Datasets:

ArXiv:
License:
File size: 17,627 Bytes
2da0bc5
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
 
1
2
3
4
5
6
7
8
9
10
11
12
13
14
15
16
17
18
19
20
21
22
23
24
25
26
27
28
29
30
31
32
33
34
35
36
37
38
39
40
41
42
43
44
45
46
47
48
49
50
51
52
53
54
55
56
57
58
59
60
61
62
63
64
65
66
67
68
69
70
71
72
73
74
75
76
77
78
79
80
81
82
83
84
85
86
87
88
89
90
91
92
93
94
95
96
97
98
99
100
101
102
103
104
105
106
107
108
109
110
111
112
113
114
115
116
117
118
119
120
121
122
123
124
125
126
127
128
129
130
131
132
133
134
135
136
137
138
139
140
141
142
143
144
145
146
147
148
149
150
151
44q5bTz7rtM-00000-00000000-00000357 Mae feirysau'n lledaenu'n  rhwydd o berson i berson. 
44q5bTz7rtM-00001-00000357-00000860 Os ydych chi’n teimlo'n sâl,
44q5bTz7rtM-00002-00000860-00001364 gallwch atal lledaeniad trwy gyfyngu ar eich cyswllt ag eraill, yn enwedig  pobl agored i niwed. 
44q5bTz7rtM-00003-00001364-00001878 Felly, arhoswch gartref gymaint ag y gallwch, 
44q5bTz7rtM-00004-00001878-00002398 gweithiwch gartref os yw'n bosibl ac ewch allan os oes wir angen yn unig. 
44q5bTz7rtM-00005-00002398-00002735 Os ydych chi’n gadael eich cartref, 
44q5bTz7rtM-00006-00002735-00003079 gwisgwch fasg wyneb...
44q5bTz7rtM-00007-00003079-00003412 ac osgoi lleoedd prysur neu gaeedig. 
44q5bTz7rtM-00008-00003412-00003926 Ceisiwch gadw draw oddi wrth unrhyw berson agored i niwed.
44q5bTz7rtM-00009-00003926-00004503 Diogelu Cymru gyda'n gilydd. llyw.cymru/DiogeluCymru
4Za3tvUza9c-00000-00000012-00000246 Mae gan Gruff drwyn am stori erioed.
4Za3tvUza9c-00001-00000246-00000690 Diolch i brentisiaeth, mae bellach yn cael cyfle i fynd ar drywydd ei stori ei hun.
4Za3tvUza9c-00002-00000732-00001132 Ar ôl gorffen yn yr ysgol, roedd Gruff yn gwybod ei fod am ddilyn ei freuddwydion a
4Za3tvUza9c-00003-00001132-00001456 gweithio yn y cyfryngau - ond doedd e ddim yn siŵr sut i gychwyn gyrfa.
4Za3tvUza9c-00004-00001456-00001776 Felly, gwnaeth y dewis doeth a gwneud cais am brentisiaeth.
4Za3tvUza9c-00005-00001776-00002239 Roedd hyn yn golygu bwrw iddi a gwneud sawl swydd o fewn y sector, gan ddysgu sgiliau
4Za3tvUza9c-00006-00002239-00002427 ac ennill cyflog ar yr un pryd.
4Za3tvUza9c-00007-00002427-00002668 I weld beth all prentis ei wneud i ti…
4Za3tvUza9c-00008-00002668-00002962 Chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth.
6ruHthC3Ehk-00000-00000000-00000376 Cael ein brechu yn llawn yw'r ffordd  orau o amddiffyn ein hunain...
6ruHthC3Ehk-00001-00000376-00000747 a'r bobl o'n cwmpas rhag COVID-19.
6ruHthC3Ehk-00002-00000747-00001217 Mae'r brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol.
6ruHthC3Ehk-00003-00001217-00001706 Ni fydd bob amser yn ein  hatal rhag dal COVID-19,
6ruHthC3Ehk-00004-00001706-00002213 ond mae'n ei gwneud yn llawer yn llai  tebygol y byddwch chi’n ddifrifol wael. 
6ruHthC3Ehk-00005-00002213-00002733 Gall brechiadau leihau ar faint  mae’r haint yn lledaenu hefyd, 
6ruHthC3Ehk-00006-00002733-00003223 er mwyn i chi fod yn llai  tebygol o heintio eraill.
6ruHthC3Ehk-00007-00003223-00003703 Diogelu Cymru gyda'n gilydd.  llyw.cymru/DiogeluCymru
eglp41_2lp8-00000-00000800-00001398 Martyn Evans ydw i, fi yw Pennaeth Gweithrediadau De Orllewin Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.
eglp41_2lp8-00001-00001398-00001995 Fi hefyd yw’r Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Prosiect Corsydd Crynedig LIFE. 
eglp41_2lp8-00002-00001995-00003093 Yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ry’n ni’n manteisio ar y cyllid sy’n weddill gyda phartneriaid eraill i wneud gwaith cadwraeth go iawn yn ein Hardaloedd Cadwraeth Arbennig, 
eglp41_2lp8-00003-00003093-00003787 yn enwedig ar Gorsydd Crynedig, fel y’u gelwir – teitl y prosiect, felly, yw Corsydd Crynedig LIFE.
eglp41_2lp8-00004-00003787-00004985 Mae gennym ni bartneriaid da iawn, ac maen nhw’n ariannu’r prosiect hefyd – sef Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn Eryri a Sir Benfro, yn ogystal â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol...  rydyn ni i gyd o gwmpas y bwrdd.
eglp41_2lp8-00005-00004985-00005582 Bydd rhai cyfleoedd gwych i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol, rydyn ni'n mynd i sefydlu Fforwm Rhanddeiliaid... 
eglp41_2lp8-00006-00005582-00006876 Mae rhai cyfleoedd gwirioneddol dda i ddysgu llawer mwy am Gorsydd Crynedig – eu pwysigrwydd yn ddiwylliannol, yn economaidd o ran mynediad, hamddena a mwynhau... yn ogystal ag am resymau bioamrywiaeth.
eglp41_2lp8-00007-00006876-00007574 Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn helpu i fynd i'r afael ag ambell fater o ran yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ar yr un pryd.
eglp41_2lp8-00008-00007574-00008772 Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn o ran y dirywiad mewn bioamrywiaeth yn ein cynefinoedd yng Nghymru, a gwneud ein cynefinoedd yng Nghymru'n llawer mwy gwydn fel ecosystemau... 
eglp41_2lp8-00009-00008772-00009069 ...felly dyna'r gwir gyfle rydyn ni am wneud y gorau ohono gyda’r prosiect hwn.
iOhVmFWzDxg-00000-00000000-00000530 Dwi’n chwilio am help ar ôl dêt ar-lein. Roedd popeth yn iawn tan inni gyrraedd ei dŷ o.
iOhVmFWzDxg-00001-00000560-00000706 Alli di ddweud wrtha i be’ ddigwyddodd?
iOhVmFWzDxg-00002-00000734-00001194 Do’n i ddim eisiau cael rhyw ond ddudodd o ddylswn i ddim ‘di mynd ‘nôl i’w dŷ o os o’n i ddim eisiau fo, de.
iOhVmFWzDxg-00003-00001230-00001468 Dyw hyn DDIM YN IAWN. Cam-drin rhywiol yw hyn.
iOhVmFWzDxg-00004-00001502-00002094 Does dim esgus. Os nad oeddet ti wedi cydsynio, mae’n drais ac yn drosedd. Gallwn ni dy helpu di.
iOhVmFWzDxg-00005-00002128-00002594 Mae help a chefnogaeth gyfrinachol ar gael ddydd a nos ar Linell Gymorth Byw Heb Ofn.
iOhVmFWzDxg-00006-00002632-00003008 Ffoniwch 0808 80 10 800
rmTEvxq2AKk-00000-00000000-00000228 Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd.
rmTEvxq2AKk-00001-00000304-00000712 Gobeithio i chi gael Nadolig llawen a heddychlon.
rmTEvxq2AKk-00002-00000816-00001552 Wrth i 2022 ddod i ben, bydd llawer yn falch  o weld diwedd blwyddyn anodd.
rmTEvxq2AKk-00003-00001728-00002264 Hon oedd blwyddyn lansio’r rhyfel greulon Rwsia yn erbyn Wcráin. 
rmTEvxq2AKk-00004-00002404-00003032 Lladdwyd miloedd, ac mae miliynau wedi gorfod ffoi o’u cartrefi. 
rmTEvxq2AKk-00005-00003160-00003708 A dros y deuddeg mis diwethaf mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu. 
rmTEvxq2AKk-00006-00003860-00004320 Mae’n fwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd.
rmTEvxq2AKk-00007-00004436-00005164 Ond, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, mae pobl wedi bod mor barod i helpu eraill.
rmTEvxq2AKk-00008-00005208-00005684 Rydym wedi gweld cryfder a gwir garedigrwydd.
rmTEvxq2AKk-00009-00005780-00006316 Mae pobl wedi agor eu cartrefi i filoedd o bobl o Wcráin, 
rmTEvxq2AKk-00010-00006364-00006788 gan gynnig noddfa a diogelwch yma yng Nghymru.
rmTEvxq2AKk-00011-00006828-00007192 Ac unwaith eto, mae cymunedau wedi ymuno
rmTEvxq2AKk-00012-00007192-00008004 i helpu ei gilydd yn yr argyfwng costau byw – yn union fel yn y pandemig.
rmTEvxq2AKk-00013-00008088-00008380 Mae Blwyddyn Newydd yn ddechrau newydd 
rmTEvxq2AKk-00014-00008444-00009132 ac rwy’n siŵr bod gan bawb eu gobeithion a’u dymuniadau am y flwyddyn nesaf.
rmTEvxq2AKk-00015-00009240-00010148 Dewch inni obeithio am heddwch yn 2023,  ac amser hapusach i ddod.
rmTEvxq2AKk-00016-00010220-00010500 Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. 
s7P2PjHVTeU-00000-00000000-00000360 Pan fyddaf yn meddwl am ddyfodol yr amgylchedd naturiol yma yng Nghymru, rwy’n meddwl am fy
s7P2PjHVTeU-00001-00000360-00000984 mab ac rwy’n meddwl am ein plant. Ac rwy'n meddwl yn ôl i fy rhieni, wyddoch chi, un o'r
s7P2PjHVTeU-00002-00000984-00001728 rhoddion mwyaf a roddon i mi oedd perthynas â'r awyr agored o oedran ifanc a'r hyder i'w
s7P2PjHVTeU-00003-00001823-00003328 fwynhau. A gwelaf hynny yn fy mab nawr. Rwy’n teimlo’n angerddol iawn am roi’r sgiliau iddo,
s7P2PjHVTeU-00004-00003328-00003911 a’r profiadau cadarnhaol yn yr awyr agored, y bydd yn eu hamddiffyn am weddill ei oes.
s7P2PjHVTeU-00005-00004104-00004608 Rwy'n byw yng Nghaerdydd, wyddoch chi, mae'n ardal drefol, ond rydym wedi'n hamgylchynu gan natur. Mae gennym ni
s7P2PjHVTeU-00006-00004608-00005432 barciau anhygoel, mannau gwyrdd anhygoel. Does dim rhaid i ni deithio'n bell, i brofi Cymru wyllt.
s7P2PjHVTeU-00007-00005976-00006464 Hoffwn amddiffyn hynny iddo ef ac i'n holl blant. Ac, rwy’n meddwl bod hynny’n
s7P2PjHVTeU-00008-00006464-00007184 dechrau gyda ni, ei gydnabod, ei werthfawrogi, ei werthfawrogi, a chael y sgwrs hon.
tW0qUlZOqgM-00000-00000004-00000390 Fy Nhad-yng-nghyfraith 'nath ddechrau'r busnes yn 1966.
tW0qUlZOqgM-00001-00000390-00000600 Gweld bod ‘na le ar y farchnad
tW0qUlZOqgM-00002-00000620-00001000 i gael gwerthu bwyd fel anrhegion i’r diwydiant twristiaeth.
tW0qUlZOqgM-00003-00001010-00001620 Ma’ bod yn aelod o’r clwstwr wedi rhoi cyfle i fi drafod hefo sawl cynhyrchydd eraill.
tW0qUlZOqgM-00004-00001630-00001720 Mae o’n gyfle gwych.
tW0qUlZOqgM-00005-00001730-00002210 Mae mynychu cyfarfodydd fel Taste Wales ac yn y blaen mae wedi bod yn werthfawr iawn i ni.
tW0qUlZOqgM-00006-00002220-00003000 Da ni wedi cyfarfod prynwyr hotels mawr dylanwadol yng Nghymru, mae o i gyd ‘di neud gyda’r help da ni wedi cael gan y Llywodraeth, so mae’n wych!
ulUt5GRqrDI-00000-00000000-00000400 Mae sawl ffordd o gael mynediad  at wasanaethau'r GIG
ulUt5GRqrDI-00001-00000400-00000724 i ddechrau cael y gofal cywir,  yn y lle cywir, y tro cyntaf.
ulUt5GRqrDI-00002-00000724-00001196 Gallwch gael gofal, cymorth a chyngor  am gyflwr iechyd hen neu newydd,  heb orfod gadael eich cartref na’r gwaith. 
ulUt5GRqrDI-00003-00001196-00001500 Chi sy’n dechrau’r daith at fod yn iach. llyw.cymru/HelpuNiHelpuChi
z5NwmB32b7c-00002-00000488-00000914 Beth fyddai'n digwydd pe bydden ni'n rhoi neu'n derbyn cymorth anghyfreithlon?
z5NwmB32b7c-00003-00000914-00001689 I ddechrau, dyma grynodeb ddefnyddiol o'r hyn sy'n cyfri fel Cymorth Gwladwriaethol cyfreithlon ac anghyfreithlon.
z5NwmB32b7c-00004-00001689-00002122 Mae’n bwysig cofio bod cymorth yn gallu bod yn anghyfreithlon nid yn unig os
z5NwmB32b7c-00005-00002122-00002686 nad yw wedi cael ei roi yn unol â'r rheolau, ond hefyd os nad yw'r rheolau wedi'u dilyn yn gywir.
z5NwmB32b7c-00006-00002686-00003429 Mae nifer fawr o wahanol ffyrdd i'r Comisiwn Ewropeaidd sylwi ar Gymorth Gwladwriaethol anghyfreithlon.
z5NwmB32b7c-00007-00003429-00004626 Bob blwyddyn mae'r Comisiwn yn archwilio sampl o gynlluniau Cymorth Gwladwriaethol mae'r Aelod-wladwriaethau wedi'u cofrestru neu hysbysu'r Comisiwn amdanynt.
z5NwmB32b7c-00008-00004626-00005166 Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cadw llygad ar erthyglau yn y wasg gan Aelod-wladwriaethau
z5NwmB32b7c-00009-00005166-00005744 ac yn medru gofyn cwestiynau os ydyn nhw'n pryderu bod Cymorth Gwladwriaethol yn cael ei ddarparu.
z5NwmB32b7c-00010-00005744-00006538 Gall busnesau a sefydliadau eraill gwyno wrth y Comisiwn os ydyn nhw'n credu bod un o'u cystadleuwyr wedi derbyn
z5NwmB32b7c-00011-00006538-00007109 Cymorth Gwladwriaethol anghyfreithlon. Os yw hyn yn digwydd, rhaid i'r Comisiwn ymchwilio.
z5NwmB32b7c-00012-00007109-00007658 Felly beth yw goblygiadau cymorth anghyfreithlon?
z5NwmB32b7c-00013-00007658-00008392 Os yw'r Comisiwn yn penderfynu bod y cymorth yn anghyfreithlon, gall hyn arwain at gamau pellach:
z5NwmB32b7c-00014-00008392-00008894 Gall y Comisiwn fynnu bod y cymorth anghyfreithlon yn cael ei ad-dalu
z5NwmB32b7c-00015-00008894-00009556 Er enghraifft, yn ddiweddar maen nhw wedi mynnu bod rhaid i awdurdodau Ffrainc adennill cymorth gan EDF.
z5NwmB32b7c-00016-00009556-00010568 Hefyd mae'n bosibl y gall cystadleuwyr ddefnyddio llysoedd domestig i erlyn awdurdodau cyhoeddus am iawndal o ganlyniad i golli busnes.
z5NwmB32b7c-00017-00010568-00011478 Dan y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol newydd, gall y Comisiwn Ewropeaidd benderfynu bod rhaid i awdurdod
z5NwmB32b7c-00018-00011478-00011852 cyhoeddus hysbysu am yr holl gymorth sy'n cael ei roi ganddynt.
z5NwmB32b7c-00019-00011852-00012442 Bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach i awdurdodau cyhoeddus roi Cymorth Gwladwriaethol yn gyflym.
z5NwmB32b7c-00020-00012442-00013200 Cafodd y cwmni awyrennau rhad, Ryanair gyfres o gytundebau marchnata ffafriol ac ad-daliadau
z5NwmB32b7c-00021-00013200-00013996 contractiol gan amrywiol feysydd glanio rhanbarthol yn Ffrainc. Yn dilyn ymchwiliad gan y Comisiwn Ewropeaidd,
z5NwmB32b7c-00022-00013996-00015038 penderfynwyd bod y cytundebau hyn yn Gymorth Gwladwriaethol anghyfreithlon, a gorchmynnwyd i Ffrainc adennill €10 miliwn gan Ryanair.
z5NwmB32b7c-00023-00015038-00015894 Mae ardoll agregau'r Deyrnas Unedig yn dreth ar ddefnydd masnachol o greigiau, tywod a graean.
z5NwmB32b7c-00024-00015894-00016772 Cafodd ei chyflwyno fel treth amgylcheddol yn 2002 er mwyn annog ailddefnyddio ac ailgylchu yr agregau presennol.
z5NwmB32b7c-00025-00016772-00017466 Mae'r ardoll yn cael ei chodi ar gyfradd wastad o £2 am bob tunnell sy'n cael ei chloddio o'r ddaear,
z5NwmB32b7c-00026-00017466-00017804 ond roedd rhai agregau wedi'u heithrio.
z5NwmB32b7c-00027-00017804-00018696 Yn 2013 agorodd y Comisiwn ymchwiliad i honiadau bod yr eithriadau hyn yn cyfateb i Gymorth Gwladwriaethol.
z5NwmB32b7c-00028-00018696-00019526 Ym mis Mawrth 2015, penderfynodd y Comisiwn bod eithrio agregau siâl yn cyfateb i Gymorth Gwladwriaethol,
z5NwmB32b7c-00029-00019538-00020104 ac fe orchmynnwyd i Lywodraeth y DU gymryd y dreth a oedd wedi’i hepgor yn ôl.
z5NwmB32b7c-00030-00020104-00021018 Er mwyn lleihau peryglon Cymorth Gwladwriaethol, mae gan y rhai sy'n rhoi cymorth gyfres o gyfrifoldebau.
z5NwmB32b7c-00031-00021034-00021748 Rhaid ichi:   Sicrhau bod pob dyfarniad cymorth yn cael ei roi dan y cynllun Cymorth Gwladwriaethol cywir.
z5NwmB32b7c-00032-00021758-00022644 Hyd yn oed os yw hyn yn golygu nad oes modd i chi roi cymaint ag yr hoffech; mae'n well defnyddio'r cynllun cywir
z5NwmB32b7c-00033-00022656-00023246 ar gyfer y sefyllfa yn hytrach na cheisio'i wasgu dan y cynllun anghywir a pheryglu ymchwiliad.
z5NwmB32b7c-00034-00023246-00024480 Gwnewch yn siŵr bod HOLL delerau ac amodau'r cynllun Cymorth Gwladwriaethol cywir yn cael eu bodloni; os oes unrhyw un o'r telerau
z5NwmB32b7c-00035-00024480-00024924 ac amodau heb eu bodloni, bydd y cymorth yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon,
z5NwmB32b7c-00036-00024924-00025352 ac mae perygl y byddwch yn cael eich gorfodi i gymryd gwerth y cymorth yn ôl.
z5NwmB32b7c-00037-00025352-00026102 Os oes gennych unrhyw amheuon, gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru
z5NwmB32b7c-00038-00026114-00027074 Gwnewch yn siŵr bod Uned Cymorth Gwladwriaethol Llywodraeth Cymru yn cael enw cyswllt mwyn helpu gyda'r adroddiadau blynyddol
z5NwmB32b7c-00039-00027086-00027664 a sicrhau tryloywder. Mae hyn bellach yn rhan o delerau ac amodau'r rheolau
z5NwmB32b7c-00040-00027664-00028210 Cymorth Gwladwriaethol, a bydd methu â'u darparu yn golygu eich bod yn torri'r rheolau.
z5NwmB32b7c-00041-00028210-00029145 Rhaid ichi gadw tystiolaeth am 10 mlynedd ar ôl gwneud y dyfarniad cymorth olaf dan y cynllun, rhag ofn y bydd y Comisiwn yn ymchwilio.
z5NwmB32b7c-00042-00029145-00029532 Bydd hyn yn eich galluogi i amddiffyn eich gweithredoedd,
z5NwmB32b7c-00043-00029532-00030033 ac yn lleihau'r perygl y bydd galw arnoch i gymryd y dyfarniad yn ôl.
z5NwmB32b7c-00044-00030033-00030918 Er mwyn lleihau peryglon Cymorth Gwladwriaethol, mae cyfrifoldebau ar y sawl sy'n derbyn cymorth hefyd.
z5NwmB32b7c-00045-00030918-00031908 Rhaid ichi:   Sicrhau bod y corff sy'n dyfarnu'r cymorth yn nodi'r cynllun cymorth gwladwriaethol cywir ar gyfer eich dyfarniad.
z5NwmB32b7c-00046-00031920-00032404 Sicrhau bod eich gweithgareddau'n aros o fewn telerau ac amodau'r cynllun,
z5NwmB32b7c-00047-00032404-00032974 ac os oes unrhyw amheuaeth rhaid i chi gadarnhau gyda'r corff sy'n dyfarnu'r cymorth.
z5NwmB32b7c-00048-00032974-00033866 Sicrhau eich bod yn darparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn brydlon, mae hyn yn rhan o delerau ac amodau eich dyfarniad,
z5NwmB32b7c-00049-00033866-00034370 a hebddo mae perygl i chi dorri'r amodau’r cynllun sy'n cael ei ddefnyddio.
z5NwmB32b7c-00050-00034370-00035064 Cadw gwybodaeth ynghylch eich dyfarniad cymorth am ddeng mlynedd rhag ofn y bydd y Comisiwn yn ymchwilio.
z5NwmB32b7c-00051-00035064-00035774 Bydd hyn yn eich galluogi i amddiffyn eich gweithredoedd, ac yn lleihau'r perygl y bydd galw arnoch i ad-dalu'r dyfarniad.
z5NwmB32b7c-00052-00035900-00036490 I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth Gwladwriaethol,
z5NwmB32b7c-00053-00036490-00037304 ewch i'n gwefan; Mae cyfres o daflenni gwybodaeth a rhestrau gwirio ar gael i'ch helpu gyda'ch gwaith.
I8FdaTvqqzM-00000-00000019-00000471 Doedd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ddim am i’w busnes fynd yn angof, felly dyma recriwtio
I8FdaTvqqzM-00001-00000471-00000704 prentis i’w helpu i gamu ymlaen i’r dyfodol.
I8FdaTvqqzM-00002-00000704-00001254 Mae dod o hyd i staff â’r sgiliau a’r cymwysterau cywir yn her i’r sector treftadaeth.
I8FdaTvqqzM-00003-00001254-00001542 Ond nid i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda.
I8FdaTvqqzM-00004-00001542-00001978 Fe wnaethon nhw’r dewis doeth i hyfforddi prentis, er mwyn cau’r bwlch sgiliau yn
I8FdaTvqqzM-00005-00001978-00002350 eu busnes a recriwtio rhywun oedd yn gwbl angerddol am hanes.
I8FdaTvqqzM-00006-00002350-00002624 I weld beth all prentis ei wneud i dy fusnes di …
I8FdaTvqqzM-00007-00002624-00002962 Chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth.
IqLYxz3dE-Y-00000-00000018-00000156 Sut allwn ni helpu?
IqLYxz3dE-Y-00001-00000172-00000560 Mae fy mhartner yn gwthio ei hun arna’i a gorfodi fi i wneud pethau rhywiol.
IqLYxz3dE-Y-00002-00000574-00000764 Dwi wedi dweud na ond dyw e’ ddim yn cymryd sylw.
IqLYxz3dE-Y-00003-00000788-00000940 Roeddet ti’n iawn i ffonio.
IqLYxz3dE-Y-00004-00000966-00001408 Mae’n dweud mae e jest yn ‘neud e’ achos mae eisiau fi, a bydd neb yn credu fi achos ni gyda’n gilydd.
IqLYxz3dE-Y-00005-00001428-00001738 Dyw hyn DDIM YN IAWN. Cam-drin rhywiol yw hyn.
IqLYxz3dE-Y-00006-00001760-00001996 Rydyn ni’n dy gredu di ac yn gallu helpu.
IqLYxz3dE-Y-00007-00002023-00002602 Mae help a chefnogaeth gyfrinachol ar gael ddydd a nos ar Linell Gymorth Byw Heb Ofn.
IqLYxz3dE-Y-00008-00002624-00002996 Ffoniwch 0808 80 10 800