|
YcSsyX5lXik-00000-00000018-00000514 Roedd Esta wrth ei bodd yn dysgu am y gorffennol, ac mae hynny bellach yn rhan o’i dyfodol, |
|
YcSsyX5lXik-00001-00000514-00000720 diolch i’w phrentisiaeth. |
|
YcSsyX5lXik-00002-00000720-00001159 Roedd gan Esta ddiddordeb brwd mewn hanes erioed, ond roedd swyddi yn y sector treftadaeth |
|
YcSsyX5lXik-00003-00001159-00001426 yn gofyn am brofiad ymarferol. |
|
YcSsyX5lXik-00004-00001426-00001946 Felly, fe wnaeth y dewis doeth i gychwyn prentisiaeth, gan roi’r cyfle iddi feithrin sgiliau newydd. |
|
YcSsyX5lXik-00005-00001946-00002378 Erbyn hyn, mae’n cydlynu ymweliadau ysgolion â’r amgueddfa lle mae’n gweithio, er |
|
YcSsyX5lXik-00006-00002378-00002756 mwyn rhannu ei hangerdd am hanes gyda chenhedlaeth newydd o fyfyrwyr. |
|
YcSsyX5lXik-00007-00002756-00003032 I weld beth all prentisiaethau ei wneud i ti... |
|
YcSsyX5lXik-00008-00003032-00003338 Chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth. |
|
2QfH6Hk14Zg-00000-00000000-00000588 Rhesymau dros gymdeithasu mwy yn yr awyr agored… |
|
2QfH6Hk14Zg-00001-00000588-00001072 1. Beth am fanteisio ar y twydd cynhesach a'r nosweithiau goleuach... |
|
2QfH6Hk14Zg-00002-00001072-00001613 drwy dreulio mwy o amser yn yr awyr agored. |
|
2QfH6Hk14Zg-00003-00001613-00002233 2. Mae treulio amser yn yr awyr agored... |
|
2QfH6Hk14Zg-00004-00002233-00002773 yn dda i'n lles meddyliol. |
|
2QfH6Hk14Zg-00005-00002773-00003395 3. Mae feirysau yn lledaenu'n haws mewn mannau poblog. |
|
2QfH6Hk14Zg-00006-00003395-00003869 Bydd cyfarfod yn yr awyr agored, neu mewn lle sydd wedi'i awyru'n dda, |
|
2QfH6Hk14Zg-00007-00003869-00004349 yn helpu i arafu lledaeniad COVID-19, annwyd, a'r ffliw. |
|
2QfH6Hk14Zg-00008-00004349-00004814 Arhoswch gartref os nad ydych chi'n teimlo'n dda, |
|
2QfH6Hk14Zg-00009-00004814-00005294 a chofiwch gael eich brechu er mwyn eich diogelu i'r eithaf. |
|
2QfH6Hk14Zg-00010-00005294-00005600 Diogelu Cymru, gyda’n gilydd. llyw.cymru/DiogeluCymru |
|
9NEXGXoE-0g-00000-00000036-00000405 Mae adnoddau naturiol yn hanfodol i iechyd a lles |
|
9NEXGXoE-0g-00001-00000492-00000773 ond beth ydyn ni'n ei olygu wrth iechyd a lles? |
|
9NEXGXoE-0g-00002-00000928-00001287 Mae iechyd da yn cyfeirio at ein cyflwr o les corfforol |
|
9NEXGXoE-0g-00003-00001356-00001424 meddyliol |
|
9NEXGXoE-0g-00004-00001487-00001606 a chymdeithasol |
|
9NEXGXoE-0g-00005-00001637-00001897 lle mae afiechyd a llesgedd yn absennol. |
|
9NEXGXoE-0g-00006-00002006-00002056 Felly, |
|
9NEXGXoE-0g-00007-00002096-00002437 cyflwr cadarn o swyddogaeth gorfforol a meddyliol, |
|
9NEXGXoE-0g-00008-00002482-00002682 yn rhydd o salwch neu boen |
|
9NEXGXoE-0g-00009-00002772-00002935 Mae Lles Cadarnhaol |
|
9NEXGXoE-0g-00010-00002952-00003269 yn ymwneud â chyflwr ein lles ar bwynt penodol |
|
9NEXGXoE-0g-00011-00003358-00003485 teimlo'n gyffyrddus, |
|
9NEXGXoE-0g-00012-00003535-00003617 yn fodlon, |
|
9NEXGXoE-0g-00013-00003668-00003749 yn ddiogel, |
|
9NEXGXoE-0g-00014-00003808-00003896 yn hapus |
|
9NEXGXoE-0g-00015-00003985-00004124 cyflwr o les. |
|
9NEXGXoE-0g-00016-00004230-00004280 Felly, |
|
9NEXGXoE-0g-00017-00004303-00004528 mae iechyd a llesiant cadarnhaol |
|
9NEXGXoE-0g-00018-00004549-00004749 yn golygu profi iechyd da |
|
9NEXGXoE-0g-00019-00004767-00005010 a mwynhau teimladau o fod yn iach. |
|
9NEXGXoE-0g-00020-00005093-00005372 Mae hefyd yn golygu'r gallu i gael ffordd o fyw |
|
9NEXGXoE-0g-00021-00005400-00005749 sy’n ymgysylltu’n llawn ag eraill a'n hamgylchoedd |
|
9NEXGXoE-0g-00022-00005830-00006006 cael profiadau personol |
|
9NEXGXoE-0g-00023-00006073-00006247 perthnasau cadarnhaol |
|
9NEXGXoE-0g-00024-00006370-00006544 rheolaeth dros ein bywyd |
|
9NEXGXoE-0g-00025-00006656-00006871 ac ymdeimlad o bwrpas |
|
9NEXGXoE-0g-00026-00006936-00007400 Felly nid yw iechyd a llesiant da yn beth croes i afiechyd yn unig |
|
9NEXGXoE-0g-00027-00007444-00007765 ond yn asesiad eang o ansawdd bywyd unigolyn |
|
9NEXGXoE-0g-00028-00007843-00008290 Mae Sefydliad Iechyd y Byd yn nodi bod yr asesiad eang hwn |
|
9NEXGXoE-0g-00029-00008290-00008696 yn cael ei effeithio mewn ffordd gymhleth trwy: iechyd corfforol, |
|
9NEXGXoE-0g-00030-00008758-00008893 cyflwr seicolegol, |
|
9NEXGXoE-0g-00031-00008973-00009109 credoau personol |
|
9NEXGXoE-0g-00032-00009164-00009504 a pherthnasoedd cymdeithasol unigol unigolyn |
|
9NEXGXoE-0g-00033-00009565-00009841 Gallu unigolyn i weithio a dysgu |
|
9NEXGXoE-0g-00034-00009874-00010085 ac ansawdd ac argaeledd y rhain |
|
9NEXGXoE-0g-00035-00010187-00010712 Perthynas a rhyngweithiadau unigolyn â'i amgylchedd naturiol ac adeiledig |
|
9NEXGXoE-0g-00036-00010778-00011044 Materion cymdeithasol ehangach |
|
9NEXGXoE-0g-00037-00011070-00011180 megis polisi, |
|
9NEXGXoE-0g-00038-00011220-00011289 economeg |
|
9NEXGXoE-0g-00039-00011333-00011530 a'n hecosystem fyd-eang |
|
9NEXGXoE-0g-00040-00011639-00012080 adnabyddir y rhain yn aml fel penderfynyddion ehangach iechyd |
|
9NEXGXoE-0g-00041-00012143-00012336 ac mae ein hadnoddau naturiol |
|
9NEXGXoE-0g-00042-00012355-00012621 yn torri ar draws yr holl ffactorau hyn |
|
9NEXGXoE-0g-00043-00012736-00013186 boed hynny yn argaeledd a chyflwr y seilwaith naturiol sydd o'n cwmpas |
|
9NEXGXoE-0g-00044-00013228-00013561 neu sut yr ydym yn rhyngweithio â'r seilwaith hwnnw ac eraill. |
|
9NEXGXoE-0g-00045-00013643-00014038 Mae adnoddau naturiol yn hanfodol i iechyd a llesiant. |
|
9NEXGXoE-0g-00046-00014118-00014612 Mae gweithgareddau sydd o fudd i adnoddau naturiol o fudd i bobl. |
|
fFJ032o3IpA-00000-00000000-00000200 Mewn archfarchnad |
|
fFJ032o3IpA-00001-00000200-00000400 Es i mewn archfarchnad |
|
y-b0vDK46xy-00000-00000400-00000848 Mae Cymru’n enwog am ei bryniau a’i chymoedd glas ac am harddwch ei glan-môr. |
|
y-b0vDK46xy-00001-00000848-00001104 Yn fynyddoedd, coedwigoedd, caeau ac afonydd, |
|
y-b0vDK46xy-00002-00001104-00001536 mae ein tir a’n môr yn rhoi’r adnoddau inni allu byw, gweithio a chwarae. |
|
y-b0vDK46xy-00003-00001805-00002128 Dyma sy’n rhoi inni ein hymdeimlad o le a’n hunaniaeth, |
|
y-b0vDK46xy-00004-00002128-00002544 yn cyfoethogi’n bywydau ac yn sail i ddiwydiant twristiaeth ffyniannus. |
|
y-b0vDK46xy-00005-00002896-00003392 Mae ein hadnoddau naturiol yn gweithio er ein lles bob awr o bob dydd i roi bwyd, |
|
y-b0vDK46xy-00006-00003392-00003840 dŵr ac aer glân inni, gan brosesu ein gwastraff inni hefyd. |
|
y-b0vDK46xy-00007-00003840-00004416 Maen nhw’n ein helpu i wrthsefyll effaith tywydd mawr ac yn ein helpu i addasu i hinsawdd sy’n newid. |
|
y-b0vDK46xy-00008-00004624-00005216 Ond ... mae’r pwysau ar ein hadnoddau naturiol yn cynyddu ac mae peryglon yn ein hwynebu. |
|
y-b0vDK46xy-00009-00005232-00005568 Felly, rhaid meddwl am ffordd o weithio i ddatblygu perthynas well â’n hamgylchedd. |
|
y-b0vDK46xy-00010-00005776-00006208 Trwy reoli’n hadnoddau naturiol yn gynaliadwy i gryfhau’r amgylchedd, |
|
y-b0vDK46xy-00011-00006208-00006800 gallwn greu swyddi ac adeiladu tai a seilwaith cynaliadwy i helpu’n heconomi i lwyddo. |
|
y-b0vDK46xy-00012-00007312-00007872 Os nad awn ni ati nawr i ofalu am ein hadnoddau naturiol, bydd y canlyniadau’n ddifrifol i bawb. |
|
y-b0vDK46xy-00013-00007872-00008416 Rhaid taclo achosion y newid yn yr hinsawdd a gwyrdroi’r dirywiad yn ein bioamrywiaeth. |
|
y-b0vDK46xy-00014-00008416-00009088 Mae’r cloc yn tician ac mae’n bryd nawr inni feithrin perthynas newydd â natur, ein tir a’n dyfroedd. |
|
y-b0vDK46xy-00015-00009330-00009680 Bydd y ddeddf newydd rydym yn ei chynnig yn effeithio ar bolisïau Llywodraeth |
|
y-b0vDK46xy-00016-00009680-00010080 Cymru ac yn dod â manteision tymor hir i bawb. |
|
y-b0vDK46xy-00017-00010848-00011360 Rydym am sicrhau bod yr ucheldir yn cael ei reoli mewn ffordd sy’n cynnal ei systemau naturiol, |
|
y-b0vDK46xy-00018-00011360-00011584 inni allu cael y gorau ohono. |
|
y-b0vDK46xy-00019-00011584-00011952 Bydd mawnogydd iach yn amsugno mwy o ddŵr gan arafu llif y dŵr sy’n creu |
|
y-b0vDK46xy-00020-00011952-00012592 llifogydd ac yn helpu i buro dŵr – mater pwysig iawn i bobl ac i fusnesau. |
|
y-b0vDK46xy-00021-00012592-00013136 Fel ein coedwigoedd, mae mawnogydd yn dal carbon – ac yn ein helpu i arafu’r newid yn yr hinsawdd. |
|
y-b0vDK46xy-00022-00013136-00013504 Ac wrth wella cyflwr ein mawnogydd a’n tiroedd gwlyb – |
|
y-b0vDK46xy-00023-00013519-00014032 byddan nhw’n dod yn gynefin pwysig i blanhigion, anifeiliaid ac adar. |
|
y-b0vDK46xy-00024-00014619-00015263 Rydym yn plannu mwy o amrywiaeth o goed yn ein coedwigoedd, gan leihau effaith unrhyw glefydau coed. |
|
y-b0vDK46xy-00025-00015263-00015856 Yn ogystal â dal carbon, bydd y coedwigoedd hyn yn gynefin gwell i anifeiliaid ac yn hafan i bobl. |
|
y-b0vDK46xy-00026-00016208-00017056 Trwy ailblannu perthi a choetir, bydd llai o ddŵr glaw, pridd a llygredd yn cael eu golchi i’n hafonydd a’n nentydd. |
|
y-b0vDK46xy-00027-00017056-00017712 A thrwy adael corneli ac ymylon caeau i dyfu’n wyllt, denir pryfed peillio – gan gynnwys gwenyn – |
|
y-b0vDK46xy-00028-00017712-00018432 sy’n dda i les yr ecosystem ac yn bwysig i gnydau masnachol fel coed ffrwythau a mêl. |
|
y-b0vDK46xy-00029-00018432-00018960 Gyda llai o lygredd yn ein systemau dŵr, bydd ein moroedd a’n traethau’n lanach. |
|
y-b0vDK46xy-00030-00019312-00020080 Wrth inni reoli’n hucheldir a’n dyffrynnoedd yn well, fe ddylen ni weld llai o lifogydd yn ein hardaloedd trefol. |
|
y-b0vDK46xy-00031-00020080-00020688 A thrwy gynllunio a chreu mwy o fannau gwyrdd, coetiroedd a lleoedd i dyfu bwyd lleol ynddyn nhw, |
|
y-b0vDK46xy-00032-00020696-00021080 byddwn yn agor byd newydd o gyfleoedd i bobl i gerdded, |
|
y-b0vDK46xy-00033-00021080-00021336 seiclo a hamddena wrth ymyl eu cartrefi a’u gwaith. |
|
y-b0vDK46xy-00034-00021552-00022096 Mae coed a dail yn sugno sŵn a llygredd ac yn puro’r aer hefyd. |
|
y-b0vDK46xy-00035-00022096-00022560 Trwy wneud ein hardaloedd trefol yn lleoedd brafiach i fyw a gweithio ynddyn nhw, |
|
y-b0vDK46xy-00036-00022560-00022960 bydd pobl yn barotach i fuddsoddi ynddyn nhw. |
|
y-b0vDK46xy-00037-00023214-00023600 Mae angen synnwyr cyffredin wrth fynd i’r afael â’r problemau a’r cyfleoedd hyn, |
|
y-b0vDK46xy-00038-00023600-00023960 i wneud yn siŵr bod gennym Gymru decach a mwy llewyrchus. |
|
y-b0vDK46xy-00039-00024178-00024564 Rhaid i bawb fod yn rhan o’r ateb hwn – er mwyn inni allu rheoli, |
|
y-b0vDK46xy-00040-00024564-00025156 gwella a mwynhau natur, ein heconomi a’n cymdeithas yn y tymor byr a’r tymor hir. |
|
y-b0vDK46xy-00041-00025320-00025827 I ddysgu mwy ac i gymryd rhan, ewch i wefan Llywodraeth Cymru - |
|
Aa5ioTwmF2U-00000-00000194-00000572 Mae’r moroedd o gwmpas Cymru’n rhan bwysig iawn o’n hamgylchedd naturiol. |
|
Aa5ioTwmF2U-00001-00000588-00000786 Mae llawer ohonon ni’n dibynnu arnyn nhw, |
|
Aa5ioTwmF2U-00002-00000802-00001003 i wneud bywoliaeth ac i hamddena. |
|
Aa5ioTwmF2U-00003-00001003-00001283 Ac mae dyletswydd arnon ni felly i ofalu amdanyn nhw. |
|
Aa5ioTwmF2U-00004-00001283-00001691 Rŷn ni wedi bod yn gweithio ers blynyddoedd i wneud yn siŵr bod ein moroedd yn lân, |
|
Aa5ioTwmF2U-00005-00001716-00002048 yn iach, yn gynhyrchiol ac yn fiolegol amrywiol. |
|
Aa5ioTwmF2U-00006-00002106-00002424 Nawr, rŷn ni am adeiladu ar y sylfeini hyn trwy strategaeth |
|
Aa5ioTwmF2U-00007-00002436-00002730 forol newydd sy’n rhoi datblygu cynaliadwy’n gyntaf. |
|
Aa5ioTwmF2U-00008-00002800-00003104 Ei nod yw hybu’r economi a chreu swyddi newydd |
|
Aa5ioTwmF2U-00009-00003122-00003376 tra’n diogelu a gwella’r môr a’r arfordir. |
|
Aa5ioTwmF2U-00010-00003490-00003726 Mae Cyfarwyddeb Fframwaith y Strategaeth Forol |
|
Aa5ioTwmF2U-00011-00003727-00004157 yn rhan o fenter o Ewrop sy’n ein helpu i ofalu am ein moroedd at y dyfodol. |
|
Aa5ioTwmF2U-00012-00004174-00004680 Y nod yw sicrhau statws Amgylcheddol Da i’n moroedd erbyn 2020. |
|
Aa5ioTwmF2U-00013-00004680-00004920 Mae hwn yn nod hefyd i wledydd eraill |
|
Aa5ioTwmF2U-00014-00004922-00005170 y Deyrnas Unedig a’r Undeb Ewropeaidd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00015-00005171-00005593 I gael Statws Amgylcheddol Da, rhaid bodloni un deg un o safonau sy’n |
|
Aa5ioTwmF2U-00016-00005604-00005860 ymdrin â’r problemau mwya sy’n wynebu ein moroedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00017-00006194-00006518 Yr heriau Biolegol – fel gofalu am weoedd bwyd, |
|
Aa5ioTwmF2U-00018-00006519-00006723 gwely’r môr a bioamrywiaeth. |
|
Aa5ioTwmF2U-00019-00006778-00007159 Yr heriau cymdeithasol, fel rheoli gwastraff a sbwriel. |
|
Aa5ioTwmF2U-00020-00007159-00007584 Yr heriau diwydiannol, fel lleihau llygredd yn y dŵr ac yn ein bwyd môr, |
|
Aa5ioTwmF2U-00021-00007586-00007781 a lleihau’r sŵn o dan y môr. |
|
Aa5ioTwmF2U-00022-00007802-00008170 Dyna lawer o broblemau! Ond maen nhw i gyd yn gysylltiedig â’i gilydd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00023-00008186-00008572 Dros amser, bydd mesurau rheoli effeithiol yn gweithio gyda’i gilydd |
|
Aa5ioTwmF2U-00024-00008582-00008870 i ddiogelu a gwella amgylchedd ein moroedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00025-00009038-00009436 Wrth gwrs, does dim disgwyl inni allu gwneud hyn ar ein pen ein hunain. |
|
Aa5ioTwmF2U-00026-00009436-00009850 Rŷn ni’n rhannu’n moroedd â Lloegr, yr Alban, Gogledd Iwerddon, Ynys Manaw, |
|
Aa5ioTwmF2U-00027-00009866-00010242 Gweriniaeth Iwerddon a Ffrainc, ac yn cydweithio â phob un, |
|
Aa5ioTwmF2U-00028-00010252-00010608 gyda Chymru’n gofalu am ran o ardal o’r enw y Môr Celtaidd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00029-00010630-00010978 Rŷn ni’n datblygu cynlluniau ar y cyd ac yn penderfynu |
|
Aa5ioTwmF2U-00030-00010978-00011378 ar fesurau penodol i’n helpu i fonitro, cynnal a gwella’n moroedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00031-00011568-00011974 Wrth inni anelu at Statws Amgylcheddol Da, bydd gofyn inni reoli |
|
Aa5ioTwmF2U-00032-00011974-00012233 gweithgareddau dyn ar sail yr ecosystem |
|
Aa5ioTwmF2U-00033-00012258-00012662 ffordd o weithio sy’n cydnabod y plethwaith o gysylltiadau yn ein moroedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00034-00012702-00013102 Yn ymarferol, mae hynny’n golygu gweithio gydag ecosystemau |
|
Aa5ioTwmF2U-00035-00013103-00013519 deall sut maen nhw’n gweithio a’u diogelu rhag effeithiau niweidiol dyn. |
|
Aa5ioTwmF2U-00036-00013626-00013924 Er enghraifft, byddwn yn gofalu nad yw datblygu, |
|
Aa5ioTwmF2U-00037-00013941-00014263 pysgota na llongau yn drech nag unrhyw ecosystem. |
|
Aa5ioTwmF2U-00038-00014300-00014590 Yr un pryd, rŷn ni am gadw’r ecosystemau’n |
|
Aa5ioTwmF2U-00039-00014612-00014836 gryf fel eu bod yn gallu dygymod â hyn i gyd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00040-00014884-00015196 Wrth inni ddatblygu Cynllun Datblygu Morol Cymru, |
|
Aa5ioTwmF2U-00041-00015210-00015804 bydd yr egwyddorion hyn yn ein helpu i ddelio â’r holl wahanol heriau sy’n effeithio ar ein moroedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00042-00016158-00016626 Yn 2012, cafodd asesiad ei gynnal o’r moroedd o gwmpas Prydain. |
|
Aa5ioTwmF2U-00043-00016670-00017124 Mae gennym nawr set o dargedau a dangosyddion i’n helpu i anelu at |
|
Aa5ioTwmF2U-00044-00017125-00017327 Statws Amgylcheddol Da. |
|
Aa5ioTwmF2U-00045-00017400-00017662 Rydym nawrwedi sefydlu ein Rhaglenni Monitro. |
|
Aa5ioTwmF2U-00046-00017662-00018029 Bydd yn ein helpu i fonitro statws amgylcheddol y môr i weld |
|
Aa5ioTwmF2U-00047-00018029-00018281 pa broblemau sy’n effeithio arno. |
|
Aa5ioTwmF2U-00048-00018394-00018612 Erbyn 2016, byddwn yn edrych |
|
Aa5ioTwmF2U-00049-00018626-00018976 ar y canlyniadau ac yn cynnal rhaglen o fesurau rheoli. |
|
Aa5ioTwmF2U-00050-00019022-00019474 Ac yna ymhen dwy flynedd arall, byddwn yn cynnal ail asesiad o’r môr |
|
Aa5ioTwmF2U-00051-00019486-00019814 i weld sut mae’r mesurau’n ein helpu i gyrraedd y nod o |
|
Aa5ioTwmF2U-00052-00019822-00020136 Statws Amgylcheddol Da erbyn 2020. |
|
Aa5ioTwmF2U-00053-00020176-00020510 Heddiw, mae gennym weledigaeth ar gyfer ein moroedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00054-00020528-00020806 Rydym yn gwybod yn fras beth yw’r problemau sy’n ein |
|
Aa5ioTwmF2U-00055-00020824-00021086 hwynebu a pha gamau y bydd angen eu cymryd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00056-00021106-00021400 Rydym eisoes yn gweithio’n galed i wireddu’r weledigaeth |
|
Aa5ioTwmF2U-00057-00021420-00021678 hon ac mae llawer o’r mesurau eisoes ar waith. |
|
Aa5ioTwmF2U-00058-00021696-00021784 Fel: |
|
Aa5ioTwmF2U-00059-00021796-00022398 System cynllunio a thrwyddedu forol i wneud yn siŵr ein bod yn datblygu adnoddau’r môr mewn ffordd gynaliadwy. |
|
Aa5ioTwmF2U-00060-00022458-00022922 Amcan y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yw sicrhau bod gennym stoc bysgod a physgod |
|
Aa5ioTwmF2U-00061-00022934-00023394 cregyn iach, diwydiant pysgota llewyrchus ac amgylchedd morol iach. |
|
Aa5ioTwmF2U-00062-00023459-00023685 Rhwydwaith o Ardaloedd Gwarchodedig i warchod yr |
|
Aa5ioTwmF2U-00063-00023696-00024032 amrywiaeth o fywyd sydd gennym yn ein moroedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00064-00024126-00024666 Codi 5 ceiniog am bob bag plastig i leihau nifer y bagiau yn yr amgylchedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00065-00024686-00024978 Ond does neb yn dweud bod gennym yr atebion i gyd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00066-00024996-00025262 Rŷn ni am glywed barn amrywiaeth eang o arbenigwyr, |
|
Aa5ioTwmF2U-00067-00025272-00025442 cyrff ac unigolion. |
|
Aa5ioTwmF2U-00068-00025464-00025848 Felly, wrth greu’r fframwaith, rŷn ni am glywed eich syniadau chi. |
|
Aa5ioTwmF2U-00069-00025882-00026154 Rhowch wybod inni os oes gennych syniadau |
|
Aa5ioTwmF2U-00070-00026170-00026616 ar gyfer sut i fonitro’n effeithiol neu sut orau i gael Statws Amgylcheddol Da. |
|
Aa5ioTwmF2U-00071-00026641-00027137 Bydd gwefan Llywodraeth Cymru’n esbonio wrthoch chi sut, ble a phryd y cewch chi ddweud eich dweud |
|
Aa5ioTwmF2U-00072-00027156-00027342 am ddyfodol ein moroedd. |
|
Aa5ioTwmF2U-00073-00027383-00027680 Felly, gadewch inni weithio gyda’n gilydd a datblygu cynllun fydd |
|
Aa5ioTwmF2U-00074-00027689-00027898 yn gweithio er lles pob un ohonon ni. |
|
Aa5ioTwmF2U-00075-00027930-00028250 Am ragor o wybodaeth, ewch i wefan Llywodraeth Cymru |
|
Aa5ioTwmF2U-00076-00028270-00028610 www.cymru.gov.uk |
|
CDVt01CY34M-00000-00000032-00000301 Roedd Radnor Hills yn cael trafferth cadw staff. |
|
CDVt01CY34M-00001-00000301-00000716 Ond nawr, maen nhw’n hyfforddi prentisiaid sy’n byrlymu â brwdfrydedd. |
|
CDVt01CY34M-00002-00000716-00001208 Roedd angen i Radnor Hills recriwtio staff â sgiliau penodol. Felly, fe wnaethon nhw’r |
|
CDVt01CY34M-00003-00001209-00001650 dewis doeth i sicrhau bod prentisiaethau’n rhan graidd o’u busnes. |
|
CDVt01CY34M-00004-00001650-00001871 Ac mae hynny wedi talu ar ei ganfed. |
|
CDVt01CY34M-00005-00001871-00002260 Bellach, maen nhw’n llwyddo i gadw staff yn hirach am eu bod nhw’n teimlo’n fwy |
|
CDVt01CY34M-00006-00002260-00002734 brwdfrydig ac yn bachu ar gyfleoedd cyson i ddatblygu ac ennill mwy o gymwysterau. |
|
CDVt01CY34M-00007-00002734-00002999 I weld beth all prentis ei wneud i dy fusnes di … |
|
CDVt01CY34M-00008-00002999-00003285 Chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth. |
|
ESByXb0TH_o-00000-00000000-00000231 Ydych chi'n teimlo'n sâl? |
|
ESByXb0TH_o-00001-00000231-00000735 Dyma rai pethau y gallwch eu gwneud i amddiffyn eich hun ac eraill… |
|
ESByXb0TH_o-00002-00000735-00001400 1. Arhoswch gartref a chadwch draw o bobl eraill, yn enwedig pobl agored i niwed. |
|
ESByXb0TH_o-00003-00001400-00001887 2. Gweithiwch gartref os gallwch chi. |
|
ESByXb0TH_o-00004-00001887-00002382 Os na allwch chi weithio gartref, siaradwch â'ch cyflogwr am eich opsiynau |
|
ESByXb0TH_o-00005-00002382-00003013 3. Os oes angen i chi adael eich cartref, gwisgwch fasg wyneb a cheisiwch osgoi lleoedd prysur neu gaeedig |
|
ESByXb0TH_o-00006-00003013-00003529 Dylech geisio cadw draw oddi wrth unrhyw un sy'n wynebu mwy o risg o COVID-19 neu'r ffliw. |
|
ESByXb0TH_o-00007-00003529-00004126 4. Golchwch eich dwylo'n rheolaidd gyda dŵr poeth a sebon |
|
ESByXb0TH_o-00008-00004126-00004654 a gorchuddio’ch ceg a'ch trwyn wrth besychu neu disian. |
|
ESByXb0TH_o-00009-00004654-00005095 Dilynwch y cyngor hwn nes eich bod yn teimlo'n well |
|
ESByXb0TH_o-00010-00005095-00005605 Diogelu Cymru gyda'n gilydd. llyw.cymru/diogelucymru |
|
Fp29qhaRtXc-00000-00000694-00001075 Y bythynnod a’r tai Y pentrefi a’r trefi |
|
Fp29qhaRtXc-00001-00001075-00001525 Y strydoedd a’r cymunedau Dyma ein tir cyffredin |
|
Fp29qhaRtXc-00002-00001525-00002105 Yma, mae pob awr yn ysbrydoliaeth Pob dydd yn etifeddiaeth |
|
Fp29qhaRtXc-00003-00002105-00002644 Mae pob bywyd yn darganfod ei sylfaen Ble y dysgwn pwy y gallwn fod |
|
Fp29qhaRtXc-00004-00002644-00002960 Yr ysgol Lle crëwyd Cymru |
|
Fp29qhaRtXc-00005-00002960-00003670 Lle cydiodd enillwyr Grand Slam yn y bêl Lle camodd artistiaid, cantorion, actorion |
|
Fp29qhaRtXc-00006-00003670-00004015 ac athronwyr Cymru Ar lwyfan am y tro cyntaf |
|
Fp29qhaRtXc-00007-00004015-00004392 I ddisgleirio I weld y byd trwy lygaid newydd |
|
Fp29qhaRtXc-00008-00004392-00004992 I greu gwrthdaro gronynnau hadron Mae pedwar o Gymru wedi ennill gwobr Nobel |
|
Fp29qhaRtXc-00009-00004992-00005332 Ac mae rhywun, yn rhywle Yn breuddwydio am ennill |
|
Fp29qhaRtXc-00010-00005332-00005451 Y bumed |
|
Fp29qhaRtXc-00011-00005451-00005930 Ac felly mae’n bryd I adael ein marc |
|
Fp29qhaRtXc-00012-00005930-00006251 I ddatgan taw dyma gychwyn ein taith Mae’n amser dangos i’r byd |
|
Fp29qhaRtXc-00013-00006251-00006559 Yr hyn a ŵyr Cymru Mor gadarn y medrwn sefyll |
|
Fp29qhaRtXc-00014-00006559-00006881 Mor dal y medrwn dyfu Bod gennym syniadau |
|
Fp29qhaRtXc-00015-00006881-00007172 A sgiliau i’w rhannu Gall yr hyn a’n harweiniodd ni yma |
|
Fp29qhaRtXc-00016-00007172-00007387 Ein harwain ni i’r entrychion |
|
Fp29qhaRtXc-00017-00007387-00008178 Pa weledigaeth a grëwn? I ble yr hed ein huchelgais? |
|
Fp29qhaRtXc-00018-00008178-00008753 Ni sy’n llunio’r byd Yn creu’r dyfodol |
|
Fp29qhaRtXc-00019-00008753-00008784 Ni yw #TîmCymru |
|
HIqgbJn9u64-00000-00001676-00002171 Mae llwybr Blue Scar yn 7 cilomedr o hyd ac yn gallu cymryd sawl awr, |
|
HIqgbJn9u64-00001-00002171-00002595 yn dibynnu ar y beic wedi'i addasu rydych chi’n ei ddefnyddio a'ch lefel ffitrwydd. |
|
HIqgbJn9u64-00002-00004256-00004542 Ar ddechrau'r llwybr mae yna lawer o waith dringo, |
|
HIqgbJn9u64-00003-00004542-00004908 ond mae yna hefyd rai rhannau byr i lawr allt i'ch difyrru. |
|
HIqgbJn9u64-00004-00005761-00006317 Gall rhai rhannau o'r llwybr fod yn eithaf technegol i rai sy'n defnyddio beiciau wedi'u haddasu, |
|
HIqgbJn9u64-00005-00006317-00006581 gan gynnwys rhannau caregog i lawr allt. |
|
HIqgbJn9u64-00006-00007357-00007598 Mae cryn dipyn o ‘berms’ ar y llwybr, |
|
HIqgbJn9u64-00007-00007598-00007911 felly mae angen i chi allu trin rhain yn gyffyrddus. |
|
HIqgbJn9u64-00008-00008221-00008594 Pan gyrhaeddwch y llwybr tân, trowch i'r chwith |
|
HIqgbJn9u64-00009-00008599-00008873 a byddwch yn barod am ddringfa hir i fyny'r bryn. |
|
HIqgbJn9u64-00010-00009152-00009575 Wedi i chi gyrraedd y copa, trowch i'r dde i fynd ar y 'Widow Maker'. |
|
HIqgbJn9u64-00011-00009725-00010248 Cymerwch ofal ar y rhan yma gan fod disgynfeydd serth ar ochr dde y llwybr. |
|
HIqgbJn9u64-00012-00011865-00012406 Dylai defnyddwyr beiciau wedi'u haddasu gymryd gofal ar hyd y rhan llwybr bordiau, |
|
HIqgbJn9u64-00013-00012406-00012720 rhag ofn i olwyn ddisgyn oddi arno ar yr ochr chwith. |
|
HIqgbJn9u64-00014-00015397-00015633 Mae yna ddigon o ‘berms’ ar y llwybr hwn |
|
HIqgbJn9u64-00015-00015633-00016000 i ddefnyddwyr beiciau wedi'i haddasu ymarfer arnyn nhw |
|
HIqgbJn9u64-00016-00016004-00016241 wrth igam-ogamu lawr ochr y bryn. |
|
J3IlmtMRX9A-00000-00000103-00000830 Dyma ddarlleniad o 'Pumed Gainc y Mabinogi' gen i, Peredur Glyn. |
|
J3IlmtMRX9A-00001-00000830-00001243 Mae yna hen nerth yn y môr o hyd, |
|
J3IlmtMRX9A-00002-00001243-00001656 hoel bysedd a sibrydion yr hen dduwiau |
|
J3IlmtMRX9A-00003-00001656-00002003 sy’n gwthio a thynnu’r llanw. |
|
J3IlmtMRX9A-00004-00002003-00002303 Y brenhinoedd a’r breninesau hynny o gyn cof |
|
J3IlmtMRX9A-00005-00002303-00002635 oedd â’u teyrnasoedd y tu hwnt i’r tir hwn. |
|
J3IlmtMRX9A-00006-00002635-00003023 Mae eu henwau wedi treiddio i fytholeg bellach. |
|
J3IlmtMRX9A-00007-00003023-00003323 Ond dwi’n dal i gofio amdano fo; |
|
J3IlmtMRX9A-00008-00003326-00003623 yn dal i sibrwd ei enw’n felys bob nos. |
|
J3IlmtMRX9A-00009-00003623-00004073 Llŷr oedd enw’r Brythoniaid gynt arno fo. |
|
J3IlmtMRX9A-00010-00004073-00004273 Mae ganddo fo enwau eraill, |
|
J3IlmtMRX9A-00011-00004273-00004750 enwau sy’n cael eu sibrwd yng nghorneli tywyll, llaith y byd, |
|
J3IlmtMRX9A-00012-00004750-00005013 ond Llŷr ydy o i mi. |
|
J3IlmtMRX9A-00013-00005013-00005486 Unwaith, pan oedd y byd yn iau a’r moroedd yn is, |
|
J3IlmtMRX9A-00014-00005486-00005770 daeth ei blant i fyny ar bridd coch ein hynys, |
|
J3IlmtMRX9A-00015-00005770-00006090 a gwneud eu cartrefi yma. |
|
J3IlmtMRX9A-00016-00006090-00006440 Mi gymeron nhw ein cyndeidiau cyntefig ni o dan eu hadain, |
|
J3IlmtMRX9A-00017-00006440-00006703 a dysgu eu dulliau i ni. |
|
J3IlmtMRX9A-00018-00006703-00007303 A phan ddychwelodd teyrnas Llŷr Anfeidrol i’r gwaelodion yn ei thro, |
|
J3IlmtMRX9A-00019-00007303-00007733 arhosodd rhai o'i blant yma. |
|
J3IlmtMRX9A-00020-00007733-00008033 Chwech oed oeddwn pan foddais i. |
|
J3IlmtMRX9A-00021-00008033-00008386 Ar y Sul hwnnw ar y traeth |
|
J3IlmtMRX9A-00022-00008386-00008786 mi sleifiais i fymryn yn rhy bell oddi wrth y teulu, at ymyl y dŵr. |
|
J3IlmtMRX9A-00023-00008786-00009106 Roeddwn i’n clywed sisial y dyfroedd, |
|
J3IlmtMRX9A-00024-00009106-00009406 fel petai’r ewyn yn chwerthin. |
|
J3IlmtMRX9A-00025-00009406-00009806 Mi gerddais i mewn at fy mhengliniau, y tonnau’n fy anwesu. |
|
J3IlmtMRX9A-00026-00009806-00010406 Yna mi welais i’r cylchoedd bach sgleiniog yn dawnsio oddi tanaf i – |
|
J3IlmtMRX9A-00027-00010406-00010786 llygaid mawr yn wincian arnaf i fel lampau pefriog. |
|
J3IlmtMRX9A-00028-00010786-00010986 Es i’n ddyfnach, at fy nghanol. |
|
J3IlmtMRX9A-00029-00010986-00011286 Roedd cyrff yn nofio o’m cwmpas i erbyn hyn, |
|
J3IlmtMRX9A-00030-00011286-00011556 cyrff disglair a sidan-esmwyth, |
|
J3IlmtMRX9A-00031-00011556-00012103 ac roedd eu breichiau a’u coesau arian yn nadreddu drwy’r dyfroedd cynnes. |
|
J3IlmtMRX9A-00032-00012103-00012603 Roedd wynebau’n gwenu arnaf i, yn fy nenu i atyn nhw. |
|
J3IlmtMRX9A-00033-00012603-00012803 Es i oddi tanodd. |
|
J3IlmtMRX9A-00034-00012803-00013306 All geiriau Cymraeg ddim disgrifio’u dinas yn y gwaelodion. |
|
J3IlmtMRX9A-00035-00013306-00013969 Doedd pensaernïaeth eu temlau ddim fel adeiladau ar y tir, |
|
J3IlmtMRX9A-00036-00013969-00014269 heb onglau sgwâr a cholofnau mathemategol berffaith, |
|
J3IlmtMRX9A-00037-00014269-00014569 ond yn hytrach mewn siapiau a gogwyddau a lliwiau |
|
J3IlmtMRX9A-00038-00014569-00014869 na welais i gynt nac wedyn, |
|
J3IlmtMRX9A-00039-00014869-00015369 y tyrau’n troelli’n sbiralau cwrel a chrisial i bob cyfeiriad. |
|
J3IlmtMRX9A-00040-00015369-00015569 Cartrefi yn eu dwsinau, yn eu cannoedd, |
|
J3IlmtMRX9A-00041-00015569-00015969 yn llenwi fy nhrem, a’u goleuadau yn ffosffor. |
|
J3IlmtMRX9A-00042-00015969-00016369 Ond tu hwnt i’r golau hwnnw, yn ddyfnach fyth, |
|
J3IlmtMRX9A-00043-00016369-00016770 mi welwn i – na, mi deimlwn i – |
|
J3IlmtMRX9A-00044-00016770-00017170 dywyllwch cyflawn, annynol, hynafol, |
|
J3IlmtMRX9A-00045-00017170-00017770 yn corddi’n isel fel calon rhyw fôr-greadur anferthol. |
|
McohvhkWRZY-00000-00000926-00001398 Ar hyn o bryd mae 1,254 o gynghorwyr yng Nghymru. Oedran cyfartalog cynghorydd yng Nghymru yw |
|
McohvhkWRZY-00001-00001398-00002336 60, mae 99.4% o'r cynghorwyr yn wyn. Bydd yr etholiadau Llywodraeth Leol nesaf yng Nghymru |
|
McohvhkWRZY-00002-00002336-00002436 yn 2022. |
|
McohvhkWRZY-00003-00002526-00002974 Gall bron unrhyw un fod yn gynghorydd ac mae'n bwysig iawn bod amrywiaeth o wahanol bobl |
|
McohvhkWRZY-00004-00002988-00003297 yn cael eu hethol i gynrychioli pawb yn eu cymunedau. |
|
McohvhkWRZY-00005-00003342-00003908 Mae llywodraeth leol angen mwy o gynghorwyr sydd o dan 40 oed, benywaidd, ag anableddau, |
|
McohvhkWRZY-00006-00003926-00004406 yn hoyw neu'n lesbiaidd, yn ddu, yn asiaidd neu'n lleiafrifoedd ethnig. |
|
McohvhkWRZY-00007-00004406-00004948 Mae Cymru'n dod yn fwy amrywiol ac efallai y byddwch chi fel cynghorydd yn helpu i adlewyrchu |
|
McohvhkWRZY-00008-00004954-00005028 hyn. |
|
McohvhkWRZY-00009-00005074-00005642 My role as a councillor is varied every single day; no single day is the same. When I first |
|
McohvhkWRZY-00010-00005656-00006146 got elected 17 years ago I was the first ethnic minority councillor. |
|
McohvhkWRZY-00011-00006146-00006612 Dwi’n meddwl mae wedi bod yn annodd fod yn ddynes, fi ydy’r ddynes gyntaf i arwain |
|
McohvhkWRZY-00012-00006612-00007076 Cyngor Ynys Môn, tydy neb wedi neud hwn o’m mlaen i. |
|
McohvhkWRZY-00013-00007090-00007806 Fi ydy’r Cynghorydd ieuyngaf yn Sir Fôn ar hyn o bryd, felly dwi wedi malu’r mold, |
|
McohvhkWRZY-00014-00007820-00008478 a’i chwalu o achos dwi’n hollol wahanol i’r hynny sydd wedi bod yn Sir Fôn. |
|
McohvhkWRZY-00015-00008494-00009226 Ers mynd yn Arweinydd yn mis Mai, mae wedi mynd yn swydd 50-70 awr yr wythnos, ac wedyn |
|
McohvhkWRZY-00016-00009226-00009852 mae bod yn fam sengl hefyd ar ben hynny yn dipyn o her, felly dwi wedi rhoi bob dim i |
|
McohvhkWRZY-00017-00009866-00010076 fewn i fod yn Gynghorydd a’r rôl yma. |
|
McohvhkWRZY-00018-00010158-00010562 When I came home from University and so got back involved in the community that I was |
|
McohvhkWRZY-00019-00010563-00011096 born and brought up in I could see that things weren’t being done, that we were at a standstill |
|
McohvhkWRZY-00020-00011096-00011574 point and that young people in particular did not have the facilities and services that |
|
McohvhkWRZY-00021-00011574-00011949 I enjoyed when I was a younger person growing up in that community. |
|
McohvhkWRZY-00022-00011949-00012325 I decided to be a councillor because I didn’t feel like the council performing was doing |
|
McohvhkWRZY-00023-00012325-00012689 a good job and I wanted to bring something different to the table especially on elections |
|
McohvhkWRZY-00024-00012689-00012789 day. |
|
McohvhkWRZY-00025-00012789-00013283 I was 19 years old so I was something different which you know the typical Local Government |
|
McohvhkWRZY-00026-00013283-00013744 person is you know an older white man that is the statistics as well if you look it up |
|
McohvhkWRZY-00027-00013744-00013844 on- line. |
|
McohvhkWRZY-00028-00013844-00014136 Councillors do give good value for money if they put the effort in especially in the modern |
|
McohvhkWRZY-00029-00014136-00014266 age now of social media. |
|
McohvhkWRZY-00030-00014266-00014597 I think one of the things of being so young I think a lot of people in my community, young |
|
McohvhkWRZY-00031-00014597-00015052 people, kind of say we have got someone that represents us and speaks up for us. |
|
McohvhkWRZY-00032-00015084-00015463 Oeddech chi'n gwybod, os ydych chi'n cael eich hethol i brif gyngor, y cyflog sylfaenol |
|
McohvhkWRZY-00033-00015480-00016006 ar gyfer bod yn gynghorydd ar hyn o bryd yw £13,868. |
|
McohvhkWRZY-00034-00016019-00016542 Mae gan Gynghorwyr yr hawl i dderbyn y cyflog hwn yn gyfnewid am yr ymrwymiad a'r cyfraniad |
|
McohvhkWRZY-00035-00016544-00016658 a wnânt. |
|
McohvhkWRZY-00036-00016670-00017174 Mae gan Gynghorwyr hawl hefyd i hawlio ad-daliad ar gyfer teithio a chynhaliaeth pan fyddant |
|
McohvhkWRZY-00037-00017188-00017330 ar fusnes swyddogol. |
|
McohvhkWRZY-00038-00017334-00017752 Ydych chi'n rhiant sy'n gweithio neu a oes gennych chi gyfrifoldebau gofal eraill? |
|
McohvhkWRZY-00039-00017800-00018202 Gall eich cyngor eich ad-dalu hyd at £403 y mis. |
|
McohvhkWRZY-00040-00018236-00018762 Gelwir hyn yn ad-dalu cost gofal a gellid ei ddefnyddio hefyd ar gyfer costau sy'n ymwneud |
|
McohvhkWRZY-00041-00018782-00018964 â'ch anghenion cymorth personol. |
|
McohvhkWRZY-00042-00018984-00019456 Gallwch hefyd hawlio'ch cyflog wrth gymryd absenoldeb teuluol fel absenoldeb rhiant. |
|
McohvhkWRZY-00043-00019457-00019919 Y tâl a dderbyniwch yw i'ch helpu i gyflawni dyletswyddau eich cynghorydd. |
|
McohvhkWRZY-00044-00019919-00020362 All councillors will receive a basic allowance which helps them them fulfil their role as |
|
McohvhkWRZY-00045-00020362-00020490 a county councillor. |
|
McohvhkWRZY-00046-00020490-00021128 To enable younger people of working age to get involved in elected life you need to have |
|
McohvhkWRZY-00047-00021128-00021461 that allowance to allow you to do that to help support you in your role as a county |
|
McohvhkWRZY-00048-00021461-00021561 councillor. |
|
McohvhkWRZY-00049-00021561-00021971 You can also claim expenses such as mileage expenses and also cost of care (Reimbursement |
|
McohvhkWRZY-00050-00021971-00022287 of cost of care – RoCoC) so if you have any caring responsibilities whether that be |
|
McohvhkWRZY-00051-00022287-00022848 children or for elderly parents then you can claim that cost of care back up to a certain |
|
McohvhkWRZY-00052-00022848-00022975 figure per month. |
|
McohvhkWRZY-00053-00022975-00023874 Yes the salary is important it allows me a platform to do a significant amount more than |
|
McohvhkWRZY-00054-00023874-00024685 if I was not paid and particularly as a father I can claim child costs as well so child care |
|
McohvhkWRZY-00055-00024685-00024785 costs. |
|
McohvhkWRZY-00056-00024785-00025275 Every councillor on a Principal Authority in Wales gets a basic income, I am also a |
|
McohvhkWRZY-00057-00025275-00025783 chair of a committee so I get an extra allowance for that something they call a ‘Senior Responsibility |
|
McohvhkWRZY-00058-00025783-00026197 Allowance’ (SRA) and that’s because as a committee chair you take on extra work around |
|
McohvhkWRZY-00059-00026197-00026646 governance and leadership of that committee and some of the more of the detailed policy |
|
McohvhkWRZY-00060-00026646-00026816 work that goes into that as well. |
|
McohvhkWRZY-00061-00026816-00027212 So you are paid for the work that you do and I have think that’s really important because |
|
McohvhkWRZY-00062-00027212-00027665 it means people like me, working class people are able to run for office and serve their |
|
McohvhkWRZY-00063-00027665-00027765 communities. |
|
McohvhkWRZY-00064-00027765-00028313 So I am currently mostly a mother, a councillor and a member of the Authority, the National |
|
McohvhkWRZY-00065-00028313-00028433 Park Authority. |
|
McohvhkWRZY-00066-00028433-00029043 I have two small children, a 3 year old and a 5 year old and the 3 year old is still not |
|
McohvhkWRZY-00067-00029043-00029552 in school so obviously there is a lot of child care involved. |
|
McohvhkWRZY-00068-00029552-00030083 Being able to claim for child care really makes this job possible otherwise financially |
|
McohvhkWRZY-00069-00030083-00030343 it’s just not possible. |
|
McohvhkWRZY-00070-00030343-00031371 I know that some people view members expenses as a kind of luxury but absolutely its essential |
|
McohvhkWRZY-00071-00031371-00031803 if you want people from different walks of life representing you on Local Government. |
|
McohvhkWRZY-00072-00031803-00032275 Nid yw cynghorwyr yn pennu eu cyflogau eu hunain; mae'r fframwaith ar gyfer cyflogau |
|
McohvhkWRZY-00073-00032275-00032612 cynghorwyr yn cael ei osod gan Banel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol. |
|
McohvhkWRZY-00074-00032612-00033256 Ewch i wefan y Panel am ragor o fanylion am y tâl a'r lwfansau y gallwch eu hawlio fel |
|
McohvhkWRZY-00075-00033256-00033675 cynghorydd, gan eu bod i gyd wedi'u cyhoeddi yn adroddiad blynyddol y Panel. |
|
McohvhkWRZY-00076-00033676-00034210 Edrychwch ar wefan CLILC am ragor o fanylion ar sut i ddod yn gynghorydd. |
|
|