text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Brif Weinidog, rwy'n gresynu'r ffaith nad oedd Ford yn Detroit yn barod i gyfarfod â chi, oherwydd, fel y deallaf, dyna lle gwnaed y penderfyniad am y buddsoddiad ac mae'n ymddangos eu bod wedi pasio'r bêl yn ôl i Ford Ewrop ar y mater hwn. Ond ceir tri chwestiwn dilys iawn yr wyf yn gobeithio bod eich Llywodraeth a chi eich hun fel Prif Weinidog wedi bod yn rhyngweithio gyda Ford arnynt, sef: sut, yn y dyfodol, y gellir diogelu'r swyddi gyda thoriad mor sylweddol i gynhyrchiant yn y ffatri? Hefyd, pa gynhyrchion newydd, o bosibl, allai ddod i'r ffatri i ddiogelu'r 1,850 o swyddi sydd ar y safle ar hyn o bryd? Ac mae'n deg i ddweud bod Llywodraeth Cymru wedi rhoi arian ar y bwrdd i gadw swyddi yn y ffatri injans, ar lefel o 850 o swyddi, yn ôl yr hyn a ddeallaf. Yn amlwg, ceir 1,850 o swyddi ar y safle hwnnw ar hyn o bryd, felly pa sicrwydd allwch chi ei roi ynghylch y trafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi eu cael am ddiogelwch swyddi yn y dyfodol, ynghylch cynhyrchion newydd yn dod i'r gwaith ac, yn anad dim, am ddichonoldeb y ffatri yn y dyfodol fel endid sy'n gweithio o fewn capasiti gweithgynhyrchu Ford yn y Deyrnas Unedig?
900
Mae'r broses o gaffael y gweithredwr a'r partner datblygu ar gyfer masnachfraint Cymru a'r gororau, sy'n cynnwys y metro, wedi dechrau. Yn amodol ar gystadleuaeth lwyddiannus, bydd y contract yn cael ei ddyfarnu ddiwedd y flwyddyn nesaf.
901
Nid oes gennym unrhyw gynlluniau i newid y cynigion presennol ar gyfer y metro, a bydd ef yn gwybod, wrth gwrs, fod Trefynwy yn rhan o'r metro o ran ei ddatblygiad yn y dyfodol. Yr hyn sy'n gywir, fodd bynnag, yw bod disgwyl i werth £125 miliwn o'r cyllid ar gyfer y metro ddod o arian Ewropeaidd. Nawr, heb y cyllid hwnnw, yn amlwg bydd terfyn ar ba mor bell a pha mor gyflym y gall y prosiect metro fynd yn ei flaen. Nawr, rwyf wedi clywed yr hyn a ddywedwyd na fyddai Cymru ar ei cholled o ganlyniad i adael yr UE - gwn, yn wir, y dywedwyd y bydd cyllid ar gyfer bob un rhan o'r DU, gan gynnwys Cymru, yn ddiogel pe byddem yn pleidleisio i adael; Andrew R.T. Davies, 14 Mehefin. Felly, mae ganddo sicrwydd gan ei arweinydd ei hun y bydd y £125 miliwn yn dal i fod ar gael ar gyfer y metro, ac rwy'n siŵr y bydd yn derbyn y sicrwydd hwnnw gyda rhywfaint o gysur.
902
Yn sicr; hynny yw, rydym ni eisiau gweld model sy'n buddsoddi, wrth gwrs, yn y rhwydwaith ei hun a model sy'n darparu gwasanaeth da i deithwyr am bris teg. A dyma'r materion y byddwn ni'n eu hystyried wrth i broses gaffael y metro fynd yn ei blaen.
903
Na wnaf. Hynny yw, wrth gwrs bod Casnewydd a'r Cymoedd yn rhan o'r rhanbarth gan ei fod yn rhanbarth economaidd. Y gwir amdani yw bod 11 miliwn o bobl y flwyddyn yn dod trwy orsaf Caerdydd Canolog; maen nhw'n gymudwyr - llawer ohonyn nhw'n dod i lawr o gymunedau'r Cymoedd. Mae'n iawn i ofyn y cwestiwn, wrth gwrs: ai dim ond dod â phobl o gymunedau'r Cymoedd i Gaerdydd yw diben hyn? Hanner y stori yw hynny. Hanner arall y stori yw ei gwneud yn haws i fuddsoddwyr symud eu buddsoddiadau i fyny i gymunedau'r Cymoedd wrth iddi ddod, yn eu meddyliau nhw, yn haws cyrraedd yno. Mae'n rhaid iddo fod yn llif dwyffordd er mwyn i'r rhanbarth weithredu'n effeithiol.
904
Wel, yn gyntaf oll, wrth gwrs, mae gennym ni'r rhwydwaith rheilffyrdd presennol i mewn i Gaerdydd ac mae hynny'n cynnig y cyfle i ni archwilio sut y gellir gwneud y rhwydweithiau hynny yn gyflymach yn y dyfodol. Ond y pwynt am y metro yw ei fod yn estynadwy - nid yw'n ymwneud yn syml ag edrych ar y strwythur sydd gennym ni ar hyn o bryd. Bydd y metro yn y dyfodol, nid oes gennyf unrhyw amheuaeth, yn cynnwys rheilffyrdd ysgafn newydd a chysylltedd bws newydd, yn enwedig rhwng Cymoedd, lle, wrth gwrs, mae'n eithaf anodd gan fod popeth yn tueddu i fod o'r gogledd i'r de. Mae dwyrain Caerdydd yn yr un sefyllfa, wrth gwrs - mae dwyrain Caerdydd yn cael ei wasanaethu'n wael gan y rhwydwaith rheilffyrdd - ac wrth i'r metro gael ei gyflwyno, rydym ni'n gwbl ymwybodol o'r ffaith fod angen i ni edrych ar yr ardaloedd hyn lle, yn sicr, nad oes cludiant rheilffordd yn bodoli, neu nad oes llawer ohono, i wneud yn siŵr bod y bylchau hynny'n cael eu llenwi yn y dyfodol.
905
Nac ydw, gan nad wyf i byth yn gwneud sylwadau ar CDLlau na cheisiadau cynllunio. Dyna'r holl bwynt o fod mewn Llywodraeth. Y rheswm pam yr ymddangosodd y stori yn y papur yn y ffordd honno yw oherwydd ei fod ef wedi ei rhoi hi yno ac wedi ei geirio felly. [Chwerthin.] Dyna'r rheswm am hyn ac, wyddoch chi, rwy'n rhoi clod iddo: mae ef, wyddoch chi, yn ddiflino; mae'n dal wrthi. Ond, nid wyf byth yn gwneud unrhyw sylwadau am unrhyw CDLl mewn unrhyw le yng Nghymru cyn belled ag a ddylai fynd yn ei flaen ai peidio. Mae gweithdrefn briodol ar gyfer gwneud hynny.
906
Mae'n wir i ddweud bod y galw wedi bod yn fwy na'r cyflenwad ers blynyddoedd lawer, yn enwedig tai fforddiadwy ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i'r tai hynny fynd lle mae eu hangen - ni ellir eu rhoi lle mae'r galw yn isel; mae'n rhaid iddynt fynd lle mae'r galw ar ei uchaf. Maen nhw'n benderfyniadau anodd iawn i awdurdodau lleol o ran sut y maen nhw'n bodloni'r galw hwnnw yn lleol o ran tai ac maen nhw'n ddadleuol weithiau, ond mae'r Aelod yn iawn i ddweud bod yn rhaid i ni wneud yn siŵr bod gennym ni ddigon o dai ar gael ar gyfer y bobl sydd eu hangen.
907
Nac ydw, dydw i ddim. Rwy'n meddwl bod rhaid cael proses o archwilio sy'n gadarn. Mae Caerdydd yn ddinas sy'n tyfu; mae ei phoblogaeth wedi tyfu'n aruthrol dros y 30 mlynedd diwethaf, ac nid mater i Gaerdydd yn unig yw sut yr ydych chi'n ymdrin â'r galw hwnnw, mae'n fater i'r holl awdurdodau o amgylch Caerdydd, gan ein bod yn gwybod y bydd y galw hwnnw yno y tu allan i ffiniau'r ddinas hefyd. Ond, nid ydym ni byth yn mynd i gael i sefyllfa lle nad ydym yn adeiladu unrhyw dai, oherwydd byddai hynny'n golygu nad yw'r galw'n cael ei fodloni. Felly, i awdurdodau lleol, mae'n rhaid iddyn nhw lunio cynllun datblygu lleol, cyflwyno'r dystiolaeth ar gyfer eu cynlluniau a chael arolygydd cynllunio i brofi'r cynlluniau hynny. Rwy'n credu bod honno'n system gadarn i sicrhau bod CDLl wedi cael ei brofi mor drwyadl a thrylwyr â phosibl yn y dyfodol.
908
Diolch yn fawr, Brif Weinidog. Ceir pryder dealladwy yng Nghydweli, Brif Weinidog, am yr anhawster o ran recriwtio a chadw meddygon teulu ym meddygfa Minafon, ac mae cynghorwyr Llafur lleol wedi bod yn gweithio'n galed gyda'r bwrdd iechyd i geisio hysbysu'r gymuned. Er tegwch i Hywel Dda, maen nhw wedi bod yn gwneud eu gorau i geisio recriwtio tîm clinigol i'r feddygfa ac i ddod â staff locwm i mewn. Roeddwn i'n falch iawn o glywed bod Llywodraeth Cymru yn bwriadu cynnal ymgyrch recriwtio yn ddiweddarach yn y flwyddyn. Mae'n hanfodol bod Llywodraeth Cymru yn gweithio gyda byrddau iechyd ac nad ydynt yn cael eu gadael i gynnal eu hymgyrchoedd eu hunain ar wahân. A wnaiff ef roi rhywfaint o fanylion i ni am ei safbwyntiau ar addasu'r model sydd gan feddygon teulu ar hyn o bryd, o ran datblygu eu meddygfeydd eu hunain a phrynu i mewn iddyn nhw? Oherwydd, yn eithaf amlwg, mae anghenion meddygon teulu modern yn fwy amrywiol ac mae hynny'n ymddangos yn hanfodol er mwyn denu meddygon teulu i leoedd fel Cydweli.
909
Mi fues i'n cyfarfod wythnos diwethaf efo nifer o feddygon teulu o Ynys Môn, ac mi drafodon ni sut i annog mwy o bobl ifanc i fod eisiau dymuno mynd i yrfa fel GP. Ac rwy'n siŵr y bydd y Prif Weinidog yn rhannu fy mhryder i am y gostyngiad o 15 y cant yn y myfyrwyr o Gymru sydd wedi bod yn gwneud ceisiadau i fynd i astudio meddygaeth. Ond rwy'n siŵr y buasai fo hefyd yn cefnogi fy ngalwad i, a'r BMA ac eraill, am hyfforddi rhagor o feddygon o Gymru yng Nghymru. Mae'r ffigurau yn dangos bod 80 y cant o fyfyrwyr meddygol Gogledd Iwerddon yn dod o Ogledd Iwerddon; rhyw 50 y cant o fyfyrwyr meddygol yr Alban yn dod o'r Alban; a dim ond rhyw 20 y cant o fyfyrwyr meddygol Cymru yn dod o Gymru. A ydy'r Prif Weinidog yn cytuno efo fi bod angen newid y gyfradd yna a bod hynny'n gorfod cynnwys, i raddau, elfen o gwotâu?
910
Cyfeiriodd 'Gweithlu Gofal Sylfaenol wedi'i Gynllunio i Gymru' at swyddogaeth sy'n dod i'r amlwg cymdeithasau meddygon a'n hysgolion meddygol, fel ffordd o gynyddu nifer y meddygon teulu yng Nghymru. O ystyried argyfwng diymwad y ddarpariaeth o feddygon teulu yng Nghymru, sut ydych chi wedi bwrw ymlaen â'r argymhelliad hwn, a pha gynlluniau sydd gennych chi ar waith i gynyddu'r dim ond 27 o leoedd a ariennir sydd ar gael trwy ein hysgolion meddygol yma yng Nghymru?
911
Brif Weinidog, cefais gyfarfod ddydd Iau diwethaf gyda Gary Doherty, prif weithredwr bwrdd iechyd Betsi Cadwaladr, a chadarnhaodd i mi mai'r her fwyaf sydd ganddo yn y gogledd yw recriwtio a chadw meddygon, meddygon teulu, a nyrsys hefyd. Un o'r pethau a drafodwyd gennym oedd y posibilrwydd o hyfforddi staff meddygol sy'n siarad Cymraeg yn Ysbyty Gwynedd a hefyd ynghlwm â Phrifysgol Bangor. A ydych chi'n cytuno bod hwn yn syniad da, y byddai hon yn ffordd i ni annog mwy o bobl i astudio yng Nghymru ac i aros yng Nghymru, ond hefyd i helpu gyda'r prinder, y broblem sydd gennym ni o weithwyr proffesiynol sy'n siarad Cymraeg yn y gwasanaeth iechyd? A fyddech chi'n fodlon siarad â'r Arglwydd Dafydd Elis-Thomas, sef canghellor Prifysgol Bangor, a hefyd siarad â Gary Doherty, a oedd yn cytuno â mi bod hwn yn syniad da?
912
Rydym ni'n cymryd nifer o gamau i wella pob math o ddarpariaeth trafnidiaeth yn y gogledd, a bydd y prosiect metro gogledd Cymru arfaethedig yn dod â gwelliannau ychwanegol.
913
Mae'n anodd, wrth gwrs, tynnu llinell bendant, o ystyried natur masnachfraint Cymru a'r gororau. Yr hyn na fyddwn yn cytuno ag ef yw un awgrym a ddaeth gan yr Adran Drafnidiaeth y dylai unrhyw wasanaeth sy'n terfynu yn Lloegr gael ei redeg o Loegr. Byddai hynny'n golygu'n llythrennol na fyddai unrhyw wasanaeth sy'n rhedeg ar draws unrhyw le yng ngogledd Cymru, ac eithrio rheilffordd Dyffryn Conwy, yn cael ei rheoli o Gymru o gwbl. Yr un fath, yn union yr un fath, ar gyfer rheilffordd canolbarth Cymru, rheilffordd Calon Cymru, llawer o wasanaethau arfordirol y Cambrian, yn ogystal, yn ogystal â gwasanaethau rhyng-ddinesig a llawer o'r gwasanaethau sy'n rhedeg i Fanceinion ac sy'n rhedeg, ar hyn o bryd, y tu hwnt i'r ffin. Byddai hynny'n gwbl annerbyniol. Felly, er ein bod ni eisiau gwneud yn siŵr bod gwasanaeth Cymru a'r gororau, gyda'i fasnachfraint, yn cael ei redeg o Gymru, rydym ni'n credu y gallwn ni ddarparu gwasanaeth yr un mor dda i bobl sy'n byw yn Lloegr hefyd.
914
Ond cyfrifoldeb awdurdodau lleol yw hynny, nid Llywodraeth Cymru. Ond a gaf i ddweud yn fwy eang mae'n hollbwysig sicrhau, ac mae hyn yn mynd i ddigwydd, bod y Cynulliad hwn ddylai gael y cyfrifoldeb ynglŷn â gwasanaethau bysiau? Er enghraifft, am flynyddoedd, wrth gwrs, mae wedi bod yn wir fod comisiynydd traffig ym Mirmingham yn rheoli Cymru. Nid yw hynny'n iawn yn y pen draw. Wrth gael y pwerau hynny, byddai'n rhwyddach i ni fel Llywodraeth ac i'r Cynulliad hwn sicrhau bod gwasanaethau yn cael eu rhedeg yn y ffordd byddem ni ei heisiau. Ynglŷn â'r metro, mae yna astudiaethau wedi dechrau yn barod er mwyn datblygu achos busnes i symud y metro ymlaen. Rydym ni'n gweithio gyda rhanddeiliaid mewn trafnidiaeth er mwyn gweld ym mha ffordd allwn ni symud y project ymlaen yn y pen draw.
915
Diolch i chi am yr ateb yna, Brif Weinidog. Amcangyfrifwyd bod y farchnad fewnol yn y GIG yn Lloegr yn costio hyd at £10 biliwn y flwyddyn. A fyddech chi'n cytuno â mi bod ymrwymiad Llywodraeth Lafur Cymru i beidio â chael unrhyw farchnad fewnol yn y GIG yng Nghymru wedi bod o fudd aruthrol i gleifion, a'i fod yn ymrwymiad a fydd yn parhau?
916
Rwyf wedi derbyn dau gwestiwn brys o dan Reol Sefydlog 12.66, ac rwy'n galw ar Bethan Jenkins i ofyn y cwestiwn cyntaf.
917
Lywydd, mae'n peri cryn bryder i mi bod y Prif Weinidog, gan gofio mai yn ei etholaeth ef y mae hyn, wedi gadael ar yr union gwestiwn hwn gan fy mod eisiau cyfeirio yn gynharach at yr hyn a ddywedodd o ran Brexit gan fy mod yn rhannu ychydig o sinigiaeth ynghylch bod hyn yn ymwneud yn gyfan gwbl â Brexit, o ystyried bod Ford yn gwmni amlwladol, ac ni wnaethant ddweud hyn cyn Brexit. Ers datganoli, mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi dros £43 miliwn o arian cyhoeddus yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr, buddsoddiad nid ansylweddol mewn ffatri nad yw ond yn 36 mlwydd oed, ac sydd hefyd yn defnyddio ychydig o adnoddau, os o gwbl, o Gymru. Credaf fod yr olaf o'r tair rownd o gyllid ar gyfer yr injan EcoBoost wedi'i thalu y llynedd. O ystyried hanes y cwmni yn Abertawe - ac mae'r creithiau gennyf o hyd, ochr yn ochr â brwydr pensiynau Visteon - pa sicrwydd ydych chi wedi gofyn amdano gan y cwmni na fydd yn cau'r gwaith ac yn gadael, gan adael y staff ar y clwt ac yna rhoi'r swm lleiaf posibl yn ôl i Gymru ar ôl cael cymaint o arian gennych chi fel Llywodraeth Cymru?
918
Mae'r rhan fwyaf o'r gweithwyr yn Ford Pen-y-bont ar Ogwr yn etholaeth fy nghyfaill, y Prif Weinidog, ond hefyd fy un innau. Wedi siarad â'r undebau a'r gweithlu a rheolwyr Ford eu hunain mae'n amlwg, er nad Brexit yw'r ffactor perthnasol yn y penderfyniad hwn - cynhyrchu llai o injans Dragon yw hwnnw - mae'n fater sy'n eu poeni oherwydd yr union fater hwn y mae'r Ysgrifennydd y Cabinet yn sôn amdano, sef bod, er mwyn sicrhau bod y ffatri hon yn llwyddiant, mae angen ailddyfeisio'r llinellau cynnyrch yn gyson yn y dyfodol, buddsoddiad newydd yn y llinellau hynny, a sicrhau bod Llywodraeth Cymru yn sefyll yn gadarn y tu ôl iddynt, fel yr ydym wedi ei wneud bob amser yn y gorffennol hefyd. Mae hwn yn weithlu hynod o dda. Maent yn fedrus iawn. Mae'n un o'r llinellau mwyaf cynhyrchiol yn Ewrop o unrhyw beirianwyr modurol. Mae ganddo ddyfodol da, ac mae'n rhaid i ni ganmol y ffatri, ond mae gan y gweithlu y pryderon hynny y bydd buddsoddiad yn digwydd mewn llinellau newydd yn y dyfodol mewn gwirionedd. Felly, ar y cyfle cynharaf y gallwn ehangu ar y cynlluniau hynny, byddai hynny'n ddefnyddiol iawn, oherwydd mae angen inni weld y swyddi hyn yn cael eu cynnal yn ne Cymru.
919
Ysgrifennydd y Cabinet, er ei fod yn siomedig bod y buddsoddiad arfaethedig ym Mhen-y-bont yn cael ei leihau, mae'n galonogol clywed Ford yn ailddatgan eu hymrwymiad i ffatri Pen-y-bont ar Ogwr a'i gallu gweithgynhyrchu hyblyg. Mae Ford a'r undebau yn gwrthod yr honiad bod y penderfyniad hwn unrhyw beth i wneud â Brexit. Cafwyd straeon codi braw arall yn y dyddiau diwethaf, gan ddweud bod y cyhoeddiad yn arwydd o fwriad Ford i gau'r ffatri, ond maent yn dal i wneud buddsoddiad helaeth yn y cyfleuster ym Mhen-y-bont ar Ogwr. Mae'n rhaid i ni wneud popeth posibl i sicrhau na fydd unrhyw golli swyddi o ganlyniad i benderfyniad Ford, ond nid oes llawer y gallwn ei wneud yn lleol i wrthweithio galw byd-eang. Ysgrifennydd y Cabinet, pa drafodaethau y mae Llywodraeth Cymru wedi'u cael gyda Ford ynghylch eu strategaeth buddsoddi yn y dyfodol ar gyfer ffatri Pen-y-bont ar Ogwr, ac a oes gan Lywodraeth Cymru unrhyw bryderon ynghylch ei buddsoddiad ei hun yn y ffatri?
920
Diolch i chi, Lywydd. Weinidog, diolch ichi am yr atebion yr ydych wedi eu rhoi. Rwy'n credu eu bod wedi rhoi eglurder mewn rhai meysydd. Rwyf yn croesawu eich ymyriad wrth ddweud eich bod am fynd i Detroit. Nododd y Prif Weinidog yn glir, fodd bynnag, wrth ymateb i mi yn y cwestiynau i'r Prif Weinidog, cyn belled ag y mae Ford yn y cwestiwn, mae'r datblygiadau parhaus yn y ffatri yn benderfyniad i Ford Ewrop i raddau helaeth, ac, yn y pen draw, bydd y penderfyniadau hynny yn cael eu cymryd yma yn eu pencadlys yn Ewrop. A allwch chi geisio mapio sut yr ydych yn gweld, wrth symud ymlaen felly, y penderfyniadau y mae angen eu gwneud, mewn ffordd gadarnhaol, gan Ford, a chan Lywodraeth Cymru, a'r pyrth, ac yn arbennig y dyddiadau allweddol y mae angen eu bodloni? Ydych chi'n ymwybodol o ddyddiadau allweddol ar gyfer buddsoddi y mae angen gwneud penderfyniadau ynglŷn â nhw yn y 18 mis i ddwy flynedd nesaf, er mwyn sicrhau dichonoldeb y ffatri yn y dyfodol, ac, yn bwysig, ble bydd y penderfyniadau hynny yn cael eu gwneud? A fydd hynny yn Detroit, lle y gwnaed y penderfyniad hwn, ynteu a fydd ym mhencadlys Ford Europe?
921
Diolch am y cwestiwn. Yn dilyn y cyfarfod teirochrog arferol diweddaraf rhwng Llywodraeth Cymru, Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru, cytunwyd y dylid codi'r tri sefydliad y gwnaethoch sôn amdanynt i statws ymyrraeth wedi'i thargedu yn ein fframwaith uwchgyfeirio ac ymyrraeth. Cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ar hyn i holl Aelodau'r Cynulliad ar 7 Medi.
922
Ysgrifennydd y Cabinet, siaradais â chadeirydd Hywel Dda dros y ffôn yn syth ar ôl i chi gyhoeddi eich datganiad. Yr hyn a ddeallais o'r sgwrs honno oedd bod y bwrdd iechyd yn rhoi croeso brwd i'r gefnogaeth y bydd Llywodraeth Cymru yn awr yn gallu ei darparu iddo. Rwy'n credu bod angen cofnodi nad mater o achub croen gan Lywodraeth Cymru yw hwn, ac nid yw'n fater o Lywodraeth Cymru yn caniatáu i'r byrddau iechyd fynd i'r wal, ond mae'n ymwneud â Llywodraeth Cymru yn ceisio symud i mewn, yn ceisio cefnogi a gwella'r ddarpariaeth ar gyfer y bobl sy'n cyfrif. Hynny yw, yn y pen draw, y claf. Bydd fframwaith y pedwar lefel uwchgyfeirio nawr yn ein galluogi i lunio siart o dueddiadau. Yn syml, byddwn nawr yn gallu gweld a yw pethau'n gwella neu a fydd angen rhagor o weithredu. Yn achos Hywel Dda a'r amseroedd aros, er enghraifft, rydym wedi gweld dirywiad yn y perfformiad dros rai blynyddoedd, gan gynnwys y cyfnod y bu dan statws monitro gwell. Ond mae cyferbyniad yma, ac rydym hefyd wedi gweld rhywfaint o welliant i amseroedd ymateb ambiwlans, er enghraifft. Felly, rwyf wir yn falch, Weinidog, ein bod wedi ymyrryd ac wedi cydnabod bod gwendidau. Yr hyn yr wyf yn gofyn i chi amdano yw eich bod yn rhoi adborth i ni, Ysgrifennydd y Cabinet - rwy'n ei chael hi'n anodd dod allan o'r arfer o ddweud 'Weinidog' - bod y Llywodraeth, drwy ymyrraeth wedi'i thargedu, bellach yn gallu cynghori a grymuso Hywel Dda i weithredu'r strategaeth a fydd yn gweld y newidiadau yr ydym i gyd yn gobeithio eu gweld.
923
Hoffwn ddechrau drwy ddatgan bod fy ngwraig yn gweithio i Fwrdd Iechyd Lleol Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi wedi tynnu sylw at rai o'r agweddau da sy'n digwydd, yn ogystal â thynnu sylw at yr ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer PABM mewn gwasanaethau canser a gofal heb ei drefnu ymlaen llaw. Pa waith monitro y byddwch yn ei wneud i sicrhau, wrth i ni weld, gobeithio, cynnydd yn y meysydd hynny a dargedwyd, na fyddwn yn gweld diffyg mewn meysydd eraill i wneud iawn am hyn? Pryd fyddwch chi mewn gwirionedd yn cyflwyno adroddiadau ac adroddiadau ar gynnydd i ni fel y gallwn weld sut mae'n gweithio mewn gwirionedd? Mae gennym y ffigurau diwedd blwyddyn, ond rydym eisiau gweld cynnydd drwy gydol y flwyddyn, felly a fyddwn ni'n cael yr wybodaeth ddiweddaraf yn y Cynulliad? A allwch chi ddweud wrthym hefyd pa gamau yr ydych wedi eu cymryd, gan fod rhai o'r pryderon yn amlwg yn gysylltiedig â materion adnoddau? A fyddwch chi'n cynnig cefnogaeth sy'n cynnwys ac yn cyflwyno mwy o adnoddau i rai o'r byrddau hynny er mwyn iddynt allu mynd i'r afael â'r materion hynny yr ydych wedi eu nodi?
924
Weinidog, diolch i chi am eich atebion y prynhawn yma. Byddwn ychydig yn llai hael nag Angela drwy ddweud bod 50 y cant o'r Byrddau Iechyd Lleol yn destun mesurau arbennig neu dan ryw fath o oruchwyliaeth y Llywodraeth ar hyn o bryd; mewn gwirionedd mae chwech ohonynt yn fyrddau iechyd sydd ag ysbytai cyffredinol dosbarth o fewn eu cylch gwaith, a dwy ran o dair ohonynt yn awr - pedwar ohonynt - dan ryw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth. Gobeithio y bydd hynny'n cael ei weld fel mesur defnyddiol ar gyfer y byrddau iechyd hynny fel y gallant symud ymlaen yn y meysydd lle y mae angen iddynt wneud hynny. Ond rwy'n credu nad yw hi'n afresymol gofyn y cwestiwn: am ba mor hir yr ydych yn rhagweld y lefel hon o ymyrraeth yn parhau, yn enwedig ar gyfer y tri diweddaraf i gael mynediad at y rhaglen gymorth hon gan y Llywodraeth, os ydych am ei galw'n hynny, neu ymyrraeth y Llywodraeth? Pryd all y staff a phryd all y cleifion gymryd rhyw fath o gysur yn y ffaith y bydd y byrddau iechyd lleol hyn yn dod i'r amlwg fel sefydliadau mwy annibynnol sy'n rhedeg y gwasanaethau o fewn eu maes rheolaeth?
925
Rwyf wrth gwrs yn pryderu bod Caerdydd a'r Fro yn wynebu ymyrraeth wedi'i thargedu ac ni fyddwn yn dymuno gwadu bod yno broblemau. Gwn fod y bwrdd iechyd yn awyddus iawn i weithio gyda'r Llywodraeth i wella'r sefyllfa. Ond rwy'n credu bod amgylchiadau arbennig yng Nghaerdydd sy'n cael effaith ar berfformiad ariannol Caerdydd a'r Fro yn hytrach na'i berfformiad clinigol. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet yn ymwybodol mai Caerdydd yw'r ddinas sy'n tyfu gyflymaf yn y DU, â'i phoblogaeth yn tyfu 10,000, rwy'n credu, bob blwyddyn. Yn amlwg mae hyn yn cael effaith enfawr ar y gwasanaeth iechyd, ac, wrth gwrs, mae'r Bwrdd Iechyd Lleol - Caerdydd a'r Fro - yn ymgymryd â'r achosion trydyddol a'r achosion cymhleth o ardal eang yng Nghymru, ac nid wyf yn gwybod faint y mae hynny'n cael ei adlewyrchu yn y cyllid a gaiff. Meddwl oeddwn i tybed a allai Ysgrifennydd y Cabinet wneud sylwadau ar hynny. Rwy'n meddwl hefyd ei bod yn bwysig cydnabod y gwelliannau mawr sydd wedi'u gwneud mewn perfformiad am yr union reswm o gynnig sicrwydd cyhoeddus. Felly, rwyf am wneud y pwynt bod amseroedd aros yng Nghaerdydd a'r Fro wedi gwella am saith chwarter yn olynol; bod amseroedd aros i gleifion brys yr amheuir bod canser arnynt wedi gwella 25 y cant mewn llai na blwyddyn; cafwyd gwelliannau mawr wrth drosglwyddo o ambiwlansys ac, yn benodol, mewn gofal strôc. Rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn cydnabod yn y datganiad hwn y cyflawniadau hynny gan ein bod ni am i'r cyhoedd gael sicrwydd, ac mae'r bwrdd iechyd yn awyddus i weithio gyda'r Llywodraeth i fynd i'r afael â'r hyn sydd yn fater ariannol.
926
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, erbyn hyn mae angen rhyw fath o ymyrraeth gan y Llywodraeth ar dros hanner yr holl fyrddau iechyd lleol. Mae fy mwrdd iechyd i yn derbyn ymyrraeth wedi'i thargedu oherwydd perfformiad gwael mewn gofal heb ei drefnu a gofal canser. Mae'r perfformiad gwael hwn yn rhoi bywydau pobl mewn perygl ac yn arwydd damniol o'n polisïau iechyd. Mae'n gwbl amlwg bod yna fethiannau difrifol ym maes gofal iechyd ar draws Cymru. Mae pobl Cymru yn haeddu GIG sy'n darparu'r gofal gorau posibl, ni waeth ble yr ydym yn byw na pha fwrdd iechyd sy'n ein gwasanaethu. Ysgrifennydd y Cabinet, beth yw'r ffordd ymlaen? A oes angen ymchwiliad annibynnol? A allwn ni ailedrych ar ein polisïau a'r ffordd yr ydym yn eu darparu? Mae'n rhaid i ni feithrin hyder yn y staff sy'n gweithio yn y GIG, ond hefyd yn y cleifion. Diolch.
927
Rydym yn symud ymlaen i'r eitem nesaf, sef y datganiad a chyhoeddiad busnes, ac rwy'n galw ar Jane Hutt.
928
Dyma'r ail set gylchol o ganlyniadau TGAU sydd wedi'u cyflawni ers lansio Her Ysgolion Cymru. Es i ymweld ag Ysgol Pentrehafod ac Ysgol Gyfun Treforys ar ddiwrnod canlyniadau'r TGAU, a chael gwybod bod Pentrehafod wedi cyflawni eu canlyniadau TGAU gorau erioed, ac y bu cynnydd o 17 y cant yn y graddau A* i C yn Nhreforys. A gaf i ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg wneud datganiad am lwyddiant Her Ysgolion Cymru?
929
Wel, rwyf innau hefyd yn croesawu yn ôl rheolwr busnes Plaid Cymru. Yn wir, rydym ni eisoes wedi cael sgwrs ac rydych chi wedi codi llawer o bwyntiau pwysig iawn ar gyfer y Cynulliad hwn - yn wir, pwyntiau pwysig iawn y bu'r Prif Weinidog yn rhoi sylw iddynt dros fisoedd yr haf. Nid wyf yn gwybod lle yr oeddech chi, ond roeddwn innau yn sicr yn cydnabod bod y Prif Weinidog ar flaen y gad, nid dim ond, wrth gwrs, o ran ein safle cyfansoddiadol, ond hefyd o ran effaith Brexit a'r ffordd ymlaen, yn cwrdd â Phrif Weinidog y DU, ac yn mynd i'r afael hefyd â llawer o'r pwyntiau yr ydych wedi'u gwneud. Ac, wrth gwrs, mae'n rhaid i ni gydnabod bod Bil Cymru yn dal i fod ar ei ffordd. Gwnaeth y Prif Weinidog ei safbwynt ynglŷn â Bil Cymru yn glir iawn pan gawsom y ddadl ar Araith y Frenhines ac yn wir, daeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru yma ym mis Gorffennaf. Mae gennyf ddiddordeb, hefyd, i glywed am weithgarwch y Llywodraeth dros yr haf, a bydd Aelodau'n ymwybodol y bu, mewn gwirionedd, 28 o ddatganiadau ysgrifenedig ynglŷn â'r camau y mae'r Llywodraeth wedi eu cymryd, ers fy natganiad busnes diwethaf, ac, wrth gwrs, rydym ni'n parchu'n fawr y ffaith nad ydym am i bobl feddwl ein bod yn cymryd camau heb ymgynghori neu graffu'n llawn ar y pwynt trwy gydol y toriad, ond rydym ni wedi bod yn glir iawn ein bod wedi bod yn llywodraeth weithredol, ragweithiol, yn bwrw ymlaen â'n cyfrifoldebau drwy gydol y toriad, ac yn cyflawni ein cyfrifoldebau. Felly, mae'r rhain i gyd yn faterion, wrth gwrs, a fydd yn cael eu trafod maes o law.
930
Diolch i Paul Davies am y cwestiwn hwnnw. Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth yn rhoi diweddariadau rheolaidd i'r Aelodau. Yn wir, cefais gyfarfod â chyfarwyddwr BT Cymru yr wythnos diwethaf ac roeddwn i'n falch iawn i glywed eu bod yn cyrraedd dros 90 cant o fy etholaeth i, Bro Morgannwg. Ond mae'n rhaid i ni gydnabod bod Llywodraeth Cymru, hyd yn hyn, wedi gwario £32 miliwn ar ddarparu mynediad band eang cyflym iawn i dros 113,000 o gartrefi a busnesau, a hynny'n amlwg yn ardaloedd Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, drwy brosiect Cyflymu Cymru, a chyrhaeddwyd o leiaf 93 y cant o ardal fenter y Ddau Gleddau, a gwn y byddwch yn croesawu hyn. Mae'n bwysig cydnabod hefyd fod gennym y cynllun Allwedd Band Eang Cymru, y cynllun taleb gwibgyswllt, a bod hynny yn rhoi mynediad at fand eang cyflym i 167 o eiddo yn Sir Benfro. Rwy'n credu ei bod yn bwysig cydnabod hefyd y cyhoeddodd Llywodraeth y DU tua diwedd 2014 ei bod wedi dod i gytundeb sy'n rhwymo'n gyfreithiol gyda gweithredwyr rhwydwaith ffonau symudol, gan fuddsoddi cyfanswm cyfunol o £5 biliwn ar welliannau seilwaith. Felly, yn amlwg mae yna ddiweddaru - . Bydd y Gweinidog hefyd, yn ogystal â rhoi diweddariad ar eich etholaeth eich hun, hefyd yn rhoi diweddariad ar sail Cymru gyfan o ran band eang cyflym iawn, sy'n allweddol i'n seilwaith, yn amlwg.
931
Mae Julie Morgan yn codi yn nodwedd bwysig iawn o fywyd Cymru heddiw. Mae Cymru yn arwain y ffordd o ran hyfforddiant ffrindiau dementia, a bydd llawer yn ymwybodol o'r ymateb enfawr ar y penwythnos i'r daith gerdded ym Mae Caerdydd, ddydd Sul. Credaf, o ran lansio'r hyfforddiant ffrindiau dementia, a gefnogir gan gyllid Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, fod gennym dros 35,000 o ffrindiau dementia, fod gennym nifer o gymunedau sy'n ystyriol o ddementia, ac rwy'n siŵr eu bod wedi'u cynrychioli ym mhob un o'n hetholaethau. Ac mae'r rhai sy'n dilyn hyfforddiant ffrindiau dementia yn cynnwys busnesau, yn ogystal â'r sector cyhoeddus, ac yr wyf i'n gwybod am nifer o Aelodau'r Cynulliad a swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd sydd wedi derbyn hyfforddiant ffrindiau dementia. Rwy'n siŵr y bydd hyn yn fater i'w drafod.
932
Diolch i chi, Nick Ramsay. Mewn gwirionedd, cyfarfu Ysgrifennydd y Cabinet â Network Rail ddoe. Rwyf i wedi fy mhlesio'n fawr iawn gan sut yr ydym ni i gyd fel Aelodau Cynulliad wedi cael gwybod, wedi cael ein hysbysu ac wedi cael diweddariadau am y datblygiad, oherwydd, wrth gwrs, bydd yn arwain at y trydaneiddio holl bwysig. Ond gallwn ni eich sicrhau bod Ysgrifennydd y Cabinet wedi cyfarfod â nhw, a bydd yn rhoi diweddariad i'r holl Aelodau ar y datblygiad.
933
Wel, wrth gwrs, mae'r Aelod ar gyfer rhanbarth y gogledd yn llygaid ei le am ba mor bwysig y mae'r cais hwn i'r gogledd a'r ffaith ei fod yn cynnwys y chwe awdurdod ynghyd â chefnogaeth is-gangellorion, sefydliadau addysg bellach, yr heddlu a'r holl awdurdodau sy'n gwneud gwahaniaeth i les a datblygiad economaidd y gogledd. Mae Ysgrifennydd y Cabinet, wrth gwrs, yn ymwneud yn agos â hyn. Rydym yn aros am ymateb y Canghellor newydd i, yn wir, bolisi'r 'Northern Powerhouse' a sut y mae'r datblygiadau hynny yn cael eu dwyn ymlaen gan Lywodraeth y DU, ond rydym yn credu bod yma gyfle i ni ddweud heddiw, 'Rydym yn annog Llywodraeth y DU i gymeradwyo bargen twf gogledd Cymru.'
934
Credaf fod Andrew RT Davies yn ymwybodol iawn o'r ffaith mai Cyngor Bro Morgannwg sy'n gyfrifol am reoli prosiect Five Mile Lane. Ac rwy'n falch, unwaith eto, ein bod yn cael y cyfle i groesawu'r ffaith fod Llywodraeth Cymru yn buddsoddi yn natblygiad hollbwysig Five Mile Lane - ffordd hollbwysig, fel y gwyddom, yn yr etholaeth. Rwy'n tybio, yn cwestiynu ac yn annog yr Aelod i drafod hyn â Chyngor Bro Morgannwg. Rwy'n siŵr y bydd yn dymuno cyfarfod â chi i ddweud wrthych am gynlluniau'r prosiect, oherwydd y nhw sy'n gyfrifol. Wrth gwrs, mae croeso i chi gysylltu â mi ag unrhyw dystiolaeth yr hoffech ei chyflwyno o gwestiynau a ofynnwyd i'r Llywodraeth, ond mae'n fater o wneud yn siŵr eich bod yn deall pwy sy'n gyfrifol am beth o ran rheoli prosiectau yn strategol, fel yr ydym ni, gan sicrhau bod yr arian ar gael ar eu cyfer.
935
Diolch i chi, Lywydd. Arweinydd y tŷ, fel y gwyddoch, heddiw yw diwrnod sepsis y byd. Rwy'n datgan fod hwn yn bwnc sy'n agos iawn at fy nghalon, ac yr wyf am sicrhau bod y cyhoedd yn meithrin gwell dealltwriaeth o'r salwch hwn nad yw'n cael ei adnabod yn aml. Mae'r salwch yn taro yn gyflym ac yn lladd traean o'i dargedau. Mae'n anafu traean arall mewn rhyw ffordd ac yn eu gadael â phroblemau o bob math, ac eto trwy ei ddarganfod yn ddigon cyflym a'i drin yn briodol, mae pobl yn goroesi ac yn goroesi'n dda. Y broblem yw bod sepsis yn ymddangos mewn sawl gwedd, ond fe geir arwyddion cyffredin. Nid yw'r cyhoedd yn adnabod y rhain, nid yw meddygon teulu yn aml yn eu hadnabod, ac nid yw staff unedau damweiniau ac achosion brys, hyd yn oed, yn eu hadnabod, fel y gwn o brofiad personol. Meddwl oeddwn i, arweinydd y tŷ, tybed a allwch chi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet gyflwyno datganiad byr i'r Siambr yn amlinellu ei gynlluniau i helpu i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd a staff meddygol o'r cyflwr hwn, yn enwedig trwy gysylltiadau cyntaf, sef y meddygon teulu a staff unedau damweiniau ac achosion brys, gan fod yna arwyddion rhybuddio cynnar clir o'r salwch dinistriol hwn. Pan gaiff ei ganfod yn gynnar, mae pobl yn byw; pan gaiff ei ganfod yn rhy hwyr, mae pobl yn marw.
936
Ac yn awr rŷm ni'n symud ymlaen i'r eitem nesaf ar yr agenda, sef datganiad gan y Prif Weinidog ar yr Undeb Ewropeaidd a'r trefniadau pontio. Rwy'n galw ar Carwyn Jones.
937
Ond cefais fy annog gan yr hyn a ddywedodd y Prif Weinidog yn ei ymateb i arweinydd yr wrthblaid, oherwydd nid oes angen i ni fabwysiadu unrhyw fodelau sydd eisoes yn bodoli. Yr hyn sydd ei angen arnom yw ateb sydd wedi ei gynllunio gan Brydain ar gyfer y dyfodol.
938
Diolch, Lywydd. Byddaf yn wir yn cadw fy sylwadau'n fyr iawn. Gwnaeth un foment benodol yn y datganiad fy nharo i a rhai pobl eraill ar y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol, ac roedd tua diwedd y datganiad, pan ddywedodd y Prif Weinidog: 'Wrth i ni ystyried perthynas sydd wedi'i newid gyda'n cymdogion yn Ewrop, mae'n rhaid i ni hefyd ystyried perthynas sydd wedi'i newid yma yn y DU.' Mae'n mynd ymlaen ar ddiwedd y paragraff hwnnw i ddweud: 'Mae angen i ni gadw dychymyg a meddwl agored i ddatblygu DU newydd, ddeinamig a chadarn.' A yw o'r farn bod yna feddwl agored yn hyn o beth, ac os nad oes, sut ydym ni'n agor meddyliau pobl?
939
Yr oeddwn yn gobeithio y byddai safbwynt Llywodraeth Cymru yn cael ei egluro, ond rwy'n fwy dryslyd nawr nag erioed o'r blaen. Roedd yn ymddangos bod y Prif Weinidog yn mabwysiadu polisi cyfan UKIP, gan lamu dros y Ceidwadwyr a chyhoeddi ei fod o blaid cytundeb masnach rydd, oherwydd byddai aelodaeth o'r Ardal Economaidd Ewropeaidd yn gofyn am ryddid i symud. Nid yw hynny'n swnio fel arweinyddiaeth; mae hynny'n swnio fel ildio i mi. Felly, os ydw i'n anghywir, efallai y gall y Prif Weinidog egluro'r sefyllfa. Yn benodol o ran y dull pedair cenedl, a yw'n diystyru'r posibilrwydd o Brexit anghymesur, os dymunwch chi? Clywsom am flynyddoedd lawer am optio allan o reolau Ewrop. A allem gael sefyllfa lle, os byddai budd cenedlaethol Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon yn wahanol, bod gennym drefniadau optio i mewn i reoliadau amgylcheddol, i hawliau gweithwyr, a pherthynas wahanol â'r sefydliadau Ewropeaidd a allai o bosibl gael eu dewis ar gyfer Lloegr? Ac yn olaf, er mwyn caniatáu trafodaeth lawn ac eang, lle y gallai'r buddiannau cenedlaethol dargyfeiriol hynny gael eu mynegi yn y cyfnod sy'n arwain at weithredu erthygl 50, ond hefyd yn bwysicaf fyth yn y trafodaethau ar ôl hynny, ai nawr yw'r amser i adolygu'r concordat ar faterion yr UE rhwng y deddfwrfeydd datganoledig a Llywodraeth y DU er mwyn, mewn gwirionedd, i'r gwahanol safbwyntiau hynny gael eu mynegi yn gyhoeddus ond hefyd mewn trafodaethau â sefydliadau'r UE?
940
Byddaf yn ei gadw'n eithaf byr, gan ein bod yn brin o amser. Brif Weinidog, a ydych chi'n cytuno ag ymgeisydd ar gyfer arweinyddiaeth eich plaid a'r AS dros Bontypridd, Owen Smith, y dylem wrthod ewyllys democrataidd pobl Cymru a'r Deyrnas Unedig ac ailymuno â'r UE, mabwysiadu'r ewro a chael ffiniau agored drwy'r parth Schengen?
941
Rwy'n credu ei bod yn anochel bod symudiad rhydd o bobl yn fater dadleuol. Rwy'n credu y byddai'n anodd awgrymu bod pobl wedi pleidleisio o blaid symudiad rhydd o bobl - o ystyried fy mod wedi clywed hynny gymaint o weithiau ar garreg y drws - gan iddynt bleidleisio i adael yr UE. Rhan o'r broblem yw na allwn gael rhestr lawn o'r rhesymau pam fod pobl wedi penderfynu gadael yr UE. Rwy'n clywed yr hyn y mae Plaid Cymru yn ei ddweud, ond mae'n rhaid i chi dderbyn yr hyn a ddywedodd y refferendwm, ac mae'n rhaid i ni geisio deall yr hyn y mae ar bobl Cymru ei eisiau a cheisio dod o hyd i ffordd ymlaen y bydd y mwyafrif o bobl Cymru mewn gwirionedd yn awyddus i'w chefnogi. I mi, yr hyn sy'n hynod bwysig yw symudiad rhydd o nwyddau a gwasanaethau a mynediad at y farchnad sengl. Mae'n sicr, heb hynny, na all busnesau Cymru ac economi Cymru ffynnu. Tu hwnt i hynny, wrth gwrs, mae nifer o bwyntiau trafod na ellir eu datrys yr wythnos hon na'r mis nesaf, na'r mis ar ôl hynny, ond bydd angen eu datrys yn ystod y cyfnod o ddwy flynedd yn dilyn sbarduno erthygl 50.
942
Rwy'n credu bod yn rhaid i'r Aelod dderbyn na enillodd ei phlaid yr etholiad. Maent eisoes wedi colli un Aelod mewn dim o dro. A dweud y gwir, nid wyf am gael fy narlithio gan blaid nad yw pob un o'i haelodau yn byw yng Nghymru - yn siarad am ymrwymiad i'n gwlad. Mae pobl nad ydynt yn byw yn ein gwlad, ac eto yn dal yn awyddus, mae'n debyg, i gael eu talu i orfod gwneud hynny. Mae hynny'n gwbl hurt. O'n safbwynt ni, mae'n rhaid i ni barchu yr hyn y dywedodd y Cymry. Mae'n rhaid i ni geisio dehongli, hyd eithaf ein gallu, yr hyn a ddywedwyd ganddynt, oherwydd nid oes eglurder, ar wahân i'r ffaith eu bod wedi pleidleisio i adael yr Undeb Ewropeaidd. Ond, yr hyn nad ydynt ei eisiau yw bod mewn sefyllfa lle maent yn canfod eu hunain mewn sefyllfa waeth yn economaidd. Rwy'n gwybod, cyn belled ag y mae UKIP yn y cwestiwn, bod y byd yn lle syml lle y gall pethau syml gael eu gwneud mewn cyfnod byr o amser. Nid dyna'r ffordd y mae'r byd mewn gwirionedd. Felly, o'n safbwynt ni, rydym yn awyddus i barchu barn pobl Cymru. Am flynyddoedd, nid oedd ei phlaid am i'r lle hwn fodoli. Nawr, maent yma; iawn, maent wedi derbyn realiti democratiaeth. Rydym ni wedi gwneud yr un peth ac, fel mae ei phlaid hi yn honni ei bod wedi ei wneud, byddwn ni'n gwneud yr un peth.
943
Mae bellach yn dweud nad yw am ymyrraeth o Frwsel, ond y dylai fod ymyrraeth o Lundain. Lle mae hynny'n gadael ffermwyr Cymru? Y realiti yw bod gennym system hollol wahanol o dalu a system gyfrifiadurol wahanol. Ceisio dod â phedair system ynghyd - pob lwc â hynny. Rydym ni, am gyfnod hir, wedi dweud y byddwn yn teilwra ein polisïau er lles ffermwyr Cymru. Yr hyn y mae ei angen arnom yw gwarant o'r arian - yr arian hwnnw a oedd yn dod i ffermwyr Cymru o Ewrop: £260 miliwn o gymorthdaliadau ffermio. Dywedodd ef, a dywedodd ei blaid, na fyddai ceiniog o hwnnw'n cael ei golli. Os oes gennym yr arian hwnnw, gallem weithredu polisi ffermio sy'n ennyn cefnogaeth y bobl sy'n byw yng nghefn gwlad Cymru, yn hytrach na cheisio defnyddio hyn fel esgus i gymryd pwerau oddi wrth gorff etholedig pobl Cymru. Rwyf yn dweud yn awr wrtho ef a phobl eraill yn y Siambr hon: os yw hyn yn mynd i gael ei ddefnyddio fel esgus i ganoli grym yn y DU i ffwrdd o bobl Cymru, yr Alban a Gogledd Iwerddon, bydd yn gweld gwrthwynebiad cryf yn y Siambr hon a thu allan iddi.
944
Diolch yn fawr, Lywydd. Ddoe gosodais y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) ynghyd â'r memorandwm esboniadol gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru.
945
Diolch yn fawr iawn. Mae gen i nifer o siaradwyr. Rwy'n mynd i geisio rhoi cyfle i bawb, ond rydych yn dibynnu ar eich cydweithwyr i fod yn gryno hefyd. Neil McEvoy.
946
Diolch, Ddirprwy Lywydd. Yn gyflym iawn, oherwydd rwy'n gwybod nad oes gennym lawer o amser, hoffwn longyfarch ein holl ferched a dynion o'r maes chwaraeon sydd wedi ein gwneud ni mor falch. Rwy'n falch iawn bod Ysgrifennydd y Cabinet yn pwysleisio chwaraeon ar lawr gwlad a chwaraeon cymunedol. A all ef fy sicrhau y bydd unrhyw arian a roddir gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio'n gyfartal er lles menywod a dynion? Oherwydd rwy'n meddwl ei fod wedi dweud yn ei ddatganiad bod £1 filiwn y flwyddyn o arian Llywodraeth Cymru wedi mynd i annog pêl-droed ar lawr gwlad. Rwy'n treulio cryn dipyn o amser ar gaeau pêl-droed ar fore Sadwrn a bore Sul ac nid wyf yn gweld llawer o ferched yn chwarae, a bod yn hollol onest. Bechgyn yw'r mwyafrif a dim ond ambell i ferch. Rwy'n gwybod bod llawer mwy o bwyslais ar bêl-droed merched a phêl-droed menywod nawr a llawer mwy o gyhoeddusrwydd a llawer mwy o gydnabyddiaeth ei bod yn bwysig iawn bod merched a dynion yn elwa o chwaraeon, ond roeddwn yn meddwl tybed pa fonitro y mae'r Llywodraeth yn ei wneud mewn gwirionedd i sicrhau bod yr arian yr ydym yn ei roi gan y Llywodraeth yn mynd yn gyfartal i'r ddau ryw. O ran Gemau'r Gymanwlad, roeddwn yn siomedig iawn na wnaethom gynnig am Gemau'r Gymanwlad, oherwydd roeddwn yn teimlo ei fod yn gyfle enfawr. Es i Glasgow a gallech weld y trawsnewidiad i'r ddinas yn ystod y cyfnod hwnnw a thrwy'r etifeddiaeth barhaol. Felly rwy'n falch o glywed y byddem yn ystyried gwneud cynnig am Gemau'r Gymanwlad yn y dyfodol, ac rwy'n gobeithio y byddem yn gallu cynnwys aelodau'r awdurdodau lleol i wneud cynnig a allai ddod â chymaint i Gymru.
947
Iawn, diolch. Galwaf ar y ddau siaradwr terfynol, ond os gallant gadw at gwestiynau, oherwydd rwy'n meddwl bod eich holl lefarwyr neu bobl wedi siarad o'r pleidiau. Felly, Suzy Davies.
948
Mae'r Aelod yn iawn - mewn gwirionedd, mae gorgyffwrdd mawr rhwng digwyddiadau chwaraeon a diwylliannol, ac mae digwyddiad diwylliannol ynghlwm â llawer o'n digwyddiadau chwaraeon mwyaf hefyd. Er enghraifft, mewn cysylltiad â rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr, caiff llawer o weithgareddau o natur ddiwylliannol eu hyrwyddo o amgylch y ddinas y flwyddyn nesaf. O ran rhai o'r digwyddiadau mawr sy'n cael eu dosbarthu fel rhai diwylliannol, mae gennym rai o'r rhai mwyaf llwyddiannus yn Ewrop, fel Gŵyl y Gelli a Gŵyl y Dyn Gwyrdd, sy'n rhoi cyfleoedd enfawr unwaith eto i bobl wirfoddoli. Felly, mae'r gorgyffwrdd yn digwydd, ond mae'n rhywbeth lle rydym yn hyrwyddo twf yn uniongyrchol a thrwy'r cyrff noddi cenedlaethol - Chwaraeon Cymru a Chyngor Celfyddydau Cymru - ac rwy'n ymwybodol bod trafodaethau wedi cael eu cynnal rhwng prif gadeiryddion y ddau sefydliad i sicrhau, pan fydd digwyddiadau mawr yn cael eu cynnal gan ganolbwyntio'n arbennig naill ai ar chwaraeon neu'r celfyddydau, bod cyfleoedd i'r ochr arall a sefydliadau eraill o'r corff arall allu cymryd rhan a hyrwyddo digwyddiad a ddylai fod yn ddigwyddiad cymysg i bobl o bob oedran. O ran edrych ar y dyfodol yn achos digwyddiadau mawr cynaliadwy, hoffem hefyd weld ein teulu o ddigwyddiadau domestig yn tyfu. Mae gennym nifer dda o weithredwyr digwyddiadau mawr yng Nghymru, ond drwy ariannu digwyddiadau llai yn strategol ledled Cymru, rydym yn gallu sicrhau eu bod yn tyfu a gwneud yn siŵr bod gennym nifer da o gwmnïau digwyddiadau mawr o Gymru sy'n tyfu ac yn manteisio ar y digwyddiadau mwy wrth wneud hynny. Dylwn fod wedi ychwanegu hefyd bod y rhestr darged o ddigwyddiadau mawr ar gyfer y dyfodol yn cynnwys trawstoriad o ddigwyddiadau chwaraeon a diwylliannol ac y bydd hefyd yn canolbwyntio'n arbennig ar ddigwyddiadau menywod, boed hynny mewn chwaraeon neu mewn diwylliant.
949
Mae'r Aelod yn codi pwynt pwysig iawn, a dweud y gwir, yng nghyd-destun Gemau'r Gymanwlad, hefyd, oherwydd, mewn llawer o achosion, pan fyddwn yn denu digwyddiadau mawr i Gymru, nid ydym yn berchen ar y digwyddiadau hynny. Felly, perchnogion y digwyddiad fydd yn pennu pwy sy'n cymryd rhan o ran trefnu'r atebion logistaidd i'r problemau y mae'r digwyddiadau'n aml yn gallu eu cyflwyno. Felly, mae'n hanfodol ein bod hefyd yn tyfu ac yn denu nid yn unig ddigwyddiadau sydd wedi'u gwasgaru'n gyfartal o amgylch Cymru, ond digwyddiadau sydd hefyd o wahanol faint, fel bod ein trefnwyr digwyddiadau brodorol yn gallu manteisio arnynt ar bob lefel, ac, fel y dywedais yn fy ateb i'r cwestiynau blaenorol, yn gallu tyfu, hefyd, a manteisio, flwyddyn ar ôl blwyddyn, ar ddigwyddiadau mwy a mwy. O ran y gogledd, rwy'n meddwl, a dweud y gwir, bod hyn unwaith eto'n tynnu sylw at pam y gwnaethom wneud y penderfyniad cywir am Gemau'r Gymanwlad. Byddem wedi bod wrth ein bodd i allu cynnal Gemau'r Gymanwlad a fyddai o fudd i Gymru gyfan. Ond pe baem wedi bwrw ymlaen â Gemau'r Gymanwlad sy'n cael eu cyfyngu'n ddaearyddol i'r de-ddwyrain, yna, wrth gwrs, byddai hynny wedi cael effaith ar y gogledd. Rwy'n gwybod bod yr Aelod yn awyddus iawn i hyrwyddo cynnig potensial am Gemau'r Ynysoedd a hefyd y Triathlon Sandman, a gynhelir yn etholaeth fy nghydweithiwr. Mae'n gwbl hanfodol ein bod yn rhannu'r cyfoeth; ein bod yn gwneud yn siŵr bod digwyddiadau mawr o fudd i bobl ym mhob cwr o Gymru. Ond o ran defnyddio ein hadnoddau gwerthfawr ar gyfer un digwyddiad mewn un ardal, yn syml ni fyddwn yn gweld hynny.
950
Diolch. Rwy'n falch o agor dadl heddiw sy'n cynnig bod Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn nodi blaenoriaethau Llywodraeth Cymru ar gyfer camddefnyddio sylweddau fel y'u nodir yn ein cynllun cyflawni newydd ar gamddefnyddio sylweddau 2016-18.
951
Diolch yn fawr. Rydym ni'n nodi'r adroddiad yma heddiw. Mi gefnogwn ni y gwelliannau gan y Ceidwadwyr hefyd. Rwy'n edrych ymlaen i glywed ymateb y Gweinidog i rai o fy nghwestiynau, ond yn bennaf oll at allu edrych yn ôl ar lwyddiant yn y maes yma ar ôl gormod o fethiant yn y gorffennol.
952
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn gwelliant 1? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, fe dderbynnir gwelliant 1 yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
953
Yr eitem gyntaf y prynhawn yma yw'r cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig. Mae'r cwestiwn cyntaf gan Nathan Gill.
954
Diolch yn fawr iawn. Y mis nesaf, bydd fy awdurdod lleol ar Ynys Môn yn newid i gasgliadau sbwriel bob tair wythnos, ar ôl penderfynu yn erbyn casgliadau bob pedair wythnos am y tro. Ym mis Awst, llwyddodd pob un ond tri awdurdod lleol i gyrraedd eu targedau ailgylchu, sy'n dda iawn - hynny yw, mae hwnnw'n gyflawniad da - gan gynnwys pob awdurdod yng ngogledd Cymru. Yn achos Ynys Môn, llwyddasom i gyrraedd y targed hwnnw hefyd. Gwnaethom hynny wrth gasglu bob pythefnos. A allwch chi esbonio i bobl Ynys Môn pam ein bod yn awr yn newid i gasgliadau bob tair wythnos, sy'n teimlo i mi braidd fel pe baem yn cosbi pobl sydd wedi cyflawni yr hyn roeddent yn bwriadu ei gyflawni mewn gwirionedd?
955
Weinidog, ar ôl treulio llawer o oriau hapus yn cerdded 10 milltir y dydd drwy strydoedd Llanelli yn ystod yr ymgyrch etholiadol, bûm yn dyst uniongyrchol i'r broblem sbwriel sydd gennym yn y dref. Rwyf ar hyn o bryd yn trafod sefydlu tasglu sbwriel ar sail drawsbleidiol ar gyfer y dref gyda'r awdurdod lleol. Un o'r materion sy'n codi dro ar ôl tro gan breswylwyr ar Facebook yw canlyniad anfwriadol y canllawiau ar nifer y bagiau du y gellir eu rhoi allan ac effaith hynny ar gynnydd mewn tipio anghyfreithlon ar lonydd cefn. A allai'r Gweinidog roi ystyriaeth, wrth osod targedau ailgylchu, i'r canlyniadau anfwriadol posibl a sut y gellid eu lliniaru?
956
Mae fy nghwestiwn yn dilyn o'r ddau gwestiwn a ofynnwyd yn flaenorol mewn gwirionedd. Mae camau i dreialu casgliadau bob pedair wythnos yng Nghyngor Bwrdeistref Sirol Conwy yn achosi cynnwrf enfawr, gyda llawer o deuluoedd yn poeni bellach sut y maent yn mynd i allu ymdopi. Yn amlwg, mae'r pryderon yn ymwneud â biniau gorlawn a chynnydd mewn tipio anghyfreithlon. Mae tipio anghyfreithlon yng Nghymru yn costio £70 miliwn i'r amgylchedd bob blwyddyn. Beth yw eich ymateb i'r cynigion i newid i gasgliadau bob pedair wythnos - y rhai cyntaf yn y DU? Sut rydych yn gweithio gydag awdurdodau lleol i wella cyfradd lwyddiant sydd ond yn 0.2 y cant o ran gorfodi ac erlyn y rhai sy'n euog o dipio'n anghyfreithlon?
957
Dros yr haf, traeth Newgale yn sir Benfro oedd un o'r cyntaf yng Nghymru i gymryd rhan mewn ymgyrch i dacluso ein traethau. Roedden nhw'n gofyn i bobl ymuno gyda'r ymgyrch yma i gasglu sbwriel am ddwy funud. Fe wnes i hyn dros y penwythnos yn Whitesands. Hoffwn i ofyn a fyddech chi'n barod i gymeradwyo hwn fel ymgyrch ac a fyddech chi hefyd yn atgoffa pobl na fyddai angen i ni wneud hyn pe byddai pobl yn cymryd eu sbwriel nhw gartref yn y lle cyntaf.
958
Diolch. Lansiwyd gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru ym mis Ionawr eleni i gefnogi prosiectau ynni adnewyddadwy sy'n darparu budd lleol. Mae ein cefnogaeth barhaus ers 2010 wedi helpu cymunedau i gyflawni wyth cynllun sydd wedi eu cwblhau. Mae wyth arall yn cael eu hadeiladu ar hyn o bryd, gyda naw arall i'w hadeiladu erbyn diwedd 2017.
959
Diolch. Wel, mae fy swyddogion yn monitro effaith polisi ynni Llywodraeth y DU yn gyson er mwyn sicrhau y bydd y sector yn gallu parhau i gyflawni dros Gymru. Rwy'n credu bod diffyg cynnydd wedi bod oherwydd y newid yn y cymorth a welsom gan Lywodraeth y DU. Rydym yn edrych ar fodelau a all gynnal parhâd datblygiad ynni adnewyddadwy. Felly, er enghraifft, mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi'r treial Ynni Lleol ym Methesda, ar gynhyrchiant lleol a defnydd o'r ynni hwnnw yn y gymuned, i ddarganfod a all y model helpu prosiectau i weithio, heb orfod dibynnu wedyn ar gymorthdaliadau fel tariffau cyflenwi trydan. Rydym hefyd yn ystyried ffurf cymorth y tu hwnt i'r gwasanaeth Ynni Lleol cyfredol sydd gennym, sy'n mynd â ni hyd at fis Rhagfyr 2017. Yn amlwg, bydd angen i ba gymorth bynnag a gyflwynir gennym adlewyrchu'r newid rydym yn ei weld yn y sector ynni.
960
Nid wyf wedi cael y drafodaeth honno ers i mi gael y portffolio, ond gwn fod fy swyddogion yn cael y trafodaethau hynny, nid yn unig gyda'r gweinyddiaethau datganoledig, ond gyda Llywodraeth y DU hefyd.
961
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, rydych chi'n gwybod, efallai, bod Undeb Cenedlaethol yr Amaethwyr Cymru yn cynnal ymgyrch ar hyn o bryd i annog pawb i brynu o leiaf pum cynnyrch o Gymru. A fedrwch chi enwi'r pum cynnyrch diwethaf Cymreig y bu i chi eu prynu? A beth rydych chi'n ei wneud fel Gweinidog i ddiogelu bod cwsmeriaid yn gwybod bod eu cynnyrch nhw yn dod o Gymru?
962
Da iawn. Ac ychydig o seidr i olchi'r peth i lawr efallai. Gan droi at y sefyllfa bresennol yr ydym ni ynddi, wrth gwrs, mae Llywodraeth San Steffan wedi dweud yn glir y bydd taliadau cymorth fferm a thaliadau amgylcheddol o dan y polisi amaethyddol cyffredin presennol yn parhau o'u safbwynt nhw tan y flwyddyn 2020. A fedrwch chi felly gadarnhau yn y Siambr heddiw ei bod hi'n bolisi gan Lywodraeth Cymru i wneud yn union yr un peth ac na fydd felly unrhyw newid i daliadau fferm sengl yng Nghymru na'r taliadau o dan y cynllun datblygu gwledig tan y flwyddyn 2020?
963
Diolch i Ysgrifennydd y Cabinet am hynny, ond ni chlywais sicrwydd y bydd y taliadau'n parhau hyd at 2020. Pe bai hi'n gallu cadarnhau hynny, byddai'n ddefnyddiol i bawb sy'n rhan o hyn, rwy'n credu, oherwydd gallwn drafod wedyn beth fydd yn digwydd ar ôl hynny, ond o leiaf rydym yn gwybod beth sy'n digwydd yn awr. Y cwestiwn arall roeddwn am ei ofyn iddi oedd bod rhywfaint o ddryswch gan y Prif Weinidog ddoe ynghylch mynediad i'r farchnad sengl, a allai fod drwy drefniant masnach rydd, sy'n gallu cynnwys tariffau, neu aelodaeth o'r farchnad sengl, sy'n dod, wrth gwrs, gyda rhyddid i symud. O fewn y rhyddid i symud, a yw hi'n cytuno â mi, a Chanolfan Llywodraethiant Cymru hefyd, fod gweithwyr mudol yn chwarae rhan bwysig yn yr economi wledig? Mae Canolfan Llywodraethiant Cymru yn dweud hyn: Nid yw gwaith ymchwil ar ymfudwyr o'r Undeb Ewropeaidd i Gymru yn dangos unrhyw gynnydd cysylltiedig yn lefelau diweithdra dinasyddion y DU yn y sector, gyda mewnfudwyr yn gweithio mewn swyddi sy'n anodd eu llenwi, ac wrth gwrs, swyddi gwag tymhorol. Mae 34,000 o weithwyr a aned y tu allan i'r DU yn cael eu cyflogi yn y sector hwn. Felly, pa drafodaethau a gawsoch gyda Llywodraeth San Steffan ynglŷn â pharhad y gweithlu mudol pwysig hwn i amaethyddiaeth yng Nghymru, a chynhyrchiant bwyd hefyd wrth gwrs, sy'n gysylltiedig â hyn, ac onid yw'n amlwg, gan ein bod yn sôn am system sy'n seiliedig ar fisa o bosibl, neu system sy'n seiliedig ar bwyntiau, fod Cymru, o ddifrif, angen llais yn hyn, os nad ei pholisi mewnfudo ei hun?
964
Diolch, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, yn dilyn pleidlais refferendwm yr Undeb Ewropeaidd ym mis Mehefin, fe ddywedoch fod gadael yr Undeb Ewropeaidd yn cynnig cyfle i arfer dull a wnaed yng Nghymru mewn perthynas â ffermio. Yn sgil y datganiad hwnnw, pa gamau penodol y mae Llywodraeth Cymru wedi eu rhoi ar waith dros yr haf i ddileu TB buchol yng Nghymru?
965
Wel, nid yw gwneud datganiad yn yr wythnosau nesaf yn ddigon da, Ysgrifennydd y Cabinet, gan fod ffigurau'r Llywodraeth ei hun - eich ffigurau chi - yn dangos cynnydd o 37 y cant yn nifer y gwartheg a laddwyd yng Nghymru yn ystod y 12 mis hyd at fis Mai eleni, ac yn fy sir fy hun, Sir Benfro, roedd cynnydd syfrdanol o 61 y cant ers y flwyddyn flaenorol. Nawr, mae'n amlwg i mi nad yw'r Llywodraeth hon na Llywodraethau Llafur olynol yn trafferthu gyda materion gwledig, o ystyried eu methiant i fynd i'r afael â'r clefyd dinistriol hwn, sy'n parhau i fod yn falltod i'n ffermwyr. Felly, a wnewch chi ymrwymo yn awr i fynd ar drywydd pecyn mwy cynhwysfawr ar gyfer ymdrin â TB buchol sy'n cynnwys dull cyfannol o ymdrin â'r clefyd hwn, ac a wnewch chi gadarnhau nad oes unrhyw opsiwn na fyddwch yn ei ystyried, gan gynnwys, o bosibl, rhaglen wedi'i rheoli ar gyfer difa moch daear, er mwyn i ni allu mynd i'r afael â'r clefyd mewn gwartheg a bywyd gwyllt?
966
Ysgrifennydd y Cabinet, mae yna bryderon go iawn am ddyfodol y diwydiant ffermio yng Nghymru os nad eir i'r afael â'r mater hwn yn effeithiol ac yn effeithlon. Mae pryderon y bydd yn rhoi ffermwyr Cymru o dan fwy o anfantais hyd yn oed ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Felly, sut y byddwch chi, fel Ysgrifennydd y Cabinet dros faterion gwledig, yn gwarantu na fydd ffermwyr Cymru yn cael eu rhoi o dan anfantais oherwydd methiant Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r clefyd hwn hyd yn hyn? Ac a wnewch chi gadarnhau ar gyfer y diwydiant heddiw y bydd y Cynulliad hwn yn mynd i'r afael â TB buchol, fel y gall ffermwyr fod yn hyderus na fyddant yn dioddef cytundebau masnach gwannach ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd?
967
Wrth gwrs, mae siarad yn un peth a gweithredu'n beth arall. Rydym wedi gweld llawer o siarad a dim gweithredu. Mewn gwirionedd, mae'r sefyllfa hyd yn oed yn waeth, yn anffodus, na'r hyn a nododd Paul Davies oherwydd heddiw cyhoeddwyd y ffigurau ar gyfer y mis nesaf ar ôl mis Mai ac maent yn waeth hyd yn oed. Yn y 12 mis hyd at fis Mehefin 2016, cafodd 9,476 o wartheg eu lladd yng Nghymru - cynnydd o 43 y cant ers yr un cyfnod yn y 12 mis hyd at y llynedd. Felly, pa gamau pendant fydd yn cael eu rhoi ar waith yn y maes hwn? Mae pob un o'r achosion hyn yn drasiedi i'r ffermwyr dan sylw ac yn wir, wrth gwrs, i'r anifeiliaid sy'n cael eu lladd. Felly, rwy'n credu bod hwn yn fater sydd, yn rhy aml, yn cael ei esgeuluso neu ei anghofio'n wir gan bobl yn y Blaid Lafur. Am nad yw ffermwyr yn gyffredinol yn pleidleisio dros Lafur, nid oes ganddynt unrhyw ddiddordeb ynddynt o gwbl.
968
Ar 740 o achosion newydd mewn buchesi, o ran niferoedd, mae'n 740 set newydd o drasiedi ac nid wyf yn ystyried hynny'n dderbyniol mewn unrhyw fodd. O ran y trafodaethau sy'n digwydd ar hyn o bryd mewn perthynas â gadael yr Undeb Ewropeaidd, onid yw Ysgrifennydd y Cabinet yn deall y gallai hyn fod yn gwbl angheuol yn y trafodaethau hyn i fuddiannau ffermwyr Cymru? Oherwydd rydym i gyd yn cofio beth ddigwyddodd gyda BSE, ac ymhell ar ôl i BSE beidio â bod yn broblem hyd yn oed, nid oedd y Ffrancwyr yn caniatáu i gig eidion Prydain fynd i Ffrainc a gallaf yn hawdd weld, yn ystod y trafodaethau hyn, sut y gallai'r sefyllfa mewn perthynas â TB mewn gwartheg yng Nghymru yn arbennig fod yn rwystr mawr i allu Llywodraeth Prydain i drafod mynediad di-dariff i gynnyrch ffermio o Gymru.
969
Rwy'n ymwybodol iawn, wrth gwrs, fod Ysgrifennydd y Cabinet ar ochr aflwyddiannus y ddadl â phobl Cymru ar ba un a oedd yn beth da i Gymru aros yn yr UE. Roedd yn drawiadol fod y niferoedd mwyaf o bleidleisiau o blaid gadael yr UE mewn seddi y mae Llafur wedi eu hystyried yn draddodiadol yn seddi cryfaf eu cadarnleoedd, sy'n dangos cyn lleied o gysylltiad sydd gan y Blaid Lafur fodern â'u cefnogwyr traddodiadol eu hunain. Ond ar fater arall sydd hefyd o ddiddordeb mawr i ffermwyr Cymru, y parthau perygl nitradau: dywedwyd wrthym y byddai ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar hyn. A all Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthyf pa bryd y bydd yn dechrau, os yw'n mynd i ddechrau o gwbl? A yw hi'n deall y gallai hyn hefyd olygu cynnydd enfawr yn y costau i ffermwyr ar adeg pan fo incymau ffermio wedi bod yn plymio?
970
Diolch, Ysgrifennydd y Cabinet. Wrth gwrs, mae effeithiau canlyniadol y newidiadau i'r cyfrifiad argaeledd tir ar gyfer tai o dan y TAN1 diwygiedig bellach yn dechrau dod yn amlwg i breswylwyr yng Nghonwy ac ym mhob awdurdod ledled Cymru. Mewn ymateb i'r ymgynghoriad ar TAN 1, roedd awdurdodau cynllunio lleol yn gyffredinol yn anghytuno â defnyddio'r fethodoleg weddilliol yn unig ar gyfer cyfrifo'r cyflenwad o dir sydd ar gael ar gyfer tai - dull sydd, yn ôl Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn brin o realaeth ac yn agored i gael ei wyrdroi gan gyfraddau adeiladu i gynhyrchu canlyniadau afrealistig ac anghyraeddadwy, ac sy'n arwain at golli llawer o'n safleoedd maes glas ar yr un pryd. O ystyried sefyllfa o'r fath, Ysgrifennydd y Cabinet, a wnewch chi edrych ar hyn yn yr adolygiad o'r cynllun datblygu lleol i awdurdodau lleol ledled Cymru sy'n dod ym mis Hydref a chynnwys mwy o synnwyr cyffredin yn y broses mewn gwirionedd? Oherwydd, credwch fi, bydd y safleoedd sy'n cael eu cyflwyno yn awr yng Nghonwy yn ddinistriol a bydd colledion enfawr i'n safleoedd maes glas.
971
Mae angen cynyddu'r cyflenwad tai yng Nghymru, wrth gwrs, ond mae angen i'r tai hynny fod y math iawn o dai, ac mae angen iddyn nhw fod yn y llefydd iawn er mwyn diwallu gwir anghenion pobl Cymru. Yn eich datganiad chi ar y Ddeddf gynllunio yng Ngorffennaf eleni, gwnaethoch chi ddweud: 'Dylai Awdurdodau Cynllunio Lleol roi blaenoriaeth uchel i baratoi Cynlluniau Datblygu Strategol yn yr ardaloedd hynny lle mae rownd gyntaf y Cynlluniau Datblygu Lleol wedi'u cwblhau a lle ceir meysydd a fyddai'n elwa o gael eu hystyried dros ardal ehangach nag ardal un Awdurdod.' A ydw i'n darllen i mewn i hynny, felly, eich bod chi rŵan yn gweld bod angen adfer cydbwysedd yn y system gynllunio leol, lle yn aml mae'r tafluniadau poblogaeth wedi cael eu chwyddo allan o bob rheswm ac wedi arwain at ddatblygiadau niweidiol, i ddechrau yn ein cymunedau dinesig ni oherwydd gormodedd o safleoedd tir glas yn gorfod cael eu defnyddio ac, yn ail, yn y cymunedau Cymraeg, lle mae bygythiad i'r cydbwysedd ieithyddol?
972
Mae'r cynllun datblygu lleol yn rhoi fframwaith i drigolion ar gyfer herio ceisiadau cynllunio a chael llais yn yr hyn sy'n digwydd yn eu hardal. Heb y cynllun datblygu lleol, mae trigolion o dan anfantais ac mae'n rhoi cyfle i ddatblygwyr anwybyddu barn awdurdodau lleol a thrigolion. Pa fesurau sydd gan Lywodraeth Cymru i sicrhau bod gan bob awdurdod lleol gynllun datblygu lleol ar waith?
973
Diolch. Cafwyd lefel sylweddol o ymatebion i'r ymgynghoriad diweddar ar bysgodfeydd cregyn bylchog. Mae fy swyddogion wedi dadansoddi'r holl ymatebion ynghyd â'r dystiolaeth wyddonol ddiweddaraf. Ar hyn o bryd rwy'n ystyried cyngor a byddaf yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar ôl i mi wneud penderfyniad ynglŷn â'r bysgodfa arfaethedig ym mae Ceredigion.
974
Mae degau ar ddegau o bobl, yn llythrennol, wedi gofyn i mi am gyfarfod i drafod hyn ac fel y gwyddoch, nid oedd fy nyddiadur yn caniatáu hynny. Byddwn yn hapus iawn i gyfarfod â chi os ydych am gyflwyno rhai o'r pryderon, oherwydd nid oedd yn bosibl cyfarfod â phawb. Fodd bynnag, rydym wedi ystyried pob un o'r ymatebion. Mae'n fater cymhleth iawn, ac rwy'n awyddus iawn i gael cynllun morol. Rwyf eisoes wedi cyfarfod â swyddogion yr wythnos hon, ac fe fyddwch yn ymwybodol ei fod yn cael ei ddrafftio ar hyn o bryd. Mae canlyniad y refferendwm Ewropeaidd wedi creu ychydig o fwlch o ran cyflwyno'r cynllun morol, ond rwy'n gobeithio ymgynghori ar y cynllun drafft tua chanol y flwyddyn nesaf yn ôl pob tebyg.
975
Wel, ni chefais gynnig y dolffin trwynbwl. Rwy'n edrych ar fy nghyd-Aelod, Lee Waters, rhag ofn: y draenog oedd ef. Ond rwy'n credu bod y pwynt rydych yn ei wneud yn un pwysig iawn ac mae'n ymwneud â chael y cydbwysedd hwnnw, ac rwy'n ymwybodol bod anawsterau wedi bod yn ôl yn 2009-10 mewn perthynas â physgota am gregyn bylchog. Rwy'n credu mai'r neges y gallwch ei rhoi yw ein bod yn ystyried pob ymateb ac rydym am gael y cydbwysedd yn iawn. Nid yw hyn yn ymwneud ag un rhywogaeth yn unig: mae'n ymwneud â phob un o'n rhywogaethau.
976
Mae ein Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn ein galluogi i reoli adnoddau Cymru mewn ffordd fwy rhagweithiol, cynaliadwy a chydgysylltiedig. Mae ein targedau statudol ar newid hinsawdd a chyllidebu carbon yn helpu i ddarparu sicrwydd ac eglurder ar gyfer buddsoddi a busnes. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn rhoi i ni un o'r fframweithiau statudol mwyaf blaengar a chynhwysfawr yn y byd.
977
Ie, rwy'n cytuno'n llwyr â chi. Mae'n bwysig iawn fod ganddynt y pwerau hynny. Byddaf yn sicr yn edrych ar Cyfoeth Naturiol Cymru i wneud yn siŵr fod ganddynt y pwerau hynny. Rwy'n ymwybodol eich bod wedi ysgrifennu ataf droeon am fusnesau yn eich etholaethau eich hun ac rwy'n gwybod ein bod wedi gohebu. Ond byddaf yn sicr yn hapus iawn i edrych ar hynny gan ei bod yn bwysig iawn, er enghraifft, fod rheoliadau asesu effeithiau amgylcheddol - . Maent yn ei gwneud yn ofynnol i brosiectau gael - . Wyddoch chi, y rhai sy'n debygol iawn o gael effaith sylweddol ar yr amgylchedd, mae'n rhaid iddynt fod yn ddarostyngedig i gydsyniad cyn y gallant fwrw ymlaen, felly mae'n bwysig iawn fod hyn yn digwydd.
978
Cefais fy nghyfarfod cyntaf yr wythnos hon mewn perthynas â morlyn llanw bae Abertawe, ond ni edrychais yn fanwl ar y pwynt rydych yn ei grybwyll. Ond rwy'n hapus iawn i ysgrifennu atoch - i wneud hynny ac i ysgrifennu atoch.
979
Diolch yn fawr, Weinidog. Mae rhai amcangyfrifon yn awgrymu y gallai cynhyrchiant fferm gynyddu cymaint â 30 y cant drwy ddefnyddio data mawr a dadansoddeg. Mae meddylwyr blaenllaw ym maes arloesedd yn dweud mai amaethyddiaeth fanwl yw'r datblygiad pwysicaf yn y byd ffermio modern, gan annog defnydd effeithlon o adnoddau prin a lleihau'r defnydd o gemegau niweidiol. Byddwn yn annog y Gweinidog i fod yn feiddgar yn y maes hwn ac annog diwydiant newydd i Gymru. A wnaiff y Gweinidog gasglu bwrdd o arbenigwyr at ei gilydd i wneud yn siŵr ein bod yn gwneud popeth a allwn i fod ar y blaen yn y maes arloesedd pwysig hwn?
980
Weinidog, rwy'n falch iawn o glywed eich bod yn rhoi sylw i'r maes pwysig hwn, ond pa waith rydych chi'n ei wneud yn benodol, neu y mae eich swyddogion yn ei wneud, i ymgysylltu â'r sectorau addysg - nid addysg uwch yn unig, ond y sector addysg bellach hefyd - i wneud y gorau o'r manteision posibl y gall amaethyddiaeth fanwl eu cynnig i faint y cynnyrch, yn enwedig o ran cnydau, ar draws Cymru yn y dyfodol? Gwn fod llawer iawn o ddiddordeb yn y maes amaethyddol newydd hwn yng Ngholeg Llysfasi yn fy etholaeth fy hun, ac yn meddwl tybed pa waith, yn benodol, y gallech chi fod yn ei wneud gyda hwy.
981
Diolch. Ein polisi yw cyflwyno rhaglenni sy'n dod â phobl, grwpiau, busnesau a sefydliadau lleol at ei gilydd i ddarparu gwasanaethau i wella'r mannau lle maent yn byw neu'n gweithio. Mae galluogi pobl i ddiogelu eu hamgylchedd eu hunain yn ein helpu i drechu anghydraddoldeb amgylcheddol. Ar ben hynny, cyhoeddais ddatganiad ysgrifenedig ddoe ar lansio ymgynghoriad 12 wythnos ar sut y gall Cymru wneud yn well mewn perthynas â rheoli llygredd aer a sŵn.
982
Ie, diolch. Roedd y rhaglen Cynefin yn treialu ffordd newydd, rwy'n credu, o gynnwys cymunedau yn y rhaglenni a'r gwasanaethau cyflenwi lleol a oedd wedi'u llunio i fod o fudd iddynt. Rydym bellach wedi ymestyn ein contract gydag Asiantaeth Ynni Hafren Gwy am gyfnod o 12 mis er mwyn bwrw ymlaen â rhaglen cymorth cyflenwi ledled Cymru a fydd yn adeiladu ar y dysgu a'r arbenigedd a ddatblygwyd gyda rhaglen Cynefin. Rwy'n credu bod yn rhaid lledaenu'r momentwm a welsom gyda rhaglen Cynefin drwy ddylanwad Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac mae'n rhaid i'r momentwm hwnnw barhau. Rydym bellach yn gweithio gyda'r comisiynydd Cenedlaethau'r Dyfodol i ledaenu arfer gorau ymhellach wrth gynnwys cymunedau.
983
Ie, diolch, ac yn sicr rwy'n cymeradwyo Tesco. Ymwelais ag un yn fy etholaeth fy hun, wedi'i gefnogi gan Tesco. Rydym yn sicr wedi ymrwymo i weithio gyda chymunedau lleol er mwyn gwella mannau gwyrdd yn ein hardaloedd trefol.
984
Yn hollol. Nid oeddwn yn gwybod amdano yn Efrog Newydd yn benodol, ond byddwn yn hapus iawn i ofyn i fy swyddogion roi gwybodaeth i mi a byddaf hefyd yn siarad â Julie am y peth. [Torri ar draws.] Neu fynd yno - nid oeddwn yn mynd i ddweud hynny. [Chwerthin.]
985
Diolch. Cefais ymateb gennych mewn llythyr ar 18 Awst ar ôl i mi ysgrifennu atoch ynglŷn â'r Cydffederasiwn Diwydiannau Coedwigoedd - neu ConFor - gohebiaeth ar rwystrau i greu a rheoli coetiroedd masnachol yng Nghymru, a rhai atebion. Yn eich ateb fe ddywedoch fod eich rhagflaenydd wedi ymateb i'r un ddogfen ym mis Chwefror, ac wrth gwrs, roedd wedi gwneud hynny, ond maent hwy'n dweud mai ymateb i un o'r pwyntiau yn y ddogfen yn unig a wnaeth. Ysgrifenasant yn ôl ond oherwydd prysurdeb yr etholiad ni chawsant ateb i'r ohebiaeth honno. Dywedodd ei fod wedi gofyn i'w swyddogion archwilio eu hawgrym y dylid darparu cyngor ac arweiniad clir i ymgeiswyr gyda Cyfoeth Naturiol Cymru, ond nid ydynt wedi clywed unrhyw beth ers hynny. Fe gyfeirioch at y cynllun gweithredu ar gyfer creu 1,000 hectar o goetiroedd newydd erbyn 2020, ond mae eu haelodau wedi tynnu sylw at y rhesymau pam nad yw hyn yn debygol o lwyddo oni bai bod y rhwystrau'n cael eu datrys, ac maent yn dal i aros am ateb i'w cwestiynau i fwrdd Cyfoeth Naturiol Cymru ar ailstocio. Sut y byddwch chi, mewn ysbryd cadarnhaol - oherwydd maent hwy eisiau bod yn gadarnhaol ac yn adeiladol - yn ymgysylltu ac yn helpu i lenwi'r bylchau hynny fel bod modd bwrw ymlaen â deialog gadarnhaol er lles pawb, a'r amgylchedd naturiol yn arbennig?
986
Cyfarfûm yn ddiweddar â ffermwr yn fy etholaeth a oedd wedi clirio tir i greu coetir newydd o dan gynllun Glastir. Fodd bynnag, roedd yn cael problemau oherwydd bod y tir wedi ei oresgyn ers hynny gan Jac y Neidiwr, sy'n broblem ar bob rhan o dir ei fferm, ac roedd yna bosibilrwydd hefyd ei fod wedi lledaenu i lawr y bryn o un o safleoedd Cyfoeth Naturiol Cymru. Felly, roeddwn yn meddwl tybed a allech ddweud wrthym pa gamau y bydd Llywodraeth Cymru yn eu cymryd i fynd i'r afael â Jac y Neidiwr a rhywogaethau goresgynnol eraill yn ystod y pumed Cynulliad.
987
Rydym i gyd yn ymwybodol iawn o fanteision creu coetiroedd o ran bioamrywiaeth, gwasanaethau ecosystemau, lliniaru llifogydd, dal carbon a chymaint mwy o'n systemau naturiol pwysig ar gyfer y genhedlaeth hon a chenedlaethau'r dyfodol, ond rwy'n meddwl tybed a yw hi wedi cael amser i fyfyrio ar ei hymweliad â Choetir Ysbryd Llynfi - 30 hectar o dir wedi ei adfer o hen olchfeydd Maesteg a phwll glo Coegnant, a choetir gweithredol sydd ag ymgysylltiad aruthrol gyda'r gymuned leol. Nid y coetiroedd collddail a blannwyd a'r perllannau a'r harddwch naturiol yw'r unig bethau sy'n diffinio'r coetir, ond y ffaith ei fod wedi ei leoli yn un o'r ardaloedd lle mae'r ymyriadau sydd wedi eu targedu fwyaf ym maes iechyd ac addysg a materion eraill yn digwydd. Onid yw'n iawn fod cynllun gweithredu coetiroedd, ynghyd â Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol, yn golygu bod angen i ni weld y coed cywir yn y mannau cywir, ac mae hynny'n golygu eu plannu yn agos at gymunedau fel hyn?
988
Rwyf ar hyn o bryd yn ystyried y goblygiadau gyda rhanddeiliaid. Mae 95 y cant o fwyd a diod Cymru yn cael ei werthu yn y wlad hon, ac mae 5 y cant yn cael ei allforio. Mae 90 y cant o'r 5 y cant hwn yn cael ei allforio i'r Undeb Ewropeaidd. Rwy'n bwriadu diogelu a thyfu'r fasnach hon drwy gynnal mynediad i'r farchnad sengl a thrwy gymorth Llywodraeth Cymru.
989
Diolch. Mae'n dda gweld yr Aelod dros Gaerffili yn parhau â thraddodiad ei ragflaenydd mewn perthynas â chaws Caerffili. Rwy'n credu bod enwau bwydydd gwarchodedig o fudd enfawr i gynhyrchion o Gymru. Fel y dywedwch, rydym yn cefnogi wyth o geisiadau newydd mewn gwirionedd, ac un o'r ceisiadau hynny yw caws traddodiadol Caerffili. Nid yw canlyniad refferendwm yr UE yn gwneud unrhyw wahaniaeth i'r modd y caiff y ceisiadau eu prosesu. Felly, rydym yn gweithio'n agos iawn gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, oherwydd, yn amlwg, ganddynt hwy y mae'r cyfrifoldeb cyffredinol dros holl geisiadau'r DU, a'r Comisiwn, i sicrhau bod y ceisiadau hyn yn cael eu cefnogi a'u bod yn llwyddiannus. Hyd nes y bydd y DU yn gadael yr UE, bydd statws bwyd gwarchodedig yn parhau i fod â'r statws hwnnw, ac rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn cael cadw'r statws hwnnw, neu, os na chawn ei gadw ar ôl i ni adael yr UE, fod gennym statws bwyd ein hunain neu statws bwyd y DU, oherwydd rwy'n credu ei bod yn bwysig iawn i ni gael y statws cyfatebol hwnnw neu'r warchodaeth honno i'n cynnyrch o Gymru.
990
Roeddwn yn falch iawn o ymweld â Halen Môn dros yr haf; llwyddais i gynaeafu ychydig o halen môr fy hun mewn rhwyd wallt ddeniadol iawn, ond roedd yn wych gweld cwmni mor ardderchog, ac mae'r perchnogion mor llawn o egni. Unwaith eto, hwy oedd yn dweud wrthyf pa mor bwysig yw'r statws bwyd gwarchodedig iddynt hwy. Rwy'n hapus iawn i barhau i gefnogi'r cysyniad y cyfeiriwch ato. Mae'r penderfyniad i adael yr UE wedi creu llawer o heriau. Fel y gwyddoch, mae'n ddyddiau cynnar iawn, ond yr hyn y mae angen i ni ganolbwyntio arno yw'r cyfleoedd y bydd gadael yr UE yn eu creu hefyd, ac efallai y gallem gael trafodaethau pellach yn yr un math o gyd-destun mewn perthynas â'ch syniad am barc cynhyrchu bwyd.
991
Rwyf wedi cael cyfle i ymgyfarwyddo â gohebiaeth flaenorol. Rwyf hefyd wedi cael trafodaethau gyda swyddogion am y peth. Nid wyf wedi trafod y mater yn uniongyrchol gydag Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig, ond mae fy swyddogion wedi gwneud hynny ac mae'n rhywbeth rydym yn edrych arno. Fe fyddwch yn gwybod hefyd fod fy rhagflaenydd wedi cyflwyno adolygiad o Hybu Cig Cymru, ac unwaith eto, rydym yn edrych ar yr ardoll mewn agweddau ar hynny hefyd.
992
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn. Mae gweithgaredd adfywio yn parhau ledled Cymru o dan raglen adfywio cyfalaf Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Mae hon yn adeiladu ar lwyddiant y rhaglen ardal adfywio strategol flaenorol y mae'r Aelod yn ei nodi ac a ddaeth i ben ym mis Mawrth 2015.
993
Wel, awdurdodau lleol yw'r asiantau sy'n gyfrifol am nodi eu cynnwys Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid, ac rydym yn cydnabod hynny pan fyddwn yn eu cael gan yr awdurdodau lleol. Rydym yn edrych ar y cam nesaf, yn dilyn y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid. Yn wir, os yw'r awdurdod lleol yn darparu enghreifftiau i nodi pam y maent yn dymuno i hynny gael ei flaenoriaethu, byddaf yn ystyried hynny'n ofalus.
994
Rwy'n ddiolchgar iawn am sylwadau a chwestiwn yr Aelod. Rwy'n falch o glywed am y cynnydd cadarnhaol sy'n cael ei wneud mewn llefydd fel Port Talbot, ac rwy'n edrych ymlaen at weld y gwaith pan fyddaf yn ymweld â Phort Talbot ddiwedd y mis. Rydym yn darparu £11.5 miliwn i gefnogi rhaglen amrywiol, ac mae'r prosiectau a grybwyllwyd gennych yn sicr yn cyfrannu at adfywio'r dref. Wrth gwrs, fel y dywedais yn gynharach, mae'r awdurdodau lleol yn cael pentyrrau o gyfarwyddyd; nid ydynt byth yn gofyn am ragor, ar wahân i ofyn am ragor o arian, yn gyffredinol, ond gallaf eich sicrhau ein bod yn cymryd y cynigion gan awdurdodau lleol yn ofalus iawn ac yn eu hystyried wrth i ni feddwl am ardaloedd adfywio strategol, neu fel y mae yn awr, y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid.
995
Diolch i'r Aelod am gydnabod bod y weinyddiaeth Lafur flaenorol yng Nghynulliad Cymru wedi buddsoddi mewn ardaloedd ledled Cymru, gan gynnwys Bae Colwyn. Bûm yno gyda'r Aelod, yn wir, i weld y llwyddiant mawr hwn, a hefyd mae llefydd fel y Rhyl ac ardaloedd eraill yng ngogledd Cymru wedi derbyn symiau sylweddol o gyllid. Rwy'n credu ein bod ar hyn o bryd yn ystyried camau nesaf y cynllun Lleoedd Llewyrchus Llawn Addewid ac mae'n bosibl y bydd hynny'n cynnwys rhyw gyfeiriad at drefi glan môr, ond mae'n rhywbeth y bydd yn rhaid i mi roi ystyriaeth ofalus iawn iddo.
996
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet. Rwy'n cytuno â'r sylw am gymunedau lleol yn cael eu cynnwys, ac wrth gwrs, ar hyd a lled Gorllewin Caerfyrddin a De Sir Benfro rwyf wedi dod ar draws nifer o grwpiau gwirfoddol. Rwy'n edmygu eu hysbryd cymunedol ac maent yn gwneud llawer iawn o waith ar ran y cymunedau y maent yn eu cynrychioli. Fodd bynnag - ac mae yna 'fodd bynnag' bob amser - rwy'n dod yn fwyfwy ymwybodol o grwpiau sy'n cael eu sefydlu gan honni eu bod yn cynrychioli cymunedau lleol pan nad ydynt ond yn cynrychioli un sector bychan iawn o fewn y gymuned leol mewn gwirionedd - grŵp bach o bobl mewn tref fawr. Mae hyn yn aml iawn yn achosi dicter a rhwystredigaeth ymysg aelodau o'r gymuned ehangach nad ydynt mewn gwirionedd eisiau sefydlu grŵp arall ond sy'n teimlo bod y sefydliadau llai hyn yn llywio eu trefi a'u pentrefi mewn ffordd nad ydynt am ei gweld. Mae gwleidyddion yn cael eu lobïo, gwneir cais am gyllid, mae'r cyllid yn cael ei dderbyn, ac roeddwn yn meddwl tybed beth y gallech ei wneud i sicrhau bod gwell arweiniad i'r sefydliadau bach hyn. Nid ydym am fygu eu hysbryd gwych, ond rydym am wneud yn siŵr eu bod, wrth ddweud eu bod yn cynrychioli pentref, tref neu grŵp, yn eu cynrychioli go iawn yn hytrach na chynrychioli hunan-les cul lleiafrif bach iawn.
997
Rydym ni'n symud nawr at gwestiynau'r llefarwyr, ac yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig, Mark Isherwood.
998
Diolch. Fe fyddwch yn gwybod, ochr yn ochr â hynny, fod dwy gyllideb gydberthynol arall, yn arbennig y gyllideb atal digartrefedd, a welodd doriad o 8 y cant yn y flwyddyn gyfredol. Mae cynghrair o ddarparwyr - Shelter Cymru, Llamau, GISDA, Digartref Ynys Môn a Dewis - wedi gwneud y pwynt fod lleihau'r gyllideb sy'n cefnogi gwasanaethau ataliol allweddol, sy'n ganolog i ganlyniadau a llwyddiant gwasanaethau a darpariaeth a gefnogir gan y cyllidebau eraill, fod torri'r gyllideb hon yn hunandrechol. Maent yn galw ar Lywodraeth Cymru i amddiffyn y grant atal digartrefedd, gan ddweud ei fod wedi rhoi platfform i ffynonellau eraill o arian gael eu defnyddio ar gyfer gwaith atal, ei fod yn arbed arian a bod gweithio gyda Cefnogi Pobl yn sicrhau bod cymaint o bobl ag y bo modd yn cael cefnogaeth gynnar. Sut rydych yn ymateb i'r alwad honno ochr yn ochr â Cefnogi Pobl?
999