rhysjones's picture
Create README.md
fe875de
---
license: apache-2.0
---
## Mistral gyda ychwanegiad Tocynnydd Cymreig
Mae model Mistral yn cynnwys 32,000 tocynn yn ei eirfa.
Wrth amgodio brawddeg yn y gymraeg, mae'r tocynnau ar wasgar i'w gymharu hefo'r Saesneg:
### Tocynnydd Mistral 32k
```
This is a tokenizer test
['▁This', '▁is', '▁a', '▁token', 'izer', '▁test']
Roedd y gath yn eistedd ar y llawr
['▁Ro', 'ed', 'd', '▁y', '▁g', 'ath', '▁y', 'n', '▁e', 'isted', 'd', '▁ar', '▁y', '▁ll', 'aw', 'r']
```
### Tocynnydd Cymreig 16k
Wrth greu tocynnydd o'r newydd wedi ei hyfforddi ar ddata Cymreig, cawn gynrychiolaeth llawer tynach yn y Gymraeg. Mae'r Saesneg wedi gwaethygu, fodd bynnag.
```
This is a tokenizer test
['▁This', '▁is', '▁a', '▁to', 'ke', 'n', 'ize', 'r', '▁', 'test']
Roedd y gath yn eistedd ar y llawr
['▁Roedd', '▁y', '▁gath', '▁yn', '▁eistedd', '▁ar', '▁y', '▁llawr']
```
## Tocynnydd Gyfunol
Wrth gyfuno tocynnydd Mistral gyda ein tocynnydd newydd Cymraeg, cawn un sydd yn medru mynegi tocynnau yn y ddwy iaith yn effeithiol:
```
This is a tokenizer test
['▁This', '▁is', '▁a', '▁token', 'izer', '▁test']
Roedd y gath yn eistedd ar y llawr
['▁Roedd', '▁y', '▁gath', '▁yn', '▁', 'eis', 't', 'edd', '▁ar', '▁y', '▁llawr']
```
Mae set o docynnau yn cael eu rhannu rhwng y ddwy iaith, sydd yn rhoi cyfanswm o 44,955 tocyn yn y fersiwn yma.
Mae'r model Mistral wedi ei ehangu ar ei gyfer - *ond* dylir gofio fod angen hyfforddi'r model gryn dipyn er mwyn gysylltu ystyr y tocynnau newydd hefo'r rhai sydd yn y model yn barod.