instruction
stringclasses
2 values
input
stringlengths
38
42.1k
output
stringlengths
38
42.1k
Translate the text from Welsh to English.
Ym Mawrth 2016, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i gynnal gwerthusiad o Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014\. Hoffwn roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r aelodau am y gwerthusiad o'r Ddeddf a thanlinellu gwaith rhagorol y Grŵp Gwerthuso i Randdeiliaid. Sefydlwyd y Grŵp Gwerthuso i Randdeiliaid ym mis Gorffennaf 2017 i  lywio sut y mae'r gwerthusiad yn symud ymlaen ac i chwarae rôl allweddol o ran datblygu'r cynllun gwerthuso.  Mae'r Grŵp yn cynnwys ystod o gynrychiolwyr allanol ac arweinwyr polisi allweddol yn Llywodraeth Cymru, y tynnwyd rhai ohonynt o grwpiau rhanddeiliaid eraill a oedd yn ymwneud â datblygu a/neu roi'r Ddeddf ar waith.  Mae’r cynrychiolwyr sy'n ymwneud â'r prosiect yn cynnwys: • Cymdeithas Brydeinig y Gweithwyr Cymdeithasol, Cymru; • Cymdeithas Cyfarwyddwyr Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru; • Cynghrair Henoed Cymru • Gofalwyr Cymru; • y Swyddfa Ystadegau Gwladol; • Arolygiaeth Gofal Cymru; • Fforwm Cymru Gyfan; • Plant yng Nghymru; • Y Comisiynydd Plant; • Y Comisiynydd Pobl Hŷn; • Anabledd Dysgu Cymru; • Cynrychiolwyr yr Awdurdodau Lleol; • Coleg Brenhinol y Therapyddion Galwedigaethol • Gofal Cymdeithasol Cymru; • Prifysgol Abertawe; • Canolfan Cydweithredol Cymru; • Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru; ac • aelod o’r cyhoedd Hyd yma, mae’r  grŵp wedi cynnig egwyddorion a chwmpas y gwerthusiad, a thrwy gydol y gyfres o gyfarfodydd mae'r grŵp wedi bod yn ystyried y cwestiynau allweddol a ddylai gael eu hystyried yn ystod y gwerthusiad. Gallaf gyhoeddi mai ar roi'r Ddeddf ar waith y bydd y ffocws cychwynnol. Bydd yn ymchwilio i sut y mae'r Ddeddf wedi'i rhoi ar waith a'i chyflwyno, ac yn nodi ffactorau sydd wedi helpu neu lesteirio ei heffeithiolrwydd. Bydd y gwerthusiad wedyn yn ystyried effaith y Ddeddf ar bobl y mae arnynt angen gofal a chymorth a gofalwyr y mae arnynt angen cymorth. Bydd hefyd yn ystyried beth fu effaith y Ddeddf ar bartneriaid allweddol megis yr awdurdodau lleol, ymarferwyr a'r trydydd sector. Bydd adroddiadau ymchwil sy’n crynhoi canfyddiadau’r gwerthusiad yn cael eu cynnal trwy gydol y cyfnod gwerthuso. Mae’r Grŵp Gwerthuso i Randdeiliaid a swyddogion Llywodraeth Cymru bellach yn datblygu manyleb ar gyfer y gwerthusiad a fydd yn destun ymarfer tendro yng Ngwanwyn 2018\. Bydd y gwerthusiad cychwynnol yn dechrau yn yr hydref 2018 am gyfnod o dair blynedd o leiaf. Rwyf yn bwriadu cyhoeddi cynllun gwerthuso llawn yn yr hydref 2018, pan fydd y contract wedi'i ddyfarnu. Er mwyn parhau â'r dull gweithredu cyd\-gynhyrchiol bydd y grŵp yn parhau i chwarae rhan drwy gydol y gwerthusiad llawn. Gallaf gyhoeddi hefyd fy mod wedi cytuno y bydd prosiect gwerthuso cydategol yn cael ei gynnal ochr yn ochr â'r gwerthusiad annibynnol ffurfiol, dan y teitl ‘Mesur y Mynydd’.  Canolbwynt y gwaith hwn yw casglu profiadau defnyddwyr gwasanaethau o ddarpariaeth leol gan ddefnyddio dull gweithredu cymunedol ledled Cymru i helpu i lywio effaith ac effeithiolrwydd y Ddeddf.  Bydd hwn yn ddarn helaeth o waith a fydd yn golygu ymgysylltu â bron 2,000 o ddefnyddwyr y gwasanaeth. Hoffwn gau trwy estyn fy niolch i'r rhanddeiliaid a fu'n rhan o ddatblygu'r gwerthusiad am eu cyfraniad at y darn pwysig hwn o waith a'u hymrwymiad iddo.
In March 2016, Welsh Government committed to an evaluation of the Social Services and Wellbeing (Wales) Act 2014\. I would like to update members on the progress of the evaluation of the Act and highlight the excellent work of the Stakeholder Evaluation Group. The Stakeholder Evaluation Group was established in July 2017 to shape how the evaluation is taken forward and play a critical role in developing the evaluation plan.  The group includes a range of external representatives and key Welsh Government policy leads, some of whom were drawn from previous stakeholder groups who were actively involved in the development and/or implementation of the Act.  Representatives involved with the project include: • the British Association of Social Workers Wales; • the Association of Directors of Social Services Cymru; • Age Alliance Wales; • Carers Wales; • the Office of National Statistics; • Care Inspectorate Wales; • All Wales Forum; • Children in Wales; • the Children’s Commissioner; • the Older People’s Commissioner; • Learning Disability Wales; • Local Authority Representatives; • the Royal College of Occupational Therapists; • Social Care Wales; • Swansea University; • the Wales Co\-operative; • the Welsh Local Government Association; and • a member of the public To date, the group have proposed the principles and scope of the evaluation and throughout the meetings the group have been considering key questions that should be considered during the evaluation. I can announce that the initial focus will be on the implementation of the Act. It will explore how the Act has been implemented and delivered, and identify factors that have helped or hindered its effectiveness. The evaluation will then consider the impact the Act has had on people who need care and support and carers who need support. It will also consider what the impact of the Act has been on key partners such as local authorities, practitioners and the third sector. Research reports highlighting the findings from the evaluation will be published throughout the life of the evaluation.   The Stakeholder Evaluation Group and Welsh Government officials are now developing a specification for the evaluation which will go out to tender in Spring 2018\. The formal evaluation will commence in autumn 2018 for a minimum period of three years. I intend to publish a full evaluation plan in autumn 2018, once the contract has been awarded, which will outline further detail of the evaluation. To continue the co\-productive approach the group will continue to be involved throughout the full evaluation. I can also announce that I have agreed to a complementary evaluation project to be delivered that runs alongside the formal independent evaluation named ‘Measuring the Mountain’. The focus of this work is to capture service user experiences of local provision, using a community\-based approach across the whole of Wales to help inform the impact and effectiveness of the Act.  This will be an extensive piece of work which will include engagement with almost 2,000 service users. I would like to close by extending my thanks to the stakeholders involved in the development of the evaluation for their contribution and commitment on this important piece of work.
Translate the text from English to Welsh.
The ecological car firm Riversimple Movement employs 23 at an R\&D centre in Llandrindod Wells and is currently crowd funding for their Rasa (Latin for clean slate) to match a €2m EU grant. Purpose designed from the ground up, with grant support and sustained collaborative assistance from the Welsh Government, and built with ‘ultimate vehicle efficiency’ in mind, the Rasa uses an 8\.5kW hydrogen fuel cell rather than the 100\+kW fuel cell used in other hydrogen vehicles. With a carbon composite chassis and fibre\-glass body panels, the Rasa weighs 580kg and is capable of 250mpge on the official urban cycle. Cabinet Secretary Ken Skates said:  > “The Rasa is not only a highly innovative and technologically advanced vehicle but it is also superbly designed and a real show stopper. It’s a great advertisement for Welsh manufacturing and highlights the expertise and skills we have in Wales and illustrates how the Welsh Government is proactively supporting businesses with bright ideas.” Riversimple founder Hugo Spowers said:  > “The Welsh Government not only supported us with £2m towards the completion of the R \& D and build of the Rasa, but continue to take an active interest in our future. Their commitment, interest and enthusiasm for what we are doing is very encouraging \- we appreciate it hugely.” LCV is run by Cenex, the UK's first centre of excellence for low carbon and fuel cell technologies. The event attracts the decision makers of the UK industry, including all major stakeholders, key manufacturers, supply chain representatives and government officials.  Welsh Government will be there to showcase Wales’ strengths in the automotive and low carbon vehicles sector, and to promote Wales as a hotspot for investment in hydrogen. Substantial academic research into alternative fuels is also being undertaken in universities throughout Wales at the Low Carbon Research Institute (external link).
Mae'r cwmni ceir ecolegol, Riversimple Movement, yn cyflogi 23 o weithwyr mewn canolfan ymchwil a datblygu yn Llandrindod ac ar hyn o bryd mae wedi codi arian torfol ar gyfer eu Rasa (Lladin am llechen lân) i gyd\-fynd â grant UE gwerth €2miliwn. Mae'r Rasa, sy'n ddyluniad newydd, wedi derbyn cymorth grant a chefnogaeth gan Lywodraeth Cymru, ac mae wedi'i adeiladu i fod mor rhad ar ynni â phosib. Mae'n defnyddio 8\.5kW o gelloedd tanwydd hydrogen yn hytrach na'r 100\+kW o gelloedd tanwydd a ddefnyddir mewn cerbydau hydrogen eraill. Mae gan y Rasa siasi carbon cyfansawdd a phaneli ffibr gwydrog, ac mae'n pwyso 580kg. Mae'n gallu gwneud 250mpge ar y cylch trefol swyddogol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet Ken Skates:  > "Nid yn unig mae'r Rasa yn gerbyd arloesol iawn sy'n defnyddio technoleg ddatblygedig ond mae hefyd wedi'i ddylunio'n wych ac yn denu sylw pawb. Mae'n hysbyseb wych ar gyfer gweithgynhyrchu yng Nghymru ac  mae'n amlygu'r arbenigedd a'r sgiliau sydd gennym. Mae hefyd yn dangos sut mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi busnesau sydd â syniadau da." Dywedodd sefydlydd Riversimple, Hugo Spowers:  > "Yn ogystal â'n cefnogi ni gyda £2 miliwn tuag at gwblhau'r ymchwil a datblygu, ac adeiladu'r Rasa, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i gymryd diddordeb yn ein dyfodol. Mae eu hymrwymiad, diddordeb a brwdfrydedd yn yr hyn rydym yn ei wneud yn galonogol iawn \- rydym yn ei werthfawrogi'n fawr." Rheolir yr LCV gan Cenex, canolfan ragoriaeth gyntaf y DU ar gyfer technolegau carbon isel a chelloedd tanwydd. Mae'r digwyddiad yn denu arweinwyr diwydiant y DU, gan gynnwys yr holl brif rhanddeiliaid, y prif weithgynhyrchwyr, cynrychiolwyr cadwyni cyflenwi a swyddogion y llywodraeth.  Bydd Llywodraeth Cymru yno i arddangos cryfderau Cymru yn y sector cerbydau modur a cherbydau carbon isel, ac i hyrwyddo Cymru fel canolfan ar gyfer buddsoddi mewn hydrogen. Mae ymchwil academaidd helaeth i danwyddau amgen hefyd yn cael ei gwneud mewn prifysgolion ledled Cymru gyda’r Sefydliad Ymchwil Carbon Isel (Saesneg yn unig \- dolen allanol).
Translate the text from English to Welsh.
My housing priorities revolve around three main themes \- more homes, better homes and better housing services. In our Housing White Paper, we made a very clear commitment to improve the ways in which adaptations are made to people’s homes. I am very pleased to say that the major review of our current adaptations programmes I commissioned has commenced. It has been informed by the views of our stakeholders, which has helped to focus it on what’s important in delivering adaptations to people’s houses to enable them to live independently for as long as possible. We currently have a number of different programmes; for example, Disabled Facilities Grants, the Rapid Response Adaptations Programme, and Physical Adaptation Grants.  In the past two years we have also piloted a new Independent Living Grants programme. All these play or have played a role in delivering essential adaptations from the installation of grab and hand rails to walk\-in showers to additional rooms. They all have strengths and weaknesses but operate in slightly different ways and to different criteria. It can be difficult for people to find their way through the system of help that is available. The study, which is being undertaken by a research consortium involving, amongst others, Shelter, Tai Pawb and Cardiff Metropolitan University, will address these points. It will consider potential changes to the structure and delivery mechanisms for independent living adaptations.  More specifically, it will explore options for a system that can achieve my goal of consistently good quality and accessible help for people. The overall aim is to ensure that adaptations are delivered quicker to those who need them. In doing so, it will help to reduce the inequalities that are inherent in the current system by ensuring joined up solutions with a strong emphasis on prevention and early intervention. The research team will be contacting stakeholders in the coming weeks and I look forward to their input to the study. I would like to see as many as possible get involved in the work. Adaptations to people’s homes help to prevent unnecessary admissions to hospital and residential care and therefore help reduce demands on our NHS and social services. They will feature in the action that will take place in 2014\-15 through the additional funding being made available through the new Intermediate Care Fund. The review will not affect this help, which will be delivered by local authorities, Local Health Boards, and third sector organisations such as Care \& Repair but its report, which is due in September, will inform the future improvements to assistance that makes a real difference to the quality of people’s lives.
Mae fy mlaenoriaethau ym maes tai yn ymwneud â thair prif thema – mwy o dai, tai gwell a gwasanaethau tai gwell.  Yn ein Papur Gwyn ar Dai, fe wnaethom ymrwymiad clir i wella’r ffordd y gwneir addasiadau yng nghartrefi pobl. Rwy’n falch o gyhoeddi bod yr adolygiad pwysig a gomisiynais o’n rhaglenni addasiadau presennol wedi dechrau.  Fel sylfaen iddo, fe wnaethom ofyn i’n rhanddeiliaid am eu barn ac mae hyn wedi’n helpu i ddeall beth sy’n bwysig wrth wneud addasiadau yng nghartrefi pobl er mwyn eu helpu i fyw’n annibynnol cyn hired â phosibl. Ar hyn o bryd, mae gennym nifer o wahanol raglenni ar waith: er enghraifft, Grant Cyfleusterau i’r Anabl, Rhaglen Addasiadau Brys a Grant Addasiadau Ffisegol.  Dros y ddwy flynedd ddiwethaf, rydym wedi bod yn treialu rhaglen newydd Grant Byw’n Annibynnol.  Mae’r rhaglenni hyn un ai yn neu wedi chwarae eu rhan i sicrhau bod addasiadau hanfodol yn cael eu gwneud, popeth o osod rheiliau llaw a chawodydd camu\-i\-mewn i adeiladu ystafelloedd ychwanegol.  Wrth gwrs, mae gan y rhaglenni hyn eu cryfderau a’u gwendidau ac mae’r ffordd y maen nhw’n cael eu cynnal a’r meini prawf sy’n sail iddyn nhw ychydig yn wahanol.  Gall y drefn gymorth bresennol fod yn anodd ei deall.   Mae’r astudiaeth yn cael ei chynnal gan gonsortiwm ymchwil sy’n cynnwys Shelter, Tai Pawb a Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a bydd yn trafod y materion hyn.  Bydd yn ystyried a oes angen newid y systemau a’r trefniadau sydd ar waith ar hyn o bryd ar gyfer addasu cartrefi pobl er mwyn eu helpu i fyw’n annibynnol.  Yn fwy penodol, bydd yn ystyried opsiynau ar gyfer creu system all gyflawni fy uchelgais sef sicrhau bod help hawdd mynd ato ac o ansawdd da ar gael i bobl.  Y nod cyffredinol yw sicrhau y gwneir addasiadau yn gynt yng nghartrefi’r bobl hynny sydd eu hangen.  Drwy wneud hyn, gallwn leihau unrhyw anghydraddoldebau sy’n bodoli yn y system ar hyn o bryd a sicrhau bod atebion di\-dor ar gael sy’n rhoi pwyslais ar atal yr angen ac ymyrryd yn gynnar. Yn yr wythnosau nesaf, bydd y tîm ymchwil yn cysylltu â’r rhanddeiliaid  ac yn gofyn iddyn nhw gyfrannu at yr astudiaeth – rwy’n edrych ymlaen at glywed beth fydd ganddyn nhw i’w ddweud.  Hoffwn i weld gymaint o bobl â phosibl yn cymryd rhan yn y gwaith hwn.  Drwy addasu cartrefi pobl, gallwn atal pobl rhag gorfod mynd i’r ysbyty’n ddi\-angen neu droi at ofal preswyl yn ddi\-angen ac wrth gwrs, byddai hynny’n lleihau’r baich ar ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol a’n gwasanaethau cymdeithasol.  Bydd y gwaith yn cael ei cynnwys yn y camau gweithredu ar gyfer 2014\-15 ac mae cyllid ychwanegol ar gael drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol newydd.  Ni fydd yr adolygiad yn effeithio ar yr help hwn, help sy’n cael ei ddarparu gan awdurdodau lleol, Byrddau Iechyd Lleol a chyrff yn y trydydd sector fel Gofal a Thrwsio Cymru.  Ar y llaw arall, bydd yr adroddiad, a gyhoeddir ym mis Medi, yn sylfaen i’r gwelliannau fydd yn cael eu gwneud yn y dyfodol i helpu pobl ac i wneud gwahaniaeth gwirioneddol i ansawdd eu bywydau.
Translate the text from English to Welsh.
Today, I am announcing our intention to implement the Renting Homes (Wales) Act 2016 on 15 July 2022\. This is in line with the commitment to implement the 2016 Act in the first year of this Senedd, as set out in the Counsel General’s statement on the legislative programme last July. I acknowledge that it has taken longer than expected to implement the 2016 Act, but it has required the development of many statutory instruments, some of which have required separate consultation. In order to avoid confusion, we also decided to deliver on our commitment to increase security of tenure prior to implementation of the 2016 Act, which we did by bringing forward the Renting Homes (Amendment) (Wales) Act 2021\. The 2016 Act represents the biggest change to housing law in Wales for decades. It increases protections for tenants and licensees, who are termed ‘contract\-holders’ in the legislation, in a number of ways. It introduces a six\-month notice requirement for a landlord to end a contract where the contract\-holder is not at fault. In addition, as landlords will not be able to issue such a possession notice during the first six months of occupation, contract\-holders will have a minimum security of tenure of one year from the date of moving in. This means that contract\-holders in Wales will have the greatest protection from the start of their contract than in any other part of the UK. The Act also provides protection against retaliatory eviction. If a landlord responds to a request for repair by issuing a possession notice, they will no longer be automatically entitled to possession if the Court is satisfied the landlord issued the notice to avoid carrying out the repair. In addition, joint contract\-holders can be added or removed from occupation contracts without the need to end one contract and start another. This will make managing joint contracts easier and help those experiencing domestic abuse by enabling the perpetrator to be targeted for eviction. I also made a commitment that the key information that landlords will need to comply with their obligations under the Act will be available six months in advance of implementation. Therefore, I am also announcing today that I have made regulations on: the default supplementary terms to be included in the new occupation contracts; the explanatory information to be included in occupation contracts; the model written statements of contract; and the fitness for human habitation obligation. Further information is available on the Welsh Government’s Renting Homes’ webpages (www.gov.wales/rentinghomes), from Friday 14 January. A communications campaign to raise awareness amongst landlords and tenants will also commence from that date.  
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein bwriad i weithredu Deddf Rhentu Cartrefi (Cymru) 2016 ar 15 Gorffennaf 2022\. Mae hyn yn unol â'r ymrwymiad i weithredu Deddf 2016 ym mlwyddyn gyntaf y Senedd hon, fel y nodir yn natganiad y Cwnsler Cyffredinol ar y rhaglen ddeddfwriaethol fis Gorffennaf diwethaf. Rwy’n cydnabod ei bod wedi cymryd mwy o amser na'r disgwyl i weithredu Deddf 2016, ond bu’n rhaid inni ddatblygu llawer o offerynnau statudol, ac roedd angen ymgynghori ar wahân ar rai ohonynt. Er mwyn osgoi dryswch, penderfynwyd hefyd y byddem yn cyflawni ein hymrwymiad i wella diogelwch deiliadaeth cyn gweithredu Deddf 2016, a gwnaethom hynny drwy gyflwyno Deddf Rhentu Cartrefi (Diwygio) (Cymru) 2021\. Deddf 2016 yw'r newid mwyaf a wnaed i gyfraith tai yng Nghymru ers degawdau. Mae'n cynyddu'r amddiffyniadau i denantiaid a thrwyddedeion, a elwir yn 'ddeiliaid contract' yn y ddeddfwriaeth, mewn nifer o ffyrdd. Mae'n cyflwyno gofyniad i roi chwe mis o rybudd i landlord derfynu contract os nad yw deiliad y contract ar fai. Yn ogystal, gan na fydd landlordiaid yn gallu cyhoeddi hysbysiad i hawlio meddiant yn ystod y chwe mis cyntaf o feddiannaeth, bydd gan ddeiliaid contract sicrwydd deiliadaeth am o leiaf blwyddyn o’r dyddiad meddiannu. Golyga hynny y bydd gan ddeiliaid contract yng Nghymru yr amddiffyniad gorau o ddechrau eu contract nag mewn unrhyw ran arall o'r DU. Mae'r Ddeddf hefyd yn amddiffyn rhag troi tenantiaid allan er mwyn dial. Os bydd landlord yn ymateb i gais am waith atgyweirio drwy gyflwyno hysbysiad i adennill meddiant, ni fydd ganddo hawl awtomatig mwyach i feddiannu’r eiddo, os yw'r Llys yn fodlon bod y landlord wedi cyhoeddi'r hysbysiad i osgoi gwneud y gwaith atgyweirio. Yn ogystal, gellir ychwanegu cyd\-ddeiliaid contract at gontractau meddiannaeth neu eu tynnu oddi arnynt heb fod angen dod ag un contract i ben a dechrau un arall. Bydd hyn yn ei gwneud yn haws rheoli cyd\-gontractau, ac yn helpu’r rheini sy’n dioddef cam\-drin domestig drwy alluogi camau i sicrhau y caiff y sawl sy’n cam\-drin ei droi allan. Rwyf wedi ymrwymo hefyd i sicrhau bod yr wybodaeth allweddol y bydd angen i landlordiaid gydymffurfio â hi, fel rhan o'u rhwymedigaethau o dan y Ddeddf, ar gael chwe mis cyn i'r Ddeddf gael ei gweithredu. Felly, rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw fy mod wedi gwneud rheoliadau ar: y telerau atodol diofyn sydd i'w cynnwys yn y contractau meddiannaeth newydd; yr wybodaeth esboniadol sydd i'w chynnwys mewn contractau meddiannaeth; y datganiadau ysgrifenedig enghreifftiol o gontract; a'r rhwymedigaeth ar gyfer ffitrwydd annedd i bobl fyw ynddi. Mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalennau gwe Llywodraeth Cymru ynghylch Rhentu Cartrefi (www.gov.wales/rentinghomes), o ddydd Gwener 14 Ionawr. Bydd ymgyrch gyfathrebu i godi ymwybyddiaeth ymhlith landlordiaid a thenantiaid yn dechrau o'r dyddiad hwnnw ymlaen hefyd.  
Translate the text from English to Welsh.
I am announcing my decision to allocate funds to organisations that promote and facilitate the use of the Welsh language for 2013\-14 and to the Papurau Bro (Welsh language community newspapers) for a three year period from 2013 to 2016\. In April 2012 the responsibility for promoting the use of the Welsh language and for administering grants in support of the language transferred from the Welsh Language Board to the Welsh Government. The grant scheme’s main focus is to fund activities that lead to delivering strategic areas 1 to 3 of our Welsh language strategy  Iaith fyw:iaith byw (A living language: a language for living) which are the family, children and young people and the community. The scheme can also fund activities that help deliver strategic areas 4 to 6: the workplace, Welsh language services and infrastructure. I am pleased to announce that £3,557,347, which is an increase of £89,703 on the 2012/13 budget, has been allocated, as follows: * Yr Urdd \- £852,184 * Menter Môn \- £89,132 * Menter Iaith Fflint \- £72,043 * Menter Merthyr \- £58,400 * Eisteddfod Genedlaethol \- £543,000 * Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot \- £77,415 * Menter Iaith Maldwyn \- £72,591 * Hunaniaeth \- £83,715 * Menter Iaith Conwy \- £97,678 * Mentrau Iaith Cymru \- £61,500 * Merched y Wawr \- £84,205 * Menter Iaith Maelor \- £36,540 * Menter Bro Dinefwr \- £93,000 * Menter iaith Rhondda Cynon Taf \- £107,768 * Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru \- £89,719 * Menter Brycheiniog \- £28,451 * Partneriaeth Aman Tawe \- Castell\-nedd \- £38,000 * Partneriaeth Aman Tawe \- Dinefwr \- £38,000 * Menter Iaith Casnewydd \- £47,250 * Menter Bro Ogwr \- £59,435 * Menter Caerdydd \- £84,591 * Menter Iaith CERED \- £103,068 * Menter Iaith Abertawe \- £102,145 * Menter Iaith Caerffili \- £95,552 * Menter Iaith Sir Ddinbych \- £81,583 * Menter Iaith Sir Benfro \- £90,279 * Menter Gorllewin Sir Gar \- £66,921 * Cymdeithas Eisteddfodau Cymru \- £46,036 * Duke of Edinburgh Award \- £20,300 * Gwallgofiaid \- £23,000 * Menter Iaith Cwm Gwendraeth \- £87,791 * RHAG \- £35,140 * Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig \- £12,165 * Dyffryn Nantlle 20/20 \- £3,000 * Menter Iaith Blaenau Gwent \- £42,750 * Plant yng Nghymru \- £3,000   The £3,557,347 includes £30,000 which has been allocated for work in the Vale of Glamorgan, in order to develop a new way of providing opportunities for families, children, young people and learners in the area to use their Welsh. We will be working closely with Mentrau Iaith Cymru to develop this new provision.   In addition I am announcing my decision to allocate £85,310 per year to 50 papurau bro (Welsh language community newspapers) who will receive between £800 and £1,870 each for the next three years, with the sum allocated to each paper reflecting the number of issues they publish. This is an increase of £11,237 a year compared with the budget available in 2012/13\. Grants have been allocated to the following community newspapers **Annual Allocation \- 2013/14, 2014/15, 2015/16** * Y Gloran \- £1,700 * Glo Man \- £1,700 * Clonc \- £1,700 * Yr Angor (L) \- £1,700 * Pethe Penllyn \- £1,700 * Y Rhwyd \- £1,700 * Yr Arwydd \- £1,700 * Tafod Elai \- £1,700 * Clochdar \- £1,700 * Yr Odyn \- £1,870 * Dail Dysynni \- £1,700 * Seren Hafren \- £1,870 * Y Tincer \- £1,700 * Y Pentan \- £1,870 * Lleu \- £1,870 * Wilia \- £1,700 * Y Gambo \- £1,700 * Nene \- £1,700 * Y Glorian \- £1,700 * Yr Angor (A) \- £1,700 * Y Cardi Bach \- £1,700 * Yr Ysgub \- £1,870 * Y Dinesydd \- £1,700 * Llais \- £1,700 * Papur Pawb \- £1,700 * Llais Aeron \- £1,700 * Llais Ardudwy \- £1,870 * Y Ffynnon \- £1,870 * Papur Menai \- £1,700 * Y Ddolen \- £1,870 * Y Bigwn \- £1,700 * Y Glannau \- £1,700 * Dan y Landsker \- £1,200 * Y Garthen \- £1,700 * Cwlwm \- £1,700 * Y Lloffwr \- £1,700 * Papur y Cwm \- £1,700 * Y Clawdd \- £1,200 * Eco'r Wyddfa \- £1,870 * Y Barcud \- £1,700 * Y Fan a'r Lle \- £800 * Llais Ogwen \- £1,870 * Clebran \- £1,870 * Goriad \- £1,700 * Papur Dre £1,700 * Yr Hogwr \- £1,700 * Yr Wylan \- £1,870 * Papur Fama \- £1,700 * Plu'r Gweinydd \- £1,870 * Tua'r Goleuni  \- £1,700
Rwy’n cyhoeddi fy mhenderfyniad ar ddyrannu cronfeydd i gyrff sydd yn hybu ac yn hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg ar gyfer 2013 \-14 ac i bapurau bro am gyfnod o dair blynedd o 2013 hyd at 2016\. Ym mis Ebrill 2012 trosglwyddwyd y cyfrifoldeb am hybu’r defnydd o’r Gymraeg ac o weinyddu grant i gefnogi’r iaith o Fwrdd yr Iaith Gymraeg i Lywodraeth Cymru.  Prif ffocws y cynllun grantiau yw ariannu  gweithgareddau sy’n arwain at gyflawni meysydd strategol 1 i 3 ein strategaeth iaith, Iaith fyw: iaith byw sef: y teulu, plant a phobl ifanc, a’r gymuned. Yn ogystal roedd modd i ni ystyried ceisiadau am weithgareddau sy’n cyfrannu tuag at gyflawni meysydd strategol 4 i 6 sef; y gweithle, gwasanaethau Cymraeg, a’r seilwaith. Rwy’n falch o gyhoeddi y caiff £3,557,347, sydd yn gynnydd o £89,703 ar gyllideb 2012/13, wedi ei ddyrannu fel a ganlyn: * Yr Urdd \- £852,184 * Menter Môn \- £89,132 * Menter Iaith Fflint \- £72,043 * Menter Merthyr \- £58,400 * Eisteddfod Genedlaethol \- £543,000 * Menter Iaith Castell Nedd Port Talbot \- £77,415 * Menter Iaith Maldwyn \- £72,591 * Hunaniaeth \- £83,715 * Menter Iaith Conwy \- £97,678 * Mentrau Iaith Cymru \- £61,500 * Merched y Wawr \- £84,205 * Menter Iaith Maelor \- £36,540 * Menter Bro Dinefwr \- £93,000 * Menter iaith Rhondda Cynon Taf \- £107,768 * Clybiau Ffermwyr Ifanc Cymru \- £89,719 * Menter Brycheiniog \- £28,451 * Partneriaeth Aman Tawe \- Castell\-nedd \- £38,000 * Partneriaeth Aman Tawe \- Dinefwr \- £38,000 * Menter Iaith Casnewydd \- £47,250 * Menter Bro Ogwr \- £59,435 * Menter Caerdydd \- £84,591 * Menter Iaith CERED \- £103,068 * Menter Iaith Abertawe \- £102,145 * Menter Iaith Caerffili \- £95,552 * Menter Iaith Sir Ddinbych \- £81,583 * Menter Iaith Sir Benfro \- £90,279 * Menter Gorllewin Sir Gar \- £66,921 * Cymdeithas Eisteddfodau Cymru \- £46,036 * Duke of Edinburgh Award \- £20,300 * Gwallgofiaid \- £23,000 * Menter Iaith Cwm Gwendraeth \- £87,791 * RHAG \- £35,140 * Sefydliad Cerddoriaeth Cymreig \- £12,165 * Dyffryn Nantlle 20/20 \- £3,000 * Menter Iaith Blaenau Gwent \- £42,750 * Plant yng Nghymru \- £3,000 Mae’r £3,557,347 yn cynnwys £30,000 sydd wedi ei glustnodi ar gyfer gweithio yn ardal Bro Morgannwg er mwyn datblygu ffordd newydd o cynnig darpariaeth fydd yn cynnig cyfleoedd i deuluoedd, plant, pobl ifanc, a dysgwyr yr ardal i ddefnyddio’u Cymraeg.  Byddwn yn gweithio’n agos gyda Mentrau Iaith Cymru i ddatblygu’r ddarpariaeth newydd hwn yn ardal Bro Morgannwg.  Yn ogystal rwy’n cyhoeddi fy mhenderfyniad i ddyrannu £85,310 y flwyddyn  i 50 papur bro a fydd yn derbyn rhwng £800 a £1,870 yr un y flwyddyn am y tair blynedd nesaf, mae’r cyfanswm a ddyrannwyd yn adlewyrchu'r nifer o rifynnau y maent yn ei gyhoeddi. Mae hyn yn gynnydd o £11,237 y flwyddyn o’i gymharu â chyllideb 2012/13\. Dyrannwyd y grant i’r papurau canlynol: Cyfraniad Blynyddol 2013/14, 2014/15, 2015/16 * Y Gloran \- £1,700 * Glo Man \- £1,700 * Clonc \- £1,700 * Yr Angor (L) \- £1,700 * Pethe Penllyn \- £1,700 * Y Rhwyd \- £1,700 * Yr Arwydd \- £1,700 * Tafod Elai \- £1,700 * Clochdar \- £1,700 * Yr Odyn \- £1,870 * Dail Dysynni \- £1,700 * Seren Hafren \- £1,870 * Y Tincer \- £1,700 * Y Pentan \- £1,870 * Lleu \- £1,870 * Wilia \- £1,700 * Y Gambo \- £1,700 * Nene \- £1,700 * Y Glorian \- £1,700 * Yr Angor (A) \- £1,700 * Y Cardi Bach \- £1,700 * Yr Ysgub \- £1,870 * Y Dinesydd \- £1,700 * Llais \- £1,700 * Papur Pawb \- £1,700 * Llais Aeron \- £1,700 * Llais Ardudwy \- £1,870 * Y Ffynnon \- £1,870 * Papur Menai \- £1,700 * Y Ddolen \- £1,870 * Y Bigwn \- £1,700 * Y Glannau \- £1,700 * Dan y Landsker \- £1,200 * Y Garthen \- £1,700 * Cwlwm \- £1,700 * Y Lloffwr \- £1,700 * Papur y Cwm \- £1,700 * Y Clawdd \- £1,200 * Eco'r Wyddfa \- £1,870 * Y Barcud \- £1,700 * Y Fan a'r Lle \- £800 * Llais Ogwen \- £1,870 * Clebran \- £1,870 * Goriad \- £1,700 * Papur Dre £1,700 * Yr Hogwr \- £1,700 * Yr Wylan \- £1,870 * Papur Fama \- £1,700 * Plu'r Gweinydd \- £1,870 * Tua'r Goleuni  \- £1,700
Translate the text from English to Welsh.
This also includes specific funding for Cardiff, Wrexham, Newport and Swansea, as the four local authority areas with the most complex rough sleeping issues. The funding includes: * * £50,000 for the Wallich in Cardiff to support the emergency overnight accommodation in their shelter * £25,000 for the Huggard in Cardiff to create a safer environment and increase the support team in their night shelter * £33,800 for Newport Council to fund work to proactively support people who are sleeping rough into sustainable accommodation * £54,000 for the Community Care Collaborative to develop and deliver health and social care services to rough sleepers in Wrexham, alongside housing advice, welfare advice and a range of other services * £77,600 for Wrexham Council to develop a multi\-agency model, with public sector and third sector organisations delivering joined up services to rough sleepers to encourage those people not currently engaging with services to access support to improve their health and quality of life and enable them to move to longer term accommodation * £99,000 for a range of projects in Swansea including funding for the Wallich to develop their Rough Sleeper Intervention Team into a seven\-day service. Julie James said:  > “This funding is part of the £30m we are investing over this year and the next to tackle homelessness and rough sleeping. As the weather turns colder it is vital that the right support is available to ensure people can stay safe and warm this winter. We are working closely with local authorities and the third sector to ensure we are providing the right support to help people who are sleeping rough in Wales to leave the streets.  > > “People find themselves sleeping on the streets for a range of complex reasons, and they may require a great deal of support and understanding. We are committed to supporting them to find safe and secure housing, so they can achieve their full potential. > > “I want to encourage anyone who is concerned about rough sleepers to use the Streetlink App, which will alert local authorities and outreach services who can then offer help.”
Mae hyn hefyd yn cynnwys cyllid penodol ar gyfer awdurdodau Caerdydd, Wrecsam, Casnewydd ac Abertawe, fel y pedair ardal awdurdod lleol sy'n wynebir materion mwyaf cymhleth mewn cysylltiad â chysgu allan. Mae'r cyllid yn cynnwys: * £50,000 ar gyfer y Wallich yng Nghaerdydd i gynyddu'r llety dros nos mewn argyfwng yn eu lloches * £25,000 ar gyfer yr Huggard yng Nghaerdydd er mwyn creu amgylchedd mwy diogel a chynyddu'r tîm cymorth yn eu lloches nos * £33,800 ar gyfer Cyngor Casnewydd i ariannu gwaith i helpu pobl sy'n cysgu allan i symud i lety cynaliadwy * £54,000 ar gyfer y Prosiect Cydweithredol Gofal Cymunedol er mwyn helpu i ddatblygu a darparu gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol i'r rheini sy'n cysgu allan yn Wrecsam, ynghyd â chyngor tai, cyngor lles ac ystod o wasanaethau eraill * £77,600 ar gyfer Cyngor Wrecsam i ddatblygu model amlasiantaeth, lle mae sefydliadau o'r sector cyhoeddus a'r trydydd sector yn darparu gwasanaethau cydgysylltiedig i'r rheini sy'n cysgu ar y stryd i annog y rheini nad ydynt yn ymgysylltu â gwasanaethau ar hyn o bryd i wneud hynny er mwyn gwella eu hiechyd a'u hansawdd bywyd a'u galluogi i symud i lety mwy hirdymor * £99,000 ar gyfer amrywiaeth o brosiectau yn Abertawe, gan gynnwys cyllid i'r Wallich er mwyn datblygu eu Tîm Ymyrraeth ar gyfer y rheini sy'n cysgu allan yn wasanaeth sydd ar gael saith diwrnod yr wythnos. Dywedodd Julie James:  > "Mae'r buddsoddi hwn yn rhan o'r £30m rydym yn ei fuddsoddi dros y flwyddyn hon ac yn y flwyddyn nesaf i fynd i'r afael â digartrefedd a chysgu allan. Wrth i'r tywydd oeri, mae'n hollbwysig bod y cymorth cywir ar gael er mwyn sicrhau bod pobl yn ddiogel ac yn gynnes dros y gaeaf hwn. Rydym yn cydweithio'n agos ag awdurdodau lleol a'r trydydd sector i sicrhau ein bod yn darparu'r cymorth cywir i helpu pobl sy'n cysgu allan yng Nghymru i adael y stryd. > > "Mae nifer o resymau cymhleth pam fod pobl yn cysgu allan, a gall fod angen llawer iawn o gymorth a dealltwriaeth arnynt. Rydym wedi ymrwymo i'w helpu i ddod o hyd i lety diogel, er mwyn iddynt allu cyrraedd eu llawn botensial. > > "Rwy'n annog unrhyw un sy'n pryderu am rywun sy'n cysgu allan i ddefnyddio'r ap Streetlink, a fydd yn eu tynnu i sylw'r awdurdodau lleol a'r gwasanaethau allgymorth er mwyn iddynt allu cynnig cymorth iddynt."
Translate the text from Welsh to English.
Mae’r Papur Gwyn ar Dai: Papur Gwyn ar gyfer Bywyd Gwell a Chymunedau Gwell, a gyhoeddais ar 21 Mai 2012, yn cynnwys ymrwymiad i foderneiddio’r sector tai rhent preifat drwy gyflwyno mesurau i wella safonau rheoli a chyflwr yr eiddo. Cafodd yr angen i wella’r sector ei nodi hefyd gan Aelodau’r Cynulliad yn adroddiad y Pwyllgor Cymunedau a Diwylliant: Gwneud y Mwyaf o’r Sector Tai Rhent Preifat yng Nghymru 2011, a’i gymeradwyo gan y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol yn ei ymchwiliad i ddarpariaeth tai fforddiadwy yng Nghymru (2012\). Er mwyn cyflawni’r nod hwn, rydym yn bwriadu cyflwyno cynllun trwyddedu i landlordiaid ac asiantaethau sy’n gosod a rheoli yn y sector hwn o’r farchnad dai. Ar 6 Gorffennaf, cyhoeddais bapur ymgynghori: Cynigion ar gyfer Gwell Sector Rhentu Preifat yng Nghymru, a oedd yn rhoi rhagor o fanylion am gynigion Llywodraeth Cymru ar gyfer cynllun trwyddedu cenedlaethol. Daeth y cyfnod ymgynghori i ben ar 17 Awst 2012\.  Roedd yr ymgynghoriad yn targedu rhanddeiliaid, ond fe’i cyhoeddwyd ar wefan Llywodraeth Cymru i’r cyhoedd ei weld. Cafwyd bron 200 o ymatebion i’r ymgynghoriad, ac mae crynodeb ohonynt wedi ei gyhoeddi. 
The Housing White Paper: A White paper for Better Lives and Communities, which I published on 21st May 2012, contains a commitment to modernise the private rented sector by introducing measures to improve standards of management and property condition. The need to improve the sector was also identified by Assembly Members in the Communities and Culture Committee report: Making the Most of the Private Rented Sector in Wales 2011 and endorsed by the Communities, Equality and Local Government Committee’s Inquiry into the Provision of Affordable Housing in Wales (2012\). To achieve this aim, our intention is to introduce a licensing scheme for landlords and letting and management agents in this sector of the housing market. On 6 July, I published a consultation paper: Proposals for a Better Private Rented Sector in Wales, which contained more detailed information on the Welsh Government’s proposals for a national licensing scheme. The consultation period ran until 17 August 2012\.  The consultation was specifically targeted at stakeholders, but was published on the Welsh Government website for wider consumption. The consultation attracted almost 200 responses, a summary of which has now been published. 
Translate the text from Welsh to English.
Mae cyfnod yr Athro Sally Holland fel Comisiynydd Plant Cymru wedi dod i ben yn dilyn saith mlynedd lwyddiannus yn y swydd. Mae hi wedi gwneud cyfraniad eithriadol i’r agenda hawliau plant yng Nghymru. Fel comisiynydd plant, mae’r Athro Holland wedi gwrando ar blant a phobl ifanc ac wedi gweithredu ar yr hyn a oedd ganddynt i’w ddweud. Er mwyn llywio ei chyfnod yn y swydd, lansiodd yr Athro Holland yr ymgynghoriad *Beth Nesa*yng Nghymru, yn gofyn i blant roi eu safbwyntiau ar ei blaenoriaethau. Gyda mwy na 25,000 o ymatebion, defnyddiodd leisiau a blaenoriaethau plant a phobl ifanc yn sail i’w gwaith. Mae ei ffocws ar siarad â phlant a phobl ifanc a chanfod beth y maent yn ei feddwl wedi nodweddu ei chyfnod fel comisiynydd. Mae hyn wedi bod yn arbennig o amlwg yn ystod y pandemig ac wrth iddi ddatblygu’r arolwg *Coronafeirws a Fi*. Yn sgil hyn, roedd modd i’r comisiynydd plant weithio mewn partneriaeth unigryw gyda Llywodraeth Cymru, Plant yng Nghymru a Senedd Ieuenctid Cymru i sicrhau y gallai plant a phobl ifanc ddweud wrthym sut yr oedd y pandemig yn effeithio ar eu bywydau. Cafwyd mwy na 43,000 o ymatebion i’r arolygon hyn a chawsant eu cymeradwyo gan UNICEF, gan helpu i lywio penderfyniadau Llywodraeth Cymru. Mae ymrwymiad yr Athro Holland i ymgorffori Confensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau’r Plentyn, ac i godi ymwybyddiaeth o hawliau plant, i’w weld drwy ei gwaith o ddatblygu a chyflwyno *Y Ffordd Gywir**\[1]**,* adnodd sy’n dwyn ynghyd ddull strategol o ymgorffori hawliau plant. Mae’r Athro Holland yn dychwelyd i Brifysgol Caerdydd a bydd Rocio Cifuentes yn ei holynu, gan ddechrau yn ei swydd fel Comisiynydd Plant newydd Cymru heddiw. Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r aelodau. Os bydd yr aelodau am imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn falch o wneud hynny. \[1] Dull Gweithredu Seiliedig ar Hawliau Plant – Comisiynydd Plant Cymru (complantcymru.org.uk)
Professor Sally Holland has stepped down as Children’s Commissioner for Wales following a successful seven\-year term in office. She has made an outstanding contribution to the children’s rights agenda in Wales. As children’s commissioner, Professor Holland has listened to children and young people and acted on what they have said. To inform her term of office, Professor Holland launched her Wales\-wide consultation *What Next/Beth Nesa* asking children to have their say on her priorities. With more than 25,000 responses, she used children’s and young people’s voices and priorities as the basis for her work. Her focus on talking with children and young people and finding out what they think has marked her tenure as commissioner. This has been particularly evident during the pandemic and the development of the *Coronavirus and Me* survey. This enabled the children’s commissioner to work in a unique partnership with the Welsh Government, Children in Wales and the Welsh Youth Parliament to ensure children and young people could tell us how the pandemic was affecting their lives. These surveys, which gathered more than 43,000 responses, were commended by UNICEF and helped to shape Welsh Government decisions. Professor Holland’s commitment to embedding the United Nations Convention on the Rights of the Child (UNCRC) and raising awareness of children’s rights can be seen through her development and delivery of *The Right Way**\[1]**,* which is a resource drawing together a strategic approach to embedding children’s rights. Professor Holland returns to Cardiff University and is succeeded by Rocio Cifuentes, who today takes up the post as the new Children’s Commissioner for Wales. This statement is being issued during recess to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so. \[1] A Children's Rights Approach in Wales \- Children’s Commissioner for Wales (childcomwales.org.uk)
Translate the text from Welsh to English.
O heddiw ymlaen, bydd defnyddio maglau a thrapiau glud yn anghyfreithlon yng Nghymru. Dyma'r gwaharddiad cyntaf o'i fath yn y DU. Cafodd y mesur hwn ei gynnwys yn Neddf Amaethyddiaeth gyntaf Cymru ac mae'r gwaharddiad ar faglau yn un o'r ymrwymiadau a wnaed yn y Rhaglen Lywodraethu.  Mae maglau, neu atalyddion cebl fel y'u gelwir weithiau, yn achosi llawer iawn o ddioddefaint i anifeiliaid. Nid ydynt yn gwahaniaethu mewn unrhyw ffordd, ac maen nhw'n gallu niweidio rhywogaethau na'u bwriedir ar eu cyfer, megis dyfrgwn, cŵn a chathod. Gall anifail sy'n cael ei ddal mewn magl wynebu poen difrifol a dioddefaint ofnadwy.  Yn yr un modd, mae trapiau glud hefyd yn achosi dioddefaint i'r anifail sydd wedi'i ddal, gan gynnwys y cnofilod y'u bwriadwyd ar eu cyfer ac anifeiliaid eraill fel cathod. Os yw anifeiliaid anwes fel cathod yn cael eu dal mewn trap glud, gall arwain at sefyllfa ofnadwy lle mae'n rhaid difa'r anifail oherwydd ei anafiadau. Mae digon o ffyrdd eraill ar gael i reoli anifeiliaid ysgylyfaethus, ac er bod yn rhaid rheoli cnofilod pan fo dulliau i'w hatal wedi methu, mae yna ffyrdd llai creulon, wedi'u targedu o wneud hynny. Dywedodd y Gweinidog Materion Gwledig, Lesley Griffiths: > Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i les anifeiliaid. Rydyn ni am gyrraedd y safonau uchaf posibl o ran lles anifeiliaid yng Nghymru, ac mae defnyddio maglau a thrapiau glud yn gwbl anghydnaws â'r hyn rydyn ni am ei gyflawni. > > > Bydd llawer o anifeiliaid yn cael eu harbed rhag y dioddefaint mwyaf ofnadwy o ganlyniad i'r gwaharddiad hwn. Dw i'n falch mai Cymru yw'r wlad gyntaf yn  y DU i gyflwyno cam o'r fath. > > > Nid atal pobl rhag rheoli anifeiliaid ysglyfaethus neu gnofilod yw'r nod wrth wahardd maglau a thrapiau glud. Mae ffyrdd eraill llai creulon o wneud hynny.  > > > Hoffwn i ddiolch i'n holl bartneriaid sydd wedi gweithio'n galed i sicrhau'r gwaharddiad hwn, a dw i'n edrych 'mlaen at barhau i sicrhau bod gennym y safonau uchaf un o ran lles anifeiliaid yng Nghymru. Dywedodd Rob Taylor, Cydlynydd Troseddau Gwledig a Bywyd Gwyllt Cymru: > Dw i'n croesawu'r ffaith bod y gwaharddiad yma wedi'i gyflwyno yng Nghymru heddiw. Mae'r trapiau hyn yn lladd pob math o anifeiliaid yn ddiwahân,  a thros y blynyddoedd, dw i wedi gweld drosof fy hun fod gwahanol rywogaethau sy' ddim yn cael eu targedu, fel moch daear a chathod, yn cael eu dal mewn maglau ac yn dioddef anafiadau ofnadwy. Ar ôl heddiw, gallai unrhyw un sy'n cael ei ddal yn defnyddio magl neu drap glud yng Nghymru wynebu dirwy neu garchar, felly rydyn ni'n cynghori pobl i fod yn ymwybodol o'r gyfraith newydd hon ac i weithredu yn unol â hynny. Dywedodd Billie\-Jade Thomas, uwch\-reolwr materion cyhoeddus gyda RSPCA Cymru: > Rydyn ni wir yn croesawu'r gwaharddiad ar faglau a thrapiau glud sy'n dod i rym heddiw.   > > > Mae gan y ddau y potensial i achosi dioddefaint anfesuradwy i anifeiliaid. Yn rhy aml, mae'n swyddogion wedi delio ag anifeiliaid sydd mewn poen difrifol ac yn dioddef yn ofnadwy oherwydd y dyfeisiau hyn; sy'n greulon, yn anafu popeth yn ddiwahân ac yn gwbl ddiangen. > > > Bydd bywydau llawer o anifeiliaid yn cael eu hachub, gan gynnwys bywyd gwyllt, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid fferm fel defaid ac ŵyn.
From today the use of snares or glue traps in Wales is illegal, the first ban of its kind in the UK.  This measure was included in Wales’ first Agriculture Act and the ban on snares is a Programme for Government commitment.  Snares, sometimes referred to as cable restraints, cause a great deal of suffering to animals and are indiscriminate as they can harm species they are not intended for such as otters, dogs and cats. An animal caught in a snare can endure acute pain and suffering.  Similarly glue traps cause suffering to the trapped animal, including the rodent it was intended for and other animals such as cats. If pets such as cats are caught in a glue trap it can tragically lead to the animal being put to sleep as a result of the injuries sustained. Alternative methods of predator control are widely available, and similarly while rodent control is essential where prevention has failed, more humane and targeted methods are available. Rural Affairs Minister Lesley Griffiths said: > This is a historic day for animal welfare. We strive for the very highest standards of animal welfare in Wales, and the use of snares and glue traps are incompatible with what we want to achieve. > > > Many animals will now be spared the most terrible suffering as a result of this ban. I’m proud Wales is the first of the UK nations to introduce such a move. > > > The banning of snares and glue traps is not about preventing predator or rodent control. There are other more humane ways to do this.  > > > I’d like to thank all our partners who’ve worked hard to bring this ban about, and I look forward to continuing to ensure we have the very highest standards of animal welfare in Wales. Rob Taylor, Wales Rural and Wildlife Crime Co\-ordinator said:  > I welcome the introduction of the ban here in Wales today. These traps are indiscriminate and over the years I have personally seen various none target species, such as badgers and cats caught in snares and suffering terrible injury. After today anyone caught using a snare or glue trap in Wales could face a fine or imprisonment, so we advise people to be aware of this new law and act accordingly. Billie\-Jade Thomas, senior public affairs manager at RSPCA Cymru said: > We very much welcome the ban on snares and glue traps coming into force today.   > > > Both have the potential to cause immeasurable suffering to animals. Too often, our officers have dealt with animals in severe pain and misery at the hands of these devices; which are cruel, indiscriminate and totally unnecessary. > > > The lives of many animals will be saved including wildlife, pets and farm animals such as sheep and lambs.
Translate the text from English to Welsh.
The high technology medical device company specialises in the emerging field of surgical endoscopy, which aids minimally invasive surgery by applying microwave and radio wave energy. The Chepstow based company is set to build a new research and development (R\&D) manufacturing centre on its current site. It will use the Welsh Government’s Economy Futures Fund investment to invest in expanding its premises and in state of the art manufacturing equipment. Innovating new medical technologies for the benefit of patients is a key part of the Welsh Government’s new Innovation Strategy, which was launched in February 2023\. Economy Minister, Vaughan Gething said: > “We are committed to supporting businesses like Creo Medical to innovate with cutting edge technology, which will support improved healthcare while also boosting our economy. > > > “Creo Medical is a well\-established company and an important employer in the south\-east of Wales. I am delighted our support will help them to grow even further and create so many new high\-skilled jobs. > > > “Our aim is to build a fairer, greener, and more prosperous Wales. Our support for Creo Medical is a further demonstration of that. It will provide a vital boost to the local economy.” Craig Gulliford, CEO of Creo Medical said: > “This is an exciting time for Creo Medical as we ramp up the manufacturing and commercialisation of multiple products, facilitating the treatment of more and more patients across the world through our pioneering technology. > > > “This Welsh Government funding will support that continued growth and ensure that we are able to build a team at our expanded headquarters and manufacturing base in Chepstow that will further cement Creo Medical and Wales’ place as global medtech leaders.”
Mae'r cwmni dyfeisiau meddygol uwch\-dechnoleg yn arbenigo ym maes endosgopi llawfeddygol. Mae’r maes hwn yn un sy’n prysur ddatblygu ac mae’n helpu llawfeddygon i gynnal llawdriniaethau sy'n creu archoll mor fach â phosibl drwy ddefnyddio ynni microdonnau ac ynni tonnau radio. Mae disgwyl i'r cwmni o Gas\-gwent adeiladu canolfan weithgynhyrchu ac ymchwil a datblygu newydd ar ei safle presennol. Bydd yn defnyddio buddsoddiad y mae wedi’i gael oddi wrth Lywodraeth Cymru drwy Gronfa Dyfodol yr Economi i fuddsoddi mewn ehangu ei hadeiladau ac mewn cyfarpar gweithgynhyrchu o'r radd flaenaf. Mae arloesi ym maes technolegau meddygol newydd er budd cleifion yn rhan allweddol o Strategaeth Arloesi newydd Llywodraeth Cymru, a gafodd ei lansio ym mis Chwefror 2023\. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: > "Rydyn ni wedi ymrwymo i helpu busnesau fel Creo Medical i arloesi ym maes technolegau sydd ar flaen y gad, ac a fydd yn gwella gofal iechyd ac yn rhoi hwb i'n heconomi ar yr un pryd. > > > "Mae Creo Medical yn gwmni sydd wedi hen ennill ei blwyf ac mae’n gyflogwr pwysig yn Ne\-ddwyrain Cymru. Rwy'n falch iawn o fedru dweud y bydd ein cymorth ni yn ei helpu i dyfu hyd yn oed yn fwy ac i greu cynifer o swyddi  newydd tra medrus. > > > "Ein nod yw creu Cymru decach, wyrddach, a mwy llewyrchus. Mae’n cefnogaeth i Creo Medical yn arwydd arall o’r nod hwnnw. Bydd yn hwb hanfodol i'r economi leol." Dywedodd Craig Gulliford, Prif Weithredwr Creo Medical: > "Mae hwn yn gyfnod cyffrous i Creo Medical wrth inni fynd ati i weithgynhyrchu ac i fasnacheiddio mwy o gynhyrchion gwahanol, gan hwyluso’r gwaith o drin mwy a mwy o gleifion ar draws y byd drwy’n technoleg arloesol. > > > "Bydd y cyllid hwn oddi wrth Lywodraeth Cymru yn ein helpu i barhau i dyfu a bydd yn sicrhau ein bod yn gallu adeiladu tîm yn ein pencadlys a'n safle gweithgynhyrchu ehangach yng Nghas\-gwent, gan gadarnhau lle Creo Medical a Chymru fel arweinwyr byd\-eang ym maes technoleg feddygol."
Translate the text from English to Welsh.
The funding will be used to support a wide range of projects across Wales’ designated landscapes, including improving access to the outdoors, promoting conservation and regenerating some of their most fragile areas.  The announcement follows a commitment made by the Minister earlier this month to retain Wales’ designated landscapes and their current purpose of conserving and enhancing natural beauty. Hannah Blythyn said:  > “I re\-affirmed my commitment to the designated landscapes in a statement I made in the Senedd earlier this month.  Today’s announcement is further proof of our commitment to Wales’ National Parks and AONBs.   > > “This funding will help our designated landscapes continue to deliver rich ecosystems, vibrant and resilient communities and opportunities for outdoor recreation for all people across Wales.” Among the improvements being made will be the introduction of electronic vehicle charging points to increase sustainable travel and improvements to recycling facilities to reduce littering within the National Parks. Access improvements for people with disabilities and other mobility issues will also be rolled out across all designated landscapes. Hannah Blythyn added:  > “This funding is helping support projects which will improve visitor facilities but also help with the long term protection of the environment. Projects such as peat land restoration and the prevention of habitat loss will all help tackle key environmental challenges and create a strong, diverse ecosystem for our designated landscapes.   > > “Millions of people visit our designated landscapes every year so it’s vital we continue to provide the best experience for them in order to encourage them to come back time and time again. I look forward to re\-visiting our National Parks and AONBs to see these projects in action.”
Bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio i gynnal amrywiaeth eang o brosiectau yn nhirweddau dynodedig Cymru, i wella mynediad at dir agored, hybu cadwraeth ac i adfywio rhai o'n hardaloedd mwyaf bregus.  Daw'r cyhoeddiad ar ôl i'r Gweinidog ymrwymo yn gynharach yn y mis i warchod tirweddau dynodedig Cymru a chefnogi'u nod o ddiogelu a gwella'u harddwch naturiol.  Meddai Hannah Blythyn:  > "Fe wnes i ailddatgan fy ymrwymiad i'r tirweddau dynodedig mewn datganiad yn y Senedd ar ddechrau'r mis. Mae cyhoeddiad heddiw yn brawf pellach o'n hymrwymiad i'n Parciau Cenedlaethol ac AHNE.  > > "Bydd yr arian yn helpu'r tirweddau dynodedig i barhau i ddarparu ecosystemau cyfoethog, cymunedau byrlymus a chryf a chyfleoedd i bobl o bob rhan o Gymru fwynhau'r awyr agored. Ymhlith y gwelliannau a fydd yn cael eu gwneud fydd darparu mannau gwefru ceir electronig i gynyddu teithiau cynaliadwy a gwella'r cyfleusterau ailgylchu fel bod pobl yn taflu llai o sbwriel yn y Parciau Cenedlaethol. Byddwn hefyd yn hwyluso mynediad i bobl ag anableddau a phroblemau symud eraill yn yr holl dirweddau dynodedig.  Dywedodd hefyd:  > "Bydd yr arian yn ein helpu i gynnal prosiectau fydd yn gwella'r cyfleusterau i ymwelwyr a hefyd i ddiogelu'r amgylchedd yn y tymor hir. Bydd prosiectau i adfer mawnogydd a diogelu cynefinoedd rhag cael eu colli yn ein helpu i daclo'n problemau amgylcheddol mwyaf a chreu ecosystemau amrywiol a chryf yn ein tirweddau dynodedig.  > > "Mae miliynau o bobl yn ymweld â'n tirweddau dynodedig bob blwyddyn, felly mae'n hanfodol ein bod yn dal i roi'r profiadau gorau iddyn nhw er mwyn eu hannog i ddychwelyd dro ar ôl tro. Rwy'n disgwyl ymlaen at ailymweld â'n Parciau Cenedlaethol a'r AHNE i weld y prosiectau ar waith."
Translate the text from Welsh to English.
Ar 4 Ebrill 2017, gwnaeth y Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a'r Seilwaith Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Dyfodol Gwasanaethau Treftadaeth Cymru – partneriaeth strategol newydd a dyfodol Cadw (dolen allanol).
On 4 April 2017, the Cabinet Secretary for Economy and Infrastructure made an Oral Statement in the Siambr on: The future of heritage services in Wales: a new Strategic Partnership and the future of Cadw (external link).
Translate the text from English to Welsh.
Interim Chief Veterinary Officer for Wales, Dr Gavin Watkins, said these steps were being taken now to get ahead of a possible increased level of avian influenza virus in the environment and build extra resilience to the important measures introduced in October through the Wales Avian Influenza Prevention Zone. These will come into force across Wales on Friday, 2 December. From this date, it will be a legal requirement for all bird keepers to keep their birds indoors or otherwise separated from wild birds. Keepers must also complete and act upon a bespoke biosecurity review of the premises where birds are kept. This is to minimise the risk of virus entry in bird houses, which usually results in high mortality. These new measures are in addition to those in the Wales Avian Influenza Prevention Zone, which remain crucially important. Dr Watkins is encouraging bird keepers to prepare for the introduction of the new measures, by making sure housing is suitable, with the housed environment enhanced to protect bird welfare. Keepers should consult their vet for advice where needed. Housing is effective in protecting birds against avian influenza only if accompanied by rigorous biosecurity to keep the virus out of bird houses. This is best done by completing the biosecurity checklist, which will be compulsory for all keepers. There has been an unprecedented incursion of avian influenza into Great Britain and Europe in 2022\. Public health advice remains that the risk to human health from the virus is very low and food standards bodies advise that avian influenzas pose a very low food safety risk for UK consumers. Dr Watkins said: > “The latest data suggests a westward spread of avian influenza to Wales in the coming months, and increased risk of birds being infected outside, through increased viral survival times and a possible further spread in the range of wild birds carrying the virus. Having assessed the evidence, we are taking further preventative action to help protect poultry and kept birds. The biosecurity and housing measures we are introducing in Wales will provide additional protection for birds and resilience for our poultry sector. We will continue to keep the situation under constant review. > > > “I want to thank all keepers for the steps they have taken to keep birds in Wales safe from this devastating disease, steps which we know have protected birds. The additional measures announced today will build on that effort. If implemented rigorously, our birds will be protected.” Mandatory biosecurity self\-assessment checklist \| GOV.WALES
Dywedodd Prif Swyddog Milfeddygol Interim Cymru, y Dr Gavin Watkins, bod y camau hyn yn cael eu cymryd nawr oherwydd y cynnydd posibl yn feirws y ffliw adar yn yr amgylchedd ac i gryfhau’r mesurau pwysig a gyflwynwyd ym mis Hydref trwy Barth Atal Ffliw Adar Cymru. Daw’r mesurau newydd i rym yng Nghymru ddydd Gwener, 2 Rhagfyr. O’r dyddiad hwnnw, bydd yn ofyn cyfreithiol ar bawb sy’n cadw adar i gadw eu hadar dan do neu wedi’u gwahanu mewn ffordd arall oddi wrth adar gwyllt. Rhaid i bob ceidwad adolygu hefyd y mesurau bioddiogelwch ar y safle lle cedwir yr adar a gweithredu ar hynny.  Diben hyn yw cadw’r feirws rhag mynd i siediau’r adar, gan fod y feirws yn farwol i lawer o adar. Mae’r mesurau hyn yn ychwanegol at y rheini ym Mharth Atal Ffliw Adar Cymru, sy’n parhau’n hynod bwysig. Mae’r Dr Watkins yn annog ceidwaid adar i baratoi ar gyfer y mesurau newydd, trwy wneud yn siŵr bod eu siediau adar yn addas, a’u bod yn cael eu gwella i amddiffyn lles yr adar. Cynghorir ceidwaid i ofyn barn eu milfeddyg os oes angen cyngor arnynt. Er mwyn i’r mesurau cadw adar dan do fod yn effeithiol, rhaid hefyd wrth fesurau bioddiogelwch llym i gadw’r feirws allan. Y ffordd orau o wneud hynny yw cwblhau rhestr bioddiogelwch sy’n orfodol i bob ceidwad. Mae achosion digynsail o ffliw’r adar wedi cyrraedd Prydain Fawr ac Ewrop yn 2022\. Mae risg y feirws i iechyd pobl yn dal yn fach iawn ac mae’r cyrff safonau bwyd wedi dweud bod risg ffliw’r adar i ddiogelwch bwyd siopwyr y DU yn fach iawn. Dywedodd y Dr Watkins: > Mae’r data diweddara’n awgrymu y bydd ffliw’r adar yn lledaenu tua’r gorllewin i Gymru yn y misoedd nesaf gan gynyddu’r risg y caiff adar yn yr awyr agored eu heintio am fod y feirws yn byw’n hirach ac wrth i adar gwyllt sy’n cario’r feirws ei ledaenu ymhellach. Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth, rydyn ni am gymryd camau pellach i helpu i amddiffyn dofednod ac adar caeth.  Bydd y mesurau cadw dan do a bioddiogelwch rydym yn eu cyflwyno yng Nghymru yn rhoi amddiffyniad ychwanegol i’r adar ac yn cryfhau’r sector dofednod. Byddwn yn parhau i gadw golwg ar y sefyllfa. > > > “Hoffwn ddiolch i bawb sy’n cadw adar am y camau y maen nhw wedi’u cymryd i ddiogelu adar yng Nghymru rhag y clefyd dinistriol hwn. Rydym yn gwybod bod y camau hynny wedi amddiffyn adar. Bydd y mesurau a gyhoeddir heddiw’n adeiladu ar y gwaith hwnnw. O’u rhoi ar waith yn drylwyr, caiff ein hadar eu diogelu.” Rhestr wirio hunan\-asesu gorfodol \| LLYW CYMRU
Translate the text from English to Welsh.
I have received a report from the Wales Freight Working Group. The purpose of the group has been to build on the work of the Freight Task and Finish Group in providing advice and recommendations for maximising the growth and capability of freight markets in Wales, including their associated supply chains. I would like to thank the Chair of the Group, Brian Curtis, and all the members for their expertise and input. A clear theme from the report, which includes associated recommendations, is the need for an intermodal transport network in Wales which is well integrated and fully capable of effectively moving goods at the local, national and international level. I endorse the recommendations, a number of which are already being taken forward. A key recommendation is the need for gauge enhancement in the Severn Tunnel to enable the efficient transportation of large intermodal freight containers into Wales – one of the key growth markets for freight. I have made representations to the UK Government and Network Rail on this matter and have now received confirmation that the gauge enhancement works will go ahead at the same time as electrification works to the tunnel. Looking to the future, it will be important to continue considering freight needs on an integrated, all\-Wales basis, reflecting the goals and principles of the Wellbeing of Future Generations Act, and ensuring the sustainable development opportunities identified are maximised.
Rwyf wedi derbyn adroddiad gan Weithgor Cludo Nwyddau Cymru. Diben y grŵp yw adeiladu ar waith y Grŵp Gorchwyl a Gorffen ar Gludo Nwyddau o ran rhoi cyngor ac argymhellion i gynyddu twf a gallu marchnadoedd cludo nwyddau yng Nghymru, gan gynnwys eu cadwyni cyflenwi cysylltiedig.  Hoffwn ddiolch i Gadeirydd y Grŵp, Brian Curtis, ac i'r aelodau i gyd am eu harbenigedd a'u mewnbwn.  Mae'r adroddiad, sy'n cynnwys argymhellion cysylltiedig, yn nodi'n glir yr angen am rwydwaith trafnidiaeth ryngfoddol yng Nghymru sydd wedi'i integreiddio'n dda ac sy'n gwbl abl i symud nwyddau'n effeithiol ar lefel leol, genedlaethol a rhyngwladol. Rwyf yn cymeradwyo'r argymhellion, ac mae camau'n cael eu cymryd i gyflawni nifer ohonynt eisoes.  Un o'r argymhellion allweddol yw'r angen i ledu Twnnel Hafren fel bod modd cludo cynwysyddion nwyddau rhyngfoddol mawr yn effeithlon i Gymru \- un o'r marchnadoedd twf allweddol ar gyfer cludo nwyddau. Rwyf wedi gwneud sylwadau i Lywodraeth y DU ac i Network Rail ar y mater hwn, a bellach rwyf wedi cael cadarnhad y bydd y gwaith lledu'n mynd rhagddo ar yr un pryd â'r gwaith i drydaneiddio'r twnnel.  Gan edrych i'r dyfodol, bydd yn bwysig parhau i ystyried anghenion cludo nwyddau ar sail integredig, Cymru Gyfan, a hynny'n unol â nodau ac egwyddorion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a chan sicrhau y manteisir i'r eithaf ar y cyfleoedd datblygu cynaliadwy a nodir. 
Translate the text from English to Welsh.
Newport City Council has received the funding since 2018 through the Targeted Regeneration Investment (TRI) programme and the Transforming Towns (TT) programme. During the visit, the Minister saw several projects first hand including: * The new indoor market supported by a £2m TRI loan * The Central Library and Museum where refurbishment work was completed in February thanks to £1\.3m of TT funding * Newport Leisure and Wellbeing Centre supported by a £7m TT grant * The Chartist Tower which has ben converted into a four\-star hotel thanks to more than £600k of TRI funding * The Grade II listed Market Arcade which has been redeveloped with £1\.2m of TT grant funding Speaking after the visit, Minister for Climate Change Julie James said: > “It was great to visit Newport to see the positive impact funding has had on the city centre. > > > “We want town and city centres across Wales to be the beating heart of Welsh communities, where people can access services, shops, communal and cultural space. > > > “Regenerating our town centres is complex and will only happen if we have a joint understanding of the issues they face. These include the increase in out\-of\-town development reliant on private car transport, the growth in online shopping, and the withdrawal of essential services. > > > “Our Transforming Towns programme is designed to help reverse this decline, with £125 million over three years to reinvent towns across Wales.”
Mae Cyngor Dinas Casnewydd wedi derbyn y cyllid ers 2018 trwy'r rhaglen Targedu Buddsoddiad mewn Adfywio (TRI) a'r rhaglen Trawsnewid Trefi (TT). Yn ystod yr ymweliad, gwelodd y Gweinidog sawl prosiect drosti ei hun gan gynnwys: * Y farchnad dan do newydd a gefnogir gan fenthyciad TRI o £2m * Y Llyfrgell Ganolog a'r Amgueddfa lle cwblhawyd gwaith adnewyddu ym mis Chwefror diolch i £1\.3m o gyllid TT * Canolfan Hamdden a Lles Casnewydd gyda chymorth grant TT gwerth £7m * Tŵr y Siartwyr, sydd wedi ei drawsnewid yn westy pedair seren diolch i fwy na £600k o gyllid TRI * Yr Arcêd Farchnad restredig Gradd II sydd wedi'i hailddatblygu gyda £1\.2m o gyllid grant TT Wrth siarad ar ôl yr ymweliad, dywedodd y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James: > "Roedd yn wych ymweld â Chasnewydd i weld yr effaith gadarnhaol y mae cyllid wedi'i chael ar ganol y ddinas. > > > "Rydym am i ganol trefi a dinasoedd ledled Cymru fod yn galon i gymunedau Cymru, lle gall pobl gael mynediad at wasanaethau, siopau, gofod cymunedol a diwylliannol. > > > "Mae adfywio canol ein trefi yn gymhleth a dim ond os oes gennym ddealltwriaeth ar y cyd o'r materion sy'n eu hwynebu fydd hyn yn digwydd. Mae'r rhain yn cynnwys y cynnydd mewn datblygiadau y tu allan i'r trefi sy'n dibynnu ar drafnidiaeth ceir preifat, y twf mewn siopa ar\-lein, a thynnu gwasanaethau hanfodol yn ôl. > > > "Mae ein rhaglen Trawsnewid Trefi wedi'i chynllunio i helpu i wrthdroi'r dirywiad hwn, gyda £125 miliwn dros dair blynedd i ailgreu trefi ledled Cymru."
Translate the text from English to Welsh.
Maggie Russell has over thirty\-five years of experience as an arts professional, has occupied several senior roles at BBC Wales and been a constant advocate for the arts in Wales for over four decades. As Chair of Arts Council of Wales, Maggie Russell will be accountable to the Deputy Minister for Arts and Sport and is responsible for ensuring the Council’s policies and actions support the Welsh Government’s wider strategic policies. Announcing the appointment, Deputy Minister for Arts and Sport, Dawn Bowden said: > Maggie Russell is a welcome addition to the Council, and I would like to take this opportunity to welcome her to the role. Her appointment comes at a crucial time for the Arts Council of Wales, and I’m confident she will Chair the organisation through its Investment Review, which is already underway.” Maggie Russell, said: > I am delighted to be appointed to Chair the Arts Council of Wales.  It is an exciting and challenging time ahead.  I welcome the opportunity to support the ambition and creativity of the arts in Wales to make work that is open to all communities, representative of our nation and that will surprise, engage and inspire.” Maggie Russell replaces the previous Chair, Phil George, who served in the role since 2016\. The Deputy Minister added: > I would also like to take this opportunity to thank Phil George, who during his time as Chair has been a friend, advocate and champion of the arts sector in Wales during one of the most challenging periods in the organisation’s history. I would like to recognise his commitment in stepping up to the challenge and steering the organisation through one of the most unique and difficult periods in living memory. > > > “I would also like to extend my thanks to the Council’s Vice Chair, Kate Eden, who has taken on a number of additional responsibilities during the past few months.”
Mae gan Maggie dros 35 mlynedd o brofiad fel artist proffesiynol, mae hi wedi dal nifer o swyddi uwch gyda BBC Wales, ac mae hi wedi bod yn eiriolwr parhaus dros y celfyddydau yng Nghymru yn ystod y pedwar degawd diwethaf.   Fel Cadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru bydd Maggie yn atebol i Ddirprwy Weinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, ac mae hi’n gyfrifol am sicrhau bod polisïau a gweithgareddau’r Cyngor yn cefnogi polisïau strategol ehangach Llywodraeth Cymru. Wrth gyhoeddi’r penodiad, dywedodd Gweinidog y Celfyddydau a Chwaraeon, Dawn Bowden: > Mae Maggie Russell yn gaffaeliad gwych i’r Cyngor, a hoffwn i ei chroesawu hi i’r swydd. Mae hi’n cael ei phenodi ar adeg hollbwysig ar gyfer Cyngor Celfyddydau Cymru, ac rwy’n hyderus y bydd hi’n llwyddiannus wrth gadeirio’r sefydliad yn ystod ei Adolygiad Buddsoddi, sydd eisoes yn mynd rhagddo.” Dywedodd Maggie Russell: > Rwyf wrth fy modd i gael fy mhenodi i fod yn Gadeirydd Cyngor Celfyddydau Cymru.  Mae'n gyfnod cyffrous a heriol o'n blaenau.  Rwy'n croesawu'r cyfle i gefnogi uchelgais a chreadigrwydd y celfyddydau yng Nghymru i wneud gwaith sy'n agored i bob cymuned, cynrychiolydd ein cenedl a bydd hynny'n synnu, ennyn diddordeb ac ysbrydoli." Mae Maggie Russell yn olynu’r Cadeirydd Blaenorol, Phil George, sydd wedi bod yn y swydd ers 2016\. Dywedodd y Dirprwy Weinidog: > Hoffwn i ddefnyddio’r cyfle hwn i ddiolch i Phil George sydd, yn ystod ei amser fel Cadeirydd, wedi bod yn ffrind, eiriolwr a hyrwyddwr sector y celfyddydau yng Nghymru, yn ystod un o’r cyfnodau mwyaf heriol yn hanes y sefydliad. Hoffwn i gydnabod ei ymrwymiad wrth fynd i’r afael â’r her ac arwain y sefydliad drwy gyfnod unigryw ac un o’r cyfnodau mwyaf anodd ers cyn cof. > > > “Hoffwn i hefyd ddiolch i Is\-gadeirydd y Cyngor, Kate Eden, sydd wedi ysgwyddo nifer o ddyletswyddau ychwanegol yn ystod y misoedd diwethaf.”
Translate the text from English to Welsh.
In my oral and written statement to Members during this term on the development of any future European Programmes in Wales (2014–2020\), I promised to keep Members informed of key developments. I have previously updated Members on the Welsh Government’s initial views on the European Commission’s draft regulations, which focus on interventions aimed at delivering ‘Europe 2020’ for smart, sustainable and inclusive growth. The regulations provide a good starting point for our negotiations with the UK Government and Commission which are now getting underway. We won’t know for some time how much funding different parts of Wales might secure for any future European programmes, but what we are clear on is that we need to start planning now – to ensure we hit the ground running come 2014\. As well as working closely with key players at EU and UK levels, we are continuing to work with the European Programmes Partnership Forum and stakeholders across Wales to ensure that the new programmes address the main challenges and opportunities facing Wales and are delivered successfully. As we embark on this planning process together, I am pleased to inform Members of the launch of a ‘reflection exercise’ on 1 December so that organisations across the private, public and third sectors and other interested parties in Wales are provided with an early opportunity to offer their views on the strategic direction and priorities for future European programmes. The reflection exercise will cover the European Structural Funds, Rural Development and Fisheries programmes, as it is important that these programmes are developed in a joined up way to achieve the greatest impact for any future EU investments in Wales. While we must set our ambitions high, we also need to be realistic about what the European programmes can do to help address the many challenges facing our country at a time when fiscal, budgetary, Eurozone and global pressures continue to escalate. This will require us to make choices about how we should concentrate EU investments so as to maximise the opportunities available and help address the problems that continue to afflict parts of Wales.  As part of the Reflection Exercise, participants are being asked to consider questions that focus on areas such as how best to target resources where they are most needed, how to achieve better integration of the various EU programmes across Wales, how to improve on current delivery arrangements, and to identify the key lessons learned from the current 2007–2013 programmes. The responses received will help us reach a clear view on future strategic investment priorities and the strategy for addressing these. I will also be listening to the views of Members; a Plenary debate on the future European programmes has been scheduled for 10 January 2012\. Once both Members and our partners have helped fashion the future strategic direction for European programmes, we will need to develop new draft programmes, and it is proposed that these will be the subject of a full public consultation towards the end of 2012 before we commence negotiations on the detail with the European Commission. Prior to this, I would encourage you to let us have your early thoughts by participating in this reflection exercise, so that we all can play a positive and constructive role in shaping the future programmes for the benefit of the people of Wales.  The reflection exercise document and questionnaire is now available on the Welsh European Funding Office (WEFO) website (www.wefo.wales.gov.uk). The closing date for responses is 27 January 2012\.  A brief summary report of the responses received will be published in March 2012\.
Yn fy natganiad llafar ac ysgrifenedig at Aelodau y tymor hwn ar ddatblygu unrhyw Raglenni Ewropeaidd yng Nghymru yn y dyfodol (2014\-2020\), addewais roi gwybod i'r Aelodau am unrhyw ddatblygiadau pwysig. Dw i eisoes wedi rhoi gwybod i'r Aelodau am farn gychwynnol Llywodraeth Cymru am reoliadau drafft y Comisiwn Ewropeaidd, sy'n canolbwyntio ar ymyriadau er mwyn gwireddu gweledigaeth 'Ewrop 2020' ar gyfer twf call, cynaliadwy a chynhwysol. Mae'r rheoliadau yn bwnc da i'w drafod yn gyntaf gyda Llywodraeth y DU a'r Comisiwn. Ni fyddwn yn gwybod am dro byd eto faint o arian y gallai rhannau gwahanol o Gymru ei sicrhau ar gyfer unrhyw raglenni Ewropeaidd yn y dyfodol, ond rydym yn gwybod bod angen i ni ddechrau cynllunio nawr – er mwyn sicrhau ein bod yn barod amdani yn 2014\. Yn ogystal â chydweithio'n agos â phobl bwysig ar lefel yr UE a'r DU, rydym yn parhau i weithio gyda'r Fforwm Partneriaeth Rhaglenni Ewropeaidd a rhanddeiliaid ledled Cymru i sicrhau bod y rhaglenni newydd yn mynd i'r afael â'r prif heriau a chyfleoedd sy'n wynebu Cymru ac yn cael eu gweithredu'n llwyddiannus. Wrth i ni ddechrau ar y broses gynllunio hon gyda'n gilydd, mae'n bleser gennyf roi gwybod i'r Aelodau y bydd sefydliadau ledled y sectorau preifat a chyhoeddus a'r trydydd sector ynghyd a phartïon eraill sydd â diddordeb yng Nghymru, o 1 Rhagfyr ymlaen, yn cael cyfle cynnar i ddweud eu dweud am gyfeiriad strategol a blaenoriaethau rhaglenni Ewropeaidd y dyfodol. Bydd cyfle i fynegi barn am y Cronfeydd Strwythurol Ewropeaidd, rhaglenni Datblygu Gwledig a Physgodfeydd, gan ei bod yn bwysig datblygu'r rhaglenni hyn mewn ffordd gydlynol i sicrhau'r effaith fwyaf bosibl i unrhyw fuddsoddiadau'r UE yng Nghymru yn y dyfodol. Er bod yn rhaid i ni anelu'n uchel, mae angen i ni hefyd fod yn realistig o ran yr hyn y gall y rhaglenni Ewropeaidd ei wneud i helpu i fynd i'r afael â'r sawl her sy'n wynebu ein gwlad ar adeg pan fydd pwysau ariannol, cyllidebol a byd\-eang a phwysau Ardal yr Ewro yn parhau i godi. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i ni benderfynu pa feysydd penodol y dylem fuddsoddi arian yr UE ynddynt er mwyn manteisio i'r eithaf ar y cyfleoedd sydd ar gael a helpu i fynd i’r afael a’r problemau sy’n parhau i effeithio rhannau o Gymru. Fel rhan o’r cyfle hwn i fynegi barn gofynnir i gyfranogwyr ystyried cwestiynau sy’n canolbwyntio ar feysydd fel sut i dargedu adnoddau lle mae eu hangen fwyaf, sut i integreiddio rhaglenni amrywiol yr UE yn well ledled Cymru, sut i wella ar y trefniadau gweithredu ac i ganfod gwersi a ddysgwyd yn sgil rhaglenni presennol 2007\-2013\. Bydd yr ymatebion yn ein helpu i weld yn glir flaenoriaethau buddsoddi strategol y dyfodol a'r strategaeth ar gyfer mynd i'r afael â'r rheini. Byddaf hefyd yn gwrando ar safbwyntiau'r Aelodau: mae dadl yn y Cyfarfod Llawn ar raglenni Ewropeaidd y dyfodol wedi ei drefnu ar gyfer 10 Ionawr 2012\. Ar ôl i'r Aelodau a'n partneriaid helpu i lunio cyfeiriad strategol rhaglenni Ewropeaidd y dyfodol, bydd angen i ni ddatblygu rhaglenni drafft newydd. Cynigir y bydd y rhain yn destun ymgynghoriad cyhoeddus llawn tua diwedd 2012, cyn i ni ddechrau trafod y manylion gyda'r Comisiwn Ewropeaidd. Cyn hynny, byddwn yn eich annog chi i roi eich syniadau cynnar i ni drwy leisio eich barn, fel y gallwn ni gyd gymryd rhan mewn siapio y rhaglenni newydd ar gyfer lles pobl Cymru.  Mae'r ddogfen ar gyfer rhoi eich barn a'r holiadur ar gael ar wefan Swyddfa Cyllid Ewropeaidd Cymru (www.wefo.cymru.gov.uk). Y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno ymatebion yw 27 Ionawr 2012\.  Bydd adroddiad byr yn crynhoi’r ymatebion a gafwyd yn cael ei gyhoeddi ym mis Mawrth 2012\.
Translate the text from English to Welsh.
The change will bring higher and further education into line with the wider public health guidance followed by businesses, employers and event organisers. The advice covers control measures that could be implemented to reduce the risk of transmission of the most common communicable diseases, including Coronavirus, flu and norovirus. Universities and colleges have been following sector\-specific guidance to reduce the transmission of COVID\-19, similar to the local framework followed by schools, with a scale of measures based on local risk. On 18 April, the Welsh Government removed the legal requirement for businesses, employers and event organisers to undertake specific risk assessments and employ reasonable measures to stop the spread of Coronavirus. Jeremy Miles, the Minister for Education and Welsh Language, said: > I would like to thank our college and university staff and students for their tremendous efforts throughout the pandemic in not only supporting students to keep learning but also their leading role in the fight against Coronavirus. > > > The continuation of education has been a Welsh Government priority throughout the pandemic. We have worked closely with the sector to ensure Covid\-secure environments and in\-person learning and campus facilities were available. > > > We are now in a Covid\-stable scenario and the public health risks for higher and further education have reduced significantly. Therefore the continuation of additional public health measures is no longer proportionate and we have asked institutions to formally remove their infection control frameworks from today.
Mae’r newid yn golygu y bydd addysg uwch a phellach yn dilyn yr un canllawiau ag sydd yn y cyngor iechyd cyhoeddus ehangach sy’n cael eu dilyn gan fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau. Mae’r cyngor yn trafod mesurau rheoli i leihau’r risg o drosglwyddo’r afiechydon mwyaf cyffredin, gan gynnwys y coronafeirws, y ffliw a’r norofeirws. Mae prifysgolion a cholegau wedi bod yn dilyn canllawiau sy’n berthnasol i’w sector penodol nhw er mwyn lleihau trosglwyddiad COVID\-19, ac maen nhw’n debyg i’r fframwaith lleol y mae ysgolion wedi bod yn ei ddilyn, â graddfa o fesurau posibl yn ôl y risg yn lleol. Ar 18 Ebrill, diddymodd Llywodraeth Cymru y gofyniad cyfreithiol i fusnesau, cyflogwyr a threfnwyr digwyddiadau gynnal asesiadau risg penodol a dilyn mesurau rhesymol i atal lledaeniad y coronafeirws. Dywedodd Jeremy Miles, Gweinidog y Gymraeg ac Addysg: > Dw i am ddiolch i staff a myfyrwyr ein colegau a’n prifysgolion am eu hymdrechion aruthrol drwy gydol y pandemig, nid dim ond wrth gefnogi myfyrwyr i ddal ati i ddysgu, ond hefyd am eu rôl fel arweinwyr yn y frwydr yn erbyn y coronafeirws. > > > Mae parhau i ddarparu addysg wedi bod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru drwy gydol y pandemig. Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda’r sector i ofalu bod yr amgylchedd dysgu yn ddiogel rhag Covid a bod cyfleusterau dysgu ar gael wyneb yn wyneb ar ein campysau. > > > Erbyn hyn rydyn ni mewn sefyllfa sefydlog o ran Covid, ac mae’r risgiau o ran iechyd cyhoeddus o fewn addysg uwch a phellach wedi lleihau’n sylweddol. Dydy parhau â mesurau iechyd cyhoeddus ychwanegol ddim yn ymateb cymesur bellach, felly, ac rydyn ni wedi gofyn i sefydliadau ddiddymu’n ffurfiol eu fframweithiau rheoli haint o heddiw ymlaen.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 6 Rhagfyr 2016, cyhoeddais fod Cymru gyfan yn Barth Atal Ffliw’r Adar.  Gwnes hynny fel ymateb i’r achosion o’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn H5N8 a gafwyd ar draws Ewrop, Gogledd Affrica a’r Dwyrain Canol.  Mesur rhagofalus oedd hwn i leihau’r risg i ddofednod ac adar caeth gael eu heintio gan adar gwyllt.  Gwnaed y datganiad o dan Erthygl 6 Gorchymyn Ffliw’r Adar a Ffliw sy’n Deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2\) 2006 Mewn Parth Atal, rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill gadw eu hadar dan do neu gymryd pob cam priodol i’w cadw nhw ac adar gwyllt ar wahân, a gwella’r mesurau bioddiogelwch ar eu heiddo.  Cyflwynwyd mesurau tebyg yn Lloegr a’r Alban, gan sicrhau bod yr un drefn mewn grym ledled Prydain.  Cyhoeddodd Gogledd Iwerddon ddatganiad ar Barth Atal Ffliw’r Adar ar 23 Rhagfyr 2016\.   Ar ôl cadarnhad bod achos o’r Ffliw Adar wedi taro fferm dyrcwn fasnachol yn Lincolnshire ar 16 Rhagfyr 2016, cyhoeddwyd gwaharddiad dros dro ar grynhoi dofednod yng Nghymru, Lloegr a’r Alban.  Mae’r gwaharddiad hwn yn parhau mewn grym. Hyd yma, yr unig achos o Ffliw’r Adar Pathogenig Iawn a gafwyd mewn adar domestig yng Nghymru yw’r hwnnw a gadarnhawyd ar 3 Ionawr 2017 mewn haid o ieir a hwyaid mewn gardd gefn ym Mhont\-y\-berem, Sir Gaerfyrddin.  Gosodwyd cyfyngiadau ar y safle yn syth a chafodd yr adar eu difa.  Gosodwyd Parth Amddiffyn 3km a Pharth Gwyliadwriaeth 10km o gwmpas y safle i rwystro’r clefyd rhag lledaenu. Ar 4 Ionawr, estynnais gyfnod Parth Atal Ffliw’r Adar iddo ddod i ben ar 28 Chwefror.  Gwnes hynny fel ymateb i’r achosion yn Sir Gâr a Lincolnshire mewn dofednod ac ar ôl cael hyd i’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn mwn adar gwyllt marw ledled Prydain gydol mis Rhagfyr 2016, gan gynnwys chwiwell yn Sir Gaerfyrddin.  Estynnodd Lloegr a’r Alban eu Parthau Atal hwythau tan 28 Chwefror.   Yn sgil cynnal y mesurau rheoli gofynnol yn y Parth Amddiffyn yn Sir Gâr, penderfynwyd ei uno â’r Parth Gwyliadwriaeth ar 26 Ionawr, a gafodd ei ddiddymu ar 4 Chwefror.  Ers yr achos yn Sir Gâr, cafwyd 6 achos pellach ym Mhrydain, bob un ohonyn nhw yn Lloegr (cyfanswm o 8 achos hyd yma) ac achosion eraill mewn adar gwyllt marw, gan gynnwys rhai yng Nghymru.  Y disgwyl yw y gwelir mwy. Nid yw lefel y risg i adar gwyllt drosglwyddo’r Ffliw Adar Pathogenig Iawn i ddofednod ac adar caeth eraill yn debygol o newid cyn y daw Parth Atal Ffliw’r Adar i ben ar 28 Chwefror. O ystyried y perygl hwnnw ac ar ôl holi barn cynrychiolwyr y diwydiant ac arbenigwyr, rwyf wedi penderfynu estyn cyfnod Parth Atal Ffliw’r Adar tan 30 Ebrill 2017\.  Daw’r datganiad newydd i rym o 00\.01 ar 28 Chwefror 2017 a cheir rhai newidiadau pwysig i’r mesurau fydd mewn grym yn y Parth Atal. Bydd gofyn cyfreithiol ar i bawb sy’n cadw dofednod ac adar caeth eraill gynnal hunan\-asesiad o gyflwr bioddiogelwch eu safle, gan ddefnyddio ffurflen a ddarperir gan Lywodraeth Cymru.  Caiff ceidwaid ddewis un neu fwy o dri opsiwn: parhau i gadw eu hadar dan do, eu cadw nhw’n gwbl ar wahân i adar gwyllt neu rhoi rhyddid cyfyngedig i’w hadar allu mynd allan cyn belled ag y cedwir at fesurau ychwanegol i leihau’r risg. Cyfrifoldeb y ceidwad fydd penderfynu pa opsiwn neu opsiynau fyddai fwyaf priodol iddyn nhw o ran amddiffyn eu hadar.  Rhaid cadw copi o’r ffurflen hunan\-asesu a bydd gofyn ei dangos pan fydd swyddogion archwilio neu orfodi’n gofyn amdani. Yn fy marn i, mae Cymru gyfan mewn perygl a dyna’r rheswm pam y bydd y mesurau y byddaf yn eu cyflwyno ar 28 Chwefror yn effeithio ar y wlad gyfan.  Mae fy mhenderfyniad i gyhoeddi Parth Atal Ffliw’r Adar arall a’r mesurau gweithredu a rheoli rwyf wedi’u datgan hyd yma yn gymesur.  Rwyf wedi targedu’r gweithgareddau uchaf eu risg er mwyn lleihau’r effaith ar fasnach ryngwladol, yr economi a chynaliadwyedd y diwydiant dofednod maes yng Nghymru. Rwy’n atgoffa pob ceidwad dofednod ac adar caeth eraill o’r angen i gadw at fesurau Parth Atal Ffliw’r Adar a’r mesurau gofynnol eraill. Rwyf am i bawb fod yn ymwybodol o’m bwriadau nawr fel bod gan geidwaid yr amser i gynnal yr hunan\-asesiad a pharatoi’u hunain ar gyfer y mesurau newydd a ddaw i rym o 28 Chwefror. Rhaid i geidwaid dofednod ac adar caeth eraill fod yn effro i arwyddion y clefyd.  Mae Ffliw’r Adar yn glefyd hysbysadwy ac os ydych yn credu bod posibilrwydd y gallai’r clefyd fod ar eich adar, cysylltwch ar unwaith â’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA).  Mae perygl i hyd yn oed adar dan do gael eu heintio a dylai ceidwad gynnal y lefelau bioddiogelwch uchaf. Rwy’n parhau i bwyso’n gryf ar geidwaid dofednod, hyd yn oed y rheini sydd â llai na 50 o adar, i roi eu manylion i’r Gofrestrfa Dofednod.  Bydd modd wedyn gysylltu â nhw’n syth, trwy e\-bost neu neges destun, os bydd achos o glefyd adar yn taro, er mwyn iddyn nhw allu cymryd camau buan i amddiffyn eu haid. Os hoffech wybodaeth am amodau Parth Atal Ffliw Adar, arweiniad a hanes y datblygiadau diweddaraf, ewch i wefan Llywodraeth Cymru. http://gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/disease/avianflu/?skip\=1\&lang\=cy  
On 6 December 2016, I declared the whole of Wales an Avian Influenza Prevention Zone. I did this in response to Highly Pathogenic Avian Influenza (HPAI) H5N8 outbreaks across Europe, North Africa and the Middle East. This was a precautionary measure to minimise the risk of poultry and other captive birds being infected by wild birds. The declaration was made under Article 6 of the Avian Influenza and Influenza of Avian Origin in Mammals (Wales) (No. 2\) Order 2006\. The Prevention Zone requires all keepers of poultry and other captive birds to keep their birds indoors or take all appropriate steps to keep them separate from wild birds and to enhance biosecurity on their premises. Similar measures were introduced in England and Scotland, ensuring a co\-ordinated approach across Great Britain. Northern Ireland declared an Avian Influenza Prevention Zone on 23 December 2016\. Following confirmation of HPAI on a commercial turkey farm in Lincolnshire on 16 December 2017, a temporary suspension on gatherings of poultry in Wales, England and Scotland was introduced. That suspension remains in place. The first, and to date only, case of HPAI in domestic birds in Wales, was confirmed on 3 January 2017 in a small back yard flock of chickens and ducks on a premises near Pontyberem, Carmarthenshire. The premises were immediately put under restriction and the birds were subsequently humanely culled. A 3 km Protection Zone (PZ) and 10 km Surveillance Zone (SZ) was put in place around the premises to prevent the spread of disease. On 4 January I extended the period of the Avian Influenza Prevention Zone to end on 28 February. I did this in response to the Carmarthenshire and Lincolnshire cases in poultry and following findings of HPAI in dead wild birds across Great Britain throughout December 2016, including a wild duck in Carmarthenshire. England and Scotland also extended their Avian Influenza Prevention Zones to end on 28 February. Completion of the required disease control measures enabled the PZ in Carmarthenshire to be merged with the SZ on 26 January, which was removed on 4 February. Since the Carmarthenshire case there have been 6 further cases in Great Britain, all in England (a total of 8 cases to date), and further findings of HPAI in dead wild birds, including in Wales.  Further cases are likely. The current level of risk of HPAI to poultry and other captive birds from wild birds is unlikely to change before the Avian Influenza Prevention Zone is scheduled to end on 28 February. In view of the ongoing risk, and following consultation with industry representatives and expert advice, I have taken the decision to further extend the period of the Avian Influenza Prevention Zone until 30 April 2017\. The new declaration will apply from 00:01 on 28 February 2017 and there are some important changes to the measures that will apply within the Avian Influenza Prevention Zone. All keepers of poultry and other captive birds will be legally required to complete a biosecurity self assessment of their premises, using a form provided by the Welsh Government. Keepers can select one or more from three options; continue to keep their birds housed, keep them totally separate from wild birds or allow their birds to have controlled access to outside areas, subject to the introduction of additional risk mitigation measures. It will be the responsibility of the keeper to determine the option(s) most applicable to their circumstances to protect their birds. The completed self assessment forms must be retained and produced to relevant inspection or enforcement officers upon request. I consider the whole of Wales to be at risk, which is why the measures I will be introducing on 28 February will apply to the whole country. My decision to put in place a further Avian Influenza Prevention Zone and the actions and control measures put in place to date continue to be proportionate. Activities of highest risk have been targeted to minimise impact on international trade, the economy and the sustainability of the free\-range poultry industry within Wales. I remind all keepers of poultry and other captive birds of the need to comply with the existing Avian Influenza Prevention Zone and required measures. I am making everyone aware of my intentions now so that keepers have the time to complete the required self assessment and prepare themselves for the new measures which will be in place from the 28 February. Keepers of poultry and other captive birds must remain vigilant for signs of disease. Avian influenza is a notifiable disease and any suspicion should be reported immediately to the Animal and Plant Health Agency (APHA). Even when birds are housed, there remains a risk of infection and keepers should practice the highest levels of biosecurity. I continue to strongly encourage all poultry keepers, even those with fewer than 50 birds, to provide their details to the Poultry Register. This will ensure they can be contacted immediately, via email or text update, in an avian disease outbreak, enabling them to protect their flock at the earliest opportunity. Information on the requirements of the Avian Influenza Prevention Zone, guidance and latest developements are all available on the Welsh Government website: http://gov.wales/topics/environmentcountryside/ahw/disease/avianflu/?lang\=en  
Translate the text from Welsh to English.
Dyna neges y Gweinidog Cyllid, Rebecca Evans, yng nghynhadledd y Sefydliad Ardrethu a Phrisio Refeniw  (IRRV). Fis Ebrill, cyflwynodd Llywodraeth Cymru ddeddfwriaeth newydd sy’n eithrio pob person ifanc sy’n gadael gofal rhag gorfod talu’r dreth gyngor nes byddant yn cael eu pen\-blwydd yn 25 oed. Bydd hynny’n eu helpu i gamu’n llwyddiannus i fyw’n annibynnol fel oedolion. Mae’r gosb o garchar am beidio â thalu’r dreth gyngor wedi’i dileu, gan fod Llywodraeth Cymru’n cydnabod na ddylai mynd i ddyled gael ei drin fel trosedd. Er gwaetha’r pryderon cychwynnol, mae cefnogaeth eang i’r ddeddfwriaeth erbyn hyn ac mae galw wedi bod ar Lywodraeth y DU i ddilyn ein hesiampl. Law yn llaw â’r ddeddfwriaeth newydd, mae ein Cynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor yn darparu £224m bob blwyddyn i sicrhau bod aelwydydd agored i niwed yng Nghymru’n cael eu hamddiffyn rhag codiadau yn eu biliau treth gyngor. Mae’r protocol newydd ar y dreth gyngor sydd wedi’i ddatblygu gyda’r awdurdodau lleol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru hefyd yn helpu i newid y ffordd y mae dyledion treth gyngor yn cael eu trin a’u rheoli yng Nghymru. Wrth annerch cynulleidfa o gynrychiolwyr o’r awdurdodau lleol, asiantaethau gorfodi a gweithwyr proffesiynol ym maes budd\-daliadau, diolchodd y Gweinidog i bawb am eu cyfraniadau a soniodd am ei huchelgais ar gyfer y dyfodol. Dywedodd Rebecca Evans: > “Rwy’n archwilio’r opsiynau ar gyfer diwygio trethi lleol yn y tymor canolig i’r tymor hir er mwyn gwneud yn siŵr eu bod yn diwallu anghenion Cymru yn y modd gorau posib. Fy mwriad yw edrych ar drethi lleol mewn modd blaengar, teg a thryloyw, gan sicrfhau eu bod yn dal i ddarparu cyllid ar gyfer gwasanaethau lleol hanfodol. > > >  “Mae gwaith ymchwil sylweddol wedi’i wneud i’r ffordd y dylai gwasanaethau cyhoeddus gael eu hariannu yng Nghymru, yng ngweddill y DU a thrwy’r byd. Mae llawer o’r ymdriniaeth wedi canolbwyntio ar ddiben allweddol trethi lleol fel dull o godi refeniw, ond mae peth diddordeb hefyd mewn archwilio i ba raddau y gellid defnyddio trethi lleol fel ysgogiad i ddiwallu gwahanol amcanion economaidd a chymdeithasol. > > > “Rydyn ni wedi comisiynu arbenigwyr allanol i ymchwilio i effaith y Credyd Cynhwysol ar Gynllun Gostyngiadau’r Dreth Gyngor ac ôl\-ddyledion rhenti yng Nghymru. Dyw hi ddim yn iawn bod penderfyniadau sy’n cael eu gwneud gan Lywodraeth y DU am fudd\-daliadau lles yn gallu effeithio ar drethi lleol yng Nghymru – maes cyfrifoldeb sydd wedi’i ddatganoli ers 1999\. Bydd y canfyddiadau hyn yn cael eu defnyddio i’n helpu i ddatblygu’r cynllun. > > > “Rydyn ni hefyd yn ymchwilio i ganfod pa effaith y gallai ymarferiad ailbrisio ei gael ar sylfaen drethu eiddo domestig Cymru os penderfynir cynnal un. Disgwylir i ganfyddiadau’r ymchwil fod ar gael yn gynnar y flwyddyn nesaf.”
That was the message from the Finance Minister Rebecca Evans at the Institute of Revenues, Rating and Valuation (IRRV) conference. In April, the Welsh Government introduced new legislation to exempt all care leavers from council tax until their 25th birthday, helping them to make a successful transition into adulthood and independent living. The sanction of imprisonment for non\-payment of council tax has also been removed, with the Welsh Government recognising that getting into debt should not be a crime. Despite initial concerns, this legislation is now widely supported with calls for the UK government to follow our approach. Alongside new legislation, our Council Tax Reduction Scheme provides £244 million each year to ensure vulnerable households in Wales are protected from increases in their council tax bills. A new Council Tax Protocol for Wales developed with local authorities and the WLGA is also helping to change the approach and management of council tax debt in Wales. Addressing an audience of local authorities, benefits professionals and enforcement agencies, the minister thanked everyone for their contributions and shared her ambitions for the future. Rebecca Evans said: > “I am examining the options for medium to longer term reform of local taxes to ensure they are designed to best meet the needs of Wales. My intention is to take a progressive, fair and transparent approach towards local taxation which continues to provide funding for vital local services. > > > “There is significant research into how local services should be funded in Wales, in the rest of UK, and internationally. Much of the discussion has focused on local taxation and its key purpose as a means of raising revenue, but there is some interest in the extent to which local taxes might be used as a lever to meet various economic and social aims. > > > “We have commissioned external experts to undertake research into the impact of Universal Credit on the Council Tax Reduction Scheme and rent arrears in Wales. It is not right that decisions taken by the UK government about welfare benefits can have an impact on local taxation in Wales, an area of responsibility which has been devolved since 1999\. These findings will be used to inform our development of the scheme. > > > “We are also exploring the impact a revaluation exercise could have on Wales’ domestic property tax\-base if a decision is taken to carry one out. We expect the findings of this exercise to be available early next year.”
Translate the text from English to Welsh.
Callum Smith from Porth was walking over a footbridge that crossed a busy bypass when he saw the man in distress. Despite having no previous training in dealing with this kind of situation, Callum stayed calm, talked to him and built up a rapport, before holding him until the police arrived and took over. Now in its eleventh year, the St David Awards are the national awards of Wales, celebrating people from across the country and from all walks of life who have been nominated in categories including bravery, business and community spirit. Judges commended Callum’s very difficult and admirable actions saying he demonstrated outstanding bravery which resulted in saving a life. Other winners included Alan Bates, the former Subpostmaster, who was presented the First Minister’s Special Award for leading the campaign to expose the Post Office Horizon IT scandal. The First Minister also presented a Special Award to The Windrush Cymru Elders, a group established in 2017 as part of Race Council Cymru to promote understanding of ethnic minority elders’ concerns. Speaking at the ceremony at the Royal Welsh College of Music and Drama, First Minister, Vaughan Gething said: > “What a wonderful way to start my time as Prif Weinidog – meeting this wonderful group of incredibly talented and courageous people. > > “Each and every year, the St David Awards shine a spotlight on some of the most brilliant and brave from all over the country and are a chance to show the rest of the UK what Wales is made of. > > “This year’s awards, my first as First Minister, will always be particularly special to me, and all this year’s finalists are truly inspirational. We are very lucky to have them living and working here, and it’s been a privilege to celebrate their contribution to Welsh life.” All winners received a St David Awards trophy, designed and made by leading ceramic artist, Daniel Boyle from Ceredigion.
Roedd Callum Smith o Borth yn cerdded dros bont droed uwchben ffordd osgoi brysur pan welodd y dyn mewn trallod. Er nad oedd ganddo unrhyw hyfforddiant blaenorol i ddelio â sefyllfa fel hon, arhosodd Callum yn bwyllog, siaradodd ag ef ac adeiladu perthynas, cyn ei ddal nes i'r heddlu gyrraedd a chymryd yr awenau. Bellach yn eu hunfed flwyddyn ar ddeg, Gwobrau Dewi Sant yw gwobrau cenedlaethol Cymru, sy'n dathlu pobl o bob cwr o'r wlad ac o bob cefndir sydd wedi'u henwebu mewn categorïau gan gynnwys dewrder, busnes ac ysbryd cymunedol. Canmolodd y beirniaid weithredoedd anodd a chlodwiw iawn Callum gan ddweud ei fod wedi dangos dewrder rhagorol a arweiniodd at achub bywyd. Ymhlith yr enillwyr eraill roedd Alan Bates, y cyn Is\-bostfeistr, a gafodd Wobr Arbennig y Prif Weinidog am arwain yr ymgyrch i ddatgelu sgandal TG Horizon Swyddfa'r Post. Cyflwynodd y Prif Weinidog hefyd Wobr Arbennig i Windrush Cymru Elders, grŵp a sefydlwyd yn 2017 fel rhan o Race Council Cymru i hyrwyddo dealltwriaeth o bryderon henoed ethnig leiafrifol. Wrth siarad yn y seremoni yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru, dywedodd y Prif Weinidog, Vaughan Gething: > "Am ffordd wych o ddechrau fy nghyfnod fel Prif Weinidog \- cwrdd â'r grŵp gwych hwn o bobl hynod dalentog a dewr. > > "Bob blwyddyn, mae Gwobrau Dewi Sant yn tynnu sylw at rai o'r rhai mwyaf gwych a dewr o bob cwr o'r wlad ac maent yn gyfle i ddangos i weddill y DU y math o bobl sy'n byw yng Nghymru. > > "Bydd gwobrau eleni, y cyntaf i mi fel Prif Weinidog, bob amser yn arbennig iawn i mi, ac mae pob un o'r rhai a gyrhaeddodd y rownd derfynol eleni yn wirioneddol ysbrydoledig. Rydym yn ffodus iawn o'u cael yn byw ac yn gweithio yma, ac mae wedi bod yn fraint dathlu eu cyfraniad i fywyd Cymru." Cafodd pob enillydd dlws Gwobrau Dewi Sant, a ddyluniwyd ac a wnaed gan yr artist cerameg blaenllaw, Daniel Boyle o Geredigion.
Translate the text from Welsh to English.
Rwy'n benderfynol o sicrhau bod adnoddau'r Grant Amddifadedd Disgyblion yn cael eu defnyddio'n briodol a bod ein gwaith a'n buddsoddiad wedi cael yr effaith angenrheidiol ar gyrhaeddiad addysgol plant o gefndiroedd difreintiedig. I gefnogi ysgolion, Awdurdodau Lleol a Chonsortia gyda'u hymdrechion i wella deilliannau dysgwyr difreintiedig mewn modd sy'n gynaliadwy, rwyf wrth fy modd cael cyhoeddi bod Syr Alasdair MacDonald wedi ei benodi yn 'Eiriolwr Codi Cyrhaeddiad' i Gymru. Mae Syr Alasdair yn ymarferydd uchel ei barch a chanddo hanes llwyddiannus o bennu strategaethau ar gyfer gwella lefelau cyrhaeddiad pob dysgwr ond yn enwedig y rheini o gefndiroedd difreintiedig. Fel pennaeth Ysgol Uwchradd Morpeth yn ardal Tower Hamlets yn Llundain, cafodd Syr Alasdair brofiad uniongyrchol o leihau anghyfartaledd rhwng perfformiad bechgyn a merched, y cyfoethog a'r tlawd ac ar draws grwpiau lleiafrifoedd ethnig.    Bydd Syr Alasdair yn gyfrifol am ymgysylltu'n uniongyrchol ag ysgolion, Awdurdodau Lleol a chonsortia er mwyn; * codi proffil, ymhlith ysgolion ac ymarferwyr, a thynnu eu sylw at bwysigrwydd mynd i'r afael â'r cysylltiad rhwng amddifadedd a chyrhaeddiad; * hyrwyddo dyheadau uwch ar gyfer dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig; * cefnogi ac ennyn brwdfrydedd arweinwyr ysgolion i fanteisio ar ddulliau ysgol gyfan, sy'n seiliedig ar dystiolaeth gadarn, o fynd i'r afael â thangyflawni ymhlith dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig; * herio safbwyntiau negyddol a disgwyliadau isel; * rhoi adborth i Weinidogion a swyddogion ar yr hyn sy'n gweithio'n dda, meysydd sy'n achosi pryder a rhwystrau ymddangosiadol neu wirioneddol yn y system; * bod yn 'gyfaill beirniadol' o ran datblygu polisi Llywodraeth Cymru. Bydd hefyd yn creu cysylltiad â'r rhaglen Her Ysgolion Cymru i gynnig cyngor ac arweiniad.   Ymddeolodd Syr Alasdair o'i waith fel addysgwr ym mis Rhagfyr ac rwyf wrth fy modd ei fod wedi cytuno i weithio gydag ysgolion yng Nghymru, tan ddiwedd tymor yr haf i gychwyn. Ei gyfrifoldeb cyntaf fydd bod yn brif areithiwr yn y gynhadledd Codi Dyheadau – Cyrhaeddiad Lleiafrifoedd Ethnig mewn Addysg ar 20 Mawrth 2014 yn Stadiwm y Mileniwm, Caerdydd.
I am determined to ensure that Pupil Deprivation Grant resources are being used appropriately and that our work and investment have the necessary impact on educational attainment of children from deprived backgrounds. To support schools, local authorities and consortia in their efforts to bring about sustained improvement in outcomes for deprived learners I am delighted to announce the appointment of Sir Alasdair MacDonald as ‘Raising Attainment Advocate’ for Wales. Sir Alasdair is a well\-respected practitioner with a proven track record in strategies to improve attainment levels for all learners and especially those from disadvantaged backgrounds. As Head of Morpeth secondary school in Tower Hamlets, Sir Alasdair has first\-hand experience of reducing disparities in educational performance between boys and girls, rich and poor and across ethnic minority groups.   Sir Alasdair’s role will be to engage directly with schools, LAs and consortia to: * raise the profile and highlight the importance of tackling the link between deprivation and attainment with schools and practitioners; * promote higher aspirations for learners from deprived backgrounds; * support and enthuse schools leaders to embrace well evidenced, whole school approaches to tackling underperformance of learners from deprived backgrounds; * challenge negative views and low expectations; * provide feedback to the me and officials on what is working well, areas of concern and perceived or real blockages in the system; and, * act a ‘critical friend’ in relation to Welsh Government policy development He will also link with the Schools Challenge Cymru programme to offer advice and guidance.  Sir Alasdair retired from teaching in December and I am delighted that he has agreed to work with schools in Wales, initially to the end of the summer term. His first engagement will be as the keynote speaker at the Raising Aspirations – Minority Ethnic Achievement Conference on 20th March 2014 at the Millennium Stadium, Cardiff
Translate the text from Welsh to English.
Mae Deddf Cymru 2014, a gafodd ei phasio’n ddiweddar gan y Senedd, yn rhoi pwerau trethu a phwerau ariannol newydd i Gymru. Fel rhan o’r Deddf hon, caiff Treth Dir y Doll Stamp (SDLT) ei datganoli i Gymru o Ebrill 2018\. Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu disodli’r dreth hon â Threth Trafodiadau Tir (LTT). Rwyf yn falch o’ch hysbysu y byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar 10 Chwefror 2015\.  Dyma’r ail ymgynghoriad ar ddatganoli pwerau trethu newydd i Gymru, yn dilyn ein hymgynghoriad ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru, a ddaeth i ben ar 14 Rhagfyr 2014\. Bydd yr ymgynghoriad yn eang ac yn agored, gan gynnig cyfle gwirioneddol i bobl Cymru allu dylanwadu ar agweddau pwysig ar LTT yn y cyfnod cynnar hwn ar ei ddatblygiad. Dylai’r dreth fod yn gyson hefyd â’r egwyddorion ar drethi Cymru yr wyf wedi’u nodi gynt, a fydd yn ceisio creu treth: * a fydd yn deg i’r busnesau a’r unigolion sy’n eu talu; * a fydd yn syml, gyda rheolau clir, gan anelu at gadw costau cydymffurfio a gweinyddu i’r lleiaf; * a fydd yn cefnogi twf a swyddi, ac a fydd, yn ei dro, yn helpu i drechu tlodi; a * a fydd yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr. Gallai LTT gael effeithiau pwysig ar y farchnad ar gyfer adeiladau a thir a hynny at ddibenion preswyl ac amhreswyl. Mae hyn felly yn ddatblygiad pwysig ym mhwerau’r Cynulliad Cenedlaethol ac edrychaf ymlaen at gael eich sylwadau am y materion a godir yn yr ymgynghoriad arfaethedig.
The Wales Act 2014, which was recently passed by Parliament, provides Wales with new tax and financial powers. As part of this Act, SDLT will be devolved to Wales from April 2018\. The Welsh Government propose replacing this tax with a Land Transaction Tax (LTT). I am pleased to announce that I will be publishing a consultation on our proposals for a Land Transaction Tax on 10 February 2015\.  This is the second consultation on the devolution of new tax powers to Wales, following our consultation on the collection and management of devolved taxes in Wales which closed on 14 December 2014\. The consultation will be broad and open, providing a real opportunity for the people of Wales to be able to influence important aspects of LTT at this early stage of development. The tax should also be consistent with the principles on Welsh taxes which I have previously set out, which will look to create a tax that is: * Fair to the businesses and individuals who pay them; * Simple, with clear rules, aiming to minimise compliance and administration costs; * Support growth and jobs, and in turn will help tackle poverty; and * Provides stability and certainty for taxpayers.   LTT could have potentially important effects on the market for buildings and land for both residential and non\-residential purposes. Therefore this is an important development in the National Assembly’s powers and I look forward to receiving your views on the issues raised in the forthcoming consultation.  
Translate the text from English to Welsh.
She today called on the UK Government to extend its England\-only developer pledge, which commits developers to repairing buildings they were involved in developing, to the rest of the UK. The Minister warned the current “unilateral approach” to building safety makes it harder to ensure developers take their responsibilities to contribute towards the costs of fixing building safety issues in Wales seriously. The Welsh Government has earmarked £375m towards repairing identified building safety issues. Wales is taking a “whole\-building approach” to building safety and is committed to repairing wider fire safety issues – not just cladding problems. In a statement to Members of the Senedd today, Julie James said: > We continue to do everything in our power to repair building safety defects – without these costs falling on leaseholders – and to reform building safety law. But there are many things our governments can do to improve building safety on a UK basis. > > > I was therefore deeply disappointed when the Secretary of State for Housing, Levelling Up and Communities Michael Gove announced an England\-only developer pledge last month. > > > The Scottish Government Cabinet Secretary for Social Justice, Local Government and Housing, Shona Robison and I have repeatedly called on the UK Government to adopt a UK\-wide approach to the pledge.  > > > The UK Government’s unilateral approach to building safety issues makes it harder to ensure all developers take their responsibilities to contribute towards the costs of fixing building safety problems in Wales seriously. > > > It inhibits our ability to hold developers and manufacturers to account for fixing their mistakes and it runs counter to the recent Review of Intergovernmental Relations. > > > It also creates more confusion for residents at a time when they need consistency and clarity. The Welsh Government has had ongoing meetings with the UK Government about building safety and is continuing to continuing to press for: * A change in the pledge letters with developers and in the detailed legal agreements to secure a matching and proportionate commitment to self\-remediate across the UK. * For the UK Government to redouble its efforts to introduce a credible, affordable and UK\-wide public indemnity insurance scheme this year and to commission work to support the creation of a companion insurance scheme for certification of remedial works, which includes relevant aspects of fire safety. * The Building Safety Levy to be extended across the UK. * Support from Secretary of State Gove in seeking additional capital and resource funding from HM Treasury for building safety. * The Minister is also writing to stakeholders to update them about the progress of the repair work underway across Wales. She said: > Our repair programme goes beyond just replacing external cladding. It includes compartmentation, fire alert and evacuation and suppression systems. > > > This whole\-building approach puts people’s safety first but is more complex than one which only deals with cladding. It is also more expensive. > > > We have earmarked £375m over the next three years to invest in repair work – this is double the population share of what the UK Government has said it plans to spend in equivalent areas in England in this period. > > > At the heart of our approach is the fundamental belief that developers should contribute towards the costs of fixing these problems. Leaseholders and residents should not have to foot the bill.
Galwodd heddiw ar Lywodraeth y DU i ymestyn ei haddewid i ddatblygwyr yn Lloegr yn unig, sy'n ymrwymo datblygwyr i atgyweirio adeiladau yr oeddent yn ymwneud â'u datblygu, i weddill y DU. Rhybuddiodd y Gweinidog fod y "dull unochrog" presennol o ymdrin â diogelwch adeiladau yn ei gwneud yn anos sicrhau bod datblygwyr yn cymryd eu cyfrifoldebau i gyfrannu at gostau datrys materion diogelwch adeiladau yng Nghymru o ddifrif. Mae Llywodraeth Cymru wedi clustnodi £375m tuag at atgyweirio materion a nodwyd yn gysylltiedig â diogelwch adeiladau. Mae Cymru'n mabwysiadu "dull adeilad cyfan" o ymdrin â diogelwch adeiladau ac mae wedi ymrwymo i gywiro materion ehangach yn gysylltiedig â diogelwch tân – nid dim ond problemau cladin. Mewn datganiad i Aelodau'r Senedd heddiw, dywedodd Julie James: > Rydym yn parhau i wneud popeth o fewn ein gallu i gywiro diffygion o ran diogelwch adeiladau – heb i'r costau hyn gael eu trosglwyddo i lesddeiliaid – ac i ddiwygio cyfraith diogelwch adeiladau. Ond mae llawer o bethau y gall ein llywodraethau eu gwneud i wella diogelwch adeiladau ledled y DU. > > > Roeddwn felly'n siomedig iawn pan gyhoeddodd yr Ysgrifennydd Gwladol dros Dai, Ffyniant Bro a Chymunedau, Michael Gove addewid datblygwyr i Loegr yn unig fis diwethaf. > > > Mae Ysgrifennydd Cabinet Llywodraeth yr Alban dros Gyfiawnder Cymdeithasol, Llywodraeth Leol a Thai, Shona Robison a minnau wedi galw dro ar ôl tro ar Lywodraeth y DU i fabwysiadu ymagwedd y DU gyfan at yr addewid.  > > > Mae dull unochrog Llywodraeth y DU tuag at faterion diogelwch adeiladau yn ei gwneud yn anos sicrhau bod pob datblygwr yn cymryd ei gyfrifoldebau i gyfrannu tuag at gostau datrys problemau diogelwch adeiladau yng Nghymru o ddifrif. > > > Mae'n llesteirio ein gallu i ddwyn datblygwyr a gweithgynhyrchwyr i gyfrif i gywiro eu camgymeriadau ac mae'n mynd yn groes i'r Adolygiad diweddar o Gysylltiadau Rhynglywodraethol. > > > Mae hefyd yn creu mwy o ddryswch i drigolion ar adeg pan fo angen cysondeb ac eglurder arnynt. Mae Llywodraeth Cymru wedi cael cyfarfodydd parhaus gyda Llywodraeth y DU ynghylch diogelwch adeiladau ac mae'n parhau i bwyso i: * Newid yn y llythyrau addewid gyda datblygwyr ac yn y cytundebau cyfreithiol manwl i sicrhau ymrwymiad cyfatebol a chymesur i hunan\-adfer ledled y DU. * Dylai Llywodraeth y DU ddyblu ei hymdrechion i gyflwyno cynllun yswiriant indemniad proffesiynol credadwy, fforddiadwy i'r DU gyfan eleni a chomisiynu gwaith i greu cynllun yswiriant cydymaith ar gyfer ardystio gwaith adfer, sy'n cynnwys agweddau perthnasol ar ddiogelwch tân. * I’r Ardoll Diogelwch Adeiladau gael ei hymestyn ar draws y DU. * Cymorth gan yr Ysgrifennydd Gwladol Michael Gove i geisio cyllid cyfalaf ac adnoddau ychwanegol gan Drysorlys EM ar gyfer diogelwch adeiladau. Mae'r Gweinidog hefyd yn ysgrifennu at randdeiliaid i roi'r wybodaeth ddiweddaraf iddynt am hynt y gwaith atgyweirio sydd ar y gweill ledled Cymru. Meddai: > Mae ein rhaglen atgyweirio yn mynd y tu hwnt i osod cladin allanol yn lle'r hen rai. Mae'n cynnwys systemau compartmenteiddio, rhybuddion tân a gwacáu a llethu. > > > Mae'r dull adeiladau cyfan hwn yn rhoi diogelwch pobl yn gyntaf ond mae'n fwy cymhleth nag un sy'n delio â cladin yn unig. Mae hefyd yn ddrutach. > > > Rydym wedi clustnodi £375m dros y tair blynedd nesaf i fuddsoddi mewn gwaith atgyweirio \- mae hyn ddwywaith cyfran y boblogaeth i'r hyn y mae Llywodraeth y DU wedi’i ddatgan ei bod yn bwriadu ei wario mewn ardaloedd cyfatebol yn Lloegr o fewn y cyfnod hwn. > > > Wrth wraidd ein dull gweithredu mae'r gred sylfaenol y dylai datblygwyr gyfrannu tuag at gostau datrys y problemau hyn. Ni ddylai lesddeiliaid a thrigolion orfod talu'r bil.
Translate the text from English to Welsh.
On 1 March 2022, an oral statement was made in the Senedd: Healthy Weight, Healthy Wales 2022\-2024 (external link).
Ar 1 Mawrth 2022, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Pwysau Iach, Cymru Iach 2022\-2024 (dolen allanol).
Translate the text from English to Welsh.
The Wales Act 2014, which was recently passed by Parliament, provides Wales with new tax and financial powers. As part of this Act, SDLT will be devolved to Wales from April 2018\. The Welsh Government propose replacing this tax with a Land Transaction Tax (LTT). I am pleased to announce that I will be publishing a consultation on our proposals for a Land Transaction Tax on 10 February 2015\.  This is the second consultation on the devolution of new tax powers to Wales, following our consultation on the collection and management of devolved taxes in Wales which closed on 14 December 2014\. The consultation will be broad and open, providing a real opportunity for the people of Wales to be able to influence important aspects of LTT at this early stage of development. The tax should also be consistent with the principles on Welsh taxes which I have previously set out, which will look to create a tax that is: * Fair to the businesses and individuals who pay them; * Simple, with clear rules, aiming to minimise compliance and administration costs; * Support growth and jobs, and in turn will help tackle poverty; and * Provides stability and certainty for taxpayers.   LTT could have potentially important effects on the market for buildings and land for both residential and non\-residential purposes. Therefore this is an important development in the National Assembly’s powers and I look forward to receiving your views on the issues raised in the forthcoming consultation.  
Mae Deddf Cymru 2014, a gafodd ei phasio’n ddiweddar gan y Senedd, yn rhoi pwerau trethu a phwerau ariannol newydd i Gymru. Fel rhan o’r Deddf hon, caiff Treth Dir y Doll Stamp (SDLT) ei datganoli i Gymru o Ebrill 2018\. Mae Llywodraeth Cymru’n bwriadu disodli’r dreth hon â Threth Trafodiadau Tir (LTT). Rwyf yn falch o’ch hysbysu y byddaf yn cyhoeddi ymgynghoriad ar ein cynigion ar gyfer Treth Trafodiadau Tir ar 10 Chwefror 2015\.  Dyma’r ail ymgynghoriad ar ddatganoli pwerau trethu newydd i Gymru, yn dilyn ein hymgynghoriad ar gasglu a rheoli trethi datganoledig yng Nghymru, a ddaeth i ben ar 14 Rhagfyr 2014\. Bydd yr ymgynghoriad yn eang ac yn agored, gan gynnig cyfle gwirioneddol i bobl Cymru allu dylanwadu ar agweddau pwysig ar LTT yn y cyfnod cynnar hwn ar ei ddatblygiad. Dylai’r dreth fod yn gyson hefyd â’r egwyddorion ar drethi Cymru yr wyf wedi’u nodi gynt, a fydd yn ceisio creu treth: * a fydd yn deg i’r busnesau a’r unigolion sy’n eu talu; * a fydd yn syml, gyda rheolau clir, gan anelu at gadw costau cydymffurfio a gweinyddu i’r lleiaf; * a fydd yn cefnogi twf a swyddi, ac a fydd, yn ei dro, yn helpu i drechu tlodi; a * a fydd yn darparu sefydlogrwydd a sicrwydd i drethdalwyr. Gallai LTT gael effeithiau pwysig ar y farchnad ar gyfer adeiladau a thir a hynny at ddibenion preswyl ac amhreswyl. Mae hyn felly yn ddatblygiad pwysig ym mhwerau’r Cynulliad Cenedlaethol ac edrychaf ymlaen at gael eich sylwadau am y materion a godir yn yr ymgynghoriad arfaethedig.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd y prosiect Selkie, a ariennir gan Raglen Gydweithredu Iwerddon Cymru yr UE, yn dod ag ymchwilwyr a busnesau arweiniol o'r ddwy wlad ynghyd i greu technolegau i helpu i wella perfformiad dyfeisiadau ynni'r môr sy'n cael eu datblygu gan fusnesau yng Nghymru ac yn Iwerddon. Bydd Coleg Prifysgol Corc yn arwain y prosiect mewn partneriaeth â Phrifysgol Abertawe, Fforwm Arfordir Sir Benfro, Menter Môn, DP Energy Ireland a chwmni Gavin and Doherty Geosolutions, sydd wedi'i leoli yn Nulyn. Fel rhan o'r prosiect, caiff yr offer newydd eu treialu ar ddyfeisiadau tonnau a llanw i bennu pa mor ddibynnol ydynt a'r potensial ar gyfer masnachu.  Bydd y prosiect hefyd yn sefydlu rhwydwaith trawsffiniol o ddatblygwyr ynni'r môr a busnesau yn y gadwyn gyflenwi, gan gefnogi rhaglenni ymchwil a datblygu sy'n cynnwys academyddion a phobl sy’n gweithio yn y diwydiant o'r ddwy wlad. Dros y tair blynedd nesaf, bydd 150 o fusnesau o Gymru ac Iwerddon yn elwa ar y prosiect. Dywedodd Dr Gordon Dalton, uwch\-ymchwilydd yng Nghanolfan Ynni'r Môr ac Ynni Adnewyddadwy Iwerddon (MaREI): > “Yng Ngholeg Prifysgol Corc mae canolfan ymchwil MaREI, sydd ymhlith y gorau yn y byd, ac sydd â dros 30 mlynedd o brofiad yn gweithio ym maes ynni'r môr ac ynni adnewyddadwy. Rydym wrth ein boddau cael cydlynu prosiect Selkie, gan ddefnyddio ein cyfleusterau a'n sgiliau i arwain y gwaith profi ffisegol ar y dyfeisiadau prototeip.  > > > Nid oes unrhyw danciau profi o'r math hwn yng Nghymru, felly bydd y datblygiad ym Môr Iwerddon yn adnodd gwerthfawr. Rydym yn edrych ymlaen at gael cydweithio gyda datblygwyr y ddyfais yng Nghymru i ddod â gwahanol arbenigeddau ynghyd i fynd i'r afael â'r heriau sy'n wynebu diwydiant ynni’r môr.” Gyda chymorth gwerth €80m o arian gan yr UE, mae rhaglen Cymru\-Iwerddon yn cefnogi busnesau a sefydliadau yn y ddwy wlad i weithio gyda'i gilydd mewn gwahanol feysydd gan gynnwys y newid yn yr hinsawdd, arloesedd, treftadaeth ddiwylliannol a thwristiaeth. Mae'r rhaglen yn un o deulu o raglenni Cydweithredu Tiriogaethol Ewropeaidd sy'n cynnig cyfleoedd i ranbarthau yn yr UE gydweithio i fynd i'r afael â'r heriau economaidd, amgylchedd a chymdeithasol y maent yn eu rhannu.   Dywedodd Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru:  > “Mae dod ag arbenigedd o Gymru ac Iwerddon ynghyd yn hollbwysig os ydym am oresgyn heriau cyffredin, a manteisio ar y cyfleoedd sy'n codi yn sgil ein ffin gyda Môr Iwerddon gan gynnwys y potensial i gynhyrchu ynni glân. > > > “Mae ein perthynas ag Iwerddon yn bwysig iawn, felly rwy'n falch gweld ein dwy wlad yn cydweithio ar fater sy'n flaenoriaeth mor bwysig ar lefel fyd\-eang.” Dywedodd y Gweinidog Cyllid, Gwariant Cyhoeddus a Diwygio, Paschal Donohoe T.D., sydd â chyfrifoldeb polisi cyffredinol dros Gronfeydd Strwythurol yr UE yn Iwerddon: “Rwy’n falch iawn o groesawu prosiect arall dan raglen drawsffiniol Iwerddon\-Cymru.  > “Dyma enghraifft berffaith o’r math o synergedd sy’n bosib pan fydd sefydliadau trydydd lefel a busnesau yn cydweithio’n agos ac yn datblygu atebion arloesol a chynaliadwy i ateb heriau ynni’r dyfodol. Hoffwn gydnabod a chanmol ymdrechion pawb fu’n cymryd rhan, o Goleg Brifysgol Cork, Prifysgol Abertawe, a chonsortiwm o fusnesau ac arweinwyr yn y sector ynni adnewyddadwy.”
Funded by the EU’s Ireland\-Wales co\-operation programme, the Selkie project will bring together leading researchers and businesses from both nations to create technologies to help improve the performance of ocean energy devices being developed by Irish and Welsh businesses. University College Cork will lead the project in partnership with Swansea University, Pembrokeshire Coastal Forum, Anglesey social enterprise Menter Môn, DP Energy Ireland and Dublin\-based Gavin and Doherty Geosolutions. As part of the project, the tools created will be trialled on wave and tidal devices to determine levels of reliability and commercial potential.  The project will also establish a cross\-border network of ocean energy developers and supply chain businesses, while supporting research and development programmes involving academics and industry from both nations. Over the next three years, 150 Irish and Welsh businesses will benefit from the project. Dr Gordon Dalton, senior researcher at the Centre for Marine and Renewable Energy Ireland (MaREI), said: > “University College Cork hosts the world class MaREI research centre, which has over 30 years’ experience in the field of marine and renewable energy. We’re delighted to be coordinating the Selkie project, using our facilities and skills to lead the physical testing of prototype devices.  > > > There are no test tanks of this type in Wales, so this development in the Irish Sea will be a valuable resource. We’re looking forward to collaborating with Welsh device developers to pool expertise and address the challenges facing the marine energy industry.” Backed by €80m of EU funds, the Ireland\-Wales programme is supporting businesses and organisations across both nations to work together in areas including climate change, innovation, cultural heritage and tourism. The programme is one of a family of European Territorial Co\-operation programmes which provide opportunities for regions in the EU to work together to address shared economic, environmental and social challenges.   Jeremy Miles, who is responsible for the delivery of EU funding within Wales, said:  > “Bringing together expertise from Wales and Ireland is vital if we’re going to meet the shared challenges and opportunities from our Irish Sea border including the potential to generate clean energy. > > > “Our relationship with Ireland is very important, so I’m delighted to see our two nations working together on such an important global priority.” Minister for Finance and Public Expenditure and Reform, Paschal Donohoe T.D., who has overall policy responsibility for EU Structural Funds in Ireland said: “I am very pleased to welcome a further project under the Ireland\-Wales cross\-border programme.  > “It is a perfect example of the type of synergies that can be leveraged by third level institutions and businesses working in close co\-operation and developing innovative and sustainable solutions to meet the energy challenges of the future. I would like to acknowledge and commend the efforts of all involved from University College Cork, Swansea University, and a consortium of businesses and leaders in the renewable energy sector.”
Translate the text from Welsh to English.
Ar 20 Mehefin 2017, gwnaeth y Carl Sargeant, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gymunedau a Phlant Ddatganiad Llafar yn y Siambr ar: Diogelwch tân yng Nghymru \- y camau sy’n cael eu cymryd yn dilyn y tân yn Nhŵr Grenfell (dolen allanol).
On 20 June 2017, Carl Sargeant, Cabinet Secretary for Communities and Children made an Oral Statement in the Siambr on: Fire Safety in Wales \- Steps being taken following the Grenfell Tower fire (external link).
Translate the text from Welsh to English.
Mae grant UPFSM wedi'i ddefnyddio i roi datblygiadau technolegol ar waith yn y ceginau gan gynnwys poptai rhaglenadwy o’r radd flaenaf a phaneli solar mewn tair ysgol gynradd. Mae Tîm Arlwyo Addysg Conwy hefyd wedi bod yn blaenoriaethu gweini cynhwysion lleol i sicrhau bod dysgwyr yn bwyta prydau maethlon o safon. Dywedodd Dafydd Aled Williams, Rheolwr Gwasanaethau Iechyd a Lles Addysg Conwy: > "Rwy'n falch iawn o'r hyn mae Arlwyo Addysg Conwy wedi ei gyflawni gyda'r grant UPFSM. Rydym wedi uwchraddio ceginau i gynyddu'r capasiti coginio. Rydym wedi cael gwared o’r holl ffrïwyr saim dwfn, gosod poptai cyfunol rhaglenadwy, a disodli offer coginio nwy gyda rhai trydan fel y gallwn fanteisio ar ynni adnewyddadwy.” Mae’r gwelliannau i offer cegin wedi gwneud gwahaniaeth nodedig i ysgolion yng Nghonwy. Eglurodd Sarah Mugglestone, Cogydd Goruchwyliol yn Ysgol Ffordd Dyffryn, Llandudno, sut y bu i’w hysgol gynnal gwaith adnewyddu llawn yn y gegin yn ystod gwyliau ysgol haf 2023, diolch i gyllid a oedd ar gael gan Lywodraeth Cymru fel rhan o’r rhaglen: > “Mae’r gwaith adnewyddu wedi cael effaith bositif iawn ar sut mae’r gegin brysur hon yn gweithio, wrth fwydo dros 145 o blant y dydd mewn cegin gydag offer newydd. Mae’n galluogi i brydau gael eu coginio’n llawer cyflymach ac iachach, oherwydd i ni gyflwyno ffrio ag aer yn hytrach na ffrïo saim dwfn, sydd yn ei dro wedi gwella effeithlonrwydd yn y gegin.” I ddechrau, ni welodd cegin Ysgol Ffordd Dyffryn fawr o newid yn niferoedd y dysgwyr oedd yn derbyn cinio ysgol. Ond yn raddol, wrth i'r plant gael eu hannog i roi cynnig ar brydau poeth maethlon, newidiodd hyn gan arwain at weini y rhan fwyaf o'r ysgol. Ychwanegodd Ms Mugglestone: > “Mae hyn wedi bod yn ganlyniad cadarnhaol iawn i’r ysgol a’r gegin gyda’r mwyafrif o blant yn ceisio ac yn mwynhau bwydydd newydd, hyd yn oed os oes angen ychydig o anogaeth ar rai o bryd i’w gilydd i roi cynnig arnynt.” Wrth siarad am y newid ehangach yn yr awdurdod lleol, esboniodd Dafydd Aled Williams fod cyllid UPFSM wedi golygu eu bod yn gallu cynnwys mwy o fwyd o ffynonellau lleol ar fwydlenni ysgolion cynradd yng Nghonwy; bwyd sydd wedi’i ddadansoddi o ran maeth a’i ddilysu gan Bwyd Mewn Ysgolion CLlLC fel un sy’n cydymffurfio â gofynion Rheoliadau Bwyta'n Iach mewn Ysgolion Cymru a hynny gyda gwobr aur. Ym mis Medi 2022, dechreuodd Cymru ar y rhaglen Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd (UPFSM). Bydd Prydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd yn cael ei gyflwyno i bob plentyn ysgol gynradd a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin ar draws holl awdurdodau lleol Cymru erbyn mis Medi eleni. Ledled Cymru, mae 19 awdurdod lleol – gan gynnwys Cyngor Conwy – wedi cwblhau hyn, gan ddarparu prydau ysgol am ddim i bob disgybl o’r dosbarth derbyn i flwyddyn 6\. Bydd gweddill yr awdurdodau lleol yn cwblhau’r broses gyflwyno erbyn mis Medi 2024\. I gael rhagor o wybodaeth am Brydau Ysgol am ddim i holl blant Ysgolion Cynradd, ac i wirio a ydych yn gymwys i hawlio cymorth gyda hanfodion ysgol, ewch i www.llyw.cymru/hawliwch\-help\-gyda\-chostau\-ysgol.
A UPFSM grant has been used to implement technological advancements in the kitchens including state\-of\-the\-art programmable ovens and solar panels in three primary schools. The Conwy Education Catering Team has also been prioritising serving up locally sourced ingredients to ensure learners are eating quality and nutritious meals. Dafydd Aled Williams, Health and Wellbeing Services Manager, Education Conwy Council, said:  > "I am really proud of the achievements made by Conwy Education Catering with the UPFSM grant. We have upgraded kitchens to increase cooking capacity. We have removed all the deep\-fat fryers, installed programmable combination ovens, and replaced gas cooking equipment with electric so that we can take advantage of renewable energy.” Improvements to kitchen equipment have made a notable difference to schools in Conwy. Sarah Mugglestone, Cook in Charge at Ysgol Ffordd Dyffryn in Llandudno, explained how her school undertook a full kitchen refurbishment during the 2023 summer school holidays, thanks to funding made available from the Welsh Government as part of the programme:  > “The refurbishment has made a very positive impact on how this busy kitchen functions, feeding more than 145 children per day in a kitchen with new equipment, enables meals to be cooked much quicker and healthier, due to the introduction of air frying and not deep fat frying, which in turn has improved efficiency in the kitchen.” Initially, the kitchen at Ysgol Ffordd Dyffryn didn't see much change in the numbers of learners having school dinners. Gradually, however, as children were encouraged to try a nutritious hot meal, this changed and resulted in the majority of the school being catered for. Ms Mugglestone added: > “This has proved to be a very positive outcome for both the school and kitchen with the majority of children trying and enjoying new foods, even if some need a little encouragement every now and again to try them.” Speaking about the wider change in the local authority, Dafydd Aled Williams explained that the UPFSM funding has meant they can feature more locally sourced food on primary school menus in Conwy, which has been nutritionally analysed and verified by WLGA Food in Schools as compliant with the Healthy Eating in School Regulations Wales with a gold award. In September 2022, Wales began the Universal Primary Free School Meals (UPFSM) programme. Universal Primary Free School Meals will be rolled out to all primary school children and more than 6,000 nursery aged pupils across all local authorities in Wales by September this year. Across Wales, 19 local authorities – including Conwy Council \- have completed their rollout, providing free school meals to all pupils from reception to year 6\. The remaining local authorities will complete rollout by September 2024\. For more information about Universal Primary Free School Meals, and to check your eligibility for help with school essentials, head to www.gov.wales/get\-help\-school\-costs. 
Translate the text from Welsh to English.
Ar 13 Mehefin, rhannodd fy rhagflaenydd yr wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau’r Cynulliad am y trefniadau ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch yn y dyfodol yng Nghymru. Mae’r datganiad hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y rhaglen ehangach i ddiwygio TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru. A Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru, rydym eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno pedwar TGAU newydd i’w haddysgu am y tro cyntaf ym Medi 2015 – Cymraeg Iaith Gyntaf, Saesneg Iaith, rhifedd a thechnegau mathemateg. Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r cymwysterau newydd hyn ac, yn ystod yr hydref, byddwn yn ymgynghori ar egwyddorion cynllunio drafft ar eu cyfer yn ogystal ag ar deitlau’r ddau TGAU mathemateg newydd. Bydd ein strategaeth gyfathrebu ledled y DU yn hyrwyddo’r cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru, yn eu hesbonio ac yn ennyn hyder ynddynt. Bydd hefyd yn sicrhau bod y grwpiau perthnasol yn eu deall ac yn cydnabod eu bod o safon sy’n gyfwerth â’r gorau yn y byd. Yn ogystal â’n hymrwymiadau presennol o ran TGAU ar gyfer Medi 2015, mae’n debygol y byddwn hefyd yn cyflwyno cymwysterau TGAU diwygiedig ar gyfer Cymraeg Llenyddiaeth a Saesneg Llenyddiaeth yr adeg honno. Yn unol ag argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau, bydd i’r cymwysterau TGAU newydd, lle bo’n briodol, fodiwlau a haenau ac efallai elfennau o asesu dan reolaeth. Er bod y pynciau hyn yn cael blaenoriaeth ar hyn o bryd, nid ydym am ddiystyru’r posibilrwydd y gallem ddiwygio cymwysterau TGAU eraill i’w haddysgu am y tro cyntaf ym Medi 2015\. Yn benodol, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried pa mor briodol yw’r cymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar hyn o bryd – gan edrych yn arbennig ar addasrwydd y manylebau mwy galwedigaethol.   Mae’n bwysig bod y newidiadau i’n cymwysterau yn cael eu gweithredu’n raddol mewn ffordd y gallwn ei rheoli. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn nhymor yr hydref am y rhaglen i gyflwyno cymwysterau TGAU wedi’u diwygio yn y pynciau eraill yn 2016 a 2017\. Bydd y rhaglen hon yn datblygu ar sail yr adolygiad parhaus o drefniadau asesu a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.   Mewn perthynas â chymwysterau Safon Uwch, mae fy rhagflaenydd eisoes wedi cyhoeddi ein hymrwymiad i ddiddymu asesiadau Ionawr ar ôl Ionawr 2014, gan gadw UG a Safon Uwch yn gymwysterau cysylltiedig a chan gyfyngu’r cyfleoedd i ailsefyll arholiad i un fesul modiwl. Ar hyn o bryd rydym wrthi’n gweithio ar fanylion y penderfyniadau hyn ac yn ymchwilio i’r graddau y gallai Llywodraeth Cymru gytuno ar rai o’r manylion ynghylch y cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig gyda’u swyddogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys pwysoliad cymharol elfennau UG ac A2 y cymwysterau lefel A diwygiedig. Dros y misoedd diwethaf, bu CBAC a chyrff dyfarnu eraill yn ymgynghori â Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr, ac â rhanddeiliaid eraill, ynghylch newidiadau posibl i gynnwys cymwysterau Safon Uwch diwygiedig yn Lloegr. Roedd yr Adolygiad o Gymwysterau yn argymell y dylem ‘gadw’r un Safonau Uwch â Lloegr a Gogledd Iwerddon lle’n bosibl’. Yng ngoleuni hyn, rydym o’r farn ar hyn o bryd y dylai’r cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig, os yw’n briodol, rannu’r un cynnwys ag sydd yn Lloegr (a Gogledd Iwerddon o bosibl). Rydym hefyd yn ystyried ei bod yn briodol cyflwyno cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig, i’r graddau posibl, ar yr un pryd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fel gyda TGAU, bydd mwy o wybodaeth ar y rhaglen i ddiwygio cymwysterau UG a Safon Uwch ar gael yn ystod tymor yr hydref. Mae hon yn adeg gyffrous o ran cymwysterau yng Nghymru ac aeth fy rhagflaenydd ati i ddechrau proses ddiwygio lle bydd Cymru yn datblygu ei system gymwysterau ei hun – sydd wedi’i chynllunio, mewn ymgynghoriad â’n partneriaid, i ddiwallu anghenion Cymru. Rwy’n gwbl ymroddedig i ddatblygu’r agenda hon ond rwy’n ymwybodol iawn bod rhaglen ddiwygio o’r fath yn dod â’i heriau yn ogystal â’i chyfleoedd. Ond drwy gydweithio, rwy’n argyhoeddedig y gallwn oresgyn yr heriau a chydio yn y cyfle hanesyddol hwn i weithredu dros bobl ifanc Cymru.
  On 13 June, my predecessor updated Assembly Members on future arrangements for AS and A levels in Wales. This statement provides further information on the wider reform programme for GCSEs, AS and A levels in Wales. Following the Welsh Government’s acceptance of the recommendations of the Review of Qualifications for 14 to 19\-year\-olds in Wales, we are already committed to introducing four new GCSEs for first teaching from September 2015\. These will be in English Language, Welsh First language, numeracy and mathematics techniques. We are presently working with stakeholders to develop these new qualifications and, during the autumn, we will consult on draft design principles for these new GCSEs as well as on the titles of the two new mathematics GCSEs. Our UK\-wide communications strategy will promote, explain and build confidence in the qualifications that are available in Wales and will make sure that they are understood and recognised as being of a standard that is comparable with the best in the world. In addition to our existing commitments on GCSEs for September 2015, it is likely that we will also be introducing revised GCSEs for English Literature and Welsh Literature at that time. In line with the recommendations of the Review of Qualifications, new GCSEs will, where appropriate, be modular and tiered and may include elements of controlled assessment. Whilst these subjects are currently being prioritised, we do not wish, at this stage, to rule out the possibility that some other GCSEs might be revised for first teaching from September 2015\.  In particular, I have asked officials to consider the appropriateness of the current science GCSE suite – with a particular focus on the suitability of the more vocationally orientated specifications.   It is important that changes to our qualifications are implemented in a phased and manageable way.  Further information on the programme for the introduction of revised GCSEs in other subjects from 2016 to 2017 will be shared during the autumn term.  This programme will need to be informed by the on\-going Review of assessment and the National Curriculum in Wales.   In relation to A levels, my predecessor has already announced our commitment to abolishing January assessments after January 2014, keeping AS and A levels as coupled qualifications and limiting re\-sits to one per module. We are currently working on the details of these decisions and exploring the extent to which the Welsh Government might be able to agree on some of the detail relating to the revised AS and A levels with colleagues in Northern Ireland. This includes the relative weighting of the AS and A2 components of reformed A levels. Over recent months, WJEC and other awarding organisations have been consulting with Higher Education Institutions in Wales and England, and other stakeholders, on possible changes to the content of reformed A levels in England. The Review of Qualifications recommended that we should ‘maintain the same A levels as England and Northern Ireland where possible’. In light of this we are currently of the view that revised AS and A levels should, if appropriate, share the same content as those in England (and possibly Northern Ireland). We also consider that it would be appropriate for revised AS and A levels to be introduced, as far as possible, at the same time across England, Wales and Northern Ireland. As for GCSEs, further information on the AS and A level reform programme will be made available during the autumn term. These are exciting times for qualifications in Wales and my predecessor set in train a reform programme that will see Wales develop its own qualifications system – designed, in consultation with our partners, to meet the needs of Wales. I am fully committed to taking forward this agenda but am very aware that such a reform programme brings with it challenges as well as opportunities. Working together, however, I am convinced that we can overcome the challenges and grasp this historic opportunity to deliver for the young people of Wales.
Translate the text from Welsh to English.
Mae clefydau fasgwlaidd yn cynnwys unrhyw gyflwr sy’n effeithio ar y rhwydwaith o bibellau gwaed sy’n cael eu hadnabod fel y system fasgwlaidd neu gylchrediad y gwaed. Prif nod y gwasanaethau fasgwlaidd yw ailadeiladu, datgloi, neu ddargyfeirio’r rhydwelïau er mwyn adfer llif y gwaed i organau. Yn aml bydd y rhain yn driniaethau untro, gan mwyaf i leihau’r risg o farwolaeth sydyn neu i atal strôc, neu leihau’r risg o orfod colli aelod o’r corff neu i wella sut mae’n gweithio. Mae gwasanaethau fasgwlaidd hefyd yn rhoi cymorth i gleifion sydd â phroblemau eraill megis clefyd yr arennau. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro, a Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu gwasanaethau fasgwlaidd ar y cyd yn y De\-ddwyrain, gan gynnwys ar gyfer cleifion o Bowys. Bydd angen triniaeth fasgwlaidd ar oddeutu 1,250 o gleifion bob blwyddyn ar draws y De\-ddwyrain, ac felly mae hwn yn wasanaeth pwysig. Mae gwasanaethau fasgwlaidd yn y De\-ddwyrain wedi bod yn wynebu nifer cynyddol o heriau ers llawer o flynyddoedd, gan gynnwys y ffaith bod canran y boblogaeth sy’n heneiddio yn cynyddu o hyd a bod y galw am wasanaethau’n tyfu. Roedd gwasanaethau yn eu fformat presennol, lle mae’r holl ofal yn cael ei ddarparu ar draws tri bwrdd iechyd ar wahân, yn mynd yn fwyfwy anghynaliadwy. Ers blynyddoedd, bu llawer o drafod am y modd y mae gwasanaethau fasgwlaidd yn cael eu trefnu, gan edrych ar wahanol opsiynau, a chyflwyno cyfres o argymhellion fel rhan o’r achos o blaid newid. Mae llawdriniaeth fasgwlaidd yn mynd yn fwyfwy arbenigol, ac mae’r dystiolaeth yn dangos bod cleifion yn cael gwell ganlyniadau os ydynt yn cael eu triniaeth mewn canolfannau arbenigol mwy o faint. Mae’r Colegau Llawdriniaeth Brenhinol a Chymdeithas Fasgwlaidd Prydain ac Iwerddon yn cefnogi’r farn nad yw’n ddymunol bellach i ddarparu llawdriniaeth fasgwlaidd frys neu argyfwng y tu allan i wasanaeth sydd wedi ei ganoli’n llawn neu rwydwaith clinigol ffurfiol sydd ag un ganolfan rhydwelïol ddynodedig sy’n darparu gwasanaeth 24 awr ar y safle. Ar ôl cwblhau gwaith helaeth, mae’r byrddau iechyd wedi cytuno i sefydlu gwasanaeth fasgwlaidd rhanbarthol a fydd yn weithredol o 18 Gorffennaf 2022\.  Ar ôl sefydlu Rhwydwaith Fasgwlaidd De\-ddwyrain Cymru ac ailgynllunio gwasanaethau fasgwlaidd y De\-ddwyrain, bydd pob llawdriniaeth rydwelïol yn cael ei gwneud mewn Prif Ganolfan Rydwelïol newydd, sydd wedi ei lleoli yn Ysbyty Athrofaol Cymru yng Nghaerdydd. Bydd y rhan fwyaf o’r gofal yn cael ei ddarparu’n nes i gartrefi pobl, mewn canolfannau lleol llai o faint nad ydynt yn ganolfannau rydwelïol, yn Aneurin Bevan a Chwm Taf Morgannwg. Bydd y canolfannau hyn yn darparu gofal megis asesiadau cyn cael llawdriniaeth, archwiliadau, mân driniaethau, a gofal adfer, a byddant yn gweithio o fewn y model clinigol cytûn sy’n cynnwys nifer o lwybrau llawdriniaeth ac adsefydlu, a manyldeb wasanaeth glir. Ni fydd pa mor gyflym y ceir mynediad at archwiliadau ac asesiadau fasgwlaidd brys yn dibynnu ar ffactorau megis a yw’r claf yn dod i mewn i’r system drwy’r Brif Ganolfan Rydwelïol  neu drwy ganolfan nad yw’n ganolfan rydwelïol. Bydd y Brif Ganolfan Rydwelïol yn trin pob achos fasgwlaidd brys lle mae angen ymyrraeth fasgwlaidd neu endofasgwlaidd, ochr yn ochr â darparu’r holl ofal fasgwlaidd brys ar gyfer cleifion mewnol. Bydd ganddi welyau dynodedig ar gyfer cleifion fasgwlaidd mewn ward sy’n cael ei staffio gan nyrsys sydd â diddordeb mewn llawdriniaeth fasgwlaidd. Caiff ei staffio gan dîm fasgwlaidd sy’n cynnwys llawfeddygon fasgwlaidd, anesthetyddion fasgwlaidd, radiolegwyr fasgwlaidd ymyriadol, nyrsys clinigol arbenigol, ymarferwyr gofal llawfeddygol, podiatryddion, nyrsys hyfywedd meinwe, ffisiotherapyddion, therapyddion galwedigaethol, fferyllwyr, ac aelodau o’r tîm prostheteg. Pan fydd claf yn cychwyn ar ei daith adfer ac adsefydlu, bydd ei ofal yn cael ei ddarparu o ysbyty neu leoliad cymunedol sydd mor agos i’w gartref â phosibl. Mae’r byrddau iechyd wedi bod yn siarad â staff y GIG ar draws y De\-ddwyrain drwy gydol y broses o ddatblygu’r cynlluniau hyn, a byddant yn parhau i ymgynghori â staff yn ystod y cyfnod gweithredu. Bydd lansio Rhwydwaith Fasgwlaidd De\-ddwyrain Cymru yn gwella canlyniadau i gleifion, gan sicrhau hefyd bod gwasanaethau’n gynaliadwy ac yn deg i’r boblogaeth ar draws y De\-ddwyrain. Mae hyn yn ffrwyth gwaith diflino, gan gynnwys gwaith cynllunio, a thrwy weithredu ar y cyd mae’r byrddau iechyd yn hyderus bod ganddynt bellach y model gorau posibl a’r cymorth mwyaf priodol ar gyfer adeiladu gwasanaeth cadarn a fydd yn addas ar gyfer y dyfodol.
Vascular diseases cover any condition that affects the network of the blood vessels known as the vascular or circulatory system. The main aim of vascular services is to reconstruct, unlock or bypass arteries to restore blood flow to organs. These are often one\-off procedures, mainly to reduce the risk of sudden death, prevent stroke, reduce the risk of amputation or improve function. Vascular services also provide support to patients with other problems such as kidney disease. Collectively, Aneurin Bevan University Health Board, Cardiff and Vale University Health Board, and Cwm Taf Morgannwg University Health Board provide vascular services in South East Wales, which includes patients from Powys. With approximately 1,250 patients each year needing a vascular procedure across South East Wales, this is an important service. Vascular services in South East Wales have faced a growing number of challenges for many years, including an increasing ageing population and a growing demand for services. Services in their existing format where all care is provided across three separate health boards were becoming increasingly unsustainable. The configuration of vascular services across the region has been discussed at length for many years, with various options explored, and a series of recommendations were put forward as part of a case for change. Vascular surgery is becoming more specialised and the evidence shows that patients have better outcomes if they receive their treatment at larger specialist centres. The Royal Surgical Colleges and The Vascular Society of Great Britain \& Ireland support the view that it is no longer desirable to provide urgent or emergency vascular surgery outside a fully centralised service or a formalised clinical network with a designated single arterial centre providing a 24/7 on\-site service. Following extensive work the health boards have agreed to establish a regional vascular service which will go live from 18 July 2022\.  Following the establishment of the South East Wales Vascular Network (SEWVN) and redesign of South East Wales vascular services, all arterial surgery will be performed in a new Major Arterial Centre (the hub), located at the University Hospital of Wales in Cardiff. The majority of care will happen closer to people’s homes in local non\-arterial centres (the spokes) in Aneurin Bevan and Cwm Taf Morgannwg and will provide care such as pre\-operative assessments, investigations, minor procedures and recovery care. These centres will work within the agreed clinical model, which includes several surgical and rehabilitation pathways, and a clear service specification. Speed of access to urgent vascular assessment and investigation will not be dependent on whether a patient enters at the Major Arterial Centre or a Non\-Arterial Centre. The Major Arterial Centre will treat all vascular emergencies requiring vascular or endovascular intervention, along with all vascular inpatient urgent care.  It has dedicated vascular inpatient beds in a ward staffed by nurses with an interest in vascular surgery. It will be staffed by a vascular team comprising of vascular surgeons, vascular anaesthetists, vascular interventional radiologists, clinical nurse specialists, surgical care practitioner, podiatrists, tissue viability nurses, physiotherapists, occupational therapists, pharmacists, and members of the prosthetics team. When patients begin their recovery and rehabilitation journey, their care will be provided from a hospital and community setting which is as close to their home as possible. The health boards have been talking to NHS staff across South East Wales throughout the process of developing these plans and will continue to consult with staff during their implementation. The launch of the SEWVN will improve patient outcomes, and ensure that services are sustainable and equitable for the population it serves across South East Wales. A tremendous amount of work and planning has gone into this, and collectively, the health boards are confident they now have the right model with the right support to build a robust service that is fit for the future.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd Dysgu i Dyfu yn gweithio gyda 300 o oedolion sy'n byw gyda chyflyrau iechyd meddwl ac sydd wedi bod heb waith am gyfnod hir, a hynny yn ardaloedd Casnewydd, Sir Fynwy, Caerdydd a Bro Morgannwg.  Bydd y prosiect yn helpu pobl i feithrin sgiliau newydd cysylltiedig â gwaith drwy weithgareddau ymarferol sy’n ymwneud â garddwriaeth, gwaith coed, TGCh a chrefftau. Bydd y prosiect hefyd yn cynnwys rhaglen ddysgu seiliedig ar waith a fydd yn arwain at achredu sgiliau sy'n berthnasol i swyddi.  Y nod yw gwella llesiant meddyliol a chorfforol drwy annog dull cydweithredol o fynd i'r afael â gweithgareddau amgylcheddol a gweithgareddau dysgu, dull sy'n helpu i ysgogi a darparu trefn arferol bwrpasol, yn ogystal â pharatoi unigolion ar gyfer yr amgylchedd gwaith.  Bydd y prosiect yn rhedeg am dair blynedd ac mae'n cael £700,000 o gymorth gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop. Dywedodd Jeremy Miles, sy'n gyfrifol am gyllid yr UE yng Nghymru: > "Mae hi’n anodd i bobl y mae salwch meddwl hirdymor wedi effeithio arnynt gadw swyddi oherwydd diffyg sgiliau bywyd a gwaith, a diffyg hyder. > > > "Bydd Dysgu i Dyfu yn helpu pobl i feithrin sgiliau gwaith go iawn er mwyn iddynt allu cael gwaith ystyrlon a'i gadw. Bydd y prosiect hefyd yn helpu i fagu hyder, hunan\-barch a chymhelliant, sy’n chwarae rhan hanfodol wrth helpu unigolion i fynd yn ôl i'r gwaith. > > > "Mae llawer o fanteision yn deillio o helpu'r bobl sydd bellaf oddi wrth y farchnad lafur: grymuso unigolion, lleihau dibyniaeth ar wasanaethau'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol, herio rhagdybiaethau cymdeithasol sy'n ymwneud ag iechyd meddwl, a mynd i'r afael â thlodi a diweithdra mewn cymunedau difreintiedig." Dywedodd Ken Skates, Gweinidog yr Economi: > "Mae ein Cynllun Cyflogadwyedd yn nodi nifer o fesurau i helpu pobl ledled Cymru i gael gwaith. Rwy'n falch bod cyllid Ewropeaidd yn cael ei fuddsoddi yn y rhaglen Dysgu i Dyfu, a fydd yn hanfodol i helpu unigolion â phroblemau iechyd meddwl i oresgyn rhwystrau a all eu hatal rhag cael gwaith." Bydd y prosiect yn cael ei gynnal gan yr elusen iechyd meddwl, Growing Space.  Dywedodd Bill Upham o Growing Space: > "Mae Growing Space wedi ymrwymo'n llwyr i helpu unigolion sydd wrthi'n gwella, yn ogystal â’u teuluoedd. Bydd y prosiect Dysgu i Dyfu yn helpu pobl i oresgyn y rhwystrau y maent yn eu hwynebu wrth iddynt ymuno â’r gymdeithas eto." Ers 2007, mae prosiectau a ariennir gan yr UE yng Nghymru wedi creu 48,700 o swyddi a 13,400 o fusnesau newydd, gan gynorthwyo 26,900 o fusnesau a helpu 90,000 o bobl i gael gwaith.
Learning to Grow will work with 300 adults living with mental health conditions across Newport, Monmouthshire, Cardiff and the Vale of Glamorgan, who have been long\-term unemployed.  The project will support people to build new work\-related skills through hands\-on horticulture, woodwork, IT and craft activities, and a work\-based learning programme which will lead to accreditation in job\-relevant skills.  The aim is to improve mental and physical well\-being by encouraging a collaborative approach to environmental and learning activities which help to motivate and provide a purposeful daily routine, as well as preparing individuals for the work environment.  The project will run for 3 years, and is being supported by £700,000 from the European Social Fund. Jeremy Miles, who is responsible for EU funding in Wales, said: > “People who have been affected by long term mental ill health can find it difficult to hold down jobs due to lack of work and life skills, and a lack of confidence.  > > > “Learning to Grow will help people build real work skills to secure, and hold down, meaningful work. The project will also help to boost confidence, self\-esteem and motivation, all of which play a vital part in supporting individuals back to work. > > > “Supporting the people who are furthest from the labour market has multiple benefits: empowering individuals, reducing dependence on NHS services, challenging social assumptions around mental health, and tackling poverty and unemployment in deprived communities.” Economy Minister Ken Skates said: > “Our Employability Plan sets out a number of measures to support people across Wales into work. I am pleased European funding is being invested in the Learning to Grow programme, which will be vital in helping individuals with mental health issues to overcome obstacles that may stand in their way to gaining employment.” The project will be delivered by mental health charity Growing Space.  Bill Upham of Growing Space said: > “Growing Space is fully committed to supporting individuals and their families on their journey to recovery. The Learning to Grow Project will help people to overcome the barriers they face in re\-engaging with society.” Since 2007, EU\-funded projects in Wales have created 48,700 jobs and 13,400 new businesses, while assisting 26,900 businesses and helping 90,000 people into employment.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 18 Ionawr 2022, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Y wybodaeth ddiweddaraf am y cynnydd yn dilyn cyhoeddi 'Y Fasnach mewn Caethweision a'r Ymerodraeth Brydeinig: archwiliad o Goffáu yng Nghymru' (dolen allanol).
On 18 January 2022, an oral statement was made in the Senedd: Update on progress following the publication of ‘The Slave Trade and the British Empire: An audit of commemoration in Wales’ (external link).
Translate the text from Welsh to English.
Ar 25 Mehefin 2013, gwnaeth y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Adolygu’r cyllid sydd ar gael i Fusnesau Bach a Chanolig yng Nghymru: Adroddiad cyntaf. Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol). Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org/ Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.   
On 25 June 2013, the Minister for Business, Science and Transport made an Oral Statement in the Siambr on: The Independent Review of the Availability of Funding for SMEs in Wales: First Report. The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website (external link). If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org/ Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page. 
Translate the text from English to Welsh.
I am announcing today further detail about the collection and management arrangements for Welsh devolved taxes from April 2018\. The Tax Collection and Management (Wales) Act 2016 was agreed unanimously by the National Assembly for Wales on 8 March and received Royal Assent in April 2016\. The Act establishes the foundations for our devolved tax regime, including the establishment of the Welsh Revenue Authority (WRA). The powers within the Act provide the WRA with flexibility, as a new tax authority, to draw on the capacity and capability of other bodies by delegating its tax collection and management functions. In June 2015, the Welsh Government announced the WRA would work with HM Revenue and Customs (HMRC) to collect and manage Land Transaction Tax (LTT). HMRC would undertake the transactional and routine compliance functions, and the WRA would undertake complex compliance, avoidance and enforcement work for LTT. The WRA would also undertake most of the collection and management functions for Landfill Disposals Tax (LDT) and would delegate compliance and enforcement to Natural Resources Wales (NRW). It was also announced that further discussions will be held with HMRC in relation to the collection and management function for LTT and with NRW for compliance and enforcement for LDT. In all cases where functions are delegated, the WRA will retain the legal responsibility for them and will continue to hold the legal powers to exercise them. Tax policy and strategy will be set by Welsh Ministers. Since then, we have undertaken a significant amount of work with HMRC to better understand how the current UK Stamp Duty Land Tax (SDLT) and Landfill Tax operate. We have also reviewed carefully the types of systems and operations potentially on offer from both HMRC and NRW, followed by detailed work with both organisations to further clarify how they would be able to provide services to Welsh taxpayers. I would like to take this opportunity to thank HMRC and NRW for their commitment and engagement with the Welsh Government over the last year to ascertain the best way forward for collection and management of devolved taxes. Both bodies have significant relevant expertise and the WRA will continue to work closely with them to build a Welsh tax authority which can meet the needs of Welsh taxpayers. I would also like to thank the Scottish Government and Revenue Scotland, which have provided invaluable advice and support. I confirm today that WRA will undertake all the collection and management functions for LTT (with HMRC providing expertise and knowledge through loans and secondments to develop and enhance the WRA’s LTT compliance expertise). WRA will undertake most of the collection and management functions for LDT and will work with NRW on compliance and enforcement of LDT. We will continue to work closely with HMRC to build on its expertise and experience in tax collection, compliance and enforcement. This arrangement will help to ensure WRA has the capability it needs. I am also pleased to continue working with NRW, which has unique experience and skills specific to landfill and has established relationships with landfill site operators. This is an exciting opportunity for Wales and an important step along the path of devolution. I am confident WRA can deliver a high\-quality service in the collection and management of LTT and LDT. WRA has the opportunity to implement high\-quality tax processes, enhance customer service standards with digital services, which are in line with Welsh needs and priorities and build a platform with the flexibility to manage and collect future taxes if required. We will continue working closely and collaboratively with all our stakeholders at every level. It is vital the WRA is established and operates in the most cost\-effective manner. In November, the Welsh Government published estimates of costs for the establishment and operation of the WRA. At the time, it was estimated the WRA would cost £4\.8m to £6\.3m to establish between 2016\-17 and 2018\-19 and operating costs would be in the region of £2\.8m to £4\.3m annually from 2018\-19\. I expect set up and operating costs to be within the previously published range. In the autumn we will begin the appointment process for the first chair of the WRA. I will be seeking a diverse range of candidates for this key role to reflect the public the WRA will serve. I intend the chair to be in post from early 2017 to enable the authority to recruit a board it feels best represents the interests of the people of Wales.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi mwy o fanylion y trefniadau casglu a rheoli ar gyfer trethi sydd wedi'u datganoli i Gymru o fis Ebrill 2018\. Ar 8 Mawrth, cytunodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn unfrydol ar Ddeddf Casglu a Rheoli Trethi (Cymru) 2016 a chafodd y Ddeddf Gydsyniad Brenhinol ym mis Ebrill 2016\. Mae'r Ddeddf yn gosod sylfeini ein cyfundrefn ar gyfer trethi datganoledig, gan gynnwys sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru. Mae'r pwerau yn y Ddeddf yn rhoi'r hyblygrwydd i Awdurdod Cyllid Cymru, fel awdurdod trethi newydd, i dynnu ar allu cyrff eraill drwy ddirprwyo ei swyddogaethau casglu a rheoli trethi. Ym mis Mehefin 2015, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru y byddai Awdurdod Cyllid Cymru yn cydweithio â Cyllid a Thollau Ei Mawrhydi (CThEM) i gasglu a rheoli'r Dreth Trafodiadau Tir. Byddai CThEM yn ymgymryd â'r swyddogaethau yn ymwneud â thrafodiadau a’r swyddogaethau cydymffurfio rheolaidd, a byddai Awdurdod Cyllid Cymru yn ymgymryd â gwaith cymhleth yn gysylltiedig â chydymffurfio, osgoi trethi a gorfodi mewn perthynas â’r Dreth Trafodiadau Tir. Byddai Awdurdod Cyllid Cymru hefyd yn ymgymryd â'r rhan fwyaf o swyddogaethau casglu a rheoli mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a byddai'n dirprwyo swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi i Cyfoeth Naturiol Cymru. Cyhoeddwyd hefyd y bydd trafodaethau pellach yn cael eu cynnal â CThEM ynglŷn â'r swyddogaethau casglu a rheoli mewn perthynas â’r Dreth Trafodiadau Tir, a chyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Ym mhob achos lle bydd swyddogaethau'n cael eu dirprwyo, bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn cadw'r cyfrifoldeb cyfreithiol amdanynt a bydd yn parhau i ddal y pwerau cyfreithiol i'w harfer. Bydd polisi a strategaeth yn ymwneud â threthi yn cael eu gosod gan Weinidogion Cymru. Ers hynny, rydym wedi gwneud llawer o waith gyda CThEM i ddeall yn well sut mae Treth Dir y Dreth Stamp a Threth Dirlenwi bresennol y DU yn gweithredu. Rydym hefyd wedi adolygu'n ofalus y mathau o systemau a gweithrediadau y gallai CThEM a Cyfoeth Naturiol Cymru eu cynnig, ac rydym wedi gwneud gwaith manwl gyda'r ddau sefydliad i gael mwy o eglurder ynghylch sut y byddent yn gallu darparu gwasanaethau i drethdalwyr Cymru. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i CThEM a Cyfoeth Naturiol Cymru am eu hymrwymiad ac am gadw mewn cysylltiad â Llywodraeth Cymru dros y flwyddyn ddiwethaf i benderfynu ar y ffordd orau ymlaen ar gyfer casglu a rheoli trethi datganoledig. Mae gan y ddau sefydliad dipyn o arbenigedd perthnasol a bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn parhau i weithio'n agos â hwy i adeiladu awdurdod trethi yng Nghymru sy’n gallu diwallu anghenion trethdalwyr Cymru. Hoffwn ddiolch hefyd i Lywodraeth yr Alban a Revenue Scotland sydd wedi rhoi cyngor a chefnogaeth cwbl amhrisiadwy inni. Rwy'n cadarnhau heddiw mai Awdurdod Cyllid Cymru fydd yn ymgymryd â’r holl swyddogaethau casglu mewn perthynas â’r Dreth Trafodiadau Tir (a CThEM fydd yn darparu'r arbenigedd a'r wybodaeth drwy roi benthyg aelodau o staff, a secondiad i eraill, i ddatblygu a gwella arbenigedd Awdurdod Cyllid Cymru o ran materion cydymffurfio â’r Dreth Trafodiadau Tir). Bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn ymgymryd â'r rhan fwyaf o'r swyddogaethau casglu a rheoli mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, a bydd yn gweithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru ar y swyddogaethau cydymffurfio a gorfodi mewn perthynas â’r Dreth Gwarediadau Tirlenwi. Byddwn yn parhau i gydweithio'n agos â CThEM i adeiladu ar arbenigedd a phrofiad y sefydliad hwn mewn casglu trethi, cydymffurfio a gorfodi. Bydd y trefniant hwn yn helpu i sicrhau bod gan Awdurdod Cyllid Cymru y gallu sydd arno ei angen fel corff i ymgymryd â'r gwaith. Rwyf hefyd yn falch o gael parhau i weithio gyda Cyfoeth Naturiol Cymru sydd â phrofiad unigryw a sgiliau penodol i dirlenwi ac maent wedi meithrin perthynas â gweithredwyr safleoedd tirlenwi. Mae hwn yn gyfle cyffrous i Gymru ac mae'n gam pwysig ar hyd y llwybr i ddatganoli. Rwy'n hyderus y gall Awdurdod Cyllid Cymru ddarparu gwasanaeth o ansawdd uchel ar gyfer casglu a rheoli'r Dreth Trafodiadau Tir a'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi, ill dwy. Mae gan Awdurdod Cyllid Cymru gyfle i roi prosesau treth o ansawdd uchel ar waith. Gall wella safonau gwasanaethau i gwsmeriaid drwy gynnig gwasanaethau digidol sy'n gyson ag anghenion a blaenoriaethau Cymru, a datblygu platfform sy'n ddigon hyblyg i reoli a chasglu trethi y dyfodol os oes angen. Byddwn yn parhau i weithio'n agos gyda'n rhanddeiliaid ar bob lefel. Mae'n hanfodol bod Awdurdod Cyllid Cymru yn cael ei sefydlu ac yn gweithredu yn y modd mwyaf cost\-effeithiol. Ym mis Tachwedd, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru amcangyfrifon o gostau sefydlu a gweithredu Awdurdod Cyllid Cymru. Ar y pryd, amcangyfrifwyd y byddai’n costio £4\.8m i £6\.3m i sefydlu Awdurdod Cyllid Cymru rhwng 2016 a 2017 a 2018 a 2019 a byddai'r costau gweithredu tua £2\.8m i £4\.3m yn flynyddol, o 2018\-19 ymlaen. Rwy’n disgwyl i'r costau sefydlu a gweithredu fod yn gyson â’r amrediad a gyhoeddwyd eisoes. Byddwn yn dechrau ar y broses ar gyfer penodi cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru yn yr hydref. Byddaf yn chwilio am amrywiaeth eang o ymgeiswyr ar gyfer y rôl allweddol hon i adlewyrchu'r bobl y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn eu gwasanaethu. Rwy'n disgwyl i'r cadeirydd fod yn ei swydd erbyn dechrau 2017 er mwyn iddo neu iddi allu recriwtio aelodau i'r bwrdd a fydd yn gallu cynrychioli buddiannau pobl Cymru orau.
Translate the text from English to Welsh.
The creative industries have been one of the fastest growing parts of the Welsh economy for a number of years. The sector doesn’t just create jobs and wealth, it contributes to a strong national brand and helps to promote Wales and its culture and talent to the world. With an annual turnover of more than £2\.2 billion, and employing more than 56,000 people in Wales, growing and supporting the sector is a key priority for Welsh Government. In January, I launched Creative Wales as an internal Welsh Government agency to champion the creative industries in Wales, specifically film and TV; digital; music and publishing sectors. However, the creative industries have been hit hard by the COVID\-19 pandemic.  Throughout this period, Creative Wales has worked hard with our stakeholders to understand the impact, and to respond rapidly.  We have supported 72 businesses with £1\.32m from Culture, Sport and Tourism budgets and to date, approved 244 Economic Resilience Fund grants to creative businesses totalling circa £3\.4m and supporting close to 1,600 jobs in the sector. We have worked with partners to consider how best to support freelancers, who make up a large proportion of the creative industries in Wales and are facing significant challenges.  We are exploring options to support training for these freelancers in discussion with BECTU.  We have liaised with public service broadcasters in Wales on our Emergency TV Development Fund, which has supported 21 new projects, to develop new ideas and support a co\-ordinated approach to recovery. These actions will help the industry emerge from this crisis in as strong a position as possible. In April, we awarded an additional £150,000 to the Books Council of Wales to help respond to the needs of the publishing industry in the face of the COVID\-19 crisis.  This funding is helping independent high street book shops and publishers sustain their business over the coming months and will provide short\-term support to books and magazine publishers which have experienced a significant drop in sales and are not eligible for other sources of emergency funding.  As we continue to ease the coronavirus restrictions in Wales, our work with stakeholders has moved to a focus on recovery. Last week, Creative Wales published guidance to offer further clarity on the current regulations in Wales and how they affect the creative industries. The guidance recognises that as part of a phased approach to recovery, different parts of the creative industries are at different stages, and some sub\-sectors will take longer to resume than others. Our guidance reflects this and signposts to resources designed to support a safe return to work, in line with these timescales. This is a live document, which will be updated on a regular basis, in line with the Welsh Government’s 21\-day review cycle of the regulations and industry developments. For years the screen industry has been a particular success story. Film and TV companies spent around £55m in Wales in 2018, supporting local businesses, contributing to tourism and raising the profile of Wales across the world. High profile productions such as *Brave New World* (NBCUniversal), *Doctor Who* (BBC), *His Dark Materials* (Bad Wolf) and *Sex Education* (Netflix) have cemented Wales’ international reputation as a centre of excellence. Successful productions such as *Hinterland, Keeping Faith* and *Hidden* have been ingrained with our strong cultural identity.   Wales is open for filming, in line with the current coronavirus regulations and guidance. Our creative industries guidance is designed to support this. We will soon to welcome productions, including the third series of popular Netflix drama *Sex Education* andthe third series of *A Discovery of Witches* currently preparing to resume filming in the coming months. Wales Screen, the Creative Wales service providing practical and logistical support to productions filming in Wales, has seen an increase in enquiries in recent weeks. This demonstrates there is renewed hope that the industry will get back on its feet again. Creative digital businesses in Wales are busy producing world class content and experiences and have continued to do so during the pandemic. Fictioneers, a consortium including Tiny Rebel Games, Sugar Creative and University of South Wales are building ‘The Big Fix Up – a new Wallace and Gromit augmented reality (AR) experience’; Wales Interactive has recently launched ‘The Complex’ – an interactive game, on all major platforms. Many of these businesses have successfully applied for Emergency Digital Development Fund support, and many others are actively engaged with the Clwstwr R\&D programme, match funded by the Welsh Government, delivering over £10m of focussed activity supporting the sector in Wales. I know the creative services sector, including advertising, marketing and digital agencies, is undertaking detailed planning for returning to work, and we are keen to support it in the coming months. We have provided more than £400K of assistance to 22 grassroots music businesses in Wales. The music industry recognises it is likely to be one of the very last sectors able to return to any form of “normal” activity and is working closely with us and theMusic Venue Trust on an initiative called REVS to explore options for allowing safe reopening of venues in the future. During the pandemic, the sector has embraced technology and innovation, which has enabled it to continue to provide a wide variety of performances. Last Friday for example saw PYST /AM, host a live theatre production by Fran Wen from North Wales with more than 30 young people taking part, while Saturday saw the Tafwyl festival viewed live on the platform by 6,500\-plus people at the same time as two live National Theatre of Wales productions. I am confident Wales can once again prosper as the place for creativity, turning imagination into industry, and deliver our ambitions for the creative industries in Wales.
Y diwydiannau creadigol yw un o feysydd yr economi yng Nghymru sy’n tyfu gyflymaf ers sawl blwyddyn.  Mae’r sector yn gwneud mwy na creu swyddi a chyfoeth, mae’n cyfrannu at y brand cenedlaethol ac yn helpu i hyrwyddo Cymru a’i diwylliant a’i doniau i’r byd. Gyda throsiant blynyddol o dros £2\.2 biliwn, ac yn cyflogi dros 56,000 o bobl yng Nghymru, mae datblygu a chefnogi’r sector yn flaenoriaeth allweddol i Lywodraeth Cymru.  Ym mis Ionawr, lansiwyd Cymru Greadigol gennyf fel asiantaeth fewnol Llywodraeth Cymru i hyrwyddo y diwydiannau creadigol yng Nghymru, yn benodol y sectorau ffilm a theledu; digidol; cerddoriaeth a’r sectorau cyhoeddi.   Fodd bynnag, mae’r diwydiannau creadigol wedi dioddef llawer o COVID\-19\.  Drwy gydol y cyfnod hwn, mae Cymru Greadigol wedi gweithio’n galed gyda’n rhanddeiliaid i ddeall effaith y pandemig, ac i ymateb yn gyflym.  Rydym wedi cefnogi 72 o fusnesau gyda £1\.32 miliwn o gyllidebau Diwylliant, Chwaraeon a Thwristiaeth, a hyd yma wedi cymeradwyo 244 o grantiau y Gronfa Cadernid Economaidd i fusnesau creadigol gyda cyfanswm o oddeutu £3\.4 miliwn, ac wedi cefnogi bron 1,600 o swyddi yn y sector.  Rydym wedi gweithio gyda partneriaid i ystyried y ffordd orau o gefnogi gweithwyr llawrydd, sy’n rhan sylweddol o’r diwydiannau creadigol yng Nghymru ac sy’n wynebu heriau sylweddol.  Rydym yn edrych ar opsiynau i gefnogi hyfforddiant i’r gweithwyr llawrydd hyn wrth drafod gyda BECTU.  Rydym wedi cysylltu gyda darlledwyr gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru ar ein Cronfa Datblygu Teledu Brys, sydd wedi cefnogi 21 o brosiectau newydd, i ddatblygu syniadau newydd a chefnogi adferiad cydlynol.  Bydd y camau hyn yn helpu’r diwydiant ddod allan o’r argyfwng hwn mewn sefyllfa sydd mor gryf â phosibl.  Ym mis Ebrill dyfarnwyd £150,000 yn ychwanegol i Gyngor Llyfrau Cymru i helpu i ymateb i anghenion y diwydiant cyhoeddi wrth wynebu argyfwng COVID\-19\.  Mae’r cyllid hwn yn helpu siopau llyfrau annibynnol y stryd fawr a chyhoeddwyr i gynnal eu busnesau dros y misoedd nesaf a bydd yn cynnig cymorth tymor byr i gyhoeddwyr llyfrau a chylchgronau sydd wedi gweld gostyngiad sylweddol mewn gwerthiant ac nad ydynt yn gymwys am  ffynonellau eraill o gyllid argyfwng.  Wrth inni barhau i lacio’r cyfyngiadau coronafeirws yng Nghymru, mae ein gwaith gyda rhanddeiliaid wedi symud i ganolbwyntio ar adfer. Yr wythnos ddiwethaf, cyhoeddodd Cymru Greadigol ganllawiau i gynnig rhagor o eglurder ar y rheoliadau cyfredol yng Nghymru a sut y maent yn cael effaith ar y diwydiannau creadigol.  Mae'r canllawiau'n cydnabod, fel rhan o ddull graddol o wella, bod rhannau gwahanol o'r diwydiannau creadigol ar wahanol gamau, a bydd rhai is\-sectorau'n cymryd mwy o amser i ailddechrau nag eraill.  Mae ein canllawiau yn adlewyrchu hyn ac yn cyfeirio at adnoddau sydd wedi’u cynllunio i gynorthwyo gyda dychwelyd i’r gwaith yn ddiogel, yn unol â'r amserlenni hyn. Mae hon yn ddogfen fyw, fydd yn cael ei diweddaru yn rheolaidd, yn unol â chylch adolygu 21 niwrnod Llywodraeth Cymru o’r rheoliadau a datblygiadau o fewn y diwydiant.  Bu’r diwydiant sgrîn yn llwyddiannus iawn ers blynyddoedd.  Bu i’r diwydiant sgrîn wario oddeutu £55 miliwn yng Nghymru yn 2018, gan gefnogi busnesau lleol, cyfrannu at dwristiaeth a chodi proffil Cymru ledled y byd.  Mae cynyrchiadau proffil uchel megis *Brave New World* (NBCUniversal), *Doctor Who* (BBC), *His Dark Materials* (Bad Wolf) a *Sex Education* (Netflix) wedi cadarnhau enw da Cymru yn rhyngwladol fel canolfan ragoriaeth. Mae cynyrchiadau llwyddiannus megis *Y Gwyll, Un Bore Mercher* a *Craith* wedi cynnwys ein hunaniaeth ddiwylliannol gref.  Mae Cymru ar agor ar gyfer ffilmio, yn unol â'r rheoliadau a chanllawiau cyfredol coronafeirws. Mae ein canllawiau ar gyfer y diwydiannau creadigol wedi'u cynllunio i gefnogi hyn. Byddwn cyn bo hir yn croesawu cynyrchiadau gan gynnwys y drydedd gyfres o’r ddrama boblogaidd ar Netflix, *Sex Education* a thrydedd cyfres *A Discovery of Witches* sydd ar hyn o bryd yn paratoi i ail\-ddechrau ffilmio yn y misoedd nesaf. Mae Sgrîn Cymru, y gwasanaeth gan Cymru Greadigol sy’n cynnig cymorth ymarferol a logisteg i gynyrchiadau sy’n ffilmio yng Nghymru, wedi gweld cynnydd mewn ymholiadau yn yr wythnosau diwethaf.  Mae hyn yn dangos bod gobaith newydd y bydd y diwydiant yn gallu dod yn ôl ar ei draed unwaith eto.  Mae busnesau digidol creadigol yng Nghymru yn brysur yn cynhyrchu cynnwys o safon byd\-eang ac wedi parhau i wneud hynny yn ystod y pandemig.  Mae Fictioneers, consortiwm sy’n cynnwys Tiny Rebel Games, Sugar Creative a Prifysgol De Cymru yn adeiladu ‘The Big Fix Up – profiad realaeth ychwanegol (AR) newydd Wallace and Gromit’; mae Cymru Ryngweithiol wedi lansio ‘The Complex’ – gêm rhyngweithiol ar y platfformau mawr i gyd.  Mae nifer o’r busnesau hyn wedi defnyddio cymorth y Gronfa Datblygu Digidol Brys yn llwyddiannus, a nifer o rai eraill yn rhan o raglen Ymchwil a Datblygu Clwstwr, gydag arian cyfatebol gan Lywodraeth Cymru, sy’n darparu dros £10 miliwn o gymorth ar gyfer gweithgarwch benodol i gefnogi’r sector yng Nghymru.  Rwy’n gwybod bod y sector gwasanaethau creadigol, gan gynnwys hysbysebu, marchnata ac asiantaethau digidol, yn cynllunio yn fanwl ar gyfer dychwelyd i’r gwaith, ac rydym yn awyddus i’w cefnogi yn y misoedd nesaf.     Rydym wedi darparu mwy na £400 mil o gymorth i 22 o fusnesau cerddoriaeth ar lawr gwlad yng Nghymru.  Mae’r diwydiant cerddoriaeth yn cydnabod ei fod yn debygol y bydd yn un o’r sectorau diwethaf i allu dychwelyd i unrhyw fath o weithgarwch “arferol” ac mae’n cydweithio’n agos gyda ni ac Ymddiriedolaeth Lleoliadau Cerddorol ar fenter o’r enw REVS i edrych ar opsiynau ar gyfer caniatáu i ail\-agor lleoliadau yn ddiogel yn y dyfodol. Yn ystod y pandemig, mae’r sector wedi croesawu technoleg ac arloesedd, sydd wedi galluogi iddo barhau i ddarparu amrywiaeth eang o berfformiadau.  Ddydd Gwener diwethaf, er enghraifft, roedd PYST /AM, yn cynnal cynhyrchiad theatr byw gan y Fran Wen o Ogledd Cymru gyda mwy na 30 o bobl ifanc yn cymryd rhan, tra bod dros 6,500 o bobl wedi gwylio gŵyl Tafwyl yn fyw ar y platfform ar yr un pryd â dau o gynyrchiadau byw gan National Theatre of Wales.  Rwyf yn hyderus y gall Gymru ffynnu unwaith eto fel y lle ar gyfer creadigrwydd, troi dychymyg yn ddiwydiant, a sicrhau ein huchelgeisiau ar gyfer y diwydiannau creadigol yng Nghymru.     
Translate the text from Welsh to English.
Ar 23 Rhagfyr 2020, cyhoeddais y byddwn yn darparu cyllid ychwanegol o £5\.6m i gontractwyr fferylliaeth gymunedol i dalu’r costau ychwanegol a ysgwyddwyd yn ystod pandemig COVID\-19\. Llwyddwyd i ddarparu’r cyllid yn uniongyrchol i gontractwyr yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ynghyd â hyd at £0\.6m ar gyfer costau gwasanaeth fferyllfeydd o ddarparu’r brechlyn ffliw tymhorol sy’n dod gan y Llywodraeth, ac sy’n cael ei roi mewn fferyllfeydd. Gwarantais hefyd y byddai ffioedd gwasanaeth fferyllfeydd sy’n rhan o’r Cynllun Imiwneiddio COVID\-19 Gofal Sylfaenol yn cael eu talu o’r cyllid ychwanegol. Rydym wedi gweld cynllun peilot llwyddiannus o roi brechiadau yn y Gogledd, gyda nifer o gontractwyr eraill yn dod yn rhan o’r ymdrech. Rydw i eisiau gweld rhan fferylliaeth gymunedol yn y cynllun brechu yn cynyddu dros yr ychydig wythnosau nesaf. Ar 1 Mawrth, ysgrifennodd Prif Weithredwr y GIG at Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd yn eu cynghori i roi trefniadau ar waith i roi contractau i fferyllfeydd cymunedol yn eu hardaloedd sy’n gallu cynnig o leiaf 100 o apwyntiadau bob wythnos, a caiff hyn ei reoli drwy systemau archebu sefydledig y byrddau iechyd. Cytunais hefyd i ohirio ad\-daliadau pellach yn erbyn y rhagdaliad o £55m tan flwyddyn ariannol 2021\-22\. Gallaf gadarnhau bod y cam hwn wedi’i gymryd er mwyn helpu sefyllfa ariannol fferyllfeydd cymunedol. Yn olaf, cadarnheais y byddai trafodaethau pellach gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn cael eu cynnal, petai adnoddau yn dod ar gael cyn diwedd y flwyddyn ariannol. Heddiw, mae’n bleser mawr gen i gadarnhau y bydd £3\.5m yn rhagor yn cael ei ddarparu i gontractwyr fferylliaeth gymunedol, gan fodloni cynnig ffurfiol Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn llawn. Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm o £9\.1m o arian newydd wedi cael ei ddyrannu yn y flwyddyn ariannol hon i gydnabod y rhan hollbwysig y mae fferyllfeydd wedi’i chwarae yn ystod y pandemig, ym mhob un o’n cymunedau ar hyd a lled Cymru. Edrychaf ymlaen at gael parhau â gwaith Fferylliaeth Gymunedol Cymru a’n contractwyr i adeiladu ar eu llwyddiant, a datblygu eu gwasanaethau ymhellach i gefnogi ein cymunedau wrth i ni godi o’r cyfnod anodd hwn.
On 23 December 2020 I announced I would be providing additional funding of £5\.6m to community pharmacy contractors to meet additional costs incurred during the COVIC\-19 pandemic. This funding was able to be provided directly to contractors early in the new year, along with up to £0\.6m to pharmacies’ service costs in delivering Government sourced seasonal influenza vaccines administered by pharmacies. I also gave a guarantee that pharmacies engaged in the Primary Care COVID\-19 Immunisation Scheme, service fees would be paid from additional funding.  We have seen a successful pilot of vaccine delivery in north Wales and a number of other contractors being engaged.  I want to see this involvement of community pharmacy increasing over the next few weeks.  On 1 March the Chief Executive of the NHS wrote to Health Board Chief Executives advising them to put in place arrangements to contract with community pharmacies in their areas which are able to deliver a minimum of 100 appointments each week, managed through the health boards’ established booking systems. I also agreed to the deferment of further repayments against the £55m advance payment until the 2021\-22 financial year.  I can confirm this has been actioned in order to support the cash flow situation for community pharmacies. Finally, I confirmed that further discussions with CPW would be held, should resources become available before the end of the financial year.   I am, today, very pleased to confirm that a further £3\.5m will be provided to community pharmacy contractors, meeting CPW’s formal proposal in full.  In total, this means new money of £9\.1m will have been allocated this financial year in recognition of the vital role pharmacies played during the height of the pandemic in all our communities, the length and breadth of Wales. I look forward to continuing to work with CPW and our contractors in building on their success and in developing their services further to support our communities as we emerge from these difficult times.
Translate the text from English to Welsh.
The Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 2\) (Wales) Regulations 2020 place a series of restrictions on gatherings, the movement of people, and the operation of businesses, including closures. They require businesses, which are open to take reasonable measures to minimise the risk of exposure to coronavirus. They are designed to protect people from the spread of severe acute respiratory syndrome coronavirus 2 (SARS\-CoV\-2\).  Welsh Ministers are required to review the need for the requirements and restrictions and their proportionality every 21 days. The last full review – the sixth – took place on 30 July and set out a phased approach for the next three\-week cycle. The scientific and medical advice shows that, overall, levels of coronavirus transmission in Wales are low. The outbreak in Wrexham, centred on the Maelor Hospital, now appears to be under control. We have therefore concluded that there is headroom to re\-open further parts of our society and economy. From the 10th August we will re\-open swimming pools, indoor fitness studios, spas, gyms and leisure centres as well as children’s indoor play areas.    As we move into the green phase in our traffic light system, with more and more premises, workplaces and venues now open, we need to make sure that that people and businesses comply with the Regulations and adhere to guidance on operating in a Covid secure way.                                     The vast majority are doing so, but for those that are not, this week we are strengthening the provisions on enforcement in the Regulations. This would enable enforcement officers in local authorities identify non\-compliance, seek to remedy the situation and then if necessary issue a premises improvement notice to highlight breaches and specify measures that need be taken on any premises to comply with the law. Where a Premises Improvement Notice is not complied with, or where a breach is sufficiently serious, premises can be closed by issuing a Premises Closure Notice. Where notices are issued signs will be displayed in a prominent place to inform the public that improvement is needed on a premises or that a premises has had to close. We continue to explore whether we can make changes to the rules about people meeting indoors and will provide more detail on this next week. Given the resurgence of the virus elsewhere in the UK and across the world, and the increased risk of transmission from meetings indoors, we continue to take a cautious approach. If conditions in Wales worsen we may have to reverse these or other easements. Coronavirus has not gone away – we all have a shared and ongoing responsibility to keep Wales safe. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2\) (Cymru) 2020 yn gosod cyfres o gyfyngiadau ar gynulliadau a symudiadau gan bobl, ac ar weithredoedd busnesau, gan gynnwys eu cau. Maent hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i fusnesau sydd ar agor gymryd camau rhesymol i leihau’r risg o ddod i gysylltiad â’r coronafeirws. Eu nod yw diogelu pobl rhag lledaeniad coronafeirws syndrom anadlol acíwt difrifol 2 (SARS\-CoV\-2\).  Mae’n ofynnol i Weinidogion Cymru adolygu’r angen am y gofynion a’r cyfyngiadau yn y rheoliadau, a pha mor gymesur ydynt, bob 21 o ddiwrnodau. Cynhaliwyd yr adolygiad llawn diwethaf, sef y chweched adolygiad, ar 30 Gorffennaf. Nodwyd ynddo ddull gweithredu graddol ar gyfer y gylchred dair wythnos nesaf. Mae’r cyngor gwyddonol a meddygol yn dangos, ar y cyfan, bod y lefelau o drosglwyddo’r coronafeirws yn isel yng Nghymru. Mae’n ymddangos bod yr achosion yn Wrecsam, yn Ysbyty Maelor yn benodol, yn awr o dan reolaeth. Rydym felly wedi dod i’r casgliad bod hyblygrwydd i ailagor rhannau eraill o’r gymdeithas a’r economi. O 10 Awst ymlaen, byddwn yn ailagor pyllau nofio, stiwdios ffitrwydd dan do, sbâu, campfeydd a chanolfannau hamdden, yn ogystal ag ardaloedd chwarae dan do i blant.   Wrth inni symud i gam gwyrdd ein system golau traffig, gyda mwyfwy o fangreoedd, gweithleoedd a lleoliadau yn awr ar agor, rhaid inni sicrhau bod pobl a busnesau yn cydymffurfio â’r Rheoliadau ac yn dilyn y canllawiau ar weithredu’n ddiogel yng ngoleuni COVID\-19\.                                      Er bod y rhan fwyaf yn cydymffurfio â’r Rheoliadau, nid pawb sy’n gwneud hynny. O ganlyniad, rydym yr wythnos hon yn cryfhau’r darpariaethau ar orfodi’r Rheoliadau. Byddai hyn yn galluogi swyddogion gorfodaeth mewn awdurdodau lleol i nodi achosion o beidio â chydymffurfio. Byddant yn ceisio gwella’r sefyllfa ac yna, os yw’n angenrheidiol, byddant yn dyroddi hysbysiad gwella mangre. Bydd yr hysbysiadau hyn yn tynnu sylw at achosion o dorri’r Rheoliadau ac yn pennu’r camau sydd i’w cymryd er mwyn cydymffurfio â’r gyfraith. Os na chydymffurfir â Hysbysiad Gwella Mangre, neu os bydd achos o beidio â chydymffurfio yn ddigon difrifol, gellir cau mangreoedd drwy ddyroddi Hysbysiad Cau Mangre. Pan fydd yr hysbysiadau yn cael eu dyroddi, bydd arwyddion yn cael eu harddangos yn amlwg i roi gwybod i’r cyhoedd bod angen gwella’r fangre neu fod y fangre wedi gorfod cau. Rydym yn parhau i edrych a allwn wneud newidiadau i’r rheolau ynghylch pobl yn ymgynnull dan do a byddwn yn darparu rhagor o fanylion ynghylch hyn yr wythnos nesaf. O ystyried ein bod wedi gweld tonnau newydd o’r feirws mewn ardaloedd eraill yn y DU ac ar draws y byd, a bod y risg o drosglwyddo’r feirws yn uwch wrth ymgynnull dan do, rydym yn parhau i ymateb yn ofalus. Os bydd yr amodau yng Nghymru yn gwaethygu, efallai y bydd rhaid inni wrthdroi’r camau hyn, neu gamau eraill, sydd wedi’u cymryd i lacio’r cyfyngiadau. Nid yw’r coronafeirws wedi diflannu – mae pob un ohonom yn rhannu dyletswydd barhaus i ddiogelu Cymru. Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from Welsh to English.
Mae gogoniant mwyaf Tyndyrn, sef yr Eglwys Gothig, wedi sefyll ar lannau Afon Gwy ers dros 700 mlynedd. Dros y canrifoedd, mae'r tywydd wedi erydu'r gwaith cerrig canoloesol meddal ac mae prosiect cadwraeth ar raddfa fawr bellach yn mynd rhagddo i ddiogelu'r heneb a sicrhau ei bod yn ddiogel i ymwelwyr. Dechreuodd ymchwiliadau archaeolegol ar y safle yn yr haf er mwyn helpu i lywio'r gwaith cadwraeth, a fydd yn mynd i'r afael ag erydiad naturiol a hindreuliad. Mae hyn yn cynnwys gwaith ymchwil hanesyddol, arolygon, gwaith cofnodi olion yr adeilad yn fanwl a gwaith cloddio i helpu i ddeall natur yr archaeoleg o dan lefel y ddaear. Bydd angen sgaffaldiau uchel a thrwm iawn ar gyfer y gwaith cadwraeth a fydd yn mynd rhagddo yn ddiweddarach eleni. Cyn gosod y sgaffaldiau, comisiynwyd Archaeoleg Mynydd Du ac ArchaeoDomus i gynnal gwerthusiadau archaeolegol, er mwyn osgoi unrhyw nodweddion hynafol bregus a gladdwyd yn y ddaear a allai gael eu difrodi ac i sicrhau bod gan y sgaffaldiau sylfaen sefydlog. Mae tîm Digging for Britain wedi bod ar y safle yn Nhyndyrn yn dilyn y gwaith cloddio, gyda rhai o'r darganfyddiadau yn cael sylw fel rhan o'r rhaglen ddydd Iau, gan gynnwys olion rhai o'r cyn\-feddianwyr, a ddadansoddwyd gan Brifysgol Caerdydd, ac o bosibl noddwyr yr abaty. Daethpwyd o hyd i lawer o arteffactau diddorol o ddiwedd y 13eg ganrif i'r cyfnod modern, gan ein helpu i ddeall datblygiad yr abaty ar draws y canrifoedd. Mae'r rhain yn cynnwys darnau o wydr ffenestri canoloesol prin, teils llawr a chrochenwaith, a darnau arian o gyfnod Harri III (1216 i 1272\), Siôr III (1760 i 1820\), hyd at y cyfnodau Fictoraidd ac Edwardaidd. Bydd yr olion sydd wedi’u canfod ar y safle hefyd yn ymddangos ar y rhaglen Digging for Britain. Dywedodd Pennaeth Cadw, Gwilym Hughes: > Ers dros 700 mlynedd mae eglwys yr abaty wedi bod yn croesawu addolwyr, noddwyr cyfoethog ac ymwelwyr i'r lleoliad heddychlon hwn, ac unwaith eto mae angen ychydig o sylw arno. > > ‌“Mae'r hyn sydd wedi'i ddarganfod hyd yma wedi dysgu cymaint mwy i ni am Abaty Tyndyrn ac wedi gwella ein gwybodaeth a'n dealltwriaeth ohono, ei hanes, ei adeiladau a'i archaeoleg.  > > ‌“Rwy'n falch iawn y bydd gwylwyr Digging for Britain yn cael y cyfle i gael cipolwg ar y gwaith sy'n cael ei wneud.” Dywedodd cyflwynydd Digging for Britain, Alice Roberts: > Roedd yn fraint enfawr ymweld â Thyndyrn wrth i archaeolegwyr ddarganfod mwy am y tirnod hanesyddol hardd ac eiconig hwn. Roeddwn wrth fy modd yn gweld rhai o'r teils llawr addurnedig gwreiddiol, a oedd wedi’u claddu o dan rwbel dymchwel cyfnodau diweddarach. Mae'r gwaith archaeolegol yn rhan o brosiect mwy i warchod yr adeilad gwych hwn, gan ei gadw'n ddiogel ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.” Dywedodd Richard Madgwick, Prifysgol Caerdydd: > Dim ond ychydig o gladdedigaethau o'r Abaty yr ydym wedi'u dadansoddi hyd yn hyn, ond mae'r rhain eisoes yn rhoi cipolwg newydd heb ei ail ar fywydau preswylwyr yr Oesoedd Canol ac Ôl\-ganoloesol yn yr ardal. Mae'r rhain yn cynnwys straeon ingol, gan gynnwys yr hyn sy'n ymddangos yn berson anabl a fu’n derbyn gofal mawr a osodwyd i orffwys mewn bedd a dorrwyd ar frys ychydig wrth ymyl yr Abaty ar ôl y diwygiad, gan ddangos ei bod yn dal i fod ag arwyddocâd arbennig i rai yn lleol, hyd yn oed pan nad oedd yr Abaty yn cael ei ddefnyddio. Rydym bellach yn cychwyn ar raglen uchelgeisiol o ddadansoddi moleciwlaidd i adeiladu bywgraffiadau manylach, gan gynnwys asesiadau o ddeiet, iechyd a tharddiadau.” Dywedodd Richard Lewis, Rheolwr Gyfarwyddwr Archaeoleg Mynydd Du: > Rydym wedi cyffroi o gael cefnogi Cadw gyda’r rhaglen gadwraeth bwysig uchelgeisiol hon ar gyfer Eglwys Abaty Tyndyrn. Dyma fydd y tro cyntaf i gymaint o archwilio manwl gael ei wneud i’r Eglwys Abadol ers pan fu’r Weinyddiaeth Gwaith yn gwneud gwaith tirlunio a chloddio bron i ganrif yn ôl, ac mae’n gyfle cyffrous inni ddysgu mwy am yr adeilad mawreddog. Mae eisoes wedi gwella ein dealltwriaeth o'r dilyniant adeiladu yn sylweddol a sut y daeth hyn i ddisodli'r hyn oedd yno ynghynt. > > "Un o'r darganfyddiadau mwyaf diddorol yw gwaith tirlunio helaeth y cyfnod canoloesol, a drawsnewidiodd y dirwedd o amgylch yr anheddiad mynachaidd, a rhai o'r ymdrechion cadwraethol o'r 1750au hyd heddiw, fel rhan o safle hardd ac atyniad i dwristiaid. > > "Ar hyn o bryd, rydym yn archwilio rhan helaeth o’r eglwys ac yn cofnodi’r heneb gan ddefnyddio’r technegau cofnodi archaeolegol digidol arloesol diweddaraf. Rydym yn defnyddio dulliau ffotogrametreg a laser sydd ar flaen y gad, yn ogystal â meddalwedd ddigidol bwrpasol i gofnodi’r gwaith archwilio mewn 3D. Bydd hyn yn darparu cofnod manwl, cyfannol a pharhaus ar gyfer y dyfodol." Dywedodd Ross Cook, perchennog ac Archaeolegydd Adeiladau a Dendrocronolegydd yn ArchaeoDomus: > Ni welwyd archwiliadau o natur a chwmpas yr archwiliadau yn Nhyndyrn o’r blaen, a byddant yn darparu’r cofnod mwyaf cynhwysfawr o Heneb Gofrestredig yng Nghymru.  > > “Bydd y rhaglen o gofnodi adeiladau yn archwilio pob modfedd o’r heneb ac yn creu cronfa ddata ‘fyw’ o wybodaeth yn ymwneud â’i chyflwr cyn gwneud gwaith cadwraeth arni ac ar ôl hynny, a’i datblygiad hanesyddol. Bydd modd ychwanegu at hyn yn y dyfodol er mwyn cefnogi’r gwaith o reoli’r safle hardd a phwysig hwn. Mae’n brosiect cyffrous iawn i fod yn rhan ohono, ac mae’n wych gweithio ochr yn ochr â Cadw a thîm gwych gan gynnwys arbenigwyr cydnabyddedig mewn hanes Sistersaidd a chadwraethwyr gwaith maen. > > “Mae’r gwaith cloddio eisoes wedi bod o gymorth i wella ein dealltwriaeth o waith adeiladu a datblygiad yr Eglwys Abadol yn y byd canoloesol cyn ac ar ôl y Diwygiad. Hyd yn hyn, mae gennym ddarganfyddiadau sydd wedi helpu i wella ein dealltwriaeth o ddatblygiad yr Abaty rhwng yr eglwys gyntaf a'r ail eglwys. Yn benodol, mae nifer ac amrywiaeth y teils llawr canoloesol, gwydr lliw, a darnau bach o blastr wedi'u paentio, wedi dechrau creu darlun o sut roedd yr eglwys ddiweddarach yn edrych ar un adeg. Mae claddedigaethau Eglwysi Abadol cynnar a diweddarach wedi cael eu dadorchuddio, sydd wedi datgelu claddedigaethau syml yn y dull Sistersaidd hyd at gladdedigaethau statws uchel yr elît seciwlar. Yn bwysig, darganfuwyd nifer o gladdedigaethau ôl\-Ddiddymiad hefyd, sy'n awgrymu bod claddedigaethau Catholig."
Tintern’s greatest glory, the Gothic Church, has stood on the banks of the River Wye for over 700 years. Over the centuries, the weather has eroded the soft medieval stonework and a large\-scale conservation project is now underway to preserve the monument and make it safe for visitors. Archaeological investigations began on site in the summer to help inform the conservation works, which will address natural erosion and weathering. This includes historical research, surveys, detailed recording of the standing remains of the building and excavations to help understand the nature of below ground archaeology. The conservation works which will go ahead later this year, require a very high and heavy scaffold. Before the scaffold is installed, Black Mountains Archaeology and ArchaeoDomus were commissioned to undertake archaeological evaluations, to avoid any ancient fragile features buried in the ground that may be damaged and to ensure that the scaffold has a stable base. The Digging for Britain team has been on site at Tintern following the excavation works with some of the finds being featured as part of Thursday’s programme, including the remains of some the former occupants analysed by Cardiff University and possibly patrons of the abbey. Many interesting artefacts have been recovered from the late 13th century to the modern period helping to understand the development of the abbey across the centuries. These include, fragments of rare medieval window glass, floor tiles and pottery, and coins from Henry III (1216 to 1272\), George III (1760 to 1820\), through to the Victorian and Edwardian Periods. The remains that have been found on the site will also feature in the Digging for Britain programme. Head of Cadw, Gwilym Hughes, said: > For over 700 years the abbey’s church has been welcoming worshippers, wealthy patrons and visitors to this tranquil location, and once again it requires some attention. > > “What has been discovered so far has taught us so much more about and enhanced our knowledge and understanding of Tintern Abbey, its history, buildings and archaeology.  > > “I’m delighted that the viewers of Digging for Britain will get the opportunity to get an insight to the work that is being carried out.” Presenter of Digging for Britain, Alice Roberts, said: > It was a huge privilege to visit Tintern as archaeologists discovered more about this beautiful and iconic historic landmark. I loved seeing some of the original decorated floor tiles, buried under the demolition rubble of later periods. The archaeological work is part of a bigger project to conserve this wonderful building, keeping it safe for future generations.” Richard Madgwick, Reader in Archaeological Science, Cardiff University, said: > We have only analysed a few burials from the Abbey so far but these are already providing unparalleled new insights into the lives of the Medieval and Post\-Medieval inhabitants of the area. These include poignant stories including what appears to be a much cared for disabled person laid to rest in a hastily cut grave just next to the Abbey after the reformation, showing that even when the Abbey was out of use it still held special significance for some locally. We are now embarking on an ambitious programme of molecular analysis to build up more detailed biographies, including assessments of diet, health and origins.” Richard Lewis, Managing Director, Black Mountains Archaeology, said: > We are very excited to be supporting Cadw with this ambitious, landmark conservation programme for Tintern Abbey’s Great Church. This will be the first time that the Abbey Church will have been investigated in such detail since the Ministry/Office of Works carried out their landscaping and excavations nearly 100 years ago and offers an exciting opportunity for us to learn more about the magnificent building. It has already significantly improved our understanding of the construction sequence and how this came to replace the earlier. > > "One of the most interesting discoveries is the extensive landscaping of both the medieval period, which transformed the landscape around the monastic settlement, and those of the conservation efforts from the 1750s to the present day, as part of a picturesque site and tourist attraction. > > "We are currently investigating a large area of the church and we are recording the monument using the latest modern digital archaeological recording techniques. We are using cutting edge photogrammetry and laser methods, together with bespoke digital software to record the investigations in 3D. This will provide a detailed, holistic and lasting record for the future." Ross Cook, the owner and Buildings Archaeologist and Dendrochronologist at ArchaeoDomus, said: > The nature and scope of the investigations at Tintern are unprecedented and will provide the most comprehensive record of a Scheduled Monument in Wales.  > > “The programme of buildings recording will explore every inch of the monument and create a 'living' database of information relating to its pre\- and post\-conservation condition and historical development. This will continue to be added to in the future to support the management of this beautiful and important site. It's a very exciting project to be a part of and great to work alongside Cadw and a wonderful team including acknowledged specialists in the history of the Cistercians and masonry conservators. > > “The excavations have already helped improve our understanding of the construction and development of the Abbey Church in both the pre\- and post\-Reformation medieval world. So far, we have finds that have helped improve our understanding of the development of the Abbey between the first and second churches. In particular, the quantity and range of medieval floor tiles, stained glass, and small pieces of painted plaster, have begun to paint a picture of how the later church once looked. Burials of both the early and later Abbey Churches have been unearthed, which has revealed simple burials in the Cistercian manner to high status burials of secular elites. Importantly, a number of post\-Dissolution burials have also been discovered, suggesting secret Catholic interment continued after Henry VIII Protestant Reformation.”
Translate the text from Welsh to English.
Rwy’n falch o gyhoeddi heddiw ein *Cynllun Gweithredu HIV i Gymru*, fydd yn helpu i fynd i'r afael â stigma i’r rhai sy’n byw gyda HIV ac i leihau – a hyd yn oed gael gwared ar \- heintiadau newydd. Mae’r cynllun wedi’i ddatblygu mewn partneriaeth â gweithgor y Cynllun Gweithredu HIV, ac mae ei aelodaeth yn cynnwys ystod amrywiol o randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr o'r sector cymunedol a gwirfoddol, gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, academyddion ac, yn bwysig, pobl sy'n byw gyda HIV. Rwy'n ddiolchgar iawn i bawb sydd wedi helpu i wireddu'r cynllun hwn. Ym mis Mehefin 2022, fe wnaethom ymgynghori ar gynllun gweithredu HIV drafft. Cafodd dderbyniad da ond roedd yr adborth yn tynnu sylw at rai bylchau a meysydd i'w gwella. Mae'r cynllun wedi cael ei gryfhau o ganlyniad i'r broses honno. Mae'r cynllun yn cynnwys pum maes blaenoriaeth ar gyfer gweithredu: * Atal * Profi * Gofal clinigol * Byw'n dda gyda HIV * Mynd i'r afael â stigma sy'n gysylltiedig â HIV. Bellach mae 30 o gamau gweithredu uchelgeisiol, ond cyraeddadwy, i'w gweithredu erbyn 2026, a fydd yn cyfrannu llawer at helpu Cymru i gyrraedd targed Sefydliad Iechyd y Byd o ddim heintiadau HIV newydd erbyn 2030, ac yn bwysig iawn, i arddel agwedd sy’n golygu na fydd dim goddefgarwch i stigma sy'n gysylltiedig â HIV. Yr haf diwethaf, cyhoeddais ein hymrwymiad i ariannu a datblygu ymhellach y platfform ar\-lein ar gyfer profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol.Mae hwnnw wedi mynd y tu hwnt i'n disgwyliadau ac wedi gwneud profion heintiau a drosglwyddir yn rhywiol, gan gynnwys profion HIV, yn fwy hygyrch. Mae hyn, ynddo'i hun, yn helpu i leihau stigma. Rwy'n ymrwymo £600,000 o arian pellach i gefnogi camau allweddol eraill yn y cynllun, gan gynnwys sefydlu system rheoli achosion, a fydd yn helpu i wella profiad cleifion a sicrhau gwyliadwriaeth fwy cywir ac amserol o brofion a diagnosis HIV. Mae hyn hefyd yn cynnwys cymorth i sefydlu cefnogaeth Llwybr Carlam Cymru ar gyfer rhaglen gymorth cymheiriaid genedlaethol, a chymorth i Wythnos Profi HIV yng Nghymru. Yn ei gyfanrwydd, cefnogir y cynllun â phecyn cyllido o £4\.5m. Bydd grŵp goruchwylio gweithredu yn sicrhau y bydd y 30 cam gweithredu yn cael eu datblygu a’u cyflawni. Byddaf yn adrodd am y cynnydd sydd wedi’i wneud ar y 30 cam gweithredu yn flynyddol i'r Senedd. Rydym yn cychwyn ar daith gyffrous,  a all gyflawni newid go iawn. Rwy'n credu'n gryf y gallwn ni ac y byddwn ni, drwy roi’r cynllun gweithredu hwn ar waith, yn gwneud gwahaniaeth i'r rhai sy'n byw gyda HIV heddiw ac y gallwn oll edrych ymlaen gyda gobaith gwirioneddol na fydd neb yn cael diagnosis o HIV o’r newydd yng Nghymru erbyn 2030\.
I am pleased to publish our *HIV Action Plan for Wales* today, which will help to tackle stigma experienced by those living with HIV and reduce – and even eliminate – new infections. The plan has been developed in partnership with the HIV Action Plan working group, which has a membership drawn from a diverse range of stakeholders, including from the community and voluntary sector, healthcare professionals, academics, and importantly, those living with HIV. I am very grateful to everyone who has helped to make this plan a reality. In June 2022, we consulted on a draft HIV action plan. It was well received but the feedback highlighted some gaps and areas for improvement. The plan has been strengthened as a result of this process. The plan contains five priority areas for action: * Prevention * Testing * Clinical care * Living well with HIV * Tackling HIV\-related stigma. There are now 30 ambitious, but achievable, actions for implementation by 2026, which will go a long way to helping Wales achieve the World Health Organisation’s target of zero new HIV infections by 2030, and crucially, adopting a zero\-tolerance approach to HIV\-related stigma. Last summer, I announced our commitment to fund and further develop the online STI testing platform, which has exceeded our expectations and made STI testing, including HIV testing, more accessible. This, in and of itself, helps to reduce stigma. I am committing a further £600,000 to support other key actions in the plan, including the establishment of a case management system, which will help improve patient experience and ensure more accurate and timely surveillance of HIV testing and diagnoses. This also includes support to establish Fast Track Cymru support for a national peer support programme, and for HIV Testing Week in Wales. In total, the plan is supported by a funding package of £4\.5m. An implementation oversight group will ensure the 30 actions are taken forward and achieved. I will report progress against the 30 actions annually to the Senedd. We are at the beginning of an exciting journey, which can achieve real change. I firmly believe that by implementing this action plan, we can and will make a difference to those who are living with HIV today and we can all look forward with real hope that by 2030 there will be no new cases of HIV diagnosed in Wales.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 29 Mehefin 2021, gwnaed datganiad llafar yn y Siambr: Diwygio ein Hundeb (dolen allanol).
On 29 June 2021, an oral statement was made in the Siambr: Reforming our Union (external link).
Translate the text from English to Welsh.
On 5 August 2020, the First Minister made an oral statement: Coronavirus (COVID\-19\) (external link).
Ar 5 Awst 2020, gwnaeth y Prif Weinidog datganiad llafar: Coronafeirws (COVID\-19\) (dolen allanol).
Translate the text from Welsh to English.
Cynrychiolais Lywodraeth Cymru ym mhedwerydd cyfarfod y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar 17 Mai. Cafodd **cyd\-hysbysiad**(Saesneg yn Unig)ei gyhoeddi yn dilyn y cyfarfod, sy’n cynnwys manylion llawn y rhai eraill oedd yn bresennol. Ar yr agenda roedd: Cyflwyniadau; Parthau Buddsoddi; Rhaglen ddeddfwriaethol bresennol Llywodraeth y DU gan gynnwys Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir; a’r Fframweithiau Cyffredin.   Fel y dywedir yn y cyd\-hysbysiad, nodwyd gan y Pwyllgor y gwaith dadansoddi trawslywodraethol i bennu’r hyn sy’n ysgogi anweithgarwch economaidd ymhlith unigolion ynghyd â’r gwahaniaethau ledled y DU. Nodwyd hefyd y cydweithio ar draws y grwpiau rhyngweinidogol ar y pwysau costau byw. Pwysleisiais fod costau byw yn fater hanfodol bwysig i bob llywodraeth. Mae angen inni sicrhau bod y camau pellach angenrheidiol yn cael eu pennu a’u cyflwyno ar gyfer gwneud penderfyniadau yn eu cylch yn gyflym. Dylai’r penderfyniadau hyn wneud gwahaniaeth gwirioneddol i aelwydydd a busnesau, sy'n parhau i wynebu pwysau difrifol yn sgil chwyddiant a’r amodau economaidd ehangach heriol. Wrth i waith fynd rhagddo yn y maes hwn, pwysleisiwyd, oherwydd nad oes grŵp rhyngweinidogol ffurfiol sy'n gysylltiedig â phortffolio'r Adran Gwaith a Phensiynau, fod bwlch yn strwythurau’r cysylltiadau rhynglywodraethol y cytunwyd arnynt ar y cyd. Gofynnais inni ystyried gyda’n gilydd sut y gallwn fynd i'r afael â'r bwlch hwnnw. Ar fater y Parthau Buddsoddi, roeddwn yn gwbl glir, fel yn achos y Porthladdoedd Rhydd yng Nghymru, fod rhaid i’r cynnydd ar agenda’r Parthau Buddsoddi gyd\-fynd â’n hamcanion a’n blaenoriaethau presennol, a’r cyfeiriad cyffredinol a bennwyd yn ein Cenhadaeth Economaidd. Ar fater Bil Cyfraith yr UE a Ddargedwir, cydnabûm fod gwelliannau Llywodraeth y DU i’r Bil, sy’n golygu dileu’r cymal machlud ac na fydd cyfraith yr UE a ddargedwir yn mynd yn ddi\-rym yn awtomatig ar ddiwedd y flwyddyn mwyach felly, yn gam i’r cyfeiriad cywir. Bydd y newidiadau yn golygu nad oes posibilrwydd y bydd deddfwriaeth bwysig mewn meysydd fel cyflogaeth, yr amgylchedd a diogelu defnyddwyr yn diflannu drwy amryfusedd a heb fod yn destun craffu gan y deddfwrfeydd. Fodd bynnag, mynegais unwaith eto ein pryderon ynghylch dull Llywodraeth y DU mewn perthynas â phwerau cydredol sydd wedi’u cynnwys yn y Bil ar hyn o bryd, a fyddai’n caniatáu i Lywodraeth y DU ddeddfu mewn meysydd datganoledig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru na’r Senedd. Rwyf wedi bod yn gyson glir, os oes unrhyw bwerau sy’n arferadwy gan Weinidogion Llywodraeth y DU mewn meysydd datganoledig, yna dylent, fel gofyniad sylfaenol, fod yn amodol ar gael cydsyniad cadarnhaol Gweinidogion Cymru ymlaen llaw, a dylid ymdrin â hyn ar wyneb y Bil.    Ar fater y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio, codais y pwynt bod y ddarpariaeth ar gyfer pennu cenadaethau ffyniant bro, y metrigau a’r targedau cysylltiedig ac adrodd ar gynnydd yn Rhan 1 o’r Bil yn cynrychioli ymyrraeth amhriodol yng nghymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Rydym yn parhau’n barod i weithio gyda Llywodraeth y DU ar Ran 6 o’r Bil. Fodd bynnag, dim ond os ydyn nhw’n ymrwymo i newid y dull presennol sy’n cynnwys pwerau cydredol ar gyfer Gweinidogion Llywodraeth y DU – pwerau y gellir eu harfer heb gydsyniad Gweinidogion Cymru – y gallwn gyflawni hyn. Dywedais unwaith eto fod y Bil Streiciau (Lefelau Gwasanaeth Gofynnol) yn ymosodiad diangen ac annheg ar hawliau gweithwyr ac ar undebau llafur. Mae’n fyrbwyll, mae’n annoeth, mae’n annelwig. Ni fydd y Bil hwn yn datrys anghydfodau diwydiannol a gall suro’r berthynas rhwng diwydiannau ym mhob rhan o Brydain Fawr. Cadarnheais fod y Senedd wedi gwrthod rhoi ei chydsyniad i Fil sy’n osgoi yn fwriadol awdurdod ein Senedd yng Nghymru a Llywodraeth Cymru. Nid oes modd cyfiawnhau bod Llywodraeth y DU am orfodi’r Bil hwn ar gyflogwyr a gweithwyr gwasanaethau cyhoeddus datganoledig. Ar fater Confensiwn Sewel, codais y pwynt bod achosion posibl o dorri’r Confensiwn sawl gwaith yn ystod y flwyddyn hon yn unig gan Lywodraeth y DU yn dangos ei hagwedd mor sylfaenol amharchus a dinistriol tuag at y Confensiwn, datganoli a’r Undeb. Yn syml, nid oes unrhyw gyfiawnhad dros hyn ac nid yw’n gydnaws â’r gofyniad na ddylai Llywodraeth y DU ‘fel arfer’ ddeddfu heb gydsyniad. Pan nad yw’r Senedd yn rhoi ei chydsyniad i Fil gan Lywodraeth y DU, mae angen i Lywodraeth y DU ailddechrau dangos parch tuag at ddatganoli a gwrthdroi sefyllfa lle’r duedd erbyn hyn yw mynd ati i dorri Confensiwn Sewel. Ar fater y Fframweithiau Cyffredin, nodais eu bod yn dangos bod gweithio rhynglywodraethol da yn bosibl ac y gellir rheoli cydlyniant ac ymwahanu drwy gynnal deialog adeiladol a chydweithio. Fodd bynnag, mae angen bod yn fwy cyson wrth ddefnyddio’r mecanweithiau y mae’r Fframweithiau Cyffredin yn darparu ar eu cyfer i ymgysylltu’n gynnar. Gofynnais i Lywodraeth y DU fynd ati’n bendant i gadarnhau’r pwynt hwnnw ymhlith y sawl sy’n gweithio iddi, ar lefel weinidogol a lefel yr uwch\-swyddogion. Trafododd y Gweinidogion hefyd y mater o ymgysylltu rhyngwladol, gan gynnwys pryderon ynghylch canllawiau diweddar a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i'w swyddfeydd tramor ar ymweliadau gan weinidogion y llywodraethau datganoledig â'r gwledydd hynny. Cadarnheais na allem gytuno y dylai uwch\-swyddog o Lywodraeth y DU fod yn bresennol ym mhob cyfarfod â gweinidogion llywodraethau tramor fel mater o drefn. Cytunwyd y dylid gwahodd cynrychiolaeth o’r Swyddfa Dramor, y Gymanwlad a Datblygu i’r Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol yn y dyfodol i drafod y mater hwn. Bydd y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol nesaf yn cael ei gadeirio gan Lywodraeth yr Alban, yn unol â’r trefniadau cylchdroi cadeirydd.
I represented the Welsh Government at the fourth meeting of the Inter\-Ministerial Standing Committee (IMSC) on 17 May. A joint **communique**was published following the meeting, which contains full details of other attendees. The agenda covered: Introductions; Investment Zones; The current UK Government legislative programme including the Retained EU Law Bill; and Common Frameworks. As referred to in the communique, the Committee noted the cross\-government analytical work to identify drivers for individuals’ economic inactivity and differences across the UK, and collaboration across Interministerial Groups on cost of living pressures. I highlighted that the cost of living is a critically important issue for all governments. We need to make sure that necessary further actions are identified and brought forward for decision swiftly so that they can make a real difference to households and businesses, which continue to face severe pressures due to inflation and challenging broader economic conditions. The development of the work in this area has emphasised that there is a gap in the jointly agreed Intergovernmental Relations (IGR) structures, given the lack of a formal Interministerial Group relating to the portfolio of the Department for Work and Pensions. I requested that we consider collectively how we can address that gap. Concerning Investment Zones, I made clear that, as with Freeports in Wales, progress on the Investment Zones agenda must complement our existing objectives and priorities, and the overall direction set out in our Economic Mission. On the Retained EU Law Bill, I recognised that the UK Government’s amendments to the Bill, which put an end to the automatic sunsetting of retained EU law at the end of the year, are a step in the right direction. The changes will prevent important legislation in fields such as employment, the environment and consumer protection potentially disappearing inadvertently and without any scrutiny by legislatures. But I reiterated our concerns around the UK Government’s approach regarding concurrent powers currently contained in the Bill, which would allow UK Government to legislate in devolved areas without the consent of Welsh Ministers or the Senedd. As I have made consistently clear, if there are to be any powers which are exercisable by UK Government Ministers in devolved areas, then this should, as a minimum, be subject to an affirmative consent requirement of the Welsh Ministers in advance, and this should be addressed on the face of the Bill. Concerning the Levelling Up and Regeneration Bill, I raised that the provision for the setting of levelling\-up missions, associated metrics and targets and reporting on progress in Part 1 of that Bill represents an inappropriate intrusion into the legislative competence of the Senedd. We remain willing to work with UK Government on Part 6 of the Bill, but this can only be achieved if they commit to change the current approach which involves the inclusion of concurrent powers for UK Government Ministers which can be exercised without the consent of Welsh Ministers. I reiterated the Strikes (Minimum Service Levels) Bill is an unnecessary and unjustified attack on workers’ rights and trade unions.  It is rushed and ill\-conceived, lacking in detail, will not resolve industrial disputes and may sour industrial relations in all parts of Great Britain.  I confirmed that the Senedd has refused consent to a Bill that deliberately bypasses our Welsh Parliament and the Welsh Government. There is no justification for the UK Government to impose this Bill on devolved public service employers and workers. On the Sewel Convention, I raised that the UK Government potentially breaching the Sewel Convention multiple times in the current year alone illustrates the fundamentally disrespectful and destructive approach of the UKG to the Sewel Convention, to devolution, and to the Union. There is simply no justification for this and absolutely no way this could be described as ‘not normally’ legislating without consent. Where the Senedd does not consent to a UK Government Bill, the UK Government needs to rediscover its respect for devolution and reverse the position whereby breaches of the Sewel Convention have become the default. Concerning Common Frameworks, I noted they demonstrate that good intergovernmental working is possible and that coherence and divergence can be managed through constructive dialogue and collaboration. However, the mechanisms they provide for early engagement need to be used more consistently. I requested that UK Government, at Ministerial and senior official level, positively reinforce that point with colleagues. Ministers also discussed international engagement, including concerns around the recent FCDO guidance issued to its overseas offices on Devolved Government Ministerial visits to those countries. I confirmed we could not agree that a UK Government senior official should be present at all meetings with foreign government ministers as a matter of course. It was agreed to invite the FCDO to a future IMSC to discuss this issue. The next IMSC will be chaired by the Scottish Government, in line with rotating chair arrangements.
Translate the text from English to Welsh.
On 9 July the Culture, Welsh Language and Communications Committee published its report following its inquiry into ‘Supporting and Promoting the Welsh Language’. I have today written to the Committee to provide my response to its 14 recommendations. I would like to thank all who provided evidence to the Committee, and to Committee Members for their careful consideration of the evidence. We have a bold and exciting programme for our country to ensure that by 2050 we reach 1 million Welsh speakers. As a government we are committed to this and I am delighted that there has been so much support from across the board for this exciting ambition. In the White Paper we published in 2017 we argued that the emphasis within Welsh language policy had moved too far in the direction of regulation at the cost of other policy levers. As I did not believe there was sufficient support to change structures to fulfil this policy aim the decision was made in February not to proceed with the Bill. However, I stand by the analysis that there needs to be a rebalance between regulation to provide rights to Welsh speakers and other interventions aimed at: * increasing the number of Welsh speakers to one million by 2050 * doubling the daily use of the Welsh language, and * maintaining Welsh\-speaking communities. I therefore welcome the Committee’s recommendations. Since the decision not to proceed with the Bill I have been drawing up plans to implement much of what the Committee is calling for. I outline those plans below. ### **Standards** I am pleased to confirm that the Welsh Government has announced that new Welsh language standards regulations for two new sectors \- water companies and healthcare regulators are being developed. Those regulations will be developed in a manner which is consistent with the Committee’s recommendation with regard to adapting standards, by streamlining or combining multiple standards that have the same aim or outcome. We are committed to deliver rights in relation to Welsh language services and I will make a further statement in the autumn regarding the rolling programme of standards. ### **The Welsh Government’s relationship with the Welsh Language Commissioner** When I announced the decision not to proceed with the Welsh Language Bill, I was clear that I expected the Welsh Language Commissioner to make some changes to the manner in which it undertakes its functions. To be clear, I continue to emphasise that the Commissioner’s independence in relation to monitoring and enforcing standards, and in conducting investigations into allegations of interference with the freedom to use Welsh, is absolute. The Commissioner is also entirely free to voice his opinion on matters relating to the Welsh language. However, I am equally clear that by working together to increase the use of Welsh, both the Welsh Government and the Commissioner can collectively achieve more. I am therefore delighted to announce that Aled Roberts and I have agreed a Memorandum of Understanding which provides clarity to both organisations about how we will work together, and clarity for stakeholders and the public regarding which organisation leads on which strands of work aimed at increasing the use of Welsh. The Memorandum has been published on the Welsh Government’s website https://gov.wales/memorandum\-understanding\-between\-welsh\-government\-and\-welsh\-language\-commissioner I am confident that by taking just this simple step forward we will see better, more joined\-up effort by both organisations to work together towards the common goal of more use of Welsh. ### **Prosiect 2050** The Committee’s report reflects on the evidence it received from stakeholders who felt that a missing component of the current policy delivery landscape was sufficient intervention rooted in the principles of language planning, designed to address the fundamental issue of the social use of Welsh. These are aims which we all share. The Welsh Language Partnership Council which advises me on the Welsh Ministers’ Welsh language strategy has also expressed a desire to see more focus on language planning. Some stakeholders have argued in favour of establishing a new external body or agency to promote the Welsh language (in addition to the Commissioner as regulator and the Welsh Government as strategy lead). I have already ruled out creating such a body on the basis that it would create confusion for the public, with a high risk of duplicating functions. It would also create additional overhead costs, taking scarce funding away from programmes and services which would be of direct benefit to increasing the use of Welsh. I have therefore come to the conclusion that the Welsh Government is best placed to lead on the development of new initiatives to deliver Cymraeg 2050\. Cymraeg 2050is our national language plan and it is only right and proper that the Welsh Government takes a national lead on language planning. To provide greater focus and rigour in language planning, promotion and behaviour change, both within the Welsh Government and externally, I have made funding available to employ experts to lead and advise Prosiect 2050, a new multi\-disciplinary delivery unit within the Welsh Government which will be responsible for driving Cymraeg 2050\. The funding of nearly £30,000 from January\-March 2020, followed indicatively with around £115,000 in 2020\-21, will be used to enhance the language planning expertise within Welsh Government by funding a new civil service post to head Prosiect 2050*,* and to commission a panel of up to 4 external expert advisers on language planning and related disciplines such as behaviour change. Prosiect 2050will be tasked with: * co\-ordinating the planning for our route to a million speakers, from early years through Welsh\-medium statutory education provision to post\-compulsory education to Welsh for adults * creating new initiatives, and evaluating current initiatives, specifically aimed at achieving our target of doubling the use of Welsh, and * supporting policy areas across the Welsh Government to contribute to the maintenance of our Welsh\-speaking communities and to the increased use of Welsh, in alignment with Cymraeg 2050\. Prosiect 2050will also work with partners across Wales and beyond to help deliver our goals together. As already mentioned, the Welsh Language Commissioner will be a key partner in doing so. We will also give a warm welcome to others who share our national goals for Welsh, whether that’s just to put up bilingual signage in business, to contribute ideas for initiatives to see and hear more Welsh in the community, or to help spread the word. Prosiect 2050will report to me as Minister and will work closely with the Welsh Language Partnership Council, which advises me on our Welsh language strategy. I am confident that the combined experience and expertise of Prosiect 2050and the Partnership Council will together provide me with assurance that we are on the right to track as we implement the Cymraeg 2050strategy. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should Members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Ar 9 Gorffennaf, cyhoeddodd Pwyllgor Diwylliant, y Gymraeg a Chyfathrebu ei adroddiad yn dilyn ei ymchwiliad i 'Cefnogi a Hybu'r Gymraeg'. Heddiw rwyf wedi ysgrifennu at y Pwyllgor yn nodi fy ymateb i'w 14 argymhelliad. Hoffwn ddiolch i bawb a roddodd dystiolaeth i'r Pwyllgor, ac i Aelodau'r Pwyllgor am eu gwaith gofalus wrth ystyried y dystiolaeth. Mae gennym raglen fentrus a chyffrous ar gyfer ein gwlad i sicrhau bod gennym filiwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050\. Fel Llywodraeth, rydym wedi ymrwymo i hyn, ac rwyf wrth fy modd bod cymaint o gefnogaeth o wahanol gyfeiriadau i'r uchelgais cyffrous hwn. Yn y Papur Gwyn a gyhoeddwyd yn 2017, ein dadl oedd bod y pwyslais ym mholisi'r Gymraeg wedi symud yn rhy bell i gyfeiriad rheoleiddio ar draul dulliau polisi eraill. Gan nad oeddwn o'r farn bod cefnogaeth ddigonol i newid y strwythurau er mwyn cyflawni'r nod polisi hwn, penderfynwyd ym mis Chwefror na fyddem yn bwrw ymlaen â'r Bil. Fodd bynnag, rwy'n dal i gefnogi’r dadansoddiad bod angen dod o hyd i well cydbwysedd rhwng rheoleiddio i ddarparu hawliau i siaradwyr Cymraeg ac ymyraethau eraill i:   * gynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050; * dyblu'r defnydd beunyddiol o'r Gymraeg; * cynnal cymunedau Cymraeg eu hiaith.   Rwyf yn croesawu argymhellion y Pwyllgor felly. Ers y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â'r Bil, rwyf wedi bod yn creu cynlluniau ar gyfer gweithredu llawer o'r hyn y mae'r Pwyllgor yn galw amdano. Amlinellaf y cynlluniau hynny isod.   **Safonau** Mae'n bleser gennyf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi bod rheoliadau newydd ar gyfer safonau yn ymwneud â'r Gymraeg yn cael eu datblygu ar gyfer dau sector \-mewn perthynas â chwmnïau dŵr a rheoleiddwyr gofal iechyd. Caiff y rheoliadau hynny eu datblygu mewn ffordd sy'n gyson ag argymhelliad y Pwyllgor o ran addasu safonau, drwy symleiddio neu gyfuno sawl safon sydd â'r un nod neu ddeilliant. Rydym wedi ymrwymo i sicrhau hawliau pobl mewn perthynas â gwasanaethau Cymraeg, a byddaf yn gwneud datganiad pellach yn yr hydref ynghylch y rhaglen dreigl o safonau.   **Perthynas Llywodraeth Cymru â Chomisiynydd y Gymraeg** Pan gyhoeddais y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Bil y Gymraeg, fe'i gwnes yn glir fy mod yn disgwyl i Gomisiynydd y Gymraeg wneud rhai newidiadau i'r ffordd y caiff ei swyddogaethau eu cyflawni. I fod yn glir, rwy'n parhau i bwysleisio bod annibyniaeth y Comisiynydd o ran monitro a gorfodi safonau, ac wrth gynnal ymchwiliadau i honiadau o ymyrraeth â'r rhyddid i ddefnyddio'r Gymraeg, yn absoliwt. Mae'r Comisiynydd yn gwbl rydd hefyd i leisio ei farn ar faterion sy'n ymwneud â'r Gymraeg. Fodd bynnag, rwyf yr un mor glir y gall Llywodraeth Cymru a'r Comisiynydd, fel ei gilydd, drwy gydweithio i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, gyflawni mwy. Rwyf wrth fy modd, felly, yn cyhoeddi bod Aled Roberts a minnau wedi cytuno Memorandwm Cyd\-ddealltwriaeth sy'n rhoi eglurder i'r ddau sefydliad ynghylch sut y byddwn yn cydweithio, ac eglurder i randdeiliaid a'r cyhoedd ynghylch pa sefydliad sy'n arwain ar ba elfennau gwaith i geisio cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Mae'r Memorandwm wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru https://llyw.cymru/memorandwm\-cyd\-ddealltwriaeth\-rhwng\-comisiynydd\-y\-gymraeg\-llywodraeth\-cymru Rwy'n hyderus y bydd y cam syml hwn yn arwain at ymdrech well, fwy cydlynol gan y ddau sefydliad i gydweithio tuag at y nod cyffredin o gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg.   **Prosiect 2050** Mae adroddiad y Pwyllgor yn rhoi sylw i'r dystiolaeth a gafodd gan randdeiliaid a oedd yn teimlo bod elfen goll yn y tirlun presennol o ran gweithredu polisi yn ddigon o ymyrraeth, yn seiliedig ar egwyddorion cynllunio ieithyddol, gyda'r nod o fynd i'r afael â chwestiwn sylfaenol, sef defnydd cymdeithasol o'r Gymraeg. Mae'r rhain yn amcanion rydyn ni i gyd yn eu rhannu. Mae Cyngor Partneriaeth y Gymraeg sy'n rhoi cyngor imi ar strategaeth iaith Gweinidogion Cymru hefyd wedi mynegi dymuniad i ganolbwyntio'n fwy ar gynllunio ieithyddol. Mae rhai rhanddeiliaid wedi dadlau o blaid sefydlu corff neu asiantaeth allanol newydd i hybu'r Gymraeg (yn ychwanegol at rôl reoleiddio'r Comisiynydd a rôl arwain strategol Llywodraeth Cymru). Rwyf eisoes wedi penderfynu peidio â chreu corff o'r fath ar y sail y byddai'n creu dryswch ymhlith y cyhoedd, a bod risg uchel o ddyblygu swyddogaethau. Byddai hefyd yn creu gorbenion ychwanegol, gan gymryd cyllid prin oddi wrth raglenni a gwasanaethau a fyddai'n help uniongyrchol i gynyddu'r defnydd o'r Gymraeg. Rwyf wedi dod i'r casgliad, felly, mai Llywodraeth Cymru sydd yn y sefyllfa orau i arwain ar y gwaith o ddatblygu mentrau newydd i gyflawni *Cymraeg 2050\.* *Cymraeg 2050* yw ein cynllun iaith cenedlaethol, a Llywodraeth Cymru felly ddylai roi arweiniad cenedlaethol ar gynllunio ieithyddol. Er mwyn sicrhau mwy o ffocws a thrylwyredd wrth gynllunio'n ieithyddol, hybu'r Gymraeg a newid ymddygiad ieithyddol, o fewn Llywodraeth Cymru ac yn allanol, rwyf wedi darparu cyllid i sefydlu *Prosiect 2050*, uned amlddisgyblaethol newydd o fewn Llywodraeth Cymru a fydd yn gyfrifol am yrru *Cymraeg 2050* yn ei blaen*.* Caiff y cyllid o bron i £30,000 o Ionawr\-Mawrth 2020, a £115,000 i ddilyn yn 2020\-21 ar sail dangosol, ei ddefnyddio i wella'r arbenigedd cynllunio ieithyddol o fewn Llywodraeth Cymru drwy gyllido swydd newydd o fewn y gwasanaeth sifil i arwain *Prosiect 2050*, ac i gomisiynu panel o hyd at bedwar cynghorydd arbenigol allanol ar gynllunio ieithyddol a disgyblaethau cysylltiedig megis newid arferion.    Rhoddir y tasgau canlynol i *Prosiect 2050*: * cydlynu'r gwaith o gynllunio ein llwybr tuag at sicrhau miliwn o siaradwyr, o'r blynyddoedd cynnar, drwy ddarpariaeth addysg statudol cyfrwng Cymraeg, i addysg ôl\-orfodol i Gymraeg i Oedolion; * creu mentrau newydd, a gwerthuso mentrau cyfredol, gyda'r nod penodol o gyrraedd ein targed o ddyblu defnydd o'r Gymraeg; * cefnogi meysydd polisi ar draws Llywodraeth Cymru i gyfrannu at y gwaith o gynnal ein cymunedau Cymraeg a chynyddu'r defnydd o'r Gymraeg, yn unol â *Cymraeg 2050\.* Bydd *Prosiect 2050* hefyd yn cydweithio â phartneriaid ledled Cymru a thu hwnt er mwyn cyflawni ein hamcanion gyda'n gilydd. Fel y nodwyd eisoes, bydd Comisiynydd y Gymraeg yn bartner allweddol. Byddwn hefyd yn rhoi croeso cynnes i eraill sy'n rhannu ein hamcanion cenedlaethol o ran y Gymraeg, boed drwy greu arwyddion dwyieithog mewn busnesau, cyfrannu syniadau ar gyfer cynlluniau newydd i weld a chlywed mwy o Gymraeg yn y gymuned, neu i helpu i ledu'r gair. Bydd *Prosiect 2050* yn atebol i mi fel Gweinidog, ac yn gweithio'n agos gyda Chyngor Partneriaeth y Gymraeg, sy'n rhoi cyngor i mi ar ein strategaeth ar gyfer y Gymraeg. Rwy'n hyderus y bydd profiad ac arbenigedd cyfun *Prosiect 2050* a'r Cyngor Partneriaeth yn rhoi'r sicrwydd imi ein bod ar y trywydd iawn wrth roi strategaeth *Cymraeg 2050* ar waith.   Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i Aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd yn gyfle i drafod hynt y negodiadau â'r 27 o wledydd yr Undeb Ewropeaidd (UE). Ond bydd ffocws pendant yn y cyfarfod hefyd ar faterion mudo yn dilyn cyhoeddiad Prif Weinidog y DU yn ddiweddar am y cynlluniau i leihau mewnfudo ymhlith gweithwyr o’r UE sy’n meddu ar lefel sgiliau sy’n is. Bydd Caroline Nokes, Gweinidog y Swyddfa Gartref, hefyd yn bresennol yn y cyfarfod, ynghyd â Dominic Raab, yr Ysgrifennydd Gwladol dros Ymadael â'r UE, a Gweinidogion o Lywodraeth yr Alban. Wrth siarad cyn y cyfarfod, dywedodd yr Athro Drakeford: > “Yn syml, dyw hi ddim yn iawn inni esgus, fel y gwnaeth Prif Weinidog y DU yng Nghynhadledd y Blaid Geidwadol, fod modd trafod y polisi mewnfudo mewn gwagle. Nid yw hyn yn bosibl pan fydd hawliau dinasyddion Prydain i fyw a gweithio mewn ardaloedd eraill yn Ewrop, ac i'r gwrthwyneb, yn rhan hanfodol o'r negodiadau ar y berthynas â'r UE yn y dyfodol. Mae adroddiad diweddar y Pwyllgor Cynghori ar Ymfudo wedi dangos y bydd dal angen mudwyr arnom yn y dyfodol, a byddwn yn parhau i gael budd ohonynt. Byddem yn ffôl iawn i roi ein mynediad at y farchnad sengl mewn perygl drwy fynnu rhoi terfyn ar hawl pobl i symud yn rhydd ac wedyn gorfod cynyddu'r niferoedd sy'n mewnfudo o rannau eraill o'r byd. > > "Yn fwy cyffredinol, mae angen polisi mudo arnom sy'n caniatáu inni ddenu gweithwyr i'r meysydd cywir – o ran y math o waith a gynigir a lleoliad y gwaith. Mae angen polisi mudo arnom sy'n gweithio ar gyfer y DU yn gyfan, nid De\-ddwyrain Lloegr yn unig. > > “Mae'n gwbl hanfodol i Gymru fod gennym fynediad at weithwyr sydd â lefel sgiliau sy'n is, ac ni ddylai trothwy cyflog mympwyol fod yn rhwystr i hyn. > > “O ystyried pa mor bwysig yw hyn i'n ffyniant economaidd, a bod rhyngysylltiad rhwng mudo a'n cyfrifoldebau datganoledig dros wasanaethau cyhoeddus fel addysg, iechyd a llywodraeth leol, rydyn ni'n gofyn i Lywodraeth y DU am sicrwydd y byddwn ni'n cael y cyfle i rannu ein barn â nhw. Rydyn ni hefyd am sicrwydd y bydd ein barn ni'n cael ei hystyried, cyn i Lywodraeth y DU gyflwyno ei pholisi ar fewnfudo yn y dyfodol yn hwyrach yn ystod y flwyddyn.” Mae'r cyfarfod yn cael ei gynnal wythnos cyn cyfarfod tyngedfennol o'r Cyngor Ewropeaidd ar 17 Hydref a 6 mis cyn i'r DU ymadael â'r Undeb Ewropeaidd ym mis Mawrth 2019\. Dywedodd yr Ysgrifennydd Cyllid hefyd: > “Mae cytundeb synhwyrol o fewn cyrraedd ond rydyn ni am i Lywodraeth Cymru gael ei chynnwys yn llawn wrth bennu manylion y datganiad gwleidyddol ar y berthynas yn y dyfodol cyn cytuno arni â'r UE. Roedd cytundeb Chequers yn gam yn y cyfeiriad cywir ond, er mwyn sicrhau canlyniad boddhaol i'r negodiadau, bydd rhaid i'r Llywodraeth symud yn fwy pendant i'r cyfeiriad a gyflwynwyd yn ein Papur Gwyn Diogelu Dyfodol Cymru."
Besides a discussion of the state of negotiations with the EU27, there will be a strong focus on migration issues following the Prime Minister’s recently announced plan to reduce low\-skilled immigration from the EU. Home Office Minister, Caroline Nokes will also attend along with the Secretary of State for Exiting the European Union, Dominic Raab and Scottish Government Ministers. Speaking in advance of the meeting, Professor Drakeford said: > "It is simply wrong, as the Prime Minister did at the Conservative Party Conference, to pretend that migration policy can be discussed in a vacuum, when the rights of British citizens to live and work elsewhere in Europe and vice\-versa will be a critical part of the negotiations on a future relationship with the EU. The Migration Advisory Committee’s recent report has shown that we will continue to need – and benefit from – migration into the future.  It would be foolish in the extreme to put at risk our access to the single market by insisting on ending freedom of movement only to have to increase inward migration from other parts of the world. > > "More generally, we need a migration policy that allows us to attract workers into the right areas; both in terms of the type of work and the locations. We need a migration policy that works for the whole of the UK, not just for South East of England. > > “For Wales, access to lower skilled labour is crucial, and should not be inhibited by an arbitrary salary threshold. > > “Given the importance to our economic prosperity, and the interconnectivity between migration and our devolved responsibilities for public services such as education, health and local government, we are seeking assurance from the UK Government that we will be given the opportunity to share our views with them and that they will be taken on board, before the UK government sets out its future immigration policy later in the year.” The meeting comes a week ahead of a crucial meeting of the European Council on the 17 October and 6 months ahead of the UK leaving the European Union in March 2019\. The Finance Secretary continued: > “A sensible deal is within reach but we want the Welsh Government to be fully engaged on the content of the political declaration on the future relationship before it is agreed with the EU. Chequers was a step in the right direction, but the government will have to move more decisively in the direction set out in our White Paper Securing Wales Future, if a satisfactory outcome to the negotiations is to be achieved.”
Translate the text from English to Welsh.
They will work with a new team reporting to the Chief Nursing Officer for Wales to improve the safety, experience and outcomes for mothers and babies in Wales. The Maternity and Neonatal Safety Support Programme in Wales will ensure clear and consistent approach to maternity and neonatal safety across Wales. The first phase will see Improvement Cymru supporting Health Boards to identify key priorities and improvements which the Programme will deliver, to ensure every child is provided with the best start in life. The maternity and neonatal champions in each Health Board and the Welsh Ambulance Service Trust will drive forward these improvements locally. The champions will report back to a national steering group to consider national challenges including the impact on services from the pandemic and support the delivery the Maternity Five Year Vision. The programme has been set\-up following the learning from the recommendations of the review into Maternity and Neonatal Services in Cwm Taf Morgannwg and the recently published Quality and Safety Framework which recognised the need for a thorough, consistent and strategic approach to safety in maternity services. The Minister for Health and Social Services, Eluned Morgan said: > I am delighted to launch the Maternity and Neonatal Safety Support Programme. This Programme will create national standards to ensure all pregnant people, babies and families experience safe, high quality health care and can influence decisions over the care they receive. > > > Reducing health inequalities, ensuring services are patient focused and creating an inclusive, flexible multi\-professional, talented workforce are priorities for this government and this Programme will set the foundation for making these priorities central to all NHS services. Chief Nursing Officer for Wales, Sue Tranka said: > Women and children are at the heart of this program putting families at the centre of decisions so that all women, babies and their families get the highest quality of care which meets their needs. Improving maternity services is essential to support the healthy and happy families and communities of the future. > > > I am grateful for the enthusiasm and commitment of all those involved in developing this programme and we will continue to ensure pregnancy and birth remains a positive experience for families.
Byddant yn gweithio’n agos gyda thîm newydd a fydd yn atebol i Brif Swyddog Nyrsio Cymru er mwyn gwella’r diogelwch, y profiad a’r canlyniadau i famau a babanod yng Nghymru. Bydd y Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghymru yn sicrhau dulliau clir a chyson o ymdrin â diogelwch mewn gofal mamolaeth a newyddenedigol ledled Cymru. Bydd y cam cyntaf yn gweld Gwelliant Cymru yn helpu Byrddau Iechyd i nodi blaenoriaethau a gwelliannau allweddol y bydd y Rhaglen yn eu cyflawni, er mwyn sicrhau bod pob plentyn yn cael y dechrau gorau mewn bywyd. Bydd yr Hyrwyddwyr Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol ym mhob Bwrdd Iechyd ac Ymddiriedolaeth Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn hyrwyddo’r gwelliannau hyn yn lleol. Bydd yr Hyrwyddwyr yn adrodd yn ôl i grŵp llywio cenedlaethol er mwyn ystyried heriau cenedlaethol, gan gynnwys effaith y pandemig ar wasanaethau ac yn helpu i weithredu’r Weledigaeth 5 mlynedd ar gyfer Gofal Mamolaeth. Sefydlwyd y Rhaglen yn dilyn y gwersi a ddysgwyd yn sgil argymhellion yr adolygiad o Wasanaethau Mamolaeth a Newyddenedigol yng Nghwm Taf Morgannwg a’r Fframwaith Ansawdd a Diogelwch a gyhoeddwyd yn ddiweddar. Cydnabu’r Fframwaith yr angen am ddull trylwyr, cyson a strategol o ymdrin â diogelwch mewn gwasanaethau mamolaeth. Dywedodd y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol, Eluned Morgan: > Rwy’n falch iawn o lansio’r Rhaglen Cefnogi Diogelwch mewn Gofal Mamolaeth a Newyddenedigol. Bydd y Rhaglen yn creu safonau cenedlaethol er mwyn sicrhau bod yr holl fenywod beichiog, babanod a theuluoedd yn cael profiad gofal iechyd diogel o ansawdd uchel ac yn gallu dylanwadu ar benderfyniadau am y gofal a gânt. > > > Mae lleihau anghydraddoldebau iechyd, sicrhau bod gwasanaethau yn canolbwyntio ar y claf a chreu gweithlu cynhwysol, hyblyg, amlbroffesiynol a thalentog yn flaenoriaethau i’r llywodraeth hon. Bydd y Rhaglen hon hefyd yn gosod y sylfaen ar gyfer gwneud y blaenoriaethau hyn yn ganolog i holl wasanaethau’r GIG. Dywedodd Prif Swyddog Nyrsio Cymru, Sue Tranka: > Mae menywod a phlant yn ganolog i’r Rhaglen hon sy’n rhoi teuluoedd wrth wraidd penderfyniadau fel bod yr holl fenywod, babanod a’u teuluoedd yn cael y gofal o’r ansawdd uchaf sy’n diwallu eu hanghenion. Mae gwella gwasanaethau mamolaeth yn hanfodol i gefnogi teuluoedd a chymunedau iach a hapus y dyfodol. > > > Rwy’n ddiolchgar am frwdfrydedd ac ymrwymiad pawb a gyfrannodd at ddatblygu’r Rhaglen hon a byddwn yn parhau i sicrhau bod beichiogrwydd a genedigaeth yn dal i fod yn brofiad cadarnhaol i deuluoedd.
Translate the text from English to Welsh.
The move is part of the Welsh Government’s Programme for Government commitment to increase the capital limit used by local authorities who charge for residential care from £24,000 to £50,000 during the current Assembly term. The increase is being delivered in a phased approach, which commenced from April 2017 when the limit in relation to residential care was increased to £30,000\. The capital limit determines whether a person pays for the full cost of their residential care, or whether they receive financial support towards the cost from their local authority. There are up to 4,000 care home residents who pay for the full cost of their care. Increasing the capital limit to £50,000 has the potential to benefit a significant number of these, depending upon the value of the capital they hold. Social Care Minister, Huw Irranca\-Davies said: > “The Welsh Government is committed to supporting older people, and those requiring care, to live the lives they want to lead.  > > “We promised to more than double the capital people can keep when in residential care – freeing up more of people’s money for them to use as they wish. > > “We are now well on our way to delivering that pledge to the people of Wales. We know that well over 400 people are already benefiting from the increase in the limit, and we expect this to rise substantially when the limit is increased to £50,000\.”
Daw hyn fel rhan o ymrwymiad Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru i gynyddu’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir gan awdurdodau lleol sy’n codi tâl am ofal preswyl o £24,000 i £50,000 yn ystod tymor y Cynulliad.Mae'r cynnydd yn cael ei gyflwyno fesul cam, a dechreuodd y drefn hon ym mis Ebrill 2017 pan gafodd y terfyn mewn perthynas â gofal preswyl ei gynyddu i £30,000\.  Diben y terfyn cyfalaf yw pennu p'un a fydd unigolyn yn talu am gost lawn ei ofal preswyl ei hun, neu a fydd yn cael cymorth ariannol tuag at y gost hon gan ei awdurdod lleol. Mae hyd at 4,000 o breswylwyr mewn cartrefi gofal yn talu am gost lawn eu gofal. Gallai nifer sylweddol ohonyn nhw elwa ar y penderfyniad hwn i godi'r terfyn i £50,000, yn ddibynnol ar faint o gyfalaf sydd ganddyn nhw. Dywedodd y Gweinidog Gofal Cymdeithasol, Huw Irranca\-Davies: > "Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi pobl hŷn a'r rheini sydd angen gofal i fyw'r bywydau maen nhw'n dymuno.  > > "Rydyn ni wedi addo mwy na dyblu'r cyfalaf y mae pobl yn gallu cadw pan fyddant mewn gofal preswyl gan ryddhau mwy o'u harian i'w ddefnyddio fel y mynnan nhw.  > > “Rydyn ni ar y trywydd cywir i gyflawni'r addewid i bobl Cymru. Rydyn ni'n gwybod bod ymhell dros 400 o bobl eisoes yn elwa ar y cynnydd i'r terfyn, a gallwn ddisgwyl i hyn godi'n sylweddol pan fydd y terfyn yn cael ei gynyddu i £50,000\."
Translate the text from English to Welsh.
  As the Welsh Government we set the functional framework for housing associations, supporting and influencing the provision of new social and affordable homes. We do this in a number of ways. For example, through regulation, setting rent policy, establishing the broad regulatory environment for development and providing direct funding through the Social Housing Grant and Housing Finance Grant programmes and from other sources such as the Wales Infrastructure Investment Plan. The 2007\-08 Essex Review provided the context for a renewed positive partnership between the Welsh Government and the Welsh housing association movement, focused on delivery. This successful partnership has seen housing associations increase their gearing in response to increased need and policy innovation. Between 2007 and 2011 the housing association movement delivered the majority of additional affordable homes \- 7,746 against the Welsh Government target of 6,500 additional homes – nearly 20% over target.   In the first two years of this Welsh Government administration, 4,474 additional affordable homes have been delivered including 1,652 without grant. Housing associations have delivered over 3,500 of these homes. This performance has been supported by the success of the Social Housing Grant programme, additional capital being made available through the Welsh Infrastructure Investment Programme, the housing association sector delivering affordable housing without grant subsidy and the early potential of new initiatives such as the Housing Finance Grant and Welsh Housing Partnership. However, while 60% of the original affordable housing target of 7,500 has been achieved in just two years, the need for new homes still significantly exceeds supply. As Minister for Housing and Regeneration, I have made clear that my priority is increasing housing supply and I have asked all sectors to do as much as they can with the resources they have available.   This Pact has been developed to support the delivery of the increased affordable housing target of 10,000 homes I announced in my Oral Statement – Increasing Housing Supply, on 4 March 2014\. This Pact sets out commitments from the Welsh Government and the housing association movement for the remainder of this administration as follows. The Welsh Government commits to:   * ensuring a sustainable rent policy is in place for the 5\-year period 2014\-19 * continue to provide capital investment through Social Housing Grant to build on the £82M allocated in 2013/2014 and £58M confirmed for 2014/2015\. * working with the housing association sector to further innovate to deliver affordable homes building on the experience of the Housing Finance Grant and the Welsh Housing Partnership * taking action to make publicly owned land available for housing * undertaking a review of Development Quality Requirements and other development related regulation * implementing the risk\-based regulatory framework via relationship management and a co\-regulation approach * progressing the positive planning agenda The housing association movement \- represented by Community Housing Cymru \- commits to:   * ensuring that all associations work in partnership with the Welsh Government, local authorities and others to deliver the new affordable housing target of 10,000 homes for the period 2011\-16 * maximising community benefits through investment and other opportunities * striving for the highest standards of governance through implementation of a governance improvement agenda supported by a new Code of Governance for the sector and including a drive for gender balanced boards * working with the Welsh Government to embed risk\-based regulation and co\-regulation This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.
Y ni, Llywodraeth Cymru, sy’n pennu’r fframwaith swyddogaethau ar gyfer cymdeithasau tai, gan helpu i ddarparu cartrefi cymdeithasol a fforddiadwy newydd a dylanwadu ar y ddarpariaeth honno.  Gwnawn hynny mewn sawl ffordd.  Er enghraifft, trwy reoleiddio, pennu polisi rhenti, creu’r amodau rheoleiddio bras ar gyfer datblygu, a darparu arian uniongyrchol trwy’r rhaglenni Grant Tai Cymdeithasol a Grant Cyllid Tai ac o ffynonellau eraill fel y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Adolygiad Essex 2007\-2008 roddodd i ni’r cyd\-destun ar gyfer creu partneriaeth bositif newydd rhwng Llywodraeth Cymru a mudiad cymdeithasau tai Cymru, sy’n canolbwyntio ar gyflawni.  Mae’r bartneriaeth lwyddiannus hon wedi bod yn dyst i gynnydd yng ngwaith cymdeithasau tai fel ymateb i’r cynnydd yn yr angen ac arloesi ym maes polisi. Rhwng 2007 a 2001, mudiad y cymdeithasau tai ddarparodd mwyafrif y tai fforddiadwy ychwanegol – 7,746 o’u cymharu â tharged Llywodraeth Cymru o 6,500 o dai ychwanegol – bron 20% yn fwy na’r targed.   Yn nwy flynedd gyntaf y Llywodraeth Cymru hon, mae 4,474 o dai fforddiadwy ychwanegol wedi’u darparu, gan gynnwys 1,652 ohonynt heb grant.  Cymdeithasau tai sydd wedi codi mwy na 3,500 o’r cartrefi hyn.  Cefnogwyd y gwaith da hwn gan y rhaglen Grant Tai Cymdeithasol, neilltuo cyfalaf ychwanegol trwy Raglen Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, y tai fforddiadwy y mae sector y cymdeithasau tai wedi’u darparu heb grant a photensial cynnar mentrau newydd fel y Grant Cyllid Tai a Phartneriaeth Tai Cymru.   Fodd bynnag, er i 7,500 o dai cymdeithasol gael eu codi mewn cwta ddwy flynedd, 60% o’r targed, mae’r angen am gartrefi newydd yn dal i fod lawer fwy na’r cyflenwad.  Rwyf i, fel y Gweinidog Tai, wedi’i gwneud yn glir mai fy mlaenoriaeth yw cynyddu’r cyflenwad tai ac rwy wedi gofyn i bob sector i wneud cymaint ag y medrant gyda’r adnoddau sydd ar gael iddynt. Mae’r Cytundeb hwn wedi’i ddatblygu i helpu ymdrechion i daro’r targed uwch o 10,000 o dai fforddiadwy. Cyhoeddais y targed hwnnw yn fy Natganiad Llafar – Cynyddu’r Cyflenwad Tai, ar 4 Mawrth 2014\. Mae’r Cytundeb hwn yn nodi ymrwymiadau Llywodraeth Cymru a mudiad y cymdeithasau tai ar gyfer gweddill y weinyddiaeth hon.   Ymrwymiadau Llywodraeth Cymru: * sicrhau bod gennym bolisi rhenti cynaliadwy ar gyfer y cyfnod 5 mlynedd 2014\-19 * parhau i ddarparu cyfalaf buddsoddi trwy’r Grant Tai Cymdeithasol, hynny ar ben yr £82M a neilltuwyd yn 2013/14 a’r £58M a gadarnhawyd ar gyfer 2014/2015\. * gweithio gyda’r sector cymdeithasau tai i ddarparu tai fforddiadwy mewn ffordd arloesol, ar sail y profiad o’r Grant Cyllid Tai a Phartneriaeth Tai Cymru * gweithredu i neilltuo tir cyhoeddus ar gyfer tai * cynnal adolygiad o’r Gofynion Ansawdd Datblygu a rheoliadau eraill yn y maes datblygu * rhoi fframwaith rheoleiddio sy’n seiliedig ar risg ar waith trwy reoli perthynas a chyd\-reoleiddio * bwrw ymlaen â’r agenda cynllunio positif Ymrwymiadau mudiad y cymdeithasau tai – trwy law Cartrefi Cymunedol Cymru: * sicrhau bod pob cymdeithas yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru, awdurdodau lleol ac eraill i gyrchu at y targed newydd o 10,000 o gartrefi fforddiadwy newydd yn y cyfnod 2011\-16 * sicrhau cymaint o fanteision â phosibl i gymunedau trwy fuddsoddi a chyfleoedd eraill * anelu at y safonau llywodraethu uchaf trwy’r agenda ar gyfer gwella llywodraethu gyda chefnogaeth Cod Llywodraethu newydd ar gyfer y sector a chan gynnwys ymgyrch i sicrhau’r un nifer o ddynion a menywod ar fyrddau * gweithio gyda Llywodraeth Cymru o blaid rheoleiddio ar sail risg a chyd\-reoleiddio. Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r newyddion diweddaraf i’r Cynulliad. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb unrhyw gwestiwn ar ôl y toriad byddwn yn hapus iawn i wneud hynny.
Translate the text from English to Welsh.
On 26 April 2022, an oral statement was made in the Senedd: Delivery of the Programme for Government commitment to fund additional PCSOs (external link).
Ar 26 Ebrill 2022, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Cyflawni ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i ariannu rhagor o swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu (dolen allanol).
Translate the text from Welsh to English.
Ar 27 Tachwedd 2018, gwnaeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Gwasanaethau Cyhoeddus Datganiad Llafar yn y Siambr ar: Y diweddaraf am Gynllun Cyflawni Ein Cymoedd, Ein Dyfodol.
On 27 November 2018, the Cabinet Secretary for Local Government and Public Services made an Oral Statement in the Siambr on: Update on the Our Valleys, Our Future Delivery Plan.
Translate the text from Welsh to English.
Bydd yn sôn am effaith Brexit ar blant, pobl ifanc a’u teuluoedd, a hynny yn ei anerchiad blynyddol yn yr Eisteddfod mewn digwyddiad a drefnir gan Plant yng Nghymru, y corff mantell cenedlaethol ar gyfer sefydliadau ac unigolion sy’n gweithio gyda phlant, pobl ifanc a’u teuluoedd.  Bydd yn traddodi’r araith yn dilyn cyfnod o drafod dwys yn y Deyrnas Unedig ynglŷn â’r math o fargen Brexit y gallai Llywodraeth y DU ei negodi â’r Undeb Ewropeaidd cyn ymadael ym mis Mawrth 2019\.  Dywedodd yr Athro Drakeford: > “Ry’n ni’n manteisio ar bob cyfle i ddadlau dros Brexit sy’n diogelu swyddi, busnesau a gwasanaethau cyhoeddus Cymru.  > > “Rwy’n credu bod pobl eisoes yn dechrau teimlo effaith Brexit yn eu bywydau bob dydd. > > “Mae effaith Brexit yn rhyngwladol yn amlwg wrth i werth y bunt barhau i ostwng. Dyna sut mae buddsoddwyr drwy’r byd yn edrych ar ein rhagolygon economaidd sy’n dirywio. Mae’r dirywiad hwnnw yn arwain at chwyddiant a phrisiau uwch i deuluoedd yng Nghymru. > > “Os yw teuluoedd yn ceisio ymdopi ar fudd\-dal lles sydd wedi cael ei rewi, yna mae’r amodau wnaeth achosi Brexit yn y lle cyntaf \- y teimlad o gael eich torri i ffwrdd o brif lif cymdeithas a gorfod ysgwyddo baich caledi ar eich pen eich hunan \- yn mynd yn waeth.” Yn ddiweddarach bydd yr Athro Drakeford yn siarad am yr her ariannol sy’n wynebu gwasanaethau cyhoeddus yn yr wythfed flwyddyn o gyni a thoriadau cyllidebol gan Lywodraeth y DU. > Bydd yn dweud: “Bydd y pwerau trethu a benthyca ychwanegol sydd wedi'u datganoli i Gymru yn rhywfaint o help i ni allu parhau i ariannu ein gwasanaethau cyhoeddus hanfodol. Bydd yn help hefyd i leihau effeithiau’r rhaglen o gyni parhaus gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig, nad oes fawr o arwydd ei bod yn dod i ben er gwaetha'r niwed mae wedi'i achosi i wasanaethau cyhoeddus ac i economi’r Deyrnas Unedig yn ehangach. > “Ry’n ni'n wynebu nifer o ddewisiadau anodd. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i arwain y gwaith hwn mewn partneriaeth ag awdurdodau lleol, y trydydd sector ac eraill er mwyn sicrhau ein bod yn darparu'r cyllid a'r polisïau er budd pobl Cymru. Bydd yn gwneud hynny er mwyn y gwasanaethau y mae pobl yn dibynnu arnyn nhw ac er mwyn y cymunedau lle maen nhw'n byw.” Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn siarad ddydd Mercher, 8 Awst 2018, o 1:30pm ymlaen yn adeilad Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru yn Nhŷ Baltig, Bae Caerdydd, ac o 3:30pm ymlaen ar lwyfan Llywodraeth Cymru yng Nghanolfan y Mileniwm.
He will speak about the impact of Brexit on children, young people and their families in his annual Eisteddfod address at an event sponsored by Children in Wales, the national umbrella body for organisations and individuals who work with children, young people and their families in Wales. The speech follows a period of intense debate, throughout the UK, about the type of Brexit deal the UK Government can negotiate with the EU before leaving in March 2019\.   Professor Drakeford said:  > ‘Wherever we have the opportunity, we are arguing for a Brexit which protects Welsh jobs, Welsh businesses and Welsh public services.  > > “I believe the impact of Brexit is already being felt in people’s everyday lives. > > “The price of Brexit internationally is reflected in the continuing devaluation of the pound. That is how investors around the world take into account our declining economic prospects. That devaluation works its way into inflation and higher prices at the till for families in Wales.  > > “If families are trying to manage on welfare benefits which have been frozen, then the very conditions which created Brexit in the first place – the sense of being cut off from the mainstream and being abandoned to bear the burden of austerity alone – are being intensified.” Professor Drakeford will later talk about the funding challenges facing public services  in the eighth year of austerity and budget cuts from the UK Government.  > He will say: “The additional tax and borrowing powers devolved to Wales go some way to enable us to continue funding our essential public services and mitigate the consequences of a continuing programme of austerity from the UK Government, which shows little sign of ending, despite the damage it has done to public services and the wider UK economy.    > > “A number of difficult choices lay ahead. The Welsh Government is committed to leading that work, in partnership with local authorities, the third sector and others, to make sure that we deliver the funding and policies for the benefit of the people of Wales, for the services they rely on and for the communities where they live.” The Finance Secretary will be speaking on Wednesday, 8 August 2018 from 1\.30pm at the WCVA Building at Baltic House, Cardiff Bay and from 3\.30pm on the Welsh Government stage in the Wales Millennium Centre, Cardiff Bay. 
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, mae'n bleser gennyf gyhoeddi canlyniadau dau ymgynghoriad pellach ar y defnydd o bremiymau'r dreth gyngor yng Nghymru. Ar 11 Tachwedd 2022, cyhoeddais y camau y mae Llywodraeth Cymru yn eu cymryd yn dilyn ein hymgynghoriad ar drethi lleol ar gyfer ail gartrefi a llety hunanddarpar. Rhyddheais ddau ymgynghoriad technegol hefyd, gan geisio sylwadau ar Reoliadau drafft i estyn yr eithriadau rhag premiymau'r dreth gyngor, ac ar ganllawiau diwygiedig ar weithredu, gweinyddu a gorfodi premiymau. Cafodd yr ymgyngoriadau eu rhyddhau i baratoi ar gyfer y newidiadau i drethi lleol sy'n dod i rym o 1 Ebrill 2023, sef diwygio'r meini prawf sy'n pennu a gaiff llety gwyliau hunanddarpar ei restru ar gyfer ardrethi annomestig yn lle'r dreth gyngor, a'r cynnydd yn uchafswm premiymau'r dreth gyngor y gall cynghorau eu codi ar ail gartrefi ac anheddau gwag hirdymor. Mae'r ymgyngoriadau diweddaraf yn rhan o'n gwaith parhaus i sicrhau bod perchnogion eiddo yn gwneud cyfraniad teg at y cymunedau lle mae cartrefi ganddynt neu lle maent yn rhedeg busnesau. Mae hyn, yn ei dro, yn cyfrannu at ddull tair elfen Llywodraeth Cymru o fynd i'r afael â'r effaith ar gymunedau a'r Gymraeg sy'n gallu codi o gael nifer mawr o ail gartrefi a llety gwyliau. Byddai'r Rheoliadau drafft yn estyn yr eithriadau presennol rhag premiymau fel y byddent yn gymwys i eiddo sydd ag amod cynllunio sy'n pennu mai dim ond fel llety gwyliau tymor byr y gellir ei ddefnyddio, neu sy'n golygu na ellir ei feddiannu'n barhaol fel unig breswylfa na phrif breswylfa person. Byddai eiddo o'r fath yn atebol am y dreth gyngor ar y gyfradd safonol os nad yw'n bodloni'r meini prawf gosod ar gyfer cael ei ddosbarthu fel eiddo annomestig, ond ni fyddai modd codi premiwm arno. Mae hyn yn gyson â'n safbwynt polisi sy'n nodi y dylai perchnogion eiddo wneud cyfraniad teg at gymunedau lleol, naill ai drwy drethi lleol neu drwy'r budd economaidd y maent yn ei gyflawni i ardal. Codwyd un pwynt bach ynghylch eglurder technegol yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad ar y Rheoliadau drafft, ac mae'r ddeddfwriaeth ddrafft wedi cael ei diwygio i ddileu'r cyfeiriad at ‘tymor byr’ yn sgil hynny. Bydd hyn yn sicrhau bod eiddo nad oes cyfnod amser wedi'i bennu yn ei amod cynllunio llety gwyliau yn cael ei eithrio rhag y premiwm. Yn ogystal â chyhoeddi'r crynodeb o ymatebion i'r ymgynghoriad ar y ddeddfwriaeth, mae'n bleser gennyf hefyd gadarnhau y bydd Llywodraeth Cymru yn bwrw ymlaen â gwneud Rheoliadau'r Dreth Gyngor (Eithriadau rhag Symiau Uwch) (Cymru) 2023. Y bwriad yw y byddant yn dod i rym o 1 Ebrill 2023, gan gymhwyso'r eithriadau newydd o'r dyddiad hwnnw ymlaen. Rwyf hefyd yn cyhoeddi heddiw ganlyniad yr ymgynghoriad ar y canllawiau diwygiedig i awdurdodau lleol ar bremiymau'r dreth gyngor ar anheddau gwag hirdymor ac anheddau a feddiennir yn gyfnodol (ail gartrefi). Mae'r rhain yn rhoi rhagor o arweiniad ar weinyddu a gorfodi premiymau'r dreth gyngor. Maent hefyd yn tynnu sylw at yr opsiynau ychwanegol sydd ar gael i awdurdodau lleol pan nad yw eiddo hunanddarpar nad yw wedi’i gyfyngu gan amodau cynllunio yn bodloni'r meini prawf gosod. At hynny, o 1 Ebrill 2023, anogir awdurdodau lleol i gyhoeddi ar eu gwefannau fanylion y refeniw sy'n cael ei gynhyrchu drwy godi premiwm yn ystod y flwyddyn ariannol flaenorol. Bydd y canllawiau diwygiedig yn cael eu cyhoeddi'n fuan ac yn berthnasol at ddibenion ymarferol ar unwaith. Fel rhan o'r Cytundeb Cydweithio â Phlaid Cymru, rydym wedi ymrwymo i gymryd camau ar unwaith i fynd i'r afael ag effaith ail gartrefi a thai nad ydynt yn fforddiadwy mewn cymunedau ledled Cymru drwy ddefnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu. Mae hyn yn cynnwys rhagor o bwerau i awdurdodau lleol newid premiymau'r dreth gyngor.
Today, I am pleased to announce the outcomes of two further consultations on the use of council tax premiums in Wales. On 11 November 2022, I announced the steps being taken by the Welsh Government following our consultation on local taxes for second homes and self‑catering accommodation. I also issued two technical consultations seeking views on draft Regulations to extend the exceptions to council tax premiums and on revised guidance on the implementation, administration and enforcement of premiums. These consultations were issued in preparation for the changes to local taxes that will be in force from 1 April 2023, namely the amendment of the criteria which determine whether self\-catered holiday lets are listed for non\-domestic rates rather than council tax, and the increase to the maximum council tax premiums which councils can charge on second homes and long\-term empty dwellings. The latest consultations form part of our ongoing work to ensure property owners make a fair contribution to the communities where they own homes or run businesses. This, in turn, contributes to the Welsh Government’s three\-pronged approach to addressing the impact that large numbers of second homes and holiday lets can have on communities and the Welsh language. The draft Regulations would extend the existing exceptions to premiums to apply to properties with a planning condition which specifies that a property may only be used for short\-term holiday lets or which prevents its permanent occupation as a person’s sole or main residence. Such properties would become liable for council tax at the standard rate if they do not meet the letting criteria for classification as non\-domestic property, but they could not be charged a premium. This is consistent with our policy view that property owners should make a fair contribution to local communities either through local taxation or through the economic benefit they bring to an area. Responses to the consultation on the draft Regulations raised a minor point of technical clarity and an amendment has been made to the draft legislation to remove the reference to ‘short\-term’. This will ensure that properties which do not have a length of time specified in their holiday let planning condition are excepted from the premium. As well as publishing the summary of responses to the consultation on the legislation, I am pleased to confirm that the Welsh Government will proceed with making the Council Tax (Exceptions to Higher Amounts) (Wales) Regulations 2023. The intention is that they take effect from 1 April 2023, applying the new exceptions from that day onwards. I am also publishing today the outcome of the consultation on the revised guidance for local authorities on council tax premiums on long‑term empty dwellings and dwellings periodically occupied (second homes). This provides additional guidance on the administration and enforcement of council tax premiums. It also highlights the additional options available to local authorities where self\-catering properties not restricted by planning conditions do not meet the letting criteria. In addition, from 1 April 2023, local authorities will be encouraged to publish on their websites, details about the revenue generated from charging a premium in the previous financial year. The revised guidance will be published shortly and apply for practical purposes with immediate effect. As part of the Co\-operation Agreement with Plaid Cymru, we are committed to taking immediate action to address the impact of second homes and unaffordable housing in communities across Wales, using the planning, property and taxation systems. This includes greater powers for local authorities to charge council tax premiums.
Translate the text from English to Welsh.
They want Senedd reform to be implemented in time for the next election in 2026, even if some of the changes are introduced on an interim basis. They have set out a joint position statement in a letter to Huw Irranca\-Davies, the chair of the cross\-party Special Purpose Committee on Senedd Reform. It is designed to support the committee’s work to make recommendations, which will shape a Senedd Reform Bill. The committee must publish its report by 31 May. It will then be debated and voted on by the Senedd. The joint position statement is the result of ongoing discussions between the First Minister and the Leader of Plaid Cymru, as part of the Co\-operation Agreement. It states: * The Senedd should have 96 Members. * It should be elected using closed proportional lists with integrated statutory gender quotas and mandatory zipping. * Seats should be allocated to parties using the D’Hondt formula. * The 2026 Senedd election should use the final 32 UK Parliament constituencies proposed by the Boundary Commission for Wales once it has concluded its 2023 Parliamentary Review. * These constituencies should be paired to create 16 Senedd constituencies. Each constituency should elect 6 Members. * A full boundary review should be instigated in this Senedd term and its recommendations should take effect from the subsequent Senedd election. First Minister Mark Drakeford said: > “The case for Senedd reform has been made. We now need to get on with the hard work to create a modern Senedd, which reflects the Wales we live in today. A Parliament that truly works for Wales. > > > “The joint position statement we are publishing today will help support the important work of the cross\-party Special Purpose Committee to move Senedd reform forwards.” Adam Price, leader of Plaid Cymru, said: > “These reforms will lay the foundations for a stronger Welsh democracy and a fairer, more representative Senedd that will look entirely different to the outdated political system at Westminster. > > > "A stronger, more diverse, more representative Senedd will have a greater capacity to perform its primary purpose of making a positive difference to the lives of the people of Wales." Notes ----- The Co\-operation Agreement between the Welsh Government and Plaid Cymru includes a commitment to: Support plans to reform the Senedd, based on 80 to 100 Members; a voting system, which is as proportional – or more – than the current one and have gender quotas in law. We will support the work of the Senedd Special Purpose Committee and introduce a Senedd reform Bill 12 to 18 months after it reports. The cross\-party Special Purpose Committee on Senedd Reform was set up on 6 October 2021: * To consider the conclusions previously reached by the Committee on Senedd Electoral Reform in the Fifth Senedd as set out in its report Senedd reform: The next steps laid before the Senedd on 10 September 2020\. * By 31 May 2022, to make recommendations for policy instructions for a Welsh Government Bill on Senedd Reform The committee will be dissolved following a Plenary debate on its final report.
Maen nhw’n awyddus i’r Senedd gael ei diwygio mewn pryd ar gyfer yr etholiad nesaf yn 2026, hyd yn oed os bydd rhai o’r newidiadau’n cael eu cyflwyno dros dro. Mewn llythyr at Huw Irranca\-Davies, cadeirydd y Pwyllgor Diben Arbennig trawsbleidiol ar Ddiwygio’r Senedd, maen nhw wedi gwneud datganiad safbwynt ar y cyd. Ei bwrpas yw cefnogi gwaith y pwyllgor i wneud argymhellion a fydd yn siapio Bil Diwygio’r Senedd. Rhaid i’r pwyllgor gyhoeddi ei adroddiad erbyn 31 Mai. Yna, cynhelir dadl a phleidlais arno yn y Senedd. Daw’r datganiad safbwynt ar y cyd yn sgil trafodaethau parhaus rhwng y Prif Weinidog ac Arweinydd Plaid Cymru, fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio. Mae’n nodi’r canlynol: * Dylai fod gan y Senedd 96 o Aelodau. * Dylid ei hethol gan ddefnyddio rhestrau cyfrannol caeedig gyda chwotâu rhywedd statudol integredig a rhestrau ‘am yn ail’ gorfodol. * Dylid dyrannu seddi i bleidiau gan ddefnyddio fformiwla D’Hondt. * Dylai etholiad y Senedd yn 2026 ddefnyddio’r 32 etholaeth derfynol yn Senedd y DU a gynigir gan y Comisiwn Ffiniau i Gymru unwaith y bydd wedi cwblhau ei Adolygiad Seneddol yn 2023\. * Dylid cyplysu’r etholaethau hyn er mwyn creu 16 o etholaethau’r Senedd. Dylai pob etholaeth ethol chwe Aelod. * Dylid cychwyn arolwg llawn o’r ffiniau yn ystod tymor y Senedd hon a dylai ei argymhellion ddod i rym yn etholiad dilynol y Senedd. Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford: > “Mae’r achos dros ddiwygio’r Senedd wedi’i wneud. Mae angen inni nawr fwrw ymlaen â’r gwaith caled i greu Senedd fodern sy’n adlewyrchu Cymru fel y mae heddiw; Senedd sydd wir yn gweithio i Gymru. > > > “Bydd y datganiad safbwynt ar y cyd yr ydyn ni’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i gefnogi gwaith pwysig y Pwyllgor Diben Arbennig trawsbleidiol i fwrw ymlaen â’r gwaith o ddiwygio’r Senedd.” Dywedodd Adam Price, arweinydd Plaid Cymru: > “Bydd y diwygiadau hyn yn gosod y sylfeini ar gyfer democratiaeth gryfach yng Nghymru a Senedd decach, fwy cynrychiadol a fydd yn edrych yn hollol wahanol i’r system wleidyddol yn San Steffan, system sydd wedi hen ddyddio. > > > “Bydd gan Senedd gryfach, fwy amrywiol a mwy cynrychiadol fwy o allu i gyflawni ei brif ddiben, sef gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i fywydau pobl Cymru.”
Translate the text from English to Welsh.
On 24 January 2023, an oral statement was made in the Senedd: Census 2021 – Welsh Language Results (external link).
Ar 24 Ionawr 2023, gwnaed datganiad llafar yn y Senedd: Cyfrifiad 2021 – Y Canlyniadau o ran y Gymraeg (dolen allanol).
Translate the text from Welsh to English.
Bydd y cwch, a enwyd yn FPV Rhodri Morgan, yn rhan o fflyd fydd yn gofalu am ddyfroedd Cymru gan chwilio am weithgarwch pysgota anghyfreithlon. Yn unol â'r traddodiad, tywalltodd Ysgrifennydd y Cabinet, Lesley Griffiths siampên ar y cwch, ac fe gyflwynwyd hwyl iddi gyda baner Gorfodi Pysgodfeydd Llywodraeth Cymru arni. Mae'r hwyl yn cynnwys arwyddluniau o'r pum cwch fydd yn rhan o'r fflyd newydd. Enwau gweddill y fflyd yw FBV Lady Megan, FPV Catrin, FPV Gwenllian ac FPV Siwan. Mae pob arwyddlun yn cynnwys llun sy'n adlewyrchu y bobl yr enwyd y cwch ar eu holau. Cafodd Lesley Griffith Ysgrifennydd y Cabinet daith o amgylch y cwch, a dangoswyd sut y bydd y dechnoleg ddiweddaraf yn cael ei defnyddio i orfodi deddfau pysgodfeydd a'r môr. Yn ogystal â chyfarfod y rhai fydd yn gweithio ar y cwch, dangoswyd iddi hefyd eu llety a'u cyfleusterau. Gall wyth o bobl mewn pedwar caban dwbl fyw ar yr FPV Rhodri Morgan. Mae ganddo hefyd GPS, Radar, Echo a goleuadau chwilio. Bydd y cychod newydd yn cymryd lle’r hen gychod i amddiffyn dyfroedd Cymru rhag pysgota anghyfreithlon, a diogelu diwydiant pysgota a chymunedau arfordirol Cymru yn y blynyddoedd a ddaw. Mae'r FPV Rhodri Morgan, cwch patrôl 26 metr sy'n pwyso 75 tunnell ac yn dal 11,000 litr o danwydd, yn cynnwys enw y cyn Brif Weinidog a darlun o ddolffiniaid yn hela macrell i ddangos ei hoffter o wylio dolffiniaid ym Mwnt, Gorllewin Cymru. Mae gan y cwch, sydd wedi'i adeiladu gan Mainstay Marine Solutions Ltd eleni, le hefyd ar gyfer cwch môr 6\.5 metr. Aeth gweddw Rhodri Morgan, Julie i'r seremoni enwi er cof amdano. Wedi cael eu treialu ar y môr, bydd y fflyd newydd yn cael eu defnyddio o fis Ionawr. Wrth siarad yn y seremoni agoriadol swyddogol, dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet: > "Mae'n anrhydedd gallu enwi'r cwch yma ar ôl Rhodri Morgan heddiw; dyn roddodd gymaint i Gymru gan adael ei farc yn barhaus ar ein hanes. Bydd hyn yn deyrnged addas i rhywun oedd yn caru moroedd Cymru a'n byd natur. > Dwi wedi mwynhau cerdded o amgylch y cwch yn arw a gweld drosof fy hun y dechnoleg newydd fydd yn arwain yr ymgyrch yn erbyn pysgota anghyfreithlon.Bydd y cychod hyn yn flaenllaw yn yr ymgyrch i amddiffyn dyfroedd Cymru a'n diwydiant pysgota, gan roi ymateb brys i sicrhau bod Cymru yn parhau i allu gorfodi deddfau pysgodfeydd a moroedd.Cyn yr heriau rydym yn eu hwynebu mewn byd wedi Brexit, mae'n bwysicach nag erioed ein bod yn canolbwyntio ar gynaliadwyedd ac yn sicrhau bod ein diwydiant pysgota cyn gryfed â phosib, fel y gallwn ffynnu mewn blynyddoedd i ddod."
The vessel, named FPV Rhodri Morgan, will form part of a fleet patrolling Welsh waters looking for illegal fishing activity. As per tradition, Cabinet Secretary Lesley Griffiths ceremoniously poured champagne on the vessel and was presented with a velum of the new Welsh Government Fisheries Enforcement flag. The vellum contains crests from all five vessels that will form part of the new fleet. The rest of the fleet are named FPV Lady Megan, FPV Catrin, FPV Gwenllian and the FPV Siwan. Each crest carries a picture that reflect the identity of the person the vessel was named after. Cabinet Secretary Lesley Griffiths was given a tour of the vessel and shown how the latest technology will be used to enforce fisheries and marine laws. As well as meeting those who crew the vessel, she was also shown their accommodation and facilities. The FPV Rhodri Morgan can accommodate eight people with four twin cabins. It also comes equipped with GPS, Radar, Echo and search lights. The new vessels will replace the current ageing boats, to effectively protect from illegal fishing activity in Welsh waters and safeguard Wales’ fishing industry and coastal communities in the years ahead.  The FPV Rhodri Morgan, a 26m patrol vessel that weighs 75 ton and carries 11,000 litres of fuel, incorporates the former First Minister of Wales’ name and an illustration of dolphins chasing mackerel to reflect his fondness of spotting dolphins in Mwnt, West Wales. The vessel, built by Mainstay Marine Solutions Ltd this year, also has room for a 6\.5metre sea\-boat.  Rhodri Morgan’s wife Julie Morgan attended the naming ceremony in his memory. After undergoing sea trials all of the new fleet will be in operation from January. Speaking at the official naming ceremony, Cabinet Secretary Lesley Griffiths said: > “It’s an honour to be able to name this vessel after Rhodri Morgan today; a man who gave so much to Wales and left an indelible mark on our history. This will be a fitting tribute to someone who had a great love of the Welsh seas and our wonderful nature > > I’ve thoroughly enjoyed my tour of this new patrol vessel and seeing first hand the cutting edge technology that will be leading the fight against illegal fishing activity. > > These vessels will be at the forefront of protecting Welsh waters and our fishing industry, providing a high speed response capability to ensure Wales continues to effectively enforce fisheries and marine laws. > > Ahead of the challenges that we face in a post\-Brexit world, it is more important than ever that we focus on sustainability and ensuring our fishing industry is at its strongest possible so we can thrive in the years to come.”
Translate the text from Welsh to English.
Mae'r Datganiad hwn yn amlygu ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i ddatblygu gwasanaethau i bobl â dementia, gan sicrhau y caiff pobl â dementia yng Nghymru yr help, yr urddas a'r parch sy'n ddyledus iddynt. Byddaf hefyd yn achub ar y cyfle hwn i roi'r newyddion diweddaraf i chi ar y cynnydd sylweddol a wnaed wrth nodi'r camau sydd eu hangen i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru. Yng Nghymru, mae tua 37,000 o bobl yn byw gyda dementia ar hyn o bryd. Gwyddom y bydd y ffigwr hwn yn cynyddu o flwyddyn i flwyddyn. Mae gan hyn oblygiadau sylweddol i ofalwyr, gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol, gwasanaethau cyhoeddus eraill a chymdeithas yn ehangach. Fis diwethaf, lansiais Weledigaeth Genedlaethol Cymru ar Ddementia, sydd â'r nod o sicrhau bod gan Gymru gymunedau sy'n cefnogi pobl â dementia. Cymunedau sy'n rhoi llais i bobl â dementia, lle mae gwasanaethau yn hygyrch ac yn ymatebol i anghenion y gymuned y maent yn anelu at ei gwasanaethu. Mae'n amlinellu'r ymrwymiadau y mae Llywodraeth Cynulliad Cymru a'n partneriaid yn eu gwneud i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru Rydym eisoes wedi gwneud cynnydd sylweddol yn y gwaith o gyflawni'r ymrwymiadau yn y ddogfen weledigaeth, ac erbyn 2012 bydd y rhain wedi'u cyflawni. Hefyd, lansiais linell gymorth a gwefan dementia benodedig, sy'n cynnig cymorth emosiynol a chyngor i unrhyw un sydd wedi cael diagnosis o ddementia, neu i berthnasau a gofalwyr pobl â dementia. Rwyf wedi ariannu cynllun Presgripsiwn Llyfrau Cymru sy'n sicrhau bod llyfrau ar gael i bobl â dementia a'u gofalwyr ym mhob llyfrgell yng Nghymru, ac wedi cytuno i ariannu pecynnau gwybodaeth am ddementia i bobl sydd wedi cael diganosis o ddementia gyda Chymdeithas Alzheimers. Yn ogystal â hyn, y llynedd darparais gyllid rheolaidd newydd o £1 miliwn y flwyddyn i sefydlu adnoddau a chydgysylltwyr dementia penodedig ychwanegol mewn Timau Iechyd Meddwl Cymunedol i Bobl Hŷn, a £0\.5 miliwn i ddatblygu gwasanaethau Dementia Cynnar newydd ledled Cymru. Rwy'n falch o ddweud ein bod wedi cytuno ar gynigion a bod BILlau, gyda'u partneriaid, yn gweithio i weithredu'r gwelliannau hyn. Ysgrifennais atoch ym mis Gorffennaf 2010, gan ddisgrifio sut roeddwn wedi gwneud y GIG yn gyfrifol am sicrhau newid go iawn i bobl a oedd wedi cael diagnosis o ddementia a'u gofalwyr. Eglurais y bydd Bwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl bellach yn rhoi cyfeiriad ac arweiniad er mwyn ysgogi'r newidiadau hyn, ac y bydd Byrddau Iechyd Lleol, o fewn Targedau Blynyddol y Fframwaith Ansawdd, yn gweithredu'r Targedau Deallus ar gyfer dementia. Bydd y targedau Deallus yn ysgogi gwelliannau mewn gwasanaethau gan gynnwys lleihau'r amser rhwng y symptomau cyntaf a'r diagnosis, ansawdd y gofal ar wardiau ysbytai cyffredinol ac mewn unedau cleifion dementia, gwella arfer o ran rhoi presgripsiynau i bobl â dementia a gwella a chefnogi ansawdd bywyd i ofalwyr pobl â dementia. Bwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl sy'n ysgogi'r agenda hon, gan sicrhau'r momentwm i wella'r gwaith o ddatblygu a darparu gwasanaethau. Gwnaed cynnydd da hyd yn hyn; bellach mae is\-grŵp Dementia o Fwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl wedi'i sefydlu. Nod arall yw gwella adnoddau hyfforddi ac arbenigedd y rhai sy'n gweithio gyda chleifion dementia i wella arfer, a gwneud gwahaniaeth go iawn i ansawdd bywyd pobl â dementia a'u gofalwyr. I'r diben hwnnw, neilltuwyd £400,000 yn ychwanegol ar gyfer y flwyddyn ariannol hon a'r flwyddyn ariannol nesaf er mwyn gwella gwybodaeth a hyfforddiant o ran dementia. Caiff amrywiaeth o hyfforddiant ei ddarparu i amrywiaeth o bobl, fel staff teleofal, gofalwyr yn y teulu, meddygon teulu, ac mewn ysbytai cyffredinol, cartrefi gofal a lleoliadau cymunedol. Ysgrifennodd fy Nghyfarwyddwr Meddygol a'r Prif Swyddog Nyrsio at bob un o Brif Weithredwyr y BILlau am ofal dementia mewn ysbytai cyffredinol ar 8 Chwefror. Trafododd Dr Chris Jones ofal pobl â dementia ar wardiau ysbytai gyda phob un o gyfarwyddwyr meddygol GIG Cymru ar 4 Mawrth. Cytunwyd i weithio gyda'r agenda hyfforddiant dementia a sicrhau y gofelir am bobl â dementia ag urddas a pharch ym mhob lleoliad, yn arbennig ar wardiau ysbytai cyffredinol, lle mae problem ychwanegol problemau iechyd corfforol yn gwneud unigolion hyd yn oed yn fwy agored i niwed, a bod angen mwy o ofal a sylw arnynt. Ar gyfer pobl hŷn â dementia yn arbennig, mae gallu aros yn eu cartref eu hunain mewn amgylchedd cyfarwydd, os yw hynny'n bosibl, yn rhoi tawelwch meddwl iddynt. Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru yn cydnabod pwysigrwydd hyn i bobl hŷn yng Nghymru ac mae'n darparu cyllid o £4\.9 miliwn yn 2010/11 a £4\.7 miliwn yn 2011/12 ar gyfer Gofal a Thrwsio, sy'n cynorthwyo pobl hŷn i wneud gwelliannau i'w cartrefi, a fydd yn eu galluogi i aros yn eu cartrefi eu hunain. Ynghyd â chynlluniau tai Gofal Ychwanegol sy'n darparu gofal 24 awr ac yn cynnig y potensial i ddiwallu anghenion pobl â dementia, nad yw'n bosibl mewn mathau o dai sydd â llai o gymorth, mae'r dull hwn bellach yn darparu mwy na 867 o gartrefi lle gall pobl barhau i fyw'n annibynnol, a hynny mewn 18 o gynlluniau, sy'n rhywbeth y gallwn ymfalchïo ynddo. Mae 18 o gynlluniau eraill wrthi'n cael eu datblygu neu ar gam cynllunio datblygedig, sy'n rhoi cyfanswm o 1,600 o gartrefi. Cyflawnwyd yr holl waith hwn drwy weithio mewn partneriaeth, a hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at y broses gan gynnwys y rhai a weithiodd ar y grwpiau arbenigol. Hoffwn hefyd ddiolch i'r rhai sy'n parhau i roi gofal tosturiol i bobl â dementia, gan weithio'n ddyfal i roi profiad gwell o ofal i unigolion a'u teuluoedd, a all fyw bywydau sy'n llawn posibiliadau er gwaethaf y salwch hwn. Mae mwy i'w wneud o hyd, ond gallaf eich sicrhau fy mod yn ymrwymedig i barhau i weithio mewn partneriaeth a rhoi arweiniad i gefnogi'r gwaith hwn. Mae'r buddsoddiad ariannol ychwanegol, sefydlu Bwrdd y Rhaglen Iechyd Meddwl a phennu targedau clir i ysgogi hyn, ynghyd â lansio'r ddogfen Weledigaeth, yn dangos fy ymrwymiad i ac ymrwymiad Llywodraeth Cynulliad Cymru i wella gwasanaethau dementia yng Nghymru nawr ac yn y dyfodol.
This Statement highlights the Welsh Assembly Government’s commitment to develop services for people with dementia, ensuring that in Wales, people with dementia are supported and receive the help, dignity and respect that they deserve. I will also take this opportunity to update you on the significant progress that has been made in identifying the steps needed to improve dementia services in Wales. In Wales there are currently around 37,000 people living with dementia, we know this will increase year on year. This has significant consequences for carers, for health and social care, other public services and society more widely. Last month I launched the National Dementia Vision for Wales, which aims to ensure Wales has communities that support people with dementia. Communities that articulate the voice of people affected by dementia, where services are accessible and responsive to the needs of the community they seek to serve. It outlines the commitments the Welsh Assembly Government and our partners are making to improve dementia services in Wales. We have already made significant progress in delivering the commitments in the vision document, and by 2012 these will all have been delivered. I also launched a dedicated dementia helpline and website, which offers emotional support and advice to anyone who has been diagnosed with dementia, or for relatives and carers of people with dementia. I have funded the Book Prescription Wales scheme which ensures there are books available to people with dementia and their carers in every library in Wales, and agreed to fund dementia information packs for those diagnosed with dementia with the Alzheimer’s Society. Additionally last year I provided new recurrent funding of £1million per annum to establish additional dedicated dementia resources and co\-ordinators within Older People Community Mental Health Teams, and £0\.5 million to develop new Young Onset Dementia services across Wales. I am pleased to say bids have been agreed and LHBs with their partners are working to implement these improvements. I wrote to you in July 2010, describing how I charged the NHS with delivering real change to those diagnosed with dementia and their carers. I explained that the Mental Health Programme Board will now provide the direction and leadership to drive these changes forward, and the Local Health Boards, within the Annual Quality Framework Targets, will implement the Intelligent Targets for dementia. The Intelligent targets will drive service improvements including reducing time between onset of symptoms and diagnosis, quality of care on both general hospital wards and in dementia in patient units , improve prescribing practice for people with dementia and improve and support quality of life for the carers of people with dementia. The Mental Health and Programme Board is driving this agenda forward, providing the momentum to improve service development and delivery. It has made good progress to date; a Dementia sub\-group of the Mental Health Programme Board is now established. Another goal is to improve training capacity and expertise of those who work with dementia patients to improve practice, and make a real difference to the quality of life of people with dementia and their care\-givers. To that end an additional £400k was made available in this financial year and the next financial year to improve information and training on dementia. A raft of training will be delivered which will be delivered to a variety of people, such as telecare staff, family care\-givers, GPs, and in general hospitals, care homes and community settings. My Medical Director and Chief Nursing Officer have written to all LHB Chief Executives on dementia care in general hospital settings on 8 February. Dr Chris Jones discussed the care of people with dementia on hospital wards with all the medical directors in NHS Wales on 4 March. They agreed to work with the dementia training agenda and ensure that people with dementia are cared for with dignity and respect in all settings, especially the general hospital wards when the additional problem of physical health problems make individuals even more vulnerable and in need of care and attention. For older dementia sufferers in particular being able to stay in your own home in familiar surroundings if possible can be very comforting. The Welsh Assembly Government recognises the importance of this for older people in Wales and provides funding of £4\.9 million in 201/11 and £4\.7 million in 2011/12 for Care and Repair, which assists older people to carry out improvements to their homes, which will enable them to stay in their own homes. This approach, along with Extra Care housing schemes with 24 hour care cover that offers the potential to meet the needs of people with dementia which less supported forms of housing cannot, now provide in 18 schemes over 867 homes where people can maintain their independence and this is something we can be proud of. A further 18 schemes are under construction or at an advanced stage of planning giving a total programme of 1,600 homes. All this work has been achieved by working in partnership, and I want to thank all those who have contributed to the process including those who worked on the expert groups. I would also like to thank those who continue to give dementia sufferers compassionate care, and to work wholeheartedly to deliver a better experience of care to individuals and their families who despite this illness can live life with possibilities. There is always more to do, however, the Welsh Assembly Government has demonstrated its clear leadership, commitment and support to improve dementia services in Wales through additional financial investment, the establishment of a Mental Health Programme Board and clear targets to drive this forward, with the launch of the Vision document.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 15 Hydref 2013, gwnaeth y Gweinidog yr Economi, Gwyddoniaeth a Thrafnidiaeth Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Bysiau Arriva Cymru. Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol).  Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org/ Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys.   
On 15 October 2013, the Minister for Economy, Science and Transport made an oral Statement in the Siambr on: Arriva Buses Wales. The statement can be accessed on the National Assembly for Wales website (external link). If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org/ Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page. 
Translate the text from Welsh to English.
Bu rhaid i Festive Productions \- gwneuthurwr tinsel mwyaf y DU \-  ailosod bron i hanner to ei ffatri, sy’n 250,000 troedfedd sgwâr mewn maint, ar Ffordd Tŷ Coch, Cwmbrân. Cefnogwyd y gwaith drwy fuddsoddiad o £455,500, gyda £150,000 ohono’n gyllid busnes ad\-daladwy a gefnogwyd gan Lywodraeth Cymru. Cafodd y gwaith ei gwblhau mewn pryd ar gyfer eu cyfnod cynhyrchu prysuraf sydd bellach wedi cychwyn. Mae’r buddsoddiad sylweddol hefyd wedi diogelu tua 130 o swyddi tymhorol sy’n cael eu creu’n flynyddol yn ystod y tri mis pan fydd y gweithgynhyrchu yn ei anterth.  Mae Festive Productions bellach ar y trywydd iawn i gynhyrchu tua 200,000 o fetrau o dinsel y mis yn ystod y cyfnod sy’n arwain at Nadolig 2016, gan ddarparu cynnyrch pwrpasol i’w gwsmeriaid, sy’n cynnwys siopau bwyd, siopau’r stryd fawr, canolfannau garddio a siopau manwerthu annibynnol. Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Economi a’r Seilwaith Ken Skates:  > “Mae Festive Productions yn cefnogi nifer fawr o swyddi sy’n talu’n dda ac rwyf yn falch bod cefnogaeth Llywodraeth Cymru wedi helpu i ddiogelu swyddi, a bod cynhyrchu ar gyfer y Nadolig hwn bellach wedi cychwyn.   > > “Mae gan y cwmni hanes hir o gysylltiadau â Chymru ers iddynt ddechrau cynhyrchu tinsel ac addurniadau Nadolig yng Nghasnewydd dros dri deg mlynedd yn ôl. Rwy’n falch o ddweud bod y cwmni wedi parhau i fuddsoddi ac ehangu yng Nghymru i fod yn wneuthurwr mwyaf o’i fath yn y DU. Mae’r buddsoddiad hwn yn sicrhau bod y cwmni’n parhau i weithgynhyrchu yng Nghymru.” Dywedodd Cadeirydd Festive, John Saunders:  > “Fel un o’r prif gyflogwyr lleol, rydym yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru er mwyn diogelu swyddi a gweithgynhyrchu yn Ne Cymru. Mae’r cymorth ariannol yr ydym wedi ei dderbyn yn enghraifft arall o’r bartneriaeth lwyddiannus hon, ac yn ein galluogi i ganolbwyntio ar barhau i ddatblygu ein busnes.” Mae Festive Products yn creu ystod eang o gynnyrch ar gyfer y farchnad addurniadau Nadolig ac yn gweithio’n agos  gyda manwerthwyr mawr i ddatblygu amrywiaeth o gynnyrchpwrpasol, gan gynnwys addurniadau, tinsel, torchau, goleuadau a choed artiffisial.  Mae ganddynt hefyd gytundebau trwyddedu gyda Disney a Universal. Mae ansawdd yn nod i’r cwmni ers y dechrau. Gan fod ei gynnyrch yn rhagori ar gynnyrch a fewnforir, dyma’r cyflenwr sy’n cael ei ffafrio gan nifer o’r prif frandiau ar draws y DU.   Fe agorwyd ei safle cyntaf yng Nghasnewydd ym 1983, cyn symud i’w brif swyddfa 17 erw yng Nghwmbrân yn 2000\.
Festive Productions – the UK’s largest manufacturer of tinsel – had to replace nearly half of the 250,000 sq. ft. roof at its factory in Ty Coch Way, Cwmbran, in a £455,500 investment supported by £150,000 repayable business finance from the Welsh Government. The major refurbishment was completed in time for their peak production period which is now underway  The significant investment has also safeguarded approximately 130 seasonal jobs that are created annually during the three month peak in production.  Festive Productions is now on track to produce around 200,000 metres of tinsel a month in the run up to Christmas 2016 supplying bespoke products to their customers which include grocers, high street retailers, garden centres and independent retail stores. Economy Cabinet Secretary Ken Skates said:  > “Festive Productions supports a large number of well paid jobs and I am pleased Welsh Government support has helped safeguard employment and that production for the coming festive season is now well under way.  > > “The company has a long association with Wales when they began making tinsel and Christmas decorations in Newport more than thirty years ago. I am happy to say the company has continued to invest and expand in Wales to become the largest manufacturer of its kind in the UK and this investment ensures the company continues to manufacture in Wales.” Festive Chairman John Saunders commented:  > “As a major local employer we work closely with the Welsh Government to safeguard jobs and manufacturing in South Wales. The assistance with funding which we have received is another example of this successful partnership and allows us to concentrate on continuing to grow our business.” Festive Productions creates a wide range of products for the Christmas decoration market and works closely with major retailers to develop bespoke product ranges including baubles, tinsel, wreaths, lights and artificial trees. It also has licence agreements with Disney and Universal. Quality has always been the company’s hallmark and its products are superior to imported products making it the preferred supplier for many leading brands across the UK.  It opened its first facility in Newport in 1983 before moving to a 17 acre head office site in Cwmbran in 2000\.
Translate the text from Welsh to English.
Rheoliadau ar Deithio Rhyngwladol Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth Cymru wedi gwneud darpariaeth yn Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 i sicrhau bod yn rhaid i deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o wledydd a thiriogaethau tramor hunanynysu a darparu gwybodaeth amdanynt eu hunain fel teithwyr, er mwyn atal lledaeniad pellach y coronafeirws.  Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ar 8 Mehefin 2020\. Ers hynny, mae'r Rheoliadau hyn wedi'u hadolygu'n rheolaidd ac mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud. Ar 18 Ionawr 2021, er mwyn diogelu iechyd y cyhoedd ymhellach, diwygiwyd y Rheoliadau i osod gofyniad ychwanegol ar deithwyr sy'n cyrraedd Cymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin. Mae hefyd yn ofynnol bellach i bob teithiwr o'r fath feddu ar hysbysiad o brawf negyddol am y coronafeirws, er bod rhai eithriadau penodedig. Rwyf heddiw wedi gosod Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Atebolrwydd Gweithredwyr a Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Deithwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021 yn y Senedd. Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio'r Rheoliadau Teithio Rhyngwladol ymhellach drwy: * leihau hynny o wybodaeth am deithiwr y mae’n ofynnol i bobl sy'n teithio i Gymru ei darparu ar y Ffurflen Lleoli Teithwyr, ac * ychwanegu eithriad fel nad oes raid i griw awyren sy’n cyflawni dyletswyddau ar fwrdd awyren er budd diogelwch yr awyren, fel llwythfeistri, feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf negyddol am y coronafeirws. Rheoliadau ar Wybodaeth Iechyd y Cyhoedd Mae Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd i Bersonau sy'n Teithio i Gymru etc.) 2020 yn ei gwneud yn ofynnol i weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy'n dod o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin i faes awyr, hofrenfa neu borthladd yng Nghymru ddarparu gwybodaeth iechyd y cyhoedd benodedig i deithwyr sy'n defnyddio'r gwasanaethau hynny. Mae'r wybodaeth hon yn ymwneud â mesurau sy'n cael eu cymryd yn y Deyrnas Unedig mewn ymateb nifer yr achosion o’r corofeirws a’i ledaeniad, gan gynnwys y mesurau sy'n ofynnol yn ôl y  Rheoliadau Teithio Rhyngwladol.  Mae'r Rheoliadau a osodir heddiw yn ychwanegu at yr wybodaeth benodedig y mae'n rhaid i weithredwyr ei darparu i deithwyr fel eu bod yn ymwybodol bod angen iddynt feddu ar hysbysiad o ganlyniad prawf coronafeirws negyddol a gafwyd o fewn 72 awr cyn teithio. Rheoliadau ar Brofion Cyn Teithio Roedd Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol, Profion Cyn Ymadael ac Atebolrwydd Gweithredwyr) (Cymru) (Diwygio) 2021, a ddaeth i rym ar 18 Ionawr 2021, yn gosod rhwymedigaeth ar weithredwyr gwasanaethau teithwyr rhyngwladol sy'n cyrraedd Cymru o'r tu allan i'r ardal deithio gyffredin i sicrhau bod teithwyr ar wasanaethau o'r fath yn meddu ar ganlyniad negyddol i brawf coronafeirws. Mae'r Rheoliadau a osodir heddiw yn gwneud newidiadau i'r gofyniad hwnnw fel ei bod yn ofynnol i weithredwyr wirio bod teithwyr yn meddu ar hysbysiad o brawf coronafeirws sy'n cynnwys gwybodaeth benodedig.  Y teithiwr sy’n atebol am sicrhau bod y canlyniad yn deillio o brawf cymwys. Bydd y diwygiadau hyn sy'n cael eu gwneud gan y Rheoliadau sy'n cael eu gosod heddiw yn dod i rym am 4\.00am ar 23 Ionawr 2021\.
Regulations on International Travel Members will be aware that the Welsh Government made provision in the Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) Regulations 2020 to ensure that travellers entering Wales from overseas countries and territories must isolate and provide passenger information, to prevent the further spread of coronavirus.  These restrictions came into force on 8 June 2020\. Since then these Regulations have been kept under regular review and a number of changes have been made.  On 18 January 2021, in order to further protect public health, the Regulations were amended to place an additional requirement on travellers arriving into Wales from outside the common travel area.  All such travellers are also now required to possess a notification of a negative coronavirus test, subject to specified exemptions. Today, I have laid in the Senedd the Health Protection (Coronavirus, International Travel, Operator Liability and Public Health Information to Travellers) (Wales) (Amendment) Regulations 2021\). These Regulations further amend the International Travel Regulations by: * reducing the amount of passenger information that people travelling to Wales are required to provide on the Passenger Locator Form, and adding an exemption from the requirement to possess notification of a negative coronavirus test result for air crew who perform duties onboard aircraft in the interests of the safety of the aircraft, such as loadmasters. Regulations for Public Health Information The Health Protection (Coronavirus, Public Health Information for Persons Travelling to Wales etc.) Regulations 2020 require operators of international passenger services coming from outside the common travel area to an airport, heliport or seaport in Wales to provide passengers using those services with prescribed public health information.  This information relates to measures being taken in the United Kingdom in response to the incidence and spread of coronavirus, including the measures required by the International Travel Regulations.  The Regulations laid today, add to the specified information that operators must provide to travellers so that travellers are put on notice of the requirement to possess a notification of a negative coronavirus test result obtained within 72 hours ahead of travelling. Regulations on Pre\-Departure Testing The Health Protection (Coronavirus, International Travel, Pre\-Departure Testing and Operator Liability) (Wales) (Amendment) Regulations 2021, which came into force on 18 January 2021, placed an obligation on operators of international passenger services arriving into Wales from outside the common travel area to ensure that passengers on such services possess notification of a negative coronavirus test result. The Regulations laid today make changes to that requirement so that operators are only required to check that passengers possess a notification of a coronavirus test which includes specified information.  The liability for ensuring the result was from a qualifying test falls on the passenger. These amendments being made by the Regulations being laid today will come into force at 4\.00am on the 23 January 2021\.    
Translate the text from English to Welsh.
The extension of the rates relief, until 31 March 2025, will provide £9\.7m of additional support for registered childcare premises. This will help those who are facing financial difficulties as a result of the pandemic and secure the level of provision that children and parents need and rely on. The Small Business Rates Relief scheme was enhanced in April 2019 to provide 100% relief to all registered childcare premises in Wales for a three\-year period. Designed to help the sector deliver the child care offer of 30 hours of early education and childcare, the scheme helped many private nurseries and day care providers overcome some of the financial challenges already facing the sector. Julie Morgan, Deputy Minister for Social Services said: > We are committed to investing in Wales’ childcare sector. It is vital we recognise the essential service childcare settings provide to families, offering positive and caring environments for our children and helping parents to access employment, education or training. > > > The pandemic has had a devastating impact on businesses across Wales and childcare settings have been severely impacted. The pandemic has created new, and exacerbated existing challenges for childcare settings.  The extension of the rates relief will help registered childcare premises continue the crucial work they do and help to ensure they remain viable businesses. The Minister for Finance and Local Government, Rebecca Evans said: > The £9\.7m of additional support we are providing to the childcare sector is part of a wider package of funding which will help Wales move beyond the pandemic. It is vital that we help childcare providers recover and get them back on their feet. Purnima Tanuku OBE, Chief Executive of National Day Nurseries Association (NDNA) Cymru, said: > We really welcome this very positive announcement from the Welsh Government which will continue to support childcare providers and parents by extending business rates relief for a further three years. > > > NDNA Cymru has worked closely with the Welsh Government on this issue and we welcome that the views of the sector have been taken on board. This extended relief shows recognition of the important role of private, voluntary and independent settings in delivering early education and vital childcare places. > > > Speaking to providers about how the relief has helped them to date, 35% told us that it’s allowed them to keep childcare costs lower for parents while just under a third said it had helped them stay sustainable, reducing the risk of settings closing. Other benefits were being able to invest in staff, resources and their premises, showing just how important the support is for childcare settings, parents and the children. NDNA Cymru Trustee Tina Jones MBE, owner of Tiny Tots Day Nursery and Out of School Club, said: > This is fantastic news for childcare settings like mine and means we can keep offering affordable places for families in our area. The rates were a large cost to find for our settings and the irony was that the more space you had for the children, the higher your rates. This relief has helped us remain sustainable over really uncertain times, particularly with the pandemic. > > > Over the past three years with the rates relief in place I've been able to avoid increasing my fees to parents. It has been a great support and it is such good news that this will be in place for another three years.
Mae ymestyn y rhyddhad ardrethi hyd at 31 Mawrth 2025 yn golygu y bydd £9\.7m o gymorth ychwanegol ar gyfer safleoedd gofal plant cofrestredig. Bydd hyn yn helpu’r rheini sy’n wynebu anawsterau ariannol o ganlyniad i’r pandemig, gan ddiogelu’r lefel o ddarpariaeth y mae ei hangen ar blant a rhieni. Cafodd y cynllun Rhyddhad Ardrethi Busnesau Bach ei ehangu ym mis Ebrill 2019 i roi rhyddhad o 100% i bob safle gofal plant cofrestredig yng Nghymru am gyfnod o dair blynedd. Nod y cynllun yw helpu’r sector i weithredu’r cynnig gofal plant, sef 30 o oriau o addysg gynnar a gofal plant, ac mae wedi helpu llawer o feithrinfeydd preifat a darparwyr gofal dydd i ymateb i rai o’r heriau ariannol sydd eisoes yn wynebu’r sector. Dywedodd Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: > Rydyn ni wedi ymrwymo i fuddsoddi yn sector gofal plant Cymru. Mae’n hollbwysig cydnabod y gwasanaeth hanfodol y mae lleoliadau gofal plant yn ei roi i deuluoedd, drwy gynnig amgylcheddau positif a gofalgar i’n plant a helpu rhieni i allu manteisio ar y cyfle i gael gwaith, addysg neu hyfforddiant. > > > Mae’r pandemig wedi cael effaith hynod niweidiol ar fusnesau ledled Cymru, gan gynnwys effaith enfawr ar leoliadau gofal plant. Mae’r pandemig wedi creu heriau newydd i leoliadau gofal plant, ac wedi gwaethygu’r heriau a oedd yn bodoli eisoes.  Bydd ymestyn rhyddhad ardrethi yn helpu safleoedd gofal plant cofrestredig i barhau â’r gwaith hanfodol y maen nhw’n ei wneud, drwy helpu i sicrhau eu bod yn parhau’n fusnesau hyfyw. Dywedodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol, Rebecca Evans: > Mae’r £9\.7m o gymorth ychwanegol rydyn ni’n ei roi i’r sector gofal plant yn rhan o becyn ehangach o gyllid a fydd yn helpu Cymru i symud y tu hwnt i’r pandemig. Mae’n hanfodol ein bod yn helpu darparwyr gofal plant fel y rhain i adfer a chodi nôl ar eu traed. Dywedodd Purnima Tanuku OBE, Prif Weithredwr Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru: > Rydyn ni’n croesawu’r cyhoeddiad calonogol hwn gan Lywodraeth Cymru y bydd y gefnogaeth i ddarparwyr gofal plant a rhieni yn parhau drwy fod rhyddhad ardrethi busnes yn dal i fod ar gael am dair blynedd arall. > > > Mae Cymdeithas Genedlaethol Meithrinfeydd Dydd Cymru wedi gweithio’n agos gyda Llywodraeth Cymru ar y mater hwn, ac rydyn ni’n croesawu’r ffaith bod sylw wedi cael ei roi i farn y sector. Mae ymestyn y rhyddhad yn cydnabod y rôl bwysig y mae lleoliadau preifat, gwirfoddol ac annibynnol yn ei chwarae drwy ddarparu lleoedd addysg gynnar a gofal plant hanfodol. > > > Wrth siarad â darparwyr ynghylch sut mae’r rhyddhad wedi ei helpu hyd yn hyn, dywedodd 35% wrthym ei fod wedi caniatáu iddynt gadw costau gofal plant yn is i rieni, a dywedodd ychydig o dan draean ohonynt ei fod wedi eu helpu i barhau i fod yn gynaliadwy, gan leihau’r perygl y gallai lleoliadau gau. > > > Roedd y manteision eraill yn ymwneud â buddsoddi mewn staff, adnoddau a’u safleoedd, sy’n dangos pa mor bwysig yw’r cymorth i leoliadau gofal plant, y rhieni, a’r plant. Dywedodd un o Ymddiriedolwyr y Gymdeithas, Tina Jones MBE, perchennog clwb y tu allan i oriau ysgol a Meithrinfa Ddydd Tiny Tots: > Mae hyn yn newyddion gwych i leoliadau gofal plant fel fy lleoliad i, ac mae’n golygu y gallwn barhau i gynnig lleoedd fforddiadwy i deuluoedd yn ein hardal. Roedd ardrethi yn gost fawr i’n lleoliadau, a’r eironi oedd po fwyaf o le oedd gennych chi i’r plant, uchaf yn y byd oedd yr ardrethi. Mae’r rhyddhad hwn wedi ein helpu i barhau’n gynaliadwy yn ystod cyfnod hynod ansicr, yn benodol o ganlyniad i’r pandemig. > > > Yn ystod y tair blynedd diwethaf, oherwydd y rhyddhad ardrethi busnes sydd ar gael, dw i wedi gallu osgoi cynyddu fy ffioedd i’r rhieni. Mae wedi bod yn gymorth mawr ac mae’n newyddion gwych y bydd ar gael am dair blynedd arall.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 11 Tachwedd, cyhoeddais fod Cymru Gyfan yn Barth Atal Ffliw’r Adar (AIPZ), hynny gan fod risg gynyddol i’n diwydiant dofednod yng Nghymru gael ei heintio gan ffliw’r adar.  Addewais y byddwn yn cadw golwg ar y sefyllfa. Fel yr ydym i gyd yn ei wybod, mae sefyllfa clefyd yn gallu datblygu a newid, ac mae’n hanfodol ein bod yn cadw golwg ar y sefyllfa i fod yn siŵr mai’n hymateb yw’r ymateb mwyaf priodol i’r clefyd.  Mae Parth Atal yn cryfhau’r mesurau bioddiogelwch y bydd yn rhaid i holl geidwaid dofednod ac adar caeth eraill Cymru eu rhoi ar waith a chadw atynt. Rwy’n ddiolchgar i’r diwydiant am ei ymdrechion diflino i fodloni’r gofynion hyn, gan fod gennym oll ein rhan i atal y clefyd hwn. Ers cyflwyno’r Parth Atal, fel y disgwyl, rydym wedi gweld cynnydd yn nifer yr achosion sydd wedi’u cadarnhau o ffliw’r adar mewn unedau dofednod yn Lloegr ac rydym bellach wedi cadarnhau achosion o deip H5N8 y Ffliw Adar pathogenig iawn mewn 134 o adar gwyllt mewn 26 lleoliad mewn 17 sir, o Gernyw i Gaint ac i fyny i Northumberland. Hefyd, ar 1 Rhagfyr, cafwyd cadarnhad o’r ddau achos cyntaf mewn adar gwyllt mewn dau leoliad gwahanol yng Nghymru. Yng ngoleuni’r dystiolaeth o’r cyfandir a’r achosion newydd mewn dofednod ac adar gwyllt, mae pob un o bedwar Prif Swyddog Milfeddygol y DU wedi codi lefel y risg o’r ffliw adar pathogenig iawn i uchel iawn ar gyfer adar gwyllt ac i lefel risg ganolig (lle rhoddir mesurau bioddiogelwch llym ar waith) i uchel (lle ceir achosion o dorri’r mesurau bioddiogelwch) ar gyfer dofednod ym Mhrydain.  Unwaith eto, ni allaf ddweud digon pa mor bwysig yw mesurau bioddiogelwch effeithiol i leihau’r risg. Er bod y canfyddiadau hyn yn dangos bod y Parth Atal yn llwyddo i godi ymwybyddiaeth am ffliw’r adar ac yn annog pobl i roi gwybod os ydyn nhw’n credu bod achos yn eu haid neu’n cael hyd i adar marw, rhaid ystyried a yw’r ymateb yn ddigon o’i gymharu â’r risg sy’n cynyddu. Felly, ar ôl rhoi ystyriaeth ofalus i’r holl ffactorau ac fel mesur rhagofalus arall fel ymateb i’r lefel risg uwch, rwy’n cynnig ein bod yn cyhoeddi gorchymyn i gadw adar dan do fel estyniad i’r Parth Atal Ffliw’r Adar Cymru Gyfan, o dan Erthygl 6 o Orchymyn Ffliw’r Adar a Ffliw sy’n deillio o Adar mewn Mamaliaid (Cymru) (Rhif 2\) 2006\.  Daw’r gofyn i gadw adar dan do i rym am 00:00 ar 14 Rhagfyr 2020\.  Bydd hynny’n digwydd yn ngweinyddiaethau eraill Prydain Fawr hefyd. Yn ogystal â’r gofynion presennol o ran bioddiogelwch yn y Parth Atal, bydd gofyn i geidwaid gadw eu hadar dan do.  Ni fydd cadw’r adar dan do ynddo’i hun yn lleihau’r risg o glefyd heb ein bod hefyd yn cadw at y mesurau bioddiogelwch mwyaf llym.  O’r herwydd, cynghorir ceidwaid i gynnal hunan\-asesiad o’u mesurau bioddiogelwch.  Bydd hynny’n rhoi’r dystiolaeth sydd ei hangen arnynt i allu cadarnhau eu bod wedi gwneud popeth sy’n bosibl i fodloni gofynion y Parth Atal. Bydd yr asesiad hwn yn eich helpu i baratoi ar gyfer 14 Rhagfyr, felly rwy’n pwyso ar bob ceidwad i ddechrau ar ei asesiad cyn gynted ag y gall.  Anogir ceidwaid i gynnwys eu milfeddyg yn y broses.  Mae amser rhwng nawr ac 14 Rhagfyr i geidwaid baratoi – ystyriwch eich cytiau a’ch siediau.  A oes angen rhagor o adeiladau arnoch; a yw’ch adeiladau o safon addas ac yn ateb y diben? Gofynnir i bob ceidwad archwilio’i gyfleusterau a sicrhau eu bod nhw a’u hadar yn barod ar gyfer y gorchymyn. Ar gyfer ceidwaid sy’n cadw adar y byddai’n gwbl anymarferol neu’n andwyol iawn i’w lles eu cadw dan do, efallai y byddai’n well cyfyngu arnynt rhag mynd at fannau awyr agored.  Ond rhaid hefyd cadw’n dynn at fesurau ychwanegol, gan gynnwys ymhlith pethau eraill, rhoi weiar netin a ffens o gwmpas pyllau dŵr, rhoi weiar netin dros fannau crwydro a mesurau eraill i gadw adar gwyllt draw. Mae hyn yn dod â mi yn ôl at fater sefydlu mesurau bioddiogelwch cadarn.  Rydym yn parhau i ymateb mewn ffordd broactif i’r clefyd ac yn y cam nesaf hwn, bydd cyfrifoldeb arnom o hyd i reoli’r clefyd.  Rwy’n parhau i bwyso ar geidwaid i gymryd yr holl gamau sy’n bosibl.  Mae mesurau bioddiogelwch yn hanfodol, nid yn unig yn ein hymateb i Ffliw’r Adar, ond hefyd i ddiogelu’n da byw rhag pob clefyd.  Rwy’n eich cynghori i gynnal asesiad bioddiogelwch, cau’r bylchau a welwch a chymryd pob cam arall posibl. Cadwch olwg ar eich adar a dywedwch ar unwaith os ydych yn credu bod gennych achos o’r ffliw. Cofrestrwch ar Gofrestr Dofednod Prydain waeth faint o adar sydd gennych.  Yn y bôn, gwnewch bopeth i ddiogelu’ch adar a’r Haid Genedlaethol! Fe welwch wybodaeth am y gofynion ym Mharth Atal Ffliw’r Adar, y canllawiau a’r datblygiadau diweddaraf ar wefan Llywodraeth Cymru.
On 11 November, I announced an All Wales Avian Influenza Prevention Zone (AIPZ) to be implemented in response to the increasing risk of avian influenza to our poultry industry in Wales. I made a commitment to keep this under review.  As we are all aware, disease situations develop and change frequently, and it is essential we monitor the situation and ensure our disease response continues to be appropriate. The Prevention Zone introduced enhanced biosecurity measures, which were to be implemented and observed, by all keepers of poultry and other captive birds across Wales.  I am grateful to Industry for their continued efforts in meeting these requirements, as we all have a responsibility in preventing this disease.  Since, introducing the Prevention Zone, as expected, we have seen an increase in both the confirmed cases of avian influenza in poultry units in England and we have now confirmed H5N8 strain of high pathogenic Avian Influenza in 134 wild birds at 26 different locations in 17 different counties from Cornwall to Kent to Northumberland. On 1 December the first wild bird findings have been also confirmed at two separate locations in Wales.  In light of the evidence from the continent and emerging findings in poultry and wild bird populations, the risk of incursion of highly pathogenic avian influenza has been increased by all four Chief Veterinary Officers across the UK, to very high for wild birds and risk of exposure of poultry across the whole GB to be medium (where stringent biosecurity is applied) to high (where there are biosecurity breaches).  Again, I cannot stress enough the critical role effective biosecurity measures play in helping to reduce the risk.  Whilst these findings demonstrate the Prevention Zone is having an effect in raising awareness of avian influenza, and encouraging people to report both suspicions in their stock and the finding of dead birds, I have to consider as to whether the response continues to be proportionate to the increasing risk.  Therefore, after careful consideration of all factors and as a further precautionary measure in response to the increased risk level, I am proposing to declare a housing order as an extension to the all Wales Avian Prevention Zone, under Article 6 of the Avian Influenza and Influenza of Avian Origin in Mammals (Wales) (No. 2\) Order 2006\. The additional housing requirement will apply from 00:00 on 14 December 2020\.  This is in line with other Government administrations across Great Britain. In addition to the biosecurity requirements of the current Prevention Zone, all keepers will be required to house their birds.   Housing in itself however will not reduce the risk of disease, if it is not combined with the most stringent biosecurity practices.  As such, all keepers are advised to conduct a self\-assessment of their biosecurity measures.  This will provide keepers with the evidence they need to ensure they have done all they can to meet the Prevention Zone requirements. This biosecurity assessment will assist you in preparing for 14 December, so I urge all keepers to start this assessment at their earliest available opportunity. It is encouraged for keepers to involve their veterinary surgeon in this process. There is time between now and the 14 December for keepers to prepare – consider your housing facilities.  Do you need any or additional housing structures; are existing structures of a suitable standard and fit\-for purpose?  All keepers are encouraged to undertake these checks and ensure they and their birds are ready for mandatory housing. For those keepers of bird species for which housing would be completely impractical or at a severe detriment to their welfare, controlled access to outside areas may be a more suitable alternative.  This however is dependent on additional measures being rigorously undertaken, including, but not limited to netting and fencing off ponds, completely netted range areas, and additional measures to deter wild birds.   This again brings me back to the importance of establishing robust biosecurity measures. We continue to respond proactively to this disease, and in this next step, we all continue to have a responsibility in disease control.  I continue to urge keepers to take all steps they can.  Biosecurity controls are essential, not only in our response to Avian Influenza, but to prevent all disease threats to our livestock.   I advise you to undertake the biosecurity assessment, rectify gaps you find, and take all further steps possible.  Monitor your birds, and report any concern or suspicion of disease immediately.  Register on the GB Poultry Register, regardless of the number of birds you keep.  In essence, take all steps to protect your birds and our National Flock! Information on the requirements of the Avian Influenza Prevention Zone, guidance and latest developments will be available on the Welsh Government website.
Translate the text from English to Welsh.
The flood alleviation scheme, which runs along the River Ebbw through Risca, was jointly funded by the Welsh Government and Caerphilly County Borough Council and will reduce the flood risk to 278 properties.  The visit by the Cabinet Secretary comes as the Welsh Government announced an additional £33million capital funding for flooding schemes across Wales. The funding will support the Welsh Government’s work with Natural Resources Wales and Local Authorities on priority flood risk management schemes over the next four years.  This is in addition to the £150m innovative coastal risk management scheme which will commence in 2018\. The Cabinet Secretary said: > “I’m pleased to have the opportunity to visit Risca and see this important scheme completed. Earlier this year we promised the people of Wales that, in addition to the £240 million for flood and coastal erosion risk management over the life of the last Government, we would make further investment into flood defences across Wales to protect homes, businesses and motorists. I am delighted we have been able to deliver on this promise.” There is a history of flooding in Risca. The majority of the defences were built in the 1980s and analysis of these identified areas of weakness. As part of the works new flood defence embankments have been constructed and existing defences have been raised and stabilised.  The scheme has also provided additional benefits to the area, including tree planting and improved recreation facilities and access.  The scheme was delivered by Natural Resources Wales.  
 Cafodd y cynllun atal llifogydd, sy’n rhedeg ar hyd yr Afon Ebwy drwy Rhisga, ei gyllido gan Lywodraeth Cymru a Chyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili a bydd yn lleihau perygl llifogydd i 278 eiddo.   Mae ymweliad Ysgrifennydd y Cabinet yn cyd\-daro â chyhoeddiad Llywodraeth Cymru y bydd £33 miliwn o gyllid cyfalaf ychwanegol yn cael ei neilltuo ar gyfer cynlluniau atal llifogydd ar draws Cymru.  Bydd y cyllid yn hwb i waith Llywodraeth Cymru â Cyfoeth Naturiol Cymru ac Awdurdodau Lleol ar gynlluniau rheoli perygl llifogydd  ag iddynt flaenoriaeth dros y pedair blynedd nesaf. Mae hyn yn ychwanegol at y cynllun blaengar i reoli perygl arfordirol gwerth £150m a fydd yn cychwyn yn 2018\.   Dywedodd Ysgrifennydd y Cabinet: > “Pleser yw ymweld â Rhisga a gweld y cynllun pwysig hwn wedi’i gwblhau. Yn gynharach eleni gwnaethom addo y byddem yn buddsoddi rhagor o arian mewn amddiffynfeydd rhag llifogydd ar draws Cymru er mwyn amddiffyn cartrefi, busnesau a modurwyr, a hynny’n ychwanegol at y £240 miliwn ar gyfer gwaith rheoli perygl llifogydd ac erydu arfordirol gydol oes y Llywodraeth ddiwethaf. Rwy’n falch iawn ein bod wedi gallu cadw at yr addewid hwn.” Mae llifogydd wedi bod yn broblem yn Rhisga ers blynyddoedd lawer. Cafodd y rhan fwyaf o’r amddiffynfeydd eu hadeiladu yn yr 1980au a gwelwyd gwendidau ynddynt wrth iddynt gael eu hasesu. Mae argloddiau newydd ar gyfer amddiffyn rhag llifogydd wedi’u hadeiladu ac mae’r amddiffynfeydd presennol wedi’u codi a’u sefydlogi.   Mae’r cynllun wedi cyflawni manteision ychwanegol ar gyfer yr ardal, gan gynnwys gwaith plannu coed a gwell cyfleusterau hamdden a mynediad.   Cyfoeth Naturiol Cymru fu’n gyfrifol am gyflenwi’r cynllun.
Translate the text from Welsh to English.
Erbyn iddynt gyrraedd 11 oed, mae mwy na 40% o blant yng Nghymru naill ai’n ordew neu dros eu pwysau. Dengys ymchwil fod y rhan helaeth o blant gordew yn tueddu i dyfu’n oedolion sy’n ordew. Mae effaith gordewdra ar yr  economi yn sylweddol. Yn 2011, amcangyfrifwyd bod y GIG yng Nghymru wedi gwario £73 miliwn ar ordewdra yn unig, gyda rhwng £1\.40 miliwn a £1\.65 miliwn yn cael ei wario’n wythnosol ar drin afiechydon o ganlyniad i ordewdra. Mae cwmnïau’n cael eu gwahodd i gyflwyno atebion sy’n canolbwyntio ar leihau lefelau’r halen, y siwgr a’r braster dirlawn yn ogystal â chynyddu lefelau’r fitaminau, y mwynau  a’r ffibr a roddir mewn bwyd a diod a ddarperir i blant. Mae gan ysgolion ran allweddol i chwarae wrth ddarparu bwyd iachus a maethlon i blant. Dyna pam mae Llywodraeth Cymru yn edrych am ffyrdd newydd i wella gwerth y maeth sydd mewn prydau ysgol a lleihau’r gost er mwyn sicrhau y gall teuluoedd fforddio’r opsiwn o brynu prydau ysgol. Lansiwyd y gystadleuaeth yn y digwyddiad bwyd mawr cyntaf i’w gynnal yng Nghymru, sef Blas Cymru. Roedd y digwyddiad, a drefnwyd gan Lywodraeth Cymru yn dod â chynrychiolwyr y diwydiant bwyd a diod ledled Cymru a phrynwyr dylanwadol byd\-eang ynghyd. Dywedodd Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig:   > “Mae’r rhaglen hon yn galw ar arloeswyr ym maes bwyd yng Nghymru i ddod atom i helpu iechyd ein plant drwy ddarparu bwyd maethlon o ansawdd, sy’n rhad i’w wneud.  Gall y diwydiant bwyd a diod yng Nghymru ymfalchïo yn ei hanes o arloesi, o lansio cynnyrch newydd a chodi safonau. Rwy’n gofyn i chi nawr ddefnyddio’ch sgiliau, eich talent a’ch creadigrwydd er mwyn mynd i’r afael ag un o’r heriau mwyaf un – gwella deiet ein plant heddiw er mwyn eu galluogi i fod yn oedolion ifanc iach yn y dyfodol.” Bydd y rheini sy’n cyflwyno’u syniadau ar gyfer yr arian yn dod o hyd i atebion arloesol megis y defnydd o dechnolegau prosesu newydd, technegau ail\-lunio a galluogi, dyluniadau peirianneg newydd a phrosesau gweithgynhyrchu hyblyg er mwyn cadw’r costau’n isel. Yn ogystal â gwella deiet plant disgwylir i’r rhaglen gael effeithiau llesol ehangach, fel arbed arian i ysgolion, hybu’r diwydiant bwyd yng Nghymru a gwneud mwy dros enw da’r diwydiant o ran ymchwil ac arloesi. Darperir y cyllid drwy Fenter Ymchwil Busnesau Bach, gan Lywodraeth Cymru ac Innovative UK.
By the age of 11, more than 40% of Welsh children are either obese or overweight. Research shows that the vast majority of obese children tend to grow up to become obese adults. Obesity has a significant impact on the economy. In 2011, obesity alone was estimated to cost the NHS in Wales £73m, with between £1\.4m and £1\.65m spent each week treating diseases resulting from obesity. Companies are being invited to submit solutions which focus on reducing levels of salt, sugar and saturated fat as well as increasing the levels of vitamins, minerals and fibre provided in food and drink for children. Schools have a key role to play in providing children with access to nutritious and healthy food and Welsh Government is also inviting applications which further improve the nutritional value of school means, while reducing the cost to ensure families are able to afford this option. The competition was launched at Wales’ first major food event, Blas Cymru/Taste Wales. The Welsh Government organised event brought together representatives from across Wales’ food and drink industry with influential buyers from all over the world. The Cabinet Secretary for Environment and Rural Affairs, Lesley Griffiths, said:   > “This programme is a call to our food innovators in Wales to help us improve the health of our children by providing good quality and nourishing food, whilst keeping costs down.  The Welsh food and drink industry can be proud of its record in innovation, in launching new products and driving up standards, and I’m now appealing to you to use your skills, talents and creativity, to tackle one of the greatest challenges of all – improving the diets of our children today, to enable them to become the healthy young adults of tomorrow.” Those who submit ideas for funding will come up with innovative solutions such as new processing technologies, reformulation techniques, enabling technologies, new engineering designs and flexible manufacturing processes, to drive down costs. In addition to improving the diet of children it’s expected that the programme will have wider benefits, including, providing financial savings for schools, boosting the food industry in Wales and further enhancing its reputation for research and innovation. The funding is provided through the Small Business Research Initiative (SBRI), from the Welsh Government and Innovative UK. 
Translate the text from Welsh to English.
Mae y ddyletswydd economaidd\-gymdeithasol, sy'n ofynnol o ganlyniad i Ddeddf Cydraddoldeb 2010, yn anelu at sicrhau bod cyrff cyhoeddus perthnasol yn ystyried yr effaith gaiff eu prif benderfyniadau ar fynd i'r afael ag anghydraddoldebau sy'n cael effaith ar fynediad person at adnoddau materol a chymdeithasol h.y. gwaith, addysg a thrafnidiaeth. Cyn i Lywodraeth Cymru ddechrau ar y Ddyletswydd, mae'n gofyn i aelodau'r cyhoedd a'r prif randdeiliaid am eu barn ar nifer o agweddau, gan gynnwys pa gyrff cyhoeddus ddylai gael eu cynnwys yn y ddyletswydd ac i egluro sut y caiff hyn ei gyflawni.   Unwaith y bydd wedi dechrau, bydd y Ddyletswydd yn arwain y cyrff cyhoeddus penodedig ar sut y gall eu penderfyniadau, megis eu blaenoriaethau a'u hamcanion strategol, helpu i leihau anghydraddoldebau sy'n gysylltiedig ag anfantais economaidd\-gymdeithasol. Meddai Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip: > Mae lansio'r ymgynghoriad hwn yn gam hollbwysig yn ein gwaith o ddiogelu cydraddoldeb a hawliau dynol yng Nghymru. > > > Mae cychwyn y ddyletswydd yn rhoi cyfle inni wneud pethau’n wahanol yng Nghymru, gan sicrhau bod mynd i’r afael ag anghydraddoldeb yn rhan ganolog o wneud penderfyniadau strategol. Bydd hyn yn adeiladu ar y gwaith da y mae cyrff cyhoeddus eisoes yn ei wneud i fynd i'r afael ag anghydraddoldebau ac i sicrhau eu bod yn ystyried yr anfantais economaidd\-gymdeithasol fel rhan o'u gwaith. > > > Hoffwn annog unrhyw un sydd â diddordeb, boed yn sefydliad neu yn unigolyn, i ymateb i'r ymgynghoriad i helpu i'n gwneud yn Gymru mwy cyfartal i bawb.
The Socio\-Economic Duty, a requirement of the Equality Act 2010, aims to ensure relevant public bodies consider the impact their key decisions have on addressing the inequalities which impact on a person’s access to both material and social resources i.e. employment, education, transport. Before the Welsh Government commences the Duty, it is asking members of the public and key stakeholders for their views on a number of aspects, including which public bodies should be captured by the duty and clarification on how it is delivered. Once commenced, the Duty will guide the specified public bodies on how their decisions, such as their strategic priorities and objectives, can help to reduce inequalities associated with socio\-economic disadvantage. Deputy Minister and Chief Whip Jane Hutt said: > The launch of this consultation marks a crucial step in our work to safeguard equality and human rights in Wales. > > > Commencing the Duty gives us an opportunity to do things differently in Wales, putting tackling inequality at the heart of strategic decision\-making. This will build on the good work public bodies are already doing to tackle inequality and ensure they hold due regard to socio\-economic disadvantage as part of their work. > > > I’d urge anyone interested, whether you’re an organisation or individual, to respond to the consultation to help us make a more equal Wales for all.
Translate the text from Welsh to English.
Ar 1 Ebrill 2014, gwnaeth y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd Ddatganiad llafar yn y Siambr ar: Cynnydd o ran Sicrhau Twf: Cynllun Gweithredu ar gyfer y Diwydiant Bwyd a Diod yng Nghymru. Gallwch weld y datganiad ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru (dolen allanol). Os ydych yn cael anhawster i fynd at y datganiad drwy'r hyperddolen yna gallwch ei weld ar wefan Cynulliad Cenedlaethol Cymru drwy ddewis y canlynol: www.cynulliadcymru.org/ Busnes y Cynulliad/Cyfarfodydd Llawn/Cofnodion o drafodion y Cyfarfodydd Llawn/Cyfarfodydd Llawn/dewiswch ddyddiad perthnasol y cyfarfod llawn o'r gwymplen/dewiswch ddatganiad o'r dudalen gynnwys. 
On 1 April 2014, the Minister for Natural Resources and Food made an oral Statement in the Siambr on: Progress towards Delivering Growth, an Action Plan for the Food and Drink Industry in Wales. The Statement can be accessed on the National Assembly for Wales website (external link).   If you have difficulty accessing the statement via the hyperlink then you can access it on the National Assembly for Wales website by selecting the following: www.assemblywales.org/ Assembly Business/Plenary Meetings/Records of Plenary Proceedings/Plenary meetings/select relevant date of plenary meeting from the drop down menu/select statement from the contents page. 
Translate the text from Welsh to English.
Cafodd y bartneriaeth ei chreu ym mis Mawrth 2006 gydag arian ar y cyd i recriwtio 21 o Swyddogion Cymorth Cymunedol i wneud teithwyr ar y rheilffyrdd yn fwy diogel. Bydd y grant refeniw yn parhau, gyda £265,000 yn cael ei neilltuo yn 2018\-29, £273,000 yn 2019\-20 a £281,000 yn 2020\-21 i Heddlu Trafnidiaeth Prydain dalu am bersonel gweithredol ychwanegol yn Is\-adran Cymru.  Mae Llywodraeth Cymru wedi cymeradwyo hefyd £194,000 o arian ychwanegol ar gyfer blwyddyn gyntaf (20181\-19\) a £196,000 ar gyfer ail flwyddyn (2029\-20\) cynllun peilot i ehangu'r gwasanaeth plismona cymdogaeth yn y Rhyl, Dinbych\-y\-pysgod a Machynlleth ac ar reilffyrdd yr ardal.  Yn Ninbych\-y\-pysgod a Machynlleth, bydd Swyddogion Cymorth Cymunedol yn cydweithio â heddlu'r Swyddfa Gartref. Yn y Rhyl, bydd rhingyll ag iwnifform yn ogystal â Swyddogion Cymorth Cymunedol yn rhan o'r cynllun peilot.  Caiff y cynllun ei arfarnu a gallai gael ei adnewyddu.  Dywedodd Ken Skates, Ysgrifennydd yr Economi:   > "Mae'n rheilffyrdd yn hanfodol i gadw pethau i symud, boed i'n cario i'r gwaith, i gymdeithasu neu i'n helpu i leihau nifer y ceir yn ein trefi a'n dinasoedd.  > > "Mae'n bwysig bod teithwyr ar ein trenau'n teimlo'n sâff ac mae gan Heddlu Trafnidiaeth Prydain ran bwysig iawn yn hynny o beth.  > > "Trwy gynyddu'r gwasanaeth plismona cymdogaeth yn y Rhyl, Dinbych\-y\-pysgod a Machynlleth, byddwn yn gofalu am deithwyr ar hyd yn oed mwy o leiniau Trenau Arriva Cymru.  > > "Mae'n harian wedi helpu Heddlu Trafnidiaeth Prydain, sydd wedi rhagori ar eu targed lleihau troseddau dros y tair blynedd diwethaf, a gwneud yn well na Heddluoedd Trafnidiaeth ardaloedd eraill a heddluoedd y Swyddfa Gartref, ac ennill sawl gwobr. Bydd disgwyl i enillydd masnachfraint nesaf Cymru a'r Gororau barhau i gyfrannu, fel ag y mae Trenau Arriva Cymru heddiw, at y cynllun tridarn.
The continuing revenue grant funding will see £265,000 in 2018\-19, £273,000 in 2019\-20 and £281,000 in 2020\-21 going to British Transport Police to fund their existing additional operational personnel operating in the Welsh Sub Division. Welsh Government has also approved additional grant funding of £194,000 for the first year (2018\-19\) and £196,000 for a second year (2019\-2020\) for a pilot scheme to expand neighbourhood policing at Rhyl, Tenby and Machynlleth and surrounding railway routes.  At Tenby and Machynlleth, the PCSO’s will be based alongside Home Office police for partnership working. At Rhyl, there will be a uniformed sergeant as well as PCSO’s under the pilot scheme, which will be evaluated with a view to potentially renewing it. Economy Secretary Ken Skates said:  > "Our railways are vital in keeping the country moving, whether it is to carry us to work, to socialise, or in our efforts to reduce the number of cars in our towns and cities. > > "It is important to all rail users that they feel safe and the British Transport Police play a huge part in this.  > > "By expanding neighbourhood policing at Rhyl, Tenby and Machynlleth, we will be looking after passengers on even more of the Arriva Trains Wales lines. > > "Our funding has helped BTP, who considerably exceeded their crime reduction target over the last three years, out\-performing other BTP areas and Home Office forces, and winning a number of awards. The holder of the forthcoming new Wales and Borders franchise will be expected to continue the tripartite funding contribution currently provided by Arriva Trains Wales."
Translate the text from English to Welsh.
Families can get a pre\-paid card that is topped up every 4 weeks with credit to buy healthy food \- fruit, vegetables, pulses and milk and infant formula. They can also get free Healthy Start vitamins. Currently, nearly 40% of people within Wales who are eligible for the scheme are not claiming it. Healthy Start is available to those who are more than 10 weeks pregnant or have a child under four, and are in receipt of certain benefits. From the 10th week of pregnancy until a child turns 4, you could be entitled to more than £1,200 to spend on healthy food. Healthy Start cards can be used in retailers that sell food and accept MasterCard. They can be used to buy: * cow’s milk * fresh, frozen and tinned fruit and vegetables * dried and tinned pulses * first infant formula milk You can also collect free Healthy Start vitamins. Taking certain vitamins during pregnancy and in early childhood improves both mothers’ and children’s health – just ask your midwife or health visitor for advice on where to get them. Flintshire mum\-of\-two Emma already benefits from Healthy Start. Emma was told about the scheme by her partner’s mother. Following the birth of her first child, she began accessing the scheme in 2019 and then again after her second child was born. Emma says the Healthy Start Scheme has helped financially and encouraged her to buy healthy foods. To make the most of her allowance, which is automatically added to her card every four weeks, Emma  said: > My tip would be to organise and plan ahead what meals you are going to make for the family. I use fresh fruit and vegetables, but I also use frozen and tinned fruit and vegetable so we can always have some in the meals we make. I always use my Healthy Start allocation to buy these foods. Deputy Minister for Mental Health and Wellbeing, Lynne Neagle said: > Typically four in ten people in Wales who could be receiving Healthy Start have not yet applied. I would urge people who think they may qualify to apply on line. Sadly, the increased cost of living is affecting so many families in Wales and across the UK, and I want to ensure that people are aware of Healthy Start and making use of the scheme to help them buy healthy food for their families. To find out if you’re eligible visit www.healthystart.nhs.uk.
Gall teuluoedd gael cerdyn wedi’i ragdalu, yr ychwanegir credyd iddo bob pedair wythnos, i brynu bwyd iach – ffrwythau, llysiau, codlysiau, llaeth a fformiwla babanod. Gallant hefyd gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim. Ar hyn o bryd, nid yw bron i 40% o bobl sy’n gymwys i’r cynllun yng Nghymru yn ei hawlio. Mae’r cynllun Cychwyn Iach ar gael i’r rhai hynny sydd dros 10 wythnos yn feichiog neu sydd â phlentyn o dan 4 oed ac sy’n cael budd\-daliadau penodol. I gael gwybod a ydych chi’n gymwys, ewch i www.healthystart.nhs.uk. O ddegfed wythnos eich beichiogrwydd nes bod eich plentyn yn 4 oed, gallwch fod yn gymwys i fwy na £1,200 i’w wario ar fwyd iach. Gellir defnyddio cardiau Cychwyn Iach mewn siopau sy’n gwerthu bwyd ac sy’n derbyn MasterCard. Gellir defnyddio’r cardiau i brynu: * llaeth buwch * ffrwythau a llysiau ffres, wedi’u rhewi neu mewn tuniau * codlysiau sych neu mewn tuniau * llaeth fformiwla babanod cyntaf Gallwch hefyd gael fitaminau Cychwyn Iach am ddim. Mae cymryd fitaminau penodol yn ystod beichiogrwydd ac ym mlynyddoedd cynnar y plentyn yn gwella iechyd y fam a’r plentyn \- gofynnwch i’ch bydwraig neu eich ymwelydd iechyd am gyngor ar ble i’w cael. Mae Emma, mam i ddau o Sir y Fflint eisoes yn elwa o’r cynllun Cychwyn Iach. Cafodd Emma wybod am y cynllun gan fam ei phartner. Ar ôl genedigaeth ei phlentyn cyntaf, dechreuodd Emma fanteisio ar y cynllun yn 2019 ac eto wedyn wedi i’w hail blentyn gael ei eni. Mae Emma yn dweud bod y Cynllun Cychwyn Iach wedi bod o gymorth iddi’n ariannol ac wedi’i hannog i brynu bwydydd iach. I wneud y mwyaf o’r taliadau sy’n cael eu hychwanegu’n awtomatig i’w cherdyn bob pedair wythnos, dywedodd Emma: > Fy nghyngor i fyddai trefnu a chynllunio pa brydau bwyd rydych chi am eu coginio i’r teulu ymlaen llaw. Rwy’n defnyddio ffrwythau a llysiau ffres, ond rwyf hefyd yn defnyddio ffrwythau a llysiau wedi’u rhewi neu mewn tuniau fel ein bod yn eu cynnwys bob tro yn y prydau rydyn ni’n eu coginio. Rwyf i wastad yn defnyddio fy nhaliadau Cychwyn Iach i brynu’r bwydydd hyn. Dywedodd Lynne Neagle, Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant: > Yn gyffredinol, nid yw pedwar o bob deg person yng Nghymru a allai fod yn cael cefnogaeth gan y cynllun Cychwyn Iach wedi gwneud cais eto. Rwy’n annog pobl sy’n meddwl y gallent fod yn gymwys i wneud cais ar\-lein. Yn anffodus, mae’r costau byw cynyddol yn effeithio ar gymaint o deuluoedd yng Nghymru, a ledled y Deyrnas Unedig. Rwy’n awyddus i sicrhau bod pobl yn ymwybodol o Cychwyn Iach a’u bod yn defnyddio’r cynllun i’w helpu i brynu bwyd iach i’w teuluoedd. I weld a ydych chi’n gymwys, ewch i www.healthystart.nhs.uk
Translate the text from Welsh to English.
Bu newidiadau sylweddol yn Amgueddfa Cymru yn ystod y misoedd diwethaf a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i roi diweddariad i Aelodau. Ers fy diweddariad diwethaf ym mis Rhagfyr, cyhoeddodd David Anderson y byddai'n rhoi'r gorau i'w swydd fel Cyfarwyddwr Cyffredinol i ymgymryd â'r rôl o athro ymweld yn Ysgol Llywodraethu Prifysgol Caerdydd. Hoffwn ddiolch i David am ei ymroddiad i'r Amgueddfa. Yn ystod ei 12 mlynedd o wasanaeth, bu'n goruchwylio'r gwaith o drawsnewid Amgueddfa Sain Ffagan er mwyn dod yn Amgueddfa Werin Cymru yn ogystal â datblygu rhaglenni ac ymchwil newydd a oedd yn canolbwyntio ar ehangu rôl amgueddfeydd mewn cymdeithas a phwysigrwydd democratiaeth ddiwylliannol. Cyfrannodd hefyd at roi cyfarwyddyd strategol clir i Amgueddfa Cymru ar gyfer y blynyddoedd nesaf gyda strategaeth 2030 a'i chwe ymrwymiad. Mae is\-lywydd Amgueddfa Cymru, Dr Carol Bell, yn ysgwyddo cyfrifoldebau ychwanegol ar hyn o bryd. Rwy'n ddiolchgar iawn i Dr Bell am ei hymroddiad parhaus ac am y profiad a'r parhad a ddaw i'r Bwrdd.   Rwy'n falch o gyhoeddi bod yr ymgyrch recriwtio ar gyfer cadeirydd ac is\-gadeirydd newydd Amgueddfa Cymru wedi ei lansio heddiw. Mae'r rhain yn gyfleoedd cyffrous i ymuno â Bwrdd un o sefydliadau diwylliannol pwysicaf Cymru a helpu i osod y cyfeiriad ar gyfer ei ddyfodol. Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw 11 Ebrill a byddaf yn  llenwi'r swyddi hyn erbyn yr haf. Yn dilyn cyngor gan y panel Adolygu Teilwredig, rwyf wedi cytuno ar y newid mewn enw gan y llywydd a'r is\-lywydd er mwyn adlewyrchu natur y rolau yn well. Ar ôl eu penodi, bydd y cadeirydd a'r is\-gadeirydd newydd yn arwain y Bwrdd ac yn gweithio gyda thîm gweithredol Amgueddfa Cymru a Llywodraeth Cymru i hyrwyddo argymhellion yr Adolygiad Teilwredig. Sefydlwyd y panel Adolygu Teilwredig ym mis Awst 2022 ac mae'n cael ei arwain gan David Allen. Cafodd adroddiad interim ei rannu gyda'r Amgueddfa a swyddogion Llywodraeth Cymru ym mis Rhagfyr er mwyn trafod a chael adborth. Bydd yr adroddiad terfynol i'w weld yn ddiweddarach eleni.  Yn olaf, penodwyd dau ymddiriedolwr newydd i'r Bwrdd yn ddiweddar a hoffwn groesawu John Hunt ac Ameerah Mai. Maent yn dod â safbwyntiau, egni a phrofiad newydd ac rwy'n siŵr y byddant yn gwneud cyfraniad sylweddol i waith y Bwrdd.
There have been significant changes at Amgueddfa Cymru – National Museum Wales in recent months and I would like to take this opportunity to provide Members with an update. Since my last update in December, David Anderson announced he would be stepping down as Director General to take up the role of visiting professor at the School of Governance at Cardiff University. I want to thank David for his dedication to the Amgueddfa. During his 12 years of service, he oversaw the transformation of St Fagans Museum to become the National Museum of History for Wales as well as the development of new programmes and research focused on broadening the role of museums in society and the importance of cultural democracy. He also contributed to giving Amgueddfa Cymru clear strategic direction for the coming years with the 2030 strategy and its six commitments. Amgueddfa Cymru’s vice president Dr Carol Bell is currently taking on additional responsibilities. I am very grateful to Dr Bell for her continued dedication and for the experience and continuity she brings to the Board. I am pleased to announce the recruitment campaign for a new chair and vice chair of Amgueddfa Cymru has been launched today. These are exciting opportunities to join the Board of one of Wales’ most important cultural organisations and help set the direction for its future. The closing date for applications is 11 April and I hope these positions will be filled by the summer. Following advice from the Tailored Review panel, I have agreed the change in name from president and vice president to better reflect the nature of the roles. Once appointed, the new chair and vice chair will lead the Board and work with Amgueddfa Cymru’s executive team and Welsh Government to take forward the recommendations of the Tailored Review. The Tailored Review panel was established in August 2022 and led by David Allen. An interim report was shared with the Museum and Welsh Government officials in December for discussion and feedback. The final report will be available later this year. Finally, I recently appointed two new trustees to the Board and would like to welcome John Hunt and Ameerah Mai. They bring new perspectives, energy and experience and I am sure they will make a significant contribution to the Board’s work.
Translate the text from English to Welsh.
Members will be aware that the UK government made provision to ensure that travellers entering the United Kingdom from overseas must self\-isolate for 14 days, to prevent the further spread of coronavirus. These restrictions came into force on Monday 8 June 2020\. Since then these regulations have been kept under review and a number of changes have been made: * on 10 July the Welsh Government amended the Regulations to introduce exemptions from the self\-isolation requirement for a list of countries and territories, and a limited range of people in specialised sectors or employment who may be exempt from or except from certain restrictions; * on 11 July Serbia was removed from the list of exempt countries and territories because of concerns about the increased public health risk presented by travellers from that country entering the UK; * subsequently on 26 July Spain and its islands was removed from the list of exempt countries and territories for the same reason. A review of both the Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) Regulations 2020 and the Health Protection (Coronavirus, Public Health Information for Persons Travelling to Wales etc.) Regulations 2020 (international travel and passenger information regulations) was undertaken on 27 July. I have decided that no changes are required to the passenger information regulations. In light of the review, however, the Welsh Government intends to further amend the Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) Regulations 2020 by adding to the list of sporting events in Schedule 4 which permit exceptions from isolation for those involved, make a further minor technical amendment to the definition of sewerage licensee and to add the following to the list of exempt countries and territories; 1. Latvia 2. Estonia 3. Slovakia 4. Slovenia 5. St Vincent and the Grenadines. Earlier today I attended a meeting of ministers from all four UK countries to consider the public health risk posed by an increasing prevalence of COVID\-19 in Luxembourg. Having considered the evidence for the public health risk now posed by travellers who enter the UK from that country, the Welsh Government will also later today remove Luxembourg from the list of countries and territories exempt from our health measures at the border. An urgent amendment will be introduced to the Health Protection (Coronavirus, International Travel) (Wales) Regulations 2020 which will come into effect from midnight tonight. This will mean that anyone who arrives from Luxembourg (or who has been in Luxembourg during the past 14 days) will be required to quarantine for 14 days as of tomorrow. When the Regulations are laid the Minister for Finance and Trefnydd will write to the Llywydd, in accordance with the requirements of the Statutory Instruments Act 1946 and our usual practice. This statement is being issued during recess in order to keep members informed. Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Senedd returns I would be happy to do so.
Bydd yr Aelodau'n ymwybodol bod Llywodraeth y DU wedi gwneud darpariaeth i sicrhau bod teithwyr sy'n cyrraedd y Deyrnas Unedig o wledydd tramor yn gorfod hunanynysu am 14 diwrnod, er mwyn atal y coronafeirws rhag lledaenu ymhellach.  Daeth y cyfyngiadau hyn i rym ddydd Llun 8 Mehefin 2020\. Ers hynny, mae'r rheoliadau hyn wedi parhau i gael eu hadolygu ac mae nifer o newidiadau wedi'u gwneud: * ar 10 Gorffennaf, diwygiodd Llywodraeth Cymru y Rheoliadau i gyflwyno eithriadau i’r gofyniad i hunanynysu ar gyfer rhestr o wledydd a thiriogaethau, ac ystod gyfyngedig o bobl mewn sectorau arbenigol neu gyflogaeth a allai fod wedi'u heithrio rhag cyfyngiadau penodol; * ar 11 Gorffennaf tynnwyd Serbia o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio, oherwydd pryderon am y risg uwch i iechyd y cyhoedd wrth i deithwyr o'r wlad honno ddod i'r DU; * wedi hynny, ar 26 Gorffennaf, tynnwyd Sbaen a'i hynysoedd o’r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio, am yr un rheswm. Cynhaliwyd adolygiad o Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a Rheoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Gwybodaeth Iechyd y Cyhoedd ar gyfer Personau sy'n Teithio i Gymru etc.) 2020 (rheoliadau teithio a gwybodaeth i deithwyr rhyngwladol) ar 27 Gorffennaf.  Rwyf wedi penderfynu nad oes angen unrhyw newidiadau i'r rheoliadau gwybodaeth i deithwyr. Yn sgil yr adolygiad, fodd bynnag, mae Llywodraeth Cymru yn bwriadu gwneud diwygiadau pellach i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 drwy ychwanegu at y rhestr o ddigwyddiadau chwaraeon yn Atodlen 4 sy'n caniatáu i’r rhai sy’n gysylltiedig â hwy gael eu heithrio rhag y gofyniad i hunanynysu. Yn ogystal, gwneir mân ddiwygiad technegol pellach i'r diffiniad o ddeiliad trwydded garthffosiaeth ac ychwanegir y canlynol at y rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi’u heithrio: 1. Latfia 2. Estonia 3. Slofacia 4. Slofenia 5. St Vincent a’r Grenadines Yn gynharach heddiw, mynychais gyfarfod o Weinidogion o bob un o bedair gwlad y DU i ystyried y risg i iechyd y cyhoedd yn sgil y nifer cynyddol o achosion o COVID\-19 yn Lwcsembwrg.  Ar ôl ystyried y dystiolaeth ynglŷn â’r risg i iechyd y cyhoedd erbyn hyn wrth i deithwyr ddod i'r DU o'r wlad honno, bydd Llywodraeth Cymru, yn ddiweddarach heddiw, yn tynnu Lwcsembwrg o'r rhestr o wledydd a thiriogaethau sydd wedi'u heithrio o'n mesurau iechyd ar y ffin. Bydd diwygiad brys yn cael ei gyflwyno i Reoliadau Diogelu Iechyd (Coronafeirws, Teithio Rhyngwladol) (Cymru) 2020 a fydd yn dod i rym am hanner nos heno.  Bydd hyn yn golygu y bydd gofyn i unrhyw un sy'n cyrraedd o Lwcsembwrg (neu sydd wedi bod yn Lwcsembwrg yn ystod y 14 diwrnod diwethaf) dreulio 14 diwrnod mewn cwarantin, o yfory ymlaen. Pan gaiff y Rheoliadau eu gosod bydd y Gweinidog Cyllid a'r Trefnydd yn ysgrifennu at y Llywydd, yn unol â gofynion Deddf Offerynnau Statudol 1946 a'n trefn arferol. Caiff y datganiad hwn ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Senedd yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.
Translate the text from English to Welsh.
Speaking at the NHS research and development conference in Newport, the Finance Secretary will talk about the Welsh Government’s aim for Wales to continue to have access to vital EU research and innovation programmes such as Horizon 2020\. Welsh Ministers have repeatedly made it clear that Wales’ scientific and research community must not be left isolated from our European partners and stressed the importance of Wales continuing to be part of EU\-led programmes. Mark Drakeford will say;  > “As well as the challenges of austerity and increasing demand, we must also acknowledge the challenge of Brexit and the uncertain times we face. > > “We know countries and regions across the world are facing common and significant health and care challenges. Diseases do not recognise national borders and our challenges cannot be addressed in isolation. Continued cross\-border collaboration in research, development and innovation, (principally through the Horizon 2020 programme at present), is particularly important and should continue after the UK has left the EU.”
Wrth siarad mewn cynhadledd ymchwil a datblygu yng Nghasnewydd, bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn trafod nod Llywodraeth Cymru o barhau i sicrhau mynediad at raglenni ymchwil ac arloesi hanfodol yr UE, gan gynnwys Horizon 2020\. Dro ar ôl tro, mae Gweinidogion Cymru wedi nodi'n glir na ddylai cymuned wyddonol ac ymchwil Cymru gael ei hynysu oddi wrth ein partneriaid Ewropeaidd, ac maent wedi pwysleisio pa mor bwysig ydyw i Gymru barhau i fod yn rhan o raglenni dan arweiniad yr UE. Bydd Mark Drakeford yn dweud: > "Yn ogystal â chydnabod heriau cyni a galw cynyddol, rhaid inni hefyd gydnabod her Brexit a'r cyfnod ansicr sy'n ein hwynebu. > > "Rydyn ni'n gwybod bod gwledydd a rhanbarthau ledled y byd yn wynebu yr un heriau iechyd a gofal sylweddol. Nid yw clefydau'n ystyried ffiniau cenedlaethol, ac nid oes modd inni fynd i'r afael â'r heriau wrth ein hunain. Mae parhau i gydweithio ar draws ffiniau wrth ymchwilio, datblygu ac arloesi (yn benodol drwy raglen Horizon 2020 ar hyn o bryd), yn bwysig iawn a dylai hyn barhau ar ôl i'r Deyrnas Unedig ymadael â'r Undeb Ewropeaidd." Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid, Mark Drakeford yn pwysleisio pwysigrwydd parhau i gydweithio â'r UE i ymchwilio a datblygu ar ôl Brexit.
Translate the text from Welsh to English.
Hoffwn roi diweddariad i’r Aelodau ar y gwaith o Ddiogelu ac Amddiffyn Plant o fewn GIG Cymru. Mae sicrhau bod ein plant yn ddiogel ac yn cael eu hamddiffyn rhag niwed yn un o flaenoriaethau pennaf Llywodraeth Cymru. Felly, rwy’n awyddus i sicrhau bod Diogelu ac Amddiffyn Plant o fewn GIG Cymru yn dal i gael lle amlwg ar agenda pob un ohonom, a’n bod ni ac asiantaethau allweddol eraill yn dal i wneud cyfraniad hanfodol at sicrhau bod plant Cymru yn cael eu diogelu a’u hamddiffyn. Rwy’n falch fod cynnydd wedi’i wneud, ond mae’n anorfod fod rhagor o ffordd i fynd. Hwn yw fy natganiad blynyddol i’r Cynulliad Cenedlaethol ar Ddiogelu ac Amddiffyn Plant o fewn GIG Cymru. Lansiwyd ymgyrch ar 30 Medi i godi ymwybyddiaeth y cyhoedd o beryglon anaf i’r pen yn sgil ysgwyd babanod, mewn cynhadledd a gynhaliwyd gan Wasanaeth Diogelu Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru, ar y cyd â Plant yng Nghymru. Yr Athro Jean White, y Prif Swyddog Nyrsio, oedd yn cadeirio’r digwyddiad. Roedd yr ymgyrch yn canolbwyntio’n llwyr ar ddysgu rhieni am beryglon ysgwyd babanod, gyda golwg ar leihau nifer y babanod sy’n cael eu lladd neu eu hanafu’n ddifrifol fel hyn. Mae Llywodraeth Cymru wedi diwygio’r cytundeb lefel rhaglen gyda Gwasanaeth Diogelu Plant Iechyd Cyhoeddus Cymru, sy’n nodi ein disgwyliadau eglur o ran darparu’r gwasanaeth hollbwysig hwn. Mae’r Gwasanaeth Diogelu Plant yn darparu cyngor annibynnol ar ddiogelu a chefnogaeth gyffredinol i weithgarwch diogelu plant o fewn GIG Cymru. Mae hefyd yn darparu arweinyddiaeth glinigol drwy Rwydwaith Diogelu Plant y GIG. Mae’r Rhwydwaith wedi hen ennill ei blwyf erbyn hyn ac mae ganddo raglen waith sy’n ceisio parhau i hybu arferion da, gan gynnwys rhannu arferion gorau a dysgu, yn ogystal â datblygu polisïau a phrotocolau ar gyfer Cymru gyfan. Rhoddwyd fframwaith canlyniadau ansawdd newydd ar waith ar draws GIG Cymru. Caiff ei ddefnyddio gan Fyrddau Iechyd Lleol ac Ymddiriedolaethau’r GIG fel y gallant asesu eu cyfraniad at sicrhau canlyniadau da i blant a phobl ifanc. Bydd y casgliadau blynyddol yn helpu i sefydlu safonau a phennu amcanion pendant a fydd yn llywio gwelliannau drwy Gymru gyfan. Mae gweithgor arbenigol ar hyfforddiant diogelwch ar gyfer GIG Cymru wedi argymell set gyffredin o safonau, fel bod staff y GIG, ymarferwyr gofal sylfaenol, contractwyr, gwirfoddolwyr a’r trydydd sector yn dilyn yr un drefn wrth ddarparu gwasanaethau.  Mabwysiadwyd y ddogfen rhyng\-golegol a gyhoeddwyd gan y Coleg Brenhinol Pediatreg ac Iechyd Plant ar ran y sefydliadau a gyfrannodd ati, i’w rhoi ar waith ledled Cymru.  Bydd y ddogfen gyfeirio benodol hon yn sicrhau eglurder i bob sector ac yn gwneud yr hyfforddiant ar gyfer staff/contractwyr/gwirfoddolwyr yn fwy perthnasol wrth iddynt symud o gwmpas Cymru a’r DU. Caiff tystiolaeth o’r hyfforddiant ei chofnodi ar y Cofnod Staff Electronig, a bydd hyn yn helpu wrth adrodd i’r Bwrdd Iechyd Lleol am gyfraddau cydymffurfio, a nodi a oes angen diweddaru’r hyfforddiant. Sefydliadau’r GIG a arferai fod yn gyfrifol am ddangos eu bod yn bodloni’r gofynion, ac ymateb i unrhyw ddiffygion. Rhaid i Brif Weithredwyr y Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd sicrhau bod adroddiadau a diweddariadau perthnasol ar hyfforddiant diogelu yn cael eu cynnwys yn yr adroddiad blynyddol fel mater o drefn. Rhoddwyd esboniad i’r GIG o’r angen i ailadrodd gwiriadau’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ar gyfer staff sy’n gofalu am blant. Rhaid i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd gydymffurfio â gofynion canllawiau Llywodraeth Cymru. Rhaid iddynt sicrhau bod pob gweithiwr gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd pan gaiff ei gyflogi gyntaf, os yw hynny’n fandadol, a bod gwiriadau yn cael eu cynnal yn rheolaidd bob 3 blynedd o leiaf, drwy gydol y cyfnod y caiff y gweithiwr ei gyflogi. Rhoddwyd gwybod i’r Byrddau a’r Ymddiriedolaethau Iechyd hefyd fod diffiniad newydd o ‘weithgaredd a reoleiddir’ mewn perthynas â phlant erbyn hyn, yn sgil cyflwyno’r Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd ym mis Rhagfyr 2012\. Rhaid i Fyrddau ac Ymddiriedolaethau Iechyd sicrhau bod eu gweithdrefnau gwirio yn cydymffurfio â’r ddeddfwriaeth ac mai dim ond os yw hynny’n gyfreithiol y cynhelir gwiriadau. Daeth Adolygiadau Ymarfer Plant newydd i rym yng Nghymru ar 1 Ionawr, gan ddisodli’r Adolygiadau Achos Difrifol. Rwy’n gwybod bod cydweithwyr o fewn y GIG wedi gwneud cyfraniad allweddol at ddatblygu’r trefniadau hyn. Mae’r fframwaith newydd, blaengar hwn yn symud oddi wrth y ‘diwylliant o feio’ a arferai fod yn gysylltiedig ag achosion amddiffyn plant. Dylai hyn wella’r broses o ddysgu ac adolygu ar gyfer pob gweithiwr proffesiynol sy’n ymwneud ag amddiffyn plant. Bydd y fframwaith newydd hwn hefyd yn datblygu ac yn gwella ansawdd a chynaladwyedd y trefniadau sydd gennym heddiw i ddiogelu plant.     Bellach cyhoeddwyd ffrwyth yr ymchwil i’r defnydd o fframwaith Cytundeb Rhannu Gwybodaeth Bersonol Cymru (WASPI) wrth ddatblygu Protocolau ar gyfer Rhannu Gwybodaeth, gan gynnwys yng nghyd\-destun diogelu. Byddwn yn gwrando ar farn arweinwyr ar ddiogelu yn y gwasanaeth iechyd a’r gwasanaethau cymdeithasol am y canfyddiadau ac unrhyw gamau y gall fod angen eu cymryd. Caiff hyn ei gyhoeddi wedyn. Trefnwyd rhaglen waith gyfun yn ystod y flwyddyn a aeth heibio, yn sgil y ddeddfwriaeth a’r canllawiau, er mwyn parhau i gryfhau trefniadau diogelu amlasiantaeth yng Nghymru. Cyflwynodd Gwenda Thomas AC, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol, Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) i’r Cynulliad ym mis Ionawr. Bydd y Bil yn helpu i greu sylfaen gadarn ar gyfer newid sylfaenol, gan gryfhau trefniadau diogelu ac amddiffyn.     Bydd y trefniadau newydd hyn yn sicrhau bod asiantaethau lleol yn cael arweiniad mwy cadarn i’w cefnogi, a fframwaith cryfach a mwy effeithiol ar gyfer cydweithio amlasiantaethol. Mae’r Bil yn cynnwys darpariaeth ar gyfer sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol newydd a fydd yn helpu i godi safonau a gwella cysondeb. Bydd hefyd yn gyfrifol am roi gwybod i’r Gweinidogion pa mor ddigonol ac effeithiol yw’r trefniadau diogelu. Mae Llywodraeth Cymru wastad wedi cydnabod bod cydweithredu amlasiantaethol yn hollbwysig er mwyn diogelu’n effeithiol, a bod diogelu yn fater i bawb. Yn ôl y dystiolaeth sydd o’n blaenau nid yw’r Byrddau Lleol Diogelu Plant yn gweithio yn y ffordd roeddem wedi gobeithio, ac ni allant ddangos eu bod yn diogelu plant yn effeithiol. Mae angen mynd i’r afael â hyn a sicrhau bod gennym well fframwaith ar gyfer gweithredu sy’n sicrhau bod gwaith y Byrddau yn gwella ac yn dod yn fwy cyson. Mae’r Dirprwy Weinidog wedi credu erioed bod angen cael llai o Fyrddau er mwyn gwneud hyn, a hynny er mwyn sicrhau cysondeb, gwella’r ffordd maent yn gweithredu a’u gwneud yn fwy cynaliadwy. Gwn fod sawl ardal yng Nghymru eisoes wedi sefydlu patrwm mwy cydweithredol, ymhell cyn i’r ddeddfwriaeth ddod i rym.   Sefydlodd y Dirprwy Weinidog y Panel Cynghori ar Ddiogelu yn ddiweddar. Phil Hodgson yw’r cadeirydd ac mae’r Panel yn gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol i ddatblygu’r trefniadau manwl i sicrhau bod darpariaethau’r Bil yn cael eu gweithredu’n effeithiol. Mae’n hollbwysig bod GIG Cymru yn sicrhau bod hyn wrth wraidd y gwaith hanfodol hwn.   Mae’r Dirprwy Weinidog wedi paratoi datganiad ysgrifenedig ar hynt y gwaith o ddatblygu trefniadau diogelu ac amddiffyn i’w gweithredu drwy’r Bil. Mae’r Bil yn ceisio chwalu rhwystrau artiffisial sy’n seiliedig ar oed, ac yn cyflwyno’r cysyniad ehangach o fodel yn seiliedig ar bobl. Yng nghyd\-destun diogelu, bydd hyn i’w weld yn fwyaf amlwg yn sgil sefydlu Bwrdd Diogelu Annibynnol Cenedlaethol ar gyfer plant ac oedolion fel ei gilydd, wedi i’r Cynulliad Cenedlaethol graffu arno a’i gymeradwyo. Rwyf o blaid symud ymlaen fel hyn ac rwy’n bwriadu gweithredu mewn modd tebyg yn fy natganiadau Gweinidogol pellach, a fydd yn mynd i’r afael â chyfrifoldebau diogelu’r GIG ar gyfer plant ac ar gyfer oedolion y bernir eu bod mewn perygl.
  I would like to update Members on Safeguarding and Protecting Children in NHS Wales. Ensuring our children are safe and protected from harm is a high priority for the Welsh Government. As such, I wish to ensure that Safeguarding and Protecting Children in NHS Wales remains visibly high on all our agendas and that it continues to play avital role alongside other key agencies in ensuring children in Wales are  safeguarded and protected. I am pleased that progress has been made. Inevitably though there is more to do. This is my annual statement to the National Assembly on Safeguarding and Protecting Children in NHS Wales. On 30 September a campaign to raise public awareness about the dangers of head injury from shaking babies was launched with a conference held by the Safeguarding Children Service, Public Health Wales, in conjunction with Children in Wales. The event was chaired by my Chief Nursing Officer, Professor Jean White, with the strong and essential objective of properly educating parents of the dangers of shaking babies with a view to reducing the number of infants killed or seriously harmed in this way. The Welsh Government has revised the programme level agreement with the Safeguarding Children Service, Public Health Wales, which sets out our clear expectations for the delivery of this essential service. The Safeguarding Children Service provides independent safeguarding advice and overarching support for child safeguarding activity in NHS Wales, as well as clinical leadership through the NHS Safeguarding Children Network.  This network is now well embedded and has a programme of work designed to continue to drive good practice that includes sharing best practice and learning as well as developing all Wales policies and protocols. A new quality outcomes framework has been implemented across NHS Wales. This is being used by Local Health Boards and NHS Trusts to self assess how well they are contributing to the delivery of good outcomes for children and young people.  Annual findings will assist in establishing standards and in setting tangible objectives that will steer improvement on an all\-Wales basis. An expert working group on safeguarding training for NHS Wales has recommended an agreed set of standards and uniformity for delivery across NHS staff, primary care practitioners and for contractor services, volunteers and the third sector.  The intercollegiate document published by the Royal College of Paediatrics and Child Health on behalf of contributing organisations has been adopted for implementation across Wales. This definitive reference point will ensure clarity for all sectors and increase the portability of the training for staff/contractors/volunteers moving around Wales and the UK. Evidence of such training is to be documented on the Electronic Staff Record and will assist in compliance reporting to the Local Health Board and identifying when training updates are required. The onus has been on NHS organisations to demonstrate they are meeting the requirements and address any deficits. Health Board and Trust Chief Executives must ensure that relevant reports and updates on safeguarding training are included as a standard part of the annual report. Clarification has also been provided to the NHS on the need for repeat Disclosure \& Barring Service (DBS) checks for staff involved in the care of children. Health Boards and Trusts must comply with the requirements of Welsh Government guidance.  They must ensure that where it is a mandatory requirement, an employee should have a DBS check on employment, and checks should be made routinely and at repeated intervals of no more than 3 years (throughout the period of employment). Health Boards and Trusts have also been made aware that with the introduction of the DBS in December 2012 there is a new definition of ‘regulated activity’ in relation to children. Health Boards and Trusts must ensure that their checking procedures are compliant with legislation and that checks are only made where it is legal to do so. New Child Practice Reviews came into effect on 1 January in Wales, replacing the Serious Case Reviews.  I know that colleagues in the NHS were pivotal to the development of these arrangements. This new, innovative framework moves away from the ‘blame culture’ previously associated with child protection cases and should improve the process of learning and review for all professionals involved in child protection work.  This new framework will also build on, and improve, the quality and sustainability of the children’s safeguarding arrangements we have in place today.     Research into use of the Wales Accord on the Sharing of Personal Information (WASPI) framework to develop Information Sharing Protocols, including in a safeguarding context, has now been published. We will be taking the views of safeguarding leads from health and social services on the findings and any actions that may be needed. The latter will then be published. During the past year a consolidated programme of work has been put in place through legislation and guidance to further strengthen multi\-agency safeguarding arrangements in Wales.  The Deputy Minister for Social Services, Gwenda Thomas AM, introduced the Social Service and Well\-being (Wales) Bill into the National Assembly in January.  The Bill will help create a solid foundation for fundamental change and will strengthen safeguarding and protection arrangements.     These new arrangements will ensure that local agencies are supported by more robust leadership and a stronger, more effective framework for multi\-agency co\-operation.  The Bill includes provision to establish a new National Independent Safeguarding Board which will help drive up standards, and improve consistency and will also be responsible for advising Ministers on the adequacy and effectiveness of safeguarding arrangements. The Welsh Government has always recognised that multi\-agency co\-operation is critical to effective safeguarding – safeguarding is everyone’s business. The evidence we have demonstrates that Local Safeguarding Children Boards are not working in the way we had hoped, and are unable to demonstrate how they are effectively safeguarding children. We need to address this and to ensure that a better framework for action exists which ensures improvement and consistency in the work of Boards. The Deputy Minister has always been clear that the way to achieve this is through reducing the number of Boards to ensure consistency, improvement and sustainability. I know that a number of areas in Wales have already moved to a more collaborative footprint, well in advance of the legislation coming into place. The Deputy Minister has recently established the Safeguarding Advisory Panel – chaired by Phil Hodgson – to work with key stakeholders to build the detailed arrangements to ensure the effective implementation of the Bill provisions. It is absolutely critical that the NHS Wales ensures that it is at the heart of this vital work.   The Deputy Minister has made a written statement on the progress in developing safeguarding and protection arrangements for implementation through the Bill. The Bill seeks to break down artificial barriers based on age, and introduces the broader concept of a people model. In a safeguarding context, this will be most obvious to see with the establishment, subject to scrutiny and the approval by the National Assembly of a National Independent Safeguarding Board, covering both adults and children. I support this approach and intend to adopt a similar one in my Ministerial statements which, in future, will address the safeguarding responsibilities of the NHS of not only children, but also adults who are considered to be at risk.  
Translate the text from Welsh to English.
Dywedodd y Gweinidog: > Rwy’n croesawu newyddion heddiw bod camau’n cael eu cymryd o’r diwedd i ddelio â chŵn y brid American Bully XL yn dilyn nifer o ymosodiadau a marwolaethau. Rwyf wedi sgrifennu at Lywodraeth y DU dros nifer o flynyddoedd i ofyn am ymateb i’r achosion gyda chŵn y brid American Bully XL, ac i feddwl a oedd modd gwella Deddf Cŵn Peryglus 1991\.  Dim ond yr wythnos yma mi godais y mater unwaith eto hefo Ysgrifennydd Gwladol Defra ac rwy’n edrych ymlaen at weld manylion y mesurau       > > > Bydd fy swyddogion yn gweithio’n agos gyda Llywodraeth y DU i sicrhau bod y gwaharddiad ddim yn cael effaith andwyol ar ddiogelwch y cyhoedd, lles cŵn a’r pwysau ar y sector lles anifeiliaid ehangach. > > >  Annog perchenogion cŵn i fod yn gyfrifol yw un o flaenoriaethau Llywodraeth Cymru ac mae ein Cod Ymarfer ar Les Cŵn yn esbonio ei bod yn ddyletswydd ar berchenogion cŵn i gadw eu cŵn o dan reolaeth. Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys nifer o fesurau fydd yn gwella safonau bridio a chadw cŵn yng Nghymru.          > > > Byddwn yn parhau i gadw golwg ar yr hyn y gallwn ei wneud yma yng Nghymru i leihau’r peryglon y mae perchenogion anghyfrifol yn eu hachosi ond gan hyrwyddo manteision cŵn i gymdeithas.
The Minister said: > I welcome today’s news that steps are at last  being taken to deal with the American Bully XL dog, following a number of attacks and fatalities.  I have  written to the UK Government over many years asking them to address the number of incidents involving American XL Bully Breeds, and to look at how the Dangerous Dogs Act 1991 can be improved. Just this week I raised the matter again with the DEFRA Secretary of State and I look forward to seeing the detail of the measures. > > > My officials will work closely with UK Government to ensure the ban does not negatively affect public safety, dog welfare or pressure on the wider animal welfare sector’ > > > Promotion of responsible dog ownership is a priority for the Welsh Government and our Code of Practice for the Welfare of Dogs outlines the obligations on owners to keep their dogs under control. Our Programme for Government includes several measures that will improve standards of dog breeding and keeping in Wales. > > > We will continue to keep under constant review what we can do here in Wales to prevent the dangers posed by irresponsible dog ownership, while promoting the benefits that dogs can bring to society.
Translate the text from Welsh to English.
Mae'r cysylltiad rhwng presenoldeb a chyrhaeddiad addysgol yn glir \- mae colli cyfnodau parhaus o'r ysgol yn peri risg go iawn i gyrhaeddiad plentyn a gall hefyd arwain at deimlo wedi’u hymddieithrio mwy o'u haddysg. Mae'r Gwasanaeth Lles Addysg yn darparu cefnogaeth hanfodol i ysgolion a theuluoedd drwy archwilio'r rhesymau y tu ôl i absenoldeb ysgol, cynnig gwybodaeth ac arweiniad, cynghori teuluoedd am wasanaethau cymorth arbenigol, a gwneud atgyfeiriadau at wasanaethau priodol pan fo angen. Mae'n bleser gennyf gadarnhau felly ein bod yn buddsoddi £2\.5 miliwn ychwanegol yn y Gwasanaeth Lles Addysg. Bydd y cyllid hwn yn darparu capasiti ychwanegol sydd mawr ei angen er mwyn i’r gwasanaeth allu darparu cymorth cynharach, cyn i faterion waethygu, yn ogystal chymorth mwy dwys i ddysgwyr ag absenoldeb uchel. Rydym yn gwybod bod mwy o ymgysylltu â theuluoedd yn cael effaith gadarnhaol ar wella presenoldeb. Mae Swyddogion Ymgysylltu â Theuluoedd yn sicrhau bod partneriaethau cryf yn cael eu datblygu rhwng ysgolion, teuluoedd, cymunedau ac asiantaethau eraill. Gwyddom y gall y cymorth ychwanegol y maent yn ei gynnig fod yn adnodd hynod effeithiol i ysgolion i’w helpu i estyn allan at rieni a gofalwyr a'u cynnwys yn nysgu eu plant. Dyna pam rydym hefyd yn cynyddu'r cyllid hwn i £2\.5 miliwn, sy’n mynd â chyfanswm y buddsoddiad ar gyfer eleni i dros £6\.5 miliwn. Mae'n hanfodol bod seilwaith addysg ar waith i gefnogi ein buddsoddiad mewn lles addysg. Felly, rydym hefyd yn darparu £40 miliwn o gyllid cyfalaf i helpu i drawsnewid ysgolion yn ysgolion bro \- mannau sydd wrth wraidd cymunedau lleol, lle mae gwasanaethau a chyfleusterau allweddol wedi'u cydleoli, gan ddod â rhieni, gofalwyr ac aelodau o'r gymuned leol at ei gilydd y tu hwnt i oriau ysgol traddodiadol. Bydd y cyllid hwn yn adeiladu ar y buddsoddiad cyfalaf o £20 miliwn a wnaed yn ystod 2022\-23 a bydd yn parhau i gefnogi gwaith cyfalaf allweddol sy'n hanfodol i agor safleoedd ein hysgolion yn ddiogel ac effeithiol, gan alluogi mwy o ddefnydd gan y gymuned. Gall hyn gynnwys gwaith ar raddfa fawr, megis hybiau cymunedol ar gyfer rhaglenni i rieni a rhaglenni allgymorth cymunedol penodol a gofod cymunedol i annog defnydd aml\-asiantaethol.
The link between attendance and educational attainment is clear \- missing sustained periods of school presents a real risk to a child’s attainment and can also lead to them feeling more disengaged from their education. The Education Welfare Service provides vital support to schools and families by exploring the reasons behind school absence, offering information and guidance, advising families about specialist support services, and making referrals to appropriate services when required. I am therefore pleased to confirm that we are investing an additional £2\.5 million into the Education Welfare Service. This funding will provide much needed additional capacity to enable the service to provide earlier support, before issues escalate, as well as allow them to provide more intensive support to learners with high absence. We know that greater engagement with families has been shown to have a positive impact on improving attendance.  Family Engagement Officers ensure strong partnerships are developed between schools, families, communities and other agencies. We know that the additional support they offer can be a highly effective resource for schools in reaching out to parents and carers and engaging them in their children’s learning. That is why we are also increasing this funding to £2\.5 million, taking the total investment for this year to over £6\.5 million. It is vital that education infrastructure is in place to support our education welfare investment.  Therefore, we are also providing £40 million of capital funding to help transform schools into community\-focused schools \- places that are at the heart of local communities, where key services and facilities are co\-located, bringing parents, carers and members of the local community together beyond traditional school hours. This funding will build on the £20 million capital investment that was made during 2022\-23 and will continue to support key capital works that are essential to open up our school settings safely and effectively, enabling greater community use. This can include large scale works, such as community hubs for specific parental and community outreach programmes and community space to encourage multi\-agency use.
Translate the text from Welsh to English.
Fel rhan o’r Polisi Amaethyddol Cyffredin, caiff aelod\-wladwriaethau a gweinyddiaethau drosglwyddo hyd at 15% o’u cyllid BPS i’w cyllid datblygu gwledig, a elwir yn ‘drosglwyddo rhwng colofnau’. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi hysbysu Llywodraeth y DU o’n bwriad i fanteisio i’r eithaf ar y gefnogaeth sydd ar gael i economi wledig ac amgylchedd Cymru ar ôl ymadael â’r UE, drwy drosglwyddo 15% o gyllid y Cynllun Taliad Sylfaenol (BPS) ar gyfer 2020 i gefnogi datblygiad gwledig, fel y gwnaethpwyd yn ystod pob blwyddyn o’r Rhaglen Datblygu Gwledig. Gwnaethpwyd y penderfyniad hwn yn sgil ymrwymiad Llywodraeth y DU i ddarparu cyllid llawn yn lle y BPS 2020 ar ôl i’r DU adael yr UE. *Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.*
Under the Common Agricultural Policy, member states and administrations are permitted to transfer up to 15% of their BPS budget to their rural development budget, known as an “Inter Pillar transfer”. Welsh Government officials have notified the UK Government of our intention to maximise the available support for Wales’ rural economy and environment after Brexit by transferring 15% of the 2020 budget for the Basic Payment Scheme (BPS) to support rural development as per the practice during each year in this Rural Development Programme.  This decision has been made subject to the UK Government providing full replacement funding for BPS 2020 after the UK leaves the EU. *This statement is being issued during recess in order to keep members informed.  Should members wish me to make a further statement or to answer questions on this when the Assembly returns I would be happy to do so.*
Translate the text from Welsh to English.
Mae heddiw yn nodi Diwrnod Rhyngwladol y Menywod – diwrnod i ddathlu cyflawniadau menywod a merched yng Nghymru a ledled y byd. Ar yr un pryd, rydym yn cydnabod bod rhagor i’w wneud wrth inni weithio tuag at gydraddoldeb rhwng y rhywiau.   Y thema eleni yw *Dewis Herio*. Byddwn yn amlygu anghydraddoldeb ac yn cyflwyno’r dystiolaeth sy’n bodoli i ddangos sut mae menywod yn cael eu trin yn annheg o hyd. Wrth wella cydraddoldeb i fenywod a merched, rhaid inni sicrhau bod y ffurfiau lluosog a rhyng\-gysylltiedig o anfantais a gwahaniaethu yn cael eu herio a’u hamlygu pan fyddwn yn tystio iddynt. Drwy wrthwynebu a herio rhagfarn ar sail rhywedd, achosion o wahaniaethu, anghydraddoldeb ac achosion o aflonyddu, mae gan bob un ohonom ran bwysig i’w chwarae i sicrhau newid cadarnhaol ac angenrheidiol. Fis Mawrth y llynedd, lansiais ein cynllun Hyrwyddo Cydraddoldeb rhwng y Rhywiau yng Nghymru, sef cynllun gweithredu cam cyntaf yr Adolygiad o Gydraddoldeb Rhywiol. Nodais hefyd ein blaenoriaethau ar gyfer y tymor byr a’r tymor canolig. Roedd hi bryd hynny yn amhosibl rhagweld pa mor wahanol fyddai 2020 inni i gyd. Roedd hi hefyd yn amhosibl rhagweld yr heriau y byddem yn eu hwynebu wrth sicrhau nad yw effeithiau Covid\-19 yn dinistrio’r cynnydd rydym wedi’i wneud ar gyfer menywod a merched yng Nghymru. Mae rhyngblethedd yn rhan allweddol o’r Cynllun hwnnw ac yn parhau i fod wrth wraidd ein gwaith. Gwyddom nad yw pobl yn cael eu diffinio gan faterion neu rwystrau unigol a bod angen pethau gwahanol arnynt i allu byw bywyd llawn yng Nghymru. Rydym hefyd yn gwybod nad yw’r argyfwng hwn wedi effeithio ar bawb mewn modd cyfartal. Mae’r feirws yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sydd â’r lleiaf o bŵer ac mae wedi gwaethygu anghydraddoldebau sydd wedi hen sefydlu. Yn benodol, mae’r argyfwng wedi effeithio ar fenywod, pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, pobl ifanc, gweithwyr hŷn, pobl anabl a’r rhai a chanddynt gyflyrau iechyd, yn ogystal â’r rhai ar gyflog isel ac sydd mewn swyddi nad ydynt yn gofyn am lawer o sgiliau. Mae menywod yn parhau i fod ar y rheng flaen yn ystod y pandemig hwn. Gwyddom fod hyn wedi cael effaith anghymesur ar fenywod fel gofalwyr a mamau, gartref ac yn y gwaith. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i amlygu rhywfaint o’r gwaith yr ydym yn ei wneud i gefnogi menywod a merched ledled Cymru.   Mae pob un ohonom wedi gorfod treulio mwy o amser gartref. Fodd bynnag, nid yw pob cartref yn lle diogel. Gall cyfyngiadau pellter cymdeithasol a hunanynysu fod yn ofnadwy i’r rhai sy’n dioddef o drais ac yn cael eu cam\-drin. Gall y cyfyngiadau hyn roi mwy o bŵer a rheolaeth i’r rhai sy’n eu cam\-drin, gan gynyddu’r risg i’r dioddefwyr. Eleni, mae’r sector Trais yn erbyn Menywod, Cam\-drin Domestig a Thrais Rhywiol wedi cael dros £4 miliwn o gyllid yn ychwanegol i ymdrin ag effaith COVID\-19\. Mae hyn yn gynnydd o 67% o gymharu â’r llynedd. Mae ein hymgyrchoedd cyfathrebu wedi canolbwyntio ar helpu pobl i aros yn ddiogel. Mae ein llinell gymorth Byw Heb Ofn yn wasanaeth 24/7 am ddim i bawb sydd wedi goroesi neu’n dioddef o gam\-drin domestig a thrais rhywiol, a’r rhai sy’n agos atynt, gan gynnwys teulu, ffrindiau a chydweithwyr. Mae’r llinell wedi parhau i fod ar agor, gan gynnig gwasanaeth llawn tra bo cyfyngiadau Covid\-19 ar waith. Gellir cysylltu â’r llinell gymorth drwy ei ffonio, neu gallwch gysylltu’n ddistaw drwy anfon neges destun, e\-bost neu neges ar y we. Mae gwybodaeth ar gadw’n ddiogel drwy gydol y pandemig ar gael ar wefan Byw Heb Ofn (https://llyw.cymru/byw\-heb\-ofn). Rydym am i bawb sydd mewn sefyllfa i helpu ddod i wybod sut i adnabod arwyddion o gam\-drin a sut i helpu’n ddiogel, boed y rheini yn wirfoddolwyr sy’n cynorthwyo’r bobl fwyaf agored i niwed, yn gontractwyr brys, yn rhan o weithlu’r gwasanaethau post, neu’n gweithio mewn siop leol neu mewn archfarchnad. Ers inni ddarparu mynediad agored at ein modiwl e\-ddysgu Trais yn erbyn Menywod, Cam\-drin Domestig a Thrais Rhywiol i aelodau o’r gymuned ddechrau mis Ebrill 2020, mae dros 50,000 o bobl wedi ymgymryd â’r cwrs – gan ddysgu rhagor am gam\-drin domestig a thrais rhywiol. Ein nod yw creu diwylliant ledled Cymru lle mae pobl wedi’u grymuso i allu helpu i atal trais yn erbyn menywod, cam\-drin domestig a thrais rhywiol, diwylliant lle nad yw Cymru yn cadw’n dawel ynghylch achosion o gam\-drin. Mae gwybodaeth ynghylch sut i helpu yn ddiogel ar gael ar y wefan hefyd. Mae’r dystiolaeth yn dangos bod y pandemig yn ehangu’r bwlch rhwng y rhywiau yn y gwaith a gartref. Yn gyffredinol, mae menywod yn tueddu i ysgwyddo rhagor o gyfrifoldebau, p’un a ydynt yn gweithio ai peidio. Mae’r dystiolaeth hefyd yn awgrymu bod menywod yn treulio mwy o amser na dynion yn gofalu am blant ac yn gwneud gweithgareddau cysylltiedig yn y cartref. Mae ein Cynnig Gofal Plant yn darparu 30 o oriau o addysg gynnar a gofal plant i blant 3 a 4 oed y mae eu rhieni yn gweithio, am 48 o wythnosau y flwyddyn. Mae’r gwerthusiad o ddwy flynedd gyntaf y cyfnod gweithredu wedi dangos inni fod y Cynnig yn cael effaith gadarnhaol ar incwm gwario teuluoedd ac ar opsiynau cyflogaeth i rieni. Mae cyfran uwch o fenywod yn dweud eu bod yn gallu gweithio mwy o oriau ers iddynt ddechrau manteisio ar y Cynnig a bod ganddynt fwy o hyblygrwydd o ran y swyddi y gallant eu gwneud. Er mwyn cynorthwyo rhieni sy'n gweithio yn ystod lefel rhybudd 4, gellir parhau i dalu ffioedd y Cynnig Gofal Plant i riant am gyfnod, er nad yw'r plentyn yn mynd i’r lleoliad gofal plant. Nod hyn yw helpu i gadw lle y plentyn yn y lleoliad a helpu i gynnal lleoliadau gofal plant, gan sicrhau bod gofal plant ar gael yn y tymor hir pan fydd cyfyngiadau Covid\-19 yn cael eu llacio. Rydym yn edrych ar ba gymorth ariannol sydd ar gael i rieni mewn addysg a hyfforddiant neu i rieni sy’n ceisio gwaith, gyda'u costau gofal plant. Bydd adroddiad annibynnol sy'n edrych ar y ddarpariaeth i’r rhieni hyn yn cael ei gyhoeddi cyn bo hir. Mae ein cefnogaeth i ofalwyr di\-dâl yn cynnwys £1\.295 miliwn (2020/21\) i gefnogi gweithgarwch penodol sy'n mynd i’r afael â’n tair blaenoriaeth genedlaethol i ofalwyr: helpu i fyw yn ogystal â gofalu; adnabod a chydnabod gofalwyr; a darparu gwybodaeth, cyngor a chymorth. Rydym hefyd yn ariannu sefydliadau gofalwyr drwy ein Grant i’r Trydydd Sector ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Ar gyfer 2020\-23, rydym wedi ymrwymo hyd at £2\.6 miliwn i bedwar prosiect dan arweiniad Fforwm Rhieni a Gofalwyr Cymru Gyfan, Gofalwyr Cymru, Age Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru. Mae’r 'prosiect Llesiant a Grymuso Gofalwyr’ a gynhelir gan Gofalwyr Cymru yn gweithio gyda Chwarae Teg i ddarparu hyfforddiant ar y cyd, o fis Mawrth 2021 ymlaen, i gefnogi gofalwyr benywaidd di\-dâl i gael gwaith / dychwelyd i'r gwaith. Yn y gweithle, mae menywod yn aml mewn swyddi cyflog isel, rhan\-amser ac ansefydlog. Mae’r pandemig wedi arwain at rai newidiadau, fel arferion gweithio mwy hyblyg, sydd wedi cael effaith gadarnhaol ar lawer o fenywod a'u teuluoedd. Er hyn, mae anghydraddoldeb yn parhau i fodoli yn y gweithle. Mae'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn parhau i fodoli. Yn 2020, roedd rhywfaint o welliant ac roedd y bwlch cyflog rhwng y rhywiau i weithwyr amser llawn yng Nghymru wedi gostwng i 4\.3%. Dyma’r gwerth isaf sydd wedi’i gofnodi ac mae’n llai na'r bwlch cyflog rhwng y rhywiau yn y DU. Serch hynny, mae'n dal yn annerbyniol fod y bwlch yn bodoli. Ni fu ein rôl o ran helpu menywod i gael gwaith, i gadw eu gwaith ac i ddychwelyd i’r gwaith erioed yn bwysicach ac rwyf wedi tynnu sylw at rai o'r ffyrdd yr ydym yn darparu'r cymorth hwn isod. Cyflwynwyd y Cyfrifon Dysgu Personol y llynedd yn dilyn canlyniadau cadarnhaol cynnar y rhaglen beilot, a oedd yn cynnwys cyllidebu ar sail rhywedd. Mae'r cyfrifon hyn yn rhoi cymorth i bobl gyflogedig, gweithwyr ar ffyrlo neu unigolion y mae COVID\-19 wedi effeithio'n negyddol arnynt. Maent yn helpu pobl i ennill sgiliau a chymwysterau lefel uwch mewn sectorau blaenoriaeth, gan greu rhagor o gyfleoedd i bobl newid gyrfaoedd neu uwchsgilio. Mae unigolion yn cael cynllun ymarferol sy’n cyd\-fynd ag ymrwymiadau presennol o ran teulu a gwaith er mwyn eu helpu i gyflawni eu nodau gyrfa yn y dyfodol. Mae’r arwyddion cynnar yn dangos bod hyblygrwydd y cyfrifon hyn yn apelio at ystod ehangach o bobl, yn enwedig menywod sy'n ennill sgiliau a chymwysterau mewn sectorau anhraddodiadol fel peirianneg ac adeiladu, a dynion mewn sectorau sy'n gysylltiedig â gofal. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £5\.4m yn ychwanegol yng Nghyllideb Ddrafft 2021\-22 i gefnogi hyn.  Rydym yn parhau i gefnogi amrywiaeth o raglenni sy'n helpu menywod i gael gwaith ac i wneud cynnydd yn y gweithle. Mae'r rhain yn cynnwys: * prosiect Cenedl Hyblyg 2 sy'n hyrwyddo cydraddoldeb rhwng y rhywiau drwy helpu menywod i symud ymlaen yn eu gyrfaoedd, gan weithio gyda chyflogwyr i wella eu strategaethau cydraddoldeb ac amrywiaeth * nod y rhaglen Limitless, sy'n gweithio gyda menywod y mae cam\-drin domestig a thrais rhywiol yn effeithio arnynt, yw helpu dros 800 o gyfranogwyr cyflogedig, gyda 75% yn ennill cymhwyster a 30% yn sicrhau gwell sefyllfa yn y farchnad lafur * ein Rhaglenni Cyflogadwyedd Cymunedol sy'n darparu cymorth sydd wedi’i addasu i bobl ifanc nad ydynt mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant, ac i oedolion di\-waith ac economaidd anweithgar sydd bellaf o'r farchnad lafur. Mae Llywodraeth Cymru wedi dyrannu £6m yn ychwanegol ar gyfer 2021\-22 i wella'r cymorth a ddarperir drwy Cymunedau am Waith a Mwy Dim ond tua chwarter y bobl sy'n gweithio mewn Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg (STEM) yn y DU sy'n fenywod, yn ôl ffigurau am y gweithlu o ymgyrch WISE ar fenywod mewn STEM, a dim ond 17% o rolau technoleg sy'n cael eu llenwi gan fenywod ar hyn o bryd.  Rwy'n Cadeirio'r Bwrdd Menywod mewn STEM sy'n gweithio i wella cydraddoldeb rhwng y rhywiau ar draws cymuned STEM Cymru. Mae 20 o aelodau ac mae’n cynnwys y Gweinidog Addysg a Gweinidog yr Economi. Yn ddiweddar, cyhoeddwyd ymchwil annibynnol gennym ar gydraddoldeb rhwng y rhywiau mewn STEM yng Nghymru. Mae’n cynnwys 14 o argymhellion ar gyfer cyflymu’r broses o sicrhau cydraddoldeb rhwng y rhywiau. Mae is\-grwpiau gwaith y Bwrdd Diwydiant ac Addysg yn gweithio ar gynllun i fynd i'r afael â'r rhain. Mae gan bobl ifanc gryn dipyn mwy o ddiddordeb mewn gyrfa STEM ers y pandemig. Drwy rannu straeon am fodelau rôl benywaidd, gallwn ysbrydoli a chymell mwy o ferched a menywod i astudio pynciau STEM. Ym mis Rhagfyr, tynnais sylw at rai o'r menywod anhygoel hyn a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i wneud hynny eto: https://llyw.cymru/datganiad\-ysgrifenedig\-modelau\-rol\-benywaidd\-mewn\-stem\-yn\-ystod\-pandemig\-covid\-19. Mae Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yn ddiwrnod i ddathlu llwyddiannau menywod a merched ledled y byd. Mae cynifer o enghreifftiau o fodelau rôl benywaidd yng Nghymru sydd wedi dod i’r amlwg yn ystod pandemig Covid\-19\. Hoffwn dalu teyrnged i'w holl waith anhygoel yn ystod cyfnod mor heriol. Gall y menywod hyn ysbrydoli'r genhedlaeth hon a chenedlaethau i ddod, a byddant yn gwneud hynny. Er ein bod yn gwybod bod rhagor i'w wneud cyn y gallwn honni ein bod wedi creu dyfodol cyfartal, mae gan fenywod a merched Cymru – menywod a merched y gorffennol, y presennol a'r dyfodol \- lawer i fod yn falch ohono. Rydym wedi ymrwymo i'w helpu i ddyheu, i gyflawni ac i wireddu eu potensial – beth bynnag fo hynny.
Today marks International Women’s Day – a day when we celebrate the achievements of women and girls in Wales and around the globe whilst also recognising there is more to do as we work towards gender equality.  This year’s theme is *Choose to Challenge*. Shining a spotlight on inequality and presenting the stark evidence that exists to show how women are still being treated unfairly. In advancing equality for women and girls we must ensure that the multiple, intersecting forms of disadvantage and discrimination are challenged and called out where we witness them. By standing up and challenging gender bias, discrimination, inequality and harassment, we each have an important part to play in bringing about positive and necessary change. Last March I launched our Advancing Gender Equality in Wales plan, which is the first phase implementation plan of the Gender Equality Review and set out our priorities for the short and medium term. It was impossible then to predict how different 2020 would be for us all, and the challenges we would face to ensure that the impact of Covid\-19 does not roll back the clock on the progress we have made for women and girls in Wales. Intersectionality is a key part of that Plan and remains central to our work. We know that people are not defined by single issues or barriers and require different things to enable them to participate fully in Welsh life. We also know the impact of the crisis has not fallen equally.  The virus is having the greatest impact on those with least power and has exacerbated entrenched inequalities. Groups particularly affected include women, Black, Asian and Minority Ethnic people, young people, older workers, disabled people and those with health conditions, as well as those in low skill and low pay occupations. Women continue to be on the frontline during this pandemic. We know that women have been disproportionately affected as carers, mothers, at home and in the workplace.  I would like to take this opportunity to highlight some of the work that we are doing to support women and girls across Wales.   We have all had to spend more time at home. However, not every home is a place of safety. Social distancing restrictions and self\-isolation can be frightening for victims of violence and abuse. These restrictions can amplify abusers’ power and control and increase the risk to victims. This year the Violence Against Women, Domestic Abuse and Sexual Violence (VAWDASV) sector has received over £4 million of additional funding to deal with the impact of COVID\-19\.  This is an extra 67% compared with last year. We have focused our communication campaigns on helping people to stay safe.  Our Live Fear Free helpline is a free, 24/7 service for all victims and survivors of domestic abuse and sexual violence and those close to them, including family, friends and colleagues.  It has remained open, offering a full service while Covid\-19 restrictions are in place. The helpline can be contacted by phone or silently through text, email or web chat. Information on keeping safe throughout the pandemic is available on our Live Fear free website (https://gov.wales/live\-fear\-free). We also want anyone who is in a position to help to be able to recognise the signs of abuse and know how they can help safely, whether that is one of the thousands of volunteers assisting our most vulnerable, an emergency contractor, postal services workforce, local shops, or a supermarket employee. Since providing open access to our VAWDASV E\-Learning module to community members at the beginning of April 2020, over 50,000 people have taken the course – being more informed about domestic abuse and sexual violence Our aim is to create a culture across Wales where people are empowered to actively help prevent violence against women, domestic abuse and sexual violence, a culture where Wales is not a bystander to abuse. Information on how to help safely is also available on the website. Evidence shows the pandemic is exacerbating the gender gap in work and at home. Overall, women tend to be taking on more childcare responsibilities whether they’re working or not. Evidence also suggests women are spending more time looking after children and doing associated household activities than men. Our Childcare Offer provides 30 hours of early education and childcare to 3 and 4 year olds whose parents are in work, for 48 weeks per year. The evaluation of the first two years of implementation has showed us that the Offer is having a positive impact on families’ disposable income and employment options for parents, with a greater proportion of women reporting that they are able to work more hours since taking up the Offer and that they have more flexibility in the jobs they can do. To assist working parents during alert level 4, a parent’s Childcare Offer fees may continue to be paid for a period of time, although the child is not attending. This is to help secure the child’s place and help sustain childcare settings, ensuring long\-term availability of childcare for when Covid\-19 restrictions are eased. We are looking at what financial support is available to parents in education and training or on the cusp of work, with their childcare costs. An independent report looking at provision for these parents will be published shortly. Our support for unpaid carers includes £1\.295 million (2020/21\) to support specific activity that takes forward our three national priorities for carers: supporting a life alongside caring; identifying and recognising carers; and providing information, advice and assistance. We also fund carers’ organisations via ourThird Sector Sustainable Social Services grant. For 2020\-23, we have committed up to £2\.6 million to four projects led by All Wales Forum for Parents and Carers, Carers Wales, Age Cymru, and Carers Trust Wales. The Carers Wales ‘Carer Wellbeing and Empowerment project’, is working with Chwarae Teg to deliver joint training, from March 2021, to support female unpaid carers enter employment / return to work. In the workplace, women often occupy low\-paid, part\-time and insecure jobs. Whilst the pandemic has brought about some changes, such as more flexible working practices, which have been positive for many women and their families, the workplace remains a place of inequality. The gender pay gap remains a stubborn and persistent issue. In 2020, there was some improvement and the gender pay gap for full\-time employees in Wales narrowed to 4\.3%, the lowest value on record and smaller than the gender pay gap for the UK. Nevertheless, it remains unacceptable that it endures. Our role in supporting women to enter, remain and return to the workplace has never been more important and I have highlighted some of the ways we provide this support below. The Personal Learning Accounts (PLA) was rolled out last year as a result of the pilot programme’s early positive results, which included gender budgeting. The PLA provides support to employed people, furloughed workers or individuals that have been negatively impacted by Covid\-19\. It helps people gain higher level skills and qualifications in priority sectors, further opening up the opportunities for people to switch careers or upskill.  Individuals are provided with a workable plan that can be managed around existing family and work commitments to help them achieve their future career goals. Early indications highlight that the flexibility of the PLA offer appealed to a wider range of people, especially women gaining skills and qualifications in non\-traditional sectors such as engineering and construction and men in care\-related sectors.  The Welsh Government has allocated an additional £5\.4m in the 2021\-22 Draft Budget to support this.  We continue to support a range of programmes which support women to enter and progress in the workplace. These include: * the Agile Nation 2 project which promotes gender equality by supporting women to advance in their careers and works with employers to improve their equality and diversity strategies. * The Limitless programme, which works with women affected by domestic abuse and sexual violence, is aiming to help over 800 employed participants, with 75% gaining a qualification and 30% gaining an improved labour market situation. * Our Community Employability Programmes which provide tailored support to young people who are not in employment, education or training and unemployed and economically inactive adults who are furthest from the labour market. The Welsh Government has allocated an additional £6m for 2021\-22 to enhance support provided through Communities for Work Plus. Only around a quarter of people working in STEM in the UK are female, according to workforce figures from the WISE female STEM campaign, and just 17% of tech roles are currently filled by women.  I Chair the Women in STEM Board that works to improve gender equality across the Welsh STEM community.  Membership is 20 strong and includes the Ministers for Education and the Economy. We recently published independent research on gender equality in STEM in Wales which includes 14 recommendations for accelerating gender parity. Working sub\-groups of the Board for Industry and Education are working on a plan to address these. Young people are considerably more interested in a STEM career since the pandemic. By sharing stories of female role models, we can inspire and motivate more girls and women to study STEM. In December, I highlighted some of these amazing women and I would like to take this opportunity to do so again: https://gov.wales/written\-statement\-stem\-female\-role\-models\-during\-covid\-19\-pandemic. International Women’s Day is a day to celebrate the achievements of women and girls around the globe. There are so many examples of female role models in Wales who have come to prominence during the Covid\-19 pandemic and I want to pay tribute to all their amazing work during what has been such a challenging time. These women can and will inspire the current generation and the ones which follow. Whilst we know there is more to do before we can claim to have created an equal future, the women and girls of Wales – past, present and future \- have much to be proud of. We stand committed to supporting them to aspire, achieve and fulfil their potential – whatever that may be.
Translate the text from English to Welsh.
The Cabinet Secretary is being joined in Shanghai by a trade mission of 18 Welsh companies including Clogau Gold, i2L Research, Timberkits, and Tiny Rebel, all looking to increase their trade relationships with the world’s second largest economy.  As part of his visit Ken Skates will host St David’s Day events for government, business and cultural leaders in both Chongqing and Shanghai, and will promote Wales as an outward facing and forward looking nation, keen to cement links with its global trading partners.  The Economy Secretary will also meet Chinese companies and Government representatives to discuss how trade and cultural links between the countries can be strengthened and to consider how Wales can work to further increase its exports to the lucrative Chinese market.  A Welsh cultural delegation is also travelling to China. It is hoped this will lead to new partnerships, new learning opportunities, and new exchanges of exhibitions and performers, to and from both countries.  Speaking about his visit to China, Ken Skates said: > “China is a huge global force and one that Wales is keen to cement its already strong links with. > > “There are currently 19 Chinese companies based in Wales, between them employing more than 2500 people here. And latest figures put annual Welsh exports to China at nearly £209m.  > > “These are impressive figures but through my visit and the  trade mission we will be seeking to build on this success, to grow our share of exports to China and to attract more Chinese investors to Wales.  > > “Wales has a huge amount to offer as a trading partner, a tourist destination and cultural partner. Following the decision to leave the EU it is more important than ever that we reach out to China and other international partners and continue to work to build a stronger and fairer Welsh economy for all.”
Bydd taith fasnach o 18 cwmni o Gymru yn ymuno ag Ysgrifennydd y Cabinet yn Shanghai. Mae'r cwmnïau'n cynnwys Clogau Gold, i2L Research, Timberkits a Tiny Rebel ac maent i gyd am wella eu perthynas fasnachol gydag ail economi fwyaf y byd.  Fel rhan o'i ymweliad, bydd Ken Skates yn cynnal digwyddiadau Dydd Gŵyl Dewi i arweinwyr llywodraeth, busnes a diwylliant yn Chongqing a Shanghai, a bydd yn hyrwyddo Cymru fel cenedl sy'n edrych tuag allan ac i'r dyfodol, ac sy'n awyddus i gryfhau cysylltiadau a'i phartneriaid masnach byd\-eang.  Bydd Ysgrifennydd yr Economi hefyd yn cwrdd â chwmnïau Tsieinaidd a chynrychiolwyr y Llywodraeth i drafod sut y gellir cryfhau cysylltiadau masnachol a diwylliannol y gwledydd ac i ystyried sut y gall Cymru weithio i gynyddu ei hallforion i farchnad enillfawr Tsieina.  Mae dirprwyaeth ddiwylliannol o Gymru hefyd yn teithio i Tsieina. Gobeithir y bydd hyn yn arwain at bartneriaethau newydd, cyfleoedd dysgu newydd, a chyfleoedd i gyfnewid arddangosfeydd a pherfformwyr rhwng y ddwy wlad. Wrth siarad am ei ymweliad â Tsieina, dywedodd Ken Skates: > "Mae Tsieina yn rym rhyngwladol anferth ac yn wlad y mae Cymru yn awyddus i gryfhau ei chysylltiadau â hi. > "Ar hyn o bryd mae 19 o gwmnïau o Tsieina yn gweithredu yng Nghymru, a rhyngddynt, maent yn cyflogi dros 2500 o bobl. Mae'r ffigurau diweddaraf yn nodi bod allforion Cymru i Tsieina werth £209 miliwn. > > "Mae'r rhain yn ffigurau gwych, ond ar ôl fy ymweliad a'r daith fasnach,  byddwn yn ceisio adeiladu ar y llwyddiant hwnnw er mwyn cynyddu ein cyfran o allforion i Tsieina ac i ddenu mwy o fuddsoddwyr Tsieinaidd i Gymru. > > "Mae gan Gymru lawer iawn i'w gynnig fel partner masnach, fel cyrchfan i dwristiaid ac fel partner diwylliannol. Yn dilyn y penderfyniad i adael yr UE mae'n fwy pwysig nag erioed ein bod yn estyn llaw i Tsieina a phartneriaid rhyngwladol eraill a pharhau i weithio i adeiladu economi gryfach a thecach i Gymru ac i bawb."
Translate the text from English to Welsh.
A Welsh Government spokesperson said: > Thanks to the heroic efforts of our NHS staff we only saw the waiting lists increase by 0\.2% in December, the lowest increase since the start of the pandemic, despite the fact that so many staff were diverted to the super\-fast roll out of the booster programme during that month. > > > Demanding winter pressures, the Omicron wave and the need to support the vaccination programme continued to place considerable strain on the NHS in December 2021\. > > > These challenges led to the postponement of a number of appointments and planned treatments across Wales and some people were waiting longer for treatment than we would like. > > > We want to thank our healthcare workforce for delivering vast amounts of booster vaccinations while continuing to provide high\-quality care to hundreds of thousands of patients each month. > > > Despite these ongoing pressures, the data shows the number of patient pathways waiting for therapies fell slightly in the last month after increasing every month in 2021\. > > > We have also seen some improvement in performance against the 62\-day cancer target which increased compared to the previous month to 58\.6 per cent of pathways starting their first definitive treatment in the month within the target time. > > > While the number of patient pathways waiting for treatment increased again in December 2021, it was at the slowest rate since the start of the pandemic. > > > Our ambulance data shows that January 2022 saw a decrease in the total number of calls made to the ambulance service on the previous month however there remains high numbers of life\-threatening calls with more than 100 recorded a day. Despite this, performance against the eight minute ambulance response target increased by 1\.4 percentage points on the previous month. > > > We have provided £248m so far to support our NHS recovery plan. In April we will publish a detailed plan on how we will tackle the waiting times for patients whose treatment has been delayed by the pandemic. > > > A wide range of services have seen a significant increase in demand over recent years such as ophthalmology. > > > The NHS Wales University Eye Care Centre in Cardiff is one example of how NHS Wales is reducing the wait for people with urgent or complex eye cases to be seen in hospital, by carrying out eye care treatments within a primary care setting. > > > We have long set out our ambition to transform the way we deliver services to meet the demand of the future. Community clinics, the additional theatres and Cardiff \& Vales’ NHS Wales University Eye Care Centre are an excellent example of this vision.
Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru: > Diolch i ymdrechion arwrol staff y GIG, dim ond cynnydd o 0\.2% a welsom yn y rhestrau aros ym mis Rhagfyr. Dyma’r cynnydd isaf ers dechrau'r pandemig, er gwaethaf y ffaith bod cynifer o staff wedi'u dargyfeirio’n gyflym i gyflwyno'r rhaglen atgyfnerthu yn ystod y mis hwnnw. > > > Parhaodd y straen sylweddol ar y GIG ym mis Rhagfyr 2021 yn sgil pwysau heriol y gaeaf, y don Omicron, a’r angen i gefnogi’r rhaglen frechu. > > > Arweiniodd yr heriau hyn at ohirio nifer o apwyntiadau a thriniaethau a oedd wedi’u cynllunio ledled Cymru, ac roedd rhai yn aros yn hirach na fuasem yn ei ddymuno am driniaeth. > > > Hoffem ddiolch i’n gweithlu gofal iechyd am sicrhau bod nifer fawr o frechiadau atgyfnerthu wedi cael eu rhoi, ac am barhau i ddarparu gofal o safon uchel i gannoedd o filoedd o gleifion bob mis. > > > Er gwaethaf y pwysau parhaus hwn, mae’r data yn dangos bod y nifer o gleifion a oedd yn aros am therapïau wedi gostwng ychydig yn ystod y mis diwethaf ar ôl cynyddu bob mis yn 2021\. > > > Yn ogystal, rydym wedi gweld rhywfaint o welliant mewn perfformiad yn erbyn y targed canser 62\-diwrnod. Cynyddodd hyn i 58\.6 y cant o gleifion yn dechrau ar eu triniaeth ddiffiniol cyntaf yn ystod y mis o fewn yr amser targed o’i gymharu â’r mis blaenorol. > > > Er bod nifer y cleifion a oedd yn aros am driniaeth wedi cynyddu eto ym mis Rhagfyr 2021, roedd hyn ar y gyfradd arafaf ers dechrau’r pandemig. > > > Mae ein data ar y gwasanaeth ambiwlans yn dangos bod gostyngiad wedi bod yng nghyfanswm y nifer o alwadau a wnaed i'r gwasanaeth ym mis Ionawr 2022 o’i gymharu â’r mis blaenorol. Fodd bynnag, mae nifer y galwadau am gleifion y mae bygythiad i’w bywyd yn parhau yn uchel iawn gyda mwy na 100 o alwadau yn cael eu cofnodi yn ddyddiol. Er gwaethaf hyn, cynyddodd perfformiad yn erbyn y targed ymateb wyth munud i ambiwlansys 1\.4 o bwyntiau canran o’r mis blaenorol. > > > Hyd yma, rydym wedi dyrannu £248m er mwyn cefnogi ein cynlluniau i adfer y GIG. Ym mis Ebrill, byddwn yn cyhoeddi cynllun manwl ynglŷn â sut y byddwn yn mynd i’r afael ag amseroedd aros i’r cleifion hynny y mae eu triniaethau wedi’u gohirio oherwydd y pandemig. > > > Mae ystod eang o wasanaethau wedi gweld cynnydd sylweddol yn y galw dros y blynyddoedd diwethaf megis offthalmoleg. > > > Mae Canolfan Gofal Llygaid GIG Cymru yng Nghaerdydd yn un enghraifft o’r modd y mae GIG Cymru yn gostwng yr amser aros i bobl sydd ag anawsterau llygaid cymhleth neu frys cyn y cânt eu gweld yn yr ysbyty. Caiff hyn ei sicrhau drwy roi triniaethau gofal llygaid mewn lleoliadau gofal sylfaenol. > > > Ers tro, rydym wedi gosod ein huchelgais i drawsnewid y modd rydym yn darparu gwasanaethau er mwyn cwrdd â galw’r dyfodol. Mae clinigau cymunedol, y theatrau ychwanegol, yn ogystal â Chanolfan Gofal Llygaid GIG Cymru Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn enghreifftiau gwych o’r weledigaeth hon.
Translate the text from English to Welsh.
  In November 2014, I announced my intention to set up a further Teifi Valley Local Growth Zone Task and Finish Group to oversee the implementation of the recommendations contained in the original report and the Welsh Government response to it.  The Group will help establish the Local Growth Zone in the Teifi Valley to stimulate economic prosperity and growth. The Group will exist for up to eighteen months. The Chair of the previous Group, Delyth Evans MBE, has accepted an invitation to Chair the new Implementation Group in order to provide continuity and maintain momentum. The membership of the Group has been agreed as: Kevin Davies, Cawdor Cars \& Gwesty’r Emlyn Lawrence Harris, Daioni Keith Evans, Local Businessman Jacqui Weatherburn, Coleg Ceredigion and Trinity St David’s College Steve Jones, Tai Ceredigion Ben Giles, Ultima Cleaning The first meeting of the Group will take place shortly.      
Ym mis Tachwedd 2014, cyhoeddais fy mod yn bwriadu sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen Ardal Twf Lleol Dyffryn Teifi i oruchwylio’r dull o gyflawni’r argymhellion yn yr adroddiad gwreiddiol ac argymhellion Llywodraeth Cymru mewn ymateb i’r adroddiad. Bydd y Grŵp yn helpu i sefydlu’r Ardal Twf Lleol yn Nyffryn Teifi er mwyn ysgogi ffyniant a thwf economaidd yno. Bydd y Grŵp yn bodoli am hyd at ddeunaw mis. Mae Cadeirydd y Grŵp blaenorol, Delyth Evans MBE, wedi derbyn y gwahoddiad i Gadeirio’r Grŵp Gweithredu newydd er mwyn sicrhau parhad a chynnal momentwm. Cytunwyd mai’r unigolion isod fydd aelodau’r Grŵp: Kevin Davies, Ceir Cawdor a Gwesty’r Emlyn Lawrence Harris, Daioni Keith Evans, Gŵr Busnes Lleol Jacqui Weatherburn, Coleg Ceredigion a Phrifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant Steve Jones, Tai Ceredigion Ben Giles, Ultima Cleaning Cynhelir cyfarfod cyntaf y Grŵp cyn bo hir.
Translate the text from Welsh to English.
Dechreuodd y gwaith o adeiladu'r cynllun gwerth £139 miliwn, a gyflawnwyd gan Gyd\-fenter Balfour Beatty Jones Bros, yn 2019\. Gwnaeth y gwaith barhau drwy gydol pandemig COVID\-19 gyda mesurau ar waith i ddiogelu'r gweithlu. Dyma un o'r prosiectau seilwaith diweddar mwyaf yng Ngogledd Cymru, ac mae'r ffordd osgoi 9\.7km yn rhedeg o gylchfan y Goat ar yr A499/A487 i gylchfan Plas Menai. Adeiladwyd 17 o strwythurau mawr fel rhan o'r cynllun a chafodd 99% o'r deunyddiau a gloddiwyd eu hailgylchu a'u hailddefnyddio ar y ffordd osgoi. Mae'r prosiect hefyd yn cynnwys gwell llwybrau teithio llesol ar gyfer cerdded a beicio yn yr ardal. Mae'r cynllun wedi rhoi hwb i'r economi leol gyda bron i £70 miliwn yn cael ei wario gyda busnesau yng Nghymru. Gwariwyd £12 miliwn ohono ar fentrau bach a chanolig. Gwariwyd £2 miliwn hefyd gan y gweithlu adeiladu mewn siopau, busnesau a gwasanaethau lleol yn ystod y cyfnod adeiladu. Yn ystod y cyfnod adeiladu daeth 93 y cant o'r gweithlu o ardal y Gogledd, gyda 31 y cant yn byw o fewn 10 milltir. Cafodd 36 o raddedigion a phrentisiaid eu cyflogi a’u hyfforddi tra bod 15 o bobl wedi cael profiad gwaith. Ar gyfartaledd, roedd 160 o bobl yn gweithio ar y cynllun ar unrhyw adeg yn ystod y gwaith adeiladu. Mae mesurau wedi cael eu rhoi ar waith i leihau effaith amgylcheddol y cynllun, i wella bioamrywiaeth yn yr ardal, gan gynnwys lleoedd diogel i fywyd gwyllt. Plannwyd 170,000 o blanhigion, gan ddarparu tua 14 hectar o rywogaethau brodorol newydd, coetiroedd a phrysgwydd, yn ogystal â thros 20 cilometr o wrychoedd newydd. Dywedodd y Dirprwy Weinidog Newid Hinsawdd sydd â chyfrifoldeb dros Drafnidiaeth, Lee Waters: > “Mae'r prosiect hwn yn fuddsoddiad sylweddol yn yr ardal gan Lywodraeth Cymru ac mae'n dyst i'r gweithlu lleol ei fod wedi'i gwblhau cyn pryd. Yn ogystal â'r ffordd, mae'r prosiect wedi creu cysylltiadau newydd ar gyfer cerdded a beicio a fydd yn gwella iechyd ac amgylchedd cymunedau lleol. Dywedodd Lesley Griffiths, Gweinidog Gogledd Cymru: > “Y cynllun hwn yw un o'r rhaglenni seilwaith diweddar mwyaf yng Ngogledd Cymru. Cafodd ei gyflawni cyn pryd yn ystod cyfnod heriol dros ben. Rwy’n llongyfarch pawb a fu'n ymwneud â chyflawni'r cynllun hwn yn ystod y pandemig, gan ddiogelu eu gweithlu. Mae'n dyst i'r sgiliau a'r ymroddiad sydd gennym yma yn y Gogledd. Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething: > “Mae ffordd osgoi Caernarfon a Bontnewydd wedi bod yn hwb i'r economi leol yn ystod y cyfnod adeiladu, gan ddarparu cyfleoedd i brentisiaid a graddedigion, tra bod busnesau a chyflenwyr hefyd wedi elwa. Yn y tymor hir, bydd y cysylltedd gwell i Ystad Ddiwydiannol Cibyn, ac ymhellach i ffwrdd, yn dda ar gyfer twf economaidd y rhanbarth. Dywedodd Jon Muff, Arweinydd y Prosiect ar gyfer Balfour Beatty Jones Bros: > “Rydym yn ddiolchgar iawn i'r tîm am eu gwaith caled a'u hymroddiad drwy gydol y prosiect, gan ddod â'r sgiliau a'r arbenigedd at ei gilydd ar draws ein cyd\-fenter i gysylltu cymunedau yng Nghaernarfon a Bontnewydd, gan leihau tagfeydd traffig yn sylweddol a gwella amseroedd teithio. > > > “Rydym yn falch o'r gwaddol yr ydym yn ei adael ar ôl, sy'n cynnwys gwariant sylweddol yn yr ardal leol yn ogystal â hyfforddi a gwella sgiliau dwsinau o bobl, gan gynnwys graddedigion a phrentisiaid. Dywedodd Gwion Lloyd, prentis peirianneg 22 oed o Harlech sydd wedi bod ar y safle ers iddo ddechrau yn 2019: > “Mae wedi bod yn wych dysgu cymaint ar brosiect mor fawr i'r rhanbarth, ac ni allwn fod wedi gofyn am ddechrau gwell i'm gyrfa peirianneg sifil. Mae'n destun balchder mawr i mi o wybod y bydd y gymuned, gan gynnwys teulu a ffrindiau, yn gallu elwa ar y ffordd osgoi yn rheolaidd.
Construction of the £139 million scheme, delivered by the Balfour Beatty Jones Bros Joint Venture, began in 2019 with work continuing throughout the COVID\-19 pandemic with safeguards in place to protect the workforce. One of the largest recent infrastructure projects in North Wales, the 9\.7km bypass runs from the Goat Roundabout on the A499/A487 to the Plas Menai roundabout. 17 major structures were built as part of the scheme and 99% of the excavated materials were recycled and reused on the bypass. The project also includes improved active travel routes for walking and cycling in the area. The scheme has provided a boost for the local economy with close to £70 million spent with Welsh businesses of which £12 million was spent on small to medium enterprises. £2 million was also spent by the construction workforce in local shops, businesses and services during the construction period. During the construction stage 93 per cent of the workforce came from the North Wales area, with 31 per cent living within a 10\-mile radius. 36 graduates and apprentices were employed and trained while 15 people received work experience. An average of 160 people worked on the scheme at any one time during construction. Measures have been put in place to minimise the environmental impact of the scheme to improve and enhance biodiversity in the area, including safe passages for wildlife. 170,000 plants, providing around 14 hectares of new native species, woodlands and scrub, as well as over 20 kilometres of new hedgerows were also planted. Deputy Minister for Climate Change with a responsibility for Transport Lee Waters said: > “This projects represents a significant investment in the area by the Welsh Government and it is testimony to the local workforce that it has been completed ahead of time. As well as the road the project has created new links for walking and cycling which will improve the health and the environment of local communities. Minister for North Wales Lesley Griffiths said: > “This scheme is one of the largest recent infrastructure programmes in North Wales. It has been delivered ahead of time during an extremely challenging period. I congratulate all those involved for delivering this scheme during the pandemic, while keeping their workforce safe. It is a testament to the skills and commitment we have here in North Wales. Minister for Economy Vaughan Gething said: > “The Caernarfon and Bontnewydd bypass has been a boost for the local economy during construction, providing opportunities for apprentices and graduates, while businesses and suppliers also benefited. In the long term the improved connectivity to Cibyn Industrial Estate, and wider afield, will be good for region’s economic growth. Jon Muff, Project Lead at Balfour Beatty Jones Bros said: > “We are very grateful to the team for their hard work and dedication throughout the project, bringing together the skills and expertise across our joint venture to connect communities in Caernarfon and Bontnewydd whilst significantly reducing traffic congestion and improving journey times. > > > “We are proud of the legacy we are leaving behind, which includes considerable spend in the local area as well as training and upskilling dozens of people, including graduates and apprentices. Gwion Lloyd, a 22\-year\-old engineering apprentice from Harlech who has been on site since he started in 2019, said: > “It has been excellent to learn so much on such a major project for the region, and I couldn’t have asked for a better start to my civil engineering career. It gives me great pride to know that the community, including family and friends, will be able to benefit from the bypass on a regular basis.
Translate the text from Welsh to English.
Ym mis Awst y llynedd, cyhoeddodd Arolygiaeth Gofal a Gwasanaethau Cymdeithasol Cymru ac Estyn yr adroddiad am eu hymchwiliad ar y cyd i’r ffordd y rheolir honiadau o gam\-drin proffesiynol yn Sir Benfro. Roedd yr adroddiad yn un hynod feirniadol a gwnaethom weithredu ar unwaith, gan gyfarwyddo Cyngor Sir Penfro i sicrhau mai dim ond y bobl hynny a oedd wedi'u fetio'n briodol a fyddai'n gweithio gyda phlant dros wyliau'r haf, a’i gyfarwyddo hefyd i lunio cynllun gwella er mwyn mynd i'r afael â'r methiannau a nodwyd yn yr adroddiad. Rydym wedi cefnogi a herio'r Cyngor, gan wneud hynny'n gyntaf ar ffurf y Bwrdd Cynghori Gweinidogol wrth i’r Cyngor fynd ati i ddrafftio'i gynllun gwella, ac yna drwy Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro ar gyfer y cyfnod gweithredu. Gwnaethom ymrwymo i roi gwybodaeth reolaidd i chi am hynt y gwaith hwn, a gwnaed hynny drwy gyfres o ddatganiadau ysgrifenedig a llafar. Er i Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro roi cefnogaeth i’r Cyngor, ac er bod y gefnogaeth honno'n ddwys ar adegau, mae'r cynnydd sy'n cael ei wneud o ran gwella'r trefniadau diogelu plant yn Sir Benfro yn parhau i fod yn boenus o araf. Ni chawsom ein hargyhoeddi bod uwch\-swyddogion yn yr awdurdod yn derbyn bod angen newid y diwylliant nac ychwaith eu bod yn ymateb yn ddiymdroi ac yn effeithiol i bryderon y mae Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro yn parhau i’w codi gyda nhw.   Ar adegau, mae wedi ymddangos nad yw prif swyddogion naill ai’n gwybod beth sy'n digwydd yn eu hysgolion, neu eu bod yn gwybod ac wedi methu â'i ddatgelu neu wedi methu â gweithredu pan fo angen. Hyd yn oed ar ôl i'r cyfryngau argraffu stori am athro yn clymu dwylo plentyn ysgol gynradd y tu ôl i'w gefn, methodd y Cyfarwyddwr Addysg ag ymyrryd pan gymerodd yr ysgol gamau amhriodol, a bu'n rhaid i Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro ddweud wrtho beth ddylai ei wneud. Mae Bwrdd Gweinidogol Sir Benfro wedi dod o hyd i enghreifftiau o ystafelloedd 'amser i anadlu' ac ystafelloedd encilio mewn ysgolion cynradd lle mae’n bosibl bod plant wedi cael eu cloi i mewn, ond roedd uwch\-swyddogion yn honni nad oeddent yn gwybod dim am yr ystafelloedd hynny ac roeddent yn araf i weithredu ar ôl iddynt gael gwybod amdanynt. Nid yw swyddogion yn rhannu gwybodaeth gydag aelodau etholedig o hyd, er mwyn i'r aelodau hynny fedru ffurfio barn sy'n seiliedig ar wybodaeth. Yn aml, rhaid i'r aelodau etholedig ddibynnu ar wybodaeth oddi wrth Fwrdd Gweinidogol Sir Benfro cyn iddynt fedru gweithredu. Er hynny, mae arwyddion mwy cadarnhaol o gynnydd ymhlith yr aelodau etholedig, ac fe'n calonogwyd gan y gwaith a wnaed ar ddiwygio'r cyfansoddiad ac ar wella atebolrwydd democrataidd. Mae arwyddion hefyd, sydd i’w croesawu, fod aelodau'r cabinet yn dechrau herio'u swyddogion erbyn hyn ac yn arfer eu hawdurdod pan fo angen. Er hynny, ymddengys nad oes yno'r ymdeimlad o'r angen i weithredu ar fyrder y byddem yn ei ddisgwyl er mwyn mynd i'r afael â'r methiannau allweddol. Rydym wedi rhoi neges glir i'r Cyngor mai cyfrifoldeb yr aelodau etholedig yw hwn, ac rydym wedi cyfarfod â'r Arweinydd, ac wedi ysgrifennu ato, yn gofyn iddo sut y mae'n bwriadu mynd i'r afael â'r methiannau hyn, sydd i’w gweld dro ar ôl tro. Atodir y llythyr hwnnw i'r datganiad hwn. Rydym wedi dweud yn glir wrth yr Arweinydd bod y sefyllfa yn un mor ddifrifol fel ei bod yn fwriad gennym gyhoeddi Cyfarwyddyd fel yr amlinellir yn y llythyr. Byddwn, er hynny, yn ystyried ymateb y Cyngor a'r holl ffactorau eraill perthnasol cyn gwneud unrhyw benderfyniad i gyhoeddi Cyfarwyddyd.   Rydym wedi aros yn ddigon hir ac nid ydym yn barod i roi rhybudd arall. Byddwn yn cyhoeddi datganiad arall ar ôl i ni ystyried ymateb yr Arweinydd a phenderfynu sut y byddwn yn gweithredu. ### Dogfennau * #### Atodiad \- Llythir i Arweinydd y Cyngor Sir Penfro, Saesneg yn unig, math o ffeil: pdf, maint ffeil: 88 KB Saesneg yn unig 88 KB
In August last year the Care and Social Services Inspectorate Wales and Estyn published the report of their joint investigation into arrangements for managing allegations of professional abuse in Pembrokeshire.  The report was extremely critical and we took immediate action, directing Pembrokeshire County Council to ensure that only those who had been properly vetted worked with children over the summer break, and to draw up an improvement plan to address the failings identified in the report. We have provided support and challenge to the Council, firstly in the form of the Ministerial Advisory Board while the Council drafted its improvement plan, and then the Pembrokeshire Ministerial Board (PMB) for the implementation phase.  We undertook to keep you informed of progress and have done so through a series of written and oral statements. Despite, at times intensive, support from the PMB, progress in improving safeguarding arrangements for children in Pembrokeshire is still worryingly slow.  We are not convinced that senior officers in the authority accept the need to change the culture nor that they respond promptly and effectively to continuing concerns which the PMB raise with them.   On occasions, chief officers have appeared either not to have known what is happening in their schools, or known and failed to disclose it or to take action when needed.  Even after the media had printed a story of a teacher tying a primary school child’s hands behind his back, the Director of Education failed to intervene when the school took inappropriate action, and the PMB had to tell him what he should do.  The PMB has found instances of ‘time out’ and withdrawal rooms in primary schools where children may have been locked in, yet senior officers claimed to know nothing about these rooms and were slow to act when informed of their existence.  Officers still do not share information with elected members to enable them to make informed judgements.  Often the elected members must rely on information from the PMB before they are able to act. There are however more positive signs of progress amongst elected members, and we are heartened by the work on revising the constitution and on improving democratic accountability.  There are also welcome signs that cabinet members are now beginning to challenge their officers and exert their authority when necessary.  Nevertheless, there does not seem to be the sense of urgency that we would expect in addressing the key failings. We have given a strong message to the Council that responsibility rests with elected members and we have met with, and written to, the Leader, asking him how he intends to deal with these repeated failures.  That letter is attached to this statement.  We have made it clear to the Leader that the situation is so serious that we are minded to issue a Direction as outlined in the letter.  We will however consider the Council’s response and all other relevant factors before making any decision to issue a Direction.   We have waited long enough and we are not prepared to give another warning.  We will issue another statement when we have considered the Leader’s response and have determined our course of action. ### Documents * #### Annex \- Letter to the Leader of Pembrokeshire County Council, file type: pdf, file size: 88 KB 88 KB
Translate the text from English to Welsh.
We are today publishing a suite of documents to support our vision of high\-quality Early Childhood Play, Learning and Care (ECPLC) in Wales. Previously known as Early Childhood Education and Care (ECEC). Child development is at the heart of our early childhood play, learning and care policies and provision. The Early Childhood Play, Learning and Care Quality Framework for Wales draws together the requirements for delivering the kind and standard of provision we want in Wales.   The Early Childhood Play, Learning and Care: Reflective Practice Toolkit  has been developed to support individuals and teams to reflect on the quality of their provision. The Early Childhood Play, Learning and Care: Developmental Pathways 0\-3 focuses on what is important for children’s development and how we can best support very young children to grow and develop. All of these align with the *National Minimum Standards for Regulated Childcare in Wales* and the *Curriculum for Wales*. Each of these documents should be used alongside each other to help practitioners plan meaningful experiences which are responsive to babies and very young children’s developing needs and interests. The suite of support materials should ensure practitioners offer well\-evidenced, well\-informed, and successful approaches to early childhood play, learning and care and help them actively reflect on and continuously improve practice to better help all babies and young children to grow and develop. We want to thank all those involved in the production of these documents, which have been produced by practitioners for practitioners. These documents will remain in draft for the next year as we engage with the widest possible range of practitioners. We intend to publish final versions in June 2024\.
Heddiw, rydym yn cyhoeddi cyfres o ddogfennau i gefnogi ein gweledigaeth ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar o ansawdd uchel yng Nghymru, a oedd yn arfer cael ei adnabod fel Addysg a Gofal Plentyndod Cynnar. Mae datblygiad plant wrth wraidd ein polisïau a'n darpariaeth chwarae, dysgu a gofal plentyndod cynnar. Mae’r Fframwaith Ansawdd ar gyfer Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar yng Nghymru  yn dwyn ynghyd y gofynion ar gyfer darparu'r math o ddarpariaeth a safon y ddarpariaeth yr ydym ei heisiau yng Nghymru Mae Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Pecyn Cymorth Ymarfer Myfyriol  wedi'i ddatblygu i gefnogi unigolion a thimau i fyfyrio ar ansawdd eu darpariaeth. Mae Chwarae, Dysgu a Gofal Plentyndod Cynnar: Llwybrau Datblygu 0 i 3 yn canolbwyntio ar yr hyn sy'n bwysig i ddatblygiad plant a'r ffordd orau o gefnogi plant ifanc iawn i dyfu a datblygu. Mae'r rhain i gyd yn cyd\-fynd â'r *Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir yng Nghymru* a'r *Cwricwlwm i Gymru*. Dylid defnyddio pob un o'r dogfennau hyn ochr yn ochr â'i gilydd i helpu ymarferwyr i gynllunio profiadau ystyrlon sy'n ymateb i anghenion a diddordebau datblygol babanod a phlant ifanc iawn. Dylai'r gyfres o ddeunyddiau cymorth sicrhau bod ymarferwyr yn cynnig dulliau chwarae, dysgu a gofal llwyddiannus sy'n llawn gwybodaeth ac yn seiliedig ar dystiolaeth yn ystod plentyndod cynnar a'u helpu i fyfyrio ar eu harferion a’u gwella'n barhaus er mwyn helpu pob baban a phlentyn ifanc i dyfu a datblygu’n well. Hoffem ddiolch i bawb a fu'n ymwneud â’r dogfennau hyn, sydd wedi'u cynhyrchu gan ymarferwyr ar gyfer ymarferwyr. Bydd y dogfennau hyn yn parhau i fod ar ffurf drafft ar gyfer y flwyddyn nesaf wrth i ni ymgysylltu â'r ystod ehangaf bosibl o ymarferwyr. Rydym yn bwriadu cyhoeddi’r fersiynau terfynol ym mis Mehefin 2024\.
Translate the text from English to Welsh.
Backed by over £3m Welsh Government funding and run in collaboration with Innovate UK, the Small Business Research Initiative (SBRI) has gained interest from other UK devolved nations as well as attracting attention from Ireland, Sweden and Australia.   Launched in Wales in 2013, the SBRI offers businesses \- many of which are small and medium sized enterprises (SMEs) \- the opportunity to bid for research and development (R\&D) funding to develop technology\-driven solutions for specific challenges facing the public sector.    Run as competitions each challenge focusses on an area of public service where solutions either do not yet exist or where partial solutions might be improved.   Areas where solutions are already being progressed include the improvement of health and patient care, medical treatments, road safety, renewable energy generation and environmental management.   To date, 14 SBRI competitions have been run in Wales, resulting in 66 contracts valued at approximately £5m being awarded to companies to develop Welsh public sector solutions: 44 contracts at Phase 1 (developing the proposal) and 22 contracts at Phase 2 (creating a prototype with a view to bringing it to market).    One of the first SBRI challenges run in Wales was by Betsi Cadwaladr University Health Board (UHB) which wanted to develop a solution to improve patient care by helping nurses and carers reduce administration duties so they could spend more time with patients.   The target of this challenge was for nurses to spend 10% more time with patients. After two years of practical collaboration between the UHB’s nurses and a small Bangor start up company, Elidir Health, a software solution has been developed which promises to increase nurses’ time with patients not just by 10% but potentially up to 23%. Indeed this challenge has been so successful that Elidir Health is now working with Cwm Taf UHB as well as Betsi Cadwaladr UHB to explore how this software can be adopted across both health boards’ paediatric units.   The Welsh Government’s own Transport department has also made use of SBRI challenges to develop solutions to identified issues, for example improving road safety and reducing the number of motorcyclists killed or seriously injured on Welsh roads.   Of the bids submitted to this challenge two projects were selected, with the first example already complete.   Armourgel Ltd has developed a motorcycle helmet liner that will significantly reduce the impact to a rider’s head during a collision. This can make the difference between a serious brain injury and a minor one.   The second project has developed a junction alert system which will soon be trialed on Welsh roads. The project will be able to test the system in peak motorcycling season and by September the company will have fully tested the system in all weather conditions and will report on its market potential.    Skills and Science Minister, Julie James is keen to point out that both these projects have the potential to save the lives of motorcyclists not just on Welsh roads but across the world, saying:    > “The Small Business Research Initiative is a great example of how the public and private sector can work together to tackle societal challenges in innovative ways and deliver benefits to both public sector bodies and industry as well as the people they serve. > > >   > > > “My aim now is for our SBRI programme to become a mainstream tool in the Welsh public sector, promoting innovation and driving forward out technological potential. > > >   > > > “SBRI can open up huge opportunities for Welsh businesses and help solve some of the toughest challenges we will all face in the future and we plan to use it.”
Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach, sy'n cael ei chefnogi gan dros £3 miliwn o gyllid gan Lywodraeth Cymru, ac sy'n cael ei rhedeg ar y cyd ag Innovate UK, wedi ennyn diddordeb gwledydd datganoledig eraill y DU, yn ogystal â dal sylw yn Iwerddon, Sweden ac Awstralia. Cafodd y Fenter ei lansio yng Nghymru yn 2013, ac mae'n cynnig cyfleoedd i fusnesau \- gan gynnwys llawer o fusnesau bach a chanolig (SMEs) \- wneud ceisiadau am gyllid ymchwil a datblygu, i ddatblygu atebion sy'n seiliedig ar dechnoleg er mwyn datrys heriau penodol y mae'r sector cyhoeddus yn eu hwynebu.  Gan redeg yr heriau fel cystadlaethau, mae pob her yn canolbwyntio ar faes yn y gwasanaethau cyhoeddus lle nad yw'r atebion i heriau penodol yn bodoli ar hyn o bryd, neu lle y gellid gwella'r atebion rhannol sydd ar gael eisoes. Mae’r meysydd lle y mae atebion yn cael eu datblygu eisoes yn cynnwys gwella gofal iechyd a gofal cleifion, triniaethau meddygol, diogelwch ar y ffyrdd, cynhyrchu ynni adnewyddadwy a rheoli'r amgylchedd. Hyd yn hyn, mae 14 o gystadlaethau wedi cael eu rhedeg yng Nghymru gan Fenter Ymchwil Busnesau Bach, gan arwain at ddyfarnu 66 o gontractau gwerth tua £5 miliwn i gwmnïau, er mwyn datblygu atebion ar gyfer y sector cyhoeddus yng Nghymru: 44 o gontractau Cam 1 (datblygu'r cynnig) a 22 o gontractau Cam 2 (creu prototeip gyda'r bwriad o'i gyflwyno i'r farchnad).  Un o heriau cyntaf y Fenter i gael ei rhedeg fel cystadleuaeth yng Nghymru oedd gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr.  Roedd y Bwrdd Iechyd am wella gofal cleifion drwy helpu nyrsys a gofalwyr i leihau dyletswyddau gweinyddol, fel y gallent dreulio rhagor o amser gyda chleifion. Nod yr her hon oedd galluogi nyrsys i dreulio 10% yn fwy o amser gyda chleifion. Ar ôl dwy flynedd o gydweithredu ymarferol rhwng nyrsys y Bwrdd Iechyd a chwmni bach newydd o Fangor, Elidir Health, mae meddalwedd wedi cael ei datblygu sy'n addo cynyddu'r amser y mae nyrsys yn ei dreulio gyda chleifion nid dim ond 10% ond, o bosibl, hyd at 23%. Mewn gwirionedd, mae'r her hon wedi bod mor llwyddiannus fel bod Elidir Health yn gweithio gyda Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf erbyn hyn, yn ogystal â Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr, i ystyried sut y gall y feddalwedd hon gael ei mabwysiadu ar draws unedau pediatrig y byrddau iechyd hyn. Hefyd, mae Adran Drafnidiaeth Llywodraeth Cymru wedi defnyddio heriau'r Fenter i ddatblygu atebion i faterion sydd wedi'u nodi, er enghraifft gwella diogelwch ar y ffyrdd a lleihau nifer y beicwyr modur sy'n cael eu lladd neu eu hanafu'n ddifrifol ar ffyrdd yng Nghymru. O'r cynigion a gyflwynwyd ar gyfer yr her hon, cafodd dau brosiect eu dewis, ac roedd yr enghraifft gyntaf eisoes wedi'i chwblhau. Mae Armourgel Ltd wedi datblygu leinin ar gyfer helmedau beicwyr modur, a fydd yn lleihau'r ardrawiad i ben y beiciwr modur yn sylweddol yn ystod gwrthdrawiad. Gall hyn wneud y gwahaniaeth rhwng anafiad difrifol i'r ymennydd a mân anafiad. Mae'r ail brosiect wedi datblygu system ar gyfer hysbysu pobl ynghylch cyffyrdd, a fydd yn cael ei threialu yn fuan ar ffyrdd yng Nghymru. Bydd y prosiect yn gallu profi'r system yn ystod y tymor brig ar gyfer beiciau modur, ac erbyn mis Medi bydd y cwmni wedi profi'r system yn llawn yn ystod pob tywydd, fel y gall adrodd ar ei photensial yn y farchnad.  Mae'r Gweinidog Sgiliau a Gwyddoniaeth, Julie James, yn awyddus i dynnu sylw at y ffaith bod gan y ddau brosiect hyn botensial i arbed bywydau beicwyr modur, nid yn unig ar ffyrdd yng Nghymru ond ar draws y byd, gan ddweud:  > “Mae Menter Ymchwil Busnesau Bach yn enghraifft dda o'r ffordd y mae'r sector cyhoeddus a'r sector preifat yn gallu cydweithio i fynd i'r afael â heriau cymdeithasol mewn ffyrdd arloesol, gan ddod â manteision i gyrff yn y sector cyhoeddus a diwydiannau fel ei gilydd, yn ogystal ag i'r bobl maen nhw'n eu gwasanaethu. > > “Fy nod erbyn hyn yw sicrhau y bydd ein rhaglen Menter Ymchwil Busnesau Bach yn datblygu i fod yn adnodd prif ffrwd yn y sector cyhoeddus yng Nghymru, a fydd yn hyrwyddo arloesi ac yn gwella ein potensial technolegol. > > “Gall y Fenter greu cyfleoedd enfawr i fusnesau yng Nghymru a helpu i ddatrys rhai o'r heriau mwyaf cymhleth rydyn ni i gyd yn mynd i'w hwynebu yn y dyfodol.  Ein bwriad felly yw manteisio'n llawn ar y cyfleoedd a ddaw yn ei sgil.”
Translate the text from Welsh to English.
Dechreuodd Cymdeithas y Cyfreithwyr weithio ar drethi Cymru cyn i Gymru hyd yn oed gael y pŵer i godi trethi newydd. Yn y ffordd arferol, aethom ati i graffu’r ddeddfwriaeth ar gyfer disodli treth dir y dreth stamp a sefydlu awdurdod trethi newydd ar gyfer Cymru, sef Awdurdod Cyllid Cymru. Cafodd Awdurdod Cyllid Cymru ei sefydlu gan Lywodraeth Cymru, a dyma'r corff cyntaf o’i fath yng Nghymru. Roedd yn amlwg o’r camau cyntaf un bod cyfle yma i weithio mewn ffordd newydd. Gyda threthi newydd datganoledig i Gymru ar y gweill am y tro cyntaf mewn wyth canrif, rhoddodd Cymdeithas y Cyfreithwyr gefnogaeth i Lywodraeth Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru i ddefnyddio dulliau'r unfed ganrif ar hugain i fynd ati; gan gydweithio i ddatblygu gwasanaethau a pholisïau trethu newydd. Wrth ddatblygu Awdurdod Cyllid Cymru, gweithiodd Cymdeithas y Cyfreithwyr yn agos â thîm craidd staff Llywodraeth Cymru a Awdurdod Cyllid Cymru, a oedd yn agored ac yn fodlon clywed barn cyfreithwyr gyda phrofiad o’r hen system drethi ac a oedd yn awyddus i wella’r system ar gyfer y trethi newydd. Hefyd, cyfrannodd ein haelodau yn helaeth drwy ymuno â grwpiau defnyddwyr i gynnig eu barn a’u safbwyntiau yn ystod camau datblygu’r system dreth ddigidol. Roedd hyn yn golygu bod Awdurdod Cyllid Cymru yn gallu profi a mireinio ei wasanaethau cyn lansio ar 1 Ebrill. Cyn y lansio, aethom ati i hyrwyddo digwyddiadau ymgysylltu Awdurdod Cyllid Cymru, a daeth bron i 1,000 o bobl o bob cwr o Gymru a Lloegr iddynt. Mewn gweithdy ar y cyd, cafodd Kathryn Bishop, Cadeirydd Bwrdd Awdurdod Cyllid Cymru a staff gyfle i ryngweithio â nifer o gyfreithwyr sy’n gwsmeriaid rheolaidd erbyn hyn. Erbyn mis Ebrill 2018, roedd yr Awdurdod Cyllid Cymru wedi cofnodi dros 1,200 o gofrestriadau. Wrth weithio mewn partneriaeth, cyflwynwyd y Dreth Trafodiadau Tir yn y ffordd fwy hwylus bosib, ac rwy’n credu bod y ffordd arloesol hon o weithio yn lasbrint ar gyfer y dyfodol. Mae Cymdeithas y Cyfreithwyr yn gorff proffesiynol annibynnol ar gyfer cyfreithwyr. Rydym yn cynrychioli ac yn cefnogi cyfreithwyr fel eu bod, yn eu tro, wedi'u paratoi yn y ffordd orau i helpu eu cleientiaid. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i lawsociety.org.uk.
The Law Society began its work on Welsh taxes even before Wales had the power to raise new taxes. In the usual way, we scrutinised the legislation for replacing stamp duty land tax and establishing the new tax authority for Wales, the Welsh Revenue Authority (WRA). Formed by Welsh Government, the WRA is the first body of its kind in Wales.  It was obvious from the earliest stages of its inception that there was an opportunity to work in a new way. Approaching the first new devolved Welsh taxes in eight centuries, the Law Society supported Welsh Government and the WRA to take a twenty\-first century approach to engagement: working together to develop new tax policies and services. During the development of the WRA, the Law Society worked closely with a core team of Welsh Government and WRA staff, who were open and receptive to the views of solicitors with experience of the old taxes and who were keen to improve the system for the new ones. Our members also generously contributed through joining user groups to offer their views and opinions during the development phase of the digital tax system. This meant that the WRA was able to test and refine its services before launch on 1 April. Ahead of the launch, we promoted the WRA’s engagement events which reached close to 1,000 people from across England and Wales. A joint workshop gave Kathryn Bishop, Chair of the WRA Board and WRA staff the opportunity to interact with many solicitors who are now regular customers. By April 2018, the WRA recorded over 1,200 registrations. This partnership approach saw a seamless introduction of the Land Transaction Tax and I believe this innovative way of working is a blueprint for the future. The Law Society is the independent professional body for solicitors. We represent and support solicitors so they in turn are best prepared to help their clients. For further information, visit lawsociety.org.uk.
Translate the text from Welsh to English.
Rwy’n nodi’r mân newidiadau i Reoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5\) (Cymru) 2020\. Ymddengys bod trosglwyddiadau COVID\-19 yn y gymuned yng Nghymru yn cynyddu ac mae’n debygol o gynyddu ymhellach pan fydd dysgu mewn ysgolion a phrifysgolion yn ailddechrau. Mae’r cyfraddau brechu uchel wedi cyfrannu at wanhau’r cysylltiad rhwng nifer yr heintiadau a gofnodir ac effeithiau difrifol y clefyd, fel yr amlygir yn y niferoedd cymharol isel o bobl yr amheuir neu y cadarnhawyd bod ganddynt COVID\-19 a dderbynnir i’r ysbyty bob dydd. Fodd bynnag, mae rhywfaint o ansicrwydd yn parhau ynglŷn â’r misoedd sydd o’n blaenau. Mae effaith llacio’r cyfyngiadau yn ystod yr haf, gyda mwy o gymysgu cymdeithasol ar Lefel Rhybudd 0, yn cael ei hadlewyrchu yn y cynnydd yn nifer yr achosion ac ym mhositifedd profion ym mhob ardal o Gymru, er bod hyn yn digwydd yn arafach o gymharu â’r tonnau blaenorol. Rhaid inni barhau i fonitro’r sefyllfa yn agos iawn, yn enwedig oherwydd y pwysau ehangach sy’n cael ei brofi ar draws y system iechyd a gofal ar hyn o bryd.  Cael ein brechu yw un o’r ffyrdd fwyaf effeithiol inni ddiogelu ein teuluoedd, ein cymunedau a ni ein hunain rhag COVID\-19\. Mae’r rhaglen frechu yn canolbwyntio yn awr ar gynyddu nifer yr oedolion sy’n cael dos cyntaf ac ail ddos ac annog y carfannau iau i drefnu i gael eu brechu. Yn ogystal â hyn, mae Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru wedi dechrau brechu plant 12\-17 oed sy’n cael eu hystyried fel unigolion sy’n agored i niwed yn glinigol, ac mae’r gwaith o gynllunio ar gyfer rhaglen pigiadau atgyfnerthu yn yr hydref yn parhau.  Mae’r brechlyn rhag y ffliw hefyd yn flaenoriaeth bwysig inni er mwyn lleihau lefelau afiechyd a marwolaethau sy’n gysylltiedig â’r ffliw ac i leihau nifer y bobl a fydd yn cael eu derbyn i’r ysbyty pan allai’r GIG a’r system gofal cymdeithasol fod yn rheoli brigiadau o achosion COVID\-19 yn ystod y gaeaf.   Nid nawr yw’r amser inni orffwys ar ein rhwyfau. Mae’r feirws yn cylchredeg o hyd ac mae perygl bob amser y gallai amrywiolynnau newydd ddod i’r amlwg. Mae’n hollbwysig bod pob un ohonom yn arfer yr ymddygiadau iach sy’n cyfyngu ar ledaeniad COVID\-19: * cael ein brechu’n llawn * hunanynysu os bydd gennym symptomau a chael prawf * dilyn arferion hylendid dwylo ac anadlol da * cyfyngu ar ein cysylltiadau ac aros mewn lleoliadau awyr agored pan fo’n bosibl * sicrhau bod amgylcheddau o dan do yn cael eu hawyru’n dda * gwisgo gorchudd wyneb mewn rhai mannau cyhoeddus dan do ac ar drafnidiaeth gyhoeddus * gweithio gartref pan allwn ni wneud hynny Dr Frank Atherton Y Prif Swyddog Meddygol
I note the minor changes to the Health Protection (Coronavirus Restrictions) (No. 5\) (Wales) Regulations 2020\. Community transmission of COVID\-19 in Wales appears to be increasing and is likely to increase further when school and university teaching resumes. The high vaccination rates have contributed to weakening the link between recorded infections and the serious effects of the disease, as evidenced by comparatively low numbers of people admitted daily to hospital with suspected or confirmed COVID\-19\.   However, there remains considerable uncertainty for the months ahead. The impact of relaxations during the summer, with increased social mixing at Alert level 0, are reflected in rising numbers of cases and test positivity in all areas of Wales, albeit at a slower pace compared to previous waves. We must continue to monitor the position very closely, not least given the broader pressures currently being experienced across the health and care system.   Vaccination is one of the most effective ways we can protect our families, communities and ourselves against COVID\-19\. The vaccination programme is now focused on boosting take up of first and second doses for all adults and encouraging younger cohorts to come forward. In addition NHS Wales has begun vaccinating children aged 12\-17 who are deemed clinically at risk, and planning continues for an autumn booster programme.  Influenza vaccination is also an important priority to reduce morbidity and mortality associated with influenza and to reduce hospitalisations when the NHS and social care system may be managing winter outbreaks of COVID\-19\. Now is not the time to be complacent. The virus is still circulating and there is always a risk of new variants emerging.  It is incumbent on all of us to practice the healthy behaviours which limit the spread of COVID\-19: * being fully vaccinated * self\-isolating when symptomatic and getting tested * observing good hand and respiratory hygiene * limiting contacts and staying in outdoor settings where possible * keeping indoor environments well ventilated * wearing a face covering in certain indoor public places and public transport * working from home whenever we can Dr Frank Atherton Chief Medical Officer
Translate the text from English to Welsh.
On 1 October 2012, I announced a review of assessment and the National Curriculum in Wales. To help inform this review I have asked Dr Elin Jones to chair a task and finish group to look specifically at the teaching of Welsh history, the story of Wales and Curriculum Cymreig. It is an underlying principle of the National Curriculum that learners aged 7\-14 should be given opportunities to develop and apply knowledge and understanding of the cultural, economic, environmental, historical and linguistic characteristics of Wales. The Curriculum Cymreig helps learners to understand and celebrate the distinctive quality of living and learning in Wales in the twenty\-first century, to identify their own sense of ‘Welshness’ and to feel a heightened sense of belonging to their local community and country. It helps to foster in learners an understanding of an outward\-looking and international Wales, promoting global citizenship and concern for sustainable development.  However, there have been significant changes in the curriculum in Wales since the publication of ACCAC’s guidance on ‘Developing the Curriculum Cymreig’ in 2003\. At the same time, there has been a significant growth in interest in the history of Wales over the last decade. Meanwhile, online resources to support the study of Welsh history have also continued to grow.  The Welsh Government has made significant investment in digitisation through the National Library of Wales, Cymal, and the National Museums \& Galleries of Wales’ (NMGW) ‘People’s Collection’. We are also investing heavily in our online educational resources for schools through Hwb and Learning Wales.  Along with County Archives services, and private sector family history enterprises, we now have unparalleled access to historical resources in schools.  Taken together, these factors mean that the time is right to look again at the place of Welsh history within the history curriculum, at how the story of Wales can be developed in schools, and at the future of Curriculum Cymreig within this changing landscape.  Dr Jones has therefore established a review group, made up of key stakeholders with experience and expertise in Welsh history and its teaching in primary and secondary schools, to look at:  * Whether the Curriculum Cymreig should be best delivered through the discipline of history and, if not, the best means of ensuring that the elements of Curriculum Cymreig are delivered across the curriculum; * Whether there is sufficient emphasis on Welsh history and the stories of Wales in the teaching of history and the current programme of study; and, * Whether the teaching of history, from the Foundation Phase through to the Welsh Baac, GCSE and A level sufficiently take account of the latest research and the new resources available about the historical development of Wales to the present day. Members of the group have been carefully selected for their experience and expertise across heritage, local and national history, BME history, and the range of academic, school and work\-based expertise.  I have asked Dr Elin Jones to chair the group. Dr Jones brings a wealth of experience to this agenda and I am very pleased that she has agreed to take this important work forward. In addition, I am grateful to the following individuals who have also agreed to become members of the review: * Prof Angela John, Aberystwyth University; * Dr Sian Rhiannon Williams, Cardiff Metropolitan University; * Sion Jones, Ysgol Syr Hugh Owen; * Dr Hugh Griffiths, Ysgol Bro Myrddin; * Paul Nolan, History advisor; * Nia Williams, Education Coordinator, National Museum and Galleries of Wales; * Frank Olding, Blaenau Gwent Heritage Officer; * Dr Stephanie Ward, Cardiff University; * David Stacey, Olchfa Comprehensive School; * Dr Martin Johnes, UC Swansea; * William Rogers, Queen Street School, Blaenau Gwent; * Nicola Thomas, Cornist Park School The group will report to me by July 2013 and provide recommendations on the way forward.
Ar 1 Hydref 2012, cyhoeddais adolygiad o asesu a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.  I helpu i lywio’r adolygiad hwn, gofynnais i’r Dr Elin Jones gadeirio grŵp gorchwyl a gorffen i edrych yn benodol ar ddysgu hanes Cymru, stori Cymru a’r Cwricwlwm Cymreig.   Mae’n egwyddor sylfaenol o ran y Cwricwlwm Cenedlaethol y dylai dysgwyr rhwng 7\-14 mlwydd oed gael y cyfle i ddatblygu a defnyddio gwybodaeth a dealltwriaeth o nodweddion  diwylliannol, economaidd, amgylcheddol, hanesyddol a ieithyddol Cymru.  Mae’r Cwricwlwm Cymreig yn helpu dysgwyr i ddeall a dathlu ansawdd unigryw byw a dysgu yng Nghymru yn yr unfed ganrif ar hugain, i ddod yn gyfarwydd â’u syniad eu hunain o ‘Gymreictod’ ac i fagu mwy o deimlad o berthyn i’w cymuned leol a’u gwlad.  Mae’n helpu i feithrin mewn dysgwyr ddealltwriaeth o Gymru ryngwladol sy’n edrych allan ar y byd, gan hyrwyddo dinasyddiaeth fyd\-eang ac ymwybyddiaeth o ddatblygu cynaliadwy.   Fodd bynnag, bu newidiadau sylweddol yng nghwricwlwm Cymru ers cyhoeddi canllawiau ACCAC ar ‘Ddatblygu’r Cwricwlwm Cymreig’ yn 2003\.  Ar yr un pryd, bu twf sylweddol yn y diddordeb mewn hanes Cymru dros y ddegawd ddiwethaf.   Yn y cyfamser, mae adnoddau ar\-lein i gynorthwyo gydag astudio hanes Cymru wedi parhau i dyfu hefyd.  Mae Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi llawer mewn digideiddio, yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Cymal, a ‘Chasgliad y Werin’ Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru (AOCC).  Rydym hefyd yn buddsoddi’n drwm yn ein hadnoddau addysgol ar\-lein i ysgolion drwy Hwb a Dysgu Cymru.  Yn ogystal â’r gwasanaethau Archifau Sirol a mentrau hanes teuluol y sector preifat, mae gennym bellach fynediad gwell nag erioed i adnoddau hanesyddol mewn ysgolion.    Gan ystyried popeth, mae’r ffactorau hyn yn golygu mai nawr yw’r amser i edrych eto ar le hanes Cymru o fewn y cwricwlwm hanes, sut y gellir datblygu stori Cymru mewn ysgolion, a dyfodol y Cwricwlwm Cymreig o fewn y cyd\-destun newidiol hwn.  Mae Dr Jones felly wedi sefydlu grŵp adolygu, sy’n cynnwys rhanddeiliaid amlwg sydd â phrofiad ac arbenigedd ym maes hanes Cymru a’r dull o’i ddysgu mewn ysgolion cynradd ac uwchradd, i edrych ar:  * Ai’r ffordd orau o ddysgu’r Cwricwlwm Cymreig yw drwy’r ddisgyblaeth hanes, ac os nad y ffordd honno, beth yw’r ffordd orau o sicrhau bod elfennau y Cwricwlwm Cymreig yn cael eu darparu ar draws y cwricwlwm; * A oes digon o bwyslais ar hanes Cymru a storïau Cymru wrth ddysgu hanes a’r rhaglen astudio bresennol; ac * A yw’r dull o ddysgu hanes, o’r Cyfnod Sylfaen i’r Fagloriaeth Gymreig, TGAU a lefel A yn ystyried yn llawn yr ymchwil diweddaraf a’r adnoddau newydd sydd ar gael am ddatblygiad hanesyddol Cymru hyd at heddiw. Cafodd aelodau’r grŵp eu dewis yn ofalus oherwydd eu profiad a’u harbenigedd ym meysydd treftadaeth, hanes lleol a chenedlaethol, hanes Pobl Dduon a Lleiafrifoedd Ethniga’r ystod o arbenigedd academaidd, yn yr ysgol ac yn seiliedig ar waith.   Rwyf wedi gofyn i’r Dr Elin Jones gadeirio’r grŵp.  Daw Dr Jones a chyfoeth o brofiad i’r agenda hon ac rwy’n falch iawn ei bod wedi cytuno i fynd ymlaen â’r gwaith pwysig hwn.  Hefyd, rwy’n ddiolchgar iawn i’r unigolion canlynol sydd hefyd wedi cytuno i ddod yn aelodau o’r adolygiad:  * Yr Athro Angela John, Prifysgol Aberystwyth; * Dr Sian Rhiannon Williams, Prifysgol Fetropolitan Caerdydd; * Sion Jones, Ysgol Syr Hugh Owen; * Dr Hugh Griffiths, Ysgol Bro Myrddin; * Paul Nolan, Cynghorydd Hanes; * Nia Williams, Cydlynydd Addysg, Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru; * Frank Olding, Swyddog Treftadaeth Blaenau Gwent; * Dr Stephanie Ward, Prifysgol Caerdydd; * David Stacey, Ysgol Gyfun Olchfa; * Dr Martin Johnes, Coleg Prifysgol Abertawe; * William Rogers, Ysgol Queen Street, Blaenau Gwent; * Nicola Thomas, Ysgol Cornist Park Bydd y grŵp yn adrodd yn ôl imi erbyn Gorffennaf 2013 ac yn cynnig argymhellion ar y ffordd ymlaen.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi crynodeb o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a lansiwyd gennyf y llynedd ynghylch y newidiadau arfaethedig i’r Safonau Gofynnol Cenedlaethol ar gyfer Gofal Plant a Reoleiddir i blant hyd at 12 oed.  Prif nod yr ymgynghoriad oedd ymateb i argymhellion a wnaed yn sgil adolygiad o’r safonau gofynnol cenedlaethol yn 2019\. Roedd angen eglurhad a chyfarwyddyd pellach mewn nifer o feysydd, er enghraifft, mewn meysydd fel cymorth cyntaf a hyfforddiant diogelu. Mae’r safonau gofynnol cenedlaethol yn helpu i sicrhau bod plant a theuluoedd yn cael mynediad at brofiadau gofal plant a chwarae, sydd o ansawdd uchel ac yn rhoi cyfleoedd i blant chwarae, dysgu, cymdeithasu, a thyfu fel unigolion.  Mae Arolygiaeth Gofal Cymru yn ystyried y safonau hyn wrth arolygu darparwyr gofal plant a gwaith chwarae cofrestredig.  Mae’r crynodeb o’r ymatebion yn dangos y cafwyd cefnogaeth gyffredinol i’r cynigon gan yr ymatebwyr. Fodd bynnag, yn sgil yr heriau costau byw presennol a’r effaith y gallai’r newidiadau hyn ei chael ar y sector gofal plant a chwarae, rwyf wedi gofyn i fy swyddogion drafod y sefyllfa gyda’n partneriaid \- mae’r rhain yn cynnwys awdurdodau lleol a sefydliadau gofal plant a chwarae ymbarél yng Nghymru \- a hynny i ystyried sut i fynd ati i weithredu.  Rwy’n bwriadu cyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o’r safonau gofynnol cenedlaethol yn ddiweddarach yn 2023\. Bydd y rhain yn cael eu hadolygu’n gyson.  Hoffwn ddiolch i bawb a ymatebodd i’r ymgynghoriad hwn, mae eu barn yn chwarae rhan allweddol wrth lunio’r safonau fel eu bod yn parhau’n berthnasol ac yn addas i’w diben.
Today, I am pleased to publish a summary of responses to the consultation I launched last year about proposed changes to the National Minimum Standards for Regulated Childcare for children up to the age of 12\.  The consultation’s main aim was to respond to recommendations from a review of the national minimum standards in 2019\. There were a number of areas where clarification and further guidance was needed, for example, in areas such as first aid and safeguarding training.    The national minimum standards help ensure children and families have access to childcare and play experiences, which are of a high quality and provide children with opportunities to play, learn, socialise, and grow as individuals.  Care Inspectorate Wales take these standards into account when inspecting registered childcare and play work providers.   The summary of responses shows the proposals were broadly supported by respondents.  However, in light of the current cost\-of\-living challenges and impact these changes may have on the childcare and play sector, I have asked my officials to engage with our partners, including local authorities, childcare and play umbrella organisations in Wales, to explore how to address implementation.  I intend to publish a refreshed version of the national minimum standards later in 2023\. These will be kept under review.   I want to thank everyone who responded to this consultation, their views are a key part of shaping the standards to remain relevant and fit for purpose.
Translate the text from English to Welsh.
Today, I am setting out our plans for a National Framework for Social Prescribing (NFfSP). Social prescribing is an umbrella term that describes a way of connecting people, whatever their age or background, with their community to better manage their health and wellbeing. Whilst the development of a NFfSP is a Programme for Government commitment, social prescribing across Wales is not new. It is woven into the very fabric of what Welsh Government does in terms of empowering people and communities. In 2022, we ran a consultation exercise on a Welsh approach to social prescribing which received more than 190 responses, and a summary of the consultation responses is also published today. These have directly shaped the development of the NFfSP. Social prescribing interventions have been developed and established in a bottom\-up way across Wales, with individual contracted providers and clusters involved in health and care, third sector and statutory organisations developing different delivery models. While we welcome this grassroots approach, feedback from our consultation highlighted challenges caused by the lack of standardisation and consistency in the approach to social prescribing. These challenges included confusion among both public and the workforce who deliver or encounter social prescribing on the benefits it can offer, and impaired communication between sectors, professionals and with the public. To provide reassurance about the consistency and quality of delivery across Wales and to respond to the issues raised as part of the consultation exercise, our planned NFfSP outlines the model of social prescribing in Wales, helps to develop a shared understanding of the language used to describe social prescribing, and aims to ensure consistency of delivery regardless of the setting. It does not intend to dictate how social prescribing is delivered in different communities, rather it will agree a common vision of social prescribing in Wales and support its growth by setting out effective, high\-quality standards across a connected system. Our consultation exercise also showed a need for more effective partnership working to ensure sustainability and to avoid duplication. I have written to Regional Partnership Boards asking them to nominate a social prescribing champion, to seek clarity on their current offer and inviting them to work with us on the further development and implementation of the framework. I would like to take this opportunity to thank the many individuals and organisations who responded to the consultation exercise and worked with us to shape our plans. I’d like to offer particular thanks to the members of my task and finish group. I hope the framework will support a long\-term sustainable future for social prescribing in Wales, which will support people to connect to the things that matter to them in their community, wherever in Wales that may be.
Heddiw, rwy'n cyhoeddi ein cynlluniau ar gyfer Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol. Mae presgripsiynu cymdeithasol yn derm cyffredinol sy’n disgrifio ffordd o gysylltu pobl o bob oedran a chefndir â’u cymuned er mwyn rheoli eu hiechyd a’u llesiant yn well. Mae datblygu Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn un o ymrwymiadau'r Rhaglen Lywodraethu, ond nid yw presgripsiynu cymdeithasol yn rhywbeth newydd yng Nghymru. Mae’r egwyddorion yn rhan greiddiol o waith Llywodraeth Cymru i rymuso pobl a chymunedau. Yn 2022, cynhaliwyd ymarfer ymgynghori i ofyn am farn ar sut i ddarparu presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru. Daeth dros 190 o ymatebion i law ac mae crynodeb o ohonynt yn cael ei gyhoeddi heddiw hefyd. Mae'r ymatebion hyn wedi cael dylanwad uniongyrchol ar ddatblygu'r fframwaith. Mae ymyriadau presgripsiynu cymdeithasol wedi'u datblygu a'u sefydlu mewn dull o'r bôn i'r brig ledled Cymru, gyda darparwyr unigol dan gontract a chlystyrau sy'n ymwneud ag iechyd a gofal, y trydydd sector a sefydliadau statudol yn datblygu modelau cyflenwi gwahanol. Er ein bod yn croesawu'r dull llawr gwlad hwn, mae adborth o'n hymgynghoriad wedi datgelu heriau yn sgil diffyg safoni a chysondeb yn y dull presgripsiynu cymdeithasol. Roedd yr heriau hyn yn cynnwys dryswch ynglŷn â manteision presgripsiynu cymdeithasol ymhlith y cyhoedd ac i’r gweithlu sy’n ei ddarparu neu sy’n dod i gysylltiad ag ef. Roedd yr heriau hefyd yn cynnwys trafferthion o ran cyfathrebu rhwng sectorau, gweithwyr proffesiynol a’r cyhoedd. Er mwyn rhoi sicrwydd ynglŷn â chysondeb ac ansawdd y ddarpariaeth ledled Cymru, ac ymateb i'r materion a godwyd fel rhan o'r ymarfer ymgynghori, mae'r Fframwaith Cenedlaethol ar gyfer Presgripsiynu Cymdeithasol yn amlinellu'r model a ffefrir ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, yn helpu i ddatblygu dealltwriaeth gyffredin o'r iaith a ddefnyddir i ddisgrifio presgripsiynu cymdeithasol, ac yn ceisio sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyson ym mhob lleoliad. Nid ei fwriad yw pennu sut mae presgripsiynu cymdeithasol yn cael ei ddarparu mewn cymunedau gwahanol, ond yn hytrach bydd yn cytuno ar weledigaeth gyffredin o bresgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru ac yn helpu i ddatblygu ei dwf drwy gyflwyno safonau effeithiol o ansawdd uchel ar draws system gydgysylltiedig. Dangosodd ein hymarfer ymgynghori yn ogystal fod angen gweithio'n fwy effeithiol mewn partneriaeth i sicrhau cynaliadwyedd ac osgoi dyblygu. Rwyf wedi ysgrifennu at Fyrddau Partneriaeth Rhanbarthol yn gofyn iddynt enwebu hyrwyddwr presgripsiynu cymdeithasol, i ddeall beth maent yn ei gynnig ar hyn o bryd, a'u gwahodd i weithio gyda ni i ddatblygu'r fframwaith ymhellach a'i roi ar waith. Hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i ddiolch i’r nifer mawr o unigolion a sefydliadau a ymatebodd i’r ymarfer ymgynghori ac a weithiodd gyda ni i greu ein cynlluniau. Hoffwn ddiolch yn arbennig i aelodau fy ngrŵp gorchwyl a gorffen. Rwy’n gobeithio y bydd y fframwaith yn cefnogi dyfodol cynaliadwy hirdymor ar gyfer presgripsiynu cymdeithasol yng Nghymru, gan helpu pobl i gysylltu â'r pethau sydd o bwys iddynt yn eu cymuned, ble bynnag yng Nghymru y bo hynny.
Translate the text from Welsh to English.
Heddiw \[Dydd Iau 7 Hydref], mae Llywodraeth Cymru wedi lansio Cymru o Blaid Pobl Hŷn: Ein Strategaeth ar gyfer Cymdeithas sy'n Heneiddio. Mae’r strategaeth yn amlinellu sut y bydd pobl o bob oed yn cael eu cefnogi i fyw ac i heneiddio yn dda ac mae’n herio’r ffordd rydym yn meddwl am heneiddio, a’r ffordd rydym yn teimlo amdano. Bydd Cymru o Blaid Pobl Hŷn yn gweithio ar draws adrannau’r llywodraeth i fynd i’r afael ag ystod eang o ffactorau sy'n dylanwadu ar sut yr ydym yn heneiddio \- o'n systemau iechyd, gofal cymdeithasol a thrafnidiaeth i'r ffordd yr ydym yn cymdeithasu, yn gweithio ac yn gofalu am eraill. Pedwar prif nod y strategaeth yw: * Gwella llesiant * Gwella gwasanaethau lleol ac amgylcheddau * Meithrin a chynnal galluogrwydd pobl * Trechu tlodi sy’n gysylltiedig ag oedran Cefnogi cynlluniau ar gyfer heneiddio’n iach, mynd i’r afael ag ynysigrwydd cymdeithasol a thlodi tanwydd, cydnabod pwysigrwydd gofal diwedd oes o ansawdd uchel, a gwella’r cymorth ar gyfer gofalwyr di\-dâl yw rhai o’r camau gweithredu a nodwyd yn y strategaeth i gyflawni’r nodau hyn. Yn ogystal, dyrannwyd £550,000 i awdurdodau lleol i gefnogi eu gwaith i sicrhau eu bod o blaid pobl hŷn, creu cysylltiadau â phobl hŷn ac ymuno â Rhwydwaith Dinasoedd a Chymunedau o Blaid Pobl Hŷn Sefydliad Iechyd y Byd. Rhoddir £100,000 yn ogystal i wella ymwybyddiaeth o hawliau a chydraddoldeb pobl hŷn. I sicrhau y gellir adnabod y materion allweddol sy’n effeithio ar bobl hŷn, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i gefnogi pum grŵp a fforwm cenedlaethol ar gyfer pobl hŷn dan arweiniad Age Cymru. Wrth lansio’r strategaeth ar Daith Gerdded Nordig Age Cymru, dywedodd y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol: > Rwyf eisiau i Gymru fod yn genedl sy’n dathlu oedran ac yn edrych ymlaen at fynd yn hŷn. Yn llawer rhy aml, mae pobl yn cysylltu heneiddio â salwch a dirywiad, ac yn anwybyddu’r cyfraniad y gall pobl hŷn ei wneud i gymdeithas. Mae pobl hŷn yn rhoi cymorth hanfodol i’w teuluoedd; i economi ehangach Cymru ac i system iechyd a gofal Cymru ac yn rhoi cymorth emosiynol ac ymarferol drwy wirfoddoli. > > > Byddwn yn sicrhau bod llais a phrofiadau pobl hŷn yn ganolog i’n polisïau ac yn datgloi potensial pobl hŷn heddiw, a chymdeithas hŷn yfory. Drwy gydnabod a gwerthfawrogi cyfraniadau’r holl bobl hŷn yng Nghymru, gallwn ymwrthod â rhagfarn ar sail oedran a gweithio ar draws cenedlaethau i greu Cymru sydd o blaid pobl hŷn. Dywedodd prif weithredwr Age Cymru Victoria Lloyd: > Rydym yn croesawu’r sylw y mae Llywodraeth Cymru’n ei roi i wella bywydau pobl hŷn a chydnabod y cyfraniad enfawr y mae pobl hŷn yn ei wneud i’n cymunedau. > > > Rydym hefyd yn croesawu cwmpas ehangach y Strategaeth, sy’n cynnwys pob agwedd o fywyd person hŷn o iechyd a llesiant i dlodi a hawliau. > > > Yr her i bob un ohonom nawr yw ceisio gwneud yn siŵr bod yr uchelgeisiau’n cael eu rhoi ar waith ar bob lefel o’r llywodraeth, yn ein gwasanaethau cyhoeddus a phreifat, ac yn ein cymunedau.
The Welsh Government has today \[Thursday 7th October] launched Age Friendly Wales: Our Strategy for an Ageing Society. The strategy sets out how people of all ages will be supported to live and age well and challenges the way we think and feel about ageing. Age Friendly Wales will work across the government to address a wide range of factors that influence how we age from health, social care and transport systems to the way we socialise, work and care for others. The four main aims of the strategy are to: * Enhance well\-being * Improve local services and environments * Build and retaining people’s own capability * Tackle age related poverty Supporting healthy ageing initiatives, tackling social isolation and fuel poverty, recognising the importance of high quality end of life care, increasing support for unpaid carers are just some of the actions identified in the strategy to meet these aims. In addition, £550,000 has been allocated to local authorities to support them to become age friendly, engage with older people and become members of the World Health Organisation’s Network of Age Friendly Cities and Communities. As well as £100,000 to promote awareness of older people’s rights and equality. To ensure key issues affecting older people are identified, Welsh Government will continue to support five national older people’s groups and forums hosted by Age Cymru. Launching the strategy at an Age Cymru Nordic Walk, the Deputy Minister for Social Services said: > I want Wales to be a nation that celebrates age and looks forward to getting older. Too often getting older is linked to illness and decline and older people’s contributions to society are overlooked. Older people provide vital support to their families; the wider Welsh economy, the Welsh health and care system and provide emotional and practical support through volunteering. > > > We will put the voice and experience of older people at the heart of our policy and unlock the potential of today’s older people and tomorrow’s ageing society. By acknowledging and valuing the contributions of all older people in Wales, we can reject ageism and work across generations to create an age friendly Wales. Age Cymru’s chief executive Victoria Lloyd says: > We very much welcome the Welsh Government’s focus on improving older people’s lives and its recognition of the huge contributions that older people make to our communities. > > > We also welcome the wide scope of the Strategy, encompassing all aspects of an older person’s life from health and well\-being to poverty and rights. > > > The challenge for all of us now is to make sure that the ambitions set are implemented at all levels of government, in our public and private services, and within our communities.
Translate the text from Welsh to English.
Yn gynharach y mis hwn, llofnodais Orchymyn Cyflogau Amaethyddol 2022\. Mae'r Gorchymyn yn gwneud rhai newidiadau sylweddol i'r fframwaith Isafswm Cyflog Amaethyddol. Mae'r newidiadau hyn yn seiliedig ar argymhellion Panel Cynghori Amaethyddol Cymru i symleiddio a moderneiddio'r Gorchymyn, ac maent yn cynnwys: • strwythur graddio a disgrifiadau graddau newydd; • newidiadau i'r cyfraddau cyflog a lwfansau isaf; • dileu'r Rhestrau cymwysterau sydd wedi dyddio a gynhwyswyd mewn Gorchmynion blaenorol; • sefydlu llwybr dilyniant sy'n seiliedig ar gymwysterau drwy'r strwythur graddio sy'n seiliedig ar gymwysterau o fewn Fframwaith Prentisiaeth perthnasol Llywodraeth Cymru; a • eglurhad o'r lwfans gwrthbwyso ar alwad a llety. Daeth y Gorchymyn newydd i rym ar 22 Ebrill 2022 a chaiff ei ôl\-ddyddio i 1 Ebrill 2021\. Bydd hyn yn ad\-dalu'r gweithwyr amaethyddol hynny a fyddai wedi disgwyl cynnydd yn eu cyflog fesul awr o'r dyddiad hwn, fel y cynigiwyd yn ymgynghoriad y Panel yn hydref 2020\. O ganlyniad, efallai y bydd angen i rai cyflogwyr wneud ôl\-daliadau i rai o'u gweithwyr. Mae gwybodaeth a chanllawiau manylach ar gael ar wefan Llywodraeth Cymru. Rwyf yn ddiolchgar i'r Panel a'i Gadeirydd, Nerys Llewelyn Jones, am eu hymdrechion sylweddol i gyflwyno'r gorchymyn cyflogau newydd. 
Earlier this month, I signed the Agricultural Wages Order 2022\. The Order makes some significant changes to the Agricultural Minimum Wage framework. These changes are based on the recommendations of the Agricultural Advisory Panel for Wales to simplify and modernise the Order, and include: * a new grading structure and grade descriptions; * changes to the minimum rates of pay and allowances; * removes the outdated Schedules of qualifications included in previous Orders; * establishes a qualifications\-based progression route through the grading structure based on qualifications within a relevant Welsh Government Apprenticeship Framework; and * clarification to the on\-call and accommodation offset allowance. The new Order came into force on 22 April 2022 and will be backdated to 1 April 2021\. This will recompense those agricultural workers who would have expected an increase in their hourly wage from this date, as proposed in the Panel’s autumn 2020 consultation. As a result, some employers may need to make back payments to some of their employees. More detailed information and guidance is available on the Welsh Government website. I am grateful to the Panel and its Chair, Nerys Llewelyn Jones, for their considerable efforts in bringing the new wages order forward. 
Translate the text from Welsh to English.
Gwnes gwrdd yn ddiweddar â Chadeirydd, cynrychiolwyr o'r Bwrdd a Phrif Weithredwr Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy (MBS), ynghyd â'r Gweinidog Cyfiawnder Cymdeithasol a chynrychiolwyr o Cambria Cydfuddiannol Ltd (CCL) i dderbyn y newyddion diweddaraf am hynt y gwaith o geisio sefydlu Banc Cymunedol yng Nghymru. Yn y cyfarfod cawsom wybod gan Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy fod ffactorau fel cyfraddau llog sy’n cynyddu, crebachu o fewn y farchnad morgeisi, y gostyngiad ym mhrisiau tai a’r argyfwng costau byw yn cael effaith anochel ar y gwaith parhaus i sefydlu Banc Cymunedol, ynghyd â’r dirwasgiad a ragwelir gan Fanc Lloegr. Mae'r Prif Weithredwr wedi cadarnhau bod Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy (MBS) yn parhau i fod yn gwbl ymrwymedig i'w rhaglen waith i ddatblygu a chyflwyno Banc Cymunedol. Fodd bynnag, yn sgil yr amodau economaidd sy'n bodoli, nid yw’r Gymdeithas Adeiladu yn bwriadu rhoi hyn ar waith yn 2023\. Bydd y gwaith allweddol i sicrhau bod modd cyflawni Banc Cymunedol yn parhau a bydd y Gymdeithas Adeiladu yn rhoi’r newyddion diweddaraf i mi am hynt y gwaith cyn yr haf. Rwy'n cydnabod bod Banc Cymunedol yn fenter fasnachol ar ran Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, ac nad ydynt wedi derbyn unrhyw arian cyhoeddus i wneud hyn. Maent wedi datblygu'r weledigaeth ar sail gwaith a wnaed gan Cambria Cydfuddiannol Cyf, ac wedi ymrwymo i gyflwyno banc cymunedol sy'n llwyddiannus, yn gynaliadwy, ac a fydd â phresenoldeb ar y stryd fawr ledled Cymru am flynyddoedd i ddod. Mae Llywodraeth Cymru yn parhau’n ymrwymedig i gefnogi'r gwaith o ddarparu Banc Cymunedol.  Rydw i, ynghyd â nifer o bobl eraill, yn awyddus i weld yr uchelgais yma'n cael ei wireddu cyn gynted â phosib. Er ei bod yn siomedig bod yr amodau economaidd yn effeithio ar gynlluniau, ein nod yn y pen draw yw darparu Banc Cymunedol sy'n cefnogi newid strategol yn y farchnad a'r dewisiadau sydd ar gael i gwsmeriaid. O ystyried y dadfuddsoddi gan y corfforaethau mawr, byddwn yn parhau i hyrwyddo model bancio newydd yng Nghymru sy'n canolbwyntio ar werth ar gyfer ein cymunedau ac o’u mewn. Mae gan wledydd eraill strwythurau bancio rhanbarthol a chymunedol sy'n gwbl wahanol i’n strwythur ni sy’n ddibynnol iawn ar randdeiliaid yn y DU. Rwy’n falch bod Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda phartneriaid i ddod â ni i fan hon, lle mae gennym gynlluniau go iawn gan sefydliad masnachol credadwy y mae ei weledigaeth a'i ddyheadau'n cyd\-fynd â'n rhai ni. Mae Cymru yn parhau i arwain ac rydym yn cydnabod bod yn rhaid i Gymdeithas Adeiladu Sir Fynwy, fel partner masnachol, addasu a chynllunio yn unol â hynny. Gwneud pethau'n iawn fel y gall Banc Cymunedol gyflawni'n llwyddiannus ar gyfer y tymor hir yw'r wobr go iawn.  Byddaf yn cyflwyno’r newyddion diweddaraf i’r Aelodau cyn yr haf. Yn y cyfamser, mae rhagor o wybodaeth ar gael ar dudalen Banc Cymunedol gwefan Cymdeithas Adeiladu Sir Fynwy.
I recently met with the Chair, Board representatives and Chief Executive of the Monmouthshire Building Society (MBS), alongside the Minister for Social Justice and representatives from Cambria Cydfuddiannol Ltd (CCL) to receive an update on the progress being made to realise the vision of a Community Bank in Wales. At the meeting we were informed by MBS that, ongoing work to deliver a Community Bank is, inevitably being impacted by factors such as rising interest rates, a contraction of the mortgage market, falling house prices and a cost\-of\-living crisis, with the Bank of England predicting a recession. The Chief Executive has confirmed that the Monmouthshire Building Society (MBS) remain fully committed to their programme of work to develop and deliver a Community Bank. However, in light of prevailing economic conditions, MBS are not planning an active roll\-out in 2023\. Key work to enable delivery will continue and MBS will update me again before the summer. I recognise that Community Bank is a commercial venture on the part of MBS, who have received no public funding to do this. Building on work undertaken by Cambria Cydfuddiannol Ltd they have developed the vision and are committed to delivering a community bank that is successful, sustainable and has a presence on high streets across Wales for years to come. The Welsh Government remains committed to supporting delivery of a Community Bank.    I, like many other people, am keen to see this ambition realised as soon as possible. While it is disappointing that economic conditions are impacting plans, our ultimate goal remains the delivery of a Community Bank that supports a strategic shift in the market and the choices available to customers. Against a backdrop of disinvestment by the major corporations, we will continue to champion a new banking model in Wales that centres on value for, and value in, our communities. Other countries have regional and community banking structures which stand in real contrast to our highly concentrated shareholder dominated structure in the UK.  I am proud that Welsh Government has worked with partners to reach this point, where we have real plans from a credible commercial organisation whose vision and aspirations are aligned with ours. Wales remains in the vanguard and we recognise that, as a commercial partner, MBS must adapt and plan accordingly. Getting it done right so a Community Bank can deliver successfully for the long\-term is the real prize.  I will bring a further update to Members before the summer. In the meantime, further information can be seen on the MBS Community Bank page of their web site.
Translate the text from English to Welsh.
    My priority is to raise the standard of education and improve outcomes for young people in Wales.  Improvements in levels of literacy and numeracy, and reducing the impact of deprivation on educational attainment are central to this aim. The National Literacy and Numeracy Framework (LNF) sets clear national expectations for the teaching of literacy and numeracy and will be a critically important driver of improvement. The LNF will help all schools to embed literacy and numeracy across all subjects in the curriculum and will support all teachers to become teachers of literacy and numeracy.  The LNF will be a statutory curriculum requirement for pupils from Reception to Year 9, from September 2013\.   Alongside the LNF the reading and numeracy tests for pupils in Year 2 to Year 9 will provide further evidence of pupils’ level of attainment in addition to teacher assessments.   Consultation on both the LNF and Reading and Numeracy Tests ran from 11 June to 12 October 2012 and I am delighted to have received 160 written responses from a variety of stakeholders.  I am also pleased that consultation events were very well attended, with around 300 participants across Wales.  I am very grateful to teachers, schools, individuals and organisations from across Wales for their contribution to this process \- it demonstrates our shared commitment to raising standards of literacy and numeracy.   Several key themes emerged from the consultation responses:   * Respondents felt that the expectations in the LNF are set correctly and the right skills are being emphasised.  The expectations are felt to be challenging and time is needed to meet these expectations; * It was felt that the language in the framework is sufficiently precise, though non English, Welsh or Maths teachers may have some difficulty in understanding the terminology; * Respondents generally agreed that Welsh\-medium schools should use both the Welsh and English literacy framework from year 4 onwards, though some respondents felt it should not be a statutory requirement; * Respondents emphasised the need for support and guidance to schools to assist them in implementing the LNF and that in addition  a template would be useful for recording and reporting assessments; * There were divergent views on whether Routes for Learning should be the statutory basis for assessment for learners with more complex needs; * Concerns were raised over the potential for increased workload and the fit with existing curriculum and assessment requirements.   The summary report will be published on the Learning Wales website in Spring 2013\.  In the meantime, I wanted to provide an update on the steps we are taking to respond to the consultation. **Revisions to the LNF** Some aspects of the LNF have been revised in light of the very helpful consultation responses that we received, for example, the reading strand of the literacy component has been changed in response to concerns that the title “reading for information” might understate the importance of readers reading for pleasure.  It now refers to “reading across the curriculum”.  Also as a result of consultation feedback we have removed the term “farenheit” as it was felt that this was an outdated form of measurement and in both literacy and numeracy frameworks there have been extension columns added to the LNF to stretch higher achievers. The final version of the LNF will be available on Learning Wales from January 2013, in advance of statutory implementation in September 2013\.   **Welsh\-medium schools** In the consultation we asked for views on the use of the English component of the LNF in Welsh\-medium primary schools.  Most respondents agreed with the principle that the English LNF should only be a statutory requirement and be assessed from Year 4 onwards.  We have therefore decided that in reception to Year 3 inclusive, Welsh\-medium schools should only be required to use the Welsh literacy component of the LNF (alongside numeracy). From Year 4 onwards we expect Welsh\-medium schools to use both the English and Welsh components. Schools can of course also use the English component in Reception and Years 1–3 if they wish to. **Training and Support – New National Support Programme** A suite of on\-line bilingual guidance and training materials are currently being developed to help schools implement the LNF before the framework becomes statutory in September 2013\.  The first of these materials, the curriculum planning guidance and training workshops will be published in January 2013, followed by Classroom Practice materials in September 2013 to coincide with statutory implementation. In addition I am pleased to announce that we are investing over £6m in a new National Support Programme that will be put in place to offer direct support to schools and teachers to help them effectively implement the LNF and to bring about improvements in the way that literacy and numeracy is taught in schools.  The programme will begin in January 2013 **Assessment against the LNF** The LNF is first and foremost a curriculum planning tool.  However, it also provides a means for schools to assess pupil progress and report to parents.  In the consultation we proposed that the LNF should be used to support formative assessment and assessment for learning.     A key theme emerging from the consultation responses has been the importance of schools embedding the LNF in their curriculum planning and for this in turn to lead to changes in teaching and learning.  It is changes in teaching and learning that will ultimately raise standards.  While respondents generally agreed that assessments should be made in relation to pupil’s progress against the expectations in the LNF, concern was expressed about how this requirement would sit alongside existing assessment requirements.  There were also concerns raised about the potential workload implications.  I have therefore decided to adopt a phased approach to the requirement to undertake assessments against the LNF.  The LNF will be a statutory curriculum requirement from September 2013 and assessment against the LNF will become a statutory requirement from September 2014\.  This means that schools will have a full academic year to focus on embedding the LNF into their curriculum planning and their teaching and learning before being required to assess pupils progress against it.   On 1 October I announced a review of the curriculum and assessment arrangements in Wales, in particular to ensure that the LNF, tests and wider assessment arrangements which operate in schools all form part of a coherent whole.  The phased approach to the implementation of the assessment requirements of the LNF will also allow me to consider the conclusions of this review.   Schools should still use the LNF to support assessment for learning and reports to parents on their child’s progress in literacy and numeracy will still be required on an annual basis from September 2013\.  These requirements will entail schools including in the reports that they give to the parents of each pupil information based on the numeracy and reading tests and a narrative report on literacy and numeracy based on the LNF. Governing bodies will also be expected to include, in their annual report to parents, information on the school’s performance in literacy and numeracy based on the reading and numeracy tests and in relation to the LNF. I will provide a separate update to Assembly Members on progress in implementing the National Reading and Numeracy tests and our response to the consultation.    
Fy mlaenoriaeth yw codi safonau addysg a gwella canlyniadau i bobl ifanc yng Nghymru. Mae gwella lefelau llythrennedd a rhifedd, a lleihau effaith amddifadedd ar gyrhaeddiad addysgol yn ganolog i’r nod hwn.  Mae’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn pennu disgwyliadau cenedlaethol clir ar gyfer dysgu llythrennedd a rhifedd a bydd yn sbardun tyngedfennol bwysig ar gyfer gwella.   Bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cenedlaethol yn helpu pob ysgol i sefydlu llythrennedd a rhifedd ar draws pob pwnc yn y cwricwlwm, a bydd yn helpu pob athro i fod yn athro llythrennedd a rhifedd.  Bydd y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn ofyniad statudol yn y cwricwlwm ar gyfer disgyblion o Ddosbarth Derbyn i Flwyddyn 9, o fis Medi 2013\.   Ochr yn ochr â’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Cenedlaethol, bydd y profion darllen a rhifedd ar gyfer disgyblion o Flwyddyn 2 i Flwyddyn 9 yn dystiolaeth pellach o lefel cyrhaeddiad disgyblion yn ogystal ag asesiadau athrawon.   Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a’r Profion Darllen a Rhifedd o 11 Mehefin hyd at 12 Hydref 2012 ac rwy’n falch o ddweud inni dderbyn 160 o ymatebion ysgrifenedig gan amrywiol randdeiliaid.  Rwyf hefyd yn falch bod cynifer wedi dod i’r digwyddiadau ymgynghori, gydag oddeutu 300 o gyfranogwyr ledled Cymru.  Rwy’n ddiolchgar iawn i athrawon, ysgolion, unigolion a sefydliadau ledled Cymru am eu cyfraniad at y broses hon – mae’n dangos ein hymrwymiad ar y cyd i godi safonau llythrennedd a rhifedd. Daeth nifer o themâu allweddol i’r amlwg o’r ymatebion i’r ymgynghoriad:   * Teimlai ymatebwyr bod y disgwyliadau yn y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wedi eu gosod yn gywir a bod y sgiliau iawn yn cael eu pwysleisio.  Teimlir bod y disgwyliadau yn heriol a bod angen amser i fodloni’r disgwyliadau hyn; * Teimlwyd bod yr iaith yn y fframwaith yn ddigon manwl gywir, er ei bod yn bosib y bydd athrawon nad ydynt yn dysgu Saesneg, Cymraeg neu Fathemateg yn cael rhywfaint o anhawster i ddeall y derminoleg; * Roedd yr ymatebwyr yn cytuno’n gyffredinol y dylai ysgolion cyfrwng Cymraeg ddefnyddio’r fframwaith llythrennedd Cymraeg a Saesneg o flwyddyn 4 ymlaen, er bod rhai ymatebwyr yn teimlo na ddylai fod yn ofyniad statudol; * Roedd yr ymatebwyr yn pwysleisio’r angen am gymorth ac arweiniad i ysgolion i helpu iddynt roi’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd ar waith, ac y byddai templed hefyd yn ddefnyddiol ar gyfer cofnodi ac adrodd ar asesiadau; * Roedd safbwyntiau gwahanol o ran a ddylai’r Llwybrau Dysgu fod ar sail statudol ar gyfer asesu dysgwyr sydd ag anghenion mwy cymhleth; * Codwyd pryderon ynghylch y posibilrwydd o gynnydd yn y llwyth gwaith a’r cyweddu â’r cwricwlwm a’r gofynion asesu presennol. Cyhoeddir y crynodeb o’r adroddiad ar wefan Dysgu Cymru yn ystod Gwanwyn 2013\.   Yn y cyfamser, roeddwn am ddarparu diweddariad ar y camau yr ydym yn eu cymryd i ymateb i’r ymgynghoriad.   Diwygio’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Mae rhai agweddau o’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd wedi’u diwygio yng ngoleuni yr ymatebion defnyddiol iawn a dderbyniwyd gennym, er enghraifft, mae maes darllen yr elfen lythrennedd wedi ei newid i ymateb i’r pryderon nad yw’r teitl “darllen er gwybodaeth” yn pwysleisio digon o bosib y pwysigrwydd o ddarllen er pleser.  Bellach, cyfeirir ato fel “darllen ar draws y cwricwlwm”.  Hefyd, o ganlyniad i’r adborth i’r ymgynghoriad, rydym wedi dileu’r term “farenheit”  gan ein bod yn teimlo ei fod yn hen ddull o fesur, ac yn y fframweithiau llythrennedd a rhifedd, mae colofnau wedi’u hychwanegu er mwyn ymestyn cyflawnwyr uwch.   Bydd fersiwn derfynol y Fframwaith ar gael ar Dysgu Cymru o fis Ionawr 2013, cyn ei roi ar waith yn statudol ym mis Medi 2013\.   Ysgolion cyfrwng Cymraeg Yn yr ymgynghoriad, gofynnwyd i bobl roi eu barn am y defnydd o elfen Saesneg y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd mewn ysgolion cynradd cyfrwng Cymraeg. Roedd y rhan fwyaf a ymatebodd yn cytuno â’r egwyddor mai dim ond gofyniad statudol ddylai hyn fod ac y dylai fod yn rhywbeth a asesir o Flwyddyn 4 ymlaen yn unig. Rydym wedi penderfynu, felly, mai dim ond yr elfen Gymraeg o’r Fframwaith (ynghyd â rhifedd)  y dylid ei wneud yn ofynnol o oedran dosbarth derbyn i Flwyddyn 3 mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg. O Flwyddyn 4, rydym yn disgwyl i ysgolion cyfrwng Cymraeg ddefnyddio’r elfennau Cymraeg a Saesneg. Wrth gwrs, gall ysgolion ddefnyddio’r elfen Saesneg hefyd o oedran dosbarth derbyn i Flwyddyn 3 os ydynt yn dymuno gwneud hynny. Hyfforddiant a Chymorth – Rhaglen Gymorth Genedlaethol Newydd Ar hyn o bryd, mae cyfres o ganllawiau a deunyddiau hyfforddi dwyieithog ar\-lein yn cael eu datblygu i helpu ysgolion i weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd cyn iddo ddod yn statudol ym Medi 2013\. Caiff y cyntaf o’r deunyddiau hyn, y canllawiau ar gyfer cynllunio’r cwricwlwm a’r gweithdai hyfforddi eu cyhoeddi ym mis Ionawr 2013, a bydd deunyddiau ar arferion dosbarth yn dilyn ym Medi 2013 pan gaiff y Fframwaith ei weithredu’n statudol. Rwy’n falch o gael cyhoeddi hefyd ein bod yn buddsoddi dros £6 miliwn mewn Rhaglen Gymorth Genedlaethol newydd er mwyn cynnig cymorth uniongyrchol i ysgolion ac athrawon i’w helpu i weithredu’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn effeithiol a gwella’r ffordd y caiff llythrennedd a rhifedd eu haddysgu mewn ysgolion. Cyflwynir y rhaglen ym mis Ionawr 2013\. Asesu yng ngoleuni’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd Yn bennaf oll, adnodd i gynllunio’r cwricwlwm yw’r Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd. Serch hynny, mae hefyd yn ffordd i ysgolion asesu cynnydd disgyblion a rhoi adroddiad i’r rhieni. Yn yr ymgynghoriad, cynigiwyd defnyddio’r Fframwaith wrth gynnal asesiadau ffurfiannol ac asesiadau ar gyfer dysgu.     Un o’r prif themâu sy’n codi o’r ymatebion i’r ymgynghoriad yw pwysigrwydd gwneud y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd yn rhan annatod o’r broses o gynllunio cwricwlwm, a bod hynny yn ei dro yn arwain at newidiadau mewn dulliau addysgu a dysgu. Newidiadau mewn addysgu a dysgu sy’n mynd i godi safonau yn y pen draw. Er bod yr ymatebwyr yn cytuno’n gyffredinol y dylid asesu cynnydd disgyblion yng ngoleuni’r Fframwaith, mynegwyd pryder ynghylch sut byddai’r gofyniad hwn yn cydweddu â’r gofynion asesu presennol. Roedd pryder hefyd ynghylch y goblygiadau posibl o ran llwyth gwaith. Rwyf felly wedi penderfynu cyflwyno’r gofyniad i gynnal asesiadau yng ngoleuni’r Fframwaith fel rhywbeth graddol. O fis Medi 2013, bydd y Fframwaith yn un o ofynion statudol y cwricwlwm, ac o fis Medi 2014 bydd yn ofynnol asesu yn ei erbyn. Mae hyn yn golygu y caiff ysgolion flwyddyn academaidd lawn i ganolbwyntio ar wneud y Fframwaith yn rhan annatod o’u proses o gynllunio cwricwlwm ac o’u haddysgu a’u dysgu cyn ei bod yn ofynnol asesu cynnydd disgyblion yn ei erbyn.   Ar 1 Hydref, cyhoeddais adolygiad o’r cwricwlwm a’r trefniadau asesu yng Nghymru, yn benodol er mwyn sicrhau bod y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd, profion a threfniadau asesu ehangach ysgolion yn rhan o gyfanwaith cydgysylltiedig. Drwy gyflwyno gofynion asesu’r Fframwaith yn raddol, bydd modd imi hefyd ystyried casgliadau’r adolygiad hwn.   Dylai ysgolion ddal i ddefnyddio’r Fframwaith i helpu gydag asesiadau ar gyfer dysgu, a bydd yn dal i fod yn ofynnol rhoi adroddiadau i rieni ar gynnydd eu plentyn mewn llythrennedd a rhifedd bob blwyddyn o fis Medi 2013\. Bydd y gofynion hyn yn golygu bod yn rhaid i ysgolion gynnwys yn yr adroddiadau a roddant i rieni pob disgybl wybodaeth ar sail y profion rhifedd a darllen, ac adroddiad naratif ar lythrennedd a rhifedd, ar sail y Fframwaith. Bydd disgwyl i gyrff llywodraethu hefyd gynnwys, yn eu hadroddiad blynyddol i rieni, wybodaeth am berfformiad yr ysgol mewn llythrennedd a rhifedd, ar sail y profion darllen a rhifedd ac mewn perthynas â’r Fframwaith. Rhoddaf adroddiad ar wahân i Aelodau’r Cynulliad am y diweddaraf o ran gweithredu’r profion darllen a rhifedd cenedlaethol a’n hymateb ni i’r ymgynghoriad.
Translate the text from English to Welsh.
I am pleased today to launch this second consultation on the proposals to require additional education practitioners to register with the Education Workforce Council.  This consultation seeks views on the draft Order which proposes amendments to the relevant legislation. We want to ensure that children and young people in Wales are provided the safeguards that come with having a workforce that is professionally and independently regulated. This includes staff working in independent schools, all headteachers, and paid, qualified youth workers and youth support workers. We are confident that this legislation will mean our education, learning and teaching professionals will have parity of professionalism, regardless of where they work. Right now, it is our priority to ensure that staff in independent schools are required to register with the EWC. This is the first phase of a programme of work to increase the professionalisation of our workforce in education. Under existing legislation there is no requirement for independent school teaching staff to be registered with the EWC, which is a significant inconsistency compared to maintained schools and which presents as a risk in terms of safeguarding and child protection within the sector. It is therefore critical that the changes are made as soon as possible to increase protections for children and young people, as well as the workforce, in independent schools.  We are also making changes to require additional youth and youth support workers to register. The second phase will be to look at taking forward proposals to increase the registration categories for others in youth work, and staff in the post\-16 sector. By adding new categories of registration and extending existing registration requirements, the draft Order aims to drive up professional standards across the education workforce. This will ultimately provide better services for children and young people, as well as providing assurances to families and the wider community. The consultation commences today and will conclude on 17 February 2023. 
Mae'n bleser gennyf lansio heddiw yr ail ymgynghoriad hwn ar y cynigion i'w gwneud yn ofynnol i ymarferwyr addysg ychwanegol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Mae'r ymgynghoriad hwn yn ceisio barn ar y Gorchymyn drafft sy'n cynnig diwygio'r ddeddfwriaeth berthnasol. Rydym am wneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc yng Nghymru yn cael eu diogelu drwy sicrhau bod y gweithlu’n cael ei reoleiddio yn broffesiynol ac yn annibynnol. Mae hyn yn cynnwys staff sy'n gweithio mewn ysgolion annibynnol, pob pennaeth, gan gynnwys gweithwyr ieuenctid cymwysedig a gweithwyr cymorth ieuenctid cyflogedig. Rydym yn hyderus y bydd y ddeddfwriaeth hon yn golygu y bydd ein gweithwyr addysg, dysgu ac addysgu proffesiynol ar yr un lefel o ran eu proffesiynoldeb, waeth ble maen nhw'n gweithio. Ar hyn o bryd, ein blaenoriaeth yw sicrhau bod gofyn i staff mewn ysgolion annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg. Dyma’r cam cyntaf ar gyfer rhaglen waith i broffesiynoli ein gweithlu ym maes addysg. O dan y ddeddfwriaeth bresennol nid yw’n ofynnol i staff addysgu mewn ysgolion annibynnol gofrestru â Chyngor y Gweithlu Addysg, sy'n gwbl anghyson â’r hyn sy’n ofynnol mewn ysgolion a gynhelir. Mae hyn yn cyflwyno risg o ran diogelu plant yn y sector. Felly, mae'n hanfodol bod y newidiadau'n cael eu gwneud cyn gynted â phosibl er mwyn gwella’r mesurau diogelu i blant a phobl ifanc, yn ogystal â'r gweithlu, mewn ysgolion annibynnol. Rydym hefyd yn gwneud newidiadau i’w gwneud yn ofynnol i weithwyr ieuenctid a gweithwyr cymorth ieuenctid gofrestru. Yr ail gam fydd edrych ar fwrw ymlaen â chynigion i gynyddu'r categorïau cofrestru ar gyfer gweithwyr eraill ym maes gwaith ieuenctid, a staff yn y sector ôl\-16\. Drwy ychwanegu categorïau cofrestru newydd ac ymestyn y gofynion cofrestru presennol, nod y Gorchymyn drafft yw gwella safonau proffesiynol ar draws y gweithlu addysg. Yn y pen draw, bydd hyn yn sicrhau gwell gwasanaethau ar gyfer plant a phobl ifanc, yn ogystal â rhoi sicrwydd i deuluoedd a'r gymuned ehangach. Bydd yr ymgynghoriad yn dechrau heddiw, ac fe fydd yn dod i ben ar 17 Chwefror 2023.
Translate the text from English to Welsh.
Supporters can post photographs of themselves on social media linking arms to demonstrate their support for the campaign, using the hashtag \#makingastand.  The photographs will complement the advertising campaign, which commences today on public transport, and posters and billboards around Welsh railway stations which shows groups of figures linking arms.  It will also raise awareness of the support services available to people experiencing domestic abuse, violence against women and sexual violence via the Live Fear Free website and 24 hour confidential helpline. Communities and Children Secretary Carl Sargeant said: > “Domestic abuse is not always easy to spot and signs can go unnoticed for months, even years. > > > "Colleagues, friends, neighbours and even family members may be afraid of acting on their suspicions of abuse for fear they are mistaken, interfering or even making the victim’s situation worse. With this campaign, we aim to make sure they have the information they need if they suspect abuse of a friend or family member. > “We are committed to tackling violence against women, domestic abuse and sexual violence, but we can’t do it alone so I urge everybody in Wales to make a stand and support our campaign.” If you think you know someone suffering from domestic abuse, or are a victim yourself, call the free, 24\-hour confidential helpline now on 0808 80 10 800 or visit www.gov.wales/livefearfree for further information.
Gall cefnogwyr yr ymgyrch roi lluniau o'u hunain braich ym mraich ar y cyfryngau cymdeithasol, er mwyn dangos eu bod yn cefnogi'r ymgyrch, a defnyddio'r hashtag \#cymruyngwneudsafiad.  Bydd y lluniau yn cyd\-fynd â’r ymgyrch hysbysebu sy'n dechrau heddiw ar drafnidiaeth gyhoeddus, posteri a byrddau o amgylch gorsafoedd trên Cymru, sy'n dangos grwpiau o bobl braich ym mraich.  Bydd hefyd yn codi ymwybyddiaeth o'r gwasanaethau cymorth sydd ar gael i bobl sy'n profi cam\-drin domestig, trais yn erbyn menywod a thrais rhywiol drwy wefan Byw Heb Ofn a llinell gymorth gyfrinachol 24 awr y dydd. Dywedodd yr Ysgrifennydd dros Gymunedau a Phlant, Carl Sargeant: > "Dyw hi ddim bob amser yn hawdd sylwi ar achosion o gam\-drin domestig a gall misoedd neu hyd yn oed flynyddoedd fynd heibio cyn i rywun weld yr arwyddion. > > "Efallai bod cydweithwyr, ffrindiau, cymdogion ac hyd yn oed aelodau'r teulu yn ofni gwneud unrhyw beth, er eu bod yn amau, gan eu bod nhw’n ofni gwneud camgymeriad, ymyrryd neu hyd yn oed wneud sefyllfa'r un sy'n dioddef yn waeth. Yn yr ymgyrch hon, ein nod yw gwneud yn siŵr bod ganddyn nhw’r wybodaeth sydd ei hangen arnynt os ydyn nhw'n amau bod ffrind neu aelod o'r teulu yn cael ei gam\-drin. > "Rydyn ni wedi ymrwymo i drechu trais yn erbyn menywod, cam\-drin domestig a thrais rhywiol, ond allwn ni ddim gwneud hyn ar ein pennau ein hunain. Felly, rwy'n annog pawb yng Nghymru i wneud safiad a chefnogi ein hymgyrch." Os ydych chi’n credu eich bod yn adnabod rhywun sy'n dioddef cam\-drin domestig, neu os ydych chi'n ddioddefwr eich hunan, ffoniwch y llinell gymorth gyfrinachol 24\-awr am ddim ar 0808 80 10 800 neu ewch i www.llyw.cymru/bywhebofn i gael rhagor o wybodaeth.
Translate the text from English to Welsh.
Wales’ long\-term COVID\-19 transition plan *Together for a Safer Future*, published in March 2022, highlighted the vital role our Test, Trace, Protect (TTP) programme played during the pandemic in reducing the transmission of coronavirus. The pandemic has not gone away – we continue to experience waves of infection and new variants of the virus are emerging. We remain in a Covid Stable situation – the virus is not putting the same pressure on our health and care system as it was at the start of the pandemic, and vaccines and other pharmaceutical interventions, including antivirals, have been effective in preventing serious illness. Vaccines continue to be our best defence against Covid\-19 and booster doses have significantly improved the protection offered by vaccines. It is important that all those who are eligible continue to take up their offer of a vaccine and treatments. The spring booster programme will be launched on 1 April. As we continue to move towards a future where we live alongside coronavirus, it is important our TTP programme also evolves so it provides a more responsive and sustainable model of health protection. We are working with partners in health and social care to develop agile health protection teams, which can respond to varying levels of activity through the year according to national and regional demand. This means responding not only to Covid\-19 but adopting an “all\-hazards” approach that includes planning for future pandemics. As part of this transition and agile approach, based on clinical advice, I have agreed that from 1 April testing for Covid\-19 and other respiratory infections should be reduced for the spring and summer. The prevalent variants of coronavirus and the high rates of immunity in the population has meant that Covid\-19 is currently a milder infection in most individuals. Other circulating respiratory viruses, such as influenza and RSV, have fallen to lower levels since the peak in December. Routine testing will be paused for all symptomatic health and social care workers, care home residents, prisoners and staff and residents in special schools over the spring and summer. Updated guidance will advise that people should be led by their symptoms when managing respiratory viruses. To protect our most vulnerable citizens from severe illness, testing will continue to support decisions around Covid\-19 antiviral treatment in the community and settings such as care homes, to support the management of outbreaks in high\-risk closed settings, where clinically indicated in secondary care settings and for surveillance purposes. It will remain essential for the NHS and social care to adhere to the current guidance on Infection prevention and control measures for acute respiratory infections and for us all to follow the basic rules of good hygiene to protect ourselves and others. In addition to the changes to our TTP programme, discussions have taken place between the four UK Chief Medical Officers (CMOs) regarding the UK Covid\-19 alert level. This alert level system has been in operation since May 2020\. Its function is to clearly communicate, to the public and across governments, the current level of direct Covid\-19 risk. Since September 2022, we have been at level 2\. The four UK CMOs have agreed it is appropriate to pause the alert level system. It will be suspended on 30 March. While it is important to continue our transition to live safely with coronavirus, the threat has not gone away and we regret the UK Government’s decision to pause the Covid Infection Survey run by ONS while its long\-term future is decided. It is therefore vital we continue our surveillance plans in the community and high\-risk settings to closely monitor case rates and analyse data about existing and emerging variants so we are able to quickly remobilise our response if necessary.  
Dangosodd cynllun pontio COVID\-19 hirdymor Cymru *Gyda'n Gilydd tuag at Ddyfodol Mwy Diogel*, a gyhoeddwyd ym mis Mawrth 2022, rôl hanfodol ein rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu (TTP) yn ystod y pandemig o ran lleihau trosglwyddiad y coronafeirws. Nid yw'r pandemig wedi diflannu – rydym yn parhau i brofi tonnau o haint ac mae amrywiolion newydd o'r feirws yn dod i'r amlwg. Rydym yn dal i fod mewn sefyllfa sefydlog o ran Covid – nid yw'r feirws yn rhoi'r un pwysau ar ein system iechyd a gofal ag oedd ar ddechrau'r pandemig ac mae brechlynnau ac ymyriadau fferyllol eraill, gan gynnwys cyffuriau gwrthfeiriol, wedi bod yn effeithiol wrth atal salwch difrifol. Brechlynnau yw ein hamddiffyniad gorau o hyd rhag Covid\-19 ac mae pigiadau atgyfnerthu wedi gwella'r diogelwch a gynigir gan frechlynnau yn sylweddol. Mae'n bwysig bod pawb sy'n gymwys yn parhau i dderbyn eu cynnig o frechlyn a thriniaethau. Caiff rhaglen brechiadau atgyfnerthu'r gwanwyn ei lansio ar 1 Ebrill. Wrth inni barhau i symud tuag at ddyfodol lle'r ydym yn byw ochr yn ochr â'r coronafeirws, mae'n bwysig bod ein rhaglen TTP yn esblygu hefyd er mwyn darparu model mwy ymatebol a chynaliadwy o ddiogelu iechyd. Rydym yn gweithio gyda phartneriaid mewn iechyd a gofal cymdeithasol i ddatblygu timau diogelu iechyd ystwyth, sy'n gallu ymateb i lefelau amrywiol o weithgarwch drwy'r flwyddyn yn ôl y galw cenedlaethol a rhanbarthol. Mae hyn yn golygu ymateb nid yn unig i Covid\-19 ond hefyd fabwysiadu dull "pob perygl" sy'n cynnwys cynllunio ar gyfer pandemigau'r dyfodol. Fel rhan o'r pontio a'r dull ystwyth hwn, yn seiliedig ar gyngor clinigol, rwyf wedi cytuno y dylid lleihau profion ar gyfer Covid\-19 a heintiau anadlol eraill ar gyfer y gwanwyn a'r haf o 1 Ebrill. Mae'r amrywiadau cyffredin o'r coronafeirws a'r cyfraddau uchel o imiwnedd yn y boblogaeth wedi golygu bod Covid\-19 yn haint ysgafnach yn y mwyafrif o unigolion ar hyn o bryd. Mae feirysau anadlol eraill sy'n cylchredeg, megis y ffliw ac RSV, wedi gostwng i lefelau is ers yr uchafbwynt ym mis Rhagfyr. Caiff profion rheolaidd eu hatal ar gyfer pob gweithiwr iechyd a gofal cymdeithasol symptomatig, preswylwyr cartrefi gofal, carcharorion a staff a phreswylwyr mewn ysgolion arbennig dros y gwanwyn a'r haf. Bydd canllawiau wedi'u ddiweddaru'n cynghori y dylai pobl gael eu harwain gan eu symptomau wrth reoli feirysau anadlol. Er mwyn diogelu ein dinasyddion mwyaf agored i niwed rhag salwch difrifol, bydd profion yn parhau i gefnogi penderfyniadau ynghylch triniaeth wrthfeirol ar gyfer Covid\-19 yn y gymuned a lleoliadau megis cartrefi gofal, i gefnogi rheoli brigiadau o achosion mewn lleoliadau caeedig risg uchel, lle nodir yn glinigol mewn lleoliadau gofal eilaidd ac at ddibenion gwyliadwriaeth. Bydd yn dal yn hanfodol i'r GIG a gofal cymdeithasol gadw at y canllawiau presennol ar fesurau atal a rheoli heintiau ar gyfer heintiau anadlol acíwt (Saesneg yn Unig) ac inni i gyd ddilyn rheolau sylfaenol hylendid da i'n diogelu ni ein hunain ac eraill. Yn ogystal â'r newidiadau i'n rhaglen TTP, cafwyd trafodaethau rhwng pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU ynghylch lefel rhybudd y DU ar gyfer Covid\-19\. Mae'r system lefel rhybudd hon wedi bod ar waith ers mis Mai 2020\. Ei swyddogaeth yw cyfathrebu'n glir i'r cyhoedd ac ar draws llywodraethau, lefel bresennol y risg uniongyrchol o Covid\-19\. Ers mis Medi, rydym wedi bod ar lefel 2\. Mae pedwar Prif Swyddog Meddygol y DU wedi cytuno ei bod yn briodol atal y system lefel rhybudd. Caiff ei hatal ar 30 Mawrth Er ei bod yn bwysig parhau â'r broses bontio tuag at fyw'n ddiogel gyda'r Coronafeirws, nid yw'r bygythiad wedi diflannu ac rydym yn gresynu at benderfyniad Llywodraeth y DU i oedi Arolwg Heintiadau Covid a gynhelir gan yr ONS tra penderfynir ar ei ddyfodol tymor hir. Mae'n hanfodol, felly, inni barhau â'n cynlluniau gwyliadwriaeth yn y gymuned a lleoliadau risg uchel i fonitro cyfraddau achosion yn agos a dadansoddi data am amrywiolion presennol a rhai sy'n dod i'r amlwg er mwyn inni addasu ein hymateb yn gyflym os bydd angen.
Translate the text from English to Welsh.
The National Statistician announced today that her recommendation to the UK Statistics Authority is that the next census in 2021 should be a predominantly online census. The results of the consultation carried out in Wales suggest that most users of population data in Wales will welcome this development.  The Office for National Statistics recognises that special care would need to be taken to support those unable to complete the Census online. In 2010 the UK Statistics Authority asked the Office for National Statistics to investigate the possible alternatives to a traditional census for England and Wales. Work on this has been taken forward by ONS through the Beyond 2011 programme. After considering a range of possible alternatives, the Beyond 2011 programme consulted on two approaches: The Online Census Approach:  \-\-  a census to be carried out every ten years but assuming that most people will complete the census form online rather than as a paper questionnaire received through the post (alternative response mechanisms will be available for those unable to complete the Census online);  The Administrative Data Approach:  \-\-  an approach that depends on the use of the administrative data already held within government, combined with a compulsory annual survey of four per cent of the population. The data from the Census is important to the Welsh Government and to many users in Wales, and there would have been concerns about any potential lowering in the quality of the data obtained through an alternative to the Census. The continuation of the Census ensures that future population estimates will match the quality of the current ones. This is important for local government resource allocation and the implementation of the Barnett formula. The Census is also vital for our detailed understanding of, for example, the Welsh Language, housing, and equalities in Wales. It is clearly important where possible to modernise the way things are done and I note that the National Statistician has also recommended the increased use of administrative data and surveys in order to enhance the statistics from the 2021 Census and improve statistics between censuses. I have written to the Minister for the Cabinet Office confirming the Welsh Government’s support for this approach of a predominantly online census for 2021 (a copy of that letter is attached). ### Documents * #### Letter to Francis Maude MP, file type: doc, file size: 184 KB 184 KB
Cyhoeddodd yr Ystadegydd Gwladol heddiw mai ei hargymhelliad i Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig yw y dylai’r cyfrifiad nesaf yn 2021 fod yn gyfrifiad ar\-lein yn bennaf. Awgryma canlyniadau’r ymgynghoriad a gynhaliwyd yng Nghymru y bydd mwyafrif defnyddwyr data poblogaeth yng Nghymru yn croesawu’r argymhelliad hwn. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol yn cydnabod y byddai angen cymryd gofal arbennig i gefnogi’r rhai na fyddai’n gallu cwblhau’r Cyfrifiad ar\-lein. Yn 2010, gofynnodd Awdurdod Ystadegau’r Deyrnas Unedig i’r Swyddfa Ystadegau Gwladol ymchwilio i bosibiliadau gwahanol i’r cyfrifiad traddodiadol yng Nghymru a Lloegr. Mae’r Swyddfa Ystadegau Gwladol wedi ymgymryd â’r gwaith hwn trwy’r rhaglen Tu Hwnt i 2011\. Ar ôl ystyried ystod o bosibiliadau gwahanol, ymgynghorodd y rhaglen Tu Hwnt i 2011 ar ddau ddull: Y Dull Cyfrifiad Ar\-lein: \-\- cyfrifiad i’w gynnal bob deng mlynedd ond gan dybio bydd y rhan fwyaf o bobl yn cwblhau’r ffurflen cyfrifiad ar\-lein yn hytrach nag fel holiadur papur a dderbynnir drwy’r post (bydd dulliau ateb amgen ar gael i’r rhai sy’n methu cwblhau’r Cyfrifiad ar\-lein): Y Dull Data Gweinyddol: \-\-  dull sy’n dibynnu ar ddefnyddio data gweinyddol sydd eisoes ar gael o fewn llywodraeth, wedi’i gyfuno gydag arolwg blynyddol gorfodol o bedwar y cant o’r boblogaeth. Mae data’r Cyfrifiad yn bwysig i Lywodraeth Cymru ac i nifer o ddefnyddwyr yng Nghymru, a byddai pryderon wedi bod ynghylch lleihad posibl yn ansawdd data a fyddai’n cael ei gasglu drwy ddull gwahanol i’r Cyfrifiad. Mae parhad y Cyfrifiad yn sicrhau y bydd amcangyfrifon poblogaeth yn y dyfodol yn cyfateb i ansawdd amcangyfrifon presennol. Mae hyn yn bwysig ar gyfer dyraniad arian llywodraeth leol a gweithredu’r fformiwla Barnett. Mae’r Cyfrifiad hefyd yn hanfodol ar gyfer ein dealltwriaeth fanwl o bynciau megis yr iaith Gymraeg, tai, a chydraddoldeb yng Nghymru. Mae’n amlwg yn bwysig, lle bo’n bosibl, i foderneiddio’r ffordd y gwneir pethau, a nodaf fod yr Ystadegydd Gwladol hefyd wedi argymell cynyddu’r defnydd o ddata gweinyddol ac arolygon er mwyn ychwanegu at ystadegau Cyfrifiad 2021 a gwella ystadegau blynyddol rhwng dau gyfrifiad. Rwyf wedi ysgrifennu at Weinidog Swyddfa’r Cabinet yn cadarnhau cefnogaeth Llywodraeth Cymru i’r dull hwn, sef cyfrifiad ar\-lein yn bennaf, ar gyfer 2021 (amgaef gopi o’r llythyr hwnnw). ### Dogfennau * #### Llythr i Francis Maude MP, Saesneg yn unig, math o ffeil: doc, maint ffeil: 184 KB Saesneg yn unig 184 KB
Translate the text from English to Welsh.
The UK Government has announced (27 June) the regional allocations for Wales.   Its announcement follows a period of intense lobbying from Welsh Ministers on the EU budget (Multiannual Financial Framework) and funding formulae agreed by the UK Government in February 2013\. This would have meant a potential reduction of £400 million for Wales in cash\-terms and significantly more in real\-terms. The overall funding commitment to Wales’ two eligible regions was confirmed in March 2013 as €2,145m at 2011 prices, being a 5% reduction on 2007\-2013 programmes, measured at 2011 prices.  Scotland, Northern Ireland and England also receive a 5% reduction to their national allocation. For Wales, the increased proposed Welsh allocation represented an uplift of €375m (£312m\*) from the indicative allocations resulting from the EU budget agreed at the European Council in February – this is a fairer and more equitable settlement for investment in Welsh growth and jobs.   The Welsh Government has been working with the UK Government over the last few months on the regional distribution of funds in Wales within the flexibilities of draft EC legislation. In these negotiations I have been very clear that we wanted the maximum possible amount of funds directed to Wales' most vulnerable region – West Wales and the Valleys – to achieve genuine transformational change in Wales. The UK Government’s position today, whilst a big step forward presents significant challenges when added to other UK Government domestic funding pressures announced on 26 June. The regional allocations now require the support of the European Commission, while the EU will also be adjusting them to 2014 prices using a 2% annual inflator from 2011 to 2014, which was agreed as part of the EU budget proposals. This will mean Wales’ overall allocation will be around £2\.01 billion compared to nearly £1\.9 billion under the current programmes – at 2014 prices the allocations for West Wales and the Valleys will be £1\.675 billion and for East Wales £340 million. I am pleased to see political agreement now reached on the EU Budget (MFF) and the positive signs that this will be supported by the European Parliament next week. This will mean that the future programmes in Wales are on track to start in early 2014 following submission of the Operational Programmes to the Commission in October. I will be making a Statement to Members on the Welsh Government’s response to the public consultation on our investment proposals and other EU issues impacting on the Structural Funds in July. *\* Sterling figures based on a planning rate of  £1: €1\.20*
Mae Llywodraeth y DU (ar 27 Mehefin) wedi cyhoeddi’r dyraniadau rhanbarthol ar gyfer Cymru.   Daw’r cyhoeddiad yn dilyn cyfnod o lobïo dwys gan Weinidogion Cymru ar gyllideb yr UE (Fframwaith Ariannol Amlflwydd) a’r fformiwlâu cyllid y cytunodd Llywodraeth y DU arnynt ym mis Chwefror 2013\. Byddai hynny wedi golygu gostyngiad posibl o £400 miliwn i Gymru yn nhermau arian parod, a llawer mwy mewn termau real. Ym mis Mawrth 2013, cadarnhawyd mai €2,145m fyddai’r ymrwymiad cyllid cyffredinol i ddau ranbarth cymwys Cymru yn ôl prisiau 2011, sef gostyngiad o 5% ar raglenni 2007\-2013, o’i fesur yn ôl prisiau 2011\. Hefyd roedd gostyngiad o 5% i ddyraniadau cenedlaethol yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr. Ar gyfer Cymru, roedd y dyraniad arfaethedig uwch i Gymru yn gynnydd o €375m (£312m\*) ar y dyraniadau dangosol yn sgil cyllideb yr UE y cytunwyd arni yn y Cyngor Ewropeaidd ym mis Chwefror – mae hwn yn setliad tecach a mwy cyfartal ar gyfer buddsoddi mewn twf a swyddi yng Nghymru.   Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn gweithio gyda Llywodraeth y DU dros y misoedd diwethaf ar ddosbarthu cyllid yn rhanbarthol yng Nghymru yn ôl hyblygrwydd deddfwriaeth ddrafft y Comisiwn Ewropeaidd. Yn ystod y trafodaethau hyn, rwyf wedi bod yn eglur iawn ein bod am gyfeirio cymaint â phosibl o arian â phosibl at ranbarth gwannaf Cymru, sef Gorllewin Cymru a’r Cymoedd, er mwyn sicrhau gweddnewid go iawn yng Nghymru. Er bod safbwynt Llywodraeth y DU heddiw yn gam mawr ymlaen, mae hyn yn cyflwyno her sylweddol ar ben y pwysau eraill ar gyllid domestig a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU ar 26 Mehefin. Bellach mae angen i’r Comisiwn Ewropeaidd gefnogi’r dyraniadau rhanbarthol, a bydd yr UE hefyd yn eu haddasu yn ôl prisiau 2014 gan ddefnyddio lefel chwyddo flynyddol o 2% rhwng 2011 a 2014, y cytunwyd arni fel rhan o gynigion cyllideb yr UE. Bydd hyn yn golygu mai oddeutu £2\.01 biliwn fydd dyraniad cyffredinol Cymru o’i gymharu â bron £1\.9 o dan y rhaglenni cyfredol. Yn ôl prisiau 2014, bydd y dyraniadau ar gyfer Gorllewin Cymru a’r Cymoedd yn £1\.675 biliwn a’r dyraniadau ar gyfer Dwyrain Cymru yn £340 miliwn. Rwy’n falch o weld cytundeb gwleidyddol ynghylch cyllideb yr UE a’r arwyddion cadarnhaol y bydd Senedd Ewrop yn ei chefnogi yr wythnos nesaf. Bydd hyn yn golygu bod modd cychwyn rhaglenni yng Nghymru ddechrau 2014 wedi i’r Rhaglenni Gweithredol gael eu cyflwyno i’r Comisiwn ym mis Hydref. Byddaf yn gwneud datganiad i’r Aelodau ar ymateb Llywodraeth Cymru i’r ymgynghoriad cyhoeddus a materion eraill yr UE sy’n effeithio ar y Cronfeydd Strwythurol ym mis Gorffennaf. *\* Ffigurau mewn punnoedd ar sail cyfradd gynllunio o £1: €1\.20*
Translate the text from English to Welsh.
Land transaction tax will replace stamp duty land tax in Wales when it is devolved in April 2018\. At an official sealing ceremony, the Land Transaction Tax and Anti\-avoidance of Devolved Taxes (Wales) Bill became an Act of the Assembly. It is the first Act of this Assembly term. A Bill receives Royal Assent when Letters Patent under the Welsh Seal signed with Her Majesty’s own hand signifying Her Assent are notified to the Clerk of the Assembly. The First Minister of Wales Carwyn Jones applied the Welsh Seal to the Letters Patent at the sealing ceremony, which was also attended by Finance Secretary Mark Drakeford. First Minister Carwyn Jones said:   > “This Act is a significant step in our devolution journey – for the first time in almost 800 years we will have our own taxes. > > “It will bring additional responsibility as we become responsible for raising a proportion of our own money and an opportunity to make a real difference to public services in Wales.” Finance Secretary Mark Drakeford said:  > “This Act will enable us to introduce a new made\-in\-Wales tax on land transactions to replace stamp duty land tax, ensuring public services continue to benefit from the revenues raised by this important tax.  > > “I would like to thank all those who have helped us shape this Act and look forward to continuing to work with them as it is implemented.”
Bydd y dreth trafodiadau tir yn disodli treth dir y dreth stamp yng Nghymru pan fydd yn cael ei datganoli ym mis Ebrill 2018\.Mewn seremoni selio swyddogol heddiw, daeth y Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) yn Ddeddf Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Hon yw Deddf gyntaf tymor y Cynulliad hwn. Mae Bil yn cael Cydsyniad Brenhinol pan fydd Breinlythyrau o dan y Sêl Gymreig wedi'u llofnodi â llaw Ei Mawrhydi ei hun i ddatgan Ei Chydsyniad yn cael eu cyhoeddi i Glerc y Cynulliad.  Rhoddodd Prif Weinidog Cymru Carwyn Jones y Sêl Gymreig ar y Breinlythyrau yn ystod y seremoni selio, ac roedd Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, hefyd yn bresennol. Dywedodd Carwyn Jones, y Prif Weinidog:   > "Dyma garreg filltir arwyddocaol yn ein taith ddatganoli \- am y tro cyntaf mewn bron i 800 mlynedd bydd gan Gymru ei threthi ei hun. > > “Bydd yn dod â rhagor o gyfrifoldeb wrth inni ddod yn atebol am godi cyfran o'n harian ein hunain a bydd yn gyfle i wneud gwahaniaeth go iawn i wasanaethau cyhoeddus yng Nghymru." Dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid:  > “Bydd y Ddeddf yn ein galluogi i gyflwyno treth trafodiadau tir a wnaed yng Nghymru yn lle treth dir y dreth stamp. Bydd hyn yn sicrhau bod gwasanaethau cyhoeddus yn parhau i elwa ar y cyllid sy'n cael ei godi gan y dreth bwysig hon.  > > "Hoffwn i ddiolch i bawb sydd wedi ein helpu i lunio'r Ddeddf hon ac edrychaf ymlaen at barhau i weithio gyda nhw wrth iddi gael ei gweithredu."
Translate the text from English to Welsh.
* Free support and advice scheme extended to 60,000 NHS Wales staff tackling coronavirus pandemic. * More than 2,000 former health and social care professionals return to the frontline to help deal with COVID\-19\. A free mental health support service for doctors is to be expanded to provide support and advice for all front\-line NHS Wales staff during the COVID\-19 pandemic, Health Minister, Vaughan Gething, has announced today. The Welsh Government is providing an additional £1 million to support the Health for Health Professionals Wales service to employ more psychiatrists and medical advisers, run more counselling sessions and conduct further PTSD interventions. The service, run by Cardiff University, will offer an unprecedented level of support and advice to all healthcare professionals, including doctors, nurses, healthcare professional students, paramedics, therapists, dentists and medical volunteers working in Wales during and post the COVID\-19 pandemic. NHS Wales staff will be able to call a confidential helpline staffed by healthcare professionals, get access to face\-to\-face counselling sessions and be provided with guided self\-help tools and online resources. This expanded service will be provided through retired doctors and other healthcare staff who would like to support the NHS during the pandemic but who cannot, or do not want to return to the frontline. It will also include senior academics who at present are working full time in an academic role but would like to provide additional support. The service will also support returning retired staff and healthcare professional students who are volunteering to assist in response to COVID\-19 through the COVID Hub Wales. So far, more than 2,000 former health and social care professionals have re\-joined the frontline to help the Welsh HS treat the large number of people who will need care over the coming weeks and months. These include: * 1,376 doctors * 417 nurses * 257 allied health care professionals and scientists have registered their interest by completing the NHSE survey * 358 pharmacists and pharmacy technicians have been included on the temporary register with the option to opt\-out. Health and Social Services Minister, Vaughan Gething said: > COVID\-19 is an unprecedented event. Our NHS staff are at the frontline of the response, caring for and saving the lives of patients in NHS settings across Wales. > > > The health and wellbeing of our all our dedicated NHS Wales staff is paramount at all times but especially so during this acutely challenging time – so it’s vital we do all we can to care for them. The £1 million I am announcing today will help the Health for Health Professionals service in Wales expand, so that they can deal with the additional demand from NHS staff. > > > I’m also delighted to confirm more than 2,000 health and social care professionals have made the decision to re\-join their colleagues on the frontline to help the NHS treat the large number of people who will need care over the coming weeks and months. This is truly remarkable and for which we are very grateful. Professor Debbie Cohen, director of Health for Health Professionals, said: > This is an extremely difficult time for healthcare workers who are on the frontline of the fight against COVID\-19 so we are expanding our doctors’ support scheme so everyone is able to access the same psychological support, regardless of what role they have in the Welsh NHS and where they are in Wales. > > > They may be feeling guilt for not being able to go into work while others are able to, or trauma from what they are seeing each day on the front line. It is absolutely vital that these workers have a confidential space where they feel they can talk to peers and can access help and support in a way that suits them. > > > This virus has no boundaries so the way we provide support must have no boundaries. This is at the very heart of what we want to do. The service is available by calling 0800 058 2738, visiting Health for Health Professionals Wales or by emailing HHPCOVID19@cf.ac.uk. Staff can also access free online stress control tools on the Stress Control website.
* Cynllun cymorth a chyngor am ddim yn cael ei ehangu i gynnwys 60,000 o weithwyr yng Ngwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) Cymru sy’n ymdrin â phandemig y coronafeirws. * Mwy na 2,000 o gyn\-weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol yn dychwelyd i’r rheng flaen i helpu i fynd i’r afael â COVID\-19\. Mae Llywodraeth Cymru yn darparu £1m arall o gyllid i helpu’r gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol i gyflogi rhagor o seiciatryddion a chynghorwyr meddygol, cynnal rhagor o sesiynau cwnsela a rhagor o ymyriadau ar gyfer unigolion sy’n dioddef o Anhwylder Straen Wedi Trawma. Bydd y gwasanaeth, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Caerdydd, yn cynnig cymorth a chyngor ar lefel na welwyd mo’i thebyg o’r blaen i bob gweithiwr gofal iechyd proffesiynol. Mae hyn yn cynnwys meddygon, nyrsys, myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol, parafeddygon, therapyddion, deintyddion a gwirfoddolwyr meddygol sy’n gweithio yng Nghymru yn ystod y pandemig COVID\-19 ac a fydd yn parhau i weithio yma wedi hynny. Bydd modd i staff GIG Cymru ffonio llinell gymorth gyfrinachol a fydd yn cael ei hateb gan weithwyr iechyd proffesiynol, cael sesiynau cwnsela wyneb yn wyneb ac offer hunangymorth ac adnoddau ar\-lein. Bydd y gwasanaeth ehangach hwn yn cael ei ddarparu gan feddygon sydd wedi ymddeol a staff gofal iechyd eraill sy’n dymuno cefnogi’r GIG yn ystod y pandemig, ond sy’n methu â dychwelyd i’r rheng flaen neu nad ydynt eisiau gwneud hynny. Bydd hefyd yn cynnwys uwch\-academyddion sy’n gweithio’n llawnamser mewn rôl academaidd ar hyn o bryd ond sy’n dymuno darparu rhagor o gymorth. Bydd y gwasanaeth hefyd yn cefnogi staff sydd wedi ymddeol ac sydd wedi dychwelyd i weithio a myfyrwyr gofal iechyd proffesiynol sy’n gwirfoddoli i helpu gyda’r ymateb i COVID\-19 drwy Hyb COVID Cymru. Hyd yma, mae dros 2,000 o gyn\-weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol wedi ailymuno â’r rheng flaen i helpu staff GIG Cymru i drin y nifer mawr o bobl a fydd angen gofal dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae’r rhain yn cynnwys: * 1,376 o feddygon * 417 o nyrsys * Mae 257 o weithwyr proffesiynol perthynol i iechyd a gwyddonwyr wedi mynegi eu diddordeb drwy gwblhau’r arolwg y GIG * Mae 358 o fferyllwyr a thechnegwyr fferyllol wedi cael eu cynnwys ar gofrestr dros dro, gyda’r opsiwn o optio allan. Dywedodd Vaughan Gething, y Gweinidog Iechyd a Gofal Cymdeithasol: > Ni welwyd unrhyw beth tebyg i COVID\-19 erioed. Mae staff ein Gwasanaeth Iechyd Gwladol yn gweithio ar y rheng flaen, yn gofalu am gleifion yn lleoliadau’r Gwasanaeth Iechyd ledled Cymru ac yn achub eu bywydau. > > > Iechyd a lles ein holl staff ymroddedig yn y Gwasanaeth Iechyd yng Nghymru sydd bwysicaf drwy'r amser, ond yn arbennig yn ystod y cyfnod heriol iawn hwn. Mae’n hanfodol, felly, ein bod yn gwneud popeth y gallwn ni i ofalu amdanyn nhw. Bydd y £1m o gyllid rwy’n ei gyhoeddi heddiw yn helpu i ehangu’r gwasanaeth Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol yng Nghymru fel ei fod yn gallu ymdopi â’r galw ychwanegol gan staff y Gwasanaeth Iechyd. > > > Mae’n bleser gennyf hefyd gadarnhau bod dros 2,000 o weithwyr iechyd a gofal cymdeithasol proffesiynol wedi penderfynu ailymuno â’u cydweithwyr ar y rheng flaen i helpu’r Gwasanaeth Iechyd i drin y nifer mawr o bobl a fydd angen gofal dros yr wythnosau a’r misoedd nesaf. Mae hyn yn wirioneddol wych ac rydyn ni’n ddiolchgar iawn. Dywedodd yr Athro Debbie Cohen, Cyfarwyddwr Iechyd i Weithwyr Iechyd Proffesiynol: > Mae hwn yn gyfnod anodd iawn i weithwyr gofal iechyd sy’n gweithio ar y rheng flaen yn y frwydr yn erbyn COVID\-19\. Felly, rydyn ni’n ehangu ein cynllun cymorth i feddygon fel bod pawb yn gallu cael yr un cymorth seicolegol, waeth pa rôl maen nhw’n ei chwarae yng Ngwasanaeth Iechyd Cymru nac ym mha ran o Gymru maen nhw wedi’u lleoli. > > > Efallai eu bod nhw’n teimlo’n euog nad ydyn nhw’n gallu mynd i’r gwaith pan fo eraill yn gallu mynd. Mae’n bosib eu bod yn teimlo trawma ar ôl gweld yr hyn maen nhw’n ei weld bob dydd ar y rheng flaen. Mae’n hollol hanfodol fod gan y gweithwyr hyn le cyfrinachol i fynd iddo lle maent yn teimlo eu bod yn gallu siarad gyda’u cydweithwyr a chael cymorth a chefnogaeth mewn ffordd sy’n gyfleus iddyn nhw.  > > > Nid yw’r feirws hwn yn parchu ffiniau. Rhaid inni  felly  beidio â chael ein caethiwo gan  ffiniau wrth inni ymateb i’r feirws. Dyma sydd wrth wraidd yr hyn rydyn ni’n ceisio ei wneud. Mae’r gwasanaeth hwn ar gael drwy ffonio 0800 058 2738, ymweld â www.hhpwales.co.uk/ neu drwy e\-bostio HHPCOVID19@cf.ac.uk Gall staff hefyd ddefnyddio adnoddau rheoli straen yn rhad ac am ddim ar\-lein ar www.stresscontrol.org/
Translate the text from Welsh to English.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau mwy o amrywiaeth ar draws pob agwedd ar fywyd cyhoeddus. Mae hyn yn cynnwys mynd i’r afael â’r rhwystrau sy’n atal unigolion rhag cymryd rhan weithredol mewn democratiaeth leol.  Roeddwn wedi ei gwneud yn glir y byddai’r gwerthusiad o’r gwaith a gyflawnwyd yng ngham un ein Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth yn cael ei ddefnyddio fel sail i’n cynlluniau ar gyfer cam dau’r rhaglen honno, er mwyn adeiladu ar ei llwyddiannau a datblygu cyfleoedd newydd i helpu unigolion sy’n awyddus i gefnogi eu cymunedau. Roeddwn i hefyd yn glir na ddylid edrych ar y gwerthusiad fel rhywbeth unigol. Cyhoeddwyd llawer o adroddiadau sy’n nodi rhwystrau i gyfranogi, ac sy’n cyfeirio at gyfleoedd i oresgyn neu leihau’r rhwystrau hynny. Yn hydref 2019, sefydlais Grŵp Cynghori’r Gweinidog, a oedd yn cynnwys rhanddeiliaid allweddol, i weithio mewn partneriaeth i ystyried y dystiolaeth a ddarperir gan y Gwerthusiad o gam un y rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Ochr yn ochr â hynny, bu’r grŵp yn ystyried dau adroddiad arall, sef adroddiad y Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ar Amrywiaeth ym maes Llywodraeth Leol ac adroddiad y Bwrdd Taliadau ar Ddadansoddi Amrywiaeth: Rhwystrau a chymhellion i sefyll yn etholiadau Cynulliad Cenedlaethol Cymru. Yn ogystal â hyn, cynhaliwyd nifer o weithdai ledled Cymru i drafod amryw o bynciau a oedd yn ymwneud â bod yn gynghorydd, gan gynnwys cyfathrebu ac ymwybyddiaeth, hyfforddiant a datblygiad, taliadau cydnabyddiaeth, gweithio mewn modd diogel a hyblyg, a chymorth a dargedir. Y gwerthusiad o’r adroddiadau, ynghyd â’r adborth o’r gweithdai, sydd wedi darparu’r sail ar gyfer cam dau ein Rhaglen Amrywiaeth mewn Democratiaeth. Er gwaethaf yr oedi a achoswyd gan yr angen i flaenoriaethu wrth ymateb i’r pandemig COVID\-19, mae’n dda gennyf allu cadarnhau’r gwaith y byddwn yn bwrw ymlaen ag ef fel rhan o gam nesaf y rhaglen hon.  Mae’n bwysig cydnabod nad cychwyn ar ein taith yr ydym, ond yn hytrach yn ei pharhau â’r gwaith hwn. Rydym eisoes wedi gweld cynnydd o ran cyflawni ein hymrwymiad i gefnogi mwy o amrywiaeth, yn benodol: * Ni oedd y wlad gyntaf yn y DU i gyflwyno absenoldeb teuluol ar gyfer cynghorwyr yn y prif awdurdodau, er mwyn galluogi unigolion i gydbwyso’r rolau pwysig y maent yn eu chwarae mewn cymdeithas â’u cyfrifoldebau fel rhieni. * Hefyd, ni oedd y wlad gyntaf i gyflwyno arolwg ar gyfer ymgeiswyr ac aelodau etholedig mewn etholiadau llywodraeth leol, er mwyn casglu data pwysig am amrywiaeth yr ymgeiswyr a’r cynghorwyr hynny. Mae’r arolwg hwn wedi cael ei gynnal ddwywaith hyd yn hyn, ac rydym yn  parhau i chwilio am ffyrdd o’i wella. Ni fyddai wedi bod yn bosibl cymryd unrhyw un o’r camau hyn heb gydweithrediad a chefnogaeth Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC), Un Llais Cymru, cynghorau, a chynghorwyr, a’r trydydd sector, a hoffwn fanteisio ar y cyfle hwn i gofnodi fy niolch iddynt am eu cyfraniad a’u cymorth parhaus. Yn yr ysbryd hwn yr ydym yn cychwyn ar ran nesaf ein taith.  Rydym wedi bod yn gweithio’n galed tuag at sefydlu cronfa i gefnogi pobl anabl sy’n awyddus i fod yn ymgeiswyr ar gyfer swyddi etholedig, er mwyn sicrhau nad fydd y costau y maent yn gorfod eu talu o ganlyniad i’w gofynion mynediad neu gyfathrebu yn cyfrif tuag at derfyn eu costau ffurfiol. Mae hynny wedi golygu y bu’n rhaid gwneud newidiadau i ddeddfwriaeth, ac rydym yn disgwyl i’r newidiadau hynny gael eu cwblhau erbyn diwedd y flwyddyn, gan ei wneud yn bosib rhoi’r gronfa ar waith. Heddiw, mae’n bleser gennyf gyhoeddi y byddwn yn ymgynghori ar fanylion y trefniadau hyn maes o law. Bydd y gronfa yn cael ei sefydlu fel cynllun peilot ar y cyd i gefnogi ymgeiswyr anabl sy’n awyddus i gael eu hethol yn etholiadau llywodraeth leol 2022 ac etholiadau’r Senedd 2021\. Rwyf wedi gofyn i Anabledd Cymru weithio gyda ni i ddatblygu manylion y trefniadau ac i symud y prosesau cymorth, asesu, a dyrannu yn eu blaen fel rhan o’r trefniadau peilot. Cynhelir gwerthusiad o’r trefniadau er mwyn inni allu eu gwella yn y dyfodol. Caiff deddfwriaeth ei chyflwyno yn hwyrach yn ystod y flwyddyn i eithrio’r costau hyn o gostau’r ymgeiswyr ar gyfer y ddwy set o etholiadau.  Roedd yr adborth o’r gweithdai a gynhaliwyd ar draws Cymru wedi bod yn glir ei neges nad yw cynghorwyr yn teimlo eu bod yn cael eu gwerthfawrogi na’u parchu. Nid ydynt yn credu bod unigolion yn deall rôl y cynghorydd a’r cyfraniad pwysig y mae’n ei wneud ar ran y gymuned. Roedd y cyfranogwyr hefyd yn teimlo bod disgwyl afrealistig ar gynghorwyr i fod ar gael bob awr o’r dydd, saith diwrnod yr wythnos. Mae’r adborth hwn yn adlewyrchu’r sgyrsiau rwyf wedi eu cael gydag unigolion ledled Cymru, ac yn ystod y cam nesaf byddaf yn comisiynu gwaith i ymchwilio’n fanylach i’r materion hyn. Hefyd, mae’r camau yn yr atodiad cysylltiedig yn cynnwys meysydd yr ydym am roi sylw iddynt drwy Fil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) sydd ar ei daith drwy’r Senedd ar hyn o bryd: * y cyfle i rannu swydd wrth gyflawni rhai swyddi yn y prif gynghorau (gan gynnwys swyddi aelod gweithredol ac arweinydd gweithredol) * dyletswydd ar y prif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriad post a chyfeiriad electronig ar gyfer gohebiaeth pob aelod o’r cyngor * dyletswydd ar y prif gynghorau i gynhyrchu Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd, a’i hadolygu’n rheolaidd * dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hyrwyddo a chynnal safonau uchel o ymddygiad ymysg aelodau eu grŵp * darlledu rhai cyfarfodydd yn electronig * ymestyn y ddarpariaeth ar gyfer presenoldeb o bell mewn cyfarfodydd awdurdodau lleol * sicrhau darpariaethau sy’n nodi’r cyfnod hiraf posib o absenoldeb ar gyfer pob math o absenoldeb teuluol, ar gyfer aelodau awdurdodau lleol, a’r cyfnod i gael ei bennu o fewn rheoliadau er mwyn sicrhau bod y ddarpariaeth yn gyfredol. Byddwn hefyd yn:  * Cynyddu’r cyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael i gynghorwyr * Sicrhau bod cymaint o gydbwysedd â phosibl rhwng bywyd a gwaith drwy gynyddu’r defnydd o bresenoldeb o bell * Ymchwilio i’r defnydd o gwotâu rhywedd * Sicrhau bod cynghorwyr, a’u teuluoedd, yn ddiogel wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau Cafodd y rhaglen hon ei datblygu ar y cyd â’r teulu llywodraeth leol ehangach. Bydd CLlC ac Un Llais Cymru yn cydweithio i adolygu eu protocolau ar barch a chymorth i gynghorwyr ledled Cymru. Maent yn cynnal adolygiad o’u rhaglenni hyfforddi presennol yng ngoleuni’r adborth o’r gweithdai a oedd yn trafod meysydd ychwanegol megis gweithio ar eich pen eich hun. Maent hefyd yn ystyried sicrhau bod y cyfleoedd gorau posibl ar gael i ddysgu ar y cyd a chryfhau’r cysylltiadau rhwng gwahanol haenau llywodraeth leol.  Mae CLlLC hefyd yn gweithio gyda sefydliadau partner ar draws y DU ar yr ymgyrch Moesgarwch mewn Bywyd Cyhoeddus, a bydd Un Llais Cymru yn diweddaru ei ganllawiau ar ‘fod yn gynghorydd lleol’ i’w defnyddio yn yr etholiadau nesaf. Mae sefydliadau yn y trydydd sector wrthi’n datblygu cynllun monitro ar gyfer Cymru gyfan, sydd â’r nod o ddarparu cyngor, arweiniad, a chymorth i grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i’w helpu i gymryd rhan weithredol ym maes gwasanaeth cyhoeddus.  Drwy weithio gyda’n gilydd, gallwn gymryd y camau pwysig hyn i wella’r cyfleoedd sydd ar gael i unigolion gymryd rhan mewn democratiaeth leol; codi proffil cynghorwyr ar draws Cymru; a harneisio’r ysbryd sy’n bodoli o fewn ein cymunedau, a ddaeth mor amlwg yn y frwydr yn erbyn COVID\-19 yn ddiweddar. Is\-grŵp o’r Grŵp Llywio ar gyfer Adnewyddu Democratiaeth fydd yn goruchwylio’r rhaglen hon. **Atodiad** **Amrywiaeth mewn Democratiaeth – Cam 2 – Cynllun Gweithredu** | **Amcan** | **Camau Gweithredu** | **Amserlen** | | --- | --- | --- | | Cynyddu dealltwriaeth o wahanol haenau o lywodraeth yng Nghymru, y rôl y mae pob un yn ei chwarae mewn cymdeithas a sut **y** maent yn gweithredu | Cynnal ymgyrch gyfathrebu gynhwysfawr gyda negeseuon cyffredinol, sydd wedi'u targedu | Ionawr 2021 ymlaen | | Datblygu cyfres o adnoddau addysgol i gyd\-fynd ag ymestyn yr etholfraint i bobl ifanc 16 ac 17 oed yng Nghymru | Hydref 2020 | | Gweithio gyda rhanddeiliaid allweddol a sefydliadau cynrychioliadol i sicrhau bod dinasyddion tramor cymwys yn ymwybodol o'u hawl i bleidleisio yn etholiadau'r Senedd | Parhaus | | Cynyddu ymgysylltiad â'r cyhoedd er mwyn:* codi ymwybyddiaeth o rôl a gweithgareddau'r Cyngor i roi eglurder ynghylch sut y gall y cyhoedd lywio penderfyniadau lleol yn well * adeiladu mwy o gydlyniant cymunedol drwy fwy o bresenoldeb mewn digwyddiadau cymunedol * creu rhwydweithiau cymunedol a’u meithrin | Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth i osod dyletswydd ar brif gynghorau i lunio Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd a'i hadolygu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl pob etholiad llywodraeth leol arferol | Chwefror 2021 | | Gweithio gyda phrif gynghorau i lunio canllawiau a fydd yn cyd\-fynd â’r ddarpariaeth yn y Bil sy'n nodi'r hyn sy'n ofynnol fel rhan o Strategaeth Cyfranogiad y Cyhoedd | Parhaus drwy gydol 2020/2021 | | Gweithio gyda phrif gynghorau i gyhoeddi eu cyfansoddiad a’u canllaw i’r cyfansoddiad er mwyn ennyn mwy o ddiddordeb ymhlith y cyhoedd | Ionawr 2022 | | Cynyddu ymwybyddiaeth o rôl cynghorwyr, y cyfraniad a wnânt i gymdeithas a sut i ddod yn gynghorydd | Cynhyrchu cyfres o ffilmiau byr ar y cyd â rhanddeiliaid sy'n tynnu sylw at rôl cynghorwyr prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned a fydd yn cynnwys:* y manteision o safbwynt cynghorwyr ac o safbwynt gymunedol * y math o waith a wneir; y taliad cydnabyddiaeth a dderbynnir * yr hyfforddiant a ddarperir i ymgymryd â'r rôl | Ionawr 2021 | | Gweithio gyda CLlLC i godi ymwybyddiaeth ymhlith sefydliadau'r sector cyhoeddus o’r manteision i weithwyr ymgymryd â dyletswyddau dinesig ac ystyried a oes camau pellach y gellid eu cymryd i annog cyfranogiad ehangach | Mawrth 2022 | | Cynyddu hyder cynghorwyr eu bod yn cael eu gwerthfawrogi, bod y disgwyliadau a roddir arnynt yn deg a bod lefelau eu taliadau cydnabyddiaeth yn adlewyrchu’r gwaith a wneir yn briodol | Adolygu rôl a thaliadau chydnabyddiaeth cynghorwyr. Yn benodol, bydd yr adolygiad yn edrych ar:* y ddealltwriaeth o rôl y cynghorydd o safbwynt y cynghorydd a'r etholwr * barn y gymuned am eu cynrychiolwyr etholedig * dealltwriaeth realistig o'r amser a weithir gan gynghorwyr yng Nghymru i gefnogi cymunedau ar lefelau prif gynghorau a chynghorau cymuned * sut mae gwledydd eraill yn cydnabod ac yn adlewyrchu agwedd 'wirfoddol' y rôl, os o gwbl * ystyried y rheolau presennol ar gydnabyddiaeth ariannol a’r opsiynau ar gyfer sut y dylid cyfrifo taliadau cydnabyddiaeth yn y dyfodol * a ddylid rhoi taliadau cydnabyddiaeth i gynghorwyr sy'n colli eu seddi mewn etholiad * beth yw’r berthynas rhwng y taliadau cydnabyddiaeth a'r system dreth | Mehefin 2021 | | Mwy o barch a chefnogaeth i'r rhai sy'n sefyll mewn etholiad yng Nghymru a’r rheini sy’n cael hethol | Gweithio gyda CLlLC ac Un Llais Cymru ar gyfres o brotocolau i sicrhau bod prif gynghorau a chynghorau tref a chymuned yn dangos parch at eu haelodau etholedig ac yn eu cefnogi | Mawrth 2022 | | Helpu i hyrwyddo'r ddogfen ganllaw ar y berthynas weithio rhwng cynghorwyr cymuned a thref a cynghorwyr sir lleol. | Mawrth 2022 | | Rhoi dyletswydd ar arweinwyr grwpiau gwleidyddol i hybu safonau ymddygiad uchel | Ionawr 2021 | | Parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i weithredu a sicrhau bod cwmnïau cyfryngau cymdeithasol yn delio ag achosion o gam\-drin ar\-lein | Chwefror 2021 | | Rhaglen hyfforddiant ac ymwybyddiaeth gynhwysfawr ar gael drwy amrywiaeth o lwybrau sydd ar gael i gynghorwyr i’w cefnogi yn eu rôl fel cynghorwyr | Adolygiad wedi'i gwblhau o'r hyfforddiant a'r datblygiad sydd ar gael i gynghorwyr ar lefel prif gynghorau a chynghorau cymuned gan nodi:* meysydd eraill lle mae angen deunyddiau hyfforddi / datblygu * meysydd hyfforddi a datblygu y gellir eu darparu ar\-lein heb effeithio'n andwyol ar ganlyniad dysgu unigolion * meysydd lle gellir manteisio i'r eithaf ar ddeunyddiau ar draws dwy haen llywodraeth leol – ee meysydd craidd fel iechyd a diogelwch, gweithio unigol, cydnerthedd etc * set graidd o ddeunyddiau hyfforddi y gellir eu defnyddio ar gyfer pob cynghorydd yng Nghymru gan gynnwys hyfforddiant TG * CLlLC ac Un Llais Cymru i gydweithio i rannu gwybodaeth sydd eisoes ar gael ar gyrsiau hyfforddi * cyfleoedd i rannu cynnwys generig ar draws gwahanol sectorau a gwahanol lwyfannau | Mai 2021 | | Sicrhau bod cynghorwyr yn ymgymryd â hyfforddiant iechyd a diogelwch, hyfforddiant gweithio unigol ac unrhyw beth arall a gynigir i sicrhau eu diogelwch yn ystod etholiadau a phan gânt eu hethol | Mai 2021 | | Nodi ffyrdd o roi cymorth ehangach i gynghorwyr a darpar gynghorwyr i lywio eu penderfyniad i sefyll mewn etholiad | Defnyddio’r gwersi a ddysgwyd o gynlluniau mentora a gynhaliwyd yn y gorffennol i ystyried yr opsiynau ar gyfer datblygu rhaglen gymorth a mentora i annog grwpiau sydd heb gynrychiolaeth ddigonol i gyfranogi mewn bywyd cyhoeddus. | Mawrth 2021 | | Gweithio gyda CLlLC ac Un Llais Cymru i ddatblygu llwybr ar gyfer cyfranogi gan gydnabod gwahanol gamau yn ystod gyrfa cynghorydd a'r gofynion o ran ymwybyddiaeth / sgiliau ar bob lefel – i gynnwys mentora a chysgodi swyddi | Mawrth 2021 | | Ymchwilio i’r hyn sy’n bosibl o ran cyflwyno hyfforddiant sgiliau i bobl sydd am ddysgu mwy am yr hyn y mae bod yn gynghorydd yn ei olygu a hefyd y strwythur a allai ddarparu'r hyfforddiant | Mehefin 2021 | | Datblygu ac ehangu'r rhaglen arweinyddiaeth bresennol i’r holl aelodau cyngor yng Nghymru | Mawrth 2021 | | Gwneud deddfwriaeth i eithrio treuliau sy’n gysylltiedig ag anabledd rhag cael eu cyfrif tuag at derfyn y treuliau y gall ymgeiswyr eu gwario wrth ymgymryd â’u hymgyrch etholiadol | Ionawr 2021 | | Cyflwyno cronfa Mynediad i Swyddi Etholedig i helpu gyda threuliau a ysgwyddir oherwydd anabledd wrth sefyll mewn etholiad | Ionawr 2021 | | Ymchwilio a oes achos dros eithrio dosbarthiadau gwariant eraill o derfynau costau ymgeiswyr | Gorffennaf 2021 | | Ymchwilio a ddylai’r gronfa mynediad i swyddi etholedig fod ar gael i grwpiau eraill sydd heb gynrychiolaeth ddigonol | Gorffennaf 2021 | | Ymchwilio pa gymorth y gellir ei gynnig i aelodau annibynnol | Gorffennaf 2021 | | Gwella diogelwch cynghorwyr a'u teuluoedd wrth iddynt ymgymryd â'u dyletswyddau cyngor | Dileu'r gofyniad i gyfeiriadau personol gael eu defnyddio ar bapurau pleidleisio | Ionawr 2021 | | Rhoi dyletswydd ar brif gynghorau i gyhoeddi cyfeiriadau swyddogol ar wefannau cynghorau ac ar y gofrestr buddiannau yn hytrach na chyfeiriadau personol ar gyfer cynghorwyr | Ionawr 2021 | | Manteisio i'r eithaf ar gyfleoedd i unigolion weithio mewn ffyrdd sy'n eu galluogi i sicrhau cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith sy'n diogelu eu lles a'u llesiant, ac sy'n caniatáu iddynt reoli unrhyw berthynas ofalu neu ag unigolion sy’n ddibynnol arnynt | Darparu ar gyfer rhannu swyddi gan arweinwyr gweithredol a deiliaid swyddi eraill yn y prif gynghorau | Ionawr 2021 | | Adolygu'r trefniadau sydd ar waith ar gyfer mynychu cyfarfodydd awdurdodau lleol o bell yng ngoleuni’r profiad a gafwyd o gyfarfodydd rhithwir yn ystod y pandemig COVID\-19 | Ionawr 2021 | | Ymchwilio i’r posibilrwydd i unigolion sefyll mewn etholiad fel rhan o bartneriaeth rhannu swyddi \- y rhwystrau a'r cyfleoedd | Rhagfyr 2021 | | Gwneud rheoliadau diwygio mewn perthynas ag absenoldebau teuluol i ymestyn y cyfnod absenoldeb sydd ar gael i gynghorwyr ar gyfer absenoldeb mabwysiadu | Mawrth 2021 | | Adolygu'r trefniadau ar gyfer absenoldebau teuluol i gynghorwyr i ganfod a oes camau pellach y gellid eu cymryd | Mawrth 2021 | | Sicrhau bod awdurdodau lleol ac arweinwyr yn ymwybodol o'u dyletswydd i roi sylw i ganllawiau o dan adran 38 o Ddeddf 2000 | Mawrth 2021 | | Cynyddu cyfleoedd i fenywod chwarae rhan lawn wrth gefnogi a chynrychioli eu cymunedau | Ymgynghori ar y defnydd o gwotâu rhyw ar gyfer etholiadau llywodraeth leol yng Nghymru | Mai 2021 | | Ysgrifennu i Lywodraeth y DU ynghylch ymestyn y cymal machlud yn adran 104(7\) o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a chychwyn adran 106 o'r un Ddeddf | Wedi’i gwblhau | | Asesu effeithiolrwydd y darpariaethau ym Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011 mewn perthynas â chasglu data, ac mewn perthynas â data ymgeiswyr eraill y gellid eu casglu o fewn y fframwaith datganoli presennol er mwyn i bleidiau gwleidyddol gefnogi ymgeiswyr amrywiol mewn etholiadau | Swyddogion i edrych ar y gwersi a ddysgwyd o arolygon blaenorol ac adolygu a diwygio arolygon sydd i ddod i ddarparu'r dystiolaeth orau | Ionawr 2022 |  
This Welsh Government is committed to increasing diversity across all aspects of public life. This includes tackling the barriers which prevent individuals’ active participation in local democracy.  I have been clear the evaluation of phase one of our Diversity in Democracy work would form the foundation of our plans for phase two of the programme; building on its successes and developing new opportunities to assist individuals in supporting their communities. I was also clear the evaluation should not be seen in isolation.  There are many reports published which identify barriers to participation and signpost opportunities to overcome, or at the very least mitigate those barriers. In autumn 2019 I established a Ministerial advisory group made up of key stakeholders to work in partnership and consider the evidence available from the Evaluation of phase one of the Diversity in Democracy programme. Alongside this they considered two other reports \- the Equality, Local Government and Communities Committee’s report on Diversity in Local Government and the Remuneration Board’s report Unpacking diversity: Barriers and incentives to standing for election to the National Assembly for Wales. In addition, a number of workshop events were held across Wales which explored a range of subjects relating to becoming a councillor including communication and awareness, training and development, remuneration, safe and flexible work and targeted support. The evaluation of the reports coupled with the feedback from the workshops provided the basis for phase two of our Diversity in Democracy programme. Although delayed by the need to prioritise action to combat the Covid\-19 pandemic, I am pleased to confirm the work we will be taking forward as part of the next phase of this programme.   It is important to recognise that this is not the beginning of our journey, it is a continuation. We have already delivered on our commitment to support greater diversity. In particular we were: * The first country in the UK to introduce family absence for councillors in principal authorities to enable individuals to balance the important roles they play in society with their responsibilities as parents. * Also the first country to introduce a survey for candidates and elected members at local government elections to gather important data about the diversity of candidates and councillors, this survey has been conducted twice and we continue to look for ways to improve it. None of these steps could have been taken without the cooperation and collaboration of the Welsh Local Government Association (WLGA), One Voice Wales, councils and councillors and the third sector and I would like to take this opportunity to put on record my thanks for their continued contribution and support. It is within this spirit the next phase of this journey begins.  We have been working hard to introduce arrangements for the establishment of a fund to support disabled candidates who wish to put themselves forward for elected office and that the expenses they incur, as a result of their access or communication requirements, do not count towards the formal expenses limit. This has required us to make changes to legislation and we expect these changes to be completed by the end of the year, paving the way for a fund. I am pleased to announce today that we will be consulting shortly about the detail of these arrangements. The fund we are establishing will be a joint pilot to support disabled candidates seeking election for both the 2022 local government and the 2021 Senedd elections. I have asked Disability Wales to work with us in developing the details of the arrangement and to take forward the support, assessment and allocation processes as part of the pilot arrangements. An evaluation of the arrangements will be undertaken to inform future arrangements. Legislation will be tabled later this year to exclude these expenses from candidates’ expenses for both sets of elections.  Feedback from the workshops across Wales identified a strong message that councillors do not feel valued and respected. They do not believe individuals across Wales understand the role of the councillor and the important contribution they make on behalf of communities. Participants also felt there was an unrealistic expectation placed upon councillors to be available at all hours of the day, seven days of the week. This feedback aligns with conversations I have had with individuals across Wales and as part of the next phase of this work I will be commissioning work which will explore these matters in more detail. In addition the actions in the accompanying annex include areas we are aiming to address through the Local Government and Elections (Wales) Bill (“the LGE Bill”) currently progressing through the Senedd: * job sharing in some offices in principal councils (including the offices of executive member and executive leader); * a duty on principal councils to publish an electronic and postal address for correspondence for each council member; * a duty on principal councils to produce a Public Participation Strategy and for it to be reviewed regularly; * a duty on political group leaders to promote and maintain high standards of conduct by members of their group; * electronic broadcasting of certain meetings; * extended provision for remote attendance at local authority meetings; * Provisions enabling the maximum period of absence for each type of family absence for members of local authorities to be specified within regulations to enable the provision to be kept up to date. We will also be: * Increasing the training and development opportunities available for councillors; * Maximising the use of work life balance by increasing the use of remote attendance; * Exploring the use of gender quotas and, * Ensuring councillors and their families are safe when undertaking their duties. This programme has been developed in conjunction with the wider local government family. The WLGA and One Voice Wales will be working together to revise their protocols on respect and support for councillors across Wales.  They are undertaking a review of their existing training programmes in light of feedback from the workshops on additional areas of focus such as lone working.  They are also considering maximising opportunities for joint learning and strengthening links between the tiers of local government.  The WLGA are also working with partner organisations across the UK on the Civility in Public Life campaign, whilst One Voice Wales will be updating their “being a local councillor” guide for use at the upcoming elections. Third sector organisations are developing an all Wales mentoring scheme which is aimed at providing advice, guidance and support to under\-represented groups to help then actively participate in public service.  Working together we will take these important steps to improve the opportunities available for individuals to participate in local democracy, raise the profile of councillors across Wales and harness the spirit that exists within communities, as demonstrated by the recent COVID\-19 experiences.  The oversight of this programme will be undertaken by a sub group of the Democratic Renewal Steering Group. **Annex** **Diversity in Democracy – Phase 2 \- Action Plan** | **Objective** | **Actions** | **Time Frame** | | --- | --- | --- | | Increase understanding of different tiers of government in Wales, the role each plays in society andhow they operate | Undertake a comprehensive communications campaign with general and targeted messaging | January 2021 onwards | | A set of educational resources to accompany the extension of the franchise to 16 and 17 year olds in Wales developed | October 2020 | | Work with key stakeholders and representative organisations to ensure qualifying foreign citizens are aware of their right to vote in Senedd elections | Ongoing | | Increase engagement with the public to:* raise awareness of the role and activities of the Council provide clarity about how the public can better inform local decision making * build greater community cohesion through a greater presence at community events, * creating and building upon community networks. | Welsh Government to introduce legislation to place a duty on principal councils to produce a Public Participation Strategy and to review it as soon as practicable after each ordinary local government  election | February 2021 | | Work with principal councils to produce guidance to underpin the Bill provision setting out what is required within the Public Participation Strategy | Ongoing throughout 2020/2021 | | Work with principal councils to publish their constitution and constitution guide to increase public engagement | January 2022 | | Increase awareness of the role of councillors, the contribution they make to society and how to become a councillor | Production of a series of short films in conjunction with stakeholders highlighting the role of principal and town and community councillors to include:* the benefits from both a councillor perspective and community perspective; * the type of work undertaken; the remuneration received; and, * the training provided to undertake the role | January 2021 | | Work with WLGA to raise awareness among public sector organisations of the benefits of employees undertaking civic duties and explore whether there are further steps which could be taken to encourage wider participation | March 2022 | | Increase confidence of councillors that they are valued, expectations placed on them are fair and that their remuneration levels appropriately reflect the work undertaken. | Review of the role and remuneration of councillors. In particular, the review will look at:* the understanding of the role of  a councillor from both the councillor and the elector perspective, * the views of the community about their elected representatives, * a realistic understanding of the time worked by councillors in Wales in support of communities both at principal and community council levels, * how other countries recognise and reflect the ‘voluntary’ aspect of the role, if at all, * Consider existing rules on remuneration and options for how remuneration should be calculated in the future, * whether there should be payments to councillors who lose their seats at election, and, * how the remuneration interacts with the tax system | June 2021 | | Greater respect and support for those standing for and securing elected office in Wales. | Work with WLGA and OVW on a series of protocols to ensure respect and support is provided by principal councils and town and community councils towards their elected members | March 2022 | | Help promote the ‘Working Relationships between Community and Town Councillors and the Local County Councillor’ guidance document | March 2022 | | Place a duty on political group leaders to promote high standards of conduct | January 2021 | | Continue to press the UK Government to take action and ensure social media companies deal with online abuse | February 2021 | | Comprehensive training and awareness programme available through a variety of routes available for councillors to support them in their role as councillors | A completed review of the training and development available for councillors at both principal and community levels identifying:* additional areas where training / development materials are required * areas of training and development which can be made available online without adversely impacting on the learning outcome of individuals * areas where materials can be maximised across the two tiers of local government – e.g. core areas such as health and safety, lone working, resilience etc * a core set of training materials which can be used for all councillors in Wales including IT training * WLGA and OVW to work collaboratively to share information already available on training courses * opportunities for sharing generic content across different sectors and different platforms | May 2021 | | Ensure that councillors undertake health and safety training, lone working training and anything else offered to ensure their safety during elections and when they are elected | May 2021 | | Identify ways to provide broader support to councillors and potential councillors to inform their decision to stand for elected office | Using the lessons learned from previous mentoring schemes, explore the options for developing a mentoring and support programme to encourage under\-represented groups to participate in public life | March  2021 | | Work with WLGA and OVW to develop a pathway for participation recognising the different stages of the lifecycle of a councillor and the awareness / skills requirements at each level – to include mentoring and job shadowing | March 2021 | | Explore the potential for the introduction of skills training for people who wish to learn more about what being a councillor entails and also the structure which could deliver the training | June 2021 | | Build and expand existing leadership programme to all council members in Wales | March 2021 | | Make legislation to exempt disability  expenses being counted towards  the limit candidates can spend on their election campaign | January 2021 | | Introduce an Access to Elected Office fund to help with expenses incurred due to a disability when standing for elected office | January 2021 | | Explore whether there is a case for exempting further classes of expenditure for candidate expense limits | July 2021 | | Explore whether access to elected office fund should be available to other under\-represented groups | July 2021 | | Explore support which can be offered to independent members | July 2021 | | Improve the safety of councillors and their families when undertaking their council duties | Remove the requirement for personal addresses to be used on ballot papers | January 2021 | | Place a duty on principal councils to publish official addresses on council websites and in the register of interests rather than personal addresses for councillors | January 2021 | | Maximise opportunities for individuals to work in ways that enable them to achieve a work / life balance which protects their welfare and wellbeing and allows them to manage any caring / dependency relationships | Make provision for job\-sharing by executive leaders and other office holders of principal councils | January 2021 | | Review the arrangements in place for remote attendance in local authority meetings in light of the experience of virtual meetings during the COVID\-19 pandemic | January 2021 | | Explore the potential for individuals to stand for election as part of a job share partnership \- the barriers and opportunities | December 2021 | | Make family absence amendment regulations to extend the absence period available to councillors for adopters leave | March 2021 | | Review the family absence arrangements for councillors to establish whether there are further steps which could be taken | March 2021 | | Ensure Local Authorities and Leaders are aware of their duty to have regard to guidance under section 38 of the 2000 Act | March 2021 | | Increase opportunities for women to play a full role in supporting and representing their communities | Consult on the use of gender quotas for local government elections in Wales | May 2021 | | Write to the UK Government about extending the sunset clause in section 104(7\) of the Equality Act 2010 and commencing section 106 of the same Act | Completed | | Assess the effectiveness of the provisions in the Local Government (Wales) Measure 2011 in relation to data collection, and in relation to other candidate data that could be collected within the current devolution framework in order for political parties to support diverse candidates at elections | Officials to look at the lessons learned from previous surveys and review and amend upcoming surveys to provide the best evidence | January 2022 |
Translate the text from Welsh to English.
Mae pandemig Covid\-19 wedi creu amgylchiadau heriol ar gyfer ein holl ddysgwyr ac yn enwedig y rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol; eu teuluoedd; a'r rhai sy'n gweithio i roi cymorth i’r dysgwyr hynny. Yn aml nhw yw'r dysgwyr mwyaf agored i niwed yn ein system addysg. Rwy’n falch felly o gyhoeddi £9\.8 miliwn yn ychwanegol i gefnogi Anghenion Dysgu Ychwanegol yn 2020\-21 yn benodol mewn ymateb i bwysau sy’n codi o bandemig Covid\-19\. Mae hyn yn ychwanegol at yr £8 miliwn a gyhoeddwyd y llynedd a'r pecyn cymorth o £20 miliwn ar gyfer y Rhaglen Trawsnewid ADY sydd eisoes ar waith ar gyfer tymor cyfredol y Senedd, ac mae'n cydnabod yr anawsterau penodol i blant a phobl ifanc ag anghenion ychwanegol yn ystod Covid\-19\. Rhoddodd y cyfnod "Ailgydio, Dal i Fyny a Pharatoi" gyfle i ni nodi unrhyw rwystrau i ddysgu sy’n wynebu plant agored i niwed neu difreintiedig, gan gynnwys rhai ag ADY. Yn dilyn hynny, cyhoeddais ganllaw atodol ar gyfer tymor yr hydref sydd yn ymdrin yn benodol ag anghenion ymarferol, anghenion emosiynol ac anghenion dysgu plant agored i niwed a difreintiedig, gan gynnwys rhai sydd ag ADY. Bydd yr arian ychwanegol a gyhoeddwyd heddiw yn helpu Awdurdodau Lleol a Sefydliadau Addysg Bellach i ychwanegu at y mesurau a roddwyd ar waith eisoes ac adeiladu arnynt.
The Covid\-19 pandemic has created some challenging scenarios for all our learners and especially those with Additional Learning Needs; their families; and those who work to support them. They are often the most vulnerable learners in our education system. I am therefore pleased to announce a further £9\.8 million to support Additional Learning Needs in 2020\-21 specifically in response to pressures arising from the Covid\-19 pandemic.  This is in addition to the £8 million announced last year and the £20 million package of support for the ALN Transformation Programme already in place for the current Senedd term, and recognises the particular difficulties for children and young people with additional needs during Covid\-19\.   The “check in, catch up and prepare” period helped us identify and remove barriers to learning faced by children who are vulnerable or disadvantaged, including those with ALN.  Subsequently I published supplementary guidance for the autumn term dedicated to supporting the practical, emotional and learning needs of vulnerable and disadvantaged children, including those with ALN. The additional funding announced today will help Local Authorities and Further Education Institutions supplement and build upon the measures already put in place.