Datasets:

ArXiv:
License:
yodas / data /cy000 /text /00000001.txt
xinjianl's picture
Upload folder using huggingface_hub
2da0bc5 verified
raw
history blame
No virus
69.3 kB
2Z7eK2x89S0-00000-00000032-00000400 Dyma fore ni’n edrych ymlaen at bob blwyddyn
2Z7eK2x89S0-00001-00000400-00000592 yma yn swyddfa’r Prif Weinidog.
2Z7eK2x89S0-00002-00000600-00001248 Y diwrnod pan ni’n edrych ar y cardiau sydd wedi dod i mewn
2Z7eK2x89S0-00003-00001280-00001823 fel rhan o’r gystadleuaeth i ddewis cerdyn Nadolig
2Z7eK2x89S0-00004-00001823-00002260 i fynd ledled y byd o swyddfa’r Prif Weinidog.
2Z7eK2x89S0-00005-00002312-00002796 Y thema y tro hwn oedd ‘Croeso i Gymru’.
2Z7eK2x89S0-00006-00002864-00003424 Ni’n gwybod fod pobl ledled y byd wedi cael blwyddyn anodd -
2Z7eK2x89S0-00007-00003508-00003768 ac yma yng Nghymru ni wedi cael y cyfle
2Z7eK2x89S0-00008-00003768-00004252 i groesawu pobl i ddod fan hyn ac ailsefydlu.
2Z7eK2x89S0-00009-00004268-00004732 Diolch yn fawr i bob un sydd wedi cymryd rhan yn y gystadleuaeth.
2Z7eK2x89S0-00010-00004816-00005336 Dyma’r foment i ddangos yr un sydd wedi ennill.
2Z7eK2x89S0-00011-00005448-00006216 Felly - llongyfarchiadau mawr Ysgol St Mary yn Llanelli.
2Z7eK2x89S0-00012-00006272-00006692 A diolch i’r athrawon ledled Cymru
2Z7eK2x89S0-00013-00006740-00006984 sydd wedi cymryd rhan yn yr ymdrech
2Z7eK2x89S0-00014-00007012-00007223 i ddod o hyd i gerdyn Nadolig
2Z7eK2x89S0-00015-00007256-00007636 sydd yn mynd o Gymru drwy’r byd i gyd.
5Ee4oDiFqmE-00000-00000109-00000384 Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio i wella
5Ee4oDiFqmE-00001-00000384-00000710 sut rydym yn ymdrin â diogelwch adeiladau
5Ee4oDiFqmE-00002-00000710-00000980 er budd trigolion ledled Cymru.
5Ee4oDiFqmE-00003-00001005-00001404 Byddai’r newidiadau hyn yn golygu’r newidiadau mwyaf sylweddol
5Ee4oDiFqmE-00004-00001404-00001732 i ddiogelwch adeiladau yn y Deyrnas Unedig.
5Ee4oDiFqmE-00005-00001732-00001888 Rydym eisiau gwneud yn siŵr
5Ee4oDiFqmE-00006-00001888-00002216 bod unrhyw newidiadau sy’n cael eu gwneud yn iawn i Gymru,
5Ee4oDiFqmE-00007-00002216-00002588 a dyna pam ein bod ni eisiau clywed gennych chi.
5Ee4oDiFqmE-00008-00002640-00003211 Mae'r drefn newydd a gynigir yn cwmpasu tri maes polisi allweddol.
5Ee4oDiFqmE-00009-00003257-00003440 Math o adeilad.
5Ee4oDiFqmE-00010-00003440-00003692 Byddai’r newidiadau rydym yn eu cynnig
5Ee4oDiFqmE-00011-00003692-00004104 yn gwella nifer o wahanol fathau o adeiladau preswyl.
5Ee4oDiFqmE-00012-00004104-00004452 O adeiladau gyda dwy breswylfa ar wahân neu fwy,
5Ee4oDiFqmE-00013-00004452-00004676 hyd at fflatiau uchel.
5Ee4oDiFqmE-00014-00004704-00004984 Rhoi mesurau diogelwch ar waith.
5Ee4oDiFqmE-00015-00004984-00005344 Rydym am sicrhau bod diogelwch yn ystyriaeth allweddol
5Ee4oDiFqmE-00016-00005344-00005600 drwy gydol cylch oes adeilad.
5Ee4oDiFqmE-00017-00005600-00005756 O ddylunio,
5Ee4oDiFqmE-00018-00005756-00005908 i adeiladu,
5Ee4oDiFqmE-00019-00005908-00006160 hyd at ei feddiannu yn y pen draw.
5Ee4oDiFqmE-00020-00006200-00006812 Rydym am iddi fod yn glir gwaith pwy yw sicrhau diogelwch adeiladau ar bob cam.
5Ee4oDiFqmE-00021-00006881-00007076 Llais preswyliwr
5Ee4oDiFqmE-00022-00007076-00007516 Rydym am i lais trigolion fod wrth galon y diwygiadau hyn,
5Ee4oDiFqmE-00023-00007516-00007800 gan rymuso trigolion i gymryd mwy o ran
5Ee4oDiFqmE-00024-00007800-00008076 mewn materion sy’n effeithio ar eu cartrefi
5Ee4oDiFqmE-00025-00008076-00008344 ac i gadw pawb yn ddiogel.
5Ee4oDiFqmE-00026-00008344-00008728 Gallwch gymryd rhan drwy ateb yr ymgynghoriad ar-lein
5Ee4oDiFqmE-00027-00008728-00009268 rhwng y 12 Ionawr a’r 12 Ebrill, 2021.
5Ee4oDiFqmE-00028-00009268-00009612 Rydym yn awyddus i glywed eich safbwyntiau chi.
5Ee4oDiFqmE-00029-00009612-00009888 Ewch i’n gwefan i gael gwybod mwy.
dtY9kkn5RPy-00000-00000134-00000500 Mae Wici’r Holl Ddaear yn gystadleuaeth ffotograffiaeth ryngwladol.
dtY9kkn5RPy-00001-00000526-00000959 Mae cyfranogwyr o bob cornel o’r byd yn cyflwyno eu ffotograffau gorau
dtY9kkn5RPy-00002-00000959-00001346 o'r amgylchedd naturiol yn ardaloedd gwarchodedig eu gwledydd.
dtY9kkn5RPy-00003-00001379-00001876 Bydd y lluniau gorau o bob gwlad yn cael eu cynnwys yn y gystadleuaeth ryngwladol.
dtY9kkn5RPy-00004-00001876-00002155 Eleni mae Cymru yn cystadlu am y tro cyntaf.
dtY9kkn5RPy-00005-00002182-00002663 Mae ein tirweddau gwarchodedig a'r bywyd gwyllt sy'n byw ynddynt yn amrywio'n fawr
dtY9kkn5RPy-00006-00002696-00003306 o gopaon Eryri, i fawnogydd, corsydd, llynnoedd, afonydd ac ein morlin dramatig.
dtY9kkn5RPy-00007-00003333-00003823 Cyn belled â bod eich lluniau'n cael eu tynnu mewn ardal warchodedig fel
dtY9kkn5RPy-00008-00003823-00004408 parc cenedlaethol, gwarchodfa natur neu Ardaloedd o Harddwch Naturiol Eithriadol
dtY9kkn5RPy-00009-00004408-00004987 yna maen nhw'n gymwys ar gyfer y gystadleuaeth, p'un a yw'ch pwnc yn rhywbeth mawr neu'n rhywbeth bach.
dtY9kkn5RPy-00010-00005021-00005400 I gymryd rhan yn y gystadleuaeth mae'n rhaid i chi uwchlwytho'ch ffotograffau
dtY9kkn5RPy-00011-00005400-00005767 i Gomin Wikimedia trwy wefan Cymru yn ystod mis Mehefin.
dtY9kkn5RPy-00012-00005800-00006411 Yma gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y gystadleuaeth a rhestr fanylach o leoliadau sy'n gymwys
dtY9kkn5RPy-00013-00006411-00007173 gan gynnwys Parciau Cenedlaethol, Ardaloedd o harddwch naturiol eithriadol a safleoedd o ddiddordeb gwyddonol arbennig
dtY9kkn5RPy-00014-00007211-00007672 Er mwyn uwchlwytho'ch ffotograffau bydd angen cyfrif Wikimedia am ddim arnoch.
dtY9kkn5RPy-00015-00007712-00008014 Gallwch chi gofrestru ar Gomin Wikimedia.
dtY9kkn5RPy-00016-00008035-00008473 Ar ôl i chi mewngofnodi a thynnu rhai lluniau, rydych chi'n barod i ddechrau rhannu.
dtY9kkn5RPy-00017-00008510-00008841 Dewiswch eich ffeiliau o'ch cyfrifiadur neu'ch ffôn.
dtY9kkn5RPy-00018-00008852-00009169 Yna byddwch chi'n cadarnhau'r cytundeb trwyddedu.
dtY9kkn5RPy-00019-00009182-00009611 Bydd yr holl ddelweddau yn y gystadleuaeth hon wedi'u trwyddedu'n agored,
dtY9kkn5RPy-00020-00009617-00010034 fel y gellir eu hailddefnyddio ar Wikipedia ac mewn mannau eraill.
dtY9kkn5RPy-00021-00010069-00010317 Y cam nesaf yw disgrifio’r ddelwedd.
dtY9kkn5RPy-00022-00010334-00011093 Mae'n bwysig bod ganddo enw disgrifiadol a disgrifiad byr, sy'n disgrifio'r lleoedd a'r pethau sy’n ymddangos yn eich ffotograff.
dtY9kkn5RPy-00023-00011139-00011708 Yn olaf, os oes unrhyw gategorïau Comin perthnasol, gallwch eu hychwanegu at eich delwedd.
dtY9kkn5RPy-00024-00011728-00012048 Gallwch hefyd ychwanegu cyfesurynnau
dtY9kkn5RPy-00025-00012062-00012520 er y bydd llawer o gamerâu a ffonau modern yn gwneud hyn yn awtomatig.
dtY9kkn5RPy-00026-00012549-00012965 Ar ôl i chi glicio Publish, bydd eich delwedd yn cael ei rhannu
dtY9kkn5RPy-00027-00012970-00013178 a'i chynnwys yn y gystadleuaeth
njRKFRJRD0g-00000-00002850-00003152 Mae cynllun prentisiaethau Llywodraeth Cymru
njRKFRJRD0g-00001-00003152-00003382 yn gyfle i gael profiad ymarferol mewn amgylchedd gwaith.
njRKFRJRD0g-00002-00003522-00003832 Byddwch yn dysgu sut brofiad i'w gweithio mewn sefydliad mawr
njRKFRJRD0g-00003-00003832-00004104 gan gydweithio ag amrywiaeth o weithwyr cyflogedig,
njRKFRJRD0g-00004-00004104-00004392 gweinidogion a'r cyhoedd hyd a lled Cymru
njRKFRJRD0g-00005-00004536-00004764 I fi mae'r Brentisiaeth yn gyfle gwych i fod yn onest,
njRKFRJRD0g-00006-00004794-00005090 gen i sgiliau newydd, dw'i wedi cwrdd ‚ llawer o bobl wahanol.
njRKFRJRD0g-00007-00005100-00005436 Dw'i wedi bod i lawer o lefydd gwahanol
njRKFRJRD0g-00008-00005650-00005982 dw'i wedi bod ar y teledu ar gyfer 'Cariad at Iaith'
njRKFRJRD0g-00009-00005986-00006182 felly mae'r profiad yn really dda.
njRKFRJRD0g-00010-00006316-00006602 Pan fyddwch chi ar y brentisiaeth yma byddwch yn ennill sgiliau,
njRKFRJRD0g-00011-00006602-00006890 gwybodaeth a chymwysterau proffesiynol sy'n benodol i'r
njRKFRJRD0g-00012-00006890-00007172 swydd gan gynnwys hyfforddiant i ennill NVQ lefel 2
njRKFRJRD0g-00013-00007172-00007770 mewn gweinyddu busnes yn ogystal ‚ chymwysterau perthnasol eraill.
njRKFRJRD0g-00014-00007773-00008059 Trwy gydol y Cynllun prentisiaeth byddwch yn cael help gan eich adran, eich rheolwr llinell
njRKFRJRD0g-00015-00008059-00008368 a'ch cyn prentis i ddatblygu eich sgiliau a'ch gwybodaeth
njRKFRJRD0g-00016-00008368-00008598 i'ch paratoi ar gyfer y farchnad swyddi.
njRKFRJRD0g-00017-00008644-00008896 Cewch gyfle hefyd i dyfu, i rwydweithio
njRKFRJRD0g-00018-00008896-00009144 ac i godi arian gyda cyn prentisiaid eraill.
njRKFRJRD0g-00019-00009190-00009492 Dw'i wedi cwrdd ‚ ffrindiau newydd dw'i wedi cwrdd ‚ phobl newydd
njRKFRJRD0g-00020-00009494-00009796 mae'r cyfle wedi bod yn really gwych
njRKFRJRD0g-00021-00009936-00010224 Rydyn yn cynnig pob math o leoliadau led Cymru
njRKFRJRD0g-00022-00010224-00010468 yn amrywio o waith swyddfa i waith maes,
njRKFRJRD0g-00023-00010468-00010712 sy'n golygu y gallwch chi gael profiad go iawn
njRKFRJRD0g-00024-00010714-00010932 a berthnasol a bydd yn hwb i'ch CV.
njRKFRJRD0g-00025-00011368-00011522 O ni'n meddwl wrth
njRKFRJRD0g-00026-00011562-00011874 gael y prentis yma bydd e just yn waith
njRKFRJRD0g-00027-00011874-00012206 wrth y ddesg ond i fod yn onest dw'i wedi neud llawer mwy na hwnna.
njRKFRJRD0g-00028-00012366-00012666 Dw'i wedi cael profiad yn neud NVQ Level 2.
njRKFRJRD0g-00029-00012666-00013232 Dw'i wedi cael profiad yn neud cyfryngau cymdeithasol a posteri sy'n mynd
njRKFRJRD0g-00030-00013232-00013536 ar Twitter a Facebook. Dw'i di ehangu sgiliau Cymraeg.
njRKFRJRD0g-00031-00013536-00013822 Mae'r tîm cyfan yn Gymraeg felly
njRKFRJRD0g-00032-00013822-00013996 does dim angen i fi golli'r Iaith.
njRKFRJRD0g-00033-00014038-00014308 Mae'r profiad wedi bod yn wych i fi. Dw'i wir wedi
njRKFRJRD0g-00034-00014308-00014750 codi hyder ers bod yma am flwyddyn.
njRKFRJRD0g-00035-00015708-00016026 Mae'n brofiad really really da, mae'n wych, just ewch amdani
njRKFRJRD0g-00036-00016028-00016440 a hefyd rydych yn cael eich talu wrth ddysgu felly ewch amdani.
njRKFRJRD0g-00037-00016476-00016734 Gwenwch gais heddiw does dim iíw golli
njRKFRJRD0g-00038-00016734-00016864 ond digon i'w ennill.
nlC8R7K5Djo-00000-00000000-00000256 Os ydych chi’n teimlo’n sal
nlC8R7K5Djo-00001-00000256-00000548 Dechreuwch gyda moddion dros y cownter
nlC8R7K5Djo-00002-00000548-00001220 Cadwch ddigon o foddion yn y tŷ, i wella’n gyflymach. Gall eich fferyllydd lleol roi meddyginiaeth am ddim ar gyfer anhwylderau cyffredin, yn aml heb apwyntiad.
nlC8R7K5Djo-00003-00001220-00001500 Chi sy’n dechrau’r daith at fod yn iach
tVx5U4Q4AAg-00000-00000382-00000719 Cafodd Puffin Produce ei ffurfio nôl yn 1995
tVx5U4Q4AAg-00001-00000798-00001056 a chyn hyn roedd e’n cael ei adnabod fel Pembrokeshire
tVx5U4Q4AAg-00002-00001056-00001346 Potato Marketing Group. Y tyfwyr sef ein
tVx5U4Q4AAg-00003-00001346-00001562 cynhyrchwyr sydd yn dal i berchen Puffin.
tVx5U4Q4AAg-00004-00001615-00001903 Mae’r cwmni wedi tyfu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf
tVx5U4Q4AAg-00005-00001903-00002239 o ran cyfraniad y farchnad llysiau yng Nghymru
tVx5U4Q4AAg-00006-00002253-00002514 o ran sales. Heddiw mae
tVx5U4Q4AAg-00007-00002514-00002849 cant pedwar deg o staff gyda ni.
tVx5U4Q4AAg-00008-00002903-00003100 Mae hwn wedi cynyddu o pumdeg
tVx5U4Q4AAg-00009-00003136-00003410 o pum mlynedd yn ôl. Tatws
tVx5U4Q4AAg-00010-00003410-00003760 yw ein prif gynnyrch ond ni hefyd yn cynnig amrywiaeth o lysiau,
tVx5U4Q4AAg-00011-00003760-00004040 er enghraifft blodfresych, cennin,
tVx5U4Q4AAg-00012-00004040-00004327 sibwns, bresych
tVx5U4Q4AAg-00013-00004351-00004630 ac mae rhain ar gael yn llawer o’r archfarchnadoedd
tVx5U4Q4AAg-00014-00004630-00004796 mawr yng Nghymru, er enghraifft
tVx5U4Q4AAg-00015-00004796-00005122 Tesco, Morrisons, Sainsbury’s, Asda.
tVx5U4Q4AAg-00016-00005158-00005456 Trwy cymorth Llywodraeth Cymru a trwy
tVx5U4Q4AAg-00017-00005456-00005771 rhoi pwylais mawr ar ein brand Blas y Tir,
tVx5U4Q4AAg-00018-00005774-00006049 rydym wedi gallu profi i’r archfarchnadoedd
tVx5U4Q4AAg-00019-00006049-00006328 bod cwsmeriaid yng Nghymru yn rhoi
tVx5U4Q4AAg-00020-00006328-00006570 gwerth mawr ar gallu prynu produce
tVx5U4Q4AAg-00021-00006570-00006885 Cymraeg lleol. Rydym wedi gallu buddsoddi yn
tVx5U4Q4AAg-00022-00006885-00007190 kit a offer newydd yn y ffatri sy’n golygu
tVx5U4Q4AAg-00023-00007190-00007530 ni’n gallu cyflenwi gofynion yr archfarchnadoedd yn rhwyddach
tVx5U4Q4AAg-00024-00007541-00007705 ac yn gyflymach. Maent
tVx5U4Q4AAg-00025-00007705-00007974 hefyd wedi helpu ni trwy gwneud cais am
tVx5U4Q4AAg-00026-00007974-00008163 Statws PGI
tVx5U4Q4AAg-00027-00008163-00008463 nôl yn 2013 ac mae’r dynodiad
tVx5U4Q4AAg-00028-00008463-00008763 daearyddol arbennig yma wedi bod
tVx5U4Q4AAg-00029-00008763-00008967 o werth i ni o ran marchnata
tVx5U4Q4AAg-00030-00009030-00009450 a rhoi stamp i’n cynnyrch tatws newydd Sir Benfro.
tVx5U4Q4AAg-00031-00009489-00009789 Ar hyn o bryd rydym yn edrych mewn i’r sector
tVx5U4Q4AAg-00032-00009789-00010052 cynnyrch wedi ei rhag paratoi a’r pwynt o hwn
tVx5U4Q4AAg-00033-00010052-00010399 yw i trio hybu pobl ifanc i fwyta llysiau.
tVx5U4Q4AAg-00034-00010419-00010719 Am y dyfodol blaenoriaeth Puffin Produce yw i wneud
tVx5U4Q4AAg-00035-00010719-00011049 yn siŵr bod llysiau Cymraeg
tVx5U4Q4AAg-00036-00011049-00011382 Blas y Tir ar blât pob tŷ yng Nghymru.
yZjw5m1Xl30-00000-00000008-00000128 Canlyniadau arholiad.
yZjw5m1Xl30-00001-00000128-00000328 Yn meddwl “Ble nesaf?”
yZjw5m1Xl30-00002-00000328-00000496 Mae’r ateb yma.
yZjw5m1Xl30-00003-00000496-00000730 Beth bynnag yw eu huchelgais a’u canlyniadau…
yZjw5m1Xl30-00004-00000733-00000858 Gallwn ni helpu...
yZjw5m1Xl30-00005-00000858-00001200 Boed yn gyngor ar barhau mewn addysg, fel Tola
yZjw5m1Xl30-00006-00001200-00001480 Gwybodaeth am brentisiaeth, fel Ethan
yZjw5m1Xl30-00007-00001480-00001798 Cyfleoedd gwirfoddol i ennill profiad, fel Lucy
yZjw5m1Xl30-00008-00001798-00002046 Help i ddechrau busnes, fel Osian…
yZjw5m1Xl30-00009-00002046-00002288 Neu hwb i gychwyn gyrfa, fel Sam.
yZjw5m1Xl30-00010-00002288-00002504 Felly os ydych chi’n dal i feddwl Ble Nesaf?
yZjw5m1Xl30-00011-00002504-00002644 Mae’r ateb yma.
yZjw5m1Xl30-00012-00002644-00002966 Chwiliwch am Ble Nesaf? Gyrfa Cymru i weld beth sy’n bosib.
z11BTu7vVHM-00000-00001125-00001225 Ein heffaith ledled Cymru ers 2018.
z11BTu7vVHM-00001-00002347-00002568 Cefnogi’r sector cyhoeddus a mentrau cymunedol i sicrhau £155 miliwn
z11BTu7vVHM-00002-00002572-00002803 i ddatblygu prosiectau effeithlonrwydd ynni, ynni adnewyddadwy a cherbydau dim allyriadau.
z11BTu7vVHM-00003-00003089-00003264 (Sarah Merrick, Prif Swyddog Gweithredol, Egni Ripple) “Graig Fatha yw’r fferm wynt gyntaf erioed
z11BTu7vVHM-00004-00003264-00003405 yn y DU sy’n eiddo i ddefnyddwyr.
z11BTu7vVHM-00005-00003405-00003644 Felly mae hyn yn golygu bod y bobl sy’n berchen arno mewn gwirionedd yn cael trydan
z11BTu7vVHM-00006-00003644-00003949 gwyrdd cost isel y mae’n ei gynhyrchu ac o ganlyniad maent yn cael arbedion oddi ar
z11BTu7vVHM-00007-00003949-00004156 eu bil trydan am ei oes o 25 mlynedd.”
z11BTu7vVHM-00008-00004414-00004663 Ymrwymwyd 45MW o gapasiti ynniad newyddadwy newydd.
z11BTu7vVHM-00009-00004719-00004904 Dyna ddigon o drydan i bweru 13,300 o gartrefi nodweddiadol yng Nghymru.
z11BTu7vVHM-00010-00005245-00005835 Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe oedd y cyntaf yng Nghymru i ddatblygu ei fferm solar ei hun.
z11BTu7vVHM-00011-00005893-00005993 (Des Keighan, Cyfarwyddwr Ystadau Cynorthwyo, Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe)
z11BTu7vVHM-00012-00006042-00006380 “Mae disgwyl i’r ysbyty gael bron i 20% o’i ynni o’r fferm solar.
z11BTu7vVHM-00013-00006413-00006767 Drwy gydol misoedd yr haf bydd yn darparu cyfran fawr o’r ynni sydd ei angen, ond
z11BTu7vVHM-00014-00006786-00007164 hyd yn oed yn ystod misoedd y gaeaf rydym eisoes wedi cyflawni 55 awr lle nad ydym wedi
z11BTu7vVHM-00015-00007176-00007550 gofyn am unrhyw ynni gan y Grid Cenedlaethol.”
z11BTu7vVHM-00016-00007793-00008204 “Mae’n hyfryd iawn bod yma heddiw ar y fferm solar gyntaf i gael ei rhedeg gan fwrdd
z11BTu7vVHM-00017-00008204-00008515 iechyd yng Nghymru.
z11BTu7vVHM-00018-00008515-00008938 Prosiect sydd wedi’i gefnogi’n arbennig gan raglen Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru,
z11BTu7vVHM-00019-00008938-00009376 rhaglen sydd wedi bod yn cael effaith ledled Cymru ers peth amser.
z11BTu7vVHM-00020-00009376-00009843 Cefnogi uchelgais gyfunol y sector cyhoeddus i ddatgarboneiddio erbyn 2030 ac mae hon yn
z11BTu7vVHM-00021-00009843-00010086 enghraifft wych yma heddiw.” (Julie James AS, Y Gweinidog Newid Hinsawdd).
z11BTu7vVHM-00022-00010135-00010442 Mae disgwyl i'r prosiectau dorri 716,000 tunnell o CO2 yn ystod eu hoes.
z11BTu7vVHM-00023-00010556-00010927 Mae hynny yr un peth â thynnu 300,000 o geir oddi ar y ffordd am flwyddyn.
z11BTu7vVHM-00024-00011075-00011290 "Rwyf wrth fy modd â'r faniau trydan hyn.
z11BTu7vVHM-00025-00011290-00011510 Maen nhw mor gyflym, mor lân ac mor dawel.
z11BTu7vVHM-00026-00011510-00011659 Ac maen nhw'n hyfryd i yrru.
z11BTu7vVHM-00027-00011791-00012062 Ac rwy’n defnyddio llawer llai o egni, felly gallaf ddweud wrth y wyrion fy mod yn helpu
z11BTu7vVHM-00028-00012062-00012356 i achub y blaned.”
z11BTu7vVHM-00029-00012903-00013598 Cefnogi Cymru gryfach, wyrddach a thecach.
AP2J-wZE86Y-00000-00000032-00000656 Roedd Ben wastad yn dda am greu pethau, felly penderfynodd fynd ati i gynhyrchu ei yrfa ei hun.
AP2J-wZE86Y-00001-00000756-00001210 Pan benderfynodd Ben ei fod eisiau gyrfa gyda mwy o gyfleoedd datblygu, roedd yn gwybod
AP2J-wZE86Y-00002-00001210-00001494 ei fod angen sgiliau a phrofiad ymarferol.
AP2J-wZE86Y-00003-00001502-00001973 Felly, fe wnaeth ddewis ddoeth i gychwyn prentisiaeth. A dyw e ddim wedi edrych yn ôl.
AP2J-wZE86Y-00004-00001973-00002560 Erbyn hyn, mae’n gweithio tuag at gymhwyster rheolwr, a chyn hir, bydd yn rheoli ei dîm ei hun.
AP2J-wZE86Y-00005-00002661-00003084 I weld beth all prentisiaethau ei wneud i ti, chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth.
AWYC13R6d0U-00000-00000000-00000509 Datgloi: Straeon COVID o Gymru Dot Davies gyda Dr Eleri Davies MBE Cyfarwyddwr, Atal a Rheoli Heintiau, Iechyd Cyhoeddus Cymru
AWYC13R6d0U-00001-00000509-00001690 Eleri: Felly Dr Eleri Davies ydw i. Ac ar hyn o bryd rwy'n is-gyfarwyddwr meddygol i Iechyd Cyhoeddus Cymru.
AWYC13R6d0U-00002-00001690-00002304 Dot: Awn ni'n ôl i'r dechrau, fi'n credu, achos mae'n ddiddorol. Chi 'di cyrraedd ble 'ych chi nawr,
AWYC13R6d0U-00003-00002304-00003018 ond mae eisiau ni wybod a deall falle 'chydig am eich cefndir chi a pam byd meddygaeth?
AWYC13R6d0U-00004-00003018-00003905 Eleri: Ww, wel, mae hwnna yn sbel yn ôl erbyn hyn. Fi'n credu reit ar y dechrau pan o'n i'n dewis fy nghyrsiau Lefel A
AWYC13R6d0U-00005-00003905-00004817 ac yn meddwl am beth i neud nesa', diddordeb mewn gwyddoniaeth ac efallai mwy mewn ffarmacoleg oedd gen i.
AWYC13R6d0U-00006-00004817-00005714 Ond oedd pobl yn y capel lle o'n i'n mynd gyda fy rhieni yn ymwneud â byd patholeg a microbioleg,
AWYC13R6d0U-00007-00005714-00006183 ac fe ddechreuodd y diddordeb fan hynny. A fy newisiadau Lefel A
AWYC13R6d0U-00008-00006183-00006633 wedyn yn mynd a fi mewn i feddygaeth yn dilyn hynny.
AWYC13R6d0U-00009-00006633-00006970 Dot: Capel ble 'de? Ble gaethoch chi eich magu?
AWYC13R6d0U-00010-00006970-00007598 Eleri: O, wel, ges i fy magu yn Abertawe, a Capel Bethel Sgeti oedd y capel o'n i'n mynd i.
AWYC13R6d0U-00011-00007598-00008265 A ges i fy ngeni yng Nghaerfyrddin, lle oedd teulu fy mam yn hanu,
AWYC13R6d0U-00012-00008265-00008677 ac wedyn cael fy nghodi yn Abertawe.
AWYC13R6d0U-00013-00008677-00009455 Dot: Y fagwraeth yna, shwt mae hwnna'n siapio'ch cymeriad chi a'ch penderfyniadau chi o ran eich gyrfa chi?
AWYC13R6d0U-00014-00009455-00010438 Eleri: Wel, oedd fy nhad yn wyddonydd ac yn uwch-ddarlithydd mewn cemeg organig ym Mhrifysgol Abertawe,
AWYC13R6d0U-00015-00010438-00011575 a Mam yn athrawes Cymraeg ac wedi neud gradd yn y Gymraeg. Felly oedd y cefndir yn hynod o...
AWYC13R6d0U-00016-00011575-00012282 Wel, wedi seilio yn bwysig ar draddodiadau Cymreig a mynd i'r capel ag eisteddfodau
AWYC13R6d0U-00017-00012282-00013269 a'r pwysigrwydd o'r iaith Gymraeg. Ac wedyn ar ben hynny, roedd y wyddoniaeth yn dod trwyddo gyda fy nhad.
AWYC13R6d0U-00018-00013269-00013916 Ac wrth gwrs, mi oedd e yn neud llawer o waith i hybu gwyddoniaeth trwy gyfrwng y Gymraeg hefyd
AWYC13R6d0U-00019-00013916-00014925 ynglŷn â throsi Lefel A, er enghraifft, mewn i'r Gymraeg ac ymgyrchu dros gael ysgolion Cymraeg
AWYC13R6d0U-00020-00014925-00015640 a phethau fel'na. Ac oedd hwnna i gyd yn y cefndir pan o i wedyn yn symud ymlaen trwy fy ngyrfa i,
AWYC13R6d0U-00021-00015640-00016362 ac eisiau sicrhau bod gwyddoniaeth a meddygaeth a phethau iechyd cyhoeddus,
AWYC13R6d0U-00022-00016362-00017106 fel dwi wedi neud dros y blynyddoedd, yn cael ei drosglwyddo yn dda yn y Gymraeg yn ogystal ag yn y Saesneg.
AWYC13R6d0U-00023-00017106-00017529 Dot: Mae'n ddiddorol, yndyw e, shwt chi 'di cyfuno'r ddau beth 'na. Achos yn eich swydd chi, mae'n swydd, ie,
AWYC13R6d0U-00024-00017529-00018370 mae'r wyddoniaeth ac mae'r ochr meddygol, ond eto chi'n rhywun adnabyddus, rhywun sydd â phlatfform cyhoeddus.
AWYC13R6d0U-00025-00018370-00018805 Ni 'di clywed eich llais chi gymaint yn ystod y ddwy flynedd ddiwetha' 'ma.
AWYC13R6d0U-00026-00018805-00019359 Bob bore o'n i'n gwrando arnoch chi. O'ch chi naill ai ar Radio Cymru, neu o'ch chi ar S4C yn gyson.
AWYC13R6d0U-00027-00019359-00019618 Shwt 'ych chi 'di mwynhau'r elfen yna? Os o'ch chi'n eisteddfota,
AWYC13R6d0U-00028-00019618-00020227 mae hwnna'n dweu'tha i fod chi'n eitha' cyffyrddus ar lwyfan ac yn siarad cyhoeddus.
AWYC13R6d0U-00029-00020227-00020983 Eleri: Wel, fi'n credu bod yr eisteddfota a'r perfformio yn helpu yn y cefndir. Peth arall falle sydd wedi helpu
AWYC13R6d0U-00030-00020983-00022040 ynglŷn â gwneud pethau ar y radio yn arbennig yw'r ffaith bod fi wedi cyflwyno ar Radio Cymru fel cyfrannwr i raglen Sosban
AWYC13R6d0U-00031-00022040-00022612 gyda Richard Rees yn wreiddiol. Ac wedi hynny, o'n i'n gyd-gyflwynydd gyda Dewi Williams a'r Cadw Reiat
AWYC13R6d0U-00032-00022612-00023602 reit ar y dechrau cynta'. Felly dwi yn gyfarwydd â bod ar y radio. 'Self op' fel o'n i'n galw fe ar y pryd,
AWYC13R6d0U-00033-00023602-00024327 a dodi disgiau ymlaen a phethau fel hynny. Felly oedd y profiad hynny yn help. Mae'n rhaid dweud
AWYC13R6d0U-00034-00024327-00025306 bod trosglwyddo gwybodaeth wyddonol ac iechyd cyhoeddus, yn neud yn siŵr bod yr hyn sy'n cael ei drosglwyddo'n gywir yn bach yn wahanol
AWYC13R6d0U-00035-00025306-00026252 i gyflwyno recordiau Geraint Jarman ac Y Diawled ar Radio Cymru. Ond mae'r profiad i gyd yn help.
AWYC13R6d0U-00036-00026252-00026776 Dot: Mae eich CV chi mor eang. Shwt fyddech chi'n mynd ati i grynhoi eich gyrfa chi?
AWYC13R6d0U-00037-00026776-00027333 Fi'm yn gwybod ble mae dechrau, ac o ystyried y swydd sydd 'da chi nawr.
AWYC13R6d0U-00038-00027333-00028081 Eleri: Wel, mae'n dangos fy oedran i falle achos bod fi wedi cael cyfleoedd yn ifanc iawn.
AWYC13R6d0U-00039-00028081-00028825 Mi o'n i'n ifanc iawn yn dechrau ar Radio Cymru. Ag oedd e'n brofiadau da.
AWYC13R6d0U-00040-00028825-00029803 Ond chi'n gwybod, mae'r yrfa oddi ar hynny wedyn wedi datblygu trwy feddygaeth a dilyn y trywydd o'r diddordeb
AWYC13R6d0U-00041-00029806-00030675 oedd gen i mewn heintiau. O'r dechrau mi oedd diddordeb gyda fi mewn heintiau. Treuliais i un flwyddyn
AWYC13R6d0U-00042-00030675-00031972 wel, nage blwyddyn, ond y cyfnod rhwng blwyddyn pedwar a phump yn y coleg yn astudio HIV, AIDS yn Llundain gyda'r Athro
AWYC13R6d0U-00043-00031972-00033364 Tony Pinching, oedd yn datblygu'r clinigau cynta' i ddelio gyda HIV. Felly dyna'r cyfnod pan o'ch chi'n cael dewis astudiaeth eich hunain.
AWYC13R6d0U-00044-00033364-00034262 O'r dechrau felly, 1988, '89 oedd hynny pan oedd AIDS yn dechrau bod yn broblem.
AWYC13R6d0U-00045-00034262-00034744 A bues i yn Llundain am chwe wythnos yn astudio hwnna. Oedd o'n gyfnod arbennig.
AWYC13R6d0U-00046-00034744-00035608 Ac mae'r diddordeb 'na wedyn wedi cadw i fynd. Ac arbenigo mewn meddygaeth microbioleg,
AWYC13R6d0U-00047-00035608-00036312 a wedyn mewn rheoli heintiau yn arbennig. Ac wedyn trwy weithio gydag Iechyd Cyhoeddus Cymru,
AWYC13R6d0U-00048-00036312-00037817 wedi datblygu wedyn ar yr ochr, wel, mwy managerial yn nhermau bod yn rhan o'r tîm oedd yn rhedeg yr ymateb,
AWYC13R6d0U-00049-00037817-00038711 a bod yn gyfarwyddwr meddygol dros dro am gyfnod, a nawr yn ddirprwy gyfarwyddwr meddygol.
AWYC13R6d0U-00050-00038711-00039145 Felly mae 'di bod yn ddatblygiad. Ond mae o'n dangos fy oedran i hefyd.
AWYC13R6d0U-00051-00039145-00039472 Dot: Wel, na. Ond chi'n gwybod o ran eich hanes, eich arbenigedd chi,
AWYC13R6d0U-00052-00039472-00040276 a feddylioch chi fyth y byddech chi yn eich oes chi yn gweld pandemig fel ni wedi gweld?
AWYC13R6d0U-00053-00040276-00040711 Fi 'di clywed gymaint o wyddonwyr yn dweud, "Oedd e'n mynd i ddigwydd.
AWYC13R6d0U-00054-00040711-00041433 O'n i'n gwybod oedd ein tro ni'n dod. Oedd y rhod yn troi." O'ch chi 'di darogan?
AWYC13R6d0U-00055-00041433-00041909 O'ch chi 'di rhagweld byddai rhywbeth fel hyn yn digwydd yn eich amser chi, yn eich gyrfa chi?
AWYC13R6d0U-00056-00041909-00042698 Eleri: Wel, o'n i yn rhan o dimau oedd yn paratoi am bandemig. Ac mi o'n i yn disgwyl pandemig.
AWYC13R6d0U-00057-00042698-00043513 Pan ddaeth pandemig y swine flu, mi o'n i'n rhan o'r ymateb hynny.
AWYC13R6d0U-00058-00043513-00044179 Ac wrth gwrs, trodd hwnnw allan i fod yn llai difrifol na'r disgwyl.
AWYC13R6d0U-00059-00044179-00045308 Ond ynglŷn â'r pharatoaeth at hwnnw ac wedyn y dysgu o'r profiad hwnnw, mi o'n i yn dodi pethau yn eu lle yn barod.
AWYC13R6d0U-00060-00045308-00046000 A fi'n credu 'sach chi'n edrych neu'n gwrando ar rai o'r cyfweliadau cynta' nes i Radio Cymru
AWYC13R6d0U-00061-00046000-00046491 yn ôl ar ddechrau'r pandemig yma, mi o'n i'n dweud, "Wel, 'yn ni wedi paratoi.
AWYC13R6d0U-00062-00046491-00047277 'Yn ni yn dodi pethau yn eu lle." Ac oedd hynny'n hollol wir. Fi'n credu bod y ffordd mae'r pandemig hyn
AWYC13R6d0U-00063-00047277-00047979 wedi datblygu a'r ffaith bod e'n fwy difrifol na'r swine flu o'r blaen wedi bod yn sialens fawr.
AWYC13R6d0U-00064-00047979-00048895 A falle pan o'n i'n paratoi, do'n i fy hunan falle ddim yn sylweddoli pa mor hir fydde'r peth.
AWYC13R6d0U-00065-00048895-00049692 Chi'n gwybod, profiad swine flu oedd bod e 'di bod yn chwe mis caled a bod pethau wedi bod yn drwm
AWYC13R6d0U-00066-00049692-00050518 yn y Gwasanaeth Iechyd dros y gaea' yna. Ond oedd e ddim yn mynd 'mlaen a 'mlaen a 'mlaen.
AWYC13R6d0U-00067-00050518-00051244 A fi'n siŵr bod ni gyd yn teimlo bod hwn jyst yn mynd 'mlaen yn ddiddiwedd,
AWYC13R6d0U-00068-00051244-00051820 ac mae hwnna wedi bod yn galed iawn, fi'n credu. Ond mi o'n i'n ei ddisgwyl e,
AWYC13R6d0U-00069-00051820-00052429 ac mi o'n i wedi paratoi, ond mae'r profiad wedi bod falle bach yn wahanol i'r disgwyl.
AWYC13R6d0U-00070-00052429-00053043 Dot: Pan 'ych chi'n dweud bod chi wedi paratoi a bod chi yn ei ddisgwyl e, ewch a ni'n ôl i'r dyddiau cynta' 'na,
AWYC13R6d0U-00071-00053043-00053701 i'r dyddiau cynnar. 'Ych chi'n cofio pan glywoch chi am hyn y lle cynta'? O'n i'n clywed amdano fe yn y newyddion.
AWYC13R6d0U-00072-00053701-00054087 Oedd e'n rhywbeth oedd yn digwydd draw yn Tsieina. Oedd e'n ddigon pell wrthon ni ar y pryd.
AWYC13R6d0U-00073-00054087-00054701 Pryd o'ch chi wedi clywed? A ydych chi'n cofio meddwl, mae hwn yn mynd i fod yn broblem i ni?
AWYC13R6d0U-00074-00054701-00055748 Eleri: Wel, o'n i wedi clywed amdano fe cyn y Nadolig 'na yn 2019. Felly o'n i yn gwybod bod rhywbeth yn digwydd.
AWYC13R6d0U-00075-00055748-00056578 Ond dwi ddim yn credu bod ni'n teimlo ar y pryd bod e yn gymaint o sialens a drodd e mas i fod.
AWYC13R6d0U-00076-00056578-00057352 Yn sicr dros y Nadolig yna, fydden i ddim wedi teimlo yn eistedd gyda teulu bod y Nadolig nesa'
AWYC13R6d0U-00077-00057352-00057991 yn mynd i fod mor wahanol, yndyfe. Oedd e'n rhywbeth oedd yn dod, ond fi'n credu
AWYC13R6d0U-00078-00057991-00059452 o'n i'n teimlo bod e yn ddigon pell a bydde ni yn gallu delio gydag e. Erbyn wedyn yr Ionawr, Chwefror o 2020,
AWYC13R6d0U-00079-00059452-00060670 oedd pethau yn dechrau teimlo, reit, mae angen i ni nawr newid ein trefn gweithio i ddelio â hyn.
AWYC13R6d0U-00080-00060670-00061044 Ac oedd 'na lawer fwy o baratoaeth unwaith bod ni yn y flwyddyn newydd.
AWYC13R6d0U-00081-00061044-00061774 Ac mae fy nyddiadur i yn dangos yn glir bod pethau wedi newid tua canol mis Ionawr.
AWYC13R6d0U-00082-00061774-00062141 Oedd 'na gyfarfodydd. Oedd 'na waith yn dechrau datblygu.
AWYC13R6d0U-00083-00062141-00062897 A pan dwi'n edrych ar y cyfnod, mae hwnna'n hollol glir. Dyna pryd rili dechreuodd pethau newid.
AWYC13R6d0U-00084-00062897-00063436 Dot: So yn eich dyddiadur chi, oes 'na ddyddiad, oes 'na ddiwrnod sy'n dweud, panic stations,
AWYC13R6d0U-00085-00063436-00064233 ni yn ei chanol hi nawr? Ni'n mynd i wynebu -- chi'n gwybod, lockdown, oedd e'n rhywbeth,
AWYC13R6d0U-00086-00064233-00064771 wel, allen ni byth a chredu, masks, popeth sydd 'di digwydd. Oes 'na ddiwrnod yn eich dyddiadur
AWYC13R6d0U-00087-00064771-00065288 chi le mae 'na gylch o'i gwmpas e yn dweud, nefoedd mae pethau'n mynd i newid?
AWYC13R6d0U-00088-00065288-00065820 Eleri: Na. Beth sy yn fy nyddiadur yw'r cyfarfodydd cynta'.
AWYC13R6d0U-00089-00065820-00066774 Achos dwi 'di bod yn rhan o grŵp sydd 'di bod yn gweithio ar ganllawiau atal heintiau, so infection prevention and control,
AWYC13R6d0U-00090-00066774-00067395 atal heintiau, ac mae hwnna wedi bod yn waith sydd 'di cymryd drosodd fy mywyd am y ddwy flynedd ddiwetha'.
AWYC13R6d0U-00091-00067395-00068381 Felly oedd cyfarfod cynta' y grŵp yna tua 10fed, 15fed o Ionawr, rhywbeth fel'na.
AWYC13R6d0U-00092-00068381-00069449 Ac wedyn o'r cyfarfod cynta' 'na, o'n i'n cyfarfod bron yn ddyddiol, os nad sawl gwaith y dydd am gyfnodau.
AWYC13R6d0U-00093-00069449-00070432 Dyw e ddim wedi bod yn panic stations. Dyw e ddim wedi bod yn sefyllfa lle oedd 'na ddim trefn, yntyfe.
AWYC13R6d0U-00094-00070432-00071642 Ond oedd y dyddiadur yn newid. O'n i yn delio gyda rhywbeth o'r cyfnod yna. Ac wrth gwrs, pan ddaeth y clo, oedd hwnna yn newid sefyllfa gwaith
AWYC13R6d0U-00095-00071642-00072678 yn hollol achos yn y mis Ionawr, Chwefror, o'n i'n aml yn y gwaith yn hwyr yn nos yn delio gyda, w, ai hwn yw'r achos cynta' yng Nghymru?
AWYC13R6d0U-00096-00072678-00073359 Ai hwn yw'r...? Oedd 'na gyfarfodydd yn mynd 'mlaen yn hwyr yn nos yn y swyddfa.
AWYC13R6d0U-00097-00073359-00074517 Ond unwaith bod y clo yn dod, fel pobl un arall, oedd 'na deimlad a chanllaw bod ni fod i weithio o gartre.
AWYC13R6d0U-00098-00074517-00075630 Ac mae popeth yn newid wedyn eto i orfod delio gyda'r cyfarfodydd hyn a'r drafodaeth fesul cyfrifiaduron. A dyma ni o hyd.
AWYC13R6d0U-00099-00075630-00076232 Dot: A shwt o'ch chi'n ymdopi, falle yw'r gair, gyda'r sefyllfa 'ma?
AWYC13R6d0U-00100-00076232-00076775 Oedd e'n newid trwy'r amser, y sefyllfa o ran beth oedd y feirws yn neud.
AWYC13R6d0U-00101-00076775-00077142 Oedd y canllawiau yn newid. Shwt o'ch chi'n ymdopi 'da hynna?
AWYC13R6d0U-00102-00077142-00077915 Chi 'di sôn am eich dyddiadur chi'n barod. Oedd 'na gyfnod, oedd 'na ddiwrnod falle le o'ch chi'n meddwl,
AWYC13R6d0U-00103-00077915-00078749 dyma'r diwrnod gwaetha', dyma'r eiliad gwaetha o fy ngyrfa i?
AWYC13R6d0U-00104-00078749-00079259 Eleri: Yn anffodus mae sawl diwrnod wedi bod yn ddiwrnod caled a gwaetha',
AWYC13R6d0U-00105-00079259-00080145 a pheth o hynny oherwydd falle taw'r ffigyrau a'r difrod o'n i'n gallu gweld oedd y sefyllfa yn achosi
AWYC13R6d0U-00106-00080145-00080953 i'r boblogaeth ac i bobl eraill, a'r marwolaethau. Mae 'na sawl diwrnod sydd 'di bod yn galed iawn.
AWYC13R6d0U-00107-00080953-00081831 Yn fy nyddiadur i yn bersonol, fi'n credu bod y pethau mwya' gwahanol oedd symud i weithio fwy o gartre,
AWYC13R6d0U-00108-00081831-00083053 ac mae hwnna wedi nodi bod e'n newid mawr yn y ffordd o'n i'n gweithio. Ac wedyn, wel,
AWYC13R6d0U-00109-00083053-00084130 jyst y symudiadau yn y gwaith i neud â'r canllawiau atal heintiau. Mi oedd y newidiadau i unrhyw wybodaeth
AWYC13R6d0U-00110-00084130-00084744 oedd yn dod a faint o achosion oedd yn y gymuned a p'un ai oedd 'na amrywiolyn newydd neu beth bynnag.
AWYC13R6d0U-00111-00084744-00085305 Oedd bob un o'r pethau yna yn newid beth oedd angen i'r canllawiau ddweud.
AWYC13R6d0U-00112-00085305-00085688 Dot: Allwch chi esbonio ychydig o hynny ynglŷn â'ch swydd chi a shwt a beth
AWYC13R6d0U-00113-00085688-00086578 o'ch chi'n gweld yn arwain at y rheolau i ni fel Cymry. Beth oedd y llinell gyswllt 'na, y trafodaethau?
AWYC13R6d0U-00114-00086578-00087393 Chi oedd yn dechrau'r cyfan? Chi oedd yn dweud, "Mae hwn yn broblem," ac felly oedd e'n arwain at y newidiadau?
AWYC13R6d0U-00115-00087393-00087925 Eleri: Wel, yn wyddonol yn nhermau datblygiad yr amrywiolion ac ati,
AWYC13R6d0U-00116-00087925-00088646 mae hwnna i gyd yn cael ei edrych arno ar lefel pedair gwlad, ac felly ar draws y Deyrnas Unedig.
AWYC13R6d0U-00117-00088646-00089369 Wedyn gwaith Iechyd Cyhoeddus Cymru, ac wrth gwrs mae fy swydd i o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru
AWYC13R6d0U-00118-00089369-00090045 yn ystod y pandemig, mi o'n i yn gyfarwyddwr y digwyddiad am dipyn o'r amser,
AWYC13R6d0U-00119-00090045-00090901 felly o'n i ar y cyd gyda thri arall yn arwain yr ymateb yn ystod y pandemig.
AWYC13R6d0U-00120-00090901-00091657 Ac felly yn ein tro, o'n i'n gorfod delio gydag unrhyw beth oedd yn codi yn y cyfnod o'n i'n delio â.
AWYC13R6d0U-00121-00091657-00092361 Felly os oedd 'na amrywiolyn newydd yn datblygu, mi oedden ni wedyn yn cynhyrchu cyngor
AWYC13R6d0U-00122-00092361-00092866 fydde'n mynd mewn i Lywodraeth Cymru. A Llywodraeth Cymru oedd yn neud y penderfyniadau
AWYC13R6d0U-00123-00092866-00094096 ynglŷn â p'un ai oedd newidiadau i'r boblogaeth yn digwydd yn nhermau y clo neu'r masgiau neu'r hunan-ynysu ac ati.
AWYC13R6d0U-00124-00094096-00095071 Ond oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn rhoi cyngor ar hynny. Felly o'n i'n rhan o gyfarfodydd Prydain,
AWYC13R6d0U-00125-00095071-00095725 ac wedyn hefyd yn rhoi cyngor mewn i Lywodraeth Cymru, ac wedyn pan oedd Llywodraeth Cymru yn neud newidiadau,
AWYC13R6d0U-00126-00095725-00097029 o'n i hefyd wedyn yn gorfod delio gydag unrhyw ledaeniad i'r feirws, os oedd 'na broblem mewn ysbyty
AWYC13R6d0U-00127-00097029-00097668 neu broblem mewn cartre gofal neu beth bynnag. Chi'n gwybod, byddai Iechyd Cyhoeddus Cymru wedyn yn helpu
AWYC13R6d0U-00128-00097668-00098345 delio gyda'r pethau yna. Felly oedd sawl lefel i'r swydd.
AWYC13R6d0U-00129-00098345-00098824 Dot: Ie, ie. Ond sonioch chi yn fan'na am, wel, chi oedd yn cadeirio, nag ife?
AWYC13R6d0U-00130-00098824-00099371 Chi oedd yn cadeirio'r grŵp oedd yn cynghori'r pedair gwlad.
AWYC13R6d0U-00131-00099371-00100074 Eleri: Wel, oedd hwnnw ar y canllawiau atal heintiau. Felly oedd hwnnw yn ganllaw arbennig,
AWYC13R6d0U-00132-00100074-00101244 fwyaf i ysbytai a chartrefi gofal. Felly oedd y canllaw i'w defnyddio yn y cyswllt hynny yn hytrach
AWYC13R6d0U-00133-00101244-00101939 nag i'r boblogaeth yn gyffredinol. Oedd e'n aml oedd beth oedd yn y canllaw hynny yn cael ei ddefnyddio, er enghraifft,
AWYC13R6d0U-00134-00101939-00102907 i helpu gyda'r canllawiau i ysgolion ac ati. Ond y brif ran o'r canllaw hynny oedd i beth oedd yn digwydd yn yr ysbytai
AWYC13R6d0U-00135-00102907-00103867 a'r cartrefi gofal yn nhermau'r canllawiau atal heintiau. Felly hwnnw oedd y gwaith o'n i hefyd yn neud,
AWYC13R6d0U-00136-00103867-00104567 ond oedd hwnnw tipyn bach ar wahân i'r gwaith o'n i'n neud fel cyfarwyddwr y digwyddiad
AWYC13R6d0U-00137-00104567-00105155 i Iechyd Cyhoeddus Cymru. Felly oedd hwnna yn grŵp o arbenigwyr mewn atal heintiau
AWYC13R6d0U-00138-00105155-00106239 o ar draws y Deyrnas Unedig oedd yn cyfarfod i edrych ar y sefyllfa, i edrych ar y wyddoniaeth
AWYC13R6d0U-00139-00106239-00107132 ac i gynhyrchu'r canllawiau. Oedd y rheini wedyn yn cael eu cyhoeddi ar wefan llywodraeth y Deyrnas Unedig
AWYC13R6d0U-00140-00107132-00108060 fel canllawiau i'r Deyrnas Unedig i gyd. A ni 'di bod yn gweithio ar y rheini wedyn trwy'r pandemig,
AWYC13R6d0U-00141-00108060-00108778 gyda'r diweddariad mwya' diweddar ar yr 25ain o Ionawr 'leni.
AWYC13R6d0U-00142-00108778-00109515 Felly mae dal i fod cyfarfod wythnosol gen i edrych ar y canllawiau yna.
AWYC13R6d0U-00143-00109515-00109834 Dot: Trwy hyn i gyd, pryd o'ch chi'n cysgu 'te? Achos gyda'r holl waith yna,
AWYC13R6d0U-00144-00109834-00110671 a law yn llaw, wrth gwrs, â'r gwaith ymarferol, y cyfarfodydd, o'ch chi hefyd, chi oedd y llais.
AWYC13R6d0U-00145-00110671-00111550 Chi o'n i'n gweld. Chi oedd yr ymateb cyhoeddus yn Gymraeg, ac yn Saesneg y aml hefyd.
AWYC13R6d0U-00146-00111550-00112040 Faint o faich oedd hynny? Neu oedd e'n faich i chi, gorfod neud hynny hefyd
AWYC13R6d0U-00147-00112040-00112657 ar ben eich dyletswyddau chi'n ddyddiol?
AWYC13R6d0U-00148-00112657-00113588 Eleri: Mi oedd e'n faich ychwanegol achos dyw e ddim yn rhan o fy swydd, o reidrwydd,
AWYC13R6d0U-00149-00113588-00114373 i fod yn gwneud cyfweliadau. Ac ar adegau mi oedd lot o gyfweliadau i neud achos
AWYC13R6d0U-00150-00114373-00115783 yn aml fi yw'r unig un sy'n siarad Cymraeg yn Iechyd Cyhoeddus Cymru ynglŷn â'r pandemig yma.
AWYC13R6d0U-00151-00115783-00116305 Yn ystod y pandemig, mae pobl eraill wedi bod yn gallu cyfrannu, ond mae rhai o'r rheini wedi ymddeol
AWYC13R6d0U-00152-00116305-00117165 yn ystod y pandemig, ac felly mae o 'di bod yn syrthio i fi lot o'r amser i neud y gwaith yna,
AWYC13R6d0U-00153-00117165-00117764 yn arbennig yn y Gymraeg. Ac felly mae e yn cymryd amser. Ac mae angen paratoi.
AWYC13R6d0U-00154-00117764-00118609 Mae angen defnyddio Cymraeg da a'r geiriau achos mae pobl yn anghofio bod, chi'n gwybod,
AWYC13R6d0U-00155-00118609-00119518 mae "new variants" falle yn rhwydd i... Mae e ar y radio, ar y teledu yn Saesneg yn aml,
AWYC13R6d0U-00156-00119518-00120000 ac wedyn oedd eisiau neud yn siŵr bod yr "amrywiolion newydd" a'r geiriau newydd...
AWYC13R6d0U-00157-00120000-00120643 Dot: A rhwydd i chi 'weud e. Amrywiolion. Eleri: Yn dod allan yn rhwydd. Dot: Ydi. Wel, ie, chi 'di arfer erbyn hyn.
AWYC13R6d0U-00158-00120643-00121170 Dot: Ond o'ch chi 'di sôn am eich cefndir chi. Oedd e'n bwysig i chi bod chi yn neud hynna?
AWYC13R6d0U-00159-00121170-00121493 Achos o'ch chi'n dweud, wel, chi oedd un o'r ychydig rai yn gallu neud e.
AWYC13R6d0U-00160-00121493-00121983 O'ch chi'n teimlo bod pwysau arnoch chi, mae'n rhaid i fi neud hwn, mae hwn yn rhan o fy ngwasanaeth ni?
AWYC13R6d0U-00161-00121983-00122716 Eleri: Wel, dwi'n meddwl bod e'n bwysig achos dwi'n meddwl e'n holl bwysig bod y wybodaeth
AWYC13R6d0U-00162-00122716-00123259 yn cael ei roi mewn ffordd sy'n ddealladwy ac yn glir yn Gymraeg yn ogystal ag yn Saesneg
AWYC13R6d0U-00163-00123259-00123791 achos heb hynny, 'yn ni ddim yn gweld e fel rhywbeth sydd yn berthnasol i ni.
AWYC13R6d0U-00164-00123791-00124181 Felly mi oedd e'n bwysig, dwi'n meddwl, i neud e.
AWYC13R6d0U-00165-00124181-00124526 Doedd e ddim gwastad yn ffitio yn rhwydd yn fy nyddiadur i.
AWYC13R6d0U-00166-00124526-00125266 Dot: Na, alla i gredu. Eleri: Ond o'n i'n hapus i neud e ac yn teimlo bod e'n bwysig i neud e.
AWYC13R6d0U-00167-00125266-00126022 Dot: A chi'n falch bod chi wedi neud e. Eleri: Wel, ydw. Fi'n edrych yn ôl, fi'n gobeithio
AWYC13R6d0U-00168-00126022-00126856 Eleri: af i gopi o'r cyfweliadau achos mae e'n eitha' diddorol, fi'n credu, fel mesur amser.
AWYC13R6d0U-00169-00126856-00127630 Achos dwi'n edrych yn ôl ar rhai o'r cyfweliadau ac yn meddwl, o, bois bach, o'n i ddim yn gwybod beth oedd yn dod.
AWYC13R6d0U-00170-00127630-00128210 Achos fi'n cofio eistedd, mynd mewn i Landaf, sydd, wrth gwrs, wedi dymchwel erbyn hyn hefyd,
AWYC13R6d0U-00171-00128210-00129119 mynd mewn i'r stiwdio yn Llandaf, ac oedd map o'r Eidal gyda fi achos
AWYC13R6d0U-00172-00129119-00129978 ar un cyfnod ar ôl yr hanner tymor 'na pan oedd pawb yn sgïo yn yr Eidal ac yn dod â'r feirws
AWYC13R6d0U-00173-00129978-00130565 yn ôl gyda nhw, mi o'n i'n dweud yn ogystal â phobl oedd yn dod yn ôl o Wuhan,
AWYC13R6d0U-00174-00130565-00131485 bod angen i bobl oedd wedi dod o rannau arbennig o'r Eidal i gael eu profi neu fynd i'r ysbyty os o'n nhw sâl ac ati.
AWYC13R6d0U-00175-00131485-00132166 Felly oedd map gyda fi yn y stiwdio achos o'n i'n gorfod trial neud yn siŵr bod fi'n cael y wybodaeth yn iawn.
AWYC13R6d0U-00176-00132166-00132948 A pan 'ych chi'n edrych yn ôl ar hwnna nawr a meddwl am yr holl achosion sydd wedi bod oddi arni a'r holl bethau ni
AWYC13R6d0U-00177-00132948-00133647 'di bod trwyddo, mae e'n rhyfedd i feddwl bod ni'n dweud hynna yn ôl ar y dechrau.
AWYC13R6d0U-00178-00133647-00134533 Dot: Wel, am yr holl waith, fe gaethoch chi eich gwobrwyo gyda MBE. Shwt glywoch chi am hynny?
AWYC13R6d0U-00179-00134533-00135251 Eleri: Wel, oedd e i gyd yn rhyfedd oherwydd bod ni yn y sefyllfa 'yn ni'n dal i fod i ryw raddau,
AWYC13R6d0U-00180-00135251-00136066 ond yn gweithio o gartre mewn clo, ar lein, trwy e-bost ges i wybod. A pan ddaeth yr e-bost trwyddo,
AWYC13R6d0U-00181-00136066-00137007 o'n i'n meddwl i ddechrau bod e'n bach o jôc achos, chi'n gwybod, oedd e jyst yn e-bost.
AWYC13R6d0U-00182-00137007-00138016 Ond wedi dod dros y sioc a'r sort of teimlad bod hwn ddim yn wir, oedd e'n rhyfedd
AWYC13R6d0U-00183-00138016-00138584 i gael rhywbeth fel'na yng nghanol prysurdeb y sefyllfa.
AWYC13R6d0U-00184-00138584-00138937 Dot: Ble chi arni ar hyn o bryd? Ydych chi 'di cyrraedd y pwynt eto pan 'ych chi'n gallu,
AWYC13R6d0U-00185-00138937-00139607 fi'm yn gwybod, cymryd anadl ddofn a meddwl, edrych yn ôl ac ystyried popeth
AWYC13R6d0U-00186-00139607-00139837 'ych chi 'di bod drwyddi, falle 'yn ni gyd 'di bod drwyddi.
AWYC13R6d0U-00187-00139837-00140253 'Ych chi 'di cyrraedd y pwynt yna eto?
AWYC13R6d0U-00188-00140253-00140878 Eleri: Ddim cweit falle. Mae o'n dal i fod yn syndod o brysur achos pan 'yn ni nawr mewn sefyllfa
AWYC13R6d0U-00189-00140878-00142021 lle 'yn ni gobeithio dod tuag at normalrwydd o ryw fath, mae'n rhaid ail-wneud rhai o'r canllawiau
AWYC13R6d0U-00190-00142021-00142948 i symud trwy y cyfnod hwn o drosi o sefyllfa lle oedd 'na fwy o reolau ac i sefyllfa lle
AWYC13R6d0U-00191-00142948-00143569 mae angen dal i fod yn wyliadwrus ond defnyddio beth 'yn ni wedi dysgu i symud ymlaen.
AWYC13R6d0U-00192-00143569-00144362 Felly mae o'n dal i deimlo i fi bod 'na lot o waith i neud i symud y gwasanaethau a'r canllawiau
AWYC13R6d0U-00193-00144362-00145170 o un sefyllfa i'r llall ac i neud yn siŵr bod ni hefyd yn barod i symud yn ôl os oes angen.
AWYC13R6d0U-00194-00145170-00146131 Ond mae pethau yn dechrau gwella. Mae cyfnod yn sicr sort of dros y Nadolig a phethau,
AWYC13R6d0U-00195-00146131-00146853 oedd e'n braf i weld teulu eto, wedi rhoi cyfle i ail-gydio gyda rhai o'r pethau yna.
AWYC13R6d0U-00196-00146853-00147575 Dot: O ystyried hynny, pan 'ych chi'n sôn am y canllawiau, shwt 'ych chi'n teimlo 'naeth Cymru,
AWYC13R6d0U-00197-00147575-00148200 'naethon ni fel poblogaeth ymdopi gyda'r hyn ddigwyddodd? A falle shwt 'ych chi'n gobeithio
AWYC13R6d0U-00198-00148200-00148992 'yn ni'n mynd i ymddwyn wrth gamu 'mlaen, wrth ddod mas o'r pandemig? A shwt fyddech chi'n gobeithio
AWYC13R6d0U-00199-00148992-00149613 byddwn ni'n ymddwyn wrth symud 'mlaen? Mae'r ddau beth yn cyd-fynd, dydyn nhw.
AWYC13R6d0U-00200-00149613-00150779 Eleri: Wel, dwi'n teimlo bod Cymru wedi ymateb yn dda iawn, yn wyliadwrus a mesurau da yn eu lle.
AWYC13R6d0U-00201-00150779-00151326 A fi'n teimlo bod y boblogaeth wedi bod yn dda iawn yn ymateb i hynny.
AWYC13R6d0U-00202-00151326-00151880 A pan 'ych chi'n trafeili i rannau eraill o Brydain, chi yn gweld gwahaniaeth.
AWYC13R6d0U-00203-00151880-00152494 Mae mab gyda fi sydd wedi dechrau yn y brifysgol yn Lloegr yn ystod y cyfnod hwn,
AWYC13R6d0U-00204-00152494-00153432 ac, wrth gwrs, mae'r teimlad yn wahanol iawn, chi'n gwybod, hyd yn oed yn teithio o un rhan o Gymru i ran arall.
AWYC13R6d0U-00205-00153432-00153859 Dot: Shwt 'te? Shwt 'ych chi nawr yn gweld y gwahaniaeth? Be sy'n wahanol?
AWYC13R6d0U-00206-00153859-00154462 Eleri: Wel, fi'n credu bydd y gwahaniaethau yn lleihau wrth i ni gyd symud i fwy o normalrwydd.
AWYC13R6d0U-00207-00154462-00155292 Ond wrth gwrs, mae gollwng defnydd masgiau a phethau wedi bod ynghynt yn Lloegr nag yng Nghymru.
AWYC13R6d0U-00208-00155292-00156364 A fi'n credu bod y negeseuon sy'n cael eu rhoi allan yn Lloegr wedi gwneud i'r boblogaeth yn Lloegr i deimlo,
AWYC13R6d0U-00209-00156364-00157157 wel, mae popeth drosto. Ac mae hwnna yn trosglwyddo wedyn i'r ffordd mae pobl yn ymwneud â'i gilydd
AWYC13R6d0U-00210-00157157-00158502 ac yn gwneud pethau yn Lloegr. A chi yn gweld y gwahaniaeth. Mae pŵer y negeseuon sy'n dod allan o Lloegr
AWYC13R6d0U-00211-00158502-00158866 yn effeithio ar be sy'n digwydd yng Nghymru hefyd. Dan ni wrth gwrs ddim yn byw
AWYC13R6d0U-00212-00158866-00159744 mewn bybl ar wahân. Ond mae 'na wahaniaeth 'ych chi'n gallu gweld wrth i chi symud o un lle i'r llall.
AWYC13R6d0U-00213-00159744-00160216 Dot: Shwt 'ych chi'n gobeithio byddwn ni'n addasu? Beth fydde eich neges chi i bobl
AWYC13R6d0U-00214-00160216-00160920 wrth i ni edrych 'mlaen at ryw fath o normalrwydd, os alla i hyd yn oed dweud hwnna, normalrwydd?
AWYC13R6d0U-00215-00160920-00161481 Shwt 'ych chi yn gobeithio byddwn ni'n addasu ac yn ymddwyn?
AWYC13R6d0U-00216-00161481-00162412 Eleri: Wel, dwi'n gobeithio byddwn ni'n cadw'r pethau 'yn ni wedi dysgu sy'n dda a ddim towli popeth mas.
AWYC13R6d0U-00217-00162412-00163160 Fi'n gwybod bod pob un moyn bod yn ôl i fel o'n i a chael normalrwydd yn ôl.
AWYC13R6d0U-00218-00163160-00164047 Ond fi'n credu bod e'n werth cofio bod llawer ohonon ni wedi cael llai o afiechydon heintus y gaea',
AWYC13R6d0U-00219-00164047-00164620 fyddwn i'n galw nhw'n hynny, yn ystod y gaea', y ddau aeaf diwetha' oherwydd rhai o'r pethau
AWYC13R6d0U-00220-00164620-00165342 'yn ni dodi yn eu lle i arbed COVID. Ac wrth gwrs os allwn ni gofio hynny, falle bod jyst angen
AWYC13R6d0U-00221-00165342-00165933 bod yn bach fwy gwyliadwrus wrth i ni fynd mewn i'r gaea' bob blwyddyn am sbel. Ond, chi'n gwybod,
AWYC13R6d0U-00222-00165933-00166626 mae golchi dwylo a bod yn ofalus pan 'ych chi'n tisian a pheswch yn rhywbeth dylen ni fod yn neud ta beth.
AWYC13R6d0U-00223-00166626-00167213 Felly dwi'n gobeithio bydd pobl yn teimlo, reit, 'yn ni'n gallu symud yn ôl
AWYC13R6d0U-00224-00167213-00168226 i fwy o normalrwydd, ond peidiwch anghofio y pethau elfennol allwn ni gyd neud i fod yn ofalus o iechyd ein gilydd.
AWYC13R6d0U-00225-00168226-00168863 Ac mae'r brechiadau yn bwysig. Mae'n debygol iawn byddwn ni'n cael rhaglen frechu flynyddol
AWYC13R6d0U-00226-00168863-00169626 nawr am gyfnod. Ond mae hynny yn ei le i ffliw beth bynnag. Felly eto, chi'n gwybod,
AWYC13R6d0U-00227-00169626-00170710 neud y pethau yna a gofalu am ein gilydd wrth i ni fynd mewn i'r gaea' nesa' bydde fy ngobaith i.
AWYC13R6d0U-00228-00170710-00171286 Dot: Shwt effaith mae COVID wedi cael arnoch chi, Dr Eleri, yn broffesiynol ac yn bersonol falle?
AWYC13R6d0U-00229-00171286-00171978 Chi'n teimlo bod e 'di, dwi'm yn gwybod, newid shwt chi'n gweld y byd?
AWYC13R6d0U-00230-00171978-00172767 Eleri: Ydi, yn bendant. O safbwynt proffesiynol, mewn llawer ffordd mae'r pandemig wedi rhoi cyfle i fi.
AWYC13R6d0U-00231-00172767-00173317 Mae o 'di rhoi cyfle i fi ddatblygu y rôl sydd gyda fi o fewn Iechyd Cyhoeddus Cymru.
AWYC13R6d0U-00232-00173317-00174357 Dwi 'di cael cyfle i weithio mewn tîm gwahanol ac i weithio mewn timau ar draws y Deyrnas Unedig hefyd.
AWYC13R6d0U-00233-00174357-00174825 Felly yn broffesiynol, mae hwnna wedi bod yn brofiad da.
AWYC13R6d0U-00234-00174825-00175719 Mae 'di bod yn brofiad anodd ar adegau achos alla i ddeud wrthoch chi bod cadeirio grŵp traws-Deyrnas Unedig,
AWYC13R6d0U-00235-00175719-00176489 dyw pobl ddim yn cytuno bob amser, ac mae 'di bod yn eitha' sialens ar adegau i gael cytundeb ar ganllaw
AWYC13R6d0U-00236-00176489-00177789 a chyhoeddi canllaw sy'n bwrpasol i'r pedair gwlad. Ond yn gyffredinol, mae e wedi bod yn brofiad
AWYC13R6d0U-00237-00177789-00178541 sydd 'di bod yn gyfle gwych ond yn galed, ac yn sicr fyddai'n falch iawn, fel pawb arall,
AWYC13R6d0U-00238-00178541-00179196 o weld pethau yn mynd yn ôl i fwy o normalrwydd yn nhermau gwaith.
AWYC13R6d0U-00239-00179196-00180153 Yn bersonol, dwi 'di bod yn lwcus o safbwynt teulu bod neb wedi bod yn ddifrifol wael oherwydd COVID,
AWYC13R6d0U-00240-00180153-00180826 a dwi ddim wedi colli neb yn uniongyrchol oherwydd COVID. Felly dwi'n teimlo'n lwcus o'r safbwynt hynny.
AWYC13R6d0U-00241-00180826-00181675 Ond dwi wedi gweld difrod, yn enwedig 'ir ieuenctid, yn nhermau eu haddysg a'u cymdeithasu
AWYC13R6d0U-00242-00181675-00182666 a'r effeithiau iechyd meddwl ar yr ifanc. Ac mae hwnna wedi bod yn galed iawn.
AWYC13R6d0U-00243-00182666-00183189 Dot: I ni gael gorffen ar y nodyn hynny, shwt mae... Dwi'm yn gwybod beth yw'r gair yn iawn,
AWYC13R6d0U-00244-00183189-00183665 ond shwt 'yn ni'n gwella'r sefyllfa iddyn nhw? Shwt 'yn ni'n dod yn ôl o hyn?
AWYC13R6d0U-00245-00183665-00184384 Ydych chi'n gweld bod ni yn dechrau yn barod adeiladu ein pobl ifanc ni,
AWYC13R6d0U-00246-00184384-00184640 fel o'ch chi'n sôn amdanyn nhw? Maen nhw 'di colli mas ar gymaint.
AWYC13R6d0U-00247-00184640-00185171 Maen nhw 'di colli gymaint. Shwt mae dod yn ôl o hynny?
AWYC13R6d0U-00248-00185171-00186084 Eleri: Wel, mae hwnna'n gwestiwn mawr achos fi'n credu o safbwynt atal heintiau, roedd e'n bwysig i'r clo i ddigwydd.
AWYC13R6d0U-00249-00186084-00187011 Ond wrth gwrs, y bobl ifanc oedd ac sy'n dal i fod yn cael eu heffeithio lleia' o safbwynt yr haint,
AWYC13R6d0U-00250-00187011-00187603 ac eto dwi'n teimlo bod nhw wedi cael colled enfawr mewn ffyrdd eraill,
AWYC13R6d0U-00251-00187603-00188657 a fyddwn i ddim yn gweld yr effeithiau yna falle yn syth. Ac felly sut mae adeiladu hwnna'n yn ôl yn sialens fawr.
AWYC13R6d0U-00252-00188657-00189502 Achos dwi'n siŵr bod ysgolion nawr yn ffeindio bod pobl y plant yn cael trafferth i ddod yn ôl i'r ysgol
AWYC13R6d0U-00253-00189502-00190306 achos maen nhw wedi colli peth o'r hyder 'na yn eu cysylltau ac yn eu cymdeithasu.
AWYC13R6d0U-00254-00190306-00191054 Ac mae hwnna'n mynd i gymryd sbel i adfer, dwi'n teimlo. Mae'r addysg ei hunan,
AWYC13R6d0U-00255-00191054-00192116 mae trial dod i nôl beth maen nhw 'di colli yn anodd, a dwi ddim yn arbenigo yn y maes hynny
AWYC13R6d0U-00256-00192116-00192636 ac yn teimlo bod e'n sialens fawr. Ond dwi'n yn teimlo bod angen i ni wybod
AWYC13R6d0U-00257-00192636-00192836 a sylweddoli bod y to ifanc wedi colli mas lot yn y cyfnod hyn.
AWYC13R6d0U-00258-00192836-00193648 Dot: Ac o siarad am hynny a chydnabod hynny, pa mor obeithiol
AWYC13R6d0U-00259-00193648-00194508 'ych chi am well dyfodol, y byddwn ni ddim yn gorfod mynd trwy hyn eto?
AWYC13R6d0U-00260-00194508-00195509 Eleri: Wel, fi'n gobeithio byddwn ni ddim yn mynd trwy hyn yn fuan eto. Chi'n gwybod, mi oedd 'na gyfnod hir o amser
AWYC13R6d0U-00261-00195509-00196381 rhwng y pandemig blaenorol a'r pandemig hyn, ac felly mae siawns go dda fydd cyfle gyda ni i adeiladu.
AWYC13R6d0U-00262-00196381-00197446 Wrth gwrs, mae'n siom ofnadwy bod y rhyfel yn datblygu ar hyn o bryd, sydd hefyd yn dodi ansicrwydd,
AWYC13R6d0U-00263-00197446-00198030 fi'n credu, mewn i feddyliau pobl. A fi'n credu taw delio gydag ansicrwydd yw un o'r pethau
AWYC13R6d0U-00264-00198030-00198718 sydd 'di bod mor anodd am y pandemig. Ac o'n i yn obeithiol iawn dechrau'r flwyddyn pan o'n i'n gweld
AWYC13R6d0U-00265-00198718-00199522 y ffigyrau'n dechrau gostwng, chi'n gwybod, mawr oedd y cyfle i ni ddechrau adfer a dod allan o'r pandemig.
AWYC13R6d0U-00266-00199522-00200121 Ond wedyn mae 'na ansicrwydd arall yn datblygu sy'n gost eto i bobl.
AWYC13R6d0U-00267-00200121-00200791 Wrth gwrs, ar hyn o bryd ddim yn uniongyrchol i ni yn wlad hyn, ond mae'r teimlad bod pethau'n
AWYC13R6d0U-00268-00200791-00202076 ansefydlog mor agos i ni yn creu problem bellach. Felly dwi yn meddwl bod e'n sialens fawr i adfer y sefyllfa.
AWYC13R6d0U-00269-00202076-00202870 Ond mae pobl ifanc yn gallu delio â phethau yn well nag 'yn ni'n meddwl weithiau, felly fi yn obeithiol.
AWYC13R6d0U-00270-00202870-00203400 Dot: A'r cwestiwn ola' i chi: pryd 'yn ni'n mynd i gael darllen y dyddiaduron 'ma 'te, Dr Eleri?
AWYC13R6d0U-00271-00203400-00203860 Oes bosib bod eisiau cyhoeddi'r dyddiaduron 'ma, fyddwn i'n meddwl.
AWYC13R6d0U-00272-00203860-00204806 Eleri: O, bois bach. Dwi ddim wedi bod yn ysgrifennu dyddiadur manwl bob dydd.
AWYC13R6d0U-00273-00204806-00205457 Dyddiadur electronig gwaith, felly dwi ddim yn siŵr bod e'n trosglwyddo'n rhwydd iawn mewn i ryw lyfr.
AWYC13R6d0U-00274-00205457-00206455 Ond mae o'n sicr wedi bod yn brofiad, ac efallai pan fydd mwy o amser wedi mynd, bydd cyfle i neud rhywbeth fel'na.
AWYC13R6d0U-00275-00206455-00207032 Dot: Ac yn rhywbeth i chi gadw, yn bydd e. Bydd eich plant chi, falle fydd 'na wyrion rhywbryd,
AWYC13R6d0U-00276-00207032-00207985 a bydden nhw eisiau darllen be 'naethoch chi gyflawni. Mae'n rhaid bod chi'n falch o'r hyn 'ych chi 'di neud.
AWYC13R6d0U-00277-00207985-00208946 Eleri: Wel, mae bach yn agos falle i'r sefyllfa i fod yn falch o'r hyn dwi wedi neud eto.
AWYC13R6d0U-00278-00208946-00210298 Dwi wastad yn trial neud y gorau galla i neud ac yn gobeithio bod fi wedi gwneud hynny hyd y gallaf yn y cyswllt hwn,
AWYC13R6d0U-00279-00210298-00211374 ac yn gobeithio bydd cyfle i neud y siŵr bod trefniadau yn eu lle i helpu pobl eraill i ddelio â'r un nesa',
AWYC13R6d0U-00280-00211374-00212058 achos dwi'n gobeithio bydda i ddim yn y sefyllfa hyn nac yn y swydd hyn pan daw'r pandemig nesa'
AWYC13R6d0U-00281-00212058-00212716 achos fi'n gobeithio cawn ni ryw gyfnod o amser nawr i edrych yn ôl a dysgu.
AWYC13R6d0U-00282-00212716-00213017 Dot: O'ch chi'n DJ. Oes soundtrack 'da chi?
AWYC13R6d0U-00283-00213017-00213460 Oes 'na gan fydde 'da chi ar gyfer y cyfnod ni 'di bod drwyddi? Fi'm yn gwybod.
AWYC13R6d0U-00284-00213460-00213883 Chi'n mynd ar ôl rhywbeth Geraint Jarman? Be chi'n mynd i ddewis? Fi'm yn gwybod.
AWYC13R6d0U-00285-00213883-00214576 Eleri: Wel, fy hoff gan i pan o'n i'n cyflwyno Cadw Reiat oedd Siglo ar y Siglen gyda Geraint Jarman,
AWYC13R6d0U-00286-00214576-00215283 a falle bod ni wedi bod yn siglo yn ôl a 'mlaen ar y siglen, a gobeithio nawr bod ni'n gallu dod oddi ar y siglen
AWYC13R6d0U-00287-00215283-00216175 sy'n mynd yn ôl a 'mlaen o un amrywiolyn i'r llall a symud ymlaen. Felly 'na'r gobaith nawr.
AWYC13R6d0U-00288-00216175-00216844 A'r unig beth arall yw, I've Survived, yndyfe, achos mae'r teimlad 'na yn gryf ar hyn o bryd
AWYC13R6d0U-00289-00216844-00218189 bod rhai pobl ddim wedi llwyddo dod trwy'r pandemig yma. Mae e wedi difrodi bywydau pobl ac wedi lladd nifer o bobl,
AWYC13R6d0U-00290-00218189-00218904 ac mae hynna i gyd yn ofnadwy. Ac felly diolchgar iawn bod fi wedi gallu cadw
AWYC13R6d0U-00291-00218904-00219753 mynd yn ystod y pandemig, a gobeithio gallwn ni ddysgu yn dda o hyn a symud ymlaen.
AWYC13R6d0U-00292-00219753-00220169 Dot: Ni'n ddiolchgar iawn am eich amser chi bore 'ma. Mae 'di bod yn bleser siarad 'da chi.
AWYC13R6d0U-00293-00220169-00220645 Diolch yn fawr, nodyn perffaith i ni orffen arni. Diolch yn fawr i chi, Dr Eleri.
AWYC13R6d0U-00294-00220645-00220845 Eleri: Croeso.
AWYC13R6d0U-00295-00220845-00222055 Eisiau clywed mwy? Gallwch wrando ar y bennod gyfan ar y prif wasanaethau ffrydio podlediadau. Datgloi: Straeon COVID o Gymru.
DzVfZV6xJzM-00000-00000103-00000700 Dim ond cael golwg i weld pa mor ddwfn yw'r mawndir yma yng Nghrymlyn
DzVfZV6xJzM-00001-00000700-00001300 Ceisio gweithio allan ble gallwn osod rhai ffynhonnau-dip ar gyfer monitro hydrolegol.
DzVfZV6xJzM-00002-00001300-00002100 Rydw i yma ar y llwybr pren cyntaf ac rydw i eisoes wedi gosod y gwiail yn y mawndir.
DzVfZV6xJzM-00003-00002100-00002300 Byddwn yn eu hadalw nawr i weld pa mor ddwfn ydyw.
DzVfZV6xJzM-00004-00002300-00002500 Mae pob uniad ar un metr.
DzVfZV6xJzM-00005-00002800-00003000 Dyna ddau fetr….
DzVfZV6xJzM-00006-00003400-00004200 Felly yma ychydig oddi ar y llwybr pren mae gennym bron i 2.5 metr o fawn.
DzVfZV6xJzM-00007-00004200-00005100 Rwyf wedi symud ychydig i weld a oes unrhyw wahaniaeth ac mae'r llwybr pren wedi cael unrhyw effaith.
DzVfZV6xJzM-00008-00005100-00005500 Dim ond gosod y gwiail yn y ddaear nawr...
DzVfZV6xJzM-00009-00005500-00005900 Torri drwy'r gramen arwyneb hwnnw o lystyfiant.
DzVfZV6xJzM-00010-00005900-00006100 Mae hynny un metr i lawr...
DzVfZV6xJzM-00011-00006100-00006300 Dyna ddau fetr...
DzVfZV6xJzM-00012-00006500-00006700 Dyna dri metr..#.
DzVfZV6xJzM-00013-00007300-00007700 Ac rydyn ni'n mynd ar dri metr ... af i gael gwialen arall...
DzVfZV6xJzM-00014-00007700-00008000 Felly dyna bedwar metr i mewn….
DzVfZV6xJzM-00015-00008000-00008400 Byddaf yn ychwanegu rhif pump yn unig!
DzVfZV6xJzM-00016-00008400-00008800 Dal i fynd i lawr...
DzVfZV6xJzM-00017-00008800-00009000 Bron i bum metr...
DzVfZV6xJzM-00018-00009300-00009900 Nid mawndir yw hwn o reidrwydd…gallai fod rhywfaint o silt yno...
DzVfZV6xJzM-00019-00009900-00010100 Mae'n fwy i weld pa mor feddal a dwfn y ddaear yn mynd...
DzVfZV6xJzM-00020-00010100-00011300 Pan fyddwn yn dod i osod ffynhonnau dip, bydd yn rhaid i ni osod angorau pridd i'w hatal rhag symud fel ein bod yn cael darlleniad cywir o'r dyfnder.
DzVfZV6xJzM-00021-00011300-00011800 Iawn, mae'n ymddangos ein bod ni wedi cyrraedd y pwynt caled yno...
DzVfZV6xJzM-00022-00011800-00012573 Rwy’n meddwl bod chwe metr o wialen yn cael eu defnyddio…mae gennym ni tua 50cm yn sticio allan o’r ddaear.
DzVfZV6xJzM-00023-00012573-00012873 Byddwn yn eu tynnu allan.
DzVfZV6xJzM-00024-00013373-00015073 1…2…3…4…5…ac mae'n dal i fynd!
DzVfZV6xJzM-00025-00015073-00015673 Gallwch weld dim ond edrych ar y wialen hon pa mor ddwfn yw'r mawn mewn gwirionedd….
DzVfZV6xJzM-00026-00016773-00017373 …..felly tua 5.5 metr o ddyfnder yma.
DzVfZV6xJzM-00027-00017373-00017873 Mae hynny'n llawer o garbon wedi'i storio!
F1NxHCMmksc-00000-00002276-00002476 welcome to our new channel with spring599 and challenge games
Iod4gdI0WPU-00000-00017587-00018009 Music: Sascha Ende - The Gigantic Epic Day After Tomorrow.ogg; Composer: Sascha Ende; Avaliable on Commons.
RNuHJ60mL10-00000-00000844-00001286 Yn y fideo diwethaf gwelon ni fod ‘na wefr bositif gyda gronyn alffa (He2+)
RNuHJ60mL10-00001-00001286-00001541 a gwefr negatif gyda gronyn beta (e-)
RNuHJ60mL10-00002-00001541-00002043 ond does dim gwefr gyda ffotonau a ryddheir trwy ymbelydredd gama.
RNuHJ60mL10-00003-00002043-00002781 Oherwydd eu gwefrau gwahanol, gallan nhw gael eu gwahanu o'i gilydd ym meysydd magnetig.
RNuHJ60mL10-00004-00002781-00003557 Mae gronynnau alffa yn cael eu tynnu tuag at faes negatif a gronynnau beta tuag at faes positif.
RNuHJ60mL10-00005-00003557-00004339 Mae ymbelydredd gama yn mynd yn syth trwy faes magnetig heb gael ei effeithio.
RNuHJ60mL10-00006-00004885-00005395 Pan ydy e’n taro moleciwlau, gall ymbelydredd eu hïoneiddio nhw.
RNuHJ60mL10-00007-00005395-00005918 Os digwyddiff hyn i’r DNA mewn cell, gall y gell ddod yn ganseraidd.
RNuHJ60mL10-00008-00005918-00006484 O ganlyniad, mae ymbelydredd alffa, beta a gama yn gallu bod yn beryglus.
RNuHJ60mL10-00009-00006484-00006933 Mae'r perygl a gynigir gan ffynonellau ymbelydrol yn amrywio.
RNuHJ60mL10-00010-00006933-00007358 Tu mewn i’r corff, ymbelydredd alffa ydy’r mwyaf niweidiol,
RNuHJ60mL10-00011-00007358-00007764 gan gael ei amsugno’n hawdd gan gelloedd byw.
RNuHJ60mL10-00012-00007764-00008599 Mae ymbelydredd beta ac ymbelydredd gama yn fwy tebygol o basio’n syth mas o’r corff, felly maent yn llai peryglus.
RNuHJ60mL10-00013-00008599-00009152 Tu fas i’r corff, ymbelydredd alffa ydy’r lleiaf peryglus, gan fod e ddim yn debygol
RNuHJ60mL10-00014-00009152-00009950 o dreiddio’r haen gelloedd marw ar arwyneb y croen ac yn niweidio celloedd byw mewnol.
RNuHJ60mL10-00015-00010472-00010875 Mae'r broses o ddadfeiliad ymbelydrol yn digwydd ar hap;
RNuHJ60mL10-00016-00010875-00011583 ni ellir rhagweld pa bryd y bydd unrhyw un niwclews ansefydlog yn dadfeilio ac yn rhyddhau ymbelydredd.
RNuHJ60mL10-00017-00011583-00012063 Mae pob niwclews yn dadfeilio'n ddigymell ac yn ei amser ei hun.
RNuHJ60mL10-00018-00012063-00012733 Er hynny, mae’n bosibl i fesur yr amser a gymerir i hanner o’r niwclysau ymbelydrol ddadfeilio.
RNuHJ60mL10-00019-00012733-00013416 Hanner oes ydy enw’r amser hwn. Mae gan bob isotop ymbelydrol hanner oes unigryw.
RNuHJ60mL10-00020-00013416-00014579 Er enghraifft, mae hanner oes carbon-14 yn 5,730 o flynyddoedd ond dim ond 22 munud ydy hanner oes ffranciwm-223. 22 00:02:25,790 --> 00:02:23,040 Wrth wybod yr hanner oes, gallwch chi wneud cyfrifiadau syml yn ymwneud ag ymbelydredd. Ystyriwch y cwestiwn hwn;
RNuHJ60mL10-00021-00016785-00017440 I fynd o 100g o garbon-14 i 25g mae rhaid haneri can gram ddwywaith.
RNuHJ60mL10-00022-00017440-00017791 Felly mae’n cymryd dwy hanner oes er mwyn hynny digwydd.
RNuHJ60mL10-00023-00017791-00018886 Dwywaith 5,730, sef 11,460 o flynyddoedd ydy’r amser sydd ei angen felly.
RNuHJ60mL10-00024-00019411-00019977 Gallwch chi ddefnyddio ymbelydredd beta er mwyn creu deunydd gyda union drwch.
RNuHJ60mL10-00025-00019977-00020502 Mae treiddiad yr ymbelydredd trwy ddeunydd yn dibynnu ar drwch y deunydd.
RNuHJ60mL10-00026-00020502-00021177 Felly, gallwch chi ddweud wrth beiriant am gynyddu’r trwch os ydy’r treiddiad yn ormod;
RNuHJ60mL10-00027-00021177-00021672 os ydy’r treiddiad yn rhy fach, bydd y peiriant yn gostwng y trwch.
RNuHJ60mL10-00028-00021672-00022115 Gellir defnyddio ymbelydredd mewn ffyrdd eraill, gan gynnwys:
UOvk43lUNqu-00000-00000008-00000344 Roedd S4C eisiau staff oedd yn gallu darlledu eu doniau.
UOvk43lUNqu-00001-00000344-00000728 Diolch i brentisiaethau, roedd modd iddyn nhw gynhyrchu eu staff eu hunain.
UOvk43lUNqu-00002-00000728-00001258 Roedd S4C eisiau chwistrellu syniadau newydd i’w busnes er mwyn cael hwb creadigol.
UOvk43lUNqu-00003-00001258-00001592 Felly, fe wnaethon nhw’r dewis doeth i recriwtio prentisiaid…
UOvk43lUNqu-00004-00001592-00001980 Gan ganiatáu iddyn nhw fanteisio ar gronfa dalent a chyflwyno rhaglen hyfforddi
UOvk43lUNqu-00005-00001980-00002346 sy'n dysgu’r sgiliau swydd benodol hanfodol hynny i staff.
UOvk43lUNqu-00006-00002346-00002608 I weld beth all prentisiaeth ei wneud i dy fusnes di …
UOvk43lUNqu-00007-00002608-00002936 Chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth.
UfrVaq-wjXY-00000-00000054-00000922 Bydd y ffilm fer hon yn rhoi tros olwg o Ddeddf Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) 2020.
UfrVaq-wjXY-00001-00000956-00001748 Ym mis Ionawr 2020 pasiwyd y Bil Plant (Diddymu Amddiffyniad Cosb Resymol) (Cymru) gan y Senedd.
UfrVaq-wjXY-00002-00001816-00002598 Cafodd y Bil Gydsyniad Brenhinol ym mis Mawrth a ddaw’r Ddeddf yn dod i rym ym mis Mawrth 2022.
UfrVaq-wjXY-00003-00002634-00003010 Pam wnaeth Llywodraeth Cymru gyflwyno Bil Plant Cymru?
UfrVaq-wjXY-00004-00003044-00003674 Yn 2019, cyflwynodd Llywodraeth Cymru y Bil i helpu i ddiogelu hawliau plant.
UfrVaq-wjXY-00005-00003718-00004118 Rydyn ni am roi’r dechrau gorau posib mewn bywyd i blant
UfrVaq-wjXY-00006-00004144-00004454 a rhoi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
UfrVaq-wjXY-00007-00004500-00004698 Beth yw cosb gorfforol?
UfrVaq-wjXY-00008-00004778-00005462 Mae cosb gorfforol yn cynnwys unrhyw weithred o guro plentyn fel cosb - nid dim ond smacio.
UfrVaq-wjXY-00009-00005512-00006254 Mae gan bob math o gosb gorfforol o dan unrhyw amodau y potensial i fod yn niweidiol i blant.
UfrVaq-wjXY-00010-00006298-00006598 Beth yw’r amddiffyniad cosb resymol?
UfrVaq-wjXY-00011-00006658-00007148 Sefydlwyd y cysyniad o gosb resymol yn 1860.
UfrVaq-wjXY-00012-00007202-00007920 Mae rhieni neu oedolion eraill sydd â chyfrifoldeb rhiant yn gallu defnyddio'r amddiffyniad o gosb resymol
UfrVaq-wjXY-00013-00007940-00008342 os cânt eu cyhuddo o ymosod cyffredin a churo plentyn.
UfrVaq-wjXY-00014-00008418-00009102 Nid yw’r amddiffyniad hwn ar gael i oedolyn os yw’n cael ei gyhuddo o ymosod ar oedolyn arall.
UfrVaq-wjXY-00015-00009186-00009852 Dros y blynyddoedd, mae deddfwriaeth wedi cyfyngu’r amgylchiadau lle gellid defnyddio’r amddiffyniad
UfrVaq-wjXY-00016-00009874-00010290 ac wedi cyfyngu’r lleoliadau lle gellir cosbi plant yn gorfforol.
UfrVaq-wjXY-00017-00010402-00010928 Mae cosbi corfforol yn barod yn anghyfreithlon mewn ysgolion, cartrefi plant,
UfrVaq-wjXY-00018-00010928-00011420 cartrefi gofal maeth awdurdodau lleol a lleoliadau gofal plant.
UfrVaq-wjXY-00019-00011504-00012172 Rydym ni yn cymryd y cam nesaf ar y daith hon drwy gael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol.
UfrVaq-wjXY-00020-00012288-00012486 Beth mae’r byd yn ei gredu?
UfrVaq-wjXY-00021-00012582-00013210 Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn yw’r sail i’n polisi ni ar gyfer plant.
UfrVaq-wjXY-00022-00013246-00013791 Mae’r Confensiwn yn cydnabod bod unrhyw gosb gorfforol yn torri hawliau dynol plant.
UfrVaq-wjXY-00023-00013874-00014513 Mae dros 55 o wledydd ledled y byd eisoes wedi rhoi diwedd ar gosbi plant yn gorfforol.
UfrVaq-wjXY-00024-00014568-00014780 Rydym ni yn falch o ymuno â nhw.
UfrVaq-wjXY-00025-00014826-00015286 Beth fydd y Ddeddf yn ei wneud a beth na fydd yn ei wneud.
UfrVaq-wjXY-00026-00015324-00015466 Bydd y Ddeddf yn:
UfrVaq-wjXY-00027-00015466-00016176 Cael gwared ar yr amddiffyniad cosb resymol. Fydd neb yn cael cosbi plant yn gorfforol yng Nghymru.
UfrVaq-wjXY-00028-00016240-00017042 Cael gwared ar fwlch cyfreithiol oedd yn caniatáu’r amddiffyniad cosb resymol mewn lleoliadau heb eu rheoleiddio,
UfrVaq-wjXY-00029-00017078-00017608 gan gynnwys rhai mannau dysgu, addoli, chwarae neu hamdden.
UfrVaq-wjXY-00030-00017690-00018402 Diogelu plant yn gyfreithiol rhag cosbi corfforol – yn union fel rydyn ni’n diogelu oedolion.
UfrVaq-wjXY-00031-00018460-00019314 Gwneud y gyfraith yn fwy clir, fel bod plant, rhieni, gweithwyr proffesiynol a'r cyhoedd yn deall y gyfraith.
UfrVaq-wjXY-00032-00019372-00020162 Helpu i amddiffyn hawliau plant a rhoi arwydd clir na chaiff cosbi plant yn gorfforol ei oddef yng Nghymru.
UfrVaq-wjXY-00033-00020208-00020404 Fydd y Ddeddf DDIM yn:
UfrVaq-wjXY-00034-00020424-00021004 Yn creu trosedd newydd – nid yw’n gwneud mwy na dileu'r amddiffyniad cosb resymol.
UfrVaq-wjXY-00035-00021100-00021836 Ddim yn atal rhieni rhag disgyblu eu plant – mae gwahaniaeth mawr rhwng disgyblu a chosb gorfforol.
UfrVaq-wjXY-00036-00021920-00022596 Ddim yn ymyrryd â gallu rhiant i fod yn rhiant – gall rhieni, wrth gwrs, ymyrryd yn gorfforol,
UfrVaq-wjXY-00037-00022622-00023356 i gadw plentyn yn ddiogel rhag niwed, er enghraifft, neu ei helpu i wisgo neu frwsio dannedd.
UfrVaq-wjXY-00038-00023478-00023640 Beth sy'n digwydd nesaf?
UfrVaq-wjXY-00039-00023684-00024132 Mae'r Senedd wedi pleidleisio i ddileu'r amddiffyniad cosb resymol
UfrVaq-wjXY-00040-00024138-00024604 a bydd y Ddeddf yn dod i rym ym mis Mawrth 2022.
UfrVaq-wjXY-00041-00024676-00025282 Rhwng nawr a hynny, cynhelir ymgyrch i roi gwybod i’r cyhoedd am y newid yn y gyfraith,
UfrVaq-wjXY-00042-00025308-00025682 gyda hysbysebion teledu, radio a digidol.
UfrVaq-wjXY-00043-00025789-00026626 Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio gyda rhieni a phlant yn gwybod am y newid i'r gyfraith.
UfrVaq-wjXY-00044-00026720-00027144 Bydd Grŵp o arbenigwyr yn goruchwylio'r gwaith cyfathrebu.
UfrVaq-wjXY-00045-00027216-00027768 Byddwn hefyd yn gweithio gyda’r sefydliadau a fydd yn gweithredu'r newid yn y gyfraith.
UfrVaq-wjXY-00046-00027844-00028870 Bydd y Grŵp Gweithredu Strategol yn goruchwylio ac yn gwneud argymhellion i sicrhau y caiff y ddeddfwriaeth ei gweithredu’n ymarferol ac yn effeithiol.
UfrVaq-wjXY-00047-00028906-00029394 Caiff y gwaith mwy manwl ei reoli gan bedwar grŵp gorchwyl a gorffen.
UfrVaq-wjXY-00048-00029438-00029582 Mae’r oes wedi newid.
UfrVaq-wjXY-00049-00029600-00029800 Mae agweddau wedi newid.
UfrVaq-wjXY-00050-00029832-00030238 Does dim lle i gosbi plant yn gorfforol yng Nhymru heddiw.
UfrVaq-wjXY-00051-00030318-00030756 I gael mwy o wybodaeth am stopio cosbi corfforol, ewch i:
UfrVaq-wjXY-00052-00030770-00031268 llyw.cymru/stopiocosbicorfforol
UfrVaq-wjXY-00053-00031326-00031916 I gael cyngor positif am rianta ewch i Magu Plant. Rhowch amser iddo.