source
stringlengths
2
497
target
stringlengths
2
430
In doing so, it is essential that the Welsh language keeps up with current developments, such as by ensuring that a wide range of e-books are available across all contemporary devices.
Wrth wneud hynny mae’n hanfodol sicrhau nad yw’r Gymraeg ar ei hôl hi o ran y datblygiadau diweddaraf, er enghraifft, drwy sicrhau bod darpariaeth eang o e-lyfrau ar gael ar draws yr holl ddyfeisiau cyfredol.
Through the Welsh Books Council, we want to maintain editorial support for publishing houses, continue to support authors and support the development of good quality graphics, photography and design, which is especially important with regard to non-fiction books for adults and young people.
Trwy Gyngor Llyfrau Cymru, rydym yn bwriadu cynnal y cymorth golygyddol sy’n cael ei roi i gwmnïau cyhoeddi a pharhau i roi cymorth i awduron i ddatblygu gwaith graffeg, ffotograffiaeth a dylunio o safon sy’n arbennig o bwysig mewn llyfrau ffeithiol i oedolion a phobl ifanc.
We will expect the key commissioners of Welsh-language materials, including the Welsh Books Council and other organisations, to increase significantly the proportion of material that is published electronically.
Byddwn yn disgwyl i gomisiynwyr allweddol deunyddiau Cymraeg, sy’n cynnwys Cyngor Llyfrau Cymru a sefydliadau eraill, gynyddu’n sylweddol nifer y deunyddiau sy’n cael eu cyhoeddi’n electronig.
Terminology
Terminoleg
It is important to ensure that a standard source of terminology exists to facilitate the use of Welsh in all aspects of public life, such as in the field of technology, in law, in education and in a wide range of specialist fields.
Mae’n bwysig sicrhau bod ffynhonnell safonol o derminoleg yn bodoli sy’n ei gwneud hi’n haws i ddefnyddio’r Gymraeg ymhob agwedd ar fywyd cyhoeddus, gan gynnwys maes technoleg, byd y gyfraith, y byd addysg ac amryw feysydd arbenigol.
Over several years, a great deal of standardisation work has been undertaken by a number of organisations, including Canolfan Bedwyr (which has established Wales’ National Portal for Terms), the Language and Literature Committee of the Board of Celtic Studies of the University of Wales, the Welsh Government Translation Service (which shares Welsh Government terminology online through TermCymru) and the Welsh Language Board (which publishes its terms online, in its National Database of Terms).
Dros gyfnod o flynyddoedd, cafodd llawer o waith safoni ei wneud gan nifer o sefydliadau gan gynnwys Canolfan Bedwyr (sydd wedi sefydlu Porth Termau Cenedlaethol Cymru), Pwyllgor Iaith a Llên Bwrdd Gwybodau Celtaidd Prifysgol Cymru, Gwasanaeth Cyfieithu Llywodraeth Cymru (sy’n rhannu termau Llywodraeth Cymru ar-lein drwy TermCymru) a Bwrdd yr Iaith Gymraeg (sy’n cyhoeddi ei dermau ar-lein drwy ei Gronfa Genedlaethol o Dermau).
The Commissioner will be responsible from April 2012 for coordinating developments with regard to Welsh language terminology and place names.
O fis Ebrill 2012 y Comisiynydd fydd yn gyfrifol am gydgysylltu datblygiadau ym maes terminoleg ac enwau lleoedd Cymraeg.
The Welsh Government will ensure that the language can benefit from a standardised online Welsh language dictionary, based on the significant investment it has already committed to this project over time.
Bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau y gall yr iaith elwa ar eiriadur Cymraeg safonol ar-lein, a fydd yn seiliedig ar y buddsoddiad sylweddol y mae eisoes wedi’i ymrwymo i’r prosiect hwn dros amser.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living49
iaith byw49
Translation and interpretation
Cyfieithu a chyfieithu ar y pryd
The demand for professional translators and interpreters that work in Welsh and English must be met if we are to satisfy the need for bilingual documents and simultaneous translation at events and meetings.
Rhaid bodloni’r galw am gyfieithwyr proffesiynol a chyfieithwyr ar y pryd proffesiynol sy’n gweithio yn y Gymraeg a’r Saesneg er mwyn diwallu’r angen am ddogfennau dwyieithog a chyfieithu ar y pryd mewn digwyddiadau a chyfarfodydd.
The industry has developed significantly in recent years and we recognise the need to continue this work, and to ensure that robust accreditation and regulation structures are in place to provide assurances with regard to quality.
Mae’r diwydiant wedi datblygu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf ac rydym yn cydnabod bod angen parhau â’r gwaith hwn, gan wneud yn si ˆwr fod yna strwythurau achredu a rheoleiddio cadarn yn eu lle i sicrhau ansawdd.
In addition, the training available for translators needs to be developed further including training in translating different styles, editing, proofreading, interpreting and bilingual drafting.
Yn ogystal â hynny, mae angen datblygu ymhellach yr hyfforddiant sydd ar gael i gyfieithwyr, gan gynnwys hyfforddiant mewn arddulliau cyfieithu gwahanol, golygu, prawfddarllen, cyfieithu ar y pryd a drafftio’n ddwyieithog.
We must also ensure that the translation profession makes the most of the ICT tools that are available to it in order to ensure efficiency, consistency and value for money.
Rhaid i ni sicrhau hefyd fod y proffesiwn cyfieithu yn gwneud y defnydd gorau posibl o’r offer TGCh sydd ar gael er mwyn sicrhau effeithlonrwydd, cysondeb a gwerth am arian.
There is potential for public organisations to cooperate in exploiting opportunities for improved efficiencies, and for making more effective use of scarce resources, in the provision of Welsh-/English-language translation and interpretation services.
Mae potensial i gyrff cyhoeddus gydweithio er mwyn manteisio ar gyfleoedd i sicrhau gwell arbedion effeithlonrwydd, a gwneud defnydd mwy effeithiol o adnoddau prin, wrth ddarparu gwasanaethau cyfieithu a chyfieithu ar y pryd Cymraeg/Saesneg.
Work will soon be underway to consider proposals for greater collaborative action between local authorities and other public bodies in the delivery and procurement of these services.
Bydd gwaith yn mynd rhagddo maes o law i ystyried cynigion ar gyfer rhagor o gydweithredu rhwng awdurdodau lleol a chyrff cyhoeddus eraill wrth ddarparu a chaffael y gwasanaethau hyn.
This strategy has already mentioned the importance of translation with regard to community events under strategic area 3.
Mae’r strategaeth hon eisoes wedi cyfeirio at bwysigrwydd cyfieithu i weithgareddau cymunedol o dan faes strategol 3.
Encouraging and supporting more Welsh speakers to use the language in these circumstances will be important.
Bydd annog a chefnogi mwy o siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio’r iaith o dan yr amgylchiadau hyn yn bwysig.
It is important that people feel confident to draft documents in Welsh or bilingually.
Mae’n bwysig fod pobl yn teimlo’n ddigon hyderus i ddrafftio dogfennau yn y Gymraeg neu’n ddwyieithog.
As more and more organisations and individuals use the language, it will become increasingly important for public bodies to ensure that they have staff in place able to deal with documents submitted in Welsh, rather than having to translate them into English, for internal use only.
Wrth i nifer cynyddol o sefydliadau ac unigolion ddefnyddio’r iaith bydd yn dod yn gynyddol bwysig i gyrff cyhoeddus sicrhau bod ganddynt staff a all ymdrin â dogfennau a gyflwynir yn y Gymraeg, yn hytrach na bod yn rhaid eu cyfieithu i’r Saesneg, i’w defnyddio’n fewnol yn unig.
The work under strategic area 4, to increase the use of Welsh in the workplace, will help develop this ability.
Bydd y gwaith o dan faes strategol 4, i gynyddu’r defnydd o’r Gymraeg yn y gweithle, yn helpu i ddatblygu’r gallu hwn.
Research and data
Ymchwil a data
50A living language:
50Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
All of the policies and projects discussed in this document have been included with a specific desired outcome:
Mae’r holl bolisïau a’r prosiectau a drafodir yn y strategaeth hon wedi’u cynnwys gyda’r nod o sicrhau canlyniad dymunol penodol:
to increase the use of Welsh.
cynyddu’r defnydd a wneir o’r Gymraeg.
Therefore, in order to test the effectiveness of this work, we need baseline data on language use, and regular data collection to allow us to monitor progress against the desired outcome.
Gan hynny, er mwyn profi pa mor effeithiol yw’r gwaith hwn, mae angen data sylfaenol ynghylch defnydd iaith a phroses o gasglu data yn rheolaidd er mwyn ein galluogi ni i fonitro cynnydd yn unol â’r canlyniad a ddymunir.
This strategy has already discussed the importance of this, along with the intention to develop an evaluation framework for the strategy.
Mae’r strategaeth hon eisoes wedi trafod pwysigrwydd hyn a’n bwriad i ddatblygu fframwaith gwerthuso ar gyfer y strategaeth.
We will also determine the need to consider the Welsh language as we develop our own research and data projects across all of our policy areas – and as we work with other bodies, such as the Office for National Statistics.
Byddwn hefyd yn pennu yr angen i ystyried y Gymraeg wrth i ni ddatblygu ein prosiectau ymchwil a’n prosiectau data ein hunain ar draws ein holl feysydd polisi – ac wrth i ni gydweithio â chyrff eraill, fel y Swyddfa Ystadegau Gwladol.
The Commissioner will also have an important role in the field of research and data.
Bydd gan y Comisiynydd hefyd rôl allweddol ym maes ymchwil a data.
The Welsh Language Measure places a duty on the Commissioner to produce a five-yearly report on the position of the language.
Mae Mesur y Gymraeg yn gosod dyletswydd ar y Comisiynydd i lunio adroddiad bob pum mlynedd ar sefyllfa’r iaith.
With this in mind the Commissioner will have the necessary powers to undertake research and collect and analyse data.
At y diben hwn, bydd gan y Comisiynydd y pwerau angenrheidiol i wneud gwaith ymchwil ac i gasglu a dadansoddi data.
Language planning
Cynllunio ieithyddol
Many people across various sectors have important roles to play to deliver the aims of this strategy – including civil servants in the Welsh Government, the Commissioner’s staff, officials in other public sector organisations, and staff working in third sector organisations working to promote the language in communities across Wales.
Mae gan lawer o bobl ar draws sectorau amrywiol rolau pwysig er mwyn cyflawni nodau’r strategaeth hon – gan gynnwys gweision sifil yn Llywodraeth Cymru, staff y Comisiynydd, swyddogion o fewn sefydliadau eraill y sector cyhoeddus, a staff sy’n gweithio i gyrff yn y trydydd sector sy’n ceisio hybu’r Gymraeg mewn cymunedau ar draws Cymru.
We need to ensure that those working in the field of language planning become increasingly skilled in that discipline.
Mae angen sicrhau bod y rheini sydd yn ymwneud â chynllunio ieithyddol yn parhau i ddatblygu eu sgiliau yn y maes hwn.
In doing so, we need to maintain the links between Wales and other countries and regions working to promote minority languages so that we can learn from their experiences.
Wrth wneud hyn mae angen i ni gynnal y cysylltiadau rhwng Cymru a gwledydd a rhanbarthau eraill sy’n ceisio hybu ieithoedd lleiafrifol fel y gallwn elwa ar eu profiadau.
These networks include the European Network for the Promotion of Linguistic Diversity and the British–Irish Council.
Mae’r rhwydweithiau hyn yn cynnwys y Rhwydwaith Ewropeaidd i Hyrwyddo Amrywiaeth Ieithyddol a’r Cyngor Prydeinig–Gwyddelig.
We will also continue our unique relationship with Patagonia.
Byddwn hefyd yn cynnal ein perthynas unigryw â Phatagonia.
Promoting the value of Welsh
Hybu gwerth y Gymraeg
A critical element in the delivery of our strategy will be to raise awareness of the value of the Welsh language.
Elfen a fydd yn hanfodol wrth roi’n strategaeth ar waith fydd codi ymwybyddiaeth o werth y Gymraeg.
For many of the organisations delivering the projects and initiatives described in this document this is an intrinsic part of their work.
I lawer o’r sefydliadau a fydd yn rhan o’r prosiectau a’r mentrau a ddisgrifir yn y strategaeth hon, mae hyn yn rhan annatod o’u gwaith.
But marketing and advertising activities also play an important part in promoting the value of Welsh and encouraging its use.
Serch hynny, mae gan weithgareddau marchnata a hysbysebu rôl bwysig hefyd wrth hybu gwerth y Gymraeg ac annog y defnydd ohoni.
Young people are a key target group in relation to promoting the value of the Welsh language.
Mae pobl ifanc yn gr ˆwp targed allweddol mewn perthynas â hybu gwerth y Gymraeg.
Elsewhere in this document we refer to the need to better understand young people’s choices with regard to language use.
Mewn mannau eraill yn y ddogfen hon cyfeiriwn at yr angen i ddeall yn well y dewisiadau y mae pobl ifanc yn eu gwneud wrth benderfynu pa iaith i’w defnyddio.
This needs to be coupled with better promotion of the benefits of the Welsh language as a skill in future employment.
Mae angen i hyn ddigwydd ochr yn ochr â gwella’r gwaith o hybu manteision y Gymraeg fel sgìl wrth ddod o hyd i waith yn y dyfodol.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living51
iaith byw51
Any work to market the value of Welsh will need to be based on evidence.
Bydd rhaid i unrhyw waith o farchnata gwerth y Gymraeg fod yn seiliedig ar dystiolaeth.
Action points
Pwyntiau gweithredu
We will:
Byddwn yn:
Digital content and applications
Cynnwys a meddalwedd ddigidol
37.
37.
Keep up to date a Strategy and Action Plan for ICT and the Welsh language, to include a focus on the increasingly important role of social media.
Parhau i ddiweddaru Strategaeth a Chynllun Gweithredu ar gyfer TGCh a’r Gymraeg, a fydd yn cynnwys pwyslais ar rôl gynyddol bwysig y cyfryngau cymdeithasol.
38.
38.
Make standards, which will enable the Commissioner to impose duties on organisations with regard to the Welsh language and ICT.
Llunio safonau a fydd yn galluogi’r Comisiynydd i osod dyletswyddau ar sefydliadau mewn perthynas â’r Gymraeg a TGCh.
39.
39.
Promote the use of Welsh-language versions of software products in schools, colleges and universities.
Hybu’r defnydd o fersiynau Cymraeg o gynnyrch meddalwedd mewn ysgolion, colegau a phrifysgolion.
40.
40.
Establish a committee on the Welsh language, ICT and new media, and establish a funding mechanism for Welsh-language, ICT and new media developments, on an incremental basis against agreed priorities.
Sefydlu pwyllgor ar y Gymraeg, TGCh a’r cyfryngau newydd, a sefydlu trefniant ariannu ar gyfer datblygiadau cyfrwng Cymraeg ym maes TGCh a’r cyfryngau newydd, ar sail gynyddol yn unol â blaenoriaethau cymeradwy.
41.
41.
Require a growing proportion of online-only commissioning by the Welsh Books Council and the WJEC.
Ei gwneud yn ofynnol i Gyngor Llyfrau Cymru a CBAC gomisiynu nifer cynyddol o ddarnau fel cyhoeddiadau ar-lein yn unig.
Public service broadcasting
Darlledu gwasanaeth cyhoeddus
42.
42.
Support S4C and BBC Radio Cymru and continue to make the case with the UK Government and the BBC with regard to the need to protect and develop the range of services offered by each, including online services.
Cefnogi S4C a BBC Radio Cymru a pharhau i bwysleisio i Lywodraeth y DU a’r BBC bwysigrwydd diogelu a datblygu’r holl wasanaethau amrywiol sy’n cael eu cynnig ganddynt, gan gynnwys eu gwasanaethau ar-lein.
43.
43.
Investigate with others the possibility of increasing the provision of Welsh-language programming on commercial radio stations operating in Wales.
Ymchwilio ar y cyd ag eraill bosibilrwydd cynyddu’r ddarpariaeth o raglenni Cymraeg ar orsafoedd radio masnachol sy’n gweithredu yng Nghymru.
Reading
Darllen
44.
44.
Continue to support the work of the Welsh Books Council and the papurau bro – and to support work to explore and exploit e-publishing and new ways of accessing written material.
Parhau i gefnogi gwaith Cyngor Llyfrau Cymru a’r papurau bro a chefnogi’r gwaith o ymchwilio i e-gyhoeddi a dulliau newydd o dderbyn deunyddiau ysgrifenedig a manteisio arnynt.
45.
45.
Continue, through the Welsh Books Council, to provide financial support to Golwg 360 until March 2014, and to review the effectiveness of the service during that period.
Parhau i ddarparu cymorth ariannol i Golwg 360 hyd fis Mawrth 2014, drwy Gyngor Llyfrau Cymru, ac adolygu effeithiolrwydd y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hwnnw.
52A living language:
52Iaith fyw:
a language for living
iaith byw
Translation
Cyfieithu
46.
46.
Ask the Commissioner to support and develop the translation industry.
Gofyn i’r Comisiynydd gefnogi a datblygu’r diwydiant cyfieithu.
Terminology
Terminoleg
47.
47.
Ask the Commissioner to coordinate the standardisation of Welsh language terminology and place names.
Gofyn i’r Comisiynydd gydgysylltu’r gwaith o safoni terminoleg ac enwau lleoedd Cymraeg.
Research and data
Ymchwil a data
48.
48.
Ask the Commissioner to conduct research and prepare a five-yearly report on the position of the language, in accordance with the Welsh Language Measure.
Gofyn i’r Comisiynydd gynnal gwaith ymchwil a pharatoi adroddiad bob pum mlynedd ar sefyllfa’r iaith, yn unol â Mesur y Gymraeg.
49.
49.
Look for opportunities to collaborate with the Commissioner, as necessary, on research and data projects.
Chwilio am gyfleoedd i gydweithio â’r Comisiynydd, yn ôl yr angen, ar brosiectau ymchwil a data.
50.
50.
Mainstream the Welsh language into our research and collection of data across all Welsh Government policy areas, including Careers Wales.
Prif ffrydio’r Gymraeg yn ein hymchwil a’n gwaith o gasglu data ar draws holl feysydd polisi Llywodraeth Cymru, gan gynnwys Gyrfa Cymru.
Language planning
Cynllunio ieithyddol
51.
51.
Support the work of nurturing and developing the language-planning profession.
Cefnogi’r gwaith o feithrin a datblygu’r proffesiwn cynllunio ieithyddol.
Promoting the value of Welsh
Hybu gwerth y Gymraeg
52.
52.
Develop a coordinated marketing strategy for the language, including for marketing linked to projects and activities in support of the language – and to do this in partnership with others, including organisations established to promote the use of Welsh.
Datblygu strategaeth farchnata gydgysylltiedig ar gyfer yr iaith, gan gynnwys marchnata sydd ynghlwm wrth brosiectau a gweithgareddau sy’n cefnogi’r iaith – a gwneud hyn mewn partneriaeth ag eraill, gan gynnwys sefydliadau a grëwyd i hybu’r defnydd o’r Gymraeg.
A living language:
Iaith fyw:
a language for living53
iaith byw53
54A living language:
54Iaith fyw:
a language for living
iaith byw