text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Diolch, Lywydd. Bydd llawer o gyd-Aelodau yma yn y Siambr yn ymwybodol fy mod, tan fis Mawrth eleni, yn athrawes amser llawn. Yn sicr, fe fwynheais fy 16 mlynedd yn yr ystafell ddosbarth, ond fy atgofion gorau o'r swydd oedd yr amser a dreuliwyd y tu allan i'r ystafell ddosbarth. Wrth ddweud hyn, nid cyfeirio rwyf at y gwyliau hir honedig y mae athrawon yn ei gael, sydd gyda llaw, gallaf gadarnhau, yn cael ei lenwi â marcio, cynllunio a nifer o rolau eraill, ond at yr adegau a dreuliais gyda fy nosbarthiadau yn cymryd rhan mewn cyfleoedd dysgu y tu allan i gyfyngiadau'r pedair wal. Dyma fydd ffocws fy nadl fer heddiw. Hoffwn ddiolch i Wasanaeth Ymchwil yr Aelodau a Marc Withers o Ignite Up am eu help yn awgrymu adnoddau y gallwn eu defnyddio yn fy nghyfraniad. Rwyf hefyd yn falch i gynnig munud yr un o fy amser siarad i Rhianon Passmore a Julie Morgan. Mae wedi cael ei hen gydnabod bod amser sy'n cael ei dreulio y tu allan i'r ystafell ddosbarth yn gallu bod yn fuddiol iawn i addysg disgyblion. O fy mhrofiadau fy hun o ddysgu hanes a daearyddiaeth mewn ysgol uwchradd, gwelais fod yna bob amser rywbeth gwirioneddol hudolus am ddysgu a ddigwyddai y tu allan i'r ystafell ddosbarth, boed yn ymchwilio castell yn ymarferol, yn wers geogelcio gystadleuol i dimau, yn daith maes at afon lle byddai disgyblion yn mynd i mewn i'r dŵr a mesur lled, dyfnder a llif dŵr, neu hanner awr fach hyd yn oed allan ar dir yr ysgol yn ymchwilio i ficrohinsoddau trwy fesur cyflymder gwynt, tymheredd ac yn y blaen.
1,200
Dro dro - iawn, diolch. Yn gyntaf, hoffwn innau hefyd ddiolch i chi, Vikki. Fel cyn athrawes, rwy'n ddiolchgar i'r Aelod dros Gwm Cynon am godi'r mater pwysig hwn, ac rwy'n llwyr gefnogi ymrwymiad Llywodraeth Cymru i hyrwyddo addysg awyr agored drwy gydol y cyfnod sylfaen. Yn fy etholaeth i, cyfleusterau rhyfeddol megis Ffordd Goedwig Cwmcarn a Chanolfan Gweithgareddau Awyr Agored Ynys Hywel sy'n galluogi grwpiau ysgol i archwilio'r amgylchedd naturiol o amgylch eu hysgolion a'u cartrefi, ac rydym yn ffodus iawn yn ne-ddwyrain Cymru i gael mynediad i ardaloedd coediog gwych y Cymoedd, lle gall plant a phobl ifanc ddysgu am natur a dod i gysylltiad â bywyd gwyllt. Mae addysg awyr agored yn hanfodol i sicrhau bod plant a phobl ifanc o bob cefndir, fel y dywedodd Vikki, yn gallu elwa'n gorfforol ac yn emosiynol o fod yn yr awyr agored, ac mae'n hanfodol ein bod yn parhau i gydnabod rôl addysg awyr agored yn cynorthwyo gallu plant, fel y dywedwyd mewn perthynas ag ysgolion coedwig, i ganolbwyntio ac i ddatblygu yn yr ystafell ddosbarth. Gyda'r cyfnod sylfaen arloesol rydym wedi arwain arno mewn gwirionedd, a'r cynnydd yn y grant amddifadedd disgyblion yn awr, a mynediad Donaldson fel y soniwyd, mae'n hanfodol ein bod yn gwthio'n ehangach i wneud defnydd o ddysgu trwy brofiad, fel y soniwyd. Mae hon yn elfen bwysig, yn fy marn i, o gwricwlwm wedi'i gyfoethogi Llywodraeth Lafur Cymru, a diolch i Vikki Howells unwaith eto am dynnu sylw at y pwnc, ac rwy'n gwybod ei fod yn fater y bydd Cymru'n parhau i'w hyrwyddo. Diolch.
1,201
Mae ein gweledigaeth o filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 yn dangos ein huchelgais o ran yr iaith. Mae hyrwyddo a normaleiddio yn elfennau hanfodol ar ein strategaeth ddrafft, sydd ar hyn o bryd yn destun ymgynghoriad.
1,202
Cofiwch, wrth gwrs, bod y strategaeth mewn gwirionedd yn destun ymgynghoriad ar hyn o bryd, ac mae hynny'n cynnwys ein cynigion o ran y ffordd ymlaen. Un maes, wrth gwrs, sy'n eithriadol o bwysig, yw gwneud yn siŵr bod gan yr awdurdodau addysg lleol yng Nghymru gynlluniau strategol Cymraeg mewn addysg priodol, ac rydym wedi ei gwneud yn gwbl glir iddynt y byddwn yn gwrthod unrhyw gynllun y byddant yn ei lunio - unrhyw un o'r awdurdodau hynny - nad yw'n ddigon uchelgeisiol.
1,203
Mae sawl peth. Yn gyntaf, wrth gwrs, mae hyn yn rhan o'r strategaeth, ynglŷn â'r ffaith bod y strategaeth yn edrych ar ffyrdd i gefnogi a hybu'r iaith yn y byd digidol. Hefyd, mae'n bwysig dros ben, wrth gwrs, i newid ymddygiad pobl ifanc. Rŷm ni wedi bod yn cyllido rhai o brosiectau'r Urdd dros y blynyddoedd er mwyn iddyn nhw ddatblygu aps ac yn y blaen i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn gweld yr iaith fel iaith ddigidol ac fel nad ydyn nhw'n meddwl trwy'r amser mai'r Saesneg yw'r unig iaith y maen nhw'n gallu ei defnyddio ar gyfryngau cymdeithasol.
1,204
[Anghlywadwy] - fu'r strategaethau addysg cyfrwng Cymraeg yr ydym yn disgwyl i awdurdodau lleol eu llunio, mae rhai ohonynt yn fwy datblygedig nag eraill, ond mae'n bwysig iawn bod llwybr priodol yn cael ei nodi gan awdurdodau lleol i sicrhau bod mynediad at y Gymraeg fel iaith i'w dysgu neu, yn wir, i gael eu haddysgu drwyddi ar gael mor rhwydd â phosibl yng Nghymru.
1,205
Heddiw yw Diwrnod Twristiaeth y Byd, fel y byddwch yn gwybod rwy'n siŵr, Brif Weinidog, ac mae mor bwysig ein bod yn tynnu sylw at yr hyn sy'n cael ei gynnig ym mhob rhan o'n gwlad i ymwelwyr. Mae atyniadau yn fy etholaeth fy hun, Cwm Cynon, fel distyllfa wisgi Penderyn a digwyddiadau unigryw fel rasys ar y ffordd Nos Galan, sy'n coffáu Guto Nyth Brân. Felly, sut y mae Llywodraeth Cymru yn sicrhau bod y cyfoeth o gyfleoedd tebyg ledled cymoedd y de yn cael eu hamlygu o fewn ei strategaeth dwristiaeth? Hefyd, gan mai thema Diwrnod Twristiaeth y Byd 2016 yw 'twristiaeth i bawb', sut mae Llywodraeth Cymru yn ymgysylltu â phartneriaid i sicrhau bod atyniadau yn hygyrch i bob ymwelydd posibl?
1,206
Rydych chi wedi bod yn Brif Weinidog am saith mlynedd, ac rydych felly'n mynd heibio gorsaf drenau ddadfeiliedig Bae Caerdydd bob dydd. Rydych hefyd yn mynd heibio'r ffasâd ysblennydd ond dadfeiliol adeilad Cory's gyferbyn â Chanolfan Mileniwm Cymru. Onid ydych chi'n sylweddoli faint o gywilydd y mae'n ei godi ar Gymru mai'r adeiladau hynny yw'r pethau cyntaf y mae llawer o dwristiaid yn eu gweld wrth ymweld â Bae Caerdydd? Ni fyddai Llywodraeth San Steffan yn caniatáu pethau hyll o'r fath o fewn tafliad carreg yn llythrennol i Senedd y DU. Felly, beth ydych chi'n mynd i'w wneud ynglŷn â'r hagrwch hwn ym Mae Caerdydd?
1,207
Brif Weinidog, mae Visit Scotland yn gwario dros £50 miliwn ar hyrwyddo'r Alban. Yng Nghymru, Croeso Cymru, gwariwyd £8.3 miliwn ar Gymru yn ei chyfanrwydd. Ond nid oes unrhyw ran o'r gwariant hwnnw yn cael ei wario'n benodol ar hyrwyddo'r canolbarth fel cyrchfan penodol i ymweld ag ef. Mae gennym y llwybr arfordirol, mae gennym drefi marchnad hardd yn edrych dros olygfeydd gwych yng nghanolbarth Cymru. A gaf i ofyn, Brif Weinidog: a yw'n ddigon da nad ydym ni'n hyrwyddo'r canolbarth fel cyrchfan penodol?
1,208
Brif Weinidog, rwyf yn croesawu'r haf llwyddiannus ar gyfer twristiaeth yng Nghymru o ran ymweliadau dydd a hefyd y buddsoddiad diweddar gan Lywodraeth Cymru yn fy etholaeth i, gan gynnwys gwelliannau i gastell y Fflint, a'r fenter Let's Sk8 gyffrous, sy'n dod i Theatr Clwyd yn ddiweddarach yn y flwyddyn. A allwch chi ein sicrhau y bydd y buddsoddiad hwn yn parhau i gael ei ddatblygu fel y gallwn barhau i dyfu ein heconomi ymwelwyr hollbwysig yn y gogledd?
1,209
Brif Weinidog, mae llawer o fusnesau yn y gogledd yn ddibynnol ar dwristiaeth ac wedi bod dan anfantais ers talwm yn y gogledd, yn rhannol oherwydd y methiant i hysbysebu atyniadau lleol ar hyd yr A55 yn ddigonol. Mae'n broblem barhaus a brofir gan atyniadau - ymwelwyr lleol yn mynd ar yr A55, stopio yn eu cyrchfan, heb unrhyw syniad o'r gweithgareddau amrywiol oddi ar yr A55 nad oes arwyddion i ddangos ble y maent. Mae'r cyfle i ddefnyddio'r A55 fel ffordd o gynhyrchu incwm i fusnesau lleol yn cael ei golli. A wnewch chi egluro i ni os gwelwch yn dda beth yr ydych chi'n mynd i'w wneud i fynd i'r afael â'r broblem hon?
1,210
Cwestiynau nawr gan arweinwyr y pleidiau, ac yn gyntaf yr wythnos yma, Arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig, Andrew R.T. Davies.
1,211
Mae'n braf gweld eich bod yn mynd i chwarae eich rhan yn y drioleg, felly, o dranc y Blaid Lafur drwy ei gael ef yn Brif Weinidog, oherwydd ysgrifennwyd y nodyn hunanladdiad hiraf posibl yn 1983 ar gyfer y Blaid Lafur, a, thrwy gael Prif Weinidog sy'n cyflawni dros Gymru, mae'n hanfodol bod gennym y person hwnnw yn Rhif 10. Fe aethoch chithau i'r Gynhadledd - [Torri ar draws.]
1,212
Mae ef angen yr holl gymorth y gall ei gael. [Chwerthin.] Brif Weinidog, fe aethoch chithau hefyd i gynhadledd y Blaid Lafur yn Lerpwl a lansio strategaeth yno - rhaglen Plant Iach Cymru, rhywbeth yr ydym yn llwyr gefnogi ar y meinciau hyn, oherwydd, pan edrychwch ar y mynegeion yn ymwneud ag iechyd plant, maent yn eithaf dychrynllyd, a dweud y lleiaf, yma yng Nghymru. A, mewn gwirionedd, nid yw'r rhan fwyaf o'r prif fynegeion wedi symud ers 2007 yma yng Nghymru. A allwch chi ddweud wrthym sut y bydd y Llywodraeth yn symud y strategaeth hon yn ei blaen ac, yn bwysig, pa linellau cyllideb yr ydych wedi'u cytuno - rwyf yn gwerthfawrogi y cyhoeddwyd datganiad ddoe, ond nid oedd fawr yn y datganiad hwnnw Brif Weinidog - pa linellau cyllideb sydd wedi eu cytuno i symud y polisi hwn yn ei flaen, a faint o nyrsys cymunedol ychwanegol fydd gennym ni erbyn 2021, gan ein bod yn gwybod bod nifer y nyrsys cymunedol yn lleihau yng Nghymru?
1,213
Brif Weinidog, mae'r Blaid Lafur yn gwneud pob ffafr o fewn ei gallu i'r Ceidwadwyr a phartïon eraill ar hyn o bryd - hir, hir y pery hynny. Fel yr wyf yn dweud, rydym bellach i mewn i gyfnod y drioleg, ydym, oherwydd cawsom y dilyniant yn 2015, do fe gawsom. Ond roedd y pwynt arall a godwyd yr wythnos diwethaf, gan fy nghydweithiwr, David Melding, ar bolisi'r Llywodraeth - am na chawsom ateb i fy ail gwestiwn gennych chi, felly mae'n amlwg nad oes llinell gyllideb wedi'i nodi hyd yn hyn, na strategaeth wedi'i datblygu i gynyddu niferoedd nyrsys cymunedol - yn ymwneud â thai. Ac, yn y rhaglen lywodraethu, gwnaethoch, er clod i chi, nodi eich bod yn awyddus i ddatblygu 20,000 o unedau tai cymdeithasol erbyn 2021. Ond nid oedd unrhyw atebion i'r hyn y mae'r argyfwng tai presennol ei wynebu, y tai newydd yn y farchnad dai, lle y gwelsom ostyngiad o 7 y cant mewn tai newydd yng Nghymru y llynedd. Felly, sut y mae eich Llywodraeth yn mynd i gyflawni ei thargedau tai cymdeithasol, ac, yn bwysig, sut mae'n mynd i greu mwy o weithgarwch yn y farchnad dai yn gyffredinol fel, erbyn 2021, y gallwn fod yn cyrraedd y targed o 12,000 o unedau y flwyddyn, yn hytrach na'r 8,000 yr ydym yn ei gyrraedd ar hyn o bryd?
1,214
Diolch fawr, Lywydd. Yn y ddogfen y Llywodraeth, 'Symud Cymru Ymlaen', mae'r adran ar iechyd yn dweud, 'Rydym wedi ymrwymo i helpu i wella iechyd a lles i bawb.' Ond, fel y bydd y Prif Weinidog yn gwybod, mae llawer o rannau o Gymru lle mai dim ond dyhead yw hynny. Ac, yng Ngwynedd yn arbennig, yn yr ardal o amgylch Blaenau Ffestiniog, mae'r hanes yn union i'r gwrthwyneb. Yn y saith ardal les a ddiffinnir gan Gyngor Gwynedd, mae ysbyty cymuned ym mhob un heblaw am Flaenau Ffestiniog. Ac, ers 2013, rydym wedi gweld cau'r ysbyty coffa, colli gwelyau ysbyty, cau'r gwasanaeth pelydr-x, cau'r uned mân anafiadau, cau clinigau teledermatoleg a gwasanaethau therapi, mae dwy feddygfa cangen wledig wedi cau, ac mae'r practis meddyg teulu ym Mlaenau Ffestiniog a oedd i fod i gael pedwar o feddygon llawn amser, ond dim ond un meddyg cyflogedig ac amrywiaeth o feddygon locwm sydd yno. Cyn belled ag y mae Blaenau Ffestiniog yn y cwestiwn, nid oes ganddynt wasanaeth iechyd gwladol, ond mae gwasanaeth iechyd syniadol. Beth mae e'n mynd i'w wneud am hyn?
1,215
Wel, mae gan bob un o'r chwe ardal lles eraill wedi cael ysbyty sydd ar agor am 24 awr y dydd. Bydd y ganolfan iechyd ym Mlaenau ar agor am ddim ond 10 awr y dydd. Mae hynny'n annerbyniol. Y dyhead yw bodloni anghenion y boblogaeth leol a sicrhau bod gwasanaethau'n cael eu darparu mor agos i gartrefi cleifion ag sy'n bosibl. Mae cyrraedd Ysbyty Gwynedd o Flaenau Ffestiniog yn daith dwy ffordd o 80 milltir, neu siwrnai, ac, i lawer o bobl oedrannus, a phobl ar incwm isel, mae hyn yn golygu nad yw'r gwasanaeth iechyd gwladol mewn gwirionedd yn rhad ac am ddim yn y man darparu iddyn nhw oherwydd bod yn rhaid iddyn nhw dalu i fynd yno. Mae Gweinidogion, yn anffodus, wedi gwrthod ymyrryd yn yr achos hwn - yr Ysgrifennydd Cabinet presennol a'i ragflaenydd, Mark Drakeford - oherwydd eu bod yn dweud bod y penderfyniad i gau gwasanaethau lleol wedi ei gytuno yn lleol, ond, wrth gwrs, Betsi Cadwaladr a gytunodd i wneud hynny yn lleol. Pan ofynnwyd i bobl leol drwy refferendwm cymunedol, pleidleisiodd bron i 100 y cant o bobl yn erbyn cau'r gwasanaethau hynny. Felly, rwy'n gofyn i'r Prif Weinidog nawr, a wnaiff ef annog ei gydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet, i ymyrryd yn bersonol yn yr achos hwn?
1,216
Mae'r rhestr o wasanaethau sydd wedi'u cau yr wyf newydd ei darllen ar goedd yn dangos mai dim ond dyhead yw hynny - yr hyn y mae'r Prif Weinidog newydd ei ddweud. Mae pobl ym Mlaenau yn teimlo bod gwahaniaethu yn eu herbyn ymhlith yr holl ardaloedd lles sy'n cael eu nodi gan gyngor sir Gwynedd. Beth sydd gan Dywyn, er enghraifft, nad oes gan Flaenau Ffestiniog o ran anghenion iechyd y bobl? Rwy'n gofyn y cwestiwn syml hwn i'r Prif Weinidog: a wnewch chi annog Ysgrifennydd y Cabinet i gwrdd â dirprwyaeth o Flaenau Ffestiniog er mwyn i ni gael dadlau achos hawliau'r ardal bwysig hon i well triniaeth yn rhan o amcan cyffredinol y Llywodraeth a nodwyd yn ei dogfen chwyddedig yr wythnos diwethaf?
1,217
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, faint o blant sy'n aros am fwy na phedwar mis am apwyntiad cyntaf gyda gwasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed?
1,218
Brif Weinidog, rwyf yn gofyn i chi am ffigur, a'r union nifer yr oeddech yn chwilio amdano yw 1,174 o blant yn aros am bedwar mis. Ac nid yw'n wir i ddweud bod y ffigur hwnnw wedi gostwng, gan fod y ffigur hwnnw wedi treblu bron dros y tair blynedd ers 2013. Rydym ni i gyd yn gwybod bod buddsoddi yn y blynyddoedd cynnar yn hanfodol ar gyfer canlyniadau cadarnhaol mewn addysg ac iechyd, ac yn arbennig wrth atal rhai o'r problemau sy'n gallu codi yn ddiweddarach mewn bywyd. Mae datblygiadau mewn niwrowyddoniaeth yn dangos y gall blynyddoedd cynnar yr arddegau fod yr un mor hanfodol ar gyfer datblygiad person â'r blynyddoedd cynnar. Ymwelais â'm hen ysgol ddydd Gwener diwethaf, a dywedwyd wrthyf fod cyfraddau hunan-niweidio wedi cynyddu'n aruthrol yng Ngholeg Cymunedol Tonypandy, ac nid wyf yn meddwl am funud bod hwnnw'n achos unigol. Mae iselder, pryder a hunan-niweidio wedi mynd yn rhy gyffredin ymhlith cenhedlaeth sydd â llawer o bryderon am bethau fel contractau dim oriau, dyled myfyrwyr enfawr a chyni diddiwedd. Nid yw'r bobl ifanc hynny wedi eu cwmpasu gan yr ymyraethau sydd ar gael i blant o dan saith oed. Gall y pethau a all fynd o chwith yn yr arddegau achosi problemau am oes, a gwelais hynny dim ond yn rhy dda yn fy swydd flaenorol fel swyddog prawf. Brif Weinidog, a wnewch chi sefydlu rhaglen ar gyfer plant yn eu harddegau a chyn eu bod yn eu harddegau i fynd ochr yn ochr â'ch rhaglen Plant Iach Cymru, ac a ydych chi'n fodlon edrych ar y rhan y gallai ymwybyddiaeth fyfyriol ei chwarae mewn rhaglen o'r fath?
1,219
Brif Weinidog, mae hanes eich Llywodraeth ar helpu pobl ifanc sydd ag iechyd meddwl gwael yn warthus, ac mae hynny heb sôn am y plant a phobl ifanc nad ydynt hyd yn oed yn cyrraedd y system. Mae'r gyfradd marwolaethau ar gyfer pobl yn eu harddegau rhwng 15 a 19 oed yn uwch yng Nghymru nag yw yn Lloegr, ac ni fu unrhyw leihad mewn marwolaethau o anafiadau bwriadol ymhlith y grŵp oedran hwnnw, rhwng 10 a 18 oed, mewn tri degawd. Mae archwiliad cenedlaethol o achosion marwolaethau plant wedi awgrymu nad oedd nifer o bobl ifanc a fu farw o ganlyniad i hunanladdiad wedi cael unrhyw gysylltiad o gwbl â'r gwasanaethau iechyd meddwl, ac, ar gyfer y rhai a oedd wedi cael cysylltiad, cafwyd problemau gyda gwasanaethau yn methu â chysylltu â chleifion nad oeddent wedi dod i'w hapwyntiadau cyntaf. Fe wnaethoch gyfaddef unwaith, Brif Weinidog, nad oedd eich Llywodraeth wedi talu digon o sylw wrth ymdrin ag addysg. A wnewch chi nawr dderbyn nad yw eich Llywodraeth wedi talu digon o sylw i iechyd meddwl plant a phobl ifanc? A wnewch chi nawr dderbyn bod hyn yn argyfwng ac a wnewch chi ddweud wrthym beth, ar ôl 17 mlynedd o arwain y Llywodraeth yma yng Nghymru, yr ydych chi'n bwriadu ei wneud am hyn?
1,220
Rwy'n ddiolchgar i'r Aelod am y cwestiwn hwn, oherwydd gan mai nhw yw arwyr di-glod y gwasanaeth iechyd mewn sawl ffordd. Maent yn gweithio yn y gymuned ac mewn gofal sylfaenol, ac, wrth gwrs, maent yn darparu llawer o ofal ataliol, sydd yn anodd ei fesur ynddo'i hun, oherwydd sut mae mesur rhywbeth sy'n atal rhywbeth a fyddai wedi digwydd yn y dyfodol? Wrth gwrs, maent yn helpu i ymdrin ag osgoi derbyn cleifion, fel nad oes yn rhaid i fwy o bobl fynd i'r ysbyty, ond eu bod yn cael y gefnogaeth i aros gartref.
1,221
Mi wnaf ymuno, wrth gwrs, â'r Aelod i longyfarch yr Aelod dros Aberafan. Nid wyf yn siŵr y bydd y cytgord yn teyrnasu yn ei dŷ ef heno o ystyried yr hyn a ddatgelwyd i ni o ran gwybodaeth. Ond mae e'n iawn: yr her sy'n ein hwynebu yn y dyfodol yw, wrth i bobl fynd yn hŷn - bydd, bydd llawer o'r bobl hynny yn fwy ffit pan fyddant yn hŷn, ond, yn anochel, mae pobl yn cael nifer o gyflyrau bach sydd, gyda'i gilydd, yn ei gwneud yn anodd iddynt fyw eu bywydau yn y ffordd y byddent yn dymuno. Mae'n anghyffredin i rywun fod ag un cyflwr difrifol iawn sy'n ei wneud yn anabl. Yn aml iawn, cyfuniad o wahanol bethau ydyw. Beth, felly, y gall y gweithwyr proffesiynol perthynol iechyd ei wneud? Wel, canfod problemau yn gynnar ac ymyrraeth brydlon fel yr ymdrinnir â phethau yn gynnar; atal derbyniadau; rhyddhau wedi'i hwyluso; adsefydlu ac ailalluogi - pwysig iawn, yn amlwg; cefnogaeth ar gyfer cyflyrau cronig hefyd, fel nad oes yn rhaid i bobl â chyflyrau cronig fynd yn ôl yn barhaus i'r ysbyty er mwyn ymdrin â chyfnod gwaeth penodol mewn cyflwr cronig; ac, wrth gwrs, yr hyn y maent yn ei wneud o ran bod yn gallu ychwanegu at dîm amlasiantaethol ac amlddisgyblaethol i helpu'r unigolyn. Rydym yn gwybod y bydd, yn y dyfodol, mwy o bwysau wrth i bobl fyw'n hirach - rhywbeth i'w groesawu - ond mae hefyd eiddilwch o ran y corff dynol na allwn ddeddfu ar ei gyfer, a bydd mwy a mwy o bobl, wrth iddynt fynd yn hŷn, angen cymorth â'r hyn a allai fod yn nifer o gyflyrau llai, ond er hynny, sydd yn sylweddol iddyn nhw fel unigolyn.
1,222
Mae hynny'n iawn, a bydd yn rhan o'r Mesur iechyd cyhoeddus. Mae'n bwysig dros ben fod unrhyw rwystrau sydd heb unrhyw synnwyr yn mynd. Ond rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, fod fferyllfeydd yn chwarae rhan hanfodol bwysig o ran sicrhau bod pobl yn gallu cael cyngor heb orfod mynd at y meddyg teuluol, a hefyd, wrth gwrs, byddwn ni'n moyn ymestyn y gwasanaethau sydd ar gael o fferyllfeydd yn y pen draw, gan gofio'r ffaith nawr bod mwy a mwy ohonyn nhw wedi cael yr hyfforddiant clinigol sydd ei angen er mwyn eu bod nhw'n gallu gweithredu'r gwasanaethau hynny.
1,223
Gwnaf, ond yn gyntaf oll byddem yn disgwyl i fyrddau iechyd lleol weld beth sy'n gweithio mewn byrddau iechyd eraill ac yna defnyddio'r arfer gorau hwnnw, a chymhwyso'r arfer gorau hwnnw, yn eu hardaloedd eu hunain. Pan fo tystiolaeth fod yr arfer hwnnw'n gweithio'n dda, yna yn amlwg byddem yn awyddus iddynt edrych arno i weld os yw'n addas yn eu hardal eu hunain ac, os felly, gweithredu hynny. Pan ddaw i DPP, mae llawer o weithwyr proffesiynol, wrth gwrs, yn cael eu llywodraethu gan gyrff proffesiynol nad ydynt, ohonynt eu hunain, wedi eu datganoli, os caf ei roi felly, ac mae ganddynt eu gofynion eu hunain ar gyfer DPP. Ond os yw hynny'n broblem, yna mae'n rhywbeth, wrth gwrs, y gallai'r Gweinidog efallai edrych arno, er mwyn gweld sut y gallai sefyllfa'r cyfarwyddwyr yr ydych wedi cyfeirio ati gael ei chryfhau yn y dyfodol.
1,224
Wel, mae'n rhaid i mi ddweud yn gyntaf oll, o ran fy nhref fy hunan, yr wyf yn ei hadnabod yn dda iawn, bod o leiaf tri gwahanol grŵp o fasnachwyr nad ydynt yn cytuno â'i gilydd, a dyna un o'r gwendidau y mae'r dref eu hwynebu. Yn ail, mae hi'n sôn am eiddo gwag. Y broblem fwyaf gydag eiddo gwag ym Mhen-y-bont ar Ogwr yw anhyblygrwydd landlordiaid - landlordiaid na wnant rentu, neu nad ydynt ond yn cynnig rhentu ar gyfraddau hurt. Rwyf wedi clywed enghreifftiau o fusnesau sydd wedi dweud wrthyf mai'r unig brydlesi y maent yn cael eu cynnig yw rhai am 10 mlynedd gyda rhenti o hyd at £25,000 y flwyddyn. Mae hynny'n hurt. Mae angen i rai o'r landlordiaid ym Mhen-y-bont ar Ogwr ymuno â'r byd go iawn a deall nad yw'r ffordd o wneud pethau 40 mlynedd yn ôl yn iawn erbyn hyn. Gofynnodd i mi pam na fyddem yn mabwysiadu polisi'r Ceidwadwyr. Yn syml iawn hyn: mae dros 70,000 o fusnesau yng Nghymru, mae mwy na 70 y cant ohonynt yn derbyn cymorth, ac nid yw dros hanner yr holl fusnesau cymwys yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Yn Lloegr, nid oes ond traean nad ydynt yn talu unrhyw ardrethi o gwbl. Felly, mewn gwirionedd, mae'r cynllun yng Nghymru yn llawer mwy hael na'r cynllun cyfrif ceiniogau sydd ar waith gan y Ceidwadwyr yn Lloegr.
1,225
Wel, yr ydym eisoes wedi rhoi £98 miliwn i mewn i'r cynllun rhyddhad ardrethi. Mae'n rhaid cael trothwy, yn anffodus, a'r rhai sydd, fel y byddent hwy yn ei weld, ar ben anghywir y trothwy, bydd, bydd yn rhaid iddyn nhw dalu ardrethi busnes. Yr hyn na allwn ei wneud yw cyflwyno system lle mae pawb yn cael rhyddhad ardrethi busnes ac nad oes neb yn talu ardrethi busnes. Fel unrhyw fusnes, mae'n rhaid i fusnesau wneud penderfyniadau ynghylch maint eu safleoedd er mwyn deall yr hyn sy'n fforddiadwy iddyn nhw fel busnes.
1,226
Diolch yn fawr am yr ateb yna, Brif Weinidog. A allaf i, ymhellach i hynny, ofyn a ydych chi'n ffyddiog fod gennych chi'r 'capacity' yn rhengoedd eich adran chi yma yn y Cynulliad i roi'r cymorth angenrheidiol i'r bwrdd iechyd yma yn Abertawe, o gofio bod byrddau iechyd eraill hefyd o dan fesurau arbennig?
1,227
Cyn i mi ddechrau, a gaf i ddatgan buddiant gan fod fy ngwraig yn radiograffydd yn PABM, ond ni fyddaf yn trafod cynhesrwydd nac oerni ei dwylo? Brif Weinidog, mae PABM mewn sefyllfa ymyrraeth wedi'i thargedu oherwydd gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu. Mae'r ddwy ran o hynny yn dibynnu ar wasanaethau diagnostig. Rydym wedi gweld problemau gyda gwasanaethau diagnostig yn y gorffennol, gyda hyd rhestrau aros nad oedd yn dderbyniol i bawb o bosibl, ond a wnewch chi ymuno â mi i longyfarch Prifysgol PABM a'r staff, yn arbennig, sydd wedi gweld y rhestrau aros hynny yn dod i lawr mewn gwirionedd, ac felly rydym wedi gweld diagnosteg yn gwella yn PABM?
1,228
Brif Weinidog, mae adroddiad perfformiad integredig y bwrdd iechyd ym mis Gorffennaf 2014 yn datgan, a dyfynnaf, bod Y Bwrdd Iechyd yn parhau i brofi heriau sylweddol o ran cyflawni'r targed atgyfeirio Amheuaeth o Ganser Brys yn arbennig.' Ar y pryd, roeddent yn cyrraedd 86 y cant o'r targed yn hytrach na'r 95 y cant yr oedd y Llywodraeth yn ei ddisgwyl. Er gwaethaf y pwynt a wnaethpwyd gan David Rees yn awr, sef bod y materion hynny wedi eu hadrodd ddwy flynedd yn ôl, pa gefnogaeth a roesoch chi i PABM ar y pryd? Beth sy'n wahanol am y cymorth yr ydych yn ei roi iddynt nawr, ac os oedd ei angen ddwy flynedd yn ôl, pam na chafodd ei roi bryd hynny?
1,229
Brif Weinidog, y rheswm y mae PABM yn mynd i dderbyn ymyrraeth wedi'i thargedu yw oherwydd perfformiad gwael mewn gofal canser heb ei drefnu. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos mai dim ond 83 y cant o gleifion sydd wedi cael diagnosis trwy'r llwybr amheuaeth o ganser brys sy'n dechrau triniaeth o fewn 62 diwrnod. Rydym i gyd yn gwybod bod triniaeth ac ymyrraeth brydlon yn lleihau'r risg y bydd y canser yn lledaenu ac yn cynyddu'r siawns o oroesi. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i PABM er mwyn eu galluogi i ddileu oedi wrth roi triniaeth ac i wella'r cyfraddau goroesi canser yn fy rhanbarth i?
1,230
Byddwn yn parhau i gefnogi sefydliadau iechyd a gofal cymdeithasol yng Nghymru trwy ein cyfarfodydd cynllunio tymhorol cenedlaethol a gynhelir bob chwarter, sy'n cefnogi eu trefniadau cynllunio tymhorol. Ac, wrth gwrs, yn rhan o hynny, mae bod yn barod ar gyfer cyfnod y gaeaf sydd i ddod yn hollbwysig.
1,231
Rydym yn gwneud hynny; mae'r ymgyrch Dewis Doeth wedi bod yn gwneud hynny ers blynyddoedd lawer ac, yn wir, mae yna ap ar gael i bobl sydd eisiau ei ddefnyddio. Rydym yn annog pobl i edrych, yn y lle cyntaf, ar fferyllydd, ac yna edrych ar nyrs gymunedol, ac yna meddwl am y meddyg teulu. Mae'n hollol iawn i ddweud wrth bobl, 'Peidiwch â mynd i'r adran damweiniau ac achosion brys fel dewis cyntaf na mynd, mewn gwirionedd, at feddyg teulu yn gyntaf.' Felly, mae hynny eisoes ar waith. O ran y gwasanaeth y tu allan i oriau, mae ar gael yn ein hysbytai cyffredinol dosbarth ac mewn mannau eraill. Nid nifer y bobl sy'n dod trwy adrannau damweiniau ac achosion brys yw'r broblem yn y gaeaf, ond y cyflyrau sydd ganddynt: mae llawer mwy o bobl hŷn â chyflyrau anadlol sy'n fwy cymhleth, sydd angen mwy o amser mewn adrannau damweiniau ac achosion brys ac sydd, yn y pen draw, yn cael eu derbyn i'r ysbyty. Y llynedd, gweithiodd y cynlluniau parodrwydd yn dda. Gall fod yn anodd, wrth gwrs, i ragweld y galw ar y GIG yn y gaeaf oherwydd y tywydd, yn y bôn. Ond, serch hynny, rydym yn craffu ar barodrwydd pob bwrdd iechyd lleol i wneud yn siŵr y gallwn fod yn fodlon eu bod yn barod ar gyfer y gaeaf.
1,232
Na, dim o gwbl, wrth gofio'r ffaith, yn ôl yr adroddiad ei hun, fod tua 90 y cant o wasanaethau yn gweithio'n iawn. Mae yna rai rhannau sydd eisiau gwella - mae hynny'n wir - a dyna pam rydym yn croesawu adroddiadau fel hyn er mwyn inni wybod lle mae pethau'n gorfod cael eu gwella. Rydym yn gwybod, wrth gwrs, yn ôl adroddiad Nuffield, mai bach iawn o wahaniaeth sydd rhwng y gwasanaethau iechyd ar draws y Deyrnas Unedig. Byddwn yn parhau i sicrhau bod y driniaeth orau ar gael, a lle mae pethau'n dda, ond lle gellir gwell, fod pethau'n gwella.
1,233
Sut y gallaf i wrthod cynnig o'r fath? Mewn egwyddor, hoffwn dderbyn hynny, oherwydd mae gennyf ddiddordeb yn y gwaith y mae'r Aelod wedi'i ddisgrifio. Gallaf weld yr angerdd y mae hi'n ei ddangos wrth argymell y gwaith y mae hi wedi eu gweld yn ei wneud. Hoffwn ei weld drosof fy hun.
1,234
Peidiwch â dweud nad yw hynny'n wir. A gaf i roi'r ffigurau, felly, er mwyn bod y wybodaeth yn iawn? Yn 2005, roedd 1,849 o feddygon teulu yng Nghymru; yn awr, mae 1,997. Ynglŷn ag ardal Betsi Cadwaladr, roedd 422 yn 2005 a 437 yn 2015. Mae'r un peth yn wir ynglŷn â'r cynnydd sylweddol mewn doctoriaid mewn ysbytai. Wrth ddweud hynny, wrth gwrs, mae yna ymgyrch sydd yn mynd i gael ei lansio ar ddiwedd mis nesaf er mwyn denu mwy o ddoctoriaid i weithio yng Nghymru.
1,235
Byddwn i'n dadlau ein bod ni wedi gwneud hynny'n barod, sef drwy grŵp 'collaborative' canolbarth Cymru, sydd wedi gweithio'n dda dros ben. Byddwn i'n erfyn i'r gwaith sydd wedi cael ei wneud yn fanna fod yn waith sydd yn gallu cael ei drosglwyddo i rannau eraill o Gymru. So, mae'r gwaith hwnnw wedi dechrau yn barod.
1,236
Bydd ef yn gwybod - mae wedi ei weld ei hun - sut mae'n gweithio. Y gwir amdani yw ein bod wedi gweld practisau ym Mhrestatyn - dau ohonynt, os cofiaf yn iawn - yn cau. Ond, cymerodd y bwrdd iechyd lleol y cyfrifoldeb dros ddarparu gwasanaethau gofal sylfaenol, ac mae'r gwasanaethau yn well ac yn sicr yn ehangach na'r hyn a oedd ar gael o'r blaen. Felly, mae hyn yn dangos nad y model contractwr yw'r model gorau bob amser ar gyfer darparu gwasanaethau meddygol. I rai, dyna'r hyn y maent ei eisiau; i fwy o feddygon teulu, yn gynyddol, mae'n ymddangos i mi bod y model contractwr yn llai deniadol iddynt. Mae'r hyn yr ydym wedi ei weld hyd yn hyn ym Mhrestatyn wedi bod yn wych o ran lled a dyfnder y gwasanaeth a ddarparwyd ac, wrth gwrs, bydd y bwrdd iechyd lleol yn parhau i werthuso'r hyn sy'n cael ei wneud yno er mwyn gwneud yn siŵr ei fod yn fodel y gellir ei fabwysiadu, o bosibl, o amgylch Cymru.
1,237
Diolch am yr ateb, Brif Weinidog. Yn 2014, cyhoeddodd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg adroddiad ar yr ymchwiliad i wasanaethau iechyd meddwl plant a'r glasoed. Canfu'r pwyllgor y bu cynnydd o 100 y cant mewn atgyfeiriadau ar gyfer y gwasanaethau hyn, ond bod y ddarpariaeth yn annigonol i ddiwallu'r cynnydd hwn. Mewn cyfarfodydd diweddar gyda'r pwyllgor, dywedodd Comisiynydd Plant Cymru mai dim ond unwaith y mae'r grŵp Law yn Llaw Plant a Phobl Ifanc, sy'n ymrwymedig i ddiwygio gwasanaethau iechyd meddwl i blant a phobl ifanc, wedi cyfarfod ers i'r grŵp gychwyn. Er bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi £7 miliwn o gyllid ychwanegol i'r gwasanaethau, nid oes ymrwymiad eglur yn y rhaglen lywodraethu bod y llywodraeth am ddiwygio CAMHS. Ni fydd taflu arian at y broblem yn golygu y bydd yn diflannu. A wnaiff y Prif Weinidog ymrwymo i ddiwygio'r gwasanaethau hyn ac esbonio sut y bydd yn gwneud hynny?
1,238
Mae datganiad Llywodraeth Siapan yn cwmpasu nifer o oblygiadau economaidd andwyol posibl wrth i'r DU adael. Rydym yn awyddus i fusnesau yng Nghymru gael mynediad llawn a dilyffethair i'r farchnad sengl oherwydd y rhesymau a amlinellir gan y Llywodraeth honno.
1,239
I mi, mae cytuno ar y pwynt sylfaenol hwnnw yn hanfodol cyn y gallwn symud ymlaen i unrhyw beth arall. Dyna'r sail - y bloc adeiladu - y gall unrhyw gytundeb gael ei adeiladu arno. Oni bai ein bod yn gwneud cynnydd ar hynny, mae'n anodd iawn gweld cynnydd ar unrhyw beth arall. Rwy'n sicr yn pryderu bod y DU yn awr yn cael ei gweld fel nad yw'n dymuno ymgysylltu â'r UE. Ceir problemau. Cyfarfûm â phrif gomisiynydd Gibraltar ddau ddiwrnod yn ôl - y pryder sydd gan Gibraltar yw y bydd Sbaen yn rhoi feto ar unrhyw gytundeb o unrhyw fath gyda'r DU oni bai bod mater Gibraltar yn cael ei ddatrys er boddhad Sbaen. Mae'n gyfle i Sbaen nad oedd yno o'r blaen, cyfle y mae Brexit wedi ei ddarparu. Felly, mae llawer iawn o ffactorau yn dal i fod yn berthnasol yn y fan yma, rhai ohonynt nad ydynt wedi eu nodi eto.
1,240
Weinidog, a gaf i alw am ddatganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar Wythnos Diogelwch ar y Ffyrdd sydd ar ddod ym mis Tachwedd? Bu rhywfaint o bryder nad oes llawer o fodurwyr ledled Cymru, ac, yn wir, mewn rhannau eraill o'r DU, yn cael prawf llygaid yn ddigon aml, a bod hyn yn arwain at gynnydd i'r risg o ddamweiniau traffig. Hoffwn glywed gan Ysgrifennydd y Cabinet am yr hyn y mae'n mynd i'w wneud ynglŷn â hynny a pha un a allai fod cyfle i ddefnyddio'r arwyddion - yr arwyddion negeseuon - ar hyd yr A55 yn y gogledd a'r M4 a chefnffyrdd eraill ledled Cymru i annog pobl mewn gwirionedd i gael prawf llygaid yn ystod yr wythnos honno, er mwyn manteisio ar rai o'r profion rhad ac am ddim sydd ar gael.
1,241
A gawn ni ddadl ar sefydlu'r confensiwn cyfansoddiadol a gynigiwyd gan y Prif Weinidog ers tro? Nawr bod posibilrwydd y byddwn yn colli 11 o Aelodau Seneddol yng Nghymru pan fydd y niferoedd yn gostwng o 40 i 29, a, gyda'r bleidlais i adael yr UE, mae'n debygol y byddwn yn colli pedwar ASE, onid nawr yw'r amser delfrydol i gydnabod nad oes digon o Aelodau Cynulliad i wneud y gwaith yn iawn yma yn y Siambr hon ac y dylid ystyried yr holl eitemau hyn ar y cyd? Oni fyddai bod â chonfensiwn cyfansoddiadol wedi bod yn gyfle delfrydol i edrych ar yr holl faterion cynrychiolaeth hyn gyda'i gilydd?
1,242
Arweinydd y tŷ, a yw'n bosibl cael datganiad gan y Prif Weinidog am sut y mae'n cynnal ei drefniadau â'r wasg? Yr wythnos diwethaf cawsom sefyllfa ryfedd braidd, lle cafwyd datganiad cyfeiliornus i'r wasg yn cywiro - neu beidio, yn ôl y digwydd - polisi'r Llywodraeth ar symudiad rhydd pobl. Dywedwyd wrthym mai'r chwe phwynt a gyhoeddwyd oedd y pwyntiau allweddol i'r Llywodraeth, ac yna, ar ôl 40 munud yr oedd angen eu newid gyda datganiad arall i'r wasg. Rwy'n credu y byddai hyn yn destun digrifwch sylweddol yn y rhan fwyaf o ddemocratiaethau, ond, yn anffodus, yng Nghymru, nid oedd yn ymddangos bod hynny'n wir, oherwydd ei fod erbyn hyn yn cael ei weld fel polisi'r Llywodraeth. A gawn ni ddeall sut yn union y cedwir y cydbwysedd fel y gellir adfer rhywfaint o hygrededd yn safbwynt y Llywodraeth yn y trafodaethau Brexit?
1,243
Arweinydd y tŷ, y bore yma, es i i angladd Ann Wilkinson o Frynbuga. Bydd llawer o Aelodau'r pedwerydd Cynulliad yn cofio Ann a'i gwaith a'i hymroddiad diflino i achos cleifion canser, dioddefwyr canser, ledled Cymru. Yn drist iawn, bu farw bythefnos yn ôl, ond mae'n gadael ar ei hôl etifeddiaeth y gall hi a'i theulu fod yn falch ohoni. Bydd aelodau'r Cynulliad diwethaf yn ei chofio yn eistedd yn yr oriel uchod drwy nifer o ddadleuon, a chyflwynodd ddeiseb i'r Cynulliad hwn yn galw am gronfa cyffuriau canser a gwell mynediad at gyffuriau. A ydych chi'n cytuno â mi, arweinydd y tŷ, mai'r deyrnged orau y gallai'r Siambr hon a'r Cynulliad hwn ei thalu i Ann Wilkinson a dioddefwyr canser eraill ledled Cymru fyddai datblygu cronfa triniaeth canser gyflawn? Sylwaf fod datganiad nes ymlaen ar ddatblygu cronfa driniaeth. A gawn ni sicrhau bod hynny yn cynnwys mynediad at y cyffuriau canser hollbwysig ar y cyfle cyntaf er cof am Ann, ond hefyd ar gyfer dioddefwyr triniaeth canser eraill ledled Cymru, nad ydynt yn dymuno treulio misoedd ac wythnosau olaf eu bywydau yn brwydro i gael yr hyn sydd, mewn gwirionedd, yn hawl dynol sylfaenol iddyn nhw?
1,244
Bu Llywodraeth Cymru yn uchel ei chloch wrth alw am ddiwedd ar symudiad rhydd o ran pobl a gwaith rhwng y DU a'r Undeb Ewropeaidd, ac, wrth gwrs, un o'n partneriaid masnachu pwysicaf, ac un o'r gwledydd lle ceir y symud mwyaf rhwng Cymru a gwlad arall, yw Iwerddon. A gawn ni ddatganiad gan y Prif Weinidog cyn gynted ag y bo modd ar ba un a yw Llywodraeth Cymru yn dymuno rhoi terfyn ar symudiad rhydd i bobl rhwng y DU a holl wladwriaethau'r UE? Neu, os nad rhwng Cymru neu'r DU a holl wladwriaethau'r UE, sut maen nhw'n rhagweld ffin agored rhwng Cymru ac Iwerddon yn ymarferol?
1,245
Diolch i'r Gweinidog am ei datganiad. Yn bellach i hynny, a allaf ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros fusnes am ddadl lawn, yn amser y Llywodraeth, ar Dreftadaeth Cymru - Historic Wales? Hwn ydy'r bwriad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros ddiwylliant i ad-drefnu gweithgaredd yn y maes pwysig yma a sefydlu corff newydd i gymryd drosodd gweithgaredd ar yr ochr fusnes sefydliadau fel Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Cadw ac yn y blaen. Mae hwn yn fater allweddol pwysig a buaswn i'n pwyso ar y Llywodraeth am ddadl lawn ar y pwnc yn amser y Llywodraeth. Diolch yn fawr.
1,246
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ar adolygiad Diamond o addysg uwch a chyllid myfyrwyr ac rydw i'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Kirsty Williams.
1,247
A gaf i ddiolch i Gadeirydd y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg am ei chroeso cynnes i waith Syr Ian? Byddwn ni'n unigryw yn y DU gan y byddwn ni'n cynnig system sy'n gludadwy ac yn gyfartal ar gyfer pob dull o astudio. Rydym eisoes wedi sôn am bwysigrwydd myfyrwyr rhan amser, ond mae hefyd yn briodol y dylem ni fod mewn sefyllfa i gynorthwyo astudiaethau ôl-raddedig. Mae'n bwysig iawn i'n heconomi ac i gydnabod bod y gallu i symud ymlaen i astudio cyrsiau ôl-radd bron â bod yn rhagofyniad ar gyfer llawer o fyfyrwyr yn awr mewn llawer o'u meysydd gwaith. Mae'n peri gofid i mi, ar hyn o bryd, nad ydym ni mewn sefyllfa i weithredu system gymorth ar gyfer astudio ôl-raddedig. Mae'n ddolen goll - mae'n ddolen goll heb os - yn y system sydd gennym ar hyn o bryd, ac rwy'n derbyn llawer o ohebiaeth gan Aelodau'r Cynulliad ar draws y Siambr am y mater hwnnw. Bydd y cynnig hwn yn ein helpu i fynd i'r afael â hynny. Rydym ni'n gwybod bod gennym lawer iawn o waith i'w wneud ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ac mae hynny'n dechrau yn yr ysgol gynradd a'r ysgol uwchradd. Gallwn ni gael y polisi cymorth i fyfyrwyr addysg uwch mwyaf blaengar ar gyfer plant sy'n derbyn gofal, ond, fel y cawn ein hatgoffa yn aml gan David Melding, os nad yw'r plant hynny yn cael y cymwysterau TGAU a Safon Uwch sydd eu hangen arnynt, nid yw'n golygu dim. Felly, bydd ein cefnogaeth ar lefel Addysg Uwch yn gontinwwm o'r gwaith yr ydym eisoes yn ei wneud o ran y grant amddifadedd disgyblion ac o ran rhaglenni ymyrraeth penodol ar gyfer plant y sy'n derbyn gofal yn ein hysgolion, fel y gallwn ni gynyddu'r nifer a fyddai'n wirioneddol elwa ar y cynigion yng ngwaith Syr Ian Diamond, ac rwyf yn bwriadu anrhydeddu a gweithredu'r cynigion hynny.
1,248
Diolch, Lywydd. Hoffwn ddatgan buddiant fel darlithydd gwadd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd. Yn wir, ddydd Sadwrn, 10 Medi, roeddwn i yno yn addysgu myfyrwyr gweithredol MBA - grŵp bach iawn, iawn o fyfyrwyr rhan-amser, a oedd wedi eu hariannu'n helaeth gan eu sefydliadau. Pan oeddwn i'n gweithio'n llawn amser - pan oeddwn i'n uwch ddarlithydd - byddwn i'n aml yn addysgu grwpiau o 100 o fyfyrwyr, ond yr oedd bron bob un yn fyfyriwr rhyngwladol, a, Sian Gwenllian, o'r tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. Felly, croesawaf y cyfle hwn a estynnir i fyfyrwyr - myfyrwyr domestig israddedig - i ddysgu ar lefel ôl-raddedig. Ond a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet egluro'r broses o fonitro'n ofalus niferoedd ôl-raddedig llawn amser domestig, o ystyried bod adroddiad Diamond yn rhagamcanu twf ar lefel optimistaidd o 20 y cant? Os bydd y twf yn fwy na hynny, fe fydd yna oblygiadau ariannu. Felly, a gawn ni sicrwydd y bydd monitro wedi'i gynnwys yn y system? Yn ogystal, mae'n debygol y bydd y prifysgolion yn dymuno cynnal eu niferoedd rhyngwladol hefyd, felly bydd goblygiadau staffio hefyd. A'r cwestiwn arall, ar wahân i hynny: a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet gadarnhau yn benodol ganfyddiadau Diamond o ran gwerth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, a oedd yn un o lwyddiannau'r Llywodraeth Lafur Cymru ddiwethaf? Mae gan ddarlithwyr y Coleg Cenedlaethol lawer iawn o wybodaeth sy'n deillio o brofiad, ac yr wyf yn annog Ysgrifennydd y Cabinet i ddatblygu hynny.
1,249
Diolch yn fawr iawn i'r Ysgrifennydd Cabinet. Rŷm ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Llesiant a Chwaraeon ar sefydlu cronfa triniaethau newydd a'r adolygiad annibynnol o'r broses ceisiadau cyllido cleifion unigol. I wneud y datganiad, rwy'n galw ar yr Ysgrifennydd Cabinet, Vaughan Gething.
1,250
Ydw yn sicr. Fy sylw olaf iddo oedd y byddaf, yn sicr - a gall fod yn rhywbeth y bydd Aelodau Cynulliad eraill yn dymuno ei gadw mewn cof - yn rhoi nifer o astudiaethau achos iddo, oherwydd credaf fod honno'n ffordd arall o sicrhau bod llais cleifion yn cael ei glywed yn glir.
1,251
Diolch am y sylwadau hynny. Unwaith eto, rwy'n falch bod pob un o'r siaradwyr wedi teimlo y gallant ddod i mewn i'r Siambr a siarad am y ffordd yr ydym wedi ymdrin â'r mater hwn a chroesawu aelodaeth y grŵp. Rwy'n edrych ymlaen at weld pob un ohonynt yr un mor gadarnhaol pan maent yn darparu eu hargymhellion. Er y bydd gennym faterion gwahanol i ymdrin â nhw ar adegau, mae'n rhaid i ni mewn gwirionedd wneud dewisiadau, gan nad yw hwn yn faes hawdd. Dyma beth wnaeth y grŵp adolygu blaenorol ei ganfod hefyd yn 2014 - mae amrywiaeth o'u hargymhellion ar y pryd wedi eu gweithredu. Gwnaed cynnydd gwirioneddol, ond mae heriau gwirioneddol yn bodoli o hyd, a dyna pam yr ydym yn awr yn edrych ar hyn eto, ac rwy'n falch ein bod ni'n gwneud hynny. O ran eich pwyntiau ynghylch mynediad ehangach at dechnolegau nad ydynt yn ymwneud â meddygaeth, rwy'n falch o gadarnhau bod canolbwynt newydd yn cael ei ddatblygu a fydd wedi'i leoli yn Ymddiriedolaeth GIG Felindre. Bydd yn cyflwyno dull strategol a chenedlaethol o nodi, gwerthuso ac yna fabwysiadu technolegau newydd i leoliadau iechyd a gofal. Felly, nid yw'r gwaith hwn yn mynd rhagddo ar ei ben ei hun. O ran therapi pelydr proton, rydym yn mynd ati i edrych ar yr hyn y gallwn ei wneud i gynyddu capasiti a'i wneud yn fwy lleol yma yng Nghymru, ac, mewn gwirionedd, ar y buddsoddiad y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud o fewn y sector preifat i sicrhau bod hynny'n digwydd.
1,252
Rwy'n edrych ymlaen at y dathliadau croeso adref ddydd Iau. Mae'n iawn ac yn briodol bod y sefydliad hwn a Llywodraeth Cymru yn cydnabod y cyflawniadau - y cyflawniadau anhygoel hynny - gan Olympiaid a Pharalympiaid Cymru, a hefyd yn rhoi cyfle i bobl Cymru i ymuno â ni yn y dathlu hefyd. Rwy'n arbennig o falch o gael cynrychioli etholaeth sy'n ymfalchïo, nid yn unig mewn enillydd medal Paralympaidd, ond enillydd medal aur Olympaidd, hefyd. Chwalodd Sabrina Fortune o Fryn-y-Baal, sy'n bedair ar bymtheg oed, ei gorau personol a hawlio medal efydd mewn taflu maen F20. Rwy'n siŵr y bydd cydweithwyr yn ymuno â mi yma i fynegi ein llongyfarchiadau i Sabrina ar ei llwyddiant. Ac, wrth gwrs, mae Jade Jones, enillydd medal aur Olympaidd dwbl, 'the headhunter', 'the fighter from Fflint', neu, mewn gwirionedd - dylwn ei ddweud sut yr ydym yn ei ddweud yn y Fflint - 'the fighter off Fflint'. Mae tref enedigol Jade yn hynod falch o bopeth y mae hi wedi ei gyflawni. Yn ôl ym mis Awst, daeth y gymuned gyfan ynghyd i wylio'r ornest, ac i annog Jade i fuddugoliaeth tan yr oriau mân. Yn wir, roeddwn yn meddwl y diwrnod canlynol y dylem fod wedi gwneud cyhoeddiad trefn gyhoeddus i ddweud wrth unrhyw un oedd yn mynd drwy'r Fflint fynd yn dawel iawn, oherwydd bod y dref gyfan yn dod ati ei hun. Daeth y gymuned ynghyd unwaith eto ychydig dros wythnos yn ôl i ddathliad croeso adref i Jade a oedd yn gweddu i'w llwyddiannau. Cafwyd gwasanaeth dinesig, taith mewn bws to agored o amgylch y dref, a thân gwyllt, gyda'r diweddglo mawreddog yng nghastell y Fflint yn edrych yn anhygoel, wedi ei oleuo mewn aur. Hoffwn ddiolch i Ysgrifennydd y Cabinet am wneud cais gennyf i ar hap yn ystod oriau mân y bore i oleuo'r castell yn realiti, ac fe wnaeth pobl fwynhau hynny - hefyd, pob clod i Gyngor Sir y Fflint a chyngor y dref am drefnu pethau mewn pryd.
1,253
A gaf i ddiolch i'r Aelod am ei chyfraniad gwerthfawr a chydnabod bod Hannah Blythyn, rwy'n meddwl, yn cynrychioli ardal sydd yn ôl pob tebyg â'r crynodiad uchaf o fedalau Olympaidd ar hyn o bryd yng Nghymru? Mae llwyddiant Sabrina a Jade yn eithaf rhyfeddol a hoffwn anfon fy llongyfarchiadau yn uniongyrchol iddynt hwy hefyd. Rwy'n gwybod pa mor bwysig oedd buddugoliaeth Jade Jones i gymuned y Fflint; roeddwn yn bresennol am ran o'r diwrnod. Gwn fod gan yr Aelod fwy o ddyfalbarhad na fi - roeddech chi'n bresennol drwy gydol gornestau Jade yng Ngwesty Mountain Park yn y Fflint. Roedd yn achlysur anhygoel a welodd gannoedd o bobl - nifer rhyfeddol o bobl ifanc - yn dathlu, gadewch i ni ei wynebu, eicon o'r ardal leol sy'n cystadlu ar y lefel uchaf. Yn ogystal â ffrindiau a theulu ac, nid oes gen i unrhyw amheuaeth, dieithriaid i Jade, roedd pobl o'r clwb taekwondo lleol a hefyd ei chyn hyfforddwr. Gallai fod yn ymweliad priodol i ni - fi fy hun a'r Aelod lleol - ymweld â'r clwb lle dysgodd Jade taekwondo a lle mae bellach, rwy'n gwybod, nifer fawr o bobl ifanc yn cymryd rhan yn y gamp. Anogodd Neil McEvoy Lywodraeth Cymru i gydnabod arwyr chwaraeon - byddwn yn gwneud hynny, nid yn unig trwy Flwyddyn yr Anfarwolion, ond yn barhaus. Ond byddwn hefyd yn annog Neil McEvoy i ddysgu oddi wrth Hannah Blythyn, sydd wedi cynrychioli ei hetholaeth yn wych drwy sicrhau bod y castell yn y Fflint, un o elfennau pwysicaf yr amgylchedd hanesyddol yn y gogledd-ddwyrain, wedi ei droi yn aur i gydnabod llwyddiant ysgubol Jade Jones. Rwy'n credu eibfod yn hanfodol bod y Llywodraeth, bod y gymdeithas yn gyffredinol, yn cofleidio llwyddiant ein harwyr chwaraeon, nid dim ond fel ffactor ysgogol i bobl fod yn fwy egnïol yn gorfforol, ond hefyd fel ffordd o ddod â phobl at ei gilydd - i uno pobl yn ystod cyfnod pan fyddwn yn aml yn gecrus.
1,254
Wel, rwy'n meddwl bod llwyddiant Hannah Mills a Saskia Clark yn yr hwylio 470 yn rhyfeddol. Maent yn ymuno â grŵp unigryw iawn o ferched Cymru sydd wedi eu coroni'n bencampwyr Olympaidd, ac sy'n cynyddu'n gyson. Mae'r rhain yn cynnwys Barker, Jones, Mills, Irene Steer a Nicole Cooke. Ac, hefyd, wrth gwrs, yn y tîm beicio ymlid, gwnaeth Owain Doull ac Elinor Barker, sydd ill dau'n hanu o'r un clwb beicio, y Maindy Flyers yng Nghaerdydd, berfformio'n hynod o dda. Rwy'n meddwl mai Owain oedd yr ieuengaf o'r pedwarawd o ddynion, ac fe'i disgrifiwyd gan Syr Bradley Wiggins fel y beiciwr mwyaf dawnus ers Geraint Thomas. Mae hynny'n dipyn o glod i'w roi gan feiciwr gorau'r byd - y beiciwr cyfredol. Wrth gwrs, fe wnaeth Elinor helpu Tîm GB y merched i drechu pencampwyr byd yr UDA gyda thrydedd record byd yn y ras medal aur. Cyflawniadau eithaf anhygoel. Rwyf hefyd yn ymwybodol o'r gwaith y mae'r Aelod ei hun wedi ei wneud o ran arbed cronfa ddŵr Llanisien. Hoffwn gofnodi pa mor ddiolchgar yr wyf fod gan yr etholaeth y mae'n ei chynrychioli Aelod mor ymroddedig, sy'n benderfynol o agor cyfleoedd i bobl gymryd rhan mewn chwaraeon a gweithgarwch corfforol. Cyfraniad arall mawr y mae chwaraeon yn ei wneud i fywyd yn aml yw helpu pobl ifanc sydd mewn perygl o ymddieithrio o addysg ffurfiol, neu sydd wedi ymddieithrio o addysg, i ailddarganfod dysgu trwy ddisgyblaeth chwaraeon. Ar gyfer pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio, mae'n aml yn anodd iddynt weld y coed gan brennau. Ond, trwy chwaraeon a chymryd rhan ynddynt yn rheolaidd, gallant wneud hynny, a dyna swyddogaeth arall y mae ein cyrff llywodraethu cenedlaethol, Chwaraeon Cymru, a chlybiau a sefydliadau chwaraeon ledled Cymru, yn ei gwneud.
1,255
Symudwn ymlaen at eitem 6, sef y cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar y Bil Heddlua a Throsedd. Galwaf ar y Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Rebecca Evans, i gynnig y cynnig.
1,256
Symudwn ymlaen at eitem 7 ar ein hagenda, sef y ddadl ar siarter ddrafft y BBC. Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i gynnig y cynnig. Alun.
1,257
Yn amlwg, mae sut y mae'r Cynulliad yn cynnal ei fusnes yn fater i'r Cynulliad ac nid yn fater i'r Llywodraeth [Aelodau'r Cynulliad: 'O.']. Byddwn yn petruso - byddwn yn petruso - i sefyll yma fel aelod o'r Weithrediaeth ac awgrymu i bwyllgorau sut y maent yn dwyn y Weithrediaeth ac eraill i gyfrif. Rwy'n credu bod llawer o dalent, gwybodaeth a sgiliau yn y Siambr hon a byddwn yn gwahodd yr holl dalent honno i sicrhau bod y materion hyn yn cael eu datblygu yn briodol - [Torri ar draws.] Ildiaf i arweinydd y Ceidwadwyr os yw'n dymuno i mi wneud hynny.
1,258
Rwyf yn dweud wrthych - nid wyf yn anghytuno â hanfodion ei bwynt - ond rwyf am ddweud wrtho ei bod yn briodol mai materion i'r Cynulliad Cenedlaethol ac nid i'r Llywodraeth yw'r materion hynny. Mae'n gwbl hanfodol i mi fod y rhaniad rhwng y Weithrediaeth a'r ddeddfwrfa yn cael ei barchu a bod y ddeddfwrfa ei hun yn penderfynu sut y mae'n gweithredu, yn hytrach na fy mod i'n gwneud awgrymiadau, a allai neu a allai beidio â chael eu derbyn yn dda. Fe orffennaf drwy ddweud hyn: rwyf yn gobeithio ein bod yn sefydlu ffordd newydd ymlaen; ffordd ymlaen a fydd yn sicrhau ein bod yn parhau i gael darlledwr cyhoeddus bywiog yn y Deyrnas Unedig; darlledwr sy'n adlewyrchu bywyd y Deyrnas Unedig gyfan, ble bynnag yr ydym a ble bynnag yr ydym yn byw; darlledwr sy'n adlewyrchu y Deyrnas Unedig iddi ei hun ac sy'n hyrwyddo'r Deyrnas Unedig i'r byd. Mae materion pwysig y mae angen inni fynd i'r afael â nhw a byddwn yn parhau i fod angen mynd i'r afael â nhw yn dilyn y siarter hon, o ran adolygiad canol tymor, setliad ffi'r drwydded a newidiadau eraill i'r cytundeb fframwaith. Ond yr hyn sydd gennym yn y fan yma yw cyfle i sicrhau bod darlledu gwasanaeth cyhoeddus yn parhau yn y Deyrnas Unedig, yn agored ac yn rhydd; i sicrhau bod gennym atebolrwydd ac i sicrhau bod yr atebolrwydd hwnnw i sefydliadau democrataidd y Deyrnas Unedig, ac nid dim ond i Lywodraethau'r Deyrnas Unedig. Rwy'n credu bod hwnnw'n egwyddor bwysig yr ydym wedi gwneud cynnydd arni yn ystod yr wythnosau a'r misoedd diwethaf.
1,259
Ni wnaf i siarad yn hir, dim ond i ategu llawer o'r hyn sydd wedi cael ei grybwyll yn barod gan nifer o Aelodau, sef beth sy'n bwysig o ganlyniad i'r broses rydym wedi mynd drwyddi o ran y siarter ydy'r hyn sy'n cael ei weithredu yng Nghymru. Mae yna fygythiadau yn wynebu BBC Cymru a darlledu yng Nghymru, heb os, o ganlyniad i'r siarter a fydd gennym ni wrth symud ymlaen. Heb os, mae'r siarter yn cynnig gwell sicrwydd a setliad llawer gwell nag yr oeddem ni wedi ofni yn gynnar yn y broses - mae yna ragor o lais i Gymru ac mae yna ragor, yn sicr o edrych ar y BBC drwyddi draw, o sicrwydd ynglŷn ag annibyniaeth a llai o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Mae'r rhain yn egwyddorion sy'n greiddiol iawn, iawn i mi, fel rhywun sydd wedi treulio y rhan fwyaf o'm mywyd fel oedolyn yn gweithio o fewn y BBC. Ond y gwir amdani yw mai dim ond un effaith sydd yn bwysig o ganlyniad i unrhyw adolygiad o'r ffordd y mae'r BBC yn gweithredu, a hynny ydy beth ydym ni i gyd fel gwylwyr a gwrandawyr ar wasanaethau'r BBC yn ei brofi, a beth mae ein hetholwyr ni ar hyd a lled Cymru yn ei gael o'r hyn maen nhw yn talu amdano, ar ddiwedd y dydd, drwy eu trwyddedau. Mae angen, rydym yn gwybod, i'r BBC wneud llawer mwy -
1,260
Galwaf ar Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes i ymateb i'r ddadl - Alun Davies.
1,261
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 5? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Gan nad oes, fe dderbynnir gwelliant 5.
1,262
Diolch i chi, Steffan. Mae'r cyngor diweddaraf ar deithiau tramor yn cael ei gynhyrchu gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad. Cyfeirir at y cyngor hwn hefyd yn y canllawiau Cymru gyfan ar gyfer ymweliadau addysgol, a ysgrifennwyd gan Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Gellir dod o hyd i'r cyngor o wefan Llywodraeth Cymru.
1,263
Diolch i chi, Steffan. A gaf fi fanteisio ar y cyfle i gynnig fy nghydymdeimlad â theulu Glyn yn wyneb y golled enbyd y maent wedi'i dioddef? Gwn eu bod yn cael eu cymell gan ymdeimlad o allgaredd i sicrhau bod y rheoliadau cystal ag y gallant fod, fel na fydd raid i unrhyw deulu ddioddef yr hyn y maent hwy wedi'i ddioddef. Rwy'n ymwybodol fod swyddfa'r Prif Weinidog yn parhau i edrych ar rai o'r materion sy'n codi ynglŷn â'r modd y cafodd yr achos penodol hwn ei drin, a gofynnodd y cyn-Weinidog addysg i Estyn gynnal adolygiad thematig ar faterion sy'n ymwneud â sut y mae colegau addysg bellach yn ymddwyn ac yn cynnal teithiau. Ar y pryd, credai Estyn nad oedd unrhyw fethiannau systematig, ond yn amlwg, roedd pethau wedi mynd o chwith yn yr achos penodol hwn. Fel y dywedais ar y pryd, y gred oedd nad oedd angen rhoi camau pellach ar waith. Yn bennaf, deddfwriaeth iechyd a diogelwch yw hon, mater nad yw wedi'i ddatganoli. Ond os oes gan yr Aelod enghreifftiau penodol o sut y mae'n teimlo nad yw'r canllawiau cyfredol mor gryf ag y gallant fod, a bod pŵer gan Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol i newid hynny, byddai fy swyddogion a minnau yn hapus i edrych ar gynigion penodol y gallai eu cyflwyno.
1,264
Diolch i chi, Julie. Rwy'n ddiolchgar i chi a Steffan am gydnabod pwysigrwydd teithiau ysgol ac ymweliadau tramor fel rhan o gwricwlwm cyffrous y gallwn ei gynnig i blant a phobl ifanc yng Nghymru. Maent yn rhan bwysig o addysg. Dylai ysgolion ac awdurdodau lleol sy'n trefnu teithiau ysgol fod yn ymwybodol o'u dyletswyddau o dan Ddeddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith etc 1974, er mwyn sicrhau bod gweithdrefnau rheoli risg synhwyrol ar waith ar gyfer trefnu a chynllunio gweithgareddau. Ond o ystyried y pryderon a nodwyd, byddaf yn sicr, Julie, yn gofyn i fy swyddogion atgoffa ysgolion ac awdurdodau lleol o'r angen i gyfeirio at y cyngor diweddaraf ar deithiau tramor gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad wrth gynllunio teithiau tramor. A bydd fy swyddogion hefyd yn tynnu eu sylw at ganllawiau cynhwysfawr Cymru gyfan ar ymweliadau addysgol, a ysgrifennwyd gan Banel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru a'r Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Mae'r canllawiau hynny hefyd yn cynnwys dolenni i gyngor y Swyddfa Dramor a Chymanwlad, ond dyna'r cyngor diffiniol.
1,265
Diolch i chi, Mark. Fel rwyf wedi'i ddweud wrth Aelodau blaenorol, mae canllawiau Panel Cynghorwyr Addysg Awyr Agored Cymru yn adnodd ar y we sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson i nodi newidiadau yn y ddeddfwriaeth ac arferion da gan weithgor o arbenigwyr yn y maes. Mae gan y wefan ddolenni at gyngor perthnasol arall, gan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad neu gan yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch. Nawr, fel y dywedais yn gynharach, mae llawer i'w ennill o ganiatáu i fyfyrwyr, pobl ifanc a phlant gymryd rhan mewn ymweliadau, teithiau, gweithgareddau awyr agored, ac os yw ysgolion yn dilyn y cyngor sydd ar gael iddynt, byddant yn gwneud hynny gan wybod mai dyna yw'r cyngor diweddaraf a'r arferion gorau.
1,266
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni am unrhyw gynnydd rydych wedi'i wneud mewn perthynas â gweithredu eich blaenoriaeth o leihau maint dosbarthiadau babanod i uchafswm o 25 yng Nghymru?
1,267
Rwy'n siŵr y bydd Ysgrifennydd y Cabinet yn gyfarwydd â'r consensws barn eang ymhlith llawer o academyddion nad dyma'r ffordd orau i fuddsoddi arian er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer disgyblion iau, ac wrth gwrs, fe fyddwch yn ymwybodol o'r ffaith fod gennym heriau recriwtio sylweddol ledled Cymru bellach o ran staff addysgu. A wnewch chi ystyried edrych unwaith eto ar wneud hyn yn flaenoriaeth, fel y gallwn edrych ar gost cyfle buddsoddi'r adnoddau a allai fod ar gael? Ym maniffesto'r Democratiaid Rhyddfrydol, roeddech yn amcangyfrif y byddai hyn yn costio tua £42 miliwn i'w gyflawni. Oni fyddai'n well gwario'r arian ar flaenoriaethau eraill, megis gwella ansawdd yr addysgu yn ein hysgolion, er mwyn sicrhau gwell canlyniadau i'n disgyblion iau?
1,268
Fe fyddwch yn gyfarwydd â'r ffaith fod Llywodraeth yr Alban hefyd yn ystyried rhai newidiadau tuag at hyn, ac mai'r casgliad y daeth gweithgor yn yr Alban iddo oedd bod y rhain yn faterion cymhleth, ac er y byddai pawb yn hoffi gweld dosbarthiadau llai o faint, byddai'n well gwario'r arian ar bethau eraill. A gaf fi newid i fater arall, a gwn ein bod wedi cael rhywfaint o ohebiaeth ar y mater hwn, Ysgrifennydd y Cabinet, sef cydnabyddiaeth i gymhwyster bagloriaeth Cymru gan sefydliadau addysg uwch, yn enwedig dros y ffin yn Lloegr? Fe fyddwch yn gwybod o'r ohebiaeth rydym wedi'i chael fod yna nifer o brifysgolion nad yw'n ymddangos eu bod yn ystyried ansawdd yr addysg y mae ein pobl ifanc yn ei chael wrth astudio bagloriaeth Cymru yn ysgolion Cymru, ac mae hyn yn eu rhwystro rhag cael mynediad at y cyrsiau y maent am eu dewis yn y sefydliadau addysg uwch hynny. Pa gamau penodol rydych yn eu cymryd i fynd i'r afael â'r problemau hynny, ac a wnewch chi ymuno â mi i ymweld â rhai o fyfyrwyr bagloriaeth Cymru yn fy etholaeth, er mwyn trafod y mater hwn gyda hwy?
1,269
Diolch, Lywydd. Mi fyddwch chi'n gwybod rwy'n siŵr, Ysgrifennydd Cabinet, fod gwaith ymchwil diweddar gan NUT Cymru wedi datgelu bod athrawon yng Nghymru wedi colli hyd at 52,000 o ddyddiau ysgol y flwyddyn ddiwethaf oherwydd salwch sy'n deillio o bwysau gwaith. Mae'n debyg bod 12 o awdurdodau lleol Cymru wedi nodi cynnydd yn yr absenoldebau oherwydd straen gwaith, ac mae'r ymchwil hefyd yn amcangyfrif cost ariannol o tua £34 miliwn i'n hysgolion ni dros y pedair blynedd diwethaf o ganlyniad i hynny. A allwch chi ddweud wrthym ni beth mae eich Llywodraeth chi yn ei wneud i fynd i'r afael â'r sefyllfa yna?
1,270
Diolch i chi am eich ateb. Wrth gwrs, mae'n debyg bod y pwysau yma yn cael ei deimlo fwyaf ar ysgwyddau penaethiaid sydd, ar ddiwedd y dydd, yn gorfod gwneud llawer o'r gwaith biwrocrataidd ychwanegol yma. Rŷm ni'n gwybod, wrth gwrs, fod yna drafferthion yma yng Nghymru gyda nifer uchel o swyddi penaethiaid yn wag a nifer o swyddi penaethiaid dros dro yn eu lle, sydd yn ei hunan, wrth gwrs, yn creu mwy o stres nid yn unig ar yr unigolion hynny, ond, yn aml iawn, ar yr athrawon sydd ar ôl yn gorfod pigo lan y beichiau sy'n cael eu gadael oherwydd bod swyddi yn wag. A gaf i ofyn, felly, beth mae'r Llywodraeth yn ei wneud er mwyn trio delio â'r gwrthanogaethau, y 'disincentives', sydd allan yna - ac mae stres, wrth gwrs, yn amlwg yn un ohonyn nhw - i athrawon i gamu lan i fod yn benaethiaid?
1,271
Rŷch chi wedi dweud ddwywaith nawr i'r ddau gwestiwn eich bod yn cydnabod bod yna broblemau. Rŷch chi wedi sôn am rai pethau sydd wedi cychwyn, ac rŷch chi'n sôn am gael deialog yn nes ymlaen yn y flwyddyn. Y gwir amdani yw bod athrawon a phenaethiaid yn wynebu'r heriau a'r pwysau yma nawr. Nid wyf yn gwybod os ydych chi'n ymwybodol, ond mewn un awdurdod addysg yng Nghymru, dim ond ers dechrau'r flwyddyn, mae yna dri phennaeth wedi dioddef strôc oherwydd y pwysau gwaith. Nid yw hynny'n dderbyniol. Fydd hi ddim yn llawer o gysur i nifer yn y rheng flaen bod yna 'rhywbeth yn mynd i ddigwydd rhywbryd'. A allwch chi ddweud wrthym yn fwy penodol erbyn pryd y bydd y bobl ar y ffas lo yn gweld gwahaniaeth?
1,272
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, os nad yw Cymru'n gallu gwneud unrhyw gynnydd sylweddol yn y safleoedd PISA ym mis Rhagfyr, fel y mae'r rhan fwyaf o arbenigwyr yn ei ragweld, beth y mae Ysgrifennydd y Cabinet yn bwriadu ei wneud i wella ein safle erbyn y tro nesaf?
1,273
Diolch. Nid ydym yn aros am y canlyniadau PISA. Rydym wedi rhoi rhaglen uchelgeisiol ar waith i ddiwygio addysg, rhaglen a ffurfiwyd gan farn arbenigol y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, a ddywedodd rai pethau beirniadol iawn am system addysg Cymru yn eu hadroddiad yn 2014. Rwyf o ddifrif ynglŷn â'r pethau hynny ac yn wir, rwyf wedi gofyn i'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd ddod yn ôl i Gymru y tymor hwn er mwyn i mi allu bod yn sicr ein bod ar y trywydd cywir a'n bod yn gwneud y penderfyniadau cywir a fydd yn gwneud gwahaniaeth. Nid oes gennyf unrhyw fwriad o aros i weld beth fydd y canlyniadau PISA cyn gwneud unrhyw un o'r newidiadau hynny. Mae'r diwygio'n parhau. Mae'n digwydd yn awr.
1,274
Rwy'n cymryd bod yr Aelod yn bresennol yn y Siambr ddoe pan roddais fy natganiad ar adolygiad Diamond, lle roeddwn yn datgan yn gwbl glir fod Llywodraeth Cymru wedi derbyn yr egwyddorion sylfaenol sy'n cael eu cynnwys yn yr adroddiad hwnnw. Rwyf am sicrhau y bydd myfyrwyr o Gymru yn cael eu cefnogi mewn system sy'n unigryw yn y DU, yn yr ystyr ei bod yn gwbl symudol, fel y gall myfyrwyr astudio mewn rhannau eraill o'r DU ac yn wir, o amgylch y byd, a bod y dull o astudio yn cael ei gefnogi hefyd, pa un a ydych yn fyfyriwr rhan-amser, yn fyfyriwr israddedig amser llawn neu'n fyfyriwr ôl-raddedig. Dyna yw'r argymhellion gan Syr Ian Diamond. Gwn nad yw UKIP yn hoffi derbyn cyngor arbenigwyr a'u bod yn byw mewn byd ôl-ffeithiau, ond ar ôl derbyn yr adroddiad gan Syr Ian Diamond, sy'n un o academyddion mwyaf blaenllaw y DU, adroddiad a ysgrifenwyd ac a gefnogwyd hefyd gan bobl fel is-ganghellor Prifysgol Caerdydd, cyfarwyddwr y Brifysgol Agored, llywydd Undeb Cenedlaethol y Myfyrwyr a chyn-Aelodau uchel eu parch yma yn y Siambr hon, rwy'n credu y dylai UKIP fod yn ofalus iawn wrth fwrw amheuon ar ansawdd y bobl a fu'n ystyried yr adroddiad hwnnw. Rwyf wedi ei ystyried ac mae'r Cabinet yn cefnogi'r egwyddorion sydd wedi'u cynnwys ynddo.
1,275
Lywydd, roeddwn yn credu fy mod wedi bod yn gwbl glir yn y ddadl yr wythnos diwethaf am fy safbwyntiau ar ysgolion gramadeg. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl fod ysgolion gramadeg yn gwasanaethu eu myfyrwyr yn well nag ysgolion cyfun traddodiadol. Gwyddom eu bod yn newyddion drwg i'r disgyblion tlotaf a gwyddom hefyd fod y Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd, er bod ganddo nifer o bethau anodd i'w dweud am addysg yng Nghymru, wedi canmol ein system gyfun. Maent yn dweud mai dyna'r ffordd orau i wneud gwelliannau i'r system addysg yng Nghymru, ac rwy'n bwriadu dilyn y cyngor hwnnw.
1,276
Yn wir, mae Llywodraeth Cymru yn gwneud taliad i gefnogi addysg cyfrwng Cymraeg yn Llundain, lle mae llawer o Gymry'n gweithio ac yn awyddus i fanteisio ar addysg cyfrwng Cymraeg i'w plant. Rydym yn gwybod bod addysg yn hanfodol i sicrhau bod targedau cyffrous a manwl Llywodraeth Cymru mewn perthynas â siaradwyr Cymraeg - . Os ydym am eu cyrraedd, mae angen i ni ganolbwyntio ar addysg ac rydym eisiau gallu cefnogi hynny lle bo'n ymarferol bosibl, ac yn yr achos hwn rydym yn ei gefnogi yn Llundain.
1,277
Diolch. Yr wythnos diwethaf, roeddwn yn un o nifer o Aelodau Cynulliad a fynychodd ddigwyddiad Wythnos Genedlaethol Prydau Ysgol yn y Pierhead. Rwy'n credu eich bod chi yno, ynghyd â Chadeirydd Pwyllgor yr Economi, y Seilwaith a Sgiliau, sydd ar y dde i mi. Cawsom fwynhau rhai o fwydydd ysgol gorau Cymru, gan gynnwys jam roli-poli, tikka masala ac wrth gwrs, pwdin eirin. Cafodd Aelodau Cynulliad y pleser o fwyta'r bwyd gorau, ond wrth gwrs, Ysgrifennydd y Cabinet, mae safonau bwyd yn amrywio ledled Cymru, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig lle mae costau'n uwch. Sut rydych yn sicrhau bod y safonau'n uchel ledled Cymru, er mwyn i bob ysgol allu elwa ar brydau ysgol o'r ansawdd gorau?
1,278
Mae'n Ddiwrnod Llaeth Ysgol heddiw, felly dylem ni gydnabod hynny wrth drafod bwyd maethlon mewn ysgolion. Pa gyfleoedd sydd gan yr Ysgrifennydd nawr, o dan y sefyllfa bresennol, i wella maethlondeb a hefyd ansawdd a safon bwyd ysgol, gyda'r ffaith ein bod ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd ac nad yw rheolau caffael yn mynd i fod yn gymwys yn yr un ffordd, felly gallwn hybu bwyd lleol, a gyda'r posibilrwydd o dan y cwricwlwm newydd o gael plant a phobl ifanc i dyfu eu bwyd eu hunain, i brosesu eu bwyd eu hunain wrth ei goginio fe yn yr ysgol, a bwyta'r bwyd wedyn? Achos, yn ôl beth rwy'n ei ddeall, mae problemau difrifol yn rhwystro plant rhag gwneud hynny ar hyn o bryd.
1,279
Diolch i chi, Oscar. Rydym wedi gweld gwelliant parhaus eleni ar draws pob pwnc yng nghyfnodau allweddol 2 a 3. Cafwyd gwelliannau hefyd mewn mathemateg a'r dangosydd cyfnod sylfaen cyffredinol yn y cyfnod sylfaen. Mae'r gwelliannau hyn yn dangos effaith gadarnhaol barhaus ein ffocws ar wella safonau a chanlyniadau i ddisgyblion.
1,280
Diolch i chi, Oscar. Er mwyn bod yn glir, ac er mwyn ei gofnodi, mae gwelliannau eleni yn dangos ein canlyniadau gorau erioed ar gyfer diwedd cyfnod allweddol 2, ac mae canlyniadau ar gyfer cyfnod allweddol 3 hefyd wedi gwella. Rydym yn croesawu'r newyddion fod y bwlch rhwng perfformiad bechgyn a merched wedi culhau yn y rhan fwyaf o bynciau yng nghyfnodau allweddol 2 a 3, ac mae mwy o welliant eto yn y rhan fwyaf o bynciau uwchlaw'r lefel ddisgwyliedig ym mhob un o feysydd dysgu'r cyfnod sylfaen. Felly, mae'r bwlch rhwng bechgyn a merched yn cau, ond mae'n un sy'n dal i fodoli. Nid ffenomen sy'n effeithio ar Gymru yn unig yw hon, ond ffenomen sy'n effeithio ar hyd a lled y DU. Yn wir, yng ngorllewin Ewrop, ceir bwlch cyrhaeddiad rhwng bechgyn a merched. Byddwn yn edrych ar ffyrdd y gallwn ddefnyddio strategaethau penodol mewn ysgolion penodol i fynd i'r afael ag anghenion dysgwyr sy'n fechgyn. Mae'n arbennig o amlwg yn achos disgyblion sy'n cael prydau ysgol am ddim, ac rydym yn edrych ar ffyrdd arloesol o ddefnyddio'r grant amddifadedd disgyblion i allu creu cyfleoedd a chwricwlwm a phrofiad er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb yn y bechgyn ifanc hyn yn eu haddysg ysgol.
1,281
Diolch i chi am eich ymateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Yn ogystal ag arolygiadau Estyn, mae ysgolion hefyd yn cael eu hasesu'n flynyddol gan y consortiwm rhanbarthol o dan y drefn 'gwyrdd/ambr/coch' - sy'n fwy adnabyddus fel y system goleuadau traffig. Pam eu bod yn cynhyrchu canlyniadau gwahanol, a pha rai y dylai rhieni dalu fwyaf o sylw iddynt?
1,282
Bydd y Gymraeg yn parhau i fod yn orfodol hyd at 16 oed a bydd y cwricwlwm newydd yn cynnwys continwwm ieithyddol ar gyfer y Gymraeg o 2021 ymlaen. Rydym ni wedi cynnal cynlluniau peilot yn ehangu'r Gymraeg i feysydd pwnc eraill a byddwn ni'n parhau i ganolbwyntio ar wella sgiliau cyfathrebu ein pobl ifanc. Rydym ni hefyd yn cynyddu ein cymorth ar gyfer y Gymraeg i athrawon ac ysgolion.
1,283
Rydw i'n gwybod bod lot fawr o bobl wedi gresynu wrth y geiriau yr oeddwn i wedi'u defnyddio. Roeddwn i'n synnu at hynny hefyd, achos nid oeddwn i'n newid polisi; roeddwn i'n ailadrodd polisi presennol. Rydym ni ar hyn o bryd mewn cyfnod pontio o ble yr oeddem ni pan oedd yr Athro Sioned Davies wedi cyhoeddi ei hadroddiad hyd at gyflwyniad y cwricwlwm newydd yn 2021. Mi fydd y cymhwyster Cymraeg ail iaith yn cael ei ddisodli yn y ffordd yr ydych chi wedi'i awgrymu yn 2021, ac mi fyddwn ni'n edrych ar sut yr ydym yn mynd i ddatblygu 'qualifications' gwahanol ar gyfer y cyfnod sy'n dechrau o 2021.
1,284
Rydw i'n hapus iawn i barhau'r drafodaeth ar hynny os oes gan yr Aelod awgrymiadau y buasai hi'n licio eu gwneud. Ond a gaf i ddweud hyn? Mae wedi bod lot o drafod amboutu lle rydym ni ar hyn o bryd ers i adroddiad Sioned Davies gael ei gyhoeddi. Mi fydd yna newidiadau sylfaenol yn cael eu cyflwyno yn ystod y blynyddoedd nesaf, ac felly ni fydd yna ddim cyfnod coll, fel y mae rhai wedi awgrymu, ond mi fydd yna gyfnod pontio o ble yr oeddem ni i ble yr ydym ni'n mynd i fod. Mae'r trafodaethau y mae'r Aelod wedi'u disgrifio wedi digwydd ac yn mynd i barhau i ddigwydd, ac rydw i'n agored iawn i ehangu ar a pharhau'r trafodaethau gyda'r bobl y mae wedi'u henwi ac eraill, os oes raid. Ond a gaf i ddweud hyn? Fy mlaenoriaeth i yw sicrhau bod pobl yn gadael yr ysgol gyda'r gallu i siarad a defnyddio'r Gymraeg, nid jest er mwyn pasio arholiad pan fônt yn 16, ond i allu defnyddio a siarad Cymraeg yn ystod eu hoes. Felly, rydym ni'n symud mewn ffordd eithaf sylfaenol i newid y ffordd yr ydym yn dysgu Cymraeg.
1,285
Diolch am yr ymateb hynny. Rwy'n falch o glywed hynny, ond rwyf wedi cysylltu'n ddiweddar â chwmni Ynni Cymru, sydd wedi derbyn cymorth ariannol sylweddol gan Lywodraeth Cymru i helpu i gefnogi busnesau newydd yng Nghymru, a byddai'r cymorth yn cynnwys cyngor ar gymwysterau galwedigaethol defnyddiol. Nid oes gan y cwmni bolisi iaith Gymraeg, na dealltwriaeth o uchelgeisiau eich Llywodraeth chi ar gyfer gwella dwyieithrwydd yn y gweithlu. Pan ofynnais i am hynny, cefais yr ymateb, 'Wel, mae gyda ni rhywun sy'n gallu siarad Cymraeg rhywle yn ein busnes'. Collodd y pwynt yn llwyr. Byddwn i'n disgwyl i gwmni o'r fath o leiaf gynghori busnesau newydd y dylen nhw gadw mewn cof bod llygaid y Llywodraeth ar y Gymraeg yn y gweithlu, ac i'w hannog i ystyried sut y gallent ddarparu hynny. O ran yr iaith Gymraeg, beth yw eich disgwyliadau chi o unrhyw sefydliad a gefnogwyd gydag arian Llywodraeth Cymru sy'n honni eu bod yn cynnig hyfforddiant galwedigaethol neu gymorth busnes?
1,286
Mewn cyfarfod pwyllgor ar 13 Gorffennaf, fe wnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg ei gwneud hi'n glir mewn ymateb i gwestiwn gan lefarydd Plaid Cymru dros addysg eich bod chi'n mynd i edrych ar y posibilrwydd o ehangu 'remit' y Coleg Cymraeg Cenedlaethol i gynnwys addysg bellach. A wnewch chi ein diweddaru ni o ran cynnydd yn dilyn y datganiad yna, achos mi fyddai'n mynd peth o'r ffordd tuag at gynyddu'r ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg o fewn addysg bellach?
1,287
Weinidog, er bod y sefyllfa'n gwella'n raddol, mae absenoldeb yn parhau i fod yn bryder mewn bron i draean o'n hysgolion uwchradd. Mae'r rhai sy'n gymwys i gael prydau ysgol am ddim ddwywaith yn fwy tebygol o fod yn absennol na'r rhai nad ydynt yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac mae ychydig o dan un rhan o bump o'r rhai sy'n cael prydau ysgol am ddim yn absennol yn gyson, sy'n cael effaith enbyd ar eu cyrhaeddiad addysgol. Eto i gyd, llai na hanner yr ysgolion yn unig sydd wedi cynnal dadansoddiad digon da o'r rhesymau pam nad yw disgyblion yn mynychu'r ysgol - yn ôl Estyn. A fyddech chi, fodd bynnag, yn cymeradwyo'r arferion gorau yn y sector, megis Ysgol Uwchradd Cathays, sydd â 37 y cant o'u plant yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim, ac eto sy'n gwneud cynnydd da ar gynyddu cyfraddau presenoldeb?
1,288
Diolch i chi, Hannah. Rwyf am ei gwneud yn glir na fyddaf yn goddef unrhyw fwlio yn y system addysg yng Nghymru. Rwy'n disgwyl y bydd ysgolion a gwasanaethau addysg yn ei gwneud yn glir fod pob math o fwlio yn hollol annerbyniol ac yn mynd ati'n egnïol i ymdrin ag unrhyw ddigwyddiadau, gan sicrhau bod y disgyblion yn cael eu cefnogi'n briodol.
1,289
Diolch i chi, Hannah. Rwy'n ddiolchgar iawn i chi a Jeremy am arwain yr agenda hon ac am ddod i fy ngweld cyn toriad yr haf i siarad am bwysigrwydd yr agenda hon. O ganlyniad i'r cyfarfod hwnnw, rwy'n sefydlu grŵp gorchwyl arbenigol i fy nghefnogi i a swyddogion yn well o ran sut y gallwn gefnogi ysgolion gyda'r agenda hon. Yr hyn rydym yn ymwybodol ohono, o 'r ymchwil, yw bod llawer o ysgolion yn teimlo - ac mae athrawon yn aml yn teimlo - nad oes ganddynt y wybodaeth na'r ddealltwriaeth ynglŷn â'r ffordd orau i fynd i'r afael â rhai o'r sefyllfaoedd hyn. Felly, byddwn yn gofyn i'r grŵp arbenigol ein helpu i ddatblygu adnoddau newydd a fydd ar gael i athrawon i fynd i'r afael â bwlio o bob math i allu rhoi hyder iddynt. Byddwn yn parhau i wneud yr hyn a allwn i gefnogi ysgolion ac athrawon unigol er mwyn sicrhau eu bod wedi'u paratoi yn y ffordd orau i gefnogi eu disgyblion ac i sicrhau bod ein hysgolion yn barthau di-fwlio.
1,290
Diolch i chi, Bethan. Rwyf ar fai - nid oeddwn yn ymwybodol o fodolaeth gwaith Lindsay, ond gwn fod Lindsay wedi bwrw iddi yn ei holl waith yn ystod ei amser yn y Cynulliad hwn gyda brwdfrydedd a diwydrwydd mawr, ac felly byddwn yn falch iawn o'i weld. Efallai y byddwch cystal â sicrhau fy mod yn cael y gwaith ymchwil hwnnw, oherwydd byddwn yn falch iawn o edrych arno. Yn ogystal â chyfarfod â Hannah Blythyn a Jeremy Miles, mae gennyf gyfarfod i ddod â Stonewall Cymru, cyfarfod â Dangos y Cerdyn Coch i Hiliaeth - rydym yn gweithio gyda hwy - cyfarfod â chynghorydd Llywodraeth Cymru ar drais domestig; rydym yn cyfarfod â chynifer o arbenigwyr ag y gallwn er mwyn gallu defnyddio eu gwybodaeth a'u harbenigedd, fel y gallwn rannu'r wybodaeth a'r arferion da hynny er mwyn sicrhau bod bwlio o bob math, boed yn ymwneud â rhywioldeb rhywun, eu hil, eu crefydd - fel y gallwn gefnogi ysgolion ac unigolion, fel bod plant sy'n mynychu ysgolion yng Nghymru yn teimlo'n ddiogel. Os na allwn wneud hynny iddynt, ni allwn ddisgwyl iddynt ddysgu. Felly mae'n rhaid gwneud yn siŵr mai ein cam cyntaf fydd sicrhau bod ein hamgylcheddau yn ddiogel.
1,291
Diolch i chi, Mark, am dynnu fy sylw at y digwyddiad hwnnw. Os hoffech roi manylion llawn yr achos hwnnw i mi, byddwn yn fwy na pharod i edrych arno, ac i ofyn i fy swyddogion edrych i weld a oedd popeth a wnaed yn yr achos penodol hwnnw yn dilyn yr hyn a ddylai fod wedi cael ei wneud. Os byddech cystal â'i anfon ataf, byddwn yn ddiolchgar iawn yn wir. Rydym ar fin adnewyddu strategaeth gwrthfwlio gyfredol Llywodraeth Cymru er mwyn edrych i weld a allwn ei mireinio, ei thargedu'n well, a gwneud yn siŵr ei bod yn gyfoes. Byddaf yn gwneud datganiad i'r Siambr pan fydd y gwaith wedi'i gwblhau.
1,292
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Rwy'n siŵr y byddech yn cytuno y bydd gweithredu erthygl 50 yn effeithio'n sylweddol ar Gymru. Efallai y gallech gadarnhau eich barn ar hynny. A allech roi asesiad o effaith hynny ar ddeddfwriaeth Cymru yn awr ac yn y dyfodol?
1,293
Dyna gwestiwn rhesymol ond un sy'n galw am ateb eithriadol o gymhleth, ac sy'n ddibynnol iawn ar ddadansoddiad rhywun o natur a chyflwr y trafodaethau, beth yw gadael yr UE a beth y mae gadael yr UE yn ei olygu mewn gwirionedd. Mae archwilio goblygiadau hynny i gyfraith Cymru, i statud Cymru, i gyfreitheg Cymru, i benderfyniadau Cymru, i benderfyniadau a wneir yn Lloegr sy'n effeithio ar Gymru, yr ymagwedd y gallem ei mabwysiadu tuag at ddeddfwriaeth Cymru, pa rannau o gyfraith yr UE yr hoffem eu cadw a'r berthynas â chonfensiynau eraill yn fater cymhleth iawn. Mae'n hawdd iawn dweud, 'Wel, gadewch i ni ddechrau'r broses', ond ar hyn o bryd nid oes unrhyw un yn gwybod beth sy'n cael ei drafod yn fanwl a beth yw'r pecyn; mae'n amlwg nad yw Llywodraeth y DU yn gwybod. Yr unig beth y gallaf ei ddweud yw bod rhwymedigaeth a chytundeb gyda Llywodraeth Cymru. Bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â ni, ac yn y pen draw bydd y mater hwn yn dod gerbron y Siambr hon. Bydd yna feysydd i'w cytuno, ond ar hyn o bryd nid oes llawer mwy y gallaf ei ychwanegu.
1,294
Diolch. Yn y Cynulliad diwethaf, tynnodd dau o'r pwyllgorau - y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd a'r Pwyllgor Menter a Busnes - sylw at bwysigrwydd datblygu cynllun morol. Mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu ymgynghori ar gynllun drafft yn ddiweddarach eleni, cynllun a fydd yn arloesol ar gyfer Cymru ac a fyddai'n sicrhau ein bod yn diogelu ein hamgylchedd naturiol eithriadol. Wrth adael yr UE, bydd pysgodfeydd ac adnoddau morol naturiol Cymru yn dod o dan y chwyddwydr. Pa gamau pellach y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod gweithrediad y cynllun yn gallu gwrthsefyll craffu cyfreithiol?
1,295
Rwy'n falch o glywed bod y Cwnsler Cyffredinol yn mynd i Hwlffordd ac yn teithio i'r gorllewin. Os caf i ofyn iddo fe: bydd e'n ymwybodol, mae'n siŵr, bod datblygu'r cynllun morol a nifer o ardaloedd cadwraeth yn y môr yn deillio'n uniongyrchol o ddeddfwriaeth Ewropeaidd. Rwy'n credu ei bod hi'n hynod bwysig bod deddfwriaeth o'r fath yn cael ei gweithredu gan Lywodraeth Cymru. Mae nifer o bobl yn awgrymu bod y ddeddfwriaeth yna ar fin cael ei thorri gan y ffaith nad yw Llywodraeth Cymru wedi ymateb yn brydlon i'r ddeddfwriaeth honno. A wnaiff y Cwnsler Cyffredinol, felly, roi gwarant i'r Cynulliad nad ydym mewn unrhyw beryg o wynebu gweithredoedd 'infraction' gan y Comisiwn Ewropeaidd?
1,296
Mae'n flin iawn gen i fy mod i ddim wedi gosod cwestiwn, ond mae gen i ddau gwestiwn beth bynnag, mae'n ymddangos. Roeddwn i'n gofyn i'r Cwnsler Cyffredinol, gan fod y cynllun morol a'r ddeddfwriaeth arall mae'r Llywodraeth yn ei hwynebu yn deillio, yn y lle cyntaf, o ddeddfwriaeth Ewropeaidd, a gan ein bod ni eisoes yn hwyr, yn ôl beth rwy'n ei ddeall, yn y dydd yn gweithredu'r cynlluniau yma, a oes unrhyw beryg y bydd y Comisiwn Ewropeaidd - beth bynnag am ganlyniad y refferendwm - a oes unrhyw beryg y bydd y Comisiwn Ewropeaidd yn gweithredu yn erbyn Llywodraeth Cymru gan fod y ddeddfwriaeth yma'n hwyr yn y dydd yn cyrraedd? Ac a wnaiff y Cwnsler Cyffredinol warantu nad yw'r Llywodraeth yn wynebu unrhyw fath o weithredu 'infraction' gan y Comisiwn Ewropeaidd?
1,297
Cefais y fraint o arwain dirprwyaeth ar ran y Pwyllgor Newid Hinsawdd, Amgylchedd a Materion Gwledig, yn cynnwys Jayne a Simon, i arfordir Ceredigion ddiwedd yr wythnos ddiwethaf. Un mater a ddysgasom yno gan sefydliadau morol oedd bod cyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol yn torri rheolau o bosibl, yn ôl yr hyn a awgrymwyd, gan arwain, yn ddamcaniaethol o leiaf, at gamau gorfodi. Roeddem yn meddwl tybed - o dan y gyfarwyddeb honno, ceir gofyniad i lunio parthau gwarchod ac i wirio wedyn fod ganddynt statws amgylcheddol da, ond ymddengys bod cryn dipyn o orgyffwrdd â Deddf y Môr a Mynediad i'r Arfordir 2009 a'n hymrwymiadau yno, ond ceir cyfle hefyd gyda Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 i fabwysiadu ymagwedd fwy rhagweithiol ac uchelgeisiol. Bûm yn meddwl tybed a fyddai'r Cwnsler Cyffredinol yn cefnogi'r ymagwedd ehangach honno - neu i ba raddau y dylem boeni ynglŷn ag wynebu achos am dorri cyfraith Ewropeaidd o dan gyfarwyddeb fframwaith y strategaeth forol.
1,298
Yr eitem nesaf yw'r datganiad gan Gadeirydd y Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ar ddull gweithredu'r pwyllgor o ran ei gylch gwaith, a sut y mae'n bwriadu ymgysylltu â'r cyhoedd. Rwy'n galw, felly, ar Gadeirydd y pwyllgor hynny, Bethan Jenkins.
1,299