text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Fy nghwestiwn, yn hytrach, oedd pa sylwadau y byddech yn eu gwneud. Yn amlwg, rwy'n deall sut y mae cylch cynllunio'r gyllideb yn gweithio, ac nid oeddwn yn ceisio sgorio pwyntiau gwleidyddol. Roeddwn yn llwyr gefnogi diogelu'r gyllideb honno y llynedd a byddaf yn parhau i wneud hynny yn y dyfodol, nid yn unig oherwydd digartrefedd, ond oherwydd effaith gysylltiedig ymyrraeth gynnar ar gamddefnyddio sylweddau, ar gam-drin domestig a chymaint o bethau eraill sy'n arwain at bwysau costus ar wasanaethau statudol. Rwy'n gobeithio y byddwch yn cydnabod bod hon yn ffordd o arbed arian ac yn ffordd o dorri cyllidebau drwy feddwl yn gyfannol yn Llywodraeth Cymru. Y goes olaf ar y stôl mewn perthynas â hyn, ochr yn ochr â'r ddwy raglen honno, yw'r cyllid pontio ar gyfer tai - gan gefnogi pobl ar gyrion cymdeithas, lleihau'r galw ar adrannau damweiniau ac achosion brys, annog pobl i mewn i waith, helpu pobl i aduno gyda'u plant a llawer mwy. Mae Cymorth Cymru wedi gwneud y pwynt y bydd hwnnw - yn dilyn gostyngiad i £3 miliwn, rwy'n credu, y flwyddyn hon, o £5 miliwn y llynedd - yn dod i ben ar ddiwedd y flwyddyn hon. Ond os gellid ymgorffori hwn yn Cefnogi Pobl, byddai'r £130 miliwn, sef y swm wedi ei gyfuno, yn ein galluogi i fynd gam ymhellach i drechu ac atal ac ymyrryd a lleihau costau'r sector statudol fel rhan o setliad cyllideb tynn. Sut rydych yn ymateb i hynny?
1,000
Diolch i chi, Lywydd. Rwyf am ddod yn syth at y cwestiynau. Beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i nodi a diogelu merched sydd mewn perygl yn sgil anffurfio organau cenedlu menywod a pha adnoddau a ddarparwyd i'r GIG, y gwasanaethau cymdeithasol a'r ysgolion i gefnogi'r mesurau hynny?
1,001
Mae llawer o bobl o gymunedau lle mae anffurfio organau cenedlu menywod yn cael neu wedi cael ei arfer yn gweithio'n galed i'w atal yng Nghymru a helpu ei ddioddefwyr. Pa gymorth y mae Llywodraeth Cymru yn ei roi i elusennau sy'n ymwneud â'r gwaith hollbwysig hwn?
1,002
Caiff arferion diwylliannol eu trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth, ac mae anffurfio organau cenedlu menywod yn benodol yn cael ei wneud i ferched bach gan oedolion, er budd dynion yn y diwylliant patriarchaidd yn y pen draw. Beth rydych chi'n ei wneud i herio'r gwerthoedd diwylliannol sy'n arwain at anffurfio organau cenedlu menywod, yn enwedig ymhlith dynion sy'n perthyn i ddiwylliannau lle mae anffurfio organau cenedlu menywod yn cael ei arfer?
1,003
Ysgrifennydd y Cabinet, y tro diwethaf y cawsom y cwestiynau hyn oedd cyn refferendwm yr UE, a gwnaeth nifer o Aelodau sylwadau ar faint o gynlluniau gwrthdlodi sy'n cael eu hariannu gan yr UE. Felly, gwyddom bellach, wrth gwrs, fod y rhai a fu'n ymgyrchu i adael yr UE, gan gynnwys rhai o aelodau'r Blaid Lafur, fel Gisela Stuart, wedi addo y bydd pob ceiniog sy'n cael ei derbyn oddi wrth yr UE yn cael ei chadw. Ond pa gynlluniau wrth gefn rydych wedi eu gwneud, gyda'ch swyddogion, os na chaiff rhai o'r cynlluniau gwrthdlodi hyn eu diogelu?
1,004
Diolch am eich ymateb. Mae llawer iawn o bryder/diddordeb wedi bod ymysg llawer o blith y sefydliad gwleidyddol fod llawer o'r ardaloedd a elwodd fwyaf o arian Ewropeaidd wedi pleidleisio dros adael. Ond er gwaethaf yr holl arian sy'n mynd i'r Cymoedd, mae tlodi, tai gwael a chyflogaeth ansicr yn parhau i fod yn ffeithiau bywyd i lawer o bobl sy'n byw yno. Felly, gellid gweld y bleidlais hon fel rheithfarn ar y modd y mae Llywodraeth Cymru wedi gweinyddu biliynau o bunnoedd o arian yr UE, yn hytrach na'r sefydliad ei hun. A ydych yn derbyn, felly, nad yw trechu tlodi yn ymwneud yn unig â'r rhif y byddwch yn ei roi ar ôl yr arwydd punt ar y datganiad i'r wasg, ond yn hytrach â'r modd y byddwch yn gwario cyllidebau sy'n bodoli, ac os nad ydych yn rhoi'r hyn y mae cymunedau wirioneddol eu hangen iddynt, neu os nad ydych yn ymgynghori'n effeithiol â hwy, yna mae'n bosibl y bydd eu rhybuddio bod yr arian mewn perygl yn cael ei weld fel bygythiad gwag i'r mathau hynny o bobl?
1,005
Diolch am hynny, ond rwy'n credu bod angen i ni gydnabod hefyd nad yw rhai o leiaf o'r biliynau hynny wedi cyflawni'r nod a fwriadwyd ar eu cyfer, ac rwy'n credu bod angen i ni fod yn agored am y ffaith honno. Mae'n sicr yn wir fod cyllid ar gyfer rhaglenni gwrthdlodi mewn perygl, a dylid gwneud cynlluniau wrth gefn, fel rydych wedi nodi, i ddod yn fwy cadarn. Ond mae'n rhaid i ni dderbyn hefyd y gallai'r atebion gynnwys y nesaf peth i ddim costau er mwyn gwneud arbedion yn y tymor hir. Er enghraifft, rydym wedi ceisio deddfu ar wahardd contractau dim oriau mewn gofal cymdeithasol, pleidleisiodd eich Llywodraeth yn erbyn ymdrechion i ddiddymu angen blaenoriaethol fesul cam, a rhoi diwedd ar y prawf Pereira yn y system ddigartrefedd fel bod gan bawb hawl i dŷ. Felly, gallwch weld sut y gallem wneud hyn heb orfod pwmpio miliynau o bunnoedd eto i mewn i hynny. Sut rydych chi'n edrych ar fathau newydd o fentrau, o ganlyniad i'r bleidlais hon, a sut y byddwch chi wedyn yn ceisio eu gweithredu fel Llywodraeth?
1,006
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Gall dod ag ystod o wasanaethau a sefydliadau at ei gilydd mewn canolfannau cymunedol wella'r modd y darperir gwasanaethau a mynediad cwsmeriaid.
1,007
Diolch. Rwyf wedi cael y llythyr gan yr Aelod sy'n rhoi cefnogaeth lawn i gais neuadd bentref Rhaglan, ac roeddech yn iawn i ddweud eu bod wedi cael swm sylweddol o arian gan y Loteri Fawr ar gyfer cynllunio. Mae'r rhaglen cyfleusterau cymunedol yn gynllun grantiau cyfalaf sy'n darparu hyd at £500,000 ar gyfer prosiectau a arweinir gan y gymuned i wella cyfleusterau cymunedol sy'n trechu tlodi. Gall hyn gynnwys canolfannau cymunedol.
1,008
Diolch i'r Gweinidog am ei ateb. Rwy'n falch clywed bod cynnydd wedi bod ers inni ei holi ddiwethaf, cyn yr haf, ynglŷn â'r mater yma, ac yn benodol ei fod wedi cyfarfod â Chomisiynydd Plant Cymru. Rwy'n siŵr ei fod wedi cael cefnogaeth lawn y comisiynydd tuag at yr amcan yna. A fyddai'n haws, efallai, i esbonio sut mae'r Llywodraeth yn bwriadu dod â rhyw fath o ddarpariaeth drwy'r Cynulliad hwn, yn enwedig o gofio bod angen rhoi cyfle i Aelodau o bob plaid gefnogi, gobeithio, ac i ennill cefnogaeth ehangach i sicrhau bod amddiffyniad cyfartal yma i bobl ifanc a phlant?
1,009
Rwy'n credu bod llawer o rieni yn credu bod yr amddiffyniad o gosb resymol eisoes wedi cael ei ddiddymu, ond a fyddai'r Gweinidog yn cytuno, wrth baratoi ar gyfer y ddeddfwriaeth sydd i ddod, ei bod yn bwysig iawn cyfathrebu â rhieni a theuluoedd, ac a yw'n gallu dweud wrthym sut y mae'n bwriadu gwneud hynny?
1,010
Ysgrifennydd y Cabinet, fe gewch gefnogaeth os byddwch yn cyflwyno deddfwriaeth yn y maes hwn, gan y Ceidwadwr hwn beth bynnag. [Torri ar draws.] Wel, rwy'n cofio fy mod i a nifer o gyd-Aelodau ar y meinciau hyn, mewn Cynulliadau blaenorol, wedi dweud ei bod yn bryd symud ymlaen a rhoi diwedd ar yr arfer hwn. Mae'n rhaid i mi ddweud nad wyf yn cytuno'n llwyr â geiriad y cwestiwn, oherwydd, yn amlwg, byddai plant yn cael eu diogelu rhag ymosodiad corfforol o dan y gyfraith bresennol. Rydym yn siarad am yr hyn roedd cenedlaethau blaenorol yn ei alw'n 'gosb resymol'. Ond rwy'n cytuno â Julie Morgan, mae'n ymwneud â chefnogi rhieni, ac nid addysg yn unig yw hynny, ond sicrhau bod ein gwasanaethau cyhoeddus yno, fel bod gennym sefydliadau gofal plant effeithiol, er enghraifft, a meysydd eraill o gymorth, fel nad yw rhieni'n teimlo o dan bwysau mawr, a all weithiau arwain at rwystredigaeth a diffyg rheolaeth. Felly, mae'n becyn cyfan. Ond mae'n hen bryd bellach i ni basio deddf yn y maes hwn.
1,011
Diolch i'r Aelod dros Aberafan. Mae strategaeth tlodi plant 2015 yn nodi ein blaenoriaethau ar gyfer trechu tlodi plant ledled Cymru. Maent yn cynnwys ffocws ar y blynyddoedd cynnar a chynyddu cyflogadwyedd. Rwyf hefyd yn archwilio cyfleoedd i fynd i'r afael â phrofiadau niweidiol yn ystod plentyndod, a lleihau eu heffaith ar gyfleoedd bywyd plant.
1,012
Mae'r Aelod yn iawn i godi'r materion hyn ar ran ei etholaeth a llu o rai eraill ledled Cymru. Mae Teuluoedd yn Gyntaf a Dechrau'n Deg yn ddwy ran bwysig iawn o'n rhaglenni trechu tlodi a chymorth i deuluoedd. Byddaf yn ceisio sicrhau eu bod yn parhau yn y dyfodol.
1,013
Credaf ein bod wedi cael cryn lwyddiant gyda Twf Swyddi Cymru, ac rwy'n sicr y byddai'r Aelod yn cefnogi ymrwymiad ein maniffesto i gynyddu nifer y prentisiaethau i bob oedran ledled Cymru i 100,000. Fel y mae'r Aelod yn cydnabod, ceir nifer o bethau sy'n effeithio ar gydnerthedd cymunedol a chydnerthedd teuluol: mae addysg, swyddi a sgiliau a lles i gyd yn rhan o hynny. Fel y dywedais yn gynt wrth yr Aelod blaenorol, byddaf yn gwneud datganiad yn ddiweddarach yr wythnos nesaf ynglŷn â'n gweledigaeth gymunedol, ynglŷn â'r hyn y dylai cymorth y rhaglen honno ei olygu a sut y gallwn ddatblygu hynny ar gyfer y dyfodol.
1,014
Credaf fod yr Aelod yn iawn, a'r hyn sydd angen inni ei wneud, a'r hyn rydym wedi ei wneud mewn nifer o ardaloedd, o ran y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf, yw edrych ar ddarpariaeth gofleidiol ar gyfer y teulu - nid y plant yn unig, ond rhieni a gwarcheidwaid hefyd - ac ystyried yr anghenion gwirioneddol. Cefais fy meirniadu yn ddiweddar am rai camau a gymerais mewn perthynas â Teuluoedd yn Gyntaf o ran peth o'r gwaith mwy uniongyrchol ynglŷn â sut rydym yn cefnogi teuluoedd, lle rydym wedi diddymu rhywfaint o'r buddsoddiad ariannol mewn perthynas â hynny a'r sylfaen wybodaeth. Rwy'n awyddus iawn i sicrhau'r Aelodau mai fy mlaenoriaeth yw gwneud yn siŵr fod gennym fecanwaith cymorth mewn perthynas â'r teulu, a beth bynnag yw'r problemau, gallwn eu cyfeirio a'u cynorthwyo i symud ymlaen i'r - . Mae'n ymwneud â chysylltiad ataliol yn hytrach nag ymateb i deulu neu unigolyn sydd mewn argyfwng yn hwyrach yn y dydd.
1,015
Mae'r niferoedd a grybwyllodd yr Aelod yn y fan honno yn achos pryder i mi, hefyd, ond maent yn ffodus iawn o gael yr Aelod Cynulliad gwych Dai Rees yn ardal Aberafan. Mae'n tynnu fy sylw at y materion hyn yn rheolaidd, ac rwyf wedi ymrwymo i sicrhau ein bod yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan yr Aelod ac a nodwyd yn yr adroddiad. Yn wir, byddaf yn dod i'r Siambr i gyhoeddi datganiad i'r Aelodau er mwyn i'r Aelod ac eraill ddeall beth yn union y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud a pha ymyriadau y byddwn yn eu cyflwyno.
1,016
Weinidog, mae'r canlyniad ar 23 Mehefin wedi achosi pryder ymysg llawer o bobl, ac nid yw pobl ifanc yn ddiogel rhag hyn. Fe fyddwch yn ymwybodol, rwy'n siŵr, o'r gwrthdystiad mawr a gynhaliwyd y tu allan i'r adeilad hwn yn dilyn y penderfyniad i adael y DU, wedi'i drefnu gan fyfyrwyr. A ydych wedi ystyried eto pa effaith a gaiff y gostyngiad posibl i gyllid ymchwil ar gyfer prifysgolion ar ragolygon pobl ifanc a'u gallu i gyrraedd eu potensial llawn? A ydych, er enghraifft, wedi cynnal trafodaethau â'ch cyd-Aelodau yn y Cabinet ynglŷn â cholli cyfleoedd o ran rhaglenni fel rhaglen Erasmus, a sut y gellir lliniaru hynny? Yn olaf, a fyddwch yn gwneud popeth yn eich gallu i gefnogi senedd i'r ifanc yng Nghymru fel cyfrwng i bobl ifanc fynegi eu pryderon a dod at ei gilydd i weithredu ar y cyd ar faterion pwysig sy'n effeithio arnynt, fel gadael yr UE?
1,017
Ysgrifennydd y Cabinet, a ydych yn rhannu fy mhryder wrth ddarllen canfyddiadau 'The Good Childhood Report' Cymdeithas y Plant, a ddywed fod un o bob saith o ferched yng Nghymru yn anhapus gyda'u bywydau ac un o bob naw o fechgyn yn anhapus gyda'u bywydau hefyd? Pa gamau penodol y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i wrthdroi'r duedd hon, sy'n ymddangos fel pe bai'n gwaethygu - nid yn unig yng Nghymru, ond ledled y Deyrnas Unedig - er mwyn sicrhau rhywfaint o weithredu ar y cyd i ni allu delio â'r broblem hon?
1,018
Mae Llywodraeth Cymru yn darparu cyllid i awdurdodau lleol ddarparu addysg gynnar i bob plentyn tair a phedair oed yng Nghymru. Mater i'r awdurdodau lleol yw sut y cyflenwir y ddarpariaeth hon, a gallant ddewis ei darparu mewn ysgolion neu feithrinfeydd y sector preifat a'r sector gwirfoddol.
1,019
Yn wir, rydym wedi ystyried y mater o ddarparu gofal plant ymhellach, a bydd yr Aelod yn ymwybodol y bydd ein hymrwymiad maniffesto i ddarparu gofal plant o safon yn cael ei gyflwyno yn gynt, ac y byddwn yn rhoi'r rhaglen honno ar waith ledled Cymru erbyn diwedd y flwyddyn nesaf. Mae hyn yn ymwneud â darparu gwasanaethau i bobl ifanc ledled Cymru gyfan.
1,020
Rwy'n ddiolchgar am allu'r Aelod i neidio i gwestiwn 15 yn y cwestiwn atodol a ofynnodd heddiw. Ond mae'r cynllun drafft 10 mlynedd yn nodi'r cynlluniau uchelgeisiol i ddatblygu gofal plant y blynyddoedd cynnar. Mae gwaith yn mynd rhagddo ar asesu effaith nifer o ddatblygiadau polisi cyn cwblhau cynllun y gweithlu. Mewn gwirionedd, credaf fod un o'r materion sy'n codi yn awr yn ymwneud â'r rhaglen ddarparu gofal plant rydym yn ceisio ei chyflawni. Gwn fod yr Aelod yn cefnogi gofal plant o ansawdd, a gofal plant wedi ei ddarparu gydag ansawdd. Mae hynny'n rhywbeth y mae'n rhaid i ni weithio drwyddo hefyd. Rydym yn gweithio gydag adrannau eraill i sicrhau y gallwn gwblhau hynny. Byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn benodol gyda - ysgrifennais at y pwyllgor, ac nid wyf yn sicr a yw'r Aelod wedi derbyn copi o'r llythyr hwnnw, ond byddaf yn ysgrifennu at yr Aelod yn benodol.
1,021
Nid yw'r niferoedd hynny gennyf, ond rwy'n ddiolchgar iawn i'r Aelod am ailadrodd ymrwymiad ein maniffesto a groesawyd yn gadarnhaol iawn. Byddwn yn cyflawni hynny yn ystod tymor y Llywodraeth hon, ac fel y dywedais yn gynharach, byddwn yn ceisio dechrau'r rhaglenni peilot yn ystod hydref y flwyddyn nesaf. Mae'n rhaglen gymhleth iawn, ond byddwn yn darparu ar gyfer pobl Cymru, a bleidleisiodd dros hynny.
1,022
Diolch am eich ateb, Ysgrifennydd y Cabinet. Mae Aberafan wedi elwa o gronfeydd adfywio'r UE ac wedi gweld llawer o brosiectau'n cael eu datblygu yn y cymunedau, gan gynnwys cwm Afan. Yn amlwg, bydd penderfyniad pobl Prydain i adael yr UE yn dod â'r ffrwd gyllido hon i ben. Ond nid yw hynny'n atal effaith y caledi sy'n deillio o San Steffan, yn enwedig ar yr awdurdodau lleol sy'n gorfod wynebu rhai o'r heriau, ac mae'r adroddiad heddiw gan y Sefydliad Astudiaethau Cyllid yn nodi bod hynny'n mynd i gynyddu eto fyth. Yn eich atebion cynharach i lefarydd Plaid Cymru mewn perthynas â'r UE, fe ddywedoch eich bod yn gwneud ychydig o ddadansoddi, ond pa baratoadau rydych yn eu hystyried i ni allu chwilio am ffrydiau cyllido amgen, gan eich bod yn gwybod y bydd y ffrydiau cyllido hynny'n diflannu a bod y cymunedau hynny'n dal i fod angen y cymorth?
1,023
Ysgrifennydd y Cabinet, roedd y cwestiwn yn ymwneud â'r hyn rydych wedi bod yn ei wneud drwy drafodaethau gyda chymheiriaid yn San Steffan, a byddwn yn ddiolchgar pe gallech amlinellu pa gamau rydych wedi eu cymryd dros fisoedd yr haf i gyfarfod â'ch cydweithiwr - eich swyddog cyfatebol yn San Steffan - oherwydd bydd Llywodraeth San Steffan yn rhan bwysig o'r trafodaethau hyn, ac mae'n hanfodol bwysig fod y Llywodraethau a'r gweinyddiaethau datganoledig yn helpu, yn cynorthwyo ac yn bwydo i mewn i'r hyn fydd Llywodraeth San Steffan yn ei wneud. Byddwn yn ddiolchgar o gael gwybod sut y byddwch yn bwrw ymlaen â'r ddeialog honno gyda chymheiriaid yn San Steffan, ac yn bwysig, pa gyfarfodydd a gawsoch yn ystod yr haf i fapio peth o'r diriogaeth sylfaenol rydych eisiau ei chynnwys.
1,024
Diolch i Jenny am ei chwestiwn. Mae strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer trechu tlodi plant yn parhau i ganolbwyntio ar adeiladu economi gref, cynyddu sgiliau, lleihau diweithdra, lleihau anghydraddoldebau mewn canlyniadau addysg ac iechyd, a mynd i'r afael â'r premiwm tlodi. Mae'r blaenoriaethau hyn yn cyd-fynd yn agos ag elfennau strategaeth gwrthdlodi Sefydliad Joseph Rowntree.
1,025
Wel, mae'r gofynion y mae adroddiad Sefydliad Joseph Rowntree yn ymateb iddynt yn cyd-fynd yn agos iawn â datblygiad polisi Llywodraeth Cymru. Cytunaf fod cynorthwyo rhieni yn flaenoriaeth, ac rwyf wedi penderfynu newid ffocws y rhaglen Teuluoedd yn Gyntaf i sicrhau ei bod yn datblygu gwasanaethau sy'n mynd i'r afael â bylchau a nodwyd yn y ddarpariaeth i rieni. Bydd hynny'n cysylltu'n agos iawn â'r gwaith a wnawn ar brofiadau niweidiol yn ystod plentyndod. Mae rhianta hefyd yn rhan annatod o Dechrau'n Deg. Rwy'n fwy na hapus, fel arfer, i gyfarfod â'r Aelod dros Ganol Caerdydd os oes gan yr Aelod fwy o syniadau ynglŷn â sut y gallwn wella ein mecanweithiau cymorth, a byddaf yn parhau i wneud hynny. Ond rydym yn meddwl yn ofalus iawn am hyn, a byddaf yn gwneud datganiad yn fuan.
1,026
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Rydym wedi gweld gostyngiad bychan o 2 y cant mewn tlodi plant yma yng Nghymru. Credaf fod hynny'n rhannol oherwydd economeg Cymru, gyda mwy o swyddi a llai o bobl ifanc yn byw mewn cartrefi di-waith. Mae'n rhywbeth y mae Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yn arwain arno o ran y strategaeth tlodi, ond rydym yn gweithio'n agos iawn gyda'n gilydd i sicrhau ein bod yn cydgysylltu ar bob agwedd ar y gwaith a wnawn.
1,027
Rwy'n siŵr eich bod yn ymwybodol, Weinidog, o ba mor bryderus yw Cymorth i Fenywod Cymru ynglŷn â'r newidiadau i'r penderfyniad i gapio lwfans tai lleol. A wnewch chi roi sylwadau ar y camau hynny, ac a wnewch chi fanteisio ar y cyfle hwn i ailddatgan eich cefnogaeth i'r gwaith ardderchog y mae llochesi Cymorth i Fenywod yn ei wneud ledled Cymru? O gofio bod y newidiadau yn mynd i gael eu gohirio am gyfnod byr, a wnewch chi ymrwymo i fachu ar bob cyfle i bwyso ar Lywodraeth y DU i eithrio llochesi i fenywod o'r argymhellion hyn?
1,028
Wrth gwrs, un o'r ffyrdd y gallwn liniaru effeithiau diwygio lles y DU ar gymunedau Cymru yw dechrau datblygu system Gymreig unigryw yn ei le. Roeddwn yn ddiolchgar iawn i Ysgrifennydd y Cabinet am ei ymateb cadarnhaol, cyn toriad yr haf, i'r awgrym o ddatblygu 'Nawdd Cymdeithasol Cymru' fel cysyniad yn seiliedig ar wneud y gorau o'r cyfleoedd sydd gennym gyda'r pwerau presennol, ond hefyd i geisio sicrhau rhagor o bwerau lles gan y wladwriaeth Brydeinig yn y dyfodol. Tybed a wnaiff Ysgrifennydd y Cabinet amlinellu ei fwriadau o ran bwrw ymlaen â'r syniad hwnnw.
1,029
Yn dilyn cyflwyno argymhellion eu hadroddiad 'Dynamic Benefits: Towards welfare that works', mae'r Ganolfan Cyfiawnder Cymdeithasol wedi nodi bod mwy o bobl mewn cyflogaeth nag erioed o'r blaen, fod llai o bobl yn hawlio budd-daliadau a bod diweithdra yn y DU ar ei lefel isaf erioed o 4.9 y cant. Wrth gwrs, gwyddom fod gan Gymru hanes da o ran hynny. Fodd bynnag, mae'r gyfradd o anweithgarwch economaidd ymhlith pobl o oedran gweithio yng Nghymru nad ydynt mewn cyflogaeth yn dal i fod bron 3 y cant yn uwch nag ar gyfer y DU. Pa ystyriaeth, felly, y byddwch yn ei rhoi i wneud pethau'n wahanol ac i ystyried beth allai fod yn gweithio mewn mannau eraill - yn yr Alban, yn Lloegr neu tu hwnt - er mwyn cau'r bwlch hwnnw?
1,030
Yn ddiweddar, cysylltodd etholwr â mi a oedd wedi cael ei heffeithio gan ddementia cynnar, a chynghorwyd iddi roi'r gorau i weithio a gwneud cais am daliadau annibyniaeth bersonol. Roedd fy etholwr yn ofidus a theimlai nad oedd yn cael ei gwerthfawrogi gan fod ei hasesiad wedi canolbwyntio'n llwyr ar ei gallu corfforol yn hytrach na'i hanghenion iechyd meddwl. A ydych yn cytuno, Ysgrifennydd y Cabinet, fod hyn yn annerbyniol a'i fod yn amlygu nad yw diwygiadau nawdd cymdeithasol Llywodraeth y DU yn addas at y diben, ac a wnewch chi fynegi'r pryderon hyn yn yr holl drafodaethau perthnasol gyda'r Adran Gwaith a Phensiynau?
1,031
Yr eitem nesaf ar yr agenda yw'r cynnig i addasu cylch gwaith y Pwyllgor Materion Allanol a Deddfwriaeth Ychwanegol. Rwy'n galw ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Paul Davies.
1,032
Yr eitem nesaf, felly, yw'r cynnig i ethol aelodau i bwyllgorau. Rwy'n galw eto ar aelod o'r Pwyllgor Busnes i wneud y cynnig. Paul Davies.
1,033
Ac yn olaf, credaf fod y Llywodraeth angen chwistrelliad enfawr o greadigrwydd, ychydig o syniadau mawr a all ysbrydoli Cymru. Dros yr haf, cafodd cais Cymru ar gyfer Gemau'r Gymanwlad ei ganslo, ond beth rydym wedi ei roi yn ei le i ysbrydoli ein gwlad a chreu'r sylfeini ar gyfer economi wahanol? Oddeutu'r un adeg ag yr oedd Ysgrifennydd yr economi yn cyhoeddi hynny, cyhoeddodd Manceinion gais uchelgeisiol i ddod â Ffair y Byd, yr Expo, y Gemau Olympaidd ar gyfer busnes a diwydiant, os hoffech, yn ôl i'r ynysoedd hyn am y tro cyntaf ers Arddangosfa Fawr 1851. Dyna ddigwyddiad mwyaf y byd - maent yn disgwyl 20 miliwn o ymwelwyr yno, ddwywaith maint y Gemau Olympaidd. Meddyliwch beth y gallai hynny ei wneud i economi Manceinion o ran hybu delwedd y ddinas a'i rhanbarth, ond hefyd o ran buddsoddi yn ei busnesau. Dyna'r math o feddwl sydd ei angen arnom gan Lywodraeth Cymru. Maent wedi cael Gemau'r Gymanwlad; maent yn awr yn mynd am yr Expo. Beth yw cynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru?
1,034
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 2, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt yn ffurfiol.
1,035
Rwy'n ddiolchgar. Rydych chi'n hollol iawn i ddweud bod yna lawer mwy o ddarnau jig-so i'w gosod at ei gilydd cyn i ni gael y darlun llawn, ond yn ôl yr hyn a ddeallaf, un o'r egwyddorion y safai Llywodraeth Cymru drostynt ym mis Mehefin oedd bod mynediad i'r farchnad sengl yn allweddol a nwyddau, gwasanaethau a phobl oedd yr elfennau sylfaenol yn ei safbwynt. Ymddengys bod y safbwynt hwnnw wedi newid dros yr haf. A allwch gadarnhau mai nwyddau, gwasanaethau a phobl yw'r gred sydd wrth wraidd meddylfryd Llywodraeth Cymru o hyd ac nid nwyddau a gwasanaethau yn unig?
1,036
A wnewch chi dderbyn ymyriad arall? Weinidog, a wnewch chi dderbyn nad oedd y cwestiwn ynglŷn â rhyddid pobl i symud ar y papur pleidleisio? Hoffwn ofyn a ydych yn ymwybodol o'r ymchwil a gyflawnwyd gan TUC Cymru, a ofynnodd i bobl, yn y Cymoedd yn arbennig, pam eu bod wedi pleidleisio dros adael yr Undeb Ewropeaidd, a bod y cwestiwn hwn ynghylch rhyddid pobl i symud neu fewnfudo wedi ei roi yn Rhif 6 neu Rif 7? Prif bryder pobl yw swyddi, masnach, swyddi o ansawdd da. Felly, a fyddech yn barod i edrych ar y gwaith ymchwil hwnnw ac adolygu safbwynt y Llywodraeth ar y mater hwn o bosibl?
1,037
Mae mwy nag un math o dystiolaeth, Ddirprwy Lywydd, ac ni ddylid diystyru tystiolaeth o'r hyn y mae pobl yn ei ddweud wrthych yn uniongyrchol pan fyddwch yn sgwrsio â hwy. Ar garreg y drws, wrth geisio perswadio pobl i bleidleisio dros ddyfodol Cymru yn Ewrop, gallaf eich sicrhau bod materion yn ymwneud â mewnfudo a rhyddid i symud yn cael eu dwyn i fy sylw'n rheolaidd tu hwnt ac yn amlwg iawn - [Torri ar draws.] Y cyfan rwy'n ei ddweud, a'r cyfan a ddywedodd y Prif Weinidog, yw y byddem yn ffôl i ddiystyru hynny fel pe na bai'n bwysig o gwbl a bwrw ymlaen heb wrando arnynt.
1,038
Diolch, Ddirprwy Lywydd. A gaf i ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan yn y ddadl hynod ddefnyddiol yma? Heb law am ddiolch i chi, ychydig iawn o amser sydd gen i. Roedd yna elfen o gytundeb ar draws y pleidiau. Braf i weld Nick Ramsay yn cefnogi'r angen am gomisiwn isadeiledd. Rwy'n cytuno gyda Jeremy Miles am bwysigrwydd y sectorau sylfaenol. Mae Karel Williams wedi bod yn gwneud gwaith difyr arno fe. Rwy'n cytuno gydag ysbryd yr hyn a oedd gan Eluned Morgan i'w ddweud. Hynny yw, os gallaf i grynhoi efallai: pesimistiaeth y meddwl ac optimistiaeth yr ewyllys o ddyfynnu Gramsci, am y tro cyntaf i fi.
1,039
Diolch yn fawr iawn. Y cynnig yw derbyn y cynnig heb ei ddiwygio. A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? [Gwrthwynebiad.] Felly, gan fod Aelod wedi gwrthwynebu, byddwn yn gohirio'r pleidleisio o dan yr eitem hon tan y cyfnod pleidleisio.
1,040
Diolch i chi am gymryd yr ymyriad, ac nid wyf yn dymuno tynnu sylw oddi ar y materion sy'n ymwneud â recriwtio meddygon teulu, ac rwy'n siŵr y byddwch yn dod at hynny'n fuan. Ond o'r hyn rydych wedi ei drafod hyd yn hyn, y strategaeth Dewis Doeth yr argymhellodd Llywodraeth Cymru y llynedd, neu yn ystod y sesiwn olaf, a gofal iechyd darbodus yw'r ffordd gywir mewn gwirionedd o fynd i'r afael â rhai o'r materion rydych newydd eu trafod.
1,041
Yn gyflym iawn, a oes gennych dystiolaeth sy'n dweud bod myfyrwyr Cymru yn cael eu gwrthod rhag gallu hyfforddi mewn ysgolion meddygol yng Nghymru am eu bod eisoes yn llawn o bobl eraill? Os oes gennych dystiolaeth o hynny, hoffwn ei chlywed.
1,042
Nid oes dim o hyn yn dod yn lle gweithlu rheng flaen proffesiynol, cadarn y GIG wedi eu hyfforddi'n dda. Ond ni fyddwn yn atal rhai sy'n mynd i adrannau damweiniau ac achosion brys yn amhriodol - ni fydd dewis doeth yn golygu dim - nes y gall pobl gael gafael ar feddyg teulu neu nyrs arbenigol pan fyddant yn bryderus am eu hiechyd, ni waeth faint o linellau cymorth sydd gennym. Ni fyddwn yn atal pobl rhag cyrraedd argyfyngau iechyd meddwl nes y bydd gennym fwy o seicolegwyr, yn ogystal â seiciatryddion, yn y gwasanaeth iechyd. Ond mae ymyrraeth gynnar, boed hynny trwy'r GIG neu beidio, yn rhan o leihau pwysau'r galw sy'n aml yn andwyol, byddwn yn dweud, ar y rhai rydym yn meddwl amdanynt fel staff rheng flaen. Mae hynny, ynddo'i hun, yn gwneud y GIG yng Nghymru ychydig yn fwy deniadol fel lle i hyfforddi ac aros ynddo. Diolch.
1,043
Yn sicr, ac rydych chi bron â bod wedi crynhoi'r hyn roeddwn yn mynd i'w ddweud i gloi, sef y byddwn, fel y dywedais, wrth symud ymlaen, yn annog y Llywodraeth ac eraill i sicrhau bod y gweithlu cyfan, drwy eu cyrff proffesiynol a'u hundebau llafur amrywiol, yn rhan o'r gwaith o lunio GIG o'r radd flaenaf ac un y gall pawb fod yn falch o fod yn rhan ohono.
1,044
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig heb ei ddiwygio? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, felly, fe dderbynnir y cynnig heb ei ddiwygio yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
1,045
Diolch i'r Aelod am ildio. A yw'n cydnabod na fydd y Deyrnas Unedig yn trafod gyda'r Almaen yn y trafodaethau masnach? Bydd yn trafod gyda'r Undeb Ewropeaidd cyfan, ac felly efallai ei fod yn cymryd llawer gormod yn ganiataol yn ei agwedd tuag at yr Almaenwyr yn gyffredinol.
1,046
Wel, rwy'n meddwl tybed a yw Lee Waters yn ddigon hen i gofio'r 364 economegydd a ragwelai drychineb ar ôl cyllideb 1981, a brofodd yn sbardun i economi Prydain, ac a roddodd y twf enfawr i ni - [Torri ar draws.] A roddodd y twf enfawr a ddigwyddodd wedyn yn economi Prydain yn y 1980au. Yn draddodiadol galwyd economeg yn 'wyddor ddiflas' ac am reswm da iawn. Ond rwy'n - [Torri ar draws.] Gall pawb ohonom ddyfynnu ein hoff economegwyr, ond yn y pen draw, mae rhagfynegiadau economegwyr i gyd yn seiliedig ar ragdybiaethau a modelau cyfrifiadurol. Felly, y canlyniad yw bod cyfle gennym i wneud y gorau ohonom ein hunain. Felly, mae'n rhaid i Lywodraeth Cymru wneud y gorau o sefyllfa nad oedd ei heisiau. Rwy'n derbyn yn llwyr ei bod ar yr ochr a gollodd y ddadl - fel yr holl ACau Llafur a phob AC Plaid Cymru o ran hynny. Mae pobl Prydain wedi gwneud y penderfyniad hwn ac felly, rhaid i ni symud ymlaen mewn ffordd gadarnhaol i wneud y gorau o'r cyfle a roddir i ni ac rwy'n falch fod y Prif Weinidog yn symud i'r cyfeiriad hwn. Gobeithiaf y bydd Plaid Cymru hefyd yn symud i'r cyfeiriad hwn, yn dilyn yr arweiniad a roddwyd heddiw gan Adam Price. Felly, nid wyf yn petruso o gwbl rhag cymeradwyo ein cynnig i'r Cynulliad am fod gan Gymru ei dyfodol yn ei dwylo ei hun yn awr, nid yn nwylo'r bobl nad ydynt yn cael eu hethol gennym, y bobl y mae eu henwau, yn wir, yn parhau i fod yn ddirgelwch i fwyafrif llethol o bobl y wlad. Byddwn wedi meddwl y byddai plaid genedlaetholaidd wedi cefnogi a chymeradwyo'r cyfle i ni fel Cymry ac fel pobl Prydain i wneud y penderfyniadau hyn, yn hytrach na phobl o wledydd eraill a hyd yn oed pobl nad ydynt yn cael eu hethol o gwbl mewn gwirionedd. Mae hynny, rwy'n meddwl, yn hwb enfawr i ni ac mae'r byd yn ein dwylo.
1,047
Yn y dyddiau a'r wythnosau cyn y bleidlais ar adael yr UE a'r dyddiau a'r wythnosau a ddilynodd hynny, cawsom rybuddion enbyd o fethiant economaidd o ganlyniad i'n penderfyniad i adael yr UE. Ond yn yr wythnosau diwethaf, mae data economaidd wedi profi nad oedd y rhybuddion yn fawr mwy na chodi bwganod. Ond yr wythnos hon, mae Siambrau Masnach Prydain wedi adolygu eu ffigurau twf rywfaint ar i lawr ar gyfer y DU, ond maent wedi datgan na fydd y DU yn wynebu'r dirwasgiad a ragwelwyd gan lawer ac ar hyn o bryd, fe fydd yna amrywiadau economaidd. Er gwaethaf y codi bwganod yn gynharach, rwy'n teimlo bod hyder busnesau, hyd yn oed mewn ffyrdd bach, yn dod yn amlwg yng Nghymru -
1,048
Gobeithiaf weld proses erthygl 50 yn cael ei dechrau yn weddol fuan, er mwyn i bawb allu - [Torri ar draws.] Bydd ychydig o ddyfalu yn ei chylch. Rydym i gyd yn dyfalu ar hyn o bryd, ac mae yna amrywiadau sy'n mynd i ddigwydd. [Torri ar draws.] Wrth gwrs ei fod yn bwysig i mi, rwy'n byw yng Nghymru. Beth ydych chi'n ei feddwl sy'n bwysig i mi? [Chwerthin.] Brensiach. O ble rydych chi'n meddwl rwy'n dod? [Torri ar draws.]
1,049
Beth fyddai eich neges i'r busnes bach llwyddiannus yn fy etholaeth sydd wedi penderfynu gohirio pob buddsoddiad am y tro hyd nes y bydd mater gadael yr UE wedi ei ddatrys? Hyd yn oed os yw popeth yn mynd i fod yn wych ar y diwedd, byddwn wedi colli dwy, tair, pedair neu bum mlynedd o fuddsoddi posibl yn y busnes hwnnw.
1,050
Ie, mae gennym Aston Martin yn dod i Sain Tathan, gan greu 750 o swyddi. Felly nid ar chwarae bach mae hynny'n digwydd. Felly, rwy'n dweud bod gadael yr UE yn cynnig cyfle gwych i'r DU a Chymru hybu masnach, tyfu ein diwydiant, a chynyddu cyflogaeth. Pan fyddwn wedi cael ein rhyddhau hefyd, rwy'n credu y bydd yn cynyddu hyd yn oed ymhellach, pan fyddwn yn dechrau proses erthygl 50. Credwn yn gryf fod angen masnach rydd gyda'r UE, nid aelodaeth o'r farchnad sengl gyda'i holl gyfyngiadau. Mae angen i Lywodraeth y DU fwrw ymlaen â thrafod gadael yr UE cyn gynted â phosibl er mwyn i ni allu manteisio ar y cyfleoedd y mae gadael yn eu cynnig. Rhaid i Lywodraeth Cymru weithio ar y cyd â Llywodraeth y DU i sicrhau bod buddiannau Cymru ar y blaen mewn unrhyw drafodaethau gadael. Ni ddylem gael ein llethu gan drafodaeth ynglŷn â pha fodel y dylid ei fabwysiadu. Rydym yn dymuno masnachu gyda'r UE, dyna i gyd. Mae angen i'n delwedd fod yn galonogol ynglŷn â gadael. Mae angen i ni werthu ein gwlad a'r cyfan sy'n werthfawr ynddi ym mhob ffordd y gallwn. Mae angen i ni elwa ar ein gwlad a'r harddwch y mae'n ei gynnig a'r holl fasnachu y gallwn ei wneud â gweddill y byd. Rydym hefyd yn dweud mai 41 y cant yn unig o'n hallforion byd yw allforion Cymru i'r UE, ac mae wedi bod yn gostwng dros y pedair blynedd diwethaf. Felly, rhaid i ni weithio gyda'n gilydd - pob plaid - i ddarparu'r ateb a'r canlyniad gorau posibl i Gymru. Mae angen i'n cytundebau masnach fod yn uchelgeisiol, gan edrych ar y farchnad fyd-eang. Nid oes angen i ni lethu ein hunain yn ormodol â biwrocratiaeth er mwyn cadw mynediad i'r farchnad sengl.
1,051
Wel, mae'n fy rhyfeddu - yr agwedd negyddol sydd mor aml yn dod o ochr arall y tŷ hwn. Rydym wedi clywed llawer o bethau'n cael eu canmol yn y Cynulliad hwn mewn perthynas â'r Undeb Ewropeaidd. Cyfeiriodd un o'r ACau y bore yma at y diogelwch i weithwyr yn yr Undeb Ewropeaidd, a deddfwriaeth yr Undeb Ewropeaidd a roddodd ddiogelwch i'r rheini. Fe gyfeirioch chi at hynny mewn gwirionedd. Wel, hoffwn ofyn pa ddiogelwch y mae hynny wedi ei roi i weithwyr mudol yn y wlad hon. Dros y 10 mlynedd diwethaf, rydym wedi gweld toreth o bethau megis cyfleusterau golchi ceir yng Nghymru, fel eu bod yn awr bron yn rhan hollbresennol o bron pob tref a phentref. Wel, gallaf ddweud wrthych nad yw deddfwriaeth Ewrop wedi diogelu'r bobl hynny mewn unrhyw ffordd. Mae'r rhan fwyaf o'r bobl hynny yn gweithio 10 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos, am gyn lleied â £3 yr awr. Nid oes ganddynt gontractau - na'r contractau dim oriau gwarthus hynny hyd yn oed. Nid yn unig hynny, ond nid oes ganddynt unrhyw ddillad diogelwch yn eu gwaith. Felly, nid yw hyn oll y dywedwch ei fod yn deillio o'r Undeb Ewropeaidd i ddiogelu gweithwyr yn diogelu'r rhan honno o'r boblogaeth sy'n gweithio. Yn ychwanegol at hynny, rydych yn sôn o hyd hefyd am ddiogelu'r amgylchedd. A dweud y gwir, mae pob un o'r cyfleusterau golchi ceir hyn mewn gwirionedd yn golchi'r elifiant y maent yn ei ddefnyddio i olchi ceir i mewn i'n ffrydiau dŵr. Pa fath o ddiogelwch sydd gennym rhag hynny? Rydych yn ddetholus iawn ynglŷn â sut rydych yn ymdrin â diogelwch i bobl -
1,052
Anecdot? Felly, yr anecdot yw y gall miloedd o bobl weithio yn y wlad hon o dan amodau gwaith ofnadwy, ac rydych yn ei alw'n anecdot.
1,053
Onid yw hynny'n bwysig? Onid oes gan hynny unrhyw ddylanwad ar sut rydym yn cadw'r wlad hon yn lân? Wel, mae'n bwysig. Rwyf am ymateb i bwynt arall, beth bynnag, gyda'r AC arall a siaradodd am ffermwr yn cael £68,000 o dan y taliadau PAC. Wel, mae yna ffermwyr yn Lloegr sy'n cael £1 filiwn y flwyddyn o dan y taliadau PAC am beidio â thyfu cynhyrchion, ac mae llawer o'n ffermwyr yng Nghymru - y rhan fwyaf o ffermwyr yng Nghymru mewn gwirionedd yn niwydiant ffermio'r ucheldir, lle maent yn cael cyn lleied â £10,000 neu £12,000. Prin fod hwnnw'n gyflog byw. [Torri ar draws].
1,054
Ydw. Rwy'n credu'n wirioneddol y gellir defnyddio'r manteision a gânt o adael yr Undeb Ewropeaidd i roi cymorthdaliadau i'n ffermwyr ni i raddau llawer mwy yn hytrach na rhoi cymhorthdal i ffermwyr aneffeithlon Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal a Gwlad Groeg. Ond rwy'n cytuno â hyn: fod yn rhaid i ni i gyd weithio, yn drawsbleidiol, yn y Cynulliad hwn i wneud yn siŵr fod Llywodraeth y DU yn darparu'r bonws a gawn o Ewrop, ac mae'n rhaid i ni i gyd weithio dros hynny. Diolch.
1,055
Fe roddaf y neges yn awr o ran y drafodaeth: rydym am weld ein cyllid yn cael ei warantu ar ôl datganiad yr hydref yn unol â'r addewid a roddwyd gan y rhai a oedd eisiau gadael yr Undeb Ewropeaidd. Rhybuddiais ar y pryd y byddem yn wynebu sefyllfa yn y pen draw lle byddai'r Llywodraeth yn Llundain yn gweithredu fel brêc ar arian a ddaw i Gymru yn awtomatig. Nid dyna safbwynt UKIP hyd yn oed, a bod yn deg. Maent am weld yr arian yn dod yn awtomatig. Mae safbwynt y Blaid Geidwadol ar hyn yn wahanol i safbwynt UKIP hyd yn oed, drwy beidio â sefyll dros Gymru a mynnu bod yr arian y byddem wedi ei gael yn parhau i lifo i Gymru. O ran rhai o'r sylwadau eraill a wnaed, crybwyllodd Steffan Lewis rai pwyntiau diddorol. Ceir llawer o gwestiynau nad oes atebion ar gael iddynt ar hyn o bryd. Nid yw'r atebion gan Lywodraeth yr Alban. Mae gan Lywodraeth yr Alban ateb o ran bod eisiau annibyniaeth, o bosibl, ond nid oes ganddi atebion o ran cynllun manwl. [Torri ar draws.] Wrth gwrs.
1,056
Ni ddywedais na ddylai mewnfudwyr ddod yma i olchi ein ceir. Yr hyn a ddywedais oedd nad ydym yn rhoi unrhyw ddiogelwch i weithwyr mudol o ran y ffordd y maent yn cael eu hecsbloetio. Y rheswm am hynny yw bod gorgyflenwad enfawr o lafur rhad yn y farchnad, ac os oes unrhyw un yn gwybod unrhyw beth am economeg, maent yn gwybod bod gorgyflenwi cynnyrch yn golygu bod pris y cynnyrch yn gostwng. At hynny rwy'n tynnu sylw. Ac rwy'n nodi nad yw'r Llywodraeth hon yma yn rhoi unrhyw ddiogelwch i'r bobl sy'n gweithio yn y mathau hyn o ddiwydiannau. Nodais y diwydiant golchi ceir gan ein bod i gyd yn gwybod bod yna is-ddiwydiant enfawr yn y wlad hon, yng Nghymru, lle mae pobl yn cael eu hecsbloetio'n syml oherwydd bod gorgyflenwad o lafur yn y farchnad. Diolch.
1,057
Rwyf wedi dod i ddiwedd fy araith, Fadam Lywydd, ac felly rwy'n cymeradwyo'r cynnig hwn i'r tŷ heddiw yn yr ysbryd optimistaidd y'i hysgrifennwyd.
1,058
Cytunwyd y dylid cynnal y cyfnod pleidleisio cyn y ddadl fer. Oni bai bod tri Aelod yn dymuno i mi ganu'r gloch, symudaf yn syth i'r cyfnod pleidleisio.
1,059
Galwaf am bleidlais ar welliant 1. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 45, yn ymatal neb, ac yn erbyn 10.
1,060
Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 55, neb yn ymatal, neb yn erbyn, ac felly mae'r cynnig fel y'i diwygiwyd wedi ei dderbyn.
1,061
Rwy'n galw nawr am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Paul Davies. Os derbynnir gwelliant 1, bydd gwelliant 2 yn cael ei ddad-ddethol. Agor y bleidlais. Cau'r bleidlais. O blaid 39, yn ymatal 0 ac yn erbyn 15. Mae'r gwelliant felly wedi ei gymeradwyo a, gan fod gwelliant 1 wedi'i dderbyn, cafodd gwelliant 2 ei ddad-ddethol.
1,062
Diolch yn fawr iawn. Galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant i ymateb i'r ddadl. Carl.
1,063
Blaenoriaeth Llywodraeth Cymru yw gwneud yn siŵr bod pobl sir Benfro yn cael gwasanaethau iechyd sy'n rhoi'r canlyniadau gorau posib i gleifion.
1,064
Un o'r pethau rydym ni'n ei wneud, wrth gwrs, yw sicrhau bod ymgyrch i dynnu mwy o feddygon teulu i mewn i Gymru - bydd hynny'n dechrau fis nesaf - ac, wrth gwrs, i ystyried ym mha ffordd y gall meddygfeydd weithio mewn ffordd gynaliadwy yn y pen draw. Dyletswydd meddygfeydd yw recriwtio yn y lle cyntaf, achos maen nhw'n annibynnol, ond mae yna gymorth iddyn nhw o'r byrddau iechyd er mwyn iddyn nhw recriwtio yn y pen draw. Ond nod y Llywodraeth yw sicrhau bod mwy a mwy o feddygon teulu eisiau dod i Gymru i weithio.
1,065
Gwnaf, ni wnaf, wrth gwrs. Mae'n fraint cael enwebiad ar gyfer y wobr hon, ac mae'n dangos y math o feddwl arloesol yr ydym ni eisiau ei weld yn ein gwasanaeth iechyd, sydd nid yn unig o fudd i'r system, ond, yn bwysig, o fudd i gleifion.
1,066
Fel yr ydym ni wedi ei wneud mewn mannau eraill yng Nghymru, bydd adegau pan fydd meddygfeydd yn cael eu cymryd drosodd gan y bwrdd iechyd, a byddant yn gwella'r gwasanaeth yn aml iawn. Gofynnwch i bobl Prestatyn - byddan nhw'n dweud hynny wrthych chi. Ar adegau eraill, mae meddygfeydd eraill yn cymryd drosodd y gwaith o redeg y gwasanaeth, a hynny gyda llwyddiant mawr. Rwy'n synnu ei fod ef yn meddwl bod yr 'Health Service Journal' yn rhywbeth y dylid ei anwybyddu neu fod rhywbeth o'i le gyda nhw, gan mai'r 'Health Service Journal' sydd wedi bod yn gyfrifol am sicrhau bod yr enwebiad hwn yn digwydd, ac mae'n gyfnodolyn sy'n cael ei ddarllen yn eang. Os yw e'n meddwl bod y cyfnodolyn yn ddiwerth mewn rhyw ffordd, gall ddweud hynny. Y gwir amdani yw bod hwn yn gynllun arloesol iawn y maen nhw wedi ei gyflwyno ac mae'n un i'w groesawu. Mae'n drueni nad yw ef wedi ei groesawu. Gofynnodd gwestiwn penodol am Ddinbych-y-pysgod - [Torri ar draws.] Cafodd ei gyfle i'w groesawu a methodd â gwneud hynny. Soniodd am Ddinbych-y-pysgod - [Torri ar draws.] Mae'n dweud nad yw'n mynd i groesawu rhywbeth y mae Hywel Dda wedi ei wneud, a rhywbeth sydd wedi ei gydnabod mewn mannau eraill. Cyn belled ag y mae Dinbych-y-pysgod yn y cwestiwn, bydd yn gwybod bod cynlluniau hynod ddatblygedig i wneud yn siŵr bod gwasanaeth meddyg teulu galw i mewn yn cael ei gynnig yn y dref honno, a fydd yn hynod gyfleus nid yn unig i'r rhai sy'n byw yn y dref, ond i'r rhai sy'n ymweld â hi.
1,067
Wel, diolch i chi am hynna, Brif Weinidog. Ddydd Sadwrn, ymunais â nifer o gydweithwyr o'r fan hon, a dweud y gwir, yn rali Stand as One yn Abertawe. Er bod Abertawe, ynghyd â Phort Talbot, wedi llwyddo i adsefydlu nifer fach iawn o ffoaduriaid, nid yw'r rhan fwyaf o awdurdodau lleol yng Nghymru wedi gwneud hynny. Nawr, mae Llywodraeth Cymru ac Aelodau'r Cynulliad wedi bod yn eglur ein bod ni eisiau croesawu ffoaduriaid yma. Fe wnaethoch chi gyhoeddi eich rhaglen adsefydlu pobl agored i niwed o Syria ddwy flynedd a hanner yn ôl, ac eto, erbyn mis diwethaf, dim ond 112 o ffoaduriaid yr oeddem ni wedi eu croesawu i Gymru. Nawr, mae Llywodraeth y DU yn dweud ei bod wedi sicrhau'r 20,000 o leoedd y mae wedi ymrwymo iddynt, felly pa gamau rhagweithiol ydych chi wedi eu cymryd i gael mwy o ffoaduriaid yma, yn gyflymach, a pham nad yw 13 o gynghorau wedi cymryd unrhyw ffoaduriaid o gwbl?
1,068
Brif Weinidog, un o'r materion y dylid rhoi sylw iddo er mwyn caniatáu i ffoaduriaid yng Nghymru gyfrannu'n llawn at fywyd yma, yw cydnabod yn briodol ac yn ddigonol y sgiliau a'r cymwysterau sydd ganddyn nhw. A wnewch chi gymryd camau i sicrhau bod hynny'n wir am bob ffoadur yma yng Nghymru?
1,069
Brif Weinidog, rydych chi eisoes wedi crybwyll y plant, ond mae 200 o blant mewn gwirionedd yn ardal Calais nad ydynt yn cael eu derbyn gan unrhyw Lywodraeth ar hyn o bryd, a hefyd yn Libanus a Syria, yn ogystal, yn ychwanegol at y 200. Rydym ni wedi gweld y lluniau erchyll ar ein sgriniau dros yr haf, ac, i fod yn blwmp ac yn blaen, mae'r ffaith nad ydym ni'n gwneud digon i'r plant hynny yn codi cywilydd, ac ni ddylent fod yn y fath sefyllfa o drawma na chael eu gadael ar eu pennau eu hunain i ymorol am eu bywydau. Nid wyf yn cyd-fynd â'r codi bwganod hyn mai nhw ddewisodd fynd i Calais, ac y bydd mwy yn dilyn oherwydd ein bod ni'n ceisio helpu'r plant ar eu pennau eu hunain hynny. Heddiw, mae arweinwyr y byd yn casglu yn Efrog Newydd i drafod yr argyfwng ffoaduriaid. Felly, a wnewch chi ymuno â mi i ofyn i Lywodraeth y DU ddod â'r 200 o blant hyn i ddiogelwch ar unwaith? Ac rwyf hefyd yn gofyn i chi ymrwymo Cymru i helpu yn yr argyfwng digynsail hwn trwy dderbyn ein cyfran deg o blant ar eu pennau eu hunain o'r gwersylloedd yn y rhanbarth, yn ogystal ag yn Calais? A byddwn yn gwerthfawrogi pe na byddech yn dweud wrthym mai cyfrifoldeb Llywodraeth y DU yw hyn; beth ydych chi'n mynd i'w wneud, Brif Weinidog?
1,070
Er fy mod i'n deall dymuniad yr Aelodau yma i hwyluso dyfodiad rhagor o ffoaduriaid, mae'n rhaid i ni hefyd gydnabod bod pryder eang yn y DU am nifer yr ymfudwyr economaidd sy'n ceisio cyrraedd y DU gan esgus bod yn ffoaduriaid. [Torri ar draws.] Am ffoaduriaid fydd hyn. Yr hyn yr hoffwn ei ofyn i'r Prif Weinidog yw pa fesurau y gall Llywodraeth Cymru eu cymryd i sicrhau bod y rhai sydd yn cyrraedd Cymru yn ffoaduriaid dilys.
1,071
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, cafodd Gweinidog Brexit Llywodraeth yr Alban gyfarfod gydag Ysgrifennydd Cabinet y DU dros adael yr UE yr wythnos diwethaf i drafod pa ran y gallai gweinyddiaeth Caeredin ei chwarae yn safbwynt trafod y DU. Bythefnos yn ôl yn Chicago, dywedasoch na all Cymru fforddio bod - a dyma eich geiriau - yn arsylwyr goddefol yn y penderfyniad hynod bwysig hwn. A wnewch chi, felly, ailystyried nawr eich penderfyniad i beidio â phenodi Gweinidog Brexit penodedig, neu a ydych chi'n barod i wneud Cymru yn amherthnasol?
1,072
Wel, rwy'n credu ei bod yn drueni, Brif Weinidog, na fydd gan Gymru, yn wahanol i'r Alban, Weinidog sydd yn ymroi'n llwyr i ystyried Brexit a dim byd arall. Brif Weinidog, rwy'n deall eich bod wedi sefydlu grŵp cynghori arbenigol ar Brexit yn ôl ym mis Awst i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru o'r trafodaethau Brexit. A allwch chi ddweud wrthym: a yw'r grŵp hwnnw wedi cyfarfod eto? Fy nealltwriaeth i yw nad yw'r grŵp wedi cyfarfod eto, ac felly esboniwch pam os gwelwch yn dda. Yna, mae gennym ni'r pwyllgor cyswllt Brexit - a fi yw cynrychiolydd Plaid Cymru ar y pwyllgor hwnnw - ac rwy'n meddwl tybed pam nad oes cyfarfod o'r pwyllgor hwnnw wedi ei gynnal eto. Nid wyf hyd yn oed wedi cael gwahoddiad i fod yn bresennol mewn cyfarfod o'r fath eto. Felly, Brif Weinidog, onid y gwir reswm pam nad ydych wedi penodi Gweinidog Brexit ac nad ydych wedi cynnal y cyfarfodydd hyn yw'r ffaith nad oes gennych chi gynllun, nad oes gennych chi weledigaeth, a dim clem ynghylch sut y dylai Cymru edrych y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd?
1,073
Brif Weinidog, rydych chi'n dweud, 'Ar gyfer Cymru, gweler yr Alban', ond mae'n edrych yn debycach eich bod yn dweud, 'Ar gyfer Cymru, gweler Lloegr'. Popeth y maen nhw'n ei wneud, rydych chi'n barod i gyd-fynd ag ef, ac mae eich safbwynt ar Brexit yn llawn anghysondebau. Gadewch i ni gael golwg ar yr hyn yr ydych chi wedi ei ddweud, er enghraifft, am feto i Gymru. Yn ystod eich ymweliad diweddar â'r Unol Daleithiau, dywedasoch, Pa bynnag gytundeb a fydd cael ei sicrhau yn y diwedd, dylai ei dderbyn fod yn amodol ar gefnogaeth y pedair senedd sy'n deddfu ar gyfer y DU erbyn hyn. Ac eto, erbyn dydd Sul, roeddech chi wedi troi eich cefn ar y farn honno. Erbyn hyn nid ydych chi'n credu y dylai fod feto o'r Cynulliad hwn os nad yw'r cytundeb Brexit yn un da i Gymru. A wnewch chi gyfiawnhau heddiw eich penderfyniad i ildio i Theresa May a'i Llywodraeth Dorïaidd trwy roi'r gair olaf iddyn nhw o ran sut y bydd Brexit yn effeithio ar y wlad hon?
1,074
Wrth gwrs y dylai'r Cynulliad gael cyfle i gadarnhau unrhyw gytundeb sydd ar y bwrdd, a hynny'n briodol, oherwydd ni fyddai'n iawn i Lywodraeth y DU gytuno ar faterion fel polisi ffermio a physgodfeydd heb fewnbwn gan y Seneddau datganoledig, gan nad oes ganddynt unrhyw ran mewn ffermio a physgodfeydd cyn belled ag y mae Cymru a'r Alban yn y cwestiwn. Rwy'n credu bod synnwyr ymarferol mewn gwneud hynny, oherwydd os ydych chi eisiau cael yr ymrwymiad ehangaf posibl i unrhyw gytundeb ar ôl Brexit, mae'n gwneud synnwyr perffaith, os mai chi yw Llywodraeth y DU, byddwn yn dadlau, i'r Alban, Cymru a Gogledd Iwerddon roi cadarnhad pendant i unrhyw gytundeb. Os bydd cytundeb heb gefnogaeth y Cynulliad hwn neu'r Alban neu Ogledd Iwerddon, bydd yn anochel bod y cytundeb hwnnw'n cael ei wanhau ac ni fydd yn sefyll prawf amser.
1,075
Wel dyna yn union, wrth gwrs, y mae llawer yn Llywodraeth y DU yn ei gredu. I mi, mae mynediad at y farchnad sengl o ran nwyddau a gwasanaethau yn llinell goch. Mae hynny'n rhywbeth na ellir ei negodi i ffwrdd. Rwyf wedi gwneud yr awgrym i gael moratoriwm saith mlynedd; credaf fod hynny'n cynnig posibilrwydd cyn belled ag y mae'r DU yn y cwestiwn - rwy'n ceisio bod o gymorth cyn belled ag y mae Llywodraeth y DU yn y cwestiwn yn y fan yma - er mwyn cynnal mynediad at y farchnad sengl. Ond, na, i mi, mynediad at nwyddau a gwasanaethau yw'r llinell goch.
1,076
Nage. Mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yw'r llinell goch; mae'r mater o symudiad rhydd pobl yn rhywbeth y bydd angen ei archwilio a'i drafod yn rhan o'r trafodaethau.
1,077
A oes unrhyw un yma yn gwybod beth yw polisi'r Ceidwadwyr, naill ai yn y DU neu yng Nghymru, o ran Brexit? Ydych chi'n gwybod beth maen nhw'n ei ddweud am Brexit? 'Mae Brexit yn golygu Brexit.' Gwych. Gwych. Dyna naid ardderchog o resymeg. Nid oes gen i unrhyw syniad beth yw ei safbwynt ar Ewrop - dim syniad o gwbl. Yr hyn y gallaf ei ddweud wrtho yw bod pob un ohonom ni ar yr ochr hon i'r Siambr yn gwybod yn iawn fod mynediad at y farchnad sengl ar gyfer nwyddau a gwasanaethau yn hanfodol i ddiwydiant Cymru. A wnaiff ef gefnogi hynny? A wnaiff ef gefnogi hynny? A wnaiff ef gefnogi'r cynnig bod angen i ni allu gwerthu yn un o farchnadoedd mwyaf y byd - mwy nag America a Rwsia - heb unrhyw rwystrau masnach? Dyna'r cwestiwn yr oedd buddsoddwyr yn yr Unol Daleithiau yn ei ofyn i mi pan roeddwn i yn yr Unol Daleithiau. Pe byddai ef wedi bod yno, ni fyddai hyd yn oed wedi rhoi ateb iddyn nhw.
1,078
Wel, mae dau beth y mae'n rhaid i mi ddweud wrth arweinydd UKIP: yn gyntaf, mae'n ymddangos mai polisi ei blaid ef yw trin pobl sy'n ffoaduriaid o ryfel fel ymfudwyr economaidd. Rydym ni wedi clywed hynny gan Aelod o'i feinciau cefn ei hun. Yn ail, gallaf ei sicrhau - [Torri ar draws.] Gallaf ei sicrhau mai'r blaid yr oedd ef yn aelod ohoni ar un adeg yn yr 1980au yw'r blaid sy'n cael ei chasáu fwyaf gan etholwyr Cymru. Maen nhw'n cofio yr hyn a wnaeth ef, a'i blaid, ar ôl y gyllideb honno ym 1981 yr oedd ef mor falch ohoni. Maen nhw'n cofio'r hyn a wnaeth, wrth gefnogi streic y glowyr yn erbyn ein pobl ein hunain - cau ein diwydiant mwyngloddio i lawr, cau ein diwydiant dur i lawr. Os mai dyna bolisi UKIP, ewch allan ar bob cyfrif i'w werthu i bobl Cymru.
1,079
Na wnaf, nid wyf yn cytuno â hynny o gwbl. Bydd pobl yn ceisio mynd i'r lle cyntaf y gallant ei gyrraedd fel man diogel. O'm safbwynt i, mae'n bwysig - . Mae ef yn ddisgynnydd i fewnfudwr. Mae ei holl Aelodau yn ddisgynyddion mewnfudwyr. Cwestiwn o bryd ddaeth eu teuluoedd i'r ynys hon yw hyn. Mae pob un ohonom ni yn yr ystafell hon yn ddisgynnydd i fewnfudwr. Mae'r cyfan yn dibynnu ar bryd y daeth ein teuluoedd yma mewn gwirionedd ac, o'm safbwynt i, mae'n gwbl gywir, pan fo pobl yn ffoi rhag rhyfel a gormes, eu bod yn cael cyfle mewn gwlad wâr - mewn gwlad wâr - i gael byw eu bywydau mewn heddwch, ac mae hynny'n rhywbeth na wnaf i fyth gyfaddawdu yn ei gylch.
1,080
Wel, nid wyf yn mynd i gymryd pregeth gan rywun a oedd yn chwythu utgorn Thatcher yn ôl yn y 1980au. Ond byddaf yn cytuno ag ef ar un pwynt: dylid cael ateb Ewropeaidd. Ond y broblem nawr yw nad ydym ni'n mynd i fod yn rhan o'r ateb Ewropeaidd gan na fyddwn ni yn Ewrop. Dyna'r broblem. Ni fydd gennym lais yn hynny. Ond mae'n iawn: mae'n hynod bwysig bod hon yn cael ei thrin fel her Ewropeaidd a bod holl wledydd Ewrop yn ymateb i'r her honno. Gadewch i ni gofio ei fod o fewn cof pan oedd miliynau o bobl yn ffoaduriaid o fewn Ewrop ac yn symud o un wlad i'r llall mewn cyfnewidiadau poblogaeth enfawr ar ddiwedd y rhyfel ac, yn wir, yn Iwgoslafia yn y 1990au. Felly, weithiau rydym ni'n anghofio ein hanes ein hunain pan fyddwn ni'n sôn am ffoaduriaid. Croesawaf yr hyn a ddywedodd am yr angen i wneud yn siŵr bod pobl sy'n ffoaduriaid gwirioneddol yn cael cymorth a lloches. Rwy'n deall y pwynt y mae'n ei wneud am fewnfudo direolaeth. Nid wyf yn dadlau o blaid mewnfudo direolaeth; mae'n rhaid cael cyfyngiadau ar y rhai y gall unrhyw wlad eu derbyn, wrth gwrs. Mae'n rhaid i ni fod yn ofalus iawn i beidio ag awgrymu nad yw'r bobl hynny sy'n ffoi rhag rhyfel ac sydd yn ddiobaith ac sydd wedi gweld pobl yn boddi yn y môr Aegean yn nwyrain Môr y Canoldir ond yn chwilio am swydd sy'n talu'n well. Nid wyf yn derbyn hynny, mae'n ddrwg gennyf.
1,081
Brif Weinidog, mae'r cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru sy'n eiddo preifat, Grŵp Potter, sydd wedi'i leoli yn fy etholaeth i, wedi ei wahardd rhag cynnig am gontract rheoli gwastraff yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Pen-y-bont ar Ogwr gan nad yw'n bodloni'r gofynion o fod â throsiant blynyddol o fwy na £50 miliwn. A ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn anghymesur gwneud trosiant blynyddol mor fawr yn ofynnol, sy'n arwain at wahardd hyd yn oed y cwmni rheoli gwastraff mwyaf yng Nghymru rhag gwneud cais am y mathau hyn o gontractau, ac a wnewch chi ymrwymo i adolygu canllawiau Llywodraeth Cymru i sicrhau bod awdurdodau lleol - yn hyn o beth o ran contractau caffael?
1,082
Brif Weinidog, bu cynnydd sylweddol o ran harneisio grym y bunt gyhoeddus, ond mae mwy i'w wneud o hyd. Mae'r Athro Kevin Morgan, sy'n un o brif arbenigwyr Ewrop ar fwyd cynaliadwy, wedi tynnu sylw at fwlch sgiliau fel her fawr o'n blaenau. Mae wedi gwneud awgrymiadau ynghylch recriwtio dwsin o weithwyr proffesiynol medrus i allu rhoi i sector cyhoeddus Cymru y gweithwyr proffesiynol medrus y mae eu hangen i harneisio grym y bunt honno ymhellach. A fyddech chi'n barod i ymchwilio i gynigion yr Athro Morgan?
1,083
Rwy'n credu bod disodli mewnforion yn debygol o fod hyd yn oed yn fwy hanfodol, yn economaidd, i ni o ganlyniad o bosibl i'r dull trwsgl a dryslyd o ymdrin â mynediad at y farchnad sengl yr ydym ni'n ei weld gan y Llywodraeth hon ar hyn o bryd, ond a all y Prif Weinidog ddweud wrthym ni a yw'r math o gyngor a chyfarwyddyd a roddir i awdurdodau lleol ar hyn o bryd gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys cefnogaeth gadarnhaol i bethau fel system brynu ddeinamig, sy'n galluogi cwmnïau, cwmnïau newydd, i gyflenwi yn rhan o gontract, hyd yn oed ar ôl i sefydliad arall gael ei benodi, ac oddi wrth y gorddefnydd o gontractau fframwaith a bwndelu contractau, sy'n andwyol, mewn gwirionedd, i gynnig cyfleoedd i fentrau bach a chanolig eu maint yn arbennig?
1,084
Yn dilyn Brexit, byddwn yn gallu pennu ein rheolau caffael cyhoeddus ein hunain i ddiwallu ein hanghenion economaidd a chaffael ein hunain, yn hytrach nag anghenion busnesau mawr mewn gwledydd eraill. Pa fesurau ydych chi'n mynd i'w rhoi ar waith i roi blaenoriaeth i fusnesau Cymru wrth ddyfarnu contractau caffael cyhoeddus, a pha newidiadau ydych chi'n mynd i'w gwneud i reolau caffael cyhoeddus i'w gwneud yn haws i fusnesau bach gystadlu am gontractau o'r fath?
1,085
Rwyf newydd ddod o'r dathliad o brydau ysgol a gynhaliwyd gan Lesley Griffiths - yn falch iawn o glywed gan bennaeth y gwasanaeth prydau ysgol ym Mhen-y-bont ar Ogwr eu bod yn gwneud cais am y nod siarter ar gyfer eu gwasanaeth prydau ysgol, sef yr hyn yr ydym ni'n ei fwynhau i fyny'r grisiau yn ein ffreutur ni - ac roeddwn i'n meddwl tybed pa gymorth y mae'r gwasanaeth caffael bwyd cenedlaethol yn mynd i allu ei roi i ysgolion fel y gall pob ysgol wneud cais am y nod siarter, yn enwedig o ran ffrwythau a llysiau. Dim ond 3 y cant o ffrwythau a llysiau sy'n dod o ffynonellau lleol, gan arwain at ddiffyg enfawr o ran masnach. Pa uchelgais, felly, sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan ein holl ysgolion y nod siarter, yn union fel sydd gan Oldham?
1,086
Gwnaf. Rydym ni wedi ymrwymo i gefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus gan ein bod yn cydnabod y cyfraniad hanfodol y maen nhw'n ei wneud i les pobl yng Nghymru. Ers 2007, rydym ni wedi buddsoddi oddeutu £14 miliwn i foderneiddio dros 100 o lyfrgelloedd cymunedol, gan gynnwys £1 filiwn i foderneiddio a chyd-leoli chwe llyfrgell yn ystod y flwyddyn ariannol hon.
1,087
Mae'r rhain yn faterion sy'n dal i gael eu hystyried gan y Gweinidog. Wrth gwrs, mae'n digwydd yn ddigidol eisoes, o ran benthyca digidol, lle mae llawer iawn o awdurdodau lleol yn cymryd rhan yn y un adnodd canolog, ond mae'r gwaith yn dal i gael ei ystyried i weld a fyddai cerdyn llyfrgell Cymru gyfan i fenthyg yn ffisegol yn ymarferol. Mae'n debyg o safbwynt yr awdurdod lleol, y byddai'n poeni, pe bydden nhw'n drigolion dros dro, a ellid canfod y person hwnnw pe na byddai'r llyfr yn mynd i ddod yn ôl. Nid yw'r rhain yn broblemau anorchfygol, ond maen nhw'n sicr yn broblemau y gwn sy'n dal i gael eu hystyried o ran gweld a ydyn nhw'n dal i fod yn ymarferol.
1,088
Wrth gwrs, mae'r fformiwla ariannu llywodraeth leol wedi ei chytuno gyda Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; nid oes cynlluniau ar hyn o bryd, i gynnal adolygiad eang o'r fformiwla honno, oherwydd yn anochel, bydd rhai ar eu hennill a rhai ar eu colled.
1,089
Wel, rwy'n meddwl fy mod i wedi ateb y cwestiwn yna o ran yr hyn yr ydym ni wedi ei wneud i helpu 100 o lyfrgelloedd cymunedol. Bydd hi'n ymwybodol o ddwy lyfrgell newydd o leiaf sydd wedi agor yn yr ardal lle mae'r ddau ohonom ni'n byw - ym Mhen-y-bont ar Ogwr ac yn y Pîl. Maen nhw'n gyfleusterau cymharol newydd sydd wedi agor yn y blynyddoedd diwethaf, y mae'r cymunedau lleol yn falch iawn ohonynt. Ceir enghreifftiau o lyfrgelloedd sydd wedi eu hailwampio neu eu hailadeiladu ar draws Cymru gyfan.
1,090
Yn sicr, a byddem yn ceisio eu cyfeirio at eraill sydd wedi rhedeg llyfrgelloedd yn llwyddiannus, a helpu o ran gweithio gyda sefydliadau trydydd sector a'r cyngor y gallan nhw ei roi. Rydym ni wedi gweld llawer iawn o grwpiau - soniwyd am hyn ddwywaith yn y Siambr erbyn hyn - sydd wedi cymryd llyfrgelloedd drosodd, wedi cymryd ein cyngor ac sy'n gwneud y llyfrgelloedd hynny yn llwyddiant.
1,091
Rwy'n ddiolchgar i glywed mai eich bwriad chi yw ail-weld y gwasanaeth bws yma. A gaf i ddweud - ? Hyd yn oed yn ôl yn nyddiau Margaret Thatcher, roedd yna wasanaeth bws uniongyrchol o Gaerdydd i Aberystwyth, a bu hwnnw'n rhedeg yn ddi-dor tan yr haf hwn. Dyma'r tro cyntaf i ni golli'r gwasanaeth bws uniongyrchol yna - coets, hynny yw - a oedd mor ddeniadol i bensiynwyr a myfyrwyr. Dyna'r brif bobl a oedd yn ei ddefnyddio fe, yn bendant. Rwyf eisoes wedi clywed am bobl sydd wedi gorfod bwrw noswaith yng Nghaerfyrddin achos eu bod nhw wedi cyrraedd ar y trên yn rhy hwyr i gael y bws cyswllt nôl i Aberystwyth. Felly, pan rŷch chi'n dweud eich bod chi am weld y gwasanaeth yma'n ailgychwyn, a wnewch chi ddweud pryd, ac ym mha ffordd mae'r Llywodraeth yn mynd i ddiogelu bod hyn yn digwydd?
1,092
Mae'r cynllun gweithredu pum pwynt ar wasanaethau bws lleol a gyhoeddwyd gan eich cydweithiwr, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr economi yr wythnos diwethaf i'w groesawu'n fawr iawn. Mae grantiau cymorth i wasanaeth bws wedi cael eu torri eisoes. A allwch chi sicrhau y bydd lefel presennol y cyllid ar gyfer gwasanaethau bws lleol, fel yr amlinellwyd yr wythnos diwethaf, ac unrhyw - . Mae'n ddrwg gennyf. A allwch chi sicrhau'r lefel presennol o gyllid ar gyfer gwasanaethau bws lleol ac amlinellu'n union pa gyllid ychwanegol fydd ar gael i gyflawni cynllun pum pwynt Llywodraeth Cymru?
1,093
Yn dilyn ymlaen o'r drafodaeth hon ar wasanaethau bws mewn ardal benodol, rwy'n deall y bu asesiad rhagarweiniol o ailgyflwyno rheilffordd o Gaerfyrddin i Aberystwyth. A all y Prif Weinidog ein hysbysu am unrhyw gynlluniau yn y dyfodol i gynnal astudiaeth ddichonoldeb lawn ac, os felly, pryd?
1,094
Gwnaf. Rydym ni wedi gweld cynnydd gwirioneddol dros y blynyddoedd diwethaf. Rydym ni'n gweld tuedd ostyngol o ran achosion TB newydd. Mae'r ystadegau diweddaraf yn dangos, yn ystod y flwyddyn ddiwethaf, yr hysbyswyd am 740 o ddigwyddiadau buchesi newydd yng Nghymru, o'i gymharu ag 884 y flwyddyn cynt. Mae hynny'n ostyngiad o 16 y cant.
1,095
Mater i'r Gweinidog fyddai gwneud y datganiad hwnnw, a bydd hi'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am hynny i'r Cynulliad. Ond, fel y dywedais, mae nifer y methiannau wedi gostwng. Cynhelir mwy o brofion. Rydym ni'n gwybod nad oes unrhyw anawsterau o ran masnach ryngwladol, cyn belled ag y mae TB buchol yn y cwestiwn. Yn wir, mae'r rhaglen ddileu, y mae Cymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon yn gyfrifol amdani ar y cyd, wedi cael £31 miliwn o arian Ewropeaidd. Dyna ni; gadewch i ni weld a fydd hynny'n parhau yn y dyfodol. Felly, nid oes unrhyw anhawster o ran yr ymagwedd yr ydym ni wedi ei chymryd. Nid oes unrhyw wlad, na'r Undeb Ewropeaidd yn wir, erioed wedi dweud eu bod yn cael anhawster â'r ymagwedd a gymerwyd i leihau achosion o TB yng Nghymru.
1,096
Un o'r pethau rwy'n ei wybod am Loegr - rwy'n cofio yn ystod y treialon Krebs, gydag un o'r treialon fe aeth pethau'n waeth, o achos y ffaith eu bod nhw'n difa moch daear o'r canol mas. Wrth gwrs, beth oedd yn digwydd oedd bod y moch daear yn symud mas, a wedyn roedd y clwy yn lledu o achos hynny. Rwy'n gwybod bod yna dueddiad gyda rhai i feddwl bod yna ateb rhwydd i TB - os rŷch chi'n cael gwared ar moch daear felly nid oes dim problem gyda chi. Mae hi'n fwy cymhleth na hynny. Rwy'n cofio eistedd ar y pwyllgor a chlywed y dystiolaeth, a oedd yn dangos ei bod hi'n llawer mwy cymhleth a bod dim un ateb. Ond, wrth ddweud hynny, rydym wedi gweld lleihad, sydd i'w groesawu, wrth gwrs, yn nifer yr anifeiliaid sydd wedi cael eu profi gyda TB, ac mae hynny'n rhywbeth rydym ni'n moyn gweld yn parhau yn y pen draw.
1,097
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Fel y gwyddoch, rwyf wedi cefnogi'r fframwaith cyllidol. Roeddwn i'n falch o fod yn bresennol yng nghyfarfod yr Ysgrifennydd cyllid gyda phrif weithredwr newydd Awdurdod Refeniw Cymru ddydd Iau diwethaf i drafod y broses o benodi cadeirydd i'r sefydliad newydd. Mae hon yn amlwg yn mynd i fod yn un o'r swyddi newydd pwysicaf yng Nghymru yn y cyfnod diweddar. Bydd datganoli treth yn llwyddo, Brif Weinidog, dim ond os bydd gan y cyhoedd ffydd ynddo. Yn amlwg, ar hyn o bryd, ychydig iawn o bobl sydd hyd yn oed yn ymwybodol ei fod yn digwydd. Sut ydych chi'n sicrhau ein bod ni'n cael ymgeiswyr o'r ansawdd cywir a'r safon gywir i ymgeisio am y swydd newydd hon yn Awdurdod Refeniw Cymru? Sut mae eich Llywodraeth Cymru yn hysbysebu'r holl ddatganoli trethi fel bod y cyhoedd yn gwbl ymwybodol, pan fydd yn dechrau digwydd yn 2018, o'r hyn sy'n digwydd gyda'u biliau treth?
1,098
Brif Weinidog, a ydych chi'n cytuno â mi ei bod yn hollbwysig, wrth ddatganoli unrhyw drethi, i Gymru beidio â dioddef unrhyw niwed o ddatganoli'r trethi hynny? A wnewch chi bwyso am gymrodeddu annibynnol i ddatrys anghydfodau gyda'r Trysorlys? Nid wyf yn dymuno swnio'n besimistaidd, ond mae gennyf deimlad y bydd gennym ni ambell i achos o anghydfod gyda'r Trysorlys. Ac os bydd y Trysorlys yn gweithredu fel barnwr a rheithgor yn yr achosion hynny, rydym ni'n debygol o fod ar ein colled. Felly, os bydd unrhyw anghydfod, mae angen rhyw fath o gymrodeddu teg arnom.
1,099