text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Rwyf wedi dethol y chwe gwelliant i'r cynnig, ac rwy'n galw ar Andrew R.T. Davies i gynnig gwelliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
1,400
Rwy'n galw, felly, am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, neb yn ymatal, 29 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant yn cael ei wrthod.
1,401
Rwy'n galw nawr ar welliant 3, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, yn ymatal neb, yn erbyn 29, ac felly mae'r gwelliant yn cael ei wrthod.
1,402
Rwy'n galw nawr am bleidlais ar welliant 5, a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 22, yn ymatal neb, yn erbyn 29, ac felly mae gwelliant 5 yn cael ei wrthod.
1,403
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 50, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig fel y'i diwygiwyd wedi'i dderbyn.
1,404
Rydym yn cydnabod pwysigrwydd system drafnidiaeth gyhoeddus effeithiol, fforddiadwy ac integredig ledled Cymru gyfan. Mae'r cynllun cyllid trafnidiaeth cenedlaethol, a gyhoeddwyd ym mis Gorffennaf 2015, yn nodi buddsoddiad ar gyfer trafnidiaeth a seilwaith ar gyfer gwasanaethau o 2015 hyd at 2020 ym mhob rhan o Gymru.
1,405
Rydym wedi bod yn archwilio'r cerbydau, sydd o dan bwysau drwy Brydain gyfan wrth gwrs, ond rydym wedi bod yn archwilio'r cerbydau yng Nghymru a'r cerbydau sydd ar gael i Gymru ers i'r adroddiad hwnnw gael ei gomisiynu a'i gwblhau. Rydym yn trafod y mater gyda phartneriaid cyflenwi posibl fel rhan o'r fasnachfraint nesaf, ac wrth nodi'r allbynnau fel ffordd newydd a blaengar o lunio masnachfraint, rydym yn disgwyl i'r cynigwyr posibl hynny allu ateb gofynion teithwyr Cymru. Nawr, gwyddom fod nifer y bobl sy'n teithio ar drenau yng Nghymru wedi cynyddu mwy na 10 miliwn yn ystod y 10 mlynedd diwethaf. Gwyddom hefyd, yn ystod y 15 mlynedd nesaf, y bydd oddeutu 74 y cant yn fwy o bobl yn teithio ar y rheilffyrdd. Felly, mae gwir angen mynd i'r afael â'r diffyg cerbydau ar frys, a dyna pam rydym wedi bod yn gweithio gyda'r sector ac yn archwilio beth y gall Llywodraeth Cymru ei wneud i sicrhau bod cerbydau ar gael ar ein rhwydwaith.
1,406
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn a dweud bod safon wirfoddol ansawdd bysiau Cymru, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth eleni, yn annog cwmnïau bysiau ledled Cymru i gyflwyno cerbydau allyriadau isel, yn enwedig yn yr ardaloedd hynny lle y caiff ansawdd yr aer a anadlwn ei fygwth gan allyriadau niweidiol lle y ceir tagfeydd traffig parhaus. O dan y cynllun hwnnw, mae awdurdodau lleol yn gallu blaenoriaethu cerbydau allyriadau isel o dan ofynion estynedig y safonau, ac os caiff y safonau eu cyrraedd, gallant hawlio taliad premiwm sydd ar gael drwy grant cymorth Llywodraeth Cymru i wasanaethau bws.
1,407
Ydy. Yn wir, cyfarfûm ag Aelodau ar draws y pleidiau ddydd Llun yng ngogledd Cymru ac addewais iddynt y byddwn yn darparu gwybodaeth gan Trenau Arriva Cymru ynglŷn â'u hymdrechion i fynd i'r afael â'r hyn sydd wedi bod, yn fy marn i, yn haf o ddarpariaeth annerbyniol o ran gwasanaethau trên. Mae'n dangos yn glir nad yw'r fasnachfraint bresennol yn addas at y diben, a dyna pam y mae'n rhaid i ni sicrhau bod y nesaf yn ateb gofynion teithwyr er budd pobl Cymru sy'n defnyddio'r gwasanaeth hwnnw.
1,408
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. A gaf fi ddweud fy mod wedi fy nghalonogi'n fawr gan adroddiad yr wythnos ddiwethaf a oedd yn amlygu arwyddion cadarnhaol o dwf yn fy etholaeth i, sef Merthyr Tudful a Rhymni? Mae gennym ffatri newydd - General Dynamics - ym Mhentre-bach, sy'n dod â 250 o swyddi newydd i'r ardal, swyddi o ansawdd uchel, a 150 o swyddi newydd i EE ym Merthyr. Roedd yr adroddiad hefyd yn dyfynnu perchennog bwyty lleol, a ddywedodd, Mae cyfoeth o dreftadaeth ddiwydiannol yn parhau i fod ym Merthyr Tudful, ond mae'r dref yn datblygu i fod yn ganolbwynt masnachol modern, gyda llawer i'w gynnig i bobl leol ac ymwelwyr. Mae hynny'n rhywbeth y byddwn yn cytuno'n gryf ag ef. Fodd bynnag, credaf ein bod i gyd yn sylweddoli, Ysgrifennydd y Cabinet, mai'r ffordd orau o sicrhau ffyniant economaidd ardaloedd fel Merthyr Tudful a Rhymni, ochr yn ochr â swyddi newydd gan gwmnïau mwy o faint, yw annog mentrau bach a chanolig newydd i ddod i'r ardal hefyd. Gyda'r cymorth cywir, gall cwmnïau o'r fath ymwreiddio yn y cymunedau, ac os ydynt yn llwyddiannus, gallant ddarparu cyflogaeth hirdymor o ansawdd uchel gyda chyflogau da. Felly, a fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno y gallai cymorth i fusnesau bach, drwy ymestyn y cynllun rhyddhad ardrethi busnesau bach, a lansio'r gronfa twf a ffyniant, fod yn elfennau allweddol ar gyfer cyflawni hyn?
1,409
Mi dynnais i sylw rhagflaenydd yr Ysgrifennydd Cabinet at broblem lle roedd busnesau bach yn mharth menter Môn yn methu â gwneud cais am ostyngiad yn eu hardrethi busnes. Roeddwn i'n ddiolchgar iawn iddi hi am gydnabod bod yna broblem ac am agor ffenest newydd ar gyfer gwneud cais am ostyngiad. Mae'n ymddangos eto rŵan bod yr un broblem yn parhau. Felly, pa fwriad sydd gan yr Ysgrifennydd Cabinet i sicrhau bod busnesau bach yn gallu manteisio ar yr hyn roedden nhw wedi disgwyl gallu manteisio arno fo o symud i barth menter, yn cynnwys, wrth gwrs, gostyngiad mewn ardrethi busnes?
1,410
Ysgrifennydd y Cabinet, fe fyddwch yn ymwybodol fod Ffederasiwn Busnesau Bach Cymru yn galw am greu gweinyddiaeth ar gyfer busnesau bach Cymru, gan eu bod yn credu y bydd hynny'n darparu gwell ateb i feithrin twf busnesau bach a chanolig cynhenid Cymru. A allwch ddweud wrthym pa ystyriaeth y mae Llywodraeth Cymru wedi'i rhoi i'r cynnig penodol hwnnw?
1,411
Ysgrifennydd y Cabinet, y gefnogaeth fwyaf y gallai Llywodraeth Cymru ei rhoi i fusnesau bach ledled Cymru, yn enwedig y rhai sy'n gweithredu ar ein stryd fawr, fyddai sicrhau chwarae teg. Mae gan ddatblygiadau mawr ac archfarchnadoedd ar gyrion y dref ddigonedd o leoedd parcio am ddim, ond nid yw'r fantais honno gan fusnesau bach sy'n gweithredu ar ein stryd fawr. Pa gymorth y gall Llywodraeth Cymru ei gynnig i gynghorau ledled Cymru er mwyn eu galluogi i gynnig rhywfaint o barcio am ddim yng nghanol ein trefi?
1,412
Aeth busnes yn fy etholaeth i, AIC Steel Ltd, i ddwylo'r gweinyddwyr ddoe. Gyda'r bygythiad o ddiswyddiadau'n wynebu 120 o weithwyr, pa sicrwydd y gall Ysgrifennydd y Cabinet ei roi i mi, i'r gweithlu ac i'r undebau llafur fod pob llwybr yn cael ei ystyried i gefnogi'r gweithwyr drwy'r cyfnod anodd hwn?
1,413
Cwestiynau nawr i lefarwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd UKIP, David Rowlands.
1,414
Gallaf. Rydym wedi cael y ddeiseb gan y Pwyllgor Deisebau, ac mae fy swyddogion wedi'i gweld, ac rydym wedi ymateb i Gadeirydd y Pwyllgor Deisebau, yn ôl y gofyn.
1,415
Gobeithiaf yn fawr y gall y datblygwyr gadw at eu haddewid o allu cyflawni'r prosiect gyda'r cyllid angenrheidiol o'r sector preifat. Fel y dywedais, mae trafodaethau'n parhau gyda fy swyddogion. Pan drafodais y mater gyda'r datblygwyr dros yr haf, roeddent yn hyderus o allu bodloni'r meini prawf a osodwyd, ac rydym yn aros am gyflwyniad ffurfiol ganddynt er mwyn i ni ei ystyried.
1,416
Mae Trafnidiaeth Cymru ei hun yn sefydliad dielw a fydd yn gyfrifol am bob elfen o'r fasnachfraint, gan gynnwys yr holl gonsesiynau. Fel gydag unrhyw elusen, neu yn wir, unrhyw sefydliad, megis Transport for London, byddant yn gallu rheoli'r fasnachfraint mewn modd sy'n sicrhau rhaniad rhwng y partner cyflenwi ei hun a'r consesiynau eraill megis lluniaeth a thocynnau i sicrhau, lle y bo'n bosibl, y gallwn gael sefydliadau dielw i weithredu'r consesiynau hynny, ond lle y gallem gael elw wedi'i gapio hefyd, er mwyn i hynny atal colledion gyda'r partner cyflenwi.
1,417
Yn gyntaf, i ddychwelyd at Trafnidiaeth Cymru, mae Trafnidiaeth Cymru yn adlewyrchu model Transport for London, ac rwy'n siŵr na fyddech yn dadlau nad yw hwnnw'n unrhyw beth ond sefydliad dielw. O ran Cyllid Cymru, mae'r aelod yn beirniadu Cyllid Cymru, ond os edrychwn ar y ffigurau ar gyfer Cyllid Cymru am y cyfnod mwyaf diweddar sydd ar gael, fe welwn mai y llynedd oedd y flwyddyn orau erioed a'u bod wedi buddsoddi £45 miliwn mewn busnesau yng Nghymru. Eleni, maent eisoes yn nodi y byddant yn rhagori ar hyn, ar ôl buddsoddi dros £17 miliwn hyd at ddiwedd mis Gorffennaf, o'i gymharu ag ychydig dros £13 miliwn y llynedd. Dengys hyn fod perfformiad y flwyddyn hyd yn hyn 28 y cant yn uwch na'r targedau. O ran perfformiad mewn perthynas â chreu swyddi, dengys perfformiad y flwyddyn hyd yn hyn ei fod 153 y cant yn uwch na'r llynedd a'u bod ar y trywydd iawn i ragori ar eu targed o 3,186 o swyddi. Dyma'r perfformiad gorau erioed gan Cyllid Cymru o ran swyddi.
1,418
Ysgrifennydd y Cabinet, gan Gymru y mae'r trenau hynaf sydd ar waith yn y DU, gyda rhai ohonynt bron yn 40 mlynedd yn oed, ac mae eu gallu i gynnig gwasanaeth effeithlon ar gyfer yr oes fodern yn prysur leihau. Clywais eich ateb i Leanne Wood yn gynharach heddiw. A gaf fi ofyn, Ysgrifennydd y Cabinet: sut y bydd Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y gweithredwr trenau nesaf yng Nghymru yn darparu gwasanaeth gwell a mwy modern?
1,419
Diolch am eich ateb manwl, Ysgrifennydd y Cabinet. Erbyn 2020, mae'n rhaid i bob gorsaf a thrên fod yn gwbl hygyrch. Ar hyn o bryd, 53 y cant yn unig o orsafoedd Cymru sy'n darparu hygyrchedd llawn. Gan fod contract Trenau Arriva yn dod i ben yn 2018, nid oes unrhyw rwymedigaeth gyfreithiol arnynt i gyflawni'r gwelliannau hyn. Felly, fy nghwestiwn yw hwn: a yw Cymru ar y trywydd iawn i gyflawni'r gwelliannau hyn ac i ddiwallu'r gofynion deddfwriaethol pwysig hyn, er mwyn sicrhau bod pobl anabl ledled Cymru yn cael mynediad llawn a hygyrch at y rhwydwaith rheilffyrdd?
1,420
Ysgrifennydd y Cabinet, clywais eich ymateb i lefarydd Plaid Cymru o ran y fasnachfraint reilffyrdd ddielw. Mae Swyddfa Archwilio Cymru wedi mynegi pryderon y bydd yn rhaid i'ch Llywodraeth ddysgu gwersi gan fasnachfreintiau'r gorffennol ac y bydd yn rhaid iddi reoli'r risgiau wrth gaffael yr hyn sy'n fuddsoddiad sylweddol i Gymru yn effeithlon ac yn effeithiol. Felly, gyda hynny, a ydych yn gwbl hyderus ar y cam hwn eich bod yn y sefyllfa orau i ysgwyddo cyfrifoldeb cyffredinol dros gaffael y fasnachfraint nesaf? A allwch gadarnhau pa un a fydd masnachfraint Cymru yn ddarparwr hollol ddielw? Yn olaf, a ydych yn credu bod gennych ddigon o adnoddau a sgiliau yng ngwasanaeth sifil Llywodraeth Cymru i ddarparu masnachfraint Cymru?
1,421
Gwnaf. Byddwn yn parhau i gefnogi datblygiad economaidd a seilwaith ledled Cymru, fel y nodwyd yn 'Symud Cymru Ymlaen'.
1,422
Ydw, rwy'n ymwybodol o'r broblem yn yr ardal hon, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion gysylltu'n agosach gyda'r awdurdod lleol mewn ymgais i ganfod ateb y gellir ei ariannu'n llawn. Mae gennym raglen uchelgeisiol iawn i uwchraddio seilwaith ledled Cymru, ond rwy'n cydnabod bod Dinas Powys yn broblem unigryw y mae angen ei datrys. Os oes unrhyw ran y gallaf ei chwarae o ran hwyluso'r ateb, byddaf yn falch o wneud hynny.
1,423
Gwnaf, yn wir. Mewn gwirionedd, mae ein dogfennau contract ar gyfer trafnidiaeth yn datgan bod yn rhaid i'r contractwr sicrhau bod y deunyddiau a ddefnyddir ganddynt a'u his-gontractwyr yn cydymffurfio â gofynion cyrchu cyfrifol ar gyfer cynnyrch adeiladu, ac mae'n datgan yn glir y bydd Llywodraeth Cymru yn disgwyl na fydd y contractwr yn defnyddio dur wedi'i ddympio o farchnadoedd tramor ar unrhyw brosiect. Mae'r holl arian grant a buddsoddiadau mewn prosiectau fel ysgolion yr unfed ganrif ar hugain, fel yr amlinellais yng nghyfarfod y grŵp trawsbleidiol yr wythnos diwethaf, yn cael eu defnyddio fel ysgogiadau i'w gwneud yn ofynnol i rai sy'n derbyn cyllid gan Lywodraeth Cymru ddarparu tystiolaeth ynglŷn â sut y mae contractau'r gadwyn gyflenwi yn cael eu hagor i gyflenwyr dur lleol. Mae ffrwd waith y tasglu dur wedi datblygu cyfres o gynlluniau ar gyfer caffael fel rhan o'u pecyn cydgysylltiedig o gymorth i'r diwydiant dur yng Nghymru a'r DU, ac mae'n mynd rhagddo yn dda iawn yn wir.
1,424
Mae'r Aelod yn nodi'r hyn y mae'n ei alw'n gytundeb 'amheus' a 'cholled syfrdanol', ond ni allwch ystyried y golled heb ystyried y pris prynu hefyd, ac roedd y Gweinidog a oedd yn gyfrifol ar y pryd am y pryniant yn rhywun a oedd yn eistedd ar eich meinciau chi.
1,425
Diolch. Gan gyfeirio at economi Cymru, adroddodd academyddion yn Ysgol Fusnes Caerdydd bythefnos yn ôl fod allbwn neu werth ychwanegol gros Cymru yn fwyaf sensitif i newidiadau i'r dreth ar y gyfradd uwch, a bydd unrhyw doriad iddi bob amser yn cynyddu derbyniadau treth ac unrhyw gynnydd bob amser, a dyfynnaf, yn 'lleihau refeniw treth'. O ystyried mai gan Gymru y mae'r lefelau ffyniant isaf y pen o blith 12 rhanbarth a gwlad y DU ers 1998, sut y byddwch yn gweithio gydag Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i sicrhau bod ysgogiadau'r trethi a ddatganolir i ni yn sbarduno lefelau ffyniant economaidd yng Nghymru, gan sicrhau cymaint â phosibl o refeniw treth er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus allweddol?
1,426
Yn 2015, roedd mwy nag un o bob pedwar oedolyn mewn gwaith yng Nghymru yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw, ac mae Sefydliad Bevan yn nodi bod bron i hanner y gweithwyr rhan-amser, menywod yn bennaf, hefyd yn cael llai o gyflog na'r cyflog byw. Pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i hybu'r cyflog byw ar draws economi Cymru?
1,427
Yn ei ddiffyg ateb i'r cwestiwn gan Adam Price yn gynharach, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet fôr a mynydd o'r ffaith fod mwy o bobl mewn gwaith heddiw yng Nghymru nag erioed o'r blaen, nad yw'n syndod gan fod y boblogaeth wedi cynyddu. Ond ni ddywedodd ddim am yr hyn y mae'r bobl mewn gwaith yn ei ennill mewn gwirionedd. Bymtheg mlynedd yn ôl, roedd Cymru yn yr ail safle o'r gwaelod yn nhablau cynghrair y gwledydd a rhanbarthau Lloegr. Heddiw, mae Cymru ar y gwaelod; mae wedi cael ei goddiweddyd gan Ogledd Iwerddon. Roedd yr Alban ychydig o flaen Cymru 15 mlynedd yn ôl; mae ymhellach byth ar y blaen erbyn hyn. Roedd de-orllewin Lloegr ychydig o flaen Cymru 15 mlynedd yn ôl, ac mae ymhellach ar y blaen eto erbyn hyn. Onid yw record y Llywodraeth Lafur hon yn un o fethiant llwyr?
1,428
Mae yna gwestiwn yno: a oeddech chi'n cefnogi'r isafswm cyflog cenedlaethol? A oedd eich plaid yn cefnogi'r isafswm cyflog cenedlaethol? Oherwydd rydym i gyd yn gwybod mai'r ateb yw nad oedd UKIP, ac nad ydynt, yn cefnogi ymdrechion i wella safonau byw'r teuluoedd ar yr incwm isaf. Y ffaith amdani yw mai'r mudiad Llafur a gyflwynodd yr isafswm cyflog cenedlaethol. Y mudiad Llafur sy'n cyflwyno'r cyflog byw ar draws yr economi. Ac o ran yr economi yma yng Nghymru, rwyf eisoes wedi dweud mai Cymru, ers datganoli, yw'r pumed uchaf o ran cynnydd mewn gwerth ychwanegol gros y pen o'i chymharu â 12 rhanbarth a gwlad y DU. Ac o ran gwerth ychwanegol gros eto, mae safonau byw materol pobl yn cael eu pennu yn ôl eu cyfoeth, ac yn hyn o beth mae Cymru'n perfformio'n llawer gwell ar fesurau o gyfoeth.
1,429
Hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Wrth gwrs, mae cysylltedd symudol yn faes heb ei ddatganoli. Rydym wedi cymryd camau mawr ymlaen lle rydym wedi gallu ymyrryd yn uniongyrchol drwy Cyflymu Cymru. Bydd Cyflymu Cymru yn sicrhau mai Cymru fydd y wlad fwyaf cysylltiedig yng ngorllewin Ewrop, ac mewn rhannau o ganolbarth Cymru, fel Powys, mae 63 y cant o eiddo yn gallu cael mynediad ato erbyn hyn. Byddwn yn gweithio hyd at 2017 i sicrhau bod y 37 y cant o'r safleoedd sy'n weddill yn gallu cael mynediad at fand eang cyflym a dibynadwy. Mae hefyd yn werth nodi fod gan eiddo yng nghanolbarth Cymru fand eang sy'n llawer cyflymach na'r cyfartaledd ledled Cymru. Mewn rhannau o Geredigion, er enghraifft, mae'r cyflymder cyfartalog yn uwch na 65 Mbps. Fel y soniais, nid yw cysylltedd symudol wedi'i ddatganoli, ond rydym yn parhau i ymgysylltu â'r gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol i nodi beth y gellir ei wneud i wella'r signal mewn rhannau gwledig o Gymru, ac mae hynny'n cynnwys rhoi pwysau ar Ofcom drwy gyfarfodydd, ac yn wir drwy ymatebion i ymgynghoriadau, i ddefnyddio eu pwerau rheoleiddio i wella signal ffonau symudol ledled Cymru, yn cynnwys galw am gynnwys rhwymedigaethau'n ymwneud â chyrhaeddiad daearyddol y signal mewn arwerthiannau sbectrwm yn y dyfodol, ac nid rhwymedigaethau signal sy'n ymwneud yn unig â nifer yr unigolion sy'n gallu cael mynediad at rwydweithiau symudol.
1,430
Rwy'n gwrthwynebu'n reddfol unrhyw dreth ar deithio drwy drethu defnydd o bont, mater a fydd, o bosibl, yn cael ei grybwyll cyn bo hir mewn cwestiwn sydd i ddod gan Mark Reckless. O ran y bont benodol y mae'r Aelod yn sôn amdani yn yr ardal fenter, nid wyf wedi ymchwilio'r posibilrwydd o roi statws cefnffordd i'r llwybr penodol hwnnw eto, ond mae'n rhywbeth y byddwn yn awyddus i'w ystyried pe bai'n gallu arwain, yn ei dro, at dwf yn yr economi leol.
1,431
Yn y pen draw, rwy'n gyfrifol am gymeradwyo penderfyniadau ac rwy'n gyfrifol am sicrhau bod y diwydrwydd dyladwy wedi'i gyflawni gan fy swyddogion a chan arweinyddion fy nhimau sector. Os oes gan yr Aelod unrhyw bryderon penodol ynghylch penderfyniadau rwyf fi neu unrhyw un o fy rhagflaenwyr wedi eu gwneud, hoffwn yn fawr gael fy hysbysu ynglŷn â hynny.
1,432
Diolch am yr ateb, Weinidog. Mae creu gweithlu medrus iawn yn hanfodol os ydym am ateb anghenion economi sy'n tyfu. Sut y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn sicrhau y bydd yr addewid o 100,000 o brentisiaethau a nodwyd yn y rhaglen lywodraethu yn darparu'r sgiliau sydd eu hangen ar y busnesau i'w galluogi i dyfu, a gwella cyfleoedd cyflogaeth yng Nghymru drwy hynny?
1,433
Mae fy swyddogion wedi cael trafodaethau rheolaidd gyda thîm yr ardd. Rwy'n bwriadu cyfarfod â'r cadeirydd yn ystod yr wythnosau nesaf i drafod yr adroddiad a gomisiynais ar gyfleoedd masnachol ar gyfer yr ardd yn y dyfodol. Bydd yr adroddiad yn cael ei gyhoeddi wedi i'r cadeirydd a'r ymddiriedolwyr ei weld.
1,434
Wel, rwy'n croesawu'r newyddion cadarnhaol o'r ardd yn fawr. Mae'n wych clywed bod ffigurau ymwelwyr ac aelodaeth wedi cynyddu. Wrth gwrs, mae'r ardd wedi manteisio ar gynlluniau Llywodraeth Cymru, megis y Flwyddyn Antur yn ogystal â'r cyllid a ddarparwn yn flynyddol i sicrhau bod mwy o bobl yn cael eu denu i'r ardd, nid unwaith yn unig, ond sawl gwaith. Dyna pam y credaf fod y niferoedd aelodaeth i'w croesawu'n arbennig. Mae pob partner - pob partner - gan gynnwys Llywodraeth Cymru a Chyngor Sir Caerfyrddin, yn cytuno bod yr ardd yn ased gwerthfawr iawn i gynnig twristiaeth Sir Gaerfyrddin. Ond mae'r ffaith fod cyllidebau'n lleihau yn golygu nad yw ymrwymiad penagored i gyllid yn y dyfodol yn gynaliadwy ac felly mae angen parhau i wthio am fwy o lwyddiant masnachol, ac rwy'n falch o weld bod yr ardd yn ymateb i hyn.
1,435
Maent yn dychwelyd o'r sector preifat i'r sector cyhoeddus. Yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn y pedwerydd chwarter, ac roeddwn yn gobeithio cael yr wybodaeth ddiweddaraf am hynny - pedwerydd chwarter y flwyddyn nesaf. Er y bydd costau'r bont wedi'u talu erbyn hynny, mae'r Trysorlys wedi dweud ei fod yn bwriadu parhau i godi toll, yn rhannol, mae'n dweud, er mwyn ad-dalu dyled y mae'n honni ei bod yn ddyledus ar y bont. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn gallu dweud pa bryd y bydd y ddyled honedig honno wedi'i thalu'n ôl ac a yw'n cytuno y dylid diddymu'r doll ar y pwynt hwnnw?
1,436
Gwnaf, mae Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 wedi rhoi Cymru ar y blaen o blith gwledydd y DU mewn perthynas â diogelu a rheoli'r amgylchedd hanesyddol. Rydym yn parhau i weithio'n agos gydag ystod eang o bartneriaid ar ddatblygu sector treftadaeth sydd â dyfodol cynaliadwy.
1,437
Mae grwpiau lleol yn gwbl hanfodol yn y gwaith o helpu'r amgylchedd hanesyddol i barhau i fod yn lle bywiog y mae pobl yn ymweld ag ef, lle y mae pobl yn ei brofi, lle y gall pobl wirfoddoli a lle y gall pobl feithrin sgiliau. Mae'r grŵp gwirfoddol sydd wedi edrych ar gastell Rhiw'r Perrai yn arbennig o weithgar, ac rwy'n eu llongyfarch ar eu gwaith. Yn etholaeth yr Aelod, mae gennym yr atyniad ymwelwyr sy'n tyfu gyflymaf yn ystad Cadw - sef castell Caerffili - ac mae'r cynnydd yn nifer yr ymwelwyr wedi digwydd, i raddau helaeth, o ganlyniad i weithgareddau'r Flwyddyn Antur, gan gynnwys Draig Caerffili, y gwn fod llawer o'r Aelodau yn y Siambr hon wedi ymweld â hi.
1,438
Rydym wedi ymrwymo i hyrwyddo ffyrdd iach a gweithgar o fyw er mwyn atal salwch ac annog lles yn gyffredinol drwy gydol ein bywydau. Bydd y rhaglen lywodraethu'n adeiladu ar y cynnydd hyd yma gyda mesurau megis Bil iechyd y cyhoedd, Rhaglen Plant Iach Cymru a bond lles newydd i Gymru.
1,439
Diolch i chi am y cwestiwn hwnnw. Rydych yn gywir i dynnu sylw at y llwyddiant a gawsom yn y blynyddoedd diwethaf wrth weithio tuag at ein targed o 16 y cant o bobl yn ysmygu erbyn 2020. Rydym ar 19 y cant ar hyn o bryd, felly rwy'n credu ein bod yn sicr ar y trywydd cywir i gyrraedd y targed hwnnw. Ymysg plant a phobl ifanc y gwelwyd peth o'r llwyddiant gwirioneddol rydym wedi'i gael. Er enghraifft, yn 1998, roedd 29 y cant o ferched 16 oed yn ysmygu unwaith yr wythnos, ond mae'r ganran honno bellach wedi gostwng i 9 y cant. Y ffigurau ar gyfer y bechgyn yw 22 y cant a 7 y cant. Credaf ei bod yn gadarnhaol iawn fod ysmygu'n lleihau ymysg pobl ifanc, yn enwedig, ond hefyd mae nifer y bobl ifanc nad ydynt erioed wedi ysmygu yn cynyddu a chredaf y dylid croesawu hynny hefyd. Mae'r cyfyngiadau a grybwyllwyd gennych yn sicr yn chwarae rhan bwysig yn hynny. Ddydd Sadwrn diwethaf, cawsom gyfle i ddathlu pen blwydd cyntaf y rheoliadau ar wahardd ysmygu mewn ceir. Rwy'n credu ei bod yn deg dweud ein bod wedi gweld lefel uchel o gydymffurfiaeth â hynny, ac rydym yn gweld newid mewn ymddygiad a newid mewn diwylliant yn hynny o beth. Felly, wrth edrych ymlaen, byddwn yn ailgyflwyno Bil iechyd y cyhoedd, fel yr oedd yng Nghyfnod 3, gyda'r adrannau ar e-sigaréts wedi'u dileu. Mae Bil iechyd y cyhoedd yn cynnwys darpariaethau i gynnwys ysmygu ar dir ysgolion, ar dir ysbytai a chaeau chwarae cyhoeddus. Mae hefyd yn sicrhau y bydd Gweinidogion Cymru yn gallu ychwanegu mannau ychwanegol, gan ddefnyddio'r rheoliadau, ac y byddai rheoliadau o'r fath yn destun ymgynghoriad yn y dyfodol. Felly, byddai lle i ymestyn hynny yn y dyfodol hefyd.
1,440
Wel, rwy'n siŵr fod Ysgrifennydd y Cabinet wedi clywed eich sylwadau, ac mae hwn yn fater y byddai Ysgrifennydd y Cabinet yn ymdrin ag ef. O ran fy nghyfrifoldebau i, rwy'n awyddus iawn i weld gwaith atal cwympiadau yn cael ei wella yng Nghymru, a byddai hyn yn arbennig o bwysig i bobl sy'n dioddef o osteoporosis hefyd, o ran sicrhau nad ydynt yn cael cwymp sy'n eu gwanychu'n fawr, a allai gael effaith ddrwg iawn ar eu canlyniadau personol, eu lles ac yn y blaen. Felly, mae'n ymwneud â'r effaith honno. Mae gennym ein rhaglen iechyd cyhoeddus, y rhaglen Gwella 1000 o Fywydau, ac mae honno'n cynnwys gwaith penodol ar atal cwympiadau, ac rwy'n credu bod hynny'n bwysig yn enwedig ar gyfer pobl sy'n dioddef o osteoporosis.
1,441
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd Cabinet am yr ymateb hwnnw. Mae Skin Care Cymru wedi datgelu nad oes unrhyw feddyg ymgynghorol dermatoleg yn ardal gyfan Bwrdd Iechyd Lleol Hywel Dda. Er bod problem gyda recriwtio a chadw dermatolegwyr ledled y DU, mae'r ffaith nad oes un yn ardal gyfan y bwrdd iechyd yn peri pryder mawr. Pa gymorth penodol y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i fwrdd iechyd Hywel Dda i recriwtio meddyg ymgynghorol dermatoleg, fel y gall pobl sy'n byw gyda chyflyrau croen yn Sir Benfro gael y gwasanaethau hanfodol y maent yn eu haeddu?
1,442
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y gwyddoch, mae rhieni Sir Benfro wedi colli'r gwasanaethau newyddenedigol yn Ysbyty Llwynhelyg, er mwyn cael gwasanaeth gwell yn Ysbyty Glangwili yn ôl yr hyn a ddywedwyd, ond dywed y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant fod gwasanaethau newyddenedigol yng Nghymru dan lawer gormod o bwysau, gan roi diogelwch y babanod gwaelaf mewn perygl, ac maent yn dweud mai dau yn unig o'r 10 uned newyddenedigol sydd â digon o nyrsys i staffio eu holl gotiau. Pa sicrwydd y gallwch ei roi i rieni Sir Benfro, felly, y bydd symud o Sir Benfro i Sir Gaerfyrddin, ac o un ysbyty i'r llall, yn arwain mewn gwirionedd at gymhareb staffio well a gwell gwasanaeth yn y tymor hir?
1,443
Galwaf nawr at lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i'r Ysgrifennydd Cabinet. Yn gyntaf, llefarydd Plaid Cymru, Rhun ap Iorwerth.
1,444
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n rhannu eich pryder am y sylwadau a wnaeth Jeremy Hunt yng nghynhadledd y Blaid Geidwadol. Bydd Aelodau ar draws y Siambr hon eisiau gweld cyfleoedd i fwy o'n pobl ifanc yng Nghymru a ledled y DU gael gyrfa mewn hyfforddiant meddygol ac ymarfer meddygol, ond mae gwahaniaeth go iawn rhwng hynny a dweud nad oes croeso i feddygon tramor bellach, neu eu bod yma fel mesur dros dro yn unig. Yn wir, rwyf eisoes wedi ysgrifennu at Jeremy Hunt yn mynegi fy mhryder ynglŷn â'r rhethreg y mae wedi bod yn ei harddangos yr wythnos hon a'r difrod sylweddol y gallai ei wneud, nid yn unig i'r GIG yn Lloegr, ond ar draws teulu'r GIG yn y pedair gwlad. Felly, rwyf wedi bod yn glir iawn ynglŷn â fy safbwynt i, mae hwnnw wedi'i gofnodi, ac ni fydd gennym unrhyw ran yn hyn. Yn sicr, ni fyddwn yn cefnogi'r llwybr y mae'r Ceidwadwyr yn ei ddilyn. O ran y dyfodol ar gyfer myfyrwyr sy'n hanu o Gymru a'r DU a'u gallu i ymgymryd â hyfforddiant meddygol yn y wlad hon, rwyf eisoes wedi nodi ein bod yn edrych ar y llefydd sydd gennym ar hyn o bryd a sut i annog mwy o fyfyrwyr o Gymru i ymgymryd â hyfforddiant meddygol mewn man o'u dewis. Bydd hynny, wrth gwrs, yn cynnwys gwaith yma yng Nghymru ac mewn gwirionedd, rydym yn edrych ar nifer y llefydd hyfforddiant meddygol sydd gennym. Rydym eisiau gwneud yn siŵr ein bod yn adeiladu ar y rhagoriaeth sydd gennym yng Nghaerdydd ac yn Abertawe, gyda'r cyrsiau mynediad israddedig ac ôl-raddedig sy'n cael eu cynnig, ac rwyf am sicrhau ein bod yn cynnal y safon honno, ond hefyd fod gennym lwyfan gwirioneddol i fwy o yrfaoedd ym maes addysg a hyfforddiant meddygol, yma yng Nghymru ac ar draws y DU.
1,445
Wel, mae'n ffaith, ac nid barn, fod nifer y meddygon ymgynghorol wedi codi'n sylweddol dros y degawd diwethaf. Ein her bob amser yw hon: ym mha rifau rydym yn parhau i wynebu her a beth y gallwn ni ein hunain ei wneud ynglŷn â hynny? Oherwydd, i ateb y cwestiwn cyntaf, a ofynnwyd gan Paul Davies rwy'n credu, rydym yn cydnabod bod yna rai meysydd arbenigol lle y ceir heriau gwirioneddol ar draws teulu'r DU. Ac mewn gwirionedd, mae rhywfaint o hynny'n her ryngwladol hefyd. Felly, rydym yn derbyn y safbwynt am y niferoedd cyffredinol, ond yn edrych wedyn ar y meysydd arbenigol hynny. A dyna pam, yn yr ymgyrch recriwtio y byddwch wedi ein clywed yn ei thrafod ac yn siarad amdani, ein bod yn awyddus i hysbysebu Cymru fel lle gwych i weithio yn ogystal â byw, ac i weld pobl yn cael eu hyfforddi yma hefyd. Felly, nid oes unrhyw hunanfodlonrwydd na diffyg cydnabyddiaeth fod gennym heriau gwirioneddol mewn rhai meysydd arbenigol, ac mae sicrhau bod y model gofal iechyd yn gywir yn rhan o'r hyn y mae angen i ni ei wneud i annog pobl i ddod i weithio yma. Oherwydd pan fydd pobl yn chwilio am y cam nesaf yn eu gyrfa - ble i fyw, ble i fagu teulu - mewn gwirionedd, maent hefyd yn meddwl, 'Beth fydd ansawdd y gweithle, beth fydd y model gofal y byddaf yn gweithio ynddo? A yw'n gynaliadwy? A fydd yn rhoi'r cyfleoedd rwyf eu heisiau i roi gofal gwych i gleifion?', ond rhannau eraill o'u bywydau hefyd. Felly, rydym yn edrych ar y darlun cyfan wrth i ni symud ymlaen i geisio deall sut rydym yn recriwtio'r gweithlu meddygol rydym ei eisiau heddiw ac yn y dyfodol, a dyfodol gofal iechyd yma yng Nghymru.
1,446
Na, nid wyf yn derbyn hynny. Nid wyf yn derbyn y ffordd rydych wedi cyflwyno'r ffigurau. Rydym yn hyderus fod mwy o feddygon teulu bellach yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, rydym yn hyderus fod mwy o feddygon ymgynghorol yn gweithio yn y GIG yng Nghymru yn ogystal. Rydych yn tynnu sylw at y bartneriaeth cydwasanaethau, ac mewn gwirionedd mae'n wirioneddol gadarnhaol mai'r cydwasanaethau bellach yw'r corff sy'n cyflogi meddygon dan hyfforddiant mewn ymarfer cyffredinol. Mae'n rhywbeth y mae Cymdeithas Feddygol Prydain a Choleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol wedi bod yn gefnogol iawn iddo, gan ei fod yn caniatáu i'r meddygon hynny gael rhywfaint o sefydlogrwydd yn eu perthynas contract cyflogaeth, ac mae'n golygu, er enghraifft, fod cael morgais yn llawer haws, gan fod cyflogwr sefydlog yno hefyd. Felly, rydym yn gwneud rhywbeth da i feddygon teulu dan hyfforddiant. Ac yn ôl yr unig ffigurau a welais fy hun, mae gennym fwy o feddygon teulu o ran cyfrif pennau, ac mae gennym fwy o ymgynghorwyr hefyd o ran cyfrif pennau. Yr her bob amser yw beth arall sydd angen i ni ei wneud, pa amserlen y gallwn ei dilyn, a sut rydym yn mynd ati i wynebu ein heriau mewn ffordd nad yw'n amharu ar y gwasanaeth, a sut rydym yn denu pobl i ddod yma mewn gwirionedd, i hyfforddi, i fyw, ac i weithio. Dyna ein huchelgais, a dyna ble rydym yn disgwyl gwneud cynnydd pellach ar hyn yn ystod yr hydref hwn ac wedi hynny.
1,447
Mewn gwirionedd, gwariant ar iechyd meddwl yw'r bloc unigol mwyaf o wariant sydd gennym yn y gwasanaeth iechyd gwladol. Ac fe fyddwch wedi fy nghlywed i a'r Gweinidog blaenorol yn nodi'r adolygiadau a wnaethom, er enghraifft, ar y cyllid sydd wedi'i glustnodi, er mwyn gwneud yn siŵr fod hynny'n wir, er mwyn sicrhau bod mwy o arian yn cael ei wario. Ac mae ein her yn fwy na dweud yn syml, 'Gadewch i ni edrych ar yr arian'. Ein her bob amser yw: a ydym yn cael y canlyniadau cywir, a ydym yn sicrhau bod digon o bobl ag anghenion go iawn yn cael eu gweld, a sut rydym yn gwneud hynny? Ac yn aml hefyd, mae'n fwy na gwariant ar iechyd, gan fod llawer o hyn yn ymwneud â lles mwy cyffredinol. Er enghraifft, ni fydd rhagnodi cymdeithasol yn lleihau fel gwariant yn nhermau iechyd meddwl, ond mae'n sicr yn gwneud hynny mewn gwirionedd. Mewn termau ataliol, mae'n aml yn rhan o'r darlun. Felly, rwy'n ymrwymedig i barhau i sicrhau bod iechyd meddwl yn flaenoriaeth go iawn o ran yr hyn a wnawn yn y gyllideb, ond hefyd o ran darparu gwasanaethau a chanlyniadau yn ogystal. Felly, edrychaf ymlaen at y cwestiynau ar yr heriau sydd gennym o hyd - ac rwy'n cydnabod bod gennym rai hefyd - wrth i ni barhau i geisio lleihau amseroedd aros, ond hefyd er mwyn gweld dull go iawn a gwrthrychol o fesur canlyniadau yn cael ei gyflwyno ar draws y GIG, ac rwy'n hyderus y byddwn yn ei weld yn ystod y tymor hwn.
1,448
Rydym wedi cael yr adolygiad hwn yn y gorffennol, ac rwy'n hapus i edrych eto ar y ffordd orau o ddiogelu gwariant ar iechyd meddwl i wneud yn siŵr ei fod yno fel ffactor go iawn ym meddyliau'r bobl sy'n cynllunio ac yn darparu ein gwasanaeth. Ond nid y llinellau yn y gyllideb a gasglwyd o fewn iechyd meddwl yw'r unig ddangosydd, fel y nodais yn fy ateb. Mae mwy iddi na dweud yn syml mai 12 y cant yn unig sydd i iechyd meddwl a bod popeth arall yn iechyd corfforol. Ac wrth gwrs, nid y cyllid wedi'i glustnodi yw'r unig ddangosydd o'r holl arian sy'n cael ei wario. Mewn gwirionedd rydym yn gwario mwy na'r swm o arian a glustnodwyd ar wasanaethau iechyd meddwl. Dof yn ôl eto at fy niddordeb mewn dweud, 'Gadewch i ni gael llinell, o ran canran, ar yr hyn y dylem ei wario o ran iechyd meddwl a beth y dylem ei wario ar bethau eraill' - yr her bob amser yw: a ydym yn cael gwerth priodol am yr arian rydym yn ei wario, a ydym yn cyflawni yn erbyn gwir anghenion ein poblogaeth, ac a allwn wella hynny ymhellach, o gofio bod yr adnodd sydd ar gael i ni'n gyfyngedig? Dyna pam rwy'n cyfeirio at y gwaith rydym yn ei wneud ar ganlyniadau a'r gwaith rydym wedi'i wneud gyda chynghrair y trydydd sector, lle mae ganddynt hwy hefyd gwestiynau anodd i ni ynglŷn ag amseroedd aros, ac ynglŷn â chanlyniadau yn ogystal, ond mae yna ddatblygiad go iawn. Mae yna raglen yma sydd nid yn unig yn ymwneud â'r ffordd rydym yn rheoli adnodd sy'n prinhau a chanlyniadau sy'n lleihau, ond sut rydym yn edrych ar beth y gallwn ei wneud i wella'r hyn y gallwn ei ddarparu ym mhob maes gwariant iechyd meddwl, a hefyd y gwasanaeth cyfan fel gwasanaeth holistig ar gyfer y person cyfan.
1,449
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, gan ragweld bod nifer y bobl 65 oed a hŷn yn mynd i gynyddu 44 y cant yn y degawdau i ddod, rhaid i ni sicrhau y gall ein sector gofal cymdeithasol ymdopi â'r cynnydd anochel yn y galw am ofal cymdeithasol. Yn anffodus, gwelsom doriadau enfawr yn y cyllidebau gofal cymdeithasol ac yn syml, nid ydym yn hyfforddi digon o weithwyr gofal cymdeithasol, neu mae llawer o'r rhai rydym wedi'u hyfforddi eisoes yn teimlo nad ydynt yn cael eu gwerthfawrogi'n ddigonol. Mae gweithwyr gofal cymdeithasol yn cael gormod o waith, ac mewn sawl achos, nid ydynt yn cael digon o amser i ofalu'n briodol am y bobl sy'n rhaid iddynt ofalu amdanynt. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i sicrhau bod gwasanaethau cymdeithasol yn cael eu hariannu'n ddigonol ac i sicrhau bod gennym ddigon o staff i ganiatáu amser i'n gweithwyr gofal cymdeithasol ymroddedig allu gofalu?
1,450
Rwyf wrth fy modd yn eich clywed yn sôn am y Bil rheoleiddio ac arolygu, sef Deddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 bellach, sy'n cael ei chyflwyno gan y Gweinidog ac yn wir, y gwaith y mae'n bwrw ymlaen ag ef ar ddeall anghenion y gweithlu yn y dyfodol. Mae amrywiaeth o gamau gweithredu ar y gweill ac rwy'n siŵr y byddwch yn falch iawn o glywed diweddariadau pellach gan y Gweinidog maes o law. Os ydych am ddeall y manylion, rwy'n siŵr y byddai'n hapus i gyfarfod â chi.
1,451
Rwy'n siŵr y bydd Aelodau ar draws y Siambr yn cydnabod y gwerth sylweddol y mae gofalwyr yn ei roi, nid yn unig yn ariannol, ond hefyd o ran eu gallu i ddarparu gofal gan anwyliaid neu rywun y mae'r sawl sy'n derbyn gofal yn eu hadnabod. Bydd llawer ohonom yn yr ystafell hon, wrth gwrs, wedi cael profiad o fod yn ofalwyr i ffrindiau a/neu aelodau o'r teulu. Bydd yr Aelodau hefyd yn gwybod, rwy'n gobeithio, mai'r Gweinidog yw'r Gweinidog arweiniol ar gyfer gofalwyr ac yn wir, gan ei bod yn symud ymlaen ar y Ddeddf gwasanaethau cymdeithasol a llesiant, a'r strategaeth gofalwyr o'i mewn, mae yna ddealltwriaeth o'r ffaith fod gan ofalwyr yn awr, am y tro cyntaf, y gallu a'r hawl statudol i gael eu hanghenion hwy hefyd wedi'u hasesu gan y gwasanaethau cyhoeddus. Mae hwnnw'n gam go iawn ymlaen. Felly, rwy'n disgwyl bod gofalwyr yng Nghymru - rwy'n sicr yn gobeithio y byddant yn gweld ac yn cydnabod ein bod yn cymryd camau cadarnhaol ymlaen. Gwn fod Gofalwyr Cymru mewn cysylltiad â'r Gweinidog ac rwy'n siŵr y bydd unrhyw gynigion sydd ganddynt yn cael eu hystyried o ddifrif gan y Gweinidog a minnau wrth i ni geisio deall sut y gallwn wella'r ddarpariaeth ar gyfer gofalwyr ymhellach, er mwyn eu galluogi i gael seibiant, ond i ddeall hefyd fod angen i chi weld y gofalwr a'r person y maent yn gofalu amdanynt fel unigolion a deall yr hyn y maent yn ei olygu gyda'i gilydd, ac i'w gilydd. Ond unwaith eto, os ydych yn dymuno cael trafodaeth fanylach ar hyn, rwy'n siŵr y byddai'r Gweinidog yn hapus iawn i ddod o hyd i amser i gael y drafodaeth honno gyda chi.
1,452
Mae prinder meddyg yn effeithio ar bob ardal drwy'r wlad, fel y clywsom eisoes, ond yn y Rhondda, mae gennym broblem arbennig o ddifrifol, sydd wedi peri i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf sefydlu gwefan benodol i ddenu meddygon i'n hardal. Er eich bod yn dal i wadu'r hyn y mae'r ystadegau yn dweud, fel y gwelsom yn awr yn eich ateb i fy nghyd-Aelod, Rhun ap Iorwerth, gwelwyd gostyngiad o 44 yn nifer y meddygon ysbyty a gyflogid gan Cwm Taf rhwng 2014 a 2015, sef, wrth gwrs, y dyddiad diwethaf y mae gennym ffigurau ar ei gyfer. Mae hon yn golled aruthrol mewn blwyddyn yn unig. Mae nifer y meddygon ysbyty a gyflogir gan Cwm Taf bellach yn is nag yr oedd yn 2009. Rydych wedi dweud o'r blaen fod hon yn nifer fwy nag erioed o feddygon. Ai dyma sut beth yw'r nifer uchaf erioed o feddygon yn y Rhondda? A ydych yn awr yn difaru gwneud y datganiad hwnnw i mi yn gynharach yr haf hwn, neu a ydych yn dal i wadu?
1,453
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn ac am dynnu sylw at y mater hwn. Deallaf mai enw'r cwmni yw Doctaly ac mae'n gweithredu yn ardal Llundain, ond maent yn bwriadu ehangu. Rwy'n rhannu eich teimladau'n llwyr - nid wyf yn meddwl bod unrhyw le i hyn yn y gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Ni fyddai'n rhywbeth y byddem yn ei ariannu neu'n ei annog yma yng Nghymru. Rydym yn credu mewn ethos gwasanaeth cyhoeddus i'n gwasanaeth iechyd yma yng Nghymru. Rydym yn cynnal gwerthoedd ac egwyddorion craidd ar gyfer staff ym mhob man, ac nid oes unrhyw ffordd y byddwn yn annog neu'n cefnogi dulliau o'r fath yma yng Nghymru. Ein her yw sut i wella'r gwasanaeth ar gyfer y boblogaeth gyfan, nid sut i roi mantais i bobl ag arian allu manteisio ymhellach ar system sydd yma i wasanaethu pob un ohonom.
1,454
Gwnaf. Ein strategaeth ar gyfer Cymru, 'Iechyd a Gofal Gwybodus', yw ein gweledigaeth hirdymor ar gyfer gweithredu ffyrdd newydd o ddarparu gofal trwy fanteisio ar dechnolegau digidol, gan gynnwys telefeddygaeth, er mwyn gwella iechyd a lles cleifion.
1,455
Diolch i chi am y cwestiwn a'r pwynt penodol a grybwyllwyd gennych. Rydym yn cydnabod bod potensial mawr gan deleiechyd ar gyfer y dyfodol ac rydym yn meddwl ei bod yn ffordd dda o ddarparu gwasanaethau arbenigol i bobl er mwyn sicrhau bod pobl yn cael gofal yn agosach at adref. Yn aml, nid oes angen i chi deithio, ac mae hynny'n rhan fawr o'r fantais, ac rydym wedi'i weld ym menter gydweithredol canolbarth Cymru. O ran y pwynt penodol a wnewch, mewn gwirionedd rwy'n cyfarfod â'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn nes ymlaen heddiw ac mae gennym ystod o bynciau i'w trafod, a bydd mynediad band eang yn un ohonynt. Mae hyn yn rhywbeth lle mae gennym lawer i fod yn falch ohono yn y ffordd rydym yn cyflwyno mynediad band eang ledled Cymru, mewn gwahanol gymunedau, ond mae deall ym mha ardaloedd y mae'n anos cael mynediad ato yn rhan allweddol o'r hyn rydym am ei wneud i sicrhau bod gofal iechyd yn parhau i fod yn gwbl deg ac yn hygyrch yn seiliedig ar angen, yn hytrach nag ar hap yn ddaearyddol. Felly, mae'r rhain yn faterion rydym yn awyddus i gael trafodaeth yn eu cylch i ddeall yr hyn y gallwn ei wneud yn gadarnhaol i symud pethau yn eu blaen. Os hoffech ysgrifennu ataf gyda manylion am y ddeiseb, byddaf yn hapus i edrych ar hynny a chael y drafodaeth honno gyda chi wedyn.
1,456
Gwnaf, rwy'n hapus iawn i gydnabod hynny, ac rwy'n falch fod rhywun wedi nodi lansiad y gwasanaeth 111. Mae wedi cael ei ddatblygu ar gefn yr hyn sydd wedi gweithio a'r hyn nad yw wedi gweithio yn Lloegr hefyd gan grŵp prosiect yma yng Nghymru. Rwy'n hynod o falch o gydnabod y gefnogaeth wirioneddol a gafwyd gan yr ymddiriedolaeth gwasanaethau ambiwlans, gan ofal eilaidd, ond hefyd gan feddygon teulu a gweithwyr iechyd proffesiynol gofal sylfaenol yn ogystal. Felly, rydym wedi cael cefnogaeth i'r model rydym yn ei weithredu ac rwy'n meddwl y bydd yn golygu y gall pobl gael gofal a chyngor ar y ffôn neu ar-lein a gwneud hynny'n llawer haws iddynt. Felly, rwyf hefyd yn cytuno y dylai olygu y bydd amser yn cael ei ryddhau i feddygon teulu, a dylai hefyd olygu, rwy'n gobeithio, y bydd llai o bobl yn cyrraedd adrannau damweiniau ac achosion brys yn amhriodol pan ellir ymdrin â'u hanghenion gofal mewn mannau eraill. Caiff ei gyflwyno yn gyntaf yn ardal Abertawe Bro Morgannwg; mae ym Mhen-y-bont a Chastell-nedd, fel y gwyddoch, a dylai gael ei gyflwyno wedyn yn ardal Abertawe ar ôl hynny. Felly, rwy'n wirioneddol gadarnhaol ynglŷn â'r datblygiad hwn ac edrychaf ymlaen at roi'r newyddion diweddaraf i'r Aelodau yn y flwyddyn newydd am y canlyniadau a'r adborth o'r cynllun peilot cychwynnol hwn, ac rwy'n meddwl o ddifrif fod hyn yn mynd i fod yn rhywbeth y gallwn fod yn wirioneddol falch ohono ac y bydd yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol a chadarnhaol i gymunedau ac etholaethau ar draws y wlad.
1,457
Pan fyddaf yn edrych ar ddatblygiadau ar gyfer telefeddygaeth a theleiechyd, nid wyf yn ei rannu'n syml yn ôl y llinellau penodol hynny yn y gyllideb. Rydym yn edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud a pha seilwaith sydd ei angen i wneud yn siŵr y gall pobl ddefnyddio'r gwasanaeth hwnnw. Er enghraifft, mewn gofal llygaid, mae gennych angen penodol am gamerâu, ond os ydych yn siarad am fynediad at therapïau siarad, yna mae angen math gwahanol o ddylanwad arnoch, nad yw'n ymwneud yn unig â'r therapi siarad ei hun. Ond rwy'n awyddus i ddeall beth y gallwn ei wneud, pa mor gyflym y gallwn ei wneud a pha mor gyson y gallwn ei wneud er mwyn cyflwyno ymarfer effeithiol. Felly, mae gennyf ddiddordeb arbennig yn y maes hwn ac mewn eraill wrth fwrw ymlaen â thelefeddygaeth yma yng Nghymru.
1,458
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, am gyfarfod â mi ar sawl achlysur ers eich penodiad i drafod y ganolfan gofal arbenigol a chritigol a gynlluniwyd ar gyfer Cwmbrân. Fodd bynnag, erys y ffaith fod yr achos busnes ar gyfer yr ysbyty wedi bod gyda Llywodraeth Cymru ers blwyddyn yn awr, a chi bellach yw'r pedwerydd Gweinidog sydd â chyfrifoldeb am wneud penderfyniad ar yr hyn sy'n ddatblygiad hollbwysig, nid yn unig ar gyfer fy etholwyr yn Nhorfaen, ond ar gyfer Gwent gyfan. Yn wir, fel y gwyddoch, mae'r datblygiad yn rhan sylfaenol o gynllun de Cymru. Pan ofynnais i chi am hyn yn y pwyllgor iechyd yn ddiweddar, fe ddywedoch eich bod yn disgwyl cael cyngor ac y byddech yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau erbyn y toriad hanner tymor, ac eto, ddoe, dywedodd y Prif Weinidog fod penderfyniad i'w ddisgwyl erbyn diwedd y flwyddyn hon. Mae fy etholwyr bellach wedi cael addewid o ysbyty newydd ers dros ddegawd. Pa bryd y gallwn ddisgwyl penderfyniad terfynol ar hyn?
1,459
Canfu adroddiad y llynedd gan yr elusen Gofal, sy'n arwain ar iechyd a lles meddyliol yng Nghymru fod 59 y cant o'r ymatebwyr yn barnu bod mynediad at wasanaethau alcohol statudol yn Nhorfaen yn gymedrol, yn wael neu'n wael iawn. A yw Ysgrifennydd y Cabinet yn rhannu fy mhryder ynglŷn â'r canlyniadau hyn, ac a wnaiff gytuno bod angen i ni adolygu'r gwasanaethau triniaeth hyn i weld beth y gellir ei wneud i'w gwella yn Nhorfaen a Dwyrain De Cymru?
1,460
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wella darpariaeth gwasanaethau tiwmorau neuroendocrin yng Nghymru. Mae Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru wedi cynnal adolygiad trylwyr o wasanaethau de Cymru ac mae bellach yn gweithio ar weithredu gwelliannau.
1,461
Diolch am y cwestiwn. Yng ngogledd Cymru, mae pobl yn gwneud defnydd o wasanaeth arbenigol yn Lerpwl ac nid oes problem benodol gyda mynediad. Yr her yma yn ne Cymru yw sut - . Mae modd i bobl gael mynediad at wasanaethau yn Lloegr os ydynt yn dymuno gwneud hynny wrth i ni weithio ar fodel yma. Mae'n wasanaeth arbenigol ac mae'n gymharol brin. Yr her oedd gweithio drwy'r argymhellion blaenorol. Cawsom gyfarfod rhanddeiliaid ym mis Medi - dair wythnos yn ôl yn llythrennol. Mae hynny wedi cael ei ddwyn ymlaen, ac rwy'n disgwyl y bydd bwrdd rheoli Pwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru yn gwneud penderfyniad wedyn ynglŷn â chyflwyno'r model gwasanaeth yn y dyfodol. Rwy'n cydnabod nad yw hyn wedi bod mor gyflym ag y byddai pobl yn y gwasanaeth a chleifion am iddo fod, ond mae yna gydnabyddiaeth fod angen gwneud penderfyniad ac yna mae angen i bobl fwrw ymlaen â chyflwyno'r model hwnnw ar gyfer y dyfodol. Ar hyn o bryd, rwy'n credu bod pobl yn teithio ymhellach nag y gallent ac y dylent ei wneud efallai. Dylai cael gwasanaeth arbenigol priodol wedi'i drefnu yn y modd hwn olygu mewn gwirionedd y gallwn wella canlyniadau i bobl yn ogystal â mynediad.
1,462
Ar y rhan benodol ar diwmorau niwroendocrin, mae gennym lwybr ymlaen lle ceir arweinyddiaeth glinigol a chydnabyddiaeth o'r hyn sydd angen i ni ei wneud. Rydym yn disgwyl y canlyniad gan Bwyllgor Gwasanaethau Iechyd Arbenigol Cymru. Rwy'n credu eich bod yn gofyn cwestiwn ehangach o lawer am wasanaethau canser yn gyffredinol. Wrth gwrs, nodais ddoe - nid wyf yn siŵr a oeddech yn ôl ar y pryd - fod y cynllun cyflawni ar gyfer canser yn cael ei adnewyddu. Bydd yn cael ei lansio cyn diwedd y flwyddyn galendr ac mae hwnnw'n darparu ar gyfer arweinyddiaeth gwasanaethau ac arweinyddiaeth glinigol. Ac yn bwysicach, mae'r trydydd sector yn rhan o hynny hefyd. Yr her yw pa un a oes gennym arweinydd clinigol cenedlaethol fel y nodwyd, ac a fydd hynny mewn gwirionedd yn ysgogi gwelliant. Ond rwy'n credu, o ystyried y gwaith sydd wedi'i wneud ar ei adnewyddu ac o ystyried y - . Yn y gymuned glinigol yng Nghymru yn y gwasanaethau canser, mae yna undod pwrpas go iawn a chredaf fod proses y cynllun cyflawni wedi ein helpu i sicrhau hynny. Felly, nid wyf yn credu ei fod yn ymwneud ag arweinydd clinigol cenedlaethol ar gyfer y maes neu benodi oncolegydd penodol. Mae'n ymwneud mewn gwirionedd â dweud: pan gawn y cynllun, sut rydym yn ei gyflwyno'n gyflym ac yn gyson, a pha ddiwygiadau sydd angen i ni eu gwneud o ran y ffordd y darparwn y gwasanaethau hynny, mewn gofal sylfaenol, gyda chymorth oncoleg gofal sylfaenol, yn ogystal â'r hyn sydd angen i ni ei wneud mewn gofal eilaidd a thros y llwybr cyfan? Felly, mae llawer i ni ei wneud ac rwy'n obeithiol y gallwn wneud hynny yn ystod y tymor hwn a chael mynediad gwell, a gwell canlyniadau hefyd i bobl yma yng Nghymru.
1,463
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Weinidog. Wrth gwrs, fel rydw i wedi crybwyll eisoes yn y pwyllgor, mae bod yn heini a bod yn ffit yn golygu gostyngiad yn eich pwysau gwaed chi o ryw 30 y cant, gostyngiad yn lefel y siwgr yn eich gwaed eto o ryw 30 y cant, gostyngiad yn lefel y colesterol o ryw 30 y cant a hefyd colli pwysau ryw 30 y cant. Nid oes yna ddim tabled ar wyneb daear sy'n gallu cystadlu efo'r ffigurau hynny. Felly, a allwch chi bwysleisio pa mor hawdd yw hi o ran y busnes ffitrwydd yma? Mae lot o bobl - beth sy'n eu stopio nhw ydy meddwl, 'O, mae'n rhaid imi brynu aelodaeth o ryw "gym" yn rhywle; mae'n rhaid imi brynu'r cyfarpar arbenigol; dillad ac ati'. Mater o gerdded 10,000 o gamau'r dydd ydy o. A allwch chi jest bwysleisio pa mor hawdd ydy hi, yn y bôn, i fod yn ffit?
1,464
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rwy'n gwybod eich bod yn ymwybodol, ar lawr gwlad, yn Llanharan a Phencoed, fod galwadau cynyddol, yn enwedig -
1,465
Rwyf wedi derbyn un cwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66 ac rwy'n galw ar Darren Millar i ofyn y cwestiwn brys.
1,466
Diolch i chi am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Roedd hwn yn amlwg yn newyddion a oedd yn peri pryder pan ddaeth yn amlwg ddoe yng ngogledd Cymru, yn enwedig o ystyried y ffaith fod y llwch heb setlo eto ar sgandal Tawel Fan, a achosodd y fath ysgytwad, wrth gwrs, i bobl gogledd Cymru y llynedd. Rwyf fi, fel chithau, yn croesawu'r camau a gymerwyd gan y bwrdd iechyd hyd yn hyn, dros y dyddiau diwethaf. Wrth gwrs, mae'n hanfodol yn awr eu bod cyfyngu cymaint â phosibl ar yr aflonyddwch i'r cleifion agored i niwed sy'n dal yng ngofal yr uned arbennig ac yn rhoi gwybod i anwyliaid pobl ynglŷn ag unrhyw ddatblygiadau. Ond a gaf fi ofyn i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, pa sicrwydd y gallwch ei roi i bobl gogledd Cymru nad oes yna broblem fwy cyffredinol gyda gwasanaethau iechyd meddwl ar draws y rhanbarth? Nid yw hwn ond y diweddaraf o nifer o adroddiadau a phryderon sy'n cael eu crybwyll ynglŷn ag ansawdd y gofal ac yn wir, yr amgylchedd lle mae pobl yn derbyn gofal mewn gwahanol unedau ar draws gogledd Cymru. A allwch ddweud wrthym hefyd a yw nifer y gwelyau yng ngogledd Cymru yn addas, yn eich barn chi, i ateb anghenion y boblogaeth yno? Ac a allwch ddweud wrthym, o ystyried bod y bwrdd iechyd yn destun mesurau arbennig, a'i fod yn destun mesurau arbennig yn rhannol oherwydd y problemau yn y gwasanaethau iechyd meddwl yn y rhanbarth, pryd ar y ddaear y gwelwn strategaeth iechyd meddwl yng ngogledd Cymru fel y gallwn gael y math o sicrwydd ynglŷn â dyfodol y gwasanaethau yn y rhanbarth hwnnw, ac y gallwn ddwyn y bwrdd iechyd, ac yn wir, chi fel Ysgrifennydd y Cabinet, i gyfrif am gyflawni'r strategaeth honno? Nid yw'r sefyllfa bresennol yn dderbyniol. Mae'n bwysig fod pobl yn cael y sicrwydd hwn. Ar hyn o bryd, rwy'n ofni bod cwestiynau mawr i'w gofyn ynglŷn â'r gwasanaethau hyn yn y rhanbarth.
1,467
Ysgrifennydd y Cabinet, nid wyf yn gwybod manylion yr hyn a ddigwyddodd ar y ward hon, ond fel y gwyddoch, rwy'n hyrwyddwr hirsefydlog i'r angen i ymestyn Deddf Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru) 2016 i gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion. Rwyf wedi gwneud y pwynt o'r blaen yn y Siambr mai cleifion ar y wardiau hynny yn ôl pob tebyg yw'r bobl fwyaf di-lais a welwn yn y GIG. Pan fydd yr ymchwiliad hwn wedi'i gwblhau, a wnewch chi gytuno i rannu'r canfyddiadau gydag Aelodau'r Cynulliad? Ac yn benodol, a wnewch chi ystyried a all hyn roi hwb pellach i'r angen i ymestyn y ddeddfwriaeth ar lefelau staffio diogel i gynnwys wardiau iechyd meddwl oedolion yng Nghymru?
1,468
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r ddadl yn enw Plaid Cymru ar yr economi wledig, ac i wneud y cynnig, Simon Thomas.
1,469
Rwyf wedi dethol y ddau welliant i'r cynnig. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
1,470
Ar y pwynt hwnnw'n unig, ac rwy'n cytuno bod yn rhaid iddo fod yn benderfyniad i ni, yn amlwg; a fyddai felly'n gwrthod unrhyw symudiadau gan Lywodraeth San Steffan hefyd i gadw'n ôl naill ai adnoddau neu bwerau heb eu datganoli'n llawn i'r lle hwn?
1,471
Diolch, Lywydd, ac rydw i'n cynnig y cynnig yn enw Plaid Cymru. Mae Plaid Cymru eisiau adfer balchder yn ein trefi drwy sicrhau ein bod ni'n mynd i'r afael â'r dirywiad y mae cynifer ohonyn nhw wedi ac yn ei wynebu. Y dyddiau yma, mae nifer o ganolau ein trefi yn hanner gwag ac yn llawn o siopau sydd â'u ffenestri wedi'u bordio i fyny. Yn y fath amgylchedd, nid yw'n syndod bod llawer o bobl yn dewis mynd i barciau manwerthu ar gyrion trefi, gwneud eu siopa ar-lein, neu neidio yn y car i fynd i rywle arall. Mae gan Lywodraeth Cymru ran i'w chwarae mewn adfer balchder canol ein trefi. Rŷm ni am iddyn nhw fod yn ardaloedd deniadol y mae pobl yn dewis treulio eu hamser rhydd ynddyn nhw i siopa ac i gymdeithasu. Mae gan ganol trefi llwyddiannus lawer o weithgareddau i'w cynnig er mwyn denu ymwelwyr. Mae'n rhaid inni sicrhau bod trefi'n gallu cynnig amrywiaeth o weithgareddau diwylliannol a gwasanaethau lleol hefyd, ochr yn ochr â siopau, er mwyn cynyddu nifer yr ymwelwyr. Mae ffigurau nifer ymwelwyr yn rhoi darlun clir o sefyllfa rhai o'n trefi ni ledled Cymru. Ers 2012, mae gostyngiad sylweddol mewn rhai trefi. Er enghraifft, y Fenni - mae 39 y cant yn llai yn ymweld â chanol y dref honno - yr Wyddgrug, 28 y cant yn llai; Aberystwyth, 18 y cant yn llai. Mae hyn, wrth gwrs, yn arwain at gau siopau ac at asedion cymunedol a gwasanaethau lleol yn diflannu. Efallai bod hynny, wrth gwrs, yn rhan o'r dirywiad parhaol mewn cyfradd siopau gwag. Mae'r ffigurau diweddaraf gan y Local Data Company yn dangos mai Cymru sydd â'r gyfradd siopau gwag cenedlaethol uchaf yn y Deyrnas Unedig - Cymru, 15 y cant; yr Alban, 12 y cant; Lloegr, 11 y cant. Mae Casnewydd, er enghraifft, yn un o'r trefi neu ddinasoedd sy'n perfformio gwaethaf ym Mhrydain, gyda chyfradd o siopau gwag o dros 25 y cant. Ym Mangor, yn fy etholaeth i, mae 21.8 y cant o'r siopau yn wag -
1,472
Rwy'n falch eich bod wedi crybwyll ardaloedd gwella busnes. Yn achos y Fenni, a grybwyllwyd yn gynharach, pleidleisiodd y busnesau lleol yno yn erbyn cael ardal gwella busnes mewn gwirionedd, felly a ydych yn derbyn nad dyna'r unig ateb ledled Cymru ar gyfer gwella masnach mewn trefi?
1,473
Diolch yn fawr iawn. Rwyf wedi dethol y gwelliannau i'r cynnig a galwaf ar - . Mae'n ddrwg gennyf, rwyf wedi dewis tri gwelliant i'r cynnig. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Galwaf ar Russell George i gynnig gwelliannau 1 a 3 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies.
1,474
Iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
1,475
Wel, unwaith eto, dyma beth yw llunio polisi drwy anecdot, ac nid yw'r dystiolaeth yn cadarnhau hynny. Nawr, dywedodd Sian Gwenllian fod angen i ni sicrhau chwarae teg gyda datblygiadau ar gyrion y dref. Felly, gadewch i ni wneud hynny; gadewch i ni feddwl y tu allan i'r bocs. Yn hytrach na dweud, 'Beth am gynyddu'r cymhorthdal i feysydd parcio yn y dref', gadewch i ni roi baich ar y cwmnïau rhyngwladol sydd wedi bod yn datblygu safleoedd ar gyrion y dref dros yr 20 mlynedd diwethaf a'r meysydd parcio di-dreth sydd ganddynt. Felly, rydym yn dwyn adnoddau cyhoeddus prin i dalu am feysydd parcio. Gadewch i bawb ohonom ddod at ein gilydd a meddwl y tu allan i'r bocs. Mae gennym y pwerau i wneud hynny. Gadewch i ni annog Llywodraeth Cymru i edrych ar sut y gall gynyddu tariff ar ganolfannau siopa ar gyrion y dref. Byddai hynny, Simon Thomas, yn mynd i'r afael â newid yn yr hinsawdd, rhywbeth roedd Plaid Cymru yn dweud wrthym ddoe ddiwethaf eu bod yn awyddus i'w wneud. Felly, gadewch i ni edrych ar ddefnyddio'r pwerau hynny -
1,476
Mae cyflwr llawer o'n strydoedd mawr yn olygfa drist. Yn lle strydoedd mawr ac unigryw a arferai fod yn llawn o weithgaredd, yn awr ceir sefydliadau gamblo, tafarndai cadwyn, siopau bwyd brys neu siopau elusen, neu fel arall, siopau gwag. Mewn rhai achosion, bron na allwch weld y pelenni chwyn yn rholio ar hyd canol y stryd fawr. Anadl einioes y stryd fawr yw nifer yr ymwelwyr a hwylustod. Mae creu ardaloedd i gerddwyr yn unig ar y stryd fawr yn swnio'n syniad braf, ond mae'n cael gwared ar gwsmeriaid sy'n mynd heibio oddi ar y stryd fawr. Mae gan bobl fywydau prysur ac nid oes ganddynt amser i dalu ac arddangos, a chadw llygad wedyn ar yr amser rhag ofn eu bod yn ei gadael hi'n rhy hir ac yn cael dirwy. I waethygu pethau, mae awdurdodau lleol yn parhau i ganiatáu i archfarchnadoedd gael eu hadeiladu ychydig oddi ar y stryd fawr, weithiau wrth ymyl meysydd parcio newydd oddi ar y stryd fawr, gan sugno cwsmeriaid rheolaidd oddi ar y stryd fawr. Ond pwy all feio cwsmeriaid am fynd i'r archfarchnad, nad yw'n gwneud iddynt dalu am barcio neu'n eu dirwyo os ydynt yn treulio ychydig gormod o amser yn gwario arian yn eu siop? Mae cyfuniad o barthau cerddwyr, taliadau parcio ac archfarchnadoedd wedi cael gwared ar gwsmeriaid oddi ar strydoedd mawr lleol i bob pwrpas.
1,477
Rhowch bwysau ar y Llywodraeth. Eich Llywodraeth chi yw hi. Rydych yn cael cyfarfodydd grŵp gyda hwy, 'does bosibl. Duw. Beth bynnag, unedau gwag: mae'n amlwg yn broblem mewn trefi. Mae hefyd yn broblem yn y brifddinas hon. Os ewch chi ar hyd y stryd fawr, mae yna uned wag ar ôl uned wag. Mae'n broblem enfawr. Mae angen strategaeth arnom; mae angen parthau datblygu economaidd lleol, er enghraifft, a help gyda marchnata; rydym angen gwella blaenau siopau, gwella adeiladau, a pharcio am ddim yn ogystal, fel y mae'r cynnig yn nodi. Help gyda thrafnidiaeth gyhoeddus hefyd. Byddai lleihau ardrethi busnes yn dda, ac yn mynd i'r afael â'r rhenti gormodol nad yw pobl fusnes lleol yn gallu eu fforddio. Mae'r mathau hyn o fentrau yn hollol, hollol fforddiadwy, oni bai bod gennych Lywodraeth sy'n gwastraffu £1 filiwn ar werthu dwy uned y gallent fod wedi'u defnyddio fel canolfannau hybu busnes ar gyfer y dref benodol honno, ac ni wnaethant hynny. Gwastraffwyd £1 filiwn ganddynt. Collwyd gwerth £40 miliwn, fel y dywedasom yn gynharach, ar gytundeb tir Llys-faen, a £7.25 arall yn y Rhws. Pan fyddwch yn adio'r holl ffigurau hyn at ei gilydd, gellid bod wedi defnyddio llawer o'r arian hwn i adfywio canol trefi yn economaidd. Ond nid oes gennym Lywodraeth sy'n gallu gwneud hynny. Mae Cymru yn haeddu llawer gwell.
1,478
Rwy'n credu ei fod yn dir cyffredin, a dyna'n union beth a ddywedodd Lee, rwy'n meddwl. Mae eich pwynt yn un da ac wedi'i ailadrodd gan yr Aelod. A gaf fi ddweud nad wyf yn gwrthwynebu cydgyfrifoldeb am geisio ailadeiladu ein cymunedau a chanol trefi? Dylai'r holl bethau hyn gyfrannu at ystyriaeth y Gweinidog sy'n gyfrifol am ardrethi busnes dros ystod yr wythnosau nesaf. Rwy'n ddiolchgar am y cyfle i ymateb i gyd-Aelodau yn y ddadl heddiw. Fe soniaf am y pwyntiau a nododd Mr McEvoy yn hyn. Roedd yn gyfraniad dig iawn y prynhawn yma. Efallai y caf dynnu ei sylw at yr adeg pan oedd yn ddirprwy arweinydd y cyngor yma yng Nghaerdydd: ni wnaeth, ac ni chyfeiriodd at yr un o'r pethau hynny yn y rôl honno yn ei ddyletswyddau. Ond rwy'n hapus iawn i barhau â'r drafodaeth gydag Aelodau ar draws y Siambr.
1,479
Tybed a wnewch chi egluro i ni pam nad oedd George Osborne yn ystyried y dadansoddiad hollol gywir hwn, y gallai tai fod wedi rhoi hwb i'r economi yn hytrach na gwthio'r cyfan i mewn i'r banciau a oedd wedyn yn ei gadw iddynt eu hunain.
1,480
Yn bendant. Dyna'r ddadl rwyf wedi bod yn ei rhoi yma ers dros 13 mlynedd. Fel y mae paragraff agoriadol maniffesto Cartrefi i Bawb ar gyfer Hydref 2014 yn datgan, mae yna argyfwng tai. Mae'r argyfwng wedi cael ei achosi gan fethiant Llafur i adeiladu cartrefi fforddiadwy newydd, nid yr hawl i brynu, sydd wedi'i wanhau dan Lafur ac wedi gweld gwerthiannau'n edwino o'r miloedd i ychydig gannoedd yn unig bob blwyddyn. Yn lle hynny, argymhellodd y Ceidwadwyr Cymreig y dylid diwygio'r hawl i brynu, gan fuddsoddi elw o werthiannau cynghorau mewn tai cymdeithasol newydd, a chynyddu'r cyflenwad tai drwy hynny gan helpu i fynd i'r afael ag argyfwng cyflenwad tai Llafur. Mae hyn yn adlewyrchu'r polisi hawl i brynu a ailfywiogwyd yn Lloegr, lle mae Llywodraeth y DU wedi ymrwymo i ailfuddsoddi, am y tro cyntaf erioed, y derbyniadau ychwanegol o werthiannau hawl i brynu mewn tai rhent fforddiadwy newydd ar draws Lloegr gyfan. Pe bai cyngor yn methu gwario'r derbyniadau ar dai rhent fforddiadwy newydd o fewn tair blynedd, byddai'n rhaid iddo ddychwelyd yr arian nas gwariwyd i'r Llywodraeth gyda llog, gan greu cymhelliant ariannol cryf i gynghorau fwrw iddi i adeiladu mwy o gartrefi ar gyfer pobl leol. Ers 2010, mae mwy na dwywaith cymaint o dai cyngor wedi cael eu hadeiladu yn Lloegr nag ym mhob un o 13 mlynedd y Llywodraeth Lafur ddiwethaf gyda'i gilydd, pan welwyd rhestrau aros yn Lloegr yn dyblu, bron iawn, ar ôl torri 421,000 oddi ar nifer y cartrefi cymdeithasol ar rent. Fel y dywedodd tenant cyngor wrthyf, Mae'r cynllun hawl i brynu yn cynnig cyfle i ni gynllunio ar gyfer dyfodol heb fod angen cymorth y wladwriaeth rwy'n eich annog i wneud unrhyw beth yn eich gallu i wrthwynebu'r cynnig i roi terfyn ar yr Hawl i Brynu yng Nghymru. Yn hytrach nag ailgylchu dogma 30 oed, dylai Llywodraeth Cymru helpu pobl fel hyn a defnyddio pob arf sydd ar gael i fynd i'r afael â'r argyfwng cyflenwad tai y maent wedi ei greu yng Nghymru.
1,481
Newydd ddechrau rwyf fi. [Yn parhau.] - yn hollol ddoeth i ni atal yr hawl i brynu. Nid oedd angen i fenter hawl i brynu Mrs Thatcher fod yn drychineb llwyr. Pe bai'r arian roedd pobl yn ei dalu i brynu eu cartrefi wedi cael ei ailfuddsoddi mewn adeiladu mwy o gartrefi, gallai fod wedi cyflwyno dewis a dulliau amrywiol o reoli'r cartref. Rwy'n cofio'r dyddiau pan na chaech hongian eich golchiad y tu allan a phan na allech beintio eich drws mewn unrhyw liw ar wahân i'r lliw a ddynodwyd gan y rheolwr tai. Felly, rydym wedi symud y tu hwnt i hynny, yn bendant, ond yn anffodus, defnyddiwyd yr hawl i brynu fel gweithgarwch stripio asedau gan y Trysorlys, ac yn lle hynny gorfodwyd awdurdodau lleol i ddefnyddio'r derbyniadau hawl i brynu i dalu eu dyledion. Dyna pam na allent adeiladu mwy o gartrefi. Yn ogystal â hyn, gan fod y tenantiaid yn cael disgownt o 50 y cant, golygai nad oedd y cynghorau byth mewn sefyllfa i adeiladu tai yn lle'r cartrefi roeddent wedi'u colli, am eu bod yn amlwg yn mynd i gostio o leiaf hanner cymaint eto. Hyd yn oed gyda disgownt is, ni adeiladwyd tai yn lle mwy na hanner yr eiddo hawl i brynu yn ystod y pedair blynedd diwethaf yn ôl y Ffederasiwn Tai Cenedlaethol.
1,482
Syr Anthony Eden, pan oedd yn Brif Weinidog ynghanol y 1950au, a gafodd y weledigaeth o greu democratiaeth sy'n berchen ar eiddo yn y wlad hon. Byth ers hynny, i Lywodraethau Ceidwadol olynol, mae ehangu perchentyaeth wedi bod yn egwyddor graidd. I ormod o'n pobl, nid oedd perchentyaeth yn ddim ond breuddwyd. Roeddent eisiau bod yn berchen ar eu cartref eu hunain, ond roedd hynny y tu hwnt i'w gafael. Amddifadwyd gormod ohonynt o'r cyfle i brynu'r cartref lle roeddent yn byw. Rydym yn cefnogi perchentyaeth, gan ei fod yn annog annibyniaeth, hunanddibyniaeth a dyhead. Mae'n rhoi cyfran i bobl yn eu cymunedau. Rhwng 1979 a 1997, ehangodd y Llywodraeth Geidwadol y cyfle ar gyfer perchentyaeth. Roedd yr hawl i brynu yn rhan lwyddiannus iawn o'u rhaglen - yn 2014, roedd hi'n 34 mlynedd ers dechrau'r cynllun hawl i brynu yn Lloegr. Yn ystod y cyfnod hwn, cafodd gwerthiant dros 1,800,000 o gartrefi ei gwblhau o dan y rhaglen hon. Yng Nghymru, mae 130,000 o deuluoedd wedi cael y cyfle i brynu eu tai cyngor eu hunain. Dyna 130,000 o deuluoedd yn cael troed ar yr ysgol eiddo am y tro cyntaf, yn berchen ar gartref y gallant ei drosglwyddo i'r genhedlaeth nesaf. Brwydrodd y Blaid Lafur i'r eithaf yn erbyn yr hawl i brynu. Nid oedd yn rhan o'u hathroniaeth y dylai tenantiaid cyngor gael yr hawl a'r urddas o fod yn berchen ar eiddo, ac mae hynny'n parhau. Yr wythnos diwethaf, yn Lerpwl, cadarnhaodd Gweinidog tai Mr Corbyn ar ran yr wrthblaid y byddent yn atal yr hawl i brynu. Wrth wneud hynny, maent yn dilyn arweiniad Llafur Cymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn tanseilio'r hawl i brynu yn gyson yng Nghymru. Yn gyntaf, torrwyd y disgownt a oedd ar gael yn ei hanner, cyn atal y cynllun yn gyfan gwbl yn Sir Gaerfyrddin. Yn awr, maent yn bwriadu diddymu'r hawl i brynu yn gyfan gwbl. Honnodd y Prif Weinidog y byddai diddymu'r hawl 'yn sicrhau bod tai cymdeithasol ar gael i'r rhai y mae arnynt eu hangen, ac nad ydynt yn gallu cael gafael ar lety drwy fod yn berchen ar gartref neu drwy'r sector rhentu preifat.'
1,483
Rwy'n croesawu'r cyfle i gyfrannu at y ddadl y prynhawn yma, ac yn enwedig y ffordd yr agorodd David Melding y ddadl, oherwydd, yn amlwg, o'i gosod allan, roedd dwy ran i'r ddadl hon. Y rhan gyntaf yn amlwg yw'r ddadl ideolegol, ac rwy'n gwerthfawrogi safbwynt y Llywodraeth ar yr hawl i brynu, ond mae'n ffaith mai dyma, yn ôl pob tebyg, oedd un o'r cyfryngau grymuso cymdeithasol mwyaf a gyflwynwyd gan unrhyw Lywodraeth. Heb rithyn o amheuaeth, mae'r gallu i rywun gael rhan yn y gymdeithas a bod yn berchen ar eu heiddo eu hunain - ni allwch rymuso neb yn fwy na hynny. Siaradaf fel mab i rywun a elwodd o allu prynu eu cartref a'u fferm eu hunain mewn gwirionedd, cyn symud ymlaen i fod yn berchen ar eu busnes eu hunain - fe gymeraf ymyriad mewn munud, Jenny, ond gadewch i mi symud ymlaen ychydig, ar ôl dim ond 40 eiliad. Mae'r gallu i gael rhan o'r fath yn y gymdeithas yn rhywbeth y mae'n anffodus iawn fod y Llywodraeth yma mewn gwirionedd yn mynd i ddeddfu i gael gwared arno fel hawl. Fel y soniodd Jenny yn ei chyfraniad, dywedodd mai atal dros dro fydd hyn. Nid atal dros dro mohono. Rydych yn mynd i basio deddf i'w wahardd yn y rhan hon o'r Deyrnas Unedig mewn gwirionedd. Credaf ei fod yn gam go iawn yn ôl, ac nid yw'n cyfrannu mewn unrhyw fodd at rymuso pobl i symud ymlaen mewn bywyd a chael bod yn rhan o gymdeithas yn y ffordd honno. Fe gymeraf yr ymyriad.
1,484
A ydych yn gwybod beth yw'r data - yr ystadegau - ar lefelau adfeddiannu tai ar gyfer y rhai sydd wedi defnyddio'r hawl i brynu?
1,485
Rwy'n ddiolchgar i chi am dderbyn ymyriad, Ysgrifennydd y Cabinet. Fe ddywedoch fod y stoc wedi'i cholli. Fel y dywedodd David, a gyflwynodd y ddadl, roedd hwnnw'n nam ar y cynllun a gyflwynwyd - nad oedd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gymryd lle'r stoc. Pam rydych chi, felly, yn cydnabod bod yna ddiffyg o'r fath yn y cynllun gwreiddiol, yn hytrach na gwneud y cynllun yn fwy hyblyg i'r hyn sydd ei angen yn yr unfed ganrif ar hugain a chaniatáu i'r derbyniadau gael eu defnyddio mewn gwirionedd i adeiladu mwy o gartrefi, yn hytrach na gwahardd y cynllun - a defnyddio'r gyfraith i wahardd rhywbeth fel hyn?
1,486
Nes y byddwch yn dawel, nid wyf yn mynd i alw ar eich person i ymateb i'r ddadl. Felly, os gallwch fod yn dawel, fe alwaf ar Suzy Davies i ymateb i'r ddadl - Suzy Davies.
1,487
Iawn, diolch. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Gwrthwynebiad. Diolch. Gohiriaf y pleidleisio ar yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
1,488
Diolch i chi, fadam Dirprwy Lywydd. Rwy'n cynnig y cynnig hwn yn enw Neil Hamilton. Rydym yn cynnig y cynnig y dylid rhoi'r gorau i HS2 a defnyddio'r arbedion sy'n deillio o hynny i wella'r rhwydwaith presennol drwy'r DU gyfan, gan gynnwys y rhai yng Nghymru. Rydym yn dadlau nad yw'n rhy hwyr i roi diwedd ar y prosiect hwn a allai fod yn drychinebus oherwydd, er bod £2 biliwn eisoes wedi ei wario, nid oes un dywarchen wedi'i thorri eto. Mae HS2 yn ddull o deithio a gynlluniwyd i gludo dynion busnes mwythlyd o Lundain i rai o ddinasoedd y gogledd ar gost o filiynau o bunnoedd o arian trethdalwyr Prydain - £55 biliwn yn ôl yr amcangyfrif diweddaraf, ond mae'n codi'n gyflym. Yn ogystal, mae'r gost ddynol ac amgylcheddol yn anfesuradwy yn yr ystyr fod y prosiect hwn yn galw am ddinistrio o leiaf 58 o ffermydd a miloedd o gartrefi teuluol. Mewn gwirionedd, bydd y newid arfaethedig i'r llwybr ger Sheffield yn galw am ddinistrio ystad gyfan o dai, sydd ar yr union eiliad hon yn y broses o gael ei hadeiladu. Mae'r cyfan yn eironig iawn o ystyried ein bod yng nghanol prinder tai trychinebus, gan gynnwys yn Sheffield ei hun, gyda 28,000 ar eu rhestr aros am dai cymdeithasol.
1,489
Gyda phob parch, David, brynhawn ddoe fe foicotiodd eich plaid y Cynulliad oherwydd eich bod yn dweud ein bod yn cael dadl ofer. Hyd yma yn y ddadl hon, nid ydych wedi siarad am ddim heblaw Lloegr. Felly, mae'r hyn sy'n iawn i'r ŵydd yn iawn i'r ceiliagwydd hefyd. [Chwerthin.]
1,490
Diolch i chi, Lywydd. Hoffwn gynnig y gwelliannau yn enw Paul Davies ac wrth wneud hynny, rwy'n nodi fy siom fod UKIP wedi cyflwyno'r cynnig hwn heddiw. Mae'n ymddangos bod yna fethiant i gydnabod y manteision cymdeithasol ac economaidd y bydd HS2 yn eu dwyn i bobl canolbarth a gogledd Cymru yn arbennig. Mae gwrthod y cynllun a fydd yn asgwrn cefn, rwy'n meddwl, i rwydwaith rheilffyrdd y DU yn dangos y diffyg uchelgais sydd gennych yn UKIP ar gyfer y DU ac wrth gwrs, ar gyfer Cymru hefyd. Hefyd, rwy'n ymwybodol fod rhai aelodau o'r grŵp UKIP yma yn cefnogi'r cynllun, cyn iddynt ymuno ag UKIP o leiaf - . Nodaf yma ddyfyniad gan Mark Reckless: 'yn falch o bleidleisio dros HS2' a gwneud yr 'achos cadarnhaol' dros y fenter, gan ychwanegu bod yr amcangyfrifon yn 'hynod o geidwadol'. Wrth gwrs, aeth Mark Reckless ymlaen hefyd i gynhyrchu blog sydd, mewn gwirionedd, yn manylu ar ei gefnogaeth, ond rwy'n derbyn nad yw UKIP yn defnyddio'r chwip ar eu grŵp, felly edrychaf ymlaen at weld Mark Reckless yn gwrthod y cynnig ac yn cefnogi ein gwelliannau yn nes ymlaen. Nawr, dywedir wrthym, wrth gwrs, y bydd HS2 yn agor yn 2026. Bydd HS2 yn gwasanaethu'r trefi a'r dinasoedd allweddol ledled Lloegr, a hefyd, wrth gwrs, yn rhedeg i fyny i'r Alban hefyd. Ond drwy ddarparu - [Torri ar draws.] Iawn, fe wnaf.
1,491
O, iawn. Wel, mae gennyf eich blog o fy mlaen yma, ond mae'n gwrthddweud rhai o'r pwyntiau a wnaeth eich cyd-Aelod, sy'n eistedd wrth eich ymyl, yn llwyr. Efallai y gwnaf ei drosglwyddo i David Rowlands i'w ddarllen ychydig yn nes ymlaen. Nawr, ble roeddwn i? Ble roeddwn i? Iawn. Bydd hyd yn oed y bobl nad ydynt yn defnyddio trenau yn elwa hefyd wrth gwrs, yn enwedig yng ngogledd Cymru. Mae yna fanteision, wrth gwrs, i greu swyddi a phrentisiaethau, a grëwyd yng nghanolfan HS2 yn Crewe, ac wrth gwrs, y cysylltiadau gwell a ddaw i ogledd a chanolbarth Cymru yn ei sgil. Yn ddiweddar cawsom ddadl yn y Siambr hon am y cyfleoedd a'r heriau o gydweithredu'n drawsffiniol a'r angen i wella cysylltedd rhwng gogledd Cymru a'r pwerdy sy'n dod i'r amlwg yng ngogledd Lloegr. Efallai nad oedd Aelodau UKIP yn bresennol ar gyfer y ddadl, ond o'r hyn a gofiaf, cafwyd cytundeb cyffredinol yn y Siambr fod gennym botensial, drwy gadarnhau gogledd Cymru fel rhan hanfodol o'r rhanbarth economaidd newydd sydd eisoes yn bodoli, i hwyluso twf sylweddol yng nghanolbarth Cymru, ac i ailgydbwyso economi Cymru yn ogystal, sy'n bwysig, rwy'n meddwl, i ffwrdd rhag gorddibyniaeth ar Gaerdydd a de Cymru. Yn olaf, wrth gwrs, y mater arall yw hwn: rwy'n credu ei bod yn bwysig, wrth gwrs, fod angen i Lywodraeth Cymru ymgysylltu'n effeithiol â Llywodraeth y DU a chyrff rhanbarthol eraill hefyd i sicrhau y caiff gwasanaethau ac amserlenni eu trefnu i sicrhau manteision gorau HS2 i bobl gogledd Cymru. Rwy'n gobeithio'n fawr y gall Ysgrifennydd y Cabinet roi sylwadau ar hynny yn ei gyfraniad efallai, ond rwy'n annog yr Aelodau i wrthod y cynnig hwn heddiw ac i gefnogi ein gwelliannau.
1,492
Ie, diolch. Diolch i chi gyd am eich cyfraniadau i'r ddadl hon. Fe soniaf am Russell George pan ddywedodd ein bod yn methu cydnabod y manteision. Ond mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr economaidd yn dweud na fydd unrhyw fanteision i economi Cymru os caiff HS2 ei hadeiladu. Ac yna aeth Mark Isherwood ymlaen i sôn am y ddogfen ffansïol hon, lle bydd Llywodraeth y DU yn gwneud yn hollol sicr y byddant yn trydaneiddio gogledd Cymru, er y gallai'r prosiect hwn fod wedi costio biliynau o bunnoedd yn fwy. Dai Lloyd - wel, rwy'n eithaf dryslyd a dweud y gwir, Dai, gan fod pawb arall yn y Siambr hon yn cydnabod bod y prosiect hwn yn effeithio ar Gymru mewn ffordd - naill ai, fel y dadleuwn ni, mewn modd niweidiol, neu fel y mae pobl eraill sydd wedi siarad - [Torri ar draws] A gaf fi ateb hyn? Diolch. Mae eraill yn dweud y bydd o fudd mawr iddi. Ond, wyddoch chi, yn ystod yr holl ddadleuon ar adael yr UE, clywsom lu o amheuon yn cael eu lleisio gan Blaid Cymru ynglŷn â pharodrwydd Llywodraeth y DU i drosglwyddo'r cyllid a oedd yn dod yn flaenorol i Gymru o Frwsel. Eto i gyd, yma, maent yn hollol fodlon dibynnu ar haelioni honedig ddiddiwedd yr un sefydliad i ariannu economi Cymru ar ffurf taliadau canlyniadol. Achos gwaeth na'r un, os caf ddweud, o ragrith noeth.[Torri ar draws.] Roeddwn yn gwneud yr union bwynt. Wel -
1,493
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw wrthwynebiad? [Gwrthwynebiad.] Gohiriwyd y bleidlais ar yr eitem yma tan y cyfnod pleidleisio.
1,494
Mae'r bleidlais gyntaf ar ddadl Plaid Cymru, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 10, neb yn ymatal, 43 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
1,495
Galwaf nawr am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 37 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i wrthod.
1,496
Y bleidlais nesaf ar ddadl Plaid Cymru, ac rydw i'n galw am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Rhun ap Iorwerth. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 16, neb yn ymatal, 38 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig wedi'i wrthod.
1,497
Gwelliant 2: rydw i'n galw am bleidlais ar welliant 2 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 38, neb yn ymatal, 16 yn erbyn. Felly, mae'r gwelliant wedi'i dderbyn.
1,498
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 54, neb yn ymatal, neb yn erbyn. Felly, mae'r cynnig fel y'i diwygiwyd wedi'i dderbyn.
1,499