text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r ddadl gan Aelodau unigol o dan Reol Sefydlog 11.21, y ddadl ar TB buchol. Rwy'n galw ar Simon Thomas i wneud y cynnig.
1,300
Diolch i chi am dderbyn ymyriad. A oes unrhyw dystiolaeth o gwbl, pan gaiff moch daear eu difa, eu bod wedi cynnal profion ar y rhai a heintiwyd a'r rhai a oedd heb eu heintio â bTB? Oherwydd, os ydych yn sôn am gael darlun cyflawn, byddai angen gwneud hynny hefyd.
1,301
Tybed a yw Ysgrifennydd y Cabinet wedi cael unrhyw drafodaethau gyda'i Gweinidog cyfatebol yn Lloegr, oherwydd mae'n ymddangos i mi, boed yn yr arolwg moch daear marw neu'r monitro gwyddonol arall sy'n digwydd, mai dyna'n union ddylai fod yn digwydd yn Lloegr fel y gallwn fynd ati'n iawn i brofi'r hyn sy'n digwydd mewn gwahanol wledydd. Mae'n drueni nad yw hynny'n cael ei wneud dros y ffin ar hyn o bryd, gan y gallai roi gwybodaeth werthfawr i ninnau hefyd.
1,302
Rwy'n ddiolchgar i'r Gweinidog am ildio ar y pwynt hwnnw. Croesawaf yr hyn a ddywedodd. Rwy'n deall ei bod yn mynd i wneud datganiad llafar, ac felly nid yw'r manylion yma, ond wrth gwrs, mae un rhan o'r cynnig y mae hi wedi'i dderbyn yn mynd i'r afael yn union â'r hyn y mae hi newydd ei ddweud am ddulliau cymesur mewn gwahanol ardaloedd o Gymru. Os yn bosibl, fodd bynnag, beth bynnag sy'n digwydd yn y sector bywyd gwyllt ar hyn o bryd, a all gadarnhau heddiw nad oes gan Lywodraeth Cymru frechlyn at ei defnydd? A yw hynny'n dal i fod yn wir ar gyfer y dyfodol agos?
1,303
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw wrthwynebiad? Gan nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
1,304
Diolch. Ar y pwynt hwnnw'n unig. Rwyf wedi cael trafodaethau gyda fy mwrdd iechyd, Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda, ynglŷn â sut y gallwn annog mwy o nyrsys mewn hyfforddiant i ddod i lefydd fel Llwynhelyg nad ydynt yn cael eu gweld yn draddodiadol fel mannau lle bydd nyrsys yn hyfforddi. A phe baem yn cael rhywfaint o sicrwydd ynglŷn â beth fydd cynlluniau'r Llywodraeth yn y dyfodol, gallem symud ymlaen gyda rhai o'r cynlluniau hynny a chynyddu nifer y nyrsys sydd ar gael ar gyfer rhai mannau sy'n anodd recriwtio iddynt o bryd i'w gilydd.
1,305
Rydym wedi cyflwyno'r cynnig heddiw, fel y dywedais, i ddangos ein cefnogaeth i gadw'r fwrsariaeth fel rhan o becyn ehangach i annog pobl o gefndiroedd incwm is i mewn i'r proffesiwn. Mae angen hynny ar ein GIG yn y dyfodol. Mae ein nyrsys yn y dyfodol yn haeddu hynny. Mae angen i'r Llywodraeth roi'r gorau i oedi ar y mater hwn a gwneud penderfyniad.
1,306
Diolch i'r Aelod am dderbyn yr ymyriad. Cytunaf yn llwyr â chi. Mae angen i ni edrych ar y lleoliadau am eu bod yn mynd i fod yn hanfodol ar gyfer datblygu'r arbenigedd ymarferol, ond mae angen i ni edrych hefyd, felly, ar y staffio sydd ar gael i fentora'r myfyrwyr yn y lleoliadau hynny. Felly, mae yna gwestiwn pellgyrhaeddol yn galw am sylw yma.
1,307
Roeddwn i eisiau ymyrryd yn fyr, am eich bod wedi gwneud y sylw hwn - mae David wedi'i wneud, rwy'n meddwl bod Rhun wedi'i wneud yn ôl pob tebyg, ac rwy'n eithaf siŵr y bydd y Gweinidog yn ei wneud - ond a bod yn onest, rydym i gyd yn cefnogi datganoli, onid ydym? Felly os yw cenedl sydd wedi datganoli, h.y. Lloegr, yn dewis cael gwared ar fwrsariaethau, pa ots? Dyna maent am ei wneud. Nid wyf yn cytuno â hynny, ond nid wyf yn deall pam y mae'n rhaid i ni dreulio cymaint o amser - cymaint o'ch araith, ac yn wir, areithiau pobl eraill - yn siarad am beth y mae'r Saeson yn ei wneud, a'r hyn rydym yn ceisio'i wneud yw datrys beth sydd angen i ni ei wneud yma yng Nghymru. Pe baent yn trafod pob penderfyniad a wnawn yma -
1,308
Diolch am ildio. Er eglurder, rydym yn ddiolchgar eich bod yn awgrymu y byddwch yn cefnogi'r cynnig heddiw, ond a allwch gadarnhau eich bod yn cadarnhau yr hyn sydd yn y cynnig mewn perthynas â 2016-17 yn unig, a bod yr hyn a fydd yn digwydd y tu hwnt i hynny yn agored i drafodaeth o hyd?
1,309
Diolch yn fawr iawn. Diolch yn fawr iawn, Ysgrifennydd y Cabinet. Amser byr iawn yn unig sydd gennyf i grynhoi. Yn gyntaf, diolch i'r Aelodau sydd wedi siarad dros y cynnig hwn heddiw. Roedd David Rees yn llygad ei le yn tynnu sylw at y ffaith fod yna amrywiaeth o bobl ac nid nyrsys yn unig - yn cynnwys gweithwyr iechyd proffesiynol cysylltiedig - yn elwa o'r bwrsariaethau. Diolch hefyd i lefarydd iechyd y Ceidwadwyr, a byddwn, fe fyddwn yn adleisio'r angen i wneud yn siŵr fod gennym ddulliau da sy'n seiliedig ar dystiolaeth o flaengynllunio ar gyfer ein gweithlu yn y dyfodol. Mae hwnnw'n fater allweddol. Diolch i Caroline Jones. I Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n meddwl mai'r hyn a glywsom yw eich bod yn derbyn mewn egwyddor yr hoffech i'r fwrsariaeth barhau mewn rhyw ffordd neu'i gilydd. Rwy'n credu bod gennym warant am flwyddyn. Mae hynny'n siom i mi, a bydd yn siom i rai o'r nyrsys a fydd yn gwrando heddiw, oherwydd, wrth gwrs, rydym yn chwilio am sicrwydd ar gyfer y tymor hir. Rwy'n ddiolchgar i glywed y bydd datganiad yn y dyfodol agos iawn - rwy'n meddwl bod 'hydref' yn golygu y daw yn ystod y pump neu chwe wythnos nesaf - ac edrychaf ymlaen at weld y datganiad yn rhoi mwy o sicrwydd ar gyfer y tymor hir. Iechyd hirdymor y GIG yng Nghymru yw'r hyn y mae pob un ohonom yma â diddordeb ynddo, ac mae'n rhaid i'r gweithlu GIG hirdymor diogel hwn gynnwys nyrsys wedi'u hyfforddi'n dda yn ganolog iddo, nyrsys sy'n cael eu cefnogi drwy'r cyfryw hyfforddiant, a chan gydnabod wrth gwrs fod llawer o'r hyfforddiant hwnnw'n gyfraniad gwerthfawr ynddo'i hun i'r gwaith sy'n mynd rhagddo o ddydd i ddydd yn y GIG. Edrychaf ymlaen at agwedd gadarnhaol fwy hirdymor gan y Gweinidog maes o law.
1,310
Symudwn ymlaen at yr eitem nesaf ar ein hagenda y prynhawn yma, sef dadl Plaid Cymru ar y rhaglen Cefnogi Pobl, a galwaf ar Bethan Jenkins i gynnig y cynnig - Bethan.
1,311
Wel, rwy'n meddwl mai'r neges gryfaf y gall Llywodraeth Cymru ei rhoi yw na fyddent yn ymrwymo i wneud unrhyw doriadau i'r cynllun hwn, gan na fyddai'r awdurdodau lleol wedyn yn teimlo bod yna unrhyw amwysedd yn y broses o wneud yn siŵr fod y gwasanaethau hyn yn hanfodol i'r hyn y maent yn ei wneud ar y lawr gwlad, oherwydd, os nad ydynt yn cael arwydd clir gan Lywodraeth Cymru fod hyn yn cael ei ddiogelu, efallai y byddant yn ystyried ei bod yn briodol, o bosibl, i wneud pethau mewn ffordd wahanol ac yna efallai yn dadwneud peth o'r gwaith da y mae rhai o'r elusennau yn y sector yn ei wneud ar hyn o bryd. Roeddwn am orffen yn fyr ac roeddwn am nodi un pwynt olaf a glywais gan y sector. Efallai fod derbyniadau ar sail angen blaenoriaethol wedi gostwng 63 y cant, ond fel y gŵyr Ysgrifennydd y Cabinet, nid yw mesur galw digartrefedd yn ôl faint o bobl sydd ag angen blaenoriaethol yn ddull cywir o fesur mwyach. Mae Deddf Tai (Cymru) 2014 yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol weithio gyda'r holl aelwydydd cymwys a lleddfu digartrefedd. Mae dadansoddiad a gynhaliwyd gan Shelter Cymru wedi dod i'r casgliad fod y nifer sy'n troi at wasanaethau digartrefedd wedi cynyddu oddeutu chwarter ers i'r gyfraith newid mewn gwirionedd. Bydd yn ddiddorol clywed ymateb Llywodraeth Cymru i hyn felly. Diolch yn fawr.
1,312
Go brin fod yna Aelod yn y Siambr hon heb nifer sylweddol o etholwyr yr effeithiwyd arnynt mewn rhyw ffordd gan y gwasanaethau a gefnogir gan Cefnogi Pobl Llywodraeth Cymru. Yn fy etholaeth i, mae Gwalia, Grŵp Tai Coastal, Cartrefi Castell-nedd Port Talbot, Tai Dewis a llawer o rai eraill yn darparu gwasanaethau hanfodol a ariennir drwy Cefnogi Pobl. Rwyf wedi cyfarfod â phobl sydd wedi cael eu hannibyniaeth yn ôl oherwydd Cefnogi Pobl, ac ni allai unrhyw bobl weddus gyfarfod â rhywun yn y sefyllfa honno heb werthfawrogi gwerth aruthrol y gwaith y mae'r cynllun yn ei ariannu. Dylai cefnogi pobl agored i niwed neu bobl hŷn i fyw bywydau annibynnol fod yn ganolog i'r hyn y mae pob un ohonom am ei gyflawni yn y Siambr hon, waeth beth yw ein hymlyniad gwleidyddol. Felly, gadewch i mi fod yn glir: ni cheir monopoli ar gefnogaeth i'r rhaglen ar feinciau'r gwrthbleidiau yn y Siambr hon. Rhaglen gan Lywodraeth Cymru yw hi ac yn wir, er bod Llywodraeth y cenedlaetholwyr yn yr Alban a'r Llywodraeth Geidwadol yn San Steffan wedi torri cymorth i'w rhaglenni, mae'r Blaid Lafur yng Nghymru wedi rhoi blaenoriaeth gyson i Cefnogi Pobl.
1,313
Wel, rwy'n llwyr ddisgwyl i'r Llywodraeth gynnal ei hymrwymiad i Cefnogi Pobl yn y gyllideb hon, ac os na wnaiff ydyw, byddaf yr un mor ddig a siomedig ag unrhyw un a gyflwynodd y cynnig hwn heddiw. Ond rhaff achub yw'r gwaith a ariennir gan Cefnogi Pobl, nid pêl-droed wleidyddol. Y lle ar gyfer pleidleisio ar ariannu gwasanaethau a rhaglenni a pholisïau'r Llywodraeth yw'r bleidlais ar y gyllideb. Bydd pawb sy'n dilyn hynt y lle hwn yn ofalus yn gwybod hynny, ond i lawer o bobl nad ydynt yn ei ddilyn, neu sy'n arsylwyr achlysurol, a fydd yn cynnwys llawer o bobl yr effeithir arnynt gan y rhaglen Cefnogi Pobl, bydd yn ymddangos bod y bleidlais heddiw yn y bleidlais ar y rhaglen, ac nid dyna ydyw. Felly, rwy'n apelio ar yr Aelodau i gadw pryderon pobl mewn cof - llawer ohonynt yn etholwyr i ni - a fydd yn deall yn iawn beth yw effaith toriadau caledi Llywodraeth y DU ar gyllideb Cymru, ac yn deall yn iawn cymaint y maent yn dibynnu ar Cefnogi Pobl. Bydd eraill yn ffurfio eu barn eu hunain am oportiwnistiaeth y blaid sydd â rôl ganolog yn ysgrifennu'r gyllideb ar y pwyllgor cyswllt, ac oportiwnistiaeth y blaid y mae eu cydweithwyr yn San Steffan wedi dinistrio eu rhaglen eu hunain ac wedi torri cyllideb Cymru, sy'n dewis cyflwyno'r cynnig hwn ger ein bron heddiw. Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y cynnig, ond ni fyddaf yn pleidleisio yn erbyn Cefnogi Pobl. Byddaf yn pleidleisio yn erbyn y math o wleidyddiaeth sy'n trin Cefnogi Pobl fel ergyd sydyn 30 munud yn y Siambr.
1,314
Roeddwn i ond yn dweud ei bod hi'n mynd mor dda ac roeddwn wedi gobeithio y byddech wedi cefnogi gwelliant synhwyrol iawn y Ceidwadwyr a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
1,315
Diolch. Nid oes gennyf lawer o amser, ond hoffwn ddiolch i bobl am gymryd rhan yn y ddadl bwysig hon. Rwy'n credu ei bod yn bwysig ein bod yn trafod y mater penodol hwn. Fe welwch mewn gwleidyddiaeth weithiau na allwch ennill beth bynnag a wnewch. Rydych yn cefnogi rhaglen gan y Llywodraeth ac rydych yn cael eich cyhuddo o chwarae gwleidyddiaeth â hi. Rydym yma i wneud yn siŵr, fel y brif wrthblaid, ein bod yn eich dwyn i gyfrif, Weinidog, ac yn sicrhau bod rhaglenni fel hyn yn bwysig ar gyfer y dyfodol. Felly, byddwn yn dweud wrth eich Aelod mainc gefn, Jeremy Miles: a ydych chi, felly, yn bod yn nawddoglyd tuag at y bobl yn yr oriel gyhoeddus nad ydynt yn dweud mai ergyd wleidyddol 30 munud yn unig yw hon? Maent yn gwybod am bwysigrwydd y ddadl hon oherwydd mai eich Llywodraeth chi a gyflwynodd y cynnig i dorri Cefnogi Pobl, felly mae'n rhaid i ni gadw hyn ar yr agenda wleidyddol. Os na wnawn hynny, yna mae'n fethiant ar ein rhan fel y brif wrthblaid yma i'ch dwyn i gyfrif. Felly, rwy'n derbyn bod Gweinidog y Llywodraeth wedi bod yn rhyddfrydol iawn ei ysbryd i siarad â ni yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y bydd yn gallu clywed pryderon y bobl yma heddiw, ond yn sicr nid chwarae gemau yw hyn. Nid wyf yn gwneud hynny mewn gwleidyddiaeth, felly cefais fy mrifo braidd gan y sylwadau hynny, a hefyd gan y Ceidwadwyr. Wyddoch chi, gwelliant 'dileu popeth' - daethom yma yn llawn o ewyllys da. Gallech fod wedi helpu i wella ein cynnig a'i ymestyn. Fe ddywedoch bron yn union yr un peth ag a ddywedais i, Mark Isherwood. Felly, os gwelwch yn dda gadewch i ni geisio cynnal y cynlluniau hyn. Maent yn cynorthwyo ac yn cefnogi pobl yn ein cymunedau.
1,316
Collais hynny. Mae'n ddrwg gennyf am hynny. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Iawn, diolch. Felly, byddaf yn gohirio'r pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
1,317
Rwy'n ddiolchgar iawn. Mae'r Aelod wedi bod yn siarad llawer am Loegr. Dywedodd Angela yn y ddadl flaenorol na ddylem ystyried Lloegr a'r hyn y maent yn ei wneud yn Lloegr. Efallai y byddai'r Aelod yn dymuno dweud wrthym beth y mae'r meddygon iau yn ei wneud yn Lloegr ac nid yng Nghymru.
1,318
Diolch, fadam Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cytuno ag arweinydd y Ceidwadwyr: mae hon yn rhaglen dila ofnadwy, o ystyried bod holl rym, holl allu a holl faint y gwasanaeth sifil y tu ôl i'r Llywodraeth. Rŷm ni wedi cynhyrchu ein syniadau ein hunain yn rhaglen yr wrthblaid - mae cyfeiriad at hyn yn ein gwelliant ni. Mae mwy o syniadau yn fanna nac yn rhaglen Llywodraeth Cymru. Mae'r peth yn warthus, a dweud y gwir. Rwy'n gwybod nid maint yw popeth, wrth gwrs, ond 16 o dudalennau, am bum mlynedd o raglen ar adeg dyngedfennol yn hanes Cymru. Hynny yw, o gymharu â beth wnaeth y Llywodraeth bum mlynedd yn ôl - y Llywodraeth yma - 51 o dudalennau. Gallwn ni edrych lan i'r Alban - 89 o dudalennau; Gogledd Iwerddon - 113, a dim ond rhaglen ddrafft yn unig ydy hynny. Ac, wrth gwrs, mae'n mynd yn ddyfnach na hynny. Fel roedd arweinydd y Ceidwadwyr yn dweud, rydym wedi mynd lawr o raglen flaenorol y Llywodraeth - roedd yna 12 maes polisi. Rydym yn mynd i lawr nawr i bedwar pennawd yn unig, a dim targedau. Roedd gan y Llywodraeth flaenorol 122 o ddangosyddion canlyniad - braidd yn jargonllyd yntefe, ond o leiaf roedden nhw yna. Roedd yna 224 o ddangosyddion tracio. Beth yw'r gwahaniaeth rhwng y ddau beth yna - ond o leiaf roedd yna dargedau clir, fel ein bod ni yn y lle yma, ac yn bwysicaf oll dinasyddion yn gallu mesur cyrhaeddiant y Llywodraeth, blwyddyn ar ôl blwyddyn. Wrth gwrs, roedd yna adroddiadau blynyddol ar y rhaglen lywodraethu yn gosod mas cyrhaeddiant yn erbyn y targedau hynny. Dim targedau - [Torri ar draws.] Iawn.
1,319
Diolch i'r Aelod dros Ogledd Caerdydd am gymryd fy ymyriad. Rwy'n cytuno'n llwyr â chi: mae gofal plant yn gynnig gwirioneddol bwysig y gall y Llywodraeth ei wneud ac mae'n rhywbeth roedd pob plaid wedi cyflwyno cynnig yn ei gylch. Mae'n amlwg mai chi oedd y blaid fwyaf, felly eich cynnig chi fydd yr un y byddwch yn gyfrifol am ei gyflawni. Ond nid yw'r ddogfen hon yn dweud sut y mae'n mynd i gael ei gyflawni, yr amserlen ar gyfer ei gyflwyno, y gyllideb ar gyfer ei gyflwyno, neu beth yn union fydd y categorïau. Felly, rydym yn cefnogi'r cynnig, ond gadewch i ni gael ychydig rhagor o gig ar sut yn union y mae'n mynd i gael ei ddatblygu. 'Does bosibl nad yw hwnnw'n gwestiwn afresymol i ni ei ofyn.
1,320
Nid wyf am rygnu ynglŷn â'r diffyg tudalennau, gan fod Julie eisoes wedi cymryd ati ynglŷn â hynny, ond hyd yn oed os ydym yn derbyn mai 16 tudalen o hyd yw'r ddogfen, hyd yn oed o fewn ei maint bach, mae yna ddiffyg cynnwys pendant ynddi. Nid oeddwn yma bum mlynedd yn ôl, ond dywedir wrthyf fod y ddogfen gyfatebol bryd hynny'n 600 o dudalennau o hyd. Mae hynny i'w weld yn dangos rhyw ddiffyg yn rhywle.
1,321
Hefyd, roedd yna rywbeth, rwy'n credu, yn y Cynulliad blaenorol, a alwyd yn uned gyflawni. Nid yw gyda ni mwyach, hyd y gwn. Mae'n ymddangos na chyflawnodd unrhyw beth, gan mai ychydig iawn o'r targedau a gyrhaeddwyd, ac felly cafodd ei anfon i ebargofiant. Felly, erbyn hyn, mae'r targedau wedi diflannu i raddau helaeth, a'r hyn sydd ar ôl yw rhestr o uchelgeisiau niwlog heb unrhyw ffordd o fonitro i ba raddau y gallwn eu cyflawni'n llwyddiannus. Mae llawer iawn o arian cyhoeddus yn cael ei wario ar hoff brosiectau'r Llywodraeth Lafur, ond pa mor effeithiol yw'r prosiectau hyn? Yn ddiweddar, cawsom dystiolaeth sylweddol nad oedd un o'u cynlluniau mawr, Twf Swyddi Cymru, yn cael unrhyw effaith economaidd o gwbl. Mae hyn yn cyd-fynd â sylwadau Oscar ynglŷn â'r prinder sgiliau a'r ffordd rydym wedi methu cynhyrchu pobl sy'n gadael coleg yn meddu ar sgiliau parod am waith. Sut yr eir i'r afael â hyn yn y dyfodol? Mae'n arfer gan y Prif Weinidog yn ddiweddar i ddweud wrthym am beidio â dibynnu ar anecdotau, ond yn hytrach, y dylem ddibynnu ar dystiolaeth. Ni ddylem ddifrïo tystiolaeth. A yw'r Gweinidog yma heddiw yn cytuno bod y ddogfen hon, gyda'i diffyg targedau, yn dangos bod y Llywodraeth hon yn troi ei chefn yn llwyr ar yr angen i gydymffurfio â thargedau a thystiolaeth?
1,322
Rwy'n synnu braidd eich bod yn sefyll i siarad am yr hyn sy'n mynd i ddigwydd i ffermio pan oeddech chi, eich plaid chi mewn gwirionedd, eisiau gadael yr UE. Rydych chi wedi cael hynny. Yr hyn yr hoffwn ei ddweud wrthych yw hyn: beth oeddech chi'n meddwl oedd yn dod nesaf? Oherwydd ni ddywedoch hynny. Fe ymgyrchoch chi ar lwyfan o gasineb, a dyna'n union a wnaethoch, ac nid oedd gennych syniad beth oedd yn dod nesaf.
1,323
Rwy'n dod i ben. Mae yna bethau yn y ddogfen hon y gellir eu croesawu. Un filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 - rwy'n gobeithio y byddaf yn dal yma i weld a yw'r Llywodraeth yn gallu cyflawni ar y cytundeb hwnnw, ac mae fy nghefnogaeth i Alun Davies, un o fy hoff Weinidogion, yn gryf yn hyn o beth, a llawer o bethau eraill hefyd. [Torri ar draws.] Ond rwy'n mynd i ddod â fy sylwadau i ben. Mae'r Llywodraeth yn aml yn sôn am y tlodi sy'n bodoli yng Nghymru, ond yr enghraifft waethaf o dlodi sy'n bodoli yng Nghymru mewn gwirionedd yw'r tlodi yn uchelgais Llywodraeth Cymru, a gynrychiolir gan y llosgfynyddoedd marw ar y fainc flaen yma.
1,324
Diolch i chi am ildio. Mewn cyfnod o bum mlynedd, sut y gallwch chi ymrwymo i adeiladu 20,000 o gartrefi fforddiadwy ychwanegol ac eto mae eich targed blynyddol yn parhau i fod yr un fath, sef 8,700? Mae'n drech na fy ngallu i'w resymu. Eglurwch os gwelwch yn dda.
1,325
Rwy'n ddiolchgar iawn i chi am gymryd yr ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe wnaethoch ymrwymiadau blaenorol yn eich rhaglen lywodraethu ddiwethaf yn y Cynulliad blaenorol i sicrhau bod pawb dros 50 oed yn cael archwiliad iechyd blynyddol ac y gallai pawb weld meddyg teulu gyda'r nos ac ar benwythnosau. Fe fethoch gyflawni'r ymrwymiadau hynny. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i ni eich bod yn mynd i gyflawni'r ymrwymiadau hyn yn awr?
1,326
Cytunwyd y bydd y cyfnod pleidleisio yn digwydd cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i'r gloch gael ei chanu, fe symudaf yn syth yn awr at y cyfnod pleidleisio. Iawn, diolch.
1,327
Pleidleisiwn yn awr ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 16, neb yn ymatal, yn erbyn y gwelliant 34. Felly, gwrthodwyd y gwelliant.
1,328
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid y gwelliant 10, neb yn ymatal, yn erbyn y gwelliant 40. Felly, unwaith eto, ni dderbyniwyd dim.
1,329
Diolch. A gaf fi yn gyntaf oll ddiolch i chi, Lywydd dros dro, ac yn fwy pwysig, a gaf fi ddiolch i Eluned Morgan am funud yn y ddadl hon, ac am roi sylw i'r materion hyn? Gadewch i mi ddatgan ar y cychwyn nad wyf o reidrwydd yn cytuno â phopeth a ddywedodd, ond rwy'n meddwl bod y pethau hyn yn werth eu trafod, ac maent yn bwysig. Mae'r rhan fwyaf o adrannau gwasanaethau cymdeithasol yng Nghymru o dan fwy o bwysau ariannol nag unrhyw faes gwasanaeth arall yn y sector cyhoeddus, ac mae hynny'n cynnwys y gwasanaeth iechyd. Gwyddom fod y boblogaeth yn heneiddio a bod pobl yn byw yn hwy, yn aml gydag anghenion gofal sylweddol sy'n rhaid eu darparu y tu allan i'r ysbyty. Rydym hefyd yn gwybod bod dirywiad mewn iechyd ac arosiadau yn yr ysbyty yn digwydd fel rheol yn ystod y ddwy flynedd olaf mewn bywyd, ar ba oedran bynnag, ond gallai fod angen gofal cymdeithasol am ddegawdau ac mae faint fydd ei angen yn gallu cynyddu, ac fel arfer yn cynyddu wrth i bobl fynd yn fwy bregus ac angen mwy o gefnogaeth. A gaf fi ychwanegu dau bwynt cyflym? Rwy'n credu bod unigrwydd yn rhywbeth sy'n felltith wirioneddol i lawer iawn o bobl oedrannus. Mewn gwirionedd, pe gallwn wneud un peth drwy chwifio ffon hud, byddwn yn ymdrin ag unigrwydd oherwydd mae'n bur debyg mai dyna yw'r lladdwr mwyaf. Y peth arall yw hyn: siaradodd Eluned am uno cyllid iechyd a gofal cymdeithasol. Y cyfan y gallaf ei ddweud yw na wnaeth gofal sylfaenol yn dda iawn pan unwyd gofal sylfaenol a gofal eilaidd.
1,330
Cyn imi alw ar y Prif Weinidog, hoffwn groesawu'r ddirprwyaeth seneddol o Botswana, a arweinir gan Ei Hardderchogrwydd Gladys Korkowe, llefarydd Cynulliad Cenedlaethol Botswana, sy'n bresennol yn yr oriel heddiw. Croeso.
1,331
Credaf fod dinas-ranbarth Bae Abertawe yn datblygu'n dda iawn fel cyfrwng ar gyfer datblygu economaidd. Fodd bynnag, rwy'n gweld swyddogaeth fwy strategol iddo mewn pethau fel cynllun strwythur. A yw'r Prif Weinidog yn cytuno, ac a wnaiff y Prif Weinidog geisio defnyddio ôl troed dinas-ranbarth Bae Abertawe ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus a ariennir gan Lywodraeth Cymru?
1,332
Brif Weinidog, byddwch yn ymwybodol o gwestiynau yr wythnos diwethaf fod Aelodau'r Cynulliad braidd yn anniddig nad oeddem ni'n clywed llawer gan fwrdd y cytundeb dinas, ond rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cael briff cryno ganddo erbyn hyn. O hynny, mae'n ymddangos mai eu pryder mawr ar hyn o bryd yw'r mater o lywodraethu yn y tymor byr i'r tymor canolig, ac maen nhw wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth Cymru, gan awgrymu model dielw ar gyfer y dyfodol. O gofio bod y bwrdd hwn dim ond gyda'i gilydd am chwe mis arall, neu lai na hynny, pryd fyddwch chi'n ymateb iddyn nhw a beth fyddwch chi'n ei ddweud wrthynt?
1,333
Rydym ni'n cael ein hysbysu gan dîm y cytundeb dinas bod y sefyllfa'n anwadal iawn, ac mai 50/50 yw'r rhagolygon presennol o lwyddiant ar hyn o bryd. Felly, o ystyried hynny, beth mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud ar hyn o bryd, a beth mae'n bwriadu ei wneud i gynorthwyo tîm y cais a chynyddu'r tebygolrwydd o lwyddiant o 50/50.
1,334
Brif Weinidog, mae'r cytundeb dinas yn gyffrous ac yn arloesol. Mae'n canolbwyntio ar TGCh a'r genhedlaeth nesaf mewn gwirionedd. Wrth gwrs, adeiladwyd y rhanbarth ar y diwydiannau traddodiadol a gweithgynhyrchu. Beth ydych chi'n ei wneud i sicrhau bod y rhan honno yn parhau i fod yn ganolbwynt mewn cytundebau dinas fel y bydd y gweithgynhyrchu presennol, a gweithgynhyrchu uwch, yn enwedig meysydd ymchwil, yn cael eu cynorthwyo yn y dyfodol?
1,335
Brif Weinidog, os yw dinas-ranbarth Bae Abertawe yn mynd i fod yn llwyddiant, bydd yn gofyn am weithio ar y cyd, nid yn unig rhwng y pedwar awdurdod lleol ond cydweithio gyda dinas-ranbarth Caerdydd a chyda Llywodraeth Cymru, er mwyn sicrhau bod y seilwaith ar waith i gefnogi'r cynlluniau uchelgeisiol a gyflwynwyd gan fwrdd y ddinas-ranbarth. Pa welliannau seilwaith y mae Llywodraeth Cymru yn eu cynllunio ar gyfer rhanbarth bae Abertawe dros y pum mlynedd nesaf; a sut ydych chi'n bwriadu cysylltu rhanbarth ehangach bae Abertawe â phrosiect metro de Cymru?
1,336
Hyd yma, cyfochrwyd Cwm Cynon yn gadarn gyda dinas-ranbarth Caerdydd, ac, er fy mod i'n croesawu'r cysylltiad hwn a'r manteision lu y gallai eu cynnig, o safbwynt daearyddol ac economaidd, mae gan fy etholaeth lawer o gysylltiadau ag ardal bae Abertawe hefyd. Pa sicrwydd allech chi ei roi, Brif Weinidog, y bydd y model dinas-ranbarth yn ddigon hyblyg i ymgorffori budd pennaf etholaethau fel fy un i, y mae eu buddiannau yn gorwedd yn y ddau ddinas-ranbarth.
1,337
Bydd awdurdodau lleol yn chwarae rhan allweddol tuag at gyflawni ein targed uchelgeisiol o 20,000 o gartrefi fforddiadwy yn ystod y Cynulliad hwn, ac rydym ni'n awyddus i gefnogi eu gwaith i adeiladu tai cymdeithasol newydd o ansawdd uchel yn yr ardaloedd y maen nhw'n gyfrifol amdanynt.
1,338
Er bod yr Aelod yn iawn i nodi bod awdurdodau lleol Cymru yn rhydd o ran yr hen system cymhorthdal cyfrif refeniw tai, ceir cap ar fenthyg y mae'n rhaid iddyn nhw gadw ato o hyd. Yr hyn y gallaf ei ddweud yw ein bod ni'n gweithio gyda'r awdurdodau hynny sy'n dymuno adeiladu tai cyngor newydd i sicrhau y defnyddir eu cap benthyg hyd ei eithaf er mwyn cynyddu'r cyflenwad tai, a byddwn yn parhau i weithio gyda nhw er mwyn gwneud yn siŵr eu bod nhw'n gallu gwneud hynny.
1,339
Mae hyn yn broblem. Rŷm ni yn ystyried ar hyn o bryd ffordd o ddatrys y broblem hyn drwy ddeddfwriaeth, a gallaf i ddweud y dylai cymdeithasau tai fod yn hyderus y bydd hyn yn cael ei ddatrys mor gynted ag sy'n bosib.
1,340
Fyddwn i ddim yn mynd mor bell â dweud mai dim ond galluogwyr y gall awdurdodau lleol fod; maen nhw'n adeiladwyr tai pwysig hefyd. Ond nid dyma'r unig fodel, ac rydym ni'n deall hynny. Rydym ni'n gwybod y bydd cymdeithasau tai yn parhau i fod yn bwysig yn y ddarpariaeth o dai fforddiadwy, ac, wrth gwrs, atebion newydd arloesol. Rydym ni wedi sôn yn y gorffennol am ymddiriedolaethau tir cymunedol, cynlluniau rhannu ecwiti. Mae cynlluniau tai cydweithredol, rwy'n credu, yn sicr yn fodelau y gellir eu harchwilio'n llawn yn y dyfodol, a byddem yn ceisio darparu unrhyw gymorth y gallwn er mwyn bwrw ymlaen â'r modelau hynny.
1,341
Wel, ceir enghreifftiau o safleoedd tir llwyd yr adeiladir arnynt ledled Cymru. Nid nepell o'r fan hon, mae hen safle melin Trelái yn cael ei ailddatblygu. Mae'r Aelod yn iawn i nodi bod gennym etifeddiaeth lle, yn y dyddiau pan oedd rheoliadau amgylcheddol yn llawer llacach nag y maen nhw nawr, lle nad yw gweithredwyr safleoedd yn bodoli fel cwmnïau mwyach, ac felly mae'r cyfrifoldeb ar y trethdalwr. Mae'n rhywbeth yr ydym wedi bod yn mynd i'r afael ag ef gyda rhai o'r safleoedd glo brig mwy, er enghraifft, o ran pwy ddylai fod yn atebol yn y pen draw, o ystyried y caniatâd a roddwyd iddynt ar ddechrau'r 1990au. Ein nod fydd gweithio gyda datblygwyr, wrth gwrs, er mwyn gwneud yn siŵr bod y tir hwnnw'n cael ei roi ar gael yn y dyfodol. Ond mae'n wir dweud bod rhai safleoedd o hyd lle byddai angen swm sylweddol o arian er mwyn adfer y safleoedd hynny i'r safon sydd ei hangen ar gyfer tai.
1,342
Ie, nid yw hynny'n bell o'i le, Brif Weinidog - mae'n cymryd tua dwy awr. [Torri ar draws.] Mae'r ymateb pan fydd y Prif Weinidog yn ateb cwestiwn yn gywir yn ddiddorol iawn. [Chwerthin.] Brif Weinidog, byddai dwy awr mewn ambiwlans, rwy'n siŵr y byddech chi'n cytuno â mi, yn llawer rhy hir. Nawr, mae'n bosibl y byddwch yn ymwybodol o gynigion i ganoli llawdriniaethau fasgwlaidd yn Ysbyty Glan Clwyd, gan roi'r gorau iddynt yn Ysbyty Gwynedd ym Mangor. Wel, mae'n gweithredu ar ddau safle a dweud y gwir - mae'n gweithredu yn Ysbyty Maelor Wrecsam hefyd. Nawr, mae hyn er gwaethaf y ffaith bod y gwasanaeth yn Ysbyty Gwynedd yn un o'r goreuon yn y byd, ac nid dim ond fi sy'n dweud hynny - data cyhoeddedig sy'n dangos hynny. A allwch chi ddweud wrthym, felly, Brif Weinidog, pam mae eich Llywodraeth chi yn bwriadu cael gwared ar wasanaeth o'r radd flaenaf o Ysbyty Gwynedd?
1,343
Dim ond i fod yn eglur, Brif Weinidog, eich Llywodraeth chi fydd yn gwneud y penderfyniad terfynol am hyn, ac mae gennym ni wasanaeth ardderchog eisoes, ac mae wedi'i leoli yn Ysbyty Gwynedd. Nawr, pan gollodd Ysbyty Brenhinol Morgannwg ei wasanaeth llawdriniaeth fasgwlaidd, y canlyniad oedd bod gwasanaethau eraill yno yn annichonadwy. Nawr, mae clinigwyr wedi codi pryderon difrifol gyda mi am ddiogelwch gorfodi modelau gofal iechyd trefol ar ardaloedd gwledig, ac mae eich Llywodraeth chi yn gorfodi un model addas i bawb ar draws y wlad gyfan. Os bydd Ysbyty Gwynedd yn colli ei llawdriniaeth fasgwlaidd, bydd yn gwneud yr ysgol feddygol ym Mangor, yr ydym ni ei heisiau, yn llawer llai dichonadwy. Bydd hefyd yn golygu bod pobl o Ynys Môn, Pen Llŷn a mannau eraill, yn teithio'n llawer rhy bell i gael llawdriniaeth hanfodol a allai achub aelod o'r corff neu fywyd. A wnewch chi, felly, ymrwymo heddiw, Brif Weinidog, i ddiogelu'r gwasanaeth fasgwlaidd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Gwynedd?
1,344
Brif Weinidog, mae cael gweld meddyg teulu yn dod yn fwy a mwy o broblem i gymunedau ledled Cymru, ac mae hyn yn arbennig o wir i bobl sy'n gweithio. A allwch chi ddweud wrthym beth yw canran y meddygfeydd teulu ledled Cymru sy'n cynnig apwyntiadau ar ôl 6 p.m. ar hyn o bryd?
1,345
Wel, mae'n amlwg yn bryd i'r Prif Weinidog gymryd cyfrifoldeb am y GIG yng Nghymru. Mae'n amlwg ei fod eisiau trafod Lloegr i dynnu'r sylw oddi wrth ei fethiannau ei hun. Felly, gadewch i mi roi'r ateb i fy nghwestiwn gwreiddiol iddo: dim ond 29 y cant o feddygfeydd teulu ledled Cymru sy'n cynnig apwyntiadau ar ôl 6 p.m. ar hyn o bryd, sy'n ystadegyn gwarthus o ystyried y flaenoriaeth a roddodd eich Llywodraeth i gael mynediad at feddygon teulu yn y Cynulliad diwethaf. Ym maniffesto 2011, dywedodd Llafur Cymru y byddai'n ei gwneud yn ofynnol i feddygon teulu 'wneud meddygfeydd yn fwy hygyrch i bobl sy'n gweithio'. Roedd y maniffesto hefyd yn dweud y byddai'n 'annog rhaglen o archwiliadau iechyd blynyddol, o dan arweiniad meddygon teulu, nyrsys practis, fferyllwyr a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill, i bawb dros 50 oed'. Rydym ni wedi clywed eich Llywodraeth yn addo lawer gwaith y byddech yn diwygio'r ffordd y mae pobl ledled Cymru yn cael mynediad at wasanaethau iechyd o ddydd i ddydd, ac eto yn 2016 nid ydym wedi gweld unrhyw welliant pendant. Pam y gwnaethoch chi droi eich cefn ar yr ymrwymiad o archwiliadau iechyd blynyddol wyneb yn wyneb gyda meddygon teulu i bawb dros 50 oed?
1,346
Wel, nid wyf yn gwybod o ble mae'r Prif Weinidog yn cael ei ffigurau, ac ni atebodd yr ail gwestiwn ynghylch pam y gwnaeth droi ei gefn ar yr archwiliadau iechyd ar gyfer pobl dros 50 oed. Nawr, roedd eich rhaglen lywodraethu ddiweddar yn dweud y bydd yn gwella mynediad at feddygfeydd teulu unwaith eto, gan ei gwneud yn haws cael apwyntiad. Wel, mae pobl Cymru wedi clywed hyn i gyd o'r blaen, gennych chi a chan Lywodraethau Llafur blaenorol. Yn amlwg, rydych chi wedi methu â gwella'r sefyllfa yn ystod y pum mlynedd diwethaf. Pam ar y ddaear y dylai pobl Cymru ymddiried ynoch chi y tro hwn? Felly, os yw eich Llywodraeth eisiau gwella hygyrchedd meddygfeydd teulu, pa feincnodau strategol wnewch chi eu rhoi ar waith nawr i wella hygyrchedd erbyn 2021, o ystyried nad ydych chi wedi cyhoeddi unrhyw dargedau o gwbl yn y rhaglen lywodraethu bresennol?
1,347
Diolch yn fawr, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf yng nghynhadledd y Blaid Lafur, dywedodd Diane Abbott, Ysgrifennydd iechyd yr wrthblaid yn San Steffan, bod y bobl a bleidleisiodd dros Brexit wedi gwneud hynny i raddau helaeth gan eu bod eisiau gweld llai o bobl o dramor ar y strydoedd. Onid yw'n credu bod hyn yn athrod ar y 62 y cant o bobl ym Mlaenau Gwent a bleidleisiodd dros Brexit, y 60 y cant yn Nhorfaen, ac, yn wir, y 55 y cant ym Mhen-y-bont ar Ogwr a bleidleisiodd dros Brexit?
1,348
Nid oes unrhyw feddyg yn mynd i gael ei alltudio. Mae hynny'n beth hurt i'w ddweud. Ond yn sicr ni fyddent yn - [Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn - [Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn - [Torri ar draws.] Yn sicr ni fyddent yn cael eu halltudio o dan Lywodraeth Lafur gan ei bod yn eglur o gynhadledd y Blaid Lafur nad yw'r Blaid Lafur yn credu mewn unrhyw reoliadau mewnfudo o ddifrif o gwbl. Yn wir, dywedodd llefarydd ar ran Jeremy Corbyn bod ganddo agwedd ddigyffro at y posibilrwydd o fwy o fewnfudo ac nad yw'n credu mewn ei leihau. Mae'n debyg bod cynorthwywyr Mr Corbyn wedi dweud nad yw lleihau mewnfudo yn amcan a bod Jeremy Corbyn yn credu mai'r ffordd orau o ymdrin â mewnfudo ar draws Ewrop yw cysoni cyflogau ym mhob gwlad. O ystyried mai £100 yr wythnos yw'r cyflog cyfartalog yn Rwmania ac £80 yr wythnos ym Mwlgaria, a yw'r Prif Weinidog yn credu bod hwn yn bolisi call ar gyfer rheoli mewnfudo?
1,349
Nid oeddwn i'n sylweddoli bod y Prif Weinidog yn eithafwr. [Aelodau'r Cynulliad: 'O'.] Nid oes unrhyw bosibilrwydd i unrhyw un gael ei alltudio o Gymru na'r Deyrnas Unedig o ganlyniad i Brexit, oherwydd, fel y gŵyr y Prif Weinidog yn iawn, mae hawliau'r rhai sydd yma eisoes wedi eu diogelu o dan rwymedigaethau cytundeb presennol Prydain nad ydynt yn berthnasol i'r UE. Yr hyn sy'n bwysig yw ein bod yn derbyn i'r wlad hon yn y dyfodol y rhai yr ydym ni eu hangen ac y gallwn ddewis pwy sy'n dod yma. A dyna yw hanfod pŵer unrhyw genedl sofran.
1,350
Yr holl daliadau presennol, byddwn yn disgwyl, byddwn. Yr hyn na fyddwn yn ei gefnogi yw pe byddai'r taliadau hynny yn digwydd cael eu Barnetteiddio gan y byddai hynny'n golygu y byddem yn waeth ein byd.
1,351
Rwy'n credu ei bod yn bosibl gwneud hynny tan 2020. Dyna'r hyn yr ydym ni'n bwriadu ei wneud. Y tu hwnt i hynny, nid oes unrhyw arian o gwbl i dalu cymorthdaliadau ffermio oni bai bod Llywodraeth y DU yn rhoi trefn ar bethau ac yn dweud wrthym yn union beth mae'n bwriadu ei wneud. Felly, byddem, mi fyddem yn ceisio cefnogi ffermio fel pe byddem yn dal i fod yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd tra bod y cyllid ar gael. Os nad oes unrhyw gyllid y tu hwnt i 2020, mae'n sefyll i reswm na fyddwn yn gallu gwneud hynny.
1,352
'Nac ydym' yw'r ateb i hynny, ond gallaf ddweud bod y Gweinidog eisoes wedi bod yn cynnal cyfarfodydd, gyda'r nod o ddatblygu sut y gallai polisi cefn gwlad yn y dyfodol, gan gynnwys amaethyddiaeth, wrth gwrs, edrych. Mae'n wir dweud y bydd gennym ni fwy o hyblygrwydd a mwy o bŵer; yr hyn nad ydym yn ei wybod yw a fydd gennym ni unrhyw arian er mwyn gweithredu'r pethau hyn. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth y DU ddatgan, yn unol â'r addewid na fyddai ceiniog yn cael ei cholli i Gymru, y bydd taliadau amaethyddol yn cael eu cynnal mewn gwirionedd, nid yn unig i Gymru ond i'r Alban a Gogledd Iwerddon hefyd, er mwyn rhoi sicrwydd i ffermwyr, oherwydd, ar hyn o bryd, ar ôl 2020, mae ffermio yn edrych ar ddyfodol heb unrhyw gymhorthdal cyhoeddus. Nid yw'n barod ar gyfer hynny, os ydym yn bod yn onest. Rwyf i'n rhywun sy'n gwybod yn iawn gwerth taliadau ffermio, nid yn unig i ffermydd, ond i gymunedau gwledig ac i'r Gymraeg, er enghraifft. Y tu hwnt i 2020, nid oes gennym unrhyw sicrwydd o gwbl o ba un a fydd un geiniog ar gael i dalu am y pethau hyn, ac mae angen y sicrwydd hwnnw arnom ni.
1,353
Mae hi. Nid ydym ni'n meddwl y gallwn ni, wrth gwrs, fwydo ein hunain. Mae 54 y cant o'r bwyd sy'n cael ei fwyta yn y Deyrnas Unedig yn dod o'r Deyrnas Unedig. Dyna yw natur lle rydym ni'n byw, achos lle rydym ni'n byw yn y byd. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, rydym ni'n moyn sicrhau bod cynhyrchwyr yn gallu bod yn gynaliadwy, eu bod nhw'n cynhyrchu bwyd sy'n fwyd maen nhw'n gallu ei werthu, ac yn fwyd y mae pobl yn moyn prynu. Mae hynny'n hollbwysig. Mae yna gyfle i ailystyried piler 1 a philer 2, wrth gwrs. Mae hynny'n rhywbeth, wrth gwrs, sy'n dod o dan y CAP. Os nad yw'r CAP yna rhagor, felly mae yna gyfleon i weld a oes eisiau cael y ffin yna fanna yn y dyfodol. So, mae yna gyfleon, mae yna gyfle i ffermwyr i'n helpu ni i siapio'r polisïau at y dyfodol, ond mae'n rhaid cael yr arian er mwyn sicrhau bod hynny'n digwydd.
1,354
Mae cymorthdaliadau cynhyrchu yn sicr yn gleddyf deufin. Rwy'n cofio pan roedd gennym ni gymorthdaliadau cynhyrchu ac mae'n debyg i ni gynhyrchu 25 y cant yn ormod o ran cig defaid yn arbennig, ac roedd y pris yn isel o ganlyniad. Mae'n rhaid i ni gynhyrchu'r hyn y bydd y farchnad yn ei oddef, ac nid yr hyn yr ydym ni'n meddwl y mae angen i bobl ei brynu, oherwydd y gwir amdani yw y byddwn yn gorgynhyrchu ac y byddwn yn gweld y pris yn gostwng. Felly, mae'n rhaid rheoli hynny'n ofalus iawn. Gwn fod Lesley Griffiths wedi cael cyfarfodydd ar yr union fater hwn. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud nad oes gan Lywodraeth y DU unrhyw syniad sut y dylai polisi ffermio edrych yn y dyfodol. Mae hefyd yn wir dweud nad oes ganddi unrhyw syniad a dweud y gwir o natur datganoli, pan ddaw i bolisi ffermio. O'n safbwynt ni, yr hyn yr ydym ni eisiau ei weld yw ymreolaeth i Gymru o ran polisi amaethyddol, ymhlith eraill, ynghyd, wrth gwrs, â chyfran deg o'r arian y dywedir wrthym fydd ar gael o ganlyniad i Brexit.
1,355
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Mae campws gwyddoniaeth data newydd y Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cael ei sefydlu yng Nghasnewydd. Nod y campws yw datblygu arbenigedd sy'n arwain y byd ym maes gwyddoniaeth data ac elwa ar ddata economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol cyflymach a chyfoethocach. Bydd y campws hefyd yn gwneud gwaith ymchwil arloesol er lles y cyhoedd, gan fanteisio ar dwf a'r ffynonellau arloesol sydd ar gael. Bydd nifer o brentisiaethau gwyddoniaeth data o dan gynllun Llywodraeth Cymru yn cael eu llenwi, a bydd MSc mewn dadansoddi ar gyfer llywodraeth yn dechrau yn 2017, gan weithio gyda nifer o brifysgolion. Bydd hyn yn helpu i ddatblygu arbenigedd sylweddol yn y maes hwn, ac mae'n cynnig cyfle i greu canolfan ddata o amgylch y Swyddfa Ystadegau Gwladol yng Nghasnewydd trwy ddenu cwmnïau eraill. Beth all Llywodraeth Cymru ei wneud i gefnogi ac annog y datblygiad hwn er budd economi Cymru?
1,356
Yn dilyn ailddosbarthiad cymdeithasau tai gan y Swyddfa Ystadegau Gwladol, a wnewch chi, Brif Weinidog, nodi a ydych chi'n bwriadu gwneud newidiadau deddfwriaethol tebyg i rai Llywodraeth y DU yn Lloegr i gadw statws cymdeithasau tai o fod yn fusnesau cymdeithasol annibynnol, yn dilyn, wrth gwrs, newidiadau a ddaeth yn sgil Deddf Tai ac Adfywio 2008 Llywodraeth ddiwethaf y DU?
1,357
Mae'n rhaid ystyried y pethau hyn; rwy'n deall hynny. Bydd y prif swyddog digidol yn ystyried materion fel hyn, ond gwyddom, er enghraifft, ein bod wedi gweld ym mis Mawrth eleni cyhoeddiad y cynllun data agored cyntaf ar gyfer Cymru, ac mae hwnnw'n cynnwys ein syniadau ar sut y gellir datblygu'r mater hwnnw yn y dyfodol.
1,358
Diolchaf i'r Prif Weinidog am yr ateb yna. Rwy'n siŵr bod y Prif Weinidog yn ymwybodol o'r adroddiadau gan NSPCC Cymru yr wythnos diwethaf eu bod wedi gweld cynnydd mawr yn nifer yr oedolion sy'n eu ffonio yn poeni am blant sy'n dioddef o gam-drin domestig corfforol ac emosiynol, neu'n dyst iddo. Mae nifer y galwadau i'r NSPCC, rwy'n credu, wedi cynyddu 63 y cant dros y chwe blynedd diwethaf. Beth arall all Llywodraeth Cymru ei wneud i fynd i'r afael â'r mater o gam-drin domestig, yn enwedig yr effaith niweidiol a gaiff ar fywydau pobl ifanc?
1,359
Brif Weinidog, mae Heddlu Gwent yn cymryd rhan mewn cynllun arbrofol tri heddlu, a fydd yn paratoi swyddogion rheng flaen i gadw llygad am ymddygiad cymhellol neu reoli wrth fynd i ddigwyddiadau cam-drin domestig. Mae hwn yn newid i ganfod patrymau o ymddygiad camdriniol, yn dilyn ymlaen o ddeddfau newydd a gyflwynwyd i fynd i'r afael â throseddwyr sy'n ymddwyn mewn ffordd gymhellol neu reoli at wŷr neu wragedd, partneriaid neu aelodau eraill o'r teulu, ac sydd â'r nod o fynd i'r afael ag amrywiaeth o ymddygiadau fel cyfryngau cymdeithasol, ysbïo arnyn nhw ar-lein a'u hatal rhag cymdeithasu - a gall troseddwyr gael hyd at bum mlynedd o garchar. Rwy'n meddwl tybed a ydych chi'n cymryd hyn i ystyriaeth ar lefel Gwent ac a yw'n rhywbeth y gellir ei ystyried ar sail gyffredinol yma yng Nghymru.
1,360
Byddwch yn cofio, pan gawsom ddadl Cyfnod 3 a Chyfnod 4 y ddeddfwriaeth y llynedd - y Ddeddf trais yn erbyn menywod - ymrwymodd y Gweinidog ar y pryd, er nad oedd yn derbyn yr angen i gynnwys cyfeiriad at raglenni tramgwyddwyr, Lywodraeth Cymru wedyn i gasglu rhagor o dystiolaeth ar ddatblygu rhaglenni cyn-carchar i droseddwyr. Pa gamau mae eich Llywodraeth yn eu cymryd i hwyluso hynny?
1,361
Brif Weinidog, ers cyflwyno'r drosedd o ymddygiad rheoli neu gymhellol, dim ond llond dwrn o gyhuddiadau sydd wedi eu gwneud. A yw'n croesawu felly y newyddion y bydd heddluoedd ar draws y wlad yn hyfforddi swyddogion i adnabod arwyddion ymddygiad reoli neu gymhellol? Mae'n debyg i un Bethan, mae'n ddrwg gennyf. Fodd bynnag, mae angen i ni hysbysu'r cyhoedd nad yw trais yn y cartref wedi ei gyfyngu i gam-drin corfforol. Sut all Llywodraeth Cymru helpu i ledaenu'r neges bod cam-drin seicolegol ac emosiynol yn drosedd na fydd yn cael ei goddef, ac i wneud y cyhoedd yn fwy ymwybodol? Diolch.
1,362
Diolch i chi am yr ateb cyflym, Weinidog. Gall troseddwyr ddefnyddio llwyfannau cyfryngau cymdeithasol ar-lein i gysylltu â phlant nad ydynt yn ymwybodol o fwriadau sinistr a allai fod y tu ôl i sgwrs sy'n ymddangos yn ddiniwed. Mae'r NSPCC wedi galw am i wersi diogelwch ar-lein fod yn rhan o'r cwricwlwm fel y gall plant adnabod arwyddion yr ymddygiad hwn a'i beryglon. A wnaiff y Prif Weinidog gadarnhau y bydd gwersi diogelwch ar-lein yn rhan o'r fframwaith cymhwysedd digidol yng Nghymru?
1,363
Mae'r fframwaith cymhwysedd digidol, wrth gwrs, yn un o nifer o fframweithiau sy'n mynd i gael eu cyflwyno dros y blynyddoedd nesaf. Un gofid sydd wedi cael ei fynegi, wrth gwrs, yw diffyg amser o fewn y flwyddyn academaidd bresennol i hyfforddi ac arfogi athrawon ac addysgwyr i allu cymryd mantais lawn o'r fframweithiau newydd yma. Gan gofio mai dim ond rhyw bum diwrnod sydd ar gael ar gyfer hyfforddiant, fel y cyfryw, i athrawon mewn blwyddyn, sut ydych chi'n bwriadu sicrhau eu bod nhw'n cael eu harfogi er mwyn defnyddio'r fframweithiau newydd yma i'w llawn bwriad?
1,364
Mae cynllun cyflawni ar gyflyrau niwrolegol Cymru ac adolygiad niwrowyddorau Cymru 2008 yn cydnabod y swyddogaeth bwysig y gall nyrsys niwroleg arbenigol, fel y rhai sy'n gofalu am bobl ag epilepsi, ei chyflawni o ran cynorthwyo pobl i reoli eu cyflwr yn effeithiol.
1,365
Byddwn, mi fyddwn. Rydym ni'n gwybod bod enghreifftiau da ledled Cymru lle mae nyrsys epilepsi wedi bod yn hynod ddefnyddiol, nid yn unig i'r claf, ond wrth gwrs, i'r gwasanaeth iechyd yn ei gyfanrwydd o ran gallu ymdrin â chyflyrau yn gyflym ac mor agos â phosibl i'r claf. Cyn belled ag y mae'r byrddau iechyd yn y cwestiwn, rydym ni'n disgwyl iddyn nhw ystyried y gymysgedd staff sy'n ofynnol i ddarparu gwasanaethau niwrolegol i'w poblogaeth leol a'i deilwra yn unol â hynny. Byddai hynny'n golygu, wrth gwrs, ceisio cael nifer ddigonol o nyrsys epilepsi, er mwyn nid yn unig darparu'r gwasanaeth, ond i leihau'r pwysau ar y gwasanaeth yn ddiweddarach.
1,366
Gallaf ddweud ein bod wedi ymrwymo £1 filiwn bob blwyddyn i gefnogi'r grŵp gweithredu cenedlaethol ar gyfer y cynllun cyflyrau niwrolegol i wella gwasanaethau yng Nghymru. O ganlyniad i'r dyraniad hwnnw, gwn fod y grwpiau cyflyrau niwrolegol a strôc wedi ymrwymo £1.2 miliwn ar y cyd i gefnogi gwasanaethau niwro-adferiad cymunedol, ac y bydd buddsoddiad ledled Cymru yn dod â manteision sylweddol i gleifion ac yn cynnig mwy o degwch o ran mynediad at wasanaethau ledled Cymru.
1,367
Diolch i chi am yr ateb yna. Yn amlwg, soniodd y Prif Weinidog am y ffaith fod gwasanaeth ambiwlans Cymru wedi ymateb, unwaith eto, i bron i 81 y cant o'r galwadau lle ceir y bygythiad mwyaf i fywyd mewn wyth munud neu lai ym mis Awst a, thrwy wneud hynny, mae wedi cyrraedd y targed am yr unfed mis ar ddeg yn olynol. Mae hynny'n glod enfawr i'n staff ambiwlans yng Nghymru. Felly, a wnaiff y Prif Weinidog nodi'r cyfraddau ymateb ar gyfer fy etholaeth i yn Islwyn ers cyflwyno cynllun arbrofol y model ymateb clinigol fis Hydref diwethaf, ac yn wir, beth mae hyn yn ei ddangos am berfformiad gwasanaeth ambiwlans Cymru i'm hetholwyr?
1,368
Rydym ni'n parhau i weithio gyda'n partneriaid i annog pobl i gofrestru, yn gyntaf oll, ac i bleidleisio cyn yr etholiadau llywodraeth leol yn 2017. Gan dybio bod Bil Cymru, wrth gwrs, yn foddhaol cyn belled ag y mae'r sefydliad hwn yn y cwestiwn, a'i fod yn cael cymeradwyaeth seneddol, byddwn mewn sefyllfa i ystyried y defnydd gorau o bwerau newydd mewn materion etholiadol.
1,369
Mae'n gwbl allweddol i hynny. Pan fyddaf yn cyfarfod â phobl ar garreg y drws, ac maen nhw'n dweud wrthyf nad ydynt yn pleidleisio, rwy'n gofyn iddyn nhw ailadrodd yr hyn y maen nhw newydd ei ddweud ond heb ddefnyddio eu llais. Ac rwy'n dweud, 'Wel, dyna chi, nid oes gennych lais os nad ydych chi'n pleidleisio. Pe byddech yn dweud wrthyf, "Rwy'n pleidleisio, ond pam y dylwn i bleidleisio drosoch chi?" - yna mae gwleidyddion yn cymryd sylw'. Mae'n drist ein bod ni wedi gweld gostyngiad, ers canol y 1990au byddwn i'n dweud, mewn cyfranogiad pleidleiswyr, ac os ydym ni'n onest fel gwleidyddion, mae'n anodd iawn deall y rheswm neu'r rhesymau am hynny. Rydym ni'n gwybod bod y nifer a bleidleisiodd yn uchel yn yr Alban yn y refferendwm annibyniaeth. Ond un o'r pethau yr ydym ni wedi ei wneud, er enghraifft, yw ariannu gwefan Undeb Cenedlaethol Myfyrwyr a Chlwb Democratiaeth Cymru, 'Ble dylwn i bleidleisio?' Fe'i lansiwyd ym mis Mawrth eleni. Mae'n galluogi myfyrwyr ac eraill i ddod o hyd i'r orsaf bleidleisio y cawsant eu cofrestru ynddi ac roedd yn cynnwys 10 o'r 22 ardal awdurdod lleol, sy'n cynnwys tua 47 y cant o etholwyr Cymru.
1,370
Rwyf wedi ymrwymo i alluogi ein sefydliadau treftadaeth a diwylliannol i sicrhau bod eu perfformiad masnachol y gorau y gall fod. Rwy'n credu y gellir cyflawni hyn trwy archwilio strwythurau newydd posibl a chymryd y camau angenrheidiol i wireddu'r manteision y gellir eu cael drwy integreiddio gwell.
1,371
Weinidog, rwy'n meddwl ein bod ni i gyd eisiau mwy o gydweithio yn y sector treftadaeth. Rwy'n credu bod hynny'n rhywbeth a fyddai'n dda bawb ohonom, yn enwedig o ran mentrau marchnata. Ond, wyddoch chi, rydym ni'n wynebu rhai ffeithiau caled iawn yma. Mae'r amgueddfa genedlaethol wedi bod yn gorff annibynnol ers y 1920au, wedi'i sefydlu gan siarter frenhinol. Y rheswm y sefydlwyd y sefydliadau mawreddog hyn gennym fel cyrff annibynnol yw fel eu bod yn gallu sefyll i fyny i'r wladwriaeth a chael rheolaeth dros yr hyn sydd allan yno yn y dychymyg artistig, sy'n eithaf heriol. Fy nghwestiwn syml i chi yw, os bydd yr amgueddfa ac orielau cenedlaethol yn colli rheolaeth dros ei weithgareddau masnachol, sut mae'n mynd i gynnal, yn annibynnol ar ddewisiadau'r Llywodraeth, arddangosfeydd bywiog a dewis o arddangosion arbennig y mae'n eu datblygu? Rydym ni eisoes wedi clywed gan Dai Lloyd am y rhan a chwaraewyd o ran datblygu'r dychymyg cenedlaethol. Mae'r holl gwestiynau hyn yn dod i lawr i faterion sylfaenol o sut yr ydym ni'n dychmygu ein hunain a sut yr ydym ni'n profi cydlyniad yr hyn sy'n dod allan, yn aml, o'r sefydliad. Sut bydd annibyniaeth yr ysbryd artistig yn cael ei gadw os, i bob pwrpas, bydd yr amgueddfa, drwy Cadw, yn dod yn rhan o'r Llywodraeth?
1,372
Yn amlwg, Weinidog, ceir pryder yn y sector, ac mae'n ymddangos bod y pryder hwnnw wedi cyrraedd mewnflychau e-bost yr Aelodau. A wnaiff y Gweinidog yn siŵr, pan fydd yn myfyrio ar argymhellion annibynnol adroddiad gan gyn-Weinidog y Democratiaid Rhyddfrydol, ac yn myfyrio ar adroddiad grŵp llywio annibynnol y mae wedi ei sefydlu, ei fod yn rhoi buddiannau defnyddwyr wrth galon hyn ac nid unrhyw ffiniau sefydliadol a buddiannau proffesiynol? Yn amlwg, mae angen sicrhau bod pobl yn cyd-fynd ag unrhyw newid a gwrando ar holl ddadleuon pobl ar y rheng flaen, ond rwy'n meddwl bod angen i bobl ymlacio ychydig a gwrando ar yr hyn y mae'r dystiolaeth yn ei ddweud, a gadael i'r prosesau yr ydych chi wedi eu cyflwyno fynd rhagddynt.
1,373
Am 6.10 p.m. nos Sadwrn, cefais alwad gan David Davis, Gweinidog Brexit Llywodraeth y DU. Ffoniodd i roi gwybod i mi y byddai Bil yn cael ei gyflwyno, yn diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd 1972. Mae wedi cael ei or-hyrwyddo fel y Bil diddymu mawr, fel y'i disgrifir nawr. Yr hyn a ddywedodd wrthyf oedd, yn rhan o'r broses honno, ei fod yn dymuno sicrhau bod yr hyn sydd eisoes yn gyfraith yn awdurdodaethau'r DU ac sy'n dod o'r UE yn cael ei gadw er gwaethaf diddymu Deddf y Cymunedau Ewropeaidd. Mewn egwyddor, nid oes unrhyw anawsterau gyda hynny, ond, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni weld y manylion, ac ni fyddwn yn mynegi ein safbwynt hyd nes y bo'r manylion hynny'n eglur.
1,374
Diolch, Lywydd. Mae gennyf ddau newid i'w gwneud i agenda heddiw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith yn rhoi datganiad ar yr M4 yn syth ar ôl y datganiad busnes, ac mae'r datganiad ar y comisiwn seilwaith cenedlaethol ar gyfer Cymru wedi ei ohirio tan 18 Hydref. Mae'r busnes ar gyfer y tair wythnos nesaf fel y'i dangosir ar y datganiad a chyhoeddiad busnes, ymhlith papurau'r cyfarfod sydd ar gael i'r Aelodau yn electronig.
1,375
Arweinydd y tŷ, a gaf i ofyn am ddau ddatganiad, os gwelwch yn dda, un gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Lles a Chwaraeon ar welyau sydd ar gael mewn cartrefi gofal nyrsio yng Nghymru? Mae problem benodol yn fy etholaeth i ar hyn o bryd, lle mae cartref gofal nyrsio i henoed eiddil eu meddwl, Plas Isaf yn Llandrillo-yn-Rhos, yn y broses o gau, sydd wrth gwrs yn achosi cryn darfu ar yr 21 o breswylwyr yn y cartref, gan mai dyma gartref llawer ohonynt ers nifer o flynyddoedd erbyn hyn, ac wrth gwrs mae'n achosi llawer iawn o darfu ar staff hefyd. Mae'r grŵp cartrefi gofal sydd yn berchen mewn gwirionedd ar yr eiddo hwn wedi cau cartrefi eraill yn yr ardal yn ystod y blynyddoedd diwethaf ac mae prinder eithaf dybryd o welyau yn datblygu i henoed eiddil eu meddwl, yn enwedig yn ardal gogledd Cymru. Tybed a gawn ni ddatganiad gan y Gweinidog ar yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i annog y sector cartrefi nyrsio i fuddsoddi mewn rhagor o'r mathau hyn o welyau yn y dyfodol neu efallai i weithio gyda'r GIG i ddatblygu modelau eraill o ofal. Byddwn yn croesawu datganiad ar hynny. A gaf i, yn ail, alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ar yr adolygiad a gyhoeddodd i'r cyswllt awyr rhwng y gogledd a'r de yr wythnos diwethaf? Roeddwn i'n falch iawn o glywed am yr adolygiad hwnnw. Bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol y bu gennyf rai pryderon ynglŷn ag agweddau ar werth am arian o ran y cyswllt awyr penodol hwnnw am sawl blwyddyn bellach, ac y gallai'r arian o bosib gael ei fuddsoddi yn well naill ai yn y seilwaith rhwydwaith ffyrdd neu reilffyrdd, neu, yn wir, mewn cyswllt awyr i leoliad arall sy'n gwasanaethu pobl y gogledd. Tybed a gawn ni ddatganiad ar hynny er mwyn i ni allu archwilio rhai o'r materion hyn ac er mwyn i ACau gael dweud eu dweud. Diolch.
1,376
Rwyf eisiau gofyn am ddatganiad ar fater y cyfeiriwyd ato eisoes y prynhawn yma - penderfyniad y Swyddfa Ystadegau Gwladol i ailddosbarthu landlordiaid cymdeithasol yn gyrff sector cyhoeddus. Gallai'r penderfyniad gael goblygiadau difrifol iawn ar adeiladu tai yng Nghymru, ond rwy'n pryderu hefyd y gall unrhyw gamau y gallai Llywodraeth Cymru eu cymryd i liniaru hynny, arwain at ddadreoleiddio'r sector cymdeithasau tai, a fyddai'n peri cryn bryder i denantiaid.
1,377
Rydym ni wedi cael nifer o awgrymiadau ar y pethau defnyddiol y gallai'r Cynulliad hwn eu trafod. Rwy'n meddwl pam y bydd y Cynulliad yn trafod heddiw, am y trydydd tro, raglen ddeddfwriaethol y Llywodraeth. Cawsom ddatganiad ar y rhaglen ddeddfwriaethol ar 18 Mai, un arall ar 28 Mehefin ac un arall ar 28 Medi. Wyddoch chi, nid yw hen fwyd yn blasu'n well wrth ei gynhesu am y trydydd tro. Mae ein plaid ni o'r farn bod hyn, mewn gwirionedd, yn gamddefnydd o'r Cynulliad, pryd y gallem fod yn gwneud pethau llawer mwy defnyddiol. Felly, ni fydd fy mhlaid i heddiw yn cymryd rhan yn y ddadl mewn protest oherwydd na fydd ond yn ailadrodd popeth yr ydym wedi ei ddweud o'r blaen. Rwyf yn gresynu bod y Llywodraeth yn gwneud hyn ac yn gobeithio, yn y dyfodol, na fyddwn yn cael ein gwahodd i wastraffu ein hamser yn y modd hwn.
1,378
Mae'r Gweinidog busnes yn llygad ei lle yn ei dehongliad o'r Rheolau Sefydlog, ac mae hyn yn ofyniad gan y Llywodraeth, i amserlennu dadl ar y rhaglen lywodraethu. Hwn fydd y cyfle cyntaf i'r Cynulliad hwn bleidleisio ar y rhaglen lywodraethu, ac yn sicr nid yw'n camddefnyddio amser y Cynulliad Cenedlaethol hwn i drafod hyn y prynhawn yma. Mark Isherwood.
1,379
Yn sgil y sylwadau ar y penwythnos gan Ysgrifennydd Gwladol Llywodraeth y DU dros Drafnidiaeth yn dweud bod pwyso am gyflawni'r addewidion a wnaed ynglŷn â thrydaneiddio'r brif reilffordd i Abertawe yn rhywbeth sy'n cychwyn cyn pryd, a wnaiff y Llywodraeth gyflwyno datganiad sy'n nodi'r sylwadau a fydd yn cael eu gwneud i Lywodraeth y DU fel nad yw trigolion ardal bae Abertawe a gorllewin Caerdydd yn cael eu siomi gan Lywodraeth Geidwadol y DU unwaith eto?
1,380
Arweinydd y tŷ, mae'n rhaid bod tua 10 mlynedd erbyn hyn ers i mi fynychu cyfarfodydd Dyfodol Clinigol Gwent am y tro cyntaf ynglŷn ag adeiladu canolfan gofal arbenigol a chritigol yn Llanfrechfa Grange yng Nghwmbrân. Dyma ni 10 mlynedd yn ddiweddarach a, heblaw am ychydig o waith paratoi, rydym yn dal i fod heb yr adeilad hwnnw mewn unrhyw ystyr gwirioneddol. Bu dryswch o'r newydd ynglŷn â hyn dros y dyddiau diwethaf, a phryderon bod oedi pellach i'r prosiect hwn. Tybed a gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros iechyd ar y cyfle cyntaf i geisio egluro'r dryswch hwn er mwyn i ni gael amserlen briodol ar gyfer y gwaith o adeiladu'r cyfleuster hwn.
1,381
Diolch, Lywydd. Yr wythnos diwethaf, cynhaliwyd cyfarfod cyntaf y grŵp trawsbleidiol ar ddur, ac rwyf yn hynod ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith am fod yn bresennol ac am roi diweddariad. Yn ystod y misoedd diwethaf, bu gweithwyr dur yn gweithio'n galed i gynyddu lefelau cynhyrchu a chyrraedd eu targedau. I'r cyhoedd, ymddengys bod y materion dur wedi diflannu; nid yw hyn yn wir. Mae pryderon dwfn o hyd ynglŷn â dyfodol dur, ac ansicrwydd a heriau o'n blaenau. A gawn ni ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet i'r Cynulliad ar y sefyllfa bresennol o ran camau gweithredu Llywodraeth Cymru ar ddur, ac efallai hefyd ar y trafodaethau y mae wedi eu cael â Llywodraeth y DU? Yr ail bwynt, a gaf innau hefyd gefnogi'r materion a godwyd gan Bethan Jenkins ar faterion addysg arbennig? Deallaf yr ateb a roesoch iddi ac yr wyf yn gwerthfawrogi mai penderfyniad i Gyngor Castell-nedd Port Talbot yw hwn ac y bydd y Bil Anghenion Dysgu Ychwanegol yn dod, ond mae'n bwysig deall safbwynt Llywodraeth Cymru o ran helpu'r plant mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas sydd yn wynebu heriau yn awr, a pha un a fedr y Bil, mewn gwirionedd, ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau roi mwy o gymorth yn y meysydd hynny lle yr ydym yn gweld toriadau ar hyn o bryd.
1,382
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar brosiect coridor yr M4. Rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet i wneud y datganiad - Ken Skates.
1,383
Rwy'n credu bod yr Aelod yn iawn i godi pryderon ynglŷn â goblygiadau'r hawl hwn ledled Cymru. Fel rwyf wedi'i amlinellu eisoes, ceir goblygiadau y mae'n rhaid i ni eu hystyried. Wedi dweud hynny, rwy'n benderfynol o fwrw ymlaen â'r ymgynghoriad cyhoeddus ar y gwaith sy'n angenrheidiol i liniaru'r pwysau ar yr A55 a'r A494 yn y gogledd. Byddwn yn bwrw ymlaen â'r ymgynghori hynny ym mis Mawrth 2017, felly rwy'n falch ein bod o leiaf yn gallu ymrwymo i'r gwaith hwnnw. Bydd y gwaith hwnnw'n cydredeg â'r ymchwiliad lleol cyhoeddus ar gyfer yr M4. Ac mae'n dal i fod yn weledigaeth gennym ni fel Llywodraeth Cymru i sicrhau bod gennym rwydwaith ffyrdd modern sy'n ategu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig.
1,384
Mae'r Aelod yn gwneud pwynt pwysig iawn - pwynt hollbwysig ei bod yn gwbl hanfodol, wrth i ni sôn am y fath swm mawr o arian, ein bod yn buddsoddi ar sail tystiolaeth ac ar sail data cyfredol a chywir. Nid yw Llywodraeth y DU wedi rhoi unrhyw awgrym ynghylch a ddylem ni symud ymlaen ar sail gwybodaeth ddiweddaraf yr Adran Drafnidiaeth. Byddai gennyf i ddiddordeb mawr i wybod ai hynny yw eu safbwynt neu a ydynt yn derbyn bod y data y maent wedi'u darparu yn peri anhawster mawr i'r prosiect hwn. Mae un peth yn sicr - y bydd goblygiadau i'r model presennol os na ymchwilir i achosion y data, fel y nododd yr Aelod, sy'n ymddangos yn amheus iawn, a chwestiynu'r achosion hynny hefyd. Y model a ddefnyddir gan Lywodraeth Cymru yw'r model sy'n cael ei ddefnyddio ar gyfer teithio byw hefyd. Felly mae angen i ni sicrhau bod pob penderfyniad a wneir yn cael ei wneud ar sail y rhaglen fodelu orau posibl. Efallai'n wir y bydd angen i Lywodraeth Cymru ddatblygu ei model ei hun.
1,385
Rwy'n credu bod yr Aelod yn codi pwynt hollol hanfodol, ac mae'n bwynt a godwyd o'r blaen gan ein cyfaill a'r Aelod dros Lanelli, Lee Waters. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud, mewn gwirionedd, bod WelTAG, yn y gorffennol, yn system a oedd yn ymwneud yn wreiddiol â modelu priffyrdd, ac felly yn aml yn tueddu i gefnogi datblygiadau ffyrdd. Bellach, cafodd newidiadau eu gwneud i sicrhau ei fod yn agnostig o ran modd. Ac mae'r newidiadau hynny bellach hefyd yn cael eu hadlewyrchu yn y ffaith bod modelau trafnidiaeth sy'n cael eu datblygu gan ddefnyddio'r dull hwn hefyd wedi ymgorffori cynlluniau cerdded a beicio. Ond rwy'n dal yn bryderus, o ystyried yr hyn sydd wedi digwydd gyda diwygiadau'r Adran Drafnidiaeth, ynglŷn â defnyddio system sydd wedi ein siomi ar yr achlysur hwn, neu o leiaf o ran mabwysiadu perthynas nad yw wedi ein gwasanaethu ar yr achlysur hwn. Felly rwy'n ystyried dyfeisio model Cymru ar gyfer seilwaith yn y dyfodol.
1,386
Gallaf. A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chwestiynau, a dweud bod fy nghalon innau hefyd wedi suddo pan ddaeth y mater hwn - canlyniadau'r ffaith bod yr Adran Drafnidiaeth wedi methu ag ymgysylltu â ni yn gynharach, neu wedi methu ag ymgynghori â ni - i'r amlwg? Gallaf gadarnhau na fydd hyn yn byrhau'r ymchwiliad. Rwy'n credu ei bod yn hollol gywir a theg bod pob unigolyn a phob sefydliad sydd â buddiant yn y pwnc hwn yn gallu cyflwyno eu hachos a chael eu clywed. A byddwn, wrth gwrs, yn cyhoeddi ein model diwygiedig cyn gynted ag y bo hynny'n bosibl, fel yr wyf eisoes wedi eich sicrhau.
1,387
Diolch yn fawr, Lywydd. A diolch am y cyfle i wneud datganiad heddiw ar y cynigion ar gyfer diwygio llywodraeth leol. Mae llywodraeth leol yn chwarae rhan hanfodol bwysig ym mywydau pob dinesydd yng Nghymru. Cynghorau sy'n darparu'r gwasanaethau sy'n addysgu ein plant, sy'n edrych ar ôl ein henoed, sy'n cael gwared ar ein gwastraff, ac sy'n goleuo ein strydoedd. Ac maen nhw'n parhau i wneud hynny yn ystod cyfnod y mae'r Sefydliad Astudiaethau Cyllid wedi ei alw'n gyfnod eithriadol o gwtogi gwariant cyhoeddus dros 10 mlynedd neu fwy.
1,388
Felly, rwyf yn gofyn i chi: a ydych chi wir yn teimlo bod awdurdodau lleol yn cyrraedd y safon pan ddaw at gaffael? Oherwydd rwyf wedi gweithio gyda'r Gweinidog cyllid blaenorol, Jane Hutt, ar hyn ac rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud, gydag awdurdodau lleol, o ran caffael lleol a chaffael cost-effeithiol, bod gennym ffordd bell i fynd o hyd.
1,389
Diolch, Weinidog, am eich datganiad heddiw. Mae'r datganiad mewn rhai ffyrdd i'w groesawu, gan ei bod yn ymddangos bod y Gweinidog llywodraeth leol newydd o leiaf yn fwy ymgynghorol yn ei ymagwedd na'i ragflaenydd. Mae gennym hefyd fwy o eglurder ar yr etholiadau cyngor fis Mai nesaf, ac, yn bwysicach ar gyfer gweithwyr cyngor, ychydig mwy o eglurder ar ffurf llywodraeth leol yn y dyfodol yng Nghymru. Fodd bynnag, hyd yma nid ydym wedi cael llawer iawn o fanylder. Os yw uno adrannau cynghorau ledled Cymru am fod yn llwyddiannus, mae angen i ni, ar bob cam, gael goruchwyliaeth glir o'r broses hon. Os caniateir i fiwrocratiaid y cynghorau eu hunain fod yn gyfrifol am y trefniadau, bydd gennym fwy o fiwrocratiaeth yn y pen draw, ac nid llai. Felly bydd angen i'r Gweinidog fod yn ymwybodol o hyn. Gyda hyn mewn golwg, rwyf eisoes wedi annog y Pwyllgor Cymunedau Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol, yr wyf yn aelod ohono, i graffu ar y gwaith ad-drefnu hwn wrth iddo ddatblygu. Wrth gwrs, nid mater i mi yw penderfynu beth yw blaenoriaethau'r pwyllgor, ond yr wyf yn credu y dylem yn sicr fod yn craffu ar y broses hon. Yn ogystal â'r perygl o greu mwy o fiwrocratiaeth, sef yr union beth y mae'r Gweinidog yn ceisio ei osgoi, mae'n rhaid i ni hefyd fod yn wyliadwrus o gynghorau sy'n dyfarnu arian gormodol - yr hyn a elwir yn 'golden handshake' - i uwch aelodau o staff sy'n gadael, a llawer ohonynt yn cerdded yn syth i mewn i swydd arall sy'n talu'n dda cyn gynted ag y maent wedi cael eu harian. A all y Gweinidog sicrhau rheolaeth lem o'r broses hon? Rydym wedi cael problem o gynghorau a reolir gan y Blaid Lafur yng Nghymru yn sgrechian cyni ar bob cyfle, dim ond i ganiatáu i'w staff uwch ariangar ddyfarnu taliadau afresymol i'w hunain. Rydym wedi gweld hyn yn ddiweddar, mewn gwirionedd, yng Nghaerffili. Felly pa ganllawiau y bydd y Gweinidog yn eu cyflwyno ynghylch diswyddo staff uwch ac a fydd yn sicrhau goruchwyliaeth gref o'r broses gyfan?
1,390
Iawn. A gaf i ofyn dau gwestiwn yn fyr iawn? [Chwerthin.] Pam ydym ni'n awyddus i gael dinas -ranbarth a rhanbarth arall ar gyfer gwasanaethau? Does bosib nad y ddinas-ranbarth yw'r ôl troed. Rwy'n credu y gallech fod eisiau isrannu o fewn yr ôl troed, ond mae ei gael ar draws - . Bydd Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot yn cael eu galw'n Janus, oherwydd ein bod yn edrych i'r dwyrain ar gyfer rhai pethau ac i'r gorllewin ar gyfer y lleill. Nid yw'n gwneud llawer o synnwyr ac nid yw'n gweithio ar gyfer datblygu perthynas ag eraill, pan ein bod yn gweithio gyda Phen-y-bont ar Ogwr ar gyfer rhai pethau, a Sir Gaerfyrddin ar gyfer pethau eraill. A gaf i ddweud, wrth gwrs, o ran iechyd, sy'n rhan o'r gwasanaeth cyhoeddus, er nad o dan eich cylch gwaith, mae'r rhaglen ARCH, er enghraifft, wedi dechrau cael yr ardal i'r gorllewin o Abertawe i weithio gydag Abertawe. Y cwestiwn olaf sydd gennyf yw ein bod wedi gweld sefyllfa o ran iechyd lle mae iechyd sylfaenol ac eilaidd wedi'u rhoi at ei gilydd: a yw hynny wedi gweithio mewn gwirionedd o ran eu cael i weithio'n agosach? Rwy'n credu mai'r ateb y bydd y rhan fwyaf o bobl yn ei roi yw, 'Na, nid yw wedi gweithio.' Rwy'n credu mai'r hyn y mae wedi'i wneud yw symud arian o ofal sylfaenol i ofal eilaidd, ac nid wyf yn credu mai dyna yr oedd pobl ei eisiau yn arbennig. Nid oes ond rhaid i chi wrando ar ymarferwyr gofal sylfaenol, a fydd yn dweud wrthych yn union y cam y maent yn ei gael a bod yr arian i gyd yn mynd i ysbytai. Felly, a gaf i orffen drwy ddweud: a wnaiff y Gweinidog edrych eto ar ddefnyddio'r model dwy ardal ac ystyried y ddinas-ranbarth fel ôl troed sylfaenol ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus?
1,391
O ran heddiw o bob diwrnod - i'r Torïaid sôn am dro pedol pan, yn sydyn, nad oes angen gwarged yn y gyllideb bellach ar gyfer cyni. Ond dyna ni. Rwy'n crwydro. Iawn. Rwyf eisiau croesawu'n gryf y datganiad heddiw gan Ysgrifennydd y Cabinet a'r ymagwedd gydadeiladol gadarnhaol gyda rhanddeiliaid ledled Cymru heddiw, sy'n amlinellu ffyrdd newydd o weithio, mwy o eglurder a sicrwydd pellach ar gyfer llywodraeth leol, ei gweithlu, ei chynrychiolwyr a'r cyhoedd. Felly, a yw Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno, er hynny, ei bod yn hollbwysig, wrth i Gymru barhau i gael ei tharo a'i hysgytio gan effeithiau deuol - cynyddol debygol - toriadau i grant bloc Cymru gan y Llywodraeth Dorïaidd gynyddol ddideimlad ac, yn ychwanegol at y 10 y cant o doriadau llym i Gymru, ynghyd â diwedd cyllid strwythurol Ewropeaidd a'r addewidion gwag ac, ie, celwydd gan y pleidiau gyferbyn, i gyfeirio at yr arian a addawyd ac sydd wedi'i warantu, sy'n dal ar goll, ar gyfer Cymru?
1,392
Na, mae'n ddrwg gennyf. Rydych chi wedi gofyn cwestiwn. Rydym ni bron ar derfyn ein hamser, felly a wnewch chi ddirwyn i ben yn awr, os gwelwch yn dda, gyda'ch cwestiwn?
1,393
Wel, mae effaith cyni yn real, fel y mae adroddiad y Sefydliad Asiantaethau Cyllid yn dangos. Mae colli arian Ewropeaidd yn ychwanegu haen arall o ansicrwydd, sy'n cael effaith uniongyrchol ar awdurdodau lleol, y mae llawer o gynlluniau gorau Ewrop wedi eu gweithredu drwyddynt. Mae hynny i gyd yn golygu bod achos cymhellol i adeiladu cydnerthedd newydd i awdurdodau lleol yng Nghymru, a dyna'r hyn yr wyf yn gobeithio y bydd y datganiad yr wyf wedi ei wneud y prynhawn yma yn ein helpu i'w gyflawni.
1,394
A gaf i gytuno gyda'r pwynt olaf roedd yr Aelod yn ei wneud? Dyna beth roeddwn yn ei ddweud wrth Simon Thomas: pan rwy'n siarad gyda chynghorau cymuned lleol, un o'r pethau rwyf eisiau ei wneud yw cryfhau'r posibiliadau am ethol pobl sy'n cynrychioli pobl yn lleol. I wneud hynny, bydd rhaid inni gael cynllun ar gyfer lefel y cynghorau yna a pherswadio pobl i ddod ymlaen i wneud y gwaith pwysig mae'r cynghorau yna yn ei wneud. Wrth gwrs, rwy'n cytuno hefyd â beth ddywedodd yr Arglwydd Elis-Thomas am bwysigrwydd pethau rhanbarthol. Yng ngogledd Cymru, mae yna fwrdd maen nhw wedi tynnu at ei gilydd. Fe gefais i'r cyfle i siarad gyda'r bobl ar y bwrdd yna i gyd ddydd Iau diwethaf. Un o'r rhesymau pam maen nhw'n gwneud pethau fel yna, a gweithio'n galed gyda'i gilydd i'w wneud e, yw achos maen nhw'n ymwybodol o beth sy'n mynd ymlaen dros y ffin yn Lloegr. Maen nhw'n gwybod bod yn rhaid iddyn nhw weithio gyda'i gilydd i gryfhau'r posibiliadau am y dyfodol yna. O ran y pwynt olaf, jest i ddweud, i fi, rydym wedi gwario lot o amser yn y Cynulliad yma, am resymau pwysig, ar y berthynas rhyngom ni a San Steffan. Nid ydym wedi gwario'r un amser a'r un egni yn edrych ar y berthynas rhyngom ni a'r awdurdodau lleol. Dyma gyfle i ni, nawr, wneud hynny. Mae hynny'n bwysig i ni fel Cynulliad, ond hefyd o ran y patrymau sydd gyda ni o ddemocratiaeth yma yng Nghymru.
1,395
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, dau faes yn unig yr wyf am eich holi amdanynt, os yw hynny'n iawn. Rwy'n synnu nad ydych wedi crybwyll dementia o gwbl yn eich datganiad y prynhawn yma. Mae dementia yn un o'r pedwar prif glefyd sy'n lladd, clefyd cyffredin dros ben, ac mae hefyd yn tyfu o ran nifer yr achosion yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU, ac eto nid oes un cyfeiriad o gwbl at ddementia yn eich datganiad cyfan, sydd i fod i sôn am gyflyrau iechyd difrifol. Rwy'n siomedig iawn yn hynny o beth, ac efallai y gallech roi'r wybodaeth ddiweddaraf am yr hyn y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i fynd i'r afael â dementia, ac yn wir i annog gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud diagnosis o ddementia. Yn ail, dim ond un cyfeiriad at blant sydd yn eich datganiad i gyd, ac mae hynny mewn cysylltiad â'r gwaith sy'n cael ei wneud ar y rhaglen addysg strwythuredig, SEREN, sydd, wrth gwrs, yn rhywbeth yr wyf yn ei groesawu yn fawr iawn. Ond does dim sôn arall am blant drwy gydol y ddogfen, ac, fel y gwyddoch, mae plant a phobl ifanc yn aml iawn yn wynebu cyflyrau cronig sy'n cyfyngu ar fywyd, ac yn aml mae angen llawer iawn o gefnogaeth arnynt o ganlyniad i hynny. Tybed a allech ddweud wrthym pa waith penodol sy'n cael ei wneud mewn cysylltiad â'r cyflyrau iechyd yr ydych wedi cyfeirio atynt yn eich datganiad i gefnogi plant a phobl ifanc â'r cyflyrau hynny, ac, yn wir, pa gamau yr ydych chi'n eu cymryd fel Llywodraeth Cymru yn benodol i ehangu swyddogaeth nyrsys ysgol o ran cefnogi pobl ifanc a phlant yn ein hysgolion sy'n byw gyda'r mathau hyn o gyflyrau, ac yn wir eraill a allai effeithio ar blant a phobl ifanc. Diolch.
1,396
Bydd y cynllun gweithredu dementia yn cael ei lunio eleni. Felly, bydd ar gael eleni, ac mae gwaith ar y gweill mewn gwirionedd i wneud hynny. Bûm mewn digwyddiad bythefnos yn ôl ym Mhrifysgol De Cymru, a ddaeth ag ynghyd ag ystod o wahanol bobl ynghyd, yn ofalwyr ac yn unigolion sydd â dementia, a sefydliadau trydydd sector, yn rhan o'r hyn yr ydym yn ei wneud mewn gwirionedd i geisio sbarduno gwelliant yn y maes hwn er mwyn cyflawni ar yr uchelgeisiau - nid dim ond rhai'r Llywodraeth; rwy'n meddwl bod uchelgais ehangach yn y fan hyn sy'n ymestyn ar draws y pleidiau ynghylch sut yr ydym yn cael sgwrs fwy agored am ddementia a sut yr ydym wedyn yn gwella gwasanaethau ac yn gweithio ochr yn ochr â phobl hefyd. Felly, mae'r prif swyddog meddygol, er enghraifft, yn aelod o'r grŵp sy'n ceisio bwrw ymlaen â hynny. Rydym yn disgwyl cyhoeddi'r cynllun gweithredu hwnnw o fewn y flwyddyn galendr hon. Ac, er nad ydym wedi crybwyll plant yn benodol ym mhob un o'r cynlluniau cyflawni a luniwyd o ganlyniad, bydd yr amrywiaeth o wasanaethau hyn hefyd yn effeithio ar ansawdd y gwasanaethau y mae plant a phobl ifanc yn eu cael wrth gwrs. Ac, mewn cysylltiad ag ystod o'r blaenoriaethau a bennwyd gan y grŵp gweithredu, maent yn edrych yn arbennig, er enghraifft, ar y gwasanaeth diabetig pediatrig, hefyd - ystod o wahanol feysydd a chyflyrau gwahanol. Maent yn mynd ati'n benodol i ystyried gwasanaethau i blant a phobl ifanc. Felly, nid yw'r ffaith nad wyf wedi dweud yn benodol bod hyn yn rhywbeth sy'n effeithio ar blant a bod plant yn cael eu blaenoriaethu yn hyn o beth, nid yw hynny'n golygu bod plant a phobl ifanc yn cael eu hanghofio - ddim o bell ffordd. Rwy'n falch iawn o'r hyn y mae'r gwasanaeth iechyd gwladol wedi'i wneud gyda'i bartneriaid a gyda'r trydydd sector wrth sicrhau enillion mawr i bobl yng Nghymru ym mhrofiad cleifion a chanlyniadau cleifion. Mae gennym ddull da o fynd ati. Rwy'n falch ein bod yn ymgysylltu'n uniongyrchol â phobl y tu allan i'r Llywodraeth a'r tu allan i'r gwasanaeth iechyd, ac edrychaf ymlaen at glywed am fwy o lwyddiant yn cael ei adrodd yn sgil cam nesaf cynlluniau'r grwpiau gweithredu hyn yn y dyfodol.
1,397
Diolch yn fawr, Ddirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig. Mae Gorchymyn Deddf Llywodraeth Cymru 1998 (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) (Diwygio) 2016 yn diwygio paragraff 4 o'r Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy newid y disgrifiad o un o'r cyrff a rhestrir yn yr Atodlen. Mae Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 yn darparu rhestr o gyrff cyhoeddus yng Nghymru sy'n amodol ar rai darpariaethau yn Neddf 1998 ynghylch cyfrifon ac archwilio. Mae paragraff 4 ar hyn o bryd yn darparu bod y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru yn un o'r cyrff cyhoeddus Cymru. Mae Deddf Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) 2013 wedi diwygio'r fframwaith o reolau yr oedd Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru amser hynny yn ei weithredu. Mae Deddf 2013 wedi gwella ei gyfrifoldebau a newidiodd ei enw i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Bydd y Gorchymyn drafft, os gaiff ei gymeradwyo, yn diwygio Atodlen 17 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 1998 drwy ddisodli'r cyfeiriad at y Comisiwn Ffiniau Llywodraeth Leol i Gymru gyda chyfeiriad at y Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Pe bai'r Gorchymyn hwn yn cael ei gymeradwyo, bydd yn dod i rym ar 7 Hydref 2016. Diolch.
1,398
Symudwn ymlaen at eitem 8 ar y rhaglen, sef y ddadl am flaenoriaethau'r Llywodraeth a'r rhaglen ddeddfwriaethol. Galwaf ar y Prif Weinidog i gynnig y cynnig. Carwyn Jones.
1,399