text
stringlengths
76
2.23k
__index_level_0__
int64
0
4.36k
Mae'r Aelod yn hollol gywir; mae camlesi yn hanfodol ar gyfer y diwydiant twristiaeth yng Nghymru. Gwn hynny oherwydd bod y prysuraf o'r holl gamlesi ym Mhrydain yn llifo drwy fy etholaeth fy hun - camlas Llangollen. Ac maent yn arbennig o ddeniadol i ymwelwyr tramor, a bellach mae gennym y nifer uchaf erioed o ymwelwyr tramor yn dod i Gymru, gan wario'r swm mwyaf o arian erioed yma. Hoffwn i hynny barhau. Mae'r pwynt y mae'r Aelod yn ei nodi yn un pwysig ar gyfer canolbarth Cymru, ac mae'n un y mae Russell George wedi ei nodi yn y gorffennol. Cyfarfûm â'r sefydliad sy'n bwriadu adfer y gamlas. Rydym wedi derbyn manylion y prosiect yn ddiweddar, ac rwyf wedi gofyn i swyddogion drefnu cyfarfod gyda'r cyngor tref lleol i weld beth yw'r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â hyrwyddo ac adfer camlesi yng nghanolbarth Cymru.
800
Diolch i chi, Lywydd. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn eich holi ynglŷn â chefnogaeth Llywodraeth Cymru i fusnesau bach a thrwy wneud hynny, rwyf hefyd yn datgan fy mod yn berchennog ar fusnes bach fy hun. Bydd busnesau bach yn Lloegr yn elwa o nifer o newidiadau blaenoriaethol allweddol a gyflwynodd Llywodraeth y DU yn ei chyllideb ar gyfer 2016 er mwyn cynorthwyo busnesau bach a chanolig eu maint. Mae hyn yn cynnwys rhyddhad ardrethi busnesau bach i fusnesau sydd â gwerth ardrethol o rhwng £6,000 a £15,000. Mae nifer o fusnesau wedi cysylltu â mi dros yr wythnosau diwethaf yn pryderu am nad oedd y cynlluniau a oedd ar gael dros y blynyddoedd diwethaf wedi bod ar gael yn ystod y flwyddyn ariannol hon. A gaf fi ofyn i chi, felly, a fyddwch yn ymrwymo i ddyblygu polisi Llywodraeth y DU er mwyn cefnogi busnesau bach yng Nghymru ac amlinellu'r amserlen ar gyfer diwygio rhyddhad ardrethi busnes?
801
Diolch i chi am hynny, Ysgrifennydd y Cabinet. Rydych wedi amlinellu'n gywir ymrwymiad eich maniffesto i dorri trethi busnesau bach. A gaf fi ofyn i chi sut y byddech yn gwneud hynny ar gyfer busnesau bach nad ydynt ar hyn o bryd yn talu ardrethi busnes? Sut rydych chi'n mynd i dorri trethi i'r busnesau bach hynny?
802
Roedd fy nghwestiwn yn ymwneud â'r ffaith fod yna nifer o drethi y byddai busnesau bach yn eu talu ac yn amlwg, gan ei fod yn ymrwymiad ym maniffesto Llafur Cymru i dorri trethi busnesau bach, os nad ydynt yn talu ardrethi busnes, yna yn amlwg bydd yr ymrwymiad yn y maniffesto yn torri trethi mewn meysydd eraill. Mae Banc Datblygu i Gymru hefyd wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â'r bwlch cynyddol yng nghyllid banciau ar gyfer busnesau bach a chanolig sydd â'u bryd ar ehangu. Ysgrifennydd y Cabinet, hoffwn ofyn i chi roi rhywfaint o fanylion ynglŷn â'r camau nesaf ar gyfer y banc datblygu. Mae rhywfaint o bryder y bydd cyfraddau llog yn gosbol os yw'r banc yn mynd i fod yn hunangyllidol. Felly, efallai y gallech amlinellu sut y bydd y banc yn gweithio'n ymarferol a sut y bydd yn wahanol i Cyllid Cymru - pa un a fydd yn darparu cymorth busnes wedi'i deilwra, yn ogystal â ffynhonnell gyllid.
803
Diolch, Lywydd. A gaf fi longyfarch Ysgrifennydd y Cabinet braidd yn hwyr yn y dydd ar ei benodiad i bortffolio cynhwysfawr iawn? Rwy'n siŵr y bydd yr un mor gymwys yn ymdrin â'r gwaith ag y bu yn ei swyddogaethau blaenorol. Rwy'n edrych ymlaen at weithio gydag ef mewn ffordd adeiladol fel aelod UKIP ar Bwyllgor yr Economi, Seilwaith a Sgiliau. Mae'r mater sy'n arwain at fy nghwestiwn yn un a ofynnwyd nifer o weithiau rwy'n siŵr, ond nid wyf yn ymddiheuro am ei ofyn eto a byddaf yn parhau i wneud hynny nes y ceir rhyw fath o ddatrysiad i'r mater. Cyfeiriaf at y rheilffordd o Lyn Ebwy i Gaerdydd, sy'n dal i fod heb gysylltiad i mewn i Gasnewydd. A all Ysgrifennydd y Cabinet roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ni ynglŷn â'r sefyllfa ddiweddaraf mewn perthynas â'r rhan bwysig hon o seilwaith de-ddwyrain Cymru?
804
O'r gorau. Gan nad ydych wedi gallu rhoi ateb i mi ynglŷn â hynny, a gaf fi ddweud ei fod yn newid rhywfaint ar yr hyn rwyf am ei ddweud yn awr? Ond mae dewis arall wedi'i awgrymu yn wyneb yr anhawster o adeiladu cyfleuster troi'n ôl yng Nghasnewydd, sydd i'w weld yn faen tramgwydd mawr, ac a fydd yn gofyn am newidiadau strwythurol helaeth o dan yr amgylchiadau presennol. Y cyfaddawd arall yw y byddai'r trên yn parhau i'r Fenni, lle byddai adeiladu'r cyfleuster troi'n ôl yn llawer mwy fforddiadwy. Ni fyddai hyn ond yn galw am addasu rhai signalau ac wrth gwrs, newidiadau i'r amserlen. A allai Ysgrifennydd y Cabinet ddweud wrthym a yw'r strategaeth hon wedi cael ei harchwilio'n llawn?
805
Mae Ysgrifennydd y Cabinet eisoes wedi dweud y bydd sicrhau mewnfuddsoddiad a lefel uwch o allforion i Gymru yn fwy heriol, yn y tymor byr o leiaf, yn sgil canlyniad y refferendwm. Mae wedi cyfeirio at yr angen am fesurau ennyn hyder ac wedi cyhoeddi menter allforio newydd. Nawr, bydd y fenter allforio honno, yn ôl yr hyn a ddeallaf, yn cael ei chyflawni i bob pwrpas gan y gwasanaeth sifil, ac mae'n rhaid i mi ddweud nad yw hynny'n ennyn fy hyder. Felly, a gaf fi ofyn i Ysgrifennydd y Cabinet a yw'n gallu enwi un wlad Ewropeaidd, ar wahân i Gymru, nad yw'n meddu ar ei gorff masnach a buddsoddi penodedig ei hun?
806
Efallai y gallaf fod o gymorth i Ysgrifennydd y Cabinet. Nid oes ond un wlad Ewropeaidd arall nad oes ganddi asiantaeth fasnach a buddsoddi benodedig, ac Ukrain yw honno. I fod yn deg â hwy, maent yn wlad sydd o dan oresgyniad milwrol ar hyn o bryd. Y rheswm pam fod gan wledydd asiantaethau penodedig yw eu bod yn gweithio. Mae Banc y Byd yn dweud hynny. Mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd yn dweud hynny. Mae'r holl dystiolaeth gyhoeddedig yn dweud hynny. Nawr, mae rhai pobl yn dweud, wrth gwrs, na ddylem wrando ar arbenigwyr, ac na ddylem ganolbwyntio ar ffeithiau. Rwy'n siŵr nad yw'n cytuno â hynny. Mae gwledydd sydd ag asiantaethau buddsoddi penodedig yn denu dwywaith a hanner y lefel o fewnfuddsoddiad o'u cymharu â'r rhai nad oes ganddynt asiantaethau buddsoddi penodedig, ac mae ystadegau Llywodraeth Cymru ei hun yn dangos hynny mewn gwirionedd. Mae ein cyfran o swyddi mewnfuddsoddi 50 y cant yn is yn awr na'r hyn a oedd o dan Awdurdod Datblygu Cymru. Felly, fel rhan o'i strategaeth economaidd newydd, a yw'n gallu dweud bod ei feddwl yn agored, y bydd yn edrych ar y dystiolaeth, a'i fod yn awyddus i glywed barn rhanddeiliaid allweddol ynglŷn ag a ddylai Cymru greu corff masnach a buddsoddi penodedig yn awr?
807
Rwy'n ddiolchgar i Ysgrifennydd y Cabinet am gofnodi hynny. I ddilyn y cwestiwn gan Russell George, dywedodd Llywodraeth Cymru, mewn ymateb i'r astudiaeth ddichonoldeb ar y banc datblygu yn 2015, mai ei hoff ddull o weithredu oedd un sy'n pennu'n benodol strwythur trefniadol a rheolaethol gwahanol i'r un sy'n cael ei reoli gan Cyllid Cymru ar hyn o bryd, h.y. nid Cyllid Cymru. Ac eto, wrth siarad yng Nghlwb Brecwast Caerdydd yr wythnos diwethaf, dywedodd Giles Thorley, Prif Swyddog Gweithredol Cyllid Cymru, Gadewch i mi rannu cyfrinach â chi; yn ôl pob diffiniad bron, mae Cyllid Cymru eisoes yn fanc datblygu. Gan fod hynny'n gwrthddweud adroddiad ei Lywodraeth ei hun a pholisi ei Lywodraeth ei hun yn uniongyrchol, pa hyder y gallwn ei gael, wrth ofyn i Cyllid Cymru lunio cynllun busnes ar gyfer banc datblygu y bwriadwyd iddo ei ddisodli, nad ymarfer ailfrandio drud a thrafferthus iawn yn unig yw hwn?
808
Gwnaf. Rydym yn parhau i gefnogi busnesau cynhenid ac mae gennym y nifer uchaf erioed o fentrau gweithredol sydd â'u pencadlysoedd yng Nghymru. Yn 2015-16, cefnogwyd dros 40,000 o swyddi mewn busnesau o bob maint yma yng Nghymru, a oedd yn cynnwys 5,000 o swyddi a gafodd eu creu a'u diogelu drwy ein gwasanaeth Busnes Cymru.
809
Wel, mae busnesau bach a chanolig bob amser yn cael eu clywed a bob amser yn cael eu cynnwys pan fyddwn yn cymryd rhan mewn digwyddiadau a gweithgareddau. Mae gennym berthynas waith dda iawn gyda Ffederasiwn y Busnesau Bach. Nodaf fod yr Aelod yn cyfeirio at y digwyddiad a fynychodd yr wythnos diwethaf. Rwy'n siŵr ei fod bellach wedi cael llythyr sy'n amlinellu ei fod wedi gwneud datganiad celwyddog yn y Cyfarfod Llawn yr wythnos ddiwethaf i Brif Weinidog Cymru -
810
Ysgrifennydd y Cabinet, a allwch roi diweddariad i ni ar allu busnesau bach a chanolig Cymru i gymryd rhan mewn prosiectau wedi'u caffael gan Lywodraeth Cymru? Cefais drafodaeth mewn perthynas â hyn gydag ymgynghorwyr peirianneg y Gwasanaeth Caffael Cenedlaethol, cwmni peirianneg sy'n seiliedig yng Nghas-gwent yn fy etholaeth i, ychydig cyn yr etholiad. Roedd yn destun pryder fod y cwmni hwnnw wedi rhoi'r gorau i geisio caffael contractau Llywodraeth Cymru, oherwydd, er gwaethaf eglurder y broses - ac roeddent yn canmol Llywodraeth Cymru ar hynny mewn gwirionedd - nid oedd digon o bwysoli tuag at gwmnïau lleol yng Nghymru. O ganlyniad, mae'r cwmnïau mawr yn cynnig prisiau is ac yn cael contractau, er bod y cwmnïau llai yn credu y bydd y contractau hynny'n fwy drud yn y tymor hwy. Nid yw'r cwmni lleol dan sylw yn cael unrhyw broblem yn caffael contractau ar draws y ffin, gan gynghorau Henffordd a Swydd Gaerwrangon, er enghraifft. Ni all hyn fod yn iawn. A oes unrhyw ffordd y gallwch chi, ynghyd ag Ysgrifennydd y Cabinet sy'n gyfrifol am gaffael yn Llywodraeth Cymru, edrych ar ffyrdd y gallwn greu sefyllfa decach fel bod busnesau bach a chanolig yng Nghymru a busnesau cynhenid yn ei chael yn haws cystadlu?
811
A gaf fi dynnu sylw Ysgrifennydd y Cabinet at gwmni yn fy etholaeth, ffatri Sony Pencoed sydd wedi ennill gwobrau cenedlaethol, ac nid yn unig at honno, ond at 30 a mwy o fusnesau cynhenid sydd wedi deillio yn sgil rhagoriaeth Sony mewn dylunio i weithgynhyrchu ar y safle hwnnw a chanolfan dechnoleg Sony Pencoed UK? Mae'n sicr yn enghraifft o ddatblygu ein talentau cynhenid yma yng Nghymru - cwmnïau fel Mesuro Cyf, y bûm yn ymweld ag ef ychydig o fisoedd yn ôl, sy'n deillio o ganolfan peirianneg amledd uchel fyd-enwog Prifysgol Caerdydd, neu Wales Interactive Ltd, datblygwr a chyhoeddwr cynhyrchion adloniant rhyngweithiol ar gyfer marchnad fyd-eang, ledled y byd, a llawer iawn o rai eraill. Felly, byddwn yn croesawu pe bai Ysgrifennydd y Cabinet, ar ryw adeg yn ystod ei amserlen brysur yn y dyfodol agos, yn gweld y gwaith ardderchog gan Sony, a'r holl gwmnïau hynny sydd wedi deillio o'r sylfaen honno ar y safle, a gweld hefyd y ffordd y mae cwmnïau sefydledig sydd wedi ennill gwobrau ac sydd â hanes mewn dylunio i weithgynhyrchu yn gallu sbarduno twf mewn cwmnïau cynhenid mewn ystod o sectorau. Mae'n achos clasurol o orau chwarae cyd chwarae. Felly efallai y gallwn ei wahodd i ddod i drafod y model llwyddiannus iawn hwn ar gyfer deori busnesau.
812
Rydym yn rhoi nifer o gamau gweithredu pellgyrhaeddol ar waith i annog datblygiad economaidd ar draws pob rhan o Gymru. Yng ngogledd Cymru, rydym yn manteisio ar y cyfleoedd sylweddol a fydd yn deillio o brosiectau buddsoddi megis Wylfa Newydd, gan ddarparu cefnogaeth drwy ein gwasanaeth cymorth busnes penodedig a buddsoddi mewn cynlluniau trafnidiaeth amrywiol.
813
Do, rwyf wedi trafod y mater hwn gyda'r Is-ysgrifennydd Gwladol, ond bûm yn ei drafod hefyd gyda'r Ysgrifennydd Gwladol ei hun ddydd Sul mewn gwirionedd. Rydym yn gobeithio'n fawr y bydd y cais cytundeb twf yn cael ei gyflwyno'n llawn fel cynnig i Ganghellor y Trysorlys erbyn diwedd y mis. Byddwn hefyd yn gobeithio y bydd yr achos busnes dros drydaneiddio'r brif linell yn ystod y cyfnod rheoli nesaf yn cael ei gymeradwyo. Mae'n hanfodol yn natblygiad y cytundeb twf ar gyfer gogledd Cymru ein bod yn gallu gweithio'n lleol gydag awdurdodau lleol, gyda Chynghrair Mersi a'r Ddyfrdwy, gyda Bwrdd Uchelgais Economaidd Gogledd Cymru, gyda Gweinidogion Llywodraeth y DU, ac edrych hefyd - ac rwy'n dweud hyn ar gyfer y cofnod - ar botensial strategaeth economaidd drawsffiniol, gydag uned economaidd drawsffiniol er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni'r twf mwyaf posibl yn yr ardal honno o Gymru.
814
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn? Rwyf wrth fy modd fod y ddraig, draig Caerffili, wedi cael cymaint o groeso yn Nelyn ac yng nghastell y Fflint. Mae'r lluniau a welais yn dangos bod llawer iawn o ymwelwyr, yn enwedig ymwelwyr ifanc, wedi mwynhau gweld y ddraig goch yno. Ar yr adeg hon o'r flwyddyn, a ninnau'n dathlu perfformiad anhygoel ein carfan bêl-droed cenedlaethol, roedd hi'n adeg arbennig o briodol i'r ddraig ymweld â'r Fflint y penwythnos diwethaf. Rwy'n falch o allu dweud y byddwn yn buddsoddi mewn canolfan ymwelwyr newydd yng nghastell y Fflint, a bydd castell y Fflint yn elwa o safle o'r radd flaenaf, sy'n rhan o gystadleuaeth genedlaethol a gynhelir yn rhan o Flwyddyn y Chwedlau.
815
Wel, yn fy marn i mae gennym yng ngogledd Cymru - ac rwy'n siarad fel rhywun a gafodd ei eni yno, ei fagu yno ac sy'n byw yno - gymaint i'w gynnig i Bwerdy Gogledd Lloegr ag sydd gan Bwerdy Gogledd Lloegr i'w gynnig i ogledd Cymru. Mae gennym gryn dipyn i'w gyfrannu. Rhagwelir y gellir creu hyd at 70,000 o swyddi dros y ddau ddegawd nesaf yng ngogledd Cymru. Rwy'n hyderus y gellir cyflawni hynny drwy sicrhau mwy o gydweithredu trawsffiniol. Nid wyf yn gweld bod cydweithredu trawsffiniol yn fygythiad i ddiwylliant neu iaith Cymru mewn unrhyw ffordd o gwbl. Yn enwedig yng ngogledd Cymru, credaf y gallwn greu mwy o swyddi, mwy o gyfleoedd, drwy weithio'n agosach gyda'n gilydd. Ar hyn o bryd, mae'r rhanbarth yn cyfrannu o gwmpas £35 biliwn i economi'r DU. Mae'r potensial i dyfu yn enfawr, ond dylem hefyd gydnabod, os nad ydym yn rhan o gynghrair drawsffiniol, ein bod mewn perygl, gyda'r bargeinion dinesig, gyda'r momentwm sydd y tu ôl i ddinas-ranbarth Lerpwl, dinas-ranbarth Manceinion a phartneriaeth menter leol Swydd Gaer a Warrington, o orfod cystadlu gyda'r dinasoedd a'r siroedd hynny yn y pen draw. Ni fyddem yn dymuno i hynny ddigwydd os gallwn, yn lle hynny, gydweithio a chynnig economi ranbarthol lle rydym i gyd yn cynnig pethau sy'n ategu ei gilydd. Mae ugain mil o bobl yn croesi'r ffin o Gymru i Loegr bob dydd. Mae ugain mil o bobl yn croesi'r ffin o Loegr i Gymru. O ran y bobl sy'n mynd i'w gwaith, nid yw'r ffin yn bodoli. Felly, yr hyn sydd angen i ni ei wneud yw sicrhau bod twf ar y ddwy ochr i'r ffin sy'n fanteisiol i'r ddwy ochr o ran y bobl sy'n byw yno.
816
Mae hwn yn bwynt sy'n cael ei ystyried yn gyson gan Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol, ond mae'r Aelod yn iawn, dylem ddefnyddio pob dull sydd gennym o ddenu buddsoddwyr i Gymru. Y llynedd, cofnodwyd y lefel uchaf ond un o fewnfuddsoddi yma. Mae hynny'n rhywbeth, unwaith eto, rydym am sicrhau ein bod yn ei gynnal. O ran cymorth ariannol i fusnesau, mae gennym y gronfa fenthyciadau i ficrofusnesau Cymru, sy'n werth £6 miliwn. Mae gennym gronfa fuddsoddi mewn mentrau technoleg yng Nghymru ac mae gennym hefyd £21 miliwn o gyllid newydd i helpu mentrau bach a chanolig i dyfu yng Nghymru, y gellir cael mynediad ato drwy ddwy gronfa Cyllid Cymru. Mae gennym hefyd, wrth gwrs, gronfa ad-daladwy o £5 miliwn ar gyfer busnesau bach a chanolig. Rydym yn awyddus i ddenu mewnfuddsoddiad yn ogystal â sicrhau bod ein cwmnïau sy'n bodoli'n barod yn tyfu ac yn ffynnu yng Nghymru, a sicrhau bod gennym entrepreneuriaid sydd â mynediad at yr adnoddau, y cyngor a'r cyfleoedd i sefydlu busnes yma yng Nghymru yn y cymunedau lle y'u magwyd fel nad oes angen iddynt adael Cymru.
817
Diolch i chi am yr ateb hwnnw. Fel y nodwyd gennych, mae gweithgynhyrchu yn parhau i fod yn sector hanfodol yn economi Cymru, yn enwedig yn y Cymoedd. Fodd bynnag, er gwaethaf ymdrechion gorau Llywodraeth Cymru, mae'r sector yn parhau i grebachu o ran ei bwysigrwydd o'i gymharu â sectorau eraill yn yr economi. O ystyried yr heriau newydd difrifol iawn a fydd yn wynebu gweithgynhyrchu o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd, a fyddech yn cytuno y byddai'n amserol i Lywodraeth Cymru adolygu perfformiad a rhagolygon gweithgynhyrchu yng Nghymru a datblygu strategaeth weithgynhyrchu i Gymru er mwyn mynd i'r afael â'r heriau hyn?
818
Yn ôl gwefan Busnes Cymru, mae gan ardal fenter Glyn Ebwy uchelgais i fod yn ardal uwch-dechnoleg fywiog ar gyfer cwmnïau gweithgynhyrchu o bob maint. Fodd bynnag, rhwng 2011 a 2014, 172 o swyddi yn unig a gafodd eu creu yn yr ardal fenter hon. Y llynedd, wyth o swyddi yn unig a grewyd yno. Ysgrifennydd y Cabinet, beth y mae Llywodraeth Cymru yn ei wneud i hyrwyddo ac i gefnogi ardal fenter Glyn Ebwy er mwyn annog cwmnïau i ymsefydlu a chreu swyddi gweithgynhyrchu yno?
819
Gwnaf. Rwy'n falch fod yr anghydfod cyflog hirhoedlog hwn bellach wedi ei ddatrys a bod holl safleoedd yr amgueddfa genedlaethol wedi ailagor i'r cyhoedd.
820
Gwnaf, yn bendant, ac a gaf fi yn gyntaf oll gofnodi fy niolch i'r Aelod lleol am ei chefnogaeth ddygn a chadarn i'r gweithwyr ffyddlon ac ymroddedig y mae'n cyfeirio atynt? Cafodd canlyniad pleidlais PCS a datrysiad yr anghydfod cyflog ei gadarnhau yn gyhoeddus ar 24 Mehefin. Rwy'n falch fod 78 y cant o aelodau PCS wedi pleidleisio dros dderbyn y cynnig gwell a wnaed gan yr amgueddfa genedlaethol. Rwy'n falch fod Llywodraeth Cymru wedi gallu cynorthwyo i ddod â'r mater i ben yn foddhaol. Nawr, rwy'n siŵr bod gwersi i'w dysgu o'r profiad hwn, a chyfarfûm â llywydd a chyfarwyddwr cyffredinol yr amgueddfa genedlaethol yn ddiweddar. Nid oes gennyf unrhyw amheuaeth y bydd unrhyw faterion a nodwyd yn cael sylw gan reolwyr yr amgueddfa a chan PCS yn awr, ac rwy'n ymwybodol fod yr amgueddfa bellach yn gweithio i weithredu'r dyfarniad cyflog a'r taliad iawndal i unigolion cymwys yng nghyflogres y mis hwn. Rwy'n annog yr amgueddfa genedlaethol a'r undebau yn awr i weithio i ailadeiladu'r pontydd a ddifrodwyd ac i ddatblygu perthynas fwy cadarnhaol ar gyfer y dyfodol - un lle bydd pob gweithiwr yn teimlo'n hyderus fod y pryderon sydd ganddynt yn cael eu clywed.
821
A gaf fi ddiolch i'r Aelod am ei chwestiwn, a'i hatgoffa bod y Llywodraeth hon ei hun wedi wynebu'r toriadau dyfnaf posibl i'w chyllidebau dros y blynyddoedd diwethaf? Nid oes unrhyw ran o fy mhortffolio, mae arnaf ofn, y llwyddwyd i osgoi gorfod gwneud penderfyniadau anodd yn ei chylch a gweithredu toriadau yn y gyllideb, gydag un eithriad - Cyngor Llyfrau Cymru, lle'r oedd teimlad llethol y byddai gostyngiad yn eu cyllideb yn arwain at golli nifer sylweddol o swyddi. Mae'n bosibl y bydd gan yr Aelod ddiddordeb mewn gwybod hefyd fod yr anghydfod yn yr Alban wedi para am fwy na phedair blynedd. Yma yng Nghymru, dywedodd y Prif Weinidog mai blaenoriaeth y Gweinidog nesaf fyddai datrys yr anghydfod hwn o fewn tair wythnos. Llwyddais i'w ddatrys. Mae hynny'n rhywbeth yr hoffwn ddiolch i aelodau'r undeb am weithio tuag ato. Hoffwn ddiolch i Aelodau o bob plaid yn y Siambr hon am gyfrannu tuag at hynny. Mae'n rhywbeth rwy'n credu y gallwn symud ymlaen oddi wrtho yn awr, ac rwy'n siŵr fod gan yr amgueddfa ddyfodol disglair iawn. Byddaf yn ystyried adroddiad Randerson, sy'n cynnig ffordd tuag at sector treftadaeth diogel a chynaliadwy iawn, un sy'n cyd-fynd yn agosach â'r cynnig twristiaeth ar draws Cymru ac un sy'n dwyn ynghyd yr elfennau allweddol hynny o'n treftadaeth yng Nghymru.
822
Hoffwn ddweud fod yr Aelod yn hollol gywir ar y mater hwn. Rwyf wedi bod yn glir gyda chyfarwyddwr cyffredinol a llywydd yr amgueddfa fod yn rhaid mynd i'r afael â chanlyniadau'r arolwg hwnnw, a fy mod yn disgwyl gweld adroddiad ar sut y maent yn mynd i'r afael â'r materion a godwyd gan y gweithlu. Rwyf hefyd wedi bod yn glir fod gweithwyr yr amgueddfa - y bobl sy'n sicrhau bod ymwelwyr yn cael y profiad gorau posibl - yn cael eu cynrychioli'n well ar y lefel uchaf. Mae hynny'n cynnwys cynrychiolaeth yng nghyfarfodydd byrddau ymddiriedolwyr. Rwy'n credu ei bod yn hanfodol fod gweithwyr yn cael eu cynrychioli a'u clywed a'u cydnabod.
823
Diolch i chi, Ysgrifennydd y Cabinet, ac rydym i gyd yn ymwybodol iawn, yn amlwg, o'r manteision i ardaloedd y Cymoedd a fyddai'n dod yn sgil y fargen ddinesig a metro de-ddwyrain Cymru. Rydym wedi trafod y peryglon i'r datblygiad hwnnw yn dilyn gadael yr UE dro ar ôl tro yn y Siambr, felly nid wyf am fynd ar ôl hynny. Fodd bynnag, rydym wedi croesawu cyhoeddiad ar ffurfio tasglu gweinidogol y Cymoedd yn y Siambr hon, ac elfen allweddol ohono fydd adeiladu cysylltiadau trafnidiaeth cryfach. Er gwaethaf bodolaeth cynlluniau trafnidiaeth lleol, sydd weithiau'n ymddangos yn gyfyngedig o ran eu gweledigaeth i ardaloedd awdurdodau lleol unigol, mae trafnidiaeth bws ar draws y Cymoedd yn parhau i fod yn broblem. Clywais enghraifft y diwrnod o'r blaen lle'r oedd y daith fws o Dredegar Newydd i Aberdâr yn para mwy na dwy awr ac yn teithio drwy Bontypridd. A fyddai Ysgrifennydd y Cabinet yn cytuno â mi y byddai unrhyw gyfle i ailreoleiddio gwasanaethau bysiau yng Nghymru a fyddai'n deillio o Fil Cymru yn rhoi cyfle euraidd i sicrhau, wrth i gyfleoedd cyflogaeth newydd gael eu creu yng Nghymoedd de-ddwyrain Cymru, nad yw'r rhai sydd ond yn gallu cael mynediad at drafnidiaeth gyhoeddus yn cael eu heithrio rhag manteisio ar gyfleoedd o'r fath oherwydd gwasanaethau bws gwael, araf ac anfynych?
824
Gwnaf. Mae tair blynedd wedi bod bellach ers lansio 'Partneriaeth ar gyfer Twf: Strategaeth Twristiaeth Llywodraeth Cymru 2013-2020'. Mae hwn yn gosod twf o 10 y cant mewn termau real mewn perthynas â gwariant ymwelwyr dros nos yng Nghymru erbyn 2020, ac rydym ar y trywydd iawn i ragori ar y twf hwnnw.
825
Ie, mae hwn yn faes gwaith diddorol iawn. Mewn gwirionedd, gofynnais i fy swyddogion wneud rhywfaint o ymchwil ar y mathau mwyaf cynhwysol o weithgareddau celfyddydol a chanfuwyd mai'r gwyliau llai a'r cyngherddau cerddorol mewn gwirionedd yw'r gweithgareddau, y digwyddiadau, y mae pobl yn fwyaf tebygol o fynd iddynt o bob rhan o'r sbectrwm economaidd-gymdeithasol. Felly, rwy'n awyddus iawn i sicrhau ein bod yn gwneud y mwyaf o'r cyfleoedd i alluogi gwyliau cymunedol lleol a chyngherddau i ehangu. Rydym wedi ymrwymo i ddenu mwy o ddigwyddiadau chwaraeon rhyngwladol mawr a digwyddiadau diwylliannol i Gymru, yn enwedig y rhai sy'n helpu i wneud y mwyaf o elw ar fuddsoddiad mewn cyfleusterau sy'n bodoli eisoes ac wedi'u cynllunio. Rydym yn arbennig o awyddus i ddenu'r digwyddiadau sy'n cynnig cyfle i wirfoddolwyr ddod yn gyfranogwyr. Yn y blynyddoedd i ddod, gyda'n cymorth, bydd Cymru'n cynnal rhai o ddigwyddiadau mwyaf a mwyaf mawreddog y byd, megis rownd derfynol Cynghrair y Pencampwyr a Ras Volvo Ocean. Ochr yn ochr â'r brandiau byd-eang hyn, rydym hefyd yn cefnogi portffolio ffyniannus o ddigwyddiadau a gwyliau diwylliannol lleol a rhanbarthol, fel Gŵyl Gomedi Machynlleth, y Good Life Experience, Gwobr Iris a Ffocws Cymru a hefyd, wrth gwrs, GwylGrai.
826
Wel, mae Llywodraeth y DU wedi ein sicrhau - neu, cawsom sicrwydd cyn y refferendwm - y byddai pob buddsoddiad a oedd i fod i ddod gan yr UE yn dod gan Lywodraeth y DU. Rydym yn disgwyl pob ceiniog. Rydym yn disgwyl y cedwir at bob contract a lofnodwyd neu a gytunwyd cyn y bleidlais i adael yr UE, ac rwy'n gobeithio gweld - ac rwy'n disgwyl gweld - trydaneiddio'r rheilffordd honno sy'n bwydo economi ranbarthol de Cymru ac ardal bae Abertawe.
827
Diolch am y cwestiwn. Rwy'n falch o'r cynnydd sylweddol a wnaed gan Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru ar weithredu'r newidiadau trefniadol i'r gwasanaeth a argymhellwyd gan adolygiad McClelland. Ym mis Mai, cyrhaeddwyd neu rhagorwyd ar y targed ar gyfer ymateb i gategori coch yr argyfyngau sy'n bygwth bywyd fwyaf am yr wythfed mis yn olynol gyda 75.5 y cant yn cael eu hateb o fewn yr amser targed.
828
Diolch am y cwestiwn. Credaf ei bod yn bwysig ceisio deall y ffordd orau o ymdrin â'r pryderon sydd gan bobl wrth ffonio pobl sy'n ateb galwadau brys. Ni allaf siarad dros y gwasanaethau brys eraill a'r ffordd y maent yn ymdrin â materion - wrth gwrs, mae un ohonynt heb ei ddatganoli ar hyn o bryd - ond wrth archwilio holl wybodaeth y dangosyddion ansawdd ambiwlans ac edrych ar yr adolygiad o'r model newydd sydd gennym a fydd yn cael sylw yn ystod yr hydref, rwy'n disgwyl y bydd cyfle priodol i edrych eto ac adolygu i weld a oes gennym gwestiynau priodol yn cael eu gofyn i wneud yn siŵr hefyd fod pobl yn cael eu trin mewn modd sensitif. Os yw pobl yn teimlo bod ganddynt etholwyr nad ydynt wedi cael eu trin mewn modd sensitif, byddwn yn hapus i dderbyn y sylwadau a'r cwestiynau hynny os nad ydych eisoes wedi eu dwyn i sylw Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru.
829
Ydw. Diolch am y cwestiwn. Rydych yn gwneud pwynt cwbl deg ynglŷn â'r ffordd rydym yn annog ac yn arfogi'r cyhoedd i wneud dewisiadau mwy gwybodus, i wneud defnydd priodol o ofal iechyd, fel bod dewisiadau eraill ar gael i chi os nad ydych angen adnodd gwerthfawr ymateb ambiwlans brys, ac mae gwybodaeth am sut i ddod o hyd i'r rheini yn hawdd i'w ddeall ac ar gael yn hawdd. Felly, mae angen i ni wneud mwy o waith er mwyn sicrhau bod y wybodaeth honno ar gael, yn ogystal â bod eisiau i'r cyhoedd wneud defnydd o'r wybodaeth honno. Rwy'n ddiolchgar i'r holl randdeiliaid allweddol, gan gynnwys eich cyn-gyflogwr, am geisio tynnu sylw'n gadarnhaol at y gwasanaeth Dewis Doeth a'r wybodaeth sydd ar gael, er mwyn i bobl wneud y dewis gwybodus a phriodol hwnnw.
830
Ac rwy'n disgwyl, pan welwn y gyfres nesaf o ddangosyddion ansawdd yn yr adroddiad chwarterol nesaf ar ddiwedd mis Gorffennaf, y byddwch yn gweld fy mod yn obeithiol y bydd Hywel Dda wedi cyrraedd ei dargedau amseroedd ymateb, gan nad yw wedi gwneud hynny bob tro ar ddechrau'r cynllun peilot. Roedd hyn yn rhan o'r gydnabyddiaeth o'r hyn yw ein sefyllfa. Ledled Cymru gyfan, rydym yn cyrraedd y targed. Yn yr ardaloedd lle nad ydym yn gwneud hynny, yr her yw beth y gallem ac y dylem ei wneud am y peth? A 'ni' yn yr ystyr ehangach yw hynny. Mae'n ymwneud â'r hyn y mae'r gwasanaeth ambiwlans yn ei wneud; mae'n ymwneud â'r hyn y mae comisiynwyr y gwasanaeth yn ei wneud, ac mae hefyd yn ymwneud â deall yr hyn y mae ymatebwyr cyntaf cymunedol yn ei wneud, yn ogystal, oherwydd nid mater i gefn gwlad Cymru yn unig yw hyn ac yn aml, ymatebwyr cyntaf cymunedol yw'r man galw cyntaf i gael yr help sydd ei angen ar rywun yn y lle cyntaf, yn y fan a'r lle. Mae hynny'n arbennig o berthnasol yng nghefn gwlad Cymru, felly rwy'n wirioneddol falch o weld bod Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn gweithio gydag Ambiwlans Sant Ioan i ddatblygu llwybr newydd a model newydd ar gyfer ymatebwyr cyntaf cymunedol a'r gwasanaeth y gallant ei ddarparu. Os byddwch yn amyneddgar â ni, rwy'n meddwl o ddifrif y gwelwch welliannau pellach yn Hywel Dda a rhannau eraill o Gymru a fydd yn eich gwasanaethu chi a'ch etholwyr yn well rwy'n siŵr.
831
Mi fyddwch chi wedi derbyn, fel yr ydw i, lythyr gan gyn-nyrs sydd â phrofiad clinigol eang. Mae hefyd yn gyn-gyfarwyddwr anweithredol o fewn y gwasanaeth iechyd yng ngogledd Cymru. Yn y llythyr, mae hi'n disgrifio'r hyn a welodd hi yn uned ddamweiniau Wrecsam Maelor fis diwethaf. Mae hi'n cyfeirio yn ei llythyr at ddiffyg staff, at ddiffyg gwelyau ac effaith hynny ar allu cleifion i gael y driniaeth yr oeddent ei hangen yn amserol ac, wrth gwrs, i symud ymlaen yn y system a gadael yr ysbyty yn y pen draw. Yn ei barn broffesiynol hi, mae hi'n dweud ei bod hi'n anochel y byddai parhad o'r sefyllfa honno yn y pen draw yn arwain at farwolaethau. Mae hynny, wrth gwrs, yn honiad difrifol iawn, ond a ydych chi'n cytuno, nes inni weld lefelau mwy addas o staffio a nes inni weld mwy o welyau o fewn y system, yna mae'r tebygrwydd o weld diwedd ar rai o'r golygfeydd y mae hi'n eu disgrifio yn ei llythyr yn fach iawn?
832
Mae targedau Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai 95 y cant o gleifion gael eu gweld o fewn pedair awr, ac na ddylai unrhyw un aros am 12 awr neu fwy, ond yn ffigurau mis Mai y cyfeiriwch atynt, 82.5 y cant yn unig a welwyd o fewn pedair awr, ac mewn unedau damweiniau ac achosion brys yng ngogledd Cymru, 79.9 y cant yn unig - y gwaethaf yng Nghymru. Arhosodd 856 o bobl yng ngogledd Cymru fwy na 12 awr, sef y lefel uchaf yng Nghymru, a Glan Clwyd, rwy'n meddwl, oedd yr ysbyty a oedd yn perfformio waethaf yng Nghymru ar y targedau 12 awr. Rydych yn sôn am ffigurau'n newid, wel, nid oedd hynny wedi newid ers mis Tachwedd ac roedd yn waeth na Rhagfyr 2015. Sut, felly, rydych yn ymateb i'r pryderon niferus ymysg staff a chleifion yng ngogledd Cymru fod cael gwared ar unedau mân anafiadau a gwelyau cymunedol y GIG wedi ychwanegu at y pwysau ar adrannau damweiniau ac achosion brys a bod rhaid i ateb ar gyfer yr unfed ganrif ar hugain gynnwys adfer y gwasanaethau hynny?
833
Rwy'n symud yn awr at lefarwyr y pleidiau i ofyn cwestiynau i Ysgrifennydd y Cabinet. Yn gyntaf yr wythnos yma, llefarydd UKIP, Caroline Jones.
834
Diolch i'r Aelod am y cwestiwn. Dechreuaf gyda'r un pwynt rwy'n anghytuno yn ei gylch, sef nad wyf yn credu bod yna unrhyw dystiolaeth go iawn fod poblogaeth sy'n heneiddio yn arwain at ymddeoliadau cynnar yn ein gweithlu meddygon teulu. Ceir pwysau o fathau amrywiol ar ofal sylfaenol a gofal eilaidd, ac maent i'w teimlo ledled y DU. Mae hynny'n cynnwys recriwtio meddygon teulu ac ystod o arbenigeddau mewn gofal eilaidd, hefyd. Rwy'n cydnabod yn bendant fod hynny'n wir. Ar hyn o bryd, rydym yn llenwi 75 y cant o'n lleoliadau hyfforddi. Mae honno'n gyfradd well nag yng Ngogledd Iwerddon, yr Alban neu Loegr. Felly, ein her yw peidio â gosod targed na allwn ei gyrraedd. Os byddaf yn gosod targed o 400 o feddygon teulu ychwanegol, nid oes sail wirioneddol i feddwl y gallem lenwi'r nifer hwnnw o feddygon teulu. Rwy'n meddwl mai'r peth cyntaf yw gwneud yn siŵr ein bod yn cwblhau'r holl leoliadau sydd ar gael gennym, ein bod yn llenwi'r rheini, ac yna ein bod yn ailosod ein huchelgeisiau ac yn deall yn union pwy a beth rydym ei eisiau gan ein gweithlu. Dyna pam mai'r ymrwymiad rydym wedi ei roi yw edrych ar y gweithlu meddygon teulu a chyflwyno argymhellion ar gyfer gwella hyfforddiant meddygon teulu ac ar yr un pryd, y tîm gofal sylfaenol ehangach. Oherwydd gallai, dylai, a bydd y model gofal yn newid yn y dyfodol. Felly, mae'n ymwneud â bod yn synhwyrol ynglŷn â'r hyn y gallwn ei wneud. Ond rwy'n falch iawn o ddweud bod gennym gefnogaeth rhanddeiliaid i symud ymlaen ar y sail hon.
835
Diolch i'r Aelod am ei hail gwestiwn. Mae hon yn un o'n heriau: sut rydym yn cadw gweithwyr proffesiynol yn y gweithlu? Mae rhywfaint o hyn yn ymwneud â'i gwneud yn haws i aros ar delerau gwahanol, mae peth ohono'n ymwneud â'i gwneud yn haws i ddychwelyd i'r gweithlu hefyd. Felly, mae hynny'n rhan o'r gwaith sydd eisoes yn mynd rhagddo gyda rhanddeiliaid, yn arbennig pwyllgor meddygon teulu Cymdeithas Feddygol Prydain, a hefyd Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol. Ond mae hefyd yn rhan o ddeall bod angen i ni gael tîm gofal sylfaenol ehangach oherwydd, er mwyn lleihau llwyth gwaith meddygon teulu, mae angen i ni eu cyfeirio at le ychwanegol priodol. Dyna pam fod uwch-ymarferwyr nyrsio, fferyllwyr - fferyllwyr clinigol a fferylliaeth gymunedol - yn ogystal â'r therapyddion, fel ffisiotherapyddion, yn rhan o'r ateb. Felly, mae meddygon teulu yn gwneud yr hyn y dylent ei wneud, ac rydym yn trosglwyddo pobl eraill nad oes angen iddynt weld meddyg teulu ond sydd ag angen gofal iechyd i'w drin mewn gofal sylfaenol, a chael gweithwyr proffesiynol priodol i fynd atynt am y cyngor, y gefnogaeth a'r driniaeth honno.
836
Diolch i'r Aelod am ei chwestiwn, sy'n amserol. Mae'n rhan o'n sgwrs barhaus ynghylch y mathau o gymhellion a ddarparwn i bobl: felly, y gefnogaeth ychwanegol rydym yn ei ddarparu i bobl mewn hyfforddiant, a'r hyn y gallwn ei ddisgwyl yn ôl wedyn. Felly, mae hynny'n rhan o'r gwaith rydym yn ei ddatblygu gyda'r rhanddeiliaid hynny i ddeall a fyddai'r math hwnnw o drefniant bondio yn llwyddo i gadw meddygon yma yng Nghymru. Ond rhan o'r ateb yn unig sy'n rhaid iddo fod, oherwydd rydym am wneud Cymru yn lle gwirioneddol atyniadol i fyw a gweithio a hyfforddi ynddo. Felly, mae hyn yn rhan o'r sgwrs rydym yn ei chael ynglŷn â phroffil hyfforddiant i wneud yn siŵr fod cyfleoedd hyfforddi meddygon teulu yn rhan lawer mwy o'r hyn y mae meddygon yn ei gael cyn iddynt ddewis eu harbenigedd. Felly, mae yna ystod eang o fesurau gwahanol rydym wrthi'n eu hystyried gyda'n partneriaid, ac rwy'n disgwyl y bydd gennyf fwy i'w ddweud am hyn yn y misoedd nesaf.
837
Nid yw'n swnio bod yna asesiad penodol wedi'i wneud; rwy'n synnu rywfaint ynglŷn â hynny. Mae'r ansicrwydd rydym ni'n ei wynebu mewn perig o danseilio'r NHS a allwn ni ddim fforddio aros i'r Llywodraeth weithredu. Rŵan, wnawn ni ddim mynd dros y problemau mae Cymru yn ei wynebu rŵan o ran denu a chadw meddygon, ond mi wnaf droi, os caf, at amodau a thelerau gwaith staff yr NHS. Mae Llywodraeth Cymru, wrth gwrs, wedi addo peidio ag efelychu Jeremy Hunt o ran mabwysiadu y cytundeb newydd i feddygon. Felly, a ydy'r Ysgrifennydd Cabinet yn ei gweld hi'n debygol y gwelwn ni ddiwedd ar drafodaethau cyflog Prydain gyfan yn y blynyddoedd nesaf i holl staff yr NHS, a pha baratoadau mae'r Ysgrifennydd yn eu gwneud i sicrhau bod gennym ni agwedd neilltuol Gymreig tuag at gyflogau a thelerau sy'n adlewyrchu gwerth staff yr NHS, yr angen i gadw staff profiadol, ac, wrth gwrs, sy'n dangos i bobl ifanc y gallan nhw, ac y dylen nhw, fod yn anelu am yrfaoedd o fewn y gwasanaeth iechyd yng Nghymru?
838
A byddwn yn annog yr Ysgrifennydd i edrych ar y cyfleoedd go iawn a fyddai ar gael i ni o ddilyn llwybr Cymreig. Yn bendant, gall gwneud pethau'n wahanol, fel rydym wedi'i weld gyda meddygon iau, olygu gwneud pethau'n well. Rwy'n credu ei bod yn eithaf amlwg fod Cymru yn mynd i fod angen mwy o feddygon a mwy o nyrsys, mwy o therapyddion galwedigaethol, ffisiotherapyddion - gallwch enwi unrhyw beth - dros yr ychydig ddegawdau nesaf. Yn wir, rwy'n amau a oes yna broffesiwn yn y GIG na fydd angen mwy o staff. Rydym wedi clywed am feddygon teulu, ac os nad yw'n 400, beth ydyw? 300, 200, 100 - dywedwch chi: rydych yn rhoi targed rydych am anelu ato. Ond rydym wedi bod yn galw am gynllunio'r gweithlu'n briodol ers nifer o flynyddoedd ac nid oes gennym gynllun gweithlu cenedlaethol o hyd. A fydd yna gynllun sy'n ystyried y materion rwyf wedi'u crybwyll yma, a pha bryd y gallwn ddisgwyl ei weld?
839
Llefarydd y Ceidwadwyr Cymreig i ofyn ei chwestiynau i'r Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol - Suzy Davies.
840
Diolch yn fawr iawn am y cwestiwn hwnnw ac rwy'n ymwybodol iawn o'r rôl bwysig y mae gofalwyr yn ei chwarae yn cefnogi'r bobl - yr anwyliaid - y maent yn gofalu amdanynt, ond hefyd y fantais economaidd y maent yn ei chynnig i'n gwlad, yn ogystal, fel rydych newydd ei ddisgrifio. I adlewyrchu hynny, mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, am y tro cyntaf, yn rhoi'r un hawliau i ofalwyr â'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, a chredaf fod hwn yn gam mawr ymlaen o ran ein cefnogaeth a'n hymrwymiad i ofalwyr. Ond rydych yn hollol gywir fod ein maniffesto Llafur Cymru yn nodi gofal seibiant fel gwasanaeth pwysig i ofalwyr. Yn wir, pan fyddaf yn cyfarfod â gofalwyr a sefydliadau gofalwyr, a phan fydd fy swyddogion yn gwneud hynny, mae seibiant yn bendant ar frig y rhestr o ran yr hyn y mae gofalwyr yn gofyn amdano, boed yn ychydig oriau'r wythnos neu wythnos neu ddwy y flwyddyn. Felly, rwy'n credu bod angen i ni fod yn hyblyg ynglŷn â hynny. Felly, byddaf yn sicrhau bod gofal seibiant a gofal amgen yn bendant yn flaenoriaethau allweddol wrth i ni gyflawni un arall o'n hymrwymiadau, sef adnewyddu ein strategaeth gofalwyr. Bydd hynny'n digwydd yn ddiweddarach eleni. Gwn fod ein rhanddeiliaid yn cefnogi'r dull penodol hwn o fynd ati hefyd. Byddwn yn cael trafodaethau pellach gydag iechyd, gydag awdurdodau lleol, a'r trydydd sector o ran sut beth fydd ein cynnig seibiant i ofalwyr yn y dyfodol.
841
Diolch i chi unwaith eto am y cwestiwn hwnnw, ac rydych yn hollol gywir yn nodi bod gofalwyr yn chwarae rhan allweddol yn cefnogi pobl â dementia. Mae ein gweledigaeth dementia yng Nghymru yn ymwneud yn helaeth â chynorthwyo pobl â dementia i aros gartref gyn hired ag y bo modd ac i chwarae rhan lawn yn y gymuned. Yn amlwg, mae gan ofalwyr ran gwbl allweddol i'w chwarae yn hynny. Fel y gwyddoch, byddwn yn adnewyddu ein gweledigaeth dementia. Unwaith eto, bydd hyn yn digwydd eleni, a bydd Cynghrair Cynhalwyr Cymru yn rhan o'r grŵp gorchwyl a gorffen ar gyfer hynny, felly byddant yn chwarae rhan allweddol yn cynghori'r Llywodraeth ar ein darpariaeth yn y dyfodol ar gyfer pobl â dementia a'r rhan y gall gofalwyr ei chwarae. Rwy'n credu ei bod yn bwysig dros ben fod iechyd a gofal cymdeithasol yn gallu rhannu data fel nad oes rhaid i bobl ddweud eu stori dair gwaith wrth dri o weithwyr proffesiynol gwahanol a mynd dros yr un data drosodd a throsodd. Felly, mae hyn yn rhywbeth rydym yn ceisio gwneud rhywfaint o gynnydd go iawn arno hefyd. Mae llawer o ofalwyr yn hyrwyddwyr dementia - mae ganddynt ran bwysig yng nghefnogaeth Llywodraeth Cymru drwy'r Gymdeithas Alzheimer i greu cymunedau dementia-gyfeillgar gyda'r nod o greu Cymru dementia-gyfeillgar. Mae gennym 2,000 o'r hyrwyddwyr hynny ar hyn o bryd. Maent yn gwneud gwahaniaeth go iawn ar lefel leol iawn, ac mae'n werth ystyried y drafodaeth arbennig a gawsom pan fynychais y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig yn ddiweddar, trafodaeth ar rôl gofalwyr yn arbennig. Nododd ein gweinyddiaethau fod gofalwyr hŷn a gofalwyr sy'n cynorthwyo pobl hŷn yn faes penodol yr hoffem ganolbwyntio arno ar draws ein gweinyddiaethau o ran rhannu arferion gorau a gweithio gyda'n gilydd i wella pethau i'r gofalwyr a'r rhai sy'n derbyn gofal hefyd. Felly, rwy'n gobeithio y bydd rhywfaint o gynnydd yn cael ei wneud ar hynny, yn ogystal.
842
Diolch. Rydych yn iawn i nodi bod talu am ofal cymdeithasol a sicrhau dyfodol hirdymor cynaliadwy a diogel i ofal cymdeithasol yn hanfodol bwysig, o ystyried y pwysau a nodwyd gennych ar wasanaethau cyhoeddus a'r boblogaeth sy'n heneiddio, a'r disgwyliadau cynyddol sydd gan bobl yn gwbl briodol o'r math o ofal cymdeithasol y byddant yn gallu ei gael. Felly, rwy'n effro iawn i'r mater hwn, yn enwedig y mater rydych yn ei grybwyll ynglŷn â gwahaniaethau cyflog. Mae staff awdurdodau lleol yn tueddu i gael eu talu'n llawer gwell na'r isafswm statudol, ond maent yn tueddu i gael eu talu yn well na'r rhai yn y sector gwirfoddol, sydd yn eu tro yn tueddu i gael eu talu'n well na'r rhai yn y sector preifat, sy'n tueddu i gael yr isafswm hefyd. Felly, mae yna wahaniaeth, ac mae gwaith pwysig i'w wneud gennym ar godi statws pobl sy'n gweithio yn y sector gofal yng Nghymru, a'i wneud yn faes deniadol i bobl weithio ynddo hefyd. Mae angen dilyniant gyrfa arnom, ac yn y blaen. Mae angen gwerthfawrogi gwaith gofal, gan nad oes swydd bwysicach na gofalu am y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas mewn gwirionedd. Y darparwyr eu hunain sydd â'r cyfrifoldeb am bennu lefelau cyflog, ond mae gennym rai dulliau yn Llywodraeth Cymru y gallwn eu defnyddio i geisio ymdrin â hyn. Maent yn cynnwys cod dwy haen, ac rwy'n hapus i ysgrifennu at yr Aelod gyda mwy o wybodaeth yn ei gylch. Mae'r cod yn sicrhau nad yw awdurdodau lleol, pan fyddant yn rhoi gwasanaethau ar gontract allanol i sector annibynnol, yn gallu lleihau'r math o delerau ac amodau y gall y bobl sy'n cael eu cyflogi eu disgwyl. Rydym hefyd yn ymgynghori ar hyn o bryd ar gynigion, gan ddefnyddio pwerau o dan y Ddeddf Rheoleiddio ac Arolygu Gofal Cymdeithasol (Cymru) 2016 newydd, i gynyddu tryloywder mewn perthynas â chyflogau ac atgyfnerthu cydymffurfiaeth â gofynion statudol. Mae hynny'n cynnwys talu i aelodau o staff deithio rhwng cleientiaid hefyd.
843
Nid yw'n syndod i mi, Ysgrifennydd y Cabinet, nad ydych yn crybwyll y targedau amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth, sydd wrth gwrs wedi eu methu'n rheolaidd a hynny ers blynyddoedd lawer yma yng Nghymru. Ac wrth gwrs, mae gan yr ysbyty sy'n gwasanaethu fy etholwyr, Ysbyty Glan Clwyd ym Modelwyddan, rai amseroedd aros rhwng atgyfeirio a thriniaeth ofnadwy y mae ar hyn o bryd yn gweithio o'u mewn: apwyntiadau clust, trwyn a gwddf, 36 wythnos, ar gyfer yr apwyntiad claf allanol cyntaf yn unig; deintyddiaeth adferol, 35 wythnos; orthodonteg, 76 wythnos rhwng atgyfeirio a'r apwyntiad cyntaf; rheoli poen, 42 wythnos. Mae'r rhestr yn ddiddiwedd. Pa bryd rydych chi'n mynd i dynnu eich bys allan a chael trefn ar y sefyllfa hon, er mwyn i fy etholwyr gael mynediad at wasanaethau pan fydd eu hangen arnynt?
844
Ysgrifennydd y Cabinet, a fyddech yn cytuno bod rhoi mynediad cyflymach i gleifion at y gwasanaeth neu'r gweithiwr gofal iechyd proffesiynol priodol yn hanfodol i sicrhau bod pobl yn cael eu trin cyn gynted â phosibl? Felly, pa gamau sy'n cael eu rhoi ar waith yng ngogledd Cymru i sicrhau bod gan gleifion y dewis i gael eu trin gan y gweithwyr gofal iechyd proffesiynol cywir, gan gefnogi ein meddygon teulu ar yr un pryd?
845
Yn dilyn penderfyniad gan benaethiaid iechyd Caer i gau uned gofal arbennig i blant sydd wedi'u geni dan 32 wythnos oed yn ysbyty'r Countess of Chester, oherwydd cynnydd yn y marwolaethau yno, a'i symud nawr i Arrowe Park, a allwch chi ddweud wrthym ni ba effaith y bydd hyn yn ei chael ar fabanod o Gymru a gwasanaethau gofal dwys i fabanod newydd-anedig yn y gogledd?
846
Fy mlaenoriaethau yw darparu gwasanaethau iechyd i bobl Sir Benfro sy'n sicrhau'r canlyniadau gorau posibl i gleifion. Byddaf yn cael fy arwain, wrth gwrs, gan y dystiolaeth a'r cyngor clinigol gorau a diweddaraf er mwyn darparu'r gofal iechyd o'r safon uchel y mae pobl Sir Benfro yn ei haeddu.
847
Nid oes unrhyw dystiolaeth sy'n dweud nad yw'r newidiadau'n ddiogel, ac rwy'n gresynu'n fawr at y modd y mae'r ddadl hon yn cael ei chynnal, gan fod pobl yn poeni ac yn pryderu'n ddiangen pan fo cynrychiolwyr etholedig yn dweud nad yw gwasanaethau'n ddiogel neu eu bod yn beryglus. Nid yw hynny'n gwneud unrhyw les. Nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl i gefnogi'r honiad a wnaed gan yr Aelod yn y Siambr hon ac mewn sylwadau i'r wasg leol. Mewn gwirionedd, yr hyn sydd gennym fel sylfaen dystiolaeth yw'r ffaith nad oes unrhyw faban neu fam sydd wedi rhoi genedigaeth o dan y trefniadau newydd wedi dioddef unrhyw niwed clinigol. Yn wir, mae 210 o fenywod wedi cael eu derbyn i uned dan arweiniad bydwragedd Llwynhelyg ers agor yr uned. Mae tri chwarter y menywod wedi rhoi genedigaeth yn ddiogel yn yr uned dan arweiniad bydwragedd. Trosglwyddwyd chwarter y menywod i Langwili i allu rhoi genedigaeth yn ddiogel, ac mewn gwirionedd, mae'r un gyfran wedi rhoi genedigaeth yn y cartref hefyd. Mae hon yn system lwyddiannus sy'n darparu gofal o ansawdd i fenywod a'u plant, a dyna rydym ei eisiau. Mae angen i ni fuddsoddi mewn bydwragedd a pharchu eu proffesiynoldeb a'r swydd y maent yn ei gwneud. Mae angen i ni sicrhau bod gwasanaethau arbenigol penodol yn cael eu darparu yn rhan o fodel sy'n gynaliadwy ac yn darparu'r ansawdd gofal sydd ei angen ar bobl. Nawr, dyna fy ymrwymiad i bobl Sir Benfro, ac i Gymru gyfan. Os yw'r dystiolaeth yn newid, yna byddwn yn edrych unwaith eto ar y system a ddarparwn ac ar ansawdd y gofal sy'n cael ei ddarparu, ond ar hyn o bryd, nid oes unrhyw dystiolaeth o gwbl o niwed clinigol yn sgil y newidiadau a wnaed gennym, ac rwy'n falch ein bod wedi gwneud newidiadau yn seiliedig ar dystiolaeth a bod pobl yn cael gwell gwasanaeth o ganlyniad i hynny.
848
Diolch am eich cwestiwn. Fel y dywedais yn gynharach, nid ydym yn bwriadu dilyn yr un trywydd â Lloegr drwy osod contract. Un rheswm pwysig pam y gwrthodwyd y contract hwnnw oedd am nad yw meddygon yn ymddiried yn Llywodraeth y DU, ac mae honno'n sefyllfa andwyol tu hwnt. Rwy'n falch fod gennym berthynas iach gyda Chymdeithas Feddygol Prydain yma yng Nghymru, ac maent yn cydnabod hynny ar ôl y bleidlais i wrthod contract y meddygon iau. Felly, byddaf yn cyfarfod â hwy, a byddwn yn ei gwneud yn glir i feddygon iau yn Lloegr ac unrhyw ran arall o'r DU y byddant yn cael eu parchu a'u gwerthfawrogi os ydynt yn dymuno byw a gweithio yma yng Nghymru. Mae'n ymwneud nid yn unig â rhoi'r cynnig i bobl yn Lloegr, ond â dweud yn gadarnhaol fod yna resymau da dros ddod yma i Gymru i fyw ac i weithio mewn system a fydd yn ymddiried ynddynt ac yn eu parchu. Rydym yn mynd ati i wrando ac i ymgysylltu â meddygon i ddeall beth sydd angen i ni ei wneud er mwyn gwella ansawdd yr hyfforddiant sydd ar gael. Mewn gwirionedd, rwy'n optimistaidd iawn ynglŷn â hyn gan fod Coleg Brenhinol yr Ymarferwyr Cyffredinol a Chymdeithas Feddygol Prydain eu hunain yn rhan weithredol o'r gwaith a wnawn. Credant ein bod ar y trywydd cywir a'n bod yn gwneud y pethau cywir. Yr her i ni yw gwneud hynny'n llawn ac yn gyflym, a darparu'r math o ofal iechyd a ddymunwn yma yng Nghymru, a'r nifer o feddygon rydym yn cydnabod sydd eu hangen arnom hefyd.
849
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Rwy'n cyfathrebu'n rheolaidd â phobl yn ne Sir Benfro ynglŷn ag ansawdd a natur y gwasanaethau gofal sylfaenol. Mae'n bendant yn croesi fy nesg yn rheolaidd ac mae diddordeb gennyf yn y mater. Nid yw pobl wedi mynegi pryderon wrthyf ynglŷn â diogelwch y gwasanaeth; mae'r prif bryderon sy'n cael eu dwyn i fy sylw yn ymwneud ag ansawdd y gofal a sut y caiff bobl fynediad at y gofal hwnnw. Mae'r bwrdd iechyd wedi darparu ystod o ymyriadau, gan gynnwys darparu rhagor o ymarferwyr nyrsio, rhagor o therapyddion, a rhagor o barafeddygon yn wir er mwyn helpu i gefnogi gofal sylfaenol yn y rhan honno o Gymru. Felly, mae'r bwrdd iechyd yn mynd ati'n wirioneddol ragweithiol i fynd i'r afael â'r mater. Mewn perthynas â mân anafiadau, ac yn benodol, natur dymhorol y gwaith mân anafiadau ychwanegol, cafwyd gwerthusiad yn dilyn y cynllun peilot dros y Pasg ac mae'r bwrdd iechyd wrthi'n gweithio ar wasanaeth mwy rheolaidd a chynaliadwy ar gyfer cyflawni hynny, a deall beth sydd angen iddynt ei gomisiynu ar gyfer y lefel dymhorol ychwanegol o gysylltiad a gwasanaeth y bydd angen iddynt ei ddarparu. Mewn gwirionedd, maent eisoes wedi cytuno i sicrhau gwasanaeth ychwanegol dros fisoedd yr haf drwy gomisiynu gwasanaeth gan Ambiwlans Sant Ioan hefyd. Felly, nid yw hwn yn fater lle mae pobl yn cael eu hanwybyddu, nac yn fater lle mae argymhellion a gwerthusiadau yn cael eu gwrthod; yn syml, mae'n ymwneud â datrys sut y caiff hynny ei gyflawni mewn modd synhwyrol er mwyn i bobl gael y gofal o ansawdd sydd ei angen arnynt ar adegau penodol o'r flwyddyn pan fo pwysau ychwanegol ar y gwasanaeth yn y rhan honno o Gymru.
850
Ysgrifennydd y Cabinet, fel y byddwch yn gwybod, mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn gweithio gyda chlinigwyr a grwpiau cleifion i ddatblygu gwell llwybr gofal i gleifion mewn gwasanaethau pediatrig yn Sir Benfro a Sir Gaerfyrddin erbyn diwedd y flwyddyn. Ar ymweliad diweddar â Llwynhelyg a Glangwili, cefais wybod am y ddibyniaeth ar feddygon o'r tu allan i'r DU er mwyn sicrhau ein bod yn gallu llenwi'r rotas mewn pediatreg yn arbennig. Rwy'n sicr y byddwch yn cytuno nad yw'r awgrym nad yw'r gofal a ddarperir yn ddiogel yn helpu i ddenu meddygon. Ers y bleidlais i adael yr UE, mae bwrdd iechyd Hywel Dda wedi ysgrifennu at staff meddygol o'r tu allan i'r DU yn sgil y cynnydd mewn achosion o gasineb hiliol ar draws y DU. Rwyf wedi helpu i lansio ymgyrch i annog cleifion i wneud ymdrech ychwanegol i ddiolch i'r meddygon hynny sydd wedi dod i Gymru i'n helpu i ddarparu'r gwasanaeth hwnnw. A wnewch chi ymuno â mi i estyn croeso a sicrhau na fydd gwasanaethau'r GIG yn cael eu heffeithio'n andwyol gan y bleidlais i adael yr UE, ac y bydd y meddygon hynny sydd yma i'n helpu yn teimlo bod croeso go iawn iddynt yma?
851
Weinidog, mae yna brinder pediatregwyr cymunedol ym mwrdd iechyd Hywel Dda. Un o'r meysydd yr effeithir arno'n ddifrifol gan hyn yw darpariaeth cymorth a diagnosis i bobl ifanc a phlant ag awtistiaeth. Er bod amseroedd aros wedi lleihau, rydym yn dal i weld rhai pobl yn aros am ddwy i bedair blynedd i gael diagnosis o awtistiaeth. Nid oes angen i mi ddweud wrthych mai gorau po gyntaf y caiff y bobl ifanc hyn y diagnosis er mwyn i'w cyfleoedd bywyd fod cystal ag y gallant fod. Yn sicr, dyna yw ein nod ar eu cyfer. Nawr, mae bwrdd iechyd Hywel Dda yn gwneud eu gorau, fel y maent yn fy sicrhau'n gyson; hoffwn wybod beth rydych yn ei wneud i fonitro bwrdd iechyd Hywel Dda, a'r holl fyrddau iechyd mewn gwirionedd, er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn ddigonol ac i weld beth y gallwn ei wneud i ddenu rhai o'r clinigwyr gwerthfawr hyn i'n gwlad.
852
Diolch am y cwestiwn. Rydym yn gweithio gyda Deoniaeth Cymru, y GIG, y colegau brenhinol, Cymdeithas Feddygol Prydain a chyrff proffesiynol i sicrhau ein bod yn gwneud Cymru yn lle deniadol i hyfforddi, gweithio a byw ar gyfer unrhyw feddyg dan hyfforddiant, gan ganolbwyntio'n arbennig ar rai o'r problemau yn y gogledd. Fel y dywedais yn gynharach, bydd gennyf fwy i'w ddweud yn y misoedd nesaf, wrth i ni weithio ar hyn gyda'n rhanddeiliaid allweddol i gynhyrchu strategaeth hirdymor newydd.
853
Diolch am eich cwestiwn. Rwy'n cydnabod yr hyn a ddywedwch am broffil meddygon teulu mewn nifer o wahanol gymunedau, gan gynnwys ar draws gogledd Cymru. Dyna pam ei bod yn bwysig fod gennym fodelau gofal newydd sy'n darparu'r math o ofal y bydd pobl ei eisiau mewn gwirionedd, ac y bydd meddygon teulu newydd yn dymuno dilyn gyrfa yn ei ddarparu, gan fod newid yn y ffordd yr ydym yn darparu'r gwasanaeth a sut y mae pobl yn disgwyl gweithio. Dyna pam mai rhan o'r hyn rwy'n edrych arno yw profiad meddygon dan hyfforddiant o ofal sylfaenol ar gam cynharach, gan fod digon o dystiolaeth a rhesymeg dros ddweud bod pobl, os yw hynny'n digwydd, yn fwy tebygol o fod eisiau dilyn gyrfa mewn gofal sylfaenol. Unwaith eto, mae ein rhanddeiliaid allweddol yn cefnogi hynny fel rhywbeth i ni ei ystyried. O ran eich pwynt ynglŷn ag ysgol feddygol newydd, rwy'n sylweddoli pam y byddai'r Aelod yn dymuno gwneud cais am ysgol feddygol newydd yn ei hetholaeth, ac rwy'n cydnabod y gwir ddiddordeb yn y maes penodol hwn. Yr hyn y dywedais y byddwn yn ei wneud, a'r hyn y byddaf yn ei wneud yw ystyried yr achos dros ysgol feddygol newydd. Rwyf wedi gofyn i swyddogion wneud rhywfaint o waith ar sut beth fyddai honno, neu'r hyn na fyddai, oherwydd os yw'r dystiolaeth yno fod ysgol feddygol yn rhywbeth y gallem ei wneud ac y byddai'n cyflawni'r hyn rydym am iddi ei gyflawni - y byddai'n recriwtio pobl, ac y byddai o gymorth i ni - yna rwy'n awyddus i weld beth y mae hynny'n ei olygu a sut y gallem gyflawni hynny. Rwyf hefyd am weld beth sy'n bodoli ar hyn o bryd gyda'r ysgol glinigol a'r trefniadau ar gyfer hyfforddiant yn y gogledd, hyd yn oed os na cheir ysgol feddygol newydd. Felly, byddaf yn cael arweiniad ar yr hyn y gallwn ei wneud yn ymarferol a'r hyn y dylem ei wneud i sicrhau bod gennym fwy o feddygon mewn hyfforddiant a mwy o feddygon sy'n awyddus i weithio mewn gwahanol rannau o Gymru, gan gynnwys y sefyllfa a ddisgrifiwyd gennych yng ngogledd Cymru.
854
Diolch. Wel, fel y gwyddoch, mae cynghrair iechyd gogledd Cymru wedi ysgrifennu atoch - cynghrair eang o ymgyrchwyr a grwpiau ledled rhanbarth gogledd Cymru - i'ch llongyfarch ar eich penodiad, gan ddweud eu bod yn gobeithio na welwn rai o gamgymeriadau'r gorffennol yn cael eu hailadrodd, ac yn gofyn a wnewch chi ymrwymo i gynnal ymgynghoriadau ystyrlon gyda chleifion cyn rhoi unrhyw newid mawr ar waith, ac ymateb yn gadarnhaol i bryderon cleifion. Maent yn tynnu sylw at sylwadau am Gymru yn adolygiadau'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd o ansawdd gofal iechyd y DU ar gyfer 2016, yn galw am arweiniad canolog cryfach gan y Gweinidog.
855
Diolch am y cwestiwn. Byddwn yn parhau i weithio mewn partneriaeth â byrddau ac ymddiriedolaethau iechyd i farchnata Cymru a GIG Cymru fel lle deniadol i feddygon hyfforddi, gweithio a byw ynddo. Byddwn yn parhau i roi blaenoriaeth i'r arbenigeddau hynny sy'n anodd eu llenwi lle mae heriau recriwtio yn parhau ledled y DU.
856
Rydym yn symud ymlaen nawr at eitem 3, sef datganiad gan Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith ar Gylchffordd Cymru - Ken Skates.
857
Wel, hoffwn ddiolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ond dweud fy mod yn gobeithio y bydd yn dangos mwy o synnwyr cyffredin yn y dyfodol. Rwy'n siomedig braidd fod yr Aelod yn dweud - neu'n awgrymu - y byddai'n fodlon i'r trethdalwr fod yn agored i 75 y cant, neu 100 y cant yn wir, o risg y prosiect ac eto nid yw'n credu mai i 50 y cant o'r risg yn unig y dylai'r trethdalwr fod yn agored iddo. Nid wyf yn deall yn iawn pam y byddai'n well gan yr Aelod wneud y trethdalwr yn agored i'r holl risg yn hytrach na hanner y risg, gan iddo ddweud yn benodol mai dyna y mae'n siomedig yn ei gylch. Rwy'n ofni bod yna gwestiwn yno, ond mae'n un nad oedd yn gwneud synnwyr.
858
A gaf fi ddweud, mae yna Weinidog yn gwneud sylwadau, ac efallai y byddai'r Gweinidog yn hoffi bod ychydig yn dawelach er mwyn i Ysgrifennydd y Cabinet allu clywed yr hyn y mae'r Aelod yn ei ofyn?
859
Nodaf nad oes llawer o gyd-Aelodau'r Aelod yn rhannu ei farn o gwbl. Y ffaith amdani yw bod llawer o gyd-Aelodau'r Aelod yn gwrthwynebu'r prosiect hwn yn llwyr, felly mae arnaf ofn nad yw rhoi'r argraff ei fod ef a'i gyd-Aelodau o blaid adfywio'r ardal drwy Cylchffordd Cymru, yn cyfleu realiti'r sefyllfa o gwbl. Yn wir, mae'r Aelod braidd yn ddistaw ar hyn o bryd. Yn wir, rwy'n eithriadol o siomedig fod yr Aelod - [Torri ar draws.] - unwaith eto'n awgrymu bod ysgwyddo mwy o risg y prosiect hwn o fudd i'r trethdalwr. Mae'r datblygwyr eisoes wedi dweud y gallant weithio yn ôl yr egwyddorion a nodwyd, er mwyn sicrhau nad oes gennym y prosiect ar y fantolen, i weithio yn ôl yr egwyddor honno. Maent wedi ei dderbyn; maent wedi dweud y gallant ei wneud. Felly, nid wyf yn sicr beth sy'n ysgogi'r farn hon ei bod yn well gwneud y trethdalwr yn agored i 100 y cant o risg prosiect yn hytrach na 50 y cant a dim mwy. Nid yw'n gwneud synnwyr o gwbl.
860
Deuthum i'r Siambr a chyflwynais ein hachos. Dywedais fod gan hyn botensial i adfywio ardal gyfan, rydym yn ei groesawu a bydd ein swyddogion yn gweithio gyda Cylchffordd Cymru er mwyn ei symud yn ei flaen. Ond rydym wedi gallu lleihau lefel - rwy'n cadw ailadrodd fy hun ac rwy'n gobeithio y bydd yr Aelodau'n cydnabod hyn - y risg y mae'r trethdalwr yn agored iddi. Mae'n rhaid bod hynny'n rhywbeth y byddai'r Aelodau'n ei groesawu. Lywydd, rwy'n bwriadu cyhoeddi, mor llawn ag y gallaf, asesiadau risg yn ymwneud â'r prosiect yn ogystal â chynnal adolygiad o'r broses, er mwyn i ni allu bod yn hyderus ei fod wedi cael ei wneud yn briodol ac yn llawn.
861
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn, ond mater i awdurdodau lleol yw hyn yn bendant. Mater iddynt hwy yw pa un a ydynt yn dewis buddsoddi mewn rhaglen datblygu economaidd. Ni allaf ateb ar ran yr awdurdod lleol hwnnw, ond wrth gwrs mae cyfle iddynt fuddsoddi ynddo o hyd os dymunant wneud hynny.
862
Diolch i'r Aelod am ei gwestiwn. Mae'n hollol gywir: rwy'n meddwl bod rhywfaint o gamddealltwriaeth ynglŷn â'r hyn y gofynnir i Lywodraeth Cymru ddarparu adnoddau ar ei gyfer. Tanysgrifennu yw hyn, nid ariannu'r prosiect. Rwy'n credu bod llawer o bobl yn ein cymunedau yn credu y byddai tanysgrifennu neu warantu cefnogaeth o 50 y cant yn gyfystyr â chyllido uniongyrchol gwirioneddol o oddeutu £185 miliwn. Nid yw hynny'n wir. Mae'n ymwneud â gwarantu cyllid o gyfalaf preifat. Nid yw cymorth gwladwriaethol yn broblem mwyach o ganlyniad i osod y bar yn is na 80 y cant. O ran y cyngor a gawsom, comisiynwyd yr ymarfer diwydrwydd dyladwy gan Grant Thornton a Fourth Street. Rwyf eisoes wedi rhoi ymrwymiad i gyhoeddi'r hyn a allaf - gwybodaeth nad yw'n fasnachol sensitif - a byddaf yn gwneud hynny.
863
Diolch. Y cwestiwn felly yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os nad oes, fe dderbynnir y cynnig yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
864
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynigion? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os nad oes gwrthwynebiad, fe dderbynnir y cynigion yn unol â Rheol Sefydlog 12.36.
865
Ar y pwynt y mae hi'n ei wneud am y berthynas rhwng y wasg a'r BBC, mae'n gwybod bod y BBC wedi dweud, fel rhan o broses y siarter, fod ganddynt ddiddordeb mewn cefnogi'r wasg ar lefel leol drwy rannu newyddiaduraeth, rhannu straeon ac yn y blaen. A yw hynny'n rhywbeth y mae hi wedi edrych arno gyda - ? Mae'n ddyddiau cynnar ar y pwyllgor newydd, rwy'n gwybod, ond a yw hynny'n rhywbeth sydd o ddiddordeb i'r pwyllgor neu o ddiddordeb yn ehangach, ac a oes ganddi unrhyw sylwadau ar sut y gellid symud hynny yn ei flaen yn awr, yn enwedig o ystyried y ffaith ein bod yn colli newyddiadurwyr o'r lle hwn, er enghraifft, sy'n rhoi sylw i wleidyddiaeth yng Nghymru?
866
Ar y pwynt hwnnw, er gwybodaeth, pan grybwyllais y mater hwn, mater newyddiadurwr y 'Daily Post' yma, yr ymateb gan y 'Daily Post' oedd, 'O, rydym yn ystyried rhannu gyda'r BBC.'
867
Y cwestiwn yw: a ddylid derbyn y cynnig? A oes unrhyw Aelod yn gwrthwynebu? Os na, mae'r cynnig wedi ei dderbyn.
868
Roedd fy rhagflaenydd yn y swydd am un tymor, a heb fawr o liferi economaidd, mewn gwirionedd, i effeithio ar ddirwasgiad a pholisïau caledi a gâi eu rhoi ar waith gan eich plaid chi yn San Steffan. Yr ardaloedd gyda'r niferoedd mwyaf o bobl a bleidleisiodd dros adael yw'r ardaloedd lle y ceir fwyaf o siopau neu fanciau â'u ffenestri wedi eu bordio, lle y collwyd llwybrau bysiau a chyfleusterau cymunedol, a lle y ceir cyflogau is na chyfartaledd Cymru, ac mae'n rhaid i'r Ceidwadwyr gymryd llawer iawn o'r cyfrifoldeb am y sefyllfa honno. Mae'r ardaloedd sydd wedi bod â hawl i gael arian UE sylweddol, oherwydd eu tlodi cymharol a'u hanfantais, hefyd yn ardaloedd gyda lefelau isel o fewnfudwyr; ychydig iawn o gyfleoedd a geir i ddenu mewnfudwyr at waith, ac eto y canfyddiad yw bod yna broblem fewnfudo fawr. Gadewch i ni beidio ag anghofio bod pobl wedi cael clywed y byddai gadael yr UE yn arbed arian. Cofiwch yr addewid ar y bws - byddai £350 miliwn yr wythnos ar gael, dyna a ddywedasant wrthym. Byddai Cymru'n cael £490 miliwn y flwyddyn, dyna a ddywedodd arweinydd y Ceidwadwyr Cymreig wrthym. Wel, rydym yn disgwyl iddo yn awr wneud yn siŵr fod yr addewid yn cael ei gadw, i ddefnyddio pa ddylanwad bynnag y gallai fod ganddo yn ei blaid i wneud yn siŵr fod yr arian hwnnw ar gael, a byddwn yn parhau i wneud y pwynt hwn - nid oherwydd ein bod yn daer eisiau cardod, ond am fod pobl wedi pleidleisio ar y cynsail y byddai'r arian hwnnw ar gael ar gyfer eu GIG ac i adfer y cyfleusterau y maent wedi eu gweld yn diflannu o ganlyniad i galedi'r Torïaid. Rydym hefyd yn disgwyl gweld trefniant i warantu cymorth taliadau uniongyrchol i ffermwyr Cymru. Mae'r diwydiant hwnnw mewn perygl os na fydd y gwarantau hynny yno. Ac rydym am i hawliau dinasyddion yr UE i aros yng Nghymru gael eu gwarantu hefyd. Mae gennym 500 o feddygon o wledydd eraill yr UE yn gweithio yn y GIG yng Nghymru, ac mae hynny cyn i ni hyd yn oed ystyried dinasyddion yr UE sy'n gweithio mewn gwasanaethau cyhoeddus eraill ac yn ein sector preifat hefyd.
869
Byddwn yn cytuno â hynny 100 y cant. Wrth gwrs, mae ein diwydiant ffermio yn y fantol fel y mae pethau, ac mae angen i'r gwarantau hynny fod yno er mwyn darparu gwarantau ar gyfer y diwydiant yn y tymor hir. Mae dinasyddion yr UE yn fudd net i'n gwlad yn ariannol, diwylliannol a chymdeithasol, ac ni ddylai neb ohonom flino ar wneud y pwynt hwnnw, a byddwch yn ein clywed yn gwneud yr un pwynt dro ar ôl tro. Lywydd, mae ein galwadau i sicrhau bod popeth yn cael ei wneud i amddiffyn budd cenedlaethol Cymru eisoes yn cael effaith. Pam arall y byddai Ysgrifennydd Gwladol Cymru yn ceisio tynnu sylw oddi ar yr angen i gael arian yn lle ein cyllid o'r UE, drwy ddweud bod angen i ni gael dadl ehangach am achosion sylfaenol tlodi ac anfantais? Wel, wrth gwrs bod angen i ni wneud hynny. A dechrau'r drafodaeth honno'n unig yw cael arian yn lle ein cronfeydd UE; y cronfeydd hynny yw'r man cychwyn. Rydym angen liferi economaidd go iawn hefyd i fod ar gael i'r Llywodraeth hon ac i'r Cynulliad hwn, ac mae'n rhaid i ni bwyso yn awr am bolisi rhanbarthol llawn yn y DU cyhyd â bod Cymru yn parhau i fod yn rhan o'r undeb hwnnw.
870
Diolch. Rwyf wedi dethol y gwelliant i'r cynnig, a galwaf ar Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol i gynnig gwelliant 1, a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt, yn ffurfiol.
871
Ar y pwynt hwnnw, rydym wedi gweld Alun Cairns yr Ysgrifennydd Gwladol, er enghraifft, yn dadlau heddiw nad yw hyn bellach yn ymwneud ag arian, ac y dylem gael y ddadl fawr hon ynglŷn â beth a ddylai gymryd lle'r cronfeydd strwythurol, ac er fy mod yn agored i ddysgu o'r ffaith nad aeth y cronfeydd strwythurol â ni o'r sefyllfa roeddem ynddi yn 1999 i'r sefyllfa rydym am fod ynddi heddiw, a gaf fi gefnogi'r hyn y mae newydd ei ddweud? Rydym am gadw'r ffydd honno hyd at ddiwedd y rhan naturiol o'r rhaglenni hyn, tan 2020, ac rwy'n gobeithio y bydd y Blaid Geidwadol yn gwneud hynny'n glir iawn mewn dadleuon sydd i ddod.
872
Symudwn ymlaen, felly, at eitem 8 ar ein hagenda heddiw, sef dadl y Ceidwadwyr Cymreig ar ganmlwyddiant y rhyfel byd cyntaf a chefnogi'r lluoedd arfog, a galwaf ar Mark Isherwood i gynnig y cynnig.
873
Croesawaf y cyfle i siarad yn y ddadl hon heddiw ac yn wir, rwy'n llongyfarch fy ngrŵp Ceidwadwyr fy hun am mai dyma'r grŵp sydd wedi cyflwyno cynigion yn gyson gerbron y Cynulliad er mwyn myfyrio ar rai o'r mentrau pwysig y gallai Llywodraeth Cymru eu rhoi ar waith a dangos undod go iawn gyda'n cyn-filwyr a phersonél y lluoedd arfog, lle bynnag y gallent fod yn gwasanaethu. Rwy'n gwybod bod Ysgrifennydd y Cabinet, a bod yn deg, wedi dangos ymrwymiad ei hun gan ei fod wedi bod yn gyfrifol am y briff lluoedd arfog ar sawl achlysur ar ei daith drwy Gabinet Cymru. Ond rwy'n gresynu, heddiw, fod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno gwelliant sydd ond yn galw am 'ystyried'. Mae llawer o'r pwyntiau yno - yn arbennig y pedwar pwynt am gomisiynydd gwasanaethau, cyflwyno cerdyn cyn-filwyr, cymorth i gyn-filwyr drwy wasanaeth GIG Cymru, a gwella prosesau casglu data - yn faterion hirsefydlog nad wyf yn credu bod angen eu hystyried ymhellach mewn gwirionedd. Dylai'r Llywodraeth allu bod mewn sefyllfa dda bellach i weithredu gwelliannau allweddol yn ystod oes y Cynulliad hwn, dros bum mlynedd. Fe gymeraf yr ymyriad.
874
Ond ceir cymaint o achosion pan fo pobl sy'n teimlo nad ydynt wedi cael yr hyn yr oeddent ei angen o'r gwasanaeth iechyd yn honni wedyn mai'r rheswm am y ddarpariaeth honno oedd, neu'n hytrach, mai'r rheswm nad oedd y rhai yn y gwasanaeth iechyd yn deall eu hanghenion, oedd nad oeddent wedi nodi eu bod yn gyn-filwyr y lluoedd arfog ac yn syml, nad oedd eu statws wedi ei gydnabod neu ei gofnodi gan y staff a oedd yn ymdrin â hwy. Felly, mae fy amser ar ben. Hoffwn gymeradwyo'r cynnig hwn i'r tŷ ac rwy'n gobeithio y bydd yn pasio heb ei ddiwygio.
875
Yn fy sylwadau, anghofiais sôn - dylwn fod wedi sôn, ac rwy'n gobeithio y gwnewch eu cymeradwyo hefyd - am Gymdeithas Ffrynt y Gorllewin, a oedd mor ganolog i ddigwyddiadau coffáu Coed Mametz. Rwy'n gwybod eu bod yn gweithio'n agos iawn gyda Llywodraeth Cymru a'r gwasanaethau arfog, ac mae llawer o'r aelodau hynny ym Mro Morgannwg.
876
Mae'r bleidlais gyntaf y prynhawn yma ar ddadl Plaid Cymru, a galwaf am bleidlais ar y cynnig a gyflwynwyd yn enw Simon Thomas. Os na dderbynnir y cynnig, byddwn yn pleidleisio ar y gwelliant a gyflwynwyd i'r cynnig. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Pleidleisiodd 14 o blaid. Roedd 10 yn ymatal a 26 yn erbyn. Felly, mae'r cynnig yn methu.
877
Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. O blaid 37. Roedd 12 yn ymatal a phleidleisiodd 1 Aelod yn erbyn. Felly, derbyniwyd y cynnig fel y'i diwygiwyd.
878
Galwaf am bleidlais ar welliant 1 a gyflwynwyd yn enw Jane Hutt. Agorwch y bleidlais. Caewch y bleidlais. Roedd 34 o blaid, 16 yn erbyn. Felly, derbyniwyd y gwelliant.
879
Symudwn yn awr at y ddadl fer, a ohiriwyd ers 6 Gorffennaf, a galwaf ar Bethan Jenkins i siarad ar y pwnc y mae hi wedi ei ddewis, 'Mae angen ein hundebau arnom yn fwy nag erioed'. Bethan.
880
Yr eitem gyntaf ar ein hagenda ni y prynhawn yma yw cwestiynau i'r Prif Weinidog, a'r cwestiwn cyntaf yn enw Neil Hamilton.
881
Rwy'n ddiolchgar i'r Prif Weinidog am yr ateb yna, ond, fel y mae'n gwybod, ni wna geiriau teg hau'r tir, ac, i bobl Dwyfor Meirionnydd, nid wyf yn meddwl y byddan nhw'n cael llawer o gysur o'r hyn a ddywedodd. Fel y mae'n gwybod, cyhoeddodd meddygfa ym Mhorthmadog yn ddiweddar, a oedd yn gwasanaethu 7,500 o bobl, mai dim ond rhai sy'n sâl iawn y byddai'n eu gweld. Ym Mlaenau Ffestiniog, mae meddygfa â phedwar meddyg wedi ei lleihau i un erbyn hyn, â llond llaw o staff locwm, ac, yn aml, does neb ar gael. Mae dros hanner y meddygon teulu yn Nwyfor dros 55 oed. Onid yw'n bryd i'r Llywodraeth roi trefn ar bethau a gwneud y gwasanaeth iechyd yn addas i bobl Cymru yn ardal Dwyfor Meirionnydd?
882
Roeddwn innau hefyd yn brysur yn cyfarfod â fforymau iechyd yn yr haf, Brif Weinidog, a gofynnais gwestiwn fis Gorffennaf diwethaf, pan roesoch ateb cwbl eglur i mi ynghylch cwm Dulais eich bod yn cyflwyno yn fuan iawn cynigion ar gyfer ymgyrch genedlaethol a rhyngwladol i farchnata Cymru a'r GIG fel lle deniadol i weithio ynddo, ac y byddai'r gwaith hwnnw'n cynnwys recriwtio, hyfforddi a chadw meddygon teulu. A gaf i ofyn i chi felly, Brif Weinidog, a oes cynnydd wedi ei wneud dros yr haf?
883
Mae cymunedau Porthmadog, y Drenewydd, Aberteifi, Dinbych-y-pysgod, Penfro a Doc Penfro, sy'n gorfod aros pythefnos y dyddiau yma am apwyntiad gyda'r meddyg teulu, yn teimlo bod yna argyfwng, ac yn teimlo bod diffyg recriwtio a diffyg meddygon teulu sy'n fodlon aros yn y cylch. Yn arbennig, mae diffyg yn y nifer sydd am fod yn bartneriaid mewn meddygfeydd. Felly, beth yn ychwanegol y mae'r Llywodraeth yn ei wneud i recriwtio meddygon teulu, ond, hefyd, beth yw dyfodol y feddygfa breifat fel rhan o'r gwasanaeth iechyd ar gyfer gofal sylfaenol?
884
Brif Weinidog, o ystyried bod gennym ni erbyn hyn dri bwrdd iechyd sydd wedi bod yn destun ymyriadau wedi'u targedu, ac un bwrdd iechyd mewn mesurau arbennig, mae'n rhaid i'r ymgyrch hon i recriwtio meddygon teulu sôn am recriwtio'r teulu cyfan, oherwydd, fel arall, ni fydd y meddygon teulu hyn eisiau gweithio mewn ardaloedd lle maen nhw'n teimlo na fydd cymorth wrth gefn sylweddol, yn feddygol, iddyn nhw yn eu meddygfeydd. Ac mae angen i ni wneud yn siŵr bod y meddygon teulu hyn sydd eisiau dod i Gymru - ac rydych chi'n iawn ei fod yn lle gwych i fyw a gweithio ynddo - eisiau dod â'u teuluoedd; maen nhw eisiau dod â'u priod, eu partneriaid, eu plant, maen nhw eisiau iddyn nhw gael ysgolion da i fynd iddyn nhw, ac maen nhw eisiau cael swyddi da y gall eu partneriaid, eu priod, eu gwneud hefyd. Felly, nid un person yn unig yr ydym ni'n ei recriwtio, ond teulu cyfan, ac os gallwn ni gael y teulu hwnnw i ddod dros y ffin, gallwn ni ei gadw, ond mae'n rhaid i ni roi'r pecyn cyfan hwnnw iddyn nhw. Felly, pan fyddwch chi'n edrych ar y rhaglen gadw a'r rhaglen recriwtio hon, a wnewch chi gadw hynny mewn cof, a chadw mewn cof bod yr holl feddygfeydd teulu hyn, pa un a ydynt yn cael eu rhedeg gan fwrdd iechyd neu aelodau preifat unigol, yn edrych tuag at eu hysbytai a'r GIG lleol am y gwasanaeth sydd ei angen arnyn nhw i ategu eu cymorth i'w cleifion? A chyda phedwar o'r wyth mewn rhyw fath o drafferth, nid yw'n newyddion da.
885
Gwnaf. Anfonodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a Seilwaith ddiweddariad llawn at yr Aelodau ddoe ar y cynnydd sydd wedi ei wneud ers y datganiad ysgrifenedig ar 8 Awst. Nid oes unrhyw gynnydd wedi ei wneud eto, fodd bynnag, gan Lywodraeth y DU o ran materion ynni a phensiynau.
886
Nid wyf yn credu mai syniad Plaid Cymru yn gyfan gwbl oedd yr egwyddor o gadw ein diwydiant dur. Mae'r mater o waith pŵer yn rhywbeth yr ydym ni wedi bod yn ei drafod ers blynyddoedd gyda Tata, ymhell cyn yr hyn a ddigwyddodd ddechrau'r flwyddyn hon, a dweud y gwir. Yr hyn y gallaf ei ddweud - ac mae cyfyngiad ar yr hyn y gallaf ei ddweud ar hyn o bryd, gan fod trafodaethau'n parhau - yw bod cynnydd da wedi ei wneud, yn ein barn ni, fel Llywodraeth, ar geisio darparu llwyfan ar gyfer dyfodol hirdymor ein diwydiant dur. Ond mae'n wir i ddweud, wrth gwrs, bod y ddau fater hynny o ynni a phensiynau yn dal i fod heb eu datrys ar lefel Llywodraeth y DU.
887
Mae'n wir. Rwy'n credu ei bod yn deg i ddweud bod Prif Weinidog blaenorol y DU yn rhagweithiol iawn yn hyn o beth. Nid ydym wedi clywed cymaint gan y Llywodraeth bresennol o ran y ddau fater hyn. Cafwyd sgyrsiau cychwynnol; nid ydynt wedi bod yn negyddol, ond rwy'n credu bod angen i ni nawr, yn ystod y misoedd nesaf, weld rhywfaint o gynnydd, yn enwedig ar fater pensiynau, ac ar fater prisiau ynni, wrth gwrs - sy'n fater hirhoedlog. Mae gennym ni ohebiaeth yn mynd yn ôl bum mlynedd gyda Llywodraeth y DU ar fater prisiau ynni, nid yn unig yn y diwydiant dur, ond ar gyfer ein holl ddiwydiannau ynni-ddwys. Ni allwn fforddio cael ein gweld fel lle drud i weithgynhyrchu oherwydd prisiau ynni.
888
Wel, yn fwy na dim byd arall, yr hyn yr ydym ni'n ei wneud yw cynorthwyo Tata, gan edrych ar ffyrdd y gallant arbed arian, yn enwedig o ran y gwaith pŵer, gweld beth allwn ni ei wneud o ran sgiliau a hyfforddiant, a darparu'r cymorth sydd ei angen arnyn nhw i fod yn gynaliadwy yn y tymor hwy. Ceir problemau yn ymwneud â busnesau eraill a gafodd eu problemau gyda Tata, a arweiniodd yn anffodus at y canlyniadau y mae'r Aelod wedi eu crybwyll, ond rydym ni'n hyderus y gallwn ni lunio pecyn da cyn belled ag y mae Tata yn y cwestiwn o ran yr hyn y gallwn ei gynnig. Ond mae angen i ni weld cynnydd nawr ar y ddau brif fater, ac mae angen i ni weld y cynnydd hwnnw'n eithaf buan.
889
Tariffau yw'r bygythiad mwyaf i'r diwydiant dur. Rydym ni'n allforio 30 y cant o'r dur yr ydym ni'n ei gynhyrchu. Nid yw unrhyw beth sy'n cynyddu pris y dur hwnnw'n mynd i fod o gymorth. Os yw hi'n sôn am leihau carbon, yr hyn y mae'n ei olygu yw mwy o allyriadau, felly, mwy yn dod allan o'r gwaith dur nag o'r blaen. Os yw hi eisiau gwerthu hynny i bobl Port Talbot a Phen-y-bont ar Ogwr, mae croeso iddi wneud hynny. Yn wir, rwy'n siŵr y bydd cyfleoedd yr wythnos hon pryd y gall hi esbonio'r polisi hwnnw i bobl yn yr ardal - nad yw hi eisiau gweld allyriadau'n cael eu rheoli'n briodol. Ond mae pwynt arall yma hefyd. Os edrychwch chi ar wledydd eraill yn yr UE, mae eu prisiau ynni nhw'n llawer is na'n rhai ni. Os edrychwch chi ar yr Almaen, 20 y cant yn is. Os edrychwch chi ar Sbaen, 37 y cant yn is. Felly nid yw'n unrhyw beth i wneud â'r UE o gwbl. Mae i'w wneud â'r DU, a marchnad ynni honedig y DU. Mae pob un diwydiant ynni-ddwys yn dweud wrthym ni nad mater yr UE yw hwn - mae i'w wneud â'r ffaith nad yw diwydiant ynni'r DU yn ddigon tryloyw, ac mae'n rhywbeth y mae Celsa Steel wedi ei godi gyda mi, ynghyd ag eraill. Maen nhw'n dweud, 'Edrychwch, mae'r DU yn lle drud i gyflawni busnes oherwydd ei chostau ynni'. Nawr, mae'r rheoliadau yr un fath ar draws yr UE gyfan, ond y ffaith yw bod y DU yn ddrytach na llawer o'r gwledydd yr ydym ni'n cystadlu â nhw, ac mae'n rhaid i hynny newid. Nid yw hynny'n ymwneud ag allyriadau, oherwydd mae gan yr Almaen a Sbaen yr un rheoliadau. Mae'n ymwneud â'r ffordd y mae'r farchnad yn gweithredu yn y DU.
890
Yn sicr. Mae'r pedwar prif safle yn hynod bwysig - Shotton hefyd, wrth gwrs, a Throstre. Maen nhw'n weithrediadau yr ydym ni eisiau eu cadw yng Nghymru, yn cynhyrchu dur yng Nghymru, yn allforio dur o Gymru. Port Talbot, wrth gwrs, sydd wedi cael y sylw mwyaf gan mai dyna'r gwaith mwyaf a hwnnw sydd wedi wynebu'r heriau mwyaf, ond mae pob un o'r pedwar gwaith yn bwysig i ddyfodol Cymru.
891
Yn sicr, ac rwyf innau, wrth gwrs, wedi bod ym mhob un o'r pedwar safle. Roedd Shotton yn safle proffidiol erioed, ond fel y dywedwyd wrthyf yn Shotton, byddai'n anodd iawn i Shotton weithredu heb y dur o Bort Talbot gan y byddai'n cymryd tua chwe mis i gael gafael ar y dur o rywle arall pe na byddai Port Talbot yno, gan arwain at sgil effaith amlwg o ran colli cwsmeriaid. Felly, mae pob un o'n pedwar gwaith dur wedi eu hintegreiddio â'i gilydd. Mae'n hynod bwysig, felly, eu bod i gyd yn sefyll gyda'i gilydd ac yn ffynnu.
892
Wel, rwy'n derbyn, wrth gwrs, y pwynt am gostau cyfalaf gwella seilwaith Cymru, ond mae hynny'n gyfiawnadwy ynddo'i hun. Rydym ni'n sôn yma, yn ôl pob tebyg, am oddeutu £1 biliwn i £1.5 biliwn wedi'i amorteiddio dros 10 mlynedd yn y lle cyntaf. Yng nghyd-destun cyllideb Llywodraeth Cymru o £15 biliwn y flwyddyn, rydym ni'n sôn am geiniog a dimau. [Torri ar draws.] Yr hyn yr wyf yn gofyn i'r Prif Weinidog ei wneud yw codi ei fryd a gwella ei berfformiad a hyrwyddo Cymru i'r byd trwy gampau ein hathletwyr. A'r hyn sydd ei angen arnom ni yw gweithredu gan ein Llywodraeth i fod cystal â hynny o ran gwella seilwaith chwaraeon Cymru fel y gallwn gynnal y gemau yn 2026.
893
Wel, mae'n ddrwg gen i ddweud ei bod yn ymddangos bod gan y Prif Weinidog olwg sydd braidd yn statig ar ei swyddogaethau fel Prif Weinidog. Pam nad ydym ni'n cymryd golwg fwy deinamig ar y prosiectau hyn? Mae gwledydd eraill yn gwneud hynny ac maen nhw'n gallu gweld y manteision o godi ein dyheadau. Mae hon yn gyfres hir o brosiectau y mae'r Llywodraeth wedi tywallt dŵr oer am eu pennau: gwelliannau i'r M4, Cylchffordd Cymru, a nawr y cais am Gemau'r Gymanwlad. Mae'r rhain i gyd yn brosiectau sy'n rhy anodd, yn rhy galed. Rhowch nhw o'r neilltu. Yn y pen draw - gwneud dim. Wel, nid yw'n ddigon da cael gweinyddiaeth gwneud dim yma ym Mae Caerdydd.
894
Diolch, Lywydd. Brif Weinidog, bydd y telerau y byddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd yn unol â nhw yn diffinio dyfodol economi Cymru a holl wleidyddiaeth Cymru yn wir. Rydych chi wedi dweud y dylai Cymru gael feto os nad yw'r cytundeb Brexit yn un da i Gymru. Nawr, mae'n un peth i alw am feto, ond yr hyn y mae angen i ni ei weld nawr yw gweledigaeth, ac mae pobl yn disgwyl bod gennych chi'r weledigaeth gynhwysfawr, fanwl sy'n ysbrydoli o ran sut y bydd Cymru yn edrych ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd. Nid yw ymladd am yr hyn sydd gennym ni eisoes o ran cyllid yn ddigonol, gan y byddai hynny yn darparu'r isafswm yn unig, ac nid yw'n ddigon da. Pryd, Brif Weinidog, allwn ni ddisgwyl clywed eich gweledigaeth o ran sut y bydd Cymru newydd yn edrych ar ôl i ni adael yr Undeb Ewropeaidd, neu efallai nad oes gennych chi un?
895
Brif Weinidog, nid gweledigaeth yw honno. Rydych chi wedi amlinellu'r camau nesaf, rydych chi wedi amlinellu'r hyn yr hoffech chi weld Prif Weinidog y DU yn ei wneud, ond nid ydych chi wedi dweud wrthym beth yr hoffech chi ei weld ar gyfer Cymru. Nawr, cafwyd negeseuon cymysg gan eich arweinydd yn y DU ar y cwestiwn hwn o aelodaeth o'r farchnad sengl, ac nid yw eich datganiadau chi eich hun wedi bod yn llawer mwy eglur ychwaith. Rydych chi wedi galw am fynediad rhydd at farchnad sengl Ewrop, rydych chi hefyd wedi dweud eich bod chi eisiau mynediad di-dor, ac yr wythnos diwethaf, dywedasoch eich bod eisiau gweld moratoriwm saith mlynedd ar symudiad rhydd pobl. Wel, roeddwn i ym Mrwsel yr wythnos diwethaf gyda nifer o aelodau o fy nhîm, ac fe'i gwnaed yn gwbl eglur i ni na allwch chi gael mynediad rhydd llawn heb dderbyn symudiad rhydd pobl. Nawr, gall mynediad gynnwys pob math o gostau, gan gynnwys tariffau - ac rydym ni wedi clywed heddiw sut y byddai hynny'n ddrwg i ddur - gallai olygu costau tollau, a byddai pob un o'r rhain yn groes i les gorau Cymru. Brif Weinidog, a ydych chi'n credu y dylai Cymru aros yn aelod o'r farchnad sengl pan fyddwn ni'n gadael yr Undeb Ewropeaidd?
896
Wel, dau beth: yn gyntaf oll, mae'n debyg fy mod wedi colli cyfrif o sawl gwaith yr wyf wedi dweud bod mynediad at y farchnad sengl yn hynod bwysig i Gymru a bod rhaid iddo fod yn ddi-dor. Felly, i arweinydd yr wrthblaid -
897
Diolch i chi, Lywydd. Brif Weinidog, yr wythnos diwethaf, roeddech chi yn America yn hyrwyddo'r hyn sydd gan Gymru i'w gynnig i fusnesau sy'n awyddus i fuddsoddi yn y DU, ac mae Cymru yn amlwg eisiau cael cyfran fawr o'r gacen honno. Ar ddiwedd yr ymweliad, gwnaethoch ddewis defnyddio araith i siarad am chwalu'r Deyrnas Unedig. Roedd yn ymddangos braidd yn rhyfedd, pan eich bod chi'n ceisio hyrwyddo'r cynnyrch i entrepreneuriaid sydd eisiau buddsoddi cannoedd o filiynau o ddoleri yn y DU - gydag ychydig o lwc - eich bod chi, ar y dydd Gwener, yn cynnig darlun llwm o ragolygon y Deyrnas Unedig. A allwch chi esbonio pam y gwnaethoch chi ddefnyddio taith fasnach fel llwyfan i drafod chwalu'r Deyrnas Unedig?
898
Brif Weinidog, roedd yn ymddangos yn eglur fel eich bod yn breuddwydio eto am chwalu'r Deyrnas Unedig, sydd yn rhywbeth yr ydych chi'n treulio llawer o amser yn siarad amdano y dyddiau hyn, ac fel unrhyw un sy'n mynd o flaen entrepreneur fel yn 'Dragon's Den' dydych chi ddim yn beirniadu'r cynnyrch yr ydych chi'n ceisio ei werthu iddyn nhw, Brif Weinidog. Ond un peth y gallech chi fod wedi ei wneud ar eich cenhadaeth fasnach fyddai mynd draw i Detroit a siarad ym mhencadlys Ford gyda'r cyfarwyddwyr yno a'r uwch dîm rheoli am y cyhoeddiad a wnaethpwyd yr wythnos diwethaf am leihau cynhyrchiant yng nghyfleuster injans Pen-y-bont ar Ogwr. Rwy'n credu y dylem ni gofio bod gwerth £100 miliwn o fuddsoddiad yn mynd i mewn i'r cyfleuster injans o hyd, ond mae hwn yn gyhoeddiad arwyddocaol ar ran Ford o ran sut y maen nhw'n mynd i fwrw ymlaen â'r ddeinameg yn y gwaith hwnnw. A wnaethoch chi ofyn am gyfarfod gyda Ford, ac os gwnaethoch chi ofyn am y cyfarfod hwnnw, pam na chawsoch chi gyfarfod?
899