instruction
stringclasses
2 values
input
stringlengths
38
42.1k
output
stringlengths
38
42.1k
Translate the text from Welsh to English.
Mae un\-ar\-ddeg o brosiectau ledled Cymru yn cwblhau eu cynlluniau i dderbyn cyllid fel rhan o'r camau cyntaf o brosiectau ar raddfa fwy sy'n cael eu cefnogi o dan gynllun grant Galluogi Adnoddau Naturiol a Llesiant yng Nghymru. Fel rhan o Ddiwrnod Amgylchedd y Byd (5 Mehefin), bydd y Gweinidog Lesley Griffiths yn cyfarfod â phobl ifanc sydd wedi bod ar streic dros y newid yn yr hinsawdd, yn ogystal â siarad mewn digwyddiad gyda WWF Cymru ac RSPB Cymru yn y Senedd. Mae'r prosiectau sy'n cael eu hariannu yn cael eu datgelu i ddangos yr ymdrechion sy'n cael eu gwneud i gefnogi'r amgylchedd a'r manteision all ddod yn ei sgîl i bobl a chymunedau ledled Cymru.  Gobeithio y bydd buddsoddi mewn seilwaith gwyrdd yn gwella'r amgylchedd gwledig a threfol, yn ogystal â chefnogi datblygiad rhwydweithiau ecolegol cydnerth.  Bydd y grantiau i gefnogi gwelliannau i'r amgylchedd sy'n gysylltiedig â gwella llesiant hefyd yn elwa o dros £2\.2 miliwn o arian cyfatebol. Bydd Llywodraeth Cymru yn cynnig grantiau rhwng £500,000 a £2\.8 miliwn am uchafswm o dair blynedd. Dyma rai o'r prosiectau fydd yn cael arian: * prosiect sy'n anelu at atal a gwyrdroi y dirywiad mewn bioamrywiaeth a chynyddu cydnerthedd yr ecosystem yn Ne\-ddwyrain Cymru. * prosiect i wella y seilwaith gwyrdd a  phlannu coed yn strwythurol, i leihau effaith llygredd sŵn ac aer o draffig trwm yn Wrecsam i ofalu am eu mannau gwyrdd. * bydd prosiect yng Nghronfeydd Dŵr Llanisien a Llys\-faen yn creu canolfan iechyd a lles, gan ail\-gysylltu pobl gyda dŵr a'r amgylchedd, tra'n cynnal, diogelu a gwella gwerth ecolegol y safle. * prosiect sy'n anelu at wneud gwahaniaeth hirdymor, cynaliadwy i adfer natur drwy gydgysylltu a galluogi gweithredu doeth ar y cyd wedi'i sbarduno gan dystiolaeth. * prosiect fydd yn adfer rhwydwaith o ddolydd ac yn cysylltu'n uniongyrchol gyda 20,000 o bobl, wedi'i gyflawni trwy dair rhaglen atodol sy'n cysylltu pobl gyda dolydd lleol, gwella'r dulliau o reoli a sgiliau a gadael gwaddol gwerthfawr o adnoddau at y dyfodol. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd y Prif Chwip Jane Hutt yng Ngŵyl y Gelli y byddai prosiect ledled Cymru yn cynyddu llesiant pobl, bioamrywiaeth a'r amgylchedd, gan defnyddio tri pecyn gwaith cysylltiedig, yn elwa o'r £996,999 fel rhan o'r cynllun grant.  Bydd rhagor o brosiectau sydd i elwa o'r cyllid i gael eu datgelu yn y dyfodol agos. Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig: > Bydd y prosiectau hyn yn gwneud gwahaniaeth i'r amgylchedd o'n hamgylch ledled Cymru. Yn ogystal â'r manteision ecolegol a bioamrywiaeth, bydd y gwaith hefyd yn gwella lles meddyliol a chorfforol cyffredinol cymunedau sy'n gallu eu mwynhau.  > > "Trwy'r rhwydweithiau gwirfoddoli a rhaglenni partneriaeth, gall gymunedau gael effaith uniongyrchol ar eu hamgylchedd lleol, gan gymryd cyfrifoldeb a gwella mannau gwyrdd a'r adnoddau naturiol o'u hamgylch. > > "Bydd y buddsoddiad hwn mewn seilwaith gwyrdd yn cael ei deimlo gan sawl cenhedlaeth i ddod ac mae'n rhan o'n hymrwymiad i gefnogi'r amgylchedd ym mhob ffordd y gallwn. Mae'n hollbwysig ein bod yn manteisio ar y cyfle i gefnogi bioamrywiaeth a phrosiectau amgylcheddol fel y gallant fod yn gynaliadwy a blodeuo yn y dyfodol.
11 projects across Wales are currently finalising their plans to receive funding as part of the first stages of larger scale projects supported under the Enabling Natural Resources and Well\-Being in Wales grant scheme.  As part of World Environment Day (5 June), Minister Lesley Griffiths will be meeting with young people who have been striking over climate change, as well as speaking at an event with WWF Cymru and RSPB Cymru at the Senedd. The projects gaining funding are being revealed to demonstrate the efforts being made to support the environment and the benefits it can bring for people and communities across Wales.  It is hoped that investing in green infrastructure will improve the rural and urban environment, as well as support the development of resilient ecological networks. The grants to support environmental enhancements linked to improving well\-being will also benefit from more than £2\.2 million of match funding. Welsh Government will be providing grants between the range of £500,000 and £2\.8 million for a maximum duration of 3 years. Projects that will benefit from funding include: * a project aiming at halting and reversing biodiversity decline and increasing ecosystem resilience in South East Wales. * a project to improve green infrastructure and create structural tree planting, to reduce the noise and air pollution effects of heavy traffic within Wrexham to care for their green space. * a project based at the Llanishen and Lisvane Reservoirs will create a hub for health and wellbeing, reconnecting people with water and the environment; whilst maintaining, protecting and enhancing the ecological value of the site. * a project aiming to make a long\-term, sustainable difference to nature recovery through co\-ordinating and enabling informed, evidence\-driven collaborative action. * a project that will restore a network of meadows and engage directly with 20,000 people, being delivered through three complementary programmes which connecting people with local meadows, improve management and skills and leave a valuable legacy of resources for the future. Last week Chief Whip Jane Hutt announced at the Hay Festival that a pan\-Wales project increasing the well\-being of people, biodiversity and the environment, throughout Wales, using three interconnected work packages, will benefit from £996,999 as part of the grant scheme.  Further projects set to benefit from funding will be revealed in the near future. Minister for Environment, Energy and Rural Affairs, Lesley Griffiths, said: > These projects will make a difference to the environment around us across Wales. As well as the ecological and biodiversity benefits, the enhancement works will also improve the general mental and physical well\-being of communities who are able to enjoy them.  > > > “Through volunteer networks and partnership programmes communities will be able to have a direct impact on their local environment, taking responsibility and enhancing the green spaces and natural resources around them. > > > “This investment in green infrastructure will be felt by many generations to come and is part of our commitment to supporting the environment in every way we can. It is imperative that we take the opportunity to support biodiversity and environmental projects so they can be sustainable and flourish in future years.
Translate the text from Welsh to English.
Fe wnaeth Dr Chris Jones, dirprwy brif swyddog meddygol Cymru, annog pobl ledled Cymru i gael eu brechiad atgyfnerthu a dilyn mesurau i leihau lledaeniad y feirws. Mae'r ffigurau diweddaraf yn dangos bod cyfraddau achosion wedi codi'n sydyn i fwy na 910 o achosion fesul 100,000 o bobl \- y lefelau uchaf ers dechrau'r pandemig. Mae tua 6,000 o heintiau newydd yn cael eu cadarnhau bob dydd, a bydd y rhan fwyaf ohonynt yn cael eu hachosi gan yr amrywiolyn omicron newydd. Mae mwy na 54% o oedolion yng Nghymru wedi cael eu brechiad atgyfnerthu. Meddai Dr Jones: > "Rydym yn gweld cynnydd cyflym yn nifer yr achosion o Covid\-19 a achosir gan omicron ledled Cymru. Mae'r rhan fwyaf o'r rhain ymysg pobl iau a chredwn y byddent wedi cael eu dal cyn y Nadolig. > > > "Mae'r amrywiolyn newydd hwn yn cael ei drosglwyddo'n hawdd iawn – mae'n lledaenu'n gyflym iawn ble bynnag y bydd pobl yn dod at ei gilydd. > > > "Cymerwch gamau i amddiffyn eich hun a'ch anwyliaid. Mae hyn yn golygu gwisgo gorchudd wyneb mewn mannau cyhoeddus dan do; cadw eich pellter oddi wrth bobl eraill lle bynnag y bo modd ac, os gallwch, lleihau nifer y bobl yr ydych yn eu cyfarfod yn rheolaidd. > > > "Os oes gennych chi symptomau, dylech hunanynysu a threfnu i gael prawf PCR. > > > "Cofiwch hefyd gael eich brechiad atgyfnerthu – dyma'r ffordd orau o amddiffyn ein hunain. > > > "Mae Cymru ar lefel rhybudd dau ac mae mesurau amddiffyn newydd yn eu lle. Mae hwn yn gyfnod pryderus ond os ydym i gyd yn gweithio gyda'n gilydd ac yn gofalu am ein gilydd, gallwn gadw Cymru'n ddiogel.” Ar Ŵyl San Steffan yng Nghymru, daeth mesurau lefel rhybudd dau newydd i rym ar gyfer busnesau a chanllawiau wedi'u diweddaru a'u cryfhau i helpu pobl i gadw'n ddiogel gartref mewn ymateb i'r don omicron a ragwelir. Y pethau allweddol y gall pawb eu gwneud i leihau eu risg o ddal y coronafeirws: * Cael eich brechu'n llawn, gan gynnwys cael eich brechiad atgyfnerthu – mae'r brechiad yn cynnig amddiffyniadau sylweddol i chi ac i'r bobl rydych chi'n gofalu amdanynt. * Dylech hunanynysu a chael PCR os oes gennych symptomau Covid\-19\. Osgoi pobl eraill pan fyddwch yn sâl. * Gwneud profion llif unffordd ddwywaith yr wythnos os nad oes gennych unrhyw symptomau a gwneud prawf llif cyn i chi fynd allan neu gwrdd â phobl. Os yw'n gadarnhaol peidiwch â mynd a threfnwch brawf PCR. * Cadwch eich pellter oddi wrth eraill lle bynnag y bo modd. * Cyfyngwch ar nifer y bobl rydych chi'n cwrdd â nhw, yn enwedig os ydych chi'n cwrdd â gwahanol bobl yn aml. * Dylech gwrdd yn yr awyr agored os gallwch neu mewn mannau sydd wedi'u hawyru'n dda. * Dylech osgoi mannau llawn pobl lle bo hynny'n bosibl. * Golchwch eich dwylo; tisian i hances a chadw arwynebau mae llawer o bobl yn eu cyffwrdd yn lân. * Gwisgwch orchudd wyneb, yn enwedig mewn mannau llawn pobl. * Defnyddiwch Bàs COVID y GIG neu dangoswch ganlyniad prawf llif unffordd negyddol i fynd i ddigwyddiadau mawr, lleoliadau, sinemâu, theatrau a neuaddau cyngerdd.
Dr Chris Jones, Wales’ deputy chief medical officer, encouraged people across Wales to get their booster vaccine and follow measures to curb the spread of the virus. The latest figures show case rates have risen sharply to more than 910 cases per 100,000 people – the highest levels since the start of the pandemic. Some 6,000 new infections are being confirmed daily, the majority of which will be caused by the new omicron variant. More than 54% of adults in Wales have had their booster vaccine. Dr Jones said: > “We are seeing a rapid rise in Covid\-19 cases caused by omicron all over Wales. The majority of these are in younger people and we believe they would have been contracted before Christmas. > > > “This new variant is very transmissible – it spreads very quickly wherever people come together. > > > “Please take steps to protect yourself and your loved ones. This means wearing a face covering in indoor public places; keeping your distance from other people wherever possible and, if you can, reducing the number of people you meet regularly. > > > “If you have symptoms, self\-isolate and arrange to get a PCR test. > > > “Please also get your booster vaccine – it’s the best way of protecting ourselves. > > > “Wales is at alert level two and new protections are in place. This is a worrying time but if we all work together and look out for each other, we can keep Wales safe.” New alert level 2 measures for businesses and updated and strengthened guidance to help people stay safe at home came into effect on Boxing Day in Wales in response to the predicted omicron wave. The key things everyone can do to lower their risk of contracting coronavirus: * Get fully vaccinated, including having your booster – the vaccine offers significant protections for you and for people you care about. * Self\-isolate and get a PCR if you have Covid\-19 symptoms. Avoid others when ill. * Take lateral flow tests twice a week if you don’t have any symptoms and flow before you go out or meet people. If it’s positive don’t go and arrange to have a PCR test. * Keep your distance from others wherever possible. * Limit the number of people you meet with, especially if you’re meeting different people in quick succession. * Meet outdoors if you can or in well\-ventilated places. * Avoid crowded places where possible. * Wash your hands; sneeze into tissues and keep surfaces lots of people touch clean. * Wear a face covering, especially in crowded spaces. * Use the NHS COVID Pass or show a negative lateral flow test result to attend large events, venues, cinemas, theatres and concert halls.
Translate the text from Welsh to English.
Am ddiweddariadau traffig, ewch i **Traffig Cymru**. Image ![Map yn dangos y newidiadau yng nghyffordd Dowlais Top](/sites/default/files/2023-09/dowlais-updated-graphic_0.jpg) ### Beth ydyn ni'n ei wneud * symud cyfleustodau * adeiladu ffordd dros dro * adeiladu ffordd ymuno * adeiladu pont yn Jones street * adeiladu pontydd * creu cynefin ar gyfer cornchwiglod * adeiladu cylchfan dros dro Rydym wedi creu 2 gylchfan dros dro ar y gyffordd. Mae angen y rhain fel y gallwn adeiladu 2 bont newydd.  Bydd rhain yn cario’r A465 dros y gyffordd wedi ei chwblhau i ymuno â ffordd ddeuol yr A465\.  Yn y pendraw bydd y 2 gylchfan dros dro yn cael eu disodli gan un gylchfan newydd.  Caiff y ffordd ei hadeiladu ar arglawdd hyd at 30tr (9m) uwchlaw’r lefel bresennol. Byddwn yn creu cynefin newydd ar gyfer cornchwiglod i’r dwyrain o’r gyffordd. Byddwn yn symud cyfleustodau, gan gynnwys ceblau foltedd uchel uwchben, i adeiladu’r ffordd newydd. ### Rydym wedi: * clirio llystyfiant * adeiladu dwy gylchfan dros dros i wella llif y traffig a chreu lle i adeiladu dwy bont * Dargyfeirio traffig i’r gerbytffordd ddwyreiniol * Sefydlu safle dros dro ar gyfer y tîm adeiladu * Ymchwilio a chynnal gwaith trin ar byllau glo * Cynnal cloddwaith sylweddol * Dargyfeirio cyfleustodau * Dechrau gwaith adeiladu ar gyfer y pontydd newydd yn y gylchfan bresennol * Gosod pont newydd i gerddwyr yn Dowlais Ponds (Dyddiad agor i’w gadarnhau) Image ![Works at Dowlais Top junction](/sites/default/files/2022-01/Dowlais.jpg) Y gwaith yng nghyffordd Dowlais Top ### Y camau nesaf * Bydd y gwaith o adeiladu’r ddwy bont, a fydd yn cynnal yr A465 dros y gylchfan bresennol, yn parhau * Gosod pridd i greu’r arglawdd ar gyfer cerbytffordd ddeuol newydd yr A465 I gael newyddion traffig ar y gyffordd hon, ewch i Traffig Cymru.
For latest traffic updates visit Traffic Wales. Image ![Map showing the changes at Dowlais Top junction](/sites/default/files/2023-09/dowlais-updated-graphic_0.jpg) Map showing the changes at Dowlais Top junction ### What we're doing * moving utilities * building a temporary road * building a slip road * building a bridge at Jones street * building bridges * creating lapwing habitat * building a temporary roundabout We have created 2 temporary roundabouts at the junction. These are needed to help build 2 new bridges. These will carry the A465 over the completed junction to join the A465 dual carriageway. The 2 temporary roundabouts will eventually be replaced with a new single roundabout. The road will be built on embankment up to 30ft (9m) above the existing level. We will create a new lapwing habitat to the east of the junction. We will move utilities, including overhead high voltage cables to build the new road. ### We have: * cleared vegetation * built two temporary roundabouts to improve traffic flow and create space to build two bridges * diverted traffic onto the eastbound carriageway * set\-up a temporary site for the construction team * investigated and carried\-out treatment work on mineworks * undertaken extensive earthworks * diverted utilities * started construction work for the new bridges at the existing roundabout * installed a new pedestrian bridge at Dowlais Ponds. (Opening date TBC)   Image ![Works at Dowlais Top junction](/sites/default/files/2022-01/Dowlais.jpg) Works at Dowlais Top junction ### Next steps * ongoing construction of the two bridges that will carry the A465 over the existing roundabout * placing earth to create the embankment for the new A465 dual carriageway * ongoing diversion of utilities. For traffic news on this junction, visit Traffic Wales.
Translate the text from English to Welsh.
On June 14, I provided an update on the action taken by the Welsh Government and Betsi Cadwaladr University Health Board after it was placed in special measures. I committed to provide a further statement to Assembly Members at the start of the new term. Work has been ongoing over the summer in each of the five areas highlighted as part of the special measures –governance, leadership and oversight; mental health services; maternity services at Ysbyty Glan Clwyd; GP and primary care, including out of hour services and reconnecting with the public in North Wales. A series of 100\-day plans, commissioned by Simon Dean, Betsi Cadwaladr University Health Board’s interim chief executive, have been put in place across the health board. Among the changes introduced as a result are the appointment of an extra 27 midwives, following a recruitment drive, and all the key milestones in the GP out\-of\-hours services plan have been delivered. The health board has held a series of events to engage with and listen to the public in North Wales in a variety of community settings, including live web chats; high street “have\-your\-say” days in Bangor, Llandudno, Rhyl and Wrexham; meeting community groups and having regular meetings with the community health council. It has also held more than 40 listening events and 11 open\-door forums with NHS staff. The three key individuals appointed to support the special measures work have met board members and staff; visited and reviewed services; assessed the actions undertaken as part of the 100\-day plans and monitored how the health board is responding to the requirements set under special measures. Work on governance and accountability, supported by advice from Ann Lloyd, former chief executive of NHS Wales, has included the board effectiveness review; the first phase of re\-developing the board assurance framework and putting in place robust processes to oversee future capital projects.  Peter Meredith\-Smith, associate director of the Royal College of Nursing in Wales, who is providing advice and support on mental health services, has outlined his initial findings and recommendations for action. His initial work has focused on the three main hospitals – Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd and Wrexham Maelor – and has included older people’s mental health units; liaison psychiatry services and Mental Health Act implementation.  There have been some improvements to mental health and learning disability management capacity, including the establishment of a mental health strategic coordination group; the recruitment of an experienced interim director and better use of the support being made available to the health board from the 1,000 Lives team. However, further action is needed, including the development of a mental health and wellbeing strategy; strengthening the capacity and capability of the divisional management team and the governance and leadership function for the services.  Dr Chris Jones, chair of Cwm Taf University Health Board, has outlined his initial reflections about primary care services and has said that with encouragement, leadership and direction significant progress can be made. He has spent time visiting services – in and out of hours – and talking to staff to help him understand the challenges in more detail. Dr Jones is positive about the opportunity the health board has to develop a robust primary care strategy which meets the needs of the local population. He will outline recommendations for further action later this month.  The health board has engaged with the organisation Impact Innovation to support team development and to reform the working culture in the maternity unit at Ysbyty Glan Clwyd. It is also advertising for a consultant midwife.  The health board is currently consulting with its staff and the public in North Wales about temporary changes to maternity services.  Special measures must provide a sustainable foundation for Betsi Cadwaladr University Health Board into the long term and give confidence to people in North Wales about the board’s ability to provide high\-quality health services. The health board’s escalation status will be subject to continuous review under the escalation framework arrangements. While I expect to see further and ongoing progress, I want to make it clear the health board will remain in special measures for the foreseeable future. Healthcare Inspectorate Wales and the Wales Audit Office will start a formal review of progress under special measures this month and a tripartite meeting with Welsh Government officials will be held in mid October to discuss their findings. I will update Assembly Members after that meeting.  
Ar 14 Mehefin, rhoddais yr wybodaeth ddiweddaraf am y camau y mae Llywodraeth Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi'u cymryd ar ôl i'r Bwrdd gael ei osod dan fesurau arbennig. Ymrwymais i gyflwyno datganiad arall i Aelodau'r Cynulliad ar ddechrau'r tymor newydd. Mae gwaith wedi bod yn mynd rhagddo dros yr haf ym mhob un o'r pum maes y tynnwyd sylw atynt fel rhan o'r mesurau arbennig \- llywodraethu, arwain a goruchwylio; gwasanaethau iechyd meddwl; gwasanaethau mamolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd; meddygon teulu a gofal sylfaenol, gan gynnwys gwasanaethau y tu allan i oriau ac ailgysylltu â'r cyhoedd yn y Gogledd. Mae cyfres o gynlluniau 100 niwrnod, a gomisiynwyd gan Simon Dean, prif weithredwr dros dro Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, wedi cael eu rhoi ar waith ar draws y bwrdd iechyd. Ymhlith y newidiadau a gyflwynwyd o ganlyniad, mae penodi 27 o fydwragedd ychwanegol yn dilyn ymgyrch recriwtio, ac mae'r holl gerrig milltir allweddol yng nghynllun gwasanaethau y tu allan i oriau meddygon teulu wedi'u cyflawni. Mae'r bwrdd iechyd wedi cynnal cyfres o ddigwyddiadau yn y Gogledd i ymgysylltu â'r cyhoedd ac i wrando arnynt, a hynny mewn amrywiaeth o leoliadau cymunedol, gan gynnwys sgyrsiau byw ar y we; diwrnodau "dweud eich dweud" ar y stryd fawr ym Mangor, Llandudno, y Rhyl a Wrecsam; cwrdd â grwpiau cymunedol a chynnal cyfarfodydd rheolaidd gyda'r cyngor iechyd cymunedol. Mae hefyd wedi cynnal mwy na 40 o ddigwyddiadau gwrando ac 11 o fforymau drws agored gyda staff y GIG. Mae'r tri unigolyn allweddol a benodwyd i gefnogi gwaith y mesurau arbennig wedi cwrdd â staff ac aelodau'r bwrdd; wedi ymweld â gwasanaethau ac wedi'u hadolygu; wedi asesu'r camau a gymerwyd fel rhan o'r cynlluniau 100 niwrnod ac wedi monitro sut mae'r bwrdd iechyd yn ymateb i'r gofynion a bennir o dan y mesurau arbennig. Mae gwaith ym maes llywodraethu ac atebolrwydd, gyda chyngor gan Ann Lloyd, cyn brif\-weithredwr GIG Cymru, wedi cynnwys adolygiad o effeithiolrwydd y bwrdd; cam cyntaf y broses o ail\-ddatblygu fframwaith sicrwydd y bwrdd a rhoi prosesau cadarn ar waith i oruchwylio prosiectau cyfalaf yn y dyfodol.  Mae Peter Meredith\-Smith, cyfarwyddwr cysylltiol y Coleg Nyrsio Brenhinol yng Nghymru, sy'n rhoi cyngor a chymorth ym maes gwasanaethau iechyd meddwl, wedi amlinellu ei ganfyddiadau cychwynnol ac argymhellion ar gyfer gweithredu. Mae ei waith cychwynnol wedi canolbwyntio ar dri prif ysbyty \- Ysbyty Gwynedd, Ysbyty Glan Clwyd ac Ysbyty Maelor Wrecsam \- ac mae wedi cynnwys unedau iechyd meddwl pobl hŷn; gwasanaethau seiciatryddol cysylltiol a gweithredu'r Ddeddf Iechyd Meddwl.  Mae rhywfaint o welliannau wedi bod i gapasiti rheoli iechyd meddwl ac anableddau dysgu, gan gynnwys sefydlu grŵp cydlynol strategol ar gyfer iechyd meddwl; recriwtio cyfarwyddwr profiadol dros dro a gwneud gwell defnydd o'r cymorth sydd ar gael i'r bwrdd iechyd gan y tîm 1,000 o Fywydau. Fodd bynnag, mae angen gwneud mwy, gan gynnwys datblygu strategaeth iechyd meddwl a llesiant; atgyfnerthu capasiti a gallu'r tîm rheoli rhanbarthol a swyddogaeth llywodraethu ac arwain ar gyfer y gwasanaethau.  Mae Dr Chris Jones, cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf, wedi amlinellu ei deimladau cychwynnol am wasanaethau gofal sylfaenol ac wedi dweud bod modd gwneud cynnydd sylweddol gydag anogaeth, arweiniad a chyfeiriad. Mae wedi ymweld â gwasanaethau \- tu fewn a thu allan i oriau \- a siarad â staff i'w helpu ef i ddeall yr heriau yn well. Mae Dr Jones yn teimlo'n bositif am y cyfle sydd gan y bwrdd iechyd i ddatblygu strategaeth gofal sylfaenol gadarn sy'n diwallu anghenion y boblogaeth leol. Bydd yn amlinellu argymhellion ar gyfer camau pellach ddiwedd y mis. Mae'r bwrdd iechyd wedi ymgysylltu ag 'Arloesedd Effaith' y sefydliad i gefnogi datblygu tîm a diwygio diwylliant gwaith yn yr uned famolaeth yn Ysbyty Glan Clwyd. Mae hefyd yn hysbysebu swydd bydwraig ymgynghorol.  Ar hyn o bryd mae'r bwrdd iechyd yn ymgynghori â'i staff a'r cyhoedd yn y Gogledd ynghylch newidiadau dros dro i wasanaethau mamolaeth.  Mae'n rhaid i'r mesurau arbennig ddarparu sylfaen gynaliadwy ar gyfer Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn y tymor hir a rhoi hyder i bobl y Gogledd yng ngallu'r bwrdd i ddarparu gwasanaethau iechyd o ansawdd uchel. Bydd statws y bwrdd iechyd o ran trosglwyddo i lefel uwch yn cael ei adolygu'n gyson o dan drefniadau'r fframwaith trosglwyddo. Rwy'n disgwyl gweld cynnydd parhaus pellach, ac rwyf am ei gwneud yn glir y bydd y bwrdd iechyd yn parhau dan fesurau arbennig am y tro. Bydd Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru a Swyddfa Archwilio Cymru yn dechrau adolygiad ffurfiol o gynnydd o dan fesurau arbennig y mis hwn a chynhelir cyfarfod gyda swyddogion Llywodraeth Cymru ganol mis Hydref i drafod eu canfyddiadau. Byddaf yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau'r Cynulliad ar ôl y cyfarfod.  
Translate the text from Welsh to English.
Mae Rhian yn cael ei chydnabod fel cadeirydd arbenigol Adolygiadau Lladdiadau Domestig sy'n cynnwys pobl hŷn a hi oedd Cynghorydd Cenedlaethol cyntaf Cymru ar gyfer Trais yn erbyn Menywod, Cam\-drin Domestig a Thrais Rhywiol. Bydd hi'n dechrau ar ei swydd ym mis Medi, pan ddaw cyfnod Heléna Herklots fel Comisiynydd i ben. Yn 2008, Cymru oedd y wlad gyntaf yn y DU i sefydlu Comisiynydd Pobl Hŷn. Mae gan y Comisiynydd ystod o bwerau cyfreithiol i helpu i ddiogelu a hyrwyddo buddiannau pobl hŷn. Mae’r rôl yn cynnwys: * Hybu ymwybyddiaeth o hawliau a buddiannau pobl hŷn yng Nghymru * herio gwahaniaethu yn erbyn pobl hŷn * hyrwyddo arferion gorau yn y ffordd y mae pobl hŷn yn cael eu trin * adolygu deddfwriaeth sy'n effeithio ar fuddiannau pobl hŷn Dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething: > “Ein gweledigaeth gyffredin yw Cymru sy'n galluogi pobl i fyw a heneiddio'n dda, lle nad yw rhagfarn ar sail oedran yn cyfyngu ar botensial pobl yn eu blynyddoedd diweddarach. > > “Rwy'n falch o benodi Rhian i'r rôl. Bydd hi'n dod â phrofiad helaeth o lunio polisi a sbarduno gwelliannau i fod yn eiriolwr cryf dros bobl hŷn. > > “Hoffwn ddiolch hefyd i Heléna Herklots, y gwnaeth ei gwaith, yn enwedig yn ystod y pandemig, alluogi lleisiau rhai o'r bobl sydd wedi'u hymyleiddio fwyaf i gael eu clywed ac i ddylanwadu ar bolisi er gwell.” Dywedodd Rhian Bowen\-Davies: > “Braint ac anrhydedd yw cael cynnig y cyfle i wasanaethu fel Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru. > > “Gan weithio gyda phobl hŷn ac ar eu rhan, rwy'n edrych ymlaen at gynyddu ymwybyddiaeth a dealltwriaeth, cynnal a hyrwyddo hawliau a mynd i'r afael ag anghydraddoldeb. > > “Gyda'n gilydd byddwn yn sicrhau bod ein lleisiau'n cael eu clywed ar lefel leol, rhanbarthol a chenedlaethol i wireddu'r weledigaeth i wneud Cymru'n wlad oed\-gyfeillgar.”
Rhian is recognised as an expert chair of Domestic Homicide Reviews involving older people and was Wales’ first National Adviser for Violence against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence. She will take up the post in September, when Heléna Herklots’ term as Commissioner comes to an end. In 2008, Wales became the first country in the world to appoint an Older People’s Commissioner. The Commissioner has a range of legal powers to help safeguard and promote the interests of older people. The role includes: * promoting awareness of the rights and interests of older people * challenging discrimination against older people * promoting best practice in the treatment of older people * reviewing legislation affecting the interests of older people First Minister Vaughan Gething said: > “Our shared vision is of a Wales that enables people to live and age well, where ageism does not limit people’s potential in their later years. > > “I’m pleased to appoint Rhian to the role, who will bring with her extensive experience in shaping policy and driving forward improvements to be a strong advocate for older people. > > “I would also like to extend my thanks to Heléna Herklots, whose work, particularly during the pandemic, enabled the voices of some of the most marginalised people to be heard and to influence policy for the better.” Rhian Bowen\-Davies said: > “It is an honour and a privilege to be offered the opportunity to serve as the Older People’s Commissioner for Wales. > > “Working with and on behalf of older people, I’m looking forward to increasing awareness and understanding, upholding and promoting rights and addressing inequality. > > “Together we will ensure our voices are heard at a local, regional and national level to realise the vision to make Wales an age\-friendly nation.”
Translate the text from English to Welsh.
On 19 February 2019, the Minister for Health and Social Services made an Oral Statement in the Siambr on: Update on the Transformation Fund.
Ar 19 Chwefror 2019, gwnaeth y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Y Wybodaeth Ddiweddaraf am y Gronfa Trawsnewid.
Translate the text from Welsh to English.
Dywedodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones: > “Roedd Carl yn ffrind yn ogystal â chydweithiwr a dwi mewn sioc ac yn drist iawn am ei farwolaeth. Fe wnaeth Carl gyfraniad mawr i fywyd cyhoeddus Cymru a gweithiodd yn ddiflino dros y bobl roedd e’n eu cynrychioli fel Gweinidog ac Aelod Cynulliad. > > “Fe fydd e’n golled fawr i ein plaid ac i’r Senedd. Mae fy nghydymdeimladau gyda'i deulu ar yr amser anodd hwn.”
First Minister Carwyn Jones said:  > “Carl was a friend as well as a colleague and I am shocked and deeply saddened by his death. He made a big contribution to Welsh public life and fought tirelessly for those he represented both as a Minister and as a local Assembly Member. > > > “He will be a great loss both to our party and to the Senedd. My heartfelt sympathies are with his family at this difficult time.”
Translate the text from English to Welsh.
We will be launching an awareness campaign this week to highlight the support available to help people pay their council tax bills.  This follows last year’s successful campaign. Householders may be entitled to pay less council tax if they: * Live on a low income * Live alone, or with people or children who do not pay council tax * Are a student * Are disabled * Are a carer * Are mentally impaired. I would encourage everyone to check our website to see whether they are entitled to help to pay their council tax. The Welsh Government has joined forces with local authorities, MoneySavingExpert.com and third sector organisations to develop simple and consistent advice to ensure all households in Wales have the information they need about their entitlements to council tax support.  A simple eligibility checker is available at https://gov.wales/counciltaxhelp. The website includes links to each local authority, enabling householders to contact their council once they have completed the eligibility checker. We have worked hard to ensure vulnerable households in Wales continue to receive council tax support as part of our Council Tax Reduction Scheme and we want to ensure all eligible households receive the discounts and exemptions they are entitled to. We continue to make progress with the extensive programme of work to examine how the council tax system could be improved over the short, medium and longer term to deliver on our commitment to make council tax fairer. We laid regulations in the National Assembly on 14 February to remove the sanction of imprisonment for non\-payment of council tax. Regulations were also laid on 6 March to exempt care leavers from paying council tax up to the age of 25\. These amendments will come into force on 1 April. We continue to work closely with the WLGA, local authority representatives and third sector organisations to take a more citizen\-focused approach to debt, arrears and enforcement.  A key part of this work has been the development of the *Council Tax Protocol for Wales – Good practice in collection of council tax*.  We have also been working with the WLGA, local authorities and MoneySavingExpert.com on a consistent approach to applications for discounts and exemptions for people with a ‘severe mental impairment’. We are working with the WLGA to ensure all local authorities in Wales adopt and implement the protocol and the revised approach for mental impairment applications from 1 April.  We will continue to work with local authorities and partner organisations to identify other forms of good practice in relation to council tax collection and to ensure more consistent and citizen\-centred approaches are embedded into common practice. This work is being supported by a data\-sharing pilot, which is designed to establish whether there are innovative ways of identifying households which may be entitled to support but are not receiving it. The Tax Policy Work Plan 2018 set out our intention to review the impact and use of local authorities’ discretionary powers to apply council tax premiums and whether the new legislation, introduced in 2016, is working as intended. These discretionary powers were introduced by the Housing (Wales) Act 2014 to assist local authorities in addressing issues in their local housing supply, for example for authorities to use alongside their other powers to bring empty homes back into use. The review is also examining the interaction between the council tax and non\-domestic rates systems and the impact of closing the loophole, which existed before 2010, in relation to the definition of second homes and self\-catering accommodation. We have requested a range of information from local authorities to inform the review, including assessments of the local impact of introducing local premiums which they undertook before deciding whether to implement a premium. We will analyse this together with information from the independent Valuation Office Agency and official statistics held by the Welsh Government. The review will also seek to identify whether there is any evidence that dwellings are not being properly recorded for council tax or non\-domestic rating purposes. There is a significant body of research into how local services should be funded in Wales, in the rest of the UK, and internationally.  Much of the discussion has focused on local taxation and its key purpose as a means of raising revenue but there is some interest in the extent local taxes might be used as a lever to meet various economic and social aims. Building on the available evidence, we are commissioning research to inform our medium\-term plans. External experts will undertake research into the impact of Universal Credit (UC) on the Council Tax Reduction Scheme and rent arrears in Wales. It cannot be right that decisions taken by the UK Government about welfare benefits can have an impact on local taxation in Wales, an area of responsibility which has been devolved since 1999\. But, as a result of the way the eligibility criteria for UK social security benefits affect entitlement to a range of other support mechanisms, we are beginning to see an adverse impact across Wales as UC is being rolled out. This work is to be published in January 2020\. The findings will inform our development of CTRS for 2020\-21 and beyond to ensure parity of treatment between UC and non\-UC households. We will also use the findings to consider whether a more fundamental reform of the scheme is needed in the medium term to mitigate the impact of welfare reform and to help make council tax fairer and more progressive. Without a revaluation exercise to reassess all 1\.4 million domestic properties in Wales, we are constrained in our ability to make fundamental changes to council tax, which would make the system fairer, for example, by adding bands to increase progressiveness and modernising the thresholds to reflect current market conditions.  We have commissioned an in\-depth assessment of the impact a revaluation exercise could have on Wales’ domestic property tax\-base if one were to be carried out. This will comprise a series of independent statistical exercises taking into account the latest available information on market values, transactions and physical changes to properties. We expect the findings of this exercise to be available early next year. The Welsh Government is also exploring alternative approaches to local taxation.  Over the course of 2018, the Welsh Government undertook evidence reviews and held discussions with its expert panel about options such as land value taxes, local income taxes and modernised versions of the existing property\-based taxes. The panel draws on expertise from economists, valuation experts, data and statistics, local government officers, experts in public service and those with the perspective of taxpayers, fairness and equality.  This year, we will look at the options for applying alternative approaches to the Welsh local tax\-base and explore the specific barriers to moving from the current local tax regime towards alternative approaches in the future. The findings from this work will be brought together in 2020\.  There will be opportunities for taxpayers and stakeholders to comment on these ideas as they develop in the future and I will keep Members informed as the work progresses.
Byddwn yn lansio ymgyrch ymwybyddiaeth wythnos yma fydd yn tynnu sylw at y gefnogaeth sydd ar gael i bobl i'w helpu i dalu eu biliau treth gyngor. Mae hyn yn dilyn ymgyrch lwyddiannus y llynedd. Efallai y bydd gan ddeiliaid tai hawl i dalu llai o dreth gyngor os ydynt: • Yn byw ar incwm isel • Yn byw wrth eu hunain, neu gyda phobl neu blant nad ydynt yn talu treth gyngor; • Yn fyfyriwr; • Yn anabl; • Yn ofalwr; • Â nam meddyliol Rwy’n annog pawb i edrych ar ein gwefan i weld os ydynt yn gymwys i help i dalu eu treth gyngor. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymuno ag awdurdodau lleol, MoneySavingExpert.com a sefydliadau'r trydydd sector i ddatblygu cyngor syml a chyson i sicrhau bod gan bob cartref yng Nghymru yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt am eu hawl i gael cymorth gyda’r dreth gyngor. Mae gwirydd cymhwyster syml ar gael yn https://beta.llyw.cymru/talu\-llai\-o\-dreth\-gyngor. Mae'r wefan yn cynnwys dolenni at bob awdurdod lleol, gan alluogi preswylwyr i gysylltu â'u cyngor ar ôl iddynt gwblhau'r gwirydd cymhwyster. Rydym wedi gweithio'n galed i sicrhau bod aelwydydd sy'n agored i niwed yng Nghymru yn parhau i gael cymorth treth gyngor fel rhan o'n Cynllun Gostyngiad Treth Cyngor, ac rydym am sicrhau bod yr holl ddeiliaid tai cymwys yn cael gostyngiadau ac eithriadau y mae ganddynt hawl iddo. Rydym yn parhau i wneud cynnydd gyda’r rhaglen waith helaeth i weld sut y gallwn wella'r system dreth gyngor dros y tymor byr, canolig a hir i gyflawni ar ein hymrwymiad i wneud treth cyngor yn decach. Fe wnaethom osod rheoliadau yn y Cynulliad Cenedlaethol ar 14 Chwefror i ddileu cosb o garchar am beidio â thalu treth gyngor. Gosodwyd rheoliadau hefyd ar 6 Mawrth i eithrio'r rhai sy'n gadael gofal rhag talu'r dreth gyngor hyd at 25 oed. Daw'r gwelliannau hyn i rym ar 1 Ebrill. Rydym yn parhau i weithio'n agos gyda CLlLC, cynrychiolwyr awdurdodau lleol a sefydliadau'r trydydd sector i gymryd ymagwedd sy'n canolbwyntio mwy ar y dinesydd wrth edrych ar ddyledion, ôl\-ddyledion a gorfodaeth. Rhan allweddol o'r gwaith hwn fu datblygu *Protocol Treth Cyngor Cymru\- Arfer Dda wrth Gasglu Treth y Cyngor*. Rydym hefyd wedi bod yn gweithio gyda CLlLC, awdurdodau lleol ac MoneySavingExpert.com ar ddull cyson o wneud ceisiadau am ostyngiadau ac eithriadau i bobl sydd â ‘nam meddyliol difrifol’. Rydym yn gweithio gyda CLlLC i sicrhau bod pob awdurdod lleol yng Nghymru yn mabwysiadu ac yn gweithredu'r protocol a'r dull diwygiedig ar gyfer hawlio cymorth i’r rhai a nam meddyliol o 1 Ebrill. Byddwn yn parhau i weithio gydag awdurdodau lleol a sefydliadau partner i nodi mathau eraill o arfer da mewn perthynas â chasglu treth gyngor ac i sicrhau bod dulliau mwy cyson sy’n canolbwyntio ar y dinesydd yn cael eu hymgorffori mewn arfer cyffredin. Mae'r gwaith hwn yn cael ei gefnogi gan gynllun peilot rhannu data a gynlluniwyd i ganfod a oes ffyrdd arloesol o nodi aelwydydd a allai fod â hawl i gael cymorth ond nad ydynt yn ei dderbyn. Mae’r cynllun Gwaith Polisi Treth 2018 yn nodi ein bwriad i adolygu effaith a defnydd awdurdodau lleol o’r pwerau dewisol gymhwyso premiymau treth gyngor, ac yn edrych i weld a yw'r ddeddfwriaeth newydd a gyflwynwyd yn 2016 yn gweithio fel y bwriadwyd. Cyflwynwyd y pwerau dewisol hyn gan Ddeddf Tai (Cymru) 2014 i gynorthwyo awdurdodau lleol i fynd i'r afael â materion yn eu cyflenwad tai lleol, er enghraifft i awdurdodau eu defnyddio ochr yn ochr â'u pwerau eraill i ailddefnyddio cartrefi gwag. Mae'r adolygiad hefyd yn edrych ar y rhyngweithio rhwng systemau’r dreth gyngor ac ardrethi annomestig ac effaith cau'r bwlch a oedd yn bodoli cyn 2010 mewn perthynas â'r diffiniad o ail gartrefi a llety hunanarlwyo. Rydym wedi gofyn am amrywiaeth o wybodaeth gan awdurdodau lleol i lywio'r adolygiad, gan gynnwys eu hasesiadau o effaith leol cyflwyno premiymau lleol a wnaethant cyn penderfynu rhoi premiwm ar waith ai peidio. Byddwn yn dadansoddi hyn ynghyd â gwybodaeth gan Asiantaeth y Swyddfa Brisio, sy’n annibynnol, ac ystadegau swyddogol Llywodraeth Cymru. Bydd yr adolygiad hefyd yn ceisio nodi a oes unrhyw dystiolaeth nad yw anheddau'n cael eu cofnodi'n briodol at ddibenion treth gyngor neu ardrethi annomestig. Mae yna gorff sylweddol o ymchwil i sut y dylid cyllido gwasanaethau lleol yng Nghymru, yng ngweddill y DU, ac yn rhyngwladol. Mae llawer o'r drafodaeth wedi canolbwyntio ar drethi lleol a'i ddiben allweddol fel ffordd o godi refeniw, ond mae yna beth diddordeb i ba raddau y gellid defnyddio trethi lleol fel cyfrwng i gwrdd â nodau economaidd a chymdeithasol amrywiol. Gan adeiladu ar y dystiolaeth sydd ar gael, rydym yn comisiynu ymchwil i lywio ein cynlluniau tymor canolig. Bydd arbenigwyr allanol yn ymgymryd ag ymchwil i effaith Credyd Cynhwysol (CC) ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor  ac ôl\-ddyledion rhent yng Nghymru. Ni all fod yn iawn i benderfyniadau a wneir gan Llywodraeth y DU ynghylch budd\-daliadau lles gael effaith ar drethi lleol yng Nghymru, maes cyfrifoldeb sydd wedi'i ddatganoli ers 1999\. Ond, o ganlyniad i’r ffordd  bod y meini prawf cymhwyster ar gyfer budd\-daliadau nawdd cymdeithasol y DU yn effeithio ar hawl i ystod o systemau cefnogi eraill, rydym yn dechrau gweld effaith andwyol ar draws Cymru wrth i CC gael ei gyflwyno. Bydd y gwaith hwn yn cael ei gyhoeddi ym mis Ionawr 2020\. Bydd y canfyddiadau'n llywio ein datblygiad o Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor  ar gyfer 2020\-21 a thu hwnt i sicrhau bod cartrefi CC a chartrefi di\-CC yn cael eu trin yn gyfartal. Byddwn hefyd yn defnyddio'r canfyddiadau i ystyried a oes angen diwygio mwy sylfaenol o'r cynllun yn y tymor canolig i liniaru effaith diwygio lles a  helpu gwneud y dreth gyngor yn decach ac yn fwy blaengar. Heb ymarfer ailbrisio i ailasesu pob un o’r 1\.4 miliwn o eiddo domestig yng Nghymru, cyfyngedig yw ein gallu i wneud newidiadau sylfaenol i treth gyngor a fyddai'n  gwneud y system yn decach \- er enghraifft, drwy ychwanegu bandiau i gynyddu blaengarwch a moderneiddio'r trothwyon i adlewyrchu amodau’r farchnad gyfredol. Rydym wedi comisiynu asesiad manwl o effaith y gall ymarfer ailbrisio ei chael ar sail treth eiddo domestig Cymru pe bai un i'w gynnal. Bydd hyn yn cynnwys cyfres o ymarferion ystadegol annibynnol gan gymryd i ystyriaeth y wybodaeth ddiweddaraf sydd ar gael ar werthoedd y farchnad, trafodion a newidiadau ffisegol i eiddo. Disgwyliwn i ganfyddiadau'r ymarfer hwn fod ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn edrych ar ddulliau amgen o drethu lleol. Dros 2018, cynhaliodd Llywodraeth Cymru adolygiadau o dystiolaeth a thrafodaethau gyda'i banel arbenigol ynghylch opsiynau megis trethi gwerth tir, trethi incwm lleol a fersiynau modern o'r trethi presennol yn seiliedig ar eiddo. Mae'r panel yn manteisio ar arbenigedd gan economegwyr, arbenigwyr prisio, data ac ystadegau, swyddogion llywodraeth leol, arbenigwyr mewn gwasanaethau cyhoeddus a'r rheini sy’n cynrychioli safbwynt trethdalwyr, tegwch a chydraddoldeb. Eleni, byddem yn edrych ar yr opsiynau ar gyfer dulliau amgen o sail treth lleol Cymru, ac archwilio'r rhwystrau penodol i symud o'r gyfundrefn dreth leol gyfredol tuag at ddulliau eraill yn y dyfodol. Bydd canfyddiadau'r gwaith hwn yn cael eu crynhoi yn 2020\. Bydd cyfleoedd i drethdalwyr a rhanddeiliaid roi sylwadau ar y syniadau hyn wrth iddynt ddatblygu yn y dyfodol a byddaf yn hysbysu'r Aelodau wrth i'r gwaith fynd rhagddo .
Translate the text from Welsh to English.
Yn ein Rhaglen Lywodraethu, a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2021, gwnaethom nodi’n hymrwymiad i gyflwyno Bil Aer Glân ar gyfer Cymru, a fyddai’n cyd\-fynd â chanllawiau Sefydliad Iechyd y Byd ac yn estyn y ddarpariaeth monitro ansawdd aer. Mae’n bleser cael cyhoeddi’r crynodeb o’r ymatebion i’n Papur Gwyn ar Fil Aer Glân (Cymru). Rydym yn ddiolchgar iawn am yr wybodaeth fanwl a ddarparwyd, ac a oedd yn dangos y galw gwirioneddol am y ddeddfwriaeth hon a’r ymdeimlad bod angen gweithredu ar fyrder. Mae ansawdd aer yn effeithio ar bob un ohonom, ym mhob agwedd ar ein bywydau. Dyma'r risg amgylcheddol fwyaf i iechyd y cyhoedd. Mae hefyd yn effeithio ar ein hamgylchedd ehangach a gall gael effaith sylweddol ar y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. Mae angen inni roi'r dulliau y mae eu hangen ar bob rhan o gymdeithas i fynd i'r afael â llygredd aer ar gyfer cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol. Mae Deddf Aer Glân i Gymru yn un o ymrwymiadau allweddol ein Cynllun Aer Glân i Gymru: Aer Iach, Cymru Iach. Bydd yn caniatáu inni weithio'n well ar draws llywodraeth leol a chenedlaethol, a chyda rhanddeiliaid i wella ansawdd aer a lleihau effeithiau llygredd aer ar iechyd pobl, natur, yr amgylchedd a'n heconomi. Bydd y Bil hefyd yn cefnogi’n cynlluniau ehangach i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd a’r argyfwng natur. Felly, wrth inni ddatblygu’n cynigion, byddwn yn adeiladu ar y cysylltiadau sydd gennym eisoes gyda chydweithwyr a rhanddeiliaid ar draws ystod eang o feysydd polisi, gan gynnwys iechyd y cyhoedd, y newid yn yr hinsawdd a bioamrywiaeth. Roedd y Papur Gwyn yn nodi cynigion i wella gallu llywodraeth genedlaethol a llywodraeth leol i fynd i'r afael ag ansawdd aer gwael. Daeth 73 o ymatebion i law o amrywiaeth o ffynonellau. Rydym hefyd wedi ystyried y safbwyntiau a ddarparwyd mewn digwyddiad ymgysylltu ar\-lein am y cynigion yn y Papur Gwyn, a gynhaliwyd ar 11 Mawrth 2021\. Yn gyffredinol, roedd yr adborth i’r cynigion deddfwriaethol yn yr ymgynghoriad yn gadarnhaol iawn. Mae lefel y diddordeb ymhlith ystod eang o randdeiliaid wedi *fy nghalonogi’n fawr*, a hynny oherwydd bod gan bawb – yn amrywio o unigolion yn eu cymunedau lleol i'r busnesau sy'n sylfaen i economi Cymru – ran i'w chwarae os ydym am gyrraedd ein nodau. Mae nifer uchel yr ymatebion a dderbyniwyd mewn ymateb i’r Papur Gwyn wedi creu sylfaen werthfawr iawn o dystiolaeth a fydd yn sail i gynigion y Bil Aer Glân. O ystyried lefel yr her rwy’n rhagweld y bydd angen gwneud penderfyniadau anodd er mwyn cyflawni camau dewr i wella ansawdd yr aer yng Nghymru. Bydd yr holl adborth defnyddiol rydym wedi’i dderbyn mewn ymateb i’r Papur Gwyn yn ein galluogi i ddatblygu a chreu consensws o ran y cynigion deddfwriaethol a bydd yn ei gwneud hi’n bosibl i gamau gael eu cymryd ar draws Cymru i wella ansawdd yr aer. Bwriedir cyflwyno'r Bil Aer Glân yn ystod ail flwyddyn tymor y Senedd hon. Mae'r ddeddfwriaeth hon yn gam hollbwysig tuag at wireddu’n huchelgais i wella ansawdd aer ac i leihau’r effeithiau negyddol y mae llygredd aer yn eu cael ar iechyd pobl, ar fioamrywiaeth, yr amgylchedd a'n heconomi. Rydym yn parhau i weithio gyda'n rhanddeiliaid a'n partneriaid i ddatblygu a gweithredu'r ddeddfwriaeth bwysig hon ar ansawdd aer.
Our Programme for Government, published in June 2021, set out a commitment to introduce a Clean Air Bill for Wales, consistent with World Health Organisation guidance and extend the provision of air quality monitoring. I am pleased to publish the summary of responses to our White Paper on a Clean Air (Wales) Bill. We are very grateful for the detailed information provided, which demonstrated a real demand for this legislation and a sense of urgency for action. Air quality affects us all, in every aspect of our lives. It is the greatest environmental risk to public health. It also affects our wider environment and can have significant impacts on the most vulnerable in our society. We need to equip all parts of society with the tools they need to tackle air pollution for current and future generations. A Clean Air Act for Wales is a key commitment in our Clean Air Plan for Wales: Healthy Air, Healthy Wales. It will allow us to work better across local and national government and with stakeholders to improve air quality and reduce the impacts of air pollution on human health, nature, the environment, and our economy. The Bill will also support our wider plans to address the climate and nature emergencies. Consequently, in developing our proposals we are building on our existing links with colleagues and stakeholders across a wide range of policy areas including public health, climate change and biodiversity. The White Paper set outproposals to enhance both national and local government’s ability to tackle poor air quality. We received 73 responses from a variety of sources. In addition, we have taken account of opinions provided at an online engagement event on the White Paper’s proposals held on 11 March 2021\. Overall, feedback to legislative proposals in the consultation was extremely positive. I am particularly heartened by the level of engagement from a wide range of stakeholders, as everyone, from individuals in their local communities to the businesses underpinning the Welsh economy, has a role to play if we are to achieve our aims. The large number of responses received to the White Paper has given us a valuable evidence base to further inform proposals for the Clean Air Bill. Given the scale of the challenge I fully anticipate that tough choices will be needed to deliver bold action to improve air quality in Wales. The rich feedback we received on the White Paper is enabling us to develop and build consensus around the legislative proposals and pave a way for action across Wales to improve air quality. The Clean Air Bill is scheduled for introduction during the second year of this Senedd term.This legislation is a crucial step in achieving our ambition to improve air quality and reduce the negative impacts of air pollution on human health, biodiversity, the environment, and our economy. We continue to work with our stakeholders and partners to develop and implement this important air quality legislation.
Translate the text from English to Welsh.
From Monday, face coverings will no longer be required by law in retail settings and on public transport, though they will continue to be recommended in public health advice. And the requirement to self\-isolate will also move into guidance. A £500 self\-isolation payment to support people will continue to be available until June. However, 2 key legal protections will remain in place as coronavirus cases have risen sharply in recent weeks, driven by the BA.2 sub\-type of the omicron variant. Face coverings will remain a legal requirement in health and social care settings and coronavirus risk assessments must continue to be carried out by businesses, with reasonable measures put in place in light of those assessments. First Minister Mark Drakeford said: > “We have seen an unwelcome rise in coronavirus cases across Wales, mirroring the position in most of the UK. > > > “We have carefully considered the very latest scientific and medical evidence and we need to keep some legal protections in place for a little while longer, to help keep Wales safe. > > > “Throughout the pandemic, we have taken a gradual and cautious approach as we have relaxed protections. > > > “We are firmly on the path towards leaving the emergency response to the pandemic behind us and learning to live with coronavirus safely.” The next 3\-weekly review of coronavirus regulations will be carried out by 14 April, when the remaining legal measures will be reviewed.
O ddydd Llun ymlaen, ni fydd gorchuddion wyneb yn ofynnol mwyach yn ôl y gyfraith mewn lleoliadau manwerthu ac ar drafnidiaeth gyhoeddus, er y byddant yn parhau i gael eu hargymell mewn cyngor iechyd cyhoeddus. Bydd y gofyniad i hunanynysu hefyd yn symud i fod yn ganllawiau. Bydd taliad hunanynysu o £500 i gefnogi pobl yn parhau i fod ar gael tan fis Mehefin. Fodd bynnag, bydd dau amddiffyniad cyfreithiol allweddol yn parhau ar waith gan fod achosion o'r coronafeirws wedi codi'n sydyn yn ystod yr wythnosau diwethaf, wedi'u hysgogi gan is\-deip BA.2 o'r amrywiolyn Omicron. Bydd gorchuddion wyneb yn parhau i fod yn ofyniad cyfreithiol mewn lleoliadau iechyd a gofal cymdeithasol. Rhaid i fusnesau hefyd barhau i gynnal asesiadau risg ar gyfer y coronafeirws, gyda mesurau rhesymol yn cael eu rhoi ar waith yn sgil yr asesiadau hynny. Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: > “Rydym wedi gweld cynnydd annymunol mewn achosion o'r coronafeirws ledled Cymru, sy'n adlewyrchu'r sefyllfa yn y rhan fwyaf o'r DU. > > > “Rydym wedi ystyried y dystiolaeth wyddonol a meddygol ddiweddaraf yn ofalus ac mae angen inni gadw rhai mesurau diogelu cyfreithiol ar waith ychydig yn hirach, er mwyn helpu i ddiogelu Cymru. > > > “Drwy gydol y pandemig, rydym wedi mabwysiadu dull graddol a gofalus wrth inni lacio mesurau diogelu. > > > “Rydym ar y trywydd iawn i adael ymateb i argyfwng y pandemig y tu ôl inni a dysgu byw gyda’r coronafeirws yn ddiogel." Bydd yr adolygiad tair wythnos nesaf o reoliadau’r coronafeirws yn cael ei gynnal erbyn 14 Ebrill, pan fydd y mesurau cyfreithiol sy'n weddill yn cael eu hadolygu.
Translate the text from Welsh to English.
Yn ystod y cyfnodau heriol hyn, rwyf am dalu teyrnged i bawb sy’n gweithio’n ddi\-flino i sicrhau bod ein rhwydwaith ffyrdd yn cael ei gynnal a’i gadw ar gyfer teithiau hanfodol.  Mae’r gwaith parhaus yn cynnal a chadw a gweithredu’r rhwydwaith ffyrdd strategol yn hollbwysig i sicrhau bod ein ffyrdd yn ddiogel i bobl deithio arnynt ar gyfer teithiau hanfodol, i’r gwasanaethau brys a cherbydau cludiant i gludo nwyddau a chyflenwadau.  Rydym hefyd yn gwybod, i nifer o bobl sy’n gweithio ym maes adeiladu, bod eu swydd yn galw iddynt deithio.    Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Cymru) (Diwygio) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i bob gweithle gymryd pob cam rhesymol i sicrhau y cydymffurfir â’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol o ddau fetr.  Mae hyn yn cynnwys gweithleoedd yn yr awyr agored megis safleoedd adeiladu a gwaith ar y ffyrdd.  Mae’r Canllawiau sy’n cyd\-fynd â’r rheoliadau’n egluro beth mae camau rhesymol yn ei olygu yn ymarferol – nid atal pobl rhag gweithio yw’r nod, os nad ydynt yn gallu gweithio gartref, yn hytrach newid y ffordd mae pobl yn gweithio.  Mae gweithwyr proffesiynol, diwydiannau a chyrff masnachu eraill, gan gynnwys Cyngor Arwain ar Adeiladu ar gyfer y diwydiant adeiladu, wedi cyhoeddi canllaw defnyddiol ynghylch cydymffurfio â’r rheoliadau newydd ac arfer gorau.     Mae copi o ganllawiau Llywodraeth Cymru i’w gweld yma: https://llyw.cymru/cymryd\-pob\-cam\-rhesymol\-i\-gynnal\-pellter\-corfforol\-yn\-y\-gweithle. Os yw contractwyr ac awdurdodau yn hyderus bod eu safleoedd yn cydymffurfio â’r rheoliadau a’r ddyletswydd i gadw pellter corfforol, cânt ddechrau gweithio unwaith eto.  Mae TUC Cymru wedi lansio llinell chwythu’r chwiban ar gyfer unrhyw weithiwr sydd am nodi pryderon iechyd a diogelwch.  Nid oes yn rhaid iddynt fod yn aelod o undeb i ddefnyddio’r gwasanaeth hwn.  Mae gwybodaeth i’w gael am y llinell gymorth ar https://www.tuc.org.uk/news/covid\-19\-health\-and\-safety\-concerns\-work Mae’n bwysig ein bod yn parhau i gefnogi ein diwydiant adeiladu ffyrdd yng Nghymru a’i gyflenwyr yn ystod y cyfnod anodd hwn, i sicrhau bod ganddynt ddyfodol ar ôl y pandemig.  Rwyf hefyd yn gobeithio bod y cyhoedd yn cefnogi ein gweithlu wrth iddynt wneud eu gwaith hanfodol o gynnal ein rhwydwaith ffyrdd strategol yng Nghymru.  Rwyf yn cysylltu’n rheolaidd gydag arweinwyr y diwydiant ynghylch y sefyllfa sy’n datblygu o fewn y sector, ac rwyf wedi ymrwymo’n llawn i barhau i drafod yn ystod y misoedd nesaf.    Diolch eto i bawb sy’n cynnal y sector adeiladu ffyrdd yng Nghymru.  Rydych yn gwneud cyfraniad hollbwysig sy’n cael ei werthfawrogi’n fawr i gydnerthedd ein gwlad, a hoffwn i ddiolch ichi am yr ymdrechion enfawr yr ydych chi yn ei wneud i gefnogi economi Cymru. 
In these challenging times, I want to pay tribute to all those who are working tirelessly on ensuring our road network is maintained for essential journeys. The ongoing maintenance and operation of the strategic road network is critical to ensure our roads are safe for people to travel on for essential journeys, for the emergency services and for freight to transport goods and supplies. We also know that for many people working in construction, their job requires them to travel. The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (Amendment) (Wales) Regulations 2020, requires all workplaces to take all reasonable steps to ensure the 2m physical distancing duty is complied with. This includes outdoor workplaces, such as construction sites and roadworks. The guidance, which accompanies the regulations explains what all reasonable measures means in practice – this is not about stopping people working, where they aren’t able to work from home, but changing the way they work. Professional, industry and trade bodies, including the Construction Leadership Council for the construction industry, have published useful guidance about complying with the new regulations and best practice. A copy of the Welsh Government’s guidance is available at: https://gov.wales/taking\-all\-reasonable\-measures\-maintain\-physical\-distancing\-workplace   If contractors and authorities are confident their sites comply with the regulations and the physical distancing duty, they can start work again. The Wales TUC has launched a whistleblowing hotline for any worker who wants to report health and safety concerns. They do not have to be a member of a union to access this service. Information about the hotline is at https://www.tuc.org.uk/news/covid\-19\-health\-and\-safety\-concerns\-work It is important we continue to support our Welsh roads construction industry and its suppliers at this difficult time to ensure it has a future post\-pandemic. I hope the public also supports the workforce as they go about the essential business of maintaining our strategic road network. I am in regular contact with industry leaders about the developing situation that faces the sector and I am fully committed to continuing to engage through the coming months. Thank you again to everyone operating in the Wales roads construction sector. You are making a hugely valued and critical contribution to the resilience of our country and I thank you for the enormous efforts you are undertaking to support the Welsh economy.
Translate the text from English to Welsh.
More than 2,200 claims under Glastir Entry, Advance, Commons and Organic were paid in January which represents 78% of all claims received and is worth £26\.2m to Welsh farms. Businesses receiving the funding play a key role in contributing to the aims of conserving and enhancing wildlife and biodiversity, improving soil and water resources as well as restoring peatland habitats and responding to the climate emergency by taking action towards the decarbonisation of Welsh agriculture. The increase in Glastir payments being made in comparison to previous years is in part as a result of simplifying the Basic Payment Scheme 2021\. Last year, the Minister announced £66\.7m to extend Glastir schemes until December 2023\. This decision was taken to help further enhance the understanding of the impact of Glastir actions and interventions and contribute to the development of the future Sustainable Farming Scheme. Rural Affairs Minister, Lesley Griffiths said: > I am pleased there has been a significant increase in the number of payments made in comparison with previous years. > > > This has been achieved as a result of simplifying the Basic Payment Scheme for 2021 and implementing a more streamlined process which allowed the introduction of BPS Advance payments in October last year. > > > I would like to thank everyone, including industry stakeholders, who have worked with my officials to deliver this unprecedented number of payments to Welsh farm businesses. > > > The hard work continues to process the remaining claims as soon as possible and I expect to meet the European Commission’s payment target before 30 June, with all, except the most complex claims, to be paid by this date.
Cafodd dros 2,200 o hawliadau i gynlluniau Glastir Sylfaenol, Uwch, Tir Comin ac Organig eu talu ym mis Ionawr, sef 78% o’r holl hawliadau sydd wedi dod i law, gwerth £26\.2m i ffermydd Cymru. Mae’r busnesau sy’n cael eu talu yn gwneud cyfraniad pwysig, trwy’r hyn y maen nhw’n ei wneud i ddatgarboneiddio ffermio yng Nghymru, at warchod a chyfoethogi bwyd gwyllt a bioamrywiaeth, gwella pridd a dŵr, at adfer mawnogydd ac ymateb i’r argyfwng hinsawdd. Y rheswm am y cynnydd yn nifer y taliadau Glastir gafodd eu gwneud o’u cymharu â blynyddoedd cynt, yn rhannol, yw bod Cynllun Taliad Sylfaenol 2021 wedi’i symleiddio. Y llynedd, cyhoeddodd y Gweinidog £66\.7m i estyn y cynlluniau Glastir tan fis Rhagfyr 2023\. Penderfynwyd gwneud hynny er mwyn cael amser i ddeall yn well effaith cynlluniau Glastir a chyfrannu at ddatblygu Cynllun Ffermio Cynaliadwy ar gyfer y dyfodol. Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: > Rwy'n falch bod llawer mwy o daliadau wedi’u gwneud o'u cymharu â blynyddoedd cynt. > > > Mae hynny wedi digwydd o ganlyniad i symleiddio Cynllun Taliad Sylfaenol 2021 a rhoi proses symlach ar waith a’n galluogodd i gyflwyno system ar gyfer rhagdalu’r BPS ym mis Hydref llynedd. > > > Hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys rhanddeiliaid yn y diwydiant, sydd wedi gweithio gyda'm swyddogion i sicrhau bod y nifer digynsail hwn o daliadau’n cael eu talu i fusnesau fferm yng Nghymru. > > > Bydd y gwaith caled o brosesu'r hawliadau sy'n weddill yn mynd rhagddo cyn gynted â phosibl. Rwy'n disgwyl cyrraedd targed y Comisiwn Ewropeaidd cyn 30 Mehefin, sef talu’r holl hawliadau, heblaw’r rhai mwyaf cymhleth, cyn y dyddiad hwn.
Translate the text from English to Welsh.
On 14 November 2023 an oral statement was made in the Senedd: Children's Rights (external link).
Ar 14 Tachwedd 2023, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd:  Hawliau Plant (dolen allanol).
Translate the text from English to Welsh.
All GP practices in Wales can now access a new system, which allows people to have online appointments with their doctor and other healthcare professionals. Working together, the Welsh Government and TEC Cymru produced a proposal for the rapid delivery of the video consultation service for all GPs in Wales in response to the Coronavirus (COVID\-19\) pandemic. The service was already part of a trial within the Aneurin Bevan University Health Board. As well as helping people keep to the stay\-at\-home rules, the new system will allow doctors and nurses who are self\-isolating, but willing and able to work, to continue to serve their communities. Remote consultations will help practices keep frontline staff and their patients safe by reducing the risk of spreading coronavirus as Wales enters the second week of strict stay\-at\-home rules. Minister for Health and Social Services Vaughan Gething said: > Innovations such as this enables government to help frontline staff keep people safe and healthy during these unprecedented times. It also means another layer of protection for NHS staff. > > > We are changing the way the NHS operates. By offering telephone and video appointments, we can reduce pressure on frontline staff and better support people with information and advice without unnecessary contact. We are now looking at the next phase of this service, which will include rolling this out into places like hospitals. Video appointments will be offered if doctors want more information than a telephone call can provide. In these cases, surgeries can provide simple instructions about how people can access the free and easy\-to\-use technology that will work with their smartphone, tablet or PC. Health board staff who are working with frontline teams throughout Wales will be trained in the system with 290 GPs across 73 practices having already been trained on the new platform. More than 430 video consultations have taken place since its launch on 16 March. Mike Ogonovsky, associate director of informatics, at Aneurin Bevan University Health Board, said: > This programme is a demonstration of how we are rolling out tools to support clinicians who have demanded an alternative way to deliver care to their patients. It’s already been deeply rewarding to get such positive feedback from clinicians and patients. Healthcare providers who want to access further information and training about the NHS Wales Video Consulting Service should visit digitalhealth.wales/tec\-cymru/vc\-service.
Gall pob meddygfa yng Nghymru gael mynediad i system newydd sy’n galluogi i bobl gael apwyntiadau ar\-lein gyda’u meddyg teulu a gweithwyr gofal iechyd proffesiynol eraill. Drwy gydweithio, lluniodd Llywodraeth Cymru a TEC Cymru gynnig ar gyfer darparu’r gwasanaeth ymgynghoriadau fideo yn gyflym iawn i bob meddyg teulu yng Nghymru fel ymateb i bandemig y Coronafeirws (COVID\-19\). Roedd y gwasanaeth eisoes yn rhan o dreial ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan.  Yn ogystal â helpu pobl i gadw at y rheolau aros gartref, bydd y system newydd yn galluogi i feddygon a nyrsys sy’n hunan\-ynysu, ond yn fodlon ac yn gallu gweithio, barhau i wasanaethu eu cymunedau.  Bydd ymgynghoriadau o bell yn helpu meddygfeydd i gadw staff rheng flaen a’u cleifion yn ddiogel drwy leihau’r risg o ledaenu’r coronafeirws wrth i Gymru wynebu ail wythnos o reolau aros gartref llym.   Dywedodd y Gweinidog ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Vaughan Gething: > Mae arloesi fel hyn yn galluogi’r llywodraeth i helpu staff rheng flaen i gadw pobl yn ddiogel ac yn iach yn ystod yr amseroedd digynsail yma. Mae hefyd yn golygu haen arall o warchodaeth i staff y GIG.   > > > Rydyn ni’n newid y ffordd mae’r GIG yn gweithredu. Drwy gynnig apwyntiadau dros y ffôn ac ar fideo, gallwn leihau’r pwysau ar staff rheng flaen a rhoi cefnogaeth well i bobl gyda gwybodaeth a chyngor am gyswllt diangen. Rydyn ni’n edrych yn awr ar gam nesaf y gwasanaeth hwn, a fydd yn cynnwys ei ehangu i lefydd fel ysbytai. Bydd apwyntiadau fideo’n cael eu cynnig os yw meddygon eisiau mwy o wybodaeth nag y gall galwad ffôn ei darparu. Yn yr achosion hyn, gall meddygfeydd ddarparu cyfarwyddiadau syml am sut gall pobl gael gafael ar y dechnoleg am ddim a hawdd ei defnyddio a fydd yn gweithio gyda’u ffôn clyfar, eu tabled neu eu cyfrifiadur personol.  Bydd staff byrddau iechyd TEC Cymru sy’n gweithio gyda thimau rheng flaen ledled Cymru’n cael eu hyfforddi yn y system newydd, gyda 290 o feddygon teulu ar draws 73 o feddygfeydd wedi cael eu hyfforddi eisoes ar y platfform newydd. Mae mwy na 430 o ymgynghoriadau fideo wedi cael eu cynnal ers ei lansiad ar 16 Mawrth.  Dywedodd Mike Ogonovsky, cyfarwyddwr cyswllt ar gyfer gwybodeg ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan: > Mae’r rhaglen hon yn dangos sut rydyn ni’n ehangu ein hadnoddau i gefnogi clinigwyr sydd wedi gofyn am ffordd amgen o gyflwyno gofal i’w cleifion. Mae eisoes wedi rhoi llawer o foddhad cael adborth mor bositif gan glinigwyr a chleifion. Dylai darparwyr gofal iechyd sydd eisiau cael gwybodaeth a hyfforddiant pellach am Wasanaeth Ymgynghoriadau Fideo GIG Cymru fynd i digitalhealth.wales/tec\-cymru/vc\-service.
Translate the text from English to Welsh.
I am pleased to announce Simon Pirotte OBE as my preferred candidate for the role of Chief Executive Officer for the Commission for Tertiary Education and Research. Simon is currently Principal and Chief Executive of Bridgend College and has worked in the education sector for over thirty years. This includes work in the Higher Education, Further Education and 11\-18 Schools sectors in Wales, England and the USA. A rigorous, open recruitment process took place for the role of Chief Executive between November 2022 and February 2023\. However, the panel was unable to recommend a candidate for appointment. Having carefully considered all options available to me, I have therefore decided to appoint directly into the role. In determining my preferred candidate, I was conscious of the views expressed by the Children, Young People and Education Committee in the pre\-appointment hearings for the Chair and Deputy Chair of the Commission, particularly the need to ensure the Commission has experience which recognises the breadth of the sector in Wales. I am confident that following the appointment of Professor Dame Julie Lydon (Chair), Professor David Sweeney (Deputy Chair and Chair of the Research and Innovation Committee) and now with Simon’s forthcoming appointment, we have a team with wide\-ranging leadership experience and knowledge of the sector who can lead the new Commission in delivering our innovative and ambitious vision for Wales’s tertiary education and research sector.  Simon will attend a pre\-appointment hearing with the Children, Young People and Education Committee on 25 May in line with the commitment I made during the passage of the Tertiary Education and Research (Wales) Act 2022\. I look forward to receiving the Committee’s pre\-appointment hearing report at which stage I will confirm next steps. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Mae'n bleser gennyf gyhoeddi Simon Pirotte OBE fel yr ymgeisydd a ffefrir gennyf ar gyfer rôl Prif Swyddog Gweithredol y Comisiwn ar gyfer Addysg Drydyddol ac Ymchwil. Ar hyn o bryd mae Simon yn Bennaeth a Phrif Weithredwr Coleg Penybont ac mae wedi gweithio yn y sector addysg ers dros ddeng mlynedd ar hugain. Mae hyn yn cynnwys gwaith yn sectorau Addysg Uwch, Addysg Bellach ac Ysgolion 11\-18 yng Nghymru, Lloegr a'r UDA. Cafodd proses recriwtio agored drylwyr ei chynnal ar gyfer rôl y Prif Weithredwr rhwng mis Tachwedd 2022 a mis Chwefror 2023\. Fodd bynnag, nid oedd y panel yn gallu argymell ymgeisydd i'w benodi. Ar ôl ystyried yr holl opsiynau sydd ar gael i mi yn ofalus, rwyf felly wedi penderfynu gwneud penodiad uniongyrchol i'r rôl. Wrth benderfynu ar fy hoff ymgeisydd, roeddwn yn ymwybodol o'r farn a fynegwyd gan y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn y gwrandawiadau cyn\-benodi ar gyfer Cadeirydd a Dirprwy Gadeirydd y Comisiwn, yn enwedig yr angen i sicrhau bod gan y Comisiwn brofiad sy'n cydnabod ehangder y sector yng Nghymru. Rwy'n hyderus, ar ôl penodi'r Athro Fonesig Julie Lydon (Cadeirydd), a’r Athro David Sweeney (Dirprwy Gadeirydd a Chadeirydd y Pwyllgor Ymchwil ac Arloesedd) ynghyd â phenodiad arfaethedig Simon nawr, fod gennym dîm â phrofiad arweinyddiaeth a gwybodaeth eang o ran y sector a fydd yn gallu arwain y Comisiwn newydd i wireddu ein gweledigaeth arloesol ac uchelgeisiol ar gyfer sector addysg drydyddol ac ymchwil Cymru.  Bydd Simon yn mynd i wrandawiad cyn\-benodi gyda'r Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar 25 Mai yn unol â'r ymrwymiad a wnes i yn ystod hynt Deddf Addysg Drydyddol ac Ymchwil (Cymru) 2022 drwy’r Senedd. Rwy'n edrych ymlaen at dderbyn adroddiad gwrandawiad cyn\-benodi'r Pwyllgor, a bryd hynny byddaf yn cadarnhau'r camau nesaf. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from English to Welsh.
In its first full set of recommendations to the Welsh Government, the Commission says that too much attention has been paid to promoting fibre to the home, and not enough on improving mobile broadband provision. NICW does not think the UK Government’s target of having fibre to every home by 2025 is realistic and is concerned that the particular challenges of deploying fibre in Wales \- where population density is lower, demand weaker and the topography more challenging \- means that Welsh households and businesses will find themselves at the back of the queue. Only 3% of all the data carried on UK networks is carried on mobile networks today, a much lower proportion than elsewhere in Europe. NICW recommends that ‘home’ mobile broadband connections could be a good, low cost option for business and homes in rural areas, on a permanent basis or until fibre to the home arrives. NICW’s Digital Communication Infrastructure of Wales report aims to assist the Welsh Government to establish a digital communications strategy to best meet the needs of Wales. In order to achieve rapid advances the proposed ‘barrier busting’ taskforce, led by a senior Welsh Government official and working with local authorities and other stakeholders, would be responsible for implementing many of the changes recommended. These include: * Discussing ambitious targets for 4G and 5G ‘home’ mobile infrastructure with the mobile industry. This would include the offer of Welsh Government funds to support mobile infrastructure under a new, more flexible, ‘Gigabit Cymru’ programme * Serious consideration of planning rules that are more favourable towards mobile infrastructure than those seen elsewhere in the UK * Not, at this stage, spending more than £3500 to connect individual households to a fibre network and simplifying the use of vouchers for this purpose * Investing heavily to improve the adoption of new digital technologies where the infrastructure is already available, but only after Audit Wales has reviewed the effectiveness of the programmes that already exist. Commission Chair, John Lloyd Jones OBE said: > “Digital connectivity has been vital during the COVID\-19 pandemic and will continue to be an important enabler of economic development and digital service delivery. > > > Businesses and households stand to gain substantial economic benefits from both fibre to the home and 5G. The quality of digital communications is critical in determining where new, high growth businesses locate and where young people choose to live. They cannot afford to wait and will move to where fast, reliable broadband is available. > > > Yet, too many parts of Wales still lack adequate broadband connectivity and opportunities are already being lost. Achieving rapid advances will require more direction from the Welsh Government.” NICW’s Annual Report, also published today, notes that progress on the Commission’s other planned reports for 2020, on Transport and Energy, has been hampered by the understandable diversion of resources from the Commission to the Covid 19 effort. The report sets out progress to date in these areas along with plans for further work over the coming year. The NICW was established in 2018 as a non\-statutory body to advise and make recommendations to Welsh Ministers on Wales’ economic and environmental infrastructure needs over the next five to thirty years.
Yn ei set lawn gyntaf o argymhellion i Lywodraeth Cymru, dywed y Comisiwn bod gormod o sylw wedi’i roi ar hyrwyddo ‘ffeibr i’r cartref’ (FTTH) a dim digon ar wella band eang symudol. Nid yw NICW yn credu bod targed Llywodraeth y DU i ddarparu ffeibr i bob cartref erbyn 2025 yn realistig ac mae’n poeni bod y problemau sy’n gysylltiedig â darparu ffeibr yng Nghymru – poblogaeth denau, llai o alw a daearyddiaeth anodd – yn golygu y bydd aelwydydd a busnesau Cymru’n cael eu hunain yng nghefn y ciw. Dim ond 3% o’r holl ddata sy’n cael eu cario ar rwydweithiau’r DU sy’n cael eu cario ar rwydweithiau symudol, canran lawer is na gweddill Ewrop.  Mae NICW yn argymell y gallai cysylltiadau band eang symudol fod yn opsiwn rhad a da ar gyfer busnesau a chartrefi yng nghefn gwlad Cymru, naill ai’n barhaol tan y daw cyswllt ffeibr i’r cartref. Nod adroddiad NICW ar Seilwaith Cyfathrebu Digidol Cymru yw helpu Llywodraeth Cymru i lunio strategaeth cyfathrebu digidol ar gyfer diwallu anghenion Cymru.  Er mwyn bwrw ymlaen yn gyflym â hyn, byddai tasglu ‘chwalu rhwystrau’ o dan arweiniad uwch swyddog o Lywodraeth Cymru ac yn gweithio gydag awdurdodau lleol a rhanddeiliaid eraill, yn gyfrifol am roi llawer o’r newidiadau a argymhellir ar waith.  Gan gynnwys: * Trafod targedau uchelgeisiol ar gyfer seilwaith symudol 4G a 5G yn y cartref â’r diwydiant symudol.  Bydd hynny’n cynnwys cynnig arian Llywodraeth Cymru i gefnogi seilwaith symudol o dan raglen newydd, mwy hyblyg o’r enw ‘Gigabit Cymru’. * Rhoi ystyriaeth ddifrifol i reolau cynllunio sy’n rhoi mwy o ffafriaeth i seilwaith symudol na’r rheini yn rhannau eraill y DU. * Peidio â gwario mwy na £3500 i gysylltu aelwydydd unigol ar hyn o bryd â rhwydwaith ffeibr a symleiddio’r system dalebau at y diben hwn. * Buddsoddi’n drwm i fabwysiadu mwy o dechnolegau digidol newydd os yw’r seilwaith yn bod eisoes, ond dim ond ar ôl i Archwilio Cymru adolygu effeithiolrwydd y rhaglenni sy’n bod eisoes. Dywedodd Cadeirydd y Comisiwn, John Lloyd Jones OBE: > “Mae cyswllt digidol wedi bod yn hanfodol dros gyfnod pandemig COVID\-19  a bydd yn parhau’n sbardun ar gyfer datblygu’r economi a darparu gwasanaethau digidol. > > > Daw manteision economaidd sylweddol i fusnesau ac i aelwydydd o gael cyswllt ffeibr i’r cartref a 5G. Mae ansawdd y cyswllt digidol yn dyngedfennol o ran ble mae busnesau newydd sy’n tyfu yn penderfynu ymsefydlu a ble mae pobl ifanc yn dewis byw.  Fedran nhw ddim fforddio aros a symudan nhw i ble bynnag y mae yna fand eang cyflym a dibynadwy. > > > Eto i gyd, mae’r cyswllt band yn llawer gormod o ardaloedd yng Nghymru yn annigonol ac mae cyfleoedd eisoes yn cael eu colli.  Er mwyn i bethau allu gwella’n gyflym, mae angen mwy o arweiniad gan Lywodraeth Cymru.” Mae Adroddiad Blynyddol NICW, sydd hefyd yn cael ei gyhoeddi heddiw, yn nodi y daeth gwaith y Comisiwn ar ei adroddiadau eraill ar gyfer 2020, ar Drafnidiaeth ac Ynni, i ben am i adnoddau’r Comisiwn orfod cael eu dargyfeirio i Covid\-19\. Roedd hynny’n berffaith ddealladwy.  Mae’r adroddiad yn nodi’r gwaith sydd wedi’i wneud hyd yma yn y meysydd hyn ynghyd â’r cynlluniau ar gyfer y flwyddyn i ddod. Cafodd NICW ei sefydlu yn 2018 fel corff anstatudol i roi cyngor a gwneud argymhellion i Weinidogion Cymru ar y seilwaith economaidd ac amgylcheddol sydd ei angen dros y pum i dri deg mlynedd nesaf.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd y cwmni newydd, sy’n creu 90 o swyddi o safon uchel yng Ngogledd\-ddwyrain Cymru, yn cael ei arwain gan dîm rheoli sydd wedi gweithio ar lefel uwch\-weithredol mewn banciau i fusnesau bychain ym Mhrydain a thramor.    Mae’r cwmni yn falch o ddefnyddio y dechnoleg ddiweddaraf i ddatblygu a chynnig gwasanaethau ariannol i ddefnyddwyr.  Maent wedi derbyn £750,000 o gyllid busnes gan Lywodraeth Cymru i helpu gyda symud i Gymru.     Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi: > “Dwi’n falch iawn o groesawu Chetwood i Wrecsam, a bod Llywodraeth Cymru wedi cefnogi hyn gyda cyllid o £750,000\.  > > > > > “Mae ein buddsoddiad yn Chetwood yn helpu i greu 90 o swyddi dawnus sy’n talu’n dda, yn yr hyn sy’n datblygu yn sector gwasanaethau proffesiynol ac ariannol sy’n ffynnu yng Ngogledd\-ddwyrain Cymru.     > > > > > “Mae’n beth da iawn i weld Chetwood yn gweithio gyda Coleg Cambria, Prifysgol Glyndwr ac eraill i sicrhau bod eu busnes yn manteisio ar ddoniau lleol.   > > > > > “Gyda’r wlad yn denu nifer cynyddol o arbenigwyr ariannol, a Banc Datblygu Cymru yn un ohonynt, rwy’n edrych ymlaen at weld Chetwood Financial yn ychwanegu at enw da Gogledd\-ddwyrain Cymru fel cyrchfan ar gyfer cwmnïau gwasanaethau ariannol, gan sicrhau bod canolfan ariannol yn datblygu yn y dyfodol yn y rhan yma o Gymru.” Wrth siarad yn y lansiad, dywedodd Andy Mielczarek y Prif Swyddog Gweithredol:   > “Dyma garreg filltir enfawr inni i agor ein drysau o’r diwedd ac i allu gweithredu yma yn Wrecsam, fy nhref enedigol.  Mae’r cymorth gan Lywodraeth Cymru wedi bod yn hanfodol ac rydym yn hyderus y bydd eu buddsoddiad yn talu ar ei ganfed i bobl Wrecsam a’r cyhoedd yn ehangach wrth inni gyflawni ein cynlluniau i greu cynnyrch ariannol doethach sy’n sicrhau fod pobl yn gyfoethocach.” Wrth drafod y lansiad, ychwanegodd y Prif Swyddog Gweithrediadau Mark Jenkinson:  > “Efallai ei fod yn swnio’n gymhleth pan fyddwn yn egluro ein bod yn creu cynnyrch ariannol yn hytrach nac yn fanc – ond mae’r hyn yr ydym  yn ei gynnig yn hynod syml.   Rydym yn cynnig cynnyrch ariannol o safon uchel, sy’n gost\-effeithiol, fydd yn defnyddio meddalwedd fodern fel eu bod yn wahanol i’r cynnyrch sy’n cael ei gynnig ar hyn o bryd.  Boed yn fenthyciad, cyfrif cynilo neu forgais – byddant yn gynnyrch clyfar, deinamig fydd yn golygu bod pobl yn gyfoethocach ac yn rhoi profiad gwell iddynt hefyd.”
The start\-up, which is creating 90 high quality jobs in North East Wales, is led by a management team who have operated at senior executive levels in UK retail banks and overseas.  The company pride themselves on using state of the art technology to develop and offer innovative financial services products for consumers. Their move to Wales has been supported by £750,000 business finance from the Welsh Government.   Economy Secretary Ken Skates said: > “I am very pleased to welcome Chetwood to Wrexham, and to have supported their move here with £750,000 of Welsh Government funding.  > > > > > “Our investment in Chetwood is helping to support the creation of 90  well paid skilled jobs,  in what is becoming a thriving professional and financial services sector in North East Wales.  > > > > > “It is particularly pleasing to see Chetwood working with Coleg Cambria, Glyndwr University and others to ensure their business capitalises on local talent. > > > > > “With the region attracting a growing number of financial specialists, not least our own Development Bank for Wales, I look forward to seeing Chetwood Financial building North East Wales’ reputation as a destination for financial service companies and forming part of a lasting and financial hub in this part of Wales.” Speaking at the launch CEO Andy Mielczarek said:   > “It’s a huge milestone for us to finally open our doors and to be able to operate right here in my home town, Wrexham. The assistance from the Welsh Government has been integral and we’re confident that their investment will pay dividends for the people of Wrexham and the wider public as we fulfil our plans to create smarter financial products that make people better off.” Speaking about the launch COO Mark Jenkinson added:  > “It might sound complex when we say we’re a product manufacturer rather than a bank – but what we’re offering is refreshingly simple. We design really good, cost\-efficient financial products that will make use of cutting edge software so they’re different to the products currently out there. Whether that’s a loan, savings account or mortgage – they will be clever, dynamic products that make people better off and give them a better experience too.”
Translate the text from English to Welsh.
UK Department for International Trade statistics show 2,314 new jobs were created, with a further 1,390 jobs safeguarded. Per project in Wales, 73 jobs overall were created – the best regional performance in the UK. 43% of the projects were from the EU, 22% from North America and 35% from the rest of the World. In addition, 65 investments were secured from companies headquartered in the UK. These promised to create 1,759 new jobs and safeguard a further 699 jobs. The overwhelming majority of these projects came from England.  Reacting to the statistics, Minister for International Relations, Eluned Morgan said: > “Wales continues to attract investment from countries across the globe, with investments from 20 different countries, ranging from small European countries such as Malta and Cyprus to the large economies of the USA, UAE, China and Hong Kong. > > > “I’m delighted 75% of the projects that have come to Wales were supported by the Welsh Government. This is a clear demonstration of the vital work my department undertakes in supporting investors to make Wales their destination of choice. We will continue to do all we can to attract more investment into Wales in the months and years ahead, helping to create high quality jobs in communities across the country.” The figures show Wales experienced a 10\.5% decrease in the number of foreign direct investment projects secured during 2018\-19, compared to the previous year, while the UK as a whole experienced a 14% decline. The minister added: > “This reduction is without a doubt caused by the significant uncertainty businesses are facing because of Brexit. I have spoken to countless companies in recent months, who tell me they want to invest in Wales, but are put off by the uncertainly around what the UK’s future relationship with Europe will look like.  > > > “This is causing significant harm to our economy. While the work of the Welsh Government has ensured the reduction in the number of investments is less than that for the UK as a whole, it’s now up to the UK government to provide the certainty businesses need.”
Dyna mae ffigurau newydd sydd wedi’u cyhoeddi heddiw’n ei ddangos.  Mae ystadegau Adran Masnach Ryngwladol Llywodraeth y DU yn dangos bod 2,314 o swyddi newydd wedi’u creu, a 1,390 arall wedi’u diogelu. Am bob prosiect yng Nghymru, cafodd 73 o swyddi eu creu – y perfformiad rhanbarthol gorau yn y Deyrnas Unedig.  Roedd 43% o’r prosiectau o’r UE, 22% o Ogledd America a 35% o weddill y byd.  Yn ogystal, sicrhawyd 65 o fuddsoddiadau gan gwmnïau sydd â’u pencadlys yn y DU. Roedd y rhain yn addo creu 1,759 o swyddi newydd a diogelu 699 arall. O Loegr y daeth mwyafrif llethol y prosiectau hyn. Wrth ymateb i’r ystadegau, dywedodd y Gweinidog Cysylltiadau Rhyngwladol, Eluned Morgan: > “Mae Cymru’n dal i ddenu buddsoddiadau o wledydd ym mhob cwr o’r byd, o 20 o wledydd gwahanol \- yn amrywio o wledydd Ewropeaidd bach fel Malta a Cyprus i economïau mawr Unol Daleithiau America, yr Emiradau Arabaidd Unedig, Tsieina a Hong Kong. > > > “Rwy’n falch iawn fod 75% o’r prosiectau a ddaeth i Gymru wedi cael cymorth gan Lywodraeth Cymru. Mae hyn yn dangos yn glir y gwaith allweddol mae fy adran yn ei wneud i helpu buddsoddwyr i ddewis Cymru. Byddwn yn parhau i wneud popeth a allwn i ddenu mwy o fuddsoddiadau i Gymru yn ystod y misoedd a’r blynyddoedd i ddod, gan helpu i greu swyddi o ansawdd uchel mewn cymunedau ledled y wlad.” Mae’r ffigurau’n dangos bod Cymru wedi gweld gostyngiad o 10\.5% yn nifer y prosiectau buddsoddi uniongyrchol o wledydd tramor a sicrhawyd yn ystod 2018\-19, o’i gymharu â’r flwyddyn flaenorol, a bod y DU i gyd wedi gweld gostyngiad o 14%. Ychwanegodd y gweinidog: > “Does dim dwywaith mai’r ansicrwydd sylweddol y mae busnesau’n ei wynebu oherwydd Brexit sy’n gyfrifol am hyn. Rwy wedi siarad â llu o gwmnïau yn ystod y misoedd diwethaf, sydd wedi dweud wrthyf i eu bod eisiau buddsoddi yng Nghymru ond eu bod yn petruso oherwydd yr ansicrwydd ynghylch natur y berthynas rhwng y DU ac Ewrop yn y dyfodol. > > > “Mae hyn yn achosi niwed sylweddol i’n heconomi. Er bod gwaith Llywodraeth Cymru wedi sicrhau bod y gostyngiad yn nifer y buddsoddiadau’n llai nag yn y DU gyfan, mae’n amser nawr i Lywodraeth y DU ddarparu’r sicrwydd sydd ei angen ar fusnesau.”
Translate the text from English to Welsh.
In July I announced the outcome of my stocktake of Glastir. This statement is intended to update Members on progress since July and our proposals for 2013\. The first Glastir Entry contracts started on 1 January this year and I am pleased to announce that payments amounting to £3,565,323 have been made already with additional payments of up to £1,636,000 expected to be made before Christmas. Around 700 contracts will also have been issued by Christmas to farmers who applied to join the scheme with a start date of 1 January 2013\. Next year, in line with my stocktake commitment, there will be an “Anytime” application process that will open on 1 January. From this date, farmers will be able to request an application form and all signed applications received by the end of September 2013 will be considered for a start date of 1 January 2014\.  This is an important period as the majority of existing Tir Gofal and Tir Cynnal extension agreements will expire on 31December 2013 and I am keen to see as many of these farms join Glastir Entry as possible next year.  Over 4,500 of these farmers have expressed an interest in Glastir and I would hope that we would sign up a majority of these farms to Glastir Entry to ensure the continuity of the valuable environmental goods and services the farmers involved have delivered so far.   Over 209 farmers applied for a Glastir Efficiency grant in 2012 and we have already approved over 100 contracts with the first payments being made now for important equipment which will help farmers modernise their business infrastructure and provide environmental outcomes. Grants for slurry injectors, infrastructure such as slurry stores, and improved energy efficient machinery are enabling farmers to improve their nutrient management and make their farm buildings more energy efficient. I am also very pleased to announce that invitations have been sent out to a further 611 farmers to submit applications for an Efficiency grant for next year. The first Glastir Advanced contracts will also begin on 1 January 2013\.  This pioneering part of the Glastir scheme will target Rural Development Plan money more effectively to where the highest potential for environmental benefits can be realised. The Welsh Government anticipates 300 contracts will be commencing from 1 January 2013\. Furthermore, 1,100 invitations have been sent out to farmers to receive a visit from a contract manager with the aim of a Glastir Advanced contract being in place by 1 January 2014\. The Glastir Commons Element exceeded expectations in its first year and continues to go from strength to strength. In total, 107 contracts were in place at the beginning of this year and we have already made payments worth £2,038,426 with up to a further £312,365 due to be made before the end of the year.  An additional 52 contracts will be issued by Christmas which when signed would bring the total area of Common Land in the scheme to 94,000 hectares.   There are now 441 signed contracts for the Glastir Woodland Creation scheme committing to planting 1,452ha of new woodland and payments made so far total around £1\.8million. The first Glastir Woodland Management contracts are being issued and by the beginning of 2014 I expect there to be around 270 contracts in operation. The last six months have also seen continued improvements to make the scheme more accessible.  The changes to the Glastir Entry application window next year will give farmers considerably more time to plan and prepare their applications.  The changes I requested to cut the red tape associated with the scheme have also been introduced.  The amount of diary records farmers are required to keep has been reduced and remaining records are all reimbursed within the scheme payment rates. Commons Development Officers will continue to be available to facilitate the formation of Grazing Associations and the completion of Glastir Commons applications next year. I have also decided to utilise their services more widely next year. They have been receiving training across other aspects of the scheme and from January they will begin to deliver farmer surgeries and on farm training for those considering signing up to Glastir Entry. We now also have a communications plan in place that is starting to deliver the key messages we need to get across to farmers. There is a renewed interest in Glastir and a recognition that the scheme will deliver for farmers and the environment alike. It is important that all stakeholders with an interest in farming and the environment in Wales work together to ensure that farmers have objective and accurate information about the scheme to help them make an informed decision on applying to join. I am confident that we have built the foundations for a successful scheme and that 2013 will provide further evidence that Glastir will deliver for Wales.
Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais ganlyniad fy astudiaeth pwyso a mesur Glastir. Bwriad y datganiad hwn yw diweddaru Aelodau ar yr hyn sydd wedi digwydd ers Gorffennaf a’n cynigion ar gyfer 2013\.   Dechreuodd y cytundebau Glastir Sylfaenol ar 1 Ionawr eleni ac rwy’n falch o allu cyhoeddi fod taliadau gwerth £3,565,323 eisoes wedi’u gwneud a disgwylir talu gwerth hyd at £1,636,000 eto cyn y Nadolig. Bydd rhyw 700 o gontractau hefyd wedi’u rhoi i ffermwyr sydd wedi gwneud cais i ymuno â’r cynllun o 1 Ionawr 2013, a hynny eto erbyn y Nadolig. Yn unol â’r addewid a wnes i wrth bwyso a mesur, y flwyddyn nesaf, o 1 Ionawr ymlaen bydd ffermwyr yn rhydd i wneud cais i ymuno â Glastir unrhyw bryd.  O’r dyddiad hwnnw, bydd ffermwyr yn cael gofyn am ffurflen gais a chaiff pob ffurflen gais a ddaw i law cyn diwedd Medi 2013 eu hystyried ar gyfer contract fydd yn cychwyn ar 1 Ionawr 2014\. Bydd hwn yn gyfnod pwysig gan y daw’r rhan fwyaf o gytundebau estynedig Tir Gofal a Thir Cynnal i ben ar 31 Rhagfyr 2013 ac rwy’n awyddus i weld cymaint o’r ffermwyr hyn â phosibl yn ymuno â Glastir Sylfaenol flwyddyn nesaf.  Mae dros 4,500 o’r ffermwyr hyn wedi dangos diddordeb yn Glastir ac rwy’n gobeithio y gwnaiff y rhan fwyaf ohonyn nhw ymuno â Glastir Sylfaenol er mwyn i ni weld parhad yn y ddarpariaeth o nwyddau a gwasanaethau gwerthfawr a geir ganddynt.   Gwnaeth dros 209 o ffermwyr gais am grant Effeithiolrwydd Glastir yn 2012 ac rydym eisoes wedi cymeradwyo dros 100 o gontractau. Mae’r taliadau cyntaf yn cael eu gwneud nawr am offer a chyfleusterau pwysig fydd yn helpu ffermwyr i foderneiddio’u hisadeiledd busnes a sicrhau canlyniadau amgylcheddol.   Mae grantiau ar gyfer offer chwistrellu slyri, isadeiledd fel storfeydd slyri a pheiriannau rhatach ar ynni yn golygu bod ffermwyr yn gallu rheoli maethynnau’n well a gwneud eu hadeiladau’n fwy ynni effeithlon.  Rwy’n falch o gael dweud hefyd bod 611 o ffermwyr eraill wedi cael gwahoddiad i wneud cais am grant Effeithiolrwydd flwyddyn nesaf. Bydd y contractau Glastir Uwch cyntaf hefyd yn cychwyn ar 1 Ionawr 2013\.  Bydd y rhan flaengar hwn o gynllun Glastir yn defnyddio arian y Cynllun Datblygu Gwledig yn fwy effeithiol trwy ganolbwyntio ar y manteision amgylcheddol sydd fwyaf tebygol o allu cael eu gwireddu. Mae Llywodraeth Cymru yn amcangyfrif y bydd rhyw 350 o gontractau yn cychwyn o 1 Ionawr 2013\.  At hynny, mae 1,100 o ffermwyr wedi cael cynnig ymweliad gan reolwr contract flwyddyn nesaf gyda’r nod o arwyddo contract Glastir Uwch erbyn 1 Ionawr 2014\. Gwnaeth yr Elfen Glastir – Tir Comin lawer gwell na’r disgwyl yn ei flwyddyn gyntaf ac mae’n mynd o nerth i nerth.  Roedd 107 o gytundebau mewn lle ddechrau eleni ac rydym eisoes wedi gwneud taliadau gwerth £2,038,426 a chaiff £312,365 pellach ei dalu cyn diwedd y flwyddyn.  Byddwn wedi dyfarnu 52 o gontractau newydd erbyn y Nadolig, fydd yn golygu y bydd 94,000 o hectarau o dir comin yn rhan o’r cynllun.   Mae 441 o gontractau wedi’u harwyddo o dan Gynllun Creu Coetiroedd Glastir, sy’n cynrychioli ymrwymiad i blannu 1,452ha o goed newydd.  Mae tua £1\.8 miliwn wedi’i dalu hyd yma.  Mae’r contractau Rheoli Coetiroedd Glastir cyntaf hefyd wedi’u harwyddo ac erbyn dechrau 2014, rwy’n rhagweld y bydd 270 o gytundebau ar waith.   Mae gwelliannau mawr wedi’u gwneud yn y chwe mis diwethaf i wneud y cynllun yn hwylusach.  Bydd newid cyfnod ymgeisio Glastir Sylfaenol flwyddyn nesaf yn rhoi llawer mwy o amser i ffermwyr gynllunio a pharatoi ceisiadau.  Mae’r newidiadau y gofynnais amdanynt i leihau’r baich biwrocratiaeth hefyd wedi’u cyflwyno.  Nid oes angen i ffermwyr godro gadw cymaint o gofnodion, ac mae’r cynllun yn eu had\-dalu am y cofnodion sy’n dal i fod.  Bydd Swyddogion Datblygu Tir Comin yn dal i fod ar gael i helpu i ffurfio Cymdeithasau Pori ac i lenwi ffurflenni cais Glastir Tir Comin flwyddyn nesaf. Rwyf hefyd wedi penderfynu ehangu eu gwasanaeth. Rydym wedi bod yn eu hyfforddi ynghylch agweddau eraill ar y cynllun ac o fis Ionawr, byddan nhw’n cynnal sesiynau cymorth i ffermwyr yn ogystal â sesiynau hyfforddi ar ffermydd i ffermwyr sydd am ymuno â Glastir Sylfaenol.  Mae gennym hefyd strategaeth gyfathrebu erbyn hyn sy’n dechrau lledaenu’r negeseuon pwysicaf y bydd angen inni eu rhoi i ffermwyr flwyddyn nesaf.   Mae diddordeb o’r newydd yn Glastir a chydnabyddiaeth y bydd y cynllun yn cyflawni ar gyfer ffermwyr a'r amgylchedd fel ei gilydd. Mae'n bwysig bod yr holl randdeiliaid sydd â diddordeb mewn ffermio a'r amgylchedd yng Nghymru yn gweithio gyda'i gilydd i sicrhau bod ffermwyr yn cael gwybodaeth gwrthrychol a chywir am y cynllun i’w helpu i wneud penderfyniad gwybodus ynghylch ceisio i ymuno. Rwy’n hyderus ein bod wedi gosod y sylfeini ar gyfer cynllun llwyddiannus ac y bydd 2013 yn rhoi rhagor o dystiolaeth fod Glastir yn cyflawni dros Gymru.
Translate the text from English to Welsh.
Community transmission of the BA.2 Omicron wave of COVID\-19 continues at a very high level across Wales and the UK but there are signs that this may be starting to reverse. Hospitalisations for treatment of COVID\-19 may also have recently started to fall but the health and care system continues to struggle with COVID\-19 demands and high levels of staff absence. Fewer patients are requiring mechanical ventilation than in previous waves. We should maintain our efforts to reduce transmission within hospital settings. Limiting visitor numbers to hospitals, maintaining social distancing, and rigorous application of infection control procedures all remain important. Face coverings for visitors may have a small additional effect on reducing viral transmission but also signal the need for continued protective behaviours; they should continue to be used by staff and visitors until viral transmission in our communities is significantly reduced. It is unclear as to whether this would be best achieved through continued legislation or through recourse to advice/guidance but I note the rapid behavioural changes which have been seen in Wales when this shift has occurred in other settings such as retail and hospitality. I remain of the view that the best time to relax protections is when infection rates are low/receding and when direct harms are limited. As the current wave of infection subsides we must prepare for future resurgences over the summer and into the autumn. We should expedite enhanced surveillance in hospitals (through our SARI programme) and through an expansion of sentinel sites in primary care. I caution against complacency in assuming that future variants will be as (relatively) benign as Omicron; we should plan our response to future surges on the basis that more harmful, immune\-evading variants may evolve. We should also review our arrangements for protecting vulnerable individuals and groups and continue to follow JCVI advice with regard to further vaccination boosters. Sir Frank Atherton CMO Wales
Mae trosglwyddiad y don Omicron BA.2 o COVID\-19 yn y gymuned yn parhau ar lefel uchel iawn ledled Cymru a’r DU ond mae arwyddion y gallai hyn fod yn dechrau gwrthdroi. Er bod derbyniadau i’r ysbyty ar gyfer trin COVID\-19 hefyd wedi dechrau gostwng yn ddiweddar, mae’r system iechyd a gofal yn parhau i ymrafael â phwysau COVID\-19 a lefelau uchel o absenoldeb staff. Mae nifer y cleifion sydd angen cymorth dyfeisiau awyru mecanyddol yn is nag mewn tonnau blaenorol.  Dylem barhau â’n hymdrechion i leihau trosglwyddiad o fewn ysbytai. Mae cyfyngu ar nifer yr ymwelwyr ag ysbytai, cadw pellter cymdeithasol a rhoi gweithdrefnau rheoli heintiau ar waith yn drylwyr i gyd yn parhau i fod yn bwysig. Gall gorchuddion wyneb ar gyfer ymwelwyr gael effaith ychwanegol fach ar leihau trosglwyddiad feirysol ond maent hefyd yn dangos yr angen i barhau ag ymddygiadau sy’n diogelu. Dylent barhau i gael eu defnyddio gan staff ac ymwelwyr nes y bydd trosglwyddiad feirysol yn ein cymunedau yn llai o lawer. Nid yw’n glir a fyddai’n well cyflawni hyn drwy ddeddfwriaeth barhaus neu drwy droi at gyngor/canllawiau, ond nodaf y newidiadau ymddygiadol cyflym a welwyd yng Nghymru pan wnaed y newid mewn lleoliadau eraill fel manwerthu a lletygarwch. Rwy’n dal i fod o’r farn mai’r amser gorau i lacio mesurau diogelu yw pan fo cyfraddau heintio’n isel/lleihau a phan fo niwed uniongyrchol yn gyfyngedig. Wrth i’r don bresennol o heintiau gilio, rhaid inni baratoi ar gyfer tonnau eraill yn y dyfodol dros yr haf ac i mewn i’r hydref. Dylem hwyluso gwyliadwriaeth well mewn ysbytai (drwy ein rhaglen ar gyfer cadw gwyliadwriaeth ar heintiau anadlol acíwt (SARI)) a thrwy ehangu safleoedd sentinel mewn gofal sylfaenol. Rwy’n rhybuddio yn erbyn hunanfodlonrwydd wrth dybio y bydd amrywiolion yn y dyfodol mor (gymharol) ddiniwed ag Omicron. Dylem gynllunio ein hymateb i ymchwydd yn y dyfodol ar y sail y gallai amrywiolion mwy niweidiol, sy’n osgoi imiwnedd, esblygu. Dylem hefyd adolygu ein trefniadau ar gyfer diogelu unigolion a grwpiau sy’n agored i niwed a pharhau i ddilyn cyngor y Cyd\-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) o ran brechiadau atgyfnerthu pellach. Syr Frank Atherton Prif Swyddog Meddygol Cymru
Translate the text from Welsh to English.
Gwnaeth yr Ysgrifenydd Cabinet y cyhoeddiad wrth ymweld â Chylch Chwarae Cymunedol Markham.  Yn ystod yr ymweliad, rhoddodd Carl Sargeant fwy o fanylion ar yr union ardaloedd o fewn yr awdurdodau lleol hynny lle bydd y cynnig ar gael. Yn ogystal â Chaerffili, yr awdurdodau lleol a fydd yn treialu’r cynnig yw Ynys Môn a Gwynedd (gan weithio ar y cyd), Blaenau Gwent, Sir y Fflint, Rhondda Cynon Taf ac Abertawe. Bydd Llywodraeth Cymru yn gwario £10 miliwn yn 2017\-18 yn datblygu’r cynnig. Caiff mwyafrif helaeth y cyllid ei ddyrannu i’r awdurdodau lleol i dalu am ofal plant yn ystod y cyfnod gweithredu cychwynnol. Dywedodd Carl Sargeant: > “Dwi’n bles gyda’r brwdfrydedd a’r hyblygrwydd dwi wedi’i weld hyd yn hyn yn yr awdurdodau lleol cyntaf i weithredu’r cynnig, ac mae eu gwybodaeth leol a’u dealltwriaeth o’r sector gofal plant wedi gwneud argraff arna i. Ar ôl ystyried nifer y plant a gaiff eu cynnwys yn y cynnig o fewn y chwech awdurdod lleol cychwynnol, dwi wedi penderfynu gwahodd Caerffili i ymuno â nhw o fis Medi. > > "Mae’r awdurdodau lleol hyn wedi bod yn trafod gyda rhieni a darparwyr, a dyna rydyn ninnau wedi bod yn ei wneud drwy ein hymgyrch \#TrafodGofalPlant. Mae’r negeseuon y mae’r awdurdodau yn eu clywed yn debyg iawn i’r rhai dw innau’n eu clywed ynghylch cost, mynediad, hyblygrwydd, dewis ac ymarferoldeb ceisio cydbwyso gofal plant a gwaith.  > > “Dwi wedi’i gwneud yn glir o’r dechrau bod yn rhaid i’n cynnig gofal plant weithio i rieni: mae’n rhaid iddyn nhw gael dewis a hyblygrwydd. Mae’n rhaid i’r peth weithio hefyd i’r darparwyr fel y gallan nhw gynnal ansawdd eu darpariaeth a meithrin datblygiad ein plant mewn amgylchedd diogel a llwyddiannus. Erbyn hyn, dwi wedi cytuno y bydd y saith awdurdod lleol dan sylw yn treialu gwahanol elfennau mewn gwahanol lefydd.” Mi fydd prosiectau sy'n cynnig 30 awr yr wythnos o addysg gynnar a gofal plant am ddim i blant 3 a 4 oed yn gychwyn yn Medi 2017 yn yr awdurdodau lleol canlynol: * Mi fydd Ynys Môn a Gwynedd yn gweithio gyda'i gilydd i roi prawf ar y cynnig. Mi fydd Ynys Môn yn profi’r cynnig yn ardaloedd canlynol: Porthaethwy, Llandegfan, Llanfairpwll, Biwmares a Llangoed; pentrefi Niwbwrch, Dwyran, Brynsiencyn, Llangaffo, Llanddaniel, Llanedwen a Thalwrn a thref Llangefni. Bydd Gwynedd yn profi'r cynnig yn y canlynol: yr ardaloedd llesiant o fewn dinas Bangor sy'n cynnwys Bethesda; ardaloedd llesiant ardal Porthmadog sydd hefyd yn cynnwys Cricieth, Penrhyndeudraeth, Harlech a Garndolbenmaen; ac ardal llesiant o fewn Ffestiniog sy'n cynnwys ardaloedd i lawr at Drawsfynydd; ac ardal llesiant Dolgellau sy'n cynnwys yr ardal o gwmpas Abermaw, Corris, Dinas Mawddwy, Dyffryn Ardudwy a Llanbedr. O Ionawr 2018, bydd yr ardal llesiant o fewn Caernarfon sy’n cynnwys Bethel, Cwm y Glo, Bontnewydd, Deiniolen, Llanberis, Groeslon, Llanllyfni, Clynnog, Llanrug, Llanwnda, Penisarwaen, Penygroes, Talysarn a Waunfawr hefyd yn rhan o’r cynnig. * Mi fydd Blaenau Gwent yn gweithredu'r cynnig ar draws yr awdurdod lleol cyfan o fis Medi 2017\. * Mi fydd Caerffili yn profi’r cynnig o fewn rhanbarth dwyreiniol canolbarth y Cymoedd sy'n cynnwys ardaloedd trefol fel y Coed\-duon, Bontnewydd a Chrymlyn yn ogystal nifer o gymunedau llai. * Mi fydd Sir y Fflint yn profi'r cynnig yn ardal Bwcle, Bagillt a Brychdyn. * Mi fydd Rhondda Cynon Taf yn profi pedair ardal, gan ddefnyddio talgylch ysgolion ar draws tri cwm, ac un dalgylch ysgol gyfrwng Gymraeg er mwyn sicrhau lledaeniad ar draws yr awdurdod, sef Ysgol Gyfun Rhydywaun, Bryncelynnog, Glynrhedynog ac Aberpennar. * Mi fydd Abertawe yn profi’r cynnig mewn wardiau wedi eu lledaenu ar draws y ddinas gan gynnwys Dyfnant, Penclawdd, Llangyfelach, West Cross, Treforys, Pontarddulais a Gorseinon.
  The Cabinet Secretary made the announcement while visiting the Markham Community Playgroup.  During the visit, Carl Sargeant also gave further detail on the precise areas within those local authorities where the offer will be available. In addition to Caerphilly, the local authorities that will test the offer are Anglesey and Gwynedd (working jointly), Blaenau Gwent, Flintshire, Rhondda Cynon Taf and Swansea. The Welsh Government will spend £10 million in 2017\-18 to take forward the development of the offer. The vast majority of the funding will be allocated to the local authorities to pay for government\-funded childcare during early implementation.   Carl Sargeant said: > “I have been pleased with the enthusiasm and flexibility shown by these early implementer local authorities to date and impressed with their local knowledge and understanding of the childcare sector. Having considered the numbers of children to be included in the offer within the initial six local authorities, I have been able to invite Caerphilly as an additional early implementer from September.   > > > “These local authorities have engaged with parents and providers, as have we through our \#TalkChildcare campaign. The messages the early implementers are hearing are very similar to the ones I am hearing around cost, access, flexibility, choice, and the logistical challenge of trying to balance childcare and work.   > > > “I have been clear from the start that our childcare offer must work for parents: they must have choice and flexibility. It must work for providers so they can maintain quality and help foster our children’s development in safe and successful environments. I have now agreed that the seven local authorities involved will test different things in different places.” Projects offering 30 hours of free early education and childcare per week to 3 and 4 year olds will be taken forward from September 2017, in the following local authorities: * **Anglesey and Gwynedd** will work together to test the offer. Anglesey will test the Offer in the areas of: Menai Bridge, Llandegfan, Llanfairpwll, Beaumaris and Llangoed; the villages of Niwbwrch, Dwyran, Brynsiencyn, Llangaffo, Llanddaniel and Llanedwen; and the town of Llangefni and Talwrn.  Gwynedd will test the offer in: the well\-being area of Bangor which includes Bethesda; the well\-being area of Porthmadog which also includes Criccieth, Penrhyndeudraeth, Harlech and Garndolbenmaen; the well\-being area of Ffestiniog which includes areas down to Trawsfynydd; and the well\-being area of Dolgellau which includes the area around Barmouth, Corris, Dinas Mawddwy, Dyffryn Ardudwy and Llanbedr. From January 2018, the well\-being  area of Caernarfon which includes Bethel, Cwm y Glo, Bontnewydd, Deiniolen, Llanberis, Groeslon, Llanllyfni, Clynnog, Llanrug, Llanwnda, Penisarwaen, Penygroes, Talysarn and Waunfawr will also be testing the offer. * **Blaenau Gwent** will implement the offer across the whole local authority from September 2017\. * **Caerphilly** will test the offer in the Mid\-Valleys East region which incorporates urban areas such as Blackwood, Newbridge and Crumlin as well as a number of smaller communities. * **Flintshire** will test the offer in specified areas of Buckley, Bagillt and Broughton. * **Rhondda Cynon Taf** will test four school catchment areas spread across the three valleys and one Welsh\-medium catchment area to ensure an even spread across the authority.  These are Ysgol Gyfun Rhydywaun, Bryncelynnog, Ferndale and Mountain Ash school catchments. * **Swansea** will test the offer in wards spread across the city including Dunvant, Penclawdd, Llangyfelach, West Cross, Morriston, Pontarddulais and Gorseinon.    
Translate the text from English to Welsh.
The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5\) (Wales) Regulations 2020 require that a review of the coronavirus restrictions is undertaken every three weeks.  The most recent review was due by 3 June   Confirmed cases of COVID\-19 in Wales remain at less than 10 cases per 100,000 people, which continues to be the lowest rate in the UK. This reflects the hard work of people throughout Wales to keep themselves and their families safe. Our vaccination programme also continues to make extraordinary progress. More than85% of the adult population has now received their first dose of the vaccination and nearly half have completed the two\-dose course. However, the emergence and the spread of the more transmissible delta variant in parts of the UK – most notably in North West England – is a cause for concern. There are just under 100 cases in Wales, including a cluster in Conwy but we expect these numbers will increase. We have the headroom to move to alert level one but we will do this in a phased way, focusing on outdoor events and activities in the first step. This phased approach will provide time for more data on the impact of this variant to become available and for more people to be vaccinated. The changes to coronavirus regulations from the 7 June will therefore include: * Up to 30 people can meet outdoors, including in private gardens, outdoor hospitality and public places. * Larger outdoor organised gatherings and events, such as concerts, football matches and sporting activities, like organised running groups, will be able to go ahead for up to 4,000 people standing and 10,000 people seated. All organisers planning events and activities must undertake a full risk assessment and put in place measures to prevent the spread of coronavirus, including social distancing. * Up to three households can form an extended household. We will consider further changes to the regulations on indoor activity later in the three\-week cycle, if public health conditions allow. These will include: * The rule of six for meeting indoors in private homes and holiday accommodation. * Increasing numbers for indoor organised gatherings and restarting indoor events. * Opening ice skating rinks. We have reviewed the Public Health (Protection from Eviction) (No.2\) (Wales) (Coronavirus) Regulations 2021 and decided these will remain in place up for the time being but not exceeding June 30\. We are considering further options to strengthen support for tenants. In the meantime, we would urge all tenants struggling to pay their rent to speak to their landlord and contact Citizen’s Advice Cymru or Shelter Cymru for further help and support.
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5\) (Cymru) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol adolygu’r cyfyngiadau coronafeirws bob tair wythnos. Roedd angen cynnal yr adolygiad diweddaraf erbyn 3 Mehefin.   Mae nifer yr achosion wedi’u cadarnhau o COVID\-19 yng Nghymru yn parhau i fod yn is na 10 achos fesul 100,000 o bobl, sef y gyfradd isaf yn y DU. Mae hyn yn adlewyrchiad o waith caled pobl ym mhob cwr o Gymru i ddiogelu eu hunain a’u teuluoedd. Mae ein rhaglen frechu hefyd yn parhau i symud ymlaen yn rhagorol. Mae dros 85% o’r boblogaeth sy’n oedolion bellach wedi derbyn eu dos cyntaf o’r brechlyn ac mae bron eu hanner wedi cwblhau’r cwrs o ddau ddos. Fodd bynnag, mae ymddangosiad a lledaeniad yr amrywiolyn delta, sy’n trosglwyddo’n haws, mewn rhannau o’r DU – Gogledd\-orllewin Lloegr yn benodol – yn achosi pryder. Mae ychydig llai na 100 o achosion yng Nghymru, gan gynnwys clwstwr yn sir Conwy, ond rydym yn disgwyl i’r niferoedd hyn gynyddu. Mae lle gennym nawr i symud i Lefel Rhybudd 1 ond byddwn yn gwneud hynny fesul cam, gan ganolbwyntio ar ddigwyddiadau a gweithgareddau awyr agored i ddechrau. Bydd gweithredu fesul cam fel hyn yn rhoi amser i ni gael rhagor o ddata am effaith yr amrywiolyn hwn, ac i fwy o bobl gael eu brechu. Bydd y newidiadau i’r rheoliadau coronafeirws o 7 Mehefin felly yn cynnwys y canlynol: * Gall hyd at 30 o bobl gyfarfod yn yr awyr agored, gan gynnwys mewn gerddi preifat, lletygarwch awyr agored a mannau cyhoeddus. * Gall cynulliadau a digwyddiadau mwy wedi’u trefnu, fel cyngherddau, gemau pêl\-droed a gweithgareddau chwaraeon, fel grwpiau rhedeg wedi’u trefnu gael eu cynnal yn yr awyr agored, gyda hyd at 4,000 o bobl yn sefyll a 10,000 o bobl yn eistedd. Rhaid i holl drefnwyr digwyddiadau a gweithgareddau gynnal asesiad risg llawn a gosod mesurau i atal lledaeniad y coronafeirws, gan gynnwys cadw pellter cymdeithasol. * Gall hyd at dair aelwyd ffurfio aelwyd estynedig. Byddwn yn ystyried newidiadau pellach i’r rheoliadau ar weithgareddau o dan do yn ddiweddarach yn y cylch tair wythnos, os bydd y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd yn caniatáu hynny. Byddant yn cynnwys: * Y rheol chwech o bobl ar gyfer cwrdd o dan do mewn cartrefi preifat a llety gwyliau. * Cynyddu’r niferoedd a ganiateir mewn cynulliadau wedi’u trefnu o dan do ac ailgychwyn digwyddiadau o dan do. * Agor canolfannau sglefrio iâ. Rydym wedi adolygu’r Rheoliadau Iechyd y Cyhoedd (Gwarchodaeth rhag Troi Allan) (Rhif 2\) (Cymru) (Coronafeirws) 2021 ac wedi penderfynu y byddant yn parhau i fod yn eu lle am y tro hyd at 30 Mehefin fan bellaf. Rydym yn ystyried opsiynau pellach i gryfhau cymorth i denantiaid. Yn y cyfamser, hoffem annog pob tenant sy’n cael trafferth talu eu rhent i siarad â’i landlord a chysylltu â Cyngor ar Bopeth neu Shelter Cymru i gael rhagor o gymorth a chefnogaeth.
Translate the text from Welsh to English.
Mae Gardd Dylluanod Gudd wedi agor yng Nghastell Pictwn ers mis Mai sydd wedi cael nawdd y Cynllun Cymorth Buddsoddi mewn Twristiaeth Croeso Cymru.  Mae'r atyniad newydd yn rhoi cyfle i ymwelwyr weld a dod i nabod dros 25 o rywogaethau gwahanol o dylluanod mewn adardai yng ngardd y coed.  Bydd yna sesiynau rhyngweithio a helfa drysor i adnabod y tylluanod. Sefydlwyd yr Ardd Dylluanod Gudd gan Alex ac Emma Hill pan welon nhw fwlch yn y farchnad a chyfle i gynnig rhywbeth gwahanol i'r hyn oedd ar gael yn yr ardal. Dywedodd Emma Hill:  > "Penderfynon ni greu'r Ardd Dylluanod Gudd am fod pobl wastad yn dweud wrthon ni gymaint y maen nhw'n dwlu ar dylluanod, felly dyma ni'n rhoi'r cyfle iddyn nhw ddysgu mwy amdanyn nhw." Yn ystod y gwyliau ysgol, bydd y tîm yn cynnal gweithgareddau rhyngweithiol â phlant i ddysgu am gwdihŵs. Bydd y gweithgareddau'n cynnwys gwaith celf a chrefft (gwneud masgiau tylluanod), tynnu peledi tylluanod yn ddarnau, dysgu am blu adar a hedfan tawel ac ati. Mae'r tîm yn cynnig profiadau personol â'r tylluanod lle mae ymwelwyr yn cael galw'r tylluanod o'r coed  i law fanegog. Trwy archebu'r profiadau hyn yn bersonol, gellir eu haddasu yn ôl gofynion y grŵp neu'r teulu unigol, a bydd yn cynnwys set o ffotograffau. Yn y dyfodol, gobeithir trefnu cyrsiau am ofalu am dylluanod a thrin tylluanod. Bydd y busnes yn trefnu'r cyrsiau hyn gydol y flwyddyn i feithrin sgiliau hebogwyr a chyflwyno'r safonau gofal uchaf i'r genhedlaeth nesaf. Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith:  > "Hoffwn longyfarch Emma ac Alex am weld y cyfle i gynnig rhywbeth gwahanol yn Sir Benfro ac mae'n dda gweld hefyd ein bod wedi gallu helpu'r busnes i dyfu.  Rydyn ni'n dymuno'r gorau iddyn yn eu haf cyntaf ac ar gyfer y dyfodol." Mwy o wybodaeth ar www.secretowlgarden.co.uk (dolen allanol, Saesneg yn unig).   
The Secret Owl Garden has been open in Picton Castle since May and has had support through funding from Visit Wales’ Tourism Investment Support Scheme.  The new attraction gives visitors a chance to see and meet with over 25 different species of owls in their new aviaries around the woodland garden; watch interactive sessions and go on a treasure trail to identify owls. The Secret Owl Garden was founded by Alex and Emma Hill, as they saw a gap in the market and could offer something different to what was already on offer in the area.  Emma Hill, said:  > "We created The Secret Owl Garden because people are always telling us just how much they love owls, so we wanted to give them the opportunity to learn more about them." During the school holidays, the team run interactive sessions where children can take part in activities to learn more about the owls. This will include arts and crafts (make your own owl mask), dissecting owl pellets, learning about different bird feathers and silent flight etc. The team currently run private experiences where visitors are able to have a hands on experience calling owls down from the trees to their gloved hand around the gardens. By booking them privately the experience is fully tailored to the group or family and even includes a set of photos! In the future there will also be opportunities to take courses in owl care and management. The business will run these course through the year to develop existing falconer’s skills and introduce the next generation to the highest standards of care. Ken Skates, Cabinet Secretary for the Economy and Infrastructure, said:  > “I’d like to congratulate Emma and Alex for seeing that they could offer something different in Pembrokeshire, I’m delighted that we’ve been able to support the growth of the business and wish them well with their first summer season and for the future.” More information on www.secretowlgarden.co.uk (external link).   
Translate the text from English to Welsh.
The Welsh Government will open offices in Canada, France, Germany and Qatar next year to help protect existing markets, pursue new trade and investment opportunities and promote Wales to the world. Germany and France are Wales’ 2 biggest European markets in terms of trade and investment. A quarter of all Welsh exports go to Germany, worth £2\.9bn last year alone, while 90 German companies are based in Wales employing over 12,000 people. France is Wales’ second biggest export destination, with the value of Welsh exports to France standing at £1\.9bn in 2016\. In addition, there are an estimated 80 French\-owned companies in Wales employing over 8,100 people. For the year ending June 2017, Canada was the 9th largest market for Welsh exports with a value of £392m, an increase of almost 70% over the previous 12 months. Canada is also in Wales’ top 5 investing markets, with companies such as Montreal\-headquartered CGI having offices in Wales. The Middle East is a growing commercial market which has seen strong growth as an export destination for Welsh companies. Last year, Qatar was the 15th largest market for Welsh exports, worth £172m to the Welsh economy, which is an increase of over 15%  on the previous year. Wales has achieved record\-breaking inward investment results for 3 years running, attracting major companies \- including GE Aviation and General Dynamics \- against the backdrop of Brexit and competition from the largest economies in the world. Welsh Government overseas teams promote Wales as a potential investment destination and have helped secure some Wales’ largest foreign investments. For Welsh exporters, Welsh Government’s overseas teams play a role in investment decisions, providing knowledge of markets and trends, business climate and culture as well as ways to win new business. Overseas teams also offer access to networks and businesses and facilitate connections with influencers and decision makers. During a major speech this evening at Cardiff Met University on Wales after Brexit, the First Minister will say: > “Increasing our presence in these key markets allows us to pursue new trade and investment opportunities, build networks and promote Wales to the world. This has never been more important as we face a future outside of the European Union. > > > “Leaving the EU will create challenges, as well as opportunities. That is why we are expanding our presence in Europe and across the globe, so we are able to meet with, and attract, new investors and sell Welsh goods to overseas customers. > > > “As well as identifying new and exciting opportunities, we are working hard to protect our existing markets. Two thirds of Welsh exports go to European countries, while a third of all Foreign Direct Investment (FDI) comes from the EU. > > > “If we turn our backs on the Single Market and shut ourselves off from vital European trading markets, it would be hugely damaging to our economy. Maintaining and increasing investment from companies already in Wales is vitally important to us and dedicated resource in these countries will maximise the investment opportunities that these markets bring.”
Bydd Llywodraeth Cymru yn agor swyddfeydd yng Nghanada, Ffrainc, yr Almaen a Qatar y flwyddyn nesaf, er mwyn helpu i ddiogelu marchnadoedd presennol, chwilio am gyfleoedd newydd i fasnachu a buddsoddi, a hyrwyddo Cymru i'r byd. Yr Almaen a Ffrainc yw dwy farchnad fwyaf Cymru yn Ewrop o ran masnachu a buddsoddi. Mae chwarter o holl allforion Cymru yn mynd i'r Almaen, ac roedd hyn werth £2\.9bn y llynedd yn unig. Mae 90 o gwmnïau o'r Almaen wedi'u lleoli yng Nghymru, sy'n cyflogi dros 12,000 o bobl. Ffrainc yw ail gyrchfan mwyaf Cymru o ran allforion, ac yn 2016 roedd allforion o Gymru i Ffrainc yn werth £1\.9bn. Yn ogystal â hynny, amcangyfrifir bod 80 o gwmnïau Ffrengig yng Nghymru, sy'n cyflogi 8,100 o bobl. Ar gyfer y flwyddyn a ddaeth i ben ym mis Mehefin 2017, Canada oedd y nawfed marchnad fwyaf ar gyfer allforion o Gymru, gwerth £392 miliwn, sy'n gynnydd o bron 70% o gymharu â'r 12 mis blaenorol. Mae Canada hefyd ymhlith y 5 marchnad sy'n buddsoddi'r mwyaf yng Nghymru, wrth i gwmnïau megis CGI o Montreal leoli rhai o’i swyddfeydd yng Nghymru. Mae'r Dwyrain Canol yn farchnad fasnachol gynyddol, sydd wedi tyfu’n aruthrol fel cyrchfan i allforion gan gwmnïau o Gymru. Y llynedd, Qatar oedd y 15fed marchnad fwyaf ar gyfer allforion o Gymru, gwerth £172 miliwn i economi Cymru, sy'n gynnydd o dros 15% o gymharu â'r flwyddyn flaenorol. Mae Cymru wedi gweld ei lefelau o fewnfuddsoddiad yn cynyddu am dair blynedd yn olynol, gan ddenu cwmnïau mawr gan gynnwys GE Aviation a General Dynamics \- a hynny er gwaethaf Brexit a chystadleuaeth gan rai o economïau mwya'r byd. Mae timau tramor Llywodraeth Cymru yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad posibl i fuddsoddi ynddo, ac maent wedi helpu i sicrhau rhai o fuddsoddiadau tramor mwyaf Cymru. I allforwyr Cymreig, mae timau tramor Llywodraeth Cymru yn cyfrannu at wneud penderfyniadau ynghylch buddsoddi, gan gynnig gwybodaeth am farchnadoedd a thueddiadau, yr hinsawdd fusnes a diwylliant yn ogystal â ffyrdd o ennill busnes newydd. Mae’r timau tramor hefyd yn cynnig mynediad at rwydweithiau a busnesau ac yn hwyluso cysylltiadau â'r rheini sy'n dylanwadu ac yn gwneud penderfyniadau. Yn ystod araith bwysig ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd heno, yn sôn am Gymru ar ôl Brexit, bydd y Prif Weinidog yn dweud: > "Wrth gynyddu ein presenoldeb yn y marchnadoedd allweddol hyn, mae'n ein galluogi i fynd ar drywydd cyfleoedd newydd i fasnachu a buddsoddi, meithrin rhwydweithiau a hyrwyddo Cymru i'r byd.  Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i ni wynebu dyfodol y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd. > > "Bydd gadael yr Undeb Ewropeaidd yn arwain at heriau, yn ogystal â chyfleoedd. Dyna pam rydyn ni'n cynyddu ein presenoldeb yn Ewrop ac ar draws y byd, fel bod modd i ni gwrdd â buddsoddwyr newydd a'u denu i Gymru, a gwerthu cynnyrch Cymreig i gwsmeriaid dramor. > > "Yn ogystal â chanfod cyfleoedd newydd a chyffrous, rydym yn gweithio'n galed i ddiogelu ein marchnadoedd presennol. Mae dwy ran o dair o allforion Cymru yn mynd i wledydd Ewropeaidd, tra bod un rhan o dair o'r holl Fuddsoddiadau Uniongyrchol o Dramor yn dod o'r Undeb Ewropeaidd. > > "Byddai gadael y Farchnad Sengl a phellhau oddi wrth farchnadoedd masnachu Ewropeaidd hollbwysig yn hynod o niweidiol i'n heconomi. Mae cynnal a chynyddu buddsoddiadau gan gwmnïau sydd eisoes wedi'u lleoli yng Nghymru yn hollbwysig i ni, a bydd cael adnoddau penodedig yn y gwledydd hyn yn sicrhau ein bod yn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd buddsoddi a ddaw yn sgil y marchnadoedd hyn.”
Translate the text from Welsh to English.
Wrth i achosion o’r amrywiolyn Delta barhau i gynyddu yng Nghymru, bydd y Dirprwy Brif Swyddog Meddygol Dr Chris Jones yn ymuno â'r Gweinidog i roi'r wybodaeth ddiweddaraf am y sefyllfa yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae'r ffigurau diweddaraf gan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cadarnhau cynnydd cyson mewn achosion o’r coronafeirws, gyda thystiolaeth bod yr amrywiolyn Delta yn cael ei drosglwyddo yn y gymuned. Dywed y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: > Wrth inni symud i fisoedd yr haf, nid nawr yw'r amser i laesu dwylo. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu, ac mae trosglwyddiad yr amrywiolyn Delta yn ein hatgoffa pa mor gyflym y gall ledaenu. > > > > Mae ein brwydr yn erbyn y feirws yn dibynnu ar y camau rydyn ni i gyd yn eu cymryd gyda'n gilydd ac mae angen inni ddal ati i wneud yr holl bethau sydd wedi helpu i’n cadw ni a’n teuluoedd yn ddiogel ac i ddiogelu Cymru.  Rhaid i bob un ohonom wneud yn siŵr ein bod yn parhau i ddilyn y canllawiau ar gadw pellter cymdeithasol, golchi ein dwylo, gwisgo gorchudd wyneb, a chyfyngu ein cyswllt â phobl dan do, er mwyn diogelu Cymru a chadw’r lefelau trosglwyddo mor isel â phosibl.  Rhaid inni hefyd geisio cwrdd â phobl yn yr awyr agored lle bo modd, a sicrhau bod mannau o dan do yn cael eu hawyru’n dda. > > > > Mae cynnal profion yn arbennig o bwysig wrth i amrywiolion newydd ddod i'r amlwg, er mwyn helpu i ganfod achosion positif a rheoli brigiadau o achosion yn fwy effeithiol.  Hoffwn atgoffa unrhyw un sydd â symptomau – hyd yn oed os ydynt yn ysgafn – i ddilyn y canllawiau hunanynysu ac i drefnu prawf PCR. > > > > Os byddwn i gyd yn ysgwyddo cyfrifoldeb ac yn cadw’r canllawiau mewn cof, bydd gennym y cyfle gorau i fynd yn ôl i wneud y pethau rydyn ni'n gweld eu heisiau fwyaf. Cadarnhaodd y Prif Weinidog Mark Drakeford yr wythnos diwethaf y byddai oedi o bedair wythnos o ran llacio rheoliadau ymhellach er mwyn bwrw ymlaen â'r rhaglen frechu yn gyflym. Bydd mwy na hanner miliwn o ddosau ar gael yn ystod y mis nesaf, a bydd y prif bwyslais ar roi’r ail ddos a sicrhau bod pobl wedi’u hamddiffyn yn llawn. Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd: > Mae ein rhaglen frechu yng Nghymru yn un o'r goreuon yn y byd, ond er mwyn iddi barhau i lwyddo mae angen i bobl dderbyn y cynnig o frechlyn.   > > > > Y brechlyn yw'r ffordd orau o hyd inni amddiffyn ein hunain ac mae angen i bawb dderbyn y cynnig a chofio nad yw un dos yn ddigon.  Mae angen dau ddos arnom i gyd i gwblhau'r cwrs ac i gael y cyfle gorau i leihau ein risg o salwch difrifol, yn enwedig wrth inni wynebu lledaeniad yr amrywiolyn Delta.
As cases of the Delta variant continue to rise in Wales, the Minister will be joined by Deputy Chief Medical Officer Dr Chris Jones to update on the current situation in Wales. Latest figures from Public Health Wales (PHW) confirm a sustained increase in coronavirus cases, with evidence of community transmission of the Delta variant. Minister for Health and Social Services Eluned Morgan says: > As we move into the summer months, now is not the time to be complacent.  Coronavirus has not disappeared, and the transmission of the Delta variant reminds us just how quickly it can spread. > > > > Our fight against this virus depends on the actions we all take together and we need to keep doing all those things which have helped keep us, our families and Wales safe.  We all must ensure that we continue to follow the guidelines on social distancing, washing our hands, wearing face coverings, and limiting our contact with people indoors to keep Wales safe and keep transmission as low as possible.  We must also try to meet people outdoors if we can, and to keep indoor spaces well\-ventilated. > > > > Testing is especially important as new variants emerge to help identify positive cases and manage outbreaks more effectively.  I would like to remind anyone who has symptoms – even if they are mild \- to follow the self\-isolation guidelines and to arrange a PCR test. > > > > If we all take responsibility and keep the guidelines at the front of our minds, we will have the best chance of getting back to doing the things we miss most. First Minister Mark Drakeford confirmed last week that further relaxations of regulations would be paused for four weeks to allow for the vaccine programme to continue at pace, with more than half a million doses to be deployed in the next month, focusing on second doses and getting people fully protected. The Health Minister continued: > Our vaccination programme in Wales is one of the best in the world, but its continued success depends on people taking up their offer of a vaccine. > > > > The vaccine remains the best way we can protect ourselves and we need everyone to keep saying yes to the vaccine and to remember that one dose isn’t enough.  We all need two doses to complete the course and to have the best chance of reducing our risk of serious illness, especially as we face the spread of the delta variant.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 5 Gorffennaf 2022, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (dolen allanol).
On 5 July 2022, an oral statement was made in the Senedd: The Legislative Programme (external link).
Translate the text from English to Welsh.
In 2017, the community of Michaelston y Fedw struggled with a barely useable broadband service. The community came together and decided to build their own broadband network. To achieve this, they formed a community interest company (CIC); Michaelston y Fedw Internet CIC (MyFi). Teams of local volunteers helped build the network as well as employing contractors to complete some work. The Welsh Government’s voucher schemes helped fund the network build. Following initial work, over 200 homes and businesses in the area were able to enjoy upload and download speeds of 1Gbps or 1,000Mbps. In 2020, the community identified a need for further investment to extend the network to other local homes and businesses and to safeguard the investment they had already made. The main issue identified was that all active equipment was currently installed in a shipping container in the village. MyFi understood that this was a vulnerable location with security issues and was restricting further expansion of the network. The community applied for funding from the Welsh Government’s Local Broadband Fund, a £22 million fund aimed at local authorities and social enterprises to help them deliver local broadband roll\-out plans. The funding has allowed them to house their equipment in a secure data centre and lay point to point fibre direct from the data centre to Michaelston y Fedw. This means the communities broadband connections are now fully secure and future\-proofed, with the ability of offering 10Gbps connections to any residents requesting them. Thanks to the investment, the network has also been extended into neighbouring communities, with 380 local homes and businesses now connected. Economy Minister, Vaughan Gething said: > MyFi is a highly innovative project which brings people together to deliver fast and reliable broadband for their community. I’m very pleased the Welsh Government has been able to help the company build on the incredible work they have already done to secure and extend broadband provision to other communities. > > > “Our Local Broadband Fund and various other schemes bring better connectivity to some of the hardest to reach parts of Wales. Good quality digital connectivity underpins everything we do digitally and is the foundation to achieving our ambitious digital strategy for Wales. > > > “The fund is already delivering a real difference to communities across Wales, like Michaelston y Fedw. I’m really pleased the community has benefitted from further funding to help increase the number of premises that can benefit from faster broadband speeds. > > > “Broadband is a key utility, and we’ll continue to support all efforts to boost connections the length and breadth of Wales.” Bethan, a local resident from Draethen who has benefited from a connection to the network said: > With two teenage daughters and a sports\-mad husband, as well as working from home permanently since the outbreak of the Covid pandemic, our poor internet speed was proving challenging to say the least. With various streaming channels being watched at the same time and multiple devices draining the bandwidth, it became almost impossible to function in our household. > > > “When I was made aware of the possibility that MyFi Wales could potentially connect the village to their ultra\-high\-speed broadband, I was determined to do everything I could to help. A few ladies in the village helped me co\-ordinate the collection of names of interested parties, so I started gathering all the information needed to apply for the vouchers required. My friend Helen and I managed to get all paperwork signed and over to MyFi before the cut\-off date and we managed to get the project off the ground. The work the MyFi Team put in was phenomenal and we can’t thank them enough for all their efforts. > > > “We now have the fastest Broadband in Wales and life is so much more bearable, both from a family and working from home perspective. Undoubtedly one of the best projects I’ve had the pleasure of being a part of!”
Yn 2017, roedd gan gymuned Llanfihangel\-y\-fedw wasanaeth band eang a oedd i bob pwrpas yn holl anaddas i'r diben. Daeth y gymuned at ei gilydd a phenderfynu adeiladu eu rhwydwaith band eang eu hunain. I wneud hyn gwnaethon nhw sefydlu cwmni buddiannau cymunedol; Michaelston y Fedw Internet CIC (MyFi). Helpodd tîm o wirfoddolwyr i adeiladu'r rhwydwaith, a hefyd cafodd contractwyr eu cyflogi i gwblhau rhan o'r gwaith. Roedd cynlluniau talebau Llywodraeth Cymru yn helpu i ariannu'r gwaith o adeiladu'r rhwydwaith. Ar ôl y gwaith cychwynnol, roedd dros 200 o gartrefi a busnesau yn yr ardal yn gallu manteisio ar gyflymderau lawrlwytho a lanlwytho o 1Gbps h.y. 1,000Mbps. Yn 2020, nododd y gymuned angen am ragor o fuddsoddi er mwyn estyn y rhwydwaith i gartrefi a busnesau eraill, er mwyn diogelu'r buddsoddiad roedden nhw wedi'i wneud eisoes. Y brif broblem oedd bod yr holl offer gweithredol wedi cael ei osod mewn cynhwysydd morgludo yn y pentref. Roedd MyFi yn deall bod hwn yn lleoliad peryglus a oedd yn peri problemau diogelwch, ac roedd yn atal y rhwydwaith rhag cael ei ehangu ymhellach. Gwnaeth y gymuned gais am gyllid gan Gronfa Band Eang Lleol Llywodraeth Cymru, sef cronfa gwerth £22 miliwn ar gyfer awdurdodau lleol a mentrau cymdeithasol i'w helpu i gyflwyno cynlluniau band eang yn lleol. Mae'r cyllid wedi'u galluogi i storio eu hoffer mewn canolfan ddata ddiogel, a gosod ceblau ffeibr pwynt i bwynt yn uniongyrchol o'r ganolfan ddata yn Lanfihangel\-y\-fedw. Mae hyn yn golygu bod cysylltiadau band eang y gymuned yn hollol ddiogel ac yn barod ar gyfer y dyfodol, gyda chysylltiadau 10Gbps ar gyfer unrhyw drigolion sy'n gofyn amdanyn nhw. Diolch i'r buddsoddiad, mae'r rhwydwaith hefyd wedi cael ei estyn i gymunedau cyfagos, gyda 380 o gartrefi a busnesau lleol bellach wedi cael eu cysylltu. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: > Mae MyFi yn brosiect arloesol iawn, sy'n dod â phobl at ei gilydd i sicrhau band eang cyflym a dibynadwy ar gyfer eu cymunedau. Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru wedi gallu helpu'r cwmni adeiladu ar y gwaith gwych maen nhw eisoes wedi'i wneud i sicrhau'r ddarpariaeth band eang a'i hestyn i gymunedau eraill. > > > "Mae ein Cronfa Band Eang Lleol ac amryw gynlluniau eraill yn dod â chysylltiadau gwell i rai o'r ardaloedd mwyaf anodd eu cyrraedd yng Nghymru. Mae cysylltiadau digidol o ansawdd da yn sail i bopeth rydyn ni'n ei wneud yn ddigidol, a dyma sylfaen cyflawni ein strategaeth ddigidol uchelgeisiol ar gyfer Cymru. > > > "Mae'r gronfa eisoes yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ledled Cymru, mewn llefydd fel Llanfihangel\-y\-fedw. Rwyf wrth fy modd bod y gymuned wedi elwa ar gyllid pellach, sydd wedi helpu i gynyddu nifer yr adeiladau sy'n gallu elwa ar gysylltiadau band eang cyflymach. > > > "Mae band eang yn gyfleustod allweddol, a byddwn ni'n parhau i gefnogi pob ymdrech i roi hwb i gysylltiadau ledled Cymru." Dywedodd Bethan, trigolyn lleol o Ddraethen sydd wedi manteisio ar gysylltiad â'r rhwydwaith:  > Mae gen i ddwy ferch yn eu harddegau a gŵr sy'n dwlu ar chwaraeon, a hefyd rydyn ni wedi bod yn gweithio gartref ers dechrau pandemig COVID – roedd ein cysylltiad araf â'r rhyngrwyd yn ‘heriol’, a dweud y lleiaf. Gyda sawl sianel ffrydio yn cael eu gwylio ar yr un pryd, a nifer o ddyfeisiau yn draenio lled y band, roedd defnyddio'r we yn ein tŷ bron â bod yn amhosibl. > > > "Pan glywais i y gallai MyFi Wales efallai gysylltu'r pentref i'w band eang cyflym iawn, roeddwn i’n benderfynol o wneud popeth yn fy ngallu i helpu. Gwnaeth rhai menywod yn y pentref fy helpu i i drefnu'r gwaith o gasglu enwau pobl a ganddyn nhw ddiddordeb, a dechreuais i wneud cais am yr holl dalebau a oedd eu hangen. Llwyddodd fy ffrind Helen a fi i gael yr holl waith papur wedi'i lofnodi a'i anfon at MyFi cyn y dyddiad cau, a dyna oedd y prosiect wedi'i gychwyn. Roedd gwaith tîm MyFi yn anhygoel, ac rydyn ni'n methu diolch iddyn nhw ddigon am eu holl ymdrech. > > > "Nawr ni sydd â'r band eang cyflymaf yng Nghymru, ac rydyn ni'n ymdopi â bywyd yn well o lawer, o safbwynt gwaith a safbwynt teulu. Heb os dyma un o'r prosiectau gorau rwyf wedi bod yn rhan ohono fe!"
Translate the text from English to Welsh.
On 21 May 2013, the Minister for Health and Social Services made an Oral Statement in the Siambr on: Together for Health \- Six Month Progress Report. The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website (external link). If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org/ Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page. 
Ar 21 Mai 2013, gwnaeth y Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol llafar yn y Siambr ar: Law yn Llaw at Iechyd \- diweddariad chwe mis. Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol). Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org/ Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.   
Translate the text from Welsh to English.
Dywedodd Mr Gething: > “Hoff ddiolch i staff o bob rhan o GIG Cymru a'r sector gofal cymdeithasol sy'n gweithio'n galed i ddarparu gofal i bobl Cymru. Ar hyn o bryd mae pwysau ar draws y system iechyd a gofal cymdeithasol, yn arbennig ar gyfer staff gwasanaethau ambiwlans rheng\-flaen, meddygon teulu ac Adrannau Achosion Brys.   > > > Rydym yn gweithio gyda'r holl fyrddau iechyd a gwasanaethau gofal cymdeithasol i sicrhau eu bod yn cyflwyno'r canlyniad gorau posibl i gleifion ar hyn o bryd, ac i gefnogi'r gwaith ymarferol pellach sydd ei angen i ddiwygio ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol.  > > > Er bod rhai llawdriniaethau yn cael eu gohirio yn hytrach na'u canslo, mae nifer sylweddol o bobl yn parhau i gael y gofal dewisol y mae arnynt ei angen. Buddsoddwyd £30m yn ychwanegol gennym ym mis Medi i gefnogi \#GIGCymru ac awdurdodau lleol gyda'u cynlluniau ar gyfer y gaeaf, a defnyddiwyd llawer o'r arian hwn i helpu i gynyddu nifer y gwelyau ysbyty sydd ar gael, cynhwysedd cymunedol a chapasiti gofal cymdeithasol, yn dechrau yr wythnos hon.  > > > Rydym yn cydnabod bod y galw yn parhau i fod yn uchel ar draws GIG Cymru gan adlewyrchu'r sefyllfa ledled y DU. Byddwn yn gofyn i bobl leihau'r risg o ledaenu heintiau, gwneud Dewis Doeth a defnyddio cymorth arall, megis Galw Iechyd Cymru ar\-lein, ffonio 111, neu ymweld ag uned mân anafiadau lle bo'n briodol.”
Mr Gething, said: > “I want to thank staff across NHS Wales and the social care sector who are working hard to provide care to the people of Wales. There is currently pressure across the health and social care system, particularly for frontline ambulance, GP and A \& E Departments service staff. > > > We are working with all health boards and social care services to ensure they deliver the best possible outcome for patients in the here and now, and to support the further practical work needed to reform our health and social care services.  > > > I want to reassure people that while some operations are being postponed and not cancelled, a significant number of people continue to access the elective care they need. We invested an additional £30m in September to support NHS Wales and Local Authorities with their winter planning, and much of this funding has been used to help increase available hospital beds, community capacity and social care capacity starting this week.  > > > We recognise that demand remains high across NHS Wales reflecting the situation across the UK. I would ask people to reduce the risk of spread of infection and to Choose Well and use other support, such as NHS Direct Wales online, calling 111, or visiting a minor injury unit where appropriate.”
Translate the text from Welsh to English.
Addewais i’r Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol y byddwn yn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad Cenedlaethol am hynt y gwaith o weithredu’r Cymhwyster Proffesiynol Cenedlaethol diwygiedig ar gyfer Prifathrawiaeth (CPCP) yng Nghymru. Mae’r CPCP yn gymhwyster gorfodol i bob ymarferydd yng Nghymru sydd am fynd yn bennaeth ysgol. Yn ddiweddar, adolygwyd y trefniadau a ddefnyddir mewn perthynas â gweithlu ysgolion Cymru i gynnal safonau proffesiynol, rheoli perfformiad a sicrhau datblygu proffesiynol parhaus. Casgliadau’r adolygiad hwnnw oedd bod angen cryn ddiwygio ar y trefniadau presennol yng Nghymru. O ganlyniad, lluniwyd ffordd newydd o ddarparu’r CPCP, fel y’i nodir yn Rheoliadau Cymwysterau a Chofrestru Prifathrawon (Cymru) (Diwygio) 2011\. Y prif newid oedd gwneud yr CPCP yn asesiad trylwyr o ymarfer ymgeiswyr gan weithwyr proffesiynol profiadol, a hynny yn erbyn y Safonau Cenedlaethol ar gyfer Prifathrawiaeth a oedd mewn grym ar y pryd. Roedd yr ymchwil a gynhaliwyd gan Estyn ac eraill wedi dangos nad oedd yr hen fodel yn gweithio, a bod angen ei newid. Cynhaliwyd rhaglen beilot yn 2011 i dreialu’r ffordd newydd o ddarparu’r cymhwyster. Mae’r egwyddorion eu hunain yn rhai sydd wedi hen ennill eu plwyf ac maent yn seiliedig ar ymchwil ryngwladol. Nod y rhaglen beilot felly oedd treialu’r broses ar gyfer dyfarnu’r CPCP. Mae’n dda gennyf ddweud wrth yr aelodau mai llwyddiant oedd y rhaglen beilot, ac hefyd fod y rhanddeiliaid o’r farn fod y ffordd newydd o ddarparu’r CPCP yn welliant amlwg o’i chymharu a’r model blaenorol. Mae’r dull gweithredu diwygiedig hwn bellach wedi ei gyflwyno i gohort newydd o ymgeiswyr ledled Cymru gan defnyddio’r Safonau Arweinyddiaeth newydd. Ar ddiwedd y Peilot, cysylltodd fy swyddogion ag amrywiaeth o bobl a oedd wedi cymryd rhan ynddo. Roeddent yn cynnwys cynrychiolwyr o gonsortia, uwch\-weithwyr proffesiynol a oedd wedi asesu ymgeiswyr, yr ymgeiswyr eu hunain, a swyddogion awdurdodau lleol a oedd wedi cynorthwyo’r ymgeiswyr yn ystod y broses. Y neges glir gan bawb ledled Cymru yw bod y CPCP ar ei newydd wedd yn drylwyr, yn heriol, ac yn gadarn ei seiliau, a dim ond yr ymgeiswyr sy’n gallu dangos eu bod yn bodloni’r Safonau Arweinyddiaeth sy’n cael ennill y cymhwyster i fynd ymlaen i arwain ysgolion yng Nghymru. Hefyd, roedd yn amlwg bod y Peilot wedi llwyddo i gyflawni ei brif nod, sef annog ymgeiswyr i fyfyrio ar eu hymarfer, a chanolbwyntio ar effaith eu gwaith. Roedd llwyddiant y Peilot yn dibynnu ar ewyllys da consortia ac ymarferwyr ledled Cymru, a hoffwn dalu teyrnged i’w parodrwydd i weithio gyda Llywodraeth Cymru yn y maes pwysig hwn. Lle’r oedd gwersi i’w dysgu, rydym wedi gwrando ac wedi gwneud y newidiadau priodol yn barod ar gyfer cyflwyno’r CPCP diwygiedig yn genedlaethol. Mae’r gwaith o’i gyflwyno bellach bron wedi ei gwblhau. Sicrhawyd na fu unrhyw fwlch yn y ddarpariaeth o benaethiaid ar gyfer ysgolion yng Nghymru. Roedd yna fwy o ymgeiswyr (82\) wedi cymryd rhan yn y cyflwyniad cenedlaethol o’r CPCP. Maent i gyd bellach wedi cael eu hasesu. Mae’r cymedroli bellach wedi ei gwblhau ac mae’r canlyniadau ar gyfer y cylch asesu wedi eu cadarnhau, yn amodol ar unrhyw apeliadau. Mae’r cyflwyniad cenedlaethol hefyd wedi mynd rhagddo’n dda ac, pan y bydd wedi ei gwblhau’n derfynol, fe fydd fy swyddogion yn edrych a oes unrhyw wersi pellach i’w dysgu ar gyfer cylchoedd asesu y dyfodol. Rhan o broses y CPCP fydd adolygu’r sefyllfa’n barhaus i wneud yn siŵr bod nifer yr ymgeiswyr yng nghylchoedd y dyfodol yn briodol. Er mwyn asesu’r anghenion ar gyfer y dyfodol, byddwn yn cydweithio ag awdurdodau lleol a chonsortia addysg i sicrhau’r cydbwysedd cywir rhwng nifer yr ymgeiswyr a nifer y swyddi gwag a ragwelir ar y naill law, ac ar y llaw arall sicrhau bod digon o ymgeiswyr i greu cystadleuaeth iach ar gyfer pob swydd wag. Bydd y dull newydd o ddarparu’r CPCP yn golygu bod yr ymgeiswyr sy’n ennill y cymhwyster yn gallu dangos eu bod yn meddu ar y safonau, y sgiliau a’r rhinweddau angenrheidiol; a’u bod yn barod ar gyfer ymgymryd â swydd pennaeth. Mae gan arweinwyr ein hysgolion rôl allweddol yn yr ymdrechion i wella eu safonau. Mae’r CPCP diwygiedig yn rhan allweddol o’r ymgyrch i sicrhau bod gan y genhedlaeth nesaf o arweinwyr ysgolion y sgiliau a’r rhinweddau y mae eu hangen i sicrhau gwelliannau go iawn i blant a phobl ifanc Cymru.
  I promised the Constitutional and Legal Affairs Committee that I would update the National Assembly on progress with the implementation of the revised National Professional Qualification for Headship (NPQH) in Wales.   The NPQH is a mandatory requirement for all practitioners in Wales who want to become headteachers. A review was recently undertaken of the arrangements for professional standards, performance management and continuing professional development for the school workforce in Wales. The outcome of this review concluded that the current arrangements in Wales required major revision.   This resulted in a new approach for the NPQH in Wales as detailed in the Headteachers’ Qualifications and Registration (Wales) (Amendment) Regulations 2011\. The main change was to make the NPQH a rigorous practice based assessment of practitioners by experienced professionals against the then National Standards for Headship. Research by Estyn and others had demonstrated that the old model of delivery was not working and change was needed.   The new approach was tested in 2011 by means of a pilot programme. The principles underlying the new approach are well established and based on international research. Therefore, the aim of the pilot programme was to test the process adopted to award the NPQH.   I am pleased to inform members that the Pilot programme of the revised NPQH was a success and, furthermore, was regarded by stakeholders as a clear improvement on the previous model of delivery. The revised approach to the award of NPQH has now been rolled out to a new cohort of candidates across Wales using the new Leadership Standards.   At the conclusion of the Pilot my officials engaged with a wide range of participants. These included consortia representatives, senior professionals who had been involved in assessing the candidates, the candidates themselves and those from the local authorities that had supported candidates during the process.   The overwhelming message across Wales is that the revised NPQH is rigorous, robust and challenging and only those who can demonstrate that they meet the Leadership Standards will achieve the qualification and go on to lead schools in Wales. The pilot also clearly succeeded in its key aim of encouraging candidates to reflect on their practice and focus on impact.   The success of the pilot required goodwill on the part of consortia and practitioners across Wales, I would like to pay tribute to their willingness to work with Welsh Government in this important area.   Where there were lessons to be learnt we have listened and made the appropriate changes for the national roll\-out. The roll\-out itself is now almost complete ensuring that there has been no break in the provision of headteachers for schools in Wales. The roll\-out featured a larger number of candidates (82\), all of which have now been assessed. Moderation has concluded and the results for the round have been confirmed, subject to any appeals. The roll\-out has also proceeded well and, when it has finally concluded my officials will look into any further lessons to be learnt for future rounds.   Reviewing the situation with regard to the optimum number of candidates for future rounds will be an ongoing part of the NPQH process. In assessing requirements for future, we will work in liaison with local authorities and educational consortia in order to get the correct balance between matching numbers of NPQH candidates to likely future vacancies on the one hand, and ensuring a competitive field of candidates for each vacancy on the other.   This new approach to the NPQH will help to ensure that those candidates who gain the qualification can evidence the standards, skills and attributes required; and that they are ready to take up headship posts. Our school leaders have a key role in improving standards in our schools. The revised NPQH is a key component in ensuring that the next generation school leaders have the necessary skills and attributes to deliver real improvements for the children and young people of Wales.                                  
Translate the text from Welsh to English.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyflawni ei dyletswyddau cenedlaethol a rhyngwladol sy’n ei gwneud yn ofynnol i ni gyfrannu at rwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig yn y DU sy’n gydlynol yn ecolegol. Rwy’n cydnabod y gwerth a’r buddiannau a ddaw i’r amgylchedd morol ac i’r gymdeithas o greu rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig a sicrhau bod y rhwydwaith hwnnw yn cael ei reoli’n dda ac mewn ffordd ecolegol gydlynol. Rwyf eisiau rhwydwaith sy’n cefnogi’r gwaith o warchod, gwella a sicrhau gwytnwch ein hamgylchedd morol ac sydd hefyd yn cefnogi defnyddio ein moroedd mewn modd cynaliadwy ar ein cyfer ni, heddiw ac ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol.   Mae canlyniad y gwaith sy’n cael ei wneud gan y Cyd\-bwyllgor Cadwraeth Natur a Chyfoeth Naturiol Cymru ar ran Llywodraeth Cymru i asesu’r Ardaloedd Morol Gwarchodedig presennol yng Nghymru yn gwneud cyfraniad sylweddol tuag at greu rhwydwaith sy'n ecolegol gydlynol.   Rwyf wedi fy nghalonogi gan gasgliad yr asesiad. Mae’r rhwydwaith, fel cyfanwaith, wedi ei gysylltu’n dda ac mae’r rhan fywaf o gynefinoedd a rhywogaethau eang sydd â symudedd cyfyngedig neu nad ydynt yn symud yn cael eu cynrychioli a’u datblygu o fewn Ardaloedd Morol Gwarchodedig Cymru i roi gwytnwch i’r rhwydwaith. Mae’r asesiad wedi nodi nifer bach o fylchau yn ein cyfraniad tuag at gydlyniant ecolegol ac mae angen i ni weithredu i fynd i’r afael â’r rheini pan fo hynny’n bosibl.   Rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio mewn partneriaeth â’n rhanddeiliaid morol i ystyried ac argymell y camau sy’n angenrheidiol ar gyfer mynd i’r afael â’r bylchau sydd wedi dod i’r amlwg. Rwyf wedi gofyn i’r gwaith roi ystyriaeth i’r bylchau a nodwyd yn rhanbarth dyfroedd môr mawr Cymru hefyd, a fydd yn dod yn gyfrifoldeb i Weinidogion Cymru ym mis Ebrill 2018\.  Bydd y dull gweithredu hwn yn golygu y bydd llawer o’r gwaith sy’n cael ei wneud i gwblhau’r rhwydwaith yn dechrau ac yn digwydd ar yr un pryd ag y trosgwlwyddir pwerau gwarchod natur i Weinidogion Cymru ar gyfer ardaloedd dyfroedd môr mawr Cymru. Er hynny, credaf fod y dull hwn yn angenrheidiol i sicrhau bod y dyfroedd o amgylch Cymru (ar y môr ac ar y glannau) yn cael eu hystyried wrth benderfynu sut i gwblhau cyfraniad Cymru at y rhwydwaith o Ardaloedd Morol Gwarchodedig. Hoffwn roi sicrwydd i randdeiliaid fy mod wedi ymrwymo’n llwyr i'n rhwymedigaethau o ran y rhwydwaith a bydd fy swyddogion yn dechrau ar y gwaith paratoi gyda rhanddeiliaid tua diwedd y flwyddyn pan fydd y gwaith yn gallu symud ymlaen ar y cyd â gwaith Grŵp Llywio Rheoli Ardaloedd Morol Gwarchodedig er mwyn sefydlu dull rheoli  sy’n glir, yn gyson ac yn llyfn ar draws rhwydwaith Cymru.  
The Welsh Government is committed to fulfilling its national and international obligations which require us to contribute towards an ecologically coherent network of marine protected areas (MPAs) in the UK. I recognise the value of and benefits to the marine environment and to society of creating a network of MPAs and ensuring the network is well\-managed and ecologically coherent. I want a network which supports the conservation, improvement and resilience of our marine environment and supports the sustainable use of our seas now and for future generations.   The results of work carried out by the Joint Nature Conservation Committee and Natural Resources Wales on behalf of the Welsh Government to assess current MPAs in Wales determined Welsh MPAs are making a substantial contribution towards an ecologically coherent network. I am encouraged by the conclusion of the assessment. The network as a whole is well connected, with the majority of broad habitats and species with limited or no mobility being represented and replicated by Welsh MPAs to provide resilience in the network. The assessment did identify a small number of gaps in our contribution towards ecological coherence and we need to take action to address these where possible.   I have asked my officials to work in partnership with our marine stakeholders to consider and recommend the necessary action to address the gaps identified. I have requested this work considers gaps identified in the Welsh offshore region also, which will become the responsibility of Welsh Ministers in April 2018\.  This approach will mean much of the work to complete the network will begin and align to the transfer of nature conservation powers to the Welsh Ministers for the Welsh offshore area. However, I think this approach is necessary to ensure all waters around Wales (inshore and offshore) are considered when deciding how we complete Wales’ contribution to the network of MPAs. I assure stakeholders I am committed to our network obligations and my officials will start preparatory work with stakeholders towards the end of this year when work can develop in parallel with work by the MPA Management Steering Group to establish a clear, consistent and streamlined approach for management across the whole Welsh network.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd Ken Skates, Gweinidog yr Economi, yn bresennol wrth ail\-agor safle Sapa, y cwmni o Norwy, ym Medwas, fydd yn cynhyrchu elfennau alwminiwm ar gyfer y TX\-5 \- y cab Llundain newydd heb allyriadau. Bydd hwn yn disodli'r cab du diesel gyda model sy'n creu pŵer trwy ategyn hybrid. Caiff y buddsoddiad gefnogaeth £550,000 gan Lywodraeth Cymru, fu o gymorth i ddod â'r prosiect i Gymru, er gwaethaf y gystadleuaeth o leoliad arall yn Ewrop. Bu Carwyn Jones yn cyfarfod uwch swyddogion o grŵp Sapa yn ystod ei ymweliad â Norwy ym mis Ionawr gan bwysleisio yr achos busnes dros ddod â'r buddsoddiad i Gymru. Rhoddwyd y gorau i ddefnyddio'r safle ym Medwas yn 2014 yn dilyn newidiadau sylweddol i gyflwr y farchnad ond roedd Sapa yn parhau i fod yn berchennog arno. Daeth cyfle i ail\-agor y safle pan gafodd Sapa Components UK, sy'n cyflenwi cydrannau alwminiwm i'r holl weithgynhyrchwyr cerbydau mawr, y contract i gyflenwi y cab Llundain newydd. Bu Sapa yn cydweithio â'r London Electrical Vehical Company (LEVC) ers 2015 gan fuddsoddi'n sylweddol mewn gwaith ymchwil a datblygu prototeipiau a chydrannau alwminiwm ysgafn ar gyfer y cerbyd newydd. Meddai Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi a'r Seilwaith: > "Mae Llywodraeth Cymru yn falch o gefnogi buddsoddiad sylweddol Sapas wrth ailwampio ei safle ym Medwas, fydd yn creu o leiaf 130 o swyddi dros y pum mlynedd nesaf.   > > "Mae gan Gymru enw da sy'n datblygu o gefnogi technolegau a chyfleoedd newydd arloesol, ac mae'r sector Cerbydau Carbon Isel yn faes arbennig sy'n datblygu ac yn is\-sector allweddol yn ein diwydiant Deunyddiau a Gweithgynhyrchu Uwch. > > "Dwi'n falch bod SAPA yn ail\-agor ei ganolfan ym Medwas, ac yn falch y bydd Cymru yn chwarae rhan allweddol trwy gynhyrchu y genhedlaeth nesaf o gabiau du ecogyfeillgar." Meddai Calvin Carpenter, MD Sapa Components UK: > "Mae hwn yn ddiwrnod da gan ei fod yn ben llanw ar bron i 3 mlynedd o gydweithio gyda London Taxi trwy ei gyfnod datblygu i'n galluogi i ddarparu cydrannau pwysig ar gyfer cerbydau i'r ganolfan fodern yn Ansty, Coventry.”
Economy Secretary Ken Skates is attending the reopening of Norwegian owned, Sapa’s Bedwas site today which will be producing aluminium components for the TX\-5 \- the all new zero emissions capable London cab. This will replace the diesel powered black cab with a model that utilises a plug\-in hybrid powertrain. The investment is backed by £550,000 from the Welsh Government, which helped bring the project to Wales, despite competition from another European facility. First Minister Carwyn Jones met senior officials from the Sapa group during his visit to Norway in January and pressed the business case for bringing the investment to Wales. The Bedwas site was mothballed in 2014 following significant changes in market conditions but was retained by Sapa. The opportunity to re\-open the facility occurred when Sapa Components UK, which supplies all the major vehicle manufacturers with aluminium based sub\-assemblies and components, secured contracts to supply the new London cab. Sapa has been working with the London Electrical Vehicle Company (LEVC) since 2015 and invested significantly in researching and developing lightweight aluminium prototypes and components for the new vehicle. Economy and Infrastructure Secretary Ken Skates said: > “The Welsh Government is proud to have supported Sapa’s extensive investment in the refurbishment of its site in Bedwas which will create at least 130 jobs over the next five years. > > “Wales has a growing reputation for supporting innovative new technologies and opportunities,  and the Low Carbon Vehicle sector is a particular growth area and a key sub sector for our advanced materials and manufacturing industry. > > “I am delighted that SAPA is reopening its operation in Bedwas and proud that Wales will be playing a key role in the production of a new generation of environmentally friendly black cabs.” Calvin Carpenter, MD Sapa Component UK, adds: > “This is a proud day as it is a culmination of nearly 3 years working with London Taxi throughout its development phases to enable us to supply major body components to the ‘new state of the art’ facility in Ansty, Coventry.”
Translate the text from English to Welsh.
Today we are publishing the annual update to Our Valleys, Our Future Delivery Plan. This outlines the actions that the Valleys taskforce is committed to deliver in its final phase of delivery in this Assembly term. We want to ensure we continue to deliver on what the taskforce has been told is important to people living and working in the South Wales Valleys through our ongoing engagement activities: provide good quality jobs and the skills to do them; provide better public services and provide a focus on local communities. Conscious of timescales, I am keen that the taskforce focusses its efforts in order to make real, sustainable changes to people living and working in the South Wales Valleys. Therefore this year the plan only includes those actions that will be delivered and / or overseen by the taskforce. That said, the majority of the actions that have been removed from the plan are continuing to be progressed through cross government delivery and will impact on the outcomes that the taskforce is seeking to achieve. In July I announced that the taskforce’s efforts will be focussed on the following 7 priority areas: * Entrepreneurship and business support * Foundational Economy * Housing * Strategic hubs and maximising the economic impact of the A465 * Transport * Valleys taskforce innovation fund * Valleys Regional Park Subgroups have been set up for each of these priorities which are responsible for driving progress. As the subgroups only convened for the first time during the last few months, the Delivery Plan will be refreshed at appropriate points, once the subgroups have had an opportunity to consider their deliverables. Although the taskforce will only be in place until March 2021, much consideration is being made over how the work can continue well beyond this date. We want to make long\-lasting, sustainable changes. I am keen to explore options for embedding the work in the long\-term plans for Welsh Government as well as through partnership working. I very much look forward to continuing to work with people living and working in the South Wales Valleys over the coming months and making tangible, positive changes. The Delivery Plan can be found at the following link – Our Valleys, Our Future: delivery plan
Heddiw, rydym yn cyhoeddi'r diweddariad blynyddol i Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol. Mae hwn yn amlinellu'r camau gweithredu y mae tasglu'r Cymoedd yn ymrwymedig i'w cymryd yn ei gam cyflawni olaf yn nhymor presennol y Cynulliad. Rydym am sicrhau ein bod yn parhau i gyflawni'r hyn y dywedwyd wrth y tasglu sy'n bwysig i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru drwy ein gweithgareddau ymgysylltu parhaus: darparu swyddi o ansawdd da a'r sgiliau i'w cyflawni; darparu gwasanaethau cyhoeddus gwell a rhoi pwyslais ar gymunedau lleol. O ystyried yr amserlenni, rwy'n awyddus i'r tasglu ganolbwyntio ei ymdrechion er mwyn gwneud newidiadau go iawn, cynaliadwy i'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru. Felly, eleni, dim ond y camau gweithredu a gaiff eu cyflawni a / neu eu goruchwylio gan y tasglu y mae'r cynllun yn eu cynnwys. Wedi dweud hynny, mae'r mwyafrif o'r camau gweithredu sydd wedi cael eu tynnu o'r cynllun yn parhau i gael eu datblygu drwy waith cyflawni trawslywodraethol, a byddant yn effeithio ar y canlyniadau y mae'r tasglu'n ceisio eu cyflawni. Ym mis Gorffennaf, cyhoeddais y bydd ymdrechion y tasglu'n canolbwyntio ar y saith maes blaenoriaeth canlynol: * Entrepreneuriaeth a chymorth busnes * Economi Sylfaenol * Tai * Hybiau strategol a sicrhau bod yr A465 yn cael yr effaith economaidd fwyaf posibl * Trafnidiaeth * Cronfa arloesi tasglu'r Cymoedd * Parc Rhanbarthol y Cymoedd Mae is\-grwpiau wedi cael eu sefydlu ar gyfer pob un o'r blaenoriaethau hyn, sy'n gyfrifol am ysgogi cynnydd. Gan fod yr is\-grwpiau ond wedi ymgynnull am y tro cyntaf yn ystod yr ychydig fisoedd diwethaf, bydd y Cynllun Cyflawni'n cael ei ddiweddaru ar adegau priodol, pan fydd yr is\-grwpiau wedi cael cyfle i ystyried yr hyn y gellid ei gyflawni. Er mai dim ond tan fis Mawrth 2021 y bydd y tasglu ar waith, rhoddir cryn ystyriaeth i'r ffordd y gall y gwaith barhau ymhell y tu hwnt i'r dyddiad hwn. Rydym am wneud newidiadau hirdymor a chynaliadwy. Rwy'n awyddus i ystyried opsiynau ar gyfer ymgorffori'r gwaith yn y cynlluniau hirdymor ar gyfer Llywodraeth Cymru, yn ogystal â thrwy weithio mewn partneriaeth. Edrychaf ymlaen yn fawr at barhau i weithio gyda'r bobl sy'n byw ac yn gweithio yng Nghymoedd De Cymru yn ystod y misoedd sydd i ddod, ac at wneud newidiadau pendant a chadarnhaol. Mae'r Cynllun Cyflawni i'w weld yn y ddolen ganlynol – Ein Cymoedd, Ein Dyfodol: cynllun cyflawni
Translate the text from Welsh to English.
Mae Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething, wedi cyhoeddi manylion y £120 miliwn o gyllid a fydd ar gael ar gyfer busnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth a'u cadwyni cyflenwi yr effeithiwyd arnynt gan y symudiad i rybudd lefel dau, fel y cyhoeddwyd gan y Prif Weinidog ddydd Mercher 22 Rhagfyr. O dan y pecyn diweddaraf, bydd gan fusnesau manwerthu, lletygarwch, hamdden a thwristiaeth sy'n talu Ardrethi Annomestig hawl i daliad o £2,000, £4,000 neu £6,000 yn dibynnu ar eu gwerth ardrethol. Bydd angen i fusnesau ailgofrestru eu manylion, drwy broses ar\-lein gyflym a hawdd, gyda'u hawdurdod lleol er mwyn derbyn eu taliadau. Bydd cofrestru ar agor drwy wefannau awdurdodau lleol o'r wythnos sy’n cychwyn ar y 10fed o Ionawr. Mae Llywodraeth Cymru wedi penderfynu ymestyn y cymorth hwn i fanwerthu nad yw'n hanfodol fel y bydd siopau llai, a Chwmnïau Teithio yn cael eu cefnogi ac y gall ein stryd fawr barhau i ffynnu. Yn Lloegr, nid oes cymorth ar gael i fanwerthu nad yw'n hanfodol. Hefyd, bydd busnesau lletygarwch a hamdden yr effeithir arnynt a'u cadwyni cyflenwi yn gallu gwneud cais am gyllid ychwanegol gan Gronfa Cadernid Economaidd newydd. Gall busnesau cymwys wneud cais am grantiau rhwng £2,500 \- £25,000, gyda’r grantiau yn dibynnu ar faint y cwmni a nifer y gweithwyr. Bydd y cyfnod ymgeisio ar gyfer y Gronfa Cadernid Economaidd yn agor yn ystod yr wythnos sy'n cychwyn ar 17 Ionawr 2022 gyda thaliadau'n dechrau cyrraedd busnesau o fewn dyddiau. Bydd Awdurdodau Lleol hefyd yn gweinyddu cronfa Ddewisol ar gyfer busnesau ac unig fasnachwyr nad ydynt yn talu ardrethi. Bydd y gronfa'n darparu £500 i unig fasnachwyr a gweithwyr llawrydd a £2,000 i fusnesau sy’n cyflogi mewn sectorau yr effeithir arnynt.  Mae rhagor o fanylion i ddilyn ar busnes.cymru. Bydd gwiriwr cymhwysedd a fydd yn helpu busnesau i nodi faint y gallant ddisgwyl ei gael o dan y pecyn cymorth newydd ar gael ar wefan Busnes Cymru erbyn dechrau 2022\. Meddai Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: > "Rydym yn deall yn iawn yr heriau parhaus sy'n wynebu busnesau, ond rydym yn wynebu sefyllfa ddifrifol iawn yng Nghymru. Mae ton o heintiau a achosir gan yr amrywiolyn Omicron newydd, sy'n symud yn gyflym ac sy’n heintus iawn ar y ffordd atom, mae hyn yn golygu cymryd camau cynnar i geisio rheoli ei ledaeniad – a chyfyngu ar yr effaith ar fusnesau Cymru. > > > "Ers dechrau'r pandemig, rydym wedi darparu dros £2\.2bn o gymorth i fusnesau ledled Cymru i'w helpu i lywio eu ffordd drwy amgylchiadau anodd. > > > "Byddwn yn parhau i fonitro effaith lledaeniad Omicron ar fusnesau yng Nghymru, a byddwn yn ystyried a oes angen cyllid brys ychwanegol yn y flwyddyn newydd." Bydd Busnes Cymru yn cael ei ddiweddaru gyda manylion, cwestiynau cyffredin a chanllawiau cymorth.
The Economy Minister, Vaughan Gething, has announced the details of the £120m funding which will be available for retail, hospitality, leisure and tourism business and their supply chains affected by the move to alert level 2, as announced by the First Minister on Wednesday 22 December. Under the latest package, retail, hospitality, leisure and tourism business who pay Non Domestic Rates will be entitled to a payment of £2,000, £4,000 or £6,000 depending on their rateable value. Businesses will need to re\-register their details, through a quick and easy online process, with their local authority in order to receive their payments. Registration will open via local authority websites from the week commencing 10 of January. The Welsh Government has decided to extend this support to non\-essential retail so that smaller shops, and Travel Agents will be supported and our high streets can continue to thrive. In England, support is not available to non\-essential retail. In addition, impacted hospitality and leisure businesses and their supply chains will be able to apply for top up funding from a new Economic Resilience Fund (ERF). Eligible businesses can apply for grants of between £2,500k \- £25,000, with grants dependent on their size and number of employees. The application window for ERF will open in week commencing 17 January 2022 with payments starting to reach businesses within days. Local Authorities will also administer a Discretionary fund for business and sole traders who do not pay rates. The fund will provide £500 to sole trader and freelancers and £2,000 to employing businesses in impacted sectors. Further details to follow on Business Wales. An eligibility checker which will help businesses to gauge how much they can expect to receive under the new support package will be available on Business Wales by the start of 2022\. Economy Minister, Vaughan Gething, said: > “We fully understand the continued challenges faced by businesses, however we are facing a very serious situation in Wales. A wave of infections caused by the new, fast\-moving and very\-infectious omicron variant is headed our way, this means taking early action to try and control its spread – and limit the impact on Welsh businesses. > > > “Since the start of the pandemic, we’ve provided over £2\.2bn of support to businesses throughout Wales to help them manage their way through difficult circumstances. > > > “We will continue to monitor the impact of the spread of Omicron on businesses in Wales, and will consider whether additional emergency funding is needed in the new year.” Business Wales will be updated with details, frequently asked question and support guidance: Business Wales: COVID\-19 Support for Business.
Translate the text from Welsh to English.
Mae Hysbysiad Iechyd Planhigion statudol wedi cael ei gyflwyno ar gyfer y coed sydd angen eu trin a bydd y deunydd sydd wedi’i heintio’n cael ei dorri. Mae GYD wedi’i ganfod ar goed sydd wedi’u plannu yng Nghanol Dinas Caerdydd a bydd arbenigwyr rheoli plâu yn dechrau ar y gwaith trin heno. Mae’r lindys (larfa) yn tynnu dail ac yn gwanio coed derw, ac maent yn beryglus i iechyd pobl ac anifeiliaid. Bydd y coed ger Gorsaf Ganolog Caerdydd yn cael eu chwistrellu heno â chemegau gan ddefnyddio plaladdwr a byddant yn cael eu tynnu o’r safle yfory. Bydd y gwaith wedi’i gwblhau erbyn 12fed Gorffennaf. Y flaenoriaeth gyntaf yw sicrhau bod y clefyd yn cael ei gyfyngu a’i glirio ond, yn y tymor hwy, byddwn yn gweithio gyda Chyfoeth Naturiol Cymru a Chyngor Caerdydd ar blannu coed newydd yn lle’r rhain. Mae GYD wedi sefydlu yn y rhan helaethaf o Lundain Fwyaf ac mewn rhai siroedd cyfagos. Mae ymdrechion yn cael eu gwneud ledled y DU i leihau ei boblogaeth, ei ledaeniad a’i effaith ar yr amgylchedd. Roedd y coed sydd wedi’u heffeithio wedi cael eu mewnforio i Gaerdydd o ardal yn Ewrop lle mae GYD i’w weld yn eang.
A statutory Plant Health Notice has been issued on the trees which requires the treatment and felling of infested material. OPM have been found on trees planted in Cardiff City Centre and pest control experts will be begin treatment work tonight. The caterpillars (larvae) defoliate and weaken oak trees, and are a hazard to human and animal health. The trees near Cardiff Central Station will be chemically sprayed using an insecticide tonight and will be removed tomorrow. Work will be completed by 12th July. The first priority is to ensure containment and clearance of the disease. However, in the longer term we will work with Natural Resources Wales and Cardiff Council on the replacement of the trees. OPM is established in most of Greater London and in some surrounding counties. Efforts are being made across the UK to minimise their population, spread and impact on the environment. The affected trees in Cardiff had been imported from an area of Europe where OPM is widespread.
Translate the text from English to Welsh.
Last month, the UK Government launched a 12 week consultation on proposals to replace the Human Rights Act 1998 with a Bill of Rights. The consultation will close on 8 March. The Welsh Government has not been consulted or involved in the preparation of the consultation. We are disappointed by the pejorative and leading nature of the report and the consultation questions. It remains our firm view that human rights are, and should continue to be, irreducible and apply equally to all persons. The consultation, in places, seems to veer off course from this important and fundamental principle. The Human Rights Act 1998 sets out the fundamental rights and freedoms that everyone in the UK is entitled to. It incorporates the rights set out in the European Convention on Human Rights into domestic law. The Welsh Government is committed to defending the rights of the people of Wales against any diminution and is not convinced of the need to replace the Human Rights Act. We commissioned our own research on Strengthening and Advancing Equality and Human Rights in Wales and are currently developing our response to the recommendations which arose from this work. Under the UK Government’s latest proposals, the UK would remain party to the Convention, which is welcome, but a Bill of Rights would not reflect some of the key principles and protections in the Human Rights Act. We do not agree with these proposed changed. There should be no dilution of human rights in Wales and it is essential that the United Kingdom remains a world leader in protecting and enabling people to exercise their human rights. We have significant concerns about some of the proposals. For example, preventing a court from quashing certain secondary legislation found to be incompatible with a person’s human rights and the approach in respective of citizens’ rights and deportations. The requirement that legislation passed by the Senedd must be compatible with the Human Rights Act means that the Act is fundamental to the Welsh devolution settlement (as it is to the other devolution settlements of the UK). As such, it would be a matter of the gravest concern if the UK Government was to contemplate acting in this area without the agreement of all of the UK’s national legislatures. The consultation appears to raise significant issues with regard to accessibility to the courts, the rule of law and the role of the Courts in the application of the law relating to human rights. It is also not clear how the specific legislative and socio economic interests of the devolved governments will be impacted by the review. It is disappointing that the review will specifically exclude the opportunity to explore the possibility of increasing social and economic human rights. Reference in the review to tackle the issue of ‘rights inflation’ causes us concern as does the tone of much of the review document and the suggestion that not all persons should have the same degree of rights. This is something we will want to give detailed consideration to. The proposals have potentially wide\-ranging implications in respect of our equality policies, support for refugees and asylum seekers, community cohesion and many other matters. All of this requires careful examination and discussion with our stakeholders. We are by no means the only ones with concerns. The Deputy First Minister of Scotland, John Swinney MSP, has shared with us his letter to the Lord Chancellor Dominic Raab MP, setting out the Scottish Government’s objections to the UK Government proposals. Concerns have also been raised by, for example, Liberty, Amnesty and the Law Society. Like others, we are disappointed that the UK Government seems to have ignored much of the evidence gathered during the Independent Human Rights Review, chaired by Sir Peter Gross, including our research on strengthening and advancing human rights, which affirmed the positive benefits that derive from the Human Rights Act and highlighted the potential negative impact around the world if the UK is seen to be regressing in the area of fundamental human rights. The UK Government’s proposals raise significant concerns. We will engage in further dialogue with them, as well as other devolved governments and our own stakeholders to do everything possible to safeguard and advance human rights in Wales and the UK.
Fis diwethaf, lansiodd Llywodraeth y DU ymgynghoriad 12 wythnos ar gynigion i ddisodli Deddf Hawliau Dynol 1998 â Bil Hawliau. Daw’r ymgynghoriad i ben ar 8 Mawrth. Ni ymgynghorwyd â Llywodraeth Cymru ac ni chafodd ei chynnwys yn y gwaith o baratoi’r ymgynghoriad. Rydym yn siomedig â natur ddifrïol a thuedd yr adroddiad a’r cwestiynau ymgynghori. Rydym yn dal i fod yn gwbl grediniol na ddylid lleihau dim ar hawliau dynol a’u bod yr un mor berthnasol i bawb. Ymddengys fod yr ymgynghoriad, mewn mannau, yn gwyro o’r egwyddor bwysig a sylfaenol hon. Mae Deddf Hawliau Dynol 1998 yn amlinellu’r hawliau a’r rhyddid sylfaenol a ddylai fod gan bawb yn y DU. Mae’n ymgorffori’r hawliau sydd yn y Confensiwn Ewropeaidd ar Hawliau Dynol yn y gyfraith ddomestig. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i warchod hawliau pobl Cymru ac i sicrhau nad amherir arnynt, ac nid yw wedi’i darbwyllo o’r angen i ddisodli’r Ddeddf Hawliau Dynol. Comisiynwyd ein gwaith ymchwil ein hunain ar Gryfhau a Hyrwyddo Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yng Nghymru, ac ar hyn o bryd rydym wrthi’n datblygu ein hymateb i’r argymhellion a gododd yn sgil y gwaith hwn. O dan gynigion diweddaraf Llywodraeth y DU, byddai’r DU yn parhau i arddel y Confensiwn, ac rydym yn croesawu hynny, ond ni fyddai Bil Hawliau yn adlewyrchu rhai o brif egwyddorion a mesurau gwarchod y Ddeddf Hawliau Dynol. Nid ydym yn cytuno â’r newidiadau a gynigir. Ni ddylid glastwreiddio hawliau dynol yng Nghymru, ac mae’n hanfodol bod y Deyrnas Unedig yn parhau i arwain y ffordd o ran gwarchod hawliau dynol a galluogi pobl i’w harfer. Mae gennym bryderon gwirioneddol ynghylch rhai o’r cynigion – er enghraifft, atal llys rhag dirymu rhai mathau o is\-ddeddfwriaeth y canfyddir eu bod yn anghydnaws â hawliau dynol person, a’r dull gweithredu mewn perthynas ag alltudio dinasyddion. Mae’r gofyniad bod yn rhaid i ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio gan y Senedd fod yn gydnaws â’r Ddeddf Hawliau Dynol yn golygu bod y Ddeddf yn hanfodol i setliad datganoli Cymru (fel y mae i setliadau datganoli eraill y DU). Byddai’n destun pryder hynod ddifrifol, felly, pe bai Llywodraeth y DU yn ystyried gweithredu yn y maes hwn heb gytundeb holl ddeddfwrfeydd cenedlaethol y DU.  Ymddengys fod yr ymgynghoriad yn codi cwestiynau pwysig o ran mynediad at y llysoedd, gweithredu’r gyfraith a rôl y llysoedd wrth gymhwyso’r gyfraith mewn perthynas â hawliau dynol. Mae’n aneglur hefyd sut y bydd yr adolygiad yn effeithio ar fuddiannau deddfwriaethol ac economaidd\-gymdeithasol penodol y llywodraethau datganoledig. Mae’n siom y bydd yr adolygiad yn eithrio’n benodol y cyfle i ymchwilio i’r posibilrwydd o gynyddu hawliau dynol cymdeithasol ac economaidd. Mae’r cyfeiriad yn yr adolygiad at fynd i’r afael â chwestiwn ‘rights inflation’ yn destun pryder inni yn ogystal â chywair llawer o’r ddogfen, ynghyd â’r awgrym na ddylai pob unigolyn fod â’r un hawliau. Mae hyn yn rhywbeth y byddwn am ei ystyried yn fanwl. Mae’n bosibl bod yna oblygiadau eang i’r cynigion o ran ein polisïau cydraddoldeb, cymorth i ffoaduriaid a cheiswyr lloches, cydlyniant cymunedol a llawer o faterion eraill. Bydd angen ystyried a thrafod hyn oll yn fanwl gyda’n rhanddeiliaid. Nid ni yw’r unig rai sydd â phryderon o bell ffordd. Mae Dirprwy Brif Weinidog yr Alban, John Swinney ASA, wedi rhannu â ni ei lythyr at yr Arglwydd Ganghellor Dominic Raab AS, yn amlinellu gwrthwynebiad Llywodraeth yr Alban i gynigion Llywodraeth y DU. Codwyd pryderon hefyd gan Liberty, Amnesty a Chymdeithas y Cyfreithwyr er enghraifft. Fel eraill, rydym yn siomedig bod Llywodraeth y DU, i bob golwg, wedi anwybyddu llawer o’r dystiolaeth a gasglwyd yn ystod yr Adolygiad Annibynnol o’r Ddeddf Hawliau Dynol, a gadeiriwyd gan Syr Peter Gross, gan gynnwys ein gwaith ymchwil ar gryfhau a hyrwyddo hawliau dynol, a gadarnhaodd y buddiannau positif sy’n deillio o’r Ddeddf Hawliau Dynol, gan nodi’r effaith negyddol bosibl o amgylch y byd pe bai’r DU i’w gweld yn cymryd camau tuag yn ôl ym maes hawliau dynol sylfaenol. Mae cynigion Llywodraeth y DU yn codi pryderon mawr. Byddwn yn trafod ymhellach â hi, yn ogystal ag â llywodraethau datganoledig eraill ac â’n rhanddeiliaid ein hunain er mwyn gwneud ein gorau glas i warchod a hyrwyddo hawliau dynol yng Nghymru a’r DU.
Translate the text from English to Welsh.
In November 2021, I commissioned an independent review of the annual programmes of work and their suitability for the management of the Strategic Road Network (SRN) in Wales in light of the ambitions and priorities in Llwybr Newydd, the emerging Roads Review and the need to think differently about how we manage and maintain the network, to comply with our statutory duties and our response to the climate emergency. Llwybr Newydd states that “We will make sure our transport infrastructure is safe, accessible, well\-maintained and future\-proofed, to adapt to climate change.” The Lugg report took an in\-depth view of current statutory commitments, suitability and affordability of maintenance and improvement requirements and the current operating model for delivery. My officials are considering the recommendations of the report and how they can be applied to ensure that best use is made of existing infrastructure by adopting more rigorous asset management planning. The response to the recommendations will inform the asset management policy and strategy for the strategic road network and be at the heart of an emerging programme of renewals to major assets which will be designed to address the backlog of essential maintenance on the SRN. I will publish the recommendations of the review and the response to those recommendations once this exercise has been completed. I would like to thank Matthew Lugg OBE and the panel members for their expertise, insight and valuable opinion on how we should maintain our SRN to ensure that the statutory commitments of Welsh Government’s role as a highway authority are fully retained, but in a climate responsible way that supports modal shift.
Ym mis Tachwedd 2021, comisiynais i adolygiad annibynnol o'r rhaglenni gwaith blynyddol a'u haddasrwydd ar gyfer rheoli'r Rhwydwaith Ffyrdd Strategol yng Nghymru. Gwnaed hyn yng ngoleuni'r uchelgeisiau a'r blaenoriaethau yn Llwybr Newydd, yr Adolygiad o'r Ffyrdd a oedd ar y gweill a'r angen i feddwl mewn ffordd wahanol am y ffordd rydyn ni'n rheoli ac yn cynnal a chadw'r rhwydwaith, er mwyn cydymffurfio â'n dyletswyddau statudol a'n hymateb i'r argyfwng hinsawdd. Mae Llwybr Newydd yn nodi y "Byddwn yn gwneud yn siŵr bod ein seilwaith trafnidiaeth yn ddiogel, yn hygyrch, yn cael ei gynnal a'i gadw'n dda ac yn barod ar gyfer y dyfodol, er mwyn addasu i'r newid yn yr hinsawdd." Roedd Adroddiad Lugg yn edrych yn fanwl ar ymrwymiadau statudol, addasrwydd a fforddiadwyedd y gofynion ar gyfer cynnal a chadw a gwella’r rhwydwaith, a'r model gweithredu presennol ar gyfer gwneud y gwaith hwn. Mae fy swyddogion yn ystyried yr argymhellion yn yr adroddiad a'r ffordd y gellir eu rhoi ar waith i sicrhau bod y seilwaith presennol yn cael ei ddefnyddio yn y ffordd orau posibl, drwy fabwysiadu prosesau mwy cadarn ar gyfer rheoli asedau. Bydd yr ymateb i'r argymhellion yn llywio'r polisïau a'r strategaethau ar gyfer rheoli asedau'r rhwydwaith ffyrdd strategol, a bydd yn ganolog i raglen newydd o waith adnewyddu ar gyfer asedau mawr, wedi'i gynllunio i fynd i'r afael â'r ôl\-groniad o waith hanfodol ar y rhwydwaith ffyrdd strategol. Byddaf yn cyhoeddi argymhellion yr adolygiad a'r ymateb i'r argymhellion hynny pan fydd yr ymarfer hwn wedi cael ei gwblhau. Hoffwn i ddiolch i Matthew Lugg OBE ac aelodau'r panel am eu harbenigedd, eu dealltwriaeth a'u barn werthfawr ynghylch y ffordd y dylen ni gynnal a chadw ein rhwydwaith ffyrdd strategol, i sicrhau bod ymrwymiadau Llywodraeth Cymru, yn ei rôl fel yr awdurdod priffyrdd, yn cael eu cyflawni'n llawn, ond mewn ffordd sy'n trin yr hinsawdd mewn modd cyfrifol ac yn cefnogi newid dulliau teithio.
Translate the text from English to Welsh.
I wish to inform members of the recent launch of More than just words…. the Strategic Framework to strengthen Welsh language services in health, social services and social care. The Strategy confirms the Welsh Government’s commitment to strengthen Welsh language services to service users and their families. As Chair of the Health and Social Services Welsh Language Task Group, I know a lot of good work has been done to strengthen Welsh language services in the sector.  I also know, from personal experience, about the commitment of many of the staff working in both of the services.  However, there is a need to do more in order to respond to language needs of users as a key part of planning and delivering care. Strengthening Welsh language services is about improving the quality of care for patients and service users.  It is important to recognise the concept of language need.  For many Welsh speakers, language is an integral element of their care e.g. some people with dementia, or who have suffered a stroke, and children under the age of five. A large number of service users are vulnerable and giving them the responsibility of asking for services through the medium of Welsh can contribute to their anxiety.  It is the responsibility of the NHS and Social Services to deliver appropriate services which, of course, includes meeting users’ linguistic needs.  Only by doing this can they provide care that is safe and effective.  In the strategic framework we refer to this as the “Active Offer”. In developing the framework I was encouraged by the fact discussions with the health service and social services were positive and supportive.  The framework was also subject to public consultation earlier this year.  150 responses were received and I am pleased to say the majority of the responses were very positive.  We have also produced an easy read version of the strategy and a children’s leaflet. Whilst Welsh language officers will have an important role to play in providing advice in implementing the strategy, it is also clear to me responsibility for it falls on the shoulders of each and every senior officer, whether in planning, commissioning or human resources.  Strong leadership and ownership of Welsh language services is vital.  Everyone must take responsibility and mainstream this work into daily responsibilities. I am determined the strategy will make a difference to people’s lives as part of the Welsh Government’s agenda of providing the best possible health care.  The three year action plans which commence in April 2013 will support the strategy outline the practical steps which are required to realise our vision. Making progress in the first year will be important in order to ensure that the foundations are in place for the future.  The first priorities will be to strengthen leadership, map the workforce and increase awareness about the “Active Offer”. A monitoring system will be in place from April next year.  This will include establishing an implementation group which will include representatives from the health and social care sectors and the group will report back to me and the Task Group.                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                                        
Hoffwn i roi gwybod i aelodau am lansiad diweddar Mwy na Geiriau… y Fframwaith Strategol i gryfhau gwasanaethau Cymraeg mewn iechyd, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol. Fel cadeirydd Tasglu’r Gymraeg ar gyfer Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, rwy’n ymwybodol fod llawer o waith da wedi cael ei wneud i gryfhau gwasanaethau iaith Gymraeg yn y sector.  Rwyf hefyd yn gwybod o brofiad am ymrwymiad y staff sy’n gweithio yn y ddau wasanaeth. Fodd bynnag mae angen gwneud mwy er mwyn ymateb i anghenion iaith defnyddwyr fel rhan allweddol o gynllunio a darparu gofal. Mae cryfhau gwasanaethau Cymraeg yn ymwneud â gwella safon gofal ar gyfer y cleifion a defnyddwyr gwasanaeth.  Mae’n bwysig adnabod y cysyniad o angen iaith.  I lawer o siaradwyr Cymraeg, mae iaith yn elfen bwysig iawn o’r gofal maent yn ei dderbyn e.e rhai pobl sydd â dementia, neu sydd wedi cael  strôc, a phlant o dan bump oed. Mae nifer sylweddol o ddefnyddwyr y gwasanaeth yn fregus, ac mae gosod y cyfrifoldeb arnynt hwy i ofyn am wasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn medru cyfrannu at eu gofid.  Mae’r cyfrifoldeb ar y GIG a’r Gwasanaethau Cymdeithasol i gynnig gwasanaeth sy’n addas, sy’n cynnwys bodloni anghenion ieithyddol y defnyddwyr.  Dim ond trwy wneud hyn y mae modd darparu gwasanaeth sydd yn ddiogel ac yn effeithiol.  Rydym yn cyfeirio at hyn yn y fframwaith strategol fel y “Cynnig Rhagweithiol”. Tra’n datblygu’r fframwaith teimlais ei bod yn galonogol dros ben fod y trafodaethau a gafwyd gyda’r gwasanaethau iechyd a gofal wedi bod yn gadarnhaol.  Cafwyd hefyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y fframwaith yn gynnar yn y flwyddyn.  Derbyniwyd cant a hanner o ymatebion ac rwy’n falch iawn i fedru dweud fod y mwyafrif o’r rheiny yn bositif iawn. Rydym hefyd wedi cynhyrchu fersiwn hawdd i’w darllen o’r strategaeth a thaflen i blant. Tra bydd rôl bwysig gan y swyddogion iaith Gymraeg i’w chwarae o ran darparu cyngor i weithredu’r strategaeth, mae’n glir i mi fod yna gyfrifoldeb hefyd ar bob uwch swyddog i’w gweithredu – boed yn gyfrifol am gynllunio, comisiynu neu adnoddau dynol.  Mae arweinyddiaeth gref a pherchnogaeth o wasanaethau iaith Gymraeg yn hollbwysig\- mae’n rheidrwydd ar bawb i gymryd y cyfrifoldeb i brif\-ffrydio’r gwaith yma yn eu cyfrifoldebau dydd i ddydd. Rwy’n benderfynol y bydd y strategaeth hon yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl fel rhan o agenda Llywodraeth Cymru o ddarparu’r gofal  iechyd gorau posib.  Bydd y cynlluniau gweithredu sy’n dechrau ym mis Ebrill 2013 yn cefnogi’r strategaeth ac yn amlinellu’r camau ymarferol sydd eu hangen i wireddu ein gweledigaeth.  Bydd gwneud cynnydd yn y flwyddyn gyntaf yn bwysig iawn er mwyn sicrhau fod y seiliau yn eu lle ar gyfer y dyfodol.  Y blaenoriaethau cyntaf fydd cryfhau arweiniad, mapio’r gweithlu a chodi ymwybyddiaeth o’r “cynnig Rhagweithiol”. Bydd yna system fonitro yn ei lle o fis Ebrill y flwyddyn nesaf.  Bydd hyn yn cynnwys grŵp gweithredu fydd yn cynnwys cynrychiolwyr o’r sectorau iechyd a gofal cymdeithasol, a bydd y grŵp yn adrodd yn ôl i mi a’r Tasglu.
Translate the text from English to Welsh.
The current Common Fisheries Policy is broken. It has not delivered a sustainable source of food or employment. It simply has not worked, but instead, encouraged a situation where vast quantities of prime fish are being thrown away dead or dying, while our fishermen struggle to survive to the benefit of neither the environment nor economy. For this reason, I welcome the recognition by the Commission that wholesale change in the way we manage fisheries is needed. On the 13 July the Commission published its first draft proposal on the reform of the Common Fisheries Policy. Having considered the document I wish to make it clear that while it is a good first step, we have a long way to go before the final policy is adopted. As the Deputy Minister with responsibility for fisheries in Wales, I am concerned that the document lacks any real detail and appears to raise more questions about how it will impact the fishing industry here in Wales than it answers. There are 4 key issues for Wales. The obligation to land all catches \- essentially a ban on the discarding of fish, the introduction of compulsory tradable fishing concessions, small scale coastal fisheries and regionalisation. The throwing away of dead or dying fish must end, however the proposals lack any real detail as to how this can practically be achieved within the current quota based regime. I await further details from the Commission before the impact on the Welsh industry can be properly considered. Tradable fishing concessions will remove latent capacity from the industry at no cost to the tax payer and give fishermen a stake in the good management of the fishery. For this reason I see no issue with this proposal for the industrialised offshore sector. However, I am concerned that there seems to be a lack of safeguards for the small scale inshore fleet such as we have in Wales. I believe that this proposal should not be mandatory and should be left to the Member State to implement as it sees fit. There needs to be recognition of the differing natures of parts of the fleet. A one size fits all approach also cannot work effectively. In Wales, the inshore fleet has an increasingly important role to play within coastal communities. There is a risk that the reform of the Common Fisheries Policy will focus on difficult issues in relation to the sector without any sensitivity to the nature of the inshore fleet. The stocks targeted by the inshore fleet tend to be localised and dynamic and therefore do not lend themselves to management approaches that the EC currently applies to quota stocks. Therefore, the reform proposals need to recognise the differing natures of the offshore sector, and the inshore fleets. Before the proposals were published, the Commission had talked about increased regionalisation of European fisheries management. However, there seems to be little in the way of real progress on this issue. This is only the beginning of the process. With ‘codecision’ now in place both the Council of Ministers and the European Parliament will scrutinise the proposals and I expect many changes to be made over the next year or so. I will keep the Assembly aware of the key issues as they develop and the impact on the fishing industry in Wales as it becomes clear.
Nid yw Polisi Pysgodfeydd Cyffredin presennol yn gweithio – nid yw wedi darparu ffynhonnell gynaliadwy o fwyd nac o gyflogaeth; yn hytrach, mae wedi annog sefyllfa lle mae miloedd ar filoedd o’r pysgod gorau’n cael eu taflu’n ôl i’r môr yn farw neu ar fin marw tra bo pysgotwyr Cymru’n ei chael yn anodd goroesi, heb unrhyw fantais i’r amgylchedd nac i’r economi.  Dyna pam rwy’n croesawu’r ffaith bod y Comisiwn wedi cydnabod yr angen i drawsnewid y ffordd yr ydym yn rheoli pysgodfeydd. Ar 13 Gorffennaf, cyhoeddodd y Comisiwn ei gynnig drafft i ddiwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin. Er bod hwn yn gam ymlaen, hoffwn ddatgan yn glir, ar ôl ystyried y ddogfen, bod llawer o waith i’w wneud eto cyn y gellir mabwysiadu’r polisi terfynol. Fel y Dirprwy Weinidog sydd â’r cyfrifoldeb terfynol dros bysgodfeydd Cymru, rwy’n pryderu ynghylch diffyg manylder y ddogfen, a’r ffaith ei bod yn codi mwy o gwestiynau nag y mae’n eu hateb ynghylch effaith y polisi diwygiedig ar y diwydiant pysgota yng Nghymru. Mae yma bedwar mater sydd o bwys i Gymru. Yr orfodaeth i lanio’r holl ddalfeydd, sy’n gyfystyr â gwaharddiad ar daflu pysgod yn ôl; y consesiynau pysgota masnachadwy gorfodol, pysgodfeydd bach arfordirol a datganoli penderfyniadau i’r rhanbarthau. Rhaid rhoi diwedd ar yr arfer o daflu pysgod yn ôl i’r môr yn farw neu ar fin marw. Fodd bynnag, nid yw’r cynigion yn rhoi unrhyw fanylion ynghylch y ffordd orau o gyflawni hyn o fewn y drefn gwotâu bresennol. Rhaid imi  gael manylion pellach gan y Comisiwn cyn y gallaf roi ystyriaeth lawn i’r effaith ar y diwydiant yng Nghymru. Bydd consesiynau pysgota masnachadwy yn fodd i drosglwyddo capasiti sydd heb ei wireddu o fewn y diwydiant heb achosi unrhyw gost i’r trethdalwyr, ac yn sicrhau bod y pysgotwyr yn elwa o reoli’r bysgodfa’n dda. I mi, felly, nid oes unrhyw broblem â’r  cynnig hwn o ran y sector pysgota diwydiannol sy’n gweithredu ymhell o’r arfordir. Ar y llaw arall, rwy’n bryderus nad oes digon o fesurau diogelu wedi’u cynnig i amddiffyn fflyd bysgota fach arfordirol fel sydd gennym ni yng Nghymru. Rwyf o’r farn na ddylai’r cynnig hwn fod yn orfodol, ac y dylai pob Aelod\-wladwriaeth gael yr hawl i’w weithredu neu beidio fel y gwelant yn dda. Mae angen cydnabod y gwahaniaethau yn natur gwahanol rannau o’r fflyd bysgota. Nid yw’n bosibl cymhwyso’r un dull gweithredu i bawb yn effeithiol. Yng Nghymru, mae fflyd y glannau yn chwarae rhan gynyddol bwysig yn ein cymunedau arfordirol. Mae perygl y bydd diwygio’r Polisi Pysgodfeydd Cyffredin yn canolbwyntio ar faterion sy’n peri anhawster i’r sector cyfan heb unrhyw sensitifrwydd i natur y fflyd fach sy’n pysgota’n agos at yr arfordir. Stociau pysgod lleol, dynamig a dargedir fel arfer gan fflyd y glannau, ac nid yw’r dulliau a ddefnyddir gan y CE ar hyn o bryd i reoli stociau’r cwotâu yn addas iddynt. Wrth ystyried diwygio’r polisi, mae angen cydnabod y gwahaniaethau rhwng y sector sy’n pysgota ymhell o’r arfordir a’r fflydoedd sy’n gweithredu ger y glannau. Cyn i’r cynigion gael eu cyhoeddi, roedd y Comisiwn wedi sôn am ddatganoli mwy o’r cyfrifoldeb dros reoli pysgodfeydd Ewrop i’r rhanbarthau. Serch hynny, ni fu fawr ddim datblygiadau i’r perwyl hwnnw hyd y gwelaf i. Dechrau’r broses yn unig yw hyn; oherwydd y broses ‘cydbenderfynu’, bydd rhaid i Gyngor y Gweinidogion a Senedd Ewrop graffu ar y cynigion ac rwy’n disgwyl y gwneir llawer o newidiadau i’r cynigion dros y flwyddyn nesaf. Byddaf yn rhoi gwybod i’r Cynulliad am y materion allweddol wrth iddynt godi ac wrth i’r effeithiau ar ddiwydiant pysgota Cymru ddod yn fwy amlwg.  
Translate the text from Welsh to English.
Cafodd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ei lansio fis Hydref diwethaf a dyrannwyd £1 filiwn iddi’n wreiddiol. Heddiw mae'r Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi cyhoeddi chwarter miliwn o bunnoedd o arian ychwanegol ar gyfer y cynllun. Mae’r Gronfa’n agored i ofalwyr ledled Cymru, a bydd grantiau o hyd at £300 ar gael ar gyfer amrywiaeth o hanfodion, gan gynnwys bwyd, eitemau i’r cartref fel dodrefn neu nwyddau gwynion, neu ddyfeisiau electronig fel gliniadur er mwyn cael mynediad at gymorth a gwasanaethau. Mae tua 55,300 o bobl yng Nghymru yn cael lwfans gofalwr ac mae ymchwil ddiweddar yn awgrymu bod bron i 40% o ofalwyr yn poeni am eu sefyllfa ariannol. Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: > Mae'r pandemig wedi ychwanegu at yr heriau sy’n wynebu gofalwyr di\-dâl ledled y wlad ac rwy’ am ddiolch iddyn nhw am bopeth maen nhw'n ei wneud. Rwy'n falch o gyhoeddi y bydd swm ychwanegol o chwarter miliwn o bunnoedd ar gael i’r gronfa i helpu mwy o ofalwyr di\-dâl a'u teuluoedd. > > > Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr yn parhau i gael ei darparu drwy Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru, sy'n chwarae rhan mor ganolog yn y gwaith o ddarparu cyngor a chymorth i ofalwyr di\-dâl. Bydd y Gronfa Gymorth i Ofalwyr ar gael hyd at 31 Mawrth 2021 ac mae rhagor o wybodaeth ar gael.
The Carers Support Fund, which launched in October last year originally saw £1m allocated, today (Thursday 21st January) the Deputy Minister for Health and Social Services, Julie Morgan has announced an additional quarter of a million pounds to the scheme. Open to carers across Wales, the Carers Support Fund will see grants of up to £300 being made available for a range of essentials, including; food, household items such as furniture or white goods, or electronics such as a laptop for access to support and services. There are around 55,300 people in Wales who receive a carer’s allowance and recent research suggests that almost 40% of carers are worried about their financial situation. Deputy Minister for Health and Social Services, Julie Morgan, said: > The pandemic has added more challenges to unpaid carers across the country and I want to thank them for everything they are doing. I’m pleased to announce a further quarter of a million pounds to the fund to help more unpaid carers and their families. > > > Working with Carers Trust Wales, who play such a pivotal role in delivering advice and support, the Carers Support Fund will be continued to be delivered via them. The Carers Support Fund will be available up to 31 March 2021 and further information is available.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd Arup yn gweithio gydag amrywiaeth o bartneriaid strategol ar ran Llywodraeth Cymru, gyda'r nod o godi'r dywarchen gyntaf yn nechrau 2018\.  Bwrdd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy gynigiodd yn wreiddiol bod Athrofa'n cael ei datblygu.  Caiff ei rhannu rhwng dau safle, gyda'r naill yn canolbwyntio ar beirianneg ysgafn, hyfforddiant a chyweithiau ymchwil a bydd y llall, ym Mrychdyn, yn canolbwyntio ar gymorth uwchdechnolegol ac arloesol ar gyfer brosiectau gweithgynhyrchu 'technoleg uwch' ar raddfa fwy.   Hanfod gwaith yr Athrofa fydd annog cydweithio rhwng Cwmnïau Angori a Chwmnïau o Bwys Rhanbarthol, busnesau bach a chanolig a phartneriaid Addysg Bellach/Uwch er mwyn  datblygu systemau, prosesau a galluoedd gweithgynhyrchu newydd ac arloesol fydd yn gwella ansawdd a chynhyrchiant busnesau mewn amrywiaeth o sectorau.  Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:  > "Mae cyhoeddiad heddiw'n dilyn fy ymrwymiad ym mis Tachwedd 2016 pan gyhoeddais fy nghynlluniau uchelgeisiol ar gyfer datblygu athrofa ymchwil gweithgynhyrchu uwch yng Nglannau Dyfrdwy ac addewid o £20m, hynny ar ôl cyngor gan Fwrdd Ardal Fenter Glannau Dyfrdwy.  > > > > > "Rwy'n disgwyl ymlaen at weld y fanyleb derfynol y bydd Arup a'u partneriaid, gyda swyddogion o Lywodraeth Cymru yn ei pharatoi." Dywedodd Paul Webber, arweinydd Arup Cymru:  > "Rydyn ni'n falch o gael gweithio gyda Llywodraeth Cymru ar y prosiect hwn. Mae gennym brofiad o ddatblygu cyfleusterau ymchwil o safon fyd\-eang a byddwn yn manteisio ar arbenigeddau ym mhob rhan o gwmni Arup.  > > "Bydd yr athrofa'n hwb i Gymru, gan helpu i ddatblygu sgiliau a galluoedd a thwf yn y sector gweithgynhyrchu uwch." Mae Arup yn darparu gwasanaethau amlddisgyblaethol gan gynnwys rheoli prosiectau, dylunio a pheirianneg, cynllunio ac arbenigedd. Bydd yr athrofa newydd yn gosod sylfaen ddiwydiannol gystadleuol gref a fydd yn sbardun ar gyfer twf a swyddi ar draws y gadwyn gyflenwi yng Nglannau Dyfrdwy, y Gogledd a'r Canolbarth, y Northern Powerhouse a thu hwnt.
Arup will work with a range of key strategic partners on behalf of Welsh Government, working towards breaking ground early in 2018\.The AMRI projects embraces and builds on the proposal by the Deeside Enterprise Zone Board for a dual site facility that delivers light engineering, training and research collaboration whilst the Broughton site, specifically will focus on high tech and innovative support to larger scale ‘advanced technology’ manufacturing.  The underpinning principals for the dual centre AMRI will be to encourage collaboration between Anchor and Regionally Important Companies, SMEs and FE/HE partners, so they can develop new manufacturing innovation, systems, process and capability to enhance the quality and productivity of Welsh businesses across a wide range of sectors Economy Secretary, Ken Skates, said: > “Today’s announcement follows on from my commitment, which I made back in November 2016, where I announced ambitious plans for development of advanced manufacturing research institute in Deeside and pledged £20m following advice from the Deeside Enterprise Zone Board. > > > > > “I look forward to seeing the final specification that Arup and partners, along with officials from the Welsh Government, will come up with.” Paul Webber, Arup Wales leader: > “We are proud to be working with the Welsh Government to deliver this project. We are experienced in developing world\-class research facilities and we will be drawing on expertise from across Arup.  > > “This facility will give a real boost to Wales, helping to develop skills and capabilities and support growth in the advanced manufacturing sector.” Arup is providing multidisciplinary services including project management, design and engineering, planning and specialist expertise. The new institute will bring a thriving competitive industry base which in turn will act as a catalyst for growth and jobs across the supply chain in Deeside, North and Mid Wales, the Northern Powerhouse and further afield.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, mae adolygiad annibynnol a gynhaliwyd o'r camau a gymerwyd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg rhwng 2011 a 2013 mewn perthynas ag achos Kris Wade yn cael ei gyhoeddi gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru. Rhwng 2011 a 2013, gwnaeth tair menyw a oedd yn gleifion ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg honiadau o gam\-drin rhywiol yn erbyn Kris Wade, un o gyflogeion y Bwrdd Iechyd. Cafodd ei arestio wedi hynny a'i gael yn euog o lofruddiaeth yn 2016\. Adeg ei arestio, roedd yn cael ei gyflogi gan y Bwrdd Iechyd ond nid oedd yn gweithio gyda chleifion oherwydd iddo gael ei ddiarddel o'i waith. O ganlyniad i'r honiadau o gam\-drin, roedd wedi cael ei ddiarddel ers 2012 gan ddisgwyl canlyniad ymchwiliad disgyblu'r Bwrdd Iechyd. Wedi iddo gael ei euogfarnu, cynhaliwyd ymchwiliad mewnol gan y Bwrdd Iechyd o'r digwyddiadau i ystyried sut yr oedd wedi ymdrin â'r cyhuddiadau a wnaed gan ei gleifion a'r broses ddisgyblu a ddaeth wedi hynny. Daeth adolygiad y Bwrdd Iechyd i'r casgliad bod diffygion yn ei brosesau a phennwyd cynllun gweithredu ar gyfer gwella. Gofynnais i Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru gynnal adolygiad arbennig er mwyn cael sicrwydd bod y camau priodol wedi cael eu nodi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a bod trefniadau effeithiol wedi cael eu rhoi ar waith ar ôl hynny ar draws y sefydliad i fonitro'r modd y mae unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau yn cael eu rhoi ar waith.  Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru wedi nodi'r gwendidau canlynol: * Trefniadau llywodraethu ansawdd a diogelwch * Diogelu oedolion * Adrodd ar ddigwyddiadau * Trefniadau recriwtio a chyflogaeth staff Mae'r materion sy'n gysylltiedig â threfniadau llywodraethu ansawdd a diogelwch yn arbennig o siomedig gan fod yr adroddiad *Ymddiried mewn Gofal* wedi tynnu sylw at faterion tebyg. Mae'r Arolygiaeth yn cadarnhau bod y Bwrdd Iechyd wedi gwneud newidiadau i wella ei strwythur llywodraethu ac adrodd, yn arbennig o ran uwchgyfeirio pryderon i lefel bwrdd a rhannu dysgu ar lefel weithredol drwy'r Bwrdd Iechyd cyfan. Fodd bynnag, mae angen i'r cynnydd ar y mater hwn gan y Bwrdd Iechyd ddigwydd yn gyflymach.  Mae gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg dîm gweithredol newydd ac rwyf wedi cael sicrwydd eu bod yn gwneud gwelliannau yn y meysydd a amlygwyd gan yr Arolygiaeth a'u bod wedi ymrwymo i sicrhau bod ansawdd a diogelwch gofal a ddarperir i gleifion wrth galon pob dim sy'n cael ei wneud.  Gwneir 24 o argymhellion yn yr adroddiad, a chyfrifoldeb Llywodraeth Cymru yw gweithredu tri ohonynt ar sail Cymru gyfan.  Disgwyliaf i'r Bwrdd Iechyd ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr adroddiad hwn yn llawn, a sicrhau eu bod yn cael sylw, ac ymwreiddio unrhyw newidiadau i bolisïau a gweithdrefnau.  Bydd Uned Gyflawni'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn parhau i weithio gyda'r Bwrdd Iechyd i roi cymorth a sicrhau ei fod yn bodloni'r argymhellion yn llawn.   Rhaid i'r Bwrdd Iechyd roi sicrwydd ynglŷn â'i drefniadau llywodraethu ansawdd a diogelwch, gan gynnwys rhai pryderon ynghylch diogelu. Bydd hyn yn cael ei wirio gan broses arolygu. Ar lefel Cymru gyfan, rwy'n derbyn y tri argymhelliad ar gyfer Llywodraeth Cymru yn llawn. Mae diogelwch cleifion yn hollbwysig ac mae'n hanfodol bod prosesau diogelu a llywodraethu cadarn yn eu lle i ddiogelu oedolion sydd mewn perygl. Er mwyn diogelu cleifion, mae’n hollbwysig bod gwiriadau'r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd yn cael eu cwblhau a'u hadnewyddu. Byddaf yn gofyn i gyflogwyr a phartneriaid cymdeithasol am gyngor ar fyrder am y dull mwyaf effeithiol o weithredu'r argymhelliad hwn ledled Cymru. Pan geir cytundeb ynglŷn â’r dull, bydd y mesurau hyn yn cael eu rhoi ar waith mor gyflym â phosibl. Rwyf wedi gofyn eisoes i'r Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol weithio'r gyda'r Gwasanaeth Iechyd i wella ymhellach y mecanweithiau presennol ar gyfer rhannu'r hyn a ddysgwyd o ran diogelu. Mae cynnydd da yn cael ei wneud gan Fyrddau Diogelu yng Nghymru o safbwynt y gwaith hwnnw, gyda chymorth Llywodraeth Cymru, i ddarparu gweithdrefnau diogelu sy'n adeiladu ar y canllawiau statudol presennol. Byddaf yn gofyn i Fyrddau Diogelu ystyried canfyddiadau'r adroddiad hwn fel rhan o'u gwaith. Disgwyliaf i bob bwrdd iechyd ystyried canfyddiadau ac argymhellion yr Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru yn llawn. Rwy'n siŵr y bydd hwn yn ddiwrnod anodd i'r menywod dan sylw, ac i'w teuluoedd. Rwy'n meddwl amdanynt ac rwy'n ddiolchgar iawn iddynt am eu cyfraniad i'r adolygiad arbennig hwn.
An independent review of actions taken by Abertawe Bro Morgannwg University Health Board (UHB) between 2011 and 2013 in relation to the Kris Wade case is today published by Healthcare Inspectorate Wales (HIW). Between 2011 and 2013, three female patients made allegations of sexual abuse against Kris Wade, who was employed by the health board. He was subsequently arrested and convicted of murder in 2016\. At the time of his arrest, he was still an employee of the health board but not working with patients due to his suspension. He had been suspended from work since 2012 pending the outcome of the health board’s disciplinary investigation following the abuse allegations. Following his conviction, the health board carried out an internal review of the events to look at how it handled the allegations made by its patients and the subsequent disciplinary process. The health board’s review found shortcomings in its processes and established an action plan for improvement. I asked HIW to carry out this special review to be assured that appropriate actions had been identified by Abertawe Bro Morgannwg UHB and that effective arrangements had subsequently been put in place across the organisation to monitor the implementation of any changes in policies and procedures.  HIW has identified the following weaknesses: * Quality and safety governance arrangements * Adult safeguarding * Incident reporting * Staff recruitment and employment The issues regarding quality and safety governance arrangements are particularly disappointing as similar issues were highlighted in the *Trusted to Care* report*.* HIW confirms the health board has made changes to improve its governance and reporting structure, particularly in terms of escalation of concerns to board level and the sharing of learning at an operational level throughout the health board. However this progress needs to be more rapid.  A new executive team is in place at Abertawe Bro Morgannwg UHB and I am assured they are taking forward improvements in the areas highlighted by HIW and are committed to getting it right to ensure the quality and safety of care provided to patients is at the heart of what they are implementing.  The report makes 24 recommendations, three of which fall to Welsh Government to implement on an all\-Wales basis. I expect the health board to take full account of the findings and recommendations from this report; ensure that they are addressed and to embed changes to policies and procedures.  The NHS Delivery Unit will continue to work with the health board to provide support to ensure it meets the recommendations in full.   The health board must provide assurance about its quality and safety governance arrangements, including scrutinising safeguarding concerns. This will be verified by inspection processes. At an all Wales level, I accept the three recommendations for the Welsh Government in their entirety. Patient safety is of paramount importance; robust safeguarding and governance processes are essential to protect adults at risk. Completion of Disclosure and Barring Service (DBS) checks and their renewal is an important part of safeguarding patients. I will ask employers and social partners for urgent advice about the most effective way to implement this recommendation across Wales. Once an approach is agreed, these measures will be implemented as quickly as possible. I have asked the National Independent Safeguarding Board to work with the NHS to further improve existing mechanisms for sharing safeguarding learning. Work is well progressed by Safeguarding Boards in Wales, supported by the Welsh Government, to deliver safeguarding procedures which build upon existing statutory guidance. I will ask Safeguarding Boards to take account of the findings of this report as part of their work. I expect all health boards to consider HIW’s findings and recommendations in full. I am sure this will be very difficult day for the women involved in this case and for their families. My thoughts are with them and I am very grateful for their contribution to this special review.
Translate the text from Welsh to English.
Mae’r cyllid yn helpu ysgolion i gynnig cymorth ychwanegol i blant o deuluoedd y lluoedd arfog. Mae gorfod symud o un ysgol i’r llall yn sgil symud lleoliad gwaith rhiant yn creu heriau, a gall yr arian hwn helpu i leihau’r effeithiau hyn. Gall helpu hefyd i leihau effeithiau gweld rhieni neu warcheidwaid sydd yn y lluoedd arfog yn symud oddi cartref, i wneud gwaith penodol neu ar gyfer hyfforddiant hirdymor.  Bydd y cyllid yn sicrhau bod prosiect cymorth cyffredinol Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg, a sefydlwyd gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, yn parhau, a bydd yn rhoi cymorth mwy penodol i ysgolion. Eleni, mae’r broses ar gyfer dosbarthu’r cyllid yn cael ei datblygu gan CLlLC, i’w chymeradwyo gan Lywodraeth Cymru.   Dywedodd Kirsty Williams: > Sicrhau’r un mynediad at addysg i bob plentyn a pherson ifanc yw un o’m prif flaenoriaethau, ac rwy’n cydnabod yr heriau penodol y gall plant y lluoedd arfog eu hwynebu. > > > Mae Prosiect a Chronfa Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru wedi bod yn hynod lwyddiannus mewn blynyddoedd a fu, ac felly rwy’n falch o gael parhau i gyllido’r maes hwn am flwyddyn arall. Dywedodd Ant Metcalfe, Rheolwr Ardal y Lleng Brydeinig Frenhinol yng Nghymru: > Mae’r Lleng Brydeinig Frenhinol yn gwbl ganolog i rwydwaith cenedlaethol sy’n cefnogi cymuned ein lluoedd arfog, gan sicrhau na chaiff eu cyfraniad unigryw ei anghofio byth. Mae’n beth cywir ein bod ni, a hithau’n benwythnos nodi Diwrnod VJ 75, yn ystyried hefyd gymuned y lluoedd arfog heddiw a’r aberthau y maen nhw’n eu gwneud. > > > Rydyn ni’n croesawu’r penderfyniad i adnewyddu’r gronfa hon ar gyfer plant ein lluoedd arfog heddiw. Ers ei chyflwyno, rydyn ni wedi gweld defnydd da yn cael ei wneud ohoni wrth gefnogi’r disgyblion hyn, ac edrychwn ymlaen at weld hynny’n parhau i’r dyfodol. Dywedodd y Cyng Ian Roberts, Llefarydd Addysg CLlLC: > Mae ysgolion yng Nghymru yn gwneud gwaith gwych yn nodi’r heriau y mae plant y lluoedd arfog yn eu hwynebu o ran eu haddysg, ac maen nhw’n gweithio gyda Cefnogi Plant y Lluoedd Arfog mewn Addysg yng Nghymru i sicrhau nad ydyn nhw o dan anfantais oherwydd eu cefndir. > > > Mae pawb sy’n gysylltiedig â’r prosiect, a sefydlwyd gan CLlLC, yn croesawu cyhoeddiad heddiw gan y Gweinidog Addysg y bydd y cyllid yn parhau am flwyddyn arall. Bydd yn help mawr i sicrhau bod y gwaith hwn yn parhau a bod arferion da yn cael eu rhannu.
The funding helps schools provide additional support to children from families of Service personnel. The challenges can include the effects of moving from one school to another due to the location of the posting. It can also include the effects of parents or guardians in the Armed Forces being deployed away from home, either on operation or a long term training exercise.  The funding will ensure the ongoing universal support from the Supporting Service Children in Education (SSCE) Cymru project, hosted by the Welsh Local Government Association (WLGA), and provide more targeted support to schools. This year the process for distributing the funding is currently being developed by the WLGA for agreement by Welsh Government. Kirsty Williams said: > Ensuring equity of access to education for all children and young people is one of my top priorities and I recognise the particular challenges that Service children can face. > > > The Supporting Service Children in Education Project and Fund have been extremely successful in previous years, so I’m pleased to be able to continue funding this area for another year. Ant Metcalfe, Area Manager for the Royal British Legion in Wales, said: > The Royal British Legion is at the heart of a national network that supports our Armed Forces community, ensuring their unique contribution is never forgotten. It is right that on this weekend we are marking VJ Day 75 that we also consider the current service community and the sacrifices they make. > > > We welcome the renewal of this fund for our current service children. Since its introduction we have seen this fund be put to good use to support these pupils and we look forward to seeing that continue into the future. Cllr Ian Roberts, WLGA Education Spokesperson said: > Schools in Wales are doing a fantastic job of identifying the challenges service children face in education and working with SSCE Cymru to ensure they are not disadvantaged by their Armed Forces lifestyle. > > > Everyone involved with SSCE Cymru, hosted by WLGA, welcomes today’s announcement by the Education Minister that the funding for the project will continue for another year. It will go a long way in ensuring this work continues and good practice is shared.
Translate the text from Welsh to English.
Yn fy natganiad deddfwriaethol blynyddol ar 27 Mehefin, gwnes i gadarnhau y byddai Llywodraeth Cymru yn cyflwyno Bil i ddiwygio'r Senedd a Bil i gyflwyno cwotâu rhywedd ar gyfer ymgeiswyr etholiadau'r Senedd. Mae'r Biliau hyn yn ymateb i argymhellion y Pwyllgor Diben Arbennig ar Ddiwygio'r Senedd ac maent yn flaenoriaeth ar y cyd yn y Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru. Rydym yn parhau i weithio tuag at gyflwyno Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau) yn gynnar yn nhymor yr hydref. Nodais yn fy niweddariad ym mis Ebrill ein bod yn ystyried nifer o bolisïau ychwanegol i’w cynnwys yn y Bil, gan gynnwys gofyniad i ymgeiswyr ddatgan unrhyw aelodaeth o blaid wleidyddol sydd wedi bod ganddynt yn y 12 mis cyn etholiad ar gyfer y Senedd fel rhan o'u henwebiad, yn debyg i'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer etholiadau llywodraeth leol. Rydym yn parhau i fwrw ymlaen â’r polisi hwn, ond wedi penderfynu y gellir ei gyflawni drwy is\-ddeddfwriaeth. Bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer gofyniad i ymgeiswyr ac Aelodau'r Senedd fod yn preswylio yng Nghymru, ac ar gyfer adolygiad o weithrediad y darpariaethau deddfwriaethol newydd yn dilyn etholiad 2026\. Rydym wedi ymrwymo i gyflawni argymhelliad y Pwyllgor Diben Arbennig mewn perthynas ag annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Felly, byddwn yn sicrhau bod canllawiau ar gael cyn etholiad nesaf y Senedd i gefnogi ac annog pleidiau gwleidyddol i gyhoeddi strategaethau amrywiaeth a chynhwysiant. Bydd hyn yn cyflawni'r un diben ac yn gwireddu'r bwriad y tu ôl i argymhelliad y pwyllgor, heb fod angen darpariaeth benodol yn y Bil. Rwy'n edrych ymlaen at gyflwyno'r Biliau a gwaith craffu'r Aelodau ar y ddeddfwriaeth wrth inni symud yn nes at greu Senedd fodern sy'n adlewyrchu Cymru ac yn cefnogi ein democratiaeth yn awr ac yn y dyfodol. Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Pe bai aelodau'n dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
In my annual legislative statement on 27 June, I confirmed the Welsh Government will bring forward a Bill to reform the Senedd and a Bill to introduce gender quotas for candidates for election to the Senedd. These Bills respond to the recommendations made by the Special Purpose Committee on Senedd Reform and are a shared priority in the Co\-operation Agreement with Plaid Cymru. We continue to work towards the introduction of the Senedd Cymru (Members and Elections) Bill early in the autumn term. I set out in my April update we were exploring a number of additional policies for inclusion in the Bill, including a requirement on candidates to declare any political party membership they have held in the 12 months prior to a Senedd election as part of their nomination, similar to the arrangements in place for local government elections. We continue to pursue this policy, but have determined this can be achieved through secondary legislation. The Bill will include provision for a requirement for candidates to, and Members of, the Senedd to be resident in Wales, and for a review of the operation of the new legislative provisions following the 2026 election. We are committed to delivering the Special Purpose Committee’s recommendation in relation to encouraging political parties to publish diversity and inclusion strategies. We will therefore ensure that guidance is made available ahead of the next Senedd election to support and encourage political parties to publish diversity and inclusion strategies. This will serve the same purpose and deliver on the intent behind the committee’s recommendation, without the need for explicit provision in the Bill. I look forward to the introduction of the Bills and Members’ scrutiny of the legislation as we move closer to creating a modern Senedd that reflects Wales and supports our democracy now and into the future. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.  
Translate the text from Welsh to English.
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf ichi ynghylch y broses o benodi Comisiynydd Plant nesaf Cymru. Mae tymor y Comisiynydd Plant presennol yn dod i ben ar 28 Chwefror 2015 ac fe ddechreuodd y broses o benodi ei olynydd  ar 23 Ebrill a gafodd ei oedi o ganlyniad i’r ad\-drefnu diweddar. Fel arfer ar gyfer penodiadau cyhoeddus wedi’u rheoleiddio, pan fo’r Gweinidog yn newid, fel sydd wedi digwydd yn yr achos hwn, mae Swyddfa’r Comisiynydd Penodiadau Cyhoeddus wedi cadarnhau y byddai angen ailddechrau’r broses benodi. Er nad yw’r Comisiynydd Plant yn benodiad cyhoeddus wedi’i reoleiddio, rydym wedi dilyn yr un egwyddorion â phenodiad wedi’i reoleiddio. Ar ôl ystyried yn ofalus, rwyf wedi penderfynu dilyn yr egwyddorion penodiadau cyhoeddus, ac ailgychwyn y broses benodi o’r dechrau. Gan gofio pwysigrwydd swydd y Comisiynydd Plant a’m swyddogaeth arweiniol fel Gweinidog â chyfrifoldeb dros blant, bydd hefyd yn rhoi cyfle i mi fod yn rhan o’r broses o’r cychwyn cyntaf. Wrth ddod i benderfyniad rwyf wedi, wrth gwrs, ystyried yr ymgeiswyr oedd eisoes yn rhan o’r broses benodi bresennol ac effaith hyn arnynt. Mae fy swyddogion wedi cysylltu â’r ymgeiswyr i roi gwybod iddynt am fy mhenderfyniad, ac i ddiolch iddynt am eu hymgeisyddiaeth a'u hamynedd tra wyf wedi ystyried y ffordd ymlaen. Rwy’n bwriadu parhau i gynnwys Aelodau’r Cynulliad yn y broses ddethol drwy banel trawsbleidiol, yn ogystal â phanel pobl ifanc yn y broses gan y bydd y Comisiynydd yn eu cynrychioli.
I want to update you on the process of appointing the next Children’s Commissioner for Wales. The current Children’s Commissioner’s term comes to an end on 28 February 2015 and the process of appointing his successor began on 23 April 2014 and was paused as a consequence of the recent reshuffle. In normal circumstances for regulated public appointments where a change of Minister happens, as in this instance, the Office for the Commissioner on Public Appointments has confirmed the appointment process would need to start again. Whilst the appointment of the Children’s Commissioner is not a regulated public appointment, we have followed the same principles as for a regulated appointment. After careful consideration, I have decided to continue to follow the principles for public appointments and to begin the appointment process again from the start. Given the importance of the role of the Children’s Commissioner and my lead role as Minister with responsibility for children, this will also provide me with an opportunity to be part of the process from the beginning. In making this decision, I have, of course, taken into consideration the candidates who had already progressed through the current appointment process and how this decision impacts on them.  My officials have been in contact with them to inform them of my decision, and to thank them for their candidature and patience whilst I have considered the way forward I intend to continue to involve Assembly Members in the selection process by having a cross\-party panel, as well as a young people’s panel, as the Commissioner will be their champion.
Translate the text from English to Welsh.
    I am pleased to update Assembly Members on the steps I am taking to move forward with the play policy agenda for Wales.  My intention is to further deliver on the Welsh Government manifesto commitment to “continue to improve opportunities for all children and young people to play in safety and, in particular, to support improved access to play for children with disabilities”.     The Children and Families (Wales) Measure 2010, section 11, Play Opportunities, allows Welsh Ministers to place a duty on Local Authorities to assess the sufficiency of play opportunities in their areas for children in accordance with regulations.  Having regard to its assessment, a Local Authority must secure sufficient play opportunities in its area for children, so far as reasonably practicable.   I am keen to take forward this duty for the benefit of children and young people in Wales and have decided to commence the duty in two parts. For part 1, I have asked my officials to work with Legal Services, the range of other policy areas that affect children’s opportunities to play and the play sector, to develop the Regulations and Statutory Guidance for Local Authorities in complying with section 11(1\) in conducting the play sufficiency assessments.  These will set out the requirements for the assessments and the date by which they must be completed. The assessments should cover the range of factors that affect children and young people’s opportunities to play and include demographic profiles of the area; an audit of open space and existing and potential play space; play provision; recreational provision and other factors that promote play opportunities including planning; traffic; transport; community initiatives, as well as workforce development.  The sufficiency of provision and opportunities will be assessed against criteria set out in the Regulations and Statutory Guidance, which will include consultation with children and young people. It is anticipated that the Regulations and Statutory Guidance covering the play sufficiency assessments will go out for the 12 week consultation process in February 2012\.   After the necessary amendments, it is anticipated that, the Regulations will be laid and come into force in the summer of 2012\.  At this time we will publish a toolkit to support Local Authorities in conducting the play sufficiency assessments. To support Local Authorities in conducting their first sufficiency assessments, I have agreed for Welsh Government funding to be allocated for this purpose for the financial year 2012 – 13\.  I will be contacting Local Authorities with further details of this allocation in due course. Part 2, will cover the commencement of section 11(3\), which is the duty on a Local Authority to “secure sufficient play opportunities in its area for children, so far as reasonably practicable, having regard to its assessment”.   Commencement will follow after consideration of the completed play sufficiency assessments; the Local Authorities’ plans for securing sufficient play opportunities and the potential implications for the Welsh Government at that time. I am very pleased to be moving forward on this important policy area, which is central to children’s enjoyment of life and their social, physical and intellectual development.      
Mae’n bleser gennyf roi’r diweddaraf i Aelodau’r Cynulliad am y camau rwy’n eu cymryd i ddatblygu’r polisi chwarae ar gyfer Cymru.  Fy mwriad yw cyflawni ymhellach mewn perthynas â’r ymrwymiad ym maniffesto Llywodraeth Cymru i “barhau i wella cyfleoedd i bob plentyn a pherson ifanc chwarae yn ddiogel ac, yn arbennig, cefnogi mynediad gwell i chwarae ar gyfer plant ag anableddau”.     Mae adran 11 Mesur Plant a Theuluoedd (Cymru) 2010, sef Cyfleoedd Chwarae, yn caniatáu i Weinidogion Cymru osod dyletswydd ar Awdurdodau Lleol i asesu a oes digon o gyfleoedd chwarae i blant yn eu hardaloedd nhw, yn unol â’r rheoliadau.  Mewn perthynas â’r asesiad hwn, rhaid i Awdurdod Lleol sicrhau bod digon o gyfleoedd chwarae i blant yn ei ardal, i’r graddau y mae hynny’n rhesymol ymarferol.   Rwy’n awyddus i ddatblygu’r ddyletswydd hon er lles plant a phobl ifanc Cymru, ac rwyf wedi penderfynu rhoi’r ddyletswydd ar waith mewn dwy ran. Ar gyfer rhan 1, rwyf wedi gofyn i’m swyddogion weithio gyda Gwasanaethau Cyfreithiol, yr ystod o feysydd polisi eraill sy’n effeithio ar gyfleoedd plant i chwarae, a’r sector chwarae, i ddatblygu Rheoliadau a Chanllawiau Statudol ar gyfer Awdurdodau Lleol. Nod y rhain yw sicrhau eu bod yn cydymffurfio â’r gofyniad yn adran 11(1\) i asesu a oes digon o gyfleoedd chwarae.  Byddant yn nodi’r gofynion ar gyfer yr asesiadau ac erbyn pa ddyddiad y mae angen eu cwblhau. Dylai’r asesiadau ymdrin â’r ystod o ffactorau sy’n effeithio ar gyfleoedd plant a phobl ifanc i chwarae. Dylent gynnwys proffiliau demograffig o’r ardal, archwiliad o nifer y mannau agored, y mannau chwarae presennol a’r potensial i ddatblygu rhai newydd, y ddarpariaeth chwarae, y ddarpariaeth hamdden, ac unrhyw ffactorau eraill sy’n hyrwyddo cyfleoedd chwarae, gan gynnwys materion cynllunio, traffig, trafnidiaeth, mentrau cymunedol, a datblygu’r gweithlu.  Caiff y ddarpariaeth a’r cyfleoedd chwarae eu hasesu yn erbyn y meini prawf a nodir yn y Rheoliadau a’r Canllawiau Statudol, a fydd yn cynnwys ymgynghori â phlant a phobl ifanc. Rhagwelir y byddwn yn cynnal proses ymgynghori 12 wythnos ym mis Chwefror 2012 ynglŷn â’r Rheoliadau a’r Canllawiau Statudol ar gyfer yr asesiadau o gyfleoedd chwarae.  Ar ôl gwneud unrhyw newidiadau gofynnol, rhagwelir y bydd y Rheoliadau yn cael eu gosod ac y byddant yn dod i rym yn ystod haf 2012\.  Bryd hynny byddwn yn cyhoeddi pecyn cymorth i helpu Awdurdodau Lleol i gynnal yr asesiadau. Rwyf wedi cytuno i ddyrannu cyllid Llywodraeth Cymru yn ystod blwyddyn ariannol 2012–13 i gefnogi Awdurdodau Lleol i gynnal eu hasesiadau cyntaf.  Byddaf yn cysylltu ag Awdurdodau Lleol maes o law i roi manylion pellach iddynt am y dyraniad hwn. Bydd rhan 2 yn ymdrin ag adran 11(3\), sef y ddyletswydd ar Awdurdod Lleol i “sicrhau cyfleoedd chwarae digonol i blant yn ei ardal, i’r graddau y mae’n rhesymol ymarferol, gan roi sylw i’w asesiad”.  Caiff ei rhoi ar waith ar ôl ystyried yr asesiadau gorffenedig o gyfleoedd chwarae, cynlluniau’r Awdurdodau Lleol ar gyfer sicrhau digon o gyfleoedd chwarae, a’r goblygiadau posibl i Lywodraeth Cymru ar y pryd. Rwy’n falch iawn o allu symud ymlaen yn y maes polisi pwysig hwn, sy’n ganolog i fwynhad plant o fywyd yn ogystal â’u datblygiad cymdeithasol, corfforol a deallusol.  
Translate the text from English to Welsh.
The change means, from this month the NHS Wales Informatics Service will make a summary of key information from a patient’s GP record available electronically for planned patient care, including during outpatient appointments. Previously it was only available to pharmacists and doctors in emergency care settings such as A\&E.   Health Secretary Vaughan Gething said:  > “This change means that vital information is now available regardless of how a patient comes into our hospitals 24 hours a day, every day of the year improving the ability of health care professionals to provide safer care particularly in patient’s medicines management.” Dr Charlotte Jones, Chair, General Practitioners Committee, BMA Wales said:   > “The establishment of the National Intelligent Integrated Audit Solution (NIIAS) and the Health Boards and Trusts’ formal commitment to monitor access to the patient record using this system has provided GPC Wales with full assurance that the extension of access will be safe, secure and will advance the ability to provide safer clinical care to the patient.” Mr Rhidian Hurle, Consultant Surgeon, Medical Director at NHS Wales Informatics services and Chief Clinical Information Officer for Wales, said:    > “I am delighted that in partnership with GPC Wales we at NWIS have been able to deliver this new functionality to national clinical software in our hospitals.   > “The extended access to the GP Record makes it easier for health professionals to provide safer care, saving them time in getting the correct information about the patients they are caring for and therefore allowing them more time to focus on the patients needs. It is a win\-win for patients and professionals alike.”   Strict controls are in place to ensure that patient information is safe and secure. Every time a patient’s record is accessed via the secure database, an auditable log will be made.   Patients will be asked by the health professional providing their care for permission to look at their record at each and every consultation. In addition, patients can if they wish opt out of the system entirely by speaking to their GP.    
Dywedodd Vaughan Gething, yr Ysgrifennydd Iechyd:  Mae’r newid hwn yn golygu y bydd Gwasanaeth Gwybodeg GIG Cymru, o’r mis hwn ymlaen, yn sicrhau bod gwybodaeth allweddol o gofnodion cleifion y meddygon teulu ar gael yn electronig at ddibenion gofal wedi’i gynllunio, gan gynnwys yn ystod apwyntiadau cleifion allanol. Cyn nawr, dim ond fferyllwyr a meddygon mewn lleoliadau gofal brys, megis adrannau damweiniau ac achosion brys, oedd yn gallu cael gafael ar yr wybodaeth hon.   > “Mae’r newid hwn yn golygu y bydd gwybodaeth hanfodol ar gael 24 awr y dydd, bob dydd o’r flwyddyn, waeth sut mae’r claf yn cael ei dderbyn i’r ysbyty. Bydd hyn yn helpu staff gofal iechyd i ddarparu gofal mwy diogel, yn enwedig o ran rheoli’r meddyginiaethau a roddir i’r claf.” Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd y Pwyllgor Meddygon Teulu, BMA Cymru: > “Drwy’r Teclyn Archwilio Integredig Deallus Cenedlaethol (NIIAS) newydd, ac ymrwymiad ffurfiol y Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd i fonitro mynediad i gofnodion cleifion gan ddefnyddio’r system hon, mae’r Pwyllgor wedi cael sicrwydd llawn y bydd yn ddiogel ehangu mynediad fel hyn ac y bydd yn haws darparu gofal clinigol mwy diogel i’r cleifion.” Dywedodd Mr Rhidian Hurle, Llawfeddyg Ymgynghorol, Cyfarwyddwr Meddygol yng Ngwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru, a Phrif Swyddog Gwybodaeth Glinigol Cymru: > “Dw i wrth fy modd ein bod ni yng Ngwasanaeth Gwybodeg y GIG, mewn partneriaeth â Phwyllgor Meddygon Teulu Cymru, wedi gallu darparu’r adnodd newydd hwn yn rhan o’r feddalwedd glinigol sydd ar waith yn genedlaethol yn ein hysbytai.  > “Drwy ehangu mynediad at gofnodion meddygon teulu, bydd hi’n haws i staff gofal iechyd ddarparu gofal mwy diogel, a bydd yn arbed amser wrth iddyn nhw geisio gael yr wybodaeth gywir am y cleifion y maen nhw’n gofalu amdanynt. Bydd hynny’n rhyddhau amser iddyn nhw ganolbwyntio ar anghenion y claf ei hun. Bydd y cleifion a hefyd y staff ar eu hennill.” Mae rheolaethau llym ar waith i sicrhau bod yr wybodaeth am y cleifion yn ddiogel. Bob amser y bydd rhywun yn mynd at gofnod claf drwy’r gronfa ddata ddiogel, bydd yna gofnod o hynny a fydd yn hawdd ei archwilio.  Bydd yr aelod o staff gofal iechyd sy’n gofalu am y claf yn gofyn iddo am ei ganiatâd i edrych ar ei gofnodion, a bydd caniatâd yn cael ei geisio ar gyfer pob ymgynghoriad. Hefyd, drwy siarad â’u meddyg teulu, bydd cleifion yn gallu dewis peidio â bod yn rhan o’r system o gwbl os ydynt yn dymuno hynny.  
Translate the text from English to Welsh.
Protecting the interests of both landlords and tenants, the Renting Homes (Wales) Act 2016 improves how homes in Wales are rented, managed and lived in. It replaces various, complex pieces of existing legislation and case law and introduces one clear legal framework, providing contract\-holders in Wales with greater security than in any other part of the UK. Some of the main changes introduced from today include: * All landlords being required to provide a written copy of the occupation contract to the tenant (this sets out the rights and responsibilities of both parties). * 'No\-fault' notice periods increasing from two months to six months for new tenants, and for existing tenants from Thursday, June 1\. It will no longer be possible to issue a notice in the first six months, meaning all contract\-holders will have a minimum 12 months of security at the start of their tenancy. * A strengthened duty on landlords, to ensure the property they rent is fit for human habitation including the installation of smoke and carbon monoxide alarms, and regular electrical safety testing. * Addressing the practice of 'retaliatory eviction' (whereby a landlord serves notice on a tenant because they ask for repairs or complain about poor conditions). * The introduction of a consistent approach across sectors to eviction where antisocial behaviour and domestic violence, occurs. Climate Change Minister Julie James said: > “This is a momentous moment as we completely transform the rented sector in Wales. > > > > “A decent, safe and secure home is fundamental to people’s wellbeing. These changes will provide tenants with greater protection from eviction and ensure their home is safe to live in. > > > > “At the same time, landlords will benefit from greater clarity in the law and the ability to repossess abandoned properties more quickly. > > > > “As we build a stronger, greener and more prosperous Wales, I would like to thank all those who have joined us on this journey to making renting simpler and fairer.”
Gan ddiogelu buddiannau landlordiaid a thenantiaid, mae Deddf Rhentu Cartref (Cymru) 2016 yn gwella’r sefyllfa yng Nghymru ar gyfer rhentu, rheoli a byw mewn cartrefi. Mae’n disodli amryw ddarnau cymhleth o ddeddfwriaeth a chyfraith achosion presennol, ac yn cyflwyno un fframwaith cyfreithiol clir sy’n darparu mwy o sicrwydd ar gyfer deiliaid contractau yng Nghymru nag mewn unrhyw ran arall o’r DU. Mae rhai o’r newidiadau a gyflwynwyd heddiw yn cynnwys: * Ei gwneud yn ofynnol i bob landlord roi copi ysgrifenedig o’r contract meddiannaeth i’r tenant (mae hwn yn amlinellu hawliau a chyfrifoldebau’r ddau barti). * Mae’r cyfnod ar gyfer hysbysiadau 'dim bai' yn cynyddu o ddau fis i chwe mis ar gyfer tenantiaid newydd, ac ar gyfer tenantiaid presennol o ddydd Iau 1 Mehefin. Ni fydd bellach yn bosibl i gyflwyno hysbysiad yn y chwe mis cyntaf, a fydd yn golygu bod gan bob deiliad contract 12 mis o sicrwydd ar ddechrau ei denantiaeth. * Dyletswydd fwy cadarn ar landlordiaid i sicrhau bod yr eiddo maent yn ei osod yn addas i bobl fyw ynddo, gan gynnwys gosod larymau mwg a charbon monocsid, a phrofi trydanol rheolaidd. * Mynd i’r afael â’r arfer o droi allan er mwyn dial (pan fydd landlord yn troi tenant allan am iddo ofyn am atgyweiriadau neu gwyno am amodau gwael). * Cyflwyno dull cyson ar draws sectorau ar gyfer troi allan mewn achosion o ymddygiad gwrthgymdeithasol neu drais. Dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: > “Mae hwn yn achlysur i’w gofio, wrth inni drawsnewid y sector rhentu yng Nghymru yn gyfan gwbl. > > > > “Mae cartref addas a diogel yn hanfodol i lesiant pobl. Bydd y newidiadau hyn yn darparu rhagor o amddiffyniad ar gyfer tenantiaid rhag cael eu troi allan, ac yn gwneud yn siŵr bod eu cartref yn ddiogel i fyw ynddo. > > > > “Ar yr un pryd bydd landlordiaid yn elwa ar ragor o eglurder mewn perthynas â’r gyfraith, a’r gallu i ailfeddiannu adeiladau gwag yn gyflymach. > > > > “Wrth inni adeiladu Cymru gryfach, wyrddach a mwy ffyniannus, hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ymuno â ni ar y siwrnai hon i wneud rhentu yn symlach ac yn decach.”
Translate the text from English to Welsh.
The Chair, Vice Chair and independent members of the Board have agreed they will step aside. New independent members will be appointed to the Board to lead the organisation as it continues to rebuild its services following the pandemic. Health and Social Services Minister Eluned Morgan said: > I have serious concerns around the performance of the health board and I have not seen the improvement in services I expect for the people of north Wales.  I have therefore decided to take action to rectify this.   > > > I have informed the Board that I am putting the organisation back into Special Measures with immediate effect. This significant decision is made in line with the escalation framework. It reflects serious concerns about the performance of the organisation, about its governance, and issues with leadership and culture that are holding back progress. > > > I recognise that the health board has had significant challenges for a number of years and has worked hard to overcome these challenges. But now is the time for new leadership to deliver the improvements that are needed. A number of direct appointments to the Board have been made by the Minister to ensure stability. The non\-executive team will be led by Dyfed Edwards as the new Chair of the Betsi Cadwaladr Health Board, a former leader of Gwynedd Council and the deputy chair of the Welsh Revenue Authority. The new Chair will focus on renewing the leadership and culture of  the Health Board which will support its workforce to provide safe and effective services for the people of north Wales. Dyfed will be supported by Gareth Williams, Karen Balmer and Rhian Watcyn Jones as interim independent members of the Board. Further direct appointments will follow in the next few weeks. A campaign to recruit new independent members to the Board who will take the organisation forward beyond this initial period of stabilisation will commence later this year.    Key to developing and building a sustainable organisation will be the appointment of the substantive chief executive. The recruitment process for this post is about to start. The health board will also be supported by an intervention and support team. Health and Social Services Minister Eluned Morgan added: > Every day thousands of people are receiving good care from the NHS in north Wales but there is a large degree of inconsistency in safety, performance and quality across the region, addressing this inconsistency will be the focus of the new board. Whilst special measures will apply to the organisation, I wish to reassure both patients and communities served by the Health Board, as well as the staff working for it, that day to day services and activities will continue, with an increased focus on quality and safety.
Mae Cadeirydd, Is\-gadeirydd ac aelodau annibynnol y Bwrdd wedi cytuno i gamu i’r naill ochr. Bydd aelodau annibynnol newydd yn cael eu penodi i’r Bwrdd i arwain y sefydliad wrth iddo barhau i adfer ei wasanaethau yn dilyn y pandemig. Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: > Mae gen i bryderon difrifol am berfformiad y bwrdd iechyd a dw i ddim wedi gweld y gwelliant i wasanaethau dw i’n ei ddisgwyl ar gyfer pobl y Gogledd. Dw i felly wedi penderfynu cymryd camau i unioni hyn. > > > “Dw i wedi rhoi gwybod i’r Bwrdd fy mod yn rhoi’r sefydliad yn ôl o dan Fesurau Arbennig, a hynny ar unwaith. Mae’r penderfyniad sylweddol hwn yn cael ei wneud yn unol â’r fframwaith uwchgyfeirio. Mae’n adlewyrchu pryderon difrifol am berfformiad y sefydliad, am ei lywodraethiant, a materion yn ymwneud ag arweinyddiaeth a diwylliant sy’n ei atal rhag gwella. > > > Dw i’n cydnabod bod y bwrdd iechyd wedi wynebu heriau sylweddol ers sawl blwyddyn ac wedi gweithio’n galed i oresgyn yr heriau hyn. Serch hynny, nawr yw’r amser am arweinwyr newydd i wneud y gwelliannau sydd eu hangen. Mae’r Gweinidog wedi gwneud nifer o benodiadau uniongyrchol i’r Bwrdd i sicrhau sefydlogrwydd. Bydd y tîm anweithredol yn cael ei arwain gan Dyfed Edwards, fel Cadeirydd newydd Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr, cyn\-arweinydd Cyngor Gwynedd a dirprwy gadeirydd Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd y Cadeirydd newydd yn canolbwyntio ar adnewyddu arweinyddiaeth a diwylliant y Bwrdd Iechyd, gan sicrhau bod y gweithlu’n canolbwyntio ar ddarparu gwasanaethau diogel ac effeithiol i bobl y Gogledd. Bydd Dyfed yn cael ei gefnogi gan Gareth Williams, Karen Balmer a Rhian Watcyn Jones fel aelodau annibynnol interim o’r Bwrdd. Bydd penodiadau uniongyrchol pellach yn cael eu gwneud yn yr wythnosau nesaf. Bydd ymgyrch yn dechrau nes ymlaen eleni i recriwtio aelodau annibynnol newydd o’r Bwrdd a fydd yn tywys y sefydliad y tu hwnt i’r cyfnod cychwynnol hwn o sefydlogi.    Bydd penodi’r prif weithredwr parhaol yn allweddol i ddatblygu a meithrin sefydliad cynaliadwy. Mae proses recriwtio’r swydd honno ar fin dechrau. Bydd y bwrdd iechyd hefyd yn cael ei gefnogi gan dîm ymyrraeth a chymorth. Ychwanegodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol Eluned Morgan: > Bob dydd, mae miloedd o bobl yn cael gofal da gan y Gwasanaeth Iechyd yn y Gogledd ond mae yna gryn dipyn o anghysondeb o ran diogelwch, perfformiad ac ansawdd ar draws y rhanbarth. Bydd y bwrdd newydd yn canolbwyntio ar unioni’r anghysondeb hwn. Er y bydd y sefydliad o dan fesurau arbennig, dw i am sicrhau cleifion a chymunedau y mae’r Bwrdd Iechyd yn eu gwasanaethu, yn ogystal â’r staff sy’n gweithio ynddo, y bydd gwasanaethau a gweithgareddau o ddydd i ddydd yn parhau, gyda mwy o ffocws ar ansawdd a diogelwch.
Translate the text from English to Welsh.
On 11 March 2014, the Minister for Finance made an Oral Statement in the Siambr on: Progress on Improving Public Procurement. The Statement can be access on the National Assembly for Wales website (external link). If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org/ Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page. 
Ar 11 Mawrth 2014, gwnaeth y Gweinidog dros Cyllid  Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Cynnydd ar Wella Caffael Cyhoeddus. Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol). Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org/ Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.   
Translate the text from Welsh to English.
SO dan Adran 73 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 mae’n rhaid i Weinidogion Cymru lunio cynllun sy’n amlinellu sut maent yn bwriadu cynnal a hyrwyddo llywodraeth leol yng Nghymru, wrth arfer eu swyddogaethau. Mae gofyn i Weinidogion Cymru gyhoeddi adroddiad ynghylch sut y cafodd y cynigion yn y cynllun eu gweithredu yn y flwyddyn ariannol flaenorol, a gosod copi o’r adroddiad gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Rwy’n falch o gyflwyno Adroddiad Blynyddol 2010\-11 i Gynulliad Cenedlaethol Cymru heddiw. Adroddiad sy’n ymdrin â blwyddyn ariannol 2010\-11 yw hwn, felly nid yw’n ceisio ymdrin â datblygiadau diweddar o ran diwygio’r gwasanaethau cyhoeddus, yn enwedig y rheini sydd wedi’u cyflwyno ers etholiadau’r Cynulliad Cenedlaethol ym mis Mai 2011\. Fodd bynnag, mae’n tynnu sylw at nifer o’r meysydd lle mae gwasanaethau cyhoeddus eisoes yn cydweithio’n llwyddiannus, drwy fentrau dan arweiniad y Byrddau Gwasanaethau Lleol, er enghraifft.   Yr her yn awr yw i Lywodraeth Cymru a’i phartneriaid barhau i gydweithio er mwyn cyflawni mwy ond gyda llai. Mae’r Rhaglen Lywodraethu a gyhoeddwyd ym mis Medi yn amlinellu’r agenda ar gyfer cyflenwi gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. Mae’n cydnabod na all Llywodraeth Cymru sicrhau’r gwelliannau ar ei phen ei hun, ond y bydd angen cefnogaeth ei holl bartneriaid arni. Drwy’r Cynllun Partneriaeth Llywodraeth Leol, y Cyngor Partneriaeth a Grŵp Arwain y Gwasanaethau Cyhoeddus, bydd Llywodraeth Cymru a llywodraeth leol yn parhau i gydweithio er mwyn gwella gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru. 
  ection 73 of the Government of Wales Act 2006 requires Welsh Ministers to make a scheme setting out how they propose, in the exercise of their functions, to sustain and promote local government in Wales. Welsh Ministers are required to publish a report of how the proposals set out in the scheme were implemented in the previous financial year and to lay a copy of the report before the National Assembly for Wales. I am pleased to present the Annual Report for 2010\-11 to the National Assembly today. Covering as it does the financial year 2010\-11, the Report does not seek to capture recent developments in public service reform, particularly those which have taken place since the National Assembly for Wales’ elections in May 2011\. It does however highlight many of the areas where public services are already successfully working together, for example through initiatives led by the Local Service Boards.  The challenge now is for the Welsh Government and its partners to continue to work together to achieve better but with less. The Programme for Government launched in September sets out the agenda for the delivery of public services in Wales.  It recognises that the Welsh Government cannot deliver the improvements alone, but will need the support of all its partners. Through the Local Government Partnership Scheme, the Partnership Council and the Public Service Leadership Group, the Welsh Government and local government will continue to work in partnership to improve public services in Wales.     
Translate the text from Welsh to English.
Bydd y cynllun peilot yn ehangu’r cymorth sydd ar gael i bobl ifanc wrth iddynt adael gofal ac yn asesu’r effaith a gaiff hynny arnynt. Bydd yn rhoi prawf ar gyfer y manteision a nodir o incwm sylfaenol, fel mynd i’r afael â thlodi a diweithdra a gwella iechyd a lles ariannol.  Bydd pob person ifanc sy’n gadael gofal ac yn troi’n 18 oed yn ystod cyfnod o 12 mis, o holl ardaloedd yr awdurdodau lleol yn cael cynnig bod yn rhan o’r cynllun peilot hwn.  Bydd yn cychwyn yn ystod y flwyddyn ariannol nesaf ac rydym yn rhagweld y bydd dros 500 o bobl ifanc yn gymwys i ymuno â’r cynllun. Bydd y cynllun peilot yn rhedeg am o leiaf dair blynedd, a bydd pob aelod o’r garfan yn cael taliad incwm sylfaenol o £1600 y mis am gyfnod o 24 mis o’r mis ar ôl iddynt droi’n 18 oed.  Mae Llywodraeth Cymru wedi trafod yn uniongyrchol â phobl sy’n gadael gofal wrth ddatblygu’r cynllun peilot. Maent hefyd wedi bod yn cydweithio â gweithwyr proffesiynol mewn Awdurdodau Lleol ac wedi sefydlu Grŵp Cynghori Technegol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Michael Marmot, sy’n dwyn ynghyd arbenigwyr mewn incwm sylfaenol a chymorth ar gyfer pobl sy’n gadael gofal i lywio gwaith datblygu a gwerthuso’r cynllun peilot. Wrth amlinellu’r rhesymeg sy’n sail i’r cynllun peilot, dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: > Mae ein cyhoeddiad heddiw am Incwm Sylfaenol yn cyd\-fynd â dyhead Llywodraeth Cymru i sicrhau bod y rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas yn cael cymorth. Rydyn ni’n ymwybodol ein bod mewn argyfwng costau byw ac yn benderfynol o edrych am y ffyrdd gorau i gefnogi unigolion yng Nghymru sy’n byw mewn tlodi. > > > Mae gan bobl sy’n gadael gofal yr hawl i gael cymorth priodol wrth iddynt ddatblygu’n oedolion ifanc annibynnol. Hefyd, mae’n bwysig nodi bod y polisi yn cael ei ategu gan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, sy’n pwysleisio ein hymrwymiad i gryfhau hawliau plant a phobl ifanc yng Nghymru. > > > Er hynny, mae gormod o bobl ifanc sy’n gadael gofal yn parhau i wynebu rhwystrau sylweddol wrth geisio datblygu i fod yn oedolion. Mae ein cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn brosiect cyffrous sy’n dod â sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl if.anc sydd ei angen fwyaf. Mae ein cynllun peilot Incwm Sylfaenol yn brosiect cyffrous sy’n dod â sefydlogrwydd ariannol i genhedlaeth o bobl ifanc sydd ei angen fwyaf. > > > Bydd y cynllun yn ychwanegu at gymorth sydd eisoes yn bodoli ac yn cael ei gynnig i blant sy’n derbyn gofal yng Nghymru. Bydd hefyd yn sicrhau bod y bobl ifanc sy’n cymryd rhan yn y cynllun peilot yn cael yr holl gymorth sydd ei angen arnynt i roi’r cyfle gorau iddynt ddilyn llwybr eu hunain. Dylai’r cynllun wneud y profiad o adael gofal fod yn rhywbeth positif, hawdd a gwell. > > > Rydym yn benderfynol o gefnogi’r rheini sy’n byw mewn tlodi, gan sicrhau eu bod yn cael cymorth ariannol digonol, fel y gall pawb yng Nghymru fyw bywyd hapus ac iach. Wrth bwysleisio pwysigrwydd y cynllun peilot i bobl sy’n gadel gofal, dywedodd Catriona Williams OBE, Cadeirydd Voices from Care Cymru: > Rydyn ni’n gwerthfawrogi bod y Gweinidog wedi treulio amser gyda phobl ifanc o bob cwr o Gymru ddydd Sadwrn, i wrando ar eu barn am y cynllun peilot. Mae’n hanfodol ein bod yn gwrando ar farn pobl ifanc a phlant sydd â phrofiad o fod mewn gofal ynghylch penderfyniadau fel hyn sy’n cael effaith uniongyrchol ar eu bywydau os ydym am weld y cynllun hwn yn llwyddo. Rydyn ni’n edrych ymlaen at gydweithio â Llywodraeth Cymru er mwyn sicrhau bod y cynllun peilot yn llwyddiannus ac yn rhoi’r canlyniadau gorau posibl i bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yng Nghymru, fel bod modd iddynt fynd o nerth i nerth. Dywedodd Grŵp Cynghori Technegol Llywodraeth Cymru ar Incwm Sylfaenol, dan gadeiryddiaeth yr Athro Syr Michael Marmot: > Mae Grŵp Cynghori Technegol Cynllun Peilot Incwm Sylfaenol Cymru eisiau datgan ein cefnogaeth i'r polisi hwn.  Er y gall fod gennym farn wahanol ar sut y gall incwm sylfaenol weithio ar raddfa ehangach, gallwn i gyd gytuno y dylid croesawu unrhyw gynllun sydd â'r nod o helpu grŵp arbennig sy’n fregus. Mae’r grŵp yn bwriadu rhoi'r cymorth sydd ei angen i Lywodraeth Cymru i wneud hyn yn llwyddiant. I gloi, gan amlinellu pwysigrwydd mesur y canlyniadau a sicrhau bod pobl sy’n gadael gofal yn cael cefnogaeth barhaus yng Nghymru, dywedodd y Gweinidog: > Mae’r cynllun peilot hwn wedi’i lunio’n benodol i alluogi cyfranogwyr i gael mwy na throsglwyddiad o’r arian sylfaenol; bydd y cymorth hefyd yn cael ei gynnig i feithrin hyder pobl ifanc i fynd eu ffordd eu hunain ar ôl gadael gofal. > > > Bydd y cymorth ychwanegol hwn yn cynnwys, er enghraifft, hyfforddiant am les ariannol a gwasanaeth i gyfeirio pobl at yr holl gymorth sy’n cael ei ddarparu gan Lywodraeth Cymru a sefydliadau eraill sy’n bartneriaid. > > > Rwy eisiau diolch i’r holl randdeiliaid, yr arbenigwyr a’r sefydliadau sy’n bartneriaid sydd wedi gwireddu hyn. Rydyn ni wedi ymrwymo i  weithredu dros bobl Cymru, gan sicrhau ein bod ni’n rhoi cymorth i’r rheini sydd fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas. > > > Mae ein cynllun peilot incwm sylfaenol yn cyflawni ein hamcanion ar gyfer pobl ifanc yng Nghymru ac yn pwysleisio’r ymrwymiad sydd gennym i fynd i’r afael â phroblem tlodi.
  The pilot will enhance the support available to young people as they leave care and assess the impact that has on them.  It will provide a test for the stated benefits of basic income, such as addressing poverty and unemployment and improving health and financial wellbeing.  All young people leaving care who turn 18 during a 12 month period, across all local authority areas, will be offered the opportunity to take part in this pilot.  The pilot will begin during the next financial year and we anticipate over 500 young people will be eligible to join the scheme. The pilot will run for a minimum of three years with each member of the cohort receiving a basic income payment of £1600 per month for a duration of 24 months from the month after their 18th birthday.  The Welsh Government involved care leavers directly in the development of the pilot as well as working with professionals in Local Authorities and have also established a Technical Advisory Group, chaired by Professor Sir Michael Marmot, bringing together experts in basic income and support for care leavers to inform the development and evaluation of the pilot. Outlining the reasoning behind the pilot, Minister for Social Justice Jane Hutt said: > Our Basic Income announcement today complements the Welsh Government’s ambition to ensure the most vulnerable in our society are supported. We know we’re in the midst of a cost of living crisis and we’re determined to continually look at how best to support individuals in Wales who live in poverty. > > > Care leavers have a right to be properly supported as they develop into independent young adults. It’s also important to note that this policy is underpinned by the United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC), emphasising our commitment to strengthening the rights of children and young people in Wales. > > > Yet, too many young people leaving care continue to face significant barriers to achieving a successful transition into adulthood. Our Basic Income pilot is an exciting project to deliver financial stability for a generation of young people that need it most. > > > The pilot will build on the existing support offered to looked after children in Wales and ensure young people who take part in this pilot get all the support they need to give them the best possible chance to make their way in life and the transition out of care better, easier and more positive. > > > We are fully committed to supporting those living in poverty, ensuring they receive adequate financial support so that everyone in Wales can live happy and healthy lives. Emphasising the importance of the pilot to care leavers, Catriona Williams OBE, Chair of Voices from Care Cymru said > We are grateful to the Minister for the time she spent with young people from across Wales on Saturday to listen to their views about the Pilot. It is critical for it to succeed that the voices of care experienced children and young people are heard on decisions like this that directly affect their lives. We look forward to working with the Welsh Government to help ensure that the Pilot is successful and delivers the best possible outcomes for care experienced young people in Wales so they can thrive. The Welsh Government’s Technical Advisory Group on Basic Income, chaired by Professor Sir Michael Marmot said: > The Technical Advisory Group for the Welsh Basic Income Pilot want to put on record our support for this policy.  Whilst we may have differing opinions on how a basic income can work on a wider scale, we can all agree that any scheme aimed at helping a particularly vulnerable group should be welcomed and intend to provide Welsh Government with the support it needs in making this a success. Finally, outlining the importance of measuring the results and ensuring the continued support for care leavers in Wales, the Minister stated: > The pilot is specifically being designed to enable participants to receive more than just a basic transfer of cash; support will also be offered that is designed to build up their confidence to negotiate the world outside of care. > > > This extra support will include, for instance, financial well\-being training and signposting to all available support provided by Welsh Government and other partner organisations. > > > I want to thank all the stakeholders, experts and partner organisations that have made this a reality. We’re committed to delivering for the people of Wales and ensuring we support the most vulnerable in our society. > > > Our basic income pilot delivers for young people leaving care in Wales and emphasises our commitment to tackling the scourge of poverty.
Translate the text from Welsh to English.
O heddiw ymlaen, bydd y pedwar plentyn yn gallu gweld eu hwynebau ar sgriniau mewn sinemâu ac ar y teledu a chlywed eu lleisiau ar y radio, wrth iddyn nhw helpu Llywodraeth Cymru i lansio ymgyrch i hyrwyddo Cynnig Gofal Plant Cymru. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru’n galluogi’r rhan fwyaf o rieni plant tri i bedwar oed i hawlio cyfraniad tuag at hyd at 30 awr yr wythnos o ofal plant ac addysg gynnar, wedi’i rannu ar draws 48 wythnos yn ystod y flwyddyn. Y pedwar plentyn disglair yw Hope Allsopp Green (4 oed o Gaerdydd), Johnny Jones (4 oed o Ynys\-y\-bwl), Pippa Warrilow (4 oed o Bentre’r Eglwys) a Henry Evans (3 oed o Gaerdydd). Yn yr ymgyrch hysbysebu, mae pob plentyn yn dweud beth fyddai’n ei brynu pe bai’n cael ychydig o arian ychwanegol bob mis. Mae’r atebion yn amrywio o ddolffin glas – i brynu Portiwgal. Matt Warrilow, o Bentre’r Eglwys, yw tad Pippa Warrilow, sy’n ymddangos yn yr hysbyseb. Roedd yn rhan o gynllun peilot Cynnig Gofal Plant Cymru. Dywedodd: > Roedden ni’n meddwl efallai byddai Pippa ychydig yn betrus am gael ei ffilmio ar gyfer hysbyseb deledu, ond ar ôl rhywfaint o ymarfer gartref, roedd hi’n iawn. Hi ddywedodd yr hoffai brynu Portiwgal gydag ychydig o arian ychwanegol bob mis, gan ein bod ni newydd fod yno ar ein gwyliau! > > > Derbyniom Gynnig Gofal Plant Cymru fel rhan o’r cynllun peilot gyda Chyngor Rhondda Cynon Taf. Roedd cyflwyno cais yn syml iawn, ac roedd yn golygu y gallai fy ngwraig ddychwelyd i’r gwaith am ddiwrnod ychwanegol yr wythnos, sy’n gwneud bywyd fymryn yn haws i ni fel teulu. > > > Cafodd Pippa fudd ohono hefyd \- aeth at warchodwr plant yn ein hardal leol, ac roedd bod ymysg y plant eraill wedi rhoi mwy o hyder iddi. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar gael yn genedlaethol erbyn hyn ac, yn ôl ffigyrau Llywodraeth Cymru, mae bron 16,000 o blant eisoes wedi’u cofrestru mewn gofal plant wedi’i ariannu wrth i rieni cymwys sy’n gweithio fanteisio ar y Cynnig. Dywedodd y Dirprwy Weinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Julie Morgan: > Rydym yn gwybod bod costau gofal plant yn peri pryder mawr i rieni sy’n gweithio. Mae ein Cynnig Gofal Plant yn lleihau’r baich ariannol ar deuluoedd ac mae’n helpu rhieni i oresgyn y rhwystrau sy’n eu hatal rhag derbyn swydd neu ddychwelyd i’r gwaith os byddant yn dymuno gwneud hynny. > > > Mae llawer o blant a’u teuluoedd eisoes wedi elwa ar y Cynnig ac rwyf eisiau gweld llawer mwy o bobl yn manteisio ar y cymorth sydd ar gael. Mae Cynnig Gofal Plant Cymru ar agor i rieni sy’n gweithio sydd â phlant tri neu bedwar oed, sy’n ennill yr Isafswm Cyflog Cenedlaethol neu’r Cyflog Byw o leiaf (am 16 awr yr wythnos) a llai na £100,000 yr un. Mae cannoedd o feithrinfeydd, gwarchodwyr plant, Cylchoedd Meithrin, cylchoedd chwarae a crèches ledled y wlad yn rhan o’r Cynnig, sy’n golygu y gall rhieni ddewis darparwr gofal plant sy’n bodloni eu hanghenion ac anghenion eu plant orau. Mae’r Cynnig ar gael ar gyfer gofal plant Saesneg, Cymraeg neu ddwyieithog. Ni all fideos YouTube gael eu dangos ------------------------------------ Nid yw JavaScript yn rhedeg yn eich porwr felly ni allwch wylio’r fideo yma. Dylech alluogi JavaScript neu ddefnyddio porwr gwahanol. Am ragor o wybodaeth, ewch i www.llyw.cymru/cynniggofalplant
From today, the four children will be able to spot their faces on cinema and television screens and hear their voices on the radio, as they help the Welsh Government to launch a campaign to promote the Childcare Offer for Wales. The Childcare Offer for Wales enables most parents of three to four\-year\-olds to claim funds towards up to 30 hours a week of childcare and early education, spread across 48 weeks of the year. The four young screen stars are Hope Allsopp Green (4 from Cardiff), Johnny Jones (4 from Ynysybwl), Pippa Warrilow (4 from Church Village) and Henry Evans (3 from Cardiff). As part of the ad campaign, they say what they would buy if they were given a bit of extra money every month. The answers range from a blue dolphin – to buying Portugal. Matt Warrilow, from Church Village, is the father of Pippa Warrilow, who stars in the ad. He was involved in the pilot scheme of the Childcare Offer for Wales. He said: > We thought Pippa would be a little bit apprehensive about being filmed for a TV ad, but we’d rehearsed a bit at home and she was fine. She was the one who said she’d like to buy Portugal if she had a bit of extra money each month as we’d just been there on holiday! > > > We received the Childcare Offer for Wales as part of the pilot scheme with Rhondda Cynon Taf Council. It was really straight\-forward to apply, and it meant that my wife could go back to work an extra day a week, making life a bit easier for us as a family. > > > Pippa also benefited as she went to a childminder in our local area and it built her confidence by being with the other children. The Childcare Offer for Wales is now available nationally and, according Welsh Government figures, almost 16,000 children are already registered in funded childcare as eligible working parents benefit from the Offer. Deputy Minister for Health and Social Services, Julie Morgan said: > We know that the cost of childcare is a major concern for working parents. Our Childcare Offer reduces the financial burden on families and is helping to remove barriers to parents either taking up or returning to work if they wish. > > > Many children and their families have already benefitted from the Offer and I want to see many more take advantage of the support available. The Childcare Offer for Wales is open to working parents of three or four\-year\-olds, who earn at least the National Minimum Wage or Living Wage (for 16 hours a week) and less than £100,000 each. Hundreds of nurseries, child minders, Cylchoedd Meithrin, playgroups and crèches across the country are on board with the Offer, meaning parents can choose a childcare provider that best meets their and their child’s needs. The Offer is available for English, Welsh or bilingual childcare. YouTube videos cannot be displayed ---------------------------------- JavaScript is not running in your browser so you cannot view this video. Enable JavaScript or try a different browser. For more information, please visit www.gov.wales/childcareoffer
Translate the text from Welsh to English.
Ers inni ddechrau derbyn cyflenwadau o frechlynnau COVID\-19 ddechrau mis Rhagfyr y llynedd, rydym wedi bod yn rhoi blaenoriaeth i sicrhau bod cymaint o bobl yn cael eu brechu cyn gynted â phosibl.  Roedd ein Cynllun Brechu yn nodi’n glir fy mwriad y dylai pawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth a nodwyd gan y Cyd\-bwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI), gael cynnig dos cyntaf o frechlyn erbyn canol mis Chwefror.  Fel y nodir yn fy natganiad ysgrifenedig ar 19 Ionawr, rydym yn gwneud cynnydd da ac mae mwy na 175,000 o bobl bellach wedi cael eu brechu. Yn ein Cynllun, dywedwyd yn glir bod gwireddu ein dyheadau’n dibynnu i raddau helaeth ar dderbyn cyflenwad teg o frechlynnau o fewn amser teg. Mae'r datganiad hwn yn egluro'r sefyllfa o ran y cyflenwad a gafwyd hyd yma, sut mae'r brechlyn yn cael ei ddosbarthu i GIG Cymru, a'r modd yr ydym yn dibynnu ar gyflenwadau o frechlynnau yn cael eu darparu i’r DU yn y dyfodol. Ddydd Gwener 15 Ionawr, cadarnhaodd Pfizer fod y broses gynhyrchu yn ei ganolfan gynhyrchu  Ewropeaidd yng Ngwlad Belg yn cael ei atal dros dro.  Bydd hyn yn arwain at lai o gyflenwadau o frechlynnau i Ewrop a'r DU rhwng nawr a mis Mawrth.  Yn ystod yr wythnos ddiwethaf rydym hefyd wedi gweld oedi cyn rhyddhau llwyth disgwyliedig o frechlyn AstraZeneca, a hynny’n lleihau'r cyflenwadau a ragwelwyd ar gyfer Cymru ac yn achosi oedi yn ein cynlluniau i ehangu ein rhaglen frechu yn sylweddol drwy harneisio arbenigedd meddygon teulu, nyrsys a fferyllwyr ym maes gofal sylfaenol.  Mae'r gadwyn cyflenwi brechlynnau yn gymhleth ac mae ein cynlluniau'n cael eu haddasu'n gyson yn sgil newidiadau i faint cyflenwadau ac amserlenni cyflenwi – pob un ohonynt â’r potensial i effeithio ar gyflawni'r cerrig milltir yn ein Strategaeth. Ers 7 Ionawr, mae 138,300 dos o frechlyn AstraZeneca wedi’u cyflenwi i Gymru a’u dosbarthu’n uniongyrchol i ganolfannau brechu, ysbytai a meddygfeydd i'w defnyddio ar unwaith.  Rwy'n gwybod bod llawer o feddygon, nyrsys, fferyllwyr a gweithwyr gofal sylfaenol proffesiynol eraill yn dal yn awyddus i gyfrannu at y rhaglen. Rwy’n hyderus y byddant i gyd yn chwarae rhan allweddol wrth i gyflenwadau o frechlyn AstraZeneca gynyddu. Mae brechlyn Pfizer BioNTech wedi achosi heriau logistaidd gwahanol iawn.  Mae gan Gymru arbenigedd mewn storio a dosbarthu cynhyrchion y mae angen eu trin ar dymheredd isel iawn. Yn wahanol i rannau eraill o'r DU, rydym yn dal ac yn rheoli ein cyfran o'r brechlyn a ddarperir i'r DU yng nghyfleusterau arbenigol y GIG yma yng Nghymru. Pan gaiff ei ddosbarthu i ganolfannau brechu, rhaid defnyddio'r holl frechlyn o fewn 5 diwrnod.  Rhaid gwaredu unrhyw frechlyn nad yw'n cael ei ddefnyddio erbyn hynny.  Rhaid inni wneud pob ymdrech i sicrhau na chaiff dos ei wastraffu. Dyna pam mae’r byrddau iechyd yn cael brechlynnau mewn niferoedd sy’n cyfateb i gapasiti eu canolfannau brechu a nifer yr apwyntiadau sydd wedi’u trefnu. Roedd fy natganiad ysgrifenedig ar 19 Ionawr yn amlinellu’r model cyfunol sydd ar waith.  Ei nod yw: * darparu cymysgedd o safleoedd er mwyn cwblhau'r broses o gyflenwi brechlynnau mor gyflym â phosibl; * sicrhau diogelwch; * diwallu anghenion y brechlyn yn unol â’i nodweddion; * bod mewn lleoliad sydd mor gyfleus â phosibl, ac * yn hollbwysig, gwneud yn siŵr bod pob rhan o’r wlad a phob cymuned yn cael cyfle cyfartal i gael y brechlyn. Mae nifer a chapasiti’r canolfannau brechu yng Nghymru yn cynyddu ac mae cyflenwadau'n cael eu cynyddu yn unol â hynny. Bellach mae gennym y gallu i weinyddu dros 60,000 dos o frechlyn Pfizer BioNTech bob wythnos . O'r wythnos sy'n dechrau ar 8 Chwefror, mae ein cynlluniau'n dibynnu ar gyflenwad pellach o'r brechlyn yn cyrraedd y DU. Mae cyflwyno brechlyn Pfizer BioNTech wedi bod yn her na welwyd ei thebyg o'r blaen ond yn un y mae'r GIG wedi'i goresgyn yn rhagorol. Nid yn unig y mae gan y brechlyn ofynion storio a chludo unigryw; mae'r broses o’i ddanfon wedi bod yn ysbeidiol; ni chyrhaeddodd y cyflenwad diweddaraf o dros 90,000 dos tan 23 Rhagfyr, a hyd at 31 Rhagfyr, roedd yr Asiantaeth Rheoleiddio Meddyginiaethau a Chynhyrchion Gofal Iechyd (MHRA) yn gosod amod, wrth awdurdodi, y dylai 50% o'r dosau a dderbyniwyd gael eu cadw wrth gefn.  Roedd hyn er mwyn sicrhau bod ail ddos ar gael i bawb a frechwyd. Er ein bod bellach yn rhoi blaenoriaeth i roi dos cyntaf i bobl, mae'r rhai sydd wedi’u brechu eisoes yn disgwyl, yn hollol deg, inni gymryd camau i sicrhau bod cyflenwadau ar gael ar gyfer eu hail ddos.  Mae nifer sylweddol o ail ddosau wedi'u trefnu ar gyfer yr wythnos sy'n dechrau ar 22 Chwefror. Ers dechrau mis Ionawr, rydym wedi addasu ein cynlluniau i gyd\-fynd â safbwynt diwygiedig yr MHRA ac mae hynny wedi ein galluogi i roi cymaint a phosibl o ddosau cyntaf i bobl yn y grwpiau blaenoriaeth.  Erbyn diwedd yr wythnos hon, bydd holl gyflenwad AstraZeneca, dros 60% o'r brechlyn Pfizer BioNTech a dderbyniwyd eisoes, a thri chwarter yr holl ddosau o frechlynnau y mae Cymru wedi’u derbyn, wedi’u rhoi i ganolfannau brechu, ysbytai a meddygon teulu.  Mae ein cynlluniau i frechu grwpiau blaenoriaeth yn parhau ar y trywydd iawn; ond fel y dywedais, maent ac fe fyddant yn parhau i ddibynnu ar sicrwydd y cyflenwad o frechlynnau.
Since we took first delivery of COVID\-19 vaccine supplies at the start of December last year, our priority has been the need to ensure as many people are vaccinated as quickly as possible.  Our Vaccination Plan made clear my intention to see all those in the four priority groups identified by the Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI), offered a first dose of vaccine by mid\-February.  As set out in my written statement of 19 January, we are making good progress and over 175,000 people have now been vaccinated. In the Plan, we were clear; achieving our aspirations depends largely on the supply of vaccines in fair volumes and in fair time.  This statement clarifies the position on supply received to date, how the vaccine is being distributed to NHS Wales and the dependency we have on future vaccine being supplied to the UK. On Friday 15 January, Pfizer confirmed production at its European manufacturing plant in Belgium was being suspended temporarily.  This will result in reduced vaccine supplies to Europe and the UK between now and March.  In the last week we have also seen a delay to the release of an expected batch of AstraZeneca’s vaccine, reducing anticipated supplies to Wales and delaying our plans to substantially expand our vaccination programme by harnessing the expertise of GPs, nurses and pharmacists in primary care.  The vaccine supply chain is complex and our plans are adapting constantly to changes to delivery volumes and schedules, all of which have the potential to impact on achieving the milestones in our Strategy. Since 7 January, 138,300 doses of the AstraZeneca vaccine have been made available to Wales and delivered directly to vaccination centres, hospitals, and GPs for immediate use.  I know many doctors, nurses, pharmacists and other primary care professionals remain eager to contribute to the programme. I am confident they will all play a key role as supplies of the AstraZeneca vaccine increase. The Pfizer BioNTech vaccine has posed very different logistic challenges.  Wales has expertise in the storage and distribution of products requiring handling at ultra\-low temperatures.  Unlike other parts of the UK, we are holding and managing our share of vaccine delivered to the UK, at specialist NHS facilities here in Wales.  When distributed to vaccination centres all vaccine must be used within 5 days.  Any vaccine not used by this time must be discarded.  We must make every effort to ensure no dose is wasted.  This is why health boards are supplied vaccine in quantities to meet their vaccination centre capacity and the number of booked appointments.  I set out in my written statement of 19 January the blended delivery model in place.  This is aimed at: * providing a mix of sites in order to maximise speed of roll out; * ensuring safety, * meeting the needs of the characteristics of the vaccines, * being as conveniently located as possible and, * importantly, making sure we give equitable access across the country and to all communities. The number and the capacity of vaccination centres in Wales is increasing and supplies are being increased in response.  We now have capacity to administer over 60,000 doses of Pfizer BioNTech vaccine every week.  From the week commencing 8 February our plans rely on further supply of the vaccine coming into the UK. The roll out of the Pfizer BioNTech vaccine has been an unprecedented challenge but one the NHS has overcome admirably.  It is not only that the vaccine has unique storage and transport requirements; deliveries have been periodic, the most recent delivery of over 90,000 doses arriving only on 23 December, and until 31 December, the Medicines and Healthcare products Regulatory Agency (MHRA) made it a condition of authorisation that 50% of doses received were kept in reserve.  This was to ensure second doses were available for everyone vaccinated.   Whilst we are now prioritising first doses, those vaccinated already, rightly expect us to take steps to ensure supplies are available for their second doses.  Significant numbers of second doses are scheduled for week commencing 22 February. Since the beginning of January, our plans have adapted to the MHRA’s revised position allowing us to maximise first dose coverage amongst priority groups.  By the end of this week, all AstraZeneca supply, over 60% of the Pfizer BioNTech vaccine received already, and three quarters of the total vaccine doses supplied to Wales, will have been deployed to vaccination centres, hospitals and GPs.  Our plans to vaccinate priority groups remain on track; but as I have said they are and will remain dependent on security of vaccine supply.
Translate the text from English to Welsh.
Minister for Welsh Language and Lifelong Learning Eluned Morgan today announced the publication of the first progress report on the delivery of the plan, which was published in March this year. The report showcases key achievements so far, highlights ongoing work and sets out developments planned for the future. The publication follows the Minister’s visit to the Princess of Wales Hospital in Bridgend to launch Project Search. The project is an excellent example of the individualised approach to overcoming barriers to employment advocated by the Employability Plan. Run by Abertawe Bro Morgannwg University Health Board, Bridgend College and *Elite Supported Employment Agency*, the project helps young people with additional learning needs or disabilities into work by providing them with supported internships with the aim of them securing paid employment, either with the employer or on the open jobs market, at the end of the placement. The Minister met Olivia and Bradley, two of the ten interns taking part in the project, as they started work across various departments in the hospital and the mentors who will be supporting them. Following the visit the Minister said: > “Our Employability Plan recognises that different people experience different barriers which prevent them entering work. For people with additional learning needs or disabilities, schemes like Project Search which give them the opportunity to show what they can do, maybe with some support to begin with, are vital. > > > “It was great to meet Bradley and Olivia as they start on their employment journeys and to hear about their hopes for their future careers. I am proud that our Employability Plan is ensuring the right support is in place for them, and others, to overcome the barriers to employment they face.” Announcing the publication of the report, she said: > > “I am pleased to announce today the publication of our first progress report on the delivery of our Employability Plan. The report sets out highlights over the past six months, showcasing our key achievements so far, as well as giving a flavour of work ongoing and future developments to come. > > > > > > “We are just six months into a ten year plan but we have made a promising start – working to better understand existing barriers and the actions needed to deliver real change and setting in motion a far\-reaching new approach to improving employability across Wales.”
Heddiw, bu Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes, Eluned Morgan, yn trafod adroddiad cynnydd cyntaf y Cynllun Cyflogadwyedd. Mae’r adroddiad yn nodi llwyddiannau pwysig y Cynllun ers ei lansio ym mis Mawrth eleni. Mae hefyd yn rhoi sylw i’r gwaith sy’n mynd rhagddo ar hyn o bryd a’r hyn sy’n cael ei baratoi ar gyfer y dyfodol. Daw cyhoeddiad yr adroddiad yn sgil ymweliad y Gweinidog ag Ysbyty Tywysog Cymru ym Mhen\-y\-bont ar Ogwr i lansio ‘Project Search’. Mae’r prosiect hwn yn enghraifft wych o helpu unigolion i oresgyn yr hyn sy’n eu hatal rhag dod o hyd i gyflogaeth, yn union fel y mae’r Cynllun Cyflogadwyedd yn ei awgrymu. Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg, Coleg Pen\-y\-bont a chwmni ‘*Elite Supported Employment Agency*’ sy’n cynnal y prosiect, a’r nod yw helpu pobl ifanc sydd ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau i ddod o hyd i waith drwy roi interniaethau a chefnogaeth iddynt. Y gobaith yw y bydd hyn yn eu helpu i gael cyflogaeth hirdymor – naill ai gyda’r sefydliad lle buon nhw’n intern, neu ar y farchnad swyddi agored. Bu’r Gweinidog yn cwrdd ag Olivia a Bradley, dau o’r deg intern sy’n cymryd rhan yn y prosiect, wrth iddynt ddechrau ar eu gwaith mewn gwahanol adrannau yn yr ysbyty, ynghyd â’r mentoriaid a fydd yn eu cynorthwyo. Ar ôl yr ymweliad dywedodd y Gweinidog: > “Mae ein cynllun cyflogadwyedd yn cydnabod bod gwahanol bobl yn wynebu gwahanol rwystrau o ran dod o hyd i waith.  I bobl ag anghenion dysgu ychwanegol neu anableddau, mae cynlluniau fel ‘Project Search’ yn hanfodol – mae’n rhoi iddynt gyfle i ddangos beth gallant ei wneud, gydag ychydig o gefnogaeth i ddechrau, efallai. > > “Braf iawn oedd cwrdd â Bradley ac Olivia wrth iddynt ddechrau ar eu cyflogaeth a chael clywed eu gobeithion ar gyfer eu gyrfaoedd. Rwy’n falch iawn fod ein Cynllun Cyflogadwyedd yn sicrhau bod cefnogaeth ar gael i Bradley, Olivia ac eraill i’w helpu i oresgyn rhwystrau o ran cyflogaeth.” Dywedodd: > > “Rwy’n falch o ddweud bod yr adroddiad cynnydd cyntaf ar gyflawniad ein Cynllun Cyflogadwyedd wedi’i gyhoeddi. Mae’r adroddiad yn nodi llwyddiannau’r cynllun dros y chwe mis diwethaf ac yn rhoi sylw i’r gwaith sy’n digwydd ar hyn o bryd, ynghyd â’r hyn sydd i ddod. > > > > “Dim ond chwe mis o gynllun deng mlynedd sydd wedi mynd heibio, ond rydym wedi gwneud dechrau addawol – rydym yn gweithio i gael dealltwriaeth well o’r rhwystrau sy’n bodoli a’r hyn sydd angen ei wneud i sicrhau newid gwirioneddol ac ysgogi ymagwedd newydd, un arloesol a phellgyrhaeddol, tuag at wella cyflogadwyedd ledled Cymru.”
Translate the text from English to Welsh.
    Following my Written Statement of 13 January concerning the Basic Payment Scheme (BPS), we have now processed more than 90% of BPS part payments to our farm businesses.  I expect all but the most complex claims to be paid by the end of this month.  The final instalments (of approximately 20%) will be made in April in line with our published target. If an eligible farm business has not received their BPS part payment by the end of this month, they will receive a personalised letter in early April explaining why they have not been paid, and detailing any outstanding issues.  Reasons could include: cross border cases with commons or inspections in England, and outstanding Grant of Probate.  Once processing is complete these post\-March cases will receive a single full payment. I am pleased to announce the 2016 Single Application Form (SAF), and transfer and lease of entitlements facility, are now available on RPW Online. The online service has again been improved to make it easier and quicker for farm businesses to make their claims.  It has the benefit of built \-in validation checks during the completion of the SAF with warnings and failure messages given as appropriate as entries are made, as well as access to farm maps, and the ability to make changes to the map which links to the field data in the application.  The deadline to submit a SAF is 16 May 2016\.  This year the SAF is available online only.  If farm businesses have any queries or need help they should contact the Customer Contact Centre (Tel: 0300 062 5004\).  Farmers who are unable to access online services independently can arrange a digital assistance meeting at Welsh Government regional office to complete their SAF.  These meetings can be arranged by calling the Customer Contact Centre. This should be done by 15 March to guarantee an appointment. I am pleased to announce that I have asked RPW to implement a new optional provision, introduced by the European Commission for this year, whereby they will carry out preliminary checks to help farm businesses avoid over declaration penalties, where differences have been found between their claim and our mapping.  RPW will write to farmers with mismatches by 13 June 2016 and farm businesses will have until 21 June 2016 to respond if they wish to alter their claim.   Where we have received appeals against area deductions of SAF 2015 these are progressing, although RPW are prioritising the processing of part\-payments in the first instance.  We aim to complete the majority of appeals we have received by the end of February by the end of this month (31st March) and the rest within the SAF 2016 submission period.   I would like to take this opportunity to once more thank everyone, including the Farmers Union of Wales, National Farmers Union Cymru, Country Land and Business Association Cymru, agents and others, who have worked with us to develop and implement BPS and the online service.      
Yn dilyn fy Natganiad Ysgrifenedig ar 13 Ionawr ynghylch Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS), rydym bellach wedi prosesu dros 90% o’r rhandaliadau BPS ar gyfer ein busnesau fferm.  Rwy’n rhagweld y bydd pawb, heblaw’r achosion mwyaf cymhleth, wedi’u talu erbyn diwedd y mis hwn.  Caiff y rhandaliad olaf (oddeutu 20%) ei dalu ym mis Ebrill yn unol â’n targed. Os na fydd busnes fferm cymwys wedi cael ei randaliad BPS erbyn diwedd y mis, byddwn yn anfon llythyr ato ddechrau mis Ebrill i esbonio pam nad ydyw wedi cael ei dalu gan gynnwys manylion unrhyw broblemau sydd angen eu datrys.  Gallai’r rhesymau am hyn gynnwys achosion â thir dros y ffin gyda thir comin neu archwiliadau yn Lloegr neu Grant Profiant hwyr.  Pan fyddwn wedi’u prosesu, bydd achosion ôl\-Mawrth yn cael eu talu fel un taliad llawn. Mae’n dda gen i gyhoeddi bod Ffurflen Cais Sengl (SAF) 2016 a ffurflen trosglwyddo a lesio hawliau ar gael bellach ar RPW Ar\-lein.  Rydym wedi gwella mwy hyd yn oed ar y gwasanaeth ar\-lein fel ei bod hi’n haws ac yn gynt i fusnesau fferm allu hawlio taliad.  Mae system ddilysu fewnol ynddo sy’n rhoi rhybudd i ffermwyr sy’n gwneud gwallau wrth lenwi’r SAF ynghyd â’r gallu i gael at fapiau caeau gyda theclyn i newid y mapiau hyn sy’n gysylltiedig â’r data caeau ar y cais.  Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno’r SAF yw 16 Mai 2016\.  Eleni, dim ond ar\-lein y mae’r SAF ar gael.  Os oes gan fusnes fferm gwestiwn neu os oes angen help arno, dylai ffonio’r Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid \- 0300 062 5004\.  Os nad yw’r ffermwr yn gallu cysylltu â’r gwasanaeth ar\-lein, gallan nhw drefnu i gael cymorth i lenwi’r SAF gan un o Swyddfeydd Rhanbarthol Llywodraeth Cymru.  Ffoniwch y Ganolfan Gyswllt i Gwsmeriaid erbyn 15 Mawrth er mwyn cael bod yn siŵr o gyfarfod. Mae’n dda gen i gyhoeddi hefyd fy mod wedi gofyn i’r RPW gynnig darpariaeth opsiynol newydd a gyflwynwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd ar gyfer eleni, sef cynnal archwiliadau cychwynnol i helpu busnesau fferm i osgoi cosbau am orddatgan trwy chwilio am anghysonderau rhwng yr hawliad a’r wybodaeth ar ein mapiau.  Bydd yr RPW yn ysgrifennu at ffermwyr sydd ag anghysonderau erbyn 13 Mehefin 2016 a bydd gan fusnesau fferm tan 21 Mehefin 2016 i ymateb os ydyn nhw am newid eu hawliad. Rydym wrthi’n delio ag apeliadau yn erbyn penderfyniadau i leihau arwynebeddau yn SAF 2015, er, ar hyn o bryd, mae RPW yn rhoi blaenoriaeth i brosesu rhandaliadau.  Ein nod yw delio â mwyafrif yr apeliadau a ddaeth i law cyn diwedd mis Chwefror erbyn diwedd y mis hwn (31 Mawrth) a’r gweddill erbyn diwedd cyfnod hawlio SAF 2016\. Unwaith eto, hoffwn ddiolch i bawb, gan gynnwys Undeb Ffermwyr Cymru, Undeb Cenedlaethol Amaethwyr Cymru, Cymdeithas Tir a Busnesau Cefn Gwlad, asiantwyr ac eraill sydd wedi gweithio â ni i ddatblygu’r BPS a’r gwasanaethau ar\-lein ac i’w rhoi ar waith.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd yr arian ychwanegol yn cael ei roi i'r Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith sy'n anelu at roi mynediad di\-dâl cyflym i bobl sydd â chyflyrau iechyd meddwl neu gorfforol at therapi galwedigaethol er mwyn helpu iddynt aros mewn gwaith. Bydd y cyllid yn galluogi'r rhaglen bresennol \- sy'n cael ei darparu gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg yn Ne Cymru ac RCS yng Ngogledd Cymru \-i gael ei hymestyn tan Ragfyr 2022\. Mae'r Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith yn llenwi bwlch yn y farchnad a sylwyd arno gan sefydliadau partner gan gynnwys Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru a'r Ffederasiwn Busnesau Bach, ac sy'n darparu ymyraethau therapiwtig cyflym sy'n helpu gweithwyr sydd ar absenoldeb salwch hirdymor neu mewn perygl o fod.   Gan gefnogi pobl sydd â phroblemau iechyd i aros mewn gwaith a helpu gweithwyr BBaChau i reoli effaith absenoldeb salwch ar fusnesau, mae'r rhaglen yn cyd\-fynd â chynllun Llewyrch i Bawb Llywodraeth Cymru yn ogystal â'i Chynllun Gweithredu Economaidd, y Cynllun Cyflogadwyedd a'i strategaeth Iechyd \- Cymru Iachach. Cyhoeddodd Ysgrifennydd yr Economi y cyllid ychwanegol mewn digwyddiad dathlu ar gyfer RCS, sefydliad di\-elw sy'n anelu at helpu pobl i gyflawni eu potensial drwy eu gwaith. Meddai:  > "Amcangyfrifir bod y gost i'r economi yng Nghymru o salwch sy'n gysylltiedig â gwaith yn £500 miliwn y flwyddyn ac fe wyddom fod cyflogwyr BBaChau a'u gweithwyr yn dioddef yn llawer gwaeth o ganlyniad i absenoldeb salwch yn y gwaith. Dyma un o'r rhesymau pam fod ein Contract Economaidd newydd yn annog busnesau i hyrwyddo iechyd da yn y gweithle. > > "I gefnogi'r uchelgais hwn ymhellach, dwi'n falch o gyhoeddi £9\.4 miliwn yn ychwanegol ar gyfer y Rhaglen Cymorth mewn Gwaith. Dwi'n gobeithio y bydd yn helpu i atal pobl sydd â chyflyrau iechyd cyffredin rhag colli gwaith, a bydd hefyd yn annog busnesau i greu lleoedd gweithio iachach." Bydd y cyllid ychwanegol, sy'n cynnwys £7\.2 miliwn o gyllid yr UE a £2\.2 miliwn o gyllid Llywodraeth Cymru, yn ehangu y gwasanaeth i gefnogi hyd at 12,000 o bobl ac oddeutu 2\.500 o fusnesau yn sylweddol er mwyn creu gweithle iach.  Bydd y gwasanaeth yn cael ei hehangu i gynnwys mwy o weithwyr mewn ardaloedd gwledig, a bydd yn cynyddu'r cysylltiad gyda rhwydweithiau busnesau llai a gwasanaethau iechyd lleol. Meddai yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: > "Mae'r prosiect hwn yn cyfuno gweithwyr iechyd proffesiynol, cymorth sgiliau a busnes yn un gwasanaeth sy'n helpu pobl i aros mewn gwaith drwy ymyraethau uniongyrchol sy'n canolbwyntio ar y gweithle.   > > Mae'n dangos y posibiliadau pwerus o weithio'n effeithiol ar draws llywodraeth i gynnig gweithredu positif ar gyfer pobl fregus mewn dull syml ac effeithiol." Meddai Cyfarwyddwr Gweithredol RCS, Alison Thomas: > "Mae'r Gwasanaeth Cymorth mewn Gwaith yn rhoi cymorth hollbwysig sy'n helpu i gadw gweithwyr mewn gwaith wrth iddynt wynebu heriau i'w hiechyd, gan ddod â manteision enfawr i bobl cyflogedig a hunan\-gyflogedig ac i'r gymuned fusnes yng ngogledd Cymru yn gyffredinol.   > > Rydyn ni'n falch iawn o'r newyddion fod y gwasanaeth yn cael ei ymestyn hyd at Ragfyr 2022, fydd yn rhoi'r cyfle inni barhau â'n gwaith o gefnogi gweithwyr a pherchnogion busnes i greu gweithleoedd iach, positif a chynhyrchiol."
The additional money will be directed to the In Work Support Service which aims to give people with mental or physical health conditions free and rapid access to occupational therapy in order to help them remain in employment. The injection of funding will enable the existing programme \- which is delivered by Abertawe Bro Morgannwg University Health Board (ABMU) in South Wales and RCS in North Wales \- to be extended until December 2022\. The In Work Support Service fills a gap in the market that was identified by partner organisations including General Practitioner Committee Wales and the Federation of Small Businesses, and provides rapid therapeutic interventions which help employees on or at risk of long\-term sickness absence.   In supporting people with health problems to stay in work and in helping SME employers to manage the business impact of sickness absence, the programme aligns with the Welsh Government’s Prosperity for All plan as well as its Economic Action Plan, Employability Plan and its Health strategy \- A Healthier Wales. The Economy Secretary announced the additional funding at a celebration event for Rhyl City Strategy (RCS), a not\-for\-profit organisation that aims to help people fulfil their potential through work. He said: > “The cost to the Welsh economy of work\-related ill health is estimated at £500m per annum and we know that SME employers and their employees are disproportionately affected by sick absence at work. That is one of the reasons why our new Economic Contract encourages businesses to promote good health in the workplace. > > > “To further support this ambition I am pleased to announce an additional £9\.4m for the In Work Support Programme. I hope this will help to prevent people with common health conditions from falling out of work, and  will also encourage businesses to build healthier work places.” The additional funding, which is made of £7\.2m of EU funding and £2\.2m of Welsh Government funding, will significantly expand the service to support up to 12,000 people and some 2,500 businesses to build a healthy workplace. The service will be widened to encompass more employees in rural areas and will look to increase engagement with small business networks and local health services. Health Secretary Vaughan Gething said: > “This project brings together health professionals, skills and business support into a single service that helps people to remain in employment through direct workplace focused interventions.   > > > It demonstrates the powerful potential of effective cross\-government working to deliver positive action for vulnerable people in a joined\-up and efficient way.” RCS’s Operational Director, Alison Thomas, said: > “The In Work Support Service provides vital support to help keep employees in work in the face of individual health challenges, bringing enormous benefits both for employed and self\-employed people and for the North Wales business community as a whole.   > > > We are delighted at the news of the service extension to December 2022, which will allow us to continue our work in supporting employees and business owners to create healthy, positive and productive workplaces.” Paul Dunning, Professional Head of Staff Health and Wellbeing at ABMU Health Board said: > “ABMU welcome the continued funding of the service which will enable the team to support the physical and mental health of the working population and support Welsh Government’s aspirations to look after the wellbeing of employees within the workplace.”
Translate the text from Welsh to English.
Ar 4 Gorffennaf 2023 gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Ymateb y Llywodraeth i’r ymgynghoriad ‘Datblygu Cynllun Masnachu Allyriadau’r DU’ (dolen allanol).
On 4 July 2023 an oral statement was made in the Senedd: Government Response to the ‘Developing the UK Emissions Trading Scheme’ Consultation (external link).
Translate the text from Welsh to English.
Ar 14 Ionawr 2014 cyhoeddais benderfyniadau ynghylch cyflwyno prif elfennau Colofn 1 y Polisi Amaethyddol Cyffredin o fis Ionawr 2015 ymlaen. Roedd fy natganiad yn gam pwysig ar y ffordd i roi’r diwygiadau i’r PAC ar waith yng Nghymru a chafodd ei wneud yn dilyn ymgynghori helaeth a thrafodaethau hir am y fframwaith rheoleiddio a'r gyllideb. Roedd angen penderfynu ar fanylion pwysig o hyd sut y byddai'r Cynllun Taliadau newydd yn gweithio.  Mae fy natganiad heddiw yn amlinellu manylion sut y bydd y cynllun Colofn 1 diwygiedig yn gweithredu o ran hawliau talu, y diffiniad o ffermwr actif, y taliad gwyrddu a'r cynllun ffermwyr ifanc. Mae'r rhain yn faterion manwl, felly er eglurdeb cânt eu rhestru a'u disgrifio yn yr atodiad amgaeedig yn y drefn y maent yn ymddangos yn y Rheoliad Taliadau Uniongyrchol (Rheoliad yr UE Rhif 1307/2013\)  Caiff hawliau newydd eu dyrannu yn 2015\. Defnyddir gwerth yr hawliau a gafwyd yn 2014 fel sylfaen ar gyfer cyfri’r gyfradd fesul hawl ar gyfer 2015; ond efallai y bydd yn llai neu’n fwy na’r taliadau a gafodd hawlwyr yn 2014\. Gallaf gadarnhau y byddan nhw ar gael i unigolion all ddangos eu bod wedi cynhyrchu cynhyrchion amaethyddol yn 2013, p'un a wnaethant hawlio Cynllun y Taliad Sengl (SPS) y flwyddyn honno ai peidio. Bydd hyn yn rhoi cyfle i unrhyw unigolion sy'n ffermio ar hyn o bryd heb hawliau fod yn gymwys ar gyfer y dyraniad cyntaf o hawliau newydd yn 2015 os nad ydynt wedi hawlio cymorth Colofn 1 yn y gorffennol. Er mwyn cadw pethau'n syml, ac i beidio â rhoi unrhyw hawlwyr nad ydynt wedi cael hawliau SPS yn y gorffennol dan anfantais, rwyf wedi penderfynu peidio â gosod unrhyw feini prawf ychwanegol mewn perthynas â sgiliau, profiad nac addysg hawlwyr i fod yn gymwys am hawliau newydd. Rwyf am sicrhau tegwch rhwng y rheini sydd eisoes â hawliau a'r rheini sydd hebddynt, ac nid wyf yn mynd i godi rhwystrau i hawlwyr newydd, y mae nifer ohonynt ymhlith y bobl mwyaf blaengar a mentrus yn y byd amaeth sydd wedi llwyddo i ddechrau a datblygu busnes fferm heb gymorth Colofn 1\. Er mwyn cadw pethau'n syml, ni fyddaf yn dewis yr opsiwn sy’n mynnu bod yr hawliwr yn dychwelyd unrhyw elw y mae’n ei gael o werthu, rhoi neu lesio hawliau rhwng nawr a 15 Mai 2015, i'r Gronfa Genedlaethol. Bydd y cynllun newydd yn cynnwys sefydlu cronfa ar gyfer pob un o'r tri rhanbarth tir a ddefnyddir ar gyfer y taliadau. Mae hynny’n golygu y bydd tair 'Cronfa Ranbarthol' yng Nghymru nid 'Cronfa Genedlaethol'. Rwy'n croesawu'r ffaith bod y rheoliadau yn rhoi blaenoriaeth i neilltuo hawliau o’r gronfa i ffermwyr ifanc a newydd\-ddyfodiaid. Fel arall ymdrinnir â cheisiadau am hawliau o'r gronfa ar sail y cyntaf i'r felin. Rwyf hefyd wedi penderfynu, am y rhesymau a nodir eisoes, peidio â gosod meini prawf ychwanegol ar gyfer newydd\-ddyfodiaid sy'n gwneud cais am hawliau o'r gronfa.  Mae llawer o drafodaethau wedi bod yn y diwydiant ynghylch y diffiniad o 'Ffermwr Actif' ac rwy'n rhannu'r awydd mai dim ond pobl sy'n gweithio’r tir ddylai gael taliadau. Nid yw'r fframwaith rheoleiddio yn mynd i'r afael â'r broblem mewn modd cynhwysfawr, ac ychydig yn unig y gallaf ei wneud yn hyn o beth. Er hynny, rwyf wedi penderfynu diffinio 'gweithgarwch amaethyddol' mewn ffordd sy'n gosod safonau uchel i annog hawlwyr i naill ai weithio’r tir eu hunain neu rentu'r tir i rywun a fyddai'n ei weithio a hawlio taliadau’r PAC. Pan gaiff hawliau eu dyrannu, a bod mwy nag un person am hawlio taliadau ar yr un parsel o dir, bydd Taliadau Gwledig Cymru yn mynnu mai'r person all brofi mai ef sy'n cynnal y gweithgarwch amaethyddol ac sy’n defnyddio'r tir fydd yn cael yr hawliau. Nid wyf yn ychwanegu at y rhestr negyddol, mae'n ddigonol ar gyfer Cymru. Ym mis Ionawr, cyhoeddais y prif benderfyniadau ynghylch y taliadau gwyrddu, a phenderfyniadau ynghylch yr ardaloedd â ffocws ecolegol yw trwch y gwaith sy’n weddill. Yng Nghymru, bydd hawlwyr yn cael cynnwys gwyndwn, perthi/gwrychoedd, waliau cerrig, coedlannau cylchdro byr, coedwigoedd a thir a ddefnyddir ar gyfer cnydau bachu nitrogen. Bydd y rhan fwyaf o ffermydd Cymru yn gymwys am y cynllun gwyrddu am eu bod yn dir pori parhaol, ond i'r rheini nad ydynt yn gymwys, bwriad yr opsiwn Ardaloedd â Ffocws Ecolegol (EFAs) yw cynnig hyblygrwydd yn ogystal â hyrwyddo defnyddio tir mewn ffordd sy'n sicrhau manteision amgylcheddol. Fodd bynnag, rwyf wedi penderfynu peidio â defnyddio opsiynau rheoleiddio i gydio EFAs \- mae cymhlethdod gweinyddol a'r risgiau cydymffurfio yn drech na'r manteision. Rwy'n cydnabod bod gwerth i fesurau rheoli ar sail tirwedd er mwyn gwella'r amgylchedd ond maent yn fwy priodol i Golofn 2\.  Fy nod yw sicrhau bod y trefniadau ar gyfer y cynllun ffermwyr ifanc mor syml â phosib. Drwy gydol y trafodaethau am ddiwygio, gofynnais am gymorth i helpu newydd\-ddyfodiaid. Er mwyn gwneud defnydd da o arian cyhoeddus, rwy'n defnyddio'r dull mwyaf cyfyngedig posibl o weithredu'r cynllun. Fy mwriad yw defnyddio Colofn 2 yn hytrach i roi cymorth ystyrlon i ffermwyr ifanc a newydd\-ddyfodiaid sy’n targedu angen a'r canlyniad tebygol. I fanylu, ni fyddaf yn gosod meini prawf ychwanegol \- caiff pob person cymwys ei drin yn yr un modd gan mai hynny sydd decaf. Bydd taliadau yn seiliedig ar y nifer o hectarau cymwys sydd gan yr hawliwr, hyd at uchafswm o 25 o hectarau.  Gydol y broses, mae tryloywder yn ac wedi bod yn bwysig iawn i mi.  Mae’n briodol bod trethdalwyr yn deall ac yn cael gweld yr wybodaeth am daliadau’r PAC sy’n cael eu gwneud ar eu rhan.  Byddaf felly yn cyhoeddi’r wybodaeth hon ar wefan Llywodraeth Cymru.  Mae hyn yn ychwanegol at fy ymrwymiadau o dan gyfraith yr UE i gyhoeddi gwybodaeth ar wefan Taliadau PAC y DU. Mae'r penderfyniadau rwy'n eu gwneud heddiw yn cwblhau'r penderfyniadau polisi y mae'n rhaid i mi eu gwneud ar gyfer Colofn 1 y PAC. Maent yn dilyn egwyddor y penderfyniadau a wnaed ym mis Ionawr i roi'r sylfaen orau posibl i ddiwydiant ffermio Cymru ar gyfer y dyfodol. Pan fo'n bosibl rwyf wedi ceisio sicrhau symlrwydd ac rwyf wedi trin ffermwyr yn gyfartal p'un a ydynt yn newydd\-ddyfodiaid neu’n ffermwyr sydd ag hawliau ar hyn o bryd, neu p'un a oes ganddynt fusnes fferm mawr neu fach. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn ysgrifennu at hawlwyr ym mis Gorffennaf yn egluro'r materion hyn i gyd. ### Dogfennau * #### Tabl Penderfyniadau Diwygio Colofn 1 y PAC, math o ffeil: doc, maint ffeil: 69 KB 69 KB
On 14 January 2014 I announced decisions for the main elements of Pillar 1 of the Common Agricultural Policy to be introduced from January 2015\.  My statement was a significant step on the road to CAP reform in Wales and was made after extensive consultation and lengthy negotiations about the regulatory framework and budget.  There remained important details to decide about how the new Payment Scheme will work.   My statement today is about the detail of how the reformed Pillar 1 scheme will operate for payment entitlements, the active farmer definition, greening and the young farmer scheme.  These are detailed matters, so for clarity they are listed and described in the attached annex in the order in which they arise in the Direct Payment Regulation (EU Regulation No 1307/2013\).   New entitlements will be allocated in 2015\.   The value of entitlements held in 2014 will be used as a basis for calculating the entitlement unit rate for 2015; although this may not necessarily be the same as the payments claimants received in 2014\.  I confirm that these will be available to persons who can evidence that they produced agricultural products in 2013 irrespective of whether they made a SPS claim that year, opening the door to any persons currently farming without entitlements to be eligible for the first allocation of new entitlements in 2015 if they have not claimed Pillar 1 support previously.  In the interests of simplicity, and not disadvantaging any claimants who do not hold historical SPS entitlements, I have decided not to apply any additional criteria regarding claimants’ skills, experience or education to be eligible for new entitlements.  I want a level playing field between those who currently hold entitlements and those who do not and I am not going to erect barriers to new entrants, many of whom are amongst the most forward thinking and enterprising people in agriculture who have managed to start and develop farm businesses without Pillar 1 support.  In the interests of simplicity I will not be implementing the optional choice to revert any windfall profit a claimant gets from the sale, grant or lease of entitlements between now and 15 May 2015 into the National Reserve. The new scheme will include the establishment of a reserve for each of the three land regions used for payments meaning that there will in effect be three ‘Regional Reserves’ not a Welsh ‘National Reserve’.  I welcome that the regulations give priority to young and new entrants receiving reserve allocations.  Otherwise reserve applications will be dealt with on a first come first served basis in a timely manner.  I have also decided, for the reasons already described, not to set additional criteria for new entrants applying to the reserve.   The definition of an ‘Active farmer’ has been debated much in the industry and I share the desire that only people working the land should receive payments.  The regulatory framework does not address the problem comprehensively and the action I can take is limited.  Nevertheless I have decided to define ‘agricultural activity’ in ways that set high standards of activity to encourage claimants to either work the land themselves or to rent the land to someone who would work it and claim the CAP payments.  When entitlements are allocated Rural Payments Wales will be taking the approach that where more than one person wishes to claim on the same parcel of land the person who can prove they are undertaking the farming activity and has the land at their disposal will be granted the entitlements.  I am not adding to the negative list, it is adequate for Wales.   I announced the main decisions on greening in January and what mostly remains are decisions about ecological focus areas.  In Wales claimants will be allowed to include fallow land, hedges, stone walls, short rotation coppice, afforested land and land used for nitrogen fixing crops.  Most Welsh farms will qualify as green on the basis of permanent grassland but for those that do not the EFA choice is intended to offer flexibility as well as promoting land uses that have environmental benefit.  I have decided not to use the regulatory options to allow joint EFAs however – the benefit is outweighed by the administrative complexity and compliance risk.  I recognise the value of larger, landscape based approaches to enhancing the environment but they are more appropriate for Pillar 2\.   My approach to the young farmers’ scheme will be simple.  Throughout the reform negotiations I argued for support that could be targeted properly to help new entrants.  In the interest of the good use of public money, I am taking the most limited approach I can to the scheme.  My intention is to use Pillar 2 instead to provide meaningful support for young farmers and new entrants which is properly targeted at need and likely outcome.  Turning to the detail, I will not impose additional qualification criteria – all eligible persons will be treated the same because that is fairest.  Payments will be based on the number of eligible hectares the claimant has, up to a maximum of 25 hectares.   Throughout this process transparency is and has been very important to me, I intend to publish as much information as I can about CAP payments on the Welsh Government website.  This is in addition to my obligations under EC law to publish the information on the UK CAP Payments website. The decisions I am making today complete the policy decisions I have to take for CAP Pillar 1\.  They follow the principle of decisions made in January to put Wales’ farming industry on the best possible footing for the future.  Where possible I have aimed for simplicity and I have treated farmers equitably irrespective of whether they are new entrants or currently hold entitlements, or whether they have large or small farm businesses.  Rural Payments Wales will write in July to claimants explaining all these matters. ### Documents * #### Decision table for CAP Pillar 1 Reform, file type: doc, file size: 69 KB 69 KB
Translate the text from English to Welsh.
During the visit the First Minister will talk about the importance of increasing the numbers of women and girls participating in sport. The First Minister will attend the training session as they prepare for their first game of the tournament; away to Ireland on Saturday 26th of March. Wales have named a 37 strong squad for the campaign led by captain Siwan Lillicrap. The team’s preparations were boosted recently by the awarding of full\-time contracts to 12 players with another 12 given part\-time contracts. First Minister of Wales Mark Drakeford said: > “It’s great to meet the Wales Women’s Rugby team today and wish then pob lwc ahead of their Six Nations game on the weekend. > > > > “The team are an inspiration and show what can be achieved through hard work, dedication and commitment. > > > > “It is vitally important we encourage more women and girls to participate in sport at every level. > > > > “We need to make it easier for women and girls to have opportunities to play in grassroots sport across Wales.” More than 5,000 women and girls in Wales are registered to play rugby this season, the highest number to date. Siwan Lillicrap, Wales captain, said: > “It’s fantastic to see so many women and girls taking up our sport. > > > > “I didn’t have an opportunity to play rugby until I was 17, but now there’s a pathway to play from an early age through to senior rugby, and there’s so much enthusiasm to get involved which is brilliant to see. > > > > “It means so much to us as players to be able to fulfil our dream and become full\-time athletes and ultimately we want to inspire younger girls, whether they go on to play international rugby or enjoy the benefits of the community game.” Pippa Britton Vice Chair, Sport Wales said: > “It’s important for us to get behind the Wales Women’s Rugby team. > > > > “We know that having visible female role models at the highest levels in sport is so important, not only for encouraging other women and girls to take that first step into participation, but to also inspire them continue their interest and achieve their full potential. > > > > “We wish the squad every success”.
Yn ystod yr ymweliad bydd y Prif Weinidog yn trafod yr angen i gynyddu y niferoedd o fenywod a merched sy’n cymryd rhan mewn chwaraeon. Bydd Mr Drakeford yn mynychu’r sesiwn hyfforddi wrth iddynt baratoi ar gyfer eu gêm gyntaf yn y gystadleuaeth, oddi cartref erbyn Iwerddon, ddydd Sadwrn 26 Mawrth. Mae Cymru wedi enwi carfan gref o 37 ar gyfer yr ymgyrch dan arweiniad y capten Siwan Lillicrap. Cafodd paratoadau’r tîm hwb yn ddiweddar wrth i gontractau llawnamser gael eu dyfarnu i 12 chwaraewr, gyda 12 arall yn cael contractau rhan\-amser. Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford: > “Mae’n wych cael cwrdd a tîm Rygbi Merched Cymru heddiw i ddymuno pob lwc cyn y Chwe Gwlad. > > > > “Mae’r tim yn ysbrydoliaeth ac yn dangos yr hyn y gellir ei gyflawni drwy waith caled, ymroddiad ac ymrwymiad. > > > > “Mae'n hollbwysig ein bod yn annog mwy o fenywod a merched i gymryd rhan mewn chwaraeon ar bob lefel”. > > > > “Mae angen ei gwneud yn haws i fenywod a merched gael cyfleoedd i gymryd rhan mewn chwaraeon ar lawr gwlad ledled Cymru”. Mae mwy na 5,000 o fenywod a merched yng Nghymru wedi cofrestru i chwarae rygbi y tymor hwn, y nifer uchaf hyd yma. Dywedodd capten Cymru, Siwan Lillicrap: > “Mae'n wych gweld cynifer o fenywod a merched yn cymryd rhan mewn rygbi. > > > > “Ches i ddim cyfle i chwarae rygbi tan oeddwn i’n 17 oed, ond erbyn hyn mae llwybr clir i ferched chwarae’r gêm o oedran ifanc hyd at lefel uwch rygbi, ac mae’n braf gweld cymaint o frwdfrydedd i gymryd rhan. > > > > “Mae'n golygu cymaint i ni fel chwaraewyr allu gwireddu’n breuddwyd a dod yn athletwyr llawnamser ac yn y pen draw, hoffen ni ysbrydoli merched iau, p'un a ydyn nhw’n mynd ymlaen i chwarae rygbi rhyngwladol neu'n mwynhau manteision y gêm gymunedol.” Dywedodd Is\-gadeirydd Chwaraeon Cymru, Pippa Britton: > “Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi tîm Rygbi Merched Cymru. > > > > “Rydyn ni’n gwybod bod cael modelau rôl benywaidd ar y lefelau uchaf mewn chwaraeon mor bwysig, er mwyn annog menywod a merched eraill i gymryd y cam cyntaf hwnnw i gymryd rhan. Yn ogystal â hynny, mae hefyd yn bwysig ein bod yn eu hysbrydoli i barhau â'u diddordeb a chyflawni eu llawn botensial. > > > > “Dymunwn bob llwyddiant i'r garfan”.
Translate the text from English to Welsh.
The accounts of all 10 NHS Wales organisations for 2015\-16 have been audited by the Auditor General for Wales and have been laid before the National Assembly. This is the 2nd year the accounts have been prepared under the new NHS 3\-year financial regime that was introduced under the NHS Finance (Wales) Act 2014 from 1 April, 2014\. During 2015\-16, the Welsh Government continued to prioritise funding in the NHS and additional investment totalling over £400m was provided. This included:   * £225m funding provided in the September 2014 Draft Budget following the publication of the Nuffield Trust report A Decade of Austerity in Wales? in June 2014 * £70m additional investment to transform NHS services announced in December 2014 * £15m investment in mental health services announced in March 2015 * £45m to improve performance and £13 million for new treatments announced in September 2015 * £45m additional funding for winter pressures announced in February 2016\.   All the accounts in 2015\-16 received a clean audit opinion from the Auditor General for Wales, and 8 out of the 10 NHS organisations operated within their budgets in 2015\-16\. In terms of the new financial regime, 7 out of 10 organisations have now broken even over the first 2 years of the 3\-year financial regime. Cardiff and Vale University Health Board failed to do this in 2014\-15 but achieved break even in 2015\-16, while Betsi Cadwaladr and Hywel Dda University Health Boards have failed to break even in both years. Additional cash support continues to be provided when required to all boards in deficit to enable them to meet their normal cash commitments, including payroll expenditure and payments to HMRC. This cash assistance is repayable in future financial years when appropriate and improved plans are developed and approved under the act to enable the repayment of deficits. I look forward to the Auditor General for Wales finalising his audit of the Welsh Government’s overall accounts. I am confident the health and social services budget will break even overall in 2015\-16 following the additional investment outlined above and through other appropriate actions that have been taken to find budgetary savings to offset the deficits incurred by the 2 health boards in 2015\-16\.    
Mae cyfrifon pob un o’r 10 sefydliad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru wedi cael eu harchwilio gan Archwilydd Cyffredinol Cymru ac wedi cael eu cyflwyno gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Hon yw’r ail flwyddyn o baratoi’r cyfrifon o dan gyfundrefn ariannol dair blynedd newydd y GIG a gafodd ei chyflwyno o dan Ddeddf Cyllid y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (Cymru) 2014 o 1 Ebrill 2014\. Yn ystod 2015\-16, roedd Llywodraeth Cymru yn dal i flaenoriaethu cyllid y GIG a chafodd buddsoddiad ychwanegol o fwy na £400 miliwn ei ddarparu. Roedd hwn yn cynnwys: * £225 miliwn o gyllid yng Nghyllideb Ddrafft Medi 2014 yn dilyn cyhoeddi A Decade of Austerity in Wales?, adroddiad gan Ymddiriedolaeth Nuffield, ym mis Mehefin 2014 * £70 miliwn o fuddsoddiad ychwanegol i weddnewid gwasanaethau’r GIG, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Rhagfyr 2014 * £15 miliwn o fuddsoddiad mewn gwasanaethau iechyd meddwl, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2015 * £45 miliwn i wella perfformiad a £13 miliwn ar gyfer triniaethau newydd, a gafodd eu cyhoeddi ym mis Medi 2015 * £45 miliwn o gyllid ychwanegol ar gyfer ymdopi â’r pwysau ar wasanaethau dros y gaeaf, a gafodd ei gyhoeddi ym mis Chwefror 2016\. Rhoddodd Archwilydd Cyffredinol Cymru farn ddiamod ar yr holl gyfrifon yn 2015\-16, ac roedd wyth o’r 10 sefydliad y GIG yn gweithredu yn unol â’u cyllidebau yn 2015\-16\. O ran y gyfundrefn ariannol newydd, mae saith o’r 10 sefydliad yn awr wedi mantoli’r cyfrifon dros ddwy flynedd gyntaf y gyfundrefn ariannol dair blynedd newydd. Methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro wneud hyn yn 2014\-15 ond llwyddodd i fantoli’r cyfrifon yn 2015\-16\. Ar y llaw arall, methodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr a Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda fantoli’r cyfrifon yn ystod y naill flwyddyn na’r llall. Mae cymorth arian parod pellach yn dal i gael ei ddarparu yn ôl yr angen i’r byrddau sydd mewn diffyg i’w galluogi i fodloni eu hymrwymiadau arian parod arferol. Mae’r rhain yn cynnwys gwariant yn gysylltiedig â’r gyflogres a thaliadau i Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi. Rhaid ad\-dalu’r cymorth arian parod hwn mewn blynyddoedd ariannol sydd i ddod pan fydd cynlluniau gwell a phriodol yn cael eu datblygu a’u cymeradwyo o dan y Ddeddf i alluogi’r byrddau i ad\-dalu diffygion. Edrychaf ymlaen at weld canlyniad archwiliad terfynol Archwilydd Cyffredinol Cymru o gyfrifon cyffredinol Llywodraeth Cymru. Rwy’n hyderus y bydd y gyllideb iechyd a gwasanaethau cymdeithasol yn cael ei mantoli yn gyffredinol yn 2015\-16\. Y buddsoddiadau pellach a amlinellir uchod, a’r camau priodol eraill sydd wedi’u cymryd i ddod o hyd i arbedion yn y gyllideb er mwyn gwrthbwyso’r diffygion a ysgwyddwyd gan y ddau fwrdd iechyd yn 2015 i 2016, sydd i’w diolch am hynny.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, fe gyhoeddais Ail Gyllideb Atodol Llywodraeth Cymru ar gyfer 2015\-16\. Prif ddiben y Gyllideb Atodol hon yw dangos y newidiadau cyllidebol ers Cyllideb Atodol Gyntaf 2015\-16 a gyhoeddodd Llywodraeth Cymru ym mis Mehefin. Mae’n nodi hefyd nifer o ddyraniadau o’n cronfeydd wrth gefn, trosglwyddiadau rhwng Adrannau Llywodraeth Cymru a throsglwyddiadau ag Adrannau Llywodraeth y DU. Mae hefyd yn cynnwys rhagolygon diwygiedig ar gyfer Gwariant a Reolir yn Flynyddol.
The main purpose of this Supplementary Budget is to reflect the budgetary changes since the First Supplementary Budget 2015\-16 published by the Welsh Government in June.  It also sets out a number of allocations from our reserves, transfers between Welsh Government Departments, transfers with UK Government Departments and includes revised Annually Managed Expenditure forecasts. 
Translate the text from English to Welsh.
On 2 March 2022, I announced the next steps being taken by the Welsh Government, following our consultation on local taxes for second homes and self‑catering accommodation. The steps form part of our plans to ensure property owners make a fair contribution to the communities where they have homes or run businesses. This work, in turn, is part of the Welsh Government’s three\-pronged approach to addressing the impact that large numbers of second homes and holiday lets can have on communities and the Welsh language. The views conveyed in the consultation, including those from respondents representing the wider tourism industry, clearly support a change to the criteria for self\-catering accommodation to be classified as non\-domestic. Respondents were of the view that the majority of genuine holiday accommodation businesses would be able to satisfy increased letting thresholds, and a wide range of possible alternatives was suggested. Increasing the thresholds will provide a clearer demonstration that the properties concerned are being let regularly and are making a substantial contribution to the local economy. Following our consultation, the Welsh Government is of the view that properties let out as self\-catering accommodation on an infrequent basis should be liable for council tax. Increased letting criteria will ensure that self\-catering properties are classed as non\-domestic, only if they are being used for business purposes for the majority of the year. I, therefore, announced an increase to the number of days, within any 12\-month period, that a self\-catering property is required to be made available to let, from 140 to 252 days, and actually let, from 70 to 182 days. A technical consultation on the draft Non\-Domestic Rating (Amendment of Definition of Domestic Property) (Wales) Order 2022 (“the Order”) ran from 1 March to 12 April 2022\. The consultation sought views on the clarity and practical application of the draft legislation. I have published a summary of responses. Responses to the technical consultation did not raise any issues of technical clarity that are considered to require amendment of the draft legislation. I am today confirming that the Welsh Government will proceed with the legislation as drafted and consulted upon. The Order will come into force on 14 June 2022 and have practical effect from 1 April 2023, applying the amended criteria from that day onwards. Property owners intending to meet the amended criteria should aim to do so during the 2022\-23 operating year, but compliance with the criteria will not be assessed until after 1 April 2023\. I recognise the strength of feeling among self\-catering operators and have listened to the representations from individual businesses and industry representative bodies. There is limited evidence available in relation to some of these considerations and I am grateful to the sector for providing additional information they have gathered from their members. This has been taken into account in completing the Explanatory Memorandum and Regulatory Impact Assessment, which makes use of the available evidence. I recognise that the stronger criteria may be challenging for some operators to meet. The purpose of the change is to help ensure property owners are making a fair contribution to local communities, for example by increasing their contribution to the local economy through greater letting activity or by paying council tax on their properties. The Welsh Government’s policy priority is to support sustainable communities and affordable housing, as set out in our three\-pronged approach. The Welsh Government recognises that some self\-catering properties are restricted by planning conditions preventing permanent occupation as someone’s main residence. The Council Tax (Exceptions to Higher Amounts) (Wales) Regulations 2015 provide for an exception from a council tax premium for properties restricted by a planning condition preventing occupation for a continuous period of at least 28 days in any one‑year period. In light of the changes we are introducing to the letting criteria, I am also exploring whether further amendments to these regulations are necessary in advance of the changes taking practical effect. I will also be issuing revised guidance to local authorities on additional options that are available in the event that self\-catering properties restricted by planning conditions do not meet the letting criteria. As part of the Co\-operation Agreement with Plaid Cymru, we are committed to taking immediate action to address the impact of second homes and unaffordable housing in communities across Wales, using the planning, property and taxation systems. As we continue to progress the package of measures and drawing on the latest evidence base, we will keep under constant review the whole range of levers available to use and how they may be deployed most effectively to meet our policy objectives and avoid any unintended consequences.
Ar 2 Mawrth 2022, cyhoeddais y camau nesaf sy’n cael eu cymryd gan Lywodraeth Cymru, yn dilyn ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Mae’r camau yn rhan o’n cynlluniau i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i’r cymunedau lle mae ganddyn nhw gartrefi neu’n rhedeg busnesau. Mae’r gwaith hwn, yn ei dro, yn rhan o ddull tair elfen Llywodraeth Cymru i roi sylw i’r effaith y gall niferoedd mawr o ail gartrefi a llety gwyliau ei chael ar gymunedau a’r Gymraeg. Mae’r safbwyntiau sy’n cael eu cyfleu yn yr ymgynghoriad, gan gynnwys rhai gan ymatebwyr sy’n cynrychioli’r diwydiant twristiaeth ehangach, yn amlwg yn cefnogi newid y meini prawf ar gyfer dosbarthu llety hunanddarpar yn annomestig. Roedd ymatebwyr o’r farn y byddai’r rhan fwyaf o fusnesau llety gwyliau dilys yn gallu bodloni’r trothwyon gosod eiddo uwch, ac awgrymwyd ystod eang o ddewisiadau amgen posibl. Bydd cynyddu’r trothwyon yn dangos yn gliriach bod yr eiddo dan sylw yn cael ei osod yn rheolaidd ac yn gwneud cyfraniad sylweddol i’r economi leol. Yn dilyn ein hymgynghoriad, mae Llywodraeth Cymru o’r farn y dylai eiddo nad yw’n cael ei osod fel llety hunanddarpar yn aml fod yn agored i dalu’r dreth gyngor. Bydd meini prawf uwch ar gyfer gosod yn sicrhau bod eiddo hunanddarpar yn cael ei ddosbarthu’n annomestig, dim ond os yw’n cael ei ddefnyddio at ddibenion busnes am y rhan fwyaf o’r flwyddyn. Felly, cyhoeddais gynnydd i nifer y dyddiau, o fewn unrhyw gyfnod 12 mis, y mae’n ofynnol i eiddo hunanddarpar fod ar gael i’w osod, o 140 i 252 diwrnod, a’i osod mewn gwirionedd, o 70 i 182 diwrnod. Cynhaliwyd ymgynghoriad technegol ar Orchymyn Ardrethu Annomestig (Diwygio’r Diffiniad o Eiddo Domestig) (Cymru) 2022 drafft (“y Gorchymyn”) rhwng 1 Mawrth a 12 Ebrill 2022\. Roedd yr ymgynghoriad yn gofyn am farn ar eglurder a gweithrediad ymarferol y ddeddfwriaeth ddrafft. Rwyf wedi cyhoeddi crynodeb o’r ymatebion. Ni chododd ymatebion i’r ymgynghoriad technegol unrhyw faterion o ran eglurder technegol yr ystyrir bod angen diwygio’r ddeddfwriaeth ddrafft o ganlyniad iddynt. Heddiw, rwy’n cadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn parhau â’r ddeddfwriaeth fel y’i drafftiwyd ac yr ymgynghorwyd arni. Daw’r Gorchymyn i rym ar 14 Mehefin 2022 a bydd yn cael effaith ymarferol o 1 Ebrill 2023, gan gymhwyso’r meini prawf diwygiedig o’r diwrnod hwnnw ymlaen. Dylai perchnogion eiddo sy’n bwriadu bodloni’r meini prawf diwygiedig anelu at wneud hynny yn ystod y flwyddyn weithredu 2022\-23, ond ni chaiff cydymffurfiaeth â’r meini prawf ei hasesu tan ar ôl 1 Ebrill 2023\. Rwy’n cydnabod cryfder y teimlad ymhlith gweithredwyr llety hunanddarpar ac wedi gwrando ar y sylwadau gan fusnesau unigol a chyrff sy’n cynrychioli’r diwydiant. Prin yw’r dystiolaeth sydd ar gael mewn perthynas â rhai o’r ystyriaethau hyn ac rwy’n ddiolchgar i’r sector am ddarparu gwybodaeth ychwanegol y maent wedi’i chasglu gan eu haelodau. Mae hyn wedi ei ystyried wrth gwblhau’r Memorandwm Esboniadol a’r Asesiad Effaith Rheoleiddiol, sy’n gwneud defnydd o’r dystiolaeth sydd ar gael. Rwy’n cydnabod y gallai’r meini prawf cryfach fod yn heriol i rai gweithredwyr eu bodloni. Diben y newid yw helpu i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg i gymunedau lleol, er enghraifft drwy gynyddu eu cyfraniad i’r economi leol drwy weithgarwch uwch o ran gosod neu drwy dalu’r dreth gyngor ar eu heiddo. Blaenoriaeth polisi Llywodraeth Cymru yw cefnogi cymunedau cynaliadwy a thai fforddiadwy, fel y nodir yn ein dull tair elfen. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod bod rhai mathau o eiddo hunanddarpar wedi’u cyfyngu gan amodau cynllunio sy’n eu hatal rhag meddiannaeth barhaol fel prif breswylfa unigolyn. Mae Rheoliadau’r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2015 yn darparu eithriad rhag premiwm treth gyngor ar gyfer eiddo sydd wedi’i gyfyngu gan amod cynllunio sy’n atal meddiannaeth am gyfnod parhaus o 28 diwrnod o leiaf mewn unrhyw gyfnod o flwyddyn. Yng ngoleuni’r newidiadau yr ydym yn eu cyflwyno i’r meini prawf gosod, rwyf hefyd yn archwilio a oes angen diwygiadau pellach i’r rheoliadau hyn cyn i’r newidiadau gael effaith ymarferol. Byddaf hefyd yn cyhoeddi canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol ar opsiynau ychwanegol sydd ar gael os na fydd eiddo hunanddarpar sydd wedi’i gyfyngu gan amodau cynllunio yn bodloni’r meini prawf gosod. Fel rhan o’n Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi ymrwymo i weithredu ar unwaith i roi sylw i effaith ail gartrefi a thai na ellir eu fforddio mewn cymunedau ledled Cymru, gan ddefnyddio’r systemau cynllunio, eiddo a threthiant. Wrth inni barhau i roi’r pecyn o fesurau ar waith a thynnu ar y sylfaen dystiolaeth ddiweddaraf, byddwn yn adolygu’n gyson yr ystod o ysgogiadau sydd ar gael i’w defnyddio a sut y gellir eu defnyddio’n fwyaf effeithiol i gyflawni ein hamcanion polisi ac osgoi unrhyw ganlyniadau anfwriadol.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymweld â'r Comisiwn Diwygio'r Gyfraith ac yn cyfarfod Twrnai Cyffredinol Iwerddon, Séamus Woulfe, Llysgennad Prydain yn Iwerddon, Robin Barnett a'r Prif Gwnsler Seneddol newydd, June Reardon. Cyfuno, cyfundrefnu a symleiddio deddfwriaeth fydd ar yr agenda pan fydd Jeremy Miles yn cyfarfod Mr Ustus John Quirke SC, Llywydd Comisiwn Diwygio'r Gyfraith. Bu'r Comisiwn yn canolbwyntio ar hyn ers 2014, ac fe fydd y Cwnsler Cyffredinol yn trafod gwersi a ddysgwyd er mwyn eu defnyddio gyda'r Bil Deddfwriaeth Cymru drafft, sy'n destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, ac mewn ymdrechion ehangach i wneud cyfraith Cymru yn fwy hygyrch. Wrth siarad cyn yr ymweliad, dywedodd y Cwnsler Cyffredinol: > "Mae cymhlethdod y gyfraith sy'n gymwys i Gymru yn broblem fawr, ac mae angen cymryd camau i'w symleiddio a'i gwneud yn fwy hygyrch i bawb. Rhaid i ddinasyddion ddeall eu hawliau a'u cyfrifoldebau dan y gyfraith; gwybod beth yw ystyr y gyfraith a phwy sy'n gyfrifol am beth. Mae hyn yn fater o gyfiawnder cymdeithasol. > > "Mae'r Bil Deddfwriaeth (Cymru) drafft yn destun ymgynghoriad cyhoeddus ar hyn o bryd, felly mae'r ymweliad yn cynnig cyfle defnyddiol i ddysgu o'r gwaith y mae'r Comisiwn Diwygio'r Gyfraith eisoes wedi'i wneud yn y maes hwn." Yn ddiweddarach, bydd Brexit ar yr agenda mewn trafodaethau gyda'r Twrnai Cyffredinol, Séamus Woulfe SC, gan y bydd ymadael â'r UE yn arwain at broblemau cyfreithiol cymhleth. Bydd Brexit dan sylw fory (1 Mehefin) hefyd pan fydd swyddogion y gyfraith yn cyfarfod ym Melfast i drafod goblygiadau cyfreithiol ymadael â'r UE. Bydd y Cwnsler Cyffredinol yn ymuno ag Arglwydd Adfocad yr Alban, James Wolffe QC, Twrnai Cyffredinol Gogledd Iwerddon, John Larkin QC a swyddogion y gyfraith dros Jersey a Gibraltar.
The Counsel General will visit the Law Reform Commission and will also meet the Attorney General for Ireland, Séamus Woulfe, the British Ambassador for Ireland, Robin Barnett and the new Chief Parliamentary Counsel, June Reardon. Consolidation, codification and simplification of legislation will feature on the agenda when Jeremy Miles meets Mr Justice John Quirke SC, President of the Law Reform Commission. This has been a focus for the Commission since 2014 and the Counsel General will discuss lessons learnt to inform Wales’ Draft Legislation Bill, currently out for public consultation, and wider efforts to make Welsh law more accessible. Speaking ahead of the visit the Counsel General said: > “The complexity of the law that applies to Wales is a big problem and steps need to be taken to simplify it and make it more accessible to everyone. It is vital that citizens understand their rights and responsibilities under the law; they know what the law means and who is responsible for what. This is a question of social justice. > > “The Draft Legislation (Wales) Bill is currently out for public consultation, so the visit provides a useful opportunity to learn from the work that the Law Reform Commission has already done in this area.” Later in the day Brexit will be on the agenda in talks with the Attorney General, Séamus Woulfe SC, as withdrawal from the EU will throw up complex legal problems. Brexit will also feature tomorrow (1 June) when finding common solutions to the legal implications of EU withdrawal will be discussed at a meeting of law officers in Belfast. The Counsel General will join the Scottish Lord Advocate, James Wolffe QC, the Attorney General for Northern Ireland, John Larkin QC, and the law officers for Jersey and Gibraltar.
Translate the text from Welsh to English.
Hoffwn hysbysu Aelodau'r Cynulliad fy mod yn y broses o sefydlu grŵp cynghori arbenigol i sicrhau'r canlyniad gorau posibl i Gymru o'r trafodaethau a gynhelir cyn hir ynghylch gadael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd y Grŵp Cynghori ar Ewrop yn cynnwys pobl fusnes, gwleidyddion ac arbenigwyr sydd â dealltwriaeth fanwl o'r Undeb Ewropeaidd. Bydd y grŵp yn cynghori Llywodraeth Cymru ar yr effaith eang ar Gymru wrth i'r DU adael yr Undeb Ewropeaidd. Bydd hefyd yn cynghori ar sut y gall Cymru oresgyn heriau i sicrhau dyfodol ffyniannus a sicrhau bod y berthynas gadarnhaol gydag Ewrop yn parhau. Yn ogystal, rwy’n sefydlu Is\-bwyllgor o'r Cabinet ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd o fis Medi ymlaen, wrth i'r gwaith trylwyr barhau rhwng Llywodraeth Cymru, Llywodraeth y DU a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill i baratoi at y trafodaethau ynghylch yr UE. Ers canlyniad refferendwm yr UE, rwyf wedi canolbwyntio yn y lle cyntaf ar amddiffyn ein heconomi a rhoi sicrwydd i gymuned fusnes Cymru. Felly, rydym wedi amlinellu chwe mesur economaidd i roi sylw iddynt ar unwaith ac rydym yn datblygu cynllun i godi hyder busnesau, gyda chymorth ar gyfer allforion o Gymru. Rydym hefyd wedi creu cronfa newydd i roi hwb i gyflogaeth ac i ddenu mewnfuddsoddiadau. Rwyf wedi gofyn am ymrwymiad sicr na fydd Cymru'n colli ceiniog o arian yr UE sydd wedi'i gyllidebu i ni hyd at 2020\. Rwyf hefyd wedi bod yn hollol glir fod parhau i gael mynediad di\-dor at y Farchnad Sengl yn hanfodol. Mae trafodaethau manwl a ffurfiol rhwng ein swyddogion a Llywodraeth y DU wedi bod yn digwydd ers canlyniad y refferendwm ym mis Mehefin, a bydd y cydweithio agos hwn yn dwysáu yn ystod yr wythnosau nesaf. Wedi i ni ddangos arweiniad drwy alw cyfarfod brys o'r Cyngor Prydeinig\-Gwyddelig, mae gennym ddealltwriaeth glir iawn o'r materion sy'n wynebu gweinyddiaethau datganoledig a byddwn yn dilyn pob llwybr sydd ar gael i ni er mwyn amddiffyn buddiannau Cymru. Fy nghyfrifoldeb i yw llywio dyfodol Cymru y tu allan i'r Undeb Ewropeaidd \- ac rwy'n llawn sylweddoli pwysigrwydd y cyfrifoldeb hwn. Byddaf yn cadw llygad barcud ar y ffordd y bydd gadael yr UE yn effeithio'n uniongyrchol ar bobl Cymru. Bydd y grŵp cynghori yn ein helpu i ddeall y gwir effaith ar ein trefi, ein pentrefi, ein cymunedau ffermio, ein sefydliadau addysg, ein busnesau, ein trydydd sector a'n gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Bydd cydweithio agos gyda phob rhan o'r gymdeithas yng Nghymru yn hollbwysig er mwyn rhoi'r llais cryfaf posibl i Gymru yn y trafodaethau sydd ar fin digwydd. Dyna pam rydym yn cychwyn trafodaeth newydd gyda Phlaid Cymru ar y Trefniadau Pontio Ewropeaidd, ochr yn ochr â pwyllgorau cyswllt eraill. Er gwaethaf yr heriau a wynebwn, rydym yn barod i dorchi ein llewys a llywio dyfodol Cymru mewn byd sy'n newid. Byddwn yn sicrhau bod ein buddiannau cenedlaethol wedi'u pennu'n glir a bod pob ymdrech yn cael ei wneud i gael y canlyniad gorau posibl i Gymru. Mae'r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er gwybodaeth i'r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau am y mater hwn pan fydd y Cynulliad yn ailymgynnull, byddaf yn fwy na pharod i wneud hynny.
Assembly Members will wish to be aware that I am in the process of establishing an expert advisory group to ensure Wales secures the best possible outcome in forthcoming Brexit negotiations. The European Advisory Group will be made up of business people, politicians and experts with a detailed understanding of the European Union. The group will advise the Welsh Government on the wide\-ranging impact on Wales of the UK’s exit from the EU and how Wales can overcome challenges to secure a strong and prosperous future and a continued positive relationship with Europe. In addition I am setting up a Cabinet Sub\-Committee on European Transition from September, while detailed work continues between the Welsh Government, UK Government and the other Devolved Administrations to prepare for the EU negotiations. My immediate focus since the EU referendum result has been on protecting our economy and providing assurance to Wales’ business community. As such, we have outlined 6 immediate economic measures, while we are also developing a business confidence plan with support for Welsh exports and have created a new fund to help boost employment and attract inward investment. I have sought a cast iron commitment that Wales will not lose a penny of the EU money budgeted to us up to 2020 and have been absolutely clear that maintaining uninterrupted access to the Single Market is vital. Detailed and formal negotiations between our officials and the UK Government have been ongoing since the June vote, and this close working will intensify in the coming weeks. Our leadership in calling an emergency British Irish Council has resulted in a very clear understanding of the issues facing devolved administrations and we will continue to pursue Wales’ interests in every avenue open to us. It is my responsibility to shape Wales’ future outside the European Union – and I am not taking this responsibility lightly. I will not lose sight of how Brexit will impact directly on the people of Wales. The advisory group will help us to understand the real world impact on our towns, villages, farming communities, educational institutions, businesses, the third sector and vital public services. Close working with all parts of Welsh society will be vital in delivering the strongest voice possible for Wales in the forthcoming negotiations. That is why we are opening a new dialogue with Plaid Cymru on European Transition, alongside our other liaison committees. Despite the challenges ahead, we are ready to roll up our sleeves and shape Wales’ future in a changing world. We will ensure our national interests are set out clearly, and the best possible outcome for Wales is secured. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Translate the text from Welsh to English.
Rwy'n rhoi gwybod i’r Aelodau fy mod wedi gofyn i Lywodraeth y DU gynnwys pwerau i Weinidogion Cymru mewn Bil Amaethyddiaeth sydd wedi'i gyflwyno gerbron Senedd y DU. Cafodd y Bil Amaethyddiaeth (y “Bil”) ei gyflwyno gan George Eustice AS yn Nhŷ'r Cyffredin ar 16 Ionawr 2020\. Mae'r Bil i'w weld yma: **https://services.parliament.uk/Bills/2019\-20/agriculture.html** Y bwriad yw mai pwerau dros dro fydd y rheini a fydd yn cael eu cymryd ar gyfer Gweinidogion Cymru, a hynny tan inni gyflwyno Bil Amaethyddiaeth (Cymru) er mwyn cynllunio system ar gyfer Cymru a fydd yn gweithio dros amaethyddiaeth Cymru, dros ddiwydiannau gwledig a'n cymunedau. Mae'r darpariaethau sy'n ymwneud â Chymru i'w gweld mewn Atodlen ar wahân. Mae'r Bil a gyflwynwyd ar 16 Ionawr yn rhoi Pwerau i Weinidogion Cymru wneud barhau i dalu Taliadau Uniongyrchol i ffermwyr ar ôl 2020 ac yn rhoi sefydlogrwydd y mae dirfawr ei angen ar ein ffermwyr yn ystod y cyfnod hwn o ansicrwydd. Mae ynddo hefyd bwerau eraill penodol, gan gynnwys pwerau sy'n bwysig er mwyn sicrhau bod marchnad fewnol y DU yn  gweithio'n effeithiol.  O gofio bod cryn amser wedi mynd heibio ers i'r Bil gael ei gyflwyno gyntaf ym mis Medi 2018, rwyf wedi ystyried cwmpas yr atodlen ar gyfer Cymru, gan gyfeirio at yr adroddiadau defnyddiol a ddarparwyd gan y Senedd yn ystod y broses graffu. Rwyf wedi dod i'r casgliad nad yw bellach yn briodol cymryd pwerau a fyddai'n caniatáu i Weinidogion Cymru redeg neu newid i gynlluniau newydd. Fy mwriad bellach yw darparu ar gyfer hynny mewn Bil Amaethyddiaeth (Cymru). Rwy'n bwriadu cyhoeddi Papur Gwyn tua diwedd 2020 a fydd yn amlinellu'r cyd\-destun ar gyfer dyfodol ffermio yng Nghymru ac yn paratoi'r ffordd ar gyfer Bil Amaethyddiaeth (Cymru).    Yn gyffredinol, mae cyflwyno'r Bil Amaethyddiaeth yn gam pwysig er mwyn rhoi sefydlogrwydd wrth inni newid i system newydd o roi cymorth i ffermwyr. Mae'r Bil yn gwneud darpariaeth mewn cysylltiad â materion datganoledig a byddaf yn gosod Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol.  
I am informing Members I have asked the UK Government to include powers for Welsh Ministers in an Agriculture Bill which has been introduced to the UK Parliament. The Agriculture Bill (the “Bill”) was introduced by George Eustice MP in the House of Commons on 16 January 2020\. The Bill can be found at: https://services.parliament.uk/Bills/2019\-20/agriculture.html The powers being taken for Welsh Ministers are intended to be temporary until an Agriculture (Wales) Bill is brought forward to design a ‘Made in Wales’ system which works for Welsh agriculture, rural industries and our communities. Provisions relating to Wales are contained in a separate Schedule. The Bill introduced on 16 January, provides powers for the Welsh Ministers to continue paying Direct Payments to farmers beyond 2020 and gives our farmers much needed stability during this period of uncertainty. It also contains certain other powers, including those which are important to ensure the effective operation of the internal market in the UK. Given the passage of time since the original Bill was first introduced in September 2018, I have reflected on the scope of the Welsh schedule, taking into account the helpful reports provided by the Senedd during scrutiny. I have concluded it is no longer appropriate to take powers to allow the Welsh Ministers to operate or transition to new schemes. My intention now is these will be provided for instead by the Agriculture (Wales) Bill. I intend to publish a White Paper towards the end of 2020 which will set out the context for the future of Welsh farming and pave the way for an Agriculture (Wales) Bill. Overall, the introduction of the Bill is an important step to provide stability as we look towards transitioning to a new system of farm support in Wales. The Bill makes provision with regards to devolved matters and I will lay a Legislative Consent Memorandum.   
Translate the text from English to Welsh.
Members will be aware that the UK Government made provision to ensure that travellers entering the United Kingdom from overseas must self\-isolate for 14 days, to prevent the further spread of coronavirus.  These restrictions came into force on Monday 8 June 2020\. On 10 July the Welsh Government amended the Regulations to introduce exemptions from the isolation requirement for a list of countries and territories, and a limited range of people in specialised sectors or employment who may be exempted from the isolation requirement or excepted from certain provisions of the passenger information requirements. Since then these regulations have been kept under review and a number of changes to the list of exempt countries and territories have been made. Yesterday I reviewed the latest JBC assessments and I have decided that Guadeloupe and Slovenia will be removed from the list of exempt countries and territories and that Gibraltar and Thailand will be added to this list. Tomorrow I will lay the necessary regulations which will come into force at 04:00 on Saturday 19 September.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach. Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ddydd Llun 8 Mehefin 2020\. Ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru'r Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i ynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau neu gyflogaeth arbenigol a allai fod wedi'u heithrio rhag y gofyniad i ynysu neu rhag rhai o ddarpariaethau’r gofynion ynghylch gwybodaeth teithwyr. Ers hynny, mae’r rheoliadau hyn wedi’u hadolygu’n gyson ac mae nifer o newidiadau wedi’u gwneud i’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio. Ddoe, adolygais asesiadau diweddaraf y Gydganolfan Bioddiogelwch ac rwyf wedi penderfynu y bydd Guadeloupe a Slofenia yn cael eu tynnu o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio ac y bydd Gibraltar a Gwlad Thai yn cael eu hychwanegu at y rhestr honno. Yfory, byddaf yn gosod y rheoliadau angenrheidiol a ddaw i rym am 04:00 ddydd Sadwrn 19 Medi.  
Translate the text from English to Welsh.
Early feedback from care leavers point to the many ways in which the income is being used to enhance their lives, including learning how to manage their money and saving.  Although the pilot scheme is still in its infancy and will be rigorously assessed by an independently appointed evaluation team, one person working with care leavers said it had ‘empowered them to be able to make decisions they weren’t able to before’. Emma Phipps\-Magill, operational director at Voices from Care Cymru, has worked with care experienced young people for more than 30 years and said the pilot scheme was providing them with the opportunities to make positive life choices. “The difference it has made to their lives has been giving them the opportunity to look at private housing accommodation instead of waiting on social housing lists, being able to travel and learn to drive so they can pass their driving test, and another could go to university, which they weren’t able to before,” she said. > “This is a positive thing for me as we often hear about care leavers not being able to experience things like this and we look at the negatives so much more than the positives. > > > “The power of the Basic Income pilot scheme is that it empowers young care leavers to be able to make informed financial and independent decisions and enjoy experiences they may not have before.” The Basic Income pilot provides care leavers turning 18 with the opportunity to receive £1600 (before tax) per month for a period of 2 years. Those turning 18 between July 2022 to June 2023 will be eligible. The £20m pilot scheme aims to set care leavers on a path to live healthy, happy and fulfilling lives. Since the scheme was launched in July and the first payment was issued in August last year, more than 400 care leavers have enrolled in the pilot scheme. In the first 6 months of the pilot there has been a 92% uptake rate based on original estimates of eligibility provided by local authorities. Minister for Social Justice Jane Hutt said the initial take\-up and feedback from young people on the pilot was promising. > “We are beginning to see the benefits this has made to the lives of many young care leavers as we mark 6 months of the Basic Income pilot scheme. > > > “For example young people are talking about it allowing them to save to support themselves for the future, and exploring paying for further qualifications which could boost their job and career prospects. > > > “It is important they learn from this as it can provide a solid foundation to build their lives and not just benefit themselves, but future generations too. > > > “We are still at an early stage of this process and have a lot to learn about the long\-term impact of this pilot, but the take\-up and feedback from those enrolled so far is promising.” Throughout the pilot those eligible have been supported by social services teams and practitioners in navigating the process. Citizens Advice Cymru have supported 65% of eligible young people on the pilot through a range of financial issues. The support offered to young people ranges from better off calculations before they decide to enrol on the pilot, financial advice while they are on the pilot and assistance with planning for the point where they stop receiving their payment. The payments, which 57% have opted to receive monthly and the remaining 43% opting for twice\-monthly, aim to help them build a platform for their transition from care into adult life. They have also been given the option to choose for their rent payments to be made directly to their landlord, reducing the money paid to them, with 33% having done so.
Mae adborth cynnar gan bobl ifanc sy’n gadael gofal yn cyfeirio at y nifer o ffyrdd mae’r incwm yn cael ei ddefnyddio i wella eu bywydau, gan gynnwys dysgu sut i reoli eu harian a chynilo. Mae’r Cynllun yn dal yn ei ddyddiau cynnar a bydd yn cael ei asesu’n fanwl gan dîm gwerthuso a benodwyd yn annibynnol. Er hynny, dywedodd un unigolyn sy’n gweithio gyda phobl ifanc sy’n gadael gofal fod y Cynllun ‘wedi’u grymuso i allu gwneud penderfyniadau nad oedden nhw’n gallu eu gwneud o’r blaen’. Mae Emma Phipps\-Magill, cyfarwyddwr gweithredol Voices from Care Cymru, wedi gweithio gyda phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal ers dros 30 mlynedd, a dywedodd bod y Cynllun yn rhoi cyfleoedd iddyn nhw wneud dewisiadau cadarnhaol mewn bywyd. > “O ran y gwahaniaeth mae wedi’i wneud i’w bywydau, mae wedi rhoi cyfle iddyn nhw edrych ar dai preifat yn lle aros ar restrau tai cymdeithasol, mae wedi’u galluogi i deithio a dysgu sut i yrru fel eu bod yn gallu pasio eu prawf gyrru, ac mae wedi’u helpu i fynd i’r brifysgol, pethau nad oedden nhw’n gallu eu gwneud o’r blaen,” meddai. > > > “Mae hyn yn beth cadarnhaol imi gan ein bod yn aml yn clywed am bobl ifanc sy’n gadael gofal yn methu â phrofi pethau fel hyn ac rydyn ni’n edrych ar y pethau negyddol cymaint mwy na’r pethau cadarnhaol. > > > “Grym y Cynllun yw ei fod yn grymuso pobl ifanc sy’n gadael gofal i allu gwneud penderfyniadau ariannol ac annibynnol ar sail gwybodaeth a mwynhau profiadau na fydden nhw o bosibl wedi’u cael o’r blaen.” Mae’r Cynllun yn rhoi cyfle i bobl ifanc sy’n gadael gofal ac sy’n troi’n 18 oed gael £1,600 (cyn treth) y mis am gyfnod o ddwy flynedd. Bydd y rhai sy’n troi’n 18 oed rhwng mis Gorffennaf 2022 a mis Mehefin 2023 yn gymwys. Nod y Cynllun gwerth £20m yw gosod pobl ifanc sy’n gadael gofal ar lwybr tuag at fywydau iach, hapus, llawn boddhad. Ers i’r Cynllun gael ei lansio ym mis Gorffennaf ac i’r taliad cyntaf gael ei wneud ym mis Awst y llynedd, mae mwy na 400 o bobl ifanc sy’n gadael gofal wedi cofrestru i’r Cynllun. Yn ystod chwe mis cyntaf y Cynllun, roedd cyfradd fanteisio o 92% yn seiliedig ar amcangyfrifon gwreiddiol o gymhwysedd gan awdurdodau lleol. Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol, fod nifer cychwynnol y bobl ifanc sy’n rhan o’r Cynllun yn addawol, ynghyd â’r adborth a geir ganddyn nhw. > “Rydyn ni’n dechrau gweld manteision y Cynllun i fywydau llawer o bobl ifanc sy’n gadael gofal wrth inni nodi ei chwe mis cyntaf. > > > “Er enghraifft, mae pobl ifanc, wrth siarad amdano, yn dweud ei fod yn caniatáu iddyn nhw gynilo i gefnogi eu hunain yn y dyfodol, ac archwilio talu am gymwysterau pellach a allai wella eu cyfleoedd am swydd a gyrfa. > > > “Mae’n bwysig eu bod yn dysgu o hyn oherwydd gall ddarparu sylfaen gadarn i adeiladu eu bywydau arni ac nid yn unig bod o fudd iddyn nhw eu hunain, ond i genedlaethau’r dyfodol hefyd. > > > “Rydyn ni’n dal yng nghamau cynnar y broses hon ac mae gennym lawer i’w ddysgu am effaith hirdymor y Cynllun hwn, ond mae’r nifer sy’n manteisio ar y taliadau a’r adborth gan y rhai sydd wedi cofrestru hyd yn hyn yn addawol.” Drwy gydol y Cynllun, mae’r rhai sy’n gymwys wedi cael eu cefnogi gan dimau ac ymarferwyr gwasanaethau cymdeithasol i reoli’r broses. Mae Cyngor ar Bopeth Cymru wedi cefnogi 65% o bobl ifanc sy’n rhan o’r Cynllun ag ystod o faterion ariannol. Mae’r cymorth sy’n cael ei gynnig i bobl ifanc yn amrywio o gyfrifiadau ‘gwell eu byd’ cyn iddyn nhw benderfynu cofrestru i’r Cynllun, cyngor ariannol tra maen nhw’n rhan o’r Cynllun a chymorth gyda chynllunio ar gyfer yr adeg pan fyddan nhw’n rhoi’r gorau i gael eu taliad. Nod y taliadau, y mae 57% wedi dewis eu cael unwaith y mis a’r 43% sy’n weddill wedi dewis eu cael ddwywaith y mis, yw eu helpu i adeiladu sylfaen ar gyfer pontio o ofal i fywyd fel oedolyn. Maen nhw hefyd wedi cael yr opsiwn i ddewis i’w taliadau rhent gael eu talu’n uniongyrchol i’w landlord, gan leihau’r arian a delir iddyn nhw, gyda 33% wedi dewis gwneud hynny.
Translate the text from English to Welsh.
For the last two years, Hybu Cig Cymru (HCC), along with the Agriculture and Horticulture Development Board (AHDB) and Quality Meat Scotland (QMS) have jointly decided on a collaborative programme of activities to support the British meat industry. This includes jointly promoting British meat overseas and work to underpin the nutritional benefits of red meat. Today it has been confirmed the size of the overall fund will increase from £2m to £3\.5m from 1 April 2020\. The additional investment will focus particularly on bolstering the reputation of meat with consumers, addressing misconceptions and promoting the benefits of sustainable meat consumption. Lesley Griffiths said: > The additional money going into the Red Meat Levy Ring\-fenced Fund is good news for Wales’ red meat industry. Increasing the fund from £2 to £3\.5m will provide more opportunities to promote world class PGI Welsh Lamb and Beef at home and overseas.   This is an excellent example of collaborative working that will deliver positive results for Wales’ red meat industry. I am grateful to HCC for the role they have played in reaching this agreement with the UK’s other Red Meat Levy boards. In a joint statement, HCC, AHDB and QMS said: > The current ring\-fenced fund has been a fantastic opportunity for us to work more closely together to further the interests of the British meat sector. Whilst this remains an interim step before redistribution of levies takes place, we believe the time is right to strengthen this collaboration and increase the overall investment made in the joint fund for the next 12 months. > > > The industry is under tremendous pressure and we feel we can make even bigger progress on market development and export work, to find new markets for our products overseas, and the ongoing reputation work to promote all that is good and defend the industry from myths and misinformation.
Ers dwy flynedd bellach mae Hybu Cig Cymru, ynghyd â Bwrdd Datblygu Amaethyddiaeth a Garddwriaeth (AHDB) a Quality Meat Scotland (QMS), wedi penderfynu ar y cyd ar raglen gydweithredol o weithgareddau ar gyfer hyrwyddo diwydiant cig Prydain. Mae hyn yn cynnwys mynd ati ar y cyd i hyrwyddo cig Prydain dramor a phwysleisio manteision cig coch o ran maeth. Cafwyd cadarnhad heddiw y bydd maint y gronfa gyffredinol yn cynyddu o £2 filiwn o £3\.5 miliwn o 1 Ebrill 2020\. Caiff y buddsoddiad ychwanegol yma ei ddefnyddio’n benodol ar gyfer gwella enw da cig ymysg defnyddwyr , gan fynd i’r afael â chamdybiaethau a hyrwyddo manteision bwyta cig o ffynonellau cynaliadwy. Dywedodd Lesley Griffiths: > Mae’r ffaith y bydd mwy o gyllid ar gael o fewn y Gronfa Ardoll Cig Coch yn newyddion gwych i ddiwydiant cig coch Cymru. Trwy gynyddu’r gronfa o £2 filiwn o £3\.5 miliwn bydd rhagor o gyfleoedd i hyrwyddo cig oen a chig eidion heb ei ail, gartref a thramor. Dyma enghraifft wych o gydweithio a fydd yn sicrhau canlyniadau cadarnhaol ar gyfer diwydiant cig coch Cymru. Hoffwn ddiolch i Hybu Cig Cymru am eu cyfraniad o ran sicrhau’r cytundeb hwn â byrddau eraill y DU sydd ynghlwm wrth yr Ardoll Cig Coch. Dywedodd Hybu Cig Cymru, AHDB a QMS mewn datganiad ar y cyd: > Mae’r gronfa bresennol sydd wedi’i chlustnodi wedi creu cyfleoedd gwych i ni gydweithio’n agosach er mwyn sicrhau bod sector cig Prydain yn mynd o nerth i nerth. Er mai cam dros dro yw hwn o hyd cyn i’r ardollau gael eu hailddosbarthu credwn ei bod yn syniad da i atgyfnerthu’r cydweithio hwn a chynyddu’r buddsoddiad cyffredinol yn y gronfa ar y cyd ar gyfer y 12 mis nesaf. > > > Mae’r diwydiant o dan bwysau difrifol a theimlwn y gallwn gyflawni llawer o ran datblygu marchnadoedd a gwaith allforio, gan ddod o hyd i farchnadoedd newydd ar gyfer ein cynhyrchion tramor. Heb unrhyw amheuaeth bydd hyrwyddo manteision cig coch yn llesol iawn i’r diwydiant ac yn ei amddiffyn rhag camdybiaethau a diffyg dealltwriaeth.
Translate the text from Welsh to English.
Mae'r ffigurau ailgylchu terfynol ar gyfer 2016/17 yn dangos bod y gyfradd ailddefnyddio, ailgylchu a chompostio ar draws 22 awdurdod lleol Cymru yn 64% ar gyfartaledd, sy'n gynnydd o 4 pwynt canran o gymharu â'r ffigur terfynol ar gyfer y llynedd a 59 pwynt canran yn uwch na'r gyfradd ym 1998/99, pan gafodd y data eu casglu am y tro cyntaf ar ôl datganoli. Mae hefyd 6 phwynt canran yn uwch na'r Targed Ailgylchu Statudol o 58%. Wrth groesawu'r ystadegau, dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig, Lesley Griffiths: > "Mae Cymru ar flaen y gad yn y DU o safbwynt ailgylchu, ac mae'r ffigurau diweddaraf hyn yn cadarnhau ein bod yn rhagori ar y targed uchelgeisiol o 58%. Mae'n galonogol hefyd fod Ceredigion eisoes wedi cyrraedd y targed o 70% a bennwyd gennym ar gyfer 2025”. Mae ffigurau pellach a gyhoeddwyd heddiw (dolen allanol) yn dangos bod gostyngiad o 89% ym maint y gwastraff trefol bioddiraddiadwy y mae awdurdodau lleol yn ei anfon i safleoedd tirlenwi ers blwyddyn lawn gyntaf y cynllun yn 2005\-06\. Anfonodd yr awdurdodau 90,827 o dunelli o wastraff bioddiraddiadwy i safleoedd tirlenwi yn 2016\-17, sy'n 77% yn llai na'r lwfans cyfreithiol o 390,000 o dunelli. Llwyddodd pob un o'r 22 o awdurdodau lleol i gyflawni'r lwfansau unigol a roddwyd iddynt. Mae anfon llai o wastraff bioddiraddiadwy i safleoedd tirlenwi yn helpu i leihau allyriadau nwyon tŷ gwydr ac mae hynny, yn ei dro, yn atal methan rhag cael ei gynhyrchu a'i ollwng i'r aer o safleoedd tirlenwi.   Dywedodd Lesley Griffiths:     > "Mae'n wych gweld hefyd fod gostyngiad i'w weld o'r naill flwyddyn i'r llall ym maint y gwastraff rydyn ni'n ei gynhyrchu. Yr hyn sydd i gyfrif am y llwyddiant hwnnw yw ymrwymiad yr awdurdodau lleol a deiliaid tai i ailgylchu. Drwy gydweithio,, gallwn ni barhau i wella." Ychwanegodd Emyr Roberts, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC):         > “Mae'n wych gweld bod yr awdurdodau lleol yn mynd i'r afael â'r her hon. Mae'r ffaith bod llai o wastraff yn mynd i safleoedd tirlenwi yn dangos ein bod yn rheoli'n hadnoddau mewn ffordd fwy cynaliadwy a gwell. > > > > “Wedi dweud hynny, mae llawer iawn o ddeunyddiau y gellir eu hailgylchu yn dal i gael eu taflu. Mae hyn yn dangos bod cyfleoedd pellach i barhau i ddefnyddio adnoddau cyhyd ag y bo modd wrth inni anelu at newid i economi gylchol. > > > > "Drwy gynhyrchu llai o wastraff ac ailgylchu cymaint â phosibl, gallwn ni sicrhau ein bod yn rheoli'n hadnoddau'n well. Mae pen draw ar yr adnoddau hynny felly byddai hynny o fudd i bobl, economi ac amgylchedd Cymru."      
The final recycling figures for 2016/17 show the average combined reuse, recycling and composting rate across Wales’ 22 Local Authorities was 64%, an increase of 4 percentage points on last year’s final figure and 59 percentage points higher than the rate in 1998/99, when the data was first collected following devolution. It is also 6 percentage points higher then the current Statutory Recycling Target of 58%. Welcoming the statistics, the Cabinet Secretary for the Environment and Rural Affairs, Lesley Griffiths said: > “Wales leads the way in the UK when it comes to recycling, with these latest figures confirming we are exceeding our ambitious 58% target. It is also encouraging to see Ceredigion has already met our 2025 target of 70%.” Further figures released today (external link) show the amount of biodegradable municipal waste Local Authorities are sending to landfill has reduced by 89% since the first full year of the scheme in 2005\-06\.  Authorities sent 90,827 tonnes of biodegradable waste to landfill in 2016\-17, 77% less than the legal allowance of 390,000 tonnes. All 22 Local Authorities achieved their individual allocated allowance.   Reducing the amount of biodegradable waste going to landfill helps to cut greenhouse gas emissions, preventing the production and release of methane into the air from landfill sites. The Cabinet Secretary said:   > “It is also great to see the amount of waste we are generating continues to fall year on year. This achievement is thanks to Local Authorities and householders’ commitment to recycling. Together, we can continue to make improvements.” Emyr Roberts, Chief Executive of Natural Resources Wales, added:   > “It is great to see that Local Authorities are stepping up to meet this challenge. Less waste going to landfill shows that we are managing our resources in a better, more sustainable way.  > > > “However, considerable amounts of recyclable material are still being thrown away. This demonstrates further opportunities to keep resources in use for as long as possible as we aim to move towards a circular economy.” > > > “Producing less waste and maximising recycling will ensure that we manage our limited resources in a better way, which is good for the people, economy and environment of Wales.”    
Translate the text from Welsh to English.
Mae'r diwygiadau hyn yn golygu y bydd cynnydd o tua £27m i’r buddsoddiad yn y gwasanaeth meddygol cyffredinol.  Mae'r buddsoddiad hwn yn cynnwys cynnydd o 2\.7% i dâl a threuliau meddygon teulu ar gyfer 2017/18, sy'n cynnwys:  * codiad cyflog o 1%; * cynnydd o 1\.4% ar gyfer treuliau cyffredinol mewn perthynas â chostau practis; * cyfraniad tuag at gostau cynyddol yswiriant indemniad proffesiynol; * cyfraniad tuag at y gost uwch o weinyddu pensiynau; * cynnydd yn y cyllid ar gyfer absenoldeb mamolaeth, rhiant a salwch; * cyfraniad tuag at yr ardoll gwella busnes. Mae’r buddsoddiad hefyd yn darparu ar gyfer gwasanaethau estynedig i gartrefi gofal, wrth reoli warfarin, diabetes a rhoi profion gwaed. Bydd y meddygfeydd yn cynnig: * gwasanaeth estynedig i'r 22,700 o breswylwyr cartrefi gofal a nyrsio yng Nghymru, gyda'r nod o leihau'r amrywiad yn eu gofal. * gwasanaeth diabetes lleol estynedig gan bob meddygfa, sy'n darparu pecyn gofal mwy cynhwysfawr i gleifion ledled Cymru. * bydd holl feddygon teulu Cymru’n cynnig gwasanaeth rheoli Warfarin newydd, gan fodloni canllawiau NICE a sicrhau bod hyn yn digwydd yn yr un practis ag y mae materion iechyd eraill a newidiadau i bresgripsiynau’n cael eu trafod. * adnodd er mwyn mynd i’r afael â’r llwyth gwaith sy’n gysylltiedig ag ymdrin â cheisiadau sy’n ymwneud â gwaed o’r tu allan i’r practis. Yn ogystal â hyn, mae Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru, Llywodraeth Cymru a'r Gwasanaeth Iechyd wedi cytuno i gydweithio yn 2017/18 i foderneiddio'r contract er mwyn diwallu anghenion y cyhoedd a'r meddygon teulu eu hunain yn well. Mae hyn yn cynnwys: * gwella mynediad at wasanaethau * lleihau unrhyw fiwrocratiaeth diangen a gwella'r ffyrdd o fonitro ansawdd y gofal * mynd i'r afael â chost gynyddol yswiriant indemniad proffesiynol meddygon teulu Dywedodd yr Ysgrifennydd Iechyd, Vaughan Gething: > "Mae ein hagwedd gydweithredol i ymateb i'r her o ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel yn ein gwneud yn unigryw yma yng Nghymru.   > > "Rydym wedi bod yn gweithio'n agos gyda'n cydweithwyr sy'n feddygon teulu i gynnig atebion fydd yn arwain at roi’r gofal gorau i gleifion. Dw i'n hyderus mai'r dull hwn o weithio mewn partneriaeth yw'r ffordd orau ymlaen wrth inni barhau i drawsnewid gofal sylfaenol yng Nghymru. Mae'n rhoi sail gadarn i feddygon teulu allu parhau i ddarparu gofal iechyd o ansawdd uchel mewn ffordd gynaliadwy." Dywedodd Dr Charlotte Jones, Cadeirydd Pwyllgor Ymarferwyr Cyffredinol Cymru:  > “Mae’r Pwyllgor yn croesawu’r dull cydweithredol hwn sy’n cael ei arddel gan Lywodraeth Cymru i fynd i’r afael â’r heriau sy’n wynebu meddygon teulu Cymru. Dw i’n sicr y bydd gweithredu fel hyn yn arwain at y canlyniadau gorau i’r meddygon teulu a’r cleifion. > > “Mae’r newidiadau a gyhoeddwyd heddiw yn rhan o waith mwy hirdymor i adolygu’r cytundeb cyfan a sicrhau ei fod yn addas at y dyfodol. > > “Mae’r Pwyllgor yn edrych ymlaen at fod yn rhan o drafodaethau pellach dros y misoedd nesaf. > > “Ar ben hyn, ry’n ni’n croesawu’r buddsoddiad cyson i’r clystyrau, y £40m a gyhoeddwyd yn ddiweddar i ddatblygu safleoedd a’r £95m ar gyfer hyfforddi gweithwyr gofal iechyd i gefnogi gofal sylfaenol. Mae’r arian hwn yn mynd law yn llaw â chyhoeddiad heddiw, gan rannu’r un nod cyffredin o gryfhau’r ddarpariaeth o ofal sylfaenol.”
As a result of the agreed changes to the contract investment in general medical service will increase by approximately £27m.  This investment includes an uplift of 2\.7% for GP pay and expenses for 2017/18  which covers:  * a pay increase of 1%; * a general expenses uplift of 1\.4% to cover practice costs; * a contribution towards the rising costs of professional indemnity; * a contribution  towards the increased costs of the pensions administration ; * an increase in funding for maternity, parental leave and sickness absence; * a contribution towards the business improvement levy. The investment also includes provision for new enhanced services covering care homes; warfarin management , diabetes and the delivery of secondary care initiated phlebotomy test.  GP practices will provide;  * an enhanced service to all 22,700 nursing and residential care home residents in Wales, aimed at reducing variations in care; * a new Diabetes Local Enhanced Service will be offered by all GP practices  providing a  more comprehensive package of care to patients across Wales; * all GPs in Wales will offer a new Warfarin management service., meeting NICE guidelines ensuring the service  is carried out in the practice where other health issues and prescribing changes are discussed; * resources to recognise the workload associated with undertaking phlebotomy requests generated from outside the practice. GPC Wales, Welsh Government and NHS Wales have also agreed to work in close collaboration in 2017/18 to modernise the contract to better meet the needs of the public and GPs. This includes: * improving access to services; * reducing unnecessary bureaucracy and improving ways in which the quality of care is monitored; * addressing the rising costs of GP professional indemnity. Health Secretary Vaughan Gething said: > “In Wales, our collaborative approach to the challenge of providing high\-quality healthcare sets us apart.   > “We have worked closely with our GP colleagues to create solutions that deliver the best care for patients. I’m confident that this approach of working in partnership is the right one, as we continue to transform primary care in Wales. It provides a strong platform for GPs to continue to provide high quality, sustainable, healthcare” Chair of GPC Wales, Dr Charlotte Jones said:  > “GPC Wales welcomes the collaborative approach taken by Welsh Government to help address the challenges facing GPs in Wales. I am certain that this approach will deliver the best outcomes for GPs and patients alike.  > “The contract changes announced today will be part of a longer piece of work to review the entire contract and make it fit for the future.  > > “GPC Wales is looking forward to engaging in ongoing collaborative discussions over the months ahead. > “Additionally, we welcome the ongoing investment into clusters, the recently announced £40m for premises development, and the £95m for training healthcare professionals that will support primary care. These funds go hand in hand with today’s announcement, with the ultimate aim of strengthening primary care.”
Translate the text from Welsh to English.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog sy'n gyfrifol am drafnidiaeth y byddai'r cyllid yn cael ei ddarparu drwy 'Grant Rhwydwaith Bysiau' newydd. Bydd y grant yn cael ei roi i awdurdodau lleol i ddiogelu gwasanaethau pan ddaw Cronfa Bontio Llywodraeth Cymru ar gyfer Bysiau i ben ddydd Sul, 31 Mawrth. Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau newydd yn dechrau ar 1 Ebrill ac yn para am 12 mis.   Bydd gofyn i awdurdodau lleol fodloni amodau penodol i gael unrhyw gyllid. Mae’r amodau’n cynnwys sicrhau bod llwybrau ac amserlenni yn gwella amserau teithio, creu cyfleoedd i wella cysylltiadau lle gellir gwneud hynny, a gwella'r wybodaeth am amserau gwasanaethau bws.  Dywedodd Dirprwy Weinidog, Lee Waters: *"Bydd y Grant Rhwydwaith Bysiau yn dod â sefydlogrwydd i'r diwydiant yn ogystal â mwy o reolaeth gyhoeddus ar wasanaethau bysiau.* *"Bydd hefyd yn gweithredu fel pont o'r arian argyfwng sydd wedi'i roi ar gyfer masnachfreinio bysiau.* *"Bydd y grant yn cynnwys amodau penodol a fydd yn annog cydlynu gwasanaethau bysiau rhanbarthol yn well; tocynnau rhwydwaith a sicrhau gwybodaeth gywir a chyfredol am y gwasanaethau bysiau sy'n cael eu darparu."* Dros y tair blynedd diwethaf, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio ar gynlluniau i newid y ffordd mae bysiau'n cael eu rhedeg yng Nghymru. Yr wythnos ddiwethaf fe gyhoeddodd fanylion yn Ein Map Ffordd i Ddiwygio’r Bysiau ac, yn ddiweddarach eleni, bydd Bil Bysiau yn cael ei gyflwyno yn y Senedd. Dywedodd Lee Robinson, Cyfarwyddwr Gweithredol Trafnidiaeth Rhanbarthol ac Integreiddio Trafnidiaeth Cymru: *"Bydd masnachfreinio bysiau yn dod â'r system ddigyswllt bresennol i ben, lle mae cwmnïau preifat yn penderfynu pa lwybrau i'w rhedeg. Yn ei lle, bydd cynghorau a Llywodraeth Cymru yn gweithio mewn partneriaeth i gytuno ar rwydweithiau bysiau lleol a rhanbarthol fydd yn diwallu anghenion cymunedau.* *"Bydd hefyd yn galluogi Trafnidiaeth Cymru i gysylltu llwybrau bysiau ag amserlenni trenau a chreu system drafnidiaeth gyhoeddus integredig gydag un tocyn y gellir ei ddefnyddio ar y ddau."* Heddiw hefyd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru Adroddiad Argymhellion Teithio i Ddysgwyr 2023. Mae'r Adroddiad yn nodi cyfres o argymhellion i helpu i wella cysondeb, ansawdd a diogelwch y darpariaeth teithio i ddysgwyr ledled Cymru. Mae'r adroddiad yn argymell ailwampio'r canllawiau statudol sy'n disgrifio rolau a chyfrifoldebau pawb sy'n ymwneud â theithio i ddysgwyr. Dywedodd Dirprwy Weinidog, Lee Waters: *"Y gost ar gyfer rhedeg y bysiau ysgol bresennol yw tua £160 miliwn y flwyddyn ac mae wedi cynyddu'n sylweddol \- mae bellach yn cyfrif am tua chwarter y gwariant heb ei ddirprwyo ar ysgolion gan awdurdodau lleol.* *"Byddai darparu teithiau am ddim i ragor o ddisgyblion wrth reswm yn ychwanegu at y bil hwnnw yn sylweddol ar adeg o doriadau gwerth £1\.2 biliwn yng nghyllideb gyffredinol Llywodraeth Cymru.* *"Yn ein barn ni, mae bysiau ysgol yn rhan bwysig iawn o'n cynlluniau i ddod â bysiau yn ôl o dan reolaeth gyhoeddus, gan gysylltu trafnidiaeth ysgol â gwasanaethau rheolaidd a buddsoddi mewn bysiau modern sy'n hygyrch i bawb.* *"Drwy weithio gyda'n gilydd, credwn y gallwn feithrin diwylliant cymdeithasol, amgylcheddol a chynaliadwy o deithio cyfrifol i'r ysgol."*
The Deputy Minister with responsibility for transport said the funding would be provided through a new ‘Bus Network Grant’. The grant will be made available to local authorities to secure services once the Welsh Government’s Bus Transition Fund comes to an end on Sunday, March 31\. The new Bus Network Grant will begin on April 1 and run for 12 months.   Local authorities will be required to meet specific conditions to receive funding. These include ensuring routes and timetables support improved journey times, deliver opportunities for greater connectivity where possible, and provide improved information about the times of bus services.  Deputy Minister Lee Waters said: > “The Bus Network Grant will bring stability to the industry as well as increased public control of bus services.  > > “It will also act as a bridge from the emergency funding that has been provided towards bus franchising. > > “It will include specific conditions that will encourage improved regional co\-ordination of bus services; network ticketing and the need to ensure accurate and up to date information about the bus services provided.” For the last three years, the Welsh Government has been working on plans to reform the way buses in Wales are run. Last week it published details in a roadmap of bus reform and, later this year, a Bus Bill will be introduced in the Senedd. Lee Robinson, Transport for Wales’ Executive Director for Regional Transport and Integration said: > “Bus franchising will bring an end to a disjointed system, where it's up to private companies to decide which routes to run, and instead, councils and the Welsh Government work in partnership to agree local and regional bus networks that serve the needs of communities.  > > “It will also enable Transport for Wales to tie in bus routes with train timetables, to create an integrated public transport system and a single ticket which can be used for both.” Today (15 March) the Welsh Government also published the Learner Travel Recommendations Report 2023. The report sets out a series of recommendations to help improve the consistency, quality and safety of learner travel provision across Wales. The report recommends a comprehensive update to the statutory guidance documents which outlines the roles and responsibilities of all those involved in learner travel. Deputy Minister Lee Waters added: > “The cost of running existing school buses is around £160 million a year and has significantly increased – it now accounts for about a quarter of non\-delegated spending on schools by councils. > > “Making free travel available to more pupils would obviously add to that bill considerably at a time when the overall Welsh Government budget has faced cuts of £1\.2 billion. > > “We see school transport as fundamental to our plans to bring buses back under public control, linking school transport and scheduled services and supporting investment in modern buses that are accessible for all. > > “By working together, we believe that we can foster a socially, environmentally and sustainable culture of responsible travel to school.”
Translate the text from English to Welsh.
The following Written Statements have been laid before the Assembly under Standing Order 30C \- Notification in Relation to Statutory Instruments made by UK Ministers in devolved areas under the European Union (Withdrawal) Act 2018 not laid before the Assembly: **The Nutrition (Amendment etc) (EU Exit) Regulations 2019**
Gosodwyd y Datganiadau Ysgrifenedig canlynol gerbron y Cynulliad o dan Reol Sefydlog 30C \- Hysbysu mewn perthynas ag Offerynnau Statudol a wneir gan Weinidogion y DU mewn meysydd datganoledig o dan Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 na chânt eu gosod gerbron y Cynulliad: **Rheoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019**
Translate the text from English to Welsh.
During the procurement of the Wales \& Borders rail services contract I made a commitment to publish the documents which formed the basis for the procurement. Following the award of the contract, I am now pleased to advise members that the process to publicise these documents has begun. There are two broad sets of information which will be published, firstly the agreements between the Welsh Government and UK Government (Department for Transport) and secondly the procurement information. Information regarding the intra Governmental agreements will be made available on the Welsh Government’s website and the procurement documents can be found on Transport for Wales’ website. https://tfw.gov.wales/projects/wales\-and\-borders\-rail\-service This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.        
Yn ystod y broses o gaffael y contract ar gyfer gwasanaethau rheilffyrdd Cymru a’r Gororau, ymrwymais i gyhoeddi’r dogfennau a oedd yn sail i’r broses honno. Ar ôl dyfarnu’r contract, rwy’n falch o roi gwybod i’r Aelodau bod y broses ar gyfer cyhoeddi’r dogfennau wedi dechrau. Caiff dwy set eang o wybodaeth eu cyhoeddi, sef y cytundebau rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU (yr Adran Drafnidiaeth) a’r wybodaeth gaffael. Bydd gwybodaeth am y cytundebau rhynglywodraethol yn cael ei chyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru a chewch weld y dogfennau caffael ar wefan Trafnidiaeth Cymru.   https://tfw.gov.wales/cy/prosiectau/gwasanaeth\-rheilffyrdd\-cymru\-ar\-gororau Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from English to Welsh.
The new school will be able to accommodate 1,200 pupils who live mainly on the eastern side of Cwmbran. The project will cost £30m in total with Torfaen Council providing the rest of the funding. Croesyceliog school forms part of the £86 million investment that has been earmarked for school building improvement in Torfaen through the Welsh Government’s £1\.4 billion 21st Century Schools and Education Programme. Kirsty Williams said:  > “This new funding will mean Croesyceiliog school will get a £30m new building providing the most modern facilities for pupils and the best environment possible to learn in. > > “We are determined to continue investing in our schools as part of our drive to raise standards.”
Bydd lle yn yr ysgol newydd ar gyfer 1,200 o ddisgyblion sy’n byw yn bennaf ar ochr ddwyreiniol Cwmbrân. Bydd y prosiect yn costio cyfanswm o £30miliwn a bydd Cyngor Torfaen yn darparu gweddill yr arian. Mae Ysgol Croes\-y\-ceiliog yn rhan o fuddsoddiad £86miliwn sydd wedi’i glustnodi ar gyfer gwella adeiladau ysgolion yn Nhorfaen drwy’r Rhaglen Gyfalaf i Sicrhau Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif. Dywedodd Kirsty Williams:  > “Bydd yr arian newydd hwn yn golygu y bydd Ysgol Croes\-y\-ceiliog yn cael adeilad newydd gwerth £30miliwn a fydd yn darparu’r cyfleusterau diweddaraf i ddisgyblion a’r amgylchedd gorau posibl i ddysgu ynddo. > > “Rydym yn benderfynol o barhau i fuddsoddi yn ein hysgolion fel rhan o’n hymgais i godi safonau.”
Translate the text from Welsh to English.
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr achosion diweddar o danau glaswellt yng Nghymru. Mae cyfnodau estynedig o dywydd poeth a sych wastad yn cynyddu’r perygl o danau, yn enwedig mewn ardaloedd o laswelltir heb ei drin, gweundiroedd a choedwigoedd. Cafwyd cyfnod o’r fath yn ystod y dyddiau diweddar, gyda thanau difrifol mewn mannau gan gynnwys Ynys Môn a’r Rhondda, a bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân dreulio amser maith yn ymateb iddynt. Bu nifer o danau llai o faint hefyd a ddiffoddwyd yn gyflym ac yn rhwydd. Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r tanau hyn wedi eu cynnau yn fwriadol. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau yn ymuno â mi wrth gondemnio’r ymddygiad hwn yn llwyr. Mae tanau glaswellt yn diffeithio’r amgylchedd, yn lladd bywyd gwyllt a da byw, yn peryglu cartrefi a busnesau ac yn peryglu bywydau diffoddwyr tân a phobl eraill. Nid yw cynnau tanau yn fwriadol yn rhywbeth doniol neu glyfar – mae’n beryglus ac yn dwp. Bydd pobl a gaiff eu dal yn gwneud hynny yn cael eu herlyn am y drosedd ddifrifol iawn o gynnau tanau bwriadol. Gallant ddisgwyl dirwy drom neu gyfnod o garchar, a chofnod troseddol am weddill eu hoes. Yn amlwg, mae’n well o lawer atal tanau o’r fath yn hytrach na gorfod eu diffodd. Rydym wedi canolbwyntio ar atal tanau ers cyfnod y Pasg 2015, pan welwyd bron 1,500 o danau glaswellt mewn mis. Bu’r Gwasanaeth Tân yn cydweithio’n ddyfal â’r heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion, ffermwyr ac eraill i annog pobl i beidio â chynnau tanau, a datblygu dulliau eraill o leihau risgiau megis gwella trefniadau rheoli tir. Yn ddiamau, mae’r dull gweithredu hwn wedi gweithio. Roedd nifer y tanau glaswellt bron wedi ei haneru ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen hon – ac, er gwaethaf yr achosion diweddar, mae’n bosibl o hyd y bydd nifer y tanau a gofnodir eleni yn is nag erioed o’r blaen. Er hynny, ni ellir cael gwared â’r broblem yn llwyr. Mae tanau glaswellt yn rhy hawdd i’w cynnau, yn enwedig mewn tywydd fel hyn. Gan hynny, rydym hefyd wedi cynorthwyo’r Gwasanaeth Tân i fuddsoddi yn y cyfarpar arbenigol a’r hyfforddiant arbenigol sydd eu hangen ar ddiffoddwyr tân i ddiffodd tanau glaswellt yn gyflym ac yn effeithiol. Yn enwedig, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru \- sy’n wynebu’r perygl mwyaf o lawer – yw un o’r gwasanaethau tân sydd â’r offer a’r cyfarpar gorau yn y DU, ac mae’r gwasanaeth hwnnw yn meddu ar arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Roedd criwiau’r gwasanaeth hwnnw ymhlith y cyntaf i gael eu hanfon i helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf i ddiffodd tân Gweundir Saddleworth, heb beryglu gallu’r Gwasanaeth i ymateb i ddigwyddiadau yn ei ardal leol hefyd. Er gwaethaf hynny oll, mae diffodd tanau glaswellt yn dal i fod yn waith heriol a pheryglus. Weithiau, y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o ddiffodd tân o’r fath yw ei gyfyngu a gadael iddo losgi hyd at ddiffodd. Efallai y bydd hynny’n ymddangos i’r rheini yn y cyffiniau agos fel dull braidd yn araf o ddiffodd y tân. Gallwn eu sicrhau y diffoddir unrhyw dân sy’n peryglu bywydau neu eiddo mewn ffordd fwy gweithredol o lawer, ac mai gwarchod diogelwch y cyhoedd yw prif flaenoriaeth y Gwasanaeth Tân ar bob adeg. Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw’r rhan fwyaf o’n diffoddwyr tân yn ddiffoddwyr tân llawn amser, ac nid oes yr un ohonynt yn ddiffoddwyr tân llawn amser mewn ardaloedd gwledig. Caiff y diffoddwyr eu galw i mewn o’u cartrefi neu eu gweithleoedd fel y bo’u hangen, ac ar adegau fel hyn gall y galwadau arnynt fod yn drwm iawn. Gall y galwadau fod yn drwm iawn ar eu cyflogwyr hefyd, gan fod galw diffoddwyr tân o blith eu staff yn gallu amharu’n ddifrifol ar eu busnesau. Hoffwn ddiolch i’r cyflogwyr hynny am eu cymorth o ran cadw ein cymunedau yn ddiogel. Nid oes unrhyw olwg o newid yn rhagolygon y tywydd dros y saith i ddeng niwrnod nesaf, sy’n golygu bod perygl uchel o danau glaswellt o hyd. Rydym yn monitro’r sefyllfa yn barhaus, ond rwyf yn hyderus bod gan ein gwasanaethau tân bopeth sydd eu hangen arnynt i reoli’r perygl hwn yn effeithiol.
I would like to update Members on the recent outbreaks of grass fires in Wales. Extended spells of hot and dry weather always increase the risk of fire, especially in areas of uncultivated grassland, moorland and forestry. Recent days have been no exception, with significant incidents from Anglesey to the Rhondda requiring a prolonged firefighting response. There have been many more small fires which have been quickly and easily dealt with. Most of these fires appear to have been started deliberately. I am sure Members will join me in condemning this behaviour in the strongest possible terms. Grass fires devastate the environment, kill wildlife and livestock, threaten homes and businesses and put the lives of firefighters and others at risk. Starting them deliberately is not funny or clever – it is dangerous and idiotic. Those caught doing so face prosecution for the very serious offence of arson. They can expect a substantial fine or time in prison, and a criminal record for the rest of their lives. It is clearly far better to prevent such fires than to fight them. That has been our focus since Easter 2015, when we saw almost 1,500 grass fires in a month. The Fire Service has worked intensively with the police, local authorities, schools, farmers and others to divert and deter people from fire\-setting, and to develop other ways of reducing risk such as better land management. That has unquestionably worked. The number of grass fires fell by almost half in the first year of this programme – and, despite recent outbreaks, this year could well still see the lowest number of grass fires on record. But we can never eliminate the problem altogether. Grass fires are too easy to start, especially in weather like this. So we have also supported the Fire Service to invest in the specialist equipment and training firefighters need to tackle grass fires swiftly and effectively. In particular, South Wales FRS – which faces by far the greatest risk – is one of the best\-equipped brigades in the UK, with an expertise that is recognised internationally. Its crews were among the first to be deployed to help Greater Manchester FRS to tackle the Saddleworth Moor fire, without compromising the Service’s ability to respond to incidents closer to home. Despite all that, fighting grass fires remains challenging and dangerous. Sometimes, the safest and most effective way of tackling such a fire is to contain it and allow it to burn out. To those in the vicinity this might seem like slow progress. They should be assured that any fire which threatens life or property will receive a more aggressive response, and that protecting public safety is the Fire Service’s top priority at all times. It is also important to remember that most of our firefighters are not full\-time, and in rural areas none of them are. They are called in from their homes or workplaces as they are needed, and at times like these the demands on them can be severe. So can the demands on their employers, who can experience significant disruption to their businesses when on\-call firefighters among their staff are called upon. I would like to thank them for their support in keeping our communities safe. The forecast indicates little change in the weather for the next 7 to 10 days, which means the risk of grass fires remains high. We are keeping the situation under constant review, but, I am confident that our fire services have all they need to manage this risk effectively.
Translate the text from English to Welsh.
I would like to update Members on the recent outbreaks of grass fires in Wales. Extended spells of hot and dry weather always increase the risk of fire, especially in areas of uncultivated grassland, moorland and forestry. Recent days have been no exception, with significant incidents from Anglesey to the Rhondda requiring a prolonged firefighting response. There have been many more small fires which have been quickly and easily dealt with. Most of these fires appear to have been started deliberately. I am sure Members will join me in condemning this behaviour in the strongest possible terms. Grass fires devastate the environment, kill wildlife and livestock, threaten homes and businesses and put the lives of firefighters and others at risk. Starting them deliberately is not funny or clever – it is dangerous and idiotic. Those caught doing so face prosecution for the very serious offence of arson. They can expect a substantial fine or time in prison, and a criminal record for the rest of their lives. It is clearly far better to prevent such fires than to fight them. That has been our focus since Easter 2015, when we saw almost 1,500 grass fires in a month. The Fire Service has worked intensively with the police, local authorities, schools, farmers and others to divert and deter people from fire\-setting, and to develop other ways of reducing risk such as better land management. That has unquestionably worked. The number of grass fires fell by almost half in the first year of this programme – and, despite recent outbreaks, this year could well still see the lowest number of grass fires on record. But we can never eliminate the problem altogether. Grass fires are too easy to start, especially in weather like this. So we have also supported the Fire Service to invest in the specialist equipment and training firefighters need to tackle grass fires swiftly and effectively. In particular, South Wales FRS – which faces by far the greatest risk – is one of the best\-equipped brigades in the UK, with an expertise that is recognised internationally. Its crews were among the first to be deployed to help Greater Manchester FRS to tackle the Saddleworth Moor fire, without compromising the Service’s ability to respond to incidents closer to home. Despite all that, fighting grass fires remains challenging and dangerous. Sometimes, the safest and most effective way of tackling such a fire is to contain it and allow it to burn out. To those in the vicinity this might seem like slow progress. They should be assured that any fire which threatens life or property will receive a more aggressive response, and that protecting public safety is the Fire Service’s top priority at all times. It is also important to remember that most of our firefighters are not full\-time, and in rural areas none of them are. They are called in from their homes or workplaces as they are needed, and at times like these the demands on them can be severe. So can the demands on their employers, who can experience significant disruption to their businesses when on\-call firefighters among their staff are called upon. I would like to thank them for their support in keeping our communities safe. The forecast indicates little change in the weather for the next 7 to 10 days, which means the risk of grass fires remains high. We are keeping the situation under constant review, but, I am confident that our fire services have all they need to manage this risk effectively.
Hoffwn roi’r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau am yr achosion diweddar o danau glaswellt yng Nghymru. Mae cyfnodau estynedig o dywydd poeth a sych wastad yn cynyddu’r perygl o danau, yn enwedig mewn ardaloedd o laswelltir heb ei drin, gweundiroedd a choedwigoedd. Cafwyd cyfnod o’r fath yn ystod y dyddiau diweddar, gyda thanau difrifol mewn mannau gan gynnwys Ynys Môn a’r Rhondda, a bu’n rhaid i ddiffoddwyr tân dreulio amser maith yn ymateb iddynt. Bu nifer o danau llai o faint hefyd a ddiffoddwyd yn gyflym ac yn rhwydd. Ymddengys fod y rhan fwyaf o’r tanau hyn wedi eu cynnau yn fwriadol. Rwy’n siŵr y bydd Aelodau yn ymuno â mi wrth gondemnio’r ymddygiad hwn yn llwyr. Mae tanau glaswellt yn diffeithio’r amgylchedd, yn lladd bywyd gwyllt a da byw, yn peryglu cartrefi a busnesau ac yn peryglu bywydau diffoddwyr tân a phobl eraill. Nid yw cynnau tanau yn fwriadol yn rhywbeth doniol neu glyfar – mae’n beryglus ac yn dwp. Bydd pobl a gaiff eu dal yn gwneud hynny yn cael eu herlyn am y drosedd ddifrifol iawn o gynnau tanau bwriadol. Gallant ddisgwyl dirwy drom neu gyfnod o garchar, a chofnod troseddol am weddill eu hoes. Yn amlwg, mae’n well o lawer atal tanau o’r fath yn hytrach na gorfod eu diffodd. Rydym wedi canolbwyntio ar atal tanau ers cyfnod y Pasg 2015, pan welwyd bron 1,500 o danau glaswellt mewn mis. Bu’r Gwasanaeth Tân yn cydweithio’n ddyfal â’r heddlu, awdurdodau lleol, ysgolion, ffermwyr ac eraill i annog pobl i beidio â chynnau tanau, a datblygu dulliau eraill o leihau risgiau megis gwella trefniadau rheoli tir. Yn ddiamau, mae’r dull gweithredu hwn wedi gweithio. Roedd nifer y tanau glaswellt bron wedi ei haneru ym mlwyddyn gyntaf y rhaglen hon – ac, er gwaethaf yr achosion diweddar, mae’n bosibl o hyd y bydd nifer y tanau a gofnodir eleni yn is nag erioed o’r blaen. Er hynny, ni ellir cael gwared â’r broblem yn llwyr. Mae tanau glaswellt yn rhy hawdd i’w cynnau, yn enwedig mewn tywydd fel hyn. Gan hynny, rydym hefyd wedi cynorthwyo’r Gwasanaeth Tân i fuddsoddi yn y cyfarpar arbenigol a’r hyfforddiant arbenigol sydd eu hangen ar ddiffoddwyr tân i ddiffodd tanau glaswellt yn gyflym ac yn effeithiol. Yn enwedig, Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru \- sy’n wynebu’r perygl mwyaf o lawer – yw un o’r gwasanaethau tân sydd â’r offer a’r cyfarpar gorau yn y DU, ac mae’r gwasanaeth hwnnw yn meddu ar arbenigedd a gydnabyddir yn rhyngwladol. Roedd criwiau’r gwasanaeth hwnnw ymhlith y cyntaf i gael eu hanfon i helpu Gwasanaeth Tân ac Achub Manceinion Fwyaf i ddiffodd tân Gweundir Saddleworth, heb beryglu gallu’r Gwasanaeth i ymateb i ddigwyddiadau yn ei ardal leol hefyd. Er gwaethaf hynny oll, mae diffodd tanau glaswellt yn dal i fod yn waith heriol a pheryglus. Weithiau, y ffordd fwyaf diogel ac effeithiol o ddiffodd tân o’r fath yw ei gyfyngu a gadael iddo losgi hyd at ddiffodd. Efallai y bydd hynny’n ymddangos i’r rheini yn y cyffiniau agos fel dull braidd yn araf o ddiffodd y tân. Gallwn eu sicrhau y diffoddir unrhyw dân sy’n peryglu bywydau neu eiddo mewn ffordd fwy gweithredol o lawer, ac mai gwarchod diogelwch y cyhoedd yw prif flaenoriaeth y Gwasanaeth Tân ar bob adeg. Mae hefyd yn bwysig cofio nad yw’r rhan fwyaf o’n diffoddwyr tân yn ddiffoddwyr tân llawn amser, ac nid oes yr un ohonynt yn ddiffoddwyr tân llawn amser mewn ardaloedd gwledig. Caiff y diffoddwyr eu galw i mewn o’u cartrefi neu eu gweithleoedd fel y bo’u hangen, ac ar adegau fel hyn gall y galwadau arnynt fod yn drwm iawn. Gall y galwadau fod yn drwm iawn ar eu cyflogwyr hefyd, gan fod galw diffoddwyr tân o blith eu staff yn gallu amharu’n ddifrifol ar eu busnesau. Hoffwn ddiolch i’r cyflogwyr hynny am eu cymorth o ran cadw ein cymunedau yn ddiogel. Nid oes unrhyw olwg o newid yn rhagolygon y tywydd dros y saith i ddeng niwrnod nesaf, sy’n golygu bod perygl uchel o danau glaswellt o hyd. Rydym yn monitro’r sefyllfa yn barhaus, ond rwyf yn hyderus bod gan ein gwasanaethau tân bopeth sydd eu hangen arnynt i reoli’r perygl hwn yn effeithiol.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, rwyf i'n rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am fy mlaenoriaeth o ran twf gwyrdd. Ym mis Tachwedd 2013, gwnaeth y Cabinet gymeradwyo dull o weithredu sy’n seiliedig ar dwf gwyrdd ac rydym ni fel Llywodraeth wedi ymrwymo i weithio ar y cyd er mwyn gwneud yn fawr o'r cyfleoedd a gynigir gan dwf gwyrdd. Mae'r Grŵp Llywio Twf Gwyrdd yn adrodd yn uniongyrchol imi a Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth. Ym mis Chwefror, y cam cychwynnol a gymerwyd gan y Grŵp oedd cyhoeddi astudiaeth waelodlin ar dwf gwyrdd. Fodd bynnag, nid cyfrifoldeb un neu ddwy Adran yn unig yw twf gwyrdd. Yn hytrach, mae'n agenda drawsbynciol ac mae'n gyfrifoldeb ar bob adran o fewn ein Llywodraeth. Mae'r datganiad hwn yn rhoi manylion am rhai o’r meysydd yr wyf yn eu datblygu er mwyn cynorthwyo fy nghydweithwyr yn y cabinet i fynd i'r afael â'r agenda trawsbynciol hwn. Mae’r egwyddor datblygu cynaliadwy, fel y’i nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) yn sail i'r agenda twf gwyrdd y byddwn yn ei datblygu. Yng Nghymru, hanfod Twf Gwyrdd yw meithrin twf economaidd, datblygiad ac ecwiti cymdeithasol gan sicrhau bod ein hasedau naturiol yn gallu parhau i ddarparu'r adnoddau a'r gwasanaethau amgylcheddol y mae ein lles yn dibynnu arnynt. I wneud hynny, mae angen ysgogi buddsoddiad ac arloesedd. Bydd hynny'n sail i dwf cynaliadwy ac yn fodd i sicrhau cyfleoedd economaidd newydd, i ddatblygu ein gweithlu a meithrin sgiliau. Bydd angen hefyd rannu enillion y twf mewn ffordd deg drwy ddarparu swyddi da. Fel Llywodraeth, credwn fod twf gwyrdd yn fwy na dim ond cefnogi twf yn yr economi werdd – er bod hynny'n rhan bwysig o'n heconomi. Credwn fod twf gwyrdd yn ymwneud â sicrhau bod twf economaidd a'r amgylchedd yn mynd law yn llaw ar draws yr economi yn ei chyfanrwydd. Nid yw'n wir dweud na fydd gwyrddu’r economi yn ei chyfanrwydd yn sicrhau swyddi a thwf. Mae'r hyn sy'n sbarduno newid yn glir. Mae angen inni fynd ar drywydd twf economaidd a datblygiad sy'n amddiffyn y bobl fwyaf agored i niwed yn ein cymdeithas ond sydd hefyd yn sicrhau nad ydym yn mynd i gostau yn sgil y newid yn yr hinsawdd nac yn defnyddio adnoddau naturiol mewn modd anghynaliadwy. Mae'r manteision a'r cyfleoedd sy’n gysylltiedig â mynd ar drywydd twf gwyrdd wedi codi’n uwch ar yr agenda fyd\-eang. Ar ôl i Weinidogion mewn 34 o wledydd gefnogi twf gwyrdd, mae'r Sefydliad ar gyfer Cydweithrediad a Datblygiad Economaidd wedi llunio strategaeth twf gwyrdd. Mae Llywodraeth Cymru eisiau gwneud yn fawr o'r cyfleoedd rhyngwladol sydd ar gael. Cymru yw un o'r gwledydd cyntaf i lofnodi’r memorandwm      Cyd\-ddealltwriaeth Byd\-eang Newydd (MoU) ar Arweinyddiaeth Hinsawdd Byd\-eang          Is\-wladol. Fe'i llofnodwyd hefyd gan dalaith California a 10 arall. Drwy fod yn rhan o'r MoU, bydd modd i Gymru ddangos y camau cadarnhaol y mae’n eu cymryd ac wedi ymrwymo iddynt er mwyn mwyn i’r afael â’r newid yn yr hinsawdd, a hynny ar lwyfan rhyngwladol. Bydd yn fodd i ddenu buddsoddiad drwy dwf gwyrdd.  Wrth fynd ati i ddewis lleoliadau ar gyfer eu busnes, mae’r byd busnes ynghyd â gwledydd y byd yn canolbwyntio fwyfwy ar y defnydd cynaliadwy o adnoddau naturiol ac ar yr adnoddau naturiol hynny sydd ar gael. Mae gan Gymru fantais sylweddol o safbwynt ei hadnoddau naturiol ac rydym yn benderfynol o wneud yn fawr o'r fantais honno, ond nid ar draul yr adnoddau naturiol eu hunain. Mae angen system reoleiddiol effeithiol ar farchnadoedd llwyddiannus ynghyd â gweledigaeth strategol gryf. Rydym wrthi'n rhoi'r ddau ohonynt ar waith. Bydd Bil yr Amgylchedd (Cymru) yn sicrhau mwy o eglurder i fusnesau o ran y trywydd yr ydym am ei ddilyn er mwyn datgarboneiddio a sicrhau effeithlonrwydd o ran adnoddau. Bydd yn cryfhau ein hymrwymiadau o safbwynt y newid yn yr hinsawdd drwy roi fframwaith cyllidebau carbon ar waith. Y bwriad yw sicrhau gostyngiad o 80% o leiaf yn yr allyriadau erbyn 2050\. Bydd hefyd yn darparu cyfleoedd i fusnesau yng Nghymru fuddsoddi mewn rheoli gwastraff yn y dyfodol gan gynnwys, casglu, trin, ailbrosesu ac  adennill ynghyd ag ailweithgynhyrchu. Bydd hynny’n lleihau costau busnesau ac yn creu swyddi. Ond mae ein hymrwymiad i dwf gwyrdd yn fwy na rhoi fframwaith cyfreithiol a pholisïau ar waith. Byddwn yn sicrhau bod twf gwyrdd yn rhan o bopeth a wnawn ar lawr gwlad gan sicrhau bod hynny'n cael effaith gadarnhaol ar bobl a busnesau yng Nghymru. Twf Gwyrdd Cymru yw'r brand a ddefnyddiwn ar gyfer y gyfres o ymyriadau yr ydym yn eu datblygu er mwyn sicrhau buddsoddiad gwyrdd i Gymru ac er mwyn cyflymu'r broses. Ein bwriad yw hybu buddsoddiad sy'n lleihau allyriadau carbon, yn cwrdd â’i chostau ei hun, yn creu arbedion/incwm i'r sector cyhoeddus yn y tymor hir ac yn sicrhau manteision economaidd, gan gynnwys creu swyddi. Rydw i'n gweithio’n agos gyda Gweinidog yr EGT, yng nghŷd\-destun ei chyfrifoldebau ynni  a’i hymwneud â chwmniau angor, yn ogystal â chydweithwyr eraill yn y Cabinet i sicrhau bod Twf Gwyrdd Cymru yn sicrhau'r manteision hyn. Bydd hynny'n caniatáu iddynt gyflawni eu hymrwymiadau o ran yr hinsawdd ynghyd â sicrhau manteision economaidd a fydd yn rhyddhau cyllidebau ar gyfer gwasanaethau'r rheng flaen. Mae nifer o brosiectau ynni adnewyddadwy, effeithlonrwydd adnoddau ac ynni o wastraff yn yr arfaeth gan Twf Gwyrdd Cymru, a'r bwriad yw codi lefelau sylweddol o gyllid preifat i gefnogi'r prosiectau hynny. Byddwn yn sicrhau bod y prosiectau hyn yn rhoi cyfleoedd newydd i fusnesau yng Nghymru, yn eu diogelu ac yn creu swyddi. Bydd pecyn cymorth ar gyfer datblygu prosiectau yn sicrhau bod sefydliadau yn gwneud defnydd o'r technolegau a'r dulliau diweddaraf sy'n sicrhau'r atebion gorau ar eu cyfer o safbwynt ynni. Bydd hefyd yn gwneud yn fawr o'r cyfleoedd fydd ar gael i fusnesau o Gymru. Byddaf yn rhoi mwy o fanylion am Twf Gwyrdd Cymru cyn toriad yr haf.
I am today providing an update on my green growth priority. In November 2013 Cabinet endorsed the green growth approach and as a Government we are committed to working collectively to maximise the opportunities green growth presents.  The Green Growth Steering Group, which reports directly to myself and the Minister for Economy, Science and Transport, as a first step, published a green growth baseline study in February. However, green growth is not simply the responsibility of one or two Departments; instead it is a cross cutting agenda that is the responsibility of our Government as a whole. This statement details a few of the areas I am developing to help support my cabinet colleagues in this cross cutting agenda. The sustainable development principle, as set out in the Well\-being of Future Generations (Wales) Act, is the basis upon which our green growth agenda will be developed. Green growth in Wales is about fostering economic growth, development and social equity while ensuring that our natural assets can continue to provide the resources and environmental services on which our well\-being relies.  To do this it must stimulate investment and innovation, which will underpin sustained growth and give rise to new economic opportunities, develop our workforce and build skills, and fairly distribute the proceeds of growth through the provision of decent work. As a Government we believe green growth goes beyond just supporting growth in the green economy, which is an important subset of our economy. We believe that green growth is about ensuring that economic growth and the environment go hand in hand across the whole economy and that it is a fallacy that greening the whole economy will not deliver jobs and growth. The drivers for change are clear. We need to pursue economic growth and development that protects our most vulnerable in society while preventing costly climate change and unsustainable natural resource use. The benefits and opportunities of moving towards a green growth trajectory have risen up the global agenda. Following the endorsement of green growth from Ministers from 34 countries the OECD has developed a green growth strategy. The Welsh Government wants to seize the international opportunities on offer.  Wales is one of the founding signatories of the Memorandum of Understanding (MoU) on Subnational Global Climate Leadership along with the state of California and 10 other signatories. Being part of the MoU will help demonstrate Wales’ positive actions and commitment to combat climate change on an international stage and help attract investment through green growth. As well as countries, the business world is increasingly focusing on the sustainable use of natural resources and availability of those natural resources when considering where to locate. Wales has a significant natural resource advantage and we are determined to ensure that this advantage is maximised, but not to the cost of the natural resources themselves. Successful markets need an effective regulatory regime and a strong strategic vision. We are putting both in place.  The Environment (Wales) Bill will provide further clarity for business in relation to the pathway for decarbonisation and resource efficiency.  It will strengthen our climate change commitments by putting in place a carbon budgeting framework working towards at least an 80% reduction in emissions by 2050\. It will also provide opportunities for businesses in Wales to invest in future waste management including collections, treatment, reprocessing and recovery as well as remanufacturing. This will reduce business costs as well as create jobs.  But our commitment to green growth goes further than putting in place a legal and policy framework. We will ensure that green growth is reflected in all we do at the grass roots level, making a positive impact for the people and businesses of Wales. Green Growth Wales is our “brand” for a suite of interventions we are developing to increase and accelerate green investment in Wales.  Our intention is to promote investment that reduces carbon emissions, covers its own costs, creates public sector saving/income over the longer term and creates economic benefit including employment. I am working closely with the Minister for EST, in respect of her responsibilities in regard to energy and relations with anchor companies, and other Cabinet Colleagues to ensure that Green Growth Wales delivers these benefits, not only enabling them to deliver on their climate commitments, but delivering them economic benefits that free up budgets for front\-line services. Green Growth Wales is developing a pipeline of projects encompassing renewable energy, resource efficiency and energy from waste, with the intention to raise significant levels of private finance to support those projects. We will ensure that these projects provide new opportunities for businesses in Wales and protect and create jobs.  A package of project development support will ensure that organisations make use of the latest technologies and approaches that deliver the best energy solutions for them, and we will maximise the opportunities for Welsh businesses. I will be coming forward with further details on Green Growth Wales before summer recess.
Translate the text from Welsh to English.
Mae'r sioe ddeuddydd yn cael ei chynnal rhwng 9 a 10 Awst, a dyma'r tro cyntaf iddi gael ei chynnal wyneb yn wyneb ers 2019\. Bydd y Gweinidog Materion Gwledig yn ymweld â'r sioe heddiw (dydd Mawrth, 9 Awst). Dywedodd y Gweinidog: > "Rwyf bob amser yn edrych ymlaen at ddod i Sioe Môn ac rwy'n gwybod y bydd yn achlysur mwy arbennig nag arfer eleni.  Rwy'n falch iawn fy mod yn gallu bod yn bresennol yn berson a chwrdd â phobl wyneb yn wyneb unwaith eto, gan fwynhau awyrgylch y sioe. > > > "Mae'r sioe yn gyfle i'r diwydiant ffermio a'r gymuned wledig arddangos y gorau o fywyd cefn gwlad a rhai o'r cynhyrchion anhygoel o’r radd flaenaf rydyn ni’n ei gynhyrchu mor dda yma yng Nghymru. > > > "Un o’r prif bethau bydda i’n canolbwyntio arnyn nhw, fel yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, fydd trafod y cynigion ar gyfer y Cynllun Ffermio Cynaliadwy amlinellol a gyhoeddwyd gen i fis diwethaf, ac annog ffermwyr i gymryd rhan yn y cydlunio, i'n helpu ni i ddatblygu manylion y cynigion diweddaraf.  Nod y cynigion hyn yw atgyfnerthu'r diwydiant ffermio a'n cymunedau gwledig, a galluogi ein ffermwyr i daclo ac addasu i heriau'r argyfwng natur a'r argyfwng hinsawdd ochr yn ochr â chynhyrchu bwyd yn gynaliadwy.  > > > "Os hoffech chi ddysgu mwy a chyfrannu at y drafodaeth ewch i drelar Llywodraeth Cymru yn y sioe. > > > "Rwy'n edrych ymlaen yn fawr at y sioe ac rwy'n dymuno pob llwyddiant i'r digwyddiad."
The two\-day show is taking place from 9 – 10 August and it is the first time the event is taking place in person since 2019\. The Rural Affairs Minister will be visiting the show today (Tuesday, 9 August). The Minister said: > “I always look forward to attending Sioe Mon and I know it will be extra special this year.  I’m very pleased to be able to attend in person and meet people face to face once again, enjoying the atmosphere of the show. > > > “The show is an opportunity for the farming industry and rural community to showcase the best of rural life and some of the amazing world\-class produce we excel at producing here in Wales. > > > “One of the main focuses for me, as at the Royal Welsh in July, will be discussing the proposals for the outline Sustainable Farming Scheme which I published last month and encouraging farmers to take part in co\-design, to help us flesh out the details of the latest proposals.  These proposals aim to strengthen the farming industry and our rural communities, and enable our farmers to tackle, and adapt to the challenges of the nature and climate emergencies alongside the sustainable production of food.  > > > “If you want to find out more and contribute to the discussion please visit the Welsh Government trailer at the show. > “I’m very much looking forward to the show and I wish the event every success.”
Translate the text from English to Welsh.
Last year we established the Independent Commission on the Constitutional Future of Wales. We asked the Commission to produce an interim report by the end of this year. I am pleased to notify members the Commission have published a report which can be read here https://gov.wales/independent\-commission\-on\-the\-constitutional\-future\-of\-wales\-interim\-report . We will now be considering the report carefully and I would encourage anyone with an interest in our constitution to do the same. I would like to thank the Co\-Chairs and members of the Commission for their work to date. We propose to schedule an oral statement in plenary in the New Year to enable members to discuss the report.
Y llynedd, sefydlwyd y Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Gofynnwyd i'r Comisiwn lunio adroddiad interim erbyn diwedd y flwyddyn hon. Rwy'n falch o roi gwybod i'r aelodau bod y Comisiwn wedi cyhoeddi adroddiad y gellir ei ddarllen yma https://llyw.cymru/comisiwn\-annibynnol\-ar\-ddyfodol\-cyfansoddiadol\-cymru\-adroddiad\-interim. Byddwn yn awr yn ystyried yr adroddiad yn ofalus ac rwy’n annog y sawl sydd â diddordeb yn ein cyfansoddiad i wneud yr un fath. Hoffwn ddiolch i'r Cydgadeiryddion ac i aelodau'r Comisiwn am eu gwaith hyd yma. Rydym yn cynnig trefnu datganiad llafar yn y Cyfarfod Llawn yn y flwyddyn newydd er mwyn i’r aelodau allu trafod yr adroddiad.
Translate the text from Welsh to English.
Mae prosiect Cenedl Hyblyg 2, a ddarperir gan Chwarae Teg ac a ariennir drwy Gronfa Gymdeithasol Ewrop, wedi cynorthwyo 3498 o fenywod ac wedi cydweithio â 695 o gyflogwyr hyd yn hyn, er mwyn hyrwyddo datblygiad gyrfaol menywod a helpu i leihau'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau. Mae'r prosiect, a fydd bellach yn cael ei ymestyn tan 2023, yn cefnogi menywod mewn gwaith i ddatblygu eu gyrfaoedd drwy ddarparu cymwysterau arweinyddiaeth achrededig a mentora, ac y mae’n cefnogi busnesau i weithredu strategaethau cydraddoldeb ac arferion gwaith modern. Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, Jeremy Miles: > "Rydym yn falch o'n record o fuddsoddi mewn sgiliau i wella cyfleoedd pobl i symud ymlaen yn eu gyrfa a chael enillion uwch, yn ogystal â hyrwyddo cyfle cyfartal yn y gweithle, ac rydym am barhau â'r gwaith hwn. > > > "Y mis diwethaf, lansiais ein cynigion ni ar sut y gallem ddefnyddio unrhyw arian buddsoddi rhanbarthol newydd, a fyddai'n canolbwyntio ar leihau anghydraddoldebau a gwella cynhyrchiant ein busnesau. > > > "Mae gennym gyfle gwirioneddol i adeiladu ar waith gyda'n partneriaid, a chynyddu ffyniant ym mhob rhan o Gymru drwy fuddsoddiad rhanbarthol parhaus lle caiff penderfyniadau ariannu eu gwneud gan Lywodraeth Cymru, nid gan Lywodraeth San Steffan. Mae'n rhaid i ni fanteisio ar y cyfle euraidd hwn.” Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog sy'n gyfrifol am gydraddoldeb: > "Rwy'n falch iawn bod y cyllid ychwanegol hwn wedi'i ddarparu i alluogi prosiect Cenedl Hyblyg 2 i barhau i helpu i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau, gan ganolbwyntio ar naw rhan allweddol o economi Cymru. > > > "Rydyn ni'n awyddus iawn i adeiladu ar lwyddiant prosiectau blaenorol i helpu mwy o fenywod i ymgymryd â rolau arwain, a chyflogwyr i fanteisio i'r eithaf ar sgiliau menywod. Yr wythnos hon byddwn yn lansio ein cynllun i hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau yng Nghymru, sy'n ein herio i ddangos arweinyddiaeth a gweithredu newid hirdymor. Rwy'n falch o ddweud, rydym yn barod amdani." Dywedodd Prif Weithredwr Chwarae Teg, Cerys Furlong: > "Mae chwarae teg yn falch o allu parhau i gyflawni ein rhaglen Cenedl Hyblyg 2, sy'n cael ei hariannu gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop yng Ngorllewin Cymru a'r Cymoedd. Nid oes amheuaeth bod y rhaglen wedi darparu gwerth sylweddol i economi Cymru hyd yn hyn. Mae cannoedd o fusnesau wedi cael cymorth, a miloedd o fenywod ledled Cymru wedi cael codiadau cyflog gwerth dros £3 miliwn hyd yma. > > > "Mae'r busnesau yr ydym wedi cydweithio â nhw hwy wedi dweud wrthym eu bod yn fwy cynhyrchiol erbyn hyn, ac wedi gwella’u prosesau recriwtio a chadw staff. Yn ogystal, mae’r menywod sydd wedi cael ein cymorth wedi nodi eu bod yn meddu ar fwy o sgiliau ac yn fwy hyderus, a bod hynny wedi eu galluogi i symud ymlaen yn eu gyrfa. Rydym yn edrych ymlaen at gydweithio â rhagor o fenywod a busnesau yng ngorllewin Cymru a'r Cymoedd dros y 3 blynedd nesaf, gan alluogi menywod i gyflawni a ffynnu yn economi Cymru."
The Agile Nation 2 project, delivered by Chwarae Teg and funded through the ESF, has supported 3,498 women and worked with 695 employers so far to promote female career advancement and help reduce the gender pay\-gap. The project, which will now be extended until 2023, supports women in work to develop their careers by delivering accredited leadership qualifications and mentoring, and supports businesses to implement equality strategies and modern working practices. Counsel General and Minister for European Transition, Jeremy Miles said: > “We are proud of our record of investing in skills to improve people’s prospects of career progression and higher earnings, as well as promoting equality of opportunity in the workplace, and we want to continue this work. > > > “Last month I launched our own proposals for how we could utilise any replacement regional investment funding, which would focus on reducing inequalities and improving our business productivity. > > > “We have a real opportunity to build on work with our partners, and raise prosperity in every part of Wales through ongoing regional investment where funding decisions are made by the Welsh Government, not Westminster. And we must grasp this opportunity with both hands.” Jane Hutt, Minister with responsibility for equalities, said: > “I’m delighted these additional funds have been provided to enable the Agile Nation 2 project to continue to help promote gender equality, focusing on nine key parts within the Welsh economy. > > > “We're really keen to build on the success of previous projects to help more women into leadership roles, and employers to make the most of women's skills. This week we will launch our own plan to advance gender equality in Wales, which challenges us to show leadership and implement long\-term change. The Welsh Government is determined to meet this challenge.” Chwarae Teg Chief Executive, Cerys Furlong, said: > “Chwarae Teg is pleased to be able to continue delivering our ESF funded Agile Nation 2 programme in West Wales and the Valleys. There is no doubt that the programme to date has delivered significant value to the Welsh economy hundreds of businesses supported, and thousands of women, across Wales, who have achieved pay rises totalling over £3 million to date.  > > > “The businesses we have worked with have told us that they are now more productive and have improved staff recruitment and retention, and the women that we have worked with have reported increased skills and confidence which has enabled them to progress in their careers. We look forward to working with more women and businesses in West Wales and the Valleys over the next 3 years, enabling women to achieve and prosper in the Welsh economy.”
Translate the text from Welsh to English.
Bydd cyfanswm o 58 o gwmnïau o Gymru yn cymryd rhan yn Medica, y ffair fasnach ryngwladol amlycaf ar gyfer y sector meddygol, fydd yn cael ei chynnal yn yr Almaen, ac ADIPEC, sioe fasnach fwyaf y byd i'r sector oel a nwy, yn Abu Dhabi. Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:  > "Wrth lywio drwy heriau Brexit, mae helpu cwmnïau o Gymru i adeiladu ar elfen allforio eu busnes, a maes o law, eu gwneud yn fwy cadarn, yn bwysicach nag erioed.  > > > > > Mae fy ymrwymiad i gefnogi cwmnïau o Gymru i lywio drwy Brexit a chynyddu eu lefelau allforio yn amlwg yn fy Nghynllun Gweithredu Economaidd a dim ond y mis diwethaf cyhoeddais gyllid ychwanegol o £7 miliwn i gefnogi hyn.  > > > > > Mae arwain dirprwyaethau o gwmnïau i deithiau masnach tramor yn rhan bwysig o'r gwaith hwn, gan ganiatáu iddynt arddangos yr hyn sydd ganddynt i'w gynnig i gynulleidfa sydd â diddordeb, a chreu cysylltiadau a pherthynas allai drawsnewid eu trosiant.  > > > > > Mae cwmnïau fel Ultrasound Technology sydd yn Medica i arddangos eu cynnyrch newydd sy’n helpu i fesur pwysau gwaed mewn plant yn ystod gofal arennol yn dangos manteision iechyd byd\-eang yn ogystal â manteision busnes y ffair fasnach benodol hon.    > > > > > Rydym yn gwybod bod nifer o gwmnïau o Gymru wedi cynyddu eu hallforion a’u trosiant o ganlyniad i fynd i ffeiriau masnach gyda Llywodraeth Cymru a dwi’n hyderus y bydd y cynrychiolwyr sy’n bresennol yn ADIPEC eleni a Medica yr wythnos nesaf yn cael yr un llwyddiant.” Caiff Medica ei ddisgrifio fel y dyddiad amlycaf ar gyfer y rhai sy'n gwneud penderfyniadau o bob adran o'r diwydiant gofal iechyd rhyngwladol. Eleni mae Llywodraeth Cymru yn arwain dirprwyaeth o 35 o gwmnïau i'r digwyddiad yn Dusseldorf.  Yn y cyfamser ADIPEC 2016 yw un o arddangosfeydd mwyaf y byd ar gyfer y sector olew a nwy. Bydd cwmnïau o Gymru sydd yn y sioe yn mynd i ddigwyddiadau o fewn y farchnad i'w cysylltu â phobl sydd â dylanwad ac arbenigwyr yn y rhanbarth, gan gynnwys Yr Emiraethau Arabaidd Unedig ac Oman.   Mae Llywodraeth Cymru yn mynd â 23 o gwmnïau i ADIPEC, gyda 12 yn arddangos ac 11 yn ymweld â'r sioe gan obeithio gwneud cysylltiadau a threfnu busnes.  Mae'r rhestr o gynadleddwyr yn cynnwys dau gwmni, Cokebusters a Reid Liftinig, dderbyniodd Wobr y Frenhines ar gyfer Menter yn y Categori Masnach Rhyngwladol eleni.
A total of 58  Welsh companies will take part in Medica, the leading international trade fair for the medical sector, held in Germany, and ADIPEC, the world’s largest trade show for the oil \& gas sector, in Abu Dhabi. Economy Secretary Ken Skates said:  > “As we seek to navigate the challenges of Brexit, helping Welsh companies to build up the export element of their business and in turn, increase their resilience, is more important than ever. > > Our commitment to supporting Welsh companies to navigate Brexit  and increase their exporting levels is clearly set out in the Welsh Government’s Economic Action Plan and just last month I announced an additional £7m of funding to support this. > > Leading delegations of companies to overseas trade missions is an important part of this work, allowing them to showcase their offer to a wide and interested audience, and  build links and relationships that can transform their turnover. > > Companies such as Ultrasound Technology who are  at Medica displaying their new product which assists in the measurement of blood pressure in children during renal care demonstrates both the global health benefits and  business benefits of this particular trade fair. > > We know of many Welsh companies that  have increased their exports and turnover as a result of attending trade fairs with Welsh Government and  I am confident that delegates attending this year’s ADIPEC and Medica next week will achieve similar success” Medica is described as the most prominent date for decision\-makers from all sections of the international healthcare industry. This year the Welsh Government is leading a delegation of 35 companies to the event in Dusseldorf. Meanwhile ADIPEC is the world largest trade show for the oil and gas sector. Welsh companies at the show will be attending in\- market events to connect them to influencers and experts from a range of markets in the region, including UAE and Oman. The Welsh Government is taking 23 companies to ADIPEC, with 12 exhibiting and 11 visiting the show hoping to gain contacts and business. Two of those companies, Cokebusters and Reid Lifting, both received the Queen’s Award for Enterprise in the International Trade Category this year. 
Translate the text from English to Welsh.
On 27 June 2023 an oral statement was made in the Senedd: The Legislative Programme (external link).
Ar 27 Mehefin 2023 gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Y Rhaglen Ddeddfwriaethol (dolen allanol).
Translate the text from English to Welsh.
At the request of the UK Government the Welsh Government has agreed to amend *The* *Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) Regulations 2020* to exempt travellers from a list of countries from the quarantine requirements put in place by the regulations.  The original regulations were made on 5 June and came into force on 8 June; the amended regulations will come into force on 10 July.  As a result of the amended regulations travellers arriving in Wales from countries listed below will no longer be required to isolate for a quarantine period.    The travel regulations require passengers arriving in Wales from outside of the Common Travel Area, or where they have been outside of the Common Travel Area in the past 14 days, to provide their contact details and travel information and to isolate themselves for a period of 14 days. The Regulations contain a number of exemptions for specified categories of people – such as air flight crew, for example.  The amendments agreed now exempt travellers from the countries listed. We are also taking the opportunity to amend the *Health Protection (Coronavirus,* *Public Health Information for Persons Travelling to Wales etc.) Regulations 2020* to provide flexibility in how the public health statement delivered to passengers on\-board aircraft may be delivered. We are harmonising this statement with that given on behalf of the other UK countries.  Responsibility for managing UK borders rests with the UK Government.  The Welsh Government has, throughout this process, aimed to be constructive in enabling the UK Government achieve its policy objective.  The UK Government has shared its methodology with us and this has been reviewed by the Chief Medical Officer.       Below is the list of exempt countries included in the Regulations.  * Andorra * Antigua and Barbuda * Aruba * Australia * Austria * The Bahamas * Barbados * Belgium * Bonaire, Sint Eustatius and Saba * Croatia * Curacao * Cyprus * Czech Republic * Denmark * Dominica * Faroe Islands * Fiji * Finland * France * French Polynesia * Germany * Greece * Greenland * Grenada * Guadeloupe * Hong Kong * Hungary * Iceland * Italy * Jamaica * Japan * The Republic of Korea * La Reunion * Liechtenstein * Lithuania * Luxembourg * Macau * Malta * Mauritius * Monaco * Netherlands * New Caledonia * New Zealand * Norway * Poland * San Marino * Serbia * Seychelles * Spain * Saint Barthelemy * Saint Kitts and Nevis * Saint Lucia * Saint Pierre and Miquelon * Switzerland * Taiwan * Trinidad and Tobago * Turkey * Vatican City * Vietnam **United Kingdom Overseas Territories** * The Sovereign Base Areas of Akrotiri and Dhekelia in the Island of Cyprus * Anguilla * Bermuda * British Antarctic Territory * British Indian Ocean Territory * British Virgin Islands * Cayman Islands * Falkland Islands * Gibraltar * Montserrat * Pitcairn, Henderson, Ducie and Oeno Islands * Saint Helena, Ascension and Tristan da Cunha * South Georgia and the South Sandwich Islands * Turks and Caicos Islands
Ar gais Llywodraeth y DU mae Llywodraeth Cymru wedi cytuno i ddiwygio *Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) Cymru 2020* i eithrio teithwyr o restr o wledydd rhag y gofyniad i ynysu a wnaed yn ofynnol yn y rheoliadau. Gwnaed y rheoliadau gwreiddiol ar 5 Mehefin a daethant i rym ar 8 Mehefin; daw’r rheoliadau diwygiedig i rym ar 10 Gorffennaf. O ganlyniad i’r rheoliadau diwygiedig, ni fydd teithwyr sy’n cyrraedd Cymru o’r gwledydd a restrir isod bellach yn gorfod ynysu am gyfnod.    Mae’r rheoliadau teithio yn ei gwneud yn ofynnol i deithwyr sy’n cyrraedd Cymru o’r tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin, neu deithwyr sydd wedi bod y tu allan i’r Ardal Deithio Gyffredin yn ystod yr 14 diwrnod diwethaf, i ddarparu eu manylion cyswllt a’u gwybodaeth deithio ac i ynysu am gyfnod o 14 diwrnod. Mae’r Rheoliadau yn cynnwys nifer o eithriadau ar gyfer categorïau penodol o bobl \- fel criwiau awyrennau, er enghraifft. Mae’r diwygiadau a gytunwyd yn awr yn eithrio teithwyr o’r gwledydd a restrir. Rydym hefyd yn cymryd y cyfle i ddiwygio *Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy’n Teithio i Gymru etc.) 2020* i roi hyblygrwydd o ran sut y bydd y datganiad iechyd y cyhoedd yn cael ei gyflwyno i deithwyr ar awyrennau. Rydym yn cysoni’r datganiad â’r datganiadau a roddir ar ran gwledydd eraill y DU.  Llywodraeth y DU sydd â’r cyfrifoldeb am reoli ffiniau’r DU. Drwy gydol y broses, mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio bod yn adeiladol i alluogi Llywodraeth y DU i gyflawni ei hamcanion polisi. Mae Llywodraeth y DU wedi rhannu ei methodoleg gyda ni ac mae’r fethodoleg hon wedi’i hadolygu gan y Prif Swyddog Meddygol.       Isod mae’r rhestr o’r gwledydd esempt sydd wedi’u cynnwys yn y Rheoliadau.  * Yr Almaen * Andorra * Antigua a Barbuda * Aruba * Awstralia * Awstria * Y Bahamas * Barbados * Bonaire, Sint Eustatius a Saba * Caledonia Newydd * Croatia * Curaçao * Cyprus * Denmarc * Dinas y Fatican * Dominica * Yr Eidal * Fiet\-nam * Fiji * Y Ffindir * Ffrainc * Grenada * Guadeloupe * Gweriniaeth Korea * Gwlad Belg * Gwlad Groeg * Gwlad yr Iâ * Gwlad Pwyl * Hong Kong * Hwngari * Yr Iseldiroedd * Jamaica * Japan * Kalaallit Nunaat (Greenland) * La Reunion * Liechtenstein * Lithiwania * Lwcsembwrg * Macau * Malta * Mauritius * Monaco * Norwy * Polynesia Ffrengig * Saint Barthélemy * Saint Kitts a Nevis * Saint Lucia * San Marino * Saint Pierre a Miquelon * Sbaen * Seland Newydd * Serbia * Seychelles * Y Swistir * Taiwan * Trinidad a Tobago * Twrci * Y Weriniaeth Tsiec * Ynysoedd Ffaröe **Tiriogaethau Tramor y Deyrnas Unedig** * Anguilla * Ardaloedd Safleoedd Sofran Akrotiri a Dhekelia ar Ynys Cyprus * Bermuda * Gibraltar * Montserrat * Saint Helena, Ascension a Tristan da Cunha * Tiriogaeth Brydeinig yr Antarctig * Tiriogaeth Brydeinig Cefnfor India * Ynysoedd Cayman * Ynysoedd De Sandwich a De Georgia * Ynysoedd Falkland * Ynysoedd Pitcairn, Henderson, Ducie ac Oeno * Ynysoedd Prydeinig y Wyryf * Ynysoedd Turks a Caicos    
Translate the text from Welsh to English.
Cysylltir â phob un o’r 165,000 o’r bobl gymwys dros 12 oed yng Nghymru, pob un ohonyn nhw â diabetes, i’w hannog i fanteisio ar eu gwahoddiad blynyddol i’w  hapwyntiad am ddim ar gyfer sgrinio’r retina. Mae’n bwysig iawn sgrinio’r retina’n rheolaidd, gan fod y newidiadau yn y llygaid sy’n cael eu hachosi gan ddiabetes – sef retinopathi diabetig – yn gallu difetha golwg y sawl sydd â’r cyflwr, ac mae’n aml heb unrhyw symptomau. Serch hynny, mae’r broses sgrinio’n gallu nodi’r newidiadau hyn mor gynnar fel y gallai’r driniaeth fod yn llwyddiannus gan achub eich golwg. Wrth siarad cyn lansio’r ymgyrch ym Mhrif Ganolfan Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru yn Nhrefforest, dywedodd Rebecca Evans, Gweinidog Iechyd y Cyhoedd a Gwasanaethau Cymdeithasol: > “Gallai’r profiad o golli’ch golwg beri loes a phroblemau anferth yn eich bywyd, a dyna pam bod ni’n bwriadu gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod pobl yn cael yr holl wybodaeth a chymorth y mae eu hangen i ofalu am eu llygaid. > > “Mae 'na berygl real iawn y gallai’r rheini sy’n byw gyda diabetes golli eu golwg \- ond y peth pwysig ydy ei bod yn bosibl osgoi hynny. Os oes gennych chi ddiabetes, a’ch bod dros 12 oed, dylech sicrhau bod retina’ch llygaid yn cael eu sgrinio’n rheolaidd drwy gadw eich apwyntiad gyda gwasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru. Mae’r broses sgrinio’n chwilio am y newidiadau hynny yn y llygaid sy’n gallu peri i rywun fynd yn ddall, ac yn bendant mae’r gwasanaeth yn gallu lleihau’r risg y gallech golli’ch golwg.” Dywedodd Andrew Crowder, Pennaeth Rhaglen Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru, a Hyrwyddwr Clinigol Diabetes UK: > “Drwy sicrhau eich bod yn cadw’ch apwyntiadau rheolaidd ar gyfer sgrinio’r retina, gyda gwasanaeth Sgrinio Llygaid Diabetig Cymru, gallwn helpu i ddiogelu eich golwg. Mae ein gwasanaeth yn gallu canfod newidiadau i’r retina yn gynnar iawn – cyn ichi sylweddoli bod yna broblemau ac ar adeg pan fydd y driniaeth yn dal i fod yn effeithiol iawn. > > “Rydyn ni’n cynnal ein gwasanaeth sgrinio ar hyd a lled Cymru, felly bydd yna glinig rhywle’n agos i’ch cartref chi. Os ydyn ni’n cynnig gwahoddiad sydd ddim yn gyfleus ichi, cysylltwch â ni er mwyn inni allu trefnu apwyntiad arall. Y peth pwysicaf ydy eich bod yn dod draw aton ni, ac wedyn byddwch yn gadael gan wybod eich bod wedi cymryd cam pwysig a phendant tuag at ddiogelu eich golwg.” Dywedodd Dai Williams, Cyfarwyddwr Diabetes UK Cymru: > “Mae llai na hanner y bobl sy’n dioddef o ddiabetes yn sylweddoli y gallai’r cyflwr achosi dallineb, ac mae hynny’n destun pryder mawr inni. Mae retinopathi diabetig yn gyflwr difrifol iawn sy’n gallu effeithio ar unrhyw un sy’n byw gyda diabetes. Mae mwy o berygl hefyd y gallai pobl sydd â diabetes ddatblygu problemau eraill gyda’u llygaid, fel glawcoma a chataractau. Yn aml, pan fydd problem yn dechrau, does dim symptomau, sy’n golygu bod perygl y gallai pobl ei gadael hi’n rhy hwyr i gael triniaeth, a bod niwed parhaol eisoes wedi digwydd. > > “Dyna pam rydyn ni’n cefnogi’r ymgyrch hon i helpu pobl i reoli eu clefyd, ac i sicrhau bod pobl sy’n byw gyda diabetes yng Nghymru bob amser yn cadw eu hapwyntiadau sgrinio llygaid, ac yn cael eu profion llygaid arferol. Gall yr arbenigwyr nodi unrhyw broblemau gan sicrhau eu bod yn cael eu trin yn gynnar. Drwy sicrhau eich bod yn cael y driniaeth y mae ei hangen arnoch, gallech wneud y gwahaniaeth rhwng colli eich golwg neu ei achub.”
All 165,000 eligible people over the age of 12 in Wales with diabetes will be contacted to urge them to take up their annual invitation to their free retinopathy screening appointment. Regular retinal screening is important, as sight\-threatening changes in the eye caused by diabetes – known as ‘diabetic retinopathy’ – are often without symptoms. Screening can pick up these changes at a stage where treatment may prevent sight loss. Speaking ahead of the launch of the campaign at Diabetic Eye Screening Wales’ headquarters in Treforest, Minister for Social Services and Public Health, Rebecca Evans, said: > “Loss of sight can be devastating, which is why we are doing everything we can to ensure people have all the information and support they need to take care of their eyesight. > > “People living with diabetes are at particular risk of sight loss – but this complication is avoidable. If you have diabetes and are over 12 you should be having your eyes screened for retinopathy by attending your free Diabetic Eye Screening Wales appointment.  The screening looks for specific changes in the eye that cause blindness, and it is effective at reducing your risk of sight loss.” Andrew Crowder, Head of Programme for Diabetic Eye Screening Wales, Public Health Wales and Diabetes UK Clinical Champion, said: > “By regularly attending for your retinopathy screening with Diabetic Eye Screening Wales, we can help keep your sight safe.  Our service is specially designed to detect retinopathy at a very early stage – before you know you have it and when treatment is still very effective. > > “We screen all over Wales, so there will be clinics running near to where you live. But if we do offer an invitation that doesn’t suit you, just contact us and we’ll find something else that does. The most important thing is that you come along and you’ll leave knowing that you’ve done the right thing to protect your precious sight.” Diabetes UK Cymru’s Director Dai Williams said: > “Fewer than half of people with diabetes realise that it can cause blindness, which is a real worry. Diabetic retinopathy is a serious complication that can affect anyone living with the condition, who will also be at higher risk of developing other eye conditions like glaucoma and cataracts. Also, when problems begin there often won’t be any symptoms, which means people might leave treatment too late, when permanent damage has already happened. > > “This is why we’re supporting this campaign to help people control their condition and make sure people living with diabetes in Wales are going to their regular eye screening appointments as well as their usual eye tests. Experts can then identify any problems and get them treated as soon as possible. Making sure you are getting the treatment you need could be the difference between a person with diabetes losing their sight or saving it.”
Translate the text from Welsh to English.
Cafodd yr ymchwil ar adnewyddu ymgysylltiad democrataidd ei chomisiynu gan Lywodraeth Cymru i lywio gwaith i weithredu newidiadau a newidiadau arfaethedig i bwy sy’n cael pleidleisio yn etholiadau Senedd Cymru ac etholiadau cynghorau lleol yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru, drwy ei Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru), yn ymestyn yr hawl i bleidleisio mewn etholiadau lleol i bobl 16 a 17 mlwydd oed a phob dinesydd tramor sy’n preswylio’n gyfreithlon yng Nghymru. Bydd gan y grwpiau hynny hefyd yr hawl i bleidleisio yn etholiadau’r Senedd o 2021 ymlaen, yn unol â Deddf y Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020\. Mae’r ymchwil yn dangos: * Bod diffyg gwybodaeth a dadrithiad cyffredinol ynghylch gwleidyddiaeth yn rhwystrau allweddol i ymgysylltu: roedd cred bod gan wleidyddiaeth yng Nghymru broffil isel, wrth i rai cyfranogwyr ddweud nad oeddent yn dod ar draws y pwnc yn y cyfryngau; * Bod rhai cyfranogwyr nad ydynt o’r UE/y Gymanwlad yn rhwystredig na allent bleidleisio mewn unrhyw etholiadau yng Nghymru: roedd y grwpiau hyn o gyfranogwyr felly yn croesawu cynllun Llywodraeth Cymru i roi’r hawl i bleidleisio yn etholiadau cynghorau lleol i ddinasyddion nad ydynt o’r Gymanwlad neu’r UE sy’n byw yng Nghymru; * Bod cyfranogwyr yn dueddol o fod yn ansicr sut i godi mater ynglŷn â’u cymuned leol: mae’n debyg bod yna ddiffyg dealltwriaeth o sut i godi mater, mynegi barn neu newid unrhyw beth. Roedd llofnodi deisebau ar\-lein yn eithaf cyffredin ac roedd gan rai brofiad o wirfoddoli, sy’n awgrymu bod yna botensial i ennyn eu diddordeb ymhellach. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio’r ymchwil i lywio strategaethau i ymgysylltu â grwpiau o bleidleiswyr sydd newydd gael y bleidlais – a’r rhai sy’n dueddol o fod wedi ymddieithrio rhag gwleidyddiaeth – ynglŷn â’u hawliau democrataidd ac annog pleidleiswyr i gyfranogi. I ddechrau mynd i’r afael â’r materion a nodwyd, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo £800,000 i gynorthwyo pleidleiswyr newydd, a’r rhai sydd eisoes â’r bleidlais, i ddeall eu hawliau democrataidd ac ymwneud â’r prosesau democrataidd. Bydd y gwaith hwn yn cynnwys datblygu adnoddau i’w defnyddio gyda phobl ifanc mewn ysgolion, a’r tu allan i’r ysgol; ac ymgyrch gyfathrebu benodol i annog pleidleiswyr sydd newydd gael y bleidlais i gofrestru a chymryd rhan yn etholiadau’r Senedd yn 2021 a’r etholiadau llywodraeth leol yn 2022\. Dywedodd y Gweinidog Llywodraeth Leol, Julie James: > Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i wneud popeth o fewn ei gallu i annog pobl Cymru i chwarae rhan lawn a gweithgar yn ein democratiaeth. > > > Bydd canfyddiadau’r ymchwil hon yn llywio ein gwaith parhaus i sicrhau bod pobl o bob oed a chefndir yn teimlo’n rhan o gymdeithas Cymru. > > > “Rydym am sicrhau bod pobl yn deall sut i gymryd rhan yn ein democratiaeth, a’u bod eisiau cymryd rhan, drwy, er enghraifft, bleidleisio, sefyll i fod yn gynrychiolydd etholedig, dechrau deiseb neu fod yn gynrychiolydd cymunedol.
The research on renewing democratic engagement was commissioned by the Welsh Government to inform work in taking forward the implementation of changes and proposed changes to who can vote in Senedd Cymru and local council elections in Wales. The Welsh Government, through its Local Government and Elections (Wales) Bill, is extending the right to vote at local elections to 16 and 17 year olds and all foreign citizens legally resident in Wales. Those groups will also have the right to vote in Senedd elections from 2021, under the Senedd and Elections (Wales) Act 2020\. The research shows: * A lack of knowledge and general disillusionment with politics were key barriers to engagement:pPolitics in Wales was thought to have a low profile, with some participants remarking how they did not encounter the subject in the media; * Some non\-EU/non\-Commonwealth participants were frustrated that they could not vote in any elections in Wales: these groups of participants were, therefore, very receptive to the Welsh Government’s plan to give non\-Commonwealth and non\-EU citizens living in Wales the right to vote in local council elections; * Participants tended to be unclear how to raise an issue about their local community:**t**here appeared to be a lack of understanding on how to raise an issue, give an opinion or change anything. Online petition\-signing was fairly common and some had experience of volunteering, suggesting the potential exists for greater engagement. The research will be used by the Welsh Government to inform strategies for engaging with newly enfranchised groups of voters – and those who tend to be politically disengaged – about their democratic rights and promote voter participation. To begin addressing the issues identified, the Welsh Government has committed £800,000 to support new and existing voters in understanding their democratic rights and engaging with the democratic processes. This work will include developing resources for use with young people in schools, and outside of the school setting; and a specific communication campaign to encourage newly enfranchised voters to register and take part in the 2021 Senedd and the 2022 local government elections. Local Government Minister, Julie James said: > The Welsh Government is committed to doing everything it can to encourage people in Wales to play a full and active role in our democracy. > > > The findings of this research will inform our on\-going work to ensure people of all ages and backgrounds feel part of Welsh society.  > > > We want to ensure people understand how and want to take part in our democracy by for example, voting, standing as an elected representative, starting a petition or being a community representative.  
Translate the text from English to Welsh.
Last month I published our national COVID\-19 vaccination strategy, which set out three key milestones: * By mid\-February – all care home residents and staff; frontline health and social care staff; everyone over 70 and everyone who is clinically extremely vulnerable will have been offered vaccination. * By the Spring – vaccination will have been offered to all the other phase one priority groups. This is everyone over 50 and everyone who is at\-risk because they have an underlying health condition. * By the Autumn – vaccination will have been offered to all other eligible adults in Wales, in line with any guidance issued by the Joint Committee on Vaccination and Immunisation (JCVI). I am delighted that we have achieved our first milestone of offering everyone in the first four priority groups vaccination by mid\-February as planned. The NHS has confirmed everyone in the first four groups has been contacted to be offered a vaccination appointment.  So far, NHS Wales has vaccinated more than; * 48,000 residents of older people’s care homes and their staff carers; * 161,000 over\-80s; * 118,000 NHS frontline workers; and * 260,000 over\-70s. This is an amazing achievement and an important moment to reflect on the success of our Programme so far. I am incredibly proud of everyone who has made this possible, including all our NHS Wales colleagues, wider partners, volunteers, and everyone that has taken up the offer of this life saving vaccination.  There will, of course, be reasons why some individuals were unable to take up their offer of the vaccine and there will be some that could not be reached.  We have implemented a ‘no one left behind’ policy and are actively following up individuals that have not yet had their vaccine.  We are also asking anyone in groups 1\-4 that has not heard about their appointment to contact their health board.  Full details are available on the Welsh Government’s website. Over the next couple of weeks we are expecting a slight reduction in the amount of vaccines received into the UK.  This is a planned and expected change in supply that will affect the whole of the UK.  We have factored this into our plans and it will not affect appointments or delay when individuals are due to receive their second dose. Following this expected reduction, supply is due to ramp up significantly from the beginning of March. Our infrastructure and capacity will flex over the coming weeks to respond to the amount of supply available; and will be ready to respond again to the increase in March. Over 715,000 people have received their first dose of the vaccine in Wales. Every vaccine given to someone is a small victory against the virus and we are already looking ahead to meeting our next milestone.  The hard work has only just begun but, as NHS Wales has shown, we are up to the challenge.
Fis diwethaf, cyhoeddais ein cynllun brechu cenedlaethol yn erbyn COVID\-19, sy’n nodi tair carreg filltir allweddol: * Erbyn canol mis Chwefror – bydd holl breswylwyr a staff cartrefi gofal; staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen; pawb dros 70 oed a phawb sy'n eithriadol agored i niwed yn glinigol wedi cael cynnig brechlyn. * Erbyn y gwanwyn – bydd brechlyn wedi'i gynnig i holl grwpiau blaenoriaeth eraill cam un. Mae hynny’n cynnwys pawb dros 50 oed a phawb sydd mewn perygl oherwydd bod ganddynt gyflwr iechyd sy’n bodoli eisoes. * Erbyn yr hydref – bydd brechlyn wedi'i gynnig i bob oedolyn cymwys arall yng Nghymru, yn unol ag unrhyw ganllawiau a gyhoeddir gan y Cydbwyllgor ar Frechu ac Imiwneiddio (JCVI). Rwyf wrth fy modd ein bod wedi cyrraedd ein carreg filltir gyntaf, sef bod wedi cynnig brechlyn i bawb yn y pedwar grŵp blaenoriaeth cyntaf erbyn canol Chwefror yn unol â’r cynllun. Mae’r GIG wedi cadarnhau eu bod wedi cysylltu â phawb yn y pedwar grŵp cyntaf yn cynnig apwyntiad brechu iddynt.  Hyd yma, mae GIG Cymru wedi brechu mwy na: * 48,000 o breswylwyr cartrefi gofal pobl hŷn a’u gofalwyr; * 161,000 o bobl dros 80 oed; * 118,000 o weithwyr rheng flaen y GIG; a * 260,000 o bobl dros 70 oed. Mae hyn yn gamp wirioneddol ac yn foment bwysig inni ystyried llwyddiant ein Rhaglen hyd yma. Mae pawb sydd wedi gwneud hyn yn bosibl yn destun balchder eithriadol imi, gan gynnwys ein holl gydweithwyr o fewn GIG Cymru, partneriaid ehangach, gwirfoddolwyr, a phawb sydd wedi manteisio ar y brechlyn hwn sy’n arbed bywydau.  Bydd yna resymau, wrth gwrs, pam nad yw rhai unigolion wedi gallu manteisio ar y cynnig i gael y brechlyn, a bydd yna rai nad oedd modd cael gafael arnynt. Rydym wedi gweithredu polisi ‘gadael neb ar ôl’ ac rydym yn cymryd camau i gysylltu ymhellach ag unigolion nad ydynt eto wedi cael eu brechu. Rydym hefyd yn gofyn i unrhyw un yng ngrwpiau 1\-4 sydd heb glywed am eu hapwyntiad i gysylltu â’u bwrdd iechyd. Mae’r manylion llawn ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Dros yr wythnos neu ddwy nesaf, rydym yn disgwyl i nifer y brechlynnau sy’n cyrraedd y DU ostwng fymryn. Mae’r newid hwn yn y cyflenwad yn rhywbeth sydd wedi’i gynllunio ac yr ydym yn ei ddisgwyl, a bydd yn effeithio ar bob rhan o’r DU. Rydym wedi ystyried hyn yn ein cynlluniau, ac ni fydd yn effeithio ar apwyntiadau nac yn gohirio pryd y gall unigolion ddisgwyl cael eu hail ddos. Yn dilyn y gostyngiad hwn, disgwylir i’r cyflenwad gynyddu’n sylweddol o ddechrau Mawrth. Bydd ein seilwaith a’n capasiti yn hyblyg dros yr wythnosau nesaf yn ôl y cyflenwad a fydd ar gael; a byddwn yn barod i ymateb unwaith eto i’r cynnydd ym mis Mawrth. Mae mwy na 715,000 o bobl wedi cael eu dos gyntaf o’r brechlyn yng Nghymru. Mae pob brechlyn a roddir yn fuddugoliaeth fechan yn erbyn y feirws, ac rydym eisoes yn edrych ymlaen at ein carreg filltir nesaf. Dim ond megis dechrau y mae’r gwaith caled, ond fel y mae GIG Cymru wedi dangos, rydym yn barod am yr her.
Translate the text from Welsh to English.
Mae canolfan gwasanaethu cwsmeriaid y cwmni wedi tyfu o 48 o bobl i ragor na 280 yn y tair blynedd diwethaf. Bydd y grant yn helpu i ddiogelu'r swyddi mewn canolfannau gwasanaethu yn y DU ac yn helpu'r cwmni i ehangu'i weithgarwch llwyddiannus yma yng Nghymru.  Fel prif fusnes twristiaeth y byd, mae TUI yn deall bod cyfle go iawn iddo siapio dyfodol twristiaeth gynaliadwy.  Yn 2015, lansiwyd ei strategaeth uchelgeisiol 'Better Holidays, Better World'. Mae'r strategaeth yn canolbwyntio ar leihau effaith gwyliau ar yr amgylchedd, ar greu newid er lles pobl a chymunedau ac ar arloesi gyda thwristiaeth gynaliadwy. Erbyn 2020, mae TUI am fod y cwmni awyrennau mwyaf carbon effeithiol yn Ewrop yn ogystal â darparu 10 miliwn o 'wyliau gwyrddach a tecach' fydd yn galluogi mwy o bobl leol i elwa ar fanteision twristiaeth.   Mae'r cwmni wedi dechrau recriwtio cynghorwyr i helpu cwsmeriaid i ddewis eu ehediadau, gwyliau, gwestai ac yn fwyfwy, eu mordeithiau. Diolch i ymrwymiad TUI i hyfforddi a datblygu, caiff staff TUI eu helpu i ddilyn gyrfa gyffrous a ddaw â budd iddynt a chyfleoedd da am ddyrchafiad.  Dywedodd Ysgrifennydd yr Economi, Ken Skates:  > "Rwy'n falch iawn bod Llywodraeth Cymru'n helpu TUI i greu 175 o swyddi newydd yng Nghymru. Mae cynllun y cwmni i ehangu yn Abertawe yn brawf o'i enw da am roi gwasanaeth rhagorol i'w gwsmeriaid.  > > "Mae ein gwasanaethau i gwsmeriaid yn sector byrlymus sy'n tyfu ac yn cyflogi rhagor na 30,000 o bobl mewn rhagor na 200 o ganolfannau ledled Cymru.  > > Hefyd, mae ymrwymiad TUI i gynaliadwyedd yn adlewyrchu'n hymrwymiad i'n Cynllun Gweithredu Economaidd newydd sydd â thwf, gwaith teg a datgarboneiddio yn sail iddo." Meddai Helen Caron, Cyfarwyddwr Dosbarthu a Mordeithiau TUI yn y DU ac Iwerddon:  > "Agoron ni ein swyddfa yn Nhŷ Alexandra, Abertawe, cartref tîm ein canolfan gyswllt, yn 2015 ac mae'n dal i fynd o nerth i nerth. Rydyn ni'n wirioneddol ddiolchgar i Lywodraeth Cymru am ei chefnogaeth wrth inni ehangu'n swyddfa yn Abertawe. Daw hyn ar ôl ymchwil, meddwl a thrafod manwl a dwys am ddyfodol ein busnes a sicrhau ein bod yn rhoi'r gwasanaeth gorau posibl i'n cwsmeriaid ac yn cyfathrebu'n effeithiol â nhw tua'r dyfodol."
Their customer services centre has grown from 48 people to over 280 over the last three years. The support will both secure existing customer services jobs within the UK, and support further growth of the company’s successful operations here in Wales.  As the world’s leading tourism business, TUI understands it has a real opportunity to shape the future of sustainable tourism.   In 2015 TUI  launched their ambitious ‘Better Holidays, Better World’ strategy.  The strategy focuses on reducing the environmental impact of holidays, creating positive change for people and communities and pioneering sustainable tourism.  By 2020 TUI aims to be the most carbon\-efficient airline in Europe as well as delivering 10 million ‘greener and fairer holidays’ enabling more local people to share in the benefits of tourism.  The company has begun recruitment, seeking advisers to help customers in their choice of flights, holidays, hotels and increasingly, cruises. TUI’s commitment to training and development means TUI staff will be supported in an exciting and rewarding career, giving them real opportunities to progress.  Economy Secretary Ken Skates said: > “I am delighted that with Welsh Government support TUI is creating 175 new jobs in Wales.  The company’s expansion in Swansea is testament to our reputation for delivering excellence in customer service.   > > > “Our growing and vibrant customer service sector now employs in excess of 30,000 people in over 200 centres across Wales.  > > > “Also, TUI’s commitment to sustainability reflects our commitments in our new Economic Action Plan, which has the principles of growth, fair work and decarbonisation at its heart.” Helen Caron, Director for Distribution and Cruise for TUI UK \& Ireland said:  > “We opened our Alexandra House Office in Swansea which is home to our contact centre team in 2015 and it’s continued to go from strength to strength. We are really grateful for the support of the Welsh Government as we look to further grow our office in Swansea. This came out of extensive research, consideration and discussion about the future of our business and ensuring we can best serve and communicate with our customers as we move forwards.”
Translate the text from Welsh to English.
Bydd arian yn cael ei ddyrannu i Chwaraeon Cymru er mwyn iddo fedru symud yn gyflym a chyfrannu at brosiectau ledled y wlad sy'n barod i dorri'r dywarchen gyntaf. Bydd y cyllid yn cael ei ddyrannu mewn ffordd a fydd yn sicrhau ei fod yn cael ei rannu ar draws ardaloedd daearyddol Cymru ac ar draws mathau gwahanol o chwaraeon. Bydd hefyd, pryd bynnag y bo modd, yn cefnogi prosiectau cydweithredol sy'n cynnwys mwy nag un math o chwaraeon. Nod y buddsoddiad cyfalaf fydd cefnogi “Gweledigaeth ar gyfer Chwaraeon yng Nghymru”, gan ganolbwyntio ar brosiectau cydweithredol a fydd yn: * Gwella ac yn diogelu cyfleusterau allweddol sy'n bodoli eisoes ac sy'n cefnogi anghenion cymunedau lleol * Buddsoddi mewn lleoedd newydd a gwahanol a fydd yn diwallu anghenion cymunedau lleol * Creu sector chwaraeon mwy cadarn a chynaliadwy. Mae'r cyllid newydd hwn yn ychwanegol at y £5 miliwn a gyhoeddwyd yn yr haf ar gyfer y Gronfa Iach ac Egnïol newydd – partneriaeth rhwng Chwaraeon Cymru, Iechyd Cyhoeddus Cymru a Llywodraeth Cymru. Mae'r buddsoddiad newydd o £5 miliwn ar gyfer cyfleusterau chwaraeon yng Nghymru yn dangos bod ymrwymiad cadarn i roi hwb i’r gwaith o ddarparu cyfleusterau a fydd yn helpu i greu Cymru egnïol. Hwn hefyd yw cam cyntaf y buddsoddiad sy'n cael ei wneud o ganlyniad i'r argymhellion a deilliodd o'r adolygiad o gyfleusterau chwaraeon a gynhaliwyd yn gynharach eleni. Dywedodd yr Arglwydd Elis\-Thomas, y Gweinidog Diwylliant a Chwaraeon: > “Mae'r cyfleusterau cywir − boed yn neuadd lle byddwch chi'n cael dosbarthiadau neu'n gae lle byddwch chi'n chwarae − yn cael effaith fawr ar brofiad yr unigolyn, ac ar ba mor debygol y mae'r unigolyn hwnnw o gymryd rhan mewn chwaraeon yn rheolaidd. > > "Mae angen amlwg i sicrhau bod rhagor o gyfleusterau o'r radd flaenaf yn cael eu darparu ledled y wlad, ond rhaid inni hefyd ystyried sut byddai'r rheini o fudd i gymunedau lleol, yn ogystal ag i athletwyr elít. > > "Allwn ni ddim pwysleisio digon pa mor bwysig oedd buddugoliaeth Geraint Thomas OBE yn y Tour de France. Mae wedi cael cryn effaith ym mhob cwr o Gymru yn barod − rydyn ni wedi gweld cynnydd mawr yng ngwerthiant beiciau a bydd y ffaith ei fod wedi ennill gwobr Personoliaeth Chwaraeon y Flwyddyn y BBC yn ychwanegu at yr effaith honno − felly rydyn ni a Chwaraeon Cymru yn barod i weithredu'n gyflym i gynnal y momentwm sydd wedi'i greu ac i hyrwyddo beicio." Ychwanegodd Sarah Powell, Prif Swyddogol Gweithredol Chwaraeon Cymru: > “Rydyn ni wedi cael sawl cais yn barod oddi wrth bartneriaid allweddol a allai elwa ar y cyhoeddiad cyffrous hwn ac rydyn ni'n awyddus i fwrw 'mlaen â'r ceisiadau hynny cyn gynted â phosibl. Bydd sawl prosiect ar draws Cymru i osod meysydd chwarae 3G (sy'n rhan o'r cynllun cydweithredu cyffrous a llwyddiannus sy'n bodoli eisoes) yn elwa ar unwaith, ac felly hefyd rai prosiectau beicio. > > "Yna, yn gynnar yn 2019, byddwn ni'n mynd ati i ddatblygu'r meini prawf a'r broses ymgeisio ar gyfer gweddill y cyllid. Mae gan chwaraeon allu rhyfeddol i gynnig manteision eang i'n cymdeithas ac rydyn ni'n hynod falch bod Llywodraeth Cymru a'r Gweinidog wedi rhoi'r cyfle inni fuddsoddi ar y cyd mewn datblygu cyfleusterau er mwyn hyrwyddo'r gwaith hwnnw."
Money will be allocated to Sport Wales so it can move quickly and contribute to projects across the country that are shovel ready right now. Funding will be allocated to ensure a good geographical spread across Wales, across sports and support collaborative, multi\-sport projects wherever possible. The capital investment will seek to support the “Vision for Sport in Wales” with a focus on collaborative projects that: * Improve and protect key existing sports facilities that support the needs of local communities. * Invest in new and different places that meet the needs of local communities. * Create a more resilient, sustainable sport sector. This new funding is in addition to the £5 million announced in the summer for the new Healthy and Active Fund – a partnership between Sport Wales, Public Health Wales and the Welsh Government. The new £5 million investment for sports facilities in Wales demonstrates a firm commitment to boost delivery on facilities that support an active Wales. It is also the first phase of investment following recommendations that emerged from the review of sport facilities undertaken earlier this year. Minister for Culture and Sport Lord Elis\-Thomas said: > “Whether it’s the hall you do classes in or the pitch you play on, having the right facilities in place has a big impact on a person’s experience – and likelihood of them participating on a regular basis. > > > There is a clear need to increase the spread of top\-class facilities across the country, but we must also consider how these would benefit local communities, as well as elite athletes. > > > Geraint Thomas OBE’s Tour de France win cannot be understated and this is having a strong impact throughout Wales – we’ve already seen bike sales jump and the BBC Sport Personality of the year accolade will cause a further ripple effect – so we stand ready with Sport Wales to act quickly to build upon the momentum that has been gained and promote a cycling, and wider sporting, legacy." Sarah Powell, Sport Wales CEO, added: > “We have several existing applications from key partners that could benefit from this exciting announcement and we will look to progress with these as a priority. Several 3G and ATP pitch projects across Wales (as part of the existing and successful collaboration scheme) will benefit immediately as will some cycling projects. > > > "Then, in early 2019, we will develop the criteria and application process for the remainder of the fund. Sport has an incredible ability to deliver wide ranging benefits to our society and we are delighted that the Welsh Government and the minister have given us the opportunity to invest collaboratively in the development of facilities to further this work.”
Translate the text from Welsh to English.
Bydd y cyllid ar gyfer digwyddiad amaethyddol blaenllaw a mwyaf Cymru, Sioe Frenhinol Cymru, yn helpu i wella effaith amgylcheddol gweithgareddau'r Gymdeithas ac yn cefnogi gwydnwch y Gymdeithas drwy gwmpasu rhai o'r costau a ysgwyddir yn ogystal â helpu i adfer digwyddiadau yn y dyfodol.  Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig: > "Ar y diwrnod y byddem yn draddodiadol wedi bod yn ymgynnull yn Llanfair\-ym\-Muallt ar gyfer diwrnod agoriadol y Ffair Aeaf, mae'n bleser gennyf gyhoeddi pecyn cymorth ariannol i Gymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru ar gyfer 2020/21 sy'n adlewyrchu'r amgylchiadau digynsail y maent wedi'u hwynebu eleni.  > > > "Rwyf wedi dweud o’r dechrau ein bod yn gweld y storm berffaith wrth inni wynebu dwy her, sef Covid ac effaith gadael y cyfnod pontio.  Bydd yr arian hwn yn sicrhau bod RWAS yn fwy cadarn yn ystod y cyfnod anodd hwn i'r sector." Daw hanner y pecyn ariannu o £200,000 o'r Gyllideb Digwyddiadau Mawr. Dywedodd Dafydd Elis\-Thomas, Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, sy'n gyfrifol am ddigwyddiadau mawr: > "Mae'n bwysig ein bod yn cefnogi digwyddiadau mawr drwy'r cyfnod heriol hwn, felly byddant dal yno pan fyddwn yn dechrau dychwelyd i normal ar ôl y pandemig. > > > "Rydyn ni’n deall pa mor hanfodol yw'r sioeau hyn i'r sector, nid yn unig yn eu helpu i arddangos cynnyrch o Gymru, ond hefyd adeiladu drwy greu perthynas ag eraill o'r diwydiant amaethyddol, a gobeithiwn y bydd y cyllid hwn yn rhoi'r cymorth angenrheidiol iddynt gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf." Wrth ystyried pwysigrwydd sioeau amaethyddol a'r effaith y mae Covid19 wedi'i gael gyda'u canslo eleni, dros yr haf, comisiynodd y Gweinidog adolygiad annibynnol o sioeau amaethyddol ledled Cymru.  Gwnaeth yr adolygiad, a gynhaliwyd gan Aled Jones, Ysgolhaig Nuffield a gwblhaodd astudiaeth ryngwladol i ddyfodol sioeau a chymdeithasau amaethyddol, gyfres o argymhellion i gefnogi gwydnwch ac i adfer sioeau amaethyddol y flwyddyn nesaf. Mae'r Gweinidog wedi derbyn holl argymhellion yr adolygiad. Felly, mae'r Gweinidog wedi cyhoeddi cronfa arloesi newydd heddiw i helpu cymdeithasau sioeau i adfer sioeau yn 2021\.  Bydd hefyd yn gyfle i ystyried arbedion effeithlonrwydd er mwyn gwella ymgysylltiad a chynnig profiad gwell i bob cystadleuydd. Mae argymhellion eraill yn yr adolygiad annibynnol yn cynnwys yr angen i Lywodraeth Cymru lunio canllawiau i drefnwyr sioeau ynghylch y trefniadau ar gyfer cynnal digwyddiadau yn 2021 yn unol ag unrhyw gyfyngiadau iechyd cyhoeddus. Argymhellwyd hefyd y dylid annog mwy o gydweithio rhwng sioeau drwy Gymdeithas y Sioeau a Sefydliadau Amaethyddol (ASAO) yn ogystal â chyflwyno hyfforddiant strwythuredig i unigolion sy'n gweithio neu'n gwirfoddoli o fewn cymdeithasoedd sioeau. Dywedodd Lesley Griffiths, y Gweinidog dros Faterion Gwledig: > "Mae gan sioeau amaethyddol hanes hir a mawreddog ac maent yng nghanol ein cymunedau gwledig.  Roedd cyfyngiadau Covid19 yn arwain at ganslo sioeau eleni ac mae hyn wedi cael effaith ddifrifol ar bob cymdeithas a'u gwytnwch yn y dyfodol. > > > "Dyna pam y comisiynais adolygiad annibynnol o sioeau amaethyddol ledled Cymru a helpu i nodi pa gymorth a allai fod ei angen arnyn nhw.  Hoffwn ddiolch i Aled am ei waith ar yr adolygiad ac mae'n bleser gen i gadarnhau fy mod yn derbyn pob argymhelliad. > > > "Bydd y gronfa arloesi newydd yn helpu i gefnogi ein Sioeau ar yr adeg anodd hwn ac yn helpu paratoadau i adfer y sioeau ar gyfer y tymor nesaf.  Mae ein sioeau amaethyddol wedi gwneud pethau arloesol iawn i gynnal digwyddiadau rhithwir eleni.  Rwyf am i ni adeiladu ar hyn a chydweithio i sicrhau dyfodol cryf i'n Sioeau yng Nghymru." Cyhoeddodd y Gweinidog hefyd fod dros 81% o geisiadau BPS 2020 wedi'u prosesu i'w talu ar ddiwrnod agoriadol y cyfnod talu. Daeth cyfnod ymgeisio Cynllun Cymorth BPS i ben ar 27 Tachwedd. Bydd taliadau'n cael eu gwneud o 7 Rhagfyr i'r busnesau fferm cymwys hynny nad yw eu cais BPS 2020 wedi'i brosesu i'w dalu.
The funding for Wales’ flagship and largest Agricultural event, the Royal Welsh Show, will help improve the environmental impact of the Society activities and support the resilience of the Society by covering some of the costs incurred as well as helping with the reinstatement of future events.  Rural Affairs Minister Lesley Griffiths said:  > “On the day we would traditionally have been gathering in Builth Wells for the opening day of the Winter Fair, I am pleased to announce a financial support package for the Royal Welsh Agricultural Society for 2020/21 reflecting the unprecedented circumstances they have faced this year.  > > > “I have always said we are seeing the perfect storm as we face the twin challenges of Covid and the impact leaving the transition period brings.  This funding will help support the RWAS resilience at this difficult time for the sector.” Half of the £200,000 funding package will come from the Major events Budget. Dafydd Elis\-Thomas, the Deputy Minister for Culture, Sport and Tourism, who has responsibility for major events, said: > “It is important we support major events through these challenging times, so they are still there when we begin returning to normal after the coronavirus pandemic. > > > “We understand how crucial these shows are to the sector, not only helping them showcase Welsh produce but also building relationships with others from the agricultural industry, and we hope this funding provides the necessary support for them to plan for next year.” Reflecting the importance of agricultural shows and the impact Covid19 has had with their cancellation this year, over the summer the Minister commissioned an independent resilience review of Agricultural Shows across Wales.  The review, carried out by Aled Jones, a Nuffield Scholar who completed an international study into the future of agricultural shows and societies, made a series of recommendations to support the resilience and reinstatement of agricultural shows next year. The Minister has accepted all of the review’s recommendations. The Minister has therefore today announced a new innovation fund to help show societies reinstate shows in 2021\.  It will also provide an opportunity to consider efficiencies to improve engagement and provide a better experience for all competitors. Other recommendations in the independent review include the need for Welsh Government to produce guidance for show organisers over the arrangements for staging events in 2021 in line with any public health restrictions. Encouraging greater collaboration between shows through the Association of Shows and Agricultural Organisations (ASAO) and well as introducing structured training for individuals working or volunteering within the show societies were also recommended. Rural Affairs Minister, Lesley Griffiths, said:  > “Agricultural shows have a long and prestigious history and are at the centre of our rural communities.  The Covid19 restrictions saw the cancellation of this year’s shows and this has had a serious impact on all societies and their future resilience. > > > “That is why I commissioned an independent resilience review of agricultural shows across Wales and help identify what support might be necessary.  I would like to thank Aled for his work on the review and I am pleased to confirm I am accepting all recommendations. > > > “The new innovation fund will help support our Shows at this difficult time and help preparations to reinstate the shows for next season.  Our agricultural shows have done really innovative things to hold virtual events this year.  I want us to build on this and work together to ensure a strong future for our Shows in Wales.” The Minister also announced over 81% of BPS 2020 claims have been processed for payment on the opening day of the payment window. The BPS Support Scheme application window closed on 27 November. Payments will be made from 7 December to those eligible farm businesses whose BPS 2020 claim has not been processed for payment.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 23 Ebrill 2018, cyhoeddais fy mod i wedi comisiynu adolygiad o'r cyflenwad o dai fforddiadwy. Er mwyn sicrhau bod yr adolygiad yn deg, yn dryloyw ac yn gadarn, rwy'n sefydlu panel annibynnol i oruchwylio'r gwaith hwn. Bydd y panel, a fydd yn gweithio o dan Gadeirydd annibynnol, yn archwilio'r dull gweithredu presennol, ac yn argymell newidiadau fel y gwêl yn dda. Rwy'n disgwyl i'r panel gyflwyno ei adroddiad erbyn diwedd Ebrill 2019\. Mae gan Lywodraeth Cymru ymrwymiad hirsefydlog i gynyddu'r cyflenwad o dai fforddiadwy, ac mae'r ymrwymiad hwn yn ganolog i Ffyniant i Bawb. Mae gennym darged i adeiladu 20,000 o dai fforddiadwy newydd dros dymor y Cynulliad hwn, ond rwyf hefyd eisiau gosod y seiliau ar gyfer y posibilrwydd o bennu targedau mwy heriol byth yn y dyfodol, mewn ymateb i anghenion tai o bob math. Rwyf hefyd eisiau i Lywodraeth Cymru barhau i greu hinsawdd sy'n hyrwyddo arloesi a gwelliannau o ran cynllunio, ansawdd ac effeithlonrwydd ynni.   Rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd Lynn Pamment, uwchbartner yn swyddfa Caerdydd PwC, yn cadeirio'r grŵp hwn. Gallaf hefyd gyhoeddi bellach mai'r aelodau eraill y gofynnwyd iddynt fod yn rhan o'r grŵp – ac yr wyf yn falch o roi gwybod sydd wedi derbyn y cynnig yw: • Dr Peter Williams – academydd sy’n gysylltiedig ag Adran Economi’r Tir ym Mhrifysgol Caergrawnt, ac ymgynghorydd annibynnol ar y marchnadoedd tai a morgeisi a pholisi tai. • Helen Collins – Savills, Pennaeth yr Ymgynghoriaeth Dai. • Yr Athro Kevin Morgan \- Athro Llywodraethu a Datblygu a Deon Ymgysylltu ym Mhrifysgol Caerdydd. • Dr Roisin Willmott OBE FRTPI – Cyfarwyddwr ar gyfer Sefydliad Cynllunio Trefol Brenhinol Cymru. • Phil Jenkins \- Rheolwr Gyfarwyddwr.   Rwy'n falch ein bod wedi gallu creu panel sy'n cynnig trawsdoriad mor gryf o sgiliau ac arbenigedd ar draws yr holl feysydd y mae'r adolygiad yn eu hystyried. Bydd yr aelodau'n taflu goleuni newydd ar faterion yn ymwneud â'r cyflenwad tai yng Nghymru a rhannau eraill o'r DU a'r atebion sydd ar gael. Mae'r panel hefyd yn cynnig dealltwriaeth fanwl o effaith y sector tai ar economi ehangach Cymru, a ffyrdd arloesol o gynyddu'r effaith honno. Bydd yr adolygiad hwn hefyd yn golygu ymgysylltu'n helaeth â'r holl sefydliadau sy'n ymwneud â chyflenwi tai fforddiadwy ar hyn o bryd, ac edrychaf ymlaen at y drafodaeth yr wyf yn gobeithio y bydd y gwaith hwn yn ei ysgogi.   Byddaf yn cyhoeddi datganiad pellach pan fydd y panel wedi cwrdd a phan fydd cylch gorchwyl y broses ymgynghori eang a gynhelir fel rhan o'r adolygiad hwn yn glir. Bydd yr adolygiad yn sicrhau ein bod yn cael y gwerth gorau am arian o'n buddsoddiadau, a bod gennym bolisïau tai sy'n addas ar gyfer y dyfodol ac sy'n helpu llawer mwy o bobl yng Nghymru i gael gafael ar y tai fforddiadwy sydd eu hangen arnynt.
On 23 April 2018, I announced that I have commissioned a review of affordable housing supply. To ensure that the review is fair, transparent and robust, I am establishing an independent panel to oversee this work. The panel, working under an independent Chair, will examine the approach we are currently taking, and recommend changes as it sees fit.  I expect the panel to report by the end of April 2019\. The Welsh Government has a longstanding commitment to increasing the supply of affordable homes, and this commitment is central to Prosperity for All.  We have a target of building 20,000 new affordable homes over the course of this Assembly, but I want to lay the ground work for the prospect of setting even more stretching targets in the future, in response to a range of housing needs.  I also want Welsh Government to continue to create a climate which drives innovation and improvements in terms of design, quality and energy efficiency.   I have already announced that Lynn Pamment, Cardiff office senior partner at PwC, will chair this group.  I can also now advise that the remaining panel members who I have asked to be part of this group \- and who I am pleased to say have accepted \- are: • Dr Peter Williams – Academic attached to the Department of Land Economy at the University of Cambridge and an independent consultant on housing and mortgage markets and housing policy • Helen Collins – Savills, Head of Housing Consultancy • Professor Kevin Morgan – Professor of Governance and Development and Dean of Engagement for Cardiff University • Dr Roisin Willmott OBE FRTPI – Director for the Royal Town Planning Institute in Wales (RTPI Cymru) • Phil Jenkins – Managing Director, Centrus I am pleased that we have been able to assemble a panel which offers such a strong cross\-section of skills and expertise across the breath of the areas being considered by the review.  The members bring real insight into housing supply issues and solutions both in Wales and other parts of the UK.  The panel also offers a deep understanding of the impact the housing sector has on the wider Welsh economy and of innovative methods of achieving even greater impact.  The review will also involve extensive engagement with all of the organisations currently involved in the delivery of affordable housing and I look forward to the debate which I hope will now surround this work.   I will provide a further statement once the panel has met and the terms of the wide reaching consultation that will be undertaken by the review become clear.  The review will ensure we get the best value for money from our investments and have housing policies fit for the future, which support many more people in Wales to access the affordable housing they need.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, bu Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol yn ymweld â sesiwn cryfder a chydbwysedd yng Nghaerdydd i weld sut mae Sport4All wedi elwa ar gyllid oddi wrth Lywodraeth Cymru. Cafodd Women Connect First £210,000 o gyllid amlflwyddyn drwy'r Cynllun Grant Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon sy'n cael ei ddarparu ar gyfer y Sector Lleol gan Cymru Gwrth\-hiliol. Nod y cyllid yw helpu menywod a merched o gefndiroedd Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol i ddilyn ffyrdd egnïol o fyw; sy'n un o'r camau gweithredu allweddol yn yr adran Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon yng Nghynllun Gweithredu Llywodraeth Cymru ar gyfer Cymru Wrth\-hiliol. Mae Women Connect First yn helpu i gyflawni'r nodau hynny drwy gynnig sesiynau gweithgareddau am ddim drwy Sports4All, gan gynnwys dosbarthiadau ioga, nofio a beicio. Fe'u bwriedir ar gyfer menywod a merched ifanc Du, Asiaidd ac Ethnig Lleiafrifol sydd, yn aml, yn wynebu rhwystrau ychwanegol sy'n eu hatal rhag cymryd rhan mewn chwaraeon. Mae'r cyllid a ddarparwyd yn rhan o fuddsoddiad o £4\.5 miliwn mewn sefydliadau diwylliant, treftadaeth a chwaraeon lleol, cenedlaethol a rhanbarthol ledled Cymru. Rhannwyd y cyllid rhwng Amgueddfa Cymru, Chwaraeon Cymru, Cyngor Celfyddydau Cymru a 22 o sefydliadau eraill. Canolbwyntiodd pob un ohonynt ar brofiadau bywyd ac ar gyd\-greu eu prosiectau gyda phobl yn eu cymunedau. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Ddiwylliant a Chyfiawnder Cymdeithasol: > Mae chwaraeon a diwylliant yn helpu i ddod â ni at ein gilydd, a dw i am wneud yn siŵr bod pawb yn gallu cymryd rhan yn y gweithgareddau hynny, a'u mwynhau. Gall sesiynau fel y rhai sy'n cael eu darparu gan Sports4All wneud gwahaniaeth gwirioneddol i iechyd a lles, a helpu pobl i ddod at ei gilydd. Dywedodd Menaka Kodur, Prif Swyddog Gweithredol Dros Dro Women Connect First:  > Nod prosiect Sports4All yw ennyn diddordeb menywod, merched ifanc a phlant o gefndiroedd amrywiol mewn chwaraeon a gweithgareddau llesol eraill. Mae gweld y menywod a'u teuluoedd yn sesiynau Sports4All a chlywed y straeon am y cynnydd maen nhw'n ei wneud a'r hyn maen nhw'n ei gyflawni, yn dangos bod menywod o blith y lleiafrifoedd ethnig, o gael y gefnogaeth briodol, yn gallu goresgyn y rhwystrau sydd, yn aml, yn eu hatal rhag mynd ati i wella'u hiechyd corfforol a meddyliol. Yn achos rhai ohonynt, mae'r newid wedi newid eu bywydau. Mae'r Cynllun Grant Diwylliant, Treftadaeth a Chwaraeon a ddarperir gan Lywodraeth Cymru o dan Cymru Gwrth\-hiliol, ynghyd â chefnogaeth partneriaid y prosiect yn y gymuned, wedi'n galluogi i ddarparu sesiynau chwaraeon a ffitrwydd sy'n ddiwylliannol briodol i fenywod beth bynnag y bo'u sefyllfa.
Today the Cabinet Secretary for Culture and Social Justice visited a strength and balance session in Cardiff to see how Sport4All has benefited from Welsh Government funding. Women Connect First received £210,000 in multi\-year funding through the Anti\-racist Wales Culture Heritage and Sport Grant Scheme for the Local Sector. This funding aims to support women and girls from Black, Asian and Minority Ethnic backgrounds to participate in active lifestyles; a key action in the Culture, Heritage and Sport section of the Welsh Government’s Anti\-Racist Wales Action Plan. Women Connect First are helping to deliver these aims by offering free activity sessions through Sports4All, including yoga, swimming and cycling classes. They are aimed at Black, Asian and Minority Ethnic women and young girls, who often face extra barriers to participation. Funding was provided as part of a £4\.5million investment in local, national and regional culture, heritage and sport organisations across Wales. This funding was shared between Amgueddfa Cymru National Museum Wales, Sport Wales, Arts Council of Wales and 22 other organisations, all of which put a focus on lived experience and co\-produced their projects with people in their community. The Cabinet Secretary for Culture and Social Justice said: > Sport and culture helps bring us together, and I want to make sure everyone can participate and enjoy those activities. Sessions like those delivered by Sports4All can make a real difference to health and wellbeing, and help people get together. Menaka Kodur, Interim CEO of Women Connect First, said: > The Sports4All project aims to engage women, young girls and children from diverse backgrounds in sport, and other well\-being activities. Seeing the women and their families in Sports4All sessions and hearing their stories of progress, their achievements, shows that with the right support ethnic minority women can overcome the barriers that often stand in the way of them improving their physical and mental health. For some of them the change has been life changing. The Welsh Government's Anti\-Racist Wales Culture Heritage and Sport Grant Scheme, together with the support of the project's partners in the community, has enabled us to provide culturally appropriate sport and fitness sessions for women whatever their situation.
Translate the text from English to Welsh.
The Welsh Government is launching its Strategic Equality Plan and equality objectives on Monday 2nd April. These highlight how we are fulfilling our legal obligations as well as our strong commitment to equality and inclusion. Under the Equality Act 2010 the general equality duty provides that listed public authorities, including the Welsh Government, must have due regard to the need to: * Eliminate discrimination, harassment, victimisation and any other conduct that is prohibited under the Act; * Advance equality of opportunity between persons who share a relevant protected characteristic and persons who do not share it; and * Foster good relations between persons who share a relevant protected characteristic and persons who do not share it. The Act covers people with the ‘protected characteristics’ of age, disability, gender reassignment, marriage or civil partnership, pregnancy and maternity, race, religion or belief, sexual orientation and sex (gender). We were the first Government in Britain to bring in specific equality duties to help public authorities better perform the general equality duty. The focus of these duties is the obligation to set outcome\-focused equality objectives informed by extensive engagement with individuals and organisations and underpinned by robust evidence.  They offer a unique opportunity to embed and mainstream equalities and inclusion into public authorities’ everyday thinking, planning and action. Our far reaching engagement has shaped our objectives and confirmed our prioritisation of the areas of inequality on which we should focus. We want to see that all citizens in Wales are respected and included as equal members, and that everyone has the opportunity to fulfil their potential. One of the core principles underpinning the Programme for Government is sustainable development; equality and inclusion are integral to this and woven throughout the Programme as well as being reflected in Chapter 8 ‘Standing up for Equality’. The Programme for Government will be updated in due course to reflect the equality objectives. A key dimension of achieving well being is also taking action on poverty. The Welsh Government will deliver on this through its Tackling Poverty Action Plan and the Strategic Equality Plan and the Tackling Poverty Action Plan will dovetail and complement one another. The equality objectives will be monitored and reviewed across the Welsh Government to chart our progress.  Our annual equality reports will show what has been achieved and what more needs to be done. This will ensure that our work on equalities and inclusion is transparent and remains a top priority. The Welsh Government will be working closely with the public sector across Wales to promote the Welsh specific equality duties and to take a co\-ordinating role in ensuring that authorities’ objectives reflect local priorities as well as ensuring a joined up approach in response to the national equalities’ agenda. I will make an Oral Statement on 24th April and I will be happy to answer questions at that time. I attach copies of the Strategic Equality Plan with this Written Statement.
Ar ddydd Llun 2 Ebrill mae Llywodraeth Cymru’n lansio ei Chynllun Cydraddoldeb Strategol a’i hamcanion cydraddoldeb. Mae’r rhain yn tynnu sylw at sut rydym yn cyflawni ein rhwymedigaethau cyfreithiol yn ogystal â’n hymrwymiad i gydraddoldeb a chynhwysiant. O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2012 mae’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredinol yn darparu bod yn rhaid i awdurdodau cyhoeddus rhestredig, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, ystyried yr angen i: * Gael gwared ar wahaniaethau, aflonyddu, erledigaeth ac unrhyw ymddygiad arall sy’n cael ei wahardd o dan y Ddeddf; * Hyrwyddo cyfle cyfartal rhwng rhai sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhai nad ydynt yn rhannu nodweddion; a * Meithrin cysylltiadau da rhwng rhai sy’n rhannu nodwedd warchodedig berthnasol a rhai nad ydynt yn rhannu nodweddion. Mae’r Ddeddf yn cwmpasu pobl â ‘nodweddion gwarchodedig’ o ran oedran, anabledd, ailbennu rhywedd, priodas neu bartneriaeth sifil, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, cyfeiriadedd rhywiol a rhyw (rhywedd). Ni oedd y Llywodraeth gyntaf ym Mhrydain i gyflwyno dyletswyddau cydraddoldeb penodol i helpu awdurdodau cyhoeddus i gyflawni’r ddyletswydd cydraddoldeb gyffredin. Ffocws y dyletswyddau hyn yw’r ymrwymiad i bennu amcanion cydraddoldeb sy’n canolbwyntio ar ganlyniadau, wedi’u llywio trwy ymgysylltu’n eang ag unigolion a sefydliadau ac wedi’u hategu gan dystiolaeth gadarn. Maent yn cynnig cyfle unigryw i sicrhau bod cydraddoldeb a chynhwysiant yn rhan annatod ac yn ganolog i’r ffordd y mae awdurdodau cyhoeddus yn meddwl, cynllunio ac yn gweithredu bob dydd. Mae’r ymgysylltiad eang hwn wedi llunio ein hamcanion ac wedi cadarnhau ein blaenoriaethu o ran y meysydd anghydraddoldeb y dylid canolbwyntio arnynt. Rwyf am weld holl ddinasyddion Cymru’n cael eu parchu a’u cynnwys fel aelodau cyfartal, a phawb yn cael y cyfle i wireddu eu potensial. Un o’r egwyddorion craidd sy’n ategu’r Rhaglen Lywodraethu yw datblygu cynaliadwy; mae cydraddoldeb a chynhwysiant yn hanfodol i hyn ac yn rhan annatod o’r Rhaglen yn ogystal ag ym Mhennod 8, Cydraddoldeb. Bydd y Rhaglen Lywodraethu’n cael ei diweddaru i adlewyrchu’r amcanion cydraddoldeb. Un o’r dimensiynau allweddol ar gyfer sicrhau lles yw cymryd camau i fynd i’r afael â thlodi. Bydd Llywodraeth Cymru’n cyflawni hyn drwy ei Chynllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Thlodi a byddwn yn sicrhau bod y Cynllun Cydraddoldeb Strategol a’r Cynllun Gweithredu Mynd i’r Afael â Thlodi yn asio â’i gilydd ac yn ategu ei gilydd. Caiff yr amcanion cydraddoldeb eu monitro a’u hadolygu ledled Llywodraeth Cymru er mwyn olrhain ein cynnydd. Bydd ein hadroddiadau blynyddol ar gydraddoldeb yn dangos yr hyn a gyflawnwyd a’r hyn sydd angen ei wneud o hyd. Bydd hyn yn sicrhau bod ein gwaith ar anghydraddoldebau a chynhwysiant yn dryloyw ac yn parhau i fod yn brif flaenoriaeth. Bydd Llywodraeth Cymru’n gweithio’n agos â’r sector cyhoeddus ledled Cymru i hyrwyddo dyletswyddau cydraddoldeb Cymreig penodol a bydd ym ymgymryd â rôl gydgysylltiedig i sicrhau bod amcanion awdurdodau’n adlewyrchu blaenoriaethau lleol yn ogystal â sicrhau dull cydlynol wrth ymateb i’r agenda gydraddoldebau genedlaethol. Byddaf yn gwneud Datganiad Llafar ar 24 Ebrill a byddaf yn hapus i ateb cwestiynau bryd hynny. Rwy’n amgáu copïau o’r Cynllun Cydraddoldeb Strategol gyda’r Datganiad Ysgrifenedig hwn.
Translate the text from English to Welsh.
Under the Joint Escalation and Intervention Arrangements, Welsh Government officials meet with Audit Wales and Healthcare Inspectorate Wales twice a year to discuss the overall position of each health board and NHS trust in respect of quality, service performance and financial management.  A wide range of information and intelligence is considered to identify any issues and inform the assessment. It was agreed that the escalation status of each NHS organisation would be published. The framework has four escalation levels: * Routine arrangements * Enhanced monitoring * Targeted intervention * Special measures. Due to the current pandemic, the latest meeting took place virtually in September 2020 and the tripartite group was complimentary of the way the NHS in Wales had responded to dealing with the pandemic.  They also considered that prior to the pandemic, progress had been demonstrated since the last meeting in December 2019 in those organisations in raised levels of escalation: * Hywel Dda UHB had made progress in key performance areas with the organisation making progress against its year end targets and was on track to deliver against the RTT target.  However, there was still concern around the financial position within the organisation, but it was recognised that the health board had reacted positively to the KPMG review.  Future financial plans would be dependent on delivering the clinical strategy that had been developed.  In view of the improvements in service, and noting that in practice monitoring had reduced, it was agreed that the organisation should be de\-escalated to ‘enhanced monitoring’.   * The group was complimentary of the way in which Swansea Bay UHB had dealt with the current pandemic.  It had also demonstrated that it had a clearer understanding of its finances and the required actions.  There has been a clearer approach to performance and an improvement in some of the measures under consideration, including cancer and infections; however, there remain concerns that unscheduled care and waiting times need to see sustained improvement in performance. In view of the improvements in approach and response, it was agreed that the organisation should be de\-escalated to ‘enhanced monitoring’.   The group acknowledged the positive way in which Betsi Cadwaladr UHB had responded to the pandemic over recent months, recognising that the trend had affected North Wales on a more sustained basis to the rest of Wales.  It reviewed evidence submitted by the health board that demonstrated progress over recent years including on the areas which had originally been designated as special measures.  However, there remained concerns on performance and strategic solutions that may require specific external support.  Specifically, the group wanted some further assurance from the health board in respect of progress in mental health services.  The group felt it was important for the health board to promote the good work it was doing and to focus on its actions, rather than be distracted by the status label.  At this stage, there was no recommendation for a change to escalation status.  To allow for the opportunity for further progress to be considered, the group proposed to have an additional tripartite meeting specifically on Betsi Cadwaladr UHB before the end of the year. With regards to Cwm Taf Morgannwg, the group noted that the health board was continuing to respond effectively and openly to the external review bodies and the Independent Maternity Panel, including over recent months.  The group noted that any progress had to be considered in the context of the priority of the pandemic response.  Whilst the latest Maternity Oversight Panel had been undertaken virtually, the Panel had acknowledged progress in maternity services since the last review.  The group noted the improved partnership and stakeholder engagement, particularly with the Local Authority partners and the constructive way in which the status of the emergency department at the Royal Glamorgan had been concluded.  Despite this, it remains important for the health board to continue to rebuild the trust and confidence of the local population, as well as with stakeholders.  At this stage there was no recommendation for a change to escalation status. The table below shows the previous and current escalation status of each organisation. | **Organisation** | **Previous Status (Dec 19\)** | **Current Status (Sept 20\)** | | --- | --- | --- | | Aneurin Bevan UHB | Routine arrangements | Routine arrangements | | Betsi Cadwaladr UHB | Special Measures | Special measures | | Cardiff and Vale UHB | Routine arrangements | Routine arrangements | | Cwm Taf Morgannwg UHB\* | Special measures for maternity, targeted intervention for quality and governance | Special measures for maternity, targeted intervention for quality and governance | | Health Education and Improvement Wales | Routine arrangements | Routine arrangements | | Hywel Dda UHB | Targeted intervention | Enhanced monitoring | | Powys tHB | Routine arrangements | Routine arrangements | | Public Health Wales NHS Trust | Routine arrangements | Routine arrangements | | Swansea Bay UHB | Targeted intervention | Enhanced monitoring | | Velindre NHS Trust | Routine arrangements | Routine arrangements | | Welsh Ambulance Services NHS Trust | Routine arrangements | Routine arrangements | \* The previous Cwm Taf UHB was escalated to ‘enhanced monitoring’ at a meeting at the beginning of January 2019\.  At a meeting in April 2019, it was agreed to raise the escalation status of Cwm Taf Morgannwg to ‘Special measures’ for maternity services following the publication of the Royal College report and to ‘targeted intervention’ for governance and quality. Following a boundary change in March 2019, Abertawe Bro Morgannwg and Cwm Taf UHBs became Swansea Bay and Cwm Taf Morgannwg UHBs.  
O dan y Cyd\-drefniadau Uwchgyfeirio ac Ymyrryd, mae swyddogion Llywodraeth Cymru'n cyfarfod â Swyddfa Archwilio Cymru ac Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru ddwywaith y flwyddyn i drafod sefyllfa gyffredinol pob un o fyrddau iechyd ac ymddiriedolaethau’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) mewn perthynas ag ansawdd, perfformiad gwasanaethau a rheolaeth ariannol.  Mae amrywiaeth eang o wybodaeth yn cael ei hystyried er mwyn nodi unrhyw faterion a helpu i lywio'r asesiad. Cytunwyd y byddai statws uwchgyfeirio pob sefydliad GIG yn cael ei gyhoeddi. Mae pedair lefel uwchgyfeirio yn y fframwaith: * Trefniadau arferol * Monitro uwch * Ymyrraeth wedi'i thargedu * Mesurau arbennig. Oherwydd y pandemig presennol, cynhaliwyd y cyfarfod diweddaraf yn rhithiol ym Medi 2020 ac fe ganmolodd y grŵp teirochrog y ffordd yr oedd GIG Cymru wedi delio â'r pandemig. Roeddent o'r farn hefyd fod cynnydd wedi'i ddangos, cyn y pandemig ers y cyfarfod diwethaf ym mis Rhagfyr 2019 yn y sefydliadau hynny sydd mewn lefelau uwchgyfeirio uwch: * Roedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda wedi gwneud cynnydd mewn meysydd perfformiad allweddol gyda'r sefydliad yn gwneud cynnydd yn erbyn ei dargedau diwedd blwyddyn ei hun ac roedd ar y trywydd iawn i gyflawni yn erbyn targed RTT.  Er hynny, roedd pryder o hyd am y sefyllfa ariannol yn y sefydliad, ond cydnabuwyd bod y bwrdd iechyd wedi ymateb yn gadarnhaol i adolygiad KPMG.  Byddai cynlluniau ariannol yn y dyfodol yn dibynnu ar gyflawni'r strategaeth glinigol a oedd wedi'i datblygu. Yn wyneb y gwelliannau mewn gwasanaeth a chan nodi bod monitro wedi cael ei leihau yn ymarferol, cytunwyd y dylid is\-gyfeirio'r sefydliad i ‘monitro uwch’.   * Canmolodd y grŵp y ffordd yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi delio â'r pandemig presennol. Roedd hefyd wedi dangos bod ganddo ddealltwriaeth gliriach o'i gyllid a'r camau gweithredu a oedd yn angenrheidiol.  Cafwyd dull gweithredu cliriach o ran perfformiad a gwella mewn rhai o'r mesurau sy'n cael eu hystyried, gan gynnwys canser a heintiau; Er hynny, mae pryderon o hyd bod angen gwelliannau cyson mewn gofal heb ei drefnu ac amseroedd aros. Yn wyneb y gwelliannau mewn dull gweithredu ac ymateb, cytunwyd y dylid is\-gyfeirio'r sefydliad i ‘monitro uwch’.   Cydnabu'r grŵp y ffordd gadarnhaol yr oedd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi ymateb i'r pandemig dros y misoedd diwethaf, gan gydnabod bod y duedd wedi effeithio ar y Gogledd yn fwy cyson o'i gymharu â gweddill Cymru.  Adolygodd dystiolaeth a gyflwynwyd gan y bwrdd iechyd a ddangosodd gynnydd dros y blynyddoedd diwethaf gan gynnwys y meysydd a oedd wedi'u dynodi yn wreiddiol fel rhai a oedd mewn mesurau arbennig.  Er hynny, roedd pryderon o hyd am berfformiad a datrysiadau strategol a allai ofyn am gymorth allanol penodol.  Yn benodol, roedd y grŵp am gael sicrwydd pellach gan y bwrdd iechyd mewn perthynas â chynnydd mewn gwasanaethau iechyd Meddwl. Teimlai'r grŵp ei bod yn bwysig i'r bwrdd iechyd hybu'r gwaith da yr oedd yn ei wneud a chanolbwyntio ar ei gamau gweithredu ei hun, yn hytrach na meddwl am y label statws.  Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw argymhelliad ar gyfer newid i'r statws uwchgyfeirio. Er mwyn caniatáu i'r cyfle am gynnydd pellach gael ei ystyried, cynigiodd y grŵp gael cyfarfod teirochrog yn benodol ar Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr cyn diwedd y flwyddyn. O ran Cwm Taf Morgannwg, nododd y grŵp fod y bwrdd yn parhau i ymateb yn effeithiol ac mewn ffordd agored i'r cyrff adolygu allanol a'r Panel Mamolaeth Annibynnol, gan gynnwys dros y misoedd diwethaf. Nododd y grŵp fod angen ystyried unrhyw gynnydd yng nghyd\-destun y flaenoriaeth a roddir i'r ymateb i'r pandemig. Er bod y Panel Trosolwg ar Famolaeth wedi'i gynnal yn rhithiol, roedd y Panel wedi cydnabod cynnydd o ran gwasanaethau mamolaeth ers yr adolygiad diwethaf. Nododd y grŵp yr ymgysylltu gwell rhwng partneriaethau a rhanddeiliad, yn enwedig â'r partneriaid yn yr Awdurdod Lleol a'r ffordd adeiladol yr oedd statws yr adran frys yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg wedi'i gwblhau. Serch hynny, mae'n dal yn bwysig i'r bwrdd iechyd barhau i feithrin ymddiriedaeth a hyder y boblogaeth leol, yn ogystal ag â rhanddeiliaid. Ar hyn o bryd, nid oedd unrhyw argymhelliad ar gyfer newid y statws uwchgyfeirio. Dengys y tabl isod statws uwchgyfeirio blaenorol a phresennol pob sefydliad. | **Sefydliad** | **Statws Blaenorol (Rhag 19\)** | **Statws Presennol (Medi 20\)** | | --- | --- | --- | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr | Mesurau Arbennig | Mesurau arbennig | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg\* | Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu | Mesurau arbennig ar gyfer mamolaeth, ymyrraeth wedi'i thargedu ar gyfer ansawdd a llywodraethu | | Addysg a Gwella Iechyd Cymru | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda | Ymyrraeth wedi'i thargedu | Monitro uwch | | Bwrdd Iechyd Addysgu Powys | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Ymddiriedolaeth GIG Iechyd Cyhoeddus Cymru | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe | Ymyrraeth wedi'i thargedu | Monitro uwch | | Ymddiriedolaeth GIG Felindre | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | | Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru | Trefniadau arferol | Trefniadau arferol | \* Cafodd cyn\-Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf ei uwchgyfeirio i statws 'monitro uwch' mewn cyfarfod ar ddechrau mis Ionawr 2019\.  Mewn cyfarfod ym mis Ebrill 2019, cytunwyd y dylid codi statws uwchgyfeirio Cwm Taf Morgannwg i statws 'mesurau arbennig' ar gyfer gwasanaethau mamolaeth yn dilyn cyhoeddi adroddiad y Coleg Brenhinol ac i statws 'ymyrraeth wedi'i thargedu' ar gyfer llywodraethu ac ansawdd. Yn dilyn y broses o newid y ffin ym mis Mawrth 2019, daeth Bwrdd Iechyd Prifysgol Abertawe Bro Morgannwg a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf yn Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Translate the text from Welsh to English.
Un o gonglfeini cynllun ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’, sydd newydd ei gyhoeddi gan Lywodraeth Cymru, yw ei gwneud hi’n haws cael gafael ar nwyddau mislif. Mae’r cynllun yn amlinellu sut y dylai pawb allu cael gafael ar nwyddau mislif, pryd bynnag y bo’u hangen. Mae’r rhai sy’n ei chael hi’n anodd fforddio nwyddau mislif yn cael eu hannog i ofyn am y cymorth sydd ei angen arnyn nhw. Daw hyn ar adeg pan fo nwyddau mislif am ddim ar gael mewn mwy o leoedd nag erioed o’r blaen. Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: > Mae nwyddau mislif yn eitemau hanfodol a dylen nhw fod ar gael i bawb sydd eu hangen. Mae hyn yn bwysicach nag erioed wrth i lawer ei chael hi’n anodd yn ystod yr argyfwng costau byw. > > > Ry’n ni eisiau sicrhau nad yw cael mislif yn arwain at golli addysg, absenoldeb o’r gwaith neu dynnu’n ôl o chwaraeon a gweithgareddau cymdeithasol oherwydd tlodi mislif. Mae dros £12 miliwn wedi’i fuddsoddi i wella mynediad at nwyddau mislif am ddim i blant, pobl ifanc a’r rhai sydd ar incwm isel yng Nghymru dros y pum mlynedd diwethaf. Mae nwyddau mislif am ddim ar gael ym mhob ysgol yng Nghymru ac ar draws ystod o leoliadau cymunedol gan gynnwys y canlynol, ymysg eraill: banciau bwyd, llyfrgelloedd, canolfannau hamdden, canolfannau i deuluoedd, hybiau cymunedol a gwasanaethau ieuenctid. Mae lleoliadau chwaraeon, lleoliadau diwylliannol a chyflogwyr hefyd yn cael eu hannog i ddarparu nwyddau am ddim i staff ac ymwelwyr. Y gobaith yw y bydd hyn yn dod â thlodi mislif i ben ac yn sicrhau bod y rhai sydd fwyaf agored i niwed yn gallu cael gafael ar nwyddau mislif. Roedd Dee Dickens yn ei chael hi’n anodd fforddio nwyddau mislif pan oedd hi’n tyfu i fyny ac yn teimlo cywilydd ohoni ei hun pan oedd hi ar ei mislif, gan boeni drwy’r amser y byddai pobl yn sylwi. > Byddwn yn defnyddio papur tŷ bach yn nhoiled yr ysgol, meddai. > Nes imi adael cartref, ro’n i’n treulio pob mislif yn poeni y gallai pobl fy arogli a dyna oedd yn gwneud imi deimlo cywilydd. Dyna un o’r rhesymau pam rwy’n siarad amdano fe nawr, gan nad ydw i eisiau i neb arall fynd drwy hyn. Ychwanegodd: > Pan wnes i adael cartref, ro’n i’n gyfrifol am fy arian fy hun, ond hyd yn oed wedyn byddwn yn rhedeg allan ac yn peidio â phrynu rhagor gan fod gen i’r euogrwydd yma, a byddwn yn dal i roi papur tŷ bach yn fy nicyrs. Mae wedi cymryd blynyddoedd o therapi imi sylweddoli fy mod i’n haeddu pethau neis ac na ddylwn i fod yn meddwl am nwyddau mislif fel pethau neis. Mae normaleiddio cael mislif a chael gwared ar unrhyw gywilydd neu stigma yn ei gylch yn un o brif flaenoriaethau’r cynllun. Nod y cynllun hefyd yw gwella ymwybyddiaeth a dealltwriaeth o’r cylch mislif a’r menopos, fel bod gan bobl yr hyder i siarad yn agored amdanyn nhw, a hynny fel nad ydyn nhw’n cael effaith negyddol ar eu bywydau. Dywedodd Jane Hutt, y Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol: > Mae ‘Cymru sy’n falch o’r mislif’ yn nodi ein huchelgeisiau i ddod â thlodi mislif i ben a sicrhau urddas mislif i fenywod, merched a phobl sy’n cael mislif. > > > Er mwyn gwneud hyn, mae angen inni wella mynediad at nwyddau mislif, chwalu’r stigma neu’r tabŵ sy’n gysylltiedig â siarad am y mislif a gwella dealltwriaeth o’i effaith ar fywydau pobl. Ychwanegodd: > Ry’n ni’n gwybod y bydd ffactorau economaidd\-gymdeithasol ac amgylcheddol ehangach yn effeithio ar ein gallu i gyflawni’r weledigaeth hon, ond ry’n ni’n ymdrechu i ddechrau’r sgwrs a dechrau newid y diwylliant a fydd o fudd i genedlaethau’r dyfodol.
Improving the availability and accessibility of menstrual products is a cornerstone of the Welsh Government’s newly published A Period Proud Wales plan. The plan outlines how everyone should have access to period products, whenever they are needed. Those who are struggling to afford menstrual products are being urged to have the confidence to seek the support they need, with free period products available in more places than ever before. Minister for Social Justice Jane Hutt said: > Period products are not a luxury item and should be available to everyone who needs them. This is more important than ever as many struggle during the cost\-of\-living crisis. > > > We want to ensure that having a period does not lead to missed education, absences from employment or withdrawal from sport and social activities due to period poverty. More than £12 million has been invested in improving access to free period products for children, young people and those on low incomes in Wales over the last five years. Free period products are available in every school in Wales and across a range of community venues including (but not limited to) foodbanks, libraries, leisure centres, family centres, community hubs and youth services. Sport, cultural venues and employers are also being encouraged to provide free products for staff and visitors. It is hoped this will eradicate period poverty and ensure those who are the most vulnerable have access to period products. Dee Dickens struggled to afford menstrual products when she was growing up and felt ashamed of herself when she was on her period, constantly worried that people would notice. > I would use toilet paper in the school toilet, she said. > Until I left home I spent every period worrying people could smell me and that was the shame in it. That’s one of the reasons why I’m talking about it now, as I don’t want anyone else to go through this. She added: > When I left home I was in charge of my own budget, but even then I would run out and still I wouldn’t go out and buy more as I had this inbred guilt and it was back to the toilet roll in the knickers. It’s taken years of therapy for me to realise that I deserve nice things and I shouldn’t really be thinking of sanitary products as nice things. Normalising having a period and removing any sense of shame or stigma around periods is a key priority of the plan. The plan also aims to raise awareness and understanding of both menstrual cycles and the menopause, so people have the confidence to speak openly about them, so they don’t negatively impact on their lives. Minister for Social Justice Jane Hutt said > A Period Proud Wales sets out our ambitions to ensure period dignity and eradicate period poverty for women, girls and people who have periods. > > > In order to do this we need to improve access to period products, remove the stigma or taboo around talking about periods and improve understanding of the impact of periods on people’s lives. She added: > We know broader socio\-economic and environmental factors will affect our ability to meet this vision, but we are striving to start a conversation and begin a cultural change that will benefit generations to come.
Translate the text from Welsh to English.
Mae hyn hefyd yn cynnwys cyllid penodol ar gyfer awdurdodau Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe, fel y pedair ardal awdurdod lleol sy'n wynebir materion mwyaf cymhleth mewn cysylltiad â chysgu allan. Mae'r cyllid yn cynnwys: * £50,000 ar gyfer y Wallich yng Nghaerdydd i gynyddu'r llety dros nos mewn argyfwng yn eu lloches * £25,000 ar gyfer yr Huggard yng Nghaerdydd er mwyn creu amgylchedd mwy diogel a chynyddu'r tîm cymorth yn eu lloches nos * £33,800 ar gyfer Cyngor Casnewydd i ariannu gwaith i helpu pobl sy'n cysgu allan i symud i lety cynaliadwy * £54,000 ar gyfer y Prosiect Cydweithredol Gofal Cymunedol er mwyn helpu i ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'r rheini sy'n cysgu allan yn Wrecsam, ynghyd â chyngor tai, cyngor lles ac ystod o wasanaethau eraill * £77,600 ar gyfer Cyngor Wrecsam i ddatblygu model amlasiantaeth, lle mae sefydliadau o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn darparu gwasanaethau cydgysylltiedig i'r rheini sy'n cysgu ar y stryd i annog y rheini nad ydynt yn ymgysylltu â gwasanaethau ar hyn o bryd i wneud hynny er mwyn gwella eu hiechyd a'u hansawdd bywyd a'u galluogi i symud i lety mwy hirdymor * £99,000 ar gyfer amrywiaeth o brosiectau yn Abertawe, gan gynnwys cyllid i'r Wallich er mwyn datblygu eu Tîm Ymyrraeth ar gyfer y rheini sy'n cysgu allan yn wasanaeth sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos. Dywedodd Julie James:  > "Mae'r buddsoddi hwn yn rhan o'r £30m rydym yn ei fuddsoddi dros y flwyddyn hon ac yn y flwyddyn nesaf i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan. Wrth i'r tywydd oeri, mae'n hollbwysig bod y cymorth cywir ar gael er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn gynnes dros y gaeaf hwn. Rydym yn cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth cywir i helpu pobl sy'n cysgu allan yng Nghymru i adael y stryd. > > "Mae nifer o resymau cymhleth pam fod pobl yn cysgu allan, a gall fod angen llawer iawn o gymorth a dealltwriaeth arnynt. Rydym wedi ymrwymo i'w helpu i ddod o hyd i lety diogel, er mwyn iddynt allu cyrraedd eu llawn botensial. > > "Rwy'n annog unrhyw un sy'n pryderu am rywun sy'n cysgu allan i ddefnyddio'r ap Streetlink, a fydd yn eu tynnu i sylw'r awdurdodau lleol a'r gwasanaethau allgymorth er mwyn iddynt allu cynnig cymorth iddynt."
This also includes specific funding for Cardiff, Wrexham, Newport and Swansea, as the four local authority areas with the most complex rough sleeping issues. The funding includes: * * £50,000 for the Wallich in Cardiff to support the emergency overnight accommodation in their shelter * £25,000 for the Huggard in Cardiff to create a safer environment and increase the support team in their night shelter * £33,800 for Newport Council to fund work to proactively support people who are sleeping rough into sustainable accommodation * £54,000 for the Community Care Collaborative to develop and deliver health and social care services to rough sleepers in Wrexham, alongside housing advice, welfare advice and a range of other services * £77,600 for Wrexham Council to develop a multi\-agency model, with public sector and third sector organisations delivering joined up services to rough sleepers to encourage those people not currently engaging with services to access support to improve their health and quality of life and enable them to move to longer term accommodation * £99,000 for a range of projects in Swansea including funding for the Wallich to develop their Rough Sleeper Intervention Team into a seven\-day service. Julie James said:  > “This funding is part of the £30m we are investing over this year and the next to tackle homelessness and rough sleeping. As the weather turns colder it is vital that the right support is available to ensure people can stay safe and warm this winter. We are working closely with local authorities and the third sector to ensure we are providing the right support to help people who are sleeping rough in Wales to leave the streets.  > > “People find themselves sleeping on the streets for a range of complex reasons, and they may require a great deal of support and understanding. We are committed to supporting them to find safe and secure housing, so they can achieve their full potential. > > “I want to encourage anyone who is concerned about rough sleepers to use the Streetlink App, which will alert local authorities and outreach services who can then offer help.”
Translate the text from Welsh to English.
Bydd cynlluniau allweddol sy'n sail i economi wledig, bioamrywiaeth a blaenoriaethau amgylcheddol Cymru yn cael cymorth pellach, parhaus yn dilyn cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu'r cyllid presennol, gan roi sicrwydd i gynlluniau hanfodol wrth iddynt geisio adfer yn sgil pandemig Covid\-19\. Bydd nifer o gynlluniau newydd hefyd yn cael eu datblygu mewn ymateb i'r pandemig, yn ogystal â heriau eraill fel ymadawiad arfaethedig y DU o’r UE. Bydd y prosiectau hynny a gefnogir gan y cynnydd mewn buddsoddiad yn cynnwys y rheini sy'n delio ag amrywiaeth o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru, gan gynnwys: * Creu ac adfer coetiroedd * Meithrin gwytnwch ymysg adnoddau naturiol Cymru a gwella bioamrywiaeth, * Helpu busnesau bwyd i wella eu cadwyni cyflenwi, gwytnwch busnes * Cefnogi busnesau fferm i helpu i sicrhau eu cynaliadwyedd * Darparu Strategaeth Adfer Covid\-19 ar gyfer y sector bwyd a diod. Bydd buddsoddiadau hefyd yn cael eu gwneud ar draws amrywiaeth o gynlluniau sy'n gysylltiedig â rheoli adnoddau naturiol Cymru yn gynaliadwy, ymateb i argyfwng yr hinsawdd a gwrthdroi'r dirywiad mewn bioamrywiaeth. Caiff y cynlluniau eu hariannu drwy gyfuniad o Gynllun Datblygu Gwledig (CDG) yr UE 2014\-20, ac o gronfeydd Llywodraeth Cymru ei hun.  Cyhoeddodd y Gweinidog gyllid newydd yn dilyn ymweliad â Chanolfan Diwydiant Bwyd ZERO2FIVE ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd ddoe (dydd Llun, Medi 7\). Mae ZERO2FIVE yn un o dair canolfan Arloesi Bwyd Cymru ledled Cymru sy’n darparu Prosiect HELIX, buddiolwr presennol cyllid y CDG sy'n rhoi cymorth technegol, strategol a masnachol i gwmnïau bwyd a diod Cymru i wella eu heffeithlonrwydd, lleihau gwastraff a gwella eu perfformiad amgylcheddol. Dywedodd y Gweinidog: > Bydd y buddsoddiad mawr hwn gan Lywodraeth Cymru a Rhaglen Datblygu Gwledig yr UE yn rhoi cymorth hanfodol i'n heconomi wledig a'n hamgylchedd naturiol dros y tair blynedd nesaf. Mae'r ymrwymiad hirdymor hwn yn dangos sut y bydd y llywodraeth yn cefnogi busnesau a chymunedau i hybu cyflogaeth a chynaliadwyedd amgylcheddol, gan roi sicrwydd a helpu ein partneriaid i gynllunio. > > > Mae effaith y stormydd dwys ar ein cymunedau gwledig yn gynharach eleni ac yna'r pandemig Covid\-19 wedi bod yn aruthrol. Mae Llywodraeth Cymru wedi darparu cymorth ar unwaith drwy'r Gronfa Cadernid Economaidd, sy'n unigryw i Gymru, yn ogystal â chyfres o gynlluniau wedi'u targedu. Mae'r cyhoeddiad heddiw'n nodi rhywfaint o'r cyllid y byddwn yn ei ddarparu ar gyfer datblygu gwledig nid yn unig yn y dyfodol agos, ond am y tair blynedd nesaf. > > > Er bod economi wledig Cymru yn wynebu sawl her mae gennym lawer o asedau a chyfleoedd y gallwn adeiladu arnynt – o'n treftadaeth naturiol ysblennydd i'r sectorau bwyd a diod ffyniannus. Bydd y buddsoddiad hwn gan Lywodraeth Cymru a'r Undeb Ewropeaidd yn adeiladu ar y cryfderau hynny i gefnogi swyddi ac arloesedd yn yr economi wledig mewn ffordd sy'n diogelu ein hamgylchedd naturiol ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol. Dywedodd yr Athro David Lloyd o Arloesi Bwyd Cymru: > Gan fod ein gwaith yn canolbwyntio mor agos ar ddarparu'r adnoddau a'r cymorth sydd eu hangen ar fusnesau Cymru, rydym yn croesawu'r cyhoeddiad heddiw am y cynnydd yng nghyllid y CDG, gyda chyllid i barhau am y tair blynedd nesaf. > > > Rydym wedi parhau i ymgysylltu ag amrywiaeth o fusnesau drwy gydol yr amser heriol hwn – ac ystyried yr effaith y mae llawer ohonynt wedi'i chael o ganlyniad i'r pandemig diweddar, rwy'n siŵr y byddant yn croesawu'r cymorth hirdymor y bydd y cynnydd yng nghyllid y Cynllun Datblygu Gwledig a chan Llywodraeth Cymru yn ei ddarparu. Bydd Prosiect HELIX yn parhau i ddarparu cymorth hanfodol i fusnesau Cymru wrth iddynt geisio datblygu cynnyrch newydd, gwastraffu llai ac ennill ardystiad sy'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol. Dywedodd Huw Thomas, Rheolwr Gyfarwyddwr Puffin Foods: > Ar ôl cael cymorth gan y Cynllun Datblygu Gwledig drwy'r Cynllun Buddsoddi mewn Busnesau Bwyd (FBIS) a Phrosiect HELIX yn y gorffennol, rydym yn falch iawn o weld bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi rhagor o gyllid ar gyfer cynlluniau gwledig, bwyd ac amgylcheddol. > > > Mae'r cyfnod diweddar wedi taro'r sector bwyd a chynnyrch yn arbennig o galed – bydd y cyhoeddiad hwn yn gymorth i ddarparu lefel o sicrwydd y mae mawr ei angen ar fusnesau ledled Cymru.
Key schemes which underpin Wales’ rural economy, biodiversity and environmental priorities are to receive further, continued support following a Welsh Government announcement to increase existing funding, providing reassurance to vital schemes as they look to recover from the Covid\-19 pandemic. A number of new schemes will also be developed in response to the pandemic and other challenges such as the UK’s imminent EU exit. Those projects supported by the increased investment will include those dealing with a range of Welsh Government priorities, including: * Woodland creation and restoration * Building resilience into Wales’ natural resources and improving biodiversity, * Helping food businesses to improve their supply chains, business resilience * Supporting farm businesses to help ensure their sustainability * Delivering food and drink sector Covid\-19 Recovery Strategy. Investments will also be made across a variety of schemes linked to the sustainable management of Wales’ natural resources, responding to the climate emergency and reversing the decline in biodiversity. The schemes will be funded through a combination of the EU Rural Development Programme 2014\-20 (RDP), and from the Welsh Government’s own funds.   The Minister unveiled new funding following a visit to ZERO2FIVE Food Industry Centre at Cardiff Metropolitan University yesterday (Monday, September 7\). ZERO2FIVE is one three Food Innovation Wales centres located across Wales which deliver Project HELIX, an existing beneficiary of RDP funding which provides technical, strategic and commercial support to Welsh food and drink companies to improve their efficiency, reduce waste and raise their environmental performance. The Minister said: > This major investment from Welsh Government and the EU Rural Development Program will provide vital support to our rural economy and natural environment over the next three years. This long term commitment shows how government will support businesses and communities to boost employment and environmental sustainability, providing assurance and helping our partners to plan. > > > The impact on our rural communities of the intense storm events earlier this year and then the Covid\-19 pandemic has been immense. Welsh Government has provided immediate support through the Economic Resilience Fund, unique to Wales, as well as a series of targeted schemes. The announcement today sets out some of the funding we will make available for rural development not just in the immediate future, but for the next three years. > > > Whilst the rural economy of Wales faces many challenges we have many assets and opportunities on which we can build – from our spectacular natural heritage to the thriving food and drink sectors. This investment from the Welsh Government and the European Union will build on those strengths to support jobs and innovation in the rural economy in a way that safeguards our natural environment for future generations. Professor David Lloyd, of Food Innovation Wales said: > As our work is so closely focused on providing the resources and support Welsh businesses need, we welcome today’s announcement of the increase in RDP funding, with funding to continue for the next three years. > > > We have continued to engage with a variety of businesses throughout this challenging time – given the impact many of them have suffered as a result of the recent pandemic, I am sure they will welcome the long\-term support which the increase in RDP and Welsh Government funding will provide. Project HELIX will continue to provide vital support to Welsh businesses as they look to develop new products, cut back on waste and gain internationally\-recognised certification. Huw Thomas, Managing Director at Puffin Foods, said: > Having received support through RDP via the Food Business Investment Scheme (FBIS) and Project HELIX in the past, we are very pleased to see that the Welsh Government has announced further funding to rural, food and environmental schemes. > > > Recent times have hit the food and produce sector especially hard – this announcement will go some way into providing a level of much\-needed reassurance to businesses across Wales.
Translate the text from English to Welsh.
Yesterday’s announcement by the Secretary of State for Health and Social Care, Jeremy Hunt MP about the breast screening issues in England is very concerning.   I would like to reassure women in Wales that this issue is predominantly one that affects England. Women aged 50 to 70 who are resident in Wales and registered with a GP are invited for a mammogram every three years. Once women turn 70 they can self\-refer for screening by contacting the screening programme. In light of the issues affecting the English programme, and given that the breast screening programme in Wales is on the same IT platform as England, Public Health Wales is urgently reviewing the Welsh breast screening programme to ensure all eligible women are invited for screening. I will provide a further update when this further work is complete. There are also three potential groups of women affected by the English system who may now be resident in Wales:   * Women registered with English GPs in border areas of Wales and attending English screening services may be affected in the same way as English women. * Some women who should have been invited in their 70th year by England may now be living in Wales and be locally registered. * Women who may have been registered on the system but where subsequent follow up was lost. It is not possible to quantify these groups currently but the total combined affected population for Wales and the other devolved administrations is thought to be very small. Public Health England has set up a free helpline for women who might be affected on: 0800 169 2692\. I expect an update from Public Health Wales shortly and will provide another statement to update Members when that is received.                    
Mae'r datganiad ddoe gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol, Jeremy Hunt AS ynghylch y materion sgrinio'r fron yn Lloegr yn destun pryder.   Hoffwn roi sicrwydd i fenywod yng Nghymru mai mater sy'n effeithio ar Loegr yn bennaf yw'r mater hwn. Mae menywod 50 i 70 oed sy'n byw yng Nghymru ac sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferydd Cyffredinol yn cael eu gwahodd am famogram bob tair blynedd. Pan fydd menywod yn cyrraedd 70 gallant hunanatgyfeirio i gael eu sgrinio trwy cysylltu a’r rhaglen sgrinio. Yng ngoleuni'r materion sy'n effeithio ar y rhaglen yn Lloegr, ac o gofio bod y rhaglen sgrinio'r fron yng Nghymru ar yr un platfform TG â Lloegr, mae Iechyd Cyhoeddus Cymru'n adolygu rhaglen sgrinio'r fron yng Nghymru er mwyn sicrhau bod yr holl fenywod cymwys yn cael eu gwahodd am sgrinio. Byddaf yn rhoi diweddariad pellach pan fydd y gwaith pellach hwn wedi'i gwblhau. Hefyd mae yna dri grŵp posibl o fenywod y mae system Lloegr yn effeithio arnynt a allai fod yn byw yng Nghymru erbyn hyn: * Gallai menywod sydd wedi'u cofrestru gydag Ymarferwyr Cyffredinol yn Lloegr yn ardal y Gororau ac sy'n mynychu gwasanaethau sgrinio yn Lloegr ddioddef yr un effaith â menywod yn Lloegr. * Gallai rhai menywod a ddylai fod wedi cael eu gwahodd yn y flwyddyn y maent yn codi'n 70 oed fod yn byw yng Nghymru erbyn hyn a bod wedi'u cofrestru'n lleol. * Menywod a allai fod wedi'u cofrestru ar y system ond lle collwyd y cyfle i'w dilyn i fyny. Nid oes modd gwybod yn union y nifer sydd yn  y grwpiau hyn ar hyn o bryd ond credir mai cyfran fach iawn yn  unig o boblogaeth Cymru a'r gweinyddiaethau datganoledig eraill sydd wedi dioddef oherwydd hyn. Mae Public Health England wedi sefydlu llinell gymorth am ddim i fenywod y gallai’r mater fod wedi effeithio arnynt ar: 0800 169 2692 Rwyf yn disgwyl y newyddion diweddaraf oddi wrth Iechyd Cyhoeddus Cymru cyn bo hir a byddaf yn darparu datganiad arall ar gyfer yr Aelodau pan ddaw hwnnw i law.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw (dydd Mercher 5 Ebrill), mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg, Kirsty Williams wedi lansio prosiect cenedlaethol newydd i roi hwb i sgiliau cyfrifiadureg plant ysgolion cynradd Cymru. Mae’r prosiect Barefoot Computing yng Nghymru yn ceisio helpu athrawon ysgolion cynradd i fynd i’r afael â chyfrifiadura fel bod modd iddynt ysbrydoli a chyffroi disgyblion am fyd TG, a hynny o bump oed ymlaen. Ariennir ac arweinir y fenter gan BT, sydd wedi bod yn  gweithio’n agos â Llywodraeth Cymru i sicrhau bod yr adnoddau ar gyfer y prosiect yng Nghymru yn cydweddu’n agos â’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol a’u bod ar gael yn ddwyieithog ar  Hwb, y platfform dysgu digidol. Aeth Kirsty Williams i Ysgol Gynradd Tregatwg yn y Barri i ddysgu mwy am Barefoot mewn gweithdy. Yno, cafodd adnoddau ar\-lein newydd ar gyfer athrawon eu harddangos am y tro cyntaf, a rheiny’n adnoddau sydd wedi’u teilwra i’r Cwricwlwm yng Nghymru yn Gymraeg ac yn Saesneg. Nod yr adnoddau a’r cynlluniau gwersi dwyieithog y gellir eu lawrlwytho’n rhad ac am ddim yw helpu athrawon ysgolion cynradd ledled Cymru, yn enwedig y rhai nad oes ganddynt lawer o wybodaeth arbenigol am gyfrifiadura. Mae’r adnoddau yn canolbwyntio ar gysyniadau fel algorithmau, tynnu gwybodaeth, rhaglennu, a strwythurau data, ac maent yn rhoi syniad o sut y gellid eu defnyddio yn yr ystafell ddosbarth. Dywedodd Kirsty Williams:  > “Ers ymuno â’r Cabinet fel Ysgrifennydd Addysg, un o’m blaenoriaethau yw codi dyheadau ein plant a’n pobl ifanc, ehangu eu gorwelion a datblygu uchelgais er mwyn i bawb gael llwyddo. Mae’r Fframwaith Cymhwysedd Digidol, sy’n rhoi’r sgiliau sylfaenol sydd eu hangen ar ein plant yn y byd modern, yn garreg filltir bwysig ac yn dod â ni gam yn nes at gyrraedd y flaenoriaeth honno. Pleser i mi, felly, yw gallu lansio’r adnoddau hyn, sy’n greadigol ac yn rhad ac am ddim, adnoddau sy’n brawf perffaith o sut y gallwn integreiddio sgiliau digidol i’r cwricwlwm yng Nghymru.” Bydd aelod o dîm Barefoot yn cysylltu â phob athro cynradd i dynnu sylw at yr adnoddau newydd, sydd eisoes wedi cael cymeradwyaeth gan athrawon eraill yn y DU. Mae dros filiwn o ddisgyblion mewn ysgolion cynradd wedi defnyddio Barefoot ers iddo gael ei lansio yn 2014, a chael budd mawr ohono. Mae’n rhan o ymrwymiad hirdymor BT i helpu i adeiladu diwylliant o ddealltwriaeth technolegol a helpu pum miliwn o bobl ifanc yn y DU erbyn 2020\. Dywedodd, Cyfarwyddwr Rhanbarthol BT Cymru, Alwen Williams: > “Os ydych chi eisiau i Cymru ffyniannus yn y dyfodol, yna mae cyfrifiadura yn sgil hanfodol. > > “Mae angen y sgiliau hyn ar ein pobl ifanc er mwyn iddynt fynd o nerth i nerth yn y byd modern, sy’n mynd yn fwy cystadleuol ac yn fwy digidol bob dydd. Mae busnesau a sefydliadau o bob lliw a llun eisiau gweithwyr sy’n deall technoleg er mwyn iddynt lwyddo. > > “Mae ein plant yn cael eu magu yng nghanol technoleg, ond nid oes gan lawer ohonynt y syniad lleiaf o sut y mae’n gweithio. Mae’r ddealltwriaeth yn stopio gan amlaf gyda’r sgrin.  > > “Mae’r rhaglen hon gan BT, wedi ei llunio i ysbrydoli pobl ifanc i ddeall cysyniadau technolegol, i’w canfod yn gyffrous ac yn berthnasol, ond hefyd, wrth gwrs, mae angen i’r  athrawon deimlo’n hyderus er mwyn cefnogi’r bobl ifanc. > > “Dyma bwrpas y prosiect yma, Barefoot Computing. Rydym yn edrych ymlaen at weld ffrwyth llafur y prosiect yng Nghymru.” Dywedodd Bill Mitchell, cyfarwyddwr addysg Cymdeithas Cyfrifiaduron Prydain, a oedd yn gyfrifol am greu Barefoot Computing yn wreiddiol ar y cyd â’r Adran Addysg, Raspberry Pi a BT: > “Mae’n hanfodol bod plant yn datblygu sgiliau meddwl cyfrifiadurol o’r dechrau’n deg yn yr ysgol gynradd, dyma pam fod y prosiect Barefoot Computing mor bwysig. Mae’n rhoi’r arfau addysgol sydd ei hangen ar athrawon i allu helpu’r disgyblion i ddatblygu’r sgiliau hyn.”“Drwy gefnogi prosiect Barefoot Computing, mae Llywodraeth Cymru wedi dangos yr arweiniad a’r weledigaeth angenrheidiol er mwyn sicrhau bod pob disgybl ysgol gynradd yng Nghymru yn cael y cyfle i feithrin y sgiliau hynny er mwyn datblygu’n oedolion sy’n gallu cystadlu yn llwyddiannus yn yr economi ddigidol fyd\-eang.” Gall disgyblion ac ymarferwyr yng Nghymru weld y deunydd dwyieithog ar hwb.cymru.gov.uk  Yn fuan, gall ysgolion wneud cais am weithdy i ddangos sut y gellir defnyddio’r adnoddau a’r cynlluniau gwersi.
A new national project to help boost the computing skills of Welsh primary school children has been launched today (Weds 5 Apr) by Cabinet Secretary for Education, Kirsty Williams. The Barefoot Computing project in Wales aims to help primary school teachers get to grips with computing so that they can inspire and excite pupils aged from five about the world of IT. The initiative is funded and led by BT, which has worked closely with the Welsh Government to ensure resources for the project in Wales are closely aligned to the Digital Competence Framework and are available bilingually via the Hwb digital learning platform. Kirsty Williams visited Cadoxton Primary School in Barry to see a Barefoot workshop in action and unveiled the new online resources for teachers, which have been tailored to the Welsh curriculum in both English and Welsh. The free, bilingual, downloadable resources and lesson plans are targeted to help primary school teachers across Wales, some of whom may not have specialist computing knowledge. The resources focus on concepts such as algorithms, abstraction, programming and data structures and provide ideas on how they can be used in the classroom. Kirsty Williams said,  > “Since becoming Education Secretary, one of my key priorities has been to raise the aspirations for all our children and young people, broadening horizons and developing ambition so that all can achieve. The DCF is an important milestone in achieving this goal as it provides the fundamental skills our children need in the modern world. I am therefore delighted to launch these free\-to\-use, creative resources which perfectly illustrate how digital skills can be integrated into the Welsh curriculum.” Every primary school head teacher in Wales will be contacted by the Barefoot team to highlight the new resources, which have already won acclaim from teachers elsewhere in the UK. More than one million primary school pupils across the UK have already benefited from Barefoot since being launched in 2014\.  It forms part of BT’s long\-term commitment to help build a culture of tech literacy and reach five million young people in the UK by 2020\. Alwen Williams, regional director for BT Cymru Wales, said: > “Computing is a vital skill for the future prosperity of Wales. > > “Young people need these skills in order to thrive in our increasingly competitive and digital world while businesses and organisations of all sizes need recruits that are tech literate in order to succeed. > > “Our children grow up surrounded by technology, but too many have little idea how it all works \- their knowledge is only screen\-deep.  > > “BT’s tech literacy programme is designed to inspire young people to ‘get’ tech concepts and to find them exciting and relevant, but we’re also aware that teachers need to feel confident to support young people. > > “That’s where the Barefoot Computing project comes in, and we’re looking forward to seeing it take shape in Wales and having a real impact in our primary schools.” Bill Mitchell, director of education at BCS, which was responsible for originally creating Barefoot Computing in collaboration with the Department for Education, Raspberry Pi and BT, said: > “It’s essential that all children develop computational thinking skills right from the start of primary school, which is why the Barefoot Computing project is so important as it gives teachers the educational tools they need to develop these skills in their pupils.” > “By backing the Barefoot Computing project the Welsh Government has shown the leadership and vision necessary to ensure all primary schoolchildren in Wales now have the chance to develop those skills and as adults successfully compete in the global digital economy.” Pupils and practitioners in Wales can access the bilingual materials at hwb.wales.gov.uk Schools will soon be able request a workshop to demonstrate how the resources and lesson plans can be used.
Translate the text from English to Welsh.
The Chancellor of the Exchequer today presented his Budget against the backdrop of struggling public services and a prolonged cost of living crisis that continues to impact the poorest in our communities. The UK economy remains stagnant, with GDP per person having declined in each of the last seven quarters – an unprecedented period of deterioration. Household income will be lower this year than in 2019 and will not recover to the level of the last Parliament until the end of 2025\. Nothing the Chancellor said today changes the fact that real incomes will not have risen at all over the Parliament.  This time last year the Chancellor delivered “a Budget for growth”, yet the economy is smaller now than it was then. There was very little in this Budget that will provide the necessary conditions to boost productivity and create an environment for investment to support living standards and public services. The Welsh Government will receive an additional £168m resource funding in 2024\-25\. There was no change to our capital settlement. The additional resource funding is a result of spending decisions made in England and relates to funding for NHS pay and local government Adult Social Care, which have already been factored into our spending plans.  Our settlement for 2024\-25 is still up to £700m lower in real terms than expected at the time of the 2021 Spending Review and our Budget in 2024\-25 is £3bn lower than if it had grown in line with GDP since 2010\. Our general capital budget in 2024\-25 is worth up to 8% less in real terms than expected at the time of the Spending Review in 2021\.  There was nothing in the Chancellor’s Autumn Statement for public services and he has once again failed to recognise their vital importance in his Budget today. Properly funded, public services can help to boost productivity, drive economic growth, help get people into work and support us in achieving our net zero targets.  In preparing the Welsh Government’s Budget for 2024\-25, which was agreed by the Senedd yesterday, we have taken difficult decisions to prioritise funding for those services that matter the most to people, including the Welsh NHS. In contrast, the Chancellor has chosen not to recognise the severe pressures facing schools, hospitals, and public services, leaving them exposed to real terms cuts, with NHS spending in England increasing by only 1% in cash terms. Ahead of this Budget, the Chancellor said that his priority was helping people with cost\-of\-living pressures. If he was serious about this, he would have supported the Joseph Rowntree Foundation and Trussell Trust’s long\-made calls to implement an Essentials Guarantee, to ensure those in receipt of Universal Credit are able to meet their essential costs. He could have also increased Local Housing Allowance rates and funding for Discretionary Housing Payments. Instead, he has chosen to cut employee National Insurance Contributions by 2 pence. This measure fails to target those most in need, with the Institute for Public Policy Research reporting that nearly half of the benefit going to the richest 20% of households, while only 3% would end up benefitting the poorest fifth. Even taken together with the National Insurance cut announced in the autumn, these cuts only reverse half of the increase in personal taxes made by this UK Government. Apart from a few small announcements, there was nothing in this Budget for Wales. Our core priorities for UK Government investment in coal tip safety and re\-classification of HS2 have, once again, been ignored. Despite the unique step taken by all parties in the Senedd last week to jointly table a motion and vote unanimously in favour of the UK Government providing Wales with additional budget flexibilities, the UK Government has also failed to act on this simple and reasonable request. It is deeply concerning that the Chancellor has continued to press ahead with tax cuts at the expense of public investment in infrastructure, which is so desperately needed to support key services and stimulate economic growth. This return to austerity shows a complete disregard for responsible management of public finances and will require implausible spending cuts, storing up problems for the future. We are entering the final year of our current multi\-year settlement, without any indications of what our budget may look like beyond March next year. We have no clarity on the UK Government’s plans for a spending review to support forward planning of our budget. We will work closely with our partner organisations to support budget planning, in what looks set to be a year of increased uncertainty. We will carefully consider the implications of today’s UK Budget for our spending and taxation plans. Our priorities remain core, frontline public services, and protecting the most vulnerable people and communities across Wales.
Heddiw, cyflwynodd Canghellor y Trysorlys ei Gyllideb, a hynny ar adeg pan fo  gwasanaethau cyhoeddus yn stryffaglu, ac argyfwng costau byw estynedig yn dal i effeithio ar y tlotaf yn ein cymunedau. Mae economi'r DU yn parhau i fod yn ddisymud, ac mae'r cynnyrch domestig gros y pen wedi mynd ar i lawr ym mhob un o'r saith chwarter diwethaf – cyfnod digynsail o ddirywiad. Bydd incwm aelwydydd yn is eleni nag yn 2019 ac ni fydd yn gwella i lefel Senedd ddiwethaf San Steffan tan ddiwedd 2025\. Nid oes dim a ddywedodd y Canghellor heddiw yn newid y ffaith na fydd incwm wedi codi o gwbl mewn termau real yn ystod cyfnod y Senedd.  Yr adeg hon y llynedd, fe wnaeth y Canghellor gyflwyno "Cyllideb ar gyfer twf", ac eto mae'r economi yn llai nawr nag yr oedd bryd hynny. Ychydig iawn oedd yn y Gyllideb hon a fydd yn darparu'r amodau angenrheidiol i hybu cynhyrchiant a chreu amgylchedd ar gyfer buddsoddi i gefnogi safonau byw a gwasanaethau cyhoeddus. Bydd Llywodraeth Cymru yn derbyn £168m yn ychwanegol o gyllid adnoddau yn 2024\-25\. Ni chafwyd newid yn ein setliad cyfalaf. Mae'r cyllid adnoddau ychwanegol yn deillio o benderfyniadau gwario a wnaed yn Lloegr, ac mae'n ymwneud â chyllid ar gyfer cyflogau'r GIG a Gofal Cymdeithasol i Oedolion o fewn llywodraeth leol, sydd eisoes wedi'i gynnwys yn ein cynlluniau gwariant.  Mae ein setliad ar gyfer 2024\-25 yn dal i fod hyd at £700m yn is mewn termau real na'r disgwyl adeg yr Adolygiad o Wariant yn 2021, ac mae ein Cyllideb yn 2024\-25 £3bn yn is na phe bai wedi tyfu yn unol â GDP ers 2010\. Mae gwerth ein cyllideb gyfalaf gyffredinol ar gyfer 2024\-25 hyd at 8% yn llai mewn termau real na'r disgwyl adeg yr Adolygiad o Wariant yn 2021\.  Nid oedd dim yn Natganiad Hydref y Canghellor ar gyfer gwasanaethau cyhoeddus, ac unwaith eto nid yw wedi cydnabod eu pwysigrwydd hanfodol yn ei Gyllideb heddiw. O'u hariannu'n iawn, gall gwasanaethau cyhoeddus helpu i hybu cynhyrchiant, ysgogi twf economaidd, helpu i gael pobl i mewn i waith, a'n cefnogi i gyflawni ein targedau sero net.  Wrth baratoi Cyllideb Llywodraeth Cymru ar gyfer 2024\-25, y cytunwyd arni gan ein Senedd ninnau ddoe, rydym wedi gwneud penderfyniadau anodd i flaenoriaethu cyllid ar gyfer y gwasanaethau hynny sydd bwysicaf i bobl, gan gynnwys GIG Cymru. Mewn cyferbyniad â hynny, mae'r Canghellor wedi dewis peidio â chydnabod y pwysau difrifol sy'n wynebu ysgolion, ysbytai a gwasanaethau cyhoeddus, gan eu gadael yn agored i doriadau mewn termau real, ac mae'r gwariant ar y GIG yn Lloegr yn cynyddu 1% yn unig mewn termau arian parod. Cyn y Gyllideb hon, dywedodd y Canghellor mai ei flaenoriaeth oedd helpu pobl yn sgil pwysau costau byw. Pe bai o ddifrif am hynny, byddai wedi cefnogi’r galwadau a wnaed ers tro gan Sefydliad Joseph Rowntree ac Ymddiriedolaeth Trussell i roi Gwarant Hanfodion ar waith, i sicrhau bod y rhai sy’n derbyn Credyd Cynhwysol yn gallu talu eu costau hanfodol. Yn ogystal, gallai fod wedi cynyddu cyfraddau’r Lwfans Tai Lleol a chyllid ar gyfer Taliadau Disgresiwn at Gostau Tai. Yn hytrach, mae wedi dewis torri 2 geiniog o Gyfraniadau Yswiriant Gwladol cyflogeion. Nid yw’r cam hwn yn targedu’r rhai â’r angen mwyaf; mae’r Sefydliad Ymchwil Polisi Cyhoeddus yn nodi y bydd bron i hanner y budd yn mynd i’r 20% o aelwydydd cyfoethocaf, a dim ond 3% o’r budd i’r 20% o aelwydydd tlotaf. Hyd yn oed gyda’r toriad i Yswiriant Gwladol a gyhoeddwyd yn yr hydref, nid yw’r toriadau hyn ond yn gwrthdroi hanner y cynnydd mewn trethi personol a wnaed gan y Llywodraeth hon yn San Steffan. Ar wahân i ambell i gyhoeddiad bach, nid oedd dim yn y Gyllideb hon i Gymru. Mae ein blaenoriaethau craidd sy'n galw ar Lywodraeth y DU i fuddsoddi yn niogelwch tomenni glo ac ailddosbarthu HS2 wedi cael eu hanwybyddu unwaith eto. Er gwaethaf y cam unigryw a gymerwyd gan bob plaid yn Senedd Cymru yr wythnos diwethaf i gyflwyno cynnig ar y cyd a phleidleisio'n unfrydol i alw ar Lywodraeth y DU i ddarparu mwy o hyblygrwydd cyllidebol i Gymru, mae Llywodraeth y DU wedi methu â gweithredu ar y cais syml a rhesymol hwn yn ogystal. Mae'n destun pryder mawr bod y Canghellor wedi parhau i fwrw ymlaen â thoriadau treth ar draul buddsoddiad cyhoeddus mewn seilwaith, rhywbeth y mae taer angen amdano i gefnogi gwasanaethau allweddol ac ysgogi twf economaidd. Mae mynd yn ôl at sefyllfa o gyni fel hyn yn dangos methiant llwyr i ystyried egwyddorion rheoli cyllid cyhoeddus yn gyfrifol ac yn golygu y bydd angen toriadau anymarferol i wariant, gan storio problemau ar gyfer y dyfodol. Rydym ar ddechrau blwyddyn olaf ein setliad amlflwyddyn presennol, heb unrhyw arwydd o sut olwg fydd ar ein cyllideb y tu hwnt i fis Mawrth y flwyddyn nesaf. Nid oes gennym unrhyw eglurder ynghylch cynlluniau Llywodraeth y DU ar gyfer adolygiad o wariant i helpu i flaengynllunio ein cyllideb. Byddwn yn gweithio'n agos gyda'n sefydliadau partner i helpu i gynllunio'r gyllideb, a hynny ar gyfer blwyddyn sy'n debygol o fod yn flwyddyn o ansicrwydd cynyddol. Byddwn yn ystyried yn ofalus oblygiadau Cyllideb y DU a gyhoeddwyd heddiw ar gyfer ein cynlluniau gwariant a threthiant. Ein blaenoriaethau o hyd yw gwasanaethau cyhoeddus rheng flaen craidd, a diogelu'r bobl a'r cymunedau mwyaf agored i niwed ledled Cymru.