44q5bTz7rtM-00000-00000000-00000357 Mae feirysau'n lledaenu'n rhwydd o berson i berson. 44q5bTz7rtM-00001-00000357-00000860 Os ydych chi’n teimlo'n sâl, 44q5bTz7rtM-00002-00000860-00001364 gallwch atal lledaeniad trwy gyfyngu ar eich cyswllt ag eraill, yn enwedig pobl agored i niwed. 44q5bTz7rtM-00003-00001364-00001878 Felly, arhoswch gartref gymaint ag y gallwch, 44q5bTz7rtM-00004-00001878-00002398 gweithiwch gartref os yw'n bosibl ac ewch allan os oes wir angen yn unig. 44q5bTz7rtM-00005-00002398-00002735 Os ydych chi’n gadael eich cartref, 44q5bTz7rtM-00006-00002735-00003079 gwisgwch fasg wyneb... 44q5bTz7rtM-00007-00003079-00003412 ac osgoi lleoedd prysur neu gaeedig. 44q5bTz7rtM-00008-00003412-00003926 Ceisiwch gadw draw oddi wrth unrhyw berson agored i niwed. 44q5bTz7rtM-00009-00003926-00004503 Diogelu Cymru gyda'n gilydd. llyw.cymru/DiogeluCymru 4Za3tvUza9c-00000-00000012-00000246 Mae gan Gruff drwyn am stori erioed. 4Za3tvUza9c-00001-00000246-00000690 Diolch i brentisiaeth, mae bellach yn cael cyfle i fynd ar drywydd ei stori ei hun. 4Za3tvUza9c-00002-00000732-00001132 Ar ôl gorffen yn yr ysgol, roedd Gruff yn gwybod ei fod am ddilyn ei freuddwydion a 4Za3tvUza9c-00003-00001132-00001456 gweithio yn y cyfryngau - ond doedd e ddim yn siŵr sut i gychwyn gyrfa. 4Za3tvUza9c-00004-00001456-00001776 Felly, gwnaeth y dewis doeth a gwneud cais am brentisiaeth. 4Za3tvUza9c-00005-00001776-00002239 Roedd hyn yn golygu bwrw iddi a gwneud sawl swydd o fewn y sector, gan ddysgu sgiliau 4Za3tvUza9c-00006-00002239-00002427 ac ennill cyflog ar yr un pryd. 4Za3tvUza9c-00007-00002427-00002668 I weld beth all prentis ei wneud i ti… 4Za3tvUza9c-00008-00002668-00002962 Chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth. 6ruHthC3Ehk-00000-00000000-00000376 Cael ein brechu yn llawn yw'r ffordd orau o amddiffyn ein hunain... 6ruHthC3Ehk-00001-00000376-00000747 a'r bobl o'n cwmpas rhag COVID-19. 6ruHthC3Ehk-00002-00000747-00001217 Mae'r brechlyn yn ddiogel ac yn effeithiol. 6ruHthC3Ehk-00003-00001217-00001706 Ni fydd bob amser yn ein hatal rhag dal COVID-19, 6ruHthC3Ehk-00004-00001706-00002213 ond mae'n ei gwneud yn llawer yn llai tebygol y byddwch chi’n ddifrifol wael. 6ruHthC3Ehk-00005-00002213-00002733 Gall brechiadau leihau ar faint mae’r haint yn lledaenu hefyd, 6ruHthC3Ehk-00006-00002733-00003223 er mwyn i chi fod yn llai tebygol o heintio eraill. 6ruHthC3Ehk-00007-00003223-00003703 Diogelu Cymru gyda'n gilydd. llyw.cymru/DiogeluCymru eglp41_2lp8-00000-00000800-00001398 Martyn Evans ydw i, fi yw Pennaeth Gweithrediadau De Orllewin Cymru ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru. eglp41_2lp8-00001-00001398-00001995 Fi hefyd yw’r Uwch Swyddog Cyfrifol ar gyfer Prosiect Corsydd Crynedig LIFE. eglp41_2lp8-00002-00001995-00003093 Yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd, ry’n ni’n manteisio ar y cyllid sy’n weddill gyda phartneriaid eraill i wneud gwaith cadwraeth go iawn yn ein Hardaloedd Cadwraeth Arbennig, eglp41_2lp8-00003-00003093-00003787 yn enwedig ar Gorsydd Crynedig, fel y’u gelwir – teitl y prosiect, felly, yw Corsydd Crynedig LIFE. eglp41_2lp8-00004-00003787-00004985 Mae gennym ni bartneriaid da iawn, ac maen nhw’n ariannu’r prosiect hefyd – sef Awdurdodau'r Parciau Cenedlaethol yn Eryri a Sir Benfro, yn ogystal â'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol... rydyn ni i gyd o gwmpas y bwrdd. eglp41_2lp8-00005-00004985-00005582 Bydd rhai cyfleoedd gwych i weithio mewn partneriaeth â rhanddeiliaid lleol, rydyn ni'n mynd i sefydlu Fforwm Rhanddeiliaid... eglp41_2lp8-00006-00005582-00006876 Mae rhai cyfleoedd gwirioneddol dda i ddysgu llawer mwy am Gorsydd Crynedig – eu pwysigrwydd yn ddiwylliannol, yn economaidd o ran mynediad, hamddena a mwynhau... yn ogystal ag am resymau bioamrywiaeth. eglp41_2lp8-00007-00006876-00007574 Gobeithiwn y bydd y prosiect hwn yn helpu i fynd i'r afael ag ambell fater o ran yr argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur ar yr un pryd. eglp41_2lp8-00008-00007574-00008772 Dyma gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn o ran y dirywiad mewn bioamrywiaeth yn ein cynefinoedd yng Nghymru, a gwneud ein cynefinoedd yng Nghymru'n llawer mwy gwydn fel ecosystemau... eglp41_2lp8-00009-00008772-00009069 ...felly dyna'r gwir gyfle rydyn ni am wneud y gorau ohono gyda’r prosiect hwn. iOhVmFWzDxg-00000-00000000-00000530 Dwi’n chwilio am help ar ôl dêt ar-lein. Roedd popeth yn iawn tan inni gyrraedd ei dŷ o. iOhVmFWzDxg-00001-00000560-00000706 Alli di ddweud wrtha i be’ ddigwyddodd? iOhVmFWzDxg-00002-00000734-00001194 Do’n i ddim eisiau cael rhyw ond ddudodd o ddylswn i ddim ‘di mynd ‘nôl i’w dŷ o os o’n i ddim eisiau fo, de. iOhVmFWzDxg-00003-00001230-00001468 Dyw hyn DDIM YN IAWN. Cam-drin rhywiol yw hyn. iOhVmFWzDxg-00004-00001502-00002094 Does dim esgus. Os nad oeddet ti wedi cydsynio, mae’n drais ac yn drosedd. Gallwn ni dy helpu di. iOhVmFWzDxg-00005-00002128-00002594 Mae help a chefnogaeth gyfrinachol ar gael ddydd a nos ar Linell Gymorth Byw Heb Ofn. iOhVmFWzDxg-00006-00002632-00003008 Ffoniwch 0808 80 10 800 rmTEvxq2AKk-00000-00000000-00000228 Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. rmTEvxq2AKk-00001-00000304-00000712 Gobeithio i chi gael Nadolig llawen a heddychlon. rmTEvxq2AKk-00002-00000816-00001552 Wrth i 2022 ddod i ben, bydd llawer yn falch o weld diwedd blwyddyn anodd. rmTEvxq2AKk-00003-00001728-00002264 Hon oedd blwyddyn lansio’r rhyfel greulon Rwsia yn erbyn Wcráin. rmTEvxq2AKk-00004-00002404-00003032 Lladdwyd miloedd, ac mae miliynau wedi gorfod ffoi o’u cartrefi. rmTEvxq2AKk-00005-00003160-00003708 A dros y deuddeg mis diwethaf mae’r argyfwng costau byw wedi gwaethygu. rmTEvxq2AKk-00006-00003860-00004320 Mae’n fwy anodd cael dau ben llinyn ynghyd. rmTEvxq2AKk-00007-00004436-00005164 Ond, hyd yn oed yn y cyfnod anodd hwn, mae pobl wedi bod mor barod i helpu eraill. rmTEvxq2AKk-00008-00005208-00005684 Rydym wedi gweld cryfder a gwir garedigrwydd. rmTEvxq2AKk-00009-00005780-00006316 Mae pobl wedi agor eu cartrefi i filoedd o bobl o Wcráin, rmTEvxq2AKk-00010-00006364-00006788 gan gynnig noddfa a diogelwch yma yng Nghymru. rmTEvxq2AKk-00011-00006828-00007192 Ac unwaith eto, mae cymunedau wedi ymuno rmTEvxq2AKk-00012-00007192-00008004 i helpu ei gilydd yn yr argyfwng costau byw – yn union fel yn y pandemig. rmTEvxq2AKk-00013-00008088-00008380 Mae Blwyddyn Newydd yn ddechrau newydd rmTEvxq2AKk-00014-00008444-00009132 ac rwy’n siŵr bod gan bawb eu gobeithion a’u dymuniadau am y flwyddyn nesaf. rmTEvxq2AKk-00015-00009240-00010148 Dewch inni obeithio am heddwch yn 2023, ac amser hapusach i ddod. rmTEvxq2AKk-00016-00010220-00010500 Blwyddyn Newydd Dda i chi i gyd. s7P2PjHVTeU-00000-00000000-00000360 Pan fyddaf yn meddwl am ddyfodol yr amgylchedd naturiol yma yng Nghymru, rwy’n meddwl am fy s7P2PjHVTeU-00001-00000360-00000984 mab ac rwy’n meddwl am ein plant. Ac rwy'n meddwl yn ôl i fy rhieni, wyddoch chi, un o'r s7P2PjHVTeU-00002-00000984-00001728 rhoddion mwyaf a roddon i mi oedd perthynas â'r awyr agored o oedran ifanc a'r hyder i'w s7P2PjHVTeU-00003-00001823-00003328 fwynhau. A gwelaf hynny yn fy mab nawr. Rwy’n teimlo’n angerddol iawn am roi’r sgiliau iddo, s7P2PjHVTeU-00004-00003328-00003911 a’r profiadau cadarnhaol yn yr awyr agored, y bydd yn eu hamddiffyn am weddill ei oes. s7P2PjHVTeU-00005-00004104-00004608 Rwy'n byw yng Nghaerdydd, wyddoch chi, mae'n ardal drefol, ond rydym wedi'n hamgylchynu gan natur. Mae gennym ni s7P2PjHVTeU-00006-00004608-00005432 barciau anhygoel, mannau gwyrdd anhygoel. Does dim rhaid i ni deithio'n bell, i brofi Cymru wyllt. s7P2PjHVTeU-00007-00005976-00006464 Hoffwn amddiffyn hynny iddo ef ac i'n holl blant. Ac, rwy’n meddwl bod hynny’n s7P2PjHVTeU-00008-00006464-00007184 dechrau gyda ni, ei gydnabod, ei werthfawrogi, ei werthfawrogi, a chael y sgwrs hon. tW0qUlZOqgM-00000-00000004-00000390 Fy Nhad-yng-nghyfraith 'nath ddechrau'r busnes yn 1966. tW0qUlZOqgM-00001-00000390-00000600 Gweld bod ‘na le ar y farchnad tW0qUlZOqgM-00002-00000620-00001000 i gael gwerthu bwyd fel anrhegion i’r diwydiant twristiaeth. tW0qUlZOqgM-00003-00001010-00001620 Ma’ bod yn aelod o’r clwstwr wedi rhoi cyfle i fi drafod hefo sawl cynhyrchydd eraill. tW0qUlZOqgM-00004-00001630-00001720 Mae o’n gyfle gwych. tW0qUlZOqgM-00005-00001730-00002210 Mae mynychu cyfarfodydd fel Taste Wales ac yn y blaen mae wedi bod yn werthfawr iawn i ni. tW0qUlZOqgM-00006-00002220-00003000 Da ni wedi cyfarfod prynwyr hotels mawr dylanwadol yng Nghymru, mae o i gyd ‘di neud gyda’r help da ni wedi cael gan y Llywodraeth, so mae’n wych! ulUt5GRqrDI-00000-00000000-00000400 Mae sawl ffordd o gael mynediad at wasanaethau'r GIG ulUt5GRqrDI-00001-00000400-00000724 i ddechrau cael y gofal cywir, yn y lle cywir, y tro cyntaf. ulUt5GRqrDI-00002-00000724-00001196 Gallwch gael gofal, cymorth a chyngor am gyflwr iechyd hen neu newydd, heb orfod gadael eich cartref na’r gwaith. ulUt5GRqrDI-00003-00001196-00001500 Chi sy’n dechrau’r daith at fod yn iach. llyw.cymru/HelpuNiHelpuChi z5NwmB32b7c-00002-00000488-00000914 Beth fyddai'n digwydd pe bydden ni'n rhoi neu'n derbyn cymorth anghyfreithlon? z5NwmB32b7c-00003-00000914-00001689 I ddechrau, dyma grynodeb ddefnyddiol o'r hyn sy'n cyfri fel Cymorth Gwladwriaethol cyfreithlon ac anghyfreithlon. z5NwmB32b7c-00004-00001689-00002122 Mae’n bwysig cofio bod cymorth yn gallu bod yn anghyfreithlon nid yn unig os z5NwmB32b7c-00005-00002122-00002686 nad yw wedi cael ei roi yn unol â'r rheolau, ond hefyd os nad yw'r rheolau wedi'u dilyn yn gywir. z5NwmB32b7c-00006-00002686-00003429 Mae nifer fawr o wahanol ffyrdd i'r Comisiwn Ewropeaidd sylwi ar Gymorth Gwladwriaethol anghyfreithlon. z5NwmB32b7c-00007-00003429-00004626 Bob blwyddyn mae'r Comisiwn yn archwilio sampl o gynlluniau Cymorth Gwladwriaethol mae'r Aelod-wladwriaethau wedi'u cofrestru neu hysbysu'r Comisiwn amdanynt. z5NwmB32b7c-00008-00004626-00005166 Mae'r Comisiwn Ewropeaidd yn cadw llygad ar erthyglau yn y wasg gan Aelod-wladwriaethau z5NwmB32b7c-00009-00005166-00005744 ac yn medru gofyn cwestiynau os ydyn nhw'n pryderu bod Cymorth Gwladwriaethol yn cael ei ddarparu. z5NwmB32b7c-00010-00005744-00006538 Gall busnesau a sefydliadau eraill gwyno wrth y Comisiwn os ydyn nhw'n credu bod un o'u cystadleuwyr wedi derbyn z5NwmB32b7c-00011-00006538-00007109 Cymorth Gwladwriaethol anghyfreithlon. Os yw hyn yn digwydd, rhaid i'r Comisiwn ymchwilio. z5NwmB32b7c-00012-00007109-00007658 Felly beth yw goblygiadau cymorth anghyfreithlon? z5NwmB32b7c-00013-00007658-00008392 Os yw'r Comisiwn yn penderfynu bod y cymorth yn anghyfreithlon, gall hyn arwain at gamau pellach: z5NwmB32b7c-00014-00008392-00008894 Gall y Comisiwn fynnu bod y cymorth anghyfreithlon yn cael ei ad-dalu z5NwmB32b7c-00015-00008894-00009556 Er enghraifft, yn ddiweddar maen nhw wedi mynnu bod rhaid i awdurdodau Ffrainc adennill cymorth gan EDF. z5NwmB32b7c-00016-00009556-00010568 Hefyd mae'n bosibl y gall cystadleuwyr ddefnyddio llysoedd domestig i erlyn awdurdodau cyhoeddus am iawndal o ganlyniad i golli busnes. z5NwmB32b7c-00017-00010568-00011478 Dan y Rheoliad Eithriad Bloc Cyffredinol newydd, gall y Comisiwn Ewropeaidd benderfynu bod rhaid i awdurdod z5NwmB32b7c-00018-00011478-00011852 cyhoeddus hysbysu am yr holl gymorth sy'n cael ei roi ganddynt. z5NwmB32b7c-00019-00011852-00012442 Bydd hyn yn ei gwneud yn anoddach i awdurdodau cyhoeddus roi Cymorth Gwladwriaethol yn gyflym. z5NwmB32b7c-00020-00012442-00013200 Cafodd y cwmni awyrennau rhad, Ryanair gyfres o gytundebau marchnata ffafriol ac ad-daliadau z5NwmB32b7c-00021-00013200-00013996 contractiol gan amrywiol feysydd glanio rhanbarthol yn Ffrainc. Yn dilyn ymchwiliad gan y Comisiwn Ewropeaidd, z5NwmB32b7c-00022-00013996-00015038 penderfynwyd bod y cytundebau hyn yn Gymorth Gwladwriaethol anghyfreithlon, a gorchmynnwyd i Ffrainc adennill €10 miliwn gan Ryanair. z5NwmB32b7c-00023-00015038-00015894 Mae ardoll agregau'r Deyrnas Unedig yn dreth ar ddefnydd masnachol o greigiau, tywod a graean. z5NwmB32b7c-00024-00015894-00016772 Cafodd ei chyflwyno fel treth amgylcheddol yn 2002 er mwyn annog ailddefnyddio ac ailgylchu yr agregau presennol. z5NwmB32b7c-00025-00016772-00017466 Mae'r ardoll yn cael ei chodi ar gyfradd wastad o £2 am bob tunnell sy'n cael ei chloddio o'r ddaear, z5NwmB32b7c-00026-00017466-00017804 ond roedd rhai agregau wedi'u heithrio. z5NwmB32b7c-00027-00017804-00018696 Yn 2013 agorodd y Comisiwn ymchwiliad i honiadau bod yr eithriadau hyn yn cyfateb i Gymorth Gwladwriaethol. z5NwmB32b7c-00028-00018696-00019526 Ym mis Mawrth 2015, penderfynodd y Comisiwn bod eithrio agregau siâl yn cyfateb i Gymorth Gwladwriaethol, z5NwmB32b7c-00029-00019538-00020104 ac fe orchmynnwyd i Lywodraeth y DU gymryd y dreth a oedd wedi’i hepgor yn ôl. z5NwmB32b7c-00030-00020104-00021018 Er mwyn lleihau peryglon Cymorth Gwladwriaethol, mae gan y rhai sy'n rhoi cymorth gyfres o gyfrifoldebau. z5NwmB32b7c-00031-00021034-00021748 Rhaid ichi: Sicrhau bod pob dyfarniad cymorth yn cael ei roi dan y cynllun Cymorth Gwladwriaethol cywir. z5NwmB32b7c-00032-00021758-00022644 Hyd yn oed os yw hyn yn golygu nad oes modd i chi roi cymaint ag yr hoffech; mae'n well defnyddio'r cynllun cywir z5NwmB32b7c-00033-00022656-00023246 ar gyfer y sefyllfa yn hytrach na cheisio'i wasgu dan y cynllun anghywir a pheryglu ymchwiliad. z5NwmB32b7c-00034-00023246-00024480 Gwnewch yn siŵr bod HOLL delerau ac amodau'r cynllun Cymorth Gwladwriaethol cywir yn cael eu bodloni; os oes unrhyw un o'r telerau z5NwmB32b7c-00035-00024480-00024924 ac amodau heb eu bodloni, bydd y cymorth yn cael ei ystyried yn anghyfreithlon, z5NwmB32b7c-00036-00024924-00025352 ac mae perygl y byddwch yn cael eich gorfodi i gymryd gwerth y cymorth yn ôl. z5NwmB32b7c-00037-00025352-00026102 Os oes gennych unrhyw amheuon, gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar wefan Llywodraeth Cymru z5NwmB32b7c-00038-00026114-00027074 Gwnewch yn siŵr bod Uned Cymorth Gwladwriaethol Llywodraeth Cymru yn cael enw cyswllt mwyn helpu gyda'r adroddiadau blynyddol z5NwmB32b7c-00039-00027086-00027664 a sicrhau tryloywder. Mae hyn bellach yn rhan o delerau ac amodau'r rheolau z5NwmB32b7c-00040-00027664-00028210 Cymorth Gwladwriaethol, a bydd methu â'u darparu yn golygu eich bod yn torri'r rheolau. z5NwmB32b7c-00041-00028210-00029145 Rhaid ichi gadw tystiolaeth am 10 mlynedd ar ôl gwneud y dyfarniad cymorth olaf dan y cynllun, rhag ofn y bydd y Comisiwn yn ymchwilio. z5NwmB32b7c-00042-00029145-00029532 Bydd hyn yn eich galluogi i amddiffyn eich gweithredoedd, z5NwmB32b7c-00043-00029532-00030033 ac yn lleihau'r perygl y bydd galw arnoch i gymryd y dyfarniad yn ôl. z5NwmB32b7c-00044-00030033-00030918 Er mwyn lleihau peryglon Cymorth Gwladwriaethol, mae cyfrifoldebau ar y sawl sy'n derbyn cymorth hefyd. z5NwmB32b7c-00045-00030918-00031908 Rhaid ichi: Sicrhau bod y corff sy'n dyfarnu'r cymorth yn nodi'r cynllun cymorth gwladwriaethol cywir ar gyfer eich dyfarniad. z5NwmB32b7c-00046-00031920-00032404 Sicrhau bod eich gweithgareddau'n aros o fewn telerau ac amodau'r cynllun, z5NwmB32b7c-00047-00032404-00032974 ac os oes unrhyw amheuaeth rhaid i chi gadarnhau gyda'r corff sy'n dyfarnu'r cymorth. z5NwmB32b7c-00048-00032974-00033866 Sicrhau eich bod yn darparu unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn brydlon, mae hyn yn rhan o delerau ac amodau eich dyfarniad, z5NwmB32b7c-00049-00033866-00034370 a hebddo mae perygl i chi dorri'r amodau’r cynllun sy'n cael ei ddefnyddio. z5NwmB32b7c-00050-00034370-00035064 Cadw gwybodaeth ynghylch eich dyfarniad cymorth am ddeng mlynedd rhag ofn y bydd y Comisiwn yn ymchwilio. z5NwmB32b7c-00051-00035064-00035774 Bydd hyn yn eich galluogi i amddiffyn eich gweithredoedd, ac yn lleihau'r perygl y bydd galw arnoch i ad-dalu'r dyfarniad. z5NwmB32b7c-00052-00035900-00036490 I gael rhagor o wybodaeth am Gymorth Gwladwriaethol, z5NwmB32b7c-00053-00036490-00037304 ewch i'n gwefan; Mae cyfres o daflenni gwybodaeth a rhestrau gwirio ar gael i'ch helpu gyda'ch gwaith. I8FdaTvqqzM-00000-00000019-00000471 Doedd Parc Treftadaeth Cwm Rhondda ddim am i’w busnes fynd yn angof, felly dyma recriwtio I8FdaTvqqzM-00001-00000471-00000704 prentis i’w helpu i gamu ymlaen i’r dyfodol. I8FdaTvqqzM-00002-00000704-00001254 Mae dod o hyd i staff â’r sgiliau a’r cymwysterau cywir yn her i’r sector treftadaeth. I8FdaTvqqzM-00003-00001254-00001542 Ond nid i Barc Treftadaeth Cwm Rhondda. I8FdaTvqqzM-00004-00001542-00001978 Fe wnaethon nhw’r dewis doeth i hyfforddi prentis, er mwyn cau’r bwlch sgiliau yn I8FdaTvqqzM-00005-00001978-00002350 eu busnes a recriwtio rhywun oedd yn gwbl angerddol am hanes. I8FdaTvqqzM-00006-00002350-00002624 I weld beth all prentis ei wneud i dy fusnes di … I8FdaTvqqzM-00007-00002624-00002962 Chwilia am ‘Prentisiaethau Cymru’. Dewis doeth. IqLYxz3dE-Y-00000-00000018-00000156 Sut allwn ni helpu? IqLYxz3dE-Y-00001-00000172-00000560 Mae fy mhartner yn gwthio ei hun arna’i a gorfodi fi i wneud pethau rhywiol. IqLYxz3dE-Y-00002-00000574-00000764 Dwi wedi dweud na ond dyw e’ ddim yn cymryd sylw. IqLYxz3dE-Y-00003-00000788-00000940 Roeddet ti’n iawn i ffonio. IqLYxz3dE-Y-00004-00000966-00001408 Mae’n dweud mae e jest yn ‘neud e’ achos mae eisiau fi, a bydd neb yn credu fi achos ni gyda’n gilydd. IqLYxz3dE-Y-00005-00001428-00001738 Dyw hyn DDIM YN IAWN. Cam-drin rhywiol yw hyn. IqLYxz3dE-Y-00006-00001760-00001996 Rydyn ni’n dy gredu di ac yn gallu helpu. IqLYxz3dE-Y-00007-00002023-00002602 Mae help a chefnogaeth gyfrinachol ar gael ddydd a nos ar Linell Gymorth Byw Heb Ofn. IqLYxz3dE-Y-00008-00002624-00002996 Ffoniwch 0808 80 10 800