seas to support their livelihoods and recreational activities. We want this to continue and develop as part of our blue growth agenda.
Last year we consulted on options for highly protected Marine Conservation Zones (MCZs). This generated a substantial response that expressed divergent and strongly held views. A task and finish team, supported by a Stakeholder Focus Group, was established to consider and advise how we should take forward MCZs in Wales. I have met with both of these groups to thank them for their positive and constructive contribution throughout the process.
I will be taking forward the recommendations of the task and finish team and to avoid any continuing uncertainty over the options presented in the 2012 consultation, I am also withdrawing all the proposed sites. As a next step, I want to understand more about the wide range of marine habitats and species that are already protected by a series of 125 MPAs that cover 36% of Welsh seas. Over the last 12 months we have developed a better understanding of what constitutes a coherent network. We are now in a stronger position to assess our current contribution to the network’s ecological coherence. I have, therefore, commissioned an assessment of our current MPAs to identify if there are any gaps and what the options might be to fill those gaps. If any measures are required, I believe they should be simple, proportionate and fit for purpose.
I will be in a position to reach a view on whether further action is needed early next year, after considering the outcome of our MPA assessment and the response to the Historic Rights consultation – that I have also announced today.
Whilst the assessment of MPAs will take a detailed look at our existing contribution, I am already aware of some elements that may need strengthening. We will consult later this year on extensions to three of our Special Protection Areas for breeding sea birds.
Whilst our existing sites are required to achieve their conservation objectives, these sites also need to be well\-managed. My officials will continue to work with Natural Resources Wales to review the management of our sites and, where necessary, identify improvements. Any proposed changes to the management regime will be outlined in the Marine and Fisheries Action Plan that I will announce in November.
|
Nod y datganiad hwn yw hysbysu Aelodau am y datblygiadau diweddaraf yn ymwneud ag ymrwymiad Llywodraeth Cymru i sicrhau bod Cymru yn cyfrannu’n llawn at rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n gydlynol yn ecolegol ac wedi’u rheoli’n dda.
Bydd Aelodau’n ymwybodol fy mod wedi ail\-ddatgan fy mhenderfyniad i sicrhau ein bod yn cyflwyno amrywiaeth o ymyriadau polisi er mwyn sicrhau bod moroedd Cymru a’r bywyd amrywiol sy’n byw ynddynt yn iach a chryf i ymdopi â’r gofynion presennol a gofynion y dyfodol. Mae llawer o bobl yng Nghymru yn defnyddio ac yn dibynnu ar ein moroedd i ennill bywoliaeth ac ar gyfer gweithgareddau hamdden. Rydym yn awyddus i’r broses hon barhau a datblygu fel rhan o’r agenda twf glas.
Y llynedd, aethom ati i ymgynghori ar opsiynau ar gyfer Parthau Cadwraeth Morol gwarchodedig iawn. Cafwyd ymateb da iawn i’r ymgynghoriad, a mynegwyd safbwyntiau amrywiol a chryf. Sefydlwyd tîm gorchwyl a gorffen, gyda chefnogaeth gan Grŵp Ffocws Rhanddeiliaid, i ystyried a rhoi cyngor ar sut y dylem ddatblygu Parthau Cadwraeth Morol yng Nghymru. Rwyf wedi cyfarfod â’r ddau grŵp hwn i ddiolch iddynt am eu cyfraniad cadarnhaol ac adeiladol gydol y broses.
Byddaf yn cyflwyno argymhellion y tîm gorchwyl a gorffen, ac er mwyn osgoi unrhyw ansicrwydd pellach ynglŷn â’r opsiynau a gyflwynwyd fel rhan o ymgynghoriad 2012, rwyf hefyd yn tynnu’r holl safleoedd arfaethedig yn ôl. Fel y cam nesaf, rwy’n awyddus i ddeall mwy am yr amrywiaeth eang o gynefinoedd a rhywogaethau morol sydd eisoes yn cael eu gwarchod gan gyfres o 125 o Ardaloedd Morol Gwarchodedig sy’n ymestyn dros 36% o foroedd Cymru. Dros y 12 mis diwethaf, rydym wedi datblygu dealltwriaeth well o beth yw rhwydwaith cydlynus. Erbyn hyn, rydym mewn sefyllfa gryfach i asesu ein cyfraniad presennol at gydlyniant ecolegol y rhwydwaith. O ganlyniad, rwyf wedi comisiynu asesiad o’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig presennol er mwyn nodi a oes unrhyw fylchau ac ystyried yr opsiynau posibl i lenwi’r bylchau hynny. Os oes angen cyflwyno unrhyw gamau gweithredu, credaf y dylent fod yn syml, yn gymesur ac yn addas i’r diben.
Byddaf mewn sefyllfa i benderfynu a oes angen cyflwyno unrhyw gamau pellach ddechrau’r flwyddyn nesaf ar ôl ystyried canlyniad yr asesiad o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a’r ymateb i’r ymgynghoriad ar Hawliau Hanesyddol – sy’n cael ei gyhoeddi gennyf heddiw hefyd.
Er y bydd yr asesiad o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn ystyried ein cyfraniad presennol yn fanwl, rwyf eisoes yn ymwybodol o rai elfennau y bydd angen eu cryfhau o bosibl. Byddwn yn ymgynghori yn ddiweddarach eleni ar ymestyn tair o’r Ardaloedd Gwarchodedig Arbennig ar gyfer adar môr sy’n bridio.
Er bod angen i’n safleoedd presennol gyflawni eu hamcanion cadwraeth, mae’n rhaid rheoli’r safleoedd hyn yn dda hefyd. Bydd fy swyddogion yn parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru i adolygu’r gwaith o reoli ein safleoedd a nodi unrhyw welliannau gofynnol lle bo angen. Amlinellir unrhyw newidiadau arfaethedig i’r gyfundrefn reoli yng Nghynllun Gweithredu’r Môr a Physgodfeydd, a fydd yn destun datganiad gennyf ym mis Tachwedd.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Llaethdy Gwyn, based at the town’s former Catholic church, is the realisation of a dream for former grassland ecologist turned artisan cheese\-maker Dr Carrie Rimes, who began making her sheep milk cheese, Cosyn Cymru, in 2015\.
Now the owner of a growing dairy enterprise, Carrie plans to make the most of the space afforded by the 1960s building while retaining elements of the property’s religious heritage.
Cosyn Cymru’s cheese is made by hand in small batches from unpasteurised milk and using traditional methods. Sold at independent shops and delis, cafes and markets, the dairy’s Brefu Bach is also stocked by renowned retailer Neal’s Yard in London.
The new facility in Bethesda has had support from the Welsh Government’s Food Business Investment Scheme and Cyngor Gwynedd Council.
Cosyn Cymru has also benefitted from the support afforded as a member of the Food and Drink Wales Fine Food Cluster, facilitated by Menter a Busnes, receiving business advice and attending events.
Minister for Rural Affairs and North Wales Lesley Griffiths said:
> It’s been great to see the developments here at Llaethdy Gwyn and to hear about the success of Cosyn Cymru. They have succeeded in growing a market for sheep’s milk Products, and it’s good to hear how they are using local sheep’s milk from North Wales.
>
>
> I’m pleased the Welsh Government was able to support this new dairy and wish Carrie the very best of luck for the future.
Dr Carrie Rimes said:
> The assistance I’ve received has enabled me to create the dairy and grow my business – including taking on additional staff as production increases – I would not have managed to expand without such help.
>
>
> The Fine Food Cluster has been great. I’ve had very helpful business advice and went with them to the World Cheese Awards, held in Newport last November, where I met many people and even helped host a delegation from Norway.
>
>
> I’ve also partnered with Cadwyn Ogwen, a local food delivery service and have a range of local products in the shop.
Brought up on her family’s farm in Devon, Carrie had always wanted to make cheese and her research in Welsh delis and cheese shops identified a demand for sheep milk cheese.
Carrie said:
> I knew what I really wanted to make was ewe’s milk cheese, but at that point, no one in North Wales was milking sheep. Initially, I had to collect milk from Lancashire. I now have four local farmers supplying my milk, the ewes are free to graze naturally and produce healthy and nutritious milk. Between them, they milk Lleyn and Friesland ewes, so I have an all\-year\-round milk supply.
The BBC Food \& Farming Awards 2023 have announced the finalists in this year’s Awards and Carrie Rimes and Cosyn Cymru are shortlisted in the Best Food Producer category.
Presenter of BBC Radio 4’s The Food Programme and BBC Food and Farming Awards judge, Sheila Dillon said:
> Each year the public nominate the very best producers from across the UK and this year is no exception. Carrie is demonstrating not only exemplary cheese making but also highlighting the key role that small businesses play in keeping rural areas alive and in building a resilient food system.
The winners will be announced at the ceremony in Newport on Wednesday 25 October.
|
Mae Llaethdy Gwyn, sydd wedi'i leoli yn hen eglwys Gatholig y dref, yn gwireddu breuddwyd i'r cyn\-ecolegydd glaswelltir sydd bellach yn wneuthurwr caws crefftus sef Dr Carrie Rimes, a ddechreuodd gynhyrchu ei chaws llaeth defaid, Cosyn Cymru, yn 2015\.
Mae Carrie bellach yn berchennog ar fenter laeth sy'n tyfu a’i nod yw elwa i’r eithaf ar y gofod sydd ar gael mewn adeilad o’r 1960au tra'n cadw elfennau o dreftadaeth grefyddol yr eiddo.
Mae caws Cosyn Cymru yn cael ei wneud â llaw mewn sypiau bach gan ddefnyddio llaeth heb ei basteureiddio a dulliau traddodiadol. Caiff y cynnyrch eu gwerthu mewn siopau annibynnol a delis, caffis a marchnadoedd ac mae Brefu Bach hefyd yn cael ei werthu gan y manwerthwr enwog Neal's Yard yn Llundain.
Mae'r cyfleuster newydd ym Methesda wedi cael cefnogaeth gan Gynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd Llywodraeth Cymru a Chyngor Gwynedd.
Mae Cosyn Cymru hefyd wedi elwa ar y gefnogaeth a gafwyd fel aelod o Glwstwr Bwyd a Bwyd Diod Cymru a hwylusir gan Menter a Busnes, gan dderbyn cyngor busnes a mynychu digwyddiadau.
Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, Lesley Griffiths:
> Mae wedi bod yn wych gweld y datblygiadau yma yn Llaethdy Gwyn ac i glywed am lwyddiant Cosyn Cymru. Maen nhw wedi llwyddo i dyfu marchnad ar gyfer cynhyrchion llaeth defaid, ac mae'n dda clywed sut maen nhw'n defnyddio llaeth defaid lleol o Ogledd Cymru.
>
>
> Rwy'n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gallu cefnogi'r llaethdy newydd hwn a hoffwn ddymuno'r gorau i Carrie ar gyfer y dyfodol.
Dywedodd Dr Carrie Rimes:
> Mae'r cymorth dwi wedi ei gael wedi fy ngalluogi i greu'r llaeth a thyfu fy musnes \- gan gynnwys cyflogi staff ychwanegol wrth i'r gwaith cynhyrchu gynyddu \- fyddwn i ddim wedi llwyddo i ehangu heb y fath gymorth.
>
>
> Mae'r Clwstwr Bwyd Gwych wedi cynnig cymorth arbennig i fi. Rydw i wedi cael cyngor busnes defnyddiol iawn ac wedi mynd gyda nhw i Wobrau Caws y Byd, a gynhaliwyd yng Nghasnewydd fis Tachwedd diwethaf, lle cwrddais â llawer o bobl a hyd yn oed helpu i groesawu dirprwyaeth o Norwy.
>
>
> Rydw i hefyd wedi ymuno mewn partneriaeth gyda Cadwyn Ogwen, sef gwasanaeth dosbarthu bwyd lleol ac mae gen i amrywiaeth o gynnyrch lleol yn y siop.
Cafodd Carrie ei magu ar fferm ei theulu yn Nyfnaint a’i breuddwyd oedd gwneud caws a gwnaeth ei hymchwil mewn siopau delis a chaws Cymreig nodi’r galw am gaws llaeth defaid.
Dywedodd Carrie:
> Roeddwn i'n gwybod mai’r hyn roeddwn i wir eisiau ei wneud oedd cynhyrchu caws llaeth defaid, ond bryd hynny, doedd neb yng Ngogledd Cymru yn godro defaid. I ddechrau, roedd yn rhaid i mi gasglu llaeth o Swydd Gaerhirfryn. Erbyn hyn mae gen i bedwar ffermwr lleol sy’n darparu llaeth ar fy nghyfer, mae'r mamogiaid yn rhydd i bori'n naturiol a chynhyrchu llaeth iach a maethlon. Rhyngddynt, maen nhw'n godro mamogiaid Llŷn a Friesland, felly mae gen i gyflenwad llaeth trwy'r flwyddyn.
Mae Gwobrau Bwyd a Ffermio 2023 y BBC wedi cyhoeddi pwy sydd wedi cyrraedd y rownd derfynol eleni ac mae Carrie Rimes a Cosyn Cymru ar y rhestr fer yng nghategori’r Cynhyrchydd Bwyd Gorau.
Meddai cyflwynydd The Food Programme ar Radio 4 y BBC ac un o’r beirniaid, Sheila Dillon:
> Bob blwyddyn, mae’r cyhoedd yn enwebu’r cynhyrchwyr gorau o bob cwr o Brydain ac nid yw eleni’n eithriad. Yn ogystal â bod yn wneuthurwr caws ardderchog, mae Carrie’n dangos rôl bwysig busnesau bach o ran cadw ardaloedd gwledig yn fyw a meithrin system fwyd gydnerth.
Cyhoeddir yr enillwyr mewn seremoni yng Nghasnewydd ddydd Mercher, 25 Hydref.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae'r digwyddiad, a fydd yn cael ei gynnal yn Stadiwm Dinas Caerdydd, yn cael ei noddi gan Lywodraeth Cymru a'i gefnogi gan ESTnet (rhwydwaith y sector technoleg yng Nghymru). Bydd croeso yno i unrhyw gwmnïau technoleg o Gymru, yn enwedig y rheini sy'n gweithio ym maes technolegau meddalwedd, gan gynnwys data mawr, dadansoddeg, y rhyngrwyd pethau a seiberddiogelwch.
Y neges allweddol i gwmnïau technoleg Cymru yw bod y diwydiant gofod yn gallu defnyddio llawer o'r offer, y gwasanaethau, y technolegau a'r cynhyrchion y maent yn eu datblygu. Mae'r diwydiant hwnnw wrthi'n chwilio am sectorau eraill i ddatblygu cynhyrchion a thechnolegau a fydd yn ei helpu i dyfu.
Mae nifer o sefydliadau uchel eu proffil yn cefnogi'r digwyddiad a bydd siaradwyr yno o Asiantaeth Gofod y DU ac Asiantaeth Gofod Ewrop, y Catapwlt Cymwysiadau Lloerenni, Seraphim Capital a Thales Alenia Space.
Bydd cyfleoedd i fusnesau o Gymru elwa ar y diwydiant gofod ehangach yn cael sylw yn ddiweddarach yn y mis hefyd (dydd Mercher, 26 Ebrill) mewn digwyddiad sy'n cael ei drefnu gan Brifysgol Aberystwyth, Monitro'r Gofod a'r Ddaear: nodi cyfleoedd i ddatblygu'ch busnes.
Mae'n cael ei anelu at fusnesau sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am y sector gofod ac sy'n awyddus i wneud mwy gyda'r sector hwnnw. Bydd gwybodaeth ar gael am gyfleoedd posibl i ddenu cyllid ac i gydweithio ac am sut i fynd ati i ddatblygu sgiliau.
Mae'n cael ei dargedu at amryw o gwmnïau yn amrywio o gwmnïau ymgynghori sy'n gweithio ym maes yr amgylchedd i arbenigwyr ym maes cerbydau awyr di\-griw, ac o ddatblygwyr meddalwedd i ddatblygwyr lloerenni ac arbenigwyr ym maes roboteg a ffotoneg.
Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:
> “Mae'r digwyddiadau hyn yn dangos bod y diwydiant gofod yn cynnig mwy a mwy o gyfleoedd i fusnesau yng Nghymru ac maen nhw'n gyfle gwych i ddysgu mwy am sector.
>
> "Y neges allweddol yw bod cyfleoedd i'r BBaChau hynny sydd â'u bys ar y pyls yn y sector technegol chwarae rhan bwysig yn y gwaith o gefnogi'r sector gofod, a bod hwn yn gyfle go iawn i gwmnïau technegol o Gymru gael troedle mewn marchnad newydd."
Bydd cyfuniad o gyflwyniadau i roi gwybod i fusnesau am gyfleoedd yn y diwydiannau gofod ar hyn o bryd ac yn y dyfodol, a hefyd am y cymorth sydd ar gael drwy Innovate UK, y Rhwydwaith Trosglwyddo Gwybodaeth, sefydliadau academaidd a'r Catapyltiau.
Dywedodd Avril Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr ESTnet:
> "Mae datblygiad diwydiant gofod y DU yn cynnig cryn gyfleoedd i'r sector technoleg yng Nghymru.
>
> "Mae'r diwydiant technoleg yng Nghymru yn tyfu'n gyflym, a chan mai ni yw'r rhwydwaith ar ei gyfer, rydyn ni'n gwybod y bydd ein haelodau’n gallu gwneud cyfraniad gwerthfawr o ran sbarduno ymdrechion y DU yn y gofod. Mae'n hanfodol ein bod yn sicrhau bod ein haelodau'n cael pob cyfle i ymchwilio i gyfleoedd o'r fath ac i fynd ar drywydd partneriaethau gwerthfawr gyda sefydliadau a chwmnïau sy'n gweithio yn niwydiant gofod y DU."
|
Sponsored by Welsh Government and supported by ESTnet (the network for the Welsh technology sector), the event at Cardiff City Stadium is open to all technology companies in Wales, especially those working in software technologies including big data, analytics, internet of things and cyber\-security.
The key message to Welsh tech companies is that many of the tools, services, technologies and products they develop can be utilised by the space industry which is actively looking to other sectors for the development of products and technologies to support growth.
The event is backed by a number of high profile organisations with speakers from both the UK and European Space Agencies, The Satellite Applications Catapult, Airbus, Seraphim Capital and Thales Alenia Space.
Opportunities for Welsh businesses to benefit from the wider space industry will also be highlighted later this month (Wednesday 26 April) at an event organised by Aberystwyth University entitled Space and Earth Monitoring: identifying business growth opportunities.
It is aimed at businesses interested in developing their knowledge and involvement with the space sector and will provide information on possible funding and collaborative opportunities and on skills development.
It is targeted at a range of companies from environmental consultancies to UAV specialists and from software developers to satellite developers and specialists in robotics and photonics.
Economy Secretary Ken Skates said:
> “These events illustrate the growing prospects that the space industry offers Welsh businesses and present a great opportunity to learn more about the sector.
>
> “The key message is that there are opportunities for savvy SMEs in the tech sector to play an important part in supporting the growth of the space sector and that this presents a very real next market opportunity for Welsh Tech companies.”
There will be a mix of presentations to inform and introduce businesses to current and future opportunities within the space industries as well as the support available through Innovate UK, the KTN, academic institutions and the Catapults.
Avril Lewis, managing director of the ESTnet, said:
> “The development of the UK space industry presents enormous potential for the Welsh technology sector.
>
> “As the network for the Wales’ fast\-growing technology industry, we know the valuable contribution our members can make to drive the development of the UK’s space efforts. It is essential that we ensure our members are given every chance to explore such opportunities and pursue valuable partnerships with organisations and companies working within the UK space industry.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
On the 24 September, I provided an initial response to the Welsh Government Consultation on Proposed Changes to Childcare Regulation and Registration in Wales. I can now update Members on the outcome of the consultation. My officials have also completed a summary report of the responses received which will be placed on the Welsh Government website today.
The consultation, attracted considerable interest from the childcare sector. Over 130 written responses were received and over 80 representatives from the childcare sector, Local Authorities and youth sector attended consultation events held across Wales. More localised events aimed at providers were also held by the childcare and play organisations on behalf of Welsh Government.
I would like to thank to all those who responded and the childcare and play organisations for their support in ensuring a good representative response was received from stakeholders.
The main consultation centred on the Welsh Government’s proposals to extend the upper age limit for the compulsory registration of childcare beyond the age of 8 years. As I announced in September, from 1 April 2016 the upper age limit will be extended from 8 to 12 years. This will ensure there is a consistent means of regulating the quality and suitability of childcare provision up to the age of 12, will bring the system of registration in line with the other parts of the UK and align it with the new Tax Free Childcare scheme in 2017\.
As part of the arrangements to implement the extension of registration, changes need to be made to the National Minimum Standards (NMS) for Regulated Child Care to ensure they take account of the requirements for older children. The consultation sought views on specific changes to the NMS to allow the extension of registration and also invited more general comments about the standards. The majority of responses supported our proposal for the changes to the NMS to be appropriate to the age of the child.
Specific changes to the revised NMS informed by feedback received to the consultation, will be issued early in 2016\. However, the summary report containing the full Welsh Government response to the consultation, provides an overview of the changes being made, as well as detailing the specific changes and arrangements to the NMS for staffing ratios and qualifications.
In making these changes, I have carefully considered the consultation responses and the implications of the changes on the sustainability of the sector. I am aware of the considerable challenges which the childcare sector is currently facing in terms of sustaining existing provision. I value the positive and constructive manner in which all parts of the sector have responded to the consultation. I believe the changes we have set out, will achieve a balance between helping to ensure all children in registered childcare provision are cared for in a safe and appropriate environment and take account of the views and concerns expressed about the impact of any increased burdens on childcare providers and the associated implications for parents and carers.
We will look further at points raised in relation to other issues in the consultation responses received.
CSSIW is engaging extensively with the childcare sector to raise awareness about the extension of registration and the implications of the changes for providers and parents. As part of these arrangements, regional stakeholder events are being held later this month and early in December to discuss plans for the implementation of these changes.
I will continue to keep Members informed about matters arising from the consultation.
|
Ar 24 Medi, fe ddarperais ymateb cychwynnol i Ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ynghylch Newidiadau Arfaethedig i Reoleiddio a Chofrestru Gofal Plant yng Nghymru. Yn awr gallaf roi gwybodaeth i Aelodau am ganlyniad yr ymgynghoriad. Mae fy swyddogion hefyd wedi cwblhau adroddiad cryno ar yr ymatebion a gafwyd, a bydd yr adroddiad hwnnw’n cael ei roi ar wefan Llywodraeth Cymru heddiw.
Denodd yr ymgynghoriad ddiddordeb sylweddol o’r sector gofal plant. Cafwyd dros 130 o ymatebion ysgrifenedig a daeth dros 80 o gynrychiolwyr o’r sector gofal plant, Awdurdodau Lleol a’r sector ieuenctid i ddigwyddiadau ymgynghori a gynhaliwyd ledled Cymru. Cafodd digwyddiadau mwy lleol ar gyfer darparwyr eu cynnal hefyd gan y sefydliadau gofal plant a chwarae ar ran Llywodraeth Cymru.
Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd, ac i’r sefydliadau gofal plant a chwarae am eu cymorth i sicrhau ymateb cynrychiolaidd da o blith rhanddeiliaid.
Roedd y prif ymgynghoriad yn canolbwyntio ar gynigion Llywodraeth Cymru i ymestyn y terfyn oedran uwch ar gyfer cofrestru gorfodol yng nghyswllt darpariaeth gofal plant y tu hwnt i 8 oed. Fel a gyhoeddais ym mis Medi, o 1 Ebrill 2016 bydd y terfyn oedran uwch yn cael ei ymestyn o 8 i 12 oed. Bydd hyn yn sicrhau bod dull cyson o reoleiddio ansawdd ac addasrwydd darpariaeth gofal plant hyd at 12 oed, bydd yn gwneud y system yn gyson â rhannau eraill o’r DU, a bydd yn ei chysoni â’r cynllun Gofal Plant Di\-dreth newydd yn 2017\.
Fel rhan o’r trefniadau i ymestyn y terfyn oedran ar gyfer cofrestru, mae angen gwneud newidiadau i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol (SGC) ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i sicrhau eu bod yn cymryd y gofynion ar gyfer plant hŷn i ystyriaeth. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn pobl am newidiadau penodol i’r SGC i’w gwneud yn bosibl ymestyn y terfyn oedran ar gyfer cofrestru a hefyd yn gwahodd sylwadau mwy cyffredinol am y safonau. Roedd y mwyafrif o’r ymatebion yn cefnogi ein cynnig y dylai’r newidiadau i’r SGC fod yn briodol i oedran y plentyn.
Bydd newidiadau penodol i’r SGC, a oleuwyd gan adborth a gafwyd yn yr ymgynghoriad, yn cael eu cyhoeddi’n gynnar yn 2016\. Fodd bynnag, mae’r adroddiad cryno, sy’n cynnwys yr ymateb llawn gan Lywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad, yn rhoi trosolwg o’r newidiadau sy’n cael eu gwneud, yn ogystal â manylu ar y newidiadau a’r trefniadau penodol yn y SGC o ran cymarebau staffio a chymwysterau.
Wrth wneud y newidiadau hyn, rwyf wedi rhoi ystyriaeth ofalus i’r ymatebion i’r ymgynghoriad a goblygiadau’r newidiadau ar gyfer cynaliadwyedd y sector. Rwy’n ymwybodol o’r heriau sylweddol y mae’r sector gofal plant yn eu hwynebu ar hyn o bryd o ran cynnal y ddarpariaeth bresennol. Rwy’n gwerthfawrogi’r modd cadarnhaol ac adeiladol y mae pob rhan o’r sector wedi ymateb i’r ymgynghoriad. Rwy’n credu y bydd y newidiadau yr ydym wedi’u nodi’n taro cydbwysedd rhwng helpu i sicrhau bod yr holl blant mewn darpariaeth gofal plant gofrestredig yn cael gofal mewn amgylchedd diogel a phriodol ar y naill law, ac ystyried barn a phryderon a fynegwyd am effaith unrhyw feichiau cynyddol ar ddarparwyr gofal plant a’r goblygiadau cysylltiedig ar gyfer rhieni a gofalwyr ar y llaw arall.
Byddwn yn rhoi ystyriaeth bellach i’r pwyntiau a godwyd mewn perthynas â materion eraill yn yr ymatebion a gafwyd i’r ymgynghoriad.
Mae AGGCC yn ymgysylltu’n helaeth â’r sector gofal plant i godi ymwybyddiaeth o’r estyniad i’r terfyn oedran ar gyfer cofrestru a goblygiadau’r newidiadau ar gyfer darparwyr a rhieni. Fel rhan o’r trefniadau hyn, mae digwyddiadau rhanbarthol i randdeiliaid yn cael eu cynnal yn ddiweddarach y mis hwn ac yn gynnar ym mis Rhagfyr i drafod cynlluniau ar gyfer rhoi’r newidiadau hyn ar waith.
Byddaf yn parhau i hysbysu Aelodau ynghylch materion sy’n codi o’r ymgynghoriad.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae uwchraddio i ffeibr cyflym iawn ym Mryn Berwyn ger Tresaith yng Ngheredigion wedi hybu'r busnes ac yn galluogi gwesteion i fanteisio ar system wi\-fi gadarn ar draws y safle.
Golyga hyn y gall ymwelwyr bori'r we yn rhwydd a gwneud y defnydd gorau o setiau teledu clyfar yr eiddo, ymhlith buddion eraill. Dywedodd y perchennog, Gareth Robinson, fod dewis band eang cyflym iawn yn benderfyniad hawdd.
Ar hyn o bryd, mae'r perchennog wedi ymrwymo i becyn sy'n cynnig cysylltedd cyflym iawn o 70Mbs i'w gwsmeriaid drwy gysylltiad ffeibr i'r adeilad (FTTP). Mae'r dechnoleg hon, lle y mae ffeibr cyflym yn cysylltu'r gyfnewidfa ffôn â'r eiddo yn uniongyrchol, yn sicrhau cyflymder sydd ymhlith y cyflymaf yn y DU. Ar hyn o bryd, mae cwsmeriaid FTTP yn gallu mwynhau cysylltiad gwibgyswllt hyd at 330Mbs a gallent fanteisio ar gyflymder gigabit sydd hyd yn oed yn gyflymach yn y dyfodol.
Dywedodd y perchennog, Gareth Robinson:
> "Mae band eang cyflym iawn wedi gwneud byd o wahaniaeth ym Mryn Berwyn. Mae gallu rhoi ateb cadarnhaol i gwestiynau gwesteion ynghylch band eang a gwasanaethau wi\-fi, gan wybod bod gennym gysylltedd cryf, sefydlog a chyflym mewn ardal wledig o Gymru, yn hollol wych.
>
> "Mae'r adborth gan ymwelwyr wedi bod yn galonogol tu hwnt gyda llawer o ohonynt yn dweud pa mor falch ydynt eu bod yn gallu ffrydio deunydd manylder uwch neu weithio, hyd yn oed, gan fwynhau'r golygfeydd ysblennydd ar yr un pryd.
>
> "Gosodwyd y band eang gwell hwn gan dyfedsuperfast.co.uk ac mae wedi ein galluogi i gynnal arolygon gyda chwsmeriaid er mwyn inni fedru parhau i wella ein gwasanaeth.
>
> "Byddwn yn annog unrhyw fusnes i fanteisio ar fand eang cyflym iawn os oes modd. Mae wedi bod yn wych inni, wedi gwneud gwir wahaniaeth i'n gwefan www.brynberwyn.com ac wedi gwneud argraff go iawn ar ein gwesteion."
Dywedodd Julie James, y Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth:
> "Rwy'n hynod falch bod uwchraddio i fand eang cyflym iawn wedi cael effaith mor gadarnhaol ym Mryn Berwyn ger Tresaith.
>
> "Dyma enghraifft wych o brosiect Cyflymu Cymru yn mynd i’r eithaf i ddarparu'r seilwaith i sicrhau mynediad i fand eang ffeibr cyflym i rai o ardaloedd mwyaf anghysbell Cymru.
>
> "Gall cysylltiad cyflymach greu pob math o gyfleoedd busnes ledled Cymru. O lawrlwytho ffeiliau mawr yn gyflymach i gysylltu'n well â chwsmeriaid, gall band eang cyflym iawn wneud gwahaniaeth go iawn.
>
> "Diolch i raglen Cyflymu Cymru, mae gan fwy na 653,000 o safleoedd ar draws Cymru fynediad i fand eang ffeibr cyflym. Heb y rhaglen hon, mae'n bosibl na fyddai gan sawl ardal yng nghefn gwlad, gan gynnwys Ceredigion, unrhyw fynediad i fand eang cyflym iawn.
>
> "Rydym eisoes yn gweithio tuag at gynnig band eang cyflym dibynadwy i bob eiddo yng Nghymru fel bod mwy o bobl yn gallu mwynhau ei fanteision."
Dywedodd Ed Hunt, cyfarwyddwr rhanbarthol Openreach:
> “Mae cyflwyno band eang cyflym iawn yn gwneud gwahaniaeth mawr i’r ffordd y mae busnesau, megis Bryn Berwyn, yn gweithredu.
>
> "Rydym yn cyflwyno cysylltedd cyflym iawn i rai o ardaloedd gwledig iawn Cymru a bydd hynny, yn ei dro, yn hybu busnesu a'r economi leol drwy gynyddu masnach, agor marchnadoedd newydd ac arbed amser.
>
> "Mae miloedd o dai a busnesau yng Ngheredigion eisoes yn gallu gwneud yr un peth â Bryn Berwyn a mwynhau'r cyflymder band eang gorau erioed. Byddem yn annog pobl leol i edrych ar yr hyn sy'n bosibl.
>
> "Mae'n farchnad hynod gystadleuol, felly gallai pobl fod yn ffrydio yn gyflymach am gost debyg i'w gwasanaeth presennol. Ni fyddwch byth yn difaru newid i fand eang cyflym iawn."
Partneriaeth rhwng Llywodraeth Cymru, BT, Llywodraeth y DU a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop yw Cyflymu Cymru, sy’n dod â band eang mwy cyflym i ardaloedd na fyddent yn ei gael fel arall.
Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn rhedeg cynllun Allwedd Band Eang Cymru, sy’n gallu cynnig grant ar gyfer cael band eang cyflym iawn drwy dechnolegau eraill os bydd angen.
Ceir rhagor o fanylion yn www.llyw.cymru/cyflymu
|
The upgrade to superfast fibre at Bryn Berwyn near Tresaith in Ceredigion has been a big boost to the business and allows guests to take advantage of the robust site\-wide Wi\-Fi system.
This means visitors can surf the web with ease and make the best use of the property’s Smart TVs amongst other benefits, with owner Gareth Robinson saying the move to superfast was a ‘no brainer’.
The country house has currently taken a package offering its customers high\-speed connectivity with speeds of 70 Mbps through fibre\-to\-the premises (FTTP). This technology, where fast fibre is run directly from the telephone exchange to the property, provides among the fastest speeds in the UK. FTTP customers can currently get ultrafast broadband speeds of up to 330Mbps and could access even faster gigabit speeds in future.
Owner Gareth Robinson said:
> “Going superfast has made a world of difference at Bryn Berwyn Country House. Being able to provide a positive answer to a guest’s query about broadband and Wi\-Fi services safe in the knowledge we have a strong, stable and fast connection in a remote area of Wales is simply fantastic.
>
>
> “Feedback from visitors has been really encouraging with many saying how pleased they are to be able to stream in high definition or even do some work whilst enjoying the spectacular views.
>
>
> “Having much better broadband, which was installed by dyfedsuperfast.co.uk, has also enabled us to run surveys with customers so we can continue to improve our service.
>
>
> “I’d encourage any business which has access to superfast to get it. It’s worked out brilliant for us, made a difference to our website www.brynberwyn.com and had a real impact on guests.”
Minister for Skills and Science, Julie James, said:
> “I’m very pleased upgrading to superfast broadband has had such a positive effect at Bryn Berwyn Country House near Tresaith.
>
>
> “This is a great example of the lengths the Superfast Cymru project goes to in delivering the infrastructure capable of providing fast fibre broadband access to some of the remotest areas of Wales.
>
>
> “Faster connection speeds can open a swathe of opportunities for businesses throughout Wales. From downloading large files more quickly to engaging better with customers, superfast broadband can make a real difference.
>
>
> “More than 653,000 premises across Wales have now been given access to fast fibre broadband thanks to the Superfast Cymru programme. Many areas of the country including Ceredigion would be without any access to superfast broadband without the intervention.
>
>
> “We are already working towards offering fast reliable broadband to every property in Wales so that even more people can take advantage of the many benefits it can deliver.”
Ed Hunt, regional director for Openreach, said:
> “The roll out of superfast broadband is making a huge difference to how companies such as Bryn Berwyn Country House can now do business.
>
>
> “We’re bringing superfast connectivity to some very rural parts of Wales which can in turn prove to be a major boost to businesses and the local economy through increased trade, opening up new markets and saving time.
>
>
> “Thousands of homes and businesses in Ceredigion can already do the same as the Bryn Berwyn Country House and connect to their best ever broadband speeds when they sign up with a service provider, and we’d encourage local people to check out their options.
>
>
> “It’s a highly competitive market, so people could potentially be surfing at much higher speeds at a similar cost to their current service. Once you’ve made the switch to superfast we’re confident you’ll never look back.”
Superfast Cymru is the partnership between the Welsh Government, BT, UK Government and the European Regional Development Fund (ERDF), bringing faster broadband to areas which would otherwise not receive it.
The Welsh Government also runs the Access Broadband Cymru scheme, which can offer assistance to those not able to access superfast broadband by providing grant aid to help them receive it through other technologies.
Further details are available at www.gov.wales/broadband
|
Translate the text from Welsh to English. |
Dros yr wythnosau diwethaf, rydym wedi gwrando'n astud ar Undebau Llafur y Gwasanaeth Iechyd wrth iddynt sôn wrthym am eu rhwystredigaethau. Felly, rydym yn falch iawn ein bod ni wedi gallu cynnig codiad cyflog o 3% a fydd yn cael ei ôl\-ddyddio i fis Ebrill 2022 (bydd 1\.5% ohono yn cael ei gyfuno a'i gario drosodd i flynyddoedd sydd i ddod). Daw hyn yn ychwanegol at y £1,400 sydd eisoes wedi'i dalu i staff y Gwasanaeth Iechyd yn dilyn argymhellion y corff adolygu cyflogau annibynnol. Mae'n hynod bwysig imi fod yn gwbl glir mai dyma'r cynnig terfynol y gallaf ei wneud ar gyfer 2022/23 o fewn y cyllid sydd ar gael inni.
Ond rwyf hefyd wedi gwrando yr wythnos hon ar yr hyn y mae Undebau Llafur wedi bod yn ei ddweud wrthyf am rwystredigaethau eu haelodau sy'n eistedd am oriau y tu allan i ysbytai wrth iddynt aros i ryddhau eu cleifion. Rwy'n deall bod pobl yn eithriadol o rwystredig nad ydynt yn defnyddio’r sgiliau y maen nhw wedi hyfforddi'n galed i'w meithrin a dyna pam rwy'n cydnabod yr oedd angen inni fynd ymhellach na'r cynnig cyflog. Rwy’n gwybod bod y pwysau yn y Gwasanaeth Iechyd yn cael effaith benodol iawn ar amodau gweithio Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru, felly rwy'n deall bod yr elfennau nad ydynt yn ymwneud â chyflog yr un mor bwysig. Rwy'n gwybod bod staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru eisiau gwasanaethu eu cymunedau hyd eithaf eu gallu.
Yn ystod y dyddiau diwethaf, rwyf wedi trafod yr elfennau penodol i Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru gyda'r Prif Weithredwr, ac mae ef a'i uwch\-dîm arwain wedi ymrwymo i wneud popeth yn eu gallu – popeth sydd o fewn rheolaeth benodol yr Ymddiriedolaeth – i wella’r profiad yn y gweithle i bob aelod o staff.
Mae'r problemau sy'n cael eu hachosi gan yr heriau o gael pobl yn ôl i’w cartrefi o'r ysbyty ar ôl iddynt gael eu trin yn effeithio, yn eu tro, ar yr adrannau brys hefyd. Yn aml iawn, golyga hyn fod staff yn gorffen eu shifftiau yn hwyr/ neu fod shifftiau yn gor\-redeg ac rwy’n deall y gall hyn amharu'n sylweddol ar fywyd cartref y staff.
Rwyf wedi dweud yn glir wrth y Byrddau Iechyd fod yn rhaid iddynt, wrth fynd ati i lunio’u cynlluniau at y dyfodol, roi’r prif flaenoriaeth i wella'r llif drwy ysbytai. Bydd angen iddynt weithio gyda llywodraeth leol a Llywodraeth Cymru i fynd ymhellach ac i weithio’n gyflymach pan fyddant yn mynd ati i ddatblygu gwasanaethau gofal cymunedol integredig cyn y gaeaf nesaf. Credwn y bydd hynny’n lleddfu cryn dipyn ar y pwysau sydd ar yr adrannau brys ac yn gwella amodau gwaith i staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
Oherwydd bod undeb Unite wedi dewis parhau i streicio yr wythnos hon, maen nhw wedi’u heithrio eu hunain o'r trafodaethau ffurfiol ar lefel Cymru gyfan. Rydym yn falch ein bod wedi parhau i drafod gyda’r undebau iechyd eraill. Yn ystod y trafodaethau hynny, rwyf wedi gwrando ar yr Undebau Llafur sy'n cynrychioli staff Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ac o ganlyniad, hoffwn gynnwys y cynnig isod yn atodiad penodol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru i’r cynnig cyflog terfynol i’r GIG, a gyhoeddwyd ddoe.
Elfennau penodol ar gyfer Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
* Byddwn yn gweithio gyda chynrychiolwyr yr undebau i sicrhau eu bod nhw a'u haelodau yn Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gallu dylanwadu ar y gwaith o ddatblygu gwasanaeth gofal cymunedol integredig, a chyfrannu at y gwaith hwnnw.
* Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig cyfle i gynrychiolwyr yr undebau ambiwlans weithio gyda Llywodraeth Cymru ar weithgorau a fydd yn ceisio cynnig atebion i'r broblem o wella'r llif drwy ysbytai.
* Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod gweithwyr ambiwlans sy'n aros am gyfnodau hir y tu allan i adrannau brys yn poeni am fygdarth o'u cerbydau ac felly, bydd Llywodraeth Cymru yn dechrau cyflwyno pwyntiau gwefru, gan ddechrau drwy gyllido o leiaf dri phwynt gwefru yn yr holl adrannau brys ledled Cymru.
* Bydd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gohirio cyflwyno newidiadau arfaethedig i’r amser a ganiateir ar gyfer Datblygiad Proffesiynol Parhaus y bwriedid eu rhoi ar waith ym mis Ebrill, a bydd trafodaethau'n parhau mewn partneriaeth gymdeithasol ar lefel sefydliadol.
* Bydd Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn oedi cyn parhau â’r ddeialog am y newidiadau i’r polisi ar seibiannau gorffwys, er efallai y bydd angen rhywfaint o drafod mewn partneriaeth gymdeithasol ar lefel sefydliadol er mwyn sicrhau eglurder o ran un fersiwn o'r trefniadau cyfredol.
|
Over the past few weeks we have listened carefully to what NHS Trade Unions have told us are their frustrations so we are really pleased that we have been able to offer a 3% pay increase which will be backdated to April 2022 (1\.5% of which will be consolidated and carried over into future years) this is on top of the £1,400 already paid to NHS staff following recommendations of the independent pay review body. It is really important that I am clear that this is the very final offer that I am able to make for 22/23 within the funding available.
But I have also listened this week, to what Trade Unions have been telling me about the frustrations of their members, who are sitting for hours outside hospitals waiting to discharge their patients. I get that people are extremely frustrated that they are not using their skills that they have trained hard to develop and that is why I recognise that we needed to go further than the pay offer. The pressures within the NHS I know have a very specific impact on WAST working conditions, so I understand that the non\-pay elements are equally as important because I know that WAST staff want to serve their communities to the best of their abilities.
In recent days I have discussed these WAST specific elements with the Chief Executive and both he and his senior leadership team are committed to doing all that they can, within the specific control of WAST, to improve the workplace experience for all staff.
The problems that are caused by the challenges of getting people home from hospital after they have been treated means that there is knock on effect at the Emergency Departments. This often leads to late shift finishes/ overruns which I understand can cause a significant disruption to the home life of staff.
I have been clear with Health Boards that they must improve the flow as their number one priority in their plans in future. They will need to work with local government and Welsh Government to go further and faster in the development of an integrated community care services ahead of next winter. We believe that this will ease the pressure significantly on ED and make working conditions better for WAST staff.
As a result of the fact that Unite the Union chose to continue strike action this week they have excluded themselves from the formal negotiations at an all Wales level. We are pleased that the conversation has continued with the remaining health unions. During these discussions, I have listened to the Trade Unions representing WAST staff and as a result would like to include the following offer as a WAST specific annex to the final NHS pay offer I issued yesterday.
Specific WAST elements
* We will work with union representatives to ensure that they and their WAST members are able to influence and contribute to the development of an integrated community care service.
* Welsh Government will offer ambulance union representatives the opportunity to work with Welsh Government on working groups to come up with solutions for the issue of improving the flow through hospitals.
* Welsh Government recognises that ambulance workers who stay for long periods outside emergency departments are concerned about fumes from their vehicles and therefore the Welsh Government will begin a roll out of charging points starting with the funding for a minimum of three charging points all Emergency Departments across Wales.
* WAST will postpone the introduction of planned changes to Continuing Professional Development (CPD) time due to be implemented in April, and discussions will continue in social partnership at an organisational level.
* WAST will pause dialogue on the changes to rest break policy, albeit some discussion may be needed in social partnership at an organisational level to clarify a single version of the current arrangements.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The following Written Statement has been laid before the Senedd under Standing Order 30C:
The Public Procurement (Amendment etc.) (EU Exit) Regulations 2020
|
Gosodwyd y Datganiad Ysgrifenedig canlynol gerbron y Senedd o dan Reol Sefydlog 30C:
Rheoliadau Caffael Cyhoeddus (Diwygio etc.) (Ymadael â'r UE) 2020
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae'r adroddiad newydd a gyhoeddwyd heddiw yn gwneud nifer o argymhellion ynghylch ffyrdd o helpu i newid y system ac yn egluro, yn ymarferol, sut i wynebu'r heriau a fydd yn codi i’r gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol dros y blynyddoedd nesaf.
Mae adroddiad y panel yn cynnwys gweledigaeth newydd ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru, gyda chamau gweithredu wedi’u harwain gan bedwar nod:
* gwella iechyd a llesiant y boblogaeth
* gwella profiadau ac ansawdd y gofal a roddir i unigolion a'u teuluoedd
* gwella llesiant ac ymgysylltiad y gweithlu
* cynyddu'r gwerth a geir o'r adnoddau sy'n cael eu buddsoddi mewn gwasanaethau.
Mae'r adroddiad yn argymell modelau gofal newydd, beiddgar gyda'r gwasanaethau wedi'u trefnu o amgylch yr unigolyn a'i deulu, mor agos â phosibl at y cartref. Mae hefyd yn pwysleisio bod angen i wasanaethau fod yn ataliol, yn hawdd cyrraedd atynt, ac o ansawdd uchel. Rhaid iddynt fod yn wasanaethau di\-dor, sy’n cael eu darparu heb rwystrau artiffisial. Dywedodd Dr Ruth Hussey, Cadeirydd y panel adolygu:
> "Rhaid i ni beidio â diystyru’r her sydd o'n blaen. Mae'n amlwg bod angen newid, ac yn amlycach fyth bod angen i hyn ddigwydd yn gyflym.
>
> "Rydyn ni wedi gweld bod ysfa am newid, ac awydd i symud ymlaen. Mae angen ymrwymiad cryf i drawsnewid faint o waith sy'n cael ei wneud, beth sy'n cael ei wneud, a sut mae'n cael ei gyflawni.
>
> "Gobeithio y bydd yr adroddiad hwn yn ysgogi'r camau gweithredu sydd eu hangen, ac yn helpu i roi arweiniad i ddyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru."
Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething:
> "Mae'r adroddiad hwn, ymrwymiad pwysig yn Symud Cymru Ymlaen a Ffyniant i Bawb, yn gosod argymhellion clir ynghylch yr hyn sydd angen ei newid, a sut i wireddu’r newidiadau hynny er lles pobl Cymru.
>
> "Rwy'n falch iawn o weld bod yr adroddiad yn awgrymu bod yr hyn sydd eisoes yn cael ei wneud yng Nghymru i integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol ar y trywydd iawn, ond bydd angen i ni ystyried canfyddiadau'r adolygiad hwn yn ofalus i weld sut y gellid gwella yn y dyfodol.
>
> "Bydd y cynllun tymor hir newydd ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol yn cael ei gyhoeddi yn y gwanwyn, gan ystyried argymhellion yr adroddiad hwn. Hoffwn i ddiolch i Dr Hussey, ei thîm a phawb sydd wedi cyfrannu. Rwy'n croesawu'r gefnogaeth drawsbleidiol barhaus ar gyfer yr adolygiad hwn.
>
> "Rwy'n credu bod yr hyn a welwyd heddiw gan y panel yn mynd i osod seiliau cadarn ar gyfer dyfodol iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru am nifer o flynyddoedd i ddod."
|
The new report published today makes a number of recommendations on how change to the system can be supported and explains, in practical terms, how to meet the challenges facing health and social care services in the years ahead.
The panel’s report includes a renewed vision for health and social care in Wales, with action guided by four mutually supportive goals:
* improving the health and wellbeing of the population
* improving the experience and quality of care for individuals and their families
* improving the wellbeing and engagement of the workforce
* increasing the value achieved from the resources that are invested in services.
The report, recommends bold new models of care with services organised around the individual and their family, as close to home as possible. It also emphasises that services need to be preventative, easy to access and of high quality. They also need to be seamless, and delivered without artificial barriers. Dr Ruth Hussey, Chair of the review panel said:
> “The scale of the challenge ahead should not be underestimated. It is clear that change is needed and even clearer that this should happen quickly.
>
> “We have detected an appetite for change and a desire to ‘get on with it’. A strong commitment to transform not just how much is done, but what and how it is delivered is needed.
>
> “We hope that this report will be a catalyst for the action that is needed, and help to guide the future of health and social care in Wales.”
Health Secretary Vaughan Gething said:
> “This report, a key commitment in Taking Wales Forward and Prosperity for All, sets out some clear recommendations about what needs to change and how to make those changes happen for the benefit of people in Wales.
>
> “I’m pleased that report suggests that what we are already doing in Wales with regard to the integration of health social care services is right, but we will need to carefully consider the findings of this review to see how this can be improved in the future.
>
> “The new long term plan for health and social care will be published in the spring, taking account of recommendations in this report. I’d like to thank Dr Hussey, her team and everyone who has contributed. I welcome the continued cross party support for the review.
>
> “I believe that what we have seen today from the panel will set firm foundations for the future of health and social care in Wales for many years to come.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
The consultation which ran from February until May this year asked residents of Wales, England, Scotland and Northern Ireland for their views on EPR. A further consultation on proposals for a Deposit Return Scheme for drinks containers in England, Wales and Northern Ireland was also carried out at the same time.
EPR would see producers taking responsibility for the full net cost of collecting and managing waste packaging helping to incentivise a reduction in packaging and an increase in its recyclability. Introducing a deposit return scheme would help to further incentivise the recycling of drinks containers.
These measures would in turn provide the opportunity to further improve overall recycling performance and local environmental quality by helping to prevent litter.
Hannah Blythyn said:
> “I’m pleased to see such public interest and enthusiasm for action in response to the consultation and to tackle the problem of single use plastic pollution in general. Taking forward these important proposals will not only support our ambition and action to radically reduce waste and transition to a circular economy but also the realisation of our commitment to decarbonisation.”
>
>
> “Wales is already a high recycling nation and our aim is to build on our success and move towards a circular economy where all forms of waste are avoided and resources are kept in use as long as possible.”
>
>
> “We will now work with the other UK governments to develop the proposals, in a way which builds on the work that has seen Wales become a world leader when it comes to household recycling.”
|
Cynhaliwyd yr ymgynghoriad rhwng mis Chwefror a mis Mai eleni a gofynnwyd i drigolion Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon fynegi eu barn ynghylch Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr. Cynhaliwyd ymgynghoriad pellach ynghylch cynigion ar gyfer Cynllun Dychwelyd Ernes mewn perthynas â chynwysyddion diodydd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon ar yr un pryd.
Byddai cyflwyno Cyfrifoldeb Estynedig Cynhyrchwyr yn golygu bod cyfrifoldeb ar gynhyrchwyr am ysgwyddo cost net llawn casglu a rheoli deunydd pacio plastig. Y nod fyddai lleihau'r deunydd pacio a gaiff ei ddefnyddio a sicrhau bod y deunydd yn haws ei ailgylchu. Byddai cyflwyno cynllun dychwelyd ernes yn hwb pellach i'r arfer o ailgylchu cynhwysyddion diodydd.
Byddai'r mesurau hyn, yn eu tro, yn creu'r cyfle i wella ymhellach berfformiad ailgylchu cyffredinol Cymru ac yn gwella ansawdd yr amgylchedd lleol, gan helpu i atal sbwriel.
Dywedodd Hannah Blythyn:
> "Rwy'n falch o weld bod gan y cyhoedd gymaint o ddiddordeb yn y mater hwn a'u bod mor frwdfrydig. Nod yr ymgynghoriad yw ceisio mynd i'r afael â phroblem llygredd plastig untro yn gyffredinol. Bydd cyflwyno'r mesurau pwysig hyn yn ein helpu i gyflawni ein huchelgais a'n camau gweithredu ar gyfer lleihau gwastraff yn sylweddol a chyflawni economi gylchol a bydd hefyd yn ein galluogi i gyflawni ein hymrwymiad at ddatgarboneiddio.
>
>
> "Mae Cymru eisoes yn wlad sy'n ailgylchu llawer iawn o'i gwastraff ond nid da lle gellir gwell a'r nod yw datblygu'n economi gylchol lle y gallwn osgoi pob math o wastraff a lle y caiff adnoddau eu defnyddio am gymaint â phosibl o amser.
>
>
> "Bydd Cymru'n cydweithio â Llywodraethau eraill y DU yn awr er mwyn datblygu'r cynigion hyn, gan adeiladu ar y gwaith sydd eisoes wedi sicrhau bod Cymru ar y blaen o safbwynt ailgylchu gwastraff cartrefi."
|
Translate the text from English to Welsh. |
On 21 September 2016 the Public Services Staff Commission published their principles and guidance on the appropriate use of non guaranteed working hours arrangements in devolved public services in Wales. Non guaranteed hours arrangements will encompass zero hour contracts.
The Commission’s guidance and principles set out clear expectations on practices which all public sector employers should adopt in order to ensure non guaranteed hour arrangements, are only used in clearly and narrowly defined circumstances. The principles were developed through close working with the Welsh Government’s Workforce Partnership Council and its subgroups in an example of practical social partnership.
These principles and guidance will help organisations avoid the inappropriate use of non guaranteed hours contracts within the Welsh public service.
The Welsh Government is accordingly now issuing that guidance to all devolved public sector employers. I want to stress the importance and priority the Welsh Government accords the fair and equitable treatment of the public sector workforce and the relationship between this and the delivery of excellent public services.
Even when the use of non guaranteed hours constraints is consistent with the circumstances set out in the advice, the Commission concludes that their use should not be open ended. I am working closely with the Minister for Social Services and Public Health to support her in the particular circumstances that affect social care, and to deliver our Programme for Government commitment to take action on limiting zero hours contracts.
The Resolution Foundation recently reported that in the UK some 400,000 people over 25 years old have been on zero hours contracts with the same employer for more than 12 months. The guidance published today proposes that organisations should ensure staff can request a review of their working arrangements with a view to changing their contractual arrangement if they have been undertaking regular hours over a continuous period of time and they should also have access to the same pay progression as full time employees. Our guidance says that staff who do not accept work for whatever reason should not suffer a detriment as regards being offered work in the future.
I am keen that the Guidance and Principles are adopted across the devolved public sector and applied in local circumstances, through social partnership, based on the type and scope of services. I therefore intend to review, through the Workforce Partnership Council, whether the guidance has been sufficiently embedded by 2018 and identify where both unions and employers have used the principles and guidance effectively and where they need to be better embedded to drive change. If there is evidence that the guidance has not been adopted well I would then be minded to make its application mandatory.
The guidance has been published here:
http://gov.wales/topics/improvingservices/publications/principles\-guidance\-on\-use\-of\-non\-guaranteed\-hours/?lang\=en
|
Ar 21 Medi 2016, cyhoeddodd Comisiwn Staff y Gwasanaethau Cyhoeddus egwyddorion a chanllawiau ar ddefnydd priodol o drefniadau oriau heb eu gwarantu mewn gwasanaethau cyhoeddus datganoledig yng Nghymru. Mae'r trefniadau'n cynnwys contractau dim oriau.
Mae canllawiau ac egwyddorion y Comisiwn yn gosod disgwyliadau clir ynghylch arferion y dylai pob cyflogwr sector cyhoeddus eu mabwysiadu er mwyn sicrhau bod trefniadau oriau heb eu gwarantu ond yn cael eu defnyddio dan amgylchiadau neilltuol iawn, sydd wedi'u diffinio'n glir. Datblygwyd yr egwyddorion drwy gydweithio agos gyda Chyngor Partneriaeth y Gweithlu Llywodraeth Cymru a'i is\-grwpiau mewn enghraifft o bartneriaeth gymdeithasol ar waith.
Bydd yr egwyddorion a'r canllawiau hyn yn helpu sefydliadau i osgoi'r defnydd amhriodol o gontractau oriau heb eu gwarantu o fewn gwasanaethau cyhoeddus Cymru.
Mae Llywodraeth Cymru bellach yn cyhoeddi'r canllawiau i holl gyflogwyr y sector cyhoeddus datganoledig. Hoffwn bwysleisio pwysigrwydd trin gweithlu'r sector cyhoeddus yn deg, a'r flaenoriaeth y mae Llywodraeth Cymru'n ei rhoi i hynny, yn ogystal â'r berthynas rhwng hyn a darparu gwasanaethau cyhoeddus ardderchog.
Hyd yn oed pan fo'r defnydd o gyfyngiadau oriau heb eu gwarantu yn gyson â'r amodau sydd i'w gweld yn y cyngor, mae'r Comisiwn o'r farn na ddylid eu defnyddio'n ddiddiwedd. Rwy'n gweithio'n agos gyda'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol i'w chefnogi gyda’r amgylchiadau penodol sy'n effeithio ar ofal cymdeithasol, ac i gyflawni’r ymrwymiad yn ein Rhaglen Lywodraethu i weithredu i gyfyngu ar gontractau dim oriau.
Mewn adroddiad diweddar, dywedodd y Resolution Foundation bod tua 400,000 o bobl dros 25 oed yn y DU wedi cael contractau dim oriau gyda'r un cyflogwr am dros 12 mis. Mae'r canllawiau sydd wedi'u cyhoeddi heddiw yn cynnig y dylai sefydliadau sicrhau bod modd i'w staff ofyn am adolygiad o'u trefniadau gwaith, gyda'r nod o newid eu contractau os ydynt wedi gweithio oriau rheolaidd dros gyfnod parhaus, ac fe ddylent hefyd gael mynediad at yr un trefniadau datblygiad cyflog â gweithwyr llawn amser. Mae'r canllawiau'n dweud yn glir na ddylai aelod o staff sy'n gwrthod cynnig am waith, am ba bynnag reswm, gael ei drin yn llai ffafriol o ran cael cynnig gwaith yn y dyfodol.
Rwy'n awyddus i weld y Canllawiau a'r Egwyddorion yn cael eu mabwysiadu ar draws y sector cyhoeddus datganoledig a'u cymhwyso yn unol ag amodau lleol, drwy bartneriaeth gymdeithasol, ar sail math ac ystod y gwasanaethau. Felly rwy'n bwriadu cynnal adolygiad, drwy Gyngor Partneriaeth y Gweithlu, i weld a yw'r canllawiau hyn wedi'u rhoi ar waith yn ddigonol erbyn 2018, ac i nodi lle mae'r undebau a'r cyflogwyr wedi defnyddio'r egwyddorion a'r canllawiau'n effeithiol a lle mae angen eu defnyddio'n well i ysgogi newid. Os oes unrhyw dystiolaeth nad yw'r canllawiau wedi cael eu mabwysiadu'n ddigonol, byddaf yn ystyried wedyn eu gwneud yn orfodol.
Cyhoeddwyd y canllawiau yma:
http://llyw.cymru/topics/improvingservices/publications/principles\-guidance\-on\-use\-of\-non\-guaranteed\-hours/?lang\=cy
|
Translate the text from Welsh to English. |
Daw hyn yn sgil adolygiad gan y Comisiwn Meddyginiaethau Dynol (CHM) a’r Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA).
Cafodd y gwaharddiad ei gyflwyno yn y DU yn 1999 mewn ymateb i epidemig amrywiolyn Creutzfeld–Jakob (vCJD), y credir iddo fod yn gysylltiedig â bwyta cynhyrchion cig wedi’u heintio â BSE, sef “clefyd y gwartheg gwallgof”.
Ers cyflwyno’r gwaharddiad, mae cynhyrchion meddyginiaethol sy’n deillio o blasma wedi gorfod cael eu mewnforio, yn bennaf o’r Unol Daleithiau ar hyn o bryd.
Dywedodd y Gweinidog Iechyd Vaughan Gething:
> "Mae’r angen i fewnforio plasma i’r DU wedi golygu bod GIG Cymru wedi gorfod blaenoriaethu cyflenwi meddyginiaethau i gleifion â’r angen clinigol mwyaf.
>
> “Mae’r pandemig yn rhoi rhagor o bwysau ar y cyflenwad hwnnw oherwydd yr angen cynyddol am blasma gwaed i ddatblygu meddyginiaethau Covid\-19 newydd ynghyd â’r gostyngiad mewn rhoddion plasma gwaed.
>
>
>
> “Yn dilyn sawl adolygiad o’r dystiolaeth, rydym wedi cael ein cynghori bod plasma o’r DU yn ddiogel i gynhyrchu’r meddyginiaethau hyn ac felly rwyf i, ynghyd â’r gweinidogion iechyd eraill yn y DU, wedi codi’r gwaharddiad. Mae gan hyn y potensial i achub bywydau a bydd yn helpu pobl i reoli eu cyflyrau.”
Dywedodd Cyfarwyddwr Gwasanaeth Gwaed Cymru, Alan Prosser:
> “Mae Gwasanaeth Gwaed Cymru yn croesawu’r penderfyniad i gael gwared yn ddiogel â’r gwaharddiad ar ddefnyddio plasma o’r DU i gynhyrchu meddyginiaeth.
>
> “Mae’r rhoddion gwaed cyfan yr ydym yn eu cael eisoes yn helpu i ddarparu plasma clinigol ar gyfer triniaethau penodol, megis cefnogi cleifion sydd ag anafiadau llosgi.
>
>
>
> “Mae gwaith pellach i’w wneud, ond bydd ein gwasanaeth nawr yn ystyried gyda Llywodraeth Cymru beth yw’r ffordd orau inni fanteisio ar y cyfle hwn er lles pobl Cymru.”
|
The lifting of the ban follows a review by the Commission on Human Medicine (CHM) and the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA).
It was introduced in the UK in 1999 in response to the variant Creutzfeld–Jakob (vCJD) epidemic, believed to be associated with the consumption of meat products infected with BSE, commonly known as "mad cow disease".
Since the introduction of the ban, plasma\-derived medicinal products have had to be imported, with the main source at present being the USA.
Health Minister Vaughan Gething said:
> “The need to import plasma into the UK has meant NHS Wales has had to prioritise supply of medicines to patients with the highest clinical need.
>
>
> “The pandemic is placing further pressures on this supply due to the increased need for blood plasma in the development of new Covid\-19 medicines coupled with the falling numbers of blood plasma donations.
>
>
> “Following multiple reviews of the evidence, we have been advised that plasma sourced in the UK is safe for the manufacture of these medicines and as such, I along with the other health ministers across the UK have lifted the ban to potentially save their lives and help people to manage their conditions.”
Director of the Welsh Blood Service, Alan Prosser, said:
> “The Welsh Blood Service welcomes the decision to safely end the ban on using UK plasma to manufacture medicines.
>
>
> “The whole blood donations we receive already help provide clinical plasma for specific treatments, such as supporting patients with burn injuries.
>
>
> “There is further work to do, but our service will now explore with Welsh Government how we can best maximise this opportunity for the population of Wales.”
|
Translate the text from Welsh to English. |
Nod y rhaglen Twf Swyddi Cymru \+ Mwy yw creu cyfleoedd all newid bywydau’r rheini nad ydynt mewn addysg, gwaith na hyfforddiant. Daw’n rhan sylfaenol hefyd o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc sy’n anelu at sicrhau na fydd cenhedlaeth goll yng Nghymru oherwydd y coronafeirws.
Bydd Twf Swyddi Cymru \+ Mwy yn creu pecyn personol o gymorth ac yn ymgorffori’r gorau o’r rhaglen Twf Swyddi Cymru a’r rhaglenni Hyfforddeiaethau a oedd yn llwyddiannus iawn.
Caiff y rhaglen ei lansio yn 2022 i helpu pobl 16\-18 oed trwy gynnig cyngor ac arweiniad gyrfaol diduedd a manwl ar ôl cynnal asesiad o anghenion yr unigolyn trwy wasanaeth Cymru’n Gweithio.
Bydd pobl ifanc yn gallu manteisio ar wasanaethau mentora, cyngor, hyfforddiant ac addysg er mwyn gallu gwneud y dewisiadau gorau wrth chwilio am hyfforddiant neu waith teg neu wrth ddechrau busnes. Bydd y rhaglen yn cynnwys cynnig cyfleoedd gwaith penodol gyda chymhorthdal o 50% o’r isafswm cyflog cenedlaethol.
Dywedodd Gweinidog yr Economi Vaughan Gething:
> “Rydyn ni am roi’r sgiliau a’r hyder i bobl ifanc i oresgyn rhwystrau a chyflawni eu potensial. Nod Twf Swyddi Cymru \+ yw darparu cyfleoedd i bobl ifanc mewn byd sy’n prysur newid, beth bynnag eu gallu, eu cefndir, eu rhyw neu eu hethnigrwydd.
>
>
> “Mae Twf Swyddi Cymru \+ yn adeiladu ar ein rhaglenni hyfforddeiaeth a rhaglenni Twf Swyddi Cymru, gan ddatblygu elfennau cryfaf y ddau. Mae pobl ifanc, cyflogwyr a chontractwyr wedi ein helpu i lywio’r pecyn cymorth newydd hwn â newidiadau sy’n sicrhau bod pobl ifanc yn cael y gwasanaeth gorau posibl.
>
>
> “Mae Twf Swyddi Cymru \+ yn gam pwysig yn y broses o ddatblygu ein gwarant uchelgeisiol i bobl ifanc, gan roi’r gefnogaeth sydd ei hangen ar bobl ifanc tuag at ddyfodol mwy disglair.”
Mae'r broses gaffael ar gyfer Twf Swyddi Cymru\+ bellach wedi'i chwblhau, ac mae llythyrau dyfarnu wedi'u rhoi i'r contractwyr llwyddiannus.
|
The innovative Jobs Growth Wales\+ programme will aim to create life changing opportunities for those who are not in education, employment or training. It will also become a fundamental element of the Welsh Government’s Young Person’s Guarantee, which is determined to ensure there will be no lost generation in Wales as a result of the coronavirus pandemic.
Jobs Growth Wales\+ will provide an individualised package of support, and incorporate the best elements of existing legacy Jobs Growth Wales and Traineeships programmes which have proved very successful.
The programme, which will launch in 2022, will support those aged 16\-18 by offering impartial and in\-depth careers advice and guidance following a robust assessment of their individual needs via the Working Wales service.
Young people will have access to mentoring, advice, training and education so that they are empowered to make informed choices to find and secure training, fair work or start a business. This includes tailored job opportunities which will be subsidised at 50% of national minimum wage.
Economy Minister Vaughan Gething said:
> “We want to give young people the skills and confidence to overcome barriers and fulfil their potential. Jobs Growth Wales\+ is designed to deliver opportunities for young people in a fast changing world, irrespective of ability, background, gender, or ethnicity.
>
>
> “The foundation of Jobs Growth Wales\+ builds on our Traineeships and Jobs Growth Wales programmes, taking forward the strongest elements of both. Young people, employers and contractors have helped us shape this new package of support with changes that ensure young people receive the best possible service.
>
>
> “Jobs Growth Wales\+ is an important step in the development of our ambitious Young Person’s Guarantee, giving young people the support they need for a brighter future.”
The procurement process for Jobs Growth Wales\+ has now been completed and award letters have been issued to the successful contractors.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Cafodd y cyngor i’r rhai sy’n eithriadol o agored i niwed yn glinigol, y cynllun ‘gwarchod’ gynt, ei newid o 22 Rhagfyr ymlaen, a chyngorwyd y rhai sydd yn y grŵp hwn na ddylent adael eu cartrefi i fynd i’r gwaith nac i’r ysgol. Mae’r cyngor yn arbennig o berthnasol i’r rhai sy’n gweithio mewn swydd lle maent mewn cysylltiad â phobl eraill yn aml neu drwy’r amser, neu mewn swydd lle mae pobl yn rhannu gweithle sydd heb lawer o awyr iach am gyfnod hir. Cafodd y cyngor hwn ei roi ar waith tan 7 Chwefror ac roedd y llythyrau a anfonwyd yn cyfeirio at y cyfnod tan y dyddiad hwnnw.
Mae'r Prif Swyddog Meddygol wedi adolygu'r sefyllfa ac wedi nodi y dylai'r cyfnod y mae'r cyngor hwn yn berthnasol iddo barhau tan 31 Mawrth. Gwneir hyn o ystyried y lefelau uchel parhaus o’r feirws yn yn ein cymunedau a’r hyn yr ydym yn dal i’w ddysgu am effeithiau straeniau newydd o'r feirws. Bydd llythyrau newydd yn cael eu hanfon at y rhai sydd ar y rhestr gwarchod cleifion dros y pythefnos nesaf.
Erbyn canol mis Chwefror byddwn yn cysylltu â'r rhai sydd ar y rhestr gwarchod cleifion a byddant yn cael eu brechiad Covid\-19 cyntaf. Mae'n bwysig bod pobl yn aros nes cysylltir â nhw, a phan gânt eu gwahodd, eu bod yn mynychu’r apwyntiad ac yn cael eu brechu. Drwy gydol y pandemig rydym wedi parhau i annog y grŵp hwn i gael gafael ar y gofal iechyd sydd ei angen arnynt ac rydym yn ystyried bod brechu yn dod o fewn y categori hwn.
Ar hyn o bryd, bydd y cyngor i beidio â mynychu gwaith a'r ysgol y tu allan i'r cartref yn parhau i fod yn berthnasol, hyd yn oed ar ôl cael y ddau ddos o'r brechlyn. Y rheswm am hyn yw bod nifer yr achosion o’r coronafeirws yn ein cymunedau yn dal yn uchel, a chyfran y bobl sydd wedi cael eu brechu yn gymharol isel. Mae'r cyngor hwn yn gyson ar draws pedair gwlad y Deyrnas Unedig a chaiff ei adolygu'n barhaus gan y pedwar Prif Swyddog Meddygol.
Mae’r broses o ystyried y cyngor i'r rhai sy'n eithriadol o agored i niwed yn glinigol yn digwydd ar wahân i'r rheoliadau coronafeirws ac, er ein bod yn dal mewn cyfnod heriol o ran lefelau'r feirws yn ein cymunedau, ni ddylid cymryd bod y ffaith fod y dyddiad hwn yn cael ei estyn yn arwydd o ganlyniad adolygu’r lefelau rhybudd yn ystod y cyfnod hwn.
|
The advice to those who are clinically extremely vulnerable, previously ‘shielding’ changed from 22nd December to advise those within this group that they should no longer attend work or school outside the home. This is particularly the case for those whose work requires them to be in regular or sustained contact with other people, or where individuals share a poorly ventilated workspace for long periods. This advice was put in place until 7th February and the letters that were issued covered the period to this date.
The Chief Medical Officer has reviewed the position and indicated that the period this advice covers should extend to 31st March. This takes into account the ongoing high incidence of virus in our communities and our continuing learning around the impacts of new strains of the virus. New letters will issue to those on the shielding patient list over the next fortnight.
By mid\-February those on the shielding patient list will be contacted and will receive their first Covid\-19 vaccination. It is important people wait to be contacted and also that, when they are invited, they attend and receive their vaccination. Throughout the pandemic we have continued to encourage this group to access the healthcare they need and we consider vaccination to fall within this category.
At present, the advice not to attend work and school outside the home will continue to apply even after both doses of the vaccine have been received. This is because the incidence of coronavirus in our communities remains high and the proportion of people who have been vaccinated is relatively low. This advice is consistent across the four UK nations and will be kept under review by the four Chief Medical Officers.
The consideration of advice to the clinically extremely vulnerable is separate to the coronavirus regulations and, whilst we are still in a challenging period in relation to levels of the virus in our communities, this extended date should not be taken as an indicator of the outcome of alert level reviews during this period.
|
Translate the text from English to Welsh. |
As the Learning at Work Week gets underway, the Cabinet Secretary for the Economy, Energy and Welsh Language, Jeremy Miles, is urging businesses across Wales to support their employees to take advantage of opportunities to “learn and earn” in the workplace in order to develop new skills needed to thrive in the future.
The Welsh Government already invests in a wealth of programmes, ensuring that employers have a skilled workforce, and that individuals have the knowledge and skills to allow them to thrive in the workplace.
* Apprenticeships are a vital part of the Welsh Government’s Young Person’s Guarantee, which provides under 25s in Wales with the offer of support to gain a place in education or training, find a job or become self\-employed. The Welsh Government has committed a multi\-million package of support to quality apprenticeship delivery.
* The innovative Jobs Growth Wales\+ programme aims to create life changing opportunities for those who are not in education, employment or training.
* Employment and Enterprise Bureaus are operating in every college in Wales and provide a package of support for students to build essential employability and enterprise skills, and support their transition to employment.
* Personal Learning Accounts are aimed at individuals already in employment, but who wish to upskill or reskill and to maximise the opportunities presented by new and emerging sectors and technologies.
The Cabinet Secretary, Jeremy Miles, said:
> The world of work is changing more than it has done for decades and I want Wales, our businesses and our people, to put ourselves in a position to become the best place possible to work, live and invest.
>
> As we enter Learning at Work Week, I’d like to see job\-seekers, employers and employees alike taking advantage of the wealth of opportunities available across Wales to earn and learn in tandem \- harnessing and developing new skills and futureproofing, energising and diversifying our workforces.
>
> Take a look what support there might be to help you maximise your potential and let’s help each other unlock our collective potential as we build a resilient, forward looking and prosperous economy where no\-one in Wales feels left behind.
Peter Perry started as an apprentice at Dŵr Cymru and, thanks to that early learning and support, is now CEO of the company, responsible for a 3,000 strong workforce. He said:
> The blend of theoretical engineering and practical application gave me the opportunity to dive into the world of work, whilst still being supported through classroom learning. An apprenticeship is about understanding how a business works across multiple disciplines, giving you a unique insight into the detail of an organisation and really getting under its skin.
>
> Having the ability to experience the grassroots of the business has been incredibly helpful, particularly as I’ve progressed through my career. The fact that I’ve seen and done it, at all levels, means I have an empathy and deep understanding of the business that I draw upon daily to make informed decisions as CEO.
>
> At Dŵr Cymru, we offer a diverse range of work\-based learning opportunities across different fields and skill sets. I would absolutely recommend apprenticeships to businesses of all sizes and sectors.
Taking place between 13 to 17 May 2024, the annual Learning at Work Week puts the spotlight on the importance and benefits of continual learning and development.
|
A hithau'n ddechrau Wythnos Dysgu yn y Gwaith, mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi, Ynni a'r Gymraeg, Jeremy Miles, yn annog busnesau ledled Cymru i helpu eu gweithwyr i fanteisio ar gyfleoedd i "ddysgu ac ennill" yn y gweithle er mwyn datblygu'r sgiliau newydd sydd eu hangen i ffynnu yn y dyfodol.
Mae Llywodraeth Cymru eisoes yn buddsoddi mewn nifer fawr o raglenni, gan sicrhau bod gan gyflogwyr weithlu medrus, a bod gan unigolion y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i lwyddo yn y gweithle.
* Mae prentisiaethau'n rhan hollbwysig o Warant Llywodraeth Cymru i Bobl Ifanc, sy'n helpu pobl ifanc dan 25 oed yng Nghymru i gael lle mewn addysg neu hyfforddiant, dod o hyd i swydd neu i fynd yn hunangyflogedig. Mae Llywodraeth Cymru wedi addo pecyn cymorth gwerth miliynau o bunnau i gynnal prentisiaethau o safon.
* Nod rhaglen arloesol Twf Swyddi Cymru \+ yw creu cyfleoedd i bobl sydd ddim mewn addysg, gwaith na hyfforddiant i newid eu bywydau.
* Mae Biwros Cyflogaeth a Menter yn gweithredu ym mhob coleg yng Nghymru ac yn dysgu sgiliau cyflogadwyedd a menter i fyfyrwyr a'u helpu i gamu dros y bont i fyd gwaith.
* Mae Cyfrifon Dysgu Personol wedi'u creu er lles pobl sydd eisoes â gwaith, ond sydd am wella'u sgiliau neu dysgu sgiliau newydd a gwneud y gorau o'r cyfleoedd y mae sectorau a thechnolegau newydd yn eu cynnig.
Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet, Jeremy Miles:
> Mae'r byd gwaith yn newid yn fwy nag y mae wedi'i wneud ers degawdau ac rwyf am i Gymru fod y lle gorau posibl i weithio, byw a buddsoddi ynddo.
>
> Wrth i ni ddechrau Wythnos Dysgu yn y Gwaith, hoffwn weld ceiswyr gwaith, cyflogwyr a gweithwyr fel ei gilydd yn manteisio ar y cyfoeth o gyfleoedd sydd ar gael ledled Cymru i ddysgu wrth ennill cyflog \- a harneisio a datblygu sgiliau newydd ac i fod yn barod ar gyfer y dyfodol, gan ysgogi'n gweithluoedd a'u gwneud yn fwy amrywiol.
>
> Edrychwch pa help sydd ar gael ichi wneud y gorau o'ch potensial a gadewch i ni helpu ein gilydd i ddatgloi ein potensial ar y cyd wrth i ni adeiladu economi wydn, flaengar a llewyrchus lle nad oes neb yng Nghymru yn teimlo ei fod yn cael ei adael ar ôl.
Dechreuodd Peter Perry fel prentis yn Dŵr Cymru a diolch i'r hyfforddiant a'r help a gafodd o'r dechrau, mae e bellach yn Bennaeth ar y cwmni ac yn gyfrifol am weithlu o 3,000 o bobl. Meddai:
> Trwy brofi agweddau theoretig ac ymarferol ar beirianneg, cefais weld y byd gwaith go iawn, ond gyda chymorth y gefnogaeth yn yr ystafell ddosbarth. Hanfod prentisiaeth yw dod i ddeall sut mae busnes yn gweithio ar draws sawl disgyblaeth, a chael golwg unigryw o fanylion sefydliad a mynd o dan ei groen.
>
> Roedd cael y profiad o weld y busnes o'i seiliau o fudd mawr, yn enwedig wrth i mi ddringo ysgol fy ngyrfa. Mae'r ffaith fy mod i wedi'i weld a'i wneud, ar bob lefel, yn golygu bod gen i empathi a dealltwriaeth ddofn o'r busnes. Dwi'n troi atyn nhw bob dydd wrth wneud penderfyniadau fel Pennaeth.
>
> Yn Dŵr Cymru, rydym yn cynnig ystod amrywiol o gyfleoedd dysgu seiliedig ar waith ar draws gwahanol feysydd a setiau sgiliau. Byddwn yn argymell busnesau o bob maint a sector i gynnal prentisiaethau.
Mae'r wythnos Dysgu yn y Gwaith yn cael ei chynnal rhwng 13 i 17 Mai 2024, i dynnu sylw at bwysigrwydd a manteision dysgu a datblygu parhaus.
|
Translate the text from English to Welsh. |
On 16 January 2024 an oral statement was made in the Senedd: Winterpressures in healthcare (external link).
|
Ar 16 Ionawr 2024, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Pwysau'r gaeaf mewn gofal iechyd (dolen allanol).
|
Translate the text from Welsh to English. |
Un o’r ymyriadau y mae Llywodraeth Cymru yn ei gyflwyno er mwyn cefnogi busnesau yw estyn y moratoriwm ar fforffedu tenantiaeth am beidio â thalu rhent tan 30 Medi 2021\. Roedd y moratoriwm hwnnw i fod i ddod i ben yn wreiddiol ar 30 Mehefin 2021\.
Bydd y cam hwn yn fodd i sicrhau, tan 30 Medi eleni, na fydd busnesau’n fforffedu eu tenantiaethau busnes am beidio â thalu rhent, ond dylent barhau i dalu rhent pryd bynnag y bo modd, ac mae er budd landlordiaid a thenantiaid fel ei gilydd i drafod ac i gytuno ar sut i fynd i’r afael ag unrhyw ôl\-ddyledion.
Bydd y mesur hwn yn helpu amrywiaeth o sectorau, gan gynnwys sectorau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth, ar adeg sy'n parhau’n gyfnod masnachu hynod heriol, tra bydd y cyfyngiadau sy’n gysylltiedig â’r Coronafeirws yn cael eu llacio.
Ers dechrau'r pandemig, mae Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod mwy na £2\.5 biliwn wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru, ac mae mwy o arian yn cyrraedd cwmnïau bob dydd. Mae’r pecyn cymorth busnes sy’n cael ei gynnig gan Lywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael oddi Lywodraeth y DU, ac mae'n un o'r rhai mwyaf hael yn y DU. Yn ogystal, yn wahanol i Loegr, mae Gweinidogion Cymru wedi sicrhau y bydd y cynllun rhyddhad ardrethi o 100% ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch a hamdden yn para drwy gydol 12 mis y flwyddyn ariannol hon. Mae’r cam hwn yn cael ei gefnogi gan £380 miliwn eleni i helpu er mwyn rhoi amser i ryw 70,000 o fusnesau anadlu.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:
> “Mae pandemig y coronafeirws wedi bod yn brofiad hynod ofidus inni i gyd, yn enwedig i fusnesau a gweithwyr ym mhob cwr o Cymru. Rydyn ni wedi defnyddio pob sbardun posibl i'w cefnogi yn ystod y cyfnod hynod heriol hwn.
>
>
> “Rydyn ni wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau swyddi a bywoliaeth i bobl. Dyna pam dw i’n cyhoeddi heddiw estyniad arall i’r mesurau i atal busnesau rhag fforffedu eu tenantiaethau am beidio â thalu rhent, a fydd yn diogelu busnesau rhag cael eu troi allan.
>
>
> "Ers dechrau'r pandemig, rydyn ni wedi ymrwymo mwy na £2\.5 biliwn i fusnesau ledled Cymru, yn ogystal â'r cymorth arferol rydyn ni’n ei roi drwy Busnes Cymru. Mae busnesau yn y sectorau sydd wedi dioddef waethaf yn dal i elwa hefyd ar becyn rhyddhad ardrethi busnes a fydd ar gael am 12 mis llawn.
>
>
> “Gyda'i gilydd, mae'r mesurau hyn wedi helpu i ddiogelu miloedd o gwmnïau a diogelu llawer mwy o swyddi. Mae'n rhan allweddol o'n cynlluniau i roi hwb i adferiad cryf yng Nghymru ar ôl pandemig.
>
>
> "Rydyn ni’n parhau’n ymrwymedig i gefnogi cwmnïau o Cymru.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU yn ddiweddar sut y mae'n bwriadu mynd i’r afael ag ôl\-ddyledion rhent masnachol sydd wedi cronni yn ystod y pandemig. Bydd Llywodraeth Cymru yn mynd ati yn ystod y misoedd sydd i ddod i ystyried sut i ymdrin â’r mater hwn yng Nghymru.
|
As part of interventions the Welsh Government is making to support businesses, the moratorium against forfeiture for the non\-payment of rent will now be extended until 30 September 2021\. It was originally due to end on 30 June 2021\.
This measure will ensure businesses will not forfeit their business tenancies for non\-payment of rent until 30 September this year, but businesses should continue to pay rent wherever possible, and it is in the interests of both landlords and tenants to reach negotiated agreements on any arrears.
The move will help a range of sectors including retail, hospitality, leisure and tourism at what continues to be an incredibly challenging trading period, whilst coronavirus restrictions ease.
Since the beginning of the pandemic, the Welsh Government has ensured that more than £2\.5 billion has reached businesses across Wales with more money reaching firms every day. The Welsh Government’s package of business support is in addition to that available from the UK Government and is one of the most generous in the UK. In addition, unlike in England, Welsh Ministers have ensured the 100% rates relief scheme for retail, hospitality and leisure businesses will run for the full 12 months of this financial year. This measure is backed by £380 million to help provide breathing space for around 70,000 businesses this year.”
Economy Minister, Vaughan Gething said:
> “The coronavirus pandemic has been a harrowing experience for us all, not least for businesses and their employees across Wales. We’ve pulled every lever possible to support them during this incredibly challenging time.
>
>
> “We’re committed to doing all we can do secure jobs and livelihoods. That’s why I’m today announcing a further extension of measures to prevent forfeiture for the non\-payment of rent, which will protect businesses from eviction.
>
>
> “Since the beginning of the pandemic, we’ve committed more than £2\.5 billion to businesses across Wales, in addition to our business as usual support through Business Wales. Businesses in the hardest hit sectors also continue to benefit from a full 12 month business rates holiday package.
>
>
> “Combined, these measures have helped protect thousands of firms and safeguard many more jobs. It’s a key part of our plans to kick\-start a strong Welsh recovery post\-pandemic.
>
>
> “We remain committed to backing Welsh firms.
The UK Government recently announced how it intends deal with the issue of commercial rent arrears built up during the pandemic. The Welsh Government will consider the matter further for Wales in the months ahead.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Rydym wedi ymrwymo i gefnogi teuluoedd sy’n gweithio â chostau gofal plant. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru yn darparu hyd at 30 awr o addysg gynnar a gofal plant a ariennir gan y Llywodraeth i blant tair a phedair oed, y mae eu rhieni yn gweithio, am 48 wythnos y flwyddyn.
Mae’r Cynnig Gofal Plant yn parhau i ehangu, o ran nifer y teuluoedd sy’n manteisio ar y Cynnig a nifer y lleoliadau gofal plant sy’n cynnig lleoedd.
Mae’n bwysig bod darparwyr gofal plant yn cael eu talu ar gyfradd gynaliadwy o dan y Cynnig Gofal Plant. Canfu ymchwil, a gyhoeddwyd ym mis Tachwedd 2021, fod y Cynnig Gofal Plant wedi cael effaith gadarnhaol ar broffidioldeb i fwy na dwy ran o dair o ddarparwyr gofal plant, ond bu galwadau i adolygu’r gyfradd fesul awr a delir am ofal plant drwy’r Cynnig, yn enwedig mewn rhai rhannau o Gymru.
Yn dilyn adolygiad o’r gyfradd fesul awr, rwyf yn cyhoeddi £6m o gyllid ychwanegol y flwyddyn i gefnogi cynnydd o 11% yn y gyfradd fesul awr, gan ei chodi o’r £4\.50 yr awr bresennol i £5 yr awr o fis Ebrill. Byddwn hefyd yn darparu £1\.5m o gyllid ychwanegol i gefnogi’r gwaith o alinio cyfraddau cyllido Darpariaeth Feithrin y Cyfnod Sylfaen a gofal plant o dan y Cynnig Gofal Plant ac yn rhoi buddsoddiad o £3\.5m ychwanegol mewn gofal plant Dechrau’n Deg.
Bydd y cynnydd hwn yn helpu i wella cynaliadwyedd ar draws y sector gofal plant yng Nghymru, gan sicrhau y gall rhieni sy’n gweithio barhau i elwa o’r Cynnig Gofal Plant. Bydd hefyd yn galluogi’r ddarpariaeth barhaus o ofal ac addysg o ansawdd uchel, gan roi’r dechrau gorau oll mewn bywyd i blant. I gefnogi hyn, rwyf hefyd wedi ymrwymo i adolygu’r gyfradd o leiaf bob tair blynedd.
Yn ogystal â chynnydd yn y gyfradd fesul awr a delir am ofal plant, bydd yr uchafswm y gall lleoliadau godi am fwyd hefyd yn cynyddu o £7\.50 i £9 y diwrnod, sy’n adlewyrchu’r cynnydd ym mhrisiau bwyd a phrisiau cyfleustodau ac ynni.
Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau. Os bydd yr aelodau'n dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny.
|
We are committed to supporting working families with the costs of childcare. Our Childcare Offer for Wales provides up to 30 hours of government\-funded early education and childcare for children aged three and four, whose parents are in work, for 48 weeks a year.
The Childcare Offer is continuing to expand, in terms of the number of families accessing the Offer and the number of childcare settings offering spaces.
It is important childcare providers are paid a sustainable rate under the Childcare Offer. Research, published in November 2021, found the Childcare Offer has had a positive effect on profitability for more than two\-thirds of childcare providers, but there have been calls to review the hourly rate paid for childcare through the Offer, particularly in certain parts of Wales.
Following a review of the hourly rate, I am announcing an additional £6m in funding per year to support an 11% increase in the hourly rate, raising it from the current £4\.50 per hour to £5 per hour from April. We will also be providing additional funding of £1\.5m to support the continued alignment of the Foundation Phase nursery and childcare funding rates under the Childcare Offer and an additional £3\.5m investment in Flying Start childcare.
This increase will help provide greater sustainability across the childcare sector in Wales, ensuring working parents can continue to benefit from the Childcare Offer. It will also enable the continued provision of high\-quality care and education, giving children the very best start in life. To support this, I have also committed to review the rate at least every three years.
In addition to an increase in the hourly rate paid for childcare, the maximum amount settings can charge for food will also increase from £7\.50 to £9 a day, reflecting the increase in both food prices and utility and energy prices.
This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do that.
|
Translate the text from English to Welsh. |
In November last year, the UK Government confirmed their broad acceptance of the recommendations of the first part of the UK Government’s Silk Commission, and introduced the Wales Bill to Parliament in March this year. The Wales Bill is now making its way through the UK Parliament and, as well as providing the ability to borrow to fund investment, will enable the Assembly to legislate for a replacement to Stamp Duty Land Tax and Landfill Tax. These taxes will cease to operate in Wales from April 2018\.
This will be an historic change for Wales. The Welsh Government and Welsh Assembly will have the ability to develop taxes in Wales which are suited to Welsh circumstances and Welsh priorities. I have been clear that my principles for these new taxes are that they will be fair to businesses or individuals who pay taxes; be simple with clear rules which seek to minimise compliance and administration costs; support growth and jobs, which will in turn help tackle poverty; and provide stability and certainty to tax payers, with changes subject to proper consultation with stakeholders.
The First Minister yesterday confirmed that we will be introducing legislation on tax collection and management in this Assembly term. The legislation on tax collection and management will provide a clear and strong governance framework for the administration of Welsh taxes. It will establish a lean corporate body, operationally separate from Welsh Ministers, which will have legal responsibility for collection and management of Welsh taxes, and will ensure that the taxes are collected and managed efficiently and effectively. The bill will also ensure that we have processes and procedures to protect taxpayers and their rights in the full and proper payment of these Welsh taxes. I will be publishing a White Paper on these legislative proposals on 16 September this year. This is one of the first steps in establishing a Welsh Treasury.
I am expecting that the legislation on tax collection and management will be introduced in summer 2015\. The tax collection and management powers should rightly be understood in the context of the specific taxes that they will be used to collect, so, in spring 2015, I will be publishing consultations on a replacement to Stamp Duty Land Tax and a replacement to Landfill Tax. It is really important that we develop our taxes in a way that is right for Wales, and so we will consult openly and widely at this stage, with a view to preparing the ground for legislation early in the next Assembly term. I anticipate that this timing will enable us to ensure that the primary and secondary legislation to establish these taxes is passed in time to fully implement them before the go\-live date of April 2018\.
I have worked closely with my Tax Advisory Group in developing our approach and proposals, and will continue to engage them fully as we progress towards legislation.
|
Ym mis Tachwedd y llynedd, cadarnhaodd Llywodraeth y DU eu bod yn derbyn argymhellion rhan gyntaf Comisiwn Silk Llywodraeth y DU yn fras, a chyflwynwyd Bil Cymru i Senedd y DU ym mis Mawrth eleni. Ar hyn o bryd mae Bil Cymru yn mynd drwy Senedd y DU, ac yn ogystal â darparu’r gallu i fenthyg er mwyn ariannu buddsoddiadau, bydd y Bil yn galluogi'r Cynulliad i ddeddfu er mwyn disodli Treth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi. Bydd y trethi hyn yn peidio â bod yn weithredol yng Nghymru o fis Ebrill 2018 ymlaen.
Bydd hyn yn newid hanesyddol i Gymru. Bydd gan Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad y gallu i ddatblygu trethi yng Nghymru sy'n addas ar gyfer amgylchiadau a blaenoriaethau Cymru. Rwyf wedi datgan yn glir mai fy egwyddorion ar gyfer y trethi newydd hyn yw y byddant yn deg i fusnesau neu unigolion sy'n talu trethi; yn syml gyda rheolau clir sy'n ceisio lleihau costau cydymffurfio a chostau gweinyddol; yn cefnogi twf a swyddi, a fydd maes o law yn helpu i fynd i'r afael â thlodi; ac yn rhoi sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr, gydag ymgynghoriad priodol â rhanddeiliaid cyn gwneud unrhyw newidiadau.
Ddoe, cadarnhaodd y Prif Weinidog y byddwn yn cyflwyno deddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi yn nhymor presennol y Cynulliad. Bydd y ddeddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi yn darparu fframwaith llywodraethu clir a chadarn ar gyfer gweinyddu trethi Cymru. Bydd yn sefydlu corff corfforaethol syml, a fydd yn gweithredu ar wahân i'r Gweinidogion. Bydd gan y corff gyfrifoldeb cyfreithiol dros gasglu a rheoli trethi yng Nghymru, a sicrhau bod y trethi yn cael eu casglu a'u rheoli mewn modd effeithlon ac effeithiol. Bydd y Bil hefyd yn sicrhau bod gennym brosesau a gweithdrefnau i amddiffyn trethdalwyr a'u hawliau wrth dalu'r trethi hyn yn llawn ac mewn modd priodol. Byddaf yn cyhoeddi Papur Gwyn ar y cynigion deddfwriaethol hyn ar 16 Medi eleni. Dyma un o'r camau cyntaf tuag at sefydlu Trysorlys yng Nghymru.
Rwy'n disgwyl y bydd y ddeddfwriaeth ar gasglu a rheoli trethi yn cael ei chyflwyno yn haf 2015\. Dylai'r pwerau casglu a rheoli trethi gael eu deall yn iawn yng nghyd\-destun y trethi penodol a gesglir ganddynt. Felly yng ngwanwyn 2015, byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriadau ar ddisodli Treth Dir y Dreth Stamp a'r Dreth Dirlenwi. Mae'n bwysig dros ben ein bod yn datblygu ein trethi mewn ffordd sy'n addas i Gymru, ac felly byddwn yn ymgynghori mewn modd agored ac eang ar y cam hwn, gyda'r bwriad o osod sylfaen ar gyfer deddfwriaeth yn gynnar yn nhymor nesaf y Cynulliad. Rwy'n rhagweld y bydd yr amseriad hwn yn ein galluogi i sicrhau bod y ddeddfwriaeth sylfaenol a'r is\-ddeddfwriaeth ar gyfer sefydlu'r trethi hyn yn cael eu pasio mewn pryd i'w gweithredu'n llawn cyn eu bod yn dod i rym ym mis Ebrill 2018\.
Rwyf wedi gweithio'n agos gyda'r Grŵp Cynghori ar Drethi i ddatblygu ein dull gweithredu a'n cynigion, a byddaf yn parhau i weithio gyda nhw wrth inni nesáu at gael deddfwriaeth.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Dyma neges y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths cyn digwyddiad i dros 200 a mwy o wahoddedigion sy'n dechrau heddiw ar Faes y Sioe yn Llanelwedd i ddathlu gwaith y Gymru wledig.
Ers degawdau mae Cymru wedi elwa o gymorth drwy Raglen Datblygu Gwledig (CDG) yr Undeb Ewropeaidd. Wrth i'r DU adael yr UE, mae'r gefnogaeth hon yn dod i ben, ac mae Llywodraeth Cymru bellach yn datblygu dull gwirioneddol Gymreig o gefnogi'r economi wledig.
Mae’r gweithgarwch drwy'r Cynllun Datblygu Gwledig wedi bod yn helaeth, amrywiol a llwyddiannus. Mae'r digwyddiad hwn, sy'n cynnwys nifer o siaradwyr ac arddangosfeydd, yn rhoi cyfle i gydnabod a chanmol gwaith pobl.
Mae cyllid y Cynllun Datblygu Gwledig wedi cefnogi prosiect ym Mae Caswell ym Mhenrhyn Gŵyr i helpu i wneud y traeth yn fwy hygyrch, cynhwysol a chroesawgar i'r rhai ag anableddau corfforol a dysgu.
Mae'r cymorth wedi helpu i greu cyfleusterau newydd sy'n cynnwys uned hunangynhwysol, gyda theclyn codi, cawod a gwely newid a dyma'r cyfleuster Lleoedd Newid cyntaf ym Mhenrhyn Gŵyr.
Mae'r prosiect wedi gwneud gwahaniaeth i filoedd o drigolion ac ymwelwyr ag anableddau difrifol, sydd bellach â mynediad ac sy'n gallu mwynhau'r dyfroedd ym Mae Caswell a chael profiad urddasol wrth newid a golchi mewn cyfleuster sy'n addas i'r diben ac sy'n diwallu eu hanghenion a'u gofynion cymhleth.
Yn Wrecsam, cefnogodd y Cynllun Datblygu Gwledig Ymddiriedolaeth Bywyd Gwyllt Gogledd Cymru i gychwyn y prosiect 'Mae bioamrywiaeth yn golygu busnes'. Drwy ddull cydweithredol sy'n cynnwys busnesau, tirfeddianwyr, ffermwyr a grwpiau cymunedol, mae'r cynllun wedi helpu i ddiogelu a gwella ecosystemau, cynefinoedd a rhywogaethau.
Dywedodd Adrian Lloyd Jones, Rheolwr Tirweddau Byw Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru:
> Rwy'n falch iawn o wylio'r bartneriaeth unigryw rhwng agweddau diwydiannol ac ecolegol yr ardal hon yn cryfhau o ddydd i ddydd. Er bod angen sylfaen gadarn ar fusnes i dyfu, felly hefyd ecosystemau.
>
>
> Mae'r prosiect hwn, gyda busnes a chadwraeth yn gweithio gyda'i gilydd, wedi rhoi yn ôl i natur ac wedi caniatáu pob math o fywyd, boed yn ddynol, yn fflora neu'n ffawna, i elwa a ffynnu, gan wneud bywyd yn well i genedlaethau'r dyfodol.
>
>
> Ar ddechrau rhaglen y Cynllun Datblygu Gwledig, aeth Llywodraeth Cymru ati i hybu cynhyrchiant y sectorau ffermio, coedwigaeth a bwyd. Hyd yma, mae hyn wedi helpu i greu bron i 2,400 o swyddi newydd a diogelu mwy na 2,150\.
>
>
> Y nod hefyd oedd creu 34,000 o leoedd hyfforddi i feithrin arloesedd, trosglwyddo gwybodaeth, cydweithredu, arferion ffermio mwy cynaliadwy a busnesau gwledig cryfach. Mae hyn bron wedi treblu, gyda dros 90,000 o bobl wedi'u hyfforddi drwy Cyswllt Ffermio, canolfannau bwyd a chymorth i'r sector coed.
Cyn digwyddiad Dathlu Cymru Wledig, dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig Lesley Griffiths:
> Mae ein cymunedau gwledig yn chwarae rhan hanfodol ym mywyd Cymru ac mae gennym lawer i ymfalchïo ynddo.
>
>
> Mae cyllid yr Undeb Ewropeaidd wedi ein helpu i ddiogelu ac adfer miloedd o hectarau o'n cynefinoedd ac rydym hefyd yn gweld bioamrywiaeth yn ein glaswelltiroedd yn dechrau sefydlogi ac, mewn rhai ardaloedd, yn gwella.
>
>
> Ni fyddai wedi bod yn bosibl gwneud hyn i gyd a mwy heb ymrwymiad a phenderfyniad ffermwyr Cymru, tirfeddianwyr a'r gweithlu gwledig.
>
>
> Rydym yn wynebu nifer o heriau wrth i effeithiau'r penderfyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, y cytundebau masnach rydd dilynol, pandemig Covid\-19 a nawr y gwrthdaro yn yr Wcráin gael eu teimlo'n gyffredinol.
>
>
> Rydym yn ddiolchgar i'r Undeb Ewropeaidd am eu cefnogaeth, a rhaid i ni adeiladu ar ein llwyddiannau drwy'r Rhaglen Datblygu Gwledig wrth i ni ddatblygu dull Cymreig pwrpasol i ymateb i'r heriau a'r cyfleoedd sydd o'n blaenau.
>
>
> Ym mis Ebrill, cyhoeddais £227m cychwynnol dros y tair blynedd nesaf i gefnogi ein heconomi wledig. Dim ond y dechrau yw hyn a gwyddom fod angen gwneud mwy, a darperir cymorth pellach wrth i ni symud i'r Cynllun Ffermio Cynaliadwy ac adeiladu economi werdd newydd sy'n ymateb i argyfyngau natur a hinsawdd
>
>
> Mae cydweithio wedi bod yn gryfder gwirioneddol erioed ar draws ein cymunedau a'n sectorau gwledig. Bydd hyn ond yn dod yn fwyfwy pwysig wrth i ni gyflawni tuag at yr heriau a'r cyfleoedd sydd o’n blaenau.
|
This is the message from Rural Affairs Minister Lesley Griffiths ahead of a 200\-plus guest event beginning today at the Royal Welsh Showground in Builth Wells to celebrate the work of rural Wales.
For decades Wales has benefitted from support through the European Union’s Rural Development Programme (RDP). With the UK’s exit from the EU, this support is coming to an end, and the Welsh Government is now developing a truly Welsh approach to supporting the rural economy.
Activity through the RDP has been extensive, diverse and successful. This event, which includes a number of speakers and exhibitions, provides an opportunity to recognise and praise people’s work.
RDP funding has supported a project at Caswell Bay on the Gower Peninsula to help make the beach more accessible, inclusive and accommodating for those with physical and learning disabilities.
The support has helped create new facilities consist of a self\-contained unit, complete with hoist, shower and changing bed and it is the first Changing Places facility on Gower.
The project has made a difference to thousands of residents and visitors with severe disabilities, who now have access and can enjoy the waters at Caswell Bay and have a dignified experience when changing and washing in a facility which is fit for purpose and meets their complex needs and requirements.
In Wrexham, the RDP supported the North Wales Wildlife Trust to initiate the ‘Biodiversity means business’ project. Through a collaborative approach involving businesses, landowners, farmers and community groups, the scheme has helped protect and improve ecosystems, habitats and species.
Adrian Lloyd Jones, North Wales Wildlife Trust Living Landscapes Manager said:
> I am delighted to watch the unique partnership between the industrial and ecological aspects of this area strengthen day by day. While a business needs a sound foundation to grow, so does an ecosystem.
>
>
> This project, with business and conservation working together, has given back to nature and allowed all forms of life,be they human, flora or fauna, to benefit and thrive, making life better for future generations.
At the beginning of the RDP programme, the Welsh Government set out to boost the productivity of the farming, forestry and food sectors. To date, this has helped create nearly 2,400 new jobs and protect more than 2,150\.
The aim was also to create 34,000 training places to foster innovation, knowledge transfer, co\-operation, more sustainable farming practices and stronger rural businesses. This has almost tripled, with in excess of 90,000 people trained through Farming Connect, food centres and support for the timber sector.
Ahead of the Celebration of Rural Wales event, Rural Affairs Minister Lesley Griffiths said:
> Our rural communities play a vital role in Welsh life and we have a lot to be proud of.
>
>
> European Union funding has helped us protect and restore thousands of hectares of our habitats and we are also seeing biodiversity in our grasslands starting to stabilise and, in some areas, improve.
>
>
> All of this and more could not have been done without the commitment and determination of Welsh farmers, landowners, and the rural workforce.
>
>
> We face a number of challenges as the impacts of the decision to leave the European Union, the subsequent free trade agreements, the Covid\-19 pandemic and now the conflict in Ukraine are being felt across the board.
>
>
> We are grateful to the European Union for their support, and we must build on our achievements through the Rural Development Programme as we develop a bespoke Welsh approach to meet the challenges and opportunities ahead of us.
>
>
> In April, I announced an initial £227m over the next three years to support our rural economy. This is only the start and we know more needs to be done, and further support will be provided as we transition to Sustainable Farming Scheme and build a new, green economy responding to the nature and climate emergencies
>
>
> Working together has always been a real strength across our rural communities and sectors. This will only become increasingly more important as we deliver towards the challenges and opportunities ahead of us.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Yn gynharach eleni, lansiais wasanaeth newydd Cymru'n Gweithio, sy’n ffordd amlhaenog o fynd ati i gynnig cyngor ac arweiniad i bobl Cymru am yrfaoedd a swyddi.
Achubais ar y cyfle i sicrhau bod y ffordd newydd hon o weithio yn ymwreiddio ac yn datblygu’n rhan annatod o yrfaoedd a gwaith yng Nghymru, yn dod yn rhan ganolog o waith y llywodraeth wrth iddi hoelio sylw ar gyfiawnder cymdeithasol ac ar ein dymuniad i wneud yn siŵr bod gan bawb, beth bynnag eu cefndir, yr wybodaeth y mae ei hangen arnynt er mwyn dod ymlaen yn eu bywydau.
Mae wedi bod ar waith ers 6 mis erbyn hyn ac mae eisoes yn llwyddiant rhyfeddol. Mae'n darparu gwasanaethau ar y stryd fawr, mewn cymunedau ym mhob cwr o Gymru, mewn Sefydliadau Addysg Bellach a charchardai drwy ddefnyddio amrywiaeth eang o ffyrdd o ymwneud â phobl, gan gynnwys sgyrsiau ar y we, Skype, e\-bost, negeseuon testun ac, wrth gwrs, drwy gyfweliadau un i un traddodiadol. Mae'r gwasanaeth hyd yn oed wedi llwyddo i gyrraedd statws rhyngwladol drwy helpu unigolyn yn Dubai i baratoi i symud yn ôl i Gymru.
Mae'n rhaid imi ddiolch i Gyrfa Cymru, sydd wedi bod ar flaen y gad wrth gyflwyno'r ffordd newydd hon o weithio. Mewn cyfnod byr, mae eu hymgynghorwyr wedi helpu 15,008 o oedolion a 3,608 o bobl ifanc i fanteisio ar y gwasanaeth, a chanlyniad hynny yw bod 8,872 o oedolion a 2,407 o bobl ifanc wedi cael eu cyfeirio at raglenni sy'n cael eu cyllido gan Lywodraeth Cymru. Mae buddsoddiad blynyddol o £9 miliwn gan y llywodraeth yng ngwasanaeth Cymru'n Gweithio wedi caniatáu i rwydwaith o gynghorwyr a chydgysylltwyr ddarparu gwasanaeth o'r radd flaenaf er mwyn helpu pobl Cymru. Wrth inni wneud hyn, rydym yn gwneud newid go iawn a pharhaol o ran darparu gyrfaoedd a strategaethau menter o ansawdd uchel, sy’n seiliedig ar berthynas gref â chyflogwyr.
Ar ôl gweithredu yn hyn o beth, rhaid inni beidio â cholli golwg ar ein prif nod a'n prif ddiben, sef cynnig cyngor ac arweiniad ar yrfaoedd sy'n arwain yn y pen draw at gyflogaeth ystyrlon a chynaliadwy. Nid dim ond gwasanaeth sy'n sefyll ar ei ben ei hun yw Cymru'n Gweithio – hwn yw’r pwerdy sy'n gyrru'n cynlluniau i wella'r farchnad lafur a chyfiawnder cymdeithasol, yn enwedig yng ngoleuni Brexit.
Uchelgais ein Cynllun Cyflogadwyedd yw helpu pobl ledled Cymru i ddod o hyd i waith yn awr, a mynd ati ar yr un pryd i baratoi'r gweithlu ar gyfer yr heriau hirdymor sy'n ei hwynebu ar hyn o bryd, ac a fydd yn ei hwynebu yn y dyfodol. Mae'n gwneud hynny drwy osod targedau ymestynnol ar gyfer cyfnod o ddeng mlynedd.
Mewn marchnad lafur sy'n un fwyfwy byd\-eang, ni allwn gynnal y ddadl am yrfaoedd a sgiliau mewn gwagle; rhaid inni ei hystyried hefyd yng nghyd\-destun newidiadau dramatig o ran demograffeg ac yn yr economi fyd\-eang (yr ydym ni'n rhan ohoni) ac yng nghyd\-destun y newidiadau sydd i'w gweld ym marchnad lafur Cymru ar hyn o bryd.
Mae'r Ganolfan Byd Gwaith yn chwarae rôl newydd hanfodol o ran helpu pobl i fynd yn ôl i fyd gwaith. Mae'n gweithio ar sail ranbarthol ac mae'n cynnig 1,466 o rolau llawnamser (sy’n gyfystyr â rhyw 2,858 o bobl, sy'n gweithio o 59 o ganolfannau gwaith).
Er mwyn sicrhau ein bod yn cysylltu â chynifer o bobl â phosibl ar lefel ranbarthol, rydym yn sefydlu tri Grŵp Ymateb Rhanbarthol newydd. Byddant yn cynnig ymateb brys i broblemau cyflogaeth yn sgil Brexit a byddant yn ceisio cynnig sicrwydd a sefydlogrwydd yn y farchnad swyddi sydd ohoni. Bydd hyn yn helpu i leihau ansicrwydd yn economi Cymru ac i gynnal hyder yn y modd y mae Llywodraeth Cymru yn mynd i'r afael â materion sy'n ymwneud â chyflogadwyedd. Byddant yn mynd ati ym mhob rhanbarth i ddefnyddio rhaglenni a gwasanaethau sy'n bodoli eisoes i greu ysgogiadau a fydd yn rhoi hwb i alw, yn cefnogi swyddi ac yn lleihau'r risg y bydd yr economi'n arafu.
Darpariaeth yn y tymor byr yw'r Grwpiau Ymateb Rhanbarthol a byddant yn ymateb yn gyflym ac yn gweithredu’n syth yn eu lleoliadau. Ymhen amser, bydd gwaith y Fargen Ddinesig a'r Fargen Twf, y Fframweithiau Economaidd Rhanbarthol, Cynlluniau'r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol, a'r gwaith cynllunio ar Fuddsoddiad Rhanbarthol ar ôl i'r DU ymadael â'r UE, yn weithredol yn y rhan hon o'r farchnad.
Bydd system frysbennu yn parhau i gael ei defnyddio yn achos diswyddiadau ar raddfa fawr ond ni allwn ddefnyddio'r system honno i fynd i'r afael â phob achos o ddiswyddo ac o fannau dall yn yr economi, megis y rheini sy'n gysylltiedig â defnyddio gweithwyr asiantaethau, contractau dim oriau, diweithdra ymhlith graddedigion a lefelau NEET (pobl nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant). Rydym yn bwriadu adeiladu ar brofiad Tasglu Ford a mabwysiadu ei ddulliau gweithredu ef ar gyfer y Grwpiau Cyflogadwyedd Rhanbarthol newydd.
Bydd y tri grŵp cynghori yn goruchwylio gweithgareddau yn y farchnad lafur, gan ganolbwyntio ar
* *Lefelau diweithdra a'r niferoedd o bobl sy'n debygol o ddweud nad ydynt mewn addysg, cyflogaeth na hyfforddiant (NEET), ac ar hysbysiadau diswyddo.*
Mae cael cadw golwg ar yr holl feysydd hyn, a chael cyfle i'w cydlynu’n well, yn fy nghyffroi. Gan fod rhyw 64,000 o bobl yn ddi\-waith yng Nghymru ar hyn o bryd (dolen allanol) yr ymateb priodol yw gofyn sut y gallwn wneud yn well, gan weithio gyda Llywodraeth y DU, sydd â chyfrifoldeb dros gyflogaeth, i helpu'n dinasyddion i gystadlu yn y farchnad lafur sydd ohoni.
Rwy'n ymrwymedig hefyd i wneud hynny drwy weithio gyda darparwyr gwasanaethau a'u partneriaid i feithrin ac i gefnogi sefyllfa gyflogaeth gref a ffyniannus, sy'n cydnabod y cryfder y gall economi gymysg o gyflenwyr o'r trydydd sector, y sector preifat a'r sector cyhoeddus ei gynnig, i sicrhau canlyniadau gwell i bobl drwy ddefnyddio gwasanaethau cymorth cyflogaeth.
Gwn fod fy swyddogion wedi dechrau eisoes ar y broses o drefnu cyfarfodydd i ddod ynghyd â’r rheini a fydd yn rhoi cefnogaeth inni yn hyn o beth. Rydym yn gyfrifol ar y cyd â Llywodraeth y DU a phartneriaid cyflawni am sicrhau bod y farchnad lafur yn gweithio'n fwy effeithiol dros bobl Cymru.
|
Earlier this year, I launched the new Working Wales service. A multi layered approach to providing advice and guidance on careers and jobs to the people of Wales.
I took the opportunity to root this new approach into careers and work in Wales, at the heart of government’s focus on social justice and our desire to make sure that everyone, regardless of their background, has the information they need to progress in life.
It has been in operation for 6 months now and already it is an astounding success. Providing services on the high street, within communities across Wales, Further Education Institutions and prisons though a wide range of interactions including web chats, Skype, e\-mail, texts and, of course, through the traditional one to one interviews. The service has even reached international status by helping an individual in Dubai, prepare to relocate back to Wales.
I have to thank Careers Wales who have been at the forefront of this new approach. In a short space of time their advisors have helped 15,008 adults and 3,608 young people access the service which has resulted in 8,872 adults and 2,407 young people being referred to Welsh Government funded programmes. A £9 million annual government investment in Working Wales has allowed a network of advisers and coordinators to provide a first class service to support the people of Wales. In doing so we are delivering a real and lasting change in high\-quality careers and enterprise strategies, influenced by strong relationships with employers.
Having taken action in this area, we mustn’t lose sight of our primary aim and purpose, which is for careers advice and guidance to ultimately lead to meaningful, sustainable employment. Working Wales is not there as a standalone service in its own right – it’s the engine room of our plans to drive improvements in the labour market and social justice, particularly in light of Brexit.
The ambition of our Employability Plan is to support people across Wales into work today, whilst also preparing the workforce for the immediate and long\-term challenges of the future through stretching ten\-year targets.
In an increasingly globalised labour market, we cannot conduct the debate about careers and skills in a vacuum; we have to consider it also in the context of the dramatic changes in demography and in the global economy of which we are a part and changes occurring within the Welsh labour market today.
Jobcentre Plus play a crucial new role in helping people back into work and are based across a regional footprint with 1,466 full time roles in operation (this equates to around 2,858 people working out of 59 job centres).
In order to maximum our possible engagement at regional level we are establishing three new Regional Response Groups. They will serve as an emergency response to Brexit employment problems and will attempt to provide reassurance and stability within the immediate jobs market. This will help minimise uncertainty within the Welsh economy and maintain confidence in Welsh Government’s approach to employability matters. They will be deploy existing programmes and services to create a stimulus to boost demand, support jobs and reduce the risk of a slowdown in each region.
The Regional Response Groups are short term in nature and provide a rapid response and immediate action within their location. In time the work of the City and Growth Deals, Regional Economic Frameworks, Regional Skills Partnership Plans and planning for post\-EU Regional investment will operate in this part of the market.
Large scale redundancies will still be dealt with via a triage system but we cannot use this methodology to deal with all redundancy cases and blind spots within the economy such as those linked to the use of agency workers, zero hour contracts, graduate unemployment and NEET levels. We intend to build on the experience of the Ford Taskforce and use that as a modus operandi for the new Regional Employability Groups.
The three advisory groups will provide an oversight of labour market activities focusing on:
* *Unemployment levels \& numbers of people likely to report as Not in Education Employment or Training (NEET) and Redundancy notifications.*
I am excited to have oversight of all of these areas and the chance to bring a greater coherence to them. With around 64,000 people currently unemployed in Wales (external link), the right response is to ask how we can raise our game, working with the UK Government who has responsibility for employment, to help our citizens to compete in today’s labour market
I am also committed to doing that by working with service providers and their partners to nurture and support a strong and vibrant employability landscape that recognises the strength that a mixed economy of third, private and public sector suppliers offers to deliver better outcomes for people using employment support services.
I know my officials have already started the process of establishing meetings to mobilise our support. We share responsibility with UK Government and delivery partners to make the labour market work more effectively for the people of Wales.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Dywedodd y Dirprwy Weinidog, Julie Morgan:
> Bob blwyddyn ar y diwrnod hwn, rydyn ni’n nodi Diwrnod Hawliau Gofalwyr a’n hymrwymiad i sicrhau bod gofalwyr di\-dâl yn cael y gydnabyddiaeth a’r cymorth y maen nhw’n eu haeddu.
>
>
> Mae gofalwyr di\-dâl yn chwarae rôl hanfodol drwy ofalu am aelodau o’u teuluoedd, cymdogion, ac eraill yn ein cymunedau sydd ag angen gofal a chefnogaeth ychwanegol.
>
>
> Maen nhw wedi ymroi i gefnogi’r rheini y maen nhw’n eu caru drwy ofalu amdanynt, a rhaid sicrhau eu bod nhw yn eu tro yn gallu cael y cymorth angenrheidiol, ar yr amser iawn, er mwyn helpu i gefnogi eu llesiant a’u helpu i gydbwyso’r galwadau dyddiol yn eu bywydau.
>
>
> Mae dros 370,000 o ofalwyr di\-dâl yng Nghymru sy’n rhoi cymorth a gofal i berthynas neu gyfaill sydd â salwch neu anabledd, neu os oes angen rhagor o gymorth arnyn nhw gan eu bod yn mynd yn hŷn.
>
>
> Mae gofalwyr di\-dâl yn aml yn gorfod cydbwyso eu rôl ofalu ag addysg, hyfforddiant, neu waith, neu efallai eu bod wedi ymddeol ac ag anableddau neu gyflyrau iechyd eu hunain.
>
>
> Un o brif flaenoriaethau Llywodraeth Cymru yw gwella’r cymorth sydd ar gael i ofalwyr di\-dâl o bob oed, gan sicrhau eu bod yn cael mwy o gyfleoedd i ddiwallu eu hanghenion eu hunain.
>
> Mae’r Cynllun Seibiant Byr yn galluogi gofalwyr di\-dâl yng Nghymru i fwynhau cyfnodau i ffwrdd oddi wrth eu rôl ofalu – er mwyn helpu i wella eu llesiant meddyliol a chorfforol.
>
>
> Ers 2022, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi £6m yn y cynllun, a fydd yn galluogi 30,000 o ofalwyr ychwanegol i gael seibiant i ymlacio, cymdeithasu, neu wneud gweithgareddau sydd o ddiddordeb iddynt.
Cyfarfu’r Dirprwy Weinidog â gofalwyr di\-dâl yn Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru er mwyn clywed am eu profiadau o ddefnyddio’r Cynllun Seibiant Byr.
Dywedodd gofalwr di\-dâl a fanteisiodd ar y cyfle i gael seibiant byr drwy weithgarwch grŵp:
> Ar ôl ein trip diwrnod, roeddwn i’n teimlo’n llai ar fy mhen fy hun, ac roeddwn i’n teimlo hefyd mod i’n rhan o grŵp o gyd ofalwyr a oedd yn deall y pwysau sydd arnom i gyd fel gofalwyr.
>
>
> Mae hyn wedi fy helpu i ddeall mwy am y pwysau hyn, a bod yn fwy ymwybodol ohonyn nhw, a hefyd i ddeall y cymorth sydd ar gael i fy helpu i barhau i ofalu yn y dyfodol.
>
>
> Weithiau rydych chi angen seibiant dim ond er mwyn ichi allu gweld y ffordd ymlaen. Rydyn ni wedi sefydlu grŵp sgwrsio i gadw mewn cysylltiad, a chefnogi ein gilydd yn y dyfodol.
Dywedodd Liz Wallis, Arweinydd Rhaglen Seibiant Byr Cymru:
> Mae’r Cynllun Seibiant Byr Cenedlaethol eisoes wedi rhoi cymorth hanfodol i filoedd o ofalwyr di\-dâl ledled Cymru. Diolch i gyllid Llywodraeth Cymru, mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi gallu gweithio’n gyflym gyda sefydliadau trydydd sector ym mhob ardal yng Nghymru i greu mwy o gyfleoedd sy’n canolbwyntio ar yr unigolyn sydd am gael seibiant rhag ei rôl ofalu ddyddiol.
>
>
> Mae’n wych clywed bod Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi yn y cynllun trawsnewidiol hwn sy’n gam cyntaf hanfodol tuag at sicrhau bod gofalwyr di\-dâl yn gallu cael y cyfle y maen nhw’n ei haeddu i orffwys ac ymlacio, ac i fwynhau eu hunain.
>
>
> Mae’r rhaglen seibiant byr yn gallu cynnig budd amhrisiadwy, nid yn unig oherwydd yr hwb y mae seibiant byr yn ei roi i iechyd a llesiant gofalwyr di\-dâl a’u gallu i gynnal eu rôl ofalu, ond hefyd oherwydd ei neges bwysig bod gofalwyr di\-dâl yng Nghymru yn cael eu cydnabod a’u gwerthfawrogi, a bod eu hangen am gefnogaeth yn flaenoriaeth.
>
>
> Mae’r Ymddiriedolaeth Gofalwyr wedi ymrwymo i weithio gyda Llywodraeth Cymru a phartneriaid eraill i roi cynlluniau uchelgeisiol ar waith i alluogi hyd yn oed mwy o ofalwyr i fanteisio ar seibiannau buddiol a gwerth chweil.
Mae’r Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gyfer 2022\-2024 hefyd wedi galluogi 24,000 o ofalwyr di\-dâl sydd ar incwm isel i brynu nwyddau sylfaenol hanfodol, neu i gael gwybodaeth a chyngor i’w helpu i reoli eu rôl ofalu.
|
Deputy Minister, Julie Morgan said:
> On this day, every year, we mark Carers Rights Day and our commitment to ensure unpaid carers receive the recognition and support they deserve.
>
>
> Unpaid carers play a vital role in caring for family members, neighbours, and others in our communities who need additional care and support.
>
>
> They are dedicated to supporting those they love and care for – ensuring they, in turn, are able to access the support they need, at the right time, helps to support their wellbeing and balances the daily demands of their lives.
>
>
> There are more than 370,000 unpaid carers in Wales, who provide help and care for a relative or a friend with an illness, disability or who need additional help as they grow older.
>
>
> Unpaid carers are often balancing their caring role with education, training, or employment. Or they may be retired and could have disabilities or health conditions of their own.
>
>
> A key priority of the Welsh government is to improve support for unpaid carers of all ages and ensure they have more opportunities to meet their own needs.
>
>
> The ‘Short Breaks Scheme’ enables unpaid carers in Wales to enjoy periods away from their caring role – to help boost their mental and physical wellbeing.
>
>
> Since 2022, £6m has been invested into the scheme by the Welsh Government, which will enable an additional 30,000 carers to take a break to relax, socialise, or do activities that they have an interest in.
The Deputy Minister met with unpaid carers at Carers Trust Wales and heard about their personal experience of the Short Breaks Scheme.
An unpaid carer who accessed a short break through a group activity said:
> After our day trip, I felt less isolated, and I also felt that I belonged to a group of fellow carers who understood the pressures of caring.
>
>
> This has helped me to understand and appreciate the pressure of caring and that help is there if needed to enable me to continue my caring role in the future.
>
>
> Sometimes you just need a break to be able to see the way ahead. We have even set up a group chat to keep in contact and support each other in the days to come.
Liz Wallis, Programme Lead for Short Breaks Wales said:
> The National Short Breaks Scheme has already been a lifeline for thousands of unpaid carers across Wales. Thanks to Welsh Government funding, Carers Trust has been able to work at pace with third sector organisations in all areas of Wales to create more person\-centred opportunities for carers to take a break from their daily caring role.
>
>
> We are delighted that Welsh Government has invested in this transformational scheme which is an essential first step towards ensuring unpaid carers can get the rest, relaxation and fulfilment they need and deserve.
>
>
> The value of the short breaks programme is immeasurable not only because of the positive impact a short break has on unpaid carers’ health, wellbeing and ability to sustain their caring role but also the important message it conveys that unpaid carers in Wales are recognised, valued and a priority for support.
>
>
> Carers Trust is committed to working with Welsh Government and other partners to put ambitious plans in place to enable even more carers to access meaningful and fulfilling breaks.
The Carers Support Fund for 2022\-2024, has also enabled 24,000 unpaid carers on low incomes to buy basic essential items or access information and advice to manage their caring role.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Yn y cam datblygu diweddaraf, mae Prif Weinidog y DU wedi cyhoeddi’r cylch gorchwyl drafft ar gyfer yr ymchwiliad cyhoeddus i COVID\-19 (dolen allanol). Daw hyn yn dilyn cyfnod o ymgynghori gyda Llywodraeth Cymru a’r llywodraethau datganoledig eraill am y cylch gorchwyl cyn ei gyhoeddi.
Cyn iddo gael ei gyhoeddi, mae Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno sylwadau ar y cyd i Brif Weinidog y DU i sicrhau y bydd profiadau pobl Cymru’n cael eu hystyried yn briodol ac yn drylwyr yn yr ymchwiliad ac y bydd tîm yr ymchwiliad yn craffu’n briodol ar y penderfyniadau a wnaed gan Lywodraeth Cymru a’r gwasanaethau cyhoeddus eraill yng Nghymru.
Rwyf wedi cyfarfod â chynrychiolwyr o’r grŵp *Covid\-19 Bereaved Families for Justice* (Cymru) i drafod yr ymchwiliad a’r cylch gorchwyl. Adlewyrchwyd eu profiadau a’u sylwadau yn uniongyrchol yn ein sylwadau i Brif Weinidog y DU ar y cylch gorchwyl.
Bydd cyfnod o ymgynghori ar y cylch gorchwyl, o dan arweinyddiaeth Cadeirydd yr Ymchwiliad, y Farwnes Heather Hallett, yn dechrau maes o law. Hoffwn annog pawb i gymryd rhan yn y broses hon drwy roi eu hadborth.
Bydd Llywodraeth Cymru yn ymateb ymhellach i’r cyfnod cyhoeddus diweddaraf hwn o’r ymgynghoriad i sicrhau bod profiadau pobl Cymru yn cael eu clywed yn briodol gan yr ymchwiliad.
|
In the latest stage in its development, the Prime Minister has published the draft terms of reference for the Covid\-19 public inquiry (external link), following a period in which the Welsh Government, together with the other devolved governments have been consulted about the terms of reference before their publication.
In advance of their publication, the Welsh Government has made concerted representations to the Prime Minister to ensure the experiences of people in Wales will be properly and thoroughly reflected in the inquiry and that the decisions made by the Welsh Government and other Welsh public services are properly scrutinised by the inquiry team.
I have met representatives from the Covid\-19 Bereaved Families for Justice (Cymru) group to discuss the inquiry and terms of reference. Their experiences and comments were also directly reflected in our representations to the Prime Minister about the terms of reference.
A period of consultation on the terms of reference, which will be led by the chair of the inquiry, Baroness Heather Hallett, will begin shortly. I would encourage everyone to take part in this process and provide their feedback.
The Welsh Government will further respond to this latest public phase of consultation to ensure the experiences of people in Wales are properly heard by the inquiry.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Families will not be required to actively seek the funding or make a claim. Instead, a one off payment will be offered by the Registrar when the death is registered.
Julie James said:
> We want to offer families practical, compassionate support at an unimaginably difficult time. Local government will take the lead on delivering the additional support to families and we have worked closely in partnership with them to develop an approach that is easy to access and will provide the support when they need it.
>
>
> No parent wants to think about having to plan their child’s funeral. We have worked with local authorities so this process is as seamless as possible for families.
The additional financial support for funerals is part of a wider package for families who have lost a child, which includes the development of national bereavement standards and a new £1m grant to help address the gaps in bereavement service provision across Wales.
Since 2017, Welsh Government has worked with local government and One Voice Wales, which represents town and community councils in Wales, to waive child burial and cremations fees.
Councillor Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), WLGA Leader said:
> Losing a child is an unimaginable experience and a trauma that will forever stay with grieving families. We’ve been pleased to work in partnership with Welsh Government to ensure that there is fairness and consistency in this regard in all areas of Wales. Extending this support means that we’ll be able to continue to support families when they need it most.
Rhian Mannings MBE is the founder and Chief Executive Officer of 2 Wish Upon A Star, a charity supporting people affected by sudden death in children and adults.
She said:
> Nobody should ever have to experience the death of their child. It goes against the pattern of life and leaves unimaginable pain and grief. That pain and devastation is often compounded by the financial burden of paying funeral costs which can amount to thousands of pounds. Planning the funeral is a difficult process. Parents making choices about their final goodbyes is another part of the grieving process but knowing there is funding available to help towards the costs of funerals would be appreciated by so many.
>
>
> When I lost my son and husband in 2012 we were fortunate to have extended family around us to help pay for the funeral and the undertaker was extremely generous as he waived Georgie’s funeral costs.
|
Ni fydd yn rhaid i deuluoedd fynd ati i ofyn am y cyllid na gwneud cais. Yn hytrach, bydd y Cofrestrydd yn ei gynnig fel un taliad pan gaiff y farwolaeth ei chofrestru.
Dywedodd Julie James:
> Rydyn ni am gynnig cymorth ymarferol, tosturiol i deuluoedd ar adeg aruthrol o anodd. Bydd llywodraeth leol yn cymryd yr awenau o ran darparu’r cymorth ychwanegol i deuluoedd, ac rydyn ni wedi gweithio’n agos mewn partneriaeth â nhw i ddatblygu ffordd hawdd o gael gafael ar y cyllid, bydd yn darparu cymorth iddynt pan fo’i angen.
>
>
> Does dim un rhiant eisiau meddwl am orfod trefnu angladd ei blentyn. Rydyn ni wedi gweithio gydag awdurdodau lleol fel bod y broses hon mor syml â phosibl i deuluoedd.
Mae’r cymorth ariannol ychwanegol hwn ar gyfer angladdau yn rhan o becyn ehangach i deuluoedd sydd wedi colli plentyn, sy’n cynnwys datblygu safonau cenedlaethol ar gyfer profedigaeth a grant newydd gwerth £1m i helpu i fynd i’r afael â’r bylchau mewn darpariaeth gwasanaethau profedigaeth ledled Cymru.
Ers 2017, mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda llywodraeth leol ac Un Llais Cymru, sy’n cynrychioli cynghorau cymuned a thref yng Nghymru, i hepgor ffioedd claddu ac amlosgi plant.
Dywedodd y Cynghorydd Andrew Morgan (Rhondda Cynon Taf), Arweinydd CLlLC:
> Mae colli plentyn yn brofiad ac yn drawma y tu hwnt i ddychymyg a fydd yn aros gyda theuluoedd sy’n galaru am byth. Rydyn ni wedi bod yn falch o gael gweithio mewn partneriaeth gyda Llywodraeth Cymru i sicrhau bod tegwch a chysondeb yn hyn o beth ym mhob ardal yng Nghymru. Drwy ymestyn y cymorth hwn, byddwn yn gallu parhau i roi cymorth i deuluoedd pan fo’i angen fwyaf arnynt.
Rhian Mannings MBE yw sefydlydd a Phrif Swyddog Gweithredol *2 Wish Upon A Star*, sef elusen sy’n cefnogi pobl sydd wedi’u heffeithio gan farwolaeth sydyn blentyn neu oedolyn.
Dywedodd:
> Ni ddylai neb orfod claddu ei blentyn. Mae’n mynd yn groes i drefn bywyd, ac yn gadael poen a galar aruthrol. Ar ben y boen a’r tor\-calon hwnnw, yn aml mae’r baich ariannol o dalu costau’r angladd, all fod yn filoedd o bunnoedd. Mae trefnu’r angladd yn broses anodd. Mae gwneud dewisiadau am eu ffarwel olaf yn rhan arall o broses alaru’r rhieni, ond byddai nifer yn gwerthfawrogi cael gwybod bod cyllid ar gael i helpu tuag at gostau angladdau.
>
>
> Pan gollais fy mab a fy ngŵr yn 2012, roedden ni’n ffodus o gael teulu estynedig o’n hamgylch i helpu i dalu am yr angladd, ac roedd yr ymgymerwr yn hael dros ben, wrth iddo hepgor costau angladd Georgie.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Cafodd Dyfodol ein gorffennol: Ymgynghoriad ar gynigion ar gyfer amgylchedd hanesyddol Cymru ei gyhoeddi ar 18 Gorffennaf 2013, a daeth y cyfnod ymgynghori 12 wythnos i ben ar 11 Hydref 2013\. Heddiw, rwy’n cyhoeddi adroddiad cryno ar yr ymatebion i’r ymgynghoriad, ac amgaeaf gopi er gwybodaeth i Aelodau’r Cynulliad. Cyhoeddir yr adroddiad ochr yn ochr â’r ymatebion ar dudalen ymgynghori gwefan Llywodraeth Cymru yn nes ymlaen heddiw.
Cafwyd ymateb rhagorol i’r ymgynghoriad, gyda 177 o ymatebion ysgrifenedig yn dod i law. Roedd llawer ohonynt yn cynnwys sylwadau treiddgar a manwl sy’n dangos yn glir pa mor bwysig yw’r amgylchedd hanesyddol i bobl Cymru. Hefyd cynhaliwyd nifer o ddigwyddiadau ar gyfer pobl ifanc a rhanddeiliaid allweddol, yn eu plith pedwar digwyddiad ymgynghori ar gyfer myfyrwyr chweched dosbarth Bagloriaeth Cymru, gyda 187 o ddisgyblion o wyth ysgol yn y Gogledd ac yn y De yn cymryd rhan. Drwy weithgareddau ymarferol, cafodd y bobl ifanc hyn eu hannog i ystyried pwysigrwydd yr amgylchedd hanesyddol ac i edrych ar nifer o faterion sy’n ganolog i’r gwaith o’i reoli mewn modd cynaliadwy. Hefyd, yn ystod y cyfnod ymgynghori, cynhaliwyd dau weithdy ar gyfer rhanddeiliaid allweddol, un ohonynt yn edrych yn fanwl ar ddyfodol y trydydd sector yng Nghymru, a’r llall yn edrych ar y cynigion ar gyfer dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Cadw. Yn ogystal â’r rhain, cafodd cyflwyniadau a thrafodaethau eu cynnal mewn fforymau cynllunio allweddol.
Roedd y ddogfen ymgynghori, a seiliwyd ar y gwaith ymgysylltu eang a wnaed yn 2012, yn cynnwys amrywiaeth fawr o gynigion ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol. Bydd canlyniadau’r ymgynghoriad, ynghyd ag ymchwil a gwaith datblygu polisi ychwanegol, yn cael eu defnyddio i nodi’r dulliau mwyaf priodol ar gyfer gweithredu’r cynigion hynny. Mewn rhai achosion, bydd angen cyflwyno newidiadau i’r ddeddfwriaeth, ond mewn achosion eraill, llunio canllawiau a chamau ymyrryd eraill fydd fwyaf priodol.
Gan mwyaf, roedd yr ymatebion i’r ymgynghoriad yn cadarnhau ein bod ar y trywydd iawn gyda’n dulliau gweithredu o ran sicrhau bod ein hamgylchedd hanesyddol yn cael ei ddiogelu a’i fod ar gael i bawb fanteisio arno. Dywedodd llawer o bobl y bydd y cynigion o gymorth i’w reoli mewn modd cynaliadwy ymhell i’r dyfodol. Hefyd, mae’n glir o ddarllen llawer o’r ymatebion y bydd y canllawiau gwell sydd wrthi’n cael eu datblygu ar gyfer rheoli’r amgylchedd hanesyddol mewn modd cynaliadwy, yr un mor bwysig â’r newidiadau arfaethedig i’r ddeddfwriaeth.
Y cynigion y cafwyd y gwahaniaeth barn mwyaf yn eu cylch oedd y rheini a oedd yn ymwneud â’r ffordd orau o ddarparu gwasanaethau’r amgylchedd hanesyddol ar lefel genedlaethol a dyfodol Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru a Cadw. Nid oedd unrhyw gonsensws clir ynglŷn â’r cynigion hyn, a byddaf yn gwneud datganiad yn y cyfarfod llawn yfory, 14 Ionawr 2014, ynghylch y camau y gellid eu cymryd.
Edrychaf ymlaen at ddatblygu’r cynigion sydd yn y ddogfen ymgynghori yn ystod y flwyddyn nesaf, cyn cyflwyno deddfwriaeth ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol gerbron y Cynulliad Cenedlaethol yn 2015\.
|
*The future of our past: A consultation on proposals for the historic environment of Wales*, was published on 18 July 2013 and the 12\-week consultation period ended on 11 October 2013\. Today, I am publishing a summary report on the consultation responses, and I attach a copy for the information of Assembly Members. The report will be published alongside the responses on the consultation page of the Welsh Government’s website later today.
There was an excellent response to the consultation, with 177 written responses received. Many contained detailed and insightful comments that clearly reflect the importance of the historic environment to the people of Wales. In addition, a number of events were held with young people and key stakeholders. Four consultation events for sixth\-form Welsh Baccalaureate students were held and 187 pupils from eight schools in north and south Wales took part. The young people were encouraged to consider the importance of the historic environment and to engage with some of the central issues relating to its sustainable management through activity\-based exercises. Two workshops were also held with key stakeholders during the consultation period. One looked in more detail at the future of the third sector in Wales, while the other considered the proposals for the future of the Royal Commission on the Ancient and Historical Monuments of Wales and Cadw. Presentations and discussions were also held at key planning fora.
The consultation document, which was informed by the extensive engagement undertaken in 2012, included a wide range of proposals for the historic environment. The consultation results, along with further research and policy development work, are being used to identify the most appropriate means to deliver those proposals. In some instances, changes to legislation will be needed, while, in others, guidance and other policy interventions will be more appropriate.
In most cases, the consultation confirmed our approach to delivering a well\-protected and accessible historic environment, and many commented that the proposals will have a positive impact on its sustainable management well into the future. It is also clear from the responses that, for many, the improved guidance that is being developed to support the sustainable management of the historic environment will be as important as the proposed changes to legislation.
The most contentious proposals in the consultation document were those relating to the most effective way of delivering historic environment services at the national level and the future of the Royal Commission on the Ancient and Historical Monument of Wales and Cadw. There was no clear consensus. I shall be making a statement in plenary tomorrow, 14 January 2014, on a way forward.
I look forward to developing the proposals contained in the consultation document over the next year, prior to introducing legislation on the historic environment to the National Assembly in 2015\.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Yn dilyn negodiadau ar y cytundeb optometreg a gynhaliwyd yn ddiweddar rhwng Llywodraeth Cymru, GIG Cymru ac Optometreg Cymru, rwyf yn falch o gadarnhau fy mod wedi cytuno ar wasanaethau optometreg ychwanegol.
Cytunais ar y contract optometreg newydd a'r costau ariannol cysylltiedig y llynedd (Medi 2022\). Bydd gwasanaethau optometreg yn newid yn sylweddol yn sgil y contract hwn. Mae'r newid hwn yn cyd\-fynd â'r ymrwymiadau a nodir yn y *Dull Gweithredu ar gyfer Gwasanaethau Optometreg yn y Dyfodol*, ac mae'n seiliedig ar yr egwyddorion allweddol ar gyfer gofal iechyd darbodus, ac yn cyd\-fynd â'r Model Gofal Sylfaenol a'r cyfeiriad strategol a nodir yn y *Rhaglen Lywodraethu.*
Fel rhan o'r ymgynghoriad a gynhaliwyd yn ddiweddar ar ddiwygio'r contract optometreg, gofynnwyd am farn pobl ar y cynigion i ehangu'r gwasanaethau a ddarperir gan bractisau optometreg gofal sylfaenol ac i lansio'r contract optometreg newydd. Gan ystyried y safbwyntiau a gyflwynwyd, cytunwyd ar ddau ffi ychwanegol ar gyfer y gwasanaeth yn y cartref a thaleb ychwanegol i blant yn ystod cyfnodau pan fydd eu golwg yn datblygu. Trafodwyd meysydd polisi pellach a chytunwyd arnynt. Caiff y meysydd hyn eu datblygu dros y misoedd nesaf.
Bydd y gwasanaethau ychwanegol yn ehangu'r gwasanaethau clinigol a ddarperir gan optometryddion, ar y cyd ag adrannau llygaid mewn ysbytai. Drwy hyn, rhoddir sicrwydd i GIG Cymru y bydd y ddarpariaeth yn deg, yn gyson ac yn amserol i ddinasyddion ym mhob cwr o Gymru.
Rydym wedi bwrw ymlaen ar fyrder â'r gwaith o ddiwygio'r contract optometreg dros y 12 mis diwethaf, drwy ddeialog gadarn, trafodaethau a chydweithio â GIG Cymru ac Optometreg Cymru. Drwy hyn sicrhawyd ein bod yn cyflawni'r canlyniadau gorau i'r holl randdeiliaid yn ystod y negodiadau.
Bydd y gwasanaethau optometreg ychwanegol hyn yn rhoi cyfle i optometryddion cymunedol weithio hyd eithaf eu trwydded ac yn sicrhau bod Cymru'n parhau i fod ar flaen y gad yn y DU, gan arwain y gwaith o ddiwygio gwasanaethau mewn modd clinigol, o safbwynt sy'n canolbwyntio ar y claf. Y nod yw gwneud Cymru y wlad gyntaf yn y DU i uwchsgilio'r proffesiwn yn llawn er mwyn ymroi'n llwyr i'r syniad o ddarparu gwasanaethau clinigol yn y sector optometreg gofal sylfaenol.
|
Following recent optometry contract negotiations between the Welsh Government, NHS Wales and Optometry Wales, I am pleased to confirm I have agreed additional optometry services.
Last year (September 2022\) I agreed the new optometry contract and associated financial costs. This represents a significant reform of optometry services, aligned to the commitments set out in the *Future Approach for Optometry Services,* founded on the key principles of prudent healthcare, and aligned to the Primary Care Model and the strategic direction set in Programme for Government*.*
The recent consultation on optometry contract reform sought views on the proposals to expand the services delivered by primary care optometry practices and launch the new optometry contract. Taking account of these views, two additional fees for the domiciliary service and additional voucher for children during development periods for vision was agreed. Further policy areas were discussed and agreed which will be developed over the coming months.
The additional services will enhance the clinical services delivered by optometrists, working together with hospital eye departments and will provide NHS Wales with assurance, delivery will be equitable, consistent, and timely for citizens across Wales.
We have moved forward at pace with optometry contract reform over the last 12 months, through robust dialogue, discussion and collaborative working with NHS Wales and Optometry Wales. This has ensured we reached the best outcomes for all stakeholders during negotiations.
These additional optometry services will enable community optometrists to work at the top of their licence and ensure Wales remains at the cutting edge of the UK, leading reform clinically from a patient centred perspective, and being the first UK nation to upskill the profession fully to embrace the delivery of clinical services in primary care optometry.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Blaengwrach Primary, located in Neath\-Port Talbot, was one of two Welsh schools that saw 100% of their pupils take part in a UK\-wide home recycling challenge during the summer holidays.
Developed by Recycle for Wales and Wastebuster, the Home Recycling Challenge aimed to educate pupils about what can be recycled in their homes and the benefits of recycling.
The challenge was figure\-headed by Welsh TV presenter Gethin Jones and children’s TV presenter Maddie Moate along with recycling expert Captain Busta, Wastebuster’s popular mascot. Pupils were given a take\-home worksheet to find out what can be recycled from around the home by using the Recycling Locator and schools were ranked by the percentage of pupils that returned the completed worksheet.
In total, 59 Welsh schools registered to undertake activity. The winning school was selected at random from the twelve schools across the UK that had 100 per cent of their pupils submit worksheets.
The Minister said:
> "Wales leads the rest of the UK with a 64% recycling rate and it’s fantastic to see young people demonstrate so much enthusiasm towards recycling. If we are going to achieve our ambition of a 70% recycling rate by 2025 it is vital our future generations are on board.
>
> “Congratulations to the pupils of Blaengwrach Primary School for taking part in the home recycling challenge and for becoming the recycling expert in their home. They have certainly earned the title of “super\-recyclers”. I hope all of our Welsh participants found this an exciting challenge.”
Mrs Sam Sharp, Headteacher of Blaengwrach Primary added:
> “Ensuring pupils are aware of the part they can play in recycling and sustainability is very important. We have a very proactive eco committee that monitors our waste, our meter readings and supports initiatives to inform the local community as well as the pupils of the importance of being eco friendly. We’re very proud of the work they do and the strength of pupil voice in the school."
Carl Nichols, Head of WRAP Cymru, said:
> “It’s fantastic to see the Minister supporting Recycle for Wales’ Home Recycling Challenge. Wales ranks third in the world at recycling, with more and more of us recycling in the country – and we’d like to be top of the leader board! By engaging school children with recycling, they can in turn inspire their families and help them to understand how best to recycle at home.”
|
Ysgol Gynradd Blaengwrach, ger Castell\-nedd Port Talbot, oedd un o ddwy ysgol yng Nghymru ble y cymerodd pob disgybl ran mewn her ailgylchu ledled Prydain yn ystod gwyliau’r haf.
Wedi’i drefnu gan Ailgylchu dros Gymru a Wastebuster, bwriad yr Her Ailgylchu yn y Cartref oedd addysgu disgyblion am yr hyn y gellid eu hailgylchu yn eu cartrefi a manteision ailgylchu.
Cafodd yr her ei arwain gan Gethin Jones, y cyflwynydd teledu o Gymru, a’r cyflwynydd teledu plant, Maddie Moate, yn ogystal â’r arbenigwr ailgylchu Capten Busta, masgot poblogaidd Wastebuster. Roedd y disgyblion yn derbyn taflen waith i fynd gartref i ddod i wybod beth y gellid ei ailgylchu yn y cartref, a’r ysgolion yn cael eu rancio yn ôl canran y disgyblion oedd yn dychwelyd y daflen waith wedi’i chwblhau.
Roedd 59 o ysgolion o Gymru wedi cofrestru i gynnal gweithgarwch, a’r ysgol fuddugol wedi’i dewis ar hap o bob ysgol ble y dychwelodd 100 y cant o’u disgyblion daflenni gwaith.
Meddai’r Gweinidog:
> ”Mae Cymru yn arwain gweddill y DU gyda chyfradd ailgylchu o 64%, ac mae’n wych gweld pobl ifanc yn dangos cymaint o frwdfrydedd tuag at ailgylchu. Os ydym i gyflawni ein huchelgais o gyfradd ailgylchu o 70% erbyn 2025, yna mae’n hanfodol bod cenedlaethau’r dyfodol yn rhan o hyn.
>
> “Llongyfarchiadau i’r o ddisgyblion o Ysgol Gynradd Blaengwrach am gymeryd rhan yn yr her ailgylchu yn y cartref ac am ddod yn arbenigwyr ailgylchu yn eu cartrefi. Maent yn bendant wedi ennill y teitl “ailgylchwr gwych”. Rwy’n gobeithio bod pob disgybl yng Nghymru a gymerodd ran wedi mwynhau yr her gyffrous hon.”
Meddai Mrs Sam Sharp, Pennaeth Ysgol Gynradd Blaengwrach:
> “Mae sicrhau bod disgyblion yn ymwybodol o’r rhan y gallant ei chwarae ym maes ailgylchu a chynaliadwyedd yn bwysig iawn. Mae gennym pwyllgor eco proactif iawn sy’n monitro ein gwastraff, ein mesuryddion ac sy’n cefnogi mentrau i lywio’r gymuned leol yn ogystal â’r disgyblion, o bwysigrwydd bod yn ecogyfeillgar. Rydym yn falch iawn o’r gwaith y maent yn ei wneud a pha mor gryf yw llais y disgybl yn yr ysgolion."
Dywedodd Carl Nichols, Pennaeth WRAP Cymru:
> “Mae’n hyfryd cael gweld y Gweinidog yn cefnogi ymgyrch Ailgylchu dros Gymru: Her Ailgylchu yn y Cartref. Dim ond dwy wlad arall sy’n well na Chymru o ran ailgylchu a chan fod mwy a mwy o bobl Cymru’n ailgylchu, hoffwn ni weld ein gwlad ni’n mynd i frig y tabl! Os gallwn ni ennyn diddordeb plant ysgol mewn ailgylchu, byddan nhw wedyn yn ysbrydoli eu teuluoedd i ailgylchu ac yn eu helpu i ddeall y ffyrdd gorau o ailgylchu yn y cartref."
|
Translate the text from English to Welsh. |
In February 2013, Assembly Members were updated on the further progress Anglesey County Council was making under the stewardship of Commissioners.
You will all be well aware of the serious problems which beset Anglesey County Council which led to my predecessor Carl Sargeant AM, taking the unprecedented decision to remove all the Council’s powers and appoint a team of five Commissioners to run the Council on his behalf. Under the stewardship of Commissioners, the Council has made progress.
In October 2012, my predecessor issued the Council with a less stringent direction meaning Commissioners reduced their presence in the Council and Councillors resumed day to day control. Since that time the Council continued to perform well.
In March, the Council approved a budget for 2013\-14 and approached the serious challenges this presented at least as maturely as any other Local Authority. They became the first Local Authority in North Wales and only the second overall, to achieve the Welsh Housing Quality Standard. The Council recently secured highly commended for the Management Consulting Association’s Public Sector Change Management Project of the year. These are significant achievements for a Council which was so damaged only four years ago.
Following boundary changes resulting in the reduction of Councillors from 40 to 30, my predecessor agreed to delay the Council’s election for a year.
The election took place on 2 May 2013\. Each seat was well\-contested, with 106 candidates standing for 30 seats. The 50\.5% turnout was higher than any other election which took place in the UK the same day.
The election results left no party or group with an overall majority, leading to negotiations between the various groups. The negotiations have proceeded well and maturely and I am confident they will yield the stable administration the Council needs. The first step is for the Council to elect a Leader at its Annual General Meeting this afternoon.
Who runs the Council is not a matter for me. What is vital, however, is that a stable and effective administration follows.
Today the Council will have a new Leader marking a fresh start. It is now the job of the new cohort of Councillors to build on the progress achieved by their predecessors under the Commissioners’ stewardship. This has given the Council an opportunity to become an exemplar within the Local Government family.
The Council is showing green shoots of recovery and we hope they will be able to convert this promise and show they are capable of delivering a sustainable recovery and continuing improvement. Given the level of progress the Council made and continues to make, I am satisfied the Council is now able to manage its own affairs. The Commissioners and the Auditor General for Wales share this view.
My Ministerial intervention will, therefore, formally end when the current direction expires on 31 May.
To ensure sustained progress beyond the end of May, my officials are currently in discussions with the Council, Commissioners and the Welsh Local Government Association to determine the level of support which should be given. I will pay very close attention on the Council’s progress over the coming months. In addition, the Education Recovery Board established by the Minister for Education \& Skills will continue its work, supporting the Council to address the serious short\-comings that exist in Anglesey’s education services.
However, this should not detract from the Council’s overall progress. Recovering from a situation where it was more broken than any Local Authority in the United Kingdom has ever been, in just over two years, is a fantastic achievement. It is a testament to all those involved in the turnaround: Council Officers and Members, Commissioners and, of course, my predecessor, Carl Sargeant. It also demonstrates our ability to solve even the most difficult problems of public service delivery if we work together towards a common goal. It is a lesson we can and must apply elsewhere.
|
Ym mis Chwefror 2013, cafodd Aelodau’r Cynulliad wybod am y cynnydd pellach yr oedd Cyngor Sir Ynys Môn wedi’i wneud o dan arweiniad Comisiynwyr.
Fe wyddoch i gyd am y problemau a ddaeth i ran Cyngor Sir Ynys Môn ac a arweiniodd at benderfyniad digynsail fy rhagflaenydd, Carl Sargeant AC, i dynnu holl bwerau’r Cyngor yn ôl a phenodi tîm o bum Comisiynydd i redeg y Cyngor ar ei ran. O dan arweiniad y Comisiynwyr, mae’r Cyngor wedi gwneud cynnydd.
Ym mis Hydref 2012, rhoddodd fy rhagflaenydd gyfarwyddyd llai llym i’r Cyngor. Roedd hyn yn golygu llai o bresenoldeb i’r Comisiynwyr yn y Cyngor, gyda’r Cynghorwyr yn ailgydio mewn rheolaeth o ddydd i ddydd. Daliodd y Cyngor ati i wneud yn dda.
Ym mis Mawrth, cymeradwyodd y Cyngor ei gyllideb ar gyfer 2013\-14 ac fe aeth i’r afael â’r heriau a oedd yn codi yn sgil hyn mewn modd a oedd o leiaf mor aeddfed ag agwedd unrhyw awdurdod lleol arall. Dyma’r awdurdod lleol cyntaf yn y Gogledd, a dim ond yr ail yn gyffredinol, i ennill Safon Ansawdd Tai Cymru. Yn ddiweddar rhoddwyd canmoliaeth uchel i’r Cyngor dan gategori Prosiect Rheoli Newid y Sector Cyhoeddus ar gyfer y flwyddyn gan y Gymdeithas Ymgyngoriaethau Rheoli. Mae hyn yn llwyddiant nodedig i Gyngor oedd mewn cyflwr mor wael dim ond bedair blynedd yn ôl.
Yn sgil newidiadau i ffiniau, a arweiniodd at ostwng nifer y cynghorwyr o 40 i 30, fe gytunodd fy rhagflaenydd i ohirio etholiad y Cyngor am flwyddyn.
Cynhaliwyd yr etholiad ar 2 Mai 2013\. Roedd cystadleuaeth dda am bob sedd, gyda 106 o ymgeiswyr yn sefyll am 30 o seddi. Roedd y bleidlais gyffredinol o 50\.5% yn uwch nag mewn unrhyw etholiad arall a gynhaliwyd yn y DU y diwrnod hwnnw.
Yn sgil canlyniadau’r etholiad, nid oedd gan yr un blaid na grŵp fwyafrif cyffredinol, ac arweiniodd hynny at drafodaethau rhwng yr amryw grwpiau. Mae’r trafodaethau hynny wedi mynd rhagddynt mewn ffordd effeithiol ac aeddfed, ac rwy’n hyderus y byddant yn arwain at y weinyddiaeth sefydlog y mae ei hangen ar y Cyngor. Y cam cyntaf yw bod y Cyngor yn ethol Arweinydd yn ei Gyfarfod Cyffredinol Blynyddol y prynhawn yma.
Nid mater i mi yw pwy sy’n rhedeg y Cyngor. Yr hyn sy’n hanfodol yw bod hynny’n arwain at weinyddiaeth sefydlog ac effeithiol.
Heddiw bydd gan y Cyngor Arweinydd newydd, a bydd hynny’n nodi dechreuad newydd. Gwaith y garfan newydd o Gynghorwyr fydd adeiladu ar gynnydd eu rhagflaenwyr o dan arweiniad y Comisiynwyr. Mae cyfle i’r Cyngor hwn fod yn esiampl i weddill y byd Llywodraeth Leol.
Mae’r Cyngor wedi dangos egin adferiad, a’n gobaith yw y bydd modd iddynt feithrin yr addewid hwn a dangos eu bod yn gallu sicrhau adferiad cynaliadwy a gwelliant parhaus. O ystyried y cynnydd y mae’r Cyngor wedi’i wneud hyd yma, rwy’n ffyddiog y gall ymdrin â’i faterion ei hun heb ymyrraeth allanol. Mae’r Comisiynwyr ac Archwilydd Cyffredinol Cymru yn cytuno â’r farn hon.
Felly, bydd fy ymyrraeth fel Gweinidog yn dod i ben yn ffurfiol pan ddaw’r cyfarwyddyd presennol i ben ar 31 Mai.
Er mwyn sicrhau cynnydd y tu hwnt i ddiwedd mis Mai, mae fy swyddogion wrthi’n cynnal trafodaethau gyda’r Cyngor, y Comisiynwyr a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i weld faint o gymorth y dylid ei gynnig. Byddaf hefyd yn cadw llygad fanwl ar gynnydd y Cyngor dros y misoedd i ddod. Yn ogystal, bydd y Bwrdd Adfer Addysg a sefydlwyd gan y Gweinidog Addysg a Sgiliau yn parhau â’i waith, gan helpu’r Cyngor i fynd i’r afael â’r gwendidau difrifol yng ngwasanaethau addysg Ynys Môn.
Fodd bynnag, ni ddylai hyn danbrisio’r cynnydd cyffredinol y mae’r Cyngor wedi’i wneud. Mae’r ffaith ei fod wedi adfer ei hun o sefyllfa oedd yn waeth na sefyllfa unrhyw awdurdod lleol yn y DU erioed, a hynny mewn ychydig dros ddwy flynedd, yn llwyddiant rhagorol. Mae’n deyrnged i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses weddnewid: Swyddogion ac Aelodau’r Cyngor, y Comisiynwyr ac wrth gwrs fy rhagflaenydd, Carl Sargeant. Mae hefyd yn dangos faint o botensial sydd i ni ddatrys hyd yn oed y problemau anoddaf o ran darparu gwasanaethau cyhoeddus os yw pawb yn cydweithio i gyrraedd yr un nod. Dyna wers y gallwn ni ei defnyddio, ac y mae’n rhaid i ni ei defnyddio, mewn meysydd eraill.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The report, which collects data from 18 of Wales’ premier Heritage organisations, and highlights an increase of 4\.4% in the number of visits to sites in the last seven years has been welcomed by Economy Secretary Ken Skates.
He said:
> “This report captures the crucial role of the heritage sector in Wales, which has helped inspire and define our nation. “It’s fantastic to see the sector going from strength to strength. Heritage in Wales is now worth over £960m and supports over 40,500 jobs with membership of heritage bodies in Wales now standing just short of 440,000\.
>
> “The sector is increasingly ready and willing to innovate and embrace different ways for the public to engage with and enjoy our rich heritage. Indeed many of our magnificent sites have played a central role in the successes of our recent Year of Legends and Year of Adventure tourism campaigns.
>
> “In Wales we have a unique, diverse heritage which is the envy of many and a source of great pride to us all. We will continue to work closely with the sector to support them in ensuring that these positive trends continue.”
|
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi, wedi croesawu’r adroddiad hwn sydd wedi casglu data 18 o brif sefydliadau treftadaeth Cymru ac sy’n tynnu sylw at gynnydd o 4\.4% yn nifer yr ymweliadau â safleoedd yn ystod y saith mlynedd diwethaf.
Dywedodd:
> “Mae’r adroddiad hwn yn nodi rôl hanfodol y sector treftadaeth yng Nghymru, sydd wedi helpu i ysbrydoli a diffinio ein cenedl.
>
>
>
>
> “Mae’n wych cael gweld y sector yn mynd o nerth i nerth. Bellach, gwerth y sector treftadaeth yng Nghymru yw £960 miliwn ac mae’n cynnal dros 40,500 o swyddi. Hefyd, mae bron 440,000 o bobl bellach yn aelodau o gyrff treftadaeth yng Nghymru.
>
>
>
>
> “Mae’r sector yn fwy parod nag erioed i arloesi ac i ddefnyddio ffyrdd gwahanol o annog y cyhoedd i ymweld â safleoedd a’u mwynhau. Yn wir, mae llawer o’n safleoedd godidog wedi chwarae rôl hollbwysig wrth sicrhau llwyddiant ein hymgyrchoedd twristiaeth diweddar: Blwyddyn y Chwedlau a Blwyddyn Antur.
>
> “Yng Nghymru mae gennym dreftadaeth unigryw ac amrywiol sy’n destun eiddigedd i lawer ac yn destun balchder inni i gyd. Byddwn yn parhau i gydweithio â’r sector i sicrhau bod y tueddiadau cadarnhaol hyn yn parhau.”
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Welsh Government has invited Elmar Brok to Wales to discuss its proposals for a Brexit that protects jobs and the Welsh economy. A leading member of the Group of the European People’s Party (the largest political group in the European Parliament), he is one of the 6 members on the Parliament’s Brexit Steering Group, which will play a crucial role in determining the Parliament’s views on the Brexit Withdrawal Agreement. The European Parliament has a decisive role in the Brexit process, because it must approve the Withdrawal Agreement negotiated by the European Commission.
During his visit, Mr Brok will address the First Minister’s European Advisory Group and speak at a Wales Governance Centre event, followed by a short Q\&A session with the public in Cardiff Bay.
Speaking ahead of Mr Brok’s visit, the First Minister said:
> “Elmar Brok is one of the longest serving, most experienced and most influential members of the European Parliament.
>
> “I look forward to hearing his thoughts on the current state of the Brexit negotiations and his views on the prospects for a future trade agreement between the UK and the European Union. I am also interested in listening to his views on the future of the EU, notably the priorities for the forthcoming budget round and how the EU, and the next European Parliament, will look without the UK.”
Mark Drakeford said:
> “I am delighted to be welcoming Elmar Brok to Wales, having had the opportunity to talk to him about Brexit on several occasions over the last 2 years. This is an opportunity for us to outline our plans for a sensible Brexit that protects Wales’ economy and jobs. We need to find new ways of working together with our friends and neighbours in Europe on our common challenges.”
The First Minister will hold a private meeting with Elmar Brok ahead of the European Advisory Group.
|
Mae Llywodraeth Cymru wedi gwahodd Elmar Brok i ddod i drafod cynigion am Brexit sy'n diogelu swyddi ac economi Cymru. Mae’n aelod blaenllaw o Grŵp Plaid Pobl Ewrop (y grŵp gwleidyddol mwyaf yn Senedd Ewrop), ac yn un o'r chwe aelod o Grŵp Llywio Brexit yn y Senedd honno a fydd yn chwarae rhan hanfodol wrth bennu ei barn ar Gytundeb Ymadael Brexit. Mae gan Senedd Ewrop rôl allweddol ym mhroses Brexit gan y bydd yn rhaid iddi gymeradwyo’r Cytundeb Ymadael a fydd yn cael ei negodi gan y Comisiwn Ewropeaidd.
Yn ystod ei ymweliad, bydd Mr Brok yn annerch Grŵp Cynghori ar Ewrop y Prif Weinidog ac yn siarad yn nigwyddiad Canolfan Llywodraethiant Cymru. Yn dilyn hynny, bydd sesiwn holi ac ateb fer yn cael ei chynnal â'r cyhoedd ym Mae Caerdydd.
Wrth siarad cyn ymweliad Mr Brok, dywedodd y Prif Weinidog:
> "Mae Elmar Brok yn un o'r aelodau sy'n gwasanaethu Senedd Ewrop ers y cyfnod hiraf, ac mae ymysg y mwyaf profiadol a dylanwadol.
>
> "Rwy'n edrych ymlaen at glywed ei farn ar sefyllfa negodiadau Brexit ar hyn o bryd, ac ar y posibilrwydd i ddod i gytundeb masnachu i'r dyfodol rhwng y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. Rydw i hefyd am wrando ar ei farn ar ddyfodol yr Undeb, ac yn arbennig y blaenoriaethau ar gyfer y gyllideb arfaethedig a sut olwg fydd ar yr Undeb, a Senedd nesaf Ewrop, heb y Deyrnas Unedig."
Dywedodd Mark Drakeford:
> "Rwy'n falch o groesawu Elmar Brok i Gymru ar ôl cael y cyfle i drafod Brexit gydag ef ar sawl achlysur dros y ddwy flynedd diwethaf. Dyma gyfle inni amlinellu ein cynlluniau ar gyfer Brexit synhwyrol sy'n diogelu economi a swyddi Cymru. Mae angen inni ganfod ffyrdd newydd o gydweithio â'n ffrindiau a'n cymdogion yn Ewrop ar yr heriau cyffredin."
Bydd y Prif Weinidog yn cynnal cyfarfod preifat ag Elmar Brok cyn y Grŵp Cynghori ar Ewrop.
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Carwyn Connect event will give local people the opportunity to meet the First Minister and ask him questions on any issues which affect them or their local community.
The session will take place between 6pm and 7\.30pm at Theatr Brycheiniog in Brecon (Canal Wharf, Brecon, LD3 7EW).
People are encouraged to register their interest in attending the free events online at the following link: Eventbrite
Questions can be asked in a number of ways – they can be submitted when people arrive at the venue when doors open at 5\.30pm; in advance via email on cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk or via Twitter using @fmwales with the hashtag \#carwynconnect.
First Minister of Wales Carwyn Jones said:
> "Over the past 2 years, I have travelled the length and breadth of Wales to hear the views of local communities and answer people’s questions.
>
>
> “I am pleased to announce the next event will take place in Brecon. I would like to see as many people as possible at Theatr Brycheiniog, so if you have a question for me, want to raise issues affecting your community or have a great idea to make your home town a better place to live, please come along.
>
>
> “A wide variety of topics have come up in previous events. You can ask me anything from questions about local issues such as schools or hospitals, to big issues like Brexit or government policy.
>
>
> “This is your chance to meet and speak with me in person. I’m really looking forward to meeting you all.”
|
Bydd digwyddiad Cyfarfod Carwyn yn gyfle i bobl yr ardal gyfarfod â’r Prif Weinidog a gofyn cwestiynau iddo am unrhyw fater sy’n effeithio arnyn nhw neu ar eu cymuned.
Cynhelir y sesiwn rhwng 6pm a 7:30pm yn Theatr Brycheiniog yn Aberhonddu (Canal Wharf, Aberhonddu, LD3 7EW).
Mae’r digwyddiadau hyn am ddim, ond anogir pobl i gofrestru eu diddordeb ar\-lein drwy ddilyn y ddolen hon: Eventbrite
Mae sawl ffordd o ofyn cwestiwn. Gallwch ei gyflwyno pan fyddwch yn cyrraedd y lleoliad pan fydd y drysau’n agor am 5:30pm; neu gallwch ei anfon ymlaen llaw drwy e\-bostio cabinetcommunications@wales.gsi.gov.uk neu drwy Twitter gan ddefnyddio @fmwales a’r hashnod \#cyfarfodcarwyn.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones:
> “Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, dw i wedi teithio ar hyd a lled Cymru i glywed barn pobl yn eu cymunedau lleol ac i ateb eu cwestiynau.
>
> “Mae’n bleser gen i gyhoeddi y bydd y digwyddiad nesaf yn cael ei gynnal yn Aberhonddu. Dw i eisiau gweld cynifer o bobl â phosibl yn Theatr Brycheiniog. Felly, os oes gennych chi gwestiwn i mi, os ydych eisiau codi ymwybyddiaeth am broblem sy’n effeithio ar eich cymuned, neu os oes gennych syniad fyddai’n gwneud eich ardal leol yn lle gwell i fyw ynddi – dewch draw!
>
> “Rydyn ni wedi cael amrywiaeth eang o bynciau’n codi yn nigwyddiadau’r gorffennol. Cewch ofyn unrhyw beth – o gwestiynau am faterion lleol fel ysgolion neu ysbytai, i gwestiynau am faterion mawr fel Brexit neu bolisïau’r Llywodraeth.
>
> “Dyma’ch cyfle chi i gwrdd â mi a chael sgwrs wyneb yn wyneb. Dw i wir yn edrych ymlaen at gwrdd â phawb ohonoch.”
|
Translate the text from Welsh to English. |
Mae'r datganiad hwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad am y gwaith o ddatblygu cynllun gweithlu gofal sylfaenol i Gymru, sy'n ategu’r cynllun a gyhoeddwyd yn ddiweddar ar gyfer gwasanaeth gofal sylfaenol i Gymru. Mae hefyd yn amlinellu'r egwyddorion sy'n sail i ddatblygu'r cynllun gweithlu a'i nodau.
Dylai pawb yng Nghymru gael cefnogaeth i wella eu hiechyd a'u lles, a phan fyddant yn sâl, dylent gael diagnosis, triniaeth a gofal gan y gweithiwr iechyd proffesiynol cywir, a hynny'n brydlon ac mor agos â phosibl i'w cartrefi. Rydym am i fwy o wasanaethau iechyd fod ar gael mewn cymunedau lleol, gan leihau’r angen i bobl deithio neu fynd i’r ysbyty pan fo angen triniaeth arnynt.
Mae'r Meddyg Teulu yn parhau i fod wrth galon gofal sylfaenol yng Nghymru; ond yn fwyfwy, bydd pobl yn cael cyngor a gofal gan ystod ehangach o weithwyr iechyd proffesiynol medrus sy'n gweithio ym maes gofal sylfaenol. Mae angen i'r gweithwyr proffesiynol hyn \- nyrsys practis, uwch\-ymarferwyr, fferyllwyr a ffisiotherapyddion er enghraifft \- sy'n gweithio gyda meddygon teulu, fod yn gallu wynebu'r heriau sy'n dod yn sgil galw cynyddol am ofal iechyd; cynnydd yn nifer y bobl sy'n cael diagnosis o un neu fwy o gyflyrau hirdymor a’r cynnydd yn nifer y bobl fregus a hŷn sydd ag anghenion gofal mwy cymhleth.
Mae nifer y bobl sy'n gweithio yn GIG Cymru, neu sy'n cael eu hariannu gan y gwasanaeth, nawr yn fwy nag ar unrhyw adeg ers i'r Cynulliad Cenedlaethol gael ei sefydlu. Rydym hefyd yn gwybod y bydd y rhan fwyaf o'r gweithwyr proffesiynol a fydd yn gweithio yn y GIG mewn 10 mlynedd eisoes yn gweithio yn y gwasanaeth iechyd heddiw.
Er y bydd bob amser angen recriwtio staff yn uniongyrchol i'r GIG, mae hyn yn golygu fod yn rhaid i ni hefyd sicrhau bod y gweithwyr presennol yn cael y cyfle i ymestyn eu sgiliau a'u profiad.
Mae Llywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd yn buddsoddi llawer mewn addysg a hyfforddiant bob blwyddyn; rhaid i ni dargedu hwn i helpu'r gweithlu presennol i ymgymryd â rolau newydd neu rai ehangach a manteisio ar gyfleoedd i weithredu ar lefel uwch, a fydd yn allweddol wrth greu gweithlu medrus ar gyfer y dyfodol.
Wrth i ni ailgynllunio'r gweithlu yng Nghymru, rhaid i ni ddilyn egwyddorion gofal iechyd darbodus. Ni ddylai unrhyw feddyg teulu fod yn gwneud unrhyw waith yn rheolaidd a allai gael ei wneud yr un mor briodol gan nyrs practis, fferyllydd clinigol neu uwch\-ymarferydd parafeddygol. Yn yr un modd, ni ddylai unrhyw uwch\-nyrs bractis fod yn gwneud gwaith yn rheolaidd a allai gael ei wneud gan weithiwr cymorth gofal iechyd.
Mae'r egwyddor uno ‘dim ond gwneud yr hyn y gallwch chi ei wneud’ yn ganolog i wella gofal a mynediad at y gofal hwnnw. Dyma sut y gallwn hefyd wella'r llwyth gwaith a bodlonrwydd swydd dros y tymor hwy i bawb sy'n gweithio ym maes practis cyffredinol.
Er mwyn gwireddu'r weledigaeth hon, bydd angen i Lywodraeth Cymru a'r byrddau iechyd lleol weithio mewn partneriaeth gyda staff, y cyhoedd, y gweithlu ar gontract a'r trydydd sector i:
* Lunio cynlluniau clir, ar lefel byrddau iechyd lleol ac yn fwyfwy ar lefel clwstwr, ar gyfer symud gwasanaethau o leoliadau acíwt ac ysbytai i'r gymuned, ac wrth wneud hynny datblygu cyd\-ddealltwriaeth well o'r gwaith a gaiff ei wneud ym maes gofal sylfaenol yn y dyfodol ac edrych ar siâp, maint a sgiliau angenrheidiol gweithlu'r dyfodol.
* Rhoi sgiliau i'r gweithlu i asesu ac ymateb i anghenion iechyd y boblogaeth. Mae byrddau iechyd lleol eisoes yn gyfrifol, drwy Ddeddf GIG Cymru 2006, am gynllunio a darparu gwasanaethau ar sail y boblogaeth. Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014 yn atgyfnerthu'r ddyletswyddau honno drwy’r angen i gynnal asesiadau o'r boblogaeth mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, ynghyd â dyletswydd i ddarparu gwybodaeth, cyngor a chymorth.
* Newid diwylliant, disgwyliadau a arferion gwaith y gweithlu cyflogedig a’r gweithlu ar gontract i greu yr amodau gorau posibl i ddiogelu gweithlu’r dyfodol. Bydd angen i hyn gynnwys mwy o hyblygrwydd wrth weithio rhwng y gymuned a’r ysbytai er budd y rheini sy’n derbyn gofal a helpu gyda datblygiad proffesiynol parhaus y gweithlu.
* Newid natur y 'berthynas' gofal sylfaenol gan gynnwys defnyddio meddygon teulu a systemau contract eraill, a lle y bo'n briodol, drwy fodelau uniongyrchol. Bydd hyn yn cynnwys datblygu timau amlddisgyblaethol a gallu y 64 o glystyrau gofal sylfaenol i arwain.
* Newid ffocws ein rhaglen addysg a hyfforddiant feddygol i roi diwedd ar y duedd gref ar hyn o bryd tuag at y sector acíwt ac i cynyddu'r ystod o raglenni addysg a hyfforddiant anfeddygol ar gyfer amrywiaeth ehangach o swyddi.
Bydd y cynllun gweithlu gofal sylfaenol yn rhoi seiliau yn eu lle ar gyfer dull mwy cadarn o gynllunio'r gweithlu a chomisiynu addysg, cefnogi datblygiad parhaus y clystyrau gofal sylfaenol a rhannu arferion da a buddsoddi yn y broses gyflym o ddatblygu ac integreiddio'r gweithlu gofal sylfaenol ehangach.
Bydd yn ymateb i'r pwysau yn y maes gofal sylfaenol ar hyn o bryd, o ganlyniad i ofynion sy'n newid, gan sicrhau bod gwasanaethau’n gynaliadwy. Yn hyn o beth, rwyf wedi ymateb yn ddiweddar i argymhellion y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol o'i ymchwiliad byr i weithlu meddygon teulu yng Nghymru.
Bydd y cynllun hefyd yn ystyried argymhellion yr adolygiad o addysg broffesiynol gofal iechyd yng Nghymru, dan arweinyddiaeth Mel Evans, a gomisiynwyd y llynedd i weld a yw Cymru yn cael gwerth am arian o'r trefniadau presennol, ac mae disgwyl iddo gael ei gyhoeddi'n fuan.
Bydd arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer gofal sylfaenol yn cael ei benodi i fwrw ymlaen â'r cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol i Gymru a’r cynllun gweithlu. Dyma rôl arweiniol bwysig, a bydd yn helpu i gyflawni ein nod o drawsnewid y ffordd y caiff gwasanaethau eu darparu yng Nghymru a sicrhau mai gofal sylfaenol sy'n gyrru'r GIG.
Bydd yn cymryd amser i gyflawni nifer o'r newidiadau yn y cynllun gofal sylfaenol cenedlaethol a chynllun y gweithlu. Fodd bynnag, dyma gyfle i wneud newid hollbwysig, ac ni allwn fforddio ei golli.
Hoffwn ddiolch i'r miloedd o bobl sy'n rhan o'n gweithlu gofal sylfaenol, o'r bobl sy'n gweithio yn y dderbynfa i'r arbenigwyr. Y nhw yw’r graig y mae'r cyhoedd yn dibynnu arni, i ddarparu'r nifer o wasanaethau iechyd rydym yn eu cymryd yn ganiataol.
|
This statement updates Assembly Members about progress with the development of the primary care workforce plan for Wales, which supports the recently published plan for a primary care service for Wales. It also sets out the principles underpinning the development of the workforce plan and its aims.
Everyone in Wales should be supported to improve their health and wellbeing and, when they become ill, they should be diagnosed, treated and cared for by the right healthcare professional, in a timely manner, as close to their homes as possible. We want more health services to be available in local communities, reducing the need for people to travel to or be admitted to hospital when they need treatment.
The GP remains at the heart of primary care in Wales; however, people will increasingly receive advice and care from a wider range of highly\-skilled health professionals working in primary care. These professionals – practice nurses, advanced practitioners, pharmacists and physiotherapists for example – working with GPs, need to be able to respond to the challenges of an increasing demand for healthcare; an increase in people being diagnosed with one or more long\-term conditions and an increase in frail and older people with more complex care needs.
The number of people working in or funded by NHS Wales is now greater than at any time since the National Assembly was established. We also know that the majority of the professionals who will be working in the NHS in 10 year’s time are already working in the health service today.
This means that although there will always be a need to recruit staff directly into the NHS, we must also ensure the existing workforce has the opportunity to extend their skills and experience.
The Welsh Government and health boards invest heavily in education and training every year; we must target this to support the workforce of today to take up new or extended roles and opportunities for advanced practice, which will be key to realising the skilled workforce of the future.
As we redesign the workforce in Wales, we must be guided by the principles of prudent healthcare. No GP should routinely be undertaking any activity which could just as appropriately be undertaken by an advanced practice nurse, a clinical pharmacist or an advanced practitioner paramedic. Equally, no advance practice nurse should routinely be undertaking work which could be done by a healthcare support worker.
This unifying principle of ‘only do what only you can do’ is central to improving care, and access to that care. It is also the way in which we can improve the workload and job satisfaction over the longer term for all those who work in general practice and primary care.
To achieve this vision there will be a need for the Welsh Government and local health boards to work in partnership with staff, the public, the contracted workforce and the third sector to:
* Establish clear plans, at a local health board level and increasingly at cluster level, for the movement of services from acute and hospital settings to the community and, in so doing; develop a better shared understanding of the work that will be done in primary care in the future and the necessary shape, size and skills of the future workforce.
* Equip the workforce to assess and respond to population health needs. Local health boards are already responsible, through the NHS Wales Act 2006, for planning and delivering services on a population basis. The Social Services and Well\-being (Wales) Act 2014 reinforces those duties through the need for population assessment to be undertaken in partnership with local authorities, together with a duty to provide information, advice and assistance.
* Change the employed and contracted workforce culture, expectations, and ways of working to create the best possible conditions to secure the workforce of the future. This will need to include greater flexibility of working between community and hospital settings to benefit those who receive care and aid the continuing professional development of the workforce.
* Change the nature of the primary care 'relationship' including through the levers of the GP and other contract mechanisms, and where appropriate through directly employed models. This will include growing multi\-disciplinary teams and developing the leadership capacity and capability of the 64 primary care clusters.
* Shift the focus of our medical education and training programme so that its current strong bias towards the acute sector is ended, and to grow the range of non\-medical education and training programmes for a wider range of roles.
The primary care workforce plan will put in place the foundations for a more robust approach to workforce planning and education commissioning, support the continuing development of primary care clusters and the sharing of good practice and invest in the rapid development and integration of the wider primary care workforce.
It will respond to existing pressures in primary care as a result of changing demands, ensuring services are sustainable. In this respect I have recently responded to the Health and Social Care Committee’s recommendations from their short inquiry into the GP workforce in Wales.
The plan will also take into account the recommendations of the review of healthcare professional education in Wales, led by Mel Evans, which was commissioned last year to examine whether Wales gets value for money from the current arrangements, and is due to be published shortly.
A national clinical lead for primary care will be appointed to take forward both the national primary care plan for Wales and the workforce plan. This is an important leadership role and will help to achieve our aim of transforming the way services are provided in Wales and making primary care the engine room of the NHS.
Many of the changes set out in both the national primary care plan and the workforce plan will take time to deliver. However, this is an opportunity for fundamental change which we cannot afford to miss.
I would like to place on record my thanks to the many thousands of people who make up our primary care workforce, from receptionists to specialists. They are the important bedrock on which the public depend to provide the many health services we all take for granted.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Gwnaeth y Dirprwy Weinidog y cyhoeddiad yn ystod anerchiad i Uwchgynhadledd Sgrin gyntaf Cymru, a gynhelir yng Nghaerdydd heddiw.
Mae'r gronfa newydd, sy’n ffrwyth cydweithio rhwng asiantaeth greadigol Llywodraeth Cymru sef Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales, ar gael ar gyfer ffilmiau y bwriedir iddynt gael eu dangos mewn theatrau, gyda’r nod penodol o ddatblygu talent a sgiliau.
Bydd y gronfa £1 miliwn y flywyddyn yn dechrau derbyn ceisiadau ym mis Gorffennaf, a bydd ar gael am gyfnod cychwynnol o ddwy flynedd.
Bydd y cytundeb newydd yn arwain at ddull symlach o ariannu, gyda phroses ymgeisio drwy Ffilm Cymru Wales, a fydd yn gweinyddu'r gronfa ar ran Cymru Greadigol.
Bydd hyd at £600,000 ar gael fesul prosiect ar gyfer ffilmiau nodwedd annibynnol y bwriedir eu dangos mewn theatrau, gyda hyd at £400,000 o hyn fel arian grant gan Cymru Greadigol a hyd at £200,000 drwy gronfeydd loteri Ffilm Cymru, y maent yn eu gweinyddu ar ran Cyngor Celfyddydau Cymru.
Bydd o leiaf £12 miliwn yn cael ei sbarduno ar gyfer economi Cymru dros ddwy flynedd gyntaf y trefniant rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru, gan roi hwb i gymuned greadigol, cast, criw, gwasanaethau a chyfleusterau o'r radd flaenaf Cymru yn dilyn heriau pandemig COVID\-19\.
O dan reolaeth Ffilm Cymru, bydd ffocws o hyd ar ffilmiau sy'n cynnwys awduron, cyfarwyddwyr a chynhyrchwyr o Gymru neu sydd wedi'u geni yng Nghymru neu rai sydd wedi'u lleoli yng Nghymru.
Dywedodd Dawn Bowden, Dirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon:
> "Ers ei sefydlu, mae Cymru Greadigol wedi bod yn adolygu ei dull o wella a chynyddu ei chefnogaeth i gynhyrchiadau teledu a ffilm, ac mae cyllid newydd ar gyfer cynyrchiadau teledu a gemau hefyd ar gael nawr. Mae'r pecyn buddsoddi newydd a gwell hwn ar gyfer ffilm yw’r cam diweddaraf mewn cyfres o well fuddsoddiadau ar gyfer y sector.
>
>
> "Bydd y dull newydd hwn o gynhyrchu ffilm yn rhoi hwb i’r diwydiant cynhyrchu ffilmiau yng Nghymru, gan ysgogi twf yn nifer ac amrywiaeth y cynyrchiadau a wneir yng Nghymru, tra hefyd yn sicrhau'r effaith economaidd fwyaf posibl ar yr economi leol, yn gwella cyfleoedd cyflogaeth, yn cefnogi datblygiad gweithlu medrus ymhellach, ac yn dangos ymhellach ragoriaeth Cymru ar y sgrin drwy ein talent o'r radd flaenaf, criwiau, cyfleusterau a lleoliadau unigryw.
>
>
> "Mae'r bartneriaeth unigryw hon rhwng Cymru Greadigol a Ffilm Cymru Wales, yn dilyn y Memoranda Cyd\-ddealltwriaeth diweddar gyda'r BBC ac S4C, yn enghraifft arall o sut mae ein dull partneriaeth yn sbarduno twf a datblygiad talent o fewn y diwydiannau creadigol yng Nghymru.
Croesawodd Pauline Burt, Prif Weithredwr Ffilm Cymru y datblygiad diweddaraf hwn gan ddweud:
> "Ar ôl gweithio'n uniongyrchol gyda gwneuthurwyr ffilmiau annibynnol o Gymru i helpu i wireddu eu prosiectau ffilm nodwedd, rydym yn falch iawn o gydweithio â Cymru Greadigol ar ein hamcanion cyffredin. Bydd y gronfa gynhyrchu yn parhau i ganoli talent Cymru, tra'n symleiddio mynediad at gyllid ac yn teilwra'r cynnig i anghenion cynhyrchwyr a'r sector ehangach.
Mae'r bartneriaeth newydd hon rhwng Ffilm Cymru a Cymru Greadigol yn adeiladu ar sylfaen o gydweithio creadigol ac economaidd sydd eisoes wedi gweld cyd\-ariannu adrodd straeon cartref fel drama arfaethedig Euros Lyn sef Dream Horse a drama newydd Mad as Birds Films, The Almond and the Seahorse, a ysgrifennwyd gan Kaite O'Reilly ac a gyd\-gyfarwyddwyd gan Celyn Jones.
|
The Deputy Minister made the announcement during an address to Wales’ first Screen Summit, being held in Cardiff today.
The new fund, a collaboration between the Welsh Government’s creative agency Creative Wales and Ffilm Cymru Wales, is available for films intended for theatrical release, with talent development and skills at its heart.
The £1 million per annum fund will be open for applications in July and will run for an initial period of two years.
The new agreement will see a streamlined approach to funding, with an application process via Ffilm Cymru Wales, who will administer the fund on behalf of Creative Wales.
Up to £600,000 will be available per project for eligible films, with up to £400,000 grant funding from Creative Wales and up to £200,000 via Ffilm Cymru lottery funds, which they administer on behalf of the Arts Council of Wales.
At least £12 million will be generated for the Welsh economy across the initial two years of the arrangement between Creative Wales and Ffilm Cymru, providing a post\-COVID\-19 pandemic boost for Wales’ world\-class community of creatives, cast, crew, services and facilities.
Under Ffilm Cymru’s management, there will continue to be a focus on films featuring Wales\-born or Wales\-based writers, directors and producers at their helm.
Deputy Minister for Arts and Sport, Dawn Bowden, said:
> “Since its inception, Creative Wales has been reviewing its approach to improving and enhancing its support for TV and film production, with a new production funding offer for TV and games also now available. This new and improved investment package for film is next in a suite of improved investments for the sector.
>
>
> “This new approach to film will boost film production in Wales, stimulating growth in the number and variety of productions made in Wales, whilst also maximising the economic impact on the local economy, improve employment opportunities, further support the development of a skilled workforce, and further demonstrate the excellence of Wales on screen through our world\-class talent, crews, facilities and unique locations.
>
>
> “This unique partnership between Creative Wales and Ffilm Cymru Wales, following on from the recent Memorandums of Understanding with the BBC and S4C, is a further example of how our partnership approach is driving growth and talent development in the creative industries in Wales.
Pauline Burt, Chief Executive of Ffilm Cymru welcomed this latest development saying:
> “Having long worked directly with Welsh independent filmmakers to help bring their feature film projects to fruition, we are delighted to be collaborating with Creative Wales on our shared objectives. The production fund will continue to centre Welsh talent, whilst streamlining access to funding and tailoring the offer to producers’ and the wider sector’s needs.
This new partnership between Ffilm Cymru and Creative Wales builds on a foundation of creative and economic collaboration that has already seen the co\-funding of homegrown storytelling such as Euros Lyn’s Dream Horse and Mad as Birds Films’ forthcoming drama The Almond and the Seahorse, which was written by Kaite O'Reilly and co\-directed by Celyn Jones.
|
Translate the text from Welsh to English. |
Rwy’n falch o allu cyhoeddi heddiw Strategaeth Profi COVID\-19 i Gymru ddiwygiedig (https://llyw.cymru/strategaeth\-profi\-covid\-19) a Fframwaith Profi Cymunedol newydd (https://llyw.cymru/fframwaith\-profi\-am\-covid\-19\-yn\-y\-gymuned), sy’n amlinellu’r cymorth a gynigir gennym ar gyfer profi cymunedol ac sy’n gwahodd byrddau iechyd lleol ac awdurdodau lleol i weithio gyda phartneriaid Profi Olrhain Diogelu i ddatblygu cynigion a arweinir yn lleol
Pan gyhoeddwyd ein Strategaeth Profi COVID\-19 ym mis Gorffennaf 2020, roeddem yn dod allan o’r cyfnod cyntaf o gyfyngiadau symud yn dilyn ton gyntaf y pandemig COVID\-19\. Wrth i lefel gyffredinrwydd COVID\-19 barhau’n uchel a chydag ymddangosiad yr amrywiolyn newydd, sydd wedi ein gorfodi i weithredu cyfyngiadau lefel 4 yng Nghymru, mae profi yn parhau i chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein dull cyffredinol o atal trosglwyddiad COVID\-19 ledled Cymru.
Ers cyhoeddi’r strategaeth ddiwethaf, mae technoleg brofi newydd wedi dangos ei bod yn bosibl inni brofi ar raddfa lawer fwy, ac yn amlach a chyflymach nag erioed o’r blaen. Mae’r strategaeth ddiwygiedig hon yn ystyried sut y gallwn ddefnyddio technoleg sy’n bodoli eisoes ynghyd â thechnoleg newydd yn effeithiol i fodloni ein blaenoriaethau profi, sydd fel a ganlyn:
* Profi i roi diagnosis
+ i gefnogi gofal clinigol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) mae profi yn helpu i ddod o hyd i’r rheini sydd wedi’u heintio er mwyn i benderfyniadau clinigol gael eu gwneud sy’n sicrhau’r gofal gorau.
* Profi i ddiogelu
+ i ddiogelu ein GIG a gwasanaethau gofal cymdeithasol a’r unigolion sydd fwyaf agored i niwed.
* Profi i ddarganfod
+ i dargedu brigiadau o achosion a gwella arferion gwyliadwriaeth yn y gymuned er mwyn atal lledaeniad y clefyd ymhlith y boblogaeth.
* Profi i gynnal
+ i gefnogi’r system addysg ac iechyd a llesiant ein plant a phobl ifanc i’w galluogi i gyrraedd eu potensial, ac i ddod o hyd i achosion a chysylltiadau yn y gweithle i’w hatal rhag lledaenu’r haint o bosibl pe baent yn dod yn heintus, ac i gynnal gwasanaethau allweddol.
* Profi i alluogi
+ i hybu llesiant ac adferiad economaidd, cymdeithasol, diwylliannol ac amgylcheddol.
Wrth inni groesawu 2021 bydd atal trosglwyddiadau COVID\-19 yn effeithiol yn parhau i fod yn gwbl hanfodol er mwyn rheoli’r feirws. Mae’n bwysig bod unigolion yn dal i drefnu i gael prawf pan fydd ganddynt symptomau. Rydym yn profi i atal niwed a chefnogi’r rheini sydd fwyaf agored i niwed ac rydym yn rhagweithiol yn ein hymdrechion i ddod o hyd i achosion o’r feirws er mwyn inni allu helpu i leihau neu atal lledaeniad y feirws yn ein cymunedau. O ystyried nad oes gan draean o’r unigolion hynny sy’n cael canlyniad prawf positif unrhyw symptomau, a bod nifer y rheini sy’n cael prawf mewn rhai cymunedau yn isel, mae angen inni ddefnyddio, mewn rhai cyd\-destunau penodol, ddulliau mwy rhagweithiol o ddod o hyd i achosion o’r feirws.
Bydd profi cymunedol yn defnyddio dull sy’n seiliedig ar risg ac yn manteisio ar wybodaeth leol i dargedu ardaloedd lle y bydd dulliau rhagweithiol o ddod o hyd i achosion yn cael yr effaith fwyaf o ran lleihau niwed.
Mae partneriaid eisoes yn cydweithio ac yn rhannu arferion yn effeithiol ond byddwn yn parhau i sicrhau y cyflawnir ein strategaeth brofi gan gynyddu capasiti i’r eithaf, rheoli heriau o ran adnoddau a lleihau cymhlethdod yn y system. Bydd hefyd yn esblygu yn barhaus i ymateb i’r heriau a wynebwn yn y dyfodol oherwydd bydd profi yn parhau i chwarae rhan bwysig ochr yn ochr â brechu i’n cefnogi i achub bywydau a bywoliaeth pobl yn ystod 2021 ac yn y tymor hwy.
Mae’r 10 mis diwethaf wedi bod yn eithriadol o anodd i bawb. Hoffwn i ddiolch i bob un am eich cefnogaeth, wrth ichi ddilyn y cyfyngiadau sydd wedi gorfod cael eu gweithredu. Mae eich cefnogaeth barhaus yn hanfodol i ddiogelu Cymru.
|
I am pleased to be able to publish today, a refreshed COVID\-19 Testing Strategy for Wales (https://gov.wales/covid\-19\-testing\-strategy) and a new Community Testing Framework (https://gov.wales/covid\-19\-community\-testing\-framework), which sets out our offer of support for community testing and invites local health boards and local authorities to work with other Test Trace and Protect (TTP) partners to develop locally led proposals.
When we published our Testing Strategy in July 2020, we were emerging from lockdown after the first wave of the Covid\-19 pandemic. As we continue to see high prevalence of COVID\-19 and the emergence of the new variant, which has required us to implement level 4 restrictions in Wales, testing continues to play a pivotal role in our overall approach to preventing the transmission of COVID\-19 across Wales.
Since the last strategy was published, new testing technologies have demonstrated it is possible to test at far greater scale, frequency and speed than ever before. This refreshed strategy looks at how we can use existing and new technology effectively to meet our testing priorities, which are: \-
* Test to diagnose
+ to support NHS clinical care testing helps identify those who are infected so that clinical judgments can be made to ensure the best care.
* Test to safeguard
+ to protect our NHS and social care services and individuals who are our most vulnerable.
* Test to find
+ to target outbreaks and enhance community surveillance in order to prevent the spread of the disease amongst the population.
* Test to maintain
+ to support the education system and the health and well\-being of our children and young people and to enable them to realise their potential, and to identify cases and contacts in workplaces to prevent them from potentially spreading the infection if they were to become infected and infectious, and to maintain key services.
* Test to enable
+ To promote economic, social, cultural and environmental wellbeing and recovery.
As we begin 2021 effective suppression of COVID\-19 transmission will continue to be vital to manage the virus. It is important that people continue to book tests when they have symptoms, we test to avoid harm and support the more vulnerable and are active in finding cases so that we can help reduce or stop the spread of the virus in our communities.
Given that a third of individuals who test positive for COVID\-19 show no symptoms and uptake for testing in some communities is low there are certain contexts in which we need to deploy more active case finding approaches.
Our community testing will use a risk based approach built on local intelligence and knowledge to target areas where active case finding will have the greatest impact in reducing harm.
While there is already effective joint working and practice being shared across partners we will continue to ensure that our testing strategy is delivered to optimise capacity, manage resourcing challenges and reduce complexity in the system. It will also continue to evolve to meet the future challenges we face as testing will continue to play an important role alongside the vaccine in supporting us to save lives and livelihoods during 2021 and in the longer term.
The last 10 months have been incredibly difficult for everyone. I want to thank everyone for your support, in following the restrictions that have had to be in place. Your continued support is essential to help keep Wales safe.
|
Translate the text from English to Welsh. |
On 22 September 2015, the Minister for Finance and Government Business made an Oral Statement in the Siambr on:2015\-16 In\-year Commitments.
The Statement can be accessed on the National Assembly for Wales website (external link).
|
Ar 22 Medi 2015, gwnaeth y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth datganiad llafar yn y Siambr ar: Ymrwymiadau yn ystod y Flwyddyn 2015\-16\.
Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol).
|
Translate the text from English to Welsh. |
The Deputy Minister invited some of those affected to meet with her following a previous personal apology and acknowledgement of the experiences and lifelong impact for all those affected by such practices in Wales.
It also comes after the Joint Committee on Human Rights published its recommendations following an inquiry to understand the experiences of unmarried women and their children who were adopted between 1949 and 1976 in England and Wales, and the impact on their human rights as we understand them now.
Forced adoption practices predate devolution in Wales, but they have a lasting legacy on all those who experienced them.
The historical practices resulted in many women being coerced into giving up their babies as they were judged by the morality of society at that time.
Deputy Minister for Social Services Julie Morgan, who delivered the official apology in the Senedd chamber before meeting with people affected, said:
> I know the effects of forced adoption and forced family separation are still very much part of the lives of the many people involved.
>
>
>
> The impacts are diverse and long\-lasting, not only for the women separated from a child by adoption, but also for the adult sons and daughters who were adopted as babies, and their extended family members. I want to acknowledge the father's experiences when it comes to these historical practices too.
>
>
>
> Many still find it extremely difficult to open\-up and talk about the life\-long heartbreak they have bottled up for fear of still being judged.
>
>
>
> The feelings of loss, grief, anger and pain remain.
>
>
>
> Regardless of the societal pressures or social norms of the day, such cruelty should never be an acceptable part of our society in Wales.
>
>
>
> I would like to convey my deepest sympathy and regret to all affected, that due to society failing you, you had to endure such appalling historical practices in Wales – for this the whole of the Welsh Government is truly sorry.
Former Labour Health Minister Ann Lloyd Keen was one of the people affected by forced adoption who attended the Senedd.
She said:
> Today is so important to me and my son. I was always told his adoption was ‘for the best’. Sadly this was not the case. It was horrible, shameful, and left me grieving and feeling unable to talk to anyone. I was forced to live a life that remained a secret.
>
>
>
> I made the decision to become a registered nurse to provide the sort of dignity and social justice to patients that was denied to me when I was at my most vulnerable.
>
>
>
> I later had the privilege of being elected a Labour MP and a Health Minister, but the feeling of deep shame has stayed with me. I later experienced so much joy when I was reunited with my wonderful son.
>
>
>
> Today, as a Welsh woman sitting in the Welsh Parliament, not far from where my son was born in Swansea, I feel empowered and that my name has been cleared. I did not ‘give him up’. He was taken from me.
Julie Morgan added:
> We cannot change what has happened, but I can provide assurances that adoption legislation and practices have been significantly strengthened since.
>
>
>
> We are already working alongside the National Adoption Service to consider the issues outlined within the Joint Committee’s report and develop support services which will address the specific needs of those affected by forced adoption and forced family separation.
>
>
>
> As we face future challenges, we will remember the lessons of family separation and will have due regard to continuing to protect the fundamental rights of children and the importance of their right to be cared for by a parent.
|
Ar ôl cydnabod ac ymddiheuro’n bersonol am brofiadau’r holl unigolion hynny yr effeithiwyd arnynt gan arferion o’r fath yng Nghymru, ac am yr effaith gydol oes arnynt, cafodd rhai ohonynt eu gwahodd gan y Dirprwy Weinidog i gyfarfod â hi.
Mae’r gwahoddiad hwn hefyd yn dod yn dilyn cyhoeddi argymhellion y Cyd\-bwyllgor ar Hawliau Dynol o’i ymchwiliad i ddeall profiadau menywod di\-briod a’u plant a gafodd eu mabwysiadu rhwng 1949 a 1976 yng Nghymru a Lloegr. Fel rhan o’r ymchwiliad hwnnw hefyd, cafodd yr effaith ar hawliau dynol y menywod a’r plant fel yr ydym yn eu deall heddiw eu hystyried.
Mae arferion mabwysiadu gorfodol yn perthyn i’r dyddiau cyn datganoli yng Nghymru, ond mae eu heffaith yn parhau ar bawb a wnaeth eu profi.
O ganlyniad i arferion y gorffennol, cafodd llawer o fenywod eu cymell i roi gofal eu babanod yn nwylo’r awdurdodau. Roedd y menywod dan sylw yn cael eu barnu yn unol â safonau moesol cymdeithas ar y pryd.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan, a gyflwynodd yr ymddiheuriad swyddogol yn y Senedd cyn cyfarfod â phobl a gafodd eu heffeithio:
> Dw i’n gwybod bod effeithiau arferion mabwysiadu a gwahanu teuluoedd gorfodol yn dal i fod yn rhan fawr o fywydau llawer o’r unigolion sydd wedi cael eu heffeithio.
>
>
>
> Mae’r effeithiau yn amrywiol ac yn parhau. Maen nhw’n berthnasol nid yn unig i bob menyw a gafodd ei gwahanu oddi wrth ei phlentyn o dan yr arferion mabwysiadu gorfodol, ond hefyd i bob mab a merch sydd bellach yn oedolion a gafodd eu mabwysiadu pan oedden nhw ond yn fabanod, ac i aelodau o’r teulu estynedig. Dw i hefyd am gydnabod profiadau’r tad o dan arferion y gorffennol.
>
>
>
> Mae llawer ohonyn nhw’n dal i’w chael hi’n anodd iawn i rannu eu teimladau a siarad am y tor calon sydd wedi effeithio arnyn nhw gydol eu bywydau. Oherwydd eu bod nhw’n poeni y bydd pobl yn dal i’w barnu, maen nhw wedi methu â rhannu ag eraill.
>
>
>
> Ond nid yw’r teimladau o golled, hiraeth, dicter a phoen wedi lleddfu.
>
>
>
> Does dim gwahaniaeth am y pwysau cymdeithasol ar y pryd, nac ychwaith beth oedd yn cael ei ystyried yn arferol mewn cymdeithas, ni ddylai’r fath greulondeb byth fod yn rhan dderbyniol o’n cymdeithas ni yma yng Nghymru.
>
>
>
> Hoffwn i rannu fy nghydymdeimlad diffuant â phawb yr effeithiwyd arnyn nhw. Mae’n destun gofid mawr imi, oherwydd bod cymdeithas wedi troi ei chefn arnoch chi, eich bod chi wedi gorfod profi’r arferion arswydus hyn a oedd ar waith yng Nghymru yn y gorffennol – mae pawb yn Llywodraeth Cymru yn wirioneddol edifar am hyn.
Roedd Ann Lloyd Keen, cyn\-Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ar ran y Blaid Lafur, ac un o’r unigolion yr effeithiwyd arnynt gan fabwysiadu gorfodol yn bresennol yn y Senedd.
Dywedodd:
> Mae heddiw yn ddiwrnod mor bwysig imi a’m mab. Cefais wybod mai ‘dyna fyddai orau’ pan gafodd fy mab ei roi i’w fabwysiadu. Yn anffodus, nid oedd hynny yn wir. Roedd yn erchyll, yn achos cywilydd ac roeddwn i’n galaru ac yn methu â siarad ag unrhyw un. Cefais fy ngorfodi i fyw bywyd gyda chyfrinach fawr.
>
>
>
> Penderfynais ddod yn nyrs gofrestredig er mwyn rhoi’r math o urddas a chyfiawnder cymdeithasol i gleifion na chefais innau pan oeddwn fwyaf agored i niwed.
>
>
>
> Yn ddiweddarach, cefais y fraint o gael fy ethol yn Aelod Seneddol dros y Blaid Lafur ac yn Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd, ond anghofiais i fyth mo’r teimlad o gywilydd mawr. Yn ddiweddarach, teimlais y fath lawenydd pan gefais weld fy mab arbennig unwaith eto.
>
>
>
> Heddiw, fel Cymraes sy’n eistedd yn Senedd Cymru, i lawr y ffordd o ble y cafodd fy mab ei eni yn Abertawe, dw i’n teimlo’n dawel fy meddwl a bod fy enw i wedi cael ei glirio. Nid fy newis i oedd ei roi i’w fabwysiadu. Cafodd y dewis hwnnw, a’m mab fy hunan, eu cymryd o’n nwylo i.
Ychwanegodd Julie Morgan:
> Ni allwn newid yr hyn sydd wedi digwydd. Ond gallaf sicrhau pawb fod deddfwriaeth ac arferion mabwysiadu wedi cael eu cryfhau’n sylweddol ers y dyddiau hynny.
>
>
>
> Rydyn ni wrthi’n barod yn gweithio gyda’r Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i ystyried y materion sydd wedi’u nodi yn adroddiad y Cyd\-bwyllgor. Rydyn ni hefyd yn cydweithio i ddatblygu gwasanaethau cymorth a fydd yn mynd i’r afael ag anghenion penodol y rheini a gafodd eu heffeithio gan arferion mabwysiadu a gwahanu teuluoedd gorfodol.
>
>
>
> Wrth inni wynebu heriau’r dyfodol, byddwn yn cofio’r gwersi a ddysgwyd o wahanu teuluoedd. Byddwn yn rhoi sylw dyledus i barhau i ddiogelu hawliau sylfaenol plant a phwysigrwydd eu hawl i gael gofal gan riant.
|
Translate the text from English to Welsh. |
Last week, Welsh Government said the funding would be confirmed pending today’s regulations review.
The additional support will help businesses in the hospitality, tourism, leisure and non\-essential retail sectors that pay non\-domestic rates and will operate as a top up to the Restrictions Business Fund.
This will see an eligible business with a rateable value of £12,000 or less receive an extra £4,000 grant payment.
Firms with a rateable value of between £12,001 and £500,000 will receive £5,000\.
The funding, which will help businesses with their costs will be available to firms regardless of the number of employees and ensures micro businesses benefit from the support.
Local authorities, who have been crucial throughout the pandemic in getting money to businesses quickly, will again be administering and distributing these payments.
Businesses that pay non\-domestic rates and have already received a payment since the firebreak in October do not need to take action. However, businesses that have not registered with their local authority, should take action now to ensure they receive the financial support they are entitled to.
Today’s announcement builds on the rates holiday for eligible businesses in the retail, leisure and hospitality sectors in Wales which has been extended for a further 12 months.
In combination with Welsh Government’s existing Small Business Rates Relief scheme, this ensures that more than 70,000 businesses will continue to pay no rates at all in 2021 to 2022\.
Since the beginning of the pandemic, more than £1\.9 billion of Welsh Government support has reached businesses throughout Wales. This has been vital in protecting firms through this incredibly difficult time and safeguarding 160,000 jobs.
Welsh Government support is in addition to that available from the UK Government.
Economy Minister Ken Skates said:
> “Today’s announcement of £150 million in additional support is crucial to our continued efforts to help businesses right across Wales through what remains a very challenging period of time.
>
>
> “As a Government, we have responded at pace to protect Welsh firms and jobs through our package of support which is worth more than £2 billion. In addition, we have also announced we are extending the 100% rates relief package for the retail, leisure and hospitality sectors for a further 12 months.
>
>
> “As a result of our direct action, we have been able to dedicate more funding to support businesses than we have received from the UK Government.
>
>
> “I also want to thank local authorities once again for their commitment to get funds out to businesses as quickly as possible. Their dedication has been absolutely crucial over this past year in ensuring businesses receive what they are entitled to.
>
>
> “We will continue to do all that it can to safeguard firms and livelihoods as incredible work and commitment to combat the virus continues across Wales.
|
Yr wythnos ddiwethaf, dywedodd Llywodraeth Cymru y byddai'r cyllid yn cael ei gadarnhau wedi yr adolygiad o reoliadau heddiw.
Bydd y cymorth ychwanegol yn helpu busnesau yn y sectorau lletygarwch, twristiaeth, hamdden a manwerthu nad ydynt yn hanfodol sy'n talu ardrethi annomestig a bydd yn ychwanegiad i’r Gronfa i Fusnesau dan Gyfyngiadau.
Bydd hyn yn golygu y bydd busnesau cymwys sydd â gwerth ardrethol o £12,000 neu lai yn derbyn taliad grant ychwanegol o £4,000\.
Bydd cwmnïau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £12,001 a £500,000 yn derbyn £5,000\.
Bydd y cyllid, a fydd yn helpu busnesau gyda'u costau ar gael i gwmnïau waeth faint o weithwyr sydd ganddynt ac yn sicrhau bod microfusnesau yn elwa o'r cymorth.
Bydd awdurdodau lleol, sydd wedi bod yn hanfodol drwy gydol y pandemig o ran trosglwyddo arian i fusnesau yn gyflym, yn gweinyddu ac yn dosbarthu'r taliadau hyn.
Nid oes angen i fusnesau sy'n talu ardrethi annomestig ac sydd eisoes wedi cael taliad ers y bwlch tân ym mis Hydref weithredu. Fodd bynnag, dylai busnesau nad ydynt wedi cofrestru gyda'u hawdurdod lleol gymryd camau yn awr i sicrhau eu bod yn cael y cymorth ariannol y mae ganddynt hawl iddo.
Mae'r cyhoeddiad heddiw yn adeiladu ar y gwyliau ardrethi i fusnesau cymwys yn y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch yng Nghymru sydd wedi'i ymestyn am 12 mis arall.
Ar y cyd â chynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach presennol Llywodraeth Cymru, mae hyn yn sicrhau y bydd mwy na 70,000 o fusnesau yn parhau i beidio dalu unrhyw ardrethi o gwbl yn 2021 i 2022\.
Ers dechrau'r pandemig, mae dros £1\.9 biliwn o gymorth gan Lywodraeth Cymru wedi cyrraedd busnesau ledled Cymru. Bu hyn yn hanfodol i ddiogelu cwmnïau drwy'r cyfnod hynod anodd hwn a diogelu 160,000 o swyddi.
Mae cymorth Llywodraeth Cymru yn ychwanegol at yr hyn sydd ar gael gan Lywodraeth y DU.
Dywedodd Gweinidog yr Economi, Ken Skates:
> "Mae'r cyhoeddiad heddiw o £150 miliwn mewn cymorth ychwanegol yn hanfodol i'n hymdrechion parhaus i helpu busnesau ledled Cymru drwy gyfnod heriol iawn.
>
>
> "Fel Llywodraeth, rydym wedi ymateb yn gyflym i ddiogelu cwmnïau a swyddi Cymru drwy ein pecyn cymorth sy'n werth mwy na £2 biliwn. Rydym hefyd wedi cyhoeddi ein bod yn ymestyn y pecyn rhyddhad ardrethi 100% ar gyfer y sectorau manwerthu, hamdden a lletygarwch am 12 mis arall.
>
>
> "O ganlyniad i'n camau gweithredu uniongyrchol, rydym wedi gallu neilltuo mwy o gyllid i gefnogi busnesau nag a gawsom gan Lywodraeth y DU.
>
>
> "Rwyf hefyd am ddiolch i awdurdodau lleol unwaith eto am eu hymrwymiad i gael arian i fusnesau cyn gynted â phosibl. Mae eu hymroddiad wedi bod yn gwbl hanfodol dros y flwyddyn ddiwethaf o ran sicrhau bod busnesau'n cael yr hyn y mae ganddynt hawl iddo.
>
>
> "Byddwn yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i ddiogelu cwmnïau a bywoliaethau wrth i waith anhygoel ac ymrwymiad i frwydro yn erbyn y feirws barhau ledled Cymru.
|