Datasets:

ArXiv:
License:
File size: 69,271 Bytes
2da0bc5
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
151
152
153
154
155
156
157
158
159
160
161
162
163
164
165
166
167
168
169
170
171
172
173
174
175
176
177
178
179
180
181
182
183
184
185
186
187
188
189
190
191
192
193
194
195
196
197
198
199
200
201
202
203
204
205
206
207
208
209
210
211
212
213
214
215
216
217
218
219
220
221
222
223
224
225
226
227
228
229
230
231
232
233
234
235
236
237
238
239
240
241
242
243
244
245
246
247
248
249
250
251
252
253
254
255
256
257
258
259
260
261
262
263
264
265
266
267
268
269
270
271
272
273
274
275
276
277
278
279
280
281
282
283
284
285
286
287
288
289
290
291
292
293
294
295
296
297
298
299
300
301
302
303
304
305
306
307
308
309
310
311
312
313
314
315
316
317
318
319
320
321
322
323
324
325
326
327
328
329
330
331
332
333
334
335
336
337
338
339
340
341
342
343
344
345
346
347
348
349
350
351
352
353
354
355
356
357
358
359
360
361
362
363
364
365
366
367
368
369
370
371
372
373
374
375
376
377
378
379
380
381
382
383
384
385
386
387
388
389
390
391
392
393
394
395
396
397
398
399
400
401
402
403
404
405
406
407
408
409
410
411
412
413
414
415
416
417
418
419
420
421
422
423
424
425
426
427
428
429
430
431
432
433
434
435
436
437
438
439
440
441
442
443
444
445
446
447
448
449
450
451
452
453
454
455
456
457
458
459
460
461
462
463
464
465
466
467
468
469
470
471
472
473
474
475
476
477
478
479
480
481
482
483
484
485
486
487
488
489
490
491
492
493
494
495
496
497
498
499
500
501
502
503
504
505
506
507
508
509
510
511
512
513
514
515
516
517
518
519
520
521
522
523
524
525
526
527
528
529
530
531
532
533
534
535
536
537
538
539
540
541
542
543
544
545
546
547
548
549
550
551
552
553
554
555
556
557
558
559
560
561
562
563
564
565
566
567
568
569
570
571
572
573
574
575
576
577
578
579
580
581
582
583
584
585
586
587
588
589
590
591
592
593
594
595
596
597
598
599
600
601
602
603
604
605
606
607
608
609
610
611
612
613
614
615
616
617
618
619
620
621
2Z7eK2x89S0-00000-00000032-00000400 Dyma fore ni’n edrych ymlaen at bob blwyddyn 
2Z7eK2x89S0-00001-00000400-00000592 yma yn swyddfa’r Prif Weinidog.
2Z7eK2x89S0-00002-00000600-00001248 Y diwrnod pan ni’n edrych ar y cardiau sydd wedi dod i mewn 
2Z7eK2x89S0-00003-00001280-00001823 fel rhan o’r gystadleuaeth  i ddewis cerdyn Nadolig 
2Z7eK2x89S0-00004-00001823-00002260 i fynd ledled y byd o swyddfa’r Prif Weinidog. 
2Z7eK2x89S0-00005-00002312-00002796 Y thema y tro hwn oedd ‘Croeso i Gymru’.
2Z7eK2x89S0-00006-00002864-00003424 Ni’n gwybod fod pobl ledled y byd wedi cael blwyddyn anodd -
2Z7eK2x89S0-00007-00003508-00003768 ac yma yng Nghymru ni wedi cael y cyfle 
2Z7eK2x89S0-00008-00003768-00004252 i groesawu pobl i ddod fan hyn ac ailsefydlu.
2Z7eK2x89S0-00009-00004268-00004732 Diolch yn fawr i bob un sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth. 
2Z7eK2x89S0-00010-00004816-00005336 Dyma’r foment i ddangos yr un sydd wedi ennill. 
2Z7eK2x89S0-00011-00005448-00006216 Felly - llongyfarchiadau mawr   Ysgol St Mary yn Llanelli. 
2Z7eK2x89S0-00012-00006272-00006692 A diolch i’r athrawon ledled Cymru 
2Z7eK2x89S0-00013-00006740-00006984 sydd wedi cymryd rhan  yn yr ymdrech 
2Z7eK2x89S0-00014-00007012-00007223 i ddod o hyd i gerdyn Nadolig
2Z7eK2x89S0-00015-00007256-00007636 sydd yn mynd o Gymru drwy’r byd i gyd. 
5Ee4oDiFqmE-00000-00000109-00000384 Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i wella
5Ee4oDiFqmE-00001-00000384-00000710 sut rydym yn ymdrin â diogelwch adeiladau
5Ee4oDiFqmE-00002-00000710-00000980 er budd trigolion ledled Cymru.
5Ee4oDiFqmE-00003-00001005-00001404 Byddai’r newidiadau hyn yn golygu’r newidiadau mwyaf sylweddol
5Ee4oDiFqmE-00004-00001404-00001732 i ddiogelwch adeiladau yn y Deyrnas Unedig.
5Ee4oDiFqmE-00005-00001732-00001888 Rydym eisiau gwneud yn siŵr
5Ee4oDiFqmE-00006-00001888-00002216 bod unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud yn iawn i Gymru,
5Ee4oDiFqmE-00007-00002216-00002588 a dyna pam ein bod ni eisiau clywed gennych chi.
5Ee4oDiFqmE-00008-00002640-00003211 Mae'r drefn newydd a gynigir yn cwmpasu tri maes polisi allweddol.
5Ee4oDiFqmE-00009-00003257-00003440 Math o adeilad.
5Ee4oDiFqmE-00010-00003440-00003692 Byddai’r newidiadau rydym yn eu cynnig
5Ee4oDiFqmE-00011-00003692-00004104 yn gwella nifer o wahanol fathau o adeiladau preswyl.
5Ee4oDiFqmE-00012-00004104-00004452 O adeiladau gyda dwy breswylfa ar wahân neu fwy,
5Ee4oDiFqmE-00013-00004452-00004676 hyd at fflatiau uchel.
5Ee4oDiFqmE-00014-00004704-00004984 Rhoi mesurau diogelwch ar waith.
5Ee4oDiFqmE-00015-00004984-00005344 Rydym am sicrhau bod diogelwch yn ystyriaeth allweddol
5Ee4oDiFqmE-00016-00005344-00005600 drwy gydol cylch oes adeilad.
5Ee4oDiFqmE-00017-00005600-00005756 O ddylunio,
5Ee4oDiFqmE-00018-00005756-00005908 i adeiladu,
5Ee4oDiFqmE-00019-00005908-00006160 hyd at ei feddiannu yn y pen draw.
5Ee4oDiFqmE-00020-00006200-00006812 Rydym am iddi fod yn glir gwaith pwy yw sicrhau diogelwch adeiladau ar bob cam.
5Ee4oDiFqmE-00021-00006881-00007076 Llais preswyliwr
5Ee4oDiFqmE-00022-00007076-00007516 Rydym am i lais trigolion fod wrth galon y diwygiadau hyn,
5Ee4oDiFqmE-00023-00007516-00007800 gan rymuso trigolion i gymryd mwy o ran
5Ee4oDiFqmE-00024-00007800-00008076 mewn materion sy’n effeithio ar eu cartrefi
5Ee4oDiFqmE-00025-00008076-00008344 ac i gadw pawb yn ddiogel.
5Ee4oDiFqmE-00026-00008344-00008728 Gallwch gymryd rhan drwy ateb yr ymgynghoriad ar-lein
5Ee4oDiFqmE-00027-00008728-00009268 rhwng y 12 Ionawr a’r 12 Ebrill, 2021.
5Ee4oDiFqmE-00028-00009268-00009612 Rydym yn awyddus i glywed eich safbwyntiau chi.
5Ee4oDiFqmE-00029-00009612-00009888 Ewch i’n gwefan i gael gwybod mwy.
dtY9kkn5RPy-00000-00000134-00000500 Mae Wici’r Holl Ddaear yn gystadleuaeth ffotograffiaeth ryngwladol.
dtY9kkn5RPy-00001-00000526-00000959 Mae cyfranogwyr o bob cornel o’r byd yn cyflwyno eu ffotograffau gorau
dtY9kkn5RPy-00002-00000959-00001346 o'r amgylchedd naturiol yn ardaloedd gwarchodedig eu gwledydd.
dtY9kkn5RPy-00003-00001379-00001876 Bydd y lluniau gorau o bob gwlad yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth ryngwladol.
dtY9kkn5RPy-00004-00001876-00002155 Eleni mae Cymru yn cystadlu am y tro cyntaf.
dtY9kkn5RPy-00005-00002182-00002663 Mae ein tirweddau gwarchodedig a'r bywyd gwyllt sy'n byw ynddynt yn amrywio'n fawr
dtY9kkn5RPy-00006-00002696-00003306 o gopaon Eryri, i fawnogydd, corsydd, llynnoedd, afonydd ac ein morlin dramatig.
dtY9kkn5RPy-00007-00003333-00003823 Cyn belled â bod eich lluniau'n cael eu tynnu mewn ardal warchodedig fel
dtY9kkn5RPy-00008-00003823-00004408 parc cenedlaethol, gwarchodfa natur neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
dtY9kkn5RPy-00009-00004408-00004987 yna maen nhw'n gymwys ar gyfer y gystadleuaeth, p'un a yw'ch pwnc yn rhywbeth mawr neu'n rhywbeth bach.
dtY9kkn5RPy-00010-00005021-00005400 I gymryd rhan yn y gystadleuaeth mae'n rhaid i chi uwchlwytho'ch ffotograffau
dtY9kkn5RPy-00011-00005400-00005767 i Gomin Wikimedia trwy wefan Cymru yn ystod mis Mehefin.
dtY9kkn5RPy-00012-00005800-00006411 Yma gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth a rhestr fanylach o leoliadau sy'n gymwys
dtY9kkn5RPy-00013-00006411-00007173 gan gynnwys Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
dtY9kkn5RPy-00014-00007211-00007672 Er mwyn uwchlwytho'ch ffotograffau bydd angen cyfrif Wikimedia am ddim arnoch. 
dtY9kkn5RPy-00015-00007712-00008014 Gallwch chi gofrestru ar Gomin Wikimedia.
dtY9kkn5RPy-00016-00008035-00008473 Ar ôl i chi mewngofnodi a thynnu rhai lluniau, rydych chi'n barod i ddechrau rhannu.
dtY9kkn5RPy-00017-00008510-00008841 Dewiswch eich ffeiliau o'ch cyfrifiadur neu'ch ffôn.
dtY9kkn5RPy-00018-00008852-00009169 Yna byddwch chi'n cadarnhau'r cytundeb trwyddedu.
dtY9kkn5RPy-00019-00009182-00009611 Bydd yr holl ddelweddau yn y gystadleuaeth hon wedi'u trwyddedu'n agored, 
dtY9kkn5RPy-00020-00009617-00010034 fel y gellir eu hailddefnyddio ar Wikipedia ac mewn mannau eraill.
dtY9kkn5RPy-00021-00010069-00010317 Y cam nesaf yw disgrifio’r ddelwedd.
dtY9kkn5RPy-00022-00010334-00011093 Mae'n bwysig bod ganddo enw disgrifiadol a disgrifiad byr, sy'n disgrifio'r lleoedd a'r pethau sy’n ymddangos yn eich ffotograff.
dtY9kkn5RPy-00023-00011139-00011708 Yn olaf, os oes unrhyw gategorïau Comin perthnasol, gallwch eu hychwanegu at eich delwedd. 
dtY9kkn5RPy-00024-00011728-00012048 Gallwch hefyd ychwanegu cyfesurynnau
dtY9kkn5RPy-00025-00012062-00012520 er y bydd llawer o gamerâu a ffonau modern yn gwneud hyn yn awtomatig.
dtY9kkn5RPy-00026-00012549-00012965 Ar ôl i chi glicio Publish, bydd eich delwedd yn cael ei rhannu
dtY9kkn5RPy-00027-00012970-00013178 a'i chynnwys yn y gystadleuaeth
njRKFRJRD0g-00000-00002850-00003152 Mae cynllun prentisiaethau Llywodraeth Cymru
njRKFRJRD0g-00001-00003152-00003382 yn gyfle i gael profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith.
njRKFRJRD0g-00002-00003522-00003832 Byddwch yn dysgu sut brofiad i'w gweithio mewn sefydliad mawr
njRKFRJRD0g-00003-00003832-00004104 gan gydweithio ag amrywiaeth o weithwyr  cyflogedig,
njRKFRJRD0g-00004-00004104-00004392 gweinidogion a'r cyhoedd hyd a lled Cymru
njRKFRJRD0g-00005-00004536-00004764 I fi mae'r Brentisiaeth yn gyfle gwych i fod yn onest,
njRKFRJRD0g-00006-00004794-00005090 gen i sgiliau newydd,  dw'i wedi cwrdd ‚ llawer o bobl wahanol.
njRKFRJRD0g-00007-00005100-00005436 Dw'i wedi bod i lawer o lefydd gwahanol
njRKFRJRD0g-00008-00005650-00005982 dw'i wedi bod ar y teledu ar gyfer 'Cariad at Iaith'
njRKFRJRD0g-00009-00005986-00006182 felly mae'r profiad yn really dda.
njRKFRJRD0g-00010-00006316-00006602 Pan fyddwch chi ar y brentisiaeth yma byddwch yn ennill sgiliau,
njRKFRJRD0g-00011-00006602-00006890 gwybodaeth a chymwysterau proffesiynol sy'n benodol i'r
njRKFRJRD0g-00012-00006890-00007172 swydd gan gynnwys hyfforddiant i ennill NVQ lefel 2
njRKFRJRD0g-00013-00007172-00007770 mewn gweinyddu busnes yn ogystal ‚ chymwysterau perthnasol eraill.
njRKFRJRD0g-00014-00007773-00008059 Trwy gydol y Cynllun prentisiaeth byddwch yn cael help gan eich adran, eich rheolwr llinell
njRKFRJRD0g-00015-00008059-00008368 a'ch cyn prentis i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth
njRKFRJRD0g-00016-00008368-00008598 i'ch paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.
njRKFRJRD0g-00017-00008644-00008896 Cewch gyfle hefyd i dyfu, i rwydweithio
njRKFRJRD0g-00018-00008896-00009144 ac i godi arian gyda cyn prentisiaid eraill.
njRKFRJRD0g-00019-00009190-00009492 Dw'i wedi cwrdd ‚ ffrindiau newydd dw'i wedi cwrdd ‚ phobl newydd
njRKFRJRD0g-00020-00009494-00009796 mae'r cyfle wedi bod yn really gwych
njRKFRJRD0g-00021-00009936-00010224 Rydyn yn cynnig pob math o leoliadau led Cymru
njRKFRJRD0g-00022-00010224-00010468 yn amrywio o waith swyddfa i waith maes,
njRKFRJRD0g-00023-00010468-00010712 sy'n golygu y gallwch chi gael profiad go iawn
njRKFRJRD0g-00024-00010714-00010932 a berthnasol a bydd yn hwb i'ch CV.
njRKFRJRD0g-00025-00011368-00011522 O ni'n meddwl wrth
njRKFRJRD0g-00026-00011562-00011874 gael y prentis yma bydd e just yn waith
njRKFRJRD0g-00027-00011874-00012206 wrth y ddesg ond i fod yn onest dw'i wedi neud llawer mwy na hwnna.
njRKFRJRD0g-00028-00012366-00012666 Dw'i wedi cael profiad yn neud NVQ Level 2.
njRKFRJRD0g-00029-00012666-00013232 Dw'i wedi cael profiad yn neud cyfryngau cymdeithasol a  posteri sy'n mynd
njRKFRJRD0g-00030-00013232-00013536 ar Twitter a Facebook. Dw'i di ehangu sgiliau Cymraeg.
njRKFRJRD0g-00031-00013536-00013822 Mae'r tîm cyfan yn Gymraeg felly
njRKFRJRD0g-00032-00013822-00013996 does dim angen i fi golli'r Iaith.
njRKFRJRD0g-00033-00014038-00014308 Mae'r profiad wedi bod yn wych i fi. Dw'i wir wedi
njRKFRJRD0g-00034-00014308-00014750 codi hyder ers bod yma am flwyddyn.
njRKFRJRD0g-00035-00015708-00016026 Mae'n brofiad really really da, mae'n wych, just ewch amdani
njRKFRJRD0g-00036-00016028-00016440 a hefyd rydych yn cael eich talu wrth ddysgu felly ewch amdani.
njRKFRJRD0g-00037-00016476-00016734 Gwenwch gais heddiw does dim iíw golli
njRKFRJRD0g-00038-00016734-00016864 ond digon i'w ennill.
nlC8R7K5Djo-00000-00000000-00000256 Os ydych chi’n teimlo’n sal
nlC8R7K5Djo-00001-00000256-00000548 Dechreuwch gyda moddion dros y cownter
nlC8R7K5Djo-00002-00000548-00001220 Cadwch ddigon o foddion yn y tŷ, i wella’n gyflymach. Gall eich fferyllydd lleol roi meddyginiaeth am ddim ar gyfer anhwylderau cyffredin, yn aml heb apwyntiad. 
nlC8R7K5Djo-00003-00001220-00001500 Chi sy’n dechrau’r daith at fod yn iach
tVx5U4Q4AAg-00000-00000382-00000719 Cafodd Puffin Produce ei ffurfio nôl yn 1995
tVx5U4Q4AAg-00001-00000798-00001056 a chyn hyn roedd e’n cael ei adnabod fel Pembrokeshire
tVx5U4Q4AAg-00002-00001056-00001346 Potato Marketing Group. Y tyfwyr sef ein
tVx5U4Q4AAg-00003-00001346-00001562 cynhyrchwyr sydd yn dal i berchen Puffin.
tVx5U4Q4AAg-00004-00001615-00001903 Mae’r cwmni wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf
tVx5U4Q4AAg-00005-00001903-00002239 o ran cyfraniad y farchnad llysiau yng Nghymru
tVx5U4Q4AAg-00006-00002253-00002514 o ran sales. Heddiw mae
tVx5U4Q4AAg-00007-00002514-00002849 cant pedwar deg o staff gyda ni.
tVx5U4Q4AAg-00008-00002903-00003100 Mae hwn wedi cynyddu o pumdeg
tVx5U4Q4AAg-00009-00003136-00003410 o pum mlynedd yn ôl. Tatws
tVx5U4Q4AAg-00010-00003410-00003760 yw ein prif gynnyrch ond ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o lysiau,
tVx5U4Q4AAg-00011-00003760-00004040 er enghraifft blodfresych, cennin,
tVx5U4Q4AAg-00012-00004040-00004327 sibwns, bresych
tVx5U4Q4AAg-00013-00004351-00004630 ac mae rhain ar gael yn llawer o’r archfarchnadoedd
tVx5U4Q4AAg-00014-00004630-00004796 mawr yng Nghymru, er enghraifft
tVx5U4Q4AAg-00015-00004796-00005122 Tesco, Morrisons, Sainsbury’s, Asda.
tVx5U4Q4AAg-00016-00005158-00005456 Trwy cymorth Llywodraeth Cymru a trwy
tVx5U4Q4AAg-00017-00005456-00005771 rhoi pwylais mawr ar ein brand Blas y Tir,
tVx5U4Q4AAg-00018-00005774-00006049 rydym wedi gallu profi i’r archfarchnadoedd
tVx5U4Q4AAg-00019-00006049-00006328 bod cwsmeriaid yng Nghymru yn rhoi
tVx5U4Q4AAg-00020-00006328-00006570 gwerth mawr ar gallu prynu produce
tVx5U4Q4AAg-00021-00006570-00006885 Cymraeg lleol. Rydym wedi gallu buddsoddi yn
tVx5U4Q4AAg-00022-00006885-00007190 kit a offer newydd yn y ffatri sy’n golygu
tVx5U4Q4AAg-00023-00007190-00007530 ni’n gallu cyflenwi gofynion yr archfarchnadoedd yn rhwyddach
tVx5U4Q4AAg-00024-00007541-00007705 ac yn gyflymach. Maent
tVx5U4Q4AAg-00025-00007705-00007974 hefyd wedi helpu ni trwy gwneud cais am
tVx5U4Q4AAg-00026-00007974-00008163 Statws PGI
tVx5U4Q4AAg-00027-00008163-00008463 nôl yn 2013 ac mae’r dynodiad
tVx5U4Q4AAg-00028-00008463-00008763 daearyddol arbennig yma wedi bod
tVx5U4Q4AAg-00029-00008763-00008967 o werth i ni o ran marchnata
tVx5U4Q4AAg-00030-00009030-00009450 a rhoi stamp i’n cynnyrch tatws newydd Sir Benfro.
tVx5U4Q4AAg-00031-00009489-00009789 Ar hyn o bryd rydym yn edrych mewn i’r sector
tVx5U4Q4AAg-00032-00009789-00010052 cynnyrch wedi ei rhag paratoi a’r pwynt o hwn
tVx5U4Q4AAg-00033-00010052-00010399 yw i trio hybu pobl ifanc i fwyta llysiau.
tVx5U4Q4AAg-00034-00010419-00010719 Am y dyfodol blaenoriaeth Puffin Produce yw i wneud
tVx5U4Q4AAg-00035-00010719-00011049 yn siŵr bod llysiau Cymraeg
tVx5U4Q4AAg-00036-00011049-00011382 Blas y Tir ar blât pob tŷ yng Nghymru.
yZjw5m1Xl30-00000-00000008-00000128 Canlyniadau arholiad.
yZjw5m1Xl30-00001-00000128-00000328 Yn meddwl “Ble nesaf?”
yZjw5m1Xl30-00002-00000328-00000496 Mae’r ateb yma.
yZjw5m1Xl30-00003-00000496-00000730 Beth bynnag yw eu huchelgais a’u canlyniadau…
yZjw5m1Xl30-00004-00000733-00000858 Gallwn ni helpu...
yZjw5m1Xl30-00005-00000858-00001200 Boed yn gyngor ar barhau mewn addysg, fel Tola
yZjw5m1Xl30-00006-00001200-00001480 Gwybodaeth am brentisiaeth, fel Ethan
yZjw5m1Xl30-00007-00001480-00001798 Cyfleoedd gwirfoddol i ennill profiad, fel Lucy
yZjw5m1Xl30-00008-00001798-00002046 Help i ddechrau busnes, fel Osian…
yZjw5m1Xl30-00009-00002046-00002288 Neu hwb i gychwyn gyrfa, fel Sam.
yZjw5m1Xl30-00010-00002288-00002504 Felly os ydych chi’n dal i feddwl Ble Nesaf?
yZjw5m1Xl30-00011-00002504-00002644 Mae’r ateb yma.
yZjw5m1Xl30-00012-00002644-00002966 Chwiliwch am Ble Nesaf? Gyrfa Cymru i weld beth sy’n bosib.
z11BTu7vVHM-00000-00001125-00001225 Ein heffaith ledled Cymru ers 2018.
z11BTu7vVHM-00001-00002347-00002568 Cefnogi’r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i sicrhau £155 miliwn
z11BTu7vVHM-00002-00002572-00002803 i ddatblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a cherbydau dim allyriadau.
z11BTu7vVHM-00003-00003089-00003264 (Sarah Merrick, Prif Swyddog Gweithredol, Egni Ripple) “Graig Fatha yw’r fferm wynt gyntaf erioed
z11BTu7vVHM-00004-00003264-00003405 yn y DU sy’n eiddo i ddefnyddwyr.
z11BTu7vVHM-00005-00003405-00003644 Felly mae hyn yn golygu bod y bobl sy’n berchen arno mewn gwirionedd yn cael trydan
z11BTu7vVHM-00006-00003644-00003949 gwyrdd cost isel y mae’n ei gynhyrchu ac o ganlyniad maent yn cael arbedion oddi ar
z11BTu7vVHM-00007-00003949-00004156 eu bil trydan am ei oes o 25 mlynedd.”
z11BTu7vVHM-00008-00004414-00004663 Ymrwymwyd 45MW o gapasiti ynniad newyddadwy newydd.
z11BTu7vVHM-00009-00004719-00004904 Dyna ddigon o drydan i bweru 13,300 o gartrefi nodweddiadol yng Nghymru.
z11BTu7vVHM-00010-00005245-00005835 Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe oedd y cyntaf yng Nghymru i ddatblygu ei fferm solar ei hun.
z11BTu7vVHM-00011-00005893-00005993 (Des Keighan, Cyfarwyddwr Ystadau Cynorthwyo, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe) 
z11BTu7vVHM-00012-00006042-00006380 “Mae disgwyl i’r ysbyty gael bron i 20% o’i ynni o’r fferm solar.
z11BTu7vVHM-00013-00006413-00006767 Drwy gydol misoedd yr haf bydd yn darparu cyfran fawr o’r ynni sydd ei angen, ond
z11BTu7vVHM-00014-00006786-00007164 hyd yn oed yn ystod misoedd y gaeaf rydym eisoes wedi cyflawni 55 awr lle nad ydym wedi
z11BTu7vVHM-00015-00007176-00007550 gofyn am unrhyw ynni gan y Grid Cenedlaethol.”
z11BTu7vVHM-00016-00007793-00008204 “Mae’n hyfryd iawn bod yma heddiw ar y fferm solar gyntaf i gael ei rhedeg gan fwrdd
z11BTu7vVHM-00017-00008204-00008515 iechyd yng Nghymru.
z11BTu7vVHM-00018-00008515-00008938 Prosiect sydd wedi’i gefnogi’n arbennig gan raglen Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru,
z11BTu7vVHM-00019-00008938-00009376 rhaglen sydd wedi bod yn cael effaith ledled Cymru ers peth amser.
z11BTu7vVHM-00020-00009376-00009843 Cefnogi uchelgais gyfunol y sector cyhoeddus i ddatgarboneiddio erbyn 2030 ac mae hon yn
z11BTu7vVHM-00021-00009843-00010086 enghraifft wych yma heddiw.” (Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd).
z11BTu7vVHM-00022-00010135-00010442 Mae disgwyl i'r prosiectau dorri 716,000 tunnell o CO2 yn ystod eu hoes.
z11BTu7vVHM-00023-00010556-00010927 Mae hynny yr un peth â thynnu 300,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn.
z11BTu7vVHM-00024-00011075-00011290 "Rwyf wrth fy modd â'r faniau trydan hyn.
z11BTu7vVHM-00025-00011290-00011510 Maen nhw mor gyflym, mor lân ac mor dawel.
z11BTu7vVHM-00026-00011510-00011659 Ac maen nhw'n hyfryd i yrru.
z11BTu7vVHM-00027-00011791-00012062 Ac rwy’n defnyddio llawer llai o egni, felly gallaf ddweud wrth y wyrion fy mod yn helpu
z11BTu7vVHM-00028-00012062-00012356 i achub y blaned.”
z11BTu7vVHM-00029-00012903-00013598 Cefnogi Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
AP2J-wZE86Y-00000-00000032-00000656 Roedd Ben wastad yn dda am greu pethau, felly penderfynodd fynd ati i gynhyrchu ei yrfa ei hun.
AP2J-wZE86Y-00001-00000756-00001210 Pan benderfynodd Ben ei fod eisiau gyrfa gyda mwy o gyfleoedd datblygu, roedd yn gwybod
AP2J-wZE86Y-00002-00001210-00001494 ei fod angen sgiliau a phrofiad ymarferol.
AP2J-wZE86Y-00003-00001502-00001973 Felly, fe wnaeth ddewis ddoeth i gychwyn prentisiaeth. A dyw e ddim wedi edrych yn ôl.
AP2J-wZE86Y-00004-00001973-00002560 Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at gymhwyster rheolwr, a chyn hir, bydd yn rheoli ei dîm ei hun.
AP2J-wZE86Y-00005-00002661-00003084 I weld beth all prentisiaethau ei wneud i ti, chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth.
AWYC13R6d0U-00000-00000000-00000509 Datgloi: Straeon COVID o Gymru Dot Davies gyda Dr Eleri Davies MBE Cyfarwyddwr, Atal a Rheoli Heintiau, Iechyd Cyhoeddus Cymru
AWYC13R6d0U-00001-00000509-00001690 Eleri: Felly Dr Eleri Davies ydw i. Ac ar hyn o bryd rwy'n is-gyfarwyddwr meddygol i Iechyd Cyhoeddus Cymru. 
AWYC13R6d0U-00002-00001690-00002304 Dot: Awn ni'n ôl i'r dechrau, fi'n credu, achos mae'n  ddiddorol. Chi 'di cyrraedd ble 'ych chi nawr,
AWYC13R6d0U-00003-00002304-00003018 ond mae eisiau ni wybod a deall falle 'chydig am  eich cefndir chi a pam byd meddygaeth?
AWYC13R6d0U-00004-00003018-00003905 Eleri: Ww, wel, mae hwnna yn sbel yn ôl erbyn hyn. Fi'n credu  reit ar y dechrau pan o'n i'n dewis fy nghyrsiau Lefel A 
AWYC13R6d0U-00005-00003905-00004817 ac yn meddwl am beth i neud nesa', diddordeb mewn gwyddoniaeth ac efallai mwy mewn ffarmacoleg oedd gen i. 
AWYC13R6d0U-00006-00004817-00005714 Ond oedd pobl yn y capel lle o'n i'n mynd gyda fy  rhieni yn ymwneud â byd patholeg a microbioleg, 
AWYC13R6d0U-00007-00005714-00006183 ac fe ddechreuodd y diddordeb fan hynny.  A fy newisiadau Lefel A 
AWYC13R6d0U-00008-00006183-00006633 wedyn yn mynd a fi mewn i feddygaeth yn dilyn hynny.
AWYC13R6d0U-00009-00006633-00006970 Dot: Capel ble 'de?  Ble gaethoch chi eich magu?
AWYC13R6d0U-00010-00006970-00007598 Eleri: O, wel, ges i fy magu yn Abertawe, a Capel  Bethel Sgeti oedd y capel o'n i'n mynd i. 
AWYC13R6d0U-00011-00007598-00008265 A ges i fy ngeni yng Nghaerfyrddin, lle  oedd teulu fy mam yn hanu, 
AWYC13R6d0U-00012-00008265-00008677 ac wedyn cael fy nghodi yn Abertawe.
AWYC13R6d0U-00013-00008677-00009455 Dot: Y fagwraeth yna, shwt mae hwnna'n siapio'ch cymeriad  chi a'ch penderfyniadau chi o ran eich gyrfa chi?
AWYC13R6d0U-00014-00009455-00010438 Eleri: Wel, oedd fy nhad yn wyddonydd ac yn uwch-ddarlithydd mewn cemeg organig ym Mhrifysgol Abertawe,
AWYC13R6d0U-00015-00010438-00011575 a Mam yn athrawes Cymraeg ac wedi neud gradd  yn y Gymraeg. Felly oedd y cefndir yn hynod o... 
AWYC13R6d0U-00016-00011575-00012282 Wel, wedi seilio yn bwysig ar draddodiadau Cymreig  a mynd i'r capel ag eisteddfodau
AWYC13R6d0U-00017-00012282-00013269 a'r pwysigrwydd o'r iaith Gymraeg. Ac wedyn ar ben hynny,  roedd y wyddoniaeth yn dod trwyddo gyda fy nhad. 
AWYC13R6d0U-00018-00013269-00013916 Ac wrth gwrs, mi oedd e yn neud llawer o waith i hybu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd 
AWYC13R6d0U-00019-00013916-00014925 ynglŷn â throsi Lefel A, er enghraifft, mewn i'r Gymraeg  ac ymgyrchu dros gael ysgolion Cymraeg
AWYC13R6d0U-00020-00014925-00015640 a phethau fel'na. Ac oedd hwnna i gyd yn y cefndir pan o  i wedyn yn symud ymlaen trwy fy ngyrfa i, 
AWYC13R6d0U-00021-00015640-00016362 ac eisiau sicrhau bod gwyddoniaeth a meddygaeth  a phethau iechyd cyhoeddus,
AWYC13R6d0U-00022-00016362-00017106 fel dwi wedi neud dros y blynyddoedd, yn cael ei drosglwyddo yn dda yn y Gymraeg yn ogystal ag yn y Saesneg.
AWYC13R6d0U-00023-00017106-00017529 Dot: Mae'n ddiddorol, yndyw e, shwt chi 'di cyfuno'r ddau  beth 'na. Achos yn eich swydd chi, mae'n swydd, ie,
AWYC13R6d0U-00024-00017529-00018370 mae'r wyddoniaeth ac mae'r ochr meddygol, ond eto chi'n rhywun adnabyddus, rhywun sydd â phlatfform cyhoeddus. 
AWYC13R6d0U-00025-00018370-00018805 Ni 'di clywed eich llais chi gymaint yn ystod  y ddwy flynedd ddiwetha' 'ma. 
AWYC13R6d0U-00026-00018805-00019359 Bob bore o'n i'n gwrando arnoch chi. O'ch chi naill ai  ar Radio Cymru, neu o'ch chi ar S4C yn gyson. 
AWYC13R6d0U-00027-00019359-00019618 Shwt 'ych chi 'di mwynhau'r elfen yna?  Os o'ch chi'n eisteddfota, 
AWYC13R6d0U-00028-00019618-00020227 mae hwnna'n dweu'tha i fod chi'n eitha' cyffyrddus  ar lwyfan ac yn siarad cyhoeddus.
AWYC13R6d0U-00029-00020227-00020983 Eleri: Wel, fi'n credu bod yr eisteddfota a'r perfformio yn  helpu yn y cefndir. Peth arall falle sydd wedi helpu 
AWYC13R6d0U-00030-00020983-00022040 ynglŷn â gwneud pethau ar y radio yn arbennig yw'r ffaith bod fi wedi cyflwyno ar Radio Cymru fel cyfrannwr i raglen Sosban 
AWYC13R6d0U-00031-00022040-00022612 gyda Richard Rees yn wreiddiol. Ac wedi hynny, o'n i'n  gyd-gyflwynydd gyda Dewi Williams a'r Cadw Reiat 
AWYC13R6d0U-00032-00022612-00023602 reit ar y dechrau cynta'. Felly dwi yn gyfarwydd â bod  ar y radio. 'Self op' fel o'n i'n galw fe ar y pryd,
AWYC13R6d0U-00033-00023602-00024327 a dodi disgiau ymlaen a phethau fel hynny. Felly oedd  y profiad hynny yn help. Mae'n rhaid dweud 
AWYC13R6d0U-00034-00024327-00025306 bod trosglwyddo gwybodaeth wyddonol ac iechyd  cyhoeddus, yn neud yn siŵr bod yr hyn sy'n cael ei  drosglwyddo'n gywir yn bach yn wahanol 
AWYC13R6d0U-00035-00025306-00026252 i gyflwyno recordiau Geraint Jarman ac Y Diawled  ar Radio Cymru. Ond mae'r profiad i gyd yn help.
AWYC13R6d0U-00036-00026252-00026776 Dot: Mae eich CV chi mor eang. Shwt fyddech  chi'n mynd ati i grynhoi eich gyrfa chi?
AWYC13R6d0U-00037-00026776-00027333 Fi'm yn gwybod ble mae dechrau, ac o  ystyried y swydd sydd 'da chi nawr. 
AWYC13R6d0U-00038-00027333-00028081 Eleri: Wel, mae'n dangos fy oedran i falle achos bod  fi wedi cael cyfleoedd yn ifanc iawn. 
AWYC13R6d0U-00039-00028081-00028825 Mi o'n i'n ifanc iawn yn dechrau ar Radio Cymru.  Ag oedd e'n brofiadau da.
AWYC13R6d0U-00040-00028825-00029803 Ond chi'n gwybod, mae'r yrfa oddi ar hynny wedyn wedi  datblygu trwy feddygaeth a dilyn y trywydd o'r diddordeb
AWYC13R6d0U-00041-00029806-00030675 oedd gen i mewn heintiau. O'r dechrau mi oedd diddordeb  gyda fi mewn heintiau. Treuliais i un flwyddyn 
AWYC13R6d0U-00042-00030675-00031972 wel, nage blwyddyn, ond y cyfnod rhwng blwyddyn pedwar a phump yn y coleg yn astudio HIV, AIDS yn Llundain gyda'r Athro
AWYC13R6d0U-00043-00031972-00033364 Tony Pinching, oedd yn datblygu'r clinigau cynta'  i ddelio gyda HIV. Felly dyna'r cyfnod pan o'ch  chi'n cael dewis astudiaeth eich hunain.
AWYC13R6d0U-00044-00033364-00034262 O'r dechrau felly, 1988, '89 oedd hynny pan  oedd AIDS yn dechrau bod yn broblem. 
AWYC13R6d0U-00045-00034262-00034744 A bues i yn Llundain am chwe wythnos yn  astudio hwnna. Oedd o'n gyfnod arbennig. 
AWYC13R6d0U-00046-00034744-00035608 Ac mae'r diddordeb 'na wedyn wedi cadw i fynd. Ac  arbenigo mewn meddygaeth microbioleg,
AWYC13R6d0U-00047-00035608-00036312 a wedyn mewn rheoli heintiau yn arbennig. Ac wedyn  trwy weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru, 
AWYC13R6d0U-00048-00036312-00037817 wedi datblygu wedyn ar yr ochr, wel, mwy managerial yn nhermau bod yn rhan o'r tîm oedd yn rhedeg yr ymateb, 
AWYC13R6d0U-00049-00037817-00038711 a bod yn gyfarwyddwr meddygol dros dro am gyfnod,  a nawr yn ddirprwy gyfarwyddwr meddygol. 
AWYC13R6d0U-00050-00038711-00039145 Felly mae 'di bod yn ddatblygiad. Ond mae  o'n dangos fy oedran i hefyd.
AWYC13R6d0U-00051-00039145-00039472 Dot: Wel, na. Ond chi'n gwybod o ran eich  hanes, eich arbenigedd chi, 
AWYC13R6d0U-00052-00039472-00040276 a feddylioch chi fyth y byddech chi yn eich oes  chi yn gweld pandemig fel ni wedi gweld?
AWYC13R6d0U-00053-00040276-00040711 Fi 'di clywed gymaint o wyddonwyr yn dweud,  "Oedd e'n mynd i ddigwydd.
AWYC13R6d0U-00054-00040711-00041433 O'n i'n gwybod oedd ein tro ni'n dod. Oedd y rhod yn troi."  O'ch chi 'di darogan? 
AWYC13R6d0U-00055-00041433-00041909 O'ch chi 'di rhagweld byddai rhywbeth fel hyn yn  digwydd yn eich amser chi, yn eich gyrfa chi?
AWYC13R6d0U-00056-00041909-00042698 Eleri: Wel, o'n i yn rhan o dimau oedd yn paratoi  am bandemig. Ac mi o'n i yn disgwyl pandemig. 
AWYC13R6d0U-00057-00042698-00043513 Pan ddaeth pandemig y swine flu, mi  o'n i'n rhan o'r ymateb hynny. 
AWYC13R6d0U-00058-00043513-00044179 Ac wrth gwrs, trodd hwnnw allan i fod yn  llai difrifol na'r disgwyl.
AWYC13R6d0U-00059-00044179-00045308 Ond ynglŷn â'r pharatoaeth at hwnnw ac wedyn y dysgu o'r profiad hwnnw, mi o'n i yn dodi pethau yn eu lle yn barod. 
AWYC13R6d0U-00060-00045308-00046000 A fi'n credu 'sach chi'n edrych neu'n gwrando ar  rai o'r cyfweliadau cynta' nes i Radio Cymru
AWYC13R6d0U-00061-00046000-00046491 yn ôl ar ddechrau'r pandemig yma, mi o'n i'n  dweud, "Wel, 'yn ni wedi paratoi. 
AWYC13R6d0U-00062-00046491-00047277 'Yn ni yn dodi pethau yn eu lle." Ac oedd hynny'n hollol wir.  Fi'n credu bod y ffordd mae'r pandemig hyn 
AWYC13R6d0U-00063-00047277-00047979 wedi datblygu a'r ffaith bod e'n fwy difrifol na'r swine flu  o'r blaen wedi bod yn sialens fawr.
AWYC13R6d0U-00064-00047979-00048895 A falle pan o'n i'n paratoi, do'n i fy hunan falle  ddim yn sylweddoli pa mor hir fydde'r peth. 
AWYC13R6d0U-00065-00048895-00049692 Chi'n gwybod, profiad swine flu oedd bod e 'di bod  yn chwe mis caled a bod pethau wedi bod yn drwm 
AWYC13R6d0U-00066-00049692-00050518 yn y Gwasanaeth Iechyd dros y gaea' yna. Ond oedd  e ddim yn mynd 'mlaen a 'mlaen a 'mlaen.
AWYC13R6d0U-00067-00050518-00051244 A fi'n siŵr bod ni gyd yn teimlo bod hwn jyst  yn mynd 'mlaen yn ddiddiwedd, 
AWYC13R6d0U-00068-00051244-00051820 ac mae hwnna wedi bod yn galed iawn, fi'n credu.  Ond mi o'n i'n ei ddisgwyl e, 
AWYC13R6d0U-00069-00051820-00052429 ac mi o'n i wedi paratoi, ond mae'r profiad wedi bod  falle bach yn wahanol i'r disgwyl.
AWYC13R6d0U-00070-00052429-00053043 Dot: Pan 'ych chi'n dweud bod chi wedi paratoi a bod chi  yn ei ddisgwyl e, ewch a ni'n ôl i'r dyddiau cynta' 'na, 
AWYC13R6d0U-00071-00053043-00053701 i'r dyddiau cynnar. 'Ych chi'n cofio pan glywoch chi am hyn y lle cynta'? O'n i'n clywed amdano fe yn y newyddion. 
AWYC13R6d0U-00072-00053701-00054087 Oedd e'n rhywbeth oedd yn digwydd draw yn Tsieina.  Oedd e'n ddigon pell wrthon ni ar y pryd. 
AWYC13R6d0U-00073-00054087-00054701 Pryd o'ch chi wedi clywed? A ydych chi'n cofio meddwl,  mae hwn yn mynd i fod yn broblem i ni?
AWYC13R6d0U-00074-00054701-00055748 Eleri: Wel, o'n i wedi clywed amdano fe cyn y Nadolig 'na yn 2019. Felly o'n i yn gwybod bod rhywbeth yn digwydd.
AWYC13R6d0U-00075-00055748-00056578 Ond dwi ddim yn credu bod ni'n teimlo ar y pryd  bod e yn gymaint o sialens a drodd e mas i fod.
AWYC13R6d0U-00076-00056578-00057352 Yn sicr dros y Nadolig yna, fydden i ddim wedi teimlo  yn eistedd gyda teulu bod y Nadolig nesa' 
AWYC13R6d0U-00077-00057352-00057991 yn mynd i fod mor wahanol, yndyfe. Oedd e'n  rhywbeth oedd yn dod, ond fi'n credu 
AWYC13R6d0U-00078-00057991-00059452 o'n i'n teimlo bod e yn ddigon pell a bydde ni yn gallu delio  gydag e. Erbyn wedyn yr Ionawr, Chwefror o 2020,
AWYC13R6d0U-00079-00059452-00060670 oedd pethau yn dechrau teimlo, reit, mae angen i ni  nawr newid ein trefn gweithio i ddelio â hyn. 
AWYC13R6d0U-00080-00060670-00061044 Ac oedd 'na lawer fwy o baratoaeth unwaith  bod ni yn y flwyddyn newydd. 
AWYC13R6d0U-00081-00061044-00061774 Ac mae fy nyddiadur i yn dangos yn glir bod  pethau wedi newid tua canol mis Ionawr.
AWYC13R6d0U-00082-00061774-00062141 Oedd 'na gyfarfodydd.  Oedd 'na waith yn dechrau datblygu. 
AWYC13R6d0U-00083-00062141-00062897 A pan dwi'n edrych ar y cyfnod, mae hwnna'n hollol  glir. Dyna pryd rili dechreuodd pethau newid.
AWYC13R6d0U-00084-00062897-00063436 Dot: So yn eich dyddiadur chi, oes 'na ddyddiad,  oes 'na ddiwrnod sy'n dweud, panic stations, 
AWYC13R6d0U-00085-00063436-00064233 ni yn ei chanol hi nawr? Ni'n mynd i wynebu --  chi'n gwybod, lockdown, oedd e'n rhywbeth,
AWYC13R6d0U-00086-00064233-00064771 wel, allen ni byth a chredu, masks, popeth sydd 'di  digwydd. Oes 'na ddiwrnod yn eich dyddiadur
AWYC13R6d0U-00087-00064771-00065288 chi le mae 'na gylch o'i gwmpas e yn dweud,  nefoedd mae pethau'n mynd i newid?
AWYC13R6d0U-00088-00065288-00065820 Eleri: Na. Beth sy yn fy nyddiadur  yw'r cyfarfodydd cynta'. 
AWYC13R6d0U-00089-00065820-00066774 Achos dwi 'di bod yn rhan o grŵp sydd 'di bod yn gweithio ar ganllawiau atal heintiau, so infection prevention and control, 
AWYC13R6d0U-00090-00066774-00067395 atal heintiau, ac mae hwnna wedi bod yn waith sydd 'di  cymryd drosodd fy mywyd am y ddwy flynedd ddiwetha'. 
AWYC13R6d0U-00091-00067395-00068381 Felly oedd cyfarfod cynta' y grŵp yna tua 10fed,  15fed o Ionawr, rhywbeth fel'na. 
AWYC13R6d0U-00092-00068381-00069449 Ac wedyn o'r cyfarfod cynta' 'na, o'n i'n cyfarfod bron yn  ddyddiol, os nad sawl gwaith y dydd am gyfnodau. 
AWYC13R6d0U-00093-00069449-00070432 Dyw e ddim wedi bod yn panic stations. Dyw e ddim wedi  bod yn sefyllfa lle oedd 'na ddim trefn, yntyfe. 
AWYC13R6d0U-00094-00070432-00071642 Ond oedd y dyddiadur yn newid. O'n i yn delio gyda  rhywbeth o'r cyfnod yna. Ac wrth gwrs, pan ddaeth  y clo, oedd hwnna yn newid sefyllfa gwaith
AWYC13R6d0U-00095-00071642-00072678 yn hollol achos yn y mis Ionawr, Chwefror, o'n i'n aml  yn y gwaith yn hwyr yn nos yn delio gyda, w, ai  hwn yw'r achos cynta' yng Nghymru? 
AWYC13R6d0U-00096-00072678-00073359 Ai hwn yw'r...? Oedd 'na gyfarfodydd yn mynd 'mlaen  yn hwyr yn nos yn y swyddfa. 
AWYC13R6d0U-00097-00073359-00074517 Ond unwaith bod y clo yn dod, fel pobl un arall, oedd 'na  deimlad a chanllaw bod ni fod i weithio o gartre. 
AWYC13R6d0U-00098-00074517-00075630 Ac mae popeth yn newid wedyn eto i  orfod delio gyda'r cyfarfodydd hyn a'r drafodaeth  fesul cyfrifiaduron. A dyma ni o hyd.
AWYC13R6d0U-00099-00075630-00076232 Dot: A shwt o'ch chi'n ymdopi, falle  yw'r gair, gyda'r sefyllfa 'ma? 
AWYC13R6d0U-00100-00076232-00076775 Oedd e'n newid trwy'r amser, y sefyllfa o ran  beth oedd y feirws yn neud.
AWYC13R6d0U-00101-00076775-00077142 Oedd y canllawiau yn newid.  Shwt o'ch chi'n ymdopi 'da hynna? 
AWYC13R6d0U-00102-00077142-00077915 Chi 'di sôn am eich dyddiadur chi'n barod. Oedd 'na  gyfnod, oedd 'na ddiwrnod falle le o'ch chi'n meddwl, 
AWYC13R6d0U-00103-00077915-00078749 dyma'r diwrnod gwaetha', dyma'r  eiliad gwaetha o fy ngyrfa i?
AWYC13R6d0U-00104-00078749-00079259 Eleri: Yn anffodus mae sawl diwrnod wedi  bod yn ddiwrnod caled a gwaetha',
AWYC13R6d0U-00105-00079259-00080145 a pheth o hynny oherwydd falle taw'r ffigyrau a'r difrod  o'n i'n gallu gweld oedd y sefyllfa yn achosi 
AWYC13R6d0U-00106-00080145-00080953 i'r boblogaeth ac i bobl eraill, a'r marwolaethau. Mae  'na sawl diwrnod sydd 'di bod yn galed iawn. 
AWYC13R6d0U-00107-00080953-00081831 Yn fy nyddiadur i yn bersonol, fi'n credu bod y pethau  mwya' gwahanol oedd symud i weithio fwy o gartre,
AWYC13R6d0U-00108-00081831-00083053 ac mae hwnna wedi nodi bod e'n newid mawr yn y  ffordd o'n i'n gweithio. Ac wedyn, wel,
AWYC13R6d0U-00109-00083053-00084130 jyst y symudiadau yn y gwaith i neud â'r canllawiau atal  heintiau. Mi oedd y newidiadau i unrhyw wybodaeth 
AWYC13R6d0U-00110-00084130-00084744 oedd yn dod a faint o achosion oedd yn y gymuned a  p'un ai oedd 'na amrywiolyn newydd neu beth bynnag. 
AWYC13R6d0U-00111-00084744-00085305 Oedd bob un o'r pethau yna yn newid beth  oedd angen i'r canllawiau ddweud.
AWYC13R6d0U-00112-00085305-00085688 Dot: Allwch chi esbonio ychydig o hynny ynglŷn  â'ch swydd chi a shwt a beth 
AWYC13R6d0U-00113-00085688-00086578 o'ch chi'n gweld yn arwain at y rheolau i ni fel Cymry.  Beth oedd y llinell gyswllt 'na, y trafodaethau? 
AWYC13R6d0U-00114-00086578-00087393 Chi oedd yn dechrau'r cyfan? Chi oedd yn dweud, "Mae hwn yn broblem," ac felly oedd e'n arwain at y newidiadau?
AWYC13R6d0U-00115-00087393-00087925 Eleri: Wel, yn wyddonol yn nhermau  datblygiad yr amrywiolion ac ati,
AWYC13R6d0U-00116-00087925-00088646 mae hwnna i gyd yn cael ei edrych arno ar lefel  pedair gwlad, ac felly ar draws y Deyrnas Unedig. 
AWYC13R6d0U-00117-00088646-00089369 Wedyn gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac wrth gwrs  mae fy swydd i o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru 
AWYC13R6d0U-00118-00089369-00090045 yn ystod y pandemig, mi o'n i yn gyfarwyddwr  y digwyddiad am dipyn o'r amser,
AWYC13R6d0U-00119-00090045-00090901 felly o'n i ar y cyd gyda thri arall yn arwain  yr ymateb yn ystod y pandemig. 
AWYC13R6d0U-00120-00090901-00091657 Ac felly yn ein tro, o'n i'n gorfod delio gydag unrhyw  beth oedd yn codi yn y cyfnod o'n i'n delio â. 
AWYC13R6d0U-00121-00091657-00092361 Felly os oedd 'na amrywiolyn newydd yn datblygu,  mi oedden ni wedyn yn cynhyrchu cyngor 
AWYC13R6d0U-00122-00092361-00092866 fydde'n mynd mewn i Lywodraeth Cymru. A Llywodraeth  Cymru oedd yn neud y penderfyniadau 
AWYC13R6d0U-00123-00092866-00094096 ynglŷn â p'un ai oedd newidiadau i'r boblogaeth yn digwydd yn nhermau y clo neu'r masgiau neu'r hunan-ynysu ac ati. 
AWYC13R6d0U-00124-00094096-00095071 Ond oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor  ar hynny. Felly o'n i'n rhan o gyfarfodydd Prydain,
AWYC13R6d0U-00125-00095071-00095725 ac wedyn hefyd yn rhoi cyngor mewn i Lywodraeth Cymru, ac wedyn pan oedd Llywodraeth Cymru yn neud newidiadau, 
AWYC13R6d0U-00126-00095725-00097029 o'n i hefyd wedyn yn gorfod delio gydag unrhyw  ledaeniad i'r feirws, os oedd 'na broblem mewn ysbyty 
AWYC13R6d0U-00127-00097029-00097668 neu broblem mewn cartre gofal neu beth bynnag. Chi'n  gwybod, byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru wedyn yn helpu 
AWYC13R6d0U-00128-00097668-00098345 delio gyda'r pethau yna.  Felly oedd sawl lefel i'r swydd.
AWYC13R6d0U-00129-00098345-00098824 Dot: Ie, ie. Ond sonioch chi yn fan'na am,  wel, chi oedd yn cadeirio, nag ife? 
AWYC13R6d0U-00130-00098824-00099371 Chi oedd yn cadeirio'r grŵp oedd  yn cynghori'r pedair gwlad.
AWYC13R6d0U-00131-00099371-00100074 Eleri: Wel, oedd hwnnw ar y canllawiau atal heintiau.  Felly oedd hwnnw yn ganllaw arbennig, 
AWYC13R6d0U-00132-00100074-00101244 fwyaf i ysbytai a chartrefi gofal. Felly oedd y canllaw  i'w defnyddio yn y cyswllt hynny yn hytrach
AWYC13R6d0U-00133-00101244-00101939 nag i'r boblogaeth yn gyffredinol. Oedd e'n aml oedd beth oedd yn y canllaw hynny yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft, 
AWYC13R6d0U-00134-00101939-00102907 i helpu gyda'r canllawiau i ysgolion ac ati. Ond y brif ran o'r canllaw hynny oedd i beth oedd yn digwydd yn yr ysbytai 
AWYC13R6d0U-00135-00102907-00103867 a'r cartrefi gofal yn nhermau'r canllawiau atal heintiau.  Felly hwnnw oedd y gwaith o'n i hefyd yn neud, 
AWYC13R6d0U-00136-00103867-00104567 ond oedd hwnnw tipyn bach ar wahân i'r gwaith  o'n i'n neud fel cyfarwyddwr y digwyddiad 
AWYC13R6d0U-00137-00104567-00105155 i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly oedd hwnna yn  grŵp o arbenigwyr mewn atal heintiau
AWYC13R6d0U-00138-00105155-00106239 o ar draws y Deyrnas Unedig oedd yn cyfarfod i  edrych ar y sefyllfa, i edrych ar y wyddoniaeth
AWYC13R6d0U-00139-00106239-00107132 ac i gynhyrchu'r canllawiau. Oedd y rheini wedyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan llywodraeth y Deyrnas Unedig
AWYC13R6d0U-00140-00107132-00108060 fel canllawiau i'r Deyrnas Unedig i gyd. A ni 'di bod  yn gweithio ar y rheini wedyn trwy'r pandemig,
AWYC13R6d0U-00141-00108060-00108778 gyda'r diweddariad mwya' diweddar  ar yr 25ain o Ionawr 'leni. 
AWYC13R6d0U-00142-00108778-00109515 Felly mae dal i fod cyfarfod wythnosol  gen i edrych ar y canllawiau yna.
AWYC13R6d0U-00143-00109515-00109834 Dot: Trwy hyn i gyd, pryd o'ch chi'n cysgu 'te?  Achos gyda'r holl waith yna, 
AWYC13R6d0U-00144-00109834-00110671 a law yn llaw, wrth gwrs, â'r gwaith ymarferol, y  cyfarfodydd, o'ch chi hefyd, chi oedd y llais. 
AWYC13R6d0U-00145-00110671-00111550 Chi o'n i'n gweld. Chi oedd yr ymateb cyhoeddus  yn Gymraeg, ac yn Saesneg y aml hefyd.
AWYC13R6d0U-00146-00111550-00112040 Faint o faich oedd hynny? Neu oedd e'n  faich i chi, gorfod neud hynny hefyd
AWYC13R6d0U-00147-00112040-00112657 ar ben eich dyletswyddau chi'n ddyddiol?
AWYC13R6d0U-00148-00112657-00113588 Eleri: Mi oedd e'n faich ychwanegol achos dyw e  ddim yn rhan o fy swydd, o reidrwydd,
AWYC13R6d0U-00149-00113588-00114373 i fod yn gwneud cyfweliadau. Ac ar adegau  mi oedd lot o gyfweliadau i neud achos
AWYC13R6d0U-00150-00114373-00115783 yn aml fi yw'r unig un sy'n siarad Cymraeg yn Iechyd  Cyhoeddus Cymru ynglŷn â'r pandemig yma. 
AWYC13R6d0U-00151-00115783-00116305 Yn ystod y pandemig, mae pobl eraill wedi bod yn  gallu cyfrannu, ond mae rhai o'r rheini wedi ymddeol
AWYC13R6d0U-00152-00116305-00117165 yn ystod y pandemig, ac felly mae o 'di bod yn  syrthio i fi lot o'r amser i neud y gwaith yna, 
AWYC13R6d0U-00153-00117165-00117764 yn arbennig yn y Gymraeg.  Ac felly mae e yn cymryd amser.  Ac mae angen paratoi.
AWYC13R6d0U-00154-00117764-00118609 Mae angen defnyddio Cymraeg da a'r geiriau achos  mae pobl yn anghofio bod, chi'n gwybod, 
AWYC13R6d0U-00155-00118609-00119518 mae "new variants" falle yn rhwydd i... Mae e  ar y radio, ar y teledu yn Saesneg yn aml, 
AWYC13R6d0U-00156-00119518-00120000 ac wedyn oedd eisiau neud yn siŵr bod yr  "amrywiolion newydd" a'r geiriau newydd...
AWYC13R6d0U-00157-00120000-00120643 Dot: A rhwydd i chi 'weud e. Amrywiolion.  Eleri: Yn dod allan yn rhwydd. Dot: Ydi. Wel, ie, chi 'di arfer erbyn hyn. 
AWYC13R6d0U-00158-00120643-00121170 Dot: Ond o'ch chi 'di sôn am eich cefndir chi. Oedd e'n  bwysig i chi bod chi yn neud hynna? 
AWYC13R6d0U-00159-00121170-00121493 Achos o'ch chi'n dweud, wel, chi oedd un o'r  ychydig rai yn gallu neud e.
AWYC13R6d0U-00160-00121493-00121983 O'ch chi'n teimlo bod pwysau arnoch chi, mae'n rhaid i  fi neud hwn, mae hwn yn rhan o fy ngwasanaeth ni?
AWYC13R6d0U-00161-00121983-00122716 Eleri: Wel, dwi'n meddwl bod e'n bwysig achos  dwi'n meddwl e'n holl bwysig bod y wybodaeth 
AWYC13R6d0U-00162-00122716-00123259 yn cael ei roi mewn ffordd sy'n ddealladwy ac  yn glir yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg
AWYC13R6d0U-00163-00123259-00123791 achos heb hynny, 'yn ni ddim yn gweld e fel  rhywbeth sydd yn berthnasol i ni. 
AWYC13R6d0U-00164-00123791-00124181 Felly mi oedd e'n bwysig,  dwi'n meddwl, i neud e. 
AWYC13R6d0U-00165-00124181-00124526 Doedd e ddim gwastad yn ffitio  yn rhwydd yn fy nyddiadur i.
AWYC13R6d0U-00166-00124526-00125266 Dot: Na, alla i gredu. Eleri: Ond o'n i'n hapus i neud e ac  yn teimlo bod e'n bwysig i neud e.
AWYC13R6d0U-00167-00125266-00126022 Dot: A chi'n falch bod chi wedi neud e. Eleri: Wel, ydw. Fi'n edrych yn ôl, fi'n gobeithio 
AWYC13R6d0U-00168-00126022-00126856 Eleri: af i gopi o'r cyfweliadau achos mae e'n eitha'  diddorol, fi'n credu, fel mesur amser. 
AWYC13R6d0U-00169-00126856-00127630 Achos dwi'n edrych yn ôl ar rhai o'r cyfweliadau ac yn meddwl,  o, bois bach, o'n i ddim yn gwybod beth oedd yn dod.
AWYC13R6d0U-00170-00127630-00128210 Achos fi'n cofio eistedd, mynd mewn i Landaf, sydd,  wrth gwrs, wedi dymchwel erbyn hyn hefyd,
AWYC13R6d0U-00171-00128210-00129119 mynd mewn i'r stiwdio yn Llandaf, ac oedd  map o'r Eidal gyda fi achos 
AWYC13R6d0U-00172-00129119-00129978 ar un cyfnod ar ôl yr hanner tymor 'na pan oedd pawb  yn sgïo yn yr Eidal ac yn dod â'r feirws
AWYC13R6d0U-00173-00129978-00130565 yn ôl gyda nhw, mi o'n i'n dweud yn ogystal â  phobl oedd yn dod yn ôl o Wuhan,
AWYC13R6d0U-00174-00130565-00131485 bod angen i bobl oedd wedi dod o rannau arbennig o'r Eidal i gael eu profi neu fynd i'r ysbyty os o'n nhw sâl ac ati. 
AWYC13R6d0U-00175-00131485-00132166 Felly oedd map gyda fi yn y stiwdio achos o'n i'n gorfod trial neud yn siŵr bod fi'n cael y wybodaeth yn iawn.
AWYC13R6d0U-00176-00132166-00132948 A pan 'ych chi'n edrych yn ôl ar hwnna nawr a meddwl am yr holl achosion sydd wedi bod oddi arni a'r holl bethau ni 
AWYC13R6d0U-00177-00132948-00133647 'di bod trwyddo, mae e'n rhyfedd i feddwl bod  ni'n dweud hynna yn ôl ar y dechrau.
AWYC13R6d0U-00178-00133647-00134533 Dot: Wel, am yr holl waith, fe gaethoch chi eich  gwobrwyo gyda MBE. Shwt glywoch chi am hynny?
AWYC13R6d0U-00179-00134533-00135251 Eleri: Wel, oedd e i gyd yn rhyfedd oherwydd bod  ni yn y sefyllfa 'yn ni'n dal i fod i ryw raddau, 
AWYC13R6d0U-00180-00135251-00136066 ond yn gweithio o gartre mewn clo, ar lein, trwy  e-bost ges i wybod. A pan ddaeth yr e-bost trwyddo,
AWYC13R6d0U-00181-00136066-00137007 o'n i'n meddwl i ddechrau bod e'n bach o jôc achos,  chi'n gwybod, oedd e jyst yn e-bost. 
AWYC13R6d0U-00182-00137007-00138016 Ond wedi dod dros y sioc a'r sort of teimlad  bod hwn ddim yn wir, oedd e'n rhyfedd
AWYC13R6d0U-00183-00138016-00138584 i gael rhywbeth fel'na yng  nghanol prysurdeb y sefyllfa.
AWYC13R6d0U-00184-00138584-00138937 Dot: Ble chi arni ar hyn o bryd? Ydych chi 'di  cyrraedd y pwynt eto pan 'ych chi'n gallu, 
AWYC13R6d0U-00185-00138937-00139607 fi'm yn gwybod, cymryd anadl ddofn a meddwl,  edrych yn ôl ac ystyried popeth
AWYC13R6d0U-00186-00139607-00139837 'ych chi 'di bod drwyddi,  falle 'yn ni gyd 'di bod drwyddi. 
AWYC13R6d0U-00187-00139837-00140253 'Ych chi 'di cyrraedd y pwynt yna eto?
AWYC13R6d0U-00188-00140253-00140878 Eleri: Ddim cweit falle. Mae o'n dal i fod yn syndod  o brysur achos pan 'yn ni nawr mewn sefyllfa 
AWYC13R6d0U-00189-00140878-00142021 lle 'yn ni gobeithio dod tuag at normalrwydd o ryw  fath, mae'n rhaid ail-wneud rhai o'r canllawiau
AWYC13R6d0U-00190-00142021-00142948 i symud trwy y cyfnod hwn o drosi o sefyllfa lle  oedd 'na fwy o reolau ac i sefyllfa lle 
AWYC13R6d0U-00191-00142948-00143569 mae angen dal i fod yn wyliadwrus ond defnyddio  beth 'yn ni wedi dysgu i symud ymlaen.
AWYC13R6d0U-00192-00143569-00144362 Felly mae o'n dal i deimlo i fi bod 'na lot o waith i  neud i symud y gwasanaethau a'r canllawiau
AWYC13R6d0U-00193-00144362-00145170 o un sefyllfa i'r llall ac i neud yn siŵr bod ni  hefyd yn barod i symud yn ôl os oes angen.
AWYC13R6d0U-00194-00145170-00146131 Ond mae pethau yn dechrau gwella. Mae cyfnod  yn sicr sort of dros y Nadolig a phethau,
AWYC13R6d0U-00195-00146131-00146853 oedd e'n braf i weld teulu eto, wedi rhoi cyfle  i ail-gydio gyda rhai o'r pethau yna.
AWYC13R6d0U-00196-00146853-00147575 Dot: O ystyried hynny, pan 'ych chi'n sôn am  y canllawiau, shwt 'ych chi'n teimlo 'naeth Cymru, 
AWYC13R6d0U-00197-00147575-00148200 'naethon ni fel poblogaeth ymdopi gyda'r hyn  ddigwyddodd? A falle shwt 'ych chi'n gobeithio
AWYC13R6d0U-00198-00148200-00148992 'yn ni'n mynd i ymddwyn wrth gamu 'mlaen, wrth ddod  mas o'r pandemig? A shwt fyddech chi'n gobeithio
AWYC13R6d0U-00199-00148992-00149613 byddwn ni'n ymddwyn wrth symud 'mlaen?  Mae'r ddau beth yn cyd-fynd, dydyn nhw.
AWYC13R6d0U-00200-00149613-00150779 Eleri: Wel, dwi'n teimlo bod Cymru wedi ymateb yn  dda iawn, yn wyliadwrus a mesurau da yn eu lle. 
AWYC13R6d0U-00201-00150779-00151326 A fi'n teimlo bod y boblogaeth wedi bod  yn dda iawn yn ymateb i hynny.
AWYC13R6d0U-00202-00151326-00151880 A pan 'ych chi'n trafeili i rannau eraill o  Brydain, chi yn gweld gwahaniaeth. 
AWYC13R6d0U-00203-00151880-00152494 Mae mab gyda fi sydd wedi dechrau yn y  brifysgol yn Lloegr yn ystod y cyfnod hwn,
AWYC13R6d0U-00204-00152494-00153432 ac, wrth gwrs, mae'r teimlad yn wahanol iawn, chi'n gwybod,  hyd yn oed yn teithio o un rhan o Gymru i ran arall.
AWYC13R6d0U-00205-00153432-00153859 Dot: Shwt 'te? Shwt 'ych chi nawr yn gweld  y gwahaniaeth? Be sy'n wahanol? 
AWYC13R6d0U-00206-00153859-00154462 Eleri: Wel, fi'n credu bydd y gwahaniaethau yn lleihau  wrth i ni gyd symud i fwy o normalrwydd. 
AWYC13R6d0U-00207-00154462-00155292 Ond wrth gwrs, mae gollwng defnydd masgiau a  phethau wedi bod ynghynt yn Lloegr nag yng Nghymru. 
AWYC13R6d0U-00208-00155292-00156364 A fi'n credu bod y negeseuon sy'n cael eu rhoi allan  yn Lloegr wedi gwneud i'r boblogaeth yn Lloegr i deimlo, 
AWYC13R6d0U-00209-00156364-00157157 wel, mae popeth drosto. Ac mae hwnna yn trosglwyddo  wedyn i'r ffordd mae pobl yn ymwneud â'i gilydd
AWYC13R6d0U-00210-00157157-00158502 ac yn gwneud pethau yn Lloegr. A chi yn gweld y gwahaniaeth. Mae pŵer y negeseuon sy'n dod allan o Lloegr
AWYC13R6d0U-00211-00158502-00158866 yn effeithio ar be sy'n digwydd yng Nghymru hefyd.  Dan ni wrth gwrs ddim yn byw 
AWYC13R6d0U-00212-00158866-00159744 mewn bybl ar wahân. Ond mae 'na wahaniaeth 'ych  chi'n gallu gweld wrth i chi symud o un lle i'r llall.
AWYC13R6d0U-00213-00159744-00160216 Dot: Shwt 'ych chi'n gobeithio byddwn ni'n addasu?  Beth fydde eich neges chi i bobl 
AWYC13R6d0U-00214-00160216-00160920 wrth i ni edrych 'mlaen at ryw fath o normalrwydd, os  alla i hyd yn oed dweud hwnna, normalrwydd? 
AWYC13R6d0U-00215-00160920-00161481 Shwt 'ych chi yn gobeithio byddwn  ni'n addasu ac yn ymddwyn?
AWYC13R6d0U-00216-00161481-00162412 Eleri: Wel, dwi'n gobeithio byddwn ni'n cadw'r  pethau 'yn ni wedi dysgu sy'n dda a ddim towli popeth mas.
AWYC13R6d0U-00217-00162412-00163160 Fi'n gwybod bod pob un moyn bod yn ôl  i fel o'n i a chael normalrwydd yn ôl.
AWYC13R6d0U-00218-00163160-00164047 Ond fi'n credu bod e'n werth cofio bod llawer ohonon  ni wedi cael llai o afiechydon heintus y gaea', 
AWYC13R6d0U-00219-00164047-00164620 fyddwn i'n galw nhw'n hynny, yn ystod y gaea', y  ddau aeaf diwetha' oherwydd rhai o'r pethau 
AWYC13R6d0U-00220-00164620-00165342 'yn ni dodi yn eu lle i arbed COVID. Ac wrth gwrs os  allwn ni gofio hynny, falle bod jyst angen
AWYC13R6d0U-00221-00165342-00165933 bod yn bach fwy gwyliadwrus wrth i ni fynd mewn i'r  gaea' bob blwyddyn am sbel. Ond, chi'n gwybod, 
AWYC13R6d0U-00222-00165933-00166626 mae golchi dwylo a bod yn ofalus pan 'ych chi'n tisian a pheswch yn rhywbeth dylen ni fod yn neud ta beth. 
AWYC13R6d0U-00223-00166626-00167213 Felly dwi'n gobeithio bydd pobl yn teimlo, reit,  'yn ni'n gallu symud yn ôl 
AWYC13R6d0U-00224-00167213-00168226 i fwy o normalrwydd, ond peidiwch anghofio y pethau elfennol allwn ni gyd neud i fod yn ofalus o iechyd ein gilydd. 
AWYC13R6d0U-00225-00168226-00168863 Ac mae'r brechiadau yn bwysig. Mae'n debygol iawn  byddwn ni'n cael rhaglen frechu flynyddol
AWYC13R6d0U-00226-00168863-00169626 nawr am gyfnod. Ond mae hynny yn ei le i ffliw  beth bynnag. Felly eto, chi'n gwybod,
AWYC13R6d0U-00227-00169626-00170710 neud y pethau yna a gofalu am ein gilydd wrth i ni  fynd mewn i'r gaea' nesa' bydde fy ngobaith i.
AWYC13R6d0U-00228-00170710-00171286 Dot: Shwt effaith mae COVID wedi cael arnoch chi,  Dr Eleri, yn broffesiynol ac yn bersonol falle? 
AWYC13R6d0U-00229-00171286-00171978 Chi'n teimlo bod e 'di, dwi'm yn gwybod,  newid shwt chi'n gweld y byd?
AWYC13R6d0U-00230-00171978-00172767 Eleri: Ydi, yn bendant. O safbwynt proffesiynol, mewn  llawer ffordd mae'r pandemig wedi rhoi cyfle i fi. 
AWYC13R6d0U-00231-00172767-00173317 Mae o 'di rhoi cyfle i fi ddatblygu y rôl sydd gyda fi  o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru. 
AWYC13R6d0U-00232-00173317-00174357 Dwi 'di cael cyfle i weithio mewn tîm gwahanol ac i weithio mewn timau ar draws y Deyrnas Unedig hefyd. 
AWYC13R6d0U-00233-00174357-00174825 Felly yn broffesiynol, mae  hwnna wedi bod yn brofiad da. 
AWYC13R6d0U-00234-00174825-00175719 Mae 'di bod yn brofiad anodd ar adegau achos alla i ddeud wrthoch chi bod cadeirio grŵp traws-Deyrnas Unedig,
AWYC13R6d0U-00235-00175719-00176489 dyw pobl ddim yn cytuno bob amser, ac mae 'di bod yn  eitha' sialens ar adegau i gael cytundeb ar ganllaw 
AWYC13R6d0U-00236-00176489-00177789 a chyhoeddi canllaw sy'n bwrpasol i'r pedair gwlad.  Ond yn gyffredinol, mae e wedi bod yn brofiad
AWYC13R6d0U-00237-00177789-00178541 sydd 'di bod yn gyfle gwych ond yn galed, ac yn  sicr fyddai'n falch iawn, fel pawb arall,
AWYC13R6d0U-00238-00178541-00179196 o weld pethau yn mynd yn ôl i fwy o  normalrwydd yn nhermau gwaith.
AWYC13R6d0U-00239-00179196-00180153 Yn bersonol, dwi 'di bod yn lwcus o safbwynt teulu bod  neb wedi bod yn ddifrifol wael oherwydd COVID, 
AWYC13R6d0U-00240-00180153-00180826 a dwi ddim wedi colli neb yn uniongyrchol oherwydd  COVID. Felly dwi'n teimlo'n lwcus o'r safbwynt hynny. 
AWYC13R6d0U-00241-00180826-00181675 Ond dwi wedi gweld difrod, yn enwedig 'ir ieuenctid,  yn nhermau eu haddysg a'u cymdeithasu
AWYC13R6d0U-00242-00181675-00182666 a'r effeithiau iechyd meddwl ar yr ifanc. Ac mae  hwnna wedi bod yn galed iawn.
AWYC13R6d0U-00243-00182666-00183189 Dot: I ni gael gorffen ar y nodyn hynny, shwt mae...  Dwi'm yn gwybod beth yw'r gair yn iawn, 
AWYC13R6d0U-00244-00183189-00183665 ond shwt 'yn ni'n gwella'r sefyllfa iddyn nhw?  Shwt 'yn ni'n dod yn ôl o hyn? 
AWYC13R6d0U-00245-00183665-00184384 Ydych chi'n gweld bod ni yn dechrau yn  barod adeiladu ein pobl ifanc ni, 
AWYC13R6d0U-00246-00184384-00184640 fel o'ch chi'n sôn amdanyn nhw?  Maen nhw 'di colli mas ar gymaint. 
AWYC13R6d0U-00247-00184640-00185171 Maen nhw 'di colli gymaint.  Shwt mae dod yn ôl o hynny?
AWYC13R6d0U-00248-00185171-00186084 Eleri: Wel, mae hwnna'n gwestiwn mawr achos fi'n credu o safbwynt atal heintiau, roedd e'n bwysig i'r clo i ddigwydd.
AWYC13R6d0U-00249-00186084-00187011 Ond wrth gwrs, y bobl ifanc oedd ac sy'n dal i fod  yn cael eu heffeithio lleia' o safbwynt yr haint,
AWYC13R6d0U-00250-00187011-00187603 ac eto dwi'n teimlo bod nhw wedi cael  colled enfawr mewn ffyrdd eraill, 
AWYC13R6d0U-00251-00187603-00188657 a fyddwn i ddim yn gweld yr effeithiau yna falle yn syth. Ac  felly sut mae adeiladu hwnna'n yn ôl yn sialens fawr. 
AWYC13R6d0U-00252-00188657-00189502 Achos dwi'n siŵr bod ysgolion nawr yn ffeindio bod  pobl y plant yn cael trafferth i ddod yn ôl i'r ysgol 
AWYC13R6d0U-00253-00189502-00190306 achos maen nhw wedi colli peth o'r hyder  'na yn eu cysylltau ac yn eu cymdeithasu. 
AWYC13R6d0U-00254-00190306-00191054 Ac mae hwnna'n mynd i gymryd sbel i adfer,  dwi'n teimlo. Mae'r addysg ei hunan, 
AWYC13R6d0U-00255-00191054-00192116 mae trial dod i nôl beth maen nhw 'di colli  yn anodd, a dwi ddim yn arbenigo yn y maes hynny 
AWYC13R6d0U-00256-00192116-00192636 ac yn teimlo bod e'n sialens fawr. Ond dwi'n  yn teimlo bod angen i ni wybod 
AWYC13R6d0U-00257-00192636-00192836 a sylweddoli bod y to ifanc wedi  colli mas lot yn y cyfnod hyn.
AWYC13R6d0U-00258-00192836-00193648 Dot: Ac o siarad am hynny a chydnabod  hynny, pa mor obeithiol 
AWYC13R6d0U-00259-00193648-00194508 'ych chi am well dyfodol, y byddwn ni ddim  yn gorfod mynd trwy hyn eto?
AWYC13R6d0U-00260-00194508-00195509 Eleri: Wel, fi'n gobeithio byddwn ni ddim yn mynd trwy hyn yn fuan eto. Chi'n gwybod, mi oedd 'na gyfnod hir o amser 
AWYC13R6d0U-00261-00195509-00196381 rhwng y pandemig blaenorol a'r pandemig hyn, ac  felly mae siawns go dda fydd cyfle gyda ni i adeiladu. 
AWYC13R6d0U-00262-00196381-00197446 Wrth gwrs, mae'n siom ofnadwy bod y rhyfel yn datblygu  ar hyn o bryd, sydd hefyd yn dodi ansicrwydd, 
AWYC13R6d0U-00263-00197446-00198030 fi'n credu, mewn i feddyliau pobl. A fi'n credu taw  delio gydag ansicrwydd yw un o'r pethau 
AWYC13R6d0U-00264-00198030-00198718 sydd 'di bod mor anodd am y pandemig. Ac o'n i yn  obeithiol iawn dechrau'r flwyddyn pan o'n i'n gweld 
AWYC13R6d0U-00265-00198718-00199522 y ffigyrau'n dechrau gostwng, chi'n gwybod, mawr oedd  y cyfle i ni ddechrau adfer a dod allan o'r pandemig. 
AWYC13R6d0U-00266-00199522-00200121 Ond wedyn mae 'na ansicrwydd arall  yn datblygu sy'n gost eto i bobl. 
AWYC13R6d0U-00267-00200121-00200791 Wrth gwrs, ar hyn o bryd ddim yn uniongyrchol i ni yn  wlad hyn, ond mae'r teimlad bod pethau'n 
AWYC13R6d0U-00268-00200791-00202076 ansefydlog mor agos i ni yn creu problem bellach. Felly  dwi yn meddwl bod e'n sialens fawr i adfer y sefyllfa.
AWYC13R6d0U-00269-00202076-00202870 Ond mae pobl ifanc yn gallu delio â phethau yn well  nag 'yn ni'n meddwl weithiau, felly fi yn obeithiol.
AWYC13R6d0U-00270-00202870-00203400 Dot: A'r cwestiwn ola' i chi: pryd 'yn ni'n mynd i gael  darllen y dyddiaduron 'ma 'te, Dr Eleri? 
AWYC13R6d0U-00271-00203400-00203860 Oes bosib bod eisiau cyhoeddi'r  dyddiaduron 'ma, fyddwn i'n meddwl. 
AWYC13R6d0U-00272-00203860-00204806 Eleri: O, bois bach. Dwi ddim wedi bod yn  ysgrifennu dyddiadur manwl bob dydd.
AWYC13R6d0U-00273-00204806-00205457 Dyddiadur electronig gwaith, felly dwi ddim yn siŵr  bod e'n trosglwyddo'n rhwydd iawn mewn i ryw lyfr.
AWYC13R6d0U-00274-00205457-00206455 Ond mae o'n sicr wedi bod yn brofiad, ac efallai pan fydd mwy o amser wedi mynd, bydd cyfle i neud rhywbeth fel'na.
AWYC13R6d0U-00275-00206455-00207032 Dot: Ac yn rhywbeth i chi gadw, yn bydd e. Bydd  eich plant chi, falle fydd 'na wyrion rhywbryd, 
AWYC13R6d0U-00276-00207032-00207985 a bydden nhw eisiau darllen be 'naethoch chi gyflawni.  Mae'n rhaid bod chi'n falch o'r hyn 'ych chi 'di neud.
AWYC13R6d0U-00277-00207985-00208946 Eleri: Wel, mae bach yn agos falle i'r sefyllfa  i fod yn falch o'r hyn dwi wedi neud eto.
AWYC13R6d0U-00278-00208946-00210298 Dwi wastad yn trial neud y gorau galla i neud ac yn gobeithio bod fi wedi gwneud hynny hyd y gallaf yn y cyswllt hwn, 
AWYC13R6d0U-00279-00210298-00211374 ac yn gobeithio bydd cyfle i neud y siŵr bod trefniadau  yn eu lle i helpu pobl eraill i ddelio â'r un nesa', 
AWYC13R6d0U-00280-00211374-00212058 achos dwi'n gobeithio bydda i ddim yn y sefyllfa  hyn nac yn y swydd hyn pan daw'r pandemig nesa' 
AWYC13R6d0U-00281-00212058-00212716 achos fi'n gobeithio cawn ni ryw gyfnod o  amser nawr i edrych yn ôl a dysgu.
AWYC13R6d0U-00282-00212716-00213017 Dot: O'ch chi'n DJ.  Oes soundtrack 'da chi? 
AWYC13R6d0U-00283-00213017-00213460 Oes 'na gan fydde 'da chi ar gyfer y cyfnod ni  'di bod drwyddi? Fi'm yn gwybod. 
AWYC13R6d0U-00284-00213460-00213883 Chi'n mynd ar ôl rhywbeth Geraint Jarman?  Be chi'n mynd i ddewis? Fi'm yn gwybod.
AWYC13R6d0U-00285-00213883-00214576 Eleri: Wel, fy hoff gan i pan o'n i'n cyflwyno Cadw  Reiat oedd Siglo ar y Siglen gyda Geraint Jarman,
AWYC13R6d0U-00286-00214576-00215283 a falle bod ni wedi bod yn siglo yn ôl a 'mlaen ar y siglen, a gobeithio nawr bod ni'n gallu dod oddi ar y siglen 
AWYC13R6d0U-00287-00215283-00216175 sy'n mynd yn ôl a 'mlaen o un amrywiolyn i'r  llall a symud ymlaen. Felly 'na'r gobaith nawr. 
AWYC13R6d0U-00288-00216175-00216844 A'r unig beth arall yw, I've Survived, yndyfe, achos  mae'r teimlad 'na yn gryf ar hyn o bryd
AWYC13R6d0U-00289-00216844-00218189 bod rhai pobl ddim wedi llwyddo dod trwy'r pandemig yma. Mae e wedi difrodi bywydau pobl ac wedi lladd nifer o bobl, 
AWYC13R6d0U-00290-00218189-00218904 ac mae hynna i gyd yn ofnadwy. Ac felly  diolchgar iawn bod fi wedi gallu cadw
AWYC13R6d0U-00291-00218904-00219753 mynd yn ystod y pandemig, a gobeithio gallwn ni  ddysgu yn dda o hyn a symud ymlaen.
AWYC13R6d0U-00292-00219753-00220169 Dot: Ni'n ddiolchgar iawn am eich amser chi bore 'ma.  Mae 'di bod yn bleser siarad 'da chi. 
AWYC13R6d0U-00293-00220169-00220645 Diolch yn fawr, nodyn perffaith i ni orffen arni. Diolch yn fawr i chi, Dr Eleri.
AWYC13R6d0U-00294-00220645-00220845 Eleri: Croeso. 
AWYC13R6d0U-00295-00220845-00222055 Eisiau clywed mwy? Gallwch wrando ar y bennod gyfan  ar y prif wasanaethau ffrydio podlediadau. Datgloi: Straeon COVID o Gymru.
DzVfZV6xJzM-00000-00000103-00000700 Dim ond cael golwg i weld pa mor ddwfn yw'r mawndir yma yng Nghrymlyn
DzVfZV6xJzM-00001-00000700-00001300 Ceisio gweithio allan ble gallwn osod rhai ffynhonnau-dip ar gyfer monitro hydrolegol.
DzVfZV6xJzM-00002-00001300-00002100 Rydw i yma ar y llwybr pren cyntaf ac rydw i eisoes wedi gosod y gwiail yn y mawndir.
DzVfZV6xJzM-00003-00002100-00002300 Byddwn yn eu hadalw nawr i weld pa mor ddwfn ydyw.
DzVfZV6xJzM-00004-00002300-00002500 Mae pob uniad ar un metr.
DzVfZV6xJzM-00005-00002800-00003000 Dyna ddau fetr….
DzVfZV6xJzM-00006-00003400-00004200 Felly yma ychydig oddi ar y llwybr pren mae gennym bron i 2.5 metr o fawn.
DzVfZV6xJzM-00007-00004200-00005100 Rwyf wedi symud ychydig i weld a oes unrhyw wahaniaeth ac mae'r llwybr pren wedi cael unrhyw effaith.
DzVfZV6xJzM-00008-00005100-00005500 Dim ond gosod y gwiail yn y ddaear nawr...
DzVfZV6xJzM-00009-00005500-00005900 Torri drwy'r gramen arwyneb hwnnw o lystyfiant.
DzVfZV6xJzM-00010-00005900-00006100 Mae hynny un metr i lawr...
DzVfZV6xJzM-00011-00006100-00006300 Dyna ddau fetr...
DzVfZV6xJzM-00012-00006500-00006700 Dyna dri metr..#.
DzVfZV6xJzM-00013-00007300-00007700 Ac rydyn ni'n mynd ar dri metr ... af i gael gwialen arall...
DzVfZV6xJzM-00014-00007700-00008000 Felly dyna bedwar metr i mewn….
DzVfZV6xJzM-00015-00008000-00008400 Byddaf yn ychwanegu rhif pump yn unig!
DzVfZV6xJzM-00016-00008400-00008800 Dal i fynd i lawr...
DzVfZV6xJzM-00017-00008800-00009000 Bron i bum metr...
DzVfZV6xJzM-00018-00009300-00009900 Nid mawndir yw hwn o reidrwydd…gallai fod rhywfaint o silt yno...
DzVfZV6xJzM-00019-00009900-00010100 Mae'n fwy i weld pa mor feddal a dwfn y ddaear yn mynd...
DzVfZV6xJzM-00020-00010100-00011300 Pan fyddwn yn dod i osod ffynhonnau dip, bydd yn rhaid i ni osod angorau pridd i'w hatal rhag symud fel ein bod yn cael darlleniad cywir o'r dyfnder.
DzVfZV6xJzM-00021-00011300-00011800 Iawn, mae'n ymddangos ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt caled yno...
DzVfZV6xJzM-00022-00011800-00012573 Rwy’n meddwl bod chwe metr o wialen yn cael eu defnyddio…mae gennym ni tua 50cm yn sticio allan o’r ddaear.
DzVfZV6xJzM-00023-00012573-00012873 Byddwn yn eu tynnu allan.
DzVfZV6xJzM-00024-00013373-00015073 1…2…3…4…5…ac mae'n dal i fynd!
DzVfZV6xJzM-00025-00015073-00015673 Gallwch weld dim ond edrych ar y wialen hon pa mor ddwfn yw'r mawn mewn gwirionedd….
DzVfZV6xJzM-00026-00016773-00017373 …..felly tua 5.5 metr o ddyfnder yma.
DzVfZV6xJzM-00027-00017373-00017873 Mae hynny'n llawer o garbon wedi'i storio!
F1NxHCMmksc-00000-00002276-00002476 welcome to our new channel with spring599 and challenge games
Iod4gdI0WPU-00000-00017587-00018009 Music: Sascha Ende - The Gigantic Epic Day After Tomorrow.ogg; Composer: Sascha Ende;   Avaliable on Commons.
RNuHJ60mL10-00000-00000844-00001286 Yn y fideo diwethaf gwelon ni fod ‘na wefr bositif gyda gronyn alffa (He2+)
RNuHJ60mL10-00001-00001286-00001541 a gwefr negatif gyda gronyn beta (e-) 
RNuHJ60mL10-00002-00001541-00002043 ond does dim gwefr gyda ffotonau a ryddheir trwy ymbelydredd gama.
RNuHJ60mL10-00003-00002043-00002781 Oherwydd eu gwefrau gwahanol, gallan nhw gael eu gwahanu o'i gilydd ym meysydd magnetig.
RNuHJ60mL10-00004-00002781-00003557 Mae gronynnau alffa yn cael eu tynnu tuag at faes negatif a gronynnau beta tuag at faes positif.
RNuHJ60mL10-00005-00003557-00004339 Mae ymbelydredd gama yn mynd yn syth trwy faes magnetig heb gael ei effeithio.
RNuHJ60mL10-00006-00004885-00005395 Pan ydy e’n taro moleciwlau, gall ymbelydredd eu hïoneiddio nhw.
RNuHJ60mL10-00007-00005395-00005918 Os digwyddiff hyn i’r DNA mewn cell, gall y gell ddod yn ganseraidd.
RNuHJ60mL10-00008-00005918-00006484 O ganlyniad, mae ymbelydredd alffa, beta a gama yn gallu bod yn beryglus.
RNuHJ60mL10-00009-00006484-00006933 Mae'r perygl a gynigir gan ffynonellau ymbelydrol yn amrywio. 
RNuHJ60mL10-00010-00006933-00007358 Tu mewn i’r corff, ymbelydredd alffa ydy’r mwyaf niweidiol,
RNuHJ60mL10-00011-00007358-00007764 gan gael ei amsugno’n hawdd gan gelloedd byw. 
RNuHJ60mL10-00012-00007764-00008599 Mae ymbelydredd beta ac ymbelydredd gama yn fwy tebygol o basio’n syth mas o’r corff, felly maent yn llai peryglus. 
RNuHJ60mL10-00013-00008599-00009152 Tu fas i’r corff, ymbelydredd alffa ydy’r lleiaf peryglus, gan fod e ddim yn debygol
RNuHJ60mL10-00014-00009152-00009950 o dreiddio’r haen gelloedd marw ar arwyneb y croen ac yn niweidio celloedd byw mewnol.
RNuHJ60mL10-00015-00010472-00010875 Mae'r broses o ddadfeiliad ymbelydrol yn digwydd ar hap;
RNuHJ60mL10-00016-00010875-00011583 ni ellir rhagweld pa bryd y bydd unrhyw un niwclews ansefydlog yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd.
RNuHJ60mL10-00017-00011583-00012063 Mae pob niwclews yn dadfeilio'n ddigymell ac yn ei amser ei hun.
RNuHJ60mL10-00018-00012063-00012733 Er hynny, mae’n bosibl i fesur yr amser a gymerir i hanner o’r niwclysau ymbelydrol ddadfeilio.
RNuHJ60mL10-00019-00012733-00013416 Hanner oes ydy enw’r amser hwn. Mae gan bob isotop ymbelydrol hanner oes unigryw.
RNuHJ60mL10-00020-00013416-00014579 Er enghraifft, mae hanner oes carbon-14 yn 5,730 o flynyddoedd ond dim ond 22 munud ydy hanner oes ffranciwm-223. 22 00:02:25,790 --> 00:02:23,040 Wrth wybod yr hanner oes, gallwch chi wneud cyfrifiadau syml yn ymwneud ag ymbelydredd. Ystyriwch y cwestiwn hwn;
RNuHJ60mL10-00021-00016785-00017440 I fynd o 100g o garbon-14 i 25g mae rhaid haneri can gram ddwywaith. 
RNuHJ60mL10-00022-00017440-00017791 Felly mae’n cymryd dwy hanner oes er mwyn hynny digwydd.
RNuHJ60mL10-00023-00017791-00018886 Dwywaith 5,730, sef 11,460 o flynyddoedd ydy’r amser sydd ei angen felly.
RNuHJ60mL10-00024-00019411-00019977 Gallwch chi ddefnyddio ymbelydredd beta er mwyn creu deunydd gyda union drwch. 
RNuHJ60mL10-00025-00019977-00020502 Mae treiddiad yr ymbelydredd trwy ddeunydd yn dibynnu ar drwch y deunydd. 
RNuHJ60mL10-00026-00020502-00021177 Felly, gallwch chi ddweud wrth beiriant am gynyddu’r trwch os ydy’r treiddiad yn ormod; 
RNuHJ60mL10-00027-00021177-00021672 os ydy’r treiddiad yn rhy fach, bydd y peiriant yn gostwng y trwch.
RNuHJ60mL10-00028-00021672-00022115 Gellir defnyddio ymbelydredd mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys:
UOvk43lUNqu-00000-00000008-00000344 Roedd S4C eisiau staff oedd yn gallu darlledu eu doniau.
UOvk43lUNqu-00001-00000344-00000728 Diolch i brentisiaethau, roedd modd iddyn nhw gynhyrchu eu staff eu hunain.
UOvk43lUNqu-00002-00000728-00001258 Roedd S4C eisiau chwistrellu syniadau newydd i’w busnes er mwyn cael hwb creadigol.
UOvk43lUNqu-00003-00001258-00001592 Felly, fe wnaethon nhw’r dewis doeth i recriwtio prentisiaid…
UOvk43lUNqu-00004-00001592-00001980 Gan ganiatáu iddyn nhw fanteisio ar gronfa dalent a chyflwyno rhaglen hyfforddi
UOvk43lUNqu-00005-00001980-00002346 sy'n dysgu’r sgiliau swydd benodol  hanfodol hynny i staff.
UOvk43lUNqu-00006-00002346-00002608 I weld beth all prentisiaeth ei wneud i dy fusnes di …
UOvk43lUNqu-00007-00002608-00002936 Chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth.
UfrVaq-wjXY-00000-00000054-00000922 Bydd y ffilm fer hon yn rhoi tros olwg o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
UfrVaq-wjXY-00001-00000956-00001748 Ym mis Ionawr 2020 pasiwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) gan y Senedd.
UfrVaq-wjXY-00002-00001816-00002598 Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth a ddaw’r Ddeddf yn dod i rym ym mis Mawrth 2022.
UfrVaq-wjXY-00003-00002634-00003010 Pam wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Plant Cymru?
UfrVaq-wjXY-00004-00003044-00003674 Yn 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil i helpu i ddiogelu hawliau plant.
UfrVaq-wjXY-00005-00003718-00004118 Rydyn ni am roi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i blant
UfrVaq-wjXY-00006-00004144-00004454 a rhoi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
UfrVaq-wjXY-00007-00004500-00004698 Beth yw cosb gorfforol?
UfrVaq-wjXY-00008-00004778-00005462 Mae cosb gorfforol yn cynnwys unrhyw weithred o guro plentyn fel cosb - nid dim ond smacio.
UfrVaq-wjXY-00009-00005512-00006254 Mae gan bob math o gosb gorfforol o dan unrhyw amodau y potensial i fod yn niweidiol i blant.
UfrVaq-wjXY-00010-00006298-00006598 Beth yw’r amddiffyniad cosb resymol?
UfrVaq-wjXY-00011-00006658-00007148 Sefydlwyd y cysyniad o gosb resymol yn 1860.
UfrVaq-wjXY-00012-00007202-00007920 Mae rhieni neu oedolion eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant yn gallu defnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol
UfrVaq-wjXY-00013-00007940-00008342 os cânt eu cyhuddo o ymosod cyffredin a churo plentyn.
UfrVaq-wjXY-00014-00008418-00009102 Nid yw’r amddiffyniad hwn ar gael i oedolyn os yw’n cael ei gyhuddo o ymosod ar oedolyn arall.
UfrVaq-wjXY-00015-00009186-00009852 Dros y blynyddoedd, mae deddfwriaeth wedi cyfyngu’r amgylchiadau lle gellid defnyddio’r amddiffyniad
UfrVaq-wjXY-00016-00009874-00010290 ac wedi cyfyngu’r lleoliadau lle gellir cosbi plant yn gorfforol.
UfrVaq-wjXY-00017-00010402-00010928 Mae cosbi corfforol yn barod yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant,
UfrVaq-wjXY-00018-00010928-00011420 cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant.
UfrVaq-wjXY-00019-00011504-00012172 Rydym ni yn cymryd y cam nesaf ar y daith hon drwy gael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol.
UfrVaq-wjXY-00020-00012288-00012486 Beth mae’r byd yn ei gredu?
UfrVaq-wjXY-00021-00012582-00013210 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r sail i’n polisi ni ar gyfer plant.
UfrVaq-wjXY-00022-00013246-00013791 Mae’r Confensiwn yn cydnabod bod unrhyw gosb gorfforol yn torri hawliau dynol plant.
UfrVaq-wjXY-00023-00013874-00014513 Mae dros 55 o wledydd ledled y byd eisoes wedi rhoi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol.
UfrVaq-wjXY-00024-00014568-00014780 Rydym ni yn falch o ymuno â nhw.
UfrVaq-wjXY-00025-00014826-00015286 Beth fydd y Ddeddf yn ei wneud a beth na fydd yn ei wneud.
UfrVaq-wjXY-00026-00015324-00015466 Bydd y Ddeddf yn:
UfrVaq-wjXY-00027-00015466-00016176 Cael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol. Fydd neb yn cael cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
UfrVaq-wjXY-00028-00016240-00017042 Cael gwared ar fwlch cyfreithiol oedd yn caniatáu’r amddiffyniad cosb resymol mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio,
UfrVaq-wjXY-00029-00017078-00017608 gan gynnwys rhai mannau dysgu, addoli, chwarae neu hamdden.
UfrVaq-wjXY-00030-00017690-00018402 Diogelu plant yn gyfreithiol rhag cosbi corfforol – yn union fel rydyn ni’n diogelu oedolion.
UfrVaq-wjXY-00031-00018460-00019314 Gwneud y gyfraith yn fwy clir, fel bod plant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd yn deall y gyfraith.
UfrVaq-wjXY-00032-00019372-00020162 Helpu i amddiffyn hawliau plant a rhoi arwydd clir na chaiff cosbi plant yn gorfforol ei oddef yng Nghymru.
UfrVaq-wjXY-00033-00020208-00020404 Fydd y Ddeddf DDIM yn:
UfrVaq-wjXY-00034-00020424-00021004 Yn creu trosedd newydd – nid yw’n gwneud mwy na dileu'r amddiffyniad cosb resymol.
UfrVaq-wjXY-00035-00021100-00021836 Ddim yn atal rhieni rhag disgyblu eu plant – mae gwahaniaeth mawr rhwng disgyblu a chosb gorfforol.
UfrVaq-wjXY-00036-00021920-00022596 Ddim yn ymyrryd â gallu rhiant i fod yn rhiant – gall rhieni, wrth gwrs, ymyrryd yn gorfforol,
UfrVaq-wjXY-00037-00022622-00023356 i gadw plentyn yn ddiogel rhag niwed, er enghraifft, neu ei helpu i wisgo neu frwsio dannedd.
UfrVaq-wjXY-00038-00023478-00023640 Beth sy'n digwydd nesaf?
UfrVaq-wjXY-00039-00023684-00024132 Mae'r Senedd wedi pleidleisio i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol
UfrVaq-wjXY-00040-00024138-00024604 a bydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Mawrth 2022.
UfrVaq-wjXY-00041-00024676-00025282 Rhwng nawr a hynny, cynhelir ymgyrch i roi gwybod i’r cyhoedd am y newid yn y gyfraith,
UfrVaq-wjXY-00042-00025308-00025682 gyda hysbysebion teledu, radio a digidol.
UfrVaq-wjXY-00043-00025789-00026626 Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni a phlant yn gwybod am y newid i'r gyfraith.
UfrVaq-wjXY-00044-00026720-00027144 Bydd Grŵp o arbenigwyr yn goruchwylio'r gwaith cyfathrebu.
UfrVaq-wjXY-00045-00027216-00027768 Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r sefydliadau a fydd yn gweithredu'r newid yn y gyfraith.
UfrVaq-wjXY-00046-00027844-00028870 Bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn goruchwylio ac yn gwneud argymhellion i sicrhau y caiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu’n ymarferol ac yn effeithiol.
UfrVaq-wjXY-00047-00028906-00029394 Caiff y gwaith mwy manwl ei reoli gan bedwar grŵp gorchwyl a gorffen.
UfrVaq-wjXY-00048-00029438-00029582 Mae’r oes wedi newid.
UfrVaq-wjXY-00049-00029600-00029800 Mae agweddau wedi newid.
UfrVaq-wjXY-00050-00029832-00030238 Does dim lle i gosbi plant yn gorfforol yng Nhymru heddiw.
UfrVaq-wjXY-00051-00030318-00030756 I gael mwy o wybodaeth am stopio cosbi corfforol, ewch i:
UfrVaq-wjXY-00052-00030770-00031268 llyw.cymru/stopiocosbicorfforol
UfrVaq-wjXY-00053-00031326-00031916 I gael cyngor positif am rianta ewch i Magu Plant. Rhowch amser iddo.