source
stringlengths
3
13.7k
target
stringlengths
3
14.3k
Thanks very much. This area is one of the areas I think we should be most proud of where we've been really innovative in Wales. What we're doing is using the skills of highly skilled workers who had those innate skills; these are people who've been very well trained, but we weren't using some of their skills. We've upskilled them even further in order to make sure that they can, as you say, like Gwynn's Opticians, give that independent prescribing to the population. That is giving support within the community. One of our key actions in our manifesto was to make sure that we improve access at the primary care level - this is part of that. So, what we know is that demand for ophthalmic services is going to increase significantly over the next 20 years. It's back to that ageing population. None of us are going to duck this; we're going to have to confront it and we're going to have to discuss it. We're going to have to understand that the demands on the service are going to increase massively, and we need to have a conversation about that. But, what I am pleased to say is that, following the optometry contract negotiations, new service models and associated costs have been agreed for implementation of the new optometry contracted terms of service, which are now going to be stepped up over the next three years. Certain aspects of the reform will require changes to regulations before they can come into force, so there will be a few tweaks we're going to have to make legally to make some of this possible, but we're on it, and we're hoping to make sure that that is going to be possible, so that Gwynn's Opticians and others can help us even more in the future.
Diolch yn fawr. Mae'r maes hwn yn un o'r meysydd yr wyf i'n credu y dylem ni fod yn fwyaf balch ohono oherwydd ein gwaith arloesol iawn ni yng Nghymru. Yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw defnyddio sgiliau gweithwyr medrus iawn yr oedd y sgiliau cynhenid hynny ganddyn nhw; pobl sydd wedi cael hyfforddiant da iawn yw'r rhain, ond nid oeddem ni'n defnyddio rhai o'u sgiliau nhw. Rydyn ni wedi eu huwchsgilio hyd yn oed ymhellach i sicrhau eu bod nhw'n gallu, fel rydych chi'n dweud, fel yn Optegwyr Gwynn, roi'r rhagnodi annibynnol hwn i'r boblogaeth. Mae hynny'n rhoi cefnogaeth yn y gymuned. Un o'n prif gamau ni yn ein maniffesto oedd sicrhau ei bod hi'n haws cael gafael ar ofal sylfaenol - mae hyn yn rhan o hynny. Felly, yr hyn a wyddom ni yw y bydd y galw am wasanaethau offthalmig yn cynyddu yn sylweddol dros yr 20 mlynedd nesaf. Mae hyn yn mynd yn ôl at ein poblogaeth sy'n heneiddio. Ni all neb ohonom ni osgoi hyn; fe fydd yn rhaid i ni wynebu hyn ac fe fydd yn rhaid i ni drafod hyn. Fe fydd yn rhaid i ni ddeall y bydd y galwadau ar y gwasanaeth yn cynyddu yn aruthrol, ac mae angen i ni gael sgwrs ynglŷn â hynny. Ond, yr hyn yr wyf i'n falch o'i ddweud yw, yn dilyn trafodaethau'r contract optometreg, y ceir modelau gwasanaeth newydd a chostau cysylltiedig a gytunwyd ar gyfer gweithredu'r telerau gwasanaeth newydd a gafodd eu cytuno ar gyfer optometreg, a fydd yn cael eu cynyddu nawr dros y tair blynedd nesaf. Fe fydd rhai agweddau ar y diwygiad hwn yn gofyn am newidiadau i reoliadau cyn y gallan nhw ddod i rym, felly fe fydd hi'n rhaid gwneud rhywfaint o newidiadau bychain ar gyfer gwneud rhywfaint o hyn yn bosibl yn gyfreithiol, ond rydyn ni'n gwneud hynny, ac rydyn ni'n gobeithio sicrhau y bydd hynny'n bosibl, fel gall Optegwyr Gwynn a rhai eraill ein helpu ni hyd yn oed yn fwy yn y dyfodol.
We move to item 6, a statement by the Counsel General and Minister for the Constitution on the interim report of the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales. I call on the Minister for the Constitution to make the statement - Mick Antoniw.
Felly, eitem 6 sydd nesaf, sef y datganiad gan y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad ar adroddiad interim y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Dwi'n galw ar Weinidog y Cyfansoddiad i wneud y datganiad - Mick Antoniw.
Thank you, Llywydd. Eighteen months ago, we established the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales. We asked the commission to consider and develop options for fundamental reform of the constitutional structures of the United Kingdom, in which Wales remains an integral part. We also asked them to consider and develop all progressive options to strengthen Welsh democracy and to deliver improvements for the people of Wales. The commission's task was to produce an interim report by the end of last year, with a full report by the end of this year. Before Christmas, I was pleased to inform Members that the commission had met the first of its objectives and had published its interim report. Today, I'd like to welcome that interim report, and I'd like to place on record my thanks to the commission's co-chairs, Dr Rowan Williams and Professor Laura McAllister, and all the members of the commission for their work in producing the report. The interim report is a substantial one. It is an authoritative and well-evidenced document. There was an excellent public outreach and consultation process. While the commission's work continues, it has come to an important conclusion: the status quo is 'no longer a stable basis for the future'.
Diolch, Llywydd. Ddeunaw mis yn ôl, fe wnaethom ni sefydlu'r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Gofynnon ni i'r comisiwn ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio trefn gyfansoddiadol y Deyrnas Unedig yn sylfaenol ond gyda Chymru yn dal i fod yn rhan annatod ohoni. Gofynnon ni hefyd iddyn nhw ystyried a datblygu pob opsiwn blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a gwneud pethau'n well i bobl Cymru. Tasg y comisiwn oedd llunio adroddiad interim erbyn diwedd y llynedd, gydag adroddiad llawn erbyn diwedd eleni. Cyn y Nadolig, roeddwn i'n falch o roi gwybod i'r Aelodau bod y comisiwn wedi bodloni'r amcan cyntaf ac wedi cyhoeddi adroddiad interim. Heddiw, hoffwn i groesawu'r adroddiad hwnnw gan ddiolch i ddau gadeirydd y comisiwn, Dr Rowan Williams a'r Athro Laura McAllister, a holl aelodau'r comisiwn am eu gwaith ar yr adroddiad. Mae'r adroddiad interim yn un sylweddol. Mae'n ddogfen awdurdodol gyda thystiolaeth dda. Roedd proses wych o drafod ac ymgynghori gyda'r cyhoedd. Efo gwaith y comisiwn yn parhau, mae e wedi dod i gasgliad pwysig: nid yw'r statws cwo bellach yn sail sefydlog i'r dyfodol.
Llywydd, the commission is taking forward its work at a time when the tensions in the wider constitutional structures of the United Kingdom are increasing and our inter-governmental relationship tested. In that context, it is not surprising at all that the commission has reached the view that neither the status quo nor unwinding devolution are viable options for further consideration. Nor is it surprising that the commission's work is contributing to a real and growing momentum behind calls for constitutional change. Members will be aware of the report that was recently published by Gordon Brown's commission on the future of the UK, which made a series of radical proposals for constitutional reform, and which references the work of the independent commission. Llywydd, I believe that change is inevitable, and I believe that the commission's work is, and will be, a vital contribution to the discussion already taking place. In my written statement, I encouraged Members, and indeed anyone with an interest in our constitution, to consider the report, and I hope Members will have done so. On that point, I want to highlight the commission's work to engage with the public. Given the direct impact that our governance arrangements will have on people's lives, we asked the commission to engage widely with civic society and the Welsh public to raise awareness and to build a genuinely national conversation. Their initial consultation has resulted in over 2,000 responses, and I am particularly grateful to the commission for the innovative way they have engaged with communities through their community engagement fund. If the commission's solutions are to be workable and command support, they must be grounded in the experience of the lives of those whose lives they will affect. Indeed, the commission has indicated their intention, in the next phase of their work, to extend their conversation with the people of Wales. As the commission embarks on this next phase, I would encourage Members of all parties in this Chamber to engage with the commission and to encourage engagement from their communities to ensure that the commission's conclusions are truly reflective of all of the people of Wales. Diolch, Llywydd.
Llywydd, mae'r comisiwn yn bwrw ymlaen â'i waith mewn cyfnod o densiynau cynyddol yn strwythurau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a phrawf yn cael ei roi ar ein perthynas ryng-lywodraethol ni. Yn y cyd-destun hwnnw, nid yw hi'n syndod o gwbl fod y comisiwn wedi dod i'r farn nad yw'r sefyllfa gyfredol na datod datganoli yn ddewisiadau hyfyw i roi unrhyw ystyriaeth bellach iddyn nhw. Nid yw hi'n syndod chwaith fod gwaith y comisiwn yn cyfrannu at fomentwm gwirioneddol a chynyddol i alwadau am newidiadau cyfansoddiadol. Mae'r aelodau yn ymwybodol o'r adroddiad a gyhoeddwyd yn ddiweddar gan gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU, a wnaeth gyfres o gynigion radical ar gyfer diwygiadau cyfansoddiadol, ac sy'n cyfeirio at waith y comisiwn annibynnol. Llywydd, rwyf i o'r farn fod newid yn anochel, ac rwy'n credu bod gwaith y comisiwn, ac y bydd eto, yn gyfraniad hanfodol i'r drafodaeth sy'n digwydd eisoes. Yn fy natganiad ysgrifenedig i, roeddwn i'n annog Aelodau, ac yn wir unrhyw un sydd â diddordeb yn ein cyfansoddiad ni, i ystyried yr adroddiad, ac rwy'n gobeithio bod yr Aelodau wedi gwneud hynny. Ar y pwynt hwnnw, fe hoffwn i dynnu sylw at waith y comisiwn wrth ymgysylltu â'r cyhoedd. O ystyried yr effaith uniongyrchol a gaiff ein trefniadau llywodraethu ni ar fywydau pobl, fe ofynnwyd i'r comisiwn ymgysylltu yn eang â'r gymdeithas ddinesig a'r cyhoedd yng Nghymru i godi ymwybyddiaeth a meithrin sgwrs genedlaethol wirioneddol. Arweiniodd eu hymgynghoriad cychwynnol nhw at dros 2,000 o ymatebion, ac rwy'n arbennig o ddiolchgar i'r comisiwn am y ffordd arloesol y maen nhw wedi ymgysylltu â chymunedau drwy eu cronfa ymgysylltu â'r gymuned. Os yw atebion y comisiwn am fod yn ymarferol a bod yn deilwng o gefnogaeth, fe fydd rhaid iddyn nhw fod ar sail profiad bywydau'r rhai y bydd yr atebion hynny yn effeithio ar eu bywydau nhw. Yn wir, mae'r comisiwn wedi datgan eu bwriad, yn ystod cyfnod nesaf eu gwaith nhw, i ymestyn eu sgwrs gyda phobl Cymru. Wrth i'r comisiwn gychwyn ar y cam nesaf hwn, byddwn i'n annog Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon i ymgysylltu â'r comisiwn ac annog ymgysylltiad â'u cymunedau nhw i sicrhau y bydd casgliadau'r comisiwn yn wirioneddol adlewyrchu holl bobl Cymru. Diolch, Llywydd.
As the only party that seems to believe in the future of the whole of the United Kingdom, and Wales's integral place in it, it's my pleasure to be able to ask some questions in respect of your statement, Minister. The commission, as you will know, we regard as unnecessary. It's unnecessary because it's Wales just looking at one single part of the United Kingdom and not having proper consideration of the views of people elsewhere in the United Kingdom, which I think is a big mistake. It's an expensive commission - £1.1 million each year over three years. It's supposed to finish its work in December of this year, yet you've already allocated for future budgets in the following financial years, even beyond this current financial year, for two years, another £1.1 million. Can you explain to us why the commission, even after it has completed its work, still needs £1.1 million per year in the financial year 2024-25? I've paid great attention to the work of the commission; I've read the report. I was, frankly, astonished that it examined what it regarded as the centralised power system in England, but it had no regard whatsoever for the centralising of powers here in Wales. There was no talk of any potential for devolution to the regions of Wales - my part of Wales, which feels, for example, north Wales, so disconnected with life here in Cardiff Bay and, in particular, Cathays Park, because of the ignorance of the Welsh Government towards that particular region. Can I ask, will you give some direction to the commission to actually look at devolution within Wales in order that we can get a proper decentralised approach to the governance of this country, rather than the centralised approach that your Government has taken over the past two-odd decades? In addition to that, the report quite rightly talks about the importance of direct accountability in a democracy. Of course, we all know that the Labour Party, in cahoots with Plaid Cymru, is trying to strip that direct accountability away through the introduction of Senedd reforms that will empower political parties over members of the public in terms of whom they can directly elect to represent them in this Chamber. I know backbenchers on the Labour benches agree with me in that respect, because closed-list systems take away power from the people and put it into the pockets of political party leaders. That's the wrong approach, as far as we're concerned, and I think you should ask the commission to examine and give its view on the proposals for Senedd reform that have been hatched between the Labour Party and Plaid Cymru, because I don't think, frankly, that they would find them to be beneficial to the people of Wales. You made reference to Gordon Brown's commission on the future of the UK - a Labour Party document, not a document that has any more gravity outside of the Labour Party than the gravity that you seem to attach to it. Wales, of course, was an afterthought in that document. It talked heavily about the situation in Scotland. It talked about the regions of England. Wales barely got a mention in the document, and in fact the mention it did get completely disagreed with the view of the Labour Party here in Wales, which wanted to see the full devolution of the criminal justice system. Of course, Gordon Brown disagreed with you. I don't know why you're applauding him now in this Chamber and saying what a wonderful piece of work he's done, when, frankly, he clearly didn't share that piece of work with you before it was published. He even made references to the 'Welsh Assembly Government'. He didn't talk about the 'Welsh Government'. The 'Welsh Assembly Government' is a term that we abandoned over 10 years ago. This shows how out of date and out of touch Gordon Brown is, frankly, with the people of Wales and the people in this Senedd, including his own colleagues in the Labour Party. Then you talk about public engagement. My goodness - they've had 2,000 responses so far that have contributed, through the questionnaire, to the work of the commission. Fifty-five per cent of those, apparently, supported independence. Now, that's clearly not reflective of the views of the people of Wales, because we're consistently told that support for independence is well below 55 per cent, extraordinarily below. So, I'm afraid that this commission seems to be talking only to those people that some of its members want to listen to. Can you tell us how you will encourage the commission to reach out beyond that navel-gazing part of society that seems to be obsessed with constitutional tinkering here in Wales so that we can ensure that there's a proper representative view put to it of the views of people across this country? And finally, I want to say to you, Minister, that I think it's time that we invested the resources that are going to this commission into our NHS, into our schools and into our public services. You keep claiming that you've got no money to invest in some of these things, you keep claiming that you've got no money to be able to put into the pockets of our nurses and other public sector workers. Here's some money. If it's burning a hole in your pocket, spend it in a different direction.
Fel yr unig blaid, i bob golwg, sy'n credu yn nyfodol y Deyrnas Unedig gyfan, a lle annatod Cymru ynddi, fy mhleser i yw gallu gofyn rhai cwestiynau am eich datganiad, Gweinidog. Rydyn ni'n ystyried y comisiwn, fel y gwyddoch chi, yn ddiangen. Mae'n ddiangen oherwydd mae'n fater o Gymru ond yn edrych ar un rhan unigol o'r Deyrnas Unedig a heb ystyried yn briodol barn pobl mewn rhannau eraill o'r Deyrnas Unedig, sy'n gamgymeriad mawr yn fy marn i. Mae'n gomisiwn drud - £1.1 miliwn bob blwyddyn dros dair blynedd. Mae i fod i orffen ei waith ym mis Rhagfyr eleni, ond eto rydych chi eisoes wedi dyrannu ar gyfer cyllidebau yn y dyfodol yn y blynyddoedd ariannol canlynol, hyd yn oed y tu hwnt i'r flwyddyn ariannol bresennol hon, am ddwy flynedd, £1.1 miliwn arall. Allwch chi egluro i ni pam mae'r comisiwn, hyd yn oed ar ôl cwblhau ei waith, yn dal i fod angen £1.1 miliwn y flwyddyn yn y flwyddyn ariannol 2024-25? Rydw i wedi rhoi cryn sylw i waith y comisiwn; rydw i wedi darllen yr adroddiad. A dweud y gwir, cefais i fy syfrdanu ei fod yn edrych ar yr hyn yr oedd yn ei ystyried yn y system bŵer ganolog yn Lloegr, ond nid oedd yn ystyried o gwbl ganoli pwerau yma yng Nghymru. Nid oedd sôn am unrhyw botensial am ddatganoli i ranbarthau Cymru - fy rhan i o Gymru, gogledd Cymru, sy'n teimlo, er enghraifft, wedi'i datgysylltu cymaint o fywyd yma ym Mae Caerdydd ac, yn arbennig, ym Mharc Cathays, oherwydd anwybodaeth Llywodraeth Cymru tuag at y rhanbarth arbennig hwnnw. A gaf i ofyn, a fyddwch chi'n rhoi rhywfaint o gyfarwyddyd i'r comisiwn i ystyried datganoli o fewn Cymru er mwyn i ni gael dull gweithredu datganoledig priodol tuag at lywodraethu'r wlad hon, yn hytrach na'r dull canolog y mae eich Llywodraeth wedi'i gymryd yn ystod y ddau ddegawd diwethaf? Yn ogystal â hynny, mae'r adroddiad yn sôn yn gwbl briodol am bwysigrwydd atebolrwydd uniongyrchol mewn democratiaeth. Wrth gwrs, rydyn ni i gyd yn gwybod bod y Blaid Lafur, law yn llaw â Phlaid Cymru, yn ceisio cael gwared ar yr atebolrwydd uniongyrchol hwnnw drwy gyflwyno diwygiadau'r Senedd a fydd yn grymuso pleidiau gwleidyddol dros aelodau'r cyhoedd o ran pwy y gallan nhw ethol yn uniongyrchol i'w cynrychioli yn y Siambr hon. Rwy'n gwybod bod aelodau'r meinciau cefn ar feinciau Llafur yn cytuno â mi yn hynny o beth, oherwydd mae systemau rhestr-gaeedig yn tynnu grym oddi wrth y bobl a'i roi ym mhocedi arweinwyr y pleidiau gwleidyddol. Dyna'r dull gweithredu anghywir, o'n rhan ni, ac rwy'n credu y dylech chi ofyn i'r comisiwn archwilio a rhoi ei farn ar y cynigion ar gyfer diwygio'r Senedd sydd wedi'u cynllunio rhwng y Blaid Lafur a Phlaid Cymru, oherwydd nid wyf i'n credu, a dweud y gwir, y bydden nhw'n eu gweld nhw'n fuddiol i bobl Cymru Gwnaethoch chi gyfeirio at gomisiwn Gordon Brown ar ddyfodol y DU - dogfen gan y Blaid Lafur, nid dogfen sydd ag unrhyw fwy o bwysigrwydd y tu hwnt i'r Blaid Lafur na'r pwysigrwydd yr ydych chi'n ei roi iddi, yn ôl pob golwg. Ôl-ystyriaeth oedd Cymru, wrth gwrs, yn y ddogfen honno. Roedd yn sôn yn faith am y sefyllfa yn yr Alban. Roedd yn sôn am ranbarthau Lloegr. Prin y soniwyd am Gymru yn y ddogfen, ac mewn gwirionedd mae'r sôn y cafodd yn anghytuno'n llwyr â barn y Blaid Lafur yma yng Nghymru, a oedd eisiau gweld y system gyfiawnder troseddol yn cael ei datganoli'n llwyr. Wrth gwrs, roedd Gordon Brown yn anghytuno â chi. Ni wn i pam eich bod chi'n ei gymeradwyo nawr yn y Siambr hon ac yn dweud dyna ddarn gwych o waith y mae ef wedi'i wneud, pan, a dweud y gwir, yn amlwg, nad oedd ef wedi rhannu'r darn yna o waith â chi cyn iddo gael ei gyhoeddi. Gwnaeth gyfeiriadau at 'Lywodraeth Cynulliad Cymru' hyd yn oed. Ni wnaeth sôn am 'Lywodraeth Cymru'. Mae 'Llywodraeth Cynulliad Cymru' yn derm y gwnaethon ni ei adael dros 10 mlynedd yn ôl. Mae hyn yn dangos pa mor hen ffasiwn yw Gordon Brown a chymaint y mae wedi colli gafael ar bethau, a dweud y gwir, gyda phobl Cymru a'r bobl yn y Senedd hon, gan gynnwys ei gydweithwyr ei hun yn y Blaid Lafur. Yna, rydych chi'n sôn am ymgysylltu â'r cyhoedd. Ar fy ngwir - maen nhw wedi cael 2,000 o ymatebion hyd yn hyn sydd wedi cyfrannu, drwy'r holiaduron, at waith y comisiwn. Roedd 55% o'r rheini, mae'n debyg, yn cefnogi annibyniaeth. Nawr, mae'n amlwg nad yw hynny'n adlewyrchu barn pobl Cymru, oherwydd rydyn ni'n cael gwybod yn gyson fod y gefnogaeth i annibyniaeth ymhell o dan 55 y cant, yn rhyfeddol is na hynny. Felly, mae gennyf i ofn bod y comisiwn hwn i'w weld ond yn siarad â'r bobl hynny y mae rhai o'i aelodau eisiau gwrando arnyn nhw. A wnewch chi ddweud wrthym ni sut y byddwch chi'n annog y comisiwn i ymestyn y tu hwnt i'r rhan honno o'r gymdeithas sydd wedi ymgolli ynddyn nhw eu hunain ac yn ôl pob golwg sydd ag obsesiwn ag ailwampio cyfansoddiadol yma yng Nghymru fel y gallwn ni sicrhau bod yna farn gynrychioliadol iawn yn cael ei rhoi iddo o farn pobl ar draws y wlad hon? Ac yn olaf, rwyf i eisiau dweud wrthoch chi, Gweinidog, fy mod i'n credu ei bod hi'n bryd i ni fuddsoddi'r adnoddau sy'n mynd i'r comisiwn hwn yn ein GIG, yn ein hysgolion ac yn ein gwasanaethau cyhoeddus. Rydych chi'n dal i honni nad oes gennych chi arian i fuddsoddi mewn rhai o'r pethau hyn, rydych chi'n dal i honni nad oes gennych chi i allu i'w roi ym mhocedi ein nyrsys a gweithwyr eraill y sector cyhoeddus. Dyma rywfaint o arian. Os yw'n llosgi twll yn eich poced, gwariwch e' ar bethau eraill.
Well, I'd like to thank the Member for his contribution, and it was very similar to the contribution he made about 18 months, two years ago. It hasn't changed at all. It seems to me you haven't realised that the debate has moved on. We've had the debate over the merits of the commission and the purpose to it, and what we're now having is a commission that is actually engaging about its work. I would have hoped that there would be a slightly more constructive contribution to the work. I understand you disagree with the commission and you didn't want to see it established. You don't think the purpose of its work is important. But that is not the view of the majority of this Senedd. Can I just say, firstly, in terms of your first comments with regard to the whole of the UK, the First Minister and the Welsh Government and the Welsh Labour Party has made it absolutely clear what the Welsh Labour position is? And that is that it is in support of the union. It believes Wales is better off in the union, in a prosperous union, but believes that the union is in desperate need of reform. That reform, ironically, is very much recognised - the need for that reform - across political parties in Westminster, and, when you talk about constitutional tinkering, well, if this is tinkering, all we need to look at is the raft after raft after raft of legislation that's going through Westminster that impacts on this place - the Retained EU Law (Revocation and Reform) Bill, which is all about constitutional reform; the Northern Ireland Protocol Bill, which, again, is essentially about reform; the suggestion now that they're going to resurrect the bill of rights, which is, again, about constitutional reform; the United Kingdom Internal Market Act, which is about undermining devolution and constitutional reform; even the Strikes (Minimum Service Levels) Bill has significant constitutional implications. The constitution is important to people's lives because it is about how power is exercised, how it is distributed and the sort of governance we have, and if you don't recognise that there is a real precipice for our democracy in terms of people's belief in democratic systems, then I believe you're failing even those you represent in respect of the need for change. I believe that the commission is necessary, because I believe Wales has to have a voice within this process. There has to be an examination, an exploration, of the issues that are important to Wales, and we have to be able to express those ourselves, and that is what the work of the commission is about. I understand the points you make and you're perfectly entitled to make those particular points; in fact, I hope you've made them to the commission, because I understand you have attended the commission to give evidence. I understand from the commission that they originally asked to meet with the leader of the Welsh Conservatives, Andrew R.T. Davies, were initially directed to Mark Isherwood but since have met with yourself. But, equally so, Simon Hart, as Secretary of State for Wales, has given evidence to the commission, and the UK Government levelling-up Minister, Neil O'Brien, has also given. So, I think it is an important recognition, after the hyperbole, that I think there are people on the Conservatives side who are taking the commission seriously and who are engaging, because, if they didn't think it was an important event, whether they agree with it or not, I don't think they would have wanted to participate in it. Just to say that the commission is, of course, independent. Its terms of reference were well debated within this Chamber. It is not for us, having established an independent commission, to direct that commission and tell it what it is to do. But, having read the report and having had a meeting with the commission, I'm impressed with the work that is now ongoing, which is very, very serious, in-depth and detailed engagement. I was very impressed with the interim report, because the importance of the interim report, unlike often the case with interim reports, is that it doesn't actually say, 'This is an interim report and these are the conclusions we're going to reach in due course.' It has basically set out the variety of opinions there and is going out to actually engage, and I think that engagement is important. I believe deep down in your heart, after you've made the publicity statements that you wanted to make, that, deep down, you really do believe in the importance of this commission and the importance of actually engaging with it, even if you don't think it should be here.
Wel, hoffwn i ddiolch i'r Aelod am ei gyfraniad, ac roedd yn debyg iawn i'r cyfraniad y gwnaeth ryw 18 mis, ddwy flynedd yn ôl. Nid yw wedi newid o gwbl. Mae'n ymddangos i mi nad ydych chi wedi sylweddoli bod y ddadl wedi symud ymlaen. Rydyn ni wedi cael y ddadl dros rinweddau'r comisiwn a'i bwrpas, a'r hyn yr ydyn ni'n ei gael nawr yw comisiwn sydd wir yn ymgysylltu â phobl am ei waith. Byddwn ni wedi gobeithio y byddai cyfraniad ychydig yn fwy adeiladol i'r gwaith. Rwy'n deall eich bod chi'n anghytuno â'r comisiwn ac nad oeddech chi eisiau'i weld yn cael ei sefydlu. Nid ydych chi'n credu bod diben ei waith yn bwysig. Ond nid dyna farn mwyafrif y Senedd hon. A gaf i ond dweud, yn gyntaf, o ran eich sylwadau cychwynnol o ran y DU gyfan, mae'r Prif Weinidog a Llywodraeth Cymru a Phlaid Lafur Cymru wedi'i gwneud hi'n gwbl glir beth yw safbwynt Llafur Cymru? Sef ei fod o blaid yr undeb. Mae'n credu bod Cymru ar ei hennill yn yr undeb, mewn undeb lewyrchus, ond mae'n credu bod dirfawr angen diwygio'r undeb. Mae'r diwygiad hwnnw, yn eironig, yn cael cryn gydnabyddiaeth - yr angen am y diwygiad hwnnw - ar draws y pleidiau gwleidyddol yn San Steffan, a, pan ydych chi'n sôn am ailwampio cyfansoddiadol, wel, os mai ailwampio yw hwn, y cyfan sydd angen i ni edrych arno yw'r pentwr ar ôl pentwr o ddeddfwriaeth sy'n mynd drwy San Steffan sy'n effeithio ar y lle hwn - Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd i gyd yn ymwneud â diwygio cyfansoddiadol; Bil Protocol Gogledd Iwerddon, sydd, eto, yn y bôn, yn ymwneud â diwygio; yr awgrym nawr eu bod yn mynd i atgyfodi'r bil hawliau, sydd, eto, yn ddiwygiad cyfansoddiadol; Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig, sy'n ymwneud â thanseilio datganoli a diwygio cyfansoddiadol; mae gan hyd yn oed y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) oblygiadau cyfansoddiadol sylweddol. Mae'r cyfansoddiad yn bwysig i fywydau pobl oherwydd ei fod yn ymwneud â sut mae pŵer yn cael ei arfer, a sut mae'n cael ei ddosbarthu a'r math o lywodraethiant sydd gennym ni, ac os nad ydych chi'n cydnabod bod yna ddibyn gwirioneddol i'n democratiaeth o ran cred pobl mewn systemau democrataidd, yna rwy'n credu eich bod chi'n methu hyd yn oed y rhai yr ydych chi'n eu cynrychioli o ran yr angen am newid. Rwy'n credu bod angen y comisiwn, oherwydd rwy'n credu bod yn rhaid i Gymru fod â llais yn y broses hon. Mae'n rhaid craffu ar, archwilio'r materion sy'n bwysig i Gymru, ac mae'n rhaid i ni allu mynegi'r rheini ein hunain, a dyna yw pwrpas gwaith y comisiwn. Rwy'n deall y pwyntiau yr ydych chi'n eu gwneud ac mae gennych chi berffaith hawl i wneud y pwyntiau penodol hynny; a dweud y gwir, gobeithio eich bod chi wedi'u gwneud nhw i'r comisiwn, oherwydd rwy'n deall eich bod chi wedi mynychu'r comisiwn i roi tystiolaeth. Rwy'n deall o'r comisiwn y gwnaethon nhw yn wreiddiol ofyn am gyfarfod ag arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies, ac wedi cael eu cyfeirio at Mark Isherwood i ddechrau ond ers hynny maen nhw wedi cwrdd â chi. Ond yn yr un modd felly, mae Simon Hart, fel Ysgrifennydd Gwladol Cymru, wedi rhoi tystiolaeth i'r comisiwn, ac mae Gweinidog Ffyniant Bro Llywodraeth y DU, Neil O'Brien, hefyd wedi'i rhoi. Felly, rwy'n credu ei bod yn gydnabyddiaeth bwysig, ar ôl yr ormodiaith, fy mod i'n credu bod yna bobl ar ochr y Ceidwadwyr sy'n cymryd y comisiwn o ddifrif ac sy'n ymgysylltu ag ef, oherwydd, os nad oedden nhw'n credu ei fod yn ddigwyddiad pwysig, os ydyn nhw'n cytuno ag ef ai peidio, nid ydw i'n credu y bydden nhw wedi eisiau cymryd rhan ynddo. Dim ond i ddweud bod y comisiwn, wrth gwrs, yn annibynnol. Cafodd ei gylch gorchwyl ei drafod yn dda yn y Siambr hon. Nid ein lle ni, ar ôl sefydlu comisiwn annibynnol, yw cyfarwyddo'r comisiwn hwnnw a dweud wrtho yr hyn y mae i fod i'w wneud. Ond, ar ôl darllen yr adroddiad ac wedi cael cyfarfod gyda'r comisiwn, mae'r gwaith sydd nawr yn mynd rhagddo wedi creu argraff arnaf i, sy'n ymgysylltu'n ddifrifol a manwl iawn. Fe wnaeth yr adroddiad interim argraff fawr arnaf i, oherwydd pwysigrwydd yr adroddiad interim, yn wahanol i'r sefyllfa yn aml gydag adroddiadau interim, yw nad yw'n dweud, 'Adroddiad interim yw hwn a dyma'r casgliadau yr ydyn ni'n mynd i ddod atyn nhw maes o law.' Yn y bôn, mae wedi nodi'r amrywiaeth barn sydd yno ac mae'n mynd ati i wir ymgysylltu â phobl, ac rwy'n credu bod ymgysylltu â phobl yn bwysig. Rwy'n credu'n eich bod chi, yn ddwfn yn eich calon, ar ôl i chi wneud y datganiadau cyhoeddusrwydd yr oeddech chi eisiau eu gwneud, eich bod chi, yn ddwfn iawn, wir yn credu ym mhwysigrwydd y comisiwn hwn a phwysigrwydd wir ymgysylltu ag ef, hyd yn oed os nad ydych chi'n credu y dylai fod yma.
I agree with you, Counsel General, that the existence and the work of the commission reflect the new enthusiasm that there is in Wales around our national conversation in terms of our constitutional future, and it's also contributing to that momentum. And that can be seen in a range of different ways and reflects a range of different views, perhaps. One example over the past weekend - as I've already referred to earlier this afternoon, I attended the Melin Drafod summit on independence; 200 people representing different parties, different parts of society and different parts of Wales, discussing independence, and publishing, as part of the summit, their new study on the funding question in relation to independence, which is one of the questions that the commission's interim report raises in the context of assessing the viability of independence, and that study responds to the Plaid Cymru presentation to the commission and the work specifically done by Professor John Doyle from Dublin City University, which demonstrated that it would be possible for Wales to afford independence, that there isn't as great a funding gap as had previously been thought, and the work of Melin Drafod confirmed that and has done further work on that basis. So, there is civic enthusiasm and energy around the question of the constitutional future of Wales, which is similar, I think, to the period prior to the 1997 referendum. And it is the end of one period and the beginning of another, and the conversation that we're having is what that new chapter is, and in what direction are we moving. I think it is an opportunity for us to rejuvenate our democracy as we face the constitutional and broader democratic crisis across the UK. The interim report provides three possible options that could be looked into further on the constitutional future of Wales: first, safeguarding and strengthening devolution, federalism, secondly, and then independence. It's clear which of the three options my party would favour, but may I ask the Counsel General to tell us which of the three options the Welsh Government would support as the best option at this point? And in that context, is there a difference between the view of the Welsh Labour Government, Welsh Labour as a party, and as part of the wider British Labour Party in Wales, and the policy of the UK Labour Party? Or is there an expectation that the policy of the Welsh Labour Government, Welsh Labour, will decide on the policy of the Labour Party more generally? And what's the inter-relationship - ? Now, you mentioned the Gordon Brown commission and his recommendations to the leadership of the UK Labour Party. What's the inter-relationship between that process of policy creation at the UK level in terms of the Labour Party and the work of the commission? In the case of Scotland, in the constitutional convention there, which had such an influence on the devolution process in Scotland, the upshot of the convention and the final report did have a direct impact on the policy of the Labour Party; it was adopted as policy. Is that the kind of inter-relationship that you anticipate with the final report of this commission, that that would be respected by the leadership of the Labour Party at the UK level? And would you encourage that as the best way forward, of course referring to the fact that the Gordon Brown commission report didn't say much about Wales and the fact that the work of the constitutional commission was still ongoing? The constitutional commission does note a number of areas where there have been calls for further devolution. We've heard reference to justice and policing, for example, but it lists some others: employment, where work is ongoing by the TUC; benefits; the Crown Estate; the railways and so on and so forth, and broadcasting too. And as part of your presentation to the next stage, do you intend to list those areas that you as a Government would wish to see the next Westminster Government devolving powers to Wales? And as a Government that has said that you espouse the right to self-determination, would you want to include in that list the right to call a referendum on independence or on the constitutional future, in whichever direction, that that right shouldn't be reserved to Westminster but that it should be devolved here, where it should be, in the hands of the elected representatives of the people of Wales?
Rwy'n cytuno gyda chi, Cwnsler Cyffredinol, fod bodolaeth a gwaith y comisiwn yn adlewyrchu, dwi'n credu, y bwrlwm newydd sydd yng Nghymru o gwmpas ein sgwrs genedlaethol o ran ein dyfodol cyfansoddiadol ni, ac mae hefyd yn cyfrannu tuag at y momentwm hwnnw. Ac mae hynny i'w weld mewn amrediad o ffyrdd ac yn adlewyrchu amrediad o farn, hwyrach. Un enghraifft dros y penwythnos diwethaf - fel dwi eisoes wedi cyfeirio ato fe yn gynharach y prynhawn yma, mi oeddwn i yn uwchgynhadledd y Felin Drafod ar annibyniaeth; 200 o bobl yn cynrychioli pleidiau gwahanol, gwahanol rannau o gymdeithas ar draws Cymru, yn trafod annibyniaeth ac yn cyhoeddi, fel rhan o'r gynhadledd, eu hastudiaeth newydd nhw ar y cwestiwn cyllidol mor belled ag y mae annibyniaeth yn y cwestiwn, sef un o'r cwestiynau mae'r adroddiad interim a'r comisiwn yn codi yng nghyd-destun asesu hyfywedd annibyniaeth, a'r astudiaeth honno yn ymateb i gyflwyniad Plaid Cymru i'r comisiwn, a gwaith yn benodol yr Athro John Doyle o Dublin City University, a oedd yn dangos bod modd i Gymru fforddio annibyniaeth, doedd yna ddim cymaint o fwlch cyllidol ag y rhagdybiwyd cyn hynny, a gwaith y Felin Drafod yn cadarnhau hynny ac yn gwneud gwaith pellach ar sail hynny. Felly, mae yna fwrlwm sifig, mae yna egni o gwmpas cwestiwn dyfodol cyfansoddiadol Cymru nawr, sydd yn ymdebygu, rwy'n credu, i'r cyfnod cyn y refferendwm yn 1997. Ac mae e'n ddiwedd un cyfnod a dechrau cyfnod newydd, a'r sgwrs rydyn ni'n ei chael, wrth gwrs, yw: beth yw'r cyfnod newydd, beth yw'r bennod newydd, ac i ba gyfeiriad? Dwi'n credu fod e'n gyfle i ni adfywhau ein democratiaeth ni wrth i ni wynebu, wrth gwrs, y creisis cyfansoddiadol, y creisis democrataidd ehangach ar draws y Deyrnas Gyfunol. Mae'r adroddiad interim yn cynnig tri opsiwn posib i'w harchwilio ymhellach ar gyfer dyfodol cyfansoddiadol Cymru: diogelu a chryfhau datganoli yn gyntaf, ffederaliaeth yn ail, a, wedi hynny, annibyniaeth. Mae'n glir, wrth gwrs, pa un o'r opsiynau mae fy mhlaid i yn ffafrio, ond a gaf i ofyn i'r Cwnsler Cyffredinol ddweud pa un o'r tri mae Llywodraeth Cymru yn ei gefnogi fel yr opsiwn gorau nawr? Ac yn y cyd-destun hwnnw, oes yna wahaniaeth rhwng safbwynt Llywodraeth Lafur Cymru, Llafur Cymru fel plaid, fel rhan o'r Blaid Lafur Brydeinig yng Nghymru, a pholisi y Blaid Lafur Brydeinig? Neu oes yna ddisgwyl y bydd polisi Llywodraeth Lafur Cymru, Llywodraeth Lafur, yn penderfynu polisi y Blaid Lafur yn gyffredinol? A beth yw cyd-berthynas - ? Roeddech chi wedi sôn am gomisiwn Gordon Brown a'i argymhellion e i arweinyddiaeth y Blaid Lafur Brydeinig. Beth yw'r cyd-berthynas rhwng y broses honno o wneud polisi ar raddfa Brydeinig o ran y Blaid Lafur a gwaith y comisiwn? Yn achos yr Alban, yn y confensiwn cyfansoddiadol yna, oedd wedi cael cymaint o ddylanwad ar y broses datganoli yn yr Alban, mi oedd canlyniad y confensiwn, yr adroddiad terfynol, wedi cael effaith uniongyrchol ar bolisi y Blaid Lafur, oedd wedi cael ei fabwysiadu fel polisi. Ai dyna'r math o gyd-berthynas dŷch chi'n ei rhagweld gydag adroddiad terfynol y comisiwn yma, fod hwnnw wedi hynny yn cael ei barchu gan arweinyddiaeth y Blaid Lafur ar y lefel Brydeinig? Ac a ydych chi yn annog hynny fel y ffordd ymlaen, gan wrth gwrs gyfeirio at y ffaith doedd adroddiad y comisiwn ddim yn dweud llawer am Gymru ac yn cyfeirio at y ffaith bod gwaith y comisiwn cyfansoddiadol yn dal yn mynd ymlaen? Mae'r comisiwn cyfansoddiadol yn nodi nifer o feysydd lle mae yna alwadau wedi bod am ddatganoli. Dŷn ni wedi clywed cyfeiriad tuag at gyfiawnder a phlismona, er enghraifft, ond mae e'n rhestru rhai eraill: cyflogaeth, lle mae gwaith yn mynd rhagddi gan y TUC; gweinyddu lles; darlledu; Ystad y Goron; rheilffyrdd ac yn y blaen. Ydych chi yn bwriadu, fel rhan o'ch cyflwyniad i'r cyfnod nesaf, rhestru y meysydd hynny, fel Llywodraeth nawr, rŷch chi am weld Llywodraeth San Steffan nesaf yn datganoli i Gymru? Ac ydych chi, fel Llywodraeth sydd wedi dweud eich bod chi'n arddel hawl hunanbenderfyniad, am gynnwys yn y rhestr honno yr hawl i alw refferendwm ar annibyniaeth neu ar ddyfodol cyfansoddiadol, i ba bynnag gyfeiriad, fod yr hawl hwnnw ddim yn gadwedig yn San Steffan ond hefyd yn dod fan hyn, lle y dylai fe fod, wrth gwrs, yn nwylo cynrychiolwyr etholedig pobl Cymru?
I thank the Member very much for those very detailed questions - a large number of questions. I'll do my best to try and answer them. Perhaps I could just preface them by - . Of course, I do actually want to wait and see what the outcome of the independent commission's report is. Within our respective political parties, within our communities, within our organisations, of course we all have views. We've all been on this devolution journey for many years in different ways. I was very involved in the 1979 devolution referendum, the one no-one seems to mention, and the outcome of that was depressing. It was - . And we thought we might never ever have another referendum or that we might not ever achieve the establishment of the Assembly and then the Senedd. So, we have come an enormously long way. And it's fair to say I think, within all political parties, even within Plaid, within Welsh Labour, within UK Labour, there are a whole variety of differing views as to the principles of devolution, decentralisation of power, how it should happen and what the structure should be, just as there are differences in terms of what the UK should look like in the future. What I can say is, since I came to Wales in 1973, there is a confidence in Wales, there is a transformation in Wales, a confidence in the identity, in the language, in Wales's place within the UK and within the world, that has grown beyond anything, I think, that was ever conceivable back in those particular times. A lot of that is down to what has actually happened.
Diolch yn fawr i'r Aelod am y cwestiynau manwl iawn hynny - nifer fawr o gwestiynau. Gwnaf i fy ngorau i geisio eu hateb. Efallai y gaf i roi rhagair iddyn nhw drwy - . Wrth gwrs, rydw i wir eisiau aros i weld beth yw canlyniad adroddiad y comisiwn annibynnol. Yn ein pleidiau gwleidyddol priodol, yn ein cymunedau, yn ein sefydliadau, wrth gwrs mae gennym ni i gyd farn. Rydyn ni i gyd wedi bod ar y daith ddatganoli hon ers blynyddoedd lawer mewn gwahanol ffyrdd. Roeddwn i'n ymwneud cryn dipyn â refferendwm datganoli 1979, yr un nad oes neb i'w weld yn sôn amdano, ac roedd canlyniad hynny'n dorcalonnus. Roedd yn - . Ac roeddem ni'n meddwl efallai na fyddem ni byth yn cael refferendwm arall neu efallai na fyddem ni byth yn cyflawni sefydlu'r Senedd, y Cynulliad bryd hynny. Felly, rydyn ni wedi dod yn bell iawn. Ac mae'n deg dweud rwy'n credu, o fewn pob plaid wleidyddol, hyd yn oed o fewn Plaid Cymru, o fewn Llafur Cymru, o fewn Llafur y DU, fod yna amrywiaeth eang o safbwyntiau gwahanol o ran egwyddorion datganoli, datganoli grym, sut y dylai ddigwydd a beth y dylai'r strwythur fod, yn union fel mae yna wahaniaethau o ran sut y dylai'r DU edrych yn y dyfodol. Yr hyn y gallaf i ei ddweud yw, ers i mi ddod i Gymru yn 1973, mae yna hyder yng Nghymru, mae yna drawsnewidiad yng Nghymru, hyder yn yr hunaniaeth, yn yr iaith, yn lle Cymru yn y DU ac yn y byd, mae hynny wedi tyfu y tu hwnt i unrhyw beth, rwy'n credu, ni chafodd hynny erioed ei ddychmygu nôl yn yr amseroedd penodol hynny. Mae llawer o hynny yn ymwneud a'r hyn sydd wedi digwydd mewn gwirionedd.
As far as the issue of - . I mean, I understand the position you have with independence. For me, the main issue has always actually been the issue of subsidiarity. All countries and economies have a certain degree of interdependency; that was one of the functions of the European Union. And, in many ways, when you start taking the terminology out of terms, in actual fact, there is actually quite a lot of common ground. I think, probably across all political parties, we want to see decision making as close to people as possible. Darren Millar made a very valid point in that devolution isn't just about the creation of parliaments; it is about the empowerment of people and communities, and that means we have to look equally so at how devolution takes place within our own communities and within our own Government. What the role of parliaments is - I think there is a very serious question there for Westminster, but I think equally so for Holyrood and for this place as well. I think one of the advantages of the independent commission is that I think it will begin to address this; it will engage over those. And each individual political party and people individually will have to consider what conclusions and what views the report comes with in order to formulate, ultimately, their own views as to the way they see the way forward, not just about aspiration, but in terms of practically how you achieve change and what that change should be. You raised very properly the issue of finance and the issues of viability, and I'm very aware of the work that was done by the Wales Governance Centre as well. There are, of course, important views to be taken into account in terms of, within the UK, the role of tax, the role of welfare, but the issues around the redistribution of wealth. Barnett, after all, is a redistributive. It may be a very inadequate, outdated and ineffective way of redistribution, but it does have that particular role; that is one of the common features in terms of one of the functions of the UK. Equally so, in terms of my own opinions on this, well, I'm not really here to give my own personal opinions. You're well aware of the work that I was involved in with regard to radical federalism and so on, as to what the future and the options might be. But, I think, what I am here to do is to really talk about the importance of the commission and how we have to take that work seriously and how we have to engage with it, and I think how we have to assess the work it does, listen to what its conclusions are, to engage with it, and then give very serious consideration to the final outcome. Can I just say, in terms of the - ? You'll be aware, of course, about what the Welsh Government's position has been around the 'Reforming the Union' documents. The two versions that have been published actually set out the sort of evidence that the First Minister gave to the commission, and we'll wait to see what they make of that. With regard to the Gordon Brown report, can I say what I thought were the two most important things within that? Firstly, that there were no doors closed in terms of change. He said that there's absolutely no reason why Wales shouldn't have exactly the same powers as Scotland. He also says that subsidiarity means that decision making should be taken as close to people as possible. And he also outlines within that, and recognises, I think, the democratic precipice that we've been approaching as more and more people lose confidence in the electoral system. But there was also, within that, a very important deference to the fact that we have the independent commission, that it wouldn't be appropriate for them, within the Gordon Brown report, to list all the different things that he thought they should decide for Wales, but rather the fact that there should be constructive engagement with the Senedd and with the Welsh Government once the independent commission has completed its work. I think that is exactly the appropriate thing to have done. It would have been totally wrong to have basically said, 'Whatever the independent commission does is irrelevant because these are the things that are good for you.' I think I've said on numerous occasions that it should not be the case that the future of Wales and Wales's role within the UK or wherever would be decided by a commission elsewhere and outwith of Wales. With regard to the issue of a right to a referendum, I support very much the view that's been given by the First Minister over the years: any party that is elected that says within its manifesto that it intends to call a referendum should have the right to have that referendum. Diolch.
Cyn belled â'r mater o - . Hynny yw, rwy'n deall y safbwynt sydd gennych chi o ran annibyniaeth. I mi, y prif fater bob tro yw mater sybsidiaredd. Mae gan bob gwlad ac economi rywfaint o gyd-ddibyniaeth; dyna un o swyddogaethau'r Undeb Ewropeaidd. Ac, mewn sawl ffordd, pan fyddwch chi'n dechrau tynnu'r derminoleg allan o dermau, mae cryn dipyn o dir cyffredin mewn gwirionedd. Rwy'n credu, ar draws pob plaid wleidyddol mae'n debyg, ein bod ni eisiau gweld penderfyniadau yn cael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Gwnaeth Darren Millar bwynt dilys iawn, hynny yw, nad yw datganoli yn ymwneud â chreu seneddau yn unig; mae'n ymwneud â grymuso pobl a chymunedau, ac mae hynny'n golygu bod yn rhaid i ni edrych yn gyfartal felly ar sut y mae datganoli yn digwydd o fewn ein cymunedau ein hunain ac o fewn ein Llywodraeth ein hunain. Beth yw rôl seneddau - rwy'n credu bod cwestiwn difrifol iawn yno i San Steffan, ac yn yr un modd i Holyrood ac i'r lle hwn hefyd. Rwy'n credu mai un o fanteision y comisiwn annibynnol yw fy mod i'n credu y bydd yn dechrau ymdrin â hyn; bydd yn ymgysylltu â phobl am y rheini. A bydd yn rhaid i bob plaid wleidyddol unigol a phobl yn unigol ystyried â pha gasgliadau a pha farn y daw'r adroddiad er mwyn llunio, yn y pen draw, eu barn eu hunain ynglŷn â'r ffordd y maen nhw'n ei gweld yn ffordd ymlaen, nid yn unig yn ymwneud â dyhead, ond o ran sut yr ydych chi'n cyflawni newid yn ymarferol a beth ddylai'r newid hwnnw fod. Gwnaethoch chi godi'n briodol iawn fater cyllid a materion hyfywedd, ac rwy'n ymwybodol iawn o'r gwaith a gafodd ei wneud gan Ganolfan Llywodraethiant Cymru hefyd. Wrth gwrs, mae safbwyntiau pwysig i'w hystyried o ran, o fewn y DU, rhan trethi, rhan lles, ond y materion yn ymwneud ag ailddosbarthu cyfoeth. Mae Barnett, wedi'r cyfan, yn ailddosbarthu. Gall fod yn ffordd annigonol, hen ffasiwn ac aneffeithiol iawn o ailddosbarthu, ond mae ganddo'r rhan benodol honno; dyna un o'r nodweddion cyffredin o ran un o swyddogaethau'r DU. Yn yr un modd, o ran fy marn i fy hun am hyn, wel, nid ydw i yma mewn gwirionedd i roi fy marn bersonol fy hun. Rydych chi'n ymwybodol iawn o'r gwaith yr oeddwn i'n ymwneud ag ef o ran ffederaliaeth radical ac yn y blaen, o ran beth allai'r dyfodol a'r dewisiadau fod. Ond, rwy'n credu, yr hyn yr ydw i yma i'w wneud yw siarad am bwysigrwydd y comisiwn a sut mae'n rhaid i ni gymryd y gwaith hwnnw o ddifrif a sut mae'n rhaid i ni ymgysylltu ag ef, ac rwy'n credu,sut mae'n rhaid i ni asesu'r gwaith mae'n ei wneud, gwrando ar beth yw ei gasgliadau, i ymgysylltu ag ef, ac yna rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn i'r canlyniad terfynol. A gaf i ond dweud, o ran y - ? Byddwch chi'n ymwybodol, wrth gwrs, ynglŷn â'r hyn y mae safbwynt Llywodraeth Cymru wedi bod ynghylch dogfennau 'Diwygio'r Undeb'. Mae'r ddwy fersiwn sydd wedi'u cyhoeddi mewn gwirionedd yn nodi'r math o dystiolaeth a roddodd y Prif Weinidog i'r comisiwn, ac fe arhoswn ni i weld beth maen nhw'n ei wneud o hynny. O ran adroddiad Gordon Brown, a gaf i ddweud beth oeddwn i'n meddwl oedd y ddau beth pwysicaf yn hwnnw? Yn gyntaf, nad oedd unrhyw ddrysau ar gau o ran newid. Dywedodd nad oes unrhyw reswm o gwbl pam na ddylai Cymru gael union yr un pwerau â'r Alban. Mae hefyd yn dweud bod sybsidiaredd yn golygu y dylai penderfyniadau gael eu gwneud mor agos at bobl â phosibl. Ac mae ef hefyd yn amlinellu o fewn hynny, ac yn cydnabod, rwy'n credu, y dibyn democrataidd yr ydyn ni wedi bod yn agosáu ato wrth i fwy a mwy o bobl golli hyder yn y system etholiadol. Ond roedd hefyd, o fewn hynny, ymostyngiad pwysig iawn i'r ffaith bod gennym ni'r comisiwn annibynnol, na fyddai'n briodol iddyn nhw, yn adroddiad Gordon Brown, restru'r holl wahanol bethau yr oedd ef yn credu y dylen nhw benderfynu ar gyfer Cymru, ond yn hytrach y ffaith y dylai fod ymgysylltu adeiladol â'r Senedd a gyda Llywodraeth Cymru ar ôl i'r comisiwn annibynnol gwblhau ei waith. Rwy'n credu mai dyna oedd yr union beth priodol i'w wneud. Byddai wedi bod yn gwbl anghywir i fod wedi dweud yn y bôn, 'Mae beth bynnag y mae'r comisiwn annibynnol yn ei wneud yn amherthnasol gan mai dyma'r pethau sy'n dda i chi.' Rwy'n credu fy mod i wedi dweud droeon na ddylai dyfodol Cymru a rhan Cymru o fewn y Deyrnas Unedig neu ble bynnag gael ei phenderfynu gan gomisiwn mewn man arall y tu hwnt i Gymru. O ran y mater hawl i gael refferendwm, rwy'n cefnogi'n gryf y farn sydd wedi cael ei rhoi gan y Prif Weinidog dros y blynyddoedd: y dylai unrhyw blaid sy'n dweud o fewn ei maniffesto ei bod yn bwriadu galw refferendwm a'i bod yna'n cael ei hethol gael yr hawl i gynnal y refferendwm hwnnw. Diolch.
I welcome this debate this afternoon. It will not come as any surprise that, as Chair of the committee with constitutional matters as a core part of its remit, I am contributing today. As a committee, we have not considered the report in detail, but we have discussed it briefly last week in advance of today's statement. My focus this afternoon will be to highlight matters within the interim report that are likely to be of interest to my committee in the months ahead.
Rwy'n croesawu'r ddadl y prynhawn yma. Ni fydd o unrhyw syndod fy mod i, fel Cadeirydd pwyllgor sydd â materion cyfansoddiadol yn rhan greiddiol o'i gylch gwaith, yn cyfrannu heddiw. Fel pwyllgor, nid ydym wedi ystyried yr adroddiad yn fanwl, ond rydym wedi ei drafod yn fyr yr wythnos diwethaf cyn y datganiad heddiw. Fy ffocws y prynhawn yma fydd tynnu sylw at faterion o fewn yr adroddiad interim sy'n debygol o fod o ddiddordeb i fy mhwyllgor yn y misoedd nesaf.
I note the commission's conclusion that there are, 'significant problems with the way Wales is currently governed', and that it has identified 10 immediate pressure points on the current settlement. Now, it's interesting that these mainly relate to 'relations between the UK and Welsh governments' - a view that indeed chimes with some of our observations as a committee during our scrutiny of legislative consent memoranda. So, it's therefore welcome that, in the next phase of the commission's work, it will explore how these pressures could be addressed, and we'll watch that with interest. One of these 10 pressure points is, in fact, the fragility of these inter-governmental relations. So, I welcome the commission's intention to take evidence on whether the new machinery, which was established only last year and - indeed, we remember on the committee the Counsel General coming in front of us and it was one of those rare occasions where we saw smiles and optimism that this was a good way forward, but we have yet to see how it will bed in and how effective it will be - that they will take evidence on whether this new machinery, established last year, is indeed improving relations between the Welsh and UK Governments. In fact, Counsel General, we intend as well to undertake some work on this area of inter-governmental relations ourselves before the summer recess. But, as you know, much of our time is now focused on the scrutiny of legislative consent memoranda and Welsh Government legislation, so our opportunities to be proactive in this area are much more limited than we would like to see. Later this year, we may also have to contend, of course, with the scrutiny of statutory instruments arising from Retained EU Law (Revocation and Reform) Bill. So, we welcome the fact the commission is going to look at this. I note also that the next stage of the commission's work will include looking at options for reform of constitutional structures, and exploring with the people of Wales how they believe their country should be governed in the future. And, interestingly, Darren's point here on devolution and empowering people, extending way beyond the Senedd, is a point well made. So, we will look with interest at what proposals they might come forward with in that respect. So, I look forward to considering the commission's final report and some of these points in particular, which leads me to the following questions, Counsel General. First of all, how does the work of this commission, as it moves ahead, fit with Welsh Government's constitutional policy agenda? I guess I'm asking you to look forward a little bit and suggest to us what impact this might have in shaping your policy intention, going forward. Secondly, how might the work of the commission help realise improvements that we know are needed to the Welsh Government's capacity to legislate as we've taken on additional powers, as we develop more legislation, as we legislate also, or seek to steer legislation at the other end of the M4, so, in fact, that we can rely less on that, less on Westminster, and so that legislation in devolved areas is predominantly made in Wales, by the Senedd, for the citizens who elect us for that purpose? Do you anticipate that the commission will actually look at how we can do more of 'legislated in Wales, for Wales'? And, thirdly, how does the Welsh Government intend to engage with the UK Government on these issues? This is the big question that sits underneath this, particularly given concerns around inter-governmental relations over recent years. And, Counsel General, maybe I could ask you to speculate on how receptive you think the UK Government will be to you coming forward saying, 'We have some good ideas that have come forward; what do you think? Can we work together on this?' My final point would simply be that I noticed in your statement that you referred to the fact that this constitutional analysis should be grounded, and the commission themselves have said it should be grounded, in the lives of those people whose lives are affected. I entirely agree, because that's what constitutional work should always be focused on: it's how better we and the institutions we have can serve the electorate, rather than some arcane debate. Grounded in people's lives. Diolch yn fawr iawn.
Rwy'n nodi casgliad y comisiwn bod, 'problemau mawr gyda'r ffordd mae Cymru yn cael ei llywodraethu ar hyn o bryd', a'i fod wedi nodi 10 elfen sy'n creu pwysau uniongyrchol ar y setliad presennol. Nawr, mae'n ddiddorol bod y rhain yn ymwneud yn bennaf â'r 'berthynas rhwng Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru' - barn sy'n wir yn cyd-fynd â rhai o'n sylwadau ni fel pwyllgor yn ystod ein craffu ar memoranda cydsyniad deddfwriaethol. Felly, mae i'w groesawu, yng ngham nesaf gwaith y comisiwn, bydd yn archwilio sut y mae modd ymdrin â'r pwysau hyn, a byddwn ni'n gwylio hynny â diddordeb. Mewn gwirionedd, un o'r 10 elfen sy'n creu pwysau yw breuder y cysylltiadau rhyng-lywodraethol hyn. Felly, rwy'n croesawu bwriad y comisiwn i gymryd tystiolaeth ynglŷn ag a oedd y peirianwaith newydd, a gafodd ei sefydlu ond y llynedd - ac yn wir, rydyn ni'n cofio, ar y pwyllgor, y Cwnsler Cyffredinol yn dod o'n blaenau ni ac roedd yn un o'r achlysuron prin hynny lle gwnaethon ni weld gwenu ac optimistiaeth fod hyn yn ffordd dda ymlaen, ond nid ydyn ni eto wedi gweld sut y bydd yn sefydlu ei hun a pha mor effeithiol y bydd - y byddan nhw'n derbyn tystiolaeth ynghylch a yw'r peirianwaith newydd hwn, a gafodd ei sefydlu y llynedd, wir yn gwella'r berthynas rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn wir, Cwnsler Cyffredinol, rydyn ni'n bwriadu hefyd gwneud rhywfaint o waith ar y maes hwn o gysylltiadau rhyng-lywodraethol ein hunain cyn toriad yr haf. Ond fel y gwyddoch chi, mae llawer o'n hamser nawr yn canolbwyntio ar graffu ar waith memoranda cydsyniad deddfwriaethol a deddfwriaeth Llywodraeth Cymru, felly mae ein cyfleoedd i fod yn rhagweithiol yn y maes hwn yn llawer mwy cyfyngedig nag yr hoffen ni ei weld. Yn nes ymlaen eleni, efallai y bydd yn rhaid i ni hefyd ymdopi, wrth gwrs, â chraffu ar offerynnau statudol sy'n deillio o Fil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio). Felly, rydyn ni'n croesawu'r ffaith bod y comisiwn yn mynd i ystyried hwn. Rwy'n sylwi hefyd y bydd cam nesaf gwaith y comisiwn yn cynnwys ystyried dewisiadau ar gyfer diwygio strwythurau cyfansoddiadol, ac archwilio gyda phobl Cymru sut y maen nhw'n credu y dylai eu gwlad gael ei llywodraethu yn y dyfodol. Ac yn ddiddorol iawn, mae pwynt Darren yma ar ddatganoli a grymuso pobl, yn ymestyn ymhell y tu hwnt i'r Senedd, yn bwynt sydd wedi'i wneud yn dda. Felly, byddwn ni'n edrych gyda diddordeb ar ba gynigion y gallen nhw eu cyflwyno yn hynny o beth. Felly, gwnaf i edrych ymlaen at ystyried adroddiad terfynol y comisiwn a rhai o'r pwyntiau hyn yn benodol, sy'n fy arwain i at y cwestiynau canlynol, y Cwnsler Cyffredinol. Yn gyntaf oll, sut mae gwaith y comisiwn hwn, wrth iddo fynd rhagddi, yn cyd-fynd ag agenda polisi cyfansoddiadol Llywodraeth Cymru? Mae'n debyg fy mod i'n gofyn i chi edrych i'r dyfodol ychydig ac awgrymu i ni pa effaith y gallai hyn ei gael wrth lunio eich bwriad polisi, wrth symud ymlaen. Yn ail, sut gallai gwaith y comisiwn helpu i wireddu gwelliannau yr ydym ni'n gwybod y mae eu hangen ar allu Llywodraeth Cymru i ddeddfu wrth i ni ymgymryd â phwerau ychwanegol, wrth i ni ddatblygu mwy o ddeddfwriaeth, wrth i ni ddeddfu hefyd, neu geisio llywio deddfwriaeth ar ben arall yr M4, felly, mewn gwirionedd, gallwn ni ddibynnu'n llai ar hynny, llai ar San Steffan, a felly bod deddfwriaeth mewn meysydd datganoledig yn bennaf yn cael ei gwneud yng Nghymru, gan y Senedd, ar gyfer y dinasyddion sy'n ein hethol at y diben hwnnw? Ydych chi'n rhagweld mewn gwirionedd y bydd y comisiwn yn ystyried sut y gallwn ni wneud mwy o 'ddeddfu yng Nghymru, ar gyfer Cymru'? Ac yn drydydd, sut mae Llywodraeth Cymru'n bwriadu ymgysylltu â Llywodraeth y DU ar y materion yma? Dyma'r cwestiwn mawr sy'n eistedd o dan hyn, yn enwedig o ystyried pryderon ynghylch cysylltiadau rhyng-lywodraethol yn ystod y blynyddoedd diwethaf. A Chwnsler Cyffredinol, efallai y gallwn ni ofyn i chi ddyfalu pa mor agored ydych chi'n meddwl y bydd Llywodraeth y DU i chi'n dod ymlaen gan ddweud, 'Mae gennym ni rai syniadau da sydd wedi cael eu cyflwyno; beth yw'ch barn chi? Allwn ni gydweithio ar hyn?' Fy mhwynt olaf, yn syml, fyddai i mi sylwi yn eich datganiad eich bod chi'n cyfeirio at y ffaith y dylai'r dadansoddiad cyfansoddiadol hwn gael ei atal, ac mae'r comisiwn eu hunain wedi dweud y dylai gael ei atal, ym mywydau'r bobl hynny y mae effaith wedi bod ar eu bywydau. Rwy'n cytuno'n llwyr, oherwydd dyna y dylai gwaith cyfansoddiadol ganolbwyntio arno bob tro: mae'n ymwneud â sut y gallwn ni a'r sefydliadau sydd gennym ni wasanaethu'r etholwyr yn well, yn hytrach na rhyw ddadl ddirgel. Wedi'i wreiddio ym mywydau pobl. Diolch yn fawr iawn.
Thank you, Huw, for those comments, and also for the work your committee has done and the work that it will do. Of course, there are a lot of constitutional engagements taking place between the four nations of the UK at the moment, including on the issue of common frameworks, some of which are being considered by committees within this Senedd, and these frameworks, of course, were created on a co-operative basis in order to enable the four nations to work together in the post-Brexit environment. It was unfortunate that the United Kingdom Internal Market Act 2020 came along to undermine them, but the common frameworks work is still ongoing, and we hope that that will begin to take some form of prescience. The fact that there are significant constitutional problems and prescience is no surprise to us. Those of us who attended the inter-parliamentary forum, which I know you attend now and I've attended previously, on a cross-party basis - I think the chair of Public Administration and Constitutional Affairs Committee then was Sir Bernard Jenkin - were consistently saying unanimously that the current relationships don't work, that there are major constitutional problems that need to be addressed. So, this is not something that is of partisan nature. The question is how you actually resolve those, and that is of course where differing views come in, and, again, I think it's why the work of the commission is so important. If we take seriously our democracy in this country, if we take seriously the threats to it, the challenge to it, the challenges of participation or non-participation or how people perceive the political governance that we have within this country, if we fail to address that, we are really letting down future generations of people within Wales and within the United Kingdom. The reason why we have a specific Welsh commission is not in some form of nationalistic or isolationist process, but because it's important we explore ourselves our own role within that, and recognise where Wales fits within that and what those particular options are, in what is a very changing environment, particularly post Brexit. You raise a number of issues with regard to inter-governmental relations that are really important. It's certainly true that there have been a lot of delays for a whole variety of reasons, which we are all familiar with, as to Government, particularly in Westminster, being able to get on with its job, and I don't think we've actually overcome all of those yet. But there are inter-governmental, inter-ministerial meetings now taking place. The meeting of the First Ministers and the Prime Minister, that took place and they've agreed a number of areas of work. The body below that, the Interministerial Standing Committee, is a body that will be meeting, in fact, tomorrow, and I will be chairing that on this occasion. We'll be looking at a whole host of those, so we will be reviewing the state of relations and the various issues around Sewel, around inter-governmental relations, around the implications of things like retained EU law and so on. I think that notification has obviously gone to you, as Chair of your committee, to inform you that that is taking place. The point you made that was very important was that it's about exploring with the people of Wales, and you're absolutely right. The quality and the strength of the work the independent commission is doing will be dependent, to some extent, on the extent to which it is able to do that engagement. I was quite encouraged by the innovative ways and the different assemblies and groups and so on that are being set up to achieve that. We know it is not easy. But it is important for me that it does happen. How will the UK Government react? Well, I suppose it depends which UK Government we're talking about. With the current UK Government, relations are difficult in the sense that the arrangements with regard to good processes for legislation are still not in place. Too much legislation is coming forward where there is no engagement. The Strikes (Minimum Service Levels) Bill is a classic example: massive implications for us and very little engagement. The retained EU law Bill - a significant impact on us, on thousands of pieces of legislation, standards, environmental issues, and food standard issues and many other areas as well - is one where we were promised the world in terms of engagement, and the engagement was minimal. We still do not have any clear indications as to the scale. There is work that is going on between officials, so it is getting better. But all the issues we raised with regard to the sunset clause, with regard to concurrent powers, and so on, I raised a year ago, and they've still not been addressed. I will be pressing on those particular issues. How will the UK Government react? Well, I think a Government that takes seriously the governance of the UK and the hegemony within the UK has to take all of these seriously, and I hope that will be the case. It is, obviously, a difficult environment, but we will carry on working as co-operatively as we can, setting out the views we have from the Welsh Government in terms of the direction of the reform, what good parliamentary processes are, how democracy should work better, and we will give very serious consideration, as I know your committee will, once the independent commission's report has been published.
Diolch, Huw, am y sylwadau hynny, a hefyd am y gwaith y mae eich pwyllgor wedi'i wneud a'r gwaith y bydd yn ei wneud. Wrth gwrs, mae llawer o ymgysylltiadau cyfansoddiadol yn digwydd rhwng pedair gwlad y DU ar hyn o bryd, gan gynnwys ar fater fframweithiau cyffredin, gyda rhai ohonyn nhw'n cael eu hystyried gan bwyllgorau yn y Senedd hon, a chafodd y fframweithiau hyn, wrth gwrs, eu creu ar sail gydweithredol er mwyn galluogi'r pedair cenedl i gydweithio yn yr amgylchedd ôl-Brexit. Roedd yn anffodus bod Deddf Marchnad Fewnol y Deyrnas Unedig 2020 wedi dod i'w tanseilio, ond mae'r gwaith fframweithiau cyffredin yn parhau, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd hynny'n dechrau cymryd rhyw fath o ragwelediad. Nid yw'r ffaith bod problemau cyfansoddiadol sylweddol a rhagwelediad yn syndod i ni. Roedd y rhai ohonon ni a wnaeth fynychu'r fforwm rhyng-seneddol, yr wyf yn gwybod eich bod chi'n ei fynychu nawr ac rwyf i wedi'i fynychu o'r blaen, ar sail drawsbleidiol - rwy'n credu mai cadeirydd y Pwyllgor Gweinyddiaeth Gyhoeddus a Materion Cyfansoddiadol bryd hynny oedd Syr Bernard Jenkin - rydyn ni'n dweud yn gyson ac yn unfrydol nawr nad yw'r perthnasoedd presennol yn gweithio, bod problemau cyfansoddiadol mawr y mae angen ymdrin â nhw. Felly, nid yw hyn yn rhywbeth o natur bleidiol. Y cwestiwn yw sut ydych chi'n datrys y rheini mewn gwirionedd, a dyna wrth gwrs lle mae safbwyntiau gwahanol yn dod i mewn, ac eto, rwy'n credu mai dyna pam mae gwaith y comisiwn mor bwysig. Os ydyn ni'n cymryd ein democratiaeth yn y wlad hon o ddifrif os ydyn ni'n cymryd o ddifrif y bygythiadau iddo, yr her iddo, yr heriau o gymryd rhan neu o beidio â chymryd rhan neu sut mae pobl yn gweld y llywodraethu gwleidyddol sydd gennym ni yn y wlad hon, os ydyn ni'n methu ag ymdrin â hynny, rydyn ni wir yn siomi cenedlaethau o bobl y dyfodol yng Nghymru ac yn y Deyrnas Unedig. Nid yw'r rheswm fod gennym ni gomisiwn Cymru penodol yn ymwneud â math o broses genedlaetholgar neu ynysig, ond oherwydd ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n archwilio ein hunain ein rhan ein hunain o fewn hynny, ac yn cydnabod ble mae Cymru'n ffitio o fewn hynny a beth yw'r dewisiadau penodol hynny, mewn amgylchedd sy'n newidiol iawn, yn enwedig ar ôl Brexit. Rydych chi'n codi nifer o faterion o ran cysylltiadau rhynglywodraethol sy'n bwysig iawn. Yn sicr mae'n wir bod llawer o oedi wedi bod am amrywiaeth eang o resymau, yr ydyn ni i gyd yn gyfarwydd â nhw, o ran y Llywodraeth, yn enwedig yn San Steffan, yn gallu bwrw ymlaen â'i swydd, ac nid ydw i'n credu ein bod ni wedi goresgyn pob un o'r rheini eto. Ond mae cyfarfodydd rhynglywodraethol, rhyngweinidogol yn digwydd ar hyn o bryd. Cyfarfod y Prif Weinidogion a Phrif Weinidog y DU, fe ddigwyddodd hynny ac maen nhw wedi cytuno ar nifer o feysydd gwaith. Mae'r corff o dan hynny, y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol, yn gorff a fydd yn cyfarfod, mewn gwirionedd, yfory, a byddaf i'n cadeirio hynny y tro hwn. Byddwn ni'n ystyried llu o'r rheini, felly byddwn ni'n adolygu cyflwr cysylltiadau a'r materion amrywiol sy'n ymwneud â Sewel, ynghylch cysylltiadau rhynglywodraethol, o ran goblygiadau pethau fel cyfraith yr UE a ddargedwir ac yn y blaen. Rwy'n credu bod yr hysbysiad hwnnw yn amlwg wedi mynd atoch chi, fel Cadeirydd eich pwyllgor, i roi gwybod i chi bod hynny'n digwydd. Y pwynt y gwnaethoch chi a oedd yn bwysig iawn oedd ei bod yn ymwneud ag archwilio gyda phobl Cymru, ac rydych chi'n hollol gywir. Bydd ansawdd a chryfder y gwaith y mae'r comisiwn annibynnol yn ei wneud yn ddibynnol, i ryw raddau, ar ba raddau y mae'n gallu gwneud yr ymgysylltiad hwnnw. Cefais i fy nghalonogi ychydig gan y ffyrdd arloesol a'r gwahanol gynulliadau a grwpiau ac ati sy'n cael eu sefydlu i gyflawni hynny. Rydyn ni'n gwybod nad yw hi'n hawdd. Ond mae'n bwysig i mi ei bod yn digwydd Sut fydd Llywodraeth y DU yn ymateb? Wel, mae'n debyg ei bod yn dibynnu ar ba Lywodraeth y DU yr ydyn ni'n sôn amdani. Gyda Llywodraeth bresennol y DU, mae'n anodd cysylltu yn yr ystyr nad yw'r trefniadau o ran prosesau da ar gyfer deddfwriaeth ar waith o hyd. Mae gormod o ddeddfwriaeth yn cael ei chyflwyno lle nad oes ymgysylltu â ni. Mae'r Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Lleiaf) yn enghraifft glasurol: goblygiadau enfawr i ni ac ychydig iawn o ymgysylltu. Mae Bil cyfraith yr UE a ddargedwir - effaith sylweddol arnon ni, ar filoedd o ddarnau o ddeddfwriaeth, safonau, materion amgylcheddol, a materion safonau bwyd a llawer o feysydd eraill hefyd - yn un lle cafodd y byd ei addo i ni o ran ymgysylltu â ni, ond roedd yr ymgysylltu â ni cyn lleied â phosibl Nid oes gennym ni unrhyw arwyddion clir o hyd o ran y maint. Mae gwaith sy'n digwydd rhwng swyddogion, felly mae'n gwella. Ond yr holl faterion y gwnaethon ni eu codi o ran y cymal machlud, o ran pwerau cydamserol, ac yn y blaen, codais i nhw flwyddyn yn ôl, ac nid ydyn nhw wedi cael sylw o hyd. Byddaf i'n pwyso ar y materion penodol hynny. Sut bydd Llywodraeth y DU yn ymateb? Wel, rwy'n credu bod yn rhaid i Lywodraeth sy'n cymryd lywodraethiant y DU a'r hegemoni o fewn y DU o ddifrif gymryd y rhain i gyd o ddifrif, ac rwy'n gobeithio y bydd hynny'n digwydd. Mae'n amgylchedd anodd, yn amlwg, ond byddwn ni'n parhau i weithio mor gydweithredol ag y gallwn ni, gan nodi'r safbwyntiau sydd gennym ni gan Lywodraeth Cymru o ran cyfeiriad y diwygio, beth yw prosesau seneddol da, sut y dylai democratiaeth weithio'n well, a byddwn ni'n rhoi ystyriaeth ddifrifol iawn, fel y rwy'n gwybod y bydd eich pwyllgor chi, ar ôl i adroddiad y Comisiwn Annibynnol gael ei gyhoeddi.
We're almost out of time for this statement. I have quite a few Members who are keen to ask questions, so if we can keep questions and answers as succinct as possible, then I'll get through as many Members as possible.
Mae ein hamser ar fin dod i ben gyfer y datganiad hwn. Mae gen i nifer o Aelodau sy'n awyddus i ofyn cwestiynau, felly os allwn ni gadw cwestiynau ac atebion mor gryno â phosib, yna gallaf glywed gan gynifer o Aelodau â phosibl.
Point taken.
O'r gorau.
Thank you for listening, Minister. James Evans.
Diolch am wrando, Gweinidog. James Evans.
Diolch, Llywydd. I'd like to thank the Minister for his statement from the commission, or as I like to call it the independent commission for independence sympathisers, judging by who the commissioners are. I've never read, I don't think, such a biased document against the UK Government and against the union of the United Kingdom. I think, Minister, that we all agree and recognise that there do need to be some constitutional changes across the United Kingdom. We've looked at that in the legislation committee, and it needs to be looked at. But as my colleague Darren Millar said, this needs to be done with a UK-wide approach, with every devolved Government and every devolved Parliament feeding into that process, because doing it in isolation will go nowhere. So, I want to know what conversations you've had with other Governments across the United Kingdom about having an actual commission that looks at everything in the round, to bring it together so that we can have meaningful change, and not a commission here that just keeps people in Plaid Cymru happy pushing an independence narrative, which, I'm afraid to burst their bubble, is going nowhere.
Diolch, Llywydd. Hoffwn ddiolch i'r Gweinidog am ei ddatganiad gan y comisiwn, neu'r hyn rwy'n hoff o'i alw'n gomisiwn annibynnol ar gyfer cydymdeimlwyr annibyniaeth, a barnu yn ôl pwy yw'r comisiynwyr. Dydw i ddim yn meddwl fy mod i erioed wedi darllen dogfen mor rhagfarnllyd yn erbyn Llywodraeth y DU ac yn erbyn undeb y Deyrnas Unedig. Rwy'n credu, Gweinidog, bod pob un ohonom yn cytuno ac yn cydnabod bod angen gwneud rhai newidiadau cyfansoddiadol ledled y Deyrnas Unedig. Rydym wedi edrych ar hynny yn y pwyllgor deddfwriaeth, ac mae angen edrych arno. Ond fel y dywedodd fy nghyd-Aelod, Darren Millar, mae angen gwneud hyn gyda dull gweithredu ledled y DU, gyda phob Llywodraeth ddatganoledig a phob Senedd ddatganoledig yn bwydo i mewn i'r broses honno, oherwydd ni fydd ei wneud ar wahân yn mynd i unman. Felly, rwyf eisiau gwybod pa sgyrsiau rydych chi wedi eu cael gyda llywodraethau eraill ledled y Deyrnas Unedig am gael comisiwn gwirioneddol sy'n edrych ar bopeth yn ei gyfanrwydd, i ddod ag ef at ei gilydd er mwyn i ni gael newid ystyrlon, ac nid comisiwn yn y fan yma sydd dim ond yn cadw pobl yn Plaid Cymru yn hapus yn gwthio naratif annibyniaeth, sy'n mynd i unman, mae gen i ofn.
I thank you for the comments and the spirit in which they were made. You say it's one of the most biased documents so far, but it is an interim report. I wasn't really too sure that there was that much in it that you could read as being that biased, but I suppose when you say that it's the most biased document against the UK Government, I suppose what you can say is that it's probably quite an accurate reflection of current popular opinion of the UK Government. But that's my hyperbolic comment out of the way. The commission is engaging, and I hope you will. I know that Darren Millar has engaged, and obviously senior UK Government Ministers have engaged. So, it is taken seriously. I think that is where the input is coming in from the UK Government. If senior UK Government Ministers are participating with it and giving their evidence and that's being properly considered as part of the evidence base and the engagement process, then I don't think it gives a sense that there is really much of a basis to the criticisms you're making. More broadly, we have been arguing in this Chamber ever since I have been here, which is now 12 years or so, but I know it went on long before that, for a constitutional convention. I know, on a cross-party basis, the Legislation, Justice and Constitution Committee has been arguing and saying there should be a constitutional convention. The UK Government has consistently refused all along the way to go down that road to have a constitutional convention. I think, at some stage, it might be something that has to happen. And you are absolutely right, reform needs to take place with all the parties that are involved. But I don't think you can criticise this commission for the work it's doing and the mandate it has, because it is a mandate that we have set specifically for Wales but with the complete freedom for that commission to actually choose to engage with who it chooses. From what I can see, it has done that on a complete cross-party basis without bias.
Diolch am y sylwadau a'r ffordd y cawsant eu cyflwyno. Rydych chi'n dweud ei fod yn un o'r dogfennau mwyaf rhagfarnllyd hyd yn hyn, ond mae'n adroddiad interim. Doeddwn i ddim yn rhy sicr mewn gwirionedd bod cymaint â hynny ynddo y gallech chi ddarllen mor rhagfarnllyd â hynny, ond mae'n debyg pan ddywedwch chi mai dyma'r ddogfen fwyaf rhagfarnllyd yn erbyn Llywodraeth y DU, mae'n debyg mai'r hyn y gallwch ei ddweud yw ei bod yn adlewyrchiad eithaf cywir o farn boblogaidd gyfredol Llywodraeth y DU. Ond dyna fy sylw hyperbolig allan o'r ffordd. Mae'r comisiwn yn ymgysylltu, a gobeithio y byddwch chi. Rwy'n gwybod bod Darren Millar wedi ymgysylltu, ac yn amlwg mae uwch Weinidogion Llywodraeth y DU wedi ymgysylltu. Felly, mae'n cael ei gymryd o ddifrif. Rwy'n credu mai dyna lle mae Lywodraeth y DU yn cyfrannu. Os yw uwch Weinidogion Llywodraeth y DU yn cymryd rhan gydag ef ac yn rhoi eu tystiolaeth, ac mae hynny'n cael ei ystyried yn briodol fel rhan o'r sylfaen dystiolaeth a'r broses ymgysylltu, yna nid wyf yn credu ei fod yn rhoi ymdeimlad bod llawer iawn o sail i'r beirniadaethau rydych chi'n eu gwneud. Yn fwy cyffredinol, rydym wedi bod yn dadlau yn y Siambr hon byth ers i mi fod yma, sef 12 mlynedd erbyn hyn, ond rwy'n gwybod iddo fynd ymlaen ymhell cyn hynny, am gonfensiwn cyfansoddiadol. Rwy'n gwybod, ar sail drawsbleidiol, bod y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad wedi bod yn dadlau ac yn dweud y dylai fod confensiwn cyfansoddiadol. Mae Llywodraeth y DU yn gyson wedi gwrthod popeth ar hyd y ffordd i fynd i'r cyfeiriad hwnnw i gael confensiwn cyfansoddiadol. Rwy'n credu, rhywbryd, y gallai fod yn rhywbeth sy'n gorfod digwydd. Ac rydych yn hollol gywir, mae angen diwygio'r holl bleidiau sy'n rhan o'r broses. Ond nid wyf yn credu y gallwch feirniadu'r comisiwn hwn am y gwaith y mae'n ei wneud a'r mandad sydd ganddo, oherwydd ei fod yn fandad rydym wedi'i osod yn benodol ar gyfer Cymru ond gyda'r rhyddid llwyr i'r comisiwn hwnnw ddewis ymwneud â phwy y mae'n ei ddewis mewn gwirionedd. O'r hyn y gallaf ei weld, mae wedi gwneud hynny ar sail drawsbleidiol lwyr heb ragfarn.
I welcome the interim report and echo some, not all, of the comments that we've heard in this Chamber this afternoon. I'd like to concentrate my contribution on a small aspect of what you've said this afternoon, Minister. Can we ban the use of the words 'progressive' and 'radical' when referring to the Gordon Brown proposals? They are anything but radical or progressive. Giving us control of youth justice and the probation service on their own is simply not good enough. It will not alter what Dr Rob Jones and Professor Richard Wyn Jones of the Wales Governance Centre have termed 'the jagged edge'. Only full devolution of the criminal justice system will allow us to make the substantial changes that are desperately needed. This retrograde position from Brown and Labour is a far cry from the stated ambition of the co-operation agreement for the full devolution of justice and policing in Wales. You may remember this not only follows the recommendations of the Welsh Government-established Thomas commission, but also featured in the Labour Party's manifestos of 2017 and 2019 in the general elections. What has changed? Does Gordon Brown take Wales seriously, or are we just an afterthought?
Rwy'n croesawu'r adroddiad interim ac yn adleisio rhai, nid pob un, o'r sylwadau yr ydym wedi'u clywed yn y Siambr hon y prynhawn yma. Hoffwn ganolbwyntio fy nghyfraniad ar agwedd fach o'r hyn yr ydych wedi'i ddweud y prynhawn yma, Gweinidog. A allwn wahardd y defnydd o'r geiriau 'blaengar' a 'radical' wrth gyfeirio at gynigion Gordon Brown? Maent bopeth ond radical neu flaengar. Yn syml, nid yw rhoi rheolaeth i ni dros gyfiawnder ieuenctid a'r gwasanaeth prawf yn unig yn ddigon da. Ni fydd yn newid yr hyn y mae Dr Rob Jones a'r Athro Richard Wyn Jones o Ganolfan Llywodraethiant Cymru wedi ei alw'n 'the jagged edge'. Dim ond datganoli llawn o'r system gyfiawnder troseddol fydd yn caniatáu inni wneud y newidiadau sylweddol sydd wir eu hangen. Mae'r cam hwn yn ôl gan Brown a Llafur yn fyd o wahaniaeth rhwng uchelgais datganedig y cytundeb cydweithredu ar gyfer datganoli holl faterion cyfiawnder a phlismona yng Nghymru. Efallai eich bod yn cofio hyn nid yn unig yn dilyn argymhellion comisiwn Thomas a sefydlwyd gan Lywodraeth Cymru, ond hefyd ym maniffestos y Blaid Lafur yn 2017 a 2019 yn yr etholiadau cyffredinol. Beth sydd wedi newid? Ydy Gordon Brown yn cymryd Cymru o ddifrif, neu ai ôl-ystyriaeth ydyn ni?
Thank you for your comments, Peredur. I actually think the Gordon Brown report is progressive. It's progressive because it talks about additional powers here; it talks about providing a constitutional framework to protect devolution and to protect the Sewel process; it talks about an unlimited subsidiarity as a fundamental principle - that power should be as close to the people as possible and it is only for the extent of what the interdependencies are that we have to have democratic governance; and the fact that there are no closed doors. This seems to me to be pretty progressive, and it seems to me pretty radical. If you adopt what I would sort of call the 'shopping-list approach' to devolution, where you have a whole list of things and you tick them and so on, well, maybe there are those who would not be happy with that approach. I suppose what I would say is, having been involved in the process of trying to organise and support decentralisation of power and devolution since the early 1970s, I see what is happening as something that is of significant change if it moves us forward. Maybe it doesn't move us forward as quickly as some would like, maybe it doesn't even move as quickly as I would like, but I think the proposals within it are pretty fundamental, and if they were implemented, I think it would result in significant change in terms of the devolution settlement, and greater devolution stability and coherence.
Diolch am eich sylwadau, Peredur. Mewn gwirionedd, rwy'n credu bod adroddiad Gordon Brown yn flaengar. Mae'n flaengar gan ei fod yn sôn am bwerau ychwanegol yma; mae'n sôn am ddarparu fframwaith cyfansoddiadol i ddiogelu datganoli ac i warchod y broses Sewel; mae'n sôn am egwyddor ddiderfyn fel egwyddor sylfaenol - y dylai pŵer fod mor agos at y bobl â phosibl a dim ond oherwydd graddau'r gyd-ddibyniaeth y mae'n rhaid i ni gael trefniadau llywodraethu democrataidd; a'r ffaith nad oes drysau caeedig. Ymddengys i mi fod hyn yn eithaf blaengar, ac ymddengys i mi ei fod yn eithaf radical. Os ydych yn mabwysiadu'r hyn fyddwn i'n ei alw'n rhyw fath o 'ddull rhestr siopa' i ddatganoli, lle mae gennych restr gyfan o bethau ac rydych yn eu ticio ac yn y blaen, wel, efallai fod yna rai na fyddai'n hapus gyda'r dull hwnnw. Mae'n debyg mai'r hyn fyddwn i'n ei ddweud yw, ar ôl bod yn rhan o'r broses o geisio trefnu a chefnogi datganoli pŵer a datganoli ers dechrau'r 1970au, rwy'n gweld beth sy'n digwydd fel rhywbeth sydd o newid sylweddol os yw'n ein symud ni yn ein blaenau. Efallai nad yw'n ein symud ymlaen mor gyflym ag y byddai rhai yn ei hoffi, efallai nad yw hyd yn oed yn symud mor gyflym ag yr hoffwn, ond rwy'n credu bod y cynigion o fewn y broses yn eithaf sylfaenol, a phe baent yn cael eu rhoi ar waith, rwy'n credu y byddai'n arwain at newid sylweddol o ran y setliad datganoli, a mwy o sefydlogrwydd a chydlyniad datganoli.
We have to move away from piecemeal devolution, with Plaid Cymru believing we can salami-slice to independence, the Conservatives that we can stop it going any further, and many looking to move devolution backwards. An example is policing: devolved to Scotland, Northern Ireland, Manchester and London, but not to Wales. We have directly elected mayors in England; in fact, Bristol has a directly elected mayor, and so does the West of England, including Bristol. Whilst where power and responsibility lie in the USA and Germany is clear - it being the same in each state or Länder - in Britain, it's complicated. I was going to use the word 'chaotic', and I think I probably prefer that word. Asymmetric devolution does not work; just look at what's happened in Spain, the only other country that's gone ahead with asymmetric devolution - it's got exactly the same problems as we have. Does the Minister agree there is a need to create a coherent model for the whole of the UK, as has been created in the USA and Germany, and that we need to do it urgently? We just cannot carry on like this.
Mae'n rhaid i ni symud i ffwrdd o ddatganoli tameidiog, gyda Phlaid Cymru'n credu y gallwn wneud toriadau tameidiog tuag at annibyniaeth, y Ceidwadwyr y gallwn ni ei atal rhag mynd ymhellach, a llawer yn ceisio symud datganoli tuag yn ôl. Un enghraifft yw plismona: wedi ei ddatganoli i'r Alban, Gogledd Iwerddon, Manceinion a Llundain, ond nid i Gymru. Rydym wedi ethol meiri yn uniongyrchol yn Lloegr; a dweud y gwir, mae gan Fryste faer wedi'i ethol yn uniongyrchol, a Gorllewin Lloegr hefyd, gan gynnwys Bryste. Er bod pŵer a chyfrifoldeb yn yr UDA a'r Almaen yn glir - mae'r un peth ym mhob gwladwriaeth neu Länder - ym Mhrydain, mae'n gymhleth. Roeddwn i'n mynd i ddefnyddio'r gair 'anhrefnus', ac rwy'n meddwl bod yn well gen i'r gair hwnnw, yn ôl pob tebyg. Nid yw datganoli anghymesur yn gweithio; edrychwch ar beth ddigwyddodd yn Sbaen, yr unig wlad arall sydd wedi mynd ati gyda datganoli anghymesur - mae ganddi'r union broblemau â ni. A yw'r Gweinidog yn cytuno bod angen creu model cydlynol ar gyfer y DU gyfan, fel sydd wedi'i greu yn yr UDA a'r Almaen, a bod angen i ni ei wneud ar fyrder? Ni allwn barhau fel hyn.
Thank you, Mike. I certainly agree with that last point that we can't carry on like this. That's precisely why I think we've been going down the road that we have, precisely why we have the commission. I think one of the most important things - whether you call it devolution, decentralisation of powers, subsidiarity or whatever - is the principles on which it's based, what is the basis, what is the change you want to make and why do you want to make those changes. If it's about the empowerment of people and communities and better governance, then it's a question of what changes will actually achieve that. I don't disagree with you in respect of justice and policing, but what I do know is that if there is not a labour Government in the next general election, we will not get the changes that we would want. We will not get any changes and we might even see a reversal of the current situation, which is why, I think, within the context, some of the proposals that are being put forward are really important constitutionally. They're very important for the future of Wales, but they also are a framework within which a broader constitutional debate, which has to involve England and Scotland and Northern Ireland also, needs to take place. I think at some stage in the future, there will be a constitutional convention, because I think it's the only way you can cohesively put all the different traits together. If that constitutional convention ever does take place, what we can say is that we've done our bit within Wales to ensure that we've engaged with the people of Wales, and that the input that we are making into that is a product of those conversations and discussions on behalf of the people of Wales.
Diolch, Mike. Rwy'n sicr yn cytuno gyda'r pwynt olaf hwnnw na allwn barhau fel hyn. Dyna'n union pam rwy'n meddwl ein bod ni wedi bod yn mynd i'r cyfeiriad presennol, yn union pam mae gennym ni'r comisiwn. Rwy'n credu mai un o'r pethau pwysicaf - p'un a ydych yn ei alw'n datganoli, datganoli pwerau, sybsidiaredd neu beth bynnag - yw'r egwyddorion y mae'n seiliedig arnynt, beth yw'r sail, beth yw'r newid rydych am ei wneud a pham rydych chi eisiau gwneud y newidiadau hynny. Os yw'n ymwneud â grymuso pobl a chymunedau a threfniadau llywodraethu gwell, yna mae'n fater o ba newidiadau fydd yn cyflawni hynny mewn gwirionedd. Dydw i ddim yn anghytuno â chi o ran cyfiawnder a phlismona, ond yr hyn rydw i'n ei wybod yw os nad oes Llywodraeth Lafur yn yr etholiad cyffredinol nesaf, ni fyddwn yn cael y newidiadau y byddem eu heisiau. Ni chawn unrhyw newidiadau ac efallai y byddwn ni hyd yn oed yn gweld y sefyllfa bresennol yn gwrthdroi, a dyna pam, rwy'n credu, o fewn y cyd-destun, bod rhai o'r cynigion sy'n cael eu cyflwyno yn bwysig iawn yn gyfansoddiadol. Maen nhw'n bwysig iawn ar gyfer dyfodol Cymru, ond maen nhw hefyd yn fframwaith lle mae angen cynnal dadl gyfansoddiadol ehangach, sy'n gorfod cynnwys Lloegr a'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd. Rwy'n credu ar ryw adeg yn y dyfodol, bydd confensiwn cyfansoddiadol, oherwydd rwy'n credu mai dyma'r unig ffordd y gallwch roi'r holl nodweddion gwahanol at ei gilydd yn gydlynus. Os yw'r confensiwn cyfansoddiadol hwnnw byth yn digwydd, yr hyn y gallwn ei ddweud yw ein bod wedi chwarae ein rhan yng Nghymru i sicrhau ein bod wedi ymgysylltu â phobl yng Nghymru, a bod ein cyfraniad at hynny yn gynnyrch y sgyrsiau a'r trafodaethau hynny ar ran pobl yng Nghymru.
Minister, I've heard a number of definitive statements from you today in terms of this interim report and the commission, in terms of what it means for the people of Wales. But, actually, I think this commission has been set up and the report has been based on, unfortunately, a skewed range of opinions. We know that 55 per cent of the people that responded to the survey supported independence, but from the last St David's Day poll, just 14 per cent of the people in Wales supported it. It's a very small number, but it's actually less than the number of people who vote for Plaid Cymru, so if Plaid can't even convince their own voters to support independence, how on earth they'll convince the rest of Wales, I'll never understand. But, nevertheless, what this consultation exercise has shown is that it failed to properly engage with communities right across Wales. You called it a genuinely national conversation, but, in fact, it's actually a projection of Wales and the Wales that this commission wished existed, rather than the Wales that actually does exist today. It skews the entire consultation exercise. You said it set out the variety of opinions. Well, we know that the same number of people that want independence in Wales, according to polls, also want to abolish this place entirely, which is not something given consideration to at all by this commission. So, do you agree with me, Minister, that if this consultation cannot be done reliably, it should not be done at all?
Gweinidog, rydw i wedi clywed nifer o ddatganiadau pendant gennych chi heddiw o ran yr adroddiad interim hwn a'r comisiwn, o ran yr hyn y mae'n ei olygu i bobl Cymru. Ond, mewn gwirionedd, rwy'n credu bod y comisiwn hwn wedi'i sefydlu ac mae'r adroddiad wedi'i seilio ar ystod o safbwyntiau wedi'u camystumio, yn anffodus. Rydym yn gwybod bod 55 y cant o'r bobl a ymatebodd i'r arolwg yn cefnogi annibyniaeth, ond o'r arolwg diwethaf ar Ddydd Gŵyl Dewi, dim ond 14 y cant o'r bobl yng Nghymru oedd yn ei gefnogi. Mae'n nifer bach iawn, ond mewn gwirionedd mae'n llai na nifer y bobl sy'n pleidleisio dros Plaid Cymru, felly os na all Plaid hyd yn oed argyhoeddi eu pleidleiswyr eu hunain i gefnogi annibyniaeth, sut ar y ddaear y byddai'n argyhoeddi gweddill Cymru, wnaf i fyth ddeall. Ond, serch hynny, yr hyn y mae'r ymarfer ymgynghori hwn wedi'i ddangos yw ei fod wedi methu ag ymgysylltu'n iawn â chymunedau ledled Cymru. Gwnaethoch chi ei alw'n sgwrs wirioneddol genedlaethol, ond, mewn gwirionedd, rhagamcaniad o Gymru a'r Gymru y dymunai'r comisiwn hwn iddi fodoli, yn hytrach na'r Gymru sy'n bodoli mewn gwirionedd heddiw. Mae'n camystumio'r ymarfer ymgynghori cyfan. Dywedoch chi ei fod yn nodi'r amrywiaeth o ran safbwyntiau. Wel, rydym yn gwybod bod yr un nifer o bobl sydd eisiau annibyniaeth yng Nghymru, yn ôl arolygon, hefyd eisiau diddymu'r lle yma yn gyfan gwbl, ac nad yw'n rhywbeth sy'n cael ei ystyried o gwbl gan y comisiwn hwn. Felly, ydych chi'n cytuno â mi, Gweinidog, os na ellir gwneud yr ymgynghoriad hwn mewn ffordd ddibynadwy, na ddylid ei wneud o gwbl?
Can I say, firstly, that I think your representation of the interim report and the work up to that stage is, indeed, a misrepresentation? Because what they have done is put forward a whole series of evidence sessions. Again, you're right in terms of the online consultation, and, to be honest, that's the same with just about every online consultation that takes place, that you have a large number of people with a predetermined position, and they've been absolutely honest about that. They said that straight upfront, but they've also said that that isn't the basis of the consultation, that the whole purpose of producing the interim report was to provide a framework on core options - and you've seen the three options that they've identified - on which they're now going through a much more detailed and grass-roots engagement process. So, I think it is unfair to criticise engagement when that engagement is actually taking place on the basis of the interim report. I understand the position that you have, and I understand, within this Chamber, that when positions are put forward, sometimes they're positions that are overexaggerated for party political reasons and so on. What I do hope is that you do, deep down, recognise that there is now a very serious engagement process that is under way with the commission, that the Welsh Government is not directing or controlling that, that it is a genuine independent commission, and you are free to ensure that your views on all the specific points they are looking at are answered and you give evidence. I hope you will follow the exemplary example of Darren Millar, the former Secretary of State for Wales Simon Hart, and UK Government Ministers who have chosen to give that evidence, as, indeed, I understand, has Gordon Brown as well. I think your views are just as valid, and I now look forward to perhaps reading the evidence that you yourself submit in terms of your views in terms of the various points that are being made in the consultation that is under way.
Yn gyntaf, a gaf i ddweud fy mod i'n meddwl bod eich cynrychiolaeth chi o'r adroddiad interim a'r gwaith hyd at y cam hwnnw, yn wir, yn gamgyflead? Oherwydd yr hyn a wnaed yw cyflwyno cyfres gyfan o sesiynau tystiolaeth. Unwaith eto, rydych chi'n iawn o ran yr ymgynghoriad ar-lein, ac, i fod yn onest, mae hynny'r un peth gyda phob ymgynghoriad ar-lein sy'n digwydd, bod gennych nifer mawr o bobl sydd â safbwynt rhagderfynedig, ac maen nhw wedi bod yn gwbl onest am hynny. Dywedwyd hynny'n syth ymlaen llaw, ond dywedwyd hefyd nad yw hynny'n sail i'r ymgynghoriad, mai holl bwrpas cynhyrchu'r adroddiad interim oedd darparu fframwaith ar opsiynau craidd - ac rydych wedi gweld y tri opsiwn a nodwyd - y maen nhw bellach yn mynd drwy broses ymgysylltu llawer mwy manwl ac ar lawr gwlad. Felly, rwy'n credu ei bod yn annheg beirniadu gweithgarwch ymgysylltu pan fo'r gweithgarwch ymgysylltu hwnnw yn digwydd ar sail yr adroddiad interim mewn gwirionedd. Rwy'n deall eich safbwynt, ac rwy'n deall, o fewn y Siambr hon, pan fydd safbwyntiau'n cael eu cyflwyno, weithiau maen nhw'n safbwyntiau sy'n cael eu gor-ddweud am resymau gwleidyddol pleidiau ac yn y blaen. Yr hyn rwyf yn ei obeithio yw eich bod chi, yn y bôn, yn cydnabod bod proses ymgysylltu difrifol iawn bellach ar y gweill gyda'r comisiwn, nad yw Llywodraeth Cymru yn cyfarwyddo nac yn rheoli hynny, ei fod yn gomisiwn annibynnol go iawn, ac rydych yn rhydd i sicrhau bod eich barn ar yr holl bwyntiau penodol a ystyrir yn cael eu hateb a'ch bod yn rhoi tystiolaeth. Gobeithio y byddwch yn dilyn esiampl enghreifftiol Darren Millar, cyn Ysgrifennydd Gwladol Cymru Simon Hart, a Gweinidogion Llywodraeth y DU sydd wedi dewis rhoi'r dystiolaeth honno, fel yn wir y deallaf y mae Gordon Brown wedi'i wneud hefyd. Rwy'n credu bod eich barn yr un mor ddilys, ac rwy'n edrych ymlaen nawr at ddarllen y dystiolaeth rydych chi eich hun yn ei chyflwyno o ran eich barn o ran y gwahanol bwyntiau sy'n cael eu gwneud yn yr ymgynghoriad sy'n mynd rhagddi.
Darren Millar and Tom Giffard make some important points about the level of engagement with the whole population. I think it's really important that we have that conversation, but that we ensure that all parts of the population are involved where possible. There are three issues that the interim report highlights that are really not working at the moment: policing and justice, rail infrastructure, and welfare. I think the Tories need to pay caution to the fact that there are so many people in our country who are in full-time work and are struggling to eat and heat. That tells you there must be something wrong with our welfare system. We've already rehearsed the problems with the rail infrastructure in First Minister's questions, so I want to raise the issue of policing and justice. There is an absolute crisis of confidence in the police force across the United Kingdom. Our ability to ensure that the culture within the police is appropriate and not a place where people who should never be policemen can hide is - . We don't have those powers, and that is really worrying. But what's more than that, the way in which we waste money within the criminal justice system, across the United Kingdom, is something that is extremely difficult for us to resolve unless we have the powers. We have an excellent relationship at the moment with people in the Ministry of Justice, who are all working together on this women's justice blueprint, but that can change without anything that the Welsh Government can do about it. If the UK Government suddenly decide that they want to go off on a different path, then all of the good work can just go down the can. So, I want to understand what the relationship is between the Government and the remit of this commission, because these are serious issues and they need properly investigating. There's really almost nothing in the interim report on the important issue of policing and justice, indeed, nor on the welfare system and how we could run it better, if we had control over its administration, just like they have in the other countries - in Scotland and Northern Ireland. They're able to do it, so we should be able to show that we're able to spend money better and have a more just outcome from it. So, I wonder whether you can just highlight that for us.
Mae Darren Millar a Tom Giffard yn gwneud rhai pwyntiau pwysig am lefel yr ymgysylltu â'r boblogaeth gyfan. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn ein bod yn cael y sgwrs honno, ond ein bod yn sicrhau bod pob rhan o'r boblogaeth yn rhan o'r broses lle bo hynny'n bosibl. Mae tri mater y mae'r adroddiad interim yn ei amlygu sydd wir ddim yn gweithio ar hyn o bryd: plismona a chyfiawnder, seilwaith rheilffyrdd, a lles. Rwy'n meddwl bod angen i'r Torïaid dalu pwyll i'r ffaith bod cynifer o bobl yn ein gwlad sydd mewn gwaith llawn amser ac yn ei chael hi'n anodd bwyta a gwresogi. Mae hynny'n dweud wrthych, mae'n rhaid bod rhywbeth o'i le ar ein system les. Rydym eisoes wedi ymarfer y problemau gyda'r seilwaith rheilffyrdd yn ystod cwestiynau i'r Prif Weinidog, felly rydw i am godi'r mater o blismona a chyfiawnder. Mae'r diffyg hyder llwyr yn yr heddlu ledled y Deyrnas Unedig. Mae ein gallu i sicrhau bod y diwylliant yn yr heddlu yn briodol ac nid yn fan lle y gall pobl na ddylai fyth fod yn blismyn guddio - . Nid oes gennym y pwerau hynny, ac mae hynny'n bryderus iawn. Ond yn fwy na hynny, mae'r ffordd rydym yn gwastraffu arian o fewn y system cyfiawnder troseddol, ledled y Deyrnas Unedig, yn rhywbeth sy'n hynod anodd inni ei ddatrys oni bai bod gennym y pwerau. Mae gennym berthynas ardderchog ar hyn o bryd â phobl yn y Weinyddiaeth Gyfiawnder, y mae pob un ohonynt yn gweithio gyda'i gilydd ar y glasbrint cyfiawnder menywod hwn, ond gall hynny newid heb i Lywodraeth Cymru allu gwneud unrhyw beth amdano. Os bydd Llywodraeth y DU yn penderfynu'n sydyn ei bod am fynd i gyfeiriad gwahanol, yna gall yr holl waith da fynd yn wastraff. Felly, rwyf am ddeall beth yw'r berthynas rhwng y Llywodraeth a chylch gwaith y comisiwn hwn, oherwydd mae'r rhain yn faterion difrifol ac mae angen ymchwilio'n iawn iddynt. Does bron dim byd yn yr adroddiad interim ar fater pwysig plismona a chyfiawnder, yn wir, nac ar y system les a sut y gallem ei redeg yn well, pe bai gennym reolaeth dros ei weinyddu, yn union fel y maent yn y gwledydd eraill - yn yr Alban a Gogledd Iwerddon. Maen nhw'n gallu ei wneud, felly dylen ni allu dangos ein bod ni'n gallu gwario arian yn well a chael canlyniad mwy cyfiawn ohono. Felly, tybed a allwch chi dynnu sylw at hynny i ni.
Thank you. The terms of reference of the commission were well set out and we've been debating them on many occasions within this Chamber. I met recently with the commission, as the First Minister has, and I think they've explained, now, the process of engagement that they want to do and some of the directions of the issues they want to look at. They may want to look at these issues - financial issues, constitutional issues, governance issues and so on. It really is for them to determine the areas that they think are, actually, important, where the evidence they conclude and the representations they get within the framework, where that leads them. I'd be very surprised if all of those issues are not ones that are being looked at, and looked at in some detail and being engaged with. With the sort of engagement process they're having, it's inevitable that that will be the case. I think it would be a big mistake to, actually, direct and say, 'This is what you've got to do, this is how you've got to do it', et cetera. I think you have to have confidence from the wide range of people from across political parties, the different persuasions and skills of the various commissioners and experts who are there that that is what they will do. The points you raise in terms of welfare, policing, the cost-of-living crisis, justice and so on are absolutely right. I attended, with the Minister for Social Justice, Eastwood Park women's prison in Bristol. The governor there told us that every single woman there in that prison was a victim, one way or another, of abuse, of poverty, of exploitation. When we attended, just the other day, Berwyn prison up in north Wales, 10 per cent of the prisoners are former care leavers. We met with the care leavers, many of whom have themselves become mentors to care leavers who are coming into the prison system. In discussions that we've had with Cardiff University over the recent research and publications that they've had, the suggestion is that Wales has the highest level of imprisonment of its citizens in the whole of Europe, and something like two thirds or more of those who are on probation or in prison come from black or ethnic minority backgrounds. All of those things tell you that there are really serious issues in terms of our justice system. Looking at those, and how it can be delivered better, of course, is already part of our policy. Now, our views on that have been fed into the commission in evidence sessions, as I'm sure have the views of every other individual who's interested in the commission. That's why I keep saying, whether you agree or don't agree with it - whether you think it should be going ahead or not - it is there and it is really important that you engage with it, and that we have the most constructive engagement and consideration of all of those issues that are so important to the future of Wales and the people of Wales. It's a way of actually exploring the thinking and the views of the people of Wales. The point, Jenny, that you made and that you've made as well is absolutely right: the quality, to some extent, is the scale and the quality of the evidence, but also the quality of the engagement that takes place. That's why it is important, not whether we're going to agree with or disagree with the outcome, and not whether we think our predetermined views are always going to be the views we're going to have and we're not going to consider anything else so inflexibly, et cetera - I'm sure that that isn't the case. And that's why I think what is happening is timely, but I think it is also fundamentally important. Aneurin Bevan said that the problem, sometimes, is that people know the price of everything but the value of nothing, and I think our democracy has a very high value, and that's the direction we're taking. Thank you.
Diolch. Roedd cylch gorchwyl y comisiwn yn drefnus ac rydym wedi bod yn eu trafod droeon o fewn y Siambr hon. Cwrddais â'r comisiwn yn ddiweddar, fel y mae'r Prif Weinidog wedi gwneud, ac rwy'n credu ei fod wedi egluro, nawr, y broses o ymgysylltu y mae am ei wneud a rhai o gyfarwyddiadau'r materion y mae am edrych arnynt. Efallai y bydd yn edrych ar y materion hyn - materion ariannol, materion cyfansoddiadol, materion llywodraethu ac yn y blaen. Cyfrifoldeb y comisiwn, mewn gwirionedd, yw pennu'r meysydd y mae'n credu sy'n bwysig, lle mae'r dystiolaeth y mae'n dod i'r casgliad a'r sylwadau mae'n eu cael o fewn y fframwaith, lle mae hynny'n ei arwain. Byddwn i'n synnu'n fawr os nad yw'r holl faterion hynny'n rhai sy'n cael eu hystyried, ac yn edrych ar ryw fanylder ac yn cael sylw. Gyda'r math o broses ymgysylltu a geir, mae'n anochel y bydd hynny'n wir. Mewn gwirionedd, rwy'n credu y byddai'n gamgymeriad mawr i gyfeirio a dweud, 'Dyma sy'n rhaid i chi ei wneud, dyma sut mae'n rhaid i chi ei wneud', ac ati. Rwy'n credu bod yn rhaid i chi gael hyder o'r ystod eang o bobl o bob rhan o bleidiau gwleidyddol, gwahanol berswâd a sgiliau'r gwahanol gomisiynwyr ac arbenigwyr sydd yno mai dyna fyddan nhw'n ei wneud. Mae'r pwyntiau rydych chi'n eu codi o ran lles, plismona, yr argyfwng costau byw, cyfiawnder ac yn y blaen yn gwbl gywir. Es i i Garchar menywod Eastwood Park ym Mryste gyda'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol. Dywedodd y llywodraethwr yno wrthym fod pob un fenyw yno yn y carchar hwnnw wedi dioddef cam-drin, tlodi, camfanteisio mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Pan aethon ni i garchar Berwyn i fyny yn y gogledd, dim ond y diwrnod o'r blaen, mae 10 y cant o'r carcharorion yn gyn-ymadawyr gofal. Cawsom gyfarfod â'r ymadawyr gofal, y mae llawer ohonynt eu hunain wedi dod yn fentoriaid i ymadawyr gofal sy'n dod i mewn i'r system garchardai. Yn ystod trafodaethau rydym wedi'u cael gyda Phrifysgol Caerdydd ynghylch yr ymchwil a chyhoeddiadau diweddar y maent wedi'u cael, yr awgrym yw mai Cymru sy'n carcharu ei dinasyddion fwyaf ledled Ewrop, ac mae rhywbeth fel dwy ran o dair neu fwy o mae'r rhai sydd ar brawf neu yn y carchar yn dod o gefndiroedd du neu leiafrifoedd ethnig. Mae'r holl bethau hynny'n dweud wrthych fod yna broblemau difrifol iawn o ran ein system gyfiawnder. Mae edrych ar y rheini, a sut y gellir ei gyflwyno'n well, wrth gwrs, eisoes yn rhan o'n polisi. Nawr, mae ein barn ar hynny wedi ei chyfrannu i'r comisiwn mewn sesiynau tystiolaeth, fel yr wyf yn siŵr y mae barn farn pob unigolyn arall sydd â diddordeb yn y comisiwn. Dyna pam rwy'n parhau i ddweud, p'un a ydych yn cytuno ag ef ai peidio - p'un a ydych yn meddwl y dylai fod yn mynd yn ei flaen ai peidio - mae yno ac mae'n bwysig iawn eich bod yn ymgysylltu ag ef, a'n bod ni'n ystyried ac yn ymgysylltu â'r holl faterion hynny sydd mor bwysig i ddyfodol Cymru a phobl Cymru yn y ffordd fwyaf adeiladol. Mewn gwirionedd, mae'n ffordd o ymchwilio i feddylfryd a barn pobl Cymru. Mae'r pwynt y gwnaethoch chi, Jenny, hefyd yn hollol gywir: yr ansawdd, i ryw raddau, yw graddfa ac ansawdd y dystiolaeth, ond hefyd ansawdd yr ymgysylltu sy'n digwydd. Dyna pam mae'n bwysig, nid a ydym am gytuno neu anghytuno â'r canlyniad, ac nid ydym yn meddwl mai ein safbwyntiau rhagderfynedig fydd y farn rydym am ei chael bob amser a dydyn ni ddim yn mynd i ystyried unrhyw beth arall mor anhyblyg, ac ati - rwy'n siŵr nad yw hynny'n wir. A dyna pam rwy'n credu bod yr hyn sy'n digwydd yn amserol, ond rwy'n credu ei fod hefyd yn sylfaenol bwysig. Dywedodd Aneurin Bevan mai'r broblem, weithiau, yw bod pobl yn gwybod pris popeth ond gwerth dim, ac rwy'n meddwl bod gwerth ein democratiaeth yn uchel iawn, a dyna'r cyfeiriad rydym yn ei gymryd. Diolch.
It's clear, Cwnsler Cyffredinol, from the interim report that the current devolution settlement is both dysfunctional and wholly inadequate for the needs of the people of Wales. What is also clear is that the commission will face an uphill struggle to persuade a Westminster Government of any colour that fundamental change is needed. I read last week your interview with the Law Society Gazette and was shocked that only five of the 78 recommendations of the independent commission on justice in Wales report have been accepted by Westminster. How do you surmount the very real challenge that Wales is an afterthought at best at Whitehall at all times? How can those proud defenders of the status quo there on the Conservative benches and with you, with Labour, in Westminster - how can they defend the status quo, that this union is working for the people of Wales, when we are one of the poorest parts of the United Kingdom, as mentioned by Jenny Rathbone? Our poverty is not inevitable. We have the resources, we have the skills. What we need is the chwarae teg, Cwnsler Cyffredinol. The late Tom Nairn said that the British state, 'has entered into a historical cul-de-sac from which no exit is visible'. Well, this commission has the opportunity to guide us toward an exit. However, I think it is very fitting that one of the co-chairs of this commission is the former Archbishop of Canterbury, because you will need all the support in the world and beyond to persuade any Westminster Government that change really is needed. Diolch yn fawr.
Mae'n amlwg, Cwnsler Cyffredinol, o'r adroddiad interim fod y setliad datganoli presennol yn gamweithredol ac yn gwbl annigonol ar gyfer anghenion pobl Cymru. Yr hyn sy'n amlwg hefyd yw y bydd y comisiwn yn wynebu tasg anodd o berswadio Llywodraeth San Steffan o unrhyw liw bod angen gwneud newidiadau sylfaenol. Darllenais eich cyfweliad gyda'r Law Society Gazette yr wythnos diwethaf a chefais fy synnu mai dim ond pump o'r 78 o argymhellion adroddiad y Comisiwn Annibynnol ar Gyfiawnder yng Nghymru sydd wedi'u derbyn gan San Steffan. Sut ydych chi'n goresgyn yr her wirioneddol bod Cymru'n ôl-ystyriaeth ar y gorau yn Whitehall bob amser? Sut gall y rhai sy'n falch o amddiffynwyr y status quo yno ar y meinciau Ceidwadol a gyda chi, gyda Llafur, yn San Steffan - sut y gallant amddiffyn y status quo, bod yr undeb hwn yn gweithio i bobl Cymru, pan ydym yn un o rannau tlotaf y Deyrnas Unedig, fel y crybwyllwyd gan Jenny Rathbone? Nid yw ein tlodi yn anochel. Mae gennym yr adnoddau, mae gennym y sgiliau. Beth sydd ei angen arnom yw'r chwarae teg, Cwnsler Cyffredinol. Dywedodd y diweddar Tom Nairn fod y wladwriaeth Brydeinig, 'wedi mynd i ffordd bengaead hanesyddol heb ffordd amlwg allan'. Wel, mae gan y comisiwn hwn gyfle i'n harwain tuag at ffordd allan. Fodd bynnag, rwy'n credu ei bod yn addas iawn mai un o gyd-gadeiryddion y comisiwn hwn yw cyn-Archesgob Caergaint, oherwydd bydd angen yr holl gefnogaeth yn y byd a thu hwnt i berswadio unrhyw Lywodraeth San Steffan bod angen newid go iawn. Diolch yn fawr.
Well, thank you for that last comment. If water can be turned into wine, then I'm pretty sure that commissions can be turned into constitutional reform. Listen, the point that you make is a valid one, isn't it? There is a recognition - and I hope there is common ground that there's a recognition that our constitutional structures, the status quo, are not acceptable, not workable, and there needs to be change. That's why everyone needs to make an input on what they think that change should be. But, when has devolution been easy? When has constitutional reform, when has change, been easy? We only have to look through history to see the steps that have been taken and what has happened. In England, there had to be a civil war to get some fundamental constitutional reform; well, we don't need to go that far, but it's a recognition of the fact that there's a need, that things aren't working and we have to make them better. I very much value the comments and the input that you've made to this, but this is an important debate and it's an ongoing debate.
Wel, diolch am y sylw olaf hwnnw. Os oes modd troi dŵr yn win, yna rwy'n eithaf sicr y gellir troi comisiynau yn ddiwygiad cyfansoddiadol. Gwrandewch, mae'r pwynt rydych chi'n ei wneud yn un dilys, onid yw? Mae cydnabyddiaeth - ac rwy'n gobeithio bod tir cyffredin bod cydnabyddiaeth nad yw ein strwythurau cyfansoddiadol, y status quo, yn dderbyniol, nid yn ymarferol, ac mae angen gwneud newidiau. Dyna pam mae angen i bawb wneud cyfraniad ar beth ddylai'r newid hwn fod yn eu barn nhw. Fodd bynnag, pryd mae datganoli wedi bod yn hawdd? Pryd mae diwygiad cyfansoddiadol, pryd mae newid, wedi bod yn hawdd? Does ond rhaid i ni edrych drwy hanes i weld y camau sydd wedi eu cymryd a'r hyn sydd wedi digwydd. Yn Lloegr, bu'n rhaid cael rhyfel cartref i gael rhywfaint o ddiwygiad cyfansoddiadol sylfaenol; wel, does dim angen i ni fynd mor bell â hynny, ond mae'n gydnabyddiaeth o'r ffaith bod angen, nad yw pethau'n gweithio ac mae'n rhaid i ni eu gwella. Rwy'n gwerthfawrogi'r sylwadau a'r cyfraniad rydych wedi'u gwneud i hyn yn fawr, ond mae hon yn ddadl bwysig ac mae'n ddadl barhaus.
Thank you very much, and I also welcome the statement today. Earlier this month, I spoke to my Labour Party membership in Islwyn regarding the work of the commission and the interim report, and my sense from that meeting and wider discussions is that there's still much to be done in totality to communicate the work of the independent commission on the constitutional future of Wales. Because people are understandably trying to get by in the cost-of-living crisis and the pandemic, there is not much space for many in terms of understanding the ins and outs of a theoretical constitutional reform. However, this does affect all of us across Wales, and never a bigger impact on the citizens of Wales with its final conclusion - we cannot underestimate the importance of that. I noted that there exists confusion between the work of the independent commission and the well-publicised Welsh Government discussion of Senedd reform, and now the Gordon Brown reportage. I note that there have been 2,000 responses, which is a healthy start, but Wales having a population of three million demands the question: how do we ensure that this is a meaningful local and national conversation? I know that the Llywydd is looking at me. You stated that the commission has indicated that their intention is, in the next phase of their work, to extend that conversation to the people of Wales, and that's to be welcomed, but that has to be a real and important conversation that stretches across Wales and across our valleys. So, Counsel General, how will this actually manifest itself in reality, as there is a need for that greater dialogue, for the engagement that we all want and that Wales deserves?
Diolch yn fawr, ac rwyf hefyd yn croesawu'r datganiad heddiw. Yn gynharach y mis hwn, siaradais ag aelodaeth fy Mhlaid Lafur yn Islwyn ynglŷn â gwaith y comisiwn a'r adroddiad interim, a'm synnwyr o'r cyfarfod hwnnw a thrafodaethau ehangach yw bod llawer i'w wneud o hyd yn gyfan gwbl i gyfleu gwaith y comisiwn annibynnol ar ddyfodol cyfansoddiadol Cymru. Gan fod pobl yn naturiol yn ceisio cael dau ben llinyn ynghyd yn yr argyfwng costau byw a'r pandemig, nid oes llawer o le i lawer o ran deall manylion diwygiad cyfansoddiadol damcaniaethol. Fodd bynnag, mae hyn yn effeithio ar bob un ohonom ledled Cymru, a byth yn fwy o effaith ar ddinasyddion Cymru gyda'i gasgliad terfynol - ni allwn danbrisio pwysigrwydd hynny. Nodais fod dryswch rhwng gwaith y comisiwn annibynnol a thrafodaeth dda Llywodraeth Cymru ar ddiwygio'r Senedd, a nawr adroddiadau Gordon Brown. Nodaf fod 2,000 o ymatebion wedi bod, sy'n ddechrau iach, ond mae Cymru sydd â phoblogaeth o dair miliwn yn mynnu'r cwestiwn: sut mae sicrhau bod hon yn sgwrs leol a chenedlaethol ystyrlon? Rwy'n gwybod bod y Llywydd yn edrych arnaf. Dywedoch chi fod y comisiwn wedi nodi mai ei fwriad, yn y cyfnod nesaf yn ei waith, yw ymestyn y sgwrs honno i bobl Cymru, ac mae hynny i'w groesawu, ond mae'n rhaid i hynny fod yn sgwrs wirioneddol a phwysig sy'n ymestyn ledled Cymru a ledled ein cymoedd. Felly, Cwnsler Cyffredinol, sut y bydd hyn yn dod i'r amlwg mewn gwirionedd, gan fod angen mwy o gyfathrebu, ar gyfer yr ymgysylltiad y mae pob un ohonom ei eisiau ac y mae Cymru'n ei haeddu?
Thank you, Rhianon, for those comments. The commission has set out a programme of much deeper engagement, much deeper consultation, and the establishment of groups within communities with which it will engage, and I know that that was one of the points that I raised and others raised when we met with them - 'How are you going to go about it?' There was clearly a lot of work and a lot of thought about it. And we all know from our own engagement with our communities that it's not an easy process. People who are disengaged from civic society in that way are difficult to engage with - they have dropped out for a particular reason - but I'm confident that they are clearly addressing it, and that they will be doing some very, very different things and ways of doing it. In terms of our discussions, this is a challenge for all of us, isn't it? How do we turn these debates, which are about how people can influence matters, influence the decisions that affect their lives, into more than technical discussions? Well, look this happened - we only have to look through history. It has happened before. The Chartists - what was that? That was about constitutional reform; it was about almost nothing else other than constitutional reform. The establishment of democracy is about constitutional reform. Keir Hardie, on the Labour Representation Committee before the establishment of the Labour Party, talked about home rule, constitutional things, because they recognised the importance in terms of identifying where power was and how you could exercise and democratise it. So, that is the core, I think, of the debate that we're having and that we must have and I think will be underpinning many of the future discussions that we're going to have on this very, very important issue. I'm glad that we've been able to have this hour. I'm grateful for the generosity of the Llywydd for allowing this debate to take place in this way, but this is really only the start of that work, I think.
Diolch, Rhianon, am y sylwadau hynny. Mae'r comisiwn wedi nodi rhaglen o ymgysylltu llawer mwy trylwyr, o ymgynghori llawer mwy trylwyr, a sefydlu grwpiau o fewn cymunedau y bydd yn ymgysylltu â nhw, ac rwy'n gwybod mai dyna un o'r pwyntiau a godais, ymhlith pwyntiau eraill a godwyd pan gwrddon ni â'r comisiwn - 'Sut ydych chi'n mynd i fynd ati?' Roedd yn amlwg bod llawer o waith a llawer o feddwl yn cael ei wneud am y peth. Ac mae pob un ohonom yn gwybod o'n hymgysylltiad ein hunain â'n cymunedau nad yw'n broses hawdd. Mae pobl sydd wedi'u hymddieithrio rhag cymdeithas ddinesig yn y ffordd honno yn anodd ymgysylltu â nhw - maen nhw wedi rhoi'r gorau iddi am reswm penodol - ond rwy'n hyderus eu bod yn mynd i'r afael â hi'n glir, ac y byddant yn gwneud rhai pethau gwahanol iawn, iawn a ffyrdd gwahanol o'i wneud. O ran ein trafodaethau, mae hyn yn her i bob un ohonom, onid yw? Sut mae troi'r dadleuon hyn, sy'n ymwneud â sut y gall pobl ddylanwadu ar faterion, dylanwadu ar y penderfyniadau sy'n effeithio ar eu bywydau, yn fwy na thrafodaethau technegol? Wel, edrychwch digwyddodd hyn - nid oes ond rhaid i ni edrych drwy hanes. Mae wedi digwydd o'r blaen. Y Siartwyr - beth oedd hynny? Roedd hynny'n ymwneud â diwygiad cyfansoddiadol; nid oedd yn ymwneud â bron dim arall heblaw diwygiad cyfansoddiadol. Mae sefydlu democratiaeth yn ymwneud â diwygio cyfansoddiadol. Bu Keir Hardie, ar y Pwyllgor Cynrychiolaeth Llafur cyn sefydlu'r Blaid Lafur, yn sôn am reol gartref, pethau cyfansoddiadol, oherwydd eu bod yn cydnabod y pwysigrwydd o ran nodi lle'r oedd pŵer a sut y gallech ei arfer a'i ddemocrateiddio. Felly, dyna yw craidd y ddadl rydym yn ei chael a'r ddadl y mae'n rhaid i ni gael, yn fy marn i, ac rwy'n meddwl y bydd yn sail i lawer o'r trafodaethau ar y mater pwysig iawn hwn. Rwy'n falch ein bod ni wedi gallu cael yr awr hon. Rwy'n ddiolchgar am haelioni'r Llywydd am ganiatáu i'r ddadl hon ddigwydd fel hyn, ond dim ond dechrau'r gwaith hwnnw yw hwn mewn gwirionedd, rwy'n credu.
I'm generous enough even to call Alun Davies. [ Laughter.]
Rwy'n ddigon hael hyd yn oed i alw Alun Davies. [ Chwerthin.]
There we are. I'm very grateful to you, Presiding Officer, and so is the Chamber. [ Laughter.] Home rule, of course, was one of the founding principles of the modern Labour Party, and those people who haven't read 'In Place of Fear' will chart Aneurin Bevan's search for democracy and search for power from the miners' lodge in Pochin colliery, through Tredegar town council and Monmouthshire County Council to the Palace of Westminster. And power is what socialism is about, and the use of power and the democratic control of power, which is what Waldorf and Statler don't actually like about this debate, because this is about the democratisation of political power. What I want to see from this commission, Counsel General, is the establishment of a recognition that parliamentary democracy is equal here as to that which exists in Westminster. I've read through the statutes of Westminster in 1931, and that might well provide a building block for the shared sovereignty of parliamentary democracy throughout these islands, because until we lose the concept of parliamentary democracy residing in Westminster and Westminster alone, we will never be able to protect the powers that the people of Wales want to be held here. So, we need to be able to do that. And the other point that I will just make, if the Presiding Officer will allow me, is that about the democratisation of money. All too often, decisions that are taken by the UK Treasury are taken to benefit London and the south-east of England, and one place where Liz Truss was absolutely right was that Treasury orthodoxy has failed the United Kingdom. Treasury orthodoxy has failed Wales. Treasury orthodoxy has impoverished the United Kingdom, and what I would like to see is a model based, perhaps, even on the Australian model, where you have the independent allocation of funds and redistribution of wealth across these islands to ensure that all parts of these islands benefit from the wealth created in these islands.
Dyna ni. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi, Llywydd, ac felly hefyd y Siambr. [ Chwerthin.] Rheolaeth gartref, wrth gwrs, oedd un o egwyddorion sefydlu'r Blaid Lafur fodern, a bydd y bobl hynny sydd heb ddarllen 'In Place of Fear' yn dilyn chwiliad Aneurin Bevan am ddemocratiaeth a phŵer o borthdy'r glowyr yng nglofa Pochin, drwy gyngor tref Tredegar a Chyngor Sir Fynwy hyd at Balas San Steffan. A phŵer yw'r hyn y mae sosialaeth amdano, a'r defnydd o bŵer a rheoli pŵer democrataidd, sef yr hyn nad yw Waldorf a Statler yn ei hoffi am y ddadl hon mewn gwirionedd, oherwydd mae hyn yn ymwneud â democrateiddio pŵer gwleidyddol. Yr hyn rydw i am ei weld gan y comisiwn hwn, Cwnsler Cyffredinol, yw sefydlu cydnabyddiaeth bod democratiaeth seneddol yn gyfartal yn y fan yma â'r hyn sy'n bodoli yn San Steffan. Rwyf wedi darllen drwy statudau San Steffan ym 1931, ac mae'n ddigon posibl y byddai hynny'n darparu bloc adeiladu ar gyfer sofraniaeth gyffredin democratiaeth seneddol ledled yr ynysoedd hyn, oherwydd hyd nes y byddwn yn colli'r cysyniad o ddemocratiaeth seneddol sy'n byw yn San Steffan a San Steffan yn unig, ni fyddwn byth yn gallu diogelu'r pwerau y mae pobl Cymru am gael eu cynnal yma. Felly, mae angen i ni allu gwneud hynny. A'r pwynt arall y byddaf yn ei wneud, os bydd y Llywydd yn caniatáu i mi wneud hynny, yw democrateiddio arian. Yn rhy aml, mae penderfyniadau sy'n cael eu gwneud gan Drysorlys y DU yn cael eu gwneud er budd Llundain a de-ddwyrain Lloegr, ac un man lle roedd Liz Truss yn gwbl gywir oedd bod uniongrededd y Trysorlys wedi methu'r Deyrnas Unedig. Mae uniongrededd y Trysorlys wedi methu Cymru. Mae uniongrededd y Trysorlys wedi amharu ar y Deyrnas Unedig, a'r hyn yr hoffwn ei weld yw model sy'n seiliedig, efallai, hyd yn oed ar fodel Awstralia, lle mae gennych ddyraniad annibynnol o arian ac ailddosbarthu cyfoeth ar draws yr ynysoedd hyn er mwyn sicrhau bod pob rhan o'r ynysoedd hyn yn cael budd o'r cyfoeth a grëwyd yn yr ynysoedd hyn.
Thank you for that, and again, I'm grateful to the Llywydd for her generosity, or shall I say extravagance? [ Laughter.] The point you make on sovereignty is an important one, and I have been saying at every opportunity I get that the concept of Westminster sovereignty disappeared some time ago. It may not be completely recognised and maybe our constitutional structure may not have caught up with it, but where you have four Parliaments that elect and have primary legislative powers, with mandates from the people by whom they were elected, then there cannot be anything other than shared sovereignty. And it is the failure of our constitutional system to adjust to that that I think has resulted in the dysfunctions that we are continually facing every day, and one of the reasons why there has to be reform. The democratisation of finance, the accountability of the Treasury, I actually agree are absolutely fundamental. The HS2 debate is a classic example of that. It should not be capable of happening in an area where there is clear delineation of the conventions and the powers and the responsibilities. So, beyond that, I think I agreed with most of the other points you made as well.
Diolch am hynny, ac eto, rwy'n ddiolchgar i'r Llywydd am ei haelioni, neu a ddylwn i ddweud gormodiaith? [ Chwerthin.] Mae'r pwynt rydych yn ei wneud am sofraniaeth yn un pwysig, ac rwyf wedi bod yn dweud ar bob cyfle a gaf fod y cysyniad o sofraniaeth San Steffan wedi diflannu gryn amser yn ôl. Efallai nad yw'n cael ei gydnabod yn llwyr ac efallai na fydd ein strwythur cyfansoddiadol wedi dal i fyny â hi, ond lle mae gennych bedair Senedd sy'n ethol ac sydd â phwerau deddfu sylfaenol, gyda mandadau gan y bobl y cawsant eu hethol, yna ni all fod unrhyw beth heblaw sofraniaeth a rennir. A methiant ein system gyfansoddiadol yw addasu i hynny sydd wedi arwain at y trafferthion rydym yn eu hwynebu'n barhaus bob dydd, yn fy marn i, ac un o'r rhesymau pam fod yn rhaid diwygio. Mae democrateiddio cyllid, atebolrwydd y Trysorlys, rwy'n cytuno yn gwbl sylfaenol a dweud y gwir. Mae dadl HS2 yn enghraifft berffaith o hynny. Ni ddylai allu digwydd mewn ardal lle mae darlun clir o'r confensiynau a'r pwerau a'r cyfrifoldebau. Felly, y tu hwnt i hynny, rwy'n credu fy mod yn cytuno â'r rhan fwyaf o'r pwyntiau eraill a wnaethoch hefyd.
The next item is the statement by the Minister for Education and Welsh Language on Welsh in education planning, and I call on the Minister to make the statement - Jeremy Miles.
Yr eitem nesaf, felly, yw'r datganiad gan Weinidog y Gymraeg ac Addysg ar gynllunio'r Gymraeg mewn addysg, ac rwy'n galw ar y Gweinidog i wneud ei ddatganiad - Jeremy Miles.
Thank you, Llywydd, and it's my pleasure to be here today to update Members on our progress regarding Welsh in education planning. Since my last statement, I'm pleased to say that all 10-year Welsh in education strategic plans by local authorities have been approved and published and are operational. Not only that, I've received 22 action plans, setting out in detail how local authorities will deliver their WESPs during the first five years. I'd like to thank everyone at local authority and stakeholder level for their continued support and their involvement in this agenda. It demonstrates to me a real commitment and understanding of the need to keep moving forward, together, with a clear vision. And delivering on their commitments is exactly what they intend to do. This is a clear message from council leaders and directors of education during our meetings to discuss their WESPs last term. We all know that education and language planning aren't easy, particularly as the starting point of each local authority is different. We need to continue, therefore, to work together to make sure that the decisions that we make and the actions that we take bring us closer to our 'Cymraeg 2050' ambition, namely a million Welsh speakers. For my part, I intend to make sure that the guidance issued to local authorities reflects our 'Cymraeg 2050' commitments. New guidance has already been issued around the capital grants for sustainable communities for learning and the WESPs, so that investment plans are assessed against the WESPs to ensure that they provide the capability to meet the targets. We also intend to review the school organisation code, with work already under way to identify which changes are needed. I was pleased to be able to allocate a further £7 million in capital funding during the autumn term to support our WESP commitments of local authorities. This is on top of the £105 million approved since 2018. The £6.6 million to expand late immersion provision across Wales over this Senedd term is gaining momentum, with all bids by local authorities operational since September. The funding will allow local authorities to employ more than 60 late immersion specialists over the coming years. For example, in the Vale of Glamorgan, they have been able to open their first late immersion unit in Ysgol Gwaun y Nant through the use of this grant. We're also supporting the virtual immersion learning programme in Gwynedd, using VR technology, a resource that will benefit the whole of Wales. We launched our network to support Welsh language immersion in December last year, bringing local authorities, schools and late immersion specialists together to ensure developments in late immersion practices are based on knowledge and research. I'm very proud of what we've achieved in this area. Our late immersion provision is unique to us in Wales, and the potential for us to go even further is clear to see. We can't, however, ignore the census results on the Welsh language, published on 6 December. The figures relating to three to 15-year olds were disappointing, as we know that there are more learners in Welsh-medium education today than there were 10 years ago - over 11,000 more. As I said in my statement on the Welsh language census results on 24 January, the Welsh Government remains absolutely committed to our aim of a million Welsh speakers and doubling the number of us who use Welsh every day by 2050. Maintaining a better understanding of the data is a key part of Welsh in education planning. A local Welsh language data profile was provided to local authorities during the preparation of their WESPs, which will be updated annually. I will also publish a national overview based on review reports on the WESPs. Since publishing our 10-year education workforce plan in May 2022, we've also been working with some local authorities to develop a consistent method of analysing data collected by schools and local authorities. This will enable a more detailed understanding of how many additional teachers are required to deliver local authority plans to increase the number of learners in Welsh-medium education, and it will also enable stakeholders to better target our support for all practitioners to develop their own Welsh language skills. We want to ensure that all learners in all schools have the best opportunity to become confident Welsh speakers. We've committed to establishing and implementing a continuum of Welsh language learning so that learners, teachers, parents and employers have a shared understanding of the journey to learn Welsh and the expected linguistic outcomes on each stage of that journey. A crucial aspect of this work will be to ensure that the continuum can be used both within the statutory education system in support of the Curriculum for Wales as well as in post-16 and adult learning. We have been exploring with stakeholders opportunities to use the common European framework of reference for languages, CEFR, as a basis for developing a Welsh language continuum. Embedding the continuum will take time, but I'm committed to ensuring that the opportunity to learn Welsh is available to all. We'll continue to work across all schools and settings to ensure that the way in which we teach Welsh is innovative and is supported by professional learning and resources. We must refocus our efforts in the English-medium sector. I applaud the hard work that's going on in schools, and I know that there is appetite and enthusiasm among Welsh teachers to take advantage of the opportunities afforded within the Curriculum for Wales. We've already published the framework for the Welsh language in English-medium education, and the free Welsh lessons delivered through the National Centre for Learning Welsh for learners aged 16 to 25 and also for the education workforce is a great example of the collaborative work going on with our partners. Since September, we've funded the centre and Say Something in Welsh to develop an app to reinforce the Welsh language skills of learners and develop their confidence. Developments such as these have the potential to increase the use of Welsh in all of our schools. We intend to roll out this pilot to 10 other English-medium schools, and the planning for that starts immediately. We will also develop more resources to ensure that our Welsh language learners are well supported to become confident, proud speakers. Of course, one size will not fit all, and we must continue to find a suite of different interventions to support all learners, wherever they are on their language journey. These are all small but significant steps, which we need to celebrate. Cymraeg, Welsh, belongs to us all, and I am confident that, in partnership, we can deliver.
Diolch, Llywydd, ac mae'n bleser gen i fod yma heddiw i ddiweddaru Aelodau ar ein gwaith cynllunio'r Gymraeg mewn addysg. Ers fy natganiad diwethaf, rwy'n falch o ddweud bod holl gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg 10 mlynedd awdurdodau lleol wedi cael eu cymeradwyo, eu cyhoeddi ac yn weithredol. Nid yn unig hynny, rwyf wedi derbyn 22 o gynlluniau gweithredu sydd yn manylu sut y bydd awdurdodau lleol yn gweithredu'r CSCAs yn ystod y pum mlynedd cyntaf. Hoffwn ddiolch i bawb ar lefel awdurdod lleol a rhanddeiliaid am eu cefnogaeth barhaus a'u cyfraniad i'r agenda hwn. Mae'n dangos i mi ymrwymiad a dealltwriaeth go iawn o'r angen i barhau i symud ymlaen, gyda'n gilydd, gyda gweledigaeth glir. A gweithredu ar eu hymrwymiadau yw'r union beth maen nhw'n bwriadu ei wneud. Dyma'r neges glir gan arweinwyr y cyngor a chyfarwyddwr addysg yn ystod ein cyfarfodydd i drafod y CSCAs y tymor diwethaf. Rŷn ni i gyd yn gwybod nad yw addysg a chynllunio iaith yn hawdd, yn enwedig gan fod man cychwyn pob awdurdod lleol yn wahanol. Mae angen inni barhau, felly, i weithio gyda'n gilydd i wneud yn siŵr bod y penderfyniadau rydyn ni'n eu gwneud a'r camau rydyn ni'n eu cymryd yn dod â ni'n agosach at ein huchelgais 'Cymraeg 2050' o filiwn o siaradwyr Cymraeg. O'm rhan i, rwyf am wneud yn siŵr bod canllawiau a gyhoeddir i awdurdodau lleol yn adlewyrchu ein hymrwymiadau 'Cymraeg 2050'. Mae canllawiau newydd eisoes wedi'u cyhoeddi ynglŷn â grantiau cyfalaf cymunedau dysgu cynaliadwy a'r CSCA, fel bod cynlluniau buddsoddi'n cael eu hasesu yn erbyn y CSCA, i sicrhau'r gallu i gyrraedd targedau'r CSCA. Rŷn ni hefyd yn bwriadu adolygu'r cod trefniadaeth ysgolion, gyda gwaith eisoes ar y gweill i adnabod pa newidiadau sydd eu hangen. Roeddwn i'n falch o allu dyrannu £7 miliwn arall o gyllid cyfalaf yn ystod tymor yr hydref i gefnogi ymrwymiadau CSCA awdurdodau lleol. Mae hyn ar ben yr £105 miliwn a gymeradwywyd ers 2018. Mae'r £6.6 miliwn i ehangu darpariaeth drochi hwyr ledled Cymru yn ystod tymor y Senedd hon yn ennill momentwm, gyda phob cais gan awdurdodau lleol yn weithredol ers mis Medi. Bydd yr arian yn galluogi awdurdodau lleol i gyflogi dros 60 o arbenigwyr trochi hwyr dros y blynyddoedd nesaf. Er enghraifft, ym Mro Morgannwg, maen nhw wedi gallu agor eu canolfan drochi gyntaf yn Ysgol Gwaun y Nant trwy'r grant hwn. Rŷn ni hefyd yn cefnogi rhaglen drochi rithiol yng Ngwynedd, gan ddefnyddio technoleg VR, adnodd fydd o fudd i Gymru gyfan. Lansiwyd ein rhwydwaith i gefnogi addysg drochi ym mis Rhagfyr y llynedd i ddod ag awdurdodau lleol, ysgolion ac arbenigwyr trochi hwyr at ei gilydd i sicrhau bod datblygiadau mewn arferion trochi hwyr yn seiliedig ar wybodaeth ac ymchwil. Rwy'n falch iawn o'r hyn rŷn ni wedi'i gyflawni yn y maes hwn. Mae ein darpariaeth drochi hwyr ni yn unigryw i ni yng Nghymru, ac mae'r potensial i ni fynd hyd yn oed ymhellach yn glir i'w weld. Allwn ni ddim, fodd bynnag, anwybyddu canlyniadau'r cyfrifiad ar y Gymraeg, a gyhoeddwyd ar 6 Rhagfyr. Roedd y ffigurau ynglŷn â phlant tair i 15 oed yn siomedig, gan ein bod yn gwybod bod mwy o ddysgwyr mewn addysg Gymraeg heddiw nag oedd 10 mlynedd yn ôl - dros 11,000 yn fwy. Fe wnes i sôn yn fy natganiad ar ganlyniadau'r cyfrifiad ar y Gymraeg ar 24 Ionawr, fod Llywodraeth Cymru yn parhau i fod yn gwbl ymroddedig i'n nod o filiwn o siaradwyr Cymraeg a dyblu'r nifer ohonom sy'n defnyddio'r Gymraeg bob dydd erbyn 2050. Mae cynnal gwell dealltwriaeth o'r data yn rhan allweddol o gynllunio'r Gymraeg mewn addysg. Darparwyd proffil data Cymraeg lleol i awdurdodau lleol wrth baratoi eu CSCA, fydd yn cael ei ddiweddaru'n flynyddol. Byddaf hefyd yn cyhoeddi trosolwg cenedlaethol yn seiliedig ar adroddiadau adolygu'r CSCA. Ers cyhoeddi ein cynllun gweithlu addysg 10 mlynedd ym mis Mai 2022, rŷn ni hefyd wedi bod yn gweithio gyda rhai awdurdodau lleol i ddatblygu dull cyson o ddadansoddi data sy'n cael ei gasglu gan ysgolion ac awdurdodau lleol. Bydd hyn yn galluogi dealltwriaeth fanylach o'r nifer o athrawon ychwanegol sydd eu hangen i gyflawni cynlluniau awdurdodau lleol i gynyddu nifer y dysgwyr mewn addysg cyfrwng Cymraeg, a bydd hefyd yn galluogi rhanddeiliaid i dargedu ein cefnogaeth yn well i gefnogi pob ymarferwr i ddatblygu ei sgiliau Cymraeg. Rŷn ni am sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Rŷn ni wedi ymrwymo i sefydlu a gweithredu continwwm o ddysgu Cymraeg fel bod gan ddysgwyr, athrawon, rhieni a chyflogwyr ddealltwriaeth gyffredin o'r daith i ddysgu'r Gymraeg a'r canlyniadau ieithyddol disgwyliedig ar bob cam o'r daith honno. Rhan hanfodol o'r gwaith hwn fydd sicrhau bod y continwwm yn gallu cael ei ddefnyddio o fewn y system addysg statudol i gefnogi Cwricwlwm i Gymru yn ogystal ag wrth ddysgu ôl-16 a dysgu oedolion. Rŷn ni wedi bod yn archwilio gyda rhanddeiliaid cyfleoedd i ddefnyddio'r fframwaith cyfeirio Ewropeaidd cyffredin o ran lefelau iaith, neu the common European framework of reference for languages, CEFR, fel y'i gelwir, fel sail i ddatblygu continwwm Cymraeg. Bydd gwreiddio'r continwwm yn cymryd amser, ond rwyf wedi ymrwymo i sicrhau bod y cyfle i ddysgu Cymraeg ar gael i bawb. Byddwn ni'n parhau i weithio ar draws pob ysgol a lleoliad i sicrhau bod y ffordd rŷn ni'n dysgu Cymraeg yn arloesol ac yn cael ei chefnogi gan ddysgu proffesiynol ac adnoddau. Mae'n rhaid inni ailffocysu ein hymdrechion yn y sector cyfrwng Saesneg. Rwy'n ymfalchïo yn y gwaith caled sy'n digwydd mewn ysgolion ac rwy'n gwybod bod awydd a brwdfrydedd ymhlith athrawon Cymru i fanteisio ar y cyfleoedd sydd ar gael trwy'r cwricwlwm newydd. Rŷn ni eisoes wedi cyhoeddi'r fframwaith ar gyfer y Gymraeg mewn addysg cyfrwng Saesneg, a'r gwersi Cymraeg am ddim trwy'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i ddysgwr 16 i 25 a hefyd y gweithlu addysg, sy'n enghraifft wych o'r cydweithio sy'n digwydd gyda'n partneriaid. Ers mis Medi, rŷn ni wedi ariannu'r ganolfan a chwmni Say Something in Welsh i ddatblygu ap i atgyfnerthu sgiliau Cymraeg dysgwyr a datblygu eu hyder. Mae gan ddatblygiadau fel hyn y potensial i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg ym mhob un o'n hysgolion. Rŷn ni'n bwriadu cyflwyno'r peilot hwn i 10 ysgol Saesneg arall, ac mae'r cynllunio ar gyfer hynny'n dechrau nawr. Byddwn ni hefyd yn datblygu mwy o adnoddau i sicrhau bod ein dysgwyr Cymraeg yn cael cefnogaeth cryf i ddod yn siaradwyr hyderus, balch. Wrth gwrs, nid yw'r un dull yn gweddu i bawb, a rhaid inni barhau i ddod o hyd i gyfres o ymyraethau gwahanol i gefnogi pob dysgwr, lle bynnag y maen nhw ar eu taith iaith. Mae'r rhain i gyd yn gamau bach ond arwyddocaol, ac mae angen i ni eu dathlu. Mae'r Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, ac rwy'n hyderus y gallwn ni gyflawni mewn partneriaeth.
I'm grateful to the Minister for giving me sight of the statement beforehand this afternoon. I think we all acknowledge that we do need to develop an integrated strategy and policy for the delivery of 'Cymraeg 2050' that will see the Welsh Government collaborating with local authorities, and vice versa, rather than working in silos separately. Although I have no objection to what the WESPs hope to achieve, I do have some concerns as to how the Welsh Government and local authorities are working to provide their WESPs in education. The Minister will be aware that I raised some concerns about the current inability to scrutinise local authorities and the implementation of their WESPs. As I've said in this Chamber previously, if 'Cymraeg 2050' is to be delivered, then every policy maker here or in county halls across Wales must be accountable on delivering for the Welsh language. Very importantly, there is a role that the Welsh Government must play in ensuring that every local authority delivers the WESP that they have pledged. Now, practically, this is not currently the case.
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am roi golwg ymlaen llaw i mi o'r datganiad y prynhawn yma. Rwy'n credu ein bod ni i gyd yn cydnabod bod yn rhaid inni ddatblygu strategaeth bolisi integredig er mwyn cyflawni 'Cymraeg 2050' a fydd yn gweld Llywodraeth Cymru'n cydweithio ag awdurdodau lleol, a vice versa, nid mewn seilos ar wahân. Er nad oes gen i wrthwynebiad i'r hyn y mae'r cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg yn gobeithio ei gyflawni, mae gen i bryderon o ran sut mae Llywodraeth Cymru ac awdurdodau lleol yn gweithio i ddarparu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Bydd y Gweinidog yn cofio i mi godi pryderon ynghylch ei anallu presennol i graffu ar awdurdodau lleol a gweithrediad eu cynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg. Fel y dywedais yn y Siambr hon o'r blaen, os yw 'Cymraeg 2050' am gael ei gyflawni, yna mae'n rhaid i bob lluniwr polisi yma neu yn neuaddau sir ledled Cymru fod yn atebol am gyflawni ar gyfer y Gymraeg. Yn bwysig iawn, mae yna rôl y mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru ei chwarae i sicrhau bod pob awdurdod lleol yn gwireddu'r cynllun strategol maent wedi'i addo. Fodd bynnag, yn ymarferol, nid yw hyn yn wir.
As has been established, Welsh in education strategic plans are a Welsh Government mechanism in place to ensure that all 22 local authorities are taking decisions in the interests of the Welsh Government's own objectives and targets, in this case, 'Cymraeg 2050'. Local authorities submit their WESPs to Welsh Government, who decide if they are satisfactory or not. Once deemed satisfactory, the local authority then implements that WESP. But should they fail to deliver the WESP, then Welsh Government posses no ability to intervene and direct that authority in the right direction. Because of this, what hopes do the Welsh Government have of achieving 'Cymraeg 2050' if WESPs are seen, sometimes, as a box-ticking exercise by local authorities, with no obligation to deliver upon them? I appreciate, Minister, that you intend to bring forward a Welsh language Act and are having active discussions with Plaid Cymru as part of the co-operation agreement, but the current relationship between Welsh Government, its policies and local authorities is not producing the results we all want to see. Whilst local authorities are coming up with WESPs, there's no way for Welsh Government to ensure that WESP journey is completed. When we make targets such as 'Cymraeg 2050' and policies such as WESPs, we have to ensure that local authorities, further education colleges, early years learning and third sector organisations all fit within a whole pathway of support and consultation. In part, this is already somewhat being done. The coleg Cymraeg is already working on ensuring that further and higher education provision is being provided through the medium of Welsh within specific and targeted sectors. But this isn't captured within local authorities' Welsh in education strategic plans because the coleg Cymraeg only provide oversight for the whole post-16 provision. As a result of this, will the Minister reassess the WESP framework to ensure that it encapsulates all 22 local authorities' entire Welsh language provision, including all sectors of education?
Fel sydd wedi ei sefydlu, mae Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg yn ddull gan Lywodraeth Cymru o sicrhau bod pob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn gwneud penderfyniadau er budd amcanion a thargedau Llywodraeth Cymru ei hun, yn yr achos hwn, 'Cymraeg 2050'. Mae awdurdodau lleol yn cyflwyno eu Cynlluniau Strategol Cymraeg mewn Addysg i Lywodraeth Cymru, sy'n penderfynu os ydyn nhw'n foddhaol neu beidio. Pan y'u hystyrir yn foddhaol, mae'r awdurdod lleol yna'n gweithredu'r cynllun hwnnw. Ond pe bydden nhw'n methu â darparu'r cynllun, yna nid oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw allu i ymyrryd a chyfeirio'r awdurdod hwnnw i'r cyfeiriad cywir. Oherwydd hyn, pa obeithion sydd gan Lywodraeth Cymru o gyflawni 'Cymraeg 2050' os ystyrir y cynlluniau hyn, weithiau, yn ymarfer ticio bocsys gan awdurdodau lleol, heb unrhyw rwymedigaeth i gyflawni arnynt? Rwy'n gwerthfawrogi, Gweinidog, eich bod yn bwriadu cyflwyno Deddf Iaith Gymraeg a'ch bod yn cael trafodaethau gweithredol gyda Phlaid Cymru fel rhan o'r cytundeb cydweithredu, ond nid yw'r berthynas bresennol rhwng Llywodraeth Cymru, ei pholisïau na'i hawdurdodau lleol yn cynhyrchu'r canlyniadau rydyn ni i gyd eisiau eu gweld. Tra bod awdurdodau lleol yn cynnig Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, does dim modd i Lywodraeth Cymru sicrhau bod taith y cynllun hwnnw'n cael ei chwblhau. Wrth bennu targedau fel 'Cymraeg 2050' a pholisïau fel y Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg, mae'n rhaid i ni sicrhau bod awdurdodau lleol, colegau addysg bellach, dysgu yn y blynyddoedd cynnar a sefydliadau'r trydydd sector i gyd yn ffitio ar lwybr cyfan o gefnogaeth ac ymgynghori. Yn rhannol, mae hyn eisoes yn cael ei wneud rhywfaint. Mae'r Coleg Cymraeg eisoes yn gweithio ar sicrhau bod darpariaeth addysg bellach ac addysg uwch yn cael ei darparu drwy gyfrwng y Gymraeg o fewn sectorau penodol a sectorau sydd wedi eu targedu. Ond nid yw hyn yn cael ei nodi mewn Cynlluniau strategol y Gymraeg mewn addysg awdurdodau lleol oherwydd bod y Coleg Cymraeg ond yn goruchwylio'r ddarpariaeth ôl-16 gyfan. O ganlyniad i hyn, a fydd y Gweinidog yn ailasesu fframwaith y cynlluniau hyn i sicrhau ei fod yn crisialu holl ddarpariaeth Gymraeg gyfan y 22 o awdurdodau lleol, gan gynnwys pob sector o addysg?
Minister, it appears that I am rehearsing this point in all statements on the Welsh language. I share your ambition for our language. I want to see it prosper across Wales, be that in the classroom, on the high street, or at the office desk. But, to do this, we must bring everyone with us on this shared journey, and we can do that by developing policies that see that all levels of government, the third sector and education work together as one. We need to ensure that Welsh Government policies reflect this. Thank you.
Weinidog, mae'n ymddangos fy mod yn ailadrodd hyn ymhob datganiad ynghylch y Gymraeg. Rwy'n rhannu eich uchelgais ar gyfer ein hiaith. Rwyf am ei gweld yn ffynnu ymhob lleoliad ledled Cymru, boed hynny yn yr ystafell ddosbarth, ar hyd y stryd fawr, neu wrth ddesg y swyddfa. Ond, i wneud hyn, mae'n rhaid inni ddod â phawb ar y daith gyffredin hon, a gallwn wneud hynny drwy ddatblygu polisïau sy'n gweld bod pob lefel o lywodraeth, y trydydd sector ac addysg yn gweithio fel un. Mae angen inni sicrhau bod polisïau Llywodraeth Cymru yn adlewyrchu hyn. Diolch.
Well, I agree that the Member does repeat this. It's a lazy narrative, and there's no evidence supporting what he said today about the performance of local authorities. We have new WESPs since September only, and there's not one sentence of evidence suggesting that local authorities are falling behind on their obligations. My experience of discussing this with leaders is very encouraging. I've said several times, in response to what the Member has said in the past, that I insist that councils are accountable for what they do in their WESPs, and we'll do everything we can to ensure that that happens. But I've also said, in the conversations that I've had with the councils, one-on-one with the leaders, that the commitment of leaders is clear to the WESPs, and so that's to be welcomed and it's very encouraging. In terms of scrutiny, the Member is wrong about this. We have a scrutiny system for the WESPs. I said in my statement that five-year plans have already been published, which show the progress that they intend to make over the next five years. There will be annual monitoring. A monitoring framework has been developed, which builds on the assessment framework. We have regulations in 2019 that make it a requirement for authorities to report on their progress annually. Those documents will be public documents. I said in my statement that I intend to publish an overview of the progress against the WESPs. So, this narrative - there's no basis for it. We have a plan, we have a strategy, and we have action plans. We're working through them. There are requirements on local authorities. Our function as a Government is to ensure that they keep what they commit to do in sight and deliver on that. And if the Member wants to look with us at ways of strengthening the powers of the Welsh Government to do that through legislation, I'd welcome his support for the Bill.
Wel, rwy'n cytuno bod yr Aelod yn ailadrodd hyn. Mae e jest yn naratif diog ac ystrydebol, a does dim unrhyw dystiolaeth yn cefnogi'r hyn mae e wedi ei ddweud heddiw o ran perfformiad awdurdodau lleol. Mae gennym ni gynlluniau strategol newydd ers mis Medi yn unig, a does dim unrhyw frawddeg o dystiolaeth bod awdurdodau lleol yn syrthio tu ôl o ran eu dyletswyddau. Mae fy mhrofiad i o drafod hyn gydag arweinwyr yn un calonogol mor belled. Dwi wedi dweud sawl gwaith, mewn ateb i'r hyn mae'r Aelod wedi ei ddweud yn y gorffennol, fy mod i'n mynnu bod cynghorau yn ateb yr hyn maen nhw'n addo ei wneud yn y cynlluniau, a byddwn ni'n gwneud popeth y gallwn ni i sicrhau bod hynny'n digwydd. Ond rwyf hefyd wedi dweud, yn y sgyrsiau rwyf wedi eu cael gyda'r cynghorau, un-wrth-un gydag arweinwyr, fod ymrwymiad arweinwyr yn glir i'r cynlluniau, ac felly mae hynny i'w groesawu ac mae'n rhywbeth calonogol. O ran craffu, mae'r Aelod jest yn anghywir yn hyn o beth. Mae gennym ni system graffu ar gyfer cynlluniau strategol. Gwnes i ddweud yn fy natganiad bod cynlluniau pum mlynedd eisoes wedi'u cyhoeddi sy'n dangos y cynnydd maen nhw'n bwriadu ei wneud dros y pum mlynedd nesaf. Bydd monitro blynyddol yn digwydd. Mae fframwaith monitro wedi'i ddatblygu sy'n adeiladu ar y fframwaith asesu. Mae gyda ni reoliadau yn 2019 sydd yn ei wneud e'n ofynnol i awdurdodau adrodd ar eu cynnydd yn flynyddol. Bydd y dogfennau hynny yn rai cyhoeddus. Gwnes i ddweud yn fy natganiad fy mod i'n bwriadu cyhoeddi trosolwg o'r cynnydd yn erbyn y cynlluniau. Felly, mae'r naratif hon - does dim unrhyw sail iddi. Mae gennym ni gynllun, mae gennym ni strategaeth, mae gennym ni gynlluniau gweithredu. Rŷn ni'n gweithio drwyddyn nhw. Mae gofynion ar yr awdurdodau lleol. Ein swyddogaeth ni fel Llywodraeth yw sicrhau eu bod nhw'n cadw'r hyn maen nhw'n addo ei wneud mewn golwg ac yn delifro ar hynny. Ac os ydy'r Aelod moyn edrych gyda ni ar ffyrdd o gryfhau pwerau Llywodraeth Cymru i wneud hynny drwy ddeddfwriaeth, byddwn i'n croesawu ei gefnogaeth e i'r Bil.
Thank you, Minister, for the update and for the opportunity to see the statement in advance. I particularly welcome the fact that the Minister has stated his commitment to ensuring that all learners in all schools have the best possible opportunity to be confident Welsh speakers. This is an important principle, and takes us further than the commitment in the 'Cymraeg 2050' strategy, which states that the Government's aim is to ensure that at least 70 per cent of all learners develop Welsh language skills and are able to use the language confidently in all aspects of their lives by the time they leave school. I certainly welcome this change, and I'm of the view that if we are serious about ensuring that the Welsh language belongs to us all, then all learners must be supported to learn the language in every school in Wales. This is a significant change, and what I would like to ask, Minister, is: how is this principle supported by the WESPs? After all, evidence from the Basque Country shows that immersion, and receiving education through the medium of the Basque language, is undoubtedly the most effective way of ensuring that learners become confident Basque speakers. If you don't support this principle, what methodology would you recommend for ensuring that all pupils in Wales develop confident bilingual skills? You refer in your statement to the steps that have been taken to support immersion education, and without doubt, this is to be welcomed. We've all seen incredible things on the news of people becoming entirely fluent in no time at all. But in most cases, if not in all cases, the intention of immersion education is to support learners who want to attend Welsh-medium schools, and there are few opportunities for learners in other schools to take advantage of such schemes. We know that immersion works - we've seen that. You and I have met people who've been through that system. So, with the commitment to ensure that all learners will have the best possible opportunity to be confident Welsh speakers, what plans does the Government have to expand opportunities for immersion and increase the use of learning through the medium of Welsh in every school? Isn't this the only way to ensure that we reach our goal? Clearly, one thing that is an obstacle to all of this is the workforce - you refer to that in your statement - and specifically that we don't have enough teachers who can work through the medium of Welsh to meet the requirements of the WESPs as they are currently. With a number of teachers on strike tomorrow, and many telling us that they are leaving the profession or considering doing so, how concerned are you that we don't have the workforce in place to reach the current goals, specifically in terms of learning Welsh, learning through the medium of Welsh, and also in terms of additional learning needs? I'm pleased to see reference to the co-operation agreement in your statement, and specifically in terms of the free Welsh lessons for learners between the ages of 16 and 25, and also those in the education workforce. Can I ask how many people have taken advantage of these lessons since the schemes were launched? Are you seeing that people have the time to take up these opportunities? Finally, as has been mentioned, one of the major challenge with the WESPs so far is the issue of accountability. I accept the point that you've been given a commitment by leaders in all local authorities, and that's to be warmly welcomed. Clearly, there was some discussion between you and the local authorities in terms of the WESPs, with many having to return to them. But in terms of that issue of accountability, in the the past we have seen some local authorities not delivering the objectives that they had set for themselves, and not always providing explanations for that. So, although I welcome that there is a commitment that they will do better, possibly, in those authorities, how can we ensure that accountability? And therefore how important will it be to ensure that the Welsh language education Bill will strengthen the Government's ability to ensure that education plans are implemented in a way that supports the ambition of seeing all children becoming confident Welsh speakers?
Diolch, Weinidog, am y diweddariad heddiw, ac am gael gweld y datganiad ymlaen llaw. Dwi'n croesawu'n benodol fod y Gweinidog yn nodi ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr ym mhob ysgol yn cael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus. Mae hon yn egwyddor bwysig, ac yn mynd â ni'n bellach na'r ymrwymiad sydd yn strategaeth 'Cymraeg 2050', sy'n dweud mai nod y Llywodraeth yw sicrhau bod o leiaf 70 y cant o'r holl ddysgwyr yn datblygu eu sgiliau Cymraeg a'u bod yn gallu defnyddio'r iaith yn hyderus ym mhob agwedd o'u bywydau erbyn iddynt adael yr ysgol. Dwi'n sicr yn croesawu'r newid hwn ac o'r farn os ydym ni o ddifrif o ran sicrhau bod y Gymraeg yn perthyn i ni i gyd, yna mae'n rhaid i bob dysgwr gael cefnogaeth i ddysgu'r iaith ym mhob ysgol yng Nghymru. Mae hwn yn newid arwyddocaol, a'r hyn yr hoffwn ofyn, Weinidog, ydy: sut mae'r egwyddor hon yn cael ei chefnogi gan y CSCAau? Wedi'r cyfan, dengys tystiolaeth o Wlad y Basg mai trochi, a derbyn addysg drwy gyfrwng Basgeg, heb os yw'r ffordd fwyaf effeithiol o sicrhau bod dysgwyr yn dod yn siaradwyr Basgeg hyderus. Os nad ydych yn cefnogi'r egwyddor hon, pa fethodoleg fyddech chi'n ei hargymell ar gyfer sicrhau bod pob disgybl yng Nghymru yn datblygu sgiliau dwyieithog hyderus? Rydych chi'n cyfeirio yn eich datganiad at y camau sydd wedi eu cymryd i gefnogi addysg drochi, a heb os, mae hyn i'w groesawu. Rydyn ni i gyd wedi gweld pethau anhygoel ar y newyddion o bobl yn dod yn hollol, hollol rugl mewn dim o beth. Ond mewn nifer helaeth o achosion, os nad ym mhob achos, bwriad addysg drochi yw cefnogi dysgwyr sydd eisiau mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg, a prin yw'r cyfleon i ddysgwyr mewn ysgolion eraill fanteisio ar gynlluniau o'r fath. Gwyddom fod trochi'n gweithio - rydyn ni wedi gweld hynny. Rydych chi a mi wedi cyfarfod pobl sydd wedi bod drwy'r system. Felly, gyda'r ymrwymiad i sicrhau bod pob dysgwr yn mynd i gael y cyfle gorau i fod yn siaradwr Cymraeg hyderus, pa gynlluniau sydd gan y Llywodraeth i ehangu cyfleon trochi a chynyddu'r defnydd o ddysgu drwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol? Onid dyma'r unig ffordd i sicrhau ein bod yn cyrraedd y nod? Yn amlwg, un peth sy'n rhwystr o ran hyn oll ydy'r gweithlu - rydych chi'n cyfeirio at hynny yn y datganiad - ac yn benodol nad oes gennym ddigon o athrawon gyda'r Gymraeg i ddiwallu anghenion y CSCAau fel y maen nhw. Gyda nifer o athrawon ar streic yfory, a nifer yn dweud wrthym eu bod yn gadael y proffesiwn neu'n ystyried gwneud, pa mor bryderus ydych chi nad oes gennym y gweithlu yn ei le o ran cyrraedd y nodau presennol, yn benodol o ran dysgu Cymraeg, dysgu drwy gyfrwng y Gymraeg, a hefyd o ran anghenion dysgu ychwanegol? Dwi'n croesawu'r cyfeiriad at y cytundeb cydweithio yn eich datganiad hefyd, ac yn benodol o ran y gwersi Cymraeg am ddim i ddysgwyr 16 i 25 oed, a hefyd yn y gweithlu addysg. Gaf i ofyn faint o bobl sydd wedi manteisio ar y gwersi hyn ers i'r cynlluniau gael eu lansio? Ydych chi'n gweld bod pobl yn manteisio a bod ganddynt yr amser i wneud hynny? Yn olaf, fel y soniwyd, un o'r heriau sydd wedi bod efo'r CSCAau ydy o ran yr atebolrwydd hwnnw. Dwi'n derbyn y pwynt eich bod chi wedi cael ymrwymiad, ac mae hynny i'w groesawu'n fawr, gan arweinwyr ym mhob awdurdod lleol. Yn amlwg, mi fuodd yna dipyn o drafod rhyngoch chi a'r awdurdodau o ran y CSCAau, efo nifer yn gorfod ailedrych arnyn nhw. Ond o ran y cwestiwn o ran atebolrwydd, mi ydyn ni yn y gorffennol wedi gweld rhai awdurdodau lleol ddim yn cyrraedd y nodau maen nhw wedi'u gosod, a ddim wastad yn cynnig eglurhad o ran hynny. Felly, er fy mod yn croesawu bod yna ymrwymiad eu bod nhw'n mynd i wneud yn well, efallai, yn yr awdurdodau hynny, sut ydyn ni'n mynd i sicrhau yr atebolrwydd hwnnw? Ac felly pa mor bwysig fydd sicrhau bod Bil addysg y Gymraeg yn cryfhau gallu'r Llywodraeth i sicrhau bod cynlluniau addysg yn cael eu gweithredu mewn ffordd fydd yn cefnogi'r uchelgais o weld pob plentyn yn dod yn siaradwr hyderus?
I thank the Member for welcoming the statement. I agree with several points that she made in her question. In terms of the investment in immersion, we do have ambitious plans in that regard. We have a budget of just under £7 million for the period between now and the end of this Senedd term to invest in late immersion. What's great - . I gave an example in my statement of a new school in the Vale of Glamorgan that has established a late immersion unit. All authorities are at different places in terms of immersion, of course, but all of them have shown an interest in expanding provision across Wales, so I think that that's very encouraging. And the budget is available over several years, so there is an opportunity to expand that even further. I think I mentioned last week that I was interviewed by a six-year-old pupil who had been in an immersion centre since September. She came from England, of Mexican heritage - her family was from Mexico - and she interviewed me in Welsh. And the whole thing was very striking. So, investing in immersion is very important. But, as you've said, the purpose of that, ultimately, is to secure access to Welsh-medium education, on the whole. So, the other aim is to ensure that people leave education of any medium in Wales as confident speakers. That's very ambitious, but that concept is very important in terms of unifying the education system, I think, so that we don't have that difference in terms of Welsh speaking ability between the Welsh-medium sector and the English-medium sector. And the challenges are different in those two contexts. We have a lot more to do in that sense. We've published the framework already, but we need resources and training to accompany that to ensure the provision. And it is an ambitious and long-term plan. This is not something that can happen overnight, but I certainly think that this is one of the findings that emerged from the census results, that we need to focus on provision in the English-medium sector. We have a scheme for 23 new Welsh-medium schools and for moving 25 along the continuum towards category 3, but for decades we will still have very large numbers of English-medium schools, and we can't be in a situation where children leave English-medium schools not being confident in Welsh. So, we have to ensure an emphasis on that as well. You're right to say that the workforce is a challenge. I've been clear about that. We do have a 10-year plan that correlates with the 10-year WESPs, but we do need progress every year, not just over the long term. So, I have said that we'll be very practical about that. There are lots of things, lots of actions in that plan. The things that work, we'll do more of them; the things that don't work, we'll stop doing them. So, this is an entirely practical exercise to increase those numbers. And in terms of the final question, on accountability, there are weaknesses in terms of the ability to enforce these objectives, we know that, and that is one of the things that we're discussing with Plaid Cymru in terms of the new Welsh-medium education Bill.
Diolch i'r Aelod am y croeso mae hi'n ei roi i'r datganiad. Rwy'n cytuno â sawl pwynt mae hi wedi'u gwneud yn ei chwestiwn. O ran y buddsoddiad mewn trochi, mae gennym ni gynlluniau uchelgeisiol yn hynny o beth. Mae gennym ni gyllideb o jest o dan £7 miliwn ar gyfer y cyfnod rhwng nawr a diwedd tymor y Senedd hon i fuddsoddi mewn trochi hwyr. Beth sydd yn grêt - . Gwnes i roi enghraifft yn y datganiad o ysgol newydd ym Mro Morgannwg sydd wedi sefydlu uned drochi hwyr. Mae pob awdurdod mewn man gwahanol ar hyd y llwybr o ran trochi wrth gwrs, ond mae pob un wedi dangos diddordeb mewn ehangu darpariaeth ledled Cymru, felly rwy'n credu bod hynny yn galonogol iawn. Ac mae'r gyllideb ar gael dros amryw o flynyddoedd, felly mae cyfle i ehangu hynny hyd yn oed ymhellach. Rwy'n credu gwnes i sôn, efallai wythnos diwethaf, ces i fy nghyfweld gan ddisgybl chwe blwydd oed oedd wedi bod mewn canolfan drochi ers mis Medi. Roedd hi'n dod Loegr, o dras Mecsicanaidd - o Fecsico roedd y teulu'n dod - a gwnaeth hi fy nghyfweld i yn Gymraeg. Roedd yr holl beth yn drawiadol, a dweud y gwir. Felly, mae buddsoddi mewn trochi yn bwysig iawn. Ond, fel rŷch chi'n dweud, pwrpas hynny yn y pen draw yw sicrhau mynediad at addysg cyfrwng Cymraeg, ar y cyfan. Felly, y nod arall yw sicrhau bod pobl yn gallu gadael addysg o unrhyw gyfrwng yng Nghymru yn siaradwyr hyderus. Mae hwnna'n uchelgeisiol iawn, ond mae'r cysyniad hwnnw'n bwysig fel ffordd o uno'r system addysg at ei gilydd, rwy'n credu, ein bod ni ddim yn cael y gwahaniaeth hwnnw o ran medru'r Gymraeg rhwng y system cyfrwng Cymraeg a'r system Saesneg. Ac mae'r heriau, wrth gwrs, yn wahanol yn y cyd-destun hwnnw. Mae lot mwy gennym ni i'w wneud yn hyn o beth. Rydyn ni wedi cyhoeddi'r fframwaith eisoes, ond mae angen adnoddau a hyfforddiant i gyd-fynd â hynny i sicrhau'r ddarpariaeth. Ac mae'n gynllun uchelgeisiol a thymor hir. Dyw hwn ddim yn rhywbeth sy'n gallu digwydd dros nos, ond yn sicr rwy'n credu bod hwn yn un o'r canfyddiadau o ganlyniadau'r cyfrifiad, fod angen ffocysu ar ddarpariaeth mewn ysgolion cyfrwng Saesneg. Mae gennym ni gynllun ar gyfer 23 ysgol newydd cyfrwng Cymraeg a symud 25 ar hyd y continwwm tuag at gategori 3, ond bydd gennym ni am ddegawdau niferoedd mawr iawn o ysgolion cyfrwng Saesneg, a gallwn ni ddim bod mewn sefyllfa lle mae plant yn gadael cyfrwng Saesneg a ddim yn hyderus yn y Gymraeg. Felly, mae'n rhaid inni sicrhau pwyslais yn hynny o beth hefyd. Mae hi'n iawn i ddweud bod y gweithlu'n her. Rwyf wedi bod yn glir iawn am hynny. Mae gennym ni gynllun 10 mlynedd, sy'n cyd-fynd â 10 mlynedd y CSCAau, ond mae angen cynnydd bob blwyddyn, nid jest cynnydd dros y tymor hir. Felly, dwi wedi bod yn dweud ein bod ni'n ymarferol iawn yn hynny o beth. Mae amryw o bethau, amryw o gamau yn y cynllun hwnnw. Y pethau sydd yn gweithio, gwnawn ni fwy ohonyn nhw; y pethau sydd ddim yn gweithio, gwnawn ni stopio eu gwneud nhw. Felly, tasg hollol ymarferol yw hwn i gynyddu'r rhifau. Ac o ran y cwestiwn olaf, o ran atebolrwydd, mae gwendidau o ran y gallu i orfodi'r amcanion hyn, rŷn ni'n gwybod hynny, ac mae hynny'n un o'r pethau, wrth gwrs, rŷn ni'n trafod â Phlaid Cymru yng nghyd-destun y Bil addysg Gymraeg.
Diolch, Llywydd. The negative impact of bovine viral diarrhoea and sheep scab on animal welfare and the sustainability of our cattle and sheep farms is of great concern. I cannot emphasize enough the importance of our livestock sector stepping up and working together to eradicate these two diseases from Wales. The control, local and, ultimately, national eradication of BVD and sheep scab are priorities of our animal health and welfare framework and are included in its 2022-24 implementation plan. The Wales animal health and welfare framework, all of which are impacted upon by these two diseases: Wales has healthy productive animals; animals in Wales have a good quality of life; people trust and have confidence in the way food is produced; Wales has a thriving rural economy; Wales has a high-quality environment. Eradicating these two diseases moves us closer to achieving these goals and will hugely benefit the welfare of cattle and sheep in Wales. Neither BVD nor sheep scab affect people, but we are taking a one-health approach to their control and eradication. This means addressing holistically animal, environmental and human health in all we do. So, our work will benefit the health and welfare of sheep and cattle, and it will also lead to improved environmental health and have a positive impact on the well-being of our sheep and cattle keepers. The one-health approach is more important now than ever as Wales moves closer to the launch of the sustainable farming scheme. I will start with BVD. We must make every effort to eradicate BVD from our cattle. Many European countries are eradicating the disease, and I want Wales to maintain its status as a high-health producer and we cannot be left behind. This disease causes affected animals to suffer greatly because it is immunosuppressive, increasing susceptibility to diseases. When BVD is eradicated, all aspects of cattle health are improved, including their welfare and the need to use antibiotics. Features of the disease mean while it can and should be controlled at farm level, national co-ordination is required for widespread eradication. This emphasises the need for partnership working, and while responsibility lies with cattle keepers, the Welsh Government is supporting industry to achieve eradication. I want to highlight the outstanding work of the Gwaredu BVD project. This industry-led voluntary scheme was launched at the 2017 Royal Welsh Show, with £9 million of funding secured from the Welsh Government rural development programme. By testing young stock, the programme has identified the herds infected with BVD and supported those farmers to find and remove infected animals. I'm delighted to say that the five-year programme successfully screened over 9,163 herds, representing over 83 per cent of the cattle herds in Wales. The programme has also identified over 1,000 permanently infected animals over its course.
Diolch, Llywydd. Mae effaith negyddol dolur rhydd feirysol buchol, BVD, a'r clafr ar les anifeiliaid a chynaliadwyedd ein ffermydd gwartheg a defaid yn destun pryder mawr. Ni allaf bwysleisio digon bwysigrwydd bod ein sector da byw yn bwrw ymlaen a chydweithio i ddileu'r ddau glefyd hyn o Gymru. Mae rheoli, yn lleol ac, yn y pen draw, yn genedlaethol, a dileu BVD a'r clafr yn flaenoriaethau yn ein fframwaith iechyd a lles anifeiliaid ac maen nhw wedi'u cynnwys yn ei gynllun gweithredu ar gyfer 2022-24. Fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru, y mae'r ddau glefyd hyn yn effeithio ar y cyfan ohono: mae gan Gymru anifeiliaid cynhyrchiol iach; mae gan anifeiliaid yng Nghymru ansawdd bywyd da; mae pobl yn ymddiried ac yn hyderus yn y ffordd y mae bwyd yn cael ei gynhyrchu; mae gan Gymru economi wledig lewyrchus; mae gan Gymru amgylchedd o safon. Mae dileu'r ddau glefyd yma yn ein symud ni'n nes at gyflawni'r nodau hyn, a bydd o fudd mawr i les gwartheg a defaid yng Nghymru. Nid yw BVD na'r clafr yn effeithio ar bobl, ond rydym yn arddel agwedd un iechyd at eu rheoli a'u dileu. Mae hyn yn golygu mynd i'r afael ag iechyd anifeiliaid, amgylcheddol a dynol yn gyfannol ym mhopeth a wnawn. Felly, bydd ein gwaith o fudd i iechyd a lles defaid a gwartheg, a bydd hefyd yn arwain at wella iechyd yr amgylchedd ac yn cael effaith gadarnhaol ar les ein ceidwaid defaid a gwartheg. Mae'r dull un iechyd yn bwysicach nawr nag erioed wrth i Gymru symud yn nes at lansio'r cynllun ffermio cynaliadwy. Fe ddechreuaf gyda BVD. Rhaid i ni wneud pob ymdrech i ddileu BVD o'n gwartheg. Mae llawer o wledydd Ewrop yn dileu'r afiechyd, ac rwyf eisiau i Gymru gadw ei statws fel cynhyrchydd iechyd uchel ac ni allwn gael ein gadael ar ôl. Mae'r clefyd hwn yn achosi i anifeiliaid yr effeithir arnyn nhw ddioddef yn fawr oherwydd ei fod yn imiwnoataliedig, ac yn cynyddu amlygiad i glefydau. Pan gaiff BVD ei ddileu, mae pob agwedd ar iechyd gwartheg yn gwella, gan gynnwys eu lles a'r angen i ddefnyddio gwrthfiotigau. Mae nodweddion y clefyd yn golygu er y gall ei reoli ac y dylid ei reoli ar lefel fferm, mae angen cydlynu cenedlaethol ar gyfer dileu eang. Mae hyn yn pwysleisio'r angen am weithio mewn partneriaeth, ac er mai ceidwaid gwartheg sydd â'r cyfrifoldeb, mae Llywodraeth Cymru'n cefnogi'r diwydiant er mwyn llwyddo i'w ddileu. Rwyf eisiau tynnu sylw at waith rhagorol y prosiect Gwaredu BVD. Lansiwyd y cynllun gwirfoddol hwn, sy'n cael ei arwain gan y diwydiant yn Sioe Frenhinol 2017, gyda £9 miliwn o gyllid wedi'i sicrhau gan raglen datblygu gwledig Llywodraeth Cymru. Drwy gynnal profion ar stoc ifanc, mae'r rhaglen wedi nodi'r buchesi sydd wedi'u heintio â BVD ac wedi cefnogi'r ffermwyr hynny i ddod o hyd i anifeiliaid sydd wedi'u heintio a'u tynnu oddi yno. Mae'n bleser dweud bod y rhaglen bum mlynedd wedi sgrinio dros 9,163 o fuchesi yn llwyddiannus, sef dros 83 y cant o'r buchesi gwartheg yng Nghymru. Mae'r rhaglen hefyd wedi nodi dros 1,000 o anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaol dros ei chwrs.
One of the key principles of the Wales animal health and welfare framework is partnership working. The Gwaredu BVD programme is an excellent example of what can be achieved through such successful collaboration. I would like to recognise the importance of the veterinary delivery partners and surgeons who helped deliver this scheme on the ground. Following the success of the industry-led Gwaredu BVD scheme, its stakeholder steering group recommended the introduction of a compulsory programme, underpinned by legislation. The main challenge of the voluntary scheme has been the removal of infected animals from cattle herds to prevent the spread of BVD. This is an essential step towards BVD eradication, and I've always been clear: legislation would be considered following a successful voluntary phase and subject to appropriate evidence being provided to both shape and justify legislative control. We have gathered the industry's views on the proposal of a compulsory eradication scheme in Wales. Working in partnership alongside Gwaredu BVD and the BVD steering group, we launched our consultation last June, seeking views from the cattle-keeping community and wider stakeholders. We received over 100 responses from various representatives of the Welsh cattle industry, including keepers, vets, farming unions and auctioneers. I am pleased to note the industry's overwhelming support on this important issue, and the consultation confirmed a desire for more stringent measures, with the majority supporting the introduction of legislation and compulsory requirements to effectively eradicate BVD in Wales. We listened to feedback, and as we enter the transition phase and prepare for future legislation, it is vital that keepers continue testing their herds against BVD and remove persistently infected animals as soon as feasibly possible. The intention for a future scheme remains to provide a set of requirements to allow keepers to remove BVD from their herds and to keep it out through good biosecurity. Compulsory requirements would ensure the principles of effective BVD eradication are observed and the national herd can benefit from the long-term results of achieving BVD freedom. We will continue to build on the progress and successes of the voluntary phase of the scheme, and as we progress into its next phase, I would like to thank the cattle industry, delivery partners and keepers across Wales for their vigilance and efforts to date towards eradicating BVD. Turning to sheep scab: as one of the most contagious diseases of sheep, scab is a significant threat to our sheep industry. This is due to the large number and size of flocks, to patterns of sheep movements and to extensive use of common grazing in Wales. Every keeper of sheep must recognise their responsibility to ensure their animals are kept free of scab. I have committed £4.5 million of rural investment scheme funding to be used to help support the industry tackle the disease. Eradicating this serious disease will protect the welfare of sheep in Wales, safeguard the reputation of 'brand Wales' and deliver significant economic benefits for the sector, at a particularly challenging time as we transition from our departure from the European Union. In 2021 and 2022, I commissioned two sheep scab proof-of-concept projects to identify knowledge gaps. They successfully trialled three things: firstly, a new and innovative ELISA blood diagnostic test to identify scab in neighbouring at-risk flocks; secondly, treating affected flocks by professional mobile dipping to eliminate disease whilst ensuring there was no risk of the environmental harm from dip pollution; and thirdly, the projects facilitated local disease control groups to take ownership of outbreaks when they occurred and empowered sheep keepers to work collectively to stamp out the disease in their area. Additionally, we are funding free year-round skin-scrape testing for sheep scab, through the Animal and Plant Health Agency's Carmarthen Veterinary Investigation Centre for Welsh flocks. Following these pilots, in July 2022 a tender went to the industry to submit a bid to deliver the £4.5 million all-Wales sheep scab eradication programme. The project provides considerable support from the Welsh Government to the sheep industry and our sheep vets to tackle and eliminate the scourge of sheep scab. We hope and expect the sheep industry will use this opportunity to put in place the necessary measures to stop scab spreading between flocks. The strategic objectives of the programme are based on the principles of infectious disease control: keep it out - by significantly improving biosecurity within the sheep sector; detect it early - by using the novel ELISA test, which detects sheep scab two weeks before clinical signs are showing; stop it spreading - by encouraging informed purchasing of sheep and by taking the necessary biosecurity precautions whenever sheep are moved; and stamp it out - by treating infested sheep effectively and in an environmentally sustainable way. The programme is due to launch in spring 2023. The Welsh Government is doing its part, and now we must work in partnership with our sheep farmers, contractors, auctioneers, hauliers and all of our sheep sector to keep our 9.5 million ewes and lambs safe from the scourge of sheep scab. Diolch.
Un o brif egwyddorion fframwaith iechyd a lles anifeiliaid Cymru yw gweithio mewn partneriaeth. Mae'r rhaglen Gwaredu BVD yn enghraifft wych o'r hyn y gellir ei gyflawni drwy gydweithio mor llwyddiannus. Hoffwn gydnabod pwysigrwydd y partneriaid cyflawni milfeddygol a'r llawfeddygon a helpodd i gyflawni'r cynllun hwn ar lawr gwlad. Yn dilyn llwyddiant y cynllun Gwaredu BVD, sy'n cael ei arwain gan y diwydiant, fe wnaeth ei grŵp llywio rhanddeiliaid argymell cyflwyno rhaglen orfodol, yn seiliedig ar ddeddfwriaeth. Prif her y cynllun gwirfoddol oedd tynnu anifeiliaid wedi'u heintio o fuchesi gwartheg er mwyn atal BVD rhag lledaenu. Mae hwn yn gam hanfodol tuag at ddileu BVD, ac rwyf bob amser wedi bod yn glir: byddai deddfwriaeth yn cael ei hystyried yn dilyn cyfnod gwirfoddol llwyddiannus ac yn amodol ar dystiolaeth briodol sy'n cael ei darparu i lywio a chyfiawnhau rheolaeth ddeddfwriaethol. Rydym wedi casglu safbwyntiau'r diwydiant ar y cynnig ar gyfer cynllun dileu gorfodol yng Nghymru. Gan weithio mewn partneriaeth ochr yn ochr â Gwaredu BVD a grŵp llywio BVD, lansiwyd ein hymgynghoriad fis Mehefin diwethaf, yn gofyn am farn gan y gymuned cadw gwartheg a rhanddeiliaid ehangach. Cawsom dros 100 o ymatebion gan wahanol gynrychiolwyr y diwydiant gwartheg yng Nghymru, gan gynnwys ceidwaid, milfeddygon, undebau ffermio ac arwerthwyr. Rwy'n falch o nodi cefnogaeth ysgubol y diwydiant ar y mater pwysig hwn, a chadarnhaodd yr ymgynghoriad awydd am fesurau llymach, gyda'r mwyafrif yn cefnogi cyflwyno deddfwriaeth a gofynion gorfodol i ddileu BVD yng Nghymru yn effeithiol. Fe wnaethom wrando ar yr adborth, ac wrth i ni fynd i mewn i'r cyfnod pontio a pharatoi ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol, mae'n hanfodol bod ceidwaid yn parhau i brofi eu buchesi am BVD a chael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n gyson cyn gynted ag y bo hynny'n ymarferol bosibl. Y bwriad ar gyfer cynllun yn y dyfodol o hyd yw darparu set o ofynion i ganiatáu i geidwaid dynnu BVD o'u buchesi a'i gadw allan drwy fioddiogelwch da. Byddai gofynion gorfodol yn sicrhau bod egwyddorion dileu BVD effeithiol yn cael eu dilyn a gall y fuches genedlaethol elwa ar ganlyniadau hirdymor cyflawni rhyddid rhag BVD. Byddwn yn parhau i adeiladu ar gynnydd a llwyddiannau cam gwirfoddol y cynllun, ac wrth i ni fynd ymlaen i'w gam nesaf, hoffwn ddiolch i'r diwydiant gwartheg, partneriaid cyflenwi a cheidwaid ledled Cymru am eu gwyliadwriaeth a'u hymdrechion hyd yma tuag at ddileu BVD. Gan droi at y clafr: un o glefydau mwyaf heintus defaid, mae'r clafr yn fygythiad sylweddol i'n diwydiant defaid. Y rheswm dros hyn yw nifer fawr a maint y diadellau, patrymau symudiadau defaid a defnydd helaeth o bori cyffredin yng Nghymru. Rhaid i bob ceidwad defaid gydnabod ei gyfrifoldeb i sicrhau bod ei anifeiliaid yn cael eu cadw'n rhydd o'r clafr. Rwyf wedi ymrwymo £4.5 miliwn o gyllid cynllun buddsoddi gwledig i'w ddefnyddio i helpu i gefnogi'r diwydiant i fynd i'r afael â'r clefyd. Bydd dileu'r clefyd difrifol hwn yn diogelu lles defaid yng Nghymru, yn diogelu enw da 'brand Cymru' ac yn sicrhau manteision economaidd sylweddol i'r sector, a hynny ar adeg arbennig o heriol wrth i ni bontio o'n hymadawiad â'r Undeb Ewropeaidd. Yn 2021 a 2022, comisiynais ddau brosiect prawf-o-gysyniad y clafr i nodi bylchau gwybodaeth. Fe wnaethon nhw dreialu tri pheth yn llwyddiannus: yn gyntaf, prawf diagnostig gwaed ELISA newydd ac arloesol i nodi'r clafr mewn diadellau cyfagos sydd mewn risg; yn ail, trin diadellau yr effeithiwyd arnynt gan ddipio symudol proffesiynol i ddileu'r clefyd gan sicrhau nad oedd perygl o'r niwed amgylcheddol o lygredd dip; ac yn drydydd, hwylusodd y prosiectau grwpiau rheoli clefydau lleol i gymryd perchnogaeth o achosion pan oeddynt yn digwydd a grymuso ceidwaid defaid i weithio ar y cyd i ddileu'r clefyd yn eu hardal. Yn ogystal â hyn, rydym yn ariannu profion crafu croen trwy gydol y flwyddyn am ddim ar gyfer y clafr, trwy Ganolfan Ymchwil Filfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yng Nghaerfyrddin ar gyfer diadellau Cymru. Yn dilyn y cynlluniau treialu hyn, ym mis Gorffennaf 2022, aeth tendr i'r diwydiant i gyflwyno cais i gyflawni rhaglen dileu y clafr Cymru gyfan gwerth £4.5 miliwn. Mae'r prosiect yn cynnig cefnogaeth sylweddol gan Lywodraeth Cymru i'r diwydiant defaid a'n milfeddygon defaid i fynd i'r afael â'r clafr a'i ddileu. Rydym yn gobeithio ac yn disgwyl y bydd y diwydiant defaid yn defnyddio'r cyfle hwn i roi'r mesurau angenrheidiol ar waith i atal y clafr rhag lledaenu rhwng diadellau. Mae amcanion strategol y rhaglen yn seiliedig ar egwyddorion rheoli clefydau heintus: ei gadw allan - drwy wella bioddiogelwch yn sylweddol o fewn y sector defaid; ei ganfod yn gynnar - drwy ddefnyddio'r prawf ELISA newydd, sy'n canfod y clafr bythefnos cyn bod arwyddion clinigol yn dangos; ei atal rhag lledaenu - drwy annog prynu defaid gwybodus a thrwy gymryd y rhagofalon bioddiogelwch angenrheidiol pryd bynnag y bydd defaid yn cael eu symud; a'i ddileu - drwy drin defaid sydd wedi'u heintio yn effeithiol ac mewn ffordd amgylcheddol gynaliadwy. Mae disgwyl i'r rhaglen gael ei lansio yng ngwanwyn 2023. Mae Llywodraeth Cymru'n gwneud ei rhan, a nawr mae'n rhaid i ni weithio mewn partneriaeth â'n ffermwyr defaid, contractwyr, arwerthwyr, cludwyr a'n sector defaid i gadw ein 9.5 miliwn o ddefaid a'n hŵyn yn ddiogel rhag y clafr. Diolch.
I certainly welcome the opportunity to speak on both BVD and sheep scab, two devastating diseases that rightfully require the attention of the Welsh Government. I'm pleased to hear the number of announcements you've made this afternoon, Minister, and welcome those that will help support the agricultural community in their own efforts to fight against these disorders, so thank you. Your statement perfectly highlights why we must treat these issues with the utmost importance, and why a holistic and targeted biosecurity approach is necessary if we are to meet your ambitions and the industry's ambitions and have any chance of reducing and eliminating transmission of both BVD and sheep scab amongst Wales's cattle and sheep. These two diseases represent an escalating threat to our farmyards, from the economic burden sheep scab has upon our agricultural economy, to the individual per-cow cost that BVD has on our farms. These are two serious issues that have critical ramfications on the agricultural industry's ability to operate, trade and become a viable farm business model. Focusing upon BVD, this is a virus of endemic proportion, and you're right to say that every effort must be made to eradicate BVD from our cattle. Cattle free of BVD are healthier, less susceptible to other illnesses and disease, and, as you rightly mentioned, Minister, reduce the need for antibiotics. Part of the recent success is due to the Gwaredu BVD project, a collaborative approach that has been adopted by the Government working with all partners - farming unions, individual cattle farmers, auctioneers and vets, as you mentioned - to develop a strategy that is both targeted and pre-emptive in its approach. And, Minister, I can tell you, I've been in the thick of it, tagging young stock with tissue tags to be sent away for analysis. I think there are certainly lessons that can be learned from our successes in this strategy, especially the way that the whole industry has played a direct part in its development and the level of ownership the industry has in tackling BVD. That's shown by the high percentage of herds screened in the five-year project. I noted in your statement that you reference the preparation of future legislation, ensuring that livestock farmers continue to test their herds against BVD and to remove permanently infected animals as soon as feasibly possible. I'd like to ask the Minister: will farmers be compensated for the compulsory removal of their infected animals? With the move from voluntary to compulsory testing, and the failure of compulsory testing in relation to bovine tuberculosis, what assurances can the Minister give that the compulsory BVD testing too won't be a long-drawn-out extra burden for farmers and one that will deliver tangible results in the short term and near future? Moving focus to sheep scab, I know the Minister recognises the scale of this parasitic disease. Two thousand farms across Wales are impacted, upwards of 3 million sheep, at a cost to the UK rural economy of £78 million, £208 million per year. But it's not the economic losses alone that should concern us. Sheep scab has a significant impact on sheep welfare and comfort and, as such, is a clear problem to Welsh agriculture as a whole. I'm pleased to note your intention to launch an all-Wales sheep scab eradication programme later this year. The strategic objectives you alluded to in your statement ought to provide a clear basis to build a coherent and collaborative eradication strategy that seeks to provide considerable support to our sheep industry. However, I do take issue, slightly, with the notion that the livestock sector ought to step up and meet the challenges presented by sheep scab. Having met with representatives of Wales's sheep industry, I think it is clear that they're doing everything that they can to minimise its transmission amongst the flock, irrespective of the burdens in their way. One burden the Minister will be sure that I was to raise in this statement is Natural Resources Wales's planned hike in fees and regulatory charges - a move that is set to substantially damage Wales's ability to combat sheep scab. Their proposed tenfold increase in the cost of new applications for land spreading of spent and unused sheep dip is a huge detriment, and will undoubtedly curb our ability to improve animal health. So, can I urge the Minister, once again, to work with her colleague the climate change Minister to ensure that the agricultural sector's animal health efforts are not hindered by these fees? Minister, I share your recognition of the importance of dealing with these twin issues. It is vital that we keep a close eye on the success of these interventions, so we can tweak and change them if we fail to deliver at any one point along the journey. To that end, can I ask you how you will be feeding back to us as a Senedd, the industry as well - most importantly - and what opportunities will there be to review the successes, or potentially failures - whichever they may be - as we move forward? I really look forward to your response. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Rwy'n sicr yn croesawu'r cyfle i siarad ar BVD a'r clafr, dau glefyd dinistriol sy'n gofyn yn haeddiannol am sylw Llywodraeth Cymru. Rwy'n falch o glywed nifer y cyhoeddiadau yr ydych chi wedi'u gwneud y prynhawn yma, Gweinidog, ac yn croesawu'r rhai a fydd yn helpu i gefnogi'r gymuned amaethyddol yn eu hymdrechion eu hunain i frwydro yn erbyn yr anhwylderau hyn, felly diolch. Mae eich datganiad yn tynnu sylw'n berffaith at pam mae'n rhaid i ni drin y materion hyn â'r pwysigrwydd mwyaf, a pham mae angen dull bioddiogelwch cyfannol ac wedi'i dargedu os ydym ni am fodloni eich uchelgeisiau ac uchelgeisiau'r diwydiant a chael unrhyw obaith o leihau a dileu trosglwyddiad BVD a'r clafr ymhlith gwartheg a defaid Cymru. Mae'r ddau glefyd hyn yn fygythiad cynyddol i'n buarthau fferm, o'r baich economaidd yn sgil y clafr ar ein heconomi amaethyddol, i'r gost unigol fesul buwch y caiff BVD ar ein ffermydd. Maen nhw'n ddau fater difrifol sydd â goblygiadau allweddol ar allu'r diwydiant amaethyddol i weithredu, masnachu a dod yn fodel busnes fferm hyfyw. Gan ganolbwyntio ar BVD, mae hwn yn feirws endemig o ran maint, ac rydych chi'n iawn i ddweud bod yn rhaid gwneud pob ymdrech i ddileu BVD o'n gwartheg. Mae gwartheg sy'n rhydd o BVD yn iachach, yn llai agored i afiechydon a chlefydau eraill, ac, fel y gwnaethoch chi ddweud yn briodol, Gweinidog, yn lleihau'r angen am wrthfiotigau. Mae rhan o'r llwyddiant diweddar yn deillio o brosiect Gwaredu BVD, dull cydweithredol sydd wedi'i fabwysiadu gan y Llywodraeth yn gweithio gyda'r holl bartneriaid - undebau ffermio, ffermwyr gwartheg unigol, arwerthwyr a milfeddygon, fel y gwnaethoch chi sôn - i ddatblygu strategaeth sydd wedi'i thargedu ac sy'n achub y blaen yn ei dull o weithredu. A, Gweinidog, gallaf i ddweud wrthych chi, rwyf wedi bod yn ei chanol hi, yn tagio stoc ifanc gyda thagiau meinwe i'w hanfon i ffwrdd i gael eu dadansoddi. Rwy'n credu bod, yn sicr, wersi y gellir eu dysgu o'n llwyddiannau yn y strategaeth hon, yn enwedig y ffordd y mae'r diwydiant cyfan wedi chwarae rhan uniongyrchol yn ei datblygiad a lefel perchnogaeth sydd gan y diwydiant wrth fynd i'r afael â BVD. Dangosir hynny gan y ganran uchel o fuchesi sy'n cael eu sgrinio yn y prosiect pum mlynedd. Nodais yn eich datganiad eich bod yn cyfeirio at baratoi deddfwriaeth yn y dyfodol, gan sicrhau bod ffermwyr da byw yn parhau i brofi eu buchesi am BVD ac i gael gwared ar anifeiliaid sydd wedi'u heintio'n barhaol cyn gynted ag y bo'n ymarferol bosibl. Hoffwn ofyn i'r Gweinidog: a fydd ffermwyr yn cael iawndal am gael eu gorfodi i dynnu yr anifeiliaid sydd wedi'u heintio o'r fuches? Gyda'r symudiad o brofion gwirfoddol i brofion gorfodol, a methiant profion gorfodol yn gysylltiedig â thwbercwlosis mewn gwartheg, pa sicrwydd y gall y Gweinidog ei roi na fydd y profion BVD gorfodol hefyd yn faich ychwanegol hirdymor i ffermwyr ac un a fydd yn sicrhau canlyniadau diriaethol yn y tymor byr a'r dyfodol agos? Gan symud y pwyslais i'r clafr, rwy'n gwybod bod y Gweinidog yn cydnabod graddfa'r clefyd parasitig hwn. Mae'n effeithio ar dros ddwy fil o ffermydd ledled Cymru, dros 3 miliwn o ddefaid, sy'n costio £78 miliwn i economi wledig y DU, £208 miliwn y flwyddyn. Ond nid y colledion economaidd yn unig ddylai ein pryderu ni. Mae'r clafr yn cael effaith sylweddol ar les a chysur defaid ac, o'r herwydd, yn broblem amlwg i amaethyddiaeth Cymru gyfan. Rwy'n falch o nodi eich bwriad i lansio rhaglen dileu'r clafr trwy Gymru gyfan yn ddiweddarach eleni. Dylai'r amcanion strategol y gwnaethoch chi gyfeirio atyn nhw yn eich datganiad ddarparu sail glir i ddatblygu strategaeth ddileu gydlynol a chydweithredol sy'n ceisio darparu cefnogaeth sylweddol i'n diwydiant defaid. Fodd bynnag, rwy'n anghytuno, ychydig, gyda'r syniad y dylai'r sector da byw fwrw ymlaen a bodloni'r heriau a gyflwynir gan y clafr. Rwyf wedi cwrdd â chynrychiolwyr diwydiant defaid Cymru, ac rwy'n credu ei bod yn amlwg eu bod yn gwneud popeth o fewn eu gallu i leihau ei drosglwyddiad ymysg y ddiadell, waeth beth yw'r beichiau yn eu ffordd. Un baich y bydd y Gweinidog yn siŵr y byddwn i'n ei godi yn y datganiad hwn yw'r cynnydd arfaethedig yn ffioedd a thaliadau rheoleiddio Cyfoeth Naturiol Cymru - cam sydd ar fin niweidio yn sylweddol gallu Cymru i drechu'r clafr. Mae eu bwriad i gynyddu deg gwaith cost ceisiadau newydd ar gyfer gwasgaru dip defaid sydd wedi ei ddefnyddio a heb ei ddefnyddio ar dir yn draul enfawr, ac yn ddi-os bydd yn lleihau ein gallu i wella iechyd anifeiliaid. Felly, a gaf i annog y Gweinidog, unwaith eto, i weithio gyda'i chyd-Weinidog y Gweinidog newid hinsawdd i sicrhau nad yw'r ffioedd hyn yn rhwystro ymdrechion iechyd anifeiliaid y sector amaethyddol? Gweinidog, rwy'n rhannu eich cydnabyddiaeth o bwysigrwydd mynd i'r afael â'r ddau fater hyn. Mae'n hanfodol ein bod yn cadw llygad barcud ar lwyddiant yr ymyraethau hyn, fel y gallwn eu haddasu a'u newid os ydym yn methu â chyflawni ar unrhyw un man ar hyd y daith. I'r perwyl hwnnw, a gaf i ofyn i chi sut y byddwch chi'n rhoi gwybod i ni fel Senedd, y diwydiant hefyd - yn bwysicaf oll - a pha gyfleoedd fydd i adolygu'r llwyddiannau, neu fethiannau o bosibl - pa un bynnag y gallant fod - wrth inni symud ymlaen? Edrychaf ymlaen yn fawr at eich ymateb. Diolch, Dirprwy Lywydd.
Thank you very much for welcoming the statement this afternoon and the announcements around the eradication of both BVD and sheep scab. I think, in relation to BVD, it was good to give the voluntary scheme some significant time. I think there's been a real push to go for legislation, and I absolutely understand that, because I think what the sector didn't want was to lose the gains that had been made. Clearly, there was a significant issue with just a few farms - a small percentage of farms - not taking up the voluntary part of the scheme. Sometimes, you don't want to use legislation to crack a nut - it's too heavy handed. We wanted the scheme to have the five years to look at the data, and I was absolutely clear that we would only bring forward legislation if the evidence was there to show that legislation was needed. I do think we've made such gains in relation to BVD eradication, and it would indeed be a shame to lose that, particularly, as I mentioned in the statement, because of the challenging times we are facing, particularly coming out of the European Union. You don't want other countries to go ahead of us in relation to eradication. In relation to sheep scab, I suppose what I mean by 'step up' is I think it's really important that the industry itself takes a grip of it, the ownership of it. I'm very happy to work in partnership. I had hoped to bring forward this scheme a while ago. I think it was back in 2019 I announced the funding, and that funding had to be repurposed then during the COVID pandemic for a couple of years. But I'd promised to bring the funding forward to have that all-Wales sheep scab eradication programme, although it's been a little longer than I'd hoped. We haven't really seen a lot of progress. So that, I suppose, is what I mean about it. I'm very happy to work in partnership. I think, if we're going to do anything, we need to work in partnership. I hear what you're saying about the ongoing Natural Resources Wales consultation regarding their regulatory fees and charges. You will have heard me say before that what that review is intended to ensure is that NRW does achieve full cost recovery, because those fees haven't been reviewed for a number of years. But NRW do expect the increased costs of licences to impact on a very small number of farms. At the moment, they issue, on average, about 37 permits a year, so you can see it's not a substantial issue for a lot of people.
Diolch yn fawr iawn am groesawu'r datganiad y prynhawn yma a'r cyhoeddiadau ynghylch dileu BVD a'r clafr. Rwy'n credu, o ran BVD, y bu'n dda rhoi rhywfaint o amser sylweddol i'r cynllun gwirfoddol. Rwy'n credu bod galw gwirioneddol wedi bod i fynd am ddeddfwriaeth, ac rwy'n deall hynny'n llwyr, oherwydd rwy'n credu mai'r hyn nad oedd y sector ei eisiau oedd colli'r enillion a wnaed. Yn amlwg, roedd problem sylweddol gydag ychydig o ffermydd yn unig - canran fach o ffermydd - heb ymgymryd â rhan wirfoddol y cynllun. Weithiau, dydych chi ddim eisiau defnyddio deddfwriaeth i ymdrin â phroblem fach - mae'n rhy lawdrwm. Roeddem ni eisiau i'r cynllun gael y pum mlynedd i edrych ar y data, ac roeddwn i'n hollol glir mai dim ond pe bai'r dystiolaeth yno i ddangos bod angen deddfwriaeth y byddem ni'n gwneud hynny. Rwy'n credu ein bod wedi gwneud enillion o'r fath mewn cysylltiad â dileu BVD, ac yn wir byddai'n drueni colli hynny, yn enwedig, fel y soniais i yn y datganiad, oherwydd y cyfnod heriol yr ydym yn ei wynebu, yn enwedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd. Dydych chi ddim eisiau i wledydd eraill fynd o'n blaenau ni o ran dileu. O ran y clafr, mae'n debyg mai'r hyn rwy'n ei olygu wrth 'bwrw ymlaen' yw rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn bod y diwydiant ei hun yn cael rheolaeth arno, perchnogaeth ohono. Rwy'n hapus iawn i weithio mewn partneriaeth. Roeddwn i wedi gobeithio cyflwyno'r cynllun hwn ychydig yn ôl. Rwy'n credu mai nôl yn 2019 wnes i gyhoeddi'r cyllid, a bu'n rhaid ailbwrpasu'r cyllid hwnnw yn ystod pandemig COVID am gwpl o flynyddoedd. Ond roeddwn i wedi addo cyflwyno'r cyllid i gael y rhaglen dileu'r clafr Cymru gyfan honno, er ei bod hi wedi bod ychydig yn hirach nag yr oeddwn i wedi gobeithio. Dydyn ni ddim wir wedi gweld llawer o gynnydd. Felly dyna, mae'n debyg, yw'r hyn rwy'n ei olygu. Rwy'n hapus iawn i weithio mewn partneriaeth. Rwy'n credu, os ydyn ni'n mynd i wneud unrhyw beth, mae angen i ni weithio mewn partneriaeth. Rwy'n clywed yr hyn yr ydych chi'n ei ddweud am yr ymgynghoriad parhaus ynghylch ffioedd rheoleiddio a thaliadau Cyfoeth Naturiol Cymru. Byddwch chi wedi fy nghlywed yn dweud o'r blaen mai'r hyn y mae'r adolygiad hwnnw yn ceisio ei sicrhau yw bod CNC yn sicrhau adferiad costau llawn, oherwydd nid yw'r ffioedd hynny wedi'u hadolygu am nifer o flynyddoedd. Ond mae CNC yn disgwyl y bydd y cynnydd mewn costau dim ond yn effeithio ar nifer fach iawn o ffermydd. Ar hyn o bryd, maen nhw'n cyflwyno, ar gyfartaledd, tua 37 trwydded y flwyddyn, felly gallwch chi weld nad yw'n fater sylweddol i lawer o bobl.
Thank you to the Minister for her statement. It's a long-awaited statement, and whilst there is much to be welcomed, I'm sorry to say that I'm also disappointed. If I could start with BVD. BVD, as we've heard, is one of the greatest challenges facing the cattle sector in Wales, and indeed, across the UK. There are far too many of our cattle suffering this terrible disease, and it leads to concern about animal welfare, the welfare of rural businesses, and the well-being of our farmers and their families. But the truth is that the veterinary sector tell me that it's also something relatively easy to tackle. Ten million pounds has already been spent to tackle this disease. As the Minister mentioned, a large percentage - over 80 per cent - of herds have been treated. But I think it was Professor George Gunn, who is an expert in veterinary epidemiology, who said that the key to the success of any policy in tackling BVD is momentum. Unfortunately, from what I can see today, that momentum, which had been generated here in Wales, will come to an end. The £10 million of European funding will go to waste unless there is continuity here. The only real way of ensuring the continued success of this programme is through legislating, as we've heard. We need legislation in order to ensure that farmers continue to test. That's what I, vets and farmers were hoping to hear today. And although I welcome the ambition here, there is a very real risk that we will lose momentum unless we see a Bill introduced to this place. You mentioned building on the successes of the voluntary phase of the BVD project and moving on to the next phase. But the statement comes to an end abruptly there. I know that vets and farmers listening will be very frustrated indeed today, because where is the detail about the next phase? We don't know. I wonder if the Minister could tell us what the details of the next phase are, and how we're going to build on this work. How does the Minister expect farmers to continue to test on a voluntary basis? Testing costs money, of course. Where will that money come from for these tests? For how long will the next phase be in place? But more importantly, when can we expect a Bill in order to require this? Can we at least have a clear timetable for such legislation, please? Finally, in turning to sheep scab, this is a positive development and I welcome it. But again, there is a fundamental weakness, which is the lack of statutory support for plans to tackle sheep scab. In response to a question from me some months ago on the pledge to give £5 million to a scheme to tackle sheep scab, the Minister said in her response that she had given a substantial amount of money, but that COVID had interrupted the programme. I understand that that wasn't entirely right at the time, and perhaps the Minister misspoke. So, could the Minister today confirm if the £4.5 million announced today is the same money as was previously announced, and, therefore, that it's not new funding, it's a restatement of something that's previously been stated, or is this entirely new funding? Finally, the recent announcement by NRW that they are to increase the fees to get rid of sheep dip to 10 times the current fee has horrified farmers, and indeed, is likely to lead to reduced dipping, which will harm farms, rural businesses and animal welfare. This would be contrary to any ambition by the Government to tackle sheep scab. In the consultation, there was talk that NRW was willing to allow some of the fees to be reduced to control disease. So, will the Minister persuade NRW to ensure that this is done across the board for all farms dealing with sheep, in order to enable farmers to continue to dip safely, and to secure the welfare of their herds?
Diolch i'r Gweinidog am y datganiad. Mae'n ddatganiad hirddisgwyliedig, a thra bod yna lawer o bethau yno i'w groesawu, mae'n flin gen i ddweud fy mod i hefyd yn siomedig. Os caf i gychwyn efo BVD. BVD, fel rydyn ni wedi clywed, ydy un o'r heintiau a'r heriau mwyaf sydd yn wynebu'r sector gwartheg yng Nghymru, ac yn wir, yn y Deyrnas Gyfunol. Mae yna lawer gormod o wartheg yn dioddef o'r haint erchyll yma, ac mae'n arwain at bryderon ynghylch lles anifeiliaid, lles busnesau bach cefn gwlad, a lles ein ffermwyr a'u teuluoedd. Ond y gwir anffodus ydy bod y sector milfeddygol yn dweud wrthyf i ei fod hefyd yn rywbeth cymharol hawdd i fynd i'r afael ag e. Mae yna £10 miliwn eisoes wedi cael ei wario er mwyn mynd i'r afael â'r haint yma. Fel y soniodd y Gweinidog, mae canran fawr - dros 80 y cant - o'r gyrrod - beth bynnag yw lluosog 'gyr' yn y Gymraeg - wedi cael eu trin. Ond dwi'n meddwl mai'r Athro George Gunn, sy'n arbenigo mewn epidemioleg milfeddygol, ddywedodd mai'r allwedd i lwyddiant unrhyw bolisi i fynd i'r afael â BVD ydy momentwm. Yn anffodus, yn ôl beth welaf i yma heddiw, mae'r momentwm hwnnw a oedd wedi dechrau yma yng Nghymru am ddirwyn i ben. Bydd y £10 miliwn o bres Ewropeaidd a wariwyd yn wastraff heb fod yna barhad efo hyn. Yr unig ffordd go iawn o sicrhau parhad llwyddiant y rhaglen yma ydy trwy ddeddfu, fel rydym ni wedi clywed. Mae'n rhaid deddfu er mwyn sicrhau bod ffermwyr yn parhau i brofi. Dyna beth roeddwn i, y milfeddygon a'r ffermwyr yn gobeithio ei glywed heddiw. Ac er fy mod yn croesawu'r uchelgais tuag at hyn, mae yna beryg go iawn y byddwn yn colli momentwm os nad ydym yn gweld Bil yn cael ei gyflwyno. Mi oeddech chi'n sôn am adeiladu ar lwyddiant phase gwirfoddol y cynllun BVD ac am fynd ymlaen i'r phase nesaf. Ond mae'r datganiad yn gorffen yn sydyn yn fanno. Dwi'n gwybod y bydd milfeddygon a ffermwyr sy'n gwrando yn gwbl rhwystredig heddiw, oherwydd ble mae'r manylion am y phase nesaf? Dydyn ni ddim yn gwybod. Tybed a all y Gweinidog ddweud wrthym ni beth ydy manylion y phase nesaf. Sut ydyn ni am adeiladu ar y gwaith yma? Sut mae'r Gweinidog yn disgwyl i ffermwyr barhau i brofi yn wirfoddol? Mae profi yn costio, wrth gwrs. O ble ddaw'r pres ar gyfer y profion yma? Am ba hyd mae'r phase nesaf am fod? Ond, yn bwysicach fyth, pryd fedrwn ni ddisgwyl Bil er mwyn gorfodi hyn? Fan leiaf, a gawn ni amserlen glir ar gyfer deddfwriaeth, os gwelwch yn dda? Yn olaf, efo'r clafr, mae hwn yn ddatblygiad cadarnhaol, a dwi'n ei groesawu. Ond, unwaith eto, mae yna wendid sylfaenol, sef y diffyg mewn cefnogaeth statudol i gynlluniau i fynd i'r afael â'r clafr. Mewn ateb i gwestiwn gen i rai misoedd yn ôl ynghylch yr addewid i roi £5 miliwn i gynllun er mwyn mynd i'r afael â'r clafr, fe ddywedodd y Gweinidog yn ei hymateb ei bod hi wedi rhoi swm sylweddol, ond bod COVID wedi amharu ar y rhaglen. Rwy'n deall nad oedd hwnnw ar y pryd yn gwbl gywir, ac efallai i'r Gweinidog gamsiarad. Felly, a all y Gweinidog heddiw gadarnhau os mai'r un pres ydy'r £4.5 miliwn yma sy'n cael ei gyhoeddi heddiw a gafodd ei gyhoeddi'n flaenorol, ac felly nad pres newydd ydy o, ond ailddatgan rhywbeth a wnaed yn flaenorol ydy hwn, yntau ai pres newydd ydy hwn? Yn olaf, mae cyhoeddiad diweddar Cyfoeth Naturiol Cymru eu bod am gynyddu'r ffi o gael gwared ar ddip defaid i 10 gwaith y pris presennol wedi codi braw ar ffermwyr, ac, yn wir, mewn peryg o arwain at lai o ddipio, a fydd yn niweidio ffermwyr, busnesau gwledig a lles anifeiliaid. Mi fuasai hyn yn mynd yn groes i unrhyw uchelgais gan y Llywodraeth i fynd i'r afael â'r clafr. Yn yr ymgynghoriad, roedd yna sôn bod Cyfoeth Naturiol Cymru yn barod i ganiatáu hepgor peth o'r ffioedd, efo ffioedd llai, hwyrach, er mwyn rheoli heintiau. Felly, a wnaiff y Gweinidog ddwyn perswâd ar Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod hyn yn cael ei wneud ar draws y bwrdd, i bob fferm sy'n delio efo defaid, er mwy galluogi ffermwyr i barhau i ddipio yn ddiogel, a sicrhau lles eu hanifeiliaid? Diolch.
Thank you. I'm disappointed to hear your disappointment, Mabon, because, as I said, we've made some significant progress - over 80 per cent of herds have been tested while we've had the voluntary scheme. And while there has been a call for legislation, you heard me say in my earlier answer to Sam Kurtz that it was really important that we had that evidence that was needed to go ahead with the legislation, and we are indeed having that legislation. You ask about a timescale, and it will be within the next financial year that we will bring the legislation forward. So, I do hope you will welcome that. I would urge all cattle keepers to keep testing a small sample of their cattle. The cost is estimated between £50 and £150 per year, so it's not a significant amount of funding that's required. Obviously, the cost-benefit ratio of eliminating BVD is hugely positive, and, I think, a very worthwhile investment in any farming business. In relation to the sheep scab eradication programme funding, it is the same funding, as I said in my earlier answer to Sam Kurtz. I did make the announcement back in 2019 and I had hoped to bring the scheme forward much quicker than we have, but we did repurpose the funding during COVID, so that money was used then. So, it's the same money, if you know what I mean, within that announcement back in 2019. Again, you will have heard me answer the concerns around Natural Resources Wales. They do expect that increase to only affect a small number of farms. I wouldn't want that to be used as an excuse not to treat sheep scab, and make sure that everyone does take part in this all-Wales sheep scab eradication programme. The Government can't do on its own, and I can see that the industry can't do on its own, but it's really important we work in partnership.
Diolch. Rwy'n siomedig o glywed eich siom, Mabon, oherwydd, fel y dywedais i, rydyn ni wedi gwneud cynnydd sylweddol - mae dros 80 y cant o fuchesi wedi cael eu profi trwy'r cynllun gwirfoddol. Ac er bod galwad wedi bod am ddeddfwriaeth, fe glywsoch chi fi'n dweud yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz ei bod hi'n bwysig iawn bod gennym ni'r dystiolaeth honno oedd ei hangen i fwrw ymlaen â'r ddeddfwriaeth, a'n bod yn wir yn cael y ddeddfwriaeth honno. Rydych chi'n gofyn am amserlen, a bydd hi o fewn y flwyddyn ariannol nesaf pan fyddwn yn cyflwyno'r ddeddfwriaeth. Felly, rwy'n gobeithio y byddwch chi'n croesawu hynny. Byddwn i'n annog pob ceidwad gwartheg i barhau i brofi sampl fach o'u gwartheg. Amcangyfrifir bod y gost rhwng £50 a £150 y flwyddyn, felly nid yw'n swm sylweddol o gyllid sydd ei angen. Yn amlwg, mae'r gymhareb cost a budd o ddileu BVD yn hynod gadarnhaol, ac, rwy'n credu, yn fuddsoddiad gwerth chweil mewn unrhyw fusnes ffermio. O ran cyllid y rhaglen dileu'r clafr, yr un cyllid ydyw, fel y dywedais i yn fy ateb cynharach i Sam Kurtz. Fe wnes i'r cyhoeddiad nôl yn 2019 ac roeddwn i wedi gobeithio cyflwyno'r cynllun yn llawer cyflymach nag yr ydym ni, ond fe wnaethon ni ailbwrpasu'r cyllid yn ystod COVID, felly cafodd yr arian ei ddefnyddio bryd hynny. Felly, yr un arian ydyw, os ydych chi'n gwybod beth rwy'n ei olygu, yn y cyhoeddiad hwnnw nôl yn 2019. Unwaith eto, byddwch wedi fy nghlywed yn ateb y pryderon ynghylch Cyfoeth Naturiol Cymru. Maen nhw'n disgwyl i'r cynnydd hwnnw effeithio ar nifer fach o ffermydd yn unig. Fyddwn i ddim eisiau i hynny gael ei ddefnyddio fel esgus i beidio â thrin y clafr, a gwneud yn siŵr bod pawb yn cymryd rhan yn y rhaglen dileu'r clafr Cymru gyfan hon. Dydy'r Llywodraeth ddim yn gallu gwneud hyn ar ei phen ei hun, ac rwy'n gallu gweld nad yw'r diwydiant yn gallu gwneud hyn ar ei ben ei hun, ond mae'n bwysig iawn ein bod ni'n gweithio mewn partneriaeth.
Item 9 this afternoon is a statement by the Minister for Health and Social Services on the cancer services improvement plan. I call on the Minister to make the statement - Eluned Morgan.
Eitem 9 y prynhawn yma yw'r datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol ar y cynllun gwella gwasanaethau canser. Galwaf ar y Gweinidog i wneud y datganiad - Eluned Morgan.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Today I would like to announce the publication of the cancer services improvement plan by NHS Wales. The plan sets out how the NHS, collectively, will respond to the quality statement for cancer and our wider commitments to improving diagnostic and end-of-life care for people affected by cancer. It follows on from several important debates we have held over the past year on the matter of improving cancer outcomes and my commitment to bring forward such a plan. We set out in the national clinical framework that we would describe what good clinical services should look like in quality statements, and that we would expect the NHS to plan against those expectations. Health boards and trusts are doing this through the NHS planning framework, which focuses on cancer services, amongst other ministerial priorities, and they are currently developing these in their integrated medium-term plans, setting out their response. So, I've set out six priority areas - cancer is one of those priority areas. The cancer services improvement plan published today supports that process. It describes how the NHS intends to deliver our policy intentions. One of the key areas in the quality statement is delivering care in line with the cancer waiting time. This means that 75 per cent of patients requiring cancer treatment should start definitive treatment within 62 days of the point at which cancer is first suspected. This expectation has been really challenging to deliver and there are three main reasons for this. The first is the introduction of the new suspected cancer pathway, which overhauled how we counted people on the cancer pathway - unique in the UK - capturing more people earlier on in their pathway without pausing the waiting time clock. The second is the historic growth in demand for cancer investigation and treatment, caused by our population factors and lowering of the risk threshold for referral, to ensure that we don't miss any potential cancers. And, thirdly, delivery has been restricted by our service capacity to refer, investigate, treat and care for people affected by cancer. In short, demand is growing, our capacity struggles to keep pace, and we're now much better at accurately counting everybody on a cancer pathway. That translates into the cancer performance we see reported, which has been far below all our expectations since the new suspected cancer pathway was introduced. And it is fair to say that the pandemic has had its impact too. COVID has distorted access and created huge pressures in the wider system that have had implications for cancer investigations and access to theatres and critical care. I held a summit of cancer service leaders in October to reinforce our planning expectations that we recover the volume on the cancer waiting list, we reduce the number of people waiting over 62 days, and build towards that 62-day target. Things are very, very difficult, with services working flat out to meet the needs of patients. But, I am pleased to report NHS management data shows a fall in the number of people waiting more than 62 days for their treatment to start between October and early December, and shows a fall in the overall number of people waiting on the cancer pathway and a slight improvement in cancer performance in the latest figures published for November. This shows the NHS is giving cancer pathways the focus they deserve, although the disruption of Christmas, industrial action and respiratory illnesses have caused us further challenges in recent weeks.
Diolch yn fawr, Dirprwy Lywydd. Heddiw hoffwn gyhoeddi cynllun gwella gwasanaethau canser gan GIG Cymru. Mae'r cynllun yn nodi sut y bydd y GIG, ar y cyd, yn ymateb i'r datganiad ansawdd ar gyfer canser a'n hymrwymiadau ehangach i wella gofal diagnostig a diwedd oes i bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Mae'n dilyn ymlaen o sawl dadl bwysig rydym wedi eu cynnal dros y flwyddyn ddiwethaf ar y mater o wella canlyniadau canser a fy ymrwymiad i i gyflwyno cynllun o'r fath. Rydym yn nodi yn y fframwaith clinigol cenedlaethol y byddem yn disgrifio sut olwg ddylai fod ar wasanaethau clinigol da mewn datganiadau o ansawdd, ac y byddem yn disgwyl i'r GIG gynllunio ar sail y disgwyliadau hynny. Mae byrddau iechyd ac ymddiriedolaethau yn gwneud hyn drwy fframwaith cynllunio'r GIG, sy'n canolbwyntio ar wasanaethau canser, ymhlith blaenoriaethau gweinidogol eraill, ac ar hyn o bryd maen nhw'n datblygu'r rhain yn eu cynlluniau tymor canolig integredig, gan nodi eu hymateb. Felly, rwyf wedi nodi chwe maes blaenoriaeth - canser yw un o'r meysydd blaenoriaeth hynny. Mae'r cynllun gwella gwasanaethau canser a gyhoeddwyd heddiw yn cefnogi'r broses honno. Mae'n disgrifio sut mae'r GIG yn bwriadu cyflawni ein bwriadau polisi. Un o'r meysydd allweddol yn y datganiad ansawdd yw sicrhau gofal yn unol â'r amser aros am ganser. Mae hyn yn golygu y dylai 75 y cant o gleifion sydd angen triniaeth canser ddechrau triniaeth benodol o fewn 62 diwrnod i'r adeg pan gafodd canser ei amau gyntaf. Mae'r disgwyliad hwn wedi bod yn heriol iawn i'w gyflawni ac mae tri phrif reswm am hyn. Y cyntaf yw cyflwyno'r llwybr amheuaeth o ganser newydd, a ailwampiodd sut roeddem ni'n cyfrif pobl ar y llwybr canser - sy'n unigryw yn y DU - gan ddal mwy o bobl yn gynharach ar eu llwybr heb oedi'r cloc amser aros. Yr ail yw'r twf hanesyddol yn y galw am ymchwiliad i ganser a thriniaeth, a achosir gan ffactorau ein poblogaeth a gostwng y trothwy risg ar gyfer atgyfeirio, i sicrhau nad ydym yn colli unrhyw ganserau posib. Ac, yn drydydd, mae cyflawni wedi'i gyfyngu gan gapasiti ein gwasanaeth i atgyfeirio, ymchwilio, trin a gofalu am bobl y mae canser yn effeithio arnyn nhw. Yn fyr, mae'r galw'n tyfu, mae ein capasiti'n ei chael hi'n anodd cadw'i fyny, ac rydym bellach yn llawer gwell wrth gyfrif pawb ar lwybr canser yn gywir. Mae hynny'n trosi i'r perfformiad canser a welwn yn cael ei adrodd, sydd wedi bod yn llawer is na'n holl ddisgwyliadau ers cyflwyno'r llwybr amheuaeth o ganser newydd. Ac mae'n deg dweud bod y pandemig wedi cael ei effaith hefyd. Mae COVID wedi ystumio mynediad a chreu pwysau enfawr yn y system ehangach sydd wedi bod â goblygiadau i ymchwiliadau canser a mynediad i theatrau a gofal critigol. Cynhaliais uwchgynhadledd o arweinwyr gwasanaethau canser ym mis Hydref i atgyfnerthu ein disgwyliadau cynllunio ein bod yn adfer y nifer ar y rhestr aros canser, ein bod yn lleihau nifer y bobl sy'n aros dros 62 diwrnod, ac yn bwrw ymlaen tuag at y targed hwnnw o 62 diwrnod. Mae pethau'n anodd iawn, iawn, a gwasanaethau'n gweithio'n galed iawn i ddiwallu anghenion cleifion. Ond, rwy'n falch o ddweud bod data rheoli'r GIG yn dangos gostyngiad yn nifer y bobl sy'n aros dros 62 diwrnod i'w triniaeth ddechrau rhwng mis Hydref a dechrau Rhagfyr, ac mae'n dangos gostyngiad yn y nifer cyffredinol o bobl sy'n aros ar y llwybr canser a gwelliant bach ym mherfformiad canser yn y ffigurau diweddaraf a gyhoeddwyd ar gyfer mis Tachwedd. Mae hyn yn dangos bod y GIG yn rhoi'r pwyslais y maen nhw'n ei haeddu i lwybrau canser, er bod y Nadolig, gweithredu diwydiannol ac afiechydon anadlol wedi tarfu ar hynny ac wedi achosi rhagor o heriau i ni yn ystod yr wythnosau diwethaf.
We also asked for a focus on implementing the 21 nationally agreed pathways for Wales. This is at the heart of how we will ensure that patients get the right care wherever they are in Wales. These standardised pathways help us to focus on improving consistency and quality of care, and they include the new non-specific symptom pathway for Wales, which plugs into our rapid diagnostic centres. We will have the whole of the population of Wales covered by these centres in the next few months, which is a wonderful achievement. Many of them already exist, and they will be in place a whole year before England. The quality statement places a focus on person-centred care, and, earlier this month, I spoke about the findings of the cancer patient experience survey, which showed, even during the pandemic, that 92 per cent of patients rated their care 'good' or 'very good'. The survey also provided important information about access to key workers and benefits advice, and that will now form part of local work on improving patient experience. I've also recently issued a written statement on the cancer information solution. This is our £11 million investment in replacing the digital cancer patient record. We achieved the first major milestone of the overall programme in November, when Velindre Cancer Centre moved onto the Welsh patient administration system to manage its clinics, and started using the new digital patient record for cancer care. This has resolved a major service continuity risk that the public accounts committee has previously highlighted. We all know how critical the development of the workforce is, and that's why we have committed to planning the workforce to meet future need for cancer care. So, I was very pleased to announce, on 18 January, the education and training plan of Health Education and Improvement Wales. That included uplifts, for the the third successive year, in the number of higher training posts for clinical and medical oncology, as well as further uplifts in training for clinical radiology and palliative care, which are vital roles in cancer pathways. There are numerous other areas to mark or celebrate, including the all-Wales robotic surgery programme, the new breast cancer centres of excellence coming into place, the reduction in the bowel screening age range, and improvements in participation. But, I would like to end by focusing on our announcement last week of more than £86 million for new radiotherapy treatment equipment and facilities, including a new radiotherapy satellite centre in Abergavenny. Collectively, these developments, described in the cancer services improvement plan, speak to our commitment to support improved cancer services and outcomes. I hope that they will make a significant difference to the people delivering and, of course, those receiving cancer care in Wales.
Fe wnaethon ni ofyn hefyd am ffocws ar weithredu'r 21 o lwybrau sydd wedi eu cytuno'n genedlaethol ar gyfer Cymru. Mae hynny'n sylfaenol i'r ffordd y byddwn ni'n gwneud yn siŵr bod cleifion yn cael y gofal iawn lle bynnag y maen nhw yng Nghymru. Mae'r llwybrau sydd wedi'u safoni yn ein helpu ni i ganolbwyntio ar wella cysondeb ac ansawdd y gofal, ac maen nhw'n cynnwys y llwybr symptomau amhenodol newydd sy'n gysylltiedig â'r canolfannau diagnosis cyflym - y rapid diagnosis centres. Bydd y canolfannau hyn yn dod ar gael i wasanaethu holl boblogaeth Cymru yn ystod y misoedd nesaf, sy'n gam ardderchog ymlaen. Mae llawer ohonyn nhw eisoes yn bodoli, a bydd y rhain mewn lle flwyddyn gyfan cyn Lloegr. Mae'r datganiad ansawdd yn rhoi pwyslais ar ofal sy'n canolbwyntio ar yr unigolyn, ac, yn gynharach y mis yma, mi wnes i siarad am ganlyniadau'r arolwg profiad cleifion canser. Roedd hwn yn dangos, hyd yn oed yn ystod y pandemig, fod 92 y cant o gleifion wedi dweud bod eu gofal yn 'dda' neu'n 'dda iawn'. Roedd yr arolwg hefyd yn rhoi gwybodaeth bwysig am fynediad at weithwyr allweddol a chyngor ar fudd-daliadau, a bydd hyn nawr yn rhan o waith lleol ar wella profiad cleifion. Dwi hefyd wedi cyhoeddi datganiad ysgrifenedig yn ddiweddar ar y system gwybodaeth canser. Dyma'n buddsoddiad o £11 miliwn mewn system i gymryd lle'r cofnod digidol o gleifion canser. Fe gyrhaeddon ni garreg filltir bwysig cyntaf y rhaglen gyffredinol ym mis Tachwedd, wrth i Ganolfan Ganser Felindre ddechrau defnyddio system gweinyddu cleifion Cymru i reoli clinigau, a dechrau defnyddio'r cofnod digidol newydd ar gyfer cleifion sy'n cael gofal canser. Mae hyn wedi datrys risg fawr o ran parhad gwasanaethau, sy'n rhywbeth roedd y pwyllgor cyfrifon cyhoeddus wedi tynnu sylw ato. Rŷn ni gyd yn gwybod pa mor hanfodol yw datblygu'r gweithlu, a dyna pam rŷn ni wedi ymrwymo i gynllunio'r gweithlu i gwrdd â'r angen am ofal canser yn y dyfodol. Felly, rôn i'n falch, ar 18 Ionawr, i gyhoeddi'r cynllun addysg a hyfforddiant gan Addysg a Gwella Iechyd Cymru. Roedd hwn yn cynnwys cynnydd, am y drydedd flwyddyn yn olynol, yn y swyddi hyfforddi uwch mewn oncoleg glinigol a meddygol, yn ogystal â chynnydd pellach mewn hyfforddi radioleg glinigol a gofal lliniarol, sy'n rolau hanfodol mewn llwybrau canser. Mae yna nifer fawr o feysydd eraill i'w nodi neu eu dathlu, gan gynnwys rhaglen llawfeddygaeth robotig Cymru gyfan, y canolfannau rhagoriaeth newydd ar gyfer canser y fron, gostwng oed sgrinio'r coluddyn, a mwy o bobl yn cymryd rhan yn y rhaglen. Ond, dwi am gloi trwy gyfeirio at ein cyhoeddiad yr wythnos diwethaf o fwy na £86 miliwn ar gyfer offer a chyfleusterau radiotherapi newydd, gan gynnwys canolfan radiotherapi ategol newydd yn y Fenni. Gyda'i gilydd, mae'r datblygiadau yma, sy'n cael eu disgrifio yn y cynllun gwella gwasanaethau canser, yn dangos ein hymrwymiad i gefnogi gwell gwasanaethau a chanlyniadau canser. Dwi'n gobeithio y byddwn nhw'n gwneud gwahaniaeth sylweddol i'r bobl sy'n darparu ac, wrth gwrs, i'r rheini sy'n derbyn gofal canser yma yng Nghymru. Diolch.
Thank you, Minister, for the statement today. It's very much welcome, and the cancer plan is very much welcome indeed also. It was, until this morning, that Wales was the only area of Britain that didn't have a cancer plan, and the cancer plan is well overdue. But, on a positive note, we've got the cancer plan today, and it's very much welcome. What I did particularly like, as I looked through the cancer action plan, was that there are a whole lot of timescales and goals, with dates attached to the goals and targets as well. That's very much appreciated. I suppose the obvious question there is: do you think that the timelines in there, and the dates that are published alongside the goals, Minister, are reasonable? And do you think that they're reasonable to be achieved, I suppose, is the obvious question to ask? Funnily enough, I was just looking back, Minister, and it was a year ago next Wednesday that I led a Senedd debate on cancer services in Wales. At the time, we talked about - I certainly talked about - the negative side effects for many patients and the focus that was needed on recovery, and many people worrying about additional costs as well. And, at the time, I asked for some measures, such as free dental care for cancer patients, and suggested that that could be offered as part of their recovery, especially now in terms of the cost-of-living pressures that we're all aware of. I couldn't see anything in the plan in regard to that, and I wonder if that's something that could be examined, Minister. At the time, I also mentioned the number of people entering hospital in Wales for cancer treatment had fallen by over 40,000 in the first year of the pandemic. So, I would be interested if you could speak to that point, really, about how the plan specifically helps those who have missed out, potentially, on diagnosis as well. Prior to the pandemic, the Welsh cancer intelligence unit showed that Wales had the lowest survival rates for six cancers, and the second lowest for three in the UK. We were already behind England, Scotland and Northern Ireland when it came to female, breast, lung, colon, rectal and stomach cancers. So, I would ask you, Minister, in that regard, if you are confident that Wales is going to be in a much better position when this plan expires. I suppose I should just ask you about the time frame of the plan. The plan is for three years. I would ask why three years. I'm not suggesting it's wrong; I'm just asking why, particularly, a three-year timeline, I suppose. But, also, I can see some stakeholders, whilst they welcomed the plan, and they welcomed the three-year plan, are also suggesting that there should be a longer term plan. So, I can see you looking at that, Minister, and thinking 'Oh, no he's asking for another plan now', but, no, just to get an understanding on what your response would be to stakeholders who say that something more longer term is needed also. Also, I'd like to ask about the involvement of health boards in the development of the plan. Are you satisfied that local health boards will be able to deliver the goals set out in the plan, and particularly, I suppose, I'm asking that question in the context of the workforce issues that we're all aware of as well. I also wanted to just touch upon the experience of cancer patients in Wales. In your statement, you maintain that 92 per cent of patients rated their care 'good' or 'very good'. Yet, results published from a charity survey highlight that cancer services are still massively failing patients. Getting information out to patients was an area that was shown to be largely inadequate, with 30 per cent of respondents stating they did not have possible side effects fully explained to them, or they weren't fully explained to them. And 52 per cent stated that they did not receive all the necessary information about how to manage their health and well-being following their treatment. So, Minister, I want to understand from you how confident you are that everyone will receive their personalised needs assessment promised in the cancer improvement care plan, when 70 per cent of respondents said they did not even receive a written care plan after their diagnosis in 2021-22? Thanks.
Diolch, Gweinidog, am y datganiad heddiw. Mae croeso mawr iddo, ac mae croeso mawr i'r cynllun canser yn wir hefyd. Tan y bore yma, Cymru oedd yr unig ardal o Brydain oedd heb gynllun canser, ac mae'n hen bryd cyflwyno'r cynllun canser. Ond, ar nodyn cadarnhaol, mae gennym ni'r cynllun canser heddiw, ac mae croeso mawr iddo. Yr hyn yr oeddwn i'n hoff iawn ohono, wrth i mi edrych drwy'r cynllun gweithredu canser, oedd bod llawer iawn o amserlenni a nodau, a dyddiadau ynghlwm â'r nodau a'r targedau hefyd. Mae hynny'n cael ei werthfawrogi'n fawr. Mae'n debyg mai'r cwestiwn amlwg yw: ydych chi'n credu bod yr amserlenni sydd ynddo, a'r dyddiadau sy'n cael eu cyhoeddi ochr yn ochr â'r nodau, Gweinidog, yn rhesymol? Ac ydych chi'n credu eu bod nhw'n rhesymol i'w cyflawni, am wn i, yw'r cwestiwn amlwg i'w ofyn? Yn rhyfedd iawn roeddwn i'n edrych yn ôl, Gweinidog, a blwyddyn yn ôl i ddydd Mercher nesaf wnes i arwain dadl Senedd ar wasanaethau canser yng Nghymru. Ar y pryd, gwnaethom ni siarad am - fe wnes i yn sicr siarad am - y sgil effeithiau negyddol i lawer o gleifion a'r pwyslais a oedd ei angen ar adferiad, a llawer o bobl yn poeni am gostau ychwanegol hefyd. Ac, ar y pryd, gofynnais am rai mesurau, fel gofal deintyddol am ddim i gleifion canser, ac awgrymais y gellid cynnig hynny fel rhan o'u hadferiad, yn enwedig nawr o ystyried y pwysau costau byw yr ydym ni i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw. Doeddwn i ddim yn gallu gweld dim byd yn y cynllun am hynny, a tybed a yw hynny'n rhywbeth y gellid ei archwilio, Gweinidog. Ar y pryd, soniais hefyd bod nifer y bobl sy'n mynd i'r ysbyty yng Nghymru am driniaeth canser wedi gostwng dros 40,000 ym mlwyddyn gyntaf y pandemig. Felly, byddai gen i ddiddordeb pe gallech siarad ar y pwynt hwnnw, mewn gwirionedd, am sut mae'r cynllun yn benodol yn helpu'r rhai sydd wedi colli cyfle, o bosib, ar ddiagnosis hefyd. Cyn y pandemig, gwnaeth uned gwybodaeth canser Cymru ddangos mai Cymru oedd â'r cyfraddau goroesi isaf ar gyfer chwe chanser, a'r ail isaf ar gyfer tri yn y DU. Roeddem ni eisoes y tu ôl i Loegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon ym maes canserau benywaidd, y fron, yr ysgyfaint, y colon, y rectwm a'r stumog. Felly, byddwn i'n gofyn i chi, Gweinidog, yn hynny o beth, a ydych chi'n ffyddiog y bydd Cymru mewn sefyllfa llawer gwell pan ddaw'r cynllun hwn i ben. Mae'n debyg y dylwn i ofyn i chi am amserlen y cynllun. Mae'r cynllun am dair blynedd. Byddwn i'n gofyn pam tair blynedd. Dydw i ddim yn awgrymu ei fod yn anghywir; dim ond gofyn pam ydw i, yn benodol, amserlen tair blynedd, mae'n debyg. Ond, hefyd, gallaf weld rhai rhanddeiliaid, tra eu bod yn croesawu'r cynllun, ac fe wnaethon nhw groesawu'r cynllun tair blynedd, hefyd yn awgrymu y dylai fod cynllun mwy hirdymor. Felly, gallaf eich gweld chi'n edrych ar hynny, Gweinidog, a meddwl 'O, na mae'n gofyn am gynllun arall nawr', ond, na, dim ond i gael dealltwriaeth ar beth fyddai eich ymateb chi i randdeiliaid sy'n dweud bod angen rhywbeth mwy hirdymor hefyd. Hefyd, hoffwn holi am gyfranogiad byrddau iechyd wrth ddatblygu'r cynllun. Ydych chi'n fodlon y bydd byrddau iechyd lleol yn gallu cyflawni'r nodau a nodir yn y cynllun, ac yn enwedig, am wn i, rwy'n gofyn y cwestiwn hwnnw yng nghyd-destun materion y gweithlu yr ydym i gyd yn ymwybodol ohonyn nhw hefyd. Roeddwn i hefyd eisiau crybwyll profiad cleifion canser yng Nghymru. Yn eich datganiad, rydych chi'n honni bod 92 y cant o gleifion wedi dweud bod eu gofal yn 'dda' neu'n 'dda iawn'. Eto i gyd, mae'r canlyniadau a gyhoeddwyd o arolwg elusennol yn amlygu bod gwasanaethau canser yn dal i wneud tro gwael â chleifion yn aruthrol. Roedd cael gwybodaeth allan i gleifion yn faes y dangoswyd ei fod yn annigonol i raddau helaeth, gyda 30 y cant o'r ymatebwyr yn dweud nad oedd sgil-effeithiau posibl wedi'u hesbonio'n llawn iddyn nhw, neu doedden nhw ddim yn cael eu hesbonio'n llawn iddyn nhw. A dywedodd 52 y cant nad oedden nhw'n derbyn yr holl wybodaeth angenrheidiol am sut i reoli eu hiechyd a'u llesiant yn dilyn eu triniaeth. Felly, Gweinidog, rwyf eisiau deall gennych chi pa mor hyderus ydych chi y bydd pawb yn derbyn eu hasesiad anghenion personol a addawyd yn y cynllun gofal gwella canser, pan ddywedodd 70 y cant o'r ymatebwyr na wnaethon nhw hyd yn oed dderbyn cynllun gofal ysgrifenedig ar ôl eu diagnosis yn 2021-22? Diolch.
Diolch yn fawr, Russell. I'm pleased that you agree it's a good thing that we've got dates and goals and targets, and I think it is important to hold people to account; you hold me to account, I hold the health boards to account. So, it is important to have those in, and I am sure you will note the workforce implementation plan that's been published today also has very clear targets against the time frame. This is a plan that has been developed and is owned by the NHS. It's not a Welsh Government plan; it is owned by the NHS. And, so, if they have developed this plan, I fully expect them to be able to deliver the plan. So, they think it's achievable. I think a huge amount of work has gone into this, and I would like to pay tribute to all of the people who have worked over a long period of time to get this into the right place, because it's not just about writing a plan; you've got to get buy-in from across the whole of Wales when you're talking about needing consistent quality standards. You can't just make a statement about that; you've got to get buy-in to make sure that everybody is signed up to that. On the free dental care, look, at the moment, you know how pressurised our budgets are, so anything that involves any additional money is really, really difficult. Much as we'd love to go down that route, that would be very challenging at the moment. But, obviously, we can point, as I said in my statement, to the kind of support networks and funding streams that are available, particularly to people who are struggling. COVID of course did throw things out for a while. We're getting back on track now in terms of screening. It has taken a while, particularly in relation to breast cancer, because we needed to get areas where people wouldn't come into contact with each other. So, we've had to adapt quite a lot, and we're still only just getting back on track with some of those. But, it is a concern, of course, that we do have low survival rates in Wales, but, I think, it's really important for us to understand that, actually, things have improved over the past few years. We are in a situation where the outcomes for people are much better than they have been in the past. So, the one-year survival rate has gone from 66 per cent to 73 per cent in the past two decades, so, I think, we're going in the right direction. We've almost doubled the amount of money that's gone into cancer support, so I think it's important that we recognise that. We have lower survival rates. Some of this is about making sure that we understand the preventative agenda. We've got to get in the right place. We keep on talking about the importance of the preventative agenda, Apparently, between 30 and 50 per cent of cancers are preventable, so we all have a responsibility to play our part if we want to try - . Now, that's not true for everybody; it's really important to state that, but, actually, there are things that we can do to help ourselves. I am confident that we will be in a better position at the end of this programme. Just in terms of the longer term, well, our cancer quality statement is our plan for the longer term. That's the statement that, again, has been developed by and with the NHS. And the health boards, as I say, were key in developing these plans, in particular, the Velindre cancer trust. I think that's really important to note there - the massive, massive amount of investment and work that's gone into this. And, of course, when it comes to the workforce, it is the health boards and the trusts that indicate to HEIW where the gaps are, and, then, they commission that work. And, just in terms of your personalised needs assessment, by 2024, every cancer patient will have a caseworker, so I hope that will give some comfort to people.
Diolch yn fawr, Russell. Rwy'n falch eich bod yn cytuno ei fod yn beth da bod gennym ddyddiadau a nodau a thargedau, ac rwy'n credu ei bod yn bwysig dwyn pobl i gyfrif; rydych yn fy nwyn i gyfrif, rydw i'n dwyn y byrddau iechyd i gyfrif. Felly, mae'n bwysig cynnwys hynny, ac rwy'n siŵr y byddwch chi'n nodi bod gan y cynllun gweithredu gweithlu sydd wedi'i gyhoeddi heddiw dargedau clir iawn o gymharu â'r amserlen hefyd. Mae hwn yn gynllun sydd wedi'i ddatblygu ac sy'n eiddo i'r GIG. Nid cynllun Llywodraeth Cymru mohono; mae'n eiddo i'r GIG. Ac, felly, os ydyn nhw wedi datblygu'r cynllun hwn, rwy'n llwyr ddisgwyl iddyn nhw allu cyflawni'r cynllun. Felly, maen nhw'n credu ei fod yn gyraeddadwy. Rwy'n credu bod llawer iawn o waith wedi mynd i mewn i hyn, a hoffwn dalu teyrnged i'r holl bobl sydd wedi gweithio dros gyfnod hir i gael hyn i'r sefyllfa gywir, oherwydd nid ysgrifennu cynllun yn unig mohono; mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth o bob cwr o Gymru gyfan wrth sôn am fod angen safonau o ansawdd cyson. Allwch chi ddim gwneud datganiad am hynny yn unig; mae'n rhaid i chi gael cefnogaeth i wneud yn siŵr bod pawb yn cytuno ar hynny. Ar y gofal deintyddol am ddim, edrychwch, ar hyn o bryd, rydych chi'n gwybod gymaint o bwysau sydd ar ein cyllidebau, felly mae unrhyw beth sy'n cynnwys unrhyw arian ychwanegol mewn gwirionedd, yn anodd iawn. Er cymaint y byddem wrth ein boddau yn mynd i lawr y llwybr hwnnw, byddai hynny'n heriol iawn ar hyn o bryd. Ond, yn amlwg, gallwn bwyntio, fel y dywedais yn fy natganiad, at y math o rwydweithiau cymorth a ffrydiau ariannu sydd ar gael, yn enwedig i bobl sy'n ei chael hi'n anodd. Roedd COVID wrth gwrs yn taflu pethau allan am gyfnod. Rydyn ni'n mynd yn ôl ar y trywydd iawn nawr o ran sgrinio. Mae wedi cymryd amser, yn enwedig mewn perthynas â chanser y fron, oherwydd roedd angen i ni gael ardaloedd lle na fyddai pobl yn dod i gysylltiad â'i gilydd. Felly, rydyn ni wedi gorfod addasu cryn dipyn, a dim ond newydd fynd yn ôl ar y trywydd iawn gyda rhai o'r rheini ydyn ni o hyd. Ond, mae'n bryder, wrth gwrs, bod gennym gyfraddau goroesi isel yng Nghymru, ond, rwy'n credu, ei bod yn bwysig iawn i ni ddeall bod pethau wedi gwella dros y blynyddoedd diwethaf, mewn gwirionedd. Rydym mewn sefyllfa lle mae'r canlyniadau i bobl lawer gwell nag y buon nhw yn y gorffennol. Felly, mae'r gyfradd oroesi blwyddyn wedi mynd o 66 y cant i 73 y cant yn y ddau ddegawd diwethaf, felly, dwi'n credu, ein bod ni'n mynd i'r cyfeiriad cywir. Rydyn ni bron â dyblu faint o arian sydd wedi mynd mewn i gefnogaeth canser, felly dwi'n meddwl ei bod hi'n bwysig ein bod ni'n cydnabod hynny. Mae gennym gyfraddau goroesi is. Mae peth o hyn yn ymwneud â gwneud yn siŵr ein bod yn deall yr agenda ataliol. Mae'n rhaid i ni fynd i'r lle iawn. Rydyn ni'n dal ati i siarad am bwysigrwydd yr agenda ataliol, Yn ôl pob tebyg, mae modd atal rhwng 30 a 50 y cant o ganserau, felly mae gan bob un ohonom gyfrifoldeb i chwarae ein rhan os ydym am roi cynnig arni - . Nawr, dydy hynny ddim yn wir i bawb; mae'n bwysig iawn i ddatgan hynny, ond, mewn gwirionedd, mae yna bethau y gallwn ni eu gwneud i helpu ein hunain. Rwy'n hyderus y byddwn mewn sefyllfa well ar ddiwedd y rhaglen hon. O ran y tymor hirach, wel, ein datganiad ansawdd canser yw ein cynllun ar gyfer y tymor hirach. Dyna'r datganiad sydd, unwaith eto, wedi ei ddatblygu gan a gyda'r GIG. Ac roedd y byrddau iechyd, fel y dywedaf i, yn allweddol i ddatblygu'r cynlluniau yma, yn enwedig, ymddiriedolaeth canser Felindre. Rwy'n credu bod hynny'n bwysig iawn i'w nodi yna - y buddsoddiad enfawr, enfawr a'r gwaith sydd wedi mynd i mewn i hyn. Ac, wrth gwrs, pan ddaw hi at y gweithlu, y byrddau iechyd a'r ymddiriedolaethau sy'n dweud wrth AaGIC lle mae'r bylchau, ac, wedyn, maen nhw'n comisiynu'r gwaith hwnnw. A, dim ond o ran eich asesiad anghenion personol, erbyn 2024, bydd gan bob claf canser weithiwr achos, felly gobeithio y bydd hynny'n rhoi rhywfaint o gysur i bobl.
I suppose the first thing I should say is that I'm pleased that we do have a cancer plan, and I look forward to seeing it hopefully make a difference. We know that our survival rates aren't good enough. We know that there are people - I was speaking to one person who found out too late over this weekend that he had cancer - there are too many people not being able to access the treatment that they could have had. There are too many members of staff who want to do more who can't do more, and that's heartbreaking for them. And we do now have a plan, and looking forward is important. But it is important to bear in mind the delays that there have been before getting to this point today. The last two cancer plans - 2012 to 2016, then 2016 to 2020 - and we're almost three years on from there getting this plan. It is not good enough, and before the Minister says 'Well, COVID was the great problem from 2020 onwards' the plan for 2020 onwards should have been ready before COVID struck. What we had, of course, was the quality statement for cancer, but it was quite clear that that wasn't considered to be adequate by all bodies involved with the fight against cancer in Wales. Yes, it's taken three years to bring us to this point. Many of the questions that I have now reflect some of those questions raised by organisations that have been involved in drawing this up but still see some gaps in the key information. Tenovus, for example, asked for more information around performance and accountability monitoring. How will we be able to identify as to whether we are on the right track? Does the plan deliver what it's supposed to deliver? I wonder if the Minister could tell us more about that issue. Then, the workforce. The nature of the questions has changed slightly during the day, because, in less than the last two hours, we've had the workforce plan that we were promised by the end of January. Some five hours and 40 minutes of January remain. This isn't the way we should be working. We should be in a position where we would have a statement to the Senedd on the workforce plan. I will take this opportunity to ask questions on the workforce because this statement's been given, but I am not, and I'm sure those involved in the fight against cancer aren't happy that things have been done in this way. I've had a brief opportunity to take a look at the new workforce plan. I was concerned this morning with the BBC reporting comments from the Minister in the context of the fact that the cancer workforce was tired, and there are too many vacancies, and what the BBC said was that the Minister was saying that the health boards had the money and it was up to them to prioritise. Well, that doesn't represent a workforce plan, I'm afraid. But we now do have a workforce plan, and it does state that responding to challenges set out in the cancer plan is one of the priorities for the new workforce plan - but I can't see what the plan is for strengthening the cancer workforce. There is mention of timetables for different elements of strengthening the workforce. I can't see a specific reference to the cancer workforce in that timetable. Perhaps the Minister could elucidate how exactly the plan published today will help in implementing the cancer plan, because without the workforce we have no means of improving survival rates, we have no means of taking pressure off our existing workforce. So I will look forward to a response on that. And I'll ask, if I may, one question on a major part of our cancer landscape, namely Velindre. I've been aware over recent weeks that more and more people, as I have done in the past, have suggested strongly that the co-location of cancer services with other emergency services is what makes sense, rather than developing them as discrete cancer centres. Has the Minister had an opportunity to consider the most recent comments by those who are very prominent in the cancer field and who are still suggesting that the wrong decision has been made? We want the best possible cancer services, but we don't want decisions being made that we may regret in years to come.
Am wn i, y peth cyntaf i'w ddweud ydy fy mod i'n falch bod gennym ni gynllun canser erbyn hyn, a dwi'n edrych ymlaen, gobeithio, i'w weld o'n gwneud gwahaniaeth. Dŷn ni'n gwybod bod ein cyfraddau goroesi ni ddim yn ddigon da. Dŷn ni'n gwybod bod yna bobl - rôn i'n siarad efo un ffeindiodd allan yn rhy hwyr dros y penwythnos yma fod canser arno fo - mae gormod o bobl yn methu â chael y driniaeth y gallen nhw fod wedi ei chael. Mae gormod o staff sydd eisiau gwneud mwy wedi methu gwneud mwy, ac mae hynny'n torri eu calonnau nhw. Mae gennym ni gynllun, rŵan, ac edrych ymlaen sydd yn bwysig. Ond mae hi'n bwysig iawn cofio am yr oedi sydd wedi bod cyn i ni gyrraedd at y pwynt yma heddiw. Dau gynllun canser diwethaf - 2012 i 2016, wedyn 2016 i 2020 - a dŷn ni bron i dair blynedd yn ddiweddarach yn cael y cynllun yma. Dydy o ddim yn ddigon da. A chyn i'r Gweinidog ddweud, 'Wel, COVID oedd y broblem fawr o 2020 ymlaen', mi ddylai fod y cynllun 2020 ymlaen yn barod cyn i COVID daro. Beth gawsom ni, wrth gwrs, oedd y datganiad ansawdd, ond mi oedd hi'n berffaith amlwg nad oedd hynny'n cael ei ystyried i fod yn ddigon da gan bob corff a oedd yn ymwneud â'r frwydr yn erbyn canser yng Nghymru. Ydy, mae wedi cymryd tair blynedd i gyrraedd y pwynt yma. Mae nifer o'r cwestiynau sydd gen i rŵan yn adlewyrchu'r rhai sy'n cael eu codi gan gyrff sydd wedi bod yn rhan o lunio hwn, ond sydd dal yn gweld ambell i gap yn y wybodaeth allweddol - Tenovus, er enghraifft, yn gofyn am ragor o wybodaeth o gwmpas monitro perfformiad ac atebolrwydd. Sut ydyn ni'n mynd i fod yn gallu adnabod a ydyn ni ar y trywydd iawn? Ydy'r cynllun yma'n gwneud yr hyn y mae o i fod i'w wneud? Tybed all y Gweinidog ddweud mwy wrthon ni am hynny? Y gweithlu wedyn - mae natur y cwestiynau wedi newid rywfaint yn ystod y dydd, oherwydd ein bod ni, yn y llai na dwy awr diwethaf, wedi cael y cynllun gweithlu addawyd i ni erbyn diwedd mis Ionawr. Ryw bump awr a 40 munud o fis Ionawr sydd ar ôl. Nid fel hyn mae gweithredu, mae gennyf i ofyn. Mi ddylem ni fod mewn sefyllfa lle gallem ni fod â datganiad i'r Senedd ar y cynllun gweithlu. Mi ddefnyddiaf i'r cyfle i ofyn cwestiynau am y gweithlu oherwydd bod y datganiad wedi cael ei roi i ni, ond dydw i, a dwi'n siŵr y rhai sy'n ymwneud â'r frwydr yn erbyn canser, ddim yn hapus mai yn y ffordd yma mae pethau wedi cael eu gwneud. Dwi wedi cael cyfle sydyn i fwrw golwg dros y cynllun gweithlu newydd. Roeddwn i'n bryderus y bore yma - roedd y BBC yn adrodd ar sylwadau gan y Gweinidog yng nghyd-destun y ffaith bod y gweithlu canser yn flinedig, bod yna ormod o swyddi gwag, a'r hyn a ddywedodd y BBC oedd bod y Gweinidog yn dweud bod gan y byrddau iechyd yr arian a'i bod hi i fyny iddyn nhw i flaenoriaethu. Nid dyna sy'n cynrychioli cynllun gweithlu, mae gennyf i ofyn. Ond, rŵan, mae gennym ni gynllun gweithlu, ac mae o'n dweud bod ymateb i'r heriau cynllun canser sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yma yn un o'r blaenoriaethau ar gyfer y cynllun gweithlu newydd hwnnw, ond dwi'n methu gweld beth ydy'r cynllun ar gyfer y cynllun, ar gyfer cryfhau'r gweithlu canser. Mae yna sôn am amserlenni ar gyfer gwahanol elfennau o gryfhau'r gweithlu; dwi'n methu gweld cyfeiriad at y gweithlu canser yn benodol yn yr amserlen honno. O bosibl, gall y Gweinidog egluro rhagor wrthym ni am sut yn union mae'r cynllun sy'n cael ei gyhoeddi heddiw yma'n mynd i fod yn helpu i weithredu'r cynllun canser. Oherwydd, heb y gweithlu, does gennym ni ddim modd i wella'r cyfraddau goroesi, a does gennym ni ddim modd i dynnu pwysau oddi ar y gweithlu sydd gennym ni. Felly, mi edrychaf i ymlaen at ymateb ar hynny. Ac mi ofynnaf i, os caf i, un cwestiwn ynglŷn â rhan fawr o'n tirlun canser ni, sef, Felindre. Dwi wedi bod yn ymwybodol dros yr wythnosau diwethaf fod mwy o bobl eto, fel dwi wedi gwneud yn y gorffennol, wedi awgrymu'n gryf mai cydleoli'r gwasanaethau canser efo gwasanaethau brys eraill sydd yn gwneud synnwyr, yn hytrach na'u datblygu nhw fel canolfannau canser ar eu pennau nhw eu hunain. Ydy'r Gweinidog iechyd wedi cael cyfle i ystyried y sylwadau diweddaraf gan bobl sydd yn flaenllaw iawn ym maes canser sydd yn dal i awgrymu bod y penderfyniad anghywir yn cael ei wneud? Rydyn ni eisiau'r gwasanaethau canser gorau posibl, ond dydyn ni ddim eisiau gweld penderfyniadau'n cael eu gwneud y byddwn ni'n eu difaru mewn blynyddoedd i ddod.
Thank you very much. I think a lot of people, unfortunately, find out that they have cancer as they go to emergency departments - the symptoms don't show up until the last minute, and obviously that's very difficult for them, and part of what we're talking about in this plan is ensuring that there are acute oncology services available in our emergency departments. This is an NHS plan, as I said, and it responds to the quality system that we have. In terms of accountability, the health boards are accountable to me, of course, through the chairs, but the NHS executive will have a specific role in ensuring that this is delivered, so I do hope - . And of course, through the integrated medium-term plans process, as you know, cancer is one of the six priorities that I have. So, monitoring those and making sure that they get the attention that they need will mean that it is one of the priorities. In terms of the workforce, it is difficult, isn't it? Because there's so much going on, so much on our plate at the moment. If I hadn't published the HEIW report, you would have complained about that, so I preferred to do what I said I was going to do. I can't fit more things into the agenda - we only have one day this week. I've been on my feet already twice today, so it's just a lack of space on the agenda - that's the problem. We have done it. I did promise that we'd have it by the end of the month, and we've delivered. In terms of co-location, the decision on Velindre has been made. We've heard all sides of that debate, and there are questions in terms of timing and the best location, and so forth. The decision has been made, we won't be changing that decision, and the work will start before long. But I was very pleased to see the £86 million that we announced on Friday for new radiotherapy equipment. That's 10 new machines, and two of them are going to go to Abergavenny, which will mean that people won't have to travel quite so far on that side of Wales. So, I'm very pleased that we are going to push forward and that we do have the right equipment in place.
Diolch yn fawr. Dwi'n meddwl bod lot o bobl, yn anffodus, yn ffeindio mas bod canser gyda nhw wrth iddyn nhw fynd i'r emergency departments - dyw'r symptomau ddim yn dangos tan y funud olaf, ac mae hwnna'n amlwg yn rhywbeth sydd yn anodd iawn iddyn nhw. Rhan o beth rŷn ni'n sôn amdano yn y cynllun yma yw gwneud yn siŵr bod yna acute oncology services ar gael yn ein hunedau brys ni. Cynllun, fel dwi wedi dweud, yr NHS yw hwn, ac mae hwn yn ymateb i'r system ansawdd sydd gyda ni. Ac o ran atebolrwydd, wrth gwrs, mae'r byrddau iechyd yn atebol i fi drwy'r cadeiryddion, ond bydd yr NHS executive gyda rôl benodol i wneud yn siŵr bod hwn yn cael ei ddelifro, felly, dwi'n gobeithio - . Ac wrth gwrs, trwy'r integrated medium-term plans, y broses IMTPs, fel rŷch chi'n gwybod, mae canser yn un o'r chwech o flaenoriaethau sydd gen i. Felly bydd monitro'r rheini a gwneud yn siŵr bod y rheini'n cael y sylw sydd ei angen yn golygu bod hwn yn un o'r blaenoriaethau. O ran y gweithlu, mae'n anodd, onid yw e? Achos mae cymaint ar yr agenda ar hyn o bryd, mae cymaint yn mynd ymlaen, a phetasem ni ddim wedi cyhoeddi'r adroddiad HEIW heddiw, byddech chi wedi cwyno am hynny. So, roedd e'n well geni i actually gwneud beth oeddwn i'n dweud fy mod i'n mynd i'w wneud. Allaf i ddim ffitio mwy o bethau ar yr agenda - dim ond un diwrnod sydd gyda ni yr wythnos yma. Dwi eisoes wedi bod ar fy nhraed i ddwywaith heddiw. Felly, diffyg lle yw'r broblem. Rŷn ni wedi'i wneud e. Gwnes i addo y byddwn ni'n ei gael e erbyn diwedd y mis, ac mae e wedi'i delifro. O ran cydleoli, mae'r penderfyniad ar Felindre wedi cael ei wneud. Rŷm ni wedi clywed pob ochr o'r ddadl, ac mae yna gwestiwn, wrth gwrs, o ran amseru a ble mae'r lleoliad gorau, ac ati. Mae'r penderfyniad wedi cael ei wneud, fyddwn ni ddim yn newid y penderfyniad yna, ac mi fydd y gwaith yn dechrau cyn bo hir. Ond roeddwn i'n falch iawn o weld yr £86 miliwn rŷm ni wedi gyhoeddi ddydd Gwener ar gyfer offer radiotherapi newydd. Mae hyn yn 10 peiriant newydd, dau ohonyn nhw yn mynd i fynd i'r Fenni, sy'n golygu fydd pobl ddim yn gorfod teithio cweit mor bell o ochr yna Cymru. Felly, dwi yn falch ein bod ni yn mynd i symud ymlaen a bod yr offer newydd gyda ni mewn lle.
Thank you, Minister, for your honest statement and also for your achievements, despite everything that you're having to do in the health field. I just wanted to share with Members the discussion that took place in the women's health cross-party group in December, where we discussed the five gynae cancers. One of the speakers was a completely excellent patient campaigner who you may have heard of called Jim Sweet, whose wife died of ovarian cancer, and he's since made himself into a real expert in ovarian cancer, because she died two weeks after correct diagnosis, having been misdiagnosed as having irritable bowel syndrome and being sent to the gastroenterology clinic. I believe that this is not unusual. He also was a great expert in comparing the way in which the healthcare system treats men versus women, and I know that this is something that you are very worried about. He compared the Rolls-Royce service that he got for prostate cancer versus the really fragmented service that his wife got. How do we improve that, because there clearly is a bias against women who complain about particular symptoms, who are not heard clearly enough? And how do we improve awareness of symptoms across all clinical specialisms so that, for example, gastroenterology is working really closely with cancer services, because this is not infrequently the case that these sorts of concerns are misdiagnosed by people who probably ought to know a lot more about ovarian cancer, and also some of the preventative measures around breastfeeding, multiple pregnancies, contraceptive pill, which, obviously, can massively decrease your likelihood of getting cancer, as well as the fact that eight out of 10 cases occur in women over 50?
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad gonest a hefyd am eich cyflawniadau, er gwaethaf popeth rydych chi'n gorfod ei wneud yn y maes iechyd. Roeddwn i eisiau rhannu gyda'r Aelodau drafodaeth a gynhaliwyd yng ngrŵp trawsbleidiol iechyd menywod ym mis Rhagfyr, lle gwnaethom ni drafod y pum canser gynae. Roedd un o'r siaradwyr yn ymgyrchydd cleifion cwbl ardderchog efallai eich bod chi wedi clywed amdano o'r enw Jim Sweet, y bu farw ei wraig o ganser yr ofari, ac ers hynny mae wedi datblygu'n arbenigwr go iawn mewn canser yr ofari, oherwydd iddi farw bythefnos ar ôl cael diagnosis cywir, ar ôl cael diagnosis anghywir o fod â syndrom coluddyn llidus a chael ei hanfon i'r clinig gastroenteroleg. Rwy'n credu nad yw hyn yn anarferol. Roedd hefyd yn arbenigwr gwych o ran cymharu'r ffordd y mae'r system gofal iechyd yn trin dynion o'u cymharu â menywod, a gwn fod hyn yn rhywbeth yr ydych chi'n poeni'n fawr amdano. Cymharodd y gwasanaeth rhagorol a gafodd ar gyfer canser y prostad gyda'r gwasanaeth darniog iawn a gafodd ei wraig. Sut mae gwella hynny, oherwydd mae'n amlwg bod rhagfarn yn erbyn menywod sy'n cwyno am symptomau penodol, sydd ddim yn cael eu clywed yn ddigon eglur? A sut mae gwella ymwybyddiaeth o symptomau ar draws pob arbenigedd clinigol fel bod gastroenteroleg, er enghraifft, yn gweithio'n agos iawn gyda gwasanaethau canser, oherwydd nid yn anaml y ceir diagnosis anghywir o'r mathau hyn o bryderon gan bobl y mae'n debyg ddylai wybod llawer mwy am ganser yr ofari, a hefyd rhai o'r mesurau ataliol ynghylch bwydo ar y fron, beichiogrwydd lluosog, y bilsen atal cenhedlu, a all, yn amlwg, leihau eich tebygolrwydd o gael canser yn aruthrol, yn ogystal â'r ffaith bod wyth o bob 10 achos yn digwydd mewn menywod dros 50 oed?
Thanks very much. I think we've got to be aware that one in two people are likely to get cancer, and so we're all touched by cancer in some way or another. And so, it is important that we do our very best to get a better understanding. Every day, we're getting new developments, new technologies and new genetic improvements. So, all of these things I hope will make sure that we just keep on improving the performance in this area. Early diagnosis is absolutely key. That is true, of course, for gynae cancers, and I'm particularly concerned about the rates in relation to gynae cancers. I know that this will be something that the team across Wales will be looking at and be focusing on. Screening, of course, is absolutely key when it comes to making sure that people take up that opportunity of screening, and that we chase down - in the same way that we've chased down people who haven't had their vaccinations, we need to think about doing that in relation to screening as well. You're absolutely right - I am very concerned that the healthcare system needs to make sure that they treat women, fairly, correctly, and in a way that is respectful to women as well as men. That's why we've already produced the women's health quality statement, and you're quite right, I think there's a lot more that we could all do in terms of learning what to look out for when it comes to symptom awareness. Some of the charities that have certainly been talking to me as we've been developing this plan, they are really good at raising awareness, but I think all of us have a responsibility to try and learn a bit more about what we should be looking out for. But the point is that, actually, we know our own bodies; if there is a change, we just need to be sensitive to that change and make sure that we go and get some support.
Diolch yn fawr. Rwy'n credu bod yn rhaid i ni fod yn ymwybodol bod un o bob dau berson yn debygol o gael canser, ac felly mae canser yn effeithio arnom bob un ohonom ni mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Ac felly, mae'n bwysig ein bod ni'n gwneud ein gorau glas i gael gwell dealltwriaeth. Bob dydd, ceir datblygiadau newydd, technolegau newydd a gwelliannau genetig newydd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd yr holl bethau hyn yn gwneud yn siŵr ein bod ni'n parhau i wella'r perfformiad yn y maes hwn. Mae diagnosis cynnar yn gwbl allweddol. Mae hynny'n wir, wrth gwrs, ar gyfer canserau gynae, ac rwy'n poeni'n arbennig am y cyfraddau o ran canserau gynae. Gwn y bydd hyn yn rhywbeth y bydd y tîm ledled Cymru yn edrych arno ac yn canolbwyntio arno. Mae sgrinio, wrth gwrs, yn gwbl allweddol o ran gwneud yn siŵr bod pobl yn manteisio ar y cyfle hwnnw o sgrinio, a'n bod ni'n mynd ar drywydd - yn yr un ffordd ag yr ydym ni wedi mynd ar drywydd pobl sydd heb gael eu brechiadau, mae angen i ni feddwl am wneud hynny o ran sgrinio hefyd. Rydych chi yn llygad eich lle - rwy'n bryderus iawn bod angen i'r system gofal iechyd wneud yn siŵr eu bod nhw'n trin menywod yn deg, yn gywir, ac mewn ffordd sy'n parchu menywod yn ogystal â dynion. Dyna pam rydym ni eisoes wedi llunio'r datganiad ansawdd iechyd menywod, ac rydych chi'n hollol iawn, rwy'n credu bod llawer mwy y gallem ni i gyd ei wneud o ran dysgu beth i gadw llygad amdano o ran ymwybyddiaeth o symptomau. Mae rhai o'r elusennau sy'n sicr wedi bod yn siarad â mi wrth i ni ddatblygu'r cynllun hwn, maen nhw'n dda iawn am godi ymwybyddiaeth, ond rwy'n credu bod gan bob un ohonom ni gyfrifoldeb i geisio dysgu ychydig mwy am yr hyn y ddylem ni fod yn cadw llygad amdano. Ond y pwynt yw ein bod ni, mewn gwirionedd, yn adnabod ein cyrff ein hunain; os oes newid, mae angen i ni fod yn sensitif i'r newid hwnnw a gwneud yn siŵr ein bod ni'n mynd i gael cymorth.
Thank you for your statement, Minister. I'm pleased to finally see a statement and a plan today, as my constituents have been waiting an awfully long time for this to come to fruition. The Welsh Conservatives, and my colleague here, Russell George, have been calling for a cancer plan for a long time now, and Wales was the only country in the UK not to have a Government publish a cancer plan for far too long. So, I welcome that today. But, Minister, I wanted to touch on less survivable cancers. It's mentioned in the plan, which is welcome, but I'm conscious that, in the past, Welsh Government communication campaigns have been poor. So, in terms of symptom awareness, will you be embarking on a cancer symptom awareness campaign to help members of the public and GPs? And regarding one of the most life-threatening cancers, lung cancer, will you be ramping up and implementing targeted lung health checks, which could save over 100 lives a year once it's rolled out in Wales? And will the Welsh Government be implementing the recommendations of the UK National Screening Committee? Thank you.
Diolch am eich datganiad, Gweinidog. Rwy'n falch o weld datganiad a chynllun heddiw o'r diwedd, gan fod fy etholwyr wedi bod yn aros am amser maith iawn i hyn ddwyn ffrwyth. Mae'r Ceidwadwyr Cymreig, a fy nghyd-Aelod yma, Russell George wedi bod yn galw am gynllun canser ers amser maith bellach, a Chymru oedd yr unig wlad yn y DU lle nad oedd y Llywodraeth wedi cyhoeddi cynllun canser am lawer rhy hir. Felly, rwy'n croesawu hynny heddiw. Ond, Gweinidog, roeddwn i eisiau trafod canserau y mae'n fwy anodd eu goroesi. Cyfeirir at y rhain yn y cynllun, sydd i'w groesawu, ond rwy'n ymwybodol bod ymgyrchoedd cyfathrebu Llywodraeth Cymru, yn y gorffennol, wedi bod yn wael. Felly, o ran ymwybyddiaeth o symptomau, a fyddwch chi'n sefydlu ymgyrch ymwybyddiaeth o symptomau canser i helpu aelodau'r cyhoedd a meddygon teulu? Ac o ran un o'r canserau sy'n peryglu bywyd fwyaf, canser yr ysgyfaint, a fyddwch chi'n cynyddu ac yn gweithredu archwiliadau iechyd yr ysgyfaint wedi'u targedu, a allai achub dros 100 o fywydau'r flwyddyn ar ôl eu cyflwyno yng Nghymru? Ac a fydd Llywodraeth Cymru yn gweithredu argymhellion Pwyllgor Sgrinio Cenedlaethol y DU? Diolch.
Thanks very much. Well, there are of course lots of campaigns that are already under way in relation to less survivable cancers by some of those organisations. What I'm not going to do is - . I've just published a plan; we're not going to start bolting new things onto the plan. This has been developed by people, it's been worked on by organisations across Wales, by the NHS. So, what's there is what we're going to deliver on, and we're not going to bolt anything new onto it, because actually it's been very carefully worked out. But there are things in relation, for example, to lung screening, and there is a pilot that we're undertaking there, and obviously we'll just see how that pilot goes. And that's about targeting people who've been smokers and whatever, in a particular area. So, we're going to see how that goes, and, obviously, we'll build on that if that works.
Diolch yn fawr iawn. Wel, wrth gwrs, mae llawer o ymgyrchoedd sydd eisoes ar y gweill o ran canserau y mae'n fwy anodd eu goroesi gan rai o'r sefydliadau hynny. Yr hyn nad wyf i'n mynd i'w wneud yw - . Rwyf i newydd gyhoeddi cynllun; dydyn ni ddim yn mynd i ddechrau ychwanegu pethau newydd at y cynllun. Datblygwyd hwn gan bobl, gweithiwyd arno gan sefydliadau ledled Cymru, gan y GIG. Felly, yr hyn sydd yna yw'r hyn yr ydym ni'n mynd i'w gyflawni, ac nid ydym ni'n mynd i ychwanegu unrhyw beth newydd ato, oherwydd mewn gwirionedd mae wedi cael ei gynllunio yn ofalus iawn. Ond mae pethau o ran sgrinio'r ysgyfaint, er enghraifft, ac mae cynllun peilot yr ydym ni'n ei gynnal yn hynny o beth, ac yn amlwg byddwn ni'n gweld sut mae'r cynllun peilot hwnnw'n mynd. A nod hwnnw yw targedu pobl sydd wedi bod yn smygwyr ac ati mewn ardal benodol. Felly, rydym ni'n mynd i weld sut mae hynny'n mynd, ac, yn amlwg, byddwn yn adeiladu ar hwnnw os yw hwnnw'n gweithio.
Thank you, Minister, for your statement. I've got a real interest in NHS informatics and how they can be used to drive service improvements. So, I note your comments around digital systems and Velindre Cancer Centre moving on to the Welsh patient administration system, and I was interested to read your written statement yesterday on the cancer informatics programme. So, I've got a few questions on that, and, in particular, on the next phase of the roll-out. Would you be able to update Members on the next significant milestone that's being aimed for on this journey of improvement, and when do you estimate that we might reach that next milestone? I was also interested to see your comments about capturing additional data through this system. So, what particular information would Welsh Government be looking to collect during these next phases of the roll-out?
Diolch, Gweinidog, am eich datganiad. Mae gen i ddiddordeb go iawn mewn gwybodeg y GIG a sut y gellir ei defnyddio i wella gwasanaethau. Felly, nodaf eich sylwadau ynghylch systemau digidol a Chanolfan Ganser Felindre yn symud i system gweinyddu cleifion Cymru, ac roedd yn ddiddorol gen i ddarllen eich datganiad ysgrifenedig ddoe ar y rhaglen gwybodeg canser. Felly, mae gen i ambell gwestiwn am hynny, ac, yn benodol, am gam nesaf y cyflwyniad. A allech chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau am y garreg filltir arwyddocaol nesaf sy'n cael ei hanelu ato ar y daith hon o welliant, a phryd ydych chi'n rhagweld y gallem ni gyrraedd y garreg filltir nesaf honno? Roedd yn ddiddorol gen i hefyd weld eich sylwadau ar gasglu data ychwanegol drwy'r system hon. Felly, pa wybodaeth benodol fyddai Llywodraeth Cymru yn bwriadu ei chasglu yn ystod camau nesaf hyn y cyflwyniad?
Thanks very much. Well, I'm really keen on making sure that we use the most up-to-date technology to try and improve our systems. That is why, already, we've spent £86 million on these new radiotherapy machines; that's why we've spent £3 million on an electronic records system; and we've also got new robotic surgery technology that is already in place and working and getting lots of surgeons very excited across Wales. So, making sure that we use the most up-to-date machines and therapies is absolutely critical. We've also spent £4 million on the Wales cancer network, and I was being asked earlier about how we monitor this. Well, actually, the cancer network is going to be key to making sure that, actually, this plan is delivered. When it comes to informatics and collecting data, well, the detail and the timetables are set out in the plan of what is expected when. But, in terms of collecting information, the key thing for me is that we just keep on learning from people and their experiences, and that we feed back in a loop that will improve our services constantly, when it comes to cancer care.
Diolch yn fawr iawn. Wel, rwy'n awyddus iawn i wneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r dechnoleg ddiweddaraf i geisio gwella ein systemau. Dyna pam rydym ni eisoes wedi gwario £86 miliwn ar y peiriannau radiotherapi newydd hyn; dyna pam rydym ni wedi gwario £3 miliwn ar system cofnodion electronig; ac mae gennym ni hefyd dechnoleg llawfeddygaeth robot newydd eisoes yn weithredol ac yn gweithio ac yn cyffroi llawer o lawfeddygon ledled Cymru. Felly, mae gwneud yn siŵr ein bod ni'n defnyddio'r peiriannau a'r therapïau ddiweddaraf yn gwbl hanfodol. Rydym ni hefyd wedi gwario £4 miliwn ar rwydwaith canser Cymru, a chefais fy holi'n gynharach am sut rydym ni'n monitro hyn. Wel, mewn gwirionedd, mae'r rhwydwaith canser yn mynd i fod yn allweddol i wneud yn siŵr bod y cynllun hwn, mewn gwirionedd, yn cael ei ddarparu. O ran gwybodeg a chasglu data, wel, mae'r manylion a'r amserlenni wedi'u nodi yn y cynllun o'r hyn a ddisgwylir a phryd. Ond, o ran casglu gwybodaeth, y peth allweddol i mi yw ein bod ni'n parhau i ddysgu gan bobl a'u profiadau, a'n bod ni'n rhoi adborth ar sail gylchol a fydd yn gwella ein gwasanaethau yn gyson, o ran gofal canser.
Thank you very much, Deputy Presiding Officer. Great achievement, Minister. Now, people from deprived areas of Wales face worse outcomes when it comes to lung cancer, ovarian cancer or other cancers, and my concern is, which was raised by Laura as well, about the screening - targeted screening - between the age of 55 to 74, as we do with bowel cancer. And it is vital to understand and address the cause of health inequalities, and how are you going to tackle that?
Diolch yn fawr iawn, Dirprwy Lywydd. Cyflawniad gwych, Gweinidog. Nawr, mae pobl o ardaloedd difreintiedig yng Nghymru yn wynebu canlyniadau gwaeth o ran canser yr ysgyfaint, canser yr ofari neu ganserau eraill, ac mae fy mhryder i, a godwyd gan Laura hefyd, ynglŷn â'r sgrinio - sgrinio wedi'i dargedu - rhwng 55 a 74 oed, fel yr ydym ni'n ei wneud gyda chanser y coluddyn. Ac mae'n hanfodol deall a mynd i'r afael ag achos anghydraddoldebau iechyd, a sut ydych chi'n bwriadu mynd i'r afael â hynny?
Thanks very much. Well, you're right, and I think we just have to constantly be trying to learn from what works. So, for example, we are now targeting screening when it comes to bowel cancer, and people are sent a faecal immunochemical test, and it's been really interesting to see that people seem to be more willing to use the FIT test that they can do at home, rather than coming into a surgery and whatever. So, we've got to use more of what works and make sure we target, as you say, some of those deprived areas. And there's some great work being done, for example, I think, in Dawn Bowden's constituency in relation to trying to encourage men in particular to take up the opportunity of bowel cancer screening, and the Moondance Foundation have been pushing this and just trying to make sure that, actually, we engage people, get people to take up the opportunities when they're given them. And so I think we've learnt quite a lot through the vaccination programme of leaving nobody behind, and we've just got to keep on using those techniques now when it comes to chasing down people who are not taking up those opportunities when it comes to screening.
Diolch yn fawr iawn. Wel, rydych chi'n iawn, ac rwy'n credu fod yn rhaid i ni geisio dysgu yn barhaus o'r hyn sy'n gweithio. Felly, er enghraifft, rydym ni bellach yn targedu sgrinio o ran canser y coluddyn, ac anfonir prawf imiwnocemegol ar ysgarthion i bobl, ac mae wedi bod yn ddiddorol iawn gweld ei bod yn ymddangos bod pobl yn fwy parod i ddefnyddio'r prawf FIT y gallan nhw ei wneud gartref, yn hytrach na dod i feddygfa ac ati. Felly, mae'n rhaid i ni ddefnyddio mwy o'r hyn sy'n gweithio a gwneud yn siŵr ein bod ni'n targedu, fel rydych chi'n dweud, rhai o'r ardaloedd difreintiedig hynny. Ac mae gwaith gwych yn cael ei wneud, er enghraifft, rwy'n credu, yn etholaeth Dawn Bowden o ran ceisio annog dynion yn arbennig i fanteisio ar y cyfle i sgrinio am ganser y coluddyn, ac mae Sefydliad Moondance wedi bod yn gwthio hyn ac yn ceisio gwneud yn siŵr ein bod ni, mewn gwirionedd, yn ymgysylltu â phobl, yn cael pobl i fanteisio ar y cyfleoedd pan y'u rhoddir iddyn nhw. Ac felly rwy'n credu ein bod ni wedi dysgu cryn dipyn drwy'r rhaglen frechu o adael neb ar ôl, ac mae'n rhaid i ni barhau i ddefnyddio'r technegau hynny nawr o ran mynd ar drywydd pobl sydd ddim yn manteisio ar y cyfleoedd hynny pan ddaw i sgrinio.
Diolch, Dirprwy Lywydd. I move the motion before us. I find it difficult in addressing, or disappointing in addressing, this motion, which relates to a Bill implementing the free trade agreements with Australia and New Zealand, that we are yet again having to discuss another case in which the UK Government is seeking consent from the Senedd to a Bill that contains concurrent powers for which the UK Government will not include equivalent powers for Welsh Ministers. We've tabled the motion to ensure the Senedd can explore the issues around the Bill and reach its decision on consent. Members will see, in the memorandum, that we recommend withholding consent. There are good legal and constitutional reasons for this. Members will note the Welsh Government considers that clause 1 is central to the Bill and gives powers to all four Governments in the UK. To the extent that the power is given to Welsh Ministers, this Bill is within the Senedd's competence and comprises a devolved matter within the meaning of section 107 (6) of the Government of Wales Act 2006. All other provisions within the Bill follow from the powers set out in clause 1, and, as such, almost all provisions of the Bill require consent. The function of the Bill itself is fairly narrow and technical in nature in that it would allow the UK Government, as well as Welsh Ministers, the power to make changes to domestic legislation stemming from the UK Government's procurement obligations under the agreements with Australia and New Zealand. This Bill must be passed and receive Royal Assent before the agreements enter into force to ensure that the UK is not in breach of its obligations detailed in those agreements. However, this Bill will then be repealed by another Bill that is currently progressing through the UK Parliament - the Procurement Bill. This second Bill also requires the legislative consent of the Senedd. And a letter of consent memorandum to that Bill has already been laid with the Senedd and will of course be the subject of its own debate in due course. As I've said, despite the title, the function of the Bill is narrow. The changes needed to our procurement system as a result of the Australia and New Zealand free trade agreements are small and technical in nature and they were discussed fully with officials before they were tabled during negotiations. I know some Members have broader opinions on these trade deals, but with regards to the changes needed in respect of procurement I have no issues of concern. My concerns for this Bill lie solely in the nature of the powers it contains. Despite extensive discussions at both ministerial and official level, the UK Government has continued to resist our calls for equivalent powers to be included on the face of the Bill and is unwilling to grant equivalent or concurrent plus powers. The UK Government has committed to consult with devolved Governments before using the powers, but, as the debate at the Second Reading of the House of Lords heard, devolved matters are not just matters for consultation. We believe that there is no reason why equivalent or concurrent plus powers, at the very least, could not have been included in this Bill. The current approach of the UK Government is not consistent with the principle of devolution, and, as the First Minister and the Counsel General have made clear, equivalent powers should be the default when issues affecting devolution arise. Whilst I do have concerns around some of the content of these agreements, as we've discussed before, and its potential impact on some of the sectors, we have made it clear to the UK Government that we would not seek to hold up or impede the implementation of the negotiated trade agreements. The Welsh Government is fully committed to playing its part in complying with the obligations of such international agreements. This is the second Bill introduced specifically to implement the UK Government's new trade policy following our departure from the EU. In the case of the original Trade Bill, we did recommend that Senedd consent be granted. However, that Bill related purely to the roll-over of existing trade deals that we were party to as a member of the EU. We were led to believe at the time by the UK Government that this would not set a precedent for future legislation. We do not wish for this perceived precedent continue in the case of this Bill. I know that this concern is shared by Legislation, Justice and Constitution committee. The committee wrote to me in July 2022 to outline their concerns that the approach taken to the use of concurrent powers in this Bill risks setting a precedent for future legislation and for trade agreements. I agree with their assessment. We do not expect there to be any amendments to the Bill that would include a change to the concurrent powers proposed. I'm grateful to the committee for their ongoing work scrutinising the LCM and the Bill and ask Members to support the Government recommendation and, on the vote, to withhold consent.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig o'n blaenau. Rwy'n ei chael hi'n anodd, neu'n siomedig wrth fynd i'r afael â'r cynnig hwn, sy'n ymwneud â Bil yn gweithredu'r cytundebau masnach rydd gydag Awstralia a Seland Newydd, ein bod ni unwaith eto yn gorfod trafod achos arall lle mae Llywodraeth y DU yn ceisio cydsyniad gan y Senedd i Fil sy'n cynnwys pwerau cydredol na wnaiff Llywodraeth y DU gynnwys pwerau cyfatebol ar eu cyfer i Weinidogion Cymru. Rydym ni wedi cyflwyno'r cynnig i sicrhau y gall y Senedd archwilio'r materion yn ymwneud â'r Bil a gwneud penderfyniad ar gydsyniad. Bydd yr Aelodau'n gweld, yn y memorandwm, ein bod ni'n argymell gwrthod cydsynio. Ceir rhesymau cyfreithiol a chyfansoddiadol da dros hyn. Bydd yr Aelodau yn gweld bod Llywodraeth Cymru o'r farn bod cymal 1 yn ganolog i'r Bil ac yn rhoi pwerau i bob un o bedair Llywodraeth y DU. I'r graddau y rhoddir y grym i Weinidogion Cymru, mae'r Bil hwn o fewn cymhwysedd y Senedd ac mae'n fater datganoledig yn unol ag ystyr adran 107 (6) Deddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae'r holl ddarpariaethau eraill yn y Bil yn dilyn o'r pwerau a nodir yng nghymal 1, ac, o'r herwydd, mae bron i holl ddarpariaethau'r Bil angen cydsyniad. Mae swyddogaeth y Bil ei hun yn weddol gul a thechnegol ei natur gan y byddai'n rhoi'r grym i Lywodraeth y DU, yn ogystal â Gweinidogion Cymru, wneud newidiadau i ddeddfwriaeth ddomestig sy'n deillio o rwymedigaethau caffael Llywodraeth y DU o dan y cytundebau ag Awstralia a Seland Newydd. Mae'n rhaid i'r Bil hwn gael ei basio a derbyn Cydsyniad Brenhinol cyn i'r cytundebau ddod i rym i sicrhau nad yw'r DU yn mynd yn groes i'w rhwymedigaethau a nodir yn y cytundebau hynny. Fodd bynnag, bydd y Bil hwn wedyn yn cael ei ddiddymu gan Fil arall sy'n mynd drwy Senedd y DU ar hyn o bryd - y Bil Caffael. Mae'r ail Fil hwn hefyd angen cydsyniad deddfwriaethol y Senedd. Ac mae memorandwm llythyr cydsynio i'r Bil hwnnw eisoes wedi'i gyflwyno i'r Senedd ac wrth gwrs bydd yn destun ei ddadl ei hun maes o law. Fel y dywedais, er gwaethaf y teitl, mae swyddogaeth y Bil yn gul. Mae'r newidiadau sydd eu hangen i'n system gaffael o ganlyniad i gytundebau masnach rydd Awstralia a Seland Newydd yn fach a thechnegol eu natur a chawsant eu trafod yn llawn gyda swyddogion cyn iddyn nhw gael eu cyflwyno yn ystod trafodaethau. Gwn fod gan rai Aelodau safbwyntiau ehangach ar y cytundebau masnach hyn, ond o ran y newidiadau sydd eu hangen o ran caffael nid oes gen i unrhyw faterion sy'n peri pryder. Mae fy mhryderon am y Bil hwn yn ymwneud yn llwyr â natur y pwerau y mae'n eu cynnwys. Er gwaethaf trafodaethau helaeth ar lefel weinidogol a swyddogol, mae Llywodraeth y DU wedi parhau i wrthod ein galwadau i bwerau cyfatebol gael eu cynnwys ar wyneb y Bil ac mae'n amharod i roi pwerau cyfatebol neu gydredol plws. Mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ymgynghori â'r Llywodraethau datganoledig cyn defnyddio'r pwerau, ond, fel y clywodd y ddadl yn ystod yr Ail Ddarlleniad yn Nhŷ'r Arglwyddi, nid materion i ymgynghori arnyn nhw'n unig yw materion datganoledig. Rydym ni'n credu nad oes unrhyw reswm pam na ellid fod wedi cynnwys pwerau cyfatebol neu gydredol plws, o leiaf, yn y Bil hwn. Nid yw dull presennol Llywodraeth y DU yn gyson ag egwyddor datganoli, ac, fel y mae'r Prif Weinidog a'r Cwnsler Cyffredinol wedi ei gwneud yn eglur, pwerau cyfatebol ddylai fod yr opsiwn diofyn pan fydd materion sy'n effeithio ar ddatganoli yn codi. Er bod gen i bryderon ynghylch rhywfaint o gynnwys y cytundebau hyn, fel yr ydym ni wedi ei drafod o'r blaen, a'i effaith bosibl ar rai o'r sectorau, rydym ni wedi ei gwneud yn eglur i Lywodraeth y DU na fyddem ni'n ceisio arafu na rhwystro gweithrediad y cytundebau masnach a sicrhawyd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i chwarae ei rhan i gydymffurfio â rhwymedigaethau cytundebau rhyngwladol o'r fath. Dyma'r ail Fil a gyflwynwyd yn benodol i weithredu polisi masnach newydd Llywodraeth y DU yn dilyn ein hymadawiad â'r UE. Yn achos y Bil Masnach gwreiddiol, fe wnaethom ni argymell y dylid rhoi cydsyniad y Senedd. Fodd bynnag, roedd y Bil hwnnw'n ymwneud â pharhau cytundebau masnach presennol yr oeddem ni'n rhan ohonyn nhw fel aelod o'r UE yn unig. Cawsom reswm i gredu ar y pryd gan Lywodraeth y DU na fyddai hyn yn gosod cynsail ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol. Nid ydym yn dymuno i'r cynsail tybiedig hwn barhau yn achos y Bil hwn. Gwn fod y pryder hwn yn cael ei rannu gan y pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Ysgrifennodd y pwyllgor ataf ym mis Gorffennaf 2022 i amlinellu eu pryderon bod y dull a fabwysiadwyd i ddefnyddio pwerau cydredol yn y Bil hwn mewn perygl o osod cynsail ar gyfer deddfwriaeth yn y dyfodol ac ar gyfer cytundebau masnach. Rwy'n cytuno â'u hasesiad. Nid ydym yn disgwyl y bydd unrhyw welliannau i'r Bil a fyddai'n cynnwys newid i'r pwerau cydredol a gynigir. Rwy'n ddiolchgar i'r pwyllgor am eu gwaith parhaus yn craffu ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol a'r Bil a gofynnaf i'r Aelodau gefnogi argymhelliad y Llywodraeth a, pan ddaw'n amser pleidleisio, gwrthod cydsyniad.
Diolch, Dirprwy Lywydd. We laid our report on this LCM on 23 November 2022. We drew two conclusions and made three recommendations, and we're very grateful to the Minister for his response to our report. As the Minister has said, the Bill amends procurement legislation to meet the requirements of the UK-Australia and UK-New Zealand free trade agreements, but is to be repealed by the UK Government's Procurement Bill, should that Bill be enacted. Now, we agreed with the Welsh Government's assessment that all the clauses and Schedules listed in the memorandum fall within a purpose within the legislative competence of the Senedd, as described in Standing Order 29. However, we also recommended that Senedd's consent should also be sought for clause 4 and paragraph 4 of Schedule 2. The Minister did not accept our view on clause 4, because he maintains it is a technical provision. However, just to point out, on that specific point, there is a consent memorandum currently laid before the Senedd for the Retained EU Law (Revocation and Reform) Bill, which does indeed list so-called technical clauses as clauses requiring the Senedd's consent. So, we remain of the view that consent for such clauses should be required. It's a point of disagreement. In response to a question we raised, the Minister told us that he shared our concerns, as he's just referred to in his comments, about the increased use of concurrent powers in UK Bills. He also told us that, at the very least, the Welsh Government would need concurrent plus powers being included in the TANZ Bill, as I'll refer to it, before we could recommend the Senedd gives its consent. Now, we believe the inclusion of powers for the Welsh Ministers in the TANZ Bill equivalent to those provided to the UK Ministers would indeed be the best available option. However, to overcome the issue of the inclusion of concurrent powers in the Bill, we did explore with the Minister why he could not bring forward a Bill equivalent to the UK Government's Bill before the Senedd. Further, given the Minister's reasoning that the legislation was time critical - and we understand that - we asked what the barriers were to seeking to introduce an emergency Bill to this Senedd. Now, given the deadline to which the UK Government is working, the Minister told us that he didn't believe that there was sufficient time available to bring forward an emergency Bill, or that this would be a proportionate approach given the scope of the provisions in this legislation. But it takes us to a matter of principle for our committee. We don't consider it appropriate for Welsh Government to use arguments - as it did indeed in this memorandum - relating to the Senedd's timetable for scrutiny, or the capacity, in order to justify using a UK Bill to legislate in a devolved area. This is a point we've made several times before. We stick by it. We reiterate that point today. The Minister also told us that a Senedd Bill would not, of itself, overcome the inclusion of concurrent powers in the TANZ Bill, because a Senedd Bill could not prevent the TANZ Bill giving powers to UK Ministers to implement legislative changes in Wales. And the Minister told us this could therefore lead to concurrent powers, albeit contained in different Acts. However, this leads me on to another really important point of principle, which I wish to highlight again, which this committee stands on. By pursuing a separate Welsh Bill, the Welsh Ministers, subject to the views of this Senedd, would have been able to create the powers it needs, rather than having to negotiate for their inclusion in the TANZ Bill. And whilst we do accept that a Welsh Bill could not prevent the TANZ Bill giving powers to UK Ministers to implement legislative changes in Wales, it would, however, change the nature of the conversation between Governments. In addition, and significantly, it would also change the nature of the question put to this Senedd on the matter of consent. Now, this issue may actually be of little consequence, given the intended repeal of the TANZ Bill should it be enacted, but, as a point of principle, it remains valid, so we draw it to the attention of the Senedd. And, finally, on the third recommendation, we're really grateful for the response we received in December, noting that meetings were being held with the UK Government to ensure dialogue continued about the disagreements on the Bill. Now that we're at the point of the debate, though, we would have found it helpful - I don't know if the Minister can touch on this as a response - in advance of today's proceedings, to learn whether those issues he referred to about the concurrent powers had been resolved to the Minister's satisfaction. We hear today that this is not the case indeed. So, Minister, just two questions I wonder if you could refer to in your remarks there. First of all, what are the implications today if the Senedd does refuse consent, and, has the Minister reflected at all on the decision not to bring forward his own Bill as an alternative route? Diolch yn fawr iawn.
Diolch, Dirprwy Lywydd. Fe wnaethom ni gyflwyno ein hadroddiad ar y memorandwm cydsyniad deddfwriaethol hwn ar 23 Tachwedd 2022. Fe wnaethom ni ddod i ddau gasgliad a gwneud tri argymhelliad, ac rydym ni'n ddiolchgar iawn i'r Gweinidog am ei ymateb i'n hadroddiad. Fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r Bil yn diwygio deddfwriaeth gaffael i fodloni gofynion cytundebau masnach rydd y DU-Awstralia a'r DU-Seland Newydd, ond bydd yn cael ei ddiddymu gan Fil Caffael Llywodraeth y DU, os caiff y Bil hwnnw ei ddeddfu. Nawr, roeddem ni'n cytuno ag asesiad Llywodraeth Cymru bod yr holl gymalau ac Atodlenni a restrir yn y memorandwm o fewn diben sy'n cyd-fynd â chymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, fel y disgrifiwyd yn Rheol Sefydlog 29. Fodd bynnag, argymhellwyd gennym hefyd y dylid gofyn am gydsyniad y Senedd i gymal 4 a pharagraff 4 Atodlen 2 hefyd. Ni dderbyniodd y Gweinidog ein barn ar gymal 4, gan ei fod yn honni ei fod yn ddarpariaeth dechnegol. Fodd bynnag, dim ond i nodi, ar y pwynt penodol hwnnw, mae memorandwm cydsyniad sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd ar hyn o bryd ar gyfer Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir (Dirymu a Diwygio), sydd yn wir yn rhestru cymalau technegol fel y'u gwelir fel cymalau sydd angen cydsyniad y Senedd. Felly, rydym ni'n parhau i fod o'r farn y dylai cydsyniad ar gyfer cymalau o'r fath fod yn ofynnol. Mae'n destun anghytundeb. Mewn ymateb i gwestiwn a godwyd gennym, dywedodd y Gweinidog wrthym ni ei fod yn rhannu ein pryderon, fel y mae newydd sôn yn ei sylwadau, am y defnydd cynyddol o bwerau cydredol ym Miliau'r DU. Dywedodd wrthym hefyd y byddai Llywodraeth Cymru, o leiaf, angen i bwerau cydredol plws gael eu cynnwys yn y Bil TANZ, fel y byddaf yn cyfeirio ato, cyn y gallem ni argymell y dylai'r Senedd gydsynio. Nawr, rydym ni'n credu yn wir mai cynnwys pwerau i Weinidogion Cymru yn y Bil TANZ sy'n cyfateb i'r rhai a ddarperir i Weinidogion y DU fyddai'r opsiwn gorau sydd ar gael. Fodd bynnag, i oresgyn y mater o gynnwys pwerau cydredol yn y Bil, fe wnaethom ni archwilio gyda'r Gweinidog pam na allai gyflwyno Bil sy'n cyfateb i Fil Llywodraeth y DU gerbron y Senedd. Hefyd, o ystyried rhesymeg y Gweinidog amser yn hollbwysig o ran y ddeddfwriaeth - ac rydym ni'n deall hynny - fe wnaethom ni ofyn beth oedd y rhwystrau i geisio cyflwyno Bil brys i'r Senedd hon. Nawr, o gofio'r dyddiad terfyn y mae Llywodraeth y DU yn gweithio yn unol ag ef, dywedodd y Gweinidog wrthym nad oedd yn credu bod digon o amser ar gael i gyflwyno Bil brys, nac y byddai hwn yn ddull cymesur o ystyried cwmpas y darpariaethau yn y ddeddfwriaeth hon. Ond mae'n mynd â ni at fater o egwyddor i'n pwyllgor. Nid ydym yn credu ei bod hi'n briodol i Lywodraeth Cymru ddefnyddio dadleuon - fel y gwnaeth yn y memorandwm hwn yn wir - yn ymwneud ag amserlen y Senedd ar gyfer craffu, na'r capasiti, er mwyn cyfiawnhau defnyddio Bil y DU i ddeddfu mewn maes datganoledig. Mae hwn yn bwynt yr ydym ni wedi ei wneud sawl gwaith o'r blaen. Rydym ni'n cadw ato. Rydym ni'n ail-bwysleisio'r pwynt hwnnw heddiw Dywedodd y Gweinidog wrthym ni hefyd na fyddai Bil Senedd, ohono'i hun, yn goresgyn cynnwys pwerau cydredol yn y Bil TANZ, gan na allai Bil Senedd atal Bil TANZ rhag rhoi pwerau i Weinidogion y DU weithredu newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru. A dywedodd y Gweinidog wrthym y gallai hyn arwain felly at bwerau cydredol, er y bydden nhw wedi'u cynnwys mewn gwahanol Ddeddfau. Fodd bynnag, mae hyn yn fy arwain at bwynt egwyddor arall pwysig iawn, yr hoffwn dynnu sylw ato eto, y mae'r pwyllgor hwn yn glynu wrtho. Trwy fynd ar drywydd Bil ar wahân i Gymru, byddai Gweinidogion Cymru, yn amodol ar safbwyntiau'r Senedd hon, wedi gallu creu'r pwerau sydd eu hangen arni, yn hytrach na gorfod cytuno ar eu cynnwys yn y Bil TANZ. Ac er ein bod ni'n derbyn na allai Bil Cymru atal Bil TANZ rhag rhoi pwerau i Weinidogion y DU weithredu newidiadau deddfwriaethol yng Nghymru, byddai, fodd bynnag, yn newid natur y sgwrs rhwng Llywodraethau. Hefyd, ac yn arwyddocaol, byddai hefyd yn newid natur y cwestiwn sy'n cael ei ofyn i'r Senedd hon ar fater cydsynio. Nawr, gall y mater hwn fod o fawr o bwys mewn gwirionedd, o ystyried diddymiad arfaethedig y Bil TANZ os caiff ei ddeddfu, ond, fel pwynt egwyddor, mae'n dal i fod yn ddilys, felly rydym ni'n tynnu sylw'r Senedd ato. Ac, yn olaf, ar y trydydd argymhelliad, rydym ni'n ddiolchgar iawn am yr ymateb a gawsom ni ym mis Rhagfyr, yn nodi bod cyfarfodydd yn cael eu cynnal gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod deialog yn parhau ynghylch yr anghytuno ar y Bil. Nawr ein bod ni wedi cyrraedd y drafodaeth, fodd bynnag, byddai wedi bod o gymorth i ni - nid wyf i'n gwybod a all y Gweinidog gyfeirio at hyn fel fel ymateb - cyn trafodion heddiw, darganfod a oedd y materion hynny y cyfeiriodd atyn nhw ynghylch y pwerau cydredol wedi cael eu datrys er boddhad y Gweinidog. Rydym ni'n clywed heddiw nad yw hynny'n wir. Felly, Gweinidog, dim ond dau rwy'n meddwl tybed a allech chi gyfeirio atyn nhw yn eich sylwadau yn y fan yna. Yn gyntaf oll, beth yw'r goblygiadau heddiw os yw'r Senedd yn gwrthod cydsynio, ac, a yw'r Gweinidog wedi myfyrio o gwbl ar y penderfyniad i beidio â chyflwyno ei Fil ei hun fel llwybr amgen? Diolch yn fawr iawn.
The Welsh Conservative group will be supporting the LCM today. I know that the Senedd has discussed the merits of the Australia and New Zealand free trade agreement on a number of occasions. And, as the Minister stated, the LCM relates to a Bill that ensures that relevant measures are introduced so that the trade agreement can be implemented. As I understand, Welsh Government officials have had discussions with UK Government officials around the changes required to the procurement chapters, which is to be welcomed, although I do note that they were not involved in the development of the Bill itself. As such, Deputy Presiding Officer, I would be interested to ask the Minister more broadly about what changes were required to Welsh procurement rules. And, how does the Minister envisage using the powers provided for within the Bill to the Welsh Government in future years? Deputy Presiding Officer, we know that the Minister is currently opposing consent due to the inclusion of concurrent powers in clause 1, as he's already explained. The Minister's letter to the Legislation, Justice and Constitution Committee, though, dated 14 December, states that he and his officials recently held a constructive meeting with Nigel Huddleston, the Minister for International Trade, and that it had been agreed that more meetings would be held about the Bill. Therefore, can I ask the Minister whether the issues around the use of concurrent powers were raised in that meeting, whether the Minister for International Trade provided any additional justification for its inclusion, and was the Minister more receptive to finding a solution that was acceptable to both Governments?
Bydd grŵp y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol heddiw. Gwn fod y Senedd wedi trafod rhinweddau cytundeb masnach rydd Awstralia a Seland Newydd ar sawl achlysur. Ac, fel y dywedodd y Gweinidog, mae'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol yn ymwneud â Bil sy'n sicrhau bod mesurau perthnasol yn cael eu cyflwyno fel bod modd gweithredu'r cytundeb masnach. Fel yr wyf i'n deall, mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi cael trafodaethau gyda swyddogion Llywodraeth y DU ynghylch y newidiadau sydd eu hangen i'r penodau caffael, sydd i'w groesawu, er fy mod i'n nodi nad oedden nhw'n rhan o ddatblygiad y Bil ei hun. O'r herwydd, Dirprwy Lywydd, byddai gen i ddiddordeb mewn holi'r Gweinidog yn ehangach ynghylch pa newidiadau oedd eu hangen i reolau caffael Cymru. A sut mae'r Gweinidog yn rhagweld defnyddio'r pwerau y darperir ar eu cyfer yn y Bil i Lywodraeth Cymru mewn blynyddoedd i ddod? Dirprwy Lywydd, rydym ni'n gwybod bod y Gweinidog yn gwrthwynebu cydsyniad ar hyn o bryd oherwydd cynnwys pwerau cydredol yng nghymal 1, fel y mae eisoes wedi ei egluro. Fodd bynnag, mae llythyr y Gweinidog at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad, dyddiedig 14 Rhagfyr, yn nodi ei fod ef a'i swyddogion wedi cael cyfarfod adeiladol yn ddiweddar gyda Nigel Huddleston, y Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol, ac y cytunwyd y byddai mwy o gyfarfodydd yn cael eu cynnal am y Bil. Felly, a gaf i ofyn i'r Gweinidog a godwyd y materion ynghylch defnyddio pwerau cydredol yn y cyfarfod hwnnw, a wnaeth y Gweinidog dros Fasnach Ryngwladol roi unrhyw gyfiawnhad ychwanegol dros ei gynnwys, ac a oedd y Gweinidog yn fwy parod i ddod o hyd i ateb a oedd yn dderbyniol i'r ddwy Lywodraeth?
Well, this Senedd should not support this LCM in any way. Supporting this LCM would be a complete betrayal of Welsh farmers, and would leave our agricultural sector vulnerable to the risk of being undermined completely by red meat producers on the other side of the world. The Government has several progressive policies, such as ambitious environmental targets and local procurement policies, never mind legislation for future generations, to name a few. Enabling this LCM today would run counter to all of these policies. Speaking to butchers in Wales, there has been a significant increase in the lamb coming here from Aotearoa already, and the result of this is evident today, as we see that the price of lamb is significantly lower than it was a year ago. This agreement is about to lead to a significant fall in the GVA of Welsh agriculture - £50 million, according to the estimates of the Farmers Union of Wales, not to mention the millions that have been lost as the Westminster Government fail to keep their word about agricultural compensation following Brexit. Indeed, the farmers that I speak to in Australia and Aotearoa can't believe their luck that the United Kingdom has agreed to a deal that is so one-sided in their favour. Our small farmers are the backbone of our rural economy in Wales - that's what Samuel Kurtz said last night. I agree with him completely. But more than that, they're essential to the continuity of the language and our culture. We can't turn our backs on them. We have to support the sector and ensure that small farms in Wales continue to punctuate our glorious landscapes in Wales as they protect and nurture our land. We can't betray our farmers by showing any kind of support for the agreement between the United Kingdom and Australia and Aotearoa. So, will the Government bring its own Bill forward? Thank you very much.
Wel, ni ddylai'r Senedd yma gefnogi'r LCM yma ar unrhyw gyfrif. Byddai cefnogi'r cynnig yn bradychu ffermwyr Cymru, ac yn gadael ein sector amaethyddol yn agored i gael ei thanseilio'n llwyr gan gynhyrchwyr cig coch o ben draw'r byd. Mae gan y Llywodraeth yma sawl polisi blaengar, megis targedau uchelgeisiol amgylcheddol, polisïau caffael lleol, heb sôn am ddeddfwriaeth cenedlaethau'r dyfodol, ymhlith eraill. Byddai galluogi'r cydsyniad deddfwriaethol yma heddiw yn mynd yn groes i bob un o'r polisïau yma. O siarad efo bwtsieriaid Cymru, mae yna gynnydd sylweddol yn y cig oen sydd yn dod yma o Aotearoa eisoes, ac mae canlyniad hyn yn amlwg heddiw wrth inni weld pris ŵyn i lawr yn sylweddol ar ble roedden nhw flwyddyn yn ôl. Mae'r cytundeb yma am arwain at gwymp sylweddol yn GVA amaeth Cymru - £50 miliwn o bunnoedd yn ôl amcangyfrifon Undeb Amaethwyr Cymru, heb sôn am y miliynau sydd wedi cael eu colli wrth i Lywodraeth San Steffan beidio â chadw at ei gair ynghylch digolledion amaeth yn sgil Brexit. Yn wir, mae amaethwyr rwy'n siarad â nhw yn Awstralia ac yn Aotearoa yn methu â chredu eu lwc fod y Deyrnas Gyfunol wedi cytuno ar gytundeb sydd mor unochrog o'u plaid nhw. Ein ffermydd bach ydy asgwrn cefn economi wledig Cymru - dyna ddywedodd Samuel Kurtz neithiwr. Dwi'n cytuno'n llwyr efo fo. Ond yn fwy na hynny, maen nhw'n greiddiol i barhad yr iaith a'n diwylliant. Fedrwn ni ddim â throi ein cefnau arnyn nhw. Mae'n rhaid cefnogi'r sector a sicrhau bod ffermydd bach Cymru yn parhau i frithio tirwedd godidog Cymru wrth iddyn nhw warchod a meithrin ein tirwedd. Fedrwn ni ddim bradychu ein ffermwyr drwy ddangos unrhyw fath o gefnogaeth i'r cytundeb rhwng y Deyrnas Gyfunol ac Awstralia ac Aotearoa. Felly, a wnaiff y Llywodraeth ddod â'u Bil eu hunain ymlaen? Diolch yn fawr iawn.
I welcome very much the Minister's speech this evening in asking and recommending that this Senedd does not give consent to this LCM. I think we should be doing that for two reasons: for the constitutional reasons, but also for policy reasons. I agree with my friend, the Chair of our committee. I keep forgetting the name of the committee, but it's a very good committee. [ Laughter.] Legislation, justice and constitution. I do wish - . I'm far better with single words than acronyms, but it's a very good - [ Interruption.] It might be my age. It's more likely to be other things, but we won't go there. So, I'm very grateful to him, and I do agree with the points he makes about concurrent powers and the points he makes about the Welsh Government bringing forward its own legislation. But I think there's a more fundamental point at play with this LCM, and that is the nature of parliamentary scrutiny. The Parliaments, wherever you happen to be, in Westminster, here, Holyrood, or wherever, exist to scrutinise the actions of the Executive, and that is a key, fundamental part of our role. Last night in Westminster, legislation was passed that allows Ministers to legislate. That should never happen, and as a legislature, we should never allow that to happen. We should never allow Welsh Ministers the right to legislate in our name, and it shouldn't happen in Westminster either. But what this does is to enable Westminster Ministers to negotiate, without parliamentary scrutiny, trade deals that will have a profound effect on the livelihoods of people, wherever they happen to be in the United Kingdom. That should be subject to parliamentary control and parliamentary scrutiny before the negotiations start, and not simply a Bill that will be whipped through late at night, after the negotiations have concluded. We need to be able to say, very, very clearly, that all deals of this sort should be subject to clear parliamentary scrutiny at all stages, and we should all, on all sides of the Chamber, agree with that, because you on the Conservative benches insist on scrutinising Welsh Ministers. I welcome your scrutiny. I welcome that scrutiny. But I want to see the same scrutiny in London as we have here. The second issue is that of policy, and the points that have already been made are very true and fair. What really worries me about this legislation is that it demonstrates that the UK Government are turning their backs on the farming community and embracing the money people in the City of London. This might be free trade, but it's not fair trade, and what we need are trade treaties that are hard-wired with our values. A few years ago, I met in Brussels the New Zealand ambassador to the EU and to Brussels. We had a long conversation about the nature of trade agreements, and he was very clear: trade agreements are not simply about trade. They're about who we are and what our contribution to the world is going to be. He spoke at length about New Zealand's values - the values of the Government of New Zealand - informing what they wanted to do and what sort of deals they were searching for when they were negotiating. And what we've got here is a UK Government that doesn't seem to have any values except making money for their friends in the City of London, and it doesn't matter who suffers as a consequence of that. And the sheep farmers of Wales deserve better than that. They deserve better than that, because they have farmed these hills and mountains for generations. It's one of the toughest jobs in this country today, and they deserve the support of people who say they speak on their behalf. And in this treaty, they've been let down and let down badly, and backs have been turned by a Government more interested in simply placating Tory donors. [ Interruption.] I've said enough about you, so I should take an intervention.
Rwy'n croesawu'n fawr araith y Gweinidog heno wrth ofyn ac argymell nad yw'r Senedd hon yn rhoi cydsyniad i'r cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn. Rwy'n credu y dylem ni fod yn gwneud hynny am ddau reswm: am y rhesymau cyfansoddiadol, ond hefyd am resymau polisi. Cytunaf gyda fy ffrind, Cadeirydd ein pwyllgor. Rwy'n cadw anghofio enw'r pwyllgor, ond mae'n bwyllgor da iawn. [ Chwerthin.] Deddfwriaeth, cyfiawnder a'r cyfansoddiad. Rwy'n dymuno - . Rwy'n llawer gwell gyda geiriau unigol na byrfoddau, ond mae'n dda iawn - [ Torri ar draws.] Efallai mai fy oedran i ydyw. Mae'n fwy tebygol o fod yn bethau eraill, ond awn ni ddim yno. Felly, rwy'n ddiolchgar iawn iddo, ac rwy'n cytuno gyda'r pwyntiau mae'n eu gwneud am bwerau cydredol a'r pwyntiau mae'n eu gwneud am Lywodraeth Cymru yn cyflwyno ei deddfwriaeth ei hun. Ond rwy'n credu bod pwynt mwy sylfaenol ynghlwm wrth y cynnig cydsyniad deddfwriaethol hwn, sef natur craffu seneddol. Mae'r Seneddau, ble bynnag rydych chi'n digwydd bod, yn San Steffan, yma, Holyrood, neu ble bynnag, yn bodoli i graffu ar weithredoedd y Gweithrediaeth, ac mae hynny'n rhan allweddol, sylfaenol o'n rôl. Neithiwr yn San Steffan, cafodd deddfwriaeth ei phasio sy'n caniatáu i Weinidogion ddeddfu. Ni ddylai hynny fyth ddigwydd, ac fel deddfwrfa, ddylen ni byth ganiatáu i hynny ddigwydd. Ddylen ni byth ganiatáu i Weinidogion Cymru gael yr hawl i ddeddfu yn ein henw ni, ac ni ddylai ddigwydd yn San Steffan chwaith. Ond beth mae hyn yn ei wneud yw galluogi Gweinidogion San Steffan i drafod, heb graffu seneddol, cytundebau masnach fydd yn cael effaith ddofn ar fywoliaeth pobl, ble bynnag maen nhw'n digwydd bod yn y Deyrnas Unedig. Dylai hynny fod yn destun rheolaeth seneddol a chraffu seneddol cyn i'r trafodaethau ddechrau, ac nid yn unig Bil fydd yn cael ei ruthro drwodd yn hwyr yn y nos, ar ôl i'r trafodaethau ddod i ben. Mae angen i ni allu dweud, yn glir iawn, iawn, y dylai pob bargen o'r math yma fod yn destun craffu seneddol clir ar bob cam, ac fe ddylen ni oll, ar bob ochr i'r Siambr, gytuno â hynny, oherwydd eich bod chi ar y meinciau Ceidwadol yn mynnu craffu ar Weinidogion Cymru. Rwy'n croesawu eich craffu. Rwy'n croesawu'r craffu hwnnw. Ond hoffwn weld yr un craffu yn Llundain ag sydd gennym ni yma. Yr ail fater yw polisi, ac mae'r pwyntiau sydd eisoes wedi'u gwneud yn wir ac yn deg iawn. Yr hyn sy'n fy mhoeni'n fawr am y ddeddfwriaeth hon yw ei bod yn dangos bod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn troi eu cefnau ar y gymuned ffermio ac yn croesawu'r pobl pres yn Ninas Llundain. Gallai hyn fod yn fasnach rydd, ond nid yw'n fasnach deg, a'r hyn sydd ei angen arnom yw cytundebau masnach sy'n cyfateb i'n gwerthoedd. Ychydig flynyddoedd yn ôl, cwrddais ym Mrwsel â llysgennad Seland Newydd i'r UE ac i Frwsel. Cawsom sgwrs hir am natur cytundebau masnach, ac roedd yn glir iawn: nid yw cytundebau masnach yn ymwneud â masnach yn unig. Maen nhw'n ymwneud â phwy ydym ni a beth fydd ein cyfraniad ni i'r byd. Siaradodd yn helaeth am werthoedd Seland Newydd - gwerthoedd Llywodraeth Seland Newydd - gan hysbysu'r hyn roedden nhw eisiau ei wneud a pha fath o gytundebau yr oedden nhw'n chwilio amdanyn nhw pan oedden nhw'n trafod. A'r hyn sydd gennym ni yma yw Llywodraeth y DU sydd ddim yn ymddangos bod ganddyn nhw unrhyw werthoedd heblaw gwneud arian i'w ffrindiau yn Ninas Llundain, a does dim ots pwy sy'n dioddef o ganlyniad i hynny. Ac mae ffermwyr defaid Cymru yn haeddu gwell na hynny. Maen nhw'n haeddu gwell na hynny, oherwydd eu bod wedi ffermio'r bryniau a'r mynyddoedd yma ers cenedlaethau. Dyma un o'r swyddi anoddaf yn y wlad yma heddiw, ac maen nhw'n haeddu cefnogaeth pobl sy'n dweud eu bod yn siarad ar eu rhan. Ac yn y cytundeb hwn, maen nhw wedi cael eu siomi a'u siomi'n wael, ac mae cefnau wedi'u troi gan Lywodraeth sydd â mwy o ddiddordeb mewn dim ond ceisio ennill ewyllys da rhoddwyr Torïaidd. [ Torri ar draws.] Rydw i wedi dweud digon amdanoch chi, felly dylwn i dderbyn ymyriad.
I'm grateful to you for taking the intervention. Look, whenever a trade deal is negotiated, there are always going to be competing interests within each nation that is doing the negotiations, both pros and cons. What the UK Government has to do is to try to get the best possible deal for the United Kingdom as a whole, as I would expect the Welsh Government would try to do if it was having to negotiate - it would try to get the best deal for Wales as a whole, and that may be of advantage to some parts to Wales and a disadvantage to others. I think the reality is that this is a trade deal that is a good trade deal, which we should all be supporting in the interests of the whole of the UK. And of course it is part and parcel - [ Interruption.]
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn yr ymyriad. Edrychwch, pryd bynnag y trafodir cytundeb masnach, bydd buddiannau o hyd yn cystadlu ym mhob cenedl sy'n gwneud y trafodaethau, yn fanteision ac anfanteision. Yr hyn sy'n rhaid i Lywodraeth y DU ei wneud yw ceisio cael y fargen orau bosib i'r Deyrnas Unedig yn gyffredinol, fel y byddwn i'n disgwyl y byddai Llywodraeth Cymru yn ceisio ei wneud os oedd yn gorfod trafod - byddai'n ceisio cael y fargen orau i Gymru gyfan, a gallai hynny fod o fantais i rai rhannau o Gymru ac anfantais i eraill. Rwy'n credu mai'r realiti yw bod hon yn fargen fasnach sy'n fargen fasnach dda, y dylem ni i gyd fod yn ei chefnogi er budd y DU gyfan. Ac wrth gwrs mae'n rhan - [ Torri ar draws.]
Oh, come on, he's trying to defend the UK Government; give him a chance. [ Laughter. ]
O, dewch o'na, mae'n ceisio amddiffyn Llywodraeth y DU; rhowch gyfle iddo. [ Chwerthin. ]
Just one further point, if I may, because I think this is an interesting discussion. This is part and parcel of unlocking opportunities into wider trade partnerships with blocs in the Asia-Pacific area.
Dim ond un pwynt arall, os caf i, oherwydd rwy'n credu bod hon yn drafodaeth ddiddorol. Mae hyn yn rhan annatod o ddatgloi cyfleoedd i bartneriaethau masnach ehangach gyda gwledydd yn ardal Asia y Môr Tawel.
Well, you've certainly made my case about the need for parliamentary scrutiny, if nothing else. And I don't disagree with you, as it happens, Darren. It's right and proper that government is about choosing and making choices, and the point that I make is that the UK Government has chosen the money-makers in the City of London over the farmers of Wales, and that is exactly the point I'm making. And, in doing so, they've spoken more about themselves than the values of people, whether those people and those farmers are in Wales, England, Scotland or Northern Ireland. And for that reason, this Parliament, and as people who seek to represent the people of Wales, we should say 'no'.
Wel, rydych chi'n sicr wedi cefnogi fy achos ynglŷn â'r angen am graffu seneddol, os dim byd arall. A dydw i ddim yn anghytuno â chi, fel mae'n digwydd, Darren. Mae'n iawn ac yn briodol bod y llywodraeth yn ymwneud â dewis a gwneud dewisiadau, a'r pwynt rwy'n ei wneud yw bod Llywodraeth y DU wedi dewis y bobl sy'n gwneud arian yn Ninas Llundain dros ffermwyr Cymru, a dyna'r union bwynt rwy'n ei wneud. Ac, wrth wneud hynny, maen nhw wedi siarad mwy amdanyn nhw eu hunain na gwerthoedd pobl, boed y bobl hynny a'r ffermwyr hynny yng Nghymru, Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon. Ac am y rheswm hynny, y Senedd hon, ac fel pobl sy'n ceisio cynrychioli pobl Cymru, dylen ni ddweud 'na'.
I call on the Minister for Economy to reply.
Galwaf ar Weinidog yr Economi i ymateb.
I thank Members for all of the various comments and questions that have been raised in the debate. On the policy through the different trade deals, our disagreement with the UK Government is clear. And I respect and understand why both Mabon ap Gwynfor and Alun Davies made comments about that; that's not really the point in the sense of the vote today on the LCM, but we have not resiled from our disagreements on the policies struck by the UK Government. We were clear about that at the time. George Eustice, once he'd left the Government, was also remarkably clear about the drivers for getting this particular deal over the line and the impact that it would have. We understood those tendencies existed within the UK Government, but he did say that in very, very clear terms. What Members are really being asked to do, as the Conservatives want us to, is to agree that elected Members in this Senedd should vote for powers to be taken away from Welsh Ministers to be put in UK Government hands so that they can simply act for us, and indeed what that does to the scrutiny of this Senedd. And Alun Davies is right about that. I just don't see how Members here could say that this is the right course of action for the UK Government to take in the Bill that it proposes. And it shouldn't be a party-political perspective. It shouldn't be about loyalty to the UK Conservatives, saying that we would celebrate and ask others to do that here. And the challenge is - and I understand the point made by the LJC committee - alternative powers in different legislation on the same subject, if we were to take an alternative Bill, and we would be into potential ping-pong between different Governments on the same subject. And actually, this Bill should have a relatively short lifespan. We are genuinely concerned, and it's a regular point of conversation with the Counsel General, about how to address the issue. And I'd remind Members of what the First Minister said last week: once Sewel is breached, the next time it becomes easier, and as it carries on and on it is no longer extraordinary. And the concern is that the choice to override devolution, the powers of Welsh Ministers and this Senedd is becoming more normalised and not accidental within this Government. [ Interruption.]
Diolch i'r Aelodau am yr holl sylwadau a chwestiynau amrywiol sydd wedi eu codi yn y ddadl. O ran y polisi drwy'r gwahanol gytundebau masnach, mae ein hanghytundeb â Llywodraeth y DU yn glir. Ac rwy'n parchu a deall pam y gwnaeth Mabon ap Gwynfor ac Alun Davies sylwadau am hynny; nid dyna'r pwynt mewn gwirionedd yn ystyr y bleidlais heddiw ar y cynnig cydsyniad deddfwriaethol, ond nid ydym wedi adfer o'n hanghytundebau ar y polisïau a luniwyd gan Lywodraeth y DU. Roedden ni'n glir am hynny ar y pryd. Roedd George Eustice, ar ôl iddo adael y Llywodraeth, hefyd yn hynod o glir am yr elfennau o ran cael y cytundeb penodol yma a'r effaith y byddai'n ei gael. Roedden ni'n deall bod y tueddiadau hynny'n bodoli yn Llywodraeth y DU, ond fe wnaeth ddweud hynny mewn termau clir iawn, iawn. Yr hyn y gofynnir i Aelodau ei wneud mewn gwirionedd, fel y mae'r Ceidwadwyr eisiau i ni, yw cytuno y dylai Aelodau etholedig yn y Senedd hon bleidleisio dros gymryd pwerau oddi wrth Weinidogion Cymru i'w rhoi yn nwylo Llywodraeth y DU fel y gallant, yn syml, weithredu drosom, ac yn wir beth mae hynny'n ei wneud i graffu ar y Senedd hon. Ac mae Alun Davies yn iawn am hynny. Dydw i ddim yn gweld sut y gallai Aelodau yma ddweud mai dyma'r camau cywir i Lywodraeth y DU eu cymryd yn y Bil y mae'n ei gynnig. Ac ni ddylai fod yn safbwynt plaid-wleidyddol. Ni ddylai fod am deyrngarwch i Geidwadwyr y DU, gan ddweud y byddem yn dathlu a gofyn i eraill wneud hynny yma. A'r her yw - ac rwy'n deall y pwynt a wnaed gan y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad - pwerau amgen mewn deddfwriaeth wahanol ar yr un pwnc, pe baen ni'n cymryd Bil amgen, a byddem mewn trafodaethau nôl ac ymlaen posibl rhwng gwahanol Lywodraethau ar yr un pwnc. Ac mewn gwirionedd, dylai'r Bil hwn gael hyd oes gymharol fyr. Rydym yn wirioneddol bryderus, ac mae'n bwynt sgwrsio rheolaidd gyda'r Cwnsler Cyffredinol, am sut i fynd i'r afael â'r mater. Ac fe fyddwn i'n atgoffa'r Aelodau o'r hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yr wythnos ddiwethaf: unwaith y bydd Sewel yn cael ei dorri, y tro nesaf mae'n dod yn haws, ac wrth iddo gario ymlaen ac ymlaen nid yw'n rhyfeddol bellach. A'r pryder yw bod y dewis i ddiystyru datganoli, pwerau Gweinidogion Cymru a'r Senedd yma yn dod yn fwy arferol ac nid ar ddamwain o fewn y Llywodraeth hon. [ Torri ar draws.]
The Minister is outside his time.
Mae'r Gweinidog y tu allan i'w amser.
We have constructive conversations with UK Ministers. We don't always end up agreeing and we've not reached agreement on this point. I reiterate, and to conclude: we cannot support consent for this Bill. I therefore ask Members to withhold consent for this Bill and vote against the motion.
Rydym yn cael sgyrsiau adeiladol gyda Gweinidogion y DU. Dydyn ni ddim bob amser yn cytuno yn y pen draw a dydyn ni ddim wedi dod i gytundeb ar y pwynt hwn. Rwyf yn ailadrodd, ac i gloi: ni allwn gefnogi cydsyniad ar gyfer y Bil hwn. Felly, gofynnaf i Aelodau atal cydsyniad ar gyfer y Bil hwn a phleidleisio yn erbyn y cynnig.
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? [ Objection.] There are objections. Therefore, I will defer voting under this item until voting time.
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [ Gwrthwynebiad.] Rwyf wedi clywed gwrthwynebiad, felly gohiriaf y bleidlais ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
Before I go to the vote, I just want to make sure that everybody who's voting remotely has their camera turned on, please, because it is important that we are visible in voting.
Cyn i mi fynd i'r bleidlais, hoffwn wneud yn siŵr bod pawb sy'n pleidleisio o bell â'u camera wedi troi ymlaen, os gwelwch yn dda, achos mae'n bwysig ein bod ni i'n gweld wrth bleidleisio.
We have just one item to vote on this evening, item 10. I call for a vote on the motion, tabled in the name of Vaughan Gething. Open the vote. Close the vote.
Dim ond un eitem sydd i bleidleisio arno heddiw, eitem 10. Galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Vaughan Gething. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais.
I'm just checking, because last week, we had somebody who didn't manage to log on. Did everybody log on and vote? Okay.
Dim ond gwirio ydw i, oherwydd wythnos diwethaf, roedd gennym ni rywun na lwyddodd i fewngofnodi. Wnaeth pawb fewngofnodi a phleidleisio? Iawn.
In favour 15, no abstentions, 36 against. And therefore, the motion is not agreed.
O blaid 15, neb yn ymatal, 36 yn erbyn. Felly mae'r cynnig wedi'i wrthod.
Good morning. I'd like to welcome Members to this meeting of the Culture, Communications, Welsh Language, Sport, and International Relations Committee. We've received apologies this morning from Carolyn Thomas, and Jenny Rathbone is substituting on her behalf. Do Members have any declarations of interest? There are none. We will therefore move on.
Bore da. Hoffwn i groesawi'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Dŷn ni wedi derbyn ymddiheuriad gan Carolyn Thomas, ac mae Jenny Rathbone yma ar ei rhan. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld bod, felly fe wnawn ni symud ymlaen.
Thank you, Chair, and thank you for the invitation to appear before the committee this morning. We're very pleased to have the opportunity, and we are aware, as the stewards of Welsh rugby, that we have a great responsibility, and we're aware that we've disappointed the rugby family across Wales. The experience has been sobering for us, but as the new chair, I am determined to make the changes that are necessary to improve rugby in Wales. You will be aware of some of the changes that we have already announced. Also, Nigel has taken the role of acting chief executive.
Diolch, Cadeirydd, a diolch ichi am y gwahoddiad i ddod i gyflwyno i'r pwyllgor y bore yma. Rŷn ni'n falch iawn o'r cyfle ac rŷn ni'n ymwybodol, fel stiwardiaid rygbi Cymru, fod cyfrifoldeb mawr arnom ni, ac yn ymwybodol ein bod wedi siomi'r teulu rygbi ar draws Cymru. Mae'r profiad wedi ein sobri ni, ond dwi, fel cadeirydd newydd, yn benderfynol o wneud y newidiadau sydd eu hangen i wella ein sefydliadau a rygbi yng Nghymru. Byddwch yn ymwybodol o rai o'r newidiadau rydym wedi eu cyhoeddi. Yn ogystal, mae Nigel wedi cymryd y rôl fel prif weithredwr interim.
Thank you, Chair. Thank you for joining us today.
Diolch, Gadeirydd. Diolch am fod gyda ni heddiw.
We'll move to Alun Davies.
Fe wnawn ni symud at Alun Davies.
Thank you very much for joining us this morning. We appreciate it.
Diolch yn fawr iawn ichi am fod gyda ni y bore yma. Rŷn ni'n ei werthfawrogi fe.
Thank you for your time.
Diolch yn fawr am eich amser.
We will now take a 10-minute break and return with the Deputy Minister in 10 minutes' time. I'll wait to hear that we are in private session.
Byddwn ni nawr yn gorffen am egwyl o 10 munud, a byddwn ni nôl gyda'r Dirprwy Weinidog ymhen 10 munud. Fe wnaf i aros i glywed ein bod ni'n breifat.
Welcome back. We are continuing with this morning's session. We will now move to a session with the Welsh Government. Dawn Bowden, Deputy Minister, could I ask you to introduce your officials for the record?
Croeso nôl. Rydyn ni'n parhau gyda'n sesiynau y bore yma. Nawr rydyn ni'n cynnal sesiwn gyda Llywodraeth Cymru. Dawn Bowden, ein Dirprwy Weinidog, allaf i ofyn i chi gyflwyno eich swyddogion chi ar gyfer y record?
Okay. Okay, thank you. I have had a request from Alun to come in at this point.
Ocê. Ocê, diolch. Dwi wedi cael cais gan Alun i ddod mewn ar hyn hefyd.
Thank you very much for being part of the session this morning.
Diolch yn fawr iawn am fod yn rhan o'r sesiwn y bore yma.
Members, we'll move immediately to item 6, papers to note. I won't read them all out, as there are a number of papers to note. There are papers 6.1 to 6.17. You will wish to note that almost all the items are on our scrutiny of the draft budget. Item 6.3 is on the world cup. Items 6.1, 6.2, 6.4, 6.5 and up to 6.13 are on the draft budget. Items 6.14 to 6.16 are on broadcasting. And item 6.17 is a letter from the Chair of the Legislation, Justice and Constitution Committee. Did anyone wish to make a comment? Heledd.
Aelodau, rŷn ni'n symud yn syth at eitem 6, sef papurau i'w nodi. Mae nifer o bapurau; wnaf i ddim eu darllen nhw i gyd mas. Maen nhw o 6.1 tan 6.17. Byddwch chi eisiau nodi bod bron i bob eitem am ein sgrwtini o'r gyllideb ddrafft. Mae eitem 6.3 am gwpan y byd. Mae eitemau 6.1, 6.2, 6.4, 6.5 lan at 6.13 am y gyllideb ddrafft. Mae 6.14 tan 6.16 am ddarlledu. Mae 6.17 gan gadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a'r Cyfansoddiad. Oedd unrhyw un eisiau nodi unrhyw beth? Heledd.
Just in terms of letter 6.11, I think it's very concerning to receive confirmation from the national library that the assurance isn't there in terms of safety of the national collections. I'd like to understand that better. Also, I'd note that the response from National Museum Wales didn't answer the question specifically in terms of those collections. So, given that we do have a duty in terms of those collections, that's very concerning, and I would like us as a committee to look further into that rather than just noting that letter.
Ie. Jest o ran llythyr 6.11, dwi'n meddwl ei bod hi'n hynod o bryderus i dderbyn cadarnhad gan y llyfrgell genedlaethol nad yw'r sicrwydd yno o ran diogelwch y casgliadau cenedlaethol. Mi fyddwn i'n hoffi deall hynny'n well. Hefyd, o ran nodi, doedd yr ymateb gawson ni gan Amgueddfa Cymru o ran hynny ddim yn ateb y cwestiwn yn benodol o ran y casgliadau. Felly, dwi'n meddwl, a ninnau â dyletswydd o ran y casgliadau, fod hwnna'n rhywbeth pryderus iawn ac mi fyddwn i'n hoffi ein bod ni fel pwyllgor yn edrych yn bellach ac nid dim ond yn nodi'r llythyr hwnnw.
Okay. Everyone content? I think everyone is agreed with that. Did anyone else have any points to raise? I don't see any.
Ocê. Pawb yn hapus? Mae pawb yn edrych yn gytûn gyda hwnna. Ocê. Oedd unrhyw un arall eisiau nodi unrhyw beth? Dwi ddim yn gweld dim.
So, in accordance with Standing Order 17.42, I propose we resolve to exclude the public from the remainder of the meeting. Are Members content? I see that you are. I'll wait to hear that we are in private session.
Felly, rwyf i, yn unol â Rheol Sefydlog 17.42, yn cynnig ein bod ni'n penderfynu gwahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Ydy'r Aelodau'n fodlon derbyn hynny? Rwy'n gweld eich bod chi. Mi wnaf i aros i glywed ein bod ni'n breifat.
Good morning. Welcome, all.
Bore da. Croeso, bawb.
Thank you very much, and good morning to you both. Now, we know it's quite inevitable that we'll be repeating some things as we go forward, but I wanted to look at capacity, including the physical capacity on the estate, for example, and also the types of interventions that are being made, and the workforce also. Could you talk us through the type of offers you have in order to increase capacity? That's key, and also perhaps things such as introducing community diagnostic hubs - are they part of the solution? But I'll let you expand on what you think is important.
Diolch yn fawr iawn, a bore da i'r ddau ohonoch chi. Dwi'n meddwl ei bod hi'n eithaf annatod ein bod ni'n ailadrodd rhywfaint wrth i'r sesiwn fynd yn ei blaen, ond dwi innau hefyd eisiau edrych ar gapasiti, yn cynnwys capasiti corfforol - yr ystad, os liciwch chi - a'r math o ymyrraethau sydd yn cael eu cynnig, a'r gweithlu, hefyd. Fuasech chi'n gallu ein siarad ni drwy'r mathau o gynigion sydd gennych chi er mwyn cynyddu capasiti? Mae hynny'n allweddol ac, o bosibl, bod pethau fel cyflwyno canolfannau diagnostig cymunedol yn rhan o'r ateb yna. Ond, gwnaf i adael i chi ehangu ar beth rydych chi'n meddwl sy'n bwysig.
Yes, I'll ask the question again, no problem at all.
Ocê, gwnaf ofyn y cwestiwn eto. Dim problem o gwbl.
I wanted to say at the outset that it's going to be inevitable that we repeat some things as we touch on capacity. But could you take us through the kind of interventions that we need to put in place in order to increase capacity, and I'm thinking of things such as community diagnostic hubs, as you heard? But also, what are the ideas that you're keen to see implemented?
Rôn i'n dweud ar y dechrau ei bod hi'n annatod ein bod ni'n mynd i fod yn ailadrodd rhywfaint, ac rydyn ni wedi bod yn cyffwrdd tipyn ar gapasiti yn barod, wrth gwrs. Ond allwch chi fynd â ni drwy'r mathau o feysydd rydych chi'n meddwl sydd angen eu datblygu er mwyn cynyddu capasiti, a dwi'n meddwl am bethau, o bosibl, fel canolfannau diagnostig cymunedol, fel y clywoch chi? Ond, beth ydy'r syniadau rydych chi'n eiddgar i weld yn cael eu datblygu?
Thank you very much for that comprehensive answer. You referred to the workforce. Gerard, I don't know if you've had the opportunity yet to look at the workforce plan that was published yesterday or the day before - the day before, Tuesday afternoon. Do you see that as offering the kinds of solutions that you're seeking in terms of the workforce, because it's not clear to me what the plan for the cancer workforce was? It was mentioned, but I didn't see the solution being outlined clearly.
Diolch yn fawr iawn am ateb cynhwysfawr iawn fanna. Rydych chi wedi cyfeirio at y gweithlu. Gerard, dwi ddim yn gwybod os ydych chi wedi cael cyfle eto i edrych ar y cynllun gweithlu a gafodd ei gyhoeddi ddoe neu echdoe - echdoe, prynhawn dydd Mawrth. Ydych chi'n gweld yn hwnnw y math o atebion rydych chi'n chwilio amdanyn nhw o ran y gweithlu, achos doedd hi ddim yn amlwg i fi beth oedd y cynllun ar gyfer y gweithlu canser ynddo fo? Mae o'n cael ei grybwyll, ond doeddwn i ddim yn gweld yr ateb yn glir.
You both have offered a number of actions that need to be taken, so this is the last question from me. There's a very ambitious target of trying to ensure diagnostic tests within eight weeks by spring 2024. Are we moving quickly enough with the workforce? Are we moving quickly enough to develop these diagnostic hubs? Are we moving quickly enough on investment in new technology to make that target a realistic one?
Mae'r ddau ohonoch chi yn fanna wedi cynnig nifer o gamau sydd angen eu cymryd, felly'r cwestiwn olaf gennyf fi - . Mae yna darged uchelgeisiol iawn o sicrhau adroddiadau diagnostig o fewn wyth wythnos erbyn gwanwyn 2024. Ydyn ni'n symud yn ddigon cyflym â'r gweithlu? Ydyn ni'n symud yn ddigon cyflym ar ddatblygu canolfannau diagnostig? Ydyn ni'n symud yn ddigon cyflym ar fuddsoddi mewn technoleg newydd i wneud y dyddiad hwnnw, y targed hwnnw, yn un realistig?
It doesn't want to unmute. There we go; I am unmuted. It's a system that's been very well explained there by you in terms of the work that you're doing, reaching out to people with this screening programme. What's the public's response to this in general? Are there variations in geographic areas and the groups of people who respond - do some people respond better to this opportunity? Just give us an outline of that.
Dyw hyn ddim eisiau nad-miwtio. Dyna ni; mae hwnna wedi gweithio. Mae'n system sydd wedi cael ei egluro yn dda iawn fanna o ran y gwaith rydych chi'n ei wneud i ymestyn allan at bobl efo'r rhaglen sgrinio. Beth ydy ymateb y cyhoedd yn gyffredinol? Oes yna amrywiadau o ardal i ardal, grwpiau o'r boblogaeth sydd yn ymateb yn well i'r cyfle yma i gymryd rhan yn y cyllun sgrinio? Rhowch awgrym i ni o ba mor lwyddiannus ydy o yn hynny o beth.