source
stringlengths 3
13.7k
| target
stringlengths 3
14.3k
|
---|---|
I want our further education sector in Wales to be at the leading edge of innovation, creativity and collaboration. I am very pleased to see many examples of this type of activity in our FE sector. Our colleges are sharing knowledge and experiences of exploring the use of virtual and augmented reality, exploring creative partnerships with hi-tech industries, and working with partners to deliver digitally focused qualifications. In December, I wrote to further education college principals to launch a call to action for the FE sector under 'Digital 2030'. Moving on from experiences of emergency remote education during the height of the pandemic, I have asked every college to develop its own strategic plan for digital learning by the end of this academic year. I want to ensure that we embed a sustainable, strategic approach to digital learning and offer high-quality learning experiences that both engage and enthuse our learners. To support this call to action, I have earmarked a total of £8 million capital funding over three academic years for digital equipment and infrastructure improvements in FE institutions. This will bring the total Welsh Government investment in FE digital learning to over £30 million by the end of the 2024-25 academic year. I know that the FE sector supports a very diverse range of individuals, offering a variety of different subjects and qualifications at various levels, and there is no simple one-size-fits-all approach to digital learning, so each college will need to develop its own unique plan. To ensure that, together, these plans create a cross-cutting strategic approach across the whole of the FE sector, I have set out four key priorities for colleges to reflect in their plans. Firstly, to work collaboratively to widen access to learning opportunities. Secondly, to develop learners' and staff's digital capabilities and confidence for learning, life and work. Thirdly, to maximise the potential of technology to empower, enthuse and inspire learners, and fourthly, to embed agile, resilient and sustainable approaches to delivery. As a result of annual Welsh Government funding, colleges benefit from a comprehensive support offer from Jisc. Jisc will continue to be our key partners for 'Digital 2030', developing our research and evidence base, and ensuring that best practice is shared and, indeed, extended across the post-16 sector. We've commissioned a unique piece of research from Jisc, which will identify the opportunities to use digital and blended learning to create maximum impact into the future. I look forward to the results of this research being shared in the spring. | Hoffwn i'n sector addysg bellach yng Nghymru fod ar flaen y gad o ran arloesedd, creadigrwydd a chydweithio. Rwy'n falch iawn o weld sawl enghraifft o'r math hwn o weithgarwch yn ein sector addysg bellach. Mae ein colegau yn rhannu gwybodaeth a phrofiadau o archwilio'r defnydd o realiti rhithwir ac estynedig, gan archwilio partneriaethau creadigol gyda diwydiannau uwch-dechnoleg, a gweithio gyda phartneriaid i ddarparu cymwysterau â phwyslais digidol. Ym mis Rhagfyr, ysgrifennais at benaethiaid colegau addysg bellach i lansio galwad i weithredu ar gyfer y sector addysg bellach o dan 'Digidol 2030'. Gan symud ymlaen o brofiadau o addysg frys o bell yn ystod anterth y pandemig, rwyf wedi gofyn i bob coleg ddatblygu ei gynllun strategol ei hun ar gyfer dysgu digidol erbyn diwedd y flwyddyn academaidd hon. Hoffwn sicrhau ein bod ni'n ymwreiddio dull cynaliadwy, strategol o ddysgu digidol a chynnig profiadau dysgu o ansawdd uchel sy'n ennyn diddordeb a brwdfrydedd ein dysgwyr. I gefnogi'r alwad hon i weithredu, rwyf i wedi clustnodi cyfanswm o £8 miliwn o gyllid cyfalaf dros dair blwyddyn academaidd ar gyfer offer digidol a gwelliannau i seilwaith mewn sefydliadau addysg bellach. Bydd hyn yn dod â chyfanswm buddsoddiad Llywodraeth Cymru mewn dysgu digidol addysg bellach i dros £30 miliwn erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024-25. Gwn fod y sector addysg bellach yn cefnogi amrywiaeth eang iawn o unigolion, gan gynnig amrywiaeth o wahanol bynciau a chymwysterau ar wahanol lefelau, ac nid oes un dull dysgu digidol syml sy'n addas i bawb, felly bydd angen i bob coleg ddatblygu ei gynllun unigryw ei hun. Er mwyn sicrhau, gyda'i gilydd, bod y cynlluniau hyn yn creu dull strategol trawsbynciol ar draws yr holl sector addysg bellach, rwyf i wedi nodi pedair blaenoriaeth allweddol i golegau eu hadlewyrchu yn eu cynlluniau. Yn gyntaf, gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu. Yn ail, datblygu galluoedd a hyder digidol dysgwyr a staff ar gyfer dysgu, bywyd a gwaith. Yn drydydd, manteisio i'r eithaf ar botensial technoleg i rymuso, i gymell ac i ysbrydoli dysgwyr, ac yn bedwerydd, i ymwreiddio dulliau ystwyth, cydnerth a chynaliadwy o ddarparu. O ganlyniad i gyllid blynyddol Llywodraeth Cymru, mae colegau yn elwa o gynnig cymorth cynhwysfawr gan y Cydbwyllgor Systemau Gwybodaeth. Bydd y cydbwyllgor yn parhau i fod yn bartneriaid allweddol i ni ar gyfer 'Digidol 2030', gan ddatblygu ein sylfaen ymchwil a thystiolaeth, a chan sicrhau bod arferion gorau yn cael eu rhannu ac, yn wir, eu hymestyn ar draws y sector ôl-16. Rydym ni wedi comisiynu darn unigryw o ymchwil gan y cydbwyllgor, a fydd yn nodi'r cyfleoedd i ddefnyddio dysgu digidol a chyfunol i greu'r effaith fwyaf posibl i'r dyfodol. Edrychaf ymlaen at weld canlyniadau'r gwaith ymchwil hwn yn cael eu rhannu yn y gwanwyn. |
The aims of 'Cymraeg 2050', our strategy for increasing the number of Welsh speakers, are very important to this too. The Coleg Cymraeg Cenedlaethol has been working with a range of activities to increase use of the Welsh language, and also to increase capability and confidence in the FE sector, helping colleges and teaching practitioners to use digital technology to support learners' Welsh language acquisition and to develop Welsh language skills. | Mae amcanion 'Cymraeg 2050', ein strategaeth ar gyfer cynyddu niferoedd siaradwyr Cymraeg, yn greiddiol i hyn hefyd. Mae'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi bod yn gweithio gydag ystod o ymyraethau i gynyddu defnydd o'r Gymraeg, a hefyd sgiliau a hyder yn y Gymraeg yn y sector addysg bellach, yn helpu colegau ac ymarferwyr i ddefnyddio technoleg ddigidol i gefnogi dysgwyr a'u gallu i ddod o hyd i'r Gymraeg a datblygu eu sgiliau. |
I'm expecting that colleges' strategic plans will identify longer term ambitions for digital learning, but will focus more closely on the period from 2023 to 2025, whilst the new commission for tertiary education and research is being established. Digital technology offers huge potential to help deliver the commission's key goals of strengthening collaboration across the post-16 sector, widening opportunities for learners across Wales, and supporting learners' transition and progression. The call to action will help to ensure that the FE sector is ready to play its part in achieving these goals over the coming years. | Rwy'n disgwyl y bydd cynlluniau strategol colegau yn nodi uchelgeisiau tymor hwy ar gyfer dysgu digidol, ond yn canolbwyntio'n fwy manwl ar y cyfnod rhwng 2023 a 2025, tra bod y comisiwn newydd ar gyfer addysg drydyddol ac ymchwil yn cael ei sefydlu. Mae technoleg ddigidol yn cynnig potensial enfawr i helpu i gyflawni nodau allweddol y comisiwn o gryfhau cydweithrediad ar draws y sector ôl-16, i ehangu cyfleoedd i ddysgwyr ledled Cymru, ac i gynorthwyo cyfnodau pontio a datblygiad dysgwyr. Bydd yr alwad i weithredu yn helpu i sicrhau bod y sector addysg bellach yn barod i chwarae ei rhan i gyflawni'r nodau hyn dros y blynyddoedd nesaf. |
Minister, thank you for your statement today. We in the Welsh Conservatives are supportive of the aims and ambitions of the statement, as we all want to see a more digitally adept Wales. And we all recognise that there are major social and financial benefits to be gained from enriching the digital skills of Wales. However, I do have a few concerns about how we ensure that no-one misses out on this, so if you could just allay these fears today, I would be grateful. People living in rural Wales who are not online are usually excluded due to problems with broadband provision, both for fixed line and mobile broadband services. There are still many areas of Wales affected by notspots, although the prevalence of these is reported by case study participants to be diminishing. How does your plan ensure that no-one is excluded due to poor broadband provision? Another key issue, as you know, is those from lower income families who are more economically inactive and are less likely to visit a website than those in employment. Lower income families and individuals may be affected by access to and affordability of devices and connectivity, as well as not having access to devices or, possibly, networks, meaning that they also may not develop the needed digital knowledge, motivation or skills. So, another question: how are you going to ensure that income and finances don't get in the way of learning these crucial skills? And finally, my concern is about those with disabilities or long-term health conditions. Eighty-nine per cent of those with a disability or a long-term health condition use the internet compared to 93 per cent of those without. People with disabilities may require help in identifying appropriate assistive technologies, or could be hindered in their digital learning journey. It is clear that some form of grant or assistance may be needed here to help assist these admirable aims of yours, Minister. So, my final question is: can you tell me what help will be available for those with disabilities or long-term health problems? Thank you, Minister. | Gweinidog, diolch am eich datganiad heddiw. Rydym ni yn y Ceidwadwyr Cymreig yn cefnogi nodau ac uchelgeisiau'r datganiad, gan ein bod ni i gyd eisiau gweld Cymru fwy medrus yn ddigidol. Ac rydym ni i gyd yn cydnabod bod manteision cymdeithasol ac ariannol mawr i'w cael o gyfoethogi sgiliau digidol Cymru. Fodd bynnag, mae gen i ychydig o bryderon ynghylch sut yr ydym ni'n sicrhau nad oes neb yn colli allan ar hyn, felly os gallech chi dawelu'r ofnau hyn heddiw, byddwn yn ddiolchgar. Mae pobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru nad ydyn nhw ar-lein fel rheol yn cael eu heithrio oherwydd problemau gyda darpariaeth band eang, ar gyfer llinellau sefydlog a gwasanaethau band eang symudol. Ceir llawer o ardaloedd o Gymru o hyd sy'n cael eu heffeithio gan fannau gwan, er bod y rhai sy'n cymryd rhan mewn astudiaethau achos yn hysbysu bod cyffredinrwydd y rhain yn lleihau. Sut mae eich cynllun yn sicrhau nad oes unrhyw un yn cael ei eithrio oherwydd darpariaeth band eang wael? Mater allweddol arall, fel y gwyddoch, yw'r rhai o deuluoedd incwm is sy'n fwy economaidd anweithgar ac sy'n llai tebygol o ymweld â gwefan na'r rhai mewn gwaith. Gallai teuluoedd ac unigolion ar incwm is gael eu heffeithio gan fynediad at ddyfeisiau a chysylltedd a'u fforddiadwyedd, yn ogystal â bod heb fynediad at ddyfeisiau neu, o bosibl, rhwydweithiau, sy'n golygu efallai na fyddan nhw chwaith yn datblygu'r wybodaeth, y cymhelliant neu'r sgiliau digidol sydd eu hangen. Felly, cwestiwn arall: sut ydych chi'n mynd i sicrhau nad yw incwm a chyllid yn amharu ar ddysgu'r sgiliau hollbwysig hyn? Ac yn olaf, mae fy mhryder am y rhai sydd ag anableddau neu gyflyrau iechyd hirdymor. Mae wyth deg naw y cant o'r rhai sydd ag anabledd neu gyflwr iechyd hirdymor yn defnyddio'r rhyngrwyd o'i gymharu â 93 y cant o'r rhai hebddynt. Efallai y bydd angen cymorth ar bobl ag anableddau i ddod o hyd i dechnolegau cynorthwyol priodol, neu gallen nhw gael eu rhwystro ar eu taith dysgu ddigidol. Mae'n amlwg y gallai fod angen rhyw fath o grant neu gymorth yma i helpu i gynorthwyo'r nodau clodwiw hyn sydd gennych chi, Gweinidog. Felly, fy nghwestiwn olaf yw: a allwch chi ddweud wrthyf i pa gymorth fydd ar gael i'r rhai sydd ag anableddau neu broblemau iechyd hirdymor? Diolch, Gweinidog. |
Yes, certainly. As part of the investment of over £30 million that we've made into the expansion of digital provision by the FE sector in recent years - that will be the figure by the end of the 2024-25 academic year - one of they key criteria for investment of that is to make sure that everyone is able to access the provision that results from that. The Member will also recall the significant capital investment that we have made to fund the provision of laptops and tablets in both the school and college sector, so that those individuals who may find it challenging themselves to buy what can often be very expensive equipment are also able to access that kit, that equipment, themselves. So, that's been a very important part of the offer, I think. And she's right to identify the variable access to broadband in certain parts of Wales, certainly, as being a particular challenge. What she will know is that, as a Government, this function, as she knows, is a reserved function to Westminster, but regardless of that, we've sought to invest through our superfast broadband and other schemes in order to minimise the number of notspots that exist because of the geography of Wales, And, indeed, as part of the COVID response, you will recall that, as well as providing kit, we also provided connectivity tools as well, so dongles and so on, to ensure that learners weren't excluded in the way that she fears in her question. So, part of the work that has been undertaken over recent years has been specifically focused on making sure that the tools that are developed, the teaching techniques that are deployed, are as accessible as possible, including to those with particular challenges from disability as well as affordability. It's a really important part of the mission behind this to extend those opportunities, and so, I absolutely agree with her that that's an important priority. | Gallaf, yn sicr. Yn rhan o'r buddsoddiad o dros £30 miliwn yr ydym ni wedi ei wneud i ehangu darpariaeth ddigidol gan y sector addysg bellach yn y blynyddoedd diwethaf - dyna fydd y ffigur erbyn diwedd blwyddyn academaidd 2024-25 - un o'r meini prawf allweddol ar gyfer buddsoddi hwnnw yw gwneud yn siŵr bod pawb yn gallu cael mynediad at y ddarpariaeth sy'n deillio o hynny. Bydd yr Aelod hefyd yn cofio'r buddsoddiad cyfalaf sylweddol yr ydym ni wedi ei wneud i ariannu'r ddarpariaeth o liniaduron a chyfrifiaduron llechen yn y sector ysgolion a cholegau, fel bod yr unigolion hynny a allai ei chael hi'n anodd eu hunain prynu'r hyn a all fod yn offer drud iawn yn aml hefyd yn gallu cael mynediad at y cyfarpar hwnnw, yr offer hwnnw, eu hunain. Felly, mae hynny wedi bod yn rhan bwysig iawn o'r arlwy, rwy'n credu. Ac mae hi'n iawn i nodi'r mynediad amrywiol at fand eang mewn rhai rhannau o Gymru, yn sicr, fel her benodol. Yr hyn y bydd hi'n ei wybod, fel Llywodraeth, yw bod y swyddogaeth hon, fel y mae'n gwybod, yn swyddogaeth neilltuedig i San Steffan, ond er hynny, rydym ni wedi ceisio buddsoddi trwy ein band eang cyflym iawn a chynlluniau eraill er mwyn lleihau nifer y mannau gwan sy'n bodoli oherwydd daearyddiaeth Cymru, Ac, yn wir, yn rhan o'r ymateb i COVID, byddwch yn cofio, yn ogystal â darparu cyfarpar, ein bod ni hefyd wedi darparu offer cysylltedd hefyd, felly donglau ac yn y blaen, i sicrhau nad oedd dysgwyr yn cael eu heithrio yn y ffordd y mae'n ofni yn ei chwestiwn. Felly, mae rhan o'r gwaith a wnaed dros y blynyddoedd diwethaf wedi canolbwyntio'n benodol ar wneud yn siŵr bod yr offer sy'n cael ei ddatblygu, y technegau addysgu a ddefnyddir, mor hygyrch â phosibl, gan gynnwys i'r rhai sydd â heriau penodol oherwydd anabledd yn ogystal â fforddiadwyedd. Mae'n rhan bwysig iawn o'r genhadaeth y tu ôl i hyn i ymestyn y cyfleoedd hynny, ac felly, rwy'n cytuno'n llwyr â hi bod honno'n flaenoriaeth bwysig. |
Thank you for the statement, Minister, and we welcome this investment in digital skills, particularly in light of the fact that there is increasing demand for digital skills in the jobs market, and this is demand that isn't currently being met, with a lack of advanced digital skills being a concern too expressed by employers. 'Digital 2030' was launched in 2019, so we're now four years into this strategy, and you have noted an investment of £30 million since then. Research demonstrates that interest needs to be engendered early on in subjects such as computer sciences and ICT, and you've referred in your statement to the role of the new curriculum in that regard. But concerns have been expressed that specialist teachers who are not experts in this particular subject are teaching it as a subject in our schools, and we know that the Government's recruitment targets in the education workforce aren't being met, and this is particularly true of Welsh-medium practitioners. So, I'd like to know what the current picture is in this area in terms of our schools and colleges with regard to those who are able to teach these skills and who are subject specialists. Bearing in mind the need for expertise and the relative inconsistency in wages between the public sector and private sector for such skills, how will the Government ensure that FE institutions in Wales have the necessary digital expertise to provide effective digital learning experiences? How does the Welsh Government intend to continue with this commitment in the long term, bearing in mind, as we continue to provide educational opportunities in innovative ways, and with new technologies emerging to meet industry needs, that we also face increased cybersecurity risks that we must also mitigate? In light of the call to action in 'Digital 2030' to responding to ministerial priorities, particularly working collaboratively to widen access to learning opportunities, what role will the private sector play in supporting digital learning in further education, and how will the Government work with industry partners to achieve its aims in this arena? And finally, there is a clear, unfortunately, deficit too in the number of girls studying computer sciences and ICT at GCSE, AS level and A-level. What plans does the Government have to change this via the strategic plan, and how is progress being monitored? | Diolch am y datganiad, Weinidog, a dŷn ni'n croesawu'r buddsoddiad hwn mewn sgiliau digidol, yn enwedig yn sgil y ffaith bod yna alw cynyddol ar gyfer sgiliau digidol o fewn y farchnad swyddi - galw nad yw'n cael ei gwrdd ar hyn o bryd - a diffyg sgiliau digidol uwch hefyd yn bryder gan gyflogwyr. Lansiwyd 'Digidol 2030' yn 2019, felly rŷn ni bellach ryw bedair blynedd i mewn i'r strategaeth, a'r buddsoddiad, fel rŷch chi wedi nodi, yn £30 miliwn ers hynny. Mae pob ymchwil yn dangos bod angen cynnau diddordeb yn gynnar mewn pynciau fel cyfrifiadureg a TGCh, ac rŷch chi wedi cyfeirio yn eich datganiad at rôl y cwricwlwm newydd yn hynny. Ond, mae yna bryder bod yna gyfran fawr o athrawon arbenigol nad sy'n arbenigwyr pwnc yn dysgu y pwnc yma yn ein hysgolion. Mae'n hysbys, wrth gwrs, nad yw targedau y Llywodraeth o ran recriwtio yn y gweithlu addysg yn cael eu cyrraedd, ac mae hynny'n arbennig o wir o ran addysgwyr cyfrwng Cymraeg. Felly, hoffwn wybod beth yw'r darlun ar hyn o bryd o ran y maes yma yn ein hysgolion ac yn ein colegau, o ran y rhai sy'n medru dysgu'r sgiliau hyn ac sy'n arbenigwyr pwnc. O ystyried yr angen am arbenigedd a'r gwahaniaethau mewn cyflogau rhwng y sector cyhoeddus a'r sector preifat ar gyfer sgiliau o'r fath, sut y bydd y Llywodraeth yn sicrhau bod gan sefydliadau addysg bellach yng Nghymru yr arbenigedd digidol angenrheidiol i ddarparu profiadau dysgu digidol effeithiol? Ac wedyn, sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu parhau â'r ymrwymiad hwn yn y tymor hir o gofio, wrth inni barhau i gyflwyno addysg mewn ffyrdd arloesol, a gyda thechnolegau newydd yn ymddangos yn barhaus i ddiwallu anghenion diwydiant, ein bod hefyd yn wynebu risgiau cynyddol seiberddiogelwch y mae angen inni eu lliniaru? O ystyried, wedyn, cyfeiriad galwad i weithredu 'Digidol 2030' at ymateb i flaenoriaethau gweinidogol, yn enwedig gweithio ar y cyd i ehangu mynediad at gyfleoedd dysgu, pa rôl y bydd y sector preifat yn ei chwarae wrth gefnogi dysgu digidol mewn addysg bellach? Sut bydd y Llywodraeth yn gweithio gyda phartneriaid yn y diwydiant i gyflawni ei nodau yn y maes hwn? Ac yn olaf, mae yna fwlch amlwg, yn anffodus, o hyd, yn nifer y rhai sy'n ferched sy'n astudio'r cyfrifiadureg a TGCh i TGAU a safon uwch gyfrannol ac uwch. Pa gynlluniau sydd ar waith gan y Llywodraeth i newid hyn, a sut mae'r cynnydd yn hynny o beth yn cael ei fonitro? Diolch. |
I thank the Member for those questions. I know that she will welcome the work that's already being done to increase the numbers able to teach the sciences, maths and computing, including through the medium of Welsh, and that includes financial incentives, which can be substantial, and other initiatives to attract people to the profession. She finished by asking what we're doing to ensure that more and more pupils choose these courses too, and the question of perception and stereotyping is extremely important in this regard. She will know about the work that we're doing investing in coding and in organisations such as Techniquest, as well as a number of other STEM interventions, and those are particularly focused at attracting girls into the sector for the reasons that she outlined. She talked about skills and how important it was to work with the private sector to meet the need in this regard, and also to provide sufficient professional training for the workforce, so that they can deliver these skills, which are so important. She will know that we've recently enhanced the individual learning accounts, which have a particular focus on digital skills. That has happened over the past few months. There are also a number of ICT courses available at levels 2 and 3 and 5, and degree level too. So, there's a lot of provision, including cyber security, which she mentioned in her question, which is so important as a growing sector here in Wales, and opportunities do come about as a result of that. In terms of collaboration with the private sector, we've also funded knowledge transfer programmes, so that further education teaching staff can maintain their skills in collaboration with the private sector, and have exchanges with the private sector, so that they can keep their skills up to date, which is so important, as she said, particularly in a sector such as this, which is changing and developing so quickly. And finally, in terms of professional learning in terms of the post-16 sector, we have commissioned purpose-made training provision from Jisc, in response to the Estyn recommendations to improve the quality and availability of online and remote learning. So, there is a corpus of training already available, and we are adding to that regularly. | Diolch i'r Aelod am y cwestiynau hynny. Rwy'n gwybod y bydd hi'n croesawu'r gwaith sydd eisoes ar waith i gynyddu'r niferoedd sydd yn medru dysgu gwyddorau a mathemateg a chyfrifiadureg, yn cynnwys drwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae hynny, wrth gwrs, yn cynnwys cymhellion ariannol sydd yn gallu bod yn rhai sylweddol, a hefyd initiatives eraill i ddenu pobl i mewn i'r proffesiwn. Gwnaeth hi orffen drwy ofyn am yr hyn roeddem ni'n ei wneud i sicrhau bod mwy a mwy o ddisgyblion yn penderfynu dewis y cyrsiau yma hefyd. Mae'r cwestiwn o perception, canfyddiad, a stereotyping yn bwysig iawn yn hyn o beth, a bydd hi'n gwybod am y gwaith rŷn ni'n ei wneud i fuddsoddi mewn codio ac mewn cyrff fel Techniquest, ynghyd ag amryw o ymyraethau STEM, a'r rheini yn cael ffocws pwrpasol ar ddenu merched i mewn i'r sector am y rhesymau mae hi'n eu dweud. Gwnaeth hi sôn am sgiliau a pha mor bwysig oedd e i gydweithio â'r sector breifat i ddiwallu'r angen yn hyn o beth, a hefyd darparu digon o hyfforddiant proffesiynol i'r gweithlu, fel eu bod nhw'n gallu darparu'r sgiliau yma, sydd mor bwysig. Bydd hi'n gwybod ein bod ni wedi, yn ddiweddar, ehangu'r cyfrifon dysgu unigol, sydd â ffocws penodol ar sgiliau digidol. Mae hynny wedi digwydd yn ystod y misoedd diwethaf. Mae gennym ni hefyd amrywiaeth o gyrsiau IT a phrentisiaethau digidol yng Nghymru ar lefelau 2 i 5 a 3, a lefelau gradd hefyd. Felly, mae amryw o ddarpariaeth, yn cynnwys seiberddiogelwch, fel roedd hi'n dweud yn ei chwestiwn, sydd mor bwysig fel sector sy'n tyfu yma yng Nghymru hefyd, a chyfleoedd yn dod yn sgil hynny. Fel rhan o'r gwaith yn cydweithio â'r sector breifat, rydym ni wedi hefyd ariannu cynlluniau knowledge transfer, fel bod staff dysgu addysg bellach yn gallu cadw eu sgiliau yn gyfredol wrth gydweithio â'r sector breifat, a hefyd cyfnewid swyddi dros dro, fel bod adnewyddu cyson yn digwydd o fewn sgiliau'r gweithlu, sydd yn bwysig am y rhesymau mae hi'n eu dweud, ac yn benodol o bwysig mewn sector fel hon, sydd yn newid mor gyflym ac yn datblygu mor gyflym hefyd. Ac yn olaf, o ran dysgu proffesiynol, yn y sector ôl-16, rydym wedi comisiynu deunydd hyfforddi pwrpasol a chyrsiau ar addysgu digidol wrth Jisc, mewn ymateb i argymhellion Estyn i wella safon ac argaeledd dysgu ar-lein a dysgu remote hefyd. Felly, mae corff o hyfforddiant yn bodoli eisoes; rydym ni'n ychwanegu at hynny yn gyson. |
Thank you very much. And thank you for allowing me to speak for a few seconds to ask one question, truth be told. I speak as chair of the cross-party group on digital here in the Senedd. It's good to see additional investment going into providing more opportunities to learn digitally, but I wonder whether the Minister can give me an idea of how he sees this fitting into creating the kinds of digital skills that we need for the Welsh economy. The ability to work digitally is one thing, but, through developing those skills, which make learning more interesting, more engaging, we need to keep a weather eye on why we're doing this too, and what benefits we will derive as a society out of developing those skills, and how we, as an economy, are going to benefit too. | Diolch yn fawr iawn. A diolch am adael i mi siarad am ychydig o eiliadau i ofyn un cwestiwn, mewn difrif. Dwi'n siarad fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar ddigidol yma yn y Senedd. Mae'n dda gweld buddsoddiad ychwanegol yn mynd i mewn i ddarparu mwy o gyfleon i ddysgu mewn modd digidol, ond tybed ydy'r Gweinidog yn gallu rhoi syniad i fi o sut mae o'n gweld hwn yn ffitio mewn i greu'r math o sgiliau digidol sydd eu hangen ar gyfer yr economi Gymreig. Mae'r gallu i weithio yn ddigidol yn un peth, ond, drwy ddatblygu'r sgiliau hynny, sy'n gwneud dysgu yn fwy difyr, yn fwy engaging, mae eisiau cadw llygad ar pam dŷn ni'n gwneud hyn hefyd, a beth ydy'r budd dŷn ni'n mynd i'w gael fel cymdeithas allan o ddatblygu'r sgiliau yna, a sut ydym ni, fel economi, yn mynd i elwa hefyd. |
That's an important question. Of course, the main purpose of this is to ensure that the way that we educate learners is as broad as possible, so that people have enhanced opportunities to access diverse courses, and there'll be different demands in different areas in terms of courses in our colleges. But it's also an opportunity - as I mentioned in response to Sioned Williams - it's also an opportunity to ensure that we keep the skills of the FE workforce up to date, so that they can ensure that students' skills are also up to date. There is a range of qualifications already in existence. And in terms of apprenticeships, those are designed with the sector itself, and the legislation that we've just passed as a Senedd will make that even easier and more flexible, so that we can ensure that the sectors that are growing and developing quickly can have a direct voice in how we shape these courses. That's very important indeed. | Mae'n gwestiwn pwysig. Wrth gwrs, prif bwrpas hyn yw sicrhau bod y ffordd rŷn ni'n dysgu myfyrwyr yn gallu cyrraedd y rhan fwyaf sydd yn bosib, felly, fod cyfle ehangach gyda phobl i allu cael mynediad at gyrsiau amrywiol, ac mae galw gwahanol mewn ardaloedd gwahanol am gyrsiau ymhlith ein colegau ni. Ond mae e hefyd yn gyfle - fel roeddwn i'n sôn yn fras yn gynharach gyda Sioned Williams - mae hefyd yn gyfle i sicrhau ein bod ni'n cadw'n gyfredol o ran y sgiliau mae'r gweithlu addysg bellach, er enghraifft, yn eu cynnal, fel eu bod nhw'n gallu sicrhau bod y myfyrwyr yn cadw'u sgiliau yn gyfredol. Mae amrywiaeth o gymwysterau eisoes yn bodoli. Mae'r rheini, wrth gwrs - er enghraifft, o ran prentisiaethau - yn cael eu dylunio gyda'r sector ei hunan, ac mae'r ddeddfwriaeth rydym ni newydd ei phasio fel Senedd yn mynd i wneud hynny'n haws fyth, yn ei wneud e'n fwy hyblyg fyth, fel ein bod ni'n gallu sicrhau bod y sectorau sy'n tyfu ac yn newid yn gyflym yn gallu cael llais uniongyrchol ar sut rydym ni'n siapio'r cyrsiau hynny. Mae hynny'n bwysig iawn. |
Item 6 is a statement by the Minister for Social Justice on the Ukraine humanitarian response. I call on the Minister, Jane Hutt. | Eitem 6 yw datganiad gan y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, yr ymateb dyngarol i Wcráin. Galwaf ar y Gweinidog, Jane Hutt. |
Diolch, Dirprwy Lywydd. I'm pleased to provide an update to Members about our ongoing work to support people from Ukraine seeking sanctuary in Wales. Wales has now welcomed just over 6,400 Ukrainians under Homes for Ukraine. Almost 3,400 have been sponsored by Welsh households, with just over 3,000 sponsored by the Welsh Government by 7 February. Over 1,300 of those Welsh Government has sponsored have now moved into longer term accommodation. There have been additional arrivals under the Ukraine family scheme, but we're not given that data by the UK Government. The total number of granted visas has not grown very much in 2023 so far. Around 8,750 visas have now been granted to those with sponsors in Wales, and there remain around 1,500 individuals with visas who are yet to travel, and we remain mindful that events in Ukraine can have a direct impact on the number of Ukrainians who may arrive in Wales. | Diolch, Dirprwy Lywydd. Rwy'n falch o roi diweddariad i Aelodau am ein gwaith parhaus i gefnogi pobl o Wcráin sy'n chwilio am noddfa yng Nghymru. Mae Cymru bellach wedi croesawu ychydig dros 6,400 o Wcreiniaid o dan y cynllun Cartrefi i Wcráin. Noddwyd bron i 3,400 gan aelwydydd yng Nghymru, a noddwyd ychydig dros 3,000 gan Lywodraeth Cymru erbyn 7 Chwefror. Mae dros 1,300 o'r rheini y mae Llywodraeth Cymru wedi eu noddi bellach wedi symud i lety tymor hwy. Mae rhagor wedi cyrraedd o dan y cynllun teuluoedd o Wcráin, ond ni roddir y data hynny i ni gan Lywodraeth y DU. Nid yw cyfanswm y fisâu a roddwyd wedi cynyddu rhyw lawer yn 2023 hyd yn hyn. Rhoddwyd tua 8,750 o fisâu i'r rhai sydd â noddwyr yng Nghymru erbyn hyn, a cheir tua 1,500 o unigolion â fisâu nad ydyn nhw wedi teithio eto, ac rydym ni'n parhau i fod yn ymwybodol y gall digwyddiadau yn Wcráin gael effaith uniongyrchol ar nifer yr Wcreiniaid a allai gyrraedd Cymru. |
On 31 January, my Scottish counterpart and I met with UK Minister Felicity Buchan to talk about issues affecting our Ukraine response. During my last statement, I outlined the financial issues that I would be raising, and these were discussed with Minister Buchan. Unfortunately, our requests for changes that we believe would support public services and services for vulnerable new arrivals were heard but not progressed. Since our meeting with Minister Buchan, our Minister for Finance and Local Government raised similar matters with the Chief Secretary to the Treasury, including the need for the UK Government to raise the local housing allowance, but no indication of a change of approach was forthcoming. But we're still working with the UK Government to ascertain what proportion of the new £150 million fund for Ukrainian housing support during 2023-24 will come to Wales. We've put forward a proposal and we've been clear that clarity is needed urgently to enable local authorities to plan sufficiently. This leaves us and local authorities in a difficult budgetary position, lacking the clarity we need to most effectively deliver our humanitarian response. Nevertheless, we are working with local authorities and partners to consider how best we use the £40 million we have put in the Welsh Government budget for 2023-24. This will support move-on to longer term accommodation, including hosts, and support integration within our communities. We are currently developing a communications package to encourage further recruitment of Welsh households as hosts for those arriving or remaining in Wales. The UK Government decision to only uplift host 'thank you' payments to £500 after a guest has been in the UK for 12 months means many will struggle with bills when they need help most. However, one positive aspect of the UK Government's funding changes was the extension of the host 'thank you' payments for our guests' second year in the UK. We will raise awareness of this change to retain hosts. We will seek to increase activity in the spring to find those who may be able to support us in this endeavour. As ever, interested hosts can go to gov.wales/offerhome to learn more and register their interest. We're particularly looking for hosts who can support large families, those with pets, or single men. I've been providing these update statements for many months, but it is still barely believable that we're already approaching the anniversary of the 2022 invasion of Ukraine. We know that some Ukrainians here in Wales, including those who sought sanctuary years ago, see 2014 as the start of the current invasion. I think it's important we remember that, even as we reflect upon the anniversary of the invasion intensifying. This anniversary is a grim milestone and a tragic reminder of why we're doing everything we are doing here in Wales. We are unwavering in our support for those we have welcomed over the last year, the Ukrainian community members who already call Wales home, and those fighting in Ukraine. We are a nation of sanctuary, and I know all sides of this Siambr would agree with me in sending a message of hope, solidarity and respect. The people of Wales have demonstrated beyond doubt that we are a compassionate people, providing amazing support despite huge upheaval through the cost-of-living crisis. We'll mark the anniversary between the 24 February and 27 February. On the anniversary itself, the Senedd is in recess, but we're working on plans with the UK Government to ensure that the anniversary is marked appropriately. On 25 February, we will welcome Kenneth Nowakowski, Bishop of the Ukrainian Catholic Eparchy of the Holy Family of London, to Wales, who will join the Archbishop of Cardiff at a live-streamed candlelight ecumenical prayer service. This will be a mass for peace, and it will be held at 8 p.m. on Saturday 25 February in Cardiff metropolitan cathedral, and I will be attending. And then, on Sunday 26 February at 3 p.m., a divine liturgy will also be held at St Peter's in Cardiff, attended by the Counsel General. Finally, we are hosting an event at the Senedd on 27 February. We have invited those from all sectors who have reached out and helped people from Ukraine in this past year. I'm looking forward to meeting host families from throughout Wales and their guests. It will be a day of reflection, a day to remember the past and to look to the future. Our support for Ukrainians and all sanctuary seekers in Wales will endure far beyond this anniversary. Those who find sanctuary in Wales contribute to our communities, our economy and our sense of who we are as a nation. As President Zelenskyy remarked in his recent address to the UK Houses of Parliament, 'it is in our power to guarantee with words and deeds that the light side of human nature will prevail. The side you and us share. And this stands above anything else.' Diolch. | Ar 31 Ionawr, fe wnaeth fy swyddog cyfatebol yn yr Alban a minnau gyfarfod â Gweinidog y DU, Felicity Buchan, i drafod materion sy'n effeithio ar ein hymateb o ran Wcráin. Yn ystod fy natganiad diwethaf, amlinellais y materion ariannol y byddwn yn eu codi, a thrafodwyd y rhain gyda'r Gweinidog Buchan. Yn anffodus, gwrandawyd ar ein ceisiadau am newidiadau yr ydym ni'n credu fyddai'n cynorthwyo gwasanaethau cyhoeddus a gwasanaethau i newydd-ddyfodiaid agored i niwed ond ni fwriwyd ymlaen â nhw. Ers ein cyfarfod gyda'r Gweinidog Buchan, cododd ein Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol faterion tebyg gyda Phrif Ysgrifennydd y Trysorlys, gan gynnwys yr angen i Lywodraeth y DU gynyddu'r lwfans tai lleol, ond ni chafwyd unrhyw arwydd o newid dull. Ond rydym ni'n dal i weithio gyda Llywodraeth y DU i ddarganfod pa gyfran o'r gronfa newydd gwerth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24 fydd yn dod i Gymru. Rydym ni wedi cyflwyno cynnig ac rydym ni wedi bod yn eglur bod angen eglurder ar frys i alluogi awdurdodau lleol i gynllunio'n ddigonol. Mae hyn yn ein gadael ni ac awdurdodau lleol mewn sefyllfa gyllidebol anodd, heb yr eglurder sydd ei angen arnom ni i gyflawni ein hymateb dyngarol yn fwyaf effeithiol. Serch hynny, rydym ni'n gweithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid i ystyried sut y gallwn ddefnyddio orau y £40 miliwn yr ydym ni wedi ei roi yng nghyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2023-24. Bydd hyn yn ein cynorthwyo symud ymlaen i lety tymor hwy, gan gynnwys lletywyr, ac yn cynorthwyo integreiddiad yn ein cymunedau. Rydym ni wrthi'n datblygu pecyn cyfathrebu ar hyn o bryd i annog recriwtio rhagor o aelwydydd yng Nghymru fel lletywyr i'r rhai sy'n cyrraedd neu'n aros yng Nghymru. Mae penderfyniad Llywodraeth y DU i gynyddu taliadau 'diolch' i £500 yn unig ar ôl i westai fod yn y DU am 12 mis yn golygu y bydd llawer yn cael trafferth gyda biliau pan fo angen cymorth arnyn nhw fwyaf. Fodd bynnag, un agwedd gadarnhaol ar newidiadau cyllid Llywodraeth y DU oedd ymestyn y taliadau 'diolch' i letywyr i ail flwyddyn ein gwesteion yn y DU. Byddwn yn codi ymwybyddiaeth o'r newid hwn i gadw lletywyr. Byddwn yn ceisio cynyddu gweithgarwch yn y gwanwyn i ddod o hyd i'r rhai a allai ein cynorthwyo yn yr ymdrech hon. Fel erioed, gall lletywyr â diddordeb fynd i www.llyw.cymru/cynnig-cartref-yng-nghymru-i-ffoaduriaid-o-wcrain i ddarganfod mwy a chofrestru eu diddordeb. Rydym ni'n chwilio'n arbennig am letywyr sy'n gallu cynorthwyo teuluoedd mawr, y rhai ag anifeiliaid anwes, neu ddynion sengl. Rwyf i wedi bod yn darparu'r datganiadau diweddaru hyn ers misoedd lawer, ond prin y gellir credu o hyd ein bod ni eisoes yn agosáu at flwyddyn ers ymosodiad 2022 ar Wcráin. Rydym ni'n gwybod bod rhai Wcreiniaid yma yng Nghymru, gan gynnwys y rhai a wnaeth geisio noddfa flynyddoedd yn ôl, yn ystyried mai 2014 oedd dechrau'r ymosodiad presennol. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig i ni gofio hynny, hyd yn oed wrth i ni fyfyrio ar ben blwydd dwysáu'r ymosodiad. Mae'r pen blwydd hwn yn garreg filltir ofnadwy ac yn atgoffâd trasig o pam rydym ni'n gwneud popeth yr ydym ni'n ei wneud yma yng Nghymru. Rydym ni'n ddiwyro yn ein cefnogaeth i'r rhai yr ydym ni wedi eu croesawu dros y flwyddyn ddiwethaf, yr aelodau o'r gymuned o Wcreiniaid sydd eisoes yn galw Cymru yn gartref, a'r rhai sy'n ymladd yn Wcráin. Rydym ni'n genedl noddfa, a gwn y byddai pob ochr o'r Siambr hon yn cytuno â mi wrth anfon neges o obaith, undod a pharch. Mae pobl Cymru wedi dangos y tu hwnt i amheuaeth ein bod ni'n bobl dosturiol, gan ddarparu cymorth rhyfeddol er gwaethaf trafferthion enfawr drwy'r argyfwng costau byw. Byddwn yn nodi'r pen blwydd rhwng 24 Chwefror a 27 Chwefror. Ar y pen blwydd ei hun, bydd y Senedd mewn toriad, ond rydym ni'n gweithio ar gynlluniau gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y pen blwydd yn cael ei nodi'n briodol. Ar 25 Chwefror, byddwn yn croesawu Kenneth Nowakowski, Esgob Eparchiaeth Gatholig Wcráin y Teulu Sanctaidd o Lundain i Gymru, a fydd yn ymuno ag Archesgob Caerdydd mewn gwasanaeth gweddi eciwmenaidd golau cannwyll wedi'i ffrydio'n fyw. Bydd hon yn offeren dros heddwch, a bydd yn cael ei chynnal am 8 yr hwyr ddydd Sadwrn 25 Chwefror yn eglwys gadeiriol fetropolitan Caerdydd, a byddaf yn bresennol. Ac yna, ddydd Sul 26 Chwefror am 3 y prynhawn, bydd offeren ddwyfol hefyd yn cael ei chynnal yn Eglwys Sant Pedr yng Nghaerdydd, gyda'r Cwnsler Cyffredinol yn bresennol. Ac yn olaf, rydym ni'n cynnal digwyddiad yn y Senedd ar 27 Chwefror. Rydym ni wedi gwahodd y rhai o bob sector sydd wedi estyn allan ac wedi helpu pobl o Wcráin yn ystod y flwyddyn ddiwethaf hon. Edrychaf ymlaen at gyfarfod â theuluoedd lletya o bob cwr o Gymru a'u gwesteion. Bydd yn ddiwrnod o fyfyrdod, yn ddiwrnod i gofio'r gorffennol ac i edrych tua'r dyfodol. Bydd ein cefnogaeth i Wcreiniaid a phawb sy'n ceisio noddfa yng Nghymru yn parhau ymhell y tu hwnt i'r pen blwydd hwn. Mae'r rhai sy'n canfod noddfa yng Nghymru yn cyfrannu at ein cymunedau, ein heconomi a'n synnwyr o bwy ydym ni fel cenedl. Fel y dywedodd yr Arlywydd Zelenskyy yn ei anerchiad diweddar i ddau Dŷ Senedd y DU, 'Mae yn ein gallu i sicrhau gyda geiriau a gweithredoedd y bydd ochr olau'r natur ddynol yn drech. Yr ochr yr ydych chi a ninnau yn ei rhannu. Ac mae hyn yn drech na phopeth arall.' Diolch. |
As you reflected, 24 February marks a year since Putin's illegal and barbaric invasion of Ukraine. In your update on Ukraine here three weeks ago, you stated that: 'The UK Government has announced that there will be a new UK £150 million fund for Ukrainian housing support during 2023-24, but details are currently scant', where the UK Government had announced a new support package for Ukrainians of over £650 million, including an increase in payments to £500 per month to Homes for Ukraine hosts. In response to me, you also stated that you had met Felicity Buchan, the UK Parliamentary Under-Secretary of State for Housing and Homelessness, together with the Scottish Government's Minister for refugees, before Christmas and that you had a further meeting scheduled with Felicity Buchan the following week. In your statement today you referred to that meeting, confirmed that these issues were discussed, and that you put forward a proposal. What was this proposal? And what, if any, indicative timescales were given to you for a response? Although the Welsh Government's supersponsor scheme was temporarily paused on 10 June 2022, what is the current position with this, where, as you've indicated, 6,437 Ukrainians, sponsored by the Welsh Government and Welsh households as part of the Homes for Ukraine scheme, have arrived in Wales and almost half of the refugees in Wales are sponsored by the Welsh Government's supersponsor scheme? It is reported that many Ukrainian refugees in Wales have spoken to the media about the difficulties that many of them are having finding and maintaining housing accommodation. For example, Ukrainian refugees who've had to leave their sponsor homes have been told that welcome centres aren't an option for safe accommodation, and landlords appear reluctant to take on refugee tenants due to concerns over stability of future earnings. I'm quoting here from newspaper articles, and therefore I don't know how secure the progeny of those stories is. But, responding to you three weeks ago, I also referred to the case of the mum and daughter who fled fighting in Ukraine but now face homelessness as their Welsh sponsor pulls out, who can't afford private rent and who fear they could end up on the streets. I further noted that the Irish Government has announced that it would be delivering 700 modular homes for Ukrainian refugees this year, including 200 accommodating 800 Ukrainian refugees, built by Easter, as it scrambles to find housing. Given that Wales has a long-standing affordable housing supply crisis, will the Welsh Government be considering this option alone or with the UK Government? And if so, what is it currently doing about it? I again referred in my response to you three weeks ago to the help being provided for Ukrainian refugees by Wrexham's Polish integration support centre, and your then forthcoming visit, which I attended, to the north Wales Ukraine response by charity Link International, and to the response to the invasion of Ukraine by the Catholic Bishops Conference for England and Wales. Last Friday, I visited a primary school in Denbighshire with my colleague Laura Anne Jones, shadow education Minister, when the headteacher referred to their Ukrainian pupils, whose families were supported and housed locally by the Red Cross. I'm also an honorary of Flint and Holywell rotary club and, over the last 12 months, rotary clubs have donated over £6 million in cash and kind and given more than 100,000 volunteer hours supporting Ukraine and its people. Finally, therefore, will you provide an update on how you're ensuring that all these wider contributions are integrated into the Welsh Government's Ukraine humanitarian response? | Fel y nodwyd gennych chi, mae'n flwyddyn ar 24 Chwefror ers ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd Putin ar Wcráin. Yn eich diweddariad ar Wcráin yma dair wythnos yn ôl, fe wnaethoch chi ddweud: 'Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd cronfa newydd werth £150 miliwn ar gyfer cymorth tai i Wcreiniaid yn ystod 2023-24, ond mae'r manylion yn brin ar hyn o bryd', lle'r oedd Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi pecyn cymorth newydd i Wcreiniaid o dros £650 miliwn, gan gynnwys cynnydd i daliadau i £500 y mis i letywyr Cartrefi i Wcráin. Mewn ymateb i mi, fe wnaethoch hefyd ddweud eich bod wedi cyfarfod â Felicity Buchan, Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol y DU dros Dai a Digartrefedd, ynghyd â Gweinidog ffoaduriaid Llywodraeth yr Alban, cyn y Nadolig a bod gennych chi gyfarfod pellach wedi'i drefnu gyda Felicity Buchan yr wythnos ganlynol. Yn eich datganiad heddiw fe wnaethoch chi gyfeirio at y cyfarfod hwnnw, gan gadarnhau bod y materion hyn wedi cael eu trafod, a'ch bod wedi gwneud cynnig. Beth oedd y cynnig hwn? A pha amserlenni dangosol, os o gwbl, a roddwyd i chi ar gyfer ymateb? Er i gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru gael ei ohirio dros dro ar 10 Mehefin 2022, beth yw'r sefyllfa bresennol gyda hwn, lle, fel yr ydych chi wedi ei nodi, mae 6,437 o Wcreiniaid, wedi eu noddi gan Lywodraeth Cymru ac aelwydydd yng Nghymru yn rhan o gynllun Cartrefi i Wcráin, wedi cyrraedd Cymru ac mae bron i hanner y ffoaduriaid yng Nghymru yn cael eu noddi gan gynllun uwch-noddwyr Llywodraeth Cymru? Adroddir bod nifer o ffoaduriaid o Wcráin yng Nghymru wedi siarad â'r cyfryngau am yr anawsterau y mae nifer ohonyn nhw'n eu cael yn dod o hyd i lety a'i gadw. Er enghraifft, dywedwyd wrth ffoaduriaid o Wcráin y bu'n rhaid iddyn nhw adael eu cartrefi nawdd nad yw canolfannau croeso yn opsiwn ar gyfer llety diogel, ac mae'n ymddangos bod landlordiaid yn amharod i dderbyn tenantiaid sy'n ffoaduriaid oherwydd pryderon ynghylch sefydlogrwydd enillion yn y dyfodol. Rwy'n dyfynnu yma o erthyglau papur newydd, ac felly wn i ddim pa mor ddilys yw ffynhonnell y straeon hynny. Ond, wrth ymateb i chi dair wythnos yn ôl, cyfeiriais hefyd at achos y fam a'r ferch a wnaeth ffoi o ymladd yn Wcráin ond sydd bellach yn wynebu digartrefedd wrth i'w noddwr o Gymru dynnu'n ôl, nad ydyn nhw'n gallu fforddio rhent preifat ac sy'n ofni y gallen nhw fod ar y strydoedd yn y pen draw. Nodais ymhellach fod Llywodraeth Iwerddon wedi cyhoeddi y byddai'n darparu 700 o gartrefi modiwlar ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin eleni, gan gynnwys 200 â lle i 800 o ffoaduriaid o Wcráin, i gael eu hadeiladu erbyn y Pasg, wrth iddi ruthro i ddod o hyd i dai. O gofio bod gan Gymru argyfwng cyflenwad tai fforddiadwy hirsefydlog, a fydd Llywodraeth Cymru yn ystyried yr opsiwn hwn ar ei phen ei hun neu gyda Llywodraeth y DU? Ac os felly, beth mae'n ei wneud amdano ar hyn o bryd? Cyfeiriais eto yn fy ymateb i chi dair wythnos yn ôl at y cymorth sy'n cael ei ddarparu i ffoaduriaid o Wcráin gan ganolfan cymorth integreiddio Pwyliaid Wrecsam, a'ch ymweliad arfaethedig ar y pryd, yr oeddwn i'n bresennol ynddo, ag ymateb gogledd Cymru i Wcráin gan elusen Link International, ac i'r ymateb i'r ymosodiad ar Wcráin gan Gynhadledd Esgobion Catholig Cymru a Lloegr. Ddydd Gwener diwethaf, fe wnes i ymweld ag ysgol gynradd yn sir Ddinbych gyda'm cyd-Aelod Laura Anne Jones, Gweinidog addysg yr wrthblaid, pan gyfeiriodd y pennaeth at eu disgyblion o Wcráin, y cafodd eu teuluoedd gymorth a chartrefi yn lleol gan y Groes Goch. Rwyf i hefyd yn aelod anrhydeddus o glwb rotari'r Fflint a Threffynnon, a dros y 12 mis diwethaf mae clybiau rotari wedi rhoi dros £6 miliwn mewn arian parod ac adnoddau ac wedi rhoi mwy na 100,000 o oriau gwirfoddolwyr yn cynorthwyo Wcráin a'i phobl. Yn olaf, felly, a wnewch chi roi diweddariad ar sut rydych chi'n sicrhau bod yr holl gyfraniadau ehangach hyn yn cael eu hintegreiddio i ymateb dyngarol Llywodraeth Cymru i Wcráin? |
Thank you very much, Mark Isherwood, and can I say I absolutely agree with your opening comments about the barbaric, as you say, invasion? And we are, of course, now, facing a year where we all stood together in this Chamber to acknowledge this and to pledge ourselves to respond in the humanitarian way that we do believe is right and just as a nation of sanctuary. We have worked very closely, I would say, over the past year, with the UK Government, and with Scottish colleagues as well - Scottish Government. Both the Scottish Government and the Welsh Government agreed and decided to develop the supersponsor route, which meant that those who were fleeing the invasion could come to Wales and go straight into initial accommodation and that we would support them with our funding that was being made available by the Welsh Government during this financial year, and of course, as I've said, we have in the draft budget the £40 million for the next financial year. Inter-governmental relations, therefore, have been important in terms of the way that we've worked together to move forward, but also to provide evidence that the route that we've taken with our supersponsor scheme has been beneficial in terms of the initial accommodation that we've provided through our welcome centres. | Diolch yn fawr iawn, Mark Isherwood, ac a gaf i ddweud fy mod i'n cytuno'n llwyr â'ch sylwadau agoriadol am yr ymosodiad barbaraidd, fel rydych chi'n ei ddweud? Ac rydym ni, wrth gwrs, bellach yn wynebu blwyddyn lle gwnaethom ni i gyd sefyll gyda'n gilydd yn y Siambr hon i gydnabod hyn ac i ymrwymo'n hunain i ymateb yn y ffordd ddyngarol yr ydym ni'n credu sy'n iawn ac yn gyfiawn fel cenedl noddfa. Rydym ni wedi gweithio'n agos iawn, byddwn i'n dweud, dros y flwyddyn ddiwethaf, gyda Llywodraeth y DU, a gyda chydweithwyr yn yr Alban hefyd - Llywodraeth yr Alban. Cytunodd a phenderfynodd Llywodraeth yr Alban a Llywodraeth Cymru i ddatblygu'r llwybr uwch-noddwr, a oedd yn golygu y gallai'r rhai a oedd yn ffoi'r ymosodiad ddod i Gymru a mynd yn syth i lety cychwynnol ac y byddem ni'n eu cefnogi gyda'n cyllid a oedd yn cael ei wneud ar gael gan Lywodraeth Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol hon, ac wrth gwrs, fel y dywedais, mae gennym ni yn y gyllideb ddrafft y £40 miliwn ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Mae cysylltiadau rhyng-lywodraethol, felly, wedi bod yn bwysig o ran y ffordd yr ydym ni wedi cydweithio i symud ymlaen, ond hefyd i ddarparu tystiolaeth bod y llwybr yr ydym ni wedi ei ddilyn gyda'n cynllun uwch-noddwyr wedi bod yn fuddiol o ran y llety cychwynnol yr ydym ni wedi ei ddarparu drwy ein canolfannau croeso. |
I think it is important to say that we have been working very hard with our local authorities, not only to support people in initial accommodation, but then, all importantly, to help them to move on. But just to recognise that we have been providing comprehensive support for particularly the first few weeks of Ukrainians arriving in Wales. We call this the welcome phase. It does obviously mean that we can then work with local authorities in terms of getting access to schools, translation services, health services, and English for speakers of other languages, and then to support arrivals into longer term accommodation. Yes, as I said, the £150 million, we await the response from the UK Government as to how that's going to be allocated. We worked with the Scottish Government in terms of finding a way forward to make sure there was a fair, proportionate allocation of funding, and we await to hear the response from the UK Government to our proposals. But it is very much linked to our framework of accommodation, which is the other point that you make, and I'll just focus on that in terms of concluding my response to your questions, because the move-on accommodation is crucial, and that's working with local authorities. We have a framework for accommodation in order to work with them. It has a formula and it provides support for local authorities, working with the Welsh Local Government Association, to look at ways we can help all those in temporary housing need in Wales. In terms of securing longer term accommodation, which is why we want to access the £150 million, it's a mixture of accommodation; individual hosting, as I've said in the statement; the private rented sector; and also other forms of good-quality transitional accommodation. This is actually where we can share what we're doing in Wales with UK Government and Scottish Government. The transitional accommodation capital programme, which was £65 million at this financial year, we're actually increasing that to £89 million with support from Plaid Cymru. We've got these wider housing pressures, and we are looking to see that transitional accommodation capital programme delivering a range of initiatives, including, of course, ways in which we can support good-quality housing, opening up empty housing, and also ensuring that we can have the modular accommodation that can be provided at pace and at cost, and that it can be then used as a transitional capital programme into the next financial year. I think it is important, just for the record again, to say that over 1,300 have now moved on into longer term accommodation - over 800 of those settling within Wales - and of our supersponsor arrivals, almost 1,100 have moved on into longer term accommodation. And also to recognise, of course, that these are all members of our communities, many of whom are working, integrating, and you will know them all across Wales. Can I just say how much I appreciated visiting the Polish integration support centre in Wrexham with you? You've raised this on a number of occasion. But also, in north Wales, meeting Link International, and meeting with all the third sector organisations who've been supporting Ukrainian guests throughout the whole of Wales. They've all been invited to come to the Senedd on 27 February, as you have as well, and I hope that they will all be able to join us, because they have played a crucial role. And don't forget that we've been funding the third sector organisations - the British Red Cross, Asylum Justice, Housing Justice Cymru - all of them, and the Welsh Refugee Council, to help them with the resettlement of our Ukrainian guests. | Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud ein bod ni wedi bod yn gweithio'n galed iawn gyda'n hawdurdodau lleol, nid yn unig i gynorthwyo pobl mewn llety cychwynnol, ond wedyn, yn hollbwysig, i'w helpu i symud ymlaen. Ond dim ond i gydnabod ein bod ni wedi bod yn darparu cymorth cynhwysfawr ar gyfer yr wythnosau cyntaf pan fo Wcreiniaid yn cyrraedd Cymru yn arbennig. Y cam croeso yw ein henw ar hwn. Mae'n amlwg yn golygu y gallwn ni weithio wedyn gydag awdurdodau lleol o ran cael mynediad at ysgolion, gwasanaethau cyfieithu, gwasanaethau iechyd, a Saesneg i siaradwyr ieithoedd eraill, ac yna i gynorthwyo'r rhai sy'n cyrraedd i gael llety tymor hwy. Ie, fel y dywedais, y £150 miliwn, rydym ni'n aros am yr ymateb gan Lywodraeth y DU o ran sut y bydd hwnnw'n cael ei ddyrannu. Fe wnaethom ni weithio gyda Llywodraeth yr Alban o ran dod o hyd i ffordd ymlaen i wneud yn siŵr bod dyraniad teg a chymesur o gyllid, ac rydym ni'n disgwyl clywed yr ymateb gan Lywodraeth y DU i'n cynigion. Ond mae'n sicr yn gysylltiedig â'n fframwaith llety, sef y pwynt arall yr ydych chi'n ei wneud, ac fe wnaf i ganolbwyntio ar hwnnw o ran cloi fy ymateb i'ch cwestiynau, oherwydd mae'r llety symud ymlaen yn hanfodol, ac mae hynny'n gweithio gydag awdurdodau lleol. Mae gennym ni fframwaith ar gyfer llety er mwyn gweithio gyda nhw. Mae ganddo fformiwla ac mae'n darparu cymorth i awdurdodau lleol, gan weithio gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, i edrych ar ffyrdd y gallwn ni helpu pawb sydd angen tai dros dro yng Nghymru. O ran sicrhau llety mwy hirdymor, a dyna pam rydym ni eisiau cael mynediad at y £150 miliwn, mae'n gymysgedd o lety; lletya unigolion, fel y dywedais yn y datganiad; y sector rhentu preifat; a hefyd mathau eraill o lety pontio o ansawdd da. Dyma mewn gwirionedd yw lle gallwn ni rannu'r hyn yr ydym ni'n ei wneud yng Nghymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth yr Alban. Y rhaglen gyfalaf llety trosiannol, a oedd yn £65 miliwn yn y flwyddyn ariannol hon, rydym ni'n cynyddu honno i £89 miliwn gyda chymorth gan Blaid Cymru. Mae gennym ni'r pwysau ehangach hyn o ran tai, ac rydym ni'n edrych i weld y rhaglen gyfalaf llety trosiannol honno yn darparu amrywiaeth o fentrau, gan gynnwys, wrth gwrs, ffyrdd y gallwn ni gefnogi tai o ansawdd da, defnyddio tai gwag, a hefyd sicrhau y gallwn ni gael y llety modiwlar y gellir ei ddarparu yn gyflym ac yn rhad, ac y gellir ei defnyddio wedyn fel rhaglen gyfalaf drosiannol i mewn i'r flwyddyn ariannol nesaf. Rwy'n credu ei bod hi'n bwysig dweud, dim ond ar gyfer y cofnod eto, bod dros 1,300 bellach wedi symud ymlaen i lety tymor hwy - dros 800 o'r rhai sy'n ymgartrefu yng Nghymru - ac o'r rhai sy'n cyrraedd drwy'n cynllun uwch-noddwyr, mae bron i 1,100 wedi symud ymlaen i lety tymor hwy. A hefyd i gydnabod, wrth gwrs, bod y rhain i gyd yn aelodau o'n cymunedau, y mae llawer ohonyn nhw'n gweithio, yn integreiddio, a byddwch yn eu hadnabod nhw ledled Cymru. A gaf i ddweud cymaint y gwnes i werthfawrogi ymweld â'r ganolfan cymorth integreiddio Pwyliaid yn Wrecsam gyda chi? Rydych chi wedi codi hyn ar sawl achlysur. Ond hefyd, yn y gogledd, cyfarfod â Link International, a chyfarfod â'r holl sefydliadau trydydd sector sydd wedi bod yn cynorthwyo gwesteion o Wcráin trwy Gymru gyfan. Maen nhw i gyd wedi cael gwahoddiad i ddod i'r Senedd ar 27 Chwefror, fel yr ydych chithau hefyd, ac rwy'n gobeithio y byddan nhw i gyd yn gallu ymuno â ni, oherwydd maen nhw wedi chwarae rhan hollbwysig. A pheidiwch ag anghofio ein bod ni wedi bod yn ariannu'r sefydliadau trydydd sector - y Groes Goch Brydeinig, Asylum Justice, Housing Justice Cymru - bob un ohonyn nhw, a Chyngor Ffoaduriaid Cymru, i'w helpu gydag ailgartrefu ein gwesteion o Wcráin. |
As we approach the anniversary - the grim milestone, as you called it - of the illegal and barbaric invasion of Ukraine, I want to echo your thanks to people all over Wales who have provided sanctuary to people from Ukraine. When we in Wales say, 'Refugees are welcome', when we declare ourselves a nation of sanctuary, when our Government declares itself a supersponsor to aid those forced to flee their homes, it counts. And the language used by those in Government counts. And I'm so glad that we in Wales use different language to that of the Westminster Government - in all senses different. | Wrth i ni nesáu blwyddyn - y garreg filltir ofnadwy, fel y gwnaethoch chi ei galw - ers yr ymosodiad anghyfreithlon a barbaraidd ar Wcráin, hoffwn adleisio eich diolch i bobl ledled Cymru sydd wedi darparu noddfa i bobl o Wcráin. Pan fyddwn ni yng Nghymru yn dweud, 'Mae croeso i ffoaduriaid', pan fyddwn ni'n datgan ein hunain yn genedl noddfa, pan fydd ein Llywodraeth yn datgan ei hun yn uwch-noddwr i gynorthwyo'r rhai sy'n cael eu gorfodi i ffoi o'u cartrefi, mae'n cyfrif. Ac mae'r iaith a ddefnyddir gan y rhai mewn Llywodraeth yn cyfrif. Ac rwyf i mor falch ein bod ni yng Nghymru yn defnyddio iaith wahanol i iaith Llywodraeth San Steffan - gwahanol ym mhob ystyr. |
We are a nation of sanctuary. | Rydym yn genedl noddfa. |
Minister, do you agree that the terms used by those in power when discussing refugees especially and all those marginalised in our society count, because language has consequences? And we saw this in Knowsley this weekend - despicable and potentially terrible consequences. One hundred organisations have signed an open letter to call on all political leaders to condemn Friday's attack on refugees. Has the Welsh Government voiced its concern to the UK Government that hostile words lead to hostile actions? Our support in Wales over the past year for Ukrainian refugees has shown how responding to need in times of extreme crisis can be an opportunity to bring out the best, not the worst, in society. Many of us have seen examples first-hand how refugees enrich our communities. I met Iryna last week, a graduate of Kyiv university, who came to Wales through the supersponsor scheme and stayed at the welcome centre in Llangrannog. She is now working at Power and Water in Swansea and is at the forefront of that company's groundbreaking work in the field of the chemical-free treatment of waste water. Iryna was fortunate that the company helped find and fund her accommodation initially, so that she could take up that job. Many of her fellow refugees, of course, aren't so lucky, and we know, as you've alluded to, that the pressures on housing are immense. As Mark Isherwood noted, WalesOnline has published accounts of Ukrainian refugees and sponsors who have struggled with the system in place to accommodate them, with refugees being expected to live in short-term accommodation for long-term periods and being almost rightless tenants under landlord sponsors, to sponsors feeling that they're lacking support during the cost-of-living crisis. Could you please comment on what potential issues with the supersponsor and the other sponsor schemes were identified by Welsh Government at the start of their implementation, and so what preventative measures were put in place? And is it possible for the Minister to confirm the number of settling Ukrainian households, particularly from the current welcoming centres and hotels that each local authority will be expected to welcome, in order that authorities' preparations can be further firmed up by the way of support and integration into local communities? Cymorth Cymru conducted a survey with 650 front-line workers and held meetings with 68 homelessness and housing support workers across Wales to find out how the cost of living is affecting their lives and their jobs. The impact of the cost-of-living crisis and people's fears for the future were widespread, affecting not just their finances but their mental health and their ability to do their job. They talked extensively about the impact on their mental health, referencing anxiety, having to take time off work, concerns about increasing workload due to people leaving the sector and, of course, increased demand. And of course, during the last year, the cost-of-living crisis has deepened considerably. Cymorth Cymru recently raised concerns about the impact of the cost-of-living crisis on front-line homelessness and housing support workers and their families. These workers are facing significant stresses in their jobs due to the crisis, and they will now be facing even more added pressures as they try to protect Ukrainian refugees here in Wales from homelessness and assist them with accommodation. So, has the Welsh Government conducted any assessment as to how changes in support for Ukrainian refugees here in Wales will be affecting our already stretched services? How are they working alongside these services to ensure they are getting the support they need to be able to best support vulnerable refugees here in Wales? Diolch. | Gweinidog, a ydych chi'n cytuno bod y termau sy'n cael eu defnyddio gan y rhai sydd mewn grym wrth drafod ffoaduriaid yn arbennig a phawb sydd ar y cyrion yn ein cymdeithas yn cyfrif, oherwydd bod canlyniadau i iaith? Ac fe welsom ni hyn yn Knowsley y penwythnos hwn - canlyniadau ffiaidd ac o bosibl ofnadwy. Mae cant o sefydliadau wedi llofnodi llythyr agored i alw ar bob arweinydd gwleidyddol i gondemnio ymosodiad dydd Gwener ar ffoaduriaid. A yw Llywodraeth Cymru wedi lleisio ei phryder i Lywodraeth y DU bod geiriau gelyniaethus yn arwain at weithredoedd gelyniaethus? Mae ein cefnogaeth yng Nghymru yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i ffoaduriaid o Wcráin wedi dangos sut y gall ymateb i angen mewn cyfnod o argyfwng eithafol fod yn gyfle i gael y gorau, nid y gwaethaf, allan o gymdeithas. Mae llawer ohonom ni wedi gweld enghreifftiau o lygad y ffynnon sut mae ffoaduriaid yn cyfoethogi ein cymunedau. Fe wnes i gyfarfod ag Iryna yr wythnos diwethaf, sydd â gradd o brifysgol Kyiv, a ddaeth i Gymru drwy'r cynllun uwch-noddwyr ac a arhosodd yn y ganolfan groeso yn Llangrannog. Mae hi bellach yn gweithio yn Power and Water yn Abertawe ac yn flaenllaw yng ngwaith arloesol y cwmni hwnnw ym maes trin dŵr gwastraff heb gemegion. Roedd Iryna'n ffodus bod y cwmni wedi helpu i ddod o hyd i'w llety a'i ariannu i gychwyn, fel y gallai dderbyn y swydd honno. Nid yw llawer o'i chyd-ffoaduriaid mor ffodus, wrth gwrs, ac rydym ni'n gwybod, fel yr ydych chi wedi sôn, bod y pwysau ar dai yn aruthrol. Fel y nododd Mark Isherwood, mae WalesOnline wedi cyhoeddi adroddiadau am ffoaduriaid o Wcráin a noddwyr sydd wedi cael trafferthion gyda'r system sy'n bodoli i'w lletya, gyda disgwyl i ffoaduriaid fyw mewn llety byrdymor am gyfnodau hirdymor a bron yn denantiaid di-hawliau o dan noddwyr sy'n landlordiaid, a noddwyr yn teimlo bod diffyg cymorth iddyn nhw yn ystod yr argyfwng costau byw. Allech chi gynnig sylwadau, os gwelwch yn dda, ar ba broblemau posibl gyda'r cynllun uwch-noddwyr a'r cynlluniau noddi eraill a nodwyd gan Lywodraeth Cymru ar ddechrau eu gweithrediad, ac felly pa fesurau ataliol a roddwyd ar waith? Ac a yw'n bosibl i'r Gweinidog gadarnhau nifer yr aelwydydd o Wcráin sydd wedi ymgartrefu yma, yn enwedig o'r canolfannau croesawu a'r gwestai presennol y bydd disgwyl i bob awdurdod lleol eu croesawu, fel y gall paratoadau'r awdurdodau gael eu cadarnhau ymhellach trwy gymorth ac integreiddiad i gymunedau lleol? Cynhaliodd Cymorth Cymru arolwg gyda 650 o weithwyr rheng flaen a chynhaliodd gyfarfodydd gyda 68 o weithwyr cymorth digartrefedd a thai ledled Cymru i ddarganfod sut mae costau byw yn effeithio ar eu bywydau a'u swyddi. Roedd effaith yr argyfwng costau byw ac ofnau pobl am y dyfodol yn eang, gan effeithio nid yn unig ar eu cyllid ond ar eu hiechyd meddwl a'u gallu i wneud eu gwaith. Soniwyd yn helaeth ganddyn nhw am yr effaith ar eu hiechyd meddwl, gan gyfeirio at orbryder, gorfod cymryd amser o'r gwaith, pryderon am lwyth gwaith mwy gan fod pobl yn gadael y sector ac, wrth gwrs, mwy o alw. Ac wrth gwrs, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, mae'r argyfwng costau byw wedi dwysau'n sylweddol. Cododd Cymorth Cymru bryderon yn ddiweddar ynghylch effaith yr argyfwng costau byw ar weithwyr digartrefedd a chymorth tai rheng flaen a'u teuluoedd. Mae'r gweithwyr hyn yn wynebu straen sylweddol yn eu swyddi oherwydd yr argyfwng, ac byddan nhw bellach yn wynebu mwy fyth o bwysau ychwanegol wrth iddyn nhw geisio diogelu ffoaduriaid o Wcráin yma yng Nghymru rhag digartrefedd a'u cynorthwyo gyda llety. Felly, a yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal unrhyw asesiad o sut y bydd newidiadau i gymorth ar gyfer ffoaduriaid o Wcráin yma yng Nghymru yn effeithio ar ein gwasanaethau sydd eisoes dan bwysau? Sut maen nhw'n gweithio ochr yn ochr â'r gwasanaethau hyn i sicrhau eu bod nhw'n cael y cymorth sydd ei angen arnyn nhw i allu cynorthwyo ffoaduriaid agored i niwed orau yma yng Nghymru? Diolch. |
Diolch, Sioned Williams, and thank you very much for, again, expressing the importance of our welcome, that refugees are welcomed to Wales. As you say, it's a grim milestone that we've reached, but we will also be measured about that welcome and the strength and the depth of that welcome. We can see it's so strong in terms of the way people across Wales, in all communities, have responded, and the way that local authorities have worked together with us in Welsh Government and with all the third sector, as I've responded to Mark Isherwood. And also to say that this always, in terms of our responsibilities as a Welsh Government, has to go way beyond our powers - way beyond. I mean, immigration is a matter reserved by the UK Government, but we will use all our powers to support sanctuary seekers arriving in Wales, and we believe that the actions that we are taking and we've taken with our supersponsor scheme are essential in tackling inequalities faced by sanctuary seekers, supporting them as they settle in Wales, building cohesive communities. There's been an outpouring of support that we've seen, including thousands of Welsh households hosting and supporting Ukrainians directly. It is important that we look at issues in terms of - . That is where the Welsh Government stands, but I very much endorse the views of the 100 organisations who have condemned hostile words. This is no place for a hostile environment, and whenever we have the opportunity, we as Ministers are making it very clear where we stand and how we oppose the hostile environment and hostile words, which can have an impact on the sort of community cohesion in our nation of sanctuary that we endorse and espouse. So, it is, I think, very important that we look at what lessons we've learned in terms of health and support, and in handling the perhaps greater needs of some who've come forward with huge issues in terms of mental health, the impact, the trauma of people, and mainly women, of course, coming from Ukraine. We've also made sure that we can therefore make sure that the health service is fully engaged. We've got a Cardiff and Vale inclusion service, for example, which is now looking at complex health assessment needs, but in terms of mental health as well. This is something where those fleeing the war need to get in touch with our contact centres and the welcome centres. They may have experienced extreme trauma. This is where Public Health Wales, New Pathways, were developing packages of support for staff, also to ensure they can give mental health support. The impact of the cost of living has been profound on our Welsh communities and people, especially many who have protected characteristics who are already facing inequalities. It is wonderful that, actually, many of the communities experiencing the tougher socioeconomic impacts of the cost of living are still supporting the guests who are coming into their communities. I'm very concerned that the tariff for local authorities has been reduced for those who are going to arrive in 2023. For the last year, it was a £10,500 tariff. It's being reduced by the UK Government to £5,900. Also, we believe, as I said in my statement, and I'll say it again: that £350 per month thank-you payment for hosts who accommodated, well, we think that everyone who has been a host and continues to be a host should be paid the £500, because this is about enabling them to continue to support in the cost-of-living crisis. | Diolch, Sioned Williams, a diolch yn fawr iawn, unwaith eto, am fynegi pwysigrwydd ein croeso, bod ffoaduriaid yn cael eu croesawu i Gymru. Fel y dywedwch chi, mae'n garreg filltir ofnadwy yr ydym ni wedi ei chyrraedd, ond byddwn hefyd yn cael ein mesur ar sail y croeso hwnnw a chryfder a dyfnder y croeso hwnnw. Gallwn weld ei fod mor gryf o ran y ffordd y mae pobl ledled Cymru, ym mhob cymuned, wedi ymateb, a'r ffordd y mae awdurdodau lleol wedi cydweithio gyda ni yn Llywodraeth Cymru a chyda'r trydydd sector i gyd, fel yr wyf i wedi ymateb i Mark Isherwood. A hefyd i ddweud bod yn rhaid i hyn bob amser, o ran ein cyfrifoldebau ni fel Lywodraeth Cymru, fynd ymhell y tu hwnt i'n pwerau - ymhell y tu hwnt. Hynny yw, mae mewnfudo yn fater a gedwir yn ôl gan Lywodraeth y DU, ond byddwn yn defnyddio ein holl bwerau i gynorthwyo ceiswyr noddfa sy'n cyrraedd Cymru, ac rydym ni'n credu bod y camau yr ydym ni'n eu cymryd ac yr ydym ni wedi eu cymryd gyda'n cynllun uwch-noddwyr yn hanfodol i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau a wynebir gan geiswyr noddfa, gan eu cynorthwyo wrth iddyn nhw ymgartrefu yng Nghymru, ac adeiladu cymunedau cydlynus. Gwelsom lif helaeth o gymorth, gan gynnwys miloedd o aelwydydd yng Nghymru yn lletya ac yn cynorthwyo Wcreiniaid yn uniongyrchol. Mae'n bwysig ein bod ni'n edrych ar faterion o ran - . Dyna lle y saif Llywodraeth Cymru, ond rwy'n sicr yn ategu safbwyntiau'r 100 sefydliad sydd wedi condemnio geiriau gelyniaethus. Nid yw hwn yn le o gwbl ar gyfer amgylchedd gelyniaethus, a phryd bynnag y cawn y cyfle, rydym ni fel Gweinidogion yn ei gwneud hi'n eglur iawn beth yw ein safbwynt a sut rydym ni'n gwrthwynebu'r amgylchedd gelyniaethus a'r geiriau gelyniaethus, a all gael effaith ar y math o gydlyniad cymunedol yn ein cenedl noddfa yr ydym ni'n ei gymeradwyo a'i arddel. Felly, mae'n bwysig iawn, rwy'n credu, ein bod ni'n edrych ar ba wersi yr ydym ni wedi eu dysgu o ran iechyd a chymorth, ac wrth ymdrin ag anghenion mwy efallai y rhai sydd wedi dod ymlaen a phroblemau enfawr o ran iechyd meddwl, yr effaith, trawma pobl, a menywod yn bennaf, wrth gwrs, yn dod o Wcráin. Rydym ni hefyd wedi gwneud yn siŵr y gallwn ni wneud yn siŵr felly bod y gwasanaeth iechyd yn chwarae rhan lawn. Mae gennym ni wasanaeth cynhwysiant Caerdydd a'r Fro, er enghraifft, sy'n edrych nawr ar anghenion asesu iechyd cymhleth, ond o ran iechyd meddwl hefyd. Mae hyn yn rhywbeth lle mae angen i'r rhai sy'n ffoi'r rhyfel gysylltu â'n canolfannau cyswllt a'r canolfannau croeso. Efallai eu bod nhw wedi dioddef trawma eithafol. Dyma lle'r oedd Iechyd Cyhoeddus Cymru, Llwybrau Newydd, yn datblygu pecynnau cymorth i staff, hefyd i sicrhau eu bod nhw'n gallu rhoi cymorth iechyd meddwl. Mae effaith costau byw wedi bod yn ddifrifol ar ein cymunedau a'n pobl yma yng Nghymru, yn enwedig llawer sydd â nodweddion gwarchodedig sydd eisoes yn wynebu anghydraddoldebau. Mae'n wych, mewn gwirionedd, bod nifer y cymunedau sy'n dioddef effeithiau economaidd-gymdeithasol llymach costau byw yn dal i gynorthwyo'r gwesteion sy'n dod i'w cymunedau. Rwy'n bryderus iawn bod y tariff ar gyfer awdurdodau lleol wedi cael ei leihau ar gyfer y rhai sy'n mynd i gyrraedd yn 2023. Roedd yn dariff o £10,500 ar gyfer y flwyddyn ddiwethaf. Mae'n cael ei leihau gan Lywodraeth y DU i £5,900. Hefyd, rydym ni'n credu, fel y dywedais yn fy natganiad, ac fe wnaf i ei ddweud eto: y taliad diolch yna o £350 y mis i letywyr a roddodd lety, wel, rydym ni'n credu y dylai pawb sydd wedi bod yn lletywr ac sy'n parhau i fod yn lletywr dderbyn y £500, oherwydd mae hyn yn ymwneud â'u galluogi nhw i barhau i gynorthwyo yn yr argyfwng costau byw. |
I'm grateful to the Minister for the way in which she's responded to this statement this afternoon. Language and tone in politics is fundamental to our debate and it talks about the values that we all share, and I think the way in which people in Wales have reached out to Ukraine, recognising the catastrophic impact of the invasion on people's lives, I think demonstrates that people in communities up and down this country want this Government to continue to reach out to support people in Ukraine. I also want to thank the Counsel General for his leadership. Of course, he comes from a Ukrainian background, rooted in communities in Ukraine, and has built links between Wales and Ukraine over many decades, but has also used the power of his oratory and his experience in the last year to motivate and to help people with this support. And I think, as a Parliament, we should acknowledge the work that Mick Antoniw has done over recent months. Can I ask the Minister, in responding to the statement today, that we will continue to support Ukrainian families and people who will come here because of the dangers facing them at home, and we will continue to do that in the profound, comprehensive and holistic way that she's described? But we also need to help people in Ukraine, and that means ensuring that we contribute internationally to what we're able to do in terms of maintaining infrastructure. When we were there in December, one of the things that was very striking was the impact of Putin's war machine on the energy infrastructure, for example, in Ukraine, and anything that the Welsh Government can do to contribute to that wider international effort, I think, would be important. And a final point - | Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am y ffordd y mae hi wedi ymateb i'r datganiad yma y prynhawn yma. Mae iaith a chywair mewn gwleidyddiaeth yn hanfodol i'n dadl ac mae'n sôn am y gwerthoedd yr ydym ni i gyd yn eu rhannu, ac rwy'n credu bod y ffordd y mae pobl yng Nghymru wedi estyn allan i Wcráin, gan gydnabod effaith drychinebus yr ymosodiad ar fywydau pobl, yn dangos rwy'n credu bod pobl mewn cymunedau ar hyd a lled y wlad hon eisiau i'r Llywodraeth hon barhau i estyn allan i gynorthwyo pobl yn Wcráin. Hoffwn ddiolch hefyd i'r Cwnsler Cyffredinol am ei arweinyddiaeth. Wrth gwrs, mae'n dod o gefndir Wcreinaidd, sydd â'i wreiddiau mewn cymunedau yn Wcráin, ac mae wedi meithrin cysylltiadau rhwng Cymru ac Wcráin dros ddegawdau lawer, ond mae hefyd wedi defnyddio grym ei rethreg a'i brofiad yn y flwyddyn ddiwethaf i ysgogi ac i helpu pobl gyda'r cymorth hwn. Ac rwy'n credu, fel Senedd, y dylem ni gydnabod y gwaith y mae Mick Antoniw wedi ei wneud dros y misoedd diwethaf. A gaf i ofyn i'r Gweinidog, wrth ymateb i'r datganiad heddiw, y byddwn ni'n parhau i gynorthwyo teuluoedd a phobl o Wcráin a fydd yn dod yma oherwydd y peryglon sy'n eu hwynebu nhw gartref, ac y byddwn yn parhau i wneud hynny yn y ffordd ddwys, gynhwysfawr a chyfannol y mae hi wedi ei ddisgrifio? Ond mae angen i ni helpu pobl yn Wcráin hefyd, ac mae hynny'n golygu sicrhau ein bod ni'n cyfrannu'n rhyngwladol at yr hyn yr ydym ni'n gallu ei wneud o ran cynnal seilwaith. Pan oeddem ni yno ym mis Rhagfyr, un o'r pethau a oedd yn drawiadol iawn oedd effaith peiriant rhyfel Putin ar y seilwaith ynni, er enghraifft, yn Wcráin, a byddai unrhyw beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i gyfrannu at yr ymdrech ryngwladol ehangach honno, rwy'n credu, yn bwysig. A phwynt olaf - |
Alun, I've given you a lot of time. | Alun, rydw i wedi rhoi llawer o amser i chi. |
You have, and you're very generous. The final - | Do, ac rydych chi'n hael iawn. Y pwynt olaf - |
But not much more generous. | Ond dim llawer yn fwy hael. |
The final point I'll make is that we do also need to provide the means by which Ukraine can fight Putin and Putin's war machine, and that means also supporting manufacturers in Wales who are able to produce weapons and ammunition to enable the Ukrainian army to withstand Russia's war machine. We do have manufacturers in the arms industry in Wales, and it would be good if the Welsh Government could do everything it can to ensure that the output from these businesses is able to support and to sustain the Ukrainians fighting for the future of their country and all of our democracies. | Y pwynt olaf y bydda i'n ei wneud yw bod angen i ni hefyd ddarparu'r hyn y gall Wcráin ei ddefnyddio i frwydro yn erbyn Putin a pheiriant rhyfel Putin, ac mae hynny'n golygu cefnogi gweithgynhyrchwyr yng Nghymru hefyd, sy'n gallu cynhyrchu arfau a ffrwydron rhyfel, er mwyn galluogi byddin Wcráin i wrthsefyll peiriant rhyfel Rwsia. Mae gennym weithgynhyrchwyr yn y diwydiant arfau yng Nghymru, a byddai'n dda pe gallai Llywodraeth Cymru wneud popeth o fewn ei gallu i sicrhau bod y cynnyrch o'r busnesau hyn yn gallu cefnogi a chynnal yr Wcrainiaid sy'n brwydro dros ddyfodol eu gwlad a'n democratiaethau ni i gyd. |
Diolch yn fawr, Alun Davies. I'll just briefly respond, Dirprwy Lywydd, to say how important it is that we can be held to account for our language, for our tone, for our delivery of that humanitarian response. It was very good that we were out on the steps together, cross-party, to wish you well and the Counsel General, Mick Antoniw, who has led us, hasn't he, in this Chamber. He's led us in our understanding, led us in Government and, I believe, in the Senedd, to understand how we can best and most appropriately respond to reach out and to support Ukraine - people in Ukraine as well as those Ukrainians who come and live amongst us. He's come to many of our meetings that we've had in constituencies, he's communicated, and we want to thank the Counsel General, who is here today, who will be leading your next mission, I would call it, the journey out, leaving on Thursday, with our support, I think, across this Chamber. I just have to say that the Welsh Government will do everything that we can to respond to the points that you've made today, Alun Davies, and also to recognise that we can help people in Ukraine. We can have that international role, can't we, as a Welsh Government and the people of Wales. We've really raised our understanding of what that would mean with the visit of President Zelenskyy last week. It permeated to us here in Wales. Of course, over the next weekend, I hope Members will join us as we acknowledge through serious prayer and recognition and also through the event we have here in the Senedd. Diolch. | Diolch yn fawr, Alun Davies. Byddaf yn ymateb yn gryno, Dirprwy Lywydd, i ddweud pa mor bwysig yw hi y gallwn fod yn atebol am ein hiaith, am ein tôn, am y modd yr ydym yn darparu'r ymateb dyngarol hwnnw. Roedd yn dda iawn ein bod ni allan ar y grisiau gyda'n gilydd, yn drawsbleidiol, i ddymuno'n dda i chi a'r Cwnsler Cyffredinol, Mick Antoniw, sydd wedi ein harwain yn y Siambr hon, on'd yw e. Mae wedi ein harwain ni yn ein dealltwriaeth, mae wedi ein harwain ni yn y Llywodraeth ac, yn fy marn i, yn y Senedd, i ddeall y ffordd orau o ymateb a'r ffordd fwyaf priodol o estyn llaw a chefnogi Wcráin - pobl yn Wcráin yn ogystal â'r Wcrainiaid hynny sy'n dod i fyw yn ein plith. Mae ef wedi dod i lawer o'n cyfarfodydd yr ydym ni wedi'u cael mewn etholaethau, mae ef wedi cyfathrebu, a hoffem ddiolch i'r Cwnsler Cyffredinol, sydd yma heddiw, a fydd yn arwain eich cenhadaeth, byddwn i yn ei galw, nesaf, y daith allan, yn gadael ddydd Iau, gyda'n cefnogaeth, rwy'n credu, ar draws y Siambr hon. Mae'n rhaid i mi ddweud y bydd Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth o fewn ein gallu i ymateb i'r pwyntiau yr ydych chi wedi'u gwneud heddiw, Alun Davies, a hefyd i gydnabod y gallwn helpu pobl yn Wcráin. Gallwn ymgymryd â'r rôl ryngwladol honno fel Llywodraeth Cymru a phobl Cymru. Rydyn ni wir wedi helpu pobl i ddeall beth fyddai hynny'n ei olygu gydag ymweliad yr Arlywydd Zelenskyy yr wythnos diwethaf. Fe wnaeth dreiddio drwodd atom ni yma yng Nghymru. Wrth gwrs, dros y penwythnos nesaf, rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n ymuno â ni wrth i ni gydnabod drwy weddi a chydnabyddiaeth ddifrifol, a hefyd drwy'r digwyddiad sydd gennym ni yma yn y Senedd. Diolch. |
Following the request by the Deputy Minister for Climate Change this afternoon during his contribution in item 3 regarding the use of the term 'insane' during a question that was presented to him, I have reviewed the transcript, and concluded that although the reference was to a decision by the Welsh Government, and not any individual, this does not make it appropriate. As Members of the Senedd, all of us, including myself, have a responsibility to ensure that what we say in this place and elsewhere in our role as Members is appropriate and cannot be considered otherwise. I'm sure the Member in this case will reflect upon the contribution today and ensure that future contributions, whether here or outside this place, will be considered respectful to all. | Yn dilyn cais y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd y prynhawn yma yn ystod ei gyfraniad yn eitem 3 ynglŷn â'r defnydd o'r term 'gwallgof' yn ystod cwestiwn a gyflwynwyd iddo, rwyf wedi adolygu'r trawsgrifiad, a dod i'r casgliad er mai i benderfyniad gan Lywodraeth Cymru oedd y cyfeiriad, ac nid unrhyw unigolyn, nid yw hyn yn ei gwneud yn briodol. Fel Aelodau o'r Senedd, mae gan bob un ohonom, gan gynnwys fi fy hun, gyfrifoldeb i sicrhau bod yr hyn yr ydym yn ei ddweud yn y lle hwn ac mewn mannau eraill yn ein rôl fel Aelodau yn briodol ac na ellir ei ystyried fel arall. Rwy'n siŵr y bydd yr Aelod yn yr achos hwn yn myfyrio ar y cyfraniad heddiw ac yn sicrhau y bydd cyfraniadau yn y dyfodol, boed yma neu y tu allan i'r lle hwn, yn cael eu hystyried yn barchus i bawb. |
Item 7 has been withdrawn. | Mae eitem 7 wedi ei dynnu yn ôl. |
Item 8, a debate on the police settlement for 2023-24. I call on the Minister for Finance and Local Government to move the motion. Rebecca Evans. | Eitem 8, dadl ar setliad yr heddlu 2023-24. Galwaf ar y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol i wneud y cynnig. Rebecca Evans. |
Diolch. Today, I'm presenting to the Senedd, for its approval, details of the Welsh Government's contribution to the core revenue funding for the four police and crime commissioners in Wales for 2023-24. Firstly, I'd like to record my gratitude to the police for their work in our communities. Although there is a vital, ongoing debate about the minority of police officers who have not lived up to the high standards that the public rightfully expect, and it remains crucial for forces to take swift and decisive action in those cases, I know that the majority of police staff show great dedication and resolve as they keep our communities safe. The core funding for the police in Wales is delivered through a three-way arrangement involving the Home Office, the Welsh Government and council tax. As policing policy and operational matters are non-devolved, the overall funding picture is determined and driven by Home Office decisions. We have maintained the established approach to setting and distributing the Welsh Government component based on the principle of ensuring consistency and fairness across England and Wales. There are no further changes to the funding arrangements for 2023-24 following the technical and administrative changes made last year. Those changes resulted from Home Office decisions with minimal practical implications for police and crime commissioners in Wales. The Welsh Government contribution to policing for 2023-24 remains unchanged from last year at £113.5 million. This reflects the change made for this financial year, which replaced an annual transfer of funding from the Home Office to the Welsh Government with direct funding from the Home Office to the police. As was the case this year, there is no impact on the overall level of funding for police forces as a result. I have also retained the proportion of non-domestic rates that police forces receive at 0.1 per cent, with a consequential adjustment to the revenue support grant to balance this. This allows a smoother transition towards partial non-domestic rates retention for city and growth deal regions, and it will not result in any loss of funding for any police force. As outlined in my announcement on 31 January, the total unhypothecated revenue support for the police service in Wales for 2023-24 stands at £434 million. The Welsh Government's contribution to this is £113.5 million, and it's this funding that you're being asked to approve today. As in previous years, the Home Office has overlaid its needs-based formula with a floor mechanism. This means that, for 2023-24, PCCs across England and Wales will receive an increase in funding of 0.3 per cent when compared to 2022-23 before the adjustment made for the special branch transfer. The Home Office will provide a top-up grant totalling £63.5 million to ensure that all four Welsh police forces meet the floor level. The motion for today's debate is to agree the local government finance report for PCCs, which has been laid before the Senedd. If approved, this will allow the commissioners to confirm their budgets for the next financial year. I ask Senedd Members to support this motion. | Diolch. Heddiw, rwy'n cyflwyno i'r Senedd, i'w gymeradwyo, manylion cyfraniad Llywodraeth Cymru at gyllid refeniw craidd y pedwar Comisiynydd Heddlu a Throseddu yng Nghymru ar gyfer 2023-24. Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i'r heddlu am eu gwaith yn ein cymunedau. Er bod dadl hanfodol, barhaus am y lleiafrif o swyddogion heddlu nad ydynt wedi cyrraedd y safonau uchel y mae'r cyhoedd yn eu disgwyl yn gwbl briodol, ac mae'n hanfodol i heddluoedd gymryd camau cyflym a phendant yn yr achosion hynny o hyd, gwn fod y rhan fwyaf o staff yr heddlu yn dangos llawer iawn o ymroddiad a phenderfyniad wrth iddynt gadw ein cymunedau'n ddiogel. Mae'r arian craidd ar gyfer yr heddlu yng Nghymru yn cael ei ddarparu drwy drefniant tair ffordd sy'n cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth cyngor. Gan nad yw polisi plismona a materion gweithredol wedi'u datganoli, mae'r darlun ariannu cyffredinol yn cael ei benderfynu a'i sbarduno gan benderfyniadau'r Swyddfa Gartref. Rydyn ni wedi cynnal y dull sefydledig o osod a dosbarthu cydran Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar yr egwyddor o sicrhau cysondeb a thegwch ledled Cymru a Lloegr. Does dim newidiadau pellach i'r trefniadau cyllido ar gyfer 2023-24 yn dilyn y newidiadau technegol a gweinyddol a wnaed y llynedd. Deilliodd y newidiadau hynny o benderfyniadau'r Swyddfa Gartref heb fawr ddim goblygiadau ymarferol i gomisiynwyr yr heddlu a throseddu yng Nghymru. Mae cyfraniad Llywodraeth Cymru at blismona ar gyfer 2023-24 yn aros yr un fath â'r llynedd, sef £113.5 miliwn. Mae hyn yn adlewyrchu'r newid a wnaed ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, a ddisodlodd drosglwyddiad cyllid blynyddol o'r Swyddfa Gartref i Lywodraeth Cymru gydag arian uniongyrchol gan y Swyddfa Gartref i'r heddlu. Fel yn achos eleni, does dim effaith ar lefel gyffredinol y cyllid ar gyfer heddluoedd o ganlyniad. Rwyf hefyd wedi cadw'r gyfran o gyfraddau annomestig y mae heddluoedd yn ei derbyn yn 0.1 y cant, gydag addasiad canlyniadol i'r grant cymorth refeniw i gydbwyso hyn. Mae hyn yn hwyluso'r cyfnod pontio tuag at gadw cyfraddau annomestig rhannol ar gyfer rhanbarthau bargen ddinesig a thwf, ac ni fydd yn arwain at golli cyllid ar gyfer unrhyw heddlu. Fel yr amlinellir yn fy nghyhoeddiad ar 31 Ionawr, mae cyfanswm y cymorth refeniw heb ei glustnodi ar gyfer gwasanaeth yr heddlu yng Nghymru ar gyfer 2023-24 yn £434 miliwn. Cyfraniad Llywodraeth Cymru at hyn yw £113.5 miliwn, a'r cyllid hwn y gofynnir i chi ei gymeradwyo heddiw. Fel yn y blynyddoedd blaenorol, mae'r Swyddfa Gartref wedi troshaenu ei fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion â mecanwaith gwaelodol. Mae hyn yn golygu, ar gyfer 2023-24, y bydd Comisiynwyr Heddlu a Throseddu ledled Cymru a Lloegr yn cael cynnydd mewn cyllid o 0.3 y cant o'i gymharu â 2022-23 cyn yr addasiad a wnaed ar gyfer y trosglwyddiad cangen arbennig. Bydd y Swyddfa Gartref yn rhoi grant ychwanegol gwerth £63.5 miliwn er mwyn sicrhau bod pob un o'r pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru yn cyrraedd lefel waelodol. Y cynnig ar gyfer y ddadl heddiw yw cytuno ar yr adroddiad cyllid llywodraeth leol ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, sydd wedi'i gyflwyno gerbron y Senedd. Os caiff ei gymeradwyo, bydd hyn yn caniatáu i'r comisiynwyr gadarnhau eu cyllidebau ar gyfer y flwyddyn ariannol nesaf. Gofynnaf i Aelodau'r Senedd gefnogi'r cynnig hwn. |
As we've heard, funding for the four Welsh police forces is delivered through a three-way arrangement involving the Home Office, Welsh Government and council tax, with the Home Office operating a needs-based formula with a floor mechanism to distribute funding across Welsh and English police forces, and with the Welsh Government component based on consistency across Wales and England. For 2023-24, the total core support for police forces in Wales will be £433.9 million. Police forces across England and Wales will receive a funding boost of up to £287 million next year from the UK Government. The rise will take total funding for policing in England and Wales up to £17.2 billion, and mean that police and crime commissioners across the 43 police forces in Wales and England will receive an increase of up to £523 million from Government grants and precept income. Council tax precepts will rise by 7.75 per cent in Dyfed-Powys, 7.4 per cent in south Wales, 6.8 per cent in Gwent, and 5.14 per cent in north Wales, equating, for example, to £1.86 per month for band D properties in south Wales and £1.34 in north Wales. Figures last month showed that an extra 1,420 officers have joined police forces across England and Wales in the past three months, and 16,753 since 2019 as part of the UK Government's three-year programme to recruit 20,000 additional police officers by March 2023. This includes 1,843 new police officers across Wales. Of course, Welsh Conservative policy also remains to increase funding for police community support officers each year, aligning with the Welsh Government on that issue. Although police-recorded crime in Wales and England has risen, the Office for National Statistics states that this was largely driven by increases in the offence categories that are most subject to changes in reporting and recording practices. Therefore, they said these estimates should be treated with caution as they may not reflect a genuine increase in crime. Figures released a fortnight ago show an estimated 136,000 violent offences have been prevented since 2019 in 18 areas of England and Wales, including south Wales, most blighted by violent crime, which have received targeted UK Government funding. And according to the crime survey for England and Wales, the best indicator of long-term trends in crime, the latest crime figures for the year ending September 2022 show that compared with the pre-coronavirus pandemic year ending March 2020, total crime decreased by 10 per cent. As the finance Minister stated here last week in a different context, 'we've got that long, porous border with England'. And as I learned when I visited the north-west regional organised crime unit, an estimated 95 per cent or more of crime in north Wales operates on a cross-border east-west basis, and almost none on an all-Wales basis. However, and I conclude with this comment, the Welsh Government is yet to explain why the Thomas commission report only makes one reference to cross-border criminality despite the evidence presented to them, which I was appraised of during that visit. Diolch yn fawr. | Fel y clywsom, cyflwynir cyllid ar gyfer y pedwar gwasanaeth heddlu yng Nghymru drwy drefniant tair ffordd yn cynnwys y Swyddfa Gartref, Llywodraeth Cymru a'r dreth gyngor, gyda'r Swyddfa Gartref yn gweithredu fformiwla sy'n seiliedig ar anghenion gyda mecanwaith gwaelodol i ddosbarthu cyllid ar draws heddluoedd Cymru a Lloegr, a chydrannau Llywodraeth Cymru yn seiliedig ar gysondeb ledled Cymru a Lloegr. Ar gyfer 2023-24, bydd cyfanswm y gefnogaeth graidd i heddluoedd Cymru yn £433.9 miliwn. Bydd heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn cael hwb ariannol o hyd at £287 miliwn y flwyddyn nesaf gan Lywodraeth y DU. Bydd y cynnydd yn cymryd cyfanswm y cyllid ar gyfer plismona yng Nghymru a Lloegr hyd at £17.2 biliwn, ac yn golygu y bydd comisiynwyr yr heddlu a throseddu ar draws y 43 heddlu yng Nghymru a Lloegr yn cael cynnydd o hyd at £523 miliwn o grantiau'r Llywodraeth ac incwm praesept. Bydd praeseptau'r dreth gyngor yn codi 7.75 y cant yn Nyfed Powys, 7.4 y cant yn Ne Cymru, 6.8 y cant yng Ngwent, a 5.14 y cant yng Ngogledd Cymru, sy'n cyfateb i £1.86 y mis ar gyfer eiddo band D yn y de, a £1.34 yn y gogledd. Roedd ffigyrau fis diwethaf yn dangos bod 1,420 o swyddogion ychwanegol wedi ymuno â heddluoedd ledled Cymru a Lloegr yn ystod y tri mis diwethaf, a 16,753 ers 2019 fel rhan o raglen tair blynedd Llywodraeth y DU i recriwtio 20,000 o swyddogion yr heddlu ychwanegol erbyn Mawrth 2023. Mae hyn yn cynnwys 1,843 o swyddogion yr heddlu newydd ledled Cymru. Wrth gwrs, mae polisi'r Ceidwadwyr Cymreig hefyd yn parhau i fod i gynyddu'r cyllid ar gyfer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bob blwyddyn, gan gytuno â Llywodraeth Cymru ynghylch y mater hwnnw. Er bod troseddau a gofnodwyd gan yr heddlu yng Nghymru a Lloegr wedi codi, mae'r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn dweud bod hyn wedi'i sbarduno i raddau helaeth gan gynnydd yng nghategorïau'r troseddau sy'n rhoi'r newidiadau mwyaf o ran arferion riportio a chofnodi. Felly, dywedwyd y dylai'r amcangyfrifon hyn gael eu trin yn ofalus gan nad ydynt o bosibl yn adlewyrchu cynnydd gwirioneddol mewn troseddau. Mae ffigyrau gafodd eu rhyddhau bythefnos yn ôl yn dangos bod tua 136,000 o droseddau treisgar wedi'u hatal ers 2019 mewn 18 ardal yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys ardal De Cymru, y mae troseddau treisgar yn amharu'n fawr arni, sydd wedi cael cyllid wedi'i dargedu gan Lywodraeth y DU. Yn ôl yr arolwg troseddau ar gyfer Cymru a Lloegr, sef y dangosydd gorau o dueddiadau hirdymor mewn troseddau, mae'r ffigurau troseddau diweddaraf ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Medi 2022 yn dangos bod cyfanswm y troseddau wedi gostwng 10 y cant, o'i gymharu â'r flwyddyn cyn pandemig y coronafeirws a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2020. Fel y dywedodd y Gweinidog cyllid yma'r wythnos ddiwethaf mewn cyd-destun gwahanol, 'mae gennym y ffin hir agored â Lloegr'. Ac fel y dysgais wrth ymweld ag uned troseddau cyfundrefnol rhanbarthol y gogledd-orllewin, amcangyfrifir bod 95 y cant neu fwy o droseddau yn ardal Gogledd Cymru yn gweithredu ar sail drawsffiniol o'r dwyrain i'r gorllewin, a bron dim ar sail Cymru gyfan. Fodd bynnag, ac rwy'n cloi gyda'r sylw hwn, nid yw Llywodraeth Cymru wedi egluro eto pam mai dim ond un cyfeiriad at droseddu trawsffiniol y mae adroddiad Comisiwn Thomas yn ei wneud, er gwaethaf y dystiolaeth a gyflwynwyd iddi, y rhoddwyd gwybod i mi amdano yn ystod yr ymweliad hwnnw. Diolch yn fawr. |
Austerity has delivered a devastating impact on policing in the UK. The brutal cuts to public spending, masked by the term 'austerity', may have been the brainchild of the Tory party, but they are also a stain on other Westminster parties, as it was backed by the Liberal Democrats in coalition Government, and subscribed to by the Labour Party in opposition. The initial wave of Tory-driven austerity led to 400 police officers and 100 community support officers being lost from the ranks - | Mae cyni wedi cael effaith ddinistriol ar blismona yn y DU. Mae'n bosibl mai syniad y blaid Dorïaid oedd y toriadau creulon i wariant cyhoeddus, y mae'r term 'cyni' yn ei guddio, ond maent hefyd yn staen ar bleidiau eraill San Steffan, gan fod y Democratiaid Rhyddfrydol mewn Llywodraeth glymblaid yn cefnogi'r syniad hwnnw, a'r Blaid Lafur wedi cytuno iddo fel yr wrthblaid. Arweiniodd y don gychwynnol o gyni wedi'i sbarduno gan y Torïaid at golli 400 o swyddogion yr heddlu a 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu o'r rhengoedd - |
I've only just started. | Newydd ddechrau ydw i. |
In a minute, then. | Mewn munud, 'te. |
The initial wave of Tory-driven austerity led to 400 police officers and 100 community support officers being lost from the ranks of the south Wales police force alone. Despite the recent investments, staffing levels at this force remain well below the numbers it had in 2010. Mark. | Arweiniodd y don gychwynnol o gyni wedi'i sbarduno gan y Torïaid at golli 400 o swyddogion yr heddlu a 100 o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu o rengoedd heddlu yn ardal De Cymru yn unig. Er y buddsoddiadau diweddar, mae lefelau staffio yn yr heddlu hwn yn parhau i fod yn llawer is na'r niferoedd a oedd ganddo yn 2010. Mark. |
Do you accept - and this is a fact - that the police cuts you're referring to that were initially to 2015 were announced in Alistair Darling's last budget in 2010, and simply carried forward in terms of policing by the UK Government? It is evident in the final budget statement by Mr Darling. | Ydych chi'n derbyn - ac mae hyn yn ffaith - bod y toriadau i'r heddlu rydych chi'n cyfeirio atyn nhw, yn wreiddiol hyd at 2015, wedi'u cyhoeddi yng nghyllideb olaf Alistair Darling yn 2010, a bod Llywodraeth y DU dim ond wedi parhau â nhw o ran plismona? Mae'n amlwg yn natganiad y gyllideb derfynol gan Mr Darling. |
That's not an excuse, but I said 'all the parties that subscribed to austerity', which we didn't. The deterioration in policing levels over the past decade was brought up during a recent street surgery last Friday in Pontlottyn. People had noticed what the Tories, backed by the others in Westminster, have done to community policing. This settlement will make for further grim reading for each of our Welsh police forces. An increase of merely 0.3 per cent in central support funding will do little to address the severe resourcing pressures being faced by our police forces. It will necessitate extremely difficult budget decisions. South Wales Police, for example, is facing a £20.8 million budget gap, and are having to identify £9.6 million-worth of savings this year to show that their spending plans for the financial year of 2023-24 are sustainable, whilst Dyfed-Powys Police are having to contemplate savings of £5.9 million over the next five years. The recent Police Federation of England and Wales pay and morale survey for 2022 revealed the extent to which police officer morale has been eroded by years of neglect on the part of the UK Government. Such findings emphasise how little the current constitutional arrangements on policing and justice benefit Wales. It is imperative that the Welsh Government pursues the full devolution of policing and justice without delay, so that decisions on how we keep our communities safe are not left in the hands of an out-of-touch and austerity-obsessed Westminster Government. The current UK Labour proposals to only devolve probation and youth justice don't go far enough. The fact that levels of central UK Government funding have virtually flatlined also means that each police force is having to resort to substantial increases in their council tax precepts to merely limit their budget shortfalls. Finally, I want to make clear how unacceptable it is that regressive council tax increases are being used to keep essential policing services afloat. We all know that council tax disproportionately affects the poorest Welsh households, and within my region, some of the highest rates in the country can be found in Blaenau Gwent. Its reform or even better, its replacement, cannot come fast enough. Diolch yn fawr. | Nid yw hynny'n esgus, ond dywedais 'pob plaid sydd wedi cefnogi cyni', a wnaethon ni ddim. Codwyd y ffaith bod lefelau plismona wedi gwaethygu dros y degawd diwethaf yn ystod cymhorthfa ar y stryd yn ddiweddar, ddydd Gwener diwethaf ym Mhontlotyn. Roedd pobl wedi sylwi ar yr hyn y mae'r Torïaid, gyda chefnogaeth eraill yn San Steffan, wedi'i wneud i blismona cymunedol. Bydd y setliad hwn yn newyddion gwael pellach i bob un o'n heddluoedd yng Nghymru. Ni fydd cynnydd o 0.3 y cant yn unig mewn cyllid cymorth canolog yn gwneud fawr ddim i fynd i'r afael â'r pwysau difrifol ar adnoddau y mae ein heddluoedd yn eu hwynebu. Bydd yn golygu bod angen gwneud penderfyniadau anodd iawn ynghylch y gyllideb. Mae Heddlu De Cymru, er enghraifft, yn wynebu bwlch cyllidol gwerth £20.8 miliwn, ac yn gorfod canfod gwerth £9.6 miliwn o arbedion eleni i ddangos bod ei gynlluniau gwariant ar gyfer blwyddyn ariannol 2023-24 yn gynaliadwy, tra bod Heddlu Dyfed Powys yn gorfod ystyried arbedion o £5.9 miliwn dros y pum mlynedd nesaf. Dangosodd arolwg morâl a thâl diweddar Ffederasiwn yr Heddlu yng Nghymru a Lloegr ar gyfer 2022 y graddau y mae morâl swyddogion yr heddlu wedi'i erydu gan flynyddoedd o esgeulustod ar ran Llywodraeth y DU. Mae canfyddiadau o'r fath yn pwysleisio cyn lleied mae'r trefniadau cyfansoddiadol presennol ym maes plismona a chyfiawnder o fudd i Gymru. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn mynd ar drywydd datganoli plismona a chyfiawnder yn llawn heb oedi, fel nad yw penderfyniadau ar sut rydym yn cadw ein cymunedau'n ddiogel yn cael eu gadael yn nwylo Llywodraeth San Steffan sydd wedi colli gafael ar faterion ac sydd ag obsesiwn â chyni. Nid yw cynigion presennol Llafur y DU i ddatganoli'r gwasanaeth prawf a chyfiawnder ieuenctid yn unig yn mynd yn ddigon pell. Mae'r ffaith bod lefelau cyllid Llywodraeth ganolog y DU bron yn wastad hefyd yn golygu bod pob heddlu yn gorfod troi at gynnydd sylweddol yn eu praeseptau'r dreth gyngor i gyfyngu ar eu diffygion yn y gyllideb yn unig. Yn olaf, rwyf eisiau ei gwneud yn glir pa mor annerbyniol yw hi bod cynnydd yn y dreth gyngor atchwel yn cael ei ddefnyddio i gadw gwasanaethau plismona hanfodol i fynd. Mae pob un ohonom yn gwybod bod y dreth gyngor yn effeithio'n anghymesur ar yr aelwydydd tlotaf yng Nghymru, ac yn fy rhanbarth i, ceir rhai o'r cyfraddau uchaf yn y wlad ym Mlaenau Gwent. Edrychwn ymlaen yn fawr at ei ddiwygio, neu'n well fyth, gael cynllun arall yn ei le. Diolch yn fawr. |
I will be voting for the police settlement this afternoon, but it gives me no pleasure to vote for a settlement that provides even further cuts to our policing services up and down Wales. Mark Isherwood pays tribute to his colleagues in London for the work that they've been doing in funding police over the last few years, but what we know, and what we know in Gwent, is that police forces are actually seeing year-on-year reductions in their budgets. In this settlement, the Gwent police force, for example, will see a 2.8 per cent reduction in its actual spending power, and when you actually look and take 2010 as the base point, you'll see that Gwent Police again have 85.9 per cent of spending power available to them that they had back in 2010. And when we hear about 20,000 new police officers, what we also know is that what they're doing is replacing police officers who were sacked during the years of austerity. In fact, in this coming financial year, there will be fewer police officers in Gwent than there were in 2010. So, it's not that we're just not seeing the increases; we're not even seeing a stability in the numbers that the Tories inherited from the last Labour Government. What we are seeing is salami-slicing of the police budgets year on year on year, and the people paying the price of this, of course, are police officers themselves who are unable to deliver the service that they want to deliver, but also the communities that we all seek to serve in any part of Wales. And it is important that when we're debating this, we are able to provide the funding that police forces require up and down the country, but that we are also able to provide the policing service that communities want to see in different parts of Wales. And what that means is that policing is able to operate on the same basis as other public services and other blue-light services in Wales, which means that they operate within a devolved structure and that policing is devolved to this place with utmost urgency. Because we have to do two things: we have to certainly maintain and increase spending, because that's absolutely fundamental to being able to provide a service; but then, what we have to do is deliver the coherence of service, so that police officers are able to work with all other police and public services to deliver a coherence. And I've heard the arguments from Mark Isherwood over these matters on a number of occasions, and he's very, very happy to quote his speeches from many years ago to support his arguments of today, but were he to quote his speeches from 2016, from 2017 to 2018, then he will also see the way in which the UK Government has cut back policing. And it is the poorest and most vulnerable people in our most fragile communities who have paid the price for these cuts year on year on year, and until policing is devolved to this place, we will not be able to have the coherence of services that this place demands and that our people deserve. So, I will be voting for the police settlement this afternoon, but I am really disappointed to see the way in which the Home Office plays fast and loose with police forces, fast and loose with public safety and fast and loose with the future of our communities. | Byddaf yn pleidleisio dros setliad yr heddlu y prynhawn yma, ond nid yw'n rhoi unrhyw bleser i mi bleidleisio dros setliad sy'n darparu hyd yn oed yn rhagor o doriadau i'n gwasanaethau plismona ledled Cymru. Mae Mark Isherwood yn talu teyrnged i'w cyd-Aelodau yn Llundain am y gwaith maent wedi bod yn ei wneud wrth ariannu'r heddlu dros y blynyddoedd diwethaf, ond yr hyn rydym yn ei wybod, a'r hyn rydym yn ei wybod yng Ngwent, yw bod heddluoedd mewn gwirionedd yn gweld gostyngiadau yn eu cyllidebau o un flwyddyn i'r llall. Yn y setliad hwn, bydd Heddlu Gwent, er enghraifft, yn gweld gostyngiad o 2.8 y cant yn ei rym gwario gwirioneddol, a phan fyddwch yn edrych ac yn cymryd 2010 fel y sylfaen, byddwch yn gweld unwaith eto bod gan Heddlu Gwent 85.9 y cant o'r grym gwario sydd ar gael iddo a oedd ganddo yn ôl yn 2010. A phan fyddwn yn clywed am 20,000 o swyddogion yr heddlu newydd, yr hyn rydym yn ei wybod hefyd yw mai'r hyn y maen nhw'n ei wneud yw disodli swyddogion yr heddlu gafodd eu diswyddo yn ystod blynyddoedd o gyni. A dweud y gwir, yn y flwyddyn ariannol hon sydd i ddod, bydd llai o swyddogion yr heddlu yng Ngwent nag a oedd yn 2010. Felly, nid ein bod ni ddim yn gweld y cynnydd; dydyn ni ddim hyd yn oed yn gweld sefydlogrwydd yn y niferoedd y gwnaeth y Torïaid eu hetifeddu gan y Llywodraeth Lafur ddiwethaf. Yr hyn yr ydym yn ei weld yw toriadau tameidiog o gyllidebau'r heddlu blwyddyn ar ôl blwyddyn, a'r bobl sy'n talu pris hyn, wrth gwrs, yw swyddogion yr heddlu eu hunain sydd ddim yn gallu darparu'r gwasanaeth yr hoffent ei ddarparu, ond hefyd y cymunedau y mae pob un ohonom yn ceisio eu gwasanaethu mewn unrhyw ran o Gymru. Ac mae'n bwysig, pan fyddwn yn trafod hyn, ein bod yn gallu darparu'r cyllid y mae heddluoedd ei angen ledled y wlad, ond ein bod hefyd yn gallu darparu'r gwasanaeth plismona y mae cymunedau eisiau ei weld mewn gwahanol rannau o Gymru. A beth mae hynny'n ei olygu yw bod plismona yn gallu gweithredu ar yr un sail â gwasanaethau cyhoeddus eraill, a gwasanaethau golau glas eraill yng Nghymru, sy'n golygu eu bod yn gweithredu o fewn strwythur datganoledig a bod plismona yn cael ei ddatganoli i'r lle hwn ar fyrder. Oherwydd, mae'n rhaid i ni wneud dau beth: yn sicr, mae'n rhaid i ni gynnal a chynyddu gwariant, oherwydd mae hynny'n gwbl sylfaenol i allu darparu gwasanaeth; ond wedyn, yr hyn sy'n rhaid i ni ei wneud yw sicrhau cydlyniad gwasanaethau, fel bod swyddogion yr heddlu'n gallu gweithio gyda phob heddlu a gwasanaeth cyhoeddus arall i ddarparu cydlyniad. Ac rwyf wedi clywed y dadleuon gan Mark Isherwood dros y materion hyn sawl gwaith, ac mae'n hapus iawn, iawn i ddyfynnu ei areithiau o flynyddoedd yn ôl i gefnogi ei ddadleuon heddiw, ond pe byddai'n dyfynnu ei areithiau o 2016, o 2017 i 2018, yna bydd e' hefyd yn gweld y ffordd y mae Llywodraeth y DU wedi cwtogi plismona. A'r bobl dlotaf a mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau mwyaf bregus sydd wedi talu'r pris am y toriadau hyn flwyddyn ar ôl blwyddyn, a hyd nes y bydd plismona wedi'i ddatganoli i'r lle hwn, ni fyddwn yn gallu cael cydlyniad gwasanaethau y mae'r lle hwn yn ei fynnu ac y mae ein pobl yn ei haeddu. Felly, byddaf yn pleidleisio dros setliad yr heddlu y prynhawn yma, ond rwy'n siomedig iawn i weld y ffordd y mae'r Swyddfa Gartref yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda heddluoedd, yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda diogelwch y cyhoedd ac yn ddi-hid ac anghyfrifol gyda dyfodol ein cymunedau. |
Diolch. I'd like to thank colleagues for their interest and their contributions today, and colleagues have made it very clear that we have huge appreciation for the work that police officers do in communities across Wales, and I do share those concerns that have been raised about morale amongst police officers at the moment. But, here in Wales, they are an absolutely key part of our integrated public service; they work with health boards, local government and other partners. And I think that they're absolutely incredible, really, in terms of finding creative ways to collaborate. So, they're very valued partners in our Ystadau Cymru work, for example, and they are able to bid for a number of Welsh Government funds, and we encourage them to look at ways to do that collaboratively - for example, sharing corporate services is a really good way to work closely together, and I know that they are potentially looking to expand that work through the community safety partnerships to tackle issues in our communities. I'd also just reiterate our ongoing support to funding additional police community support officers, and that really does reflect the understanding of the importance of that collaborative way of working. We know that, where we see greater confidence in policing in communities, it's often because there are numbers of PCSOs out on the streets, so giving communities that kind of visibility of policing that people rightly expect within their communities as well - we're really pleased to continue with our commitment to fund and increase the number of PCSOs across Wales. And we also continue to make very clear our support for policing to be devolved so that we can deliver against the needs, priorities and values of Wales. As we've heard, it is the only blue light service that isn't devolved to Wales, and in that context of collaborative working, you can see that there are many ways in which we could do things differently and better, were it to be devolved. I do know that there is concern amongst police and crime commissioners that this is only a marginally positive settlement this year. That is a matter for the Home Office, but we've heard very powerfully about the impact of cuts in policing over the years on our communities, and I'm very much hearing that the increasing numbers of police officers currently in no way offsets the cuts to the numbers that we've seen previously, and there is yet a way to go in some parts of Wales to make up those numbers. We are very much committed to working with PCCs and chief constables to ensure that the challenges that we've heard about this afternoon are managed in ways that limit the impact on community safety and on front-line policing in Wales. And of course, we continue to invest in substance misuse and that particular agenda, and our funding there has increased to £67 million in 2023-24. A large proportion of that does go to the area planning boards through the substance misuse action fund. And of course, the final element of police funding is raised through the council tax precept, and unlike in England, we have retained the freedom for the Welsh PCCs to make their own decisions about council tax increases. Setting the precept is a key part of the PCCs' role, and that does demonstrate their responsibility and accountability to the local electorate. I do know, though, that, in a period of increasing pressure on local households, commissioners will be considering this very carefully indeed. Llywydd, I commend the settlement to the Senedd. | Diolch. Hoffwn ddiolch i'r cyd-Aelodau am eu diddordeb a'u cyfraniadau heddiw, ac mae'r cyd-Aelodau wedi'i gwneud hi'n glir iawn ein bod yn gwerthfawrogi'r gwaith y mae swyddogion yr heddlu yn ei wneud mewn cymunedau ledled Cymru yn fawr iawn, ac rydw i'n rhannu'r pryderon hynny a godwyd ynghylch morâl ymysg swyddogion yr heddlu ar hyn o bryd. Ond, yma yng Nghymru, maen nhw'n rhan gwbl allweddol o'n gwasanaeth cyhoeddus integredig; maen nhw'n gweithio gyda'r byrddau iechyd, llywodraeth leol a phartneriaid eraill. Rwy'n meddwl eu bod nhw'n hollol anhygoel, mewn gwirionedd, o ran dod o hyd i ffyrdd creadigol o gydweithio. Felly, maen nhw'n bartneriaid gwerthfawr iawn yn ein gwaith Ystadau Cymru, er enghraifft, ac maen nhw'n gallu gwneud cynigion am nifer o gronfeydd Llywodraeth Cymru, ac rydym yn eu hannog i edrych ar ffyrdd o wneud hynny ar y cyd - er enghraifft, mae rhannu gwasanaethau corfforaethol yn ffordd dda iawn o weithio'n agos gyda'i gilydd, ac rwy'n gwybod eu bod o bosibl yn gobeithio ehangu'r gwaith hwnnw drwy'r partneriaethau diogelwch cymunedol i fynd i'r afael â materion yn ein cymunedau. Byddwn hefyd yn ailadrodd ein cefnogaeth barhaus i ariannu swyddogion cymorth cymunedol ychwanegol yr heddlu, ac mae hynny wir yn adlewyrchu'r ddealltwriaeth o bwysigrwydd y ffordd gydweithredol honno o weithio. Rydym yn gwybod, pan ydym yn gweld mwy o hyder ym maes plismona mewn cymunedau, fod hynny yn aml oherwydd bod nifer o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu allan ar y strydoedd, ac felly'n rhoi'r math yna o amlygrwydd plismona y mae pobl yn ei ddisgwyl yn eu cymunedau hefyd, a hynny'n gwbl briodol - rydym yn falch iawn o barhau â'n hymrwymiad i ariannu a chynyddu nifer swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu ledled Cymru. Ac rydym hefyd yn parhau i wneud yn glir iawn ein cefnogaeth i blismona gael ei ddatganoli fel y gallwn gyflawni ar anghenion, blaenoriaethau a gwerthoedd Cymru. Fel y clywsom, dyma'r unig wasanaeth golau glas sydd heb ei ddatganoli i Gymru, ac yn y cyd-destun hwnnw o weithio ar y cyd, gallwch weld bod yna lawer o ffyrdd y gallem newid a gwella pethau, pe bai'n cael ei ddatganoli. Rwy'n gwybod bod pryder ymhlith comisiynwyr yr heddlu a throseddu mai setliad dim ond fymryn yn fwy cadarnhaol yw hwn eleni. Mae hynny'n fater i'r Swyddfa Gartref, ond rydym wedi clywed am effaith pwerus iawn y toriadau ym maes plismona dros y blynyddoedd ar ein cymunedau, ac rwy'n clywed nad yw'r niferoedd cynyddol o swyddogion yr heddlu mewn unrhyw ffordd ar hyn o bryd yn gwrthbwyso'r toriadau i'r niferoedd rydym wedi'u gweld yn flaenorol, ac mae llawer i'w wneud o hyd mewn rhai rhannau o Gymru i wneud yn iawn am y niferoedd hynny. Rydym wedi ymrwymo'n bendant iawn i weithio gyda chomisiynwyr heddlu a throseddu a phrif gwnstabliaid i sicrhau bod yr heriau rydym wedi clywed amdanynt y prynhawn yma yn cael eu rheoli mewn ffyrdd sy'n cyfyngu ar yr effaith ar ddiogelwch cymunedol ac ar blismona rheng flaen yng Nghymru. Ac wrth gwrs, rydym yn parhau i fuddsoddi mewn camddefnyddio sylweddau a'r agenda benodol honno, ac mae ein cyllid yn y fan yna wedi cynyddu i £67 miliwn yn 2023-24. Mae cyfran fawr o hynny'n mynd i fyrddau cynllunio'r ardal drwy'r gronfa weithredu ar gamddefnyddio sylweddau. Ac wrth gwrs, mae'r elfen olaf o gyllid yr heddlu yn cael ei chodi drwy braesept y dreth gyngor, ac yn wahanol i Loegr, rydym wedi cadw'r rhyddid i swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu yng Nghymru wneud eu penderfyniadau eu hunain am gynnydd yn y dreth gyngor. Mae gosod y praesept yn rhan allweddol o rôl y comisiynwyr heddlu a throseddu, ac mae hynny'n dangos eu cyfrifoldeb a'u hatebolrwydd i'r etholwyr lleol. Er hynny, gwn y bydd y comisiynwyr, mewn cyfnod o bwysau cynyddol ar aelwydydd lleol, yn ystyried hyn yn ofalus iawn yn wir. Llywydd, rwy'n cymeradwyo'r setliad i'r Senedd. |
The proposal is to agree the motion. Does any Member object? No, and therefore the motion is agreed. | Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Nac oes, felly mae'r cynnig wedi'i dderbyn. |
Which bring us to voting time, but there are no votes today. That brings today's proceedings to a close. Thank you, all. | Sy'n golygu ein bod ni'n cyrraedd y cyfnod pleidleisio, ond does yna ddim pleidleisiau heddiw. Felly, dyna ni'n cyrraedd diwedd ein gwaith ni am heddiw. Diolch yn fawr i bawb. |
Good morning. I'd like to welcome Members to this meeting of the Culture, Communications, Welsh Language, Sport and International Relations Committee. We've received apologies from Carolyn Thomas and Jenny Rathbone is joining us on her behalf. Do any Members have any declarations of interest? I don't see that there are. | Bore da. Hoffwn i groesawu'r Aelodau i'r cyfarfod hwn o'r Pwyllgor Diwylliant, Cyfathrebu, y Gymraeg, Chwaraeon a Chysylltiadau Rhyngwladol. Dŷn ni wedi derbyn ymddiheuriadau gan Carolyn Thomas ac mae Jenny Rathbone yn ymuno â ni ar ei rhan. Oes gan unrhyw Aelodau fuddiannau i'w datgan? Dwi ddim yn gweld unrhyw rai. |
So, we'll move straight on to item 2. We are taking an evidence session with Sport Wales with regard to the allegations surrounding the Welsh Rugby Union. | Felly, fe wnawn ni symud yn syth ymlaen at eitem 2. Dŷn ni'n cymryd sesiwn dystiolaeth gyda Chwaraeon Cymru ynglŷn â'r honiadau yn ymwneud ag Undeb Rygbi Cymru. |
Thank you very much, Chair. | Diolch yn fawr iawn, Gadeirydd. |
Thank you for coming in. | Diolch am ddod mewn. |
So, Members, we will move straight to papers to note. We have three papers to note, I think. I'm just looking for the papers to note in my papers. No, only two. Thank you again. We have a letter from Cricket Wales to us with regard to the allegations, and then additional information. Did anyone have anything they wanted to say about the papers, or are you happy to note them? Yes, okay. | Aelodau, mi wnawn ni symud yn syth at bapurau i'w nodi. Mae gennym ni dri phapur i'w nodi, dwi'n meddwl. Dwi jest yn edrych am y papurau yn fy mhapurau. Dim ond dau. Llythyr gan Criced Cymru atom ni ynghylch yr honiadau yma, ac wedyn gwybodaeth ychwanegol. Oedd gan unrhyw un unrhyw beth oedden nhw eisiau dweud am y papurau yna, neu ydych chi'n hapus i'w nodi nhw? Ie, ocê. |
So, we'll move on, with your permission, to a motion under Standing Order 17.42 to resolve to exclude the public from the remainder of the meeting. Are you happy for us to do so? We'll wait to hear that we are therefore in private before we proceed. | Felly, mi wnawn ni symud, gyda'ch caniatad, o dan Reol Sefydlog 17.42, i wahardd y cyhoedd o weddill y cyfarfod. Ydych ch'i'n fodlon i ni wneud hynny? Mi wnawn ni aros i glywed ein bod ni'n breifat cyn i ni gario ymlaen. |
Thank you very much and good morning. I'd like to look at issues relating to resilience and capacity within the system. A response that's been used often is insourcing and outsourcing contracts with the private sector. But, by definition, that is something that has to be short term. It is something that it's possible to become completely reliant upon. So my question is this: how do you transition from that reliance on insourcing and outsourcing to a system that's more sustainable? | Diolch yn fawr iawn a bore da. Buaswn i'n licio edrych ar faterion yn ymwneud â gwydnwch a chapasiti o fewn y system. Ateb sydd wedi cael ei ddefnyddio yn gyson ydy contractau mewnoli ac allanoli contractau efo'r sector breifat. Ond, wrth ddiffiniad, mae hynny yn rhywbeth sydd yn gorfod bod yn fyrdymor. Mae o'n rhywbeth mae'n bosib mynd yn gwbl ddibynnol arno fo. Felly, fy nghwestiwn i ydy: sut mae trosi o'r sefyllfa honno o ddibyniaeth ar fewnoli ac allanoli i system fwy cynaliadwy, am wn i? |
Good afternoon. Welcome to this Plenary meeting. The first item on our agenda this afternoon is questions to the Minister for Finance and Local Government. The first question today is from Hefin David. | Prynhawn da. Croeso i'r Cyfarfod Llawn. Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni'r prynhawn yma yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. Mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Hefin David. |
Raising the basic rate would add additional costs on those less able to afford it at a time when the UK Government has frozen income tax thresholds, dragging lower earners into the income tax system. | Byddai codi'r gyfradd sylfaenol yn golygu costau ychwanegol i'r rheini sy'n llai abl i'w fforddio ar adeg pan fo Llywodraeth y DU wedi rhewi trothwyon treth incwm, gan lusgo pobl sy'n ennill llai i mewn i'r system treth incwm. |
I think the key point made by the Minister there is that, at the time, I think income tax is something that should be revisited in the future, but she's absolutely right to say that this is not the time for it. Last week, we saw an amendment to the Welsh Government's budget by Plaid Cymru that would have cost people on the basic rate £2.47 a week extra, during a cost-of-living crisis. Personally, my view is that the co-operation agreement should not have allowed that amendment to be put, given that it covers the budget, and it was disappointing to see that that happened outside the co-operation agreement. We should see Plaid Cymru taking responsibility for the power they have in the Senedd Chamber. Would the Minister be willing, though, to review this position in the future, should economic circumstances allow at some point? | Credaf mai'r pwynt allweddol a wnaed gan y Gweinidog yno yw fy mod, ar y pryd, yn credu bod treth incwm yn rhywbeth y dylid ei ailystyried yn y dyfodol, ond mae'n llygad ei lle i ddweud nad nawr yw'r adeg i wneud hynny. Yr wythnos diwethaf, gwelsom welliant i gyllideb Llywodraeth Cymru gan Blaid Cymru a fyddai wedi costio £2.47 yr wythnos yn ychwanegol i bobl ar y gyfradd sylfaenol, yn ystod argyfwng costau byw. Yn bersonol, fy marn i yw na ddylai'r cytundeb cydweithio fod wedi caniatáu i'r gwelliant hwnnw gael ei gynnig, o ystyried ei fod yn berthnasol i'r gyllideb, ac roedd yn siomedig gweld hynny'n digwydd y tu allan i'r cytundeb cydweithio. Dylem weld Plaid Cymru yn cymryd cyfrifoldeb am y grym sydd ganddynt yn Siambr y Senedd. A fyddai'r Gweinidog, serch hynny, yn fodlon adolygu'r sefyllfa hon yn y dyfodol, os yw'r amgylchiadau economaidd yn caniatáu ar ryw adeg? |
I'm very grateful to Hefin David for the question, and for raising Welsh rates of income tax this afternoon. And I completely agree with his assessment that it is not the right time, in a cost-of-living crisis, to be asking those who are on the absolute lowest incomes, and indeed those who have been drawn into the income tax system for the very first time, to be paying more. And I think it's well established that, to raise any serious amount of money in order to boost the resources that we have, we would be required to raise the basic rate of income tax. I do think that it has to be done in a considered and strategic way. That said, every single year, we do assess our options, in terms of how we use the Welsh rates of income tax, and we would expect to look afresh again at this issue next year, both in terms of people's overall tax burden and contribution, depending on where things are with the UK Government, and, of course, the wider economic situation that people find themselves in. But, absolutely, it's something that we consider afresh for every budget. | Rwy'n ddiolchgar iawn i Hefin David am ei gwestiwn, ac am godi cyfraddau treth incwm Cymru y prynhawn yma. Ac rwy'n cytuno'n llwyr â'i asesiad nad nawr yw'r adeg gywir, mewn argyfwng costau byw, i ofyn i'r rheini ar yr incwm isaf un, ac yn wir, y rheini sydd wedi cael eu tynnu i mewn i'r system dreth incwm am y tro cyntaf erioed, fod yn talu mwy. A chredaf ei bod yn dra hysbys, er mwyn codi unrhyw swm sylweddol o arian i gynyddu'r adnoddau sydd gennym, y byddai'n ofynnol inni godi'r gyfradd sylfaenol o dreth incwm. Credaf fod yn rhaid gwneud hynny mewn ffordd ystyriol a strategol. Wedi dweud hynny, bob blwyddyn, rydym yn asesu ein hopsiynau, o ran sut rydym yn defnyddio cyfraddau treth incwm Cymru, a byddem yn disgwyl edrych eto o'r newydd ar y mater hwn y flwyddyn nesaf, o ran baich treth cyffredinol a chyfraniad pobl, yn dibynnu ar y sefyllfa gyda Llywodraeth y DU, ac wrth gwrs, sefyllfa economaidd ehangach pobl. Ond yn sicr, mae'n rhywbeth rydym yn ei ystyried o'r newydd ar gyfer pob cyllideb. |
As we heard from Hefin David there, one of the perils of increasing income tax at a time of financial trouble is the fact that it would be something built on the back of working people across Wales. And it's quite apt, I think, on the day that Nicola Sturgeon resigned as leader of the SNP and First Minister of Scotland, to remember exactly where Plaid Cymru got this idea from, because they devolve a lot of their thinking out to a party from another part of the United Kingdom - the SNP. Because, in Scotland, they're proposing to add 1p onto the higher and top rates of tax, alongside reducing the top rate threshold, from £150,000 to just over £125,000. The Institute for Fiscal Studies has warned that that will spark an exodus of high earners across the border. Scottish business leaders have branded it a disadvantage for Scotland and made clear that it would make competing with the UK for talent much harder. On top of those increases, the Convention of Scottish Local Authorities has not ruled out a 10 per cent hike in council taxes there. In a survey, half of all Scots wanted the current system of council tax to end. Another survey showed that one in five Scottish households are currently living in serious financial difficulty, equivalent to 1.2 million people; in the UK overall, it's 17 per cent. That's Plaid's vision for Wales, Minister, and it's a vision that's built on the back of taxing working people. Do you agree with me that that's a totally wrong priority, at the wrong time, from a party that is increasingly out of touch with the people of Wales? | Fel y clywsom gan Hefin David, un o beryglon cynyddu treth incwm mewn cyfnod o drafferthion ariannol yw'r ffaith y byddai'n rhywbeth a fyddai wedi'i adeiladu ar draul pobl sy'n gweithio ledled Cymru. Ac mae'n gwbl briodol, yn fy marn i, ar y diwrnod yr ymddiswyddodd Nicola Sturgeon fel arweinydd yr SNP a Phrif Weinidog yr Alban, i gofio o ble yn union y cafodd Plaid Cymru y syniad hwn, gan eu bod yn etifeddu llawer o'u syniadau gan blaid o ran arall o'r Deyrnas Unedig - yr SNP. Oherwydd yn yr Alban, maent yn cynnig ychwanegu 1g at y cyfraddau treth uwch ac uchaf, ochr yn ochr â lleihau'r trothwy ar gyfer y gyfradd uchaf, o £150,000 i ychydig dros £125,000. Mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi rhybuddio y bydd hynny'n arwain at ecsodus o enillwyr uchel dros y ffin. Mae arweinwyr busnes yr Alban wedi dweud y byddai'n anfantais i'r Alban ac wedi dweud yn glir y byddai'n gwneud cystadlu â'r DU am dalent yn llawer anos. Ar ben y codiadau hynny, nid yw Confensiwn Awdurdodau Lleol yr Alban wedi diystyru cynnydd o 10 y cant mewn trethi cyngor yno. Mewn arolwg, roedd hanner yr Albanwyr am i system bresennol y dreth gyngor ddod i ben. Dangosodd arolwg arall fod un o bob pum cartref yn yr Alban ar hyn o bryd yn byw mewn trafferthion ariannol difrifol, sy'n cyfateb i 1.2 miliwn o bobl; yn y DU gyfan, mae'n 17 y cant. Dyna weledigaeth Plaid Cymru ar gyfer Cymru, Weinidog, ac mae'n weledigaeth sydd wedi'i hadeiladu ar drethu pobl sy'n gweithio. A ydych yn cytuno â mi fod honno'n flaenoriaeth gwbl anghywir, ar yr adeg anghywir, gan blaid sydd fwyfwy allan o gysylltiad â phobl Cymru? |
Well, I would gently remind the Member that, under the UK Conservative Government, the tax burden on people in Wales, and across the UK, is now at a 70-year high as a result of the decisions that that Government has made. But I do think that Scottish rates of income tax are very much a matter for the Scottish Government and the Scottish Parliament, but that doesn't mean that we can't learn from their experiences, which is why we're very interested in the work that HMRC is progressing in terms of developing a longitudinal data set. Now, that hopefully will allow us to have some more detailed analysis of the behavioural impacts of tax changes, including migration responses, and my officials are in frequent contact with HMRC to better understand the possibilities that that work might release. | Wel, byddwn yn atgoffa'r Aelod, o dan Lywodraeth Geidwadol y DU, fod y baich treth ar bobl yng Nghymru, a ledled y DU, bellach ar ei uchaf ers 70 mlynedd, o ganlyniad i'r penderfyniadau y mae'r Llywodraeth honno wedi'u gwneud. Ond credaf mai mater i Lywodraeth yr Alban a Senedd yr Alban yw cyfraddau treth incwm yr Alban, ond nid yw hynny'n golygu na allwn ddysgu o'u profiadau, a dyna pam fod gennym gryn ddiddordeb yn y gwaith y mae CThEF yn ei wneud ar ddatblygu set ddata hydredol. Nawr, gobeithiaf y bydd hynny'n caniatáu inni gael dadansoddiad manylach o effeithiau ymddygiadol newidiadau i drethi, gan gynnwys ymatebion ynghylch mudo, ac mae fy swyddogion mewn cysylltiad rheolaidd â CThEF i ddeall yn well y posibiliadau y gallai'r gwaith hwnnw eu rhyddhau. |
I regularly engage with my Cabinet colleagues on funding issues. In this financial year, we have made available over £110 million of funding to protect and grow bus services right across Wales. The bus emergency scheme has also been extended into the next financial year. | Rwy'n ymgysylltu'n rheolaidd â fy nghyd-Weinidogion Cabinet ar faterion cyllido. Yn y flwyddyn ariannol hon, rydym wedi darparu dros £110 miliwn o gyllid i ddiogelu a thyfu gwasanaethau bysiau ledled Cymru. Mae'r cynllun brys ar gyfer y sector bysiau hefyd wedi'i ymestyn i'r flwyddyn ariannol nesaf. |
It's undoubtedly the case, Minister, that cross-Government working, finding the money to put in place the emergency bus support and also extending it now for the next few months has been critical to ensuring the survival of the bus industry in Wales, including independent operators, small family operators and so on that run their businesses. But we know the pressures that your budget is under, but we also do know that this is genuinely a climate justice issue, and it's also a social justice issue, as we keep being told, quite rightly. And we can repeat this endlessly until it gets into people's minds that 80 per cent of those people who use buses have no other alternative. So, can I simply urge - this is not asking for magic money - but can I genuinely urge her, in her discussions with the Minister for Climate Change, and the Minister for Social Justice and Cabinet colleagues, to do all she possibly can to try and find that way that we can keep these bus services going in all our communities - rural and urban Wales. It's vital, going forward, particularly after the announcement yesterday about turning a corner a different way to deal with shifting people to more sustainable travel. | Yn ddiamau, Weinidog, mae gweithio trawslywodraethol, dod o hyd i'r arian ar gyfer cymorth brys i'r sector bysiau, a'i ymestyn nawr am yr ychydig fisoedd nesaf, wedi bod yn hollbwysig i sicrhau bod y diwydiant bysiau yng Nghymru yn goroesi, gan gynnwys gweithredwyr annibynnol, gweithredwyr teuluol bach ac ati sy'n rhedeg eu busnesau. Ond rydym yn ymwybodol o'r pwysau sydd ar eich cyllideb, ond gwyddom hefyd fod hwn yn bendant yn fater cyfiawnder hinsawdd, a hefyd yn fater cyfiawnder cymdeithasol, fel y dywedir wrthym o hyd, yn gwbl briodol. A gallwn ailadrodd hyn yn dragwyddol hyd nes y bydd pobl yn sylweddoli nad oes gan 80 y cant o'r bobl sy'n defnyddio bysiau unrhyw ddewis arall. Felly, a gaf fi annog - nid gofyn am swyno arian mohono - ond a gaf fi ei hannog o ddifrif, yn ei thrafodaethau â'r Gweinidog Newid Hinsawdd, a'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a chyd-Weinidogion Cabinet, i wneud popeth yn ei gallu i geisio dod o hyd i ffordd y gallwn gadw'r gwasanaethau bysiau hyn yn ein holl gymunedau - yn y Gymru wledig a'r Gymru drefol. Mae hynny'n hanfodol wrth symud ymlaen, yn enwedig ar ôl y cyhoeddiad ddoe am droi cornel i ffordd wahanol o geisio annog pobl i ddefnyddio dulliau teithio mwy cynaliadwy. |
I'm grateful for the question and completely agree with the points that are made about bus services being a critical part of our approach to delivering social justice here in Wales, and, of course, an important part of our environmental aspirations as well. I think that our support for the bus industry through the pandemic and now at the other side of the pandemic has been absolutely crucial in terms of maintaining the services that we do have in Wales. But it was a bus emergency scheme, and I think that this level of subsidy is just not sustainable in the long term, which is really why we are looking at reviewing the bus services support grant, to move the industry away from that kind of reliance on the emergency funding to something that is much more stable in the future. And colleagues will be aware of our ambitious plans, in terms of the bus Bill that we aim to bring forward, to bring more control back to local authorities in terms of the services that are provided. So, I think that, really, is the longer term answer, but, in the meantime, our support is really important for the industry. | Rwy'n ddiolchgar am y cwestiwn, ac yn cytuno'n llwyr â'r pwyntiau a wnaed am wasanaethau bysiau fel rhan hollbwysig o'n dull o sicrhau cyfiawnder cymdeithasol yma yng Nghymru, ac wrth gwrs, maent yn rhan bwysig o'n dyheadau amgylcheddol hefyd. Credaf fod ein cymorth i'r diwydiant bysiau drwy gydol y pandemig a bellach ar yr ochr draw i'r pandemig wedi bod yn gwbl hanfodol i gynnal y gwasanaethau sydd gennym yng Nghymru. Ond cynllun brys ydoedd ar gyfer y sector bysiau, ac ni chredaf fod y lefel hon o gymhorthdal yn gynaliadwy yn hirdymor, a dyna pam ein bod yn edrych ar adolygu'r grant cynnal gwasanaethau bysiau, er mwyn symud y diwydiant oddi wrth y fath ddibyniaeth ar gyllid brys i rywbeth sy'n llawer mwy sefydlog yn y dyfodol. A bydd fy nghyd-Aelodau'n ymwybodol o'r cynlluniau uchelgeisiol y bwriadwn eu rhoi ar waith, o ran y Bil bysiau, er mwyn rhoi mwy o reolaeth yn ôl i awdurdodau lleol, a'r gwasanaethau a ddarperir. Felly, credaf mai dyna'r ateb mwy hirdymor, ond yn y cyfamser, mae ein cymorth yn wirioneddol bwysig i'r diwydiant. |
Minister, I have raised on a number of occasions the plight of residents across my region who have suffered as the result of cuts to scheduled bus services. The most recent issue brought to my attention is a proposal by First Cymru to cut services to Resolven in my region. Many people in Resolven, particularly the elderly, are dependent upon the X7 service, as their nearest post office or bank is over seven miles away. Any reduction in service will have a bad impact on a community like Resolven. I have also been contacted by Neath Port Talbot Council, who are concerned that the Welsh Government's decision to axe bus emergency scheme 3 funding is leading to the acceleration in cuts to these bus services. If BES3 funding goes, companies operating services within Port Talbot and Neath will deregister most routes within the county borough. Minister, will you reconsider the decision to end BES3 funding and look at other ways to support a struggling bus industry that is so vital to many of our constituents? | Weinidog, ar sawl achlysur, rwyf wedi codi sefyllfa trigolion ar draws fy rhanbarth sydd wedi dioddef o ganlyniad i doriadau i wasanaethau bysiau rheolaidd. Y mater diweddaraf a ddygwyd i'm sylw yw cynnig gan First Cymru i dorri gwasanaethau i Resolfen yn fy rhanbarth. Mae llawer o bobl yn Resolfen, yn enwedig yr henoed, yn ddibynnol ar wasanaeth X7, gan fod eu swyddfa bost neu fanc agosaf dros saith milltir i ffwrdd. Bydd unrhyw ostyngiad mewn gwasanaeth yn cael effaith wael ar gymuned fel Resolfen. Mae Cyngor Castell-nedd Port Talbot hefyd wedi cysylltu â mi i fynegi pryderon fod penderfyniad Llywodraeth Cymru i gael gwared ar gyllid y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau 3, BES3, yn arwain at gyflymu'r toriadau i'r gwasanaethau bysiau hyn. Os bydd arian BES3 yn diflannu, bydd cwmnïau sy'n gweithredu gwasanaethau ym Mhort Talbot a Chastell-nedd yn datgofrestru'r rhan fwyaf o'u llwybrau teithio yn y fwrdeistref sirol. Weinidog, a wnewch chi ailystyried y penderfyniad i ddod â chyllid BES3 i ben ac edrych ar ffyrdd eraill o gefnogi diwydiant bysiau sy'n ei chael hi'n anodd ac sydd mor hanfodol i lawer o'n hetholwyr? |
I would refer the Member to the joint statement on the bus emergency scheme that was issued by the Welsh Government, the Welsh Local Government Association, the Confederation of Passenger Transport and the Coach and Bus Association Cymru last week, which set out that there is now an initial extension of three months, which gives the industry some short-term stability, which it needs while we continue to work with the industry together on planning bus networks that better suit the new travel patterns that we've seen since the end of the pandemic. Then, I refer back to the point that I made in terms of the bus Bill being the most far-reaching plan across the UK and an absolutely vital step in terms of reversing the damage that we've seen in terms of the deregulation of the bus industry. We want to make sure that people have a service that they can rely on, which is easy to use and which puts people before profit, and that absolutely will be at the heart of our work, going forward. But, of course, legislation doesn't happen overnight, so, in the meantime, we are working, as I say, with the industry to explore what quick improvements can be made to bus passengers' experiences of our buses, and, of course, we have published the Bws Cymru bus plan, which sets out some of these immediate steps. | Carwn gyfeirio'r Aelod at y datganiad ar y cynllun brys ar gyfer y sector bysiau a wnaed ar y cyd gan Lywodraeth Cymru, Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Conffederasiwn Cludiant Teithwyr a Chymdeithas Bysiau Cymru yr wythnos diwethaf, a nododd fod estyniad cychwynnol o dri mis bellach ar waith sy'n rhoi sefydlogrwydd tymor byr i'r diwydiant, rhywbeth sydd ei angen arno wrth inni barhau i weithio gyda'r diwydiant gyda'n gilydd ar gynllunio rhwydweithiau bysiau sy'n gweddu'n well i'r patrymau teithio newydd a welsom ers y diwedd y pandemig. Yna, cyfeiriaf yn ôl at y pwynt a wneuthum mai'r Bil bysiau yw'r cynllun mwyaf pellgyrhaeddol ar draws y DU, a'i fod yn gam cwbl hanfodol i wrthdroi'r difrod a welsom yn sgil dadreoleiddio'r diwydiant bysiau. Rydym yn awyddus i sicrhau bod gan bobl wasanaeth y gallant ddibynnu arno, un sy'n hawdd ei ddefnyddio ac sy'n rhoi pobl cyn elw, a bydd hynny'n gwbl ganolog i'n gwaith wrth symud ymlaen. Ond wrth gwrs, nid yw deddfwriaeth yn digwydd dros nos, felly, yn y cyfamser, rydym yn gweithio, fel y dywedaf, gyda'r diwydiant i archwilio pa welliannau cyflym y gellir eu gwneud i brofiadau teithwyr o'n bysiau, ac wrth gwrs, rydym wedi cyhoeddi cynllun bysiau Bws Cymru, sy'n nodi rhai o'r camau uniongyrchol hyn. |
Minister, the disappointing announcement late on Friday night that the emergency funding scheme for operators is only to be extended for three months has not brought the certainty that the industry needs. Alongside rising costs - fuel, maintenance and wages, et cetera - fare-paying patronage levels across Wales have only returned to about 65 per cent of what they were before COVID. I've heard from companies in west Wales who provide these vital scheduled bus services that are concerned that they may no longer be able to operate these vital services, which allow people to attend hospital or GP appointments, to go shopping and interact with the wider world, or even travel to school. A lack of public transport, in rural areas in particular, is damaging to social cohesion and the ability to access public services, so the importance of these services in rural communities in particular cannot be understated. So, what discussions have you had, Minister, with the Deputy Minister for Climate Change regarding the end of the BES and what assessment have you undertaken regarding the impact that ceasing this will have on local authorities and bus companies? | Weinidog, nid yw'r cyhoeddiad siomedig yn hwyr nos Wener fod y cynllun cyllid brys ar gyfer gweithredwyr i'w ymestyn am dri mis yn unig wedi darparu'r sicrwydd sydd ei angen ar y diwydiant. Ochr yn ochr â chostau cynyddol - tanwydd, cynnal a chadw a chyflogau, ac ati - nid yw lefelau defnydd lle telir am docyn ond wedi dychwelyd i oddeutu 65 y cant o'r hyn oeddent cyn COVID-19 ledled Cymru. Clywais gan gwmnïau yng ngorllewin Cymru sy'n darparu'r gwasanaethau bws rheolaidd hanfodol hyn ac sy'n pryderu efallai na fyddant bellach yn gallu gweithredu gwasanaethau hanfodol sy'n caniatáu i bobl fynd i apwyntiadau ysbyty neu at eu meddyg teulu, i fynd i siopa ac i ryngweithio â'r byd ehangach, neu hyd yn oed i deithio i'r ysgol. Mae diffyg trafnidiaeth gyhoeddus, mewn ardaloedd gwledig yn arbennig, yn niweidiol i gydlyniant cymdeithasol a'r gallu i gael mynediad at wasanaethau cyhoeddus, felly ni ellir gorbwysleisio pwysigrwydd y gwasanaethau hyn mewn cymunedau gwledig yn arbennig. Felly, Weinidog, pa drafodaethau rydych wedi'u cael gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch diwedd cynllun BES, a pha asesiad a wnaethoch o'r effaith y bydd dod â'r cynllun i ben yn ei chael ar awdurdodau lleol a chwmnïau bysiau? |
I had a meeting just last week with the Deputy Minister for Climate Change and the Minister for Climate Change to discuss this issue and other issues in relation to pressures within the overall transport system. I was pleased that there were some conversations with the traffic commissioner to give the result that the deregistration window has now been temporarily reduced to 28 days. I think the extension to the funding, albeit short term, alongside that 28-day window, now means that there's no need for operators to be making immediate decisions on their future network. However, we will work together closely with the bus industry and other partners, including Transport for Wales, to bring around the strong and sustainable bus network for Wales that we need. But, as you appreciate from the question, I think, it is the Deputy Minister for Climate Change who's leading on those discussions, and I support him in my role as Minister for Finance and Local Government. | Cefais gyfarfod yr wythnos diwethaf gyda'r Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd a'r Gweinidog Newid Hinsawdd i drafod y mater hwn a materion eraill sy'n ymwneud â phwysau yn y system drafnidiaeth yn gyffredinol. Roeddwn yn falch fod rhai sgyrsiau wedi'u cael gyda'r comisiynydd traffig i sicrhau bod y cyfnod datgofrestru bellach wedi'i gyfyngu dros dro i 28 diwrnod. Credaf fod yr estyniad i'r cyllid, er ei fod ar gyfer y tymor byr, ochr yn ochr â'r cyfnod hwnnw o 28 diwrnod, bellach yn golygu nad oes angen i weithredwyr wneud penderfyniadau ar unwaith ar ddyfodol eu rhwydwaith. Fodd bynnag, byddwn yn cydweithio'n agos â'r diwydiant bysiau a phartneriaid eraill, gan gynnwys Trafnidiaeth Cymru, i sicrhau'r rhwydwaith bysiau cryf a chynaliadwy sydd ei angen arnom yng Nghymru. Ond fel y credaf eich bod yn ei ddeall o'r cwestiwn, y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sy'n arwain ar y trafodaethau hynny, ac rwy'n ei gefnogi yn fy rôl fel Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol. |
Good afternoon, Minister. To continue the bus theme, particularly in rural areas, it feels to me like this is one area where investing now and thinking long term can benefit us in Wales, particularly those in rural areas. So, just some buses in Ceredigion that are being affected: the Tregaron circular service, the Penrhyn-coch to Pen-bont Rhydybeddau, and Aberystwyth to Devil's Bridge routes. Three other routes: buses now run less often from Aberystwyth to Ponterwyd, to Penrhyn-coch and to Lampeter via Tregaron. And Mid Wales Travel have just announced the halving of services on three routes from Aberystwyth town centre to the university campus, to Borth and Ynyslas, and the Penparcau circular route as well. These are really affecting communities within our rural areas. It is just another appeal that we look at the budget issues. From the roads review yesterday, I hope we have an opportunity to look at the money saved from cutting road construction to our public transport, particularly bus services. I wonder, with you having the responsibility for the budget, whether you're able to give us any information on next year's budget in terms of supporting and funding our bus services. Thank you. Diolch yn fawr iawn. | Prynhawn da, Weinidog. Gan barhau â'r thema bysiau, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig, mae'n teimlo i mi fel pe bai hwn yn un maes lle gall buddsoddi nawr a meddwl yn hirdymor fod o fudd i ni yng Nghymru, yn enwedig i'r rheini mewn ardaloedd gwledig. Felly, rhai bysiau yng Ngheredigion yr effeithir arnynt: gwasanaeth cylchol Tregaron, y llwybr o Benrhyn-coch i Ben-bont Rhydybeddau, a llwybrau Aberystwyth i Bontarfynach. Tri llwybr arall: mae bysus bellach yn rhedeg yn llai aml o Aberystwyth i Bonterwyd, i Benrhyn-coch ac i Lanbedr Pont Steffan drwy Dregaron. Ac mae Mid Wales Travel newydd gyhoeddi y bydd gwasanaethau ar dri llwybr o ganol tref Aberystwyth i gampws y brifysgol, i Borth ac Ynyslas, a llwybr cylchol Penparcau hefyd, yn cael eu haneru. Mae'r rhain yn effeithio'n fawr ar gymunedau yn ein hardaloedd gwledig. Mae'n apêl arall arnom i edrych ar y materion cyllidebol. O'r adolygiad ffyrdd ddoe, rwy'n gobeithio y cawn gyfle i edrych ar yr arian a arbedwyd o dorri'r gwaith o adeiladu ffyrdd i'n trafnidiaeth gyhoeddus, yn enwedig gwasanaethau bysiau. Gan mai chi sy'n gyfrifol am y gyllideb, tybed a allwch roi unrhyw wybodaeth i ni am gyllideb y flwyddyn nesaf o safbwynt cefnogi ac ariannu ein gwasanaethau bysiau. Diolch yn fawr iawn. |
I'm very grateful for the question and also, as Cefin Campbell has done, for recognising the important role that buses play in terms of serving our rural communities in particular. I will ask the Deputy Minister to provide a greater update as those discussions continue because, as I say, he is leading on those discussions, but I think that one thing he would probably want to highlight is the importance of our Fflecsi pilot scheme. Particularly, it's been an important innovation in some rural areas, including schemes in the Conwy valley and in Pembrokeshire, but also in some urban areas, including Newport and smaller towns such as Denbigh and Ruthin. I think there's a lot to learn from those, but, again, that's not something that will be developing at pace overnight, but certainly something I think that has a really important part to play in the longer term. | Rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn a hefyd, fel y mae Cefin Campbell wedi'i wneud, am gydnabod y rôl bwysig y mae bysiau yn ei chwarae'n gwasanaethu ein cymunedau gwledig yn arbennig. Fe ofynnaf i'r Dirprwy Weinidog roi mwy o ddiweddariadau wrth i'r trafodaethau hynny barhau oherwydd, fel y dywedaf, ef sy'n arwain ar y trafodaethau hynny, ond credaf mai un peth y byddai'n debygol o fod yn awyddus i dynnu sylw ato yw pwysigrwydd ein cynllun peilot Fflecsi. Bu'n gyfleuster hynod bwysig mewn rhai ardaloedd gwledig, gan gynnwys cynlluniau yn nyffryn Conwy ac yn sir Benfro, ond hefyd mewn rhai ardaloedd trefol, gan gynnwys Casnewydd a threfi llai fel Dinbych a Rhuthun. Credaf fod llawer i'w ddysgu o'r rheini, ond eto, nid yw hynny'n rhywbeth a fydd yn datblygu'n gyflym dros nos, ond yn sicr, mae'n rhywbeth y credaf fod ganddo ran bwysig iawn i'w chwarae yn y tymor hwy. |
Questions now from party spokespeople. The Conservative spokesperson, Peter Fox. | Cwestiynau nawr gan lefarwyr y pleidiau. Llefarydd y Ceidwadwyr, Peter Fox. |
Diolch, Llywydd. Minister, I'm sure all in this Chamber are relieved that negotiations with our teachers and our NHS unions over revised pay offers are looking promising and have averted further strikes by teachers and any NHS staff for the time being. Let's all hope that the offers will be accepted. But, for weeks, Minister, the Welsh Government had claimed that there's no money, meaning that any proposed pay rise would have been unachievable. So, given the u-turn that the Government has made, Minister, can you share the total amount that these increased pay offers will cost, and where this additional money is going to come from? And can you indicate which service areas will bear the costs and what things are likely to be put on hold as a result? | Diolch, Lywydd. Weinidog, rwy'n siŵr fod pawb yn y Siambr hon yn falch fod trafodaethau gyda'n hathrawon ac undebau ein GIG ynghylch cynigion cyflog diwygiedig yn edrych yn addawol ac wedi atal streiciau pellach gan athrawon ac unrhyw staff GIG am y tro. Gadewch inni obeithio y bydd y cynigion yn cael eu derbyn. Ond ers wythnosau, Weinidog, roedd Llywodraeth Cymru wedi honni nad oes arian ar gael, sy'n golygu y byddai unrhyw godiad cyflog arfaethedig wedi bod yn amhosibl. Felly, o ystyried y tro pedol a wnaed gan y Llywodraeth, Weinidog, a allwch rannu'r cyfanswm y bydd y cynigion cyflog uwch hyn yn ei gostio, ac o ble y daw'r arian ychwanegol? Ac a wnewch chi nodi pa feysydd gwasanaeth a fydd yn ysgwyddo'r costau a pha bethau sy'n debygol o gael eu gohirio o ganlyniad? |
Well, I share your hope that the members of the unions will now accept the enhanced offer that has been made, which, just to be clear, is over and above the offer that was previously made when we accepted the recommendations of the independent pay review bodies. Our offer is, of course, an additional 3 per cent in this year and 1.5 per cent of that will be consolidated into next year. So, in terms of where we've been able to find the money, I refer colleagues to the second supplementary budget, which we published yesterday. And that sets out that we've allocated £130 million to the health main expenditure group and £35 million to the education MEG in order to cover that payment, should it be accepted within this financial year. You'll also see from the supplementary budget that we've now drawn down everything that we can within this financial year from the Wales reserve, which is £125 million of revenue. That is not a comfortable position to be in at all - it's certainly not something that I'd intended to do at the start of the year. You'll remember that, when we set our budget for this financial year, it was less than £40 million that we intended to draw down and that was in recognition of the difficult two years that we face, which follow us in terms of the three-year spending review period. So, it's a very difficult situation, I think, now, budgetary wise, but absolutely, it was the right thing to do. So, just to assure you that, when colleagues vote on the supplementary budget, they'll be given cover then for the Welsh Government to spend the money that has been allocated. And also, there might be the underspends, which, obviously, we'll be driving now across different departments between now and the financial year so that we can make sure that we cover the whole of that award. | Wel, rwy'n rhannu eich gobaith y bydd aelodau'r undebau nawr yn derbyn y cynnig gwell a wnaed, sydd, i fod yn glir, yn uwch na'r cynnig a wnaed yn flaenorol pan wnaethom dderbyn argymhellion y cyrff adolygu cyflog annibynnol. Ein cynnig, wrth gwrs, yw 3 y cant ychwanegol yn y flwyddyn hon, a bydd 1.5 y cant o hynny'n cael ei gyfuno i mewn i'r flwyddyn nesaf. Felly, o ran ble rydym wedi gallu dod o hyd i'r arian, cyfeiriaf fy nghyd-Aelodau at yr ail gyllideb atodol, a gyhoeddwyd gennym ddoe. Ac mae honno'n nodi ein bod wedi dyrannu £130 miliwn i'r prif grŵp gwariant iechyd a £35 miliwn i'r prif grŵp gwariant addysg er mwyn talu am hynny, pe bai'n cael ei dderbyn o fewn y flwyddyn ariannol hon. Fe welwch hefyd o'r gyllideb atodol ein bod bellach wedi tynnu popeth a allwn yn y flwyddyn ariannol hon i lawr o gronfa wrth gefn Cymru, sef £125 miliwn o refeniw. Nid yw honno'n sefyllfa gyfforddus i fod ynddi o gwbl - yn sicr, nid yw'n rhywbeth roeddwn i wedi bwriadu ei wneud ar ddechrau'r flwyddyn. Fe gofiwch, pan wnaethom osod ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn ariannol hon, ein bod wedi bwriadu tynnu llai na £40 miliwn i lawr, ac roedd hynny i gydnabod y ddwy flynedd anodd sy'n ein hwynebu, sy'n ein dilyn o ran y cyfnod adolygu gwariant tair blynedd. Felly, credaf ei bod yn sefyllfa anodd iawn nawr, o ran y gyllideb, ond yn sicr, dyna oedd y peth iawn i'w wneud. Felly, i dawelu eich meddwl, pan fydd cyd-Aelodau'n pleidleisio ar y gyllideb atodol, byddant yn cael sicrwydd bryd hynny i Lywodraeth Cymru wario'r arian sydd wedi'i ddyrannu. A hefyd, efallai y bydd tanwariant, y byddwn, yn amlwg, yn ei hybu nawr mewn gwahanol adrannau rhwng nawr a'r flwyddyn ariannol fel y gallwn sicrhau ein bod yn gallu talu am y dyfarniad cyfan hwnnw. |
Thank you, Minister - thank you for that clarity. I think it's really important that the Senedd understands the detail. I know that it'll be in the supplementary budget and we look forward to discussing that earlier. There are always opportunity costs when things have to be adjusted like that. So, it's important that we do understand the implications of those decisions. But, Minister, in a similar vein of understanding the implications of Welsh Government's decisions, you'll be aware that this year marks the entire decade since your Government unilaterally took control of Cardiff Airport. In that time, literally hundreds of millions of taxpayers' money has been poured into the site, and please correct me if I'm wrong, but I believe that it's well over £200 million that has been pumped into the airport, both in revenue and capital. This begs the question of what the wasted sums of money could have alternatively been used on over the years - the opportunity costs are colossal. Minister, do you regret the sums of money that your Government have poured into the airport over the last 10 years, and with hindsight, Minister, do you agree with me that it was a poor and costly decision? | Diolch, Weinidog - diolch am yr eglurhad. Credaf ei bod yn bwysig iawn fod y Senedd yn deall y manylion. Gwn y bydd hynny wedi'i gynnwys yn y gyllideb atodol, ac edrychwn ymlaen at drafod hynny'n gynharach. Mae costau cyfle bob amser pan fydd yn rhaid addasu pethau fel hynny. Felly, mae'n bwysig ein bod yn deall goblygiadau'r penderfyniadau hynny. Ond Weinidog, yn yr un modd o ran deall goblygiadau penderfyniadau Llywodraeth Cymru, fe fyddwch yn ymwybodol ei bod yn ddegawd cyfan eleni ers i'ch Llywodraeth gymryd rheolaeth gyfan ar Faes Awyr Caerdydd. Yn y cyfnod hwnnw, mae cannoedd o filiynau, yn llythrennol, o arian trethdalwyr wedi'i wario ar y safle, a chywirwch fi os wyf yn anghywir, ond credaf fod ymhell dros £200 miliwn wedi'i bwmpio i mewn i'r maes awyr, a hynny mewn refeniw a chyfalaf. Mae hyn yn codi'r cwestiwn ar gyfer beth arall y gellid bod wedi defnyddio'r symiau o arian a wastraffwyd dros y blynyddoedd - mae'r costau cyfle yn enfawr. Weinidog, a ydych yn gresynu at y symiau o arian y mae eich Llywodraeth wedi'u gwario ar y maes awyr dros y 10 mlynedd diwethaf, ac wrth edrych yn ôl, Weinidog, a ydych yn cytuno â mi ei fod yn benderfyniad gwael a chostus? |
Well, if my colleague, the economy Minister - sorry, the transport Minister - within whose portfolio this sits was answering the question, I'm sure he would refer you to the fact that the airport does have a particular plan to put itself on a sustainable footing for the future. I think it is important that the airport does have a sustainable plan in terms of becoming profitable, but I think it is important that we do have an airport here in Wales in order to service people who live in Wales. What we do have, I think, is a problematic situation where the UK Government seems very much interested, really, in supporting Bristol Airport at the expense of Cardiff Airport. We saw that in the debates that we had in terms of devolving air passenger duty in recent years as well. So, I think that that is of particular concern. But I think it is important that Wales has an airport; it's important that our airport becomes sustainable in the long term. | Wel, pe bai fy nghyd-Aelod, Gweinidog yr Economi - mae'n ddrwg gennyf, y Gweinidog trafnidiaeth - yn ateb y cwestiwn hwn, gan mai rhan o'i bortffolio ef yw hyn, rwy'n siŵr y byddai'n eich cyfeirio at y ffaith bod gan y maes awyr gynllun penodol i sicrhau ei fod ar sylfaen gynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Credaf ei bod yn bwysig fod gan y maes awyr gynllun cynaliadwy i ddod yn broffidiol, ond credaf ei bod yn bwysig fod gennym faes awyr yma yng Nghymru i wasanaethu pobl sy'n byw yng Nghymru. Yr hyn sydd gennym yn fy marn i yw sefyllfa broblemus lle mae'n ymddangos bod gan Lywodraeth y DU gryn ddiddordeb mewn cefnogi Maes Awyr Bryste ar draul Maes Awyr Caerdydd. Gwelsom hynny yn y dadleuon a gawsom ar ddatganoli'r doll teithwyr awyr yn y blynyddoedd diwethaf hefyd. Felly, credaf fod hynny'n peri pryder arbennig. Ond rwy'n credu ei bod yn bwysig fod gan Gymru faes awyr; mae'n bwysig fod ein maes awyr yn dod yn gynaliadwy yn y tymor hir. |
Well, thank you, again, Minister. I take it from that that you don't regret the investment over the 10 years, albeit that it's a huge amount of money, and I know that many Members in here would have liked to have seen that money spent in many other areas, such as health and education, and we might not have found ourselves in the poor situation we're currently in, but that's where we are. Unfortunately, Minister, examples of lost opportunities under the Government just keep coming up. And now I turn my attention, finally, to Gilestone Farm, where Audit Wales have raised serious concerns over your Government's decision to spend £4.25 million of taxpayers' money on buying that farm. But only last week in this Chamber, Members of your own back benches openly raised serious concerns over the purchase. Do you agree with them that, in hindsight, once again, the decision to buy the farm was another example of your Government's poor judgment and a financial mistake? | Wel, diolch, unwaith eto, Weinidog. Cymeraf o hynny nad ydych yn difaru'r buddsoddiad dros y 10 mlynedd, er ei fod yn swm enfawr o arian, a gwn y byddai llawer o Aelodau yma wedi hoffi gweld yr arian hwnnw'n cael ei wario mewn llawer o feysydd eraill, megis iechyd ac addysg, ac efallai wedyn na fyddem yn y sefyllfa wael rydym ynddi, ond dyna ble rydym. Yn anffodus, Weinidog, mae enghreifftiau o gyfleoedd a gollwyd o dan y Llywodraeth yn codi o hyd. A nawr, rwy'n troi fy sylw, yn olaf, at Fferm Gilestone, lle mae Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon difrifol ynghylch penderfyniad eich Llywodraeth i wario £4.25 miliwn o arian trethdalwyr ar brynu'r fferm honno. Ond yr wythnos diwethaf yn y Siambr hon, mynegodd Aelodau eich meinciau cefn eich hun bryderon difrifol ynghylch y pryniant. A ydych yn cytuno â hwy, wrth edrych yn ôl unwaith eto, fod y penderfyniad i brynu'r fferm yn enghraifft arall o grebwyll gwael eich Llywodraeth a chamgymeriad ariannol? |
Well, I think what's really clear from the auditor general's report is that our acquisition of Gilestone Farm, to allow Green Man to develop its plans, was value for money, properly aligned to our economic ambitions, and followed the appropriate processes and approvals. And, to be clear, the report by Audit Wales underscores that the procedural integrity of the acquisition of the farm is not in doubt. The Welsh Government has the legal powers to acquire properties or assets like Gilestone Farm, and professional independent advice was sought as part of the purchase process. And also, the auditor general makes it clear that the advice to Ministers was set in the context of the Well-being of Future Generations (Wales) Act 2015 and our policies to support and further tourism and social and economic regeneration. I think the report also added that the advice sent to Ministers was well rounded, providing six options for Ministers to consider, including the option of not progressing with the policy proposal. But, of course, no final decision on the future of Gilestone Farm will be made until there is an extensive due diligence process completed and, in the event that the detailed business plan does not meet our Welsh Government requirements or that Green Man does not enter into a prospective commercial lease, the Welsh Government will, of course, still have the farm asset and will be able to consider other options for it. | Wel, credaf mai'r hyn sy'n wirioneddol glir o adroddiad yr archwilydd cyffredinol yw bod prynu Fferm Gilestone, er mwyn caniatáu i Ŵyl y Dyn Gwyrdd ddatblygu eu cynlluniau, yn dangos gwerth am arian, yn cyd-fynd yn briodol â'n huchelgeisiau economaidd, ac wedi dilyn y prosesau a'r cymeradwyaethau priodol. Ac i fod yn glir, mae adroddiad Archwilio Cymru yn tanlinellu nad oes amheuaeth ynghylch cywirdeb gweithdrefnol y broses o gaffael y fferm. Mae gan Lywodraeth Cymru bwerau cyfreithiol i gaffael eiddo neu asedau fel Fferm Gilestone, a gofynnwyd am gyngor annibynnol proffesiynol yn rhan o'r broses gaffael. A hefyd, mae'r archwilydd cyffredinol yn nodi'n glir fod y cyngor i Weinidogion wedi'i roi yng nghyd-destun Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a'n polisïau i gefnogi a hybu twristiaeth ac adfywio cymdeithasol ac economaidd. Credaf fod yr adroddiad hefyd wedi ychwanegu bod y cyngor a roddwyd i Weinidogion yn eang, ac yn darparu chwe opsiwn i Weinidogion eu hystyried, gan gynnwys yr opsiwn o beidio â bwrw ymlaen â'r cynnig polisi. Ond wrth gwrs, ni fydd unrhyw benderfyniad terfynol yn cael ei wneud ar ddyfodol Fferm Gilestone hyd nes y bydd proses ddiwydrwydd dyladwy helaeth wedi'i chwblhau, ac os na fydd y cynllun busnes manwl yn bodloni gofynion Llywodraeth Cymru, neu os na fydd Gŵyl y Dyn Gwyrdd yn ymrwymo i les fasnachol arfaethedig, bydd gan Lywodraeth Cymru y fferm fel ased o hyd wrth gwrs, a bydd yn gallu ystyried opsiynau eraill ar ei chyfer. |
Diolch yn fawr iawn, Llywydd. Last week, Minister, you recall, I'm sure, Plaid Cymru making our case for the further devolution of tax powers, in that instance providing Wales with the ability to set our own income tax bands in line with powers already being exercised in Scotland, of course. Now, unfortunately, you and your colleagues voted down our motion, despite mounting evidence that the current income tax bands, which are, let's not forget, set by the UK Government for Wales, despite them being an exceedingly poor fit for the Welsh tax base. Now, a recent Institute of Welsh Affairs report stated that if you were designing an efficient system of income taxation for Wales, then the bands wouldn't look like they look now. However, what's also apparent, of course, is that the Welsh Government's current agenda for the further devolution of tax powers, which includes an ambition to establish a vacant land tax is being undermined by a consistent lack of engagement and co-operation from the UK Government. You've described the agreed process for devolution of tax competence to Wales as 'not fit for purpose', so can you tell us, therefore, what recent discussions you've had with the UK Government regarding the review and reform of the process by which new tax powers are devolved? And what recommendations has the Welsh Government made to the UK Government in this regard? | Diolch yn fawr iawn, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, Weinidog, rwy'n siŵr y gallwch gofio Plaid Cymru yn dadlau ein hachos dros ddatganoli pwerau trethu ymhellach, gan roi'r gallu, yn yr achos hwnnw, i Gymru osod ein bandiau treth incwm ein hunain yn unol â'r pwerau sydd eisoes yn cael eu harfer yn yr Alban, wrth gwrs. Yn anffodus, fe wnaethoch chi a'ch cyd-Aelodau bleidleisio yn erbyn ein cynnig, er gwaethaf tystiolaeth gynyddol fod y bandiau treth incwm presennol, sy'n cael eu gosod, gadewch inni gofio, gan Lywodraeth y DU ar gyfer Cymru, er gwaethaf y ffaith eu bod yn anaddas iawn ar gyfer sylfaen drethu Cymru. Nawr, yn ôl adroddiad diweddar gan y Sefydliad Materion Cymreig, pe baech yn dylunio system effeithlon o drethi incwm i Gymru, ni fyddai'r bandiau'n edrych fel y maent yn edrych nawr. Fodd bynnag, yr hyn sydd hefyd yn amlwg, wrth gwrs, yw bod agenda bresennol Llywodraeth Cymru ar gyfer datganoli pwerau trethu ymhellach, sy'n cynnwys uchelgais i sefydlu treth ar dir gwag, yn cael ei thanseilio gan ddiffyg ymgysylltu a chydweithredu cyson gan Lywodraeth y DU. Rydych wedi disgrifio'r broses y cytunwyd arni ar gyfer datganoli cymhwysedd trethu i Gymru fel un 'nad yw'n addas i'r diben', felly a allwch ddweud wrthym pa drafodaethau diweddar a gawsoch gyda Llywodraeth y DU ynghylch adolygu a diwygio'r broses o ddatganoli pwerau trethu newydd? A pha argymhellion y mae Llywodraeth Cymru wedi'u gwneud i Lywodraeth y DU yn hyn o beth? |
So, I was surprised by the response of the leader of Plaid Cymru to my response to his debate last week, because I thought that I was very fair and measured in setting out that it is important for the Welsh Government to understand the proper implications of any particular policy before we hitch our horse to that particular cart. And I did say that the constitutional commission is going to be doing important work that looks at the future role that taxes might play in Wales. I also set out that there are some significant negative impacts that we potentially would have to consider as well. The situation in Scotland being that the tax system that they have and the choices that they've made mean that there will be a £100 million negative net impact on the Scottish budget, despite the fact that Scottish taxpayers are making £85 million greater tax effort. So, I think all of those things are important for us to consider. But, in rejecting the proposals last week, I think what I was doing was setting out that we can't take a particular policy choice before we properly understand the implications. And, in response to one of the previous questions this afternoon, I said that we're working alongside HM Revenue & Customs to better understand that longitudinal data, which is coming forth now in respect of Scotland, to understand the behavioural impacts of different choices in respect of rates of income tax. What I was trying to set out last week was that we want to take a considered, evidence-based approach, which I think is the right thing to do. In terms of the devolution of further tax powers, I agree with what I said previously and with what you've quoted today, which is that the system that we have isn't fit for purpose. But, I am seeking a meeting with the new Financial Secretary to the Treasury to discuss the issue further, and I hope to have that meeting shortly, and I'm more than happy to update colleagues following that meeting. | Felly, cefais fy synnu gan ymateb arweinydd Plaid Cymru i fy ymateb i'w ddadl yr wythnos diwethaf, gan fy mod yn credu imi fod yn deg ac yn bwyllog iawn wrth nodi ei bod yn bwysig i Lywodraeth Cymru ddeall goblygiadau priodol unrhyw bolisi penodol cyn inni ymrwymo iddo. A dywedais y bydd y comisiwn cyfansoddiadol yn gwneud gwaith pwysig sy'n edrych ar y rôl y gallai trethi ei chwarae yng Nghymru yn y dyfodol. Nodais hefyd fod rhai effeithiau negyddol sylweddol y byddai'n rhaid i ni eu hystyried hefyd, o bosibl. Y sefyllfa yn yr Alban yw bod y system dreth sydd ganddynt a'r dewisiadau y maent wedi'u gwneud yn golygu y bydd effaith negyddol net o £100 miliwn ar gyllideb yr Alban, er gwaethaf y ffaith bod trethdalwyr yr Alban yn talu £85 miliwn yn fwy o drethi. Felly, credaf fod yr holl bethau hynny'n bwysig i ni eu hystyried. Ond drwy wrthod y cynigion yr wythnos diwethaf, credaf mai'r hyn roeddwn yn ei wneud oedd nodi na allwn wneud dewis polisi penodol cyn ein bod yn deall y goblygiadau'n iawn. Ac mewn ymateb i un o'r cwestiynau blaenorol y prynhawn yma, dywedais ein bod yn gweithio ochr yn ochr â Chyllid a Thollau EF i ddeall y data hydredol hwnnw'n well, sy'n dod i'r amlwg nawr mewn perthynas â'r Alban, i ddeall effeithiau ymddygiadol gwahanol ddewisiadau mewn perthynas â chyfraddau treth incwm. Yr hyn roeddwn yn ceisio'i nodi yr wythnos diwethaf oedd ein bod am arfer ymagwedd ystyriol sy'n seiliedig ar dystiolaeth, sef y peth iawn i'w wneud yn fy marn i. O ran datganoli pwerau trethu pellach, cytunaf â'r hyn a ddywedais eisoes a'r hyn rydych wedi'i ddyfynnu heddiw, sef nad yw'r system sydd gennym yn addas i'r diben. Ond rwy'n ceisio cyfarfod ag Ysgrifennydd Ariannol newydd y Trysorlys i drafod y mater ymhellach, a gobeithiaf gael y cyfarfod hwnnw cyn bo hir, ac rwy'n fwy na pharod i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i gyd-Aelodau yn dilyn y cyfarfod hwnnw. |
It would be really good to have that update, as an when it's available, although your answer feels a little bit like a previous answer you gave me a while ago. The first part of your response takes me on to my next question, really, because I was going to refer to the fact that you, in your response to our debate last week, said you needed a better understanding of the behavioural changes and that that would be key to developing and maturing the Welsh tax policy agenda, and I clearly agree with that; it's an important factor. But it's also true that the evidence base isn't there - it's lacking. Indeed, last week's report from the Finance Committee on the draft budget expressed disappointment that the Welsh Government hasn't undertaken a comprehensive analysis of what behavioural impact the raising, or indeed the lowering, of the Welsh rates of income tax would have, and I would certainly echo the committee's view. Because if you suggest that you can't vary Welsh rates of income tax without understanding any subsequent behavioural changes, then without getting that work done, your hands will forever be tied. So, I presume that you do acknowledge, first of all, that there is a glaring need, as the Finance Committee report emphasised and as you suggested in your previous answer, for that work to be done. You mentioned the work by the HMRC, maybe you could just explain whether that is in a specific Welsh context, because there are other pieces of work out there that relate to other jurisdictions but may not, obviously, transfer directly over to our experience here in Wales. It really is important that we address that evidence gap, because otherwise the risk is that I'll be coming back here next year and the year after, listening to you giving me the same answers over and over again. | Byddai'n dda iawn cael y diweddariad hwnnw pan fydd ar gael, er bod eich ateb yn teimlo ychydig fel ateb blaenorol a roesoch i mi beth amser yn ôl. Mae rhan gyntaf eich ymateb yn fy arwain at fy nghwestiwn nesaf, a dweud y gwir, gan fy mod yn mynd i gyfeirio at y ffaith i chi, yn eich ymateb i'n dadl yr wythnos diwethaf, ddweud bod angen ichi ddeall y newidiadau ymddygiadol yn well, ac y byddai hynny'n allweddol i ddatblygu ac aeddfedu agenda polisi treth Cymru, ac rwy'n amlwg yn cytuno â hynny; mae'n ffactor pwysig. Ond mae hefyd yn wir nad yw'r sylfaen dystiolaeth yno - mae'n ddiffygiol. Yn wir, roedd adroddiad yr wythnos diwethaf gan y Pwyllgor Cyllid ar y gyllideb ddrafft yn mynegi siom nad yw Llywodraeth Cymru wedi cynnal dadansoddiad cynhwysfawr o ba effaith ymddygiadol y byddai codi, neu yn wir gostwng, cyfraddau treth incwm Cymru yn ei chael, a byddwn innau'n sicr yn adleisio barn y pwyllgor. Oherwydd os ydych yn awgrymu na allwch amrywio cyfraddau treth incwm Cymru heb ddeall unrhyw newidiadau ymddygiadol dilynol, yna heb wneud y gwaith hwnnw, bydd eich dwylo wedi'u clymu am byth. Felly, rwy'n cymryd eich bod yn cydnabod, yn gyntaf oll, fod angen amlwg i'r gwaith hwnnw gael ei wneud, fel y pwysleisiodd adroddiad y Pwyllgor Cyllid ac fel yr awgrymwyd gennych yn eich ateb blaenorol. Fe sonioch am y gwaith gan Gyllid a Thollau EF, efallai y gallech egluro a yw hynny mewn cyd-destun Cymreig penodol, gan fod darnau eraill o waith sy'n berthnasol i awdurdodaethau eraill ond efallai nad ydynt, yn amlwg, yn trosglwyddo'n uniongyrchol i'n profiad ni yma yng Nghymru. Mae'n wirioneddol bwysig ein bod yn mynd i'r afael â'r bwlch hwnnw yn y dystiolaeth, oherwydd fel arall, y risg yw y byddaf yn ôl yma y flwyddyn nesaf a'r flwyddyn wedyn, yn gwrando arnoch yn rhoi'r un atebion i mi dro ar ôl tro. |
So, in respect of the evidence base that we currently use, we already take into account behavioural impacts in our Welsh rates of income tax ready reckoner, which you'll find on the Welsh Government's website. That shows that, for example, were we to raise the additional rate of Welsh rates of income tax, we would probably bring in around £7 million, but actually, the net impact would only be around £3 million, as a result of behavioural changes. We understand that from the basis of a Swiss study - officials advised that that's the closest proxy that we can use in the current circumstances in the absence of any more detailed information that we have. But again, this is an important piece of work for the constitutional commission. But then, I'd also point colleagues to the independent body that advises the Scottish Government on its budget and its tax choices - so, their version, if you like, of the Office for Budget Responsibility, in terms of presenting detailed information. I think that if you look at that latest report, you'll see that if the Scottish Government were to raise the very highest rate by 1p it would bring in £30 million, but the net impact would only be around £3 million as a result of behavioural changes and out-migration and so on. All of that information is there. We're considering it all the time. But we do need to build up a proper evidence base so that we can take well-informed decisions. | Felly, o ran y sylfaen dystiolaeth rydym yn ei defnyddio ar hyn o bryd, rydym eisoes yn ystyried effeithiau ymddygiadol yn ein canllaw cyflym cyfraddau treth incwm Cymru, sydd ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Mae hwnnw'n dangos, er enghraifft, pe baem yn cynyddu'r gyfradd ychwanegol o gyfraddau treth incwm Cymru, mae'n debyg y byddem yn codi oddeutu £7 miliwn, ond mewn gwirionedd, dim ond oddeutu £3 miliwn fyddai'r effaith net, o ganlyniad i newidiadau ymddygiadol. Deallwn hynny ar sail astudiaeth yn y Swistir - cynghorodd swyddogion mai dyna'r procsi agosaf y gallwn ei ddefnyddio o dan yr amgylchiadau presennol yn absenoldeb unrhyw wybodaeth fanylach sydd gennym. Ond eto, mae hwn yn waith pwysig i'r comisiwn cyfansoddiadol. Ond wedyn, byddwn hefyd yn cyfeirio cyd-Aelodau at y corff annibynnol sy'n cynghori Llywodraeth yr Alban ar ei chyllideb a'i dewisiadau treth - felly, eu fersiwn hwy, os mynnwch, o'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol, sy'n cyflwyno gwybodaeth fanwl. Credaf y gwelwch, os edrychwch ar yr adroddiad diweddaraf hwnnw, pe bai Llywodraeth yr Alban yn cynyddu'r gyfradd uchaf 1g, y byddai hynny'n codi £30 miliwn, ond dim ond oddeutu £3 miliwn fyddai'r effaith net o ganlyniad i newidiadau ymddygiadol ac allfudo ac ati. Mae'r holl wybodaeth honno yno. Rydym yn ei hystyried drwy'r amser. Ond mae angen inni adeiladu sylfaen dystiolaeth briodol fel y gallwn wneud penderfyniadau gwybodus. |
As part of the 2022-25 spending review, an additional £9 million revenue and close to £90 million capital has been allocated to enhance green spaces. This includes funding for a new national park. Spending decisions in relation to national parks are, of course, a matter for the Minister for Climate Change. | Fel rhan o adolygiad gwariant 2022-25, dyrannwyd £9 miliwn o refeniw ychwanegol ac yn agos at £90 miliwn o gyfalaf i wella mannau gwyrdd. Mae hyn yn cynnwys cyllid ar gyfer parc cenedlaethol newydd. Mater i'r Gweinidog Newid Hinsawdd wrth gwrs yw penderfyniadau gwariant mewn perthynas â pharciau cenedlaethol. |
Thank you for that response. It was very ironic to read the statement by the Deputy Minister for Climate Change on public transport in rural Wales when he was talking about the Sherpa service to Yr Wyddfa as a good example of the kind of system that should be used across Wales. The irony is, of course, that, as things stand, this service could be under threat because of the Government's failure to fund Eryri National Park properly. Indeed, it's likely that every national park will have to look to cut back services, and therefore walking routes won't be maintained, public toilets will close and far more. The original draft budget talked about giving an additional £0.5 million to national parks in Wales, but this funding has disappeared, and the flat settlement means that the budget hasn't increased at all in real terms for some 10 years. So, will the Minister commit to at least reintroducing that £0.5 million to the national parks so that they can deliver their objectives fully? | Diolch am yr ateb yna. Roedd hi'n eironig iawn darllen datganiad y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd ynghylch trafnidiaeth gyhoeddus yn y Gymru wledig ac yntau yn sôn am y gwasanaeth Sherpa i'r Wyddfa fel enghraifft dda o'r math o system y dylid ei ledaenu ar draws Cymru. Yr eironi ydy, wrth gwrs, fel y saif pethau, gall y gwasanaeth yma fod o dan fygythiad oherwydd methiant y Llywodraeth i ariannu Parc Cenedlaethol Eryri yn iawn. Yn wir, mae'n debyg y bydd pob parc cenedlaethol yn gorfod edrych i dorri yn ôl ar wasanaethau, ac felly, ni chaiff llwybrau cerdded eu cynnal a'u cadw, bydd toiledau cyhoeddus yn cau, a llawer iawn mwy. Roedd y gyllideb ddrafft wreiddiol yn sôn am roi £0.5 miliwn yn ychwanegol i barciau cenedlaethol Cymru, ond mae'r arian yma wedi diflannu ac mae'r setliad fflat yn golygu bod y gyllideb heb godi dim mewn termau go iawn ers tua 10 mlynedd. Felly, a wnaiff y Gweinidog ymrwymo i o leiaf ailgyflwyno'r £0.5 miliwn yna i'r parciau cenedlaethol er mwyn iddyn nhw fedru cyflawni eu dyletswyddau yn llawn? |
Well, there was a 10 per cent uplift to the national park authorities' core grants, taking it to just over £10 million in 2021-22, and that has been maintained into 2022-23. And the aim of that was to provide greater resilience following the pandemic and also increase the impact of their activities around biodiversity, decarbonisation and sustainable tourism. Now, I do understand the pressures that national parks are under, and the Minister for Climate Change, again, whose portfolio in which this sits, has met with the chief executives to discuss these concerns, and officials are continuing to liaise with the national parks. As you say, the parks are currently conducting their exercises to develop saving plans, and I know that the Minister and her officials will be looking at those very closely in terms of determining the future. | Wel, roedd cynnydd o 10 y cant i grantiau craidd awdurdodau'r parciau cenedlaethol, gan fynd ag ef i ychydig dros £10 miliwn yn 2021-22, ac mae hynny wedi'i gynnal yn 2022-23. A nod hynny oedd darparu mwy o wytnwch yn dilyn y pandemig a chynyddu effaith eu gweithgareddau'n ymwneud â bioamrywiaeth, datgarboneiddio a thwristiaeth gynaliadwy. Nawr, rwy'n deall y pwysau sydd ar barciau cenedlaethol, ac unwaith eto mae'r Gweinidog Newid Hinsawdd sydd â hyn yn ei bortffolio wedi cyfarfod â'r prif weithredwyr i drafod y pryderon hyn, ac mae swyddogion yn parhau i gysylltu â'r parciau cenedlaethol. Fel y dywedwch, mae'r parciau'n cynnal eu hymarferion ar hyn o bryd i ddatblygu cynlluniau arbed arian, ac rwy'n gwybod y bydd y Gweinidog a'i swyddogion yn edrych ar y rheini'n agos iawn er mwyn gwneud penderfyniadau ar gyfer y dyfodol. |
Snowdonia national park goes beyond and above to deliver on its statutory purposes, and I'd like to place on record my thanks for how they do manage all the functions they do have, their statutory functions, with the resources they have. However, the effect of inflation on the authority's flat budget until the end of 2024-25 is worryingly approximately £1.1 million, equivalent to a 20 per cent cut in grant levy. Now, we know that inflation is rocketing and their costs are going up, yet you want to provide a flat budget of just over £5.4 million. Now, this is despite the fact that park authorities have no mechanism in terms of funding to increase revenue funding like other public bodies. SNP raises an additional £2.8 million annually in order to deliver. Now, the national park is doing everything possible to raise what money it can, but its work is being completely undermined by continued real-term cuts from the Welsh Government. Now, bearing in mind that Snowdonia national park, potentially, could be facing job and service losses - and we know that this park plays a key role in tackling the climate and nature crisis - will you prove that you are committed to the future of the national park by increasing the grant? It isn't the first time I've raised these concerns, but you cannot keep asking these organisations to do more with less resources. Thank you. | Mae parc cenedlaethol Eryri yn mynd y tu hwnt i'r galw i gyflawni ei ddibenion statudol, a hoffwn gofnodi fy niolch am y ffordd y maent yn rheoli'r holl swyddogaethau sydd ganddynt, eu swyddogaethau statudol, gyda'r adnoddau sydd ganddynt. Fodd bynnag, mae'n peri pryder fod effaith chwyddiant ar gyllideb sylfaenol yr awdurdod tan ddiwedd 2024-25 oddeutu £1.1 miliwn, sy'n golygu toriad o 20 y cant yn y grantiau. Nawr, fe wyddom fod chwyddiant yn cynyddu i'r entrychion a bod eu costau'n codi, ond eto rydych chi eisiau darparu cyllideb sylfaenol o ychydig dros £5.4 miliwn. Nawr, mae hyn er gwaethaf y ffaith nad oes gan awdurdodau'r parciau fecanwaith cyllidol i gynyddu cyllid refeniw fel sydd gan gyrff cyhoeddus eraill. Mae parc cenedlaethol Eryri yn codi £2.8 miliwn ychwanegol bob blwyddyn er mwyn gallu cyflawni ei waith. Nawr, mae'r parc cenedlaethol yn gwneud popeth posibl i godi unrhyw arian y gall, ond mae ei waith yn cael ei danseilio'n llwyr gan doriadau parhaus mewn termau real gan Lywodraeth Cymru. Nawr, gan gofio y gallai parc cenedlaethol Eryri wynebu colli swyddi a gwasanaethau - ac fe wyddom fod y parc hwn yn chwarae rhan allweddol yn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a'r argyfwng natur - a wnewch chi brofi eich bod wedi ymrwymo i ddyfodol y parc cenedlaethol drwy gynyddu'r grant? Nid dyma'r tro cyntaf i mi godi'r pryderon hyn, ond ni allwch barhau i ofyn i'r sefydliadau hyn wneud mwy gyda llai o adnoddau. Diolch. |
Well, it is frustrating to have these questions from the Conservative benches when our own budget hasn't been uplifted in line with inflation but yet we're asked to uplift the budgets of other organisations in line with inflation, which is just impossible, really, for us to do across the board. We only had £1.2 billion additional funding over the next two financial years; that doesn't even begin to meet the impact of inflation on our budget. So, unfortunately, we haven't been able to provide other organisations with the kind of uplift that we would want to give them under normal circumstances. And that holds true right across the board in terms of the things that Welsh Government supports. So, unfortunately, we are constrained by the budgets that we have. I will say, though, in terms of maintaining a flat budget, it does mean, when you see that, that those budgets were protected from the cuts exercise that we had to undertake to reprioritise funding from across Government towards local government and the NHS as part of our budget process. | Wel, mae'n rhwystredig cael y cwestiynau hyn oddi ar y meinciau Ceidwadol pan nad yw ein cyllideb ein hunain wedi cael ei chodi yn unol â chwyddiant ond eto gofynnir i ni godi cyllidebau sefydliadau eraill yn unol â chwyddiant, sy'n amhosibl i ni ei wneud i bawb. Dim ond £1.2 biliwn o gyllid ychwanegol a oedd gennym dros y ddwy flynedd ariannol nesaf; nid yw hynny hyd yn oed yn dechrau lleddfu effaith chwyddiant ar ein cyllideb. Felly, yn anffodus, nid ydym wedi gallu darparu'r math o gynnydd y byddem eisiau ei roi i sefydliadau eraill o dan amgylchiadau arferol. Ac mae hynny'n wir yn gyffredinol am y pethau mae Llywodraeth Cymru'n eu cefnogi. Felly, yn anffodus, mae'r cyllidebau sydd gennym yn cyfyngu arnom. Er hynny, o ran cynnal cyllideb sylfaenol, mae'n golygu, pan welwch chi hynny, fod y cyllidebau hynny wedi cael eu diogelu rhag y toriadau y bu'n rhaid inni eu gweithredu i ailflaenoriaethu cyllid o bob rhan o'r Llywodraeth tuag at lywodraeth leol a'r GIG fel rhan o'n proses gyllidebol. |
The Public Libraries and Museums Act 1964 makes it a duty for the Welsh Government - | Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd ar Lywodraeth Cymru - |
You'll need to ask the question on the order paper first. | Bydd angen ichi ofyn y cwestiwn ar y papur trefn yn gyntaf. |
I will. Thank you. And I'll come to that secondarily. | Fe wnaf. Diolch. Ac fe ddof at hynny yn y man. |
Local authorities are responsible for the provision of a library service. The Public Libraries and Museums Act 1964 requires authorities to provide a comprehensive and efficient service. The Welsh Government supports local library provision through a capital grant fund and by investing in developing innovative services for local communities. | Awdurdodau lleol sy'n gyfrifol am ddarparu gwasanaeth llyfrgell. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau ddarparu gwasanaeth cynhwysfawr ac effeithlon. Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi darpariaeth llyfrgelloedd lleol drwy gronfa grant cyfalaf a thrwy fuddsoddi mewn datblygu gwasanaethau arloesol ar gyfer cymunedau lleol. |
Thank you, and I'll turn to my supplementary question. The Public Libraries and Museums Act 1964 makes it a duty for the Welsh Government 'to superintend, and promote the improvement of, the public library service provided by local authoritiesand to secure the proper dischargeof the functions in relation to libraries conferred on them as library authorities' under the Act. Minister, in Islwyn in 2023, libraries continue to play a significant role at the heart of communities in Wales. This week, Newbridge library, on Monday, held an innovative session where a toddlers group was joined by individuals from Memory Lane, thanks to the Royal Voluntary Service, Dementia UK and Dementia Friends. Inter-generations joined together in one space, where community ties are built and strengthened, and throughout the Caerphilly County Borough Council area libraries are being utilised as welcoming spaces, warm hubs and places of cultural community. Minister, how can the Welsh Government continue to support, promote and encourage adults and children to make full use of the library services throughout the communities of Islwyn? | Diolch, ac rwyf am droi at fy nghwestiwn atodol. Mae Deddf Llyfrgelloedd Cyhoeddus ac Amgueddfeydd 1964 yn ei gwneud yn ddyletswydd i Lywodraeth Cymru 'oruchwylio a hybu gwelliant y gwasanaeth llyfrgell cyhoeddus a ddarperir gan yr awdurdodau lleol a sicrhau y cyflawnir mewn modd priodol y swyddogaethau a roddwyd iddynt fel awdurdodau llyfrgell mewn perthynas â llyfrgelloedd' o dan y Ddeddf. Weinidog, yn Islwyn yn 2023, mae llyfrgelloedd yn parhau i chwarae rhan bwysig wrth galon cymunedau Cymru. Yr wythnos hon, ddydd Llun, cynhaliodd llyfrgell Trecelyn sesiwn arloesol lle ymunodd unigolion o Memory Lane â grŵp plant bach, diolch i'r Gwasanaeth Gwirfoddol Brenhinol, Dementia UK a Cyfeillion Dementia. Ymunodd rhyng-genedlaethau â'i gilydd mewn un gofod, lle mae cysylltiadau cymunedol yn cael eu meithrin a'u cryfhau, a thrwy ardal Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili mae llyfrgelloedd yn cael eu defnyddio fel mannau croesawus, hybiau cynnes a lleoedd ar gyfer cymunedau diwylliannol. Weinidog, sut y gall Llywodraeth Cymru barhau i gefnogi, hybu ac annog oedolion a phlant i wneud defnydd llawn o wasanaethau llyfrgell drwy holl gymunedau Islwyn? |
It was lovely to hear those examples of the ways in which libraries in Islwyn are innovating, and I'm aware of some other examples as well locally in your area, including a knit and natter group, toddler time, a Lego club, and Blind Date With A Book, in celebration of Valentine's Day, and they have that in my own library as well, and I thought that was a particularly lovely idea. Obviously, libraries in Islwyn are really playing an important part in being those warm hubs for communities as well, and they will take part in the nationally recognised Bookstart, an early years scheme, which provides free material and information for parents and toddlers at the nine- and 18-month health check. So, libraries are playing an absolutely critical role in our lives across all of the generations. So, thank you to those libraries in Islwyn, which are doing such a fantastic job there. I think it's important as well for us to all be evangelical about libraries, because, if people haven't been to a library lately, they're going to go in and be very surprised. They're nothing like perhaps we remember from younger days, so there's a lot going on, and I think they are absolutely hubs of the community now, so I completely want to celebrate libraries at every opportunity we get. | Roedd yn hyfryd clywed yr enghreifftiau hynny o'r ffyrdd y mae llyfrgelloedd yn Islwyn yn arloesi, ac rwy'n ymwybodol o rai enghreifftiau eraill hefyd yn lleol yn eich ardal chi, gan gynnwys grŵp gweu a sgwrsio, grŵp plant bach, clwb Lego, a Blind Date with a Book, i ddathlu Dydd San Ffolant, ac mae ganddynt hynny yn fy llyfrgell fy hun hefyd, ac roeddwn i'n meddwl bod hwnnw'n syniad arbennig o hyfryd. Yn amlwg, mae llyfrgelloedd yn Islwyn yn chwarae rhan bwysig wrth fod yn hybiau cynnes i gymunedau hefyd, a byddant yn cymryd rhan yn yr ymgyrch Dechrau Da a gydnabyddir yn genedlaethol, cynllun blynyddoedd cynnar sy'n darparu deunydd am ddim a gwybodaeth i rieni a phlant bach yn yr archwiliad iechyd naw a 18 mis. Felly, mae llyfrgelloedd yn chwarae rhan gwbl hanfodol yn ein bywydau ar draws y cenedlaethau i gyd. Felly, diolch i'r llyfrgelloedd yn Islwyn sy'n gwneud gwaith mor wych yno. Rwy'n meddwl ei bod hi'n bwysig hefyd i bawb ohonom genhadu ar ran llyfrgelloedd, oherwydd, os nad yw pobl wedi bod mewn llyfrgell yn ddiweddar, maent yn mynd i fynd i mewn a chael eu synnu'n fawr. Nid ydynt yn debyg o gwbl i'r hyn a gofiwn o'r dyddiau a fu, felly mae llawer yn digwydd, ac rwy'n meddwl eu bod yn hybiau gwych i'r gymuned nawr, felly rwyf am fachu ar bob cyfle a gawn i ddathlu llyfrgelloedd. |
Thank you. I find myself in complete agreement with the Member from Islwyn and the Minister on this one. Public libraries provide positive outcomes for people and communities in a variety of ways, beyond simply providing access to books, as you've already outlined. They contribute to the formation of human capital and maintenance of mental and physical well-being, social inclusivity and community cohesion as well, of course, as educating and providing books for those who can't afford them - particularly important when we see that a massive 44 per cent of pupils rarely or never read books, which is far higher than in other parts of the UK. Yet Caerphilly council are cutting library funding by 20 per cent; Monmouthshire County Council are cutting funding for new library books by 50 per cent. So, what action are you taking and financial help are you giving our local authorities to ensure that these vital libraries are kept open and well used? | Diolch. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r Aelod o Islwyn a'r Gweinidog ar hyn. Mae llyfrgelloedd cyhoeddus yn rhoi canlyniadau cadarnhaol i bobl a chymunedau mewn amrywiaeth o ffyrdd, y tu hwnt i ddarparu mynediad at lyfrau yn unig, fel rydych chi eisoes wedi'i nodi. Maent yn cyfrannu at ffurfio cyfalaf dynol a chynnal lles meddyliol a chorfforol, cynwysoldeb cymdeithasol a chydlyniant cymunedol yn ogystal ag addysgu a darparu llyfrau i'r rhai na allant eu fforddio - sy'n arbennig o bwysig pan welwn fod 44 y cant o ddisgyblion yn anaml neu byth yn darllen llyfrau, sy'n llawer uwch nag mewn rhannau eraill o'r DU. Ac eto, mae cyngor Caerffili yn torri cyllid llyfrgelloedd 20 y cant; mae Cyngor Sir Fynwy yn torri cyllid ar gyfer llyfrau llyfrgell newydd 50 y cant. Felly, pa gamau rydych chi'n eu cymryd a pha gymorth ariannol rydych chi'n ei roi i'n hawdurdodau lleol i sicrhau bod y llyfrgelloedd hanfodol hyn yn cael eu cadw ar agor ac y gwneir defnydd da ohonynt? |
So, the majority of the Welsh Government's financial support for public libraries is distributed through the local government core settlement, which colleagues will remember is uplifted by 7.9 per cent in our budget for next year. No authority will see an increase of less than 6.5 per cent. There are other sources of funding that are important, however, including the capital transformation fund for museums, archives and libraries, and the funding that we're providing for the digital library service, which is also an important investment in terms of making sure that our libraries are fit for the future. Any potential budget cuts to library services will need to be monitored by officials in the culture division in Dawn Bowden's portfolio to ensure that public libraries meet statutory requirements. Local authorities must demonstrate that any service reductions will not impair their ability to comply with their statutory responsibilities and those discussions are ongoing between culture division officials and the library sector to develop a seventh Welsh public library standards framework, but, in the meantime, services are continuing to operate under framework 6. | Felly, mae'r rhan fwyaf o gefnogaeth ariannol Llywodraeth Cymru i lyfrgelloedd cyhoeddus yn cael ei ddosbarthu drwy'r setliad craidd i lywodraeth leol, y bydd cyd-Aelodau'n cofio iddo gael ei godi 7.9 y cant yn ein cyllideb ar gyfer y flwyddyn nesaf. Ni fydd unrhyw awdurdod yn gweld cynnydd o lai na 6.5 y cant. Mae yna ffynonellau eraill o arian sy'n bwysig, fodd bynnag, gan gynnwys y gronfa cyfalaf trawsnewid i amgueddfeydd, archifau a llyfrgelloedd, a'r cyllid rydym yn ei ddarparu ar gyfer y gwasanaethau llyfrgell digidol, sydd hefyd yn fuddsoddiad pwysig er mwyn gwneud yn siŵr bod ein llyfrgelloedd yn addas i'r dyfodol. Bydd angen i unrhyw doriadau posibl yn y gyllideb i wasanaethau llyfrgell gael eu monitro gan swyddogion yn yr adran ddiwylliant ym mhortffolio Dawn Bowden er mwyn sicrhau bod llyfrgelloedd cyhoeddus yn diwallu gofynion statudol. Rhaid i awdurdodau lleol ddangos na fydd unrhyw leihau ar wasanaethau yn amharu ar eu gallu i gydymffurfio â'u cyfrifoldebau statudol ac mae'r trafodaethau hynny'n parhau rhwng swyddogion yr is-adran ddiwylliant a'r sector llyfrgelloedd i ddatblygu seithfed fframwaith safonau ar gyfer llyfrgelloedd cyhoeddus Cymru, ond yn y cyfamser, mae gwasanaethau'n parhau i weithredu o dan fframwaith 6. |
The Welsh Government is supportive of local authorities working in collaboration to improve services and provide value for money, including via shared services. Corporate joint committees provide an important new vehicle to support strategic regional collaboration between authorities. | Mae Llywodraeth Cymru yn gefnogol i awdurdodau lleol sy'n gweithio ar y cyd i wella gwasanaethau a darparu gwerth am arian, gan gynnwys drwy gydwasanaethau. Mae cyd-bwyllgorau corfforedig yn cynnig cyfrwng newydd pwysig i gefnogi cydweithio rhanbarthol strategol rhwng awdurdodau. |
Thank you, Minister. Minister, I know you will recognise the important role that shared services between local authorities play in affording valuable services to many thousands of children, enhancing their learning experiences. The amounts of support are often fundamental to the viability and existence of extremely important services. So, it was with dismay that I learned that the new Labour-run Monmouthshire County Council are planning to withdraw their £100,000 grant support to Gwent Music, a truly fantastic shared service that works with over 8,000 children across Gwent and has done for over 50 years. This withdrawal of support could be the last nail in the wonderful service's coffin. Minister, recognising the increased settlement you are making available to councils this year, and further recognising the increased levels of reserves many councils have accrued, would you share my concerns that removing crucial resources and cutting the lifelines to shared services like Gwent Music is short sighted and detrimental to the learning and life experiences of our young people? | Diolch. Weinidog, rwy'n gwybod y byddwch yn cydnabod y rôl bwysig y mae cydwasanaethau rhwng awdurdodau lleol yn ei chwarae er mwyn gallu fforddio gwasanaethau gwerthfawr i filoedd lawer o blant, gan wella eu profiadau dysgu. Mae faint o gymorth a roddir yn aml yn allweddol i hyfywedd a bodolaeth gwasanaethau hynod bwysig. Gyda siom y dysgais felly fod cyngor newydd sir Fynwy dan arweiniad Llafur yn bwriadu dileu eu cymorth grant o £100,000 i Gerdd Gwent, cydwasanaeth gwirioneddol wych sy'n gweithio gyda dros 8,000 o blant ar draws Gwent ac sydd wedi gwneud hynny ers dros 50 mlynedd. Gallai tynnu'r cymorth hwn yn ôl fod yn hoelen olaf yn arch y gwasanaeth gwych hwn. Weinidog, gan gydnabod y setliad cynyddol rydych chi'n ei ddarparu i gynghorau eleni, a chan gydnabod ymhellach y lefelau uwch o gronfeydd wrth gefn mae llawer o gynghorau wedi'u cronni, a ydych chi'n rhannu fy mhryderon fod cael gwared ar adnoddau hanfodol a thorri'r llinellau achub i gydwasanaethau fel Cerdd Gwent yn gam gwag ac yn niweidiol i brofiadau dysgu a bywyd ein pobl ifanc? |
In prioritising public services, including local government, in our budget settlement, we've always been clear at every step that it still will mean a difficult set of decisions for local government to take. I know that local government leaders have been consulting on a whole range of things that they wouldn't normally want to be consulting their local areas on in terms of service provision for the future. But, at the end of the day, we have provided the best possible settlement to local government. It doesn't match inflation; it doesn't meet all of the needs that local government is going to have to meet in terms of their local communities. So, we continue to press the UK Government to provide greater funding for public services and we maintain that call to them to use the spring statement on 15 March to provide the much-needed additional uplift for public services. | Wrth flaenoriaethu gwasanaethau cyhoeddus, gan gynnwys llywodraeth leol, yn ein setliad cyllideb, rydym bob amser wedi bod yn glir ar bob cam y bydd yn dal i olygu cyfres anodd o benderfyniadau i lywodraeth leol eu gwneud. Rwy'n gwybod bod arweinwyr llywodraeth leol wedi bod yn ymgynghori ar ystod gyfan o bethau na fyddent fel arfer eisiau bod yn ymgynghori â'u hardaloedd lleol yn eu cylch o ran darparu gwasanaethau i'r dyfodol. Ond yn y pen draw, rydym wedi darparu'r setliad gorau posibl i lywodraeth leol. Nid yw'n cyd-fynd â chwyddiant; nid yw'n diwallu'r holl anghenion y bydd yn rhaid i lywodraeth leol eu diwallu yn eu cymunedau lleol. Felly, rydym yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o gyllid ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus ac rydym yn parhau'r alwad arnynt i ddefnyddio datganiad y gwanwyn ar 15 Mawrth i ddarparu'r cynnydd ychwanegol mawr ei angen i wasanaethau cyhoeddus. |
The Government is providing unhypothecated revenue funding of over £5.5 billion and £180 million of capital funding in 2023-24 in support of local authority services. While this is a significantly better settlement than authorities had anticipated, authorities will need to take some difficult decisions given the high levels of inflation. | Mae'r Llywodraeth yn darparu cyllid refeniw heb ei neilltuo o dros £5.5 biliwn a £180 miliwn o gyllid cyfalaf yn 2023-24 i gefnogi gwasanaethau awdurdodau lleol. Er bod hwn yn setliad sylweddol well nag a ragwelwyd gan yr awdurdodau, bydd angen i awdurdodau wneud rhai penderfyniadau anodd o ystyried y lefelau uchel o chwyddiant. |
I'm grateful to the Minister for that answer. I was very engaged and taken by the answer the Minister also gave to Peter Fox in an earlier question. The answer could have been given by a different Minister a decade ago, in reality. Local authorities are suffering from a squeeze in funding, and the people who suffer most are the poorest and the most vulnerable people. And the local authorities that suffer the most are those local authorities least able to sustain additional income through fee income and other commercial income, and those tend to be the poorest parts of the country as well, places like Blaenau Gwent, which I represent. The Welsh Government has a responsibility to those people, and if I'm quite clear, Minister, it's not good enough simply to say, 'It's the fault of the UK Government, we're not doing anything.' Those days are gone. What I want to see from the Welsh Government is real action to ensure that, perhaps, shared services as you've just debated, take a hit, but, more potentially, a reorganisation of local government to put people first, to ensure that we have local authorities capable of delivering the services we ask them to deliver, and partners in ensuring that we can address the real social issues we're facing - social and economic issues we're facing - across Wales. Blaming the Tories was yesterday's game. I believe the Welsh Government's got a responsibility to those people today. | Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am yr ateb hwnnw. Roedd gennyf ddiddordeb mawr yn yr ateb a roddodd y Gweinidog i Peter Fox mewn cwestiwn cynharach hefyd. Fe allai'r ateb fod wedi cael ei roi gan Weinidog gwahanol ddegawd yn ôl, mewn gwirionedd. Mae awdurdodau lleol yn dioddef yn sgil pwysau ar gyllid, a'r bobl sy'n dioddef fwyaf yw'r bobl dlotaf a'r bobl fwyaf bregus. A'r awdurdodau lleol sy'n dioddef fwyaf yw'r awdurdodau lleol sydd leiaf abl i gael incwm ychwanegol drwy incwm ffioedd ac incwm masnachol arall, a rhannau tlotaf y wlad yw'r rheini'n tueddu i fod hefyd, llefydd fel Blaenau Gwent, a gynrychiolir gennyf. Mae gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i'r bobl hynny, ac os wyf fi'n hollol glir, Weinidog, nid yw dweud, 'Bai Llywodraeth y DU ydyw, nid ydym ni'n gwneud unrhyw beth' yn ddigon da. Mae'r dyddiau hynny wedi mynd. Yr hyn rwyf eisiau ei weld gan Lywodraeth Cymru yw gweithredu go iawn i sicrhau, efallai, fod cydwasanaethau fel rydych chi newydd eu trafod, yn cael eu taro, ond yn fwy posibl, aildrefnu llywodraeth leol i roi pobl yn gyntaf, i sicrhau bod gennym awdurdodau lleol sy'n gallu darparu'r gwasanaethau y gofynnwn iddynt eu cyflawni, a phartneriaid i sicrhau y gallwn fynd i'r afael â'r problemau cymdeithasol go iawn a wynebwn - problemau cymdeithasol ac economaidd a wynebwn - ar draws Cymru. Gêm ddoe oedd beio'r Torïaid. Rwy'n credu bod cyfrifoldeb gan Lywodraeth Cymru i bobl heddiw. |
I think the Welsh Government has a responsibility to be honest to people in Wales that it is a fact that our budget is not rising in line with inflation, and I think that's a fact. Nonetheless, Welsh Government is doing absolutely everything that it can in order to prioritise and protect public services, which is why we undertook a very painful exercise across Government to try and reprioritise funding towards local government and towards health services. And it's why we have provided at least the amount of consequential funding that we received in respect of NHS services and local government services to those particular sectors, bearing in mind that we have had to take really tough decisions ourselves. The financial situation we find ourselves in is a fact, it's not an excuse, but I would agree with the point that the Member made that the people who suffer the most in these difficult times are those who are the poorest, and also we have to make sure that our funding settlement to local government and the formula that drives it is one that demonstrates fairness in terms of deprivation and also in terms of sparsity, and I think that those things are important parts of our settlement. | Rwy'n meddwl bod gan Lywodraeth Cymru gyfrifoldeb i fod yn onest wrth bobl Cymru ei bod hi'n ffaith nad yw ein cyllideb yn codi yn unol â chwyddiant, ac rwy'n meddwl bod hynny'n ffaith. Er hynny, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud popeth yn ei gallu i flaenoriaethu a diogelu gwasanaethau cyhoeddus, a dyna pam y cynhaliwyd ymarfer poenus iawn ar draws y Llywodraeth i geisio ailflaenoriaethu cyllid tuag at lywodraeth leol a thuag at wasanaethau iechyd. A dyna pam ein bod wedi darparu o leiaf y swm o gyllid canlyniadol a gawsom mewn perthynas â gwasanaethau'r GIG a gwasanaethau llywodraeth leol i'r sectorau penodol hynny, gan gofio ein bod wedi gorfod gwneud penderfyniadau anodd iawn ein hunain. Mae'r sefyllfa ariannol rydym ynddi yn ffaith, nid esgus, ond byddwn yn cytuno gyda'r pwynt a wnaeth yr Aelod mai'r bobl sy'n dioddef fwyaf yn y cyfnod anodd hwn yw'r rhai tlotaf, a hefyd mae'n rhaid inni wneud yn siŵr fod ein setliad cyllido i lywodraeth leol a'r fformiwla sy'n ei yrru yn un sy'n dangos tegwch o safbwynt amddifadedd a hefyd o safbwynt teneurwydd poblogaeth, ac rwy'n meddwl bod y pethau hynny'n rhannau pwysig o'n setliad. |
In 2023-24, the council will receive £123.7 million through the local government settlement - an increase of 7.9 per cent. While the council will still have to make some difficult decisions in the face of the current rates of inflation, this is a better settlement than authorities had expected. | Yn 2023-24, bydd y Cyngor yn derbyn £123.7 miliwn drwy'r setliad llywodraeth leol - cynnydd o 7.9 y cant. Er y bydd yn rhaid i'r cyngor wneud rhai penderfyniadau anodd o hyd yn wyneb y cyfraddau chwyddiant presennol, mae hwn yn setliad gwell nag yr oedd yr awdurdodau wedi'i ddisgwyl. |
Thank you for that response. Budgets are tight in all authorities, of course, but sometimes issues arise that put huge strains on budgets. Anglesey council is facing that, given the announcement of the 2 Sisters Food Group company that they are consulting on closing the works in Llangefni, where over 700 are employed. The priority at the moment, of course, is to see whether we can change the company's mind, but I don't need to tell you how much money would be required by a council to respond to job losses at that scale in an area such as Anglesey. The number of individuals and families that would need support is great. We would need support for housing, children's services, and so on and so forth. So, will the Minister give us an assurance that she will be willing to look at providing additional support to Anglesey council, on top of their basic budget, in order to respond to the situation and to enable them to provide the necessary support to the workers and their families? | Diolch am yr ymateb yna. Mae cyllidebau yn dynn ar bob awdurdod, wrth gwrs, ond weithiau mae yna bethau'n codi sy'n rhoi straen aruthrol ar gyllidebau. Mae cyngor Môn yn wynebu hynny rŵan yn sgil cyhoeddiad cwmni 2 Sisters Food Group eu bod nhw'n ymgynghori ar gau gwaith yn Llangefni, lle mae dros 700 yn gweithio. Y flaenoriaeth, wrth gwrs, ar hyn o bryd yw gweld a oes modd newid meddwl y cwmni, ond does dim rhaid imi ddweud faint o arian y byddai ei angen ar gyngor i ymateb i golli swyddi o'r math yna ar raddfa o'r math yna, mewn ardal fel Ynys Môn. Mae nifer yr unigolion a'r teuluoedd a fydd angen cymorth yn fawr - angen cymorth ar wasanaethau tai, gwasanaethau plant, ac yn y blaen. A wnaiff y Gweinidog roi sicrwydd y bydd hi'n barod i edrych ar roi cymorth ychwanegol i gyngor Môn, ar ben eu cyllid sylfaenol, er mwyn gallu ymateb i'r sefyllfa a'i galluogi nhw i roi cefnogaeth angenrheidiol i'r gweithwyr a'u teuluoedd? |
Well, I can confirm that officials have met with the chief executive officer of 2 Sisters and are continuing the dialogue to pull all possible levers to offer support to people affected by the recent developments. And, of course, our officials are working very closely with the local authority. I know that the Minister for Economy has been speaking to the leader as well. Obviously, it is devastating news for the rural community, and we shouldn't underestimate the impact on public services in terms of responding to it. We have mobilised now the taskforce that the economy Minister previously referred to, to try to offer our full support to the affected employees, and also working with the trade union at the plant. I know that the taskforce is now meeting weekly to find a way forward, and to understand the implications, and to offer support to the workforce that has been impacted by this announcement. So, I think that the stage that we are at at the moment really is mapping out what the impact might be. | Wel, gallaf gadarnhau bod swyddogion wedi cyfarfod â phrif swyddog gweithredol 2 Sisters ac yn parhau â'r ddeialog i wneud popeth sy'n bosibl i gynnig cymorth i bobl yr effeithir arnynt gan y datblygiadau diweddar. Ac wrth gwrs, mae ein swyddogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r awdurdod lleol. Rwy'n gwybod bod Gweinidog yr Economi wedi bod yn siarad â'r arweinydd hefyd. Yn amlwg, mae'n newyddion trychinebus i'r gymuned wledig, ac ni ddylem fychanu'r effaith ar wasanaethau cyhoeddus wrth ymateb iddo. Rydym bellach wedi cynnull y tasglu y cyfeiriodd Gweinidog yr Economi ato'n flaenorol, i geisio cynnig ein cefnogaeth lawn i'r gweithwyr yr effeithir arnynt, ac rydym hefyd yn gweithio gyda'r undeb llafur yn y ffatri. Rwy'n gwybod bod y tasglu bellach yn cyfarfod yn wythnosol i ganfod ffordd ymlaen, ac i ddeall y goblygiadau, ac i gynnig cymorth i'r gweithlu yr effeithir arno gan y cyhoeddiad yma. Felly, rwy'n credu mai'r cam rydym arno ar hyn o bryd mewn gwirionedd yw mapio beth y gallai'r effaith fod. |
The Welsh Government has committed an extra £36 million over the next two years, with the goal of delivering 125,000 apprenticeships by 2027. Apprenticeship policy is the responsibility of the Minister for Economy. | Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £36 miliwn ychwanegol dros y ddwy flynedd nesaf, gyda'r nod o ddarparu 125,000 o brentisiaethau erbyn 2027. Cyfrifoldeb Gweinidog yr Economi yw'r polisi prentisiaethau. |
Thank you for that response, Minister. | Diolch am yr ateb, Weinidog. |
Last week, I asked the education Minister about the skills agenda, and how he intends to address the skills gap from his end. The key point that I raised in my question is that we are struggling to retain young learners, particularly from low-income households. In Wales, we also have a lack of learner destination data in FE and apprenticeships - data that, alongside bolstered financial support, could help us recognise and reduce the number of people leaving FE and apprenticeships. Does the Minister agree that creating opportunity is one half of this, but retention is the other? And is there more that the Government could be doing on this front in relation to gathering that data and targeting that financial support? | Yr wythnos diwethaf, gofynnais i'r Gweinidog addysg am yr agenda sgiliau, a sut mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r bwlch sgiliau o'i ben ef. Y pwynt allweddol a godais yn fy nghwestiwn yw ein bod yn ei chael hi'n anodd cadw dysgwyr ifanc, yn enwedig o aelwydydd incwm isel. Yng Nghymru, ceir diffyg data hefyd ynghylch cyrchfannau dysgwyr mewn addysg bellach a phrentisiaethau - data a allai, ochr yn ochr â chefnogaeth ariannol well, ein helpu i gydnabod a lleihau nifer y bobl sy'n gadael addysg bellach a phrentisiaethau. A yw'r Gweinidog yn cytuno mai un hanner o hyn yw creu cyfle ond yr hanner arall yw cadw dysgwyr? Ac a oes mwy y gallai'r Llywodraeth ei wneud yn hyn o beth mewn perthynas â chasglu'r data a thargedu'r gefnogaeth ariannol? |
Yes, I'm very grateful for the question. I think that, perhaps, it would be better directed at the Minister with responsibility for this area, but I will do my best and point the Member towards the important work that we have been doing through the young person's guarantee, which you will have seen from the recent announcement has helped thousands of young people into work or training or further education in the last year, which I think is really successful. I know that my colleagues work very closely with the four regional skills partnerships to make sure that young people do have the kinds of skills that local businesses need. | Ie, rwy'n ddiolchgar iawn am y cwestiwn. Rwy'n credu, efallai, y byddai'n well ei gyfeirio at y Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am y maes hwn, ond fe wnaf fy ngorau a chyfeirio'r Aelod tuag at y gwaith pwysig rydym wedi bod yn ei wneud drwy'r warant i bobl ifanc, a byddwch wedi gweld o'r cyhoeddiad diweddar ei fod wedi helpu miloedd o bobl ifanc i mewn i waith neu hyfforddiant neu addysg bellach yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, sy'n llwyddiannus iawn yn fy marn i. Rwy'n gwybod bod fy nghyd-Weinidogion yn gweithio'n agos iawn gyda'r pedair partneriaeth sgiliau ranbarthol i wneud yn siŵr fod gan bobl ifanc y mathau o sgiliau sydd eu hangen ar fusnesau lleol. |
The next item is questions to the Minister for Rural Affairs and North Wales, and the first question today is from Heledd Fychan. | Yr eitem nesaf, felly, yw'r cwestiynau i'r Gweinidog Materion Gwledig a'r Gogledd, ac mae'r cwestiwn cyntaf heddiw gan Heledd Fychan. |