Datasets:

ArXiv:
License:
yodas / data /cy000 /text /00000006.txt
xinjianl's picture
Upload folder using huggingface_hub
2da0bc5 verified
raw
history blame
48.3 kB
3i4-y5pBJgI-00000-00000000-00000247 Dyw COVID-19 ddim wedi diflannu.
3i4-y5pBJgI-00001-00000247-00000750 Dyma rai ffyrdd rhwydd o amddiffyn eich hun ac eraill.
3i4-y5pBJgI-00002-00000750-00001204 1. Mae'n fwy diogel cwrdd ag eraill y tu allan.
3i4-y5pBJgI-00003-00001204-00001748 Os ydych chi’n cwrdd y tu mewn, ewch i rywle sydd wedi'i awyru'n dda ac nad yw'n rhy brysur.
3i4-y5pBJgI-00004-00001748-00002419 2. Ystyriwch wisgo masg wyneb mewn lleoedd prysur neu gaeedig.
3i4-y5pBJgI-00005-00002419-00003059 3. Golchwch eich dwylo'n rheolaidd gyda dŵr poeth a sebon
3i4-y5pBJgI-00006-00003059-00003583 a gorchuddio’ch ceg a'ch trwyn wrth besychu neu disian.
3i4-y5pBJgI-00007-00003583-00003913 4.Arhoswch gartref os ydych chi’n teimlo'n sâl
3i4-y5pBJgI-00008-00003913-00004914 a cheisiwch gadw draw oddi wrth unrhyw un sydd â risg uwch o ddal COVID-19 neu’r ffliw.
3i4-y5pBJgI-00009-00004914-00005592 5. Gofalwch eich bod wedi'ch brechu'n llawn, gan gynnwys unrhyw bigiadau atgyfnerthu.
3i4-y5pBJgI-00010-00005592-00005999 Diogelu Cymru gyda'n gilydd. llyw.cymru/DiogeluCymru
8RNyWL1p8Fu-00000-00000800-00001120 Helo, Marian ydw i o grŵp Gwirfoddolwyr Coetir Cilfái.
8RNyWL1p8Fu-00001-00001120-00001720 Rydyn ni yma heddiw yng Nghanolfan Ymwelwyr Crymlyn. Rydyn ni wrth ein bodd yma. Mae wedi bod yn bwysig iawn i’n grŵp.
8RNyWL1p8Fu-00002-00001720-00002020 Mae yna gymaint o bethau yma sy’n wych i’w defnyddio.
8RNyWL1p8Fu-00003-00002020-00003120 Rydyn ni’n gwneud tipyn o waith crefft yn y ganolfan ymwelwyr ond rydyn ni hefyd yn gwneud llawer o waith ar Fryn Cilfái i ofalu am y llwybrau troed a’i wneud yn fwy hygyrch i bobl.
8RNyWL1p8Fu-00004-00003120-00004620 Mae’n ddiamau fod y bryn yma a’r ardal hon – Cors Crymlyn – yn bwysig iawn ar gyfer pobl leol ac rydyn ni’n ceisio annog pobl leol i ddeall pa mor arbennig yw’r lle.
8RNyWL1p8Fu-00005-00004620-00006520 Mae CNC wedi cael arian i gynnal a chadw Cors Crymlyn. Mae’n wych ei fod wedi cael arian i ofalu am yr holl ardal a’i gwneud hyd yn oed yn well ar gyfer pobl leol a phawb sydd eisiau dod a mwynhau byd natur a’r holl fywyd gwyllt sydd yma.
8RNyWL1p8Fu-00006-00006520-00007120 Rydyn ni’n awyddus i gymryd rhan yn y prosiect yma i ofalu am y gors gan ei bod yn bwysig iawn i ni
8RNyWL1p8Fu-00007-00007120-00008220 – dim ond gwirfoddolwyr cymunedol ydyn ni ond rydyn ni eisiau gweithio gyda CNC i wneud yn siŵr fod y lle yma hyd yn oed yn well nag y mae heddiw.
bwZdDfPoBAc-00000-00000000-00000352 Rydyn ni i gyd yn cyffwrdd â llawer o wahanol bethau drwy gydol y dydd.
bwZdDfPoBAc-00001-00000352-00000866 Os oes gennych chi feirws ar eich dwylo, gall gael ei drosglwyddo
bwZdDfPoBAc-00002-00000866-00001370 i'r arwynebau hynny, neu i'ch llygaid, eich trwyn neu'ch ceg
bwZdDfPoBAc-00003-00001370-00001904 Mae hyn yn galluogi feirysau fynd i mewn i'ch corff....
bwZdDfPoBAc-00004-00001904-00002422 ac achosi haint.
bwZdDfPoBAc-00005-00002422-00002908 Mae golchi ein dwylo’n rheolaidd gyda dŵr poeth a sebon, neu gyda hylif diheintio dwylo,
bwZdDfPoBAc-00006-00002908-00003437 yn cael gwared ar feirysau a germau eraill
bwZdDfPoBAc-00007-00003437-00003944 Mae hyn yn golygu ein bod yn llai tebygol o ledaenu feirysau i eraill,
bwZdDfPoBAc-00008-00003944-00004464 neu i gael ein heintio ein hunain.
bwZdDfPoBAc-00009-00004464-00004962 Mae golchi ein dwylo yn ffordd hawdd o amddiffyn ein hunain a'r bobl o'n cwmpas
bwZdDfPoBAc-00010-00004962-00005505 Diogelu Cymru gyda'n gilydd. llyw.cymru/DiogeluCymru
eRr5uVhPNPQ-00000-00000043-00000515 Pan wyt ti'n prynu tybaco anghyfreithlon, nid ti yw'r unig un mae'r deliwr eisiau gwerthu iddo.
eRr5uVhPNPQ-00001-00000515-00000928 Mae eisiau i werthu i blant hefyd, a 'sdim ots ganddo ba mor ifanc.
eRr5uVhPNPQ-00002-00001013-00001603 Mae gwerthwyr tybaco anghyfreithlon yn targedu a gwerthu i blant i wneud nhw'n gaeth i sigaréts.
eRr5uVhPNPQ-00003-00001649-00002029 Dweud wrthym am y rhai sy'n gwerthu tybaco anghyfreithlon yn dy ardal di.
eRr5uVhPNPQ-00004-00002066-00002325 Os gweler di yn cael ei werthu, rho' wybod nawr.
eRr5uVhPNPQ-00005-00002348-00002718 Cer i, dimesgus-byth.co.uk
eRr5uVhPNPQ-00006-00002754-00002981 Bydda di'n aros yn 100% dienw.
fC1cnBoZrZU-00000-00000180-00000596 Mae’n gallu bod yn anodd dod o hyd i weithwyr sydd â’r sgiliau cywir.
fC1cnBoZrZU-00001-00000596-00001034 Ond mae ffordd arall – ffordd ddoethach.
fC1cnBoZrZU-00002-00001034-00001348 Gwnewch ddewis doeth a recriwtiwch brentis.
fC1cnBoZrZU-00003-00001348-00001850 Gallwch chi greu cyflenwad o ddoniau ffresh, meithrin gweithlu brwd a medrus,
fC1cnBoZrZU-00004-00001850-00002144 a diogelu dyfodol eich busnes.
fC1cnBoZrZU-00005-00002144-00002954 Gwnewch Ddewis Doeth. Chwiliwch ‘Prentisiaethau Cymru’ neu 03000 6 03000.
jQhXrayK1iY-00000-00000431-00000862 *cri'r gylfinir*
jQhXrayK1iY-00001-00000900-00001468 Mae’r gylfinir yn aderyn sy’n gyfarwydd i nifer fawr o bobl yng Nghymru.
jQhXrayK1iY-00002-00001468-00001887 Mae ei galwad hi wrth i’r adar ddod i fyny i'r ucheldir yn y gwanwyn i fagu
jQhXrayK1iY-00003-00001887-00002421 yn alwad sydd i lawer o bobl yn golygu fod y gwanwyn wedi cyrraedd.
jQhXrayK1iY-00004-00002458-00002960 Yng Nghymru, fel nifer o wledydd eraill ym Mhrydain ac yn Ewrop
jQhXrayK1iY-00005-00002960-00003576 mae nifer y gylfinir wedi lleihau yn syfrdanol yn ystod yr 20 mlynedd diwethaf.
jQhXrayK1iY-00006-00003576-00004254 Mae’r niferoedd yng Nghymru yn bellach, ’da ni’n amau, rhwng 300-400 o barau ym magu.
jQhXrayK1iY-00007-00004254-00004753 Yn y gorffennol oedd y nifer yna rhyw 1,500 a cyn hynny rhyw 3,000 o adar.
jQhXrayK1iY-00008-00004800-00005304 Felly mae’r gylfinir mewn sefyllfa anfoddus iawn ar hyn o’r bryd.
jQhXrayK1iY-00009-00005887-00006749 Mae’r rheswm pam bod y gylfinir yn lleihau yn gymhleth. Mae yna nifer o ffactorau yn gweithio yn ei erbyn hi.
jQhXrayK1iY-00010-00006795-00007250 Mae hi’n aderyn sy’n byw yn hir iawn, yn gallu byw am 20 mlynedd,
jQhXrayK1iY-00011-00007250-00007881 ond yn anffodus tydi’r parau sydd gyna ni ddim yn cynhyrchu digon o gywion.
jQhXrayK1iY-00012-00007881-00008514 Mae angen i bob pâr cynhyrchu o leiaf un cyw bob yn ail flwyddyn er mwyn cynnal y boblogaeth
jQhXrayK1iY-00013-00008526-00008934 a dydyn ni ddim yn cynhyrchu hynny ar hyn o’r bryd.
jQhXrayK1iY-00014-00008934-00009134 Mae yna nifer o resymau am hynny.
jQhXrayK1iY-00015-00009134-00009544 Un ydi ysglyfaethwyr – ‘da ni’n gwybod bod llwynogod a brain
jQhXrayK1iY-00016-00009544-00010046 yn gallu effeithio unrhyw aderyn sydd yn nythu ar y ddaear, gan gynnwys y gylfinir.
jQhXrayK1iY-00017-00010046-00010592 Hefyd yn y byd sydd ohoni, mae’r byd amaethyddol hefyd wedi newid.
jQhXrayK1iY-00018-00010753-00011125 Mae rhan fwyaf o ffermwyr rŵan yn cynhaeafu cnwd o wair neu silwair
jQhXrayK1iY-00019-00011125-00011430 yn gynt nag oedden nhw’n draddodiadol.
jQhXrayK1iY-00020-00011817-00012131 O ran y gwaith sydd yn cael eu gwneud ar gyfer y gylfinir,
jQhXrayK1iY-00021-00012131-00012760 mae yna 12 Ardal arbennig trwy Gymru lle mae pobl yn gweithio er budd y gylfinir.
jQhXrayK1iY-00022-00012760-00013180 ‘Da ni’n sefyll ym Mryniau Clwyd yn fan hyn sydd yn un o’r ardaloedd hynny.
jQhXrayK1iY-00023-00013180-00013611 Pethau ‘da ni’n gallu gwneud ydi rheoli’r cynefin.
jQhXrayK1iY-00024-00013611-00014108 Gwneith yr aderyn ddim nythu os mae’r llystyfiant yn rhy dal neu drwchus.
jQhXrayK1iY-00025-00014108-00014578 Mae hi angen gallu gweld yn glir o’i nyth. Felly ‘da ni’n medru mynd ati i reoli’r cynefin.
jQhXrayK1iY-00026-00014593-00015521 Rhywbeth arall allwn wneud ydi ffensio'r nyth hefo’r wyau hefo ffens drydan tra bod yr iâr yn gori.
jQhXrayK1iY-00027-00015521-00016214 Mae hynny wedyn yn diogelu’r nyth rhag unrhyw greadur sydd ar y ddaear yn ystod y cyfnod yna.
jQhXrayK1iY-00028-00016214-00017177 Un o’r ardaloedd lle ‘da ni gwneud hynny ydi Gwarchodfa Fenn’s Whixall sydd ar y ffin rhwng Cymru a Lloegr yn ardal Wrecsam.
jQhXrayK1iY-00029-00017177-00018017 Gwaith arall sydd yn digwydd yn fan yna ydi ein bod ni’n dal yr adar a rhoi teclyn GPS arnyn nhw.
jQhXrayK1iY-00030-00018017-00018614 Mae hwnnw wedyn yn gyrru gwybodaeth bob pum munud o be mae’r aderyn yna yn ei wneud.
jQhXrayK1iY-00031-00018614-00019581 Yn ystod y tymor nythu ‘da ni’n dysgu ble mae’r aderyn yn nythu, yn bwydo a pha ardaloedd maen nhw’n ei ddefnyddio ac yn ei osgoi.
jQhXrayK1iY-00032-00019646-00020255 Mae hwn yn bwysig iawn i ni allu helpu i reoli’r cynefinoedd yn gywir.
jQhXrayK1iY-00033-00020730-00021559 O ran beth allwch chi wneud i helpu’r gylfinir, y cam gyntaf i’w helpu nhw yw gwybod lle mae’r adar.
jQhXrayK1iY-00034-00021641-00022434 Mae’r niferoedd mor isel erbyn hyn bod hi’n bwysig gwybod lle mae bob un pâr yn nythu yng Nghymru ar hyn o’r bryd.
jQhXrayK1iY-00035-00022434-00023185 Felly os ydych chi’n dirfeddiannwr neu’n ffarmwr, plîs gadewch i ni wybod os oes gennych chi gylfinir ar eich tir.
jQhXrayK1iY-00036-00023185-00023871 I bobl sydd allan yn y mynyddoedd dros y gwanwyn a’r haf, ac i’r heini sydd wedi arfer cofnodi,
jQhXrayK1iY-00037-00023871-00024593 plîs rhowch eich cofnodion i mewn i system Cofnod yn y Gogledd ac i weddill Cymru hefyd.
jQhXrayK1iY-00038-00024593-00025293 I ddweud y gwir, i unrhyw un sydd allan yn cerdded yng nghefn gwlad Cymru dros y gwanwyn a’r haf
jQhXrayK1iY-00039-00025293-00025901 os ‘da chi’n ymwybodol lle mae yna ylfinir – rhowch wybod gan mai dyma’r cam gyntaf i allu ddechrau helpu’r adar yma.
jQhXrayK1iY-00040-00026331-00026814 *cri'r gylfinir*
k0qvEUTPq7M-00000-00000000-00000260 I wella’n gyflymach ar ôl triniaeth
k0qvEUTPq7M-00001-00000260-00000668 dechreuwch drwy gadw mor ffit ac iach â phosibl
k0qvEUTPq7M-00002-00000668-00001104 I gael tips a chyngor ar ffordd iach o fyw wrth aros am driniaeath, ewch i GIG 111 Cymru.
k0qvEUTPq7M-00003-00001104-00001500 Chi sy’n dechrau’r daith at fod yn iach.
u0nCoH5_eCu-00000-00000404-00000558 Mae ein hamgylchedd gwych,
u0nCoH5_eCu-00001-00000562-00000944 gyda'i holl adnoddau naturiol cysylltiedig, yn cynnnal ein heconomi;
u0nCoH5_eCu-00002-00000964-00001250 yn denu buddsoddiad a thwristiaeth; ac yn rhoi popeth
u0nCoH5_eCu-00003-00001256-00001510 yr ydym ni a'n cymunedau ei angen i ffynnu:
u0nCoH5_eCu-00004-00001534-00001914 Ond mae'r pwysau ar ein hadnoddau naturiol yn cynyddu
u0nCoH5_eCu-00005-00001918-00002252 dyna pam bod gennym bellach Ddeddf yr Amgylchedd.
u0nCoH5_eCu-00006-00002438-00002774 Mae hyn yn helpu i sicrhau ein bod i gyd yn cydweithio
u0nCoH5_eCu-00007-00002790-00003290 i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy a'u cadw yn iach a chynhyrchiol.
u0nCoH5_eCu-00008-00003310-00003610 Trwy fabwysiadu agwedd mwy cydgysylltiedig
u0nCoH5_eCu-00009-00003618-00003918 mae hynny’n golygu y gall ein hadnoddau naturiol barhau
u0nCoH5_eCu-00010-00003920-00004096 i gynnig manteision inni i gyd
u0nCoH5_eCu-00011-00004114-00004408 creu cyfleoedd ar gyfer busnesau a chymunedau
u0nCoH5_eCu-00012-00004412-00004624 ac, yn hollbwysig, mae’n helpu
u0nCoH5_eCu-00013-00004624-00005008 inni addasu i'r newid yn yr hinsawdd a chynyddu bioamrywiaeth.
u0nCoH5_eCu-00014-00005134-00005386 Mae’r Ddeddf yn sefydlu pwerau newydd -
u0nCoH5_eCu-00015-00005390-00005744 i helpu i sicrhau bod busnesau, cyrff cyhoeddus,
u0nCoH5_eCu-00016-00005760-00006312 a chymunedau yn gweithredu mewn ffordd sy'n rheoli ein hadnoddau naturiol yn gyfrifol.
u0nCoH5_eCu-00017-00006342-00006528 Mae’r Ddeddf yn cysylltu popeth -
u0nCoH5_eCu-00018-00006542-00006848 drwy gefnogi llawer o fentrau ehangach sy'n helpu
u0nCoH5_eCu-00019-00006858-00007198 i hybu ein heconomi a gwella ein hamgylchedd.
u0nCoH5_eCu-00020-00007342-00007745 I’n helpu i reoli ein hadnoddau naturiol yn gynaliadwy,
u0nCoH5_eCu-00021-00007745-00007995 mae Deddf yr Amgylchedd yn arwain at:
u0nCoH5_eCu-00022-00008045-00008334 Adroddiad ar gyflwr adnoddau naturiol Cymru
u0nCoH5_eCu-00023-00008338-00008524 i wella ein tystiolaeth
u0nCoH5_eCu-00024-00008710-00009050 Polisi Cenedlaethol ar gyfer Adnoddau Naturiol
u0nCoH5_eCu-00025-00009054-00009376 i bennu risgiau, blaenoriaethau a chyfleoedd
u0nCoH5_eCu-00026-00009520-00009976 Datganiadau ardal syn nodi’r risgiau, y blaenoriaethau
u0nCoH5_eCu-00027-00009982-00010372 a’r cyfleoedd i adnoddau naturiol mewn ardal benodol
u0nCoH5_eCu-00028-00010548-00010996 Mae hefyd yn gwneud newidiadau positif i'r ffordd yr ydym yn rheoli
u0nCoH5_eCu-00029-00011006-00011230 adnoddau eraill yng Nghymru, er enghraifft:
u0nCoH5_eCu-00030-00011248-00011832 Helpu i leihau allyriadau yng Nghymru drwy bennu targedau newid yn yr hinsawdd
u0nCoH5_eCu-00031-00011890-00012264 Ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus ganfod ffyrdd
u0nCoH5_eCu-00032-00012274-00012522 o helpu i wella bioamrywiaeth
u0nCoH5_eCu-00033-00012548-00012897 Gwella'r cynllun presennol i godi tâl am fagiau siopa
u0nCoH5_eCu-00034-00012904-00013216 fel bod pobl yn ail - ddefnyddio mwy o fagiau siopa,
u0nCoH5_eCu-00035-00013226-00013484 yn ogystal â sicrhau bod yr arian sy'n cael
u0nCoH5_eCu-00036-00013484-00013768 ei godi yn cael ei roi i achosion da
u0nCoH5_eCu-00037-00013786-00014130 Gwella ein dull o reoli gwastraff drwy ein helpu
u0nCoH5_eCu-00038-00014136-00014402 i gyrraedd lefelau uwch o ailgylchu gwastraff,
u0nCoH5_eCu-00039-00014426-00014810 trin gwastraff bwyd mewn ffordd well ac adfer mwy o ynni.
u0nCoH5_eCu-00040-00015154-00015597 Daeth y Ddeddf yn gyfraith ym mis Mawrth 2016
u0nCoH5_eCu-00041-00016134-00016534 Cewch wybod mwy am Ddeddf yr Amgylchedd ar ein gwefan:
u0nCoH5_eCu-00042-00016690-00016912 Os ydych am dderbyn ein e-fwletin,
u0nCoH5_eCu-00043-00016912-00017100 anfonwch e-bost atom
_0rAfba24Ck-00000-00000002-00000350 Os nad wyt ti wedi trafod rhoi organau gyda dy deulu,
_0rAfba24Ck-00001-00000350-00000548 byddai nawr yn amser da i wneud.
_0rAfba24Ck-00002-00000564-00000752 Mae’n golygu na fydd dy fam yn...
_0rAfba24Ck-00003-00000752-00001000 Na! Mae’n fab i fi!
_0rAfba24Ck-00004-00001032-00001470 Newydd droi ei ddeunaw mae fe! Paid a cyffwrdd ag e!
_0rAfba24Ck-00005-00001550-00001750 Siarad am roi organau...
_0rAfba24Ck-00006-00001760-00001980 ...neu efallai y bydd rhywun arall yn siarad ar dy rhan.
A8KdU1jFjQM-00000-00000132-00000949 Dwi’di bod yn gweithio ar Llinyn 2 sef gweithio sail rhesymegol allan ar gyfer y celfyddydau
A8KdU1jFjQM-00001-00000949-00001476 mynegianol. O safbwynt yr ysgol dwi’n credu mae’n amser i’r pynciau sydd ynglwm gyda’r
A8KdU1jFjQM-00002-00001476-00002171 celfyddydau mynegianol ddod at ei gilydd a dechrau cyd-gynllynio drwy adnabod yr sgiliau
A8KdU1jFjQM-00003-00002171-00002623 sydd yn berthnasol i bob un o’r pynciau er mwyn symud ymlaen wedyn a chyd-greu unedau
A8KdU1jFjQM-00004-00002623-00002723 o waith.
A8KdU1jFjQM-00005-00002723-00003633 Rydym ni wedi bod yn edrych ar fodel o arfer dda mewn ysgolion rhyngwladol yn y maes celfyddydau
A8KdU1jFjQM-00006-00003633-00004061 mynegianol, a dod i’r gasgliad bod angen i ni edrych ar sgiliau sy’n hanfodol i’w
A8KdU1jFjQM-00007-00004061-00004983 datblygu yn y maes. I ni wedi ystyried cwestinynnau mawr gan ddod i’r casglaid mae beth sydd
A8KdU1jFjQM-00008-00004983-00005472 yn bwysig i’r celfyddydau mynegianol yw’r cwesitynnau mawr ‘ma, bod ni yn cynnig cyfleoedd
A8KdU1jFjQM-00009-00005472-00006142 i ddisgyblion i fod yn greadigol, i greu, i fynegu, i archwylio, i brofi ac i fyfyrio
A8KdU1jFjQM-00010-00006142-00006297 ynghylych ei gwaith hefyd.
A8KdU1jFjQM-00011-00006297-00006822 Mae’r grwp wedi cydnabod bod gan Gyngor Celfyddydau Cymru rhan allweddol i’w chwarae
A8KdU1jFjQM-00012-00006822-00007526 yn natblygiad y celfyddydau mynegianol yn yr ysgolion. Drwy edrych ar y prosiect ysgolion
A8KdU1jFjQM-00013-00007526-00008250 creadigol arweiniol rhi ni wedi defynyddio nifer fawr o syniadau mae’r Cyngor Celfyddydau
A8KdU1jFjQM-00014-00008250-00009046 wedi datblygu ynglyn a datblygu arferion creadigol ymysg dysgyblion er mwyn hybu ei creadigrwydd
A8KdU1jFjQM-00015-00009046-00009146 nhw.
A8KdU1jFjQM-00016-00009146-00009565 Mae’r celfyddydau mynegianol yn cwmpasi nifer o feysydd – celf, drama, cerddoriaeth,
A8KdU1jFjQM-00017-00009565-00010564 ffilm a cyfryngau digidol a dawns, ac felly yr hyn da ni wedi edrych at wneud yw ddod
A8KdU1jFjQM-00018-00010564-00011225 at ein gilydd a gweld pa sgiliau sy’n draws dysgyblaethol ymysg y meisydd hynny i gyd,
A8KdU1jFjQM-00019-00011225-00011897 ac wedi sylweddoli bod pob un o’r meysydd yma yn cynnig cyfleoedd i ddisgyblion i arbrofi,
A8KdU1jFjQM-00020-00011897-00012601 i ymchwylio, i greu, i berfformio ac i fyfyrio yn feirniadol wedyn ar y diwedd.
A8KdU1jFjQM-00021-00012601-00013147 Mae e wedi bod yn her gweithio allan beth yw’n blaenoriaethau ni fel grwp yn gweithio
A8KdU1jFjQM-00022-00013147-00013743 yn y maes yma, ond dwi’n credu mae’r cam pwysica’ i ni wedi cymryd yw dod i gytundeb
A8KdU1jFjQM-00023-00013743-00014435 ynglyn a’r sgiliau trwas ddisgybliaethol ‘ma sydd yn berthnasol i bob pwnc yn y maes
A8KdU1jFjQM-00024-00014435-00014535 celfyddydau mynegianol.
A8KdU1jFjQM-00025-00014535-00015055 Mae’n hanfodol bwysig ein bod ni nawr yn edrych ar y camau cynydd ac yn gweithio gyda
A8KdU1jFjQM-00026-00015055-00015691 chymwysterau Cymru er mwyn sicrhau bod y lefel o her yn briodol ar gyfer disgyblion. Mae’n
A8KdU1jFjQM-00027-00015691-00016406 bwysig hefyd i ni fel arloeswyr weithio yn ein ysgolion yn treialu ac yn arbrofi gyda
A8KdU1jFjQM-00028-00016406-00016970 dyllau dysgu newydd a wedyn sefydlu cymynedau dysgu profesiynol er mwn rhannu y wybodaeth
A8KdU1jFjQM-00029-00016970-00017650 a rhannu profiadau a chynorthwyo ysgolion sydd ar fin dechrau ar y broses.
GtcV1877y6y-00000-00000034-00000521 Os wyt ti newydd adael yr ysgol, am newid gyrfa neu ddychwelyd i’r byd gwaith.
GtcV1877y6y-00001-00000521-00000794 Gwna ddewis doeth – bydd yn brentis.
GtcV1877y6y-00002-00000794-00001077 Swydd go iawn lle byddi di’n ennill arian wrth ddysgu,
GtcV1877y6y-00003-00001077-00001440 gan ddatblygu sgiliau arbenigol a chael profiad ymarferol,
GtcV1877y6y-00004-00001440-00001757 hyfforddiant heb ei ail a chyfleoedd i gamu mlaen.
GtcV1877y6y-00005-00001757-00002156 Ac fe fyddi di’n gweithio tuag at y cymwysterau mae cyflogwyr eu hangen.
GtcV1877y6y-00006-00002156-00002382 Prentisiaethau. Dewis doeth.
GtcV1877y6y-00007-00002382-00002958 Chwilia am Prentisiaethau Dewis Doeth neu ffonia dim wyth mil, dau ddeg wyth, pedwar deg wyth, pedwar deg pedwar.
HgWYMLnQTOg-00000-00000026-00000477 Wyt ti rhwng 16-24 oed ac eisiau roi hwb i dy yrfa?
HgWYMLnQTOg-00001-00000477-00000696 Yr ateb yw Twf Swyddi Cymru.
HgWYMLnQTOg-00002-00000696-00001084 Ar ôl graddio, doedd Josie ddim yn siwr pa yrfa i’w dewis.
HgWYMLnQTOg-00003-00001084-00001478 Newidiodd hynny pan ymgeisiodd am gyfle Twf Swyddi Cymru
HgWYMLnQTOg-00004-00001478-00001897 mewn clinig ffisiotherapi a syrthiodd mewn cariad â'r swydd.
HgWYMLnQTOg-00005-00001897-00002470 Mae Josie bellach yn rheolwr yn yr un clinig ac yn astudio i ddod yn ffisiotherapydd ei hunan.
HgWYMLnQTOg-00006-00002470-00002689 I ddod o hyd i yrfa rwyt ti’n ei charu,
HgWYMLnQTOg-00007-00002689-00002851 chwilia am Twf Swyddi Cymru.
J44e-H3lj-8-00000-00000354-00000783 Os nad wyt ti’n siŵr sut i gael dy droed i mewn i’r yrfa rwyt ti eisiau, paid â
J44e-H3lj-8-00001-00000783-00001205 phoeni: mae na wastad ffordd o wneud i bethau ddigwydd.
J44e-H3lj-8-00002-00001205-00001698 Pan oedd Eli bron yn undeg-chwech, sylweddolodd fod angen iddo edrych y tu hwnt i’r ysgol
J44e-H3lj-8-00003-00001698-00002177 er mwyn gallu symud ymlaen gyda’r pethau roedd e’n mwynhau.
J44e-H3lj-8-00004-00002177-00002554 Dilynodd brentisiaeth mewn mecaneg am dair blynedd.
J44e-H3lj-8-00005-00002554-00003215 Fel prentis, ti’n ennill cyflog wrth ddysgu ac yn cael llwyth o brofiad ymarferol.
J44e-H3lj-8-00006-00003215-00003502 Mae Eli wedi mynd o nerth i nerth ers hynny.
J44e-H3lj-8-00007-00003502-00004138 Mae e nawr yn hynod fedrus, yn llawn hyder ... ac yn ddiweddar, fe ddechreuodd ei fusnes
J44e-H3lj-8-00008-00004138-00004246 ei hun.
J44e-H3lj-8-00009-00004246-00004932 Os wyt ti am lansio gyrfa anhygoel a chael dy hyfforddi wrth weithio – yr ateb yw prentisiaeth.
KJCFARzgs4g-00000-00000112-00000520 Mae bod yn rhiant yn rhoi profiadau gwerthfawr ond nid yw wastad yn beth hawdd.
KJCFARzgs4g-00001-00000578-00001388 Mae cymryd yr amser i chwarae, siarad, gwrando, annog a rhoi clod yn gallu helpu i wneud tasgau bob dydd ychydig yn haws.
KJCFARzgs4g-00002-00001530-00001805 Felly os hoffech chi ddod o hyd i ffyrdd newydd o gael
KJCFARzgs4g-00003-00001839-00001998 Amser bwyd heb y bloeddio
KJCFARzgs4g-00004-00002054-00002188 Siopa heb y strancio
KJCFARzgs4g-00005-00002248-00002378 Amser bath heb y dagrau
KJCFARzgs4g-00006-00002430-00002612 …ac amser gwely heb y brwydrau
KJCFARzgs4g-00007-00002670-00002986 ewch i llyw.cymru/rhowchamseriddo
Rl2Sfb5GTqk-00000-00007423-00008348 Y diwydiant creadigol yw un o’r 23 sector prentisiaeth, a dyma fydd ein ffocws yn yr adnodd hwn.
Rl2Sfb5GTqk-00001-00008819-00009124 Theatr Genedlaethol Cymru y’n ni, sef cwmni
Rl2Sfb5GTqk-00002-00009124-00009871 cynhyrchu yn yr iaith Gymraeg. Ry’n ni’n cynhyrchu sioeau i deithio ar hyd a lled Cymru,
Rl2Sfb5GTqk-00003-00009871-00010454 a hefyd yn rhyngwladol. Ry’n ni’n teithio i wahanol ganolfannau a theatrau ac yn cynhyrchu
Rl2Sfb5GTqk-00004-00010454-00010727 ambell beth safle-benodol hefyd.
Rl2Sfb5GTqk-00005-00010727-00011442 Felly ni’n gweld e’n bwysig iawn yn y Theatr Genedlaethol i ddatblygu sgiliau, i fentora pobol o fewn y sector
Rl2Sfb5GTqk-00006-00011442-00012385 ac i annog pobol i ddod i mewn i’r sector theatr; mae e’n bwysig iawn i ni, a ddim mor hir yn ôl gawson
Rl2Sfb5GTqk-00007-00012385-00012917 ni brentis technegol, ac fe wnaeth e gael amryw o brofiadau o fewn y sector.
Rl2Sfb5GTqk-00008-00013338-00014006 Morgan James o Lambed ydw i, a dwi’n ddeunaw mlwydd oed. Tua blwyddyn a hanner yn ôl nes
Rl2Sfb5GTqk-00009-00014006-00014545 i bennu prentisiaeth gyda’r Theatr Gen yng Nghaerfyrddin. Prentis technegol o’n i jyst
Rl2Sfb5GTqk-00010-00014545-00014845 yn dysgu pethau am y llwyfan, a nawr fi’n llawrydd a fi’n joio gweithio yn y maes.
Rl2Sfb5GTqk-00011-00015040-00015526 Cwpwl o flynyddoedd yn ôl wnes i actually wneud ’bach o brofiad gwaith ac wedyn wnes
Rl2Sfb5GTqk-00012-00015526-00015940 i weld y cynllun yma, a wnes i eistedd lawr a meddwl ‘actually ma hwnna’n rili good
Rl2Sfb5GTqk-00013-00015940-00016369 opportunity’ a wnes i fynd amdano fe straight away.
Rl2Sfb5GTqk-00014-00016724-00017367 Wnes i ffeindio’r brentisiaeth drwy un o bobl lle o’n i’n cael profiad gwaith; wnaeth e dagio fi ar Facebook yn dweud ‘cer
Rl2Sfb5GTqk-00015-00017367-00017812 am hwn nawr’, ac wrth weld hwnna nes i fynd trwy wefan Llywodraeth Cymru a wnes i ddysgu
Rl2Sfb5GTqk-00016-00017812-00018303 lot o hwnna er mwyn helpu fi trwyddo, i gael dewis i fynd amdano fe.
Rl2Sfb5GTqk-00017-00018779-00019256 Y Tad oedd y cynhyrchiad cyntaf wnes i weld gyda Theatr Gen; o’n i’n dysgu popeth,
Rl2Sfb5GTqk-00018-00019256-00019651 bob tro o’n i’n cerdded mewn i’r ystafell ymarfer neu fynd i helpu nhw mewn lle arall,
Rl2Sfb5GTqk-00019-00019651-00020171 o’n i’n dysgu gymaint o bethau fel shwt i roi golau lan, shwt i neud hyn, lle i roi’r
Rl2Sfb5GTqk-00020-00020171-00020811 speaker ’na ac fel i neud hyn, ac o’dd hyn jyst yn agoriad llygad i fi.
Rl2Sfb5GTqk-00021-00020992-00021505 O’n i’n lwcus iawn fel prentis i actually cael mynd ar un o’r teithiau, a’r daith ’na o’dd Estron,
Rl2Sfb5GTqk-00022-00021505-00022104 ac ar hwnna o’dd un bachgen yn gweithio efo fi, Dan, technegwr,
Rl2Sfb5GTqk-00023-00022104-00022800 ond o’dd eisiau rhywun i helpu fe, felly wnes i wneud popeth, wnaeth e ddysgu gymaint
Rl2Sfb5GTqk-00024-00022800-00023244 i fi, wnes i wneud y golau yn rhai llefydd, sain, o’dd fideos gyda ni, felly o’n i’n neud hwnna.
Rl2Sfb5GTqk-00025-00023244-00023715 ‘’Dim sialens’’ Wyt ti really’n mynd i agor drama yn wafflo am Ikea?
Rl2Sfb5GTqk-00026-00023715-00024272 Wedyn jyst wrth fod fi’n bennu gyda Theatr
Rl2Sfb5GTqk-00027-00024272-00024656 Gen es i ar Nyrsys ’fyd ac o’n i’n gweithio ar sain rhif 2 ar hwnna, felly ar hwnna wnes
Rl2Sfb5GTqk-00028-00024656-00024941 i ddysgu; cyfle da iawn i mi, i actually mynd mas ar daith eto fel llawrydd, wedyn jyst
Rl2Sfb5GTqk-00029-00024941-00025282 yn dysgu mwy a mwy eto bob amser tra’n gweithio o dan bobl eraill.
Rl2Sfb5GTqk-00030-00025800-00026356 Fi’n credu mai’r manteision o fod yn brentis yn lot o bethau rili, y peth mwyaf yw bod
Rl2Sfb5GTqk-00031-00026356-00026768 yn hands-on. Wnaeth Theatr Gen roi actual cyfle i fi fod yn hands-on ac actually dysgu
Rl2Sfb5GTqk-00032-00026768-00027304 mas ar y job, achos o’n i ddim rili’n mynd i ddysgu lot yn unman arall. Ti ’mod,
Rl2Sfb5GTqk-00033-00027304-00027906 ti’n cerdded mewn i’r gwaith bob dydd a ma sialens newydd gyda ti, neu ma rhywbeth
Rl2Sfb5GTqk-00034-00027906-00028366 newydd gyda ti i neud, a ti ’mod fel prentis ma hwnna’n rili cŵl i neud, a ma sialens
Rl2Sfb5GTqk-00035-00028366-00028797 newydd da ti bob dydd, a ti’n cael dy dalu i neud e. Ma fe fel bod ti’n gweithio llawn
Rl2Sfb5GTqk-00036-00028797-00029027 amser, ond ti’n dysgu ’fyd. Ti’n gweithio rownd a dysgu ’fyd a ti’n ennill arian.
Rl2Sfb5GTqk-00037-00029027-00029439 Un peth da arall o’dd yr actual cymhwyster o gael rhywbeth ar ddiwedd y peth. So ti wedi
Rl2Sfb5GTqk-00038-00029439-00029769 neud y brentisiaeth, ond o’dd rhywbeth ’da ti wedyn, so o’dd Lefel 3 gyda fi mewn Sain,
Rl2Sfb5GTqk-00039-00029769-00030174 Goleuo a Llwyfan. Fi’n credu ti’n cael lot o annibyniaeth achos ti’n cael sialensau
Rl2Sfb5GTqk-00040-00030174-00030869 newydd bob dydd, ac maen nhw’n gweud ‘ma angen i ti wneud hyn’; falle tro’r cyntaf
Rl2Sfb5GTqk-00041-00030869-00031302 fydd rhywun yn helpu ti, a’r ail dro fydd rhywun yn gwylio ti’n neud e, ond y trydydd
Rl2Sfb5GTqk-00042-00031302-00031499 tro alli di fynd off ar ben dy hunan a neud e.
Rl2Sfb5GTqk-00043-00031499-00031836 Mantais arall fi’n credu yw’r holl gysylltiadau ti’n neud. Ti’n cwrdd â gwahanol bobl
Rl2Sfb5GTqk-00044-00031836-00032377 a ti’n gweld gwahanol ffyrdd o neud pethach. O’n i’n mwynhau bod yn rhan o dîm jyst
Rl2Sfb5GTqk-00045-00032377-00032818 achos o’t ti’n neud ffrindiau ac o’dd pawb yna i helpu ti. So o’dd pawb yn trial
Rl2Sfb5GTqk-00046-00032818-00033282 neud ti’n well a trial cael ti i neud ’bach yn well i neud ti’n barod i fynd mas ben
Rl2Sfb5GTqk-00047-00033282-00033676 dy hunan yn y diwedd.
Rl2Sfb5GTqk-00048-00034095-00034675 Mae ’na loads o wahanol brentisiaethau mas ’na, ac os y’ch chi’n meddwl fod e’n rhywbeth fydde chi’n joio, mae’n werth
Rl2Sfb5GTqk-00049-00034675-00035232 i chi edrych ar wefan Llywodraeth Cymru a dysgu mwy. Mae e fel mynd i goleg, rili, ond
Rl2Sfb5GTqk-00050-00035232-00035674 chi’n cael arian amdano fe a hands-on experience.
Rl2Sfb5GTqk-00051-00035674-00036203 Felly fe wnaeth Morgan fwynhau ei brentisiaeth gyda ni.
Rl2Sfb5GTqk-00052-00036203-00036871 Fe wnaeth e ganolbwyntio ar yr elfen sain ac fe aeth e ati i weithio gyda ni ar
Rl2Sfb5GTqk-00053-00036871-00037202 sioe gerdd hefyd ar ddiwedd ei brentisiaeth fel peiriannydd sain. Mae sawl swydd wahanol
Rl2Sfb5GTqk-00054-00037202-00038063 yn bodoli o fewn y sector ac o fewn yr adran gynhyrchu hefyd, fel gwisgoedd, goleuo, creu
Rl2Sfb5GTqk-00055-00038063-00038737 fideo, adeiladu set yn ogystal hefyd â sain, sef beth wnaeth Morgan fwynhau fwyaf.
Rl2Sfb5GTqk-00056-00039130-00039915 Helô! Dan ydw i, a dwi’n gynllunydd sain ac yn gyfansoddwr cerdd i'r theatr. Mae cynllunydd
Rl2Sfb5GTqk-00057-00039915-00040462 sain angen sgiliau creadigol a thechnegol i weithio ar sioe theatr. Yn greadigol, bydd
Rl2Sfb5GTqk-00058-00040462-00041071 angen i fi siarad gyda’r cyfarwyddwr artistig, cynllunydd y set a’r gwisgoedd, a’r cynllunydd
Rl2Sfb5GTqk-00059-00041071-00041555 goleuo hefyd, er mwyn trafod ffordd fydd y cynhyrchiad yn sowndio ac yn edrych a theimlo
Rl2Sfb5GTqk-00060-00041555-00042215 – beth yw’r asthetic? Falle bydd hi’n fodern ac arbrofol, neu falle’n hanesyddol
Rl2Sfb5GTqk-00061-00042215-00042815 ac angen swnio’n gywir i’r cyfnod. Falle bydd hi’n sioe gerdd gyda band, neu’n
Rl2Sfb5GTqk-00062-00042815-00043436 bantomeim. Gwyliwch y clip yma o set yn cael ei newid yn ystod sioe. A sylwch ar y sain
Rl2Sfb5GTqk-00063-00043436-00043974 a’r golau’n cydweithio â’r set a’r gwisgoedd. Mae’r amser mae'n cymryd i gael popeth yn ei le
Rl2Sfb5GTqk-00064-00043974-00044738 wedi cael ei nodi’n fanwl, a’r newidiadau yn y sain a’r goleuo wedi eu rhaglennu i gyd-fynd yn dynn.
Rl2Sfb5GTqk-00065-00046560-00046958 Ynglŷn â’r elfen dechnegol, mi fydda i’n
Rl2Sfb5GTqk-00066-00046958-00047274 sgwrsio gyda’r tîm cynhyrchu am bethau fel: a fyddwn ni’n teithio, neu’n aros
Rl2Sfb5GTqk-00067-00047274-00047859 mewn un theatr? Oes ’na fand neu fiwsig byw yn y sioe? Pa speakers a meicroffons sydd
Rl2Sfb5GTqk-00068-00047859-00048360 angen? Oes angen llogi reidio meics neu ddesg cymysgu ddigidol ffansi? Pwysig iawn yw trafod
Rl2Sfb5GTqk-00069-00048360-00049019 faint o arian sydd yn y budget ar gyfer y sain. Mae cynhyrchiad yn gallu bod mor fach
Rl2Sfb5GTqk-00070-00049019-00049665 ag un actor ar lwyfan yn siarad, ac eto mor fawr â sioe gerdd West End efo cast enfawr
Rl2Sfb5GTqk-00071-00049665-00050095 a cherddorfa. Dwi am ddangos ychydig o esiamplau i chi o’r
Rl2Sfb5GTqk-00072-00050095-00050568 ffordd mae sain a cherddoriaeth yn gweithio mewn sioe theatr, a’r meddalwedd dwi’n
Rl2Sfb5GTqk-00073-00050568-00051228 ddefnyddio bob dydd i greu cynllun sain. Dyma gynhyrchiad o’r enw Drudwen gan gwmni
Rl2Sfb5GTqk-00074-00051228-00051949 o’r enw Cimera. Mae Cimera yn gwmni Syrcas. Mae’r offer sydd ar y llwyfan i gyd yn cael
Rl2Sfb5GTqk-00075-00051949-00052297 ei ddefnyddio ar gyfer gwahanol ddarnau o acrobatics ac aerials a phethau fel’na.
Rl2Sfb5GTqk-00076-00052297-00052865 Ma hwn yn dangos lot o bethau i wneud efo theatr, ni i gyd yn cario’r props o adar
Rl2Sfb5GTqk-00077-00052865-00053391 yn fynna i wneud iddyn nhw hedfan. Mae’r set wedi cael ei goleuo’n lyfli, yn taflu
Rl2Sfb5GTqk-00078-00053391-00054033 cysgodion ar y llwyfan. Mae’r ddynes sy’n mynd lan y rhaff yn mynd i neud dawns ar y
Rl2Sfb5GTqk-00079-00054033-00054747 rhaff yn y munud. Dwi’n chwarae’n fyw ar y llwyfan yn fyn’na, chwarae’r gitâr;
Rl2Sfb5GTqk-00080-00054747-00055322 chwarae miwsig prydferth i matcho’r ddawns brydferth mae hi’n neud. Ond os ni’n newid
Rl2Sfb5GTqk-00081-00055322-00055951 y miwsig mae’n cael effaith hollol wahanol. Mae’r miwsig yma’n dod o ran wahanol yn
Rl2Sfb5GTqk-00082-00055951-00056757 y sioe ac mae’n rhoi naws hollol wahanol i’r olygfa ’ma – lot fwy sinistr fydden
Rl2Sfb5GTqk-00083-00056757-00057555 i’n dweud – ac os fydden i’n trial hwn, wel ma hwnna jyst yn wrong.
Rl2Sfb5GTqk-00084-00057555-00058615 Felly dyma’r olygfa lle oedd y miwsig sinistr ’na fod i fodoli, a gallwch chi weld fod
Rl2Sfb5GTqk-00085-00058615-00059195 y miwsig a’r goleuo’n gweithio efo’i gilydd i neud rhyw deimlad anesmwyth o’r
Rl2Sfb5GTqk-00086-00059195-00059729 golau’n taflu’r cysgodion yn y cefn. Ma ’na lot o sain yn dod oddi ar y cyfrifiadur,
Rl2Sfb5GTqk-00087-00059729-00060435 ma ’na lot o sain yn cael ei chwarae’n fyw gan y cerddor, sef fi – o’n i’n
Rl2Sfb5GTqk-00088-00060435-00060883 whare gitâr a lot o offerynnau taro a gwahanol bethau. Hefyd ma ’na lot o bethau ma nhw’n
Rl2Sfb5GTqk-00089-00060883-00061223 galw’n spot effects. Ma ’na effaith yn dod lan yn y funed lle mae’n rhwygo dilledyn
Rl2Sfb5GTqk-00090-00061223-00061721 off fan hyn a ma hwnna’n cal ei giwio oddi ar computer.
Rl2Sfb5GTqk-00091-00061721-00062920 Ac wedyn mi oedd ’na ddawnsio. Gallwch chi weld y tri bocs du ym mlaen y llwyfan – maen
Rl2Sfb5GTqk-00092-00062920-00063512 nhw’n dri speaker, monitor speakers, a ma nhw ar gyfer chwarae miwsig oddi ar y llwyfan
Rl2Sfb5GTqk-00093-00063512-00064171 fel bod ni i gyd yn gallu dawnsio a chadw mewn amser gyda’r miwsig a pheidio colli lle ni . . . handi iawn!
Rl2Sfb5GTqk-00094-00064171-00064800 Dyma’r recordiad gwreiddiol wedi ei recordio
Rl2Sfb5GTqk-00095-00064800-00065795 yn Logic Pro. Lan fan hyn gallwch chi glywed drymiau a’r bass guitar a’r gitârs. Yn
Rl2Sfb5GTqk-00096-00065795-00066726 Logic Pro, gallwch chi gymysgu fe gyd yn y mixing decks yn fan’yn; ma ’na filoedd
Rl2Sfb5GTqk-00097-00066726-00067320 o wahanol offerynnau mewn ’ma, gallwch chi ddewis. Ma ’na filoedd o wahanol lwpiau,
Rl2Sfb5GTqk-00098-00067320-00067903 drum loops sy’n gwneud efo miwsig dawns a phethau fel’na, pob math o bethau allwch
Rl2Sfb5GTqk-00099-00067903-00068764 chi neud o fewn y Logic Pro. Ond i redeg sioe yn fyw da’n ni’n defnyddio rhaglen arall o’r enw QLab.
Rl2Sfb5GTqk-00100-00068764-00069737 QLab ydy’r meddalwedd rydyn ni’n defnyddio i giwio sain yn y theatr; mae hefyd yn gallu
Rl2Sfb5GTqk-00101-00069736-00069984 ciwio goleuadau a fideo a chapsiynau ac yn y blaen. Mae’n hyblyg iawn. Fan’yn dyma
Rl2Sfb5GTqk-00102-00069984-00070754 QStack, dyma’r ciwiau i gyd mewn sioe yn fan’yn o 1 i 49 yn y sioe yma. Y sioe yma
Rl2Sfb5GTqk-00103-00070754-00071400 yw Y Tad gan Theatr Genedlaethol o 2018 – gwelson ni rywbeth bach gynne fach. Felly wnewn ni
Rl2Sfb5GTqk-00104-00071400-00072274 edrych ar giw 21 a 22 – felly 21 yn fan’yn, a 22 hanner ffordd lawr fan’yn. Beth sydd
Rl2Sfb5GTqk-00105-00072274-00072831 tu fewn fan’yn, mae gyda ni ychydig bach o biano, mae’r piano ma’n newydd hanner
Rl2Sfb5GTqk-00106-00072831-00073747 ffordd trwyddo, bach mwy ‘spacey’, mae efo ni ffeithiau sain metalig yn mynd mla’n
Rl2Sfb5GTqk-00107-00073747-00074660 yn fyn’na, mae efo ni sain adar ond dydyn nhw ddim yn dod mewn tan 6 eiliad; mae ’na
Rl2Sfb5GTqk-00108-00074660-00075571 delay bach a ma hwnna achos bod y goleuadau am newid am 5 eiliad, a dwi eisiau nhw ddod
Rl2Sfb5GTqk-00109-00075571-00076097 mewn ar ôl y goleuadau, felly dyna beth yw’r pwrpas o rhoi delays bach ar bethau fel hyn.
Rl2Sfb5GTqk-00110-00076097-00076557 A dyna’r ddau beth arall, ma ’na snaps yma, ma ’na un fan hyn ac un fan hyn, a
Rl2Sfb5GTqk-00111-00076557-00077129 ma nhw i fod i gyferbynnu gyda’r goleuadau yn newid; mae’r un cyntaf yn digwydd yn
Rl2Sfb5GTqk-00112-00077129-00077832 awtomatig o fewn hwn a wedyn mae’r ail un dwi’n mynd i ciwio fe, felly newn ni edrych pryd i ciwio fe nawr.
Rl2Sfb5GTqk-00113-00077832-00078441 Mae’r ciw cyntaf yn mynd i ddigwydd tua’r top yn fan’yn, ’na
Rl2Sfb5GTqk-00114-00078441-00079030 i ciwio fe’n syth, a phan fydd y boi ’ma’n clywed y piano yn dod mewn, bydd e’n troi
Rl2Sfb5GTqk-00115-00079030-00079462 o gwmpas ac yn gadael yr ystafell. Wedyn bydd yr olygfa’n newid, mae’r goleuadau’n
Rl2Sfb5GTqk-00116-00079462-00080110 newid yn fyn’na, gobeithio gyda’r snap cynta ’ma, ac o nhw mlaen, ma nhw’n eistedd
Rl2Sfb5GTqk-00117-00080110-00080970 lawr, mae’r bois mewn a gosod y bwrdd, ac ail giw fi yw pan ma’r boi ’ma’n cyrraedd
Rl2Sfb5GTqk-00118-00080970-00081582 y drws, tua fyn’na pan mae e’n mynd trwy’r drws dwi am giwio 22 snap 8 a gobeithio bydd
Rl2Sfb5GTqk-00119-00081582-00082158 y goleuadau’n matchio lan yn berffaith gyda hwnna – cawn weld. Newn ni roi try arni.
Rl2Sfb5GTqk-00120-00082158-00082531 Allen i fwrw’r ‘go button’ enfawr ’ma yn fan’yn, ond dwi am wasgu ‘space bar’
Rl2Sfb5GTqk-00121-00082531-00082951 achos fod e’n haws. Reit te, ’co ni’n mynd.
Rl2Sfb5GTqk-00122-00083113-00085029 Ffwrdd â fe, sŵn metalig yn dod mewn, y goleuadau, sŵn yr wylan yn dod mewn a’r ardd, a dwi’n mynd i baratoi at y ciw nesa.
Rl2Sfb5GTqk-00123-00085029-00086368 Ma fe’n mynd am y drws a fi’n ciwio fe . . . nawr. Wahŵŵ! ’Co ni, da iawn.
Rl2Sfb5GTqk-00124-00086784-00087482 Mae ’na amryw o ffyrdd fewn i weithio ym myd y theatr; efallai eich bod eisoes yn gwneud
Rl2Sfb5GTqk-00125-00087482-00088022 drama yn yr ysgol ac yn bwriadu mynd mlaen i’r brifysgol neu goleg drama. Mae ’na
Rl2Sfb5GTqk-00126-00088022-00088740 gyrsiau Theatr Dechnegol lle gallwch chi ganolbwyntio ar sain a golau a set a props a gwisgoedd
Rl2Sfb5GTqk-00127-00088740-00089347 ac ati, neu gallwch chi ddilyn trywydd prentisiaethau lle gallwch chi ddysgu’r holl sgiliau yma
Rl2Sfb5GTqk-00128-00089347-00089965 mewn adeilad theatr go iawn ar gyfer cynyrchiadau go iawn, a hyd yn oed teithio gyda sioe fyw.
Rl2Sfb5GTqk-00129-00089964-00090224 Y gorau oll yw fyddwch chi’n cael eich talu hefyd tra bod chi’n dysgu. Ar gyfer sain
Rl2Sfb5GTqk-00130-00090224-00090781 yn arbennig, os oes profiad gyda chi o gyfansoddi neu berfformio, neu os y’ch chi’n chwarae
Rl2Sfb5GTqk-00131-00090781-00091200 mewn band neu’n gallu cymysgu sain byw neu setio lan system sain, bydd y sgiliau yma’n
Rl2Sfb5GTqk-00132-00091200-00091773 helpu chi i gael swydd yn y theatr. Ac wrth gwrs mae ’na amryw o swyddi eraill i gael
Rl2Sfb5GTqk-00133-00091773-00092284 yn yr adeilad, tu ôl y llwyfan yn adeiladu set a’r props, neu yn y swyddfa docynnau
Rl2Sfb5GTqk-00134-00092284-00092820 neu farchnata neu fel usher, ac efo’r holl bobl ’ma o wahanol gefndiroedd mae’r theatr
Rl2Sfb5GTqk-00135-00092820-00093115 wastad yn lle diddorol i weithio.
Rl2Sfb5GTqk-00136-00094056-00094778 Dwi’n meddwl bod prentisiaeth yn gweithio’n arbennig o dda yn ein sector ni, yn y sector
Rl2Sfb5GTqk-00137-00094778-00095523 greadigol – mae’r sector ei hun yn chwilio am bobl ‘gwneud’, felly ti’n chwilio
Rl2Sfb5GTqk-00138-00095523-00096184 am bobl i ddod mewn i’r diwydiant sydd eisiau gwneud, efo’u storis, sy’n barod i ddechrau
Rl2Sfb5GTqk-00139-00096184-00096878 o’r diwrnod cyntaf i weithio’n galed i fod yn greadigol, i greu.
Rl2Sfb5GTqk-00140-00097340-00098166 Yr ateb sydyn yw, maen nhw’n ca’l blwyddyn o swydd i ddechrau, maen nhw’n cael blwyddyn
Rl2Sfb5GTqk-00141-00098166-00098796 o gyflog, maen nhw’n medru byw a gweithio a gwneud beth ma nhw’n caru’i neud gobeithio,
Rl2Sfb5GTqk-00142-00098796-00099300 maen nhw’n ffeindio gyrfa. I ni, beth sy’n bwysig ydy dan ni’n cymryd lot o amser yn
Rl2Sfb5GTqk-00143-00099300-00099879 recriwtio’r math iawn o bobl i brentisiaeth gyda ni; da’n ni ddim yn chwilio am bobl
Rl2Sfb5GTqk-00144-00099879-00100405 sydd eisiau gwneud swydd am flwyddyn, da’n ni’n chwilio am rywun sydd eisiau gyrfa.
Rl2Sfb5GTqk-00145-00100405-00101071 Ma nhw’n cyfarfod gymaint o bobl yn y flwyddyn yma fel bod nhw’n medru cael gyrfa sy’n
Rl2Sfb5GTqk-00146-00101071-00101588 mynd yn ei blaen, ac maen nhw hefyd yn cael cymhwyster nad ydyn nhw’n gorfod talu amdano fe.
Rl2Sfb5GTqk-00147-00101844-00102360 Ni ydy’r unig bobl sy’n cynnig prentisiaeth
Rl2Sfb5GTqk-00148-00102360-00102852 yn y sector yma; ni sy’n edrych ar ôl y diploma, ni sy’n edrych ar ôl prentisiaid
Rl2Sfb5GTqk-00149-00102852-00103420 am y flwyddyn i wneud yn siŵr fod nhw’n iawn ac yn hapus, a dwi’n lico meddwl taw
Rl2Sfb5GTqk-00150-00103420-00103980 ni ydy’r ‘anti’ yn y canol rhwng y prentis a’r cyflogwr i wneud yn siŵr fod pob dim yn iawn.
Rl2Sfb5GTqk-00151-00103993-00104460 Mae’r brentisiaeth newydd ’ma sy gyda
Rl2Sfb5GTqk-00152-00104460-00105088 ni rŵan, cynllun newydd Criw, mae’n meddwl fod y cynyrchiadau a’r cwmnïau’n medru
Rl2Sfb5GTqk-00153-00105088-00105676 cyflogi prentis am gyfnod cynhyrchiad yn hytrach na blwyddyn gron. Mae asiantaeth yn cyflogi
Rl2Sfb5GTqk-00154-00105676-00106569 prentis am 12 mis a da’n ni wedyn yn medru ffeindio’r math iawn o gynhyrchiad i bob
Rl2Sfb5GTqk-00155-00106569-00107092 prentis, o falle tair wythnos i chwe mis.
Rl2Sfb5GTqk-00156-00107452-00108320 O ran ein cyn-brentisiaid ni, alla i ddweud pa mor falch ydw i o bob un ohonyn nhw, ond ma rhai’n arbennig yn gwneud yn hynod o
Rl2Sfb5GTqk-00157-00108320-00109024 dda; ma Zahara, er enghraifft, yn fflio a dwi’n siŵr fydd hi’n mynd yn hynod o bell.
Rl2Sfb5GTqk-00158-00109483-00110078 Zahara Errami ydw i, yn wreiddiol o Sir Fôn, ac ar hyn o bryd dwi’n byw yng Nghaerdydd,
Rl2Sfb5GTqk-00159-00110078-00110752 a dwi’n newyddiadurwr digidol i ITV Cymru. Felly ar hyn o bryd dwi’n gweithio i Hansh,
Rl2Sfb5GTqk-00160-00110752-00111299 S4C ac yn newyddiadurwr llawn amser i ITV Cymru ac yna ni’n cael ein comisiynu gan
Rl2Sfb5GTqk-00161-00111299-00111934 S4C i greu cynnwys i bobl ifanc sy’n amazing achos dwi eisiau creu cynnwys ble dwi’n
Rl2Sfb5GTqk-00162-00111934-00112515 bersonol yn gallu’u gwylio nhw a mwynhau nhw, yn enwedig mewn maes materion cyfoes
Rl2Sfb5GTqk-00163-00112515-00113040 a newyddion, mae yna gap mawr yn y farchnad i hynny. Mae bod yn rhan hanfodol o greu'r
Rl2Sfb5GTqk-00164-00113040-00113620 cynnwys yna yn rili amazing o gyfle. Da’n ni ar hyn o bryd yn gweithio ar gyfres o raglenni
Rl2Sfb5GTqk-00165-00113620-00114188 dogfen i YouTube o’r enw Grid sy’n amazing, a dyw e’n ddim byd dwi wedi gweld ar Hansh
Rl2Sfb5GTqk-00166-00114188-00115072 o’r blaen. Da’n ni’n creu pethau newydd ac exciting i'r platfform, sy’n grêt.
Rl2Sfb5GTqk-00167-00115442-00116081 Wel, o’n i wastad efo diddordeb mewn gweithio o fewn y cyfryngau ac mewn maes creadigol;
Rl2Sfb5GTqk-00168-00116081-00116730 o’n i wastad yn berson creadigol, ond dwi erioed wedi bod y person mwyaf academaidd
Rl2Sfb5GTqk-00169-00116728-00117268 yn y byd a dwi jyst wastad wedi dysgu o wneud, ac ers yr ysgol dwi wedi bod yn gweithio rhan
Rl2Sfb5GTqk-00170-00117268-00118016 amser mewn pob math o swyddi rili. A dyna yw’r ffordd dwi’n dysgu orau, so pan wnes
Rl2Sfb5GTqk-00171-00118016-00118723 i weld y cyfle yn dod i fyny, es i amdano fo; jyst ddim beth o’n i’n ei ddisgwyl
Rl2Sfb5GTqk-00172-00118723-00119256 o gwbl, dwi’n meddwl fod pobl yn tueddu i feddwl pam ti’n meddwl am brentisiaeth,
Rl2Sfb5GTqk-00173-00119256-00119780 rhywbeth fatha engineering neu rywbeth fatha mynd i plumbio neu rywbeth, ond o’n i heb
Rl2Sfb5GTqk-00174-00119780-00120435 feddwl amdano fe yn y maes cyfryngau yn yr aspect yna, so pan wnes i glywed mwy amdano
Rl2Sfb5GTqk-00175-00120435-00121222 fo o’dd e jyst i weld yn ffit berffaith i’r ffordd o’n i’n lico dysgu, a dyna wnaeth apelio i fi rili tuag at neud o.
Rl2Sfb5GTqk-00176-00121581-00121811 Mae’r brentisiaeth wnes i yn un yn y maes
Rl2Sfb5GTqk-00177-00121990-00122506 creadigol a digidol, so ma hwnna’n galluogi ni i fynd mewn i faes newyddiadurol, neu unrhyw
Rl2Sfb5GTqk-00178-00122506-00123050 faes o fewn teledu a ffilm, a gweithio mewn amryw roliau gwahanol. O’dd ’na rai yn
Rl2Sfb5GTqk-00179-00123050-00123788 y brentisiaeth wedi mynd mewn i faes lle oeddech chi’n gwneud rôl benodol am yr holl amser,
Rl2Sfb5GTqk-00180-00123788-00124607 ond efo un ni yn ITV Cymru o’n i’n cael y profiad o wneud pob math o bethau o weithio
Rl2Sfb5GTqk-00181-00124607-00125321 camera, gweithio o fewn y galeri, i stiwdio, newyddiadura digidol, cyflwyno rhai pethau
Rl2Sfb5GTqk-00182-00125321-00126037 a gweithio o fewn social media hefyd sy’n rhywbeth sy’n rili diddori fi ers dwi’n
Rl2Sfb5GTqk-00183-00126037-00126676 gallu cofio. Ond o’dd e jyst yn rhoi’r cyfle i chdi drio bob dim a o’dd y qualification
Rl2Sfb5GTqk-00184-00126676-00127431 hefyd yn un eitha eang – o’t ti’n gallu cyfro lot o bethau yn yr un qualification.
Rl2Sfb5GTqk-00185-00127871-00128500 Roedd e’n bendant yn well na beth o’n i wedi’i ddychmygu. Mi oedd ’na lot o
Rl2Sfb5GTqk-00186-00128500-00129146 waith papur, adolygu a gwaith cwrs, ond oedd yr aspect practical lot fwy, a o’dd e’n
Rl2Sfb5GTqk-00187-00129146-00129685 lot fwy enjoyable na beth o’n i’n meddwl, o’n i’n meddwl fydde fe’n lot o waith
Rl2Sfb5GTqk-00188-00129685-00130267 mewn rôl, o’n i ddim yn siŵr os fydden i mewn rôl benodol ac yn styc yn y rôl yna,
Rl2Sfb5GTqk-00189-00130267-00130831 ond ma nhw mor agored i ti drio beth bynnag, roedden ni’n cael fflotio o amgylch i weld
Rl2Sfb5GTqk-00190-00130831-00131463 lle o’n ni’n ffitio yn y gweithle, sy ddim yn rhywbeth mewn unrhyw yrfa arall; ti’n
Rl2Sfb5GTqk-00191-00131463-00132186 applyo am swydd ac yn aros yn y swydd yna, ond roedd yr opsiwn o gael y rhyddid yna yn rili, rili da.
Rl2Sfb5GTqk-00192-00132184-00132720 O’n i mewn swydd lle o’n i’n gweithio
Rl2Sfb5GTqk-00193-00132720-00133225 mewn retail; roedd y cyflog yn eitha iawn o be o’n i’n feddwl. O’n i wastad yn
Rl2Sfb5GTqk-00194-00133225-00134012 meddwl fod prentisiaeth yn rhywbeth is mewn tâl, ond doedd dim newid yn fy swydd i yn
Rl2Sfb5GTqk-00195-00134012-00134685 retail i brentisiaeth, felly o’n i’n gallu gweithio a chael qualification mewn maes dwi
Rl2Sfb5GTqk-00196-00134685-00135105 eisiau gweithio ynddo fe, o’dd e’n mind blowing.
Rl2Sfb5GTqk-00197-00135448-00136016 Os y’ch chi’n meddwl neud prentisiaeth, gwnewch o; jyst cael digon o hyder a byddwch
Rl2Sfb5GTqk-00198-00136016-00136656 yn chi’ch hunan, a ma bob dim, bob profiad da chi wedi cael mewn bywyd, mewn gwaith,
Rl2Sfb5GTqk-00199-00136656-00137331 mewn ysgol neu brifysgol, ma hwnna i gyd yn ddefnyddiol mewn prentisiaeth. Ac os y’ch
Rl2Sfb5GTqk-00200-00137331-00138209 chi’n berson social, ewch am y brentisiaeth hefyd, ma hwnna’n elfen fawr o’r brentisiaeth.
Rl2Sfb5GTqk-00201-00138209-00138874 Dwi’n newyddiadurwr llawn amser yn ITV Cymru nawr, a ma hwnna dim ond achos y brentisiaeth.
Rl2Sfb5GTqk-00202-00138874-00139677 Chwilia ‘Dewis Doeth Prentisiaethau Cymru’ neu ffonia 0800 028 4844.
VeQWYlAjiV8-00000-00000000-00000294 Cynllunio ar gyfer taith i ffwrdd?
VeQWYlAjiV8-00001-00000294-00000689 Dyma’n rhestr wirio ar gyfer teithio’n ddiogel.
VeQWYlAjiV8-00002-00000689-00001178 Ewch ati i ddarganfod pa ofynion o ran COVID-19 sydd yn y fan lle'r ydych chi'n mynd,
VeQWYlAjiV8-00003-00001178-00001527 yn enwedig os ydych chi'n teithio dramor.
VeQWYlAjiV8-00004-00001527-00001989 Gwiriwch a oes angen i chi ddarparu tystiolaeth o ganlyniad prawf negyddol.
VeQWYlAjiV8-00005-00001989-00002506 Os oes angen Pás COVID y GIG arnoch, gwnewch gais am un mewn da bryd.
VeQWYlAjiV8-00006-00002506-00002983 Gellir prynu profion teithio mewn fferyllfa...
VeQWYlAjiV8-00007-00002983-00003374 neu gan ddarparwyr prawf teithio COVID-19 eraill.
VeQWYlAjiV8-00008-00003374-00003954 Ystyriwch fynd â masgiau wyneb gyda chi os ydych chi'n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus,
VeQWYlAjiV8-00009-00003954-00004530 neu gwiriwch a ydy'r gyfraith yn dweud bod rhaid gwisgo masg wyneb yn y fan lle'r ydych chi'n mynd.
VeQWYlAjiV8-00010-00004530-00004921 Os nad ydych chi'n teimlo'n dda, dylech aros gartref os oes modd.
VeQWYlAjiV8-00011-00004921-00005495 Os oes angen i chi deithio, dylech gwisgo masg wyneb ac osgoi mannau prysur ac gaeedig.
VeQWYlAjiV8-00012-00005495-00006059 Gofalwch eich bod wedi cael y brechlynnau diweddaraf a'r pigiadau atgyfnerthu er mwyn eich diogelu i'r eithaf.
VeQWYlAjiV8-00013-00006059-00006336 Diogelu Cymru, gyda’n gilydd. llyw.cymru/coronafeirws
XRafuhTEhHy-00000-00001500-00001800 Mi wnes i fwynhau’r diwrnod allan yn y parc fferm.
XRafuhTEhHy-00001-00001800-00002200 Roedd yn llawer o hwyl cyfri’r holl anifeiliaid welson ni.
XRafuhTEhHy-00002-00002200-00002300 Diolch Mam a Dad.
XRafuhTEhHy-00003-00002400-00002700 Dwi wedi bod yn dysgu am gestyll yn yr ysgol,
XRafuhTEhHy-00004-00002700-00002900 ac roedd y trip aethon ni i Gastell Caernarfon yn grêt.
XRafuhTEhHy-00005-00002900-00003000 Diolch Nain a Taid.
XRafuhTEhHy-00006-00003060-00003450 Diolch am fynd â fi i Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd eleni.
XRafuhTEhHy-00007-00003450-00003600 Ges i brofiad gwych o gystadlu.
XRafuhTEhHy-00008-00003660-00004200 Dwi’n hoffi gwyliau ysgol am fy mod i’n cael mynd i lefydd newydd sy’n llawer o
XRafuhTEhHy-00009-00004200-00004550 hwyl a dysgu am lot o bethau newydd hefo fy nheulu.
XRafuhTEhHy-00010-00004550-00004650 Diolch Mam!